Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOSHUA
Up
Toggle notes
Chapter 1
Josh WelBeibl 1:1  Ar ôl i Moses, gwas yr ARGLWYDD, farw, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, gwas Moses:
Josh WelBeibl 1:2  “Mae Moses fy ngwas wedi marw. Dos, a chroesi afon Iorddonen. Dw i eisiau i ti arwain y bobl yma i'r tir dw i'n ei roi i chi.
Josh WelBeibl 1:3  Fel gwnes i addo i Moses, dw i'n mynd i roi i chi bob modfedd sgwâr fyddwch chi'n cerdded arni.
Josh WelBeibl 1:4  Bydd eich tir yn ymestyn yr holl ffordd o'r diffeithwch yn y de i Fryniau Libanus yn y gogledd. A'r holl ffordd o afon Ewffrates yn y dwyrain (gan gynnwys gogledd Syria hefyd) i Fôr y Canoldir yn y gorllewin.
Josh WelBeibl 1:5  Bydda i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. Fydd neb yn gallu dy stopio di tra byddi di byw. Wna i ddim dy siomi di na dy adael di.
Josh WelBeibl 1:6  Bydd yn gryf a dewr. Ti'n mynd i arwain y bobl yma i goncro'r wlad wnes i addo ei rhoi i'w hynafiaid.
Josh WelBeibl 1:7  Ond rhaid i ti fod yn gryf ac yn ddewr iawn! Gwna'n siŵr dy fod yn gwneud popeth mae'r Gyfraith roddodd Moses i ti yn ei ddweud. Paid crwydro oddi wrthi o gwbl, a byddi di'n llwyddo beth bynnag wnei di.
Josh WelBeibl 1:8  Darllen sgrôl y Gyfraith yma yn rheolaidd. Myfyria arni ddydd a nos, a'i dysgu, er mwyn i ti wneud beth mae'n ei ddweud. Dyna sut fyddi di'n llwyddo.
Josh WelBeibl 1:9  Dw i'n dweud eto, bydd yn gryf a dewr! Paid bod ag ofn na phanicio. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o'r ffordd!”
Josh WelBeibl 1:10  Felly dyma Josua yn rhoi'r gorchymyn yma i arweinwyr y llwythau:
Josh WelBeibl 1:11  “Ewch drwy'r gwersyll a dweud wrth bawb i gael eu hunain yn barod. Y diwrnod ar ôl yfory dych chi'n mynd i groesi afon Iorddonen, a dechrau concro'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi.”
Josh WelBeibl 1:12  Yna dyma Josua yn troi at lwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse, a dweud:
Josh WelBeibl 1:13  “Cofiwch beth ddwedodd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wrthoch chi. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi'r tir yma, sydd i'r dwyrain o afon Iorddonen, i chi setlo i lawr arno.
Josh WelBeibl 1:14  Gall eich gwragedd a'ch plant a'ch anifeiliaid aros yma, ar y tir roddodd Moses i chi. Ond rhaid i bob dyn sy'n gallu ymladd groesi'r afon o flaen gweddill eich brodyr, yn barod i frwydro gyda nhw. Rhaid i chi aros i'w helpu nhw
Josh WelBeibl 1:15  nes bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi lle iddyn nhw setlo hefyd, a nes bydd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw wedi'i goncro. Wedyn cewch groesi'n ôl i'r tir wnaeth Moses ei roi i chi, i'r dwyrain o afon Iorddonen.”
Josh WelBeibl 1:16  A dyma nhw'n ateb Josua: “Byddwn ni'n gwneud popeth rwyt ti'n ddweud, a mynd ble bynnag wnei di'n hanfon ni.
Josh WelBeibl 1:17  Yn union fel gwnaethon ni wrando ar Moses, byddwn ni'n gwrando arnat ti. Boed i'r ARGLWYDD dy Dduw fod gyda ti, fel roedd e gyda Moses!
Josh WelBeibl 1:18  Os bydd unrhyw un yn gwrthryfela yn dy erbyn, ac yn gwrthod gwneud beth ti'n ddweud, y gosb fydd marwolaeth. Felly, bydd yn gryf a dewr!”
Chapter 2
Josh WelBeibl 2:1  Dyma Josua fab Nwn yn anfon dau ysbïwr allan o'r gwersyll yn Sittim, a dweud wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi ddarganfod beth allwch chi am y wlad, yn arbennig tref Jericho.” Felly, i ffwrdd â nhw, a dyma nhw'n mynd i dŷ putain o'r enw Rahab, ac aros yno dros nos.
Josh WelBeibl 2:2  Ond dyma rywun yn dweud wrth frenin Jericho, “Mae rhai o ddynion Israel wedi dod yma i ysbïo'r wlad.”
Josh WelBeibl 2:3  Felly dyma'r brenin yn anfon milwyr at Rahab, “Tyrd â dy gwsmeriaid allan – y dynion sydd wedi dod i aros yn dy dŷ di. Ysbiwyr ydyn nhw, wedi dod i edrych dros y wlad.”
Josh WelBeibl 2:4  Ond roedd Rahab wedi cuddio'r dynion, a dyma hi'n ateb, “Mae'n wir, roedd yna ddynion wedi dod ata i, ond doeddwn i ddim yn gwybod o ble roedden nhw'n dod.
Josh WelBeibl 2:5  Pan oedd hi'n tywyllu, a giât y ddinas ar fin cael ei chau dros nos, dyma nhw'n gadael. Dw i ddim yn gwybod i ba gyfeiriad aethon nhw. Os brysiwch chi, gallwch chi eu dal nhw!”
Josh WelBeibl 2:6  (Ond beth roedd Rahab wedi'i wneud go iawn oedd mynd â'r dynion i ben to'r tŷ, a'u cuddio nhw dan y pentyrrau o lin roedd hi wedi'u gosod allan yno.)
Josh WelBeibl 2:7  Felly dyma weision y brenin yn mynd i chwilio amdanyn nhw ar hyd y ffordd sy'n arwain at afon Iorddonen, lle mae'r rhydau. A dyma giât y ddinas yn cael ei chau yn syth ar ôl iddyn nhw fynd.
Josh WelBeibl 2:8  Cyn i'r ysbiwyr fynd i gysgu'r noson honno, dyma Rahab yn mynd i fyny i'r to i siarad gyda nhw.
Josh WelBeibl 2:9  Meddai wrthyn nhw, “Dw i'n gwybod yn iawn fod yr ARGLWYDD yn mynd i roi'r wlad yma i chi. Mae gan bawb eich ofn chi. Mae pawb yn ofni am eu bywydau.
Josh WelBeibl 2:10  Dŷn ni wedi clywed sut wnaeth yr ARGLWYDD sychu'r Môr Coch o'ch blaenau chi pan ddaethoch chi allan o'r Aifft. A hefyd, sut wnaethoch chi ddinistrio dau frenin yr Amoriaid, Sihon ac Og, yr ochr arall i afon Iorddonen.
Josh WelBeibl 2:11  Pan glywson ni am y peth roedden ni wedi digalonni'n llwyr. Roedd pawb mewn panig. Mae'r ARGLWYDD eich Duw chi yn Dduw yn y nefoedd uchod ac i lawr yma ar y ddaear!
Josh WelBeibl 2:12  Dw i eisiau i chi fynd ar eich llw, ac addo i mi o flaen yr ARGLWYDD, y byddwch chi'n arbed bywydau fy nheulu i, fel dw i wedi arbed eich bywydau chi. Rhowch arwydd sicr i mi
Josh WelBeibl 2:13  na fyddwch chi'n lladd neb yn fy nheulu – dad, mam, fy mrodyr a'm chwiorydd, na neb arall yn y teulu.”
Josh WelBeibl 2:14  A dyma'r dynion yn addo iddi, “Os wnei di ddim dweud wrth neb amdanon ni, byddwn ni'n cadw'n haddewid i ti pan fydd yr ARGLWYDD yn rhoi'r wlad yma i ni. Boed i ni dalu gyda'n bywydau os cewch chi'ch lladd!”
Josh WelBeibl 2:15  Yna dyma Rahab yn eu gollwng nhw i lawr ar raff o ffenest ei thŷ. (Roedd wal allanol ei thŷ hi yn rhan o wal y ddinas.)
Josh WelBeibl 2:16  “Ewch i gyfeiriad y bryniau,” meddai wrthyn nhw. “Fydd y dynion sydd ar eich ôl chi ddim yn dod o hyd i chi wedyn. Cuddiwch yno am dri diwrnod, i roi cyfle iddyn nhw ddod yn ôl. Wedyn gallwch fynd ar eich ffordd.”
Josh WelBeibl 2:17  Dyma'r dynion yn dweud wrthi, “Allwn ni ddim ond cadw'r addewid wnaethon ni i ti ar un amod:
Josh WelBeibl 2:18  Pan fyddwn ni'n ymosod ar y wlad, rhwyma'r rhaff goch yma iddi hongian allan o'r ffenest wnaethon ni ddianc drwyddi. A rhaid i ti gasglu dy deulu i gyd at ei gilydd yn y tŷ – dy dad, dy fam, dy frodyr a dy chwiorydd, a phawb arall.
Josh WelBeibl 2:19  Os bydd unrhyw un yn gadael y tŷ ac yn cael ei ladd, nhw eu hunain fydd ar fai – fydd dim bai arnon ni. Ond os bydd unrhyw un sydd yn y tŷ yn cael niwed, ni fydd yn gyfrifol.
Josh WelBeibl 2:20  Ond os byddi di'n dweud wrth unrhyw un amdanon ni, fyddwn ni ddim yn gyfrifol am dorri'r addewid.”
Josh WelBeibl 2:21  “Digon teg,” meddai hithau. A dyma hi'n eu hanfon nhw i ffwrdd, ac yn rhwymo'r rhaff goch i'r ffenest.
Josh WelBeibl 2:22  Dyma nhw'n mynd i'r bryniau, ac yn aros yno am dri diwrnod – digon o amser i'r dynion oedd yn chwilio amdanyn nhw fynd yn ôl. Roedd y rheiny wedi bod yn edrych amdanyn nhw ym mhobman ar hyd y ffordd, ond wedi methu dod o hyd iddyn nhw.
Josh WelBeibl 2:23  Yna dyma'r ddau ddyn yn troi am yn ôl. Dyma nhw'n dod i lawr o'r bryniau, croesi afon Iorddonen, a mynd at Josua i roi adroddiad iddo o beth oedd wedi digwydd.
Josh WelBeibl 2:24  “Does dim amheuaeth,” medden nhw. “Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi'r wlad i gyd i ni! Mae'r bobl i gyd yn ofni am eu bywydau!”
Chapter 3
Josh WelBeibl 3:1  Yn gynnar y bore wedyn, dyma Josua a phobl Israel i gyd yn gadael Sittim a mynd at yr Iorddonen. Dyma nhw'n aros yno cyn croesi'r afon.
Josh WelBeibl 3:2  Ddeuddydd wedyn, dyma'r arweinwyr yn mynd drwy'r gwersyll
Josh WelBeibl 3:3  i roi gorchymyn i'r bobl, “Pan fyddwch chi'n gweld Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD eich Duw yn cael ei chario gan yr offeiriaid o lwyth Lefi, rhaid i chi symud o'r fan yma, a dilyn yr Arch.
Josh WelBeibl 3:4  Ond peidiwch mynd yn rhy agos ati. Cadwch bellter o ryw hanner milltir rhyngoch chi a'r Arch. Wedyn byddwch yn gweld pa ffordd i fynd. Dych chi ddim wedi bod y ffordd yma o'r blaen.”
Josh WelBeibl 3:5  A dyma Josua'n dweud wrth y bobl, “Gwnewch eich hunain yn barod! Ewch drwy'r ddefod o buro eich hunain i'r ARGLWYDD. Mae e'n mynd i wneud rhywbeth hollol ryfeddol i chi yfory.”
Josh WelBeibl 3:6  Yna dyma Josua'n dweud wrth yr offeiriaid, “Codwch Arch yr Ymrwymiad ac ewch o flaen y bobl.” A dyma nhw'n gwneud hynny.
Josh WelBeibl 3:7  Dwedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “O heddiw ymlaen dw i'n mynd i dy wneud di'n arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Byddan nhw'n gwybod mod i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses.
Josh WelBeibl 3:8  Dw i eisiau i ti ddweud wrth yr offeiriaid sy'n cario Arch yr Ymrwymiad, ‘Pan ddewch chi at lan afon Iorddonen, cerddwch i mewn i'r dŵr a sefyll yno.’”
Josh WelBeibl 3:9  Felly dyma Josua'n galw ar bobl Israel, “Dewch yma i glywed beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud!
Josh WelBeibl 3:10  Dyma sut byddwch chi'n gweld fod y Duw byw gyda chi, a'i fod yn mynd i yrru allan y Canaaneaid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebwsiaid.
Josh WelBeibl 3:11  Edrychwch! Mae Arch Ymrwymiad Meistr y ddaear gyfan yn barod i'ch arwain chi ar draws afon Iorddonen!
Josh WelBeibl 3:12  Dewiswch un deg dau o ddynion o lwythau Israel – un o bob llwyth.
Josh WelBeibl 3:13  Pan fydd traed yr offeiriaid sy'n cario Arch yr ARGLWYDD, Meistr y ddaear gyfan, yn cyffwrdd dŵr yr afon, bydd y dŵr yn stopio llifo ac yn codi'n bentwr.”
Josh WelBeibl 3:14  Felly pan adawodd y bobl eu pebyll i groesi'r Iorddonen, dyma'r offeiriaid oedd yn cario Arch yr Ymrwymiad yn mynd o'u blaenau.
Josh WelBeibl 3:15  Roedd hi'n adeg y cynhaeaf, a'r afon wedi gorlifo. Dyma nhw'n dod at yr afon, a phan gyffyrddodd eu traed y dŵr, dyma'r dŵr yn stopio llifo. Roedd y dŵr wedi codi'n bentwr gryn bellter i ffwrdd, wrth Adam (tref wrth ymyl Sarethan). Doedd dim dŵr o gwbl yn llifo i'r Môr Marw. Felly dyma'r bobl yn croesi'r afon gyferbyn â Jericho.
Josh WelBeibl 3:16  Roedd hi'n adeg y cynhaeaf, a'r afon wedi gorlifo. Dyma nhw'n dod at yr afon, a phan gyffyrddodd eu traed y dŵr, dyma'r dŵr yn stopio llifo. Roedd y dŵr wedi codi'n bentwr gryn bellter i ffwrdd, wrth Adam (tref wrth ymyl Sarethan). Doedd dim dŵr o gwbl yn llifo i'r Môr Marw. Felly dyma'r bobl yn croesi'r afon gyferbyn â Jericho.
Josh WelBeibl 3:17  Safodd yr offeiriaid oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar wely afon Iorddonen, nes oedd pobl Israel i gyd wedi croesi i'r ochr arall ar dir sych.
Chapter 4
Josh WelBeibl 4:1  Pan oedd y genedl gyfan wedi croesi afon Iorddonen, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua:
Josh WelBeibl 4:2  “Dewis un deg dau o ddynion – un o bob llwyth.
Josh WelBeibl 4:3  Dwed wrthyn nhw am gymryd un deg dwy o gerrig o wely'r afon, o'r union fan lle roedd yr offeiriaid yn sefyll. Maen nhw i fynd â'r cerrig, a'u gosod nhw i lawr lle byddwch chi'n gwersylla heno.”
Josh WelBeibl 4:4  Dyma Josua'n galw'r dynion oedd wedi'u penodi at ei gilydd (un dyn o bob llwyth),
Josh WelBeibl 4:5  a dweud wrthyn nhw: “Ewch o flaen Arch yr ARGLWYDD eich Duw i ganol yr Iorddonen. Yno, mae pob un ohonoch chi i godi carreg ar ei ysgwydd – un garreg ar gyfer pob llwyth.
Josh WelBeibl 4:6  Bydd y cerrig yn eich atgoffa chi o beth ddigwyddodd yma. Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy'r cerrig yma?’,
Josh WelBeibl 4:7  gallwch ddweud wrthyn nhw fod afon Iorddonen wedi stopio llifo o flaen Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD – wrth i'r Arch groesi, fod y dŵr wedi stopio llifo. A bod y cerrig i atgoffa pobl Israel o beth ddigwyddodd.”
Josh WelBeibl 4:8  Felly dyma'r dynion yn gwneud yn union fel dwedodd Josua. Dyma nhw'n codi un deg dwy o gerrig o ganol afon Iorddonen (fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua – un garreg ar gyfer pob llwyth). A dyma nhw'n cario'r cerrig i'r gwersyll, ac yn eu gosod nhw i lawr yno.
Josh WelBeibl 4:9  Gosododd Josua hefyd un deg dwy o gerrig eraill yn yr union fan lle roedd yr offeiriaid oedd yn cario'r Arch wedi bod yn sefyll. Mae'r cerrig yno hyd heddiw.
Josh WelBeibl 4:10  Safodd yr offeiriaid oedd yn cario'r Arch ar wely afon Iorddonen nes oedd popeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn i Josua wedi'i gyflawni. Yn y cyfamser, roedd y bobl yn croesi'r afon ar frys.
Josh WelBeibl 4:11  Pan oedd pawb wedi croesi, dyma'r Arch a'r offeiriaid oedd yn ei chario yn croesi, a'r bobl yn eu gwylio.
Josh WelBeibl 4:12  Roedd y dynion o lwyth Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse wedi croesi o flaen pobl Israel, yn barod i ymladd, fel roedd Moses wedi dweud wrthyn nhw.
Josh WelBeibl 4:13  Roedd tua 40,000 o ddynion arfog wedi croesi drosodd i ryfela ar wastatir Jericho.
Josh WelBeibl 4:14  Y diwrnod hwnnw gwnaeth yr ARGLWYDD Josua yn arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Roedden nhw'n ei barchu e tra buodd e byw, yn union fel roedden nhw wedi parchu Moses.
Josh WelBeibl 4:16  “Dwed wrth yr offeiriaid sy'n cario Arch y Dystiolaeth i ddod i fyny o wely'r Iorddonen.”
Josh WelBeibl 4:17  Felly dyma Josua'n gwneud hynny. “Dewch i fyny o wely'r afon!” meddai wrthyn nhw.
Josh WelBeibl 4:18  Dyma'r offeiriaid oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yn dod. Pan oedden nhw wedi cyrraedd y tir sych, dyma ddŵr yr afon yn dechrau llifo eto, a gorlifo fel o'r blaen.
Josh WelBeibl 4:19  Roedd hi'r degfed o'r mis cyntaf pan groesodd y bobl afon Iorddonen, a gwersylla yn Gilgal sydd i'r dwyrain o Jericho.
Josh WelBeibl 4:20  Dyna lle gwnaeth Josua osod i fyny yr un deg dwy o gerrig roedden nhw wedi'u cymryd o afon Iorddonen.
Josh WelBeibl 4:21  A dyma fe'n dweud wrth bobl Israel, “Pan fydd eich plant yn gofyn i'w tadau, ‘Beth ydy'r cerrig yma?’
Josh WelBeibl 4:22  esboniwch iddyn nhw, ‘Dyma lle wnaeth pobl Israel groesi afon Iorddonen ar dir sych.’
Josh WelBeibl 4:23  Roedd yr ARGLWYDD eich Duw wedi sychu dŵr yr Iorddonen o'n blaen ni wrth i ni groesi drosodd, yn union fel roedd wedi sychu'r Môr Coch pan oedden ni'n croesi hwnnw.
Josh WelBeibl 4:24  Gwnaeth hynny er mwyn i bobl holl wledydd y byd gydnabod fod yr ARGLWYDD yn Dduw grymus, ac er mwyn i chi ei barchu a'i addoli bob amser.”
Chapter 5
Josh WelBeibl 5:1  Roedd brenhinoedd yr Amoriaid a'r Canaaneaid wedi digalonni'n lân ac mewn panig llwyr. Roedden nhw wedi clywed fod yr ARGLWYDD wedi sychu afon Iorddonen er mwyn i bobl Israel allu croesi drosodd. (Brenhinoedd yr Amoriaid oedd yn teyrnasu i'r gorllewin o'r Iorddonen, a brenhinoedd y Canaaneaid ar hyd arfordir Môr y Canoldir.)
Josh WelBeibl 5:2  Bryd hynny dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Gwna gyllyll o garreg fflint, a dywed wrth ddynion Israel am fynd drwy'r ddefod o gael eu henwaedu.”
Josh WelBeibl 5:3  A dyma Josua yn gwneud hynny ar Gibeath-ha-araloth (sef ‛Bryn y blaengrwyn‛).
Josh WelBeibl 5:4  Y rheswm pam roedd rhaid i Josua wneud hyn oedd fod y dynion oedd yn ddigon hen i ymladd pan ddaeth pobl Israel allan o wlad yr Aifft i gyd wedi marw yn yr anialwch.
Josh WelBeibl 5:5  Roedd y dynion hynny wedi'u henwaedu, ond doedd y rhai gafodd eu geni yn ystod y daith drwy'r anialwch ddim wedi bod drwy'r ddefod o gael eu henwaedu.
Josh WelBeibl 5:6  Roedd pobl Israel wedi bod yn crwydro yn yr anialwch am bedwar deg mlynedd, nes bod yr holl ddynion oedd yn ddigon hen i ymladd pan ddaethon nhw allan o'r Aifft i gyd wedi marw – y dynion hynny oedd wedi bod yn anufudd i'r ARGLWYDD. Roedd yr ARGLWYDD wedi tyngu llw na fyddai byth yn gadael iddyn nhw weld y wlad roedd wedi addo ei rhoi iddyn nhw – y wlad ffrwythlon lle roedd llaeth a mêl yn llifo.
Josh WelBeibl 5:7  A bellach, roedd eu meibion wedi cymryd eu lle. A nhw wnaeth Josua eu henwaedu, am fod eu tadau ddim wedi cadw'r ddefod yn ystod y cyfnod yn yr anialwch.
Josh WelBeibl 5:8  Ar ôl i'r dynion i gyd gael eu henwaedu, dyma nhw'n aros yn y gwersyll nes roedden nhw wedi gwella.
Josh WelBeibl 5:9  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Heddiw dw i wedi symud y cywilydd eich bod wedi bod yn gaethion yn yr Aifft.” (Dyna pam mai Gilgal ydy'r enw ar y lle hyd heddiw.)
Josh WelBeibl 5:10  Roedd pobl Israel yn gwersylla yn Gilgal ar wastatir Jericho. Pan oedd hi'n nosi ar ddechrau'r pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf dyma nhw'n dathlu'r Pasg.
Josh WelBeibl 5:11  A'r diwrnod wedyn dyma nhw'n bwyta peth o gynnyrch y tir – bara heb furum ynddo, a grawn wedi'i rostio.
Josh WelBeibl 5:12  Dyna'r diwrnod pan wnaeth y manna stopio dod. O'r diwrnod pan ddecheruon nhw fwyta cynnyrch y tir, gafodd pobl Israel ddim bwyta manna eto. O'r flwyddyn honno ymlaen roedden nhw'n bwyta cynnyrch gwlad Canaan.
Josh WelBeibl 5:13  Pan oedd Josua wrth ymyl Jericho, gwelodd ddyn yn sefyll o'i flaen yn dal cleddyf yn ei law. Dyma Josua'n mynd ato ac yn gofyn iddo, “Wyt ti ar ein hochr ni, neu gyda'n gelynion ni?”
Josh WelBeibl 5:14  A dyma fe'n ateb, “Pennaeth byddin yr ARGLWYDD ydw i. Dw i wedi cyrraedd.” Aeth Josua ar ei wyneb ar lawr o'i flaen, a dweud, “Dy was di ydw i. Beth mae fy meistr eisiau i mi ei wneud?”
Josh WelBeibl 5:15  A dyma bennaeth byddin yr ARGLWYDD yn ei ateb, “Tyn dy sandalau; ti'n sefyll ar dir cysegredig!” Felly dyma Josua'n gwneud hynny.
Chapter 6
Josh WelBeibl 6:1  Roedd giatiau Jericho wedi'u cau'n dynn am fod ganddyn nhw ofn pobl Israel. Doedd neb yn cael mynd i mewn nac allan o'r ddinas.
Josh WelBeibl 6:2  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Dw i'n mynd i roi dinas Jericho i ti. Byddi di'n concro ei brenin a'i byddin!
Josh WelBeibl 6:3  Dw i eisiau i dy fyddin di fartsio o gwmpas Jericho un waith bob dydd am chwe diwrnod.
Josh WelBeibl 6:4  Mae saith offeiriad i gerdded o flaen yr Arch, pob un ohonyn nhw yn cario corn hwrdd. Yna ar y seithfed diwrnod rhaid martsio o gwmpas y ddinas saith gwaith, gyda'r offeiriaid yn chwythu'r cyrn hwrdd.
Josh WelBeibl 6:5  Wedyn pan fydd yr offeiriaid yn seinio un nodyn hir ar y cyrn hwrdd, rhaid i'r fyddin i gyd weiddi'n uchel. Bydd waliau'r ddinas yn syrthio, a bydd y fyddin yn gallu ymosod, a'r dynion i gyd yn gallu mynd yn syth i mewn i'r ddinas.”
Josh WelBeibl 6:6  Felly dyma Josua fab Nwn yn galw'r offeiriaid ato a dweud wrthyn nhw, “Codwch Arch yr Ymrwymiad, a rhoi saith offeiriad i fynd o'i blaen, pob un ohonyn nhw yn cario corn hwrdd.”
Josh WelBeibl 6:7  A dyma fe'n dweud wrth y milwyr, “Ymlaen! Martsiwch o gwmpas y ddinas, gyda grŵp o ddynion arfog yn mynd o flaen Arch yr ARGLWYDD.”
Josh WelBeibl 6:8  Ar ôl i Josua ddweud hyn, dyma'r saith offeiriad yn dechrau symud, pob un yn chwythu ei gorn hwrdd wrth fynd. A dyma Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yn dilyn.
Josh WelBeibl 6:9  Roedd gwarchodlu o filwyr yn martsio o flaen a'r tu ôl i'r offeiriaid oedd yn chwythu'r cyrn hwrdd.
Josh WelBeibl 6:10  Ond roedd Josua wedi dweud wrth y milwyr, “Peidiwch gweiddi o gwbl. Cadwch yn hollol dawel nes i mi ddweud wrthoch chi am weiddi – wedyn cewch weiddi nerth eich pen!”
Josh WelBeibl 6:11  Felly dyma Josua yn gwneud iddyn nhw fynd ag Arch yr ARGLWYDD o gwmpas y ddinas un waith, cyn mynd yn ôl i'r gwersyll ac aros yno dros nos.
Josh WelBeibl 6:12  Yn gynnar y bore wedyn dyma Josua yn codi, a chael yr offeiriaid i fynd allan eto, yn cario Arch yr Ymrwymiad.
Josh WelBeibl 6:13  A dyma'r saith offeiriad yn mynd allan o flaen Arch yr ARGLWYDD, pob un yn chwythu ei gorn hwrdd. Roedd gwarchodlu o filwyr yn martsio o flaen a'r tu ôl i'r offeiriaid oedd yn chwythu'r cyrn hwrdd.
Josh WelBeibl 6:14  Dyma nhw'n martsio o gwmpas y ddinas unwaith eto, ar yr ail ddiwrnod, ac yna'n mynd yn ôl i'r gwersyll. A dyma nhw'n gwneud yr un peth am chwe diwrnod.
Josh WelBeibl 6:15  Yna ar y seithfed diwrnod dyma nhw'n codi gyda'r wawr, i fartsio o gwmpas y ddinas fel o'r blaen – ond y tro yma dyma nhw'n mynd o'i chwmpas hi saith gwaith.
Josh WelBeibl 6:16  Y seithfed gwaith rownd, dyma'r offeiriaid yn chwythu un nodyn hir, a dyma Josua yn dweud wrth y bobl, “Gwaeddwch! Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r ddinas i chi!
Josh WelBeibl 6:17  Mae'r ddinas, a phawb a phopeth sydd ynddi, i gael ei dinistrio'n llwyr, fel offrwm i'r ARGLWYDD. Dim ond Rahab y butain a'r rhai sydd gyda hi yn ei thŷ sydd i gael byw, am ei bod hi wedi cuddio'r ysbiwyr wnaethon ni eu hanfon.
Josh WelBeibl 6:18  A gwyliwch nad ydych chi'n cymryd unrhyw beth sydd i fod i gael ei ddinistrio. Os gwnewch chi hynny, byddwch chi'n rhoi pobl Israel mewn perygl, ac yn achosi dinistr ofnadwy.
Josh WelBeibl 6:19  Yr ARGLWYDD sydd biau popeth wedi'i wneud o arian neu aur, pres neu haearn. Mae'r pethau hynny i gyd i'w cadw yn stordy'r ARGLWYDD.”
Josh WelBeibl 6:20  Pan glywodd y bobl y corn hwrdd yn seinio, dyma nhw'n gweiddi'n uchel. Syrthiodd wal y ddinas, a dyma'r milwyr yn mynd yn syth i mewn iddi ac yn ei choncro.
Josh WelBeibl 6:21  Dyma nhw'n lladd pawb a phopeth byw – dynion a merched, hen ac ifanc, gwartheg, defaid ac asynnod.
Josh WelBeibl 6:22  Ond roedd Josua wedi dweud wrth y ddau ddyn oedd wedi bod yn ysbïo'r wlad, “Ewch chi i dŷ y butain, a dod â hi a'i theulu allan yn fyw, fel roeddech chi wedi addo iddi.”
Josh WelBeibl 6:23  Felly dyma'r ysbiwyr ifanc yn mynd i nôl Rahab, a'i thad a'i mam, ei brodyr, a phawb arall o'i theulu. Aethon nhw â hi a'i theulu i gyd i le saff tu allan i wersyll Israel.
Josh WelBeibl 6:24  Roedden nhw wedi llosgi'r ddinas a phopeth oedd ynddi, heblaw am y pethau aur ac arian, pres a haearn gafodd eu rhoi yn stordy tŷ'r ARGLWYDD.
Josh WelBeibl 6:25  Ond roedd Josua wedi gadael i Rahab y butain fyw, a theulu ei thad a phawb arall oedd yn perthyn iddi. Mae ei theulu hi'n dal i fyw yn Israel hyd heddiw, am ei bod hi wedi cuddio'r dynion roedd Josua wedi'u hanfon i ysbïo ar Jericho.
Josh WelBeibl 6:26  Pan gafodd dinas Jericho ei dinistrio, roedd Josua wedi tyngu ar lw: “Bydd pwy bynnag sy'n ceisio ailadeiladu dinas Jericho yn cael ei felltithio gan yr ARGLWYDD. Bydd ei fab hynaf yn marw pan fydd e'n gosod y sylfeini, a'i fab ifancaf yn marw pan fydd e'n rhoi'r giatiau yn eu lle!”
Josh WelBeibl 6:27  Roedd yr ARGLWYDD gyda Josua, ac roedd parch mawr ato drwy'r wlad i gyd.
Chapter 7
Josh WelBeibl 7:1  Ond roedd pobl Israel wedi bod yn anufudd, a chymryd rhai pethau oedd i fod i gael eu cadw i'r ARGLWYDD. Roedd dyn o'r enw Achan wedi cymryd rhai o'r pethau oedd piau'r ARGLWYDD. (Roedd Achan yn fab i Carmi, ac yn ŵyr i Sabdi fab Serach, o lwyth Jwda.) Ac roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda phobl Israel.
Josh WelBeibl 7:2  Dyma Josua'n anfon dynion o Jericho i ysbïo ar Ai (sydd i'r dwyrain o Bethel, wrth ymyl Beth-afen).
Josh WelBeibl 7:3  Pan ddaeth y dynion yn ôl, dyma nhw'n dweud wrth Josua, “Paid anfon pawb i ymladd yn erbyn Ai. Bydd rhyw ddwy neu dair mil o ddynion yn hen ddigon. Does dim pwynt trafferthu i anfon y fyddin i gyd. Tref fach ydy Ai.”
Josh WelBeibl 7:4  Felly dyma ryw dair mil o ddynion arfog yn mynd, ond dynion Ai wnaeth ennill y frwydr, ac roedd rhaid i ddynion Israel ffoi.
Josh WelBeibl 7:5  Aeth dynion Ai ar eu holau yr holl ffordd i lawr o giatiau'r dref i'r chwareli. Cafodd tua tri deg chwech ohonyn nhw eu lladd ar y llethrau. Canlyniad hynny oedd i bobl Israel golli pob hyder.
Josh WelBeibl 7:6  Dyma Josua yn rhwygo'i ddillad, a gorwedd ar ei wyneb ar lawr o flaen Arch yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedd arweinwyr Israel yno gydag e, yn taflu pridd ar eu pennau.
Josh WelBeibl 7:7  Gweddïodd Josua, “O na! Feistr, ARGLWYDD! Pam wyt ti wedi dod â'r bobl yma ar draws afon Iorddonen? Ai er mwyn i'r Amoriaid ein dinistrio ni? Pam wnaethon ni ddim bodloni ar aros yr ochr arall!
Josh WelBeibl 7:8  Meistr, beth alla i ei ddweud, ar ôl i Israel orfod ffoi o flaen eu gelynion?
Josh WelBeibl 7:9  Pan fydd y Canaaneaid a phawb arall sy'n byw yn y wlad yn clywed beth sydd wedi digwydd, byddan nhw'n troi yn ein herbyn ni a'n dileu ni oddi ar wyneb y ddaear. Be wnei di wedyn i gadw dy enw da?”
Josh WelBeibl 7:10  A dyma'r ARGLWYDD yn ateb Josua, “Cod ar dy draed! Pam wyt ti'n gorwedd ar dy wyneb ar lawr fel yna?
Josh WelBeibl 7:11  Mae Israel wedi pechu. Maen nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad wnes i gyda nhw! Maen nhw wedi cymryd pethau oedd piau fi – wedi dwyn, a dweud celwydd, a chuddio'r pethau gyda'u stwff nhw'u hunain.
Josh WelBeibl 7:12  Dyna pam maen nhw wedi ffoi o flaen eu gelynion – am eu bod nhw i gael eu dinistrio! Dw i ddim yn mynd i fod gyda chi o hyn ymlaen, os na wnewch chi ddinistrio'r pethau hynny.
Josh WelBeibl 7:13  Dos, a dwed wrth y bobl am fynd drwy'r ddefod o buro'u hunain erbyn yfory. Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel yn dweud, ‘Israel, mae yna bethau gynnoch chi oedd piau fi ac i fod i gael eu dinistrio. Fyddwch chi ddim yn ennill y frwydr yn erbyn eich gelynion nes byddwch chi wedi cael gwared â'r pethau hynny.
Josh WelBeibl 7:14  Bore fory, dw i eisiau i chi ddod ymlaen bob yn llwyth. Bydda i'n pigo'r llwyth sy'n euog, a byddan nhw'n dod ymlaen bob yn glan. Yna'r clan bob yn deulu, ac aelodau'r teulu bob yn un.
Josh WelBeibl 7:15  Bydd y person sy'n cael ei ddal gyda'r pethau oedd i fod i gael eu cadw i mi, yn cael ei losgi, a'i deulu gydag e. Mae e wedi torri amodau'r ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD – peth gwarthus i'w wneud yn Israel!’”
Josh WelBeibl 7:16  Felly dyma Josua'n codi'n gynnar y bore wedyn, a gwneud i bobl Israel ddod ymlaen bob yn llwyth. Llwyth Jwda gafodd ei ddewis.
Josh WelBeibl 7:17  Yna dyma fe'n gwneud i glaniau Jwda ddod ymlaen yn eu tro. Clan Serach gafodd ei ddewis. Yna cafodd teulu Sabdi ei ddewis o glan Serach.
Josh WelBeibl 7:18  A phan ddaeth teulu Sabdi ymlaen bob yn un, dyma Achan yn cael ei ddal (sef Achan fab Carmi, ŵyr Sabdi fab Serach, o lwyth Jwda).
Josh WelBeibl 7:19  Dyma Josua yn dweud wrth Achan, “Rho glod i'r ARGLWYDD, Duw Israel, a chyffesu iddo. Dwed beth wnest ti. Paid cuddio dim byd.”
Josh WelBeibl 7:20  A dyma Achan yn ateb, “Mae'n wir. Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dyma ddigwyddodd:
Josh WelBeibl 7:21  Gwnes i weld clogyn hardd o Babilonia, dau gant o ddarnau arian, a bar o aur yn pwyso dros hanner cilogram. Rôn i eisiau nhw, felly dyma fi'n eu cymryd nhw. Maen nhw wedi'u claddu yn y ddaear o dan fy mhabell, gyda'r arian yn y gwaelod.”
Josh WelBeibl 7:22  Felly dyma Josua yn anfon dynion i edrych yn y babell. A wir, dyna ble roedd y cwbl wedi'i guddio, gyda'r arian o dan bopeth arall.
Josh WelBeibl 7:23  Dyma nhw'n cymryd y cwbl o'r babell, a dod ag e at Josua a phobl Israel, a'i osod ar lawr o flaen yr ARGLWYDD.
Josh WelBeibl 7:24  Yna dyma Josua a phobl Israel yn mynd ag Achan fab Serach, gyda'i berthnasau a'i eiddo i gyd, i Ddyffryn Achor. (Aethon nhw â'r arian, y clogyn, y bar aur, ei feibion a'i ferched, ei anifeiliaid, ei babell, a phopeth arall oedd piau fe gyda nhw.)
Josh WelBeibl 7:25  Meddai Josua yno, “Pam wnest ti ddod â'r drychineb yma arnon ni? Heddiw mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddod â thrychineb arnat ti!” A dyma bobl Israel yn taflu cerrig at Achan nes roedd e wedi marw. A dyma nhw'n gwneud yr un peth i'w deulu, ac yna'n llosgi'r cyrff.
Josh WelBeibl 7:26  Yna codon nhw bentwr mawr o gerrig drosto – sy'n dal yna hyd heddiw. A dyma'r ARGLWYDD yn stopio bod yn ddig hefo nhw wedyn. A dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Ddyffryn Achor ers hynny (sef ‛Dyffryn y Drychineb‛).
Chapter 8
Josh WelBeibl 8:1  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn na phanicio! Dos â'r fyddin gyfan i ymosod ar Ai. Dw i'n mynd i roi brenin Ai, ei bobl, ei dref a'i dir, yn dy ddwylo di.
Josh WelBeibl 8:2  Gwna'r un fath ag a wnest ti i Jericho. Ond y tro yma cei gadw unrhyw stwff rwyt ti eisiau, a'r anifeiliaid. Gosod filwyr yr ochr arall i'r dref, yn barod i ymosod arni.”
Josh WelBeibl 8:3  Felly dyma Josua a'i fyddin gyfan yn paratoi i ymosod ar Ai. Dewisodd 30,000 o'i ddynion gorau, i'w hanfon allan ganol nos.
Josh WelBeibl 8:4  Dwedodd wrthyn nhw, “Mae rhai ohonoch chi i fynd i ddisgwyl yr ochr arall i'r dref, mor agos ag y gallwch chi heb gael eich gweld, yn barod i ymosod arni.
Josh WelBeibl 8:5  Bydda i'n arwain gweddill y fyddin i ymosod o'r un cyfeiriad ag o'r blaen. Pan ddôn nhw allan o'r dref i ymladd yn ein herbyn ni, fel y gwnaethon nhw'r tro dwetha, byddwn ni'n troi'n ôl ac yn ffoi o'u blaenau nhw.
Josh WelBeibl 8:6  Byddan nhw'n gadael y dref a dod ar ein holau ni, gan feddwl ein bod ni'n ffoi oddi wrthyn nhw fel o'r blaen.
Josh WelBeibl 8:7  Wedyn byddwch chi'n dod allan o'r lle buoch chi'n cuddio ac yn concro'r dre. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi yn eich dwylo chi.
Josh WelBeibl 8:8  Wedyn llosgwch y dref yn llwyr, fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud. Dyna'ch ordors chi.”
Josh WelBeibl 8:9  Felly dyma Josua yn eu hanfon nhw i ffwrdd, ac aethon nhw i guddio rhwng Bethel ac Ai, i'r gorllewin o'r dref. Arhosodd Josua gyda gweddill y bobl.
Josh WelBeibl 8:10  Yna'n gynnar y bore wedyn, dyma Josua yn casglu gweddill ei fyddin, a dyma fe ac arweinwyr eraill Israel yn eu harwain nhw i ymosod ar Ai.
Josh WelBeibl 8:11  Dyma nhw'n gwersylla yr ochr arall i'r dyffryn oedd i'r gogledd o Ai.
Josh WelBeibl 8:12  Roedd Josua eisoes wedi anfon pum mil o ddynion i guddio i'r gorllewin o'r dref, rhwng Bethel ac Ai.
Josh WelBeibl 8:13  Felly roedd pawb yn eu lle – y brif fyddin i'r gogledd o'r dref, a'r milwyr eraill yn barod i ymosod o'r gorllewin. Yna aeth Josua ei hun i dreulio'r nos ar ganol y dyffryn.
Josh WelBeibl 8:14  Y bore wedyn, pan welodd brenin Ai bobl Israel, dyma fe'n arwain ei fyddin allan i ymladd yn eu herbyn. Aeth i'r dwyrain, i le oedd yn edrych allan dros Ddyffryn Iorddonen. Doedd e ddim yn sylweddoli fod dynion yn cuddio yr ochr arall i'r dref.
Josh WelBeibl 8:15  Yna dyma Josua a phobl Israel yn cymryd arnyn nhw eu bod wedi'u curo, a throi'n ôl i ffoi i gyfeiriad yr anialwch.
Josh WelBeibl 8:16  Cafodd dynion Ai i gyd eu galw allan i fynd ar eu holau. A dyna sut cawson nhw eu harwain i ffwrdd oddi wrth y dref.
Josh WelBeibl 8:17  Doedd dim dynion o gwbl ar ôl yn Ai nac yn Bethel. Roedden nhw i gyd wedi mynd ar ôl pobl Israel, ac wedi gadael y dref yn gwbl ddiamddiffyn.
Josh WelBeibl 8:18  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Dal dy waywffon i gyfeiriad Ai. Dw i'n rhoi'r dref yn dy law di.” Felly dyma Josua yn dal ei waywffon i gyfeiriad Ai.
Josh WelBeibl 8:19  Pan wnaeth hynny, dyma'r milwyr oedd yn cuddio yr ochr arall i'r dref yn codi ac yn ymosod arni. Yn syth ar ôl ei chipio, dyma nhw'n ei rhoi ar dân.
Josh WelBeibl 8:20  Pan edrychodd dynion Ai yn ôl, dyma nhw'n gweld y mwg o'r dre yn codi i'r awyr. Doedden nhw ddim yn gwybod lle i droi. Yna dyma fyddin Israel, oedd wedi bod yn dianc oddi wrthyn nhw, yn troi ac yn ymosod arnyn nhw.
Josh WelBeibl 8:21  Roedd Josua a'i fyddin yn gweld fod y milwyr eraill wedi concro'r dre, a'i rhoi hi ar dân. Felly dyma nhw'n troi'n ôl ac yn ymosod ar fyddin Ai.
Josh WelBeibl 8:22  Wedyn dyma'r milwyr oedd wedi concro'r dre yn dod allan i ymladd hefyd. Roedd dynion Ai wedi'u dal yn y canol. Cawson nhw i gyd eu lladd gan filwyr Israel. Wnaeth neb ddianc.
Josh WelBeibl 8:23  Ond roedden nhw wedi dal brenin Ai yn fyw, a dyma nhw'n mynd ag e at Josua.
Josh WelBeibl 8:24  Ar ôl lladd pob un o ddynion Ai oedd wedi dod allan i gyfeiriad yr anialwch i ymladd gyda nhw, aethon nhw yn ôl i Ai a lladd pawb oedd yn dal yn fyw yno.
Josh WelBeibl 8:25  Cafodd poblogaeth Ai i gyd ei lladd y diwrnod hwnnw – un deg dau o filoedd i gyd.
Josh WelBeibl 8:26  Wnaeth Josua ddim rhoi ei gleddyf i lawr i roi diwedd ar yr ymladd nes roedd pobl Ai i gyd wedi'u lladd.
Josh WelBeibl 8:27  Ond cafodd Israel gadw'r anifeiliaid oedd yno, ac unrhyw stwff gwerthfawr roedden nhw am ei gadw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Josua.
Josh WelBeibl 8:28  Cafodd tref Ai ei llosgi'n ulw gan Josua. Cafodd ei gadael yn domen o adfeilion. Fyddai neb yn gallu byw yno byth eto – ac felly mae hi hyd heddiw!
Josh WelBeibl 8:29  Yna dyma Josua yn crogi brenin Ai, a'i adael yn hongian ar bren nes iddi nosi. Wedi i'r haul fachlud, dyma Josua yn gorchymyn tynnu'r corff i lawr, a dyma nhw'n ei daflu wrth giât y dref a chodi pentwr mawr o gerrig drosto – mae'n dal yna hyd heddiw.
Josh WelBeibl 8:30  Yna dyma Josua yn codi allor i'r ARGLWYDD, Duw Israel, ar Fynydd Ebal.
Josh WelBeibl 8:31  (Cododd yr allor yn union fel roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi gorchymyn yn sgrôl Cyfraith Moses – gyda cerrig heb eu naddu na'u cerfio gydag unrhyw offer haearn.) A dyma nhw'n cyflwyno aberthau i'w llosgi arni, ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Josh WelBeibl 8:32  Yna, o flaen pobl Israel, dyma Josua yn naddu ar y cerrig gopi o'r Gyfraith ysgrifennodd Moses.
Josh WelBeibl 8:33  Roedd pobl Israel i gyd yno – Israeliaid a'r bobl eraill o'r tu allan oedd gyda nhw – ac roedd yr arweinwyr hŷn, y swyddogion a'r barnwyr, yn sefyll bob ochr i'r Arch, o flaen yr offeiriaid o lwyth Lefi, oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD. Safodd hanner y bobl o flaen Mynydd Gerisim, a'r hanner arall o flaen Mynydd Ebal, fel roedd Moses wedi gorchymyn iddyn nhw wneud ar gyfer y seremoni fendithio.
Josh WelBeibl 8:34  Yna dyma Josua yn darllen yn uchel y bendithion a'r melltithion sydd wedi'u hysgrifennu yn sgrôl y Gyfraith.
Josh WelBeibl 8:35  Darllenodd y cwbl o flaen pobl Israel i gyd, yn cynnwys gwragedd, plant, a'r bobl o'r tu allan oedd yn byw gyda nhw.
Chapter 9
Josh WelBeibl 9:1  Pan glywodd y brenhinoedd oedd yn byw i'r gorllewin o afon Iorddonen am hyn i gyd, dyma nhw'n dod at ei gilydd i ffurfio cynghrair milwrol i ymladd yn erbyn Josua a phobl Israel. Roedd yn cynnwys brenhinoedd y mynydd-dir, yr iseldir, a'r rhai ar hyd arfordir Môr y Canoldir cyn belled â Libanus (yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid).
Josh WelBeibl 9:2  Pan glywodd y brenhinoedd oedd yn byw i'r gorllewin o afon Iorddonen am hyn i gyd, dyma nhw'n dod at ei gilydd i ffurfio cynghrair milwrol i ymladd yn erbyn Josua a phobl Israel. Roedd yn cynnwys brenhinoedd y mynydd-dir, yr iseldir, a'r rhai ar hyd arfordir Môr y Canoldir cyn belled â Libanus (yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid).
Josh WelBeibl 9:3  Ond pan glywodd pobl Gibeon beth roedd Josua wedi'i wneud i drefi Jericho ac Ai,
Josh WelBeibl 9:4  dyma nhw'n bod yn gyfrwys. Dyma rai ohonyn nhw'n cymryd arnyn nhw eu bod yn negeswyr o wlad bell. Dyma nhw'n rhoi hen sachau ar gefnau eu hasynnod, a chario hen boteli crwyn oedd wedi rhwygo a chael eu trwsio;
Josh WelBeibl 9:5  gwisgo hen sandalau oedd wedi treulio, hen ddillad carpiog, a chario bara oedd wedi sychu a llwydo.
Josh WelBeibl 9:6  Wedyn mynd at Josua i'r gwersyll yn Gilgal, a dweud wrth bobl Israel, “Dŷn ni wedi teithio o wlad bell, i ofyn i chi wneud cytundeb heddwch â ni.”
Josh WelBeibl 9:7  Ond dyma bobl Israel yn dweud wrth yr Hefiaid, “Sut ydyn ni'n gwybod nad ydych chi'n dod o'r ardaloedd yma? Allwn ni ddim gwneud cytundeb heddwch gyda chi os ydych chi.”
Josh WelBeibl 9:8  A dyma nhw'n dweud wrth Josua, “Dŷn ni'n fodlon bod yn weision i chi.” Gofynnodd Josua iddyn nhw, “Pwy ydych chi ac o ble dych chi'n dod?”
Josh WelBeibl 9:9  A dyma nhw'n ateb, “Mae dy weision wedi dod o wlad bell iawn. Mae'r ARGLWYDD eich Duw chi yn enwog – dŷn ni wedi clywed adroddiadau am beth wnaeth e yn yr Aifft,
Josh WelBeibl 9:10  a beth wnaeth e i ddau frenin yr Amoriaid yr ochr arall i afon Iorddonen – Sihon, brenin Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, oedd yn byw yn Ashtaroth.
Josh WelBeibl 9:11  Dyma'n harweinwyr ni, a'n pobl i gyd, yn ein hanfon ni i'ch cyfarfod chi, i ofyn i chi wneud cytundeb heddwch â ni, a dweud ein bod ni'n fodlon bod yn weision i chi.
Josh WelBeibl 9:12  Roedd y bara yma'n gynnes o'r popty pan wnaethon ni adael ein cartrefi i ddod i'ch cyfarfod chi. Ond bellach mae e wedi sychu a llwydo.
Josh WelBeibl 9:13  A'r hen boteli crwyn yma – roedden nhw'n newydd sbon pan wnaethon ni eu llenwi nhw. Ac edrychwch ar gyflwr ein dillad a'n sandalau ni! Mae wedi bod yn daith mor hir!”
Josh WelBeibl 9:14  Dyma arweinwyr Israel yn edrych ar y bara, ond wnaethon nhw ddim gofyn i'r ARGLWYDD am arweiniad.
Josh WelBeibl 9:15  Felly dyma Josua'n gwneud cytundeb heddwch â nhw, ac addo gadael iddyn nhw fyw. A dyma arweinwyr Israel yn cadarnhau'r cytundeb drwy dyngu llw.
Josh WelBeibl 9:16  Dri diwrnod wedyn dyma bobl Israel yn darganfod y gwir – pobl leol oedden nhw!
Josh WelBeibl 9:17  Symudodd Israel yn eu blaenau, a chyrraedd eu trefi ddeuddydd wedyn, sef Gibeon, Ceffira, Beëroth, a Ciriath-iearîm.
Josh WelBeibl 9:18  Ond wnaeth pobl Israel ddim ymosod arnyn nhw am fod eu harweinwyr wedi cymryd llw yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel. Roedd y bobl i gyd yn cwyno am yr arweinwyr.
Josh WelBeibl 9:19  Ond meddai'r arweinwyr wrthyn nhw, “Dŷn ni wedi cymryd llw, a gwneud addewid i'r bobl yma yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel. Allwn ni ddim eu cyffwrdd nhw!
Josh WelBeibl 9:20  Os ydyn ni am osgoi melltith Duw arnon ni am dorri'n haddewid, rhaid i ni adael iddyn nhw fyw.
Josh WelBeibl 9:21  Felly gadewch iddyn nhw fyw.” A chawson nhw dorri coed a chario dŵr i bobl Israel, fel roedd yr arweinwyr wedi addo iddyn nhw.
Josh WelBeibl 9:22  Galwodd Josua y bobl o Gibeon ato, a gofyn iddyn nhw, “Pam wnaethoch chi'n twyllo ni? Pam wnaethoch chi ddweud eich bod chi'n dod o wlad bell, a chithau'n byw yma wrth ein hymyl ni?
Josh WelBeibl 9:23  Nawr dych chi wedi'ch condemnio i fod yn gaethweision am byth. Byddwch chi'n torri coed ac yn cario dŵr i deml fy Nuw i.”
Josh WelBeibl 9:24  Dyma nhw'n ateb, “Roedden ni'n clywed o hyd ac o hyd fod yr ARGLWYDD eich Duw wedi dweud wrth ei was Moses fod y wlad gyfan i'w rhoi i chi, a'ch bod i ddinistrio pawb oedd yn byw yma o'ch blaen. Roedd gynnon ni ofn am ein bywydau, a dyna pam wnaethon ni beth wnaethon ni.
Josh WelBeibl 9:25  Dŷn ni yn eich dwylo chi. Gwnewch beth bynnag dych chi'n feddwl sy'n iawn.”
Josh WelBeibl 9:26  Wnaeth Josua ddim gadael i bobl Israel eu lladd nhw.
Josh WelBeibl 9:27  Gwnaeth nhw'n gaethweision i dorri coed a chario dŵr i bobl Israel, ac i allor yr ARGLWYDD – ble bynnag fyddai'r ARGLWYDD yn dewis ei gosod. A dyna maen nhw'n ei wneud hyd heddiw.
Chapter 10
Josh WelBeibl 10:1  Clywodd Adoni-sedec, brenin Jerwsalem, fod Josua wedi concro Ai a lladd y brenin a phawb arall yno, fel roedd e wedi gwneud i Jericho. Clywodd hefyd fod pobl Gibeon wedi gwneud cytundeb heddwch gydag Israel, a'u bod nhw'n byw gyda nhw.
Josh WelBeibl 10:2  Roedd e a'i bobl yn ofni am eu bywydau, achos roedd Gibeon yn dref fawr – roedd hi'n fwy na'r trefi brenhinol eraill i gyd, ac yn fwy nag Ai, a'i dynion i gyd yn ymladdwyr dewr.
Josh WelBeibl 10:3  Felly dyma Adoni-sedec, brenin Jerwsalem, yn anfon neges at frenhinoedd eraill yr ardal (y brenin Hoham yn Hebron, y Brenin Piram yn Iarmwth, y Brenin Jaffîa yn Lachish, a'r brenin Debir yn Eglon):
Josh WelBeibl 10:4  “Dewch gyda mi i ymosod ar Gibeon. Maen nhw wedi gwneud cytundeb heddwch gyda Josua a phobl Israel.”
Josh WelBeibl 10:5  Felly dyma bum brenin yr Amoriaid (brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Iarmwth, Lachish, ac Eglon) yn dod â'u byddinoedd at ei gilydd, ac yn amgylchynu Gibeon yn barod i ymosod arni.
Josh WelBeibl 10:6  Anfonodd pobl Gibeon neges at Josua yn y gwersyll yn Gilgal: “Paid troi cefn arnon ni, dy weision! Achub ni! Helpa ni! Mae brenhinoedd yr Amoriaid, sy'n byw yn y bryniau, wedi ymuno â'i gilydd i ymosod arnon ni.”
Josh WelBeibl 10:7  Felly dyma Josua a'i fyddin gyfan, gan gynnwys ei ddynion gorau, yn gadael y gwersyll yn Gilgal i fynd i'w helpu nhw.
Josh WelBeibl 10:8  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn. Dw i'n mynd i roi buddugoliaeth i ti. Fydd neb yn gallu dy rwystro di.”
Josh WelBeibl 10:9  Ar ôl martsio drwy'r nos o Gilgal, dyma Josua'n ymosod arnyn nhw'n gwbl ddirybudd.
Josh WelBeibl 10:10  Gwnaeth yr ARGLWYDD iddyn nhw banicio, a chawson nhw eu trechu'n llwyr gan Israel yn Gibeon. Aeth byddin Israel ar eu holau i lawr drwy fwlch Beth-choron, a lladd nifer fawr yr holl ffordd i Aseca a Macceda.
Josh WelBeibl 10:11  Wrth iddyn nhw ddianc oddi wrth fyddin Israel i lawr Bwlch Beth-choron i Aseca, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddi fwrw cenllysg anferth arnyn nhw. Cafodd mwy eu lladd gan y cenllysg nag oedd wedi'u lladd gan fyddin Israel yn y frwydr!
Josh WelBeibl 10:12  Ar y diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD i Israel orchfygu'r Amoriaid, roedd Josua wedi gweddïo o flaen pobl Israel i gyd: “Haul, stopia yn yr awyr uwchben Gibeon. Ti leuad, saf yn llonydd uwch Dyffryn Aialon.”
Josh WelBeibl 10:13  Felly dyma'r haul yn sefyll a'r lleuad yn aros yn ei unfan nes i Israel ddial ar eu gelynion. (Mae'r gerdd yma i'w chael yn Sgrôl Iashar.) Roedd yr haul wedi sefyll yn ei unfan drwy'r dydd, heb fachlud.
Josh WelBeibl 10:14  Does dim diwrnod tebyg erioed wedi bod, cyn hynny na wedyn! Diwrnod pan wnaeth yr ARGLWYDD wrando ar orchymyn dyn. Oedd, roedd yr ARGLWYDD yn ymladd dros bobl Israel!
Josh WelBeibl 10:15  A dyma Josua a byddin Israel yn mynd yn ôl i'r gwersyll yn Gilgal.
Josh WelBeibl 10:16  Roedd pum brenin yr Amoriaid wedi dianc a mynd i guddio mewn ogof yn Macceda.
Josh WelBeibl 10:18  dyma fe'n gorchymyn, “Rholiwch gerrig mawr i gau ceg yr ogof, a gosod dynion i'w gwarchod.
Josh WelBeibl 10:19  Wedyn peidiwch oedi – ewch ar ôl y gelynion. Peidiwch gadael iddyn nhw ddianc yn ôl i'w trefi. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd i roi buddugoliaeth i chi.”
Josh WelBeibl 10:20  Roedd Josua a byddin Israel wedi'u lladd nhw i gyd bron, er fod rhai wedi llwyddo i ddianc i'r caerau amddiffynnol.
Josh WelBeibl 10:21  Yna aeth byddin Israel i gyd yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Macceda. Doedd neb yn mentro dweud dim byd yn erbyn pobl Israel ar ôl hyn.
Josh WelBeibl 10:22  A dyma Josua yn gorchymyn, “Agorwch geg yr ogof, a dod â'r pum brenin allan ata i.”
Josh WelBeibl 10:23  A dyma nhw'n gwneud hynny, a dod â'r pum brenin allan o'r ogof – brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Iarmwth, Lachish, ac Eglon.
Josh WelBeibl 10:24  Dyma Josua yn galw pobl Israel ato, a dweud wrth gapteiniaid y fyddin, “Dewch yma, a gosod eich traed ar yddfau y brenhinoedd yma.” A dyna wnaethon nhw.
Josh WelBeibl 10:25  Yna meddai Josua, “Peidiwch bod ag ofn a phanicio! Byddwch yn gryf a dewr! Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr un fath i'ch gelynion chi i gyd.”
Josh WelBeibl 10:26  A dyma Josua yn dienyddio'r brenhinoedd, ac yn hongian eu cyrff ar bum coeden. Cawson nhw eu gadael yno yn hongian nes iddi nosi.
Josh WelBeibl 10:27  Wedi i'r haul fachlud, dyma Josua'n gorchymyn i'r cyrff gael eu cymryd i lawr. Dyma nhw'n taflu'r cyrff i'r ogof lle roedden nhw wedi bod yn cuddio, a rhoi cerrig mawr dros geg yr ogof – maen nhw'n dal yna hyd heddiw.
Josh WelBeibl 10:28  Y diwrnod hwnnw hefyd, dyma Josua yn concro tref Macceda, a lladd y bobl i gyd a'u brenin. Cafodd pawb eu lladd – gafodd neb ei adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho.
Josh WelBeibl 10:29  Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau i Libna, i ymosod ar y dref honno.
Josh WelBeibl 10:30  Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref a'i byddin yn nwylo Josua. Cafodd pawb oedd yn byw yno eu lladd. Doedd neb wedi'i adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho.
Josh WelBeibl 10:31  Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau eto i ymosod ar Lachish.
Josh WelBeibl 10:32  Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref honno yn nwylo Israel. Llwyddon nhw i'w choncro ar yr ail ddiwrnod; a dyma nhw'n lladd pawb oedd yn byw yno hefyd, fel roedden nhw wedi gwneud i Libna.
Josh WelBeibl 10:33  Daeth y Brenin Horam o Geser gyda'i fyddin i geisio helpu Lachish, a dyma Josua yn ymosod arno fe a'i fyddin hefyd. Gafodd neb ei adael yn fyw.
Josh WelBeibl 10:34  Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau o Lachish i ymosod ar Eglon.
Josh WelBeibl 10:35  Dyma nhw'n concro'r dref y diwrnod hwnnw, a lladd pawb oedd yn byw yno. Cafodd pob enaid byw ei ladd, fel yn Lachish.
Josh WelBeibl 10:36  Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau o Eglon i ymosod ar Hebron.
Josh WelBeibl 10:37  Dyma nhw'n concro'r dref, lladd ei brenin a phawb oedd yn byw yno, a phawb yn y pentrefi o'i chwmpas hefyd. Gafodd neb ei adael yn fyw. Cafodd pob enaid byw ei ladd, fel yn Eglon.
Josh WelBeibl 10:38  Wedyn dyma Josua a byddin Israel yn troi yn ôl i ymosod ar Debir.
Josh WelBeibl 10:39  Dyma nhw'n ei choncro hi a'i brenin a'r pentrefi o'i chwmpas, a lladd pawb oedd yn byw yno. Cafodd pob enaid byw ei ladd. Doedd neb ar ôl. Cafodd Debir ei dinistrio'n llwyr, a'i brenin ei ladd, fel digwyddodd i Libna a'i brenin, ac i Hebron.
Josh WelBeibl 10:40  Felly roedd Josua wedi concro'r ardal gyfan – y bryniau, y Negef i'r de, yr iseldir a'r llethrau i'r gorllewin, a'u brenhinoedd i gyd. Doedd neb ar ôl. Cafodd pob enaid byw ei ladd, yn union fel roedd yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi gorchymyn.
Josh WelBeibl 10:41  Roedd wedi concro'r ardal gyfan o Cadesh-barnea i Gasa ac o Gosen i Gibeon.
Josh WelBeibl 10:42  Llwyddodd Josua i ddal y brenhinoedd yma a'u tiroedd mewn un ymgyrch, am fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ymladd drostyn nhw.
Josh WelBeibl 10:43  Aeth Josua a byddin Israel yn ôl i'r gwersyll yn Gilgal wedi hynny.
Chapter 11
Josh WelBeibl 11:1  Pan glywodd Jabin, brenin Chatsor, beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n anfon neges at frenhinoedd eraill yr ardal honno – Iobab brenin Madon, brenin Shimron, brenin Achsaff,
Josh WelBeibl 11:2  a'r brenhinoedd oedd yn teyrnasu yn y bryniau i'r gogledd, yn Nyffryn Iorddonen i'r de o Lyn Galilea, ac ar yr iseldir ac arfordir Dor i'r gorllewin.
Josh WelBeibl 11:3  Daeth Canaaneaid o gyfeiriad y dwyrain a'r gorllewin, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid a Jebwsiaid o'r bryniau, a Hefiaid o'r ardal wrth droed Mynydd Hermon yn Mitspa.
Josh WelBeibl 11:4  Daeth y brenhinoedd yma i gyd allan gyda'i byddinoedd – roedd gormod ohonyn nhw i'w cyfrif! Roedden nhw fel y tywod ar lan y môr! Ac roedd ganddyn nhw lot fawr o geffylau a cherbydau rhyfel.
Josh WelBeibl 11:5  Daethon nhw i gyd at ei gilydd wrth ffynnon Merom, i ymladd yn erbyn Israel.
Josh WelBeibl 11:6  Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn. Erbyn tua'r adeg yma yfory bydda i wedi gwneud yn siŵr eu bod nhw i gyd yn gorwedd yn farw o flaen Israel. Gwna eu ceffylau yn gloff, a llosga eu cerbydau rhyfel.”
Josh WelBeibl 11:7  Felly dyma Josua a'i fyddin yn ymosod arnyn nhw yn ddirybudd wrth Ddyfroedd Merom.
Josh WelBeibl 11:8  Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r fuddugoliaeth i fyddin Israel. Ac aeth byddin Israel ar eu holau yr holl ffordd i Sidon a Misreffoth-maim, a hefyd i Ddyffryn Mitspe yn y dwyrain, a'u taro nhw i lawr. Wnaethon nhw adael neb ar ôl yn fyw.
Josh WelBeibl 11:9  Wedyn dyma Josua yn gwneud y ceffylau'n gloff ac yn llosgi'r cerbydau rhyfel, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
Josh WelBeibl 11:10  Yna dyma Josua'n troi yn ôl a choncro tref Chatsor a lladd y brenin yno. (Chatsor oedd wedi bod yn arwain y teyrnasoedd yma i gyd.)
Josh WelBeibl 11:11  Dyma nhw'n lladd pawb yno – gafodd yr un enaid byw ei adael ar ôl. A dyma nhw'n llosgi'r dref.
Josh WelBeibl 11:12  Aeth Josua yn ei flaen i goncro'r trefi brenhinol i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, yn union fel roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi gorchymyn.
Josh WelBeibl 11:13  Ond wnaeth pobl Israel ddim llosgi unrhyw un o'r trefi oedd wedi'u hadeiladu ar garnedd, ar wahân i Chatsor – hi oedd yr unig un gafodd ei llosgi.
Josh WelBeibl 11:14  Cymerodd pobl Israel bopeth gwerthfawr o'r trefi, a chadw'r anifeiliaid. Ond cafodd y boblogaeth i gyd eu lladd – adawyd neb yn fyw.
Josh WelBeibl 11:15  Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi dweud wrth Josua beth roedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn, a dyna wnaeth Josua. Gwnaeth bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddweud wrth Moses.
Josh WelBeibl 11:16  Llwyddodd Josua i goncro'r wlad gyfan, gan gynnwys y bryniau a'r iseldir yn y de, y Negef, tir Gosen, Dyffryn Iorddonen, a bryniau ac iseldir Israel yn y gogledd hefyd.
Josh WelBeibl 11:17  Concrodd bobman o fynydd Halac, sydd i gyfeiriad Edom yn y de, yr holl ffordd i Baal-gad yn Nyffryn Libanus, wrth droed Mynydd Hermon. Daliodd bob un o'u brenhinoedd, a'u lladd.
Josh WelBeibl 11:18  Roedd Josua wedi bod yn rhyfela yn erbyn y brenhinoedd yma am amser hir iawn.
Josh WelBeibl 11:19  Wnaeth neb ohonyn nhw gytundeb heddwch gyda phobl Israel (dim ond yr Hefiaid yn Gibeon). Roedd rhaid i bobl Israel frwydro yn eu herbyn nhw i gyd.
Josh WelBeibl 11:20  Roedd yr ARGLWYDD ei hun wedi'u gwneud nhw'n ystyfnig, er mwyn iddyn nhw frwydro yn erbyn Israel. Roedd e eisiau i Israel eu dinistrio nhw'n llwyr, yn gwbl ddidrugaredd, fel roedd e wedi gorchymyn i Moses.
Josh WelBeibl 11:21  Yn ystod y cyfnod yma, llwyddodd Josua a'i fyddin i ddinistrio disgynyddion Anac hefyd, oedd yn byw yn y bryniau – yn Hebron, Debir, Anab, a gweddill bryniau Jwda ac Israel. Lladdodd Josua nhw i gyd, a dinistrio'u trefi.
Josh WelBeibl 11:22  Doedd neb o ddisgynyddion Anac ar ôl lle mae pobl Israel yn byw. Ond roedd rhai yn dal ar ôl yn Gasa, Gath ac Ashdod.
Josh WelBeibl 11:23  Felly roedd Josua wedi concro'r wlad i gyd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Moses. A dyma Josua yn rhannu'r wlad rhwng y llwythau, ac yn rhoi eu tiriogaeth arbennig i bob un. Ac roedd heddwch yn y wlad.
Chapter 12
Josh WelBeibl 12:1  Dyma'r brenhinoedd wnaeth pobl Israel eu trechu i'r dwyrain o afon Iorddonen, a'r tiroedd wnaethon nhw eu meddiannu – o Ddyffryn Arnon i Fynydd Hermon, sef yr holl dir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen:
Josh WelBeibl 12:2  Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon ac yn teyrnasu o Aroer, ger Dyffryn Arnon. Roedd yn teyrnasu o ganol Dyffryn Arnon i Ddyffryn Jabboc, sef y ffin gyda thiriogaeth pobl Ammon – yn cynnwys hanner Gilead.
Josh WelBeibl 12:3  Roedd ei diriogaeth yn cynnwys y tir sydd i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, yr holl ffordd o Lyn Galilea i'r Môr Marw. Yna o Beth-ieshimoth yn y dwyrain i lawr i'r de, cyn belled â llethrau Mynydd Pisga.
Josh WelBeibl 12:4  Og, brenin Bashan – un o'r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl. Roedd Og yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei,
Josh WelBeibl 12:5  a'i diriogaeth yn ymestyn o Fynydd Hermon i Salca yn y gogledd; Bashan yn y dwyrain i'r ffin gyda theyrnasoedd Geshwr a Maacha yn y gorllewin; a hanner arall Gilead at y ffin gyda theyrnas Sihon, oedd yn frenin yn Cheshbon.
Josh WelBeibl 12:6  Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, a phobl Israel wedi'u trechu nhw a rhannu eu tiroedd nhw rhwng llwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse.
Josh WelBeibl 12:7  A dyma'r brenhinoedd wnaeth Josua a phobl Israel eu trechu i'r gorllewin o afon Iorddonen – o Baal-gad yn Nyffryn Libanus yn y gogledd i lawr i Fynydd Halac i gyfeiriad Edom yn y de. (Rhannodd Josua y tiroedd yma i gyd rhwng llwythau Israel.
Josh WelBeibl 12:8  Roedd yn cynnwys y bryniau a'r iseldir, y tir anial, y llethrau, anialwch Jwda a'r Negef, sef tiroedd yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid):
Josh WelBeibl 12:22  brenin Cedesh; brenin Iocneam, ger Mynydd Carmel;
Josh WelBeibl 12:23  brenin Dor, ar yr arfordir; brenin Goïm, ger Gilgal;
Josh WelBeibl 12:24  a brenin Tirsa. (Tri deg un o frenhinoedd i gyd.)
Chapter 13
Josh WelBeibl 13:1  Pan oedd Josua wedi mynd yn hen iawn, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Ti'n mynd yn hen, ac mae yna lot fawr o dir sydd eto heb ei goncro.
Josh WelBeibl 13:2  Dyma'r tir sydd ar ôl: Tir y Philistiaid a'r Geshwriaid,
Josh WelBeibl 13:3  o afon Sihor ar y ffin gyda'r Aifft i fyny yr holl ffordd i dir Ecron yn y gogledd (y cwbl yn dir sy'n perthyn i'r Canaaneaid). Mae'n cynnwys tiriogaeth arweinwyr y Philistiaid yn Gasa, Ashdod, Ashcelon, Gath ac Ecron – y pump ohonyn nhw. Tir yr Afiaid hefyd,
Josh WelBeibl 13:4  sydd i lawr yn y de. Yna i'r gogledd, tir y Canaaneaid o dref Ara yn Sidon i Affec, sydd ar y ffin gyda'r Amoriaid.
Josh WelBeibl 13:5  Tir y Gebaliaid a Libanus i gyd. Ac yna yn y dwyrain, o Baal-gad wrth droed Mynydd Hermon i Fwlch Chamath.
Josh WelBeibl 13:6  A dw i am yrru allan o flaen pobl Israel bawb sy'n byw yn mynydd-dir Libanus, yr holl ffordd i Misreffoth-maim, sef tir y Sidoniaid. “Mae'r tir yma i gyd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel, fel dw i wedi gorchymyn i ti. Bydd gan bob llwyth ei diriogaeth ei hun.
Josh WelBeibl 13:7  Mae i'w rannu rhwng y naw llwyth a hanner sydd ddim eto wedi cael tir.”
Josh WelBeibl 13:8  Roedd hanner llwyth Manasse, a llwythau Reuben a Gad wedi derbyn tir i'r dwyrain o afon Iorddonen. Moses, gwas yr ARGLWYDD, oedd wedi rhoi y tir hwnnw iddyn nhw.
Josh WelBeibl 13:9  Roedd eu tiriogaeth yn cynnwys Aroer, ger Dyffryn Arnon (gan gynnwys y dref ei hun yn y dyffryn), a gwastadedd Medeba yr holl ffordd i Dibon.
Josh WelBeibl 13:10  Hefyd y trefi oedd yn arfer perthyn i Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, at y ffin gydag Ammon.
Josh WelBeibl 13:11  Roedd yn cynnwys Gilead, tiroedd Geshwr a Maacha, Mynydd Hermon a thir Bashan i Salca.
Josh WelBeibl 13:12  Hefyd tiriogaeth Og, brenin Bashan, oedd yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei. (Roedd Og yn un o'r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl bryd hynny.) Roedd Moses wedi'u concro nhw, a chymryd eu tiroedd.
Josh WelBeibl 13:13  Ond wnaeth Israel ddim gyrru allan bobl Geshwr a Maacha – maen nhw'n dal i fyw gyda phobl Israel hyd heddiw.
Josh WelBeibl 13:14  Wnaeth Moses ddim rhoi tir i lwyth Lefi chwaith, am fod yr ARGLWYDD wedi addo rhoi iddyn nhw yr offrymau oedd yn cael eu cyflwyno i'w llosgi i'r ARGLWYDD, Duw Israel.
Josh WelBeibl 13:15  Dyma'r tir roedd Moses wedi'i roi i deuluoedd llwyth Reuben:
Josh WelBeibl 13:16  Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Aroer, yn Nyffryn Arnon (gan gynnwys y dref ei hun yn y dyffryn), a gwastadedd Medeba,
Josh WelBeibl 13:17  Cheshbon, a'r trefi o'i chwmpas – gan gynnwys Dibon, Bamoth-baal, Beth-baal-meon,
Josh WelBeibl 13:19  Ciriathaim, Sibma, Sereth-shachar ar y bryn yn y dyffryn,
Josh WelBeibl 13:20  Beth-peor, llethrau Mynydd Pisga, a Beth-ieshimoth.
Josh WelBeibl 13:21  Roedd yn cynnwys trefi'r gwastadedd i gyd, a holl diriogaeth Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu o Cheshbon. Roedd Moses wedi'i goncro fe, ac arweinwyr y Midianiaid oedd dan ei reolaeth ac yn byw yn ei diriogaeth – Efi, Recem, Swr, Hur, a Reba.
Josh WelBeibl 13:22  Roedd pobl Israel hefyd wedi lladd y dewin, Balaam fab Beor, ac eraill.
Josh WelBeibl 13:23  Ffin orllewinol tiriogaeth Reuben oedd afon Iorddonen. Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Reuben yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 13:24  Dyma'r tir roedd Moses wedi'i roi i deuluoedd llwyth Gad:
Josh WelBeibl 13:25  Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Iaser, trefi Gilead i gyd, a hanner tiriogaeth pobl Ammon, yr holl ffordd i Aroer, ger Rabba.
Josh WelBeibl 13:26  Roedd yn ymestyn o Cheshbon yn y de i Ramath-mitspe a Betonîm yn y gogledd, ac o Machanaîm i ardal Debir.
Josh WelBeibl 13:27  Roedd yn cynnwys y tir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, gan gynnwys trefi Beth-haram, Beth-nimra, Swccoth, a Saffon, a gweddill tiriogaeth Sihon, oedd yn teyrnasu o Cheshbon – sef y tir i'r dwyrain o afon Iorddonen yr holl ffordd at Lyn Galilea.
Josh WelBeibl 13:28  Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Gad yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 13:29  Dyma'r tir roedd Moses wedi'i roi i deuluoedd hanner llwyth Manasse:
Josh WelBeibl 13:30  Roedd eu tiriogaeth nhw yn ymestyn tua'r gogledd o Machanaîm, ac yn cynnwys teyrnas Og, brenin Bashan, i gyd. Roedd yn cynnwys y chwe deg o drefi yn Hafoth-jair yn Bashan,
Josh WelBeibl 13:31  hanner Gilead, a trefi Ashtaroth ac Edrei (sef y trefi lle roedd Og, brenin Bashan, wedi bod yn teyrnasu). Cafodd y tir yma i gyd ei roi i ddisgynyddion Machir fab Manasse, sef teuluoedd hanner llwyth Manasse.
Josh WelBeibl 13:32  Dyna sut wnaeth Moses rannu'r tir pan oedd ar wastatir Moab i'r dwyrain o afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.
Josh WelBeibl 13:33  Wnaeth Moses ddim rhoi tir i lwyth Lefi, am fod yr ARGLWYDD wedi addo rhoi iddyn nhw yr offrymau oedd yn cael eu cyflwyno i'r ARGLWYDD, Duw Israel.
Chapter 14
Josh WelBeibl 14:1  Dyma gofnod o'r ffordd gafodd y tir yn Canaan ei rannu rhwng pobl Israel gan Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel.
Josh WelBeibl 14:2  Cafodd y tir ei rannu rhwng y naw llwyth a hanner drwy daflu coelbren, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Josh WelBeibl 14:3  Roedd Moses eisoes wedi rhoi tir yr ochr arall i afon Iorddonen i ddau lwyth a hanner, a doedd e ddim wedi rhoi tir i lwyth Lefi.
Josh WelBeibl 14:4  Roedd disgynyddion Joseff, ar y llaw arall, yn cael eu cyfrif fel dau lwyth – Manasse ac Effraim. Doedd llwyth Lefi ddim i gael tir; roedden nhw i gael rhai trefi arbennig i fyw ynddyn nhw, gyda'r tir o'u cwmpas yn borfa i'w hanifeiliaid.
Josh WelBeibl 14:5  Felly dyma bobl Israel yn rhannu'r tir yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Josh WelBeibl 14:6  Pan oedden nhw yn Gilgal, dyma ddynion o lwyth Jwda yn mynd i weld Josua. Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad oedd yn siarad ar eu rhan, ac meddai, “Ti'n cofio beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, dyn Duw, amdanon ni'n dau, yn Cadesh-barnea?
Josh WelBeibl 14:7  Pedwar deg oed oeddwn i pan anfonodd Moses fi o Cadesh-barnea i ysbïo ar y wlad. A dyma fi'n rhoi adroddiad cwbl onest iddo pan ddes i yn ôl.
Josh WelBeibl 14:8  Roedd y dynion eraill aeth gyda ni wedi dychryn y bobl a gwneud iddyn nhw ddigalonni. Ond roeddwn i wedi aros yn ffyddlon i'r ARGLWYDD fy Nuw.
Josh WelBeibl 14:9  A'r diwrnod hwnnw dyma Moses yn addo ar lw: ‘Bydd y tir lle buoch chi'n cerdded yn cael ei roi i ti a dy deulu am byth, am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD dy Dduw.’
Josh WelBeibl 14:10  Ac mae'r ARGLWYDD wedi cadw ei addewid. Dyma fi, yn dal yn fyw, bedwar deg pum mlynedd yn ddiweddarach. Dyna faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i'r ARGLWYDD siarad â Moses pan oedd pobl Israel yn crwydro yn yr anialwch. Dw i'n wyth deg pum mlwydd oed bellach,
Josh WelBeibl 14:11  ac yn dal mor gryf ag oeddwn i pan anfonodd Moses fi allan! Dw i'n dal i allu ymladd a gwneud popeth roeddwn i'n ei wneud bryd hynny.
Josh WelBeibl 14:12  Felly rho i mi'r bryniau wnaeth yr ARGLWYDD eu haddo i mi. Mae'n siŵr y byddi'n cofio fod disgynyddion Anac yn byw yno, mewn trefi caerog mawr. Ond gyda help yr ARGLWYDD, bydda i'n cael gwared â nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo.”
Josh WelBeibl 14:13  Felly dyma Josua yn bendithio Caleb fab Jeffwnne, a rhoi tref Hebron iddo.
Josh WelBeibl 14:14  Mae disgynyddion Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad yn dal i fyw yn Hebron hyd heddiw, am ei fod wedi bod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD, Duw Israel.
Josh WelBeibl 14:15  Yr hen enw ar Hebron oedd Ciriath-arba, wedi'i enwi ar ôl Arba, oedd yn un o arwyr yr Anaciaid. Ac roedd heddwch yn y wlad.
Chapter 15
Josh WelBeibl 15:1  Roedd y tir gafodd ei roi i lwyth Jwda yn dilyn y ffin gydag Edom i Anialwch Sin yn y Negef, i lawr yn y de.
Josh WelBeibl 15:2  Roedd y ffin yn y de yn dechrau o ben isaf y Môr Marw,
Josh WelBeibl 15:3  yn mynd heibio i'r de o Fwlch y Sgorpion, ar draws i Sin ac yna i'r ochr isaf i Cadesh-barnea. Yna roedd yn croesi i Hesron ac yn mynd i fyny i Adar, cyn troi i gyfeiriad Carca.
Josh WelBeibl 15:4  Wedyn roedd yn croesi i Atsmon ac yn dilyn Wadi'r Aifft yr holl ffordd i Fôr y Canoldir. Dyna oedd y ffin yn y de.
Josh WelBeibl 15:5  Y Môr Marw at aber afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain. Wedyn roedd y ffin ogleddol yn ymestyn o aber yr Iorddonen ar ben uchaf y Môr Marw,
Josh WelBeibl 15:6  i fyny i Beth-hogla, yna ar draws o du uchaf Beth-araba at Garreg Bohan (mab Reuben).
Josh WelBeibl 15:7  Ymlaen wedyn o Ddyffryn Achor i Debir, cyn troi i'r gogledd i gyfeiriad Gilgal (sydd gyferbyn â Bwlch Adwmîm, i'r de o'r ceunant). Yna heibio ffynnon En-shemesh cyn belled ag En-rogel.
Josh WelBeibl 15:8  Wedyn roedd y ffin yn dilyn Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o dre'r Jebwsiaid (sef Jerwsalem). Yna i'r gorllewin, ac i gopa'r mynydd sydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom ac i'r gogledd o Ddyffryn Reffaïm.
Josh WelBeibl 15:9  O dop y mynydd roedd yn mynd at ffynnon dyfroedd Nefftoach, at drefi Mynydd Effron, ac yna'n troi i gyfeiriad Baäla (sef Ciriath-iearîm).
Josh WelBeibl 15:10  Wedyn roedd yn troi i'r gorllewin o Baäla i gyfeiriad Mynydd Seir, ac yn croesi i dref Cesalon ar lethr gogleddol Mynydd Iearim, cyn mynd i lawr i Beth-shemesh a chroesi i Timna.
Josh WelBeibl 15:11  Yna i gyfeiriad y gogledd at lethrau Ecron, ymlaen i Shicron, croesi i Fynydd Baäla, ac i Iabneël a Môr y Canoldir.
Josh WelBeibl 15:12  Môr y Canoldir ei hun oedd y ffin orllewinol. Dyna oedd ffiniau teuluoedd llwyth Jwda.
Josh WelBeibl 15:13  Cafodd tref Ciriath-arba (sef Hebron) ei rhoi i Caleb fab Jeffwnne, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua. (Arba oedd hynafiad yr Anaciaid.)
Josh WelBeibl 15:14  Dyma Caleb yn gyrru allan dri cawr oedd yn ddisgynyddion i Anac, sef Sheshai, Achiman a Talmai.
Josh WelBeibl 15:15  Yna dyma fe'n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir. (Ciriath-seffer oedd yr hen enw ar Debir.)
Josh WelBeibl 15:16  Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.”
Josh WelBeibl 15:17  Othniel, mab Cenas (brawd Caleb) wnaeth goncro'r dref, a dyma Caleb yn rhoi ei ferch, Achsa, yn wraig iddo.
Josh WelBeibl 15:18  Pan briododd hi Othniel, dyma hi'n ei berswadio i adael iddi ofyn i'w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, dyma'i thad Caleb yn gofyn iddi, “Beth sy'n bod?”
Josh WelBeibl 15:19  A dyma hi'n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi'r ffynhonnau uchaf a'r ffynhonnau isaf iddi.
Josh WelBeibl 15:20  Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Jwda:
Josh WelBeibl 15:21  Y trefi i lawr yn y de ar y ffin gydag Edom: Cabseël, Eder, Iagwr,
Josh WelBeibl 15:25  Chatsor-chadatta, Cerioth-chetsron (sef Chatsor),
Josh WelBeibl 15:32  Lebaoth, Shilchim, Ain a Rimmon. – dau ddeg naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 15:36  Shaaraim, Adithaîm, a Gedera (neu Gederothaîm) – un deg pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 15:41  Gederoth, Beth-dagon, Naamâ, a Macceda – un deg chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 15:44  Ceila, Achsib, a Maresha – naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 15:46  ac i gyfeiriad y gorllewin, y trefi oedd yn ymyl Ashdod, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 15:47  Ashdod ei hun, a Gasa a'r trefi a'r pentrefi o'u cwmpas – yr holl ffordd at Wadi'r Aifft ac arfordir Môr y Canoldir.
Josh WelBeibl 15:48  Wedyn y trefi yn y bryniau: Shamîr, Iattir, Socho,
Josh WelBeibl 15:51  Gosen, Cholon, a Gilo – un deg un o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 15:54  Chwmta, Ciriath-arba (sef Hebron), a Sior – naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 15:57  Cain, Gibea, a Timna – deg o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 15:59  Maarath, Beth-anoth, ac Eltecon – chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 15:60  Ciriath-baal (sef Ciriath-iearîm) a Rabba – dwy dref, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 15:61  Yna'r trefi yn yr anialwch – Beth-araba, Midin, Sechacha,
Josh WelBeibl 15:62  Nibshan, Tre'r Halen, ac En-gedi – chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 15:63  Ond wnaeth dynion Jwda ddim llwyddo i goncro'r Jebwsiaid oedd yn byw yn Jerwsalem. Felly mae'r Jebwsiaid yn dal i fyw gyda phobl Jwda hyd heddiw.
Chapter 16
Josh WelBeibl 16:1  Roedd y tir gafodd ei roi i ddisgynyddion Joseff yn ymestyn o afon Iorddonen gyferbyn â ffynnon Jericho, drwy'r anialwch, ac i fyny o Jericho i fryniau Bethel.
Josh WelBeibl 16:2  Roedd y ffin yn y de yn ymestyn o Bethel i Lws, ac yn croesi i dir yr Arciaid yn Ataroth.
Josh WelBeibl 16:3  Yna roedd yn mynd i lawr i'r gorllewin i dir y Jaffletiaid, yna i Beth-choron Isaf, Geser ac at Fôr y Canoldir.
Josh WelBeibl 16:4  Dyma'r tir gafodd ei roi i ddisgynyddion Joseff, sef llwythau Effraim a Manasse.
Josh WelBeibl 16:5  Y tir gafodd y teuluoedd oedd yn perthyn i lwyth Effraim: Roedd y ffin yn mynd o Atroth-adar yn y dwyrain i Beth-choron Uchaf,
Josh WelBeibl 16:6  yna ymlaen at y Môr. O Michmethath yn y gogledd roedd ffin y dwyrain yn mynd heibio Taanath-Seilo i Ianoach.
Josh WelBeibl 16:7  Wedyn roedd yn mynd i lawr o Ianoach i Ataroth a Naära, cyn cyffwrdd Jericho a mynd ymlaen at afon Iorddonen.
Josh WelBeibl 16:8  O Tapŵach roedd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin i Ddyffryn Cana, ac yna at y Môr. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Effraim.
Josh WelBeibl 16:9  Roedd hefyd yn cynnwys rhai trefi oedd y tu mewn i diriogaeth Manasse, gyda'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 16:10  Ond wnaeth llwyth Effraim ddim gyrru allan y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser. Mae'r Canaaneaid yno yn dal i fyw gyda phobl Effraim hyd heddiw, ac yn cael eu gorfodi i weithio fel caethweision iddyn nhw.
Chapter 17
Josh WelBeibl 17:1  Dyma'r tir gafodd ei roi i lwyth Manasse, mab hynaf Joseff. (Roedd ardaloedd Gilead a Bashan, i'r dwyrain o afon Iorddonen, eisoes wedi'u rhoi i ddisgynyddion Machir – tad Gilead a mab hynaf Manasse – am ei fod yn filwr dewr.)
Josh WelBeibl 17:2  Cafodd gweddill y teuluoedd oedd yn perthyn i lwyth Manasse dir oedd i'r gorllewin o afon Iorddonen. Disgynyddion Abieser, Chelec, Asriel, Sechem, Cheffer, a Shemida. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Manasse, mab Joseff.
Josh WelBeibl 17:3  Ond doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. (Roedd Cheffer yn fab i Gilead, yn ŵyr i Machir ac yn or-ŵyr i Manasse.) Enwau merched Seloffchad oedd Machla, Noa, Hogla, Milca, a Tirtsa.
Josh WelBeibl 17:4  Dyma nhw'n mynd at Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn, a'r arweinwyr eraill, a dweud, “Dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses am roi tir i ni gyda'n perthnasau.” Felly dyma Josua yn rhoi tir iddyn nhw gyda brodyr eu tad, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
Josh WelBeibl 17:5  Cafodd Manasse ddeg darn o dir yn ychwanegol at Gilead a Bashan, oedd i'r dwyrain o afon Iorddonen,
Josh WelBeibl 17:6  am fod merched o lwyth Manasse wedi cael tir gyda'r meibion. (Roedd tir Gilead yn perthyn i weddill disgynyddion Manasse.)
Josh WelBeibl 17:7  Roedd tir Manasse yn ymestyn o'r ffin gyda llwyth Asher yn y gogledd, i Michmethath wrth ymyl Sichem. Yna roedd yn mynd yn bellach i'r de at y bobl oedd yn byw yn En-tapŵach.
Josh WelBeibl 17:8  (Roedd yr ardal o gwmpas Tapŵach yn perthyn i lwyth Manasse, ond tref Tapŵach ei hun, oedd ar ffin Manasse, yn perthyn i lwyth Effraim.)
Josh WelBeibl 17:9  Wedyn roedd ffin y de yn dilyn Dyffryn Cana. Roedd yna drefi yno, yng nghanol trefi Manasse, oedd wedi cael eu rhoi i lwyth Effraim. Ond roedd ffin Manasse yn mynd ar hyd ochr ogleddol y dyffryn, at y môr.
Josh WelBeibl 17:10  Tir Effraim oedd i'r de o'r ffin, a Manasse i'r gogledd. Môr y Canoldir oedd ffin Manasse i'r gorllewin. Yna roedd eu tir yn ffinio gyda llwyth Asher i'r gogledd ac Issachar i'r dwyrain.
Josh WelBeibl 17:11  Ac roedd rhai trefi o fewn ffiniau Asher ac Issachar, gyda'r pentrefi o'u cwmpas, wedi'u rhoi i lwyth Manasse: Beth-shean, Ibleam, Dor, En-dor, Taanach, a Megido (Naffeth ydy'r drydedd yn y rhestr).
Josh WelBeibl 17:12  Ond wnaeth dynion Manasse ddim llwyddo i goncro'r trefi yma. Roedd y Canaaneaid yn dal i wrthod symud.
Josh WelBeibl 17:13  Yn ddiweddarach, pan oedd Israel yn gryfach, dyma nhw yn llwyddo i orfodi'r Canaaneaid i weithio fel caethweision iddyn nhw. Ond wnaethon nhw erioed lwyddo i'w gyrru nhw allan yn llwyr.
Josh WelBeibl 17:14  Dyma ddisgynyddion Joseff yn gofyn i Josua, “Pam wyt ti wedi rhoi cyn lleied o dir i ni? – dim ond un rhandir. Mae yna lot fawr ohonon ni a, diolch i'r ARGLWYDD dŷn ni'n dal i dyfu.”
Josh WelBeibl 17:15  Dyma Josua'n dweud, “Os oes cymaint â hynny ohonoch chi, a bryniau Effraim yn rhy fach, ewch i'r goedwig a chlirio lle i fyw yno, yn ardal y Peresiaid a'r Reffaiaid.”
Josh WelBeibl 17:16  Ond dyma nhw'n ateb, “Fyddai'r bryniau yna i gyd ddim digon, ac allwn ni ddim mynd i lawr i'r dyffryn – mae gan y Canaaneaid sy'n byw yn ardal Beth-shean a Dyffryn Jesreel gerbydau rhyfel haearn.”
Josh WelBeibl 17:17  Yna dyma Josua'n dweud wrth ddisgynyddion Joseff (sef llwythau Effraim a Manasse): “Mae yna lot fawr ohonoch chi, a dych chi'n gryf iawn. Byddwch chi'n cael mwy nag un rhandir –
Josh WelBeibl 17:18  chi fydd piau'r bryniau i gyd. Er fod y tir yn goediog, gallwch ei glirio, a'i gymryd i gyd. A gallwch goncro'r Canaaneaid yn yr iseldir hefyd, er eu bod nhw'n gryfion a bod ganddyn nhw gerbydau rhyfel haearn.”
Chapter 18
Josh WelBeibl 18:1  Dyma bobl Israel i gyd yn dod at ei gilydd yn Seilo, ac yn codi pabell presenoldeb Duw. Er eu bod nhw'n rheoli'r wlad,
Josh WelBeibl 18:3  A dyma Josua yn dweud wrth bobl Israel, “Am faint mwy dych chi'n mynd i dindroi cyn cymryd y tir mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi'i roi i chi?
Josh WelBeibl 18:4  Dewiswch dri dyn o bob llwyth. Dw i am eu hanfon nhw i grwydro'r wlad, ei mapio a gwneud arolwg llawn ohoni.
Josh WelBeibl 18:5  Byddan nhw'n ei rhannu yn saith ardal. Ond fydd hyn ddim yn cynnwys tir Jwda i lawr yn y de, na thir Joseff yn y gogledd.
Josh WelBeibl 18:6  Mapiwch y tir a'i rannu'n saith ardal wahanol, a dewch ag e i mi. Wedyn bydda i'n bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD eich Duw, i ddewis pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth.
Josh WelBeibl 18:7  Ond fydd llwyth Lefi ddim yn cael rhan o'r tir. Eu braint nhw ydy cael bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD. Ac mae llwythau Gad, Reuben a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn tir yr ochr arall i afon Iorddonen, gan Moses, gwas yr ARGLWYDD.”
Josh WelBeibl 18:8  Cyn i'r dynion gychwyn ar eu taith, dyma Josua yn gorchymyn iddyn nhw: “Ewch i grwydro drwy'r wlad a'i mapio, a pharatoi arolwg llawn ohoni i mi. Yna dewch yn ôl ata i. Bydda i wedyn yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yma yn Seilo, i weld pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth.”
Josh WelBeibl 18:9  Felly dyma'r dynion yn mynd drwy'r wlad i gyd, a'i mapio, a rhestru'r trefi i gyd ar sgrôl, a rhannu'r tir yn saith ardal. Yna dyma nhw'n dod yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Seilo.
Josh WelBeibl 18:10  A dyma Josua yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yn Seilo, i rannu'r tir rhwng pobl Israel, a gweld pa ardal fyddai pob llwyth yn ei gael.
Josh WelBeibl 18:11  Teuluoedd llwyth Benjamin gafodd y rhan gyntaf. Eu tir nhw fyddai'r ardal rhwng tir Jwda a thir meibion Joseff.
Josh WelBeibl 18:12  Roedd y ffin yn y gogledd yn mynd o afon Iorddonen ar hyd y llethr i'r gogledd o Jericho, wedyn i fyny i'r bryniau i gyfeiriad y gorllewin ac ymlaen at anialwch Beth-afen.
Josh WelBeibl 18:13  Roedd yn croesi wedyn i Lws, ar hyd y llethr sydd i'r de o Lws (sef Bethel). Yna i lawr i Atroth-adar sydd ar y bryn i'r de o Beth-choron Isaf.
Josh WelBeibl 18:14  Wedyn roedd yn troi o'r fan honno i'r de, ar hyd ochr orllewinol y bryn ac i lawr i Ciriath-baal (sef Ciriath-iearîm), un o'r trefi oedd ar dir llwyth Jwda. Dyna'r ffin i'r gorllewin.
Josh WelBeibl 18:15  Yna roedd ffin y de yn dechrau wrth Ciriath-iearîm, ac yn rhedeg i gyfeiriad Ffynnon Nefftoach.
Josh WelBeibl 18:16  Wedyn roedd y ffin yn mynd i lawr at droed y mynydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom, sydd wrth ben gogleddol Dyffryn Reffaïm. Yna i lawr Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o Jerwsalem, ac ymlaen i En-rogel.
Josh WelBeibl 18:17  O En-rogel roedd yn troi i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i En-shemesh, ac yna i Geliloth, sydd gyferbyn â Bwlch Adwmîm, ac yna i lawr at Garreg Bohan (mab Reuben).
Josh WelBeibl 18:18  Yna croesi i gyfeiriad y gogledd ar hyd y llethr sydd o flaen Dyffryn Iorddonen, cyn mynd i lawr i'r dyffryn ei hun.
Josh WelBeibl 18:19  Croesi wedyn at lethr Beth-hogla ac ymlaen i ben uchaf y Môr Marw, wrth aber afon Iorddonen. Dyna ffin y de.
Josh WelBeibl 18:20  Wedyn afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain. Dyna ffiniau'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin.
Josh WelBeibl 18:21  A dyma'r trefi oedd yn perthyn i lwyth Benjamin: Jericho, Beth-hogla, Emec-cetsits,
Josh WelBeibl 18:24  Ceffar-ammona, Offni, a Geba – un deg dwy o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 18:28  Sela, Eleff, tref y Jebwsiaid (sef Jerwsalem), Gibea, a Ciriath – un deg pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin.
Chapter 19
Josh WelBeibl 19:1  Teuluoedd llwyth Simeon gafodd yr ail ran. Roedd eu tir nhw o fewn tiriogaeth Jwda.
Josh WelBeibl 19:6  Beth-lebaoth, a Sharwchen – un deg tair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 19:7  Ain, Rimmon, Ether, ac Ashan – pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 19:8  Hefyd y pentrefi oedd o'u cwmpas nhw yr holl ffordd i Baalath-beër (sef Rama yn y Negef). Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Simeon.
Josh WelBeibl 19:9  Cafodd tir Simeon ei gymryd allan o gyfran Jwda, am fod gan Jwda ormod o dir. Felly roedd tir llwyth Simeon o fewn ffiniau Jwda.
Josh WelBeibl 19:10  Teuluoedd llwyth Sabulon gafodd y drydedd ran. Roedd ffin eu tiriogaeth nhw yn ymestyn yr holl ffordd i Sarid yn y de-ddwyrain.
Josh WelBeibl 19:11  Roedd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin i Marala, heibio Dabbesheth ac at y ceunant wrth Iocneam.
Josh WelBeibl 19:12  O Sarid roedd yn troi i gyfeiriad y dwyrain at y ffin gyda Cisloth-tabor, yna ymlaen i Daberath, ac i fyny i Jaffîa.
Josh WelBeibl 19:13  Wedyn roedd yn croesi drosodd i Gath-heffer ac Eth-catsin ac ymlaen i Rimmon, cyn troi i gyfeiriad Nea.
Josh WelBeibl 19:14  Wedyn roedd yn mynd rownd i'r gogledd i Channathon ac yn gorffen yn Nyffryn Ifftachél.
Josh WelBeibl 19:15  Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Catta, Nahalal, Shimron, Idalâ, a Bethlehem. Roedd ganddyn nhw un deg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 19:16  Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Sabulon, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 19:17  Teuluoedd llwyth Issachar gafodd y bedwaredd ran.
Josh WelBeibl 19:18  Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Jesreel, Ceswloth, Shwnem,
Josh WelBeibl 19:22  Roedd eu ffin yn cyffwrdd Mynydd Tabor, Shachatsima a Beth-shemesh, ac yn gorffen wrth afon Iorddonen. Un deg chwech o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 19:23  Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Issachar, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 19:25  Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Chelcath, Chali, Beten, Achsaff,
Josh WelBeibl 19:26  Alammelech, Amad, a Mishal. Roedd eu ffin nhw yn mynd o Carmel yn y gorllewin i Shichor-libnath.
Josh WelBeibl 19:27  Wedyn roedd yn troi i'r dwyrain i gyfeiriad Beth-dagon, at ffin llwyth Sabulon a Dyffryn Ifftachél i'r gogledd, yna i Beth-emec a Neiel, ac yna ymlaen i Cabwl yn y gogledd.
Josh WelBeibl 19:28  Yna i Ebron, Rechob, Chammôn, a Cana, yr holl ffordd i Sidon Fawr.
Josh WelBeibl 19:29  Wedyn roedd yn troi i gyfeiriad Rama a tref gaerog Tyrus, cyn troi i Chosa a mynd at y môr. Roedd ganddyn nhw ddau ddeg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas, gan gynnwys Machalab, Achsib, Acco, Affec, a Rechob.
Josh WelBeibl 19:30  Wedyn roedd yn troi i gyfeiriad Rama a tref gaerog Tyrus, cyn troi i Chosa a mynd at y môr. Roedd ganddyn nhw ddau ddeg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas, gan gynnwys Machalab, Achsib, Acco, Affec, a Rechob.
Josh WelBeibl 19:31  Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Asher, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 19:33  Roedd y ffin yn dechrau wrth Cheleff a'r dderwen yn Tsa-ananîm, yna'n mynd i Adami-necef, Iabneël, ymlaen i Lacwm, cyn gorffen wrth afon Iorddonen.
Josh WelBeibl 19:34  Wedyn roedd yn troi i'r gorllewin at Asnoth-tabor ac ymlaen i Chwcoc. Roedd yn ffinio gyda llwyth Sabulon i'r de, llwyth Asher i'r gorllewin, a Jwda wrth afon Iorddonen yn y dwyrain.
Josh WelBeibl 19:35  Roedd y trefi caerog amddiffynnol yn cynnwys Sidim, Ser, Chamath, Raccath, Cinnereth,
Josh WelBeibl 19:38  Iron, Migdal-el, Chorem, Beth-anath, a Beth-shemesh. Roedd ganddyn nhw un deg naw o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 19:39  Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Nafftali, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 19:41  Roedd eu tir nhw'n cynnwys Sora, Eshtaol, Ir-shemesh,
Josh WelBeibl 19:46  Me-iarcon, a Raccon, gan gynnwys y tir o flaen Jopa.
Josh WelBeibl 19:47  (Ond collodd llwyth Dan y tir gafodd ei roi iddyn nhw, felly aethon nhw i'r gogledd ac ymosod ar Laish. Dyma nhw'n cymryd y dref drosodd ac yn lladd pawb oedd yn byw yno, a newid enw'r dref i Dan, ar ôl eu hynafiad.)
Josh WelBeibl 19:48  Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Dan, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
Josh WelBeibl 19:49  Ar ôl rhannu'r tir i gyd rhwng y llwythau, dyma bobl Israel yn rhoi darn o dir i Josua fab Nwn.
Josh WelBeibl 19:50  Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud y byddai e'n cael pa dref bynnag oedd e eisiau. Dewisodd Timnath-serach ym mryniau Effraim. Ailadeiladodd y dref, a byw yno.
Josh WelBeibl 19:51  Dyna sut cafodd y tir ei rannu gan Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel. Cafodd y tir ei rannu drwy fwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw yn Seilo. A dyna sut gwnaethon nhw orffen rhannu'r tir.
Chapter 20
Josh WelBeibl 20:2  “Dwed wrth bobl Israel am ddewis y trefi lloches wnes i orchymyn i Moses ddweud wrthoch chi amdanyn nhw.
Josh WelBeibl 20:3  Bydd unrhyw un sy'n lladd person yn ddamweiniol yn gallu dianc yno. Bydd y trefi yma yn lle saff i ddianc oddi wrth y perthynas sydd am ddial.
Josh WelBeibl 20:4  Dylai'r un sydd wedi lladd rhywun drwy ddamwain, ddianc i un ohonyn nhw, a mynd i'r llys wrth giât y dref i gyflwyno ei achos i'r arweinwyr yno. Yna byddan nhw'n gadael iddo fynd i mewn i'r dref i fyw.
Josh WelBeibl 20:5  A phan fydd y perthynas sydd â'r hawl i ddial yn dod ar ei ôl, dylen nhw wrthod ei roi iddo, am mai damwain oedd yr hyn ddigwyddodd – doedd e ddim wedi bwriadu lladd.
Josh WelBeibl 20:6  Ond rhaid iddo aros yn y dref nes bydd llys cyhoeddus wedi dod i ddyfarniad ar ei achos, a'r un sy'n archoffeiriad ar y pryd wedi marw. Wedyn bydd yn cael mynd yn ôl i'r dref lle roedd yn byw cyn iddo ddianc.”
Josh WelBeibl 20:7  Felly dyma nhw'n dewis Cedesh yn Galilea, ym mryniau tiriogaeth Nafftali; Sichem ym mryniau Effraim; a Ciriath-arba (sef Hebron) ym mryniau Jwda.
Josh WelBeibl 20:8  Ac i'r dwyrain o afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho, dyma nhw'n dewis Betser yn yr anialwch ar wastadedd tiriogaeth llwyth Reuben; Ramoth yn Gilead ar dir llwyth Gad; a Golan yn Bashan oedd yn perthyn i lwyth Manasse.
Josh WelBeibl 20:9  Y rhain gafodd eu dewis yn drefi lloches i bobl Israel a'r mewnfudwyr oedd yn byw gyda nhw. Gallai rhywun oedd wedi lladd person yn ddamweiniol ddianc yno i osgoi cael ei ladd gan y perthynas sydd â'r hawl i ddial, hyd nes i'w achos gael gwrandawiad mewn llys cyhoeddus.
Chapter 21
Josh WelBeibl 21:1  Dyma arweinwyr llwyth Lefi yn mynd i weld Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel,
Josh WelBeibl 21:2  yn Seilo yn Canaan. A dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses roi trefi i ni fyw ynddyn nhw, gyda thir pori o'u cwmpas nhw i'n hanifeiliaid.”
Josh WelBeibl 21:3  Felly, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, dyma bobl Israel yn rhoi trefi gyda thir pori o'u cwmpas nhw i lwyth Lefi:
Josh WelBeibl 21:4  Y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath gafodd y rhai cyntaf. Cafodd y Lefiaid oedd yn ddisgynyddion i Aaron yr offeiriad un deg tair o drefi o diriogaeth llwythau Jwda, Simeon a Benjamin.
Josh WelBeibl 21:5  A dyma'r gweddill o ddisgynyddion Cohath yn cael deg tref o diriogaeth llwythau Effraim, Dan a hanner llwyth Manasse.
Josh WelBeibl 21:6  Cafodd disgynyddion Gershon un deg tair o drefi o diriogaeth llwythau Issachar, Asher, Nafftali, a hanner arall llwyth Manasse yn Bashan.
Josh WelBeibl 21:7  Cafodd y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Merari un deg dwy o drefi o diriogaeth Reuben, Gad a Sabulon.
Josh WelBeibl 21:8  Dyma'r trefi, gyda'u tir pori, wnaeth pobl Israel eu rhoi i lwyth Lefi, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses:
Josh WelBeibl 21:10  y trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd Cohath, oedd yn ddisgynyddion i Aaron yr offeiriad – nhw gafodd y rhai cyntaf:
Josh WelBeibl 21:11  Ciriath-arba, sef Hebron, ym mryniau Jwda. (Arba oedd hynafiad yr Anaciaid.)
Josh WelBeibl 21:12  Ond roedd y tir agored a'r pentrefi o'i chwmpas eisoes wedi cael eu rhoi i Caleb fab Jeffwnne.
Josh WelBeibl 21:13  Felly i ddisgynyddion Aaron yr offeiriad dyma nhw'n rhoi Hebron (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Libna,
Josh WelBeibl 21:16  Ain, Iwtta, a Beth-shemesh, a'r tir pori o gwmpas pob un. Naw o drefi wedi'u cymryd o diriogaeth y ddau lwyth yma.
Josh WelBeibl 21:17  O diriogaeth llwyth Benjamin dyma nhw'n rhoi Gibeon, Geba,
Josh WelBeibl 21:18  Anathoth, ac Almon, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
Josh WelBeibl 21:19  Felly cafodd un deg tair o drefi eu rhoi i'r offeiriad, disgynyddion Aaron.
Josh WelBeibl 21:20  Cafodd gweddill y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath (o lwyth Lefi) y trefi canlynol: O diriogaeth llwyth Effraim dyma nhw'n rhoi
Josh WelBeibl 21:21  Sichem, ym mryniau Effraim (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Geser,
Josh WelBeibl 21:22  Cibtsaim, a Beth-choron, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
Josh WelBeibl 21:23  O diriogaeth llwyth Dan dyma nhw'n rhoi Eltece, Gibbethon,
Josh WelBeibl 21:24  Aialon, a Gath-rimmon, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
Josh WelBeibl 21:25  O diriogaeth hanner llwyth Manasse dyma nhw'n rhoi Taanach a Jibleam, a'r tir pori o'u cwmpas nhw. Dwy dref i gyd.
Josh WelBeibl 21:26  Felly cafodd y deg tref yma eu rhoi i weddill y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath.
Josh WelBeibl 21:27  Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd disgynyddion Gershon, o lwyth Lefi: O hanner llwyth Manasse dyma nhw'n rhoi Golan yn Bashan (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall) a Beeshtera, a'r tir pori o'u cwmpas nhw. Dwy dref i gyd.
Josh WelBeibl 21:29  Iarmwth, ac En-gannîm, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
Josh WelBeibl 21:31  Chelcath, a Rechob, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
Josh WelBeibl 21:32  O diriogaeth llwyth Nafftali: Cedesh yn Galilea (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Chamath-dor, a Cartan, a'r tir pori o gwmpas pob un. Tair o drefi i gyd.
Josh WelBeibl 21:33  Felly cafodd yr un deg tair tref yma eu rhoi i deuluoedd disgynyddion Gershon.
Josh WelBeibl 21:34  Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd gweddill llwyth Lefi, sef disgynyddion Merari: O diriogaeth llwyth Sabulon: Iocneam, Carta,
Josh WelBeibl 21:35  Dimna, a Nahalal, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
Josh WelBeibl 21:37  Cedemoth, a Meffaäth, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
Josh WelBeibl 21:38  O diriogaeth llwyth Gad: Ramoth yn Gilead (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Machanaîm,
Josh WelBeibl 21:39  Cheshbon, a Iaser, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.
Josh WelBeibl 21:40  Felly cafodd yr un deg dwy tref yma eu rhoi i weddill llwyth Lefi, sef disgynyddion Merari.
Josh WelBeibl 21:41  Cafodd pedwar deg wyth o drefi i gyd, gyda'u tir pori, eu rhoi i lwyth Lefi, o fewn tiroedd pobl Israel.
Josh WelBeibl 21:43  Felly dyma'r ARGLWYDD yn rhoi i bobl Israel yr holl dir roedd wedi'i addo i'w hynafiaid. Dyma nhw'n ei goncro ac yn setlo i lawr i fyw arno.
Josh WelBeibl 21:44  Rhoddodd yr ARGLWYDD heddwch iddyn nhw fel roedd e wedi addo ar lw i'w hynafiaid. Doedd neb wedi gallu eu rhwystro. Roedd yr ARGLWYDD wedi'u helpu i goncro eu gelynion i gyd.
Josh WelBeibl 21:45  Roedd pob un addewid wnaeth yr ARGLWYDD i bobl Israel wedi dod yn wir.
Chapter 22
Josh WelBeibl 22:1  Dyma Josua yn galw llwythau Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse at ei gilydd,
Josh WelBeibl 22:2  a dweud wrthyn nhw: “Dych chi wedi gwneud popeth wnaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, ei ddweud wrthoch chi, ac wedi gwrando arna i hefyd.
Josh WelBeibl 22:3  Wnaethoch chi ddim troi cefn ar eich pobl, llwythau Israel, o gwbl. Dych chi wedi gwneud beth wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw ei ofyn gynnoch chi.
Josh WelBeibl 22:4  Bellach mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi heddwch i weddill llwythau Israel, fel gwnaeth e addo. Felly gallwch fynd yn ôl adre i'r tir wnaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, ei roi i chi yr ochr arall i afon Iorddonen.
Josh WelBeibl 22:5  “Ond cofiwch gadw'r rheolau a'r deddfau wnaeth Moses eu rhoi i chi. Caru yr ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e'n dweud, cadw ei reolau, bod yn ffyddlon iddo, a rhoi eich hunain yn llwyr i'w addoli â'ch holl galon!”
Josh WelBeibl 22:6  Dyma Josua yn eu bendithio nhw, a'u hanfon nhw i ffwrdd, a dyma nhw'n mynd am adre.
Josh WelBeibl 22:7  (Roedd hanner llwyth Manasse wedi cael tir yn Bashan gan Moses, ac roedd Josua wedi rhoi tir i'r hanner arall i'r gorllewin o afon Iorddonen, gyda gweddill pobl Israel.) Pan anfonodd Josua nhw adre, dyma fe'n eu bendithio nhw:
Josh WelBeibl 22:8  “Ewch adre, a rhannu gyda'ch pobl yr holl gyfoeth dych chi wedi'i gymryd gan eich gelynion – nifer fawr o anifeiliaid, hefyd arian, aur, pres a haearn, a lot fawr o ddillad hefyd.”
Josh WelBeibl 22:9  Felly dyma lwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse yn gadael gweddill pobl Israel yn Seilo yn Canaan, a throi am adre i'w tir eu hunain yn Gilead – sef y tir wnaeth yr ARGLWYDD ei roi iddyn nhw drwy Moses.
Josh WelBeibl 22:10  Ond pan oedden nhw'n dal ar ochr Canaan i'r Iorddonen, dyma nhw'n adeiladu allor fawr drawiadol yn Geliloth, wrth ymyl yr afon.
Josh WelBeibl 22:12  dyma nhw'n dod at ei gilydd yn Seilo i baratoi i fynd i ryfel ac ymosod ar y ddau lwyth a hanner.
Josh WelBeibl 22:13  Ond cyn gwneud hynny, dyma bobl Israel yn anfon Phineas mab Eleasar, yr offeiriad, i siarad â nhw yn Gilead.
Josh WelBeibl 22:14  Aeth deg o arweinwyr eraill gydag e, un o bob llwyth – dynion oedd yn arweinwyr teuluoedd estynedig o fewn eu llwythau.
Josh WelBeibl 22:15  Dyma nhw'n mynd i Gilead at lwythau Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse, a dweud wrthyn nhw:
Josh WelBeibl 22:16  “Mae pobl Israel i gyd eisiau gwybod pam dych chi wedi bradychu Duw Israel fel yma? Beth wnaeth i chi droi cefn ar yr ARGLWYDD ac adeiladu eich allor eich hunain? Sut allwch chi wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD fel yma?
Josh WelBeibl 22:17  Oedd beth wnaethon ni yn Peor ddim digon drwg? Dŷn ni'n dal ddim wedi dod dros hynny'n iawn. Mae canlyniadau'r pla wnaeth daro pobl yr ARGLWYDD bryd hynny yn dal gyda ni!
Josh WelBeibl 22:18  A dyma chi eto heddiw, yn troi cefn ar yr ARGLWYDD! Os gwnewch chi droi yn ei erbyn e heddiw, mae perygl y bydd yr ARGLWYDD yn cosbi pobl Israel i gyd yfory!
Josh WelBeibl 22:19  Os ydych chi'n teimlo fod eich tir chi yr ochr yma i'r Iorddonen yn aflan, dewch drosodd i fyw gyda ni ar dir yr ARGLWYDD ei hun, lle mae pabell presenoldeb Duw. Ond peidiwch troi yn erbyn yr ARGLWYDD, a'n tynnu ni i mewn i'r peth, drwy godi allor arall i chi'ch hunain. Dim ond un allor sydd i fod i'r ARGLWYDD ein Duw.
Josh WelBeibl 22:20  Meddyliwch am Achan fab Serach! Pan fuodd e'n anufudd i'r gorchymyn am y cyfoeth oedd i fod i gael ei gadw i'r ARGLWYDD, roedd Duw yn ddig gyda phobl Israel i gyd. Dim fe oedd yr unig un wnaeth farw o ganlyniad i'w bechod!”
Josh WelBeibl 22:21  Yna dyma bobl Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse yn ateb arweinwyr Israel, a dweud,
Josh WelBeibl 22:22  “Yr ARGLWYDD ydy Duw y duwiau! Yr ARGLWYDD ydy Duw y duwiau! Mae e'n gwybod beth ydy'r gwir, a bydd pobl Israel yn gwybod hefyd! Os ydyn ni wedi troi yn ei erbyn a bod yn anufudd, lladdwch ni heddiw!
Josh WelBeibl 22:23  Wnaethon ni ddim codi'r allor i ni'n hunain gyda'r bwriad o droi cefn ar yr ARGLWYDD, nac i gyflwyno offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn neu offrymau i ofyn am ei fendith arni. Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn ein cosbi ni os ydyn ni'n dweud celwydd!
Josh WelBeibl 22:24  Na! Poeni oedden ni y byddai eich disgynyddion chi ryw ddydd yn dweud wrth ein disgynyddion ni, ‘Pa gysylltiad sydd gynnoch chi â'r ARGLWYDD, Duw Israel?
Josh WelBeibl 22:25  Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi afon Iorddonen fel ffin glir rhyngon ni a chi. Does gynnoch chi, bobl Reuben a Gad, ddim hawl i addoli'r ARGLWYDD.’ Roedd gynnon ni ofn y byddai eich disgynyddion chi yn rhwystro ein disgynyddion ni addoli'r ARGLWYDD.
Josh WelBeibl 22:26  Felly dyma ni'n penderfynu codi'r allor yma. Nid er mwyn offrymu ac aberthu arni,
Josh WelBeibl 22:27  ond i'n hatgoffa ni a chi, a'n disgynyddion ni hefyd, mai ei gysegr ydy'r lle i ni fynd i addoli'r ARGLWYDD a chyflwyno aberthau ac offrymau iddo. Wedyn, yn y dyfodol, fydd eich disgynyddion chi ddim yn gallu dweud wrth ein disgynyddion ni, ‘Does gynnoch chi ddim perthynas â'r ARGLWYDD.’
Josh WelBeibl 22:28  Roedden ni'n tybio, os byddai pethau felly'n cael eu dweud wrthon ni a'n disgynyddion, y gallen ni ateb, ‘Edrychwch ar y copi yma o allor yr ARGLWYDD gafodd ei chodi gan ein hynafiaid. Dim allor i gyflwyno offrymau i'w llosgi nac aberthu arni ydy hi, ond un i'n hatgoffa o'r berthynas sydd rhyngon ni.’
Josh WelBeibl 22:29  “Fydden ni ddim yn meiddio troi yn erbyn yr ARGLWYDD a gwrthod ei ddilyn drwy godi allor arall i gyflwyno arni offrymau i'w llosgi, aberthau ac offrymau i ofyn am ei fendith. Allor yr ARGLWYDD ein Duw o flaen ei Dabernacl ydy'r unig un i wneud hynny arni.”
Josh WelBeibl 22:30  Pan glywodd Phineas yr offeiriad, ac arweinwyr llwythau Israel, beth oedd amddiffyniad pobl Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse, roedden nhw'n fodlon.
Josh WelBeibl 22:31  A dyma Phineas fab Eleasar, yr offeiriad, yn dweud wrthyn nhw: “Nawr, dŷn ni'n gwybod fod yr ARGLWYDD gyda ni. Dych chi ddim wedi bod yn anufudd iddo. Dych chi wedi achub pobl Israel rhag cael eu cosbi gan yr ARGLWYDD.”
Josh WelBeibl 22:32  Felly dyma Phineas fab Eleasar, yr offeiriad, a'r arweinwyr oedd gydag e, yn gadael pobl Reuben a Gad yn Gilead, a mynd yn ôl i Canaan i adrodd i weddill pobl Israel beth oedd wedi cael ei ddweud.
Josh WelBeibl 22:33  Roedd pobl Israel yn hapus gyda'r hyn gafodd ei ddweud, a dyma nhw'n addoli Duw. Doedd dim sôn ar ôl hynny am ymosod ar y wlad lle roedd pobl llwythau Reuben a Gad yn byw.
Josh WelBeibl 22:34  A dyma lwythau Reuben a Gad yn rhoi enw i'r allor – “Arwydd i'n hatgoffa ni i gyd mai dim ond yr ARGLWYDD sydd Dduw.”
Chapter 23
Josh WelBeibl 23:1  Aeth blynyddoedd lawer heibio. Roedd yr ARGLWYDD wedi cadw Israel yn saff rhag y gelynion o'i chwmpas, ac roedd Josua wedi mynd yn hen iawn.
Josh WelBeibl 23:2  Dyma fe'n galw pobl Israel at ei gilydd – y dynion hŷn, yr arweinwyr, y barnwyr a'r swyddogion. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dw i wedi mynd yn hen.
Josh WelBeibl 23:3  Dych chi wedi gweld beth wnaeth yr ARGLWYDD ar eich rhan chi i'r bobloedd yma i gyd. Yr ARGLWYDD eich Duw chi ydy e, ac mae e wedi ymladd drosoch chi.
Josh WelBeibl 23:4  Dw i wedi rhannu rhwng eich llwythau dir y bobl hynny sydd ddim eto wedi'u concro, yn ogystal â'r rhai dw i wedi'u dinistrio – sef yr holl dir sydd rhwng afon Iorddonen a Môr y Canoldir.
Josh WelBeibl 23:5  Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cael gwared â'r rhai sydd ar ôl, a byddwch chi'n byw ar y tir yn eu lle nhw, fel mae'r ARGLWYDD wedi addo i chi.
Josh WelBeibl 23:6  “Felly byddwch yn ddewr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud popeth sydd wedi'i ysgrifennu yn sgrôl Cyfraith Moses. Peidiwch crwydro oddi wrth hynny o gwbl.
Josh WelBeibl 23:7  A pheidiwch cael dim i'w wneud â'r bobloedd sydd ar ôl gyda chi. Peidiwch galw ar eu duwiau nhw na tyngu llw i'r duwiau hynny. Peidiwch addoli nhw na gweddïo arnyn nhw.
Josh WelBeibl 23:8  Arhoswch yn ffyddlon i'r ARGLWYDD eich Duw, fel dych chi wedi gwneud hyd heddiw.
Josh WelBeibl 23:9  Mae'r ARGLWYDD wedi gyrru cenhedloedd mawr cryfion allan o'ch blaen chi. Does neb wedi gallu'ch rhwystro chi hyd yn hyn.
Josh WelBeibl 23:10  Mae un ohonoch chi yn ddigon i wneud i fil ohonyn nhw ffoi, am fod yr ARGLWYDD yn ymladd drosoch chi, fel gwnaeth e addo.
Josh WelBeibl 23:11  Gwyliwch eich hunain! Carwch yr ARGLWYDD eich Duw!
Josh WelBeibl 23:12  Os byddwch chi'n troi cefn arno, ac yn cymysgu gyda'r bobloedd yma sydd yn dal gyda chi – priodi eu merched nhw, a gadael iddyn nhw briodi eich merched chi –
Josh WelBeibl 23:13  gallwch fod yn siŵr y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn stopio eu gyrru nhw allan o'ch blaen chi. Byddan nhw'n eich trapio chi. Fyddan nhw'n achosi dim byd ond trwbwl i chi, fel chwip ar eich cefnau neu ddrain yn eich llygaid. A byddwch chi'n diflannu o'r wlad dda yma mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi'i rhoi i chi.
Josh WelBeibl 23:14  “Edrychwch, fydda i ddim byw yn hir iawn eto. Dych chi'n gwybod yn berffaith iawn fod yr ARGLWYDD wedi cadw pob un addewid wnaeth e i chi. Mae e wedi gwneud popeth wnaeth e addo.
Josh WelBeibl 23:15  Ond gallwch fod yr un mor siŵr y bydd yr ARGLWYDD yn dod â barn a dinistr arnoch chi os byddwch chi'n anufudd iddo. Byddwch yn cael eich gyrru allan o'r wlad dda yma mae e wedi'i rhoi i chi.
Josh WelBeibl 23:16  Os byddwch chi'n torri amodau'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi'i wneud, ac yn dechrau addoli a gweddïo ar dduwiau eraill, bydd yr ARGLWYDD yn digio gyda chi, a byddwch chi'n diflannu o'r wlad dda yma mae e wedi'i rhoi i chi.”
Chapter 24
Josh WelBeibl 24:1  Dyma Josua yn galw llwythau Israel i gyd at ei gilydd yn Sichem. Galwodd y cynghorwyr a'r arweinwyr i gyd, y barnwyr, a'r swyddogion, a mynd â nhw i sefyll o flaen Duw.
Josh WelBeibl 24:2  Yna dwedodd wrth y bobl, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Yn bell, bell yn ôl roedd eich hynafiaid (hyd at Tera, tad Abraham a Nachor) yn byw yr ochr draw i afon Ewffrates. Roedden nhw'n addoli duwiau eraill.
Josh WelBeibl 24:3  Ond dyma fi'n cymryd Abraham o'r wlad honno, a dod ag e i wlad Canaan, a rhoi lot fawr o ddisgynyddion iddo. Rhoddais ei fab Isaac iddo,
Josh WelBeibl 24:4  ac wedyn rhoi Jacob ac Esau i Isaac. Cafodd Esau fyw ar fryniau Seir. Ond aeth Jacob a'i feibion i lawr i'r Aifft.
Josh WelBeibl 24:5  Wedyn anfonais Moses ac Aaron i'ch arwain chi allan o wlad yr Aifft, a tharo pobl yr Aifft gyda plâu.
Josh WelBeibl 24:6  Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o'r Aifft, dyma nhw'n cyrraedd y môr, ac roedd marchogion a cherbydau rhyfel yr Eifftiaid wedi dod ar eu holau. Wrth y Môr Coch,
Josh WelBeibl 24:7  dyma'ch hynafiaid yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help, a dyma fi'n rhoi tywyllwch rhyngoch chi a'r Eifftiaid, ac yn eu boddi nhw yn y môr. Gwelsoch gyda'ch llygaid eich hunain beth wnes i yn yr Aifft. Wedyn buoch chi'n byw yn yr anialwch am flynyddoedd lawer.
Josh WelBeibl 24:8  Yna dyma fi'n dod â chi i dir yr Amoriaid, sef y bobl oedd yn byw i'r dwyrain o afon Iorddonen. Dyma nhw'n ymladd yn eich erbyn chi, ond dyma fi'n eu dinistrio nhw'n llwyr o'ch blaenau chi. Chi gafodd ennill y frwydr, a choncro eu tir nhw.
Josh WelBeibl 24:9  Roedd Balac fab Sippor, brenin Moab, yn paratoi i ymosod ar Israel, ac wedi cael Balaam fab Beor i'ch melltithio chi.
Josh WelBeibl 24:10  Ond wnes i ddim gwrando ar Balaam. Yn lle hynny, dyma fe'n proffwydo pethau da amdanoch chi dro ar ôl tro! Fi wnaeth eich achub chi oddi wrtho.
Josh WelBeibl 24:11  Wedyn, ar ôl i chi groesi afon Iorddonen, dyma chi'n dod i Jericho. Daeth arweinwyr Jericho i ymladd yn eich erbyn chi, a'r Amoriaid, Peresiaid, Canaaneaid, Hethiaid, Girgasiaid, Hefiaid a Jebwsiaid hefyd, ond dyma fi'n gwneud i chi ennill.
Josh WelBeibl 24:12  Dyma fi'n achosi panig llwyr, a gyrru dau frenin yr Amoriaid allan o'ch blaen chi. Fi wnaeth ennill y frwydr i chi, nid eich arfau rhyfel chi.
Josh WelBeibl 24:13  Fi wnaeth roi'r tir i chi. Wnaethoch chi ddim gweithio amdano, a wnaethoch chi ddim adeiladu'r trefi. Dych chi'n bwyta ffrwyth gwinllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi mo'u plannu.
Josh WelBeibl 24:14  “Felly byddwch yn ufudd i'r ARGLWYDD, a'i addoli o ddifrif. Taflwch i ffwrdd y duwiau hynny roedd eich hynafiaid yn eu haddoli yr ochr arall i afon Ewffrates, a duwiau'r Aifft. Addolwch yr ARGLWYDD.
Josh WelBeibl 24:15  Os nad ydych chi am addoli'r ARGLWYDD, penderfynwch heddiw pwy dych chi am ei addoli. Y duwiau roedd eich hynafiaid yn eu haddoli yr ochr arall i'r Ewffrates? Neu falle dduwiau'r Amoriaid dych chi'n byw ar eu tir nhw? Ond dw i a'm teulu yn mynd i addoli'r ARGLWYDD!”
Josh WelBeibl 24:16  Dyma'r bobl yn ymateb, “Fydden ni ddim yn meiddio troi cefn ar yr ARGLWYDD i addoli duwiau eraill!
Josh WelBeibl 24:17  Yr ARGLWYDD ein Duw wnaeth ein hachub ni a'n hynafiaid o fod yn gaethweision yn yr Aifft, a gwneud gwyrthiau rhyfeddol o flaen ein llygaid. Fe wnaeth ein cadw ni'n saff ar y daith, wrth i ni basio drwy diroedd gwahanol bobl.
Josh WelBeibl 24:18  Yr ARGLWYDD wnaeth yrru'r bobloedd i gyd allan o'n blaenau ni, gan gynnwys yr Amoriaid oedd yn byw yn y wlad yma. Felly dŷn ni hefyd am addoli'r ARGLWYDD. Ein Duw ni ydy e.”
Josh WelBeibl 24:19  Yna dyma Josua yn rhybuddio'r bobl, “Wnewch chi ddim dal ati i addoli'r ARGLWYDD. Mae e'n Dduw sanctaidd. Mae e'n Dduw eiddigeddus. Fydd e ddim yn maddau i chi am wrthryfela a phechu yn ei erbyn.
Josh WelBeibl 24:20  Mae e wedi bod mor dda atoch chi! Os byddwch chi'n troi cefn arno ac yn addoli duwiau eraill, bydd e'n troi yn eich erbyn chi, yn achosi trychineb ac yn eich dinistrio chi!”
Josh WelBeibl 24:21  Ond dyma'r bobl yn dweud wrth Josua, “Na! Dŷn ni'n mynd i addoli'r ARGLWYDD!”
Josh WelBeibl 24:22  Felly dyma Josua yn gofyn i'r bobl, “Ydych chi'n derbyn eich bod chi'n atebol iddo ar ôl gwneud y penderfyniad yma i addoli'r ARGLWYDD?” A dyma nhw'n dweud, “Ydyn, dŷn ni'n atebol.”
Josh WelBeibl 24:23  “Iawn,” meddai Josua, “taflwch y duwiau eraill sydd gynnoch chi i ffwrdd, a rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD, Duw Israel.”
Josh WelBeibl 24:24  A dyma'r bobl yn dweud wrth Josua, “Dŷn ni'n mynd i addoli'r ARGLWYDD ein Duw, a gwrando arno.”
Josh WelBeibl 24:25  Felly dyma Josua yn gwneud cytundeb gyda'r bobl, a gosod rheolau a chanllawiau iddyn nhw yn Sichem.
Josh WelBeibl 24:26  A dyma fe'n ysgrifennu'r cwbl yn Sgrôl Cyfraith Duw. Wedyn dyma fe'n cymryd carreg fawr, a'i gosod i fyny o dan y goeden dderwen oedd wrth ymyl cysegr yr ARGLWYDD.
Josh WelBeibl 24:27  A dyma fe'n dweud wrth y bobl, “Mae'r garreg yma wedi clywed popeth mae'r ARGLWYDD wedi'i ddweud wrthon ni. Bydd yn dyst yn eich erbyn chi os gwnewch chi droi cefn ar Dduw.”
Josh WelBeibl 24:28  Yna dyma Josua yn gadael i'r bobl fynd, a dyma nhw i gyd yn mynd adre i'w tir eu hunain.
Josh WelBeibl 24:29  Yn fuan wedyn, dyma Josua fab Nwn, gwas yr ARGLWYDD, yn marw. Roedd yn gant a deg.
Josh WelBeibl 24:30  Dyma nhw'n ei gladdu ar ei dir ei hun yn Timnath-serach ym mryniau Effraim, i'r gogledd o Fynydd Gaash.
Josh WelBeibl 24:31  Tra oedd Josua'n fyw, roedd pobl Israel yn addoli'r ARGLWYDD. A dyma nhw'n dal ati i'w addoli tra oedd yr arweinwyr eraill o'r un genhedlaeth yn dal yn fyw – y dynion oedd wedi gweld drostyn nhw eu hunain y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD i bobl Israel.
Josh WelBeibl 24:32  Roedd pobl Israel wedi cario esgyrn Joseff o'r Aifft, a dyma nhw'n eu claddu yn Sichem, ar y darn o dir roedd Jacob wedi'i brynu am gant o ddarnau arian gan feibion Hamor, tad Sichem. Roedd y tir hwnnw yn rhan o diriogaeth disgynyddion Joseff.
Josh WelBeibl 24:33  Pan fuodd Eleasar fab Aaron farw, dyma nhw'n ei gladdu yn Gibea ym mryniau Effraim, ar y tir oedd wedi cael ei roi i'w fab Phineas.