Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
REVELATION OF JOHN
Up
Toggle notes
Chapter 1
Reve WelBeibl 1:1  Dyma ddangosodd y Meseia Iesu am beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan. Duw ddangosodd hyn iddo, i'w rannu gyda'r rhai sy'n ei ddilyn a'i wasanaethu. Anfonodd ei angel ata i ei was Ioan,
Reve WelBeibl 1:2  a dw i'n gallu tystio fy mod i wedi gweld y cwbl sydd yma. Mae'n neges oddi wrth Dduw – yn dystiolaeth sydd wedi'i roi gan y Meseia Iesu ei hun.
Reve WelBeibl 1:3  Bydd y person sy'n darllen y neges broffwydol hon i'r eglwys yn cael ei fendithio'n fawr. A hefyd pawb sy'n gwrando ar y neges yn cael ei darllen, ac yna'n gwneud beth mae'n ei ddweud. Mae'r amser pan fydd y cwbl yn digwydd yn agos.
Reve WelBeibl 1:4  Ioan sy'n ysgrifennu, At y saith eglwys yn nhalaith Asia: Dw i'n gweddïo y byddwch yn profi haelioni rhyfeddol a heddwch dwfn gan Dduw, yr Un sydd, ac oedd ac sy'n mynd i ddod; gan yr Ysbryd cyflawn perffaith sydd o flaen yr orsedd;
Reve WelBeibl 1:5  a hefyd gan y Meseia Iesu, y tyst ffyddlon, y cyntaf i gael ei eni i fywyd newydd ar ôl marw, a'r un sydd ag awdurdod dros holl frenhinoedd y ddaear. Mae'n ein caru ni, ac mae wedi marw droson ni i'n gollwng ni'n rhydd fel bod pechod ddim yn ein rheoli ni ddim mwy.
Reve WelBeibl 1:6  Mae'n teyrnasu droson ni ac wedi'n gwneud ni i gyd yn offeiriaid sy'n gwasanaethu Duw, ei Dad! Fe sy'n haeddu pob anrhydedd a nerth, am byth! Amen!
Reve WelBeibl 1:7  Edrychwch! Mae'n dod yn y cymylau! Bydd pawb yn ei weld – hyd yn oed y rhai a'i trywanodd! Bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear yn galaru o'i achos e. Dyna fydd yn digwydd! Amen!
Reve WelBeibl 1:8  Mae'r Arglwydd Dduw yn dweud, “Fi ydy'r Alffa a'r Omega – Fi ydy'r Un sydd, oedd, ac sy'n mynd i ddod eto, yr Un Hollalluog.”
Reve WelBeibl 1:9  Ioan ydw i, eich cyd-Gristion. Fel chi dw innau hefyd yn dioddef, ond am fod Duw yn teyrnasu, dw i'n dal ati fel gwnaeth Iesu ei hun. Rôn i wedi cael fy alltudio i Ynys Patmos am gyhoeddi neges Duw a thystiolaethu am Iesu.
Reve WelBeibl 1:10  Roedd hi'n ddydd Sul, ac roeddwn i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân. Yn sydyn clywais lais y tu ôl i mi, fel sŵn utgorn.
Reve WelBeibl 1:11  Dyma ddwedodd: “Ysgrifenna beth weli di mewn sgrôl, a'i anfon at y saith eglwys, sef Effesus, Smyrna, Pergamus, Thyatira, Sardis, Philadelffia, a Laodicea.”
Reve WelBeibl 1:12  Dyma fi'n troi i edrych pwy oedd yn siarad â mi, a dyma beth welais i: saith canhwyllbren aur.
Reve WelBeibl 1:13  Yn eu plith roedd “un oedd yn edrych fel person dynol.” Roedd yn gwisgo mantell hir oedd yn cyrraedd at ei draed a sash aur wedi'i rwymo am ei frest.
Reve WelBeibl 1:14  Roedd ganddo lond pen o wallt oedd yn wyn fel gwlân neu eira, ac roedd sbarc yn ei lygaid fel fflamau o dân.
Reve WelBeibl 1:15  Roedd ei draed yn gloywi fel efydd mewn ffwrnais, a'i lais fel sŵn rhaeadrau o ddŵr.
Reve WelBeibl 1:16  Yn ei law dde roedd yn dal saith seren, ac roedd cleddyf miniog yn dod allan o'i geg. Roedd ei wyneb yn disgleirio'n llachar fel yr haul ganol dydd.
Reve WelBeibl 1:17  Pan welais e, dyma fi'n llewygu wrth ei draed. Yna cyffyrddodd fi â'i law dde, a dweud wrtho i: “Paid bod ag ofn. Fi ydy'r Cyntaf a'r Olaf,
Reve WelBeibl 1:18  yr Un Byw. Rôn i wedi marw, ond edrych! – dw i'n fyw am byth bythoedd! Gen i mae allweddi Marwolaeth a Byd y Meirw.
Reve WelBeibl 1:19  Felly, ysgrifenna beth rwyt ti'n ei weld, sef beth sy'n digwydd nawr, a beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan.
Reve WelBeibl 1:20  “Ystyr cudd y saith seren welaist ti yn fy llaw dde i a'r saith canhwyllbren aur ydy hyn: Mae'r saith seren yn cynrychioli arweinwyr y saith eglwys, a'r saith canhwyllbren yn cynrychioli'r saith eglwys.”
Chapter 2
Reve WelBeibl 2:1  “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Effesus: ‘Dyma beth mae'r un sy'n dal y saith seren yn ei law dde ac yn cerdded rhwng y saith canhwyllbren aur yn ei ddweud:
Reve WelBeibl 2:2  Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Rwyt ti'n gweithio'n galed ac wedi dal ati. Dw i'n gwybod dy fod ti ddim yn gallu diodde'r bobl ddrwg hynny sy'n honni eu bod nhw yn gynrychiolwyr personol i'r Meseia Iesu, ond sydd ddim go iawn. Rwyt ti wedi profi eu bod nhw'n dweud celwydd.
Reve WelBeibl 2:3  Rwyt ti wedi dal ati ac wedi dioddef caledi er fy mwyn i, a heb flino.
Reve WelBeibl 2:4  Ond mae gen i rywbeth yn dy erbyn di: Ti ddim yn fy ngharu i fel roeddet ti ar y cychwyn.
Reve WelBeibl 2:5  Edrych mor bell rwyt ti wedi syrthio! Tro yn ôl ata i eto, a gwna beth roeddet ti'n ei wneud ar y cychwyn. Os ddoi di ddim yn ôl ata i, dof fi atat ti a chymryd dy ganhwyllbren di i ffwrdd.
Reve WelBeibl 2:6  Ond mae hyn o dy blaid di: Rwyt ti, fel finnau, yn casáu beth mae'r Nicolaiaid yn ei wneud.
Reve WelBeibl 2:7  Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr yn cael bwyta o goeden y bywyd sydd ym Mharadwys Duw.’
Reve WelBeibl 2:8  “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Smyrna: ‘Dyma beth mae'r Cyntaf a'r Olaf yn ei ddweud, yr un fuodd farw a dod yn ôl yn fyw:
Reve WelBeibl 2:9  Dw i'n gwybod dy fod ti'n dioddef, a dy fod yn dlawd (er, rwyt ti'n gyfoethog go iawn!) Dw i'n gwybod hefyd dy fod ti'n cael dy sarhau gan y rhai sy'n honni bod yn bobl Dduw ond sydd ddim go iawn. Synagog Satan ydyn nhw!
Reve WelBeibl 2:10  Peidiwch bod ofn beth dych chi ar fin ei ddioddef. Galla i ddweud wrthoch chi fod y diafol yn mynd i brofi ffydd rhai ohonoch chi drwy eich taflu i'r carchar. Bydd pethau'n galed arnoch chi am gyfnod byr. Arhoswch yn ffyddlon i Dduw, hyd yn oed os bydd rhaid i chi farw. Wedyn cewch chi goron y bywyd yn wobr gen i.
Reve WelBeibl 2:11  Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Fydd y rhai sy'n ennill y frwydr ddim yn cael unrhyw niwed gan beth sy'n cael ei alw yn ‛ail farwolaeth‛.’
Reve WelBeibl 2:12  “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Pergamus: ‘Dyma beth mae'r un sydd â'r cleddyf miniog ganddo yn ei ddweud:
Reve WelBeibl 2:13  Dw i'n gwybod dy fod ti'n byw yn y ddinas lle mae gorsedd Satan. Ond rwyt ti wedi aros yn ffyddlon i mi. Wnest ti ddim gwadu dy fod yn credu ynof fi, hyd yn oed pan gafodd Antipas ei ladd lle mae Satan yn byw. Roedd e'n ffyddlon, ac yn dweud wrth bawb amdana i.
Reve WelBeibl 2:14  Er hynny, mae gen i bethau yn dy erbyn: Mae rhai pobl acw yn gwneud beth oedd Balaam yn ei ddysgu. Balaam ddysgodd Balac i ddenu pobl Israel i bechu. Gwnaeth iddyn nhw fwyta bwyd wedi'i aberthu i eilun-dduwiau a phechu'n rhywiol.
Reve WelBeibl 2:15  A'r un fath, mae yna rai ohonoch chi hefyd sy'n dilyn beth mae'r Nicolaiaid yn ei ddysgu.
Reve WelBeibl 2:16  Tro dy gefn ar y pechodau hyn! Os wnei di ddim, bydda i'n dod yn sydyn ac yn ymladd yn eu herbyn nhw gyda'r cleddyf sydd yn fy ngheg.
Reve WelBeibl 2:17  Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr yn cael bwyta'r manna sydd wedi'i gadw o'r golwg. Bydda i hefyd yn rhoi carreg wen i bob un ohonyn nhw. Bydd enw newydd wedi'i ysgrifennu ar y garreg, a neb yn gwybod yr enw ond y sawl sy'n derbyn y garreg.’
Reve WelBeibl 2:18  “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Thyatira: ‘Dyma beth mae Mab Duw yn ei ddweud, sef yr Un sydd â sbarc fel fflamau o dân yn ei lygaid, a'i draed yn gloywi fel efydd:
Reve WelBeibl 2:19  Dw i'n gwybod am bopeth wyt ti'n ei wneud – am dy gariad, dy ffyddlondeb, dy wasanaeth a'th allu i ddal ati; a dw i'n gweld dy fod yn gwneud mwy o dda nawr nag oeddet ti ar y cychwyn.
Reve WelBeibl 2:20  Er hynny, mae gen i rywbeth yn dy erbyn di: Rwyt ti'n goddef y wraig yna, y ‛Jesebel‛ sy'n galw'i hun yn broffwydes. Mae hi'n dysgu pethau sy'n camarwain y rhai sy'n fy ngwasanaethu i. Mae hi'n eu hannog nhw i bechu'n rhywiol a bwyta bwyd sydd wedi'i aberthu i eilun-dduwiau.
Reve WelBeibl 2:21  Dw i wedi rhoi cyfle iddi hi droi cefn ar y drwg, ond mae hi'n gwrthod.
Reve WelBeibl 2:22  Felly dw i'n mynd i wneud iddi ddioddef o afiechyd poenus, a bydd y rhai sy'n godinebu gyda hi yn dioddef hefyd os fyddan nhw ddim yn stopio gwneud beth mae hi'n ei ddweud.
Reve WelBeibl 2:23  Bydda i'n lladd ei dilynwyr hi, ac wedyn bydd yr eglwysi yn gwybod mai fi ydy'r Un sy'n gweld beth sydd yng nghalonnau a meddyliau pobl. Bydd pob un ohonoch chi yn cael beth mae'n ei haeddu.
Reve WelBeibl 2:24  Am y gweddill ohonoch chi yn Thyatira, sef y rhai sydd heb dderbyn beth mae hi'n ei ddysgu (sef ‛cyfrinachau dirgel Satan‛), wna i ddim rhoi dim mwy o bwysau arnoch chi.
Reve WelBeibl 2:25  Ond daliwch afael yn beth sydd gynnoch chi nes i mi ddod yn ôl.
Reve WelBeibl 2:26  Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr, ac yn dilyn fy esiampl i i'r diwedd un, yn cael awdurdod dros y cenhedloedd –
Reve WelBeibl 2:27  “Bydd yn teyrnasu arnyn nhw gyda theyrnwialen haearn; ac yn eu malu'n ddarnau fel malu llestri pridd.” Bydd ganddyn nhw yr un awdurdod ag a ges i gan fy Nhad.
Reve WelBeibl 2:29  Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’
Chapter 3
Reve WelBeibl 3:1  “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Sardis: ‘Dyma beth mae'r un y mae Ysbryd cyflawn perffaith Duw ganddo ac sy'n dal y saith seren yn ei ddweud: Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Mae gen ti enw dy fod yn eglwys fyw, ond corff marw wyt ti go iawn.
Reve WelBeibl 3:2  Deffra! Cryfha beth sy'n dal ar ôl cyn i hwnnw farw hefyd. Dydy beth rwyt ti'n ei wneud ddim yn dderbyniol gan Dduw.
Reve WelBeibl 3:3  Felly cofia beth wnest ti ei glywed a'i gredu gyntaf; gwna hynny, a throi yn ôl ata i. Os na fyddi di'n effro, bydda i'n dod fel lleidr. Fydd gen ti ddim syniad pryd fydda i'n dod.
Reve WelBeibl 3:4  Ac eto mae rhai pobl yn Sardis sydd heb faeddu eu dillad. Byddan nhw'n cerdded gyda mi wedi'u gwisgo mewn dillad gwyn. Dyna maen nhw'n ei haeddu.
Reve WelBeibl 3:5  Bydd pawb sy'n ennill y frwydr yn cael gwisgo dillad gwyn. Fydda i byth yn dileu eu henwau nhw o Lyfr y Bywyd. Bydda i'n dweud yn agored o flaen fy Nhad a'i angylion eu bod nhw'n perthyn i mi.
Reve WelBeibl 3:6  Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’
Reve WelBeibl 3:7  “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Philadelffia: ‘Dyma mae'r Un sanctaidd, yr Un gwir, yn ei ddweud. Mae allwedd teyrnas Dafydd ganddo, a does neb yn gallu cloi beth mae wedi'i agor, nac agor beth mae wedi'i gloi:
Reve WelBeibl 3:8  Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Edrych, dw i wedi agor drws i ti – drws fydd neb yn gallu ei gau. Dw i'n gwybod mai ychydig nerth sydd gen ti, ond rwyt ti wedi gwneud beth dw i'n ddweud a heb wadu dy fod ti'n credu ynof fi.
Reve WelBeibl 3:9  Bydda i'n gwneud i'r rhai sy'n perthyn i synagog Satan ddod â syrthio wrth dy draed di a chydnabod mai chi ydy'r bobl dw i wedi'u caru. Maen nhw'n honni bod yn bobl Dduw, ond dydyn nhw ddim go iawn; maen nhw'n dweud celwydd.
Reve WelBeibl 3:10  Am dy fod di wedi bod yn ufudd i'r gorchymyn i ddal ati, bydda i'n dy amddiffyn di rhag yr amser caled fydd y byd i gyd yn mynd drwyddo, pan fydd y rhai sy'n perthyn i'r ddaear ar brawf.
Reve WelBeibl 3:11  Edrych! Dw i'n dod yn fuan. Dal dy afael yn beth sydd gen ti, fel bod neb yn dwyn dy goron di.
Reve WelBeibl 3:12  Bydda i'n gwneud pawb sy'n ennill y frwydr yn biler yn nheml fy Nuw. Fyddan nhw byth yn ei gadael. Bydda i'n ysgrifennu enw fy Nuw arnyn nhw, ac enw dinas fy Nuw, sef y Jerwsalem newydd sy'n dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd; bydda i hefyd yn ysgrifennu fy enw newydd i arnyn nhw.
Reve WelBeibl 3:13  Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’
Reve WelBeibl 3:14  “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Laodicea: ‘Dyma beth mae'r Amen yn ei ddweud, y tyst ffyddlon, ffynhonnell cread Duw.
Reve WelBeibl 3:15  Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Ti ddim yn oer nac yn boeth! Byddwn i'n hoffi i ti fod y naill neu'r llall!
Reve WelBeibl 3:16  Ond gan dy fod yn llugoer, bydda i'n dy chwydu di allan.
Reve WelBeibl 3:17  Rwyt ti'n dweud, “Dw i'n gyfoethog; dw i wedi ennill cymaint o gyfoeth does gen i angen dim byd.” Ti ddim yn gweld mor druenus rwyt ti go iawn. Druan ohonot ti! Rwyt ti'n dlawd yn ddall ac yn noeth!
Reve WelBeibl 3:18  Dw i'n dy gynghori di i brynu aur gen i, aur wedi'i goethi drwy dân. Byddi di'n gyfoethog wedyn! A phryna ddillad gwyn i'w gwisgo, wedyn fydd dim rhaid i ti gywilyddio am dy fod yn noeth. A gelli brynu eli i'r llygaid hefyd, er mwyn i ti allu gweld eto!
Reve WelBeibl 3:19  Dw i'n ceryddu a disgyblu pawb dw i'n eu caru. Felly bwrw iddi o ddifri, a thro dy gefn ar bechod.
Reve WelBeibl 3:20  Edrych! Dw i yma! Dw i'n sefyll wrth y drws ac yn curo. Os bydd rhywun yn fy nghlywed i'n galw ac yn dod i agor y drws, dof i mewn i rannu pryd o fwyd gyda nhw.
Reve WelBeibl 3:21  Bydd pawb sy'n ennill y frwydr yn cael hawl i deyrnasu gyda mi ar fy ngorsedd, yn union fel wnes i ennill y frwydr, a theyrnasu gyda fy Nhad ar ei orsedd e.
Reve WelBeibl 3:22  Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’”
Chapter 4
Reve WelBeibl 4:1  Yna ces i weledigaeth. Roedd drws agored yn y nefoedd o mlaen i. A dyma'r llais rôn i wedi'i glywed yn siarad â mi ar y cychwyn (y llais hwnnw oedd fel sŵn utgorn), yn dweud: “Tyrd i fyny yma, a bydda i'n dangos i ti beth sy'n mynd i ddigwydd ar ôl hyn.”
Reve WelBeibl 4:2  Yn sydyn roeddwn i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, ac o mlaen i roeddwn i'n gweld gorsedd yn y nefoedd gyda rhywun yn eistedd arni.
Reve WelBeibl 4:3  Roedd yr Un oedd yn eistedd arni yn disgleirio fel gemau iasbis a sardion, ac roedd enfys hardd fel emrallt o gwmpas yr orsedd.
Reve WelBeibl 4:4  Roedd dau ddeg pedair gorsedd arall o'i chwmpas hefyd, gydag arweinydd ysbrydol yn eistedd ar bob un. Roedden nhw'n gwisgo dillad gwyn ac roedd coronau aur ar eu pennau.
Reve WelBeibl 4:5  Roedd mellt a sŵn taranau yn dod o'r orsedd, ac o'i blaen roedd saith lamp yn llosgi, sef Ysbryd cyflawn perffaith Duw.
Reve WelBeibl 4:6  Hefyd o flaen yr orsedd roedd rhywbeth tebyg i fôr o wydr, yn glir fel grisial. Yn y canol o gwmpas yr orsedd, roedd pedwar creadur byw gyda llygaid yn eu gorchuddio, o'r tu blaen a'r tu ôl.
Reve WelBeibl 4:7  Roedd y creadur cyntaf yn debyg i lew, yr ail yn debyg i lo, roedd gan y trydydd wyneb dynol, ac roedd y pedwerydd fel eryr yn hedfan.
Reve WelBeibl 4:8  Roedd gan bob un o'r creaduriaid chwe adain wedi'u gorchuddio'n llwyr gyda llygaid, hyd yn oed o dan yr adenydd. Roedden nhw'n siantio drosodd a throsodd, heb orffwys nos na dydd: “Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd ydy'r Arglwydd Dduw Hollalluog, yr Un oedd, ac sydd, ac sy'n mynd i ddod.”
Reve WelBeibl 4:9  Yna wrth i'r creaduriaid byw roi clod ac anrhydedd a diolch i'r Un sy'n eistedd ar yr orsedd, sef yr Un sy'n byw am byth bythoedd,
Reve WelBeibl 4:10  roedd y dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn ei addoli hefyd. Wrth osod eu coronau ar lawr o flaen yr orsedd roedden nhw'n dweud:
Reve WelBeibl 4:11  “Ein Harglwydd a'n Duw! Rwyt ti'n deilwng o'r clod a'r anrhydedd a'r nerth. Ti greodd bob peth, ac mae popeth wedi'u creu yn bodoli am mai dyna oeddet ti eisiau.”
Chapter 5
Reve WelBeibl 5:1  Yna gwelais fod sgrôl yn llaw dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd. Roedd ysgrifen ar ddwy ochr y sgrôl ac roedd wedi'i selio â saith sêl.
Reve WelBeibl 5:2  Wedyn gwelais angel pwerus yn cyhoeddi'n uchel, “Pwy sy'n deilwng i dorri'r seliau ar y sgrôl a'i hagor?”
Reve WelBeibl 5:3  Ond doedd neb yn y nefoedd na'r ddaear na than y ddaear yn gallu agor y sgrôl i'w darllen.
Reve WelBeibl 5:4  Dyma fi'n dechrau beichio crio am fod neb yn deilwng i agor y sgrôl a'i darllen.
Reve WelBeibl 5:5  Ond dyma un o'r arweinyddion ysbrydol yn dweud wrtho i, “Stopia grio! Edrych! Mae'r Llew o lwyth Jwda, disgynnydd y Brenin Dafydd, wedi ennill y frwydr. Mae e'n gallu torri'r saith sêl ac agor y sgrôl.”
Reve WelBeibl 5:6  Yna gwelais Oen oedd yn edrych fel petai wedi'i ladd. Roedd yn sefyll rhwng yr orsedd a'r pedwar creadur byw a'r arweinwyr ysbrydol oedd o'i chwmpas hi. Roedd ganddo saith corn a saith llygad (yn cynrychioli Ysbryd cyflawn perffaith Duw sydd wedi'i anfon allan drwy'r byd i gyd).
Reve WelBeibl 5:7  Aeth i gymryd y sgrôl o law dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd.
Reve WelBeibl 5:8  Ac wrth iddo gymryd y sgrôl, dyma'r pedwar creadur byw a'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr Oen. Roedd telyn gan bob un ohonyn nhw, ac roedden nhw'n dal powlenni aur yn llawn o arogldarth (sy'n cynrychioli gweddïau pobl Dduw).
Reve WelBeibl 5:9  Roedden nhw'n canu cân newydd: “Rwyt ti'n deilwng i gymryd y sgrôl ac i dorri y seliau, am dy fod ti wedi cael dy ladd yn aberth, ac wedi prynu pobl i Dduw â'th waed – pobl o bob llwyth ac iaith, hil a chenedl.
Reve WelBeibl 5:10  Rwyt wedi teyrnasu drostyn nhw a'u gwneud yn offeiriaid i wasanaethu ein Duw. Byddan nhw'n teyrnasu ar y ddaear.”
Reve WelBeibl 5:11  Yna yn y weledigaeth, clywais sŵn tyrfa enfawr o angylion – miloedd ar filoedd ohonyn nhw! … miliynau! Roedden nhw'n sefyll yn gylch o gwmpas yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r arweinwyr ysbrydol,
Reve WelBeibl 5:12  ac yn canu'n uchel: “Mae'r Oen gafodd ei ladd yn deilwng i dderbyn grym a chyfoeth, doethineb a nerth, anrhydedd, ysblander a mawl!”
Reve WelBeibl 5:13  Yna clywais bopeth byw yn y nefoedd ac ar y ddaear, tan y ddaear ac ar y môr – y cwbl i gyd – yn canu: “Clod ac anrhydedd, gogoniant a nerth am byth bythoedd, i'r Un sy'n eistedd ar yr orsedd, ac i'r Oen!”
Reve WelBeibl 5:14  “Amen!” meddai'r pedwar creadur byw, a dyma'r arweinwyr ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau i addoli.
Chapter 6
Reve WelBeibl 6:1  Rôn i'n gwylio'r Oen yn agor y gyntaf o'r saith sêl. A chlywais un o'r pedwar creadur byw yn galw'n uchel mewn llais oedd yn swnio fel taran, “Tyrd allan!”
Reve WelBeibl 6:2  Yn sydyn roedd ceffyl gwyn o mlaen i, a marchog ar ei gefn yn cario bwa a saeth. Cafodd ei goroni, ac yna aeth i ffwrdd ar gefn y ceffyl fel un oedd yn mynd i goncro'r gelyn, yn benderfynol o ennill y frwydr.
Reve WelBeibl 6:3  Pan agorodd yr Oen yr ail sêl, clywais yr ail greadur byw yn galw'n uchel, “Tyrd allan!”
Reve WelBeibl 6:4  Yna daeth ceffyl arall allan – un fflamgoch. Cafodd y marchog ar ei gefn awdurdod i gymryd heddwch o'r byd fel bod pobl yn lladd ei gilydd. Dyma gleddyf mawr yn cael ei roi iddo.
Reve WelBeibl 6:5  Pan agorodd yr Oen y drydedd sêl, clywais y trydydd creadur byw yn cyhoeddi'n uchel, “Tyrd allan!” Edrychais, ac yn sydyn roedd ceffyl du o mlaen i, a'r marchog ar ei gefn yn dal clorian yn ei law.
Reve WelBeibl 6:6  Yna clywais lais yn dod o ble roedd y pedwar creadur byw, yn cyhoeddi'n uchel: “Cyflog diwrnod llawn am lond dwrn o wenith, neu am ryw ychydig o haidd! Ond paid gwneud niwed i'r coed olewydd a'r gwinwydd!”
Reve WelBeibl 6:7  Pan agorodd yr Oen y bedwaredd sêl, clywais lais y pedwerydd creadur byw yn galw'n uchel, “Tyrd allan!”
Reve WelBeibl 6:8  Edrychais, ac yn sydyn roedd ceffyl llwyd o mlaen i! Marwolaeth oedd enw'r marchog oedd ar ei gefn, ac roedd Byd y Meirw yn dilyn yn glòs y tu ôl iddo. Dyma nhw'n cael awdurdod dros chwarter y ddaear – awdurdod i ladd gyda'r cleddyf, newyn a haint, ac anifeiliaid gwyllt.
Reve WelBeibl 6:9  Pan agorodd y bumed sêl, gwelais o dan yr allor y rhai oedd wedi cael eu lladd am gyhoeddi neges Duw yn ffyddlon.
Reve WelBeibl 6:10  Roedden nhw'n gweiddi'n uchel, “O Feistr Sofran, sanctaidd a gwir! Faint mwy sydd raid i ni aros cyn i ti farnu'r bobl sy'n perthyn i'r ddaear, a dial arnyn nhw am ein lladd ni?”
Reve WelBeibl 6:11  Yna dyma fantell wen yn cael ei rhoi i bob un ohonyn nhw. A gofynnwyd iddyn nhw aros ychydig yn hirach, nes i nifer cyflawn y rhai oedd yn gwasanaethu gyda nhw gyrraedd, sef y brodyr a'r chwiorydd fyddai'n cael eu lladd fel cawson nhw eu lladd.
Reve WelBeibl 6:12  Wrth i mi wylio'r Oen yn agor y chweched sêl buodd daeargryn mawr. Trodd yr haul yn ddu fel dillad galar, a'r lleuad yn goch i gyd fel gwaed.
Reve WelBeibl 6:13  Dyma'r sêr yn dechrau syrthio fel ffigys gwyrdd yn disgyn oddi ar goeden pan mae gwynt cryf yn chwythu.
Reve WelBeibl 6:14  Diflannodd yr awyr fel sgrôl yn cael ei rholio. A chafodd pob mynydd ac ynys eu symud o'u lle.
Reve WelBeibl 6:15  Aeth pawb i guddio mewn ogofâu a thu ôl i greigiau yn y mynyddoedd – brenhinoedd a'u prif swyddogion, arweinwyr milwrol, pobl gyfoethog, pobl bwerus, caethweision, dinasyddion rhydd – pawb!
Reve WelBeibl 6:16  Roedden nhw'n gweiddi ar y mynyddoedd a'r creigiau, “Syrthiwch arnon ni a'n cuddio ni o olwg yr Un sy'n eistedd ar yr orsedd, ac oddi wrth ddigofaint yr Oen!
Reve WelBeibl 6:17  Mae'r diwrnod mawr iddo ddangos mor ddig ydy e wedi dod! Pa obaith sydd i unrhyw un?”
Chapter 7
Reve WelBeibl 7:1  Wedyn ces i weledigaeth arall. Roedd pedwar angel yn sefyll ar gyrion eithaf y ddaear – gogledd, de, dwyrain a gorllewin. Roedden nhw'n dal y pedwar gwynt yn ôl. Doedd dim gwynt yn chwythu ar dir na môr, nac ar unrhyw goeden.
Reve WelBeibl 7:2  Wedyn dyma fi'n gweld angel arall yn codi o gyfeiriad y dwyrain. Roedd sêl y Duw byw ganddo, a gwaeddodd yn uchel ar y pedwar angel oedd wedi cael y gallu i wneud niwed i'r tir a'r môr:
Reve WelBeibl 7:3  “Peidiwch gwneud niwed i'r tir na'r môr na'r coed nes i ni roi marc gyda sêl Duw ar dalcen y rhai sy'n ei wasanaethu.”
Reve WelBeibl 7:4  Yna clywais faint o bobl oedd i gael eu marcio gyda'r sêl: cant pedwar deg pedwar o filoedd o bobl llwythau Israel:
Reve WelBeibl 7:5  Cafodd deuddeg mil eu marcio o lwyth Jwda, deuddeg mil o lwyth Reuben, deuddeg mil o lwyth Gad,
Reve WelBeibl 7:6  deuddeg mil o lwyth Aser, deuddeg mil o lwyth Nafftali, deuddeg mil o lwyth Manasse,
Reve WelBeibl 7:7  deuddeg mil o lwyth Simeon, deuddeg mil o lwyth Lefi, deuddeg mil o lwyth Issachar,
Reve WelBeibl 7:8  deuddeg mil o lwyth Sabulon, deuddeg mil o lwyth Joseff, a deuddeg mil o lwyth Benjamin.
Reve WelBeibl 7:9  Edrychais eto ac roedd tyrfa enfawr o bobl o mlaen i – tyrfa mor aruthrol fawr, doedd dim gobaith i neb hyd yn oed ddechrau eu cyfri! Roedden nhw'n dod o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith, ac yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen. Roedden nhw'n gwisgo mentyll gwynion, ac roedd canghennau palmwydd yn eu dwylo.
Reve WelBeibl 7:10  Roedden nhw'n gweiddi'n uchel: “Ein Duw sydd wedi'n hachub ni! – yr Un sy'n eistedd ar yr orsedd, a'r Oen!”
Reve WelBeibl 7:11  Roedd yr holl angylion yn sefyll o gwmpas yr orsedd ac o gwmpas yr arweinwyr ysbrydol a'r pedwar creadur byw. A dyma nhw'n syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr orsedd ac yn addoli Duw,
Reve WelBeibl 7:12  gan ddweud: “Amen! Y mawl a'r ysblander, y doethineb a'r diolch, yr anrhydedd a'r gallu a'r nerth – Duw biau'r cwbl oll, am byth bythoedd! Amen!”
Reve WelBeibl 7:13  Yna dyma un o'r arweinyddion ysbrydol yn gofyn i mi, “Wyt ti'n gwybod pwy ydy'r bobl hyn sy'n gwisgo mentyll gwynion, ac o ble maen nhw wedi dod?”
Reve WelBeibl 7:14  “Na, ti sy'n gwybod, syr”, meddwn innau. Yna meddai, “Dyma'r bobl sydd wedi dioddef yn y creisis mawr olaf. Maen nhw wedi golchi eu dillad yn lân yng ngwaed yr Oen.
Reve WelBeibl 7:15  Dyna pam maen nhw yma'n sefyll o flaen gorsedd Duw, ac yn ei wasanaethu yn ei deml ddydd a nos. Bydd yr Un sy'n eistedd ar yr orsedd yn eu cadw nhw'n saff.
Reve WelBeibl 7:16  Fyddan nhw byth eto'n dioddef o newyn na syched. Fyddan nhw byth eto yn cael eu llethu gan yr haul na gwynt poeth yr anialwch.
Reve WelBeibl 7:17  Oherwydd bydd yr Oen sydd wrth yr orsedd yn gofalu amdanyn nhw fel bugail, ac yn eu harwain nhw at ffynhonnau o ddŵr ffres y bywyd. A bydd Duw yn sychu pob deigryn o'u llygaid nhw.”
Chapter 8
Reve WelBeibl 8:1  Pan agorodd yr Oen y seithfed sêl, aeth pobman yn y nefoedd yn hollol dawel am tua hanner awr.
Reve WelBeibl 8:2  Wedyn gwelais utgyrn yn cael eu rhoi i'r saith angel sy'n sefyll o flaen Duw.
Reve WelBeibl 8:3  Yna dyma angel arall yn dod, ac yn mynd i sefyll wrth yr allor. Roedd ganddo lestr aur yn ei ddwylo i losgi arogldarth. Dyma bentwr o arogldarth yn cael ei roi iddo, i'w losgi ar yr allor aur o flaen yr orsedd, ac i'w gyflwyno i Dduw gyda gweddïau ei bobl.
Reve WelBeibl 8:4  Roedd mwg yr arogldarth a gweddïau pobl Dduw yn codi o law yr angel at Dduw.
Reve WelBeibl 8:5  Yna dyma'r angel yn llenwi'r llestr gyda marwor o'r allor ac yna'n ei daflu i lawr i'r ddaear; ac roedd sŵn taranau a mellt a daeargryn.
Reve WelBeibl 8:6  Dyma'r saith angel oedd â'r saith utgorn yn paratoi i'w canu.
Reve WelBeibl 8:7  Dyma'r angel cyntaf yn canu ei utgorn, a dyma genllysg a thân wedi'i gymysgu â gwaed yn cael ei hyrddio ar y ddaear. Cafodd un rhan o dair o'r ddaear ei llosgi, a'r coed a'r holl blanhigion yn y rhan yna o'r byd.
Reve WelBeibl 8:8  Dyma'r ail angel yn canu ei utgorn, a dyma rywbeth oedd yn edrych yn debyg i losgfynydd enfawr yn ffrwydro ac yn cael ei daflu i'r môr. Trodd un rhan o dair o'r môr yn waed,
Reve WelBeibl 8:9  lladdwyd un rhan o dair o'r creaduriaid byw yn y môr, a dinistriwyd un rhan o dair o'r llongau.
Reve WelBeibl 8:10  Dyma'r trydydd angel yn canu ei utgorn, a syrthiodd seren enfawr o'r awyr. Roedd yn llosgi'n fflamau wrth ddisgyn. Syrthiodd ar un rhan o dair o'r afonydd a'r ffynhonnau dŵr.
Reve WelBeibl 8:11  ‛Wermod‛ oedd enw'r seren, a trodd un rhan o dair o'r dŵr yn chwerw. Y canlyniad oedd fod llawer o bobl wedi marw am fod y dŵr wedi troi'n chwerw.
Reve WelBeibl 8:12  Dyma'r pedwerydd angel yn canu ei utgorn, a dyma un rhan o dair o'r haul a'r lleuad a'r sêr yn cael eu taro. Dyma un rhan o dair ohonyn nhw'n troi'n dywyll. Doedd dim golau am un rhan o dair o'r dydd, na'r nos chwaith.
Reve WelBeibl 8:13  Wedyn gwelais eryr yn hedfan yn uchel yn yr awyr, a'i glywed yn gweiddi'n uchel: “Gwae! Gwae! Gwae pawb sy'n perthyn i'r ddaear, o achos beth sy'n mynd i ddigwydd pan fydd y tri angel arall yn canu eu hutgyrn!”
Chapter 9
Reve WelBeibl 9:1  Yna dyma'r pumed angel yn canu ei utgorn, a gwelais seren oedd wedi syrthio o'r awyr i'r ddaear. Dyma allwedd y pwll sy'n arwain i'r pydew diwaelod yn cael ei roi iddi.
Reve WelBeibl 9:2  Pan agorodd y seren y pwll i'r pydew diwaelod daeth mwg allan ohono fel mwg yn dod o ffwrnais enfawr. Dyma'r mwg ddaeth allan o'r pwll yn achosi i'r haul a'r awyr fynd yn dywyll.
Reve WelBeibl 9:3  Yna dyma locustiaid yn dod allan o'r mwg i lawr ar y ddaear, ac roedd y gallu i ladd fel sgorpionau wedi'i roi iddyn nhw.
Reve WelBeibl 9:4  Dyma nhw'n cael gorchymyn i beidio gwneud niwed i'r glaswellt a'r planhigion a'r coed. Dim ond y bobl hynny oedd heb eu marcio ar eu talcennau gyda sêl Duw oedd i gael niwed.
Reve WelBeibl 9:5  Ond doedden nhw ddim i fod i ladd y bobl hynny, dim ond eu poenydio nhw am bum mis. (Roedd y poen yn debyg i'r poen mae rhywun sydd wedi cael pigiad gan sgorpion yn ei ddioddef.)
Reve WelBeibl 9:6  Bydd pobl eisiau marw, ond yn methu marw; byddan nhw'n dyheu am gael marw, ond bydd marwolaeth yn dianc o'u gafael nhw.
Reve WelBeibl 9:7  Roedd y locustiaid yn edrych yn debyg i geffylau yn barod i fynd i frwydr, ac roedden nhw'n gwisgo rhywbeth tebyg i goron aur ar eu pennau. Roedd ganddyn nhw wynebau tebyg i wyneb dynol,
Reve WelBeibl 9:8  a gwallt hir fel gwallt gwragedd. Roedd ganddyn nhw ddannedd fel dannedd llew.
Reve WelBeibl 9:9  Roedd eu dwyfron fel arfwisg, fel llurig haearn, ac roedd sŵn eu hadenydd fel sŵn llawer o geffylau a cherbydau rhyfel yn rhuthro i frwydr.
Reve WelBeibl 9:10  Roedd ganddyn nhw gynffonnau fel cynffon sgorpion, a'u pigiad yn gallu poenydio pobl am bum mis.
Reve WelBeibl 9:11  Angel y pydew diwaelod ydy eu brenin nhw – Abadon ydy'r enw Hebraeg arno, neu Apolyon (sef ‛Y Dinistrydd‛) yn yr iaith Roeg.
Reve WelBeibl 9:12  Mae'r trychineb cyntaf wedi digwydd; ond edrychwch, mae dau arall yn dod!
Reve WelBeibl 9:13  Dyma'r chweched angel yn canu ei utgorn. Yna clywais lais yn dod o'r lle roedd y cyrn ar bedair cornel yr allor aur sydd o flaen Duw.
Reve WelBeibl 9:14  Dwedodd y llais wrth y chweched angel oedd ag utgorn, “Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd wedi'u rhwymo wrth afon fawr Ewffrates.”
Reve WelBeibl 9:15  Yna dyma'r pedwar angel yn cael eu gollwng yn rhydd. Roedden nhw wedi'u cadw ar gyfer yr union awr hon ar yr union ddyddiad hwn, i ladd un rhan o dair o'r ddynoliaeth.
Reve WelBeibl 9:16  Dyma nhw'n arwain byddin o ddau gan miliwn o filwyr ar gefn ceffylau. Clywais y rhif! – dyna faint oedd yna.
Reve WelBeibl 9:17  Dyma sut olwg oedd ar y ceffylau a'r marchogion a welais i: Roedd llurig eu harfwisg yn goch fel tân, yn las tywyll ac yn felyn fel sylffwr. Roedd pennau'r ceffylau fel pennau llewod, ac roedd tân a mwg a brwmstan yn dod allan o'u cegau.
Reve WelBeibl 9:18  Cafodd un rhan o dair o'r ddynoliaeth eu lladd gan y plâu, sef y tân, y mwg a'r brwmstan oedd yn dod allan o'u cegau.
Reve WelBeibl 9:19  Ond roedd gan y ceffylau rym yn eu cynffonnau hefyd. Roedd eu cynffonnau yn debyg i nadroedd gyda phennau oedd yn gallu brathu ac anafu pobl.
Reve WelBeibl 9:20  Ond wnaeth gweddill y ddynoliaeth ddim troi cefn ar eu drygioni (sef y bobl hynny wnaeth y plâu ddim eu lladd). Roedden nhw'n dal i addoli cythreuliaid ac eilunod o aur, arian, efydd, carreg a phren – eilunod sy'n methu gweld na chlywed na cherdded!
Reve WelBeibl 9:21  Wnaethon nhw ddim troi cefn ar yr holl lofruddio, na'r ddewiniaeth, na'r anfoesoldeb rhywiol, na'r dwyn chwaith.
Chapter 10
Reve WelBeibl 10:1  Yna gwelais angel pwerus arall yn dod i lawr o'r nefoedd. Roedd cwmwl fel petai wedi'i lapio amdano, ac roedd enfys uwch ei ben. Roedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a'i goesau yn edrych fel colofnau o dân.
Reve WelBeibl 10:2  Roedd ganddo sgrôl fechan agored yn ei law. Gosododd ei droed dde ar y môr a'i droed chwith ar y tir sych.
Reve WelBeibl 10:3  Galwodd allan yn uchel fel llew yn rhuo. Wrth iddo weiddi, clywyd sŵn saith taran.
Reve WelBeibl 10:4  Pan glywyd sŵn y saith taran, roeddwn ar fin ysgrifennu'r cwbl i lawr, ond clywais lais o'r nefoedd yn dweud, “Cadw beth mae'r saith taran wedi'i ddweud yn gyfrinach; paid meiddio'i ysgrifennu i lawr!”
Reve WelBeibl 10:5  Yna dyma'r angel rôn i wedi'i weld yn sefyll ar y môr a'r tir yn codi ei law dde.
Reve WelBeibl 10:6  Aeth ar lw yn enw yr Un sy'n byw byth bythoedd, yr un a greodd yr awyr a'r ddaear a'r môr a phopeth sydd ynddyn nhw. Dwedodd: “Fydd dim mwy o oedi!
Reve WelBeibl 10:7  Pan fydd y seithfed angel yn canu ei utgorn, bydd cynllun dirgel Duw wedi'i gyflawni, yn union fel roedd wedi dweud wrth ei weision y proffwydi.”
Reve WelBeibl 10:8  Yna dyma'r llais o'r nefoedd yn siarad â mi unwaith eto: “Dos at yr angel sy'n sefyll ar y môr a'r tir, a chymer y sgrôl fach agored sydd ganddo yn ei law.”
Reve WelBeibl 10:9  Felly dyma fi'n mynd at yr angel ac yn gofyn iddo roi y sgrôl fechan i mi. Dyma'r angel yn dweud: “Cymer hi, a bwyta hi. Bydd yn troi'n chwerw yn dy stumog, ond bydd yn felys fel mêl yn dy geg.”
Reve WelBeibl 10:10  Dyma fi'n cymryd y sgrôl fechan o law yr angel ac yn ei bwyta. Roedd yn blasu'n felys fel mêl yn fy ngheg, ond ar ôl ei llyncu trodd yn chwerw yn fy stumog.
Reve WelBeibl 10:11  Yna dyma nhw'n dweud wrtho i: “Rwyt ti i broffwydo eto yn erbyn llawer iawn o bobloedd, cenhedloedd, ieithoedd a brenhinoedd.”
Chapter 11
Reve WelBeibl 11:1  Dyma wialen hir fel ffon fesur yn cael ei rhoi i mi, a dwedwyd wrtho i, “Dos i fesur teml Dduw a'r allor, a hefyd cyfri faint o bobl sy'n addoli yno.
Reve WelBeibl 11:2  Ond paid cynnwys y cwrt allanol, am fod hwnnw wedi'i roi i bobl o genhedloedd eraill. Byddan nhw'n cael rheoli'r ddinas sanctaidd am bedwar deg dau mis.
Reve WelBeibl 11:3  Yna bydda i'n rhoi awdurdod i'r ddau dyst sydd gen i, a byddan nhw'n gwisgo sachliain ac yn proffwydo am fil dau gant a chwe deg diwrnod.”
Reve WelBeibl 11:4  Nhw ydy'r ddwy goeden olewydd a'r ddwy ganhwyllbren sy'n sefyll o flaen Arglwydd y ddaear.
Reve WelBeibl 11:5  Os oes rhywun yn ceisio gwneud niwed iddyn nhw, mae tân yn dod allan o'u cegau ac yn dinistrio'u gelynion. Dyna sut mae unrhyw un sydd am wneud niwed iddyn nhw yn marw.
Reve WelBeibl 11:6  Maen nhw wedi cael yr awdurdod i wneud iddi beidio glawio yn ystod y cyfnod pan maen nhw'n proffwydo; ac mae ganddyn nhw'r gallu i droi dyfroedd yn waed ac i daro'r ddaear â phlâu mor aml â maen nhw eisiau.
Reve WelBeibl 11:7  Ond pan fydd yr amser iddyn nhw dystio ar ben, bydd yr anghenfil sy'n dod allan o'r pwll diwaelod yn ymosod arnyn nhw, ac yn eu trechu a'u lladd.
Reve WelBeibl 11:8  Bydd eu cyrff yn gorwedd ar brif stryd y ddinas fawr (sy'n cael ei galw yn broffwydol yn ‛Sodom‛ ac ‛Aifft‛) – y ddinas lle cafodd eu Harglwydd nhw ei groeshoelio.
Reve WelBeibl 11:9  Am dri diwrnod a hanner bydd pobl o bob hil, llwyth, iaith a chenedl yn edrych ar eu cyrff ac yn gwrthod eu claddu.
Reve WelBeibl 11:10  Bydd y bobl sy'n perthyn i'r ddaear wrth eu bodd ac yn dathlu a rhoi anrhegion i'w gilydd, am fod y ddau broffwyd yma wedi bod yn gymaint o boen iddyn nhw.
Reve WelBeibl 11:11  Ond, ar ôl tri diwrnod a hanner daeth anadl oddi wrth Dduw i roi bywyd ynddyn nhw, a dyma nhw'n sefyll ar eu traed. Roedd pawb welodd nhw wedi dychryn am eu bywydau.
Reve WelBeibl 11:12  Wedyn dyma nhw'n clywed llais pwerus o'r nefoedd yn dweud wrthyn nhw, “Dewch i fyny yma.” A dyma gwmwl yn eu codi nhw i fyny i'r nefoedd, tra oedd eu gelynion yn sefyll yn edrych ar y peth yn digwydd.
Reve WelBeibl 11:13  Y funud honno buodd daeargryn mawr a chafodd un rhan o ddeg o'r ddinas ei dinistrio. Cafodd saith mil o bobl eu lladd gan y daeargryn. Roedd pawb oedd yn dal yn fyw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n dechrau clodfori Duw'r nefoedd mewn panig.
Reve WelBeibl 11:14  Mae'r ail drychineb wedi digwydd; ond edrychwch mae trydydd ar fin dod.
Reve WelBeibl 11:15  Dyma'r seithfed angel yn canu utgorn, ac roedd lleisiau uchel yn y nefoedd yn dweud: “Mae teyrnas y byd wedi dod yn deyrnas ein Harglwydd a'i Feseia, a bydd yn teyrnasu am byth bythoedd.”
Reve WelBeibl 11:16  A dyma'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol, oedd yn eistedd ar eu gorseddau o flaen Duw, yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw,
Reve WelBeibl 11:17  gan ddweud: “Diolch i ti, Arglwydd Dduw Hollalluog, yr Un sydd ac oedd, am gymryd yr awdurdod sydd gen ti a dechrau teyrnasu.
Reve WelBeibl 11:18  Roedd y cenhedloedd wedi gwylltio; ond nawr mae'n amser i ti fod yn ddig. Mae'r amser wedi dod i farnu y rhai sydd wedi marw, ac i wobrwyo dy weision y proffwydi a'th bobl dy hun, a'r rhai sy'n parchu dy enw di, yn fawr a bach – a hefyd i ddinistrio'n llwyr y rhai hynny sy'n dinistrio'r ddaear.”
Reve WelBeibl 11:19  Yna dyma ddrysau teml Dduw yn y nefoedd yn agor, ac roedd modd gweld arch yr ymrwymiad y tu mewn iddi. Ac roedd mellt a sŵn taranau a daeargryn a storm fawr o genllysg.
Chapter 12
Reve WelBeibl 12:1  Dyma arwydd rhyfeddol yn ymddangos yn y nefoedd: gwraig wedi'i gwisgo â'r haul. Roedd y lleuad dan ei thraed ac roedd coron o saith seren ar ei phen.
Reve WelBeibl 12:2  Roedd y wraig yn feichiog ac yn gweiddi mewn poen am fod y plentyn wedi dechrau cael ei eni.
Reve WelBeibl 12:3  A dyma arwydd arall yn ymddangos yn y nefoedd: draig goch enfawr oedd â saith pen ganddi, a deg corn, a saith coron ar ei phennau.
Reve WelBeibl 12:4  Dyma gynffon y ddraig yn ysgubo un rhan o dair o'r sêr o'r awyr ac yn eu taflu i'r ddaear. Safodd y ddraig o flaen y wraig oedd ar fin geni plentyn, yn barod i lyncu ei phlentyn yr eiliad y byddai yn cael ei eni.
Reve WelBeibl 12:5  Cafodd y wraig fab – bachgen fydd yn teyrnasu dros yr holl genhedloedd gyda theyrnwialen haearn. Dyma'r plentyn yn cael ei gipio i fyny at Dduw ac at ei orsedd.
Reve WelBeibl 12:6  Dyma'r wraig yn dianc i'r anialwch i le oedd Duw wedi'i baratoi iddi, lle byddai hi'n ddiogel am fil dau gant chwe deg diwrnod.
Reve WelBeibl 12:7  Yna dyma ryfel yn cychwyn yn y nefoedd. Roedd Michael a'i angylion yn ymladd yn erbyn y ddraig. Roedd y ddraig a'i hangylion yn ymladd yn ôl,
Reve WelBeibl 12:8  ond doedd hi ddim digon cryf, a dyma nhw'n colli eu lle yn y nefoedd.
Reve WelBeibl 12:9  Dyma'r ddraig fawr yn cael ei hyrddio i lawr (sef yr hen sarff sy'n cael ei galw ‛y diafol‛ a ‛Satan‛ ac sy'n twyllo'r byd i gyd). Cafodd ei hyrddio i lawr i'r ddaear, a'i hangylion gyda hi.
Reve WelBeibl 12:10  Yna clywais lais uchel yn y nefoedd yn dweud: “Mae Duw wedi achub, cymryd y grym, a dod i deyrnasu, ac mae'r awdurdod gan ei Feseia. Oherwydd mae cyhuddwr y brodyr a'r chwiorydd (yr un oedd yn eu cyhuddo nhw o flaen Duw ddydd a nos), wedi cael ei hyrddio i lawr.
Reve WelBeibl 12:11  Maen nhw wedi ennill y frwydr am fod yr Oen wedi marw'n aberth, ac am iddyn nhw dystio i'r neges. Dim ceisio amddiffyn eu hunain wnaeth y rhain – doedd ganddyn nhw ddim ofn marw.
Reve WelBeibl 12:12  Felly bydd lawen nefoedd! Llawenhewch bawb sy'n byw yno! Ond gwae chi'r ddaear a'r môr, oherwydd mae'r diafol wedi dod i lawr atat, ac wedi gwylltio'n gandryll, am ei fod yn gwybod mai ychydig amser sydd ganddo ar ôl.”
Reve WelBeibl 12:13  Pan sylweddolodd y ddraig ei bod wedi cael ei hyrddio i'r ddaear dyma hi'n erlid ar ôl y wraig oedd wedi rhoi genedigaeth i'r bachgen.
Reve WelBeibl 12:14  Ond cafodd adenydd eryr mawr eu rhoi i'r wraig, iddi allu hedfan i'r lle oedd wedi'i baratoi iddi yn yr anialwch. Yno byddai hi'n saff allan o gyrraedd y ddraig am dair blynedd a hanner.
Reve WelBeibl 12:15  Yna dyma'r sarff yn chwydu dŵr fel afon i geisio dal y wraig a'u hysgubo i ffwrdd gyda'r llif.
Reve WelBeibl 12:16  Ond dyma'r ddaear yn helpu'r wraig drwy agor a llyncu yr afon oedd y ddraig wedi'i chwydu o'i cheg.
Reve WelBeibl 12:17  Roedd y ddraig yn wyllt gynddeiriog gyda'r wraig, ac aeth allan i ryfela yn erbyn gweddill ei phlant – yn erbyn y rhai sy'n ufudd i orchmynion Duw ac yn dal ati i dystio i Iesu.
Chapter 13
Reve WelBeibl 13:1  a gwelais anghenfil yn dod allan o'r môr. Roedd ganddo ddeg corn a saith pen. Roedd coron ar bob un o'i gyrn, ac enw cableddus ar bob un o'i bennau.
Reve WelBeibl 13:2  Roedd yr anghenfil yn debyg i lewpard, ond roedd ei draed fel pawennau arth a'i geg fel ceg llew. Dyma'r ddraig yn rhoi iddo ei grym a'i gorsedd a'i hawdurdod mawr.
Reve WelBeibl 13:3  Roedd un o bennau'r anghenfil yn edrych fel petai wedi derbyn anaf marwol, ond roedd yr anaf wedi cael ei iacháu. Roedd pobl y byd i gyd wedi'u syfrdanu gan hyn ac yn dilyn yr anghenfil.
Reve WelBeibl 13:4  Roedden nhw'n addoli y ddraig am mai hi oedd wedi rhoi awdurdod i'r anghenfil, ac roedden nhw hefyd yn addoli yr anghenfil. Roedden nhw'n siantio, “Pwy sydd fel yr anghenfil? Does neb yn gallu ei ymladd e!”
Reve WelBeibl 13:5  Cafodd yr anghenfil siarad, ac roedd yn brolio ac yn cablu. Cafodd hawl i ddefnyddio'i awdurdod am bedwar deg dau o fisoedd.
Reve WelBeibl 13:6  Bob tro roedd yn agor ei geg roedd yn cablu Duw ac yn enllibio ei enw a'i gysegr a phawb sydd â'u cartref yn y nefoedd.
Reve WelBeibl 13:7  Cafodd ganiatâd i ryfela yn erbyn pobl Dduw ac i'w concro nhw, a chafodd awdurdod dros bob llwyth, hil, iaith a chenedl.
Reve WelBeibl 13:8  Yn wir, bydd pawb sy'n perthyn i'r ddaear yn addoli'r anghenfil – pawb dydy eu henwau nhw ddim wedi'u cofnodi yn Llyfr y Bywyd ers i'r byd gael ei greu (sef llyfr yr Oen gafodd ei ladd yn aberth).
Reve WelBeibl 13:10  Y rhai sydd i gael eu caethiwo, byddan nhw'n cael eu caethiwo. Y rhai sydd i gael eu lladd â'r cleddyf, byddan nhw'n cael eu lladd â'r cleddyf. Mae hyn yn dangos bod rhaid i bobl Dduw ddangos dycnwch a bod yn ffyddlon.
Reve WelBeibl 13:11  Gwelais anghenfil arall wedyn, yn codi o'r ddaear. Roedd ganddo ddau gorn yr un fath ag oen, ond roedd yn swnio fel draig.
Reve WelBeibl 13:12  Roedd yn gweinyddu holl awdurdod yr anghenfil cyntaf ar ei ran. Roedd yn gwneud i bawb oedd yn byw ar y ddaear addoli yr anghenfil cyntaf, sef yr un â'r anaf marwol oedd wedi cael ei iacháu.
Reve WelBeibl 13:13  Roedd yn gwneud gwyrthiau anhygoel – hyd yn oed yn gwneud i dân ddisgyn o'r nefoedd i'r ddaear o flaen llygaid pawb.
Reve WelBeibl 13:14  Am ei fod yn gallu gwneud gwyrthiau ar ran yr anghenfil cyntaf, llwyddodd i dwyllo pawb oedd yn perthyn i'r ddaear. Rhoddodd orchymyn iddyn nhw godi delw er anrhydedd i'r anghenfil cyntaf oedd wedi'i anafu â'r cleddyf ac eto'n dal yn fyw.
Reve WelBeibl 13:15  Ond hefyd cafodd y gallu i roi anadl i'r ddelw o'r anghenfil cyntaf, fel bod hwnnw'n gallu siarad a gwneud i bawb oedd yn gwrthod addoli'r ddelw gael eu lladd.
Reve WelBeibl 13:16  Roedd hefyd yn gorfodi pawb i gael marc ar eu llaw dde ac ar eu talcen – ie, pawb, yn fach a mawr, cyfoethog a thlawd, dinasyddion rhydd a chaethweision.
Reve WelBeibl 13:17  Doedd neb yn gallu prynu a gwerthu oni bai fod ganddyn nhw'r marc, sef enw'r anghenfil neu'r rhif sy'n cyfateb i'w enw.
Reve WelBeibl 13:18  Mae angen doethineb i ddeall hyn. Bydd y rhai sydd â dirnadaeth yn deall beth ydy ystyr rhif yr anghenfil – mae'n cynrychioli person arbennig. Y rhif ydy chwe chant chwe deg chwech.
Chapter 14
Reve WelBeibl 14:1  Edrychais wedyn, a dyma welais: yr Oen yn sefyll ar Fynydd Seion. Roedd cant pedwar deg pedair mil o bobl gydag e, ac roedd ei enw e ac enw ei Dad ar eu talcennau.
Reve WelBeibl 14:2  Yna clywais sŵn o'r nefoedd oedd yn debyg i raeadrau o ddŵr neu daran uchel. Sŵn telynorion yn canu eu telynau oedd e.
Reve WelBeibl 14:3  Dyna ble roedden nhw, yn canu cân newydd o flaen yr orsedd a'r pedwar creadur byw a'r arweinwyr ysbrydol. Dim ond y cant pedwar deg pedair mil o bobl oedd wedi'u rhyddhau o'r ddaear oedd yn gallu dysgu'r gân hon.
Reve WelBeibl 14:4  Dyma'r rhai sydd wedi cadw eu hunain yn bur, a heb halogi eu hunain gyda gwragedd. Maen nhw'n dilyn yr Oen ble bynnag mae e'n mynd. Maen nhw wedi cael eu prynu i ryddid o blith y ddynoliaeth a'u cyflwyno i Dduw a'r Oen fel ffrwythau cyntaf y cynhaeaf.
Reve WelBeibl 14:5  Wnaethon nhw ddim dweud celwydd. Maen nhw'n gwbl ddi-fai.
Reve WelBeibl 14:6  Wedyn gwelais angel arall yn hedfan yn uchel yn yr awyr, ac roedd ganddo neges dragwyddol i'w chyhoeddi i bawb sy'n byw ar y ddaear; i bobl o bob cenedl, llwyth, iaith, a hil.
Reve WelBeibl 14:7  Roedd yn cyhoeddi'n uchel, “Ofnwch Dduw, a rhoi'r clod iddo! Mae'r amser iddo farnu wedi dod. Addolwch yr Un greodd y nefoedd, y ddaear, y môr a'r ffynhonnau dŵr!”
Reve WelBeibl 14:8  Dyma ail angel yn ei ddilyn gan gyhoeddi hyn: “Mae wedi syrthio! Mae Babilon fawr wedi syrthio! – yr un wnaeth i'r holl genhedloedd yfed gwin ei chwant anfoesol nwydwyllt.”
Reve WelBeibl 14:9  Yna daeth trydydd angel ar eu hôl yn cyhoeddi'n uchel: “Pwy bynnag sy'n addoli'r anghenfil a'i ddelw, ac sydd â'i farc ar eu talcen neu ar eu llaw,
Reve WelBeibl 14:10  bydd rhaid iddyn nhw yfed gwin digofaint Duw. Mae'n win cryf ac wedi'i dywallt i gwpan ei lid. Byddan nhw'n cael eu poenydio gyda thân a brwmstan yng ngwydd yr angylion sanctaidd a'r Oen.
Reve WelBeibl 14:11  A bydd y mwg o'r tân sy'n eu poenydio yn codi am byth bythoedd. Fydd dim gorffwys o gwbl i'r rhai sy'n addoli'r anghenfil a'i ddelw, nac i unrhyw un sydd wedi'i farcio â'i enw.”
Reve WelBeibl 14:12  Mae hyn yn dangos fod dycnwch pobl Dduw yn golygu bod yn ufudd i orchmynion Duw ac aros yn ffyddlon i Iesu.
Reve WelBeibl 14:13  Wedyn clywais lais o'r nefoedd yn dweud: “Ysgrifenna hyn: Mae'r bobl sydd wedi marw ar ôl dod i berthyn i'r Arglwydd wedi'u bendithio'n fawr!” “Ydyn wir!” meddai'r Ysbryd, “Byddan nhw'n gorffwys o'u gwaith caled. A bydd cofnod o beth wnaethon nhw yn mynd ar eu holau.”
Reve WelBeibl 14:14  Edrychais eto, ac roedd cwmwl gwyn o mlaen i. Roedd un “oedd yn edrych fel person dynol” yn eistedd ar y cwmwl; roedd ganddo goron o aur am ei ben a chryman miniog yn ei law.
Reve WelBeibl 14:15  Yna daeth angel arall allan o'r deml a galw'n uchel ar yr un oedd yn eistedd ar y cwmwl, “Defnyddia dy gryman i ddechrau medi'r cynhaeaf! Mae cynhaeaf y ddaear yn aeddfed ac mae'n amser medi.”
Reve WelBeibl 14:16  Felly dyma'r un oedd yn eistedd ar y cwmwl yn defnyddio'i gryman ar y ddaear ac yn casglu'r cynhaeaf.
Reve WelBeibl 14:17  Daeth angel arall allan o'r deml yn y nefoedd, ac roedd ganddo yntau gryman miniog.
Reve WelBeibl 14:18  Yna daeth angel arall eto allan o'r cysegr (yr un oedd yn gofalu am y tân ar yr allor). Galwodd yn uchel ar yr angel oedd â'r cryman miniog ganddo, “Defnyddia dy gryman i gasglu y sypiau grawnwin o winwydden y ddaear. Mae ei ffrwyth yn aeddfed.”
Reve WelBeibl 14:19  Felly dyma'r angel yn defnyddio'i gryman ar y ddaear, ac yn casglu'r cynhaeaf grawnwin a'i daflu i mewn i winwryf mawr digofaint Duw.
Reve WelBeibl 14:20  Cafodd y gwinwryf ei sathru y tu allan i waliau'r ddinas, a llifodd gwaed allan ohono. Roedd cymaint o waed nes ei fod mor uchel â ffrwynau ceffylau am bellter o tua 300 cilomedr.
Chapter 15
Reve WelBeibl 15:1  Gwelais arwydd arall yn y nefoedd, un anhygoel a rhyfeddol: Saith angel gyda'r saith pla olaf. Y plâu yma fyddai'r mynegiant olaf o ddigofaint Duw.
Reve WelBeibl 15:2  A gwelais rywbeth oedd yn edrych yn debyg i fôr o wydr a thân fel petai'n ymledu drwyddo. Ar lan y môr o wydr safai'r bobl oedd wedi ennill y frwydr yn erbyn yr anghenfil a'i ddelw, a hefyd y rhif oedd yn cyfateb i'w enw. Roedd ganddyn nhw delynau roedd Duw wedi'u rhoi iddyn nhw,
Reve WelBeibl 15:3  ac roedden nhw'n canu cân Moses, gwas Duw, a chân yr Oen: “Mae popeth rwyt yn ei wneud mor anhygoel a rhyfeddol Arglwydd Dduw Hollalluog. Mae beth rwyt yn ei wneud yn gyfiawn a theg, Frenin pob oes.
Reve WelBeibl 15:4  Pwy fyddai ddim yn dy barchu di, a chanmol dy enw di, Arglwydd? Oherwydd dim ond ti sy'n sanctaidd. Bydd pobl y gwledydd i gyd yn dod i addoli o dy flaen di, oherwydd mae'n amlwg fod beth wnaethost ti yn gyfiawn.”
Reve WelBeibl 15:5  Yna ces i weledigaeth arall. Roedd y deml, sef ‛pabell y dystiolaeth‛, ar agor yn y nefoedd.
Reve WelBeibl 15:6  Allan ohoni daeth y saith angel gyda'r saith pla. Roedden nhw wedi'u gwisgo mewn lliain glân disglair, gyda sash aur am eu canol.
Reve WelBeibl 15:7  Wedyn dyma un o'r pedwar creadur byw yn rhoi powlen aur i bob un o'r saith angel. Roedd y powlenni yn llawn o ddigofaint y Duw sy'n byw am byth bythoedd.
Reve WelBeibl 15:8  Yna dyma fwg ysblander a nerth Duw yn llenwi'r deml. Doedd neb yn gallu mynd i mewn i'r deml nes i saith pla y saith angel ddigwydd.
Chapter 16
Reve WelBeibl 16:1  Wedyn clywais lais o'r deml yn dweud yn glir wrth y saith angel, “Ewch! Tywalltwch saith powlen digofaint Duw ar y ddaear!”
Reve WelBeibl 16:2  Dyma'r angel cyntaf yn mynd ac yn tywallt beth oedd yn ei fowlen ar y tir. Dyma friwiau cas yn dod i'r golwg ar gyrff y bobl hynny oedd â marc yr anghenfil arnyn nhw ac oedd yn addoli ei ddelw.
Reve WelBeibl 16:3  Yna dyma'r ail angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar y môr, a throdd fel gwaed rhywun oedd wedi marw. Dyma bopeth yn y môr yn marw.
Reve WelBeibl 16:4  Yna dyma'r trydydd angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen ar yr afonydd a'r ffynhonnau dŵr, a dyma nhw'n troi'n waed.
Reve WelBeibl 16:5  A dyma fi'n clywed yr angel oedd yn gyfrifol am y dyfroedd yn dweud: “Rwyt ti'n gyfiawn wrth gosbi fel hyn – yr Un sydd, ac oedd – yr Un Sanctaidd!
Reve WelBeibl 16:6  Maen nhw wedi tywallt gwaed dy bobl di a'th broffwydi, ac rwyt ti wedi rhoi gwaed iddyn nhw ei yfed. Dyna maen nhw yn ei haeddu!”
Reve WelBeibl 16:7  A dyma fi'n clywed rhywun o'r allor yn ateb: “Ie wir, Arglwydd Dduw Hollalluog, mae dy ddyfarniad di bob amser yn deg ac yn gyfiawn.”
Reve WelBeibl 16:8  Dyma'r pedwerydd angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar yr haul, a dyma'r haul yn cael y gallu i losgi pobl gyda'i wres.
Reve WelBeibl 16:9  Ond y cwbl wnaeth y bobl gafodd eu llosgi'n y gwres tanbaid oedd melltithio enw Duw, yr Un oedd yn rheoli'r plâu. Roedden nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd a rhoi'r clod iddo.
Reve WelBeibl 16:10  Yna dyma'r pumed angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar orsedd yr anghenfil, a dyma'i deyrnas yn cael ei bwrw i dywyllwch dudew. Roedd pobl yn brathu eu tafodau mewn poen
Reve WelBeibl 16:11  ac yn melltithio Duw'r nefoedd o achos y poen a'r briwiau ar eu cyrff. Ond roedden nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd a throi cefn ar beth roedden nhw'n ei wneud.
Reve WelBeibl 16:12  Yna dyma'r chweched angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar afon fawr Ewffrates. Sychodd yr afon fel bod brenhinoedd o'r dwyrain yn gallu ei chroesi.
Reve WelBeibl 16:13  Wedyn gwelais dri ysbryd drwg oedd yn edrych rywbeth tebyg i lyffantod. Daethon nhw allan o geg y ddraig, a cheg yr anghenfil a cheg y proffwyd ffug.
Reve WelBeibl 16:14  Ysbrydion cythreulig ydyn nhw, a'r gallu ganddyn nhw i wneud gwyrthiau rhyfeddol. Dyma nhw'n mynd allan at frenhinoedd y ddaear i'w casglu at ei gilydd i ymladd yn y frwydr olaf ar ddiwrnod mawr y Duw Hollalluog.
Reve WelBeibl 16:15  “Edrychwch! Dw i'n dod fel lleidr!” meddai Iesu. “Bydd y rhai sy'n cadw'n effro yn cael eu bendithio'n fawr! Bydd dillad ganddyn nhw, a fyddan nhw ddim yn cerdded o gwmpas yn noeth ac yn teimlo cywilydd pan fydd pobl yn edrych arnyn nhw.”
Reve WelBeibl 16:16  Felly dyma'r ysbrydion drwg yn casglu'r brenhinoedd at ei gilydd i'r lle sy'n cael ei alw yn Hebraeg yn Armagedon.
Reve WelBeibl 16:17  Dyma'r seithfed angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e i'r awyr, a dyma lais uchel o'r orsedd yn y deml yn dweud, “Dyna'r diwedd!”
Reve WelBeibl 16:18  Ac roedd mellt a sŵn taranau a daeargryn mawr. Fuodd yna erioed ddaeargryn mor ofnadwy yn holl hanes y byd – roedd yn aruthrol!
Reve WelBeibl 16:19  Dyma'r ddinas fawr yn hollti'n dair, a dyma ddinasoedd y cenhedloedd i gyd yn cael eu chwalu. Cofiodd Duw beth oedd Babilon fawr wedi'i wneud a rhoddodd iddi y gwpan oedd yn llawn o win ei ddigofaint ffyrnig.
Reve WelBeibl 16:20  Diflannodd pob ynys a doedd dim mynyddoedd i'w gweld yn unman.
Reve WelBeibl 16:21  Yna dyma genllysg anferthol yn disgyn ar bobl o'r awyr – yn pwyso tua 40 cilogram yr un! Roedd y bobl yn melltithio Duw o achos y pla o genllysg, am fod y pla mor ofnadwy.
Chapter 17
Reve WelBeibl 17:1  Dyma un o'r saith angel gyda'r powlenni yn dod ata i, a dweud, “Tyrd, a gwna i ddangos i ti y gosb mae'r butain fawr sy'n eistedd ar ddyfroedd lawer yn ei ddioddef.
Reve WelBeibl 17:2  Mae brenhinoedd y ddaear wedi cael rhyw gyda hi, a phobl y byd i gyd wedi meddwi ar win ei hanfoesoldeb.”
Reve WelBeibl 17:3  Dyma'r angel yn fy nghodi fi dan ddylanwad yr Ysbryd a mynd â fi i anialwch. Yno gwelais wraig yn eistedd ar gefn anghenfil ysgarlad. Roedd gan yr anghenfil saith pen a deg corn, ac roedd wedi'i orchuddio gydag enwau cableddus.
Reve WelBeibl 17:4  Roedd y wraig yn gwisgo gwisg o borffor ac ysgarlad, ac wedi addurno ei hun gyda thlysau o aur a gemau gwerthfawr a pherlau. Roedd ganddi gwpan aur yn ei llaw, yn llawn o bethau ffiaidd a budreddi ei hanfoesoldeb.
Reve WelBeibl 17:5  Ar ei thalcen roedd teitl cryptig wedi'i ysgrifennu: BABILON FAWR, MAM PUTEINIAID A PHETHAU FFIAIDD Y DDAEAR
Reve WelBeibl 17:6  Gwelais fod y wraig wedi meddwi ar waed pobl Dduw, sef gwaed y bobl hynny oedd wedi bod yn dystion i Iesu. Pan welais hi roeddwn i'n gwbl ddryslyd.
Reve WelBeibl 17:7  A dyma'r angel yn gofyn i mi, “Pam wyt ti'n teimlo'n ddryslyd? Gad i mi esbonio i ti ystyr cudd y wraig a'r anghenfil mae hi'n eistedd ar ei gefn, yr un gyda'r saith pen a'r deg corn.
Reve WelBeibl 17:8  Roedd yr anghenfil welaist ti yn fyw ar un adeg, ond ddim bellach. Ond mae ar fin dod allan o'r pydew diwaelod i gael ei ddinistrio. Bydd pawb sy'n perthyn i'r ddaear (y rhai dydy eu henwau nhw ddim wedi'u cofnodi yn Llyfr y Bywyd ers i'r byd gael ei greu), yn syfrdan pan fyddan nhw'n gweld yr anghenfil oedd yn fyw ar un adeg, ond ddim mwyach, ac sy'n mynd i ddod yn ôl eto.
Reve WelBeibl 17:9  Mae angen meddwl craff a dirnadaeth i ddeall hyn. Saith bryn ydy'r saith pen mae'r wraig yn eistedd arnyn nhw. Maen nhw hefyd yn cynrychioli saith brenin.
Reve WelBeibl 17:10  Mae pump ohonyn nhw eisoes wedi syrthio, mae un yn frenin ar hyn o bryd, ac mae'r llall heb ddod eto. Pan fydd hwnnw'n dod, fydd e ond yn aros am amser byr.
Reve WelBeibl 17:11  Yr anghenfil oedd yn fyw ar un adeg, ond ddim bellach, ydy'r wythfed brenin (y mae yntau yr un fath â'r saith, ac yn mynd i gael ei ddinistrio).
Reve WelBeibl 17:12  “Mae'r deg corn welaist ti yn cynrychioli deg brenin sydd heb deyrnasu eto, ond byddan nhw'n cael awdurdod i deyrnasu gyda'r anghenfil am amser byr.
Reve WelBeibl 17:13  Maen nhw i gyd yn rhannu'r un bwriad, a byddan nhw'n rhoi eu hawdurdod i'r anghenfil.
Reve WelBeibl 17:14  Byddan nhw'n rhyfela yn erbyn yr Oen, ond bydd yr Oen yn ennill y frwydr am ei fod yn Arglwydd ar arglwyddi ac yn Frenin ar frenhinoedd. A bydd ei ddilynwyr ffyddlon – y rhai sydd wedi'u galw a'u dewis ganddo – yn rhannu'r fuddugoliaeth gydag e.”
Reve WelBeibl 17:15  Wedyn dyma'r angel yn mynd ymlaen i ddweud hyn wrtho i: “Mae'r dyfroedd welaist ti, lle mae'r butain yn eistedd, yn cynrychioli'r gwahanol bobloedd, tyrfaoedd, cenhedloedd ac ieithoedd.
Reve WelBeibl 17:16  Bydd y deg corn welaist ti, a'r anghenfil hefyd, yn dod i gasáu y butain. Byddan nhw yn ei dinistrio hi'n llwyr ac yn ei gadael yn gwbl noeth; byddan nhw'n llarpio ei chnawd ac yn ei llosgi â thân.
Reve WelBeibl 17:17  Mae Duw wedi plannu'r syniad yn eu meddyliau nhw er mwyn cyflawni ei bwrpas, a hefyd wedi'u cael nhw i rannu'r un bwriad ac i roi eu hawdurdod brenhinol i'r anghenfil, nes bydd beth ddwedodd Duw yn dod yn wir.
Reve WelBeibl 17:18  Y wraig welaist ti ydy'r ddinas fawr sy'n llywodraethu dros frenhinoedd y ddaear.”
Chapter 18
Reve WelBeibl 18:1  Yna gwelais angel arall yn dod i lawr o'r nefoedd. Roedd ganddo awdurdod mawr, ac roedd ei ysblander yn goleuo'r ddaear.
Reve WelBeibl 18:2  Cyhoeddodd yn uchel: “Mae wedi syrthio! Mae Babilon fawr wedi syrthio! Mae wedi troi'n gartref i gythreuliaid ac yn gyrchfan i'r holl ysbrydion drwg ac i bob aderyn aflan, ac i bob anifail aflan a ffiaidd.
Reve WelBeibl 18:3  Mae'r holl genhedloedd wedi yfed gwin ei chwant anfoesol nwydwyllt. Mae brenhinoedd y ddaear wedi cael rhyw gyda'r butain, ac mae pobl fusnes y ddaear wedi ennill cyfoeth mawr o'i moethusrwydd eithafol.”
Reve WelBeibl 18:4  Wedyn clywais lais arall o'r nefoedd yn dweud: “Fy mhobl, dewch allan o'r ddinas, er mwyn i chi beidio pechu gyda hi. Wedyn bydd y plâu fydd yn dod i'w chosbi hi ddim yn eich cyffwrdd chi.
Reve WelBeibl 18:5  Mae ei phechodau hi yn bentwr anferth i'r nefoedd, ac mae Duw wedi cofio ei holl droseddau hi.
Reve WelBeibl 18:6  Gwna iddi hi beth mae hi wedi'i wneud i eraill; tala nôl iddi ddwywaith cymaint ag mae wedi'i wneud. Rho iddi siâr ddwbl o'i ffisig ei hun!
Reve WelBeibl 18:7  Yn lle'r ysblander a'r moethusrwydd gymerodd iddi'i hun, rho'r un mesur o boen a gofid iddi hi. Mae hi mor siŵr ohoni hi ei hun! ‘Brenhines ydw i, yn eistedd ar orsedd; fydda i ddim yn weddw, a fydd dim rhaid i mi alaru byth!’ meddai.
Reve WelBeibl 18:8  Dyna'n union pam bydd y plâu yn ei tharo'n sydyn: marwolaeth, galar a newyn. Bydd yn cael ei dinistrio gan dân, oherwydd mae'r Arglwydd Dduw sy'n ei barnu hi yn Dduw grymus!
Reve WelBeibl 18:9  “Bydd brenhinoedd y ddaear gafodd ryw gyda'r butain a rhannu ei moethusrwydd, yn crio'n chwerw wrth weld y mwg yn codi pan gaiff ei llosgi.
Reve WelBeibl 18:10  Byddan nhw'n sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae'n ei ddioddef, ac yn gweiddi: ‘Och! Och! Ti ddinas fawr! Babilon, y ddinas oedd â'r fath rym! – Daeth dy ddiwedd mor sydyn!’
Reve WelBeibl 18:11  “Bydd pobl fusnes y ddaear yn crio ac yn galaru drosti hi am fod neb yn prynu ei chargo ddim mwy –
Reve WelBeibl 18:12  cargo o aur, arian, gemau gwerthfawr a pherlau, lliain main, defnydd porffor, sidan ac ysgarlad; nwyddau o goed Sitron, pethau wedi'u gwneud o ifori, a phob math o bethau eraill wedi'u gwneud o goed gwerthfawr, o efydd, haearn ac o farmor;
Reve WelBeibl 18:13  sinamon a pherlysiau, arogldarth fel myrr a thus, hefyd gwin ac olew olewydd, blawd mân a gwenith; gwartheg, defaid, ceffylau a cherbydau; a chaethweision hefyd – ie, pobl yn cael eu gwerthu fel anifeiliaid.
Reve WelBeibl 18:14  “Mae'r holl bethau roeddet ti'n dyheu amdanyn nhw wedi mynd! Dy holl gyfoeth a dy grandrwydd wedi diflannu! Fyddan nhw fyth yn dod nôl!
Reve WelBeibl 18:15  Bydd y bobl fusnes gafodd arian mawr wrth werthu'r pethau hyn iddi, yn sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae'n ei ddioddef. Byddan nhw'n crio ac yn galaru
Reve WelBeibl 18:16  ac yn gweiddi: ‘Och! Och! Ti ddinas fawr! wedi dy wisgo mewn defnydd hardd a gwisg o borffor ac ysgarlad, a'th addurno dy hun â thlysau o aur a gemau gwerthfawr a pherlau!
Reve WelBeibl 18:17  Mae'r fath gyfoeth wedi'i ddinistrio mor sydyn!’ “Bydd capteiniaid llongau a phawb sy'n teithio ar y môr, yn forwyr a phawb arall sy'n ennill eu bywoliaeth o'r môr, yn sefyll yn bell i ffwrdd.
Reve WelBeibl 18:18  Wrth weld y mwg yn codi am ei bod hi'n llosgi, byddan nhw'n gweiddi, ‘Oes dinas arall debyg i'r ddinas fawr hon?’
Reve WelBeibl 18:19  Byddan nhw'n taflu pridd ar eu pennau, ac yn crio a galaru a gweiddi'n uchel: ‘Och! Och! Ddinas fawr! cafodd pawb oedd ganddyn nhw longau ar y môr gyfoeth am ei bod hi mor gyfoethog! Mae hi wedi'i dinistrio mor sydyn!’
Reve WelBeibl 18:20  Bydd lawen, nefoedd, am beth sydd wedi digwydd iddi, Byddwch lawen, chi bobl Dduw, a'i gynrychiolwyr a'i broffwydi – Mae Duw wedi'i barnu hi am y ffordd wnaeth hi eich trin chi!”
Reve WelBeibl 18:21  Wedyn dyma angel pwerus yn codi anferth o garreg fawr, tebyg i faen melin mawr, a'i thaflu i'r môr; ac meddai: “Dyna sut fydd Babilon, y ddinas fawr, yn cael ei bwrw i lawr yn ffyrnig – fydd neb yn ei gweld byth mwy!
Reve WelBeibl 18:22  Fydd dim sŵn telynau na cherddorion, ffliwtiau nac utgyrn, i'w clywed ynot eto. Neb sy'n dilyn unrhyw grefft i'w weld ynot eto. Dim sŵn maen melin yn troi;
Reve WelBeibl 18:23  Dim golau lamp i'w weld; Dim sŵn gwledd briodas i'w glywed. Ti oedd y ganolfan fusnes fwyaf dylanwadol yn y byd i gyd, hudaist y cenhedloedd a'u harwain ar gyfeiliorn.
Reve WelBeibl 18:24  Yn wir, Babilon wnaeth dywallt gwaed y proffwydi a phobl Dduw; a phawb yn y byd gafodd eu lladd ar gam.”
Chapter 19
Reve WelBeibl 19:1  Wedyn clywais rywbeth oedd yn swnio'n debyg i dyrfa enfawr o bobl yn y nefoedd yn gweiddi: “Haleliwia! Duw sy'n achub; a fe biau'r anrhydedd a'r nerth!
Reve WelBeibl 19:2  Mae ei ddyfarniad e bob amser yn deg ac yn gyfiawn. Mae wedi condemnio'r butain fawr a lygrodd y ddaear gyda'i hanfoesoldeb rhywiol. Mae wedi dial arni hi am ladd y bobl oedd yn ei wasanaethu.”
Reve WelBeibl 19:3  A dyma nhw'n gweiddi eto: “Haleliwia! Mae'r mwg sy'n codi ohoni yn para byth bythoedd.”
Reve WelBeibl 19:4  Dyma'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol a'r pedwar creadur byw yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw, oedd yn eistedd ar yr orsedd, a chanu: “Amen! Haleliwia!”
Reve WelBeibl 19:5  Wedyn dyma lais yn dod o'r orsedd yn dweud: “Molwch ein Duw! Pawb sy'n ei wasanaethu, a chi sy'n ei ofni, yn fawr a bach!”
Reve WelBeibl 19:6  Wedyn clywais rywbeth oedd yn swnio'n debyg i dyrfa enfawr o bobl, neu sŵn rhaeadrau o ddŵr neu daran uchel: “Haleliwia! Mae'r Arglwydd Dduw Hollalluog wedi dechrau teyrnasu.
Reve WelBeibl 19:7  Gadewch i ni ddathlu a gorfoleddu a rhoi clod iddo! Mae diwrnod priodas yr Oen wedi cyrraedd, ac mae'r ferch sydd i'w briodi wedi gwneud ei hun yn barod.
Reve WelBeibl 19:8  Mae hi wedi cael gwisg briodas o ddefnydd hardd, disglair a glân.” (Mae'r defnydd hardd yn cynrychioli gweithredoedd da pobl Dduw.)
Reve WelBeibl 19:9  Wedyn dyma'r angel yn dweud wrtho i, “Ysgrifenna hyn i lawr: ‘Mae'r rhai sy'n cael gwahoddiad i wledd briodas yr Oen wedi'u bendithio'n fawr!’” Wedyn dyma fe'n dweud, “Neges gan Dduw ydy hon, ac mae'n wir.”
Reve WelBeibl 19:10  Yna syrthiais i lawr wrth ei draed a'i addoli. Ond meddai, “Paid! Duw ydy'r unig un rwyt i'w addoli! Un sy'n gwasanaethu Duw ydw i, yn union yr un fath â ti a dy frodyr a dy chwiorydd sy'n glynu wrth y dystiolaeth sydd wedi'i rhoi gan Iesu. Mae'r dystiolaeth sydd wedi'i rhoi gan Iesu a phroffwydoliaeth yr Ysbryd yr un fath.”
Reve WelBeibl 19:11  Roedd y nefoedd yn llydan ar agor, ac o mlaen i roedd ceffyl gwyn â marchog ar ei gefn. ‛Yr Un ffyddlon‛ ydy'r enw arno, a'r ‛Un gwir‛. Mae'n gyfiawn yn y ffordd mae'n barnu ac yn ymladd yn erbyn ei elynion.
Reve WelBeibl 19:12  Roedd ei lygaid fel fflam dân, ac roedd llawer o goronau ar ei ben. Roedd ganddo enw wedi'i ysgrifennu arno, a neb yn gwybod yr enw ond fe'i hun.
Reve WelBeibl 19:13  Roedd yn gwisgo dillad oedd wedi'u trochi mewn gwaed, a'i enw oedd ‛Gair Duw‛.
Reve WelBeibl 19:14  Roedd byddinoedd y nefoedd yn ei ddilyn, yn marchogaeth ar geffylau gwynion ac yn gwisgo dillad o liain main gwyn glân.
Reve WelBeibl 19:15  Roedd cleddyf miniog yn dod allan o'i geg, a bydd yn ei ddefnyddio i daro'r cenhedloedd i lawr. “Bydd yn teyrnasu drostyn nhw gyda theyrnwialen haearn.” Bydd yn sathru'r gwinwryf (sy'n cynrychioli digofaint ffyrnig y Duw Hollalluog).
Reve WelBeibl 19:16  Ar ei glogyn wrth ei glun mae'r teitl hwn wedi'i ysgrifennu: BRENIN AR FRENHINOEDD AC ARGLWYDD AR ARGLWYDDI.
Reve WelBeibl 19:17  Yna gwelais angel yn sefyll ar yr haul, ac yn galw'n uchel ar yr holl adar oedd yn hedfan yn yr awyr, “Dewch at eich gilydd i fwynhau'r wledd sydd gan Dduw ar eich cyfer chi!
Reve WelBeibl 19:18  Cewch fwyta cyrff marw brenhinoedd, arweinwyr milwrol, milwyr, ceffylau a'u marchogion, a chyrff marw pob math o bobl – dinasyddion rhydd a chaethweision, pobl gyffredin a phobl fawr.”
Reve WelBeibl 19:19  Wedyn gwelais yr anghenfil a brenhinoedd y ddaear a'u byddinoedd wedi casglu at ei gilydd i ymladd yn erbyn yr un oedd yn marchogaeth y ceffyl, ac yn erbyn ei fyddin.
Reve WelBeibl 19:20  Ond daliwyd yr anghenfil, a hefyd y proffwyd ffug oedd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol ar ei ran. Gyda'i wyrthiau roedd wedi llwyddo i dwyllo y bobl hynny oedd wedi'u marcio gyda marc yr anghenfil ac wedi addoli ei ddelw. Cafodd yr anghenfil a'r proffwyd ffug eu taflu yn fyw i'r llyn tân sy'n llosgi brwmstan.
Reve WelBeibl 19:21  Cafodd y gweddill ohonyn nhw eu lladd â'r cleddyf oedd yn dod allan o geg yr un oedd yn marchogaeth ar gefn y ceffyl. Daeth yr holl adar a gwledda ar y cyrff marw.
Chapter 20
Reve WelBeibl 20:1  Yna gwelais angel yn dod i lawr o'r nefoedd, gyda'r allwedd i'r pydew diwaelod, ac roedd cadwyn drom yn ei law.
Reve WelBeibl 20:2  Gafaelodd yn y ddraig (yr hen sarff, sef ‛y diafol‛, ‛Satan‛), a'i rhwymo'n gaeth am fil o flynyddoedd.
Reve WelBeibl 20:3  Dyma'r angel yn ei thaflu hi i lawr i'r pydew diwaelod, ai gloi a'i selio er mwyn rhwystro'r ddraig rhag twyllo'r cenhedloedd ddim mwy, nes bydd y mil o flynyddoedd drosodd. Ar ôl hynny mae'n rhaid iddi gael ei gollwng yn rhydd am gyfnod byr.
Reve WelBeibl 20:4  Wedyn gwelais orseddau, a'r rhai oedd wedi cael yr awdurdod i farnu yn eistedd arnyn nhw. A gwelais y rhai oedd wedi cael eu dienyddio am dystio i Iesu ac am gyhoeddi neges Duw yn ffyddlon. Doedd y rhain ddim wedi addoli'r anghenfil na'i ddelw, a doedd ei farc ddim wedi cael ei roi ar eu talcennau a'u dwylo. Dyma nhw'n dod yn fyw ac yn teyrnasu gyda'r Meseia am fil o flynyddoedd.
Reve WelBeibl 20:5  (Wnaeth pawb arall oedd wedi marw ddim dod yn ôl yn fyw nes oedd y mil o flynyddoedd drosodd.) Dyma'r atgyfodiad cyntaf.
Reve WelBeibl 20:6  Mae'r rhai sydd wedi'u neilltuo ac sy'n cael bod yn rhan o'r atgyfodiad cyntaf yma wedi'u bendithio'n fawr! Does gan beth sy'n cael ei alw'n ‛ail farwolaeth‛ ddim gafael ynddyn nhw. Byddan nhw'n offeiriaid yn gwasanaethu Duw a'r Meseia, a byddan nhw'n teyrnasu gydag e am fil o flynyddoedd.
Reve WelBeibl 20:7  Pan fydd y mil o flynyddoedd drosodd bydd Satan yn cael ei ryddhau o'i garchar.
Reve WelBeibl 20:8  Bydd yn mynd allan i bedwar ban byd i dwyllo'r cenhedloedd – Gog a Magog – ac yn eu casglu at ei gilydd i ymladd yn y frwydr. Nifer enfawr ohonyn nhw, fel y tywod ar lan y môr!
Reve WelBeibl 20:9  Dyma nhw'n martsio o un pen i'r ddaear i'r llall ac yn amgylchynu gwersyll pobl Dduw, sef y ddinas mae Duw yn ei charu. Ond daeth tân i lawr o'r nefoedd a'u dinistrio nhw.
Reve WelBeibl 20:10  A dyma'r diafol oedd wedi'u twyllo nhw yn cael ei daflu i'r llyn tân sy'n llosgi brwmstan, ble roedd yr anghenfil a'r proffwyd ffug wedi cael eu taflu. Byddan nhw'n cael eu poenydio ddydd a nos am byth bythoedd.
Reve WelBeibl 20:11  Yna gwelais orsedd wen fawr a Duw yn eistedd arni. Dyma'r ddaear a'r awyr yn dianc oddi wrtho ac yn diflannu am byth.
Reve WelBeibl 20:12  A dyma fi'n gweld pawb oedd wedi marw, pobl fawr a phobl gyffredin, yn sefyll o flaen yr orsedd. Dyma'r llyfrau amdanyn nhw yn cael eu hagor. Yna agorwyd llyfr arall, sef Llyfr y Bywyd. Cafodd pob un ei farnu am beth roedd wedi'i wneud – roedd popeth amdanyn nhw wedi cael ei gofnodi yn y llyfrau.
Reve WelBeibl 20:13  Dyma'r môr yn rhoi yn ôl y bobl oedd wedi marw ynddo, a dyma Marwolaeth a Byd y Meirw yn rhoi'r bobl oedd ynddyn nhw yn ôl. Yna cafodd pob un ei farnu am beth roedd wedi'i wneud.
Reve WelBeibl 20:14  Wedyn cafodd Marwolaeth a Byd y Meirw eu taflu i'r llyn tân. Y llyn tân ydy'r ‛ail farwolaeth‛.
Reve WelBeibl 20:15  Cafodd pob un doedd eu henwau nhw ddim wedi'u hysgrifennu yn Llyfr y Bywyd eu taflu i'r llyn tân.
Chapter 21
Reve WelBeibl 21:1  Yna gwelais nefoedd newydd a daear newydd. Roedd y ddaear a'r awyr gyntaf wedi diflannu. Doedd y môr ddim yn bodoli ddim mwy.
Reve WelBeibl 21:2  Dyma fi'n gweld y ddinas sanctaidd, y Jerwsalem newydd, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd. Roedd yn edrych fel merch ifanc wedi'i gwisgo'n hardd ar gyfer ei phriodas.
Reve WelBeibl 21:3  Wedyn clywais lais o'r orsedd yn cyhoeddi'n glir, “Bellach mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. Bydd yn byw yn eu canol nhw, a byddan nhw'n bobl iddo. Bydd Duw ei hun gyda nhw, a fe fydd eu Duw nhw.
Reve WelBeibl 21:4  Bydd yn sychu pob deigryn o'u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd.”
Reve WelBeibl 21:5  Dyma'r Un oedd yn eistedd ar yr orsedd yn dweud, “Edrychwch! Dw i'n gwneud popeth yn newydd!” Meddai wedyn, “Ysgrifenna hynny i lawr. Mae beth dw i'n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir.”
Reve WelBeibl 21:6  Meddai wrtho i: “Dyna ddiwedd y cwbl! Fi ydy'r Alffa a'r Omega, y Dechrau a'r Diwedd. Bydda i'n rhoi diod o ffynnon dŵr y bywyd i'r rhai hynny sy'n sychedig – yn rhad ac am ddim!
Reve WelBeibl 21:7  Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr yn etifeddu'r pethau yma i gyd. Fi fydd eu Duw nhw, a byddan nhw'n blant i mi.
Reve WelBeibl 21:8  Ond am y rhai llwfr hynny sydd ddim yn credu, a phobl ffiaidd, llofruddion, pobl sy'n anfoesol yn rhywiol, y rhai sy'n ymarfer dewiniaeth ac yn addoli eilun-dduwiau, ac sy'n dweud celwydd – y llyn tân sy'n llosgi brwmstan ydy eu lle nhw! Dyna'r ‛ail farwolaeth‛.”
Reve WelBeibl 21:9  Yna dyma un o'r saith angel oedd yn dal y powlenni llawn o'r saith pla olaf yn dod ata i a dweud, “Tyrd, a gwna i ddangos y briodferch i ti, sef gwraig yr Oen.”
Reve WelBeibl 21:10  Dyma'r angel yn fy nghodi dan ddylanwad yr Ysbryd a mynd â fi i fynydd mawr uchel. Dangosodd y ddinas sanctaidd i mi, Jerwsalem, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd.
Reve WelBeibl 21:11  Roedd ysblander Duw ei hun yn tywynnu ohoni; roedd hi'n disgleirio fel gem anhygoel o werthfawr – fel iasbis, yn glir fel grisial!
Reve WelBeibl 21:12  Roedd anferth o wal uchel o'i chwmpas gyda deuddeg giât ynddi, a deuddeg angel yn gwarchod y giatiau. Roedd enwau deuddeg llwyth Israel wedi'u hysgrifennu ar y giatiau.
Reve WelBeibl 21:13  Roedd tair giât ar yr ochr ddwyreiniol, tair i'r gogledd, tair i'r de a thair i'r gorllewin.
Reve WelBeibl 21:14  Roedd gan wal y ddinas ddeuddeg carreg sylfaen, ac roedd enwau deuddeg cynrychiolydd yr Oen wedi'u hysgrifennu ar y rheiny.
Reve WelBeibl 21:15  Roedd ffon fesur aur gan yr angel oedd yn siarad â mi, er mwyn iddo fesur y ddinas, ei giatiau a'i waliau.
Reve WelBeibl 21:16  Roedd y ddinas yn berffaith sgwâr. Pan fesurodd yr angel y ddinas gyda'r ffon fesur cafodd ei bod hi'n 2,250 cilomedr o hyd, ac mai dyna hefyd oedd ei lled a'i huchder.
Reve WelBeibl 21:17  Pan fesurodd yr angel y wal, cafodd ei bod yn chwe deg pum metr o drwch – yn ôl y mesur cyffredin.
Reve WelBeibl 21:18  Roedd y wal wedi'i hadeiladu o faen iasbis, a'r ddinas wedi'i gwneud o aur pur, mor bur â gwydr.
Reve WelBeibl 21:19  Roedd sylfeini waliau'r ddinas wedi'u haddurno gyda phob math o emau gwerthfawr. Maen iasbis oedd y sylfaen cyntaf, saffir oedd yr ail, y trydydd yn galcedon, a'r pedwerydd yn emrallt;
Reve WelBeibl 21:20  onics oedd y pumed, carnelian y chweched, saffir melyn y seithfed, beryl yr wythfed, topas y nawfed, a crysopras y degfed; maen iasinth oedd yr unfed ar ddeg ac amethyst oedd y deuddegfed.
Reve WelBeibl 21:21  Roedd giatiau'r ddinas wedi'u gwneud o berlau, pob giât unigol wedi'i gwneud o un perl mawr. Ac roedd heol fawr y ddinas yn aur oedd mor bur â gwydr clir!
Reve WelBeibl 21:22  Doedd dim teml i'w gweld yn y ddinas, am fod yr Arglwydd Dduw Hollalluog a'r Oen yno, fel teml.
Reve WelBeibl 21:23  Does dim angen golau haul na lleuad yn y ddinas chwaith, am fod ysblander Duw ei hun yn ei goleuo hi, a'r Oen fel lamp yn ei goleuo hi.
Reve WelBeibl 21:24  Bydd y cenhedloedd yn byw yn ei golau, a bydd brenhinoedd y ddaear yn dod â'u holl gyfoeth i mewn iddi hi.
Reve WelBeibl 21:25  Fydd ddim rhaid i'w giatiau gael eu cau o gwbl, achos fydd dim nos yno.
Reve WelBeibl 21:26  Bydd holl ysblander a chyfoeth y cenhedloedd yn cael eu dwyn i mewn iddi.
Reve WelBeibl 21:27  Ond fydd dim byd aflan yn cael mynd i mewn iddi, nac unrhyw un sy'n gwneud pethau ffiaidd neu'n twyllo chwaith; dim ond y bobl hynny sydd â'u henwau wedi'u hysgrifennu yn Llyfr Bywyd yr Oen.
Chapter 22
Reve WelBeibl 22:1  Wedyn dangosodd yr angel afon o ddŵr bywiol i mi. Roedd y dŵr yn lân fel grisial ac yn llifo o orsedd Duw a'r Oen
Reve WelBeibl 22:2  i lawr heol fawr y ddinas. Roedd coed y bywyd bob ochr i'r afon yn rhoi deuddeg cnwd o ffrwythau – cnwd newydd bob mis. Mae dail y coed yn iacháu'r cenhedloedd.
Reve WelBeibl 22:3  Fydd melltith rhyfel ddim yn bod mwyach. Bydd gorsedd Duw a'r Oen yn y ddinas, a bydd y rhai sy'n ei wasanaethu yn cael gwneud hynny.
Reve WelBeibl 22:4  Cân nhw weld ei wyneb, a bydd ei enw wedi'i ysgrifennu ar eu talcennau.
Reve WelBeibl 22:5  Fydd dim y fath beth â nos, felly fydd ganddyn nhw ddim angen golau lamp, na hyd yn oed golau'r haul. Bydd yr Arglwydd Dduw yn rhoi golau iddyn nhw. Byddan nhw'n teyrnasu am byth bythoedd.
Reve WelBeibl 22:6  Dyma'r angel yn dweud wrtho i, “Mae beth dw i'n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir. Mae'r Arglwydd, y Duw sy'n ysbrydoli'r proffwydi, wedi anfon ei angel i ddangos i'r rhai sy'n ei wasanaethu beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan.”
Reve WelBeibl 22:7  “Edrychwch! Dw i'n dod yn fuan! Mae'r rhai sy'n gwneud beth mae proffwydoliaeth y llyfr hwn yn ei ddweud wedi'u bendithio'n fawr.”
Reve WelBeibl 22:8  Fi, Ioan, glywodd ac a welodd y pethau yma i gyd. Ar ôl i mi eu clywed a'u gweld syrthiais i lawr wrth draed yr angel oedd wedi bod yn dangos y cwbl i mi a'i addoli.
Reve WelBeibl 22:9  Ond dyma'r angel yn dweud, “Paid! Duw ydy'r unig Un rwyt i'w addoli! Un yn gwasanaethu Duw ydw i, yr un fath â ti a'r proffwydi eraill a phawb arall sy'n gwneud beth mae'r llyfr hwn yn ei ddweud.”
Reve WelBeibl 22:10  Yna dwedodd wrtho i, “Paid cau'r llyfr yma, a rhoi sêl arno i rwystro pobl rhag darllen y neges broffwydol sydd ynddo, achos mae'r amser pan fydd y cwbl yn digwydd yn agos!
Reve WelBeibl 22:11  Gadewch i'r rhai sy'n gwneud drwg ddal ati i wneud drwg; gadewch i'r rhai anfoesol ddal ati i fod yn anfoesol; gadewch i'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn ddal ati i wneud beth sy'n iawn; a gadewch i'r rhai sy'n sanctaidd ddal ati i fod yn sanctaidd.”
Reve WelBeibl 22:12  “Edrychwch! Dw i'n dod yn fuan! Bydd gen i wobr i'w rhoi i bawb, yn dibynnu ar beth maen nhw wedi'i wneud.
Reve WelBeibl 22:13  Fi ydy'r Alffa a'r Omega, y Cyntaf a'r Olaf, y Dechrau a'r Diwedd.
Reve WelBeibl 22:14  “Mae'r rhai sy'n glanhau eu mentyll wedi'u bendithio'n fawr, ac yn cael mynd at goeden y bywyd, ac yn cael mynediad drwy'r giatiau i mewn i'r ddinas.
Reve WelBeibl 22:15  Y tu allan mae'r cŵn, a'r rhai sy'n ymarfer dewiniaeth, pobl sy'n anfoesol yn rhywiol, llofruddion, y rhai sy'n addoli eilun-dduwiau a phawb sy'n caru twyllo.
Reve WelBeibl 22:16  “Dw i, Iesu, wedi anfon fy angel i rannu'r dystiolaeth hon gyda chi er lles yr eglwysi. Fi ydy disgynnydd y Brenin Dafydd, a'r Seren sy'n disgleirio yn y bore.”
Reve WelBeibl 22:17  Mae'r Ysbryd a'r briodferch yn dweud, “Tyrd!” Gadewch i bawb sy'n clywed ateb, “Tyrd!” Gadewch i'r rhai sydd â syched arnyn nhw ddod. Pwy bynnag sydd eisiau, gadewch iddyn nhw dderbyn dŵr y bywyd yn rhodd.
Reve WelBeibl 22:18  Dw i'n rhybuddio pawb sy'n clywed geiriau proffwydol y llyfr hwn: Os bydd unrhyw un yn ychwanegu rhywbeth atyn nhw, bydd Duw yn dod â'r plâu sy'n cael eu disgrifio yn y llyfr hwn arnyn nhw.
Reve WelBeibl 22:19  Ac os bydd unrhyw un yn dileu rhan o neges broffwydol y llyfr hwn, bydd Duw yn cymryd oddi arnyn nhw eu siâr o goeden y bywyd a'u lle yn y ddinas sanctaidd sy'n cael ei disgrifio yn y llyfr hwn.
Reve WelBeibl 22:20  Mae'r un sy'n rhoi'r dystiolaeth am y pethau hyn yn dweud, “Ydw, dw i'n dod yn fuan.” Amen! Tyrd, Arglwydd Iesu!
Reve WelBeibl 22:21  Dw i'n gweddïo y bydd pobl Dduw i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu! Amen.