Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
HEBREWS
Up
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13
Chapter 1
Hebr WelBeibl 1:1  Yn y gorffennol pell roedd Duw wedi siarad gyda'n hynafiaid ni drwy'r proffwydi. Gwnaeth hyn bob yn dipyn ac mewn gwahanol ffyrdd.
Hebr WelBeibl 1:2  Ond bellach, yn y cyfnod olaf hwn, mae wedi siarad â ni drwy ei Fab. Mae Duw wedi dewis rhoi popeth sy'n bodoli yn eiddo iddo fe – yr un oedd gyda Duw yn gwneud y bydysawd.
Hebr WelBeibl 1:3  Mae holl ysblander Duw yn disgleirio ohono. Mae e'n dangos i ni'n berffaith sut un ydy Duw. Ei awdurdod pwerus e sy'n dal popeth yn y bydysawd gyda'i gilydd! Ar ôl iddo ei gwneud hi'n bosib i bobl gael eu glanhau o'u pechodau, cafodd eistedd yn y nefoedd, yn y sedd anrhydedd ar ochr dde y Duw Mawr ei hun.
Hebr WelBeibl 1:4  Roedd wedi'i wneud yn bwysicach na'r angylion. Roedd y teitl roddodd Duw iddo yn dangos ei fod yn bwysicach na nhw.
Hebr WelBeibl 1:5  Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed: “Ti ydy fy Mab i; heddiw des i'n dad i ti”? Neu hyn: “Bydda i'n dad iddo fe, A bydd e'n fab i mi”?
Hebr WelBeibl 1:6  Ac wrth i Dduw ddod â'i fab hynaf yn ôl i'r byd nefol i'w anrhydeddu, mae'n dweud: “Addolwch e, holl angylion Duw!”
Hebr WelBeibl 1:7  Pan mae Duw'n sôn am angylion mae'n eu disgrifio fel: “negeswyr sydd fel gwyntoedd, a gweision sydd fel fflamau o dân.”
Hebr WelBeibl 1:8  Ond am y Mab mae Duw'n dweud hyn: “Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth, a byddi'n teyrnasu mewn ffordd gyfiawn.
Hebr WelBeibl 1:9  Ti'n caru beth sy'n iawn ac yn casáu drygioni; felly mae Duw, ie dy Dduw di, wedi dy eneinio di, a thywallt olew llawenydd arnat ti yn fwy na neb arall.”
Hebr WelBeibl 1:10  A hefyd, “O Arglwydd, ti osododd y ddaear yn ei lle ar y dechrau cyntaf, a gwaith dy ddwylo di ydy popeth yn yr awyr.
Hebr WelBeibl 1:11  Byddan nhw'n darfod, ond rwyt ti'n aros; byddan nhw'n mynd yn hen fel dillad wedi'u gwisgo.
Hebr WelBeibl 1:12  Byddi'n eu rholio i fyny fel hen glogyn; byddi'n eu newid nhw fel rhywun yn newid dillad. Ond rwyt ti yn aros am byth – dwyt ti byth yn mynd yn hen.”
Hebr WelBeibl 1:13  Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed?: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”
Hebr WelBeibl 1:14  Dim ond gweision ydy'r angylion. Ysbrydion wedi'u hanfon i wasanaethu'r rhai fydd yn cael eu hachub!
Chapter 2
Hebr WelBeibl 2:1  Felly mae'n bwysig ein bod ni'n gwrando'n ofalus ar y neges dŷn ni wedi'i chlywed. Mae fel angor yn ein cadw ni rhag drifftio i ffwrdd gyda'r llif.
Hebr WelBeibl 2:2  Roedd y neges roddodd Duw i ni drwy angylion yn gwbl ddibynadwy, ac roedd pawb oedd yn torri'r Gyfraith neu'n anufudd yn cael beth oedden nhw'n ei haeddu.
Hebr WelBeibl 2:3  Felly pa obaith sydd i ni ddianc rhag cael ein cosbi os gwnawn ni ddiystyru'r neges ffantastig yma am Dduw yn achub! Cafodd ei chyhoeddi gyntaf gan yr Arglwydd Iesu ei hun. Wedyn cafodd ei rhannu gyda ni gan y bobl hynny oedd wedi clywed Iesu.
Hebr WelBeibl 2:4  Ac roedd Duw yn profi fod beth roedden nhw'n ei ddweud yn wir drwy achosi i arwyddion rhyfeddol ddigwydd a phob math o wyrthiau. Fe oedd yn dewis rhoi'r Ysbryd Glân i alluogi pobl i wneud pethau fel hyn.
Hebr WelBeibl 2:5  A pheth arall – nid angylion sydd wedi cael yr awdurdod i reoli'r byd sydd i ddod.
Hebr WelBeibl 2:6  Mae rhywun wedi dweud yn rhywle: “Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw? Pam ddylet ti ofalu am berson dynol?
Hebr WelBeibl 2:7  Rwyt wedi'i wneud am ychydig yn is na'r angylion; ond yna ei goroni ag ysblander ac anrhydedd
Hebr WelBeibl 2:8  a gosod popeth dan ei awdurdod.” Mae “popeth” yn golygu fod dim byd arall i Dduw ei osod dan ei awdurdod. Ond dŷn ni ddim yn gweld “popeth dan ei awdurdod” ar hyn o bryd.
Hebr WelBeibl 2:9  Ond dŷn ni'n gweld ei fod yn wir am Iesu! Am ychydig amser cafodd e hefyd ei wneud yn is na'r angylion, a hynny er mwyn iddo farw dros bawb. Ac mae Iesu wedi “Ei goroni ag ysblander ac anrhydedd” am ei fod wedi marw! Mae'n dangos mor hael ydy Duw, fod Iesu wedi marw dros bob un ohonon ni.
Hebr WelBeibl 2:10  Duw wnaeth greu popeth, a fe sy'n cynnal popeth, felly mae'n berffaith iawn iddo adael i lawer o feibion a merched rannu ei ysblander. Drwy i Iesu ddioddef, roedd Duw yn ei wneud e'n arweinydd perffaith i'w hachub nhw.
Hebr WelBeibl 2:11  Mae'r un sy'n glanhau pobl, a'r rhai sy'n cael eu glanhau yn perthyn i'r un teulu dynol. Felly does gan Iesu ddim cywilydd galw'r bobl hynny yn frodyr a chwiorydd.
Hebr WelBeibl 2:12  Mae'n dweud: “Bydda i'n dweud wrth fy mrodyr a'm chwiorydd pwy wyt ti; ac yn canu mawl i ti gyda'r rhai sy'n dy addoli.”
Hebr WelBeibl 2:13  Ac wedyn, “Dw i'n mynd i drystio Duw hefyd.” Ac eto, “Dyma fi, a'r plant mae Duw wedi'u rhoi i mi.”
Hebr WelBeibl 2:14  Gan ein bod ni'r “plant” yn bobl o gig a gwaed, daeth Iesu'n berson o gig a gwaed yn union yr un fath. Dyna sut roedd yn gallu marw i ddwyn y grym oddi ar yr un sy'n dal grym marwolaeth – hynny ydy, y diafol.
Hebr WelBeibl 2:15  Mae Iesu wedi gollwng pobl yn rhydd fel bod dim rhaid iddyn nhw ofni marw bellach.
Hebr WelBeibl 2:16  Pobl sy'n blant i Abraham mae Iesu'n eu helpu, nid angylion!
Hebr WelBeibl 2:17  Felly roedd rhaid i Iesu gael ei wneud yn union yr un fath â ni, ei “frodyr a'i chwiorydd.” Dim ond wedyn y gallai fod yn archoffeiriad trugarog a ffyddlon yn gwasanaethu Duw, ac yn cyflwyno aberth fyddai'n delio gyda phechodau pobl a dod â nhw i berthynas iawn gyda Duw.
Hebr WelBeibl 2:18  Am ei fod e'i hun wedi dioddef ac wedi cael ei demtio, mae'n gallu'n helpu ni pan fyddwn ni'n wynebu temtasiwn.
Chapter 3
Hebr WelBeibl 3:1  Felly, frodyr a chwiorydd – chi sydd wedi'ch glanhau ac ar eich ffordd i'r nefoedd – meddyliwch am Iesu! Fe ydy'r negesydd oddi wrth Dduw a'r un dŷn ni'n ei dderbyn yn Archoffeiriad.
Hebr WelBeibl 3:2  Gwnaeth Iesu bopeth roedd Duw yn gofyn iddo'i wneud, yn union fel Moses, oedd “yn ffyddlon yn nheulu Duw.”
Hebr WelBeibl 3:3  Ond mae Iesu'n haeddu ei anrhydeddu fwy na Moses, yn union fel mae rhywun sy'n adeiladu tŷ yn haeddu ei ganmol fwy na'r tŷ ei hun!
Hebr WelBeibl 3:4  Mae pob tŷ wedi cael ei adeiladu gan rywun, ond yr un sydd wedi adeiladu popeth sy'n bod ydy Duw!
Hebr WelBeibl 3:5  Gwas “ffyddlon yn nheulu Duw” oedd Moses, ac roedd beth wnaeth e yn pwyntio ymlaen at beth fyddai Duw'n ei wneud yn y dyfodol.
Hebr WelBeibl 3:6  Ond mae'r Meseia yn Fab ffyddlon gydag awdurdod dros deulu Duw i gyd. A dŷn ni'n bobl sy'n perthyn i'r teulu hwnnw os wnawn ni ddal gafael yn yr hyder a'r gobaith dŷn ni'n ei frolio.
Hebr WelBeibl 3:7  Felly, fel mae'r Ysbryd Glân yn dweud: “Os clywch chi lais Duw heddiw,
Hebr WelBeibl 3:8  peidiwch bod yn ystyfnig fel oeddech chi adeg y gwrthryfel, yn rhoi Duw ar brawf yn yr anialwch.
Hebr WelBeibl 3:9  Roedd eich hynafiaid wedi profi fy amynedd a chawson nhw weld y canlyniadau am bedwar deg mlynedd.
Hebr WelBeibl 3:10  Digiais gyda'r bobl hynny, a dweud, ‘Maen nhw'n bobl hollol anwadal; dŷn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’
Hebr WelBeibl 3:11  Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi.’”
Hebr WelBeibl 3:12  Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn anufudd ac yn troi cefn ar y Duw byw.
Hebr WelBeibl 3:13  Helpwch eich gilydd bob dydd, a gwnewch hynny tra mae hi'n ‛heddiw‛. Peidiwch gadael i bechod eich twyllo a'ch gwneud yn ystyfnig.
Hebr WelBeibl 3:14  Os daliwn ein gafael i'r diwedd a dal i gredu fel ar y dechrau, cawn rannu'r cwbl sydd gan y Meseia.
Hebr WelBeibl 3:15  Fel dw i newydd ddweud: “Os clywch chi lais Duw heddiw, peidiwch bod yn ystyfnig fel oeddech chi adeg y gwrthryfel.”
Hebr WelBeibl 3:16  A phwy oedd y rhai wnaeth wrthryfela er eu bod wedi clywed llais Duw? Onid y bobl wnaeth Moses eu harwain allan o'r Aifft?
Hebr WelBeibl 3:17  A gyda pwy roedd Duw'n ddig am 40 mlynedd? Onid gyda'r rhai oedd wedi pechu? – nhw syrthiodd yn farw yn yr anialwch!
Hebr WelBeibl 3:18  Ac am bwy ddwedodd Duw ar lw na chaen nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gydag e? – onid y bobl hynny oedd yn gwrthod ei ddilyn?
Hebr WelBeibl 3:19  Felly dŷn ni'n gweld eu bod nhw wedi methu cyrraedd yno am eu bod nhw ddim yn credu.
Chapter 4
Hebr WelBeibl 4:1  Felly tra mae'r addewid gynnon ni ein bod yn gallu mynd i'r lle sy'n saff i orffwys, gadewch i ni fod yn ofalus fod neb o'n plith ni'n mynd i fethu cyrraedd yno.
Hebr WelBeibl 4:2  Mae'r newyddion da (fod lle saff i ni gael gorffwys) wedi cael ei gyhoeddi i ni hefyd, fel i'r bobl yn yr anialwch. Ond wnaeth y neges ddim gwahaniaeth iddyn nhw, am eu bod nhw ddim wedi credu pan glywon nhw.
Hebr WelBeibl 4:3  Dŷn ni sydd wedi credu yn cael mynd yno. Mae Duw wedi dweud am y lleill, “Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw fyth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi.’” Ac eto mae ar gael ers i Dduw orffen ei waith yn creu y byd.
Hebr WelBeibl 4:4  Mae wedi dweud yn rhywle am y seithfed dydd: “Ar y seithfed dydd dyma Duw yn gorffwys o'i holl waith.”
Hebr WelBeibl 4:5  Yn y dyfyniad cyntaf mae Duw'n dweud, “Chân nhw fyth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi.”
Hebr WelBeibl 4:6  Felly mae'r lle saff i orffwys yn dal i fodoli, i rai pobl gael mynd yno. Ond wnaeth y rhai y cafodd y newyddion da ei gyhoeddi iddyn nhw yn yr anialwch ddim cyrraedd am eu bod wedi bod yn anufudd.
Hebr WelBeibl 4:7  Felly dyma Duw yn rhoi cyfle arall, a ‛heddiw‛ ydy'r cyfle hwnnw. Dwedodd hyn ganrifoedd wedyn, drwy Dafydd yn y geiriau y soniwyd amdanyn nhw'n gynharach: “Os clywch chi lais Duw heddiw, peidiwch bod yn ystyfnig.”
Hebr WelBeibl 4:8  Petai Josua wedi rhoi'r lle saff oedd Duw'n ei addo iddyn nhw orffwys, fyddai dim sôn wedi bod am ddiwrnod arall.
Hebr WelBeibl 4:9  Felly, mae yna ‛orffwys y seithfed dydd‛ sy'n dal i ddisgwyl pobl Dduw.
Hebr WelBeibl 4:10  Mae pawb sy'n cyrraedd y lle sydd gan Dduw iddyn nhw orffwys yn cael gorffwys o'u gwaith, yn union fel gwnaeth Duw ei hun orffwys ar ôl gorffen ei waith e.
Hebr WelBeibl 4:11  Felly gadewch i ni wneud ein gorau glas i fynd i'r lle saff hwn lle cawn ni orffwys. Bydd unrhyw un sy'n gwrthod dilyn Duw yn syrthio, fel y gwnaeth y bobl yn yr anialwch.
Hebr WelBeibl 4:12  Mae neges Duw yn fyw ac yn cyflawni beth mae'n ei ddweud. Mae'n fwy miniog na'r un cleddyf, ac yn treiddio'n ddwfn o'n mewn, i wahanu'r enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mêr. Mae'n barnu beth dŷn ni'n ei feddwl ac yn ei fwriadu.
Hebr WelBeibl 4:13  Does dim byd drwy'r greadigaeth gyfan yn gallu cuddio oddi wrth Dduw. Mae e'n gweld popeth yn glir. A dyma'r Duw dŷn ni i gyd yn atebol iddo.
Hebr WelBeibl 4:14  Felly gadewch i ni ddal ein gafael yn beth dŷn ni'n gredu. Mae gynnon ni Archoffeiriad gwych! – Iesu, Mab Duw, sydd wedi mynd i mewn at Dduw i'r nefoedd.
Hebr WelBeibl 4:15  Ac mae'n Archoffeiriad sy'n deall yn iawn mor wan ydyn ni. Mae wedi cael ei demtio yn union yr un fath â ni, ond heb bechu o gwbl.
Hebr WelBeibl 4:16  Felly gadewch i ni glosio at orsedd Duw yn hyderus. Mae Duw mor hael! Bydd yn trugarhau wrthon ni ac yn rhoi popeth sydd ei angen i ni pan mae angen help arnon ni.
Chapter 5
Hebr WelBeibl 5:1  Mae pob archoffeiriad yn cael ei ddewis i wasanaethu Duw ar ran pobl eraill. Mae wedi'i benodi i gyflwyno rhoddion gan bobl i Dduw, ac i aberthu dros eu pechodau nhw.
Hebr WelBeibl 5:2  Mae'n gallu bod yn sensitif wrth ddelio gyda phobl sydd ddim yn sylweddoli eu bod nhw wedi pechu ac wedi cael eu camarwain. Dyn ydy yntau hefyd, felly mae'n ymwybodol o'i wendidau ei hun.
Hebr WelBeibl 5:3  Dyna pam mae'n rhaid iddo gyflwyno aberthau dros ei bechodau ei hun yn ogystal â phechodau'r bobl.
Hebr WelBeibl 5:4  Does neb yn gallu dewis bod yn Archoffeiriad ohono'i hun; rhaid iddo fod wedi'i alw gan Dduw, yn union yr un fath ag Aaron.
Hebr WelBeibl 5:5  Wnaeth y Meseia ei hun ddim ceisio'r anrhydedd o fod yn Archoffeiriad chwaith. Duw wnaeth ei ddewis e, a dweud wrtho, “Ti ydy fy Mab i; heddiw des i'n dad i ti.”
Hebr WelBeibl 5:6  Ac yn rhywle arall mae'n dweud, “Rwyt ti'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.”
Hebr WelBeibl 5:7  Pan oedd yn byw ar y ddaear, buodd Iesu'n gweddïo gan alw'n daer ac wylo wrth bledio ar Dduw am gael ei achub rhag marw. A dyma Duw'n gwrando arno am ei fod wedi ymostwng yn llwyr iddo.
Hebr WelBeibl 5:8  Ond er ei fod yn Fab Duw, roedd rhaid iddo ddysgu bod yn ufudd drwy beth wnaeth e ddioddef.
Hebr WelBeibl 5:9  Ac ar ôl iddo wneud popeth roedd ei angen, dyma achubiaeth dragwyddol yn tarddu ohono i bawb sy'n ufudd iddo.
Hebr WelBeibl 5:10  Cafodd ei benodi gan Dduw yn archoffeiriad “yr un fath â Melchisedec.”
Hebr WelBeibl 5:11  Mae cymaint y gellid ei ddweud am hyn, ond dych chi mor araf i ddysgu, ac felly mae'n anodd esbonio'r cwbl.
Hebr WelBeibl 5:12  Erbyn hyn dylech fod yn gallu dysgu pobl eraill, ond mae angen i rywun eich dysgu chi eto am y pethau mwya syml yn neges Duw. Dych chi fel babis bach sydd ond yn gallu cymryd llaeth, a heb ddechrau bwyta bwyd solet!
Hebr WelBeibl 5:13  Dydy'r un sy'n byw ar laeth ddim yn gwybod rhyw lawer am wneud beth sy'n iawn – mae fel plentyn bach.
Hebr WelBeibl 5:14  Ond mae'r rhai sydd wedi tyfu i fyny yn cael bwyd solet, ac wedi dod i arfer gwahaniaethu rhwng y drwg a'r da.
Chapter 6
Hebr WelBeibl 6:1  Felly mae angen i ni symud ymlaen o beth sy'n cael ei ddysgu am y Meseia yn y grŵp meithrin. Mae'n hen bryd i ni dyfu i fyny! Does dim rhaid mynd dros y pethau sylfaenol eto – yr angen i droi cefn ar y math o fywyd sy'n arwain i farwolaeth a dod i gredu yn Nuw;
Hebr WelBeibl 6:2  y ddysgeidiaeth am fedydd; comisiynu pobl drwy osod dwylo arnyn nhw; y ffaith y bydd y rhai sydd wedi marw yn codi yn ôl yn fyw ac y bydd Duw yn barnu beth fydd yn digwydd i bobl yn dragwyddol.
Hebr WelBeibl 6:3  A gyda help Duw dyna wnawn ni – symud yn ein blaenau!
Hebr WelBeibl 6:4  Mae'n gwbl amhosib arwain y rhai sydd wedi troi cefn ar y Meseia yn ôl ato. Dyma'r bobl welodd oleuni'r gwirionedd unwaith. Cawson nhw brofi rhodd hael Duw, a derbyn yr Ysbryd Glân gydag eraill.
Hebr WelBeibl 6:5  Cawson nhw flas ar neges Duw a nerthoedd yr oes sydd i ddod.
Hebr WelBeibl 6:6  Ac eto maen nhw wedi troi cefn arno! Maen nhw'n gyfrifol am hoelio Mab Duw ar y groes unwaith eto drwy ei wrthod, a'i wneud yn destun sbort i bobl.
Hebr WelBeibl 6:7  Mae Duw yn bendithio'r ddaear drwy anfon glaw i'w mwydo'n gyson, ac mae'r tir yn rhoi cnwd da i'w ddefnyddio gan y ffermwr sy'n trin y tir.
Hebr WelBeibl 6:8  Ond dydy tir gyda dim byd ond drain ac ysgall yn tyfu arno yn dda i ddim. Bydd yn cael ei gondemnio a'i losgi yn y diwedd.
Hebr WelBeibl 6:9  Ond er ein bod ni'n siarad fel hyn, ffrindiau annwyl, dŷn ni'n hyderus fod pethau gwell o'ch blaen chi – bendithion sy'n dod i'r rhai sy'n cael eu hachub.
Hebr WelBeibl 6:10  Dydy Duw ddim yn annheg; wnaiff e ddim anghofio beth dych chi wedi'i wneud. Dych chi wedi dangos eich cariad ato drwy helpu Cristnogion eraill. A dych chi'n dal i wneud hynny!
Hebr WelBeibl 6:11  Daliwch ati i ddangos yr un brwdfrydedd, a byddwch chi'n derbyn yn llawn y cwbl dych chi'n edrych ymlaen ato.
Hebr WelBeibl 6:12  Dŷn ni ddim am i chi fod yn ddiog! Dilynwch esiampl y rhai hynny sy'n credu go iawn ac yn dal ati yn amyneddgar – nhw ydy'r rhai fydd yn derbyn y cwbl mae Duw wedi'i addo.
Hebr WelBeibl 6:13  Pan wnaeth Duw addewid i Abraham aeth ar ei lw y byddai'n gwneud beth oedd wedi'i addo. Rhoddodd ei gymeriad ei hun ar y lein! – doedd neb mwy iddo allu tyngu llw iddo!
Hebr WelBeibl 6:14  A dyma ddwedodd e: “Dw i'n addo dy fendithio di a rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.”
Hebr WelBeibl 6:15  Ac felly, ar ôl disgwyl yn amyneddgar dyma Abraham yn derbyn beth roedd Duw wedi'i addo iddo.
Hebr WelBeibl 6:16  Pan mae pobl yn tyngu llw maen nhw'n gofyn i rywun mwy na nhw eu hunain wneud yn siŵr eu bod yn gwneud beth maen nhw'n ei addo. Mae'r llw yn eu rhwymo nhw i wneud beth maen nhw wedi'i ddweud, ac yn rhoi diwedd ar bob dadl.
Hebr WelBeibl 6:17  Am fod Duw am i bobl wybod ei fod e ddim yn newid ei feddwl ac y byddai'n gwneud beth roedd wedi'i addo iddyn nhw, rhwymodd ei hun gyda llw.
Hebr WelBeibl 6:18  Felly mae Duw wedi addo, ac mae wedi mynd ar ei lw – dau beth fydd byth yn newid am ei bod yn amhosib i Dduw ddweud celwydd. Felly, dŷn ni sydd wedi dianc ato yn gallu bod yn hyderus. Dŷn ni'n gallu dal gafael yn y gobaith mae wedi'i roi i ni.
Hebr WelBeibl 6:19  Mae'r gobaith hwn yn obaith sicr – mae fel angor i'n bywydau ni, yn gwbl ddiogel. Mae Iesu wedi mynd o'n blaenau ni, tu ôl i'r llen, i mewn i'r nefoedd, sef y cysegr mewnol lle mae Duw.
Hebr WelBeibl 6:20  Ydy, mae Iesu wedi mynd i mewn yno ar ein rhan ni. Fe ydy'r un “sy'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.”
Chapter 7
Hebr WelBeibl 7:1  Brenin Salem oedd Melchisedec, ac offeiriad i'r Duw Goruchaf. Pan oedd Abraham ar ei ffordd adre ar ôl gorchfygu nifer o frenhinoedd mewn brwydr, daeth Melchisedec ato. Dyma Melchisedec yn bendithio Abraham,
Hebr WelBeibl 7:2  a dyma Abraham wedyn yn rhoi un rhan o ddeg o'r cwbl oedd wedi'i ennill i Melchisedec. Ystyr Melchisedec ydy ‛y brenin cyfiawn‛; ac mae'n ‛frenin heddwch‛ hefyd, am mai dyna ydy ystyr ‛Brenin Salem‛.
Hebr WelBeibl 7:3  Dŷn ni ddim yn gwybod pwy oedd ei dad a'i fam, a does dim sôn am ei achau na dyddiad ei eni na'i farw. Felly, mae fel darlun o Fab Duw, sy'n aros yn offeiriad am byth.
Hebr WelBeibl 7:4  Meddyliwch mor bwysig oedd Melchisedec! Rhoddodd hyd yn oed Abraham, tad ein cenedl ni, un rhan o ddeg o beth oedd wedi'i ennill yn y frwydr iddo!
Hebr WelBeibl 7:5  Dŷn ni'n gwybod fod y Gyfraith Iddewig yn dweud wrth yr offeiriaid, sy'n ddisgynyddion i Lefi, gasglu un rhan o ddeg o beth sydd gan y bobl. Ond cofiwch mai casglu maen nhw gan bobl eu cenedl eu hunain – disgynyddion Abraham.
Hebr WelBeibl 7:6  Doedd Melchisedec ddim yn perthyn i Lefi, ac eto rhoddodd Abraham un rhan o ddeg iddo. A Melchisedec fendithiodd Abraham, yr un oedd Duw wedi addo pethau mor fawr iddo.
Hebr WelBeibl 7:7  Does dim rhaid dweud fod yr un sy'n bendithio yn fwy na'r person sy'n derbyn y fendith.
Hebr WelBeibl 7:8  Yn achos yr offeiriaid Iddewig, mae'r un rhan o ddeg yn cael ei gasglu gan ddynion sy'n siŵr o farw; ond yn achos Melchisedec mae'n cael ei gasglu gan un maen nhw'n dweud sy'n fyw!
Hebr WelBeibl 7:9  Gallech chi hyd yn oed ddweud fod disgynyddion Lefi (sy'n casglu'r un rhan o ddeg), wedi talu un rhan o ddeg i Melchisedec drwy Abraham.
Hebr WelBeibl 7:10  Er bod Lefi ddim wedi cael ei eni pan aeth Melchisedec allan i gyfarfod Abraham, roedd yr had y cafodd ei eni ohono yno, yng nghorff ei gyndad!
Hebr WelBeibl 7:11  Mae'r Gyfraith Iddewig yn dibynnu ar waith yr offeiriaid sy'n perthyn i urdd Lefi. Os oedd y drefn offeiriadol hon yn cyflawni bwriadau Duw yn berffaith pam roedd angen i offeiriad arall ddod? Pam wnaeth Duw anfon un oedd yr un fath â Melchisedec yn hytrach nag un oedd yn perthyn i urdd Lefi ac Aaron?
Hebr WelBeibl 7:12  Ac os ydy'r drefn offeiriadol yn newid, rhaid i'r gyfraith newid hefyd.
Hebr WelBeibl 7:13  Mae'r un dŷn ni'n sôn amdano yn perthyn i lwyth gwahanol, a does neb o'r llwyth hwnnw wedi gwasanaethu fel offeiriad wrth yr allor erioed.
Hebr WelBeibl 7:14  Mae pawb yn gwybod mai un o ddisgynyddion llwyth Jwda oedd ein Harglwydd ni, a wnaeth Moses ddim dweud fod gan y llwyth hwnnw unrhyw gysylltiad â'r offeiriadaeth!
Hebr WelBeibl 7:15  Ac mae beth dŷn ni'n ei ddweud yn gliriach fyth pan ddeallwn ni fod yr offeiriad newydd yn debyg i Melchisedec.
Hebr WelBeibl 7:16  Ddaeth hwn ddim yn offeiriad am fod y rheolau'n dweud hynny (am ei fod yn perthyn i lwyth arbennig); na, ond am fod nerth y bywyd na ellir ei ddinistrio ynddo.
Hebr WelBeibl 7:17  A dyna mae'r salmydd yn ei ddweud: “Rwyt ti'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.”
Hebr WelBeibl 7:18  Felly mae'r drefn gyntaf yn cael ei rhoi o'r neilltu am ei bod yn methu gwneud beth oedd ei angen.
Hebr WelBeibl 7:19  Wnaeth y Gyfraith Iddewig wneud dim byd yn berffaith. Ond mae gobaith gwell wedi'i roi i ni yn ei lle. A dyna sut dŷn ni'n mynd at Dduw bellach.
Hebr WelBeibl 7:20  Ac wrth gwrs, roedd Duw wedi mynd ar lw y byddai'n gwneud hyn! Pan oedd eraill yn cael eu gwneud yn offeiriaid doedd dim sôn am unrhyw lw,
Hebr WelBeibl 7:21  ond pan ddaeth Iesu yn offeiriad dyma Duw yn tyngu llw. Dwedodd wrtho: “Mae'r Arglwydd wedi tyngu llw a fydd e ddim yn newid ei feddwl: ‘Rwyt ti yn offeiriad am byth.’”
Hebr WelBeibl 7:22  Mae hyn yn dangos fod yr ymrwymiad newydd mae Iesu'n warant ohono gymaint gwell na'r hen un.
Hebr WelBeibl 7:23  Hefyd, dan yr hen drefn roedd llawer iawn o offeiriaid. Roedd pob un ohonyn nhw'n marw, ac wedyn roedd rhaid i rywun arall gymryd y gwaith drosodd!
Hebr WelBeibl 7:24  Ond mae Iesu yn fyw am byth, ac mae'n aros yn offeiriad am byth.
Hebr WelBeibl 7:25  Felly mae Iesu'n gallu achub un waith ac am byth y bobl hynny mae'n eu cynrychioli o flaen Duw! Ac mae e hefyd yn fyw bob amser i bledio ar eu rhan nhw.
Hebr WelBeibl 7:26  Dyna'r math o Archoffeiriad sydd ei angen arnon ni – un sydd wedi cysegru ei hun yn llwyr, heb bechu o gwbl na gwneud dim o'i le, ac sydd bellach wedi'i osod ar wahân i ni bechaduriaid. Mae e yn y lle mwya anrhydeddus sydd yn y nefoedd.
Hebr WelBeibl 7:27  Yn wahanol i bob archoffeiriad arall, does dim rhaid i hwn gyflwyno'r un aberthau ddydd ar ôl dydd. Roedd rhaid i'r archoffeiriaid eraill gyflwyno aberth dros eu pechodau eu hunain yn gyntaf ac yna dros bechodau'r bobl. Ond aberthodd Iesu ei hun dros ein pechodau ni un waith ac am byth.
Hebr WelBeibl 7:28  Dan drefn y Gyfraith Iddewig dynion cyffredin gyda'u holl wendidau sy'n cael eu penodi'n archoffeiriaid. Ond mae'r cyfeiriad at Dduw yn mynd ar lw wedi'i roi ar ôl y Gyfraith Iddewig, ac yn sôn am Dduw yn penodi ei Fab yn Archoffeiriad, ac mae hwn wedi gwneud popeth oedd angen ei wneud un waith ac am byth.
Chapter 8
Hebr WelBeibl 8:1  Y pwynt ydy hyn: mae'r Archoffeiriad sydd gynnon ni wedi eistedd yn y sedd anrhydedd yn y nefoedd, ar yr ochr dde i'r Duw Mawr ei hun.
Hebr WelBeibl 8:2  Dyna'r cysegr mae hwn yn gweini ynddo – y ganolfan addoliad go iawn sydd wedi'i chodi gan yr Arglwydd ei hun, a dim gan unrhyw berson dynol.
Hebr WelBeibl 8:3  A chan fod rhaid i bob archoffeiriad gyflwyno rhoddion ac aberthau i Dduw, roedd rhaid i Iesu hefyd fod â rhywbeth ganddo i'w gyflwyno.
Hebr WelBeibl 8:4  Petai'r gweini hwn yn digwydd ar y ddaear, fyddai Iesu ddim yn gallu bod yn offeiriad, am fod offeiriaid eisoes ar gael i gyflwyno'r rhoddion mae'r Gyfraith Iddewig yn eu gorchymyn.
Hebr WelBeibl 8:5  Ond dim ond copi o'r ganolfan addoliad go iawn yn y nefoedd ydy'r cysegr maen nhw'n gweini ynddo. Dyna pam wnaeth Duw roi'r rhybudd hwn i Moses pan oedd yn bwriadu codi'r babell yn ganolfan addoliad: “Gwna'n siŵr dy fod yn gwneud popeth yn union fel mae yn y cynllun welaist ti ar y mynydd.”
Hebr WelBeibl 8:6  Ond mae'r gwaith offeiriadol gafodd ei roi i Iesu yn llawer iawn pwysicach na'r gwaith maen nhw'n ei wneud fel offeiriaid. Ac mae'r ymrwymiad mae Iesu'n ganolwr iddo yn well na'r hen un – mae wedi'i wneud yn ‛gyfraith‛ sy'n addo pethau llawer gwell.
Hebr WelBeibl 8:7  Petai'r drefn gyntaf wedi bod yn ddigonol fyddai dim angen un arall.
Hebr WelBeibl 8:8  Ond roedd bai ar y bobl yng ngolwg Duw, a dyna pam ddwedodd e: “‘Mae'r amser yn dod,’ meddai'r Arglwydd, ‘pan fydda i'n gwneud ymrwymiad newydd gyda phobl Israel a Jwda.’
Hebr WelBeibl 8:9  ‘Fydd hwn ddim yr un fath â'r un wnes i gyda'u hynafiaid (pan afaelais yn eu llaw a'u harwain allan o'r Aifft). Wnaethon nhw ddim cadw eu hochr nhw o'r cytundeb, felly dyma fi'n troi fy nghefn arnyn nhw,’ meddai'r Arglwydd.
Hebr WelBeibl 8:10  ‘Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,’ meddai'r Arglwydd: ‘Bydd fy neddfau'n glir yn eu meddyliau ac wedi'u hysgrifennu ar eu calonnau. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i.
Hebr WelBeibl 8:11  Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill, a dweud wrth ei gilydd, “Rhaid i ti ddod i nabod yr Arglwydd,” achos bydd pawb yn fy nabod i, o'r lleia i'r mwya.
Hebr WelBeibl 8:12  Bydda i'n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o'i le, ac yn anghofio'u pechodau am byth.’”
Hebr WelBeibl 8:13  Drwy ddefnyddio'r gair ‛newydd‛ i ddisgrifio'r ymrwymiad yma, mae Duw'n dweud fod y llall yn hen. Os ydy rhywbeth yn hen ac yn perthyn i'r oes o'r blaen, yn fuan iawn mae'n mynd i ddiflannu'n llwyr!
Chapter 9
Hebr WelBeibl 9:1  Roedd gan yr ymrwymiad cyntaf reolau ar gyfer yr addoliad, a chysegr yn ganolfan i'r addoliad ar y ddaear.
Hebr WelBeibl 9:2  Roedd dwy ystafell yn y babell. Yn yr ystafell allanol roedd y ganhwyllbren a hefyd y bwrdd gyda'r bara wedi'i gysegru arno – dyma oedd yn cael ei alw ‛Y Lle Sanctaidd‛.
Hebr WelBeibl 9:3  Yna roedd llen, ac ystafell arall y tu ôl iddi, sef ‛Y Lle Mwyaf Sanctaidd‛.
Hebr WelBeibl 9:4  Yn yr ystafell fewnol roedd allor yr arogldarth ac arch yr ymrwymiad (cist bren oedd wedi'i gorchuddio ag aur). Yn y gist roedd jar aur yn dal peth o'r manna o'r anialwch, hefyd ffon Aaron (sef yr un oedd wedi blaguro), a'r ddwy lechen roedd Duw wedi ysgrifennu'r Deg Gorchymyn arnyn nhw.
Hebr WelBeibl 9:5  Yna uwchben y gist roedd dau greadur hardd wedi'u cerfio, a'u hadenydd yn cysgodi dros y caead – sef y man ble roedd Duw yn maddau pechodau. Ond does dim pwynt dechrau trafod hyn i gyd yn fanwl yma.
Hebr WelBeibl 9:6  Gyda popeth wedi'i osod yn ei le, roedd yr offeiriaid yn mynd i mewn i'r ystafell allanol yn rheolaidd i wneud eu gwaith.
Hebr WelBeibl 9:7  Ond dim ond yr archoffeiriad oedd yn mynd i mewn i'r ystafell fewnol, a hynny un waith y flwyddyn yn unig. Ac roedd rhaid iddo fynd â gwaed gydag e, i'w gyflwyno i Dduw dros ei bechodau ei hun a hefyd y pechodau hynny roedd pobl wedi'u cyflawni heb sylweddoli eu bod nhw'n pechu.
Hebr WelBeibl 9:8  Mae'r Ysbryd Glân yn dangos i ni drwy hyn bod hi ddim yn bosib mynd i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd (sef yr un nefol) tra oedd y babell gyntaf, a'r drefn mae'n ei chynrychioli, yn dal i sefyll.
Hebr WelBeibl 9:9  Mae'n ddarlun sy'n dangos beth sy'n bwysig heddiw. Doedd y rhoddion a'r aberthau oedd yn cael eu cyflwyno dan yr hen drefn ddim yn gallu rhoi cydwybod glir i'r addolwr.
Hebr WelBeibl 9:10  Dŷn nhw ddim ond yn rheolau ynglŷn â gwahanol fathau o fwyd a diod a defodau golchi – pethau oedd ond yn berthnasol nes i'r drefn newydd gyrraedd.
Hebr WelBeibl 9:11  Ond yna daeth y Meseia fel Archoffeiriad, a rhoi i ni'r holl bethau da dŷn ni eisoes wedi'u profi. Mae e wedi mynd drwy'r babell go iawn, sef yr un berffaith na chafodd ei gwneud gan bobl ac sydd ddim yn perthyn i'r byd hwn.
Hebr WelBeibl 9:12  Aeth i mewn un waith ac am byth i'r Lle Mwyaf Sanctaidd sydd yn y nefoedd. Aeth e ddim gyda gwaed geifr a lloi – aeth â'i waed ei hun, er mwyn i ni gael ein gollwng yn rhydd am byth.
Hebr WelBeibl 9:13  Roedd gwaed geifr a theirw yn cael ei daenellu, a lludw'r heffer yn cael ei wasgaru, er mwyn gwneud y bobl oedd yn aflan yn lân yn seremonïol.
Hebr WelBeibl 9:14  Ond mae gwaed y Meseia yn cyflawni llawer iawn mwy – mae'n glanhau'r gydwybod o'r pethau sy'n arwain i farwolaeth. Felly gallwn ni wasanaethu'r Duw byw! Mae'r Meseia wedi cyflwyno ei hun yn aberth perffaith i Dduw drwy nerth yr Ysbryd tragwyddol.
Hebr WelBeibl 9:15  Dyna pam mai fe ydy'r canolwr sy'n selio'r ymrwymiad newydd. Buodd farw i dalu'r pris i ollwng pobl yn rhydd o ganlyniadau'r pechodau gafodd eu cyflawni dan y drefn gyntaf – er mwyn i'r rhai sydd wedi'u galw dderbyn yr holl fendithion tragwyddol mae wedi'u haddo iddyn nhw.
Hebr WelBeibl 9:16  Os ydy rhywun wedi gwneud ewyllys, mae'n rhaid profi fod y person hwnnw wedi marw cyn i neb gael dim.
Hebr WelBeibl 9:17  Dydy ewyllys ddim yn cael ei gweithredu nes i'r un wnaeth yr ewyllys farw – dydy'r eiddo ddim yn cael ei rannu pan mae e'n dal yn fyw!
Hebr WelBeibl 9:18  Dyna pam roedd angen gwaed i hyd yn oed y drefn gyntaf gael ei gweithredu.
Hebr WelBeibl 9:19  Ar ôl i Moses ddweud wrth y bobl beth oedd pob un o orchmynion Cyfraith Duw, defnyddiodd frigau isop wedi'u rhwymo gyda gwlân ysgarlad i daenellu dŵr a gwaed lloi a geifr ar y sgrôl o'r Gyfraith ac ar y bobl.
Hebr WelBeibl 9:20  “Mae'r gwaed yma yn cadarnhau'r ymrwymiad mae Duw wedi'i wneud i chi ei gadw,” meddai wrthyn nhw.
Hebr WelBeibl 9:21  Wedyn taenellodd y gwaed yr un fath ar y babell ac ar bopeth oedd yn cael ei ddefnyddio yn y seremonïau.
Hebr WelBeibl 9:22  A dweud y gwir, mae Cyfraith Moses yn dweud fod bron popeth i gael ei buro drwy gael ei daenellu â gwaed, a bod maddeuant ddim yn bosib heb i waed gael ei dywallt.
Hebr WelBeibl 9:23  Roedd rhaid i'r pethau hynny i gyd gael eu puro gan waed yr aberthau. Ond dim ond copïau o'r pethau nefol ydyn nhw, ac mae angen aberthau gwell nag anifeiliaid i buro'r rheiny.
Hebr WelBeibl 9:24  Aeth y Meseia i mewn i'r nefoedd ei hun, lle mae'n ymddangos o flaen Duw ar ein rhan ni. Dim i'r cysegr wedi'i godi gan bobl aeth e – gan fod hwnnw'n ddim byd ond copi o'r un nefol go iawn.
Hebr WelBeibl 9:25  A wnaeth e ddim mynd i mewn i'r nefoedd lawer gwaith i offrymu ei hun (fel yr archoffeiriaid eraill oedd yn gorfod mynd â gwaed anifail i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd flwyddyn ar ôl blwyddyn).
Hebr WelBeibl 9:26  Petai'n rhaid iddo wneud hynny, byddai wedi gorfod marw lawer gwaith ers i'r byd gael ei greu! Na! daeth y Meseia un waith ac am byth, yn agos at ddiwedd yr oesoedd, i ddelio gyda phechod drwy ei aberthu ei hun.
Hebr WelBeibl 9:27  Yn union fel mae pawb yn mynd i farw un waith, a wynebu barn ar ôl hynny,
Hebr WelBeibl 9:28  buodd y Meseia farw un waith yn aberth, a chario pechodau llawer iawn o bobl iddyn nhw gael eu maddau. A bydd yn dod yn ôl yr ail waith, dim i ddelio gyda phechod y tro hwn, ond i achub pawb sy'n disgwyl yn frwd amdano.
Chapter 10
Hebr WelBeibl 10:1  Rhyw awgrym o'r pethau gwych sydd i ddod sydd yn y Gyfraith Iddewig – dim y bendithion eu hunain. Dyna pam dydy'r Gyfraith ddim yn gallu glanhau'n berffaith y rhai sy'n mynd i addoli, a pham mae'r un aberthau yn gorfod cael eu cyflwyno dro ar ôl tro, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Hebr WelBeibl 10:2  Oni fyddai'r bobl wedi stopio aberthu petai'r Gyfraith yn gallu eu glanhau nhw? Byddai'r addolwyr wedi'u glanhau un waith ac am byth, a ddim yn teimlo'n euog am eu pechodau ddim mwy!
Hebr WelBeibl 10:3  Ond na, beth roedd yr aberthau'n ei wneud oedd atgoffa'r bobl o'u pechod bob blwyddyn.
Hebr WelBeibl 10:4  Mae'n amhosib i waed teirw a geifr gael gwared â phechod.
Hebr WelBeibl 10:5  Felly pan ddaeth y Meseia i'r byd, dwedodd: “Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau, ond rwyt wedi rhoi corff i mi.
Hebr WelBeibl 10:6  Doedd offrymau llosg ac offrymau dros bechod ddim yn dy blesio di.
Hebr WelBeibl 10:7  Felly dyma fi'n dweud, ‘O Dduw, dw i wedi dod i wneud beth rwyt ti eisiau – fel mae wedi'i ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.’”
Hebr WelBeibl 10:8  Mae'r Meseia yn dweud, “Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau” a “Doedd offrymau llosg ac offrymau dros bechod ddim yn dy blesio di.” (Y Gyfraith Iddewig sy'n dweud fod rhaid gwneud hyn i gyd.)
Hebr WelBeibl 10:9  Wedyn mae'r Meseia'n dweud, “dw i wedi dod i wneud beth rwyt ti eisiau.” Felly mae'n cael gwared â'r drefn gyntaf i wneud lle i'r ail.
Hebr WelBeibl 10:10  A beth mae Duw eisiau ydy i ni gael ein glanhau o'n pechod am fod Iesu y Meseia wedi'i aberthu ei hun un waith ac am byth.
Hebr WelBeibl 10:11  Dan yr hen drefn mae'r offeiriad yn sefyll o flaen yr allor yn gwneud yr un gwaith ddydd ar ôl dydd. Mae e'n offrymu yr un aberthau drosodd a throsodd, ond allan nhw byth gael gwared â phechod!
Hebr WelBeibl 10:12  Ond dyma'r Meseia, ein hoffeiriad ni, yn offrymu ei hun yn aberth dros bechod un waith ac am byth, ac yna'n eistedd i lawr yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw.
Hebr WelBeibl 10:13  Ers hynny mae wedi bod yn disgwyl i'w elynion gael eu gorfodi i blygu o'i flaen fel stôl iddo orffwys ei draed arni.
Hebr WelBeibl 10:14  Drwy aberthu ei hun un waith mae'r Meseia wedi glanhau'n berffaith y bobl mae Duw wedi'u cysegru iddo'i hun am byth.
Hebr WelBeibl 10:15  Ac mae'r Ysbryd Glân wedi sôn am hyn hefyd. Mae'n dweud fel hyn:
Hebr WelBeibl 10:16  “Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud gyda fy mhobl bryd hynny,” meddai'r Arglwydd: “Bydd fy neddfau'n glir yn eu meddyliau ac wedi'u hysgrifennu ar eu calonnau.”
Hebr WelBeibl 10:17  Wedyn mae'n ychwanegu hyn: “Bydda i'n anghofio'u pechodau, a'r pethau wnaethon nhw o'i le, am byth.”
Hebr WelBeibl 10:18  Os ydy'r pechodau hyn wedi'u maddau, does dim angen aberth dros bechod ddim mwy!
Hebr WelBeibl 10:19  Felly, ffrindiau annwyl, gallwn bellach fynd i mewn i'r ‛Lle Mwyaf Sanctaidd‛ yn y nefoedd, am fod gwaed Iesu wedi'i dywallt yn aberth.
Hebr WelBeibl 10:20  Dyma'r ffordd newydd sydd wedi'i hagor i ni drwy'r llen (am fod Iesu wedi aberthu ei gorff ei hun) – y ffordd i fywyd!
Hebr WelBeibl 10:21  Mae gynnon ni'r Meseia, yn archoffeiriad gwych gydag awdurdod dros deulu Duw.
Hebr WelBeibl 10:22  Felly gadewch i ni glosio at Dduw gyda hyder didwyll, a'i drystio fe'n llwyr. Mae'n cydwybod euog ni wedi'i glanhau drwy i'w waed gael ei daenellu arnon ni, a dŷn ni wedi'n golchi â dŵr glân.
Hebr WelBeibl 10:23  Felly gadewch i ni ddal gafael yn y gobaith dŷn ni'n ddweud sydd gynnon ni. Mae Duw yn siŵr o wneud beth mae wedi'i addo!
Hebr WelBeibl 10:24  A gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni.
Hebr WelBeibl 10:25  Mae'n bwysig ein bod yn dal ati i gyfarfod â'n gilydd. Mae rhai pobl wedi stopio gwneud hynny. Dylen ni annog a rhybuddio'n gilydd drwy'r adeg; yn arbennig am fod Iesu'n dod yn ôl i farnu yn fuan.
Hebr WelBeibl 10:26  Os ydyn ni'n penderfynu dal ati i bechu ar ôl dod i wybod y gwirionedd, does dim aberth sy'n gallu delio gyda'n pechod ni wedyn.
Hebr WelBeibl 10:27  Allwn ni ond disgwyl yn ofnus am farn Duw a'r tân eirias fydd yn dinistrio gelynion Duw.
Hebr WelBeibl 10:28  Meddyliwch! Os oedd rhywun yn gwrthod ufuddhau i Gyfraith Moses, doedd ond angen tystiolaeth dau neu dri tyst a byddai'n cael ei roi i farwolaeth. Doedd dim trugaredd!
Hebr WelBeibl 10:29  Bydd y gosb yn llawer iawn mwy llym i'r bobl hynny sydd wedi sathru Mab Duw dan draed fel petai'n sbwriel ac wedi trin ei waed (gwaed yr ymrwymiad newydd) fel petai'n beth aflan! Maen nhw wedi sarhau Ysbryd hael Duw!
Hebr WelBeibl 10:30  Oherwydd dŷn ni'n gwybod pwy ddwedodd, “Fi sy'n dial; gwna i dalu yn ôl,” a hefyd, “Bydd yr Arglwydd yn barnu ei bobl.”
Hebr WelBeibl 10:31  Peth dychrynllyd ydy cael eich dal gan y Duw byw!
Hebr WelBeibl 10:32  Felly cofiwch yr adeg pan gawsoch chi'ch goleuo am y tro cyntaf. Bryd hynny roeddech chi'n sefyll yn gadarn er eich bod wedi gorfod dioddef yn ofnadwy.
Hebr WelBeibl 10:33  Weithiau'n cael eich sarhau a'ch cam-drin yn gyhoeddus; dro arall yn sefyll gyda'r rhai oedd yn cael eu trin felly.
Hebr WelBeibl 10:34  Roeddech chi'n dioddef gyda'r rhai oedd wedi'u taflu i'r carchar. A phan oedd eich eiddo yn cael ei gymryd oddi arnoch chi roeddech chi'n derbyn y peth yn llawen. Wedi'r cwbl roeddech chi'n gwybod fod gan Dduw bethau gwell i chi – pethau sydd i bara am byth!
Hebr WelBeibl 10:35  Felly peidiwch taflu'r hyder sydd gynnoch chi i ffwrdd – mae gwobr fawr yn ei ddilyn!
Hebr WelBeibl 10:36  Rhaid i chi ddal ati, a gwneud beth mae Duw eisiau. Wedyn cewch dderbyn beth mae wedi'i addo i chi!
Hebr WelBeibl 10:37  Oherwydd, “yn fuan iawn, bydd yr Un sy'n dod yn cyrraedd – fydd e ddim yn hwyr.
Hebr WelBeibl 10:38  Bydd fy un cyfiawn yn byw drwy ei ffyddlondeb. Ond bydd y rhai sy'n troi cefn ddim yn fy mhlesio i.”
Hebr WelBeibl 10:39  Ond dŷn ni ddim gyda'r bobl hynny sy'n troi cefn ac yn cael eu dinistrio. Dŷn ni gyda'r rhai ffyddlon, y rhai sy'n credu ac yn cael eu hachub.
Chapter 11
Hebr WelBeibl 11:1  Ffydd ydy'r sicrwydd fod beth dŷn ni'n gobeithio amdano yn mynd i ddigwydd. Mae'n dystiolaeth sicr o realiti beth dŷn ni ddim eto'n ei weld.
Hebr WelBeibl 11:2  Dyma pam gafodd pobl ers talwm eu canmol gan Dduw.
Hebr WelBeibl 11:3  Ffydd sy'n ein galluogi ni i ddeall mai'r ffordd y cafodd y bydysawd ei osod mewn trefn oedd drwy i Dduw roi gorchymyn i'r peth ddigwydd. A chafodd y pethau o'n cwmpas ni ddim eu gwneud allan o bethau oedd yno i'w gweld o'r blaen.
Hebr WelBeibl 11:4  Ei ffydd wnaeth i Abel offrymu aberth i Dduw oedd yn well nag un Cain. Dyna sut y cafodd ei ganmol fel un oedd yn gwneud y peth iawn, gyda Duw ei hun yn dweud pethau da am ei offrwm. Ac er ei fod wedi marw ers talwm, mae ei ffydd yn dal i siarad â ni.
Hebr WelBeibl 11:5  Ffydd Enoch wnaeth beri iddo gael ei gymryd i ffwrdd o'r bywyd hwn heb orfod mynd drwy'r profiad o farw. “Roedd wedi diflannu am fod Duw wedi'i gymryd i ffwrdd.” Cyn iddo gael ei gymryd i ffwrdd cafodd ei ganmol am ei fod wedi plesio Duw.
Hebr WelBeibl 11:6  Mae'n amhosib plesio Duw heb ffydd. Mae'n rhaid i'r rhai sydd am fynd ato gredu ei fod yn bodoli, a'i fod yn gwobrwyo pawb sy'n ei geisio o ddifri.
Hebr WelBeibl 11:7  Ffydd Noa wnaeth iddo wrando'n ofalus ar Dduw ac adeiladu llong fawr i achub ei deulu. Roedd Duw wedi'i rybuddio am bethau oedd erioed wedi digwydd o'r blaen. Wrth gredu roedd e'n condemnio gweddill y ddynoliaeth, ond roedd Noa ei hun yn cael ei dderbyn yn gyfiawn yng ngolwg Duw.
Hebr WelBeibl 11:8  Ffydd Abraham wnaeth iddo wrando ar Dduw. Roedd Duw yn ei alw i adael ei gartref a mynd i wlad y byddai'n ei derbyn yn etifeddiaeth yn nes ymlaen. Ond pan aeth oddi cartref doedd e ddim yn gwybod ble roedd yn mynd!
Hebr WelBeibl 11:9  A phan gyrhaeddodd y wlad roedd Duw wedi'i haddo iddo, ei ffydd wnaeth iddo aros yno. Roedd fel ymwelydd mewn gwlad dramor, yn byw mewn pebyll. (Ac Isaac a Jacob yr un fath, gan fod Duw wedi rhoi'r un addewid iddyn nhw hefyd.)
Hebr WelBeibl 11:10  Roedd Abraham yn edrych ymlaen at fyw yn y ddinas roedd Duw wedi'i chynllunio a'i hadeiladu, sef y ddinas sy'n aros am byth.
Hebr WelBeibl 11:11  Ffydd wnaeth alluogi Sara i fod yn fam hefyd. Roedd yn llawer rhy hen i gael plentyn mewn gwirionedd, ond roedd yn credu y byddai Duw yn gwneud beth roedd wedi'i addo.
Hebr WelBeibl 11:12  Felly, o'r un oedd yn rhy hen i gael plant, cafodd Abraham gymaint o ddisgynyddion mae'n amhosib eu cyfri i gyd – maen nhw fel y sêr yn yr awyr neu'r tywod ar lan y môr!
Hebr WelBeibl 11:13  Buodd y bobl hyn farw, wedi credu yn Nuw ond heb dderbyn yn llawn beth roedd Duw wedi'i addo iddyn nhw. Ond roedden nhw'n gweld y cwbl o bell, ac yn edrych ymlaen yn frwd. Roedden nhw'n dweud yn agored mai pobl ddieithr yn crwydro'r tir oedden nhw,
Hebr WelBeibl 11:14  ac mae'n amlwg fod pobl sy'n siarad felly yn edrych am eu mamwlad.
Hebr WelBeibl 11:15  A dim y wlad roedden nhw wedi'i gadael oedd ganddyn nhw mewn golwg, achos gallen nhw fod wedi mynd yn ôl yno.
Hebr WelBeibl 11:16  Na, roedden nhw'n dyheu am rywle gwell – am wlad nefol. Dyna pam fod gan Dduw ddim cywilydd cael ei alw'n Dduw iddyn nhw, am fod ganddo ddinas yn barod ar eu cyfer nhw.
Hebr WelBeibl 11:17  Ffydd wnaeth i Abraham offrymu Isaac yn aberth, pan oedd Duw yn ei brofi. Dyma'r un oedd wedi derbyn addewidion Duw, yn ceisio aberthu ei unig fab!
Hebr WelBeibl 11:18  A hynny er bod Duw wedi dweud wrtho, “Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw.”
Hebr WelBeibl 11:19  Roedd Abraham yn derbyn fod Duw yn gallu dod â'r meirw yn ôl yn fyw. Ac mewn ffordd mae'n iawn i ddweud ei fod wedi derbyn Isaac yn ôl felly.
Hebr WelBeibl 11:20  Ffydd Isaac wnaeth iddo fendithio Jacob ac Esau. Roedd ganddo ffydd yn beth roedd Duw'n mynd i'w wneud yn y dyfodol.
Hebr WelBeibl 11:21  Ffydd wnaeth i Jacob fendithio plant Joseff pan oedd ar fin marw. “Addolodd Dduw wrth bwyso ar ei ffon.”
Hebr WelBeibl 11:22  A phan roedd Joseff ar fin marw, ei ffydd wnaeth iddo yntau sôn am bobl Israel yn gadael yr Aifft. Dwedodd wrthyn nhw hefyd ble i gladdu ei esgyrn.
Hebr WelBeibl 11:23  Eu ffydd wnaeth i rieni Moses ei guddio am dri mis ar ôl iddo gael ei eni. Roedden nhw'n gweld fod rhywbeth sbesial am y plentyn, a doedd ganddyn nhw ddim ofn beth fyddai'r brenin yn ei wneud.
Hebr WelBeibl 11:24  Ffydd wnaeth i Moses, ar ôl iddo dyfu, wrthod cael ei drin fel mab i ferch y Pharo.
Hebr WelBeibl 11:25  Yn lle mwynhau pleserau pechod dros dro, dewisodd gael ei gam-drin fel un o bobl Dduw.
Hebr WelBeibl 11:26  Roedd cael ei amharchu dros y Meseia yn fwy gwerthfawr yn ei olwg na holl drysor yr Aifft, am ei fod yn edrych ymlaen at y wobr oedd gan Dduw iddo.
Hebr WelBeibl 11:27  Ei ffydd wnaeth i Moses adael yr Aifft. Doedd ganddo ddim ofn y brenin. Daliodd ati i'r diwedd am ei fod yn cadw ei olwg ar y Duw anweledig.
Hebr WelBeibl 11:28  Ei ffydd wnaeth i Moses gadw'r Pasg hefyd, a gorchymyn i'r bobl roi gwaed ar byst drysau eu tai. Wedyn fyddai'r angel oedd yn lladd y mab hynaf ddim yn cyffwrdd teuluoedd Israel.
Hebr WelBeibl 11:29  Ffydd wnaeth i bobl Israel gerdded drwy ganol y Môr Coch ar dir sych. Pan geisiodd yr Eifftiaid wneud yr un peth, dyma nhw'n cael eu boddi.
Hebr WelBeibl 11:30  Ffydd wnaeth i bobl Israel gerdded mewn cylch o gwmpas Jericho am saith diwrnod, a dyma'r waliau'n syrthio.
Hebr WelBeibl 11:31  Am fod ganddi ffydd, rhoddodd Rahab y butain groeso i'r ysbiwyr. Wnaeth hi ddim cael ei lladd fel pawb arall, oedd yn anufudd i Dduw.
Hebr WelBeibl 11:32  Beth arall sydd raid i mi ei ddweud? Does gen i ddim amser i sôn am Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd, Samuel a'r holl broffwydi.
Hebr WelBeibl 11:33  Eu ffydd wnaeth alluogi'r bobl hyn i wneud pob math o bethau – concro teyrnasoedd, llywodraethu'n gyfiawn, a derbyn y bendithion roedd Duw wedi'u haddo. Cafodd llewod eu rhwystro rhag lladd pobl,
Hebr WelBeibl 11:34  tanau gwyllt eu rhwystro rhag llosgi pobl, a llwyddodd eraill i ddianc rhag cael eu lladd â'r cleddyf. Cafodd y rhai oedd yn wan eu gwneud yn gryf, a throi'n filwyr nerthol yn gwneud i fyddinoedd gwledydd eraill ffoi.
Hebr WelBeibl 11:35  Cafodd rhai gwragedd eu hanwyliaid yn ôl yn fyw ar ôl iddyn nhw farw. Ond cafodd eraill eu poenydio a gwrthod cyfaddawdu i osgoi marw. Roedden nhw'n edrych ymlaen at gael eu codi yn ôl i fywyd gwell!
Hebr WelBeibl 11:36  Cafodd rhai eu sarhau a'u fflangellu, eraill eu rhoi mewn cadwyni a'u carcharu.
Hebr WelBeibl 11:37  Cafodd rhai eu llabyddio gyda cherrig, ac eraill eu llifio yn eu hanner; a chafodd eraill eu lladd â chleddyf. Buodd rhai yn crwydro fel ffoaduriaid heb ddim ond crwyn defaid a geifr yn ddillad; wedi colli'r cwbl, ac yn cael eu herlid a'u cam-drin.
Hebr WelBeibl 11:38  Pobl oedd y byd ddim yn eu haeddu nhw. Roedden nhw'n crwydro dros dir anial a mynydd-dir, ac yn cuddio mewn ogofâu a thyllau yn y ddaear.
Hebr WelBeibl 11:39  Cafodd y bobl yma i gyd eu canmol am eu ffydd, ac eto wnaeth dim un ohonyn nhw dderbyn y cwbl roedd Duw wedi'i addo.
Hebr WelBeibl 11:40  Roedd Duw wedi cynllunio rhywbeth gwell iddyn nhw – rhywbeth dŷn ni'n rhan ohono. Felly dŷn nhw ddim ond yn gallu cael y wobr lawn gyda ni.
Chapter 12
Hebr WelBeibl 12:1  Oes! Mae tyrfa enfawr o'n cwmpas ni yn dweud mai trystio Duw ydy'r ffordd orau i fyw. Felly gadewch i ni gael gwared â phopeth sy'n ein dal ni'n ôl, yn arbennig y pechod sy'n denu'n sylw ni mor hawdd. Gadewch i ni fod yn benderfynol o ddal ati, a rhedeg y ras sydd o'n blaenau i'w diwedd.
Hebr WelBeibl 12:2  Rhaid i ni hoelio'n sylw ar Iesu – fe ydy'r pencampwr a'r hyfforddwr sy'n perffeithio ein ffydd ni. Er mwyn profi'r llawenydd oedd o'i flaen, dyma fe'n dal ei dir ar y groes gan wrthod ystyried y cywilydd o wneud hynny, a bellach mae'n eistedd yn y sedd anrhydedd ar yr ochr dde i orsedd Duw yn y nefoedd!
Hebr WelBeibl 12:3  Meddyliwch sut wnaeth e ddiodde'r holl wrthwynebiad gan bechaduriaid – wnewch chi wedyn ddim colli plwc a digalonni.
Hebr WelBeibl 12:4  Wedi'r cwbl dych chi ddim eto wedi gorfod colli gwaed wrth wneud safiad yn erbyn pechod!
Hebr WelBeibl 12:5  Ydych chi wedi anghofio anogaeth Duw i chi fel ei blant?: “Fy mhlentyn, paid diystyru disgyblaeth yr Arglwydd, na thorri dy galon pan fydd yn dy gywiro di,
Hebr WelBeibl 12:6  achos mae'r Arglwydd yn disgyblu'r rhai mae'n eu caru, ac yn cosbi pob un o'i blant.”
Hebr WelBeibl 12:7  Cymerwch y dioddef fel disgyblaeth. Mae Duw'n eich trin chi fel ei blant. Pwy glywodd am blentyn sydd ddim yn cael ei ddisgyblu gan ei rieni?
Hebr WelBeibl 12:8  Os dych chi ddim yn cael eich disgyblu allwch chi ddim bod yn blant go iawn iddo – mae pob plentyn wedi cael ei ddisgyblu rywbryd!
Hebr WelBeibl 12:9  Pan oedd ein rhieni'n ein disgyblu ni, roedden ni'n eu parchu nhw. Felly oni ddylen ni wrando fwy fyth ar ein Tad ysbrydol, i ni gael byw?
Hebr WelBeibl 12:10  Roedd ein rhieni'n ein disgyblu ni dros dro fel roedden nhw'n gweld orau, ond mae disgyblaeth Duw yn siŵr o wneud lles i ni bob amser, i'n gwneud ni'n debycach iddo fe'i hun.
Hebr WelBeibl 12:11  Dydy disgyblaeth byth yn bleserus ar y pryd (mae'n boenus!) – ond yn nes ymlaen dŷn ni'n gweld ei fod yn beth da. Ac mae'r rhai sydd wedi dysgu drwyddo yn dod yn bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn profi heddwch dwfn.
Hebr WelBeibl 12:12  Felly peidiwch gollwng gafael! Safwch ar eich traed yn gadarn!
Hebr WelBeibl 12:13  Cerddwch yn syth yn eich blaenau. Wedyn bydd y rhai sy'n gloff yn cryfhau ac yn eich dilyn yn lle syrthio ar fin y ffordd.
Hebr WelBeibl 12:14  Gwnewch eich gorau glas i fyw mewn perthynas dda gyda phawb, ac i fyw bywydau glân a sanctaidd. Dim ond y rhai sy'n sanctaidd fydd yn cael gweld yr Arglwydd.
Hebr WelBeibl 12:15  Gwyliwch bod neb ohonoch chi'n colli gafael ar haelioni rhyfeddol Duw. Os dych chi'n gadael i wreiddyn chwerw dyfu yn eich plith chi, gallai hynny greu problemau ag amharu ar lawer o bobl yn yr eglwys.
Hebr WelBeibl 12:16  Gwyliwch rhag i rywun wrthgilio a throi'n annuwiol – fel Esau yn gwerthu popeth am bryd o fwyd!
Hebr WelBeibl 12:17  Collodd y cwbl oedd ganddo hawl i'w dderbyn fel y mab hynaf. Wedyn, pan oedd eisiau i'w dad ei fendithio, cafodd ei wrthod. Roedd hi'n rhy hwyr iddo newid ei feddwl, er iddo grefu a chrefu yn ei ddagrau.
Hebr WelBeibl 12:18  Yn wahanol i bobl Israel, dych chi ddim wedi dod at bethau y gallwch eu teimlo – mynydd gyda thân yn llosgi arno, tywyllwch, caddug a storm wyllt.
Hebr WelBeibl 12:19  Does dim sŵn utgorn, na llais i'ch dychryn chi, fel llais Duw pan oedd yn siarad yn Sinai. Roedd y bobl yn crefu ar i Dduw stopio siarad yn uniongyrchol â nhw.
Hebr WelBeibl 12:20  Roedd y gorchymyn yn ormod iddyn nhw ei oddef: “Os bydd hyd yn oed anifail yn cyffwrdd y mynydd rhaid ei ladd drwy daflu cerrig ato nes iddo farw.”
Hebr WelBeibl 12:21  Roedd y cwbl mor ofnadwy o ddychrynllyd nes i Moses ei hun ddweud, “Dw i'n crynu drwyddo i mewn ofn.”
Hebr WelBeibl 12:22  Na! At Fynydd Seion dych chi wedi dod – sef at ddinas y Duw byw! Dyma'r Jerwsalem nefol! Yma mae miloedd ar filoedd o angylion wedi dod at ei gilydd i addoli a dathlu.
Hebr WelBeibl 12:23  Yma mae'r bobl hynny sydd â'u henwau wedi'u cofrestru yn y nefoedd – sef y rhai sydd i dderbyn y bendithion, fel y ‛mab hynaf‛. Yma hefyd mae Duw, Barnwr pawb. Yma mae'r bobl gyfiawn hynny fuodd farw, a sydd bellach wedi'u perffeithio.
Hebr WelBeibl 12:24  Yma hefyd mae Iesu, y canolwr wnaeth selio'r ymrwymiad newydd. Yma mae ei waed wedi'i daenellu – y gwaed sy'n dweud rhywbeth llawer mwy grymus na gwaed Abel.
Hebr WelBeibl 12:25  Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando'n ofalus ar Dduw, yr un sy'n siarad â chi. Os wnaeth pobl Israel ddim dianc pan wrthodon nhw wrando ar Moses, yr un o'r ddaear oedd yn eu rhybuddio nhw, pa obaith sydd i ni os ydyn ni'n troi'n cefnau ar Iesu, yr Un o'r nefoedd sydd wedi'n rhybuddio ni!
Hebr WelBeibl 12:26  Wrth fynydd Sinai roedd llais Duw yn ysgwyd y ddaear, ond nawr mae wedi dweud: “Unwaith eto dw i'n mynd i ysgwyd nid yn unig y ddaear, ond y nefoedd hefyd.”
Hebr WelBeibl 12:27  Mae'r geiriau “unwaith eto” yn dangos fod y pethau fydd yn cael eu hysgwyd – sy'n bethau wedi'u creu – i gael eu symud. Dim ond y pethau sydd ddim yn gallu cael eu hysgwyd fydd yn aros.
Hebr WelBeibl 12:28  A dyna sut deyrnas dŷn ni'n ei derbyn! – un sydd ddim yn gallu cael ei hysgwyd. Felly gadewch i ni fod yn ddiolchgar, ac addoli ein Duw yn y ffordd ddylen ni – gyda pharch a rhyfeddod, am mai
Chapter 13
Hebr WelBeibl 13:2  Peidiwch stopio'r arfer o roi croeso i bobl ddieithr yn eich cartrefi – mae rhai pobl wedi croesawu angylion i'w cartrefi heb yn wybod!
Hebr WelBeibl 13:3  Daliwch ati i gofio'r rheiny sy'n y carchar, gan feddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn y carchar eich hunain! Cofiwch hefyd am y rhai sy'n cael eu cam-drin, fel tasech chi'ch hunain yn dioddef yr un fath.
Hebr WelBeibl 13:4  Dylai priodas gael ei barchu gan bawb, a ddylai person priod ddim cysgu gyda neb arall. Bydd Duw yn barnu pawb sy'n anfoesol ac yn cael rhyw y tu allan i briodas.
Hebr WelBeibl 13:5  Peidiwch gadael i gariad at arian eich meddiannu chi! – byddwch yn fodlon gyda'r hyn sydd gynnoch chi. Wedi'r cwbl mae Duw ei hun wedi dweud, “Wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi.”
Hebr WelBeibl 13:6  Felly gallwn ni ddweud yn hyderus, “Yr Arglwydd ydy'r un sy'n fy helpu i; fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?”
Hebr WelBeibl 13:7  Cofiwch eich arweinwyr, sef y rhai wnaeth rannu neges Duw gyda chi. Meddyliwch sut mae eu bywydau nhw wedi gwneud cymaint o ddaioni. Credwch yn yr Arglwydd yr un fath â nhw.
Hebr WelBeibl 13:8  Mae Iesu y Meseia yr un fath bob amser – ddoe, heddiw ac am byth!
Hebr WelBeibl 13:9  Peidiwch gadael i bob math o syniadau rhyfedd eich camarwain chi. Haelioni rhyfeddol Duw sy'n ein cynnal ni, dim y rheolau am beth sy'n iawn i'w fwyta. Dydy canolbwyntio ar bethau felly'n gwneud lles i neb!
Hebr WelBeibl 13:10  Mae gynnon ni aberth does gan yr offeiriaid sy'n gweini dan yr hen drefn ddim hawl i fwyta ohoni.
Hebr WelBeibl 13:11  Dan yr hen drefn mae'r archoffeiriad yn mynd â gwaed anifeiliaid i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd fel offrwm dros bechod, ond mae cyrff yr anifeiliaid yn cael eu llosgi y tu allan i'r gwersyll.
Hebr WelBeibl 13:12  A'r un fath, roedd rhaid i Iesu ddioddef y tu allan i waliau'r ddinas er mwyn glanhau'r bobl drwy dywallt ei waed ei hun.
Hebr WelBeibl 13:13  Felly gadewch i ninnau fynd ato, y tu allan i'r gwersyll, a bod yn barod i ddioddef amarch fel gwnaeth Iesu ei hun.
Hebr WelBeibl 13:14  Dim y byd hwn ydy'n dinas ni! Dŷn ni'n edrych ymlaen at y ddinas yn y nefoedd, sef yr un sydd i ddod.
Hebr WelBeibl 13:15  Felly, gadewch i ni foli Duw drwy'r adeg, o achos beth wnaeth Iesu. Y ffrwythau dŷn ni'n eu cyflwyno iddo ydy'r mawl mae e'n ei haeddu.
Hebr WelBeibl 13:16  A pheidiwch anghofio gwneud daioni a rhannu'ch cyfoeth gyda phawb sydd mewn angen. Mae'r math yna o aberth yn plesio Duw go iawn.
Hebr WelBeibl 13:17  Byddwch yn ufudd i'ch arweinwyr ysbrydol, a gwneud beth maen nhw'n ei ddweud. Mae'n rhaid iddyn nhw roi cyfri i Dduw am y ffordd maen nhw'n gofalu amdanoch chi. Rhowch le iddyn nhw fwynhau eu gwaith, yn lle ei fod yn faich. Fyddai hynny'n sicr o ddim lles i chi.
Hebr WelBeibl 13:18  Peidiwch stopio gweddïo droson ni. Mae'n cydwybod ni'n glir, a dŷn ni'n ceisio gwneud beth sy'n iawn bob amser.
Hebr WelBeibl 13:19  Dw i'n arbennig eisiau i chi weddïo y ca i ddod yn ôl i'ch gweld chi'n fuan.
Hebr WelBeibl 13:20  Dw i'n gweddïo y bydd Duw, sy'n rhoi heddwch perffaith i ni, yn eich galluogi chi i wneud beth mae e eisiau. Fe ydy'r Duw gododd ein Harglwydd Iesu yn ôl yn fyw, sef Bugail mawr y defaid. Drwy farw'n aberth, seliodd yr ymrwymiad tragwyddol a wnaeth Duw. Dw i'n gweddïo y bydd Duw, drwy'r Meseia Iesu, yn eich galluogi chi i wneud beth sy'n ei blesio fe. Mae'n haeddu ei foli am byth! Amen!
Hebr WelBeibl 13:21  Dw i'n gweddïo y bydd Duw, sy'n rhoi heddwch perffaith i ni, yn eich galluogi chi i wneud beth mae e eisiau. Fe ydy'r Duw gododd ein Harglwydd Iesu yn ôl yn fyw, sef Bugail mawr y defaid. Drwy farw'n aberth, seliodd yr ymrwymiad tragwyddol a wnaeth Duw. Dw i'n gweddïo y bydd Duw, drwy'r Meseia Iesu, yn eich galluogi chi i wneud beth sy'n ei blesio fe. Mae'n haeddu ei foli am byth! Amen!
Hebr WelBeibl 13:22  Ffrindiau annwyl, dw i'n pwyso arnoch chi i dderbyn beth dw i wedi'i ddweud. Dw i wedi bod mor gryno ag y galla i.
Hebr WelBeibl 13:23  Dw i am i chi wybod fod ein brawd Timotheus wedi cael ei ryddhau o garchar. Os daw yma'n fuan bydda i'n dod ag e gyda mi i'ch gweld chi.
Hebr WelBeibl 13:24  Cofion at eich arweinwyr chi i gyd! – ac at bob un o'r credinwyr sydd acw. Mae Cristnogion yr Eidal yn anfon eu cyfarchion atoch chi.
Hebr WelBeibl 13:25  Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol Duw.