Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I KINGS
Up
Toggle notes
Chapter 1
I Ki WelBeibl 1:1  Roedd y Brenin Dafydd wedi mynd yn hen iawn. Er iddyn nhw roi blancedi drosto roedd yn methu cadw'n gynnes.
I Ki WelBeibl 1:2  Dyma'i weision yn dweud wrtho, “Meistr. Gad i ni chwilio am ferch ifanc i dy nyrsio di a gofalu amdanat ti. Bydd hi'n gallu gorwedd gyda ti, a chadw ein meistr, y brenin, yn gynnes.”
I Ki WelBeibl 1:3  Felly, dyma nhw'n chwilio drwy wlad Israel i gyd am ferch ifanc hardd, a ffeindio Abisag o Shwnem, a mynd â hi at y brenin.
I Ki WelBeibl 1:4  Roedd hi'n ferch hynod o hardd. A hi fuodd yn edrych ar ôl y brenin a'i nyrsio. Ond wnaeth e ddim cael perthynas rywiol gyda hi.
I Ki WelBeibl 1:5  Yna dyma Adoneia, mab Dafydd a Haggith, yn dechrau cael syniadau ac yn cyhoeddi, “Dw i am fod yn frenin.” Felly, dyma fe'n casglu cerbydau a cheffylau iddo'i hun, a threfnu cael hanner cant o warchodwyr personol.
I Ki WelBeibl 1:6  (Wnaeth ei dad ddim ymyrryd o gwbl, a gofyn iddo, “Beth wyt ti'n wneud?” Roedd Adoneia yn ddyn golygus iawn, a fe oedd y nesaf i gael ei eni ar ôl Absalom.)
I Ki WelBeibl 1:7  Dyma Adoneia'n trafod gyda Joab, mab Serwia, a gydag Abiathar yr offeiriad. A dyma'r ddau'n ei gefnogi a'i helpu.
I Ki WelBeibl 1:8  Ond wnaeth Sadoc yr offeiriad, na Benaia fab Jehoiada, na Nathan y proffwyd, na Shimei, na Rei, na gwarchodlu personol Dafydd ddim ochri gydag Adoneia.
I Ki WelBeibl 1:9  Dyma Adoneia yn mynd i graig Socheleth sy'n agos i En-rogel, ac aberthu defaid, ychen a lloi wedi'u pesgi yno. Roedd wedi gwahodd ei frodyr i gyd a holl swyddogion y brenin oedd yn dod o Jwda.
I Ki WelBeibl 1:10  Ond doedd e ddim wedi gwahodd Nathan y proffwyd, na Benaia, na gwarchodlu personol Dafydd, na Solomon ei frawd chwaith.
I Ki WelBeibl 1:11  Dyma Nathan yn dweud wrth Bathseba, mam Solomon, “Wyt ti wedi clywed fod Adoneia, mab Haggith, wedi gwneud ei hun yn frenin heb i Dafydd wybod?
I Ki WelBeibl 1:12  Gwranda, i mi roi cyngor i ti sut i achub dy fywyd dy hun a bywyd Solomon dy fab.
I Ki WelBeibl 1:13  Dos at y Brenin Dafydd a dweud wrtho, ‘Fy mrenin, syr, wnest ti ddim addo i mi mai fy mab i, Solomon, fyddai'n frenin ar dy ôl di? Dwedaist mai fe fyddai'n eistedd ar dy orsedd di. Felly sut bod Adoneia'n frenin?’
I Ki WelBeibl 1:14  Wedyn tra rwyt ti wrthi'n siarad â'r brenin dof i i mewn ar dy ôl di ac ategu'r hyn ti'n ddweud.”
I Ki WelBeibl 1:15  Felly dyma Bathseba'n mynd i mewn i ystafell y brenin. (Roedd y brenin yn hen iawn, ac roedd Abisag, y ferch o Shwnem, yn gofalu amdano.)
I Ki WelBeibl 1:16  Dyma Bathseba'n plygu i lawr o flaen y brenin, a dyma'r brenin yn gofyn iddi, “Beth sydd?”
I Ki WelBeibl 1:17  “Syr,” meddai Bathseba, “Wnest ti addo o flaen yr ARGLWYDD mai Solomon, fy mab i, fyddai'n frenin ar dy ôl di, ac mai fe fyddai'n eistedd ar dy orsedd di.
I Ki WelBeibl 1:18  Ond nawr mae Adoneia wedi'i wneud yn frenin, a dwyt ti, syr, yn gwybod dim am y peth!
I Ki WelBeibl 1:19  Mae wedi aberthu llond lle o wartheg, lloi wedi'u pesgi a defaid, ac wedi gwahodd dy feibion di i gyd ato, ac Abiathar yr offeiriad a Joab, pennaeth y fyddin. Ond gafodd dy was Solomon ddim gwahoddiad.
I Ki WelBeibl 1:20  Syr, mae Israel gyfan yn disgwyl i ti, y brenin, ddweud wrthyn nhw pwy sydd i deyrnasu ar dy ôl di.
I Ki WelBeibl 1:21  Syr, os na wnei di, ar ôl i ti farw bydda i a Solomon yn cael ein trin fel troseddwyr.”
I Ki WelBeibl 1:22  Tra oedd hi'n siarad â'r brenin, dyma Nathan y proffwyd yn cyrraedd.
I Ki WelBeibl 1:23  Dyma ddweud wrth y brenin, “Mae Nathan y proffwyd yma”, a dyma fe'n mynd i mewn ac yn ymgrymu o flaen y brenin â'i wyneb ar lawr.
I Ki WelBeibl 1:24  Yna dyma Nathan yn gofyn, “Fy mrenin, syr, wnest ti ddweud mai Adoneia sydd i fod yn frenin ar dy ôl di, ac mai fe sydd i eistedd ar dy orsedd di?
I Ki WelBeibl 1:25  Achos heddiw mae wedi aberthu llwythi o wartheg, lloi wedi'u pesgi a defaid, ac wedi gwahodd dy feibion i gyd, arweinwyr y fyddin ac Abiathar yr offeiriad. A dyna lle maen nhw'n bwyta ac yn yfed gydag e ac yn gweiddi, ‘Hir oes i'r Brenin Adoneia!’
I Ki WelBeibl 1:26  Ond wnaeth e ddim rhoi gwahoddiad i mi, dy was di, nac i Sadoc yr offeiriad, na Benaia fab Jehoiada, nac i dy was Solomon chwaith.
I Ki WelBeibl 1:27  Ydy fy meistr, y brenin, wedi gwneud hyn heb ddweud wrthon ni pwy oedd i deyrnasu ar dy ôl?”
I Ki WelBeibl 1:28  Yna dyma'r Brenin Dafydd yn dweud, “Galwch Bathseba yn ôl yma!” A dyma hi'n dod a sefyll o'i flaen.
I Ki WelBeibl 1:29  A dyma'r brenin yn addo iddi, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un sydd wedi fy achub i o bob helynt:
I Ki WelBeibl 1:30  fel gwnes i addo i ti o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel, dw i'n dweud eto heddiw mai dy fab di, Solomon, sydd i fod yn frenin ar fy ôl i. Fe sydd i eistedd ar yr orsedd yn fy lle i.”
I Ki WelBeibl 1:31  Dyma Bathseba'n plygu'n isel o flaen y brenin, a dweud, “Fy Mrenin Dafydd, boed i ti fyw am byth!”
I Ki WelBeibl 1:32  Yna dyma'r Brenin Dafydd yn dweud, “Galwch Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada yma.” Wedi iddyn nhw ddod,
I Ki WelBeibl 1:33  dyma'r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Cymerwch fy ngweision i gyd gyda chi, rhowch Solomon i farchogaeth ar gefn fy mul i, ac ewch â fe i lawr i Gihon.
I Ki WelBeibl 1:34  Yno, dych chi, Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd, i'w eneinio'n frenin ar Israel. Yna dych chi i chwythu'r corn hwrdd a gweiddi, ‘Hir oes i'r Brenin Solomon!’
I Ki WelBeibl 1:35  Wedyn dewch ag e yn ôl yma i eistedd ar fy ngorsedd i. Fe ydy'r un fydd yn frenin yn fy lle i. Dw i wedi gorchymyn mai fe sydd i deyrnasu ar Israel a Jwda.”
I Ki WelBeibl 1:36  A dyma Benaia fab Jehoiada yn ateb y brenin, “Ie wir! Boed i'r ARGLWYDD dy Dduw di, fy meistr y brenin, gadarnhau hynny.
I Ki WelBeibl 1:37  Fel mae'r ARGLWYDD wedi bod gyda ti, fy mrenin, bydd gyda Solomon hefyd. A boed iddo wneud y frenhiniaeth honno hyd yn oed yn fwy llewyrchus na dy frenhiniaeth di, fy meistr, y Brenin Dafydd.”
I Ki WelBeibl 1:38  Felly dyma Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada, a gwarchodlu'r brenin (Cretiaid a Pelethiaid), yn rhoi Solomon i farchogaeth ar ful y Brenin Dafydd a mynd i lawr i Gihon.
I Ki WelBeibl 1:39  Wedyn, dyma Sadoc yr offeiriad yn cymryd y corn o olew olewydd o'r babell ac yn ei dywallt ar ben Solomon a'i eneinio'n frenin. Yna dyma nhw'n canu'r corn hwrdd ac roedd pawb yn gweiddi, “Hir oes i'r Brenin Solomon!”
I Ki WelBeibl 1:40  A dyma pawb yn ei ddilyn yn ôl i Jerwsalem, yn canu offerynnau chwyth a gwneud cymaint o stŵr wrth ddathlu nes bod y ddaear yn atseinio.
I Ki WelBeibl 1:41  Roedd Adoneia, a'r holl bobl roedd e wedi'u gwahodd ato, wrthi'n gorffen bwyta pan glywon nhw'r sŵn. Pan glywodd Joab sŵn y corn hwrdd, dyma fe'n gofyn, “Beth ydy'r holl dwrw yna yn y ddinas?”
I Ki WelBeibl 1:42  Wrth iddo siarad dyma Jonathan, mab Abiathar yr offeiriad, yn cyrraedd. A dyma Adoneia'n dweud wrtho, “Tyrd i mewn. Ti'n ddyn da, ac mae'n siŵr fod gen ti newyddion da i ni.”
I Ki WelBeibl 1:43  Ond dyma Jonathan yn ateb, “Na, dim o gwbl, syr. Mae'r Brenin Dafydd wedi gwneud Solomon yn frenin.
I Ki WelBeibl 1:44  Dyma fe'n anfon Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada gyda'i warchodlu (y Cretiaid a'r Pelethiaid), a rhoi Solomon i farchogaeth ar ful y brenin.
I Ki WelBeibl 1:45  Yna dyma Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd yn ei eneinio fe'n frenin yn Gihon. Wedyn, dyma nhw'n mynd yn ôl i fyny i Jerwsalem yn dathlu, ac mae'r ddinas yn llawn cynnwrf. Dyna ydy'r sŵn dych chi'n ei glywed.
I Ki WelBeibl 1:46  Mae Solomon bellach yn eistedd ar orsedd y brenin.
I Ki WelBeibl 1:47  Pan aeth y swyddogion i gyd i longyfarch y Brenin Dafydd, dyma nhw'n dweud wrtho, ‘Boed i Dduw wneud Solomon yn fwy enwog na ti, a gwneud ei deyrnasiad e'n fwy llwyddiannus!’ Roedd y brenin yn plygu i addoli Duw ar ei wely
I Ki WelBeibl 1:48  a'i ymateb oedd, ‘Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel. Heddiw mae wedi rhoi olynydd i mi ar yr orsedd, a dw i wedi cael byw i weld y peth!’”
I Ki WelBeibl 1:49  Dyma bawb oedd Adoneia wedi'u gwahodd ato yn panicio, codi ar eu traed a gwasgaru i bob cyfeiriad.
I Ki WelBeibl 1:50  Roedd gan Adoneia ei hun ofn Solomon hefyd, a dyma fe'n mynd a gafael yng nghyrn yr allor.
I Ki WelBeibl 1:51  Dyma nhw'n dweud wrth Solomon, “Mae gan Adoneia dy ofn di. Mae e'n gafael yng nghyrn yr allor ac yn dweud, ‘Dw i eisiau i'r Brenin Solomon addo y bydd e ddim yn fy lladd i â'r cleddyf.’”
I Ki WelBeibl 1:52  A dyma Solomon yn dweud, “Os bydd e'n ffyddlon, fydd dim blewyn ar ei ben yn cael niwed. Ond os bydd e'n gwneud rhywbeth drwg, bydd yn marw.”
I Ki WelBeibl 1:53  Felly dyma Solomon yn anfon dynion i ddod ag e i lawr o'r allor, a dyma fe'n dod ac ymgrymu i lawr o flaen Solomon; a dyma Solomon yn dweud wrtho, “Dos adre.”
Chapter 2
I Ki WelBeibl 2:1  Pan oedd Dafydd ar fin marw, dyma fe'n rhoi siars i'w fab Solomon.
I Ki WelBeibl 2:2  “Fydda i ddim byw yn hir iawn eto,” meddai. “Rhaid i ti fod yn gryf a dangos dy fod yn ddyn!
I Ki WelBeibl 2:3  Gwna beth mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei ofyn gen ti, a byw fel mae e eisiau. Rhaid i ti gadw'i reolau, ei orchmynion, y canllawiau a'r gofynion i gyd sydd yng Nghyfraith Moses. Fel yna byddi di'n llwyddo beth bynnag wnei di a beth bynnag fydd rhaid i ti ei wynebu.
I Ki WelBeibl 2:4  A bydd yr ARGLWYDD wedi cadw ei addewid i mi: ‘Os bydd dy ddisgynyddion di yn gwylio'u ffyrdd ac yn gwneud eu gorau glas i fyw'n ffyddlon i mi, yna bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth.’
I Ki WelBeibl 2:5  “Ti'n gwybod yn iawn beth wnaeth Joab, mab Serwia, i mi. Sôn ydw i am y ffordd wnaeth e ladd Abner fab Ner ac Amasa fab Jether, dau o arweinwyr byddin Israel. Lladdodd nhw mewn gwaed oer, a hynny mewn cyfnod o heddwch. Gadawodd staen gwaedlyd rhyfel ar y belt am ei ganol a'r sandalau oedd ar ei draed.
I Ki WelBeibl 2:6  Gwna di fel rwyt ti'n gweld orau, ond paid gadael iddo fyw i farw'n dawel yn ei henaint.
I Ki WelBeibl 2:7  “Ond bydd yn garedig at feibion Barsilai o Gilead. Gad iddyn nhw fwyta wrth dy fwrdd. Roedden nhw wedi gofalu amdana i pan oedd raid i mi ffoi oddi wrth dy frawd Absalom.
I Ki WelBeibl 2:8  “A cofia am Shimei fab Gera o Bachwrîm yn Benjamin. Roedd e wedi fy rhegi a'm melltithio i pan oeddwn i'n ar fy ffordd i Machanaîm. Ond wedyn daeth i lawr at yr Iorddonen i'm cyfarfod i pan oeddwn ar fy ffordd yn ôl, a dyma fi'n addo iddo ar fy llw, ‘Wna i ddim dy ladd di.’
I Ki WelBeibl 2:9  Ond nawr, paid ti â'i adael heb ei gosbi. Ti'n ddyn doeth ac yn gwybod beth i'w wneud – gad iddo ddioddef marwolaeth waedlyd.”
I Ki WelBeibl 2:10  Pan fuodd Dafydd farw cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd.
I Ki WelBeibl 2:11  Roedd wedi bod yn frenin ar Israel am bedwar deg o flynyddoedd. Bu'n teyrnasu yn Hebron am saith mlynedd ac yna yn Jerwsalem am dri deg tair o flynyddoedd.
I Ki WelBeibl 2:12  Yna dyma Solomon yn dod yn frenin yn lle ei dad, a gwneud y deyrnas yn ddiogel ac yn gryf.
I Ki WelBeibl 2:13  Aeth Adoneia, mab Haggith, i weld Bathseba, mam Solomon. “Wyt ti'n dod yma'n heddychlon?” gofynnodd iddo. “Ydw”, meddai,
I Ki WelBeibl 2:14  “Mae gen i rywbeth i'w ofyn i ti.” “Beth ydy hwnnw?” meddai hithau.
I Ki WelBeibl 2:15  A dyma fe'n dweud, “Ti'n gwybod mai fi ddylai fod wedi bod yn frenin. Dyna oedd pobl Israel i gyd yn ei ddisgwyl. Ond fy mrawd gafodd deyrnasu, a'r ARGLWYDD wnaeth drefnu hynny.
I Ki WelBeibl 2:16  Mae gen i un peth dw eisiau ofyn gen ti. Paid gwrthod fi.” A dyma hi'n dweud, “Dos yn dy flaen.”
I Ki WelBeibl 2:17  “Wnei di ofyn i'r Brenin Solomon roi Abisag o Shwnem yn wraig i mi. Fydd e ddim yn dy wrthod di.”
I Ki WelBeibl 2:18  “Iawn”, meddai Bathseba. “Gwna i ofyn i'r brenin ar dy ran di.”
I Ki WelBeibl 2:19  Felly, dyma Bathseba yn mynd at y Brenin Solomon i ofyn iddo ar ran Adoneia. Dyma'r brenin yn codi i'w chyfarch ac yn ymgrymu o'i blaen hi cyn eistedd yn ôl ar ei orsedd. Yna dyma fe'n galw am gadair i'w fam, a dyma hi'n eistedd ar ei ochr dde.
I Ki WelBeibl 2:20  A dyma hi'n dweud wrtho, “Mae gen i rywbeth bach i'w ofyn gen ti. Paid gwrthod fi.” A dyma fe'n ateb, “Gofyn di mam. Wna i ddim dy wrthod di.”
I Ki WelBeibl 2:21  A dyma hi'n dweud, “Rho Abisag, y ferch o Shwnem, yn wraig i dy frawd Adoneia.”
I Ki WelBeibl 2:22  A dyma'r Brenin Solomon yn ateb ei fam, “Pam mai dim ond gofyn am Abisag o Shwnem wyt ti i Adoneia? Waeth i ti ofyn am y deyrnas iddo hefyd, achos mae e'n hŷn na fi, ac mae Abiathar yr offeiriad a Joab, mab Serwia, yn ei gefnogi e.”
I Ki WelBeibl 2:23  Yna dyma'r Brenin Solomon yn tyngu llw i'r ARGLWYDD, “Boed i Dduw ddial arna i os fydd Adoneia yn talu gyda'i fywyd am ofyn y fath beth!
I Ki WelBeibl 2:24  Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw (yr un sydd wedi rhoi gorsedd fy nhad Dafydd i mi, a sicrhau llinach i mi fel gwnaeth e addo), bydd Adoneia yn marw heddiw!”
I Ki WelBeibl 2:25  Yna dyma'r Brenin Solomon yn anfon Benaia fab Jehoiada ar ei ôl. A dyma hwnnw'n ymosod ar Adoneia a'i ladd.
I Ki WelBeibl 2:26  Yna dyma'r brenin yn dweud wrth Abiathar yr offeiriad, “Dos adre i Anathoth, i dy fro dy hun. Ti'n haeddu marw ond wna i ddim dy ladd di, dim ond am dy fod wedi cario Arch yr ARGLWYDD, ein Meistr, o flaen Dafydd fy nhad, ac wedi dioddef gydag e pan oedd pethau'n anodd.”
I Ki WelBeibl 2:27  Felly drwy ddiarddel Abiathar o fod yn offeiriad i'r ARGLWYDD, dyma Solomon yn cyflawni beth ddwedodd yr ARGLWYDD yn Seilo am ddisgynyddion Eli.
I Ki WelBeibl 2:28  Pan glywodd Joab beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n ffoi i babell yr ARGLWYDD a gafael yng nghyrn yr allor. (Roedd Joab wedi cefnogi Adoneia; er doedd e ddim wedi cefnogi Absalom.)
I Ki WelBeibl 2:29  Pan glywodd y Brenin Solomon fod Joab wedi ffoi at yr allor ym mhabell yr ARGLWYDD, dyma fe'n dweud wrth Benaia fab Jehoiada i fynd yno a tharo Joab.
I Ki WelBeibl 2:30  Pan ddaeth Benaia at babell yr ARGLWYDD, dyma fe'n galw ar Joab, “Mae'r brenin yn gorchymyn i ti ddod allan.” Ond dyma Joab yn ateb, “Na! Mae'n well gen i farw yma!” Felly dyma Benaia'n mynd yn ôl at y brenin a dweud wrtho beth oedd Joab wedi'i ddweud.
I Ki WelBeibl 2:31  A dyma'r brenin yn dweud, “Gwna fel dwedodd e – lladd e yno, a'i gladdu. Byddi'n clirio fi a fy nheulu o'r bai am yr holl waed wnaeth Joab ei dywallt.
I Ki WelBeibl 2:32  Mae'r ARGLWYDD yn talu'n ôl iddo am ladd dau ddyn llawer gwell na fe'i hun – Abner fab Ner, capten byddin Israel, ac Amasa fab Jether, capten byddin Jwda – a gwneud hynny heb yn wybod i'm tad Dafydd.
I Ki WelBeibl 2:33  Bydd Joab a'i deulu yn euog am byth am eu lladd nhw. Ond bydd yr ARGLWYDD yn rhoi heddwch a llwyddiant i Dafydd a'i ddisgynyddion, ei deulu a'i deyrnas, am byth.”
I Ki WelBeibl 2:34  Felly dyma Benaia fab Jehoiada yn mynd ac ymosod ar Joab a'i ladd. Cafodd ei gladdu yn ei gartref yng nghefn gwlad.
I Ki WelBeibl 2:35  Yna dyma'r brenin yn penodi Benaia fab Jehoiada yn gapten ar y fyddin yn lle Joab, a Sadoc yr offeiriad i gymryd swydd Abiathar.
I Ki WelBeibl 2:36  Wedyn dyma'r brenin yn anfon am Shimei, a dweud wrtho, “Adeilada dŷ i ti dy hun yn Jerwsalem. Paid mynd o ma i unman.
I Ki WelBeibl 2:37  Os gwnei di adael, a hyd yn oed croesi Dyffryn Cidron, byddi'n cael dy ladd. Dy fai di a neb arall fydd hynny.”
I Ki WelBeibl 2:38  A dyma Shimei yn dweud, “Iawn, syr, fy mrenin, gwna i fel ti'n dweud.” A buodd Shimei yn byw yn Jerwsalem am amser hir iawn.
I Ki WelBeibl 2:39  Ond ar ôl tair blynedd dyma ddau o weision Shimei yn rhedeg i ffwrdd at Achish fab Maacha, brenin Gath. A dyma rywun yn dweud wrth Shimei, “Mae dy weision di yn Gath”.
I Ki WelBeibl 2:40  Felly dyma Shimei yn rhoi cyfrwy ar ei asyn a mynd i Gath i chwilio am ei weision, a dod â nhw'n ôl.
I Ki WelBeibl 2:41  Pan glywodd Solomon fod Shimei wedi bod i Gath ac yn ôl,
I Ki WelBeibl 2:42  dyma fe'n anfon am Shimei a dweud wrtho, “Wyt ti'n cofio i mi wneud i ti dyngu llw o flaen yr ARGLWYDD a dy rybuddio di i beidio gadael y ddinas a mynd allan o gwbl, neu y byddet ti'n siŵr o farw? Dwedaist ti, ‘Iawn, dw i'n cytuno i hynny.’
I Ki WelBeibl 2:43  Felly, pam wyt ti heb gadw dy addewid i'r ARGLWYDD, ac ufuddhau i'r gorchymyn wnes ei roi i ti?”
I Ki WelBeibl 2:44  Aeth y brenin yn ei flaen i ddweud wrth Shimei, “Ti'n gwybod yn iawn faint o ddrwg wnest ti i Dafydd, fy nhad. Wel mae'r ARGLWYDD am dy gosbi am dy ddrygioni.
I Ki WelBeibl 2:45  Ond bydd yn fy mendithio i, y Brenin Solomon, ac yn gwneud yn siŵr fod teyrnas Dafydd yn aros am byth.”
I Ki WelBeibl 2:46  Rhoddodd y brenin orchymyn i Benaia fab Jehoiada, a dyma fe'n ymosod ar Shimei a'i ladd. Dyna sut roedd Solomon wedi gwneud yn siŵr fod ei afael ar y deyrnas yn gwbl ddiogel.
Chapter 3
I Ki WelBeibl 3:1  Dyma Solomon yn gwneud cytundeb gwleidyddol gyda'r Pharo, brenin yr Aifft, drwy briodi ei ferch. Daeth â hi i fyw i ddinas Dafydd tra oedd yn gorffen adeiladu palas iddo'i hun, teml i'r ARGLWYDD a'r waliau o gwmpas Jerwsalem.
I Ki WelBeibl 3:2  Yr adeg yna, roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid ar allorau lleol am nad oedd teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD wedi'i hadeiladu eto.
I Ki WelBeibl 3:3  Roedd Solomon yn caru'r ARGLWYDD ac yn dilyn yr un polisïau â'i dad, Dafydd. Er, roedd e hefyd yn aberthu anifeiliaid ac yn llosgi arogldarth wrth yr allorau lleol.
I Ki WelBeibl 3:4  Byddai'n mynd i Gibeon, am mai'r allor leol yno oedd yr un bwysicaf. Aberthodd fil o anifeiliaid yno, yn offrymau i'w llosgi'n llwyr.
I Ki WelBeibl 3:5  Yna un noson pan oedd yn Gibeon dyma Solomon yn cael breuddwyd. Gwelodd yr ARGLWYDD yn dod ato a gofyn iddo, “Beth wyt ti eisiau i mi ei roi i ti?”
I Ki WelBeibl 3:6  Atebodd Solomon, “Roeddet ti'n garedig iawn at Dafydd fy nhad wrth iddo fyw yn ffyddlon i ti, yn gywir ac yn onest. Ac rwyt ti wedi dal ati i fod yn arbennig o garedig drwy adael i mi, ei fab, fod yn frenin yn ei le.
I Ki WelBeibl 3:7  A nawr, ARGLWYDD, fy Nuw, ti wedi fy ngwneud i yn frenin yn lle fy nhad Dafydd. Ond dyn ifanc dibrofiad ydw i,
I Ki WelBeibl 3:8  a dyma fi yng nghanol y bobl rwyt ti wedi'u dewis. Mae yna gymaint ohonyn nhw mae'n amhosibl eu cyfrif nhw i gyd!
I Ki WelBeibl 3:9  Rho i mi'r gallu i wrando a deall, er mwyn i mi lywodraethu dy bobl di'n iawn a gallu dweud y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Fel arall, pa obaith sydd i unrhyw un lywodraethu cenedl mor fawr?”
I Ki WelBeibl 3:10  Roedd ateb Solomon a'r hyn roedd wedi gofyn amdano yn plesio yr ARGLWYDD yn fawr.
I Ki WelBeibl 3:11  A dyma Duw'n dweud wrtho, “Am mai dyna rwyt ti wedi gofyn amdano – y gallu i lywodraethu yn ddoeth – a dy fod ti ddim wedi gofyn am gael byw yn hir, neu am gyfoeth mawr, neu i dy elynion gael eu lladd,
I Ki WelBeibl 3:12  dw i'n mynd i roi'r hyn rwyt ti eisiau i ti. Dw i'n mynd i dy wneud di'n fwy doeth a deallus nag unrhyw un ddaeth o dy flaen neu ddaw ar dy ôl.
I Ki WelBeibl 3:13  Ond dw i hefyd yn mynd i roi i ti beth wnest ti ddim gofyn amdano, cyfoeth ac anrhydedd. Fydd yna ddim brenin tebyg i ti tra byddi byw.
I Ki WelBeibl 3:14  Ac os byddi di'n byw yn ufudd i mi ac yn cadw fy rheolau i fel roedd dy dad Dafydd yn gwneud, bydda i'n rhoi oes hir i ti.”
I Ki WelBeibl 3:15  Yna dyma Solomon yn deffro a sylweddoli ei fod wedi bod yn breuddwydio. Aeth i Jerwsalem a sefyll o flaen Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD. Cyflwynodd offrymau i'w llosgi ac offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD, a chynnal gwledd i'w swyddogion i gyd.
I Ki WelBeibl 3:16  Yn fuan wedyn, dyma ddwy ferch yn mynd at y brenin. Roedden nhw'n buteiniaid.
I Ki WelBeibl 3:17  Dyma un o'r merched yn dweud, “Syr, dw i a'r ferch yma yn byw yn yr un tŷ. Ces i fabi tra oedden ni gyda'n gilydd yn y tŷ.
I Ki WelBeibl 3:18  Yna dridiau wedyn dyma hithau'n cael babi. Doedd yna neb arall yn y tŷ, dim ond ni'n dwy.
I Ki WelBeibl 3:19  Un noson dyma'i mab hi'n marw; roedd hi wedi gorwedd arno.
I Ki WelBeibl 3:20  Cododd yn y nos a chymryd fy mab i oedd wrth fy ymyl tra oeddwn i'n cysgu. Cymrodd fy mab i i'w chôl a rhoi ei phlentyn marw hi yn fy mreichiau i.
I Ki WelBeibl 3:21  Pan wnes i ddeffro yn y bore i fwydo'r babi, roedd e wedi marw. Ond wrth edrych yn fanwl, dyma fi'n sylweddoli mai nid fy mab i oedd e.”
I Ki WelBeibl 3:22  Yna dyma'r ferch arall yn dweud, “Na! Fy mab i ydy'r un byw. Dy fab di sydd wedi marw.” A dyma'r gyntaf yn ateb, “Nage, yr un marw ydy dy fab di. Fy mab i ydy'r un byw.” Roedd y ddwy ohonyn nhw'n dadlau â'i gilydd fel hyn o flaen y brenin.
I Ki WelBeibl 3:23  Yna dyma'r brenin yn dweud, “Mae un ohonoch chi'n dweud, ‘Fy mab i ydy hwn; mae dy fab di wedi marw’, a'r llall yn dweud, ‘Na! Dy fab di sydd wedi marw; fy mab i ydy'r un byw.’”
I Ki WelBeibl 3:24  Yna dyma'r brenin yn gorchymyn i'w weision, “Dewch â chleddyf i mi.” A dyma nhw'n dod ag un iddo.
I Ki WelBeibl 3:25  Wedyn dyma'r brenin yn dweud, “Torrwch y plentyn byw yn ei hanner, a rhowch hanner bob un iddyn nhw.”
I Ki WelBeibl 3:26  Ond dyma fam y plentyn byw yn ymateb a dweud wrth y brenin, “Syr, rho'r plentyn byw iddi hi. Da chi paid â'i ladd e.” (Roedd hi'n torri ei chalon wrth feddwl am y plentyn yn cael ei ladd.) Ond roedd y llall yn dweud, “Os nad ydw i'n ei gael e, gei di mohono chwaith – rhannwch e!”
I Ki WelBeibl 3:27  Yna dyma'r brenin yn dweud, “Rhowch y plentyn byw i'r wraig gyntaf. Peidiwch ei ladd e. Hi ydy'r fam.”
I Ki WelBeibl 3:28  Pan glywodd pobl Israel am y ffordd roedd y brenin wedi setlo'r achos, roedden nhw'n rhyfeddu. Roedden nhw'n gweld fod Duw wedi rhoi doethineb anghyffredin iddo allu barnu fel yma.
Chapter 4
I Ki WelBeibl 4:2  Dyma'i swyddogion: Asareia fab Sadoc oedd yr offeiriad.
I Ki WelBeibl 4:3  Elichoreff ac Achïa, meibion Shisha, oedd ei ysgrifenyddion. Jehosaffat fab Achilwd oedd y cofnodydd swyddogol.
I Ki WelBeibl 4:4  Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth y fyddin, a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid.
I Ki WelBeibl 4:5  Asareia fab Nathan oedd pennaeth swyddogion y rhanbarthau; yna Sabwd fab Nathan yn offeiriad ac yn gynghorwr y brenin.
I Ki WelBeibl 4:6  Achishar oedd yn rhedeg y palas a gofalu am holl eiddo'r brenin, ac Adoniram fab Afda oedd swyddog y gweithlu gorfodol.
I Ki WelBeibl 4:7  Yna roedd gan Solomon ddeuddeg swyddog rhanbarthol dros wahanol ardaloedd yn Israel. Roedden nhw'n gyfrifol am ddarparu bwyd i'r brenin a'i lys – pob un yn gyfrifol am un mis y flwyddyn.
I Ki WelBeibl 4:8  Dyma'u henwau nhw: Ben-chŵr: ar fryniau Effraim;
I Ki WelBeibl 4:9  Ben-decar: yn Macats, Shaalfîm, Beth-shemesh ac Elon-beth-chanan;
I Ki WelBeibl 4:10  Ben-chesed: yn Arwboth (roedd ei ardal e'n cynnwys Socho a holl ardal Cheffer);
I Ki WelBeibl 4:11  Ben-abinadab: yn Naffath-dor i gyd (roedd e wedi priodi Taffath, merch Solomon);
I Ki WelBeibl 4:12  Baana fab Achilwd: yn Taanach, Megido a'r rhan o Beth-shean sydd wrth ymyl Sarethan, o dan Jesreel. Roedd ei ardal yn mynd o Beth-shean hyd at Abel-mechola a'r tu hwnt i Iocmeam;
I Ki WelBeibl 4:13  Ben-geber: yn Ramoth-gilead. Roedd ei ardal e'n cynnwys gwersylloedd Jair mab Manasse, yn Gilead, ac ardal Argob yn Bashan oedd yn cynnwys chwe deg o drefi mawr, pob un gyda waliau cadarn a barrau pres ar eu giatiau;
I Ki WelBeibl 4:15  Achimaäts: yn Nafftali (fe wnaeth briodi Basemath, merch Solomon);
I Ki WelBeibl 4:19  a Geber fab Wri: yn ardal Gilead (sef y wlad oedd yn perthyn ar un adeg i Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Bashan). Fe oedd yr unig swyddog yn y rhanbarth hwnnw i gyd.
I Ki WelBeibl 4:20  Roedd poblogaeth fawr yn Jwda ac Israel, roedd pobl fel y tywod ar lan y môr, ond roedd ganddyn nhw ddigon i'w fwyta a'i yfed ac roedden nhw'n hapus.
I Ki WelBeibl 4:21  Roedd Solomon yn llywodraethu ar yr holl ardaloedd o afon Ewffrates i wlad y Philistiaid ac i lawr at y ffin gyda'r Aifft. Roedd y teyrnasoedd yma i gyd yn talu trethi iddo, ac yn gwasanaethu Solomon ar hyd ei oes.
I Ki WelBeibl 4:22  Dyma beth oedd ei angen ar lys Solomon bob dydd: – tri deg mesur o'r blawd gorau – chwe deg mesur o flawd cyffredin,
I Ki WelBeibl 4:23  – deg o loi wedi'u pesgi, – dau ddeg o loi oedd allan ar y borfa, – cant o ddefaid. Roedd hyn heb sôn am y ceirw, gaseliaid, iyrchod a gwahanol fathau o ffowls.
I Ki WelBeibl 4:24  Achos roedd y llys brenhinol mor fawr – roedd yn rheoli'r holl ardaloedd i'r gorllewin o Tiffsa ar lan afon Ewffrates i lawr i Gasa, ac roedd heddwch rhyngddo a'r gwledydd o'i gwmpas.
I Ki WelBeibl 4:25  Pan oedd Solomon yn fyw, roedd pawb yn Jwda ac Israel yn teimlo'n saff. Roedd gan bawb, o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, gartref a thir i allu mwynhau cynnyrch eu gwinwydd a'u coed ffigys.
I Ki WelBeibl 4:26  Roedd gan Solomon hefyd stablau i ddal 40,000 o geffylau cerbyd, ac roedd ganddo 12,000 o farchogion.
I Ki WelBeibl 4:27  Roedd y swyddogion rhanbarthol yn darparu bwyd ar gyfer y Brenin Solomon a phawb yn ei lys. Roedd pob un yn gyfrifol am fis, ac yn gwneud yn siŵr nad oedd y llys yn brin o ddim.
I Ki WelBeibl 4:28  Roedd gan bob un hefyd stablau penodol i fynd â haidd a gwellt iddyn nhw i'w roi i'r ceffylau a'r meirch.
I Ki WelBeibl 4:29  Roedd Duw wedi rhoi doethineb a deall eithriadol i Solomon. Roedd ei wybodaeth yn ddiddiwedd, fel y tywod ar lan y môr.
I Ki WelBeibl 4:30  Roedd yn fwy doeth nag unrhyw un o ddynion doeth y dwyrain a'r Aifft.
I Ki WelBeibl 4:31  Doedd neb doethach nag e. Roedd yn ddoethach nag Ethan yr Esrachiad, Heman hefyd, a Calcol a Darda, meibion Machol. Roedd yn enwog drwy'r gwledydd o'i gwmpas i gyd.
I Ki WelBeibl 4:32  Roedd wedi llunio tair mil o ddiarhebion a chyfansoddi mil a phump o ganeuon.
I Ki WelBeibl 4:33  Roedd yn gallu siarad am blanhigion, o'r coed cedrwydd mawr yn Libanus i'r isop sy'n tyfu ar waliau. Roedd hefyd yn gallu sôn am anifeiliaid, adar, ymlusgiaid a phryfed a physgod.
I Ki WelBeibl 4:34  Roedd brenhinoedd y gwledydd i gyd yn anfon pobl at Solomon i wrando ar ei ddoethineb.
Chapter 5
I Ki WelBeibl 5:1  Dyma Hiram, brenin Tyrus, yn clywed fod Solomon wedi cael ei wneud yn frenin yn lle ei dad. A dyma fe'n anfon llysgenhadon i'w longyfarch, achos roedd Hiram wedi bod yn ffrindiau da gyda Dafydd ar hyd ei oes.
I Ki WelBeibl 5:3  “Ti'n gwybod fod fy nhad, Dafydd, ddim wedi gallu adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD ei Dduw. Roedd cymaint o ryfeloedd i'w hymladd cyn i'r ARGLWYDD ei helpu i goncro'i elynion i gyd.
I Ki WelBeibl 5:4  Ond bellach, diolch i'r ARGLWYDD Dduw, mae gynnon ni heddwch llwyr. Does dim un gelyn yn ymosod arnon ni nac yn ein bygwth ni.
I Ki WelBeibl 5:5  Felly dw i am adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD fy Nuw. Roedd e wedi dweud wrth fy nhad Dafydd, ‘Dy fab di, yr un fydd yn frenin ar dy ôl di, fydd yn adeiladu teml i mi.’
I Ki WelBeibl 5:6  Felly, rho orchymyn i dorri coed cedrwydd o Libanus i mi. Gall y gweithwyr sydd gen i weithio gyda dy weithwyr di. Gwna i dalu iddyn nhw beth bynnag rwyt ti'n ddweud. Ti'n gwybod yn iawn nad oes gynnon ni neb sy'n gallu trin coed fel pobl Sidon.”
I Ki WelBeibl 5:7  Roedd Hiram yn hapus iawn pan gafodd neges Solomon. A dyma fe'n dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD heddiw, am iddo roi mab mor ddoeth i Dafydd i fod yn frenin ar y genedl fawr yna.”
I Ki WelBeibl 5:8  A dyma Hiram yn anfon neges yn ôl at Solomon, yn dweud, “Dw i wedi cael dy neges di. Cei faint bynnag wyt ti eisiau o goed cedrwydd a choed pinwydd.
I Ki WelBeibl 5:9  Gwnaiff fy ngweision i ddod â nhw i lawr o Libanus at y môr. Yno byddan nhw'n eu gwneud yn rafftiau, a mynd â nhw i ble bynnag rwyt ti'n ddweud. Wedyn byddwn ni'n eu dadlwytho, a chaiff dy weision di eu cymryd nhw. Cei di dalu drwy gyflenwi'r bwyd sydd ei angen ar fy llys brenhinol i.”
I Ki WelBeibl 5:10  Felly, dyma Hiram yn rhoi i Solomon yr holl goed cedrwydd a choed pinwydd oedd e eisiau.
I Ki WelBeibl 5:11  Roedd Solomon yn rhoi dau ddeg mil o fesurau o wenith a chant dau ddeg mil o alwyni o olew olewydd pur i Hiram bob blwyddyn.
I Ki WelBeibl 5:12  Felly, roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi doethineb i Solomon, fel gwnaeth e addo. A dyma Hiram a Solomon yn gwneud cytundeb heddwch.
I Ki WelBeibl 5:13  Dyma Solomon yn casglu tri deg mil o ddynion o bob rhan o Israel, a'u gorfodi i weithio iddo yn ddigyflog.
I Ki WelBeibl 5:14  Roedd yn eu gyrru nhw i Libanus bob yn ddeg mil. Roedden nhw'n gweithio yn Libanus am fis ac yna'n cael dau fis gartref. Adoniram oedd y swyddog oedd yn gyfrifol am y gweithlu gorfodol.
I Ki WelBeibl 5:15  Yn ogystal â'r rhain roedd gan Solomon saith deg mil o labrwyr ac wyth deg mil o chwarelwyr yn y bryniau,
I Ki WelBeibl 5:16  heb sôn am y tair mil tri chant o fformyn oedd yn arolygu'r gweithwyr.
I Ki WelBeibl 5:17  Roedd y brenin wedi gorchymyn iddyn nhw ddod â cherrig anferth, cerrig costus wedi'u naddu'n barod i adeiladu sylfeini'r deml.
I Ki WelBeibl 5:18  Roedd dynion o Gebal yn helpu adeiladwyr Solomon a Hiram i naddu'r cerrig a pharatoi'r coed ar gyfer adeiladu'r deml.
Chapter 6
I Ki WelBeibl 6:1  Dechreuodd Solomon adeiladu teml yr ARGLWYDD yn ystod ei bedwaredd flwyddyn fel brenin, yn yr ail fis, sef mis Sif. Roedd hi'n bedwar cant wyth deg o flynyddoedd ers i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft.
I Ki WelBeibl 6:2  Roedd y deml yn ddau ddeg saith metr o hyd, naw metr o led, ac un deg tri metr a hanner o uchder.
I Ki WelBeibl 6:3  Roedd cyntedd o flaen y deml yn naw metr o hyd ac yn bedwar metr a hanner o led.
I Ki WelBeibl 6:5  Yna dyma nhw'n codi estyniad, o gwmpas waliau'r prif adeilad a'r cysegr, gydag ystafelloedd ochr ynddo.
I Ki WelBeibl 6:6  Roedd llawr isaf yr estyniad yn ddau fetr ar draws, y llawr canol yn ddau fetr a hanner a'r trydydd yn dri metr. Roedd siliau ar waliau allanol y deml, fel bod dim rhaid gosod y trawstiau yn y waliau eu hunain.
I Ki WelBeibl 6:7  Roedd y deml yn cael ei hadeiladu gyda cherrig oedd wedi cael eu paratoi yn barod yn y chwarel. Felly doedd dim sŵn morthwyl na chaib nac unrhyw offer haearn arall i'w glywed yn y deml wrth iddyn nhw adeiladu.
I Ki WelBeibl 6:8  Roedd y drws i'r ystafelloedd ar y llawr isaf ar ochr ddeheuol y deml. Wedyn roedd grisiau tro yn mynd i fyny i'r llawr canol, ac yna ymlaen i'r trydydd llawr.
I Ki WelBeibl 6:9  Ar ôl gorffen adeiladu'r deml ei hun, dyma nhw'n rhoi to drosti wedi'i wneud o drawstiau a phaneli o gedrwydd.
I Ki WelBeibl 6:10  Yna codi'r ystafelloedd o'i chwmpas – pob un yn ddau fetr o uchder, gyda trawstiau o goed cedrwydd yn eu dal yn sownd i waliau'r deml ei hun.
I Ki WelBeibl 6:12  “Os byddi di'n byw fel dw i'n dweud, yn cadw fy neddfau, yn gwrando ar fy ngorchmynion ac yn ufudd iddyn nhw, yna bydda i'n cadw'r addewid wnes i i dy dad Dafydd. Bydda i'n byw gyda phobl Israel yn y deml yma rwyt ti wedi'i chodi a fydda i byth yn troi cefn arnyn nhw.”
I Ki WelBeibl 6:13  “Os byddi di'n byw fel dw i'n dweud, yn cadw fy neddfau, yn gwrando ar fy ngorchmynion ac yn ufudd iddyn nhw, yna bydda i'n cadw'r addewid wnes i i dy dad Dafydd. Bydda i'n byw gyda phobl Israel yn y deml yma rwyt ti wedi'i chodi a fydda i byth yn troi cefn arnyn nhw.”
I Ki WelBeibl 6:15  Roedd y waliau tu mewn yn baneli o goed cedrwydd, o'r llawr i'r to. Roedd tu mewn y deml yn bren i gyd, a'r llawr yn blanciau o goed pinwydd.
I Ki WelBeibl 6:16  Roedd y naw metr pellaf, yng nghefn yr adeilad, yn gell ar wahân, tu ôl i bared o goed cedrwydd wedi'i godi o'r llawr i'r to. Hwn oedd y cysegr mwyaf sanctaidd.
I Ki WelBeibl 6:17  Roedd prif neuadd y deml, o flaen y cysegr mewnol, yn un deg wyth metr o hyd.
I Ki WelBeibl 6:18  Roedd y pren tu mewn i'r deml wedi'i gerfio drosto gyda ffrwyth cicaion a blodau agored. Roedd yn baneli cedrwydd i gyd; doedd dim un garreg yn y golwg.
I Ki WelBeibl 6:19  Roedd cell gysegredig y tu mewn i'r deml ar gyfer Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD.
I Ki WelBeibl 6:20  Roedd y gell yn naw metr o hyd, naw metr o led a naw metr o uchder. Cafodd ei gorchuddio'n llwyr gydag aur pur. A'r allor o gedrwydd yr un fath.
I Ki WelBeibl 6:21  Roedd tu mewn y deml i gyd wedi'i orchuddio gydag aur pur. Roedd cadwyni aur o flaen y gell gysegredig fewnol, ac roedd y gell ei hun wedi'i gorchuddio ag aur hefyd.
I Ki WelBeibl 6:22  Roedd aur pur yn gorchuddio pob twll a chornel o'r deml, gan gynnwys yr allor oedd yn y gell fewnol gysegredig.
I Ki WelBeibl 6:23  Yn y cysegr mewnol dyma fe'n gwneud dau gerwb o goed olewydd. Roedden nhw'n bedwar metr a hanner o daldra.
I Ki WelBeibl 6:24  Roedd pob adain yn ddau fetr a chwarter o hyd – pedwar metr a hanner o flaen un adain i flaen yr adain arall.
I Ki WelBeibl 6:25  Roedd y ddau gerwb yr un maint a'i gilydd, ac roedd siâp y ddau yr un fath.
I Ki WelBeibl 6:27  Dyma Solomon yn rhoi'r ddau gerwb ochr yn ochr yn y cysegr mewnol, gyda'u hadenydd ar led. Roedd adain y cyntaf yn cyffwrdd y wal un ochr i'r gell, ac adain y llall yn cyffwrdd y wal ar yr ochr arall. Ac roedd ail adain y ddau gerwb yn cyffwrdd ei gilydd yn y canol.
I Ki WelBeibl 6:29  Roedd waliau'r deml i gyd (waliau'r brif neuadd a'r cysegr mewnol) wedi'u cerfio drostyn nhw gyda lluniau o gerwbiaid, coed palmwydd a blodau agored.
I Ki WelBeibl 6:30  Roedd y llawr wedi'i orchuddio gydag aur (yn y brif neuadd a'r cysegr mewnol).
I Ki WelBeibl 6:31  Roedd drysau o goed olewydd i fynd i mewn i'r gell fewnol gysegredig. Roedd pyst a lintel y drws yn bumochrog.
I Ki WelBeibl 6:32  Roedd y ddau ddrws gyda cerwbiaid, coed palmwydd a blodau agored wedi'u cerfio arnyn nhw, ac roedd y cwbl gyda haen o aur yn ei orchuddio.
I Ki WelBeibl 6:33  Roedd pyst y drysau i fynd i mewn i brif neuadd y deml yn sgwâr, a'r rhain hefyd wedi'u gwneud o goed olewydd.
I Ki WelBeibl 6:34  Ond roedd y ddau ddrws eu hunain yn goed pinwydd. Roedd y ddau ddrws wedi'u gwneud o ddau ddarn oedd yn plygu yn ôl ar ei gilydd.
I Ki WelBeibl 6:35  Roedd cerwbiaid, coed palmwydd a blodau agored wedi'u cerfio arnyn nhw, ac roedd y cwbl wedi'i orchuddio gyda haen o aur, hyd yn oed y gwaith cerfio.
I Ki WelBeibl 6:36  Roedd y wal o gwmpas yr iard fewnol (sef yr iard agosaf at y deml ei hun) wedi'i hadeiladu gyda thair rhes o gerrig wedi'u naddu, ac yna paneli o goed cedrwydd.
I Ki WelBeibl 6:37  Roedden nhw wedi dechrau adeiladu'r deml ym mis Sif, yn ystod pedwaredd flwyddyn Solomon fel brenin.
I Ki WelBeibl 6:38  Cafodd pob manylyn o'r gwaith ei orffen ym mis Bwl, sef yr wythfed mis, o flwyddyn un deg un o'i deyrnasiad. Felly, roedd y deml wedi cymryd saith mlynedd i'w hadeiladu.
Chapter 7
I Ki WelBeibl 7:1  Ond roedd palas Solomon wedi cymryd un deg tair o flynyddoedd i'w adeiladu.
I Ki WelBeibl 7:2  Galwodd e'n Blas Coedwig Libanus. Roedd yn bedwar deg pedwar metr o hyd, dau ddeg dau metr o led ac un deg tri metr a hanner o uchder. Roedd tair rhes o bileri cedrwydd ynddo, ac ar ben y pileri roedd trawstiau o gedrwydd.
I Ki WelBeibl 7:3  Wedyn roedd to o gedrwydd uwchben y trawstiau oedd yn gorwedd ar y pedwar deg pum piler (un deg pump ym mhob rhes).
I Ki WelBeibl 7:4  Ac roedd yna dri set o dair o ffenestri'n wynebu'i gilydd.
I Ki WelBeibl 7:5  Roedd fframiau'r drysau a'r ffenestri'n siâp petryal.
I Ki WelBeibl 7:6  Roedd yna neuadd golofnog oedd yn ddau ddeg dau metr o hyd ac un deg tri metr a hanner o led. O flaen hon roedd cyntedd gyda pileri a chanopi drosto.
I Ki WelBeibl 7:7  Yna gwnaeth Neuadd yr Orsedd, lle roedd yn barnu'r bobl (y Neuadd Farn). Roedd hi'n goed cedrwydd i gyd o'r llawr i'r to.
I Ki WelBeibl 7:8  Roedd y tŷ lle roedd Solomon yn byw yr ochr draw i iard oedd tu cefn i'r Neuadd yma, ac wedi'i adeiladu i gynllun tebyg. Roedd e hefyd wedi adeiladu palas arall tebyg i'w wraig, sef merch y Pharo.
I Ki WelBeibl 7:9  Roedd yr adeiladau i gyd wedi'u codi'n gyfan gwbl gyda'r cerrig gorau, oedd wedi'u naddu i'w maint a'u llyfnhau wedyn gyda llif. Ac roedd yr iard fawr y tu allan yr un fath.
I Ki WelBeibl 7:10  Roedd y sylfeini wedi'u gwneud o gerrig anferth drudfawr, rhai yn mesur pedwar metr a hanner, a rhai eraill yn dri metr a hanner.
I Ki WelBeibl 7:11  Ar y sylfeini hynny roedd popeth wedi'i adeiladu gyda'r cerrig gorau, pob un wedi'i naddu i'r maint cywir, a gyda choed cedrwydd.
I Ki WelBeibl 7:12  O gwmpas yr iard fawr roedd wal wedi'i hadeiladu gyda thair rhes o gerrig wedi'u naddu ac yna paneli o goed cedrwydd. Roedd yr un fath â iard fewnol a chyntedd Teml yr ARGLWYDD.
I Ki WelBeibl 7:13  Yna dyma'r Brenin Solomon yn anfon i Tyrus am ddyn o'r enw Hiram.
I Ki WelBeibl 7:14  Roedd Hiram yn grefftwr medrus, profiadol yn gweithio gyda pres. Roedd yn fab i wraig weddw o lwyth Nafftali, ac roedd ei dad (oedd yn dod o Tyrus) wedi bod yn weithiwr pres o'i flaen. Roedd gan Hiram allu arbennig i drin pres. Daeth at y Brenin Solomon a gwneud yr holl waith pres iddo.
I Ki WelBeibl 7:15  Hiram wnaeth y ddau biler pres – oedd bron naw metr o uchder a dau fetr ar draws.
I Ki WelBeibl 7:16  Yna gwnaeth gapiau i'w gosod ar dop y ddau biler. Roedd y capiau yma, o bres wedi'i gastio, dros ddau fetr o uchder.
I Ki WelBeibl 7:17  Roedd rhwyllwaith gyda saith rhes o batrymau tebyg i gadwyni wedi'u plethu o gwmpas y capiau,
I Ki WelBeibl 7:18  a hefyd dwy res o bomgranadau, nes bod top y pileri wedi'u gorchuddio.
I Ki WelBeibl 7:19  Roedd top y ddau biler yn y cyntedd yn agor allan yn siâp lilïau oedd bron dau fetr o uchder.
I Ki WelBeibl 7:20  Ar dop y ddau biler, uwchben y darn crwn gyda'r patrymau o gadwyni wedi'u plethu, roedd dau gant o bomgranadau yn rhesi o'u cwmpas.
I Ki WelBeibl 7:21  Dyma Hiram yn gosod y ddau biler yn y cyntedd o flaen y brif neuadd yn y deml. Galwodd yr un ar y dde yn Iachîn a'r un ar y chwith yn Boas.
I Ki WelBeibl 7:22  Roedd top y pileri yn agor allan yn siâp lilïau. Felly cafodd y gwaith ar y pileri ei orffen.
I Ki WelBeibl 7:23  Yna dyma fe'n gwneud basn anferth i ddal dŵr. Roedd hwn wedi'i wneud o bres wedi'i gastio, ac yn cael ei alw ‛Y Môr‛. Roedd yn bedwar metr a hanner ar draws o un ochr i'r llall, dros ddau fetr o ddyfnder ac un deg tri metr a hanner o'i hamgylch.
I Ki WelBeibl 7:24  O gwmpas ‛Y Môr‛, o dan y rhimyn, roedd dwy res o addurniadau bach siâp ffrwyth cicaion, un bob rhyw bedwar centimetr a hanner.
I Ki WelBeibl 7:25  Roedd ‛Y Môr‛ wedi'i osod ar gefn un deg dau o ychen. Roedd tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de a thri tua'r dwyrain. Roedden nhw i gyd yn wynebu tuag allan gyda'u cynffonnau at i mewn.
I Ki WelBeibl 7:26  Roedd y basn tua lled dwrn o drwch, ac roedd ei ymyl fel ymyl cwpan siâp blodyn lili. Roedd yn dal tua pedwar deg pum mil litr o ddŵr.
I Ki WelBeibl 7:27  Gwnaeth Hiram ddeg troli ddŵr o bres hefyd. Roedd pob un yn ddau fetr o hyd, yn ddau o led a bron yn fetr a hanner o uchder.
I Ki WelBeibl 7:28  Dyma gynllun y trolïau: roedd ganddyn nhw fframiau yn dal paneli ar yr ochr.
I Ki WelBeibl 7:29  Roedd y paneli wedi'u haddurno gyda lluniau o lewod, ychen a cherwbiaid. Ar y fframiau, uwchben ac o dan y llewod a'r ychen, roedd patrymau wedi'u plethu.
I Ki WelBeibl 7:30  Roedd gan bob troli bedair olwyn bres ar echelau pres. Ar bob cornel roedd silff fach i'r ddysgl eistedd arni. Roedd y rhain yn rhan o'r troli ac wedi'u haddurno gyda phlethiadau.
I Ki WelBeibl 7:31  Tu mewn i'r troli roedd ffrâm crwn, pedwar deg pump centimetr o ddyfnder, i ddal y ddysgl. Roedd yn gylch saith deg centimetr ar draws. O gwmpas y geg roedd border o addurniadau. Roedd y paneli'n sgwâr ac nid crwn.
I Ki WelBeibl 7:32  Roedd pedair olwyn o dan y paneli, ac roedd soced i ddal echel pob olwyn yn sownd yn y ffrâm. Saith deg centimetr oedd uchder yr olwynion.
I Ki WelBeibl 7:33  Roedd yr olwynion wedi'u gwneud fel olwynion cerbyd rhyfel. Roedd yr echel, yr ymyl, y sbôcs a'r both i gyd o fetel wedi'i gastio.
I Ki WelBeibl 7:34  Roedd pedair silff fach ar bedair cornel y troli, ac roedd y silffoedd wedi'u gwneud yn rhan o'r ffrâm.
I Ki WelBeibl 7:35  Ar dop y troli roedd cylch crwn dau ddeg centimetr o uchder. Ar ei dop hefyd roedd cylchoedd a phaneli yn sownd ynddo.
I Ki WelBeibl 7:36  Roedd wedi cerfio cerwbiaid, llewod a choed palmwydd ar y paneli roedd y cylchoedd yn sownd iddyn nhw. Roedd y rhain wedi'u cerfio ble bynnag roedd lle iddyn nhw, ac o'u cwmpas nhw roedd patrymau wedi'u plethu.
I Ki WelBeibl 7:37  Roedd y deg troli dŵr yr un fath. Roedd wedi defnyddio'r un mowld. Roedd pob un yr un maint a'r un siâp.
I Ki WelBeibl 7:38  Yna dyma fe'n gwneud deg dysgl bres. Roedd pob dysgl yn ddau fetr o led ac yn dal wyth gant wyth deg litr. Roedd un ddysgl ar gyfer pob un o'r deg troli.
I Ki WelBeibl 7:39  Dyma fe'n gosod pum troli ar ochr y de yn y deml, a phump ar ochr y gogledd. Roedd ‛Y Môr‛ yn y gornel oedd i'r de-ddwyrain o'r deml.
I Ki WelBeibl 7:40  Dyma Hiram hefyd yn gwneud dysglau, rhawiau a phowlenni. Gorffennodd y cwbl o'r gwaith roedd y Brenin Solomon wedi'i roi iddo i'w wneud ar deml yr ARGLWYDD.
I Ki WelBeibl 7:41  Roedd wedi gwneud: y ddau biler, y capiau i'w gosod ar ben y ddau biler, dau set o batrymau wedi'u plethu i fynd dros y capiau,
I Ki WelBeibl 7:42  pedwar cant o bomgranadau i'w gosod yn ddwy res ar y ddau set o batrymau oedd wedi'u plethu ar y capiau ar ben y pileri.
I Ki WelBeibl 7:43  Hefyd y deg troli ddŵr, a'r deg dysgl i fynd ar y deg troli,
I Ki WelBeibl 7:44  y basn anferth oedd yn cael ei alw ‛Y Môr‛, gyda'r un deg dau o ychen oddi tano,
I Ki WelBeibl 7:45  a hefyd y bwcedi lludw, rhawiau a phowlenni taenellu. Roedd yr holl gelfi yma wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer teml yr ARGLWYDD wedi'u gwneud o bres gloyw.
I Ki WelBeibl 7:46  Roedd y cwbl wedi cael eu castio mewn clai yn y ffowndri sydd rhwng Swccoth a Sarethan, yn ardal yr Iorddonen.
I Ki WelBeibl 7:47  Wnaeth Solomon ddim pwyso'r cwbl am fod cymaint ohonyn nhw; does dim posib gwybod beth oedd eu pwysau.
I Ki WelBeibl 7:48  Dyma Solomon yn gwneud yr holl bethau yma ar gyfer teml yr ARGLWYDD hefyd: yr allor aur, y bwrdd aur roedden nhw'n gosod y bara cysegredig arno o flaen yr ARGLWYDD,
I Ki WelBeibl 7:49  y canwyllbrennau o aur pur wrth y fynedfa i'r gell fewnol gysegredig (pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith). Hefyd roedd y blodau, y lampau a'r gefeiliau wedi'u gwneud o aur.
I Ki WelBeibl 7:50  Yna y powlenni taenellu, y sisyrnau, y dysglau, y llwyau, a'r padellau tân, i gyd o aur pur. Roedd socedi'r drysau i'r cysegr mewnol (y Lle Mwyaf Sanctaidd) ac i brif neuadd y deml wedi'u gwneud o aur hefyd.
I Ki WelBeibl 7:51  Wedi i'r Brenin Solomon orffen adeiladu'r deml i'r ARGLWYDD, dyma fe'n dod â'r holl bethau roedd ei dad Dafydd wedi'u cysegru i Dduw (arian, aur a chelfi eraill), a'u rhoi yn stordai teml yr ARGLWYDD.
Chapter 8
I Ki WelBeibl 8:1  Dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel (pennaeth pob llwyth a phob teulu) ato i Jerwsalem. Roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD i gael ei symud o Ddinas Dafydd (sef Seion) i'w chartref newydd yn y deml.
I Ki WelBeibl 8:2  Roedd pobl Israel i gyd wedi dod at y brenin adeg Gŵyl y Pebyll ym mis Ethanim (sef y seithfed mis).
I Ki WelBeibl 8:3  Wedi i'r arweinwyr i gyd gyrraedd, dyma'r seremoni yn dechrau. Dyma'r offeiriaid yn codi'r Arch.
I Ki WelBeibl 8:4  Yna dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cario Arch Duw, pabell presenoldeb Duw a'r holl gelfi cysegredig oedd yn y babell.
I Ki WelBeibl 8:5  Roedd y Brenin Solomon, a holl bobl Israel oedd gydag e, yn mynd o flaen yr Arch ac yn aberthu defaid a gwartheg i Dduw. Cafodd cymaint o anifeiliaid eu haberthu roedd hi'n amhosibl eu cyfri i gyd!
I Ki WelBeibl 8:6  Dyma'r offeiriaid yn mynd ag Arch Ymrwymiad Duw i mewn i'r deml a'i gosod yn ei lle yn y gell fewnol, sef y Lle Mwyaf Sanctaidd, o dan adenydd y cerwbiaid.
I Ki WelBeibl 8:7  Roedd adenydd y cerwbiaid wedi'u lledu dros ble roedd yr Arch yn eistedd. Roedd eu hadenydd yn cysgodi'r Arch a'i pholion.
I Ki WelBeibl 8:8  Ond roedd y polion mor hir, roedd hi'n bosibl gweld eu pennau nhw o'r ystafell oedd o flaen y Gell Gysegredig Fewnol; ond doedden nhw ddim i'w gweld o'r tu allan. Maen nhw yno hyd heddiw.
I Ki WelBeibl 8:9  Does yna ddim byd yn yr Arch ond y ddwy lechen garreg roedd Moses wedi'u rhoi ynddi yn Sinai, sef llechi'r ymrwymiad roedd yr ARGLWYDD wedi'i wneud gyda phobl Israel pan ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft.
I Ki WelBeibl 8:10  Wrth i'r offeiriaid ddod allan o'r Lle Sanctaidd dyma gwmwl yn llenwi Teml yr ARGLWYDD.
I Ki WelBeibl 8:11  Roedd yr offeiriaid yn methu gwneud eu gwaith oherwydd y cwmwl. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi ei Deml.
I Ki WelBeibl 8:12  Yna dyma Solomon yn dweud: “Mae'r ARGLWYDD yn dweud ei fod yn byw mewn cwmwl tywyll.
I Ki WelBeibl 8:13  ARGLWYDD, dyma fi wedi adeiladu teml wych i ti; lle i ti fyw ynddo am byth.”
I Ki WelBeibl 8:14  Yna dyma'r brenin yn troi i wynebu'r gynulleidfa a bendithio holl bobl Israel oedd yn sefyll yno:
I Ki WelBeibl 8:15  “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel! Mae wedi gwneud y cwbl roedd wedi'i addo i Dafydd fy nhad. Roedd wedi dweud:
I Ki WelBeibl 8:16  ‘Ers i mi ddod â'm pobl Israel allan o'r Aifft, wnes i ddim dewis un ddinas arbennig o blith llwythau Israel i adeiladu teml i fyw ynddi. Ond gwnes i ddewis Dafydd i arwain fy mhobl Israel.’
I Ki WelBeibl 8:17  Roedd fy nhad, Dafydd, wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel.
I Ki WelBeibl 8:18  Ond dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, ‘Ti eisiau adeiladu teml i mi, ac mae'r bwriad yn un da.
I Ki WelBeibl 8:19  Ond nid ti fydd yn ei hadeiladu. Mab i ti fydd yn adeiladu teml i mi.’
I Ki WelBeibl 8:20  A bellach mae'r ARGLWYDD wedi gwneud beth roedd wedi'i addo. Dw i wedi dod yn frenin ar Israel yn lle fy nhad Dafydd, a dw i wedi adeiladu'r deml yma i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel.
I Ki WelBeibl 8:21  Dw i wedi gwneud lle i'r Arch sy'n dal yr ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD gyda'n hynafiaid pan ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft.”
I Ki WelBeibl 8:22  Yna o flaen pawb, dyma Solomon yn mynd i sefyll o flaen yr Allor. Cododd ei ddwylo i'r awyr,
I Ki WelBeibl 8:23  a gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw Israel, does dim Duw tebyg i ti yn y nefoedd uchod nac i lawr yma ar y ddaear! Ti mor ffyddlon, yn cadw dy ymrwymiad i dy weision, y rhai sydd wir eisiau bod yn ufudd i ti.
I Ki WelBeibl 8:24  Ti wedi cadw dy addewid i Dafydd fy nhad. Heddiw, yma, ti wedi gwneud beth wnest ti ei addo.
I Ki WelBeibl 8:25  Nawr, ARGLWYDD, Duw Israel, cadw'r addewid arall wnest ti i Dafydd, fy nhad. Dyma wnest ti ddweud: ‘Bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth, dim ond i dy ddisgynyddion di fod yn ofalus eu bod yn byw yn ffyddlon i mi fel rwyt ti wedi gwneud.’
I Ki WelBeibl 8:26  Felly nawr, O Dduw Israel, gad i'r hyn wnest ti ei ddweud wrth fy nhad, dy was Dafydd, ddod yn wir.
I Ki WelBeibl 8:27  Wrth gwrs, dydy Duw ddim wir yn gallu byw ar y ddaear! Dydy'r awyr i gyd a'r nefoedd uchod ddim digon mawr i dy ddal di! Felly pa obaith sydd i'r deml yma dw i wedi'i hadeiladu?
I Ki WelBeibl 8:28  Ond plîs gwrando fy ngweddi yn gofyn am dy help di, O ARGLWYDD fy Nuw. Ateb fi, wrth i mi weddïo'n daer arnat ti heddiw.
I Ki WelBeibl 8:29  Cadw dy lygaid ar y deml yma nos a dydd. Gwnest ti ddweud, ‘Dyma ble bydda i'n byw.’ Felly ateb weddi dy was dros y lle hwn.
I Ki WelBeibl 8:30  Gwranda ar beth mae dy was a dy bobl Israel yn ei weddïo'n daer am y lle yma. Gwranda yn y nefoedd, lle rwyt ti'n byw. Clyw ni a maddau i ni.
I Ki WelBeibl 8:31  Os ydy rhywun wedi cael ei gyhuddo o wneud drwg i'w gymydog ac yn mynnu ei fod yn ddieuog o flaen yr allor yn y deml yma,
I Ki WelBeibl 8:32  yna gwrando di o'r nefoedd a gweithredu. Barna di rhyngon nhw. Cosba'r un sy'n euog, a gadael i'r dieuog fynd yn rhydd. Rho i'r ddau beth maen nhw'n ei haeddu.
I Ki WelBeibl 8:33  Pan fydd dy bobl Israel yn cael eu concro gan y gelyn am bechu yn dy erbyn di, os byddan nhw'n troi yn ôl atat ti, yn cydnabod pwy wyt ti ac yn gweddïo am dy help di yn y deml yma,
I Ki WelBeibl 8:34  yna gwrando di o'r nefoedd. Maddau bechod dy bobl Israel, a thyrd â nhw'n ôl i'r wlad wnest ti ei rhoi i'w hynafiaid.
I Ki WelBeibl 8:35  Pan fydd dim glaw yn disgyn, am fod y bobl wedi pechu yn dy erbyn di. Os byddan nhw'n troi at y lle yma i weddïo arnat ti, yn cydnabod pwy wyt ti, ac yn stopio pechu am dy fod yn eu cosbi nhw
I Ki WelBeibl 8:36  yna gwrando di o'r nefoedd. Maddau i dy bobl Israel. Dysga nhw beth ydy'r ffordd iawn i fyw, ac anfon law eto ar y tir yma rwyt ti wedi'i roi i dy bobl ei gadw.
I Ki WelBeibl 8:37  Pan fydd y wlad yn cael ei tharo gan newyn neu bla – am fod y cnydau wedi'u difetha gan ormod o wres neu ormod o law, neu am eu bod wedi cael eu difa gan locustiaid, neu am fod gelynion wedi ymosod ar y wlad ac yn gwarchae ar ei dinasoedd. Beth bynnag fydd yr helynt neu'r broblem,
I Ki WelBeibl 8:38  gwrando di ar bob gweddi. Gwrando pan fydd unrhyw un o dy bobl Israel yn troi at y deml yma ac yn tywallt ei faich o dy flaen di.
I Ki WelBeibl 8:39  Gwrando yn y nefoedd lle rwyt ti'n byw, a maddau. Ti'n deall pobl i'r dim, felly rho i bob un beth mae'n ei haeddu. (Ti ydy'r unig un sy'n gwybod yn iawn beth sydd ar galon pob person byw.)
I Ki WelBeibl 8:40  Fel yna byddan nhw'n dy barchu di tra byddan nhw'n byw yn y wlad wyt ti wedi'i rhoi i'w hynafiaid.
I Ki WelBeibl 8:41  A bydd pobl o wledydd eraill yn dod yma i addoli ar ôl clywed amdanat ti.
I Ki WelBeibl 8:42  Byddan nhw wedi clywed am dy enw da di, a'r ffaith dy fod ti'n gallu gwneud pethau mor anhygoel. Pan ddaw pobl felly i'r deml hon i weddïo,
I Ki WelBeibl 8:43  gwrando yn y nefoedd lle rwyt ti'n byw. Gwna beth mae'r bobl hynny'n ei ofyn gen ti. Wedyn bydd pobl drwy'r byd i gyd yn dod i dy nabod di ac yn dy barchu di, yr un fath â phobl Israel. Byddan nhw'n gwybod fod y deml yma wedi'i hadeiladu i dy anrhydeddu di.
I Ki WelBeibl 8:44  Hefyd pan fydd dy bobl yn mynd i ryfel yn erbyn eu gelynion, ble bynnag fyddi di'n eu hanfon nhw. Os byddan nhw'n troi tuag at y ddinas rwyt ti wedi'i dewis a'r deml dw i wedi'i hadeiladu i ti, ac yn gweddïo arnat ti ARGLWYDD,
I Ki WelBeibl 8:45  yna gwrando o'r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a gweithredu ar eu rhan nhw.
I Ki WelBeibl 8:46  Ond pan fydd dy bobl wedi pechu yn dy erbyn di (achos does neb sydd byth yn pechu), a tithau'n wyllt gyda nhw, byddi'n gadael i'r gelyn eu dal nhw a'u cymryd yn gaeth i'w gwlad eu hunain, ble bynnag mae honno.
I Ki WelBeibl 8:47  Yna, yn y wlad ble maen nhw'n gaeth, byddan nhw'n callio ac yn newid eu ffyrdd. Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti ac yn pledio'n daer gan ddweud, ‘Dŷn ni wedi pechu a bod yn anffyddlon a gwneud drwg.’
I Ki WelBeibl 8:48  Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti o ddifrif yng ngwlad y gelyn lle cawson nhw eu cymryd. Byddan nhw'n troi i weddïo tuag at eu gwlad a'r ddinas rwyt ti wedi'i dewis, a'r deml dw i wedi'i hadeiladu i ti.
I Ki WelBeibl 8:49  Gwranda o'r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a'u cefnogi nhw.
I Ki WelBeibl 8:50  Maddau i dy bobl yr holl bechodau a'r pethau drwg maen nhw wedi'u gwneud yn dy erbyn di. Gwna i'r rhai sydd wedi'u concro nhw eu trin nhw'n garedig.
I Ki WelBeibl 8:51  Wedi'r cwbl, dy bobl sbesial di ydyn nhw, am mai ti ddaeth â nhw allan o'r Aifft, allan o'r ffwrnais haearn.
I Ki WelBeibl 8:52  Gwranda ar fy ngweddi, ac ar dy bobl Israel pan maen nhw'n gofyn am help. Ateb nhw bob tro maen nhw'n galw arnat ti.
I Ki WelBeibl 8:53  Achos rwyt ti wedi'u dewis nhw yn bobl sbesial i ti dy hun allan o holl bobl y byd. Ie, dyna ddwedaist ti drwy Moses dy was wrth i ti ddod â'n hynafiaid allan o wlad yr Aifft, o Feistr, ARGLWYDD.”
I Ki WelBeibl 8:54  Wedi i Solomon orffen gweddïo, a gofyn y pethau yma i gyd i'r ARGLWYDD, dyma fe'n codi ar ei draed. (Roedd wedi bod ar ei liniau o flaen allor yr ARGLWYDD a'i ddwylo ar led tua'r nefoedd.)
I Ki WelBeibl 8:55  Dyma fe'n sefyll a bendithio holl bobl Israel â llais uchel:
I Ki WelBeibl 8:56  “Bendith ar yr ARGLWYDD! Mae wedi rhoi heddwch i'w bobl Israel, fel gwnaeth e addo. Mae wedi cadw pob un o'r addewidion gwych wnaeth e drwy Moses ei was.
I Ki WelBeibl 8:57  Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni fel roedd gyda'n hynafiaid. Dw i'n gweddïo na fydd e byth yn troi ei gefn arnon ni a'n gadael ni.
I Ki WelBeibl 8:58  Dw i'n gweddïo y bydd e'n rhoi'r awydd ynon ni i fod yn ufudd i'r holl orchmynion, rheolau a chanllawiau roddodd e i'n hynafiaid.
I Ki WelBeibl 8:59  Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD bob amser yn cofio geiriau'r weddi yma, ac yn cefnogi ei was a'i bobl Israel o ddydd i ddydd fel bo'r angen.
I Ki WelBeibl 8:60  Wedyn bydd pobl y byd i gyd yn dod i ddeall mai'r ARGLWYDD ydy'r unig Dduw go iawn – does dim duw arall.
I Ki WelBeibl 8:61  Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n byw yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD ein Duw, yn cadw ei reolau a'i orchmynion fel dych chi'n gwneud heddiw.”
I Ki WelBeibl 8:62  Roedd y brenin, a phobl Israel i gyd, yn aberthu anifeiliaid i'r ARGLWYDD.
I Ki WelBeibl 8:63  Dyma Solomon yn lladd dau ddeg dau o filoedd o wartheg a chant dau ddeg mil o ddefaid fel offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Dyna sut gwnaeth Solomon, a holl bobl Israel, gyflwyno'r deml i'r ARGLWYDD.
I Ki WelBeibl 8:64  Y diwrnod hwnnw hefyd, dyma'r brenin yn cysegru canol yr iard o flaen teml yr ARGLWYDD. Dyna lle wnaeth e offrymu aberthau i'w llosgi'n llwyr, yr offrymau o rawn, a braster yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Roedd yr allor bres oedd o flaen yr ARGLWYDD yn rhy fach i ddal yr holl offrymau.
I Ki WelBeibl 8:65  Bu Solomon, a phobl Israel i gyd yn dathlu ac yn cadw Gŵyl i'r ARGLWYDD ein Duw am bythefnos lawn. Roedd tyrfa fawr yno o bob rhan o'r wlad, o Fwlch Chamath yn y gogledd yr holl ffordd i Wadi'r Aifft yn y de.
I Ki WelBeibl 8:66  Y diwrnod wedyn, dyma fe'n anfon y bobl adre. Dyma nhw'n bendithio'r brenin a mynd adre'n hapus, am fod yr ARGLWYDD wedi gwneud cymaint o bethau da i'w was Dafydd ac i'w bobl Israel.
Chapter 9
I Ki WelBeibl 9:1  Roedd Solomon wedi gorffen adeiladu teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a phopeth arall roedd wedi bod eisiau'i wneud.
I Ki WelBeibl 9:2  A dyma'r ARGLWYDD yn dod at Solomon am yr ail dro, fel roedd wedi gwneud yn Gibeon.
I Ki WelBeibl 9:3  A dyma fe'n dweud, “Dw i wedi clywed dy weddïau a'r cwbl roeddet ti'n gofyn i mi ei wneud. A dw wedi cysegru'r deml yma rwyt ti wedi'i hadeiladu yn lle i mi fy hun am byth. Bydda i yna bob amser.
I Ki WelBeibl 9:4  Dw i eisiau i ti fyw yn onest ac yn deg fel dy dad Dafydd, a gwneud popeth dw i'n ddweud – bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau dw i wedi'u rhoi.
I Ki WelBeibl 9:5  Yna bydda i'n gwneud i dy deulu di deyrnasu ar Israel am byth. Dyna wnes i addo i Dafydd dy Dad: ‘Un o dy deulu di fydd ar orsedd Israel am byth.’
I Ki WelBeibl 9:6  Ond os byddi di neu dy blant yn troi cefn arna i, a ddim yn dilyn y canllawiau a'r rheolau dw i wedi'u rhoi i chi; os byddwch chi'n addoli duwiau eraill,
I Ki WelBeibl 9:7  yna bydda i'n gyrru Israel allan o'r tir dw i wedi'i roi iddyn nhw. A bydda i'n troi cefn ar y deml yma dw i wedi chysegru i mi fy hun. Ac wedyn bydd Israel yn destun sbort ac yn jôc i bawb.
I Ki WelBeibl 9:8  Bydd y deml yma yn bentwr o gerrig. Bydd pawb sy'n mynd heibio yn chwibanu mewn rhyfeddod ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i'r wlad ac i'r deml yma?’
I Ki WelBeibl 9:9  A bydd eraill yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD eu Duw, yr un ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. Maen nhw wedi cymryd duwiau eraill i'w dilyn a'u haddoli. Dyna pam mae'r ARGLWYDD wedi gadael i'r dinistr yma ddigwydd.’”
I Ki WelBeibl 9:10  Roedd dau ddeg mlynedd wedi mynd heibio ers i Solomon ddechrau codi'r ddau adeilad – teml yr ARGLWYDD a'r palas brenhinol.
I Ki WelBeibl 9:11  A dyma'r Brenin Solomon yn cynnig dau ddeg o bentrefi yn Galilea i Hiram, brenin Tyrus, am fod Hiram wedi rhoi iddo goed cedrwydd a choed pinwydd a hynny o aur oedd Solomon eisiau.
I Ki WelBeibl 9:12  Ond pan aeth Hiram i weld y trefi roedd Solomon wedi'u rhoi iddo, doedd e ddim yn hapus.
I Ki WelBeibl 9:13  Dyma fe'n dweud, “Beth ydy'r trefi diwerth yma rwyt ti wedi'u rhoi i mi, frawd?” A dyma fe'n galw'r ardal yn Wlad Cabwl – sef ‛da i ddim‛. A dyna mae'r ardal yn cael ei galw hyd heddiw.
I Ki WelBeibl 9:14  (Roedd Hiram wedi rhoi pedair tunnell o aur i Solomon.)
I Ki WelBeibl 9:15  Dyma'r manylion am y gweithlu gorfodol wnaeth Solomon ei godi – i adeiladu teml yr ARGLWYDD, ei balas, y terasau a waliau Jerwsalem, a hefyd caerau amddiffynnol Chatsor, Megido a Geser.
I Ki WelBeibl 9:16  (Roedd y Pharo, brenin yr Aifft, wedi concro dinas Geser. Roedd wedi'i llosgi'n ulw a lladd y Canaaneaid oedd yn byw yno. Yna roedd wedi'i rhoi yn anrheg priodas i'w ferch, gwraig Solomon.
I Ki WelBeibl 9:17  Felly dyma Solomon yn ailadeiladu Geser.) Hefyd Beth-choron Isaf,
I Ki WelBeibl 9:19  Adeiladodd y canolfannau lle roedd ei storfeydd, a'r trefi ar gyfer y cerbydau a'r ceffylau rhyfel. Roedd Solomon yn adeiladu beth bynnag roedd e eisiau, yn Jerwsalem, yn Libanus ac ar hyd a lled y wlad.
I Ki WelBeibl 9:20  Roedd yna lawer o bobl yn dal i fyw yn y wlad oedd ddim yn Israeliaid – Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. Roedden nhw'n gorfod gweithio heb dâl i Solomon.
I Ki WelBeibl 9:21  (Roedden nhw'n dal yn y wlad, am fod Israel wedi methu cael gwared â nhw i gyd pan wnaethon nhw goncro'r wlad.) Dyma Solomon yn gorfodi'r bobl yma i weithio iddo'n ddi-dâl. A dyna'r drefn hyd heddiw.
I Ki WelBeibl 9:22  Wnaeth Solomon ddim gorfodi pobl Israel i weithio iddo fel caethweision. Nhw oedd ei filwyr, ei weision, ei swyddogion, ei gerbydwyr, capteiniaid ei gerbydau a'i farchogion.
I Ki WelBeibl 9:23  Ac roedd yna bum cant pum deg ohonyn nhw yn arolygu prosiectau adeiladu Solomon a gwneud yn siŵr fod y gweithwyr yn gwneud eu gwaith.
I Ki WelBeibl 9:24  Ar ôl i ferch y Pharo symud i fyw o ddinas Dafydd i'r palas roedd Solomon wedi'i adeiladu iddi, dyma Solomon yn adeiladu'r terasau.
I Ki WelBeibl 9:25  Dair gwaith y flwyddyn roedd Solomon yn aberthu anifeiliaid yn offrymau i'w llosgi ar yr allor roedd wedi'i hadeiladu, yn cyflwyno offrymau o rawn i'r ARGLWYDD ac yn llosgi arogldarth gyda nhw. Roedd wedi gorffen y gwaith o adeiladu'r deml.
I Ki WelBeibl 9:26  Dyma Solomon hefyd yn adeiladu llynges iddo'i hun yn Etsion-geber, sy'n agos i Elat ar lan y Môr Coch yng ngwlad Edom.
I Ki WelBeibl 9:27  A dyma Hiram yn anfon rhai o'i forwyr profiadol e i fynd gyda gweision Solomon yn y llongau.
I Ki WelBeibl 9:28  A dyma nhw'n hwylio i Offir a dod â tua un deg chwech tunnell o aur o'r fan honno i'r Brenin Solomon.
Chapter 10
I Ki WelBeibl 10:1  Roedd brenhines Sheba wedi clywed mor enwog oedd Solomon, a'r clod roedd yn ei roi i'r ARGLWYDD. Felly dyma hi'n dod i roi prawf iddo drwy ofyn cwestiynau anodd.
I Ki WelBeibl 10:2  Cyrhaeddodd Jerwsalem gyda'i gwarchodlu yn grand i gyd, gyda nifer fawr o gamelod yn cario perlysiau, a lot fawr o aur a gemau gwerthfawr. Aeth i weld Solomon, a'i holi am bob peth oedd ar ei meddwl.
I Ki WelBeibl 10:3  Roedd Solomon yn gallu ateb ei chwestiynau i gyd. Doedd dim byd yn rhy anodd iddo ei esbonio iddi.
I Ki WelBeibl 10:4  Roedd y frenhines wedi'i syfrdanu wrth weld mor ddoeth oedd Solomon. Hefyd wrth weld y palas roedd wedi'i adeiladu, y bwydydd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd yno, pawb oedd yn gweini arno, eu gwisgoedd, a'r wetars i gyd. A hefyd yr holl aberthau roedd yn eu llosgi i'r ARGLWYDD yn y deml.
I Ki WelBeibl 10:5  Roedd y frenhines wedi'i syfrdanu wrth weld mor ddoeth oedd Solomon. Hefyd wrth weld y palas roedd wedi'i adeiladu, y bwydydd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd yno, pawb oedd yn gweini arno, eu gwisgoedd, a'r wetars i gyd. A hefyd yr holl aberthau roedd yn eu llosgi i'r ARGLWYDD yn y deml.
I Ki WelBeibl 10:6  A dyma hi'n dweud wrth y brenin, “Mae popeth wnes i glywed amdanat ti yn wir – yr holl bethau rwyt ti wedi'u cyflawni, ac mor ddoeth wyt ti.
I Ki WelBeibl 10:7  Doeddwn i ddim wedi credu'r peth nes i mi ddod yma a gweld y cwbl â'm llygaid fy hun. Wir, doedden nhw ddim wedi dweud yr hanner wrtho i! Mae dy ddoethineb a dy gyfoeth di'n fwy o lawer na beth ddywedwyd wrtho i.
I Ki WelBeibl 10:8  Mae'r bobl yma wedi'u bendithio'n fawr – y gweision sy'n gweini arnat ti o ddydd i ddydd ac yn cael clywed dy ddoethineb di.
I Ki WelBeibl 10:9  Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth dy ddewis di i eistedd ar orsedd Israel! Mae wedi dy wneud di yn frenin am ei fod yn caru Israel, i ti lywodraethu'n gyfiawn ac yn deg.”
I Ki WelBeibl 10:10  A dyma hi'n rhoi pedair tunnell a hanner o aur, llwythi o berlysiau a gemau gwerthfawr i'r brenin. Welwyd erioed gymaint o berlysiau â'r hyn roedd brenhines Sheba wedi'i roi i'r Brenin Solomon.
I Ki WelBeibl 10:11  (Roedd llongau Hiram, oedd yn cario aur o Offir, wedi dod â llwythi lawer o goed arbennig hefyd, sef pren Almug, a gemau gwerthfawr.
I Ki WelBeibl 10:12  Dyma'r brenin yn gwneud grisiau i deml yr ARGLWYDD a phalas y brenin o'r pren Almug, a hefyd telynau a nablau i'r cerddorion. Does neb wedi gweld cymaint o bren Almug ers hynny!)
I Ki WelBeibl 10:13  Wedyn, dyma'r Brenin Solomon yn rhoi popeth roedd hi eisiau i frenhines Sheba. Roedd hyn ar ben y cwbl roedd e wedi'i roi iddi o'i haelioni ei hun. A dyma hi'n mynd yn ôl adre i'w gwlad ei hun gyda'i gweision.
I Ki WelBeibl 10:14  Roedd Solomon yn derbyn dau ddeg pum tunnell o aur bob blwyddyn,
I Ki WelBeibl 10:15  heb gyfri'r hyn roedd yn ei dderbyn mewn trethi gan fasnachwyr, y farchnad sbeis, brenhinoedd Arabia a llywodraethwyr y rhanbarthau.
I Ki WelBeibl 10:16  Gwnaeth Solomon ddau gant o darianau mawr o aur wedi'i guro. Roedd yna tua saith cilogram o aur ym mhob tarian!
I Ki WelBeibl 10:17  Hefyd, tri chant o darianau bach, gyda bron dau cilogram o aur ym mhob un o'r rheiny. A dyma fe'n eu gosod nhw i fyny yn Plas Coedwig Libanus.
I Ki WelBeibl 10:18  Wedyn, dyma'r Brenin Solomon yn gwneud gorsedd fawr o ifori, wedi'i gorchuddio gydag aur coeth.
I Ki WelBeibl 10:19  Roedd yna chwe gris i fyny at yr orsedd. Roedd pen llo ar gefn yr orsedd a llew yn sefyll wrth ymyl y breichiau bob ochr.
I Ki WelBeibl 10:20  Wedyn roedd un deg dau o lewod yn sefyll ar y grisiau, un bob ochr i bob gris. Doedd gan yr un deyrnas arall orsedd debyg iddi!
I Ki WelBeibl 10:21  Roedd holl gwpanau y Brenin Solomon wedi'u gwneud o aur, a llestri Plas Coedwig Libanus i gyd o aur pur. Doedd dim byd wedi'i wneud o arian, achos doedd arian ddim yn cael ei gyfri'n werthfawr iawn bryd hynny.
I Ki WelBeibl 10:22  Roedd gan Solomon fflyd o longau masnach mawr yn hwylio'r môr gyda llongau Hiram. Bob tair blynedd roedd y llongau hynny'n dod yn ôl gydag aur, arian, ifori, mwncïod a pheunod.
I Ki WelBeibl 10:23  Felly roedd y Brenin Solomon yn fwy cyfoethog ac yn ddoethach nag unrhyw frenin arall yn unman.
I Ki WelBeibl 10:24  Ac roedd y byd i gyd eisiau dod i ymweld â Solomon i wrando ar y doethineb roedd yr ARGLWYDD wedi'i roi iddo.
I Ki WelBeibl 10:25  Bob blwyddyn roedd pobl yn dod â rhoddion iddo: llestri arian, llestri aur, dillad, arfau, perlysiau, ceffylau a mulod.
I Ki WelBeibl 10:26  Roedd Solomon hefyd wedi casglu cerbydau a cheffylau rhyfel. Roedd ganddo fil pedwar cant o gerbydau, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw yn y trefi cerbydau ac yn Jerwsalem.
I Ki WelBeibl 10:27  Roedd arian mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â'r coed sycamor sy'n tyfu ym mhobman ar yr iseldir.
I Ki WelBeibl 10:28  Roedd ceffylau Solomon wedi'u mewnforio o'r Aifft a Cwe. Roedd masnachwyr y brenin yn eu prynu nhw yn Cwe.
I Ki WelBeibl 10:29  Roedden nhw'n talu chwe chant o ddarnau arian am gerbyd o'r Aifft, a chant pum deg darn arian am geffyl. Roedden nhw hefyd yn eu gwerthu ymlaen i frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.
Chapter 11
I Ki WelBeibl 11:1  Cafodd y Brenin Solomon berthynas gyda lot fawr o ferched o wledydd eraill. Yn ogystal â merch y Pharo, roedd ganddo gariadon o Moab, Ammon, Edom, Sidon ac o blith yr Hethiaid.
I Ki WelBeibl 11:2  Dyma'r gwledydd roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio pobl Israel amdanyn nhw: “Peidiwch cael perthynas gyda nhw. Maen nhw'n siŵr o'ch denu chi ar ôl eu duwiau.” Ond roedd Solomon yn dal i gael perthynas rywiol gyda nhw i gyd.
I Ki WelBeibl 11:3  Roedd ganddo saith gant o wragedd a thri chant o gariadon. Ac roedden nhw'n ei arwain ar gyfeiliorn.
I Ki WelBeibl 11:4  Wrth iddo fynd yn hŷn dyma'i wragedd yn ei ddenu ar ôl duwiau dieithr. Wnaeth e ddim aros yn gwbl ffyddlon i'r ARGLWYDD fel Dafydd ei dad.
I Ki WelBeibl 11:5  Aeth Solomon i addoli Ashtart, duwies y Sidoniaid, a Milcom, eilun ffiaidd pobl Ammon.
I Ki WelBeibl 11:6  Roedd yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Doedd e ddim yn ei ddilyn yn ffyddlon fel gwnaeth ei dad Dafydd.
I Ki WelBeibl 11:7  Aeth Solomon mor bell â chodi allor baganaidd i addoli Chemosh (eilun ffiaidd Moab) a Molech (eilun ffiaidd yr Ammoniaid) ar ben y bryn sydd i'r dwyrain o Jerwsalem.
I Ki WelBeibl 11:8  Roedd yn gwneud yr un peth i bob un o'i wragedd, iddyn nhw allu llosgi arogldarth ac aberthu anifeiliaid i'w duwiau.
I Ki WelBeibl 11:9  Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda Solomon am ei fod wedi troi i ffwrdd oddi wrtho. Yr ARGLWYDD oedd e, Duw Israel oedd wedi dod at Solomon ddwywaith,
I Ki WelBeibl 11:10  a'i siarsio i beidio gwneud hyn a mynd ar ôl duwiau eraill. Ond doedd Solomon ddim wedi gwrando.
I Ki WelBeibl 11:11  Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Solomon, “Am dy fod ti'n ymddwyn fel yma, ac yn cymryd dim sylw o'r ymrwymiad wnes i a'r rheolau rois i i ti, dw i'n mynd i gymryd y deyrnas oddi arnat ti a'i rhoi hi i dy was.
I Ki WelBeibl 11:12  Ond o barch at Dafydd dy dad, wna i ddim gwneud hyn yn ystod dy oes di. Bydda i'n cymryd y deyrnas oddi ar dy fab di.
I Ki WelBeibl 11:13  Wna i ddim ei chymryd hi i gyd. Dw i am adael un llwyth i dy fab o barch at fy ngwas Dafydd, a Jerwsalem, y ddinas dw i wedi'i dewis.”
I Ki WelBeibl 11:14  Yna dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i Hadad, o deulu brenhinol Edom, godi yn erbyn Solomon.
I Ki WelBeibl 11:15  Yn ôl yn y cyfnod pan oedd Dafydd yn ymladd Edom roedd Joab, pennaeth ei fyddin, wedi lladd dynion Edom i gyd. Roedd wedi mynd yno i gladdu milwyr Israel oedd wedi syrthio yn y frwydr.
I Ki WelBeibl 11:16  Arhosodd Joab a byddin Israel yno am chwe mis, nes bod dynion Edom i gyd wedi'u lladd.
I Ki WelBeibl 11:17  Ond roedd Hadad wedi dianc, a mynd i'r Aifft gyda rhai o swyddogion ei dad. (Dim ond bachgen ifanc oedd e ar y pryd.)
I Ki WelBeibl 11:18  Aethon nhw o Midian i Paran, lle'r ymunodd dynion eraill gyda nhw, cyn mynd ymlaen i'r Aifft. Dyma nhw'n mynd at y Pharo, brenin yr Aifft, a chael lle i fyw, bwyd, a hyd yn oed peth tir ganddo.
I Ki WelBeibl 11:19  Roedd y Pharo'n hoff iawn o Hadad, a dyma fe'n rhoi ei chwaer-yng-nghyfraith (sef chwaer y Frenhines Tachpenes) yn wraig iddo.
I Ki WelBeibl 11:20  Cafodd chwaer Tachpenes fab i Hadad, a'i alw yn Genwbath, a trefnodd Tachpenes i Genwbath gael ei fagu yn y palas brenhinol gyda phlant y Pharo ei hun.
I Ki WelBeibl 11:21  Pan glywodd Hadad fod Dafydd wedi marw, a Joab hefyd (capten byddin Israel), dyma fe'n gofyn i'r Pharo, “Wnei di adael i mi fynd adre i'm gwlad fy hun?”
I Ki WelBeibl 11:22  A dyma'r Pharo'n gofyn, “Pam? Beth wyt ti'n brin ohono dy fod eisiau mynd i dy wlad dy hun?” “Dim o gwbl,” atebodd Hadad, “ond plîs gad i mi fynd.”
I Ki WelBeibl 11:23  Gelyn arall wnaeth Duw ei godi yn erbyn Solomon oedd Reson, mab Eliada. Roedd Reson wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth ei feistr, y Brenin Hadadeser o Soba.
I Ki WelBeibl 11:24  Roedd wedi casglu criw o ddynion o'i gwmpas ac yn arwain gang o wrthryfelwyr. Pan goncrodd Dafydd Soba, roedd Reson a'i ddynion wedi dianc ac yna wedi cipio Damascus, a chafodd ei wneud yn frenin yno.
I Ki WelBeibl 11:25  Roedd yn elyn i Israel drwy gydol cyfnod Solomon ac yn gwneud gymaint o ddrwg â Hadad. Roedd yn gas ganddo Israel. Fe oedd yn frenin ar Syria.
I Ki WelBeibl 11:26  Un arall wnaeth droi yn erbyn y Brenin Solomon oedd Jeroboam, un o'i swyddogion. Roedd Jeroboam fab Nebat yn dod o Sereda yn Effraim, ac roedd ei fam, Serŵa, yn wraig weddw.
I Ki WelBeibl 11:27  Dyma pam wnaeth e wrthryfela yn erbyn y brenin: Roedd Solomon wedi bod yn adeiladu'r terasau, ac wedi trwsio'r bylchau oedd yn wal dinas ei dad Dafydd.
I Ki WelBeibl 11:28  Roedd hi'n amlwg fod Jeroboam yn ddyn abl. Pan welodd Solomon fod y dyn ifanc yma yn weithiwr da, dyma fe'n ei wneud yn fforman ar y gweithwyr o lwyth Joseff.
I Ki WelBeibl 11:29  Un diwrnod roedd Jeroboam wedi mynd allan o Jerwsalem. A dyma'r proffwyd Achïa o Seilo yn ei gyfarfod ar y ffordd, yn gwisgo clogyn newydd sbon. Roedd y ddau ar eu pennau'u hunain yng nghefn gwlad.
I Ki WelBeibl 11:30  Dyma Achïa yn cymryd y clogyn, a'i rwygo yn un deg dau o ddarnau.
I Ki WelBeibl 11:31  A dyma fe'n dweud wrth Jeroboam, “Cymer di ddeg darn. Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i am gymryd teyrnas Israel oddi ar Solomon, a rhoi deg llwyth i ti.
I Ki WelBeibl 11:32  Bydd un llwyth yn cael ei gadael iddo fe, o barch at Dafydd fy ngwas, ac at Jerwsalem, y ddinas dw i wedi'i dewis o'r llwythau i gyd i fod yn ddinas i mi.
I Ki WelBeibl 11:33  Dw i'n gwneud hyn am eu bod nhw wedi troi cefn arna i. Maen nhw wedi addoli Ashtart (duwies Sidon), Chemosh (duw Moab), a Milcom (duw pobl Ammon). Dŷn nhw ddim wedi byw fel dw i'n dweud, gwneud beth sy'n iawn gen i, nac wedi bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau rois i iddyn nhw, fel gwnaeth Dafydd, tad Solomon.
I Ki WelBeibl 11:34  Ond dw i ddim am gymryd y deyrnas gyfan oddi arno. Dw i am adael iddo fe fod yn frenin tra bydd e byw, o barch at Dafydd, y gwas wnes i ei ddewis – roedd e'n cadw fy rheolau a'm deddfau i.
I Ki WelBeibl 11:35  Bydda i'n cymryd y deyrnas oddi ar fab Solomon, ac yn rhoi deg llwyth i ti.
I Ki WelBeibl 11:36  Dw i am adael un llwyth i'w fab fel y bydd llinach Dafydd fel lamp yn dal i losgi o mlaen i yn Jerwsalem, y ddinas dw i wedi dewis byw ynddi.
I Ki WelBeibl 11:37  Ond dw i'n dy ddewis di i fod yn frenin ar Israel; byddi'n teyrnasu ar y cyfan rwyt ti'n ddymuno.
I Ki WelBeibl 11:38  Rhaid i ti fod yn ufudd i mi, byw fel dw i'n dweud, a gwneud beth sy'n iawn gen i – cadw'n ufudd i'm rheolau a'm canllawiau fel roedd fy ngwas Dafydd yn gwneud. Os gwnei di hynny, bydda i gyda ti, a bydda i'n rhoi llinach i ti yn union fel gwnes i i Dafydd. Bydda i'n rhoi Israel i ti.
I Ki WelBeibl 11:39  Dw i'n mynd i gosbi disgynyddion Dafydd o achos beth sydd wedi digwydd; ond ddim am byth.”
I Ki WelBeibl 11:40  Ceisiodd Solomon ladd Jeroboam. Ond dyma Jeroboam yn dianc i'r Aifft at y Brenin Shishac. Arhosodd yno nes i Solomon farw.
I Ki WelBeibl 11:41  Mae gweddill hanes Solomon – y cwbl wnaeth e ei gyflawni, a'i ddoethineb – i'w gweld yn y sgrôl Hanes Solomon.
I Ki WelBeibl 11:42  Bu Solomon yn teyrnasu yn Jerwsalem ar Israel gyfan am bedwar deg o flynyddoedd.
I Ki WelBeibl 11:43  Pan fuodd Solomon farw, cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd ei dad. A dyma Rehoboam, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.
Chapter 12
I Ki WelBeibl 12:1  Dyma Rehoboam yn mynd i Sichem, lle roedd pobl Israel gyfan wedi dod i'w wneud yn frenin.
I Ki WelBeibl 12:2  Roedd Jeroboam fab Nebat yn dal yn yr Aifft ar y pryd, wedi ffoi yno oddi wrth y Brenin Solomon. Roedd yn dal yn yr Aifft pan glywodd beth oedd yn digwydd.
I Ki WelBeibl 12:3  Ond dyma bobl Israel yn anfon amdano, a dyma fe'n mynd gyda nhw i weld Rehoboam.
I Ki WelBeibl 12:4  “Roedd dy dad yn ein gweithio ni'n galed, ac yn gwneud bywyd yn faich. Os gwnei di symud y baich a gwneud pethau'n haws i ni, gwnawn ni dy wasanaethu di.”
I Ki WelBeibl 12:5  Dyma Rehoboam yn dweud wrthyn nhw, “Dewch yn ôl mewn deuddydd, i mi gael meddwl am y peth.” A dyma nhw'n ei adael.
I Ki WelBeibl 12:6  Dyma'r Brenin Rehoboam yn gofyn am farn y cynghorwyr hŷn (y rhai oedd yn gweithio i Solomon ei dad pan oedd yn dal yn fyw). “Beth ydy'ch cyngor chi? Sut ddylwn ni ateb y bobl yma?”
I Ki WelBeibl 12:7  A dyma nhw'n dweud, “Os byddi di'n garedig a dangos dy fod eisiau eu helpu nhw, byddan nhw'n weision ffyddlon i ti am byth.”
I Ki WelBeibl 12:8  Ond dyma Rehoboam yn anwybyddu'u cyngor nhw, ac yn troi at y cynghorwyr ifanc yn y llys oedd yr un oed ag e.
I Ki WelBeibl 12:9  Dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Beth ydy'ch barn chi? Beth ddylwn i ddweud wrth y bobl yma sy'n gofyn i mi symud y baich roddodd fy nhad arnyn nhw?”
I Ki WelBeibl 12:10  A dyma'r dynion ifainc yn dweud wrtho, “Dwed wrth y bobl yna sy'n cwyno ac yn gofyn i ti symud y baich roedd dy dad wedi'i roi arnyn nhw, ‘Mae fy mys bach i yn mynd i fod yn gryfach na dad!
I Ki WelBeibl 12:11  Oedd fy nhad wedi rhoi baich trwm arnoch chi? Bydda i'n rhoi baich trymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i'ch cosbi chi? Bydda i'n defnyddio chwip fydd yn rhwygo'ch cnawd chi!’”
I Ki WelBeibl 12:12  Dyma Jeroboam, a'r bobl oedd gydag e, yn mynd yn ôl at Rehoboam ar ôl deuddydd, fel roedd y brenin wedi dweud.
I Ki WelBeibl 12:13  A dyma'r brenin yn siarad yn chwyrn gyda'r bobl, ac yn anwybyddu cyngor y dynion hŷn
I Ki WelBeibl 12:14  a gwrando ar y dynion ifanc. “Oedd fy nhad yn drwm arnoch chi?” meddai. “Wel, bydda i'n pwyso'n drymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i'ch cosbi chi? Bydda i'n defnyddio chwip fydd yn rhwygo'ch cnawd chi!”
I Ki WelBeibl 12:15  Roedd y brenin yn gwrthod gwrando ar y bobl. Ond roedd llaw'r ARGLWYDD tu ôl i'r cwbl oedd yn digwydd, er mwyn i'r neges roedd wedi'i rhoi i Jeroboam fab Nebat drwy Achïa o Seilo ddod yn wir.
I Ki WelBeibl 12:16  Pan welodd y bobl fod y brenin yn gwrthod gwrando arnyn nhw, dyma nhw'n rhoi'r neges yma iddo: “Beth sydd gynnon ni i'w wneud â Dafydd? Dŷn ni ddim yn perthyn i deulu Jesse! Yn ôl adre bobl Israel! Cadw dy linach dy hun, Dafydd!” Felly dyma bobl Israel yn mynd adre.
I Ki WelBeibl 12:17  (Er, roedd rhai o bobl Israel yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam oedd eu brenin nhw.)
I Ki WelBeibl 12:18  Dyma'r Brenin Rehoboam yn anfon Adoniram, swyddog y gweithlu gorfodol, at bobl Israel, ond dyma nhw'n taflu cerrig ato a'i ladd. Felly dyma'r Brenin Rehoboam yn neidio yn ei gerbyd a dianc yn ôl i Jerwsalem.
I Ki WelBeibl 12:19  Mae gwrthryfel llwythau Israel yn erbyn disgynyddion Dafydd wedi para hyd heddiw.
I Ki WelBeibl 12:20  Pan glywodd pobl Israel fod Jeroboam wedi dod yn ôl, dyma nhw'n galw pawb at ei gilydd. Yna dyma nhw'n anfon amdano a'i wneud e'n frenin ar Israel gyfan. Dim ond llwyth Jwda oedd yn aros yn ffyddlon i deulu brenhinol Dafydd.
I Ki WelBeibl 12:21  Daeth Rehoboam, mab Solomon, yn ôl i Jerwsalem a galw dynion Jwda a llwyth Benjamin at ei gilydd. Roedd ganddo gant wyth deg mil o filwyr profiadol i fynd i ryfel yn erbyn Israel a cheisio ennill y deyrnas yn ôl.
I Ki WelBeibl 12:23  “Dwed hyn wrth Rehoboam brenin Jwda ac wrth bobl Jwda a Benjamin, a phawb arall:
I Ki WelBeibl 12:24  ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud, “Peidiwch mynd i ryfel yn erbyn eich brodyr, pobl Israel. Ewch adre i gyd, am mai fi sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd.”’” A dyma nhw'n gwrando ar yr ARGLWYDD a mynd yn ôl adre fel roedd e wedi dweud.
I Ki WelBeibl 12:25  Dyma Jeroboam yn adeiladu caer Sichem yn y bryniau yn Effraim, a mynd i fyw yno. Ond wedyn dyma fe'n adeiladu Penuel, a symud yno.
I Ki WelBeibl 12:26  Roedd Jeroboam yn ofni y byddai'r frenhiniaeth yn mynd yn ôl i deulu Dafydd.
I Ki WelBeibl 12:27  Roedd yn ofni petai'r bobl yn mynd i aberthu yn nheml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, y bydden nhw'n cael eu denu yn ôl at eu hen feistr, Rehoboam, brenin Jwda, ac y byddai e'i hun yn cael ei ladd ganddyn nhw.
I Ki WelBeibl 12:28  Ar ôl trafod gyda'i gynghorwyr, dyma fe'n gwneud dau darw ifanc o aur, a dweud wrth y bobl, “Mae'n ormod o drafferth i chi fynd i fyny i Jerwsalem i addoli. O Israel! Dyma'r duwiau ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft!”
I Ki WelBeibl 12:29  A dyma fe'n gosod un tarw aur yn Bethel, a'r llall yn Dan.
I Ki WelBeibl 12:30  Gwnaeth i Israel bechu yn ofnadwy. Aeth y bobl ag un ohonyn nhw mewn prosesiwn yr holl ffordd i Dan!
I Ki WelBeibl 12:31  Dyma fe'n adeiladu temlau lle roedd allorau lleol, a gwneud pob math o bobl yn offeiriaid – pobl oedd ddim o lwyth Lefi.
I Ki WelBeibl 12:32  A dyma fe'n sefydlu Gŵyl ar y pymthegfed diwrnod o'r wythfed mis, fel yr un yn Jwda. Yna dyma fe'n mynd at yr allor yn Bethel i aberthu anifeiliaid i'r teirw roedd wedi'u gwneud. Yn Bethel hefyd dyma fe'n apwyntio offeiriaid i'r allorau roedd e wedi'u codi.
I Ki WelBeibl 12:33  Ar y pymthegfed diwrnod o'r wythfed mis (dyddiad roedd wedi'i ddewis o'i ben a'i bastwn ei hun), dyma Jeroboam yn aberthu anifeiliaid ar yr allor wnaeth e yn Bethel. Roedd wedi sefydlu Gŵyl i bobl Israel, ac wedi mynd i fyny ei hun at yr allor i losgi arogldarth.
Chapter 13
I Ki WelBeibl 13:1  Pan oedd Jeroboam yn sefyll wrth yr allor yn Bethel yn llosgi arogldarth, dyma broffwyd yn cyrraedd yno o Jwda, wedi'i anfon gan yr ARGLWYDD.
I Ki WelBeibl 13:2  Dyma fe'n cyhoeddi neges gan yr ARGLWYDD yn erbyn yr allor: “O allor, allor!” meddai, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud. ‘Bydd plentyn yn cael ei eni i deulu Dafydd. Joseia fydd ei enw. Bydd e'n lladd offeiriaid yr allorau lleol sy'n dod yma i losgi arogldarth! Bydd esgyrn dynol yn cael eu llosgi arnat ti!
I Ki WelBeibl 13:3  Ac mae'r ARGLWYDD yn rhoi'r arwydd yma heddiw: Bydd yr allor yn cael ei dryllio, a'r lludw sydd arni'n syrthio ar lawr.’”
I Ki WelBeibl 13:4  Pan glywodd y brenin beth ddwedodd y proffwyd am yr allor yn Bethel, dyma fe'n estyn ei law allan dros yr allor. “Arestiwch e!” meddai. A dyma'r fraich oedd wedi'i hestyn allan yn cael ei pharlysu. Doedd e ddim yn gallu ei thynnu'n ôl.
I Ki WelBeibl 13:5  Ac yna dyma'r allor yn dryllio a'r lludw arni yn syrthio ar lawr, yn union fel roedd y proffwyd wedi dweud wrth gyhoeddi neges yr ARGLWYDD.
I Ki WelBeibl 13:6  Ymateb y brenin oedd pledio ar y proffwyd, “Gweddïa ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a gofyn iddo wella fy mraich i.” A dyma'r proffwyd yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma fraich y brenin yn cael ei gwneud yn iach fel o'r blaen.
I Ki WelBeibl 13:7  Yna dyma'r brenin yn dweud wrth y proffwyd, “Tyrd adre gyda mi i gael rhywbeth i'w fwyta. Dw i eisiau rhoi anrheg i ti.”
I Ki WelBeibl 13:8  Ond dyma'r proffwyd yn ei ateb, “Hyd yn oed petaet ti'n rhoi hanner dy eiddo i mi, fyddwn ni ddim yn mynd gyda ti i fwyta dim nac i yfed dŵr yn y lle yma.
I Ki WelBeibl 13:9  Achos dwedodd y ARGLWYDD yn glir wrtho i, ‘Paid bwyta nac yfed dim yno, a phaid mynd adre'r ffordd aethost ti yno.’”
I Ki WelBeibl 13:10  Felly dyma fe'n troi am adre ar hyd ffordd wahanol i'r ffordd ddaeth e i Fethel.
I Ki WelBeibl 13:11  Roedd yna broffwyd arall, dyn hen iawn, yn byw yn Bethel. Dyma'i feibion yn dweud wrtho am beth oedd wedi digwydd yn Bethel y diwrnod hwnnw, a beth oedd y proffwyd wedi'i ddweud wrth y brenin.
I Ki WelBeibl 13:12  A dyma fe'n eu holi, “Pa ffordd aeth e?” Esboniodd ei feibion iddo pa ffordd roedd y proffwyd o Jwda wedi mynd.
I Ki WelBeibl 13:13  Yna dyma fe'n gofyn iddyn nhw gyfrwyo asyn iddo. Dyma nhw'n gwneud hynny, ac aeth ar ei gefn
I Ki WelBeibl 13:14  a mynd ar ôl y proffwyd. Daeth o hyd iddo yn eistedd o dan goeden dderwen, a gofynnodd iddo, “Ai ti ydy'r proffwyd ddaeth o Jwda?” A dyma hwnnw'n ateb, “Ie.”
I Ki WelBeibl 13:15  Yna dyma fe'n dweud wrtho, “Tyrd adre gyda mi am damaid o fwyd.”
I Ki WelBeibl 13:16  Ond dyma'r proffwyd yn ateb, “Alla i ddim mynd yn ôl gyda ti, na bwyta ac yfed dim yn y lle yma.
I Ki WelBeibl 13:17  Dwedodd yr ARGLWYDD yn glir wrtho i, ‘Paid bwyta dim nac yfed dŵr yno, a phaid mynd adre'r ffordd aethost ti yno.’”
I Ki WelBeibl 13:18  Ond dyma'r hen broffwyd yn dweud, “Dw i hefyd yn broffwyd fel ti. Mae angel wedi rhoi neges i mi gan yr ARGLWYDD yn dweud wrtho i am fynd â ti yn ôl adre gyda mi i ti gael rhywbeth i'w fwyta a'i yfed.” Ond dweud celwydd oedd e.
I Ki WelBeibl 13:19  Felly dyma'r proffwyd o Bethel yn mynd yn ôl gydag e i gael bwyd a diod yn ei dŷ.
I Ki WelBeibl 13:20  Tra oedden nhw'n bwyta dyma'r hen broffwyd oedd wedi'i ddenu'n ôl yn cael neges gan yr ARGLWYDD, ac
I Ki WelBeibl 13:21  yn dweud wrth y proffwyd o Jwda, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Ti wedi bod yn anufudd, a ddim wedi gwrando ar y gorchymyn roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i ti.
I Ki WelBeibl 13:22  Ti wedi dod yn ôl i fwyta ac yfed yn y lle yma, er ei fod wedi dweud wrthot ti am beidio gwneud hynny. Felly fydd dy gorff di ddim yn cael ei gladdu ym medd dy deulu.’”
I Ki WelBeibl 13:23  Ar ôl iddo orffen bwyta, dyma'r hen broffwyd o Bethel yn cyfrwyo ei asyn i'r proffwyd o Jwda.
I Ki WelBeibl 13:24  Pan oedd ar ei ffordd, dyma lew yn ymosod arno a'i ladd. Dyna lle roedd ei gorff yn gorwedd ar ochr y ffordd, a'r asyn a'r llew yn sefyll wrth ei ymyl.
I Ki WelBeibl 13:25  Dyma ryw bobl oedd yn digwydd mynd heibio yn gweld y corff ar ochr y ffordd a'r llew yn sefyll wrth ei ymyl. A dyma nhw'n sôn am y peth yn y dre lle roedd yr hen broffwyd yn byw.
I Ki WelBeibl 13:26  Pan glywodd yr hen broffwyd am y peth, dyma fe'n dweud, “Y proffwyd fuodd yn anufudd i'r ARGLWYDD ydy e. Mae'r ARGLWYDD wedi gadael i lew ei larpio a'i ladd, yn union fel gwnaeth e ddweud.”
I Ki WelBeibl 13:27  Yna gofynnodd i'w feibion gyfrwyo ei asyn iddo. Wedi iddyn nhw wneud hynny
I Ki WelBeibl 13:28  dyma fe'n mynd a dod o hyd i'r corff ar ochr y ffordd, gyda'r llew a'r asyn yn sefyll wrth ei ymyl. (Doedd y llew ddim wedi bwyta'r corff nac ymosod ar yr asyn.)
I Ki WelBeibl 13:29  Dyma'r hen broffwyd yn codi'r corff ar yr asyn a mynd yn ôl i'r dre i alaru drosto a'i gladdu.
I Ki WelBeibl 13:30  Rhoddodd y corff yn ei fedd ei hun, a galaru a dweud, “O, fy mrawd!”
I Ki WelBeibl 13:31  Wedi iddo ei gladdu, dyma fe'n dweud wrth ei feibion, “Pan fydda i'n marw, claddwch fi yn yr un bedd â'r proffwyd, a gosod fy esgyrn i wrth ymyl ei esgyrn e.
I Ki WelBeibl 13:32  Bydd y neges roddodd yr ARGLWYDD iddo i'w chyhoeddi, yn erbyn allor Bethel a holl demlau lleol Samaria, yn siŵr o ddod yn wir.”
I Ki WelBeibl 13:33  Ond hyd yn oed ar ôl i hyn ddigwydd, wnaeth Jeroboam ddim stopio gwneud pethau drwg. Roedd yn dal i wneud pob math o bobl yn offeiriad i'w allorau. Roedd yn apwyntio pwy bynnag oedd yn ffansïo'r job.
I Ki WelBeibl 13:34  Y pechod yma oedd y rheswm pam gafodd teulu brenhinol Jeroboam ei chwalu a'i ddileu oddi ar wyneb y ddaear.
Chapter 14
I Ki WelBeibl 14:1  Yr adeg yna dyma Abeia, mab Jeroboam, yn cael ei daro'n wael.
I Ki WelBeibl 14:2  A dyma Jeroboam yn dweud wrth ei wraig, “Rho ddillad gwahanol amdanat fel bod neb yn gwybod mai ngwraig i wyt ti. Yna dos i Seilo, lle mae'r proffwyd Achïa yn byw. Fe oedd y proffwyd ddwedodd wrtho i y byddwn ni'n frenin ar y bobl yma.
I Ki WelBeibl 14:3  Cymer ddeg torth, bisgedi a phot o fêl i'w rhoi iddo. Bydd e'n dweud wrthot ti beth sy'n mynd i ddigwydd i'r bachgen.”
I Ki WelBeibl 14:4  Felly dyma wraig Jeroboam yn gwneud fel roedd ei gŵr wedi dweud wrthi, a mynd i dŷ Achïa yn Seilo. Roedd Achïa yn ddall, wedi colli ei olwg yn ei henaint.
I Ki WelBeibl 14:5  Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Mae gwraig Jeroboam yn dod atat ti i holi ynglŷn â'i mab sy'n sâl. Pan ddaw hi bydd yn cymryd arni fod yn rhywun arall. Dyma beth rwyt ti i'w ddweud wrthi: …”
I Ki WelBeibl 14:6  Pan glywodd Achïa sŵn ei thraed hi wrth y drws, dyma fe'n galw, “Tyrd i mewn, wraig Jeroboam! Pam wyt ti'n cymryd arnat dy fod yn rhywun arall? Mae gen i newyddion drwg i ti.
I Ki WelBeibl 14:7  Dos, a dweud wrth Jeroboam, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i wedi dy gymryd di o blith y bobl a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel.
I Ki WelBeibl 14:8  Dw i wedi cymryd y deyrnas oddi ar deulu Dafydd a'i rhoi i ti. Ond yn wahanol i'm gwas Dafydd, ti ddim wedi cadw fy ngorchmynion na'm dilyn i o ddifri, a gwneud beth sy'n iawn gen i.
I Ki WelBeibl 14:9  Ti wedi gwneud mwy o ddrwg na phawb aeth o dy flaen di. Ti wedi ngwylltio i drwy wneud duwiau eraill – delwau o fetel. Ti wedi fy nhaflu i o'r ffordd.
I Ki WelBeibl 14:10  Felly bydda i'n gwneud drwg i dy linach brenhinol di Jeroboam. Bydda i'n cael gwared â phob dyn yn Israel, y caeth a'r rhydd. Bydda i'n carthu teulu brenhinol Jeroboam ac yn llosgi'r carthion nes bod dim ar ôl!
I Ki WelBeibl 14:11  Bydd pobl Jeroboam sy'n marw yn y ddinas yn cael eu bwyta gan y cŵn. Bydd y rhai sy'n marw yng nghefn gwlad yn cael eu bwyta gan yr adar! —dw i, yr ARGLWYDD wedi dweud!’
I Ki WelBeibl 14:12  “Dos di adre. Pan fyddi'n cyrraedd y ddinas bydd y plentyn yn marw.
I Ki WelBeibl 14:13  Bydd pobl Israel i gyd yn galaru ar ei ôl ac yn mynd i'w angladd. Fe fydd yr unig un o deulu Jeroboam fydd yn cael ei gladdu'n barchus, am mai fe ydy'r unig un o'r teulu mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi gweld unrhyw ddaioni ynddo.
I Ki WelBeibl 14:14  Bydd yr ARGLWYDD yn codi brenin iddo'i hun fydd yn difa teulu Jeroboam yn llwyr. Bydd hyn yn digwydd ar unwaith! A beth ddaw wedyn?
I Ki WelBeibl 14:15  Bydd yr ARGLWYDD yn taro Israel fel brwynen yn cael ei chwipio yn llif yr afon. Bydd yn ei thynnu o'r tir da yma roddodd i'w hynafiaid ac yn gyrru'r bobl ar chwâl yr ochr draw i afon Ewffrates. Bydd yn gwneud hyn am eu bod wedi'i wylltio drwy godi polion pren i'r dduwies Ashera.
I Ki WelBeibl 14:16  Bydd yr ARGLWYDD yn troi ei gefn ar Israel o achos yr eilunod mae Jeroboam wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu.”
I Ki WelBeibl 14:17  Felly dyma wraig Jeroboam yn mynd yn ôl i Tirtsa. Wrth iddi gyrraedd drws y tŷ, dyma'r bachgen yn marw.
I Ki WelBeibl 14:18  A dyma nhw'n ei gladdu a daeth Israel i gyd i alaru ar ei ôl, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud drwy ei was y proffwyd Achïa.
I Ki WelBeibl 14:19  Mae gweddill hanes Jeroboam, hanes ei ryfeloedd a'i deyrnasiad, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
I Ki WelBeibl 14:20  Roedd Jeroboam wedi bod yn frenin am ddau ddeg dwy o flynyddoedd. Ar ôl iddo farw daeth Nadab ei fab yn frenin yn ei le.
I Ki WelBeibl 14:21  Rehoboam, mab Solomon, oedd brenin Jwda. Roedd yn bedwar deg un oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg saith o flynyddoedd (Jerwsalem – y ddinas roedd ARGLWYDD wedi'i dewis allan o holl lwythau Israel i fyw ynddi.) Naamâ, gwraig o wlad Ammon, oedd mam Rehoboam.
I Ki WelBeibl 14:22  Roedd pobl Jwda yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac yn ei ddigio fwy nag roedd eu hynafiaid wedi gwneud.
I Ki WelBeibl 14:23  Roedden nhw'n codi allorau lleol, colofnau cysegredig i Baal a pholion y dduwies Ashera ar ben bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog.
I Ki WelBeibl 14:24  Roedd yna hyd yn oed ddynion oedd yn buteiniaid teml yn y wlad. Roedden nhw'n gwneud pethau cwbl ffiaidd, dim gwahanol i'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.
I Ki WelBeibl 14:25  Yna, yn ystod pumed flwyddyn Rehoboam fel brenin dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem.
I Ki WelBeibl 14:26  Dyma fe'n dwyn trysorau teml yr ARGLWYDD a phalas y brenin – y cwbl i gyd, gan gynnwys yr holl darianau aur roedd Solomon wedi'u gwneud!
I Ki WelBeibl 14:27  Dyma'r Brenin Rehoboam yn gwneud tarianau o bres yn eu lle, a'u rhoi nhw yng ngofal swyddogion y gwarchodlu oedd yn amddiffyn palas y brenin.
I Ki WelBeibl 14:28  Bob tro roedd y brenin yn mynd i'r deml, roedd y gwarchodlu brenhinol yn eu cario ac yna'n mynd â nhw'n ôl i ystafell y gwarchodlu.
I Ki WelBeibl 14:29  Mae gweddill hanes Rehoboam, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
I Ki WelBeibl 14:30  Roedd Rehoboam a Jeroboam yn rhyfela yn erbyn ei gilydd drwy'r amser.
I Ki WelBeibl 14:31  Pan fu farw, cafodd Rehoboam ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Naamâ, gwraig o wlad Ammon oedd ei fam. A'i fab, Abeiam, ddaeth yn frenin yn ei le.
Chapter 15
I Ki WelBeibl 15:1  Daeth Abeiam yn frenin ar Jwda pan oedd Jeroboam fab Nebat wedi bod yn frenin Israel ers un deg wyth o flynyddoedd.
I Ki WelBeibl 15:2  Bu'n frenin yn Jerwsalem am dair blynedd. Enw ei fam oedd Maacha, merch Afishalom.
I Ki WelBeibl 15:3  Roedd yn gwneud yr un pethau drwg â'i dad o'i flaen. Doedd e ddim yn gwbl ffyddlon i'r ARGLWYDD fel roedd y Brenin Dafydd wedi bod.
I Ki WelBeibl 15:4  Ond am ei fod yn un o ddisgynyddion Dafydd dyma'r ARGLWYDD ei Dduw yn cadw'r llinach yn fyw yn Jerwsalem, drwy roi mab iddo i'w olynu fel brenin a gwneud Jerwsalem yn ddiogel.
I Ki WelBeibl 15:5  Roedd hyn am fod Dafydd wedi plesio'r ARGLWYDD, ac wedi bod yn gwbl ufudd iddo ar hyd ei oes (heblaw am beth wnaeth e i Wreia yr Hethiad).
I Ki WelBeibl 15:6  Roedd y rhyfel rhwng Rehoboam a Jeroboam wedi para tra oedd Abeiam yn fyw.
I Ki WelBeibl 15:7  Mae gweddill hanes Abeiam, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Roedd y rhyfel wedi para rhwng Abeiam a Jeroboam.
I Ki WelBeibl 15:8  Pan fu farw, cafodd Abeiam ei gladdu yn ninas Dafydd. Daeth Asa ei fab yn frenin yn ei le.
I Ki WelBeibl 15:9  Roedd Jeroboam wedi bod yn frenin ar Israel am ugain mlynedd pan ddaeth Asa yn frenin ar Jwda.
I Ki WelBeibl 15:10  Bu'n frenin yn Jerwsalem am bedwar deg un o flynyddoedd. Maacha, merch Afishalom oedd ei nain.
I Ki WelBeibl 15:11  Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd Asa yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
I Ki WelBeibl 15:12  Gyrrodd y dynion oedd yn buteiniaid teml allan o'r wlad, a chael gwared â'r holl eilunod ffiaidd roedd ei gyndadau wedi'u gwneud.
I Ki WelBeibl 15:13  Roedd hyd yn oed wedi diswyddo ei nain, Maacha, o fod yn fam frenhines am ei bod wedi gwneud polyn Ashera ffiaidd. Torrodd y polyn i lawr, a'i losgi wrth Ddyffryn Cidron.
I Ki WelBeibl 15:14  Er ei fod heb gael gwared â'r allorau lleol, roedd Asa yn ffyddlon i'r ARGLWYDD ar hyd ei oes.
I Ki WelBeibl 15:15  Daeth â'r celfi roedd e a'i dad wedi'u cysegru (rhai aur, arian, a llestri eraill), a'u gosod yn nheml yr ARGLWYDD.
I Ki WelBeibl 15:16  Roedd Asa, brenin Jwda yn rhyfela yn erbyn Baasha, brenin Israel drwy'r amser.
I Ki WelBeibl 15:17  Dyma Baasha, brenin Israel, yn ymosod ar Jwda, ac yn adeiladu Rama yn gaer filwrol i rwystro pobl rhag mynd a dod i diriogaeth Asa brenin Jwda.
I Ki WelBeibl 15:18  Felly dyma Asa yn cymryd y cwbl o'r arian a'r aur oedd ar ôl yn stordai teml yr ARGLWYDD a stordai palas y brenin, a rhoi'r cwbl i'w weision i fynd i Damascus at Ben-hadad, brenin Syria (sef mab Tabrimon ac ŵyr Chesion), gyda'r neges yma:
I Ki WelBeibl 15:19  “Dw i eisiau gwneud cytundeb heddwch gyda ti, fel roedd yn arfer bod rhwng fy nhad a dy dad di. Dw i'n anfon y rhodd yma o arian ac aur i ti. Dw i eisiau i ti dorri'r cytundeb sydd rhyngot ti a Baasha, brenin Israel, er mwyn iddo stopio ymosod arnon ni.”
I Ki WelBeibl 15:20  Dyma Ben-hadad yn derbyn cynnig y Brenin Asa, a dyma fe'n dweud wrth swyddogion ei fyddin am ymosod ar drefi Israel. Felly dyma nhw'n mynd a tharo Îon, Dan, Abel-beth-maacha a thir llwyth Nafftali i gyd, gan gynnwys ardal Cinnereth.
I Ki WelBeibl 15:21  Pan glywodd Baasha am y peth, dyma fe'n stopio adeiladu Rama a symud ei fyddin yn ôl i Tirtsa.
I Ki WelBeibl 15:22  Yna dyma'r Brenin Asa yn gorchymyn i bobl Jwda – pawb yn ddieithriad – i fynd i nôl y cerrig a'r coed roedd Baasha wedi bod yn eu defnyddio i adeiladu Rama. A dyma Asa yn eu defnyddio nhw i adeiladau Geba yn Benjamin a Mitspa.
I Ki WelBeibl 15:23  Mae gweddill hanes Asa, ei lwyddiant milwrol a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, a rhestr o'r holl drefi wnaeth e eu hadeiladu, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Ond pan oedd yn hen roedd Asa'n dioddef yn ddifrifol o'r gowt.
I Ki WelBeibl 15:24  Pan fuodd Asa farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le.
I Ki WelBeibl 15:25  Yn ystod ail flwyddyn Asa yn frenin ar Jwda, cafodd Nadab, mab Jeroboam, ei wneud yn frenin Israel. Bu Nadab yn frenin am ddwy flynedd.
I Ki WelBeibl 15:26  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Roedd yn ymddwyn fel ei dad, ac yn gwneud i Israel bechu.
I Ki WelBeibl 15:27  Dyma Baasha fab Achïa o lwyth Issachar yn cynllwynio yn erbyn Nadab a'i lofruddio yn Gibbethon, ar dir y Philistiaid. Roedd Nadab a byddin Israel yn gwarchae ar Gibbethon ar y pryd.
I Ki WelBeibl 15:28  Lladdodd Baasha fe yn ystod trydedd flwyddyn Asa fel brenin Jwda. A daeth Baasha yn frenin ar Israel yn lle Nadab.
I Ki WelBeibl 15:29  Yn syth ar ôl dod yn frenin dyma fe'n lladd pob aelod o deulu Jeroboam. Gafodd neb o'r teulu brenhinol ei adael ar ôl, fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio drwy ei was Achïa o Seilo.
I Ki WelBeibl 15:30  Digwyddodd hyn o achos yr eilunod wnaeth Jeroboam eu codi, i achosi i bobl Israel bechu. Roedd wedi gwylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel.
I Ki WelBeibl 15:31  Mae gweddill hanes Nadab, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
I Ki WelBeibl 15:32  Roedd Asa, brenin Jwda, a Baasha, brenin Israel yn rhyfela yn erbyn ei gilydd drwy'r amser.
I Ki WelBeibl 15:33  Yn ystod trydedd flwyddyn Asa fel brenin Jwda, daeth Baasha yn frenin ar Israel yn ninas Tirtsa. Bu Baasha'n frenin am ddau ddeg pedair o flynyddoedd.
I Ki WelBeibl 15:34  Gwnaeth Baasha bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Roedd yn ymddwyn yr un fath â Jeroboam, ac yn gwneud i Israel bechu.
Chapter 16
I Ki WelBeibl 16:1  Dyma Jehw fab Chanani yn cael neges gan yr ARGLWYDD i'w rhoi i Baasha.
I Ki WelBeibl 16:2  “Gwnes i dy godi di o'r llwch a dy wneud yn arweinydd fy mhobl Israel, ond ti wedi ymddwyn fel Jeroboam a gwneud i'm pobl bechu. Dw i wedi gwylltio'n lân gyda nhw.
I Ki WelBeibl 16:3  Felly, dw i'n mynd i gael gwared â dy deulu di, Baasha. Bydda i'n gwneud yr un peth i dy deulu di ag a wnes i i deulu Jeroboam fab Nebat.
I Ki WelBeibl 16:4  Bydd pobl Baasha sy'n marw yn y ddinas yn cael eu bwyta gan y cŵn. Bydd y rhai sy'n marw yng nghefn gwlad yn cael eu bwyta gan yr adar!”
I Ki WelBeibl 16:5  Mae gweddill hanes Baasha – y cwbl wnaeth e ei gyflawni a'i lwyddiant milwrol – i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
I Ki WelBeibl 16:6  Pan fu Baasha farw cafodd ei gladdu yn Tirtsa. Daeth Ela, ei fab, yn frenin yn ei le.
I Ki WelBeibl 16:7  Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Baasha a'i deulu drwy'r proffwyd Jehw fab Chanani. Roedd yr holl ddrwg wnaeth Baasha wedi gwylltio'r ARGLWYDD, gan gynnwys y ffordd wnaeth e ddelio gyda theulu Jeroboam. Doedd e'i hun ddim gwahanol!
I Ki WelBeibl 16:8  Daeth Ela yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg chwech o flynyddoedd. Bu Ela'n frenin yn Tirtsa am ddwy flynedd.
I Ki WelBeibl 16:9  Ond dyma Simri, un o'i swyddogion oedd yn gapten ar hanner y cerbydau rhyfel, yn cynllwynio yn ei erbyn. Roedd y brenin wedi meddwi ar ôl bod yn yfed yn drwm yn nhŷ Artsa (sef prif swyddog palas y brenin yn Tirtsa).
I Ki WelBeibl 16:10  Aeth Simri i mewn, ymosod ar Ela a'i ladd. (Digwyddodd hyn pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg saith o flynyddoedd.) A dyma Simri yn dod yn frenin ar Israel yn lle Ela.
I Ki WelBeibl 16:11  Yn syth ar ôl dod yn frenin dyma Simri yn lladd pawb o deulu brenhinol Baasha. Wnaeth e ddim gadael yr un dyn na bachgen yn fyw – lladdodd aelodau'r teulu a'i ffrindiau i gyd.
I Ki WelBeibl 16:12  Felly roedd Simri wedi difa teulu Baasha yn llwyr, yn union fel roedd Duw wedi rhybuddio drwy Jehw y proffwyd.
I Ki WelBeibl 16:13  Digwyddodd hyn i gyd oherwydd yr holl bethau drwg roedd Baasha a'i fab Ela wedi'u gwneud. Roedden nhw wedi gwneud i Israel bechu, a gwylltio'r ARGLWYDD gyda'u holl eilunod diwerth.
I Ki WelBeibl 16:14  Mae gweddill hanes Ela, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
I Ki WelBeibl 16:15  Daeth Simri yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg saith o flynyddoedd. Bu Simri'n frenin Israel yn Tirtsa am saith diwrnod. Roedd byddin Israel yn ymosod ar Gibbethon, un o drefi'r Philistiaid, ar y pryd.
I Ki WelBeibl 16:16  Dyma'r neges yn cyrraedd y gwersyll fod Simri wedi cynllwynio yn erbyn y brenin a'i ladd. Felly, y diwrnod hwnnw yn y gwersyll, dyma'r fyddin yn gwneud Omri, eu cadfridog, yn frenin ar Israel.
I Ki WelBeibl 16:17  A dyma Omri a'i fyddin yn gadael Gibbethon a mynd i warchae ar Tirtsa, prifddinas Israel.
I Ki WelBeibl 16:18  Roedd Simri'n gweld bod y ddinas wedi'i chipio, felly dyma fe'n mynd i gaer y palas, rhoi'r palas ar dân, a bu farw yn y fflamau.
I Ki WelBeibl 16:19  Roedd hyn wedi digwydd am fod Simri wedi pechu. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel gwnaeth Jeroboam; roedd e hefyd wedi gwneud i Israel bechu.
I Ki WelBeibl 16:20  Mae gweddill hanes Simri, a hanes ei gynllwyn, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
I Ki WelBeibl 16:21  Yn y cyfnod yma roedd pobl Israel wedi rhannu'n ddwy garfan. Roedd hanner y boblogaeth eisiau gwneud Tibni fab Ginath yn frenin, a'r hanner arall yn cefnogi Omri.
I Ki WelBeibl 16:22  Ond roedd dilynwyr Omri yn gryfach na chefnogwyr Tibni fab Ginath. Bu farw Tibni, a daeth Omri yn frenin.
I Ki WelBeibl 16:23  Daeth Omri yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers tri deg un o flynyddoedd. Bu Omri yn frenin am un deg dwy o flynyddoedd, chwech ohonyn nhw yn Tirtsa.
I Ki WelBeibl 16:24  Prynodd Omri fryn Samaria gan Shemer am saith deg cilogram o arian. Dyma fe'n adeiladu tref ar y bryn a'i galw'n Samaria, ar ôl Shemer, cyn-berchennog y mynydd.
I Ki WelBeibl 16:25  Gwnaeth Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na neb o'i flaen.
I Ki WelBeibl 16:26  Roedd yn ymddwyn yr un fath â Jeroboam fab Nebat; roedd yn gwneud i Israel hefyd bechu a gwylltio yr ARGLWYDD, Duw Israel, gyda'u holl eilunod diwerth.
I Ki WelBeibl 16:27  Mae gweddill hanes Omri – y cwbl wnaeth e ei gyflawni a'i lwyddiant milwrol – i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
I Ki WelBeibl 16:28  Pan fu farw Omri, cafodd ei gladdu yn Samaria. A dyma Ahab, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.
I Ki WelBeibl 16:29  Pan ddaeth Ahab fab Omri, yn frenin ar Israel, roedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers tri deg saith o flynyddoedd. Bu Ahab yn frenin yn Samaria am ddau ddeg dwy o flynyddoedd.
I Ki WelBeibl 16:30  Gwnaeth Ahab fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na neb o'i flaen.
I Ki WelBeibl 16:31  Doedd dilyn yr eilunod wnaeth Jeroboam fab Nebat eu codi ddim digon ganddo. Priododd Jesebel (merch Ethbaal brenin y Sidoniaid) ac yna dechrau plygu ac addoli'r Baal!
I Ki WelBeibl 16:32  Adeiladodd deml i Baal yn Samaria a rhoi allor i Baal ynddi.
I Ki WelBeibl 16:33  Cododd bolyn i Ashera hefyd. Roedd Ahab wedi gwneud mwy i wylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel, nag unrhyw frenin o'i flaen.
I Ki WelBeibl 16:34  Yn y cyfnod pan oedd Ahab yn frenin, dyma Chiel o Bethel yn ailadeiladu Jericho. Aberthodd ei fab hynaf, Abiram, wrth osod sylfeini'r ddinas, a'i fab ifancaf, Segwf, pan oedd wedi gorffen y gwaith ac yn gosod y giatiau yn eu lle. Dyma'n union roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddweud fyddai'n digwydd, drwy Josua fab Nwn.
Chapter 17
I Ki WelBeibl 17:1  Dyma Elias, o Tishbe yn Gilead, yn dweud wrth Ahab, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn fyw (y Duw dw i'n ei addoli), fydd yna ddim gwlith na glaw y blynyddoedd nesaf yma nes i mi ddweud yn wahanol.”
I Ki WelBeibl 17:3  “Dos i ffwrdd i'r dwyrain. Dos i guddio wrth ymyl Nant Cerith yr ochr arall i afon Iorddonen.
I Ki WelBeibl 17:4  Cei ddŵr i'w yfed o'r nant, a dw i wedi dweud wrth y cigfrain am ddod â bwyd i ti yno.”
I Ki WelBeibl 17:5  Dyma Elias yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, a mynd i fyw wrth Nant Cerith yr ochr arall i afon Iorddonen.
I Ki WelBeibl 17:6  Roedd cigfrain yn dod â bara a chig iddo bob bore a gyda'r nos, ac roedd yn yfed dŵr o'r nant.
I Ki WelBeibl 17:7  Ond ar ôl peth amser dyma'r nant yn sychu am ei bod hi heb fwrw glaw yn y wlad o gwbl.
I Ki WelBeibl 17:9  “Cod, a dos i fyw i Sareffath yn ardal Sidon. Dw i wedi dweud wrth wraig weddw sy'n byw yno i roi bwyd i ti.”
I Ki WelBeibl 17:10  Felly dyma Elias yn mynd i Sareffath. Pan gyrhaeddodd giatiau'r dref gwelodd wraig weddw yn casglu coed tân. Dyma fe'n galw arni, “Plîs wnei di roi ychydig o ddŵr i mi i'w yfed.”
I Ki WelBeibl 17:11  Wrth iddi fynd i nôl peth dyma fe'n galw ar ei hôl, “Wnei di ddod â rhywbeth bach i mi ei fwyta hefyd?”
I Ki WelBeibl 17:12  Ond dyma hi'n ateb, “Wir i ti, mor sicr â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, does gen i ddim byd i ti. Llond dwrn o flawd mewn potyn ac ychydig o olew olewydd mewn jwg sydd gen i ar ôl. Rôn i wrthi'n casglu ychydig o goed tân i wneud un pryd olaf i mi a'm mab. Ar ôl i ni fwyta hwnnw byddwn ni'n llwgu.”
I Ki WelBeibl 17:13  Ond dyma Elias yn dweud wrthi, “Paid bod ag ofn. Dos i wneud hynny. Ond gwna fymryn o fara i mi gyntaf, a thyrd ag e allan yma. Cei baratoi rhywbeth i ti a dy fab wedyn.
I Ki WelBeibl 17:14  Achos dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Ddaw'r blawd yn y potyn ddim i ben, a fydd yr olew yn y jar ddim yn darfod nes bydd yr ARGLWYDD wedi anfon glaw unwaith eto.”
I Ki WelBeibl 17:15  Felly dyma hi'n mynd a gwneud fel roedd Elias wedi dweud wrthi. Ac roedd digon o fwyd bob dydd i Elias ac iddi hi a'i theulu.
I Ki WelBeibl 17:16  Ddaeth y blawd yn y potyn ddim i ben, a wnaeth yr olew yn y jar ddim darfod, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo drwy Elias.
I Ki WelBeibl 17:17  Beth amser wedyn dyma fab y wraig oedd biau'r tŷ yn cael ei daro'n wael. Aeth y salwch o ddrwg i waeth, nes yn y diwedd iddo stopio anadlu.
I Ki WelBeibl 17:18  A dyma'r wraig yn dweud wrth Elias, “Pa ddrwg dw i wedi'i wneud i ti, broffwyd Duw? Wyt ti wedi dod yma i'm cosbi i am fy mhechod a lladd fy mab?”
I Ki WelBeibl 17:19  Dyma Elias yn ateb, “Rho dy fab i mi.” A dyma fe'n cymryd y bachgen o'i breichiau, a'i gario i fyny i'r llofft lle roedd yn aros, a'i roi i orwedd ar y gwely.
I Ki WelBeibl 17:20  Yna dyma fe'n galw ar yr ARGLWYDD, “O ARGLWYDD fy Nuw, wyt ti wir am wneud drwg i'r weddw yma sydd wedi rhoi llety i mi, drwy ladd ei mab hi?”
I Ki WelBeibl 17:21  Dyma fe'n ymestyn ei hun dros y bachgen dair gwaith, a galw ar yr ARGLWYDD: “O ARGLWYDD, fy Nuw, plîs tyrd â'r bachgen yma yn ôl yn fyw!”
I Ki WelBeibl 17:22  A dyma'r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Elias, a dechreuodd y bachgen anadlu eto. Roedd yn fyw!
I Ki WelBeibl 17:23  Yna cododd Elias y bachgen a mynd ag e i lawr y grisiau yn ôl i'w fam, a dweud wrthi, “Edrych, mae dy fab yn fyw!”
I Ki WelBeibl 17:24  A dyma'r wraig yn dweud wrth Elias, “Nawr dw i'n gwybod dy fod ti'n broffwyd go iawn, a bod yr ARGLWYDD wir yn siarad trwot ti.”
Chapter 18
I Ki WelBeibl 18:1  Ar ôl amser hir, yn ystod y drydedd flwyddyn o sychder, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Elias. “Dos, a dangos dy hun i Ahab. Dw i'n mynd i anfon glaw ar y tir.”
I Ki WelBeibl 18:2  Felly dyma Elias yn mynd i weld Ahab. Roedd y newyn yn ddrwg iawn yn Samaria erbyn hynny.
I Ki WelBeibl 18:3  Dyma Ahab yn galw Obadeia, y swyddog oedd yn gyfrifol am redeg y palas. (Roedd Obadeia yn ddyn oedd yn addoli'r ARGLWYDD yn ffyddlon.
I Ki WelBeibl 18:4  Pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD, roedd Obadeia wedi cymryd cant o broffwydi a'u cuddio nhw fesul pum deg mewn dwy ogof. Ac roedd yn rhoi bwyd iddyn nhw, a dŵr i'w yfed.)
I Ki WelBeibl 18:5  Dyma Ahab yn dweud wrth Obadeia, “Rhaid i ni fynd drwy'r wlad i gyd, at bob ffynnon a nant. Falle y down ni o hyd i ychydig borfa i gadw'r ceffylau a'r mulod yn fyw, yn lle bod rhaid i ni golli pob un anifail.”
I Ki WelBeibl 18:6  A dyma nhw'n rhannu'r wlad gyfan rhyngddyn nhw. Aeth Ahab i un cyfeiriad a dyma Obadeia yn mynd y ffordd arall.
I Ki WelBeibl 18:7  Wrth i Obadeia fynd ar ei ffordd dyma Elias yn dod i'w gyfarfod. Dyma Obadeia'n nabod Elias, a dyma fe'n plygu ar ei liniau o'i flaen a dweud, “Ai ti ydy e go iawn, fy meistr, Elias?”
I Ki WelBeibl 18:8  “Ie, fi ydy e,” meddai Elias. “Dos i ddweud wrth dy feistr fy mod i yn ôl.”
I Ki WelBeibl 18:9  Dyma Obadeia'n ateb, “Beth dw i wedi'i wneud o'i le? Wyt ti eisiau i Ahab fy lladd i?
I Ki WelBeibl 18:10  Mor sicr â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, mae fy meistr wedi anfon i bob gwlad a theyrnas i chwilio amdanat ti! Os dŷn nhw'n dweud dy fod ti ddim yno, mae'n gwneud iddyn dyngu llw eu bod nhw heb ddod o hyd i ti.
I Ki WelBeibl 18:11  A dyma ti'n dweud wrtho i, ‘Dos i ddweud wrth dy feistr, “Mae Elias yn ôl”!’
I Ki WelBeibl 18:12  Y funud bydda i'n dy adael di, bydd Ysbryd yr ARGLWYDD yn dy gario di i ffwrdd i rywle, a fydd gen i ddim syniad i ble. Os gwna i ddweud wrth Ahab fy mod wedi dy weld di, ac yntau wedyn yn methu dod o hyd i ti, bydd e'n fy lladd i! Dw i wedi addoli'r ARGLWYDD yn ffyddlon ers pan oeddwn i'n fachgen.
I Ki WelBeibl 18:13  Oes neb wedi dweud wrthot ti beth wnes i pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD? Gwnes i guddio cant o'i broffwydi, fesul pum deg, mewn dwy ogof, a rhoi bwyd iddyn nhw a dŵr i'w yfed.
I Ki WelBeibl 18:14  A nawr, dyma ti'n gofyn i mi fynd i ddweud wrth Ahab ‘Mae Elias yn ôl’! Bydd e'n fy lladd i!”
I Ki WelBeibl 18:15  Ond dyma Elias yn addo iddo, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD hollbwerus yn fyw (y Duw dw i'n ei wasanaethu), bydda i'n cyfarfod Ahab heddiw.”
I Ki WelBeibl 18:16  Felly dyma Obadeia'n mynd i ddweud wrth Ahab. A dyma Ahab yn dod i gyfarfod Elias.
I Ki WelBeibl 18:17  Pan welodd Ahab Elias dyma fe'n dweud, “Ai ti ydy e go iawn? – yr un sy'n creu helynt i Israel!”
I Ki WelBeibl 18:18  Dyma Elias yn ateb, “Nid fi sydd wedi creu helynt i Israel. Ti a theulu dy dad sydd wedi gwrthod gwneud beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, a ti wedi addoli delwau o Baal!
I Ki WelBeibl 18:19  Dw i eisiau i ti gasglu pobl Israel i gyd at ei gilydd wrth Fynydd Carmel. Tyrd â'r holl broffwydi mae Jesebel yn eu cynnal yno – pedwar cant pum deg o broffwydi Baal a phedwar cant o broffwydi'r dduwies Ashera.”
I Ki WelBeibl 18:20  Felly dyma Ahab yn anfon neges at holl bobl Israel, a dod â'r proffwydi i gyd at ei gilydd i Fynydd Carmel.
I Ki WelBeibl 18:21  Dyma Elias yn sefyll o flaen y bobl i gyd a gofyn iddyn nhw, “Am faint mwy dych chi'n mynd i eistedd ar y ffens? Os mai'r ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn, dilynwch e, ond os Baal ydy e, dilynwch hwnnw!” Ddwedodd neb yr un gair.
I Ki WelBeibl 18:22  Felly dyma Elias yn dweud wrth y bobl, “Fi ydy'r unig un sydd ar ôl o broffwydi'r ARGLWYDD, ond mae yna bedwar cant pum deg o broffwydi Baal yma.
I Ki WelBeibl 18:23  Dewch â dau darw ifanc yma. Cân nhw ddewis un tarw, yna ei dorri'n ddarnau, a'i osod ar y coed. Ond dŷn nhw ddim i gynnau tân oddi tano. Gwna i yr un fath gyda'r tarw arall – ei osod ar y coed, ond dim cynnau tân oddi tano.
I Ki WelBeibl 18:24  Galwch chi ar eich duw chi, a gwna i alw ar yr ARGLWYDD. Y duw sy'n anfon tân fydd yn dangos mai fe ydy'r Duw go iawn.” A dyma'r bobl yn ymateb, “Syniad da! Iawn!”
I Ki WelBeibl 18:25  Yna dyma Elias yn dweud wrth broffwydi Baal, “Ewch chi gyntaf. Mae yna lawer ohonoch chi, felly dewiswch darw, a'i baratoi. Yna galwch ar eich duw, ond peidiwch cynnau tân.”
I Ki WelBeibl 18:26  Felly dyma nhw'n cymryd y tarw roedden nhw wedi'i gael, ei baratoi a'i osod ar yr allor. A dyma nhw'n galw ar Baal drwy'r bore, nes oedd hi'n ganol dydd, “Baal, ateb ni!” Ond ddigwyddodd dim byd – dim siw na miw. Roedden nhw'n dawnsio'n wyllt o gwmpas yr allor roedden nhw wedi'i chodi.
I Ki WelBeibl 18:27  Yna tua canol dydd dyma Elias yn dechrau gwneud hwyl am eu pennau nhw. “Rhaid i chi weiddi'n uwch! Dewch, duw ydy e! Falle ei fod e'n myfyrio, neu wedi mynd i'r tŷ bach, neu wedi mynd ar daith i rywle. Neu falle ei fod e'n cysgu, a bod angen ei ddeffro!”
I Ki WelBeibl 18:28  A dyma nhw'n gweiddi'n uwch, a dechrau torri eu hunain gyda chyllyll a gwaywffyn (dyna oedd y ddefod arferol). Roedd eu cyrff yn waed i gyd.
I Ki WelBeibl 18:29  Buon nhw wrthi'n proffwydo'n wallgof drwy'r p'nawn nes ei bod yn amser offrymu aberth yr hwyr. Ond doedd dim byd yn digwydd, dim siw na miw – neb yn cymryd unrhyw sylw.
I Ki WelBeibl 18:30  Yna dyma Elias yn galw'r bobl draw ato. Ar ôl iddyn nhw gasglu o'i gwmpas, dyma Elias yn trwsio allor yr ARGLWYDD oedd wedi cael ei dryllio.
I Ki WelBeibl 18:31  Cymerodd un deg dwy o gerrig – un ar gyfer pob un o lwythau Jacob (yr un roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi'r enw Israel iddo).
I Ki WelBeibl 18:32  A dyma fe'n defnyddio'r cerrig i godi allor i'r ARGLWYDD. Yna dyma fe'n cloddio ffos eithaf dwfn o gwmpas yr allor.
I Ki WelBeibl 18:33  Wedyn gosododd y coed ar yr allor, torri'r tarw yn ddarnau a'i roi ar y coed.
I Ki WelBeibl 18:34  Yna dyma fe'n dweud, “Ewch i lenwi pedwar jar mawr â dŵr, a'i dywallt ar yr offrwm ac ar y coed.” Ar ôl iddyn nhw wneud hynny, dyma Elias yn dweud, “Gwnewch yr un peth eto,” a dyma wnaethon nhw. “Ac eto,” meddai, a dyma nhw'n gwneud y drydedd waith.
I Ki WelBeibl 18:35  Roedd yr allor yn socian, a'r dŵr wedi llenwi'r ffos o'i chwmpas.
I Ki WelBeibl 18:36  Pan ddaeth hi'n amser i offrymu aberth yr hwyr, dyma Elias yn camu at yr allor, a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, gad i bawb wybod heddiw mai ti ydy Duw Israel, ac mai dy was di ydw i. Dangos fy mod i'n gwneud hyn am mai ti sydd wedi dweud wrtho i.
I Ki WelBeibl 18:37  Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i'r bobl yma wybod mai ti ydy'r Duw go iawn, a dy fod ti'n eu troi nhw'n ôl atat ti.”
I Ki WelBeibl 18:38  Yna'n sydyn dyma dân yn disgyn oddi wrth yr ARGLWYDD a llosgi'r offrwm, y coed, y cerrig a'r pridd, a hyd yn oed sychu'r dŵr oedd yn y ffos.
I Ki WelBeibl 18:39  Pan welodd y bobl beth ddigwyddodd, dyma nhw'n syrthio ar eu gliniau a'u hwynebau ar lawr, a gweiddi, “Yr ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn! Yr ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn!”
I Ki WelBeibl 18:40  Yna dyma Elias yn dweud, “Daliwch broffwydi Baal! Peidiwch gadael i'r un ohonyn nhw ddianc!” Ar ôl iddyn nhw gael eu dal, dyma Elias yn mynd â nhw i lawr at afon Cison a'u lladd nhw i gyd yno.
I Ki WelBeibl 18:41  Yna dyma Elias yn dweud wrth Ahab, “Dos i fwyta ac yfed, achos mae yna sŵn glaw trwm yn dod.”
I Ki WelBeibl 18:42  Felly dyma Ahab yn mynd i fwyta ac yfed, ond aeth Elias i fyny i gopa mynydd Carmel. Plygodd i lawr i weddïo, â'i wyneb ar lawr rhwng ei liniau.
I Ki WelBeibl 18:43  A dyma fe'n dweud wrth ei was, “Dos i fyny i edrych allan dros y môr.” Dyma'r gwas yn mynd i edrych, a dweud, “Does dim byd yna”. Saith gwaith roedd rhaid i Elias ddweud, “Dos eto”.
I Ki WelBeibl 18:44  Yna'r seithfed tro dyma'r gwas yn dweud, “Mae yna gwmwl bach, dim mwy na dwrn dyn, yn codi o'r môr.” A dyma Elias yn dweud, “Brysia i ddweud wrth Ahab, ‘Dringa i dy gerbyd a dos adre, rhag i ti gael dy ddal yn y storm.’”
I Ki WelBeibl 18:45  Cyn pen dim roedd cymylau duon yn yr awyr, gwynt yn chwythu a glaw trwm. Roedd Ahab yn gyrru i fynd yn ôl i Jesreel.
I Ki WelBeibl 18:46  A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi nerth goruwchnaturiol i Elias. Dyma fe'n rhwymo'i wisg am ei ganol a rhedeg o flaen cerbyd Ahab yr holl ffordd i Jesreel.
Chapter 19
I Ki WelBeibl 19:1  Dyma Ahab yn dweud wrth Jesebel beth roedd Elias wedi'i wneud, a'i fod wedi lladd y proffwydi i gyd.
I Ki WelBeibl 19:2  Yna dyma Jesebel yn anfon neges at Elias i ddweud, “Boed i'r duwiau fy melltithio i os na fydda i, erbyn yr adeg yma yfory, wedi dy ladd di fel gwnest ti eu lladd nhw!”
I Ki WelBeibl 19:3  Roedd Elias wedi dychryn a dyma fe'n dianc am ei fywyd. Aeth i Beersheba yn Jwda, gadael ei was yno
I Ki WelBeibl 19:4  a cherdded yn ei flaen drwy'r dydd i'r anialwch. Yna dyma fe'n eistedd o dan lwyn banadl a gofyn am gael marw. “Dw i wedi cael digon! ARGLWYDD, cymer fy mywyd i. Dw i ddim gwell na'm hynafiaid.”
I Ki WelBeibl 19:5  Yna dyma fe'n gorwedd i lawr a syrthio i gysgu dan y llwyn. A dyma angel yn dod a rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta.”
I Ki WelBeibl 19:6  Edrychodd, ac roedd yna fara fflat wedi'i bobi ar gerrig poeth, a jwg o ddŵr wrth ei ymyl. Dyma fe'n bwyta ac yfed ac yna mynd yn ôl i gysgu eto.
I Ki WelBeibl 19:7  Daeth angel yr ARGLWYDD ato eto, rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta, achos mae taith hir o dy flaen di.”
I Ki WelBeibl 19:8  Felly dyma fe'n codi, bwyta ac yfed. Yna, ar ôl bwyta, cerddodd yn ei flaen ddydd a nos am bedwar deg diwrnod, a chyrraedd Sinai, mynydd yr ARGLWYDD.
I Ki WelBeibl 19:9  Aeth i mewn i ogof i dreulio'r nos. Yna'n sydyn, dyma'r ARGLWYDD yn siarad ag e, “Be wyt ti'n wneud yma, Elias?”
I Ki WelBeibl 19:10  A dyma fe'n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD, y Duw hollbwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!”
I Ki WelBeibl 19:11  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos allan a sefyll ar y mynydd o mlaen i.” Yna dyma wynt stormus yn chwythu o flaen yr ARGLWYDD a tharo'r mynydd a'r creigiau nes achosi tirlithriad; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y gwynt. Ar ôl y gwynt roedd yna ddaeargryn; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y daeargryn.
I Ki WelBeibl 19:12  Wedyn ar ôl y daeargryn daeth tân; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y tân. Wedyn ar ôl tân roedd yna ddistawrwydd llwyr.
I Ki WelBeibl 19:13  Pan glywodd Elias hyn, dyma fe'n lapio'i glogyn dros ei wyneb a mynd i sefyll wrth geg yr ogof. A dyma lais yn gofyn iddo, “Be wyt ti'n wneud yma Elias?”
I Ki WelBeibl 19:14  A dyma fe'n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD, y Duw hollbwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau di a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!”
I Ki WelBeibl 19:15  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos yn ôl y ffordd daethost ti, a mynd ymlaen i anialwch Damascus. Yno, eneinia Hasael yn frenin ar Syria.
I Ki WelBeibl 19:16  Wedyn rwyt i eneinio Jehw fab Nimshi yn frenin ar Israel, ac Eliseus fab Shaffat o Abel-mechola i gymryd dy le di fel proffwyd.
I Ki WelBeibl 19:17  Bydd Jehw yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Hasael, a bydd Eliseus yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Jehw.
I Ki WelBeibl 19:18  A gyda llaw, mae gen i saith mil o bobl yn Israel sydd heb fynd i lawr ar eu gliniau i addoli Baal, a chusanu ei ddelw.”
I Ki WelBeibl 19:19  Felly dyma Elias yn mynd, ac yn dod o hyd i Eliseus fab Shaffat yn aredig. Roedd un deg dau o barau o ychen yno i gyd, ac roedd Eliseus yn gweithio gyda'r pâr olaf. Dyma Elias yn mynd heibio ac yn taflu ei glogyn dros Eliseus wrth basio.
I Ki WelBeibl 19:20  A dyma Eliseus yn gadael yr ychen, rhedeg ar ôl Elias, a dweud wrtho, “Plîs gad i mi fynd i ffarwelio â dad a mam gyntaf, ac wedyn dof i ar dy ôl di.” A dyma Elias yn ateb, “Iawn, dos yn ôl, ond meddylia di beth dw i newydd ei wneud i ti.”
I Ki WelBeibl 19:21  Felly dyma Eliseus yn mynd yn ei ôl. Lladdodd y ddau ych oedd ganddo, a defnyddio'r gêr a'r iau i wneud tân gyda nhw. Coginiodd y cig ar y tân, a dyma bobl y pentref i gyd yn cael bwyta. Yna dyma fe'n mynd ar ôl Elias, i fod yn was iddo.
Chapter 20
I Ki WelBeibl 20:1  Dyma Ben-hadad, brenin Syria, yn casglu ei fyddin i gyd. Roedd yna dri deg dau o frenhinoedd gydag e, gyda'u cerbydau a'u ceffylau. Aeth i warchae ar Samaria ac ymosod arni.
I Ki WelBeibl 20:2  A dyma fe'n anfon neges i'r ddinas at y Brenin Ahab.
I Ki WelBeibl 20:3  “Dyma mae Ben-hadad yn ei ddweud: ‘Fi piau dy arian di a dy aur di. Fi piau dy hoff wragedd di a dy blant di hefyd.’”
I Ki WelBeibl 20:4  A dyma frenin Israel yn ateb, “Iawn, fy mrenin, fy meistr! Ti sydd biau fi a phopeth sydd gen i.”
I Ki WelBeibl 20:5  Yna dyma'r negeswyr yn dod yn ôl ato eto a dweud, “Dyma mae Ben-hadad yn ei ddweud: ‘Dw i eisoes wedi dweud wrthot ti am roi dy arian, dy aur, dy wragedd a dy blant i mi.
I Ki WelBeibl 20:6  Tua'r adeg yma yfory dw i'n mynd i anfon fy ngweision atat ti, a byddan nhw'n chwilio drwy dy balas di a thai dy swyddogion, ac yn cymryd popeth gwerthfawr oddi arnat ti.’”
I Ki WelBeibl 20:7  Dyma frenin Israel yn galw holl arweinwyr y wlad at ei gilydd, a dweud, “Gwrandwch, mae'r dyn yma am greu helynt go iawn. Pan wnaeth e hawlio'r gwragedd a'r plant a'r holl arian a'r aur sydd gen i, wnes i ddim ei wrthod e.”
I Ki WelBeibl 20:8  A dyma'r arweinwyr a'r bobl yn dweud wrtho, “Paid gwrando arno! Paid cytuno.”
I Ki WelBeibl 20:9  Felly dyma Ahab yn dweud wrth negeswyr Ben-hadad, “Dwedwch wrth fy meistr, y brenin, ‘Dw i'n fodlon gwneud popeth wnest ti ofyn y tro cyntaf, ond alla i ddim cytuno i hyn.’” A dyma'r negeswyr yn mynd â'r ateb yn ôl i'w meistr.
I Ki WelBeibl 20:10  Yna dyma Ben-hadad yn anfon neges arall, “Boed i'r duwiau fy melltithio i, os bydd unrhyw beth ar ôl o Samaria ond llond dwrn o lwch i bob un o'r dynion sy'n fy nilyn i ei godi.”
I Ki WelBeibl 20:11  Ateb brenin Israel oedd, “Paid brolio wrth godi dy arfau; dim ond pan fyddi'n eu rhoi i lawr!”
I Ki WelBeibl 20:12  Roedd Ben-hadad yn diota yn ei babell gyda'r brenhinoedd eraill pan gafodd yr ateb yma. A dyma fe'n dweud wrth ei filwyr, “Paratowch i ymosod!” A dyma nhw'n paratoi i ymosod ar y ddinas.
I Ki WelBeibl 20:13  Yr un pryd, dyma broffwyd yn mynd i weld Ahab, brenin Israel, a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Wyt ti'n gweld y fyddin anferth yna? Heddiw dw i'n mynd i'w rhoi nhw'n dy law di, a byddi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”
I Ki WelBeibl 20:14  A dyma Ahab yn gofyn, “Sut?” “Drwy swyddogion ifanc y taleithiau,” meddai'r proffwyd. Yna dyma Ahab yn gofyn, “Pwy fydd yn ymosod gyntaf?” “Ti,” meddai'r proffwyd.
I Ki WelBeibl 20:15  Felly dyma Ahab yn casglu swyddogion ifainc y taleithiau at ei gilydd, ac roedd yna ddau gant tri deg dau ohonyn nhw. Wedyn dyma fe'n casglu byddin Israel, ac roedd yna saith mil ohonyn nhw.
I Ki WelBeibl 20:16  Dyma nhw'n mynd allan tua hanner dydd, gyda swyddogion ifanc y taleithiau yn eu harwain. Roedd Ben-hadad a'r tri deg dau brenin oedd gydag e wedi yfed eu hunain yn chwil yn eu pebyll. A dyma'i sgowtiaid yn dod a dweud wrtho, “Mae yna filwyr yn dod allan o Samaria.”
I Ki WelBeibl 20:17  Dyma nhw'n mynd allan tua hanner dydd, gyda swyddogion ifanc y taleithiau yn eu harwain. Roedd Ben-hadad a'r tri deg dau brenin oedd gydag e wedi yfed eu hunain yn chwil yn eu pebyll. A dyma'i sgowtiaid yn dod a dweud wrtho, “Mae yna filwyr yn dod allan o Samaria.”
I Ki WelBeibl 20:18  Dyma Ben-hadad yn dweud: “Daliwch nhw'n fyw – sdim ots os ydyn nhw am wneud heddwch neu am ymladd.”
I Ki WelBeibl 20:19  Swyddogion ifanc y taleithiau oedd yn arwain byddin Israel allan.
I Ki WelBeibl 20:20  A dyma nhw'n taro milwyr y gelyn nes i'r Syriaid orfod ffoi. Aeth Israel er eu holau, ond llwyddodd Ben-hadad i ddianc ar gefn ceffyl gyda'i farchogion.
I Ki WelBeibl 20:21  A dyna sut wnaeth brenin Israel orchfygu holl gerbydau a marchogion y gelyn. Cafodd y Syriaid eu trechu'n llwyr.
I Ki WelBeibl 20:22  Yna dyma'r proffwyd yn mynd at frenin Israel a dweud wrtho, “Rhaid i ti gryfhau'r amddiffynfeydd, a meddwl yn ofalus beth i'w wneud. Achos yn y gwanwyn bydd brenin Syria yn ymosod eto.”
I Ki WelBeibl 20:23  Dyma swyddogion brenin Syria yn dweud wrtho, “Duw'r bryniau ydy eu duw nhw, a dyna pam wnaethon nhw'n curo ni. Os gwnawn ni eu hymladd nhw ar y gwastadedd byddwn ni'n siŵr o ennill.
I Ki WelBeibl 20:24  Dylen ni gael capteniaid milwrol i arwain y fyddin yn lle'r brenhinoedd yma.
I Ki WelBeibl 20:25  Yna casglu byddin at ei gilydd yn lle'r un wnest ti ei cholli, gyda'r un faint o geffylau a cherbydau. Os gwnawn ni i ymladd gyda nhw ar y gwastadedd, byddwn ni'n siŵr o ennill.” A dyma Ben-hadad yn gwneud beth roedden nhw'n ei awgrymu.
I Ki WelBeibl 20:26  Felly yn y gwanwyn dyma Ben-hadad yn casglu byddin Syria at ei gilydd, a mynd i ymladd yn erbyn Israel yn Affec.
I Ki WelBeibl 20:27  Roedd byddin Israel eisoes wedi'i galw allan ac wedi derbyn eu cyflenwadau, a dyma nhw'n mynd i ryfel. Ond roedd byddin Israel, gyferbyn â'r Syriaid, yn edrych fel dwy ddiadell fach o eifr o'i chymharu â byddin Syria oedd yn llenwi'r wlad!
I Ki WelBeibl 20:28  Yna dyma'r proffwyd yn mynd i weld brenin Israel, a dweud wrtho: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am fod Syria wedi dweud mai Duw'r bryniau ydy'r ARGLWYDD, dim Duw'r dyffrynnoedd, dw i'n mynd i roi'r fyddin anferth yma yn dy law di. Byddi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”
I Ki WelBeibl 20:29  Bu'r ddwy fyddin yn gwersylla gyferbyn â'i gilydd am saith diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod dyma'r ymladd yn dechrau. Lladdodd milwyr Israel gan mil o wŷr traed Syria mewn un diwrnod!
I Ki WelBeibl 20:30  Dyma'r gweddill yn ffoi i Affec, ond syrthiodd wal y ddinas a lladd dau ddeg saith mil ohonyn nhw. Roedd Ben-hadad wedi dianc i'r ddinas, ac yn cuddio mewn ystafell fewnol yno.
I Ki WelBeibl 20:31  A dyma'i swyddogion yn dweud wrtho, “Gwranda, dŷn ni wedi clywed fod brenhinoedd Israel yn garedig. Gad i ni wisgo sachliain, rhoi rhaffau am ein gyddfau a mynd allan at frenin Israel. Falle y bydd e'n arbed dy fywyd di.”
I Ki WelBeibl 20:32  Felly dyma nhw'n gwisgo sachliain a rhoi rhaffau am eu gyddfau a mynd allan at frenin Israel, a dweud, “Mae dy was, Ben-hadad yn gofyn, ‘Plîs, gad i mi fyw.’” “Beth? Ydy e'n dal yn fyw?” meddai brenin Israel, “Mae e fel brawd i mi.”
I Ki WelBeibl 20:33  Roedd y dynion yn cymryd hyn fel arwydd da, a dyma nhw'n ymateb yn syth, “Ie, dy frawd di ydy Ben-hadad.” Felly dyma Ahab yn dweud, “Ewch i'w nôl e.” A phan ddaeth Ben-hadad dyma Ahab yn ei dderbyn i'w gerbyd.
I Ki WelBeibl 20:34  Dyma Ben-hadad yn dweud wrtho, “Dw i am roi'r trefi wnaeth fy nhad eu cymryd oddi ar dy dad di yn ôl i ti. A cei di sefydlu canolfannau marchnata yn Damascus, fel roedd fy nhad i wedi gwneud yn Samaria.” A dyma Ahab yn dweud, “Gwna i dy ollwng di'n rhydd ar yr amodau yma.” Felly dyma'r ddau'n gwneud cytundeb heddwch, a dyma Ben-hadad yn cael mynd yn rhydd.
I Ki WelBeibl 20:35  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth un oedd yn aelod o urdd o broffwydi i ddweud wrth un arall, “Taro fi!” Ond dyma'r llall yn gwrthod.
I Ki WelBeibl 20:36  Felly meddai wrtho, “Am i ti wrthod gwrando ar yr ARGLWYDD, pan fyddi di'n fy ngadael i bydd llew yn ymosod arnat ti.” Ac wrth iddo fynd oddi wrtho dyma lew yn ymosod arno a'i ladd.
I Ki WelBeibl 20:37  Yna dyma'r proffwyd yn dweud wrth ddyn arall, “Taro fi!” A dyma hwnnw'n taro'r proffwyd yn galed a'i anafu.
I Ki WelBeibl 20:38  Yna aeth y proffwyd i ddisgwyl ar ochr y ffordd am y brenin. Roedd wedi cuddio ei wyneb rhag iddo gael ei nabod.
I Ki WelBeibl 20:39  Pan ddaeth y brenin heibio, dyma'r proffwyd yn galw arno. “Rôn i yng nghanol y frwydr a dyma rywun yn rhoi carcharor i mi ofalu amdano. ‘Gwylia hwn!’ meddai wrtho i, ‘Os bydd e'n dianc byddi di'n talu â'th fywyd, neu dalu dirwy o dri deg pum cilogram o arian.’
I Ki WelBeibl 20:40  Ond tra oedd dy was yn brysur yn gwneud hyn a'r llall, dyma'r carcharor yn diflannu.” Dyma'r brenin yn ei ateb, “Ti wedi dweud dy hun beth ydy'r gosb, ac felly bydd hi.”
I Ki WelBeibl 20:41  Ar unwaith dyma'r proffwyd yn dangos ei wyneb, a dyma frenin Israel yn sylweddoli ei fod yn un o'r proffwydi.
I Ki WelBeibl 20:42  Yna dyma'r proffwyd yn dweud wrth y brenin, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am i ti ollwng yn rhydd y dyn roeddwn i wedi dweud oedd i farw, byddi di'n marw yn ei le, a bydd dy bobl di yn dioddef yn lle ei bobl e.’”
I Ki WelBeibl 20:43  Aeth brenin Israel yn ôl adre i Samaria yn sarrug a blin.
Chapter 21
I Ki WelBeibl 21:1  Wedyn dyma hyn yn digwydd: Roedd gan ddyn o'r enw Naboth, o Jesreel, winllan reit wrth ymyl palas Ahab, brenin Samaria.
I Ki WelBeibl 21:2  A dyma Ahab yn gwneud cynnig i Naboth, “Rho dy winllan i mi, i mi gael ei throi hi'n ardd lysiau gan ei bod hi reit wrth ymyl y palas. Gwna i roi gwinllan well i ti'n ei lle hi. Neu, os wyt ti eisiau, gwna i dalu pris teg i ti amdani.”
I Ki WelBeibl 21:3  Ond dyma Naboth yn gwrthod, “Na, dim ar unrhyw gyfri! Mae'r tir wedi perthyn i'r teulu ers cenedlaethau; allwn i byth ei rhoi hi i ti.”
I Ki WelBeibl 21:4  Felly dyma Ahab yn mynd yn ôl i'r palas yn sarrug a blin am fod Naboth wedi gwrthod rhoi'r winllan iddo. Dyma fe'n gorwedd ar ei wely wedi pwdu, a gwrthod bwyta.
I Ki WelBeibl 21:5  Yna dyma Jesebel, ei wraig, yn dod ato a gofyn, “Pam wyt ti mewn hwyliau mor ddrwg ac yn gwrthod bwyta?”
I Ki WelBeibl 21:6  A dyma fe'n dweud, “Gwnes i ofyn i Naboth werthu ei winllan i mi; neu os oedd yn well ganddo, gwnes i gynnig ei chyfnewid hi am winllan arall. Ond mae e wedi gwrthod rhoi'r winllan i mi.”
I Ki WelBeibl 21:7  A dyma Jesebel yn dweud, “Wyt ti'n frenin Israel neu ddim? Tyrd, bwyta rywbeth. Cod dy galon! Gwna i gael gafael ar winllan Naboth i ti.”
I Ki WelBeibl 21:8  Aeth ati i ysgrifennu llythyrau yn enw Ahab, rhoi sêl y brenin arnyn nhw, a'u hanfon at yr arweinwyr a'r bobl bwysig oedd yn byw yn yr un gymuned â Naboth.
I Ki WelBeibl 21:9  Dyma ysgrifennodd hi: “Cyhoeddwch ddiwrnod o ymprydio, a rhoi Naboth i eistedd mewn lle amlwg o flaen pawb.
I Ki WelBeibl 21:10  Yna ffeindiwch ddau ddyn drwg a'u gosod nhw i eistedd gyferbyn ag e, a'u cael nhw i gyhuddo Naboth yn gyhoeddus o fod wedi melltithio Duw a'r brenin. Wedyn ewch ag e allan a thaflu cerrig ato nes bydd wedi marw.”
I Ki WelBeibl 21:11  Dyma arweinwyr a phobl bwysig y gymuned yn gwneud yn union fel roedd Jesebel wedi dweud yn y llythyrau.
I Ki WelBeibl 21:12  Dyma nhw'n cyhoeddi diwrnod o ympryd, ac yn rhoi Naboth mewn lle amlwg o flaen y bobl.
I Ki WelBeibl 21:13  Dyma ddau ddyn drwg yn eistedd gyferbyn â Naboth, a'i gyhuddo o flaen pawb, a dweud, “Mae Naboth wedi melltithio Duw a'r brenin!” Felly dyma nhw'n mynd â Naboth allan o'r dre a thaflu cerrig ato nes roedd wedi marw.
I Ki WelBeibl 21:14  Yna, dyma nhw'n anfon neges at Jesebel, “Mae Naboth wedi cael ei ladd gyda cherrig.”
I Ki WelBeibl 21:15  Y funud y clywodd Jesebel fod Naboth wedi marw, dyma hi'n dweud wrth Ahab, “Cod, cymer y winllan roedd Naboth o Jesreel wedi gwrthod ei gwerthu i ti. Dydy Naboth ddim yn fyw; mae e wedi marw.”
I Ki WelBeibl 21:16  Pan glywodd Ahab fod Naboth wedi marw, dyma fe'n mynd i lawr i'r winllan i'w hawlio hi iddo'i hun.
I Ki WelBeibl 21:18  “Dos i gyfarfod Ahab, brenin Israel, yn Samaria. Cei hyd iddo yng ngwinllan Naboth. Mae wedi mynd yno i hawlio'r winllan iddo'i hun.
I Ki WelBeibl 21:19  Dwed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Ar ôl llofruddio'r dyn, wyt ti hefyd am ddwyn ei eiddo?’ Dwed wrtho hefyd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Lle bu'r cŵn yn llyfu gwaed Naboth, bydd cŵn yn llyfu dy waed di hefyd – ie, ti!’”
I Ki WelBeibl 21:20  Dyma Ahab yn dweud wrth Elias, “Felly, fy ngelyn i, ti wedi dod o hyd i mi!” A dyma Elias yn ateb, “Ydw, dw i wedi dod o hyd i ti. Ti'n benderfynol o wneud pethau sy'n ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD!
I Ki WelBeibl 21:21  Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n mynd i wneud drwg i ti, a dod â dy linach i ben. Bydda i'n cael gwared â phob dyn a bachgen yn Israel, sy'n perthyn i Ahab, y caeth a'r rhydd.
I Ki WelBeibl 21:22  Bydda i'n gwneud yr un peth i dy linach di ag a wnes i i Jeroboam fab Nebat a Baasha fab Achïa am dy fod ti wedi fy ngwylltio i a gwneud i Israel bechu.’
I Ki WelBeibl 21:23  A dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jesebel, ‘Bydd cŵn yn bwyta Jesebel o fewn waliau Jesreel.’
I Ki WelBeibl 21:24  ‘Bydd pobl Ahab sy'n marw yn y ddinas yn cael eu bwyta gan y cŵn. Bydd y rhai sy'n marw yng nghefn gwlad yn cael eu bwyta gan yr adar!’”
I Ki WelBeibl 21:25  (Fuodd yna neb tebyg i Ahab, oedd mor benderfynol o wneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; ac roedd Jesebel ei wraig yn ei annog e.
I Ki WelBeibl 21:26  Roedd yn gwneud pethau hollol afiach, yn addoli eilunod diwerth yn union yr un fath â'r Amoriaid, y bobl roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.)
I Ki WelBeibl 21:27  Pan glywodd Ahab neges Elias, dyma fe'n rhwygo'i ddillad a gwisgo sachliain, a mynd heb fwyd. Roedd yn cysgu mewn sachliain ac yn cerdded o gwmpas yn isel ei ysbryd.
I Ki WelBeibl 21:29  “Wyt ti wedi gweld fel mae Ahab wedi plygu mewn cywilydd o mlaen i? Am ei fod yn edifar, wna i ddim dod â'r drwg yn ystod ei fywyd e. Bydda i'n dinistrio'i linach pan fydd ei fab yn frenin.”
Chapter 22
I Ki WelBeibl 22:1  Aeth tair blynedd heibio heb i Israel a Syria fynd i ryfel yn erbyn ei gilydd.
I Ki WelBeibl 22:2  Yn ystod y drydedd flwyddyn aeth Jehosaffat, brenin Jwda, i ymweld â brenin Israel.
I Ki WelBeibl 22:3  Tra oedd e yno, dyma frenin Israel yn dweud wrth ei swyddogion, “Dych chi'n gwybod yn iawn mai ni sydd biau Ramoth-gilead, ond dŷn ni wedi gwneud dim i'w chymryd yn ôl oddi ar frenin Syria.”
I Ki WelBeibl 22:4  A dyma fe'n gofyn i Jehosaffat, “Ddoi di gyda mi i ymladd am Ramoth-gilead?” Atebodd Jehosaffat, “Dw i gyda ti, a bydd fy myddin i gyda dy fyddin di!”
I Ki WelBeibl 22:5  Yna dyma Jehosaffat yn ychwanegu, “Ond gad i ni'n gyntaf holi beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.”
I Ki WelBeibl 22:6  Felly dyma frenin Israel yn casglu'r proffwydi at ei gilydd – roedd tua pedwar cant ohonyn nhw. Gofynnodd iddyn nhw, “Ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma nhw'n ateb, “Dos! Bydd y Meistr yn rhoi buddugoliaeth i'r brenin!”
I Ki WelBeibl 22:7  Ond dyma Jehosaffat yn gofyn, “Oes yna ddim un o broffwydi'r ARGLWYDD yma, i ni ofyn iddo fe hefyd?”
I Ki WelBeibl 22:8  A dyma frenin Israel yn ateb, “Oes, mae yna un dyn gallwn holi'r ARGLWYDD drwyddo. Ond dw i'n ei gasáu e, achos dydy e byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg. Ei enw e ydy Michea fab Imla.” “Paid siarad fel yna,” meddai Jehosaffat.
I Ki WelBeibl 22:9  Felly dyma frenin Israel yn galw swyddog draw a dweud wrtho, “Brysia! Tyrd â Michea fab Imla yma.”
I Ki WelBeibl 22:10  Roedd brenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn eu gwisgoedd brenhinol yn eistedd ar orseddau yn y sgwâr wrth y giât i ddinas Samaria. O'u blaenau roedd yr holl broffwydi wrthi'n proffwydo.
I Ki WelBeibl 22:11  Dyma Sedeceia fab Cenaana yn gwneud cyrn haearn. A dyma fe'n cyhoeddi, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di'n cornio'r Syriaid gyda'r rhain, ac yn eu difa nhw.’”
I Ki WelBeibl 22:12  Ac roedd y proffwydi eraill i gyd yn dweud yr un fath. “Dos i ymosod ar Ramoth-gilead. Byddi'n ennill y frwydr! Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i ti.”
I Ki WelBeibl 22:13  Dyma'r un oedd wedi mynd i nôl Michea yn dweud wrtho, “Gwranda, mae'r proffwydi i gyd yn cytuno fod y brenin yn mynd i lwyddo. Dwed di'r un peth, a proffwyda lwyddiant iddo.”
I Ki WelBeibl 22:14  Ond dyma Michea'n ei ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, fydda i ond yn dweud beth fydd yr ARGLWYDD yn ei ddweud wrtho i.”
I Ki WelBeibl 22:15  Pan ddaeth e at y brenin dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Michea, ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma fe'n ateb, “Dos di! Byddi'n llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i'r brenin.”
I Ki WelBeibl 22:16  Ond dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Faint o weithiau ydw i wedi gwneud i ti addo o flaen yr ARGLWYDD y byddi'n dweud dim byd ond y gwir wrtho i?”
I Ki WelBeibl 22:17  A dyma Michea'n dweud, “Gwelais Israel gyfan ar wasgar dros y bryniau, fel defaid heb fugail. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Does ganddyn nhw ddim meistri. Dylen nhw i gyd fynd adre'n dawel.’”
I Ki WelBeibl 22:18  A dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Wnes i ddim dweud wrthot ti? Dydy hwn byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg.”
I Ki WelBeibl 22:19  A dyma Michea'n dweud eto, “Felly, gwrando ar neges yr ARGLWYDD. Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, a'i fyddin o angylion yn sefyll bob ochr iddo.
I Ki WelBeibl 22:20  A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn, ‘Pwy sy'n gallu twyllo Ahab, a gwneud iddo ymosod ar Ramoth-gilead a chael ei ladd yno?’ Ac roedd pawb yn cynnig syniadau gwahanol.
I Ki WelBeibl 22:21  Ond yna dyma ysbryd yn dod a sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a dweud, ‘Gwna i ei dwyllo fe.’ A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, ‘Sut?’
I Ki WelBeibl 22:22  ‘Gwna i fynd allan fel ysbryd celwyddog a siarad drwy ei broffwydi e,’ meddai. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dos i wneud hynny. Byddi'n llwyddo i'w dwyllo.’
I Ki WelBeibl 22:23  Felly, wyt ti'n gweld? Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud i dy broffwydi di i gyd ddweud celwydd. Mae'r ARGLWYDD am wneud drwg i ti.”
I Ki WelBeibl 22:24  Yna dyma Sedeceia fab Cenaana yn camu ymlaen a rhoi dyrnod i Michea ar ei ên, a gofyn, “Sut wnaeth Ysbryd yr ARGLWYDD fy ngadael i a dechrau siarad â ti?”
I Ki WelBeibl 22:25  A dyma Michea'n ateb, “Cei weld ar y diwrnod hwnnw pan fyddi di'n chwilio am ystafell o'r golwg yn rhywle i guddio ynddi!”
I Ki WelBeibl 22:26  Yna dyma frenin Israel yn dweud, “Arestiwch Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y ddinas, a Joas fy mab.
I Ki WelBeibl 22:27  Dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae'r brenin yn dweud, “Cadwch hwn yn y carchar, a rhoi dim byd ond ychydig fara a dŵr iddo nes bydda i wedi dod yn ôl yn saff.”’”
I Ki WelBeibl 22:28  A dyma Michea'n dweud, “Os ddoi di yn ôl yn saff, dydy'r ARGLWYDD ddim wedi siarad trwof fi.” A dyma fe'n dweud wrth y bobl oedd yno, “Cofiwch chi beth ddwedais i!”
I Ki WelBeibl 22:29  Dyma frenin Israel a Jehosaffat, brenin Jwda, yn mynd i ymosod ar Ramoth-gilead.
I Ki WelBeibl 22:30  A dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Dw i'n mynd i wisgo dillad gwahanol i fynd i ryfel, ond gwisga di dy ddillad brenhinol.” Felly dyma frenin Israel yn newid ei ddillad a mynd i'r frwydr.
I Ki WelBeibl 22:31  Roedd brenin Syria wedi rhoi gorchymyn i'r tri deg dau capten oedd ganddo ar ei gerbydau, “Peidiwch poeni ymladd gyda neb, yn filwyr cyffredin na swyddogion, dim ond gyda brenin Israel.”
I Ki WelBeibl 22:32  Pan welodd y capteiniaid Jehosaffat dyma nhw'n dweud, “Mae'n rhaid mai fe ydy brenin Israel!” Felly dyma nhw'n troi i fynd ar ei ôl. Ond wrth i Jehosaffat weiddi
I Ki WelBeibl 22:33  dyma nhw'n gweld mai nid brenin Israel oedd e, a dyma nhw'n gadael llonydd iddo.
I Ki WelBeibl 22:34  Yna dyma rhyw filwr yn digwydd saethu â'i fwa ar hap a tharo brenin Israel rhwng dau ddarn o'i arfwisg. A dyma'r brenin yn dweud wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro yn ôl! Dos â fi allan o'r frwydr. Dw i wedi cael fy anafu!”
I Ki WelBeibl 22:35  Aeth y frwydr yn ei blaen drwy'r dydd. Roedd y Brenin Ahab yn cael ei ddal i fyny yn ei gerbyd yn gwylio'r Syriaid. Yna gyda'r nos dyma fe'n marw. Roedd y gwaed o'i anaf wedi rhedeg dros lawr y cerbyd.
I Ki WelBeibl 22:36  Wrth i'r haul fachlud dyma waedd yn lledu drwy rengoedd y fyddin, “Mae ar ben! Pawb am adre i'w dref a'i ardal ei hun.”
I Ki WelBeibl 22:37  Roedd y brenin wedi marw, a dyma nhw'n mynd ag e i Samaria, a'i gladdu yno.
I Ki WelBeibl 22:38  Dyma nhw'n golchi'r cerbyd wrth bwll Samaria (lle roedd puteiniaid yn arfer ymolchi). A daeth cŵn yno i lyfu'r gwaed, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
I Ki WelBeibl 22:39  Mae gweddill hanes Ahab, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni (hanes y palas ifori a'r holl drefi wnaeth e adeiladu) i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
I Ki WelBeibl 22:40  Bu farw Ahab, a daeth ei fab Ahaseia yn frenin yn ei le.
I Ki WelBeibl 22:41  Daeth Jehosaffat mab Asa yn frenin ar Jwda pan oedd Ahab wedi bod yn frenin Israel ers pedair blynedd.
I Ki WelBeibl 22:42  Roedd Jehosaffat yn dri deg pump pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg pump o flynyddoedd. Aswba, merch Shilchi oedd ei fam.
I Ki WelBeibl 22:43  Fel Asa, ei dad, gwnaeth Jehosaffat beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.
I Ki WelBeibl 22:44  Ac roedd Jehosaffat wedi gwneud cytundeb heddwch gyda brenin Israel.
I Ki WelBeibl 22:45  Mae gweddill hanes Jehosaffat – y cwbl wnaeth e lwyddo i'w wneud a'r rhyfeloedd wnaeth e eu hymladd – i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
I Ki WelBeibl 22:46  Roedd e hefyd wedi gyrru allan o'r wlad weddill y puteiniaid teml oedd yn dal yno yng nghyfnod ei dad Asa.
I Ki WelBeibl 22:47  Doedd gan Edom ddim brenin ar y pryd, dim ond rhaglaw.
I Ki WelBeibl 22:48  Adeiladodd Jehosaffat longau masnach mawr i fynd i Offir am aur; ond wnaethon nhw cyrraedd am eu bod wedi'u dryllio yn Etsion-geber.
I Ki WelBeibl 22:49  Roedd Ahaseia, mab Ahab, wedi awgrymu i Jehosaffat, “Gad i'n gweision ni forio gyda'i gilydd ar y llongau.” Ond roedd Jehosaffat wedi gwrthod.
I Ki WelBeibl 22:50  Pan fuodd Jehosaffat farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le.
I Ki WelBeibl 22:51  Roedd Jehosaffat wedi bod yn frenin ar Jwda am un deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Ahaseia mab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria. Bu'n frenin ar Israel am ddwy flynedd.
I Ki WelBeibl 22:52  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac ymddwyn fel ei dad a'i fam, ac fel Jeroboam fab Nebat oedd wedi achosi i bobl Israel bechu.
I Ki WelBeibl 22:53  Roedd yn addoli Baal ac yn ymgrymu iddo. Roedd yn gwylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn union fel gwnaeth ei dad.