Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
DANIEL
Up
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12
Chapter 1
Dani WelBeibl 1:1  Yn y drydedd flwyddyn pan oedd y Brenin Jehoiacim yn teyrnasu ar Jwda, dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ymosod ar Jerwsalem a gwarchae arni.
Dani WelBeibl 1:2  A dyma Duw yn gadael iddo ddal Jehoiacim, brenin Jwda. Cymerodd nifer o bethau o'r deml hefyd. Aeth â nhw yn ôl i wlad Babilon, a'u cadw yn y trysordy yn nheml ei dduw.
Dani WelBeibl 1:3  Dyma'r brenin yn gorchymyn i Ashpenas, prif swyddog ei balas, chwilio am Israeliaid ifanc oedd yn perthyn i'r teulu brenhinol a theuluoedd bonedd eraill –
Dani WelBeibl 1:4  dynion ifanc cryfion, iach a golygus. Rhai galluog, wedi cael addysg dda, ac yn fechgyn doeth, cymwys i weithio yn y palas. Roedden nhw i ddysgu iaith Babilon, a hefyd dysgu am lenyddiaeth y wlad.
Dani WelBeibl 1:5  A dyma'r brenin yn gorchymyn eu bod i gael bwyta'r bwyd a'r gwin gorau, wedi'i baratoi yn y gegin frenhinol. Ac roedd rhaid iddyn nhw gael eu hyfforddi am dair blynedd cyn dechrau gweithio i'r brenin.
Dani WelBeibl 1:6  Roedd pedwar o'r rhai gafodd eu dewis yn dod o Jwda – Daniel, Hananeia, Mishael, ac Asareia.
Dani WelBeibl 1:7  Ond dyma'r prif swyddog yn rhoi enwau newydd iddyn nhw. Galwodd Daniel yn Belteshasar, Hananeia yn Shadrach, Mishael yn Meshach, ac Asareia yn Abednego.
Dani WelBeibl 1:8  Dyma Daniel yn penderfynu nad oedd e am wneud ei hun yn aflan drwy fwyta'r bwyd a'r gwin oedd y brenin am ei roi iddo. Gofynnodd i'r prif swyddog am ganiatâd i beidio bwyta'r bwyd brenhinol.
Dani WelBeibl 1:9  Roedd Duw wedi gwneud i'r swyddog hoffi Daniel a bod yn garedig ato,
Dani WelBeibl 1:10  ond meddai wrtho, “Mae fy meistr y brenin wedi dweud beth dych chi i'w fwyta a'i yfed. Mae arna i ofn beth fyddai'n wneud petaech chi'n edrych yn fwy gwelw a gwan na'r bechgyn eraill yr un oed â chi. Byddech chi'n rhoi fy mywyd i ar y lein!”
Dani WelBeibl 1:11  Ond wedyn dyma Daniel yn siarad â'r swyddog oedd wedi cael ei benodi i ofalu amdano fe, Hananeia, Mishael ac Asareia.
Dani WelBeibl 1:12  “Pam wnei di ddim profi ni am ddeg diwrnod? Gad i ni fwyta dim ond llysiau a dŵr,
Dani WelBeibl 1:13  ac wedyn cei weld sut fyddwn ni'n cymharu gyda'r bechgyn eraill sy'n bwyta'r bwyd brenhinol. Cei benderfynu gwneud beth bynnag wyt ti eisiau wedyn.”
Dani WelBeibl 1:14  Felly dyma'r gwas oedd yn gofalu amdanyn nhw yn cytuno, ac yn eu profi nhw am ddeg diwrnod.
Dani WelBeibl 1:15  Ar ddiwedd y deg diwrnod roedd Daniel a'i ffrindiau yn edrych yn well ac yn iachach na'r bechgyn eraill i gyd, er bod y rheiny wedi bod yn bwyta'r bwydydd gorau o gegin y palas.
Dani WelBeibl 1:16  Felly dyma'r gwas oedd yn gofalu amdanyn nhw yn dal ati i roi llysiau iddyn nhw yn lle'r bwydydd cyfoethog a'r gwin roedden nhw i fod i'w gael.
Dani WelBeibl 1:17  Rhoddodd Duw allu anarferol i'r pedwar ohonyn nhw i ddysgu am lenyddiaeth a phopeth arall. Roedd gan Daniel yn arbennig y ddawn i ddehongli gweledigaethau a breuddwydion.
Dani WelBeibl 1:18  Ar ddiwedd y cyfnod o hyfforddiant dyma'r prif swyddog yn mynd â nhw o flaen y Brenin Nebwchadnesar.
Dani WelBeibl 1:19  Dyma'r brenin yn eu cyfweld nhw, a doedd dim un ohonyn nhw cystal â Daniel, Hananeia, Mishael ac Asareia. Felly dyma'r pedwar ohonyn nhw'n cael eu penodi i weithio i'r brenin.
Dani WelBeibl 1:20  Beth bynnag oedd y brenin yn eu holi nhw amdano, roedd eu gwybodaeth a'u cyngor doeth ddeg gwaith gwell nag unrhyw ddewin neu swynwr doeth drwy'r Ymerodraeth gyfan.
Dani WelBeibl 1:21  Roedd Daniel yn dal yno y flwyddyn y daeth Cyrus yn frenin.
Chapter 2
Dani WelBeibl 2:1  Yn ystod yr ail flwyddyn pan oedd Nebwchadnesar yn frenin cafodd freuddwyd oedd yn ei boeni gymaint roedd yn colli cwsg am y peth.
Dani WelBeibl 2:2  Dyma fe'n galw'r swynwyr, y dewiniaid, y consurwyr a'r dynion doeth at ei gilydd i esbonio'r freuddwyd iddo. Dyma nhw'n dod a sefyll o flaen y brenin.
Dani WelBeibl 2:3  A dyma'r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Dw i wedi cael breuddwyd, a dw i eisiau gwybod beth ydy'r ystyr.”
Dani WelBeibl 2:4  A dyma'r dynion doeth yn ateb [yn Aramaeg], “O frenin! Boed i chi fyw am byth! Dwedwch beth oedd y freuddwyd wrth eich gweision, a gwnawn ni ddweud beth mae'n ei olygu.”
Dani WelBeibl 2:5  “Na,” meddai'r brenin, “dim o gwbl. Dw i wedi penderfynu fod rhaid i chi ddweud beth oedd y freuddwyd a beth mae'n ei olygu. Os na wnewch chi bydd eich cyrff chi'n cael eu rhwygo'n ddarnau, a'ch cartrefi'n cael eu troi'n domen sbwriel!
Dani WelBeibl 2:6  Ond os gallwch chi ddweud wrtho i beth oedd y freuddwyd ges i, a beth mae'n ei olygu, bydda i'n pentyrru anrhegion, gwobrau ac anrhydeddau arnoch chi. Felly dwedwch beth oedd y freuddwyd, a beth mae'n ei olygu!”
Dani WelBeibl 2:7  Ond dyma nhw'n dweud eto, “Os bydd y brenin mor garedig â dweud wrthon ni beth oedd y freuddwyd, gwnawn ni ddweud wrtho beth mae'n ei olygu.”
Dani WelBeibl 2:8  “Dw i'n deall eich gêm chi,” meddai'r brenin. “Dych chi'n gweld mor benderfynol ydw i a dych chi'n chwarae am amser.
Dani WelBeibl 2:9  Os wnewch chi ddim dweud wrtho i beth oedd y freuddwyd bydd hi ar ben arnoch chi. Dych chi'n mynd i wneud rhyw esgusion a hel straeon celwyddog yn y gobaith y bydd y sefyllfa'n newid. Felly dwedwch wrtho i beth oedd y freuddwyd. Bydd hi'n amlwg i mi wedyn eich bod chi yn gallu esbonio'r ystyr.”
Dani WelBeibl 2:10  A dyma'r dynion doeth yn ateb y brenin, “Does neb ar wyneb daear allai wneud beth mae'r brenin yn ei ofyn. A does yna erioed frenin (sdim ots pa mor bwerus oedd e) wedi gofyn y fath beth i'w ddewiniaid, ei swynwyr neu ei ddynion doeth.
Dani WelBeibl 2:11  Mae'r brenin yn gofyn am rywbeth sy'n amhosib! Dim ond y duwiau sy'n gwybod yr ateb – a dŷn nhw ddim yma gyda ni!”
Dani WelBeibl 2:12  Pan glywodd hynny, dyma'r brenin yn gwylltio'n lân, a gorchymyn fod dynion doeth Babilon i gyd i gael eu lladd.
Dani WelBeibl 2:13  Roedd y gorchymyn ar fin cael ei weithredu, ac roedd Daniel a'i ffrindiau'n mynd i gael eu dienyddio hefyd.
Dani WelBeibl 2:14  Ond dyma Daniel yn cael gair yng nghlust Arioch, capten gwarchodlu'r brenin, oedd wedi mynd allan i ddienyddio'r dynion doeth i gyd.
Dani WelBeibl 2:15  Gofynnodd i Arioch, “Capten, pam mae'r brenin wedi rhoi gorchymyn mor galed?” A dyma Arioch yn dweud beth oedd wedi digwydd.
Dani WelBeibl 2:16  Felly dyma Daniel yn gofyn i'r brenin roi ychydig amser iddo, a byddai'n esbonio iddo beth oedd ystyr y freuddwyd.
Dani WelBeibl 2:17  Wedyn aeth Daniel adre, a dweud wrth ei ffrindiau Hananeia, Mishael ac Asareia am y peth.
Dani WelBeibl 2:18  Gofynnodd iddyn nhw weddïo y byddai Duw'r nefoedd yn drugarog, ac yn dweud wrthyn nhw beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd. Wedyn fydden nhw ddim yn cael eu dienyddio gyda gweddill dynion doeth Babilon.
Dani WelBeibl 2:19  Y noson honno dyma Daniel yn cael yr ateb i'r dirgelwch, mewn gweledigaeth yn ystod y nos. A dyma fe'n moli Duw'r nefoedd,
Dani WelBeibl 2:20  a dweud, “Boed i enw Duw gael ei foli am byth! Mae e'n Dduw doeth a chryf.
Dani WelBeibl 2:21  Fe sy'n rheoli amser ac yn arwain hanes. Fe sy'n codi brenhinoedd ac yn eu diorseddu nhw. Fe sy'n rhoi doethineb i'r doeth, a gwybodaeth i bobl ddeallus.
Dani WelBeibl 2:22  Mae e'n datguddio pethau sy'n ddirgelwch llwyr. Mae e'n gweld beth sy'n y tywyllwch; mae golau o'i gwmpas e bob amser.
Dani WelBeibl 2:23  Dw i'n dy foli di! Clod i ti! O Dduw fy hynafiaid. Rwyt ti wedi rhoi doethineb a nerth i mi. Ti wedi dangos beth roedden ni angen ei wybod, a rhoi i mi'r ateb i gwestiwn y brenin.”
Dani WelBeibl 2:24  Felly dyma Daniel yn mynd at Arioch, oedd wedi cael y gwaith o ladd dynion doeth Babilon i gyd. Dwedodd wrtho, “Paid lladd dynion doeth Babilon. Dos â fi i weld y brenin. Gwna i ddweud wrtho beth ydy ystyr y freuddwyd.”
Dani WelBeibl 2:25  Felly'n syth bin dyma Arioch yn mynd â Daniel i weld y brenin, a dweud wrtho, “Dw i wedi dod o hyd i ddyn, un o gaethion Jwda, sy'n gallu dweud wrth y brenin beth ydy ystyr ei freuddwyd!”
Dani WelBeibl 2:26  Dyma'r brenin yn gofyn i Daniel (oedd yn cael ei alw yn Belteshasar), “Ydy hyn yn wir? Wyt ti'n gallu dweud beth oedd y freuddwyd, a dweud wrtho i beth mae'n ei olygu?”
Dani WelBeibl 2:27  Dyma Daniel yn ateb y brenin, “Does neb ar wyneb daear – dynion doeth, swynwyr, dewiniaid na chonsurwyr – yn gallu datrys y dirgelwch yma i'r brenin.
Dani WelBeibl 2:28  Ond mae yna Dduw yn y nefoedd sy'n gallu dangos ystyr pob dirgelwch. Mae'r Duw yma wedi dangos i Nebwchadnesar beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol. “Dyma beth welsoch chi'n eich breuddwyd:
Dani WelBeibl 2:29  Tra oedd y brenin yn cysgu yn ei wely cafodd freuddwyd am bethau yn y dyfodol. Dangosodd yr Un sy'n datrys pob dirgelwch bethau sy'n mynd i ddigwydd.
Dani WelBeibl 2:30  Dw i ddim wedi cael yr ateb i'r dirgelwch am fy mod i'n fwy doeth na phawb arall, ond am fod Duw eisiau i'r brenin ddeall y freuddwyd gafodd e.
Dani WelBeibl 2:31  “Eich mawrhydi, beth welsoch chi oedd cerflun anferth – roedd yn aruthrol fawr ac yn disgleirio'n llachar. Roedd yn ddigon i ddychryn unrhyw un.
Dani WelBeibl 2:32  Roedd pen y cerflun wedi'i wneud o aur, ei frest a'i freichiau yn arian, ei fol a'i gluniau yn bres,
Dani WelBeibl 2:33  ei goesau yn haearn, a'i draed yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith.
Dani WelBeibl 2:34  Tra oeddech chi'n edrych arno dyma garreg yn cael ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig. Dyma'r garreg yn taro'r cerflun ar ei draed, ac yn eu malu nhw'n ddarnau.
Dani WelBeibl 2:35  A dyma'r cerflun anferth yn syrthio'n ddarnau – yr haearn, crochenwaith, pres, arian ac aur. Roedd y cwbl yn ddarnau mân, fel us ar lawr dyrnu. A chafodd y cwbl ei chwythu i ffwrdd gan y gwynt. Doedd dim sôn amdano. Ond wedyn dyma'r garreg wnaeth daro'r cerflun yn troi yn fynydd enfawr oedd i'w weld yn amlwg drwy'r byd i gyd.
Dani WelBeibl 2:36  “Dyna oedd y freuddwyd. A nawr, fe esbonia i beth ydy ystyr y cwbl i'r brenin:
Dani WelBeibl 2:37  Eich mawrhydi, dych chi'n frenin ar frenhinoedd lawer. Mae Duw'r nefoedd wedi rhoi awdurdod, pŵer, grym ac anrhydedd i chi.
Dani WelBeibl 2:38  Dych chi'n teyrnasu ar y byd i gyd – ble bynnag mae pobl, anifeiliaid gwyllt ac adar yn byw. Chi ydy'r pen o aur.
Dani WelBeibl 2:39  Ond bydd teyrnas arall yn dod ar eich ôl chi; fydd hi ddim mor fawr â'ch ymerodraeth chi. Ar ôl hynny, bydd trydedd teyrnas yn codi i reoli'r byd i gyd – dyma'r un o bres.
Dani WelBeibl 2:40  Wedyn bydd y bedwaredd deyrnas yn codi. Bydd hon yn gryf fel haearn. Yn union fel mae haearn yn malu popeth mae'n ei daro, bydd y deyrnas yma yn dinistrio a sathru popeth aeth o'i blaen.
Dani WelBeibl 2:41  Ac wedyn y traed a'r bodiau welsoch chi (oedd yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith) – bydd hon yn deyrnas ranedig. Bydd ganddi beth o gryfder yr haearn ynddi, ond haearn wedi'i gymysgu â chrochenwaith ydy e.
Dani WelBeibl 2:42  Cymysgedd o gryfder yr haearn a breuder y crochenwaith.
Dani WelBeibl 2:43  Mae'r cymysgedd hefyd yn dangos y bydd pobloedd yn cymysgu drwy briodas, ond ddim yn aros gyda'i gilydd – yn union fel haearn a chrochenwaith, sydd ddim yn cymysgu gyda'i gilydd.
Dani WelBeibl 2:44  “Yn amser y brenhinoedd yna bydd Duw'r nefoedd yn sefydlu teyrnas fydd byth yn cael ei dinistrio. Fydd y deyrnas yma byth yn cael ei choncro a'i chymryd drosodd gan bobl eraill. Bydd yn chwalu'r teyrnasoedd eraill, ac yn dod â nhw i ben. Ond bydd y deyrnas hon yn aros am byth.
Dani WelBeibl 2:45  Dyna ystyr y garreg gafodd ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig, a malu'r cwbl yn ddarnau – yr haearn, y pres, y crochenwaith, yr arian a'r aur. Mae'r Duw mawr wedi dangos i'r brenin beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Dyna oedd y freuddwyd, ac mae'r esboniad yn gywir hefyd.”
Dani WelBeibl 2:46  Dyma'r brenin Nebwchadnesar yn plygu o flaen Daniel â'i wyneb ar lawr, a gorchymyn cyflwyno aberthau a llosgi arogldarth iddo.
Dani WelBeibl 2:47  Dwedodd wrth Daniel, “Ti ydy'r unig un sydd wedi gallu datrys y dirgelwch. Felly, does dim amheuaeth fod dy Dduw di yn Dduw ar y duwiau i gyd, ac yn feistr ar bob brenin. Mae e'n gallu datguddio pob dirgelwch!”
Dani WelBeibl 2:48  Dyma'r brenin yn rhoi un o swyddi uchaf y deyrnas i Daniel, ac yn rhoi llwythi o anrhegion iddo. Gwnaeth Daniel yn llywodraethwr talaith Babilon gyfan, ac yn bennaeth dynion doeth Babilon i gyd.
Dani WelBeibl 2:49  A gofynnodd Daniel i'r brenin apwyntio Shadrach, Meshach ac Abednego yn rheolwyr gweinyddiaeth talaith Babilon. Roedd Daniel yn weinidog yn llywodraeth y brenin.
Chapter 3
Dani WelBeibl 3:1  Dyma'r brenin Nebwchadnesar yn gwneud delw aur oedd yn 27 metr o uchder ac yn dri metr o led. Cafodd y cerflun ei osod ar wastadedd Dwra yn nhalaith Babilon.
Dani WelBeibl 3:2  Yna anfonodd orchymyn allan yn galw penaethiaid y taleithiau, yr uchel-swyddogion a'r llywodraethwyr i gyd at ei gilydd i seremoni dadorchuddio'r ddelw; hefyd rheolwyr a chomisiynwyr, cynghorwyr y brenin, trysoryddion, barnwyr, ynadon, a phawb arall o bwys.
Dani WelBeibl 3:3  A dyma nhw i gyd yn dod i'r seremoni. Roedd pawb yno, yn sefyll o flaen y ddelw oedd Nebwchadnesar wedi'i chodi.
Dani WelBeibl 3:4  Yna dyma swyddog yn cyhoeddi'n uchel, “Dyma orchymyn y brenin i bawb sydd yma, o bob gwlad ac iaith:
Dani WelBeibl 3:5  Pan fydd y gerddoriaeth yn dechrau – y corn, ffliwt, telyn, trigon, crythau, pibau a'r offerynnau eraill – mae pawb i blygu i lawr ac addoli'r ddelw aur mae'r brenin Nebwchadnesar wedi'i chodi.
Dani WelBeibl 3:6  Bydd pwy bynnag sy'n gwrthod plygu ac addoli'r ddelw, yn cael eu taflu ar unwaith i mewn i ffwrnais o dân.”
Dani WelBeibl 3:7  Felly yr eiliad y clywodd y bobl yr offerynnau i gyd, dyma pawb, o bob gwlad ac iaith yn plygu i lawr ac yn addoli'r ddelw aur oedd Nebwchadnesar wedi'i chodi.
Dani WelBeibl 3:8  Ond dyma rai o'r dynion doeth yn mynd at y brenin, a dechrau lladd ar yr Iddewon.
Dani WelBeibl 3:9  “O frenin! Boed i chi fyw am byth!” medden nhw.
Dani WelBeibl 3:10  “Roeddech chi wedi gorchymyn fod pawb i blygu i lawr ac addoli'r ddelw aur pan oedden nhw'n clywed y gerddoriaeth yn dechrau.
Dani WelBeibl 3:11  A bod pwy bynnag sy'n gwrthod plygu ac addoli'r ddelw, i gael eu taflu i mewn i ffwrnais o dân.
Dani WelBeibl 3:12  Ond mae yna Iddewon yma – Shadrach, Meshach ac Abednego – gafodd eu penodi yn rheolwyr talaith Babilon gynnoch chi. Maen nhw wedi gwrthod gwrando, eich mawrhydi. Dŷn nhw ddim yn addoli eich duwiau chi, ac maen nhw'n gwrthod addoli y ddelw aur dych chi wedi'i chodi.”
Dani WelBeibl 3:13  Dyma Nebwchadnesar yn gwylltio'n lân, ac yn gorchymyn dod â Shadrach, Meshach ac Abednego o'i flaen. Felly dyma nhw'n dod â'r tri o flaen y brenin.
Dani WelBeibl 3:14  A dyma Nebwchadnesar yn gofyn iddyn nhw, “Shadrach, Meshach ac Abednego. Ydy e'n wir eich bod chi ddim yn addoli fy nuwiau i, a'ch bod chi wedi gwrthod addoli'r ddelw aur dw i wedi'i chodi?
Dani WelBeibl 3:15  Dw i'n fodlon rhoi un cyfle arall i chi. Pan fyddwch chi'n clywed yr offerynnau, os ydych chi'n barod i blygu i lawr ac addoli y ddelw dw i wedi'i chodi, bydd popeth yn iawn. Ond os byddwch chi'n gwrthod, byddwch chi'n cael eich taflu ar unwaith i mewn i'r ffwrnais o dân. Pa dduw sy'n mynd i'ch achub chi o'm gafael i wedyn?”
Dani WelBeibl 3:16  Ond dyma Shadrach, Meshach ac Abednego yn ateb y brenin, “Does dim pwynt i ni eich ateb chi.
Dani WelBeibl 3:17  Os ydy'r Duw dŷn ni'n ei addoli yn bodoli, bydd e'n gallu'n hachub ni o'r ffwrnais dân ac o'ch gafael chi, o frenin.
Dani WelBeibl 3:18  Ond hyd yn oed os ydy e ddim yn gwneud hynny, sdim gwahaniaeth. Does gynnon ni ddim bwriad addoli eich duwiau chi, na'r ddelw aur dych chi wedi'i chodi.”
Dani WelBeibl 3:19  Roedd Nebwchadnesar yn lloerig gyda Shadrach, Meshach ac Abednego. Roedd ei wyneb yn dweud y cwbl! Rhoddodd orchymyn fod y ffwrnais i gael ei thanio saith gwaith poethach nag arfer.
Dani WelBeibl 3:20  Yna gorchmynnodd i ddynion cryf o'r fyddin rwymo Shadrach, Meshach ac Abednego a'u taflu nhw i mewn i'r ffwrnais.
Dani WelBeibl 3:21  A dyma'r tri yn cael eu rhwymo a'u taflu i'r ffwrnais heb hyd yn oed dynnu eu dillad. Roedden nhw'n dal i wisgo'r cwbl – clogyn, trowsus, twrban, a phob dilledyn arall.
Dani WelBeibl 3:22  Am fod y brenin wedi gorchymyn gwneud y ffwrnais mor eithafol o boeth, dyma'r fflamau'n llamu allan o'r ffwrnais a lladd y milwyr wrth iddyn nhw daflu Shadrach, Meshach ac Abednego i'r tân.
Dani WelBeibl 3:23  Felly dyma Shadrach, Meshach ac Abednego yn syrthio, wedi'u rhwymo'n dynn, i ganol y tân yn y ffwrnais.
Dani WelBeibl 3:24  Ond yna'n sydyn dyma'r Brenin Nebwchadnesar yn neidio ar ei draed mewn braw. “Onid tri dyn wnaethon ni eu rhwymo a'u taflu i'r tân?” meddai wrth ei gynghorwyr. “Ie, yn sicr,” medden nhw.
Dani WelBeibl 3:25  “Ond edrychwch!” gwaeddodd y brenin. “Dw i'n gweld pedwar o bobl yn cerdded yn rhydd yng nghanol y tân. A dŷn nhw ddim wedi cael unrhyw niwed! Ac mae'r pedwerydd yn edrych fel petai'n fod dwyfol.”
Dani WelBeibl 3:26  Dyma Nebwchadnesar yn mynd mor agos ag y gallai at ddrws y ffwrnais, a gweiddi: “Shadrach, Meshach, Abednego, gweision y Duw Goruchaf. Dewch allan! Dewch yma!” A dyma'r tri yn cerdded allan o'r tân.
Dani WelBeibl 3:27  Dyma benaethiaid y taleithiau, yr uchel-swyddogion, y llywodraethwyr a chynghorwyr y brenin i gyd yn casglu o'u cwmpas nhw. Doedd y tân ddim wedi'u llosgi nhw o gwbl, dim un blewyn. Doedd dim niwed i'w dillad. Doedd dim hyd yn oed arogl llosgi arnyn nhw!
Dani WelBeibl 3:28  Ac meddai Nebwchadnesar, “Moliant i Dduw Shadrach, Meshach ac Abednego! Anfonodd angel i achub ei weision oedd yn trystio ynddo. Roedden nhw'n fodlon herio gorchymyn y brenin, a hyd yn oed marw cyn addoli unrhyw dduw ond eu Duw eu hunain.
Dani WelBeibl 3:29  Felly dw i am ei wneud yn ddeddf fod neb o unrhyw wlad neu iaith i ddweud unrhyw beth yn erbyn Duw Shadrach, Meshach ac Abednego. Os gwnân nhw, bydd eu cyrff yn cael eu rhwygo'n ddarnau, a'u cartrefi yn cael eu troi'n domen sbwriel! Achos does yr un Duw arall yn gallu achub fel yma.”
Dani WelBeibl 3:30  A dyma'r brenin yn rhoi dyrchafiad a swyddi gwell fyth yn nhalaith Babilon i Shadrach, Meshach ac Abednego.
Chapter 4
Dani WelBeibl 4:1  Y brenin Nebwchadnesar, at y bobl i gyd, o bob gwlad ac iaith – pawb drwy'r byd: Heddwch a llwyddiant i chi i gyd!
Dani WelBeibl 4:2  Dw i eisiau dweud wrthoch chi am y ffordd wyrthiol mae'r Duw Goruchaf wedi dangos ei hun i mi.
Dani WelBeibl 4:3  Mae'r arwyddion mae'n eu rhoi yn rhyfeddol! Mae ei wyrthiau yn syfrdanol! Fe ydy'r un sy'n teyrnasu am byth, ac yn rheoli popeth o un genhedlaeth i'r llall!
Dani WelBeibl 4:4  Roeddwn i, Nebwchadnesar, yn byw'n foethus ac yn ymlacio adre yn y palas.
Dani WelBeibl 4:5  Ond un noson ces i freuddwyd wnaeth fy nychryn i go iawn. Roedd beth welais i yn hunllef ddychrynllyd.
Dani WelBeibl 4:6  Felly dyma fi'n gorchymyn fod dynion doeth Babilon i gyd i gael eu galw, er mwyn iddyn nhw ddweud wrtho i beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd.
Dani WelBeibl 4:7  Dyma'r dewiniaid, y swynwyr, y dynion doeth a'r consurwyr i gyd yn dod, a dyma fi'n dweud wrthyn nhw beth oedd y freuddwyd. Ond doedden nhw ddim yn gallu dweud wrtho i beth oedd hi'n ei olygu.
Dani WelBeibl 4:8  Ond wedyn dyma Daniel yn dod (yr un gafodd ei alw'n Belteshasar, ar ôl y duw roeddwn i'n ei addoli) – mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo fe. A dyma fi'n dweud wrtho yntau beth oedd y freuddwyd.
Dani WelBeibl 4:9  “Belteshasar. Ti ydy'r prif swynwr. Dw i'n gwybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a does run dirgelwch yn peri penbleth i ti. Dw i eisiau i ti ddweud beth ydy ystyr y freuddwyd yma.
Dani WelBeibl 4:10  Dyma beth welais i yn y freuddwyd: Rôn i'n gweld coeden fawr yng nghanol y ddaear – roedd hi'n anhygoel o dal.
Dani WelBeibl 4:11  Roedd y goeden yn tyfu'n fawr ac yn gref. Roedd y goeden yn ymestyn mor uchel i'r awyr roedd i'w gweld o bobman drwy'r byd i gyd.
Dani WelBeibl 4:12  Roedd ei dail yn hardd, ac roedd digonedd o ffrwyth arni – digon o fwyd i bawb! Roedd anifeiliaid gwyllt yn cysgodi dani, ac adar yn nythu yn ei brigau. Roedd popeth byw yn cael eu bwyd oddi arni.
Dani WelBeibl 4:13  “Tra rôn i'n gweld hyn yn y freuddwyd, dyma angel sanctaidd yn dod i lawr o'r nefoedd.
Dani WelBeibl 4:14  Dyma fe'n gweiddi'n uchel, ‘Torrwch y goeden i lawr, a thorri ei changhennau i ffwrdd! Tynnwch ei dail a chwalu ei ffrwyth! Gyrrwch yr anifeiliaid i ffwrdd, a heliwch yr adar o'i brigau!
Dani WelBeibl 4:15  Ond gadewch y boncyff a'r gwreiddiau yn y ddaear, gyda rhwymyn o haearn a phres amdano. Bydd y gwlith yn ei wlychu gyda'r glaswellt o'i gwmpas; a bydd yn bwyta planhigion gwyllt gyda'r anifeiliaid.
Dani WelBeibl 4:16  Bydd yn sâl yn feddyliol ac yn meddwl ei fod yn anifail. Bydd yn aros felly am amser hir.
Dani WelBeibl 4:17  Mae'r angylion wedi cyhoeddi hyn, a'r rhai sanctaidd wedi rhoi'r ddedfryd! “‘Y bwriad ydy fod pob person byw i ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd. Mae'n gallu eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau, hyd yn oed y person mwyaf di-nod.’
Dani WelBeibl 4:18  Dyna'r freuddwyd ges i,” meddai Nebwchadnesar. “Dw i eisiau i ti, Belteshasar, ddweud beth mae'n ei olygu. Does neb arall o ddynion doeth y deyrnas wedi gallu esbonio'r ystyr i mi. Ond dw i'n siŵr y byddi di'n gallu, am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti.”
Dani WelBeibl 4:19  Roedd Daniel (oedd hefyd yn cael ei alw'n Belteshasar) dan deimlad am beth amser. Roedd beth oedd yn mynd drwy ei feddwl yn ei ddychryn. Ond dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Belteshasar, paid poeni. Paid gadael i'r freuddwyd dy ddychryn di.” Ac meddai Belteshasar, “Meistr, o na fyddai'r freuddwyd wedi'i rhoi i'ch gelynion chi, a'i hystyr ar gyfer y rhai sy'n eich casáu chi!
Dani WelBeibl 4:20  Y goeden welsoch chi'n tyfu'n fawr ac yn gref, yn ymestyn mor uchel i'r awyr nes ei bod i'w gweld o bobman drwy'r byd i gyd –
Dani WelBeibl 4:21  yr un gyda dail hardd a digonedd o ffrwyth arni, a'r anifeiliaid gwyllt yn cysgodi dani, a'r adar yn nythu yn ei brigau –
Dani WelBeibl 4:22  chi ydy'r goeden yna, eich mawrhydi. Dych chi'n frenin mawr a chryf. Dych chi mor fawr, mae'ch awdurdod chi dros y byd i gyd.
Dani WelBeibl 4:23  Ond wedyn dyma chi'n gweld angel yn dod i lawr o'r nefoedd, ac yn dweud, ‘Torrwch y goeden i lawr, a'i dinistrio, ond gadewch y boncyff yn y ddaear gyda rhwymyn o haearn a phres amdano. Fel y glaswellt o'i gwmpas, bydd y gwlith yn ei wlychu, a bydd yn byw gyda'r anifeiliaid gwyllt am amser hir.’
Dani WelBeibl 4:24  Dyma ystyr y freuddwyd, eich mawrhydi: Mae'r Duw Goruchaf wedi penderfynu mai dyma sy'n mynd i ddigwydd i'm meistr, y brenin.
Dani WelBeibl 4:25  Byddwch chi'n cael eich cymryd allan o gymdeithas, ac yn byw gyda'r anifeiliaid gwyllt. Byddwch chi'n bwyta glaswellt fel ychen, ac allan yn yr awyr agored yn cael eich gwlychu gan wlith. Bydd amser hir yn mynd heibio, nes i chi ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd, ac yn eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau.
Dani WelBeibl 4:26  Ond fel y boncyff a'r gwreiddiau yn cael eu gadael, byddwch chi'n cael eich teyrnas yn ôl pan fyddwch chi'n cydnabod fod yr Un nefol yn rheoli'r cwbl.
Dani WelBeibl 4:27  Felly plîs ga i roi cyngor i chi, eich mawrhydi. Trowch gefn ar eich pechod, a gwneud y peth iawn. Stopiwch wneud pethau drwg, a dechrau bod yn garedig at bobl dlawd. Falle, wedyn, y cewch chi ddal i fod yn llwyddiannus.”
Dani WelBeibl 4:29  Flwyddyn yn ddiweddarach pan oedd yn cerdded ar do ei balas brenhinol yn Babilon,
Dani WelBeibl 4:30  dwedodd fel yma: “Edrychwch ar Babilon, y ddinas wych yma! Fi sydd wedi adeiladu'r cwbl, yn ganolfan frenhinol i ddangos mor bwerus ac mor fawr ydw i.”
Dani WelBeibl 4:31  Doedd y brenin ddim wedi gorffen ei frawddeg pan glywodd lais o'r nefoedd yn dweud: “Dyma sy'n cael ei ddweud wrthot ti, y Brenin Nebwchadnesar: mae dy deyrnas wedi'i chymryd oddi arnat ti!
Dani WelBeibl 4:32  Byddi'n cael dy gymryd allan o gymdeithas, yn byw gyda'r anifeiliaid gwyllt, ac yn bwyta glaswellt fel ychen. Bydd amser hir yn mynd heibio cyn i ti ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd, ac yn eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau.”
Dani WelBeibl 4:33  A dyna ddigwyddodd yn syth wedyn. Daeth beth gafodd ei ddweud am Nebwchadnesar yn wir. Cafodd ei gymryd allan o gymdeithas. Dechreuodd fwyta glaswellt, fel ychen. Roedd ei gorff yn cael ei wlychu gan wlith yn yr awyr agored, nes bod ei wallt wedi tyfu fel plu eryr, a'i ewinedd fel crafangau aderyn.
Dani WelBeibl 4:34  “Ond yn y diwedd, dyma fi, Nebwchadnesar, yn troi at yr Un nefol, a ches fy iacháu yn feddyliol. Dechreuais foli y Duw Goruchaf, ac addoli'r Un sy'n byw am byth. Mae ei awdurdod yn para am byth, ac mae'n teyrnasu o un genhedlaeth i'r llall.
Dani WelBeibl 4:35  Dydy pobl y byd i gyd yn ddim o'i gymharu ag e. Mae'n gwneud beth mae ei eisiau gyda'r grymoedd nefol, a phobl ar y ddaear. Does neb yn gallu ei stopio na'i herio drwy ddweud, ‘Beth wyt i'n wneud?’
Dani WelBeibl 4:36  “Pan ges i fy iacháu, ces fynd yn ôl i fod yn frenin, gydag anrhydedd ac ysblander. Daeth gweinidogion y llywodraeth a'r uchel-swyddogion i gyd i'm gwneud yn frenin unwaith eto. Roedd gen i fwy o awdurdod nag erioed!
Dani WelBeibl 4:37  A dyna pam dw i'n addoli, ac yn rhoi'r clod a'r anrhydedd i gyd i Frenin y nefoedd, sydd bob amser yn gwneud beth sy'n iawn ac yn deg. Mae'n rhoi'r rhai balch yn eu lle!”
Chapter 5
Dani WelBeibl 5:1  Roedd y Brenin Belshasar wedi trefnu gwledd i fil o'i uchel-swyddogion. A dyna lle roedd e'n yfed gwin o'u blaen nhw i gyd.
Dani WelBeibl 5:2  Pan oedd y gwin wedi mynd i'w ben dyma Belshasar yn gorchymyn dod â'r llestri aur ac arian oedd ei ragflaenydd, Nebwchadnesar, wedi'u cymryd o'r deml yn Jerwsalem. Roedd am yfed ohonyn nhw, gyda'i uchel-swyddogion, ei wragedd a'i gariadon i gyd.
Dani WelBeibl 5:3  Felly dyma nhw'n dod â'r llestri aur ac arian oedd wedi'u cymryd o deml Duw yn Jerwsalem. A dyma'r brenin a'i uchel-swyddogion, ei wragedd a'i gariadon yn yfed ohonyn nhw.
Dani WelBeibl 5:4  Wrth yfed y gwin roedden nhw'n canmol eu duwiau – eilun-dduwiau wedi'u gwneud o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg.
Dani WelBeibl 5:5  Yna'n sydyn roedd bysedd llaw ddynol i'w gweld yng ngolau'r lamp, yn ysgrifennu rhywbeth ar wal blastr yr ystafell. Roedd y brenin yn gallu gweld y llaw yn ysgrifennu.
Dani WelBeibl 5:6  Aeth yn welw gan ddychryn. Roedd ei goesau'n wan a'i liniau'n crynu.
Dani WelBeibl 5:7  Gwaeddodd yn uchel a galw am ei ddewiniaid, y dynion doeth a'r swynwyr. Dwedodd wrthyn nhw, “Bydd pwy bynnag sy'n darllen yr ysgrifen a dweud beth mae'n ei olygu yn cael ei anrhydeddu – bydd yn cael ei wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am ei wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.”
Dani WelBeibl 5:8  Felly dyma'r dynion doeth i gyd yn dod i mewn, ond allai run ohonyn nhw ddarllen yr ysgrifen na dweud beth oedd ei ystyr.
Dani WelBeibl 5:9  Erbyn hyn roedd y Brenin Belshasar wedi dychryn am ei fywyd. Roedd yn wyn fel y galchen ac roedd ei uchel-swyddogion i gyd wedi drysu'n lân.
Dani WelBeibl 5:10  Pan glywodd y fam frenhines yr holl sŵn roedd y brenin a'i uchel-swyddogion yn ei wneud, aeth i mewn i'r neuadd fwyta. “O frenin! Boed i ti fyw am byth!” meddai. “Paid dychryn. Paid eistedd yna'n welw.
Dani WelBeibl 5:11  Mae yna ddyn yn dy deyrnas sydd ag ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo. Pan oedd Nebwchadnesar yn frenin, daeth yn amlwg fod gan y dyn yma ddirnadaeth, deall, a doethineb fel petai'n un o'r duwiau ei hun. Gwnaeth Nebwchadnesar e'n brif swynwr, ac roedd yn bennaeth ar yr dewiniaid, swynwyr a'r dynion doeth i gyd.
Dani WelBeibl 5:12  Roedd yna rywbeth cwbl arbennig am y dyn yma, Daniel (gafodd yr enw Belteshasar gan y brenin). Roedd ganddo feddwl anarferol o graff, gwybodaeth a gallu i esbonio ystyr breuddwydion, egluro posau, a datrys problemau cymhleth. Galw am Daniel, a bydd e'n dweud wrthot ti beth mae'r ysgrifen yn ei olygu.”
Dani WelBeibl 5:13  Felly dyma nhw'n dod â Daniel at y brenin. A dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Ai ti ydy'r Daniel gafodd ei gymryd yn gaeth o Jwda gan fy rhagflaenydd, y Brenin Nebwchadnesar?
Dani WelBeibl 5:14  Dw i wedi clywed fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a bod gen ti ddirnadaeth, a deall, a doethineb anarferol.
Dani WelBeibl 5:15  Dw i wedi gofyn i'r dynion doeth a'r swynwyr ddarllen ac esbonio'r ysgrifen yma i mi, ond dŷn nhw ddim yn gallu.
Dani WelBeibl 5:16  Ond dw i wedi cael ar ddeall dy fod ti'n gallu dehongli pethau a datrys problemau cymhleth. Felly, os gelli di ei ddarllen a dweud wrtho i beth mae'n ei olygu, byddi'n cael dy wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am dy wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.”
Dani WelBeibl 5:17  Ond dyma Daniel yn ateb y brenin, “Cadwch eich rhoddion a'u rhoi nhw i rywun arall. Ond gwna i ddweud wrth y brenin beth ydy ystyr yr ysgrifen.
Dani WelBeibl 5:18  Eich mawrhydi, roedd y Duw Goruchaf wedi rhoi awdurdod brenhinol ac ysblander mawr i Nebwchadnesar eich rhagflaenydd chi.
Dani WelBeibl 5:19  Roedd Duw wedi'i wneud mor fawr nes bod gan bawb o bob gwlad ac iaith ei ofn. Roedd yn lladd pwy bynnag roedd e'n dewis ei ladd, ac yn arbed pwy bynnag oedd e eisiau. Doedd dim dal pwy fyddai e'n ei anrhydeddu, a phwy fyddai'n ei sathru nesa.
Dani WelBeibl 5:20  Ond trodd yn ddyn balch ac ystyfnig, a chymerodd Duw ei orsedd a'i anrhydedd oddi arno.
Dani WelBeibl 5:21  Cafodd ei gymryd allan o gymdeithas. Roedd yn meddwl ei fod yn anifail ac yn byw gyda'r asynnod gwyllt. Roedd yn bwyta glaswellt fel ychen, a'i gorff yn cael ei wlychu gan wlith yn yr awyr agored. Bu felly nes iddo ddeall mai'r Duw Goruchaf sy'n teyrnasu dros lywodraethau'r byd, a'i fod yn eu rhoi i bwy bynnag mae e eisiau.
Dani WelBeibl 5:22  “Er eich bod chi, Belshasar, yn gwybod hyn i gyd, dych chithau wedi bod yr un mor falch.
Dani WelBeibl 5:23  Dych chi wedi herio Arglwydd y nefoedd, drwy gymryd llestri ei deml a'u defnyddio nhw i yfed gwin ohonyn nhw – chi a'ch uchel-swyddogion, gyda'ch gwragedd a'ch cariadon i gyd. Ac wedyn dych chi wedi canmol eich duwiau o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg – duwiau sy'n gweld, clywed na deall dim! Ond dych chi ddim wedi canmol y Duw sy'n rhoi anadl i chi fyw, ac sy'n dal eich bywyd a'ch tynged yn ei law!
Dani WelBeibl 5:24  Dyna pam anfonodd e'r llaw i ysgrifennu'r neges yma.
Dani WelBeibl 5:25  “Dyma beth sydd wedi'i ysgrifennu: MENE, MENE, TECEL, a PHARSIN
Dani WelBeibl 5:26  A dyma ystyr y geiriau: Ystyr MENE ydy ‛cyfrif‛. Mae dyddiau eich teyrnasiad wedi'u rhifo. Mae Duw'n dod â nhw i ben.
Dani WelBeibl 5:27  Ystyr TECEL ydy ‛pwyso‛. Chi wedi'ch pwyso yn y glorian, a'ch cael yn brin.
Dani WelBeibl 5:28  Ystyr PARSIN ydy ‛rhannu‛. Mae'ch teyrnas wedi'i rhannu'n ei hanner a'i rhoi i Media a Persia.”
Dani WelBeibl 5:29  Dyma Belshasar yn gorchymyn fod Daniel i gael ei wisgo mewn porffor, i gael cadwyn aur am ei wddf, ac i'w ddyrchafu i'r drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.
Dani WelBeibl 5:30  Ond ar y noson honno cafodd Belshasar, brenin Babilon, ei lofruddio.
Dani WelBeibl 5:31  Daeth Dareius y Mediad yn frenin ar y deyrnas. Roedd yn chwe deg dau oed.
Chapter 6
Dani WelBeibl 6:1  Dyma Dareius yn penderfynu rhannu'r deyrnas gyfan yn gant dau ddeg o daleithiau, a phenodi pennaeth ar bob un.
Dani WelBeibl 6:2  Byddai penaethiaid y taleithiau yma yn atebol i dri comisiynydd, ac roedd Daniel yn un o'r rheiny. Y tri comisiynydd oedd yn gofalu am bethau ar ran y brenin.
Dani WelBeibl 6:3  Yn fuan iawn daeth hi'n amlwg fod Daniel yn llawer mwy galluog na'r comisiynwyr eraill a phenaethiaid y taleithiau i gyd – roedd ganddo allu cwbl anarferol. Yn wir, roedd y brenin yn bwriadu rhoi'r deyrnas i gyd dan ei ofal.
Dani WelBeibl 6:4  O ganlyniad i hynny roedd y comisiynwyr eraill a phenaethiaid y taleithiau eisiau ffeindio bai ar y ffordd roedd Daniel yn delio gyda gweinyddiaeth y deyrnas. Ond roedden nhw'n methu dod o hyd i unrhyw sgandal na llygredd. Roedd Daniel yn gwbl ddibynadwy. Doedd dim tystiolaeth o unrhyw esgeulustod na thwyll.
Dani WelBeibl 6:5  “Does gynnon ni ddim gobaith dod â cyhuddiad yn erbyn y Daniel yma, oni bai ein bod yn dod o hyd i rywbeth sy'n gysylltiedig â chyfraith ei Dduw,” medden nhw.
Dani WelBeibl 6:6  Felly dyma'r comisiynwyr a phenaethiaid y taleithiau yn cynllwynio gyda'i gilydd, ac yn mynd at y brenin a dweud wrtho, “Frenin Dareius, bydd fyw am byth!
Dani WelBeibl 6:7  Mae comisiynwyr y deyrnas, yr uchel-swyddogion, penaethiaid y taleithiau, a chynghorwyr y brenin, a'r llywodraethwyr yn meddwl y byddai'n syniad da i'r brenin wneud cyfraith newydd yn gorchymyn fel hyn: ‘Am dri deg diwrnod mae pawb i weddïo arnoch chi, eich mawrhydi. Os ydy rhywun yn gweddïo ar unrhyw dduw neu ar unrhyw berson arall, bydd yn cael ei daflu i ffau'r llewod.’
Dani WelBeibl 6:8  Felly, eich mawrhydi, cyhoeddwch y gwaharddiad ac arwyddo'r ddogfen, fel ei bod yn gwbl amhosib i'w newid. Bydd yn rhan o gyfraith Media a Persia, sy'n aros, a byth i gael ei newid.”
Dani WelBeibl 6:9  Felly dyma'r Brenin Dareius yn arwyddo'r gwaharddiad.
Dani WelBeibl 6:10  Pan glywodd Daniel fod y gyfraith yma wedi'i harwyddo, aeth adre, a mynd ar ei liniau i weddïo fel roedd wedi gwneud bob amser. Roedd ganddo ystafell i fyny'r grisiau, a'i ffenestri'n agor i gyfeiriad Jerwsalem. Dyna lle roedd yn mynd dair gwaith bob dydd i weddïo ar Dduw a diolch iddo.
Dani WelBeibl 6:11  Dyma'r dynion oedd wedi cynllwynio gyda'i gilydd yn mynd i dŷ Daniel, a'i gael yno'n gweddïo ac yn gofyn i Dduw am help.
Dani WelBeibl 6:12  Felly dyma nhw'n mynd yn ôl at y brenin, ac yn ei atgoffa am y gwaharddiad. “Wnaethoch chi ddim arwyddo cyfraith yn gwahardd pobl am dri deg diwrnod rhag gweddïo ar unrhyw dduw na neb arall ond chi eich hun, eich mawrhydi? Ac yn dweud y byddai unrhyw un sy'n gwneud hynny yn cael ei daflu i'r llewod?” “Do, yn bendant,” meddai'r brenin. “Mae bellach yn rhan o gyfraith Media a Persia, sydd byth i gael ei newid.”
Dani WelBeibl 6:13  Yna dyma nhw'n dweud wrth y brenin, “Dydy'r dyn Daniel yna, oedd yn un o'r caethion o Jwda, yn cymryd dim sylw ohonoch chi na'ch gwaharddiad eich mawrhydi. Mae'n dal ati i weddïo ar ei Dduw dair gwaith bob dydd.”
Dani WelBeibl 6:14  Pan glywodd y brenin hyn, doedd e ddim yn hapus o gwbl. Roedd yn ceisio meddwl am ffordd i achub Daniel. Buodd wrthi drwy'r dydd yn ceisio meddwl am ffordd y gallai ei helpu.
Dani WelBeibl 6:15  Ond gyda'r nos dyma'r dynion yn mynd yn ôl gyda'i gilydd at y brenin, ac yn dweud wrtho, “Cofiwch, eich mawrhydi, fod y gwaharddiad yn rhan o gyfraith Media a Persia. Dydy cyfraith sydd wedi cael ei harwyddo gan y brenin byth i gael ei newid.”
Dani WelBeibl 6:16  Felly dyma'r brenin yn gorchymyn dod â Daniel ato, a'i fod i gael ei daflu i ffau'r llewod. Ond meddai'r brenin wrth Daniel, “Bydd dy Dduw, yr un rwyt ti'n ei addoli mor ffyddlon, yn dy achub di.”
Dani WelBeibl 6:17  Cafodd carreg fawr ei rhoi dros geg y ffau, a dyma'r brenin yn gosod ei sêl arni gyda'i fodrwy, a'i uchel-swyddogion yr un fath, fel bod dim modd newid tynged Daniel.
Dani WelBeibl 6:18  Yna dyma'r brenin yn mynd yn ôl i'w balas. Wnaeth e fwyta dim byd y noson honno. Gwrthododd gael ei ddifyrru, ac roedd yn methu'n lân a chysgu drwy'r nos.
Dani WelBeibl 6:19  Pan oedd hi'n dechrau gwawrio'r bore wedyn dyma'r brenin yn brysio yn ôl at ffau'r llewod,
Dani WelBeibl 6:20  ac wrth agosáu at y ffau dyma fe'n galw ar Daniel mewn llais pryderus, “Daniel! Gwas y Duw byw. Ydy'r Duw wyt ti'n ei addoli mor ffyddlon wedi gallu dy achub di rhag y llewod?”
Dani WelBeibl 6:21  A dyma Daniel yn ateb, “O frenin! Boed i chi fyw am byth!
Dani WelBeibl 6:22  Ydy, mae fy Nuw wedi anfon ei angel i gau cegau'r llewod, a dŷn nhw ddim wedi mrifo i o gwbl. Achos roeddwn i'n ddieuog yng ngolwg Duw – ac yn eich golwg chi hefyd, eich mawrhydi. Wnes i ddim drwg i chi.”
Dani WelBeibl 6:23  Roedd y brenin wrth ei fodd, a dyma fe'n gorchymyn codi Daniel allan o'r ffau. Dyma nhw'n gwneud hynny, a doedd e ddim mymryn gwaeth, am ei fod wedi trystio'i Dduw.
Dani WelBeibl 6:24  Wedyn, dyma'r brenin yn gorchymyn fod y dynion oedd wedi ymosod mor giaidd ar Daniel yn cael eu harestio, a'u taflu i ffau'r llewod – a'u gwragedd a'u plant gyda nhw. Cyn iddyn nhw gyrraedd gwaelod y ffau roedd y llewod arnyn nhw ac wedi'u rhwygo nhw'n ddarnau.
Dani WelBeibl 6:25  Dyma'r brenin Dareius yn ysgrifennu at y bobl i gyd, o bob gwlad ac iaith – pawb drwy'r byd i gyd: “Heddwch a llwyddiant i chi i gyd!
Dani WelBeibl 6:26  Dw i'n cyhoeddi fod pawb sy'n byw o fewn ffiniau'r deyrnas dw i'n frenin arni, i ofni a pharchu Duw Daniel. Fe ydy'r Duw byw ac mae e gyda ni bob amser! Fydd ei deyrnas byth yn syrthio, a bydd ei awdurdod yn aros am byth.
Dani WelBeibl 6:27  Mae e'n achub ei bobl ac yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol yn y nefoedd ac ar y ddaear. Mae wedi achub Daniel o afael y llewod!”
Dani WelBeibl 6:28  Felly roedd Daniel yn llwyddiannus iawn yn ystod teyrnasiad Dareius, sef Cyrus o Persia.
Chapter 7
Dani WelBeibl 7:1  Yn ystod blwyddyn gyntaf teyrnasiad Belshasar, brenin Babilon, cafodd Daniel freuddwyd – gweledigaeth tra oedd yn cysgu yn ei wely. Ysgrifennodd grynodeb o'r freuddwyd.
Dani WelBeibl 7:2  “Yn y weledigaeth ges i y noson honno roedd storm fawr ar y môr, a gwyntoedd yn chwythu o bob cyfeiriad.
Dani WelBeibl 7:3  A dyma bedwar creadur mawr yn codi allan o'r môr, pob un ohonyn nhw'n wahanol i'w gilydd.
Dani WelBeibl 7:4  “Roedd y cyntaf yn edrych fel llew, ond gydag adenydd fel eryr. Tra oeddwn i'n edrych, cafodd yr adenydd eu rhwygo oddi arno. Yna cafodd ei godi nes ei fod yn sefyll ar ei draed fel person dynol, a chafodd feddwl dynol.
Dani WelBeibl 7:5  “Wedyn dyma fi'n gweld ail greadur – un gwahanol. Roedd hwn yn edrych fel arth. Roedd yn symud o ochr i ochr, ac roedd ganddo dair asen yn ei geg, rhwng ei ddannedd. A dyma lais yn dweud wrtho, ‘Dos! Ymosod, a llarpio llawer o bobl!’
Dani WelBeibl 7:6  “Yna, wrth i mi edrych, dyma greadur arall yn dod i'r golwg. Roedd hwn yn edrych fel llewpard, ond roedd ganddo bedair o adenydd ar ei gefn, fel adenydd adar. Roedd gan y creadur yma bedwar pen, a chafodd awdurdod i lywodraethu.
Dani WelBeibl 7:7  “Wedyn, yn y weledigaeth ges i y noson honno, dyma bedwerydd creadur yn dod i'r golwg. Roedd hwn yn un erchyll, dychrynllyd, ac yn ofnadwy o gryf. Roedd ganddo ddwy res o ddannedd haearn. Roedd yn llarpio a chnoi, a sathru beth bynnag oedd ar ôl dan draed. Roedd yn hollol wahanol i'r creaduriaid eraill, ac roedd ganddo ddeg corn.
Dani WelBeibl 7:8  “Tra oeddwn i'n edrych ar y cyrn, dyma gorn arall – un bach – yn codi rhyngddyn nhw. Dyma dri o'r cyrn eraill yn cael eu gwthio o'u gwraidd i wneud lle i'r un bach. Roedd gan y corn yma lygaid tebyg i lygaid person dynol, a cheg oedd yn brolio pethau mawr.
Dani WelBeibl 7:9  Wrth i mi syllu, cafodd gorseddau eu gosod i fyny, a dyma'r Un Hynafol yn eistedd. Roedd ei ddillad yn wyn fel eira, a'i wallt fel gwlân oen. Roedd ei orsedd yn fflamau tân, a'i holwynion yn wenfflam.
Dani WelBeibl 7:10  Roedd afon o dân yn llifo allan oddi wrtho. Roedd miloedd ar filoedd yn ei wasanaethu, a miliynau lawer yn sefyll o'i flaen. Eisteddodd y llys, ac agorwyd y llyfrau.
Dani WelBeibl 7:11  “Rôn i'n dal i edrych wrth i'r corn bach ddal ati i frolio pethau mawr. Ac wrth i mi edrych dyma'r pedwerydd creadur yn cael ei ladd a'i daflu i'r tân.
Dani WelBeibl 7:12  (Cafodd yr awdurdod i lywodraethu ei gymryd oddi ar y creaduriaid eraill, er eu bod wedi cael byw am gyfnod ar ôl hynny.)
Dani WelBeibl 7:13  Yn fy ngweledigaeth y noson honno, gwelais un oedd yn edrych fel person dynol yn dod ar gymylau'r awyr. Aeth i fyny at yr Un Hynafol – cafodd ei gymryd ato.
Dani WelBeibl 7:14  A derbyniodd awdurdod, anrhydedd a grym. Roedd rhaid i bawb, o bob gwlad ac iaith ei anrhydeddu. Mae ei awdurdod yn dragwyddol – fydd e byth yn dod i ben. Fydd ei deyrnasiad byth yn cael ei dinistrio.
Dani WelBeibl 7:15  “Rôn i, Daniel, wedi cynhyrfu'r tu mewn. Roedd y gweledigaethau wedi fy nychryn i.
Dani WelBeibl 7:16  Dyma fi'n mynd at un o'r rhai oedd yn sefyll yno, a gofyn beth oedd ystyr y cwbl. A dyma fe'n esbonio'r freuddwyd i mi.
Dani WelBeibl 7:17  “‘Mae'r pedwar creadur mawr yn cynrychioli pedwar brenin daearol fydd yn teyrnasu.
Dani WelBeibl 7:18  Ond yn y diwedd bydd pobl sanctaidd y Duw Goruchaf yn cael teyrnasu – byddan nhw'n teyrnasu am byth!’
Dani WelBeibl 7:19  “Ond wedyn roeddwn i eisiau gwybod mwy am y pedwerydd creadur, yr un oedd yn hollol wahanol i'r lleill. Roedd hwnnw'n wirioneddol ddychrynllyd gyda'i ddannedd haearn a'i grafangau pres. Roedd yn llarpio a chnoi, a sathru dan draed bopeth oedd yn dal i sefyll.
Dani WelBeibl 7:20  Rôn i hefyd eisiau gwybod beth oedd y deg corn ar ei ben, a'r corn bach gododd wedyn a gwneud i dri o'r lleill syrthio. Dyma'r corn oedd gyda llygaid, a cheg oedd yn brolio pethau mawr. Roedd y corn yma'n edrych yn gryfach na'r lleill.
Dani WelBeibl 7:21  Rôn i'n gweld y corn yma yn brwydro yn erbyn pobl sanctaidd Duw ac yn eu trechu nhw.
Dani WelBeibl 7:22  Dyna oedd yn digwydd hyd nes i'r Un Hynafol ddod a barnu o blaid pobl sanctaidd y Duw Goruchaf. A dyma nhw wedyn yn cael teyrnasu.
Dani WelBeibl 7:23  “Dyma ddwedodd wrtho i: ‘Mae'r pedwerydd creadur yn cynrychioli ymerodraeth fydd yn wahanol i bob teyrnas arall. Bydd yn llyncu'r byd i gyd, ac yn sathru pawb a phopeth.
Dani WelBeibl 7:24  Mae'r deg corn yn cynrychioli deg brenin fydd yn teyrnasu ar yr ymerodraeth. Ond wedyn bydd brenin arall yn codi – brenin gwahanol i'r lleill. Bydd yn bwrw i lawr dri brenin o'i flaen.
Dani WelBeibl 7:25  Bydd yn herio'r Duw Goruchaf ac yn cam-drin ei bobl sanctaidd. Bydd yn ceisio newid yr amserau osodwyd yn y gyfraith, a bydd pobl Dduw dan ei reolaeth am gyfnod, dau gyfnod, a hanner cyfnod.
Dani WelBeibl 7:26  Yna wedi i'r llys eistedd bydd ei awdurdod yn cael ei gymryd oddi arno, a'i ddinistrio'n llwyr – am byth!
Dani WelBeibl 7:27  Bydd awdurdod brenhinol a grym pob teyrnas dan y nef yn cael ei roi i bobl sanctaidd Duw. Mae Duw yn teyrnasu'n dragwyddol, a bydd pob awdurdod arall yn ei wasanaethu ac yn ufudd iddo.’
Dani WelBeibl 7:28  A dyna ddiwedd y weledigaeth. Roeddwn i, Daniel, wedi dychryn. Rôn i'n welw. Ond cedwais y cwbl i mi fy hun.”
Chapter 8
Dani WelBeibl 8:1  Yn ystod trydedd flwyddyn teyrnasiad Belshatsar, ces i, Daniel, weledigaeth arall. Roedd hon yn dilyn yr un ges i o'r blaen.
Dani WelBeibl 8:2  Y tro hwn gwelais fy hun yn Shwshan, y gaer sydd yn nhalaith Elam. Rôn i'n sefyll wrth ymyl Camlas Wlai.
Dani WelBeibl 8:3  A gwelais hwrdd yn sefyll wrth ymyl y gamlas. Roedd gan yr hwrdd ddau gorn hir, ond roedd un corn yn hirach na'r llall, er ei fod wedi dechrau tyfu ar ôl y llall.
Dani WelBeibl 8:4  Roedd yr hwrdd yn rhuthro, ac yn ymosod ar bopeth i'r gorllewin, gogledd a de. Doedd dim un anifail arall yn gallu sefyll yn ei erbyn na'i rwystro. Roedd yn gwneud fel y mynnai, ac yn brolio'i hun.
Dani WelBeibl 8:5  Tra oeddwn i'n edrych ar hyn, dyma fwch gafr yn dod dros y tir o gyfeiriad y gorllewin. Roedd yn symud mor gyflym doedd ei draed ddim yn cyffwrdd y llawr. Roedd gan y bwch un corn amlwg ar ganol ei dalcen.
Dani WelBeibl 8:6  Daeth at yr hwrdd gyda'r ddau gorn roeddwn i wedi'i weld wrth y gamlas, a rhuthro'n ffyrnig yn ei erbyn.
Dani WelBeibl 8:7  Rôn i'n edrych arno'n ymosod yn wyllt ar yr hwrdd, a'i daro mor galed nes iddo dorri dau gorn yr hwrdd. Doedd gan yr hwrdd ddim gobaith! Dyma'r bwch gafr yn bwrw'r hwrdd i lawr, a'i sathru dan draed. Doedd neb yn gallu achub yr hwrdd o'i afael.
Dani WelBeibl 8:8  Tyfodd y bwch gafr mor fawr nes ei fod yn brolio fwy fyth. Ond pan oedd ar ei gryfaf, dyma'i gorn anferth yn cael ei dorri. Yn ei le tyfodd pedwar corn mawr oedd yn pwyntio, un i bob cyfeiriad.
Dani WelBeibl 8:9  Ond yna, allan o un ohonyn nhw, dyma gorn bach arall yn codi. Roedd yn fach i ddechrau, ond tyfodd yn fawr iawn, ac ymestyn i gyfeiriad y de a'r dwyrain, ac i gyfeiriad y Wlad Hardd.
Dani WelBeibl 8:10  Tyfodd mor dal nes iddo gyrraedd y fyddin nefol, a bwrw rhai ohonyn nhw (sef y sêr) i lawr, a'i sathru nhw dan draed.
Dani WelBeibl 8:11  Ond aeth mor bell â herio Tywysog y fyddin nefol. Stopiodd yr aberthu dyddiol, a dinistrio'i deml.
Dani WelBeibl 8:12  Roedd ei fyddin yn sefyll yn erbyn yr aberthu dyddiol fel gweithred o wrthryfel, a disodli'r gwir. Roedd yn llwyddo i wneud beth bynnag oedd e eisiau.
Dani WelBeibl 8:13  Wedyn, dyma fi'n clywed un o'r bodau sanctaidd yn siarad, ac un sanctaidd arall yn gofyn iddo. “Am faint mwy mae hyn yn mynd i fynd ymlaen – y gwrthryfel yma sy'n stopio'r aberthu dyddiol, a'r deml a'r fyddin yn cael eu sathru dan draed?”
Dani WelBeibl 8:14  Atebodd y llall, “Am ddwy fil tri chant bore a hwyr. Wedyn bydd y deml yn cael ei gwneud yn iawn eto.”
Dani WelBeibl 8:15  Roeddwn i, Daniel, yn edrych ar hyn i gyd, ac yn ceisio gwneud sens o'r cwbl. Yna'n sydyn, roedd un oedd yn edrych fel person dynol yn sefyll o mlaen i.
Dani WelBeibl 8:16  A dyma fi'n clywed llais rhywun yn galw o gyfeiriad Camlas Wlai, “Gabriel, esbonia i'r dyn yma beth sy'n digwydd.”
Dani WelBeibl 8:17  Felly dyma fe'n dod ata i. Roedd gen i ofn am fy mywyd, a dyma fi'n disgyn ar fy wyneb ar lawr o'i flaen. A dyma fe'n dweud, “Ddyn, rhaid i ti ddeall mai gweledigaeth am y diwedd ydy hon.”
Dani WelBeibl 8:18  Wrth iddo ddweud hyn dyma fi'n llewygu. Roeddwn i'n fflat ar fy wyneb ar lawr. Ond dyma fe'n cyffwrdd fi, a'm codi ar fy nhraed.
Dani WelBeibl 8:19  Yna dwedodd, “Dw i'n mynd i ddweud wrthot ti beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod o ddigofaint. Gweledigaeth am y diwedd ydy hon.
Dani WelBeibl 8:20  Mae'r hwrdd welaist ti, gyda dau gorn, yn cynrychioli brenhinoedd Media a Persia.
Dani WelBeibl 8:21  Y bwch gafr welaist ti ydy brenin y Groegiaid, a'r corn mawr ar ganol ei dalcen ydy'r brenin cyntaf.
Dani WelBeibl 8:22  Mae'r pedwar corn ddaeth yn lle'r un gafodd ei dorri, yn dangos y bydd Ymerodraeth Groeg yn rhannu'n bedair teyrnas. Ond fydd dim un ohonyn nhw mor gryf â'r gyntaf.
Dani WelBeibl 8:23  Pan fydd y teyrnasoedd yma ar fin dod i ben, a'u gwrthryfel ar ei waethaf, bydd brenin caled, twyllodrus yn codi.
Dani WelBeibl 8:24  Bydd yn troi'n bwerus iawn (ond ddim drwy ei nerth ei hun). Bydd yn achosi'r dinistr mwyaf ofnadwy. Bydd yn llwyddo i wneud beth bynnag mae e eisiau. Bydd yn dinistrio'r bobl mae'r angylion yn eu hamddiffyn.
Dani WelBeibl 8:25  Bydd yn llwyddo i dwyllo llawer drwy ei glyfrwch, ac yn brolio ei fawredd ei hun. Bydd yn dinistrio llawer o bobl sy'n meddwl eu bod yn saff. Bydd yn herio'r un sy'n Dywysog ar dywysogion, ond yna'n sydyn bydd yn cael ei dorri gan law anweledig.
Dani WelBeibl 8:26  Mae'r weledigaeth am y dwy fil tri chant bore a hwyr yn wir, ond i'w selio a'i chadw o'r golwg. Mae'n sôn am amser yn y dyfodol pell.”
Dani WelBeibl 8:27  Roeddwn i, Daniel, yn swp sâl am rai dyddiau. Ond yna, ar ôl gwella, dyma fi'n cario mlaen i weithio i'r brenin. Ond roedd y weledigaeth wedi fy syfrdanu. Doedd hi ddim yn gwneud sens i mi.
Chapter 9
Dani WelBeibl 9:1  Dyma Dareius o Media, mab Ahasferus, yn cael ei wneud yn frenin ar Ymerodraeth Babilon.
Dani WelBeibl 9:2  Yn ystod blwyddyn gyntaf ei deyrnasiad roeddwn i, Daniel, wedi bod yn darllen yr ysgrifau sanctaidd. Dyma fi'n gweld fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrth y proffwyd Jeremeia y byddai Jerwsalem yn adfeilion am saith deg o flynyddoedd.
Dani WelBeibl 9:3  Felly dyma fi'n troi at Dduw, y Meistr, a pledio arno mewn gweddi. Rôn i'n ymprydio, yn gwisgo sachliain, ac wedi rhoi lludw ar fy mhen.
Dani WelBeibl 9:4  Rôn i'n gweddïo ar yr ARGLWYDD fy Nuw, a chyffesu, “O Feistr, plîs! Ti ydy'r Duw mawr a rhyfeddol! Ti'n Dduw ffyddlon sy'n cadw dy ymrwymiad i'r bobl sy'n dy garu ac sy'n ufudd i ti.
Dani WelBeibl 9:5  Ond dŷn ni wedi pechu a gwneud beth sy'n ddrwg. Dŷn ni wedi gwrthryfela, ac wedi troi cefn ar dy orchmynion di a dy safonau di.
Dani WelBeibl 9:6  Dŷn ni wedi gwrthod gwrando ar dy weision, y proffwydi. Roedden nhw wedi siarad ar dy ran di gyda'n brenhinoedd ni a'n harweinwyr, ein hynafiaid a'n pobl i gyd.
Dani WelBeibl 9:7  “Feistr, rwyt ti wedi gwneud popeth yn iawn, ond does gynnon ni ddim ond lle i gywilyddio – pobl Jwda a Jerwsalem, pobl Israel i gyd – y bobl sydd ar chwâl drwy'r gwledydd lle rwyt ti wedi'u gyrru nhw am iddyn nhw dy fradychu di.
Dani WelBeibl 9:8  O ARGLWYDD, cywilydd arnon ni! – cywilydd ar ein brenhinoedd a'n harweinwyr a'n hynafiaid i gyd. Dŷn ni wedi pechu yn dy erbyn di.
Dani WelBeibl 9:9  Ond rwyt ti, ein Duw a'n Meistr ni, yn Dduw trugarog sy'n maddau, er ein bod ni wedi gwrthryfela yn dy erbyn.
Dani WelBeibl 9:10  Wnaethon ni ddim talu sylw pan oeddet ti'n ein dysgu ni drwy dy weision y proffwydi, ac yn dweud wrthon ni sut ddylen ni fyw.
Dani WelBeibl 9:11  “Mae pobl Israel i gyd wedi mynd yn rhy bell, ac wedi troi cefn arnat ti a diystyru beth roeddet ti'n ddweud. Felly mae'r felltith roeddet ti wedi'n rhybuddio ni amdani mor ddifrifol yng Nghyfraith Moses wedi digwydd, am ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di.
Dani WelBeibl 9:12  Ti wedi gwneud beth roeddet ti wedi'i fygwth i ni a'n harweinwyr. Mae wedi bod yn drychineb ofnadwy. Does erioed y fath drwbwl wedi bod yn unman ag a ddigwyddodd yn Jerwsalem.
Dani WelBeibl 9:13  Mae wedi digwydd yn union fel mae cyfraith Moses yn dweud. Ac eto dŷn ni ddim wedi gwneud pethau'n iawn gyda'r ARGLWYDD ein Duw drwy droi cefn ar ein pechod a chydnabod dy fod ti'n ffyddlon.
Dani WelBeibl 9:14  Roedd yr ARGLWYDD yn gwybod beth roedd e'n wneud, a daeth â'r dinistr arnon ni. Mae popeth mae'r ARGLWYDD yn ei wneud yn iawn, a doedden ni ddim wedi gwrando arno.
Dani WelBeibl 9:15  “Felly, o Dduw ein Meistr ni, sy'n enwog hyd heddiw am dy gryfder yn arwain dy bobl allan o wlad yr Aifft: dŷn ni wedi pechu a gwneud drwg.
Dani WelBeibl 9:16  O Feistr, rwyt ti bob amser yn gwneud beth sy'n iawn; plîs stopia fod yn wyllt gyda dy ddinas, Jerwsalem, a'r mynydd rwyt wedi'i gysegru. Am ein bod ni wedi pechu, a'n hynafiaid wedi gwneud cymaint o ddrwg, dydy Jerwsalem a dy bobl di yn ddim byd ond testun sbort i bawb o'u cwmpas nhw!
Dani WelBeibl 9:17  Felly, o Dduw, gwrando ar dy was yn pledio a gweddïo arnat ti. Er dy fwyn dy hun wnei di edrych yn garedig eto ar dy deml sydd wedi'i dinistrio.
Dani WelBeibl 9:18  O Dduw, gwrando'n astud ar beth dw i'n ofyn. Edrych ar stad y ddinas yma sy'n cael ei chysylltu â dy enw di! Dŷn ni ddim yn gweddïo fel yma am ein bod ni'n honni ein bod wedi gwneud beth sy'n iawn, ond am dy fod ti mor anhygoel o drugarog.
Dani WelBeibl 9:19  O Feistr, gwrando! O Feistr, maddau! O Feistr, edrych a gwna rywbeth! O Dduw, paid oedi – er dy fwyn dy hun! Er mwyn dy ddinas, a'r bobl sy'n cael eu cysylltu â dy enw di.”
Dani WelBeibl 9:20  Rôn i'n dal ati i weddïo, a chyffesu fy mhechod a phechod fy mhobl Israel, ac yn pledio ar yr ARGLWYDD fy Nuw ar ran Jerwsalem a'r mynydd sydd wedi'i gysegru ganddo.
Dani WelBeibl 9:21  A tra oeddwn i'n gweddïo dyma Gabriel, yr un oedd yn y weledigaeth arall pan oeddwn i wedi fy llethu'n llwyr, yn dod ata i tua amser offrwm yr hwyr.
Dani WelBeibl 9:22  Dyma fe'n esbonio i mi, “Dw i wedi dod yma er mwyn i ti ddeall pethau'n iawn.
Dani WelBeibl 9:23  Cafodd yr ateb ei roi wrth i ti ddechrau gweddïo, a dw i wedi dod yma i'w rannu gyda ti. Rwyt ti'n sbesial iawn yng ngolwg Duw. Felly gwrando'n ofalus, i ti ddeall y weledigaeth.
Dani WelBeibl 9:24  Mae saith deg cyfnod o saith wedi'u pennu i dy bobl a'r ddinas sanctaidd roi diwedd ar eu gwrthryfel. I ddod â'r pechu i ben, delio gyda drygioni a gwneud pethau'n iawn unwaith ac am byth. I gadarnhau y weledigaeth broffwydol, ac eneinio y Lle Mwyaf Sanctaidd.
Dani WelBeibl 9:25  Felly rhaid i ti ddeall: O'r amser pan gafodd y gorchymyn ei roi i adfer ac ailadeiladu Jerwsalem nes daw un wedi'i eneinio yn arweinydd, bydd saith cyfnod o saith. Bydd y ddinas yn cael ei hadfer a'i hailadeiladu gyda strydoedd a ffosydd amddiffyn am chwe deg dau cyfnod o saith. Ond bydd hi'n amser caled, argyfyngus.
Dani WelBeibl 9:26  Ar ôl y chwe deg dau cyfnod o saith, bydd yr un wedi'i eneinio yn cael ei dorri i ffwrdd, bydd heb ddim. Yna bydd y ddinas a'r deml yn cael eu dinistrio gan fyddin arweinydd arall sydd i ddod. Bydd y diwedd yn dod fel llif. Bydd rhyfela'n para i'r diwedd. Mae dinistr wedi'i gyhoeddi.
Dani WelBeibl 9:27  Bydd yn gwneud ymrwymiad gyda'r tyrfaoedd am un cyfnod o saith. Ond hanner ffordd drwy'r saith bydd yn stopio'r aberthau a'r offrymau. Yna ar yr adain bydd yn codi eilun ffiaidd sy'n dinistrio, nes i'r dinistr sydd wedi'i ddyfarnu ddod ar yr un sy'n dinistrio.”
Chapter 10
Dani WelBeibl 10:1  Yn ystod trydedd flwyddyn teyrnasiad Cyrus, brenin Persia, cafodd Daniel (oedd hefyd yn cael ei alw'n Belteshasar) neges arall. Neges am rywbeth fyddai wir yn digwydd – amser o ryfela a dioddef. Ac roedd Daniel wedi deall y neges a'r weledigaeth gafodd.
Dani WelBeibl 10:2  Ar y pryd, roeddwn i, Daniel, wedi bod yn galaru am dair wythnos lawn.
Dani WelBeibl 10:3  Rôn i'n bwyta bwyd plaen – dim byd cyfoethog, dim cig na gwin. A wnes i ddim rhwbio olew ar fy nghorff nes oedd y tair wythnos drosodd.
Dani WelBeibl 10:4  Yna ar y pedwerydd ar hugain o'r mis cyntaf rôn i'n sefyll ar lan afon fawr Tigris.
Dani WelBeibl 10:5  Gwelais ddyn yn sefyll o mlaen i mewn gwisg o liain, gyda belt o aur pur Wffas am ei ganol.
Dani WelBeibl 10:6  Roedd ei gorff yn sgleinio fel meini saffir. Roedd ei wyneb yn llachar fel mellten, a'i lygaid fel fflamau o dân. Roedd ei freichiau a'i goesau yn gloywi fel pres wedi'i sgleinio. Ac roedd ei lais fel sŵn taranau.
Dani WelBeibl 10:7  Fi, Daniel, oedd yr unig un welodd hyn i gyd. Welodd y dynion oedd gyda mi ddim byd. Ond roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n rhedeg i ffwrdd i guddio.
Dani WelBeibl 10:8  Felly dyna lle roeddwn i'n sefyll yno ar fy mhen fy hun yn gwylio'r cwbl. Rôn i'n teimlo fy hun yn mynd yn wan. Doedd gen i ddim egni ar ôl. Rôn i'n hollol wan.
Dani WelBeibl 10:9  Pan glywais e'n dechrau siarad dyma fi'n llewygu. Rôn i'n fflat ar fy wyneb ar lawr.
Dani WelBeibl 10:10  Ond yna dyma law yn fy nghyffwrdd, a'm codi ar fy nwylo a'm gliniau.
Dani WelBeibl 10:11  “Daniel,” meddai, “rwyt ti'n sbesial iawn yng ngolwg Duw. Gwranda ar beth dw i'n mynd i'w ddweud wrthot ti. Saf ar dy draed. Dw i wedi cael fy anfon atat ti.” Pan ddwedodd hyn, dyma fi'n sefyll ar fy nhraed, ond rôn i'n dal i grynu.
Dani WelBeibl 10:12  Yna dwedodd, “Daniel, paid bod ag ofn. Mae Duw wedi clywed dy weddi ers y diwrnod cyntaf i ti blygu o'i flaen i geisio deall. A dw i wedi dod o achos dy weddi.
Dani WelBeibl 10:13  Ces fy nal yn ôl am dair wythnos gan arweinydd teyrnas Persia. Ond yna dyma Michael, un o'r prif arweinwyr, yn dod i'm helpu pan oeddwn i'n sefyll yn erbyn brenhinoedd Persia ar fy mhen fy hun.
Dani WelBeibl 10:14  Ond dw i yma nawr, i dy helpu di i ddeall beth sy'n mynd i ddigwydd i dy bobl yn y dyfodol. Gweledigaeth am y dyfodol ydy hi.”
Dani WelBeibl 10:15  Tra oedd yn siarad roeddwn i'n edrych i lawr, ac yn methu dweud gair.
Dani WelBeibl 10:16  Yna dyma un oedd yn edrych fel person dynol yn cyffwrdd fy ngwefusau, a dyma fi'n dechrau siarad. “Syr,” meddwn i wrtho, “mae beth dw i wedi'i weld yn ormod i'w gymryd. Dw i'n teimlo'n hollol wan.
Dani WelBeibl 10:17  Meistr, sut alla i sydd ddim ond gwas, siarad â rhywun fel ti? Does gen i ddim nerth ar ôl. Dw i prin yn gallu anadlu!”
Dani WelBeibl 10:18  Yna dyma'r un oedd yn edrych fel person dynol yn fy nghyffwrdd i eto, a rhoi nerth i mi.
Dani WelBeibl 10:19  “Paid bod ag ofn,” meddai. “Ti'n ddyn sbesial iawn yng ngolwg Duw. Bydd popeth yn iawn. Bydd yn ddewr! Bydd yn ddewr go iawn!” Wrth iddo siarad roeddwn i'n teimlo fy hun yn cryfhau. A dyma fi'n dweud, “Gelli siarad nawr, syr. Rwyt ti wedi gwneud i mi deimlo'n well.”
Dani WelBeibl 10:20  Yna meddai, “Wyt ti'n gwybod pam dw i wedi dod atat ti? Yn fuan iawn rhaid i mi fynd yn ôl i ymladd yn erbyn arweinydd Persia. Ond ar ôl i mi wneud hynny, bydd arweinydd y Groegiaid yn dod.
Dani WelBeibl 10:21  Ond yn gyntaf, gad i mi ddweud wrthot ti beth sydd wedi'i ysgrifennu mewn llyfr sy'n ddibynadwy. Does neb i'm helpu i yn eu herbyn nhw ond Michael, eich arweinydd chi.
Chapter 11
Dani WelBeibl 11:1  A dw i wedi bod yn ymladd a'i helpu e ers blwyddyn gyntaf teyrnasiad Dareius o Media.”
Dani WelBeibl 11:2  “Nawr, gad i mi ddweud wrthot ti beth sydd wir yn mynd i ddigwydd: Mae tri brenin arall yn mynd i deyrnasu ar Persia. Ac wedyn pedwerydd, fydd yn llawer mwy cyfoethog na nhw i gyd. Bydd yn defnyddio'i gyfoeth i gael pawb i ymladd gydag e yn erbyn teyrnas y Groegiaid.
Dani WelBeibl 11:3  Yna bydd brenin pwerus yn codi. Bydd ganddo deyrnas anferth, a bydd yn gwneud beth bynnag fydd e eisiau.
Dani WelBeibl 11:4  Yn fuan ar ôl iddo ddod i rym bydd ei ymerodraeth yn rhannu'n bedair. Ond dim ei blant fydd yn teyrnasu, a fydd y deyrnas ddim mor ddylanwadol ag oedd hi. Bydd yn cael ei rhwygo gan eraill a'i rhannu rhyngddyn nhw.
Dani WelBeibl 11:5  “Wedyn bydd brenin y de yn dod i rym. Ond bydd un o'i swyddogion ei hun yn gryfach, ac yn codi yn ei erbyn. Bydd ei deyrnas e yn fwy fyth.
Dani WelBeibl 11:6  Ar ôl rhai blynyddoedd bydd cynghrair yn cael ei sefydlu rhwng brenin y gogledd a brenin y de. Bydd merch brenin y de yn priodi brenin y gogledd i selio'r cytundeb. Ond fydd ei dylanwad hi ddim yn para, a fydd e ddim yn aros mewn grym chwaith. Bydd hi, ei gweision a'i morynion, ei phlentyn, a'i thad yn cael eu lladd. “Ond yna
Dani WelBeibl 11:7  bydd un o'i pherthnasau hi yn codi i'r orsedd yn lle ei dad. Bydd yn ymosod ar fyddin brenin y gogledd, yn meddiannu ei gaer, ac yn ennill buddugoliaeth fawr.
Dani WelBeibl 11:8  Bydd yn mynd â'i duwiau nhw yn ôl i'r Aifft, y delwau i gyd a'r holl lestri gwerthfawr o aur ac arian. Ond bydd yn gadael llonydd i frenin y gogledd am rai blynyddoedd ar ôl hynny.
Dani WelBeibl 11:9  Ac wedyn bydd brenin y gogledd yn ymosod ar deyrnas brenin y de; ond fydd e ddim yn llwyddiannus – bydd rhaid iddo fynd yn ôl i'w wlad ei hun.
Dani WelBeibl 11:10  Yna bydd ei feibion yn casglu byddin enfawr i fynd i ryfel, a bydd y fyddin yn dod fel llif ac yn ymosod dro ar ôl tro, gan dorri trwodd yr holl ffordd at gaer brenin y de.
Dani WelBeibl 11:11  “Bydd brenin y de wedi'i gythruddo, ac yn dod allan i ymladd yn erbyn brenin y gogledd ac yn trechu'r fyddin enfawr oedd hwnnw wedi'i chasglu.
Dani WelBeibl 11:12  Ar ôl llwyddo i yrru byddin y gelyn i ffwrdd, bydd brenin y de yn meddwl ei fod yn anorchfygol. Bydd yn achosi hil-laddiad miloedd ar filoedd o bobl. Ond fydd ei lwyddiant ddim yn para'n hir.
Dani WelBeibl 11:13  Mewn ychydig flynyddoedd, bydd brenin y gogledd yn dod yn ôl gyda byddin fwy fyth. Bydd yn ymosod ar y de gyda byddin aruthrol fawr a digonedd o arfau.
Dani WelBeibl 11:14  “Yn y cyfamser bydd llawer o rai eraill yn gwrthryfela yn erbyn brenin y de. Bydd eithafwyr o blith dy bobl dy hun yn codi, yn breuddwydio y gallan nhw lwyddo, ond methu wnân nhw.
Dani WelBeibl 11:15  Ond yna bydd brenin y gogledd yn dod ac yn codi rampiau gwarchae, a choncro dinas gaerog ddiogel. Fydd byddin y de ddim yn llwyddo i'w hamddiffyn. Fydd y milwyr gorau yno ddim yn gallu eu stopio nhw.
Dani WelBeibl 11:16  Bydd yr ymosodwr yn gwneud beth bynnag mae e eisiau, a fydd neb yn gallu ei rwystro. Bydd yn concro'r Wlad Hardd, a bydd y gallu ganddo i'w dinistrio'n llwyr.
Dani WelBeibl 11:17  Ei nod fydd rheoli'r ymerodraeth gyfan. Bydd yn cynnig telerau heddwch ac yn cynnig ffurfio cynghrair drwy roi un o'i ferched yn wraig i frenin y de. Ei fwriad fydd dinistrio teyrnas y de, ond fydd ei gynllun ddim yn llwyddo.
Dani WelBeibl 11:18  “Bydd yn troi ei olygon wedyn at y dinasoedd o gwmpas Môr y Canoldir, ac yn concro llawer ohonyn nhw. Ond bydd arweinydd byddin arall yn rhoi stop ar y gormes. Bydd y gormeswr yn cael ei ormesu!
Dani WelBeibl 11:19  Felly bydd yn troi am adre i amddiffyn ei wlad ei hun, ond bydd e'n syrthio, a bydd e'n diflannu unwaith ac am byth.
Dani WelBeibl 11:20  “Bydd ei olynydd yn anfon un allan i godi trethi afresymol i gynnal cyfoeth ac ysblander y frenhiniaeth. Ond fydd e ddim yn teyrnasu'n hir. Bydd e'n marw, ond ddim yn gyhoeddus nac mewn brwydr.
Dani WelBeibl 11:21  “Ar ôl hwnnw bydd dyn cwbl ffiaidd yn cymryd yr orsedd – er mai nid fe oedd yn yr olyniaeth. Bydd yn llwyddo i gipio grym yn gwbl ddi-drafferth drwy gynllwyn a thwyll.
Dani WelBeibl 11:22  Bydd grym milwrol enfawr yn cael ei drechu a'i ddinistrio ganddo. A bydd yr arweinydd crefyddol yn cael ei ladd hefyd.
Dani WelBeibl 11:23  Bydd yn gwneud addewidion twyllodrus i sefydlu cytundebau heddwch. Ond yna'n dwyn y grym i gyd gyda chriw bach o gefnogwyr.
Dani WelBeibl 11:24  Wedyn, pan fydd pobl gyfoethocaf y wlad yn teimlo'n saff, bydd yn gwneud rhywbeth na wnaeth neb o'i hynafiaid. Bydd yn dwyn eu cyfoeth ac yn ei rannu i'w gefnogwyr. Yna bydd yn cynllunio i ymosod ar drefi caerog eraill, ond fydd hyn ddim yn para'n hir iawn.
Dani WelBeibl 11:25  “Bydd yn mynd ati i ddangos ei hun drwy godi byddin fawr yn erbyn brenin y de. Bydd brenin y de yn ymladd yn ei erbyn gyda byddin fwy fyth, ond ddim yn llwyddo am fod cynllwyn yn ei erbyn.
Dani WelBeibl 11:26  Bydd ei uchel-swyddogion ei hun yn ei dorri. Bydd ei fyddin yn cael ei hysgubo i ffwrdd, a bydd llawer iawn yn cael eu lladd.
Dani WelBeibl 11:27  Bydd y ddau frenin yn cyfarfod wrth y bwrdd i drafod telerau heddwch. Ond bwriad y ddau fel ei gilydd fydd gwneud drwg i'r llall, a fyddan nhw'n gwneud dim ond dweud celwydd wrth ei gilydd. Ond fydd hynny'n gwneud dim gwahaniaeth am fod yr amser yn dod pan fydd y cwbl yn dod i ben.
Dani WelBeibl 11:28  Bydd brenin y gogledd yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun gyda llwythi o gyfoeth. Ar ei ffordd yn ôl, ei fwriad fydd delio gyda phobl yr ymrwymiad sanctaidd. Ar ôl gwneud hynny bydd yn mynd adre.
Dani WelBeibl 11:29  “Y flwyddyn wedyn bydd yn ymosod ar y de eto, ond fydd pethau ddim yr un fath y tro yma.
Dani WelBeibl 11:30  Bydd llongau rhyfel o'r gorllewin yn dod yn ei erbyn, a bydd yn colli ei hyder. Bydd yn troi yn ôl, ac ar ei ffordd adre yn dangos ei rwystredigaeth drwy gam-drin pobl yr ymrwymiad sanctaidd. Bydd yn gwobrwyo'r rhai sy'n troi cefn ar eu crefydd.
Dani WelBeibl 11:31  Bydd ei fyddin yn mynd i mewn i'r deml ac yn ei halogi. Bydd yn stopio'r aberthu dyddiol, ac yn codi eilun ffiaidd sy'n dinistrio yno.
Dani WelBeibl 11:32  Bydd yn defnyddio gweniaith i lygru'r rhai sydd wedi bod yn anffyddlon i'r ymrwymiad. Ond bydd y bobl sy'n nabod Duw yn sefyll yn gryf yn ei erbyn.
Dani WelBeibl 11:33  Bydd y rhai doeth yn dysgu trwch y boblogaeth beth i'w wneud. Ond bydd cyfnod anodd yn dilyn, pan fydd llawer yn cael eu lladd â'r cleddyf, eu llosgi, eu caethiwo, ac yn colli popeth.
Dani WelBeibl 11:34  Pan fydd hyn yn digwydd, byddan nhw'n cael rhywfaint o help. Ond fydd llawer o'r rhai fydd yn ymuno â nhw ddim wir o ddifrif.
Dani WelBeibl 11:35  Bydd hyd yn oed rhai o'r arweinwyr doeth yn syrthio. Bydd hyn yn rhan o'r coethi, y puro a'r glanhau sydd i ddigwydd cyn i'r diwedd ddod. Ac mae'r diwedd hwnnw yn sicr o ddod.
Dani WelBeibl 11:36  “Bydd y brenin yn gwneud beth bynnag mae e eisiau. Bydd yn brolio ei fod e'i hun yn fwy na'r duwiau i gyd; a bydd yn dweud pethau hollol warthus yn erbyn y Duw mawr. A bydd yn llwyddo i ddianc, nes bydd y cyfnod o ddigofaint wedi dod i ben. Mae beth sydd wedi'i benderfynu yn mynd i ddigwydd.
Dani WelBeibl 11:37  Fydd e'n dangos dim parch at dduwiau ei hynafiaid, hyd yn oed ffefryn y merched. Fydd e'n dangos dim parch at unrhyw dduw. Bydd yn brolio ei fod e'i hun yn fwy na nhw i gyd.
Dani WelBeibl 11:38  Yn eu lle nhw bydd yn addoli duw'r canolfannau milwrol – duw doedd ei hynafiaid yn gwybod dim amdano. Bydd yn tywallt aur, arian, gemau ac anrhegion costus eraill arno.
Dani WelBeibl 11:39  Bydd yn ymosod ar ganolfannau milwrol eraill gyda help duw estron. Bydd yn anrhydeddu'r rhai sy'n ildio iddo. Bydd yn rhoi awdurdod iddyn nhw ac yn rhannu'r tir rhyngddyn nhw.
Dani WelBeibl 11:40  “Yna yn y diwedd bydd brenin y de yn codi yn ei erbyn. Ond bydd brenin y gogledd yn ei daro yn ôl yn galed gyda cerbydau, marchogion, a llynges o longau rhyfel. Bydd yn concro gwledydd ac yn ysgubo drwyddyn nhw fel afon wedi gorlifo.
Dani WelBeibl 11:41  Bydd yn goresgyn y Wlad Hardd. Bydd llawer o wledydd yn cael eu concro, ond bydd Edom, Moab ac arweinwyr Ammon yn cael dianc.
Dani WelBeibl 11:42  Wrth iddo ymestyn allan bydd yn taro un wlad ar ôl y llall. Fydd hyd yn oed yr Aifft ddim yn dianc.
Dani WelBeibl 11:43  Bydd yn rheoli holl drysorau'r Aifft – yr aur, yr arian, a phopeth arall. Bydd Libia a Cwsh yn ildio iddo.
Dani WelBeibl 11:44  “Ond yna, bydd adroddiadau o'r dwyrain a'r gogledd yn achosi panig. Bydd yn mynd allan yn wyllt i ddinistrio a lladd llawer iawn o bobl.
Dani WelBeibl 11:45  Bydd yn codi ei babell frenhinol i wersylla rhwng Môr y Canoldir a'r Mynydd Cysegredig. Dyna ble bydd yn cwrdd â'i ddiwedd, a fydd neb yn gallu ei helpu.
Chapter 12
Dani WelBeibl 12:1  Bryd hynny bydd Michael yn codi – yr arweinydd mawr sy'n gofalu am dy bobl. Bydd amser caled – gwaeth na dim mae'r wlad wedi'i brofi erioed o'r blaen. Ond bydd dy bobl di yn dianc – pawb sydd â'i henwau wedi'u hysgrifennu yn y llyfr.
Dani WelBeibl 12:2  Bydd llawer o'r rhai sy'n gorwedd yn farw, wedi'u claddu ym mhridd y ddaear, yn deffro – rhai i fywyd tragwyddol ac eraill i gywilydd bodolaeth ffiaidd.
Dani WelBeibl 12:3  Ond bydd y rhai doeth yn disgleirio fel golau dydd. Bydd y rhai sy'n arwain y werin bobl i fyw mewn perthynas iawn â Duw yn disgleirio fel sêr am byth bythoedd.
Dani WelBeibl 12:4  “Rhaid i ti, Daniel, gadw'r neges yma'n gyfrinachol a selio'r sgrôl nes bydd y diwedd wedi dod. Bydd llawer yn rhuthro yma ac acw yn ceisio deall beth sy'n digwydd.”
Dani WelBeibl 12:5  Yna dyma fi, Daniel, yn gweld dau arall yn sefyll yna – un bob ochr i'r afon.
Dani WelBeibl 12:6  Dyma un ohonyn nhw'n dweud wrth y dyn oedd mewn gwisg o liain, oedd erbyn hyn yn sefyll uwchben yr afon, “Pryd mae'r pethau mawr yma'n mynd i ddigwydd?”
Dani WelBeibl 12:7  A dyma'r dyn oedd mewn gwisg o liain ac yn sefyll uwchben yr afon, yn codi ei ddwy law i'r awyr ac yn tyngu ar lw i'r Un sy'n byw am byth: “Mae am gyfnod, dau gyfnod a hanner cyfnod. Wedyn pan fydd grym yr un sy'n sathru pobl gysegredig Duw wedi dod i ben bydd y diwedd wedi dod.”
Dani WelBeibl 12:8  Rôn i wedi'i glywed, ond ddim yn deall. Felly dyma fi'n gofyn, “Syr, beth fydd yn digwydd yn y diwedd?”
Dani WelBeibl 12:9  Atebodd, “Dos di, Daniel. Mae'r neges yma i'w gadw'n gyfrinachol ac wedi'i selio nes bydd y diwedd wedi dod.
Dani WelBeibl 12:10  Bydd llawer o bobl yn cael eu puro, eu glanhau a'u coethi drwy'r cwbl. Ond bydd pobl ddrwg yn dal ati i wneud drwg. Fyddan nhw ddim yn deall. Dim ond y rhai doeth fydd yn deall beth sy'n digwydd.
Dani WelBeibl 12:11  O'r amser pan fydd yr aberthu dyddiol yn cael ei stopio a'r eilun ffiaidd sy'n dinistrio yn cael ei godi yn ei le, mae mil dau gant naw deg o ddyddiau.
Dani WelBeibl 12:12  Mae'r rhai sy'n disgwyl yn ffyddlon nes bydd mil tri chant tri deg pump o ddyddiau wedi mynd heibio wedi'u bendithio'n fawr.
Dani WelBeibl 12:13  “Felly dos di yn dy flaen. Gelli fod yn dawel dy feddwl. Pan ddaw'r diwedd, byddi di'n codi i dderbyn dy wobr.”