Chapter 1
Nehe | WelBeibl | 1:1 | Dyma adroddiad gan Nehemeia fab Hachaleia: Roedd hi'n fis Cislef yn ugeinfed flwyddyn teyrnasiad Artaxerxes, ac roeddwn i yn y gaer ddinesig yn Shwshan. | |
Nehe | WelBeibl | 1:2 | Dyma Chanani (oedd yn perthyn i mi) a dynion eraill o Jwda, yn dod i'm gweld i. A dyma fi'n eu holi nhw am yr Iddewon oedd wedi gadael y gaethglud, a sut oedd pethau yn Jerwsalem. | |
Nehe | WelBeibl | 1:3 | A dyma nhw'n ateb, “Mae hi'n galed ar y bobl sydd wedi mynd yn ôl i'r dalaith o'r gaethglud. Maen nhw'n cael amser anodd. Mae wal Jerwsalem wedi'i chwalu, a'r giatiau wedi'u llosgi.” | |
Nehe | WelBeibl | 1:4 | Pan glywais hyn i gyd, dyma fi'n eistedd i lawr. Rôn i'n crio ac yn galaru am ddyddiau, a bues i'n ymprydio ac yn gweddïo ar Dduw y nefoedd. | |
Nehe | WelBeibl | 1:5 | A dyma fi'n dweud, “O ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, plîs! Ti'n Dduw mawr a rhyfeddol, yn Dduw mor hael, ac yn cadw dy ymrwymiad i'r rhai sy'n dy garu di ac yn gwneud beth ti'n ddweud. | |
Nehe | WelBeibl | 1:6 | O, plîs edrych a gwrando ar weddi dy was. Gwranda ar beth dw i'n ei weddïo ddydd a nos ar ran dy weision, pobl Israel. Dw i'n cyffesu ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di – fi a'm teulu, a phobl Israel i gyd. | |
Nehe | WelBeibl | 1:7 | Dŷn ni wedi ymddwyn yn ofnadwy, a heb gadw'r gorchmynion, y rheolau a'r canllawiau wnest ti eu rhoi i dy was Moses. | |
Nehe | WelBeibl | 1:8 | Plîs cofia beth ddwedaist ti wrth Moses: ‘Os byddwch chi'n anffyddlon, bydda i'n eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd. | |
Nehe | WelBeibl | 1:9 | Ond os byddwch chi'n troi a gwneud beth dw i'n ddweud, hyd yn oed os ydy'r bobl wedi'u chwalu i ben draw'r byd, bydda i'n eu casglu nhw yn ôl i'r lle dw i wedi dewis byw ynddo.’ | |
Nehe | WelBeibl | 1:10 | Dy weision di, dy bobl di ydyn nhw, ac rwyt wedi defnyddio dy rym i'w gollwng nhw'n rhydd. | |
Chapter 2
Nehe | WelBeibl | 2:1 | Yna yn mis Nisan yn ugeinfed flwyddyn teyrnasiad Artaxerxes, rôn i'n gweini ar y brenin fel arfer, a mynd â gwin iddo. Ond dyma'r tro cyntaf i mi erioed edrych yn drist o'i flaen. | |
Nehe | WelBeibl | 2:2 | A dyma'r brenin yn gofyn i mi, “Pam wyt ti'n edrych mor ddiflas? Ti ddim yn sâl. Ond mae'n amlwg fod rhywbeth yn dy boeni di.” Pan ddwedodd hynny, roedd gen i ofn. | |
Nehe | WelBeibl | 2:3 | A dyma fi'n ei ateb, “O frenin, boed i ti fyw am byth! Sut alla i beidio edrych yn drist pan mae'r ddinas ble mae fy hynafiaid wedi'u claddu yn adfeilion, a'i giatiau wedi'u llosgi?” | |
Nehe | WelBeibl | 2:4 | A dyma'r brenin yn gofyn, “Beth wyt ti eisiau gen i?” Dyma fi'n gweddïo'n dawel ar Dduw y nefoedd, | |
Nehe | WelBeibl | 2:5 | ac yna dweud wrth y brenin, “Os ydy'r brenin yn gweld yn dda, ac os ydy'ch gwas wedi'ch plesio chi, plîs anfonwch fi'n ôl i Jwda lle mae fy hynafiaid wedi'u claddu, i adeiladu'r ddinas eto.” | |
Nehe | WelBeibl | 2:6 | Yna dyma'r brenin, gyda'i wraig yn eistedd wrth ei ymyl, yn gofyn, “Am faint fyddet ti i ffwrdd, a pryd fyddet ti yn ôl?” Gan fod y brenin yn barod i adael i mi fynd, dyma fi'n rhoi dyddiad iddo. | |
Nehe | WelBeibl | 2:7 | A dyma fi'n dweud wrtho, “Os ydy'ch mawrhydi yn gweld yn dda, wnewch chi roi dogfennau i mi eu dangos i lywodraethwyr Traws-Ewffrates, i wneud yn siŵr fy mod yn cyrraedd Jwda'n saff. | |
Nehe | WelBeibl | 2:8 | Hefyd, llythyr i Asaff, sy'n gofalu am goedwig y brenin, iddo roi coed i mi – coed i wneud trawstiau ar gyfer giatiau'r gaer sydd wrth ymyl y deml, waliau'r ddinas, a'r tŷ fydda i'n aros ynddo.” A dyma'r brenin yn rhoi caniatâd i mi, achos roedd hi'n amlwg fod Duw gyda mi. | |
Nehe | WelBeibl | 2:9 | Dyma fi'n mynd at lywodraethwyr Traws-Ewffrates, a chyflwyno'r dogfennau gefais gan y brenin iddyn nhw. Roedd y brenin wedi rhoi swyddogion o'r fyddin a marchogion i fynd gyda mi. | |
Nehe | WelBeibl | 2:10 | Ond doedd Sanbalat o Choron, a Tobeia (y swyddog o Ammon), ddim yn hapus o gwbl fod rhywun wedi cael ei anfon i helpu pobl Israel. | |
Nehe | WelBeibl | 2:12 | dyma fi'n codi ganol nos a mynd allan gyda'r ychydig ddynion oedd gen i. Yr unig anifail oedd gyda ni oedd yr un roeddwn i'n reidio ar ei gefn. Doeddwn i ddim wedi dweud wrth neb beth roedd Duw wedi rhoi awydd yn fy nghalon i i'w wneud yn Jerwsalem. | |
Nehe | WelBeibl | 2:13 | Dyma fi'n mynd allan drwy Giât y Dyffryn ganol nos, a throi i gyfeiriad Ffynnon y Ddraig a Giât y Sbwriel i edrych ar gyflwr y waliau oedd wedi'u chwalu a'r giatiau oedd wedi'u llosgi. | |
Nehe | WelBeibl | 2:14 | Es ymlaen at Giât y Ffynnon a Pwll y Brenin, ond wedyn doedd dim posib i'r anifail fynd ddim pellach. | |
Nehe | WelBeibl | 2:15 | Tra oedd hi'n dal yn dywyll dyma fi'n mynd i lawr i Ddyffryn Cidron ac edrych ar gyflwr y waliau o'r fan honno. Wedyn trois yn ôl, a mynd yn ôl i'r ddinas drwy Giât y Dyffryn. | |
Nehe | WelBeibl | 2:16 | Doedd swyddogion y ddinas ddim yn gwybod lle roeddwn i wedi bod, na beth roeddwn i wedi bod yn ei wneud. Doeddwn i ddim wedi dweud wrth neb o'r Iddewon hyd yn hyn – yr offeiriaid, y bobl gyfoethog na'r swyddogion, nac unrhyw un arall o'r gweithwyr. | |
Nehe | WelBeibl | 2:17 | Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n gwybod mor anodd ydy pethau yma: mae Jerwsalem yn adfeilion a'i giatiau wedi'u llosgi. Dewch! Gadewch i ni ailadeiladu wal Jerwsalem, a dod â'r sefyllfa warthus yma i ben.” | |
Nehe | WelBeibl | 2:18 | Dwedais yr hanes wrthyn nhw, fel roedd Duw wedi bod gyda mi, a beth roedd y brenin wedi'i ddweud wrtho i. A dyma nhw'n ymateb, “Gadewch i ni ddechrau adeiladu ar unwaith!” A dyma nhw'n annog ei gilydd i fynd ati i wneud y gwaith pwysig yma. | |
Nehe | WelBeibl | 2:19 | Ond pan glywodd Sanbalat o Choron, Tobeia, y swyddog o Ammon, a Geshem yr Arab am ein cynlluniau, dyma nhw'n dechrau gwneud hwyl am ein pennau a'n henllibio ni. “Beth dych chi'n wneud? Ydych chi'n meddwl gwrthryfela yn erbyn y brenin?” | |
Chapter 3
Nehe | WelBeibl | 3:1 | Dyma Eliashif yr archoffeiriad a'i gyd-offeiriaid yn mynd ati i adeiladu Giât y Defaid. Yna ei chysegru a gosod y drysau yn eu lle. Nhw wnaeth y gwaith hyd at Dŵr y Cant a Tŵr Chanan-el. | |
Nehe | WelBeibl | 3:2 | Yna dynion Jericho wnaeth adeiladu'r darn nesaf, a Saccwr fab Imri y darn ar ôl hwnnw. | |
Nehe | WelBeibl | 3:3 | Teulu Hasenaa wnaeth adeiladu Giât y Pysgod, a gosod ei thrawstiau a'r drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle. | |
Nehe | WelBeibl | 3:4 | Meremoth fab Wreia ac ŵyr i Hacots wnaeth drwsio'r darn nesaf. Meshwlam fab Berecheia ac ŵyr i Meshesafel y darn wedyn. Sadoc fab Baana y darn ar ôl hwnnw, | |
Nehe | WelBeibl | 3:5 | a dynion Tecoa ar y darn nesaf wedyn. Ond doedd arweinwyr Tecoa ddim yn fodlon helpu gyda'r gwaith oedd yr arolygwyr wedi'i roi iddyn nhw. | |
Nehe | WelBeibl | 3:6 | Ioiada fab Paseach a Meshwlam fab Besodeia oedd yn gweithio ar Giât Ieshana. Nhw wnaeth osod y trawstiau a'r drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle. | |
Nehe | WelBeibl | 3:7 | Yna roedd Melatia o Gibeon a Iadon o Meronoth yn gweithio ar y darn nesaf gyda dynion eraill o Gibeon a Mitspa (lle roedd llywodraethwr Traws-Ewffrates yn byw). | |
Nehe | WelBeibl | 3:8 | Wedyn roedd Wssiel fab Charhaia (aelod o Urdd y Gofaint Aur) yn atgyweirio'r darn nesaf, a Chananeia (aelod o Urdd y Gwerthwyr Persawr) yn atgyweirio'r darn ar ôl hwnnw. Nhw wnaeth drwsio wal Jerwsalem yr holl ffordd at y Wal Lydan. | |
Nehe | WelBeibl | 3:9 | Reffaia fab Hur, pennaeth hanner ardal Jerwsalem, oedd yn gweithio ar y darn nesaf. | |
Nehe | WelBeibl | 3:10 | Iedaia fab Charwmaff ar y darn ar ôl hwnnw, gyferbyn â'i dŷ, a Chattwsh fab Chashafneia ar y darn wedyn. | |
Nehe | WelBeibl | 3:11 | Roedd Malcîa fab Charîm a Chashwf fab Pachath-Moab yn gweithio ar ddarn arall ac ar Dŵr y Poptai. | |
Nehe | WelBeibl | 3:12 | Yna roedd Shalwm fab Halochesh, pennaeth hanner arall ardal Jerwsalem, yn gweithio ar y darn nesaf, gyda'i ferched yn ei helpu. | |
Nehe | WelBeibl | 3:13 | Chanŵn a phobl Sanoach oedd yn gweithio ar Giât y Dyffryn. Nhw wnaeth ei hailadeiladu, a gosod ei drysau, ei bolltau a'i barrau yn eu lle. Nhw hefyd wnaeth y gwaith ar y wal yr holl ffordd at Giât y Sbwriel – 450 metr i gyd. | |
Nehe | WelBeibl | 3:14 | Malcîa fab Rechab, pennaeth Ardal Beth-hacerem, oedd yn gweithio ar Giât y Sbwriel. Fe wnaeth ei hailadeiladu, a gosod y drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle. | |
Nehe | WelBeibl | 3:15 | Wedyn Shalwn fab Colchose, pennaeth ardal Mitspa, oedd yn gweithio ar Giât y Ffynnon. Ailadeiladodd hi, rhoi to arni, a gosod y drysau, bolltau a barrau yn eu lle. A fe hefyd wnaeth ailadeiladu'r wal o Bwll Siloam (wrth ymyl y gerddi brenhinol) yr holl ffordd at y grisiau sy'n mynd i lawr o Ddinas Dafydd. | |
Nehe | WelBeibl | 3:16 | Yna Nehemeia fab Asbwc, pennaeth hanner ardal Beth-tswr, oedd yn gweithio ar y darn nesaf, yr holl ffordd at fynwent Dafydd, y pwll artiffisial a barics y fyddin. | |
Nehe | WelBeibl | 3:17 | Lefiaid oedd yn gweithio ar y darnau nesaf – Rechwm fab Bani, ac wedyn Chashafeia, pennaeth hanner ardal Ceila. | |
Nehe | WelBeibl | 3:19 | Ar ei ôl e, Eser fab Ieshŵa, pennaeth tref Mitspa, yn gweithio ar y darn gyferbyn â'r llethr i fyny at y storfa arfau lle mae'r bwtres. | |
Nehe | WelBeibl | 3:20 | Wedyn Barŵch fab Sabbai yn gweithio ar y darn rhwng y bwtres a'r drws i dŷ Eliashif yr Archoffeiriad. | |
Nehe | WelBeibl | 3:21 | A Meremoth fab Wreia ac ŵyr Hacots yn gweithio ar ddarn arall o ddrws tŷ Eliashif i dalcen y tŷ. | |
Nehe | WelBeibl | 3:23 | Wedyn Benjamin a Chashwf yn gweithio gyferbyn â'u tŷ nhw. Asareia fab Maaseia ac ŵyr Ananeia, yn gweithio wrth ymyl ei dŷ e. | |
Nehe | WelBeibl | 3:24 | Binnŵi fab Chenadad yn gweithio ar y darn nesaf, o dŷ Asareia at y bwtres ar y gornel. | |
Nehe | WelBeibl | 3:25 | Wedyn Palal fab Wsai yn gweithio gyferbyn â'r bwtres a'r tŵr sy'n sticio allan o'r palas uchaf wrth ymyl iard y gwarchodlu. Yna roedd Pedaia fab Parosh | |
Nehe | WelBeibl | 3:26 | a gweision y deml oedd yn byw ar Fryn Offel yn gweithio ar y darn i fyny at Giât y Dŵr i'r dwyrain lle mae'r tŵr sy'n sticio allan. | |
Nehe | WelBeibl | 3:27 | Wedyn dynion Tecoa eto yn gweithio ar y darn o'r tŵr mawr hwnnw i wal Bryn Offel. | |
Nehe | WelBeibl | 3:28 | Offeiriaid oedd yn gweithio yr ochr uchaf i Giât y Ceffylau hefyd, pob un o flaen ei dŷ ei hun. | |
Nehe | WelBeibl | 3:29 | Sadoc fab Immer yn gweithio gyferbyn â'i dŷ e, a Shemaia fab Shechaneia, porthor Giât y Dwyrain, yn gweithio ar y darn nesaf. | |
Nehe | WelBeibl | 3:30 | Wedyn Chananeia fab Shelemeia a Chanŵn, chweched mab Salaff, yn gweithio ar ddarn arall. Yna, ar eu holau nhw, Meshwlam fab Berecheia yn gweithio ar y darn gyferbyn â'r ystafell lle roedd e'n byw. | |
Nehe | WelBeibl | 3:31 | Wedyn Malcîa, un o'r gofaint aur, yn gweithio ar y darn hyd at lety gweision y deml a'r masnachwyr, gyferbyn â Giât y Mwstro, ac i fyny at yr ystafell uwchben y gornel. | |
Chapter 4
Nehe | WelBeibl | 4:1 | Pan glywodd Sanbalat ein bod ni'n ailadeiladu'r waliau dyma fe'n gwylltio'n lân a dechrau galw'r Iddewon yn bob enw dan haul. | |
Nehe | WelBeibl | 4:2 | Dyma fe'n dechrau dweud o flaen ei ffrindiau a milwyr Samaria, “Beth mae'r Iddewon pathetig yma'n meddwl maen nhw'n wneud? Ydyn nhw'n meddwl y gallan nhw wneud y gwaith eu hunain? Fyddan nhw'n offrymu aberthau eto? Ydych chi'n meddwl y gwnân nhw orffen y gwaith heddiw? Ydyn nhw'n meddwl y gallan nhw ddod â'r cerrig yma sydd wedi llosgi yn ôl yn fyw?” | |
Nehe | WelBeibl | 4:3 | A dyma Tobeia o Ammon, oedd yn sefyll gydag e, yn dweud, “Byddai'r wal maen nhw'n ei chodi yn chwalu petai llwynog yn dringo arni!” | |
Nehe | WelBeibl | 4:4 | “O ein Duw, gwrando arnyn nhw'n ein bychanu ni! Tro eu dirmyg arnyn nhw eu hunain! Gwna iddyn nhw gael eu cipio i ffwrdd fel caethion i wlad estron! | |
Nehe | WelBeibl | 4:5 | Paid maddau iddyn nhw na cuddio'u pechodau o dy olwg! Maen nhw wedi cythruddo'r rhai sy'n adeiladu!” | |
Nehe | WelBeibl | 4:6 | Felly dyma ni'n ailadeiladu'r wal. Roedd hi'n gyfan hyd at hanner ei huchder ac roedd y bobl yn frwd i weithio. | |
Nehe | WelBeibl | 4:7 | Ond pan glywodd Sanbalat a Tobeia, yr Arabiaid, pobl Ammon a phobl Ashdod fod y gwaith o adfer waliau Jerwsalem yn dod yn ei flaen cystal, a bod y bylchau yn y wal yn cael eu cau, roedden nhw'n wyllt. | |
Nehe | WelBeibl | 4:9 | Felly dyma ni'n gweddïo ar ein Duw, a gosod gwylwyr i edrych allan amdanyn nhw ddydd a nos. | |
Nehe | WelBeibl | 4:10 | Roedd pobl Jwda'n dweud, “Mae'r gweithwyr yn blino a stryffaglu, ac mae cymaint o rwbel. Does dim gobaith i ni adeiladu a gorffen y gwaith ar y wal yma!” | |
Nehe | WelBeibl | 4:11 | Yna roedd ein gelynion yn brolio, “Cyn iddyn nhw sylweddoli beth sy'n digwydd, byddwn ni yn eu canol yn eu lladd nhw, a bydd y gwaith yn dod i ben!” | |
Nehe | WelBeibl | 4:12 | Ac roedd yr Iddewon oedd yn byw wrth eu hymyl nhw wedi'n rhybuddio ni lawer gwaith am eu cynllwynion yn ein herbyn ni. | |
Nehe | WelBeibl | 4:13 | Felly dyma fi'n gosod pobl i amddiffyn y rhannau isaf, tu ôl i'r wal yn y mannau mwyaf agored. Gosodais nhw bob yn glan, gyda cleddyfau, gwaywffyn a bwâu. | |
Nehe | WelBeibl | 4:14 | Yna ar ôl edrych dros y cwbl, dyma fi'n codi i annerch yr arweinwyr, y swyddogion, a gweddill y bobl, a dweud, “Peidiwch bod â'u hofn nhw. Cofiwch mor fawr a rhyfeddol ydy'r Meistr! Byddwch barod i ymladd dros eich pobl, eich meibion, eich merched, eich gwragedd a'ch cartrefi!” | |
Nehe | WelBeibl | 4:15 | Pan glywodd ein gelynion ein bod ni'n gwybod am eu cynllwyn, dyma Duw yn eu rhwystro nhw. Felly dyma pawb yn mynd yn ôl i weithio ar y wal. | |
Nehe | WelBeibl | 4:16 | O'r diwrnod hwnnw ymlaen roedd hanner y dynion ifanc oedd gen i yn adeiladu a'r hanner arall yn amddiffyn. Roedd ganddyn nhw arfwisg, ac roedden nhw'n cario gwaywffyn, tarianau a bwâu. Roedd y swyddogion yn sefyll tu ôl i bobl Jwda | |
Nehe | WelBeibl | 4:17 | oedd yn adeiladu'r wal. Roedd y rhai oedd yn cario beichiau yn gwneud hynny gydag un llaw, ac yn dal arf yn y llaw arall. | |
Nehe | WelBeibl | 4:18 | Ac roedd gan bob un o'r adeiladwyr gleddyf wedi'i strapio am ei ganol tra oedd yn gweithio. Ond roedd canwr y corn hwrdd yn aros gyda mi. | |
Nehe | WelBeibl | 4:19 | Yna dyma fi'n dweud wrth yr arweinwyr, y swyddogion a gweddill y bobl, “Mae gynnon ni lot o waith caled i'w wneud, a dŷn ni'n bell oddi wrth ein gilydd ar y wal. | |
Nehe | WelBeibl | 4:20 | Pan fyddwch chi'n clywed y corn hwrdd yn cael ei ganu, dylai pawb gasglu at ei gilydd yno. Bydd ein Duw yn ymladd droson ni!” | |
Nehe | WelBeibl | 4:21 | Felly dyma ni'n bwrw ymlaen gyda'r gwaith o fore gwyn tan nos, gyda'r hanner ohonon ni'n cario gwaywffyn. | |
Nehe | WelBeibl | 4:22 | Peth arall ddwedais i bryd hynny oedd, “Dylai pawb aros dros nos yn Jerwsalem (y gweithwyr a'r rhai sy'n eu hamddiffyn). Byddan nhw'n gwarchod y ddinas dros nos, ac yn gweithio yn ystod y dydd.” | |
Chapter 5
Nehe | WelBeibl | 5:1 | Ond wedyn dyma rai o'r dynion a'u gwragedd yn dechrau cwyno a protestio am eu cyd-Iddewon. | |
Nehe | WelBeibl | 5:2 | Roedd rhai yn dweud, “Mae gynnon ni deuluoedd mawr, ac mae angen lot o ŷd arnon ni i allu bwyta a byw.” | |
Nehe | WelBeibl | 5:3 | Roedd eraill yn dweud, “Dŷn ni'n gorfod morgeisio ein tir a'n gwinllannoedd a'n tai er mwyn prynu ŷd i osgoi llwgu.” | |
Nehe | WelBeibl | 5:4 | Ac eraill eto, “Dŷn ni wedi gorfod benthyg arian i dalu trethi i'r brenin ar ein tir a'n gwinllannoedd. | |
Nehe | WelBeibl | 5:5 | Dŷn ni wedi gorfod rhoi'n meibion a'n merched i weithio fel caethweision i bobl er ein bod ni a'n plant o'r un genedl ac yn rhannu'r un gwaed â nhw. Mae rhai o'n merched wedi cael eu cymryd oddi arnon ni, a dŷn ni'n gallu gwneud dim am y peth, am fod ein tir a'n gwinllannoedd yn nwylo pobl eraill.” | |
Nehe | WelBeibl | 5:7 | Yna ar ôl ystyried y sefyllfa'n ofalus, dyma fi'n penderfynu mynd at y bobl gyfoethog a'r swyddogion i gwyno: “Dych chi i gyd yn codi llogau ar ddyledion eich pobl eich hunain!” A dyma fi'n galw cyfarfod cyhoeddus i ddelio gyda'r peth. | |
Nehe | WelBeibl | 5:8 | Dwedais yno, “Dŷn ni wedi gwneud popeth allwn ni i brynu'n ôl ein cyd-Iddewon sydd wedi'u gwerthu i'r cenhedloedd. A nawr dyma chi'n gwerthu'ch pobl eich hunain i'ch gilydd!” Doedden nhw'n gallu dweud dim. Doedd ganddyn nhw ddim ateb. | |
Nehe | WelBeibl | 5:9 | Yna dyma fi'n dweud, “Dydy beth dych chi'n ei wneud ddim yn iawn! Dylech fyw mewn ffordd sy'n dangos parch at Dduw. Fyddai ddim rhaid i chi ddiodde eich gelynion, y cenhedloedd, yn eich gwawdio chi wedyn! | |
Nehe | WelBeibl | 5:10 | Dw i a'm perthnasau a'r rhai sydd gyda ni yn benthyg arian ac ŷd i bobl. Rhaid stopio'r busnes yma o gymryd tir a thai pobl i dalu dyledion! | |
Nehe | WelBeibl | 5:11 | Rhowch bopeth yn ôl iddyn nhw heddiw – eu caeau, eu gwinllannoedd, eu coed olewydd a'u tai, a'r llogau dych chi'n eu cymryd am fenthyg arian, ŷd, sudd grawnwin, ac olew olewydd iddyn nhw.” | |
Nehe | WelBeibl | 5:12 | A dyma nhw'n ateb, “Gwnawn ni roi'r cwbl yn ôl, a stopio hawlio dim oddi arnyn nhw. Byddwn ni'n gwneud yn union fel rwyt ti'n dweud.” Yna dyma fi'n galw am offeiriaid a gwneud i'r bobl gyfoethog a'r swyddogion fynd ar eu llw y bydden nhw'n cadw eu gair. | |
Nehe | WelBeibl | 5:13 | A dyma fi'n ysgwyd popeth o bocedi fy nillad, a dweud, “Dyma fydd Duw yn ei wneud i chi os fyddwch chi ddim yn cadw'ch gair. Byddwch yn colli'ch tai a'ch eiddo. Bydd yn eich ysgwyd chi a byddwch yn colli popeth!” A dyma pawb yn y gynulleidfa yn ateb, “Ia, wir! Amen!” ac addoli'r ARGLWYDD. Yna gwnaeth y bobl beth roedden nhw wedi'i addo. | |
Nehe | WelBeibl | 5:14 | O'r diwrnod cyntaf y ces i fy ngwneud yn llywodraethwr Jwda – sef o'r ugeinfed flwyddyn i flwyddyn tri deg dau o deyrnasiad y Brenin Artaxerxes (un deg dwy o flynyddoedd i gyd) – wnes i a'm teulu ddim bwyta'r bwyd oedd yn cael ei roi i'r llywodraethwr. | |
Nehe | WelBeibl | 5:15 | Roedd y llywodraethwyr o mlaen i wedi gosod beichiau trwm ar y bobl, a chymryd bwyd a gwin oddi arnyn nhw ar ben y dreth o 40 darn arian. Roedd eu staff yn galed ar y bobl hefyd. Ond wnes i ddim ymddwyn felly, am fy mod i'n parchu Duw. | |
Nehe | WelBeibl | 5:16 | Es i ati fel pawb arall i weithio ar y wal, a wnes i ddim prynu tir i mi fy hun. Ac roedd fy staff i gyd yn gweithio yno hefyd. | |
Nehe | WelBeibl | 5:17 | Roedd cant a hanner o bobl, swyddogion yr Iddewon, yn bwyta gyda mi'n rheolaidd, heb sôn am ymwelwyr oedd yn dod o wledydd eraill. | |
Nehe | WelBeibl | 5:18 | Bob dydd roedd un ych, chwech o'r defaid gorau, a ffowls yn cael eu paratoi i mi, heb sôn am ddigonedd o win o bob math oedd yn cael ei roi i mi bob deg diwrnod. Er hynny, wnes i ddim hawlio'r bwyd oedd yn cael ei roi i'r llywodraethwr, am fod y baich yn drwm ar y bobl. | |
Chapter 6
Nehe | WelBeibl | 6:1 | Clywodd Sanbalat, Tobeia, Geshem yr Arab, a'r gelynion eraill fy mod wedi ailadeiladu'r wal a chau'r bylchau i gyd (er fod drysau'r giatiau ddim wedi'u gosod yn eu lle bryd hynny). | |
Nehe | WelBeibl | 6:2 | A dyma fi'n cael neges gan Sanbalat a Geshem yn gofyn i mi eu cyfarfod yn un o'r pentrefi ar wastatir Ono. Ond roedden nhw'n bwriadu gwneud rhyw ddrwg i mi. | |
Nehe | WelBeibl | 6:3 | Felly dyma fi'n anfon neges yn ôl yn dweud, “Dw i'n gwneud gwaith pwysig, ac felly alla i ddim dod. Alla i ddim gadael i'r gwaith stopio er mwyn dod i'ch cyfarfod chi.” | |
Nehe | WelBeibl | 6:4 | Dyma nhw'n cysylltu i ofyn yr un peth bedair gwaith, a rhois yr un ateb iddyn nhw bob tro. | |
Nehe | WelBeibl | 6:6 | Dyma oedd y llythyr yn ei ddweud: “Mae yna si yn mynd o gwmpas (ac mae Geshem wedi cadarnhau hyn), dy fod ti a'r Iddewon yn bwriadu gwrthryfela, ac mai dyna pam dych chi'n adeiladu'r waliau. A'r sôn ydy dy fod ti am fod yn frenin arnyn nhw. | |
Nehe | WelBeibl | 6:7 | Maen nhw'n dweud dy fod wedi penodi proffwydi yn Jerwsalem i gyhoeddi, ‘Mae brenin yn Jwda!’ Bydd brenin Persia yn dod i glywed am y sibrydion yma. Felly tyrd! Gad i ni drafod y mater.” | |
Nehe | WelBeibl | 6:8 | Dyma fi'n anfon neges yn ôl ato yn dweud, “Dydy'r pethau rwyt ti'n ddweud amdanon ni ddim yn wir. Ffrwyth dy ddychymyg di ydy'r cwbl!” | |
Nehe | WelBeibl | 6:9 | (Ceisio'n dychryn ni roedden nhw, gan feddwl y bydden ni'n llaesu dwylo ac y byddai'r gwaith ddim yn cael ei orffen. Ond roedd hyn wedi fy ngwneud i'n fwy penderfynol fyth.) | |
Nehe | WelBeibl | 6:10 | Yna es i weld Shemaia fab Delaia ac ŵyr Mehetafél, oedd ddim yn gallu gadael ei dŷ. A dyma fe'n dweud, “Gad i ni gyfarfod yn y cysegr – cysegr Duw yn y Deml, a chloi ein hunain i mewn. Maen nhw'n dod i dy ladd di; dod i dy ladd di yn y nos.” | |
Nehe | WelBeibl | 6:11 | Ond dyma fi'n ateb, “Ydy'n iawn i ddyn fel fi redeg i ffwrdd? A sut all dyn cyffredin fel fi fynd i mewn i'r cysegr a chael byw? Na, wna i ddim mynd.” | |
Nehe | WelBeibl | 6:12 | Roedd hi'n amlwg fod Duw ddim yn siarad drwyddo – Tobeia a Sanbalat oedd wedi'i dalu i roi'r broffwydoliaeth yna. | |
Nehe | WelBeibl | 6:13 | Roedd wedi cael ei dalu i'm dychryn i, er mwyn i mi bechu drwy wneud beth roedd e'n ei awgrymu. Byddai hynny wedyn wedi arwain at sgandal a rhoi enw drwg i mi. | |
Nehe | WelBeibl | 6:14 | O Dduw, cofia beth mae Tobeia a Sanbalat wedi'i wneud – a hefyd Noadeia y broffwydes, a'r proffwydi eraill sy'n trio fy nychryn i. | |
Nehe | WelBeibl | 6:15 | Cafodd y wal ei gorffen ar y pumed ar hugain o fis Elwl – dim ond pum deg dau diwrnod gymrodd y gwaith! | |
Nehe | WelBeibl | 6:16 | Roedd ein gelynion, a'r gwledydd o'n cwmpas, wedi dychryn a digalonni pan glywon nhw fod y gwaith wedi'i orffen. Allen nhw ddim gwadu fod Duw wedi'n helpu ni i wneud hyn. | |
Nehe | WelBeibl | 6:17 | Drwy'r cyfnod yma roedd pobl bwysig Jwda a Tobeia wedi bod yn ysgrifennu'n ôl ac ymlaen at ei gilydd. | |
Nehe | WelBeibl | 6:18 | Roedd yna lawer o bobl yn Jwda wedi addo cefnogi Tobeia am ddau reswm: roedd yn fab-yng-nghyfraith i Shechaneia fab Arach, ac roedd ei fab Iehochanan wedi priodi merch Meshwlam fab Berecheia. | |
Chapter 7
Nehe | WelBeibl | 7:1 | Roedd y wal wedi'i gorffen, drysau'r giatiau wedi'u gosod yn eu lle, a gofalwyr y giatiau, cantorion a Lefiaid wedi'u penodi. | |
Nehe | WelBeibl | 7:2 | A dyma fi'n apwyntio Chanani (perthynas i mi), a Chananeia, pennaeth y gaer, i fod yn gyfrifol am Jerwsalem. Roedd Chananeia'n ddyn y gallwn ei drystio, ac yn fwy duwiol na'r rhan fwya o bobl. | |
Nehe | WelBeibl | 7:3 | Dwedais wrthyn nhw, “Ddylai giatiau'r ddinas ddim bod ar agor pan mae'r haul yn boeth ganol dydd. Dylen nhw aros dan glo nes bod y gofalwyr yn ôl ar ddyletswydd. A rhaid i chi osod rhai o bobl Jerwsalem yn wylwyr ar y waliau, ac eraill wrth eu tai.” | |
Nehe | WelBeibl | 7:4 | Roedd digon o le yn y ddinas, a dim llawer o bobl yn byw ynddi. Doedd bron ddim tai wedi'u hadeiladu ynddi bryd hynny. | |
Nehe | WelBeibl | 7:5 | A dyma Duw yn rhoi syniad i mi, i alw'r arweinwyr a'r swyddogion a'r bobl gyffredin at ei gilydd, a'u cofrestru nhw yn ôl eu teuluoedd. Dyma fi'n dod o hyd i restrau teuluol y rhai ddaeth yn ôl yn wreiddiol. A dyma beth oedd wedi'i gofnodi: | |
Nehe | WelBeibl | 7:6 | Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i'r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw'n arfer byw. | |
Nehe | WelBeibl | 7:7 | Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nachamani, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Nechwm a Baana. Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl: | |
Nehe | WelBeibl | 7:61 | Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol): | |
Nehe | WelBeibl | 7:63 | Wedyn yr offeiriaid, sef teuluoedd Hafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw). | |
Nehe | WelBeibl | 7:64 | Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau, ond wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid. | |
Nehe | WelBeibl | 7:65 | Dwedodd y llywodraethwr nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi'i gysegru, nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim. | |
Nehe | WelBeibl | 7:67 | (heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw; ac roedd 245 o gantorion – dynion a merched – gyda nhw hefyd). | |
Nehe | WelBeibl | 7:70 | Dyma rai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu tuag at y gwaith. Y llywodraethwr – 8 cilogram o aur, 50 powlen, a 530 o wisgoedd i'r offeiriaid. | |
Nehe | WelBeibl | 7:72 | Yna cyfraniad gweddill y bobl oedd 160 cilogram o aur a 1,200 cilogram o arian, a 67 o wisgoedd i'r offeiriaid. | |
Chapter 8
Nehe | WelBeibl | 8:1 | a dod at ei gilydd yn Jerwsalem yn y sgwâr o flaen Giât y Dŵr. Dyma nhw'n gofyn i Esra'r ysgrifennydd ddod yno gyda Llyfr Cyfraith Moses oedd yr ARGLWYDD wedi'i roi i bobl Israel. | |
Nehe | WelBeibl | 8:2 | Felly ar ddiwrnod cynta'r seithfed mis dyma Esra'r offeiriad yn dod a darllen y cyfarwyddiadau i'r gynulleidfa oedd yno – yn ddynion a merched, a phawb oedd yn ddigon hen i ddeall. | |
Nehe | WelBeibl | 8:3 | Bu'n darllen iddyn nhw yn y sgwâr o flaen Giât y Dŵr o'r bore bach hyd ganol dydd. Roedd pawb yn gwrando'n astud ar beth roedd sgrôl y Gyfraith yn ei ddweud. | |
Nehe | WelBeibl | 8:4 | Roedd Esra'n sefyll ar lwyfan uchel o goed oedd wedi'i godi'n unswydd. Roedd Matitheia, Shema, Anaia, Wreia, Chilcïa, a Maaseia yn sefyll ar ei ochr dde iddo, a Pedaia, Mishael, Malcîa, Chashŵm, Chashbadana, Sechareia a Meshwlam ar y chwith. | |
Nehe | WelBeibl | 8:5 | Dyma Esra yn agor y sgrôl. (Roedd pawb yn ei weld yn gwneud hyn, gan ei fod i fyny ar y llwyfan.) Pan agorodd y sgrôl, dyma'r bobl i gyd yn sefyll ar eu traed. | |
Nehe | WelBeibl | 8:6 | Yna dyma Esra yn bendithio yr ARGLWYDD, y Duw mawr. A dyma'r bobl yn ateb, “Amen! Amen!” a chodi eu dwylo. Yna dyma nhw'n plygu'n isel i addoli'r ARGLWYDD, a'i hwynebau ar lawr. | |
Nehe | WelBeibl | 8:7 | Tra oedd y bobl yn sefyll yno, roedd nifer o Lefiaid yn dysgu'r Gyfraith iddyn nhw – Ieshŵa, Bani, Sherefeia, Iamîn, Accwf, Shabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Iosafad, Chanan, a Pelaia. | |
Nehe | WelBeibl | 8:8 | Roedden nhw'n darllen o sgrôl y Gyfraith bob yn adran, ac yna yn ei esbonio, fel bod y bobl yn deall beth oedd yn cael ei ddarllen. | |
Nehe | WelBeibl | 8:9 | Roedd y bobl wedi dechrau crio wrth wrando ar y Gyfraith yn cael ei darllen iddyn nhw. A dyma Nehemeia y llywodraethwr, Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, a'r Lefiaid oedd yn rhoi'r esboniad, yn dweud, “Mae heddiw'n ddiwrnod wedi'i gysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. Peidiwch galaru a chrio. | |
Nehe | WelBeibl | 8:10 | Ewch i ddathlu a mwynhau pryd o fwyd a diod felys, a chofiwch rannu gyda'r rhai sydd heb ddim. Mae heddiw'n ddiwrnod wedi'i gysegru i'r Meistr. Peidiwch bod yn drist – bod yn llawen yn yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth i chi!” | |
Nehe | WelBeibl | 8:11 | Yna dyma'r Lefiaid yn tawelu'r bobl, a dweud, “Ust! Stopiwch grio. Mae heddiw'n ddiwrnod cysegredig.” | |
Nehe | WelBeibl | 8:12 | Felly dyma'r bobl i gyd yn mynd i ffwrdd i fwyta ac yfed a rhannu beth oedd ganddyn nhw'n llawen – achos roedden nhw wedi deall beth oedd wedi cael ei ddysgu iddyn nhw. | |
Nehe | WelBeibl | 8:13 | Yna'r diwrnod wedyn dyma benaethiaid y claniau, yr offeiriaid a'r Lefiaid yn cyfarfod gydag Esra yr ysgrifennydd i astudio eto beth roedd y Gyfraith yn ei ddweud. | |
Nehe | WelBeibl | 8:14 | A dyma nhw'n darganfod fod yr ARGLWYDD wedi rhoi gorchymyn drwy Moses fod pobl Israel i fyw mewn llochesau dros dro yn ystod yr Ŵyl yn y seithfed mis. | |
Nehe | WelBeibl | 8:15 | Roedden nhw i fod i gyhoeddi'r neges yma drwy'r trefi i gyd, ac yn Jerwsalem: “Ewch i'r bryniau i gasglu canghennau deiliog pob math o goed – olewydd, myrtwydd, palmwydd ac yn y blaen – i godi'r llochesau gyda nhw. Dyna sydd wedi'i ysgrifennu yn y Gyfraith.” | |
Nehe | WelBeibl | 8:16 | Felly dyma'r bobl yn mynd allan a dod â'r canghennau yn ôl gyda nhw i godi llochesau iddyn nhw'u hunain – ar ben to eu tai, neu yn yr iard, yn iard y deml ac yn sgwâr Giât y Dŵr a Giât Effraim. | |
Nehe | WelBeibl | 8:17 | Aeth pawb oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud ati i godi llochesau dros dro i fyw ynddyn nhw dros yr Ŵyl. Doedd pobl Israel ddim wedi gwneud fel yma ers dyddiau Josua fab Nwn. Roedd pawb yn dathlu'n llawen. | |
Chapter 9
Nehe | WelBeibl | 9:1 | Ar y pedwerydd ar hugain o'r un mis dyma bobl Israel yn dod at ei gilydd eto. Roedden nhw'n ymprydio, yn gwisgo sachliain, ac wedi taflu pridd ar eu pennau. | |
Nehe | WelBeibl | 9:2 | Dyma'r rhai oedd yn ddisgynyddion go iawn i bobl Israel yn gwahanu eu hunain oddi wrth bobl o wledydd eraill, a sefyll i gyffesu eu bod nhw a'u hynafiaid wedi pechu a gwneud drwg. | |
Nehe | WelBeibl | 9:3 | Buon nhw'n sefyll yno am dair awr, tra oedd Cyfraith yr ARGLWYDD eu Duw yn cael ei darllen o'r sgrôl, ac yna am dair awr arall yn cyffesu eu pechodau a plygu i lawr i addoli. | |
Nehe | WelBeibl | 9:4 | Yna dyma'r Lefiaid – Ieshŵa, Bani, Cadmiel, Shefaneia, Bwnni, Sherefeia, Bani, a Cenani – yn sefyll ar y grisiau yn crio a galw'n uchel ar yr ARGLWYDD eu Duw. | |
Nehe | WelBeibl | 9:5 | Wedyn dyma grŵp arall o Lefiaid – Ieshŵa, Cadmiel, Bani, Chashafneia, Sherefeia, Hodeia, Shefaneia, a Pethacheia – yn cyhoeddi, “Safwch ar eich traed a bendithio yr ARGLWYDD eich Duw!” “Bendith arnat ti, O ARGLWYDD ein Duw, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! Boed i dy enw gwych di gael ei fendithio, er nad ydy geiriau'n ddigon i fynegi'r fendith a'r mawl! | |
Nehe | WelBeibl | 9:6 | Ti ydy'r ARGLWYDD, a dim ond ti. Ti wnaeth greu yr awyr, y gofod a'r holl sêr; y ddaear a phopeth sydd arni, a'r moroedd a phopeth sydd ynddynt. Ti sydd yn cynnal y cwbl, ac mae tyrfa'r nefoedd yn plygu o dy flaen di. | |
Nehe | WelBeibl | 9:7 | Ti ydy'r ARGLWYDD Dduw wnaeth ddewis Abram, a'i arwain allan o Ur yn Babilonia, a rhoi'r enw Abraham iddo. | |
Nehe | WelBeibl | 9:8 | Pan welaist ei fod yn ffyddlon dyma ti'n ymrwymo gydag e i roi gwlad Canaan i'w ddisgynyddion – tir yr Hethiaid a'r Amoriaid, y Peresiaid, y Jebwsiaid a'r Girgasiaid. A dyma ti'n cadw dy air, am dy fod ti'n gwneud beth sy'n iawn. | |
Nehe | WelBeibl | 9:9 | Gwelaist ein hynafiaid yn dioddef yn yr Aifft, a chlywaist nhw'n gweiddi am help wrth y Môr Coch. | |
Nehe | WelBeibl | 9:10 | Yna gwnest wyrthiau rhyfeddol i daro'r Pharo a'i swyddogion, a phobl y wlad, am fod mor greulon. Ti'n enwog am y pethau yma hyd heddiw. | |
Nehe | WelBeibl | 9:11 | Dyma ti'n hollti'r môr o'u blaenau nhw, iddyn nhw gerdded drwy'r môr ar dir sych! Yna dyma ti'n taflu'r rhai oedd yn ceisio'u dal i'r dŵr dwfn, a dyma nhw'n suddo fel carreg dan y tonnau mawr. | |
Nehe | WelBeibl | 9:12 | Ti wnaeth arwain dy bobl gyda cholofn o niwl yn y dydd, a cholofn o dân i oleuo'r ffordd yn y nos. | |
Nehe | WelBeibl | 9:13 | Dyma ti'n dod i lawr ar Fynydd Sinai, a siarad gyda nhw o'r nefoedd. Rhoddaist ganllawiau teg, dysgeidiaeth wir, rheolau a gorchmynion da. | |
Nehe | WelBeibl | 9:14 | Eu dysgu nhw fod y Saboth yn gysegredig, a chael Moses i ddysgu dy orchmynion, dy reolau a'th ddysgeidiaeth iddyn nhw. | |
Nehe | WelBeibl | 9:15 | Rhoist fara o'r nefoedd iddyn nhw pan oedden nhw eisiau bwyd; a dod â dŵr o'r graig pan oedden nhw'n sychedig. Yna dwedaist wrthyn nhw am fynd i gymryd y tir roeddet ti wedi addo ei roi iddyn nhw. | |
Nehe | WelBeibl | 9:16 | Ond roedd ein hynafiaid yn falch ac ystyfnig, a wnaethon nhw ddim gwrando ar dy orchmynion di. | |
Nehe | WelBeibl | 9:17 | Gwrthodon nhw wrando, ac anghofio'r gwyrthiau roeddet ti wedi'u gwneud yn eu plith nhw. Dyma nhw'n gwrthryfela, a dewis arweinydd i'w harwain nhw yn ôl i'r Aifft. Ond rwyt ti'n Dduw sydd yn maddau, rwyt ti mor garedig a thrugarog, mor amyneddgar ac mor anhygoel o hael! Wnest ti ddim hyd yn oed troi cefn arnyn nhw | |
Nehe | WelBeibl | 9:18 | pan wnaethon nhw eilun metel ar siâp tarw ifanc a honni, ‘Dyma'r duw ddaeth â chi allan o'r Aifft!’ neu pan oedden nhw'n cablu yn ofnadwy. | |
Nehe | WelBeibl | 9:19 | Am dy fod ti mor drugarog, wnest ti ddim troi cefn arnyn nhw yn yr anialwch. Roedd y golofn o niwl yn dal i'w harwain yn y dydd, a'r golofn dân yn dal i oleuo'r ffordd iddyn nhw yn y nos. | |
Nehe | WelBeibl | 9:20 | Dyma ti'n rhoi dy ysbryd da i'w dysgu nhw. Wnest ti ddim stopio rhoi manna iddyn nhw i'w fwyta, a dal i roi dŵr i dorri eu syched. | |
Nehe | WelBeibl | 9:21 | Dyma ti'n eu cynnal nhw am bedwar deg mlynedd. Er eu bod yn yr anialwch, doedden nhw'n brin o ddim; wnaeth eu dillad ddim treulio, a'u traed ddim chwyddo. | |
Nehe | WelBeibl | 9:22 | Yna dyma ti'n rhoi teyrnasoedd a phobloedd iddyn nhw, a rhannu pob cornel o'r tir rhyngddyn nhw. Dyma nhw'n meddiannu tir Sihon, brenin Cheshbon, a thir Og, brenin Bashan. | |
Nehe | WelBeibl | 9:23 | Dyma ti'n rhoi cymaint o ddisgynyddion iddyn nhw ag sydd o sêr yn yr awyr. A dod â nhw i'r tir roeddet ti wedi dweud wrth eu tadau eu bod i'w feddiannu. | |
Nehe | WelBeibl | 9:24 | A dyma'r disgynyddion yn mynd i mewn a'i gymryd. Ti wnaeth goncro'r Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad. Ti wnaeth roi'r fuddugoliaeth iddyn nhw – iddyn nhw wneud fel y mynnan nhw â'r bobl a'u brenhinoedd. | |
Nehe | WelBeibl | 9:25 | Dyma nhw'n concro trefi caerog a chymryd tir ffrwythlon. Meddiannu tai yn llawn o bethau da, pydewau wedi'u cloddio, gwinllannoedd, gerddi olewydd, a digonedd o goed ffrwythau. Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a phesgi; roedden nhw'n byw'n fras ar dy holl ddaioni. | |
Nehe | WelBeibl | 9:26 | Ond dyma nhw'n dechrau bod yn anufudd a gwrthryfela yn dy erbyn. Troi cefn ar dy Gyfraith a lladd dy broffwydi fu'n eu siarsio i droi'n ôl atat ti – roedden nhw'n cablu yn ofnadwy. | |
Nehe | WelBeibl | 9:27 | Felly dyma ti'n gadael i'w gelynion eu gorchfygu a'u gorthrymu. Ond dyma nhw'n gweiddi am dy help o ganol eu trafferthion, a dyma ti'n gwrando o'r nefoedd. Am dy fod ti mor barod i dosturio, dyma ti'n anfon rhai i'w hachub o afael eu gelynion. | |
Nehe | WelBeibl | 9:28 | Ond yna, pan oedden nhw'n gyfforddus eto, dyma nhw'n mynd yn ôl i'w ffyrdd drwg. Felly dyma ti'n gadael i'w gelynion gael y llaw uchaf arnyn nhw. Wedyn bydden nhw'n gweiddi am dy help di eto, a byddet tithau'n gwrando o'r nefoedd ac yn eu hachub nhw dro ar ôl tro am dy fod mor drugarog. | |
Nehe | WelBeibl | 9:29 | Yna roeddet ti'n eu siarsio i droi'n ôl at dy Gyfraith di, ond roedden nhw'n falch ac yn gwrthod gwrando ar dy orchmynion. Dyma nhw'n gwrthod dy ganllawiau – y rhai sy'n rhoi bywyd i'r sawl sy'n ufudd iddyn nhw. Aethon nhw'n fwy a mwy ystyfnig; a gwrthryfela yn lle bod yn ufudd. | |
Nehe | WelBeibl | 9:30 | Buost mor amyneddgar hefo nhw, am flynyddoedd lawer. Buodd dy Ysbryd yn eu siarsio drwy'r proffwydi. Ond doedden nhw ddim am wrando, felly dyma ti'n gadael i bobloedd gwledydd eraill eu gorchfygu. | |
Nehe | WelBeibl | 9:31 | Ac eto, am dy fod ti mor drugarog, wnest ti ddim cael gwared â nhw yn llwyr; wnest ti ddim troi dy gefn arnyn nhw. Rwyt ti mor garedig a thrugarog! | |
Nehe | WelBeibl | 9:32 | Felly, o ein Duw – y Duw mawr, pwerus, rhyfeddol, sy'n cadw dy ymrwymiad ac sydd mor hael – dŷn ni wedi dioddef caledi ers dyddiau brenhinoedd Asyria (ni y bobl, ein brenhinoedd, arweinwyr, offeiriaid, proffwydi, a'n hynafiaid); paid meddwl mai peth bach ydy hyn. | |
Nehe | WelBeibl | 9:33 | Roeddet ti'n iawn yn gadael i'r cwbl ddigwydd i ni. Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon; ni sydd wedi bod ar fai. | |
Nehe | WelBeibl | 9:34 | Wnaeth ein brenhinoedd a'n harweinwyr, ein hoffeiriaid a'n hynafiaid, ddim cadw dy gyfraith, dy ganllawiau a'th orchmynion. | |
Nehe | WelBeibl | 9:35 | Wnaethon nhw ddim dy wasanaethu di na throi cefn ar eu ffyrdd drwg, hyd yn oed pan oedd popeth ganddyn nhw: teyrnas, dy ddaioni rhyfeddol tuag atyn nhw, a'r tir da a ffrwythlon wnest ti ei roi iddyn nhw. | |
Nehe | WelBeibl | 9:36 | A dyma ni, heddiw, yn gaethweision yn y tir ffrwythlon wnest ti ei roi i'n hynafiaid! Ydyn, dŷn ni'n gaethweision yma! | |
Nehe | WelBeibl | 9:37 | Mae'r holl gnydau sy'n tyfu yma yn mynd i'r brenhinoedd rwyt ti wedi'u rhoi i'n rheoli, o achos ein pechodau. Maen nhw'n ein rheoli ni a'n hanifeiliaid, ac yn gwneud fel y mynnan nhw! Mae hi'n galed arnon ni! | |
Chapter 10
Nehe | WelBeibl | 10:1 | Dyma'r enwau oedd ar y copi: Nehemeia y llywodraethwr (mab Hachaleia), a Sedeceia, | |
Nehe | WelBeibl | 10:28 | Dyma weddill y bobl yn ymuno gyda'r arweinwyr i dyngu llw y bydden nhw'n ufudd i'r Gyfraith roddodd Duw i'w was Moses. (Roedd hyn yn cynnwys yr offeiriaid, Lefiaid, gofalwyr y giatiau, cantorion, gweision y deml, a phawb oedd wedi gwahanu eu hunain oddi wrth y bobl o wledydd eraill er mwyn bod yn ufudd i gyfraith Duw. Hefyd eu gwragedd, a'u meibion a'u merched, a phawb oedd yn ddigon hen i ddeall.) Os bydden nhw'n anufudd, roedden nhw'n cytuno y bydden nhw dan felltith. Ond roedden nhw'n addo y bydden nhw'n cadw gorchmynion yr ARGLWYDD ein Meistr, a'i reolau a'i ganllawiau. | |
Nehe | WelBeibl | 10:29 | Dyma weddill y bobl yn ymuno gyda'r arweinwyr i dyngu llw y bydden nhw'n ufudd i'r Gyfraith roddodd Duw i'w was Moses. (Roedd hyn yn cynnwys yr offeiriaid, Lefiaid, gofalwyr y giatiau, cantorion, gweision y deml, a phawb oedd wedi gwahanu eu hunain oddi wrth y bobl o wledydd eraill er mwyn bod yn ufudd i gyfraith Duw. Hefyd eu gwragedd, a'u meibion a'u merched, a phawb oedd yn ddigon hen i ddeall.) Os bydden nhw'n anufudd, roedden nhw'n cytuno y bydden nhw dan felltith. Ond roedden nhw'n addo y bydden nhw'n cadw gorchmynion yr ARGLWYDD ein Meistr, a'i reolau a'i ganllawiau. | |
Nehe | WelBeibl | 10:30 | “Wnawn ni ddim rhoi'n merched yn wragedd i'r bobl baganaidd o'n cwmpas, na chymryd eu merched nhw yn wragedd i'n meibion ni. | |
Nehe | WelBeibl | 10:31 | Os bydd y bobloedd eraill yn ceisio gwerthu grawn neu unrhyw nwyddau ar y Saboth (neu ddiwrnod cysegredig arall) wnawn ni ddim prynu ganddyn nhw. Bob saith mlynedd byddwn ni'n gadael ein caeau heb eu trin ac yn canslo pob dyled. | |
Nehe | WelBeibl | 10:32 | Dŷn ni hefyd yn derbyn fod rhaid talu treth flynyddol o un rhan o dair o sicl (sef bron 4 gram o arian) i deml Dduw. | |
Nehe | WelBeibl | 10:33 | Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i dalu am y torthau sydd i'w gosod ar fwrdd o flaen Duw, a'r gwahanol offrymau – yr offrwm dyddiol o rawn a'r offrwm i'w losgi, offrymau'r Sabothau, yr offrymau misol ar ŵyl y lleuad newydd a'r gwyliau eraill, unrhyw offrymau eraill sydd wedi'u cysegru i Dduw, a'r offrymau puro o bechod sy'n gwneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw. Hefyd unrhyw waith arall sydd i'w wneud i'r deml. | |
Nehe | WelBeibl | 10:34 | Dŷn ni (yr offeiriaid, Lefiaid a'r bobl gyffredin) wedi trefnu (drwy fwrw coelbren) pryd yn ystod y flwyddyn mae pob teulu i ddarparu coed i'w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein Duw yn y deml, fel mae'n dweud yn y Gyfraith. | |
Nehe | WelBeibl | 10:35 | A dŷn ni'n addo hefyd y byddwn ni, bob blwyddyn, yn dod â ffrwythau cyntaf y tir a ffrwyth cyntaf pob coeden i deml yr ARGLWYDD. | |
Nehe | WelBeibl | 10:36 | Byddwn ni hefyd yn dod â'n meibion hynaf, a'r anifeiliaid cyntaf i gael eu geni, i deml Dduw i'w cyflwyno i'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yno, fel mae'r Gyfraith yn dweud. | |
Nehe | WelBeibl | 10:37 | Byddwn hefyd yn rhoi'r gorau o'n toes, grawn, ffrwythau, sudd grawnwin ac olew olewydd, i'r offeiriaid yn stordai teml ein Duw. A hefyd un rhan o ddeg o'n cnydau i'w rhoi i'r Lefiaid (gan mai'r Lefiaid sy'n casglu'r ddegfed ran yn y trefi lle dŷn ni'n gweithio). | |
Nehe | WelBeibl | 10:38 | Bydd offeiriad – un o ddisgynyddion Aaron – gyda'r Lefiaid pan mae'r gyfran yma'n cael ei gasglu. Yna bydd y Lefiaid yn mynd â degfed ran o'r hyn gasglwyd i stordai teml Dduw. | |
Nehe | WelBeibl | 10:39 | Bydd pobl Israel a'r Lefiaid yn mynd â'r cyfraniadau yma (o rawn, sudd grawnwin, ac olew olewydd) i'r stordai lle mae holl offer y deml yn cael ei gadw. Dyna hefyd lle mae'r offeiriaid, gofalwyr y giatiau a'r cantorion yn aros. Dŷn ni'n addo na fyddwn ni'n esgeuluso teml ein Duw.” | |
Chapter 11
Nehe | WelBeibl | 11:1 | Roedd arweinwyr y bobl wedi setlo yn Jerwsalem. A dyma gweddill y bobl yn taflu coelbren i benderfynu pwy arall oedd i symud i fyw i'r ddinas gysegredig. Roedd un o bob deg i fynd i Jerwsalem, a'r gweddill i fyw yn y trefi eraill. | |
Nehe | WelBeibl | 11:3 | Dyma restr o arweinwyr y dalaith wnaeth setlo yn Jerwsalem (Roedd y rhan fwya o bobl Israel yn byw yn eu tai eu hunain yn y trefi eraill yn Jwda – a'r offeiriaid, Lefiaid, gweithwyr y deml, a disgynyddion gweision Solomon. | |
Nehe | WelBeibl | 11:4 | Ond symudodd rhai o ddisgynyddion Jwda a Benjamin i fyw yn Jerwsalem.) O lwyth Jwda: Athaia fab Wseia (mab Sechareia, mab Amareia, mab Sheffateia, mab Mahalal-el, o glan Perets); | |
Nehe | WelBeibl | 11:5 | Maaseia fab Barŵch (mab Colchose, mab Chasaia, mab Adaia, mab Ioiarîf, mab Sechareia, o glan Shela fab Jwda). | |
Nehe | WelBeibl | 11:7 | O lwyth Benjamin: Salw fab Meshwlam (mab Ioed, mab Pedaia, mab Colaia, mab Maaseia, mab Ithiel, mab Ieshaia,) | |
Nehe | WelBeibl | 11:9 | (Joel fab Sichri oedd y swyddog oedd yn gyfrifol amdanyn nhw, a Jwda fab Hasenŵa oedd ei ddirprwy yn y ddinas.) | |
Nehe | WelBeibl | 11:11 | Seraia fab Chilceia (mab Meshwlam, mab Sadoc, mab Meraioth, mab Achitwf) sef archoffeiriad teml Dduw, | |
Nehe | WelBeibl | 11:12 | a'i perthnasau oedd yn gweithio gyda nhw yn y deml – 822. Adaia fab Ierocham (mab Pelaleia, mab Amtsi, mab Sechareia, mab Pashchwr, mab Malcîa), | |
Nehe | WelBeibl | 11:13 | a'i perthnasau oedd yn arweinwyr y clan – 242; Amash'sai fab Asarel (mab Achsai, mab Meshilemoth, mab Immer,) | |
Nehe | WelBeibl | 11:14 | a'i berthnasau, y dynion dewr eraill oedd yn gweithio gydag e – 128. (Safdiel fab Hagedolîm oedd y swyddog yn gyfrifol amdanyn nhw.) | |
Nehe | WelBeibl | 11:16 | Shabbethai a Iosafad, arweinwyr y Lefiaid, oedd yn gyfrifol am y gwaith allanol ar deml Dduw; | |
Nehe | WelBeibl | 11:17 | Mataneia fab Micha (mab Sabdi ac ŵyr i Asaff), oedd yn arwain y gweddi ar mawl; Bacbwceia oedd ei ddirprwy; ac Afda fab Shammwa (mab Galal, mab Iedwthwn). | |
Nehe | WelBeibl | 11:19 | Yna gofalwyr y giatiau: Accwf, Talmon a'r rhai oedd yn gwarchod y giatiau gyda nhw – 172. | |
Nehe | WelBeibl | 11:20 | Roedd gweddill pobl Israel, a gweddill yr offeiriaid a'r Lefiaid, yn byw yn eu tai eu hunain yn y trefi eraill yn Jwda. | |
Nehe | WelBeibl | 11:21 | Roedd gweithwyr y deml yn byw yn Offel, a Sicha a Gishpa oedd yn gyfrifol amdanyn nhw. | |
Nehe | WelBeibl | 11:22 | Rheolwr y Lefiaid yn Jerwsalem oedd Wssi fab Bani (mab Chashafeia, mab Mataneia, mab Micha), oedd yn un o ddisgynyddion Asaff, sef y cantorion oedd yn arwain yr addoliad yn nheml Dduw. | |
Nehe | WelBeibl | 11:24 | Ac roedd Pethacheia fab Meshesafel (o glan Serach o lwyth Jwda) ar gael i roi cyngor i'r brenin am faterion yn ymwneud â'r bobl. | |
Nehe | WelBeibl | 11:25 | I droi at y pentrefi a'r tiroedd o'u cwmpas nhw: Dyma bobl llwyth Jwda yn setlo yn Ciriath-arba a'r pentrefi o'i chwmpas, Dibon a'i phentrefi, Icaftseël a'i phentrefi, | |
Nehe | WelBeibl | 11:30 | Sanoach, Adwlam, a'u pentrefi. Lachish a'i thiroedd, ac Aseca a'i phentrefi. Roedden nhw wedi setlo drwy'r wlad i gyd, o Beersheba yn y de i ddyffryn Hinnom yn y gogledd. | |
Nehe | WelBeibl | 11:31 | Dyma bobl llwyth Benjamin yn setlo yn Geba, Michmas, Ai, a Bethel a'i phentrefi, | |
Chapter 12
Nehe | WelBeibl | 12:1 | Dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid ddaeth yn ôl i Jerwsalem o Babilon gyda Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa: Seraia, Jeremeia, Esra, | |
Nehe | WelBeibl | 12:7 | Salw, Amoc, Chilceia, ac Idaïa. (Nhw oedd penaethiaid yr offeiriaid a'u cydweithwyr yng nghyfnod Ieshŵa.) | |
Nehe | WelBeibl | 12:8 | Ieshŵa, Binnŵi, Cadmiel, Sherefeia, Jwda, a Mataneia yn gyfrifol am y caneuon mawl. | |
Nehe | WelBeibl | 12:10 | Roedd Ieshŵa yn dad i Ioiacîm, Ioiacîm yn dad i Eliashif, Eliashif yn dad i Ioiada, | |
Nehe | WelBeibl | 12:12 | Dyma'r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacîm yn archoffeiriad: OffeiriadClan Meraia– o glan Seraia Chananeia– o glan Jeremeia Meshwlam– o glan Esra Iehochanan– o glan Amareia Jonathan– o glan Malŵch Joseff– o glan Shefaneia Adna– o glan Charîm Chelcai– o glan Meraioth Sechareia– o glan Ido Meshwlam– o glan Ginnethon Sichri– o glan Abeia …– o glan Miniamîn Piltai– o glan Moadeia Shammwa– o glan Bilga Jonathan– o glan Shemaia Matenai– o glan Ioiarîf Wssi– o glan Idaïa Calai– o glan Salw Eber– o glan Amoc Chashafeia– o glan Chilceia Nethanel– o glan Idaïa | |
Nehe | WelBeibl | 12:13 | Dyma'r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacîm yn archoffeiriad: OffeiriadClan Meraia– o glan Seraia Chananeia– o glan Jeremeia Meshwlam– o glan Esra Iehochanan– o glan Amareia Jonathan– o glan Malŵch Joseff– o glan Shefaneia Adna– o glan Charîm Chelcai– o glan Meraioth Sechareia– o glan Ido Meshwlam– o glan Ginnethon Sichri– o glan Abeia …– o glan Miniamîn Piltai– o glan Moadeia Shammwa– o glan Bilga Jonathan– o glan Shemaia Matenai– o glan Ioiarîf Wssi– o glan Idaïa Calai– o glan Salw Eber– o glan Amoc Chashafeia– o glan Chilceia Nethanel– o glan Idaïa | |
Nehe | WelBeibl | 12:14 | Dyma'r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacîm yn archoffeiriad: OffeiriadClan Meraia– o glan Seraia Chananeia– o glan Jeremeia Meshwlam– o glan Esra Iehochanan– o glan Amareia Jonathan– o glan Malŵch Joseff– o glan Shefaneia Adna– o glan Charîm Chelcai– o glan Meraioth Sechareia– o glan Ido Meshwlam– o glan Ginnethon Sichri– o glan Abeia …– o glan Miniamîn Piltai– o glan Moadeia Shammwa– o glan Bilga Jonathan– o glan Shemaia Matenai– o glan Ioiarîf Wssi– o glan Idaïa Calai– o glan Salw Eber– o glan Amoc Chashafeia– o glan Chilceia Nethanel– o glan Idaïa | |
Nehe | WelBeibl | 12:15 | Dyma'r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacîm yn archoffeiriad: OffeiriadClan Meraia– o glan Seraia Chananeia– o glan Jeremeia Meshwlam– o glan Esra Iehochanan– o glan Amareia Jonathan– o glan Malŵch Joseff– o glan Shefaneia Adna– o glan Charîm Chelcai– o glan Meraioth Sechareia– o glan Ido Meshwlam– o glan Ginnethon Sichri– o glan Abeia …– o glan Miniamîn Piltai– o glan Moadeia Shammwa– o glan Bilga Jonathan– o glan Shemaia Matenai– o glan Ioiarîf Wssi– o glan Idaïa Calai– o glan Salw Eber– o glan Amoc Chashafeia– o glan Chilceia Nethanel– o glan Idaïa | |
Nehe | WelBeibl | 12:16 | Dyma'r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacîm yn archoffeiriad: OffeiriadClan Meraia– o glan Seraia Chananeia– o glan Jeremeia Meshwlam– o glan Esra Iehochanan– o glan Amareia Jonathan– o glan Malŵch Joseff– o glan Shefaneia Adna– o glan Charîm Chelcai– o glan Meraioth Sechareia– o glan Ido Meshwlam– o glan Ginnethon Sichri– o glan Abeia …– o glan Miniamîn Piltai– o glan Moadeia Shammwa– o glan Bilga Jonathan– o glan Shemaia Matenai– o glan Ioiarîf Wssi– o glan Idaïa Calai– o glan Salw Eber– o glan Amoc Chashafeia– o glan Chilceia Nethanel– o glan Idaïa | |
Nehe | WelBeibl | 12:17 | Dyma'r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacîm yn archoffeiriad: OffeiriadClan Meraia– o glan Seraia Chananeia– o glan Jeremeia Meshwlam– o glan Esra Iehochanan– o glan Amareia Jonathan– o glan Malŵch Joseff– o glan Shefaneia Adna– o glan Charîm Chelcai– o glan Meraioth Sechareia– o glan Ido Meshwlam– o glan Ginnethon Sichri– o glan Abeia …– o glan Miniamîn Piltai– o glan Moadeia Shammwa– o glan Bilga Jonathan– o glan Shemaia Matenai– o glan Ioiarîf Wssi– o glan Idaïa Calai– o glan Salw Eber– o glan Amoc Chashafeia– o glan Chilceia Nethanel– o glan Idaïa | |
Nehe | WelBeibl | 12:18 | Dyma'r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacîm yn archoffeiriad: OffeiriadClan Meraia– o glan Seraia Chananeia– o glan Jeremeia Meshwlam– o glan Esra Iehochanan– o glan Amareia Jonathan– o glan Malŵch Joseff– o glan Shefaneia Adna– o glan Charîm Chelcai– o glan Meraioth Sechareia– o glan Ido Meshwlam– o glan Ginnethon Sichri– o glan Abeia …– o glan Miniamîn Piltai– o glan Moadeia Shammwa– o glan Bilga Jonathan– o glan Shemaia Matenai– o glan Ioiarîf Wssi– o glan Idaïa Calai– o glan Salw Eber– o glan Amoc Chashafeia– o glan Chilceia Nethanel– o glan Idaïa | |
Nehe | WelBeibl | 12:19 | Dyma'r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacîm yn archoffeiriad: OffeiriadClan Meraia– o glan Seraia Chananeia– o glan Jeremeia Meshwlam– o glan Esra Iehochanan– o glan Amareia Jonathan– o glan Malŵch Joseff– o glan Shefaneia Adna– o glan Charîm Chelcai– o glan Meraioth Sechareia– o glan Ido Meshwlam– o glan Ginnethon Sichri– o glan Abeia …– o glan Miniamîn Piltai– o glan Moadeia Shammwa– o glan Bilga Jonathan– o glan Shemaia Matenai– o glan Ioiarîf Wssi– o glan Idaïa Calai– o glan Salw Eber– o glan Amoc Chashafeia– o glan Chilceia Nethanel– o glan Idaïa | |
Nehe | WelBeibl | 12:20 | Dyma'r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacîm yn archoffeiriad: OffeiriadClan Meraia– o glan Seraia Chananeia– o glan Jeremeia Meshwlam– o glan Esra Iehochanan– o glan Amareia Jonathan– o glan Malŵch Joseff– o glan Shefaneia Adna– o glan Charîm Chelcai– o glan Meraioth Sechareia– o glan Ido Meshwlam– o glan Ginnethon Sichri– o glan Abeia …– o glan Miniamîn Piltai– o glan Moadeia Shammwa– o glan Bilga Jonathan– o glan Shemaia Matenai– o glan Ioiarîf Wssi– o glan Idaïa Calai– o glan Salw Eber– o glan Amoc Chashafeia– o glan Chilceia Nethanel– o glan Idaïa | |
Nehe | WelBeibl | 12:21 | Dyma'r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacîm yn archoffeiriad: OffeiriadClan Meraia– o glan Seraia Chananeia– o glan Jeremeia Meshwlam– o glan Esra Iehochanan– o glan Amareia Jonathan– o glan Malŵch Joseff– o glan Shefaneia Adna– o glan Charîm Chelcai– o glan Meraioth Sechareia– o glan Ido Meshwlam– o glan Ginnethon Sichri– o glan Abeia …– o glan Miniamîn Piltai– o glan Moadeia Shammwa– o glan Bilga Jonathan– o glan Shemaia Matenai– o glan Ioiarîf Wssi– o glan Idaïa Calai– o glan Salw Eber– o glan Amoc Chashafeia– o glan Chilceia Nethanel– o glan Idaïa | |
Nehe | WelBeibl | 12:22 | Wedyn, fel yr offeiriaid, cafodd y Lefiaid oedd yn arweinwyr eu claniau nhw eu rhestru (o gyfnod yr archoffeiriaid Eliashif, Ioiada, Iochanan a Iadwa hyd deyrnasiad Dareius o Persia). | |
Nehe | WelBeibl | 12:23 | Roedd cofrestr o'r Lefiaid oedd yn arweinwyr claniau hyd gyfnod Iochanan wedi'i gadw yn sgrôl y cofnodion hanesyddol. | |
Nehe | WelBeibl | 12:24 | Arweinwyr y Lefiaid: Chashafeia, Sherefeia, Ieshŵa, Binnŵi, a Cadmiel. Yna eu cydweithwyr oedd yn sefyll gyferbyn â nhw i foli a diolch i Dduw. (Roedd un côr yn wynebu y llall fel roedd Dafydd, dyn Duw, wedi dweud.) | |
Nehe | WelBeibl | 12:25 | Yna Mataneia, Bacbwceia, Obadeia, Meshwlam, Talmon ac Accwf yn ofalwyr yn gwarchod y drysau i'r stordai wrth y giatiau. | |
Nehe | WelBeibl | 12:26 | Roedd y rhain i gyd yn gweithio yn y cyfnod pan oedd Ioiacîm (mab Ieshŵa fab Iotsadac) yn archoffeiriad, Nehemeia yn llywodraethwr, ac Esra'r offeiriad yn arbenigwr yn y Gyfraith. | |
Nehe | WelBeibl | 12:27 | Pan oedd wal Jerwsalem yn cael ei chysegru, dyma'r Lefiaid o bobman yn cael eu galw i Jerwsalem i gymryd rhan yn y dathlu. Roedden nhw yno yn canu caneuon o ddiolch i gyfeiliant symbalau, nablau a thelynau. | |
Nehe | WelBeibl | 12:28 | Roedd y cantorion wedi'u casglu hefyd, o'r ardal o gwmpas Jerwsalem a phentrefi Netoffa, | |
Nehe | WelBeibl | 12:29 | Beth-gilgal, a'r wlad o gwmpas Geba ac Asmafeth. (Roedd y cantorion wedi codi pentrefi iddyn nhw'u hunain o gwmpas Jerwsalem.) | |
Nehe | WelBeibl | 12:30 | Pan oedd yr offeiriaid a'r Lefiaid wedi mynd drwy'r ddefod o buro'u hunain, dyma nhw'n cysegru'r bobl, y giatiau, a'r wal. | |
Nehe | WelBeibl | 12:31 | Trefnais i arweinwyr Jwda sefyll ar dop y wal, a chael dau gôr i ganu mawl. Roedd un côr i arwain yr orymdaith ar y wal i gyfeiriad y de at Giât y Sbwriel. | |
Nehe | WelBeibl | 12:35 | offeiriaid gydag utgyrn. Yna'n olaf Sechareia fab Jonathan (mab Shemaia, mab Mataneia, mab Michaia, mab Saccwr, mab Asaff) | |
Nehe | WelBeibl | 12:36 | a'i gyd-gerddorion – Shemaia, Asarel, Milalai, Gilalai, Maai, Nethanel, Jwda, a Chanani – gyda'r offerynnau cerdd oedd y brenin duwiol Dafydd wedi'u dewis. (Esra yr arbenigwr yn y Gyfraith oedd yn arwain y grŵp yma.) | |
Nehe | WelBeibl | 12:37 | Dyma nhw'n mynd dros Giât y Ffynnon, yna yn syth ymlaen i fyny grisiau Dinas Dafydd, heibio ei balas ac at Giât y Dŵr sydd i'r dwyrain. | |
Nehe | WelBeibl | 12:38 | Wedyn roedd yr ail gôr i fynd i'r cyfeiriad arall. Dyma fi'n eu dilyn nhw ar hyd y wal gyda hanner arall yr arweinwyr. Aethon ni heibio Tŵr y Poptai at y Wal Lydan, | |
Nehe | WelBeibl | 12:39 | dros Giât Effraim, Giât Ieshana, Giât y Pysgod, Tŵr Chanan-el, a Tŵr y Cant, at Giât y Defaid, a stopio wrth Giât y Gwarchodwyr. | |
Nehe | WelBeibl | 12:40 | Wedyn, dyma'r ddau gôr oedd yn canu mawl yn cymryd eu lle yn y deml. Dyma finnau yn gwneud yr un fath, a'r grŵp o arweinwyr oedd gyda fi, | |
Nehe | WelBeibl | 12:41 | a'r offeiriaid oedd yn canu utgyrn – Eliacim, Maaseia, Miniamîn, Michaia, Elioenai, Sechareia a Chananeia. | |
Nehe | WelBeibl | 12:42 | Hefyd Maaseia, Shemaia, Eleasar, Wssi, Iehochanan, Malcîa, Elam ac Eser. Yna dyma'r corau yn canu dan arweiniad Israchïa. | |
Nehe | WelBeibl | 12:43 | Roedd yn ddiwrnod o ddathlu, a chafodd llawer iawn o aberthau eu cyflwyno. Roedd Duw wedi gwneud pawb mor hapus. Roedd y gwragedd a'r plant yno yn dathlu hefyd, ac roedd sŵn y dathlu yn Jerwsalem i'w glywed o bell. | |
Nehe | WelBeibl | 12:44 | Y diwrnod hwnnw cafodd dynion eu penodi i ofalu am y stordai, lle byddai cyfraniadau'r bobl yn cael eu cadw – y ffrwythau cyntaf, a'r degymau. Dyna lle byddai cyfraniadau'r bobl i'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cael eu casglu, yn ôl faint o gaeau oedd yn perthyn i bob pentref. Roedd pobl Jwda yn falch o'r offeiriaid a'r Lefiaid oedd yn gwasanaethu. | |
Nehe | WelBeibl | 12:45 | Nhw, gyda'r cantorion a gofalwyr y giatiau, oedd yn arwain y defodau ac yn cynnal seremonïau'r puro, fel gwnaeth y Brenin Dafydd a'i fab Solomon orchymyn. | |
Nehe | WelBeibl | 12:46 | Ers pan oedd y Brenin Dafydd ac Asaff yn fyw, roedd yna rai yn arwain y cantorion, a'r caneuon o fawl a diolch i Dduw. | |
Chapter 13
Nehe | WelBeibl | 13:1 | Ar yr un diwrnod, pan oedd Cyfraith Moses yn cael ei darllen i bawb, dyma nhw'n darganfod fod pobl Ammon a Moab wedi'u gwahardd am byth rhag perthyn i gynulleidfa pobl Dduw. | |
Nehe | WelBeibl | 13:2 | Y rheswm am hynny oedd eu bod wedi gwrthod rhoi bwyd a dŵr i bobl Israel, ac wedi talu Balaam i'w melltithio nhw (er fod ein Duw ni wedi troi'r felltith yn fendith!) | |
Nehe | WelBeibl | 13:3 | Felly pan glywon nhw hyn yn y Gyfraith, dyma pawb oedd o dras gymysg yn cael eu taflu allan. | |
Nehe | WelBeibl | 13:4 | Beth amser cyn hyn i gyd, roedd Eliashif yr offeiriad wedi'i benodi i fod yn gyfrifol am y stordai yn y deml. Roedd Eliashif yn perthyn i Tobeia, | |
Nehe | WelBeibl | 13:5 | ac roedd wedi gadael i Tobeia ddefnyddio un o stordai y deml. Pethau'r deml oedd yn arfer cael eu storio yno – yr offrwm o rawn, y thus, offer y deml, a hefyd y degfed rhan o'r grawn, sudd grawnwin, ac olew olewydd oedd i gael ei roi i'r Lefiaid, y cantorion, gofalwyr y giatiau, a chyfran yr offeiriaid. | |
Nehe | WelBeibl | 13:6 | Doeddwn i ddim yn byw yn Jerwsalem ar y pryd. Y flwyddyn pan oedd Artaxerxes, brenin Babilon, wedi bod yn teyrnasu ers tri deg dwy o flynyddoedd roeddwn i wedi mynd ato. Ond wedyn, beth amser ar ôl hynny, roeddwn i wedi gofyn am ganiatâd ganddo | |
Nehe | WelBeibl | 13:7 | i ddod yn ôl i Jerwsalem. A dyna pryd wnes i ddarganfod y drwg roedd Eliashif wedi'i wneud yn rhoi ystafell yng nghanol teml Dduw i Tobeia ei defnyddio. | |
Nehe | WelBeibl | 13:8 | Rôn i wedi gwylltio'n lân, a dyma fi'n gorchymyn clirio popeth oedd biau Tobeia allan o'r stordy. | |
Nehe | WelBeibl | 13:9 | Yna dyma fi'n dweud fod y stordai i gael eu puro cyn i offer y deml gael ei roi yn ôl ynddyn nhw, gyda'r offrwm o rawn a'r thus. | |
Nehe | WelBeibl | 13:10 | Dyma fi'n darganfod hefyd fod pobl ddim wedi bod yn rhoi eu cyfran o rawn i'r Lefiaid, ac felly roedd y Lefiaid a'r cantorion i gyd wedi gadael i weithio ar y tir. | |
Nehe | WelBeibl | 13:11 | Felly dyma fi'n mynd i gwyno i swyddogion y ddinas, a gofyn, “Pam mae teml Dduw yn cael ei hesgeuluso?” Wedyn dyma fi'n galw'r Lefiaid yn ôl at ei gilydd, a rhannu eu cyfrifoldebau iddyn nhw. | |
Nehe | WelBeibl | 13:12 | Ar ôl hyn dechreuodd pobl Jwda i gyd ddod â'r ddegfed ran o'r grawn, sudd grawnwin ac olew olewydd i'r stordai eto. | |
Nehe | WelBeibl | 13:13 | Dyma fi'n gwneud Shelemeia yr offeiriad, Sadoc yr ysgrifennydd, a Lefiad o'r enw Pedaia yn gyfrifol am y stordai, a Chanan (oedd yn fab i Saccwr ac ŵyr i Mataneia) i'w helpu. Roedden nhw'n ddynion y gallwn i eu trystio. Eu cyfrifoldeb nhw fyddai goruchwylio dosbarthu'r cwbl i'w cydweithwyr. | |
Nehe | WelBeibl | 13:14 | O Dduw, plîs cofia beth dw i wedi'i wneud. Paid anghofio'r cwbl dw i wedi'i wneud ar ran teml fy Nuw a'r gwasanaethau ynddi. | |
Nehe | WelBeibl | 13:15 | Yr adeg yna hefyd dyma fi'n darganfod pobl yn Jwda oedd yn sathru grawnwin ar y Saboth. Roedden nhw'n llwytho asynnod a dod â'u cnydau i'w gwerthu yn Jerwsalem ar y Saboth – grawn, gwin, grawnwin, ffigys, a phob math o bethau eraill. Dyma fi'n eu ceryddu nhw y diwrnod roedden nhw'n gwerthu'r cynnyrch yma i gyd. | |
Nehe | WelBeibl | 13:16 | Roedd pobl Tyrus oedd yn byw yno yn dod â physgod a phob math o gynnyrch arall i'w werthu i bobl Jwda ar y Saboth. Roedd hyn i gyd yn digwydd yn Jerwsalem o bobman! | |
Nehe | WelBeibl | 13:17 | Felly dyma fi'n mynd at bobl bwysig Jwda i wneud cwyn swyddogol. “Sut allwch chi wneud y fath ddrwg? Dych chi'n halogi'r dydd Saboth! | |
Nehe | WelBeibl | 13:18 | Onid dyma sut roedd eich hynafiaid yn ymddwyn, a gwneud i Dduw ddod â'r holl helynt arnon ni a'r ddinas yma? A dyma chi nawr yn gwneud pethau'n waeth, a gwneud Duw'n fwy dig eto gydag Israel drwy halogi'r Saboth fel yma!” | |
Nehe | WelBeibl | 13:19 | Dyma fi'n gorchymyn fod giatiau Jerwsalem i gael eu cau pan oedd hi'n dechrau tywyllu cyn y Saboth, a ddim i gael eu hagor nes byddai'r Saboth drosodd. Yna dyma fi'n gosod rhai o'm dynion fy hun i warchod y giatiau a gwneud yn siŵr fod dim nwyddau yn dod i mewn ar y Saboth. | |
Nehe | WelBeibl | 13:20 | Arhosodd y masnachwyr a'r rhai oedd yn gwerthu gwahanol nwyddau tu allan i Jerwsalem dros nos unwaith neu ddwy. | |
Nehe | WelBeibl | 13:21 | Ond dyma fi'n eu rhybuddio nhw, “Os gwnewch chi aros yma dros nos wrth y wal eto, bydda i'n eich arestio chi!” Wnaethon nhw ddim dod yno ar y Saboth o hynny ymlaen. | |
Nehe | WelBeibl | 13:22 | Yna dyma fi'n dweud wrth y Lefiaid am fynd drwy'r ddefod o buro'u hunain, a dod i warchod y giatiau er mwyn cadw'r Saboth yn ddiwrnod sbesial, cysegredig. O Dduw, plîs cofia fy mod i wedi gwneud hyn. Dangos dy gariad rhyfeddol ata i drwy fy arbed i. | |
Nehe | WelBeibl | 13:23 | Yr adeg yna hefyd dyma fi'n darganfod fod llawer o Iddewon wedi priodi merched o Ashdod, Ammon a Moab. | |
Nehe | WelBeibl | 13:24 | Roedd hanner y plant yn siarad iaith Ashdod neu ieithoedd rhyw bobloedd eraill. Doedden nhw ddim yn gallu siarad Hebraeg. | |
Nehe | WelBeibl | 13:25 | Felly dyma fi'n dod â cwyn yn eu herbyn nhw. Dyma fi'n galw melltith arnyn nhw, yn curo rhai o'r dynion, a thynnu eu gwallt. A dyma fi'n gwneud iddyn nhw fynd ar lw o flaen Duw, “Dych chi ddim i roi eich merched yn wragedd i'w meibion nhw, na chymryd eu merched nhw yn wragedd i'ch meibion nac i chi'ch hunain! | |
Nehe | WelBeibl | 13:26 | Onid dyma'r math o beth wnaeth i Solomon, brenin Israel, bechu? Doedd dim brenin tebyg iddo drwy'r gwledydd i gyd. Roedd yn annwyl yng ngolwg ei Dduw, a dyma Duw yn ei wneud yn frenin ar Israel gyfan. Ond dyma'r gwragedd o wledydd eraill yn gwneud hyd yn oed iddo fe bechu! | |
Nehe | WelBeibl | 13:27 | Felly ydy'n iawn i ni oddef y drwg yma dych chi'n ei wneud? Dych chi'n bod yn anffyddlon i Dduw yn priodi'r merched estron yma!” | |
Nehe | WelBeibl | 13:28 | Roedd un o feibion Jehoiada, mab Eliashif yr archoffeiriad, wedi priodi merch Sanbalat o Choron. A dyma fi'n gwneud iddo adael y ddinas. | |
Nehe | WelBeibl | 13:29 | O Dduw, paid anghofio beth maen nhw wedi'i wneud. Maen nhw wedi halogi'r offeiriadaeth, a'r ymrwymiad mae offeiriaid a Lefiaid yn ei wneud. | |
Nehe | WelBeibl | 13:30 | Felly dyma fi'n eu puro nhw o bob dylanwad estron, ac yn rhoi cyfrifoldebau penodol i'r offeiriaid a'r Lefiaid. | |