Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ROMANS
Up
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16
Chapter 1
Roma WelBeibl 1:1  Llythyr gan Paul – gwas y Meseia Iesu. Dw i wedi cael fy newis gan Dduw i fod yn gynrychiolydd personol iddo, ac wedi cael fy anfon allan i rannu newyddion da Duw.
Roma WelBeibl 1:2  Dyma'r newyddion da gafodd ei addo ymlaen llaw drwy beth ddwedodd y proffwydi yn yr ysgrifau sanctaidd. Ie, y newyddion da
Roma WelBeibl 1:3  am ei Fab, Iesu y Meseia, ein Harglwydd ni. Fel dyn, roedd Iesu yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd,
Roma WelBeibl 1:4  ond dangosodd yr Ysbryd Glân mewn ffordd rymus ei fod e hefyd yn Fab Duw, pan gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.
Roma WelBeibl 1:5  Mae Duw wedi rhoi i ni y fraint a'r cyfrifoldeb o'i gynrychioli, ac o alw pobl o bob gwlad i gredu ynddo ac i fyw'n ufudd iddo.
Roma WelBeibl 1:6  A dych chi'n rhai o'r bobl hynny – wedi cael eich galw i berthynas â Iesu y Meseia.
Roma WelBeibl 1:7  Dw i'n ysgrifennu atoch chi i gyd yn Rhufain. Chi sydd wedi'ch caru gan Dduw a'ch gwneud yn bobl arbennig iddo. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
Roma WelBeibl 1:8  Dw i eisiau i chi wybod yn gyntaf fy mod i'n diolch i Dduw drwy Iesu y Meseia amdanoch chi i gyd, achos mae pobl drwy'r gwledydd i gyd yn sôn am eich ffydd chi.
Roma WelBeibl 1:9  Dw i wrthi'n gweithio fy ngorau glas dros Dduw drwy gyhoeddi'r newyddion da am ei Fab, ac mae e'n gwybod mod i'n gweddïo drosoch chi o hyd ac o hyd.
Roma WelBeibl 1:10  Dw i'n gweddïo y bydd e'n ei gwneud hi'n bosib i mi ddod atoch chi o'r diwedd.
Roma WelBeibl 1:11  Dw i wir yn hiraethu am gael dod i'ch gweld chi, i mi gael rhannu rhyw fendith ysbrydol gyda chi fydd yn eich gwneud chi'n gryf.
Roma WelBeibl 1:12  Byddwn i a chithau'n cael ein calonogi wrth i ni rannu'n profiadau.
Roma WelBeibl 1:13  Dw i am i chi ddeall, frodyr a chwiorydd annwyl, fy mod i wedi bwriadu dod atoch lawer gwaith, ond mae rhywbeth wedi fy rhwystro bob tro hyd yn hyn. Dw i eisiau gweld mwy a mwy o bobl Rhufain yn dod i gredu yn Iesu, fel sydd wedi digwydd yn y gwledydd eraill lle dw i wedi bod.
Roma WelBeibl 1:14  Mae'n rhaid i mi ddweud am Iesu wrth bawb – mae fel petai gen i ddyled i'w thalu! Dim ots os ydyn nhw'n bobl ddiwylliedig sydd wedi cael addysg neu'n farbariaid cwbl ddi-addysg.
Roma WelBeibl 1:15  A dyna pam dw i mor awyddus i ddod atoch chi yn Rhufain hefyd i gyhoeddi'r newyddion da.
Roma WelBeibl 1:16  Does gen i ddim cywilydd o'r newyddion da o gwbl. Dyma'r ffordd rymus mae Duw'n gweithio i achub pawb sy'n credu – yr Iddew a phawb arall hefyd.
Roma WelBeibl 1:17  Dyma'r newyddion da sy'n dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn â Duw. Yr unig beth sydd ei angen ydy credu ei fod e'n ffyddlon. Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Drwy ffydd mae'r un sy'n iawn gyda Duw yn byw.”
Roma WelBeibl 1:18  Ond mae Duw yn y nefoedd yn dangos ei fod yn ddig ac yn cosbi'r holl bethau drwg mae pobl yn eu gwneud yn ei erbyn. Maen nhw'n mygu'r gwirionedd gyda'u drygioni.
Roma WelBeibl 1:19  Mae beth sydd i'w wybod am Dduw yn amlwg – mae Duw wedi'i wneud yn ddigon clir i bawb.
Roma WelBeibl 1:20  Er bod Duw ei hun yn anweledig, mae'r holl bethau mae wedi'u creu yn dangos yn glir mai fe ydy'r Duw go iawn a bod ei allu yn ddi-ben-draw. Felly does gan neb esgus dros beidio credu!
Roma WelBeibl 1:21  Ond y drwg ydy, er bod pobl yn gwybod fod Duw'n bodoli, maen nhw wedi gwrthod ei anrhydeddu a diolch iddo. Yn lle hynny maen nhw wedi hel pob math o syniadau dwl. Maen nhw wir yn y tywyllwch.
Roma WelBeibl 1:22  Ydyn, maen nhw'n meddwl eu bod nhw mor glyfar, ond ffyliaid ydyn nhw go iawn!
Roma WelBeibl 1:23  Yn lle addoli'r Duw bendigedig sy'n byw am byth bythoedd, maen nhw wedi dewis plygu o flaen delwau wedi'u cerfio i edrych fel pethau fydd yn marw – pobl, adar, anifeiliaid ac ymlusgiaid.
Roma WelBeibl 1:24  Felly mae Duw wedi gadael iddyn nhw fynd eu ffordd eu hunain. Maen nhw wedi dewis gwneud pob math o bethau mochaidd, ac amharchu eu cyrff gyda'i gilydd.
Roma WelBeibl 1:25  Maen nhw wedi credu celwydd yn lle credu beth sy'n wir am Dduw! Maen nhw'n addoli a gwasanaethu pethau sydd wedi cael eu creu yn lle addoli'r Crëwr ei hun! – yr Un sy'n haeddu ei foli am byth! Amen!
Roma WelBeibl 1:26  Ydy, mae Duw wedi gadael i bobl ddilyn eu chwantau gwarthus. Merched yn dewis gwneud beth sy'n annaturiol yn lle cael perthynas rywiol gyda dyn;
Roma WelBeibl 1:27  a dynion hefyd, yn dewis troi cefn ar y berthynas naturiol gyda merch ac yn llosgi o chwant rhywiol am ei gilydd! Maen nhw'n gwneud pethau cwbl anweddus, ac yn wynebu'r gosb maen nhw'n ei haeddu.
Roma WelBeibl 1:28  Am fod pobl wedi gwrthod credu beth sy'n wir am Dduw, mae e wedi gadael iddyn nhw ddilyn eu syniadau pwdr. Maen nhw'n gwneud popeth o'i le –
Roma WelBeibl 1:29  ymddwyn yn anghyfiawn, gwneud pethau drwg, bod yn farus a hunanol, bod yn faleisus, cenfigennu, llofruddio, cecru, twyllo, bod yn sbeitlyd a hel straeon am bobl eraill.
Roma WelBeibl 1:30  Maen nhw'n enllibio pobl, yn casáu Duw, yn haerllug, yn snobyddlyd a hunanbwysig, ac yn meddwl o hyd am ryw ffordd newydd i bechu. Does ganddyn nhw ddim parch at eu rhieni,
Roma WelBeibl 1:31  dydyn nhw'n deall dim, maen nhw'n torri eu gair, yn ddiserch ac yn dangos dim trugaredd.
Roma WelBeibl 1:32  Maen nhw'n gwybod yn iawn fod Duw wedi dweud fod pawb sy'n gwneud y pethau yma yn haeddu marw. Ond maen nhw'n dal ati er hynny, ac yn waeth fyth yn annog pobl eraill i wneud yr un fath â nhw!
Chapter 2
Roma WelBeibl 2:1  Ond wedyn beth amdanat ti? – Ie, ti sydd mor barod i farnu pobl eraill a gosod dy ffon fesur arnyn nhw! Beth ydy dy esgus di? Y gwir ydy, rwyt ti'n gwneud yr un pethau! Felly wrth farnu pobl eraill rwyt ti'n dy gondemnio dy hun!
Roma WelBeibl 2:2  Dŷn ni'n gwybod ei bod hi'n berffaith iawn i Dduw farnu pobl am wneud y fath bethau.
Roma WelBeibl 2:3  Ond wyt ti felly'n meddwl y byddi di'n osgoi cael dy farnu? Ie, ti sydd mor barod i weld bai ar bobl eraill tra'n gwneud yn union yr un pethau dy hun!
Roma WelBeibl 2:4  Neu wyt ti'n cymryd Duw yn ganiataol, am ei fod mor garedig a goddefgar ac amyneddgar? Wyt ti ddim yn gweld fod Duw drwy fod yn garedig atat ti eisiau dy arwain di i newid dy ffyrdd?
Roma WelBeibl 2:5  Ond na, rwyt ti'n rhy ystyfnig! Felly rwyt ti'n storio mwy a mwy o gosb i ti dy hun ar y diwrnod hwnnw pan fydd Duw'n barnu. A bydd Duw'n barnu'n hollol deg.
Roma WelBeibl 2:6  Bydd yn talu nôl i bob un beth mae'n ei haeddu.
Roma WelBeibl 2:7  Bydd y rhai sydd eisiau derbyn ysblander, anrhydedd ac anfarwoldeb gan Dduw – sef y rhai sy'n dal ati i wneud daioni – yn cael bywyd tragwyddol.
Roma WelBeibl 2:8  Ond y rhai hynny sydd ddim ond yn meddwl amdanyn nhw eu hunain, ac sy'n gwrthod y gwir ac yn gwneud pethau drwg – fydd dim byd ond dicter Duw a chosb yn eu disgwyl nhw.
Roma WelBeibl 2:9  Poen a dioddefaint fydd i'r rhai sy'n gwneud drwg – i'r Iddew ac i bawb arall;
Roma WelBeibl 2:10  ond ysblander, anrhydedd a heddwch dwfn fydd i'r rhai sy'n gwneud daioni – i'r Iddew ac i bawb arall.
Roma WelBeibl 2:11  Mae pawb yr un fath – does gan Dduw ddim ffefrynnau!
Roma WelBeibl 2:12  Bydd pobl sydd ddim yn Iddewon, a ddim yn gwybod am Gyfraith Duw, yn mynd i ddistryw am eu bod nhw wedi pechu. A bydd Iddewon, sef y bobl mae'r Gyfraith ganddyn nhw, yn cael eu cosbi am bechu hefyd – am dorri'r Gyfraith honno.
Roma WelBeibl 2:13  Wedi'r cwbl, dydy clywed y Gyfraith ddim yn gwneud eich perthynas chi hefo Duw yn iawn; gwneud beth mae Cyfraith Duw yn ei ddweud sy'n cyfri.
Roma WelBeibl 2:14  (Yn wir, mae pobl sydd ddim yn Iddewon yn gallu gwneud yn naturiol beth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn – er eu bod nhw ddim yn gwybod am y Gyfraith. Maen nhw'n dangos eu bod yn gwybod beth sy'n iawn a beth sydd ddim er bod y Gyfraith ddim ganddyn nhw.
Roma WelBeibl 2:15  Maen nhw'n dangos fod gofynion Cyfraith Duw wedi'u hysgrifennu ar eu calonnau nhw. Mae eu cydwybod nhw naill ai'n eu cyhuddo nhw neu'n dweud wrthyn nhw eu bod yn gwneud y peth iawn.)
Roma WelBeibl 2:16  Yn ôl y newyddion da dw i'n ei gyhoeddi dyna fydd yn cyfri ar y diwrnod pan fydd Duw yn cael y Meseia Iesu i farnu cyfrinachau pawb.
Roma WelBeibl 2:17  Felly ble mae hynny'n dy adael di sy'n galw dy hun yn Iddew? Rwyt ti'n brolio fod gen ti berthynas â Duw am fod gen ti'r Gyfraith.
Roma WelBeibl 2:18  Rwyt ti'n honni dy fod ti'n gwybod beth mae Duw eisiau. Rwyt ti'n gallu dewis beth sydd orau i'w wneud (am dy fod wedi cael dy ddysgu yn y Gyfraith).
Roma WelBeibl 2:19  Rwyt ti'n gweld dy hun fel rhywun sy'n gallu dangos y ffordd i bobl eraill, a rhoi golau i bobl sydd ar goll yn y tywyllwch.
Roma WelBeibl 2:20  Rwyt ti'n meddwl dy fod ti'n gallu dysgu am Dduw i bobl sydd ddim yn gwybod amdano, ac i dy blant. Mae'r Gyfraith gen ti! Mae gen ti bopeth sydd angen ei wybod - y gwir i gyd! …
Roma WelBeibl 2:21  Rwyt ti'n dysgu pobl eraill, wyt ti? Felly, pam wyt ti ddim wedi dy ddysgu dy hun? Ti'n dweud wrth rywun arall “Paid dwyn,” ond yn dwyn dy hun!
Roma WelBeibl 2:22  Ti'n dweud “Paid godinebu”, ond rwyt ti dy hun yn godinebu! Ti'n ffieiddio eilun-dduwiau, ond rwyt ti dy hun yn halogi'r cysegr!
Roma WelBeibl 2:23  Mae'n ddigon hawdd brolio dy fod yn gwybod beth mae Cyfraith Duw'n ei ddweud, ond drwy dorri'r Gyfraith honno rwyt ti dy hun yn amharchu Duw.
Roma WelBeibl 2:24  Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud, “mae pobl y cenhedloedd yn dweud pethau drwg am Dduw o'ch achos chi.”
Roma WelBeibl 2:25  Byddai'r ddefod o enwaediad yn golygu rhywbeth taset ti'n gwneud popeth mae'r Gyfraith yn ei ofyn. Ond os wyt ti'n torri'r Gyfraith does gen ti ddim mantais – waeth i ti fod heb dy enwaedu ddim!
Roma WelBeibl 2:26  Ond os oes rhywun sydd ddim yn Iddew, a heb ei enwaedu, yn gwneud beth mae Cyfraith Duw'n ei ofyn, oni fydd Duw yn ei dderbyn e yn union fel petai wedi cael ei enwaedu?
Roma WelBeibl 2:27  Bydd y dyn sydd heb fod drwy'r ddefod o gael ei enwaedu (ond sy'n gwneud beth mae'r Gyfraith yn ei ofyn) yn dy gondemnio di sydd wedi ‛cadw at lythyren y ddeddf‛ drwy gael dy enwaedu yn gorfforol, ac eto'n dal i dorri'r Gyfraith!
Roma WelBeibl 2:28  Dydy'r pethau allanol ddim yn dy wneud di'n Iddew go iawn. A dydy'r ddefod gorfforol ddim yr un peth ag enwaediad go iawn.
Roma WelBeibl 2:29  Na, enwaediad go iawn ydy'r newid ynot ti sy'n dod drwy'r Ysbryd Glân, dim y weithred lythrennol o dorri'r blaengroen. Iddew go iawn ydy rhywun sydd wedi newid y tu mewn. Mae rhywun felly'n cael ei ganmol gan Dduw, dim gan bobl.
Chapter 3
Roma WelBeibl 3:1  Felly oes unrhyw fantais bod yn Iddew? Oes unrhyw bwynt i'r ddefod o enwaediad?
Roma WelBeibl 3:2  Oes! Mae llond gwlad o fanteision! Yn gyntaf, yr Iddewon gafodd y cyfrifoldeb o ofalu am neges Duw.
Roma WelBeibl 3:3  Mae'n wir fod rhai ohonyn nhw wedi bod yn anffyddlon, ond ydy hynny'n golygu wedyn fod Duw ddim yn gallu bod yn ffyddlon?
Roma WelBeibl 3:4  Wrth gwrs ddim! Mae Duw bob amser yn dweud y gwir er bod “y ddynoliaeth yn gelwyddog” Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn am Dduw: “Mae beth rwyt ti'n ddweud yn iawn; byddi'n ennill yr achos pan fyddi ar brawf.”
Roma WelBeibl 3:5  Ond ydyn ni'n mynd i ddadlau wedyn, “Mae'r pethau drwg dŷn ni'n eu gwneud yn dangos yn gliriach fod Duw yn gwneud beth sy'n iawn, felly mae Duw yn annheg yn ein cosbi ni”? (A dyna sut mae rhai pobl yn dadlau.)
Roma WelBeibl 3:6  Wrth gwrs ddim! Sut fyddai Duw'n gallu barnu'r byd oni bai ei fod yn gwneud beth sy'n iawn?
Roma WelBeibl 3:7  Neu ydy'n iawn dadlau fel yma?: “Mae'r celwydd dw i'n ddweud yn dangos yn gliriach fod Duw yn dweud y gwir, ac mae'n ei anrhydeddu e! Felly pam dw i'n dal i gael fy marnu fel pechadur?”
Roma WelBeibl 3:8  Na! Waeth i ni ddweud wedyn, “Gadewch i ni wneud drwg er mwyn i ddaioni ddod o'r peth”! Ac oes, mae rhai'n hel straeon sarhaus mai dyna dŷn ni yn ei ddweud! … Maen nhw'n haeddu beth sy'n dod iddyn nhw!
Roma WelBeibl 3:9  Felly beth ydyn ni'n ei ddweud? Ydyn ni Iddewon yn well yng ngolwg Duw na phawb arall? Wrth gwrs ddim! Dŷn ni wedi dangos fod pechod yn rheoli'n bywydau ni fel pawb arall!
Roma WelBeibl 3:10  Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth yn glir: “Does gan neb berthynas iawn gyda Duw – neb o gwbl!
Roma WelBeibl 3:11  Does neb sy'n deall go iawn, neb sydd wir yn ceisio Duw.
Roma WelBeibl 3:12  Mae pawb wedi troi cefn arno, ac yn dda i ddim. Does neb yn gwneud daioni – dim un!”
Roma WelBeibl 3:13  “Mae eu geiriau'n drewi fel beddau agored; dim ond twyll sydd ar eu tafodau.” “Mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau.”
Roma WelBeibl 3:14  “Mae eu cegau yn llawn melltith a chwerwedd.”
Roma WelBeibl 3:16  mae dinistr a dioddefaint yn eu dilyn nhw i bobman,
Roma WelBeibl 3:18  “Does ganddyn nhw ddim parch at Dduw o gwbl.”
Roma WelBeibl 3:19  Siarad am yr Iddewon mae Duw yma! Mae'r peth yn amlwg – nhw gafodd yr ysgrifau sanctaidd ganddo! Felly beth mwy sydd i'w ddweud? Mae'r byd i gyd yn wynebu barn Duw.
Roma WelBeibl 3:20  Does neb byw yn gallu bod yn iawn gyda Duw drwy wneud beth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. Beth mae'r Gyfraith yn ei wneud go iawn ydy dangos ein pechod i ni.
Roma WelBeibl 3:21  Ond mae Duw bellach wedi dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn gydag e. Dim cadw'r Gyfraith Iddewig ydy'r ffordd, er bod y Gyfraith a'r Proffwydi yn dangos y ffordd i ni.
Roma WelBeibl 3:22  Y rhai sy'n credu sy'n cael perthynas iawn gyda Duw, am fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon. Mae'r un fath i bawb
Roma WelBeibl 3:23  am fod pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau'u hunain.
Roma WelBeibl 3:24  Duw sy'n gwneud y berthynas yn iawn. Dyma ydy rhodd Duw i ni am fod y Meseia Iesu wedi gwneud popeth oedd ei angen i'n gollwng ni'n rhydd.
Roma WelBeibl 3:25  Drwy ei ffyddlondeb yn tywallt ei waed, rhoddodd Duw e'n aberth i gymryd y gosb am ein pechod ni. Cafodd ei gosbi yn ein lle ni! Roedd yn dangos fod Duw yn berffaith deg, er bod pechodau pobl yn y gorffennol heb eu cosbi cyn hyn. Bod yn amyneddgar oedd e.
Roma WelBeibl 3:26  Ac mae'n dangos ei fod yn dal yn berffaith deg, wrth iddo dderbyn y rhai sy'n credu yn Iesu i berthynas iawn ag e'i hun.
Roma WelBeibl 3:27  Felly oes gynnon ni'r Iddewon le i frolio? Nac oes! Pam ddim? – Yn wahanol i gadw'r Gyfraith Iddewig dydy credu ddim yn rhoi unrhyw le i ni frolio.
Roma WelBeibl 3:28  A dŷn ni'n hollol siŵr mai credu yn Iesu sy'n gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn, dim ein gallu ni i wneud beth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn.
Roma WelBeibl 3:29  Neu ydyn ni'n ceisio honni mai Duw'r Iddewon yn unig ydy Duw? Onid ydy e'n Dduw ar y cenhedloedd eraill i gyd hefyd? Wrth gwrs ei fod e –
Roma WelBeibl 3:30  “Un Duw sydd” ac un ffordd sydd o gael ein derbyn i berthynas iawn gydag e hefyd. Mae e'n derbyn Iddewon (sef ‛pobl yr enwaediad‛) drwy iddyn nhw gredu, ac mae e'n derbyn pawb arall (sef ‛pobl sydd heb enwaediad‛) yn union yn yr un ffordd.
Roma WelBeibl 3:31  Os felly, ydy hyn yn golygu y gallwn ni anghofio Cyfraith Duw? Wrth gwrs ddim! Dŷn ni'n dangos beth ydy gwir ystyr y Gyfraith.
Chapter 4
Roma WelBeibl 4:1  Ond beth am Abraham felly – tad y genedl Iddewig? Oes ganddo fe rywbeth i'w ddysgu i ni am hyn i gyd?
Roma WelBeibl 4:2  Os cafodd Abraham ei dderbyn gan Dduw am beth wnaeth e, roedd ganddo le i frolio. Ond dim felly oedd hi o safbwynt Duw.
Roma WelBeibl 4:3  Dyma mae'r ysgrifau'n ei ddweud amdano: “Credodd Abraham, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.”
Roma WelBeibl 4:4  Pan mae rhywun yn gweithio mae'n ystyried ei gyflog fel rhywbeth mae'n ei haeddu, dim fel rhodd.
Roma WelBeibl 4:5  Ond wrth gredu bod Duw yn derbyn pobl annuwiol i berthynas iawn ag e'i hun, dydy rhywun ddim yn dibynnu ar beth mae e'i hun wedi'i wneud. Mae'r “berthynas iawn gyda Duw” yn cael ei roi iddo fel rhodd.
Roma WelBeibl 4:6  Dwedodd y Brenin Dafydd yr un peth! (Mae'n sôn am y fendith sydd pan mae rhywun sy'n cael ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw, ac yntau heb wneud dim i haeddu hynny):
Roma WelBeibl 4:7  “Mae'r rhai sydd wedi cael maddeuant am y pethau drwg wnaethon nhw wedi'u bendithio'n fawr! y rhai sydd â'u pechodau wedi'u symud o'r golwg am byth.
Roma WelBeibl 4:8  Mae'r rhai dydy'r Arglwydd ddim yn dal ati i gyfri eu pechod yn eu herbyn wedi'u bendithio'n fawr!”
Roma WelBeibl 4:9  Ai dim ond Iddewon (sef ‛pobl yr enwaediad‛) sy'n cael profi'r fendith yma? Neu ydy pobl eraill hefyd (sef ‛pobl sydd heb enwaediad‛)? Gadewch i ni droi'n ôl at Abraham i gael yr ateb: Dŷn ni wedi dweud mai drwy gredu y cafodd Abraham berthynas iawn gyda Duw.
Roma WelBeibl 4:10  Pryd ddigwyddodd hynny? Ai ar ôl iddo fynd drwy'r ddefod o gael ei enwaedu, neu cyn iddo gael ei enwaedu? Yr ateb ydy, cyn iddo gael ei enwaedu!
Roma WelBeibl 4:11  Ar ôl cael ei dderbyn y cafodd e ei enwaedu – a hynny fel arwydd o'r ffaith ei fod wedi credu. Roedd Duw eisoes wedi'i dderbyn i berthynas iawn ag e'i hun. Felly mae Abraham yn dad i bawb sy'n credu ond ddim wedi bod drwy'r ddefod o gael eu henwaedu.
Roma WelBeibl 4:12  Ond mae hefyd yn dad i'r rhai sy'n credu ac wedi cael eu henwaedu – dim am eu bod nhw wedi bod drwy'r ddefod ond am eu bod wedi credu, yr un fath ag Abraham.
Roma WelBeibl 4:13  Roedd Duw wedi addo i Abraham y byddai ei ddisgynyddion yn etifeddu'r ddaear. Cael perthynas iawn gyda Duw drwy gredu sy'n dod â'r addewid yn wir, dim gwneud beth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn.
Roma WelBeibl 4:14  Os mai'r etifeddion ydy'r rhai sy'n meddwl eu bod nhw'n iawn am eu bod nhw'n ufudd i'r Gyfraith Iddewig, dydy credu yn dda i ddim – yn wir does dim pwynt i Dduw addo dim byd yn y lle cyntaf!
Roma WelBeibl 4:15  Beth mae'r Gyfraith yn ei wneud ydy dangos ein bod ni'n haeddu cael ein cosbi gan Dduw. Os does dim cyfraith does dim trosedd.
Roma WelBeibl 4:16  Felly credu ydy'r ffordd i dderbyn beth mae Duw wedi'i addo! Rhodd Duw ydy'r cwbl! Ac mae disgynyddion Abraham i gyd yn ei dderbyn. Nid dim ond Iddewon sydd â'r Gyfraith ganddyn nhw, ond pawb sydd wedi credu, yr un fath ag Abraham. Ydy, mae Abraham yn dad i ni i gyd!
Roma WelBeibl 4:17  Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth yn hollol glir: “Dw i wedi dy wneud di'n dad i lawer o genhedloedd.” Dyna sut mae'r Duw y credodd Abraham ynddo yn gweld pethau. Fe ydy'r Duw sy'n gwneud pobl farw yn fyw ac yn galw i fod bethau oedd ddim yn bodoli o gwbl o'r blaen!
Roma WelBeibl 4:18  Do, credodd Abraham, a daliodd ati i gredu hyd yn oed pan oedd pethau'n edrych yn gwbl anobeithiol! Credodd y byddai yn “dad i lawer o genhedloedd.” Credodd beth ddwedodd Duw, “Fel yna fydd dy ddisgynyddion di.”
Roma WelBeibl 4:19  Daliodd ati i gredu'n hyderus, er ei fod yn gwybod ei fod yn llawer rhy hen i fod yn dad. Roedd yn gan mlwydd oed! Ac roedd Sara hefyd yn llawer rhy hen i fod yn fam.
Roma WelBeibl 4:20  Ond wnaeth Abraham ddim amau, na stopio credu beth oedd Duw wedi'i addo iddo. Yn wir roedd yn credu'n gryfach bob dydd, ac yn clodfori Duw drwy wneud hynny.
Roma WelBeibl 4:21  Roedd Abraham yn hollol sicr y gallai Duw wneud beth roedd wedi addo'i wneud.
Roma WelBeibl 4:22  Dyna pam y cafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw!
Roma WelBeibl 4:23  Ond dydy'r geiriau “cafodd ei dderbyn” ddim ar gyfer Abraham yn unig –
Roma WelBeibl 4:24  maen nhw ar ein cyfer ninnau hefyd! Gallwn ni gael perthynas iawn gyda Duw yr un fath – ni sy'n credu yn y Duw gododd ein Harglwydd Iesu yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.
Roma WelBeibl 4:25  Cafodd Iesu ei ladd am ein bod ni wedi troseddu, a chafodd ei godi yn ôl yn fyw i ni gael ein derbyn i berthynas iawn gyda Duw.
Chapter 5
Roma WelBeibl 5:1  Felly, gan ein bod ni wedi'n derbyn i berthynas iawn gyda Duw, drwy gredu, mae gynnon ni heddwch gyda Duw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.
Roma WelBeibl 5:2  Wrth gredu dŷn ni eisoes wedi dod i brofi haelioni Duw, a gallwn edrych ymlaen yn llawen i gael rhannu yn ei ysblander.
Roma WelBeibl 5:3  A dŷn ni'n gallu bod yn llawen hyd yn oed pan dŷn ni'n dioddef, am ein bod ni'n gwybod fod dioddefaint yn rhoi'r nerth i ni ddal ati.
Roma WelBeibl 5:4  Mae'r gallu i ddal ati yn cryfhau ein cymeriad ni, a dyna sy'n rhoi i ni'r gobaith hyderus sydd gynnon ni.
Roma WelBeibl 5:5  Dŷn ni'n gwybod y byddwn ni ddim yn cael ein siomi yn y gobaith yna, am fod Duw eisoes wedi tywallt ei gariad yn ein calonnau drwy roi'r Ysbryd Glân i ni!
Roma WelBeibl 5:6  Pan oedd pethau'n gwbl anobeithiol arnon ni, dyma'r Meseia yn dod ar yr adeg iawn i farw droson ni rai drwg!
Roma WelBeibl 5:7  Prin bod unrhyw un yn fodlon marw dros berson hunangyfiawn. Falle y byddai rhywun yn fodlon marw dros berson da.
Roma WelBeibl 5:8  Ond dangosodd Duw i ni gymaint mae'n ein caru ni drwy i'r Meseia farw droson ni pan oedden ni'n dal i bechu yn ei erbyn!
Roma WelBeibl 5:9  Dŷn ni bellach wedi cael ein derbyn i berthynas iawn gyda Duw am fod gwaed y Meseia wedi'i dywallt. Does dim amheuaeth, felly, y byddwn ni'n cael ein harbed ganddo rhag cael ein cosbi!
Roma WelBeibl 5:10  Os mai marwolaeth Mab Duw wnaeth ein perthynas ni â Duw yn iawn (a hynny pan oedden ni'n dal yn elynion iddo!), does dim amheuaeth o gwbl, gan ein bod ni bellach yn y berthynas yma, y byddwn ni'n cael ein hachub am ei fod yn fyw!
Roma WelBeibl 5:11  Dŷn ni'n brolio am Dduw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia! Fe sydd wedi gwneud y berthynas iawn yma'n bosib.
Roma WelBeibl 5:12  Daeth pechod i'r byd drwy un dyn, a marwolaeth o ganlyniad i hynny. Ac mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu.
Roma WelBeibl 5:13  Oedd, roedd pechod yn y byd cyn i Dduw roi'r Gyfraith i Moses. Er bod pechod ddim yn cael ei gyfri am fod y Gyfraith ddim yno i'w thorri, roedd pechod yno, ac roedd yn gadael ei ôl.
Roma WelBeibl 5:14  Roedd pobl yn marw o gyfnod Adda hyd amser Moses. Roedden nhw'n marw er eu bod nhw ddim wedi pechu yn union yn yr un ffordd ag Adda drwy fod yn anufudd i orchymyn penodol. Mewn rhyw ffordd mae Adda yn fodel o'r Meseia oedd yn mynd i ddod.
Roma WelBeibl 5:15  Ac eto tasen ni'n cymharu'r rhodd o faddeuant gyda throsedd Adda, maen nhw'n wahanol iawn i'w gilydd! Marwolaeth tyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad trosedd un (sef Adda). Ond tywallt maddeuant ar dyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad beth wnaeth y llall (sef Iesu y Meseia) – ie, maddeuant yn rhodd gan Dduw!
Roma WelBeibl 5:16  Ac mae canlyniad y rhodd mor wahanol i ganlyniad y pechod. Barn a chosb sy'n dilyn yr un trosedd hwnnw, ond mae'r rhodd o faddeuant yn gwneud ein perthynas ni â Duw yn iawn. Dŷn ni'n cael ein gollwng yn rhydd er gwaetha llu o bechodau.
Roma WelBeibl 5:17  Canlyniad trosedd un dyn (sef Adda) oedd fod pawb yn marw, ond o achos beth wnaeth y dyn arall (Iesu y Meseia), bydd y rhai sy'n derbyn rhodd Duw o berthynas iawn gydag e yn cael bywyd tragwyddol.
Roma WelBeibl 5:18  Felly, canlyniad Adda'n troseddu oedd condemnio'r ddynoliaeth, ond canlyniad Iesu yn gwneud y peth iawn oedd bod perthynas iawn gyda Duw, a bywyd, yn cael ei gynnig i'r ddynoliaeth.
Roma WelBeibl 5:19  Cafodd tyrfa enfawr o bobl eu gwneud yn bechaduriaid am fod Adda wedi bod yn anufudd. A'r un modd daeth tyrfa enfawr o bobl i berthynas iawn gyda Duw am fod Iesu wedi bod yn ufudd.
Roma WelBeibl 5:20  Pwrpas rhoi'r Gyfraith i Moses oedd i helpu pobl i weld gymaint oedden nhw'n troseddu. Ond tra oedd pobl yn pechu fwy a mwy, dyma Duw yn tywallt ei haelioni y tu hwnt i bob rheswm.
Roma WelBeibl 5:21  Yn union fel roedd pechod wedi cael gafael mewn pobl a hwythau wedyn yn marw, mae haelioni Duw yn gafael mewn pobl ac yn dod â nhw i berthynas iawn gydag e. Maen nhw'n cael bywyd tragwyddol – o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.
Chapter 6
Roma WelBeibl 6:1  Felly, beth mae hyn i gyd yn ei olygu? Ei bod hi'n iawn i ni ddal ati i bechu er mwyn i Dduw ddangos mwy a mwy o haelioni?
Roma WelBeibl 6:2  Na, wrth gwrs ddim! Dŷn ni wedi marw i'r hen fywyd o bechod, felly sut allwn ni ddal ati i bechu o hyd?
Roma WelBeibl 6:3  Ydych chi ddim wedi deall? Pan gawson ni'n bedyddio i ddangos ein bod yn perthyn i'r Meseia Iesu, roedden ni'n uniaethu â'i farwolaeth e.
Roma WelBeibl 6:4  Wrth gael ein bedyddio, cawson ni'n claddu gydag e, am fod y person oedden ni o'r blaen wedi marw. Ac yn union fel y cafodd y Meseia ei godi yn ôl yn fyw drwy nerth bendigedig y Tad, dŷn ninnau hefyd bellach yn byw bywydau newydd.
Roma WelBeibl 6:5  Os ydyn ni wedi'n huno â'i farwolaeth, dŷn ni'n siŵr o gael ein huno hefyd â'i atgyfodiad.
Roma WelBeibl 6:6  Mae beth roedden ni'n arfer bod wedi cael ei ladd ar y groes gyda'r Meseia, er mwyn i'r awydd cryf sydd ynon ni i bechu ollwng gafael ynon ni, ac i ni beidio ei wasanaethu ddim mwy.
Roma WelBeibl 6:7  Os ydy rhywun wedi marw, mae'n rhydd o afael pechod.
Roma WelBeibl 6:8  Ond os ydyn ni wedi marw gyda'r Meseia dŷn ni'n credu y cawn ni fyw gydag e hefyd!
Roma WelBeibl 6:9  Fydd y Meseia ddim yn marw byth eto, am ei fod wedi'i godi yn ôl yn fyw – does gan farwolaeth ddim gafael arno bellach.
Roma WelBeibl 6:10  Wrth farw, buodd e farw un waith ac am byth i bechod, ond bellach mae e'n byw i glodfori Duw!
Roma WelBeibl 6:11  Felly, dylech chithau hefyd ystyried eich hunain yn farw i bechod, a byw mewn perthynas â'r Meseia Iesu er mwyn clodfori Duw.
Roma WelBeibl 6:12  Peidiwch gadael i bechod reoli'ch bywydau chi ddim mwy. Peidiwch ufuddhau i'w chwantau.
Roma WelBeibl 6:13  Peidiwch gadael iddo reoli unrhyw ran o'ch corff i'w ddefnyddio i wneud beth sy'n ddrwg. Yn lle hynny gadewch i Dduw eich rheoli chi, a'ch defnyddio chi i wneud beth sy'n dda. Roeddech yn farw, ond bellach mae gynnoch chi fywyd newydd.
Roma WelBeibl 6:14  Ddylai pechod ddim bod yn feistr arnoch chi ddim mwy. Dim y Gyfraith sy'n eich rheoli chi bellach – mae Duw yn ei haelioni wedi'ch gollwng chi'n rhydd!
Roma WelBeibl 6:15  Felly, ydyn ni'n mynd i ddal ati i bechu am ein bod wedi profi haelioni Duw ac mai nid y Gyfraith sy'n ein rheoli ni bellach? Na! Wrth gwrs ddim!
Roma WelBeibl 6:16  Ydych chi ddim wedi deall? Mae rhywun yn gaeth i beth bynnag mae'n dewis ufuddhau iddo. Felly y dewis ydy, naill ai pechod yn arwain i farwolaeth neu ufudd-dod yn arwain i berthynas iawn gyda Duw.
Roma WelBeibl 6:17  Diolch i Dduw, dych chi wedi troi o fod yn gaeth i bechod i fod yn ufudd i beth mae Duw wedi'i ddysgu i chi.
Roma WelBeibl 6:18  Dych chi wedi'ch rhyddhau o afael pechod a dod yn weision i beth sy'n iawn.
Roma WelBeibl 6:19  Gadewch i mi ddefnyddio darlun o fywyd bob dydd sy'n hawdd i chi ei ddeall: O'r blaen roeddech chi'n gadael i bob math o fudreddi a drygioni eich rheoli chi. Ond bellach rhaid i chi adael i beth sy'n iawn eich rheoli chi, a'ch gwneud chi'n bobl sy'n byw bywydau glân.
Roma WelBeibl 6:20  Pan oeddech chi'n gaeth i bechod, doedd dim disgwyl i chi wneud beth sy'n iawn.
Roma WelBeibl 6:21  Ond beth oedd canlyniad hynny yn y pen draw? Marwolaeth! Dyna oedd canlyniad y pethau mae gynnoch chi gymaint o gywilydd ohonyn nhw bellach.
Roma WelBeibl 6:22  Ond nawr dych chi'n rhydd o afael pechod ac wedi dechrau gwasanaethu Duw. Canlyniad hynny ydy'r bywyd glân sy'n arwain yn y pen draw i fywyd tragwyddol.
Roma WelBeibl 6:23  Marwolaeth ydy'r cyflog mae pechod yn ei dalu, ond mae Duw yn rhoi bywyd tragwyddol yn rhad ac am ddim i chi, o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.
Chapter 7
Roma WelBeibl 7:1  Frodyr a chwiorydd, dych chi'n bobl sy'n gyfarwydd â Chyfraith Duw, felly mae'n rhaid eich bod chi'n deall cymaint â hyn: dydy'r Gyfraith ddim ond yn cyfri pan mae rhywun yn dal yn fyw.
Roma WelBeibl 7:2  Er enghraifft, mae Cyfraith Duw yn dweud fod gwraig briod i aros yn ffyddlon i'w gŵr tra mae'r gŵr hwnnw'n dal yn fyw. Ond, os ydy'r gŵr yn marw, dydy'r rheol ddim yn cyfri ddim mwy.
Roma WelBeibl 7:3  Mae hyn yn golygu, os ydy gwraig yn gadael ei gŵr a mynd i fyw gyda dyn arall pan mae ei gŵr hi'n dal yn fyw, mae hi'n godinebu. Ond os ydy ei gŵr hi wedi marw, mae'r sefyllfa'n wahanol. Mae ganddi hi hawl i briodi dyn arall wedyn.
Roma WelBeibl 7:4  Dyma beth dw i'n ddweud, ffrindiau – drwy farwolaeth y Meseia ar y groes dych chi hefyd wedi ‛marw‛ yn eich perthynas â'r Gyfraith. Bellach dych chi'n perthyn i un arall, sef i'r un gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. Felly dylai pobl weld ffrwyth hynny yn eich bywydau chi – ffrwyth fydd yn anrhydeddu Duw.
Roma WelBeibl 7:5  Pan oedd yr hen natur ddrwg yn ein rheoli ni, roedd Cyfraith Duw yn dangos y nwydau pechadurus hynny oedd ar waith yn ein bywydau ni, a'r canlyniad oedd marwolaeth.
Roma WelBeibl 7:6  Ond bellach, dydy'r rheol yna ddim yn cyfrif ddim mwy. Dŷn ni wedi marw i beth oedd yn ein caethiwo ni o'r blaen. Dŷn ni'n rhydd i wasanaethu Duw yn ffordd newydd yr Ysbryd, ddim yn yr hen ffordd o geisio cadw at lythyren y ddeddf.
Roma WelBeibl 7:7  Felly beth mae hyn yn ei olygu? Ydw i'n awgrymu fod y Gyfraith roddodd Duw yn beth drwg? Wrth gwrs ddim! Heb y Gyfraith fyddwn i ddim yn gwybod mod i'n pechu. Sut fyddwn i'n gwybod fod chwennych yn beth drwg oni bai fod Cyfraith Duw yn dweud “Paid chwennych”
Roma WelBeibl 7:8  Ond yna roedd pechod yn gweld ei gyfle ac yn defnyddio'r gorchymyn i wneud i mi chwennych pob math o bethau drwg. Heb y Gyfraith mae pechod gystal â bod yn farw!
Roma WelBeibl 7:9  Ar un adeg roeddwn i'n gallu byw yn ddigon hapus heb y Gyfraith. Ond wedyn cafodd y gorchymyn ei roi a dyma bechod yn codi ei ben hefyd.
Roma WelBeibl 7:10  Rôn i'n gweld mod i'n haeddu marw. Roedd y gorchymyn oedd i roi bywyd i mi wedi dod â marwolaeth.
Roma WelBeibl 7:11  Gwelodd pechod ei gyfle, a'm twyllo i. Fy nghondemnio i farwolaeth!
Roma WelBeibl 7:12  Mae Cyfraith Duw yn sanctaidd, a'r gorchmynion yn dweud beth sy'n iawn ac yn dda.
Roma WelBeibl 7:13  Felly ai y peth da yma wnaeth fy lladd i? Nage, wrth gwrs ddim! Y pechod mae'r peth da yn ei ddangos wnaeth fy lladd i. Felly beth mae'r gorchymyn yn ei wneud ydy dangos mor ofnadwy o ddrwg ydy pechod.
Roma WelBeibl 7:14  Dŷn ni'n gwybod bod Cyfraith Duw yn dda ac yn ysbrydol. Fi ydy'r drwg! Fi sy'n gnawdol. Fi sydd wedi fy ngwerthu'n rhwym i bechod.
Roma WelBeibl 7:15  Dw i ddim yn deall fy hun o gwbl. Yn lle gwneud beth dw i eisiau ei wneud, dw i'n cael fy hun yn gwneud beth dw i'n ei gasáu!
Roma WelBeibl 7:16  Ac os dw i'n gwybod mod i'n gwneud y peth anghywir, dw i'n cytuno fod Cyfraith Duw yn dda.
Roma WelBeibl 7:17  Mae fel taswn i fy hun wedi colli rheolaeth, a'r pechod sydd y tu mewn i mi wedi cymryd drosodd.
Roma WelBeibl 7:18  Dw i'n gwybod yn iawn pa mor ddrwg ydw i y tu mewn! Yr hunan ydy popeth! Dw i eisiau byw yn dda, ond dw i'n methu!
Roma WelBeibl 7:19  Yn lle gwneud y pethau da dw i eisiau eu gwneud, dw i'n dal ati i wneud y pethau drwg dw i ddim eisiau eu gwneud.
Roma WelBeibl 7:20  Ac os dw i'n gwneud beth dw i ddim eisiau ei wneud, dim fi sy'n rheoli bellach – y pechod y tu mewn i mi sydd wedi cymryd drosodd.
Roma WelBeibl 7:21  Felly, er fy mod i eisiau gwneud beth sy'n iawn, mae'r drwg yno yn cynnig ei hun i mi.
Roma WelBeibl 7:23  Ond mae rhyw ‛gyfraith‛ arall ar waith yn fy mywyd i – mae'n brwydro yn erbyn y Gyfraith dw i'n cytuno â hi, ac yn fy ngwneud i'n garcharor i bechod. Mae wedi cymryd drosodd yn llwyr!
Roma WelBeibl 7:24  Dw i mewn picil go iawn! Oes yna ffordd allan? Pwy sy'n mynd i'm hachub i o ganlyniadau'r bywyd yma o bechu?
Roma WelBeibl 7:25  Duw, diolch iddo! – o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia. Felly dyma sut mae hi arna i: Dw i'n awyddus i wneud beth mae Cyfraith Duw'n ei ddweud, ond mae'r hunan pechadurus eisiau gwasanaethu'r ‛gyfraith‛ arall, sef pechod.
Chapter 8
Roma WelBeibl 8:1  Ond dydy'r rhai sy'n perthyn i'r Meseia Iesu ddim yn mynd i gael eu cosbi!
Roma WelBeibl 8:2  O achos beth wnaeth y Meseia Iesu mae'r Ysbryd Glân, sy'n rhoi bywyd, wedi fy ngollwng i'n rhydd o afael y pechod sy'n arwain i farwolaeth.
Roma WelBeibl 8:3  Doedd y Gyfraith Iddewig ddim yn gallu gwneud hynny, am fod y natur ddynol mor wan. Ond dyma Duw yn anfon ei Fab ei hun i fod yn berson dynol yr un fath â ni bechaduriaid, er mwyn iddo orchfygu'r pechod oedd ar waith yn y natur ddynol drwy roi ei fywyd yn aberth dros bechod.
Roma WelBeibl 8:4  Gwnaeth hyn er mwyn i ni wneud beth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn. Dŷn ni bellach yn byw fel mae'r Ysbryd Glân eisiau, dim fel mae ein natur bechadurus eisiau.
Roma WelBeibl 8:5  Mae'r rhai sy'n cael eu rheoli gan y natur bechadurus yn byw i'r hunan, ond mae'r rhai sydd dan reolaeth yr Ysbryd Glân yn byw i wneud beth mae'r Ysbryd eisiau.
Roma WelBeibl 8:6  Os mai'r hunan sy'n eich rheoli chi, byddwch chi'n marw. Ond os ydy'r Ysbryd Glân yn eich rheoli chi, mae gynnoch chi fywyd a heddwch perffaith gyda Duw.
Roma WelBeibl 8:7  Mae'r natur bechadurus yn ymladd yn erbyn Duw. Does ganddi ddim eisiau gwneud beth mae Cyfraith Duw'n ei ofyn – yn wir, dydy hi ddim yn gallu!
Roma WelBeibl 8:8  A dydy'r rhai sy'n cael eu rheoli gan y natur bechadurus ddim yn gallu plesio Duw.
Roma WelBeibl 8:9  Ond dim yr hunan sy'n eich rheoli chi. Mae Ysbryd Duw wedi dod i fyw ynoch chi, felly yr Ysbryd sy'n eich rheoli chi. Os ydy Ysbryd y Meseia ddim wedi cael gafael ynoch chi, dych chi ddim yn bobl y Meseia o gwbl.
Roma WelBeibl 8:10  Ond os ydy'r Meseia ynoch chi, er bod y corff yn mynd i farw o achos pechod, mae'r Ysbryd Glân yn rhoi bywyd tragwyddol i chi, am fod gynnoch chi berthynas iawn gyda Duw.
Roma WelBeibl 8:11  Ac os ydy Ysbryd yr Un gododd Iesu yn ôl yn fyw wedi dod i fyw ynoch chi, bydd e'n rhoi bywyd newydd i'ch cyrff marwol chi hefyd. Dyna mae'r Ysbryd Glân sydd wedi dod i fyw ynoch chi yn ei wneud.
Roma WelBeibl 8:12  Felly, frodyr a chwiorydd, does dim rhaid i ni bellach fyw fel mae'r natur bechadurus eisiau.
Roma WelBeibl 8:13  Mae gwneud hynny yn siŵr o arwain i farwolaeth. Ond, gyda nerth yr Ysbryd Glân, os gwnawn ni wrthod gwneud beth mae'r hunan eisiau, byddwn yn cael bywyd.
Roma WelBeibl 8:14  Mae pawb sydd a'u bywydau'n cael eu rheoli gan Ysbryd Duw yn cael bod yn blant i Dduw.
Roma WelBeibl 8:15  Dydy'r Ysbryd Glân dŷn ni wedi'i dderbyn ddim yn ein gwneud yn gaethweision ofnus unwaith eto! Mae'n ein mabwysiadu ni yn blant i Dduw, a gallwn weiddi arno'n llawen, “Abba! Dad!”
Roma WelBeibl 8:16  Ydy, mae'r Ysbryd yn dangos yn glir i ni ein bod ni'n blant i Dduw.
Roma WelBeibl 8:17  Ac os ydyn ni'n blant iddo, byddwn ninnau hefyd yn derbyn yr holl bethau da mae'n ei roi i'w Fab, y Meseia. Ond cofiwch wedyn, os ydyn ni'n cael rhannu yn ei ysblander mae'n rhaid i ni fod yn barod i ddioddef gydag e hefyd.
Roma WelBeibl 8:18  Dw i'n reit siŵr bod beth dŷn ni'n ei ddioddef ar hyn o bryd yn ddim o'i gymharu â'r ysblander gwych fyddwn ni'n ei brofi maes o law.
Roma WelBeibl 8:19  Ydy, mae'r greadigaeth i gyd yn edrych ymlaen yn frwd at y dydd pan fydd Duw yn dangos pwy sy'n blant iddo go iawn.
Roma WelBeibl 8:20  Roedd y greadigaeth wedi cael ei chondemnio i wagedd (dim ei dewis hi oedd hynny – cafodd ei orfodi arni).
Roma WelBeibl 8:21  Ond mae gobaith i edrych ymlaen ato: mae'r greadigaeth hefyd yn mynd i gael ei gollwng yn rhydd! Fydd hi ddim yn gaeth i lygredd ddim mwy. Bydd yn rhannu'r rhyddid bendigedig fydd Duw'n ei roi i'w blant.
Roma WelBeibl 8:22  Dŷn ni'n gwybod fod y greadigaeth gyfan yn griddfan fel gwraig sydd mewn poen wrth eni plentyn.
Roma WelBeibl 8:23  Ac nid dim ond y greadigaeth sy'n griddfan, ond ni hefyd sy'n Gristnogion, ac wedi derbyn yr Ysbryd Glân fel rhagflas o beth sydd i ddod. Dŷn ni hefyd yn griddfan o'n mewn wrth ddisgwyl i'r diwrnod ddod pan fydd Duw yn ein mabwysiadu ni ac y bydd ein corff yn cael ei ollwng yn rhydd!
Roma WelBeibl 8:24  Am ein bod wedi'n hachub gallwn edrych ymlaen at hyn yn hyderus. Does neb yn edrych ymlaen at rywbeth sydd ganddo'n barod!
Roma WelBeibl 8:25  Ond wrth edrych ymlaen at beth sydd ddim yma eto, rhaid disgwyl yn amyneddgar amdano.
Roma WelBeibl 8:26  Ac mae'r Ysbryd yn ein helpu ni hefyd yn ein cyflwr gwan presennol. Wyddon ni ddim yn iawn beth i'w weddïo, ond mae'r Ysbryd ei hun yn gofyn ar ein rhan ni. Mae yntau'n griddfan – dydy geiriau ddim yn ddigon.
Roma WelBeibl 8:27  Ond mae Duw yn gwybod beth sydd yng nghalon pawb, ac mae'n gwybod beth ydy bwriad yr Ysbryd. Mae'r Ysbryd yn gofyn i Dduw am y pethau mae Duw yn awyddus i'w rhoi i'w blant.
Roma WelBeibl 8:28  Dŷn ni'n gwybod fod Duw'n trefnu popeth er lles y rhai sy'n ei garu – sef y rhai mae wedi'u galw i gyflawni ei fwriadau.
Roma WelBeibl 8:29  Roedd yn gwybod pwy fyddai'n bobl iddo, ac roedd wedi'u dewis ymlaen llaw i fod yn debyg i'w Fab. (Y Mab, sef y Meseia Iesu, ydy'r plentyn hynaf, ac mae ganddo lawer iawn o frodyr a chwiorydd.)
Roma WelBeibl 8:30  Ar ôl eu dewis ymlaen llaw, galwodd nhw ato'i hun. Mae'n eu derbyn nhw i berthynas iawn ag e'i hun, ac wedyn yn rhannu ei ysblander gyda nhw.
Roma WelBeibl 8:31  Felly, beth mae hyn yn ei olygu? Os ydy Duw ar ein hochr ni, sdim ots pwy sy'n ein herbyn ni!
Roma WelBeibl 8:32  Wnaeth Duw ddim hyd yn oed arbed ei Fab ei hun! Rhoddodd e'n aberth i farw yn ein lle ni i gyd. Felly oes yna unrhyw beth dydy e ddim yn fodlon ei roi i ni?
Roma WelBeibl 8:33  Pwy sy'n mynd i gyhuddo'r bobl mae Duw wedi'u dewis iddo'i hun? Wnaiff Duw ddim! Duw ydy'r un sy'n eu gwneud nhw'n ddieuog yn ei olwg!
Roma WelBeibl 8:34  Felly pwy sy'n mynd i'n condemnio ni? Wnaiff y Meseia Iesu ddim! Fe ydy'r un gafodd ei ladd a'i godi yn ôl yn fyw! A bellach mae'n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw, yn pledio ar ein rhan ni.
Roma WelBeibl 8:35  Oes yna rywbeth sy'n gallu'n gwahanu ni oddi wrth gariad y Meseia? Nac oes, dim byd! Dydy poen ddim yn gallu, na dioddefaint, cael ein herlid, newyn na noethni, peryglon na hyd yn oed cael ein lladd!
Roma WelBeibl 8:36  Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “O'th achos di dŷn ni'n wynebu marwolaeth drwy'r amser; Dŷn ni fel defaid ar eu ffordd i'r lladd-dy.”
Roma WelBeibl 8:37  Ond dŷn ni'n concro'r cwbl i gyd, a mwy, am fod y Meseia wedi'n caru ni.
Roma WelBeibl 8:38  Dw i'n hollol sicr fod dim byd yn gallu'n gwahanu ni oddi wrth ei gariad e. Dydy marwolaeth ddim yn gallu, na'r un profiad gawn ni mewn bywyd chwaith. Dydy angylion ddim yn gallu, na phwerau ysbrydol drwg. Dim byd yn y presennol nac yn y dyfodol.
Roma WelBeibl 8:39  Dim byd ym mhellteroedd eitha'r gofod nac yn nyfnderoedd y ddaear! Na, does dim yn y bydysawd yma greodd Duw yn gallu'n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu!
Chapter 9
Roma WelBeibl 9:1  Dw i'n dweud y gwir fel Cristion – heb air o gelwydd. Mae nghydwybod i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân yn tystio
Roma WelBeibl 9:2  fy mod i'n ddigalon iawn ac yn poeni drwy'r amser am fy mhobl, yr Iddewon.
Roma WelBeibl 9:3  Byddwn i'n barod i gael fy melltithio a'm gwahanu oddi wrth y Meseia petai hynny'n gwneud lles iddyn nhw! Fy mhobl i ydyn nhw – y genedl dw i'n perthyn iddi.
Roma WelBeibl 9:4  Pobl Israel sydd wedi cael eu mabwysiadu gan Dduw yn blant iddo'i hun. Nhw welodd ei ysblander. Ymrwymodd y byddai'n gofalu amdanyn nhw. Nhw gafodd y Gyfraith ganddo, a dysgu sut i'w addoli yn iawn. Nhw dderbyniodd yr addewidion i gyd!
Roma WelBeibl 9:5  Eu hanes nhw ydy hanes Abraham, Isaac, Jacob a'i feibion, a nhw ydy'r genedl roedd y Meseia yn perthyn iddi fel dyn. Fe sy'n rheoli popeth, yn Dduw i gael ei foli am byth! Amen!
Roma WelBeibl 9:6  Ond dydy Duw ddim wedi torri ei air! Na! Achos dydy pawb sy'n perthyn i wlad Israel ddim yn bobl Israel go iawn.
Roma WelBeibl 9:7  A dydy profi eich bod chi'n ddisgynyddion i Abraham ddim yn golygu eich bod wir yn blant iddo. Beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud ydy, “Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw.”
Roma WelBeibl 9:8  Hynny ydy, dydy pawb sy'n perthyn i deulu Abraham ddim yn blant Duw. Y rhai sy'n blant go iawn i Abraham ydy'r rhai sy'n blant o ganlyniad i addewid Duw.
Roma WelBeibl 9:9  Dyma'r addewid wnaeth Duw: “Bydda i'n dod yn ôl yr adeg yma y flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.”
Roma WelBeibl 9:10  Ac wedyn rhaid cofio beth ddigwyddodd i'r gefeilliaid gafodd Isaac a Rebecca.
Roma WelBeibl 9:11  A chofiwch fod hyn wedi digwydd cyn iddyn nhw gael eu geni, pan oedden nhw heb wneud dim byd drwg na da (sy'n dangos fod Duw'n gwneud beth mae'n ei addo yn ei ffordd ei hun. Fe sy'n dewis,
Roma WelBeibl 9:12  dim beth dŷn ni'n ei wneud sy'n cyfri.) Dwedodd Duw wrth Rebecca, “Bydd y mab hynaf yn was i'r ifancaf.”
Roma WelBeibl 9:13  Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Dw i wedi caru Jacob, ond gwrthod Esau.”
Roma WelBeibl 9:14  Beth mae hyn yn ei olygu? Ydy e'n dangos fod Duw yn annheg? Wrth gwrs ddim!
Roma WelBeibl 9:15  Dwedodd Duw wrth Moses, “Fi sy'n dewis pwy i drugarhau wrthyn nhw, a phwy dw i'n mynd i dosturio wrthyn nhw.”
Roma WelBeibl 9:16  Hynny ydy, trugaredd Duw sydd tu ôl i'r cwbl, dim beth dŷn ni eisiau neu beth dŷn ni'n ei gyflawni.
Roma WelBeibl 9:17  Yn ôl yr ysgrifau sanctaidd dwedodd Duw wrth y Pharo: “Dyma pam wnes i dy godi di – er mwyn dangos trwot ti mor bwerus ydw i, ac er mwyn i bawb drwy'r byd i gyd ddod i wybod amdana i.”
Roma WelBeibl 9:18  Felly mae Duw yn dangos trugaredd at bwy bynnag mae'n ei ddewis, ac mae hefyd yn gwneud pwy bynnag mae'n ei ddewis yn ystyfnig.
Roma WelBeibl 9:19  “Ond os felly,” meddai un ohonoch chi, “pa hawl sydd gan Dduw i weld bai, gan fod neb yn gallu mynd yn groes i'w ewyllys?”
Roma WelBeibl 9:20  Ond pwy wyt ti i ddadlau yn erbyn Duw? Dim ond person dynol wyt ti! “Oes gan y peth sydd wedi'i siapio hawl i ddweud wrth yr un wnaeth ei greu, ‘Pam wyt ti wedi fy ngwneud i fel hyn?’”
Roma WelBeibl 9:21  Oes gan y crochenydd ddim hawl i ddefnyddio'r un lwmp o glai i wneud llestr crand neu i wneud llestr fydd yn dal sbwriel?
Roma WelBeibl 9:22  A'r un fath, mae gan Dduw berffaith hawl i ddangos ei ddigofaint a'i nerth! Mae wedi bod mor amyneddgar gyda'r rhai sy'n haeddu dim byd ond cosb, ac sy'n dda i ddim ond i gael eu dinistrio!
Roma WelBeibl 9:23  Ac mae'n barod i ddangos ei ysblander aruthrol, a'i rannu gyda'r rhai mae wedi dewis trugarhau wrthyn nhw, sef y rhai mae wedi'u paratoi ar gyfer hynny o'r dechrau cyntaf.
Roma WelBeibl 9:24  Ac ie, ni ydy'r rheiny! – dim Iddewon yn unig, ond pobl o genhedloedd eraill hefyd!
Roma WelBeibl 9:25  Fel mae'n dweud yn llyfr Hosea: “Galwaf ‛nid fy mhobl‛ yn bobl i mi; a ‛heb ei charu‛ yn un a gerir”
Roma WelBeibl 9:26  a hefyd, “Yn yr union le lle dwedwyd wrthyn nhw, ‘Dych chi ddim yn bobl i mi’ byddan nhw'n cael eu galw yn blant y Duw byw.”
Roma WelBeibl 9:27  Ac mae Eseia'n dweud fel hyn am Israel: “Hyd yn oed petai pobl Israel mor niferus â thywod y môr, dim ond gweddillion – rhyw nifer fechan – fydd yn cael eu hachub,
Roma WelBeibl 9:28  Oherwydd yn fuan iawn bydd yr Arglwydd yn gorffen, ac yn gwneud beth ddwedodd ar y ddaear.”
Roma WelBeibl 9:29  Mae'n union fel roedd Eseia wedi dweud yn gynharach: “Oni bai i Arglwydd y Lluoedd adael rhai ohonon ni'n fyw, bydden ni wedi'n dinistrio fel Sodom, ac wedi diflannu'n llwyr fel Gomorra.”
Roma WelBeibl 9:30  Felly beth mae hyn i gyd yn ei olygu? Mae'n golygu fod pobl o genhedloedd eraill – pobl oedd ddim yn ceisio dilyn Duw – wedi cael eu derbyn i berthynas iawn gyda Duw drwy gredu.
Roma WelBeibl 9:31  Ond mae pobl Israel, oedd wedi meddwl y byddai'r Gyfraith yn eu gwneud nhw'n iawn gyda Duw, wedi methu cadw'r Gyfraith honno.
Roma WelBeibl 9:32  Pam? Am eu bod nhw'n dibynnu ar beth roedden nhw eu hunain yn ei wneud yn lle credu. Maen nhw wedi baglu dros ‛y garreg sy'n baglu pobl‛,
Roma WelBeibl 9:33  fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: Edrychwch – dw i'n gosod yn Jerwsalem garreg sy'n baglu pobl a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio. Ond fydd pwy bynnag sy'n credu ynddo ddim yn cael ei siomi.
Chapter 10
Roma WelBeibl 10:1  Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i'n dyheu o waelod calon ac yn gweddïo ar Dduw y bydd fy mhobl, yr Iddewon, yn cael eu hachub.
Roma WelBeibl 10:2  Galla i dystio eu bod nhw'n frwdfrydig dros Dduw, ond dŷn nhw ddim wedi deall y gwirionedd.
Roma WelBeibl 10:3  Yn lle derbyn ffordd Duw o ddod â phobl i berthynas iawn ag e ei hun, maen nhw wedi mynnu ceisio gwneud eu hunain yn iawn gyda Duw drwy gadw'r Gyfraith. Felly maen nhw wedi gwrthod plygu i Dduw.
Roma WelBeibl 10:4  Ond y Meseia ydy'r nod mae Cyfraith Duw yn anelu ato! Felly y rhai sy'n credu ynddo fe sy'n cael eu derbyn i berthynas iawn gyda Duw.
Roma WelBeibl 10:5  Dyma ddwedodd Moses am y Gyfraith fel ffordd o gael perthynas iawn gyda Duw: “Y sawl sy'n gwneud y pethau yma sy'n cael byw go iawn.”
Roma WelBeibl 10:6  Ond mae cael perthynas iawn gyda Duw drwy gredu yn dweud: “Paid meddwl: Pwy wnaiff fynd i fyny i'r nefoedd?” (hynny ydy, i ddod â'r Meseia i lawr)
Roma WelBeibl 10:7  neu “Pwy wnaiff fynd i lawr i'r dyfnder” (hynny ydy, i ddod â'r Meseia yn ôl yn fyw).
Roma WelBeibl 10:8  Dyma mae'n ei ddweud: “Mae'r neges yn agos atat ti; mae ar dy wefusau ac yn dy galon di.” (Hynny ydy, y neges dŷn ni'n ei chyhoeddi, sef mai credu ydy'r ffordd):
Roma WelBeibl 10:9  Os wnei di gyffesu ‛â'th wefusau‛, “Iesu ydy'r Arglwydd”, a chredu ‛yn dy galon‛ fod Duw wedi'i godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, cei dy achub.
Roma WelBeibl 10:10  Credu yn y galon sy'n dy wneud di'n iawn gyda Duw, a chei dy achub wrth gyffesu hynny'n agored.
Roma WelBeibl 10:11  Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Fydd pwy bynnag sy'n credu ynddo ddim yn cael ei siomi.”
Roma WelBeibl 10:12  Mae'n union yr un fath i'r Iddew ac i bawb arall. Un Arglwydd sydd, ac mae'n rhoi yn hael o'i fendithion i bwy bynnag sy'n galw arno.
Roma WelBeibl 10:13  Achos, “Bydd pwy bynnag sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael ei achub.”
Roma WelBeibl 10:14  Ond wedyn, sut mae disgwyl i bobl alw arno os ydyn nhw ddim wedi credu ynddo? A sut maen nhw'n mynd i gredu ynddo heb glywed amdano? Sut maen nhw'n mynd i glywed os ydy rhywun ddim yn dweud wrthyn nhw?
Roma WelBeibl 10:15  A phwy sy'n mynd i ddweud wrthyn nhw heb gael ei anfon? Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei olygu wrth ddweud: “Mae mor wych fod y rhai sy'n cyhoeddi'r newyddion da yn dod!”
Roma WelBeibl 10:16  Ond dydy pawb ddim wedi derbyn y newyddion da. Fel mae'r proffwyd Eseia'n dweud, “Arglwydd, pwy sydd wedi credu ein neges ni?”
Roma WelBeibl 10:17  Mae'n rhaid clywed cyn gallu credu – clywed rhywun yn rhannu'r newyddion da am y Meseia.
Roma WelBeibl 10:18  Felly ai dweud ydw i fod yr Iddewon heb glywed? Na, fel arall yn hollol: “Mae pawb wedi clywed beth maen nhw'n ddweud, a'u neges wedi mynd i ben draw'r byd.”
Roma WelBeibl 10:19  Felly, ai'r broblem ydy fod Israel heb ddeall y neges? Na! – Moses ydy'r cyntaf i roi ateb, “Bydda i'n gwneud i chi fod yn eiddigeddus o rai nad ydyn nhw'n genedl; a'ch gwneud yn ddig drwy fendithio pobl sy'n deall dim.”
Roma WelBeibl 10:20  Ac roedd y proffwyd Eseia ddigon dewr i gyhoeddi fod Duw yn dweud, “Daeth pobl oedd ddim yn chwilio amdana i o hyd i fi; Dangosais fy hun i rai oedd ddim yn gofyn amdana i.”
Roma WelBeibl 10:21  Ond mae'n dweud fel yma am Israel: “Bues i'n estyn fy llaw atyn nhw drwy'r adeg, ond maen nhw'n bobl anufudd ac ystyfnig.”
Chapter 11
Roma WelBeibl 11:1  Felly dw i'n gofyn eto: Ydy Duw wedi troi cefn ar ei bobl? Nac ydy, wrth gwrs ddim! Israeliad ydw i fy hun cofiwch – un o blant Abraham, o lwyth Benjamin.
Roma WelBeibl 11:2  Felly dydy Duw ddim wedi troi ei gefn ar y bobl oedd wedi'u dewis o'r dechrau. Ydych chi'n cofio beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud? Roedd Elias yn cwyno am bobl Israel, ac yn dweud fel hyn:
Roma WelBeibl 11:3  “Arglwydd, maen nhw wedi lladd dy broffwydi di a dinistrio dy allorau. Fi ydy'r unig un sydd ar ôl, ac maen nhw'n ceisio fy lladd innau hefyd!”
Roma WelBeibl 11:4  Beth oedd ateb Duw iddo? Dyma ddwedodd Duw: “Mae gen i saith mil o bobl eraill sydd heb fynd ar eu gliniau i addoli Baal.”
Roma WelBeibl 11:5  Ac mae'r un peth yn wir heddiw – mae Duw yn ei haelioni wedi dewis cnewyllyn o Iddewon i gael eu hachub.
Roma WelBeibl 11:6  Ac os mai dim ond haelioni Duw sy'n eu hachub nhw, dim beth maen nhw yn ei wneud sy'n cyfri bellach. Petai hynny'n cyfri fyddai Duw ddim yn hael!
Roma WelBeibl 11:7  Dyma beth mae hyn yn ei olygu: Wnaeth pawb yn Israel ddim cael gafael yn beth roedden nhw'n ei geisio mor daer. Ond mae rhai wedi'i gael, sef y rhai mae Duw wedi'u dewis. Mae'r lleill wedi troi'n ystyfnig.
Roma WelBeibl 11:8  Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Gwnaeth Duw nhw'n gysglyd, a rhoi iddyn nhw lygaid sy'n methu gweld a chlustiau sydd ddim yn clywed – ac maen nhw'n dal felly heddiw.”
Roma WelBeibl 11:9  A dwedodd y Brenin Dafydd fel hyn: “Gad i'w bwrdd bwyd droi'n fagl ac yn rhwyd, yn drap ac yn gosb iddyn nhw;
Roma WelBeibl 11:10  gad iddyn nhw golli eu golwg a mynd yn ddall, a'u cefnau wedi'u crymu am byth dan y pwysau.”
Roma WelBeibl 11:11  Felly ydw i'n dweud fod yr Iddewon wedi baglu a syrthio, a byth yn mynd i godi eto? Wrth gwrs ddim! Mae'r ffaith eu bod nhw wedi llithro yn golygu fod pobl o genhedloedd eraill yn cael eu hachub. Ac mae hynny yn ei dro yn gwneud yr Iddewon yn eiddigeddus.
Roma WelBeibl 11:12  Ac os ydy eu colled nhw am eu bod wedi llithro yn cyfoethogi'r byd, a'u methiant nhw wedi helpu pobl o genhedloedd eraill, meddyliwch gymaint mwy fydd y fendith pan fyddan nhw'n dod i gredu!
Roma WelBeibl 11:13  Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi sydd ddim yn Iddewon. Dw i'n ei chyfri hi'n fraint fod Duw wedi fy ngalw i fod yn gynrychiolydd personol iddo, i rannu ei neges gyda chi.
Roma WelBeibl 11:14  Ond dw i eisiau gwneud fy mhobl fy hun yn eiddigeddus ohonoch chi, er mwyn i rai ohonyn nhw hefyd gael eu hachub.
Roma WelBeibl 11:15  Os ydy eu taflu nhw i ffwrdd wedi golygu fod pobl o weddill y byd yn dod i berthynas iawn â Duw, beth fydd canlyniad eu derbyn nhw yn ôl? Bydd fel petai'r meirw'n dod yn ôl yn fyw!
Roma WelBeibl 11:16  Os ydy'r offrwm cyntaf o does wedi'i gysegru i Dduw, mae'r cwbl yn gysegredig. Os ydy gwreiddiau'r goeden yn sanctaidd, bydd y canghennau felly hefyd.
Roma WelBeibl 11:17  Mae rhai o'r canghennau wedi cael eu llifio i ffwrdd, a thithau'n sbrigyn o olewydden wyllt wedi cael dy impio yn eu lle. Felly rwyt ti bellach yn cael rhannu'r maeth sy'n dod o wreiddiau'r olewydden.
Roma WelBeibl 11:18  Ond paid meddwl dy fod ti'n wahanol i'r canghennau gafodd eu llifio i ffwrdd! Cofia mai dim ti sy'n cynnal y gwreiddiau – y gwreiddiau sy'n dy gynnal di!
Roma WelBeibl 11:19  “Ond cafodd y canghennau hynny eu llifio i ffwrdd er mwyn i mi gael fy impio i mewn,” meddet ti.
Roma WelBeibl 11:20  Digon gwir: Cawson nhw eu llifio i ffwrdd am beidio credu, a chest ti dy osod yn eu lle dim ond am dy fod di wedi credu. Ond paid dechrau swancio; gwylia di!
Roma WelBeibl 11:21  Os wnaeth Duw ddim arbed y canghennau naturiol, wnaiff e ddim dy arbed dithau chwaith!
Roma WelBeibl 11:22  Sylwa fod Duw yn gallu bod yn garedig ac yn llym. Mae'n llym gyda'r rhai sy'n anufudd, ond yn garedig atat ti – dim ond i ti ddal ati i drystio yn ei garedigrwydd. Neu, fel arall, cei dithau hefyd dy lifio i ffwrdd!
Roma WelBeibl 11:23  A'r un fath gyda'r Iddewon – tasen nhw'n stopio gwrthod credu, byddai Duw yn eu himpio nhw yn ôl i'r goeden.
Roma WelBeibl 11:24  Os gwnaeth dy dorri di i ffwrdd oddi ar olewydden wyllt a'th impio yn groes i natur ar olewydden gardd, mae'n ddigon hawdd iddo impio'r canghennau naturiol yn ôl i'w holewydden eu hunain!
Roma WelBeibl 11:25  Frodyr a chwiorydd, dw i am i chi ddeall fod dirgelwch yma, rhag i chi fod yn rhy llawn ohonoch chi'ch hunain. Mae rhai o'r Iddewon wedi troi'n ystyfnig, a byddan nhw'n aros felly hyd nes y bydd y nifer cyflawn ohonoch chi sy'n perthyn i genhedloedd eraill wedi dod i mewn.
Roma WelBeibl 11:26  Yna bydd Israel gyfan yn cael ei hachub, fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd Achubwr yn dod o Jerwsalem, ac yn symud annuwioldeb o Jacob.
Roma WelBeibl 11:27  Dyma fy ymrwymiad i iddyn nhw, pan fydda i'n symud eu pechodau i ffwrdd.”
Roma WelBeibl 11:28  Ar hyn o bryd mae llawer o'r Iddewon yn elynion y newyddion da, er eich mwyn chi. Ond cofiwch mai nhw oedd y bobl ddewisodd Duw, ac mae e'n eu caru nhw. Roedd wedi addo i'r tadau y byddai'n gwneud hynny! – i Abraham, Isaac a Jacob.
Roma WelBeibl 11:29  Dydy Duw ddim yn cymryd ei roddion yn ôl nac yn canslo ei alwad.
Roma WelBeibl 11:30  Ar un adeg roeddech chi, bobl o genhedloedd eraill, yn anufudd i Dduw. Ond am fod yr Iddewon wedi bod yn anufudd, dych chi nawr wedi derbyn trugaredd.
Roma WelBeibl 11:31  Nhw ydy'r rhai sy'n anufudd bellach. Ond os ydy Duw wedi dangos trugaredd atoch chi, pam allan nhw hefyd ddim derbyn trugaredd?
Roma WelBeibl 11:32  Y gwir ydy, mae Duw wedi dal pawb yn garcharorion anufudd-dod, er mwyn iddo allu dangos trugaredd atyn nhw i gyd.
Roma WelBeibl 11:33  Mae Duw mor ffantastig! Mae e mor aruthrol ddoeth! Mae'n deall popeth! Mae beth mae e'n ei benderfynu y tu hwnt i'n hamgyffred ni, a beth mae'n ei wneud y tu hwnt i'n deall ni!
Roma WelBeibl 11:34  Pwy sy'n gallu honni ei fod yn deall meddwl yr Arglwydd? Pwy sydd wedi dod i wybod digon i roi cyngor iddo?
Roma WelBeibl 11:35  Pwy sydd wedi rhoi cymaint i Dduw nes bod Duw â dyled i'w thalu iddo?
Roma WelBeibl 11:36  Na, Duw sydd wedi rhoi popeth i ni! Fe sy'n cynnal y cwbl, ac mae'r cwbl yn bodoli er ei fwyn e! Fe ydy'r unig un sy'n haeddu ei foli am byth! Amen!
Chapter 12
Roma WelBeibl 12:1  Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i'n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich hunain iddo yn aberth byw – un sy'n lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn!
Roma WelBeibl 12:2  O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi'n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny'n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna'r peth iawn i'w wneud.
Roma WelBeibl 12:3  Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi, fel rhywun mae Duw wedi bod mor garedig ato: Peidiwch meddwl eich bod chi'n well nag ydych chi. Byddwch yn onest gyda chi'ch hun wrth ystyried faint o ffydd mae Duw wedi'i roi i chi.
Roma WelBeibl 12:4  Mae'r eglwys yr un fath â'r corff dynol – mae gwahanol rannau i'r corff, a dydy pob rhan o'r corff ddim yn gwneud yr un gwaith.
Roma WelBeibl 12:5  Yn yr eglwys dŷn ni gyda'n gilydd yn gwneud un corff, sef corff y Meseia. Mae pob un ohonon ni'n rhan o'r corff ac mae arnon ni angen pawb arall.
Roma WelBeibl 12:6  Mae Duw wedi rhoi doniau gwahanol i bob un ohonon ni. Os ydy Duw wedi rhoi'r gallu i ti roi neges broffwydol, gwna hynny pan wyt ti'n gwybod fod Duw am i ti wneud.
Roma WelBeibl 12:7  Os mai helpu pobl eraill ydy dy ddawn di, gwna job dda ohoni. Os oes gen ti'r ddawn i ddysgu pobl eraill, gwna hynny'n gydwybodol.
Roma WelBeibl 12:8  Os wyt ti'n rhywun sy'n annog pobl eraill, bwrw iddi! Os wyt yn rhannu dy eiddo gydag eraill, bydd yn hael. Os oes gen ti'r ddawn i arwain, gwna hynny'n frwd. Os mai dangos caredigrwydd ydy dy ddawn di, gwna hynny'n llawen.
Roma WelBeibl 12:9  Rhaid i'ch cariad chi fod yn gariad go iawn – dim rhyw gariad arwynebol. Yn casáu y drwg â chasineb perffaith, ac yn dal gafael yn beth sy'n dda.
Roma WelBeibl 12:10  Byddwch o ddifri yn eich gofal am eich gilydd, a dangos parch at eich gilydd.
Roma WelBeibl 12:11  Peidiwch byth â gadael i'ch brwdfrydedd oeri, ond bod ar dân yn gweithio i'r Arglwydd yn nerth yr Ysbryd Glân.
Roma WelBeibl 12:12  Byddwch yn llawen wrth feddwl am y cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer chi. Byddwch yn amyneddgar tra dych chi'n dioddef, a daliwch ati i weddïo.
Roma WelBeibl 12:13  Rhannwch beth sydd gynnoch chi gyda phobl Dduw sydd mewn angen. Ewch allan o'ch ffordd i roi croeso i ymwelwyr yn eich cartrefi bob amser.
Roma WelBeibl 12:14  Peidiwch melltithio'r bobl hynny sy'n eich erlid chi – gofynnwch i Dduw eu bendithio nhw.
Roma WelBeibl 12:15  Byddwch yn llawen gyda phobl sy'n hapus, a chrio gyda'r rhai sy'n crio.
Roma WelBeibl 12:16  Byddwch yn ffrindiau da i'ch gilydd. Peidiwch meddwl eich bod yn rhy bwysig i fod yn ffrindiau gyda'r bobl hynny sy'n ‛neb‛. Peidiwch rhoi'r argraff eich bod yn gwybod y cwbl.
Roma WelBeibl 12:17  Peidiwch byth talu'r pwyth yn ôl. Gadewch i bobl weld eich bod yn gwneud y peth anrhydeddus bob amser.
Roma WelBeibl 12:18  Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb.
Roma WelBeibl 12:19  Peidiwch mynnu dial ar bobl, ffrindiau; gadewch i Dduw ddelio gyda'r peth. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Fi sy'n dial; gwna i dalu yn ôl’ meddai'r Arglwydd.”
Roma WelBeibl 12:20  Dyma ddylet ti ei wneud: “Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo; os ydy e'n sychedig, rho rywbeth i'w yfed iddo; wrth wneud hynny byddi'n tywallt marwor tanllyd ar ei ben.”
Roma WelBeibl 12:21  Paid gadael i ddrygioni dy ddal yn ei grafangau – trecha di ddrygioni drwy wneud daioni.
Chapter 13
Roma WelBeibl 13:1  Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth. Duw sy'n rhoi awdurdod i lywodraethau, ac mae'r awdurdodau presennol wedi'u rhoi yn eu lle gan Dduw.
Roma WelBeibl 13:2  Mae rhywun sy'n gwrthwynebu'r awdurdodau yn gwrthwynebu rhywbeth mae Duw wedi'i ordeinio, a bydd pobl felly yn cael eu cosbi.
Roma WelBeibl 13:3  Does dim rhaid ofni'r awdurdodau os ydych yn gwneud daioni. Y rhai sy'n gwneud pethau drwg ddylai ofni. Felly gwna beth sy'n iawn a chei dy ganmol.
Roma WelBeibl 13:4  Wedi'r cwbl mae'r awdurdodau yn gwasanaethu Duw ac yn bodoli er dy les di. Ond os wyt ti'n gwneud drygioni, mae'n iawn i ti ofni, am fod y cleddyf sydd ganddo yn symbol fod ganddo hawl i dy gosbi di. Mae'n gwasanaethu Duw drwy gosbi'r rhai sy'n gwneud drwg.
Roma WelBeibl 13:5  Felly dylid bod yn atebol i'r awdurdodau, dim yn unig i osgoi cosb, ond hefyd i gadw'r gydwybod yn lân.
Roma WelBeibl 13:6  Dyna pam dych chi'n talu trethi hefyd – gweision Duw ydyn nhw, ac mae ganddyn nhw waith i'w wneud.
Roma WelBeibl 13:7  Felly talwch beth sy'n ddyledus i bob un – trethi a thollau. A dangoswch barch atyn nhw.
Roma WelBeibl 13:8  Ond mae un ddyled allwch chi byth ei thalu'n llawn, sef y ddyled i garu'ch gilydd. Mae cariad yn gwneud popeth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn.
Roma WelBeibl 13:9  Mae'r gorchmynion i gyd – “Paid godinebu,” “Paid llofruddio,” “Paid dwyn,” “Paid chwennych,” ac yn y blaen – yn cael eu crynhoi yn yr un rheol yma: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.”
Roma WelBeibl 13:10  Dydy cariad ddim yn gwneud niwed i neb, felly cariad ydy'r ffordd i wneud popeth mae Cyfraith Duw'n ei ofyn.
Roma WelBeibl 13:11  Dylech chi fyw fel hyn am eich bod chi'n deall beth sy'n digwydd. Mae'n bryd i chi ddeffro o'ch difaterwch! Mae diwedd y stori, pan fyddwn ni'n cael ein hachub yn derfynol, yn agosach nag oedd pan wnaethon ni ddod i gredu gyntaf.
Roma WelBeibl 13:12  Mae'r nos bron mynd heibio, a'r diwrnod newydd ar fin gwawrio. Felly gadewch i ni stopio ymddwyn fel petaen ni'n perthyn i'r tywyllwch, a pharatoi'n hunain i frwydro dros y goleuni.
Roma WelBeibl 13:13  Gadewch i ni ymddwyn yn weddus fel petai'n olau dydd. Dim partïon gwyllt a meddwi; dim ymddwyn yn anfoesol; dim penrhyddid i'r chwantau; dim ffraeo a chenfigennu.
Roma WelBeibl 13:14  Gadewch i'r Arglwydd Iesu Grist fod fel gwisg amdanoch chi, a pheidiwch rhoi sylw i'ch chwantau hunanol drwy'r adeg.
Chapter 14
Roma WelBeibl 14:1  Derbyniwch y bobl hynny sy'n ansicr ynglŷn â rhai pethau. Peidiwch eu beirniadu nhw a gwneud rheolau caeth am bethau sy'n fater o farn bersonol.
Roma WelBeibl 14:2  Er enghraifft, mae un person yn teimlo'n rhydd i fwyta unrhyw beth, ond mae rhywun arall yn ansicr ac yn dewis bwyta dim ond llysiau rhag ofn iddo fwyta rhywbeth na ddylai.
Roma WelBeibl 14:3  Rhaid i'r rhai sy'n hapus i fwyta popeth beidio edrych i lawr ar y rhai sydd ddim yn gyfforddus i wneud hynny. A rhaid i'r bobl sy'n dewis peidio bwyta rhai pethau beidio beirniadu y rhai sy'n teimlo'n rhydd i fwyta – wedi'r cwbl mae Duw yn eu derbyn nhw!
Roma WelBeibl 14:4  Oes gen ti hawl i ddweud y drefn wrth was rhywun arall? Meistr y gwas sy'n penderfynu os ydy beth mae'n ei wneud yn iawn ai peidio. Gad i'r Arglwydd benderfynu os ydy'r rhai rwyt ti'n anghytuno gyda nhw yn gwneud y peth iawn.
Roma WelBeibl 14:5  Dyma i chi enghraifft arall: Mae rhai pobl yn gweld un diwrnod yn wahanol i bob diwrnod arall, hynny ydy, yn gysegredig. Ond mae pobl eraill yn ystyried pob diwrnod yr un fath. Dylai pawb fod yn hollol siŵr o'i safbwynt.
Roma WelBeibl 14:6  Mae'r rhai sy'n meddwl fod rhywbeth arbennig am un diwrnod, yn ceisio bod yn ffyddlon i'r Arglwydd. Mae'r rhai sy'n dewis bwyta cig eisiau cydnabod mai'r Arglwydd sy'n ei roi, drwy ddiolch i'r Arglwydd amdano. Ond mae'r rhai sy'n dewis peidio bwyta, hwythau hefyd, yn ceisio bod yn ffyddlon i'r Arglwydd, ac yn rhoi'r diolch i Dduw.
Roma WelBeibl 14:7  Dŷn ni ddim yn byw i'r hunan nac yn marw i'r hunan.
Roma WelBeibl 14:8  Wrth fyw ac wrth farw, dŷn ni eisiau bod yn ffyddlon i'r Arglwydd. Pobl Dduw ydyn ni tra byddwn ni byw a phan fyddwn ni farw.
Roma WelBeibl 14:9  Dyna pam gwnaeth y Meseia farw a dod yn ôl yn fyw – i fod yn Arglwydd ar y rhai sydd wedi marw a'r rhai sy'n dal yn fyw.
Roma WelBeibl 14:10  Felly pam wyt ti mor barod i feirniadu dy gyd-Gristnogion ac edrych i lawr arnyn nhw? Cofia y bydd rhaid i bob un ohonon ni sefyll o flaen llys barn Duw.
Roma WelBeibl 14:11  Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Mor sicr â'r ffaith fy mod i'n fyw,’ meddai'r Arglwydd, ‘Bydd pob glin yn plygu i mi, a phob tafod yn rhoi clod i Dduw’”
Roma WelBeibl 14:12  Bydd rhaid i bob un ohonon ni ateb drosto'i hun o flaen Duw.
Roma WelBeibl 14:13  Felly gadewch i ni stopio beirniadu'n gilydd o hyn ymlaen. Yn lle hynny, gadewch i ni benderfynu peidio gwneud unrhyw beth fydd yn rhwystr i Gristion arall.
Roma WelBeibl 14:14  Dw i fy hun, wrth ddilyn yr Arglwydd Iesu, yn credu'n gydwybodol fod yna ddim bwyd sy'n ‛aflan‛ ynddo'i hun. Ond os ydy rhywun yn meddwl fod rhyw fwyd yn ‛aflan‛, mae wir yn aflan i'r person hwnnw.
Roma WelBeibl 14:15  Felly os wyt ti'n bwyta rhywbeth gan wybod ei fod yn broblem i Gristion arall, ti ddim yn dangos rhyw lawer o gariad. Paid gadael i dy arferion bwyta di wneud niwed i rywun arall wnaeth y Meseia farw drosto.
Roma WelBeibl 14:16  A phaid gadael i beth sy'n iawn yn dy olwg di wneud i bobl sydd ddim yn Gristnogion amharchu'r Meseia.
Roma WelBeibl 14:17  Dim beth wyt ti'n ei fwyta na'i yfed sy'n dangos fod Duw'n teyrnasu yn dy fywyd di. Perthynas iawn gyda Duw sy'n cyfri, a'r heddwch dwfn a'r llawenydd mae'r Ysbryd Glân yn ei roi.
Roma WelBeibl 14:18  Mae'r un sy'n dilyn y Meseia fel yma yn plesio Duw ac yn cael ei barchu gan bobl eraill.
Roma WelBeibl 14:19  Felly gadewch i ni wneud beth sy'n arwain at heddwch, ac sy'n cryfhau pobl eraill.
Roma WelBeibl 14:20  Peidiwch dinistrio gwaith da Duw er mwyn cael bwyta beth fynnwch chi. Mae pob bwyd yn iawn i'w fwyta, ond ddylech chi ddim bwyta rhywbeth os ydy e'n creu problemau i rywun arall.
Roma WelBeibl 14:21  Mae'n well dewis peidio bwyta cig am unwaith, a pheidio yfed gwin, a pheidio gwneud unrhyw beth fyddai'n achosi i Gristion arall faglu.
Roma WelBeibl 14:22  Beth bynnag rwyt yn ei gredu am hyn i gyd, cadwa hynny rhyngot ti a Duw. Mae bendith fawr i'r un sydd ddim yn ei gondemnio ei hun drwy fynnu gwneud beth mae e'n gredu sy'n iawn o hyd!
Roma WelBeibl 14:23  Ond mae'r person sydd ddim yn siŵr beth sy'n iawn yn ei gondemnio ei hun wrth fwyta – am beidio gwneud beth mae'n gredu fyddai Duw am iddo'i wneud. Mae peidio gwneud beth dŷn ni'n gredu mae Duw am i ni ei wneud yn bechod.
Chapter 15
Roma WelBeibl 15:1  Dylen ni sy'n credu'n gryf ein bod ni'n gwybod beth sy'n iawn feddwl bob amser am y rhai sy'n ansicr. Yn lle bwrw ymlaen i blesio'n hunain,
Roma WelBeibl 15:2  gadewch i ni ystyried pobl eraill, a cheisio eu helpu nhw a'u gwneud nhw'n gryf.
Roma WelBeibl 15:3  Dim ei blesio ei hun wnaeth y Meseia – fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Dw i hefyd wedi cael fy sarhau yn y ffordd gest ti dy sarhau.”
Roma WelBeibl 15:4  Cafodd pethau fel yma eu hysgrifennu yn y gorffennol i'n dysgu ni, er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ein hannog ni i fod yn amyneddgar wrth edrych ymlaen i'r dyfodol.
Roma WelBeibl 15:5  Dw i'n gweddïo y bydd Duw, sy'n rhoi'r amynedd a'r anogaeth yma, yn eich galluogi chi i fyw mewn heddwch gyda'ch gilydd wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.
Roma WelBeibl 15:6  Drwy wneud hynny byddwch gyda'ch gilydd yn rhoi clod i Dduw, sef Tad ein Harglwydd Iesu Grist.
Roma WelBeibl 15:7  Rhowch glod i Dduw drwy dderbyn eich gilydd, yn union fel gwnaeth y Meseia eich derbyn chi.
Roma WelBeibl 15:8  Daeth y Meseia at yr Iddewon fel gwas, i ddangos fod Duw wedi cadw'r addewidion a wnaeth i Abraham, Isaac a Jacob.
Roma WelBeibl 15:9  Felly mae pobl o bob cenedl yn clodfori Duw am ei drugaredd. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydda i'n dy foli di ymhlith y cenhedloedd, ac yn canu mawl i'th enw.”
Roma WelBeibl 15:10  Maen nhw'n dweud hefyd, “Llawenhewch, Genhedloedd, gyda'i bobl,”
Roma WelBeibl 15:11  a, “Molwch yr Arglwydd, chi'r cenhedloedd i gyd; Canwch fawl iddo, holl bobl y byd!”
Roma WelBeibl 15:12  Yna mae'r proffwyd Eseia'n dweud hyn: “Bydd y blaguryn o deulu Jesse yn tyfu, sef yr un sy'n codi i deyrnasu ar y cenhedloedd. Bydd yr holl genhedloedd yn gobeithio ynddo.”
Roma WelBeibl 15:13  Felly dw i'n gweddïo y bydd Duw, ffynhonnell gobaith, yn llenwi'ch bywydau gyda'r llawenydd a'r heddwch dwfn sy'n dod o gredu ynddo; ac y bydd yr Ysbryd Glân yn gwneud i obaith orlifo yn eich bywydau chi!
Roma WelBeibl 15:14  Does dim amheuaeth gen i, frodyr a chwiorydd, eich bod chi'n gwybod beth sy'n dda ac yn iawn, a'ch bod chi'n gallu dysgu eich gilydd.
Roma WelBeibl 15:15  Ond dw i wedi dweud rhai pethau yn blwmp ac yn blaen yn y llythyr yma, er mwyn eich atgoffa chi. Dyna'r gwaith mae Duw wedi'i roi i mi –
Roma WelBeibl 15:16  gwasanaethu y Meseia Iesu ymhlith pobl sydd ddim yn Iddewon. Dw i'n cyflwyno newyddion da Duw i chi, er mwyn i'r Ysbryd Glân eich glanhau chi a'ch gwneud chi sydd o genhedloedd eraill yn offrwm derbyniol i Dduw.
Roma WelBeibl 15:17  Dw i'n falch o beth mae'r Meseia Iesu wedi'i wneud trwof fi wrth i mi wasanaethu Duw.
Roma WelBeibl 15:18  Wna i ddim meiddio sôn am ddim arall! Mae'r Meseia wedi gwneud i bobl o'r cenhedloedd ufuddhau i Dduw. Mae wedi defnyddio beth dw i'n ei ddweud a'i wneud,
Roma WelBeibl 15:19  ac wedi cyflawni gwyrthiau rhyfeddol drwy nerth yr Ysbryd Glân. Dw i wedi cyhoeddi'r newyddion da am y Meseia yr holl ffordd o Jerwsalem i dalaith Ilyricwm.
Roma WelBeibl 15:20  Beth dw i wedi ceisio'i wneud ydy cyhoeddi'r newyddion da lle doedd neb wedi sôn am y Meseia o'r blaen. Does gen i ddim eisiau adeiladu ar sylfaen mae rhywun arall wedi'i gosod.
Roma WelBeibl 15:21  Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud eto: “Bydd pobl na ddwedodd neb wrthyn nhw amdano yn gweld, a rhai oedd heb glywed amdano yn deall.”
Roma WelBeibl 15:22  Dyna sydd wedi fy rhwystro i rhag dod atoch chi dro ar ôl tro.
Roma WelBeibl 15:23  Ond bellach does unman ar ôl i mi weithio yn yr ardaloedd yma, a dw i wedi bod yn dyheu am gyfle i ymweld â chi ers blynyddoedd.
Roma WelBeibl 15:24  Dw i am fynd i Sbaen, ac yn gobeithio galw heibio chi yn Rhufain ar y ffordd. Ar ôl i mi gael y pleser o'ch cwmni chi am ychydig, cewch chi fy helpu i fynd ymlaen yno.
Roma WelBeibl 15:25  Ar hyn o bryd dw i ar fy ffordd i Jerwsalem, gyda rhodd i helpu'r Cristnogion yno.
Roma WelBeibl 15:26  Mae'r Cristnogion yn Macedonia ac Achaia wedi casglu arian i'w rannu gyda'r Cristnogion tlawd yn Jerwsalem.
Roma WelBeibl 15:27  Roedden nhw'n falch o gael cyfle i rannu fel hyn, am eu bod yn teimlo fod ganddyn nhw ddyled i'w thalu. Mae pobl y cenhedloedd wedi cael rhannu bendithion ysbrydol yr Iddewon, felly mae'n ddigon teg i'r Iddewon gael help materol.
Roma WelBeibl 15:28  Pan fydda i wedi gorffen hyn, a gwneud yn siŵr eu bod wedi derbyn yr arian, dw i'n mynd i alw heibio i'ch gweld chi ar fy ffordd i Sbaen.
Roma WelBeibl 15:29  Dw i'n gwybod y bydda i'n dod i rannu bendith fawr gan y Meseia gyda chi.
Roma WelBeibl 15:30  Frodyr a chwiorydd, sy'n perthyn i'r Arglwydd Iesu Grist ac yn rhannu'r cariad mae'r Ysbryd yn ei roi, dw i'n apelio arnoch chi i ymuno gyda mi yn y frwydr drwy weddïo drosto i.
Roma WelBeibl 15:31  Gweddïwch y bydd Duw yn fy amddiffyn i rhag y rhai yn Jwdea sy'n gwrthod ufuddhau i Dduw. Gweddïwch hefyd y bydd y Cristnogion yn Jerwsalem yn derbyn y rhodd sydd gen i iddyn nhw.
Roma WelBeibl 15:32  Wedyn, os Duw a'i myn, galla i ddod atoch chi yn llawen a chael seibiant gyda chi.
Roma WelBeibl 15:33  Dw i'n gweddïo y bydd Duw, sy'n rhoi ei heddwch perffaith i ni, gyda chi i gyd. Amen.
Chapter 16
Roma WelBeibl 16:1  Dim ond pethau da sydd gen i i'w dweud am Phebe, ein chwaer sy'n gwasanaethu yn eglwys Cenchrea.
Roma WelBeibl 16:2  Rhowch groeso brwd iddi – y math o groeso mae unrhyw un sy'n credu yn yr Arglwydd yn ei haeddu. Rhowch iddi pa help bynnag sydd arni ei angen. Mae hi wedi bod yn gefn i lawer iawn o bobl, gan gynnwys fi.
Roma WelBeibl 16:3  Cofiwch fi at Priscila ac Acwila, sy'n gweithio gyda mi dros y Meseia Iesu.
Roma WelBeibl 16:4  Dau wnaeth fentro'u bywydau er fy mwyn i. A dim fi ydy'r unig un sy'n ddiolchgar iddyn nhw, ond holl eglwysi'r cenhedloedd hefyd!
Roma WelBeibl 16:5  Cofion hefyd at yr eglwys sy'n cyfarfod yn eu tŷ nhw. Cofiwch fi at fy ffrind annwyl Epainetws – y person cyntaf yn Asia i ddod yn Gristion.
Roma WelBeibl 16:6  Cofiwch fi at Mair, sydd wedi bod yn gweithio'n galed ar eich rhan.
Roma WelBeibl 16:7  Hefyd at Andronicus a Jwnia, cyd-Iddewon fuodd yn y carchar gyda mi. Maen nhw'n adnabyddus fel cynrychiolwyr i'r Arglwydd – roedden nhw'n credu yn y Meseia o'm blaen i.
Roma WelBeibl 16:8  Cofion at Ampliatus, sy'n ffrind annwyl i mi yn yr Arglwydd.
Roma WelBeibl 16:9  Cofion hefyd at Wrbanus, sy'n gweithio gyda ni dros y Meseia, ac at fy ffrind annwyl Stachus.
Roma WelBeibl 16:10  Cofiwch fi at Apeles, sydd wedi profi ei hun yn ffyddlon i'r Meseia. Cofion at bawb sy'n gwasanaethu yn nhŷ Aristobwlus.
Roma WelBeibl 16:11  Cofiwch fi at Herodion sydd yntau'n Iddew, ac at y Cristnogion hynny sy'n gwasanaethu yn nhŷ Narcisws.
Roma WelBeibl 16:12  Cofiwch fi at Tryffena a Tryffosa, dwy wraig sy'n gweithio'n galed dros yr Arglwydd. A chofiwch fi hefyd at Persis annwyl – gwraig arall sydd wedi bod yn gweithio'n arbennig o galed dros yr Arglwydd.
Roma WelBeibl 16:13  Cofion at Rwffus, gwas arbennig i'r Arglwydd, ac at ei fam sydd wedi bod fel mam i minnau hefyd.
Roma WelBeibl 16:14  A chofiwch fi at Asyncritus, Phlegon, Hermes, Patrobas, Hermes a'r brodyr a'r chwiorydd eraill gyda nhw.
Roma WelBeibl 16:15  Cofion at Philologws a Jwlia, Nerews a'i chwaer, ac Olympas a phob un o'r credinwyr eraill sydd gyda nhw.
Roma WelBeibl 16:16  Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. Mae eglwysi'r Meseia i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi.
Roma WelBeibl 16:17  Dw i'n apelio atoch chi frodyr a chwiorydd, i wylio'r bobl hynny sy'n creu rhaniadau ac yn ceisio'ch cael i wneud yn groes i beth wnaethoch chi ei ddysgu. Cadwch draw oddi wrthyn nhw.
Roma WelBeibl 16:18  Gwasanaethu eu boliau eu hunain mae pobl felly, dim gwasanaethu'r Meseia, ein Harglwydd ni. Maen nhw'n twyllo pobl ddiniwed gyda'u seboni a'u gweniaith.
Roma WelBeibl 16:19  Ond mae pawb yn gwybod eich bod chi'n ufudd i'r Arglwydd, a dw i'n hapus iawn am hyn. Dw i am i chi fod yn ddoeth wrth wneud daioni ac yn ddieuog o wneud unrhyw ddrwg.
Roma WelBeibl 16:20  A bydd Duw, sy'n rhoi'r heddwch dwfn, yn eich galluogi i ddryllio Satan dan eich traed yn fuan. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu.
Roma WelBeibl 16:21  Mae Timotheus, sy'n gweithio gyda mi yn anfon ei gyfarchion atoch chi; hefyd Lwcius, Jason a Sosipater, fy nghyd-Iddewon.
Roma WelBeibl 16:22  (A finnau, Tertiws, sydd wedi rhoi'r llythyr yma ar bapur. Dw i'n eich cyfarch chi yn yr Arglwydd hefyd.)
Roma WelBeibl 16:23  Mae Gaius yn anfon ei gyfarchion (yn ei gartref e dw i'n aros), ac mae'r eglwys sy'n cyfarfod yma yn anfon eu cyfarchion hefyd. Cyfarchion hefyd oddi wrth Erastus, trysorydd cyngor y ddinas, a hefyd oddi wrth y brawd Cwartus.
Roma WelBeibl 16:25  Clod i Dduw, sy'n gallu'ch gwneud chi'n gryf drwy'r newyddion da sydd gen i – sef y neges sy'n cael ei chyhoeddi am Iesu y Meseia. Mae'r cynllun dirgel yma wedi bod yn guddiedig ar hyd yr oesoedd,
Roma WelBeibl 16:26  ond bellach mae wedi'i ddwyn i'r golwg. Fel mae'r ysgrifau proffwydol yn dweud, y rhai gafodd eu hysgrifennu drwy orchymyn y Duw tragwyddol – mae pobl o bob cenedl yn cael eu galw i gredu ynddo a byw'n ufudd iddo.
Roma WelBeibl 16:27  O achos beth wnaeth Iesu y Meseia, mae e, yr unig Dduw doeth, yn haeddu ei foli am byth! Amen!