Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II CHRONICLES
Up
Toggle notes
Chapter 1
II C WelBeibl 1:1  Roedd Solomon fab Dafydd wedi sefydlu ei awdurdod dros ei deyrnas, achos roedd yr ARGLWYDD ei Dduw yn ei helpu ac wedi'i wneud yn frenin pwerus iawn.
II C WelBeibl 1:2  Dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel i gyd at ei gilydd – arweinwyr y fyddin (sef capteiniaid ar unedau o fil ac o gant), y barnwyr, a holl arweinwyr Israel oedd yn benaethiaid teuluoedd.
II C WelBeibl 1:3  A dyma Solomon a'r bobl i gyd yn mynd i addoli wrth yr allor leol yn Gibeon, gan mai dyna lle roedd pabell presenoldeb Duw – yr un roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi'i gwneud yn yr anialwch.
II C WelBeibl 1:4  (Roedd Dafydd wedi dod ag Arch Duw o Ciriath-iearîm i Jerwsalem, sef y lle roedd wedi'i baratoi iddi, ac wedi codi pabell iddi yno.
II C WelBeibl 1:5  Ond roedd yr allor bres wnaeth Betsalel, mab Wri ac ŵyr Hur, o flaen Tabernacl yr ARGLWYDD.) Dyna lle'r aethon nhw i geisio Duw.
II C WelBeibl 1:6  A dyma Solomon yn mynd at yr allor bres o flaen yr ARGLWYDD, ac offrymu mil o aberthau i'w llosgi arni.
II C WelBeibl 1:7  Y noson honno dyma Duw yn dod at Solomon a gofyn iddo, “Beth wyt ti eisiau i mi ei roi i ti?”
II C WelBeibl 1:8  A dyma Solomon yn ateb, “Roeddet ti'n garedig iawn at Dafydd fy nhad, ac rwyt wedi fy ngwneud i yn frenin yn ei le.
II C WelBeibl 1:9  O, ARGLWYDD Dduw, gwna i'r addewid honno wnest ti i Dafydd fy nhad ddod yn wir. Ti wedi fy ngwneud i'n frenin ar gymaint o bobl ag sydd o lwch ar y ddaear.
II C WelBeibl 1:10  Rho i mi'r ddoethineb a'r wybodaeth sydd ei angen i lywodraethu'r bobl yma'n iawn. Fel arall, pa obaith sydd i unrhyw un lywodraethu cenedl mor fawr?”
II C WelBeibl 1:11  A dyma Duw'n ateb Solomon, “Am mai dyna rwyt ti eisiau, y ddoethineb a'r wybodaeth i lywodraethu'r bobl yma'n iawn – a dy fod ddim wedi gofyn am feddiannau, cyfoeth, ac anrhydedd, neu i'r rhai sy'n dy gasáu gael eu lladd; wnest ti ddim hyd yn oed gofyn am gael byw yn hir –
II C WelBeibl 1:12  dw i'n mynd i roi doethineb a gwybodaeth i ti. Ond dw i hefyd yn mynd i roi mwy o gyfoeth, meddiannau, ac anrhydedd i ti nag unrhyw frenin ddaeth o dy flaen neu ddaw ar dy ôl.”
II C WelBeibl 1:13  Felly dyma Solomon yn gadael pabell presenoldeb Duw oedd wrth yr allor yn Gibeon, a mynd yn ôl i Jerwsalem, lle roedd yn teyrnasu ar Israel.
II C WelBeibl 1:14  Roedd Solomon hefyd wedi casglu cerbydau a cheffylau rhyfel. Roedd ganddo fil pedwar cant o gerbydau, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw yn y trefi cerbydau ac yn Jerwsalem.
II C WelBeibl 1:15  Roedd arian ac aur mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â'r coed sycamor sy'n tyfu ym mhobman ar yr iseldir.
II C WelBeibl 1:16  Roedd ceffylau Solomon wedi'u mewnforio o'r Aifft a Cwe. Roedd masnachwyr y brenin yn eu prynu nhw yn Cwe.
II C WelBeibl 1:17  Roedden nhw'n talu chwe chant o ddarnau arian am gerbyd o'r Aifft, a chant pum deg darn arian am geffyl. Roedden nhw hefyd yn eu gwerthu ymlaen i frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.
Chapter 2
II C WelBeibl 2:1  Dyma Solomon yn gorchymyn adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD a phalas brenhinol iddo'i hun.
II C WelBeibl 2:2  Roedd gan Solomon 70,000 o labrwyr, 80,000 o chwarelwyr yn y bryniau, a 3,600 o fformyn i arolygu'r gweithwyr.
II C WelBeibl 2:3  Dyma Solomon yn anfon neges at Huram, brenin Tyrus: “Wnei di fy helpu i, fel gwnest ti helpu fy nhad Dafydd? Gwnest ti anfon coed cedrwydd iddo fe i adeiladu ei balas.
II C WelBeibl 2:4  Dw i'n mynd i adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD fy Nuw. Bydd yn cael ei chysegru i losgi arogldarth persawrus iddo, gosod y bara o'i flaen, a chyflwyno offrymau sydd i'w llosgi'n llwyr iddo bob bore a nos, ar y Sabothau, y lleuadau newydd ac unrhyw adegau eraill mae'r ARGLWYDD ein Duw yn eu pennu. Mae pobl Israel i fod i wneud y pethau yma bob amser.
II C WelBeibl 2:5  Dw i'n mynd i adeiladu teml wych iddo, am fod ein Duw ni yn fwy na'r duwiau eraill i gyd.
II C WelBeibl 2:6  Ond wedyn, pwy sy'n gallu adeiladu teml iddo fe, gan fod yr awyr a'r nefoedd uchod ddim digon mawr iddo? Pwy ydw i i adeiladu teml iddo! Dim ond lle i aberthu iddo fydd hi.
II C WelBeibl 2:7  “Anfon grefftwr medrus ata i sy'n gweithio gydag aur, arian, pres a haearn, a hefyd lliain porffor, coch a glas, ac yn gallu cerfio. Gall e weithio gyda'r crefftwyr sydd gen i yma yn Jerwsalem a Jwda, y rhai wnaeth fy nhad Dafydd eu dewis.
II C WelBeibl 2:8  Ac mae gen ti weision sy'n arbenigo mewn trin coed yn Libanus. Felly anfon goed i mi hefyd – cedrwydd, pinwydd, a pren algwm. Gall y gweithwyr sydd gen i helpu dy weithwyr di
II C WelBeibl 2:9  i gasglu digonedd o goed i mi, achos mae'r deml dw i'n mynd i'w hadeiladu yn mynd i fod yn un fawr, wych.
II C WelBeibl 2:10  Gwna i dalu i dy weision di am dorri'r coed – dwy fil o dunelli o wenith, dwy fil o dunelli o haidd, cant dau ddeg mil o alwyni o win, a chant dau ddeg mil o alwyni o olew olewydd.”
II C WelBeibl 2:11  Dyma Huram, brenin Tyrus yn anfon llythyr yn ôl at Solomon, yn dweud, “Mae'r ARGLWYDD wedi dy wneud di'n frenin ar ei bobl am ei fod yn eu caru nhw.”
II C WelBeibl 2:12  Dwedodd hefyd, “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr un wnaeth greu'r nefoedd a'r ddaear! Mae wedi rhoi mab doeth i Dafydd – mab llawn dirnadaeth a deall. Bydd yn adeiladu teml i'r ARGLWYDD, a phalas brenhinol iddo'i hun.
II C WelBeibl 2:13  Dw i'n mynd i anfon crefftwr sy'n feistr yn ei waith atat ti, sef Huram-afi.
II C WelBeibl 2:14  Mae ei fam yn dod o lwyth Dan, ond ei dad o Tyrus. Mae e'n gallu gweithio gydag aur, arian, pres, haearn, carreg a choed, a hefyd lliain main porffor, glas a coch. Mae'n gallu cerfio unrhyw gynllun sy'n cael ei roi iddo. Gall e weithio gyda dy grefftwyr di a'r rhai ddewisodd Dafydd dy dad.
II C WelBeibl 2:15  Felly anfon y gwenith, haidd, olew olewydd a'r gwin rwyt ti wedi'i addo i ni,
II C WelBeibl 2:16  a gwnawn ni ddarparu'r holl goed sydd gen ti ei angen o Libanus, a'i anfon dros y môr ar rafftiau i Jopa. Gelli di wedyn drefnu i symud y cwbl i Jerwsalem.”
II C WelBeibl 2:17  Dyma Solomon yn cynnal cyfrifiad o'r holl fewnfudwyr oedd yn byw yn Israel, yn dilyn y cyfrifiad roedd Dafydd ei dad wedi'i gynnal. Roedd yna 153,600 i gyd.
II C WelBeibl 2:18  Dyma fe'n gwneud 70,000 ohonyn nhw yn labrwyr, 80,000 i weithio yn y chwareli yn y bryniau, a 3,600 ohonyn nhw yn arolygwyr i wneud yn siŵr fod y gwaith i gyd yn cael ei wneud.
Chapter 3
II C WelBeibl 3:1  Yna dechreuodd Solomon adeiladu teml yr ARGLWYDD ar fryn Moreia yn Jerwsalem, yn y lle roedd Dafydd wedi dweud, sef ar lawr dyrnu Ornan y Jebwsiad. Dyna lle roedd yr ARGLWYDD wedi cyfarfod Dafydd.
II C WelBeibl 3:2  Dechreuodd adeiladu ar ail ddiwrnod yr ail fis o'i bedwaredd flwyddyn fel brenin.
II C WelBeibl 3:3  A dyma fesuriadau sylfeini'r Deml roedd Solomon yn ei hadeiladu: dau ddeg saith metr o hyd a naw metr o led (yr hen fesuriadau oedd yn cael eu defnyddio).
II C WelBeibl 3:4  Roedd y cyntedd o flaen y deml yn naw metr o hyd, yn erbyn ffrynt y deml, ac roedd yn naw metr o uchder. Roedd tu mewn yr ystafell wedi'i gorchuddio gydag aur pur.
II C WelBeibl 3:5  Rhoddodd baneli o goed pinwydd ar waliau mewnol y brif neuadd, a gorchuddio'r cwbl gydag aur pur wedi'i addurno gyda coed palmwydd a chadwyni.
II C WelBeibl 3:6  Roedd y deml wedi'i haddurno gyda meini gwerthfawr, ac aur o Parfaîm
II C WelBeibl 3:7  i orchuddio trawstiau'r to, y rhiniogau, y waliau a'r drysau. Roedd cerwbiaid wedi'u cerfio yn addurno'r waliau.
II C WelBeibl 3:8  Gwnaeth y cysegr mwyaf sanctaidd yn naw metr o hyd a naw metr o led, a'i orchuddio gyda 20 tunnell o aur pur.
II C WelBeibl 3:9  Roedd yr hoelion aur yn pwyso pum cant saith deg gram yr un. Roedd wedi gorchuddio'r ystafelloedd uchaf gydag aur hefyd.
II C WelBeibl 3:10  Yna yn y cysegr mwyaf sanctaidd gwnaeth ddau gerwb a'u gorchuddio nhw gydag aur.
II C WelBeibl 3:11  Roedd adenydd y ddau gerwb yn ymestyn 9 metr ar draws. Roedd un o adenydd y cerwb cyntaf yn cyffwrdd wal y deml, ac adenydd y ddau gerwb yn cyffwrdd ei gilydd yn y canol.
II C WelBeibl 3:12  Wedyn roedd aden arall yr ail gerwb yn cyffwrdd y wal yr ochr arall i'r deml.
II C WelBeibl 3:13  Roedd yr adenydd gyda'i gilydd yn ymestyn naw metr ar draws. Roedden nhw'n sefyll yn syth, ac yn wynebu at i mewn.
II C WelBeibl 3:14  Gwnaeth len o ddefnydd glas, porffor, coch a lliain main, gyda lluniau o gerwbiaid wedi'i frodio arno.
II C WelBeibl 3:15  O flaen y deml gwnaeth ddau biler oedd yn un deg chwech metr o uchder, gyda cap oedd dros ddau fetr o uchder ar dop y ddau.
II C WelBeibl 3:16  Gwnaeth gadwyni, fel y rhai yn y cysegr, i addurno top y pileri. A gwnaeth gant o dlysau siâp pomgranadau i'w gosod ar y cadwyni.
II C WelBeibl 3:17  Gosododd y ddau biler o flaen y brif neuadd yn y deml – un ar y dde a'r llall ar y chwith. Galwodd yr un oedd ar y dde yn Iachîn a'r un oedd ar y chwith yn Boas.
Chapter 4
II C WelBeibl 4:1  Dyma fe'n gwneud allor o bres, naw metr sgwâr a phedwar metr a hanner o daldra.
II C WelBeibl 4:2  Yna dyma fe'n gwneud basn anferth i ddal dŵr. Roedd hwn wedi'i wneud o bres wedi'i gastio, ac yn cael ei alw ‛Y Môr‛. Roedd yn bedwar metr a hanner ar draws o un ochr i'r llall, dros ddau fetr o ddyfnder ac un deg tri metr a hanner o'i hamgylch.
II C WelBeibl 4:3  O gwmpas ‛Y Môr‛, o dan y rhimyn, roedd dwy res o addurniadau bach yn edrych fel teirw, un bob rhyw bedwar centimetr a hanner.
II C WelBeibl 4:4  Roedd ‛Y Môr‛ wedi'i osod ar gefn un deg dau o ychen. Roedd tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de a thri tua'r dwyrain. Roedden nhw i gyd yn wynebu tuag allan gyda'u cynffonnau at i mewn.
II C WelBeibl 4:5  Roedd y basn tua lled dwrn o drwch, ac roedd ei ymyl fel ymyl cwpan siâp blodyn lili. Roedd yn dal tua saith deg mil litr o ddŵr.
II C WelBeibl 4:6  Gwnaeth ddeg dysgl bres hefyd, a gosod pump ar ochr y de a phump ar ochr y gogledd. Roedd yr offer i gyflwyno'r aberthau oedd i'w llosgi yn cael eu golchi yn y rhain, ond roedd yr offeiriaid yn ymolchi yn y basn mawr oedd yn cael ei alw ‛Y Môr‛.
II C WelBeibl 4:7  Yna dyma fe'n gwneud deg stand aur i ddal lampau, yn unol â'r patrwm, a'u gosod yn y deml. Roedd pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith.
II C WelBeibl 4:8  Ac yna dyma fe'n gwneud deg bwrdd, a gosod y rhain yn y deml, pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith. Gwnaeth gant o fowlenni aur hefyd.
II C WelBeibl 4:9  Wedyn, dyma fe'n gwneud iard yr offeiriaid a'r cwrt mawr a'r drysau oedd wedi'u gorchuddio gyda pres.
II C WelBeibl 4:10  Yna gosododd ‛Y Môr‛ i'r de-ddwyrain o'r deml.
II C WelBeibl 4:11  Huram wnaeth y bwcedi lludw, y rhawiau a'r powlenni taenellu hefyd. Gorffennodd y cwbl o'r gwaith roedd y Brenin Solomon wedi'i roi iddo i'w wneud ar deml Dduw.
II C WelBeibl 4:12  Roedd wedi gwneud: y ddau biler, y capiau i'w gosod ar ben y ddau biler, dau set o batrymau wedi'u plethu i fynd dros y capiau,
II C WelBeibl 4:13  pedwar cant o bomgranadau i'w gosod yn ddwy res ar y ddau set o batrymau oedd wedi'u plethu ar y capiau ar ben y pileri.
II C WelBeibl 4:14  Hefyd y deg troli ddŵr, a'r deg dysgl i fynd ar y deg troli,
II C WelBeibl 4:15  y basn anferth oedd yn cael ei alw ‛Y Môr‛, gyda'r un deg dau o ychen oddi tano,
II C WelBeibl 4:16  a hefyd y bwcedi lludw, y rhawiau a'r ffyrc. Roedd yr holl gelfi yma wnaeth Huram i'r Brenin Solomon ar gyfer teml yr ARGLWYDD wedi'u gwneud o bres gloyw.
II C WelBeibl 4:17  Roedd y cwbl wedi cael eu castio mewn clai yn y ffowndri sydd rhwng Swccoth a Sereda, wrth afon Iorddonen.
II C WelBeibl 4:18  Gwnaeth Solomon gymaint o'r pethau yma, doedd dim posib gwybod beth oedd eu pwysau.
II C WelBeibl 4:19  Dyma Solomon yn gwneud yr holl bethau yma ar gyfer teml yr ARGLWYDD hefyd: yr allor aur, a'r byrddau roedden nhw'n rhoi'r bara arno oedd i'w osod o flaen Duw,
II C WelBeibl 4:20  y canwyllbrennau o aur pur, a'u lampau yn llosgi yn ôl y ddefod, wrth y fynedfa i'r gell fewnol gysegredig.
II C WelBeibl 4:21  Hefyd roedd y blodau, y lampau a'r gefeiliau wedi'u gwneud o aur pur.
II C WelBeibl 4:22  Yna y powlenni taenellu, y sisyrnau, y dysglau, y llwyau, a'r padellau tân, i gyd o aur pur. Roedd socedi'r drysau i'r cysegr mewnol (y Lle Mwyaf Sanctaidd) ac i brif neuadd y deml wedi'u gwneud o aur hefyd.
Chapter 5
II C WelBeibl 5:1  Wedi i Solomon orffen adeiladu'r deml i'r ARGLWYDD, dyma fe'n dod â'r holl bethau roedd ei dad Dafydd wedi'u cysegru i Dduw (arian, aur a chelfi eraill), a'u rhoi yn stordai teml Dduw.
II C WelBeibl 5:2  Yna dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel (pennaeth pob llwyth a phob teulu) ato i Jerwsalem. Roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD i gael ei symud o Ddinas Dafydd (sef Seion) i'w chartref newydd yn y deml.
II C WelBeibl 5:3  Roedd pobl Israel i gyd wedi dod at y brenin adeg Gŵyl y Pebyll yn y seithfed mis.
II C WelBeibl 5:4  Wedi i'r arweinwyr i gyd gyrraedd, dyma'r seremoni yn dechrau. Dyma'r Lefiaid yn codi'r Arch.
II C WelBeibl 5:5  Yna dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cario Arch Duw, pabell presenoldeb Duw a'r holl gelfi cysegredig oedd yn y babell.
II C WelBeibl 5:6  Roedd y Brenin Solomon, a holl bobl Israel oedd gydag e, yn mynd o flaen yr Arch ac yn aberthu defaid a gwartheg i Dduw. Cafodd cymaint o anifeiliaid eu haberthu roedd hi'n amhosibl eu cyfri i gyd!
II C WelBeibl 5:7  Dyma'r offeiriaid yn mynd ag Arch Ymrwymiad Duw i mewn i'r deml a'i gosod yn ei lle yn y gell fewnol, sef y Lle Mwyaf Sanctaidd, o dan adenydd y cerwbiaid.
II C WelBeibl 5:8  Roedd adenydd y cerwbiaid wedi'u lledu dros ble roedd yr Arch yn eistedd. Roedd eu hadenydd yn cysgodi'r Arch a'i pholion.
II C WelBeibl 5:9  Ond roedd y polion mor hir, roedd hi'n bosibl gweld eu pennau nhw o'r ystafell o flaen y Gell Gysegredig Fewnol; ond doedden nhw ddim i'w gweld o'r tu allan. Maen nhw yno hyd heddiw.
II C WelBeibl 5:10  Does yna ddim byd yn yr Arch ond y ddwy lechen roedd Moses wedi'u rhoi ynddi yn Sinai, sef llechi'r ymrwymiad roedd yr ARGLWYDD wedi'i wneud gyda phobl Israel pan ddaeth â nhw allan o'r Aifft.
II C WelBeibl 5:11  Dyma'r offeiriaid yn dod allan o'r Lle Sanctaidd. Roedd pob un ohonyn nhw, o bob grŵp, wedi cysegru eu hunain.
II C WelBeibl 5:12  Roedd yr holl Lefiaid oedd yn gerddorion – Asaff, Heman a Iedwthwn, gyda'u meibion a'u brodyr – yn gwisgo dillad o liain main gwyn. Roedden nhw'n sefyll i'r dwyrain o'r allor yn canu eu symbalau, nablau a thelynau. Wrth eu hymyl roedd cant dau ddeg o offeiriaid yn canu utgyrn.
II C WelBeibl 5:13  Roedd y cerddorion a'r trwmpedwyr fel un, yn canu gyda'i gilydd i roi mawl a diolch i'r ARGLWYDD. I gyfeiliant yr utgyrn, y symbalau a'r offerynnau eraill, roedd pawb yn moli'r ARGLWYDD a chanu'r geiriau, “Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!” Tra oedden nhw'n canu fel hyn daeth cwmwl a llenwi'r deml.
II C WelBeibl 5:14  Doedd yr offeiriaid ddim yn gallu cario ymlaen gyda'i gwaith o achos y cwmwl. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi Teml Dduw.
Chapter 6
II C WelBeibl 6:1  Yna dyma Solomon yn dweud: “Mae'r ARGLWYDD yn dweud ei fod yn byw mewn cwmwl tywyll.
II C WelBeibl 6:2  ARGLWYDD, dyma fi wedi adeiladu teml wych i ti; lle i ti fyw ynddo am byth.”
II C WelBeibl 6:3  Yna dyma'r brenin yn troi i wynebu'r gynulleidfa a bendithio holl bobl Israel oedd yn sefyll yno:
II C WelBeibl 6:4  “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel! Mae wedi gwneud y cwbl roedd wedi'i addo i Dafydd fy nhad. Roedd wedi dweud:
II C WelBeibl 6:5  ‘Ers i mi ddod â'm pobl allan o wlad yr Aifft, wnes i ddim dewis un ddinas arbennig o blith llwythau Israel i adeiladu teml i fyw ynddi. A wnes i ddim dewis dyn i arwain fy mhobl Israel chwaith.
II C WelBeibl 6:6  Ond nawr dw i wedi dewis Jerwsalem i aros yno, a Dafydd i arwain fy mhobl Israel.’
II C WelBeibl 6:7  Roedd fy nhad, Dafydd, wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel.
II C WelBeibl 6:8  Ond dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, ‘Ti eisiau adeiladu teml i mi, ac mae'r bwriad yn un da.
II C WelBeibl 6:9  Ond nid ti fydd yn ei hadeiladu. Mab i ti fydd yn adeiladu teml i mi.’
II C WelBeibl 6:10  A bellach mae'r ARGLWYDD wedi gwneud beth roedd wedi'i addo. Dw i wedi dod yn frenin ar Israel yn lle fy nhad Dafydd, a dw i wedi adeiladu'r deml yma i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel.
II C WelBeibl 6:11  Dw i wedi gosod yno yr Arch sy'n dal yr ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD gyda phobl Israel.”
II C WelBeibl 6:12  Yna o flaen pawb, dyma fe'n mynd i sefyll o flaen yr Allor. Cododd ei ddwylo i'r awyr.
II C WelBeibl 6:13  (Roedd Solomon wedi gwneud llwyfan o bres a'i osod yng nghanol yr iard. Roedd y llwyfan tua dwy fedr sgwâr, a dros fedr o uchder.) Safodd ar y llwyfan, yna mynd ar ei liniau o flaen pobl Israel i gyd a chodi ei ddwylo i'r awyr,
II C WelBeibl 6:14  a gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw Israel, does dim Duw tebyg i ti yn y nefoedd na'r ddaear! Ti mor ffyddlon, yn cadw dy ymrwymiad i dy weision, y rhai sydd wir eisiau bod yn ufudd i ti.
II C WelBeibl 6:15  Ti wedi cadw dy addewid i Dafydd fy nhad. Heddiw, yma, ti wedi gwneud beth wnest ti ei addo.
II C WelBeibl 6:16  Nawr, ARGLWYDD, Duw Israel, cadw'r addewid arall wnest ti i Dafydd, fy nhad. Dyma wnest ti ddweud: ‘Bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth, dim ond i dy ddisgynyddion di fod yn ofalus eu bod yn byw yn ffyddlon i'm cyfraith fel rwyt ti wedi gwneud.’
II C WelBeibl 6:17  Felly nawr, O ARGLWYDD, Duw Israel, gad i'r hyn wnest ti ei ddweud wrth fy nhad, dy was Dafydd, ddod yn wir.
II C WelBeibl 6:18  Wrth gwrs, dydy Duw ddim wir yn gallu byw gyda'r ddynoliaeth ar y ddaear! Dydy'r awyr i gyd a'r nefoedd uchod ddim digon mawr i dy ddal di! Felly pa obaith sydd i'r deml yma dw i wedi'i hadeiladu?
II C WelBeibl 6:19  Ond plîs gwrando fy ngweddi yn gofyn am dy help di, O ARGLWYDD fy Nuw. Ateb fi, wrth i mi weddïo'n daer arnat ti.
II C WelBeibl 6:20  Cadw dy lygaid ar y deml yma nos a dydd. Gwnest ti ddweud y byddi di'n byw yma. Felly ateb weddi dy was dros y lle hwn.
II C WelBeibl 6:21  Gwranda ar beth mae dy was a dy bobl Israel yn ei weddïo'n daer am y lle yma. Gwranda yn y nefoedd, lle rwyt ti'n byw. Clyw ni a maddau i ni.
II C WelBeibl 6:22  Os ydy rhywun wedi cael ei gyhuddo o wneud drwg i'w gymydog ac yn mynnu ei fod yn ddieuog o flaen yr allor yn y deml yma,
II C WelBeibl 6:23  yna gwrando di o'r nefoedd a gweithredu. Barna di rhyngon nhw. Cosba'r un sy'n euog, a gadael i'r dieuog fynd yn rhydd. Rho i'r ddau beth maen nhw'n ei haeddu.
II C WelBeibl 6:24  Pan fydd dy bobl Israel yn cael eu concro gan y gelyn am bechu yn dy erbyn di, os byddan nhw'n troi yn ôl atat ti, yn cydnabod pwy wyt ti ac yn gweddïo am dy help di yn y deml yma,
II C WelBeibl 6:25  yna gwrando di o'r nefoedd. Maddau bechod dy bobl Israel, a thyrd â nhw'n ôl i'r wlad wnest ti ei rhoi iddyn nhw a'u hynafiaid.
II C WelBeibl 6:26  Pan fydd dim glaw yn disgyn, am fod y bobl wedi pechu yn dy erbyn di. Os byddan nhw'n troi at y lle yma i weddïo arnat ti, yn cydnabod pwy wyt ti, ac yn stopio pechu am dy fod yn eu cosbi nhw
II C WelBeibl 6:27  yna gwrando di o'r nefoedd. Maddau i dy bobl Israel. Dysga nhw beth ydy'r ffordd iawn i fyw, ac anfon law eto ar y tir yma rwyt ti wedi'i roi i dy bobl ei gadw.
II C WelBeibl 6:28  Pan fydd y wlad yn cael ei tharo gan newyn neu bla – am fod y cnydau wedi'u difetha gan ormod o wres neu ormod o law, neu am eu bod wedi cael eu difa gan locustiaid, neu am fod gelynion wedi ymosod ar y wlad ac yn gwarchae ar ei dinasoedd. Beth bynnag fydd yr helynt neu'r broblem,
II C WelBeibl 6:29  gwrando di ar bob gweddi. Gwranda pan fydd unrhyw un o dy bobl Israel yn troi at y deml yma ac yn tywallt ei ofid o dy flaen di.
II C WelBeibl 6:30  Gwranda yn y nefoedd lle rwyt ti'n byw, a maddau. Rho i bob un beth mae'n ei haeddu. (Ti ydy'r unig un sy'n gwybod yn iawn beth sydd ar galon pob person byw.)
II C WelBeibl 6:31  Fel yna byddan nhw'n dy barchu di ac yn byw fel rwyt ti eisiau tra byddan nhw'n byw yn y wlad wyt ti wedi'i rhoi i'w hynafiaid.
II C WelBeibl 6:32  A bydd pobl o wledydd eraill yn dod yma i addoli ar ôl clywed amdanat ti – am dy enw da di, a'r ffaith dy fod ti'n gallu gwneud pethau mor anhygoel. Pan ddaw pobl felly i'r deml hon i weddïo,
II C WelBeibl 6:33  gwrando yn y nefoedd lle rwyt ti'n byw. Gwna beth mae'r bobl hynny'n ei ofyn gen ti. Wedyn bydd pobl drwy'r byd i gyd yn dod i dy nabod di ac yn dy barchu di, yr un fath â phobl Israel. Byddan nhw'n gwybod fod y deml yma wedi'i hadeiladu i dy anrhydeddu di.
II C WelBeibl 6:34  Hefyd pan fydd dy bobl yn mynd i ryfel yn erbyn eu gelynion, ble bynnag fyddi di'n eu hanfon nhw. Os byddan nhw'n troi tuag at y ddinas yma rwyt ti wedi'i dewis a'r deml dw i wedi'i hadeiladu i ti, ac yn gweddïo arnat ti,
II C WelBeibl 6:35  yna gwrando o'r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a gweithredu ar eu rhan nhw.
II C WelBeibl 6:36  Ond pan fydd dy bobl wedi pechu yn dy erbyn di (achos does neb sydd byth yn pechu!) a thithau'n wyllt gyda nhw, byddi'n gadael i'r gelyn eu dal nhw a'u cymryd yn gaeth i'w gwlad eu hunain, ble bynnag mae honno.
II C WelBeibl 6:37  Yna, yn y wlad ble maen nhw'n gaeth, byddan nhw'n callio ac yn newid eu ffyrdd. Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti ac yn pledio'n daer gan ddweud, ‘Dŷn ni wedi pechu a bod yn anffyddlon a gwneud drwg.’
II C WelBeibl 6:38  Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti o ddifrif yn y wlad lle cawson nhw eu cymryd. Byddan nhw'n troi i weddïo tuag at eu gwlad a'r ddinas rwyt ti wedi'i dewis, a'r deml dw i wedi'i hadeiladu i ti.
II C WelBeibl 6:39  Gwranda o'r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a'u cefnogi nhw. Maddau i dy bobl yr holl bechodau a'r pethau drwg maen nhw wedi'u gwneud yn dy erbyn di.
II C WelBeibl 6:40  Felly, o Dduw, edrych a gwrando ar y gweddïau sy'n cael eu hoffrymu yn y lle yma.
II C WelBeibl 6:41  A nawr, o ARGLWYDD Dduw, dos i fyny i dy gartref – ti a dy Arch bwerus! Ac ARGLWYDD Dduw, boed i dy offeiriaid brofi dy achubiaeth. A boed i'r rhai sy'n ffyddlon i ti lawenhau yn dy ddaioni.
II C WelBeibl 6:42  O ARGLWYDD Dduw, paid troi cefn ar yr un wyt wedi'i eneinio. Cofia'r bendithion gafodd eu haddo i dy was Dafydd.”
Chapter 7
II C WelBeibl 7:1  Wrth i Solomon orffen gweddïo, daeth tân i lawr o'r awyr a llosgi'r offrwm a'r aberthau. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml.
II C WelBeibl 7:2  Roedd yr offeiriaid yn methu mynd i mewn i deml yr ARGLWYDD am fod ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi ei deml.
II C WelBeibl 7:3  Pan welodd pobl Israel y tân yn dod i lawr ac ysblander yr ARGLWYDD ar y deml, dyma nhw'n plygu ar eu gliniau a'u hwynebau ar y palmant. Roedden nhw'n addoli'r ARGLWYDD a diolch iddo drwy ddweud, “Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”
II C WelBeibl 7:4  Roedd y brenin, a'r bobl i gyd, yn aberthu anifeiliaid i'r ARGLWYDD.
II C WelBeibl 7:5  Dyma'r brenin Solomon yn lladd dau ddeg dau o filoedd o wartheg a chant dau ddeg mil o ddefaid. Dyna sut gwnaeth Solomon, a'r holl bobl, gyflwyno'r deml i Dduw.
II C WelBeibl 7:6  Roedd yr offeiriaid yn sefyll yn eu lle, gyda'r Lefiaid oedd yn canu'r offerynnau i foli'r ARGLWYDD. (Yr offerynnau oedd y Brenin Dafydd wedi'u gwneud a'u defnyddio ganddo i addoli a chanu, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”) Gyferbyn â'r Lefiaid roedd yr offeiriaid yn canu'r utgyrn, tra oedd y dyrfa yn sefyll.
II C WelBeibl 7:7  Dyma Solomon yn cysegru canol yr iard o flaen teml yr ARGLWYDD. Dyna ble wnaeth e offrymu aberthau i'w llosgi'n llwyr, a braster yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Roedd yr allor bres wnaeth Solomon yn rhy fach i ddal yr holl offrymau.
II C WelBeibl 7:8  Bu Solomon, a phobl Israel i gyd yn dathlu a chadw Gŵyl am saith diwrnod. Roedd tyrfa fawr yno o bob rhan o'r wlad, o Fwlch Chamath yn y gogledd yr holl ffordd i Wadi'r Aifft yn y de.
II C WelBeibl 7:9  Yna ar yr wythfed diwrnod dyma nhw'n cynnal cyfarfod. Roedden nhw wedi cysegru'r allor am saith diwrnod a dathlu'r Ŵyl am saith diwrnod arall.
II C WelBeibl 7:10  Ar y trydydd ar hugain o'r seithfed mis dyma Solomon yn anfon y bobl adre. A dyma pawb yn gadael yn hapus ac ar ben eu digon am fod yr ARGLWYDD wedi bod mor dda i Dafydd a Solomon ac i'w bobl Israel.
II C WelBeibl 7:11  Roedd Solomon wedi gorffen adeiladu teml yr ARGLWYDD a phalas y brenin. Gwnaeth bopeth roedd wedi bod eisiau'i wneud i'r deml a'r palas.
II C WelBeibl 7:12  A dyma'r ARGLWYDD yn dod at Solomon yn y nos, a dweud wrtho, “Dw i wedi ateb dy weddi a dewis y lle yma yn deml lle mae aberthau i'w cyflwyno.
II C WelBeibl 7:13  Pan fydda i'n gwneud iddi stopio glawio, neu'n galw locustiaid i ddifa cnydau'r tir, neu'n taro fy mhobl gyda haint,
II C WelBeibl 7:14  os bydd fy mhobl, ie fy mhobl i, yn cyfaddef eu bai, gweddïo arna i a'm ceisio i a stopio gwneud pethau drwg, yna bydda i'n gwrando o'r nefoedd; bydda i'n maddau eu pechod ac yn iacháu eu gwlad.
II C WelBeibl 7:15  “Bydda i'n gwrando ar y gweddïau sy'n cael eu cyflwyno yn y lle yma.
II C WelBeibl 7:16  Dw i wedi dewis a chysegru'r deml yma i fod yn gartref i mi am byth. Bydda i'n gofalu am y lle bob amser.
II C WelBeibl 7:17  “Dw i eisiau i ti fyw fel gwnaeth dy dad Dafydd, a gwneud popeth dw i'n ddweud – bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau dw i wedi'u rhoi.
II C WelBeibl 7:18  Yna bydda i'n gwneud i dy deulu di deyrnasu fel gwnes i addo i Dafydd dy Dad: ‘Un o dy deulu di fydd yn teyrnasu ar Israel am byth.’
II C WelBeibl 7:19  “Ond os byddwch chi'n troi cefn arna i, a ddim yn dilyn y canllawiau a'r rheolau dw i wedi'u rhoi i chi; os byddwch chi'n addoli duwiau eraill,
II C WelBeibl 7:20  yna bydda i'n eu chwynnu nhw o'r tir dw i wedi'i roi iddyn nhw. Bydda i'n troi cefn ar y deml yma dw i wedi chysegru i mi fy hun. A bydda i'n eich gwneud chi'n destun sbort ac yn jôc i bawb.
II C WelBeibl 7:21  Ie, y deml yma hefyd, oedd yn adeilad mor wych – bydd pawb sy'n mynd heibio yn rhyfeddu ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i'r wlad ac i'r deml yma?’
II C WelBeibl 7:22  A bydd eraill yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. Maen nhw wedi cymryd duwiau eraill i'w dilyn a'u haddoli. Dyna pam mae'r ARGLWYDD wedi gadael i'r dinistr yma ddigwydd.’”
Chapter 8
II C WelBeibl 8:1  Roedd dau ddeg mlynedd wedi mynd heibio ers i Solomon ddechrau adeiladu teml yr ARGLWYDD a'r palas.
II C WelBeibl 8:2  Aeth ati i ailadeiladu'r trefi roedd Huram wedi'u rhoi iddo, a symud rhai o bobl Israel i fyw yno.
II C WelBeibl 8:3  Aeth Solomon i ymladd yn erbyn tref Chamath-soba, a'i choncro.
II C WelBeibl 8:4  Adeiladodd Tadmor yn yr anialwch, a'r holl ganolfannau lle roedd ei storfeydd yn Chamath.
II C WelBeibl 8:5  Gwnaeth Beth-choron uchaf a Beth-choron isaf yn gaerau amddiffynnol gyda waliau a giatiau y gellid eu cloi gyda barrau,
II C WelBeibl 8:6  hefyd Baalath. Adeiladodd y canolfannau lle roedd ei storfeydd, a'r trefi ar gyfer y cerbydau a'r ceffylau rhyfel. Roedd Solomon yn adeiladu beth bynnag roedd e eisiau, yn Jerwsalem, yn Libanus ac ar hyd a lled y wlad.
II C WelBeibl 8:7  Roedd yna lawer o bobl yn dal i fyw yn y wlad oedd ddim yn Israeliaid – Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid.
II C WelBeibl 8:8  (Roedd disgynyddion y bobl yma'n dal yn y wlad, am fod Israel wedi methu cael gwared â nhw i gyd pan wnaethon nhw goncro'r wlad.) Dyma Solomon yn gorfodi'r bobl yma i weithio iddo'n ddi-dâl. A dyna'r drefn hyd heddiw.
II C WelBeibl 8:9  Wnaeth Solomon ddim gorfodi pobl Israel i weithio iddo fel caethweision. Nhw oedd ei filwyr, ei brif-swyddogion, capteiniaid ei gerbydau a'i farchogion.
II C WelBeibl 8:10  Roedd yna ddau gant pum deg ohonyn nhw yn gweithio i'r Brenin Solomon fel arolygwyr dros y bobl.
II C WelBeibl 8:11  Yna dyma Solomon yn symud merch y Pharo o ddinas Dafydd i'r palas roedd e wedi'i adeiladu iddi. “Does dim gwraig i mi yn cael byw ym mhalas Dafydd, brenin Israel – achos mae ble bynnag mae Arch yr ARGLWYDD wedi bod yn gysegredig.”
II C WelBeibl 8:12  Yna dyma Solomon yn cyflwyno aberthau i'w llosgi i'r ARGLWYDD ar yr allor roedd wedi'i chodi o flaen cyntedd y deml.
II C WelBeibl 8:13  Roedd yn gwneud hyn yn union fel roedd Moses wedi gorchymyn – bob dydd, ar bob Saboth, ar ŵyl y lleuad newydd bob mis, ac ar y tair gŵyl fawr arall bob blwyddyn (sef Gŵyl y Bara Croyw, Gŵyl y Cynhaeaf a Gŵyl y Pebyll).
II C WelBeibl 8:14  Fel roedd ei dad Dafydd wedi gorchymyn, trefnodd yr offeiriaid mewn grwpiau gwahanol i gyflawni eu cyfrifoldebau. Trefnodd y Lefiaid i arwain y mawl ac i helpu'r offeiriaid fel roedd angen pob dydd. Hefyd gosododd ofalwyr y giatiau yn eu grwpiau i fod yn gyfrifol am y gwahanol giatiau. Roedd Dafydd, dyn Duw, wedi trefnu hyn i gyd.
II C WelBeibl 8:15  Wnaethon nhw ddim anghofio unrhyw un o orchmynion y brenin am yr offeiriaid, y Lefiaid, y trysordai a phopeth arall.
II C WelBeibl 8:16  Cafodd yr holl waith orchmynnodd Solomon ei wneud, o'r diwrnod y cafodd y sylfeini eu gosod nes roedd y deml wedi'i gorffen. Dyna sut cafodd teml yr ARGLWYDD ei hadeiladu.
II C WelBeibl 8:17  Yna dyma Solomon yn mynd i Etsion-geber, ac i Elat ar yr arfordir yng ngwlad Edom.
II C WelBeibl 8:18  A dyma Huram yn anfon llongau a morwyr profiadol i fynd gyda'i weision i Offir, a dod â tua un deg chwech tunnell o aur o'r fan honno i'r Brenin Solomon.
Chapter 9
II C WelBeibl 9:1  Roedd brenhines Sheba wedi clywed mor enwog oedd Solomon. Felly dyma hi'n dod i roi prawf iddo drwy ofyn cwestiynau anodd. Daeth i Jerwsalem gyda'i gwarchodlu yn grand i gyd, gyda nifer fawr o gamelod yn cario perlysiau, a lot fawr o aur a gemau gwerthfawr. Aeth i weld Solomon, a'i holi am bob peth oedd ar ei meddwl.
II C WelBeibl 9:2  Roedd Solomon yn gallu ateb ei chwestiynau i gyd. Doedd dim byd yn rhy anodd iddo ei esbonio iddi.
II C WelBeibl 9:3  Roedd y frenhines wedi'i syfrdanu wrth weld mor ddoeth oedd Solomon. A hefyd wrth weld y palas roedd wedi'i adeiladu,
II C WelBeibl 9:4  y bwydydd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd yno, pawb oedd yn gweini arno, eu gwisgoedd, a'r wetars i gyd. A hefyd yr holl aberthau roedd yn eu llosgi i'r ARGLWYDD yn y deml.
II C WelBeibl 9:5  A dyma hi'n dweud wrth y brenin, “Mae popeth wnes i glywed amdanat ti'n wir – yr holl bethau rwyt ti wedi'u cyflawni, ac mor ddoeth wyt ti.
II C WelBeibl 9:6  Doeddwn i ddim wedi credu'r peth nes i mi ddod yma a gweld y cwbl â'm llygaid fy hun. Wir, doedden nhw ddim wedi dweud yr hanner wrtho i! Mae dy ddoethineb mawr yn fwy o lawer na beth ddywedwyd wrtho i.
II C WelBeibl 9:7  Mae'r bobl yma wedi'u bendithio'n fawr – y gweision sy'n gweini arnat ti o ddydd i ddydd ac yn cael clywed dy ddoethineb di.
II C WelBeibl 9:8  Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth dy ddewis di i deyrnasu ar ei ran! Am fod dy Dduw yn caru Israel ac eisiau iddyn nhw aros am byth, mae wedi dy wneud di yn frenin, i ti lywodraethu'n gyfiawn ac yn deg.”
II C WelBeibl 9:9  A dyma hi'n rhoi pedair tunnell a hanner o aur, llwythi o berlysiau a gemau gwerthfawr i'r brenin. Welwyd erioed gymaint o berlysiau â'r hyn roedd brenhines Sheba wedi'i roi i'r Brenin Solomon.
II C WelBeibl 9:10  (Roedd gweision Huram hefyd, gyda help gweision Solomon, wedi cario aur o Offir, a llwythi lawer o goed algwm, a gemau gwerthfawr.
II C WelBeibl 9:11  Dyma'r brenin yn gwneud grisiau i deml yr ARGLWYDD a phalas y brenin o'r pren algwm, a hefyd telynau a nablau i'r cerddorion. Doedd neb wedi gweld dim byd tebyg iddyn nhw yng ngwlad Jwda cyn hynny!)
II C WelBeibl 9:12  Wedyn, dyma'r Brenin Solomon yn rhoi popeth roedd hi eisiau i frenhines Sheba – mwy nag roedd hi wedi'i roi i'r brenin. A dyma hi'n mynd yn ôl adre i'w gwlad ei hun gyda'i gweision.
II C WelBeibl 9:13  Roedd Solomon yn derbyn dau ddeg pum tunnell o aur bob blwyddyn,
II C WelBeibl 9:14  heb gyfri'r hyn roedd yn ei dderbyn mewn trethi gan fasnachwyr a'r farchnad sbeis. Roedd holl frenhinoedd Arabia a llywodraethwyr y rhanbarthau hefyd yn rhoi arian ac aur i Solomon.
II C WelBeibl 9:15  Gwnaeth Solomon ddau gant o darianau mawr o aur wedi'i guro. Roedd yna tua saith cilogram o aur ym mhob tarian!
II C WelBeibl 9:16  Hefyd, tri chant o darianau bach, gyda bron dau gilogram o aur ym mhob un o'r rheiny. A dyma fe'n eu gosod nhw i fyny ym Mhlas Coedwig Libanus.
II C WelBeibl 9:17  Wedyn, dyma'r Brenin Solomon yn gwneud gorsedd fawr o ifori wedi'i gorchuddio gydag aur pur.
II C WelBeibl 9:18  Roedd yna chwe gris i fyny at yr orsedd. Roedd stôl droed aur o'i blaen a llew yn sefyll wrth ymyl y breichiau bob ochr.
II C WelBeibl 9:19  Wedyn roedd un deg dau o lewod yn sefyll ar y grisiau, un bob ochr i bob gris. Doedd gan yr un deyrnas arall orsedd debyg iddi!
II C WelBeibl 9:20  Roedd holl gwpanau y Brenin Solomon wedi'u gwneud o aur, a llestri Plas Coedwig Libanus i gyd o aur pur. Doedd dim byd wedi'i wneud o arian, achos doedd arian ddim yn cael ei gyfri'n werthfawr iawn bryd hynny.
II C WelBeibl 9:21  Roedd gan Solomon fflyd o longau masnach mawr gyda gweision Huram yn eu hwylio. Bob tair blynedd roedd y llongau hynny'n dod yn ôl gydag aur, arian, ifori, mwncïod a pheunod.
II C WelBeibl 9:22  Felly roedd y Brenin Solomon yn fwy cyfoethog ac yn ddoethach nag unrhyw frenin arall yn unman.
II C WelBeibl 9:23  Ac roedd brenhinoedd y byd i gyd eisiau dod i ymweld â Solomon i wrando ar y doethineb roedd yr ARGLWYDD wedi'i roi iddo.
II C WelBeibl 9:24  Bob blwyddyn roedd pobl yn dod â rhoddion iddo: llestri arian, llestri aur, dillad, arfau, perlysiau, ceffylau a mulod.
II C WelBeibl 9:25  Roedd gan Solomon stablau i bedair mil o geffylau cerbyd rhyfel, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw nhw mewn rhai trefi penodol ac yn Jerwsalem.
II C WelBeibl 9:26  Roedd yn rheoli'r holl wledydd o afon Ewffrates i wlad y Philistiaid, i lawr at y ffin gyda'r Aifft.
II C WelBeibl 9:27  Roedd arian mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â'r coed sycamor sy'n tyfu ym mhobman ar yr iseldir.
II C WelBeibl 9:28  Roedd ceffylau Solomon wedi'u mewnforio o'r Aifft a'r gwledydd eraill i gyd.
II C WelBeibl 9:29  Mae gweddill hanes Solomon, o'r dechrau i'r diwedd, i'w weld yn Negeseuon y Proffwyd Nathan, Proffwydoliaeth Achïa o Seilo a Gweledigaethau y Proffwyd Ido am Jeroboam fab Nebat.
II C WelBeibl 9:30  Roedd Solomon yn teyrnasu yn Jerwsalem ar Israel gyfan am bedwar deg o flynyddoedd.
II C WelBeibl 9:31  Pan fuodd Solomon farw, dyma nhw'n ei gladdu e yn Ninas Dafydd ei dad. A dyma Rehoboam, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.
Chapter 10
II C WelBeibl 10:1  Dyma Rehoboam yn mynd i Sichem, lle roedd pobl Israel gyfan wedi dod i'w wneud yn frenin.
II C WelBeibl 10:2  Roedd Jeroboam fab Nebat yn yr Aifft ar y pryd, wedi ffoi yno oddi wrth y Brenin Solomon. Roedd yn dal yn yr Aifft pan glywodd beth oedd yn digwydd.
II C WelBeibl 10:3  Ond dyma bobl Israel yn anfon amdano, a dyma fe'n mynd gyda nhw i weld Rehoboam.
II C WelBeibl 10:4  “Roedd dy dad yn ein gweithio ni'n galed, ac yn gwneud bywyd yn faich. Os gwnei di symud y baich a gwneud pethau'n haws i ni, gwnawn ni dy wasanaethu di.”
II C WelBeibl 10:5  Dyma Rehoboam yn dweud wrthyn nhw, “Dewch yn ôl mewn deuddydd, i mi gael meddwl am y peth.” A dyma nhw'n ei adael.
II C WelBeibl 10:6  Dyma'r Brenin Rehoboam yn gofyn am farn y cynghorwyr hŷn (y rhai oedd yn gweithio i Solomon ei dad pan oedd yn dal yn fyw). “Beth ydy'ch cyngor chi? Sut ddylwn ni ateb y bobl yma?”
II C WelBeibl 10:7  A dyma nhw'n dweud, “Os byddi di'n garedig a dangos dy fod eisiau eu helpu nhw, byddan nhw'n weision ffyddlon i ti am byth.”
II C WelBeibl 10:8  Ond dyma Rehoboam yn anwybyddu'u cyngor nhw, ac yn troi at y cynghorwyr ifanc yn y llys oedd yr un oed ag e.
II C WelBeibl 10:9  Dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Beth ydy'ch barn chi? Beth ddylwn i ddweud wrth y bobl yma sy'n gofyn i mi symud y baich roddodd fy nhad arnyn nhw?”
II C WelBeibl 10:10  A dyma'r dynion ifainc yn dweud wrtho, “Dwed wrth y bobl yna sy'n cwyno ac yn gofyn i ti symud y baich roedd dy dad wedi'i roi arnyn nhw, ‘Mae fy mys bach i yn mynd i fod yn gryfach na dad!
II C WelBeibl 10:11  Oedd fy nhad wedi rhoi baich trwm arnoch chi? Bydda i'n rhoi baich trymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i'ch cosbi chi? Bydda i'n defnyddio chwip fydd yn rhwygo'ch cnawd chi!’”
II C WelBeibl 10:12  Dyma Jeroboam, a'r bobl oedd gydag e, yn mynd yn ôl at Rehoboam ar ôl deuddydd, fel roedd y brenin wedi dweud.
II C WelBeibl 10:13  Dyma'r brenin Rehoboam yn siarad yn chwyrn gyda nhw ac yn anwybyddu cyngor y dynion hŷn,
II C WelBeibl 10:14  a gwrando ar y dynion ifanc. “Oedd fy nhad yn drwm arnoch chi?” meddai. “Wel, bydda i'n pwyso'n drymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i'ch cosbi chi? Bydda i'n defnyddio chwip fydd yn rhwygo'ch cnawd chi!”
II C WelBeibl 10:15  Roedd y brenin yn gwrthod gwrando ar y bobl. Ond roedd llaw Duw tu ôl i'r cwbl oedd yn digwydd, er mwyn i'r neges roedd wedi'i rhoi i Jeroboam fab Nebat drwy Achïa o Seilo ddod yn wir.
II C WelBeibl 10:16  Gwelodd y bobl fod y brenin yn gwrthod gwrando arnyn nhw, a dyma nhw'n rhoi'r neges yma iddo: “Beth sydd gynnon ni i'w wneud â Dafydd? Dŷn ni ddim yn perthyn i deulu Jesse! Yn ôl adre bobl Israel! Cadw dy linach dy hun, Dafydd!” Felly dyma bobl Israel yn mynd adre.
II C WelBeibl 10:17  (Er, roedd rhai o bobl Israel yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam oedd eu brenin nhw.)
II C WelBeibl 10:18  Dyma'r Brenin Rehoboam yn anfon Adoniram, swyddog y gweithlu gorfodol at bobl Israel, ond dyma nhw'n taflu cerrig ato a'i ladd. Felly dyma'r Brenin Rehoboam yn neidio yn ei gerbyd a dianc yn ôl i Jerwsalem.
II C WelBeibl 10:19  Mae gwrthryfel llwythau Israel yn erbyn disgynyddion Dafydd wedi para hyd heddiw.
Chapter 11
II C WelBeibl 11:1  Daeth Rehoboam yn ôl i Jerwsalem a galw dynion Jwda a llwyth Benjamin at ei gilydd. Roedd ganddo gant wyth deg mil o filwyr profiadol i fynd i ryfel yn erbyn Israel a cheisio ennill y deyrnas yn ôl.
II C WelBeibl 11:2  Ond cafodd Shemaia y proffwyd neges gan yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 11:3  “Dwed hyn wrth Rehoboam brenin Jwda ac wrth bobl Israel yn Jwda a Benjamin:
II C WelBeibl 11:4  ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud, “Peidiwch mynd i ryfel yn erbyn eich brodyr. Ewch adre i gyd, am mai fi sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd.”’” A dyma nhw'n gwrando ar yr ARGLWYDD a wnaethon nhw ddim ymosod ar Jeroboam.
II C WelBeibl 11:5  Roedd Rehoboam yn byw yn Jerwsalem. Trodd nifer o drefi yn Jwda yn gaerau amddiffynnol:
II C WelBeibl 11:10  Sora, Aialon, a Hebron. Dyma'r trefi amddiffynnol oedd yn Jwda a Benjamin.
II C WelBeibl 11:11  Dyma fe'n cryfhau'r amddiffynfeydd, gosod swyddogion milwrol yno, ac adeiladu stordai i gadw bwyd, olew olewydd a gwin.
II C WelBeibl 11:12  Roedd tarianau a gwaywffyn ym mhob un o'r trefi. Gwnaeth nhw'n hollol saff, a dyna sut cadwodd ei afael ar Jwda a Benjamin.
II C WelBeibl 11:13  Roedd yr offeiriaid a'r Lefiaid o bob rhan o Israel yn ei gefnogi.
II C WelBeibl 11:14  Roedd y Lefiaid hyd yn oed wedi gadael eu tir a'u heiddo a symud i Jwda ac i Jerwsalem, achos roedd Jeroboam a'i feibion wedi'u rhwystro nhw rhag bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD.
II C WelBeibl 11:15  Roedd wedi penodi ei offeiriaid ei hun i wasanaethu wrth yr allorau lleol, ac arwain y bobl i addoli gafr-ddemoniaid a'r teirw ifanc roedd e wedi'u gwneud.
II C WelBeibl 11:16  A dyma bawb o lwythau Israel oedd eisiau addoli'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn dilyn y Lefiaid i Jerwsalem. Yno roedden nhw'n gallu cyflwyno aberthau i'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.
II C WelBeibl 11:17  Roedden nhw'n cryfhau teyrnas Jwda, ac am dair blynedd roedden nhw'n cefnogi Rehoboam fab Solomon. Buon nhw'n cadw gorchmynion Dafydd a Solomon am y tair blynedd.
II C WelBeibl 11:18  Dyma Rehoboam yn priodi Machalath, oedd yn ferch i Ierimoth (un o feibion Dafydd) ac Abihaïl (oedd yn ferch i Eliab fab Jesse).
II C WelBeibl 11:19  Cawson nhw dri o feibion, sef Iewsh, Shemareia a Saham.
II C WelBeibl 11:20  Yna, ar ei hôl hi, dyma fe'n priodi Maacha, merch Absalom. Dyma hi'n cael plant hefyd, sef Abeia, Attai, Sisa a Shlomith.
II C WelBeibl 11:21  Roedd Rehoboam yn caru Maacha (merch Absalom) fwy na'i wragedd eraill a'i gariadon. (Roedd ganddo un deg wyth o wragedd a chwe deg o bartneriaid, a chafodd ddau ddeg wyth o feibion a chwe deg o ferched.)
II C WelBeibl 11:22  Dyma Rehoboam yn penodi Abeia, oedd yn fab i Maacha, yn bennaeth ar ei frodyr; roedd e eisiau iddo fod yn frenin ar ei ôl.
II C WelBeibl 11:23  Yn ddoeth iawn gwnaeth ei feibion i gyd yn gyfrifol am wahanol drefi amddiffynnol drwy Jwda a Benjamin. Dyma fe'n rhoi digon o fwyd iddyn nhw a darparu digon o wragedd ar eu cyfer.
Chapter 12
II C WelBeibl 12:1  Pan oedd teyrnas Rehoboam wedi'i sefydlu a'i chryfhau, dyma fe a phobl Jwda i gyd yn troi cefn ar gyfraith yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 12:2  Felly, yn ystod pumed flwyddyn Rehoboam fel brenin dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem. Roedden nhw wedi bod yn anffyddlon i'r ARGLWYDD.
II C WelBeibl 12:3  Roedd gan Shishac 1,200 o gerbydau rhyfel, 60,000 o farchogion, a gormod o filwyr i'w cyfrif! Roedden nhw wedi dod gydag e o'r Aifft, ac yn cynnwys milwyr o Libia, Swccoth ac Affrica.
II C WelBeibl 12:4  Dyma fe'n concro trefi amddiffynnol Jwda ac yn mynd i ymosod ar Jerwsalem.
II C WelBeibl 12:5  Roedd Rehoboam ac arweinwyr Jwda wedi dod at ei gilydd i Jerwsalem o achos ymosodiaid Shishac. Dyma'r proffwyd Shemaia yn mynd atyn nhw a dweud wrthyn nhw, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi wedi troi cefn arna i, dw i wedi troi cefn arnoch chi. Dw i'n mynd i adael i Shishac eich dal chi.’”
II C WelBeibl 12:6  Yna dyma arweinwyr Israel a'r brenin yn cyfaddef eu bai a dweud, “Mae'r ARGLWYDD yn iawn.”
II C WelBeibl 12:7  Pan welodd yr ARGLWYDD eu bod nhw wedi syrthio ar eu bai, dyma fe'n rhoi'r neges yma i Shemaia: “Am eu bod wedi syrthio ar eu bai wna i ddim eu dinistrio nhw. Cân nhw eu hachub yn fuan. Dw i ddim yn mynd i ddefnyddio Shishac i dywallt fy llid ar Jerwsalem.
II C WelBeibl 12:8  Ond er hynny bydd rhaid iddyn nhw fod yn weision iddo, a byddan nhw'n dod i ddeall y gwahaniaeth rhwng fy ngwasanaethu i a gwasanaethu teyrnasoedd y byd.”
II C WelBeibl 12:9  Felly dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem, a dwyn trysorau teml yr ARGLWYDD a'r palas brenhinol – cymerodd y cwbl, gan gynnwys yr holl darianau aur roedd Solomon wedi'u gwneud!
II C WelBeibl 12:10  Roedd rhaid i'r brenin Rehoboam wneud tarianau pres yn eu lle i'w rhoi i swyddogion y gwarchodlu brenhinol oedd yn amddiffyn y palas.
II C WelBeibl 12:11  Roedd y gwarchodlu brenhinol yn eu defnyddio bob tro roedd y brenin yn mynd i'r deml, ond yna'n mynd â nhw'n ôl i ystafell y gwarchodlu.
II C WelBeibl 12:12  Pan syrthiodd Rehoboam ar ei fai wnaeth yr ARGLWYDD ddim ei ddinistrio'n llwyr. Yna buodd pethau'n dda ar Jwda.
II C WelBeibl 12:13  Dyma Rehoboam yn cryfhau ei deyrnas yn Jerwsalem. Roedd e'n bedwar deg un pan gafodd ei wneud yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg a saith o flynyddoedd. Jerwsalem, y ddinas roedd yr ARGLWYDD wedi dewis byw ynddi o holl lwythau Israel. Enw mam Rehoboam oedd Naamâ, ac roedd hi'n dod o wlad Ammon.
II C WelBeibl 12:14  Ond roedd yn frenin drwg am ei fod heb ddilyn yr ARGLWYDD o ddifrif.
II C WelBeibl 12:15  Mae hanes Rehoboam, o'r dechrau i'r diwedd, a hanes ei deulu, i'w weld yn Negeseuon Shemaia y Proffwyd ac Ido y Gweledydd. Roedd Rehoboam yn rhyfela yn erbyn Jeroboam, brenin Israel, drwy gydol ei deyrnasiad.
II C WelBeibl 12:16  Pan fu farw, cafodd Rehoboam ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Ei fab Abeia ddaeth yn frenin yn ei le.
Chapter 13
II C WelBeibl 13:1  Daeth Abeia yn frenin ar Jwda pan oedd Jeroboam wedi bod yn frenin Israel ers un deg wyth o flynyddoedd.
II C WelBeibl 13:2  Bu'n frenin yn Jerwsalem am dair blynedd. Enw ei fam oedd Michaia, merch Wriel o Gibea. Dyma ryfel yn dechrau rhwng Abeia a Jeroboam.
II C WelBeibl 13:3  Aeth Abeia allan i ryfel gyda byddin o filwyr dewr. Roedd ganddo bedwar can mil o ddynion arbennig. Dyma Jeroboam yn dod allan yn ei erbyn gyda byddin o wyth can mil o filwyr profiadol dewr.
II C WelBeibl 13:4  Dyma Abeia'n sefyll ar Fynydd Semaraïm sydd ym mryniau Effraim, a dweud, “Jeroboam ac Israel gyfan, gwrandwch arna i.
II C WelBeibl 13:5  Onid ydych chi'n gwybod bod yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi ymrwymo i roi'r frenhiniaeth i Dafydd a'i ddisgynyddion am byth? – a fydd hynny byth yn newid.
II C WelBeibl 13:6  Ond mae Jeroboam fab Nebat, gwas Solomon mab Dafydd, wedi gwrthryfela yn erbyn ei feistr.
II C WelBeibl 13:7  Casglodd griw o rapsgaliwns diwerth o'i gwmpas. Yna dyma fe'n herio Rehoboam, mab Solomon, pan oedd e'n ifanc ac ofnus a heb ddigon o nerth i sefyll yn ei erbyn.
II C WelBeibl 13:8  “A nawr dyma chi yn bwriadu sefyll yn erbyn teyrnas yr ARGLWYDD sydd wedi cael ei rhoi i ddisgynyddion Dafydd. Dych chi'n llu mawr gyda'r ddau darw aur mae Jeroboam wedi gwneud i fod yn dduwiau i chi.
II C WelBeibl 13:9  Ond dych chi wedi cael gwared a'r offeiriaid, meibion Aaron a'r Lefiaid, ac wedi gwneud offeiriaid eraill i chi'ch hunain fel y cenhedloedd. Bellach mae unrhyw un sy'n dod i gysegru ei hunan gyda tharw ifanc a saith hwrdd yn cael bod yn offeiriad i'r duw sydd ddim yn dduw.
II C WelBeibl 13:10  Ond ein Duw ni ydy'r ARGLWYDD, a dŷn ni heb droi oddi wrtho. Meibion Aaron ydy'n hoffeiriaid sy'n ei wasanaethu, a'r Lefiaid yn eu helpu.
II C WelBeibl 13:11  Maen nhw'n llosgi aberthau ac arogldarth persawrus i'r ARGLWYDD bob bore a hwyr. Nhw hefyd sy'n rhoi'r bara i'w osod ar y bwrdd sanctaidd, ac yn cynnau'r lampau ar y ganhwyllbren aur bob gyda'r nos. Dŷn ni'n dal i gadw gorchmynion yr ARGLWYDD ein Duw, ond dych chi wedi troi oddi wrtho.
II C WelBeibl 13:12  Sylwch, Duw ydy'n capten ni a thrwmpedau ei offeiriaid e sy'n ein galw i ryfel. Bobl Israel, peidiwch ag ymladd yn erbyn Duw eich hynafiaid. Fyddwch chi ddim yn llwyddo.”
II C WelBeibl 13:13  Dyma Jeroboam yn anfon rhai o'i filwyr i fod yn barod i ymosod o'r tu cefn i fyddin Jwda. Felly tra oedd e'n wynebu Jwda, roedd eraill yn barod i ymosod o'r tu cefn.
II C WelBeibl 13:14  Dyma filwyr Jwda yn gweld y byddai'n rhaid iddyn nhw ymladd o'r tu blaen a'r tu ôl, a dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD. Dyma'r offeiriad yn canu'r utgyrn,
II C WelBeibl 13:15  a dynion Jwda yn rhoi bloedd i ymosod, a dyma Duw yn taro Jeroboam a byddin Israel gyfan o flaen Abeia a byddin Jwda.
II C WelBeibl 13:16  Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen Jwda, a dyma Duw yn eu rhoi yng ngafael dynion Jwda.
II C WelBeibl 13:17  Lladdodd Abeia a'i ddynion nifer fawr ohonyn nhw. Roedd pum can mil o ddynion gorau Israel wedi syrthio'n farw.
II C WelBeibl 13:18  Collodd Israel y frwydr y diwrnod hwnnw, ac enillodd Jwda am ei bod wedi dibynnu ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.
II C WelBeibl 13:19  Dyma Abeia yn ymlid ar ôl Jeroboam a chymryd oddi arno drefi Bethel, Ieshana ac Effron a'r pentrefi o'u cwmpas.
II C WelBeibl 13:20  Wnaeth Jeroboam ddim ennill grym yn ôl yn ystod cyfnod Abeia. Yna dyma'r ARGLWYDD yn ei daro a bu farw.
II C WelBeibl 13:21  Yn y cyfamser, roedd Abeia'n dod yn fwy a mwy pwerus. Roedd ganddo un deg pedair o wragedd, ac roedd yn dad i ddau ddeg dau o feibion ac un deg chwech o ferched.
II C WelBeibl 13:22  Mae gweddill hanes Abeia, beth wnaeth e a'r pethau ddwedodd e, i'w gweld yn ysgrifau'r proffwyd Ido.
Chapter 14
II C WelBeibl 14:1  Pan fu farw, cafodd Abeia ei gladdu yn ninas Dafydd. Daeth Asa ei fab yn frenin yn ei le. Pan ddaeth e'n frenin roedd heddwch yn y wlad am ddeg mlynedd.
II C WelBeibl 14:2  Roedd Asa yn gwneud beth oedd yn dda ac yn plesio'r ARGLWYDD.
II C WelBeibl 14:3  Dyma fe'n cael gwared â'r allorau paganaidd a'r temlau lleol, malu'r colofnau cysegredig a thorri i lawr bolion y dduwies Ashera.
II C WelBeibl 14:4  Dyma fe'n dweud wrth bobl Jwda fod rhaid iddyn nhw addoli'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a chadw ei ddysgeidiaeth a'i orchmynion.
II C WelBeibl 14:5  Dyma fe'n cael gwared â'r holl allorau lleol a'r llestri dal arogldarth o drefi Jwda. Roedd heddwch yn y wlad pan oedd e'n frenin.
II C WelBeibl 14:6  Dyma Asa'n adeiladu trefi amddiffynnol yn Jwda tra oedd y wlad yn dawel. Doedd dim rhyfel yn y cyfnod hwnnw am fod yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch iddo.
II C WelBeibl 14:7  Dwedodd Asa wrth bobl Jwda, “Gadewch i ni adeiladu'r trefi yma gyda waliau a thyrau o'u cwmpas, a giatiau gyda barrau i'w cloi. Mae'r wlad yma'n dal gynnon ni am ein bod wedi ceisio yr ARGLWYDD ein Duw. Dŷn ni wedi'i geisio, ac mae e wedi rhoi heddwch i ni o bob cyfeiriad.” Felly dyma nhw'n adeiladu ac roedden nhw'n llwyddiannus iawn.
II C WelBeibl 14:8  Roedd gan Asa 300,000 o filwyr yn Jwda yn cario tarianau mawr a gwaywffyn. Gyda nhw roedd 280,000 o ddynion o lwyth Benjamin wedi'u harfogi gyda tharianau bach a bwasaeth. Roedden nhw i gyd yn filwr profiadol.
II C WelBeibl 14:9  Un tro dyma Serach o Cwsh yn nwyrain Affrica yn ymosod arnyn nhw gyda byddin o filiwn o ddynion a thri chant o gerbydau rhyfel. Wrth iddyn nhw gyrraedd Maresha
II C WelBeibl 14:10  roedd Asa a'i fyddin yn Nyffryn Seffatha (heb fod yn bell o Maresha) yn trefnu'u hunain yn rhengoedd i'w gwrthwynebu.
II C WelBeibl 14:11  Dyma Asa'n gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw: “ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gallu helpu'r gwan pan mae byddin enfawr yn dod yn eu herbyn nhw. Helpa ni ARGLWYDD ein Duw, dŷn ni'n dibynnu arnat ti. Dŷn ni wedi dod allan yn erbyn y fyddin enfawr yma ar dy ran di. O ARGLWYDD ein Duw, paid gadael i ddyn ennill yn dy erbyn di.”
II C WelBeibl 14:12  Felly dyma'r ARGLWYDD yn galluogi'r brenin Asa a byddin Jwda i orchfygu'r fyddin o Cwsh yn nwyrain Affrica. Dyma'r Affricanwyr yn ffoi
II C WelBeibl 14:13  gydag Asa a'i fyddin yn mynd ar eu holau cyn belled â Gerar. Cafodd byddin Cwsh ei difa'n llwyr gan yr ARGLWYDD a'i fyddin. A dyma Asa a'i ddynion yn casglu lot fawr o ysbail.
II C WelBeibl 14:14  Dyma nhw'n concro'r trefi o gwmpas Gerar i gyd, am fod yr ARGLWYDD wedi gwneud i'r rheiny banicio. A dyma filwyr Jwda yn casglu llwythi o bethau gwerthfawr o'r trefi hynny hefyd.
II C WelBeibl 14:15  A dyma nhw'n ymosod ar bebyll y rhai oedd yn gofalu am yr anifeiliaid, a dwyn llawer iawn o ddefaid a chamelod cyn mynd yn ôl i Jerwsalem.
Chapter 15
II C WelBeibl 15:2  a dyma fe'n mynd at y Brenin Asa a dweud: “Gwrandwch arna i, Asa a phobl Jwda a Benjamin i gyd. Bydd yr ARGLWYDD gyda chi tra dych chi'n ffyddlon iddo fe. Bydd e'n ymateb pan fyddwch chi'n ei geisio. Ond os byddwch chi'n troi'ch cefn arno, bydd e'n troi ei gefn arnoch chi.
II C WelBeibl 15:3  Roedd Israel heb y Duw go iawn am amser maith, heb offeiriaid i'w dysgu a heb Gyfraith.
II C WelBeibl 15:4  Ond yn eu helynt dyma nhw'n troi at yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dyma nhw'n ei geisio, a dyma fe'n ymateb.
II C WelBeibl 15:5  Yr adeg yna doedd hi ddim yn saff i neb fynd a dod, am fod yna helyntion ofnadwy yn y gwledydd i gyd.
II C WelBeibl 15:6  Roedd un wlad yn dinistrio'r llall, a'r trefi yn dinistrio'i gilydd, am fod Duw wedi dod â phob math o helyntion arnyn nhw.
II C WelBeibl 15:7  Ond byddwch chi'n ddewr a pheidio llaesu dwylo, oherwydd fe gewch chi wobr am eich gwaith.”
II C WelBeibl 15:8  Roedd Asa'n teimlo'n llawer mwy hyderus ar ôl clywed beth ddwedodd y proffwyd. Dyma fe'n cael gwared â'r holl eilunod ffiaidd oedd yn Jwda a Benjamin a'r trefi roedd wedi'u concro ym mryniau Effraim. Yna dyma fe'n trwsio'r allor oedd o flaen cyntedd teml yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 15:9  Casglodd bobl Jwda a Benjamin at ei gilydd, gyda phobl llwythau Effraim, Manasse a Simeon oedd wedi dod atyn nhw i fyw (Roedd llawer iawn o bobl wedi symud o Israel i Jwda ar ôl gweld fod yr ARGLWYDD ei Dduw gydag Asa.)
II C WelBeibl 15:10  Dyma nhw'n dod i Jerwsalem yn y trydydd mis pan oedd Asa wedi bod yn frenin am un deg pump o flynyddoedd.
II C WelBeibl 15:11  Dyma nhw'n aberthu i'r ARGLWYDD rai o'r anifeiliaid roedden nhw wedi'u cymryd yn ysbail, gan gynnwys saith gant o wartheg a saith mil o ddefaid.
II C WelBeibl 15:12  Wedyn, dyma nhw'n gwneud ymrwymiad i geisio yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, o ddifrif.
II C WelBeibl 15:13  Byddai pawb oedd yn gwrthod gwneud hynny yn cael eu lladd, hen ac ifanc, dynion a merched.
II C WelBeibl 15:14  Dyma nhw'n tyngu llw i'r ARGLWYDD gan weiddi, canu utgyrn a chwythu'r corn hwrdd.
II C WelBeibl 15:15  Roedd pobl Jwda i gyd yn hapus i gymryd y llw, achos roedden nhw'n hollol o ddifrif. Roedden nhw wedi ceisio'r ARGLWYDD, ac roedd yntau wedi ymateb. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch iddyn nhw o bob cyfeiriad.
II C WelBeibl 15:16  Yna dyma'r Brenin Asa yn diswyddo ei nain, Maacha, o fod yn fam-frenhines, am ei bod wedi gwneud polyn Ashera ffiaidd. Torrodd y polyn i lawr, ei falu'n fân, a'i losgi wrth Ddyffryn Cidron.
II C WelBeibl 15:17  Er ei fod heb gael gwared â'r allorau lleol yn Israel roedd Asa yn ffyddlon i'r ARGLWYDD ar hyd ei oes.
II C WelBeibl 15:18  Daeth â'r celfi roedd e a'i dad wedi'u cysegru (rhai aur, arian, a llestri eraill), a'u gosod yn nheml Dduw.
II C WelBeibl 15:19  Fuodd dim rhyfel arall nes oedd Asa wedi bod yn frenin am dri deg pump o flynyddoedd.
Chapter 16
II C WelBeibl 16:1  Pan oedd Asa wedi bod yn frenin ers bron dri deg chwech o flynyddoedd, dyma Baasha, brenin Israel, yn ymosod ar Jwda ac yn adeiladu Rama yn gaer filwrol i rwystro pobl rhag mynd a dod i diriogaeth Asa brenin Jwda.
II C WelBeibl 16:2  Dyma Asa yn cymryd y cwbl o'r arian a'r aur oedd ar ôl yn stordai teml yr ARGLWYDD a stordai palas y brenin, a'i anfon gyda'r neges yma i Ben-hadad, brenin Syria, yn Damascus:
II C WelBeibl 16:3  “Dw i eisiau gwneud cytundeb heddwch gyda ti, fel roedd yn arfer bod rhwng fy nhad a dy dad di. Dw i'n anfon yr arian a'r aur yma i ti. Dw i eisiau i ti dorri'r cytundeb sydd rhyngot ti a Baasha, brenin Israel, er mwyn iddo stopio ymosod arnon ni.”
II C WelBeibl 16:4  Dyma Ben-hadad yn derbyn cynnig y Brenin Asa, a dyma fe'n dweud wrth swyddogion ei fyddin am ymosod ar drefi Israel. Dyma nhw'n taro Îon, Dan, Abel-maim a chanolfannau storfeydd Nafftali.
II C WelBeibl 16:5  Pan glywodd Baasha am hyn, dyma fe'n rhoi'r gorau i'r prosiect o adeiladu Rama.
II C WelBeibl 16:6  Yna dyma'r Brenin Asa yn anfon pobl Jwda i nôl y cerrig a'r coed roedd Baasha wedi bod yn eu defnyddio i adeiladu Rama. Yna dyma Asa yn eu defnyddio nhw i adeiladau Geba yn Benjamin a Mitspa.
II C WelBeibl 16:7  Tua'r adeg honno dyma'r proffwyd Chanani yn mynd at Asa, brenin Jwda, a dweud wrtho, “Am dy fod wedi gofyn am help brenin Syria yn lle trystio'r ARGLWYDD, dy Dduw, wnei di byth orchfygu byddin Syria.
II C WelBeibl 16:8  Oedd gan yr Affricaniaid a'r Libiaid ddim byddinoedd mawr gyda llawer iawn o gerbydau a marchogion? Ond am dy fod wedi trystio'r ARGLWYDD dyma fe'n gadael i ti ennill y frwydr.
II C WelBeibl 16:9  Mae'r ARGLWYDD yn gwylio popeth sy'n digwydd ar y ddaear, ac yn barod i helpu'r rhai sy'n ei drystio fe'n llwyr. Ti wedi bod yn ffŵl. Byddi di'n ymladd rhyfeloedd yn ddi-stop o hyn ymlaen.”
II C WelBeibl 16:10  Roedd Asa wedi gwylltio gyda'r proffwyd am siarad fel yna, a dyma fe'n ei roi yn y carchar. Bryd hynny dechreuodd Asa orthrymu rhai o'r bobl hefyd.
II C WelBeibl 16:11  Mae hanes Asa, o'r dechrau i'r diwedd, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda ac Israel.
II C WelBeibl 16:12  Pan oedd Asa wedi bod yn frenin am bron dri deg naw o flynyddoedd dyma fe'n dechrau dioddef o glefyd ar ei draed. Er ei fod e'n dioddef yn ddifrifol o'r afiechyd wnaeth e ddim gofyn am help yr ARGLWYDD, dim ond y meddygon.
II C WelBeibl 16:13  Pan fuodd Asa farw, ar ôl bod yn frenin am dros bedwar deg o flynyddoedd;
II C WelBeibl 16:14  cafodd ei gladdu yn y bedd roedd e wedi trefnu ei chloddio o'r graig yn ninas Dafydd. Cafodd ei roi i orwedd ar elor oedd wedi'i gorchuddio gyda pherlysiau a gwahanol bersawrau. A dyma nhw'n llosgi coelcerth enfawr i'w anrhydeddu.
Chapter 17
II C WelBeibl 17:1  Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le, ac aeth ati i gryfhau'r deyrnas iddi allu gwrthsefyll Israel.
II C WelBeibl 17:2  Rhoddodd filwyr yn y trefi amddiffynnol a gosod garsiynau drwy wlad Jwda i gyd, ac yn y trefi roedd Asa ei dad wedi'i hennill oddi ar Effraim.
II C WelBeibl 17:3  Roedd yr ARGLWYDD gyda Jehosaffat am ei fod, ar ddechrau ei deyrnasiad, yn dilyn ffyrdd ei hynafiad Dafydd. Doedd e ddim yn addoli duwiau Baal.
II C WelBeibl 17:4  Roedd yn addoli Duw ei hynafiaid ac yn cadw'i orchmynion, yn wahanol i bobl Israel.
II C WelBeibl 17:5  Felly dyma'r ARGLWYDD yn gwneud ei deyrnas yn gadarn. Roedd pobl Jwda i gyd yn dod ag anrhegion i Jehosaffat, a daeth yn gyfoethog iawn, ac roedd parch mawr ato.
II C WelBeibl 17:6  Roedd yn benderfynol o ddilyn yr ARGLWYDD a chael gwared â'r holl allorau lleol a pholion y dduwies Ashera o Jwda.
II C WelBeibl 17:7  Yn ystod ei drydedd flwyddyn fel brenin dyma Jehosaffat yn anfon pump o'i swyddogion allan i drefi Jwda i ddysgu'r bobl am Gyfraith Duw. Enwau'r pump oedd Ben-chaîl, Obadeia, Sechareia, Nethanel a Michaia.
II C WelBeibl 17:8  Ac roedd naw o Lefiaid yn eu helpu, sef Shemaia, Nethaneia, Sebadeia, Asahel, Shemiramoth, Jonathan, Adoneia, Tobeia a Tob-adoneia. Roedd Elishama a Joram yr offeiriaid gyda nhw hefyd.
II C WelBeibl 17:9  Buon nhw'n teithio o gwmpas trefi Jwda i gyd yn dysgu'r bobl o Lyfr Cyfraith yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 17:10  Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar y gwledydd o gwmpas Jwda, a doedd neb am fynd i ryfel yn erbyn Jehosaffat.
II C WelBeibl 17:11  Dyma rai o'r Philistiaid yn dod ag anrhegion a llwyth o arian i Jehosaffat, i dalu teyrnged iddo fel brenin. Daeth yr Arabiaid ag anifeiliaid iddo: 7,700 o hyrddod a 7,700 o fychod geifr.
II C WelBeibl 17:12  Roedd Jehosaffat yn fwy a mwy pwerus, ac adeiladodd gaerau a chanolfannau storio yn Jwda.
II C WelBeibl 17:13  Roedd ganddo lot fawr wedi'i gadw yn y canolfannau hynny, a byddin o filwyr profiadol yn Jerwsalem.
II C WelBeibl 17:14  Roedd y rhain wedi'u rhannu yn ôl eu llwythau fel hyn: Capteiniaid ar unedau o fil o Jwda: Adna – yn gapten ar dri chan mil o filwyr profiadol, dewr.
II C WelBeibl 17:16  Amaseia fab Sichri (oedd wedi gwirfoddoli i wasanaethu yr ARGLWYDD) – roedd 200,000 o filwyr profiadol, dewr gydag e.
II C WelBeibl 17:17  Wedyn o lwyth Benjamin: Eliada, oedd yn filwr profiadol a dewr. Roedd 200,000 o filwyr gydag e yn cario bwasaeth a tharian.
II C WelBeibl 17:19  Roedd y rhain i gyd yn gwasanaethu'r brenin, heb sôn am y rhai oedd wedi'u gosod yn y caerau amddiffynnol ar hyd a lled Jwda.
Chapter 18
II C WelBeibl 18:1  Roedd Jehosaffat yn gyfoethog iawn ac roedd parch mawr ato. Ond dyma fe'n gwneud cytundeb gwleidyddol gydag Ahab, a'i selio drwy gael ei fab i briodi merch Ahab.
II C WelBeibl 18:2  Yna rai blynyddoedd yn ddiweddarach dyma fe'n mynd i ymweld ag Ahab yn Samaria. Dyma Ahab yn lladd llawer iawn o ddefaid a gwartheg i baratoi gwledd fawr i anrhydeddu Jehosaffat a'i swyddogion, a'i berswadio i fynd gydag e i ymosod ar Ramoth-gilead.
II C WelBeibl 18:3  Dyma Ahab, brenin Israel, yn gofyn i Jehosaffat, “Ddoi di gyda mi i ymladd am Ramoth-gilead?” Atebodd Jehosaffat, “Dw i gyda ti. Bydd fy myddin yn dy helpu yn y frwydr.”
II C WelBeibl 18:4  Yna dyma Jehosaffat yn ychwanegu, “Ond gad i ni'n gyntaf holi beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.”
II C WelBeibl 18:5  Felly dyma frenin Israel yn casglu'r proffwydi at ei gilydd – roedd tua pedwar cant ohonyn nhw. Gofynnodd iddyn nhw, “Ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma nhw'n ateb, “Dos! Bydd Duw yn rhoi buddugoliaeth i'r brenin!”
II C WelBeibl 18:6  Ond dyma Jehosaffat yn gofyn, “Oes yna ddim un o broffwydi'r ARGLWYDD yma, i ni ofyn iddo fe hefyd?”
II C WelBeibl 18:7  A dyma frenin Israel yn ateb, “Oes, mae yna un dyn gallwn holi'r ARGLWYDD drwyddo. Ond dw i'n ei gasáu e, achos dydy e erioed wedi proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg. Ei enw e ydy Michea fab Imla.” “Paid siarad fel yna,” meddai Jehosaffat.
II C WelBeibl 18:8  Felly dyma frenin Israel yn galw swyddog draw a dweud wrtho, “Brysia! Tyrd â Michea fab Imla yma.”
II C WelBeibl 18:9  Roedd brenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn eu gwisgoedd brenhinol, yn eistedd ar orseddau yn y sgwâr wrth giât i ddinas Samaria. O'u blaenau roedd yr holl broffwydi wrthi'n proffwydo.
II C WelBeibl 18:10  Dyma Sedeceia fab Cenaana yn gwneud cyrn haearn. A dyma fe'n cyhoeddi, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di'n cornio'r Syriaid gyda'r rhain, ac yn eu difa nhw.’”
II C WelBeibl 18:11  Ac roedd y proffwydi eraill i gyd yn dweud yr un fath. “Dos i ymosod ar Ramoth-gilead. Byddi'n ennill y frwydr! Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i ti.”
II C WelBeibl 18:12  Dyma'r un oedd wedi mynd i nôl Michea yn dweud wrtho, “Gwranda, mae'r proffwydi i gyd yn cytuno fod y brenin yn mynd i lwyddo. Dwed di'r un peth, a proffwyda lwyddiant iddo.”
II C WelBeibl 18:13  Ond dyma Michea'n ei ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, fydda i ond yn dweud beth fydd Duw yn ei ddweud wrtho i.”
II C WelBeibl 18:14  Pan ddaeth e at y brenin dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Michea, ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma fe'n ateb, “Dos di! Byddi'n llwyddo. Bydd Duw yn rhoi buddugoliaeth i ti!”
II C WelBeibl 18:15  Ond dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Faint o weithiau ydw i wedi gwneud i ti addo o flaen yr ARGLWYDD y byddi'n dweud dim byd ond y gwir wrtho i?”
II C WelBeibl 18:16  A dyma Michea'n dweud, “Gwelais Israel gyfan ar wasgar dros y bryniau, fel defaid heb fugail. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Does ganddyn nhw ddim meistri. Dylen nhw i gyd fynd adre'n dawel.’”
II C WelBeibl 18:17  A dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Wnes i ddim dweud wrthot ti? Dydy hwn byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg.”
II C WelBeibl 18:18  A dyma Michea'n dweud, “Felly, gwrando ar neges yr ARGLWYDD. Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, a'i fyddin o angylion yn sefyll bob ochr iddo.
II C WelBeibl 18:19  A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn, ‘Pwy sy'n gallu twyllo Ahab, brenin Israel, a gwneud iddo ymosod ar Ramoth-gilead a chael ei ladd yno?’ Ac roedd pawb yn cynnig syniadau gwahanol.
II C WelBeibl 18:20  Ond yna dyma ysbryd yn dod a sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a dweud, ‘Gwna i ei dwyllo fe.’ A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, ‘Sut?’
II C WelBeibl 18:21  ‘Gwna i fynd allan fel ysbryd celwyddog a siarad drwy ei broffwydi e,’ meddai. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dos i wneud hynny. Byddi'n llwyddo i'w dwyllo.’
II C WelBeibl 18:22  Felly, wyt ti'n gweld? Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud i dy broffwydi di ddweud celwydd. Mae'r ARGLWYDD am wneud drwg i ti.”
II C WelBeibl 18:23  Yna dyma Sedeceia fab Cenaana yn camu ymlaen a rhoi dyrnod i Michea ar ei ên, a gofyn, “Sut wnaeth Ysbryd yr ARGLWYDD fy ngadael i a dechrau siarad â ti?”
II C WelBeibl 18:24  A dyma Michea'n ateb, “Cei weld ar y diwrnod hwnnw pan fyddi di'n chwilio am ystafell o'r golwg yn rhywle i guddio ynddi!”
II C WelBeibl 18:25  Yna dyma frenin Israel yn dweud, “Arestiwch Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y ddinas, a Joas fy mab.
II C WelBeibl 18:26  Dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae'r brenin yn dweud, “Cadwch hwn yn y carchar, a rhoi dim byd ond ychydig fara a dŵr iddo nes bydda i wedi dod yn ôl yn saff.”’”
II C WelBeibl 18:27  A dyma Michea'n dweud, “Os ddoi di yn ôl yn saff, dydy'r ARGLWYDD ddim wedi siarad trwof fi.” A dyma fe'n dweud wrth y bobl oedd yno, “Cofiwch chi beth ddwedais i!”
II C WelBeibl 18:28  Dyma frenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn mynd i ymosod ar Ramoth-gilead.
II C WelBeibl 18:29  A dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Dw i'n mynd i wisgo dillad gwahanol i fynd i ryfel, ond gwisga di dy ddillad brenhinol.” Felly dyma frenin Israel yn newid ei ddillad a dyma nhw'n mynd i'r frwydr.
II C WelBeibl 18:30  Roedd brenin Syria wedi rhoi gorchymyn i'r capteiniaid oedd ganddo ar ei gerbydau, “Peidiwch poeni ymladd gyda neb, yn filwyr cyffredin na swyddogion, dim ond gyda brenin Israel.”
II C WelBeibl 18:31  Pan welodd y capteiniaid Jehosaffat dyma nhw'n dweud, “Mae'n rhaid mai fe ydy brenin Israel!” Felly dyma nhw'n troi i fynd ar ei ôl. Ond wrth i Jehosaffat weiddi, dyma'r ARGLWYDD yn ei helpu. Dyma Duw yn eu harwain nhw i ffwrdd oddi wrtho.
II C WelBeibl 18:32  Roedden nhw'n gweld mai nid brenin Israel oedd e, a dyma nhw'n gadael llonydd iddo.
II C WelBeibl 18:33  Yna dyma rhyw filwr yn digwydd saethu â'i fwa ar hap a tharo brenin Israel rhwng dau ddarn o'i arfwisg. A dyma'r brenin yn dweud wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro yn ôl! Dos â fi allan o'r frwydr. Dw i wedi cael fy anafu!”
II C WelBeibl 18:34  Aeth y frwydr yn ei blaen drwy'r dydd. Roedd brenin Israel yn cael ei ddal i fyny yn ei gerbyd yn gwylio'r Syriaid. Yna gyda'r nos, wrth i'r haul fachlud, dyma fe'n marw.
Chapter 19
II C WelBeibl 19:1  Pan gyrhaeddodd Jehosaffat adre'n ôl yn saff i'r palas yn Jerwsalem,
II C WelBeibl 19:2  dyma'r proffwyd Jehw fab Chanani yn mynd i'w weld. Dyma fe'n dweud wrth y brenin, “Ydy'n iawn dy fod ti'n helpu'r dyn drwg yna, Ahab, a gwneud ffrindiau hefo pobl sy'n casáu yr ARGLWYDD? Mae'r ARGLWYDD wedi digio go iawn hefo ti am wneud y fath beth.
II C WelBeibl 19:3  Ac eto ti wedi gwneud pethau da. Rwyt ti wedi cael gwared â pholion y dduwies Ashera o'r wlad ac wedi bod yn benderfynol o ddilyn yr ARGLWYDD.”
II C WelBeibl 19:4  Roedd Jehosaffat yn byw yn Jerwsalem, ond roedd yn mynd allan at y bobl i bob rhan o'r wlad, o Beersheba i fryniau Effraim, i'w hannog nhw i droi'n ôl at yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid.
II C WelBeibl 19:6  a dweud wrthyn nhw, “Gwyliwch beth dych chi'n wneud. Dim plesio pobl ydy'ch gwaith chi. Dych chi'n barnu ar ran yr ARGLWYDD, a bydd e gyda chi wrth i chi wneud hynny.
II C WelBeibl 19:7  Dangoswch barch ato a gwneud beth sy'n iawn. Dydy'r ARGLWYDD ddim yn hoffi anghyfiawnder, dangos ffafriaeth na derbyn breib.”
II C WelBeibl 19:8  Yn Jerwsalem dyma Jehosaffat hefyd yn penodi Lefiaid, offeiriaid a rhai o benaethiaid Israel i farnu ar ran yr ARGLWYDD ac i ddyfarnu unrhyw achosion rhwng y bobl.
II C WelBeibl 19:9  Dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Rhaid i chi ddangos parch at yr ARGLWYDD a gwneud y gwaith yn onest ac yn ddidwyll.
II C WelBeibl 19:10  Pan fydd eich pobl sy'n byw yn y pentrefi yn dod ag achos atoch, rhybuddiwch nhw i beidio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. (Bydd achosion o dywallt gwaed a materion eraill yn ymwneud â'r gyfraith a deddfau a rheolau gwahanol.) Os na wnewch chi eu rhybuddio nhw bydd Duw yn ddig gyda chi a'ch cydweithwyr. Ond os byddwch chi'n ufudd, fyddwch chi ddim yn euog.
II C WelBeibl 19:11  Amareia'r offeiriad fydd â'r gair olaf ar unrhyw fater yn ymwneud â cyfraith yr ARGLWYDD. A Sebadeia fab Ishmael, arweinydd llwyth Jwda, fydd yn delio gyda phopeth sy'n ymwneud â'r brenin. Bydd y Lefiaid yn gweithredu fel swyddogion gweinyddol. Gwnewch eich gwaith yn hyderus! Bydd yr ARGLWYDD gyda'r rhai sy'n gwneud job dda ohoni!”
Chapter 20
II C WelBeibl 20:1  Beth amser wedyn dyma fyddinoedd Moab ac Ammon, a rhai o'r Mewniaid gyda nhw, yn dod i ryfela yn erbyn Jehosaffat.
II C WelBeibl 20:2  Daeth negeswyr i ddweud wrth Jehosaffat, “Mae yna fyddin enfawr yn dod yn dy erbyn o gyfeiriad Edom, yr ochr draw i'r Môr Marw. Maen nhw yn Chatsason-tamar yn barod!” (Enw arall ar En-gedi oedd Chatsason-tamar.)
II C WelBeibl 20:3  Roedd Jehosaffat wedi dychryn wrth glywed hyn, a dyma fe'n troi at yr ARGLWYDD am arweiniad. Gorchmynnodd fod pawb yn Jwda i ymprydio.
II C WelBeibl 20:4  Felly dyma bobl Jwda yn dod at ei gilydd i ofyn i'r ARGLWYDD am help. Roedden nhw wedi dod o bob un o drefi Jwda.
II C WelBeibl 20:5  Safodd Jehosaffat gyda'r dyrfa o flaen yr iard newydd yn y deml.
II C WelBeibl 20:6  A dyma fe'n gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, onid ti ydy'r Duw yn y nefoedd sy'n llywodraethu dros holl deyrnasoedd y byd? Ti'n Dduw nerthol a grymus, a does neb yn gallu sefyll yn dy erbyn.
II C WelBeibl 20:7  Onid ti, ein Duw, wnaeth yrru'r bobl oedd yn byw yn y wlad yma allan o flaen dy bobl Israel? Ti wnaeth roi'r tir yma i ddisgynyddion Abraham dy ffrind, am byth.
II C WelBeibl 20:8  Maen nhw wedi byw yma, ac wedi adeiladu teml i dy anrhydeddu di, gan gredu,
II C WelBeibl 20:9  ‘Os daw unrhyw drychineb, fel byddin yn ymosod, cael ein barnu drwy haint neu newyn, gallwn ddod i sefyll yma o dy flaen, o flaen y deml (gan dy fod ti'n bresennol yma). Gallwn alw arnat ti a byddi'n gwrando ac yn ein hachub ni.’
II C WelBeibl 20:10  Ond nawr mae byddinoedd Ammon, Moab a Mynydd Seir yn ymosod arnon ni! Dyma'r bobloedd wnest ti ddim gadael i Israel eu concro ar y ffordd allan o'r Aifft. Roedd rhaid i bobl Israel fynd heibio iddyn nhw a pheidio'u difa.
II C WelBeibl 20:11  Ac edrych sut maen nhw'n talu'n ôl i ni nawr! Maen nhw'n dod i'n gyrru ni allan o'r tir wnest ti ei roi i ni.
II C WelBeibl 20:12  Ein Duw, plîs wnei di eu cosbi nhw? Dŷn ni ddim ddigon cryf i wrthsefyll y fyddin enfawr yma sy'n ymosod arnon ni. Dŷn ni ddim yn gwybod beth i'w wneud. Dŷn ni'n troi atat ti am help.”
II C WelBeibl 20:13  Roedd dynion Jwda i gyd yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD gyda'i babis bach, eu gwragedd a'u plant.
II C WelBeibl 20:14  Yna yng nghanol y dyrfa dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn disgyn ar un o'r Lefiaid o dylwyth Asaff, sef Iachsiel fab Sechareia (ŵyr i Benaia fab Jeiel, mab Mataneia).
II C WelBeibl 20:15  Dyma fe'n dweud, “Gwrandwch bobl Jwda, a chi sy'n byw yn Jerwsalem, a'r Brenin Jehosaffat. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi, ‘Peidiwch bod ag ofn a pheidiwch panicio am y fyddin fawr yma. Brwydr Duw ydy hon nid eich brwydr chi.
II C WelBeibl 20:16  Ewch allan yn eu herbyn yfory pan fyddan nhw'n dod i fyny drwy Fwlch Sis. Byddan nhw ym mhen draw'r ceunant, o flaen Anialwch Ierwel.
II C WelBeibl 20:17  Fyddwch chi ddim yn gorfod ymladd y frwydr yma. Byddwch yn sefyll lle rydych chi, ac yn gweld yr ARGLWYDD yn eich achub, bobl Jwda a Jerwsalem. Peidiwch bod ag ofn na phanicio. Ewch allan yn eu herbyn yfory; mae'r ARGLWYDD gyda chi!’”
II C WelBeibl 20:18  Yna dyma Jehosaffat yn ymgrymu â'i wyneb ar lawr, a dyma bobl Jwda a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem yn plygu i lawr i addoli'r ARGLWYDD.
II C WelBeibl 20:19  Yna dyma'r Lefiaid o deulu Cohath a theulu Cora yn sefyll a chanu mawl i'r ARGLWYDD, Duw Israel, ar dop eu lleisiau.
II C WelBeibl 20:20  Yn gynnar y bore wedyn dyma nhw'n martsio allan i gyfeiriad Anialwch Tecoa. Pan oedden nhw ar fin gadael dyma Jehosaffat yn sefyll a dweud, “Gwrandwch arna i bobl Jwda, a chi sy'n byw yn Jerwsalem. Os gwnewch chi drystio'r ARGLWYDD eich Duw, byddwch yn iawn. Credwch beth ddwedodd ei broffwydi a byddwch yn llwyddo.”
II C WelBeibl 20:21  Ar ôl trafod gyda'r bobl dyma fe'n gosod cerddorion o flaen y fyddin i addoli'r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr, a chanu, “Diolchwch i'r ARGLWYDD; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”
II C WelBeibl 20:22  Wrth iddyn nhw ddechrau gweiddi a moli dyma'r ARGLWYDD yn cael grwpiau i ymosod ar fyddinoedd Ammon, Moab a Mynydd Seir oedd yn dod i ryfela yn erbyn Jwda, a'u trechu nhw.
II C WelBeibl 20:23  Dyma filwyr Ammon a Moab yn ymosod ar filwyr Mynydd Seir a'u dinistrio nhw'n llwyr. Ar ôl iddyn nhw wneud hynny dyma nhw'n ymosod ar ei gilydd.
II C WelBeibl 20:24  Erbyn i fyddin Jwda gyrraedd y tŵr gwylio sy'n edrych allan i'r anialwch, y cwbl oedd ar ôl o'r fyddin fawr oedd cyrff marw ar lawr. Roedden nhw i gyd wedi'u lladd!
II C WelBeibl 20:25  Dyma Jehosaffat a'i filwyr yn mynd i gasglu beth allen nhw, a chael cymaint o offer, dillad a phethau gwerthfawr, roedd gormod ohono i'w gario! Cymerodd dri diwrnod cyfan iddyn nhw gasglu'r cwbl!
II C WelBeibl 20:26  Ar y pedwerydd diwrnod dyma pawb yn casglu at ei gilydd yn Nyffryn Beracha i addoli'r ARGLWYDD (Dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Ddyffryn Beracha – sef Dyffryn y Fendith – hyd heddiw.)
II C WelBeibl 20:27  Yna dyma Jehosaffat yn arwain y dynion i gyd yn ôl i Jerwsalem yn llawen. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi rheswm da iddyn nhw ddathlu!
II C WelBeibl 20:28  Dyma nhw'n mynd i mewn i'r ddinas i sŵn nablau, telynau ac utgyrn, a dyma nhw'n mynd yn syth i deml yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 20:29  Roedd gan y gwledydd o'u cwmpas ofn Duw ar ôl clywed sut roedd yr ARGLWYDD wedi ymladd yn erbyn gelynion Israel.
II C WelBeibl 20:30  Cafodd teyrnas Jehosaffat heddwch; roedd Duw wedi rhoi heddwch iddo o bob cyfeiriad.
II C WelBeibl 20:31  Daeth Jehosaffat yn frenin ar Jwda pan oedd yn dri deg pump. Bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg pump o flynyddoedd. Aswba, merch Shilchi oedd ei fam.
II C WelBeibl 20:32  Fel Asa, ei dad, gwnaeth Jehosaffat bethau oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
II C WelBeibl 20:33  Ond gafodd yr allorau lleol ddim eu cymryd i ffwrdd, a doedd y bobl yn dal ddim yn hollol ffyddlon i Dduw eu hynafiaid.
II C WelBeibl 20:34  Mae gweddill hanes Jehosaffat, o'r dechrau i'r diwedd, i'w cael yn Negeseuon Jehw fab Chanani, sydd wedi'i gadw yn y sgrôl, Hanes Brenhinoedd Israel.
II C WelBeibl 20:35  Yn ddiweddarach dyma Jehosaffat, brenin Jwda yn dod i gytundeb gydag Ahaseia, brenin Israel, oedd yn frenin drwg.
II C WelBeibl 20:36  Dyma nhw'n cytuno i adeiladu llongau masnach mawr ym mhorthladd Etsion-geber.
II C WelBeibl 20:37  A dyma Elieser fab Dodafa o Maresha yn proffwydo yn erbyn Jehosaffat, “Am dy fod ti wedi dod i gytundeb gydag Ahaseia, bydd yr ARGLWYDD yn dryllio dy waith.” A chafodd y llongau eu dryllio, a wnaethon nhw erioed hwylio.
Chapter 21
II C WelBeibl 21:1  Pan fuodd Jehosaffat farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le.
II C WelBeibl 21:2  Roedd gan Jehoram frodyr, sef Asareia, Iechiel, Sechareia, Asareiahw, Michael a Sheffateia. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Jehosaffat, brenin Jwda.
II C WelBeibl 21:3  Roedd eu tad wedi rhoi llwythi o anrhegion iddyn nhw o arian, aur a gemau yn ogystal a trefi amddiffynnol yn Jwda. Ond Jehoram gafodd fod yn frenin am mai fe oedd yr hynaf.
II C WelBeibl 21:4  Ar ôl sefydlu ei hun yn frenin ar deyrnas ei dad, dyma fe'n lladd ei frodyr i gyd a rhai o arweinwyr Jwda hefyd.
II C WelBeibl 21:5  Roedd Jehoram yn dri deg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am wyth mlynedd.
II C WelBeibl 21:6  Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel ac Ahab a'i deulu. Roedd wedi priodi merch Ahab, ac yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 21:7  Ond doedd yr ARGLWYDD ddim am ddinistrio teulu Dafydd am ei fod wedi gwneud ymrwymiad i Dafydd. Roedd wedi addo iddo byddai ei linach yn teyrnasu am byth.
II C WelBeibl 21:8  Yn ei gyfnod e dyma Edom yn gwrthryfela yn erbyn Jwda, a dewis eu brenin eu hunain.
II C WelBeibl 21:9  Felly dyma Jehoram yn croesi gyda'i swyddogion a'i gerbydau rhyfel. Roedd byddin Edom wedi'i amgylchynu, a dyma fe'n ymosod arnyn nhw ganol nos. Ond colli'r frwydr wnaeth e.
II C WelBeibl 21:10  Mae Edom yn dal i wrthryfela yn erbyn Jwda hyd heddiw. Roedd tref Libna hefyd wedi gwrthryfela yr un pryd, ac ennill annibyniaeth. Roedd hyn wedi digwydd am fod Jehoram wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid.
II C WelBeibl 21:11  Roedd wedi codi allorau lleol ar y bryniau yn Jwda, ac annog pobl Jerwsalem i addoli duwiau eraill. Roedd wedi arwain pobl Jwda ar gyfeiliorn.
II C WelBeibl 21:12  Dyma Jehoram yn cael llythyr oddi wrth Elias, y proffwyd, yn dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw dy hynafiad Dafydd yn ei ddweud. ‘Ti ddim wedi ymddwyn yr un fath â Jehosaffat, dy dad ac Asa, brenin Jwda.
II C WelBeibl 21:13  Ti wedi ymddwyn fel brenhinoedd Israel, ac arwain pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem i droi cefn ar yr ARGLWYDD, fel mae Ahab a'i deulu wedi gwneud yn Israel. Ac yn waeth na hynny, rwyt ti wedi lladd dy frodyr, ac roedden nhw'n well dynion na ti.
II C WelBeibl 21:14  Felly mae'r ARGLWYDD yn mynd i daro dy bobl, dy feibion, dy wragedd a phopeth sydd biau ti.
II C WelBeibl 21:15  A byddi di'n mynd yn sâl ac yn dioddef yn hir o afiechyd ar y bol fydd yn mynd o ddrwg i waeth nes bydd dy goluddyn yn dod allan.’”
II C WelBeibl 21:16  Dyma'r ARGLWYDD yn annog y Philistiaid a'r Arabiaid oedd yn byw ar gyrion Dwyrain Affrica i godi yn erbyn Jehoram.
II C WelBeibl 21:17  Dyma nhw'n ymosod ar Jwda, chwalu'r amddiffynfeydd, dwyn popeth gwerthfawr o balas y brenin, a chymryd ei feibion a'i wragedd yn gaethion. Ahaseia, ei fab ifancaf, oedd yr unig un gafodd ei adael ar ôl.
II C WelBeibl 21:18  Ar ben hyn i gyd dyma'r ARGLWYDD yn achosi i Jehoram ddioddef o salwch marwol yn ei fol.
II C WelBeibl 21:19  Ar ôl tua dwy flynedd, dyma'i goluddyn yn disgyn allan oherwydd y salwch, a bu farw mewn poen ofnadwy. Wnaeth ei bobl ddim cynnau tân i'w anrhydeddu, fel roedden nhw'n arfer gwneud gyda'u hynafiaid.
II C WelBeibl 21:20  Roedd Jehoram yn dri deg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am wyth mlynedd. Doedd neb yn ei golli pan fuodd e farw. Cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd, ond dim ym mynwent y brenhinoedd.
Chapter 22
II C WelBeibl 22:1  Dyma bobl Jerwsalem yn gwneud Ahaseia, mab ifancaf Jehoram, yn frenin yn ei le. Roedd y fyddin wnaeth ymosod ar Jwda gyda'r Arabiaid wedi lladd y meibion hŷn i gyd. Felly daeth Ahaseia (mab Jehoram) yn frenin ar Jwda.
II C WelBeibl 22:2  Roedd Ahaseia yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am flwyddyn. Ei fam oedd Athaleia, wyres Omri.
II C WelBeibl 22:3  Roedd yn ymddwyn yr un fath ag Ahab a'i deulu, a'i fam oedd yn ei arwain i wneud drwg.
II C WelBeibl 22:4  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel roedd teulu Ahab wedi gwneud. Ar ôl i'w dad farw, nhw oedd yn ei gynghori, a dyna wnaeth arwain at ei gwymp.
II C WelBeibl 22:5  Dyma fe'n gwrando ar eu cyngor a mynd gyda Joram fab Ahab, brenin Israel i ryfela yn erbyn Hasael, brenin Syria, yn Ramoth-gilead. Cafodd Joram ei anafu yn y frwydr,
II C WelBeibl 22:6  ac aeth yn ôl i Jesreel i geisio gwella o'i glwyfau. Aeth Ahaseia, brenin Jwda, yno i ymweld ag e, am ei fod yn wael iawn.
II C WelBeibl 22:7  Roedd Duw wedi penderfynu y byddai'r ymweliad yma yn arwain at ddiwedd Joram. Tra oedd yno, dyma Ahaseia'n mynd allan gyda Joram yn erbyn Jehw fab Nimshi. (Roedd yr ARGLWYDD wedi penodi Jehw i ladd teulu Ahab i gyd.)
II C WelBeibl 22:8  Tra oedd Jehw wrthi'n cosbi teulu Ahab, dyma fe'n dod ar draws rhai o arweinwyr Jwda a meibion brodyr Ahaseia oedd yn teithio gydag e. A dyma Jehw yn eu lladd yn y fan a'r lle.
II C WelBeibl 22:9  Wedyn dyma fe'n anfon ei ddynion i chwilio am Ahaseia, a chafodd ei ddal yn cuddio yn Samaria. Pan aethon nhw ag e at Jehw, dyma Jehw yn ei ladd. Ond dyma nhw yn rhoi angladd iawn iddo, gan ei fod yn ŵyr i Jehosaffat oedd wedi dilyn yr ARGLWYDD â'i holl galon. Doedd neb ar ôl o deulu Ahaseia yn ddigon cryf i fod yn frenin.
II C WelBeibl 22:10  Pan glywodd Athaleia fod ei mab Ahaseia wedi marw, dyma hi'n mynd ati i gael gwared â llinach frenhinol Jwda i gyd.
II C WelBeibl 22:11  Ond dyma Jehosheba, merch i'r brenin Jehoram, yn cymryd Joas, mab ei brawd Ahaseia, a'i sleifio i ffwrdd oddi wrth aelodau eraill y teulu brenhinol cyn iddyn nhw gael eu lladd. Cuddiodd e gyda'i nyrs yn un o ystafelloedd gwely'r offeiriaid yn y deml. (Roedd Jehosheba yn ferch i'r brenin Jehoram, yn wraig i Jehoiada'r offeiriad, ac yn chwaer i Ahaseia.) Felly wnaeth Athaleia ddim dod o hyd i Joas, a chafodd e mo'i ladd ganddi.
II C WelBeibl 22:12  Bu'n cuddio gyda'i nyrs yn y deml am chwe mlynedd, tra oedd Athaleia'n rheoli'r wlad.
Chapter 23
II C WelBeibl 23:1  Yna yn y seithfed flwyddyn dyma Jehoiada yn mentro gweithredu. Dyma fe'n gwneud cytundeb gyda'r swyddogion milwrol oedd yn arwain unedau o gannoedd: Asareia fab Ierocham, Ishmael fab Iehochanan, Asareia fab Obed, Maaseia fab Adaia, ac Elishaffat fab Sichri.
II C WelBeibl 23:2  Dyma'r dynion yma yn teithio o gwmpas Jwda ac yn casglu'r Lefiaid i gyd o'r trefi ac arweinwyr claniau Israel. A dyma nhw i gyd yn mynd i Jerwsalem.
II C WelBeibl 23:3  Dyma'r gynulleidfa yn ymrwymo yn y deml i fod yn ffyddlon i'r brenin. A dyma Jehoiada yn datgan, “Dyma fab y brenin! Bydd e'n teyrnasu fel dwedodd yr ARGLWYDD am ddisgynyddion Dafydd.
II C WelBeibl 23:4  Dyma dych chi i'w wneud: Bydd un rhan o dair ohonoch chi offeiriaid a Lefiaid sydd ar ddyletswydd ar y Saboth yn gwarchod y drysau.
II C WelBeibl 23:5  Bydd un rhan o dair yn gwarchod y palas, ac un rhan o dair wrth Giât y Sylfaen. Bydd pawb arall yn mynd i sefyll yn iard teml yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 23:6  Does neb i fynd i mewn i deml yr ARGLWYDD ond yr offeiriad a'r Lefiaid sydd ar ddyletswydd. Gallan nhw fynd i mewn am eu bod yn lân yn seremonïol. Rhaid i bawb arall wneud fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw.
II C WelBeibl 23:7  Rhaid i'r Lefiaid sefyll o gwmpas y brenin gydag arfau yn eu dwylo. Os bydd unrhyw un yn dod i mewn i'r deml, rhaid ei ladd. Bydd y Lefiaid gyda'r brenin ble bynnag mae'n mynd.”
II C WelBeibl 23:8  Dyma'r Lefiaid a phobl Jwda yn gwneud yn union fel roedd Jehoiada'r offeiriad wedi dweud. Dyma pob un yn cymryd ei uned – y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth a'r rhai oedd yn rhydd (Wnaeth Jehoiada ddim eu rhyddhau nhw o'u dyletswydd.)
II C WelBeibl 23:9  A dyma Jehoiada'r offeiriad yn rhoi gwaywffyn a tharianau bach a mawr i'r capteniaid, sef arfau y Brenin Dafydd oedd yn cael eu cadw yn nheml yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 23:10  Yna dyma fe'n eu gosod yn eu lle i warchod y brenin, gyda'u harfau yn eu dwylo. Roedden nhw'n sefyll mewn llinell o un ochr y deml i'r llall, wrth yr allor ac ym mhob rhan o'r deml, i amddiffyn y brenin.
II C WelBeibl 23:11  Wedyn dyma Jehoiada a'i feibion yn dod â mab y brenin allan, a rhoi'r goron ar ei ben a chopi o'r rheolau sy'n dweud sut i lywodraethu. A dyma nhw'n cyhoeddi mai Joas oedd y brenin, ei eneinio drwy dywallt olew ar ei ben, a gweiddi, “Hir oes i'r brenin!”
II C WelBeibl 23:12  Dyma Athaleia'n clywed sŵn y cyffro a'r bobl yn canmol y brenin, a dyma hi'n mynd atyn nhw i'r deml.
II C WelBeibl 23:13  Yno dyma hi'n gweld y brenin yn sefyll wrth y piler wrth y fynedfa. Roedd y capteiniaid a'r trwmpedwyr o'i gwmpas, y bobl i gyd yn dathlu, yr utgyrn yn canu ffanffer a'r cerddorion gyda'u hofferynnau yn arwain y dathlu. Pan welodd hyn i gyd, dyma hi'n rhwygo'i dillad a sgrechian gweiddi, “Brad! Brad!”
II C WelBeibl 23:14  Yna dyma Jehoiada'r offeiriad yn galw capteniaid y gwarchodlu, oedd yn arwain y milwyr, a dweud wrthyn nhw, “Ewch â hi allan o'r deml heibio'r rhengoedd, a lladdwch unrhyw un sydd gyda hi. Rhaid peidio ei lladd yn y deml.”
II C WelBeibl 23:15  Felly dyma nhw'n ei harestio hi a mynd â hi i'r palas brenhinol drwy'r fynedfa i'r stablau. A dyna lle cafodd hi ei lladd.
II C WelBeibl 23:16  Dyma Jehoiada yn selio'r ymrwymiad rhyngddo'i hun, y bobl, a'r brenin, iddyn nhw fod yn bobl ffyddlon i'r ARGLWYDD.
II C WelBeibl 23:17  Yna aeth y dyrfa i gyd i mewn i deml Baal a'i dinistrio. Dyma nhw'n chwalu'r allorau a malu'r delwau i gyd yn ddarnau mân, a chafodd Mattan, offeiriad Baal, ei ladd o flaen yr allorau.
II C WelBeibl 23:18  Roedd Jehoiada wedi gosod gwarchodlu i wylio teml yr ARGLWYDD, a rhoi eu cyfrifoldebau i'r offeiriaid o lwyth Lefi, fel roedd Dafydd wedi trefnu. Nhw oedd yn gyfrifol am yr aberthau oedd i'w llosgi i'r ARGLWYDD, fel mae cyfraith Moses yn dweud, a hefyd y dathlu a'r gerddoriaeth, fel roedd Dafydd wedi trefnu.
II C WelBeibl 23:19  Gosododd ofalwyr i wylio giatiau teml yr ARGLWYDD, i wneud yn siŵr fod neb oedd yn aflan mewn rhyw ffordd yn gallu mynd i mewn.
II C WelBeibl 23:20  Yna dyma fe'n galw capteniaid yr unedau o gannoedd, yr arweinwyr, a'r swyddogion. A dyma'r dyrfa gyfan yn eu dilyn nhw ac yn arwain y brenin mewn prosesiwn, o'r deml i'r palas drwy'r Giât Uchaf. A dyma nhw'n gosod y brenin i eistedd ar yr orsedd.
II C WelBeibl 23:21  Roedd pawb drwy'r wlad i gyd yn dathlu. Roedd y ddinas yn heddychlon eto, ac Athaleia wedi cael ei lladd.
Chapter 24
II C WelBeibl 24:1  Dim ond saith oed oedd Joas pan gafodd ei wneud yn frenin ar Jwda. Bu'n frenin yn Jerwsalem am bedwar deg o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Tsifia, ac roedd hi'n dod o Beersheba.
II C WelBeibl 24:2  Pan oedd Jehoiada'r offeiriad yn dal yn fyw, gwnaeth Joas beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
II C WelBeibl 24:3  Jehoiada wnaeth ddewis dwy wraig iddo, a chafodd y ddwy blant iddo – meibion a merched.
II C WelBeibl 24:4  Dyma Joas yn penderfynu atgyweirio teml yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 24:5  Galwodd yr offeiriaid a'r Lefiaid at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, “Ewch i drefi Jwda i gyd a chasglu'r dreth flynyddol gan bobl Israel, i drwsio teml eich Duw. A gwnewch y peth ar unwaith!” Ond dyma'r Lefiaid yn oedi.
II C WelBeibl 24:6  Felly dyma'r brenin yn galw Jehoiada'r archoffeiriad i fynd i'w weld, a gofyn iddo, “Pam wyt ti ddim wedi cael y Lefiaid i gasglu'r dreth osododd Moses ar bobl Israel tuag at gynnal pabell y dystiolaeth? Roedden nhw i fod i fynd allan drwy Jwda a Jerwsalem yn ei gasglu.”
II C WelBeibl 24:7  (Roedd y wraig ddrwg yna, Athaleia, a'i meibion, wedi torri i mewn i deml Dduw a defnyddio llestri cysegredig teml yr ARGLWYDD i addoli duwiau Baal!)
II C WelBeibl 24:8  Felly dyma'r brenin yn gorchymyn gwneud cist i'w gosod tu allan i'r giât oedd yn arwain i deml yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 24:9  Wedyn, dyma neges yn cael ei hanfon allan drwy Jwda a Jerwsalem yn gorchymyn i'r bobl ddod i dalu'r dreth roedd Moses, gwas Duw, wedi'i gosod ar bobl Israel yn yr anialwch.
II C WelBeibl 24:10  A dyma'r arweinwyr a'r bobl i gyd yn gwneud hynny'n frwd, ac yn taflu'r arian i'r gist nes oedd hi'n llawn.
II C WelBeibl 24:11  Wedyn pan oedd y Lefiaid yn gweld fod y gist yn llawn, roedden nhw'n mynd â hi at swyddogion y brenin. Yna roedd ysgrifennydd y brenin a'r prif-offeiriad yn gwagio'r gist ac yna mynd â hi yn ôl i'w lle. Roedd hyn yn digwydd bob dydd am amser hir, a dyma nhw'n casglu lot fawr o arian.
II C WelBeibl 24:12  Wedyn roedd y brenin a Jehoiada yn rhoi'r arian i'r dynion oedd yn arolygu'r gwaith ar deml yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 24:13  Roedden nhw'n ei ddefnyddio i gyflogi seiri maen a seiri coed, gweithwyr haearn a chrefftwyr pres i atgyweirio a thrwsio teml yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 24:14  Pan oedden nhw wedi gorffen eu gwaith, dyma nhw'n mynd â'r arian oedd yn weddill yn ôl i'r brenin a Jehoiada. Cafodd yr arian hwnnw ei ddefnyddio i wneud offer i deml yr ARGLWYDD – offer ar gyfer y gwasanaethau a'r offrymau i'w llosgi, powlenni arogldarth, a llestri eraill o aur ac arian. Roedd offrymau i'w llosgi yn cael eu cyflwyno'n gyson yn y deml ar hyd y cyfnod pan oedd Jehoiada yn fyw.
II C WelBeibl 24:15  Dyma Jehoiada yn byw i fod yn hen iawn. Bu farw yn gant tri deg oed.
II C WelBeibl 24:16  Cafodd ei gladdu yn ninas Dafydd gyda'r brenhinoedd, am ei fod wedi gwneud cymaint o dda i Israel ar ran Duw a'i deml.
II C WelBeibl 24:17  Ar ôl i Jehoiada farw, dyma arweinwyr Jwda yn dod i gydnabod y brenin. Ond dyma fe'n gwrando ar eu cyngor nhw,
II C WelBeibl 24:18  troi cefn ar deml yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a dechrau addoli'r dduwies Ashera a'r delwau. Roedd Duw wedi digio go iawn hefo pobl Jwda a Jerwsalem am iddyn nhw wneud hyn.
II C WelBeibl 24:19  Anfonodd yr ARGLWYDD broffwydi atyn nhw i'w cael i droi'n ôl ato, ond doedden nhw'n cymryd dim sylw.
II C WelBeibl 24:20  Daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Sechareia (mab Jehoiada'r offeiriad), a dyma fe'n sefyll o flaen y bobl a chyhoeddi, “Dyma mae Duw'n ddweud. ‘Pam dych chi'n torri gorchmynion yr ARGLWYDD? Fyddwch chi ddim yn llwyddo. Am i chi droi cefn ar yr ARGLWYDD, mae e wedi troi cefn arnoch chi.’”
II C WelBeibl 24:21  Ond dyma nhw'n cynllwynio yn ei erbyn, a dyma'r brenin yn gorchymyn ei ladd drwy daflu cerrig ato yn iard y deml.
II C WelBeibl 24:22  Wnaeth Joas y brenin ddim meddwl mor ffyddlon oedd Jehoiada (tad Sechareia) wedi bod iddo, a dyma fe'n lladd ei fab. Wrth iddo farw, dyma Sechareia'n dweud, “Boed i'r ARGLWYDD weld hyn a dy ddal di'n gyfrifol.”
II C WelBeibl 24:23  Ar ddiwedd y flwyddyn honno, dyma fyddin Syria'n dod i ryfela yn erbyn Joas. Dyma nhw'n ymosod ar Jwda a Jerwsalem ac yn lladd yr arweinwyr i gyd, a dwyn popeth o werth a'i gymryd i frenin Damascus.
II C WelBeibl 24:24  Er mai byddin fechan anfonodd Syria, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth iddyn nhw dros fyddin llawer mwy Jwda, am fod pobl Jwda wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Cafodd Joas beth roedd e'n ei haeddu.
II C WelBeibl 24:25  Roedd e wedi'i anafu'n ddrwg yn y frwydr, ac ar ôl i fyddin Syria adael dyma weision Joas yn cynllwynio yn ei erbyn am ei fod wedi lladd mab Jehoiada'r offeiriad. Dyma nhw'n ei lofruddio yn ei wely. Cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd, ond ddim ym mynwent y brenhinoedd.
II C WelBeibl 24:26  Y rhai wnaeth gynllwynio yn ei erbyn oedd Safad, mab Shimeath (gwraig o wlad Ammon), a Iehosafad, mab Shimrith (gwraig o Moab).
II C WelBeibl 24:27  Mae hanes ei feibion a'r nifer fawr o negeseuon gan Dduw yn ei erbyn, a'i hanes yn atgyweirio'r deml wedi'u cadw i gyd yn yr ysgrifau yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. Daeth ei fab Amaseia yn frenin yn ei le.
Chapter 25
II C WelBeibl 25:1  Roedd Amaseia'n ddau ddeg pump pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iehoadan, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem.
II C WelBeibl 25:2  Roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, er, doedd e ddim yn hollol ffyddlon.
II C WelBeibl 25:3  Wedi iddo wneud yn siŵr fod ei afael ar y deyrnas yn ddiogel, dyma fe'n dienyddio'r swyddogion hynny oedd wedi llofruddio ei dad, y brenin.
II C WelBeibl 25:4  Ond wnaeth e ddim lladd eu plant nhw, am mai dyna oedd sgrôl Moses yn ei ddweud. Dyma'r gorchymyn oedd yr ARGLWYDD wedi'i roi: “Ddylai rhieni ddim cael eu lladd am droseddau'u plant, na'r plant am droseddau'u rhieni. Y troseddwr ei hun ddylai farw.”
II C WelBeibl 25:5  Dyma Amaseia'n casglu dynion Jwda at ei gilydd a rhoi trefn ar ei fyddin drwy benodi capteniaid ar unedau o fil a chapteiniaid ar unedau o gant, a gosod teuluoedd Jwda a Benjamin yn yr unedau hynny. Dyma fe'n cyfrif y rhai oedd yn ugain oed neu'n hŷn, ac roedd yna 300,000 o ddynion da yn barod i ymladd gyda gwaywffyn a tharianau.
II C WelBeibl 25:6  Talodd dros dair mil cilogram o arian i gyflogi can mil o filwyr o Israel hefyd.
II C WelBeibl 25:7  Ond daeth proffwyd ato a dweud, “O Frenin, paid mynd â milwyr Israel allan gyda ti. Dydy'r ARGLWYDD ddim gyda Israel, sef dynion Effraim.
II C WelBeibl 25:8  Hyd yn oed os byddi'n ymladd yn galed, bydd Duw yn gadael i dy elynion ennill y frwydr. Mae Duw yn gallu helpu byddin a threchu byddin.”
II C WelBeibl 25:9  “Ond dw i wedi talu arian mawr i fyddin Israel – dros dair mil cilogram o arian,” meddai Amaseia. A dyma'r proffwyd yn ateb, “Mae'r ARGLWYDD yn gallu rhoi lot mwy na hynny i ti.”
II C WelBeibl 25:10  Felly dyma Amaseia'n anfon y milwyr oedd wedi dod o Effraim adre. Roedden nhw'n ddig gyda Jwda, a dyma nhw'n mynd yn ôl i'w gwlad eu hunain wedi gwylltio'n lân.
II C WelBeibl 25:11  Yna dyma Amaseia'n magu plwc ac arwain ei fyddin i ryfel yn Nyffryn yr Halen, a lladd deg mil o filwyr Edom.
II C WelBeibl 25:12  Roedden nhw wedi dal deg mil arall yn fyw. Dyma nhw'n eu harwain i ben clogwyn a'u gwthio dros yr ymyl, a chawson nhw i gyd eu lladd ar y creigiau islaw.
II C WelBeibl 25:13  Yn y cyfamser dyma'r milwyr oedd Amaseia wedi'u hanfon adre yn ymosod ar drefi Jwda rhwng Samaria a Beth-choron. Cafodd tair mil o bobl eu lladd ganddyn nhw a dyma nhw'n dwyn lot fawr o ysbail.
II C WelBeibl 25:14  Ar ôl ennill y frwydr yn erbyn byddin Edom, dyma Amaseia'n dod â'u duwiau nhw gydag e. Gwnaeth nhw'n dduwiau iddo'i hun, a'u haddoli a llosgi arogldarth o'u blaen.
II C WelBeibl 25:15  Roedd yr ARGLWYDD yn ddig gydag Amaseia a dyma fe'n anfon proffwyd ato gyda'r neges yma, “Pam wyt ti'n troi at y duwiau yma oedd yn methu achub eu pobl eu hunain o dy afael?”
II C WelBeibl 25:16  Ond dyma Amaseia yn torri ar ei draws. “Ydw i wedi dy benodi di yn gynghorwr brenhinol? Cau dy geg! Neu bydda i'n gorchymyn i ti gael dy ladd!” Dyma'r proffwyd yn stopio, ond yna ychwanegu, “Bydd Duw yn dy ladd di am wneud hyn a pheidio gwrando arna i.”
II C WelBeibl 25:17  Yna dyma Amaseia, brenin Jwda, yn derbyn cyngor ei gynghorwyr, ac yn anfon neges at Jehoas brenin Israel (mab Jehoachas ac ŵyr Jehw). Y neges oedd, “Tyrd, gad i ni wynebu'n gilydd mewn brwydr.”
II C WelBeibl 25:18  Dyma Jehoas, brenin Israel, yn anfon neges yn ôl at Amaseia yn dweud: “Un tro yn Libanus dyma ddraenen fach yn afon neges at goeden gedrwydd fawr i ddweud, ‘Rho dy ferch yn wraig i fy mab i.’ Ond dyma anifail gwyllt yn dod heibio a sathru'r ddraenen dan draed!
II C WelBeibl 25:19  Ti'n dweud dy fod wedi gorchfygu Edom, ond mae wedi mynd i dy ben di! Mwynha dy lwyddiant nawr ac aros adre. Wyt ti'n edrych am drwbwl? Dw i'n dy rybuddio di, byddi di a dy deyrnas yn syrthio gyda'ch gilydd!”
II C WelBeibl 25:20  Ond doedd Amaseia ddim am wrando. (Duw oedd tu ôl i'r peth – roedd e am i'r gelyn eu gorchfygu nhw am eu bod nhw wedi mynd ar ôl duwiau Edom.)
II C WelBeibl 25:21  Felly dyma Jehoas, brenin Israel, yn mynd i ryfel yn ei erbyn. Dyma'r ddwy fyddin yn dod wyneb yn wyneb yn Beth-shemesh ar dir Jwda.
II C WelBeibl 25:22  Byddin Israel wnaeth ennill y frwydr, a dyma filwyr Jwda i gyd yn dianc am adre.
II C WelBeibl 25:23  Roedd Jehoas, brenin Israel, wedi dal Amaseia, brenin Jwda, yn Beth-shemesh. Yna dyma fe'n mynd ag e i Jerwsalem a chwalu waliau'r ddinas o Giât Effraim at Giât y Gornel, pellter o bron i ddau can metr.
II C WelBeibl 25:24  Yna cymerodd yr holl aur ac arian, a'r llestri oedd yn y deml dan ofal Obed-Edom. Cymerodd drysorau'r palas hefyd, a gwystlon, cyn mynd yn ôl i Samaria.
II C WelBeibl 25:25  Buodd Amaseia fab Joas, brenin Jwda, fyw am un deg pump o flynyddoedd ar ôl i Jehoas, brenin Israel, farw.
II C WelBeibl 25:26  Mae gweddill hanes Amaseia, o'r dechrau i'r diwedd, i'w gael yn y sgrôl Brenhinoedd Jwda ac Israel.
II C WelBeibl 25:27  Pan wnaeth e droi cefn ar yr ARGLWYDD dyma rhywrai yn Jerwsalem yn cynllwynio yn ei erbyn, a dyma fe'n dianc i Lachish. Ond dyma nhw'n anfon dynion ar ei ôl a'i ladd yno.
II C WelBeibl 25:28  Cafodd y corff ei gymryd yn ôl ar geffylau, a chafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd gyda'i hynafiaid.
Chapter 26
II C WelBeibl 26:1  Dyma bobl Jwda yn cymryd Wseia, oedd yn un deg chwech oed, a'i wneud yn frenin yn lle ei dad Amaseia.
II C WelBeibl 26:2  Adeiladodd Wseia dref Elat a'i hadfer i Jwda ar ôl i'r brenin Amaseia farw.
II C WelBeibl 26:3  Un deg chwech oedd e pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg dwy o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iecholeia, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem.
II C WelBeibl 26:4  Fel ei dad Amaseia roedd Wseia yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
II C WelBeibl 26:5  Sechareia oedd cynghorydd ysbrydol Wseia, a tra oedd Sechareia'n fyw roedd Wseia'n dilyn yr ARGLWYDD, ac roedd Duw yn gwneud iddo lwyddo.
II C WelBeibl 26:6  Aeth i ryfel yn erbyn y Philistiaid, a chwalu waliau Gath, Iabne ac Ashdod. Wedyn adeiladodd drefi yn ardal Ashdod ac ar hyd a lled tiriogaeth y Philistiaid.
II C WelBeibl 26:7  Roedd Duw wedi'i helpu yn ei ymgyrchoedd yn erbyn y Philistiaid, yr Arabiaid oedd yn byw yn Gwr-baal, a'r Mewniaid.
II C WelBeibl 26:8  Roedd yr Ammoniaid yn talu trethi iddo hefyd, a daeth yn enwog hyd at ffiniau gwlad yr Aifft am ei fod mor gryf.
II C WelBeibl 26:9  Dyma Wseia'n adeiladu a chryfhau tyrau amddiffynnol yn Jerwsalem, wrth Giât y Gornel, Giât y Dyffryn a lle mae'r ongl yn y wal.
II C WelBeibl 26:10  Adeiladodd dyrau amddiffynnol a chloddio pydewau yn yr anialwch hefyd, gan fod ganddo lawer o anifeiliaid yn Seffela ac ar y gwastadedd. Roedd yn hoff iawn o ffermio. Roedd ganddo weithiwr yn trin y tir a gofalu am y gwinllannoedd ar y bryniau ac yn Carmel.
II C WelBeibl 26:11  Roedd gan Wseia fyddin o filwyr yn barod i ryfela. Roedden nhw wedi cael eu trefnu yn gatrawdau gan Jeiel yr ysgrifennydd a Maaseia oedd yn swyddog yn y fyddin. Chananeia, un o swyddogion y brenin, oedd yn goruchwylio'r cyfan.
II C WelBeibl 26:12  Roedd yna 2,600 o bennau teuluoedd yn arwain catrawd o filwyr yn y fyddin.
II C WelBeibl 26:13  Roedd byddin o 370,500 o filwyr ganddyn nhw, yn barod i amddiffyn y brenin yn erbyn ei elynion.
II C WelBeibl 26:14  Dyma Wseia'n paratoi digon o darianau, gwaywffyn, helmedau, arfwisg, bwâu a ffyn tafl a cherrig i'r fyddin gyfan.
II C WelBeibl 26:15  Dyma fe'n cael pobl i ddyfeisio peiriannau rhyfel a'u gosod ar dyrau a chorneli waliau Jerwsalem. Roedd y rhain yn gallu taflu saethau a cherrig mawr. Roedd Duw wedi helpu Wseia a'i wneud yn arweinydd pwerus iawn, ac roedd yn enwog yn bell ac agos.
II C WelBeibl 26:16  Ond wrth fynd yn gryf dyma fe'n troi'n falch. Ac aeth ei falchder yn drech nag e. Bu'n anffyddlon i'r ARGLWYDD ei Dduw. Aeth i mewn i deml yr ARGLWYDD a llosgi arogldarth ar allor yr arogldarth.
II C WelBeibl 26:17  Dyma Asareia ac wyth deg o offeiriaid dewr yn mynd ar ei ôl.
II C WelBeibl 26:18  Dyma nhw'n herio Wseia a dweud wrtho, “Nid dy le di, Wseia, ydy llosgi arogldarth i'r ARGLWYDD. Cyfrifoldeb yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, ydy gwneud hynny. Maen nhw wedi cael eu neilltuo'n arbennig i'r gwaith. Dos allan o'r deml. Ti wedi bod yn anffyddlon, a fydd yr ARGLWYDD ddim yn dy anrhydeddu di am hyn.”
II C WelBeibl 26:19  Roedd Wseia wedi gwylltio. Roedd ganddo lestr o arogldarth yn ei law, ac wrth iddo arthio a gweiddi ar yr offeiriaid dyma glefyd heintus yn torri allan ar ei dalcen. Digwyddodd hyn o flaen llygaid yr offeiriaid, yn y deml wrth ymyl allor yr arogldarth.
II C WelBeibl 26:20  Pan welodd Asareia'r archoffeiriad, a'r offeiriaid eraill, y dolur ar ei dalcen, dyma nhw'n ei hel allan ar frys. Yn wir roedd e ei hun yn brysio i fynd allan gan mai'r ARGLWYDD oedd wedi'i daro'n wael.
II C WelBeibl 26:21  Bu Wseia'n dioddef o glefyd heintus ar y croen nes iddo farw. Roedd rhaid iddo fyw ar wahân i bawb arall, a doedd e ddim yn cael mynd i deml yr ARGLWYDD. Ei fab Jotham oedd yn rhedeg y palas ac yn rheoli'r wlad bryd hynny.
II C WelBeibl 26:22  Mae gweddill hanes Wseia, o'r dechrau i'r diwedd, wedi'i ysgrifennu gan y proffwyd Eseia fab Amos.
II C WelBeibl 26:23  Pan fu farw, cafodd Wseia ei gladdu heb fod yn bell o ble claddwyd ei hynafiaid, ond mewn mynwent arall oedd yn perthyn i'r brenhinoedd. (Cafodd ei osod ar wahân am ei fod yn dioddef o glefyd heintus ar y croen.) A daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le.
Chapter 27
II C WelBeibl 27:1  Roedd Jotham yn ddau ddeg pum pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Ierwsa, merch Sadoc.
II C WelBeibl 27:2  Fel ei dad Wseia, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. (Ond wnaeth e ddim beiddio torri rheolau'r deml fel y gwnaeth ei dad.) Ac eto roedd y bobl yn dal i bechu.
II C WelBeibl 27:3  Jotham adeiladodd Giât Uchaf y deml, a gwnaeth lot o waith yn ailadeiladu'r wal wrth fryn Offel.
II C WelBeibl 27:4  Adeiladodd drefi ar fryniau Jwda, a chaerau a thyrau amddiffynnol yn y coedwigoedd.
II C WelBeibl 27:5  Aeth i ryfel yn erbyn brenin yr Ammoniaid, a'i drechu. Talodd yr Ammoniaid dros dair mil cilogram o arian, mil o dunelli o wenith a mil o dunelli o haidd iddo. Roedd rhaid iddyn nhw dalu yr un faint y ddwy flynedd ganlynol hefyd.
II C WelBeibl 27:6  Aeth Jotham yn fwy a mwy pwerus, am ei fod yn benderfynol ei fod yn mynd i blesio yr ARGLWYDD ei Dduw.
II C WelBeibl 27:7  Mae gweddill hanes ei deyrnasiad, ei ymgyrchoedd milwrol a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w gweld yn y sgrôl Brenhinoedd Israel a Jwda.
II C WelBeibl 27:8  Roedd Jotham yn ddau ddeg pump pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd.
II C WelBeibl 27:9  Pan fu Jotham farw, dyma nhw'n ei gladdu yn Ninas Dafydd; a daeth ei fab Ahas yn frenin yn ei le.
Chapter 28
II C WelBeibl 28:1  Roedd Ahas yn ugain oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Ond wnaeth e ddim plesio'r ARGLWYDD fel gwnaeth y Brenin Dafydd.
II C WelBeibl 28:2  Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel. Yn waeth na hynny, gwnaeth ddelwau metel o dduwiau Baal,
II C WelBeibl 28:3  aberthu iddyn nhw yn Nyffryn Ben-hinnom, a llosgi ei fab yn aberth – arferiad cwbl ffiaidd y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.
II C WelBeibl 28:4  Roedd yn aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth ar yr allorau lleol ar y bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog.
II C WelBeibl 28:5  Felly dyma'r ARGLWYDD yn gadael i frenin Syria ymosod arno a'i goncro. Cafodd llawer o'r bobl eu cymryd yn gaeth i Damascus. Wedyn dyma frenin Israel yn ei orchfygu hefyd, a chafodd llawer iawn o'i fyddin eu lladd.
II C WelBeibl 28:6  Lladdwyd 120,000 o filwyr Jwda mewn un diwrnod gan fyddin Pecach fab Remaleia, brenin Israel. Digwyddodd hyn i gyd am fod Jwda wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.
II C WelBeibl 28:7  Roedd Sichri, un o arwyr Effraim, wedi lladd Maaseia mab y brenin, Asricam prif swyddog y palas, ac Elcana y swyddog uchaf yn y deyrnas ar ôl y brenin ei hun.
II C WelBeibl 28:8  Cymerodd yr Israeliaid 200,000 o bobl yn gaeth – gwragedd a phlant. Ac roedden nhw wedi dwyn lot fawr o bethau gwerthfawr hefyd a mynd â'r cwbl yn ôl i Samaria.
II C WelBeibl 28:9  Roedd yna broffwyd i'r ARGLWYDD o'r enw Oded yn Samaria. Dyma fe'n mynd i gyfarfod y fyddin wrth iddyn nhw gyrraedd y ddinas, a dwedodd wrthyn nhw, “Gwrandwch. Roedd yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi digio gyda Jwda, a gadawodd i chi eu trechu nhw. Ond dych chi wedi mynd dros ben llestri, a lladd yn gwbl ddidrugaredd, ac mae Duw wedi sylwi.
II C WelBeibl 28:10  A dyma chi nawr yn bwriadu gorfodi pobl Jwda a Jerwsalem i fod yn gaethweision a chaethferched i chi. Ydych chi hefyd ddim wedi gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw?
II C WelBeibl 28:11  Nawr, gwrandwch arna i. Anfonwch y rhai dych chi wedi'u cymryd yn gaeth yn ôl adre. Mae'r ARGLWYDD wedi gwylltio gyda chi.”
II C WelBeibl 28:12  Yna dyma rai o arweinwyr Effraim (sef Asareia fab Iehochanan, Berecheia fab Meshilemoth, Iechisceia fab Shalwm ac Amasa fab Hadlai), yn mynd i wynebu'r rhai oedd wedi dod yn ôl o'r frwydr.
II C WelBeibl 28:13  Dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Gewch chi ddim dod â'r bobl gymeroch chi'n gaethion yma, i'n gwneud ni'n euog hefyd. Mae'r ARGLWYDD wedi digio gydag Israel fel y mae hi, heb fynd i wneud pethau'n waeth.”
II C WelBeibl 28:14  Felly o flaen yr arweinwyr a phawb dyma'r milwyr yn rhyddhau'r bobl oedd wedi'u cymryd yn gaeth, a rhoi popeth roedden nhw wedi'i gymryd yn ysbail yn ôl.
II C WelBeibl 28:15  Cafodd dynion eu dewis i ofalu am y bobl. Dyma nhw'n ffeindio dillad o'r ysbail i'r rhai oedd yn noeth eu gwisgo, rhoi sandalau, bwyd a diod iddyn nhw, ac olew i'w rwbio ar eu croen. Yna dyma nhw'n rhoi pawb oedd yn methu cerdded ar asynnod, a mynd â nhw i gyd yn ôl at eu perthnasau i Jericho, dinas y palmwydd. Wedyn dyma'r dynion yn dod yn ôl adre i Samaria.
II C WelBeibl 28:16  Bryd hynny dyma'r Brenin Ahas yn gofyn i frenin Asyria am help.
II C WelBeibl 28:17  Roedd byddin Edom wedi ymosod ar Jwda unwaith eto a chymryd pobl yn gaeth.
II C WelBeibl 28:18  Roedd y Philistiaid hefyd wedi bod yn ymosod ar drefi Jwda yn yr iseldir a'r Negef. Roedden nhw wedi concro a setlo yn Beth-shemesh, Aialon a Gederoth, a hefyd Socho, Timna a Gimso a'r pentrefi o'u cwmpas.
II C WelBeibl 28:19  Roedd yr ARGLWYDD yn dysgu gwers i Jwda am fod Ahas yn anffyddlon i'r ARGLWYDD ac wedi gadael i bethau fynd allan o reolaeth yn llwyr.
II C WelBeibl 28:20  Daeth Tiglath-pileser brenin Asyria ato, ond gwnaeth bethau'n waeth iddo yn lle ei helpu.
II C WelBeibl 28:21  Cymerodd Ahas drysorau o'r deml, y palas, ac o dai ei swyddogion a rhoi'r cwbl i frenin Asyria. Ond wnaeth hynny ddim ei helpu e.
II C WelBeibl 28:22  Drwy'r holl drafferthion i gyd roedd Ahas yn mynd o ddrwg i waeth, ac yn fwy anffyddlon nag erioed.
II C WelBeibl 28:23  Dechreuodd aberthu i dduwiau Damascus oedd wedi'i orchfygu. Roedd yn meddwl, “Gwnaeth duwiau Syria eu helpu nhw. Os gwna i aberthu iddyn nhw, falle y gwnân nhw fy helpu i.” Ond achosodd hynny ei gwymp e a Jwda gyfan.
II C WelBeibl 28:24  Dyma Ahas yn casglu holl lestri'r deml a'u malu'n ddarnau. Yna dyma fe'n cau drysau teml yr ARGLWYDD a chodi allorau paganaidd ar gornel pob stryd yn Jerwsalem.
II C WelBeibl 28:25  Cododd allorau lleol ym mhob tref yn Jwda i losgi arogldarth i dduwiau eraill. Roedd yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid, wedi gwylltio'n lân gydag e.
II C WelBeibl 28:26  Mae gweddill hanes Ahas, a'r hyn wnaeth e, o'r dechrau i'r diwedd, i'w gweld yn y sgrôl Brenhinoedd Jwda ac Israel.
II C WelBeibl 28:27  Pan fuodd Ahas farw, dyma nhw'n ei gladdu gyda'i hynafiaid yn y ddinas, sef Jerwsalem. Wnaethon nhw ddim ei osod ym mynwent brenhinoedd Israel. A dyma Heseceia, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.
Chapter 29
II C WelBeibl 29:1  Daeth Heseceia yn frenin pan oedd yn ddau ddeg pump, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Abeia, merch Sechareia.
II C WelBeibl 29:2  Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
II C WelBeibl 29:3  Yn syth ar ôl iddo ddod yn frenin, dyma Heseceia'n agor drysau teml yr ARGLWYDD a'u trwsio.
II C WelBeibl 29:4  Dyma fe'n casglu'r offeiriad a'r Lefiaid at ei gilydd yn y sgwâr ar ochr ddwyreiniol y deml,
II C WelBeibl 29:5  a'u hannerch, “Chi Lefiaid, gwrandwch arna i. Ewch drwy'r ddefod o buro eich hunan cyn mynd ati i gysegru teml yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid. Taflwch bopeth sy'n aflan allan o'r Lle Sanctaidd.
II C WelBeibl 29:6  Mae'n hynafiaid wedi bod yn anffyddlon a gwneud pethau oedd ddim yn plesio'r ARGLWYDD. Roedden nhw wedi troi cefn arno fe a'i deml.
II C WelBeibl 29:7  Dyma nhw'n cau drysau'r cyntedd a diffodd y lampau. Doedden nhw ddim yn llosgi arogldarth na chyflwyno aberthau yn y lle yma gafodd ei gysegru i Dduw Israel.
II C WelBeibl 29:8  Dyna pam roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda Jwda a Jerwsalem. Mae'n gwbl amlwg fod beth sydd wedi digwydd yn ofnadwy; mae'n achos dychryn a rhyfeddod i bobl.
II C WelBeibl 29:9  Dyna pam cafodd dynion eu lladd yn y rhyfel, ac wedyn eu gwragedd a'u plant yn cael eu cymryd yn gaethion.
II C WelBeibl 29:10  “Nawr, dw i eisiau gwneud ymrwymiad i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Falle wedyn y bydd e'n stopio bod mor ddig gyda ni.
II C WelBeibl 29:11  Felly, ffrindiau, peidiwch bod yn esgeulus. Mae'r ARGLWYDD wedi'ch dewis chi i'w wasanaethu ac i losgi arogldarth iddo.”
II C WelBeibl 29:12  A dyma'r Lefiaid yma yn codi i wneud beth roedd y brenin yn ei orchymyn: Disgynyddion Cohath: Machat fab Amasai a Joel fab Asareia Disgynyddion Merari: Cish fab Afdi ac Asareia fab Jehalelel Disgynyddion Gershon: Ioach fab Simma ac Eden fab Ioach
II C WelBeibl 29:13  Disgynyddion Elitsaffan: Shimri a Jeiel Disgynyddion Asaff: Sechareia a Mataneia
II C WelBeibl 29:14  Disgynyddion Heman: Iechiel a Shimei Disgynyddion Iedwthwn: Shemaia ac Wssiel.
II C WelBeibl 29:15  Yna dyma nhw'n casglu gweddill y Lefiaid at ei gilydd a mynd drwy'r ddefod o buro'u hunain. Ac wedyn mynd ati i gysegru teml yr ARGLWYDD, fel roedd y brenin wedi dweud. Roedden nhw'n gwneud popeth yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
II C WelBeibl 29:16  Aeth yr offeiriaid i mewn i'r deml i'w phuro. A dyma nhw'n dod â phopeth oedd yn aflan allan i'r iard, cyn i'r Lefiaid fynd a'r cwbl allan i Ddyffryn Cidron.
II C WelBeibl 29:17  Roedd y gwaith glanhau wedi dechrau ar ddiwrnod cynta'r mis cyntaf. Mewn wythnos roedden nhw wedi cyrraedd cyntedd teml yr ARGLWYDD. Wedyn am wythnos arall buon nhw'n cysegru'r deml, a chafodd y gwaith ei orffen ar ddiwrnod un deg chwech o'r mis.
II C WelBeibl 29:18  Yna dyma nhw'n mynd at y Brenin Heseceia a dweud, “Dŷn ni wedi cysegru teml yr ARGLWYDD i gyd, yr allor i losgi aberthau a'i hoffer i gyd, a'r bwrdd mae'r bara i'w osod yn bentwr arno gyda'i holl lestri.
II C WelBeibl 29:19  Dŷn ni hefyd wedi cysegru'r holl lestri wnaeth y Brenin Ahas eu taflu allan pan oedd yn anffyddlon i Dduw. Maen nhw yn ôl o flaen yr allor.”
II C WelBeibl 29:20  Yna'n gynnar y bore wedyn dyma Heseceia'n galw arweinwyr y ddinas at ei gilydd a mynd i deml yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 29:21  Aethon nhw â saith tarw ifanc, saith hwrdd, saith oen a saith bwch gafr yn aberth dros bechod y deyrnas, y deml a gwlad Jwda. A dyma'r brenin yn gofyn i'r offeiriaid (disgynyddion Aaron) eu llosgi'n offrymau ar allor yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 29:22  Felly dyma'r offeiriaid yn lladd y teirw a sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. Yna gwneud yr un peth gyda'r hyrddod a'r ŵyn.
II C WelBeibl 29:23  Yna'n olaf dyma nhw'n dod â'r bwch geifr (oedd i fod yn offrwm i lanhau o bechod) at y brenin a'r bobl eraill oedd yno iddyn nhw osod eu dwylo ar ben y geifr.
II C WelBeibl 29:24  Wedyn, dyma'r offeiriaid yn eu lladd a rhoi'r gwaed ar yr allor yn offrwm dros bechodau Israel gyfan. Roedd y brenin wedi dweud fod yr offrymau i'w llosgi a'r aberthau dros bechodau Israel gyfan.
II C WelBeibl 29:25  Yna dyma'r Brenin Heseceia yn gosod y Lefiaid yn eu lle yn nheml yr ARGLWYDD gyda symbalau, nablau a thelynau, fel roedd y Brenin Dafydd wedi dweud. (Yr ARGLWYDD oedd wedi rhoi'r cyfarwyddiadau yma drwy Gad, proffwyd y brenin a'r proffwyd Nathan.)
II C WelBeibl 29:26  Felly roedd y Lefiaid yn sefyll gydag offerynnau'r Brenin Dafydd, a'r offeiriaid gydag utgyrn.
II C WelBeibl 29:27  A dyma Heseceia'n rhoi'r gair iddyn nhw losgi'r offrymau ar yr allor. Wrth iddyn nhw ddechrau gwneud hynny dyma ddechrau canu mawl i'r ARGLWYDD i gyfeiliant yr utgyrn ac offerynnau Dafydd, brenin Israel.
II C WelBeibl 29:28  Roedd y gynulleidfa gyfan yn plygu i lawr i addoli, y cantorion yn canu a'r utgyrn yn seinio nes i'r offrwm orffen llosgi.
II C WelBeibl 29:29  Ar ôl llosgi'r offrwm dyma'r brenin a phawb oedd gydag e yn plygu i lawr ac addoli.
II C WelBeibl 29:30  Yna dyma'r Brenin Heseceia yn dweud wrth y Lefiaid am foli'r ARGLWYDD drwy ganu'r caneuon ysgrifennodd y Brenin Dafydd a'r proffwyd Asaff. Felly buon nhw wrthi'n canu'n llawen ac yn plygu i lawr ac yn addoli.
II C WelBeibl 29:31  Yna dyma Heseceia'n dweud, “Nawr dych chi wedi rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD. Dewch i aberthu ac i gyflwyno offrymau diolch iddo.” Felly dyma'r bobl yn dod ag aberthau ac offrymau diolch, ac roedd rhai yn awyddus i ddod ag anifeiliaid yn offrymau i'w llosgi hefyd.
II C WelBeibl 29:32  Dyma faint o anifeiliaid gafodd eu rhoi gan y gynulleidfa: 70 tarw, 100 o hyrddod a 200 o ddefaid yn offrymau i'w llosgi.
II C WelBeibl 29:33  Roedd 600 o deirw a 3,000 o ddefaid eraill wedi cael eu rhoi,
II C WelBeibl 29:34  ond doedd dim digon o offeiriaid i'w blingo nhw i gyd. Felly roedd rhaid i'r Lefiaid eu helpu nhw i orffen y gwaith nes bod digon o offeiriaid wedi mynd drwy'r ddefod o buro'u hunain. (Roedd y Lefiaid wedi bod yn fwy gofalus i fynd drwy'r defodau na'r offeiriaid.)
II C WelBeibl 29:35  Yn ogystal â'r anifeiliaid i'w llosgi, roedd yna lawer iawn o fraster o'r offrymau diolch, a hefyd yr offrymau o ddiod oedd i fynd gyda phob offrwm i'w losgi. Felly dyma nhw'n ailddechrau addoli'r ARGLWYDD yn y deml.
II C WelBeibl 29:36  Ac roedd Heseceia a'r bobl i gyd yn dathlu fod Duw wedi galluogi'r cwbl i ddigwydd mor gyflym.
Chapter 30
II C WelBeibl 30:1  Dyma Heseceia yn anfon neges allan drwy Israel a Jwda gyfan. Anfonodd lythyrau at lwythau Effraim a Manasse hefyd. Roedd yn galw pawb i ddod i'r deml yn Jerwsalem i ddathlu Pasg yr ARGLWYDD, Duw Israel.
II C WelBeibl 30:2  Roedd y brenin wedi cytuno gyda'r arweinwyr a phobl Jerwsalem i gadw'r Pasg yn yr ail fis.
II C WelBeibl 30:3  Roedden nhw'n methu ei gadw ar yr adeg iawn am fod dim digon o offeiriaid wedi bod drwy'r ddefod o gysegru eu hunain, a doedd y bobl ddim wedi cael cyfle i ddod i Jerwsalem.
II C WelBeibl 30:4  Felly roedd y brenin a'r bobl yn meddwl mai dyma'r cynllun gorau.
II C WelBeibl 30:5  Dyma nhw'n anfon neges allan drwy Israel gyfan, o Beersheba yn y de i Dan yn y gogledd. Roedd pawb i ddod i Jerwsalem i gadw Pasg i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Doedden nhw ddim wedi bod yn cadw'r Pasg fel Gŵyl genedlaethol, fel roedd y Gyfraith yn dweud.
II C WelBeibl 30:6  Cafodd negeswyr eu hanfon allan i bobman yn Israel a Jwda gyda llythyr oddi wrth y brenin a'r arweinwyr. A dyma oedd y llythyr yn ei ddweud: “Bobl Israel, trowch yn ôl at yr ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, iddo fe droi'n ôl atoch chi, yr ychydig sydd wedi dianc o afael brenhinoedd Asyria.
II C WelBeibl 30:7  Peidiwch bod fel eich tadau a'ch brodyr oedd yn anffyddlon i'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Dyna pam cawson nhw eu cosbi ganddo, fel dych chi'n gweld.
II C WelBeibl 30:8  Peidiwch bod yn ystyfnig fel eich tadau. Byddwch yn ufudd i'r ARGLWYDD, a dewch i'r deml sydd wedi'i chysegru ganddo am byth. Addolwch yr ARGLWYDD eich Duw, iddo stopio bod mor ddig gyda chi.
II C WelBeibl 30:9  Os gwnewch chi droi'n ôl at yr ARGLWYDD, bydd y rhai sydd wedi cymryd eich plant a'ch perthnasau'n gaeth yn dangos trugaredd arnyn nhw. Byddan nhw'n eu hanfon yn ôl i'r wlad yma. Mae'r ARGLWYDD eich Duw mor garedig a thrugarog. Fydd e ddim yn eich gwrthod chi os trowch chi'n ôl ato fe.”
II C WelBeibl 30:10  Aeth y negeswyr i bob tref yn Effraim a Manasse, cyn belled a Sabulon. Ond roedd y bobl yn chwerthin a gwneud hwyl am eu pennau.
II C WelBeibl 30:11  Dim ond rhai pobl o Asher, Manasse a Sabulon wnaeth ufuddhau a mynd i Jerwsalem.
II C WelBeibl 30:12  Yn Jwda, roedd Duw wedi creu awydd yn y bobl i gyd i ufuddhau i'r brenin a'r swyddogion oedd wedi gwneud beth roedd yr ARGLWYDD yn ei orchymyn.
II C WelBeibl 30:13  Felly yn yr ail fis daeth tyrfa enfawr o bobl i Jerwsalem i gadw Gŵyl y Bara Croyw.
II C WelBeibl 30:14  A dyma nhw'n mynd ati i gael gwared â'r allorau oedd yn Jerwsalem, a thaflu'r holl allorau i losgi arogldarth i Ddyffryn Cidron.
II C WelBeibl 30:15  Cafodd oen y Pasg ei ladd ar y pedwerydd ar ddeg o'r ail fis. Cododd hyn gywilydd ar yr offeiriaid a'r Lefiaid, a dyma nhw'n mynd ati i gysegru eu hunain i fynd i deml yr ARGLWYDD i gyflwyno offrymau llosg.
II C WelBeibl 30:16  Dyma nhw'n sefyll yn eu lleoedd cywir, fel roedd cyfraith Moses, dyn Duw, yn dweud. Yna roedd yr offeiriaid yn derbyn gwaed yr anifeiliaid gan y Leifiaid a'i sblasio o gwmpas yr allor.
II C WelBeibl 30:17  Gan fod llawer o bobl yno oedd heb fynd drwy'r ddefod o buro'u hunain, y Lefiaid oedd yn lladd yr ŵyn dros bawb oedd yn methu cyflwyno'r offrwm eu hunain.
II C WelBeibl 30:18  Roedd y mwyafrif o bobl Effraim, Manasse, Issachar a Sabulon yn aflan, a heb fod drwy'r ddefod o buro'u hunain. Er hynny dyma nhw'n bwyta o'r Pasg yn groes i beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud. Ond dyma Heseceia'n gweddïo drostyn nhw, “Boed i'r ARGLWYDD da, faddau
II C WelBeibl 30:19  i bawb sydd wir am ddilyn eu Duw, sef yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, er nad ydyn nhw wedi cysegru eu hunain fel mae defod puro'r deml yn gofyn.”
II C WelBeibl 30:20  A dyma'r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Heseceia, a iacháu'r bobl.
II C WelBeibl 30:21  Roedd pobl Israel yn Jerwsalem yn dathlu Gŵyl y Bara Croyw yn llawen am saith diwrnod. Roedd y Lefiaid a'r offeiriaid yn moli'r ARGLWYDD bob dydd, ac yn canu ei glod yn uchel ar offerynnau cerdd.
II C WelBeibl 30:22  Roedd Heseceia'n canmol y Lefiaid am eu dawn wrth addoli'r ARGLWYDD. Aeth y gwledda ymlaen am saith diwrnod. Roedden nhw'n cyflwyno offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD ac yn cyffesu eu pechodau i'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.
II C WelBeibl 30:23  Yna dyma pawb yn cytuno i gadw'r Ŵyl am saith diwrnod arall. Felly dyma nhw'n dal ati i ddathlu'n llawen am wythnos arall.
II C WelBeibl 30:24  Roedd Heseceia wedi rhoi mil o deirw a saith mil a ddefaid a geifr i'r gynulleidfa. A dyma'r arweinwyr yn rhoi mil arall o deirw a deg mil o ddefaid a geifr iddyn nhw. A aeth llawer iawn mwy o offeiriaid drwy'r ddefod o buro'u hunain.
II C WelBeibl 30:25  Roedd pobl Jwda yno, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, yr holl bobl oedd wedi dod o Israel, a'r mewnfudwyr oedd wedi dod o Israel i fyw yn Jwda – roedd pawb yno'n dathlu gyda'i gilydd.
II C WelBeibl 30:26  Hwn oedd y dathliad mwyaf fuodd yn Jerwsalem ers pan oedd Solomon fab Dafydd yn frenin ar Israel.
II C WelBeibl 30:27  Dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn sefyll i fendithio'r bobl. Clywodd yr ARGLWYDD nhw o'i le sanctaidd yn y nefoedd.
Chapter 31
II C WelBeibl 31:1  Pan oedd yr Ŵyl drosodd, dyma'r holl bobl oedd wedi bod yn bresennol yn mynd allan i drefi Jwda, Benjamin, Effraim a Manasse a malu'r colofnau cysegredig, torri i lawr bolion y dduwies Ashera a chwalu'r allorau lleol drwy holl Jwda. Wedyn dyma nhw i gyd yn mynd adre i'w trefi eu hunain.
II C WelBeibl 31:2  Dyma Heseceia'n gosod yr offeiriaid a'r Lefiaid mewn grwpiau gwahanol i gyflawni eu dyletswyddau – sef cyflwyno'r offrymau i'w llosgi a'r offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD, ac i weini, rhoi diolch a chanu mawl wrth y giatiau i deml yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 31:3  Roedd y brenin yn rhoi cyfran o'i anifeiliaid ei hun yn offrymau i'w llosgi'n llwyr bob bore a nos, ar y Sabothau, y lleuadau newydd ac unrhyw adegau eraill wedi'u pennu yn y Gyfraith.
II C WelBeibl 31:4  Yna dyma fe'n gorchymyn i'r bobl oedd yn byw yn Jerwsalem i gyfrannu siâr yr offeiriaid a'r Lefiaid fel roedd Cyfraith yr ARGLWYDD yn dweud.
II C WelBeibl 31:5  Pan glywodd pobl Israel hyn dyma nhw'n ymateb drwy ddod â'r gyfran gyntaf o'r ŷd, sudd grawnwin, olew olewydd, mêl a phopeth arall oedd yn tyfu yn eu caeau. Daethon nhw â lot fawr o stwff – un rhan o ddeg o bopeth.
II C WelBeibl 31:6  Roedd pobl Israel a Jwda oedd yn byw yn nhrefi Jwda hefyd yn cyfrannu un o bob deg o'u teirw a'u defaid, a phopeth arall roedden nhw wedi'i osod o'r neilltu i'w roi i'r ARGLWYDD. Cafodd y cwbl ei osod yn bentyrrau.
II C WelBeibl 31:7  Dechreuodd y pentyrru yn y trydydd mis, ac roedd hi'r seithfed mis erbyn iddyn nhw orffen.
II C WelBeibl 31:8  Pan welodd Heseceia a'i swyddogion yr holl bentyrrau, dyma nhw'n bendithio'r ARGLWYDD a'i bobl Israel.
II C WelBeibl 31:9  Yna dyma Heseceia'n holi'r offeiriaid a'r Lefiaid am y pentyrrau.
II C WelBeibl 31:10  A dyma Asareia yr archoffeiriad, oedd o deulu Sadoc, yn dweud “Ers i'r bobl ddechrau dod â rhoddion i'r deml dŷn ni wedi cael digonedd i'w fwyta, ac mae lot fawr dros ben. Mae'r ARGLWYDD wedi bendithio'i bobl, ac mae yna gymaint o stwff dros ben.”
II C WelBeibl 31:11  Felly dyma Heseceia'n gorchymyn iddyn nhw baratoi stordai yn nheml yr ARGLWYDD. Dyma nhw'n gwneud felly,
II C WelBeibl 31:12  a dod â'r offrymau, y degymau, a'r pethau oedd wedi'u cysegru i'r ARGLWYDD. Un o'r Lefiaid, Conaneia, oedd yn gyfrifol am y gwaith, a'i frawd Shimei yn ddirprwy iddo.
II C WelBeibl 31:13  Yna dyma'r Brenin Heseceia ac Asareia, pennaeth y deml, yn trefnu i Iechiel, Asaseia, Nachath, Asahel, Ierimoth, Iosafad, Eliel, Ismacheia, Machat a Benaia i weithio oddi tanyn nhw.
II C WelBeibl 31:14  Core fab Imna, Lefiad oedd yn gwarchod y giât ddwyreiniol, oedd yn gyfrifol am yr offrymau gwirfoddol. Fe hefyd oedd i ddosbarthu'r rhoddion oedd wedi'u cyflwyno i'r ARGLWYDD, a'r eitemau wedi'u cysegru.
II C WelBeibl 31:15  Wedyn roedd Eden, Miniamîn, Ieshŵa, Shemaia, Amareia a Shechaneia yn ei helpu yn nhrefi'r offeiriad. Roedden nhw i fod i rannu'r rhoddion yn deg rhwng y gwahanol deuluoedd o offeiriaid, ifanc a hen fel ei gilydd.
II C WelBeibl 31:16  Roedd pob gwryw oedd dros dair oed ar y cofrestrau teuluol i dderbyn rhoddion – y rhai fyddai yn eu tro yn mynd i deml yr ARGLWYDD i gyflawni dyletswyddau'r grŵp roedden nhw'n perthyn iddi.
II C WelBeibl 31:17  Hefyd yr offeiriaid oedd wedi'u rhestru yn y cofrestrau teuluol, a'r Lefiaid oedd dros ugain oed ac wedi'u rhestru yn ôl eu dyletswyddau a'u grwpiau.
II C WelBeibl 31:18  A'r plant lleiaf hefyd, y gwragedd, a'r meibion a'r merched i gyd – pawb oedd ar y cofrestrau teuluol. Roedden nhw i gyd wedi bod yn ffyddlon a chysegru eu hunain.
II C WelBeibl 31:19  Wedyn roedd rhai wedi cael eu dewis ym mhob tref i rannu eu siâr i ddisgynyddion Aaron, sef yr offeiriad oedd yn byw yn yr ardal o gwmpas pob tref. Roedd pob gwryw o deulu offeiriadol a phob un o'r Lefiaid oedd ar y cofrestrau teuluol i gael eu siâr.
II C WelBeibl 31:20  Trefnodd y Brenin Heseceia fod hyn i ddigwydd drwy Jwda gyfan. Gwnaeth beth oedd yn dda; gwnaeth y peth iawn; ac roedd yn ffyddlon yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw.
II C WelBeibl 31:21  Aeth ati o ddifrif i ailsefydlu gwasanaeth teml Dduw ac i fod yn ufudd i'r Gyfraith a dilyn ei Dduw. Ac fe lwyddodd.
Chapter 32
II C WelBeibl 32:1  Ar ôl i Heseceia fod mor ffyddlon yn gwneud y pethau yma, dyma Senacherib, brenin Asyria yn ymosod ar Jwda. Dyma fe'n gwersylla o gwmpas y trefi amddiffynnol gyda'r bwriad o'u dal nhw.
II C WelBeibl 32:2  Pan welodd Heseceia fod Senacherib yn bwriadu ymosod ar Jerwsalem,
II C WelBeibl 32:3  dyma fe'n cyfarfod gyda'i swyddogion a'i arweinwyr milwrol a phenderfynu cau'r ffynhonnau dŵr oedd tu allan i'r ddinas.
II C WelBeibl 32:4  Daeth tyrfa o weithwyr at ei gilydd i fynd ati i gau'r ffynhonnau i gyd, a'r nant oedd yn rhedeg drwy ganol y wlad. “Pam ddylai brenhinoedd Asyria gael digon o ddŵr pan maen nhw'n dod yma?” medden nhw.
II C WelBeibl 32:5  Wedyn, dyma'r Brenin Heseceia yn cryfhau'r amddiffynfeydd drwy drwsio'r waliau oedd wedi cwympo, codi tyrau amddiffynnol, adeiladu ail wal ar yr ochr allan, a chryfhau terasau dinas Dafydd. Gorchmynnodd wneud llawer iawn mwy o arfau a tharianau hefyd.
II C WelBeibl 32:6  Yna dyma fe'n penodi swyddogion milwrol dros y fyddin a'u casglu at ei gilydd yn y sgwâr o flaen giât y ddinas. A dyma fe'n eu hannog nhw a dweud,
II C WelBeibl 32:7  “Byddwch yn gryf a dewr! Peidiwch bod ag ofn na phanicio am fod brenin Asyria a'i fyddin ar eu ffordd. Mae yna Un gyda ni sy'n gryfach na'r rhai sydd gyda fe.
II C WelBeibl 32:8  Dim ond cryfder dynol sydd ganddo fe, ond mae'r ARGLWYDD ein Duw gyda ni i'n helpu ni ac i ymladd ein brwydrau!” Roedd pawb yn teimlo'n well ar ôl clywed geiriau'r brenin.
II C WelBeibl 32:9  Pan oedd Senacherib, brenin Asyria, a'i fyddin yn ymosod ar Lachish, dyma fe'n anfon ei weision i Jerwsalem gyda neges i Heseceia brenin Jwda a phawb oedd yn byw yn y ddinas. Dyma oedd y neges:
II C WelBeibl 32:10  “Mae Senacherib brenin Asyria yn dweud, ‘Dw i wedi amgylchynu Jerwsalem. Beth sy'n eich gwneud chi mor siŵr y byddwch chi'n iawn?
II C WelBeibl 32:11  “Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ein hachub ni o afael brenin Asyria,” meddai Heseceia. Ond mae e'n eich twyllo chi. Byddwch yn marw o newyn a syched!
II C WelBeibl 32:12  Onid ydy Heseceia wedi cael gwared â'i ganolfannau addoli lleol a'i allorau e, a dweud wrth bobl Jwda mai dim ond wrth un allor maen nhw i fod i addoli?
II C WelBeibl 32:13  Ydych chi ddim yn sylweddoli beth dw i a'm hynafiaid wedi'i wneud i'r holl wledydd eraill? Wnaeth duwiau'r gwledydd hynny fy rhwystro i rhag cymryd eu tiroedd nhw?
II C WelBeibl 32:14  Pa un o dduwiau'r gwledydd gafodd eu dinistrio gan fy hynafiaid wnaeth lwyddo i achub eu pobl o'm gafael i? Beth sy'n gwneud i chi feddwl y bydd eich Duw chi yn gwneud hynny?
II C WelBeibl 32:15  Felly peidiwch gadael i Heseceia eich twyllo a'ch camarwain chi. Peidiwch â'i gredu e. Wnaeth dim un o dduwiau'r gwledydd a'r teyrnasoedd eraill achub eu pobl o'n gafael ni. Felly pa obaith sydd gan eich duwiau chi o wneud hynny?’”
II C WelBeibl 32:16  Aeth gweision Senacherib ymlaen i ddweud llawer mwy o bethau tebyg yn erbyn yr ARGLWYDD Dduw a'i was Heseceia.
II C WelBeibl 32:17  Roedd Senacherib wedi ysgrifennu pethau oedd yn gwneud hwyl am ben yr ARGLWYDD, Duw Israel, ac yn ei sarhau. “Doedd duwiau y gwledydd eraill ddim yn gallu achub eu pobl o'm gafael i. A fydd duw Heseceia ddim yn gallu achub ei bobl e chwaith.”
II C WelBeibl 32:18  Yna dyma'r negeswyr yn gweiddi'n uchel yn Hebraeg ar bobl Jerwsalem oedd ar y waliau. Y bwriad oedd eu dychryn nhw, fel bod Asyria'n gallu cymryd y ddinas.
II C WelBeibl 32:19  Roedden nhw'n siarad am Dduw Jerwsalem fel petai'n un o'r duwiau roedd pobl y gwledydd eraill wedi'u gwneud iddyn nhw'u hunain.
II C WelBeibl 32:20  Felly dyma'r Brenin Heseceia a'r proffwyd Eseia fab Amos yn gweddïo, a galw'n daer ar Dduw yn y nefoedd am y peth.
II C WelBeibl 32:21  A dyma'r ARGLWYDD yn anfon angel a lladd holl filwyr, capteniaid a swyddogion byddin Asyria. Ac roedd rhaid i Senacherib fynd yn ôl i'w wlad ei hun wedi'i gywilyddio. Aeth i mewn i deml ei dduw, a dyma rai o'i feibion ei hun yn ei daro i lawr a'i ladd gyda'r cleddyf.
II C WelBeibl 32:22  A dyna sut gwnaeth yr ARGLWYDD achub Heseceia a phobl Jerwsalem o afael Senacherib, brenin Asyria a phob gelyn arall o'u cwmpas.
II C WelBeibl 32:23  O'r adeg yna ymlaen roedd Heseceia'n cael ei barchu gan y gwledydd eraill i gyd. Roedd llawer yn dod i Jerwsalem i roi offrwm i'r ARGLWYDD ac anrhegion gwerthfawr i Heseceia, brenin Jwda.
II C WelBeibl 32:24  Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael – a bu bron iddo farw. Dyma fe'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb a rhoi arwydd iddo y byddai'n gwella.
II C WelBeibl 32:25  Ond doedd Heseceia ddim wedi gwerthfawrogi beth wnaeth yr ARGLWYDD iddo. Roedd e'n falch, ac roedd yr ARGLWYDD yn ddig gydag e, a gyda Jwda a Jerwsalem.
II C WelBeibl 32:26  Ond ar ôl hynny, roedd Heseceia'n sori am iddo fod mor falch, a phobl Jerwsalem hefyd. Felly doedd yr ARGLWYDD ddim yn ddig hefo nhw wedyn tra oedd Heseceia'n dal yn fyw.
II C WelBeibl 32:27  Roedd Heseceia'n gyfoethog iawn ac yn cael ei barchu'n fawr. Adeiladodd stordai i gadw ei holl eiddo – arian, aur, gemau gwerthfawr, perlysiau, tarianau a phob math o bethau gwerthfawr eraill.
II C WelBeibl 32:28  Adeiladodd ysguboriau i ddal y gwenith, y sudd grawnwin a'r olew; beudai i'r gwahanol anifeiliaid a chorlannau i'r defaid a'r geifr.
II C WelBeibl 32:29  Adeiladodd drefi lawer, a phrynu nifer fawr o ddefaid, geifr a gwartheg hefyd. Roedd Duw wedi'i wneud e'n hynod o gyfoethog.
II C WelBeibl 32:30  Heseceia hefyd gaeodd darddiad uchaf nant Gihon a chyfeirio'r dŵr i lawr i Ddinas Dafydd yn y gorllewin. Roedd Heseceia'n llwyddiannus beth bynnag roedd e'n wneud.
II C WelBeibl 32:31  Pan anfonodd swyddogion Babilon negeswyr ato i'w holi am yr arwydd oedd wedi digwydd yn y wlad, dyma'r ARGLWYDD yn gadael llonydd iddo, i'w brofi a gweld beth oedd ei gymhellion go iawn.
II C WelBeibl 32:32  Mae gweddill hanes Heseceia, a'r pethau da wnaeth e i'w gweld yng ngweledigaeth y proffwyd Eseia fab Amos yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
II C WelBeibl 32:33  Pan fu Heseceia farw, dyma nhw'n ei gladdu yn rhan bwysicaf y fynwent i ddisgynyddion Dafydd. Roedd pobl Jwda a Jerwsalem yno i'w anrhydeddu pan gafodd ei gladdu. A dyma Manasse, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.
Chapter 33
II C WelBeibl 33:1  Un deg dau oedd Manasse pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg pump o flynyddoedd.
II C WelBeibl 33:2  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, pethau cwbl ffiaidd, fel y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.
II C WelBeibl 33:3  Roedd wedi ailgodi'r allorau lleol gafodd eu chwalu gan ei dad, Heseceia. Cododd allorau i dduwiau Baal, a pholion i'r dduwies Ashera. Roedd yn plygu i lawr i'r sêr ac yn eu haddoli nhw.
II C WelBeibl 33:4  Dyma fe hyd yn oed yn adeiladu allorau paganaidd yn y deml – yn y lle roedd yr ARGLWYDD wedi dweud amdano, “Bydd fy enw yn Jerwsalem am byth.”
II C WelBeibl 33:5  Cododd allorau i'r sêr yn y ddwy iard yn y deml.
II C WelBeibl 33:6  Llosgodd ei fab yn aberth yn nyffryn Ben-hinnom, ac roedd yn ymarfer dewiniaeth, darogan a swynion. Roedd yn ymhél ag ysbrydion a phobl oedd yn siarad â'r meirw. Gwnaeth lawer iawn o bethau drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i bryfocio.
II C WelBeibl 33:7  Roedd hyd yn oed wedi gwneud delw o eilun-dduw a'i gosod yn y deml! – yn y lle roedd Duw wedi dweud wrth Dafydd a'i fab Solomon amdani, “Dw i wedi dewis Jerwsalem o blith llwythau Israel i gyd, a bydda i'n byw yn y deml yma am byth.
II C WelBeibl 33:8  Wna i ddim symud Israel allan o'r tir dw i wedi'i roi i'w hynafiaid, cyn belled â'u bod nhw'n gofalu gwneud beth dw i'n ei orchymyn iddyn nhw, sef cadw'r Gyfraith, y rheolau a'r canllawiau gafodd eu rhoi drwy Moses.”
II C WelBeibl 33:9  Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Ac roedd Manasse'n eu harwain nhw i wneud mwy o ddrwg na'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o flaen Israel!
II C WelBeibl 33:10  Roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio Manasse a'i bobl, ond doedden nhw'n cymryd dim sylw o gwbl.
II C WelBeibl 33:11  Felly dyma'r ARGLWYDD yn dod ag arweinwyr byddin Asyria yn ei erbyn. Dyma nhw'n dal Manasse, rhoi bachyn yn ei drwyn a'i roi mewn cadwyni pres, a mynd ag e'n gaeth i Babilon.
II C WelBeibl 33:12  Yng nghanol y creisis dyma fe'n gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, ac edifarhau go iawn o flaen Duw ei hynafiaid.
II C WelBeibl 33:13  Clywodd yr ARGLWYDD ei weddi a gwrando ar ei gais, a dod ag e'n ôl i fod yn frenin yn Jerwsalem. A dyna sut daeth Manasse i ddeall mai'r ARGLWYDD oedd Dduw.
II C WelBeibl 33:14  Wedi hyn dyma Manasse yn ailadeiladu wal allanol Dinas Dafydd, o'r gorllewin i ddyffryn Gihon at Giât y Pysgod ac yna o gwmpas y terasau. Roedd hi'n wal uchel iawn. Gosododd swyddogion milwrol yn holl drefi amddiffynnol Jwda hefyd.
II C WelBeibl 33:15  Yna dyma fe'n cael gwared â'r duwiau paganaidd a'r ddelw honno o deml yr ARGLWYDD, a'r holl allorau roedd e wedi'u hadeiladu ar fryn y deml ac yn Jerwsalem. Taflodd nhw allan o'r ddinas,
II C WelBeibl 33:16  ac yna atgyweirio allor yr ARGLWYDD a chyflwyno arni offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Yna dyma fe'n gorchymyn fod pobl Jwda i addoli'r ARGLWYDD, Duw Israel.
II C WelBeibl 33:17  Roedd y bobl yn dal i aberthu ar yr allorau lleol, ond dim ond i'r ARGLWYDD eu Duw.
II C WelBeibl 33:18  Mae gweddill hanes Manasse, gan gynnwys ei weddi ar Dduw, a beth roedd y proffwydi wedi'i ddweud wrtho ar ran yr ARGLWYDD, Duw Israel, i'w gweld yn Hanes Brenhinoedd Israel.
II C WelBeibl 33:19  Mae Negeseuon y Proffwydi hefyd yn cynnwys ei weddi a sut wnaeth Duw ymateb, cofnod o'i bechodau a'r holl bethau drwg wnaeth e, a lleoliad yr allorau lleol a pholion y dduwies Ashera a'r delwau cerrig gododd e cyn iddo gyfaddef ei fai.
II C WelBeibl 33:20  Pan fuodd Manasse farw cafodd ei gladdu yn ei balas. A dyma Amon ei fab yn dod yn frenin yn ei le.
II C WelBeibl 33:21  Roedd Amon yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddwy flynedd.
II C WelBeibl 33:22  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yr un fath â'i dad Manasse. Roedd yn aberthu i'r holl ddelwau cerrig roedd ei dad wedi'u gwneud, ac yn eu haddoli.
II C WelBeibl 33:23  A wnaeth Amon ddim troi yn ôl at yr ARGLWYDD fel ei dad. Gwnaeth fwy a mwy o bethau drwg.
II C WelBeibl 33:24  Yna dyma rai o'i swyddogion yn cynllwynio yn ei erbyn a'i ladd yn ei balas.
II C WelBeibl 33:25  Ond wedyn dyma bobl y wlad yn dienyddio pawb oedd wedi bod yn rhan o'r cynllwyn yn erbyn Amon. A dyma nhw'n gwneud Joseia, ei fab, yn frenin yn ei le.
Chapter 34
II C WelBeibl 34:1  Wyth oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri deg un o flynyddoedd.
II C WelBeibl 34:2  Roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, ac yn dilyn esiampl y Brenin Dafydd, ei hynafiad, heb grwydro oddi wrth hynny o gwbl.
II C WelBeibl 34:3  Pan oedd wedi bod yn frenin am wyth mlynedd, ac yn dal yn fachgen ifanc un deg chwech oed, dechreuodd addoli Duw fel y Brenin Dafydd. Yna pan oedd yn ugain oed aeth ati i lanhau a phuro Jwda a Jerwsalem drwy gael gwared â'r holl allorau lleol, polion y dduwies Ashera, y delwau cerrig a'r delwau o fetel tawdd.
II C WelBeibl 34:4  Gorchmynnodd fod allorau Baal i gael eu chwalu, a'r allorau arogldarth uwch eu pennau. Cafodd polion y dduwies Ashera eu torri i lawr, a'r eilunod a'r delwau o fetel eu malu. Roedden nhw'n eu malu'n llwch mân, ac yna'n taflu'r llwch ar feddau'r bobl oedd wedi bod yn aberthu arnyn nhw.
II C WelBeibl 34:5  Yna cafodd esgyrn yr offeiriaid paganaidd eu llosgi ar eu hallorau eu hunain. Ar ôl puro Jwda a Jerwsalem,
II C WelBeibl 34:6  dyma fe'n gwneud yr un fath yn y trefi ac adfeilion y pentrefi o'u cwmpas yn ardaloedd Manasse, Effraim a Simeon, a chyn belled a Nafftali.
II C WelBeibl 34:7  Chwalodd yr allorau a'r polion Ashera, malu'r delwau yn llwch mân, a dinistrio'r allorau arogldarth drwy diroedd gwlad Israel i gyd. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem.
II C WelBeibl 34:8  Pan oedd wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd roedd yn dal i buro'r wlad a'r deml. Anfonodd Shaffan fab Atsaleia, gyda Maaseia, rheolwr y ddinas a Ioach fab Ioachas y cofnodydd, i atgyweirio teml yr ARGLWYDD ei Dduw.
II C WelBeibl 34:9  Dyma nhw'n mynd at Chilceia, yr archoffeiriad, a rhoi'r arian oedd wedi'i gasglu yn y deml iddo. Roedd y Lefiaid oedd yn gwarchod y drysau wedi'i gasglu gan bobl Manasse ac Effraim, a phawb oedd ar ôl yn Israel, a hefyd pobl Jwda, Benjamin a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem.
II C WelBeibl 34:10  A dyma nhw'n ei basio ymlaen i'r rhai oedd yn goruchwylio'r gwaith ar y deml, i dalu'r gweithwyr oedd yn gwneud y gwaith atgyweirio.
II C WelBeibl 34:11  Cafodd yr arian ei roi i'r seiri coed a'r adeiladwyr i brynu cerrig wedi'u naddu, a choed ar gyfer y trawstiau a'r distiau, i atgyweirio'r adeiladau roedd brenhinoedd Jwda wedi'u hesgeuluso.
II C WelBeibl 34:12  Roedd y gweithwyr yn onest ac yn gydwybodol. Lefiaid oedd yn goruchwylio – Iachath ac Obadeia oedd yn ddisgynyddion Merari, a Sechareia a Meshwlam yn ddisgynyddion i Cohath. Roedd Lefiaid eraill oedd yn gerddorion dawnus
II C WelBeibl 34:13  yn goruchwylio'r labrwyr a'r gweithwyr eraill. Roedd rhai o'r Lefiaid yn ysgrifenyddion, neu yn swyddogion neu yn gofalu am y drysau.
II C WelBeibl 34:14  Wrth iddyn nhw ddod â'r arian oedd wedi'i roi yn y deml allan, dyma Chilceia yr offeiriad yn ffeindio sgrôl o'r Gyfraith roddodd yr ARGLWYDD i Moses.
II C WelBeibl 34:15  Felly dyma Chilceia'n dweud wrth Shaffan yr ysgrifennydd, “Dw i wedi ffeindio sgrôl o'r Gyfraith yn y deml!” A dyma fe'n rhoi'r sgrôl i Shaffan.
II C WelBeibl 34:16  Yna dyma Shaffan yn mynd â'r sgrôl a dweud wrth y brenin, “Mae dy weision wedi gwneud popeth wnest ti ddweud wrthyn nhw.
II C WelBeibl 34:17  Maen nhw wedi cyfri'r arian oedd yn y deml, ac wedi'i drosglwyddo i'r dynion sy'n goruchwylio ac i'r gweithwyr.”
II C WelBeibl 34:18  Yna aeth Shaffan yn ei flaen i ddweud wrth y brenin, “Mae Chilceia'r offeiriad wedi rhoi'r sgrôl yma i mi.” A dyma fe'n darllen ohoni i'r brenin.
II C WelBeibl 34:19  Pan glywodd y brenin eiriau'r Gyfraith, dyma fe'n rhwygo'i ddillad.
II C WelBeibl 34:20  Yna dyma fe'n galw am Chilceia, Achicam fab Shaffan, Abdon fab Micha, Shaffan yr ysgrifennydd ac Asaia ei was personol.
II C WelBeibl 34:21  A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi'r ARGLWYDD ar fy rhan i a'r bobl sydd ar ôl yn Israel a Jwda, am beth mae'r sgrôl yma'n ddweud. Mae'r ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda ni am fod ein hynafiaid heb fod yn ufudd iddo a gwneud beth mae'r sgrôl yma'n ddweud.”
II C WelBeibl 34:22  Felly dyma Chilceia a'r rhai eraill ddewisodd y brenin yn mynd at Hulda y broffwydes. Roedd hi'n wraig i Shalwm (mab Ticfa ac ŵyr Chasra) oedd yn gofalu am y gwisgoedd. Roedd hi'n byw yn Jerwsalem yn y rhan newydd o'r ddinas. A dyma nhw'n dweud yr hanes wrthi.
II C WelBeibl 34:23  Yna dyma hi'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dwedwch wrth y dyn wnaeth eich anfon chi ata i
II C WelBeibl 34:24  mod i'n mynd i ddod â dinistr ofnadwy ar y wlad yma ac ar y bobl sy'n byw yma. Bydd yn union fel mae'r melltithion yn y sgrôl sydd wedi'i darllen i frenin Jwda yn dweud.
II C WelBeibl 34:25  Dw i wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a does dim yn mynd i newid hynny. Maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a'm gwylltio i gyda'r delwau maen nhw wedi'u gwneud.’
II C WelBeibl 34:26  Ond dwedwch hefyd wrth frenin Jwda, sydd wedi'ch anfon chi i holi'r ARGLWYDD, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am beth rwyt ti wedi'i glywed:
II C WelBeibl 34:27  “Am dy fod ti wedi teimlo i'r byw ac edifarhau pan glywaist ti fy mod i wedi rhybuddio'r lle yma; am dy fod ti wedi edifarhau a rhwygo dy ddillad ac wylo o mlaen i, dw i wedi gwrando,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
II C WelBeibl 34:28  “Cei di farw a chael dy gladdu mewn heddwch. Fydd dim rhaid i ti fyw i weld y dinistr ofnadwy fydd yn dod ar y wlad yma a'i phobl.”’” A dyma'r dynion yn mynd â'r neges yn ôl i'r brenin.
II C WelBeibl 34:29  Dyma'r brenin Joseia yn galw arweinwyr Jwda i gyd at ei gilydd yn Jerwsalem.
II C WelBeibl 34:30  Yna dyma fe'n mynd i'r deml, ac roedd pobl Jwda a Jerwsalem, yr offeiriaid a'r Lefiaid gydag e. Roedd pawb yno, o'r ifancaf i'r hynaf. Yna dyma sgrôl yr ymrwymiad oedd wedi'i darganfod yn y deml yn cael ei darllen yng nghlyw pawb.
II C WelBeibl 34:31  A dyma'r brenin yn sefyll yn ei le ac addo o flaen yr ARGLWYDD, i wneud ei orau glas i ddilyn yr ARGLWYDD a chadw'i orchmynion, ei ofynion a'i reolau. Roedd yn addo cadw amodau'r ymrwymiad oedd yn y sgrôl.
II C WelBeibl 34:32  A dyma fe'n galw ar bawb yn Jerwsalem a Benjamin i wneud yr un fath. Gwnaeth pobl Jerwsalem hynny, ac adnewyddu'r ymrwymiad gyda Duw eu hynafiaid.
II C WelBeibl 34:33  Felly dyma Joseia'n cael gwared a'r holl bethau ffiaidd oedd yn Israel, ac annog pobl Israel i gyd i addoli'r ARGLWYDD eu Duw. A tra buodd e'n frenin wnaethon nhw ddim stopio addoli'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.
Chapter 35
II C WelBeibl 35:1  Dyma Joseia'n dathlu Gŵyl y Pasg i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem. Cafodd ŵyn y Pasg eu lladd ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf.
II C WelBeibl 35:2  Roedd Joseia wedi trefnu dyletswyddau yr offeiriaid, a'u hannog i wneud eu gwaith yn nheml yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 35:3  Wedyn dyma fe'n dweud wrth y Lefiaid oedd i ddysgu pobl Israel am yr offrymau a'r aberthau oedd i'w cysegru i'r ARGLWYDD, “Gosodwch yr Arch Sanctaidd yn y deml wnaeth Solomon, mab Dafydd brenin Israel, ei hadeiladu. Does dim angen i chi ei chario ar eich ysgwyddau bellach. Nawr rhowch eich hunain i wasanaethu'r ARGLWYDD eich Duw a'i bobl Israel!
II C WelBeibl 35:4  Trefnwch eich hunain yn grwpiau yn ôl eich teuluoedd fel roedd y Brenin Dafydd a Solomon ei fab wedi dweud.
II C WelBeibl 35:5  Safwch yn y deml i helpu'r bobl o'r llwyth mae eich teulu chi yn ei gynrychioli.
II C WelBeibl 35:6  Lladdwch ŵyn y Pasg, mynd drwy'r ddefod o buro eich hunain, a pharatoi popeth i'ch pobl allu gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddweud drwy Moses.”
II C WelBeibl 35:7  Roedd Joseia wedi rhoi ei anifeiliaid ei hun i'r bobl i'w cyflwyno'n offrwm – 30,000 o ŵyn a geifr ifanc, a 3,000 o deirw ifanc.
II C WelBeibl 35:8  Rhoddodd ei swyddogion hefyd anifeiliaid yn offrymau gwirfoddol i'r bobl, yr offeiriaid a'r Lefiaid. Rhoddodd Chilceia, Sechareia a Iechiel, prif swyddogion teml Dduw 2,600 o ŵyn a geifr ifanc a 300 o wartheg.
II C WelBeibl 35:9  Rhoddodd Conaneia a'i frodyr Shemaia a Nethanel, a Chashafeia, Jeiel a Iosafad, arweinwyr y Lefiaid 5,000 o ŵyn a geifr ifanc ar gyfer aberth y Pasg a 500 o wartheg.
II C WelBeibl 35:10  Pan oedd popeth yn barod, dyma'r offeiriaid yn sefyll yn eu lle, a'r Lefiaid yn eu grwpiau, fel roedd y brenin wedi gorchymyn.
II C WelBeibl 35:11  Yna dyma nhw'n lladd ŵyn y Pasg, a dyma'r offeiriaid yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor tra oedd y Lefiaid yn blingo'r anifeiliaid.
II C WelBeibl 35:12  Roedden nhw'n rhoi'r offrymau oedd i'w llosgi'n llwyr ar un ochr a'u rhannu i'r bobl yn eu grwpiau teuluol er mwyn i'r rheiny eu cyflwyno i'r ARGLWYDD fel mae'n dweud yn Sgrôl Moses. (Roedden nhw'n gwneud yr un peth gyda'r gwartheg hefyd.)
II C WelBeibl 35:13  Wedyn roedden nhw'n rhostio ŵyn y Pasg ar dân agored yn ôl y ddefod, a berwi'r offrymau sanctaidd mewn crochanau, pedyll a dysglau cyn eu rhannu'n gyflym i'r bobl.
II C WelBeibl 35:14  Wedyn roedd rhaid i'r Lefiaid baratoi ar gyfer eu hunain a'r offeiriaid. Roedd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn dal i losgi'r offrymau a'r braster pan oedd hi'n dechrau nosi. Roedd y Lefiaid yn paratoi ar eu cyfer eu hunain a'r offeiriaid, sef disgynyddion Aaron.
II C WelBeibl 35:15  Roedd disgynyddion Asaff, sef y cantorion, yn aros yn eu lle fel roedd Dafydd, Asaff, Heman a Iedwthwn (proffwyd y brenin) wedi dweud. Ac roedd y rhai oedd yn gofalu am y giatiau yn aros lle roedden nhw. Doedd dim rhaid iddyn nhw adael eu lleoedd am fod y Lefiaid eraill yn paratoi eu hoffrymau nhw.
II C WelBeibl 35:16  Felly cafodd y paratoadau ar gyfer dathlu Pasg yr ARGLWYDD eu gwneud i gyd y diwrnod hwnnw. Cafodd yr offrymau oedd i'w llosgi'n llwyr eu cyflwyno i gyd ar allor yr ARGLWYDD fel roedd y Brenin Joseia wedi gorchymyn.
II C WelBeibl 35:17  Felly dyma holl bobl Israel oedd yn bresennol yn cadw'r Pasg yr adeg honno, a Gŵyl y Bara Croyw am saith diwrnod.
II C WelBeibl 35:18  Doedd Pasg tebyg ddim wedi'i gadw yn Israel ers cyfnod y proffwyd Samuel. Doedd dim un o frenhinoedd Israel wedi cynnal Pasg tebyg i'r un yma. Roedd y Brenin Joseia, yr offeiriaid a'r Lefiaid, pobl Jwda ac Israel i gyd yno, heb sôn am bawb oedd yn byw yn Jerwsalem.
II C WelBeibl 35:19  Roedd Joseia wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd pan gynhaliwyd y Pasg yma.
II C WelBeibl 35:20  Ar ôl i Joseia gael trefn ar bopeth yn y deml, dyma Necho, brenin yr Aifft, yn dod i frwydro yn Carcemish ar lan afon Ewffrates. Aeth Joseia a'i fyddin allan i ymladd yn ei erbyn.
II C WelBeibl 35:21  Ond dyma Necho yn anfon negeswyr ato, “Beth sydd gan hyn i'w wneud â ti, frenin Jwda? Dw i ddim yn ymosod arnat ti; teyrnas arall dw i'n ei rhyfela. Mae Duw gyda mi, ac wedi dweud wrtho i am frysio, felly stopia ymyrryd rhag i mi dy ddinistrio di.”
II C WelBeibl 35:22  Ond wnaeth Joseia ddim troi yn ôl. Dyma fe'n newid ei ddillad i geisio cuddio pwy oedd e. Wnaeth e ddim gwrando ar Necho, er mai Duw oedd wedi rhoi'r neges iddo. Felly aeth allan i ryfela yn ei erbyn ar wastatir Megido.
II C WelBeibl 35:23  Cafodd y Brenin Joseia ei saethu gan fwasaethwyr. A dyma fe'n dweud wrth ei weision, “Ewch â fi o'ma. Dw i wedi cael fy anafu'n ddrwg!”
II C WelBeibl 35:24  Felly dyma'i weision yn ei symud o'i gerbyd i gerbyd arall, a mynd ag e yn ôl i Jerwsalem. Ond bu farw, a chafodd ei gladdu ym mynwent ei hynafiaid. Roedd pobl Jwda a Jerwsalem i gyd yn galaru ar ei ôl.
II C WelBeibl 35:25  Ysgrifennodd Jeremeia gerddi i alaru ar ôl Joseia, ac mae cantorion yn dal i'w canu hyd heddiw. Mae'n draddodiad yn Israel i'w canu nhw. Maen nhw wedi'u cadw yn Llyfr y Galarnadau.
II C WelBeibl 35:26  Mae gweddill hanes Joseia, ei ymrwymiad i gadw beth mae Cyfraith yr ARGLWYDD yn ei ddweud,
II C WelBeibl 35:27  a phopeth arall wnaeth e o'r dechrau i'r diwedd, i'w gweld yn y sgrôl Brenhinoedd Jwda ac Israel.
Chapter 36
II C WelBeibl 36:1  Dyma bobl y wlad yn cymryd Jehoachas, mab Joseia, a'i wneud yn frenin yn Jerwsalem yn lle ei dad.
II C WelBeibl 36:2  Roedd e'n ddau ddeg tri pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis.
II C WelBeibl 36:3  Dyma, Necho, brenin yr Aifft yn ei gymryd o Jerwsalem a rhoi treth ar y wlad o dair mil cilogram o arian a tri deg cilogram o aur.
II C WelBeibl 36:4  Wedyn dyma fe'n gwneud Eliacim, brawd Jehoachas, yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, a newid ei enw i Jehoiacim. Yna cymryd Jehoachas, brawd y brenin, i lawr i'r Aifft.
II C WelBeibl 36:5  Roedd Jehoiacim yn ddau ddeg pump oed pan gafodd ei wneud yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw.
II C WelBeibl 36:6  Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ymosod ar y wlad. Dyma fe'n ei roi mewn cadwyni pres a mynd ag e'n gaeth i Babilon.
II C WelBeibl 36:7  Cymerodd Nebwchadnesar rai o lestri teml yr ARGLWYDD a mynd â nhw i Babilon a'u gosod yn ei balas ei hun.
II C WelBeibl 36:8  Mae gweddill hanes Jehoiacim, a'r pethau ffiaidd wnaeth e, a'r cyhuddiadau yn ei erbyn, i'w gweld yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel a Jwda. A daeth ei fab, Jehoiachin, yn frenin yn ei le.
II C WelBeibl 36:9  Un deg wyth oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis a deg diwrnod. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
II C WelBeibl 36:10  Yn y gwanwyn dyma Nebwchadnesar yn anfon rhai i'w gymryd e i Babilon, a llestri gwerthfawr o deml yr ARGLWYDD hefyd. A dyma frenin Babilon yn gwneud perthynas iddo, Sedeceia, yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.
II C WelBeibl 36:11  Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi'n frenin. Bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd.
II C WelBeibl 36:12  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw, a gwrthododd wrando ar y proffwyd Jeremeia oedd yn rhoi neges Duw iddo.
II C WelBeibl 36:13  Dyma fe'n gwrthryfela yn erbyn y Brenin Nebwchadnesar, er fod hwnnw wedi gwneud iddo addo o flaen Duw y byddai'n deyrngar iddo. Trodd yn ystyfnig a phenstiff a gwrthod troi yn ôl at yr ARGLWYDD, Duw Israel.
II C WelBeibl 36:14  Roedd arweinwyr yr offeiriaid a'r bobl hefyd yn anffyddlon, ac yn gwneud yr un math o bethau ffiaidd a'r gwledydd paganaidd. Dyma nhw'n llygru'r deml oedd wedi'i chysegru i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem.
II C WelBeibl 36:15  Anfonodd yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, broffwydi i'w rhybuddio nhw dro ar ôl tro, am ei fod yn Dduw oedd yn tosturio wrth ei bobl a'i deml.
II C WelBeibl 36:16  Ond roedden nhw'n gwneud hwyl am ben negeswyr Duw, yn cymryd eu geiriau'n ysgafn a dirmygu ei broffwydi. Yn y diwedd roedd yr ARGLWYDD mor ddig gyda nhw doedd dim byd allai neb ei wneud i atal y farn.
II C WelBeibl 36:17  Anfonodd Duw frenin Babilon yn eu herbyn. Dyma hwnnw'n lladd y dynion ifainc â'r cleddyf yn y deml. Gafodd neb eu harbed – y dynion a'r merched ifainc, na'r hen a'r oedrannus. Gadawodd yr ARGLWYDD iddo'u lladd nhw i gyd.
II C WelBeibl 36:18  Cymerodd bopeth o deml Dduw, bach a mawr, popeth oedd yn stordai'r deml, a trysorau'r brenin a'i swyddogion, a mynd â'r cwbl i Babilon.
II C WelBeibl 36:19  Wedyn, dyma'r fyddin yn llosgi teml Dduw a bwrw waliau Jerwsalem i lawr. Dyma nhw'n llosgi'r palasau brenhinol a dinistrio popeth gwerthfawr oedd yno.
II C WelBeibl 36:20  A dyma fe'n mynd â phawb oedd heb gael eu lladd yn gaethion i Babilon. Yno buon nhw'n gaethweision i'r brenin a'i feibion nes i'r Persiaid deyrnasu.
II C WelBeibl 36:21  Felly daeth beth ddwedodd yr ARGLWYDD drwy Jeremeia yn wir. Cafodd y tir ei Sabothau, arhosodd heb ei drin am saith deg mlynedd.
II C WelBeibl 36:22  Lai na blwyddyn ar ôl i Cyrus ddod yn frenin Persia, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud beth wnaeth e addo drwy Jeremeia. Dyma fe'n ysgogi Cyrus i anfon datganiad allan drwy'r deyrnas i gyd. Dyma'r datganiad:
II C WelBeibl 36:23  “Dyma mae Cyrus, brenin Persia yn ei ddweud. ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, wedi rhoi teyrnasoedd y byd i gyd i mi. Ac mae e wedi gorchymyn i mi adeiladu teml iddo yn Jerwsalem yn Jwda. Pwy ohonoch chi sy'n perthyn i'w bobl? Boed i'r ARGLWYDD eich Duw fynd gyda chi yn ôl i Jerwsalem!’”