Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II KINGS
Up
Toggle notes
Chapter 1
II K WelBeibl 1:1  Ar ôl i'r brenin Ahab farw, dyma wlad Moab yn gwrthryfela yn erbyn Israel.
II K WelBeibl 1:2  Tua'r un adeg dyma'r Brenin Ahaseia yn syrthio o ffenest llofft ei balas yn Samaria a chael ei anafu. Dyma fe'n anfon negeswyr a dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi Baal-sebwb, duw Ecron, os bydda i'n gwella o'r anaf yma.”
II K WelBeibl 1:3  Ond roedd angel yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Elias o Tishbe, “Dos i gyfarfod negeswyr Brenin Samaria, a gofyn iddyn nhw, ‘Ai am fod yna ddim Duw yn Israel dych chi'n mynd i holi Baal-sebwb, duw Ecron?
II K WelBeibl 1:4  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Fyddi di ddim yn codi o'r gwely yna. Ti'n mynd i farw!’” Yna dyma Elias yn mynd i ffwrdd.
II K WelBeibl 1:5  Aeth y negeswyr yn ôl at Ahaseia, a dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi wedi dod y ôl?”
II K WelBeibl 1:6  A dyma nhw'n ateb, “Daeth rhyw ddyn aton ni a dweud, ‘Ewch yn ôl at y brenin sydd wedi'ch anfon chi a dweud wrtho, “Ai am fod yna ddim Duw yn Israel wyt ti'n anfon dynion i holi Baal-sebwb, duw Ecron? Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Fyddi di ddim yn codi o'r gwely yna. Ti'n mynd i farw!”’”
II K WelBeibl 1:8  A dyma nhw'n ateb, “Dyn blewog, ac roedd ganddo felt ledr am ei ganol.” Meddai'r brenin, “Elias, y boi yna o Tishbe oedd e!”
II K WelBeibl 1:9  Yna dyma'r brenin yn anfon un o gapteiniaid ei fyddin gyda hanner cant o ddynion i ddal Elias. Roedd Elias yn eistedd ar ben bryn; a dyma'r capten yn mynd ato a dweud, “Broffwyd Duw, mae'r brenin yn dweud wrthot ti am ddod i lawr.”
II K WelBeibl 1:10  Ond dyma Elias yn ei ateb, “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr o'r awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” A dyna'n union ddigwyddodd! Daeth tân i lawr o'r awyr a'i ladd e a'i filwyr.
II K WelBeibl 1:11  Felly dyma'r brenin yn anfon capten gyda hanner cant arall o ddynion i ddal Elias. Aeth hwnnw eto at Elias a galw arno, “Broffwyd Duw, brysia! Mae'r brenin yn dweud wrthot ti am ddod i lawr.”
II K WelBeibl 1:12  Ond dyma Elias yn ateb eto, “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr o'r awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” A dyna ddigwyddodd eto! Daeth tân i lawr oddi wrth Dduw a lladd y capten a'i filwyr.
II K WelBeibl 1:13  Yna dyma'r brenin yn anfon trydydd capten gyda hanner cant o ddynion. Pan ddaeth hwnnw at Elias, dyma fe'n mynd ar ei liniau o'i flaen a chrefu arno. “Broffwyd Duw, plîs, arbed fy mywyd i a bywyd dy weision, y dynion yma.
II K WelBeibl 1:14  Dw i'n gwybod fod tân wedi dod i lawr o'r awyr a lladd y ddau gapten cyntaf a'u dynion. Plîs arbed fy mywyd i!”
II K WelBeibl 1:15  A dyma angel yr ARGLWYDD yn dweud wrth Elias, “Dos i lawr gydag e, paid bod ag ofn.” Felly dyma Elias yn mynd gydag e at y brenin.
II K WelBeibl 1:16  Dyma Elias yn dweud wrth y brenin, “Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Oes yna ddim Duw yn Israel i'w holi? Am dy fod ti wedi troi at Baal-sebwb, duw Ecron, fyddi di ddim yn codi o'r gwely yna, ti'n mynd i farw!’”
II K WelBeibl 1:17  A dyna ddigwyddodd. Buodd Ahaseia farw, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud drwy Elias. Doedd ganddo ddim mab, felly dyma'i frawd Joram yn dod yn frenin yn ei le. Roedd hyn yn ystod ail flwyddyn Jehoram fab Jehosaffat yn frenin ar Jwda.
II K WelBeibl 1:18  Mae gweddill hanes Ahaseia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
Chapter 2
II K WelBeibl 2:1  Roedd yr ARGLWYDD ar fin cymryd Elias i'r nefoedd mewn chwyrlwynt. Roedd Elias ac Eliseus yn gadael Gilgal,
II K WelBeibl 2:2  a dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd ymlaen i Bethel.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw'n mynd i Bethel.
II K WelBeibl 2:3  Daeth aelodau o urdd proffwydi Bethel allan i gyfarfod Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?” “Ydw, dw i'n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus.
II K WelBeibl 2:4  Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd i Jericho.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw'n dod i Jericho.
II K WelBeibl 2:5  Daeth aelodau o urdd proffwydi Jericho at Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?” “Ydw, dw i'n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus.
II K WelBeibl 2:6  Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd at afon Iorddonen.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma'r ddau'n mynd yn eu blaenau.
II K WelBeibl 2:7  Roedd pum deg aelod o'r urdd o broffwydi wedi'u dilyn nhw, a phan oedd y ddau'n sefyll ar lan yr afon, roedd y proffwydi yn eu gwylio nhw o bell.
II K WelBeibl 2:8  Dyma Elias yn cymryd ei glogyn a'i rolio, a tharo'r dŵr gydag e. Dyma lwybr yn agor drwy'r afon, a dyma'r ddau'n croesi drosodd ar dir sych.
II K WelBeibl 2:9  Yna ar ôl iddyn nhw groesi, dyma Elias yn gofyn i Eliseus, “Dwed wrtho i be ga i wneud i ti cyn i mi gael fy nghymryd oddi wrthot ti?” “Plîs gad i mi gael siâr ddwbl o dy ysbryd di,” meddai Eliseus.
II K WelBeibl 2:10  Atebodd Elias, “Ti wedi gofyn am rhywbeth anodd. Os byddi di'n fy ngweld i'n cael fy nghymryd i ffwrdd, fe'i cei. Os ddim, gei di ddim.”
II K WelBeibl 2:11  Yna wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau yn sgwrsio dyma gerbyd o fflamau tân yn cael ei dynnu gan geffylau o dân yn dod rhyngddyn nhw, a chipio Elias i fyny i'r nefoedd mewn chwyrlwynt.
II K WelBeibl 2:12  Gwelodd Eliseus e, a dyma fe'n gweiddi, “Fy nhad, fy nhad! Ti oedd arfau a byddin Israel!” Yna diflannodd o'i olwg. A dyma Eliseus yn gafael yn ei ddillad a'u rhwygo'n ddau.
II K WelBeibl 2:13  Dyma fe'n codi clogyn Elias, oedd wedi syrthio oddi arno, a mynd yn ôl at lan afon Iorddonen.
II K WelBeibl 2:14  Gafaelodd yn y clogyn oedd wedi syrthio oddi ar Elias, a gofyn, “Ydy'r ARGLWYDD, Duw Elias, wedi'n gadael hefyd?” Yna dyma fe'n taro'r dŵr gyda'r clogyn a dyma lwybr yn agor drwy'r afon, a chroesodd Eliseus i'r ochr arall.
II K WelBeibl 2:15  Pan welodd proffwydi Jericho beth ddigwyddodd, dyma nhw'n dweud, “Mae ysbryd Elias wedi disgyn ar Eliseus.” A dyma nhw'n mynd ato a plygu i lawr o'i flaen,
II K WelBeibl 2:16  a dweud, “Edrych syr, mae gynnon ni bum deg o ddynion abl yma. Gad iddyn nhw fynd i chwilio am dy feistr, rhag ofn bod y gwynt cryf anfonodd yr ARGLWYDD wedi'i ollwng ar ben rhyw fynydd neu yn rhyw gwm.” Atebodd Eliseus, “Na, peidiwch a'u hanfon nhw.”
II K WelBeibl 2:17  Ond buon nhw'n pwyso arno nes iddo ddechrau teimlo'n annifyr. Felly yn y diwedd dyma fe'n cytuno, a dyma'r proffwydi'n anfon y dynion i chwilio am Elias. Buon nhw'n chwilio am dri diwrnod ond methu cael hyd iddo.
II K WelBeibl 2:18  Arhosodd Eliseus yn Jericho nes iddyn nhw ddod yn ôl ato. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Wel? Wnes i ddim dweud wrthoch chi am beidio mynd?”
II K WelBeibl 2:19  Dyma bobl y dre yn dweud wrth Eliseus, “Mae'r dre yma mewn safle da, fel ti'n gweld, syr. Ond mae'r dŵr yn wael a dydy'r cnydau ddim yn tyfu.”
II K WelBeibl 2:20  “Dewch â jar newydd i mi, a rhoi halen ynddo,” meddai Eliseus. Felly dyma nhw'n gwneud hynny,
II K WelBeibl 2:21  a dyma Eliseus yn mynd at lygad y ffynnon a thaflu'r halen i mewn iddi; yna dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n puro'r dŵr yma. Fydd e ddim yn achosi marwolaeth nac anffrwythlondeb byth eto.’”
II K WelBeibl 2:22  Ac mae'r dŵr yn bur hyd heddiw, yn union fel roedd Eliseus wedi dweud.
II K WelBeibl 2:23  Aeth Eliseus o Jericho yn ôl i Bethel. Pan oedd e ar ei ffordd dyma griw o fechgyn ifanc yn dod allan o'r dre a dechrau gwneud hwyl am ei ben. Roedden nhw'n gweiddi, “Bacha hi, y moelyn! Bacha hi, y moelyn!”
II K WelBeibl 2:24  Dyma fe'n troi rownd a rhythu arnyn nhw, a galw ar yr ARGLWYDD i'w melltithio nhw. A dyma ddwy arth yn dod allan o'r goedwig a llarpio pedwar deg dau o'r bechgyn.
II K WelBeibl 2:25  Aeth Eliseus ymlaen i Fynydd Carmel, ac wedyn yn ôl i Samaria.
Chapter 3
II K WelBeibl 3:1  Pan oedd Jehosaffat wedi bod yn frenin ar Jwda am un deg wyth o flynyddoedd, dyma Joram, mab Ahab, yn dod yn frenin ar Israel yn Samaria. Bu'n frenin am un deg dwy o flynyddoedd.
II K WelBeibl 3:2  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Ond doedd e ddim mor ddrwg â'i dad a'i fam. Roedd e wedi cael gwared â'r golofn gysegredig i Baal roedd ei dad wedi'i gwneud.
II K WelBeibl 3:3  Ond roedd yn dal i addoli'r eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu. Roedd yn gwrthod yn lân cael gwared â nhw.
II K WelBeibl 3:4  Roedd Mesha, brenin Moab yn cadw defaid. Roedd rhaid iddo dalu treth bob blwyddyn i frenin Israel – can mil o ŵyn a gwlân can mil o hyrddod.
II K WelBeibl 3:5  Ond pan fu farw'r brenin Ahab, dyma frenin Moab yn gwrthryfela yn erbyn brenin newydd Israel.
II K WelBeibl 3:6  Felly dyma'r Brenin Joram yn mynd allan o Samaria a galw byddin Israel i gyd at ei gilydd.
II K WelBeibl 3:7  A dyma fe'n anfon neges at Jehosaffat, brenin Jwda, yn dweud, “Mae brenin Moab wedi gwrthryfela yn fy erbyn i. Ddoi di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab?” A dyma Jehosaffat yn ateb, “Dw i gyda ti, a bydd fy myddin i gyda dy fyddin di.”
II K WelBeibl 3:8  Yna dyma fe'n gofyn, “Pa ffordd awn ni?” A dyma Joram yn ateb, “Ar hyd y ffordd drwy anialwch Edom.”
II K WelBeibl 3:9  Felly dyma frenin Israel, brenin Jwda a brenin Edom yn mynd y ffordd hir rownd. Cymerodd saith diwrnod, a dyma nhw'n rhedeg allan o ddŵr – doedd ganddyn nhw ddim dŵr i'r milwyr na'r anifeiliaid oedd gyda nhw.
II K WelBeibl 3:10  “O, na!” meddai brenin Israel, “Ydy'r ARGLWYDD wedi'n galw ni dri brenin allan er mwyn i frenin Moab ein curo ni?”
II K WelBeibl 3:11  Yna dyma Jehosaffat yn gofyn, “Oes yna un o broffwydi'r ARGLWYDD yma, i ni holi'r ARGLWYDD drwyddo?” “Oes,” meddai un o weision Joram, “Eliseus fab Shaffat, oedd yn arfer helpu Elias.”
II K WelBeibl 3:12  A dyma Jehosaffat yn dweud, “Mae e'n un sy'n deall meddwl yr ARGLWYDD.” Felly aeth brenin Israel, Jehosaffat a brenin Edom i'w weld.
II K WelBeibl 3:13  Dyma Eliseus yn dweud wrth frenin Israel, “Gad lonydd i mi. Dos at broffwydi dy dad neu broffwydi dy fam!” Ond dyma frenin Israel yn ateb, “Na, yr ARGLWYDD sydd wedi'n galw ni dri brenin allan er mwyn i frenin Moab ein curo ni!”
II K WelBeibl 3:14  A dyma Eliseus yn ateb, “Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy'r un dw i'n ei wasanaethu. Mor sicr â'i fod e'n fyw, fyddwn i'n cymryd dim sylw ohonot ti o gwbl oni bai am y parch sydd gen i at y Brenin Jehosaffat.
II K WelBeibl 3:15  Nawr dewch â rhywun sy'n canu'r delyn ata i.” Wrth i'r telynor ganu dyma Eliseus yn dod dan ddylanwad yr ARGLWYDD.
II K WelBeibl 3:16  A dyma fe'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Gwnewch ffosydd yn y dyffryn yma.’
II K WelBeibl 3:17  Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Welwch chi ddim gwynt na glaw, ond bydd y dyffryn yma'n llawn dŵr. Byddwch chi a'ch anifeiliaid yn cael yfed.’
II K WelBeibl 3:18  Mae'n beth mor hawdd i'r ARGLWYDD ei wneud. A byddwch chi'n ennill y frwydr yn erbyn Moab hefyd.
II K WelBeibl 3:19  Dych chi i ddinistrio'r caerau amddiffynnol a'r trefi pwysig i gyd. Dych chi i dorri'r coed ffrwythau i gyd, llenwi pob ffynnon gyda phridd, a difetha pob darn o dir da gyda cherrig.”
II K WelBeibl 3:20  Yna'r bore wedyn, tua'r adeg roedden nhw'n arfer cyflwyno aberth i'r ARGLWYDD, dyma ddŵr yn dechrau llifo i lawr o gyfeiriad Edom a llenwi pobman.
II K WelBeibl 3:21  Roedd pobl Moab wedi clywed fod y brenhinoedd yn ymosod. Felly dyma nhw'n galw at ei gilydd bawb oedd ddigon hen i gario arfau, a mynd i ddisgwyl wrth y ffin.
II K WelBeibl 3:22  Pan godon nhw'r bore wedyn, roedden nhw'n gweld yr haul yn tywynnu ar y dŵr yn y pellter. Roedd yn edrych yn goch fel gwaed i bobl Moab.
II K WelBeibl 3:23  “Mae'n rhaid bod y brenhinoedd wedi ymladd yn erbyn ei gilydd,” medden nhw. “Dewch, bobl Moab, i gasglu'r ysbail!”
II K WelBeibl 3:24  Ond pan gyrhaeddon nhw wersyll Israel, dyma fyddin Israel yn codi ac ymosod arnyn nhw, nes i Moab orfod ffoi. Aeth byddin Israel ar eu holau a'u taro.
II K WelBeibl 3:25  Dyma nhw'n dinistrio'r trefi i gyd, ac roedd pob dyn yn taflu carreg ar y tir da nes roedd y caeau'n llawn cerrig. Dyma nhw hefyd yn llenwi pob ffynnon gyda phridd, a thorri i lawr pob coeden ffrwythau. Yn y diwedd dim ond Cir-chareseth oedd ar ôl. A dyma'r milwyr gyda ffyn tafl yn ei hamgylchynu ac ymosod arni hithau hefyd.
II K WelBeibl 3:26  Pan welodd brenin Moab ei fod yn colli'r frwydr, dyma fe'n mynd â saith gant o filwyr gyda chleddyfau i geisio torri drwy rengoedd brenin Edom; ond methu wnaeth e.
II K WelBeibl 3:27  Yna dyma fe'n cymryd ei fab hynaf, yr un oedd i fod yn frenin ar ei ôl, a'i losgi'n aberth ar ben y wal. Trodd pethau'n ffyrnig yn erbyn Israel, a dyma nhw'n rhoi'r gorau i'r frwydr a mynd yn ôl i'w gwlad eu hunain.
Chapter 4
II K WelBeibl 4:1  Dyma wraig un oedd yn aelod o'r urdd o broffwydi yn dod at Eliseus a pledio am ei help. “Roedd fy ngŵr i'n un o dy ddynion di,” meddai, “ac fel ti'n gwybod, roedd e'n ddyn duwiol. Ond mae e wedi marw, a nawr mae rhywun roedd e mewn dyled iddo wedi dod i gasglu'r ddyled, ac mae am gymryd fy nau fab yn gaethweision.”
II K WelBeibl 4:2  Dyma Eliseus yn ateb, “Be alla i wneud? Dwed wrtho i, be sydd gen ti'n y tŷ?” “Does gen i ddim byd ond jar bach o olew, syr,” meddai.
II K WelBeibl 4:3  Yna dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Dos i fenthyg llestri gan dy gymdogion. Byddi angen casglu cymaint ag y medri o lestri gweigion.
II K WelBeibl 4:4  Yna dos i'r tŷ gyda dy feibion, a chau'r drws tu ôl i ti. Tywallt olew i bob un llestr a rhoi'r rhai llawn ar un ochr.”
II K WelBeibl 4:5  Felly dyma hi'n mynd i wneud hynny, ac yn cau'r drws arni hi a'i dau fab. Wrth i'w meibion ddod â mwy a mwy o lestri iddi, roedd hi'n eu llenwi gyda'r olew.
II K WelBeibl 4:6  Pan oedd hi wedi llenwi'r llestri i gyd, dyma hi'n dweud wrth ei mab, “Tyrd â photyn arall i mi.” Ond dyma fe'n ateb, “Does dim mwy ar ôl.” A dyma'r olew yn darfod.
II K WelBeibl 4:7  Pan aeth hi i ddweud wrth y proffwyd beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n dweud wrthi, “Dos i werthu'r olew a thalu dy ddyledion. Wedyn cei di a dy feibion fyw ar yr arian fydd dros ben.”
II K WelBeibl 4:8  Un tro roedd Eliseus yn pasio heibio Shwnem. Roedd yna wraig bwysig yn byw yno, a dyma hi'n mynnu bod Eliseus yn bwyta gyda hi. Felly bob tro roedd Eliseus yn mynd heibio Shwnem roedd e'n arfer galw heibio am bryd o fwyd.
II K WelBeibl 4:9  Roedd y wraig wedi bod yn siarad â'i gŵr, “Gwranda, dw i'n siŵr fod y dyn sy'n galw heibio yma o hyd yn broffwyd arbennig – yn ddyn sanctaidd iawn.
II K WelBeibl 4:10  Gad i ni wneud llofft fach ar y to, a rhoi gwely a bwrdd a chadair a lamp yno. Wedyn pan fydd e'n galw heibio, bydd ganddo le i aros.”
II K WelBeibl 4:11  Felly pan alwodd heibio'r tro wedyn, dyma Eliseus yn aros yn y llofft.
II K WelBeibl 4:12  Dwedodd wrth Gehasi, ei was, am alw'r wraig. A dyma hi'n dod ato.
II K WelBeibl 4:13  Roedd Eliseus wedi gofyn iddo ddweud wrthi, “Ti wedi mynd i'r holl drafferth yma. Be allwn ni ei wneud i ti? Alla i ddweud gair da ar dy ran di wrth y brenin, neu wrth bennaeth y fyddin?” Ond dyma hi'n ateb, “Na, mae'r teulu o'm cwmpas i, ac mae gen i bopeth dw i angen.”
II K WelBeibl 4:14  Felly dyma Eliseus yn gofyn i Gehasi, “Be allwn ni wneud drosti?” A dyma Gehasi'n ateb, “Wel, does ganddi hi ddim mab, ac mae ei gŵr hi'n mynd yn hen.”
II K WelBeibl 4:15  “Dwed wrthi am ddod yma,” meddai Eliseus. Felly dyma Gehasi yn ei galw hi draw, a dyma hi'n dod a sefyll wrth y drws.
II K WelBeibl 4:16  A dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Yr adeg yma'r flwyddyn nesaf, bydd gen ti fab yn dy freichiau.” A dyma hi'n ymateb, “Syr, na! Rwyt ti'n broffwyd Duw. Paid dweud celwydd wrtho i.”
II K WelBeibl 4:17  Ond cyn hir roedd hi'n disgwyl babi, a tua'r un adeg y flwyddyn wedyn cafodd mab ei eni iddi, yn union fel roedd Eliseus wedi dweud.
II K WelBeibl 4:18  Ychydig flynyddoedd ar ôl hynny, pan oedd y bachgen ddigon hen, roedd wedi mynd allan at ei dad adeg y cynhaeaf.
II K WelBeibl 4:19  Yn sydyn dyma fe'n gweiddi ar ei dad, “O, fy mhen! Mae fy mhen i'n brifo.” Dwedodd y tad wrth un o'r gweision, “Dos ag e at ei fam.”
II K WelBeibl 4:20  Dyma hwnnw'n ei gario yn ôl at ei fam, a bu'n eistedd ar ei glin drwy'r bore. Ond yna ganol dydd dyma fe'n marw.
II K WelBeibl 4:21  Dyma hi'n ei gario i fyny i lofft y proffwyd, a'i roi i orwedd ar y gwely. Yna dyma hi'n mynd allan
II K WelBeibl 4:22  a galw ar ei gŵr, “Dw i angen mynd i weld y proffwyd. Gad i mi gael un o'r gweision ac asen i mi fynd i'w weld ar frys ac yna dod yn ôl.”
II K WelBeibl 4:23  “Pam wyt ti angen mynd i'w weld e heddiw?” meddai'r gŵr. “Dydy hi ddim yn ŵyl y lleuad newydd nac yn Saboth.” “Paid poeni, mae popeth yn iawn,” meddai hithau.
II K WelBeibl 4:24  Yna ar ôl i'r asen gael ei chyfrwyo, dyma hi'n dweud wrth y gwas, “Tyrd, gad i ni fynd yn gyflym. Paid arafu oni bai mod i'n dweud wrthot ti.”
II K WelBeibl 4:25  Ac i ffwrdd â hi i Fynydd Carmel i weld y proffwyd. Gwelodd Eliseus hi'n dod o bell, a dyma fe'n dweud wrth Gehasi ei was, “Edrych, y wraig o Shwnem sydd acw.
II K WelBeibl 4:26  Brysia, rhed i'w chyfarfod, a gofyn iddi os ydy popeth yn iawn gyda hi a'i gŵr, a'i phlentyn.” Yr ateb roddodd hi i Gehasi oedd, “Ydy, mae popeth yn iawn.”
II K WelBeibl 4:27  Ond pan gyrhaeddodd hi'r proffwyd ar y mynydd dyma hi'n gafael yn ei draed. Daeth Gehasi ati gan feddwl ei symud, ond dyma'r proffwyd yn dweud wrtho, “Paid. Gad lonydd iddi. Mae rhywbeth mawr yn ei phoeni. Ond dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dweud wrtho i beth ydy e.”
II K WelBeibl 4:28  Yna dyma hi'n dweud wrtho, “Syr, wnes i ofyn i ti am fab? Wnes i ddim pledio arnat ti i beidio dweud celwydd wrtho i?”
II K WelBeibl 4:29  Yna dyma Eliseus yn dweud wrth Gehasi, “Clyma dy wisg am dy ganol, a dos. Cymer fy ffon i. Paid stopio i gyfarch neb ar y ffordd. Dos a chyffwrdd wyneb y bachgen gyda'r ffon.”
II K WelBeibl 4:30  Ond dyma fam y plentyn yn dweud, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, dw i ddim am fynd yn ôl hebot ti.” Felly dyma Eliseus yn mynd gyda hi.
II K WelBeibl 4:31  Roedd Gehasi wedi mynd o'u blaenau nhw, ac wedi rhoi'r ffon ar wyneb y bachgen. Ond doedd yna dim ymateb o gwbl. Felly aeth yn ôl i'w cyfarfod a dweud, “Wnaeth y bachgen ddim deffro.”
II K WelBeibl 4:32  Pan gyrhaeddodd Eliseus y tŷ, dyna lle roedd y bachgen yn gorwedd yn farw ar ei wely.
II K WelBeibl 4:33  Dyma fe'n cau'r drws tu ôl iddo a gweddïo ar yr ARGLWYDD.
II K WelBeibl 4:34  Yna dyma fe'n mynd at y plentyn a gorwedd arno, gan roi ei geg ar geg y plentyn, ei lygaid ar ei lygaid a'i ddwylo ar ei ddwylo. Dyma fe'n ymestyn drosto nes i gorff y plentyn dwymo.
II K WelBeibl 4:35  Yna cododd Eliseus ar ei draed a bu'n cerdded yn ôl a blaen yn y tŷ. Wedyn aeth e'n ôl a gorwedd ar gorff y bachgen eto, a dyma'r bachgen yn tisian saith gwaith ac yn agor ei lygaid.
II K WelBeibl 4:36  Galwodd Eliseus ar Gehasi a dweud wrtho, “Gofyn i fam y bachgen ddod yma.” Dyma Gehasi'n ei galw, a phan ddaeth hi dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Cymer dy fab.”
II K WelBeibl 4:37  Dyma hi'n syrthio ar ei gliniau wrth ei draed. Yna dyma hi'n codi ei mab a mynd allan.
II K WelBeibl 4:38  Aeth Eliseus yn ôl i Gilgal, ac roedd yna newyn yn y wlad ar y pryd. Roedd aelodau o'r urdd o broffwydi yn ymweld ag Eliseus, a dyma fe'n dweud wrth ei was, “Rho grochan mawr ar y tân i ferwi cawl iddyn nhw.”
II K WelBeibl 4:39  Roedd un o'r proffwydi wedi mynd allan i gasglu llysiau. Daeth ar draws rhyw blanhigyn gwyllt tebyg i winwydden, a chasglu cymaint o'r ffrwyth ag y gallai ei gario yn ei glogyn. Daeth yn ôl a'u torri'n fân ac yna eu taflu i'r crochan cawl, er nad oedd yn gwybod beth oedden nhw.
II K WelBeibl 4:40  Yna dyma godi'r cawl i'w rannu i'r dynion. Ond wrth ei flasu dyma nhw'n gweiddi, “Broffwyd Duw, mae'r cawl yma'n wenwynig!” Allen nhw ddim ei fwyta.
II K WelBeibl 4:41  “Dewch â blawd i mi,” meddai Eliseus. Yna dyma fe'n taflu'r blawd i'r crochan, a dweud, “Iawn, gallwch ei rannu nawr, i'r dynion gael bwyta”. A doedd dim byd drwg yn y crochan.
II K WelBeibl 4:42  Dyma ddyn o Baal-shalisha yn dod â bara wedi'i wneud o ffrwyth cynta'r cynhaeaf i'r proffwyd – dau ddeg torth haidd a thywysennau o rawn aeddfed. Dyma Eliseus yn dweud, “Rhowch nhw i'r dynion gael bwyta.”
II K WelBeibl 4:43  Ond dyma'r un oedd yn gweini yn dweud, “Sut alla i fwydo cant o ddynion gyda hyn?” “Rho fe iddyn nhw,” meddai Eliseus, “achos mae'r ARGLWYDD wedi dweud y byddan nhw'n bwyta, a bydd peth dros ben.”
II K WelBeibl 4:44  Felly dyma fe'n rhoi'r bara iddyn nhw, ac roedd peth dros ben, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
Chapter 5
II K WelBeibl 5:1  Roedd yna ddyn pwysig yn Syria o'r enw Naaman, pennaeth y fyddin, ac roedd gan ei feistr, y brenin, barch mawr ato. Drwyddo fe roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi llwyddiant milwrol i wlad Syria. Ond yna cafodd y milwr dewr yma ei daro'n wael gan glefyd heintus ar y croen.
II K WelBeibl 5:2  Un tro pan oedd milwyr Syria yn ymosod ar Israel, roedden nhw wedi cymryd merch ifanc yn gaeth. Roedd hi'n gweithio fel morwyn i wraig Naaman.
II K WelBeibl 5:3  A dyma hi'n dweud wrth ei meistres, “Dyna biti na fyddai'r meistr yn gallu mynd i weld y proffwyd sydd yn Samaria. Gallai e ei wella.”
II K WelBeibl 5:4  Aeth Naaman i rannu gyda'i feistr, y brenin, beth roedd yr eneth o wlad Israel wedi'i ddweud.
II K WelBeibl 5:5  A dyma frenin Syria'n dweud wrtho, “Dos yno. Gwna i ysgrifennu llythyr at frenin Israel.” Felly i ffwrdd â Naaman. Aeth â tri chant pedwar deg cilogram o arian, chwe deg wyth cilogram o aur a deg set o ddillad gydag e.
II K WelBeibl 5:6  A dyma fe'n mynd â llythyr ei feistr at frenin Israel. Roedd y llythyr yn dweud, “Dw i'n anfon fy ngwas Naaman atat ti er mwyn i ti ei wella o'r afiechyd sydd ar ei groen.”
II K WelBeibl 5:7  Ar ôl darllen y llythyr dyma frenin Israel yn rhwygo'i ddillad a gweiddi, “Ai Duw ydw i? Oes gen i awdurdod dros fywyd a marwolaeth, neu awdurdod i iacháu'r dyn yma mae e wedi'i anfon ata i? Gwyliwch chi, chwilio am esgus i ymosod arnon ni mae e!”
II K WelBeibl 5:8  Ond pan glywodd y proffwyd Eliseus fod y brenin wedi rhwygo'i ddillad, dyma fe'n anfon neges ato: “Pam wyt ti wedi rhwygo dy ddillad? Anfon e ata i, iddo gael gwybod bod yna broffwyd yn Israel.”
II K WelBeibl 5:9  Felly dyma Naaman yn mynd, gyda'i feirch a'i gerbydau, a sefyll y tu allan i dŷ Eliseus.
II K WelBeibl 5:10  A dyma Eliseus yn anfon neges ato. “Dos i ymolchi saith gwaith yn afon Iorddonen, a bydd dy groen di'n gwella a byddi'n lân eto.”
II K WelBeibl 5:11  Ond dyma Naaman yn gwylltio a mynd i ffwrdd. “Rôn i'n disgwyl iddo ddod allan ata i, a sefyll a gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, symud ei law dros y man lle mae'r afiechyd, a'm gwella i.
II K WelBeibl 5:12  A beth bynnag, onid ydy afonydd Abana a Parpar yn Damascus yn well na holl afonydd Israel gyda'i gilydd? Allwn i ddim bod wedi ymolchi yn y rheiny i gael fy iacháu?” Ac i ffwrdd ag e mewn tymer.
II K WelBeibl 5:13  Ond dyma'i weision yn mynd ato, a dweud, “Syr, petai'r proffwyd wedi gofyn i ti wneud rhywbeth anodd, oni fyddet wedi'i wneud o? Y cwbl mae e'n ei ofyn ydy, ‘Dos i ymolchi, a byddi'n lân.’”
II K WelBeibl 5:14  Felly dyma fe'n mynd ac ymdrochi saith gwaith yn afon Iorddonen fel roedd y proffwyd wedi dweud. A dyma'i groen yn dod yn lân fel croen plentyn bach.
II K WelBeibl 5:15  Yna dyma fe, a'i filwyr i gyd, yn mynd yn ôl at y proffwyd. Safodd o'i flaen a dweud wrtho, “Dw i'n gwybod nawr fod yna ddim Duw go iawn yn unman arall ond yn Israel! Plîs, wnei di dderbyn anrheg gen i, dy was?”
II K WelBeibl 5:16  Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD dw i'n ei wasanaethu yn fyw, wna i gymryd dim gen ti.” Ac er i Namaan bwyso arno roedd yn dal i wrthod.
II K WelBeibl 5:17  Yna yn y diwedd dyma Naaman yn gofyn iddo, “Os wnei di ddim derbyn rhodd, yna plîs wnei di roi llwyth o bridd i mi – digon i ddau ful ei gario. Achos o hyn ymlaen fydda i ddim yn cyflwyno offrwm ac aberth i unrhyw dduw arall, dim ond i'r ARGLWYDD.
II K WelBeibl 5:18  Er, mae yna un peth bach dw i'n gobeithio y bydd yr ARGLWYDD yn ei faddau i mi: Pan fydd fy meistr, y brenin, yn mynd i deml Rimmon i addoli, bydd yn pwyso ar fy mraich i. Bydd rhaid i mi ymgrymu o flaen Rimmon pan fydd e'n gwneud hynny. Gobeithio bydd yr ARGLWYDD yn maddau i mi am hyn.”
II K WelBeibl 5:19  A dyma Eliseus yn dweud, “Dos adre'n dawel dy feddwl.” Doedd Naaman ddim wedi mynd yn bell,
II K WelBeibl 5:20  pan feddyliodd Gehasi, gwas y proffwyd Eliseus: “Mae fy meistr wedi gwneud pethau'n rhy hawdd i'r Syriad yna, Namaan, drwy wrthod derbyn beth roedd yn ei gynnig iddo. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, dw i'n mynd ar ei ôl i gael rhywbeth ganddo.”
II K WelBeibl 5:21  Felly dyma fe'n brysio ar ôl Naaman. Pan welodd Naaman rywun yn rhedeg ar ei ôl, daeth i lawr o'i gerbyd i'w gyfarfod, a gofyn, “Ydy popeth y iawn?”
II K WelBeibl 5:22  A dyma Gehasi yn ateb, “Ydy, mae popeth yn iawn. Mae fy meistr wedi f'anfon i ddweud fod dau broffwyd ifanc newydd gyrraedd o fryniau Effraim. Plîs wnei di roi tri deg cilogram o arian a dau set o ddillad iddyn nhw?”
II K WelBeibl 5:23  “Ar bob cyfri,” meddai Naaman, “gad i mi roi dwywaith hynny i ti.” Roedd yn mynnu, a dyma fe'n rhoi chwe deg cilogram o arian mewn dau fag, gyda dau set o ddillad. A dyma fe'n eu rhoi nhw i ddau was i'w cario i Gehasi.
II K WelBeibl 5:24  Wedi iddyn nhw gyrraedd y bryn, dyma Gehasi'n cymryd yr arian a'r dillad ganddyn nhw a'u cuddio nhw yn y tŷ. Yna dyma fe'n anfon y dynion i ffwrdd.
II K WelBeibl 5:25  Pan aeth Gehasi at ei feistr, dyma Eliseus yn gofyn iddo, “Ble wyt ti wedi bod Gehasi?” A dyma fe'n ateb, “Dw i ddim wedi bod i unman yn arbennig.”
II K WelBeibl 5:26  A dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Rôn i wedi mynd gyda ti yn yr ysbryd pan ddaeth y dyn i lawr o'i gerbyd i dy gyfarfod di. Wnest ti ddim derbyn arian i brynu dillad a gerddi olewydd a gwinllannoedd a defaid a gwartheg a gweision a morynion?
II K WelBeibl 5:27  Bydd y clefyd heintus roedd Naaman yn dioddef ohono arnat ti a dy deulu am byth!” Aeth Gehasi i ffwrdd oddi wrtho, ac roedd y clefyd ar ei groen yn wyn fel yr eira.
Chapter 6
II K WelBeibl 6:1  Un diwrnod dyma aelodau'r urdd o broffwydi'n dweud wrth Eliseus, “Edrych, mae'r lle yma lle dŷn ni'n cyfarfod gyda ti yn rhy fach.
II K WelBeibl 6:2  Beth am i ni fynd at afon Iorddonen. Gallwn ni i gyd gymryd coed oddi yno, a mynd ati i adeiladu lle newydd i ni gyfarfod.” “Iawn, ewch chi,” meddai Eliseus.
II K WelBeibl 6:3  Ond dyma un ohonyn nhw'n gofyn iddo, “Plîs wnei di ddod gyda ni?” A dyma fe'n cytuno,
II K WelBeibl 6:4  a mynd gyda nhw. Pan gyrhaeddon nhw afon Iorddonen dyma nhw'n dechrau torri coed.
II K WelBeibl 6:5  Roedd un ohonyn nhw wrthi'n torri trawst, a dyma ben ei fwyell yn syrthio i'r dŵr. A dyma fe'n gweiddi, “O, syr! Bwyell wedi'i benthyg oedd hi!”
II K WelBeibl 6:6  Dyma broffwyd Duw yn gofyn iddo, “Ble syrthiodd hi?” Dangosodd iddo ble, ac yna dyma Eliseus yn torri cangen o bren, a'i thaflu i'r fan, a dyma'r fwyell yn dod i'r wyneb.
II K WelBeibl 6:7  “Gafael ynddi,” meddai Eliseus. A dyma'r proffwyd ifanc yn estyn ei law a chodi'r fwyell o'r dŵr.
II K WelBeibl 6:8  Pan oedd brenin Syria yn rhyfela yn erbyn Israel, roedd e'n trafod y strategaeth gyda'i swyddogion milwrol. Byddai'n penderfynu codi gwersyll yn rhywle, i ymosod ar Israel.
II K WelBeibl 6:9  Ond wedyn byddai Eliseus, proffwyd Duw, yn anfon neges at frenin Israel i ddweud wrtho am fod yn ofalus wrth fynd heibio'r lle arbennig hwnnw, am fod byddin Syria'n dod yno i ymosod.
II K WelBeibl 6:10  Wedyn byddai brenin Israel yn anfon milwyr yno i amddiffyn y lle. Roedd hyn yn digwydd dro ar ôl tro.
II K WelBeibl 6:11  Roedd brenin Syria wedi cynhyrfu o achos hyn. A dyma fe'n galw'i swyddogion at ei gilydd, a dweud, “Dwedwch wrtho i, pa un ohonoch chi sy'n helpu brenin Israel?”
II K WelBeibl 6:12  Dyma un ohonyn nhw'n ateb, “Fy mrenin. Does neb ohonon ni'n gwneud hynny, syr. Eliseus y proffwyd yn Israel ydy e! Mae hyd yn oed yn rhannu gyda brenin Israel beth ti'n ddweud yn dy ystafell wely!”
II K WelBeibl 6:13  Felly dyma'r brenin yn dweud, “Ffeindiwch e i mi, er mwyn i mi anfon dynion yno i'w ddal e!” Dyma nhw'n darganfod fod Eliseus yn Dothan, a mynd i ddweud wrth y brenin.
II K WelBeibl 6:14  Felly dyma'r brenin yn anfon byddin gref yno, gyda cheffylau a cherbydau. A dyma nhw'n cyrraedd yno yn y nos ac yn amgylchynu'r dre.
II K WelBeibl 6:15  Yn gynnar y bore wedyn dyma was Eliseus yn codi a mynd allan. A dyna lle roedd byddin Syria gyda cheffylau a cherbydau wedi amgylchynu'r dre. A dyma'r bachgen yn dweud wrth Eliseus, “O na! Feistr, be wnawn ni?”
II K WelBeibl 6:16  Ond dyma Eliseus yn ateb, “Paid dychryn. Mae yna fwy ar ein hochr ni nag sydd gyda nhw.”
II K WelBeibl 6:17  Yna dyma Eliseus yn gweddïo, “ARGLWYDD, agor ei lygaid iddo weld.” A dyma'r ARGLWYDD yn agor llygaid y bachgen, ac roedd e'n gweld fod y bryn yn llawn ceffylau a cherbydau fel fflamau tân o gwmpas Eliseus.
II K WelBeibl 6:18  Wrth i fyddin Syria ddod yn nes, dyma Eliseus yn gweddïo, “ARGLWYDD, wnei di daro'r bobl yma'n ddall.” A dyma nhw'n cael eu dallu, fel roedd Eliseus wedi gofyn.
II K WelBeibl 6:19  Yna dyma Eliseus yn mynd atyn nhw a dweud, “Dim y ffordd yma, na'r dre yma dych chi eisiau. Dewch ar fy ôl i. Gwna i fynd â chi at y dyn dych chi'n chwilio amdano.” A dyma fe'n eu harwain nhw i Samaria.
II K WelBeibl 6:20  Ar ôl iddyn nhw gyrraedd, dyma Eliseus yn gweddïo eto, “ARGLWYDD, agor eu llygaid nhw iddyn nhw allu gweld.” Dyma'r ARGLWYDD yn agor eu llygaid, ac roedden nhw'n gweld eu bod yng nghanol tref Samaria.
II K WelBeibl 6:21  Pan welodd brenin Israel nhw dyma fe'n gofyn i Eliseus, “Fy nhad, ddylwn i eu lladd nhw'n syth?”
II K WelBeibl 6:22  “Na, paid lladd nhw,” meddai Eliseus. “Fyddet ti'n lladd pobl wedi'u dal mewn brwydr? Na. Rho rywbeth i'w fwyta a'i yfed iddyn nhw, ac wedyn gadael iddyn nhw fynd yn ôl at eu meistr.”
II K WelBeibl 6:23  Felly dyma'r brenin yn trefnu gwledd fawr iddyn nhw, a dyma nhw'n bwyta ac yn yfed. Wedyn dyma nhw'n mynd yn ôl at eu meistr. O hynny ymlaen dyma fyddin Syria yn stopio ymosod ar wlad Israel.
II K WelBeibl 6:24  Flynyddoedd wedyn dyma Ben-hadad, brenin Syria, yn casglu ei fyddin at ei gilydd a mynd i godi gwarchae ar Samaria.
II K WelBeibl 6:25  O ganlyniad doedd dim bwyd yn Samaria. Roedd y sefyllfa mor ddrwg nes bod pen asyn yn costio wyth deg o ddarnau arian, a phowlen fach o dail colomennod yn costio pum darn arian.
II K WelBeibl 6:26  Pan oedd brenin Israel yn cerdded ar waliau'r dref, dyma rhyw wraig yn gweiddi arno, “O frenin, syr, helpa fi!”
II K WelBeibl 6:27  Ond dyma fe'n ateb, “Na, rhaid i'r ARGLWYDD dy helpu di. Sut alla i dy helpu di? Mae'r llawr dyrnu a'r cafn gwin yn wag!”
II K WelBeibl 6:28  Wedyn dyma'r brenin yn gofyn iddi, “Beth sy'n bod?” A dyma hi'n ateb, “Roedd y wraig yma wedi dweud wrtho i, ‘Rho dy fab di i ni ei fwyta heddiw, a gwnawn ni fwyta fy mab i yfory.’
II K WelBeibl 6:29  Felly dyma ni'n berwi fy mab i, a'i fwyta. Yna'r diwrnod wedyn dyma fi'n dweud wrthi, ‘Tyrd â dy fab di i ni gael ei fwyta fe nawr.’ Ond roedd hi wedi cuddio ei mab.”
II K WelBeibl 6:30  Pan glywodd y brenin hyn dyma fe'n rhwygo'i ddillad. Gan ei fod yn cerdded ar y waliau, roedd pawb yn gallu gweld ei fod e'n gwisgo sachliain oddi tanodd.
II K WelBeibl 6:31  A dyma'r brenin yn dweud, “Boed i Dduw ddial arna i os bydd pen Eliseus yn dal ar ei ysgwyddau erbyn diwedd y dydd!”
II K WelBeibl 6:32  Roedd Eliseus yn digwydd bod yn ei dŷ, ag arweinwyr Samaria o'i gwmpas. Roedd y brenin wedi anfon un o'i ddynion i'w arestio. Ond cyn iddo gyrraedd roedd Eliseus wedi dweud wrth yr arweinwyr o'i gwmpas, “Ydych chi'n gwybod beth? Mae'r cyw llofrudd yna wedi anfon dyn i dorri fy mhen i i ffwrdd. Pan fydd e'n cyrraedd, caewch y drws a'i rwystro rhag dod i mewn. Dw i'n siŵr y bydd y brenin ei hun ddim yn bell tu ôl iddo!”
II K WelBeibl 6:33  Doedd Eliseus ddim wedi gorffen siarad pan gyrhaeddodd y negesydd. A dyma fe'n dweud, “Yr ARGLWYDD sydd wedi achosi'r drwg yma. Pam ddylwn i ddisgwyl help ganddo?”
Chapter 7
II K WelBeibl 7:1  A dyma Eliseus yn ei ateb, “Gwranda ar neges yr ARGLWYDD. ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Yr adeg yma fory, yn y farchnad wrth giât Samaria, bydd un darn arian yn ddigon i brynu sachaid o flawd mân, neu ddwy lond sach o haidd!’”
II K WelBeibl 7:2  A dyma swyddog agosa'r brenin, ei brif gynorthwywr, yn ateb proffwyd Duw. “Hyd yn oed petai'r ARGLWYDD yn agor llifddorau'r awyr iddi lawio ar y ddaear, allai hynny byth digwydd!” Ond dyma Eliseus ateb, “Cei weld y peth â dy lygaid dy hun, ond gei di ddim bwyta dim ohono.”
II K WelBeibl 7:3  Tu allan i giât y ddinas roedd pedwar dyn oedd yn dioddef o glefyd heintus ar y croen. Dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Pam ydyn ni'n aros yn y fan yma i farw?
II K WelBeibl 7:4  Os awn ni i mewn i'r ddinas, byddwn ni'n marw, achos does yna ddim bwyd yno. Os arhoswn ni yma, dŷn ni'n mynd i farw hefyd. Felly dewch i ni fynd drosodd at fyddin Syria. Falle y gwnân nhw'n lladd ni, ond mae yna bosibilrwydd yn gwnân nhw adael i ni fyw.”
II K WelBeibl 7:5  Felly'r noson honno, dyma nhw'n mynd i wersyll byddin Syria. Ond wrth iddyn nhw gyrraedd cyrion y gwersyll dyma nhw'n sylweddoli fod yna neb yno.
II K WelBeibl 7:6  Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i fyddin Syria feddwl eu bod yn clywed sŵn byddin enfawr yn dod gyda ceffylau a cherbydau. Roedden nhw'n meddwl fod brenin Israel wedi talu i frenhinoedd yr Hethiaid a'r Aifft i ymosod arnyn nhw.
II K WelBeibl 7:7  Felly roedden nhw wedi dianc gyda'r nos. Roedden nhw wedi gadael eu pebyll, a'u ceffylau a'u hasynnod, a'r gwersyll fel roedd e, a ffoi am eu bywydau.
II K WelBeibl 7:8  Pan ddaeth y dynion oedd yn dioddef o'r clefyd heintus ar y croen at gyrion y gwersyll aethon nhw i mewn i un o'r pebyll a buon nhw'n bwyta ac yfed ynddi. Yna dyma nhw'n cymryd arian, aur a dillad ohoni, a mynd i guddio'r cwbl. Wedyn dyma nhw'n mynd i babell arall, a dwyn o honno hefyd.
II K WelBeibl 7:9  Ond yna dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Dydy hyn ddim yn iawn! Mae hi'n ddiwrnod i ddathlu, a dŷn ni wedi dweud dim wrth neb. Allwn ni ddim aros tan y bore; fyddai hynny ddim yn iawn. Dewch, rhaid i ni fynd i ddweud wrthyn nhw yn y palas.”
II K WelBeibl 7:10  Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Samaria a galw ar y wylwyr y giatiau, “Dŷn ni wedi bod i wersyll byddin Syria, a doedd yna neb yno o gwbl. Glywon ni'r un siw na miw. Ond roedd y ceffylau a'r asynnod yno wedi'u clymu, a'r pebyll yn dal i sefyll.”
II K WelBeibl 7:11  Yna dyma'r gwylwyr yn pasio'r neges ymlaen i balas y brenin.
II K WelBeibl 7:12  Cododd y brenin o'i wely a dweud wrth ei swyddogion, “Ddweda i wrthoch chi beth mae Syria'n ei wneud. Maen nhw'n gwybod fod newyn yma, ac maen nhw wedi gadael y gwersyll a mynd i guddio i gefn gwlad. Maen nhw'n disgwyl i ni fynd allan i chwilio am fwyd, ac wedyn byddan nhw'n ein dal ni, ac yn dod i mewn i'r ddinas.”
II K WelBeibl 7:13  Ond dyma un o'r swyddogion yn awgrymu, “Gad i ni ddewis pump o'r ceffylau sydd ar ôl, ac anfon dynion allan i weld beth sy'n digwydd. Os cân nhw eu lladd, fydd hynny ddim gwaeth na beth sy'n mynd i ddigwydd i bobl Israel i gyd os arhoswn ni yma – mae hi wedi darfod arnon ni fel mae hi.”
II K WelBeibl 7:14  Felly dyma nhw'n cymryd dau gerbyd rhyfel, a dyma'r brenin anfon dynion ar ôl byddin Syria i weld beth oedd yn digwydd.
II K WelBeibl 7:15  Aethon nhw ar eu holau cyn belled ac afon Iorddonen. (Roedd dillad a thaclau o bob math ar lawr ym mhobman ar y ffordd, wedi'u taflu i ffwrdd gan y Syriaid yn eu brys.) Yna dyma'r sgowtiaid yn mynd yn ôl i ddweud wrth y brenin.
II K WelBeibl 7:16  Wedyn aeth pobl Samaria allan i wersyll byddin Syria a helpu eu hunain i beth bynnag roedden nhw'n dod o hyd iddo. A daeth hi'n wir fod un darn arian yn ddigon i brynu sachaid o flawd mân neu ddwy lond sach o haidd, yn union fel roedd ARGLWYDD wedi dweud.
II K WelBeibl 7:17  Roedd y brenin wedi anfon ei brif gynorthwywr i reoli pethau wrth giât y ddinas. Ond wrth i'r dyrfa ruthro allan, cafodd ei sathru dan draed a bu farw. Roedd hyn hefyd wedi digwydd yn union fel roedd Eliseus, proffwyd yr ARGLWYDD, wedi dweud pan oedd y brenin wedi ceisio ei arestio.
II K WelBeibl 7:18  Neges y proffwyd i'r brenin oedd, “Bydd un darn arian yn ddigon i brynu dwy lond sach o haidd neu sachaid o flawd mân! Bydd hyn yn digwydd yr adeg yma fory, yn y farchnad wrth giât Samaria.”
II K WelBeibl 7:19  Ond roedd swyddog agosa'r brenin, ei brif gynorthwywr, wedi ateb proffwyd Duw, “Hyd yn oed petai'r ARGLWYDD yn agor llifddorau'r awyr iddi lawio ar y ddaear, allai hynny byth digwydd!” Ac roedd Eliseus wedi ateb, “Cei weld y peth â dy lygaid dy hun, ond gei di ddim bwyta dim ohono.”
II K WelBeibl 7:20  A dyna'n union oedd wedi digwydd. Roedd e wedi cael ei sathru dan draed a marw wrth giât y ddinas.
Chapter 8
II K WelBeibl 8:1  Roedd Eliseus wedi dweud wrth y wraig y daeth e a'i mab hi yn ôl yn fyw, “Dylet ti a dy deulu symud i fyw i rywle arall dros dro. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud fod newyn yn mynd i daro Israel am saith mlynedd.”
II K WelBeibl 8:2  Ac roedd hi wedi gwneud fel roedd y proffwyd yn dweud. Roedd hi a'i theulu wedi mynd i fyw i wlad y Philistiaid.
II K WelBeibl 8:3  Yna, ar ddiwedd y saith mlynedd, dyma hi a'i theulu'n dod yn ôl. A dyma hi'n mynd at y brenin i apelio am gael ei thŷ a'i thir yn ôl.
II K WelBeibl 8:4  Yn digwydd bod, roedd y brenin wrthi'n siarad â Gehasi, gwas Eliseus. Roedd e wedi gofyn i Gehasi ddweud wrtho am yr holl bethau rhyfeddol roedd Eliseus wedi'u gwneud.
II K WelBeibl 8:5  A tra oedd Gehasi yn adrodd hanes Eliseus yn dod â'r bachgen marw yn ôl yn fyw, dyma'r wraig (sef mam y bachgen) yn cyrraedd i ofyn am ei thŷ a'i thir. A dyma Gehasi'n dweud, “Syr, fy mrenin, hon ydy'r union wraig roeddwn i'n sôn amdani; ei mab hi wnaeth Eliseus ei godi yn ôl yn fyw!”
II K WelBeibl 8:6  Dyma'r brenin yn ei holi hi, a dyma hi'n dweud yr hanes i gyd wrtho. Yna dyma fe'n penodi swyddog i ofalu amdani, a dweud wrtho, “Rho ei heiddo i gyd yn ôl iddi; a hefyd gynnyrch y tir am y cyfnod y buodd hi i ffwrdd.”
II K WelBeibl 8:7  Aeth Eliseus i Damascus, prifddinas Syria. Roedd Ben-hadad, brenin Syria yn sâl. Pan ddwedon nhw wrth y brenin fod proffwyd Duw wedi cyrraedd,
II K WelBeibl 8:8  dyma'r brenin yn dweud wrth Hasael, ei swyddog, “Dos i weld y proffwyd, a dos â rhodd gyda ti. Gofyn iddo holi'r ARGLWYDD os bydda i'n gwella o'r salwch yma.”
II K WelBeibl 8:9  Felly, dyma Hasael yn mynd i weld y proffwyd, gyda rhodd iddo – pethau gorau Damascus wedi'u llwytho ar bedwar deg o gamelod. Safodd o'i flaen a dweud, “Mae dy was, Ben-hadad, brenin Syria, eisiau gwybod fydd e'n gwella o'i salwch?”
II K WelBeibl 8:10  Dyma Eliseus yn ateb, “Dos a dywed wrtho, ‘Rwyt ti'n bendant yn mynd i wella,’ – er fod yr ARGLWYDD wedi dangos i mi y bydd e'n marw.”
II K WelBeibl 8:11  Roedd Eliseus yn syllu ar Hasael, nes iddo ddechrau teimlo'n anghyfforddus. Yna dyma'r proffwyd yn dechrau crio.
II K WelBeibl 8:12  Gofynnodd Hasael iddo, “Pam wyt ti'n crio, syr?” A dyma Eliseus yn ateb, “Am mod i'n gwybod y niwed wyt ti'n mynd i'w wneud i bobl Israel. Ti'n mynd i losgi'n trefi ni a lladd ein dynion ifanc yn y rhyfel. Byddi'n curo'n plant bach i farwolaeth, ac yn rhwygo'r gwragedd beichiog yn agored.”
II K WelBeibl 8:13  A dyma Hasael yn gofyn, “Sut allwn i wneud pethau mor ofnadwy? Dw i ddim gwell na ci bach.” Atebodd Eliseus, “Mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi y byddi di'n frenin ar Syria.”
II K WelBeibl 8:14  Yna dyma fe'n gadael Eliseus a mynd yn ôl at ei feistr. Pan ofynnodd hwnnw iddo, “Beth ddwedodd Eliseus wrthot ti?” Dyma fe'n ateb, “Dwedodd dy fod ti'n bendant yn mynd i wella.”
II K WelBeibl 8:15  Ond y diwrnod wedyn, dyma Hasael yn cymryd blanced a'i gwlychu, ac yna ei rhoi dros wyneb Ben-hadad a'i fygu. Dyna sut bu farw Ben-hadad, a dyma Hasael yn dod yn frenin yn ei le.
II K WelBeibl 8:16  Roedd Joram, mab Ahab, wedi bod yn frenin ar Israel ers pum mlynedd pan gafodd Jehoram, mab Jehosaffat, ei wneud yn frenin ar Jwda.
II K WelBeibl 8:17  Roedd yn dri deg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am wyth mlynedd.
II K WelBeibl 8:18  Ond roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel ac Ahab a'i deulu. Roedd wedi priodi merch Ahab, ac yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
II K WelBeibl 8:19  (Ond doedd yr ARGLWYDD ddim am ddinistrio Jwda o achos ei was Dafydd. Roedd wedi addo iddo byddai ei linach yn teyrnasu am byth.)
II K WelBeibl 8:20  Yn ei gyfnod e dyma Edom yn gwrthryfela yn erbyn Jwda, a dewis eu brenin eu hunain.
II K WelBeibl 8:21  Felly dyma Jehoram yn croesi i Sair gyda'i gerbydau rhyfel. Roedd byddin Edom wedi'i amgylchynu, a dyma fe'n ymosod arnyn nhw ganol nos. Ond colli'r frwydr wnaeth e, a dyma'i fyddin yn ffoi adre.
II K WelBeibl 8:22  Mae Edom yn dal i wrthryfela yn erbyn Jwda hyd heddiw. Roedd tref Libna hefyd wedi gwrthryfela yr un pryd.
II K WelBeibl 8:23  Mae gweddill hanes Jehoram, a chofnod o'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
II K WelBeibl 8:24  Pan fuodd Jehoram farw cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd, a dyma'i fab, Ahaseia, yn dod yn frenin yn ei le.
II K WelBeibl 8:25  Roedd Joram, mab Ahab, wedi bod yn frenin ar Israel am un deg dwy o flynyddoedd pan gafodd Ahaseia, mab Jehoram, ei wneud yn frenin ar Jwda.
II K WelBeibl 8:26  Roedd Ahaseia yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin ar Jwda, a bu'n frenin am flwyddyn. Ei fam oedd Athaleia, wyres Omri, brenin Israel.
II K WelBeibl 8:27  Roedd yn ymddwyn yr un fath ag Ahab a'i deulu. Roedd yn perthyn iddo drwy briodas, ac yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
II K WelBeibl 8:28  Ymunodd gyda Joram, mab Ahab, i ryfela yn erbyn Hasael, brenin Syria, yn Ramoth-gilead. Cafodd Joram ei anafu yn y frwydr,
II K WelBeibl 8:29  ac aeth yn ôl i Jesreel i geisio gwella o'i glwyfau. Aeth Ahaseia, brenin Jwda, yno i ymweld ag e, achos roedd e'n wael iawn.
Chapter 9
II K WelBeibl 9:1  Dyma Eliseus, y proffwyd, yn galw un o aelodau'r urdd o broffwydi, a dweud wrtho, “Clyma dy wisg am dy ganol, cymer y botel yma o olew olewydd, a dos i Ramoth-gilead.
II K WelBeibl 9:2  Wedi i ti gyrraedd yno, edrych am Jehw (mab Jehosaffat ac ŵyr i Nimshi). Dos ag e o ganol ei ffrindiau i ystafell ar wahân.
II K WelBeibl 9:3  Yna cymer y botel a thywallt yr olew ar ei ben a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel.’ Wedyn agor y drws a rheda i ffwrdd heb oedi.”
II K WelBeibl 9:5  Pan gyrhaeddodd e, dyna lle roedd swyddogion y fyddin yn cyfarfod â'i gilydd. “Capten, mae gen i neges i ti,” meddai. A dyma Jehw yn gofyn, “I ba un ohonon ni?” “I ti, syr,” meddai'r proffwyd.
II K WelBeibl 9:6  Felly dyma Jehw yn codi a mynd i mewn i'r tŷ. Dyma'r proffwyd yn tywallt yr olew ar ei ben a dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel, pobl yr ARGLWYDD.
II K WelBeibl 9:7  Rwyt i ddinistrio teulu Ahab. Dyna sut bydda i'n dial ar Jesebel am ladd fy ngweision y proffwydi, a phawb arall oedd yn gwasanaethu'r ARGLWYDD.
II K WelBeibl 9:8  Dw i'n mynd i roi diwedd ar linach Ahab. Bydda i'n cael gwared â phob dyn a bachgen yn Israel, sy'n perthyn i Ahab, y caeth a'r rhydd.
II K WelBeibl 9:9  Bydda i'n gwneud yr un peth i linach Ahab ag a wnes i i Jeroboam fab Nebat a Baasha fab Achïa.
II K WelBeibl 9:10  Bydd cŵn yn bwyta corff Jesebel yn ardal Jesreel. Fydd hi ddim yn cael ei chladdu.’” Yna dyma'r proffwyd yn agor y drws a rhedeg i ffwrdd.
II K WelBeibl 9:11  Pan aeth Jehw allan at swyddogion eraill ei feistr, dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy popeth yn iawn? Pam wnaeth yr idiot yna ddod i dy weld di?” A dyma fe'n ateb, “O, dych chi'n gwybod am y math yna o foi a'i rwdlan.”
II K WelBeibl 9:12  “Ti a dy gelwyddau!” medden nhw, “Dwed wrthon ni beth ddwedodd e.” Felly dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dyma beth ddwedodd e, ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel.”’”
II K WelBeibl 9:13  Heb oedi dim, dyma pob un ohonyn nhw yn gafael yn ei glogyn a'i roi dan draed Jehw ar ben y grisiau. Wedyn dyma'r corn hwrdd yn cael ei ganu, a phawb yn gweiddi, “Jehw ydy'r brenin!”
II K WelBeibl 9:14  Felly dyma Jehw yn cynllwynio yn erbyn Joram. (Roedd Joram wedi bod gyda byddin Israel yn Ramoth-gilead, yn amddiffyn y wlad rhag Hasael, brenin Syria.
II K WelBeibl 9:15  Ond roedd e wedi cael ei anafu, ac wedi mynd yn ôl i Jesreel i wella o'i glwyfau.) A dyma Jehw yn dweud wrth ei ddilynwyr, “Os ydych chi wir ar fy ochr i, peidiwch gadael i neb ddianc o'r ddinas i'w rhybuddio nhw yn Jesreel.”
II K WelBeibl 9:16  Yna dyma Jehw yn mynd yn ei gerbyd i Jesreel, lle roedd Joram yn gorwedd yn wael. (Roedd Ahaseia, brenin Jwda, wedi mynd i ymweld â Joram ar y pryd.)
II K WelBeibl 9:17  Roedd gwyliwr ar ddyletswydd ar dŵr tref Jesreel. A dyma fe'n gweld Jehw a'i filwyr yn dod. Dyma fe'n gweiddi, “Dw i'n gweld milwyr yn dod!” Dyma Joram yn gorchymyn, “Anfonwch farchog allan i'w cyfarfod i ofyn ydyn nhw'n dod yn heddychlon.”
II K WelBeibl 9:18  Felly dyma'r marchog yn mynd i'w cyfarfod, a gofyn, “Mae'r brenin yn gofyn, ‘Ydych chi'n dod yn heddychlon?’” Dyma Jehw yn ateb, “Dim o dy fusnes di! Dilyn di fi.” Dyma'r gwyliwr yn Jesreel yn dweud, “Aeth y marchog atyn nhw, ond dydy e ddim yn dod yn ôl.”
II K WelBeibl 9:19  Felly dyma Joram yn anfon ail farchog. Aeth hwnnw atyn nhw a gofyn, “Mae'r brenin yn gofyn, ‘Ydych chi'n dod yn heddychlon?’” A dyma Jehw yn ateb eto, “Dim o dy fusnes di! Dilyn di fi.”
II K WelBeibl 9:20  A dyma'r gwyliwr yn Jesreel yn dweud eto, “Aeth y marchog atyn nhw, ond dydy e ddim yn dod yn ôl. Mae pwy bynnag sy'n y cerbyd ar y blaen yn gyrru'n hurt; mae'n gyrru fel Jehw fab Nimshi!”
II K WelBeibl 9:21  Yna dyma Joram yn dweud, “Gwnewch y cerbyd yn barod i mi.” Pan oedden nhw wedi gwneud hynny, dyma Joram, brenin Israel, ac Ahaseia, brenin Jwda, yn mynd allan yn eu cerbydau eu hunain i gyfarfod Jehw. Dyma nhw'n cwrdd ar y darn o dir oedd yn arfer perthyn i Naboth o Jesreel.
II K WelBeibl 9:22  Dyma Joram yn gofyn i Jehw, “Ydy popeth yn iawn, Jehw?” Ond dyma Jehw yn ateb, “Fydd pethau byth yn iawn tra mae dy fam di, Jesebel, yn gwthio pobl i addoli eilunod a dewino!”
II K WelBeibl 9:23  Yna dyma Joram yn troi ei gerbyd i geisio dianc, ac yn gweiddi ar Ahaseia, “Mae'n frad, Ahaseia!”
II K WelBeibl 9:24  Ond dyma Jehw yn anelu ei fwa a saethu Joram rhwng ei ysgwyddau. Aeth y saeth drwy ei galon, a syrthiodd yn farw yn ei gerbyd.
II K WelBeibl 9:25  Wedyn dyma Jehw yn dweud wrth Bidcar, ei is-gapten, “Cymer y corff a'i daflu ar y darn tir oedd yn arfer perthyn i Naboth o Jesreel. Wyt ti'n cofio? Pan oedd y ddau ohonon ni'n gwasanaethu Ahab ei dad, roedd yr ARGLWYDD wedi cyhoeddi hyn yn ei erbyn:
II K WelBeibl 9:26  ‘Yn wir dw i wedi gweld gwaed Naboth a'i feibion, ddoe,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘A bydda i'n talu'n ôl i ti ar yr union ddarn yma o dir.’ Felly cymer y corff a'i daflu ar y darn tir yna fel dwedodd yr ARGLWYDD.”
II K WelBeibl 9:27  Pan welodd Ahaseia, brenin Jwda, beth ddigwyddodd, dyma fe'n ffoi i gyfeiriad Beth-haggan. A dyma Jehw yn mynd ar ei ôl a gorchymyn i'w filwyr, “Saethwch e hefyd!” A dyma nhw'n ei saethu yn ei gerbyd ar yr allt sy'n mynd i fyny i Gwr, wrth ymyl Ibleam. Ond llwyddodd i ddianc i Megido, a dyna lle buodd e farw.
II K WelBeibl 9:28  Aeth ei weision a'r corff yn ôl i Jerwsalem, a'i gladdu yn ei fedd gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd.
II K WelBeibl 9:29  Roedd Joram wedi bod yn frenin Israel am un deg un o flynyddoedd pan gafodd Ahaseia ei wneud yn frenin ar Jwda.
II K WelBeibl 9:30  Dyma Jehw yn mynd i Jesreel. Pan glywodd Jesebel ei fod yn dod dyma hi'n rhoi colur ar ei llygaid, gwneud ei gwallt a phwyso allan o'r ffenest.
II K WelBeibl 9:31  Pan gyrhaeddodd Jehw wrth giât y dref, dyma hi'n galw arno, “Wyt ti'n dod yn heddychlon? Ti ddim gwell na Simri, wnaeth lofruddio ei feistr!”
II K WelBeibl 9:32  Dyma Jehw yn edrych i fyny a gofyn, “Pwy sydd ar fy ochr i? Rhywun?” A dyma ddau neu dri o swyddogion y palas yn edrych i lawr arno.
II K WelBeibl 9:33  “Taflwch hi allan drwy'r ffenest,” meddai wrthyn nhw. A dyma nhw'n ei thaflu hi i lawr. Pan darodd hi'r llawr dyma'i gwaed yn sblasio ar y wal ac ar y ceffylau, a dyma Jehw yn gyrru ei gerbyd drosti.
II K WelBeibl 9:34  Aeth i mewn a bwyta ac yfed. Yna dyma fe'n dweud, “Ewch i gladdu corff y ddynes ddiawledig yna. Roedd hi yn ferch i frenin, wedi'r cwbl.”
II K WelBeibl 9:35  Ond pan aethon nhw i'w chladdu hi, doedd dim byd ar ôl ond ei phenglog, ei thraed a'i dwylo.
II K WelBeibl 9:36  Dyma nhw'n mynd i ddweud wrth Jehw, a dyma fe'n ateb, “Dyna'n union beth ddwedodd yr ARGLWYDD fyddai'n digwydd. Y proffwyd Elias o Tishbe ddwedodd, ‘Bydd cŵn yn bwyta corff Jesebel yn ardal Jesreel.
II K WelBeibl 9:37  A bydd darnau o'i chorff fel tail ar wyneb y tir yn Jesreel. Fydd neb yn gallu ei nabod.’”
Chapter 10
II K WelBeibl 10:1  Roedd gan Ahab saith deg o feibion yn Samaria. Felly dyma Jehw yn anfon llythyrau at swyddogion ac arweinwyr Jesreel, ac at y rhai oedd yn gofalu am feibion Ahab. Dyma oedd y llythyr yn ei ddweud:
II K WelBeibl 10:2  “Mae meibion eich meistr i gyd gyda chi, ac mae gynnoch chi gerbydau a cheffylau, dinas gaerog ac arfau. Felly, pan dderbyniwch chi'r llythyr yma,
II K WelBeibl 10:3  dewiswch chi y gorau a'r mwyaf abl o feibion eich meistr a'i wneud yn frenin yn lle ei dad. Ond yna byddwch barod i amddiffyn llinach eich meistr.”
II K WelBeibl 10:4  Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Mae dau frenin wedi methu ei stopio fe. Pa obaith sydd gynnon ni?” medden nhw.
II K WelBeibl 10:5  Felly dyma bennaeth y palas, pennaeth y ddinas, yr arweinwyr a'r rhai oedd â gofal am deulu Ahab, yn anfon y neges yma at Jehw: “Dŷn ni am fod yn weision i ti! Dŷn ni'n fodlon gwneud beth bynnag rwyt ti eisiau. Dŷn ni'n bwriadu gwneud neb arall yn frenin. Gwna di beth ti'n feddwl sy'n iawn.”
II K WelBeibl 10:6  Anfonodd Jehw lythyr arall atyn nhw: “Os ydych chi wir ar fy ochr i, ac am fod yn ufudd i mi, yna torrwch bennau meibion Ahab i gyd, a dewch â nhw ata i i Jesreel erbyn yr adeg yma fory.” Pobl bwysig dinas Samaria oedd wedi bod yn magu y saith deg o feibion oedd gan y Brenin Ahab.
II K WelBeibl 10:7  Ond ar ôl derbyn llythyr Jehw, dyma nhw'n eu dal nhw a lladd y cwbl. Yna dyma nhw'n rhoi eu pennau mewn basgedi a'u hanfon i Jesreel.
II K WelBeibl 10:8  Pan ddaeth y neges fod y pennau wedi cyrraedd, dyma Jehw yn dweud, “Rhowch nhw mewn dau bentwr wrth giât y ddinas, a'i gadael nhw yno tan y bore.”
II K WelBeibl 10:9  Yna'r bore wedyn dyma Jehw yn mynd allan yno, a dweud wrth y bobl, “Dych chi ddim ar fai. Fi ydy'r un wnaeth gynllwynio yn erbyn y Brenin Joram, fy meistr, a'i ladd. Ond pwy laddodd y rhain?
II K WelBeibl 10:10  Mae'n hollol amlwg fod popeth ddwedodd yr ARGLWYDD yn erbyn teulu Ahab wedi dod yn wir. Fe sydd wedi gwneud yn union fel roedd wedi'i addo drwy ei was Elias.”
II K WelBeibl 10:11  Yna dyma Jehw yn mynd ati i ladd pawb oedd ar ôl o deulu Ahab yn Jesreel, y rhai oedd wedi bod mewn swyddi amlwg yn ei lys, ei ffrindiau a'r offeiriaid oedd gydag e. Gafodd neb ei adael yn fyw.
II K WelBeibl 10:12  Dyma Jehw yn cychwyn am Samaria. Ar y ffordd yno, wrth Beth-eced y Bugeiliaid,
II K WelBeibl 10:13  dyma fe'n dod ar draws rhai o berthnasau Ahaseia, brenin Jwda. “Pwy ydych chi?” gofynnodd iddyn nhw. A dyma nhw'n ateb, “Perthnasau i Ahaseia. Dŷn ni ar ein ffordd i ymweld â plant y brenin a phlant y fam-frenhines.”
II K WelBeibl 10:14  Yna dyma Jehw'n gorchymyn i'w filwyr, “Daliwch nhw'n fyw!” Dyma nhw'n eu dal nhw, ac yna mynd â nhw at bydew Beth-eced a'u lladd nhw i gyd yno, pedwar deg dau ohonyn nhw.
II K WelBeibl 10:15  Wrth adael y fan honno dyma Jehw yn dod ar draws Jonadab fab Rechab oedd wedi bod yn chwilio amdano. Dyma Jehw'n ei gyfarch a gofyn iddo, “Wyt ti'n fy nghefnogi i fel dw i ti?” “Ydw,” meddai Jonadab. “Felly rho dy law i mi,” meddai Jehw. Dyma fe'n estyn ei law, a dyma Jehw yn ei godi ato i'w gerbyd.
II K WelBeibl 10:16  Yna dwedodd wrtho, “Tyrd gyda mi, i ti gael gweld gymaint dw i ar dân dros yr ARGLWYDD.” A dyma Jonadab yn mynd gydag e yn ei gerbyd
II K WelBeibl 10:17  i Samaria. Ar ôl cyrraedd yno, dyma Jehw yn lladd pawb oedd ar ôl o deulu Ahab, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Elias.
II K WelBeibl 10:18  Wedyn, casglodd Jehw y bobl i gyd at ei gilydd, a dweud, wrthyn nhw, “Roedd Ahab yn addoli Baal rhywfaint, ond dw i, Jehw, yn mynd i'w addoli o ddifrif.
II K WelBeibl 10:19  Dw i am gynnal aberth mawr i Baal. Felly galwch broffwydi Baal i gyd at ei gilydd, a'i addolwyr a'i offeiriaid. Peidiwch a gadael neb allan. Bydd unrhyw un sy'n absennol yn cael ei ladd.” (Ond tric cyfrwys oedd y cwbl. Roedd Jehw yn bwriadu lladd addolwyr Baal.)
II K WelBeibl 10:20  Yna dyma Jehw yn gorchymyn, “Trefnwch ddathliad sbesial i addoli Baal!” A dyma nhw'n gwneud hynny.
II K WelBeibl 10:21  Dyma Jehw yn anfon neges i bob rhan o wlad Israel. A dyma bawb oedd yn addoli Baal yn dod at ei gilydd – doedd neb yn absennol. Roedd teml Baal yn llawn i'r ymylon!
II K WelBeibl 10:22  Yna dyma Jehw yn dweud wrth yr un oedd yn gofalu am y gwisgoedd, “Tyrd â gwisg i bob un o'r addolwyr.” A dyma fe'n gwneud hynny.
II K WelBeibl 10:23  Yna dyma Jehw a Jonadab fab Rechab yn mynd i deml Baal. A dyma Jehw yn dweud wrth addolwyr Baal, “Gwnewch yn siŵr fod yna neb yma sy'n addoli'r ARGLWYDD. Dim ond addolwyr Baal sydd i fod yma.”
II K WelBeibl 10:24  Yna dyma nhw'n dechrau aberthu a chyflwyno offrymau i'w llosgi i Baal. Roedd Jehw wedi gosod wyth deg o ddynion tu allan i'r deml. Ac roedd wedi dweud wrthyn nhw, “Os bydd rhywun yn gadael i un o'r bobl yma ddianc, bydd yn talu gyda'i fywyd!”
II K WelBeibl 10:25  Ar ôl gorffen cyflwyno'r offrwm i'w losgi, dyma Jehw yn rhoi gorchymyn i'r gwarchodlu a'i swyddogion, “Ewch i mewn a lladdwch bawb. Peidiwch gadael i neb ddianc.” A dyma nhw'n eu lladd nhw i gyd a gadael y cyrff yn gorwedd yno. Yna dyma'r gwarchodlu a'r swyddogion yn rhuthro i mewn i gysegr mewnol teml Baal,
II K WelBeibl 10:27  Dyma nhw'n dinistrio'r golofn a theml Baal hefyd. Mae'r safle'n cael ei ddefnyddio fel toiledau cyhoeddus hyd heddiw.
II K WelBeibl 10:28  Felly roedd Jehw wedi cael gwared ag addoli Baal o wlad Israel.
II K WelBeibl 10:29  Ond wnaeth e ddim stopio pobl addoli'r eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu. Roedd y ddau darw ifanc aur yn dal yn Bethel ac yn Dan.
II K WelBeibl 10:30  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jehw, “Ti wedi gwneud yn dda iawn a'm plesio i, a gwneud beth roeddwn i eisiau'i weld yn digwydd i linach Ahab. Felly, bydd dy ddisgynyddion di yn teyrnasu ar wlad Israel am bedair cenhedlaeth ar dy ôl.”
II K WelBeibl 10:31  Ac eto doedd Jehw ddim yn gwbl ufudd i ddeddfau'r ARGLWYDD, Duw Israel. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam wedi'u codi i wneud i Israel bechu.
II K WelBeibl 10:32  Tua'r adeg yna dyma'r ARGLWYDD yn dechrau cymryd tir oddi ar Israel. Roedd Hasael yn ymosod ar ffiniau Israel i gyd.
II K WelBeibl 10:33  Concrodd diroedd Gilead, sydd i'r dwyrain o afon Iorddonen (sef tir llwythau Gad, Reuben a Manasse). Tir sy'n ymestyn yr holl ffordd o dref Aroer yn nyffryn Arnon, drwy Gilead i ardal Bashan.
II K WelBeibl 10:34  Mae gweddill hanes Jehw – y cwbl wnaeth e a'i lwyddiant milwrol – i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
II K WelBeibl 10:35  Pan fuodd Jehw farw, cafodd ei gladdu yn Samaria, a dyma'i fab, Jehoachas, yn dod yn frenin yn ei le.
II K WelBeibl 10:36  Roedd Jehw wedi bod yn frenin ar Israel am ddau ddeg wyth o flynyddoedd.
Chapter 11
II K WelBeibl 11:1  Pan glywodd Athaleia fod ei mab Ahaseia (brenin Jwda) wedi marw, dyma hi'n mynd ati i gael gwared â'r llinach frenhinol i gyd.
II K WelBeibl 11:2  Ond roedd gan Ahaseia chwaer, Jehosheba, merch i'r brenin Jehoram. Dyma hi'n cymryd Joas, mab Ahaseia, a'i sleifio i ffwrdd oddi wrth aelodau eraill y teulu brenhinol cyn iddyn nhw gael eu lladd. A dyma fe'n cael ei guddio gyda'i nyrs yn un o ystafelloedd gwely'r offeiriaid yn y deml. Felly wnaeth Athaleia ddim dod o hyd iddo, a chafodd e mo'i ladd ganddi.
II K WelBeibl 11:3  Bu'n cuddio gyda'i nyrs yn y deml am chwe mlynedd, tra oedd Athaleia'n rheoli'r wlad.
II K WelBeibl 11:4  Yna yn y seithfed flwyddyn dyma Jehoiada yn galw capteniaid y Cariaid (oedd yn arwain unedau o gannoedd) a'r gwarchodlu brenhinol i fynd i'w weld. Dyma fe'n cyfarfod gyda nhw, ac ar ôl dod i gytundeb, yn gwneud iddyn nhw gymryd llw yn y deml. Yna dyma fe'n dangos mab y brenin iddyn nhw,
II K WelBeibl 11:5  a gorchymyn, “Dyma dych chi i'w wneud: Ar y Saboth bydd un rhan o dair o'r unedau sydd ar ddyletswydd, yn gwarchod y palas.
II K WelBeibl 11:6  Bydd un rhan o dair wedi cymryd eu lle wrth giât Swr, a'r gweddill wrth y giât sydd tu ôl i'r gwarchodlu brenhinol.
II K WelBeibl 11:7  Bydd y ddwy uned sydd ddim ar ddyletswydd ar y Saboth yn dod i warchod y deml ac amddiffyn y brenin.
II K WelBeibl 11:8  Rhaid i chi sefyll o'i gwmpas gyda'ch arfau yn eich dwylo. Os bydd unrhyw un yn dod yn agos atoch, lladdwch e. Dych chi i aros gyda'r brenin ble bynnag mae'n mynd.”
II K WelBeibl 11:9  Dyma gapteiniaid yr unedau yn gwneud yn union fel roedd Jehoiada'r offeiriad wedi dweud. Dyma pob un yn cymryd ei uned (y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth a'r rhai oedd yn rhydd), a dod â nhw at Jehoiada.
II K WelBeibl 11:10  Dyma'r offeiriad yn rhoi gwaywffyn a tharianau i'r capteniaid, sef arfau y Brenin Dafydd oedd yn cael eu cadw yn nheml yr ARGLWYDD.
II K WelBeibl 11:11  Yna dyma'r gwarchodlu brenhinol yn cymryd eu lle, gyda'u harfau yn eu dwylo. Roedden nhw'n sefyll mewn llinell o un ochr i'r deml i'r llall, wrth yr allor ac ym mhob rhan o'r deml, i amddiffyn y brenin.
II K WelBeibl 11:12  Wedyn dyma Jehoiada yn dod â mab y brenin allan, a rhoi'r goron ar ei ben a chopi o'r rheolau sy'n dweud sut i lywodraethu. A dyma nhw'n cyhoeddi mai Joas oedd y brenin, ei eneinio drwy dywallt olew ar ei ben, curo dwylo a gweiddi, “Hir oes i'r brenin!”
II K WelBeibl 11:13  Dyma Athaleia'n clywed sŵn y gwarchodlu a'r bobl, a mynd atyn nhw i'r deml.
II K WelBeibl 11:14  Yno dyma hi'n gweld y brenin yn sefyll wrth y piler yn ôl y ddefod. Roedd y capteiniaid a'r trwmpedwyr o'i gwmpas, y bobl i gyd yn dathlu a'r utgyrn yn canu ffanffer. Pan welodd hi hyn i gyd, dyma hi'n rhwygo'i dillad a sgrechian gweiddi, “Brad! Brad!”
II K WelBeibl 11:15  Yna dyma Jehoiada'r offeiriad yn galw capteniaid y gwarchodlu, oedd yn arwain y milwyr, a dweud wrthyn nhw, “Ewch â hi allan o'r deml heibio'r rhengoedd, a lladdwch unrhyw un sydd gyda hi. Rhaid peidio ei lladd yn y deml.”
II K WelBeibl 11:16  Felly dyma nhw'n ei harestio hi a mynd â hi i'r palas brenhinol drwy'r fynedfa i'r stablau. A dyna lle cafodd hi ei lladd.
II K WelBeibl 11:17  Dyma Jehoiada yn selio'r ymrwymiad rhwng yr ARGLWYDD â'r brenin a'i bobl, iddyn nhw fod yn bobl ffyddlon i'r ARGLWYDD. Gwnaeth gytundeb rhwng y brenin a'r bobl hefyd.
II K WelBeibl 11:18  Yna aeth y dyrfa i gyd i mewn i deml Baal a'i dinistrio. Dyma nhw'n chwalu'r allorau a malu'r delwau i gyd yn ddarnau mân, a chafodd Mattan, offeiriad Baal, ei ladd o flaen yr allorau. Roedd Jehoiada'r offeiriad wedi gosod gwarchodlu i wylio teml yr ARGLWYDD.
II K WelBeibl 11:19  Yna dyma fe'n galw capteniaid y Cariaid (oedd yn arwain unedau o gannoedd) a'r gwarchodlu brenhinol, a'r bobl i gyd. A dyma nhw'n arwain y brenin mewn prosesiwn o'r deml i'r palas drwy Giât y Gwarchodlu Brenhinol. A dyma'r brenin yn eistedd ar yr orsedd.
II K WelBeibl 11:20  Roedd pawb drwy'r wlad i gyd yn dathlu. Roedd y ddinas yn heddychlon eto, ac Athaleia wedi cael ei lladd yn y palas.
II K WelBeibl 11:21  Dim ond saith oed oedd Joas pan gafodd ei wneud yn frenin ar Jwda.
Chapter 12
II K WelBeibl 12:1  Cafodd Joas ei wneud yn frenin yn ystod seithfed flwyddyn Jehw fel brenin Israel. Bu'n frenin yn Jerwsalem am bedwar deg o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Tsifia, ac roedd hi'n dod o Beersheba.
II K WelBeibl 12:2  Yr holl amser y buodd e'n frenin, gwnaeth Joas beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, fel roedd Jehoiada'r offeiriad wedi'i ddysgu.
II K WelBeibl 12:3  Ond er hynny wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol. Roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.
II K WelBeibl 12:4  Dwedodd Joas wrth yr offeiriaid, “Cymrwch yr arian sydd wedi cael ei gysegru i'r deml – treth y cyfrifiad, y pris dalwyd am unigolion, a'r rhoddion gwirfoddol.
II K WelBeibl 12:5  A defnyddiwch yr arian o'ch incwm personol hefyd i dalu am atgyweirio'r deml.”
II K WelBeibl 12:6  Ond hyd yn oed pan oedd Joas wedi bod yn frenin am ddau ddeg tair o flynyddoedd, doedd yr offeiriaid yn dal ddim wedi atgyweirio'r deml.
II K WelBeibl 12:7  Felly dyma'r Brenin Joas yn galw Jehoiada a'r offeiriaid eraill i'w weld, a gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi ddim wedi atgyweirio'r deml? O hyn ymlaen dych chi ddim i gadw unrhyw arian sy'n cael ei roi i chi. Rhaid i'r cwbl fynd tuag at atgyweirio'r deml.”
II K WelBeibl 12:8  Felly dyma'r offeiriaid yn cytuno i beidio cymryd mwy o arian gan y bobl, ac i roi heibio'r cyfrifoldeb i atgyweirio'r deml.
II K WelBeibl 12:9  Dyma Jehoiada'r offeiriad yn cymryd cist a gwneud twll yn y caead. Yna dyma fe'n rhoi'r gist ar yr ochr dde i'r allor, wrth y fynedfa i'r deml. Roedd y porthorion yn rhoi'r holl arian roedd pobl yn ei gyfrannu yn y gist.
II K WelBeibl 12:10  Pan oedden nhw'n gweld fod y gist yn llawn, roedd ysgrifennydd y brenin a'r archoffeiriad yn cyfri'r arian a'i roi mewn bagiau.
II K WelBeibl 12:11  Yna roedden nhw'n ei roi i'r fformyn oedd yn gyfrifol am y gwaith atgyweirio. Roedden nhw wedyn yn ei ddefnyddio i dalu'r seiri coed a'r adeiladwyr oedd yn gweithio ar y deml –
II K WelBeibl 12:12  i'r dynion oedd yn adeiladu'r waliau a'r seiri maen, a hefyd i brynu coed, cerrig wedi'u naddu ac unrhyw beth arall oedd angen ar gyfer y gwaith.
II K WelBeibl 12:13  Tra oedd y gwaith o atgyweirio'r deml yn digwydd, gafodd dim o'r arian ei ddefnyddio i dalu am bowlenni arian, sisyrnau, dysglau, utgyrn nac unrhyw gelfi aur ac arian eraill i'r deml.
II K WelBeibl 12:14  Roedd y cwbl yn cael ei roi i'r fformyn oedd yn arolygu'r gwaith o atgyweirio teml yr ARGLWYDD.
II K WelBeibl 12:15  Doedd dim rhaid cadw cyfrifon manwl o'r arian oedd yn cael ei roi iddyn nhw, am eu bod yn gwbl onest.
II K WelBeibl 12:16  (Ond doedd yr arian oedd yn cael ei dalu gyda'r offrwm i gyfaddef bai a'r aberth i buro o bechod ddim yn dod i'r deml. Yr offeiriaid oedd yn cael hwnnw.)
II K WelBeibl 12:17  Bryd hynny dyma Hasael, brenin Syria, yn ymosod ar dre Gath a'i choncro. Yna dyma fe'n penderfynu ymosod ar Jerwsalem.
II K WelBeibl 12:18  Ond dyma Joas, brenin Jwda, yn talu arian mawr iddo beidio ymosod. Cymerodd Joas y cwbl roedd e a'r brenhinoedd o'i flaen (sef Jehosaffat, Jehoram ac Ahaseia) wedi'i gysegru i'r ARGLWYDD. Cymerodd yr aur oedd yn stordai'r deml a'r palas hefyd, ac anfon y cwbl i Hasael brenin Syria; a dyma Hasael a'i fyddin yn troi'n ôl a pheidio ymosod ar Jerwsalem.
II K WelBeibl 12:19  Mae gweddill hanes Joas, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl, Hanes Brenhinoedd Jwda.
II K WelBeibl 12:20  Dyma Iosafad fab Shimeath a Iehosafad fab Shomer, swyddogion Joas, yn cynllwynio yn ei erbyn a'i ladd yn Beth-milo (sydd ar y ffordd i lawr i Sila). Cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd, a dyma'i fab, Amaseia, yn dod yn frenin yn ei le.
II K WelBeibl 12:21  Dyma Iosafad fab Shimeath a Iehosafad fab Shomer, swyddogion Joas, yn cynllwynio yn ei erbyn a'i ladd yn Beth-milo (sydd ar y ffordd i lawr i Sila). Cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd, a dyma'i fab, Amaseia, yn dod yn frenin yn ei le.
Chapter 13
II K WelBeibl 13:1  Pan oedd Joas fab Ahaseia wedi bod yn frenin ar Jwda am ddau ddeg tair o flynyddoedd, dyma Jehoachas, mab Jehw, yn dod yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am un deg saith o flynyddoedd.
II K WelBeibl 13:2  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Roedd e'n dal i addoli'r eilunod wnaeth Jeroboam fab Nebat eu codi, y rhai oedd wedi gwneud i Israel bechu; wnaeth e ddim troi cefn arnyn nhw.
II K WelBeibl 13:3  Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. Dyma fe'n gadael i Hasael, brenin Syria a'i fab Ben-hadad, eu rheoli nhw am flynyddoedd lawer.
II K WelBeibl 13:4  Ond dyma Jehoachas yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma'r ARGLWYDD yn gwrando am ei fod wedi gweld fel roedd Israel yn dioddef o dan frenin Syria.
II K WelBeibl 13:5  Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon un i achub Israel oddi wrth Syria, a chafodd y bobl fynd i fyw yn eu cartrefi eu hunain eto, fel o'r blaen.
II K WelBeibl 13:6  Ond wnaethon nhw ddim troi'u cefnau ar eilunod teulu Jeroboam oedd wedi gwneud i Israel bechu. Roedden nhw'n dal ati i bechu fel o'r blaen. Roedd hyd yn oed polyn i'r dduwies Ashera yn dal yn Samaria.
II K WelBeibl 13:7  Doedd gan Jehoachas ddim byddin ar ôl chwaith, dim ond pum deg o geffylau, deg cerbyd a deg mil o filwyr troed. Roedd brenin Syria wedi'u dinistrio nhw a'u sathru nhw dan draed fel llwch mân ar lawr dyrnu.
II K WelBeibl 13:8  Mae gweddill hanes Jehoachas – y cwbl wnaeth e a'i lwyddiant milwrol – i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
II K WelBeibl 13:9  Bu Jehoachas farw a chael ei gladdu yn Samaria, a dyma'i fab, Jehoas yn dod yn frenin yn ei le.
II K WelBeibl 13:10  Roedd Joas wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Jehoas fab Jehoachas yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am un deg chwech o flynyddoedd.
II K WelBeibl 13:11  Gwnaeth yntau hefyd bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gwrthod troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu. Roedd e'n byw yr un fath.
II K WelBeibl 13:12  Mae gweddill hanes Jehoas – y cwbl wnaeth e, ei lwyddiant milwrol a'i ddewrder yn y rhyfel yn erbyn Amaseia, brenin Jwda – i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
II K WelBeibl 13:13  Pan fuodd Jehoas farw cafodd ei gladdu yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a dyma'i fab, Jeroboam, yn eistedd ar yr orsedd yn ei le.
II K WelBeibl 13:14  Pan oedd Eliseus yn sâl ac ar ei wely angau aeth Jehoas, brenin Israel, i'w weld. Dyma Jehoas yn torri i lawr i grio o'i flaen a dweud, “Fy nhad, fy nhad! Ti ydy arfau a byddin Israel!”
II K WelBeibl 13:15  Meddai Eliseus wrtho, “Tyrd â dy fwa a dy saethau yma.” A dyma fe'n gwneud hynny.
II K WelBeibl 13:16  Wedyn dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Gafael yn y bwa.” Yna dyma Eliseus yn rhoi ei ddwylo ar ddwylo'r brenin.
II K WelBeibl 13:17  Wedyn dyma fe'n dweud wrtho, “Agor y ffenest sy'n wynebu'r dwyrain.” Dyma fe'n agor y ffenest. Yna dyma Eliseus yn dweud, “Saetha!” A dyma fe'n saethu. “Mae'r saeth yna'n symbol o fuddugoliaeth yr ARGLWYDD. Saeth buddugoliaeth dros Syria. Byddi di'n ymosod ar Syria yn Affec ac yn ei difa nhw'n llwyr.”
II K WelBeibl 13:18  Yna dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Cymer y saethau, a tharo'r llawr gyda nhw.” Felly dyma'r brenin yn gafael yn y saethau a tharo'r llawr dair gwaith, ac yna stopio.
II K WelBeibl 13:19  Roedd y proffwyd yn flin gydag e. “Dylet ti fod wedi taro'r llawr bump neu chwe gwaith! Byddai hynny'n dangos dy fod yn mynd i ddinistrio Syria'n llwyr. Ond nawr dim ond tair gwaith fyddi di'n eu curo nhw.”
II K WelBeibl 13:20  Bu farw Eliseus a chafodd ei gladdu. Roedd criwiau o ddynion o Moab yn arfer ymosod ar y wlad bob gwanwyn.
II K WelBeibl 13:21  Un tro digwyddodd hynny pan oedd rhyw ddyn yn cael ei gladdu. Dyma'r bobl oedd yn ei gladdu yn gweld un o'r criwiau yna o Moab yn dod, felly dyma nhw'n taflu corff y dyn marw i mewn i fedd Eliseus a dianc. Pan gyffyrddodd y corff esgyrn Eliseus, daeth yn ôl yn fyw a chodi ar ei draed.
II K WelBeibl 13:22  Roedd Hasael, brenin Syria, wedi bod yn cam-drin Israel ar hyd cyfnod Jehoachas fel brenin.
II K WelBeibl 13:23  Ond dyma'r ARGLWYDD yn tosturio a dangos trugaredd atyn nhw. Roedd yn garedig atyn nhw oherwydd ei ymrwymiad gydag Abraham, Isaac a Jacob. (Hyd heddiw mae e'n dal i wrthod eu dinistrio nhw na chael gwared â nhw!)
II K WelBeibl 13:24  Pan fuodd Hasael, brenin Syria, farw, daeth ei fab Ben-hadad yn frenin yn ei le.
II K WelBeibl 13:25  Yna dyma Jehoas fab Jehoachas yn ennill tair brwydr yn erbyn Ben-hadad a chymryd yn ôl y trefi roedd Hasael wedi'u dwyn oddi ar ei dad.
Chapter 14
II K WelBeibl 14:1  Dyma Amaseia, mab Joas, yn dod yn frenin ar Jwda yn ail flwyddyn Jehoas fab Jehoachas fel brenin Israel.
II K WelBeibl 14:2  Roedd yn ddau ddeg pump pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iehoadan, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem.
II K WelBeibl 14:3  Roedd Amaseia yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, er, ddim fel gwnaeth y Brenin Dafydd, ei hynafiad. Roedd yn union yr un fath â'i dad Joas.
II K WelBeibl 14:4  Wnaeth yntau ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.
II K WelBeibl 14:5  Ar ôl gwneud yn siŵr fod ei afael ar y deyrnas yn ddiogel, dyma fe'n dienyddio'r swyddogion hynny oedd wedi llofruddio ei dad, y brenin.
II K WelBeibl 14:6  Ond wnaeth e ddim lladd plant y llofruddion, am fod sgrôl Cyfraith Moses yn dweud fod yr ARGLWYDD wedi gorchymyn: “Ddylai rhieni ddim cael eu lladd am droseddau'u plant, na'r plant am droseddau'u rhieni. Dim ond y troseddwr ei hun ddylai farw.”
II K WelBeibl 14:7  Lladdodd ddeg mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen, a chipio dinas Sela yn y frwydr. Newidiodd ei henw i Iocteël; a dyna'r enw arni hyd heddiw.
II K WelBeibl 14:8  Yna dyma Amaseia'n anfon negeswyr at Jehoas, brenin Israel (mab Jehoachas ac ŵyr Jehw). Y neges oedd, “Tyrd, gad i ni wynebu'n gilydd mewn brwydr.”
II K WelBeibl 14:9  Dyma Jehoas, brenin Israel, yn anfon neges yn ôl at Amaseia yn dweud: “Un tro yn Libanus dyma ddraenen fach yn afon neges at goeden gedrwydd fawr i ddweud, ‘Rho dy ferch yn wraig i fy mab i.’ Ond dyma anifail gwyllt yn dod heibio a sathru'r ddraenen dan draed!
II K WelBeibl 14:10  Mae'n wir dy fod ti wedi gorchfygu Edom Amaseia, ond mae wedi mynd i dy ben di! Mwynha dy lwyddiant ac aros adre. Wyt ti'n edrych am drwbwl? Dw i'n dy rybuddio di, byddi di a dy deyrnas yn syrthio gyda'ch gilydd!”
II K WelBeibl 14:11  Ond doedd Amaseia ddim am wrando. Felly dyma Jehoas, brenin Israel, yn mynd i ryfel yn ei erbyn. Dyma'r ddwy fyddin yn dod wyneb yn wyneb yn Beth-shemesh ar dir Jwda.
II K WelBeibl 14:12  Byddin Israel wnaeth ennill y frwydr, a dyma filwyr Jwda i gyd yn dianc am adre.
II K WelBeibl 14:13  Roedd Jehoas, brenin Israel, wedi dal Amaseia, brenin Jwda, yn Beth-shemesh. Yna dyma fe'n mynd ymlaen i Jerwsalem a chwalu waliau'r ddinas o Giât Effraim at Giât y Gornel, pellter o bron i ddau can metr.
II K WelBeibl 14:14  Cymerodd yr holl aur ac arian, a'r llestri oedd yn y deml ac yn storfa'r palas. Cymerodd wystlon hefyd, ac yna mynd yn ôl i Samaria.
II K WelBeibl 14:15  Mae gweddill hanes Jehoas – y cwbl wnaeth e, ei lwyddiant milwrol a'i ddewrder yn y rhyfel yn erbyn Amaseia, brenin Jwda – i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
II K WelBeibl 14:16  Pan fuodd Jehoas farw cafodd ei gladdu yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a dyma'i fab, Jeroboam, yn dod yn frenin yn ei le.
II K WelBeibl 14:17  Buodd Amaseia fab Joas, brenin Jwda, fyw am un deg pump o flynyddoedd ar ôl i Jehoas, brenin Israel, farw.
II K WelBeibl 14:18  Mae gweddill hanes Amaseia i'w gael yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
II K WelBeibl 14:19  Am fod rhyw bobl yn Jerwsalem wedi cynllwynio yn ei erbyn, dyma fe'n dianc i Lachish. Ond dyma nhw'n anfon dynion ar ei ôl a'i ladd yno.
II K WelBeibl 14:20  Cafodd y corff ei gymryd yn ôl i Jerwsalem ar geffylau, a chafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd gyda'i hynafiaid.
II K WelBeibl 14:21  Yna dyma bobl Jwda i gyd yn cymryd Wseia, mab Amaseia, oedd yn un deg chwech oed, a'i wneud e'n frenin yn lle ei dad.
II K WelBeibl 14:22  (Wseia wnaeth ennill tref Elat yn ôl i Jwda a'i hailadeiladu ar ôl i'w dad Amaseia farw.)
II K WelBeibl 14:23  Pan oedd Amaseia fab Joas, wedi bod yn frenin Jwda am un deg pump o flynyddoedd, dyma Jeroboam fab Jehoas yn dod yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am bedwar deg un o flynyddoedd.
II K WelBeibl 14:24  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gwrthod troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu.
II K WelBeibl 14:25  Enillodd dir yn ôl i Israel nes bod y ffin yn mynd o Fwlch Chamath yn y gogledd i'r Môr Marw yn y de. Roedd yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi dweud y byddai'n gwneud hynny drwy ei was Jona fab Amittai, y proffwyd o Gath-heffer.
II K WelBeibl 14:26  Roedd yr ARGLWYDD wedi gweld bod pobl Israel yn cael eu cam-drin yn erchyll; doedd neb o gwbl ar ôl, caeth na rhydd, i'w helpu nhw.
II K WelBeibl 14:27  Ond doedd yr ARGLWYDD ddim am gael gwared ag Israel yn llwyr, felly dyma fe'n anfon Jeroboam fab Jehoas i'w hachub nhw.
II K WelBeibl 14:28  Mae gweddill hanes Jeroboam – y cwbl wnaeth e ei gyflawni a'i lwyddiant milwrol yn adennill rheolaeth dros drefi Damascus a Chamath – i gyd i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
II K WelBeibl 14:29  Bu farw Jeroboam a chafodd ei gladdu gyda brenhinoedd Israel. A dyma Sechareia, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.
Chapter 15
II K WelBeibl 15:1  Pan oedd Jeroboam wedi bod yn frenin ar Israel am ddau ddeg saith o flynyddoedd, dyma Wseia, mab Amaseia, yn dod yn frenin ar Jwda.
II K WelBeibl 15:2  Un deg chwech oedd e pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg dwy o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iecholeia, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem.
II K WelBeibl 15:3  Fel ei dad Amaseia roedd Wseia yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
II K WelBeibl 15:4  Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.
II K WelBeibl 15:5  Dyma'r ARGLWYDD yn ei daro'n wael – bu'n dioddef o glefyd heintus ar y croen nes iddo farw. Roedd rhaid iddo fyw ar wahân i bawb am weddill ei oes. Jotham, mab y brenin, oedd yn rhedeg y palas ac yn rheoli'r wlad bryd hynny.
II K WelBeibl 15:6  Mae gweddill hanes Wseia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
II K WelBeibl 15:7  Pan fuodd Wseia farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd. Yna daeth Jotham, ei fab, yn frenin yn ei le.
II K WelBeibl 15:8  Pan oedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd daeth Sechareia fab Jeroboam yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am chwe mis.
II K WelBeibl 15:9  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei hynafiaid o'i flaen. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu.
II K WelBeibl 15:10  Dyma Shalwm fab Jabesh, yn cynllwynio yn ei erbyn a'i ladd o flaen pawb, yna dod yn frenin yn ei le.
II K WelBeibl 15:11  Mae gweddill hanes Sechareia i'w gael yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
II K WelBeibl 15:12  Roedd y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jehw wedi dod yn wir: “Bydd dy ddisgynyddion di yn teyrnasu ar wlad Israel am bedair cenhedlaeth ar dy ôl.” A dyna'n union oedd wedi digwydd.
II K WelBeibl 15:13  Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd pan ddaeth Shalwm fab Jabesh yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am fis.
II K WelBeibl 15:14  Roedd Menachem fab Gadi wedi dod o Tirtsa i Samaria, lladd Shalwm, a chymryd ei le fel brenin.
II K WelBeibl 15:15  Mae gweddill hanes Shalwm, a'r cynllwyn drefnodd e, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
II K WelBeibl 15:16  Pan ddaeth Menachem o Tirtsa aeth i ymosod ar dre Tiffsa am i'r bobl yno wrthod ei dderbyn. Lladdodd bawb oedd yn byw yn y dre ac yn yr ardal o'i chwmpas, a hyd yn oed rhwygo'n agored yr holl wragedd beichiog oedd yno.
II K WelBeibl 15:17  Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd pan ddaeth Menachem fab Gadi yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ddeg mlynedd.
II K WelBeibl 15:18  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ar hyd ei oes. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu.
II K WelBeibl 15:19  Pan oedd Menachem yn frenin dyma Tiglath-Pileser, brenin Asyria, yn ymosod ar y wlad. Ond dyma Menachem yn rhoi tri deg tair tunnell o arian iddo, er mwyn ennill ei gefnogaeth a chadw'i afael yn ei safle fel brenin.
II K WelBeibl 15:20  Roedd Menachem wedi codi'r arian drwy drethu pobl gyfoethog Israel. Cododd dreth o dros bum can gram o arian ar bob un ohonyn nhw, a'i dalu i frenin Asyria. Felly dyma fyddin Tiglath-Pileser yn troi'n ôl; wnaethon nhw ddim aros yn y wlad.
II K WelBeibl 15:21  Mae gweddill hanes Menachem, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
II K WelBeibl 15:22  Pan fu farw Menachem, dyma'i fab, Pecacheia, yn dod yn frenin yn ei le.
II K WelBeibl 15:23  Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am bum deg o flynyddoedd pan ddaeth Pecacheia, mab Menachem, yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ddwy flynedd.
II K WelBeibl 15:24  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu.
II K WelBeibl 15:25  Dyma'i is-gapten, Pecach fab Remaleia, yn cynllwynio yn ei erbyn. Aeth gyda hanner cant o ddynion o Gilead, a thorri i mewn i gaer y palas a lladd y Brenin Pecacheia, Argob ac Arie. Yna dyma Pecach yn cymryd ei le fel brenin.
II K WelBeibl 15:26  Mae gweddill hanes Pecacheia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
II K WelBeibl 15:27  Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am bum deg dwy o flynyddoedd, pan ddaeth Pecach fab Remaleia, yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ugain mlynedd.
II K WelBeibl 15:28  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu.
II K WelBeibl 15:29  Pan oedd Pecach yn frenin ar Israel, dyma Tiglath-pileser, brenin Asyria, yn dod a gorchfygu gogledd y wlad i gyd – trefi Îon, Abel-beth-maacha, Ianoach, Cedesh, a Chatsor, hefyd ardaloedd Gilead, Galilea, a thir Nafftali i gyd. A dyma fe'n mynd â'r bobl i gyd yn gaethion i Asyria.
II K WelBeibl 15:30  Yna dyma Hoshea fab Ela yn cynllwynio yn erbyn Pecach, ei ladd, a dod yn frenin yn ei le. Digwyddodd hyn pan oedd Jotham fab Wseia, wedi bod yn frenin am ugain mlynedd.
II K WelBeibl 15:31  Mae gweddill hanes Pecach, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
II K WelBeibl 15:32  Yn ystod yr ail flwyddyn i Pecach fab Remaleia fel brenin ar Israel, daeth Jotham fab Wseia yn frenin at Jwda.
II K WelBeibl 15:33  Roedd yn ddau ddeg pump pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Ierwsa, merch Sadoc.
II K WelBeibl 15:34  Fel ei dad Wseia, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
II K WelBeibl 15:35  Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw. Jotham wnaeth adeiladu Giât Uchaf y deml.
II K WelBeibl 15:36  Mae gweddill hanes Jotham, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
II K WelBeibl 15:37  Dyma pryd wnaeth yr ARGLWYDD ddechrau anfon Resin, brenin Syria, a Pecach fab Remaleia, i ymosod ar Jwda.
II K WelBeibl 15:38  Pan fuodd Jotham farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd; a daeth ei fab Ahas yn frenin yn ei le.
Chapter 16
II K WelBeibl 16:1  Pan oedd Pecach fab Remaleia wedi bod yn frenin ar Israel am un deg saith o flynyddoedd daeth Ahas fab Jotham yn frenin ar Jwda.
II K WelBeibl 16:2  Roedd Ahas yn ugain oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Ond wnaeth e ddim plesio'r ARGLWYDD ei Dduw fel roedd y Brenin Dafydd wedi gwneud.
II K WelBeibl 16:3  Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel. Ac yn waeth fyth, dyma fe'n llosgi ei fab yn aberth – arferiad cwbl ffiaidd y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.
II K WelBeibl 16:4  Roedd yn aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth ar yr allorau lleol ar y bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog.
II K WelBeibl 16:5  Yna dyma Resin, brenin Syria, a Pecach fab Remaleia, brenin Israel, yn dod i ryfela yn erbyn Jerwsalem. Dyma nhw'n gwarchae ar Ahas, ond roedden nhw'n methu ei goncro.
II K WelBeibl 16:6  (Tua'r adeg yna hefyd roedd Resin, brenin Syria, wedi llwyddo i ennill dinas Elat yn ôl i Syria. Gyrrodd bobl Jwda allan o Elat, a daeth pobl o Edom yn ôl i fyw yno. Maen nhw'n dal yno hyd heddiw.)
II K WelBeibl 16:7  Yna dyma Ahas yn anfon y neges yma at Tiglath-pileser, brenin Asyria: “Dy was di ydw i, a dw i'n dibynnu arnat ti. Mae brenin Syria a brenin Israel yn ymosod arna i. Plîs wnei di ddod i'm hachub i.”
II K WelBeibl 16:8  Roedd Ahas wedi cymryd yr aur a'r arian oedd yn y deml ac yn storfa'r palas, a'i anfon yn dâl i frenin Asyria.
II K WelBeibl 16:9  A dyma frenin Asyria yn cytuno ac yn anfon ei fyddin i ymosod ar Syria. Dyma nhw'n concro dinas Damascus, cymryd y bobl yno yn gaethion i Cir a lladd y Brenin Resin.
II K WelBeibl 16:10  Pan aeth y Brenin Ahas i gyfarfod Tiglath-pileser, brenin Asyria, yn Damascus, dyma fe'n gweld yr allor oedd yno. Anfonodd fodel o'r allor, ei chynllun a'r holl fanylion am sut roedd wedi cael ei gwneud, at Wreia yr offeiriad.
II K WelBeibl 16:11  A dyma Wreia yr offeiriad yn gwneud copi o'r allor oedd yn union fel y cynllun anfonodd y Brenin Ahas iddo. Roedd yr allor yn barod erbyn i'r brenin Ahas gyrraedd yn ôl o Damascus.
II K WelBeibl 16:12  Pan aeth y brenin i weld yr allor dyma fe'n mynd i fyny ati
II K WelBeibl 16:13  a chyflwyno offrwm i'w losgi ac offrwm o rawn arni. Tywalltodd offrwm o ddiod arni, a sblasio gwaed yr offrwm arni, i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
II K WelBeibl 16:14  Yna dyma fe'n symud yr Allor Bres oedd yn arfer bod o flaen yr ARGLWYDD. Symudodd hi o du blaen y deml (roedd hi rhwng yr allor newydd a'r cysegr,) a'i gosod ar yr ochr, i'r gogledd o'r allor newydd.
II K WelBeibl 16:15  Yna dyma'r Brenin Ahas yn dweud wrth Wreia yr offeiriad: “Yr allor fawr sydd i gael ei defnyddio o hyn ymlaen. Defnyddiwch hi i losgi offrwm y bore arni, a'r offrwm o rawn gyda'r nos, yr offrymau brenhinol i gyd, a'r offrymau dros y bobl gyffredin – offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn ac offrymau o ddiod. Arni hi hefyd dych chi i sblasio gwaed yr holl anifeiliaid sy'n cael eu haberthu. Bydd yr allor bres ar gyfer fy nefnydd personol i.”
II K WelBeibl 16:16  A dyma Wreia'n gwneud popeth fel roedd y Brenin Ahas wedi dweud wrtho.
II K WelBeibl 16:17  Tynnodd y Brenin Ahas y fframiau oddi ar y trolïau a symud y dysglau oddi arnyn nhw. Yna dyma fe'n cymryd ‛Y Môr‛ (sef y ddysgl fawr oedd ar gefn yr ychen pres) a'i gosod ar lwyfan o garreg.
II K WelBeibl 16:18  Wedyn symudodd y llwybr dan do oedd yn cael ei ddefnyddio ar y Saboth, a'r fynedfa allanol oedd wedi'i hadeiladu i'r brenin fynd i'r deml. Gwnaeth hyn i gyd o achos brenin Asyria.
II K WelBeibl 16:19  Mae gweddill hanes Ahas, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
II K WelBeibl 16:20  Pan fuodd Ahas farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd. A dyma Heseceia, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.
Chapter 17
II K WelBeibl 17:1  Pan oedd Ahas wedi bod yn frenin ar Jwda am un deg dwy o flynyddoedd daeth Hoshea fab Ela yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am naw mlynedd.
II K WelBeibl 17:2  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ond doedd e ddim mor ddrwg â'r brenhinoedd oedd wedi bod o'i flaen.
II K WelBeibl 17:3  Dyma Shalmaneser, brenin Asyria, yn ymosod ar Hoshea. Felly dyma Hoshea yn dod yn was i frenin Asyria a dechrau talu trethi iddo.
II K WelBeibl 17:4  Ond wedyn dyma frenin Asyria yn darganfod fod Hoshea yn cynllwynio yn ei erbyn. Roedd wedi anfon negeswyr at So, brenin yr Aifft, ac wedi gwrthod talu'r trethi blynyddol i Asyria. Y canlyniad oedd i frenin Asyria ei arestio a'i roi yn y carchar.
II K WelBeibl 17:5  Wedyn, dyma frenin Asyria'n ymosod ar wlad Israel. Aeth i Samaria a bu'n gwarchae arni am bron ddwy flynedd.
II K WelBeibl 17:6  Roedd Hoshea wedi bod yn frenin am naw mlynedd pan gafodd Samaria ei choncro. Aeth brenin Asyria â'r bobl yn gaethion i'w wlad ei hun. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan afon Habor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media.
II K WelBeibl 17:7  Roedd hyn wedi digwydd am fod pobl Israel wedi bod yn anufudd i'r ARGLWYDD eu Duw – y Duw oedd wedi'u rhyddhau nhw o afael y Pharo a dod â nhw allan o'r Aifft. Roedden nhw wedi troi i addoli duwiau eraill
II K WelBeibl 17:8  a dilyn arferion y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o'r wlad o flaen Israel. Roedden nhw wedi dilyn esiampl brenhinoedd Israel.
II K WelBeibl 17:9  Roedden nhw'n gwneud pethau o'r golwg oedd yn gwbl groes i ffordd yr ARGLWYDD. Roedden nhw wedi adeiladu allorau lleol ym mhobman – yn y pentrefi bychain a'r trefi caerog mawr.
II K WelBeibl 17:10  Roedden nhw hefyd yn codi colofnau cysegredig i Baal a pholion y dduwies Ashera wrth yr allorau lleol oedd ar y bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog.
II K WelBeibl 17:11  Roedden nhw'n llosgi arogldarth ar yr allorau lleol, yn union fel y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o'u blaenau nhw. Roedd y pethau drwg yma yn digio'r ARGLWYDD.
II K WelBeibl 17:12  Roedden nhw'n addoli eilunod ffiaidd er bod yr ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw am beidio.
II K WelBeibl 17:13  Roedd yr ARGLWYDD wedi anfon proffwydi a rhai oedd yn cael gweledigaethau i rybuddio Israel a Jwda. Roedd wedi dweud, drwyddyn nhw, “Rhaid i chi droi cefn ar y drwg a chadw'r gorchmynion a'r rheolau sy'n y Gyfraith rois i i'ch hynafiaid chi. Dw i wedi anfon y proffwydi i'ch atgoffa chi ohonyn nhw.”
II K WelBeibl 17:14  Ond doedden nhw ddim am wrando. Roedden nhw'n hollol benstiff, fel eu hynafiaid oedd yn gwrthod trystio'r ARGLWYDD eu Duw.
II K WelBeibl 17:15  Roedden nhw wedi gwrthod ei reolau a'r ymrwymiad roedd wedi'i wneud gyda'u hynafiaid. Wnaethon nhw ddim gwrando ar ei rybuddion, ond mynd ar ôl eilunod diwerth. Roedden nhw'n gwneud eu hunain yn ddiwerth, ac yn dynwared y gwledydd o'u cwmpas, er fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw am beidio gwneud hynny.
II K WelBeibl 17:16  Roedden nhw wedi anwybyddu gorchmynion yr ARGLWYDD eu Duw. Roedden nhw wedi gwneud delwau metel o ddau darw ifanc, a chodi polyn i'r dduwies Ashera. Roedden nhw'n plygu i'r haul a'r lleuad a'r sêr, ac yn addoli Baal.
II K WelBeibl 17:17  Roedden nhw hyd yn oed yn llosgi eu plant yn aberth, yn dewino ac yn darogan. Roedden nhw'n benderfynol o wneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i bryfocio.
II K WelBeibl 17:18  Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel, a dyma fe'n eu gyrru nhw o'i olwg. Dim ond llwyth Jwda oedd ar ôl.
II K WelBeibl 17:19  Ond doedd Jwda chwaith ddim yn cadw gorchmynion yr ARGLWYDD eu Duw. Roedden nhw hefyd yn dilyn arferion Israel.
II K WelBeibl 17:20  Roedd yr ARGLWYDD wedi gwrthod pobl Israel i gyd, a'u cosbi nhw drwy adael i bobl eraill eu rheibio a'u dinistrio nhw. Gyrrodd nhw o'i olwg yn llwyr.
II K WelBeibl 17:21  Pan wnaeth Duw rwygo Israel oddi wrth linach Dafydd dyma nhw'n gwneud Jeroboam fab Nebat yn frenin. Roedd e wedi arwain pobl Israel i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD a gwneud iddyn nhw bechu'n ofnadwy.
II K WelBeibl 17:22  Dyma'r bobl yn addoli eilunod Jeroboam, a wnaethon nhw ddim troi cefn arnyn nhw o gwbl.
II K WelBeibl 17:23  Felly dyma'r ARGLWYDD yn gyrru Israel allan o'i olwg fel roedd wedi rhybuddio y byddai'n gwneud drwy ei weision y proffwydi. Cafodd pobl Israel eu symud o'u gwlad eu hunain i Asyria, ac maen nhw'n dal yno heddiw.
II K WelBeibl 17:24  Dyma frenin Asyria yn cymryd pobl oedd yn byw yn Babilon, Cwtha, Afa, Chamath a Seffarfaîm, a'u symud nhw i fyw i drefi Samaria yn lle pobl Israel. Felly dyma nhw'n cymryd Samaria drosodd, a byw yn ei threfi.
II K WelBeibl 17:25  Pan ddaethon nhw yno i ddechrau doedden nhw ddim yn addoli'r ARGLWYDD; felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon llewod atyn nhw, a dyma'r llewod yn lladd rhai pobl.
II K WelBeibl 17:26  Dwedwyd wrth frenin Asyria, “Dydy'r bobloedd rwyt ti wedi'u symud i drefi Samaria ddim yn gwybod defodau duw'r wlad. Mae e wedi anfon llewod atyn nhw, ac mae'r rheiny yn eu lladd nhw.”
II K WelBeibl 17:27  Felly dyma frenin Asyria yn gorchymyn: “Anfonwch un o'r offeiriaid gafodd eu cymryd oddi yno yn ôl. Bydd e'n gallu byw gyda nhw a'u dysgu nhw beth mae duw'r wlad yn ei ddisgwyl.”
II K WelBeibl 17:28  A dyma un o'r offeiriaid oedd wedi cael ei gymryd o Samaria yn cael ei anfon yn ôl yno. Roedd yn byw yn Bethel ac yn dysgu'r bobl sut i barchu'r ARGLWYDD.
II K WelBeibl 17:29  Ond roedd y gwahanol bobloedd oedd yn byw yno yn gwneud delwau o'u duwiau eu hunain hefyd, ac yn eu gosod nhw yn yr temlau lle roedd pobl Samaria wedi codi allorau lleol. Roedd pob un o'r gwahanol grwpiau o bobl yn gwneud hyn yn y trefi lle roedden nhw'n byw.
II K WelBeibl 17:30  Dyma'r bobl o Babilon yn gwneud eilun o Swccoth-benoth, pobl Cwth yn gwneud Nergal, pobl Chamath yn gwneud Ashima
II K WelBeibl 17:31  a'r Afiaid yn gwneud Nibchas a Tartac. Roedd pobl Seffarfaîm yn llosgi eu plant yn aberth i'w duwiau, Adram-melech ac Anam-melech.
II K WelBeibl 17:32  Ond roedden nhw'n addoli'r ARGLWYDD ar yr un pryd! Ac roedden nhw'n dewis pob math o bobl i fod yn offeiriad ac i arwain y defodau wrth yr allorau lleol yn y canolfannau hynny.
II K WelBeibl 17:33  Felly roedden nhw'n addoli'r ARGLWYDD ac yn gwasanaethu eu duwiau eu hunain ar yr un pryd – ac yn cadw defodau'r gwledydd o lle roedden nhw'n dod.
II K WelBeibl 17:34  Maen nhw'n dal i ddilyn yr un hen arferion hyd heddiw. Dŷn nhw ddim wir yn parchu'r ARGLWYDD, nac yn ufudd i'r rheolau, y gorchmynion, y deddfau a'r gofynion gafodd eu rhoi i ddisgynyddion Jacob, yr un wnaeth Duw roi'r enw Israel iddo.
II K WelBeibl 17:35  Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud ymrwymiad gyda'r bobl hynny, a rhoi'r gorchymyn yma iddyn nhw: “Peidiwch addoli duwiau eraill. Peidiwch plygu o'u blaen, eu gwasanaethu nac aberthu iddyn nhw.
II K WelBeibl 17:36  Dim ond fi, yr ARGLWYDD dych chi i'w addoli. Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft gyda nerth a grym mawr. Fi ydy'r un dych chi i'w addoli ac aberthu anifeiliaid iddo.
II K WelBeibl 17:37  A dych chi i gadw y rheolau, gorchmynion, deddfau a gofynion wnes i eu hysgrifennu i chi. Peidiwch addoli duwiau eraill.
II K WelBeibl 17:38  Peidiwch anghofio'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda chi, a pheidiwch addoli duwiau eraill.
II K WelBeibl 17:39  Fi, yr ARGLWYDD eich Duw dych chi i'w addoli, a bydda i'n eich achub chi oddi wrth eich gelynion i gyd.”
II K WelBeibl 17:40  Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Roedden nhw'n dal i ddilyn yr un hen arferion.
II K WelBeibl 17:41  Roedd y gwahanol grwpiau yma o bobl i gyd yn addoli'r ARGLWYDD, ond roedden nhw hefyd yn gwasanaethu eu heilun-dduwiau ar yr un pryd. Ac mae eu plant a'u plant hwythau yn dal i wneud yr un fath â'u hynafiaid hyd heddiw.
Chapter 18
II K WelBeibl 18:1  Daeth Heseceia fab Ahas yn frenin ar Jwda yn ystod trydedd flwyddyn Hoshea fab Ela fel brenin Israel.
II K WelBeibl 18:2  Dau ddeg pump oedd oed Heseceia pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Abeia, merch Sechareia.
II K WelBeibl 18:3  Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
II K WelBeibl 18:4  Dyma fe'n cael gwared â'r allorau lleol, malu'r colofnau cysegredig a thorri polion y dduwies Ashera i lawr. A dyma fe hefyd yn dryllio'r sarff bres oedd Moses wedi gwneud, am fod pobl Israel yn llosgi arogldarth iddi a'i galw'n Nechwshtan.
II K WelBeibl 18:5  Roedd Heseceia'n trystio'r ARGLWYDD, Duw Israel. Fuodd yna ddim brenin tebyg iddo yn Jwda, o'i flaen nac ar ei ôl.
II K WelBeibl 18:6  Roedd yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD ac yn cadw'r gorchmynion roddodd yr ARGLWYDD i Moses.
II K WelBeibl 18:7  Roedd yr ARGLWYDD gydag e, ac roedd yn llwyddo beth bynnag roedd e'n ei wneud. Gwrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria a gwrthod ei wasanaethu.
II K WelBeibl 18:8  Concrodd wlad y Philistiaid yn llwyr – o'r pentrefi lleiaf i'r trefi caerog mawr. Roedd yn rheoli'r wlad yr holl ffordd i dref Gasa a'r ardaloedd o'i chwmpas.
II K WelBeibl 18:9  Yn ystod pedwaredd flwyddyn Heseceia fel brenin (a seithfed flwyddyn Hoshea fab Ela fel brenin ar Israel) daeth Shalmaneser, brenin Asyria, ac ymosod ar Samaria. Buodd yn gwarchae arni
II K WelBeibl 18:10  am bron ddwy flynedd cyn llwyddo i'w choncro. Felly cafodd Samaria ei choncro yn ystod chweched flwyddyn Heseceia fel brenin, a nawfed blwyddyn Hoshea yn frenin ar Israel,
II K WelBeibl 18:11  a dyma frenin Asyria yn cymryd pobl Israel yn gaethion i Asyria. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan afon Habor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media.
II K WelBeibl 18:12  Roedd hyn wedi digwydd am fod pobl Israel heb wrando ar ARGLWYDD eu Duw. Roedden nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad wnaeth e gyda nhw, ac wedi diystyru'r gorchmynion roedd ei was Moses wedi'u rhoi iddyn nhw.
II K WelBeibl 18:13  Pan oedd Heseceia wedi bod yn frenin am bron un deg pedair o flynyddoedd, dyma Senacherib, brenin Asyria, yn ymosod ar drefi amddiffynnol Jwda, a'u dal nhw.
II K WelBeibl 18:14  Felly anfonodd Heseceia, brenin Jwda, y neges yma at frenin Asyria, oedd yn Lachish: “Dw i wedi bod ar fai. Os gwnei di droi'n ôl, gwna i dalu faint bynnag wyt ti'n ei ofyn.” A dyma frenin Asyria yn rhoi dirwy o ddeg tunnell o arian a thunnell o aur i Heseceia, brenin Jwda.
II K WelBeibl 18:15  Felly dyma Heseceia'n rhoi'r holl arian allai ddod o hyd iddo yn y deml ac yn storfa'r palas i Asyria.
II K WelBeibl 18:16  Dyna pryd wnaeth e stripio'r aur oedd ar ddrysau'r deml a'u fframiau, i dalu brenin Asyria.
II K WelBeibl 18:17  Er hynny dyma frenin Asyria yn anfon ei brif swyddog milwrol, ei brif gynghorydd, a phrif swyddog ei balas o Lachish at y Brenin Heseceia yn Jerwsalem, gyda byddin enfawr. Dyma nhw'n cyrraedd Jerwsalem a mynd i sefyll wrth sianel ddŵr y gronfa uchaf, sydd ar ffordd Maes y Golchwr.
II K WelBeibl 18:18  Dyma nhw'n galw ar y brenin, ac aeth Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, allan i'w cyfarfod, gyda Shefna yr ysgrifennydd a Ioach fab Asaff, y cofnodydd.
II K WelBeibl 18:19  Dwedodd prif swyddog Asyria wrthyn nhw am roi'r neges yma i Heseceia: “Dyma mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria yn ei ddweud: ‘Beth sy'n dy wneud di mor hyderus?
II K WelBeibl 18:20  Siarad gwag ydy honni fod gen ti'r strategaeth a'r gallu milwrol angenrheidiol! Pwy wyt ti'n pwyso arno go iawn, dy fod yn beiddio gwrthryfela yn fy erbyn i?
II K WelBeibl 18:21  Ai'r Aifft wyt ti'n ei drystio? Dydy'r ffon fagl yna ddim gwell na brwynen wedi hollti, ac mae'n torri llaw ac yn anafu pwy bynnag sy'n pwyso arni! Dyna sy'n digwydd i bawb sy'n trystio'r Pharo, brenin yr Aifft.
II K WelBeibl 18:22  “‘Neu ydych chi am ddweud wrtho i eich bod yn trystio'r ARGLWYDD eich Duw? Onid ydy Heseceia wedi cael gwared â'i ganolfannau addoli lleol a'i allorau e, a dweud wrth bobl Jwda mai dim ond wrth yr allor yn Jerwsalem maen nhw i addoli?
II K WelBeibl 18:23  Tyrd nawr, beth am drafod telerau gyda fy meistr, brenin Asyria: betia i di, petawn i'n rhoi dwy fil o geffylau i ti, na fyddai gen ti ddigon o ddynion i'w reidio nhw!
II K WelBeibl 18:24  Felly sut alli di wrthod cynnig gan ddirprwy un o weision lleia fy meistr hyd yn oed? Ti ddim yn mynd i fynnu dal ati i drystio'r Aifft am gerbydau a marchogion, siawns?
II K WelBeibl 18:25  A beth bynnag, wyt ti'n meddwl fy mod i wedi martsio yn erbyn y wlad yma i'w dinistrio hi heb i'r ARGLWYDD fy helpu i? Yr ARGLWYDD ei hun ddwedodd wrtho i: “Dos i ymladd yn erbyn y wlad yna a'i dinistrio hi!”’”
II K WelBeibl 18:26  Dyma Eliacim fab Chilceia, Shefna, a Ioach yn dweud wrth y prif swyddog, “Plîs siarada yn Aramaeg hefo dy weision; dŷn ni'n deall yr iaith honno. Paid siarad hefo ni yn Hebraeg yng nghlyw'r bobl sydd ar y waliau.”
II K WelBeibl 18:27  Ond dyma'r prif swyddog yn ateb, “Ydych chi'n meddwl mai atoch chi a'ch meistr yn unig mae fy meistr i wedi f'anfon i ddweud hyn? Na, mae'r neges i bawb sydd ar y waliau hefyd. Byddan nhw, fel chithau, yn gorfod bwyta'u cachu ac yfed eu piso eu hunain.”
II K WelBeibl 18:28  Yna dyma'r prif swyddog yn camu ymlaen, ac yn gweiddi'n uchel yn Hebraeg, “Gwrandwch beth mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria, yn ei ddweud!
II K WelBeibl 18:29  Peidiwch gadael i Heseceia eich twyllo chi, achos fydd e ddim yn gallu'ch achub chi.
II K WelBeibl 18:30  A pheidiwch gadael iddo eich cael chi i drystio'r ARGLWYDD, a dweud wrthoch chi, ‘Bydd yr ARGLWYDD yn ein hachub ni. Fydd y ddinas yma ddim yn syrthio i ddwylo brenin Asyria!’
II K WelBeibl 18:31  Peidiwch gwrando arno! Dyma mae brenin Asyria'n ei ddweud: ‘Derbyniwch y telerau dw i'n eu cynnig; dewch allan ata i, a bydd pob un ohonoch chi'n cael bwyta o'i winwydden a'i goeden ffigys, ac yn cael yfed dŵr o'i ffynnon ei hun.
II K WelBeibl 18:32  Wedyn bydda i'n mynd â chi i wlad debyg i'ch gwlad chi – gwlad o fara a sudd grawnwin, o gaeau ŷd a gwinllannoedd, gwlad o olewydd, olew a mêl. Cewch fyw yno yn lle marw. “‘Peidiwch gadael i Heseceia eich camarwain chi wrth ddweud, “Bydd yr ARGLWYDD yn ein hachub ni.”
II K WelBeibl 18:33  Wnaeth duwiau'r gwledydd eraill achub eu tir nhw rhag brenin Asyria?
II K WelBeibl 18:34  Ble roedd duwiau Chamath ac Arpad? Ble roedd duwiau Seffarfaîm, Hena ac Ifa? Wnaethon nhw achub Samaria o'm gafael i?
II K WelBeibl 18:35  Pa un o'r duwiau yma i gyd achubodd eu gwlad o'm gafael i? Felly, sut mae'r ARGLWYDD yn mynd i achub Jerwsalem o'm gafael i?’”
II K WelBeibl 18:36  Ond roedd pawb yn cadw'n dawel ac yn dweud dim, achos roedd y brenin wedi gorchymyn: “Peidiwch â'i ateb e.”
II K WelBeibl 18:37  A dyma Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, Shefna yr ysgrifennydd a Ioach fab Asaff, y cofnodydd, yn mynd at Heseceia a'u dillad wedi'u rhwygo, a dweud wrtho beth oedd y swyddog o Asyria wedi'i ddweud.
Chapter 19
II K WelBeibl 19:1  Pan glywodd y Brenin Heseceia hyn, dyma fe'n rhwygo'i ddillad, gwisgo sachliain a mynd i deml yr ARGLWYDD.
II K WelBeibl 19:2  A dyma fe'n anfon Eliacim, arolygwr y palas, Shefna, yr ysgrifennydd, a rhai o'r offeiriaid hynaf at y proffwyd Eseia fab Amos. Roedden nhw hefyd yn gwisgo sachliain.
II K WelBeibl 19:3  A dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae Heseceia'n dweud: ‘Mae hi'n ddiwrnod o argyfwng, o gerydd ac o gywilydd, fel petai plant ar fin cael eu geni a'r fam heb ddigon o nerth i'w geni nhw.
II K WelBeibl 19:4  Petaet ti'n gweddïo dros y rhai ohonon ni sy'n dal ar ôl yn y ddinas, falle y byddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn cymryd sylw o beth ddwedodd y swyddog gafodd ei anfon gan frenin Asyria i enllibio'r Duw byw, ac yn ei gosbi.’”
II K WelBeibl 19:6  dyma Eseia'n dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth eich meistr: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid gadael i'r ffaith fod gweision bach brenin Asyria yn gwneud sbort am fy mhen i dy ddychryn di.
II K WelBeibl 19:7  Dw i'n mynd i godi ofn arno fe. Bydd e'n clywed si am rywbeth ac yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun. Bydda i'n gwneud iddo gael ei ladd â'r cleddyf yn ei wlad ei hun.”’”
II K WelBeibl 19:8  Yn y cyfamser, roedd prif swyddog brenin Asyria wedi mynd yn ôl a darganfod fod ei feistr wedi gadael Lachish a'i fod yn ymladd yn erbyn tref Libna.
II K WelBeibl 19:9  Roedd wedi clywed fod y Brenin Tirhaca (oedd o dras Affricanaidd) ar ei ffordd i ymosod arno. Felly, dyma fe'n anfon negeswyr at Heseceia eto:
II K WelBeibl 19:10  “Dwedwch wrth Heseceia, brenin Jwda: ‘Peidiwch gadael i'r Duw dych chi'n ei drystio eich twyllo chi i feddwl na fydd Jerwsalem yn syrthio i ddwylo brenin Asyria.
II K WelBeibl 19:11  Dych chi'n gwybod yn iawn fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r gwledydd eraill i gyd. Ydych chi'n mynd i ddianc?
II K WelBeibl 19:12  Gafodd y gwledydd ddinistriodd fy rhagflaenwyr eu hachub gan eu duwiau? – Beth am Gosan, Haran, Retseff, a phobl Eden oedd yn Telassar?
II K WelBeibl 19:13  Ble mae brenin Chamath? Neu frenin Arpad? Neu frenhinoedd Lahir, Seffarfaîm, Hena, ac Ifa?’”
II K WelBeibl 19:14  Ar ôl i Heseceia gymryd y llythyr gan y negeswyr, a'i ddarllen, aeth i'r deml a'i osod allan o flaen yr ARGLWYDD.
II K WelBeibl 19:15  Yna dyma Heseceia'n gweddïo: “O ARGLWYDD, Duw Israel, sy'n eistedd ar dy orsedd uwchben y cerwbiaid. Ti sydd Dduw – yr unig un – dros deyrnasoedd y byd i gyd. Ti wnaeth greu'r bydysawd a'r ddaear.
II K WelBeibl 19:16  O ARGLWYDD, plîs gwrando! Agor dy lygaid, ARGLWYDD! Edrych! Gwranda ar beth mae Senacherib yn ei ddweud. Mae e wedi anfon neges sy'n enllibio'r Duw byw!
II K WelBeibl 19:17  ARGLWYDD, mae'n wir fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r bobloedd i gyd, a'u tiroedd,
II K WelBeibl 19:18  ac wedi llosgi eu duwiau nhw. Ond doedden nhw ddim yn dduwiau go iawn, dim ond coed neu gerrig wedi'u cerfio gan bobl, i'w haddoli.
II K WelBeibl 19:19  Felly nawr, O ARGLWYDD ein Duw, plîs achub ni o'i afael, er mwyn i deyrnasoedd y byd i gyd wybod mai ti ydy'r ARGLWYDD, yr unig Dduw go iawn.”
II K WelBeibl 19:20  Yna dyma Eseia fab Amos yn anfon y neges yma at Heseceia: “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i wedi clywed dy weddi di am Senacherib, brenin Asyria,
II K WelBeibl 19:21  a dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud yn ei erbyn: Mae'r forwyn hardd, Seion, yn dy ddirmygu di! Mae hi'n gwneud hwyl ar dy ben! Mae Jerwsalem hardd yn ysgwyd ei phen tu ôl i dy gefn.
II K WelBeibl 19:22  Pwy wyt ti'n ei enllibio a'i wawdio? Yn erbyn pwy wyt ti'n codi dy lais, ac yn troi dy lygaid yn sarhaus? Yn erbyn Un Sanctaidd Israel!
II K WelBeibl 19:23  Rwyt ti wedi defnyddio dy negeswyr i enllibio'r Meistr, a dweud, ‘Gyda'r holl gerbydau rhyfel sydd gen i dringais i ben y mynyddoedd uchaf, ac i ben draw Libanus. Torrais i lawr y coed cedrwydd talaf, a'r coed pinwydd gorau, er mwyn cyrraedd copa uchaf y llechweddau coediog.
II K WelBeibl 19:24  Dw i wedi cloddio ffynhonnau ac yfed dŵr mewn lleoedd estron. Sychais holl ganghennau afon Nîl hefo gwadn fy nhraed.’
II K WelBeibl 19:25  Mae'n rhaid dy fod wedi clywed! Fi sydd wedi trefnu'r cwbl ers talwm – mae'r cwbl wedi'i gynllunio ers amser maith, a nawr dw i'n troi'r cwbl yn ffaith: i ti droi caerau yn bentyrrau o rwbel.
II K WelBeibl 19:26  Does gan y bobl sy'n byw ynddyn nhw ddim nerth, maen nhw'n ddigalon, ac wedi'u cywilyddio. Maen nhw fel planhigion mewn cae, neu dyfiant ar ben to wedi'i grino gan wynt y dwyrain.
II K WelBeibl 19:27  Dw i'n gwybod popeth amdanat ti – dy symudiadau di i gyd, a sut rwyt ti wedi bod yn strancio yn fy erbyn i.
II K WelBeibl 19:28  Am dy fod ti wedi strancio yn fy erbyn i, a minnau wedi gorfod gwrando ar dy eiriau haerllug, dw i'n mynd i roi bachyn drwy dy drwyn a ffrwyn yn dy geg, a gwneud i ti fynd yn ôl y ffordd daethost.”
II K WelBeibl 19:29  “A dyma fydd yr arwydd i ti, Heseceia, fod hyn yn wir: Byddi'n bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun eleni, a'r flwyddyn nesa beth fydd wedi tyfu o hwnnw. Ond y flwyddyn wedyn cewch hau a medi, plannu gwinllannoedd a bwyta'u ffrwyth nhw.
II K WelBeibl 19:30  Bydd y bobl yn Jwda sydd wedi dianc a'u gadael ar ôl yn bwrw eu gwreiddiau eto, ac yn dwyn ffrwyth.
II K WelBeibl 19:31  Bydd y rhai sy'n weddill yn lledu allan o Jerwsalem; y rhai wnaeth ddianc o Fynydd Seion. Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn benderfynol o wneud hyn i gyd.
II K WelBeibl 19:32  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am frenin Asyria: ‘Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma. Fydd e ddim yn saethu saeth i mewn iddi; fydd e ddim yn ymosod arni hefo tarian, nac yn codi rampiau i warchae yn ei herbyn.
II K WelBeibl 19:33  Bydd e'n mynd yn ôl y ffordd ddaeth e. Na, fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma.’ —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
II K WelBeibl 19:34  ‘Dw i'n mynd i amddiffyn ac achub y ddinas yma, er mwyn cadw fy enw da, ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’”
II K WelBeibl 19:35  A'r noson honno dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd allan ac yn taro cant wyth deg pum mil o filwyr Asyria. Erbyn y bore wedyn roedden nhw i gyd yn gyrff meirw.
II K WelBeibl 19:36  Felly dyma Senacherib, brenin Asyria, yn codi ei wersyll, mynd yn ôl i Ninefe ac aros yno.
II K WelBeibl 19:37  Un diwrnod, pan oedd e'n addoli yn nheml ei dduw Nisroch, dyma'i feibion, Adram-melech a Saretser, yn ei ladd gyda'r cleddyf ac yna'n dianc i ardal Ararat. A dyma fab arall iddo, Esar-chadon, yn dod yn frenin yn ei le.
Chapter 20
II K WelBeibl 20:1  Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael, a bu bron iddo farw. Daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: rho drefn ar dy bethau, achos ti'n mynd i farw; fyddi di ddim yn gwella.”
II K WelBeibl 20:2  Ond dyma Heseceia yn troi at y wal ac yn gweddïo,
II K WelBeibl 20:3  “O ARGLWYDD, plîs cofia sut dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti. Dw i bob amser wedi gwneud beth oedd yn dy blesio di.” Roedd yn beichio crio.
II K WelBeibl 20:4  Cyn bod Eseia wedi gadael iard ganol y palas, dyma'r ARGLWYDD yn siarad ag e.
II K WelBeibl 20:5  “Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia, arweinydd fy mhobl, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, Duw Dafydd dy dad: Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i'n mynd i dy iacháu di. Y diwrnod ar ôl yfory byddi'n mynd i deml yr ARGLWYDD.
II K WelBeibl 20:6  Dw i'n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti. Dw i'n mynd i dy achub di a'r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i'n amddiffyn y ddinas yma, er mwyn cadw fy enw da, ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’”
II K WelBeibl 20:7  Yna dyma Eseia'n dweud, “Ewch i nôl bar o ffigys wedi'u gwasgu a'i roi ar y chwydd sydd wedi casglu, a bydd yn gwella.”
II K WelBeibl 20:8  Gofynnodd Heseceia i Eseia, “Pa arwydd ga i y bydd yr ARGLWYDD yn fy ngwella ac y bydda i'n mynd i fyny i'w deml y diwrnod ar ôl fory?”
II K WelBeibl 20:9  Ac roedd Eseia wedi ateb, “Dyma'r arwydd mae'r ARGLWYDD yn ei roi i ti i ddangos ei fod am wneud beth mae'n ddweud: ‘Wyt ti eisiau i'r cysgod ar y deial haul symud ymlaen ddeg gris, neu yn ôl ddeg gris?’”
II K WelBeibl 20:10  A dyma Heseceia'n ateb, “Mae'n hawdd i gysgod symud ymlaen ddeg gris. Ond sut all e fynd yn ôl ddeg gris?”
II K WelBeibl 20:11  Yna dyma'r proffwyd Eseia'n gweddïo, a dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r cysgod symud yn ôl ddeg gris ar ddeial haul Ahas.
II K WelBeibl 20:12  Tua'r un pryd anfonodd Merodach-baladan, mab Baladan, brenin Babilon, negeswyr gyda llythyrau ac anrheg i Heseceia – roedd wedi clywed ei fod yn sâl.
II K WelBeibl 20:13  Roedd Heseceia wrth ei fodd eu bod nhw wedi dod, a dangosodd ei drysordy iddyn nhw – yr arian, yr aur, y perlysiau, a'r olew persawrus. Dangosodd ei stordy arfau iddyn nhw hefyd, a phopeth arall yn ei stordai. Dangosodd bopeth yn ei balas a'i deyrnas gyfan iddyn nhw!
II K WelBeibl 20:14  Yna dyma'r proffwyd Eseia yn mynd at y Brenin Heseceia, a gofyn iddo: “Beth ddwedodd y dynion yna wrthot ti? O ble daethon nhw?” Atebodd Heseceia. “Daethon nhw ata i o wlad bell iawn – o Babilon.”
II K WelBeibl 20:15  Gofynnodd Eseia wedyn, “Beth welon nhw yn dy balas di?” A dyma Heseceia'n ateb, “Popeth sydd gen i. Does dim byd yn fy stordai i gyd na welon nhw.”
II K WelBeibl 20:16  A dyma Eseia'n dweud wrth Heseceia, “Gwranda ar neges yr ARGLWYDD:
II K WelBeibl 20:17  ‘Edrych! Mae'r amser yn dod pan fydd popeth sydd yn dy balas di, popeth gasglodd dy ragflaenwyr di hyd heddiw, yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Fydd dim byd ar ôl!’ meddai'r ARGLWYDD.
II K WelBeibl 20:18  ‘Bydd rhai o dy deulu di, ie, dy ddisgynyddion di dy hun, yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn gwasanaethu fel swyddogion ym mhalas brenin Babilon.’”
II K WelBeibl 20:19  A dyma Heseceia yn dweud wrth Eseia, “Mae'r neges rwyt ti wedi'i rhannu gan yr ARGLWYDD yn dda.” Meddyliodd, “Be wedyn? O leia bydd heddwch a diogelwch tra dw i'n fyw.”
II K WelBeibl 20:20  Mae gweddill hanes Heseceia – ei lwyddiant milwrol a'r ffaith iddo adeiladu'r gronfa ddŵr a'r sianel i gario dŵr i'r ddinas – i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
II K WelBeibl 20:21  Pan fu Heseceia farw, dyma Manasse, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.
Chapter 21
II K WelBeibl 21:1  Un deg dau oedd Manasse pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg pump o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Hefftsiba.
II K WelBeibl 21:2  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, pethau cwbl ffiaidd, fel y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.
II K WelBeibl 21:3  Roedd wedi ailgodi'r allorau lleol gafodd eu dinistrio gan ei dad, Heseceia. Cododd allorau i Baal a pholion i'r dduwies Ashera, fel roedd y Brenin Ahab wedi gwneud yn Israel. Roedd yn plygu i lawr i'r sêr ac yn eu haddoli nhw.
II K WelBeibl 21:4  Dyma fe hyd yn oed yn adeiladu allorau paganaidd yn y deml – yn y lle roedd yr ARGLWYDD wedi dweud amdano, “Dw i am osod fy enw yn Jerwsalem.”
II K WelBeibl 21:5  Cododd allorau i'r sêr yn y ddwy iard yn y deml.
II K WelBeibl 21:6  Llosgodd ei fab yn aberth, ac roedd yn ymarfer dewiniaeth ac yn darogan. Roedd yn ymhél ag ysbrydion a phobl oedd yn siarad â'r meirw. Gwnaeth lawer iawn o bethau drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i bryfocio.
II K WelBeibl 21:7  Roedd hyd yn oed wedi gwneud delw o'r dduwies Ashera a'i gosod yn y deml! – yn y lle roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Dafydd a'i fab Solomon amdano, “Dw i wedi dewis Jerwsalem o blith llwythau Israel i gyd, a bydda i'n byw yn y deml yma am byth.
II K WelBeibl 21:8  Wna i ddim gyrru Israel allan o'r tir dw i wedi'i roi i'w hynafiaid, cyn belled â'u bod nhw'n gofalu gwneud beth dw i'n ei orchymyn iddyn nhw, sef cadw'r Gyfraith wnaeth fy ngwas Moses ei rhoi iddyn nhw.”
II K WelBeibl 21:9  Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Ac roedd Manasse'n eu harwain nhw i wneud mwy o ddrwg na'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o flaen Israel!
II K WelBeibl 21:10  Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud drwy ei broffwydi:
II K WelBeibl 21:11  “Mae Manasse, brenin Jwda wedi gwneud pethau ffiaidd, ac wedi pechu'n waeth na'r Amoriaid oedd o'i flaen. Mae wedi gwneud i bobl Jwda bechu hefyd, drwy addoli ei eilunod ffiaidd.
II K WelBeibl 21:12  Felly dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddod â dinistr ar Jerwsalem a Jwda. Bydd pawb fydd yn clywed am y peth yn gegagored.
II K WelBeibl 21:13  Dw i'n mynd i wneud i Jerwsalem beth wnes i i Samaria ac i linach Ahab. Bydda i'n sychu Jerwsalem yn lân fel mae rhywun yn sychu dysgl a'i throi hi wyneb i waered.
II K WelBeibl 21:14  Bydda i'n gwrthod y rhai sydd ar ôl o'm pobl, a'u rhoi nhw i'w gelynion. Byddan nhw fel ysbail i'w gasglu a gwobrau rhyfel i'w gelynion.
II K WelBeibl 21:15  Mae hyn am eu bod wedi gwneud pethau drwg, ac wedi fy nigio i, o'r diwrnod y daeth eu hynafiaid allan o'r Aifft hyd heddiw!”
II K WelBeibl 21:16  Ar ben popeth arall roedd Manasse wedi lladd lot fawr o bobl ddiniwed – roedd staen eu gwaed ar bob stryd yn Jerwsalem! Hyn heb sôn am y ffaith ei fod wedi arwain pobl Jwda i bechu a gwneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
II K WelBeibl 21:17  Mae gweddill hanes Manasse, a'r pethau wnaeth e gyflawni (gan gynnwys yr holl bethau drwg wnaeth e), i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
II K WelBeibl 21:18  Pan fuodd Manasse farw, cafodd ei gladdu yng ngardd y palas, sef gardd Wssa. A dyma Amon, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.
II K WelBeibl 21:19  Roedd Amon yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddwy flynedd. Enw ei fam oedd Meshwlemeth (merch Charwts o Iotba).
II K WelBeibl 21:20  Gwnaeth yntau bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yr un fath â'i dad Manasse.
II K WelBeibl 21:21  Roedd yn ymddwyn fel ei dad ac yn gwasanaethu ac addoli'r un eilunod ffiaidd.
II K WelBeibl 21:22  Roedd wedi troi ei gefn ar yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid, ac wedi gwrthod ei ddilyn.
II K WelBeibl 21:23  Yna dyma rai o swyddogion y Brenin Amon yn cynllwynio yn ei erbyn a'i ladd yn ei balas.
II K WelBeibl 21:24  Ond wedyn dyma bobl y wlad yn dienyddio pawb oedd wedi bod yn rhan o'r cynllwyn yn erbyn Amon. A dyma nhw'n gwneud Joseia, ei fab, yn frenin yn ei le.
II K WelBeibl 21:25  Mae gweddill hanes yr hyn wnaeth Amon ei gyflawni i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
II K WelBeibl 21:26  Dyma nhw'n ei gladdu yn ei fedd yng ngardd Wssa, ac yna daeth Joseia ei fab yn frenin yn ei le.
Chapter 22
II K WelBeibl 22:1  Wyth oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri deg un o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iedida (merch Adaia o Botscath).
II K WelBeibl 22:2  Roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, ac yn dilyn esiampl y Brenin Dafydd, ei hynafiad, heb grwydro oddi wrth hynny o gwbl.
II K WelBeibl 22:3  Pan oedd Joseia wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd, dyma fe'n anfon ei ysgrifennydd, Shaffan (mab Atsaleia ac ŵyr Meshwlam), i deml yr ARGLWYDD.
II K WelBeibl 22:4  Dyma fe'n dweud wrtho, “Dos at Chilceia, yr archoffeiriad. Mae i gyfri'r arian mae'r porthorion wedi'i gasglu gan y bobl pan maen nhw'n dod i'r deml.
II K WelBeibl 22:5  Wedyn mae'r arian i'w roi i'r rhai sy'n goruchwylio'r gwaith ar y deml. Ac mae'r rheiny i dalu'r gweithwyr sy'n gwneud y gwaith atgyweirio –
II K WelBeibl 22:6  sef y seiri coed, adeiladwyr a'r seiri maen – ac i brynu coed a cherrig wedi'u naddu'n barod i atgyweirio'r deml.
II K WelBeibl 22:7  Does dim rhaid cadw cyfrifon manwl o'r arian fydd yn cael ei roi iddyn nhw, am eu bod yn weithwyr gonest.”
II K WelBeibl 22:8  Dyma Chilceia, yr archoffeiriad, yn dweud wrth Shaffan yr ysgrifennydd, “Dw i wedi ffeindio sgrôl o'r Gyfraith yn y deml!” A dyma fe'n rhoi'r sgrôl i Shaffan, iddo ei darllen.
II K WelBeibl 22:9  Yna dyma Shaffan yn mynd yn ôl i roi adroddiad i'r brenin: “Mae dy weision wedi cyfri'r arian oedd yn y deml, ac wedi'i drosglwyddo i'r dynion sy'n goruchwylio'r gwaith ar y deml.”
II K WelBeibl 22:10  Yna meddai, “Mae Chilceia'r offeiriad wedi rhoi sgrôl i mi.” A dyma fe'n ei darllen i'r brenin.
II K WelBeibl 22:11  Wedi iddo glywed beth roedd sgrôl y Gyfraith yn ei ddweud, dyma'r brenin yn rhwygo'i ddillad.
II K WelBeibl 22:12  Yna dyma fe'n galw am Chilceia'r offeiriad, Achicam fab Shaffan, Achbor fab Michaia, Shaffan yr ysgrifennydd ac Asaia ei was personol.
II K WelBeibl 22:13  A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi'r ARGLWYDD, ar fy rhan i a phobl Jwda i gyd, am beth mae'r sgrôl yma'n ddweud. Mae'r ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda ni am fod ein hynafiaid heb wneud beth mae'r sgrôl yma'n ddweud.”
II K WelBeibl 22:14  Felly dyma Chilceia, Achicam, Achbor, Shaffan ac Asaia yn mynd at y broffwydes Hulda. Roedd hi'n wraig i Shalwm (mab Ticfa ac ŵyr Charchas) oedd yn gofalu am y gwisgoedd. Roedd hi'n byw yn Jerwsalem yn y rhan newydd o'r ddinas. A dyma nhw'n dweud yr hanes wrthi.
II K WelBeibl 22:15  Yna dyma hi'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dwedwch wrth y dyn wnaeth eich anfon chi ata i,
II K WelBeibl 22:16  mod i'n mynd i ddod â dinistr ofnadwy ar y wlad yma ac ar y bobl sy'n byw yma. Bydd yn union fel mae'r sgrôl mae brenin Jwda wedi'i ddarllen yn dweud.
II K WelBeibl 22:17  Dw i wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a does dim yn mynd i newid hynny. Maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a'm gwylltio i gyda'r delwau maen nhw wedi'u gwneud.’
II K WelBeibl 22:18  Ond dwedwch hefyd wrth frenin Jwda, sydd wedi'ch anfon chi i holi'r ARGLWYDD, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am beth rwyt ti wedi'i glywed:
II K WelBeibl 22:19  “Am dy fod ti wedi teimlo i'r byw ac edifarhau pan glywaist ti fy mod i wedi rhybuddio'r lle yma, ac y byddwn i'n eu gwneud nhw'n esiampl o bobl wedi'u melltithio; am i ti rwygo dy ddillad ac wylo o mlaen i, dw i wedi gwrando,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
II K WelBeibl 22:20  “Cei di farw a chael dy gladdu mewn heddwch. Fydd dim rhaid i ti fyw i weld y dinistr ofnadwy fydd yn dod ar y wlad yma.”’” A dyma'r dynion yn mynd â'r neges yn ôl i'r brenin.
Chapter 23
II K WelBeibl 23:1  Dyma'r brenin Joseia yn galw arweinwyr Jwda i gyd at ei gilydd yn Jerwsalem.
II K WelBeibl 23:2  Yna dyma fe'n mynd i'r deml, ac roedd pobl Jwda a Jerwsalem, yr offeiriaid a'r proffwydi gydag e. Roedd pawb yno, o'r ifancaf i'r hynaf. Yna dyma sgrôl yr ymrwymiad oedd wedi'i darganfod yn y deml yn cael ei darllen yng nghlyw pawb.
II K WelBeibl 23:3  A dyma'r brenin yn sefyll wrth y piler ac addo o flaen yr ARGLWYDD, i wneud ei orau glas i ddilyn yr ARGLWYDD a chadw'i orchmynion, ei ofynion, a'i reolau. Roedd yn addo cadw amodau'r ymrwymiad oedd yn y sgrôl. A dyma'r bobl yn sefyll i ddangos eu bod yn cytuno.
II K WelBeibl 23:4  Yna dyma'r brenin yn gorchymyn i Chilceia'r archoffeiriad a'r offeiriaid cynorthwyol a'r porthorion i gymryd allan o'r deml bopeth oedd yn cael ei ddefnyddio i addoli Baal a'r dduwies Ashera a'r sêr. A dyma fe'n llosgi'r cwbl y tu allan i Jerwsalem ar gaeau teras Cidron, cyn mynd â'r lludw i Bethel.
II K WelBeibl 23:5  Yna dyma fe'n sacio'r offeiriaid ffals oedd wedi'u penodi gan frenhinoedd Jwda i losgi arogldarth ar yr allorau lleol yn nhrefi Jwda o gwmpas Jerwsalem (llosgi arogldarth i Baal, ac i'r haul, lleuad, planedau a sêr).
II K WelBeibl 23:6  Dyma fe hefyd yn symud polyn y dduwies Ashera o'r deml, a mynd ag e allan o Jerwsalem i Ddyffryn Cidron, a'i losgi yno. Cafodd beth oedd ar ôl ei falu yn llwch mân, yna cafodd y llwch ei daflu i'r fynwent gyhoeddus.
II K WelBeibl 23:7  Wedyn, dyma fe'n chwalu ystafelloedd y dynion oedd yn buteinwyr cwltig yn y deml, wrth ymyl lle roedd y merched yn gwau llenni ar gyfer Ashera.
II K WelBeibl 23:8  Dyma fe'n symud yr offeiriaid i gyd o drefi Jwda, a difetha'r holl allorau lleol lle buon nhw'n llosgi arogldarth – o Geba i Beersheba. Wedyn, dyma fe'n chwalu'r allorau i'r gafr-ddemoniaid oedd wrth giât Josua, rheolwr y ddinas – ar y chwith wrth fynd drwy'r giât i'r ddinas.
II K WelBeibl 23:9  Doedd offeiriaid yr allorau lleol ddim yn cael gwasanaethu wrth allor yr ARGLWYDD yn Jerwsalem. Ond roedden nhw'n cael bwyta'r bara heb furum ynddo gyda'u cyd-offeiriaid.
II K WelBeibl 23:10  Dyma fe'n difetha'r Toffet oedd yn nyffryn Ben-hinnom, rhag i neb losgi ei fab neu ferch yn aberth i'r duw Molech.
II K WelBeibl 23:11  A dyma fe'n cael gwared â'r ceffylau oedd brenhinoedd Jwda wedi'u cysegru i'r haul (roedden nhw yn yr iard, wrth y fynedfa i'r deml, wrth ymyl tŷ Nathan-melech, swyddog y palas), a llosgi cerbydau'r haul hefyd.
II K WelBeibl 23:12  Yna dyma fe'n chwalu'r allorau oedd brenhinoedd Jwda wedi'u codi ar y to uwchben llofft Ahas, a'r allorau roedd Manasse wedi'u hadeiladu yn y ddwy iard yn y deml. Malodd nhw'n lwch mân a thaflu'r llwch i Ddyffryn Cidron.
II K WelBeibl 23:13  Wedyn chwalu'r allorau lleol paganaidd oedd i'r dwyrain o Jerwsalem ac i'r de o Fynydd y Llygredd, y rhai oedd wedi'u hadeiladu gan y Brenin Solomon i'r duwiau ffiaidd, Ashtart (duwies Sidon), Chemosh (duw Moab), a Milcom (duw pobl Ammon).
II K WelBeibl 23:14  Dyma Joseia'n malu'r colofnau cysegredig, torri i lawr bolion y dduwies Ashera a gwasgaru esgyrn dynol lle roedden nhw'n arfer bod.
II K WelBeibl 23:15  Dyma fe hyd yn oed yn chwalu'r allor oedd Jeroboam fab Nebat wedi'i chodi yn Bethel (yr un wnaeth i Israel bechu). Tynnodd yr allor a'r man sanctaidd i lawr a'u llosgi. Malodd yr allor leol yn llwch mân a llosgi polion y dduwies Ashera.
II K WelBeibl 23:16  Pan drôdd rownd dyma Joseia'n sylwi fod beddau ar ochr y bryn. Felly dyma fe'n anfon dynion i nôl esgyrn dynol o'r beddau a'u llosgi nhw ar yr allor, i'w llygru hi. A dyna sut daeth y neges roddodd yr ARGLWYDD drwy ei broffwyd yn wir, pan oedd Jeroboam yn sefyll wrth yr allor yn ystod rhyw Ŵyl. Yna dyma'r Brenin Joseia yn digwydd sylwi ar fedd y proffwyd oedd wedi dweud y byddai hyn i gyd yn digwydd.
II K WelBeibl 23:17  “Beth ydy'r garreg fedd yna?” gofynnodd. A dyma bobl Bethel yn ateb, “Dyna fedd y proffwyd ddaeth o Jwda a proffwydo'n union beth rwyt ti wedi'i wneud ar allor Bethel.”
II K WelBeibl 23:18  A dyma Joseia'n dweud, “Gadwch lonydd iddo fe. Does neb i ymyrryd â'i esgyrn e.” Felly dyma nhw'n gadael llonydd i'w esgyrn e, ac esgyrn y proffwyd arall o ardal Samaria oedd wedi'i gladdu yna.
II K WelBeibl 23:19  Roedd Joseia hefyd wedi cael gwared â'r temlau ar allorau lleol oedd yn nhrefi Samaria. Brenhinoedd Israel oedd wedi codi'r rheiny, ac wedi digio'r ARGLWYDD drwy wneud hynny. Gwnaeth Joseia yr un peth i'r allorau hynny ag roedd wedi'i wneud i'r allor leol yn Bethel.
II K WelBeibl 23:20  Dyma fe'n lladd offeiriaid y temlau, a llosgi esgyrn dynol ar yr allorau. Yna, ar ôl gwneud hyn i gyd, dyma Joseia'n mynd yn ôl i Jerwsalem.
II K WelBeibl 23:21  Dyma'r brenin Joseia yn gorchymyn i'r bobl, “Dych chi i ddathlu Pasg yr ARGLWYDD eich Duw, yn union fel mae'n dweud yn sgrôl yr ymrwymiad yma.”
II K WelBeibl 23:22  Doedd y Pasg ddim wedi cael ei gadw fel yma ers cyfnod y barnwyr – dim drwy holl gyfnod brenhinoedd Israel a Jwda.
II K WelBeibl 23:23  Roedd Joseia wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd pan gynhaliwyd y Pasg yma i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem.
II K WelBeibl 23:24  Roedd Joseia hefyd wedi cael gwared â phawb oedd yn ymhél ag ysbrydion ac yn siarad â'r meirw, pob eilun-ddelw teuluol a'r eilunod ffiaidd eraill oedd i'w gweld yn Jwda a Jerwsalem. Gwnaeth ei orau glas i gadw gofynion y gyfraith oedd ar y sgrôl roedd Chilceia'r offeiriad wedi dod o hyd iddi yn y deml.
II K WelBeibl 23:25  Fuodd yna ddim brenin tebyg iddo o'i flaen nac ar ei ôl. Roedd wedi troi at yr ARGLWYDD â'i holl galon, ei holl enaid a'i holl nerth, i wneud fel mae Cyfraith Moses yn gofyn.
II K WelBeibl 23:26  Ac eto, roedd yr ARGLWYDD yn dal yn ddig gyda Jwda; roedd yr holl bethau oedd Manasse wedi'u gwneud wedi'i ddigio fe gymaint.
II K WelBeibl 23:27  Dwedodd, “Dw i'n mynd i droi cefn ar Jwda fel dw i wedi gwneud gydag Israel. Dw i'n mynd i wrthod Jerwsalem, y ddinas yma roeddwn i wedi'i dewis – a'r deml y dwedais i amdani, ‘Dyma ble bydda i'n byw.’”
II K WelBeibl 23:28  Mae gweddill hanes Joseia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
II K WelBeibl 23:29  Yn ystod cyfnod Joseia roedd Pharo Necho, brenin yr Aifft, wedi mynd at afon Ewffrates i helpu brenin Asyria. Dyma Joseia yn arwain ei fyddin allan i ymladd yn ei erbyn, ond cafodd Joseia ei ladd yn y frwydr yn Megido gan Pharo Necho.
II K WelBeibl 23:30  Aeth ei weision â'i gorff yn ôl o Megido i Jerwsalem mewn cerbyd rhyfel, a chafodd ei gladdu yn ei fedd ei hun. Yna dyma bobl y wlad yn cymryd Jehoachas, mab Joseia, a'i eneinio'n frenin yn lle ei dad.
II K WelBeibl 23:31  Roedd Jehoachas yn ddau ddeg tri pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis. Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna).
II K WelBeibl 23:32  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei hynafiaid o'i flaen.
II K WelBeibl 23:33  Dyma Pharo Necho yn ei ddal a'i gadw yn y ddalfa yn Ribla yn ardal Chamath, a dod â'i deyrnasiad yn Jerwsalem i ben. Ar ôl gosod treth ar y wlad o dair tunnell a chwarter o arian a tri deg cilogram o aur,
II K WelBeibl 23:34  dyma Pharo Necho'n gwneud Eliacim (mab arall i Joseia) yn frenin yn lle ei dad, a newid ei enw i Jehoiacim. Yna cymryd Jehoachas i lawr i'r Aifft, a dyna lle buodd hwnnw farw.
II K WelBeibl 23:35  Roedd Jehoiacim yn talu'r arian a'r aur oedd y Pharo yn ei hawlio, ond i wneud hynny roedd rhaid iddo drethu'r wlad i gyd. Casglodd yr arian i dalu Pharo Necho drwy godi treth oedd yn seiliedig ar faint o eiddo oedd gan bob un.
II K WelBeibl 23:36  Roedd Jehoiacim yn ddau ddeg pump oed pan gafodd ei wneud yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Sefwda (merch Pedaia o dref Rwma).
II K WelBeibl 23:37  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei hynafiaid o'i flaen.
Chapter 24
II K WelBeibl 24:1  Pan oedd Jehoiacim yn frenin, dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ymosod ar y wlad. Buodd Jehoiacim dan ei reolaeth am dair blynedd. Ond yna dyma fe'n gwrthryfela.
II K WelBeibl 24:2  Dyma'r ARGLWYDD yn anfon grwpiau o filwyr o Babilon, Syria, Moab ac Ammon i ymosod ar Jwda. A dyma nhw'n dinistrio'r wlad fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio drwy ei weision y proffwydi.
II K WelBeibl 24:3  Does dim amheuaeth mai'r ARGLWYDD wnaeth drefnu i hyn ddigwydd. Roedd e am eu gyrru nhw o'i olwg o achos yr holl bethau drwg roedd Manasse wedi'u gwneud.
II K WelBeibl 24:4  Roedd wedi lladd pobl ddiniwed, ac roedd staen eu gwaed ym mhobman drwy Jerwsalem, a doedd yr ARGLWYDD ddim am faddau hynny.
II K WelBeibl 24:5  Mae gweddill hanes Jehoiacim, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
II K WelBeibl 24:6  Pan fuodd Jehoiacim farw daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le.
II K WelBeibl 24:7  Wnaeth brenin yr Aifft ddim dod allan o'i wlad i ymladd eto, am fod brenin Babilon wedi concro'r holl diroedd roedd e'n arfer eu rheoli, o Wadi'r Aifft i afon Ewffrates.
II K WelBeibl 24:8  Un deg wyth oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis. Enw ei fam oedd Nechwshta (merch Elnathan o Jerwsalem).
II K WelBeibl 24:9  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei dad o'i flaen.
II K WelBeibl 24:10  Yr adeg yma dyma fyddin Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod a gwarchae ar Jerwsalem.
II K WelBeibl 24:11  Tra oedden nhw'n gwarchae arni dyma Nebwchadnesar ei hun yn dod i arwain yr ymosodiad.
II K WelBeibl 24:12  A dyma Jehoiachin, brenin Jwda, yn ildio ac yn mynd allan at frenin Babilon gyda'i fam, gweinidogion y llywodraeth, ei gapteiniaid a swyddogion y palas. Roedd Nebwchadnesar wedi bod yn frenin am wyth mlynedd pan gymerodd Jehoiachin yn garcharor.
II K WelBeibl 24:13  Dyma Nebwchadnesar yn cymryd trysorau'r deml i gyd hefyd, a thrysorau'r palas, a malu'r holl lestri aur roedd y Brenin Solomon wedi'u gwneud i'r deml. Digwyddodd y cwbl yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio.
II K WelBeibl 24:14  A dyma fe'n cymryd pobl Jerwsalem yn gaethion, gan gynnwys y capteniaid a'r milwyr dewr, y crefftwyr a'r gweithwyr metel – deg mil o bobl i gyd. Doedd neb ar ôl ond y werin dlawd.
II K WelBeibl 24:15  Aeth â Jehoiachin yn gaeth i Babilon, gyda'i fam a'i wragedd, swyddogion y palas a phobl fawr y wlad i gyd.
II K WelBeibl 24:16  Aeth â'r saith mil o filwyr oedd yn y wlad yn gaethion, a'r mil o ofaint a gweithwyr metel – pob milwr dewr oedd yn gallu ymladd.
II K WelBeibl 24:17  Yna dyma frenin Babilon yn gwneud Mataneia (ewythr Jehoiachin) yn frenin, a newid ei enw i Sedeceia.
II K WelBeibl 24:18  Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi'n frenin. Bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna).
II K WelBeibl 24:19  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y Brenin Jehoiacim.
II K WelBeibl 24:20  Felly gyrrodd yr ARGLWYDD bobl Jerwsalem a Jwda o'i olwg am ei fod mor ddig hefo nhw. Ond yna dyma Sedeceia yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon.
Chapter 25
II K WelBeibl 25:1  Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o'r degfed mis o nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin. Dyma nhw'n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni.
II K WelBeibl 25:2  Buon nhw'n gwarchae ar y ddinas am flwyddyn a hanner (blwyddyn un deg un Sedeceia fel brenin).
II K WelBeibl 25:3  Erbyn y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis y flwyddyn honno roedd y newyn yn y ddinas mor ddrwg doedd gan y werin bobl ddim byd o gwbl i'w fwyta.
II K WelBeibl 25:4  Dyma'r gelyn yn llwyddo i fylchu wal y ddinas. A dyma filwyr Jwda i gyd yn ceisio dianc, a mynd allan o'r ddinas ganol nos drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal wrth ymyl gardd y brenin. Dyma nhw'n dianc i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen. (Roedd y Babiloniaid yn amgylchynu'r ddinas.)
II K WelBeibl 25:5  Ond aeth byddin Babilon ar ôl y Brenin Sedeceia. Cafodd ei ddal ar wastatir Jericho, a dyma'i fyddin gyfan yn cael ei gyrru ar chwâl.
II K WelBeibl 25:6  Dyma nhw'n mynd â'r brenin Sedeceia i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon yn Ribla.
II K WelBeibl 25:7  Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd. Wedyn, dyma nhw'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon.
II K WelBeibl 25:8  Rhyw fis yn ddiweddarach, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, un o swyddogion pwysica brenin Babilon, yn cyrraedd Jerwsalem (Roedd hyn ar y degfed diwrnod o'r pumed mis, a Nebwchadnesar wedi bod yn frenin Babilon ers un deg naw o flynyddoedd.)
II K WelBeibl 25:9  Dyma fe'n rhoi teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a'r tai yn Jerwsalem i gyd ar dân. Llosgodd yr adeiladau pwysig i gyd.
II K WelBeibl 25:10  Wedyn dyma fyddin Babilon, oedd gyda'r capten, yn bwrw'r waliau o gwmpas Jerwsalem i lawr.
II K WelBeibl 25:11  A dyma Nebwsaradan yn mynd â'r bobl oedd wedi'u gadael ar ôl yn y ddinas, y milwyr oedd wedi mynd drosodd at y gelyn ac unrhyw grefftwyr oedd ar ôl, yn gaethion i Babilon.
II K WelBeibl 25:12  Ond gadawodd rai o'r bobl mwyaf tlawd yn y wlad, a rhoi gwinllannoedd a thir iddyn nhw edrych ar ei ôl.
II K WelBeibl 25:13  Wedyn, dyma'r Babiloniaid yn malu'r offer pres oedd yn y deml – y ddwy golofn bres, y trolïau dŵr pres, a'r basn mawr pres oedd yn cael ei alw ‛Y Môr‛. A dyma nhw'n cario'r metel yn ôl i Babilon.
II K WelBeibl 25:14  Dyma nhw hefyd yn cymryd y bwcedi lludw, y rhawiau, y sisyrnau, y powlenni arogldarth, a phopeth arall o bres oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr addoliad.
II K WelBeibl 25:15  Cymerodd capten y gwarchodlu y padellau a'r dysglau – popeth oedd wedi'i wneud o aur pur neu arian.
II K WelBeibl 25:16  Roedd cymaint o bres yn y ddau biler, y gronfa ddŵr a'r trolïau oedd Solomon wedi'u gwneud ar gyfer y deml, roedd y cwbl yn ormod i'w bwyso.
II K WelBeibl 25:17  Roedd y pileri yn wyth metr o uchder, gyda capan pres ar y top, ac roedd hwnnw yn fetr a hanner o uchder. O gwmpas top y capan roedd rhwyllwaith cain a phomgranadau yn ei haddurno, y cwbl wedi'i wneud o bres. Roedd y ddau biler yn union yr un fath.
II K WelBeibl 25:18  Cymerodd capten y gwarchodlu brenhinol rai pobl yn garcharorion hefyd. Aeth â Seraia (y prif-offeiriad), Seffaneia (yr offeiriad cynorthwyol), a tri porthor y deml.
II K WelBeibl 25:19  Wedyn o'r ddinas cymerodd swyddog y llys oedd yn gyfrifol am y milwyr, pump o gynghorwyr y brenin oedd wedi cael eu darganfod yn cuddio yn y ddinas, un o'r swyddogion oedd yn drafftio pobl i ymladd yn y fyddin, a chwe deg o'i ddynion gafodd eu darganfod yn y ddinas.
II K WelBeibl 25:20  Aeth Nebwsaradan, capten y gwarchodlu, â nhw at frenin Babilon i Ribla,
II K WelBeibl 25:21  a dyma'r brenin yn eu curo nhw a'u dienyddio nhw yno. Felly roedd pobl Jwda wedi cael eu caethgludo o'u tir.
II K WelBeibl 25:22  Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn penodi Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan), yn llywodraethwr dros y bobl roedd wedi'u gadael ar ôl yng ngwlad Jwda.
II K WelBeibl 25:23  Pan glywodd swyddogion byddin Jwda a'u milwyr fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia i reoli'r wlad, dyma nhw'n mynd i'w gyfarfod yn Mitspa: Ishmael fab Nethaneia, Iochanan fab Careach, Seraia fab Tanchwmeth o Netoffa, a Iaasaneia (mab y Maachathiad). Daeth y rhain i gyd gyda'u milwyr.
II K WelBeibl 25:24  A dyma Gedaleia yn addo ar lw iddyn nhw, “Does dim rhaid i chi fod ag ofn swyddogion Babilon. Arhoswch yn y wlad a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd popeth yn iawn.”
II K WelBeibl 25:25  Ond yna yn y seithfed mis dyma Ishmael, oedd yn perthyn i'r teulu brenhinol (mab Nethaneia ac ŵyr i Elishama), yn mynd i Mitspa gyda deg o'i ddynion a lladd Gedaleia a'r dynion o Jwda a Babilon oedd yno gydag e.
II K WelBeibl 25:26  Yna dyma'r boblogaeth i gyd (o'r ifancaf i'r hynaf) a swyddogion y fyddin, yn ffoi i'r Aifft am eu bod ofn beth fyddai'r Babiloniaid yn ei wneud.
II K WelBeibl 25:27  Roedd Jehoiachin, brenin Jwda, wedi bod yn garcharor am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Efil-merodach yn frenin ar Babilon. Ar y seithfed ar hugain o'r deuddegfed mis y flwyddyn honno dyma Efil-merodach yn rhyddhau Jehoiachin o garchar.
II K WelBeibl 25:28  Buodd yn garedig ato, a'i anrhydeddu fwy nag unrhyw un o'r brenhinoedd eraill oedd gydag e yn Babilon.
II K WelBeibl 25:29  Felly dyma Jehoiachin yn newid o'i ddillad carchar. Cafodd eistedd i fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd brenin Babilon,
II K WelBeibl 25:30  ac roedd yn derbyn lwfans dyddiol gan y brenin am weddill ei fywyd.