Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JUDGES
Up
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21
Toggle notes
Chapter 1
Judg WelBeibl 1:1  Ar ôl i Josua farw, gofynnodd pobl Israel i'r ARGLWYDD, “Pa lwyth ddylai arwain yr ymosodiad ar y Canaaneaid?”
Judg WelBeibl 1:2  A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Llwyth Jwda fydd yn arwain. A dw i'n mynd i roi'r tir iddyn nhw.”
Judg WelBeibl 1:3  Dwedodd arweinwyr llwyth Jwda wrth arweinwyr llwyth Simeon, “Dewch i'n helpu ni i ymladd y Canaaneaid sy'n byw ar y tir sydd wedi'i roi i ni. Gwnawn ni eich helpu chi wedyn.” Felly dyma'r dynion o lwyth Simeon yn mynd gyda nhw.
Judg WelBeibl 1:4  Dyma lwyth Jwda yn ymosod, a gwnaeth yr ARGLWYDD iddyn nhw drechu'r Canaaneaid a'r Peresiaid. Cafodd deg mil o filwyr y gelyn eu lladd yn Besec.
Judg WelBeibl 1:5  Yn ystod y frwydr, dyma nhw'n dod o hyd i Adoni-besec, y brenin.
Judg WelBeibl 1:6  Ceisiodd hwnnw ddianc, ond llwyddon nhw i'w ddal. A dyma nhw'n torri bodiau ei ddwylo a'i draed i ffwrdd.
Judg WelBeibl 1:7  “Dw i wedi torri bodiau dwylo a thraed saith deg o frenhinoedd,” meddai Adoni-besec. “Roedden nhw i gyd yn gorfod casglu briwsion dan fy mwrdd. A nawr mae Duw wedi talu'n ôl i mi am beth wnes i iddyn nhw.” Aethon nhw ag e i Jerwsalem, lle buodd e farw.
Judg WelBeibl 1:8  Roedd byddin Jwda wedi ymosod ar Jerwsalem, ei dal, lladd ei phobl, a llosgi'r ddinas yn llwyr.
Judg WelBeibl 1:9  Nesaf, dyma fyddin Jwda yn mynd i ymosod ar y Canaaneaid oedd yn byw yn y bryniau, y Negef i'r de, a'r iseldir yn y gorllewin.
Judg WelBeibl 1:10  Dyma nhw'n ymosod ar y Canaaneaid oedd yn byw yn Hebron (oedd yn arfer cael ei galw yn Ciriath-arba), a lladd dynion Sheshai, Achiman a Talmai.
Judg WelBeibl 1:11  Wedyn dyma nhw'n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir (oedd yn arfer cael ei galw yn Ciriath-seffer).
Judg WelBeibl 1:12  Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.”
Judg WelBeibl 1:13  Othniel, mab Cenas (brawd iau Caleb) wnaeth goncro'r dref, a rhoddodd Caleb ei ferch, Achsa, yn wraig iddo.
Judg WelBeibl 1:14  Pan briododd hi Othniel, dyma hi'n ei berswadio i adael iddi ofyn i'w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, gofynnodd ei thad Caleb iddi, “Beth sy'n bod?”
Judg WelBeibl 1:15  A dyma hi'n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi'r ffynhonnau uchaf a'r ffynhonnau isaf iddi.
Judg WelBeibl 1:16  Aeth disgynyddion y Cenead, tad-yng-nghyfraith Moses, o Jericho gyda phobl Jwda, a setlo i lawr i fyw gyda nhw ger Arad yn anialwch Jwda yn y Negef.
Judg WelBeibl 1:17  Yna aeth dynion llwyth Jwda gyda llwyth Simeon i ymladd yn erbyn y Canaaneaid yn Seffath, a lladd pawb yno. Felly cafodd y dref ei galw yn Horma (sef ‛Dinistr‛).
Judg WelBeibl 1:18  Wedyn dyma lwyth Jwda yn concro Gasa, Ashcelon ac Ecron, a'r tiroedd o'u cwmpas nhw.
Judg WelBeibl 1:19  Roedd yr ARGLWYDD yn helpu Jwda. Dyma nhw'n llwyddo i goncro'r bryniau, ond roedden nhw'n methu gyrru allan y bobl oedd yn byw ar yr arfordir am fod ganddyn nhw gerbydau rhyfel haearn.
Judg WelBeibl 1:20  Cafodd tref Hebron ei rhoi i Caleb, fel roedd Moses wedi addo. Llwyddodd Caleb i yrru allan tri clan o bobl oedd yn ddisgynyddion i Anac.
Judg WelBeibl 1:21  Ond wnaeth llwyth Benjamin ddim gyrru allan y Jebwsiaid o Jerwsalem. Mae'r Jebwsiaid yn dal i fyw yn Jerwsalem gyda phobl llwyth Benjamin hyd heddiw.
Judg WelBeibl 1:22  Dyma'r ARGLWYDD yn helpu disgynyddion Joseff (sef llwythau Effraim a Manasse) pan wnaethon nhw ymosod ar Bethel.
Judg WelBeibl 1:23  Dyma nhw'n anfon ysbiwyr i'r dref (oedd yn arfer cael ei galw yn Lws).
Judg WelBeibl 1:24  Tra oedd yr ysbiwyr yn gwylio'r dref, roedden nhw wedi gweld dyn yn dod allan ohoni. “Dangos i ni sut allwn ni fynd i mewn i'r dref, a gwnawn ni arbed dy fywyd di,” medden nhw wrtho.
Judg WelBeibl 1:25  Dangosodd y dyn iddyn nhw sut allen nhw fynd i mewn. Felly dyma nhw'n ymosod ac yn lladd pawb yn y dref. Dim ond y dyn oedd wedi dangos y ffordd i mewn iddyn nhw, a'i deulu, gafodd fyw.
Judg WelBeibl 1:26  Aeth y dyn hwnnw i fyw i ardal yr Hethiaid, ac adeiladu tref yno. Galwodd y dref yn Lws, a dyna'r enw arni hyd heddiw.
Judg WelBeibl 1:27  Wnaeth llwyth Manasse ddim gyrru allan bobl Beth-shean a Taanach a'u pentrefi, na pobl Dor, Ibleam a Megido a'r pentrefi o'u cwmpas nhw chwaith. Roedd y Canaaneaid yn dal i wrthod symud o'r ardaloedd hynny.
Judg WelBeibl 1:28  Yn ddiweddarach, pan oedd Israel yn gryfach, dyma nhw yn llwyddo i orfodi'r Canaaneaid i weithio fel caethweision iddyn nhw; ond wnaethon nhw erioed lwyddo i'w gyrru nhw allan yn llwyr.
Judg WelBeibl 1:29  A wnaeth llwyth Effraim ddim gyrru allan y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser. Roedden nhw'n byw gyda nhw yn Geser.
Judg WelBeibl 1:30  Wnaeth llwyth Sabulon ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Citron a Nahalal. Roedd y Canaaneaid yn byw gyda nhw fel caethweision.
Judg WelBeibl 1:31  Wnaeth llwyth Asher ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Acco a Sidon, nac yn Achlaf, Achsib, Chelba, Affec a Rechob.
Judg WelBeibl 1:32  Felly roedd llwyth Asher yn byw yng nghanol y Canaaneaid i gyd, am eu bod heb eu gyrru nhw allan.
Judg WelBeibl 1:33  Wnaeth llwyth Nafftali ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Beth-shemesh na Beth-anath, ond dyma nhw'n eu gorfodi nhw i fod yn gaethweision iddyn nhw. Roedd pobl Nafftali yn gorfod byw yng nghanol y Canaaneaid.
Judg WelBeibl 1:34  Cafodd llwyth Dan eu gorfodi gan yr Amoriaid i fyw yn y bryniau. Cawson nhw eu rhwystro rhag dod i lawr i fyw ar yr arfordir.
Judg WelBeibl 1:35  Roedd yr Amoriaid yn benderfynol o aros yn Har-cheres, Aialon, a Shaalfîm hefyd. Ond dyma lwythau meibion Joseff yn ymosod yn galed, a dyma nhw yn gorfodi'r Amoriaid i fod yn gaethweision iddyn nhw.
Judg WelBeibl 1:36  Roedd y ffin gyda'r Amoriaid yn rhedeg o Fwlch y Sgorpion i fyny heibio Sela.
Chapter 2
Judg WelBeibl 2:1  Dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd o Gilgal i Bochîm gyda neges i bobl Israel: “Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft, a'ch arwain chi i'r tir roeddwn i wedi addo'i roi i'ch hynafiaid. Dwedais wrthoch chi, ‘Wna i byth dorri'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda chi.
Judg WelBeibl 2:2  Ond rhaid i chi beidio gwneud cytundeb heddwch â'r bobl sy'n byw yn y wlad yma, a rhaid i chi ddinistrio'r allorau lle maen nhw'n addoli eu duwiau.’ Ond dych chi ddim wedi gwrando arna i. Pam hynny?
Judg WelBeibl 2:3  Rôn i wedi'ch rhybuddio chi, ‘Os wnewch chi ddim gwrando, fydda i ddim yn gyrru'r Canaaneaid allan o'ch blaen chi. Byddan nhw'n fygythiad cyson, a byddwch yn cael eich denu gan eu duwiau nhw.’”
Judg WelBeibl 2:4  Pan oedd angel yr ARGLWYDD wedi dweud hyn wrth bobl Israel, dyma nhw'n torri allan i grio'n uchel.
Judg WelBeibl 2:5  Dyma nhw'n galw'r lle yn Bochîm, ac yn cyflwyno aberthau i'r ARGLWYDD.
Judg WelBeibl 2:6  Ar ôl i Josua adael i bobl Israel fynd, y bwriad oedd iddyn nhw i gyd feddiannu'r tir oedd wedi cael ei roi iddyn nhw.
Judg WelBeibl 2:7  Tra oedd Josua'n fyw roedden nhw wedi addoli'r ARGLWYDD. Ac roedden nhw wedi dal ati i'w addoli pan oedd yr arweinwyr eraill o'r un genhedlaeth yn dal yn fyw – y dynion oedd wedi gweld drostyn nhw eu hunain y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD dros bobl Israel.
Judg WelBeibl 2:8  Ond yna dyma Josua fab Nwn, gwas yr ARGLWYDD, yn marw, yn gant a deg.
Judg WelBeibl 2:9  Cafodd ei gladdu ar ei dir ei hun, yn Timnath-cheres ym mryniau Effraim, i'r gogledd o Fynydd Gaash.
Judg WelBeibl 2:10  Pan oedd y genhedlaeth yna i gyd wedi mynd, daeth cenhedlaeth ar eu holau oedd ddim wedi cael profiad personol o'r ARGLWYDD nac wedi gweld drostyn nhw eu hunain beth wnaeth e dros Israel.
Judg WelBeibl 2:11  Yna dyma bobl Israel yn gwneud rhywbeth gwirioneddol ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: addoli delwau o Baal.
Judg WelBeibl 2:12  Dyma nhw'n troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, wnaeth eu hachub nhw o wlad yr Aifft, a dechrau addoli duwiau'r bobloedd o'u cwmpas. Roedd Duw wedi digio go iawn!
Judg WelBeibl 2:13  Roedden nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, a dechrau addoli Baal a'r delwau o'r dduwies Ashtart. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel!
Judg WelBeibl 2:14  Dyma fe'n gadael i ladron ddwyn oddi arnyn nhw. Roedd y gelynion o'u cwmpas nhw yn gallu gwneud beth fynnen nhw! Doedden nhw'n gallu gwneud dim i'w rhwystro.
Judg WelBeibl 2:15  Pan oedd Israel yn mynd allan i ymladd, roedd yr ARGLWYDD yn eu herbyn nhw! Roedd e wedi rhybuddio mai dyna fyddai'n ei wneud. Roedd hi'n argyfwng go iawn arnyn nhw.
Judg WelBeibl 2:16  Yna dyma'r ARGLWYDD yn codi arweinwyr i achub pobl Israel o ddwylo eu gelynion.
Judg WelBeibl 2:17  Ond doedden nhw ddim yn gwrando ar eu harweinwyr. Roedden nhw'n puteinio drwy roi eu hunain i dduwiau eraill a'u haddoli nhw. Roedden nhw'n rhy barod i grwydro oddi ar y llwybr roedd eu hynafiaid wedi'i ddilyn. Roedd eu hynafiaid wedi bod yn ufudd i orchmynion yr ARGLWYDD, ond doedden nhw ddim.
Judg WelBeibl 2:18  Wrth i bobl Israel riddfan am fod y gelynion yn eu cam-drin nhw, roedd yr ARGLWYDD yn teimlo drostyn nhw. Roedd yn dewis arweinwyr iddyn nhw, ac yn helpu'r arweinwyr hynny i'w hachub o ddwylo eu gelynion. Wedyn roedd popeth yn iawn tra oedd yr arweinydd yn fyw,
Judg WelBeibl 2:19  ond ar ôl i'r arweinydd farw, byddai'r genhedlaeth nesaf yn ymddwyn yn waeth na'r un o'i blaen. Bydden nhw'n mynd yn ôl i addoli duwiau eraill ac yn gweddïo arnyn nhw. Roedden nhw mor ystyfnig, ac yn gwrthod stopio gwneud drwg.
Judg WelBeibl 2:20  Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. “Mae'r genedl yma wedi torri amodau'r ymrwymiad wnes i gyda'u hynafiaid nhw. Maen nhw wedi gwrthod gwrando arna i,
Judg WelBeibl 2:21  felly o hyn ymlaen wna i ddim gyrru allan y bobloedd hynny oedd yn dal heb eu concro pan fuodd Josua farw.
Judg WelBeibl 2:22  Cawson nhw eu gadael i brofi Israel. Rôn i eisiau gweld fyddai'r bobl yn ufuddhau i'r ARGLWYDD fel roedd eu hynafiaid wedi gwneud.”
Judg WelBeibl 2:23  Dyna'r rheswm pam wnaeth yr ARGLWYDD ddim gyrru'r bobloedd yna allan yn syth, na gadael i Josua eu concro nhw i gyd.
Chapter 3
Judg WelBeibl 3:1  Roedd yr ARGLWYDD wedi gadael y bobloedd yn y wlad er mwyn profi pobl Israel (sef y rhai oedd ddim wedi gorfod brwydro yn erbyn y Canaaneaid eu hunain).
Judg WelBeibl 3:2  Roedd e eisiau i bob cenhedlaeth oedd ddim wedi cael profiad o ryfela, ddysgu sut i ymladd.
Judg WelBeibl 3:3  Dyma'r bobloedd oedd ar ôl: Y Philistiaid a'u pum arweinydd, y Canaaneaid i gyd, y Sidoniaid a'r Hefiaid oedd yn byw yn mynydd-dir Libanus (o Fynydd Baal-hermon i Fwlch Chamath).
Judg WelBeibl 3:4  Cafodd y rhain eu gadael i brofi pobl Israel, er mwyn gweld fyddai'r bobl yn ufudd i'r gorchmynion roedd yr ARGLWYDD wedi'u rhoi i'w hynafiaid nhw drwy Moses.
Judg WelBeibl 3:5  Roedd pobl Israel wedi setlo i lawr yng nghanol y Canaaneaid, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid.
Judg WelBeibl 3:6  Roedden nhw'n priodi eu merched, ac yn rhoi eu merched eu hunain i'r Canaaneaid. Ac roedden nhw'n addoli eu duwiau nhw hefyd.
Judg WelBeibl 3:7  Gwnaeth pobl Israel rywbeth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Dyma nhw'n anghofio'r ARGLWYDD eu Duw ac addoli delwau o Baal a pholion y dduwies Ashera.
Judg WelBeibl 3:8  Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. Dyma fe'n gadael i Cwshan-rishathaïm, brenin Mesopotamia, eu rheoli nhw. Roedden nhw'n gaethion i Cwshan-rishathaïm am wyth mlynedd.
Judg WelBeibl 3:9  Pan waeddodd pobl Israel ar yr ARGLWYDD am help, dyma fe'n codi rhywun i'w hachub nhw – Othniel, mab Cenas (brawd iau Caleb).
Judg WelBeibl 3:10  Daeth Ysbryd yr ARGLWYDD arno, a dyma fe'n arwain Israel i frwydro yn erbyn Cwshan-rishathaïm. A dyma Othniel yn ennill y frwydr.
Judg WelBeibl 3:11  Ar ôl hynny, roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg mlynedd, nes i Othniel, mab Cenas, farw.
Judg WelBeibl 3:12  Dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly, o achos hyn, dyma'r ARGLWYDD yn gadael i Eglon, brenin Moab, reoli Israel.
Judg WelBeibl 3:13  Roedd Eglon wedi ffurfio cynghrair milwrol gyda'r Ammoniaid a'r Amaleciaid i ymosod ar Israel. Dyma nhw'n ennill y frwydr ac yn dal Jericho.
Judg WelBeibl 3:14  Buodd pobl Israel yn gaethion i'r brenin Eglon am un deg wyth mlynedd.
Judg WelBeibl 3:15  Pan waeddodd pobl Israel ar yr ARGLWYDD am help, dyma fe'n codi rhywun i'w hachub nhw. Ei enw oedd Ehwd, mab Gera, o lwyth Benjamin. Roedd yn ddyn llaw chwith. Roedd Ehwd i fod i fynd â threthi pobl Israel i Eglon, brenin Moab.
Judg WelBeibl 3:16  Ond cyn mynd, dyma Ehwd yn gwneud cleddyf iddo'i hun. Roedd y cleddyf tua 45 centimetr o hyd, gyda min ar ddwy ochr y llafn. Dyma fe'n strapio'r cleddyf ar ei ochr dde, o dan ei ddillad.
Judg WelBeibl 3:17  Yna dyma fe'n mynd â'r arian trethi i Eglon. Roedd Eglon yn ddyn tew iawn.
Judg WelBeibl 3:18  Ar ôl cyflwyno'r trethi i'r brenin, dyma Ehwd a'r dynion oedd wedi cario'r arian yn troi am adre.
Judg WelBeibl 3:19  Ond pan ddaethon nhw at y delwau cerrig yn Gilgal, dyma Ehwd yn troi yn ei ôl. A dyma fe'n dweud wrth y Brenin Eglon, “Mae gen i neges gyfrinachol i'w rhannu gyda chi, eich mawrhydi.” “Ust! Aros eiliad,” meddai Eglon; a dyma fe'n anfon ei weision i gyd allan.
Judg WelBeibl 3:20  Felly roedd yn eistedd ar ei ben ei hun yn yr ystafell uchaf – ystafell agored braf. Dyma Ehwd yn mynd draw ato, a dweud, “Mae gen i neges i chi gan Dduw!” Pan gododd y brenin ar ei draed,
Judg WelBeibl 3:21  tynnodd Ehwd ei gleddyf allan gyda'i law chwith a'i wthio i stumog Eglon.
Judg WelBeibl 3:22  Aeth mor ddwfn nes i'r carn fynd ar ôl y llafn, a diflannu yn ei floneg. Allai Ehwd ddim tynnu'r cleddyf allan.
Judg WelBeibl 3:23  Yna dyma fe'n cloi drysau'r ystafell, a dianc drwy ddringo i lawr y twll carthion o'r tŷ bach.
Judg WelBeibl 3:24  Pan ddaeth gweision y brenin yn ôl a darganfod fod y drysau wedi'u cloi, roedden nhw'n meddwl, “Mae'n rhaid ei fod e'n y tŷ bach.”
Judg WelBeibl 3:25  Ond ar ôl aros ac aros am amser hir, dyma nhw'n dechrau teimlo'n anesmwyth. Doedd e'n dal heb agor y drysau. Felly dyma nhw'n nôl allwedd a mynd i mewn. A dyna lle roedd eu meistr, yn gorwedd yn farw ar lawr!
Judg WelBeibl 3:26  Ond erbyn hynny roedd Ehwd wedi hen ddianc. Roedd wedi mynd heibio'r delwau cerrig, ac ar y ffordd i Seira.
Judg WelBeibl 3:27  Pan gyrhaeddodd Seira, dyma fe'n chwythu'r corn hwrdd ar fryniau Effraim, i alw byddin at ei gilydd. A dyma ddynion Effraim yn mynd yn ôl i lawr gydag e o'r bryniau. Ehwd oedd yn eu harwain.
Judg WelBeibl 3:28  “Dewch!” meddai. “Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i chi yn erbyn eich gelynion, y Moabiaid!” Felly aethon nhw ar ei ôl i lawr i ddyffryn Iorddonen, a dal y rhydau lle mae pobl yn croesi drosodd i Moab. Doedden nhw ddim yn gadael i unrhyw un groesi.
Judg WelBeibl 3:29  Y diwrnod hwnnw, lladdon nhw tua deg mil o filwyr gorau Moab – dynion cryf i gyd. Wnaeth dim un ohonyn nhw ddianc.
Judg WelBeibl 3:30  Cafodd byddin Moab ei threchu'n llwyr y diwrnod hwnnw, ac roedd heddwch yn y wlad am wyth deg mlynedd.
Judg WelBeibl 3:31  Ar ôl Ehwd, yr un nesaf i achub Israel oedd Shamgar, mab Anat. Lladdodd Shamgar chwe chant o Philistiaid gyda ffon brocio ychen.
Chapter 4
Judg WelBeibl 4:1  Ond ar ôl i Ehwd farw, dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
Judg WelBeibl 4:2  A dyma fe'n gadael i Jabin eu rheoli nhw – un o frenhinoedd Canaan, oedd yn teyrnasu yn Chatsor. Enw cadfridog ei fyddin oedd Sisera, ac roedd yn byw yn Charoseth-hagoïm.
Judg WelBeibl 4:3  Dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help am fod y Brenin Jabin wedi'u cam-drin nhw'n ofnadwy ers ugain mlynedd. Roedd naw cant o gerbydau rhyfel haearn gan ei fyddin.
Judg WelBeibl 4:4  Debora, gwraig Lapidoth, oedd yn arwain Israel ar y pryd. Roedd hi'n broffwydes.
Judg WelBeibl 4:5  Byddai'n eistedd i farnu achosion pobl Israel dan Goeden Balmwydd Debora, oedd rhwng Rama a Bethel ym mryniau Effraim. Byddai'r bobl yn dod ati yno, i ofyn iddi setlo achosion rhyngddyn nhw.
Judg WelBeibl 4:6  Dyma hi'n anfon am Barac fab Abinoam o Cedesh ar dir llwyth Nafftali. Ac meddai wrtho, “Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn gorchymyn i ti fynd â deg mil o ddynion o lwythau Nafftali a Sabulon i fynydd Tabor, i baratoi i fynd i ryfel.
Judg WelBeibl 4:7  Bydda i'n arwain Sisera, cadfridog byddin y Brenin Jabin, atat ti at afon Cison. Bydd yn dod yno gyda'i gerbydau rhyfel a'i fyddin enfawr. Ond ti fydd yn ennill y frwydr.”
Judg WelBeibl 4:8  Atebodd Barac, “Dw i ddim ond yn fodlon mynd os ei di gyda mi.”
Judg WelBeibl 4:9  “Iawn,” meddai hi, “gwna i fynd gyda ti. Ond os mai dyna dy agwedd di, fyddi di'n cael dim o'r clod. Bydd yr ARGLWYDD yn trefnu mai gwraig fydd yn delio gyda Sisera.” Felly aeth Debora gyda Barac i Cedesh.
Judg WelBeibl 4:10  A dyma Barac yn galw byddin at ei gilydd o lwythau Sabulon a Nafftali. Aeth deg mil o ddynion gydag e ac aeth Debora gydag e hefyd.
Judg WelBeibl 4:11  Roedd Heber y Cenead wedi symud i ffwrdd oddi wrth weddill y Ceneaid (disgynyddion Chobab, oedd yn perthyn drwy briodas i Moses). Roedd yn byw wrth dderwen Tsa-ananîm, heb fod yn bell o Cedesh.
Judg WelBeibl 4:12  Pan glywodd Sisera fod Barac fab Abinoam wedi arwain byddin at Fynydd Tabor,
Judg WelBeibl 4:13  dyma yntau'n galw'r fyddin gyfan oedd ganddo yn Charoseth-hagoïm at ei gilydd. Yna eu harwain, gyda'r naw cant o gerbydau rhyfel haearn, at afon Cison.
Judg WelBeibl 4:14  Yna dyma Debora yn dweud wrth Barac, “I ffwrdd â ti! Heddiw, mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi Sisera yn dy ddwylo di! Mae'r ARGLWYDD ei hun wedi mynd o dy flaen di!” Felly dyma Barac yn mynd yn syth, ac yn arwain ei fyddin o ddeg mil i lawr llethrau Mynydd Tabor.
Judg WelBeibl 4:15  A gwnaeth yr ARGLWYDD i Sisera a'i holl gerbydau a'i fyddin banicio. Dyma Barac a'i fyddin yn ymosod arnyn nhw. (Roedd Sisera ei hun wedi gadael ei gerbyd a cheisio dianc ar droed.)
Judg WelBeibl 4:16  Aeth byddin Barac ar eu holau yr holl ffordd i Charoseth-hagoïm, a chafodd milwyr Sisera i gyd eu lladd – gafodd dim un ei adael yn fyw.
Judg WelBeibl 4:17  Yn y cyfamser, roedd Sisera wedi dianc i babell Jael, gwraig Heber y Cenead. (Roedd y Brenin Jabin o Chatsor wedi gwneud cytundeb heddwch â llwyth Heber.)
Judg WelBeibl 4:18  Aeth Jael allan i'w groesawu a dweud wrtho, “Tyrd yma, syr. Tyrd i orffwys yma gyda mi. Paid bod ag ofn!” Felly, aeth Sisera i mewn i'r babell, a dyma Jael yn rhoi blanced drosto.
Judg WelBeibl 4:19  Dyma fe'n gofyn iddi, “Ga i ddiod o ddŵr? Dw i'n marw o syched.” A dyma hi'n agor potel groen gafr o laeth a rhoi diod iddo. Yna rhoddodd y flanced drosto eto.
Judg WelBeibl 4:20  “Dos i sefyll wrth fynedfa'r babell,” meddai Sisera wrthi. “Os bydd rhywun yn gofyn i ti oes yna rywun yn y babell, dywed ‘Na’ wrthyn nhw.”
Judg WelBeibl 4:21  Roedd Sisera wedi llwyr ymlâdd ac wedi syrthio i gysgu'n drwm. A dyma Jael yn cymryd peg pabell a morthwyl a mynd at Sisera'n dawel bach. Yna dyma hi'n bwrw'r peg drwy ochr ei ben i'r ddaear, a'i ladd.
Judg WelBeibl 4:22  Roedd Barac wedi bod yn dilyn Sisera. Pan gyrhaeddodd, dyma Jael yn mynd allan i'w gyfarfod a dweud wrtho, “Tyrd yma i mi ddangos i ti'r dyn ti'n edrych amdano.” Aeth Barac i mewn i'r babell gyda hi, a dyna lle roedd Sisera'n gorwedd yn farw, gyda peg pabell wedi'i fwrw drwy ei ben.
Judg WelBeibl 4:23  Y diwrnod hwnnw, roedd Duw wedi gwneud i Israel drechu'r Brenin Jabin o Canaan.
Judg WelBeibl 4:24  Ac o hynny ymlaen, dyma'r Israeliaid yn taro'r Brenin Jabin yn galetach ac yn galetach, nes yn y diwedd roedden nhw wedi'i ddinistrio'n llwyr.
Chapter 5
Judg WelBeibl 5:1  Y diwrnod hwnnw, dyma Debora a Barac yn canu cân i ddathlu'r fuddugoliaeth:
Judg WelBeibl 5:2  Pan mae arweinwyr Israel yn arwain, a dynion yn gwirfoddoli'n frwd, Molwch yr ARGLWYDD!
Judg WelBeibl 5:3  Clywch, frenhinoedd! Gwrandwch, arweinwyr! Dw i'n canu i'r ARGLWYDD! – ie, canu mawl i'r ARGLWYDD, Duw Israel.
Judg WelBeibl 5:4  O ARGLWYDD, pan adewaist Seir, a chroesi gwastatir Edom, dyma'r ddaear yn crynu, a chymylau'r awyr yn tywallt y glaw.
Judg WelBeibl 5:5  Crynodd y mynyddoedd o flaen yr ARGLWYDD, Duw Sinai; o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel.
Judg WelBeibl 5:6  Yn nyddiau Shamgar, mab Anat, ac eto yn nyddiau Jael, roedd pobl yn osgoi'r priffyrdd ac yn teithio ar ffyrdd troellog cefn gwlad.
Judg WelBeibl 5:7  Roedd rhyfelwyr yn brin yn Israel, nes i ti, Debora, godi, fel mam yn amddiffyn Israel.
Judg WelBeibl 5:8  Roedd Israel yn dilyn duwiau newydd, a daeth gelynion i ymosod ar eu giatiau. Doedd dim tarian na gwaywffon i'w cael gan bedwar deg o unedau milwrol Israel.
Judg WelBeibl 5:9  Ond molwch yr ARGLWYDD! Diolch am arweinwyr Israel, a'r dynion wnaeth wirfoddoli i ymladd.
Judg WelBeibl 5:10  Gwrandwch bawb! – chi sy'n marchogaeth asennod gwynion, yn eistedd yn gyfforddus ar garthenni cyfrwy, a chi sy'n gorfod cerdded ar y ffordd.
Judg WelBeibl 5:11  Gwrandwch arnyn nhw'n canu wrth y ffynhonnau! – yn canu am y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD, a'r cwbl wnaeth rhyfelwyr Israel. Aeth byddin yr ARGLWYDD at giatiau'r ddinas!
Judg WelBeibl 5:12  Deffra! deffra! Debora. Deffra! deffra! cana gân! Ar dy draed, Barac! Cymer garcharorion rhyfel, fab Abinoam!
Judg WelBeibl 5:13  A dyma'r dynion oedd ar gael yn dod i lawr at eu harweinwyr. Daeth pobl yr ARGLWYDD i ymuno â mi fel rhyfelwyr.
Judg WelBeibl 5:14  Daeth rhai o Effraim (lle bu'r Amaleciaid yn byw), a milwyr Benjamin yn eu dilyn. Daeth capteiniaid i lawr o Machir, ac uchel-swyddogion o Sabulon.
Judg WelBeibl 5:15  Roedd arweinwyr Issachar gyda Debora, ac yn ufudd i orchymyn Barac, yn rhuthro ar ei ôl i'r dyffryn. Ond roedd pobl llwyth Reuben yn methu penderfynu beth i'w wneud.
Judg WelBeibl 5:16  Pam wnaethoch chi aros wrth y corlannau? Ai i wrando ar y bugeiliaid yn canu eu pibau i'r defaid? Oedden, roedd pobl llwyth Reuben yn methu penderfynu beth i'w wneud.
Judg WelBeibl 5:17  A dyma bobl Gilead hefyd yn aros yr ochr draw i'r Iorddonen Ac yna llwyth Dan – pam wnaethon nhw symud i weithio yn y dociau? Ac Asher, oedd yn byw ar yr arfordir – arhosodd yntau ger yr harbwr.
Judg WelBeibl 5:18  Roedd dynion Sabulon a Nafftali yn mentro'u bywydau ar faes y gâd.
Judg WelBeibl 5:19  Daeth brenhinoedd Canaan i ymladd yn ein herbyn, yn Taanach wrth nentydd Megido. Ond gymron nhw ddim arian oddi arnon ni.
Judg WelBeibl 5:20  Daeth sêr yr awyr i ymuno yn y frwydr, ac ymladd yn erbyn Sisera.
Judg WelBeibl 5:21  Dyma afon Cison yn eu hysgubo i ffwrdd; roedd yr afon yn eu hwynebu – afon Cison. O, saf ar yddfau'r rhai cryfion!
Judg WelBeibl 5:22  Roedd carnau eu ceffylau yn taro'r tir, a'u meirch yn carlamu i ffwrdd.
Judg WelBeibl 5:23  “Melltithiwch dref Meros!” meddai angel yr ARGLWYDD. “Melltithiwch bawb sy'n byw yno, am iddyn nhw beidio dod i ymladd brwydr yr ARGLWYDD – ymladd yn erbyn arwyr y gelyn.”
Judg WelBeibl 5:24  Mae Jael yn haeddu ei hanrhydeddu, sef gwraig Heber y Cenead. Mae hi'n haeddu anrhydedd mwy nag unrhyw wraig sy'n byw mewn pabell.
Judg WelBeibl 5:25  Gofynnodd Sisera am ddŵr, a rhoddodd iddo laeth; a phowlen hardd o gaws colfran.
Judg WelBeibl 5:26  Gyda peg pabell yn ei llaw chwith a morthwyl yn y llaw dde, trawodd Sisera a malu ei benglog – bwrw'r peg drwy ochr ei ben!
Judg WelBeibl 5:27  Syrthiodd wrth ei thraed. Syrthio, a gorwedd yn llipa. Gorwedd ar lawr wrth ei thraed, yn llipa a difywyd – yn farw!
Judg WelBeibl 5:28  Wrth y ffenest roedd ei fam yn disgwyl; mam Sisera'n gweiddi yn ei gofid: “Pam mae e mor hir yn dod nôl? Pam nad oes sŵn carnau a cherbyd yn cyrraedd?”
Judg WelBeibl 5:29  Ac mae'r gwragedd doeth o'i chwmpas yn ateb, a hithau'n meddwl yr un fath,
Judg WelBeibl 5:30  “Mae'n siŵr eu bod nhw'n casglu trysorau, a merch neu ddwy i bob dyn ei threisio! Dillad lliwgar, hardd i Sisera; dillad gwych o ddefnydd wedi'i frodio, a sgarff neu ddau i'w gwisgo!”
Judg WelBeibl 5:31  O ARGLWYDD, boed i dy elynion i gyd ddarfod yr un fath! Ond boed i'r rhai sy'n dy garu di ddisgleirio'n llachar fel yr haul ganol dydd! Ar ôl hynny, roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg o flynyddoedd.
Chapter 6
Judg WelBeibl 6:1  Dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud rhywbeth gwirioneddol ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly dyma fe'n gadael i Midian eu rheoli nhw am saith mlynedd.
Judg WelBeibl 6:2  Roedd y Midianiaid mor greulon nes i lawer o bobl Israel ddianc i'r mynyddoedd i fyw mewn cuddfannau ac ogofâu a lleoedd saff eraill.
Judg WelBeibl 6:3  Bob tro y byddai pobl Israel yn plannu cnydau, byddai'r Midianiaid, yr Amaleciaid a phobl eraill o'r dwyrain yn ymosod arnyn nhw.
Judg WelBeibl 6:4  Roedden nhw'n cymryd y wlad drosodd ac yn dinistrio'r cnydau i gyd, yr holl ffordd i Gasa. Roedden nhw'n dwyn y defaid, yr ychen a'r asynnod a gadael dim i bobl Israel ei fwyta.
Judg WelBeibl 6:5  Pan oedden nhw'n dod gyda'u hanifeiliaid a'u pebyll, roedden nhw fel haid o locustiaid! Roedd cymaint ohonyn nhw, roedd hi'n amhosib eu cyfri nhw na'u camelod. Roedden nhw'n dod ac yn dinistrio popeth.
Judg WelBeibl 6:6  Roedd pobl Israel yn ddifrifol o wan o achos Midian, a dyma nhw'n gweiddi'n daer ar yr ARGLWYDD am help.
Judg WelBeibl 6:7  Pan ddigwyddodd hynny, dyma'r ARGLWYDD yn anfon proffwyd atyn nhw gyda neges gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn dweud: “Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft, a'ch rhyddhau o fod yn gaethweision.
Judg WelBeibl 6:8  Pan ddigwyddodd hynny, dyma'r ARGLWYDD yn anfon proffwyd atyn nhw gyda neges gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn dweud: “Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft, a'ch rhyddhau o fod yn gaethweision.
Judg WelBeibl 6:9  Gwnes i'ch achub chi o'u gafael nhw, ac o afael pawb arall oedd yn eich gormesu chi. Dyma fi'n eu gyrru nhw allan o'ch blaen chi, ac yn rhoi eu tir nhw i chi.
Judg WelBeibl 6:10  A dwedais wrthoch chi, ‘Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Peidiwch addoli duwiau'r Amoriaid dych chi'n byw ar eu tir nhw!’ Ond dych chi ddim wedi gwrando arna i.”
Judg WelBeibl 6:11  Dyma angel yr ARGLWYDD yn dod ac yn eistedd dan y goeden dderwen oedd ar dir Joas yr Abiesriad yn Offra. Roedd Gideon, ei fab, yno yn dyrnu ŷd mewn cafn gwasgu grawnwin, i'w guddio oddi wrth y Midianiaid.
Judg WelBeibl 6:12  Pan welodd yr angel, dyma'r angel yn dweud wrtho, “Mae'r ARGLWYDD gyda ti, filwr dewr.”
Judg WelBeibl 6:13  “Beth, syr?” meddai Gideon. “Os ydy'r ARGLWYDD gyda ni, pam mae pethau mor ddrwg arnon ni? Pam nad ydy e'n gwneud gwyrthiau rhyfeddol fel y rhai soniodd ein hynafiaid amdanyn nhw? ‘Daeth yr ARGLWYDD â ni allan o'r Aifft!’ – dyna roedden nhw'n ei ddweud. Ond bellach mae'r ARGLWYDD wedi troi ei gefn arnon ni, a gadael i'r Midianiaid ein rheoli.”
Judg WelBeibl 6:14  Ond yna, dyma'r ARGLWYDD ei hun yn dweud wrth Gideon, “Rwyt ti'n gryf. Dos, i achub Israel o afael y Midianiaid. Fi sy'n dy anfon di.”
Judg WelBeibl 6:15  Atebodd Gideon, “Ond feistr, sut alla i achub Israel? Dw i'n dod o'r clan lleiaf pwysig yn llwyth Manasse, a fi ydy mab ifancaf y teulu!”
Judg WelBeibl 6:16  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Ie, ond bydda i gyda ti. Byddi di'n taro'r Midianiaid i gyd ar unwaith!”
Judg WelBeibl 6:17  Yna dyma Gideon yn dweud, “Plîs wnei di roi rhyw arwydd i mi i brofi mai ti sy'n siarad hefo fi go iawn.
Judg WelBeibl 6:18  Paid mynd i ffwrdd nes bydda i wedi dod yn ôl gydag offrwm i'w gyflwyno i ti.” “Gwna i aros yma nes doi di yn ôl,” meddai'r ARGLWYDD.
Judg WelBeibl 6:19  Felly dyma Gideon yn mynd a pharatoi myn gafr ifanc. Defnyddiodd sachaid fawr o flawd i baratoi bara heb furum ynddo – tua deg cilogram. Rhoddodd y cig mewn basged a'r cawl mewn crochan a dod â'r bwyd i'w roi i'r angel oedd o dan y goeden dderwen.
Judg WelBeibl 6:20  Yna dyma'r angel yn dweud wrtho, “Gosod y cig a'r bara ar y garreg yma, yna tywallt y cawl drosto.” Pan wnaeth Gideon hynny,
Judg WelBeibl 6:21  dyma'r angel yn cyffwrdd y cig a'r bara gyda blaen ei ffon. Ac yn sydyn, dyma fflamau tân yn codi o'r garreg a llosgi'r cig a'r bara. Yna diflannodd angel yr ARGLWYDD.
Judg WelBeibl 6:22  Roedd Gideon yn gwybod yn iawn wedyn mai angel yr ARGLWYDD oedd e. “O, na!” meddai. “Feistr, ARGLWYDD. Dw i wedi gweld angel yr ARGLWYDD wyneb yn wyneb!”
Judg WelBeibl 6:23  Ond meddai'r ARGLWYDD wrtho, “Popeth yn iawn. Paid bod ag ofn. Ti ddim yn mynd i farw.”
Judg WelBeibl 6:24  A dyma Gideon yn adeiladu allor yno i'r ARGLWYDD, a rhoi'r enw “Heddwch yr ARGLWYDD” arni. (Mae'n dal yna heddiw, yn Offra yr Abiesriaid.)
Judg WelBeibl 6:25  Y noson honno, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Cymer y tarw gorau ond un sydd gan dy dad, yr un saith mlwydd oed. Yna dos a chwalu'r allor sydd gan dy dad i Baal, a thorri'r polyn Ashera sydd wrth ei hymyl.
Judg WelBeibl 6:26  Wedyn dw i eisiau i ti adeiladu allor i'r ARGLWYDD dy Dduw ar ben y bryn yma, a gosod y cerrig mewn trefn. Defnyddia bolyn y dduwies Ashera wnest ti ei dorri i lawr fel coed tân i aberthu'r tarw yn offrwm i'w losgi'n llwyr.”
Judg WelBeibl 6:27  Felly dyma Gideon yn mynd â deg o weision a gwneud fel y dwedodd yr ARGLWYDD. Ond arhosodd tan ganol nos, am fod arno ofn aelodau eraill y teulu a phobl y dref.
Judg WelBeibl 6:28  Y bore wedyn, pan oedd pawb wedi codi, cawson nhw sioc o weld allor Baal wedi'i dryllio a pholyn y dduwies Ashera wedi'i dorri i lawr. A hefyd yr allor newydd oedd wedi'i chodi, gydag olion y tarw oedd wedi'i aberthu arni.
Judg WelBeibl 6:29  “Pwy sydd wedi gwneud hyn?” medden nhw. Ar ôl holi'n fanwl, dyma nhw'n darganfod yn y diwedd mai Gideon, mab Joas, oedd wedi gwneud y peth.
Judg WelBeibl 6:30  Dyma nhw'n mynd at Joas. “Tyrd a dy fab allan yma,” medden nhw. “Fe sydd wedi dinistrio allor Baal ac wedi torri polyn y dduwies Ashera i lawr. Rhaid iddo farw!”
Judg WelBeibl 6:31  Ond dyma Joas yn dweud wrth y dyrfa oedd yn ei fygwth, “Ydy Baal angen i chi ymladd ei frwydrau? Ydych chi'n mynd i'w achub e? Bydd unrhyw un sy'n ymladd drosto wedi marw erbyn y bore. Os ydy Baal yn dduw go iawn, gadewch iddo ymladd ei frwydrau ei hun pan mae rhywun yn dinistrio'i allor!”
Judg WelBeibl 6:32  Y diwrnod hwnnw, dechreuodd ei dad alw Gideon yn Jerwb-baal, ar ôl dweud, “Gadewch i Baal ymladd gydag e, am ei fod wedi chwalu allor Baal.”
Judg WelBeibl 6:33  Dyma'r Midianiaid, yr Amaleciaid a phobloedd eraill o'r dwyrain yn dod at ei gilydd ac yn croesi afon Iorddonen a gwersylla yn Nyffryn Jesreel.
Judg WelBeibl 6:34  A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Gideon. Chwythodd y corn hwrdd a galw byddin o ddynion o glan Abieser i'w ddilyn.
Judg WelBeibl 6:35  Yna anfonodd negeswyr drwy diroedd llwythau Manasse, Asher, Sabulon, a Nafftali i alw mwy o ddynion at ei gilydd, a dyma nhw i gyd yn dod i wynebu'r gelynion.
Judg WelBeibl 6:36  Yna dyma Gideon yn dweud wrth Dduw, “Os wyt ti'n mynd i'm defnyddio i i achub Israel, fel ti wedi addo, rho arwydd i mi i ddangos fod hynny'n wir.
Judg WelBeibl 6:37  Heno dw i'n mynd i roi swp o wlân allan ar y llawr dyrnu. Os bydd gwlith ar y gwlân yn unig a'r ddaear o'i gwmpas yn sych, bydda i'n gwybod yn bendant wedyn dy fod ti'n mynd i achub Israel trwof fi, fel ti wedi addo.”
Judg WelBeibl 6:38  A dyna ddigwyddodd! Pan gododd Gideon y bore wedyn, dyma fe'n gwasgu'r gwlân a dyma lond powlen o wlith yn diferu ohono.
Judg WelBeibl 6:39  Yna dyma Gideon yn dweud wrth Dduw, “Paid gwylltio gyda mi os gofynna i am un arwydd arall. Gad i mi brofi un waith eto gyda'r gwlân. Y tro yma, cadw'r gwlân yn sych tra mae'r ddaear o'i gwmpas yn wlith i gyd.”
Judg WelBeibl 6:40  A'r noson honno, dyna'n union wnaeth Duw. Dim ond y gwlân oedd yn sych. Roedd y ddaear o'i gwmpas yn wlith i gyd.
Chapter 7
Judg WelBeibl 7:1  Y bore wedyn, dyma Gideon a'i fyddin yn mynd allan a gwersylla wrth Ffynnon Charod. Roedd byddin Midian wedi gwersylla yn y dyffryn ychydig i'r gogledd, wrth ymyl Bryn More.
Judg WelBeibl 7:2  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Mae gormod o ddynion yn dy fyddin di. Os gwna i adael i chi guro Midian, mae peryg i bobl Israel frolio mai nhw eu hunain wnaeth ennill y frwydr.
Judg WelBeibl 7:3  Dwed wrth y dynion, ‘Os oes rhywun ag ofn, cewch droi'n ôl a gadael Mynydd Gilead.’” Aeth dau ddeg dau o filoedd adre, gan adael deg mil ar ôl.
Judg WelBeibl 7:4  “Mae'r fyddin yn dal yn rhy fawr,” meddai'r ARGLWYDD. “Dos â nhw i lawr at y dŵr, a gwna i ddangos i ti pwy sydd i gael mynd gyda ti a phwy sydd ddim.”
Judg WelBeibl 7:5  Felly dyma fe'n mynd â'r dynion i lawr at y dŵr. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Dw i eisiau i ti wahanu'r rhai sy'n llepian y dŵr fel mae ci'n gwneud oddi wrth y rhai sy'n mynd ar eu gliniau i yfed.”
Judg WelBeibl 7:6  Tri chant oedd yn llepian y dŵr o gledr y llaw. Roedd y gweddill yn mynd ar eu gliniau i yfed.
Judg WelBeibl 7:7  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Bydda i'n gwneud i'r tri chant oedd yn llepian y dŵr ennill buddugoliaeth yn erbyn byddin Midian i gyd. Cei yrru'r dynion eraill i gyd adre.”
Judg WelBeibl 7:8  Ar ôl casglu bwyd a chyrn hwrdd y milwyr hynny, dyma Gideon yn eu hanfon adre. Dim ond y tri chant arhosodd gydag e. Roedd y Midianiaid wedi gwersylla i lawr yn y dyffryn oddi tano.
Judg WelBeibl 7:9  A'r noson honno, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Ewch i lawr i ymosod ar wersyll y Midianiaid. Dw i'n mynd i'w rhoi yn eich dwylo chi!
Judg WelBeibl 7:10  Os wyt ti'n dal yn ofnus, dos i lawr i'r gwersyll gyda dy was Pwra,
Judg WelBeibl 7:11  a gwrando beth maen nhw'n ddweud. Fydd gen ti ddim ofn wedyn; byddi'n ymosod arnyn nhw.” Felly dyma Gideon yn mynd i lawr gyda'i was Pwra i ymyl y gwersyll lle roedd gwylwyr.
Judg WelBeibl 7:12  Roedd y gwersyll yn anferth! Roedd y Midianiaid, yr Amaleciaid a phobloedd eraill o wledydd y dwyrain yn gorchuddio'r dyffryn fel haid o locustiaid! Roedd ganddyn nhw ormod o gamelod i'w cyfrif – roedden nhw fel y tywod ar lan y môr!
Judg WelBeibl 7:13  Pan gyrhaeddodd Gideon ymyl y gwersyll, clywodd ryw ddyn yn dweud wrth un arall am freuddwyd gafodd e. “Ces i freuddwyd am dorth haidd gron yn rholio i lawr i wersyll Midian. Dyma hi'n taro'r babell mor galed nes i'r babell droi drosodd. Syrthiodd yn fflat ar lawr.”
Judg WelBeibl 7:14  Atebodd y llall, “Dim ond un peth all hyn ei olygu – cleddyf Gideon, mab Joas. Mae Duw yn mynd i roi buddugoliaeth iddo dros fyddin Midian.”
Judg WelBeibl 7:15  Plygodd Gideon i lawr ac addoli Duw ar ôl clywed am y freuddwyd a'r dehongliad ohoni. Yna dyma fe'n mynd yn ôl i wersyll Israel, a dweud, “Gadewch i ni fynd! Mae'r ARGLWYDD yn mynd i adael i chi drechu byddin Midian.”
Judg WelBeibl 7:16  Rhannodd y tri chant o ddynion yn dair uned filwrol. Yna rhoddodd gorn hwrdd i bawb, a jar gwag gyda fflam yn llosgi tu mewn iddo.
Judg WelBeibl 7:17  “Gwyliwch fi, a gwneud yr un fath â fi,” meddai wrthyn nhw. “Gwyliwch yn ofalus. Pan ddown ni at gyrion gwersyll y Midianiaid, gwnewch yr un fath â fi.
Judg WelBeibl 7:18  Pan fydd fy uned i'n chwythu eu cyrn hwrdd gwnewch chwithau yr un fath o gwmpas y gwersyll i gyd. Yna gwaeddwch, ‘Dros yr ARGLWYDD a thros Gideon!’”
Judg WelBeibl 7:19  Aeth Gideon â chant o filwyr at gyrion y gwersyll ychydig ar ôl deg o'r gloch y nos, pan oedd y gwylwyr wedi newid sifft. A dyma nhw'n chwythu'r cyrn hwrdd a thorri'r jariau oedd ganddyn nhw.
Judg WelBeibl 7:20  Gwnaeth y tair uned yr un fath. Roedden nhw'n dal eu ffaglau yn un llaw ac yn chwythu'r corn hwrdd gyda'r llall. Yna dyma nhw'n gweiddi, “I'r gad dros yr ARGLWYDD a Gideon!”
Judg WelBeibl 7:21  Roedden nhw wedi amgylchynu'r gwersyll i gyd, ac yn sefyll mewn trefn. A phan chwythodd milwyr Gideon eu cyrn hwrdd, dyma filwyr y gelyn yn gweiddi mewn panig a cheisio dianc. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddyn nhw ddechrau ymladd ei gilydd drwy'r gwersyll i gyd. Roedd llawer o'r milwyr wedi dianc i Beth-sitta, sydd ar y ffordd i Serera, ar y ffin gydag Abel-mechola, ger Tabath.
Judg WelBeibl 7:22  Roedden nhw wedi amgylchynu'r gwersyll i gyd, ac yn sefyll mewn trefn. A phan chwythodd milwyr Gideon eu cyrn hwrdd, dyma filwyr y gelyn yn gweiddi mewn panig a cheisio dianc. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddyn nhw ddechrau ymladd ei gilydd drwy'r gwersyll i gyd. Roedd llawer o'r milwyr wedi dianc i Beth-sitta, sydd ar y ffordd i Serera, ar y ffin gydag Abel-mechola, ger Tabath.
Judg WelBeibl 7:23  A dyma ddynion o lwythau Nafftali, Asher a Manasse yn mynd ar eu holau.
Judg WelBeibl 7:24  Anfonodd Gideon negeswyr i fryniau Effraim gyda'r neges yma: “Dewch i lawr i ymladd y Midianiaid! Ewch o'u blaenau a'u stopio nhw rhag croesi rhydau'r afon Iorddonen yn Beth-bara.” A dyma ddynion Effraim yn dod a gwneud hynny.
Judg WelBeibl 7:25  Dyma nhw'n dal dau o arweinwyr byddin Midian, Oreb a Seëb. Cafodd Oreb ei ladd ganddyn nhw wrth y graig sy'n cael ei hadnabod bellach fel Craig Oreb. A chafodd Seëb ei ladd wrth y gwinwryf sy'n cael ei adnabod bellach fel Gwinwryf Seëb. Yna dyma nhw'n dod â phen y ddau at Gideon, oedd wedi croesi i ochr arall afon Iorddonen.
Chapter 8
Judg WelBeibl 8:1  Ond yna dyma ddynion Effraim yn mynd at Gideon i gwyno, “Wnest ti ddim ein galw ni i helpu i ymladd yn erbyn y Midianiaid. Pam wnest ti'n diystyru ni fel yna?” Roedden nhw'n dadlau'n ffyrnig gydag e.
Judg WelBeibl 8:2  Atebodd Gideon nhw drwy ddweud, “Dw i wedi gwneud dim o'i gymharu â chi. Mae grawnwin gwaelaf Effraim yn well na gorau fy mhobl i.
Judg WelBeibl 8:3  Chi wnaeth Duw eu defnyddio i ddal Oreb a Seëb, dau gadfridog Midian. Dydy beth wnes i yn ddim o'i gymharu â hynny.” Pan ddwedodd hynny, roedden nhw'n teimlo'n well tuag ato.
Judg WelBeibl 8:4  Roedd Gideon a'i dri chant o ddynion wedi croesi afon Iorddonen ac yn dal i fynd ar ôl y Midianiaid, er eu bod nhw wedi blino'n lân.
Judg WelBeibl 8:5  Dyma nhw'n cyrraedd Swccoth, a dyma Gideon yn gofyn i arweinwyr y dref, “Mae'r dynion yma sydd gyda mi wedi ymlâdd. Wnewch chi roi bwyd iddyn nhw? Dŷn ni'n ceisio dal Seba a Tsalmwna, brenhinoedd Midian.”
Judg WelBeibl 8:6  Ond dyma arweinwyr Swccoth yn ateb, “Pam ddylen ni roi bwyd i chi? Wnewch chi byth lwyddo i ddal Seba a Tsalmwna!”
Judg WelBeibl 8:7  Ac meddai Gideon, “Iawn, os mai felly mae hi, pan fydd yr ARGLWYDD wedi fy helpu i'w dal nhw, bydda i'n gwneud i chi ddiodde go iawn pan ddof i yn ôl.”
Judg WelBeibl 8:8  Dyma fe'n mynd ymlaen wedyn a gofyn i arweinwyr Penuel am fwyd. Ond dyma nhw'n ymateb yr un fath ag arweinwyr Swccoth.
Judg WelBeibl 8:9  Felly dyma Gideon yn eu bygwth nhw hefyd, a dweud, “Pan ddof i yn ôl ar ôl trechu Midian, bydda i'n bwrw eich tŵr chi i lawr!”
Judg WelBeibl 8:10  Roedd Seba a Tsalmwna wedi cyrraedd Carcor, gyda tua un deg pum mil o filwyr oedd wedi llwyddo i ddianc. (Roedd cant dau ddeg o filoedd wedi cael eu lladd!)
Judg WelBeibl 8:11  Dyma Gideon a'i ddynion yn mynd ar hyd ffordd y nomadiaid sydd i'r dwyrain o Nobach a Iogbeha, ac yna'n ymosod ar fyddin Midian yn gwbl ddirybudd.
Judg WelBeibl 8:12  Dyma fyddin Midian yn panicio. Ceisiodd Seba a Tsalmwna ddianc ond aeth Gideon ar eu holau a llwyddo i'w dal nhw.
Judg WelBeibl 8:13  Pan oedd y frwydr drosodd, dyma Gideon yn mynd yn ôl drwy Fwlch Cheres.
Judg WelBeibl 8:14  Yno dyma fe'n dal dyn ifanc o Swccoth a dechrau gofyn cwestiynau iddo. Dyma'r dyn ifanc yn ysgrifennu enwau swyddogion ac arweinwyr y dref i gyd iddo – saith deg saith o ddynion i gyd.
Judg WelBeibl 8:15  Yna dyma Gideon yn mynd at arweinwyr Swccoth, a dweud, “Edrychwch pwy sydd gen i. Seba a Tsalmwna! Roeddech chi'n gwawdio a dweud, ‘Wnewch chi byth lwyddo i ddal Seba a Tsalmwna. Pam ddylen ni roi bwyd i dy filwyr blinedig di?’”
Judg WelBeibl 8:16  Felly dyma fe'n dal arweinwyr y dref, a'u chwipio nhw'n filain i ddysgu gwers iddyn nhw.
Judg WelBeibl 8:17  Aeth i Penuel wedyn, bwrw eu tŵr i lawr, a dienyddio arweinwyr y dref honno i gyd.
Judg WelBeibl 8:18  Yna gofynnodd i Seba a Tsalmwna, “Dwedwch wrtho i am y dynion wnaethoch chi eu lladd yn Tabor.” A dyma nhw'n ateb, “Dynion digon tebyg i ti. Roedden nhw'n edrych fel petaen nhw'n feibion i frenhinoedd.”
Judg WelBeibl 8:19  “Fy mrodyr i oedden nhw,” meddai Gideon. “Wir i chi! Petaech chi wedi gadael iddyn nhw fyw, byddwn i'n gadael i chi fyw.”
Judg WelBeibl 8:20  Yna dyma Gideon yn dweud wrth Jether, ei fab hynaf, “Tyrd, lladd nhw!” Ond roedd Jether yn rhy ofnus i dynnu ei gleddyf – bachgen ifanc oedd e.
Judg WelBeibl 8:21  A dyma Seba a Tsalmwna yn dweud wrth Gideon, “Lladd ni dy hun, os wyt ti'n ddigon o ddyn!” A dyma Gideon yn lladd y ddau ohonyn nhw. Yna dyma fe'n cymryd yr addurniadau brenhinol siap cilgant oedd am yddfau eu camelod.
Judg WelBeibl 8:22  Dyma ddynion Israel yn gofyn i Gideon fod yn frenin arnyn nhw. “Bydd yn frenin arnon ni – ti, a dy fab a dy ŵyr ar dy ôl. Rwyt ti wedi'n hachub ni o afael Midian.”
Judg WelBeibl 8:23  Ond dyma Gideon yn dweud wrthyn nhw, “Na, fydda i ddim yn frenin arnoch chi, na'm mab i chwaith. Yr ARGLWYDD ydy'ch brenin chi.”
Judg WelBeibl 8:24  Ond yna, ychwanegodd, “Gallwch wneud un peth i mi. Dw i eisiau i bob un ohonoch chi roi clustdlws i mi o'i siâr o'r pethau gymeroch chi oddi ar y Midianiaid.” (Ismaeliaid oedden nhw, ac roedden nhw i gyd yn gwisgo clustdlysau aur.)
Judg WelBeibl 8:25  “Wrth gwrs,” medden nhw. A dyma nhw'n rhoi clogyn ar lawr, a dyma'r dynion i gyd yn taflu'r clustdlysau aur ar y clogyn.
Judg WelBeibl 8:26  Roedd y clustdlysau yn pwyso bron dau ddeg cilogram, heb sôn am yr addurniadau siâp cilgant, y tlysau crog, y gwisgoedd brenhinol a'r cadwyni oedd am yddfau'r camelod.
Judg WelBeibl 8:27  A dyma Gideon yn gwneud delw gydag effod arni a'i gosod yn Offra, y dref lle cafodd ei fagu. Ond dechreuodd pobl Israel ei haddoli, ac roedd hyd yn oed Gideon a'i deulu wedi syrthio i'r trap!
Judg WelBeibl 8:28  Dyna sut cafodd y Midianiaid eu trechu'n llwyr gan bobl Israel, a wnaethon nhw erioed godi i fod yn rym ar ôl hynny. Roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg mlynedd, tra oedd Gideon yn dal yn fyw.
Judg WelBeibl 8:29  Aeth Jerwb-baal (sef Gideon), mab Joas, yn ôl adre i fyw.
Judg WelBeibl 8:30  Cafodd saith deg o feibion – roedd ganddo lot fawr o wragedd.
Judg WelBeibl 8:31  Cafodd fab arall drwy bartner iddo, oedd yn byw yn Sichem. Galwodd e yn Abimelech.
Judg WelBeibl 8:32  Roedd Gideon yn hen iawn pan fuodd e farw. Cafodd ei gladdu ym medd ei dad Joas, yn Offra yr Abiesriaid.
Judg WelBeibl 8:33  Ond ar ôl iddo farw, dyma bobl Israel yn puteinio drwy addoli delwau o Baal. Dyma nhw'n gwneud Baal-berith yn Dduw iddyn nhw'u hunain.
Judg WelBeibl 8:34  Wnaeth pobl Israel ddim aros yn ffyddlon i'r ARGLWYDD eu Duw, oedd wedi'u hachub nhw oddi wrth y gelynion oedd yn byw o'u cwmpas.
Judg WelBeibl 8:35  A fuon nhw ddim yn garedig iawn at deulu Gideon chwaith, er gwaetha popeth roedd e wedi'i wneud dros Israel.
Chapter 9
Judg WelBeibl 9:1  Aeth Abimelech, mab Jerwb-baal (sef Gideon), i Sichem i weld ei berthnasau. Dwedodd wrthyn nhw, ac wrth bobl y clan i gyd,
Judg WelBeibl 9:2  “Gofynnwch i arweinwyr Sichem, ‘Ydych chi eisiau saith deg o feibion Jerwb-baal yn llywodraethu arnoch chi, neu dim ond un dyn? Cofiwch mod i'n perthyn drwy waed i chi.’”
Judg WelBeibl 9:3  Felly dyma'i berthnasau yn mynd i weld arweinwyr Sichem ar ei ran. Roedden nhw'n tueddu i'w gefnogi am ei fod yn perthyn drwy waed iddyn nhw.
Judg WelBeibl 9:4  Dyma nhw'n rhoi saith deg darn arian iddo o deml Baal-berith. A defnyddiodd Abimelech yr arian i gyflogi criw o rapsgaliwns gwyllt i'w ddilyn.
Judg WelBeibl 9:5  Aeth yn ôl i gartref ei dad yn Offra, a lladd ei frodyr, sef saith deg mab Gideon, ar yr un garreg. Dim ond Jotham, mab ifancaf Gideon, lwyddodd i ddianc drwy guddio.
Judg WelBeibl 9:6  Yna dyma arweinwyr Sichem a Beth-milo yn dod at ei gilydd at y dderwen sydd wrth y golofn yn Sichem, i wneud Abimelech yn frenin.
Judg WelBeibl 9:7  Pan glywodd Jotham am hyn, dyma fe'n dringo i gopa Mynydd Gerisim a gweiddi'n uchel ar y bobl islaw, “Gwrandwch arna i, arweinwyr Sichem – os ydych chi eisiau i Dduw wrando arnoch chi.
Judg WelBeibl 9:8  Aeth y coed allan i ddewis brenin. A dyma nhw'n dweud wrth y goeden olewydd, ‘Bydd yn frenin arnon ni.’
Judg WelBeibl 9:9  Ond atebodd y goeden olewydd, ‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu olew, sy'n bendithio Duw a dynion, er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’
Judg WelBeibl 9:10  Felly dyma'r coed yn dweud wrth y goeden ffigys, ‘Bydd di yn frenin arnon ni.’
Judg WelBeibl 9:11  Ond atebodd y goeden ffigys, ‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu ffigys melys, fy ffrwyth hyfryd, er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’
Judg WelBeibl 9:12  Felly dyma'r coed yn dweud wrth y winwydden, ‘Bydd di yn frenin arnon ni.’
Judg WelBeibl 9:13  Ond atebodd y winwydden, ‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu gwin, sy'n gwneud duwiau a dynion yn hapus, er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’
Judg WelBeibl 9:14  Felly dyma'r coed yn dweud wrth berth o ddrain, ‘Bydd di yn frenin arnon ni.’
Judg WelBeibl 9:15  A dyma'r berth ddrain yn ateb, ‘Os ydych chi wir eisiau fi'n frenin, dewch i gysgodi oddi tanaf fi. Os na wnewch chi, bydda i'n cynnau tân fydd yn llosgi coed cedrwydd Libanus.’
Judg WelBeibl 9:16  “Roedd fy nhad i wedi ymladd drosoch chi a mentro'i fywyd i'ch achub chi o afael y Midianiaid. Ai dyma sut ydych chi'n diolch iddo – drwy wneud Abimelech yn frenin? Ydych chi wedi ymddwyn yn anrhydeddus? Ydych chi wedi bod yn deg â Gideon a'i deulu? Naddo!
Judg WelBeibl 9:17  “Roedd fy nhad i wedi ymladd drosoch chi a mentro'i fywyd i'ch achub chi o afael y Midianiaid. Ai dyma sut ydych chi'n diolch iddo – drwy wneud Abimelech yn frenin? Ydych chi wedi ymddwyn yn anrhydeddus? Ydych chi wedi bod yn deg â Gideon a'i deulu? Naddo!
Judg WelBeibl 9:18  Dych chi wedi'i fradychu. Dych chi wedi lladd ei feibion – saith deg ohonyn nhw – ar un garreg. A dyma chi, yn gwneud Abimelech, mab ei gaethferch, yn frenin, dim ond am ei fod yn perthyn i chi.
Judg WelBeibl 9:19  Os ydych chi wedi trin Gideon a'i deulu yn anrhydeddus, boed i Abimelech eich gwneud chi'n hapus, ac i chi ei wneud e'n hapus.
Judg WelBeibl 9:20  Ond os ddim, boed i Abimelech gynnau tân fydd yn eich llosgi chi, arweinwyr Sichem a Beth-milo! A boed i arweinwyr Sichem a Beth-milo gynnau tân fydd yn dinistrio Abimelech!”
Judg WelBeibl 9:21  Yna dyma Jotham yn dianc i dref Beër i gadw o ffordd Abimelech, ei hanner brawd.
Judg WelBeibl 9:22  Pan oedd Abimelech wedi rheoli Israel am dair blynedd,
Judg WelBeibl 9:23  anfonodd Duw ysbryd i godi helynt rhyngddo fe ac arweinwyr Sichem. Dyma arweinwyr Sichem yn gwrthryfela yn ei erbyn.
Judg WelBeibl 9:24  Gwnaeth Duw hyn i'w gosbi e ac arweinwyr Sichem am lofruddio meibion Gideon i gyd – y saith deg ohonyn nhw.
Judg WelBeibl 9:25  Dyma arweinwyr Sichem yn gosod lladron yn y bryniau, i ymosod ar bawb oedd yn teithio'r ffordd honno. A dyma Abimelech yn clywed am y peth.
Judg WelBeibl 9:26  Bryd hynny, dyma Gaal fab Efed yn symud i fyw i Sichem gyda'i berthnasau. A dyma arweinwyr Sichem yn troi ato fe i'w hamddiffyn nhw.
Judg WelBeibl 9:27  Pan oedd hi'n adeg y cynhaeaf grawnwin, roedd pobl Sichem wedi bod yn casglu'r grawnwin, eu sathru i gael y sudd ohonyn nhw, ac yna wedi mynd i deml eu Duw i ddathlu a chynnal parti. Dyna lle roedden nhw, yn rhegi Abimelech wrth fwynhau gwledda ac yfed.
Judg WelBeibl 9:28  “Pwy ydy Abimelech?” meddai Gaal fab Efed. “Pam ddylen ni, bobl Sichem, fod yn weision bach iddo? Mab Gideon ydy e, a Sebwl yn ddirprwy wedi'i benodi ganddo. Un o ddisgynyddion Hamor, tad Sechem, ddylen ni ei wasanaethu. Pam ddylen ni wasanaethu Abimelech?
Judg WelBeibl 9:29  Petawn i'n rheoli pobl Sichem, byddwn i'n cael gwared ag Abimelech! Byddwn i'n dweud wrtho, ‘Gwell i ti gael byddin fwy os wyt ti am ddod allan yn ein herbyn ni!’”
Judg WelBeibl 9:30  Pan glywodd Sebwl, llywodraethwr Sichem, beth oedd Gaal wedi'i ddweud, roedd yn wyllt gynddeiriog.
Judg WelBeibl 9:31  Anfonodd negeswyr at Abimelech, oedd yn Arwma, i ddweud, “Gwylia dy hun! Mae Gaal fab Efed a'i frodyr wedi dod i Sichem i godi twrw a chael y dref i wrthryfela yn dy erbyn di.
Judg WelBeibl 9:32  Tyrd yma gyda dy fyddin dros nos, a disgwyl tu allan i'r dref.
Judg WelBeibl 9:33  Yna wrth iddi wawrio bore yfory, ymosod arni. Pan fydd Gaal a'i ddynion yn dod allan i ymladd, gelli wneud beth fynni iddo.”
Judg WelBeibl 9:34  Felly yn ystod y nos, dyma Abimelech a'i fyddin yn dod i baratoi i ymosod ar Sichem. Rhannodd ei fyddin yn bedair uned filwrol.
Judg WelBeibl 9:35  Y bore wedyn, roedd Gaal fab Efed wedi codi a mynd i sefyll tu allan i giât y dref, a daeth Abimelech a'i fyddin i'r golwg.
Judg WelBeibl 9:36  Pan welodd Gaal nhw, dyma fe'n dweud wrth Sebwl, “Edrych, mae yna bobl yn dod i lawr o'r mynyddoedd acw.” Ond dyma Sebwl yn ei ateb, “Cysgodion wyt ti'n eu gweld – mae'n edrych fel pobl o'r fan yma.”
Judg WelBeibl 9:37  Ond dyma Gaal yn dweud eto, “Edrych, mae yna bobl yn dod i lawr o Tabbwr-erets, ac mae yna griw arall yn dod o gyfeiriad Derwen y Dewiniaid.”
Judg WelBeibl 9:38  Dyma Sebwl yn dweud wrtho, “Ble mae'r geg fawr yna nawr? Ti ddwedodd, ‘Pwy ydy Abimelech i ni fod yn weision bach iddo?’ Wel, dyma'r dynion roeddet ti'n eu bychanu! Dos allan i ymladd gyda nhw!”
Judg WelBeibl 9:39  Felly dyma Gaal ac arweinwyr Sichem yn mynd allan i ymladd gydag Abimelech.
Judg WelBeibl 9:40  Ond roedd rhaid iddyn nhw ddianc o flaen byddin Abimelech, a chafodd llawer iawn ohonyn nhw eu lladd yr holl ffordd at giât y dref.
Judg WelBeibl 9:41  Dyma Abimelech yn mynd yn ôl i Arwma. A dyma Sebwl yn gyrru Gaal a'i berthnasau allan o Sichem.
Judg WelBeibl 9:42  Ond y diwrnod wedyn, dyma bobl Sichem yn dod allan eto. Pan glywodd Abimelech am y peth,
Judg WelBeibl 9:43  dyma fe'n rhannu'i fyddin yn dair uned filwrol, a pharatoi i ymosod. Yna wrth i'r bobl ddod allan o'r dref, dyma fe'n ymosod arnyn nhw.
Judg WelBeibl 9:44  Aeth Abimelech a'i uned at giât y dref a blocio'r ffordd yn ôl, a dyma'r ddwy uned arall yn ymosod ar y bobl oedd wedi mynd allan i'r caeau, a'u lladd nhw.
Judg WelBeibl 9:45  Aeth y frwydr ymlaen drwy'r dydd. Dyma Abimelech yn concro'r dref a lladd pawb oedd ynddi. Yna dyma fe'n chwalu'r adeiladau i gyd a gwasgaru halen dros y safle.
Judg WelBeibl 9:46  Pan glywodd arweinwyr Tŵr Shechem beth oedd wedi digwydd, aethon nhw i guddio yn y siambr dan ddaear yn nheml El-berith.
Judg WelBeibl 9:48  Felly dyma fe'n mynd â'i filwyr i ben Mynydd Salmon. Torrodd gangen oddi ar goeden gyda bwyell a'i rhoi ar ei ysgwydd, a dweud wrth ei filwyr, “Brysiwch! Gwnewch chithau'r un peth.”
Judg WelBeibl 9:49  Dyma nhw'n gwneud hynny, a mynd ar ei ôl. Yna dyma nhw'n gosod y canghennau yn erbyn waliau'r gaer, a'u rhoi ar dân. Cafodd pawb oedd yn byw yn Tŵr Shechem eu lladd – tua mil o ddynion a merched.
Judg WelBeibl 9:50  Wedyn dyma Abimelech yn mynd yn ei flaen i ymosod ar dref Thebes, a'i choncro.
Judg WelBeibl 9:51  Roedd tŵr amddiffynnol yng nghanol y dref, a dyma'r arweinwyr a phawb arall yn rhedeg i'r tŵr a chloi'r drws. Yna dyma nhw'n dringo i ben to'r tŵr.
Judg WelBeibl 9:52  Dyma Abimelech yn ymosod ar y tŵr, ond wrth iddo baratoi i roi'r fynedfa ar dân,
Judg WelBeibl 9:53  dyma ryw wraig yn gollwng maen melin ar ei ben a chracio'i benglog.
Judg WelBeibl 9:54  Galwodd ar y dyn ifanc oedd yn cario'i arfau, “Tyn dy gleddyf a lladd fi. Dw i ddim eisiau i bobl ddweud fod gwraig wedi fy lladd i.” Felly dyma'r dyn ifanc yn ei drywanu gyda'i gleddyf, a bu farw.
Judg WelBeibl 9:55  Pan sylweddolodd dynion Israel fod Abimelech wedi marw, dyma nhw i gyd yn mynd adre.
Judg WelBeibl 9:56  Dyna sut wnaeth Duw gosbi Abimelech am y drwg wnaeth e i deulu'i dad drwy ladd ei saith deg hanner brawd.
Judg WelBeibl 9:57  A dyna sut wnaeth Duw gosbi pobl Sichem hefyd, am y drwg wnaethon nhw. Daeth beth ddwedodd Jotham, mab Gideon, pan felltithiodd nhw, yn wir.
Chapter 10
Judg WelBeibl 10:1  Ar ôl i Abimelech farw, dyma Tola, mab Pwa ac ŵyr Dodo, yn codi i achub Israel. Roedd yn perthyn i lwyth Issachar ac yn byw yn Shamîr ym mryniau Effraim.
Judg WelBeibl 10:2  Bu'n arwain Israel am ddau ddeg tair o flynyddoedd. Pan fu farw, cafodd ei gladdu yn Shamîr.
Judg WelBeibl 10:3  Ar ôl Tola, dyn o'r enw Jair o Gilead wnaeth arwain Israel am ddau ddeg dwy o flynyddoedd.
Judg WelBeibl 10:4  Roedd gan Jair dri deg o feibion ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun, ac roedd pob un yn rheoli tref yn Gilead. Mae'r trefi yma yn Gilead yn dal i gael eu galw yn Hafoth-jair hyd heddiw.
Judg WelBeibl 10:6  Dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Dyma nhw'n addoli delwau o Baal a'r dduwies Ashtart, a duwiau Syria, Sidon, Moab, yr Ammoniaid a'r Philistiaid. Roedden nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD ac wedi stopio'i addoli e!
Judg WelBeibl 10:7  Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. Dyma fe'n gadael i'r Philistiaid a'r Ammoniaid eu rheoli.
Judg WelBeibl 10:8  Roedden nhw'n curo a cham-drin pobl Israel yn ddidrugaredd. Bu pobl Israel oedd yn byw ar dir yr Amoriaid, i'r dwyrain o afon Iorddonen (sef Gilead), yn dioddef am un deg wyth o flynyddoedd.
Judg WelBeibl 10:9  Wedyn dyma'r Ammoniaid yn croesi'r Iorddonen i ymladd gyda llwythau Jwda, Benjamin ac Effraim. Roedd hi'n argyfwng go iawn ar Israel.
Judg WelBeibl 10:10  Yna dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD a dweud, “Dŷn ni wedi pechu yn dy erbyn di! Dŷn ni wedi troi cefn ar ein Duw ac addoli delwau Baal.”
Judg WelBeibl 10:11  A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Yr Eifftiaid, yr Amoriaid, yr Ammoniaid, y Philistiaid,
Judg WelBeibl 10:12  y Sidoniaid, yr Amaleciaid, y Midianiaid…, mae pob un ohonyn nhw wedi'ch cam-drin chi. A phan oeddech chi'n gweiddi arna i am help, roeddwn i'n eich achub chi.
Judg WelBeibl 10:13  Ond dw i ddim yn mynd i'ch achub chi eto. Dych chi wedi troi cefn arna i a mynd ar ôl duwiau eraill.
Judg WelBeibl 10:14  Ewch i weiddi ar eich duwiau eich hunain – cân nhw'ch helpu chi!”
Judg WelBeibl 10:15  Dyma bobl Israel yn dweud, “Dŷn ni wedi pechu. Ti'n iawn i'n cosbi ni. Ond plîs achub ni heddiw!”
Judg WelBeibl 10:16  Yna dyma bobl Israel yn cael gwared â'r duwiau eraill oedd ganddyn nhw, a dechrau addoli'r ARGLWYDD eto. Yn y diwedd, roedd yr ARGLWYDD wedi blino gweld pobl Israel yn dioddef.
Judg WelBeibl 10:17  Roedd byddin yr Ammoniaid yn paratoi i fynd i ryfel ac wedi gwersylla yn Gilead, tra oedd byddin Israel yn gwersylla yn Mitspa.
Judg WelBeibl 10:18  Dyma arweinwyr Gilead yn gofyn, “Pwy sy'n barod i arwain yr ymosodiad yn erbyn byddin yr Ammoniaid? Bydd y person hwnnw'n cael ei wneud yn llywodraethwr ar Gilead!”
Chapter 11
Judg WelBeibl 11:1  Roedd dyn yn Gilead o'r enw Jefftha, oedd yn filwr dewr. Putain oedd ei fam, ond roedd e wedi cael ei fagu gan ei dad, Gilead.
Judg WelBeibl 11:2  Roedd gan Gilead nifer o feibion eraill hefyd – plant i'w wraig. Pan oedd y rhain wedi tyfu, dyma nhw'n gyrru Jefftha i ffwrdd. “Fyddi di'n etifeddu dim o eiddo'r teulu. Mab i wraig arall wyt ti.”
Judg WelBeibl 11:3  Felly roedd rhaid i Jefftha ddianc oddi wrth ei frodyr. Aeth i fyw i ardal Tob, ac yn fuan iawn roedd yn arwain gang o rapsgaliwns gwyllt.
Judg WelBeibl 11:4  Roedd hi beth amser ar ôl hyn pan ddechreuodd yr Ammoniaid ryfela yn erbyn Israel.
Judg WelBeibl 11:5  A dyna pryd aeth arweinwyr Gilead i ardal Tob i ofyn i Jefftha ddod yn ôl.
Judg WelBeibl 11:6  “Tyrd yn ôl i arwain y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid,” medden nhw wrtho.
Judg WelBeibl 11:7  “Ond roeddech chi'n fy nghasáu i,” meddai Jefftha. “Chi yrrodd fi oddi cartref! A dyma chi, nawr, yn troi ata i am eich bod chi mewn trwbwl!”
Judg WelBeibl 11:8  “Mae'n wir,” meddai arweinwyr Gilead wrtho. “Dŷn ni yn troi atat ti i ofyn i ti arwain y frwydr yn erbyn yr Ammoniaid. Ond cei fod yn bennaeth Gilead i gyd ar ôl hynny!”
Judg WelBeibl 11:9  A dyma Jefftha'n dweud, “Iawn. Os gwna i ddod gyda chi, a'r ARGLWYDD yn gadael i mi ennill y frwydr, fi fydd eich pennaeth chi.”
Judg WelBeibl 11:10  Ac meddai'r arweinwyr, “Mae'r ARGLWYDD yn dyst a bydd yn ein barnu ni os na wnawn ni fel ti'n dweud.”
Judg WelBeibl 11:11  Felly dyma Jefftha'n mynd gydag arweinwyr Gilead a chafodd ei wneud yn bennaeth ac arweinydd y fyddin. A dyma Jefftha'n ailadrodd telerau'r cytundeb o flaen yr ARGLWYDD yn Mitspa.
Judg WelBeibl 11:12  Anfonodd Jefftha negeswyr at frenin yr Ammoniaid i ofyn pam roedd e'n ymosod ar y wlad.
Judg WelBeibl 11:13  Yr ateb roddodd brenin yr Ammoniaid oedd, “Am fod pobl Israel wedi dwyn ein tir ni pan ddaethon nhw o'r Aifft – yr holl ffordd o afon Arnon yn y de i afon Jabboc yn y gogledd, ac at yr Iorddonen yn y gorllewin. Rho'r tir yn ôl i mi, a fydd yna ddim rhyfel.”
Judg WelBeibl 11:14  Dyma Jefftha'n anfon negeswyr yn ôl at frenin Ammon, i ddweud,
Judg WelBeibl 11:15  “Wnaeth Israel ddim dwyn y tir oddi ar bobloedd Moab ac Ammon.
Judg WelBeibl 11:16  Pan ddaethon nhw allan o'r Aifft, dyma nhw'n teithio drwy'r anialwch at y Môr Coch ac yna ymlaen i Cadesh.
Judg WelBeibl 11:17  Anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom, yn gofyn, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di?’ Ond wnaeth brenin Edom ddim gadael iddyn nhw. Gofynnodd Israel yr un peth i frenin Moab ond doedd yntau ddim yn fodlon gadael iddyn nhw groesi. Felly dyma bobl Israel yn aros yn Cadesh.
Judg WelBeibl 11:18  Wedyn dyma nhw'n mynd rownd Edom a Moab – pasio heibio i'r dwyrain o wlad Moab, a gwersylla yr ochr draw i afon Arnon. Wnaethon nhw ddim croesi tir Moab o gwbl (afon Arnon oedd ffin Moab).
Judg WelBeibl 11:19  Ar ôl hynny, dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, a gofyn iddo fe, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di i ni fynd i'n tir ein hunain?’
Judg WelBeibl 11:20  Ond doedd Sihon ddim yn trystio pobl Israel i adael iddyn nhw groesi'i dir. Felly dyma fe'n galw'i fyddin at ei gilydd a chodi gwersyll yn Iahats, i ymosod ar Israel.
Judg WelBeibl 11:21  Yr ARGLWYDD, Duw Israel, wnaeth eu galluogi nhw i drechu Sihon a'i fyddin. A dyma Israel yn cymryd tiroedd yr Amoriaid i gyd –
Judg WelBeibl 11:22  o afon Arnon yn y de i afon Jabboc yn y gogledd, ac o'r anialwch yn y dwyrain i'r Iorddonen yn y gorllewin.
Judg WelBeibl 11:23  “Felly, yr ARGLWYDD, Duw Israel, wnaeth yrru'r Amoriaid allan o flaen pobl Israel. Wyt ti'n meddwl y gelli di ei gymryd oddi arnyn nhw?
Judg WelBeibl 11:24  Cadw di beth mae dy dduw Chemosh wedi'i roi i ti. Dŷn ni am gadw tiroedd y bobloedd mae'r ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o'n blaen ni.
Judg WelBeibl 11:25  Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n gryfach na Balac fab Sippor, brenin Moab? Wnaeth e fentro ffraeo gyda phobl Israel? Wnaeth e ymladd yn eu herbyn nhw?
Judg WelBeibl 11:26  Mae pobl Israel wedi bod yn byw yn y trefi yma ers tri chan mlynedd – Cheshbon ac Aroer a'r pentrefi o'u cwmpas, a'r trefi sydd wrth afon Arnon. Pam dych chi ddim wedi'u cymryd nhw yn ôl cyn hyn?
Judg WelBeibl 11:27  Na, dw i ddim wedi gwneud cam â ti. Ti sy'n dechrau'r rhyfel yma. Heddiw, bydd yr ARGLWYDD, y Barnwr, yn penderfynu pwy sy'n iawn – pobl Israel neu'r Ammoniaid!”
Judg WelBeibl 11:28  Ond wnaeth brenin Ammon ddim cymryd sylw o neges Jefftha.
Judg WelBeibl 11:29  Yna dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Jefftha. Dyma fe'n arwain ei fyddin drwy diroedd Gilead a Manasse, pasio drwy Mitspe yn Gilead, a mynd ymlaen i wynebu byddin yr Ammoniaid.
Judg WelBeibl 11:30  Dyma fe'n addo ar lw i'r ARGLWYDD, “Os gwnei di adael i mi guro byddin yr Ammoniaid,
Judg WelBeibl 11:31  gwna i roi i'r ARGLWYDD beth bynnag fydd gyntaf i ddod allan o'r tŷ i'm cwrdd i pan af i adre. Bydda i'n ei gyflwyno'n offrwm i'w losgi'n llwyr i Dduw.”
Judg WelBeibl 11:32  Yna dyma Jefftha a'i fyddin yn croesi i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth iddo.
Judg WelBeibl 11:33  Cafodd yr Ammoniaid eu trechu'n llwyr, o Aroer yr holl ffordd i Minnith, a hyd yn oed i Abel-ceramîm – dau ddeg o drefi i gyd. Dinistriodd nhw'n llwyr! Roedd yr Ammoniaid wedi'u trechu gan Israel.
Judg WelBeibl 11:34  Pan aeth Jefftha adre i Mitspa, pwy redodd allan i'w groesawu ond ei ferch, yn dawnsio i gyfeiliant tambwrinau. Roedd hi'n unig blentyn. Doedd gan Jefftha ddim mab na merch arall.
Judg WelBeibl 11:35  Pan welodd hi, dyma fe'n rhwygo'i ddillad. “O na! Fy merch i. Mae hyn yn ofnadwy. Mae'n drychinebus. Dw i wedi addo rhywbeth ar lw i'r ARGLWYDD, a does dim troi'n ôl.”
Judg WelBeibl 11:36  Meddai ei ferch wrtho, “Dad, os wyt ti wedi addo rhywbeth i'r ARGLWYDD, rhaid i ti gadw dy addewid. Mae'r ARGLWYDD wedi cadw ei ochr e a rhoi buddugoliaeth i ti dros dy elynion, yr Ammoniaid.
Judg WelBeibl 11:37  Ond gwna un peth i mi. Rho ddau fis i mi grwydro'r bryniau gyda'm ffrindiau, i alaru am fy mod byth yn mynd i gael priodi.”
Judg WelBeibl 11:38  “Dos di,” meddai wrthi. A gadawodd iddi fynd i grwydro'r bryniau am ddeufis, yn galaru gyda'i ffrindiau am na fyddai byth yn cael priodi.
Judg WelBeibl 11:39  Yna ar ddiwedd y deufis, dyma hi'n dod yn ôl at ei thad, a dyma fe'n gwneud beth roedd e wedi'i addo. Roedd hi'n dal yn wyryf pan fuodd hi farw. Daeth yn ddefod yn Israel
Judg WelBeibl 11:40  fod y merched yn mynd i ffwrdd am bedwar diwrnod bob blwyddyn, i goffáu merch Jefftha o Gilead.
Chapter 12
Judg WelBeibl 12:1  Dyma ddynion Effraim yn galw byddin at ei gilydd ac yn croesi afon Iorddonen i Saffon. Dyma nhw'n gofyn i Jefftha, “Pam wnest ti fynd i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid heb ofyn i ni fynd gyda ti? Dŷn ni'n mynd i losgi dy dŷ di i lawr a thithau tu mewn iddo!”
Judg WelBeibl 12:2  Atebodd Jefftha, “Pan oedden ni yng nghanol dadl ffyrnig gyda'r Ammoniaid, dyma fi'n galw arnoch chi i ddod i helpu, ond ddaethoch chi ddim.
Judg WelBeibl 12:3  Pan ddeallais i nad oeddech chi'n dod, dyma fi'n mentro mynd i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid hebddoch chi, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i ni. Felly pam dych chi wedi dod i ymladd yn fy erbyn i?”
Judg WelBeibl 12:4  Yna dyma Jefftha yn casglu byddin o ddynion Gilead at ei gilydd a mynd i ymladd yn erbyn dynion Effraim a'u trechu nhw. Roedd dynion Effraim wedi sarhau pobl Gilead drwy ddweud, “Dydy pobl Gilead yn ddim byd ond cachgwn yn cuddio ar dir Effraim a Manasse!”
Judg WelBeibl 12:5  Roedd dynion Gilead wedi dal y rhydau lle roedd pobl yn croesi afon Iorddonen, i rwystro dynion Effraim rhag dianc. Pan oedd rhywun o Effraim yn dod ac yn gofyn am gael croesi, byddai dynion Gilead yn gofyn, “Wyt ti'n perthyn i lwyth Effraim?” Petai'n ateb, “Na,”
Judg WelBeibl 12:6  bydden nhw'n gofyn iddo wedyn ddweud y gair “Shiboleth!” Ond “Siboleth!” oedd dynion Effraim yn ei ddweud (roedden nhw'n methu dweud y gair yn iawn). Wedyn byddai dynion Gilead yn eu dal nhw a'u lladd nhw yn y fan a'r lle. Cafodd pedwar deg dau o filoedd o ddynion Effraim eu lladd y diwrnod hwnnw.
Judg WelBeibl 12:7  Dyma Jefftha'n arwain Israel am chwe mlynedd. Pan fu farw, cafodd ei gladdu yn ei dref ei hun yn Gilead.
Judg WelBeibl 12:8  Ar ôl Jefftha, dyma Ibsan o Bethlehem yn arwain Israel.
Judg WelBeibl 12:9  Roedd ganddo dri deg mab a thri deg merch. Dyma fe'n rhoi ei ferched yn wragedd i ddynion o'r tu allan i'w glan, a dyma fe'n trefnu i ferched o'r tu allan i briodi'i feibion. Buodd Ibsan yn arwain Israel am saith mlynedd.
Judg WelBeibl 12:11  Yr arweinydd nesaf oedd Elon o lwyth Sabulon. Bu'n arwain pobl Israel am ddeg mlynedd.
Judg WelBeibl 12:12  Pan fuodd e farw, cafodd ei gladdu yn Aialon ar dir llwyth Sabulon.
Judg WelBeibl 12:13  Abdon fab Hilel o Pirathon oedd arweinydd nesaf Israel.
Judg WelBeibl 12:14  Roedd ganddo bedwar deg o feibion a tri deg o wyrion – ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun. Bu Abdon yn arwain pobl Israel am wyth mlynedd.
Judg WelBeibl 12:15  Pan fu farw, cafodd ei gladdu yn Pirathon, sydd ar dir Effraim, yn y bryniau lle roedd yr Amaleciaid yn arfer byw.
Chapter 13
Judg WelBeibl 13:1  Dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly gadawodd yr ARGLWYDD i'r Philistiaid eu rheoli nhw am bedwar deg o flynyddoedd.
Judg WelBeibl 13:2  Bryd hynny, roedd dyn o'r enw Manoa, o lwyth Dan, yn byw yn Sora. Doedd gwraig Manoa ddim yn gallu cael plant.
Judg WelBeibl 13:3  Un diwrnod, dyma angel yr ARGLWYDD yn rhoi neges iddi, “Er dy fod ti wedi methu cael plant hyd yn hyn, ti'n mynd i feichiogi a byddi'n cael mab.
Judg WelBeibl 13:4  Bydd yn ofalus! Paid yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol arall, na bwyta unrhyw beth fydd yn dy wneud di'n aflan.
Judg WelBeibl 13:5  Wir i ti, rwyt ti'n mynd i feichiogi a chael mab. Ond rhaid i ti beidio torri ei wallt, am fod y plentyn i gael ei gysegru'n Nasaread i'r ARGLWYDD o'r eiliad mae'n cael ei eni. Bydd yn mynd ati i achub Israel o afael y Philistiaid.”
Judg WelBeibl 13:6  Aeth i ddweud wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd. “Mae dyn wedi dod ata i oddi wrth Dduw. Roedd fel angel Duw – yn ddigon i godi braw arna i! Wnes i ddim gofyn iddo o ble roedd e'n dod, a wnaeth e ddim dweud ei enw.
Judg WelBeibl 13:7  Dwedodd wrtho i, ‘Ti'n mynd i fod yn feichiog a byddi'n cael mab. Felly, paid yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol arall, a phaid bwyta unrhyw beth fydd yn dy wneud di'n aflan. Bydd y plentyn wedi'i gysegru yn Nasaread i Dduw o'i eni i'w farw.’”
Judg WelBeibl 13:8  Yna dyma Manoa'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, “Meistr, plîs gad i'r dyn wnest ti ei anfon ddod aton ni eto, iddo ddysgu i ni beth i'w wneud gyda'r bachgen fydd yn cael ei eni.”
Judg WelBeibl 13:9  A dyma Duw yn ateb ei weddi. Dyma'r angel yn dod at wraig Manoa eto. Roedd hi'n eistedd yn y cae ar ei phen ei hun – doedd Manoa ei gŵr ddim gyda hi.
Judg WelBeibl 13:10  Felly dyma hi'n rhedeg ar unwaith i ddweud wrtho, “Tyrd, mae e wedi dod yn ôl! Y dyn ddaeth ata i y diwrnod o'r blaen. Mae e yma!”
Judg WelBeibl 13:11  Dyma Manoa'n mynd yn ôl gyda'i wraig, a dyma fe'n gofyn i'r dyn, “Ai ti ydy'r dyn sydd wedi bod yn siarad gyda'm gwraig i?” “Ie, fi ydy e,” meddai wrtho.
Judg WelBeibl 13:12  Wedyn dyma Manoa'n gofyn iddo, “Pan fydd dy eiriau'n dod yn wir, sut ddylen ni fagu'r plentyn, a beth fydd e'n wneud?”
Judg WelBeibl 13:13  A dyma'r angel yn dweud wrtho, “Rhaid i dy wraig wneud popeth ddwedais i wrthi.
Judg WelBeibl 13:14  Rhaid iddi beidio bwyta grawnwin na rhesins, peidio yfed gwin na diod feddwol arall, a pheidio bwyta unrhyw fwyd fydd yn ei gwneud hi'n aflan. Rhaid iddi wneud popeth dw i wedi'i ddweud wrthi.”
Judg WelBeibl 13:15  Yna dyma Manoa'n dweud, “Plîs wnei di aros am ychydig i ni baratoi pryd o fwyd i ti, gafr ifanc.”
Judg WelBeibl 13:16  “Gwna i aros ond wna i ddim bwyta,” meddai'r angel. “Os wyt ti eisiau cyflwyno offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, gelli wneud hynny.” (Doedd Manoa ddim yn sylweddoli mai angel yr ARGLWYDD oedd e.)
Judg WelBeibl 13:17  Yna dyma Manoa'n gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di? Pan fydd hyn i gyd yn dod yn wir, dŷn ni eisiau dy anrhydeddu di.”
Judg WelBeibl 13:18  A dyma'r angel yn ateb, “Pam wyt ti'n gofyn am fy enw i? Mae e tu hwnt i dy ddeall di.”
Judg WelBeibl 13:19  Dyma Manoa'n cymryd gafr ifanc ac offrwm o rawn, a'u gosod nhw ar garreg i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD. A dyma angel yr ARGLWYDD yn gwneud rhywbeth anhygoel o flaen llygaid Manoa a'i wraig.
Judg WelBeibl 13:20  Wrth i'r fflamau godi o'r allor, dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd i fyny yn y fflamau. Pan welodd Manoa a'i wraig hynny'n digwydd, dyma nhw'n plygu gyda'u hwynebau ar lawr.
Judg WelBeibl 13:21  Wnaeth Manoa a'i wraig ddim gweld yr angel eto. A dyna pryd sylweddolodd Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd e.
Judg WelBeibl 13:22  A dyma fe'n dweud wrth ei wraig, “Dŷn ni'n siŵr o farw! Dŷn ni wedi gweld bod dwyfol!”
Judg WelBeibl 13:23  Ond dyma'i wraig yn dweud, “Petai'r ARGLWYDD eisiau'n lladd ni, fyddai e ddim wedi derbyn yr offrwm i'w losgi a'r offrwm o rawn gynnon ni. A fyddai e ddim wedi dangos hyn i gyd i ni a siarad â ni fel y gwnaeth e.”
Judg WelBeibl 13:24  Cafodd gwraig Manoa fab a dyma hi'n rhoi'r enw Samson iddo. Tyfodd y plentyn a dyma'r ARGLWYDD yn ei fendithio.
Judg WelBeibl 13:25  Yna, pan oedd Samson yn aros yn Mahane-dan, rhwng Sora ac Eshtaol, dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dechrau'i aflonyddu.
Chapter 14
Judg WelBeibl 14:1  Dyma Samson yn mynd i lawr i Timna. Yno, roedd merch ifanc wedi dal ei lygad, un o ferched y Philistiaid.
Judg WelBeibl 14:2  Pan aeth yn ôl adre, dyma fe'n dweud wrth ei dad a'i fam, “Dw i wedi gweld merch ifanc yn Timna – un o ferched y Philistiaid. Ewch i'w nôl hi i fod yn wraig i mi.”
Judg WelBeibl 14:3  Ond dyma'i rieni'n ateb, “Mae'n rhaid bod yna ferch ifanc arall rywle – un o dy berthnasau; un o dy bobl dy hun. Mae'r Philistiaid yn baganiaid. Pam ddylet ti fynd atyn nhw i gael gwraig?” “Ewch i'w nôl hi,” meddai Samson. “Hi dw i eisiau. Mae hi'n bishyn.”
Judg WelBeibl 14:4  (Doedd ei dad a'i fam ddim yn sylweddoli mai'r ARGLWYDD oedd tu ôl i hyn i gyd, a'i fod yn creu cyfle i achosi helynt i'r Philistiaid. Y Philistiaid oedd yn rheoli Israel ar y pryd.)
Judg WelBeibl 14:5  Dyma Samson yn mynd i lawr i Timna gyda'i rieni. Pan oedd wrth ymyl gwinllannoedd Timna, dyma lew ifanc yn rhuthro ato.
Judg WelBeibl 14:6  A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno'n rymus nes iddo rwygo'r llew a'i ladd gyda dim ond nerth braich, fel petai'n fyn gafr bach ifanc. (Ond wnaeth e ddim dweud wrth ei rieni beth roedd e wedi'i wneud.)
Judg WelBeibl 14:7  Yna aeth Samson yn ei flaen i Timna a siarad â'r ferch ifanc. Roedd e wir yn ei ffansïo hi.
Judg WelBeibl 14:8  Beth amser ar ôl hynny, aeth Samson i Timna i'w phriodi hi. Ar ei ffordd, aeth i weld beth oedd ar ôl o'r llew oedd wedi ymosod arno. Cafodd fod haid o wenyn yn byw yn sgerbwd yr anifail a bod mêl ynddo.
Judg WelBeibl 14:9  Dyma fe'n crafu peth o'r mêl gyda'i ddwylo, a'i fwyta wrth gerdded. Aeth yn ôl at ei rieni a rhoi peth o'r mêl iddyn nhw i'w fwyta. (Ond wnaeth e ddim dweud wrthyn nhw ei fod wedi crafu'r mêl allan o sgerbwd y llew.)
Judg WelBeibl 14:10  Ar ôl hyn, aeth ei dad gydag e i Timna i weld y ferch. A dyma Samson yn trefnu parti, am mai dyna fyddai dynion ifanc oedd am briodi yn arfer ei wneud bryd hynny.
Judg WelBeibl 14:11  Pan welodd y Philistiaid Samson, dyma nhw'n rhoi tri deg o ffrindiau i gadw cwmni iddo yn y parti.
Judg WelBeibl 14:12  A dyma Samson yn dweud wrthyn nhw, “Gadewch i mi osod pos i chi. Os rhowch chi'r ateb i mi cyn diwedd y parti mewn wythnos, gwna i roi mantell newydd a set o ddillad newydd i'r tri deg ohonoch chi.
Judg WelBeibl 14:13  Ond os allwch chi ddim datrys y pos, bydd rhaid i bob un ohonoch chi roi mantell a set o ddillad newydd i mi.” “Iawn,” medden nhw, “gad i ni glywed beth ydy dy bos di.”
Judg WelBeibl 14:14  A dyma ddwedodd e: “Daeth bwyd o'r bwytawr; rhywbeth melys o'r un cryf.” Aeth tri diwrnod heibio a doedden nhw ddim yn gallu meddwl am yr ateb.
Judg WelBeibl 14:15  Yna'r diwrnod wedyn, dyma nhw'n mynd at wraig Samson a'i bygwth: “Tricia dy ŵr i ddweud beth ydy'r ateb i'r pos, neu byddwn ni'n dy losgi di a theulu dy dad. Wnest ti'n gwahodd ni yma i'n gwneud ni'n fethdalwyr?”
Judg WelBeibl 14:16  Felly dyma wraig Samson yn mynd ato a dechrau crio ar ei ysgwydd. “Ti'n fy nghasáu i. Ti ddim yn fy ngharu i. Ti wedi rhoi pos i rai o'r bechgyn a ddim yn fodlon dweud wrtho i beth ydy'r ateb.” Meddai Samson wrthi, “Ond dw i ddim hyd yn oed wedi dweud wrth dad a mam. Pam ddylwn i ddweud wrthot ti?”
Judg WelBeibl 14:17  Buodd hi'n crio ar ei ysgwydd nes oedd y parti bron ar ben. Yna ar y seithfed diwrnod, dyma Samson yn dweud yr ateb wrthi am ei bod hi wedi swnian gymaint. A dyma hi'n mynd i ddweud wrth y dynion ifanc.
Judg WelBeibl 14:18  Cyn iddi fachlud y noson honno, dyma ddynion y dref yn mynd at Samson a dweud, “Beth sy'n fwy melys na mêl? A beth sy'n gryfach na llew?” A dyma Samson yn ateb, “Fyddech chi ddim wedi datrys y pos heb gymryd mantais o'm gwraig i!”
Judg WelBeibl 14:19  Yna dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno'n rymus. Aeth i Ashcelon a lladd tri deg o ddynion. Cymerodd eu dillad a'u rhoi i'r dynion oedd wedi ateb y pos. Roedd wedi gwylltio'n lân, felly aeth adre at ei rieni.
Judg WelBeibl 14:20  Cafodd ei wraig ei rhoi i'r un oedd wedi bod yn was priodas iddo.
Chapter 15
Judg WelBeibl 15:1  Beth amser wedyn, adeg y cynhaeaf gwenith, dyma Samson yn mynd i weld ei wraig, ac aeth â myn gafr ifanc yn anrheg iddi. Roedd e eisiau cysgu gyda hi ond wnaeth ei thad ddim gadael iddo.
Judg WelBeibl 15:2  “Rôn i'n meddwl dy fod ti'n ei chasáu hi go iawn, felly dyma fi'n ei rhoi hi i dy was priodas. Mae ei chwaer fach hyd yn oed yn ddelach na hi. Pam wnei di ddim ei chymryd hi yn ei lle?”
Judg WelBeibl 15:3  A dyma Samson yn ymateb, “Mae gen i reswm digon teg i daro'r Philistiaid y tro yma!”
Judg WelBeibl 15:4  Felly dyma Samson yn mynd ac yn dal tri chant o siacaliaid, eu rhwymo nhw'n barau wrth eu cynffonnau, a rhwymo ffaglau rhwng eu cynffonnau.
Judg WelBeibl 15:5  Yna taniodd y ffaglau a gollwng y siacaliaid yn rhydd i ganol caeau ŷd y Philistiaid. Llosgodd y cwbl – yr ŷd oedd heb ei dorri a'r ysgubau oedd wedi'u casglu, a hyd yn oed y gwinllannoedd a'r caeau o goed olewydd.
Judg WelBeibl 15:6  “Pwy wnaeth hyn?” meddai'r Philistiaid. A dyma rywun yn ateb, “Samson, am fod ei dad-yng-nghyfraith, sy'n byw yn Timna, wedi cymryd ei wraig a'i rhoi i'w was priodas.” Felly dyma'r Philistiaid yn mynd i Timna a dal gwraig Samson a'i thad a'u llosgi nhw i farwolaeth.
Judg WelBeibl 15:7  Meddai Samson, “Dw i'n mynd i ddial arnoch chi am wneud hyn! Wna i ddim stopio nes bydda i wedi talu'n ôl i chi!”
Judg WelBeibl 15:8  A dyma fe'n ymosod arnyn nhw a'u hacio nhw'n ddarnau. Yna aeth i ffwrdd, ac aros mewn ogof wrth Graig Etam.
Judg WelBeibl 15:9  Roedd y Philistiaid yn mynd i ymosod ar Jwda. Roedden nhw ar wasgar drwy ardal Lechi.
Judg WelBeibl 15:10  A dyma arweinwyr Jwda yn gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi'n ymosod arnon ni?” “Dŷn ni eisiau cymryd Samson yn garcharor,” medden nhw, “a thalu'r pwyth yn ôl iddo am beth wnaeth e i ni.”
Judg WelBeibl 15:11  Felly dyma dair mil o ddynion Jwda yn mynd i lawr i'r ogof wrth Graig Etam, a dweud wrth Samson, “Wyt ti ddim yn sylweddoli mai'r Philistiaid sy'n ein rheoli ni? Beth wyt ti'n feddwl wyt ti'n wneud?” “Dim ond talu'r pwyth yn ôl wnes i. Gwneud iddyn nhw beth wnaethon nhw i mi,” meddai Samson.
Judg WelBeibl 15:12  A dyma ddynion Jwda yn dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod yma i dy ddal di a dy roi di i'r Philistiaid yn garcharor.” “Wnewch chi addo i mi na fyddwch chi'n fy lladd i eich hunain?” meddai Samson.
Judg WelBeibl 15:13  A dyma nhw'n dweud, “Dŷn ni'n addo. Wnawn ni ddim ond dy rwymo di a dy roi di'n garcharor iddyn nhw. Wnawn ni ddim dy ladd di.” Felly dyma nhw'n ei rwymo gyda dwy raff newydd a mynd ag e o Graig Etam.
Judg WelBeibl 15:14  Pan gyrhaeddodd Lechi, dyma'r Philistiaid yn dechrau gweiddi'n uchel wrth fynd draw at Samson. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno'n rymus. Torrodd y rhaffau oedd yn rhwymo'i freichiau fel petaen nhw'n frethyn oedd wedi llosgi!
Judg WelBeibl 15:15  Dyma fe'n gweld asgwrn gên asyn oedd heb sychu. Gafaelodd yn yr asgwrn a lladd mil o ddynion gydag e!
Judg WelBeibl 15:16  A dyma Samson yn dweud, “Gydag asgwrn gên asyn gadewais nhw'n domenni! Gydag asgwrn gên asyn mil o filwyr a leddais i!”
Judg WelBeibl 15:17  Yna taflodd Samson yr asgwrn ar lawr, a galwodd y lle yn Ramath-lechi (sef ‛Bryn yr Asgwrn Gên‛).
Judg WelBeibl 15:18  Roedd Samson yn ofnadwy o sychedig a dyma fe'n galw ar yr ARGLWYDD, “Ar ôl rhoi buddugoliaeth fawr i mi, wyt ti'n mynd i adael i mi farw o syched, a gadael i'r paganiaid yma fy nghael i?”
Judg WelBeibl 15:19  Felly dyma Duw yn hollti'r basn sydd yn y graig yn Lechi, a dyma ddŵr yn pistyllio allan. Pan yfodd Samson y dŵr, dyma fe'n dod ato'i hun. Galwodd y lle yn En-hacore (sef ‛Ffynnon y Galw‛) – mae'n dal yna yn Lechi hyd heddiw.
Judg WelBeibl 15:20  Buodd Samson yn arwain Israel am ugain mlynedd pan oedd y Philistiaid yn rheoli'r wlad.
Chapter 16
Judg WelBeibl 16:1  Aeth Samson i Gasa. Yno gwelodd butain, ac aeth i gael rhyw gyda hi.
Judg WelBeibl 16:2  Dyma bobl Gasa yn darganfod ei fod yno. Felly dyma nhw'n amgylchynu'r dref ac yn disgwyl amdano wrth y giatiau. Wnaethon nhw ddim mwy drwy'r nos, gan feddwl, “Lladdwn ni e pan fydd hi'n goleuo yn y bore!”
Judg WelBeibl 16:3  Ond wnaeth Samson ddim aros drwy'r nos. Cododd ganol nos a gadael. Pan ddaeth at giatiau'r dref, tynnodd y drysau, y ddau bostyn a'r barrau a'r cwbl. Cododd nhw ar ei gefn, a'u cario i ben y bryn sydd i'r dwyrain o Hebron.
Judg WelBeibl 16:4  Rywbryd wedyn, dyma Samson yn syrthio mewn cariad hefo gwraig o Ddyffryn Sorec, o'r enw Delila.
Judg WelBeibl 16:5  Dyma arweinwyr y Philistiaid yn mynd ati, a dweud, “Os gwnei di ei berswadio fe i ddweud wrthot ti pam mae e mor gryf, a sut y gallen ni ei ddal a'i gam-drin, cei fil a chant o ddarnau arian gan bob un ohonon ni.”
Judg WelBeibl 16:6  Felly dyma Delila'n gofyn i Samson, “Beth sy'n dy wneud di mor gryf? Sut allai rhywun dy rwymo di a dy drechu di?”
Judg WelBeibl 16:7  A dyma Samson yn ateb, “Petawn i'n cael fy rhwymo gyda saith llinyn bwa saeth newydd, byddwn i mor wan ag unrhyw ddyn arall.”
Judg WelBeibl 16:8  Felly dyma arweinwyr y Philistiaid yn rhoi saith llinyn bwa saeth newydd iddi, i rwymo Samson gyda nhw.
Judg WelBeibl 16:9  Pan oedd y dynion yn cuddio yn yr ystafell, dyma Delila'n gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” Dyma fe'n torri'r llinynnau bwa fel petaen nhw'n edau oedd wedi bod yn agos i dân. Doedden nhw ddim wedi darganfod y gyfrinach pam oedd e mor gryf.
Judg WelBeibl 16:10  Dyma Delila'n dweud wrth Samson, “Ti'n chwarae triciau ac wedi dweud celwydd wrtho i! Tyrd, dywed wrtho i sut mae rhywun yn gallu dy rwymo di.”
Judg WelBeibl 16:11  A dyma fe'n dweud wrthi, “Petawn i'n cael fy rhwymo gyda rhaffau newydd sbon, sydd erioed wedi cael eu defnyddio o'r blaen, byddwn i mor wan ag unrhyw ddyn arall.”
Judg WelBeibl 16:12  Felly dyma Delila'n rhwymo Samson gyda rhaffau newydd sbon. Yna dyma hi'n gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” (Roedd y Philistiaid yn cuddio yn yr ystafell.) Ond dyma fe'n torri'r rhaffau fel petaen nhw'n ddim ond edau!
Judg WelBeibl 16:13  Meddai Delila wrth Samson, “Ti'n gwneud dim byd ond chwarae triciau a dweud celwydd wrtho i! Dwed wrtho i sut mae rhywun yn gallu dy rwymo di.” A dyma fe'n dweud wrthi, “Taset ti'n gweu fy ngwallt i – y saith plethen – i mewn i'r brethyn ar ffrâm wau, a'i chloi gyda'r pìn, byddwn i mor wan ag unrhyw ddyn arall.”
Judg WelBeibl 16:14  Felly tra oedd e'n cysgu, dyma hi'n cymryd ei saith plethen e, eu gweu nhw i mewn i'r brethyn ar y ffrâm wau, a'i chloi gyda pìn. Wedyn gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” Dyma fe'n deffro, ac yn rhwygo'r pìn allan o'r ffrâm a'i wallt o'r brethyn.
Judg WelBeibl 16:15  A dyma Delila'n dweud wrtho, “Sut wyt ti'n gallu dweud ‘Dw i'n dy garu di,’ os wyt ti ddim yn trystio fi? Rwyt ti wedi bod yn chwarae triciau dair gwaith ac wedi gwrthod dweud wrtho i beth sy'n dy wneud di mor gryf.”
Judg WelBeibl 16:16  Roedd hi'n dal ati i swnian a swnian ddydd ar ôl dydd, nes roedd Samson wedi cael llond bol.
Judg WelBeibl 16:17  A dyma fe'n dweud popeth wrthi. “Dw i erioed wedi cael torri fy ngwallt. Ces fy rhoi yn Nasaread i Dduw cyn i mi gael fy ngeni. Petai fy ngwallt yn cael ei dorri, byddwn yn colli fy nghryfder. Byddwn i mor wan ag unrhyw ddyn arall.”
Judg WelBeibl 16:18  Pan sylweddolodd Delila ei fod wedi dweud ei gyfrinach wrthi, dyma hi'n anfon am arweinwyr y Philistiaid. Ac meddai wrthyn nhw, “Dewch yn ôl, mae e wedi dweud wrtho i beth ydy'r gyfrinach.” Felly dyma arweinwyr y Philistiaid yn mynd yn ôl ati, a'r arian i'w thalu hi gyda nhw.
Judg WelBeibl 16:19  Dyma Delila'n cael Samson i gysgu, a'i ben ar ei gliniau. Yna dyma hi'n galw dyn draw i dorri'i wallt i gyd i ffwrdd – y saith plethen. A dyna ddechrau'r cam-drin. Roedd ei gryfder i gyd wedi mynd.
Judg WelBeibl 16:20  Dyma hi'n gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” A dyma fe'n deffro, gan feddwl, “Gwna i yr un peth ag o'r blaen, a chael fy hun yn rhydd.” (Doedd e ddim yn sylweddoli fod yr ARGLWYDD wedi'i adael e.)
Judg WelBeibl 16:21  Dyma'r Philistiaid yn ei ddal a thynnu'i lygaid allan. Yna dyma nhw'n mynd ag e i'r carchar yn Gasa. Yno, dyma nhw'n rhoi cadwyni pres arno a gwneud iddo falu ŷd.
Judg WelBeibl 16:23  Roedd arweinwyr y Philistiaid wedi dod at ei gilydd i ddathlu a chyflwyno aberthau i'w duw, Dagon. Roedden nhw'n siantio, “Ein duw ni, Dagon – mae wedi rhoi Samson ein gelyn, yn ein gafael!”
Judg WelBeibl 16:24  Roedd y bobl i gyd yn edrych ar eu duw ac yn ei foli. “Mae'n duw ni wedi rhoi'n gelyn yn ein gafael; yr un oedd wedi dinistrio'n gwlad, a lladd cymaint ohonon ni.”
Judg WelBeibl 16:25  Yna, pan oedd y parti'n dechrau mynd yn wyllt, dyma nhw'n gweiddi, “Dewch â Samson yma i ni gael ychydig o adloniant!” Felly dyma nhw'n galw am Samson o'r carchar, i roi sioe iddyn nhw. A dyma nhw'n ei osod i sefyll rhwng dau o'r pileri.
Judg WelBeibl 16:26  Dyma Samson yn dweud wrth y bachgen oedd yn ei dywys, “Gad i mi deimlo pileri'r deml, i mi gael pwyso arnyn nhw.”
Judg WelBeibl 16:27  Roedd y deml yn orlawn o bobl, ac roedd arweinwyr y Philistiaid i gyd yno. Roedd tair mil o bobl ar y to yn gwylio Samson ac yn gwneud hwyl am ei ben.
Judg WelBeibl 16:28  A dyma Samson yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, “O Feistr, ARGLWYDD, cofia amdana i! Gwna fi'n gryf dim ond un waith eto, O Dduw. Gad i mi daro'r Philistiaid un tro olaf, a dial arnyn nhw am dynnu fy llygaid i!”
Judg WelBeibl 16:29  Yna dyma fe'n rhoi'i ddwylo ar y ddau biler oedd yn cynnal to'r deml, a gwthio, un gyda'r llaw dde a'r llall gyda'r chwith.
Judg WelBeibl 16:30  “Gad i mi farw gyda'r Philistiaid!” gwaeddodd. Roedd yn gwthio mor galed ag y medrai, a dyma'r adeilad yn syrthio ar ben arweinwyr y Philistiaid a phawb arall oedd y tu mewn. Lladdodd Samson fwy o Philistiaid pan fuodd e farw nag yn ystod gweddill ei fywyd i gyd!
Judg WelBeibl 16:31  Aeth ei frodyr a'r teulu i gyd i lawr i Gasa i nôl ei gorff. A dyma nhw'n ei gladdu ym medd ei dad, oedd rhwng Sora ac Eshtaol. Roedd Samson wedi arwain pobl Israel am ugain mlynedd.
Chapter 17
Judg WelBeibl 17:1  Roedd dyn o'r enw Micha yn byw ym mryniau Effraim.
Judg WelBeibl 17:2  Dwedodd wrth ei fam, “Gwnes i dy glywed di'n melltithio'r lleidr wnaeth ddwyn y mil a chant o ddarnau arian oddi arnat ti. Wel, mae'r arian gen i. Fi wnaeth ei ddwyn e, a dw i'n mynd i'w roi'n ôl i ti.” A dyma'i fam yn dweud wrtho, “Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD yn dy fendithio di, fy mab!”
Judg WelBeibl 17:3  Daeth â'r arian yn ôl i'w fam, a dyma'i fam yn dweud, “Dw i am gysegru'r arian yma i'r ARGLWYDD. Er mwyn fy mab, dw i am ei ddefnyddio i wneud eilun wedi'i gerfio a delw o fetel tawdd.”
Judg WelBeibl 17:4  Pan roddodd yr arian i'w fam, dyma hi'n cymryd dau gant o ddarnau arian, a'u rhoi nhw i'r gof arian i wneud eilun wedi'i gerfio a delw o fetel tawdd. Yna dyma hi'n eu gosod nhw yn nhŷ Micha.
Judg WelBeibl 17:5  Roedd gan Micha gysegr i addoli Duw yn ei dŷ. Roedd wedi gwneud effod ac eilun-ddelwau teuluol, ac wedi ordeinio un o'i feibion yn offeiriad.
Judg WelBeibl 17:6  Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd pawb yn gwneud beth roedden nhw'n feddwl oedd yn iawn.
Judg WelBeibl 17:7  Roedd dyn ifanc o Bethlehem yn Jwda – roedd yn perthyn i lwyth Lefi – ond wedi bod yn byw dros dro ar dir Jwda.
Judg WelBeibl 17:8  Penderfynodd fynd i chwilio am le arall i fyw. Cyrhaeddodd fryniau Effraim, a digwydd dod i dŷ Micha.
Judg WelBeibl 17:9  Gofynnodd Micha iddo, “O ble ti'n dod?” Atebodd, “Un o lwyth Lefi ydw i, wedi bod yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Ond dw i'n edrych am rywle arall i fyw.”
Judg WelBeibl 17:10  A dyma Micha'n dweud, “Aros yma gyda mi. Cei fod yn gynghorydd ac offeiriad i mi. Gwna i dalu deg darn arian y flwyddyn i ti, a dillad a bwyd.”
Judg WelBeibl 17:11  Dyma fe'n cytuno i aros yno. Roedd fel un o'r teulu.
Judg WelBeibl 17:12  Roedd Micha wedi'i ordeinio yn offeiriad, ac roedd yn byw yn ei dŷ.
Judg WelBeibl 17:13  Ac meddai Micha wrtho'i hun, “Nawr dw i'n gwybod y bydd Duw yn dda i mi – mae gen i un o lwyth Lefi yn offeiriad!”
Chapter 18
Judg WelBeibl 18:1  Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Tua'r un adeg, roedd llwyth Dan yn edrych am rywle i setlo i lawr. Doedden nhw ddim wedi llwyddo i gymryd y tir oedd wedi cael ei roi iddyn nhw, fel gweddill llwythau Israel.
Judg WelBeibl 18:2  Felly dyma lwyth Dan yn anfon pump o ddynion dewr o Sora ac Eshtaol i ysbïo'r wlad. Dyma nhw'n cyrraedd tŷ Micha ym mryniau Effraim, a dyna ble wnaethon nhw aros dros nos.
Judg WelBeibl 18:3  Tra oedden nhw yno, dyma nhw'n nabod acen y dyn ifanc o lwyth Lefi, a mynd ato a dechrau'i holi, “Pwy ddaeth â ti yma? Beth wyt ti'n wneud yma? Beth ydy dy fusnes di?”
Judg WelBeibl 18:4  A dyma fe'n dweud wrthyn nhw beth oedd Micha wedi'i wneud iddo. “Dw i wedi cael swydd ganddo, fel offeiriad,” meddai.
Judg WelBeibl 18:5  “Oes gen ti neges gan Dduw i ni?” medden nhw. “Dŷn ni eisiau gwybod os byddwn ni'n llwyddiannus.”
Judg WelBeibl 18:6  A dyma'r offeiriad yn ateb, “Gallwch fod yn dawel eich meddwl. Mae'r ARGLWYDD gyda chi bob cam o'r ffordd!”
Judg WelBeibl 18:7  Felly dyma'r pump yn mynd ymlaen ar eu taith ac yn dod i Laish. Doedd y bobl oedd yn byw yno yn poeni am ddim – roedden nhw fel pobl Sidon, yn meddwl eu bod nhw'n hollol saff. Doedden nhw'n gweld dim perygl o gwbl a doedd neb yn eu bygwth nhw na dwyn oddi arnyn nhw. Roedden nhw'n bell oddi wrth Sidon i'r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw un arall chwaith.
Judg WelBeibl 18:8  Aeth y dynion yn ôl at eu pobl yn Sora ac Eshtaol. A dyma'r bobl yn gofyn iddyn nhw, “Wel? Sut aeth hi?”
Judg WelBeibl 18:9  A dyma nhw'n ateb, “Dewch! Dŷn ni wedi dod o hyd i le da. Dewch i ymosod arnyn nhw! Peidiwch eistedd yma'n diogi! Rhaid i ni fynd ar unwaith a chymryd y tir oddi arnyn nhw.
Judg WelBeibl 18:10  Maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n hollol saff. Mae yna ddigon o dir yna, ac mae Duw yn ei roi i ni! Mae popeth sydd ei angen arnon ni yna!”
Judg WelBeibl 18:11  Felly dyma chwe chant o ddynion Dan yn gadael Sora ac Eshtaol, yn barod i frwydro.
Judg WelBeibl 18:12  Dyma nhw'n gwersylla yn Ciriath-iearîm yn Jwda. (Mae'r lle'n dal i gael ei alw'n Wersyll Dan hyd heddiw. Mae i'r gorllewin o Ciriath-iearîm.)
Judg WelBeibl 18:13  Yna aethon nhw yn eu blaenau i fryniau Effraim a chyrraedd tŷ Micha.
Judg WelBeibl 18:14  A dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn chwilio'r ardal yn dweud wrth y lleill, “Wyddoch chi fod yna effod yma ac eilun-ddelwau teuluol, hefyd eilun wedi'i gerfio a delw o fetel tawdd? Beth dych chi am ei wneud?”
Judg WelBeibl 18:15  Felly dyma nhw'n galw heibio'r tŷ lle roedd y Lefiad ifanc yn byw (tŷ Micha), a'i gyfarch, “Sut mae pethau?”
Judg WelBeibl 18:16  Roedd y chwe chant o filwyr yn sefyll wrth giât y dref.
Judg WelBeibl 18:17  Tra oedd yr offeiriad yn sefyll yno gyda'r milwyr, dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn ysbïo'r wlad yn torri i mewn i'w dŷ, a dwyn yr eilun wedi'i gerfio, yr effod, yr eilun-ddelwau teuluol a'r ddelw o fetel tawdd.
Judg WelBeibl 18:18  Pan welodd yr offeiriad nhw, dyma fe'n gofyn, “Beth ydych chi'n wneud?”
Judg WelBeibl 18:19  A dyma nhw'n ei ateb, “Paid dweud dim! Tyrd gyda ni. Cei di fod yn gynghorydd ac offeiriad i ni. Pa un sydd well – cael bod yn offeiriad i lwyth cyfan yn Israel neu i deulu un dyn?”
Judg WelBeibl 18:20  Roedd yr offeiriad wrth ei fodd. Cymerodd yr effod, eilun-ddelwau'r teulu a'r eilun wedi'i gerfio, a mynd gyda nhw.
Judg WelBeibl 18:21  I ffwrdd â nhw, gyda'r plant, yr anifeiliaid a'r eiddo i gyd ar y blaen.
Judg WelBeibl 18:22  Yna, pan oedden nhw wedi mynd yn reit bell o dŷ Micha, dyma Micha a chriw o ddynion oedd yn gymdogion iddo yn dod ar eu holau.
Judg WelBeibl 18:23  Dyma nhw'n gweiddi arnyn nhw. A dyma ddynion Dan yn troi a gofyn, “Beth sy'n bod? Pam dych chi wedi dod ar ein holau ni?”
Judg WelBeibl 18:24  Dyma Micha'n ateb, “Dych chi wedi dwyn y duwiau dw i wedi'u gwneud, a'r offeiriad, a cherdded i ffwrdd! Beth sydd gen i ar ôl? Sut allwch chi ddweud, ‘Beth sy'n bod?’”
Judg WelBeibl 18:25  Ond dyma ddynion Dan yn ei ateb, “Byddai'n syniad i ti gau dy geg – mae yna ddynion milain yma, a gallen nhw ddod a dy ladd di a dy deulu!”
Judg WelBeibl 18:26  A dyma nhw'n troi a mynd yn eu blaenau ar eu taith. Gwelodd Micha eu bod nhw'n gryfach na'r criw o ddynion oedd gyda fe, felly dyma fe'n troi am adre.
Judg WelBeibl 18:27  Aeth pobl llwyth Dan yn eu blaenau i Laish, gyda'r offeiriad a'r delwau roedd Micha wedi'u gwneud. Doedd pobl Laish yn gweld dim peryg o gwbl ac yn meddwl eu bod yn hollol saff. Ond dyma filwyr Dan yn ymosod arnyn nhw, ac yn llosgi'r dref yn ulw.
Judg WelBeibl 18:28  Doedd neb yn gallu dod i'w helpu nhw. Roedden nhw'n rhy bell o Sidon i'r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw bobl eraill. Roedd y dref mewn dyffryn heb fod yn bell o Beth-rechof. Dyma lwyth Dan yn ailadeiladu'r dref, a symud i fyw yno.
Judg WelBeibl 18:29  Cafodd y dref ei galw'n Dan, ar ôl eu hynafiad, oedd yn un o feibion Israel. Laish oedd yr hen enw arni.
Judg WelBeibl 18:30  Cymerodd bobl Dan yr eilun wedi'i gerfio a'i osod i fyny i'w addoli, a gwneud Jonathan (oedd yn un o ddisgynyddion Gershom, mab Moses) yn offeiriad. Roedd ei deulu e'n dal i wasanaethu fel offeiriaid i lwyth Dan adeg y gaethglud!
Judg WelBeibl 18:31  Bu llwyth Dan yn dal i addoli'r eilun gafodd ei wneud gan Micha yr holl amser roedd cysegr Duw yn Seilo.
Chapter 19
Judg WelBeibl 19:1  Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd rhyw ddyn o lwyth Lefi yn byw yn bell o bobman yng nghanol bryniau Effraim. A dyma fe'n cymryd dynes o Bethlehem yn Jwda i fyw gydag e fel ei bartner
Judg WelBeibl 19:2  Ond roedd hi'n anffyddlon iddo, a dyma hi'n mynd yn ôl i fyw gyda'i theulu yn Bethlehem. Rhyw bedwar mis wedyn,
Judg WelBeibl 19:3  dyma'r dyn yn mynd gyda'i was a dau asyn i geisio'i pherswadio i fynd yn ôl gydag e. Pan gyrhaeddodd, dyma hi'n mynd ag e i'w chartref, a chafodd groeso brwd gan ei thad.
Judg WelBeibl 19:4  Dyma'r tad yn ei berswadio i aros am dri diwrnod, a dyna lle buodd e, yn bwyta ac yn yfed ac yn aros dros nos.
Judg WelBeibl 19:5  Ond yna, ar y pedwerydd diwrnod, dyma fe'n codi'n gynnar a dechrau paratoi i adael. Dyma dad y ferch yn dweud wrtho, “Rhaid i ti gael tamaid i'w fwyta cyn mynd. Cewch fynd wedyn.”
Judg WelBeibl 19:6  Felly dyma'r ddau ohonyn nhw'n cael pryd o fwyd gyda'i gilydd. Yna dyma dad y ferch yn dweud wrth y dyn, “Tyrd, aros un noson arall. Cei amser da!”
Judg WelBeibl 19:7  Roedd y dyn ar fin mynd, ond dyma'r tad yn pwyso arno a'i berswadio i aros noson arall.
Judg WelBeibl 19:8  Yna'n gynnar y bore wedyn, y pumed diwrnod, dyma'r dyn yn codi eto i fynd. Ond dyma dad y ferch yn dweud wrtho eto, “Dylet ti gael rhywbeth i dy gadw di i fynd! Pam wnei di ddim gadael ar ôl cinio?” Felly dyma'r ddau'n bwyta gyda'i gilydd eto.
Judg WelBeibl 19:9  Rywbryd yn ystod y p'nawn, dyma'r dyn yn codi i fynd gyda'i bartner a'i was. Ond dyma dad y ferch yn dweud, “Gwranda, mae'n rhy hwyr yn y dydd. Aros un noson arall! Mae hi wedi mynd yn rhy hwyr i ti fynd bellach. Aros un noson arall i fwynhau dy hun. Wedyn cei godi'n gynnar bore fory a chychwyn ar dy daith am adre.”
Judg WelBeibl 19:10  Ond doedd y dyn ddim am wneud hynny. Dyma fe a'i bartner yn cymryd y ddau asyn oedd wedi'u cyfrwyo, a chychwyn ar eu taith. Dyma nhw'n cyrraedd Jebws (sef Jerwsalem).
Judg WelBeibl 19:11  Erbyn hynny, roedd hi'n dechrau nosi, a dyma'r gwas yn gofyn i'w feistr, “Beth am i ni aros yma dros nos, yn nhref y Jebwsiaid?”
Judg WelBeibl 19:12  Dyma'r meistr yn ei ateb, “Na, allwn ni ddim aros gyda phaganiaid sydd ddim yn perthyn i Israel. Awn ni ymlaen i Gibea.
Judg WelBeibl 19:13  Gallwn ni ddod o hyd i rywle i aros, naill ai'n Gibea neu yn Rama.”
Judg WelBeibl 19:14  Felly dyma nhw'n teithio yn eu blaenau. Erbyn iddyn nhw gyrraedd Gibea, sydd ar dir llwyth Benjamin, roedd yr haul wedi machlud.
Judg WelBeibl 19:15  Felly dyma nhw'n penderfynu aros yno dros nos. Aethon nhw i mewn i'r dref, ac eistedd i lawr i orffwys yn y sgwâr. Ond wnaeth neb eu gwahodd nhw i'w tŷ i aros dros nos.
Judg WelBeibl 19:16  Ond yna, dyma ryw hen ddyn yn dod heibio. Roedd wedi bod yn gweithio yn y caeau drwy'r dydd ac ar ei ffordd adre. Un o fryniau Effraim oedd e'n wreiddiol, ond roedd yn byw yn Gibea gyda phobl llwyth Benjamin.
Judg WelBeibl 19:17  Pan welodd e'r teithiwr yn y sgwâr, dyma fe'n gofyn iddo, “O ble dych chi'n dod, ac i ble dych chi'n mynd?”
Judg WelBeibl 19:18  A dyma'r dyn o lwyth Lefi'n dweud wrtho, “Dŷn ni ar ein ffordd adre o Bethlehem yn Jwda. Dw i'n byw mewn ardal ym mryniau Effraim sy'n bell o bobman. Dw i wedi bod i Bethlehem, a nawr dw i ar fy ffordd adre. Ond does neb yn y dref yma wedi'n gwahodd ni i aros gyda nhw.
Judg WelBeibl 19:19  Does arnon ni angen dim byd. Mae gynnon ni ddigon o wellt a grawn i'n mulod, ac mae gynnon ni fwyd a gwin i'r tri ohonon ni – fi, dy forwyn, a'r bachgen ifanc sydd gyda ni.”
Judg WelBeibl 19:20  “Mae croeso i chi ddod ata i!” meddai'r hen ddyn. “Gwna i ofalu amdanoch chi. Well i chi beidio aros ar sgwâr y dref drwy'r nos!”
Judg WelBeibl 19:21  Felly dyma fe'n mynd â nhw i'w dŷ, ac yn bwydo'r asynnod. Wedyn, ar ôl golchi eu traed dyma nhw'n cael pryd o fwyd gyda'i gilydd.
Judg WelBeibl 19:22  Tra oedden nhw'n mwynhau'u hunain, dyma griw o rapsgaliwns o'r dref yn codi twrw, amgylchynu'r tŷ a dechrau curo ar y drws. Roedden nhw'n gweiddi ar yr hen ddyn, “Anfon y dyn sy'n aros gyda ti allan. Dŷn ni eisiau cael rhyw gydag e!”
Judg WelBeibl 19:23  Ond dyma'r dyn oedd piau'r tŷ yn mynd allan atyn nhw, a dweud, “Na, ffrindiau. Peidiwch bod mor ffiaidd! Fy ngwestai i ydy'r dyn. Peidiwch bod mor amharchus!
Judg WelBeibl 19:24  Mae gen i ferch sy'n wyryf, ac mae partner y dyn yma hefyd. Gwna i eu hanfon nhw allan. Gewch chi wneud beth leiciwch chi iddyn nhw. Ond peidiwch meddwl gwneud rhywbeth mor amharchus i'r dyn yma!”
Judg WelBeibl 19:25  Ond roedd y dynion yn gwrthod gwrando arno. Felly dyma'r dyn o lwyth Lefi yn gafael yn ei bartner ac yn ei gwthio hi allan atyn nhw. A buon nhw'n ei threisio hi a'i cham-drin hi drwy'r nos. Roedd hi bron yn gwawrio cyn iddyn nhw'i gollwng hi'n rhydd.
Judg WelBeibl 19:26  Dim ond dechrau goleuo oedd hi pan gyrhaeddodd hi'n ôl i'r tŷ lle roedd ei gŵr yn aros. Syrthiodd ar lawr tu allan i'r drws, a dyna lle buodd hi'n gorwedd nes oedd yr haul wedi codi.
Judg WelBeibl 19:27  Pan gododd ei gŵr y bore hwnnw, roedd yn bwriadu cychwyn ar ei daith. Agorodd y drws, a dyna lle roedd ei bartner yn gorwedd wrth ddrws y tŷ, a'i dwylo ar y trothwy.
Judg WelBeibl 19:28  “Tyrd, dŷn ni'n mynd,” meddai wrthi. Ond doedd dim ymateb. Felly dyma fe'n ei chodi ar ei asyn a mynd.
Judg WelBeibl 19:29  Pan gyrhaeddodd adre, cymerodd gyllell a thorri corff ei bartner yn un deg dau darn. Yna dyma fe'n anfon y darnau, bob yn un, i bob rhan o Israel.
Judg WelBeibl 19:30  Roedd pawb yn dweud, “Does yna ddim byd fel yma wedi digwydd erioed o'r blaen, ers i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft! Meddyliwch am y peth! A trafodwch beth ddylid ei wneud.”
Chapter 20
Judg WelBeibl 20:1  Dyma bobl Israel yn dod at ei gilydd yn un dyrfa fawr o flaen yr ARGLWYDD yn Mitspa. Roedden nhw wedi dod o bobman – o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, ac o dir Gilead i'r dwyrain o afon Iorddonen.
Judg WelBeibl 20:2  A dyma arweinwyr llwythau Israel yn cymryd eu lle – roedd 400,000 o filwyr traed wedi'u harfogi yno i gyd.
Judg WelBeibl 20:3  Clywodd llwyth Benjamin fod gweddill pobl Israel wedi dod at ei gilydd yn Mitspa. A dyma bobl Israel yn gofyn, “Sut allai peth mor ofnadwy fod wedi digwydd?”
Judg WelBeibl 20:4  Atebodd y dyn o lwyth Lefi (gŵr y wraig oedd wedi cael ei llofruddio), “Rôn i a'm partner wedi cyrraedd Gibea, sydd ar dir Benjamin, i aros dros nos.
Judg WelBeibl 20:5  A dyma arweinwyr Gibea yn dod ar fy ôl i, ac yn amgylchynu'r tŷ lle roedden ni'n aros. Roedden nhw am fy lladd i. Ond yn lle hynny, dyma nhw'n treisio a cham-drin fy mhartner i nes buodd hi farw.
Judg WelBeibl 20:6  Roedd yn beth hollol erchyll i bobl Israel ei wneud. Felly dyma fi'n cymryd ei chorff, ei dorri'n ddarnau, ac anfon y darnau i bob rhan o dir Israel.
Judg WelBeibl 20:7  Rhaid i chi, bobl Israel, benderfynu beth ddylid ei wneud!”
Judg WelBeibl 20:8  Dyma nhw'n cytuno'n unfrydol, “Does neb ohonon ni am fynd adre – neb o gwbl –
Judg WelBeibl 20:9  nes byddwn ni wedi delio gyda phobl Gibea. Rhaid i ni ymosod ar y dre. Gwnawn ni dynnu coelbren i benderfynu pa lwyth ddylai arwain yr ymosodiad.
Judg WelBeibl 20:10  Bydd degfed ran dynion pob llwyth yn gyfrifol am nôl bwyd i'r milwyr. Pan fydd y fyddin yn cyrraedd Gibea, byddan nhw'n eu cosbi nhw am wneud peth mor erchyll yn Israel.”
Judg WelBeibl 20:11  Felly aeth dynion Israel i gyd gyda'i gilydd i ymosod ar dref Gibea.
Judg WelBeibl 20:12  Dyma nhw'n anfon negeswyr at lwyth Benjamin i ofyn, “Sut allech chi fod wedi gwneud peth mor ofnadwy?
Judg WelBeibl 20:13  Anfonwch y rapsgaliwns yn Gibea sydd wedi gwneud hyn aton ni, i gael eu dienyddio. Rhaid cael gwared â'r drwg yma o Israel.” Ond doedd pobl llwyth Benjamin ddim yn fodlon cydweithredu.
Judg WelBeibl 20:14  Yn lle hynny, dyma nhw'n dod o'u trefi i Gibea, a chasglu yno i fynd i ryfel yn erbyn gweddill Israel.
Judg WelBeibl 20:15  Roedd dau ddeg chwe mil o filwyr arfog o lwyth Benjamin wedi ymuno gyda'r saith mil o filwyr profiadol oedd yn Gibea ei hun.
Judg WelBeibl 20:16  Roedd y fyddin yn cynnwys saith gant o ddynion llaw chwith oedd yn gallu taro targed i drwch blewyn gyda charreg o ffon dafl.
Judg WelBeibl 20:17  Roedd gan weddill Israel bedwar can mil o filwyr arfog profiadol.
Judg WelBeibl 20:18  Cyn y frwydr, aethon nhw i Bethel i ofyn i Dduw, “Pwy sydd i arwain y frwydr yn erbyn llwyth Benjamin?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Llwyth Jwda sydd i arwain.”
Judg WelBeibl 20:19  Yn gynnar y bore wedyn, dyma fyddin Israel yn paratoi i ymosod ar Gibea.
Judg WelBeibl 20:20  Dyma nhw'n mynd allan i ymladd yn erbyn llwyth Benjamin, a threfnu'u hunain yn rhengoedd yn barod i ymosod ar Gibea.
Judg WelBeibl 20:21  Ond daeth milwyr llwyth Benjamin allan o Gibea, a lladd dau ddeg dwy fil o filwyr Israel yn y frwydr y diwrnod hwnnw.
Judg WelBeibl 20:22  Ond wnaeth byddin Israel ddim digalonni. Dyma nhw'n mynd allan eto, a sefyll mewn trefn yn yr un lle â'r diwrnod cynt.
Judg WelBeibl 20:23  Roedden nhw wedi mynd yn ôl i Bethel, ac wedi bod yn crio o flaen yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedden nhw wedi gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu ddim?” Ac roedd yr ARGLWYDD wedi ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw!”
Judg WelBeibl 20:24  Felly dyma fyddin Israel yn mynd allan i ymladd yn erbyn llwyth Benjamin yr ail ddiwrnod.
Judg WelBeibl 20:25  Ond daeth milwyr Benjamin allan o Gibea unwaith eto, a lladd un deg wyth mil arall o filwyr Israel.
Judg WelBeibl 20:26  Felly dyma fyddin Israel i gyd yn mynd yn ôl i Bethel. Buon nhw'n eistedd yno'n crio o flaen yr ARGLWYDD, a wnaethon nhw ddim bwyta o gwbl nes roedd hi wedi nosi. Buon nhw hefyd yn cyflwyno aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Judg WelBeibl 20:27  Dyna lle roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar y pryd, gyda Phineas (mab Eleasar ac ŵyr i Aaron) yn gwasanaethu fel offeiriad. Dyma nhw'n gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu roi'r gorau iddi?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw! Dw i'n mynd i'w rhoi nhw'n eich dwylo chi.”
Judg WelBeibl 20:28  Dyna lle roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar y pryd, gyda Phineas (mab Eleasar ac ŵyr i Aaron) yn gwasanaethu fel offeiriad. Dyma nhw'n gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu roi'r gorau iddi?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw! Dw i'n mynd i'w rhoi nhw'n eich dwylo chi.”
Judg WelBeibl 20:29  Felly dyma Israel yn anfon dynion i guddio o gwmpas Gibea, i ymosod yn ddirybudd.
Judg WelBeibl 20:30  Y diwrnod wedyn, dyma'r fyddin yn mynd allan eto i ymosod ar lwyth Benjamin. Roedden nhw'n sefyll yn rhengoedd fel o'r blaen, yn barod i ymosod ar Gibea.
Judg WelBeibl 20:31  A dyma fyddin Benjamin yn dod allan i ymladd yn eu herbyn, gan adael y dref heb ei hamddiffyn. Dyma nhw'n dechrau taro byddin Israel, fel o'r blaen. Cafodd tua tri deg o filwyr Israel eu lladd yng nghefn gwlad ac ar y ffyrdd (sef y ffordd sy'n mynd i Bethel, a'r un sy'n mynd i Gibea).
Judg WelBeibl 20:32  Felly roedd byddin Benjamin yn meddwl eu bod nhw'n eu curo nhw fel o'r blaen. Ond tacteg Israel oedd ffoi o'u blaenau nhw er mwyn eu harwain nhw i ffwrdd o dref Gibea i'r priffyrdd.
Judg WelBeibl 20:33  Pan ddaeth byddin Israel i Baal-tamar, dyma nhw'n ailgasglu a threfnu'u hunain yn rhengoedd, yn barod i ymladd. Yr un pryd, dyma'r milwyr oedd yn cuddio i'r gorllewin o Gibea yn dod allan
Judg WelBeibl 20:34  ac yn ymosod ar y dref – deg mil o filwyr profiadol i gyd. Roedd y brwydro'n filain, ond doedd gan filwyr Benjamin ddim syniad eu bod nhw ar fin cael crasfa.
Judg WelBeibl 20:35  Dyma'r ARGLWYDD yn taro byddin Benjamin i lawr o flaen milwyr Israel. Cafodd 25,100 o filwyr Benjamin eu lladd.
Judg WelBeibl 20:36  Roedd byddin Benjamin yn gweld ei bod ar ben arnyn nhw! Roedd byddin Israel wedi ffoi o flaen milwyr llwyth Benjamin, gan wybod fod ganddyn nhw ddynion yn cuddio ac yn barod i ymosod ar Gibea.
Judg WelBeibl 20:37  Ac roedd y dynion hynny wedi rhuthro i ymosod ar y dre a lladd pawb oedd yn byw yno.
Judg WelBeibl 20:38  Roedden nhw wedi trefnu i roi arwydd i weddill y fyddin eu bod nhw wedi llwyddo – sef, cynnau tân a gwneud i golofn o fwg godi o'r dref.
Judg WelBeibl 20:39  Dyna pryd fyddai byddin Israel yn troi a dechrau gwrthymosod. Pan oedd milwyr Benjamin wedi lladd rhyw dri deg o filwyr Israel, roedden nhw'n meddwl eu bod nhw'n ennill y frwydr fel o'r blaen.
Judg WelBeibl 20:40  Ond yna dyma nhw'n gweld colofn o fwg yn codi o'r dref. Roedd y dref i gyd ar dân, a mwg yn codi'n uchel i'r awyr.
Judg WelBeibl 20:41  Pan drodd byddin Israel i ymladd, dyma filwyr llwyth Benjamin yn panicio – roedden nhw'n gweld ei bod hi ar ben arnyn nhw.
Judg WelBeibl 20:42  Dyma nhw'n ffoi o flaen byddin Israel, ar hyd y ffordd i'r anialwch. Ond roedden nhw'n methu dianc. Roedd milwyr Israel yn eu taro nhw o bob cyfeiriad.
Judg WelBeibl 20:43  Roedden nhw wedi amgylchynu byddin Benjamin a wnaethon nhw ddim stopio mynd ar eu holau. Roedden nhw'n eu taro nhw i lawr yr holl ffordd i'r dwyrain o Geba.
Judg WelBeibl 20:44  Roedd un deg wyth o filoedd o filwyr gorau llwyth Benjamin wedi'u lladd.
Judg WelBeibl 20:45  Dyma'r gweddill yn dianc i'r anialwch, i gyfeiriad Craig Rimmon. Ond lladdodd byddin Israel bum mil ohonyn nhw ar y ffordd. Dyma nhw'n aros yn dynn ar eu sodlau yr holl ffordd i Gidom, a lladd dwy fil arall.
Judg WelBeibl 20:46  Felly cafodd dau ddeg pum mil o filwyr llwyth Benjamin eu lladd y diwrnod hwnnw – i gyd yn filwyr profiadol.
Judg WelBeibl 20:47  Chwe chant wnaeth lwyddo i ddianc i Graig Rimmon, a buon nhw yno am bedwar mis.
Judg WelBeibl 20:48  Dyma fyddin Israel yn troi'n ôl a mynd drwy drefi Benjamin i gyd, yn lladd popeth byw, pobl ac anifeiliaid. Wedyn roedden nhw'n llosgi'r trefi'n llwyr, bob un.
Chapter 21
Judg WelBeibl 21:1  Pan oedden nhw yn Mitspa, roedd pobl Israel wedi tyngu llw, “Fydd dim un ohonon ni'n gadael i'w ferch briodi dyn o lwyth Benjamin.”
Judg WelBeibl 21:2  Felly dyma'r bobl yn mynd i Bethel ac yn eistedd o flaen yr ARGLWYDD, yn beichio crio'n uchel.
Judg WelBeibl 21:3  “O ARGLWYDD, Duw Israel, pam mae hyn wedi digwydd? Mae un o lwythau Israel wedi diflannu heddiw!”
Judg WelBeibl 21:4  Y bore wedyn, dyma'r bobl yn codi'n gynnar ac yn adeiladu allor. A dyma nhw'n cyflwyno arni aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Judg WelBeibl 21:5  Wedyn dyma nhw'n gofyn, “Oes yna bobl o lwythau Israel wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD yn Mitspa? Roedden ni wedi addo ar lw y byddai'n rhaid i unrhyw un wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD gael ei ladd.”
Judg WelBeibl 21:6  Roedden nhw'n teimlo mor ddrwg am beth oedd wedi digwydd i lwyth Benjamin. “Heddiw, mae un o'r llwythau wedi'i dorri i ffwrdd o Israel!” medden nhw.
Judg WelBeibl 21:7  “Sut allwn ni ddod o hyd i wragedd i'r rhai ohonyn nhw sy'n dal yn fyw? Dŷn ni wedi addo ar lw, o flaen yr ARGLWYDD, i beidio rhoi'n merched ni yn wragedd iddyn nhw.”
Judg WelBeibl 21:8  A dyna pam wnaethon nhw ofyn, “Oes yna bobl o lwythau Israel wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD yn Mitspa?” Dyma nhw'n darganfod fod neb o Jabesh yn Gilead wedi dod i'r cyfarfod. (
Judg WelBeibl 21:9  Pan oedden nhw wedi cyfri'r bobl, doedd neb o Jabesh yn Gilead yno.)
Judg WelBeibl 21:10  Felly dyma nhw'n anfon 12,000 o filwyr i ymosod ar Jabesh yn Gilead. Y gorchymyn oedd i ladd pawb, gan gynnwys gwragedd a phlant.
Judg WelBeibl 21:11  “Lladdwch y dynion a'r bechgyn i gyd, a phob gwraig sydd ddim yn wyryf. Yr unig rai i'w cadw'n fyw ydy'r merched ifanc sy'n wyryfon.” A dyna wnaethon nhw.
Judg WelBeibl 21:12  Daethon nhw o hyd i bedwar cant o ferched ifanc oedd yn wyryfon yn Jabesh yn Gilead – merched oedd erioed wedi cael rhyw gyda dyn. A dyma nhw'n mynd â'r merched hynny'n ôl i'r gwersyll yn Seilo yn Canaan.
Judg WelBeibl 21:13  Wedyn, dyma bobl Israel yn cynnig telerau heddwch i ddynion Benjamin oedd wrth Graig Rimmon.
Judg WelBeibl 21:14  Felly daeth dynion Benjamin yn ôl, a dyma bobl Israel yn rhoi'r merched o Jabesh yn Gilead oedd wedi'u harbed iddyn nhw. Ond doedd dim digon o ferched iddyn nhw i gyd.
Judg WelBeibl 21:15  Roedd y bobl yn dal i deimlo mor ddrwg am beth oedd wedi digwydd i lwyth Benjamin – roedd yr ARGLWYDD wedi gadael bwlch yn Israel.
Judg WelBeibl 21:16  A dyma'r arweinwyr yn gofyn, “Sut ddown ni o hyd i wragedd i'r rhai sydd ar ôl? Mae merched llwyth Benjamin i gyd wedi'u lladd.
Judg WelBeibl 21:17  Mae'n rhaid cadw'r llwyth i fynd. Allwn ni ddim colli llwyth cyfan o Israel.
Judg WelBeibl 21:18  Ond allwn ni ddim rhoi'n merched ni yn wragedd iddyn nhw chwaith.” (Roedd pobl Israel wedi tyngu llw a chyhoeddi melltith ar unrhyw un fyddai'n rhoi gwraig i ddyn o lwyth Benjamin.)
Judg WelBeibl 21:19  Yna dyma nhw'n dweud, “Mae yna Ŵyl i'r ARGLWYDD yn cael ei chynnal yn Seilo bob blwyddyn. Mae'r Ŵyl yn cael ei chynnal i'r gogledd o Bethel ac i'r de o Lebona, ac i'r dwyrain o'r ffordd fawr sy'n rhedeg o Bethel i Sichem.”
Judg WelBeibl 21:20  Felly dyma nhw'n dweud wrth ddynion Benjamin, “Ewch yno i guddio yn y gwinllannoedd.
Judg WelBeibl 21:21  Pan fydd merched Seilo yn dod allan i ddawnsio, gallwch i gyd neidio allan a gafael mewn merch, ac wedyn mynd â nhw gyda chi adre i dir Benjamin.
Judg WelBeibl 21:22  Pan fydd tadau a brodyr y merched yn dod aton ni i gwyno, byddwn ni'n dweud wrthyn nhw, ‘Plîs gadwch lonydd iddyn nhw. Wnaethon ni ddim llwyddo i gael gwraig i bob un ohonyn nhw drwy ymosod ar Jabesh yn Gilead. A wnaethoch chi ddim rhoi'ch merched yn wirfoddol iddyn nhw, felly dych chi ddim yn euog o dorri'ch llw.’”
Judg WelBeibl 21:23  Felly dyna wnaeth dynion Benjamin. Dyma nhw'n cipio dau gant o'r merched oedd yn dawnsio, a'u cymryd nhw'n wragedd iddyn nhw'u hunain. Wedyn aethon nhw yn ôl adre i'w tiroedd eu hunain, ailadeiladu'r trefi, a setlo i lawr unwaith eto.
Judg WelBeibl 21:24  A dyma weddill pobl Israel hefyd yn mynd yn ôl adre i'w tiroedd nhw.
Judg WelBeibl 21:25  Doedd dim brenin yn Israel yr adeg yna. Roedd pawb yn gwneud beth roedden nhw'n feddwl oedd yn iawn.