Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I CORINTHIANS
Up
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16
Toggle notes
Chapter 1
I Co WelBeibl 1:1  Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw a'm galw i fod yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. A gan y brawd Sosthenes hefyd.
I Co WelBeibl 1:2  At eglwys Dduw yn Corinth. Dych chi wedi'ch neilltuo gan Dduw i berthynas â'r Meseia Iesu. Dych chi wedi'ch galw i fod yn bobl sanctaidd, fel pob Cristion arall – sef pawb ym mhobman sy'n galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist. Fe sy'n Arglwydd arnyn nhw ac arnon ni.
I Co WelBeibl 1:3  Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
I Co WelBeibl 1:4  Dw i bob amser yn diolch i Dduw amdanoch chi. Mae wedi bod mor hael, ac wedi rhoi cymaint o ddoniau i chi sydd wedi dod i berthyn i'r Meseia Iesu.
I Co WelBeibl 1:5  Mae wedi'ch gwneud chi'n gyfoethog yn eich gallu i siarad am bethau ysbrydol, a'ch gwybodaeth ysbrydol.
I Co WelBeibl 1:6  Mae'r neges am y Meseia wedi gwreiddio'n ddwfn yn eich bywydau chi.
I Co WelBeibl 1:7  Mae gynnoch chi bob dawn ysbrydol sydd ei angen arnoch tra dych chi'n disgwyl i'r Arglwydd Iesu Grist ddod yn ôl.
I Co WelBeibl 1:8  Bydd e'n eich cadw chi'n ffyddlon i'r diwedd un. Mae e am i chi fod yn ddi-fai ar y diwrnod mawr pan fydd ein Harglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl.
I Co WelBeibl 1:9  Gallwch chi drystio Duw yn llwyr. Mae'n gwneud beth mae'n ei ddweud. Fe sydd wedi'ch galw chi i rannu bywyd gyda'i Fab, y Meseia Iesu ein Harglwydd ni.
I Co WelBeibl 1:10  Frodyr a chwiorydd, dw i'n apelio atoch chi ar ran ein Harglwydd Iesu Grist – stopiwch ffraeo. Dw i eisiau i chi ddangos undod go iawn, yn lle bod wedi'ch rhannu'n ‛ni‛ a ‛nhw‛.
I Co WelBeibl 1:11  Dw i'n gwybod y cwbl amdanoch chi – mae rhai o bobl Chloe wedi dweud wrtho i am yr holl gecru yn eich plith chi.
I Co WelBeibl 1:12  Mae un ohonoch chi'n dweud, “Paul dw i'n ei ddilyn”; rhywun arall yn dweud, “Apolos dw i'n ei ddilyn,” neu, “Dw i'n dilyn Pedr”; ac wedyn un arall yn dweud, “Y Meseia dw i'n ei ddilyn”!
I Co WelBeibl 1:13  Ydy hi'n bosib rhannu'r Meseia yn ddarnau? Ai fi, Paul, gafodd ei groeshoelio drosoch chi? Wrth gwrs ddim! Gawsoch chi'ch bedyddio i berthyn i enw Paul? Na!
I Co WelBeibl 1:14  Diolch byth, wnes i fedyddio neb ond Crispus a Gaius.
I Co WelBeibl 1:15  Felly all neb ohonoch chi ddweud eich bod wedi cael eich bedyddio i'm henw i!
I Co WelBeibl 1:16  (O ie, fi fedyddiodd y rhai o dŷ Steffanas hefyd; ond dw i'n reit siŵr mod i ddim wedi bedyddio neb arall.)
I Co WelBeibl 1:17  Cyhoeddi'r newyddion da ydy'r gwaith roddodd y Meseia i mi, dim bedyddio pobl. A dw i ddim yn trio bod yn glyfar wrth wneud hynny chwaith, rhag ofn i rym y neges am groes y Meseia fynd ar goll.
I Co WelBeibl 1:18  Mae'r neges am y groes yn nonsens llwyr i'r bobl hynny sydd ar y ffordd i ddistryw. Ond i ni sy'n cael ein hachub, dyma'n union lle mae grym Duw i'w weld.
I Co WelBeibl 1:19  Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydda i'n dinistrio doethineb dynol; ac yn diystyru eu clyfrwch.”
I Co WelBeibl 1:20  Ble mae'r bobl glyfar? Ble mae athrawon y Gyfraith? Ble mae'r dadleuwyr i gyd? Mae Duw wedi gwneud i ddoethineb dynol edrych yn dwp!
I Co WelBeibl 1:21  Mae Duw mor ddoeth! Wnaeth e ddim gadael i bobl ddefnyddio'u clyfrwch eu hunain i ddod i'w nabod e. Beth wnaeth e oedd defnyddio ‛twpdra'r‛ neges dŷn ni'n ei chyhoeddi i achub y rhai sy'n credu.
I Co WelBeibl 1:22  Mae'r Iddewon yn mynnu gweld gwyrthiau syfrdanol i brofi fod y neges yn wir, a'r cwbl mae'r Groegiaid eisiau ydy rhywbeth sy'n swnio'n glyfar.
I Co WelBeibl 1:23  Felly pan dŷn ni'n sôn am y Meseia yn cael ei groeshoelio, mae'r fath syniad yn sarhad i'r Iddewon, ac yn nonsens llwyr i bobl o genhedloedd eraill.
I Co WelBeibl 1:24  Ond i'r rhai mae Duw wedi'u galw i gael eu hachub (yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill) – iddyn nhw, y Meseia sy'n dangos mor bwerus ac mor ddoeth ydy Duw.
I Co WelBeibl 1:25  Mae ‛twpdra‛ Duw yn fwy doeth na chlyfrwch pobl, a ‛gwendid‛ Duw yn fwy pwerus na chryfder pobl.
I Co WelBeibl 1:26  Ffrindiau annwyl, cofiwch sut oedd hi arnoch chi pan ddaethoch chi i gredu! Doedd dim llawer ohonoch chi'n bobl arbennig o glyfar, na dylanwadol, na phwysig.
I Co WelBeibl 1:27  Pobl gyffredin oeddech chi. Ond chi wnaeth Duw eu dewis – y rhai ‛twp‛, i godi cywilydd ar y rhai hynny sy'n meddwl eu bod nhw'n glyfar! Dewisodd Duw bobl gyffredin yng ngolwg y byd i godi cywilydd ar y pwysigion hynny sy'n dal grym.
I Co WelBeibl 1:28  Dewisodd y bobl sy'n ‛neb‛, y bobl hynny mae'r byd yn edrych i lawr arnyn nhw, i roi taw ar y rhai sy'n meddwl eu bod nhw'n ‛rhywun‛.
I Co WelBeibl 1:30  Fe sydd wedi'i gwneud hi'n bosib i chi berthyn i'r Meseia Iesu. Ac mae doethineb Duw i'w weld yn berffaith yn Iesu. Fe sy'n ein gwneud ni'n iawn gyda Duw. Mae'n ein gwneud ni'n lân ac yn bur, ac mae wedi talu'r pris i'n rhyddhau ni o afael pechod.
I Co WelBeibl 1:31  Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Os ydy rhywun am frolio, dylai frolio am beth mae'r Arglwydd wedi'i wneud.”
Chapter 2
I Co WelBeibl 2:1  Frodyr a chwiorydd annwyl, nid dawn dweud slic a rhyw areithiau clyfar gawsoch chi gen i pan oeddwn i'n cyhoeddi beth oedd cynllun Duw i chi.
I Co WelBeibl 2:2  Rôn i'n benderfynol mai dim ond un peth oedd i gael sylw – marwolaeth Iesu y Meseia ar y groes.
I Co WelBeibl 2:3  Pan oeddwn i gyda chi roeddwn i'n teimlo'n wan iawn, yn ofnus ac yn nerfus.
I Co WelBeibl 2:4  Dim llwyddo i'ch perswadio chi gyda geiriau clyfar wnes i. Roedd hi'n gwbl amlwg fod yr Ysbryd Glân ar waith!
I Co WelBeibl 2:5  Rôn i eisiau i chi ymateb i rym Duw ei hun, dim i ryw syniadau oedd yn swnio'n ddoeth.
I Co WelBeibl 2:6  Ac eto mae'r neges dŷn ni'n ei chyhoeddi yn neges ddoeth, ac mae'r bobl sy'n gwrando arni yn dangos eu bod nhw'n bobl aeddfed. Ond dim ffordd ein hoes ni o edrych ar bethau ydy hi. A dim ffordd y rhai sy'n llywodraethu chwaith – mae hi ar ben arnyn nhw beth bynnag!
I Co WelBeibl 2:7  Na, dirgelwch gan Dduw ydy'r doethineb dŷn ni'n sôn amdano. Roedd wedi'i guddio yn y gorffennol, er fod Duw wedi'i drefnu cyn i amser ddechrau. Roedd wedi'i gadw i ni gael rhannu ei ysblander drwyddo.
I Co WelBeibl 2:8  Ond wnaeth y rhai sy'n llywodraethu ddim deall. Petaen nhw wedi deall fydden nhw ddim wedi croeshoelio ein Harglwydd bendigedig ni.
I Co WelBeibl 2:9  Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Welodd yr un llygad, chlywodd yr un glust; wnaeth neb ddychmygu beth mae Duw wedi'i baratoi i'r rhai sy'n ei garu.”
I Co WelBeibl 2:10  Ond dŷn ni wedi deall, am fod Ysbryd Duw wedi'i esbonio i ni – ac mae'r Ysbryd yn gwybod cyfrinachau Duw i gyd!
I Co WelBeibl 2:11  Pwy sy'n gwybod beth sydd ar feddwl rhywun arall? Does neb, dim ond y person ei hun. Felly Ysbryd Duw ydy'r unig un sy'n gwybod beth sydd ar feddwl Duw.
I Co WelBeibl 2:12  A dŷn ni ddim yn edrych ar bethau o safbwynt y byd – mae Duw wedi rhoi ei Ysbryd i ni er mwyn i ni allu deall yr holl bethau gwych sydd ganddo ar ein cyfer ni.
I Co WelBeibl 2:13  A dyma'r union neges dŷn ni'n ei rhannu – dim rhannu ein syniadau doeth ein hunain ond beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud. Dŷn ni'n rhannu gwirioneddau ysbrydol gyda phobl sydd wedi derbyn yr Ysbryd.
I Co WelBeibl 2:14  Os ydy'r Ysbryd ddim gan bobl, dŷn nhw ddim yn derbyn beth mae Ysbryd Duw yn ei ddweud – maen nhw'n gweld y cwbl fel nonsens pur. Dydyn nhw ddim yn gallu deall am fod angen dirnadaeth ysbrydol i ddeall.
I Co WelBeibl 2:15  Os ydy'r Ysbryd gynnon ni, mae'r cwbl yn gwneud sens! Ond dydy pobl eraill ddim yn ein deall ni:
I Co WelBeibl 2:16  “Pwy sy'n gallu honni ei fod yn deall meddwl yr Arglwydd? Pwy sy'n gallu rhoi cyngor iddo?” Ond mae'r gallu gynnon ni i weld pethau o safbwynt y Meseia.
Chapter 3
I Co WelBeibl 3:1  Pan oeddwn i acw, frodyr a chwiorydd, roedd hi'n amhosib siarad â chi fel Cristnogion aeddfed. Roedd rhaid i mi siarad â chi fel petaech chi heb dderbyn yr Ysbryd! – yn fabis bach yn eich dealltwriaeth o'r bywyd Cristnogol.
I Co WelBeibl 3:2  Roedd rhaid i mi eich bwydo chi â llaeth, am eich bod chi ddim yn barod i gymryd bwyd solet! Ac mae'n amlwg eich bod chi'n dal ddim yn barod!
I Co WelBeibl 3:3  Dych chi'n dal i ymddwyn fel pobl sydd heb dderbyn yr Ysbryd. Mae'r holl genfigennu a'r ffraeo sy'n mynd ymlaen yn warthus. Dych chi'n ymddwyn fel petaech chi ddim yn Gristnogion o gwbl.
I Co WelBeibl 3:4  Pan mae un yn dweud, “Dw i'n dilyn Paul,” ac un arall, “Dw i'n dilyn Apolos,” dych chi'n ymddwyn yn union fel pawb arall!
I Co WelBeibl 3:5  Pwy ydy Apolos? Pwy ydy Paul? Dim ond gweision! Trwon ni y daethoch chi i gredu, ond dim ond gwneud ein gwaith oedden ni – gwneud beth oedd Duw wedi'i ddweud wrthon ni.
I Co WelBeibl 3:6  Fi blannodd yr had, wedyn daeth Apolos i'w ddyfrio. Ond Duw wnaeth iddo dyfu, dim ni!
I Co WelBeibl 3:7  Dydy'r plannwr a'r dyfriwr ddim yn bwysig. Dim ond Duw, sy'n rhoi'r tyfiant.
I Co WelBeibl 3:8  Mae'r plannwr a'r dyfriwr eisiau'r un peth. A bydd y ddau'n cael eu talu am eu gwaith eu hunain.
I Co WelBeibl 3:9  Dŷn ni'n gweithio fel tîm i Dduw, a chi ydy'r maes mae Duw wedi'i roi i ni weithio ynddo. Neu, os mynnwch chi, dych chi fel adeilad –
I Co WelBeibl 3:10  fi gafodd y fraint a'r cyfrifoldeb o osod y sylfaen (fel adeiladwr profiadol), ac mae rhywun arall yn codi'r adeilad ar y sylfaen. Ond rhaid bod yn ofalus wrth adeiladu,
I Co WelBeibl 3:11  am mai dim ond un sylfaen sy'n gwneud y tro i adeiladu arni, sef Iesu y Meseia.
I Co WelBeibl 3:12  Mae'n bosib adeiladu ar y sylfaen gydag aur, arian, a gemau gwerthfawr, neu gyda choed, gwair a gwellt
I Co WelBeibl 3:13  – bydd safon gwaith pawb yn amlwg ar Ddydd y farn. Tân fydd yn profi ansawdd y gwaith sydd wedi'i wneud.
I Co WelBeibl 3:14  Os bydd yr adeilad yn dal i sefyll, bydd yr adeiladwr yn cael ei wobrwyo.
I Co WelBeibl 3:15  Ond os bydd gwaith rhywun yn cael ei ddinistrio, bydd y person hwnnw'n profi colled fawr. Bydd pobl felly yn cael eu hachub – ond dim ond o drwch blewyn y byddan nhw'n llwyddo i ddianc o'r fflamau!
I Co WelBeibl 3:16  Ydych chi ddim yn sylweddoli mai chi gyda'ch gilydd ydy teml Dduw, a bod Ysbryd Duw yn aros yn y deml yna?
I Co WelBeibl 3:17  Bydd Duw yn dinistrio unrhyw un sy'n dinistrio'i deml e. Mae teml Dduw yn gysegredig. A chi ydy'r deml honno!
I Co WelBeibl 3:18  Mae'n bryd i chi stopio twyllo'ch hunain! Os ydych chi wir yn meddwl eich bod chi'n ddoeth, rhaid i chi fod yn ‛dwp‛ yng ngolwg y byd i fod yn ddoeth go iawn!
I Co WelBeibl 3:19  Mae clyfrwch y byd yn dwp yng ngolwg Duw. Yr ysgrifau sanctaidd sy'n dweud: “Mae Duw'n gwneud i glyfrwch pobl eu baglu nhw”
I Co WelBeibl 3:20  a hefyd, “Mae'r Arglwydd yn gwybod fod rhesymu clyfar pobl yn wastraff amser.”
I Co WelBeibl 3:21  Felly, peidiwch brolio am ddynion! Mae'r cwbl yn eiddo i chi –
I Co WelBeibl 3:22  Paul, Apolos, Pedr, y byd, bywyd, marwolaeth, y presennol, y dyfodol – chi biau nhw i gyd!
I Co WelBeibl 3:23  A dych chi'n eiddo i'r Meseia, a'r Meseia i Dduw.
Chapter 4
I Co WelBeibl 4:1  Dylech chi'n hystyried ni fel gweision i'r Meseia – gweision sydd â'r cyfrifoldeb ganddyn nhw o esbonio pethau dirgel Duw.
I Co WelBeibl 4:2  Wrth gwrs, mae disgwyl i rywun sydd wedi derbyn cyfrifoldeb brofi ei fod yn ffyddlon.
I Co WelBeibl 4:3  Felly dim beth dych chi na neb arall yn ei feddwl sy'n bwysig gen i; yn wir, dim beth dw i fy hun yn ei feddwl sy'n bwysig hyd yn oed!
I Co WelBeibl 4:4  Mae nghydwybod i'n glir, ond dydy hynny ddim yn profi mod i'n iawn. Beth mae Duw ei hun yn ei feddwl ohono i sy'n cyfri.
I Co WelBeibl 4:5  Felly peidiwch cyhoeddi'ch dedfryd ar bethau yn rhy fuan; arhoswch nes i'r Arglwydd ddod yn ôl. Bydd y gwir i gyd yn dod i'r golau bryd hynny. Bydd cymhellion pawb yn dod i'r amlwg, a bydd pawb yn derbyn beth mae'n ei haeddu gan Dduw.
I Co WelBeibl 4:6  Ffrindiau annwyl, dw i wedi defnyddio fi fy hun ac Apolos fel esiampl, er mwyn i chi ddysgu beth ydy ystyr “peidio mynd y tu hwnt i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud.” Byddwch chi'n stopio honni fod un yn well na'r llall wedyn.
I Co WelBeibl 4:7  Beth sy'n eich gwneud chi'n well na phobl eraill? Beth sydd gynnoch chi ydych chi ddim yn y pen draw wedi'i dderbyn gan Dduw? Ac os mai rhodd gan Dduw ydy'r cwbl, beth sydd i frolio amdano? – fel petaech chi'ch hunain wedi cyflawni rhywbeth!
I Co WelBeibl 4:8  Edrychwch arnoch chi! Dych chi'n meddwl fod popeth gynnoch chi yn barod! Dych chi mor gyfoethog! Dyma chi wedi cael eich teyrnas – a ninnau'n dal y tu allan! Byddai'n wych gen i tasech chi yn teyrnasu go iawn, er mwyn i ninnau gael teyrnasu gyda chi.
I Co WelBeibl 4:9  Wyddoch chi, mae'n edrych fel petai Duw wedi'u gwneud ni, ei gynrychiolwyr personol, fel y carcharorion rhyfel sydd ar ddiwedd y prosesiwn – y rhai sydd wedi'n condemnio i farw yn yr arena. Dŷn ni wedi cael ein gwneud yn sioe i ddifyrru'r byd – pobl ac angylion.
I Co WelBeibl 4:10  Ni yn edrych yn ffyliaid dros achos y Meseia, a chi'n bobl mor ddoeth! Ni yn wan, a chi mor gryf! Chi yn cael eich canmol a ninnau'n destun sbort!
I Co WelBeibl 4:11  Hyd heddiw dŷn ni'n brin o fwyd a diod, a heb ddigon o ddillad i'n cadw'n gynnes. Dŷn ni wedi cael ein cam-drin a does gynnon ni ddim cartrefi.
I Co WelBeibl 4:12  Dŷn ni wedi gweithio'n galed i ennill ein bywoliaeth. Dŷn ni'n bendithio'r bobl sy'n ein bygwth ni. Dŷn ni'n goddef pobl sy'n ein cam-drin ni.
I Co WelBeibl 4:13  Dŷn ni'n ymateb yn garedig pan mae pobl yn ein henllibio ni. Hyd heddiw dŷn ni wedi cael ein trin gan bobl fel sbwriel, neu'n ddim byd ond baw!
I Co WelBeibl 4:14  Dim ceisio creu embaras i chi ydw i wrth ddweud hyn i gyd, ond eich rhybuddio chi. Dych chi fel plant annwyl i mi!
I Co WelBeibl 4:15  Hyd yn oed petai miloedd o bobl eraill yn eich dysgu chi fel Cristnogion, fyddai'n dal gynnoch chi ond un tad ysbrydol! Fi gafodd y fraint o fod yn dad i chi pan wnes i gyhoeddi'r newyddion da i chi.
I Co WelBeibl 4:17  Dyna pam dw i'n anfon Timotheus atoch chi – mae e'n fab annwyl i mi yn yr Arglwydd, a dw i'n gallu dibynnu'n llwyr arno. Bydd yn eich atgoffa chi sut dw i'n ymddwyn a beth dw i'n ei ddysgu am y Meseia Iesu. Dyma dw i'n ei ddysgu yn yr eglwysi i gyd, ble bynnag dw i'n mynd.
I Co WelBeibl 4:18  Ond mae rhai pobl, mor siŵr ohonyn nhw eu hunain, yn meddwl na fydda i'n ymweld â chi byth eto.
I Co WelBeibl 4:19  Ond dw i yn dod – a hynny'n fuan, os Duw a'i myn. Byddwn ni'n gweld wedyn os mai dim ond ceg fawr sydd ganddyn nhw, neu oes ganddyn nhw'r gallu i wneud rhywbeth!
I Co WelBeibl 4:20  Dim beth mae pobl yn ei ddweud, ond beth allan nhw ei wneud sy'n dangos Duw'n teyrnasu.
I Co WelBeibl 4:21  Dewiswch beth sydd orau gynnoch chi – i mi ddod gyda gwialen i gosbi a dweud y drefn, neu ddod yn llawn cariad ac yn addfwyn?
Chapter 5
I Co WelBeibl 5:1  Dw i wedi clywed am yr anfoesoldeb yn eich plith chi! Mae'n waeth na beth fyddai'r paganiaid yn ei oddef! Mae un o ddynion yr eglwys yn cysgu gyda'i lysfam, gwraig ei dad!
I Co WelBeibl 5:2  A dych chi'n dal yn falch ohonoch chi'ch hunain? Dylai'r fath beth godi cywilydd arnoch chi! Dylech chi fod wedi'ch llethu gan alar! Pam dych chi ddim wedi disgyblu'r dyn, a'i droi allan o gymdeithas yr eglwys?
I Co WelBeibl 5:3  Er fy mod i ddim gyda chi yn Corinth ar hyn o bryd, dw i acw yn yr ysbryd. Yn union fel petawn i gyda chi dw i wedi cyhoeddi'r ddedfryd
I Co WelBeibl 5:4  gydag awdurdod ein Harglwydd Iesu. Pan ddewch chi at eich gilydd (bydda i yno gyda chi yn yr ysbryd),
I Co WelBeibl 5:5  taflwch y dyn allan o'r eglwys. Rhaid ei roi yn nwylo Satan, er mwyn i'w chwantau drwg gael eu dinistrio ac iddo gael ei achub pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl.
I Co WelBeibl 5:6  Sut allwch chi ymfalchïo fel eglwys pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd? Ydych chi ddim yn sylweddoli fod “mymryn bach o furum yn lledu drwy'r toes i gyd”? – mae'n effeithio ar bawb!
I Co WelBeibl 5:7  Rhaid cael gwared ohono – ei daflu allan, a dechrau o'r newydd gyda thoes newydd heb unrhyw furum ynddo. Ac felly dylech chi fod, am fod y Meseia wedi'i aberthu droson ni, fel oen y Pasg.
I Co WelBeibl 5:8  Gadewch i ni ddathlu'r Ŵyl, dim gyda'r bara sy'n llawn o furum malais a drygioni, ond gyda bara croyw purdeb a gwirionedd.
I Co WelBeibl 5:9  Dw i wedi dweud wrthoch chi yn y llythyr ysgrifennais i o'r blaen i beidio cael dim i'w wneud gyda phobl sy'n anfoesol yn rhywiol.
I Co WelBeibl 5:10  Dim sôn am bobl sydd ddim yn credu oeddwn i – sef y bobl yn y gymdeithas seciwlar sy'n anfoesol neu'n hunanol, neu'n twyllo, neu'n addoli eilun-dduwiau. Byddai'n rhaid i chi fynd allan o'r byd i osgoi pobl felly!
I Co WelBeibl 5:11  Na, beth roeddwn i'n ei olygu oedd na ddylech chi gael dim i'w wneud â rhywun sy'n galw'i hun yn Gristion ac eto ar yr un pryd yn byw'n anfoesol, neu'n hunanol, yn addoli eilun-dduwiau, yn sarhaus, yn meddwi neu'n twyllo. Peidiwch hyd yn oed ag eistedd i gael pryd o fwyd gyda phobl felly!
I Co WelBeibl 5:12  Dim fy lle i ydy barnu pobl y tu allan i'r eglwys. Ond dŷn ni yn gyfrifol am y bobl sy'n perthyn i'r eglwys.
I Co WelBeibl 5:13  Duw sydd yn barnu pobl o'r tu allan. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud wrthon ni, “Rhaid diarddel y dyn drwg o'ch plith.”
Chapter 6
I Co WelBeibl 6:1  Pan mae gynnoch chi achos yn erbyn Cristion arall, sut allwch chi feiddio mynd i lys barn? Rhannwch y peth gyda'ch cyd-Gristnogion, iddyn nhw ddelio gyda'r mater.
I Co WelBeibl 6:2  Ydych chi ddim yn sylweddoli fod “pobl Dduw yn mynd i farnu'r byd”? Felly os byddwch chi'n barnu'r byd, ydych chi ddim yn gallu delio gyda rhyw fân achosion fel hyn?
I Co WelBeibl 6:3  Rhaid i chi gofio y byddwn ni'n barnu angylion bryd hynny! Felly does bosib nad ydyn ni'n gallu setlo problemau pob dydd ar y ddaear yma!
I Co WelBeibl 6:4  Ond na, mae rhyw achos yn codi a dych chi'n gofyn i bobl y tu allan i'r eglwys ddelio gyda'r mater!
I Co WelBeibl 6:5  Cywilydd arnoch chi! Oes neb yn eich plith chi sy'n ddigon doeth i ddelio gyda'r math yma o beth?
I Co WelBeibl 6:6  Ydy'n iawn i Gristion erlyn Cristion arall? – a hynny o flaen pobl sydd ddim yn credu?
I Co WelBeibl 6:7  Mae achosion llys fel yma rhwng Cristnogion â'i gilydd yn dangos methiant llwyr. Byddai'n well petaech chi'n diodde'r cam, ac yn gadael i'r person arall eich twyllo chi!
I Co WelBeibl 6:8  Ond na, mae'n well gynnoch chi dwyllo a gwneud cam â phobl eraill – hyd yn oed eich cyd-Gristnogion!
I Co WelBeibl 6:9  Ydych chi ddim yn sylweddoli bod pobl ddrwg ddim yn cael perthyn i deyrnasiad Duw? Peidiwch twyllo'ch hunain: Fydd dim lle yn ei deyrnas i bobl sy'n anfoesol yn rhywiol, yn addoli eilun-dduwiau, neu'n godinebu, i buteinwyr gwrywgydiol, gwrywgydwyr gweithredol,
I Co WelBeibl 6:10  lladron, pobl hunanol, meddwon, nag i neb sy'n enllibio pobl eraill ac yn eu twyllo nhw.
I Co WelBeibl 6:11  A dyna sut bobl oedd rhai ohonoch chi ar un adeg, ond dych chi wedi cael eich glanhau a'ch gwneud yn bur. Mae gynnoch berthynas iawn gyda Duw o achos y cwbl mae'r Arglwydd Iesu Grist a'r Ysbryd Glân wedi'i wneud drosoch chi.
I Co WelBeibl 6:12  Ond, “Mae gen i ryddid i wneud beth dw i eisiau” meddech chi. A dw i'n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er mod i'n rhydd i wneud beth dw i eisiau, fydd dim byd yn cael bod yn feistr arna i.
I Co WelBeibl 6:13  “Mae'n naturiol,” meddech chi wedyn, “fel bwyd i'r stumog a'r stumog i fwyd.” Falle wir, ond bydd Duw yn dinistrio'r ddau yn y diwedd. Chafodd y corff mo'i greu i fod yn anfoesol yn rhywiol – cafodd ei wneud i wasanaethu'r Arglwydd. Ac mae'r corff yn bwysig i'r Arglwydd!
I Co WelBeibl 6:14  Cododd Duw gorff yr Arglwydd Iesu yn ôl yn fyw, a bydd yn defnyddio'i nerth i godi ein cyrff ninnau yr un fath.
I Co WelBeibl 6:15  Ydych chi ddim yn sylweddoli fod eich cyrff chi yn rhannau o gorff y Meseia ei hun? Ydw i'n mynd i ddefnyddio fy nghorff (sy'n perthyn i'r Meseia) i gael rhyw gyda phutain? Na, byth!
I Co WelBeibl 6:16  Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn yn clymu ei hun gyda'r butain wrth gael rhyw gyda hi? “Bydd y ddau yn dod yn un,” meddai'r ysgrifau sanctaidd.
I Co WelBeibl 6:17  Ond mae'r sawl sy'n clymu ei hun i'r Arglwydd yn rhannu'r un Ysbryd â'r Arglwydd.
I Co WelBeibl 6:18  Gwnewch bopeth allwch chi i osgoi anfoesoldeb rhywiol. Does dim un pechod arall sy'n effeithio ar y corff yr un fath. Mae'r person sy'n pechu'n rhywiol yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.
I Co WelBeibl 6:19  Ydych chi ddim yn sylweddoli fod eich corff chi'n deml i'r Ysbryd Glân? Mae'r Ysbryd yn byw ynoch chi – mae wedi'i roi'n rhodd i chi gan Dduw. Dim chi biau eich bywyd;
I Co WelBeibl 6:20  mae pris wedi'i dalu amdanoch chi. Felly defnyddiwch eich cyrff i anrhydeddu Duw.
Chapter 7
I Co WelBeibl 7:1  Nawr, gadewch i ni droi at y cwestiynau oedd yn eich llythyr chi: “Mae'n beth da i ddyn beidio cael rhyw o gwbl,” meddech chi.
I Co WelBeibl 7:2  Na, na! Gan fod cymaint o anfoesoldeb rhywiol o gwmpas, dylai pob dyn gael ei wraig ei hun, a phob gwraig ei gŵr ei hun.
I Co WelBeibl 7:3  Ac mae gan ddyn gyfrifoldeb i gael perthynas rywiol gyda'i wraig, a'r un modd y wraig gyda'i gŵr.
I Co WelBeibl 7:4  Mae'r wraig wedi rhoi'r hawl ar ei chorff i'w gŵr, a'r un modd, mae'r gŵr wedi rhoi'r hawl ar ei gorff yntau i'w wraig.
I Co WelBeibl 7:5  Felly peidiwch gwrthod cael rhyw gyda'ch gilydd. Yr unig adeg i ymwrthod, falle, ydy os dych chi wedi cytuno i wneud hynny am gyfnod byr er mwyn rhoi mwy o amser i weddi. Ond dylech ddod yn ôl at eich gilydd yn fuan, rhag i Satan ddefnyddio'ch chwantau i'ch temtio chi.
I Co WelBeibl 7:7  Byddwn i wrth fy modd petai pawb yn gallu bod fel ydw i, ond dŷn ni i gyd yn wahanol. Mae Duw wedi rhoi perthynas briodasol yn rhodd i rai, a'r gallu i fyw'n sengl yn rhodd i eraill.
I Co WelBeibl 7:8  Dw i am ddweud hyn wrth y rhai sy'n weddw neu'n ddibriod: Byddai'n beth da iddyn nhw aros yn ddibriod, fel dw i wedi gwneud.
I Co WelBeibl 7:9  Ond os fedran nhw ddim rheoli eu teimladau, dylen nhw briodi. Mae priodi yn well na chael ein difa gan ein nwydau.
I Co WelBeibl 7:10  I'r rhai sy'n briod dyma dw i'n ei orchymyn (yr Arglwydd ddwedodd hyn, dim fi): Ddylai gwraig ddim gadael ei gŵr.
I Co WelBeibl 7:11  Ond os ydy hi eisoes wedi'i adael mae dau ddewis ganddi. Gall hi aros yn ddibriod neu fynd yn ôl at ei gŵr. A ddylai dyn ddim ysgaru ei wraig chwaith.
I Co WelBeibl 7:12  Ac wrth y gweddill ohonoch chi, dyma dw i'n ddweud (soniodd yr Arglwydd Iesu ddim am y peth): Os oes gan Gristion wraig sydd ddim yn credu ond sy'n dal yn fodlon byw gydag e, ddylai'r dyn hwnnw ddim gadael ei wraig.
I Co WelBeibl 7:13  Neu fel arall, os oes gan wraig ŵr sydd ddim yn credu, ond sy'n dal yn fodlon byw gyda hi, ddylai hithau ddim ei adael e.
I Co WelBeibl 7:14  Mae bywyd y gŵr sydd ddim yn credu yn cael ei lanhau drwy ei berthynas â'i wraig o Gristion, a bywyd gwraig sydd ddim yn credu yn cael ei lanhau drwy ei pherthynas hi â'i gŵr sy'n Gristion. Petai fel arall byddai eich plant chi'n ‛aflan‛, ond fel hyn, maen nhw hefyd yn lân.
I Co WelBeibl 7:15  (Ond wedyn, os ydy'r gŵr neu'r wraig sydd ddim yn credu yn mynnu gadael y berthynas, gadewch iddyn nhw fynd. Dydy'r partner sy'n Gristion ddim yn gaeth mewn achos felly. Mae Duw am i ni fyw mewn heddwch.)
I Co WelBeibl 7:16  Wraig, ti ddim yn gwybod, falle y byddi di'n gyfrwng i achub dy ŵr! Neu ti'r gŵr, falle y byddi di'n gyfrwng i achub dy wraig!
I Co WelBeibl 7:17  Dylai pob un ohonoch chi dderbyn y sefyllfa mae'r Arglwydd wedi'ch gosod chi ynddi pan alwodd Duw chi i gredu. Mae hon yn rheol dw i'n ei rhoi i bob un o'r eglwysi.
I Co WelBeibl 7:18  Er enghraifft, os oedd dyn wedi bod drwy'r ddefod o gael ei enwaedu cyn dod i gredu, ddylai e ddim ceisio newid ei gyflwr. A fel arall hefyd; os oedd dyn ddim wedi cael ei enwaedu pan ddaeth yn Gristion, ddylai e ddim mynd drwy'r ddefod nawr.
I Co WelBeibl 7:19  Sdim ots os dych chi wedi cael eich enwaedu neu beidio! Beth sy'n bwysig ydy'ch bod chi'n gwneud beth mae Duw'n ei ddweud.
I Co WelBeibl 7:20  Felly dylech chi aros fel roeddech chi pan alwodd Duw chi i gredu.
I Co WelBeibl 7:21  Wyt ti'n gaethwas? Paid poeni am y peth. Hyd yn oed os ydy'n bosib y byddi di'n rhydd rywbryd, gwna'r defnydd gorau o'r sefyllfa wyt ti ynddi.
I Co WelBeibl 7:22  Er bod rhywun yn gaethwas pan ddaeth i gredu, mae'n berson rhydd yng ngolwg yr Arglwydd! A'r un modd, os oedd rhywun yn ddinesydd rhydd pan ddaeth i gredu, mae bellach yn gaethwas i'r Meseia!
I Co WelBeibl 7:23  Mae pris uchel wedi'i dalu amdanoch chi! Peidiwch gwneud eich hunain yn gaethweision pobl.
I Co WelBeibl 7:24  Ffrindiau annwyl, Duw ydy'r un dych chi'n atebol iddo. Felly arhoswch fel roeddech chi pan daethoch i gredu.
I Co WelBeibl 7:25  I droi at fater y rhai sydd ddim eto wedi priodi: Does gen i ddim gorchymyn i'w roi gan yr Arglwydd, ond dyma ydy fy marn i (fel un y gallwch ymddiried ynddo drwy drugaredd Duw!):
I Co WelBeibl 7:26  Am ein bod ni'n wynebu creisis ar hyn o bryd, dw i'n meddwl mai peth da fyddai i chi aros fel rydych chi.
I Co WelBeibl 7:27  Os wyt ti wedi dyweddïo gyda merch, paid ceisio datod y cwlwm. Os wyt ti'n rhydd, paid ag edrych am wraig.
I Co WelBeibl 7:28  Ond fyddi di ddim yn pechu os byddi di'n priodi; a dydy'r ferch ifanc ddim yn pechu wrth briodi chwaith. Ond mae'r argyfwng presennol yn rhoi parau priod dan straen ofnadwy, a dw i eisiau'ch arbed chi rhag hynny.
I Co WelBeibl 7:29  Dw i am ddweud hyn ffrindiau: mae'r amser yn brin. O hyn ymlaen dim bod yn briod neu beidio ydy'r peth pwysica;
I Co WelBeibl 7:30  dim y galar na'r llawenydd ddaw i'n rhan; dim prynu pethau, wedi'r cwbl fyddwch chi ddim yn eu cadw nhw!
I Co WelBeibl 7:31  Waeth heb ag ymgolli yn y cwbl sydd gan y byd i'w gynnig, am fod y byd fel y mae yn dod i ben!
I Co WelBeibl 7:32  Ceisio'ch arbed chi rhag poeni'n ddiangen ydw i. Mae dyn dibriod yn gallu canolbwyntio ar waith yr Arglwydd, a sut i'w blesio.
I Co WelBeibl 7:33  Ond rhaid i'r dyn priod feddwl am bethau eraill bywyd – sut i blesio'i wraig –
I Co WelBeibl 7:34  ac mae'n cael ei dynnu'r ddwy ffordd. Mae gwraig sydd bellach yn ddibriod, neu ferch sydd erioed wedi priodi, yn gallu canolbwyntio ar waith yr Arglwydd. Ei nod hi ydy cysegru ei hun yn llwyr (gorff ac ysbryd) i'w wasanaethu e. Ond mae'n rhaid i wraig briod feddwl am bethau'r byd – sut i blesio'i gŵr.
I Co WelBeibl 7:35  Dw i'n dweud hyn er eich lles chi, dim i gyfyngu arnoch chi. Dw i am i ddim byd eich rhwystro chi rhag byw bywyd o ymroddiad llwyr i'r Arglwydd.
I Co WelBeibl 7:36  Os ydy rhywun yn teimlo ei fod yn methu rheoli ei nwydau gyda'r ferch mae wedi'i dyweddïo, a'r straen yn ormod, dylai wneud beth mae'n meddwl sy'n iawn. Dydy e ddim yn pechu drwy ei phriodi hi.
I Co WelBeibl 7:37  Ond os ydy dyn wedi penderfynu peidio ei phriodi – ac yn gwybod yn iawn beth mae'n ei wneud, a heb fod dan unrhyw bwysau – mae yntau'n gwneud y peth iawn.
I Co WelBeibl 7:38  Felly mae'r un sy'n priodi ei ddyweddi yn gwneud yn iawn, ond bydd yr un sy'n dewis peidio priodi yn gwneud peth gwell.
I Co WelBeibl 7:39  Mae gwraig ynghlwm i'w gŵr tra mae ei gŵr yn dal yn fyw. Ond os ydy'r gŵr yn marw, mae'r wraig yn rhydd i briodi dyn arall, cyn belled â'i fod yn Gristion.
I Co WelBeibl 7:40  Ond yn fy marn i byddai'n well iddi aros fel y mae – a dw i'n credu fod Ysbryd Duw wedi rhoi arweiniad i mi yn hyn o beth.
Chapter 8
I Co WelBeibl 8:1  I droi at eich cwestiwn am gig wedi'i aberthu i eilun-dduwiau paganaidd: “Mae pawb yn gwybod y ffeithiau ac yn gallu dewis drostyn nhw eu hunain” meddech chi. Ond mae dweud ein bod ni'n gwybod yn hybu balchder; mae cariad, ar y llaw arall, yn adeiladu.
I Co WelBeibl 8:2  Os ydy rhywun yn meddwl eu bod yn gwybod y cwbl, dŷn nhw'n gwybod dim byd mewn gwirionedd.
I Co WelBeibl 8:3  Ond mae Duw yn gwybod pwy sy'n ei garu, ac mae'n gofalu amdanyn nhw.
I Co WelBeibl 8:4  Felly, ydy hi'n iawn i ni fwyta cig sydd wedi'i aberthu i dduwiau paganaidd? Dŷn ni'n cytuno – “Dydy eilun yn ddim byd mewn gwirionedd. Does dim ond un Duw go iawn.”
I Co WelBeibl 8:5  Hyd yn oed os oes rhai sy'n cael eu galw'n ‛dduwiau‛ yn y nefoedd ac ar y ddaear (ac oes, mae gan bobl lawer o ‛dduwiau‛ ac ‛arglwyddi‛ eraill),
I Co WelBeibl 8:6  dŷn ni'n gwybod mai dim ond un Duw go iawn sydd, sef y Tad. Fe ydy'r un greodd bopeth ac iddo fe dŷn ni'n byw. A does gynnon ni ond un Arglwydd, sef Iesu y Meseia, yr un y daeth popeth i fod drwyddo, a'r un sy'n rhoi bywyd i ni.
I Co WelBeibl 8:7  Ond dydy pawb ddim mor siŵr. Mae eilun-dduwiau wedi bod yn gymaint rhan o fywydau rhai pobl, pan maen nhw'n bwyta'r cig allan nhw ddim peidio meddwl am y ffaith ei fod wedi'i aberthu i ryw dduw paganaidd. Mae eu cydwybod nhw'n cael ei niweidio am ei bod hi'n gydwybod wan.
I Co WelBeibl 8:8  “Dydy bwyd ddim yn effeithio ar ein perthynas ni â Duw” meddech chi; digon gwir – dŷn ni ddim gwaeth o fwyta, na dim gwell chwaith.
I Co WelBeibl 8:9  Ond dylech chi fod yn ofalus nad ydych chi a'ch “hawl i ddewis” yn achosi i'r rhai sy'n ansicr faglu.
I Co WelBeibl 8:10  Dyma allai ddigwydd: Mae rhywun sydd â chydwybod wan yn dy weld di yn bwyta mewn teml eilunod. Rwyt ti'n gwybod y ffeithiau – does dim i boeni amdano. Ond onid oes peryg wedyn i'r person welodd di deimlo'n hyderus, a bwyta cig sydd wedi'i aberthu i eilun-dduwiau?
I Co WelBeibl 8:11  Felly bydd y crediniwr sy'n ansicr yn gweithredu'n groes i'w gydwybod ac yn cael ei ddinistrio am dy fod di'n “gwybod yn well” – ie, brawd neu chwaer y buodd y Meseia farw trostyn nhw!
I Co WelBeibl 8:12  Wrth wneud i Gristion arall weithredu'n groes i'w gydwybod fel hyn, rwyt ti'n pechu yn erbyn y Meseia.
I Co WelBeibl 8:13  Felly, os ydy beth dw i'n ei fwyta yn achosi i Gristion arall faglu, wna i byth fwyta cig eto – does gen i ddim eisiau achosi iddyn nhw syrthio.
Chapter 9
I Co WelBeibl 9:1  Ydw i ddim yn rhydd? Wrth gwrs fy mod i! Ydw i ddim yn gynrychiolydd personol i'r Meseia? Ydw, a dw i wedi gweld ein Harglwydd Iesu yn fyw!
I Co WelBeibl 9:2  Os ydw i ddim yn ei gynrychioli yng ngolwg rhai, dw i siŵr o fod yn eich golwg chi! Chi ydy'r dystysgrif sy'n profi fy mod i'n gynrychiolydd personol i'r Arglwydd.
I Co WelBeibl 9:3  Dyma fy amddiffyniad i'r rhai sy'n feirniadol ohono i.
I Co WelBeibl 9:5  Oes gynnon ni ddim hawl i briodi a mynd â'n gwraig sy'n Gristion o gwmpas gyda ni? – dyna mae ei gynrychiolwyr personol eraill, a brodyr yr Arglwydd a Pedr yn ei wneud.
I Co WelBeibl 9:6  Neu ai fi a Barnabas ydy'r unig rai sy'n gorfod gweithio am eu bywoliaeth?
I Co WelBeibl 9:7  Ydy milwr yn y fyddin yn gorfod talu ei gostau ei hun? Ydy rhywun yn plannu gwinllan a byth yn cael bwyta'r grawnwin? Neu'n gofalu am braidd a byth yn cael yfed y llaeth?
I Co WelBeibl 9:8  A pheidiwch meddwl mai dim ond dadlau ar sail enghreifftiau o fywyd pob dydd wna i. Ydy Cyfraith Duw ddim yn dweud yr un peth?
I Co WelBeibl 9:9  Ydy, mae wedi'i ysgrifennu yn y Gyfraith: “Peidiwch rhwystro'r ych sy'n sathru'r ŷd rhag bwyta.” Ai dim ond poeni am ychen mae Duw?
I Co WelBeibl 9:10  Oedd e ddim yn dweud hyn er ein mwyn ni hefyd? Wrth gwrs ei fod e – dyna pam gafodd ei ysgrifennu. Pan mae rhywun yn aredig y tir neu'n dyrnu'r cynhaeaf, mae'n disgwyl cael cyfran o'r cnwd!
I Co WelBeibl 9:11  Felly os wnaethon ni hau hadau ysbrydol yn eich plith chi, ydyn ni'n gofyn gormod i ddisgwyl cael peth ffrwyth materol gynnoch chi?
I Co WelBeibl 9:12  Os ydy eraill yn cael eu cynnal gynnoch chi, mae'n siŵr fod gynnon ni hawl i ddisgwyl hynny! Ond wnaethon ni erioed fanteisio ar yr hawl. Roedden ni'n fodlon dioddef unrhyw beth er mwyn osgoi peri rhwystr i'r newyddion da am y Meseia.
I Co WelBeibl 9:13  Ydych chi ddim yn deall fod y rhai sy'n gweithio yn y deml yn cael eu bwyd yn y deml, a'r rhai sy'n gwasanaethu wrth yr allor yn cael cyfran o beth sy'n cael ei offrymu ar yr allor?
I Co WelBeibl 9:14  Yn union yr un fath, mae'r Arglwydd wedi gorchymyn fod y rhai sy'n cyhoeddi'r newyddion da i gael ennill bywoliaeth drwy'r newyddion da.
I Co WelBeibl 9:15  Ond dw i fy hun ddim wedi manteisio ar fy hawliau o gwbl. A dw i ddim yn ysgrifennu hyn yn y gobaith o gael rhywbeth chwaith! Byddai'n well gen i farw na bod rhywun yn cymryd sail fy ymffrost oddi arna i.
I Co WelBeibl 9:16  Dydy hyd yn oed y ffaith fy mod i'n cyhoeddi'r newyddion da ddim yn rhoi sail i mi frolio – does gen i ddim dewis! Mae'n rhaid i mi gyhoeddi'r neges! Allwn i ddim dioddef peidio cael cyhoeddi'r newyddion da!
I Co WelBeibl 9:17  Petawn i'n cyhoeddi'r neges am fy mod i'n dewis gwneud hynny gallwn i dderbyn gwobr. Ond ddim felly mae hi – y cwbl dw i'n ei wneud ydy cyflawni'r dasg sydd wedi cael ei rhoi i mi.
I Co WelBeibl 9:18  Felly beth ydy'r wobr i mi? Hyn yn syml: Fy mod yn cyhoeddi'r newyddion da i bobl yn rhad ac am ddim, heb fanteisio ar fy hawliau fel pregethwr.
I Co WelBeibl 9:19  Ydw, dw i'n rhydd go iawn. Dw i ddim yn gorfod ufuddhau i unrhyw un am eu bod nhw'n talu i mi. Ond ar y llaw arall, dw i'n gwneud fy hun yn gaethwas i bawb, er mwyn ennill cymaint o bobl ag sydd modd.
I Co WelBeibl 9:20  Dw i'n siarad â'r Iddewon fel Iddew, er mwyn ennill yr Iddewon. Gyda phawb sy'n dilyn Cyfraith Moses dw i'n siarad fel un sy'n dilyn y Gyfraith. Dw i fy hun ddim yn rhwym i ofynion Cyfraith Moses, ond dw i am ennill y rhai sydd yn dilyn y Gyfraith.
I Co WelBeibl 9:21  Gyda'r rhai sydd ddim yn dilyn Cyfraith Moses dw i'n siarad fel un sydd heb y Gyfraith, er mwyn ennill y rhai sydd heb y Gyfraith. (Wrth gwrs, dw i ddim yn rhydd o Gyfraith Dduw go iawn gan fy mod i'n ymostwng i gyfraith y Meseia.)
I Co WelBeibl 9:22  Dw i'n uniaethu gyda'r rhai sy'n ‛wan‛ er mwyn ennill y gwan. Dw i wedi gwneud fy hun yn bob peth i bawb er mwyn gwneud popeth sy'n bosib i achub pobl.
I Co WelBeibl 9:23  Dw i'n gwneud hyn i gyd er mwyn y newyddion da ei hun, ac i minnau gael rhannu o'i fendithion.
I Co WelBeibl 9:24  Mae'r rhai sy'n rhedeg ras mewn gemau athletaidd i gyd yn cystadlu, ond dim ond un sy'n ennill y wobr. Dyna sut dylech chi redeg – fel rhai sy'n benderfynol o ennill.
I Co WelBeibl 9:25  I gystadlu yn y gemau mae'n rhaid i athletwyr hyfforddi'n galed. Maen nhw'n gwneud hynny i ennill coron fydd ond yn para dros dro. Ond dŷn ni'n ymdrechu am goron fydd yn para am byth!
I Co WelBeibl 9:26  Felly dw i ddim yn rhedeg fel rhywun sydd wedi colli golwg ar y nod; a dw i ddim yn bocsio dim ond i ddyrnu'r awyr.
I Co WelBeibl 9:27  Na, dw i'n gwthio fy hun i'r eithaf ac yn ennill rheolaeth lwyr – rhag i mi, ar ôl cyhoeddi'r neges i bobl eraill, gael fy ngwahardd rhag ennill y wobr fy hun!
Chapter 10
I Co WelBeibl 10:1  Dw i am i chi gofio, frodyr a chwiorydd, fod ein hynafiaid ni i gyd wedi bod dan y cwmwl, ac roedd pob un ohonyn nhw wedi mynd drwy'r môr.
I Co WelBeibl 10:2  Cafodd pob un ohonyn nhw eu ‛bedyddio‛ fel dilynwyr Moses yn y cwmwl a'r môr.
I Co WelBeibl 10:3  Cafodd pob un ohonyn nhw fwyta yr un bwyd ysbrydol
I Co WelBeibl 10:4  ac yfed yr un dŵr ysbrydol. Roedden nhw'n yfed o'r graig ysbrydol oedd yn teithio gyda nhw – a'r Meseia oedd y graig honno.
I Co WelBeibl 10:5  Ond er gwaetha hyn i gyd, wnaeth y rhan fwya ohonyn nhw ddim plesio Duw – “buon nhw farw yn yr anialwch.”
I Co WelBeibl 10:6  Digwyddodd y pethau hyn i gyd fel esiamplau i'n rhybuddio ni rhag bod eisiau gwneud drwg fel y gwnaethon nhw.
I Co WelBeibl 10:7  Maen nhw'n rhybudd i ni beidio addoli eilun-dduwiau fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw. Yr ysgrifau sanctaidd sy'n dweud: “Eisteddodd y bobl i lawr i wledda ac yfed, a chodi i ymgolli mewn rhialtwch paganaidd.”
I Co WelBeibl 10:8  Maen nhw'n rhybudd i ni beidio bod yn anfoesol yn rhywiol fel rhai ohonyn nhw – gyda'r canlyniad fod dau ddeg tri o filoedd ohonyn nhw wedi marw mewn un diwrnod!
I Co WelBeibl 10:9  Maen nhw'n rhybudd i ni beidio rhoi'r Arglwydd ar brawf, fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw – a chael eu lladd gan nadroedd.
I Co WelBeibl 10:10  Ac maen nhw'n rhybudd i ni beidio cwyno, fel rhai ohonyn nhw – ac angel dinistriol yn dod ac yn eu lladd nhw.
I Co WelBeibl 10:11  Digwyddodd y cwbl, un ar ôl y llall, fel esiamplau i ni. Cawson nhw eu hysgrifennu i lawr i'n rhybuddio ni sy'n byw ar ddiwedd yr oesoedd.
I Co WelBeibl 10:12  Felly, os dych chi'n un o'r rhai sy'n meddwl eich bod yn sefyll yn gadarn, gwyliwch rhag i chi syrthio!
I Co WelBeibl 10:13  Dydy'r temtasiynau dych chi'n eu hwynebu ddim gwahanol i neb arall. Ond mae Duw yn ffyddlon! Fydd e ddim yn gadael i'r temtasiwn fod yn ormod i chi. Yn wir, pan gewch chi'ch temtio, bydd yn dangos ffordd i chi ddianc a pheidio rhoi mewn.
I Co WelBeibl 10:14  Felly, ffrindiau annwyl, ffowch oddi wrth addoli eilun-dduwiau.
I Co WelBeibl 10:15  Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin. Meddyliwch am beth dw i'n ddweud:
I Co WelBeibl 10:16  Onid ydy'r cwpan o win dŷn ni'n diolch amdano yn y cymun yn arwydd ein bod ni gyda'n gilydd yn rhannu arwyddocâd gwaed y Meseia? Ac onid ydy'r dorth o fara dŷn ni'n ei thorri yn arwydd ein bod ni gyda'n gilydd yn rhannu yng nghorff y Meseia?
I Co WelBeibl 10:17  Un dorth sydd, felly dŷn ni sy'n grŵp o unigolion, yn dod yn un corff wrth rannu o'r dorth.
I Co WelBeibl 10:18  Meddyliwch am bobl Israel: Onid ydy'r rhai sy'n bwyta o'r aberthau yn cyfrannu o arwyddocâd yr aberth ar yr allor?
I Co WelBeibl 10:19  Felly beth dw i'n geisio'i ddweud? – fod bwyta beth sydd wedi'i offrymu i eilun-dduwiau yn golygu rhywbeth, neu fod yr eilun ei hun yn rhywbeth?
I Co WelBeibl 10:20  Na, dweud ydw i mai cael eu hoffrymu i gythreuliaid mae'r aberthau yn y pen draw, nid i Dduw; a dw i ddim am i chi gael dim i'w wneud â chythreuliaid.
I Co WelBeibl 10:21  Dydy hi ddim yn iawn i chi yfed o gwpan yr Arglwydd ac o gwpan pwerau cythreulig ar yr un pryd. Allwch chi ddim bwyta wrth fwrdd yr Arglwydd ac wrth fwrdd cythreuliaid.
I Co WelBeibl 10:22  Ydyn ni wir eisiau “gwneud yr Arglwydd yn eiddigeddus” Ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gryfach nag e?
I Co WelBeibl 10:23  “Rhyddid i wneud beth dw i eisiau,” meddech chi. A dw i'n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er bod rhyddid i mi wneud beth dw i eisiau, dydy popeth ddim yn adeiladol.
I Co WelBeibl 10:24  Ddylen ni ddim ceisio'n lles ein hunain, ond lles pobl eraill.
I Co WelBeibl 10:25  Dych chi'n gallu bwyta bopeth sy'n cael ei werthu yn y farchnad gig heb ofyn cwestiynau,
I Co WelBeibl 10:26  am mai “Duw sydd biau'r ddaear, a phopeth sydd ynddi.”
I Co WelBeibl 10:27  Ac os ydy rhywun sydd ddim yn Gristion yn gwahodd rhai ohonoch chi am bryd o fwyd, a chithau eisiau derbyn y gwahoddiad, gallwch fwyta popeth sy'n cael ei roi o'ch blaen – does dim rhaid gofyn cwestiynau.
I Co WelBeibl 10:28  Ond os ydy rhywun yn dweud, “Mae hwn wedi cael ei offrymu yn aberth,” dylech beidio ei fwyta. Gwnewch hynny er mwyn y person a ddwedodd wrthoch chi, a lles y cydwybod –
I Co WelBeibl 10:29  cydwybod y person hwnnw dw i'n ei olygu, nid eich cydwybod chi. “Ond pam ddylai fy rhyddid i gael ei glymu gan gydwybod rhywun arall?” meddech chi.
I Co WelBeibl 10:30  “Os dw i'n diolch i Dduw am y bwyd o mlaen i, pam dylwn i gael enw drwg am ei fwyta?”
I Co WelBeibl 10:31  Dyma pam: Wrth fwyta ac yfed, neu wneud unrhyw beth arall wir, dylech chi anrhydeddu Duw.
I Co WelBeibl 10:32  Ac mae hynny'n golygu osgoi gwneud niwed i bobl eraill – yn Iddewon, yn bobl o genhedloedd eraill, neu'n bobl sy'n perthyn i eglwys Dduw.
I Co WelBeibl 10:33  Dyna dw i'n ceisio'i wneud – dw i'n ystyried beth sy'n gwneud lles i bawb arall. Yn lle meddwl beth dw i fy hun eisiau, dw i'n meddwl am bobl eraill. Dw i eisiau iddyn nhw gael eu hachub!
Chapter 11
I Co WelBeibl 11:1  Felly dilynwch fy esiampl i, fel dw i'n dilyn esiampl y Meseia.
I Co WelBeibl 11:2  Mae'n rhaid i mi eich canmol chi am ‛ddal i gofio amdana i, ac am ddal gafael yn y traddodiadau wnes i eu pasio ymlaen i chi‛!
I Co WelBeibl 11:3  Ond rhaid i chi ddeall bod bywyd pob dyn yn tarddu o'r Meseia, a bod bywyd gwraig yn tarddu o'r dyn, ac mai o Dduw mae bywyd y Meseia yn tarddu.
I Co WelBeibl 11:4  Mae pob dyn sy'n gweddïo neu'n proffwydo gyda rhywbeth ar ei ben yn colli ei hunan-barch.
I Co WelBeibl 11:5  Ac mae pob gwraig sy'n gweddïo neu'n proffwydo heb orchuddio'i phen yn dangos diffyg hunan-barch – mae'n union fel petai hi wedi eillio ei phen.
I Co WelBeibl 11:6  Os ydy gwraig ddim am orchuddio'i phen, dylai gael gwared â'i gwallt. Ac os ydy e'n beth cywilyddus i wraig gael gwared â'i gwallt neu gael ei heillio, dylai felly orchuddio ei phen.
I Co WelBeibl 11:7  Ddylai dyn ddim gorchuddio'i ben am ei fod yn ddelw Duw ac yn dangos ei ysblander; ond dangos ysblander dyn mae'r wraig.
I Co WelBeibl 11:8  Nid dyn ddaeth o wraig, ond y wraig ddaeth o ddyn.
I Co WelBeibl 11:9  A chafodd dyn ddim ei greu o achos y wraig, ond y wraig o achos y dyn.
I Co WelBeibl 11:10  Dyna pam ddylai gwraig gadw rheolaeth ar y ffordd mae pobl yn edrych arni – ac o achos yr angylion hefyd.
I Co WelBeibl 11:11  Beth bynnag, yn yr Arglwydd dydy gwraig a dyn ddim yn annibynnol ar ei gilydd.
I Co WelBeibl 11:12  Mae'n wir fod y wraig wedi dod o'r dyn, ond mae'n wir hefyd fod pob dyn yn cael ei eni o wraig. Ac o Dduw mae'r cwbl yn tarddu yn y pen draw.
I Co WelBeibl 11:13  Beth ydy'ch barn chi? Ydy hi'n weddus i wraig weddïo ar Dduw heb orchudd ar ei phen?
I Co WelBeibl 11:14  Ydy natur ei hun ddim yn dysgu hyn i chi: os ydy gwallt hir yn diraddio dyn,
I Co WelBeibl 11:15  ei bod yn beth anrhydeddus i wraig gael gwallt hir? Mae ei gwallt hir wedi'i roi iddi hi fel gorchudd.
I Co WelBeibl 11:16  Os ydy rhywun am ddadlau am hyn, does gynnon ni ddim arfer gwahanol. A does gan eglwysi Duw ddim chwaith.
I Co WelBeibl 11:17  Dw i ddim yn gallu'ch canmol chi wrth ymateb i'r mater nesa chwaith. Mae'n ymddangos fod eich cyfarfodydd chi'n gwneud mwy o ddrwg nag o dda.
I Co WelBeibl 11:18  Dw i'n clywed yn gyntaf fod rhaniadau yn eich plith chi pan fyddwch yn cyfarfod fel eglwys, a dw i'n credu'r peth i ryw raddau.
I Co WelBeibl 11:19  “Mae'n amhosib osgoi gwahaniaethau” meddech chi, ac mae hynny i fod i ddangos yn glir ar ochr pwy mae Duw, ydy e?
I Co WelBeibl 11:20  Os felly, dim Swper yr Arglwydd dych chi'n ei fwyta pan ddewch at eich gilydd!
I Co WelBeibl 11:21  Mae rhai pobl yn bwrw iddi i fwyta heb feddwl am neb arall. A'r canlyniad ydy bod rhai yn llwgu tra mae eraill wedi meddwi!
I Co WelBeibl 11:22  Oes gynnoch chi ddim cartrefi i bartïo ac i yfed ynddyn nhw? Neu ydych chi wir am fwrw sen ar eglwys Dduw, a chodi cywilydd ar y bobl hynny sydd heb ddim? Beth alla i ei ddweud? Ydw i'n mynd i'ch canmol chi? Na, dim o gwbl!
I Co WelBeibl 11:23  Dw i wedi rhannu gyda chi beth wnes i ei dderbyn gan yr Arglwydd: Ar y noson honno pan gafodd ei fradychu cymerodd yr Arglwydd Iesu dorth.
I Co WelBeibl 11:24  Ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, dyma fe'n ei thorri a dweud, “Dyma fy nghorff, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.”
I Co WelBeibl 11:25  Wedyn gwnaeth yr un peth ar ôl swper pan gymerodd y cwpan a dweud, “Mae'r cwpan yma'n cynrychioli'r ymrwymiad newydd mae Duw'n ei wneud, wedi'i selio gyda fy ngwaed i. Gwnewch hyn i gofio amdana i bob tro y byddwch yn yfed ohono.”
I Co WelBeibl 11:26  Bob tro byddwch chi'n bwyta'r bara ac yn yfed o'r cwpan, byddwch yn cyhoeddi ystyr marwolaeth yr Arglwydd nes iddo ddod yn ôl eto.
I Co WelBeibl 11:27  Felly, bydd pwy bynnag sy'n bwyta'r bara neu'n yfed o gwpan yr Arglwydd mewn ffordd sy'n anweddus yn cael ei gyfri'n euog o bechu yn erbyn corff a gwaed yr Arglwydd.
I Co WelBeibl 11:28  Dyna pam mae'n bwysig edrych yn fanwl ar ein bywydau cyn bwyta'r bara ac yfed o'r cwpan.
I Co WelBeibl 11:29  Mae pawb sy'n bwyta ac yfed yn ddifeddwl, heb gydnabod ein bod gyda'n gilydd yn ‛gorff yr Arglwydd‛ yn bwyta ac yfed barn arnyn nhw eu hunain.
I Co WelBeibl 11:30  Dyna pam mae cymaint ohonoch chi'n dioddef o wendid a salwch, a pham mae rhai hyd yn oed wedi marw.
I Co WelBeibl 11:31  Petaen ni'n gwylio'n hymddygiad yn ofalus, fyddai dim rhaid i ni gael ein barnu.
I Co WelBeibl 11:32  Ond hyd yn oed pan fyddwn yn cael ein barnu gan yr Arglwydd, ein disgyblu mae e'n ei wneud, dim ein condemnio gyda'r byd.
I Co WelBeibl 11:33  Felly pan fyddwch chi'n dod at eich gilydd i fwyta, frodyr a chwiorydd, arhoswch nes bydd pawb wedi cyrraedd.
I Co WelBeibl 11:34  Os ydy rhywun bron llwgu, dylai fwyta gartref, wedyn fydd eich cyfarfodydd chi gyda'ch gilydd ddim yn arwain i farn. Bydda i'n delio gyda'r materion eraill pan fydda i'n dod atoch chi.
Chapter 12
I Co WelBeibl 12:1  Nawr, wrth droi at beth sy'n dod o'r Ysbryd, dw i eisiau i chi ddeall ffrindiau.
I Co WelBeibl 12:2  Pan oeddech chi'n baganiaid, roeddech yn cael eich dylanwadu a'ch camarwain gan eilun-dduwiau mud.
I Co WelBeibl 12:3  Felly dw i am i chi wybod beth sy'n dod o Dduw a beth sydd ddim. Does neb sy'n siarad dan ddylanwad Ysbryd Glân Duw yn dweud, “Mae Iesu yn felltith!” A does neb yn gallu dweud, “Iesu ydy'r Arglwydd,” ond drwy'r Ysbryd Glân.
I Co WelBeibl 12:4  Mae gwahanol ddoniau, ond yr un Ysbryd sy'n rhoi pob un.
I Co WelBeibl 12:5  Mae ffyrdd gwahanol o wasanaethu, ond dim ond un Arglwydd sydd.
I Co WelBeibl 12:6  Mae Duw yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol drwy wahanol bobl, ond yr un Duw sy'n cyflawni'r cwbl ynddyn nhw i gyd.
I Co WelBeibl 12:7  Ac mae'r Ysbryd i'w weld yn gweithio ym mywyd pob unigolyn er lles pawb arall.
I Co WelBeibl 12:8  Felly mae'r Ysbryd yn rhoi gair o ddoethineb i un person. Mae person arall yn cael gair o wybodaeth, drwy'r un Ysbryd.
I Co WelBeibl 12:9  Mae un arall yn cael ffydd, drwy'r un Ysbryd, ac un arall ddoniau i iacháu, drwy'r un Ysbryd.
I Co WelBeibl 12:10  Wedyn mae rhywun arall yn cael galluoedd gwyrthiol, neu broffwydoliaeth, neu'r gallu i ddweud ble mae'r Ysbryd wir ar waith. Mae un arall yn cael y gallu i siarad ieithoedd dieithr, a rhywun arall y gallu i esbonio beth sy'n cael ei ddweud yn yr ieithoedd hynny.
I Co WelBeibl 12:11  Yr un Ysbryd sydd ar waith drwyddyn nhw i gyd, ac yn penderfynu beth i'w roi i bob un.
I Co WelBeibl 12:12  Mae'r corff yn uned er bod iddo lawer o rannau gwahanol, ac mae'r holl rannau gwahanol gyda'i gilydd yn gwneud un corff. Dyna'n union sut mae hi gyda phobl y Meseia.
I Co WelBeibl 12:13  Cawson ni i gyd ein bedyddio gan yr un Ysbryd i berthyn i un corff – yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill, caethweision a dinasyddion rhydd. Cafodd pob un ohonon ni yfed yn helaeth o'r un Ysbryd.
I Co WelBeibl 12:14  Dydy'r corff ddim i gyd yr un fath – mae iddo lawer o wahanol rannau.
I Co WelBeibl 12:15  Petai troed yn dweud, “Am nad ydw i'n llaw dw i ddim yn rhan o'r corff,” fyddai'r droed honno yn peidio bod yn rhan o'r corff? Wrth gwrs ddim!
I Co WelBeibl 12:16  Neu petai clust yn dweud, “Am nad ydw i'n llygad dw i ddim yn rhan o'r corff,” fyddai hi'n peidio bod yn rhan o'r corff wedyn? Na!
I Co WelBeibl 12:17  Fyddai'r corff ddim yn gallu clywed petai'n ddim byd ond llygaid! A phetai'n ddim byd ond clustiau, sut fyddai'n gallu arogli?
I Co WelBeibl 12:18  Duw sydd wedi gwneud y corff, a rhoi pob rhan yn ei le, yn union fel roedd e'n gweld yn dda.
I Co WelBeibl 12:19  Petai pob rhan o'r corff yr un fath â'i gilydd, fyddai'r corff ddim yn bod!
I Co WelBeibl 12:20  Mae angen llawer o wahanol rannau i wneud un corff.
I Co WelBeibl 12:21  Dydy'r llygad ddim yn gallu dweud wrth y llaw, “Does arna i ddim dy angen di!” A dydy'r pen ddim yn gallu dweud wrth y traed, “Does arna i ddim eich angen chi!”
I Co WelBeibl 12:22  Yn hollol fel arall – mae'r rhannau hynny o'r corff sy'n ymddangos lleia pwysig yn gwbl hanfodol!
I Co WelBeibl 12:23  Mae angen dangos gofal arbennig am y rhannau hynny sydd ddim yn amlwg. Mae rhannau preifat y corff yn cael gwisg i'w cuddio o olwg pobl, er mwyn bod yn weddus.
I Co WelBeibl 12:24  Does dim angen triniaeth sbesial felly ar y rhannau sy'n amlwg! Ac mae Duw wedi rhoi'r eglwys at ei gilydd fel corff, ac wedi dangos gofal arbennig am y rhannau oedd yn cael dim parch.
I Co WelBeibl 12:25  Ei fwriad oedd fod dim rhaniadau i fod yn y corff – a bod pob rhan i ddangos yr un gofal am ei gilydd.
I Co WelBeibl 12:26  Felly, os ydy un rhan o'r corff yn dioddef, mae'r corff i gyd yn dioddef; neu os ydy un rhan yn cael ei anrhydeddu, mae'r corff i gyd yn rhannu'r llawenydd.
I Co WelBeibl 12:27  Chi gyda'ch gilydd ydy corff y Meseia, ac mae pob unigolyn yn rhan o'r corff hwnnw.
I Co WelBeibl 12:28  Yn ei eglwys mae Duw wedi penodi ei gynrychiolwyr yn gyntaf, yn ail proffwydi, ac yn drydydd athrawon, yna rhai sy'n gwneud gwyrthiau, rhai sy'n cael doniau i iacháu, rhai sy'n helpu eraill, rhai sy'n rhoi cyngor ac arweiniad, a rhai sy'n siarad ieithoedd dieithr.
I Co WelBeibl 12:29  Ydy pawb yn gynrychiolwyr personol i'r Meseia? Ydy pawb yn athrawon? Ydy pawb yn gwneud gwyrthiau?
I Co WelBeibl 12:30  Ydy pawb yn cael doniau i iacháu? Ydy pawb yn siarad ieithoedd dieithr? Ydy pawb yn gallu esbonio beth sy'n cael ei ddweud? Wrth gwrs ddim!
I Co WelBeibl 12:31  Ond ceisiwch yn frwd y doniau hynny sy'n gwneud mwya o les. A dw i am ddangos y ffordd orau un i chi.
Chapter 13
I Co WelBeibl 13:1  Os dw i'n siarad ieithoedd dieithr neu hyd yn oed iaith angylion, heb gariad dw i'n ddim byd ond jar metel swnllyd neu sŵn symbal yn cael ei daro.
I Co WelBeibl 13:2  Falle fod gen i'r ddawn i broffwydo, a'r gallu i blymio'r dirgelion dyfnaf – neu'r wybodaeth i esbonio popeth! Falle fod gen i ddigon o ffydd i ‛symud mynyddoedd‛ – ond heb gariad dw i'n dda i ddim.
I Co WelBeibl 13:3  Falle mod i'n fodlon rhannu'r cwbl sydd gen i gyda'r tlodion, neu hyd yn oed yn fodlon marw dros y ffydd – ond heb gariad, dw i'n ennill dim.
I Co WelBeibl 13:4  Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig. Dydy cariad ddim yn cenfigennu, ddim yn brolio'i hun, nac yn llawn ohono'i hun.
I Co WelBeibl 13:5  Dydy cariad ddim yn gwneud pethau anweddus, nac yn mynnu ei ffordd ei hun drwy'r adeg. Dydy e ddim yn digio a phwdu, ac mae'n fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam.
I Co WelBeibl 13:6  Dydy cariad ddim yn mwynhau gweld drygioni – beth sy'n ei wneud e'n llawen ydy'r gwir.
I Co WelBeibl 13:7  Mae cariad bob amser yn amddiffyn; mae bob amser yn credu; bob amser yn gobeithio; bob amser yn dal ati.
I Co WelBeibl 13:8  Fydd cariad byth yn chwalu. Bydd proffwydoliaethau'n dod i ben; y tafodau sy'n siarad ieithoedd dieithr yn tewi; a fydd dim angen geiriau o wybodaeth.
I Co WelBeibl 13:9  Wedi'r cwbl, ychydig dŷn ni'n ei wybod a dydy'n proffwydo ni ddim yn dweud popeth chwaith.
I Co WelBeibl 13:10  Pan fydd beth sy'n gyflawn ac yn berffaith yn dod yn derfynol, bydd y doniau sydd ond yn rhoi rhyw gipolwg bach i ni yn cael eu hysgubo o'r neilltu.
I Co WelBeibl 13:11  Pan oeddwn i'n blentyn, roeddwn i'n siarad iaith plentyn, yn meddwl fel plentyn, a deall plentyn oedd gen i. Ond ers i mi dyfu'n oedolyn dw i wedi stopio ymddwyn fel plentyn.
I Co WelBeibl 13:12  A dyna sut mae hi – dŷn ni ond yn gweld adlewyrchiad ar hyn o bryd (fel edrych mewn drych metel); ond byddwn yn dod wyneb yn wyneb maes o law. Ychydig iawn dŷn ni'n ei wybod ar hyn o bryd; ond bydda i'n cael gwybod y cwbl bryd hynny, yn union fel y mae Duw yn gwybod y cwbl amdana i.
I Co WelBeibl 13:13  Ar hyn o bryd mae gynnoch chi dri peth sy'n aros: ffydd, gobaith a chariad. Ond y mwya ohonyn nhw ydy cariad.
Chapter 14
I Co WelBeibl 14:1  Rhowch y flaenoriaeth i gariad, ond ceisiwch yn frwd beth sy'n dod o'r Ysbryd, yn arbennig y ddawn o broffwydo.
I Co WelBeibl 14:2  Siarad â Duw mae rhywun sy'n siarad ieithoedd dieithr, nid siarad â phobl. Does neb arall yn deall beth sy'n cael ei ddweud, am mai pethau dirgel sy'n cael eu dweud yn yr Ysbryd.
I Co WelBeibl 14:3  Ond mae'r person sy'n proffwydo, ar y llaw arall, yn siarad gyda phobl. Mae'n eu helpu nhw i dyfu'n ysbrydol, yn eu hannog nhw ac yn eu cysuro nhw.
I Co WelBeibl 14:4  Mae siarad ieithoedd dieithr yn help i'r un sy'n siarad, ond mae proffwydo yn helpu cymdeithas yr eglwys.
I Co WelBeibl 14:5  Dw i'n falch dros bob un ohonoch chi sy'n gallu siarad mewn ieithoedd dieithr, ond byddai'n well gen i eich cael chi i broffwydo. Am eu bod nhw'n helpu'r eglwys, mae'r rhai sy'n proffwydo yn gwneud peth gwell na'r rhai sy'n siarad mewn ieithoedd dieithr (oni bai fod rhywun yn esbonio beth sy'n cael ei ddweud!)
I Co WelBeibl 14:6  Ffrindiau annwyl, taswn i wedi dod atoch chi yn siarad mewn ieithoedd dieithr, fyddai hynny'n dda i ddim. Byddai'n llawer gwell i mi rannu rhywbeth sydd wedi'i ddatguddio i mi, neu air o wybodaeth neu broffwydoliaeth neu neges fydd yn dysgu rhywbeth i chi.
I Co WelBeibl 14:7  Mae'r un fath ag offerynnau cerdd: mae ffliwt neu delyn yn gallu gwneud sŵn, ond sut mae disgwyl i rywun nabod yr alaw oni bai fod nodau gwahanol?
I Co WelBeibl 14:8  Neu meddyliwch am utgorn yn canu – os ydy'r sain ddim yn glir, pwy sy'n mynd i baratoi i fynd i ryfel?
I Co WelBeibl 14:9  Mae'r un fath gyda chi. Os ydy beth dych chi'n ei ddweud ddim yn gwneud sens, pa obaith sydd i unrhyw un ddeall? Byddwch yn siarad â'r gwynt!
I Co WelBeibl 14:10  Mae pob math o ieithoedd yn y byd, ac maen nhw i gyd yn gwneud sens i rywun.
I Co WelBeibl 14:11  Ond os ydw i ddim yn deall beth mae rhywun yn ei ddweud, dw i a'r un sy'n siarad yn estroniaid i'n gilydd!
I Co WelBeibl 14:12  Dyna fel mae hi gyda chi! Os dych chi'n frwd i brofi beth mae'r Ysbryd yn ei roi, gofynnwch am fwy o'r pethau hynny sy'n adeiladu cymdeithas yr eglwys.
I Co WelBeibl 14:13  Felly, dylai'r person sy'n siarad mewn iaith ddieithr weddïo am y gallu i esbonio beth mae'n ei ddweud.
I Co WelBeibl 14:14  Os dw i'n siarad mewn iaith ddieithr, dw i'n gweddïo'n ddwfn yn fy ysbryd, ond mae fy meddwl yn ddiffrwyth.
I Co WelBeibl 14:15  Felly beth wna i? Gweddïo o ddyfnder fy ysbryd, a gweddïo gyda'r meddwl hefyd; canu mawl o waelod fy ysbryd, a chanu mawl gyda'r meddwl hefyd.
I Co WelBeibl 14:16  Os mai dim ond yn dy ysbryd rwyt ti'n moli Duw, sut mae pobl eraill i fod i ddeall a dweud “Amen” i beth rwyt ti'n diolch amdano? – dŷn nhw ddim yn gwybod beth rwyt ti'n ddweud!
I Co WelBeibl 14:17  Mae'n siŵr bod dy ddiolch di'n ddigon didwyll, ond dydy e'n gwneud dim lles i neb arall.
I Co WelBeibl 14:18  Mae gen i'r ddawn i siarad ieithoedd dieithr fwy na neb ohonoch chi, diolch i Dduw.
I Co WelBeibl 14:19  Ond lle mae pobl wedi dod at ei gilydd yn yr eglwys byddai'n well gen i siarad pum gair mae pobl yn eu deall, er mwyn dysgu rhywbeth iddyn nhw, na miloedd ar filoedd o eiriau mewn iaith ddieithr.
I Co WelBeibl 14:20  Frodyr a chwiorydd annwyl, stopiwch ymddwyn fel plant bach! Byddwch yn ddiniwed fel babis bach lle mae drygioni'n y cwestiwn. Ond, fel arall, dw i eisiau i chi feddwl ac ymddwyn fel oedolion.
I Co WelBeibl 14:21  Mae wedi'i ysgrifennu yn y Gyfraith: “Bydda i'n siarad â'r bobl yma mewn ieithoedd dieithr, drwy'r hyn fydd pobl estron yn ei ddweud – ond fyddan nhw ddim yn gwrando arna i wedyn,” meddai'r Arglwydd.
I Co WelBeibl 14:22  Rhybudd o farn i bobl sydd ddim yn credu ydy ieithoedd dieithr, nid i'r rhai sy'n credu. Ond mae proffwydoliaeth yn arwydd i'r rhai sy'n credu, nid i'r rhai sydd ddim yn credu.
I Co WelBeibl 14:23  Felly, os ydy pawb yn siarad mewn ieithoedd dieithr pan mae'r eglwys yn cyfarfod, a phobl sydd ddim yn credu nac yn deall beth sy'n mynd ymlaen yn dod i mewn, byddan nhw'n meddwl eich bod chi'n hollol wallgof!
I Co WelBeibl 14:24  Ond os dych chi i gyd yn proffwydo pan mae rhywun sydd ddim yn credu nac yn deall yn dod i mewn, byddan nhw'n cael eu hargyhoeddi eu bod yn wynebu barn.
I Co WelBeibl 14:25  Bydd y gwir amdanyn nhw yn dod i'r wyneb, a byddan nhw'n syrthio i lawr ac yn addoli Duw, a gweiddi, “Mae'n wir! – mae Duw yn eich plith chi!”
I Co WelBeibl 14:26  Beth dw i'n ei ddweud felly, ffrindiau annwyl? Pan fyddwch yn cyfarfod gyda'ch gilydd, mae gan bawb rywbeth i'w rannu – cân, rhywbeth i'w ddysgu i eraill, rhyw wirionedd sydd wedi'i ddatguddio, siarad iaith ddieithr neu'r gallu i esbonio beth sy'n cael ei ddweud. Dylai popeth gael ei wneud mewn ffordd fydd yn cryfhau cymdeithas yr eglwys.
I Co WelBeibl 14:27  Os oes siarad mewn ieithoedd dieithr i fod, dim ond dau – neu dri ar y mwya – ddylai siarad; pob un yn ei dro. A rhaid i rywun esbonio beth sy'n cael ei ddweud.
I Co WelBeibl 14:28  Os nad oes neb i esbonio beth sy'n cael ei ddweud, dylai'r rhai sy'n siarad ieithoedd dieithr aros yn dawel yn y cyfarfod, a chadw'r peth rhyngddyn nhw a Duw.
I Co WelBeibl 14:29  Dylid rhoi cyfle i ddau neu dri o broffwydi siarad, a dylai pawb arall bwyso a mesur yn ofalus y cwbl gafodd ei ddweud.
I Co WelBeibl 14:30  Ac os ydy rhywbeth yn cael ei ddatguddio i rywun arall sy'n eistedd yno, dylai'r un sy'n siarad ar y pryd dewi.
I Co WelBeibl 14:31  Gall pob un ohonoch chi broffwydo yn eich tro, er mwyn i bawb gael eu dysgu a'u hannog.
I Co WelBeibl 14:33  Duw'r heddwch ydy Duw, dim Duw anhrefn! Dyna sut mae hi i fod ym mhob un o'r eglwysi.
I Co WelBeibl 14:34  “Dylai gwragedd gadw'n ddistaw yn y cyfarfodydd. Does ganddyn nhw ddim hawl i siarad. Eu lle nhw ydy derbyn y drefn, fel mae'r Gyfraith yn dweud.
I Co WelBeibl 14:35  Os ydyn nhw eisiau holi am rywbeth, maen nhw'n gallu gofyn i'w gwŷr ar ôl mynd adre; mae'n beth gwarthus i weld gwraig yn siarad yn yr eglwys.”
I Co WelBeibl 14:36  Beth? Ai oddi wrthoch chi ddaeth neges Duw gyntaf? Neu ai chi ydy'r unig bobl mae neges Duw wedi dod atyn nhw?
I Co WelBeibl 14:37  Os oes rhai ohonoch chi'n meddwl eich bod chi'n broffwydi neu'n ‛bobl yr Ysbryd‛, dylech chi gydnabod fod beth dw i'n ei ysgrifennu yn orchymyn oddi wrth Dduw.
I Co WelBeibl 14:38  Bydd y rhai sy'n diystyru hyn yn cael eu diystyru eu hunain!
I Co WelBeibl 14:39  Felly, ffrindiau annwyl, byddwch yn frwd i broffwydo, ond peidiwch rhwystro pobl rhag siarad mewn ieithoedd dieithr.
I Co WelBeibl 14:40  Ond dylai popeth gael ei wneud mewn ffordd sy'n weddus ac yn drefnus.
Chapter 15
I Co WelBeibl 15:1  Nawr, frodyr a chwiorydd, dw i eisiau'ch atgoffa chi'n llawn o'r newyddion da wnes i ei gyhoeddi i chi. Dyma'r newyddion da wnaethoch chi ei gredu, ac sy'n sylfaen i'ch ffydd chi.
I Co WelBeibl 15:2  Dyma'r newyddion da sy'n eich achub chi, os wnewch chi ddal gafael yn beth gafodd ei gyhoeddi i chi. Dw i'n cymryd eich bod chi wedi credu go iawn, dim ‛credu‛ heb wir feddwl beth roeddech chi'n ei wneud.
I Co WelBeibl 15:3  Y prif beth wnes i ei rannu gyda chi oedd beth dderbyniais i, sef: bod y Meseia wedi marw dros ein pechodau ni, fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud.
I Co WelBeibl 15:4  Yna ei fod wedi'i gladdu, a'i fod wedi'i godi yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn, fel mae'r ysgrifau'n dweud.
I Co WelBeibl 15:6  Ar ôl hynny, cafodd ei weld ar yr un pryd gan dros bum cant o'n brodyr a'n chwiorydd ni sy'n credu! Mae'r rhan fwya ohonyn nhw'n dal yn fyw heddiw, er bod rhai sydd bellach wedi marw.
I Co WelBeibl 15:7  Yna gwelodd Iago fe, a'i gynrychiolwyr eraill i gyd.
I Co WelBeibl 15:8  Ac yn olaf, ces i ei weld – ie, fi, yr ‛erthyl‛ o apostol.
I Co WelBeibl 15:9  Fi ydy'r un lleia pwysig o'r holl rai ddewisodd y Meseia i'w gynrychioli. Dw i ddim hyd yn oed yn haeddu'r enw ‛apostol‛, am fy mod i wedi erlid eglwys Dduw.
I Co WelBeibl 15:10  Ond Duw sydd wedi ngwneud i beth ydw i, drwy dywallt ei haelioni arna i. A dydy ei rodd e ddim wedi bod yn aneffeithiol. Dw i wedi gweithio'n galetach na'r lleill i gyd – nid fy mod i fy hun wedi gwneud dim go iawn, rhodd Duw oedd ar waith ynof fi.
I Co WelBeibl 15:11  Beth bynnag, does dim gwahaniaeth os mai fi neu nhw sy'n gwneud y cyhoeddi – dyma'r neges sy'n cael ei chyhoeddi a dyma dych chi wedi'i gredu.
I Co WelBeibl 15:12  Os ydyn ni'n cyhoeddi fod y Meseia wedi'i godi yn ôl yn fyw, sut mae rhai pobl yn gallu dweud fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi?
I Co WelBeibl 15:13  Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw, dydy'r Meseia ddim wedi atgyfodi chwaith.
I Co WelBeibl 15:14  Ac os wnaeth y Meseia ddim codi, dydy'r newyddion da sy'n cael ei gyhoeddi yn ddim byd ond geiriau gwag – mae beth dych chi'n ei gredu yn gwbl ddiystyr!
I Co WelBeibl 15:15  Bydd hi'n dod yn amlwg ein bod ni sy'n ei gynrychioli wedi bod yn dweud celwydd am Dduw! Roedden ni'n tystio bod Duw wedi codi'r Meseia yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, ac yntau heb wneud hynny os ydy'n wir fod y rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i atgyfodi.
I Co WelBeibl 15:16  Os ydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i gael eu codi yn ôl yn fyw, wnaeth y Meseia ddim dod yn ôl yn fyw chwaith.
I Co WelBeibl 15:17  Ac os na chododd y Meseia, mae beth dych chi'n ei gredu'n wastraff amser – dych chi'n dal yn gaeth i'ch pechodau.
I Co WelBeibl 15:18  Ac os felly, mae'r Cristnogion hynny sydd wedi marw yn gwbl golledig hefyd.
I Co WelBeibl 15:19  Os mai dim ond ar gyfer y bywyd hwn dŷn ni'n gobeithio yn y Meseia, dŷn ni i'n pitïo'n fwy na neb!
I Co WelBeibl 15:20  Ond, y gwir ydy bod y Meseia wedi'i godi yn ôl yn fyw! Mae e fel y ffrwyth cyntaf i ymddangos adeg y cynhaeaf – fe ydy'r cyntaf o lawer sy'n mynd i gael eu codi.
I Co WelBeibl 15:21  Am fod marwolaeth wedi dod drwy berson dynol, daeth bywyd ar ôl marwolaeth drwy berson dynol hefyd.
I Co WelBeibl 15:22  Mae pawb yn marw am eu bod nhw'n perthyn i Adda, ond mae pawb sy'n perthyn i'r Meseia yn cael bywyd newydd.
I Co WelBeibl 15:23  Dyma'r drefn: y Meseia ydy ffrwyth cynta'r cynhaeaf; wedyn, pan fydd e'n dod yn ôl, bydd pawb sy'n perthyn iddo yn ei ddilyn.
I Co WelBeibl 15:24  Wedyn bydd y diwedd wedi dod – bydd y Meseia'n trosglwyddo'r deyrnas i Dduw y Tad ar ôl dinistrio pob gormeswr, awdurdod a grym drygionus.
I Co WelBeibl 15:25  Rhaid i'r Meseia deyrnasu nes bydd ei holl elynion wedi cael eu sathru dan draed.
I Co WelBeibl 15:26  A'r gelyn olaf i gael ei ddinistrio fydd marwolaeth.
I Co WelBeibl 15:27  Ydy, “Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod” – ond wrth gwrs mae'n amlwg nad ydy ‛popeth‛ yn cynnwys Duw ei hun, sydd wedi rhoi popeth dan awdurdod y Meseia yn y lle cyntaf!
I Co WelBeibl 15:28  Ar ôl gwneud hyn, bydd y Mab yn ei roi ei hun i'r Un wnaeth osod popeth dan ei awdurdod, a bydd Duw yn llenwi popeth.
I Co WelBeibl 15:29  Os ydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn mynd i gael eu codi yn ôl yn fyw, beth ydy'r pwynt o bobl yn cymryd eu bedyddio er mwyn y rhai sydd wedi marw? Os ydyn nhw ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw, mae'n ddiystyr.
I Co WelBeibl 15:30  A beth amdanon ni! Pam dŷn ni'n fodlon peryglu'n bywydau drwy'r adeg?
I Co WelBeibl 15:31  Dw i'n wynebu marwolaeth bob dydd. Ydy, mae'n wir ffrindiau – mor sicr â'r ffaith fy mod i'n falch o beth mae'r Meseia Iesu ein Harglwydd ni wedi'i wneud ynoch chi.
I Co WelBeibl 15:32  Pa fantais oedd i mi ymladd gyda'r anifeiliaid gwyllt yn Effesus, os oeddwn i'n gwneud hynny o gymhellion dynol yn unig, ac os nad oes bywyd ar ôl marwolaeth? “Gadewch i ni gael parti ac yfed; falle byddwn ni'n marw fory!”
I Co WelBeibl 15:33  Peidiwch cymryd eich camarwain, achos “mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.”
I Co WelBeibl 15:34  Mae'n bryd i chi gallio, a stopio pechu. Dych chi'n gweld, dydy rhai pobl sy'n eich plith chi'n gwybod dim am Dduw! Dw i'n dweud hyn i godi cywilydd arnoch chi.
I Co WelBeibl 15:35  Ond wedyn dw i'n clywed rhywun yn gofyn, “Sut mae'r rhai sydd wedi marw yn mynd i godi? Sut fath o gorff fydd ganddyn nhw?”
I Co WelBeibl 15:36  Am gwestiwn dwl! Dydy planhigyn byw ddim yn tyfu heb i beth sy'n cael ei hau yn y ddaear farw.
I Co WelBeibl 15:37  A dim yr hyn sy'n tyfu dych chi'n ei blannu, ond hedyn bach noeth – gwenith falle, neu rywbeth arall.
I Co WelBeibl 15:38  Ond mae Duw yn rhoi ‛corff‛ newydd iddo, fel mae'n dewis. Mae gwahanol blanhigion yn tyfu o wahanol hadau.
I Co WelBeibl 15:39  A dydy corff pob creadur byw ddim yr un fath chwaith: mae gan bobl un math o gorff, ac anifeiliaid fath arall, mae adar yn wahanol eto, a physgod yn wahanol.
I Co WelBeibl 15:40  Ac mae yna hefyd gyrff nefol a chyrff daearol. Mae harddwch y gwahanol gyrff nefol yn amrywio, ac mae harddwch y gwahanol gyrff daearol yn amrywio.
I Co WelBeibl 15:41  Mae gwahaniaeth rhwng disgleirdeb yr haul a disgleirdeb y lleuad, ac mae'r sêr yn wahanol eto; yn wir mae gwahaniaeth rhwng un seren a'r llall.
I Co WelBeibl 15:42  Dyna sut bydd hi pan fydd y rhai sydd wedi marw'n atgyfodi. Mae'r corff sy'n cael ei roi yn y ddaear yn darfod, ond bydd yn codi yn gorff fydd byth yn darfod.
I Co WelBeibl 15:43  Pan mae'n cael ei osod yn y ddaear mae'n druenus, ond pan fydd yn codi bydd yn ogoneddus! Mae'n cael ei ‛hau‛ mewn gwendid, ond bydd yn codi mewn grym!
I Co WelBeibl 15:44  Corff dynol cyffredin sy'n cael ei ‛hau‛, ond corff ysbrydol fydd yn codi. Yn union fel mae corff dynol naturiol yn bod, mae yna hefyd gorff ysbrydol.
I Co WelBeibl 15:45  Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Daeth y dyn cyntaf, Adda, yn berson byw” ond mae'r Adda olaf, sef y Meseia, yn ysbryd sy'n rhoi bywyd i eraill.
I Co WelBeibl 15:46  Dim yr un ysbrydol ddaeth gyntaf, ond yr un naturiol, a'r un ysbrydol yn ei ddilyn.
I Co WelBeibl 15:47  Cafodd Adda, y dyn cyntaf, ei wneud o bridd y ddaear, ond daeth y Meseia, yr ail ddyn, o'r nefoedd.
I Co WelBeibl 15:48  Mae gan bob un ohonon ni gorff daearol fel Adda, ond bydd gynnon ni sy'n perthyn i'r nefoedd gorff nefol fel y Meseia.
I Co WelBeibl 15:49  Yn union fel dŷn ni wedi bod yn debyg i'r dyn o'r ddaear, byddwn ni'n debyg i'r dyn o'r nefoedd.
I Co WelBeibl 15:50  Dyma dw i'n ei ddweud, frodyr a chwiorydd annwyl – all cig a gwaed ddim perthyn i deyrnas Dduw. All y corff sy'n darfod ddim bodoli yn y deyrnas sydd byth yn mynd i ddarfod.
I Co WelBeibl 15:51  Gwrandwch – dw i'n rhannu rhywbeth sy'n ddirgelwch gyda chi: Fydd pawb ddim yn marw. Pan fydd yr utgorn olaf yn cael ei ganu byddwn ni i gyd yn cael ein newid –
I Co WelBeibl 15:52  a hynny'n sydyn, mewn chwinciad. Bydd yr utgorn yn seinio, y rhai sydd wedi marw yn codi mewn cyrff fydd byth yn darfod, a ninnau sy'n fyw yn cael ein trawsffurfio.
I Co WelBeibl 15:53  Rhaid i ni, sydd â chorff sy'n mynd i bydru, wisgo corff fydd byth yn pydru. Byddwn ni sy'n feidrol yn cael gwisgo anfarwoldeb!
I Co WelBeibl 15:54  Pan fydd hynny'n digwydd, bydd beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn dod yn wir: “Mae marwolaeth wedi'i lyncu yn y fuddugoliaeth.”
I Co WelBeibl 15:55  “O farwolaeth! Ble mae dy fuddugoliaeth di? O farwolaeth! Ble mae dy bigiad marwol di?”
I Co WelBeibl 15:56  Pechod ydy'r pigiad gwenwynig sy'n arwain i farwolaeth, ac mae grym pechod yn dod o'r Gyfraith.
I Co WelBeibl 15:57  Ond diolch i Dduw, mae ein Harglwydd Iesu Grist wedi rhannu ei fuddugoliaeth gyda ni!
I Co WelBeibl 15:58  Felly safwch yn gadarn, frodyr a chwiorydd. Peidiwch gadael i ddim byd eich ysgwyd chi. Rhowch eich hunain yn llwyr i waith yr Arglwydd. Dych chi'n gwybod fod unrhyw beth wnewch chi i'r Arglwydd ddim yn wastraff amser.
Chapter 16
I Co WelBeibl 16:1  I droi at yr arian sy'n cael ei gasglu i helpu pobl Dduw: Gwnewch beth ddwedais i wrth eglwysi Galatia i'w wneud.
I Co WelBeibl 16:2  Bob dydd Sul dylai pob un ohonoch chi roi arian o'r neilltu, faint bynnag mae'ch incwm chi'n ei ganiatáu, fel bydd dim rhaid casglu'r cwbl gyda'i gilydd pan ddof i acw.
I Co WelBeibl 16:3  Wedyn, pan gyrhaedda i bydda i'n ysgrifennu llythyrau yn awdurdodi'r rhai fyddwch chi'n eu dewis i fynd â'ch rhodd i Jerwsalem.
I Co WelBeibl 16:4  Ac os dych chi'n meddwl y byddai'n beth da i mi fynd, gallan nhw fynd gyda mi.
I Co WelBeibl 16:5  Dw i'n bwriadu mynd i dalaith Macedonia gyntaf, a bydda i'n dod i'ch gweld chi ar ôl hynny.
I Co WelBeibl 16:6  Falle yr arhosa i gyda chi am dipyn – hyd yn oed dreulio'r gaeaf acw. Wedyn gallwch fy helpu i fynd ymlaen ar fy nhaith.
I Co WelBeibl 16:7  Petawn i'n dod yn syth fyddwn i ond yn gallu taro heibio, a does gen i ddim eisiau gwneud hynny. Dw i eisiau aros gyda chi am dipyn, os Duw a'i myn.
I Co WelBeibl 16:9  am fod cyfle i wneud gwaith mawr wedi codi yma, er bod digon o wrthwynebiad.
I Co WelBeibl 16:10  Pan ddaw Timotheus atoch chi, gwnewch yn siŵr fod ganddo ddim i boeni amdano tra bydd gyda chi. Mae e, fel fi, yn gwneud gwaith Duw.
I Co WelBeibl 16:11  Felly ddylai neb edrych i lawr arno. A rhowch help ymarferol iddo ar ei daith yn ôl ata i. Dw i'n edrych ymlaen at ei weld e a'r brodyr eraill.
I Co WelBeibl 16:12  Ynglŷn â'n brawd Apolos: Gwnes i bwyso arno i ddod atoch chi gyda'r lleill, ond roedd e'n benderfynol o beidio ar hyn o bryd. Ond bydd yn dod pan ddaw cyfle!
I Co WelBeibl 16:13  Gwyliwch eich hunain. Daliwch i gredu. Byddwch yn ddewr. Byddwch yn gryf.
I Co WelBeibl 16:15  Gwyddoch mai'r rhai o dŷ Steffanas oedd y bobl gyntaf yn nhalaith Achaia i ddod i gredu, ac maen nhw wedi rhoi eu hunain yn llwyr i helpu eu cyd-Gristnogion. Dw i'n eich annog chi, frodyr a chwiorydd,
I Co WelBeibl 16:16  i barchu pobl fel nhw, a phawb arall tebyg sydd wedi rhoi eu hunain yn llwyr i'r gwaith.
I Co WelBeibl 16:17  Rôn i mor falch pan gyrhaeddodd Steffanas, Ffortwnatus ac Achaicus ar eich rhan chi.
I Co WelBeibl 16:18  Maen nhw wedi codi nghalon i, fel maen nhw wedi gwneud i chi hefyd. Mae'n bwysig cydnabod rhai fel nhw.
I Co WelBeibl 16:19  Mae'r eglwysi yma yn nhalaith Asia yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Mae Acwila a Priscila yn cofio atoch chi'n frwd yn yr Arglwydd, a'r eglwys sy'n cyfarfod yn eu tŷ nhw.
I Co WelBeibl 16:20  Yn wir, mae'r brodyr a'r chwiorydd i gyd yn anfon eu cyfarchion. Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad.
I Co WelBeibl 16:21  Dw i'n ysgrifennu'r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun – PAUL.
I Co WelBeibl 16:22  Os ydy rhywun ddim yn caru'r Arglwydd, mae dan felltith! O, tyrd Arglwydd!
I Co WelBeibl 16:23  Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu.
I Co WelBeibl 16:24  Fy nghariad atoch chi i gyd sy'n perthyn i'r Meseia Iesu. Amen.