Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II SAMUEL
Up
Toggle notes
Chapter 1
II S WelBeibl 1:1  Roedd Saul wedi marw, a Dafydd wedi mynd yn ôl i Siclag ar ôl gorchfygu'r Amaleciaid. Roedd wedi bod yno am ddeuddydd
II S WelBeibl 1:2  pan ddaeth dyn ato y diwrnod wedyn o wersyll Saul. Roedd y dyn wedi rhwygo'i ddillad a rhoi pridd ar ei ben. Dyma fe'n dod at Dafydd a mynd ar ei liniau ac ymgrymu o'i flaen.
II S WelBeibl 1:3  “O ble wyt ti wedi dod?” gofynnodd Dafydd. A dyma fe'n ateb, “Wedi dianc o wersyll Israel ydw i.”
II S WelBeibl 1:4  “Dwed wrtho i, beth sydd wedi digwydd?” holodd Dafydd. A dyma'r dyn yn dweud, “Roedd rhaid i filwyr Israel ffoi, a chafodd llawer ohonyn nhw eu hanafu a'u lladd. Mae Saul a'i fab Jonathan wedi'u lladd hefyd!”
II S WelBeibl 1:5  A dyma Dafydd yn gofyn iddo, “Sut wyt ti'n gwybod fod Saul a Jonathan wedi marw?”
II S WelBeibl 1:6  A dyma fe'n ateb, “Rôn i ar Fynydd Gilboa, a dyma fi'n digwydd dod ar draws Saul yn pwyso ar ei waywffon. Roedd cerbydau rhyfel a marchogion y gelyn yn dod yn agos ato.
II S WelBeibl 1:7  Trodd rownd, a dyma fe'n fy ngweld i a galw arna i. ‘Dyma fi,’ meddwn i.
II S WelBeibl 1:8  ‘Pwy wyt ti?’ gofynnodd. A dyma fi'n ateb, ‘Amaleciad ydw i.’
II S WelBeibl 1:9  A dyma fe'n crefu arna i, ‘Tyrd yma a'm lladd i. Dw i'n wan ofnadwy, a prin yn dal yn fyw.’
II S WelBeibl 1:10  Felly dyma fi'n mynd draw ato a'i ladd, achos roeddwn i'n gweld ei fod wedi'i anafu'n ddrwg, ac ar fin marw. Yna dyma fi'n cymryd ei goron a'i freichled, a dod â nhw yma i ti syr.”
II S WelBeibl 1:11  Dyma Dafydd yn rhwygo'i ddillad; a gwnaeth y dynion oedd gydag e yr un fath.
II S WelBeibl 1:12  Buon nhw'n galaru, yn wylo ac ymprydio drwy'r dydd dros Saul a'i fab Jonathan, a dros fyddin yr ARGLWYDD, pobl Israel oedd wedi cael eu lladd yn y frwydr.
II S WelBeibl 1:13  Gofynnodd Dafydd i'r dyn ifanc oedd wedi dod â'r neges iddo, “Un o ble wyt ti?” “Mab i Amaleciad wnaeth symud yma i fyw ydw i,” atebodd y dyn.
II S WelBeibl 1:14  “Sut bod gen ti ddim ofn lladd y dyn roedd yr ARGLWYDD wedi'i eneinio'n frenin?” meddai Dafydd.
II S WelBeibl 1:15  Yna galwodd un o'i filwyr draw, a dweud wrtho, “Tyrd yma. Lladd e!” A dyma'r milwr yn ei ladd yn y fan a'r lle.
II S WelBeibl 1:16  Roedd Dafydd wedi dweud wrtho, “Arnat ti mae'r bai dy fod ti'n mynd i farw. Ti wedi tystio yn dy erbyn dy hun drwy ddweud mai ti laddodd yr un roedd yr ARGLWYDD wedi'i eneinio'n frenin.”
II S WelBeibl 1:17  Dyma Dafydd yn cyfansoddi'r gân yma i alaru am Saul a'i fab Jonathan.
II S WelBeibl 1:18  (Dwedodd fod pobl Jwda i'w dysgu hi – Cân y Bwa. Mae hi i'w chael yn Sgrôl Iashar):
II S WelBeibl 1:19  Mae ysblander Israel yn gorwedd yn farw ar ei bryniau. O, mae'r arwyr dewr wedi syrthio!
II S WelBeibl 1:20  Peidiwch dweud am y peth yn Gath, peidiwch sôn am hyn ar strydoedd Ashcelon – rhag i ferched y Philistiaid orfoleddu, a merched y paganiaid ddathlu.
II S WelBeibl 1:21  Boed dim mwy o wlith a glaw ar fynyddoedd Gilboa! Dim mwy o gnydau'n tyfu yno! Dyna lle cafodd tarianau'r arwyr eu baeddu; mae tarian Saul yn dirywio, heb ei rhwbio ag olew.
II S WelBeibl 1:22  Roedd bwa saeth Jonathan bob amser yn tynnu gwaed ac yn taro cnawd milwyr y gelyn. Doedd cleddyf Saul byth yn dod yn ôl yn lân.
II S WelBeibl 1:23  Saul a Jonathan – mor annwyl, mor boblogaidd! Gyda'i gilydd wrth fyw ac wrth farw! Yn gyflymach nag eryrod, yn gryfach na llewod.
II S WelBeibl 1:24  Ferched Israel, wylwch am Saul. Fe oedd yn rhoi dillad drud i chi a thlysau aur i'w haddurno.
II S WelBeibl 1:25  Mae'r arwyr dewr wedi syrthio'n y frwydr. Mae Jonathan yn gorwedd yn farw ar y bryniau.
II S WelBeibl 1:26  Dw i'n galaru ar dy ôl di Jonathan, fy mrawd. Roeddet ti mor annwyl i mi. Roedd dy gariad di ata i mor sbesial, roedd yn well na chariad merched.
II S WelBeibl 1:27  O, mae'r arwyr dewr wedi syrthio; mae'r arfau rhyfel wedi mynd!
Chapter 2
II S WelBeibl 2:1  Beth amser wedyn, dyma Dafydd yn gweddïo ar yr ARGLWYDD a gofyn, “Ddylwn i symud i fyw i un o drefi Jwda?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ie, dos!”. “I ba un?” meddai Dafydd. “I Hebron,” oedd yr ateb.
II S WelBeibl 2:2  Felly aeth Dafydd yno, gyda'i ddwy wraig, Achinoam o Jesreel ac Abigail, gweddw Nabal o Carmel.
II S WelBeibl 2:3  A dyma'r dynion oedd wedi bod gydag e, a'u teuluoedd, yn mynd gyda Dafydd i fyw yn y trefi yn ardal Hebron.
II S WelBeibl 2:4  Yna dyma ddynion Jwda yn dod ac eneinio Dafydd yn frenin ar bobl Jwda. Clywodd Dafydd mai pobl Jabesh yn Gilead oedd wedi claddu Saul.
II S WelBeibl 2:5  Felly dyma fe'n anfon neges atyn nhw, “Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi am fod mor deyrngar i'ch meistr Saul, a'i gladdu.
II S WelBeibl 2:6  Boed i'r ARGLWYDD fod yn garedig a ffyddlon i chi. Dw i hefyd yn mynd i'ch gwobrwyo chi am wneud hyn.
II S WelBeibl 2:7  Peidiwch bod ag ofn. Byddwch yn ddewr! Er bod eich meistr, Saul, wedi marw, mae pobl Jwda wedi fy eneinio i yn frenin arnyn nhw.”
II S WelBeibl 2:8  Yn y cyfamser, roedd Abner fab Ner, un o gapteiniaid byddin Saul, wedi cymryd Ish-bosheth, mab Saul, a mynd ag e drosodd i Machanaîm.
II S WelBeibl 2:9  Yno roedd wedi'i wneud e'n frenin ar Israel gyfan – gan gynnwys ardal Gilead, pobl Asher, Jesreel, Effraim a Benjamin.
II S WelBeibl 2:10  Roedd Ish-bosheth, mab Saul, yn bedwar deg oed pan ddaeth yn frenin ar Israel. Bu'n frenin arnyn nhw am ddwy flynedd. Ond roedd pobl Jwda yn dilyn Dafydd.
II S WelBeibl 2:11  Bu Dafydd yn frenin yn Hebron am saith mlynedd a hanner.
II S WelBeibl 2:12  Yna dyma Abner fab Ner a swyddogion milwrol Ish-bosheth, mab Saul, yn mynd o Machanaîm i Gibeon.
II S WelBeibl 2:13  A dyma Joab, mab Serwia, a swyddogion milwrol Dafydd yn mynd allan i'w cyfarfod nhw. Dyma'r ddau grŵp yn aros, un bob ochr i'r pwll yn Gibeon.
II S WelBeibl 2:14  Dyma Abner yn gweiddi draw at Joab, “Gad i rai o'r milwyr ifanc ymladd yn erbyn ei gilydd o'n blaenau ni.” A dyma Joab yn cytuno.
II S WelBeibl 2:15  Felly dyma nhw'n cyfri un deg dau o lwyth Benjamin ar ochr Ish-bosheth, ac un deg dau o swyddogion Dafydd.
II S WelBeibl 2:16  Wrth reslo gyda'i gilydd dyma pob un yn gwthio'i gleddyf i ochr ei wrthwynebydd, a dyma nhw i gyd yn syrthio'n farw. (Dyna pam maen nhw'n galw'r lle hwnnw yn Gibeon yn ‛Faes y Llafnau‛.)
II S WelBeibl 2:17  Roedd yr ymladd yn galed y diwrnod hwnnw, a chafodd Abner a byddin Israel eu trechu gan filwyr Dafydd.
II S WelBeibl 2:18  Roedd tri mab Serwia yno, sef Joab, Abishai ac Asahel. Roedd Asahel yn gallu rhedeg mor gyflym â gasél,
II S WelBeibl 2:19  a dyma fe'n mynd ar ôl Abner. Roedd yn gwbl benderfynol o'i ddal.
II S WelBeibl 2:20  Dyma Abner yn troi i edrych yn ôl a galw arno, “Ai ti ydy e Asahel?” “Ie, fi!” meddai Asahel.
II S WelBeibl 2:21  “Dos ar ôl rhywun arall. Dal un o'r milwyr ifanc a chymryd ei arfau e,” meddai Abner wrtho. Ond doedd Asahel ddim yn fodlon rhoi'r gorau iddi.
II S WelBeibl 2:22  Galwodd Abner arno eto, “Tro yn ôl! Does gen i ddim eisiau dy ladd di. Sut allwn i wynebu Joab dy frawd?”
II S WelBeibl 2:23  Ond roedd Asahel yn gwrthod stopio. Felly dyma Abner yn ei daro yn ei fol â bôn ei waywffon, nes iddi ddod allan drwy'i gefn. Syrthiodd Asahel yn farw yn y fan a'r lle. Roedd pawb aeth heibio lle roedd Asahel wedi marw yn sefyll yn syn.
II S WelBeibl 2:24  Yna dyma Joab ac Abishai yn mynd ar ôl Abner. Erbyn iddi nosi roedden nhw wedi cyrraedd bryn Amma sydd gyferbyn â Giach, i gyfeiriad anialwch Gibeon.
II S WelBeibl 2:25  Roedd dynion Benjamin wedi casglu at ei gilydd yno ac yn sefyll gydag Abner yn un grŵp ar ben y bryn.
II S WelBeibl 2:26  A dyma Abner yn gweiddi ar Joab, “Ydyn ni'n mynd i ddal ati i ladd ein gilydd am byth? Os daliwn ni ati bydd pethau yn ofnadwy o chwerw yn y diwedd. Dwed wrth dy ddynion am stopio mynd ar ôl eu brodyr!”
II S WelBeibl 2:27  Dyma Joab yn ei ateb, “Petaet ti heb ddweud hyn, mor sicr â bod Duw yn fyw, byddai'r dynion wedi dal ati i fynd ar eich ôl chi drwy'r nos!”
II S WelBeibl 2:28  Yna dyma Joab yn chwythu'r corn hwrdd, a dyma nhw'n stopio mynd ar ôl Israel, a rhoi'r gorau i'r ymladd.
II S WelBeibl 2:29  Y noson honno dyma Abner a'i ddynion yn croesi Dyffryn Iorddonen, a martsio yn eu blaenau drwy'r bore wedyn nes cyrraedd yn ôl i Machanaîm.
II S WelBeibl 2:30  Roedd Joab wedi stopio mynd ar ôl Abner, a dyma fe'n galw'i filwyr at ei gilydd. Dim ond un deg naw o ddynion Dafydd oedd wedi'u colli, ar wahân i Asahel.
II S WelBeibl 2:31  Ond roedd milwyr Dafydd wedi rhoi crasfa go iawn i ddynion Benjamin, sef byddin Abner – roedd tri chant chwe deg ohonyn nhw wedi'u lladd.
II S WelBeibl 2:32  Dyma Joab a'i filwyr yn cymryd corff Asahel a'i gladdu ym medd ei dad yn Bethlehem. Wedyn, dyma nhw'n teithio drwy'r nos a chyrraedd yn ôl i Hebron wrth iddi wawrio.
Chapter 3
II S WelBeibl 3:1  Aeth y rhyfel rhwng pobl Saul a phobl Dafydd ymlaen am amser hir. Roedd ochr Dafydd yn mynd yn gryfach ac yn gryfach, a dilynwyr Saul yn mynd yn wannach.
II S WelBeibl 3:2  Cafodd Dafydd nifer o feibion pan oedd yn byw yn Hebron. Amnon oedd yr hynaf, plentyn Achinoam o Jesreel.
II S WelBeibl 3:3  Yr ail oedd Cileab, plentyn Abigail o Carmel, gweddw Nabal. Y trydydd oedd Absalom, mab Maacha oedd yn ferch i Talmai, brenin Geshwr.
II S WelBeibl 3:4  Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith. Y pumed oedd Sheffateia mab Abital.
II S WelBeibl 3:5  Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall i Dafydd. Cafodd y bechgyn yma i gyd eu geni pan oedd Dafydd yn byw yn Hebron.
II S WelBeibl 3:6  Wrth i'r rhyfel fynd yn ei flaen rhwng pobl Saul a phobl Dafydd, roedd Abner yn ennill mwy a mwy o ddylanwad iddo'i hun ar ochr Saul.
II S WelBeibl 3:7  Pan oedd Saul yn fyw roedd ganddo bartner o'r enw Ritspa, merch Aia. A dyma Ish-bosheth, mab Saul, yn cyhuddo Abner a gofyn iddo, “Pam wnest ti gysgu gyda phartner fy nhad?”
II S WelBeibl 3:8  Gwylltiodd Abner pan ddwedodd hynny, ac meddai, “Ai rhyw gi o Jwda ydw i? Hyd yn hyn dw i wedi aros yn ffyddlon i deulu Saul dy dad, a'i frodyr a'i ffrindiau; a wnes i ddim dy fradychu di i ochr Dafydd. A beth wyt ti'n wneud? – fy nghyhuddo i o bechu gyda'r wraig yna!
II S WelBeibl 3:9  Boed i Dduw ddial arna i os na wna i dros Dafydd yr union beth mae'r ARGLWYDD wedi'i addo iddo.
II S WelBeibl 3:10  Bydd y frenhiniaeth yn cael ei chymryd oddi ar deulu Saul. Bydda i'n helpu i wneud Dafydd yn frenin ar Israel a Jwda, yr holl ffordd o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de.”
II S WelBeibl 3:11  Wnaeth Ish-bosheth ddim ei ateb yn ôl o gwbl, am fod ganddo ofn Abner.
II S WelBeibl 3:12  Yna dyma Abner yn anfon neges at Dafydd. “Pwy sy'n rheoli'r wlad yma go iawn? Gwna di gytundeb gyda mi, a gwna i helpu i droi Israel gyfan atat ti.”
II S WelBeibl 3:13  Atebodd Dafydd, “Iawn, ond ar un amod. Tyrd â Michal merch Saul gyda ti. Cei ddod ata i wedyn.”
II S WelBeibl 3:14  Anfonodd Dafydd neges at Ish-bosheth, mab Saul. “Rho fy ngwraig Michal yn ôl i mi. Gwnes i gasglu blaengrwyn cant o Philistiaid i'w chael hi.”
II S WelBeibl 3:15  Felly dyma Ish-bosheth yn gyrru dynion i'w chymryd hi oddi ar ei gŵr, Paltiel fab Laish.
II S WelBeibl 3:16  A dyma'i gŵr yn ei dilyn hi yn wylo yr holl ffordd i Bachwrîm. Ond wedi i Abner ddweud wrtho am fynd adre, dyma fe'n troi'n ôl.
II S WelBeibl 3:17  Yn y cyfamser, roedd Abner wedi cael gair gydag arweinwyr Israel. “Ers amser nawr, dych chi wedi bod eisiau cael Dafydd yn frenin.
II S WelBeibl 3:18  Wel, gwnewch hynny! Mae'r ARGLWYDD wedi dweud amdano, ‘Dw i'n mynd i ddefnyddio Dafydd i achub pobl Israel oddi wrth y Philistiaid ac oddi wrth eu gelynion i gyd.’”
II S WelBeibl 3:19  Yna aeth i gael gair gyda phobl Benjamin. Yna dyma Abner yn mynd i Hebron i ddweud wrth Dafydd beth oedd Israel a llwyth Benjamin wedi'i gytuno.
II S WelBeibl 3:20  Aeth â dau ddeg o ddynion gydag e, a dyma Dafydd yn cynnal gwledd iddyn nhw.
II S WelBeibl 3:21  Dwedodd Abner wrth Dafydd, “Gad i mi fynd i gasglu Israel gyfan at fy meistr y brenin. Cân nhw wneud cytundeb gyda ti. Wedyn byddi'n frenin ar y cwbl roeddet ti wedi gobeithio amdano.” A dyma Dafydd yn gadael i Abner fynd yn heddychlon.
II S WelBeibl 3:22  Yna dyma Joab a rhai o ddynion Dafydd yn cyrraedd yn ôl. Roedden nhw wedi bod ar gyrch ac wedi dod â llawer o bethau yn ôl gyda nhw. (Doedd Abner ddim yn Hebron erbyn hynny, am fod Dafydd wedi gadael iddo fynd yn heddychlon.)
II S WelBeibl 3:23  Pan ddaeth Joab a'i filwyr yn ôl, clywodd fod Abner fab Ner wedi bod gyda'r brenin, a'i fod wedi gadael iddo fynd yn heddychlon.
II S WelBeibl 3:24  Aeth Joab at y brenin a dweud, “Beth wyt ti'n wneud? Mae Abner wedi bod yma gyda ti, a ti wedi gadael iddo fynd!
II S WelBeibl 3:25  Ti'n gwybod sut un ydy Abner. Dod i ysbïo arnat ti oedd e! Ffeindio allan beth ydy dy symudiadau di, a beth wyt ti'n ei wneud!”
II S WelBeibl 3:26  Ar ôl gadael Dafydd dyma Joab yn anfon dynion gyda neges i alw Abner yn ôl, a daeth yn ôl gyda nhw o ffynnon Sira. (Doedd Dafydd yn gwybod dim am y peth.)
II S WelBeibl 3:27  Wrth i Abner gyrraedd Hebron dyma Joab yn mynd ag e o'r neilltu wrth y giât, fel petai am gael gair cyfrinachol gydag e. Ond yna dyma fe'n trywanu Abner yn ei fol gyda dagr, a'i ladd. Gwnaeth hyn i ddial arno am ladd ei frawd Asahel.
II S WelBeibl 3:28  Dim ond wedyn y clywodd Dafydd beth oedd wedi digwydd. “Dw i a'm pobl yn ddieuog o flaen yr ARGLWYDD am ladd Abner fab Ner,” meddai.
II S WelBeibl 3:29  “Ar Joab mae'r bai. Caiff e a'i deulu dalu'r pris! Bydd rhywun o deulu Joab bob amser yn diodde o glefyd heintus ar ei bidyn, neu wahanglwyf, yn cerdded gyda baglau, wedi'i daro gan gleddyf, neu heb ddigon o fwyd!”
II S WelBeibl 3:30  (Felly, roedd Joab a'i frawd Abishai wedi llofruddio Abner am ei fod e wedi lladd eu brawd Asahel yn y frwydr yn Gibeon.)
II S WelBeibl 3:31  Dyma Dafydd yn dweud wrth Joab a phawb oedd gydag e, “Rhwygwch eich dillad, gwisgwch sachliain, a galaru o flaen corff Abner.” Cerddodd y Brenin Dafydd ei hun tu ôl i'r arch,
II S WelBeibl 3:32  a dyma nhw'n claddu Abner yn Hebron. Roedd y brenin yn crio'n uchel wrth fedd Abner, ac roedd pawb arall yn crio hefyd.
II S WelBeibl 3:33  Yna dyma'r brenin yn canu cân i alaru am Abner: “Oedd rhaid i Abner farw fel ffŵl?
II S WelBeibl 3:34  Doeddet ddim wedi dy glymu; doedd dy draed ddim mewn cyffion; Ond syrthiaist fel dyn wedi'i ladd gan rai drwg.” A dyma pawb yn wylo drosto eto.
II S WelBeibl 3:35  Roedd ei ddynion yn ceisio perswadio Dafydd i fwyta rhywbeth cyn iddi nosi. Ond roedd Dafydd wedi addo ar lw, “Boed i Dduw ddial arna i os gwna i fwyta darn o fara neu unrhyw beth arall cyn i'r haul fachlud!”
II S WelBeibl 3:36  Roedd hynny wedi plesio pobl yn fawr. Yn wir roedd popeth roedd y brenin yn ei wneud yn eu plesio nhw.
II S WelBeibl 3:37  Roedd pawb, gan gynnwys pobl Israel, yn gweld fod gan y brenin ddim byd i'w wneud â llofruddio Abner fab Ner.
II S WelBeibl 3:38  Dwedodd y brenin wrth ei swyddogion, “Ydych chi'n sylweddoli fod arweinydd milwrol mawr wedi marw yn Israel heddiw?
II S WelBeibl 3:39  Er fy mod i wedi cael fy ngwneud yn frenin, dw i wedi bod yn ddi-asgwrn-cefn heddiw. Mae'r dynion yma, meibion Serwia, yn rhy wyllt i mi ddelio hefo nhw. Boed i'r ARGLWYDD dalu yn ôl i'r un sydd wedi gwneud y drwg yma!”
Chapter 4
II S WelBeibl 4:1  Pan glywodd Ish-bosheth, mab Saul, fod Abner wedi'i ladd yn Hebron roedd wedi anobeithio'n llwyr, ac roedd Israel gyfan wedi dychryn.
II S WelBeibl 4:2  Roedd gan Ish-bosheth ddau ddyn yn gapteiniaid yn ei fyddin, Baana a Rechab. Roedden nhw'n feibion i Rimmon o Beëroth ac yn perthyn i lwyth Benjamin. (Roedd Beëroth yn cael ei gyfri fel rhan o Benjamin.
II S WelBeibl 4:3  Roedd pobl wreiddiol Beëroth wedi ffoi i Gittaïm, ac maen nhw'n dal i fyw yno hyd heddiw fel mewnfudwyr.)
II S WelBeibl 4:4  Roedd gan Jonathan, mab Saul, fab o'r enw Meffibosheth oedd yn gloff. Roedd e'n bump oed pan ddaeth y newydd o Jesreel fod Saul a Jonathan wedi'u lladd. Dyma'i nyrs yn gafael ynddo i ffoi, ond wrth iddi ruthro dyma fe'n cwympo, a dyna pryd aeth e'n gloff.
II S WelBeibl 4:5  Aeth Rechab a Baana, meibion Rimmon o Beëroth, i dŷ Ish-bosheth. Roedd hi'n ganol dydd a'r haul ar ei boethaf, ac roedd Ish-bosheth yn gorffwys.
II S WelBeibl 4:6  Aethon nhw i mewn i'w dŷ gan esgus eu bod yn nôl gwenith, ond dyma nhw'n ei drywanu yn ei fol. Wedyn dyma'r ddau yn dianc.
II S WelBeibl 4:7  Roedden nhw wedi mynd i'r tŷ tra oedd Ish-bosheth yn ei ystafell yn gorffwys ar ei wely. Ar ôl ei drywanu a'i ladd, dyma nhw'n torri ei ben i ffwrdd. Yna cymryd y pen, a theithio drwy'r nos ar hyd ffordd yr Araba.
II S WelBeibl 4:8  Dyma nhw'n dod â phen Ish-bosheth i'r brenin Dafydd yn Hebron, a dweud wrtho, “Dyma ben Ish-bosheth, mab Saul, dy elyn oedd yn ceisio dy ladd di. Heddiw mae'r ARGLWYDD wedi dial ar Saul a'i deulu ar ran ein meistr y brenin.”
II S WelBeibl 4:9  Ond dyma Dafydd yn eu hateb nhw: “Mor sicr a bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un sydd wedi fy achub i o bob helynt.
II S WelBeibl 4:10  Pan ddaeth rhyw ddyn ata i yn Siclag i ddweud fod Saul wedi marw, roedd yn meddwl ei fod yn dod â newyddion da. Ond gafaelais ynddo a'i ladd! Dyna oedd y wobr gafodd hwnnw am ei ‛newyddion da‛!
II S WelBeibl 4:11  Dych chi wedi lladd dyn diniwed tra oedd yn cysgu yn ei dŷ ei hun! Rhaid i mi wneud i chi dalu am dywallt ei waed e, a chael gwared â chi oddi ar wyneb y ddaear yma!”
II S WelBeibl 4:12  Felly dyma Dafydd yn gorchymyn i'w filwyr ladd y ddau. Dyma nhw'n gwneud hynny, torri eu dwylo a'u traed i ffwrdd, a hongian y cyrff wrth y pwll yn Hebron. Ond dyma nhw'n cymryd pen Ish-bosheth, a'i gladdu lle roedd bedd Abner, yn Hebron.
Chapter 5
II S WelBeibl 5:1  Dyma'r rhai oedd yn arwain llwythau Israel i gyd yn dod i Hebron at Dafydd, a dweud wrtho, “Edrych, dŷn ni'n perthyn i'n gilydd.
II S WelBeibl 5:2  Ar un adeg, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yn arwain byddin Israel i ryfel a dod â nhw yn ôl adre. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthot ti, ‘Ti sydd i ofalu am Israel, fy mhobl i. Ti fydd yn eu harwain nhw.’”
II S WelBeibl 5:3  Felly pan ddaeth arweinwyr Israel i Hebron at Dafydd, dyma'r brenin yn gwneud cytundeb â nhw o flaen yr ARGLWYDD. A dyma nhw'n ei eneinio'n frenin ar Israel gyfan.
II S WelBeibl 5:4  Roedd Dafydd yn dri deg oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am bedwar deg o flynyddoedd.
II S WelBeibl 5:5  Bu'n frenin ar Jwda yn Hebron am saith mlynedd a hanner, ac yna yn frenin yn Jerwsalem ar Jwda ac Israel gyfan am dri deg tair o flynyddoedd.
II S WelBeibl 5:6  Aeth y brenin a'i filwyr i Jerwsalem i ymladd yn erbyn y Jebwsiaid (y bobl oedd yn byw yn yr ardal honno). “Ddoi di byth i mewn yma!” medden nhw. “Byddai hyd yn oed pobl ddall a chloff yn gallu dy droi di'n ôl!” Doedden nhw ddim yn credu y gallai Dafydd eu gorchfygu nhw.
II S WelBeibl 5:7  Ond llwyddodd Dafydd i ennill caer Seion (sef Dinas Dafydd).
II S WelBeibl 5:8  Roedd wedi dweud y diwrnod hwnnw, “Y ffordd mae rhywun yn mynd i goncro'r Jebwsiaid ydy drwy fynd i fyny'r siafft ddŵr. Dyna sut mae ymosod ar y ‛bobl ddall a chloff‛ yna sy'n casáu Dafydd gymaint.” (A dyna sydd tu ôl i'r dywediad, “Dydy'r dall a'r cloff ddim yn cael mynd i mewn i'r tŷ.”)
II S WelBeibl 5:9  Aeth Dafydd i fyw i'r gaer, a'i galw yn Ddinas Dafydd. Dyma fe'n adeiladu o'i chwmpas, o'r terasau at y palas.
II S WelBeibl 5:10  Roedd Dafydd yn mynd yn fwy a mwy pwerus, achos roedd yr ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, gydag e.
II S WelBeibl 5:11  Dyma Hiram, brenin Tyrus, yn anfon negeswyr at Dafydd. Anfonodd seiri coed a seiri maen gyda nhw, a choed cedrwydd, i adeiladu palas i Dafydd.
II S WelBeibl 5:12  Roedd Dafydd yn gweld mai'r ARGLWYDD oedd wedi'i wneud yn frenin ar Israel, ac wedi gwneud i'w deyrnas lwyddo'n fawr er mwyn ei bobl Israel.
II S WelBeibl 5:13  Wedi iddo symud o Hebron i Jerwsalem dyma Dafydd yn cymryd mwy o gariadon a gwragedd, ac yn cael mwy o blant eto.
II S WelBeibl 5:14  Dyma enwau'r plant gafodd eu geni iddo yn Jerwsalem: Shammwa, Shofaf, Nathan, Solomon,
II S WelBeibl 5:17  Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi cael ei eneinio'n frenin ar Israel, dyma'u byddin gyfan yn mynd allan i chwilio amdano. Clywodd Dafydd am hyn, ac aeth i lawr i'r gaer.
II S WelBeibl 5:18  Roedd byddin y Philistiaid wedi cyrraedd; roedden nhw ym mhobman drwy Ddyffryn Reffaïm.
II S WelBeibl 5:19  Dyma Dafydd yn gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylwn i fynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid? Fyddi di'n gwneud i mi ennill?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, achos bydda i'n rhoi'r Philistiaid i ti.”
II S WelBeibl 5:20  Felly aeth Dafydd i Baal-peratsîm a'u trechu nhw yno. “Mae Duw wedi gwneud i mi dorri drwy fy ngelynion fel llifogydd o ddŵr,” meddai. A dyna pam wnaeth e alw'r lle hwnnw yn Baal-peratsîm.
II S WelBeibl 5:21  Roedd y Philistiaid wedi gadael eu heilun-dduwiau ar ôl, felly dyma Dafydd a'i ddynion yn eu cymryd nhw i ffwrdd.
II S WelBeibl 5:22  Ond dyma'r Philistiaid yn ymosod eto. Roedden nhw ym mhobman drwy Ddyffryn Reffaïm.
II S WelBeibl 5:23  A dyma Dafydd yn mynd i ofyn eto i'r ARGLWYDD beth i'w wneud. Y tro yma cafodd yr ateb, “Paid ymosod arnyn nhw o'r tu blaen. Dos rownd y tu cefn iddyn nhw ac ymosod o gyfeiriad y coed balsam.
II S WelBeibl 5:24  Pan fyddi'n clywed sŵn cyffro yn y coed, gweithreda ar unwaith. Dyna'r arwydd fod yr ARGLWYDD yn mynd o dy flaen di i daro byddin y Philistiaid.”
II S WelBeibl 5:25  Felly dyma Dafydd yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho, a tharo'r Philistiaid yr holl ffordd o Geba i gyrion Geser.
Chapter 6
II S WelBeibl 6:1  Unwaith eto dyma Dafydd yn casglu milwyr gorau Israel at ei gilydd. Roedd yna dri deg mil ohonyn nhw.
II S WelBeibl 6:2  Dyma nhw'n mynd gyda Dafydd i Baäla yn Jwda i nôl Arch Duw. Roedd yr enw ‛Arch Duw‛ yn cyfeirio at yr ARGLWYDD hollbwerus, sy'n eistedd ar ei orsedd uwchben y cerwbiaid.
II S WelBeibl 6:3  Dyma nhw'n rhoi Arch Duw ar gert newydd a'i symud hi o dŷ Abinadab, oedd ar ben bryn. Roedd Wssa ac Achïo, meibion Abinadab, yn arwain y cert – Wssa wrth ymyl yr Arch, ac Achïo'n cerdded o'i blaen.
II S WelBeibl 6:4  Dyma nhw'n rhoi Arch Duw ar gert newydd a'i symud hi o dŷ Abinadab, oedd ar ben bryn. Roedd Wssa ac Achïo, meibion Abinadab, yn arwain y cert – Wssa wrth ymyl yr Arch, ac Achïo'n cerdded o'i blaen.
II S WelBeibl 6:5  Ac roedd Dafydd a phobl Israel i gyd yn dathlu'n llawn hwyl o flaen yr ARGLWYDD, ac yn canu i gyfeiliant pob math o offerynnau. Roedd ganddyn nhw delynau a nablau, drymiau, castanetau a symbalau.
II S WelBeibl 6:6  Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Nachon, dyma'r ychen yn baglu, a dyma Wssa yn estyn ei law a gafael yn Arch Duw.
II S WelBeibl 6:7  Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gydag Wssa am y fath amarch. Cafodd ei daro'n farw yn y fan a'r lle wrth ymyl Arch Duw.
II S WelBeibl 6:8  Roedd Dafydd wedi gwylltio fod yr ARGLWYDD wedi ymosod ar Wssa; a dyma fe'n galw'r lle yn Perets-Wssa (sef ‛ffrwydriad yn erbyn Wssa‛). Dyna ydy enw'r lle hyd heddiw.
II S WelBeibl 6:9  Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar Dafydd y diwrnod hwnnw. “Sut all Arch yr ARGLWYDD ddod ata i?” meddai.
II S WelBeibl 6:10  Doedd e ddim yn fodlon gadael i Arch yr ARGLWYDD fynd gydag e i Ddinas Dafydd. Aeth â hi i dŷ Obed-edom, dyn o Gath.
II S WelBeibl 6:11  Arhosodd Arch yr ARGLWYDD yn nhŷ Obed-edom am dri mis. A dyma'r ARGLWYDD yn bendithio Obed-edom a'i deulu i gyd.
II S WelBeibl 6:12  Daeth Dafydd i glywed fod yr ARGLWYDD wedi bendithio Obed-edom a'i deulu am fod Arch Duw yno. Felly dyma fe'n mynd i dŷ Obed-edom i'w nôl hi, a mynd â hi i Ddinas Dafydd, gyda dathlu mawr.
II S WelBeibl 6:13  Pan oedd y rhai oedd yn cario Arch yr ARGLWYDD wedi cerdded dim ond chwe cham, dyma Dafydd yn aberthu ych a llo wedi'i besgi i Dduw.
II S WelBeibl 6:14  Roedd Dafydd yn gwisgo effod o liain main, ac yn dawnsio â'i holl egni o flaen yr ARGLWYDD.
II S WelBeibl 6:15  Roedd e a holl bobl Israel yn hebrwng Arch yr ARGLWYDD gan weiddi'n llawen a chanu'r corn hwrdd.
II S WelBeibl 6:16  Wrth i Arch yr ARGLWYDD gyrraedd Dinas Dafydd, roedd Michal, merch Saul, yn edrych allan drwy'r ffenest. Pan welodd hi'r brenin yn neidio a dawnsio o flaen yr ARGLWYDD, doedd hi'n teimlo dim byd ond dirmyg tuag ato.
II S WelBeibl 6:17  Dyma nhw'n dod ag Arch yr ARGLWYDD, a'i gosod yn ei lle yn y babell roedd Dafydd wedi'i chodi iddi. Yna dyma Dafydd yn cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
II S WelBeibl 6:18  Wedi i Dafydd orffen offrymu'r anifeiliaid, dyma fe'n bendithio'r bobl ar ran yr ARGLWYDD hollbwerus.
II S WelBeibl 6:19  Ac wedyn dyma fe'n rhannu bwyd i holl bobl Israel, y dynion a'r merched. Cafodd pawb dorth o fara, teisen ddatys a theisen rhesin. Yna aeth pawb adre.
II S WelBeibl 6:20  Pan aeth Dafydd adre i fendithio ei deulu ei hun, dyma Michal, merch Saul, yn dod allan i'w gyfarfod. Ac meddai wrtho, “Wel, wel! Dylech fod wedi gweld brenin Israel heddiw! Dyna lle roedd e'n fflachio o flaen caethferched ei swyddogion, yn dangos popeth iddyn nhw fel rhyw ffŵl coman!”
II S WelBeibl 6:21  Ond dyma Dafydd yn ei hateb, “Na, dawnsio o flaen yr ARGLWYDD oeddwn i – yr un wnaeth fy newis i yn lle dy dad a dy deulu di. Dewisodd fi yn arweinydd ar bobl Israel, pobl yr ARGLWYDD. O'i flaen e
II S WelBeibl 6:22  dw i'n fodlon gwneud mwy o ffŵl ohono i fy hun. Falle fod gen ti gywilydd ohono i, ond bydd y caethferched rwyt ti'n sôn amdanyn nhw yn fy mharchu i!”
II S WelBeibl 6:23  Wnaeth Michal, merch Saul, ddim cael plant o gwbl.
Chapter 7
II S WelBeibl 7:1  Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch i'r wlad, ac roedd y Brenin Dafydd wedi setlo i lawr yn ei balas.
II S WelBeibl 7:2  A dyma'r brenin yn dweud wrth y proffwyd Nathan, “Edrych! Dw i'n byw yma mewn palas crand o goed cedrwydd, tra mae Arch Duw yn dal mewn pabell.”
II S WelBeibl 7:3  A dyma Nathan yn ateb, “Mae'r ARGLWYDD gyda ti. Gwna beth bynnag wyt ti'n feddwl sy'n iawn.”
II S WelBeibl 7:4  Ond y noson honno dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Nathan,
II S WelBeibl 7:5  “Dos i ddweud wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n mynd i adeiladu teml i mi fyw ynddi?
II S WelBeibl 7:6  Dw i erioed wedi byw mewn teml, o'r diwrnod pan ddes i â phobl Israel allan o'r Aifft hyd heddiw. Dw i wedi bod yn mynd o le i le mewn pabell.
II S WelBeibl 7:7  Ble bynnag roeddwn i'n teithio gyda phobl Israel, wnes i erioed gwyno i'r rhai wnes i eu penodi i ofalu am lwythau Israel, “Pam dych chi ddim wedi adeiladu teml o goed cedrwydd i mi?”’
II S WelBeibl 7:8  “Felly, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Fi wnaeth dy gymryd di o'r caeau lle roeddet yn bugeilio defaid, a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel.
II S WelBeibl 7:9  Dw i wedi bod gyda ti ble bynnag rwyt ti wedi mynd, ac wedi dinistrio dy elynion o dy flaen di. Dw i'n mynd i dy wneud di'n enwog drwy'r byd i gyd.
II S WelBeibl 7:10  Dw i'n mynd i roi lle i fy mhobl Israel fyw. Byddan nhw'n setlo yno, a fydd neb yn tarfu arnyn nhw. Fydd dynion creulon ddim yn achosi helynt iddyn nhw fel o'r blaen,
II S WelBeibl 7:11  pan oeddwn i wedi penodi barnwyr i'w harwain nhw. Bellach, dw i wedi rhoi heddwch i ti oddi wrth dy holl elynion.” Mae'r ARGLWYDD yn cyhoeddi: “Fi, yr ARGLWYDD, sy'n mynd i adeiladu tŷ i ti – llinach frenhinol!
II S WelBeibl 7:12  Ar ôl i ti farw a chael dy gladdu, bydda i'n codi un o dy linach yn dy le – mab i ti. A bydda i'n gwneud ei deyrnas e yn gadarn.
II S WelBeibl 7:13  Bydd e'n adeiladu teml i'm anrhydeddu i; a bydda i'n gwneud yn siŵr y bydd e'n teyrnasu am byth.
II S WelBeibl 7:14  Bydda i yn dad iddo, a bydd e'n fab i mi. Pan fydd e'n gwneud drwg bydda i'n defnyddio pobl i'w gosbi.
II S WelBeibl 7:15  Ond fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo, yn wahanol i Saul pan wnes i ei symud e o dy ffordd di.
II S WelBeibl 7:16  Bydd dy deulu di yn teyrnasu o mlaen i am byth. Bydd dy orsedd yn gadarn fel y graig.”’”
II S WelBeibl 7:17  Felly dyma Nathan yn mynd a dweud y cwbl wrth Dafydd.
II S WelBeibl 7:18  Yna dyma'r Brenin Dafydd yn mynd i mewn i eistedd o flaen yr ARGLWYDD. “Feistr, ARGLWYDD, pwy ydw i? Dw i'n neb, na'm teulu chwaith. Ac eto ti wedi dod â fi mor bell!
II S WelBeibl 7:19  Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, Feistr, ARGLWYDD, ti wedi siarad am y dyfodol pell yn llinach dy was! Ai dyma'r ffordd wyt ti'n arfer delio gyda phobl, ARGLWYDD?
II S WelBeibl 7:20  Beth alla i ddweud? Ti'n gwybod sut un ydy dy was, fy Meistr, ARGLWYDD.
II S WelBeibl 7:21  Am dy fod wedi addo gwneud, ac am mai dyna oedd dy fwriad, ti wedi gwneud y pethau mawr yma a dweud wrtho i amdanyn nhw.
II S WelBeibl 7:22  “O, Feistr, ARGLWYDD, rwyt ti mor fawr! Does neb tebyg i ti! Does yna ddim duw arall yn bod heblaw ti. Dŷn ni wedi clywed am neb yr un fath â ti!
II S WelBeibl 7:23  A phwy sy'n debyg i dy bobl di, Israel? Mae hi'n wlad unigryw ar y ddaear – yn wlad aeth Duw i'w gollwng yn rhydd a'u gwneud yn bobl iddo'i hun. Ti'n enwog am wneud pethau rhyfeddol pan wnest ti achub dy bobl o'r Aifft a gyrru'r cenhedloedd paganaidd a'u duwiau allan o'r tir oedd gen ti ar eu cyfer nhw.
II S WelBeibl 7:24  Ti wedi gwneud Israel yn bobl i ti dy hun am byth. Rwyt ti, ARGLWYDD, wedi dod yn Dduw iddyn nhw.
II S WelBeibl 7:25  Felly, ARGLWYDD Dduw, tyrd a'r addewid yma amdana i a'm teulu yn wir. Gwna fel rwyt ti wedi addo.
II S WelBeibl 7:26  Wedyn byddi'n enwog am byth. Bydd pobl yn dweud, ‘Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy Duw Israel.’ A bydd llinach dy was Dafydd yn gadarn fel y graig,
II S WelBeibl 7:27  am dy fod ti, yr ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, wedi addo y byddi'n adeiladu tŷ i mi. A dyna pam mae dy was yn meiddio gweddïo fel hyn arnat ti.
II S WelBeibl 7:28  Nawr, ARGLWYDD, fy meistr, ti ydy'r Duw go iawn, ac mae dy eiriau di'n wir. Rwyt ti wedi addo gwneud y peth da yma i mi.
II S WelBeibl 7:29  Felly, plîs bendithia linach dy was, iddi aros yn gadarn gyda ti am byth. Meistr, ARGLWYDD, am mai ti sy'n bendithio, bydd dy fendith yn aros ar fy llinach i am byth.”
Chapter 8
II S WelBeibl 8:1  Beth amser wedyn, dyma Dafydd yn concro'r Philistiaid ac yn eu gorfodi nhw i ildio iddo.
II S WelBeibl 8:2  Wedyn dyma fe'n concro Moab. Gwnaeth i'r dynion orwedd mewn rhes ar lawr, a dyma fe'n eu mesur nhw'n grwpiau gyda llinyn. Roedd dau hyd y llinyn i gael eu lladd, ac un hyd llinyn i gael byw. A dyna sut daeth Moab o dan awdurdod Dafydd a thalu trethi iddo.
II S WelBeibl 8:3  Yna dyma Dafydd yn concro Hadadeser fab Rechob, brenin talaith Soba yn Syria. Roedd hwnnw ar ei ffordd i geisio cael yr ardal ar lan afon Ewffrates yn ôl o dan ei awdurdod.
II S WelBeibl 8:4  Ond dyma Dafydd yn dal mil saith gant o'i farchogion a dau ddeg mil o'i filwyr traed. Cadwodd gant o'r ceffylau, ond gwneud y gweddill i gyd yn gloff.
II S WelBeibl 8:5  A phan ddaeth Syriaid talaith Damascus i helpu Hadadeser, lladdodd byddin Dafydd ddau ddeg dwy fil ohonyn nhw hefyd.
II S WelBeibl 8:6  Wedyn, dyma Dafydd yn gosod garsiynau o filwyr ar dir Syria yn Damascus. Daeth y Syriaid o dan ei awdurdod, a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn gwneud i Dafydd ennill pob brwydr ble bynnag roedd e'n mynd.
II S WelBeibl 8:7  Aeth Dafydd â'r tarianau aur oedd gan swyddogion Hadadeser i Jerwsalem.
II S WelBeibl 8:8  Cymerodd lot fawr o bres hefyd o Betach a Berothai, trefi Hadadeser.
II S WelBeibl 8:9  Pan glywodd Toi, brenin Chamath, fod Dafydd wedi concro byddin Hadadeser i gyd,
II S WelBeibl 8:10  dyma fe'n anfon ei fab Joram at Dafydd i geisio telerau heddwch, ac i longyfarch Dafydd ar ei lwyddiant. (Roedd Hadadeser wedi bod yn rhyfela byth a hefyd yn erbyn Toi.) Aeth Joram â phob math o gelfi aur ac arian a phres gydag e;
II S WelBeibl 8:11  a dyma Dafydd yn cysegru'r cwbl i'r ARGLWYDD. Roedd wedi gwneud yr un peth gyda'r holl arian ac aur roedd wedi'i gymryd o'r gwledydd wnaeth e eu concro,
II S WelBeibl 8:12  sef Edom, Moab, pobl Ammon, y Philistiaid a'r Amaleciaid, a'r ysbail roedd wedi'i gymryd oddi ar Hadadeser fab Rechob, brenin Soba.
II S WelBeibl 8:13  Daeth Dafydd yn enwog hefyd ar ôl iddo daro un deg wyth mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen.
II S WelBeibl 8:14  A dyma fe'n gosod garsiynau ar hyd a lled Edom. Daeth Edom i gyd o dan ei awdurdod a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Dafydd ble bynnag roedd e'n mynd.
II S WelBeibl 8:15  Roedd Dafydd yn frenin ar Israel gyfan. Roedd yn trin ei bobl i gyd yn gyfiawn ac yn deg.
II S WelBeibl 8:16  Joab (mab Serwia) oedd pennaeth y fyddin. Jehosaffat fab Achilwd oedd cofnodydd y brenin.
II S WelBeibl 8:17  Sadoc fab Achitwf ac Achimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid. Seraia oedd ei ysgrifennydd gwladol.
II S WelBeibl 8:18  Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth gwarchodlu personol y brenin (Cretiaid a Pelethiaid). Ac roedd meibion Dafydd yn offeiriaid.
Chapter 9
II S WelBeibl 9:1  Dyma Dafydd yn gofyn, “Oes yna unrhyw un yn dal ar ôl o deulu Saul, i mi fod yn garedig ato fel gwnes i addo i Jonathan?”
II S WelBeibl 9:2  A dyma ddyn o'r enw Siba oedd wedi bod yn was i Saul yn cael ei alw at Dafydd. Gofynnodd y brenin iddo, “Ti ydy Siba?” Atebodd, “Ie, syr, fi ydy dy was.”
II S WelBeibl 9:3  Dyma'r brenin yn ei holi, “Oes yna unrhyw un o deulu Saul yn dal yn fyw, i mi fod yn garedig ato fel gwnes i addo o flaen Duw?” Atebodd Siba, “Oes. Mae yna fab i Jonathan sy'n dal yn fyw. Mae e'n anabl. Mae e'n gloff yn ei ddwy droed.”
II S WelBeibl 9:4  “Ble mae e?” meddai'r brenin. A dyma Siba'n dweud, “Mae e yn Lo-defâr, yn aros gyda Machir fab Ammiel.”
II S WelBeibl 9:5  Felly dyma'r Brenin Dafydd yn anfon i'w nôl o dŷ Machir.
II S WelBeibl 9:6  Pan ddaeth Meffibosheth (mab Jonathan ac ŵyr Saul) at y Brenin Dafydd, dyma fe'n mynd ar ei liniau ac ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr. “Meffibosheth?” meddai Dafydd. Ac atebodd, “Ie, syr, dy was di.”
II S WelBeibl 9:7  “Paid bod ag ofn,” meddai Dafydd wrtho, “Dw i'n mynd i fod yn garedig atat ti, fel gwnes i addo i dy dad Jonathan. Dw i am roi tir dy daid Saul yn ôl i ti, a byddi'n cael bwyta wrth fy mwrdd i yn rheolaidd.”
II S WelBeibl 9:8  Dyma Meffibosheth yn ymgrymu eto a dweud, “Pwy ydw i? Pam ddylet ti gymryd sylw o gi marw fel fi?”
II S WelBeibl 9:9  Yna dyma'r brenin yn galw am Siba, gwas Saul. Ac meddai wrtho, “Dw i wedi rhoi popeth oedd piau Saul a'i deulu i ŵyr dy feistr.
II S WelBeibl 9:10  Dw i eisiau i ti a dy feibion, a dy weision i gyd, ofalu am y tir iddo. Bydd cynnyrch y tir yn fwyd i deulu dy feistr. Ond bydd Meffibosheth yn bwyta wrth fy mwrdd i yn rheolaidd.” (Roedd gan Siba un deg pump o feibion a dau ddeg o weision.)
II S WelBeibl 9:11  Dyma Siba yn ateb, “Bydd dy was yn gwneud popeth mae fy meistr, y brenin, wedi'i orchymyn.” Felly cafodd Meffibosheth fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd y brenin, fel petai'n un o feibion y brenin ei hun.
II S WelBeibl 9:12  Roedd gan Meffibosheth fab bach o'r enw Micha. Roedd teulu Siba i gyd, a'i weision, yn gweithio i Meffibosheth.
II S WelBeibl 9:13  Ond roedd Meffibosheth ei hun yn byw yn Jerwsalem, ac yn cael bwyta'n rheolaidd wrth fwrdd y brenin. Roedd e'n anabl – yn gloff yn ei ddwy droed.
Chapter 10
II S WelBeibl 10:1  Beth amser wedyn dyma frenin yr Ammoniaid yn marw, a dyma'i fab, Chanŵn, yn dod yn frenin yn ei le.
II S WelBeibl 10:2  Dyma Dafydd yn dweud, “Dw i am fod yn garedig at Chanŵn fab Nachash, am fod ei dad wedi bod yn garedig ata i.” Felly dyma fe'n anfon ei weision i gydymdeimlo â Chanŵn ar golli ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad Ammon,
II S WelBeibl 10:3  dyma swyddogion y wlad yn dweud wrth eu meistr, “Wyt ti wir yn meddwl mai i ddangos parch at dy dad mae Dafydd wedi anfon y dynion yma i gydymdeimlo? Dim o gwbl! Mae'n debyg ei fod wedi anfon ei weision i ysbïo ac archwilio'r ddinas, er mwyn ei choncro hi!”
II S WelBeibl 10:4  Felly dyma Chanŵn yn dal gweision Dafydd a siafio hanner barf pob un, a thorri eu dillad yn eu canol, fel bod eu tinau yn y golwg. Yna eu gyrru nhw adre.
II S WelBeibl 10:5  Pan glywodd Dafydd am hyn, anfonodd ddynion i'w cyfarfod. Roedd arnyn nhw gywilydd garw. Awgrymodd y dylen nhw aros yn Jericho nes bod barf pob un wedi tyfu eto.
II S WelBeibl 10:6  Dyma bobl Ammon yn dod i sylweddoli fod beth wnaethon nhw wedi ypsetio Dafydd. Felly dyma nhw'n llogi dau ddeg mil o filwyr traed gan y Syriaid yn Beth-rechob a Soba, mil o filwyr gan frenin Maacha, a deuddeg mil o Tob.
II S WelBeibl 10:7  Pan glywodd Dafydd hyn, dyma fe'n anfon Joab allan gyda milwyr gorau'r fyddin gyfan.
II S WelBeibl 10:8  Yna dyma'r Ammoniaid yn dod allan a threfnu eu byddin yn rhengoedd o flaen giatiau'r ddinas. Ond roedd byddin y Syriaid o Soba a Rechob, a milwyr Tob a Maacha yn paratoi i ymladd ar y tir agored.
II S WelBeibl 10:9  Roedd Joab yn gweld y byddai'n rhaid iddo ymladd o'r tu blaen a'r tu ôl. Felly dyma fe'n dewis rhai o filwyr gorau byddin Israel i wynebu'r Syriaid.
II S WelBeibl 10:10  A dyma fe'n cael ei frawd, Abishai, i arwain gweddill y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid.
II S WelBeibl 10:11  “Os bydd y Syriaid yn gryfach na ni,” meddai, “tyrd ti i'n helpu ni. Ac os bydd yr Ammoniaid yn gryfach na chi, gwna i ddod i'ch helpu chi.
II S WelBeibl 10:12  Gad i ni fod yn ddewr! Er mwyn ein pobl, ac er mwyn trefi ein Duw. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud beth mae e'n wybod sydd orau.”
II S WelBeibl 10:13  Felly dyma Joab a'i filwyr yn mynd allan i ymladd yn erbyn y Syriaid, a dyma'r Syriaid yn ffoi oddi wrthyn nhw.
II S WelBeibl 10:14  Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn ffoi o flaen Abishai a dianc i mewn i'r ddinas. A dyma Joab yn stopio rhyfela yn erbyn yr Ammoniaid, a mynd yn ôl i Jerwsalem.
II S WelBeibl 10:15  Roedd y Syriaid yn gweld eu bod wedi colli'r dydd yn erbyn Israel, felly dyma nhw'n casglu at ei gilydd unwaith eto.
II S WelBeibl 10:16  Dyma Hadadeser yn anfon am y Syriaid oedd yn byw yr ochr draw i afon Ewffrates, i ddod allan atyn nhw i Chelam. Shofach oedd enw'r cadfridog oedd yn arwain byddin Hadadeser.
II S WelBeibl 10:17  Pan glywodd Dafydd am hyn, dyma fe'n galw byddin Israel gyfan at ei gilydd. A dyma nhw'n croesi afon Iorddonen a dod i Chelam. Roedd y Syriaid wrthi'n trefnu'u hunain yn rhengoedd i wynebu byddin Dafydd, a dyma nhw'n dechrau ymladd.
II S WelBeibl 10:18  Ond dyma fyddin y Syriaid yn ffoi eto o flaen yr Israeliaid. Roedd byddin Dafydd wedi lladd saith gant o filwyr cerbyd y Syriaid, a phedwar deg mil o filwyr traed. Cafodd Shofach, cadfridog byddin y Syriaid, ei ladd yn y frwydr hefyd.
II S WelBeibl 10:19  Pan welodd y brenhinoedd oedd ar ochr Hadadeser eu bod wedi colli'r dydd, dyma nhw'n gwneud heddwch gydag Israel, a dod o dan ei hawdurdod. Roedd gan y Syriaid ofn helpu'r Ammoniaid ar ôl hynny.
Chapter 11
II S WelBeibl 11:1  Yn y gwanwyn, sef yr adeg pan fyddai brenhinoedd yn arfer mynd i ryfela, dyma Dafydd yn anfon Joab a'i fyddin allan. Dyma Joab a'i swyddogion, a holl fyddin Israel, yn mynd ac yn trechu byddin yr Ammoniaid a chodi gwarchae at ddinas Rabba. Ond arhosodd Dafydd yn Jerwsalem.
II S WelBeibl 11:2  Yn hwyr un p'nawn, dyma Dafydd yn codi ar ôl bod yn gorffwys, a mynd i gerdded ar do fflat y palas. O'r fan honno dyma fe'n digwydd gweld gwraig yn ymolchi. Roedd hi'n wraig arbennig o hardd.
II S WelBeibl 11:3  Dyma Dafydd yn anfon rhywun i ddarganfod pwy oedd hi, a daeth hwnnw yn ôl gyda'r ateb, “Bathseba ferch Eliam, gwraig Wreia yr Hethiad, ydy hi.”
II S WelBeibl 11:4  Felly dyma Dafydd yn anfon negeswyr i'w nôl hi. Ac wedi iddi ddod dyma fe'n cael rhyw gyda hi. (Roedd hi newydd fod drwy'r ddefod o buro'i hun ar ôl ei misglwyf.) Yna dyma hi'n mynd yn ôl adre.
II S WelBeibl 11:5  Pan wnaeth hi ddarganfod ei bod hi'n disgwyl babi, dyma hi'n anfon neges at Dafydd i ddweud wrtho.
II S WelBeibl 11:6  Felly dyma Dafydd yn anfon neges at Joab, yn gofyn iddo anfon Wreia yr Hethiad ato. A dyma Joab yn gwneud hynny.
II S WelBeibl 11:7  Pan gyrhaeddodd Wreia, dyma Dafydd yn ei holi sut oedd Joab a'r fyddin, a beth oedd hanes y rhyfel.
II S WelBeibl 11:8  Yna dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Dos adre i ymlacio.” A phan adawodd Wreia y palas, dyma'r brenin yn anfon anrheg ar ei ôl.
II S WelBeibl 11:9  Ond wnaeth Wreia ddim mynd adre. Arhosodd gyda'r gweision eraill wrth ddrws y palas.
II S WelBeibl 11:10  Pan glywodd Dafydd fod Wreia heb fynd adre, galwodd amdano a gofyn iddo, “Pam wnest ti ddim mynd adre neithiwr? Ti wedi bod i ffwrdd ers amser hir.”
II S WelBeibl 11:11  Atebodd Wreia, “Mae'r Arch, a milwyr Israel a Jwda yn aros mewn pebyll. Mae Joab, y capten, a'r swyddogion eraill, yn gwersylla yn yr awyr agored. Fyddai hi'n iawn i mi fynd adre i fwyta ac yfed a chysgu gyda ngwraig? Ar fy llw, allwn i byth wneud y fath beth!”
II S WelBeibl 11:12  Felly dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Aros yma am ddiwrnod arall. Gwna i dy anfon di yn ôl yfory.” Felly dyma Wreia yn aros yn Jerwsalem am ddiwrnod arall. Drannoeth
II S WelBeibl 11:13  dyma Dafydd yn gwahodd Wreia i fwyta ac yfed gydag e, ac yn ei feddwi. Ond pan aeth Wreia allan gyda'r nos dyma fe'n cysgu allan eto gyda gweision ei feistr. Aeth e ddim adre.
II S WelBeibl 11:14  Felly, y bore wedyn, dyma Dafydd yn gofyn i Wreia fynd â llythyr i Joab.
II S WelBeibl 11:15  Dyma beth roedd wedi'i ysgrifennu yn y llythyr, “Rho Wreia yn y rheng flaen lle mae'r brwydro galetaf. Yna ciliwch yn ôl oddi wrtho, a'i adael i gael ei daro a'i ladd.”
II S WelBeibl 11:16  Roedd Joab wedi bod yn gwylio dinas Rabba, a dyma fe'n rhoi Wreia lle roedd yn gwybod fod milwyr gorau'r gelyn yn ymladd.
II S WelBeibl 11:17  Dyma filwyr y gelyn yn mentro allan i ymosod, a chafodd Wreia a nifer o filwyr eraill Dafydd eu lladd.
II S WelBeibl 11:18  Yna dyma Joab yn anfon adroddiad at Dafydd i ddweud beth oedd wedi digwydd yn y frwydr.
II S WelBeibl 11:19  Dwedodd wrth y negesydd, “Pan fyddi'n rhoi'r adroddiad o beth ddigwyddodd i'r brenin,
II S WelBeibl 11:20  falle y bydd e'n gwylltio a dechrau holi: ‘Pam aethoch chi mor agos i'r ddinas i ymladd? Oeddech chi ddim yn sylweddoli y bydden nhw'n saethu o ben y waliau?
II S WelBeibl 11:21  Pwy laddodd Abimelech fab Gideon yn Thebes? Gwraig yn gollwng maen melin arno o ben y wal! Pam aethoch chi mor agos i'r wal?’ Yna dywed wrtho ‘Cafodd dy was Wreia yr Hethiad ei ladd hefyd.’”
II S WelBeibl 11:22  Felly, dyma'r negesydd yn mynd ac yn rhoi'r adroddiad yn llawn i Dafydd.
II S WelBeibl 11:23  Meddai wrtho, “Daeth milwyr y gelyn allan i ymladd ar y tir agored. Ond dyma ni'n eu gyrru nhw yn ôl yr holl ffordd at giât y ddinas.
II S WelBeibl 11:24  Ond wedyn dyma'r bwasaethwyr yn saethu o ben y wal, a lladd rhai o dy swyddogion. Roedd dy was Wreia yr Hethiad yn un ohonyn nhw.”
II S WelBeibl 11:25  Yna dyma Dafydd yn dweud wrth y negesydd, “Dwed wrth Joab, ‘Paid poeni am y peth. Fel yna mae hi mewn rhyfel. Rhai'n cael eu lladd, eraill ddim. Brwydra'n galetach yn erbyn y ddinas, a'i choncro!’ Annog e yn ei flaen!”
II S WelBeibl 11:26  Pan glywodd Bathseba fod ei gŵr wedi marw, bu'n galaru amdano.
II S WelBeibl 11:27  Ond wedi i'r cyfnod o alaru ddod i ben, dyma Dafydd yn anfon amdani a dod â hi i'w balas. Dyma hi'n dod yn wraig iddo, a chafodd fab iddo. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn hapus o gwbl am beth roedd Dafydd wedi'i wneud,
Chapter 12
II S WelBeibl 12:1  a dyma fe'n anfon y proffwyd Nathan at Dafydd. Daeth ato a dweud wrtho: “Un tro roedd yna ddau ddyn yn byw yn rhyw dre. Roedd un yn gyfoethog a'r llall yn dlawd.
II S WelBeibl 12:2  Roedd gan y dyn cyfoethog lond gwlad o ddefaid a gwartheg.
II S WelBeibl 12:3  Ond doedd gan y dyn tlawd ddim ond un oen banw fach roedd wedi'i phrynu a'i magu. Roedd yr oen wedi tyfu gydag e a'i blant. Roedd yn bwyta ac yn yfed gyda nhw, ac yn cysgu yn ei freichiau, fel petai'n ferch fach iddo.
II S WelBeibl 12:4  Cafodd y dyn cyfoethog ymwelydd. Ond doedd e ddim am ladd un o'i ddefaid neu ei wartheg ei hun i wneud bwyd iddo. Felly dyma fe'n cymryd oen y dyn tlawd a gwneud pryd o fwyd i'w ymwelydd o hwnnw.”
II S WelBeibl 12:5  Roedd Dafydd wedi gwylltio'n lân pan glywodd hyn. Dwedodd wrth Nathan, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, mae'r dyn yna'n haeddu marw!
II S WelBeibl 12:6  Rhaid iddo roi pedwar oen yn ôl i'r dyn tlawd am wneud y fath beth, ac am fod mor ddideimlad!”
II S WelBeibl 12:7  A dyma Nathan yn ateb Dafydd, “Ti ydy'r dyn! Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Fi wnaeth dy osod di yn frenin ar Israel. Fi hefyd wnaeth dy achub di oddi wrth Saul.
II S WelBeibl 12:8  Dw i wedi rhoi eiddo dy feistr i ti, a'i wragedd. A dw i wedi rhoi pobl Israel a Jwda i ti hefyd. A phetai hynny ddim yn ddigon byddwn wedi rhoi mwy eto i ti.
II S WelBeibl 12:9  Pam wyt ti wedi fy sarhau i, yr ARGLWYDD, drwy wneud peth mor ofnadwy? Ti wedi lladd Wreia yr Hethiad, a chymryd ei wraig yn wraig i ti dy hun. Ie, ti wnaeth ei ladd, gyda chleddyf yr Ammoniaid!
II S WelBeibl 12:10  Felly bydd cysgod y cleddyf arnat ti a dy deulu bob amser. Ti wedi fy sarhau i drwy gymryd gwraig Wreia yr Hethiad i ti dy hun!’
II S WelBeibl 12:11  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i greu helynt i ti o fewn dy deulu dy hun. Bydda i'n cymryd dy wragedd di a'u rhoi nhw i ddyn arall. Bydd e'n cysgu gyda dy wragedd di yn gwbl agored.
II S WelBeibl 12:12  Er dy fod ti wedi trio cuddio beth wnest ti, bydd pobl Israel i gyd yn gweld beth dw i'n mynd i'w wneud!’”
II S WelBeibl 12:13  Dyma Dafydd yn ateb, “Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.” A dyma Nathan yn dweud, “Wyt, ond mae'r ARGLWYDD hefyd wedi maddau dy bechod. Ti ddim yn mynd i farw.
II S WelBeibl 12:14  Ond am dy fod ti wedi bod mor amharchus o'r ARGLWYDD, bydd y plentyn gafodd ei eni yn marw.”
II S WelBeibl 12:15  Yna aeth Nathan yn ôl adre. Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud y babi gafodd gwraig Wreia i Dafydd yn sâl iawn
II S WelBeibl 12:16  A dyma Dafydd yn mynd ati i bledio'n daer ar yr ARGLWYDD i'w wella. Roedd yn mynd heb fwyd, ac yn cysgu ar lawr bob nos.
II S WelBeibl 12:17  Daeth ei gynghorwyr ato i geisio'i berswadio i godi oddi ar lawr, ond gwrthod wnaeth e, a gwrthod bwyta dim gyda nhw.
II S WelBeibl 12:18  Ar ôl saith diwrnod dyma'r plentyn yn marw. Roedd gan swyddogion Dafydd ofn mynd i ddweud wrtho. “Doedd e'n cymryd dim sylw ohonon ni pan oedd y plentyn yn dal yn fyw,” medden nhw. “Sut allwn ni ddweud wrtho fod y plentyn wedi marw? Bydd e'n gwneud rhywbeth ofnadwy iddo'i hun.”
II S WelBeibl 12:19  Ond pan sylwodd Dafydd fod ei swyddogion yn sibrwd, roedd yn amau fod y plentyn wedi marw. Felly gofynnodd iddyn nhw, “Ydy'r plentyn wedi marw?” A dyma nhw'n ateb, “Ydy, mae wedi marw.”
II S WelBeibl 12:20  Yna dyma Dafydd yn codi oddi ar lawr, yn ymolchi, rhoi olew ar ei wyneb a newid ei ddillad. Aeth i babell yr ARGLWYDD i addoli. Wedyn aeth yn ôl adre i'r palas a bwyta pryd o fwyd.
II S WelBeibl 12:21  A dyma'i swyddogion yn gofyn iddo, “Pam wyt ti'n ymddwyn fel yma? Pan oedd y plentyn yn dal yn fyw roeddet ti'n crio ac yn ymprydio. Ond nawr mae'r plentyn wedi marw dyma ti'n codi ac yn bwyta!”
II S WelBeibl 12:22  Atebodd Dafydd, “Tra oedd y plentyn yn dal yn fyw rôn i'n ymprydio ac yn crio. Rôn i'n meddwl falle y byddai'r ARGLWYDD yn tosturio ac yn gadael i'r plentyn fyw.
II S WelBeibl 12:23  Ond nawr mae e wedi marw. Does dim pwynt gwrthod bwyd bellach. Alla i ddim dod ag e'n ôl. Bydda i'n mynd ato fe, ond wnaiff e ddim dod yn ôl ata i.”
II S WelBeibl 12:24  Yna dyma Dafydd yn mynd i gysuro ei wraig, Bathseba. Cysgodd gyda hi a chael rhyw gyda hi. Cafodd hi fab iddo, a dyma nhw'n ei alw yn Solomon. Roedd yr ARGLWYDD yn caru'r plentyn,
II S WelBeibl 12:25  a dyma fe'n rhoi neges drwy'r proffwyd Nathan yn dweud y dylai gael ei alw'n Iedidia, sef “Mae'r ARGLWYDD yn ei garu.”
II S WelBeibl 12:26  Roedd Joab yn dal i ryfela yn erbyn Rabba, prifddinas yr Ammoniaid, a llwyddodd i ddal y gaer frenhinol.
II S WelBeibl 12:27  Anfonodd neges at Dafydd, “Dw i wedi ymosod ar Rabba, ac wedi cipio cronfa ddŵr y ddinas.
II S WelBeibl 12:28  Mae'n bryd i ti gasglu gweddill y fyddin, a dod yma i warchae ar y ddinas. Wedyn ti fydd wedi'i choncro, nid fi, a fydd hi ddim yn cael ei henwi ar fy ôl i.”
II S WelBeibl 12:29  Felly dyma Dafydd yn casglu'r fyddin i gyd a mynd i Rabba i ymladd yn ei herbyn a'i choncro.
II S WelBeibl 12:30  Dyma fe'n cymryd coron eu brenin nhw a'i rhoi ar ei ben ei hun. Roedd y goron wedi'i gwneud o dri deg cilogram o aur, ac roedd gem werthfawr arni. Casglodd Dafydd lot fawr o ysbail o'r ddinas hefyd.
II S WelBeibl 12:31  Symudodd y bobl allan, a'u gorfodi nhw i weithio iddo gyda llifau, ceibiau a bwyeill haearn, a'u hanfon i'r gwaith brics. Gwnaeth Dafydd yr un peth gyda pob un o drefi'r Ammoniaid. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem gyda'i fyddin.
Chapter 13
II S WelBeibl 13:1  Yna beth amser wedyn digwyddodd hyn: Roedd gan Absalom, mab Dafydd, chwaer o'r enw Tamar, oedd yn arbennig o hardd. Roedd Amnon, mab arall i Dafydd, yn ei ffansïo hi.
II S WelBeibl 13:2  Roedd ei deimladau ati mor gryf roedd yn gwneud ei hun yn sâl. Roedd Tamar wedi cyrraedd oed priodi ac yn wyryf, ond doedd Amnon ddim yn gweld unrhyw ffordd y gallai e ei chael hi.
II S WelBeibl 13:3  Ond roedd gan Amnon ffrind o'r enw Jonadab (mab Shamma, brawd Dafydd). Roedd Jonadab yn ddyn cyfrwys iawn.
II S WelBeibl 13:4  Dyma fe'n gofyn i Amnon, “Beth sy'n bod? Ti ydy mab y brenin. Pam wyt ti mor ddigalon drwy'r amser? Wnei di ddim dweud wrtho i beth sydd?” A dyma Amnon yn ateb, “Dw i mewn cariad hefo Tamar, chwaer Absalom.”
II S WelBeibl 13:5  Yna dyma Jonadab yn dweud wrtho, “Dos i orwedd ar dy wely ac esgus bod yn sâl. Wedyn, pan fydd dy dad yn dod i dy weld, dywed wrtho, ‘Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i wneud bwyd i mi. Gad iddi ei baratoi o mlaen i, ac wedyn fy mwydo i.’”
II S WelBeibl 13:6  Felly dyma Amnon yn mynd i'w wely a smalio bod yn sâl. Daeth y brenin i'w weld, a dyma Amnon yn dweud wrtho, “Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i baratoi cacennau sbesial o mlaen i, ac wedyn fy mwydo i.”
II S WelBeibl 13:7  Dyma Dafydd yn anfon neges at Tamar yn y palas, yn dweud wrthi am fynd i dŷ ei brawd Amnon i wneud bwyd iddo.
II S WelBeibl 13:8  Felly dyma Tamar yn mynd i dŷ Amnon, lle roedd yn gorwedd. Cymerodd does a'i baratoi o'i flaen a'i goginio.
II S WelBeibl 13:9  Ond pan ddaeth â'r bwyd ato, dyma Amnon yn gwrthod bwyta. Yna dyma fe'n gorchymyn i'w weision, “Pawb allan o ma!”, a dyma nhw i gyd yn mynd allan.
II S WelBeibl 13:10  Wedyn dyma Amnon yn dweud wrth Tamar, “Tyrd â'r bwyd i'r ystafell wely, a gwna i fwyta yno.” Felly dyma Tamar yn mynd â'r bwyd oedd hi newydd ei baratoi at ei brawd Amnon i'r ystafell wely.
II S WelBeibl 13:11  Ond wrth iddi ei annog i fwyta, dyma fe'n gafael ynddi a dweud, “Tyrd i'r gwely hefo fi, chwaer.”
II S WelBeibl 13:12  “Na! frawd, paid!” meddai hi. “Paid treisio fi. Dydy pobl Israel ddim yn gwneud pethau fel yna. Paid gwneud peth mor erchyll.
II S WelBeibl 13:13  Allwn i ddim byw gyda'r cywilydd. A fyddai neb yn Israel yn dy barchu di am wneud peth mor erchyll. Plîs paid. Gofyn i'n tad, y brenin; wnaiff e ddim gwrthod fy rhoi i ti.”
II S WelBeibl 13:14  Ond doedd Amnon ddim am wrando arni. Roedd yn gryfach na hi, a dyma fe'n ei dal hi i lawr a'i threisio.
II S WelBeibl 13:15  Ond wedyn dyma fe'n dechrau teimlo casineb llwyr ati. Roedd yn ei chasáu hi nawr fwy nag roedd yn ei charu hi o'r blaen. A dyma fe'n dweud wrthi, “Cod! Dos o ma!”
II S WelBeibl 13:16  A dyma Tamar yn ei ateb, “Na! Plîs paid! Mae fy anfon i ffwrdd nawr yn waeth na beth rwyt ti newydd ei wneud!” Ond doedd e ddim am wrando arni.
II S WelBeibl 13:17  A dyma fe'n galw'i was ystafell, a dweud wrtho, “Dos â hon allan o ma, a chloi'r drws tu ôl iddi!”
II S WelBeibl 13:18  Felly dyma'r gwas yn ei thaflu allan, a bolltio'r drws ar ei hôl. Roedd hi mewn gwisg laes (y math o wisg fyddai merched dibriod y brenin yn arfer ei wisgo).
II S WelBeibl 13:19  Yna dyma Tamar yn rhwygo'r wisg a rhoi lludw ar ei phen. Aeth i ffwrdd â'i dwylo dros ei hwyneb, yn crio'n uchel.
II S WelBeibl 13:20  Dyma Absalom, ei brawd, yn gofyn iddi, “Ydy'r brawd yna sydd gen ti, Amnon, wedi gwneud rhywbeth i ti? Paid dweud dim am y peth gan ei fod yn frawd i ti. Ond paid ti â phoeni.” Yna aeth Tamar i aros yn nhŷ ei brawd Absalom, yn unig ac wedi torri ei chalon.
II S WelBeibl 13:21  Pan glywodd y Brenin Dafydd am bopeth oedd wedi digwydd, roedd yn flin ofnadwy.
II S WelBeibl 13:22  Roedd Absalom yn gwrthod siarad gydag Amnon, run gair; roedd yn ei gasáu am beth wnaeth e i'w chwaer Tamar.
II S WelBeibl 13:23  Aeth dwy flynedd heibio. Roedd gweision Absalom yn cneifio yn Baal-chatsor, wrth ymyl tref o'r enw Effraim. A dyma Absalom yn gwahodd meibion y brenin i gyd i barti.
II S WelBeibl 13:24  Aeth at y brenin hefyd a dweud, “Mae'r dynion acw'n cneifio. Tyrd aton ni i'r parti, a thyrd â dy swyddogion hefyd.”
II S WelBeibl 13:25  Atebodd y brenin, “Na, machgen i, ddown ni ddim i gyd, neu byddwn ni'n faich arnat ti.” Er i Absalom bwyso arno, doedd e ddim yn fodlon mynd. Ond dyma fe yn ei fendithio.
II S WelBeibl 13:26  Wedyn, dyma Absalom yn dweud, “Os ddoi di dy hun ddim, plîs gad i'm brawd Amnon ddod.” Holodd y brenin, “Pam fyddet ti eisiau iddo fe fynd gyda ti?”
II S WelBeibl 13:27  Ond roedd Absalom yn dal i bwyso arno, ac yn y diwedd dyma'r brenin yn anfon Amnon a'i feibion eraill i gyd. A dyma Absalom yn paratoi gwledd digon da i frenin.
II S WelBeibl 13:28  Dwedodd Absalom wrth ei weision, “Gwyliwch Amnon. Dw i eisiau i chi aros nes bydd e ychydig yn chwil. Wedyn pan fydda i'n dweud, lladdwch e. Peidiwch bod ofn. Fi sydd wedi dweud wrthoch chi i wneud hyn. Byddwch yn ddewr!”
II S WelBeibl 13:29  Felly dyma weision Absalom yn lladd Amnon. A dyma feibion eraill y brenin yn codi, neidio ar eu mulod, a dianc.
II S WelBeibl 13:30  Tra oedden nhw ar eu ffordd adre, clywodd Dafydd si fod Absalom wedi lladd ei feibion e i gyd, a bod dim un ohonyn nhw'n dal yn fyw.
II S WelBeibl 13:31  Felly cododd y brenin, rhwygo'i ddillad a gorwedd ar lawr. Ac roedd ei weision i gyd yn sefyll o'i gwmpas, wedi rhwygo'u dillad nhw hefyd.
II S WelBeibl 13:32  Ond yna dyma Jonadab (mab Shamma, brawd Dafydd) yn dweud, “Syr, paid meddwl fod dy feibion i gyd wedi'i lladd. Dim ond Amnon fydd wedi marw. Mae Absalom wedi bod yn cynllunio i wneud hyn ers i Amnon dreisio ei chwaer e, Tamar.
II S WelBeibl 13:33  Ddylai'r brenin ddim credu'r stori fod ei feibion i gyd wedi'u lladd. Dim ond Amnon sydd wedi marw,
II S WelBeibl 13:34  a bydd Absalom wedi dianc.” Yna dyma'r gwyliwr oedd ar ddyletswydd yn edrych allan a gweld tyrfa o bobl yn dod heibio'r bryn o gyfeiriad trefi Beth-choron.
II S WelBeibl 13:35  A dyma Jonadab yn dweud wrth y brenin, “Edrych, dy feibion sy'n dod, fel gwnes i ddweud!”
II S WelBeibl 13:36  A'r eiliad honno dyma feibion y brenin yn cyrraedd, yn crio'n uchel. A dyma'r brenin ei hun a'i swyddogion i gyd yn dechrau beichio crio hefyd.
II S WelBeibl 13:37  Buodd Dafydd yn galaru am ei fab Amnon am amser hir. Roedd Absalom wedi dianc at Talmai fab Amihwd, brenin Geshwr.
II S WelBeibl 13:39  Erbyn hynny, roedd Dafydd wedi dod dros farwolaeth Amnon, ac wedi dechrau hiraethu am Absalom.
Chapter 14
II S WelBeibl 14:1  Roedd Joab (mab Serwia) wedi sylwi fod Dafydd ddim yn gallu stopio meddwl am Absalom.
II S WelBeibl 14:2  Felly dyma fe'n anfon rhywun i nôl gwraig ddoeth oedd yn byw yn Tecoa. Meddai wrthi, “Dw i eisiau i ti esgus dy fod yn galaru. Rho ddillad galar amdanat, peidio gwisgo colur, a gwneud i ti dy hun edrych fel rhywun sydd wedi bod yn galaru am amser hir iawn.
II S WelBeibl 14:3  Yna dos at y brenin a dweud fel yma: …” (Dyma Joab yn dweud wrthi yn union beth i'w ddweud.)
II S WelBeibl 14:4  Felly dyma'r wraig o Tecoa yn mynd at y brenin. Aeth ar ei gliniau ac ymgrymu o'i flaen gyda'i hwyneb ar lawr. “Plîs helpa fi, o frenin.”
II S WelBeibl 14:5  “Beth sy'n bod?” meddai Dafydd. A dyma hi'n ateb, “Gwraig weddw ydw i. Mae'r gŵr wedi marw.
II S WelBeibl 14:6  Roedd gen i ddau fab, a dyma nhw'n dechrau ymladd allan yng nghefn gwlad. Doedd yna neb o gwmpas i'w gwahanu nhw, a dyma un yn taro'r llall a'i ladd.
II S WelBeibl 14:7  A nawr mae aelodau'r clan i gyd wedi troi yn fy erbyn i, ac yn mynnu, ‘Rho dy fab i ni. Rhaid iddo farw am lofruddio ei frawd.’ Ond fe ydy'r etifedd. Os gwnân nhw hynny, bydd y fflam olaf sydd gen i wedi diffodd! Fydd yna neb ar ôl i gadw enw'r gŵr yn fyw.”
II S WelBeibl 14:8  Dyma'r brenin Dafydd yn dweud wrth y wraig, “Dos adre. Gwna i setlo'r achos i ti.”
II S WelBeibl 14:9  A dyma'r wraig yn dweud wrth y brenin, “Os bydd unrhyw broblem, arna i a'm teulu mae'r bai. Does dim bai o gwbl ar fy meistr y brenin a'i orsedd.”
II S WelBeibl 14:10  Ond dyma'r brenin yn ateb, “Os bydd unrhyw un yn cwestiynu'r peth, gwna i ddelio gydag e. Fydd e ddim yn dy blagio di byth eto!”
II S WelBeibl 14:11  A dyma hi'n gofyn, “Plîs wnei di addo i mi o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw, na fydd y perthynas agosaf yn mynnu dial ar fy mab a thywallt mwy o waed eto?” “Ar fy llw,” meddai'r brenin, “fydd neb yn cyffwrdd blewyn o wallt ei ben!”
II S WelBeibl 14:12  Yna dyma'r wraig yn gofyn, “Plîs ga i ddweud un peth arall wrthot ti, syr?” “Ie, beth?” meddai'r brenin.
II S WelBeibl 14:13  A dyma hi'n dweud, “Pam wyt ti wedi gwneud yr un math o beth yn erbyn pobl Dduw? Drwy roi'r dyfarniad yna i mi rwyt ti'n barnu dy hun yn euog. Ti ddim wedi gadael i dy fab, sy'n alltud, ddod yn ôl adre.
II S WelBeibl 14:14  Rhaid i ni i gyd farw rywbryd. Dŷn ni fel dŵr yn cael ei dywallt ar y tir a neb yn gallu ei gasglu'n ôl. Dydy Duw ddim yn cymryd bywyd rhywun cyn pryd; ond mae e'n trefnu ffordd i ddod â'r un sydd wedi'i alltudio yn ôl adre.
II S WelBeibl 14:15  Nawr, dw i wedi dod i siarad â'r brenin, fy meistr, am fod pobl yn codi ofn arna i. Rôn i'n meddwl, ‘Os gwna i siarad â'r brenin falle y bydd e'n gwneud beth dw i'n ei ofyn.
II S WelBeibl 14:16  Bydd y brenin yn siŵr o wrando. Bydd e'n fy achub i oddi wrth yr un sydd am fy ngyrru i a'm mab o'r etifeddiaeth roddodd Duw i ni.’
II S WelBeibl 14:17  Rôn i'n meddwl, ‘Bydd ateb y brenin yn dod â chysur i mi. Achos mae'r brenin fel angel Duw, yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg.’ Boed i'r ARGLWYDD dy Dduw fod gyda ti!”
II S WelBeibl 14:18  A dyma'r Brenin Dafydd yn ei hateb, “Dw i eisiau gwybod un peth. Paid cuddio dim oddi wrtho i.” “Gofyn, syr,” meddai'r wraig.
II S WelBeibl 14:19  “Ai Joab sydd wedi dy gael i wneud hyn?” meddai. A dyma'r wraig yn ateb, “Ie, alla i ddim gwadu'r peth syr. Joab drefnodd y cwbl, a dweud wrtho i beth i'w ddweud.
II S WelBeibl 14:20  Roedd e eisiau i ti edrych ar y sefyllfa o safbwynt gwahanol. Ond rwyt ti, syr, yn ddoeth fel angel Dduw. Ti'n deall popeth sy'n digwydd yn y wlad.”
II S WelBeibl 14:21  Yna dyma'r brenin yn galw Joab, “O'r gorau! Dyna wna i. Dos i nôl y bachgen Absalom.”
II S WelBeibl 14:22  Dyma Joab yn ymgrymu â'i wyneb ar lawr o flaen y brenin, a diolch iddo. Meddai wrtho, “Heddiw dw i'n gwybod fod gen ti ffydd yno i, dy was. Ti wedi caniatáu fy nghais i.”
II S WelBeibl 14:23  Felly dyma Joab yn mynd i lawr i Geshwr a dod ag Absalom yn ôl i Jerwsalem.
II S WelBeibl 14:24  Ond roedd y brenin wedi dweud, “Rhaid iddo fynd i'w dŷ ei hun. Gaiff e ddim fy ngweld i.” Felly dyma Absalom yn mynd i'w dŷ ei hun, heb gael gweld y brenin.
II S WelBeibl 14:25  Roedd Absalom yn cael ei ystyried y dyn mwyaf golygus yn Israel. Dyn cryf, iach, gyda'r corff perffaith.
II S WelBeibl 14:26  Roedd yn arfer torri ei wallt yn fyr bob blwyddyn am fod ei wallt wedi tyfu mor drwchus. Ar ôl torri ei wallt byddai'n ei bwyso, ac roedd dros ddau gilogram (yn ôl y safon brenhinol).
II S WelBeibl 14:27  Roedd gan Absalom dri mab ac un ferch. Enw'r ferch oedd Tamar, ac roedd hi'n ferch arbennig o hardd.
II S WelBeibl 14:28  Roedd Absalom wedi bod yn Jerwsalem am ddwy flynedd heb gael gweld y brenin,
II S WelBeibl 14:29  a dyma fe'n anfon neges at Joab i geisio'i gael i drefnu iddo gael gweld y brenin. Ond roedd Joab yn gwrthod mynd ato. Dyma fe'n anfon amdano eto, ond roedd Joab yn dal i wrthod mynd.
II S WelBeibl 14:30  Felly dyma Absalom yn dweud wrth ei weision, “Mae gan Joab gae o haidd nesa at fy nhir i. Ewch i'w roi ar dân.” A dyma weision Absalom yn gwneud hynny.
II S WelBeibl 14:31  Yna aeth Joab ar ei union i dŷ Absalom. “Pam mae dy weision di wedi rhoi fy nghae i ar dân?” meddai.
II S WelBeibl 14:32  A dyma Absalom yn ateb, “Edrych, gwnes i anfon neges atat ti am fy mod eisiau i ti fynd at y brenin, a gofyn iddo pam wnaeth e ddod â fi yn ôl o Geshwr os nad oedd e eisiau fy ngweld i. Byddai wedi bod yn well i mi aros yno! Nawr, dw i eisiau gweld y brenin. Os ydw i wedi gwneud rhywbeth o'i le, gad iddo fy lladd i!”
II S WelBeibl 14:33  Felly, dyma Joab yn mynd at y brenin a dweud hynny wrtho. Dyma'r brenin yn galw am Absalom, a dyma Absalom yn dod ato ac ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr. A dyma'r brenin yn ei gyfarch gyda chusan.
Chapter 15
II S WelBeibl 15:1  Beth amser wedyn dyma Absalom yn paratoi cerbyd a cheffylau iddo'i hun, a hanner cant o warchodwyr personol.
II S WelBeibl 15:2  Byddai'n codi'n fore a sefyll ar ochr y ffordd wrth giât y ddinas. Pan oedd unrhyw un yn dod heibio gydag achos cyfreithiol i'w setlo gan y brenin, byddai Absalom yn ei alw draw. Byddai'n gofyn iddo, “Un o ble wyt ti?” Os oedd hwnnw'n dweud ei fod yn perthyn i un o lwythau Israel,
II S WelBeibl 15:3  byddai Absalom yn dweud wrtho, “Gwranda, mae gen ti achos cryf, ond does gan y brenin neb ar gael i wrando arnat ti.”
II S WelBeibl 15:4  Wedyn byddai'n ychwanegu, “Piti na fyddwn ni'n cael fy ngwneud yn farnwr yn y wlad yma! Byddai pawb oedd ag achos ganddo yn gallu dod ata i. Byddwn i'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael tegwch.”
II S WelBeibl 15:5  Hefyd, pan fyddai rhywun yn dod ato ac ymgrymu o'i flaen, byddai Absalom yn estyn ei law a'i gofleidio a rhoi cusan iddo.
II S WelBeibl 15:6  Roedd yn gwneud hyn i bawb o Israel oedd yn dod i ofyn am gyfiawnder gan y brenin. A dyna sut wnaeth Absalom ennill cefnogaeth pobl Israel.
II S WelBeibl 15:7  Ar ôl pedair blynedd, dyma Absalom yn gofyn i'r brenin, “Plîs ga i fynd i Hebron i gyflawni adduned wnes i i'r ARGLWYDD?
II S WelBeibl 15:8  Pan oeddwn i'n byw yn Geshwr yn Syria, gwnes i addo ar lw: ‘Os bydd yr ARGLWYDD yn mynd â fi'n ôl i Jerwsalem, gwna i addoli'r ARGLWYDD yn Hebron.’”
II S WelBeibl 15:9  A dyma'r brenin yn ei ateb, “Dos, a bendith arnat ti.” Felly dyma Absalom yn mynd i ffwrdd i Hebron.
II S WelBeibl 15:10  Ond yna dyma Absalom yn anfon negeswyr cudd at lwythau Israel i gyd i ddweud, “Pan fyddwch chi'n clywed sŵn y corn hwrdd, cyhoeddwch: ‘Mae Absalom yn frenin yn Hebron.’”
II S WelBeibl 15:11  Roedd dau gant o ddynion wedi mynd gydag Absalom o Jerwsalem. Roedden nhw wedi cael gwahoddiad ganddo, ac wedi mynd yn gwbl ddiniwed heb wybod dim am ei fwriadau.
II S WelBeibl 15:12  Yna dyma Absalom yn cael Achitoffel, swyddog strategaeth Dafydd, i ddod ato o Gilo (y dre lle roedd e'n byw) i gyflwyno aberthau gydag e. Roedd y cynllwyn yn cryfhau, a nifer y bobl oedd o blaid Absalom yn cynyddu.
II S WelBeibl 15:13  Daeth neges at Dafydd i ddweud fod pobl Israel wedi troi at Absalom.
II S WelBeibl 15:14  Felly dyma Dafydd yn dweud wrth ei swyddogion yn Jerwsalem, “Rhaid i ni ffoi, neu wnawn ni ddim dianc oddi wrth Absalom. Dewch! Brysiwch i ni adael, rhag iddo'n dal ni a lladd pawb yn y ddinas!”
II S WelBeibl 15:15  Dyma'r swyddogion yn ateb, “Mae dy weision yn barod i wneud beth bynnag mae ein meistr, y brenin, yn ei benderfynu.”
II S WelBeibl 15:16  Felly dyma'r brenin yn gadael, a'i deulu a'i staff i gyd gydag e. Ond gadawodd ddeg o'i gariadon i edrych ar ôl y palas.
II S WelBeibl 15:17  Wrth iddo fynd, a'r bobl i gyd yn ei ddilyn, dyma nhw'n aros wrth y Tŷ Pellaf.
II S WelBeibl 15:18  Safodd yno tra oedd ei warchodlu i gyd yn mynd heibio (Cretiaid a Pelethiaid) a'r chwe chant o ddynion oedd wedi'i ddilyn o Gath. Wrth iddyn nhw fynd heibio
II S WelBeibl 15:19  dyma'r brenin yn galw ar Itai (oedd o Gath), “Pam ddylet ti ddod gyda ni? Dos yn ôl ac aros gyda'r brenin newydd. Un o'r tu allan wyt ti, yn alltud ac yn bell oddi cartref.
II S WelBeibl 15:20  Dim ond newydd gyrraedd wyt ti. Alla i ddim gwneud i ti grwydro o le i le ar fy ôl i! Dos yn ôl, a dos â dy bobl gyda ti. A boed i'r Duw ffyddlon dy amddiffyn di.”
II S WelBeibl 15:21  Ond dyma Itai yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a'm meistr y brenin yn fyw, bydda i'n mynd ble bynnag fyddi di'n mynd – hyd yn oed os fydd hynny'n golygu marw gyda ti.”
II S WelBeibl 15:22  A dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Dos yn dy flaen, felly.” Ac aeth Itai yn ei flaen gyda'i ddynion i gyd a'u teuluoedd.
II S WelBeibl 15:23  Roedd pawb yn crio'n uchel wrth i'r fyddin fynd heibio. Dyma'r brenin yn croesi Dyffryn Cidron ac aethon nhw i gyd ymlaen i gyfeiriad yr anialwch.
II S WelBeibl 15:24  Roedd Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid yno, a'r Lefiaid yn cario Arch Ymrwymiad Duw. Dyma nhw'n gosod yr Arch i lawr, a wnaethon nhw ddim ei chodi eto nes oedd y bobl i gyd wedi gadael y ddinas.
II S WelBeibl 15:25  Yna dyma'r brenin yn dweud wrth Sadoc, “Dos ag Arch Duw yn ôl i'r ddinas. Os bydd yr ARGLWYDD yn garedig ata i, bydd yn dod â fi'n ôl i'w gweld hi a'i chartref eto.
II S WelBeibl 15:26  Ond os ydy e'n dweud nad ydy e fy eisiau i bellach, dw i'n fodlon iddo wneud beth bynnag mae eisiau gyda mi.”
II S WelBeibl 15:27  Yna dyma'r brenin yn dweud wrth Sadoc yr offeiriad, “Wyt ti'n deall? Dos yn ôl i'r ddinas yn dawel fach, ti ac Abiathar a'ch meibion – Achimaäts, dy fab di, a Jonathan, mab Abiathar.
II S WelBeibl 15:28  Bydda i'n aros wrth y rhydau ar y ffordd i'r anialwch nes bydda i wedi clywed gynnoch chi.”
II S WelBeibl 15:29  Felly dyma Sadoc ac Abiathar yn mynd ag Arch Duw yn ôl i Jerwsalem, ac aros yno.
II S WelBeibl 15:30  Aeth Dafydd yn ei flaen i fyny Mynydd yr Olewydd, yn crio wrth fynd. Roedd yn cuddio'i ben a doedd dim am ei draed. Ac roedd pawb arall oedd gydag e wedi gorchuddio'u pennau ac yn crio hefyd.
II S WelBeibl 15:31  Clywodd Dafydd fod Achitoffel yn un o'r rhai oedd wedi cynllwynio gydag Absalom, dyma fe'n gweddïo, “ARGLWYDD, plîs gwna gyngor Achitoffel yn gyngor gwirion.”
II S WelBeibl 15:32  Wrth i Dafydd gyrraedd copa'r bryn lle roedd pobl yn arfer addoli, dyma Chwshai yr Arciad yn dod i'w gyfarfod, wedi rhwygo'i ddillad a rhoi pridd ar ei ben.
II S WelBeibl 15:33  Dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Os doi di gyda mi, byddi'n faich arna i;
II S WelBeibl 15:34  ond os ei di yn ôl i'r ddinas, dywed wrth Absalom, ‘Dw i am fod yn was i ti, o frenin. Mae'n wir mod i wedi bod yn was i Dafydd dy dad, ond nawr dw i am fod yn was i ti.’ Wedyn byddi'n gallu drysu cyngor Achitoffel.
II S WelBeibl 15:35  Bydd Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid yna gyda ti. Rhanna gyda nhw bopeth fyddi di'n ei glywed yn y palas brenhinol.
II S WelBeibl 15:36  Mae eu meibion gyda nhw hefyd, Achimaäts fab Sadoc, a Jonathan fab Abiathar. Gallwch eu hanfon nhw ata i i ddweud beth sy'n digwydd.”
II S WelBeibl 15:37  Felly dyma Chwshai, ffrind Dafydd, yn cyrraedd Jerwsalem pan oedd Absalom ar fin mynd i mewn i'r ddinas.
Chapter 16
II S WelBeibl 16:1  Roedd Dafydd newydd fynd dros gopa'r bryn pan ddaeth Siba, gwas Meffibosheth, i'w gyfarfod. Roedd ganddo ddau asyn wedi'u cyfrwyo yn cario dau gan torth, can swp o rhesins, can swp o ffigys aeddfed a photel groen o win.
II S WelBeibl 16:2  A dyma'r brenin yn gofyn, “Beth ydy'r rhain sydd gen ti?” Atebodd Siba, “Mae'r asynnod i ti a dy deulu farchogaeth arnyn nhw. Mae'r bara a'r ffrwythau i'r milwyr eu bwyta. Ac mae'r gwin i unrhyw un fydd yn llewygu yn yr anialwch.”
II S WelBeibl 16:3  Yna dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Ble mae Meffibosheth, ŵyr dy feistr?” “Mae wedi aros yn Jerwsalem,” meddai Siba. “Mae'n meddwl y bydd pobl Israel yn rhoi gorsedd ei daid yn ôl iddo fe nawr.”
II S WelBeibl 16:4  A dyma'r brenin yn dweud wrth Siba, “Os felly, dw i'n rhoi popeth oedd piau Meffibosheth i ti!” A dyma Siba'n dweud, “Dw i'n plygu o dy flaen di, fy meistr a'm brenin. Ti'n rhy garedig ata i.”
II S WelBeibl 16:5  Pan ddaeth Dafydd i Bachwrîm, dyma ddyn o'r enw Shimei fab Gera (oedd yn perthyn i deulu Saul) yn dod allan o'r pentref. Roedd yn rhegi Dafydd yn ddi-stop
II S WelBeibl 16:6  ac yn taflu cerrig ato, ac at y swyddogion, y milwyr a'r gwarchodlu oedd bob ochr iddo.
II S WelBeibl 16:7  Roedd Shimei yn gweiddi a rhegi, “Dos o ma! Dos o ma, y llofrudd ddiawl!
II S WelBeibl 16:8  Mae'r ARGLWYDD yn talu'n ôl i ti am ladd teulu Saul. Roeddet ti wedi dwyn yr orsedd oddi arno, a nawr mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r deyrnas i dy fab Absalom. Maen dy dro di i fod mewn helynt, y llofrudd!”
II S WelBeibl 16:9  Dyma Abishai (mab Serwia) yn dweud wrth y brenin, “Pam ddylai ci marw fel hwnna gael rhegi fy meistr, y brenin? Gad i mi fynd a thorri ei ben i ffwrdd!”
II S WelBeibl 16:10  Ond dyma'r brenin yn ateb, “Dydy e ddim o'ch busnes chi, feibion Serwia. Os ydy e'n fy rhegi fel hyn am fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho am fy melltithio i, pwy ydych chi i'w stopio?”
II S WelBeibl 16:11  A dyma Dafydd yn dweud wrth Abishai a'i swyddogion, “Mae fy mab i fy hun yn ceisio fy lladd i! Meddyliwch! Mae gan y dyn yma o lwyth Benjamin lot mwy o reswm i fod eisiau gwneud hynny! Gadewch lonydd iddo regi os mai'r ARGLWYDD sydd wedi dweud wrtho am wneud hynny.
II S WelBeibl 16:12  Falle y bydd yr ARGLWYDD yn gweld mod i'n cael cam, ac yn gwneud da i mi yn lle'r holl felltithio yma.”
II S WelBeibl 16:13  Felly aeth Dafydd a'i filwyr yn eu blaenau ar y ffordd. Ond roedd Shimei yn cadw i fyny â nhw ar ochr y bryn gyferbyn, ac yn rhegi a thaflu cerrig a phridd atyn nhw.
II S WelBeibl 16:14  Roedd y brenin a'r bobl i gyd wedi blino'n lân erbyn iddyn nhw gyrraedd, felly dyma nhw'n cymryd seibiant.
II S WelBeibl 16:15  Yn y cyfamser, roedd Absalom, a byddin Israel gyfan, wedi cyrraedd Jerwsalem. Roedd Achitoffel gydag e.
II S WelBeibl 16:16  Yna dyma ffrind Dafydd, Chwshai yr Arciad, yn mynd i gyfarch Absalom a dweud, “Hir oes i'r brenin! Hir oes i'r brenin!”
II S WelBeibl 16:17  Gofynnodd Absalom iddo, “Ai dyma beth ydy bod yn driw i dy ffrind, Dafydd? Pam est ti ddim gydag e?”
II S WelBeibl 16:18  A dyma Chwshai yn ateb, “Na, dw i'n driw i'r un mae'r ARGLWYDD a'r bobl yma, sef pobl Israel i gyd, wedi'i ddewis. Gyda hwnnw bydda i'n aros.
II S WelBeibl 16:19  A beth bynnag, rwyt ti'n fab iddo! Pam ddylwn i ddim dy wasanaethu di? Gwna i dy wasanaethu di fel gwnes i wasanaethu dy dad.”
II S WelBeibl 16:20  Dyma Absalom yn gofyn i Achitoffel, “Rho gyngor i ni. Be ddylen ni ei wneud nesa?”
II S WelBeibl 16:21  A dyma Achitoffel yn ateb, “Cysga gyda phartneriaid dy dad – y rhai wnaeth e eu gadael i edrych ar ôl y palas. Bydd pawb yn Israel yn gwybod wedyn dy fod wedi troi dy dad yn dy erbyn yn llwyr, a bydd hynny'n rhoi hyder i bawb sydd ar dy ochr di.”
II S WelBeibl 16:22  Felly dyma nhw'n codi pabell i Absalom ar do fflat y palas, lle roedd pawb yn gallu gweld. A dyma Absalom yn mynd yno a chael rhyw gyda chariadon ei dad i gyd.
II S WelBeibl 16:23  (Yr adeg yna, roedd cyngor Achitoffel yn cael ei ystyried fel petai Duw ei hun wedi siarad. Dyna sut roedd Dafydd yn ei weld, a nawr Absalom hefyd.)
Chapter 17
II S WelBeibl 17:1  Yna dyma Achitoffel yn dweud wrth Absalom, “Gad i mi gymryd 12,000 o ddynion, a mynd allan ar ôl Dafydd, heno!
II S WelBeibl 17:2  Bydd e wedi blino'n lân ac yn wan erbyn i mi ddal i fyny ag e. Bydda i'n ei ddychryn, a bydd ei fyddin yn dianc mewn panig. Dim ond y brenin wna i ei ladd.
II S WelBeibl 17:3  Gwna i ddod â gweddill y bobl yn ôl atat ti. Dim ond un dyn sydd angen ei ladd. Fydd neb arall yn cael niwed.”
II S WelBeibl 17:4  Roedd yn swnio'n gynllun da i Absalom ac arweinwyr Israel i gyd.
II S WelBeibl 17:5  Ond yna dyma Absalom yn dweud, “Dewch â Chwshai yr Arciad yma, i ni weld beth sydd ganddo fe i'w ddweud.”
II S WelBeibl 17:6  Pan ddaeth Chwshai, dyma Absalom yn dweud wrtho beth oedd cyngor Achitoffel. “Beth ydy dy farn di? Ydy e'n gyngor da? Ac os ddim, beth wyt ti'n awgrymu?”
II S WelBeibl 17:7  Dyma Chwshai yn ateb, “Na, dydy cyngor Achitoffel ddim yn dda y tro yma.
II S WelBeibl 17:8  Mae dy dad a'i ddynion yn filwyr dewr. Ti'n gwybod hynny'n iawn. Maen nhw'n gallu bod mor filain ag arth wyllt wedi colli ei chenawon! Mae e wedi hen arfer rhyfela. Fyddai e byth yn cysgu'r nos gyda'i ddynion.
II S WelBeibl 17:9  Mae'n siŵr ei fod yn cuddio mewn rhyw ogof neu rywle tebyg. Petai e'n ymosod ar dy ddynion di gyntaf, a rhai ohonyn nhw'n cael eu lladd, byddai'r stori'n mynd ar led fod byddin Absalom wedi cael crasfa.
II S WelBeibl 17:10  Byddai hyd yn oed y milwyr mwyaf dewr – y rhai sy'n gryfion fel llewod – yn digalonni. Mae pobl Israel i gyd yn gwybod fod dy dad wedi hen arfer rhyfela, a bod y dynion sydd gydag e'n filwyr profiadol.
II S WelBeibl 17:11  Dyma fy nghyngor i: Casgla ddynion Israel i gyd at ei gilydd, pawb – o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de (Byddin fydd fel y tywod ar lan y môr, yn amhosib i'w chyfrif!) A dw i'n meddwl y dylet ti dy hun eu harwain nhw i'r frwydr.
II S WelBeibl 17:12  Wedyn, ble bynnag mae e, byddwn ni'n disgyn arno fel gwlith ar y ddaear. Fydd e na neb arall sydd gydag e'n cael eu gadael yn fyw!
II S WelBeibl 17:13  A hyd yn oed os bydd e'n llwyddo i ddianc i ryw dref gaerog, bydd dynion Israel yn tynnu'r waliau i lawr gyda rhaffau a llusgo'r dref i lawr i'r dyffryn. Fydd dim un garreg fechan ar ôl!”
II S WelBeibl 17:14  A dyma Absalom ac arweinwyr Israel yn ymateb, “Mae cyngor Chwshai yn well na chyngor Achitoffel.” A dyna sut gwnaeth yr ARGLWYDD ddrysu cyngor da Achitoffel er mwyn achosi helynt i Absalom.
II S WelBeibl 17:15  Yna dyma Chwshai yn mynd i ddweud wrth Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid beth oedd cyngor Achitoffel i Absalom, a beth oedd e ei hun wedi'i ddweud.
II S WelBeibl 17:16  “Anfonwch neges ar frys at Dafydd i ddweud wrtho am beidio aros dros nos wrth rydau'r anialwch,” meddai. “Dwedwch wrtho am groesi'r Iorddonen yn syth, rhag ofn iddo fe a phawb sydd gydag e gael eu lladd.”
II S WelBeibl 17:17  Roedd Jonathan ac Achimaäts (meibion yr offeiriaid) yn aros yn En-rogel. Felly byddai morwyn yn mynd â negeseuon iddyn nhw, a hwythau wedyn yn mynd â'r negeseuon ymlaen i'r brenin Dafydd. (Doedd wiw iddyn nhw gael eu gweld yn mynd i mewn i Jerwsalem.)
II S WelBeibl 17:18  Ond roedd rhyw fachgen ifanc wedi'u gweld nhw, a mynd i ddweud wrth Absalom. Felly dyma'r ddau yn gadael ar frys, ac aethon nhw i dŷ rhyw ddyn yn Bachwrîm. Roedd gan hwnnw bydew yn ei fuarth, a dyma nhw'n dringo i lawr i'r pydew.
II S WelBeibl 17:19  Yna dyma wraig y dyn yn rhoi gorchudd dros geg y pydew a thaenu grawn drosto, fel bod dim i'w weld.
II S WelBeibl 17:20  Pan ddaeth gweision Absalom at y tŷ dyma nhw'n gofyn i'r wraig, “Ble mae Achimaäts a Jonathan?” A dyma hi'n ateb, “Maen nhw wedi croesi'r nant.” Aeth y dynion i chwilio amdanyn nhw, ond methu dod o hyd iddyn nhw. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Jerwsalem.
II S WelBeibl 17:21  Pan oedden nhw wedi mynd, dyma Achimaäts a Jonathan yn dringo allan o'r pydew a mynd i roi'r neges i'r Brenin Dafydd. Dyma nhw'n dweud wrtho am frysio i groesi'r afon, a beth oedd cyngor Achitoffel yn ei erbyn.
II S WelBeibl 17:22  Felly dyma Dafydd a'i fyddin yn croesi afon Iorddonen. Roedden nhw i gyd wedi croesi cyn iddi wawrio y bore wedyn.
II S WelBeibl 17:23  Pan welodd Achitoffel fod ei gyngor wedi'i wrthod, dyma fe'n cyfrwyo'i asyn a mynd adre. Ar ôl rhoi trefn ar ei bethau, dyma fe'n crogi ei hun; a chafodd ei gladdu ym medd y teulu.
II S WelBeibl 17:24  Roedd Dafydd wedi hen gyrraedd Machanaîm erbyn i Absalom a byddin Israel i gyd groesi'r Iorddonen.
II S WelBeibl 17:25  Roedd Absalom wedi penodi Amasa yn bennaeth y fyddin yn lle Joab. (Roedd Amasa yn fab i Ismaeliad o'r enw Ithra ac Abigail, merch Nachash a chwaer Serwia, mam Joab.)
II S WelBeibl 17:26  Felly dyma Absalom a byddin Israel yn codi gwersyll yn ardal Gilead.
II S WelBeibl 17:27  Wrth i Dafydd gyrraedd Machanaîm, dyma Shobi fab Nachash o Rabba'r Ammoniaid, Machir fab Ammiel o Lo-defâr, a Barsilai o Gilead, o Rogelîm,
II S WelBeibl 17:28  yn dod â gwlâu, powlenni, a llestri iddo. Dyma nhw hefyd yn dod â bwyd i Dafydd a'r milwyr oedd gydag e – gwenith, haidd, blawd, grawn wedi'i grasu, ffa, ffacbys,
II S WelBeibl 17:29  mêl, caws colfran o laeth dafad a chaws o laeth buwch. Roedden nhw'n gwybod y byddai pawb eisiau bwyd ac wedi blino, ac yn sychedig ar ôl bod allan yn yr anialwch.
Chapter 18
II S WelBeibl 18:1  Dyma Dafydd yn casglu'r milwyr oedd gydag e at ei gilydd, a phenodi capteiniaid ar unedau o fil ac o gant.
II S WelBeibl 18:2  Yna anfonodd nhw allan yn dair catrawd. Roedd un o dan awdurdod Joab, un o dan ei frawd Abishai (mab Serwia), a'r llall o dan Itai o Gath. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dw i'n hun am ddod allan i ymladd gyda chi hefyd.”
II S WelBeibl 18:3  Ond dyma'r dynion yn ateb, “Na, paid. Petai'n rhaid i ni ffoi am ein bywydau fyddai neb yn malio – hyd yn oed petai hanner y fyddin yn cael eu lladd! Ond rwyt ti'n werth deg mil ohonon ni. Byddai'n fwy o help i ni petaet ti'n aros yn y dre.”
II S WelBeibl 18:4  Atebodd y brenin, “Os mai dyna dych chi'n feddwl sydd orau, dyna wna i.” Yna safodd y brenin wrth giât y dre wrth i'r dynion fynd allan fesul catrawd.
II S WelBeibl 18:5  A dyma fe'n gweiddi ar Joab, Abishai ac Itai, “Er fy mwyn i, byddwch yn garedig at y bachgen Absalom.” (Roedd y fyddin gyfan wedi'i glywed yn rhoi'r gorchymyn yma i'w swyddogion.)
II S WelBeibl 18:6  Dyma nhw'n mynd allan i frwydro yn erbyn byddin Israel. Roedd y brwydro yng Nghoedwig Effraim,
II S WelBeibl 18:7  a dyma ddilynwyr Dafydd yn gorchfygu byddin Israel. Roedd colledion mawr. Cafodd dau ddeg mil eu lladd y diwrnod hwnnw.
II S WelBeibl 18:8  Roedd y brwydro wedi lledu i bobman, a chafodd mwy o ddynion eu lladd o achos peryglon y goedwig na gafodd eu lladd â'r cleddyf!
II S WelBeibl 18:9  Yn ystod y frwydr dyma rai o ddynion Dafydd yn dod ar draws Absalom. Roedd yn reidio ar gefn ei ful. Wrth i'r mul fynd o dan ganghennau rhyw goeden fawr, dyma ben Absalom yn cael ei ddal yn y goeden. Aeth y mul yn ei flaen, a gadael Absalom yn hongian yn yr awyr.
II S WelBeibl 18:10  Gwelodd un o'r dynion beth ddigwyddodd a mynd i ddweud wrth Joab, “Dw i newydd weld Absalom yn hongian o goeden fawr.”
II S WelBeibl 18:11  Atebodd Joab, “Beth? Welaist ti e? Pam wnes ddim ei ladd e yn y fan a'r lle? Byddwn i wedi rhoi deg darn arian a medal i ti.”
II S WelBeibl 18:12  Ond dyma'r dyn yn dweud, “Hyd yn oed petawn i'n cael mil o ddarnau arian, fyddwn ni ddim yn cyffwrdd mab y brenin! Clywodd pawb y brenin yn dy siarsio di ac Abishai ac Itai i ofalu am y bachgen Absalom.
II S WelBeibl 18:13  Petawn i wedi gwneud rhywbeth iddo byddai'r brenin yn siŵr o fod wedi clywed, a byddet ti wedi gadael i mi gymryd y bai!”
II S WelBeibl 18:14  Dyma Joab yn ei ateb, “Dw i ddim am wastraffu amser fel yma.” A dyma fe'n cymryd tair gwaywffon a'u gwthio nhw drwy galon Absalom pan oedd yn dal yn fyw yn y goeden.
II S WelBeibl 18:15  Yna dyma'r deg llanc oedd yn gofalu am arfau Joab yn casglu o gwmpas Absalom, a'i ladd.
II S WelBeibl 18:16  Yna chwythodd Joab y corn hwrdd, a dyma nhw'n rhoi'r gorau i fynd ar ôl byddin Israel am fod Joab wedi'u galw'n ôl.
II S WelBeibl 18:17  Cafodd corff Absalom ei daflu i bydew dwfn yn y goedwig, a dyma nhw'n gosod pentwr mawr o gerrig drosto. Yn y cyfamser, roedd milwyr Israel i gyd wedi dianc am adre.
II S WelBeibl 18:18  Pan oedd yn dal yn fyw roedd Absalom wedi codi cofgolofn iddo'i hun yn Nyffryn y Brenin am fod ganddo fe ddim mab i gadw ei enw i fynd. Roedd wedi gosod ei enw ei hun arni, a hyd heddiw mae'r golofn yn cael ei galw yn ‛Gofeb Absalom‛.
II S WelBeibl 18:19  Dyma Achimaäts, mab Sadoc, yn gofyn i Joab, “Gad i mi redeg i roi'r newyddion da i'r brenin fod yr ARGLWYDD wedi'i achub o afael ei elynion.”
II S WelBeibl 18:20  Ond dyma Joab yn ateb, “Na, gei di ddim mynd â'r newyddion iddo heddiw. Cei fynd â newyddion da iddo rywbryd eto. Ond dydy e ddim yn newyddion da i'r brenin fod ei fab wedi marw.”
II S WelBeibl 18:21  Yna dyma Joab yn dweud wrth filwr du o Affrica, “Dos di i ddweud wrth y brenin beth rwyt ti wedi'i weld heddiw.” Ar ôl ymgrymu o flaen Joab i ffwrdd â fe.
II S WelBeibl 18:22  Ond roedd Achimaäts, mab Sadoc, yn dal i grefu ar Joab, “Plîs, plîs, gad i mi fynd hefyd ar ôl y dyn yna o Affrica.” Dyma Joab yn gofyn iddo, “Pam wyt ti mor awyddus i fynd, machgen i? Fydd yna ddim gwobr i ti.”
II S WelBeibl 18:23  Ond roedd yn dal i bledio, “Plîs, dw i eisiau mynd.” Felly dyma Joab yn gadael iddo fynd. A dyma Achimaäts yn rhedeg ar hyd gwastatir yr Iorddonen, a phasio'r Affricanwr.
II S WelBeibl 18:24  Roedd Dafydd yn eistedd rhwng y giât fewnol a'r giât allanol. Aeth gwyliwr i fyny i ben y to uwchben y giât. Edrychodd allan a gweld dyn yn rhedeg ar ei ben ei hun.
II S WelBeibl 18:25  A dyma fe'n galw i lawr i ddweud wrth y brenin. A dyma'r brenin yn dweud, “Os ydy e ar ei ben ei hun mae'n rhaid bod ganddo newyddion.” Ond wrth i'r rhedwr ddod yn agosach,
II S WelBeibl 18:26  dyma'r gwyliwr yn gweld dyn arall. A dyma fe'n galw ar yr un oedd yn gwarchod y giât, “Mae yna ddyn arall yn dod, yn rhedeg ar ei ben ei hun.” A dyma'r brenin yn dweud, “Mae gan hwn newyddion hefyd.”
II S WelBeibl 18:27  Yna dyma'r gwyliwr yn dweud, “Dw i'n meddwl mai Achimaäts fab Sadoc ydy'r rhedwr cyntaf.” A dyma'r brenin yn ateb, “Dyn da ydy e. Mae'n dod â newyddion da.”
II S WelBeibl 18:28  Yna dyma Achimaäts yn cyrraedd a chyfarch y brenin ac ymgrymu â'i wyneb ar lawr o'i flaen, a dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw! Mae wedi trechu'r dynion oedd wedi troi yn erbyn y brenin!”
II S WelBeibl 18:29  A dyma'r brenin yn gofyn, “Ydy'r bachgen Absalom yn iawn?” Ac meddai Achimaäts, “Roedd rhyw helynt mawr pan anfonodd Joab was y brenin a minnau i ffwrdd. Ond dw i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd.”
II S WelBeibl 18:30  “Symud i'r ochr, a sefyll yna” meddai'r brenin. A dyma Achimaäts yn gwneud hynny.
II S WelBeibl 18:31  Yna dyma'r milwr o Affrica yn cyrraedd a dweud, “Newyddion da i'm meistr, y brenin! Mae'r ARGLWYDD wedi dy achub di o afael y rhai oedd wedi codi yn dy erbyn.”
II S WelBeibl 18:32  A dyma'r brenin yn holi'r dyn, “Ydy'r bachgen Absalom yn iawn?” A dyma fe'n ateb, “O na fyddai dy elynion i gyd a phawb sy'n codi yn dy erbyn fel y dyn ifanc yna!”
II S WelBeibl 18:33  Roedd y brenin wedi ypsetio'n lân. Aeth i fyny i'r ystafell uwchben y giât yn crio, a dweud drosodd a throsodd, “O fy mab! O, Absalom fy mab i! Fy mab Absalom! Pam ges i ddim marw yn dy le di? O Absalom, fy mab! O, fy mab i.”
Chapter 19
II S WelBeibl 19:1  Dyma rywun yn dweud wrth Joab. “Mae'r brenin yn crio ac yn galaru am Absalom.”
II S WelBeibl 19:2  Pan glywodd y fyddin fod y brenin wedi torri ei galon am fod ei fab wedi marw, dyma'r fuddugoliaeth yn troi'n ddiwrnod o alar i bawb.
II S WelBeibl 19:3  Pan ddaeth y fyddin yn ôl i Machanaîm, roedden nhw'n llusgo i mewn i'r dre fel byddin yn llawn cywilydd am eu bod wedi colli'r frwydr.
II S WelBeibl 19:4  Roedd y brenin â'i wyneb yn ei ddwylo, yn crio'n uchel, “O fy mab Absalom! Absalom, fy mab i, fy mab i!”
II S WelBeibl 19:5  Dyma Joab yn mynd i'r tŷ at y brenin, a dweud, “Mae dy weision wedi achub dy fywyd di a bywydau dy blant, dy wragedd a dy gariadon heddiw. A dyma ti, yn codi cywilydd arnyn nhw i gyd!
II S WelBeibl 19:6  Rwyt ti fel petaet ti'n caru'r rhai sy'n dy gasáu, ac yn casáu'r rhai sy'n dy garu di! Mae'n amlwg fod dy swyddogion a'r dynion yma i gyd yn golygu dim i ti. Mae'n siŵr y byddai'n well gen ti petai Absalom yn dal yn fyw, a ninnau i gyd wedi marw!
II S WelBeibl 19:7  Nawr, dos allan yna i longyfarch ac annog dy weision. Dw i'n addo i ti o flaen yr ARGLWYDD, os na ei di allan fydd gen ti neb ar dy ochr di erbyn heno. Bydd pethau'n waeth arnat ti na fuon nhw erioed o'r blaen!”
II S WelBeibl 19:8  Felly dyma'r brenin yn codi, a mynd allan i eistedd wrth giât y ddinas. Pan ddywedwyd wrth y bobl ei fod yno, dyma nhw i gyd yn mynd i sefyll o'i flaen. Roedd milwyr Israel (oedd wedi cefnogi Absalom) i gyd wedi dianc am adre.
II S WelBeibl 19:9  Roedd yna lot fawr o drafod a dadlau drwy lwythau Israel i gyd. Roedd pobl yn dweud, “Y brenin wnaeth ein hachub ni o afael ein gelynion. Achubodd ni o afael y Philistiaid, ond mae e wedi ffoi o'r wlad o achos Absalom!
II S WelBeibl 19:10  A nawr mae Absalom, gafodd ei wneud yn frenin arnon ni, wedi cael ei ladd yn y frwydr. Pam yr oedi? Ddylen ni ddim gofyn i Dafydd ddod yn ôl?”
II S WelBeibl 19:11  Dyma'r Brenin Dafydd yn anfon neges at Sadoc ac Abiathar, yr offeiriaid: “Gofynnwch i arweinwyr Jwda, ‘Pam ddylech chi fod y rhai olaf i ofyn i mi ddod yn ôl? Dw i wedi clywed fod Israel i gyd yn barod!
II S WelBeibl 19:12  Dŷn ni'n perthyn i'n gilydd! Dŷn ni'r un cig a gwaed! Pam ddylech chi fod y rhai olaf i ofyn i mi ddod yn ôl?’
II S WelBeibl 19:13  Hefyd rhowch y neges yma i Amasa: ‘Ti'n perthyn yn agos i mi. Dw i'n addo i ti o flaen Duw mai ti fydd pennaeth y fyddin yn lle Joab o hyn ymlaen.’”
II S WelBeibl 19:14  Felly llwyddodd i ennill cefnogaeth pobl Jwda i gyd – roedden nhw'n hollol unfrydol. A dyma nhw'n anfon neges at y brenin, “Tyrd yn ôl, ti a dy ddynion i gyd.”
II S WelBeibl 19:15  Dyma'r brenin yn cychwyn am yn ôl. Pan gyrhaeddodd afon Iorddonen roedd pobl Jwda wedi dod i Gilgal i'w gyfarfod a'i hebrwng dros yr afon.
II S WelBeibl 19:16  Roedd Shimei fab Gera (oedd o Bachwrîm, ac o lwyth Benjamin) wedi brysio i lawr hefyd gyda phobl Jwda, i gyfarfod y Brenin Dafydd.
II S WelBeibl 19:17  Roedd mil o ddynion o lwyth Benjamin gydag e, gan gynnwys Siba, gwas teulu Saul, a'i un deg pump mab a dau ddeg o weision. Roedden nhw wedi croesi'r dŵr i gyfarfod y brenin,
II S WelBeibl 19:18  ac yn cario pethau yn ôl ac ymlaen dros y rhyd, er mwyn helpu teulu'r brenin drosodd ac ennill ei ffafr. Ar ôl iddo groesi'r afon, dyma Shimei fab Gera yn taflu ei hun ar lawr o flaen y brenin,
II S WelBeibl 19:19  a dweud wrtho, “Paid dal dig wrtho i, syr. Paid meddwl am beth wnes i y diwrnod hwnnw est ti allan o Jerwsalem. Plîs wnei di anghofio'r cwbl.
II S WelBeibl 19:20  Dw i'n gwybod mod i wedi gwneud peth drwg. Dyna pam mai fi ydy'r cyntaf o deulu Joseff i gyd i ddod i dy gyfarfod di, fy meistr, y brenin.”
II S WelBeibl 19:21  Dyma Abishai (mab Serwia) yn dweud, “Dylai Shimei farw! Roedd e'n rhegi yr un mae'r ARGLWYDD wedi'i eneinio'n frenin!”
II S WelBeibl 19:22  Ond dyma Dafydd yn ei ateb, “Dydy hyn ddim o'ch busnes chi feibion Serwia! Pam dych chi'n tynnu'n groes i mi? Ddylai neb yn Israel gael ei ladd heddiw. Meddyliwch! Dw i'n frenin ar Israel unwaith eto.”
II S WelBeibl 19:23  Yna dyma'r brenin yn addo ar lw i Shimei, “Fyddi di ddim yn cael dy ladd.”
II S WelBeibl 19:24  Roedd Meffibosheth, ŵyr Saul, wedi dod i gyfarfod y brenin hefyd. Doedd e ddim wedi trin ei draed, trimio'i farf na golchi ei ddillad o'r diwrnod wnaeth y brenin adael Jerwsalem hyd nes iddo gyrraedd yn ôl yn saff.
II S WelBeibl 19:25  Pan ddaeth e o Jerwsalem i gyfarfod y brenin, dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Pam wnest ti ddim dod gyda mi, Meffibosheth?”
II S WelBeibl 19:26  Dyma fe'n ateb, “Meistr, fy mrenin. Fy ngwas wnaeth fy nhwyllo i. Am fy mod i'n gloff, rôn i wedi dweud wrtho am gyfrwyo asyn i mi ddod gyda ti.
II S WelBeibl 19:27  Ond dyma fe'n gadael a dweud celwydd amdana i wrth y brenin. Ond fy mrenin, syr, rwyt ti fel angel Duw. Gwna beth rwyt ti'n feddwl sydd orau.
II S WelBeibl 19:28  Roedd fy nheulu i gyd yn haeddu cael eu lladd gen ti, ond ces i eistedd i fwyta wrth dy fwrdd di. Sut alla i gwyno?”
II S WelBeibl 19:29  A dyma'r brenin yn ateb, “Does dim angen dweud dim mwy. Dyma dw i wedi'i benderfynu: Fod y tir i gael ei rannu rhyngot ti a Siba.”
II S WelBeibl 19:30  “Gad iddo fe gymryd y cwbl,” meddai Meffibosheth, “Beth sy'n bwysig i mi ydy dy fod ti, syr, wedi dod yn ôl adre'n saff.”
II S WelBeibl 19:31  Roedd Barsilai o Gilead wedi dod i lawr o Rogelîm, ac wedi croesi'r Iorddonen i hebrwng y brenin ar ei ffordd.
II S WelBeibl 19:32  Roedd yn hen iawn – yn wyth deg oed – ac wedi gofalu am y brenin tra oedd yn aros yn Machanaîm. Roedd yn ddyn pwysig iawn.
II S WelBeibl 19:33  Dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Tyrd gyda mi i Jerwsalem, a gwna i dy gynnal di yno.”
II S WelBeibl 19:34  Ond dyma Barsilai yn ateb, “Na, does dim pwynt i mi ddod i Jerwsalem. Fydda i ddim byw yn hir iawn eto.
II S WelBeibl 19:35  Dw i'n wyth deg oed, ac yn dda i ddim i neb. Dw i ddim yn cael yr un blas ar fwyd a diod ag oeddwn i. Alla i ddim clywed dynion a merched yn canu. Pam ddylwn i fod yn fwrn ar fy meistr, y brenin?
II S WelBeibl 19:36  Gwna i ddod gyda ti beth o'r ffordd yr ochr draw i'r Iorddonen, ond does dim angen i'r brenin roi'r fath wobr i mi.
II S WelBeibl 19:37  Plîs, gad i mi fynd adre i farw yn y dref lle mae dad a mam wedi cael eu claddu. Ond mae dy was Cimham yma, gad iddo fe fynd gyda ti yn fy lle i, syr. Cei roi beth bynnag wyt eisiau iddo fe.”
II S WelBeibl 19:38  Dyma'r brenin yn ateb, “Iawn, caiff Cimham ddod gyda mi, a gwna i roi iddo fe beth fyddwn i wedi'i roi ti. A chei dithau beth rwyt ti eisiau.”
II S WelBeibl 19:39  Felly dyma'r bobl i gyd yn croesi'r Iorddonen gyda'r brenin. Roedd y brenin wedi cusanu ffarwél i Barsilai a'i fendithio, ac roedd Barsilai wedi mynd adre.
II S WelBeibl 19:40  Pan aeth y brenin drosodd i Gilgal aeth Cimham gydag e. Roedd milwyr Jwda i gyd a hanner rhai Israel wedi dod i hebrwng y brenin dros yr afon.
II S WelBeibl 19:41  Ond dechreuodd dynion Israel i gyd fynd at y brenin, yn gofyn iddo, “Pam mae'n brodyr ni, pobl Jwda, wedi sleifio'r brenin a'i deulu ar draws yr afon gyda'i filwyr i gyd?”
II S WelBeibl 19:42  “I'n llwyth ni mae'r brenin yn perthyn,” meddai dynion Jwda. “Pam dych chi'n codi helynt am y peth? Ydyn ni wedi cael bwyd yn dâl ganddo? Neu wobr o ryw fath?”
II S WelBeibl 19:43  A dyma ddynion Israel yn ateb yn ôl, “Mae gynnon ni ddeg gwaith cymaint o hawl ar y brenin â chi! Pam dych chi'n ein bychanu ni fel yma? Ni oedd y rhai cyntaf i awgrymu dod â'r brenin yn ôl!” Ond roedd dynion Jwda'n dweud pethau tipyn mwy cas na dynion Israel.
Chapter 20
II S WelBeibl 20:1  Roedd yna ddyn o lwyth Benjamin yno ar y pryd – Sheba fab Bichri, dyn drwg oedd yn codi twrw. Dyma fe'n chwythu'r corn hwrdd a gweiddi, “Does gynnon ni ddim i'w wneud â Dafydd; Dŷn ni ddim yn perthyn i deulu Jesse! Yn ôl adre bobl Israel!”
II S WelBeibl 20:2  Felly dyma ddynion Israel i gyd yn gadael Dafydd a dilyn Sheba fab Bichri. Ond arhosodd dynion Jwda gyda'r brenin a mynd gydag e o afon Iorddonen i Jerwsalem.
II S WelBeibl 20:3  Ar ôl cyrraedd y palas yn Jerwsalem dyma Dafydd yn trefnu fod y deg cariad roedd e wedi'u gadael i ofalu am y palas i'w cadw dan warchodaeth. Trefnodd fod ganddyn nhw bopeth roedden nhw'i angen, ond gafodd e ddim perthynas gyda nhw byth eto. Buon nhw'n byw fel gweddwon, dan glo am weddill eu bywydau.
II S WelBeibl 20:4  Yna dyma Dafydd yn dweud wrth Amasa, “Dos i gasglu milwyr Jwda ata i, a bydd yn ôl yma cyn pen tridiau.”
II S WelBeibl 20:5  I ffwrdd ag Amasa i gasglu milwyr Jwda at ei gilydd, ond cymerodd fwy o amser nag a roddodd Dafydd iddo.
II S WelBeibl 20:6  Felly dyma Dafydd yn dweud wrth Abishai, “Mae Sheba fab Bichri yn mynd i achosi mwy o helynt i mi nag Absalom! Cymer y dynion sydd gen i a dos ar ei ôl, rhag iddo gipio trefi caerog oddi arnon ni a llwyddo i ddianc.”
II S WelBeibl 20:7  Felly dyma ddynion Joab yn gadael Jerwsalem gyda gwarchodlu'r brenin (Cretiaid a Pelethiaid) a'r milwyr gorau eraill i gyd, a mynd ar ôl Sheba fab Bichri.
II S WelBeibl 20:8  Pan gyrhaeddon nhw'r graig fawr sydd yn Gibeon roedd Amasa yn dod i'w cyfarfod. Roedd Joab yn ei lifrai milwrol, gyda chleddyf yn ei wain ar y belt oedd am ei ganol. Wrth iddo gamu ymlaen dyma'r cleddyf yn syrthio ar lawr.
II S WelBeibl 20:9  Dyma fe'n cyfarch Amasa, “Sut wyt ti frawd?” Yna gafaelodd ym marf Amasa gyda'i law dde wrth ei gyfarch gyda chusan.
II S WelBeibl 20:10  Doedd Amasa ddim wedi sylwi fod dagr yn llaw chwith Joab, a dyma Joab yn ei drywanu yn ei fol nes i'w berfedd dywallt ar lawr. Doedd dim rhaid ei drywanu yr ail waith, roedd yr ergyd gyntaf wedi'i ladd. Yna dyma Joab a'i frawd Abishai yn mynd yn ei blaenau ar ôl Sheba fab Bichri.
II S WelBeibl 20:11  Dyma un o swyddogion ifanc Joab yn sefyll wrth gorff Amasa a gweiddi, “Pawb sydd o blaid Joab ac yn cefnogi Dafydd, dilynwch Joab!”
II S WelBeibl 20:12  (Roedd Amasa yn gorwedd yno mewn pwll o waed ar ganol y ffordd.) Pan welodd y swyddog fod y milwyr i gyd yn aros i edrych ar y corff yn lle mynd heibio, dyma fe'n llusgo'r corff o'r ffordd i'r cae a thaflu clogyn drosto.
II S WelBeibl 20:13  Wedi i'r corff gael ei symud o'r ffordd dyma'r fyddin i gyd yn dilyn Joab i fynd ar ôl Sheba fab Bichri.
II S WelBeibl 20:14  Roedd Sheba wedi teithio o gwmpas llwythau Israel i gyd, a chyrraedd Abel-beth-maacha. Roedd y llwythau eraill wedi'i wrthod, ond cafodd ei bobl ei hun, y Bichriaid, i'w ganlyn.
II S WelBeibl 20:15  Yna dyma Joab a'i ddynion yn cyrraedd yno, a gwarchae ar Abel-beth-maacha. Roedden nhw wedi codi ramp yn erbyn wal y dref. Wrth i filwyr Joab geisio torri drwy'r wal a'i chwalu,
II S WelBeibl 20:16  dyma ryw wraig ddoeth o'r dref yn gweiddi arnyn nhw, “Gwrandwch! Gwrandwch! Dwedwch wrth Joab am ddod yma. Mae gen i rywbeth i'w ddweud wrtho.”
II S WelBeibl 20:17  Pan aeth Joab ati, dyma'r wraig yn gofyn iddo, “Ai ti ydy Joab?” “Ie,” meddai. A dyma hi'n dweud, “Gwranda, mae gan dy forwyn awgrym.” “Dw i'n gwrando,” meddai.
II S WelBeibl 20:18  A dyma hi'n dweud wrtho, “Mae yna hen ddywediad, ‘Os ydych chi eisiau setlo unrhyw fater, ewch i ofyn cyngor yn Abel.’
II S WelBeibl 20:19  Dw i'n un o'r rhai ffyddlon sydd eisiau gweld heddwch yn Israel. Ond rwyt ti yma'n ceisio dinistrio un o drefi pwysica'r wlad. Pam wyt ti eisiau difetha tref sy'n perthyn i'r ARGLWYDD?”
II S WelBeibl 20:20  Dyma Joab yn ateb, “Dim o'r fath beth! Dw i ddim eisiau dinistrio na difetha'r dre!
II S WelBeibl 20:21  Dim fel yna mae hi o gwbl. Mae yna ddyn o fryniau Effraim o'r enw Sheba fab Bichri wedi troi yn erbyn y Brenin Dafydd. Dim ond i chi roi'r dyn hwnnw i mi, gwna i adael llonydd i'r dre.” “Iawn,” meddai'r wraig, “Gwnawn ni daflu ei ben e dros wal y dre i ti!”
II S WelBeibl 20:22  Yna dyma'r wraig yn mynd i rannu ei chyngor doeth gyda'r bobl. A dyma nhw'n torri pen Sheba fab Bichri, a'i daflu allan i Joab. Felly dyma Joab yn chwythu'r corn hwrdd, a gadawodd y fyddin y dre ac aeth pawb adre. Aeth Joab ei hun yn ôl i Jerwsalem at y brenin.
II S WelBeibl 20:23  Joab oedd pennaeth byddin gyfan Israel. Benaia fab Jehoiada oedd yn arwain gwarchodlu personol y brenin (Cretiaid a Pelethiaid).
II S WelBeibl 20:24  Adoniram oedd yn gyfrifol am y gweithlu gorfodol. Jehosaffat fab Achilwd oedd cofnodydd y brenin.
II S WelBeibl 20:25  Shefa oedd yr Ysgrifennydd Gwladol. Sadoc ac Abiathar oedd yr offeiriaid.
Chapter 21
II S WelBeibl 21:1  Yn ystod cyfnod Dafydd fel brenin roedd yna newyn aeth ymlaen am dair blynedd lawn. Dyma Dafydd yn gofyn i'r ARGLWYDD pam. A dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Am fod Saul a'i deulu yn euog o lofruddio pobl Gibeon.”
II S WelBeibl 21:2  (Doedd pobl Gibeon ddim yn Israeliaid. Nhw oedd yn weddill o'r Amoriaid, ac roedd yr Israeliaid wedi addo byw yn heddychlon â nhw. Ond roedd Saul wedi ceisio cael gwared â nhw am ei fod mor frwd dros Israel a Jwda.) Felly dyma'r Brenin Dafydd yn galw pobl Gibeon ato iddo gael siarad â nhw.
II S WelBeibl 21:3  Gofynnodd iddyn nhw, “Beth alla i wneud i chi? Sut alla i wneud iawn am hyn, fel eich bod chi'n bendithio pobl yr ARGLWYDD?”
II S WelBeibl 21:4  A dyma nhw'n ateb, “Dydy arian byth yn mynd i wneud iawn am beth wnaeth Saul a'i deulu. Ac allwn ni ddim dial drwy ladd unrhyw un yn Israel.” “Felly, dwedwch beth ydych chi eisiau,” meddai Dafydd.
II S WelBeibl 21:5  A dyma nhw'n ateb, “Saul oedd yr un oedd eisiau'n difa ni a chael gwared â ni'n llwyr o Israel.
II S WelBeibl 21:6  Rho saith o'i ddisgynyddion e i ni. Gwnawn ni eu crogi o flaen yr ARGLWYDD yn Gibea, tref Saul, yr un gafodd ei ddewis gan yr ARGLWYDD.” A dyma'r Brenin Dafydd yn ateb, “Iawn, gwna i eu rhoi nhw i chi.”
II S WelBeibl 21:7  Ond dyma'r brenin yn arbed bywyd Meffibosheth (mab Jonathan ac ŵyr Saul) am fod Dafydd a Jonathan wedi gwneud addewid i'w gilydd o flaen yr ARGLWYDD.
II S WelBeibl 21:8  Cymerodd y ddau fab gafodd Ritspa (merch Aia) i Saul, sef Armoni a Meffibosheth; hefyd pum mab Merab, merch Saul, oedd yn wraig i Adriel fab Barsilai o Mechola.
II S WelBeibl 21:9  Rhoddodd nhw yn nwylo pobl Gibeon, i'w crogi ar y mynydd o flaen yr ARGLWYDD. Cafodd y saith eu lladd gyda'i gilydd. Roedd hyn reit ar ddechrau'r cynhaeaf haidd.
II S WelBeibl 21:10  Dyma Ritspa (partner Saul a mam dau o'r rhai gafodd eu lladd) yn cymryd sachliain a'i daenu ar graig iddi ei hun. Arhosodd yno drwy gydol y cynhaeaf haidd, hyd nes i dymor y glaw ddod. Wnaeth hi ddim gadael i adar ddisgyn at y cyrff yn ystod y dydd, nac anifeiliaid gwyllt yn y nos. Clywodd Dafydd beth oedd Ritspa wedi'i wneud,
II S WelBeibl 21:11  Dyma Ritspa (partner Saul a mam dau o'r rhai gafodd eu lladd) yn cymryd sachliain a'i daenu ar graig iddi ei hun. Arhosodd yno drwy gydol y cynhaeaf haidd, hyd nes i dymor y glaw ddod. Wnaeth hi ddim gadael i adar ddisgyn at y cyrff yn ystod y dydd, nac anifeiliaid gwyllt yn y nos. Clywodd Dafydd beth oedd Ritspa wedi'i wneud,
II S WelBeibl 21:12  felly aeth i Jabesh yn Gilead a gofyn i'r awdurdodau yno am esgyrn Saul a Jonathan. (Pobl Jabesh oedd wedi dwyn cyrff y ddau o'r sgwâr yn Beth-shan, lle roedd y Philistiaid wedi'u crogi nhw ar ôl iddyn nhw gael eu lladd yn y frwydr yn Gilboa.)
II S WelBeibl 21:13  Dyma Dafydd yn cymryd esgyrn Saul a Jonathan o Jabesh. Wedyn dyma nhw'n casglu esgyrn y rhai oedd wedi cael eu crogi,
II S WelBeibl 21:14  a'u claddu gydag esgyrn Saul a Jonathan ym medd Cish (tad Saul) yn Sela, yn ardal Benjamin. Ar ôl iddyn nhw wneud popeth roedd y brenin wedi'i orchymyn, dyma'r ARGLWYDD yn ateb gweddïau pobl dros y wlad.
II S WelBeibl 21:15  Buodd yna ryfel arall rhwng y Philistiaid a'r Israeliaid, ac aeth Dafydd a'i filwyr i lawr i ymladd yn erbyn y Philistiaid. Roedd Dafydd wedi blino'n lân
II S WelBeibl 21:16  ac roedd Ishbi-benob (un o ddisgynyddion y Reffaiaid) ar fin ei ladd. Roedd ei waywffon yn pwyso tri cilogram a hanner, ac roedd ganddo gleddyf newydd.
II S WelBeibl 21:17  Ond dyma Abishai (mab Serwia) yn dod i helpu Dafydd a tharo'r Philistiad a'i ladd. Ar ôl y digwyddiad hwnnw dyma filwyr Dafydd yn tyngu iddo, “Gei di ddim dod allan i frwydro gyda ni eto! Does gynnon ni ddim eisiau i lamp Israel gael ei diffodd!”
II S WelBeibl 21:18  Beth amser wedyn roedd brwydr arall yn erbyn y Philistiaid, yn Gob. Y tro hwnnw dyma Sibechai o Chwsha yn lladd Saff, un arall o ddisgynyddion y Reffaiaid.
II S WelBeibl 21:19  Yna mewn brwydr arall eto yn erbyn y Philistiaid yn Gob, dyma Elchanan fab Jair o Fethlehem yn lladd brawd Goliath o Gath (yr un oedd â gwaywffon gyda choes iddi oedd fel trawst ffrâm gwehydd!)
II S WelBeibl 21:20  Yna roedd brwydr arall eto yn Gath. Y tro yma roedd cawr o ddyn gyda chwe bys ar bob llaw ac ar ei ddwy droed – dau ddeg pedwar o fysedd i gyd. (Roedd hwn hefyd yn un o ddisgynyddion y Reffaiaid.)
II S WelBeibl 21:21  Roedd yn gwneud hwyl am ben byddin Israel, a dyma Jonathan, mab Shamma brawd Dafydd, yn ei ladd e.
II S WelBeibl 21:22  Roedd y pedwar yma gafodd eu lladd yn ddisgynyddion i'r Reffaiaid o Gath, a Dafydd a'i filwyr wnaeth ladd pob un ohonyn nhw.
Chapter 22
II S WelBeibl 22:1  Dyma eiriau'r gân wnaeth Dafydd ei chanu i'r ARGLWYDD ar ôl i'r ARGLWYDD ei achub o ddwylo ei holl elynion ac o afael Saul:
II S WelBeibl 22:2  Mae'r ARGLWYDD fel craig i mi, yn gastell ac yn achubwr.
II S WelBeibl 22:3  Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani; yn darian, yn gryfder ac yn hafan ddiogel. Mae'n fy achub i rhag trais.
II S WelBeibl 22:4  Galwais ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu ei foli, ac achubodd fi oddi wrth fy ngelynion.
II S WelBeibl 22:5  Rôn i'n boddi dan donnau marwolaeth; roedd llifogydd dinistr yn fy llethu.
II S WelBeibl 22:6  Roedd rhaffau byd y meirw o'm cwmpas, a maglau marwolaeth o'm blaen.
II S WelBeibl 22:7  Galwais ar yr ARGLWYDD o ganol fy helynt, a gweiddi ar fy Nuw. Roedd yn ei deml, a chlywodd fy llais; gwrandawodd arna i'n galw.
II S WelBeibl 22:8  Yna dyma'r ddaear yn symud a chrynu. Roedd sylfeini'r nefoedd yn crynu ac yn ysgwyd, am ei fod wedi digio.
II S WelBeibl 22:9  Daeth mwg allan o'i ffroenau, a thân dinistriol o'i geg; roedd marwor yn tasgu ohono.
II S WelBeibl 22:10  Agorodd yr awyr fel llenni a daeth i lawr. Roedd cwmwl trwchus dan ei draed.
II S WelBeibl 22:11  Marchogai ar gerwbiaid yn hedfan; a chodi ar adenydd y gwynt.
II S WelBeibl 22:12  Gwisgodd dywyllwch drosto – cymylau duon stormus; a gwnaeth gymylau trwchus yr awyr yn ffau o'i gwmpas.
II S WelBeibl 22:13  Roedd golau disglair o'i flaen a'r mellt fel marwor tanllyd.
II S WelBeibl 22:14  Yna taranodd yr ARGLWYDD o'r awyr – sŵn llais y Goruchaf yn galw.
II S WelBeibl 22:15  Taflodd ei saethau a chwalu'r gelyn; roedd ei folltau mellt yn eu gyrru ar ffo.
II S WelBeibl 22:16  Daeth gwely'r môr i'r golwg; ac roedd sylfeini'r ddaear yn noeth wrth i'r ARGLWYDD ruo, a chwythu anadl o'i ffroenau.
II S WelBeibl 22:17  Estynnodd i lawr o'r uchelder a gafael ynof; tynnodd fi allan o'r dŵr dwfn.
II S WelBeibl 22:18  Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig – y rhai sy'n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi.
II S WelBeibl 22:19  Dyma nhw'n ymosod pan oeddwn mewn helbul, ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i.
II S WelBeibl 22:20  Daeth â fi allan i ryddid! Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi.
II S WelBeibl 22:21  Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi. Dw i wedi byw'n gyfiawn; mae fy nwylo'n lân, ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi.
II S WelBeibl 22:22  Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon, heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg.
II S WelBeibl 22:23  Dw i wedi cadw ei ddeddfau'n ofalus; dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau.
II S WelBeibl 22:24  Dw i wedi bod yn ddi-fai ac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn.
II S WelBeibl 22:25  Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi. Dw i wedi byw'n gyfiawn, ac mae e wedi gweld bod fy nwylo'n lân.
II S WelBeibl 22:26  Rwyt ti'n ffyddlon i'r rhai sy'n ffyddlon, ac yn deg â'r rhai di-euog.
II S WelBeibl 22:27  Mae'r rhai di-fai yn dy brofi'n ddi-fai, ond rwyt ti'n fwy craff na'r rhai anonest.
II S WelBeibl 22:28  Ti'n achub pobl sy'n dioddef, ond yn torri crib y rhai balch.
II S WelBeibl 22:29  Ie, ti ydy fy lamp i, o ARGLWYDD, ti'n rhoi golau i mi yn y tywyllwch.
II S WelBeibl 22:30  Gyda ti gallaf ruthro allan i'r frwydr; gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw!
II S WelBeibl 22:31  Mae Duw yn gwneud beth sy'n iawn; mae'r ARGLWYDD yn dweud beth sy'n wir. Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy'n troi ato.
II S WelBeibl 22:32  Oes duw arall ond yr ARGLWYDD? Oes craig arall ar wahân i'n Duw ni?
II S WelBeibl 22:33  Fe ydy'r Duw sy'n fy amddiffyn â'i nerth – mae'n symud pob rhwystr o'm blaen.
II S WelBeibl 22:34  Mae'n rhoi coesau fel carw i mi; fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel.
II S WelBeibl 22:35  Dysgodd fi sut i ymladd – dw i'n gallu plygu bwa o bres!
II S WelBeibl 22:36  Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian. Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo.
II S WelBeibl 22:37  Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaen a wnes i ddim baglu.
II S WelBeibl 22:38  Es ar ôl fy ngelynion, a'u difa nhw; wnes i ddim troi'n ôl nes roedden nhw wedi darfod.
II S WelBeibl 22:39  Bydda i'n eu dinistrio a'u taro, nes byddan nhw'n methu codi; bydda i'n eu sathru nhw dan draed.
II S WelBeibl 22:40  Ti roddodd y nerth i mi ymladd; ti wnaeth i'r gelyn blygu o'm blaen;
II S WelBeibl 22:41  Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl. Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr.
II S WelBeibl 22:42  Roedden nhw'n edrych am help, ond doedd neb i'w hachub! Roedden nhw'n troi at yr ARGLWYDD hyd yn oed! Ond wnaeth e ddim ateb.
II S WelBeibl 22:43  Dyma fi'n eu malu nhw fel llwch ar lawr; a'u sathru dan draed fel baw ar y strydoedd.
II S WelBeibl 22:44  Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn. Gwnest fi'n bennaeth ar y gwledydd. Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhw yn derbyn fy awdurdod.
II S WelBeibl 22:45  Mae estroniaid yn crynu o'm blaen. Maen nhw'n plygu wrth glywed amdana i!
II S WelBeibl 22:46  Mae pobloedd estron wedi colli pob hyder, ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau.
II S WelBeibl 22:47  Ydy, mae'r ARGLWYDD yn fyw! Bendith ar y graig sy'n fy amddiffyn i! Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu!
II S WelBeibl 22:48  Fe ydy'r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i, a gwneud i bobloedd blygu o'm blaen.
II S WelBeibl 22:49  Fe ydy'r Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion, a'm cipio o afael y rhai sy'n fy nghasáu. Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar.
II S WelBeibl 22:50  Felly, O ARGLWYDD, bydda i'n dy foli di o flaen y cenhedloedd ac yn canu mawl i dy enw:
II S WelBeibl 22:51  Mae'n rhoi buddugoliaeth i'w frenin – un fuddugoliaeth fawr ar ôl y llall! Mae'n aros yn ffyddlon i'w eneiniog – i Dafydd, ac i'w ddisgynyddion am byth.
Chapter 23
II S WelBeibl 23:1  Dyma eiriau olaf Dafydd: “Neges Dafydd fab Jesse. Neges yr un gafodd ei godi'n arweinydd, a'i eneinio gan Dduw Jacob. Neges hoff ganwr Israel.
II S WelBeibl 23:2  Roedd Ysbryd yr ARGLWYDD yn siarad trwof fi; ei neges e oeddwn i'n ei rhannu.
II S WelBeibl 23:3  Mae Duw Israel wedi siarad, a dyma mae Craig Israel yn ei ddweud: ‘Mae'r un sy'n llywodraethu'n deg, gan roi parch i Dduw,
II S WelBeibl 23:4  fel golau haul ar fore braf digwmwl yn gwneud i'r glaswellt dyfu o'r ddaear a sgleinio ar ôl y glaw.’
II S WelBeibl 23:5  Ie, dyna sut mae Duw'n gweld fy nheulu! Mae wedi gwneud ymrwymiad am byth i mi. Mae'r cwbl wedi'i drefnu – mae'n siŵr o ddigwydd! Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i mi lwyddo ac yn dod â'r cwbl dw i eisiau yn wir.
II S WelBeibl 23:6  Ond mae dynion drwg fel drain sy'n dda i ddim ond i'w torri i lawr. Does neb yn gafael ynddyn nhw â'u dwylo,
II S WelBeibl 23:7  dim ond gydag arf haearn neu goes gwaywffon. Mae tân yn eu llosgi'n ulw yn y fan a'r lle!”
II S WelBeibl 23:8  Dyma enwau milwyr dewr Dafydd: Iashofam yr Hachmoniad oedd pennaeth ‛Y Tri‛. Roedd e wedi lladd wyth gant o ddynion gyda'i waywffon mewn un frwydr.
II S WelBeibl 23:9  Yna'r nesa ato fe o'r ‛Tri Dewr‛ oedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach. Roedd e gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Roedd gweddill byddin Israel wedi ffoi,
II S WelBeibl 23:10  ond dyma fe'n sefyll ei dir ac ymladd yn erbyn y Philistiaid. Roedd ei law wedi blino gymaint, ond wnaeth e ddim gollwng ei gleddyf. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo y diwrnod hwnnw. Yna daeth y fyddin yn ôl, ond dim ond i ddwyn pethau oddi ar y cyrff!
II S WelBeibl 23:11  Y nesaf wedyn oedd Samma fab Age o deulu Harar. Un tro roedd byddin y Philistiaid wedi casglu yn Lechi lle roedd cae o ffacbys. Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen y Philistiaid,
II S WelBeibl 23:12  ond roedd Samma wedi sefyll ei dir yng nghanol y cae, i'w amddiffyn. Roedd wedi ymosod ar y Philistiaid, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo.
II S WelBeibl 23:13  Un tro, adeg y cynhaeaf, aeth tri o'r ‛Tri deg‛ i lawr at Dafydd i Ogof Adwlam. Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm.
II S WelBeibl 23:14  Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra oedd prif wersyll garsiwn y Philistiaid yn Bethlehem.
II S WelBeibl 23:15  Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma fe'n dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr o'r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!”
II S WelBeibl 23:16  Felly dyma'r ‛Tri Dewr‛ yn mynd drwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr o'r ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhw'n dod â'r dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma fe'n ei dywallt ar lawr yn offrwm i'r ARGLWYDD,
II S WelBeibl 23:17  a dweud, “ARGLWYDD, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro'u bywydau i'w nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed. (Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‛Tri Dewr‛.)
II S WelBeibl 23:18  Abishai, brawd Joab a mab Serwia, oedd pennaeth y ‛Tri deg‛. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon un tro. Roedd e'n enwog fel y Tri.
II S WelBeibl 23:19  A dweud y gwir, roedd yn fwy enwog na nhw, a fe oedd eu capten nhw. Ond doedd e ddim yn un o'r ‛Tri‛.
II S WelBeibl 23:20  Roedd Benaia fab Jehoiada o Cabseël yn ddyn dewr hefyd. Roedd e wedi gwneud llawer o bethau dewr. Roedd wedi lladd dau o arwyr Moab. Roedd wedi mynd i lawr a lladd llew oedd wedi syrthio i bydew ar ddiwrnod o eira.
II S WelBeibl 23:21  Roedd hefyd wedi lladd cawr o ddyn o'r Aifft. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe'n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a'i ladd gyda hi.
II S WelBeibl 23:22  Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‛Tri Dewr‛.
II S WelBeibl 23:23  Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un o'r ‛Tri‛. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol.
II S WelBeibl 23:24  Yna gweddill y ‛Tri deg‛ oedd: Asahel, brawd Joab, Elchanan fab Dodo o Bethlehem,
II S WelBeibl 23:29  Cheleb fab Baana o Netoffa, Itai fab Ribai o Gibea yn Benjamin,
II S WelBeibl 23:32  Eliachba o Shaalbon, Meibion Iashen, Jonathan fab
II S WelBeibl 23:34  Eliffelet fab Achasbai o Maacha, Eliam fab Achitoffel o Gilo,
II S WelBeibl 23:37  Selec o Ammon, Nachrai o Beëroth (oedd yn cario arfau Joab, mab Serwia),
Chapter 24
II S WelBeibl 24:1  Dro arall roedd yr ARGLWYDD wedi digio'n lân gydag Israel. Dyma fe'n gwneud i Dafydd achosi trwbwl iddyn nhw drwy orchymyn cyfrifiad o Israel a Jwda.
II S WelBeibl 24:2  Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Joab, pennaeth ei fyddin, “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o holl lwythau Israel, o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, i mi gael gwybod faint o bobl sydd gen i.”
II S WelBeibl 24:3  Ond dyma Joab yn ateb y brenin, “O na fyddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn gadael i ti fyw i weld byddin ganwaith fwy nag sydd gen ti! Ond syr, pam fyddet ti eisiau gwneud y fath beth?”
II S WelBeibl 24:4  Ond roedd y brenin yn benderfynol, er gwaetha gwrthwynebiad Joab a chapteiniaid y fyddin. Felly dyma nhw'n mynd ati i gyfri pobl Israel, fel roedd y brenin wedi dweud.
II S WelBeibl 24:5  Dyma nhw'n croesi afon Iorddonen, ac yn dechrau yn Aroer, i'r de o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn. Yna dyma nhw'n mynd i'r sychnant ar diriogaeth Gad, ac i dref Iaser.
II S WelBeibl 24:6  Ymlaen wedyn i ardal Gilead, a tref Cadesh ar dir yr Hethiaid, yna Dan ac Îon, a rownd i Sidon.
II S WelBeibl 24:7  Yna i lawr i dref gaerog Tyrus a holl drefi'r Hefiaid a'r Canaaneaid, ac ymlaen i gyfeiriad y de nes cyrraedd yr holl ffordd i Beersheba yn anialwch Jwda.
II S WelBeibl 24:8  Cymerodd naw mis a thair wythnos cyn iddyn nhw gyrraedd yn ôl yn Jerwsalem, ar ôl teithio drwy'r wlad i gyd.
II S WelBeibl 24:9  Yna dyma Joab yn rhoi canlyniadau'r cyfrifiad i'r brenin. Roedd yna 800,000 o ddynion dewr Israel allai ymladd yn y fyddin, a 500,000 yn Jwda.
II S WelBeibl 24:10  Ond wedi iddo gyfri'r bobl, roedd cydwybod Dafydd yn ei boeni. A dyma fe'n dweud wrth yr ARGLWYDD, “Dw i wedi pechu'n ofnadwy drwy wneud hyn. Plîs wnei di faddau i mi ARGLWYDD? Dw i wedi gwneud peth gwirion.”
II S WelBeibl 24:11  Erbyn i Dafydd godi'r bore wedyn roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Gad, proffwyd y llys:
II S WelBeibl 24:12  “Dos i ddweud wrth Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n rhoi tri dewis i ti. Dewis pa un wyt ti am i mi ei wneud.’”
II S WelBeibl 24:13  Felly dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud, “Pa un wnei di ddewis? Tair blynedd o newyn yn y wlad? Neu dri mis o ffoi o flaen dy elynion? Neu dri diwrnod o bla drwy'r wlad? Meddwl yn ofalus cyn dweud wrtho i pa ateb dw i i'w roi i'r un sydd wedi f'anfon i.”
II S WelBeibl 24:14  Meddai Dafydd wrth Gad, “Mae'n ddewis caled! Ond mae'r ARGLWYDD mor drugarog! Byddai'n well gen i gael fy nghosbi ganddo fe na gan ddynion.”
II S WelBeibl 24:15  Felly'r bore hwnnw dyma'r ARGLWYDD yn anfon haint ar wlad Israel wnaeth bara am dri diwrnod, a buodd saith deg mil o bobl o bob rhan o'r wlad farw.
II S WelBeibl 24:16  Ond wrth i'r angel bwyntio ei fys at Jerwsalem i'w difa, dyma'r ARGLWYDD yn teimlo'n sori am y niwed oedd yn cael ei wneud. A dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r angel oedd wrthi'n difa'r bobl, “Dyna ddigon! Stopia nawr!” (Ar y pryd roedd yr angel yn sefyll wrth ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.)
II S WelBeibl 24:17  Pan welodd Dafydd yr angel yn taro'r bobl, dyma fe'n dweud, “ARGLWYDD, fi sydd wedi pechu a gwneud y drwg! Wnaeth y bobl ddiniwed yma ddim byd o'i le. Cosba fi a'm teulu!”
II S WelBeibl 24:18  Y diwrnod hwnnw dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud wrtho, “Dos, a chodi allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.”
II S WelBeibl 24:19  Felly dyma Dafydd yn mynd a gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddweud wrth Gad.
II S WelBeibl 24:20  Pan welodd Arafna y brenin a'i weision yn dod ato, dyma fe'n ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr.
II S WelBeibl 24:21  “Pam mae fy meistr, y brenin, wedi dod yma ata i?” meddai. A dyma Dafydd yn ateb, “I brynu dy lawr dyrnu di. Dw i eisiau codi allor i'r ARGLWYDD i stopio'r pla yma ladd y bobl.”
II S WelBeibl 24:22  Dyma Arafna'n ateb, “Syr, cymer beth bynnag wyt ti eisiau. Cymer yr ychen i'w llosgi'n aberth, a defnyddia'r sled dyrnu a iau'r ychen yn goed tân.
II S WelBeibl 24:23  Dw i am roi'r cwbl i'm meistr, y brenin. Gobeithio bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn derbyn beth wyt ti'n wneud.”
II S WelBeibl 24:24  Ond dyma'r brenin yn ei ateb, “Na, mae'n rhaid i mi dalu'r pris llawn i ti. Dw i ddim yn mynd i gyflwyno aberthau i'w llosgi i'r ARGLWYDD sydd wedi costio dim byd i mi.” Felly dyma Dafydd yn prynu'r llawr dyrnu a'r ychen am bum deg darn arian.
II S WelBeibl 24:25  Wedyn adeiladodd allor i'r ARGLWYDD yno, a chyflwyno arni aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb ei weddi a stopio'r pla oedd yn mynd drwy'r wlad.