Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II CORINTHIANS
Up
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13
Toggle notes
Chapter 1
II C WelBeibl 1:1  Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw i fod yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. A gan y brawd Timotheus hefyd. At eglwys Dduw yn Corinth, a'r holl Gristnogion sydd yn nhalaith Achaia:
II C WelBeibl 1:2  Dŷn ni'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
II C WelBeibl 1:3  Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Fe ydy'r Tad sy'n tosturio a'r Duw sy'n cysuro.
II C WelBeibl 1:4  Mae'n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion, felly dŷn ni yn ein tro yn gallu cysuro pobl eraill. Dŷn ni'n eu cysuro nhw drwy rannu am y ffordd mae Duw'n ein cysuro ni.
II C WelBeibl 1:5  Po fwya dŷn ni'n rhannu profiad y Meseia, mwya dŷn ni'n cael ein cysuro ganddo.
II C WelBeibl 1:6  Dŷn ni'n gorfod wynebu trafferthion er mwyn i chi gael eich cysuro a'ch cadw'n saff. Pan dŷn ni'n cael ein cysuro, dylai hynny hefyd fod yn gysur i chi, a'ch helpu chi i ddal ati pan fyddwch chi'n dioddef yr un fath â ni.
II C WelBeibl 1:7  A dŷn ni'n sicr y byddwch chi, wrth ddioddef yr un fath â ni, yn cael eich cysuro gan Dduw yr un fath â ni hefyd.
II C WelBeibl 1:8  Dŷn ni eisiau i chi ddeall ffrindiau annwyl, mor galed mae pethau wedi bod arnon ni yn nhalaith Asia. Roedd y pwysau yn ormod o lawer i ni ei ddal yn ein nerth ein hunain. Roedd yn ein llethu ni! Roedden ni'n meddwl ei bod hi ar ben arnon ni,
II C WelBeibl 1:9  a'n bod ni wir yn mynd i farw. Ond pwrpas y cwbl oedd i ni ddysgu trystio Duw yn lle trystio ni'n hunain. Fe ydy'r Duw sy'n dod â'r meirw yn ôl yn fyw!
II C WelBeibl 1:10  Mae wedi'n hachub ni y tro yma, a bydd yn ein hachub ni eto. A dŷn ni'n gwbl hyderus y bydd yn dal ati i wneud hynny
II C WelBeibl 1:11  tra byddwch chi'n ein helpu ni drwy weddïo droson ni. Wedyn bydd lot fawr o bobl yn diolch i Dduw am fod mor garedig tuag aton ni, yn ateb gweddïau cymaint o'i bobl.
II C WelBeibl 1:12  Dŷn ni'n gallu dweud gyda chydwybod glir ein bod ni wedi bod yn gwbl agored ac yn ddidwyll bob amser. Mae'n arbennig o wir am y ffordd dŷn ni wedi delio gyda chi. Haelioni Duw sydd wrth wraidd y peth, nid doethineb bydol.
II C WelBeibl 1:13  Dw i wedi siarad yn blaen yn fy llythyrau atoch chi – does dim i'w ddarllen rhwng y llinellau. Dych chi'n gwybod ei fod yn wir.
II C WelBeibl 1:14  Dych chi wedi dechrau cydnabod hynny, a dw i'n gobeithio y byddwch yn dod i gydnabod y peth yn llawn. Wedyn pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl byddwch chi'n gallu bod yn falch ohonon ni a byddwn ni'n gallu bod yn falch ohonoch chi.
II C WelBeibl 1:15  Gan fy mod i mor siŵr eich bod chi wedi deall hyn, roeddwn i wedi bwriadu eich bendithio chi ddwy waith.
II C WelBeibl 1:16  Rôn i'n mynd i ymweld â chi ar fy ffordd i dalaith Macedonia a galw heibio eto ar y daith yn ôl. Wedyn byddech chi'n gallu fy helpu i fynd ymlaen i Jwdea.
II C WelBeibl 1:17  Ond wnes i ddim hynny, felly ydych chi'n dweud mod i'n chwit-chwat? Ydw i yr un fath ag mae pobl y byd mor aml, yn dweud ‛ie‛ un funud a ‛nage‛ y funud nesa?
II C WelBeibl 1:18  Nac ydw – mae Duw'n gwybod nad person felly ydw i. Dw i ddim yn dweud un peth ac wedyn yn gwneud rhywbeth arall.
II C WelBeibl 1:19  A doedd dim byd ansicr am y neges roeddwn i a Silas a Timotheus yn ei chyhoeddi yn eich plith chi chwaith – sef y neges am Iesu y Meseia, mab Duw. Fe ydy ‛ie‛ Duw i ni bob amser!
II C WelBeibl 1:20  Fe ydy'r un sy'n dod â'r cwbl mae Duw wedi'i addo yn wir! Dyna pam dŷn ni'n dweud “Amen” (sef “ie wir!”) wrth addoli Duw – o achos y cwbl wnaeth e!
II C WelBeibl 1:21  A Duw ydy'r un sy'n ein galluogi ni (a chithau hefyd!) i sefyll yn gadarn dros y Meseia. Dewisodd ni i weithio drosto,
II C WelBeibl 1:22  ac mae wedi'n marcio ni'n bobl iddo'i hun. Mae wedi rhoi ei Ysbryd y tu mewn i ni, yn flaendal o'r cwbl sydd i ddod.
II C WelBeibl 1:23  Dw i'n galw ar Dduw i dystio fy mod i'n dweud y gwir. Y rheswm pam wnes i ddim dod yn ôl i Corinth i'ch gweld chi wedi'r cwbl oedd fy mod i eisiau'ch arbed chi.
II C WelBeibl 1:24  Dŷn ni ddim eisiau'ch fforsio chi i gredu fel dŷn ni'n dweud. Dŷn ni eisiau gweithio gyda chi, i chi gael profi llawenydd go iawn, a sefyll yn gadarn am eich bod wedi credu drosoch eich hunain.
Chapter 2
II C WelBeibl 2:1  Dyna pam wnes i benderfynu peidio talu ymweliad arall fyddai'n achosi poen i bawb.
II C WelBeibl 2:2  Os ydw i'n eich gwneud chi'n drist, pwy sy'n mynd i godi fy nghalon i? Yr un dw i wedi achosi poen iddo?
II C WelBeibl 2:3  Yn wir, dyna pam ysgrifennais i fel y gwnes i yn fy llythyr. Doeddwn i ddim am ddod i'ch gweld chi, a chael fy ngwneud yn drist gan yr union bobl ddylai godi nghalon i! Rôn i'n siŵr mai beth sy'n fy ngwneud i'n hapus sy'n eich gwneud chi'n hapus yn y pen draw.
II C WelBeibl 2:4  Roedd ysgrifennu'r llythyr atoch chi yn brofiad poenus iawn. Rôn i'n ddigalon iawn, a bues i'n wylo'n hir uwch ei ben. Doedd gen i ddim eisiau'ch gwneud chi'n drist, dim ond eisiau i chi weld cymaint dw i'n eich caru chi!
II C WelBeibl 2:5  Mae un dyn arbennig wedi achosi tristwch. Mae wedi gwneud hynny dim yn gymaint i mi, ond i bron bob un ohonoch chi (er, dw i ddim eisiau gwneud i'r peth swnio'n waeth nag y mae).
II C WelBeibl 2:6  Mae beth benderfynodd y mwyafrif ohonoch chi yn yr eglwys ei wneud i'w ddisgyblu wedi mynd ymlaen yn ddigon hir.
II C WelBeibl 2:7  Erbyn hyn mae'n bryd i chi faddau iddo a'i helpu i droi yn ôl. Dych chi ddim eisiau iddo gael ei lethu'n llwyr a suddo i anobaith.
II C WelBeibl 2:8  Felly dw i am eich annog chi i ddangos iddo unwaith eto eich bod chi'n dal i'w garu.
II C WelBeibl 2:9  Rôn i'n anfon y llythyr atoch chi i weld a fyddech yn pasio'r prawf a bod yn gwbl ufudd.
II C WelBeibl 2:10  Dw i'n maddau i bwy bynnag dych chi'n maddau iddo. Dw i eisoes wedi maddau iddo er eich mwyn chi – os oedd rhywbeth i mi i'w faddau. Mae'r Meseia ei hun yn gwybod mod i wedi gwneud hynny.
II C WelBeibl 2:11  Dŷn ni ddim am i Satan fanteisio ar y sefyllfa! Dŷn ni'n gwybod yn iawn am ei gastiau e!
II C WelBeibl 2:12  Pan gyrhaeddais i Troas i gyhoeddi'r newyddion da am y Meseia yno, ches i ddim llonydd. Er bod yno gyfle gwych i weithio dros yr Arglwydd,
II C WelBeibl 2:13  doeddwn i ddim yn dawel fy meddwl am fod fy ffrind Titus ddim wedi cyrraedd yno fel roeddwn i'n disgwyl. Felly dyma fi'n ffarwelio â nhw, a mynd ymlaen i dalaith Macedonia i chwilio amdano.
II C WelBeibl 2:14  Ond diolch i Dduw, mae'r gwaith yn dal i fynd yn ei flaen. Dŷn ni'n cerdded ym mhrosesiwn buddugoliaeth y Meseia, ac mae arogl y persawr o gael nabod Duw yn lledu drwy'r byd i gyd!
II C WelBeibl 2:15  Ydyn, dŷn ni fel arogl hyfryd yn cael ei offrymu i Dduw gan y Meseia ei hun. Mae pawb yn ei arogli – y rhai sy'n cael eu hachub a'r rhai sydd ar eu ffordd i ddistryw.
II C WelBeibl 2:16  Mae fel mwg gwenwynig i'r ail grŵp, ond i'r lleill yn bersawr hyfryd sy'n arwain i fywyd. Pwy sy'n ddigon da i wneud gwaith mor bwysig? Neb mewn gwirionedd!
II C WelBeibl 2:17  Ond o leia dŷn ni ddim yn pedlera neges Duw i wneud arian, fel mae llawer o rai eraill. Fel arall yn hollol! – dŷn ni'n gwbl ddidwyll. Gweision y Meseia ydyn ni, yn cyhoeddi'r neges mae Duw wedi'i rhoi i ni, ac yn siarad yn gwbl agored o flaen Duw.
Chapter 3
II C WelBeibl 3:1  Ydyn ni'n dechrau canmol ein hunain o'ch blaen chi unwaith eto? Yn wahanol i rai, does arnon ni ddim angen tystlythyr i'w gyflwyno i chi, a dŷn ni ddim yn gofyn i chi ysgrifennu un i ni chwaith.
II C WelBeibl 3:2  Chi eich hunain ydy'n tystlythyr ni! Llythyr sydd wedi'i ysgrifennu ar ein calonnau ni, ac mae pawb ym mhobman yn gwybod amdano ac yn gallu ei ddarllen.
II C WelBeibl 3:3  Yn wir, mae'n amlwg mai llythyr gan y Meseia ei hun ydych chi – a'i fod wedi'i roi yn ein gofal ni. Llythyr sydd ddim wedi'i ysgrifennu ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw. A ddim ar lechi carreg, ond ar lechi calonnau pobl!
II C WelBeibl 3:4  Beth mae'r Meseia wedi'i wneud sy'n ein gwneud ni mor hyderus o flaen Duw.
II C WelBeibl 3:5  Dŷn ni ddim yn deilwng ynon ni'n hunain i hawlio'r clod am ddim byd – Duw sy'n ein gwneud ni'n deilwng.
II C WelBeibl 3:6  Mae wedi'n gwneud ni'n deilwng i wasanaethu'r ymrwymiad newydd wnaeth e. Nid cyfraith ysgrifenedig ydy hon, ond ymrwymiad Duw gafodd ei roi gan yr Ysbryd Glân. Mae ceisio cadw at lythyren y ddeddf yn lladd, ond mae'r Ysbryd yn rhoi bywyd.
II C WelBeibl 3:7  Er bod yr hen drefn (gafodd ei naddu ar garreg) yn arwain i farwolaeth, cafodd ei rhoi gyda'r fath ysblander! Roedd yr Israeliaid yn methu edrych ar wyneb Moses am ei fod yn disgleirio! (Ond roedd yn pylu wrth i amser fynd yn ei flaen.)
II C WelBeibl 3:8  Felly beth am drefn newydd yr Ysbryd? Oni fydd hi'n dod gydag ysblander llawer iawn mwy rhyfeddol?
II C WelBeibl 3:9  Os oedd y drefn sy'n arwain i farn yn wych, meddyliwch mor anhygoel o wych fydd y drefn newydd sy'n dod â ni i berthynas iawn gyda Duw!
II C WelBeibl 3:10  Yn wir, dydy beth oedd yn ymddangos mor rhyfeddol ddim yn edrych yn rhyfeddol o gwbl bellach, am fod ysblander y drefn newydd yn disgleirio gymaint mwy llachar!
II C WelBeibl 3:11  Ac os oedd y drefn oedd yn pylu yn rhyfeddol, meddyliwch mor ffantastig ydy ysblander y drefn sydd i aros!
II C WelBeibl 3:12  Gan mai dyma dŷn ni'n edrych ymlaen ato, dŷn ni'n gallu cyhoeddi'n neges yn gwbl hyderus.
II C WelBeibl 3:13  Dŷn ni ddim yr un fath â Moses, yn rhoi gorchudd dros ei wyneb rhag i bobl Israel syllu arno a gweld fod y disgleirdeb yn diflannu yn y diwedd.
II C WelBeibl 3:14  Ond doedden nhw ddim yn gweld hynny! Ac mae'r un gorchudd yn dal yno heddiw pan mae geiriau'r hen drefn yn cael eu darllen. Dim ond y Meseia sy'n gallu cael gwared â'r gorchudd!
II C WelBeibl 3:15  Ond hyd heddiw, pan mae Cyfraith Moses yn cael ei darllen mae'r gorchudd yn dal yna yn eu dallu nhw.
II C WelBeibl 3:16  Ac eto'r Gyfraith ei hun sy'n dweud, “Pan mae'n troi at yr Arglwydd, mae'r gorchudd yn cael ei dynnu i ffwrdd.”
II C WelBeibl 3:17  Cyfeirio at yr Ysbryd Glân mae'r gair ‛Arglwydd‛; a ble bynnag mae Ysbryd yr Arglwydd mae yna ryddid.
II C WelBeibl 3:18  Felly does dim angen gorchudd ar ein hwynebau ni. Dŷn ni i gyd fel drych yn adlewyrchu ysblander yr Arglwydd, ac yn cael ein newid i fod yn debycach iddo. Dŷn ni'n troi'n fwy a mwy disglair o hyd. A'r Ysbryd Glân ydy'r Arglwydd sy'n gwneud hyn i gyd.
Chapter 4
II C WelBeibl 4:1  Felly gan fod Duw wedi bod mor garedig â rhoi'r gwaith yma'n ein gofal ni, dŷn ni ddim yn digalonni.
II C WelBeibl 4:2  Dŷn ni wedi gwrthod pob dull cudd a dan din o weithredu. Wnawn ni ddim twyllo neb na gwyrdroi neges Duw. Dŷn ni'n dweud yn blaen beth ydy'r gwir, ac mae pawb yn gwybod eu bod nhw'n gallu'n trystio ni fel rhai sy'n gwbl agored o flaen Duw.
II C WelBeibl 4:3  Os oes rhai pobl sy'n methu deall y newyddion da dŷn ni'n ei gyhoeddi, y bobl sy'n mynd i ddistryw ydy'r rheiny.
II C WelBeibl 4:4  Y diafol (‛duw‛ y byd hwn) sydd wedi dallu'r rhai sydd ddim yn credu. Does ganddo fe ddim eisiau iddyn nhw ddeall y newyddion da, na gweld ysblander y Meseia sy'n dangos i ni yn union sut un ydy Duw.
II C WelBeibl 4:5  Dŷn ni ddim yn siarad amdanon ni'n hunain – dim ond cyhoeddi mai Iesu y Meseia ydy'r Arglwydd. Ein lle ni ydy eich gwasanaethu chi ar ran Iesu.
II C WelBeibl 4:6  Ac mae'r Duw ddwedodd, “Dw i eisiau i olau ddisgleirio allan o'r tywyllwch,” wedi'n goleuo ni a'n galluogi ni i ddangos fod ysblander Duw ei hun yn disgleirio yn wyneb Iesu y Meseia.
II C WelBeibl 4:7  Dyma'r trysor mae Duw wedi'i roi i ni. Mae'n cael ei gario gynnon ni sy'n ddim byd ond llestri pridd – ffaith sy'n dangos mai o Dduw mae'r grym anhygoel yma'n dod, dim ohonon ni.
II C WelBeibl 4:8  Er fod trafferthion yn gwasgu o bob cyfeiriad, dŷn ni ddim wedi cael ein llethu'n llwyr. Dŷn ni'n ansicr weithiau, ond heb anobeithio;
II C WelBeibl 4:9  yn cael ein herlid, ond dydy Duw ddim wedi'n gadael ni; yn cael ein taro i lawr, ond yn cael ein codi yn ôl ar ein traed bob tro!
II C WelBeibl 4:10  Wrth ddioddef yn gorfforol dŷn ni'n rhannu rhyw wedd ar farwolaeth Iesu, ond mae hynny er mwyn i fywyd Iesu gael ei weld yn ein cyrff bregus ni.
II C WelBeibl 4:11  Dŷn ni sy'n fyw bob amser mewn peryg o gael ein lladd fel Iesu, er mwyn i fywyd Iesu gael ei weld yn ein cyrff marwol ni.
II C WelBeibl 4:12  Rhaid i ni wynebu marwolaeth er mwyn i chi gael bywyd tragwyddol.
II C WelBeibl 4:13  Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Credais, felly dwedais.” Yr un ysbryd sy'n ein gyrru ni'n ein blaenau. Dŷn ni hefyd wedi credu ac felly'n dweud.
II C WelBeibl 4:14  Am fod Duw wedi codi'r Arglwydd Iesu yn ôl yn fyw, dŷn ni'n gwybod y bydd yn dod â ninnau yn ôl yn fyw gyda Iesu. A byddwn ni, a chithau hefyd, yn cael bod gydag e!
II C WelBeibl 4:15  Yn wir, dŷn ni'n gwneud popeth er eich mwyn chi. Wrth i rodd Duw o fywyd fynd ar led, yn cofleidio mwy a mwy o bobl, bydd mwy a mwy o bobl yn diolch i Dduw ac yn ei addoli.
II C WelBeibl 4:16  Dyna pam dŷn ni ddim yn digalonni. Hyd yn oed os ydyn ni'n darfod yn gorfforol, dŷn ni'n cael ein cryfhau'n ysbrydol bob dydd.
II C WelBeibl 4:17  Dydy'n trafferthion presennol ni'n ddim byd o bwys, a fyddan nhw ddim yn para'n hir. Ond maen nhw'n arwain i fendithion tragwyddol yn y pen draw – ysblander sydd y tu hwnt i bob mesur!
II C WelBeibl 4:18  Felly mae'n sylw ni wedi'i hoelio ar beth sy'n anweledig, dim ar beth welwn ni'n digwydd o'n cwmpas ni. Dydy beth sydd i'w weld ond yn para dros dro, ond mae beth sy'n anweledig yn aros am byth!
Chapter 5
II C WelBeibl 5:1  Mae'r amser yn dod pan fydd y babell ddaearol dŷn ni'n byw ynddi (sef ein corff) yn cael ei thynnu i lawr. Ond dŷn ni'n gwybod fod gan Dduw adeilad ar ein cyfer ni – cartref parhaol yn y nefoedd wedi'i adeiladu ganddo fe'i hun.
II C WelBeibl 5:2  Yn y cyfamser dŷn ni'n hiraethu am gael ein gwisgo â'n cyrff nefol.
II C WelBeibl 5:3  A byddwn yn eu gwisgo – fydd dim rhaid i ni aros yn noeth.
II C WelBeibl 5:4  Tra'n byw yn y babell ddaearol, dŷn ni'n griddfan ac yn gorfod cario beichiau. Ond dŷn ni ddim am fod yn noeth a heb gorff – dŷn ni eisiau gwisgo'r corff nefol. Dŷn ni eisiau i'r corff marwol sydd gynnon ni gael ei lyncu gan y bywyd sy'n para am byth.
II C WelBeibl 5:5  Mae Duw ei hun wedi'n paratoi ni ar gyfer hyn, ac wedi rhoi'r Ysbryd Glân i ni yn flaendal o'r cwbl sydd i ddod.
II C WelBeibl 5:6  Felly dŷn ni'n gwbl hyderus, ac yn deall ein bod oddi cartref tra'n byw yn ein corff daearol, ac wedi'n gwahanu oddi wrth yr Arglwydd Iesu.
II C WelBeibl 5:7  Dŷn ni'n byw yn ôl beth dŷn ni'n ei gredu, dim yn ôl beth dŷn ni'n ei weld.
II C WelBeibl 5:8  Dw i'n dweud eto ein bod ni'n gwbl hyderus o beth sydd i ddod. Er, wrth gwrs byddai'n well gynnon ni adael y corff hwn er mwyn cael bod adre gyda'r Arglwydd!
II C WelBeibl 5:9  Ond adre neu beidio, ein huchelgais ni bob amser ydy ei blesio fe.
II C WelBeibl 5:10  Achos bydd pob un ohonon ni'n cael ein barnu gan y Meseia ryw ddydd. Bydd pawb yn derbyn beth mae'n ei haeddu am y ffordd mae wedi ymddwyn, pa un ai da neu ddrwg.
II C WelBeibl 5:11  Felly, am ein bod ni'n gwybod fod yr Arglwydd i'w ofni, dŷn ni'n ceisio perswadio pobl. Mae Duw yn gwybod sut rai ydyn ni, a dw i'n hyderus eich bod chi'n gwybod eich bod chi'n gallu'n trystio ni hefyd.
II C WelBeibl 5:12  Dim ceisio canmol ein hunain ydyn ni eto. Na, dim ond eisiau i chi fod yn falch ohonon ni. Dŷn ni eisiau i chi allu ateb y rhai sydd ddim ond yn ymfalchïo yn yr allanolion a ddim yn beth sydd yn y galon.
II C WelBeibl 5:13  Os ydyn ni'n ymddangos fel ffanatics, mae hynny am ein bod ar dân dros Dduw. Os ydyn ni'n siarad yn gall, mae hynny er eich lles chi.
II C WelBeibl 5:14  Cariad y Meseia sy'n ein gyrru ni'n ein blaenau. A dyma'n argyhoeddiad ni: mae un dyn wedi marw dros bawb, ac felly mae pawb wedi marw.
II C WelBeibl 5:15  Mae e wedi marw dros bawb er mwyn i'r rhai sy'n cael bywyd tragwyddol beidio byw i blesio nhw eu hunain o hyn allan. Maen nhw i fyw i blesio'r un fuodd farw drostyn nhw a chael ei godi yn ôl yn fyw eto.
II C WelBeibl 5:16  Bellach dŷn ni wedi stopio edrych ar bobl fel mae'r byd yn gwneud. Er ein bod ni ar un adeg wedi edrych ar y Meseia ei hun felly, dŷn ni ddim yn gwneud hynny mwyach.
II C WelBeibl 5:17  Pan mae rhywun yn dod yn Gristion mae wedi'i greu yn berson newydd: mae'r hen drefn wedi mynd! Edrychwch, mae bywyd newydd wedi cymryd ei le!
II C WelBeibl 5:18  A Duw sy'n gwneud y cwbl – mae wedi gwneud heddwch rhyngon ni ag e'i hun drwy beth wnaeth y Meseia. Ac mae wedi rhoi'r gwaith i ni o rannu'r neges gyda phobl eraill.
II C WelBeibl 5:19  Ydy, mae Duw wedi sicrhau heddwch rhyngddo fe'i hun â'r byd drwy beth wnaeth y Meseia. Dydy e ddim yn dal methiant pobl yn eu herbyn nhw! Ac mae wedi rhoi i ni'r gwaith o ddweud am hyn wrth bobl.
II C WelBeibl 5:20  Dŷn ni'n llysgenhadon yn cynrychioli'r Meseia, ac mae Duw yn anfon ei apêl allan trwon ni. Ar ran y Meseia, dŷn ni'n crefu arnoch chi: Dewch i berthynas newydd gyda Duw!
II C WelBeibl 5:21  Wnaeth Iesu ddim pechu, ond dyma Duw yn ei wneud e'n offrwm dros bechod ar ein rhan ni. Dŷn ni'n gallu byw mewn perthynas iawn gyda Duw drwy ein perthynas gydag e.
Chapter 6
II C WelBeibl 6:1  Dŷn ni'n cydweithio gyda Duw ac yn apelio atoch chi i beidio ymateb yn arwynebol i'w haelioni e.
II C WelBeibl 6:2  Mae Duw'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd, “Bydda i'n gwrando arnat ti pan fydd yr amser yn iawn, Ac yn dy helpu di pan ddaw'r dydd i mi achub.” Edrychwch! Mae'r amser iawn wedi dod! Mae'r dydd i Dduw achub yma!
II C WelBeibl 6:3  Dŷn ni ddim eisiau gwneud unrhyw beth fydd yn rhwystro pobl rhag dod i gredu, fel bod dim modd beio ein gwaith ni.
II C WelBeibl 6:4  Na, dŷn ni am ddangos yn glir mai gweision Duw ydyn ni. Dangos hynny yn y ffordd dŷn ni'n dal ati yng nghanol ein holl drafferthion, pan mae pethau'n galed ac yn edrych yn anobeithiol.
II C WelBeibl 6:5  Dŷn ni wedi cael ein curo, ein carcharu, ein bygwth gan y mob, wedi gweithio nes ein bod wedi ymlâdd yn llwyr, ac wedi colli cwsg a gorfod mynd heb fwyd.
II C WelBeibl 6:6  Dangos hynny hefyd drwy'n bywydau glân, ein dealltwriaeth o'r gwirionedd, ein hamynedd gyda phobl, a'n caredigrwydd at bobl; a thrwy nerth yr Ysbryd Glân ar waith ynon ni, a'n cariad dwfn atoch chi.
II C WelBeibl 6:7  A hefyd drwy gyhoeddi'r gwir yn ffyddlon, a gwneud hynny gyda'r nerth mae Duw'n ei roi – gydag arfau cyfiawnder, i ymosod ac amddiffyn.
II C WelBeibl 6:8  Dŷn ni weithiau'n cael ein canmol, dro arall yn cael ein sarhau; mae pobl yn dweud pethau drwg a da amdanon ni. Dŷn ni'n cael ein galw'n dwyllwyr er ein bod ni'n dweud y gwir.
II C WelBeibl 6:9  Mae rhai'n dweud ein bod ni'n neb, ac eto mae pawb yn gwybod amdanon ni! Dŷn ni'n agos at farw, ac eto'n dal yn fyw: wedi'n chwipio, mae'n wir, ond heb ein lladd.
II C WelBeibl 6:10  Yn dal i orfoleddu er gwaetha'r holl dristwch. Yn gwybod ein bod ni'n dlawd, ac eto'n rhannu cyfoeth ysbrydol gyda llawer. Heb ddim, ac eto mae gynnon ni bopeth sydd ei angen!
II C WelBeibl 6:11  Ffrindiau annwyl Corinth, dŷn ni wedi bod yn gwbl agored gyda chi. Dŷn ni wedi rhoi'n hunain yn llwyr i chi!
II C WelBeibl 6:12  Dŷn ni ddim yn dal ein cariad yn ôl, chi sy'n dal yn ôl.
II C WelBeibl 6:13  Dewch yn eich blaen – dw i'n siarad â chi fel fy mhlant i – derbyniwch ni.
II C WelBeibl 6:14  Dych chi'n wahanol i bobl sydd ddim yn credu – felly peidiwch ymuno â nhw. Ydy cyfiawnder a drygioni'n gallu bod yn bartneriaid? Neu olau a thywyllwch?
II C WelBeibl 6:15  Ydy'r Meseia a'r diafol yn creu harmoni? Beth sydd gan rywun sy'n credu a rhywun sydd ddim yn credu yn gyffredin?
II C WelBeibl 6:16  Ydy'n iawn rhoi eilun-dduwiau yn nheml Duw? Na! A dŷn ni gyda'n gilydd yn deml i'r Duw byw. Fel mae Duw ei hun wedi dweud: “Bydda i'n byw gyda nhw ac yn symud yn eu plith nhw; fi fydd eu Duw nhw a nhw fydd fy mhobl i.”
II C WelBeibl 6:17  Felly mae'r Arglwydd yn dweud, “Dewch allan o'u canol nhw a bod yn wahanol.” “Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan, a chewch eich derbyn gen i.”
II C WelBeibl 6:18  “Bydda i'n Dad i chi, a byddwch chi yn feibion a merched i mi,” meddai'r Arglwydd Hollalluog.
Chapter 7
II C WelBeibl 7:1  Felly ffrindiau annwyl, am fod Duw wedi addo'r pethau yma i ni, gadewch i ni lanhau'n hunain o unrhyw beth allai'n gwneud ni'n aflan. Am fod Duw i'w ofni, gadewch i ni gyrraedd at y nod o roi'n hunain iddo yn bobl lân.
II C WelBeibl 7:2  Derbyniwch ni. Wnaethon ni ddim cam â neb, na gwneud niwed i neb, na chymryd mantais o neb.
II C WelBeibl 7:3  Dw i ddim yn ceisio gweld bai arnoch chi drwy ddweud hyn. Fel dwedais i, dych chi'n sbesial iawn yn ein golwg ni. Fydd ein cariad ni ddim llai, doed a ddelo – byw neu farw
II C WelBeibl 7:4  Mae gen i hyder ynoch chi. Dw i wir yn falch ohonoch chi. Dw i wedi fy nghalonogi'n fawr. Dw i'n wirioneddol hapus er gwaetha'r holl drafferthion.
II C WelBeibl 7:5  Beth bynnag, pan gyrhaeddon ni dalaith Macedonia chawson ni ddim llonydd wedyn. Roedd trafferthion bob cam o'r ffordd! Gwrthwynebiad pobl o'r tu allan, ac ofnau o'n mewn ni.
II C WelBeibl 7:6  Ond mae Duw'n cysuro'r rhai sy'n ddigalon, a dyma fe'n ein cysuro ni pan ddaeth Titus aton ni.
II C WelBeibl 7:7  Roedd yn braf ei weld, ond hefyd i gael deall fel roeddech chi wedi'i gysuro fe. Roedd yn dweud fod gynnoch chi hiraeth amdanon ni, eich bod chi'n sori am beth ddigwyddodd, ac yn wirioneddol awyddus i bethau fod yn iawn rhyngon ni. Rôn i'n hapusach fyth wedyn!
II C WelBeibl 7:8  Dw i ddim yn sori mod i wedi anfon y llythyr, er ei fod wedi'ch brifo chi. Rôn i yn sori i ddechrau, wrth weld eich bod chi wedi cael eich brifo. Ond doedd hynny ddim ond dros dro.
II C WelBeibl 7:9  Felly dw i'n hapus bellach – dim am i chi gael eich gwneud yn drist, ond am fod hynny wedi gwneud i chi newid eich ffyrdd. Dyna'r math o dristwch mae Duw eisiau ei weld, felly wnaethon ni ddim drwg i chi.
II C WelBeibl 7:10  Mae'r math o dristwch mae Duw am ei weld yn gwneud i bobl newid eu ffyrdd a chael eu hachub. Dydy hynny byth yn rhywbeth i'w ddifaru! Ond dydy teimlo'n annifyr am rywbeth, heb droi at Dduw, ddim ond yn arwain i farwolaeth ysbrydol.
II C WelBeibl 7:11  Edrychwch beth mae'r tristwch mae Duw'n edrych amdano wedi'i wneud ynoch chi: mae wedi creu brwdfrydedd ac awydd i sortio'r peth allan, ac wedi'ch gwneud chi mor ddig fod y fath beth wedi digwydd. Mae wedi creu y fath barch ata i, y fath hiraeth amdana i, y fath sêl, y fath barodrwydd i gosbi'r troseddwr. Drwy'r cwbl i gyd dych wedi profi fod dim bai arnoch chi.
II C WelBeibl 7:12  Felly, roeddwn i'n ysgrifennu atoch chi fel gwnes i, dim i ddelio gyda'r un wnaeth y drwg, nac i ddangos fy mod i fy hun wedi cael cam. Rôn i'n ysgrifennu er eich mwyn chi! – i chi weld drosoch eich hunain mor bwysig ydy'n perthynas ni. Mae Duw'n gwybod!
II C WelBeibl 7:13  Felly dŷn ni wedi cael ein calonogi'n fawr! Ond yn fwy na hynny, roedden ni'n arbennig o falch o weld mor hapus oedd Titus. Cafodd y fath groeso gynnoch chi i gyd, ac mae wedi codi ei galon yn fawr.
II C WelBeibl 7:14  Rôn i wedi bod yn brolio amdanoch chi wrtho, a wnaethoch chi ddim fy siomi i. Yn union fel mae popeth dŷn ni wedi'i ddweud wrthoch chi'n wir, mae beth ddwedon ni amdanoch chi wrth Titus wedi troi allan i fod yn wir hefyd.
II C WelBeibl 7:15  Mae wedi dod mor hoff ohonoch chi. Mae e'n cofio sut fuoch chi i gyd mor ufudd, a dangos y fath barch a chonsýrn.
II C WelBeibl 7:16  Dw i'n hapus iawn, am fy mod i'n gallu ymddiried yn llwyr ynoch chi.
Chapter 8
II C WelBeibl 8:1  Dw i eisiau dweud wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, am y ddawn o haelioni mae Duw wedi'i rhoi i'r eglwysi yn nhalaith Macedonia.
II C WelBeibl 8:2  Er eu bod nhw wedi bod drwy amser caled ofnadwy, roedd eu llawenydd nhw'n gorlifo yng nghanol tlodi eithafol. Buon nhw'n anhygoel o hael!
II C WelBeibl 8:3  Dw i'n dweud wrthoch chi eu bod nhw wedi rhoi cymaint ag oedden nhw'n gallu ei fforddio – do, a mwy! Nhw, ohonyn nhw'u hunain,
II C WelBeibl 8:4  oedd yn pledio'n daer arnon ni am gael y fraint o rannu yn y gwaith o helpu Cristnogion Jerwsalem.
II C WelBeibl 8:5  Dyma nhw'n gwneud llawer mwy nag oedden ni'n ei ddisgwyl, drwy roi eu hunain yn y lle cyntaf i'r Arglwydd, ac wedyn i ninnau hefyd. Dyna'n union oedd Duw eisiau iddyn nhw ei wneud!
II C WelBeibl 8:6  I hyn dw i'n dod: dw i wedi annog Titus, gan mai fe ddechreuodd y gwaith da yma yn eich plith chi, i'ch helpu chi i orffen eich rhan chi yn y gwaith.
II C WelBeibl 8:7  Mae gynnoch chi fwy na digon o ddoniau – ffydd, siaradwyr da, gwybodaeth, brwdfrydedd, a chariad aton ni. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi ar y blaen wrth roi'n hael hefyd.
II C WelBeibl 8:8  Dim rhoi gorchymyn i chi ydw i. Ond dw i yn defnyddio brwdfrydedd pobl eraill fel maen prawf i weld pa mor real ydy'ch cariad chi.
II C WelBeibl 8:9  A dych chi'n gwybod mor hael oedd yr Arglwydd Iesu Grist ei hun. Er ei fod e'n gyfoethog yng ngwir ystyr y gair, gwnaeth ei hun yn dlawd er eich mwyn chi! – a hynny er mwyn i chi ddod yn gyfoethog yn eich perthynas â Duw!
II C WelBeibl 8:10  Dim ond eisiau awgrymu'r ffordd orau i ddelio gyda'r mater ydw i. Chi oedd y rhai cyntaf i benderfynu gwneud rhywbeth y flwyddyn ddiwethaf, a'r cyntaf i ddechrau arni.
II C WelBeibl 8:11  Mae'n bryd i chi orffen y gwaith. Dangoswch yr un brwdfrydedd wrth wneud beth gafodd ei benderfynu. Rhowch gymaint ag y gallwch chi.
II C WelBeibl 8:12  Os dych chi wir eisiau rhoi, rhowch chi beth allwch chi, a bydd hynny'n dderbyniol. Does dim disgwyl i chi roi beth sydd ddim gynnoch chi i'w roi!
II C WelBeibl 8:13  Dw i ddim eisiau gwneud bywyd yn anodd i chi am eich bod chi'n rhoi i geisio helpu pobl eraill. Beth dw i eisiau ydy tegwch.
II C WelBeibl 8:14  Ar hyn o bryd mae gynnoch chi hen ddigon, a gallwch chi helpu'r rhai sydd mewn angen. Wedyn byddan nhw'n gallu'ch helpu chi pan fyddwch chi angen help. Mae pawb yn gyfartal felly.
II C WelBeibl 8:15  Fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: “Doedd dim byd dros ben gan y rhai gasglodd lawer, a doedd y rhai gasglodd ychydig ddim yn brin.”
II C WelBeibl 8:16  Dw i'n diolch i Dduw fod gan Titus yr un consýrn amdanoch chi â sydd gen i.
II C WelBeibl 8:17  Mae e'n dod atoch chi dim yn unig am ein bod ni wedi gofyn iddo, ond am ei fod e'n frwd i wneud hynny ei hun – roedd e wir eisiau dod.
II C WelBeibl 8:18  Dŷn ni'n anfon gydag e frawd sy'n cael ei ganmol yn yr eglwysi i gyd am ei waith yn cyhoeddi'r newyddion da.
II C WelBeibl 8:19  Yn wir, mae e hefyd wedi cael ei ddewis gan yr eglwysi i fynd gyda ni pan fyddwn yn mynd â'r rhodd i Jerwsalem – rhodd sy'n anrhydeddu'r Arglwydd ei hun a hefyd yn dangos ein bod ni'n frwd i helpu.
II C WelBeibl 8:20  Dŷn ni eisiau gwneud yn siŵr fod neb yn gallu'n beirniadu ni am y ffordd dŷn ni wedi delio gyda'r rhodd hael yma.
II C WelBeibl 8:21  Dŷn ni am wneud beth sy'n iawn, dim yn unig yng ngolwg yr Arglwydd ei hun, ond yng ngolwg pawb arall hefyd.
II C WelBeibl 8:22  Dŷn ni'n anfon brawd arall gyda nhw hefyd – un sydd wedi dangos lawer gwaith mor frwdfrydig ydy e. Ac mae'n fwy brwd fyth nawr gan ei fod yn ymddiried yn llwyr ynoch chi.
II C WelBeibl 8:23  Os oes cwestiwn yn codi am Titus – fy mhartner i ydy e, yn gweithio gyda mi i'ch helpu chi. Os oes unrhyw gwestiwn am y brodyr eraill – nhw sy'n cynrychioli'r eglwysi ac maen nhw'n glod i'r Meseia ei hun.
II C WelBeibl 8:24  Felly dangoswch chi i'r dynion yma mor fawr ydy'ch cariad chi, a phrofi i'r eglwysi bod gynnon ni ddigon o le i fod yn falch ohonoch chi.
Chapter 9
II C WelBeibl 9:1  Does dim wir angen i mi ysgrifennu atoch chi am y casgliad yma i helpu Cristnogion Jerwsalem.
II C WelBeibl 9:2  Dw i'n gwybod eich bod chi'n awyddus i helpu. Dw i wedi bod yn sôn am y peth wrth bobl Macedonia, ac yn dweud wrthyn nhw eich bod chi yn nhalaith Achaia wedi bod yn barod ers y flwyddyn ddiwethaf. Clywed am eich brwdfrydedd chi sydd wedi ysgogi y rhan fwya ohonyn nhw i wneud rhywbeth!
II C WelBeibl 9:3  Ond dw i'n anfon y brodyr yma atoch chi er mwyn gwneud yn siŵr y bydd ein brolio ni amdanoch ddim yn troi allan i fod yn wag, ac y byddwch yn barod, fel dw i wedi dweud y byddwch chi.
II C WelBeibl 9:4  Os bydd rhai o dalaith Macedonia gyda ni pan ddown ni i'ch gweld chi, a darganfod eich bod chi ddim yn barod, byddwn ni, heb sôn amdanoch chi, yn teimlo cywilydd go iawn.
II C WelBeibl 9:5  Dyna pam o'n i'n teimlo bod rhaid anfon y brodyr atoch chi ymlaen llaw. Byddan nhw'n gallu gwneud trefniadau i dderbyn y rhodd dych chi wedi'i haddo. Bydd yn disgwyl amdanon ni wedyn fel rhodd sy'n dangos mor hael ydych chi, a dim fel rhywbeth wedi'i wasgu allan ohonoch chi.
II C WelBeibl 9:6  Cofiwch hyn: Os mai ychydig dych chi'n ei hau, bach fydd y cynhaeaf; ond os dych chi'n hau yn hael, cewch gynhaeaf mawr.
II C WelBeibl 9:7  Dylai pob un ohonoch chi roi o'i wirfodd, dim yn anfodlon neu am fod pwysau arnoch chi. Mae Duw'n mwynhau gweld pobl sydd wrth eu boddau yn rhoi.
II C WelBeibl 9:8  Mae Duw'n gallu rhoi mwy na digon o bethau'n hael i chi, er mwyn i chi fod â popeth sydd arnoch ei angen, a bydd digonedd dros ben i chi allu gwneud gwaith da bob amser.
II C WelBeibl 9:9  Fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: “Mae'r duwiol yn rhoi yn hael i'r tlodion; bydd pobl yn cofio ei haelioni bob amser.”
II C WelBeibl 9:10  Duw sy'n rhoi'r had i'r heuwr a bwyd i bobl ei fwyta. Bydd yn cynyddu eich stôr chi o ‛had‛ ac yn gwneud i gynhaeaf eich gweithredoedd da chi lwyddo.
II C WelBeibl 9:11  Bydd yn eich gwneud chi'n gyfoethog ym mhob ffordd er mwyn i chi allu bod yn hael bob amser. Bydd llawer o bobl yn diolch i Dduw pan fyddwn ni'n mynd â'ch rhodd chi i Jerwsalem.
II C WelBeibl 9:12  Nid dim ond cwrdd ag angen pobl Dduw mae beth dych chi'n ei wneud – mae'n llawer mwy na hynny. Bydd yn gwneud i lawer o bobl ddweud diolch wrth Dduw.
II C WelBeibl 9:13  Bydd pobl yn moli Duw am fod eich haelioni chi wrth rannu gyda nhw a phawb arall yn profi eich bod chi'n ufudd i'r newyddion da dych wedi'i gredu am y Meseia.
II C WelBeibl 9:14  Byddan nhw'n gweddïo drosoch chi, ac yn hiraethu amdanoch chi, am fod Duw wedi'ch galluogi chi i fod mor hael.
II C WelBeibl 9:15  A diolch i Dduw am ei fod e wedi rhoi rhodd i ni sydd y tu hwnt i eiriau!
Chapter 10
II C WelBeibl 10:1  Felly dyma fi, Paul, yn apelio atoch chi yn addfwyn ac yn garedig fel y Meseia ei hun – ie fi, yr un maen nhw'n dweud sy'n ‛llwfr‛ pan dw i wyneb yn wyneb â chi, ond mor ‛galed‛ pan dw i'n bell i ffwrdd!
II C WelBeibl 10:2  Pan fydda i'n dod acw, dw i'n erfyn arnoch chi, peidiwch gwneud i mi fod yn galed gyda chi fel dw i'n disgwyl gorfod bod gyda'r rhai hynny sy'n dweud ein bod ni'n byw fel pobl y byd, sydd ddim yn credu!
II C WelBeibl 10:3  Dŷn ni'n byw yn y byd yn sicr, ond dŷn ni ddim yn ymladd ein brwydrau fel mae'r byd yn gwneud.
II C WelBeibl 10:4  Dŷn ni ddim yn defnyddio arfau'r byd i ymladd. Fel arall yn hollol! – mae'n harfau ni yn rhai grymus, a Duw sy'n rhoi'r nerth i ni chwalu'r cestyll mae'r gelyn yn eu hamddiffyn.
II C WelBeibl 10:5  Dŷn ni'n chwalu dadleuon a'r syniadau balch sy'n rhwystro pobl rhag dod i nabod Duw. Dŷn ni'n rhwymo'r syniadau hynny, ac yn arwain pobl i fod yn ufudd i'r Meseia.
II C WelBeibl 10:6  Pan fyddwch chi'n ufudd eto, byddwn ni'n barod wedyn i gosbi pawb sy'n aros yn anufudd.
II C WelBeibl 10:7  Dych chi'n edrych ar bethau'n rhy arwynebol! Dylai'r rhai sy'n honni bod ganddyn nhw berthynas sbesial gyda'r Meseia ystyried hyn: mae'n perthynas ni gyda'r Meseia mor real â'u perthynas nhw.
II C WelBeibl 10:8  Hyd yn oed petawn i'n brolio braidd gormod am yr awdurdod mae'r Arglwydd Iesu wedi'i roi i ni does gen i ddim cywilydd o'r peth. Awdurdod i'ch cryfhau chi ydy e, ddim i chwalu'ch ffydd chi.
II C WelBeibl 10:9  Dw i ddim yn ceisio'ch dychryn chi yn fy llythyrau.
II C WelBeibl 10:10  Dw i'n gwybod yn iawn beth maen nhw'n ei ddweud: “Mae'n galed ac yn gas yn ei lythyrau, ond rhyw greadur bach gwan ac eiddil ydy e go iawn, ac mae'n siaradwr anobeithiol!”
II C WelBeibl 10:11  Gwell i bobl felly sylweddoli hyn: pan ddown ni atoch chi, byddwn ni'n gwneud yn union beth mae'n llythyrau yn ei ddweud.
II C WelBeibl 10:12  Wrth gwrs, fydden ni ddim yn meiddio cymharu'n hunain a rhoi'n hunain yn yr un dosbarth â'r rhai hynny sy'n canmol eu hunain! Y gwir ydy, wrth fesur yn ôl eu llathen eu hunain a chymharu eu hunain â'i gilydd, maen nhw'n dangos mor ddwl ydyn nhw go iawn.
II C WelBeibl 10:13  Dŷn ni, ar y llaw arall, ddim yn mynd i frolio am bethau sydd ddim byd i'w wneud â ni. Dŷn ni ddim ond yn sôn am y gwaith mae Duw wedi'i roi i ni – ac mae hynny'n cynnwys gweithio gyda chi!
II C WelBeibl 10:14  Dŷn ni ddim yn tresmasu ar faes rhywun arall. Wedi'r cwbl, ni ddaeth â'r newyddion da am y Meseia atoch chi!
II C WelBeibl 10:15  Dŷn ni ddim wedi dwyn y clod am waith pobl eraill. Ein gobaith ni ydy, wrth i'ch ffydd chi dyfu, y bydd ein gwaith ni yn eich plith chi yn tyfu fwy a mwy.
II C WelBeibl 10:16  Wedyn byddwn ni'n gallu mynd ymlaen i gyhoeddi'r newyddion da mewn lleoedd sy'n bellach i ffwrdd na chi. Ond dŷn ni ddim yn mynd i frolio am y gwaith mae rhywun arall wedi'i wneud!
II C WelBeibl 10:17  “Os ydy rhywun am frolio, dylai frolio am beth mae'r Arglwydd wedi'i wneud.”
II C WelBeibl 10:18  Dim y bobl sy'n canmol eu hunain sy'n cael eu derbyn ganddo, ond y bobl mae'r Arglwydd ei hun yn eu canmol.
Chapter 11
II C WelBeibl 11:1  Wnewch chi oddef i mi siarad yn ffôl? – maddeuwch i mi am hyn.
II C WelBeibl 11:2  Os dw i'n genfigennus, Duw sy'n gwneud i mi deimlo felly. Dw i wedi'ch addo chi yn briod i un dyn – ie, dim ond un! Dw i am eich cyflwyno chi'n wyryf bur i'r Meseia.
II C WelBeibl 11:3  Ond dw i ofn i chi gael eich llygru a'ch denu i ffwrdd o'ch ymroddiad llwyr iddo, yn union fel y cafodd Efa ei thwyllo gan yr hen sarff gyfrwys.
II C WelBeibl 11:4  Mae rhywun yn dod atoch chi ac yn pregethu am Iesu gwahanol i'r un roedden ni'n ei bregethu. Dych chi'n derbyn ysbryd sy'n wahanol, neu ‛newyddion da‛ gwahanol, a dych chi'n goddef y cwbl yn ddigon hapus!
II C WelBeibl 11:5  Ond dw i ddim yn meddwl mod i'n israddol o gwbl i'r ‛ffansi-apostolion‛ yna.
II C WelBeibl 11:6  Falle nad ydw i'n siaradwr cyhoeddus mawr, ond dw i'n gwybod beth ydy'r gwir. Mae'r gwir wedi cael ei wneud yn ddigon clir i chi bob amser.
II C WelBeibl 11:7  Rôn i wedi cyhoeddi newyddion da Duw i chi yn rhad ac am ddim. Tybed wnes i'r peth anghywir? Diraddio fy hun er mwyn eich anrhydeddu chi.
II C WelBeibl 11:8  Rôn i'n derbyn tâl gan eglwysi eraill er mwyn i mi allu gweithio i chi!
II C WelBeibl 11:9  Hyd yn oed pan oeddwn i'n brin, fues i ddim yn faich ar neb ohonoch chi. Y ffrindiau ddaeth o dalaith Macedonia roddodd i mi bopeth oedd arna i ei angen. Dw i wedi osgoi bod yn faich arnoch chi o gwbl, a dw i'n mynd i ddal i wneud hynny.
II C WelBeibl 11:10  Heb unrhyw amheuaeth does neb yn Achaia gyfan yn gallu gwadu hynny.
II C WelBeibl 11:11  Ond pam dw i'n gwneud hyn? Am fy mod i ddim yn eich caru chi? Mae Duw yn gwybod gymaint dw i'n eich caru chi!
II C WelBeibl 11:12  Dw i'n mynd i ddal ati i wneud yr un fath â dw i wedi gwneud bob amser. Bydd hynny'n tynnu'r carped o dan draed y rhai sy'n brolio ac yn ceisio rhoi'r argraff eu bod nhw'n gwneud yr un gwaith â ni!
II C WelBeibl 11:13  Na, ffug-apostolion ydyn nhw; twyllwyr yn cymryd arnyn nhw eu bod nhw'n cynrychioli y Meseia!
II C WelBeibl 11:14  A dim syndod, achos mae Satan ei hun yn cymryd arno ei fod yn angel y goleuni!
II C WelBeibl 11:15  Felly pam ddylen ni ryfeddu os ydy ei weision e'n cymryd arnyn nhw eu bod nhw'n gweithio dros beth sy'n iawn. Byddan nhw'n cael beth maen nhw'n ei haeddu yn y diwedd!
II C WelBeibl 11:16  Dw i'n dweud eto: peidiwch meddwl fy mod i'n ffŵl. Ond hyd yn oed os dych chi'n meddwl hynny, wnewch chi oddef i mi actio'r ffŵl drwy frolio tipyn bach?
II C WelBeibl 11:17  Wrth frolio fel yma dw i ddim yn siarad fel y byddai'r Arglwydd am i mi siarad – actio'r ffŵl ydw i.
II C WelBeibl 11:18  Ond am fod cymaint yn brolio fel mae'r byd yn gwneud, dw i'n mynd i wneud yr un peth.
II C WelBeibl 11:19  Wedi'r cwbl, er eich bod chi mor ddoeth, dych chi'n barod iawn i oddef ffyliaid!
II C WelBeibl 11:20  Yn wir, dych chi'n fodlon hyd yn oed os ydyn nhw'n eich caethiwo chi. Dych chi'n gadael iddyn nhw gymryd eich arian chi a manteisio arnoch chi. Dych chi'n gadael iddyn nhw gymryd drosodd a chodi cywilydd arnoch chi yn y ffordd maen nhw'n eich trin chi!
II C WelBeibl 11:21  Mae gen i gywilydd ohono i'n hun, fy mod i'n rhy wan i'ch trin chi felly! Ond os ydyn nhw am frolio, gadewch i mi fentro gwneud yr un peth. (Cofiwch mai actio'r ffŵl ydw i!)
II C WelBeibl 11:22  Maen nhw'n Iddewon sy'n siarad Hebraeg ydyn nhw? A fi! Israeliaid crefyddol, ie? A fi! Disgynyddion Abraham? A fi!
II C WelBeibl 11:23  Gweision i'r Meseia? Dw i'n was gwell! (Dw i wir ddim yn gall yn siarad fel hyn!) Dw i wedi gweithio'n galetach na nhw, wedi bod yn y carchar yn amlach, wedi cael fy nghuro dro ar ôl tro, nes mod i bron marw'n aml.
II C WelBeibl 11:24  Dw i wedi cael fy chwipio bum gwaith gan yr Iddewon (y tri deg naw chwip).
II C WelBeibl 11:25  Dw i wedi cael fy nghuro â ffyn dair gwaith gan y Rhufeiniaid. Un tro cafodd cerrig eu taflu ata i er mwyn fy lladd i. Dw i wedi bod mewn llongddrylliad dair gwaith. Un o'r troeon hynny roeddwn i yn y môr am dros bedair awr ar hugain.
II C WelBeibl 11:26  Yn ystod yr holl deithio di-baid dw i wedi bod mewn peryg gan afonydd, gan ladron, gan fy mhobl fy hun a phobl o genhedloedd eraill; dw i wedi bod mewn peryg mewn dinasoedd, wrth deithio drwy dir anial ac ar y môr; a hefyd gan y dynion sy'n cymryd arnyn eu bod nhw'n Gristnogion.
II C WelBeibl 11:27  Dw i wedi gweithio'n wirioneddol galed ac wedi colli cwsg yn aml; wedi profi newyn a syched a mynd heb fwyd yn aml; dw i wedi dioddef o oerfel ac wedi bod heb ddigon o ddillad i gadw'n gynnes.
II C WelBeibl 11:28  A heb sôn am ddim arall, dw i dan bwysau bob dydd o achos y consýrn sydd gen i am yr eglwysi i gyd.
II C WelBeibl 11:29  Os ydy rhywun yn teimlo'n wan, dw i yno gydag e. Os ydy rhywun yn cael ei arwain i bechu, dw i'n berwi y tu mewn!
II C WelBeibl 11:30  Os oes rhaid i mi frolio, mae'n well gen i frolio am y pethau hynny sy'n dangos mor wan ydw i.
II C WelBeibl 11:31  Mae Duw a Thad yr Arglwydd Iesu – yr un sydd i'w foli am byth – yn gwybod mod i'n dweud y gwir.
II C WelBeibl 11:32  Yn Damascus roedd y llywodraethwr dan y Brenin Aretas wedi gorchymyn i'r ddinas gael ei gwarchod er mwyn fy arestio i.
II C WelBeibl 11:33  Ond ces fy ngollwng i lawr o ffenest yn wal y ddinas, mewn basged! Dyna sut llwyddais i ddianc o'i afael!
Chapter 12
II C WelBeibl 12:1  Rhaid i mi ddal ati i frolio. Does dim i'w ennill o wneud hynny, ond dw i am fynd ymlaen i sôn am weledigaethau a phethau mae'r Arglwydd wedi'u dangos i mi.
II C WelBeibl 12:2  Dw i'n gwybod am un o ddilynwyr y Meseia gafodd ei gipio i uchder y nefoedd bedair blynedd ar ddeg yn ôl. Wn i ddim a ddigwyddodd hynny'n gorfforol neu beidio – dim ond Duw sy'n gwybod.
II C WelBeibl 12:4  wedi cael ei gymryd i baradwys, a'i fod wedi clywed pethau sydd y tu hwnt i eiriau – does gan neb hawl i'w hailadrodd.
II C WelBeibl 12:5  Dw i'n fodlon brolio am y person hwnnw, ond wna i ddim brolio amdana i fy hun – dim ond am beth sy'n dangos mod i'n wan.
II C WelBeibl 12:6  Gallwn i ddewis brolio, a fyddwn i ddim yn actio'r ffŵl taswn i yn gwneud hynny, achos byddwn i'n dweud y gwir. Ond dw i ddim am wneud hynny, rhag i rywun feddwl yn rhy uchel ohono i – mwy na beth ddylen nhw. Dw i eisiau i'w barn nhw amdana i fod yn seiliedig ar beth maen nhw wedi fy ngweld i'n ei wneud neu'n ei ddweud.
II C WelBeibl 12:7  Ond dw i wedi gorfod dioddef poenau corfforol (rhag i mi droi'n greadur rhy falch am fod Duw wedi datguddio pethau rhyfeddol i mi). Mae Satan wedi cael anfon negesydd i'm ffistio i.
II C WelBeibl 12:8  Dw i wedi pledio ar i'r Arglwydd ei symud, do, dair gwaith,
II C WelBeibl 12:9  ond ei ateb oedd, “Mae fy haelioni i'n hen ddigon i ti. Mae fy nerth i'n gweithio orau mewn gwendid.” Felly dw i'n hapus iawn i frolio am beth sy'n dangos mod i'n wan, er mwyn i nerth y Meseia ddal i weithio trwof fi.
II C WelBeibl 12:10  Ydw, dw i'n falch fy mod i'n wan, yn cael fy sarhau, yn cael amser caled, yn cael fy erlid, ac weithiau'n anobeithio, er mwyn y Meseia. Achos pan dw i'n wan, mae gen i nerth go iawn.
II C WelBeibl 12:11  Dw i wedi actio'r ffŵl, ond eich bai chi ydy hynny. Chi ddylai fod yn fy nghanmol i, achos dw i ddim yn israddol o gwbl i'r ‛ffansi-apostolion‛ yna. Er, dw i'n gwybod mod i'n neb.
II C WelBeibl 12:12  Cafodd pethau sy'n dangos pwy ydy cynrychiolwyr go iawn y Meseia eu gwneud yn eich plith chi'n gyson, yn ogystal â gwyrthiau syfrdanol a phethau rhyfeddol eraill.
II C WelBeibl 12:13  Wnes i lai i chi na wnes i i'r eglwysi eraill? Dim ond peidio bod yn faich ariannol arnoch chi! … O, maddeuwch i mi am wneud cam â chi!
II C WelBeibl 12:14  Bellach dw i'n barod i ymweld â chi am y trydydd tro. A dw i ddim yn mynd i fod yn faich arnoch chi y tro yma chwaith. Chi sy'n bwysig i mi, nid eich arian chi! Rhieni sydd i gynnal eu plant; does dim disgwyl i'r plant gynilo er mwyn cynnal eu rhieni.
II C WelBeibl 12:15  A dw i'n fwy na pharod i wario'r cwbl sydd gen i arnoch chi – a rhoi fy hun yn llwyr i chi. Ydych chi'n mynd i ngharu i'n llai am fy mod i'n eich caru chi gymaint?
II C WelBeibl 12:16  Felly wnes i ddim eich llethu chi'n ariannol. Ond wedyn mae rhai'n dweud fy mod i mor slei! Maen nhw'n dweud fy mod i wedi llwyddo i'ch twyllo chi!
II C WelBeibl 12:17  Sut felly? Wnes i ddefnyddio'r bobl anfonais i atoch chi i gymryd mantais ohonoch chi?
II C WelBeibl 12:18  Dyma fi'n annog Titus i fynd i'ch gweld chi ac anfon ein brawd gydag e. Wnaeth Titus fanteisio arnoch chi? Na, mae ganddo fe yr un agwedd â mi, a dŷn ni'n ymddwyn yr un fath â'n gilydd.
II C WelBeibl 12:19  Ydych chi'n meddwl ein bod ni wedi bod yn amddiffyn ein hunain o'ch blaen chi? Na, fel Cristnogion dŷn ni wedi bod yn siarad yn gwbl agored o flaen Duw, a hynny er mwyn eich cryfhau chi, ffrindiau annwyl.
II C WelBeibl 12:20  Ond pan fydda i'n dod acw, mae gen i ofn y byddwch chi ddim yn ymddwyn fel y baswn i'n hoffi. Wedyn fydda i ddim yn ymateb fel y byddech chi'n hoffi! Mae gen i ofn y bydd yna ffraeo, cenfigennu, gwylltio ac uchelgais hunanol, pobl yn enllibio, hel straeon, yn llawn ohonyn nhw eu hunain ac yn creu anhrefn llwyr.
II C WelBeibl 12:21  Mae gen i ofn y bydd Duw yn gwneud i mi deimlo cywilydd o'ch blaen chi eto pan fydda i'n dod acw. Bydda i wedi torri fy nghalon am fod llawer acw yn dal ati i bechu a heb droi cefn ar eu meddyliau mochaidd, eu hanfoesoldeb rhywiol a'u penrhyddid llwyr.
Chapter 13
II C WelBeibl 13:1  Hwn fydd y trydydd tro i mi ymweld â chi. “Rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.”
II C WelBeibl 13:2  Dw i wedi rhoi un rhybudd i'r rhai oedd wedi bod yn pechu y tro dwetha roeddwn i gyda chi. Dw i ddim gyda chi ar hyn o bryd, ond dw i'n rhoi ail rybudd (iddyn nhw a phawb sydd wedi ymuno â nhw). Fydda i'n dangos dim trugaredd y tro nesa!
II C WelBeibl 13:3  Wedi'r cwbl, dych chi eisiau prawf fod y Meseia yn siarad trwof fi. Dydy e ddim yn wan yn y ffordd mae e'n delio gyda chi – mae'n gweithio'n nerthol yn eich plith chi!
II C WelBeibl 13:4  Mae'n wir ei fod yn wan pan gafodd ei ladd ar y groes, ond mae bellach yn byw drwy nerth Duw. A'r un modd, dŷn ni sy'n perthyn iddo yn wan, ond byddwn ni'n rhannu ei fywyd e – a'r bywyd hwnnw sydd drwy nerth Duw yn ein galluogi ni i'ch gwasanaethu chi.
II C WelBeibl 13:5  Chi ddylai edrych arnoch eich hunain i weld a ydych yn byw'n ffyddlon. Dylech chi roi eich hunain ar brawf! Ydych chi ddim yn sylweddoli fod y Meseia Iesu yn eich plith chi? – os na, dych chi wedi methu'r prawf.
II C WelBeibl 13:6  Beth bynnag, dw i'n hyderus eich bod chi'n gweld ein bod ni ddim wedi methu'r prawf.
II C WelBeibl 13:7  Ond dim cael pobl i weld ein bod ni wedi pasio'r prawf ydy'r rheswm pam dŷn ni'n gweddïo ar Dduw na fyddwch chi'n gwneud dim o'i le. Dŷn ni am i chi wneud beth sy'n iawn hyd yn oed os ydy'n ymddangos ein bod ni wedi methu.
II C WelBeibl 13:8  Dŷn ni ddim am wneud unrhyw beth sy'n rhwystr i'r gwirionedd, dim ond beth sy'n hybu'r gwirionedd.
II C WelBeibl 13:9  Yn wir, dŷn ni'n ddigon balch o fod yn wan os dych chi'n gryfion. Ein gweddi ni ydy ar i chi gael eich adfer.
II C WelBeibl 13:10  Dyna pam dw i'n ysgrifennu atoch chi fel hyn tra dw i'n absennol – dw i ddim eisiau gorfod bod yn galed arnoch chi a defnyddio'r awdurdod mae'r Arglwydd wedi'i roi i mi. Dw i eisiau cryfhau, dim chwalu'ch ffydd chi.
II C WelBeibl 13:11  Felly i gloi, ffrindiau annwyl, byddwch lawen! Newidiwch eich ffyrdd a gwrando ar beth dw i'n eich annog chi i'w wneud. Cytunwch â'ch gilydd, a byw mewn perthynas iach â'ch gilydd. A bydd y Duw sy'n rhoi cariad a heddwch perffaith gyda chi.
II C WelBeibl 13:12  Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. Mae pobl Dduw i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi.
II C WelBeibl 13:13  Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a'r rhannu mae'r Ysbryd Glân yn ei ysgogi.