Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
MARK
Up
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16
Chapter 1
Mark WelBeibl 1:1  Mae'r newyddion da am Iesu y Meseia, Mab Duw yn dechrau fel hyn:
Mark WelBeibl 1:2  Mae'n dweud yn llyfr y proffwyd Eseia: “Edrych – dw i'n anfon fy negesydd o dy flaen di, i baratoi'r ffordd i ti” –
Mark WelBeibl 1:3  “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i'r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau'n syth iddo!’”
Mark WelBeibl 1:4  Dyna beth wnaeth Ioan – roedd yn bedyddio pobl yn yr anialwch ac yn cyhoeddi fod hyn yn arwydd eu bod yn troi cefn ar eu pechodau ac yn derbyn maddeuant gan Dduw.
Mark WelBeibl 1:5  Roedd pobl cefn gwlad Jwdea a dinas Jerwsalem yn heidio allan ato. Pan oedden nhw'n cyfaddef eu pechodau roedd yn eu bedyddio nhw yn afon Iorddonen.
Mark WelBeibl 1:6  Roedd Ioan yn gwisgo dillad o flew camel gyda belt lledr am ei ganol, ac roedd yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt.
Mark WelBeibl 1:7  Dyma oedd ei neges: “Mae un llawer mwy grymus na fi yn dod ar fy ôl i – fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas yn plygu i lawr i ddatod carrai ei sandalau.
Mark WelBeibl 1:8  Dw i'n defnyddio dŵr i'ch bedyddio chi, ond bydd hwn yn eich bedyddio chi â'r Ysbryd Glân.”
Mark WelBeibl 1:9  Tua'r adeg yna daeth Iesu o Nasareth, Galilea i gael ei fedyddio gan Ioan yn yr Iorddonen.
Mark WelBeibl 1:10  Yr eiliad y daeth Iesu allan o'r dŵr, gwelodd yr awyr yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd Glân yn disgyn arno fel colomen.
Mark WelBeibl 1:11  A dyma lais o'r nefoedd yn dweud: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio i'n llwyr.”
Mark WelBeibl 1:12  Yn syth wedyn dyma'r Ysbryd yn gyrru Iesu allan i'r anialwch.
Mark WelBeibl 1:13  Arhosodd yno am bedwar deg diwrnod, yn cael ei demtio gan Satan. Roedd anifeiliaid gwyllt o'i gwmpas, ond roedd yno angylion yn gofalu amdano.
Mark WelBeibl 1:14  Ar ôl i Ioan gael ei roi yn y carchar aeth Iesu i Galilea a chyhoeddi newyddion da Duw.
Mark WelBeibl 1:15  “Mae'n amser!” meddai. “Mae'r foment wedi dod! Mae Duw yn dod i deyrnasu! Trowch gefn ar bechod a chredu'r newyddion da!”
Mark WelBeibl 1:16  Pan oedd Iesu'n cerdded wrth Lyn Galilea, gwelodd ddau frawd, Simon ac Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi'n taflu rhwyd i'r llyn.
Mark WelBeibl 1:17  “Dewch,” meddai Iesu, “dilynwch fi, a gwna i chi'n bysgotwyr sy'n dal pobl yn lle pysgod.”
Mark WelBeibl 1:18  Heb oedi dyma'r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl.
Mark WelBeibl 1:19  Ychydig yn nes ymlaen gwelodd Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw wrthi'n trwsio eu rhwydi yn eu cwch.
Mark WelBeibl 1:20  Dyma Iesu'n eu galw nhw hefyd, a dyma nhw'n gadael eu tad Sebedeus gyda'r gweision yn y cwch a dechrau dilyn Iesu.
Mark WelBeibl 1:21  Wedyn dyma nhw'n mynd i Capernaum. Ar y dydd Saboth (pan oedd yr Iddewon yn addoli Duw), aeth Iesu i'r synagog a dechrau dysgu'r bobl.
Mark WelBeibl 1:22  Roedd pawb yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu. Roedd yn wahanol i'r arbenigwyr yn y Gyfraith – roedd ganddo awdurdod oedd yn gwneud i bobl wrando arno.
Mark WelBeibl 1:23  Yna'n sydyn dyma ryw ddyn oedd yn y synagog yn rhoi sgrech uchel. (Roedd y dyn wedi'i feddiannu gan ysbryd drwg.)
Mark WelBeibl 1:24  “Gad di lonydd i ni, Iesu o Nasareth. Rwyt ti yma i'n dinistrio ni. Dw i'n gwybod pwy wyt ti – Un Sanctaidd Duw!”
Mark WelBeibl 1:25  “Bydd ddistaw!” meddai Iesu'n ddig. “Tyrd allan ohono!”
Mark WelBeibl 1:26  Dyma'r ysbryd drwg yn gwneud i'r dyn ysgwyd yn ffyrnig, yna daeth allan ohono gyda sgrech uchel.
Mark WelBeibl 1:27  Roedd pawb wedi cael sioc, ac yn gofyn i'w gilydd, “Beth sy'n mynd ymlaen? Mae'r hyn mae'n ei ddysgu yn newydd – mae ganddo'r fath awdurdod! Mae hyd yn oed ysbrydion drwg yn gorfod ufuddhau iddo.”
Mark WelBeibl 1:28  Roedd y sôn amdano yn lledu fel tân gwyllt drwy holl ardal Galilea.
Mark WelBeibl 1:29  Yn syth ar ôl gadael y synagog, dyma nhw'n mynd i gartref Simon ac Andreas, gyda Iago ac Ioan.
Mark WelBeibl 1:30  Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn ei gwely yn dioddef o wres uchel. Dyma nhw'n dweud wrth Iesu,
Mark WelBeibl 1:31  ac aeth e ati a gafael yn ei llaw, a'i chodi ar ei thraed. Diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi'n codi a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw.
Mark WelBeibl 1:32  Wrth i'r haul fachlud y noson honno dechreuodd pobl ddod at Iesu gyda rhai oedd yn sâl neu wedi'u meddiannu gan gythreuliaid.
Mark WelBeibl 1:34  Dyma Iesu'n iacháu nifer fawr o bobl oedd yn dioddef o wahanol afiechydon. Bwriodd gythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedd y cythreuliaid yn gwybod yn iawn pwy oedd Iesu, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud gair.
Mark WelBeibl 1:35  Y bore wedyn cododd Iesu'n gynnar iawn. Roedd hi'n dal yn dywyll pan adawodd y tŷ, ac aeth i le unig i weddïo.
Mark WelBeibl 1:37  ac ar ôl dod o hyd iddo dyma nhw'n dweud yn frwd: “Mae pawb yn edrych amdanat ti!”
Mark WelBeibl 1:38  Atebodd Iesu, “Gadewch i ni fynd yn ein blaenau i'r pentrefi nesa, i mi gael cyhoeddi'r newyddion da yno hefyd. Dyna pam dw i yma.”
Mark WelBeibl 1:39  Felly teithiodd o gwmpas Galilea, yn pregethu yn y synagogau a bwrw cythreuliaid allan o bobl.
Mark WelBeibl 1:40  Dyma ddyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod ato ac yn pledio ar ei liniau o'i flaen, “Gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.”
Mark WelBeibl 1:41  Yn llawn teimlad, dyma Iesu yn estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân!”
Mark WelBeibl 1:42  Dyma'r gwahanglwyf yn diflannu y foment honno. Cafodd y dyn ei iacháu.
Mark WelBeibl 1:43  Dyma Iesu'n rhybuddio'r dyn yn llym cyn gadael iddo fynd:
Mark WelBeibl 1:44  “Gwna'n siŵr dy fod ti ddim yn dweud wrth unrhyw un beth sydd wedi digwydd. Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad a chyflwyno beth ddwedodd Moses y dylet ei gyflwyno, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.”
Mark WelBeibl 1:45  Ond dyma'r dyn yn dechrau mynd o gwmpas yn dweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd. O ganlyniad, doedd Iesu ddim yn gallu mynd a dod yn agored mewn unrhyw dref. Roedd yn aros allan mewn lleoedd unig. Ond roedd pobl yn dal i ddod ato o bob cyfeiriad!
Chapter 2
Mark WelBeibl 2:1  Ychydig ddyddiau wedyn, aeth Iesu yn ôl i Capernaum. Aeth y si o gwmpas ei fod wedi dod adre,
Mark WelBeibl 2:2  a daeth tyrfa mor fawr i'w weld nes bod dim lle hyd yn oed i sefyll y tu allan i'r drws. Dyma Iesu'n cyhoeddi neges Duw iddyn nhw.
Mark WelBeibl 2:3  Yna daeth rhyw bobl â dyn oedd wedi'i barlysu ato. Roedd pedwar yn ei gario,
Mark WelBeibl 2:4  ond yn methu mynd yn agos at Iesu am fod yno gymaint o dyrfa. Felly dyma nhw'n torri twll yn y to uwch ei ben, a gollwng y dyn i lawr ar y fatras oedd yn gorwedd arni.
Mark WelBeibl 2:5  Pan welodd Iesu'r ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi'i barlysu, “Ffrind, mae dy bechodau wedi'u maddau.”
Mark WelBeibl 2:6  Roedd rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno. Yr hyn oedd yn mynd drwy'u meddyliau nhw oedd,
Mark WelBeibl 2:7  “Sut mae'n gallu dweud y fath beth? Cabledd ydy dweud peth felly! Duw ydy'r unig un sy'n gallu maddau pechodau!”
Mark WelBeibl 2:8  Roedd Iesu'n gwybod yn iawn mai dyna oedden nhw'n ei feddwl, ac meddai wrthyn nhw, “Pam dych chi'n meddwl mod i'n cablu?
Mark WelBeibl 2:9  Ydy'n haws dweud wrth y dyn ‘Mae dy bechodau wedi'u maddau,’ neu ‘Cod ar dy draed, cymer dy fatras a cherdda’?
Mark WelBeibl 2:10  Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear!” A dyma Iesu'n troi at y dyn oedd wedi'i barlysu, a dweud wrtho,
Mark WelBeibl 2:11  “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.”
Mark WelBeibl 2:12  A dyna'n union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed yn y fan a'r lle, cymryd ei fatras, a cherdded allan o flaen pawb. Roedd pawb wedi'u syfrdanu'n llwyr, ac yn moli Duw. “Dŷn ni erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn!” medden nhw.
Mark WelBeibl 2:13  Aeth Iesu allan at y llyn unwaith eto. Daeth tyrfa fawr o bobl ato, ac roedd yn eu dysgu.
Mark WelBeibl 2:14  Yna wrth fynd yn ei flaen, gwelodd Lefi fab Alffeus yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; a chododd Lefi ar unwaith a mynd ar ei ôl.
Mark WelBeibl 2:15  Yn nes ymlaen aeth Iesu a'i ddisgyblion am bryd o fwyd i dŷ Lefi. Roedd criw mawr o'r rhai oedd yn casglu trethi i Rufain yn y parti hefyd, a phobl eraill roedd y Phariseaid yn eu hystyried yn ‛bechaduriaid‛. (Pobl felly oedd llawer o'r rhai oedd yn dilyn Iesu.)
Mark WelBeibl 2:16  Wrth iddyn nhw ei weld e'n bwyta gyda ‛pechaduriaid‛ a chasglwyr trethi, dyma rai o'r Phariseaid oedd yn arbenigwyr yn y Gyfraith yn gofyn i'w ddisgyblion: “Pam mae e'n bwyta gyda'r bradwyr sy'n casglu trethi i Rufain, a phobl eraill sy'n ddim byd ond ‛pechaduriaid‛?”
Mark WelBeibl 2:17  Clywodd Iesu hyn, a dwedodd wrthyn nhw, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy'n sâl. Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim y rhai sy'n meddwl eu bod nhw heb fai.”
Mark WelBeibl 2:18  Roedd disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio (hynny ydy, peidio bwyta am gyfnod er mwyn ceisio canolbwyntio'n llwyr ar Dduw). Felly dyma rhyw bobl yn gofyn i Iesu, “Mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio, ond dydy dy ddisgyblion di ddim. Pam?”
Mark WelBeibl 2:19  Atebodd Iesu nhw, “Dydy pobl ddim yn mynd i wledd briodas i ymprydio! Maen nhw yno i ddathlu gyda'r priodfab. Maen nhw yno i fwynhau eu hunain!
Mark WelBeibl 2:20  Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhw'n ymprydio bryd hynny.
Mark WelBeibl 2:21  “Does neb yn trwsio hen ddilledyn gyda chlwt o frethyn newydd sydd heb shrincio. Byddai'r brethyn newydd yn tynnu ar yr hen ac yn achosi rhwyg gwaeth.
Mark WelBeibl 2:22  A does neb yn tywallt gwin sydd heb aeddfedu i hen boteli crwyn. Byddai'r crwyn yn byrstio wrth i'r gwin aeddfedu, a'r poteli a'r gwin yn cael eu difetha. Na, rhaid defnyddio poteli crwyn newydd i'w ddal.”
Mark WelBeibl 2:23  Roedd Iesu'n croesi drwy ganol caeau ŷd ryw ddydd Saboth, a dyma'i ddisgyblion yn dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd.
Mark WelBeibl 2:24  “Edrych!” meddai'r Phariseaid, “Pam mae dy ddisgyblion yn torri rheolau'r Gyfraith ar y Saboth?”
Mark WelBeibl 2:25  Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi erioed wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i griw o ddilynwyr yn llwgu?
Mark WelBeibl 2:26  Pan oedd Abiathar yn archoffeiriad aeth i mewn i dŷ Dduw a bwyta'r bara oedd wedi'i gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud mai dim ond yr offeiriaid sy'n cael ei fwyta, ond cymerodd Dafydd beth, a'i roi i'w ddilynwyr hefyd.”
Mark WelBeibl 2:27  Yna dwedodd wrthyn nhw, “Cafodd y dydd Saboth ei roi er lles pobl, dim i gaethiwo pobl.
Mark WelBeibl 2:28  Felly mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn hyd yn oed ar y Saboth.”
Chapter 3
Mark WelBeibl 3:1  Dro arall eto pan aeth Iesu i'r synagog, roedd yno ddyn oedd â'i law yn ddiffrwyth.
Mark WelBeibl 3:2  Roedd yna rai yn gwylio Iesu'n ofalus i weld a fyddai'n iacháu'r dyn ar y Saboth. Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i'w gyhuddo!
Mark WelBeibl 3:3  Dyma Iesu'n galw'r dyn ato, “Tyrd i sefyll yma'n y canol.”
Mark WelBeibl 3:4  Wedyn dyma Iesu'n gofyn i'r rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “Beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud sy'n iawn i'w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ladd?” Ond wnaeth neb ateb.
Mark WelBeibl 3:5  Edrychodd Iesu arnyn nhw bob yn un – roedd yn ddig ac wedi cynhyrfu drwyddo am eu bod mor ystyfnig. Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i'r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella'n llwyr.
Mark WelBeibl 3:6  Dyma'r Phariseaid yn mynd allan ar unwaith i drafod gyda chefnogwyr Herod sut allen nhw ladd Iesu.
Mark WelBeibl 3:7  Aeth Iesu at y llyn gyda'i ddisgyblion iddyn nhw gael ychydig o lonydd, ond dyma dyrfa fawr yn ei ddilyn – pobl o Galilea, ac o Jwdea,
Mark WelBeibl 3:8  Jerwsalem, ac Idwmea yn y de, a hyd yn oed o'r ardaloedd yr ochr draw i'r Iorddonen ac o ardal Tyrus a Sidon yn y gogledd. Roedd pawb eisiau ei weld ar ôl clywed am y pethau roedd yn eu gwneud.
Mark WelBeibl 3:9  Gan fod tyrfa mor fawr yno gofynnodd Iesu i'r disgyblion gael cwch bach yn barod, rhag ofn i'r dyrfa ei wasgu.
Mark WelBeibl 3:10  Y broblem oedd fod cymaint o bobl oedd yn sâl yn gwthio ymlaen i'w gyffwrdd. Roedd pawb yn gwybod ei fod wedi iacháu cymaint o bobl.
Mark WelBeibl 3:11  A phan oedd pobl wedi'u meddiannu gan ysbrydion drwg yn ei weld, roedden nhw'n syrthio ar lawr o'i flaen a gweiddi, “Mab Duw wyt ti!”
Mark WelBeibl 3:12  Ond roedd Iesu'n eu rhybuddio nhw i beidio dweud pwy oedd e.
Mark WelBeibl 3:13  Aeth Iesu i fyny i ben mynydd a galw ato y rhai roedd wedi'u dewis, a dyma nhw'n mynd ato.
Mark WelBeibl 3:14  Dewisodd ddeuddeg ohonyn nhw fel ei gynrychiolwyr personol. Nhw fyddai gydag e drwy'r amser, ac roedd am eu hanfon allan i gyhoeddi'r newyddion da,
Mark WelBeibl 3:15  a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw cythreuliaid allan o bobl.
Mark WelBeibl 3:16  Y deuddeg a ddewisodd oedd: Simon (yr un roedd Iesu'n ei alw'n Pedr);
Mark WelBeibl 3:17  Iago fab Sebedeus a'i frawd Ioan (“Meibion y Daran” oedd Iesu'n eu galw nhw);
Mark WelBeibl 3:18  Andreas, Philip, Bartholomeus, Mathew, Tomos, Iago fab Alffeus, Thadeus, Simon y Selot
Mark WelBeibl 3:20  Pan aeth Iesu yn ôl i'r tŷ lle roedd yn aros, roedd cymaint o dyrfa wedi casglu yno nes bod dim cyfle i'w ddisgyblion ac yntau gael bwyta hyd yn oed.
Mark WelBeibl 3:21  Pan glywodd ei deulu am hyn, dyma nhw'n penderfynu fod rhaid rhoi stop ar y peth. “Mae'n wallgof”, medden nhw.
Mark WelBeibl 3:22  Roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith, oedd wedi teithio o Jerwsalem, yn dweud amdano, “Mae wedi'i feddiannu gan Beelsebwl, tywysog y cythreuliaid! Dyna sut mae'n gallu bwrw allan gythreuliaid!”
Mark WelBeibl 3:23  Felly dyma Iesu'n eu galw draw ac yn eu hateb drwy ddefnyddio darlun: “Sut mae Satan yn gallu bwrw ei hun allan?
Mark WelBeibl 3:24  Dydy teyrnas lle mae rhyfel cartref byth yn mynd i sefyll!
Mark WelBeibl 3:25  Neu os ydy teulu'n ymladd â'i gilydd o hyd, bydd y teulu hwnnw'n chwalu.
Mark WelBeibl 3:26  A'r un fath, os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun a'i deyrnas wedi'i rhannu, fydd e ddim yn sefyll; mae hi ar ben arno!
Mark WelBeibl 3:27  Y gwir ydy, all neb fynd i mewn i gartre'r dyn cryf a dwyn ei eiddo heb rwymo'r dyn cryf yn gyntaf. Bydd yn gallu dwyn popeth o'i dŷ wedyn.
Mark WelBeibl 3:28  Credwch chi fi – mae maddeuant i'w gael am bob pechod, hyd yn oed am gabledd,
Mark WelBeibl 3:29  ond does dim maddeuant i'r sawl sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd Glân; mae'r person hwnnw'n euog o bechod sy'n aros am byth.”
Mark WelBeibl 3:30  (Dwedodd hyn am eu bod wedi dweud fod ysbryd drwg ynddo.)
Mark WelBeibl 3:31  Dyna pryd y cyrhaeddodd mam Iesu a'i frodyr yno. Dyma nhw'n sefyll y tu allan, ac yn anfon rhywun i'w alw.
Mark WelBeibl 3:32  Roedd tyrfa yn eistedd o'i gwmpas, a dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae dy fam a dy frodyr y tu allan yn edrych amdanat ti.”
Mark WelBeibl 3:34  “Dyma fy mam a'm brodyr i!” meddai, gan edrych ar y rhai oedd yn eistedd mewn cylch o'i gwmpas.
Mark WelBeibl 3:35  “Mae pwy bynnag sy'n gwneud beth mae Duw eisiau yn frawd a chwaer a mam i mi.”
Chapter 4
Mark WelBeibl 4:1  Dechreuodd Iesu ddysgu'r bobl ar lan Llyn Galilea unwaith eto. Roedd tyrfa enfawr wedi casglu o'i gwmpas nes bod rhaid iddo eistedd mewn cwch ar y llyn, tra oedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan.
Mark WelBeibl 4:2  Roedd yn defnyddio llawer o straeon i ddarlunio beth roedd yn ei ddysgu iddyn nhw.
Mark WelBeibl 4:3  “Gwrandwch!” meddai: “Aeth ffermwr allan i hau hadau.
Mark WelBeibl 4:4  Wrth iddo wasgaru'r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dyma'r adar yn dod a'i fwyta.
Mark WelBeibl 4:5  Dyma beth o'r had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn,
Mark WelBeibl 4:6  ond yn yr haul poeth dyma'r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau.
Mark WelBeibl 4:7  Yna dyma beth o'r had yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain a thagu'r planhigion, felly doedd dim grawn yn y dywysen.
Mark WelBeibl 4:8  Ond syrthiodd peth o'r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno – cymaint â thri deg, chwe deg neu hyd yn oed gan gwaith mwy na gafodd ei hau.”
Mark WelBeibl 4:9  “Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”
Mark WelBeibl 4:10  Yn nes ymlaen, pan oedd ar ei ben ei hun, dyma'r deuddeg disgybl a rhai eraill oedd o'i gwmpas yn gofyn iddo beth oedd ystyr y stori.
Mark WelBeibl 4:11  Dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Dych chi'n cael gwybod y gyfrinach am deyrnasiad Duw. Ond i'r rhai sydd y tu allan dydy'r cwbl ddim ond straeon.
Mark WelBeibl 4:12  Felly, ‘maen nhw'n edrych yn ofalus ond yn gweld dim, maen nhw'n clywed yn iawn ond byth yn deall; rhag iddyn nhw droi cefn ar bechod a chael maddeuant!’”
Mark WelBeibl 4:13  “Os dych chi ddim yn deall y stori yma, sut dych chi'n mynd i ddechrau deall unrhyw stori gen i!
Mark WelBeibl 4:14  Mae'r ffermwr yn cynrychioli rhywun sy'n rhannu neges Duw gyda phobl.
Mark WelBeibl 4:15  Yr had ar y llwybr ydy'r bobl hynny sy'n clywed y neges, ond mae Satan yn dod yr eiliad honno ac yn cipio'r neges oddi arnyn nhw.
Mark WelBeibl 4:16  Wedyn yr had gafodd ei hau ar dir creigiog ydy'r bobl hynny sy'n derbyn y neges yn frwd i ddechrau.
Mark WelBeibl 4:17  Ond dydy'r neges ddim yn gafael ynddyn nhw go iawn, a dŷn nhw ddim yn para'n hir iawn. Pan mae argyfwng yn codi, neu wrthwynebiad am eu bod wedi credu, maen nhw'n troi cefn yn ddigon sydyn.
Mark WelBeibl 4:18  Wedyn mae pobl eraill yn gallu bod fel yr had syrthiodd i ganol drain. Maen nhw'n clywed y neges,
Mark WelBeibl 4:19  ond maen nhw'n rhy brysur yn poeni am hyn a'r llall, yn ceisio gwneud arian a chasglu mwy a mwy o bethau. Felly mae'r neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth i'w weld yn eu bywydau.
Mark WelBeibl 4:20  Ond yr had sy'n syrthio ar dir da ydy'r bobl hynny sy'n clywed y neges ac yn ei chredu. Mae'r effaith ar eu bywydau nhw fel cnwd anferth – tri deg, chwe deg, neu hyd yn oed gan gwaith mwy na gafodd ei hau.”
Mark WelBeibl 4:21  Dwedodd wrthyn nhw wedyn, “Ydych chi'n mynd â lamp i mewn i ystafell ac yna'n rhoi powlen drosti neu'n ei chuddio dan y gwely? Na, dych chi'n gosod y lamp ar fwrdd iddi oleuo'r ystafell.
Mark WelBeibl 4:22  Bydd popeth sydd wedi'i guddio yn cael ei weld yn glir maes o law. Bydd pob cyfrinach yn dod i'r golwg.
Mark WelBeibl 4:23  Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”
Mark WelBeibl 4:24  Yna aeth yn ei flaen i ddweud, “Gwyliwch beth dych chi'n gwrando arno. Y mesur dych chi'n ei ddefnyddio fydd yn cael ei ddefnyddio arnoch chi – a mwy!
Mark WelBeibl 4:25  Bydd y rhai sydd wedi deall rhywfaint eisoes yn derbyn mwy; ond am y rhai hynny sydd heb ddeall dim, bydd hyd yn oed beth maen nhw'n meddwl eu bod yn ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw.”
Mark WelBeibl 4:26  Dwedodd Iesu wedyn, “Dyma i chi ddarlun arall o deyrnasiad Duw. Mae fel ffermwr yn hau had ar y tir.
Mark WelBeibl 4:27  Mae'r wythnosau'n mynd heibio, a'r dyn yn cysgu'r nos ac yn codi'r bore. Mae'r had gafodd ei hau yn egino ac yn dechrau tyfu heb i'r dyn wneud dim mwy.
Mark WelBeibl 4:28  Mae'r cnwd yn tyfu o'r pridd ohono'i hun – gwelltyn yn gyntaf, wedyn y dywysen, a'r hadau yn y dywysen ar ôl hynny.
Mark WelBeibl 4:29  Pan mae'r cnwd o wenith wedi aeddfedu, mae'r ffermwr yn ei dorri gyda'i gryman am fod y cynhaeaf yn barod.”
Mark WelBeibl 4:30  Gofynnodd wedyn: “Sut mae disgrifio teyrnasiad Duw? Pa ddarlun arall allwn ni ddefnyddio?
Mark WelBeibl 4:31  Mae fel hedyn mwstard yn cael ei blannu yn y pridd. Er mai dyma'r hedyn lleia un
Mark WelBeibl 4:32  mae'n tyfu i fod y planhigyn mwya yn yr ardd. Mae adar yn gallu nythu a chysgodi yn ei ganghennau!”
Mark WelBeibl 4:33  Roedd Iesu'n defnyddio llawer o straeon fel hyn i rannu ei neges, cymaint ag y gallen nhw ei ddeall.
Mark WelBeibl 4:34  Doedd e'n dweud dim heb ddefnyddio stori fel darlun. Ond yna roedd yn esbonio'r cwbl i'w ddisgyblion pan oedd ar ei ben ei hun gyda nhw.
Mark WelBeibl 4:35  Yn hwyr y p'nawn hwnnw, a hithau'n dechrau nosi, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Gadewch i ni groesi i ochr draw'r llyn.”
Mark WelBeibl 4:36  Felly dyma nhw'n gadael y dyrfa, a mynd gyda Iesu yn y cwch roedd wedi bod yn eistedd ynddo. Aeth cychod eraill gyda nhw hefyd.
Mark WelBeibl 4:37  Yn sydyn cododd storm ofnadwy. Roedd y tonnau mor wyllt nes bod dŵr yn dod i mewn i'r cwch ac roedd mewn peryg o suddo.
Mark WelBeibl 4:38  Ond roedd Iesu'n cysgu'n drwm drwy'r cwbl ar glustog yn starn y cwch. Dyma'r disgyblion mewn panig yn ei ddeffro, “Athro, wyt ti ddim yn poeni ein bod ni'n mynd i foddi?”
Mark WelBeibl 4:39  Cododd Iesu a cheryddu'r gwynt, a dweud wrth y tonnau, “Distaw! Byddwch lonydd!” Ac yn sydyn stopiodd y gwynt chwythu ac roedd pobman yn hollol dawel.
Mark WelBeibl 4:40  Yna meddai wrth ei ddisgyblion, “Pam dych chi mor ofnus? Ydych chi'n dal ddim yn credu?”
Mark WelBeibl 4:41  Roedden nhw wedi'u syfrdanu'n llwyr. “Pwy ydy hwn?” medden nhw, “Mae hyd yn oed y gwynt a'r tonnau yn ufuddhau iddo!”
Chapter 5
Mark WelBeibl 5:2  Wrth i Iesu gamu allan o'r cwch, dyma ddyn oedd ag ysbryd drwg ynddo yn dod ato o gyfeiriad y fynwent
Mark WelBeibl 5:3  – yno roedd yn byw, yng nghanol y beddau. Allai neb gadw rheolaeth arno, hyd yn oed drwy roi cadwyni arno.
Mark WelBeibl 5:4  Roedd yn aml yn cael ei rwymo gyda chadwyni am ei ddwylo a'i draed, ond lawer gwaith roedd wedi llwyddo i dorri'r cadwyni a dianc. Doedd neb yn gallu ei gadw dan reolaeth.
Mark WelBeibl 5:5  A dyna lle roedd, ddydd a nos, yn y fynwent ac ar y bryniau cyfagos yn sgrechian ac anafu ei hun â cherrig.
Mark WelBeibl 5:6  Pan welodd Iesu'n dod o bell, rhedodd i'w gyfeiriad a phlygu ar lawr o'i flaen.
Mark WelBeibl 5:7  Rhoddodd sgrech a gwaeddodd nerth ei ben, “Gad di lonydd i mi, Iesu, mab y Duw Goruchaf! Paid poenydio fi er mwyn Duw!”
Mark WelBeibl 5:8  (Roedd Iesu newydd orchymyn i'r ysbryd drwg ddod allan o'r dyn.)
Mark WelBeibl 5:9  Gofynnodd Iesu iddo wedyn, “Beth ydy dy enw di?” “Lleng ydw i,” atebodd, “achos mae llawer iawn ohonon ni yma.”
Mark WelBeibl 5:10  Roedden nhw'n crefu ar i Iesu i beidio'u hanfon nhw i ffwrdd o'r ardal honno.
Mark WelBeibl 5:11  Roedd cenfaint fawr o foch yn pori ar ochr bryn cyfagos,
Mark WelBeibl 5:12  a dyma'r ysbrydion drwg yn pledio arno, “Anfon ni i'r moch acw; gad i ni fyw ynddyn nhw.”
Mark WelBeibl 5:13  Dyma Iesu'n rhoi caniatâd iddyn nhw fynd, ac allan a'r ysbrydion drwg o'r dyn ac i mewn i'r moch. Dyma'r moch i gyd, tua dwy fil ohonyn nhw, yn rhuthro i lawr y llechwedd serth i mewn i'r llyn, a boddi.
Mark WelBeibl 5:14  Dyma'r rhai oedd yn gofalu am y moch yn rhedeg i ffwrdd a dweud wrth bawb ym mhobman beth oedd wedi digwydd. Pan ddaeth y bobl allan at Iesu i weld drostyn nhw eu hunain,
Mark WelBeibl 5:15  roedden nhw wedi dychryn. Dyna lle roedd y dyn oedd wedi bod yng ngafael y cythreuliaid, yn eistedd yn dawel gyda dillad amdano ac yn ei iawn bwyll.
Mark WelBeibl 5:16  Pan ddwedodd y llygad-dystion eto beth oedd wedi digwydd i'r dyn a'r moch,
Mark WelBeibl 5:17  dyma'r bobl yn mynnu fod Iesu'n gadael eu hardal.
Mark WelBeibl 5:18  Pan oedd Iesu ar fin mynd i mewn i'r cwch, dyma'r dyn oedd wedi bod yng ngafael y cythreuliaid yn dod ato ac erfyn am gael aros gydag e.
Mark WelBeibl 5:19  “Na,” meddai Iesu, “Dos adre at dy deulu a dywed wrthyn nhw am y cwbl mae Duw wedi'i wneud i ti, a sut mae wedi bod mor drugarog.”
Mark WelBeibl 5:20  Felly i ffwrdd â'r dyn a dechrau dweud wrth bawb yn ardal Decapolis am bopeth oedd Iesu wedi'i wneud iddo. Roedd pawb wedi'u syfrdanu.
Mark WelBeibl 5:21  Ar ôl i Iesu groesi mewn cwch yn ôl i ochr arall Llyn Galilea, dyma dyrfa fawr yn casglu o'i gwmpas ar lan y dŵr.
Mark WelBeibl 5:22  Daeth un o arweinwyr y synagog ato, dyn o'r enw Jairus. Aeth ar ei liniau o flaen Iesu
Mark WelBeibl 5:23  a phledio'n daer, “Mae fy merch fach i'n marw. Plîs tyrd i'w hiacháu drwy roi dy ddwylo arni, iddi gael byw.”
Mark WelBeibl 5:24  Felly aeth Iesu gyda'r dyn. Roedd tyrfa fawr o bobl o'i gwmpas yn gwthio o bob cyfeiriad.
Mark WelBeibl 5:25  Yn eu canol roedd gwraig oedd wedi bod â gwaedlif arni ers deuddeng mlynedd.
Mark WelBeibl 5:26  Roedd hi wedi dioddef yn ofnadwy dan ofal llawer o feddygon, ac wedi gwario ei harian i gyd ar gael ei thrin, ond yn lle gwella roedd hi wedi mynd o ddrwg i waeth.
Mark WelBeibl 5:27  Roedd wedi clywed am Iesu, a sleifiodd y tu ôl iddo yng nghanol y dyrfa,
Mark WelBeibl 5:28  gan feddwl, “Dim ond i mi lwyddo i gyffwrdd ei ddillad, ca i fy iacháu.” Pan lwyddodd i gyffwrdd ymyl ei glogyn
Mark WelBeibl 5:29  dyma'r gwaedu yn stopio'n syth. Roedd hi'n gallu teimlo ei bod wedi'i hiacháu.
Mark WelBeibl 5:30  Sylweddolodd Iesu fod nerth wedi llifo allan ohono, a throdd yng nghanol y dyrfa a gofyn, “Pwy gyffyrddodd fy nillad i?”
Mark WelBeibl 5:31  Atebodd ei ddisgyblion, “Sut alli di ofyn y fath gwestiwn a'r dyrfa yma'n gwthio o dy gwmpas di?”
Mark WelBeibl 5:32  Ond roedd Iesu'n dal i edrych o gwmpas i weld pwy oedd wedi'i gyffwrdd.
Mark WelBeibl 5:33  Roedd y wraig yn gwybod yn iawn beth oedd wedi digwydd iddi, ac felly dyma hi'n dod ac yn syrthio o'i flaen yn dal i grynu. Dwedodd yr hanes i gyd wrtho.
Mark WelBeibl 5:34  Yna meddai e wrthi, “Wraig annwyl, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu. Dos adre! Bendith Duw arnat ti! Mae'r dioddef ar ben.”
Mark WelBeibl 5:35  Tra oedd Iesu'n siarad, roedd rhyw bobl o dŷ Jairus wedi cyrraedd, a dweud wrtho, “Mae dy ferch wedi marw, felly does dim pwynt poeni'r athro ddim mwy.”
Mark WelBeibl 5:36  Ond chymerodd Iesu ddim sylw o beth gafodd ei ddweud, dim ond dweud wrth Jairus, “Paid bod ofn; dalia i gredu.”
Mark WelBeibl 5:37  Dim ond Pedr, Iago a'i frawd Ioan gafodd fynd yn eu blaenau gyda Iesu.
Mark WelBeibl 5:38  Dyma nhw'n cyrraedd cartref Jairus, ac roedd y lle mewn cynnwrf, a phobl yn crio ac yn udo mewn galar.
Mark WelBeibl 5:39  Pan aeth Iesu i mewn dwedodd wrthyn nhw, “Beth ydy'r holl sŵn yma? Pam dych chi'n crio? Dydy'r ferch fach ddim wedi marw – cysgu mae hi!”
Mark WelBeibl 5:40  Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben, ond dyma Iesu'n eu hanfon nhw i gyd allan o'r tŷ. Yna aeth a'r tad a'r fam a'r tri disgybl i mewn i'r ystafell lle roedd y ferch fach.
Mark WelBeibl 5:41  Gafaelodd yn ei llaw, a dweud wrthi, “Talitha cŵm” (sef “Cod ar dy draed, ferch fach!”)
Mark WelBeibl 5:42  A dyma'r ferch, oedd yn ddeuddeg oed, yn codi ar ei thraed a dechrau cerdded o gwmpas. Roedd y rhieni a'r disgyblion wedi'u syfrdanu'n llwyr.
Mark WelBeibl 5:43  Rhybuddiodd nhw i beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd; yna dwedodd, “Rhowch rywbeth i'w fwyta iddi.”
Chapter 6
Mark WelBeibl 6:1  Gadawodd Iesu'r ardal honno a mynd yn ôl gyda'i ddisgyblion i Nasareth, lle cafodd ei fagu.
Mark WelBeibl 6:2  Ar y dydd Saboth dechreuodd ddysgu yn y synagog. Roedd y bobl oedd yn gwrando arno yn rhyfeddu. “Ble wnaeth hwn ddysgu'r pethau yma i gyd?” medden nhw. “Ble gafodd e'r holl ddoethineb, a'r gallu i wneud gwyrthiau?
Mark WelBeibl 6:3  Saer ydy e! Mab Mair! Brawd Iago, Joseff, Jwdas a Simon! Mae ei chwiorydd yn dal i fyw yn y pentref ma!” Roedden nhw wedi cymryd yn ei erbyn.
Mark WelBeibl 6:4  Dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae proffwyd yn cael ei barchu ym mhobman ond yn y dre lle cafodd ei fagu – gan ei bobl ei hun a'i deulu ei hun!”
Mark WelBeibl 6:5  Felly allai Iesu ddim gwneud rhyw lawer o wyrthiau yno, dim ond gosod ei ddwylo ar ychydig bobl oedd yn sâl iawn i'w hiacháu nhw.
Mark WelBeibl 6:6  Roedd yn rhyfeddu eu bod nhw mor amharod i gredu. Aeth Iesu ar daith o gwmpas y pentrefi yn dysgu'r bobl.
Mark WelBeibl 6:7  Galwodd y deuddeg disgybl at ei gilydd, a'u hanfon allan bob yn ddau a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw allan ysbrydion drwg.
Mark WelBeibl 6:8  Dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd ond ffon gyda chi – dim bwyd, dim bag teithio na hyd yn oed newid mân.
Mark WelBeibl 6:9  Gwisgwch sandalau, ond peidiwch mynd â dillad sbâr.
Mark WelBeibl 6:10  Ble bynnag ewch chi, arhoswch yn yr un tŷ nes byddwch yn gadael y dref honno.
Mark WelBeibl 6:11  Os bydd dim croeso i chi yn rhywle, neu os bydd pobl yn gwrthod gwrando arnoch, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael. Bydd hynny'n arwydd o farn Duw arnyn nhw!”
Mark WelBeibl 6:12  Felly i ffwrdd â nhw i bregethu fod rhaid i bobl droi at Dduw a newid eu ffyrdd.
Mark WelBeibl 6:13  Roedden nhw'n bwrw allan llawer o gythreuliaid ac yn eneinio llawer o bobl ag olew a'u hiacháu nhw.
Mark WelBeibl 6:14  Roedd y Brenin Herod wedi clywed am beth oedd yn digwydd, am fod pawb yn gwybod am Iesu. Roedd rhai yn dweud, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi dod yn ôl yn fyw. Dyna pam mae'n gallu gwneud gwyrthiau.”
Mark WelBeibl 6:15  Roedd rhai yn dweud, “Elias ydy e”, ac eraill yn meddwl ei fod yn broffwyd, fel un o broffwydi mawr y gorffennol.
Mark WelBeibl 6:16  Pan glywodd Herod beth oedd Iesu'n ei wneud, dwedodd ar unwaith, “Ioan ydy e! Torrais ei ben i ffwrdd ac mae wedi dod yn ôl yn fyw!”
Mark WelBeibl 6:17  Herod oedd wedi gorchymyn i Ioan Fedyddiwr gael ei arestio a'i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias. Er ei bod yn wraig i'w frawd Philip, roedd Herod wedi'i phriodi.
Mark WelBeibl 6:18  Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro, “Dydy'r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti gymryd gwraig dy frawd.”
Mark WelBeibl 6:19  Felly roedd Herodias yn dal dig yn erbyn Ioan, ac eisiau ei ladd. Ond doedd hi ddim yn gallu
Mark WelBeibl 6:20  am fod gan Herod barch mawr at Ioan. Roedd yn ei amddiffyn am ei fod yn gwybod fod Ioan yn ddyn duwiol a chyfiawn. Er bod Herod yn anesmwyth wrth glywed beth oedd Ioan yn ei ddweud, roedd yn mwynhau gwrando arno.
Mark WelBeibl 6:21  Ond gwelodd Herodias ei chyfle pan oedd Herod yn dathlu ei ben-blwydd. Roedd ei brif swyddogion, penaethiaid y fyddin a phobl bwysig Galilea i gyd wedi'u gwahodd i'r parti.
Mark WelBeibl 6:22  Yn ystod y dathlu dyma ferch Herodias yn perfformio dawns. Roedd hi wedi plesio Herod a'i westeion yn fawr. Dwedodd Herod wrthi, “Gofyn am unrhyw beth gen i, a bydda i'n ei roi i ti.”
Mark WelBeibl 6:23  Rhoddodd ei air iddi ar lw, “Cei di beth bynnag rwyt ti eisiau, hyd yn oed hanner y deyrnas!”
Mark WelBeibl 6:24  Aeth y ferch allan at ei mam, “Am beth wna i ofyn?”, meddai wrthi. “Gofyn iddo dorri pen Ioan Fedyddiwr,” meddai ei mam.
Mark WelBeibl 6:25  Felly dyma hi yn brysio'n ôl i mewn at y brenin, gyda'i chais: “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr nawr, a'i roi i mi ar hambwrdd.”
Mark WelBeibl 6:26  Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl – roedd yn hollol ddigalon. Ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, doedd ganddo mo'r wyneb i'w gwrthod hi.
Mark WelBeibl 6:27  Felly dyma fe'n anfon un o'i filwyr ar unwaith i ddienyddio Ioan. “Tyrd â'i ben yn ôl yma,” meddai. Felly aeth y milwr i'r carchar a thorri pen Ioan i ffwrdd.
Mark WelBeibl 6:28  Daeth yn ei ôl gyda'r pen ar hambwrdd a'i roi i'r ferch, ac aeth hithau ag e i'w mam.
Mark WelBeibl 6:29  Pan glywodd disgyblion Ioan beth oedd wedi digwydd dyma nhw'n cymryd y corff a'i roi mewn bedd.
Mark WelBeibl 6:30  Pan gyrhaeddodd yr apostolion yn ôl, dyma nhw'n dechrau dweud yn frwd wrth Iesu am y cwbl roedden nhw wedi'i wneud a'i ddysgu.
Mark WelBeibl 6:31  Ond roedd cymaint o bobl yn mynd a dod nes bod dim cyfle iddyn nhw fwyta hyd yn oed. Felly dyma Iesu'n dweud, “Gadewch i ni fynd i ffwrdd i rywle tawel i chi gael gorffwys.”
Mark WelBeibl 6:32  I ffwrdd â nhw mewn cwch i le tawel i fod ar eu pennau'u hunain.
Mark WelBeibl 6:33  Ond roedd llawer o bobl wedi'u gweld yn gadael, ac wedi cerdded ar frys o'r holl drefi a chyrraedd yno o'u blaenau.
Mark WelBeibl 6:34  Pan gyrhaeddodd Iesu'r lan a gweld y dyrfa fawr yno, roedd yn teimlo i'r byw drostyn nhw, am eu bod fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw. Felly treuliodd amser yn dysgu llawer o bethau iddyn nhw.
Mark WelBeibl 6:35  Roedd hi'n mynd yn hwyr, felly dyma'i ddisgyblion yn dod ato a dweud, “Mae'r lle yma'n anial, ac mae'n mynd yn hwyr.
Mark WelBeibl 6:36  Anfon y bobl i ffwrdd i'r pentrefi sydd o gwmpas, iddyn nhw gael mynd i brynu rhywbeth i'w fwyta.”
Mark WelBeibl 6:37  Ond atebodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.” “Beth? Ni?” medden nhw, “Byddai'n costio ffortiwn i gael bwyd iddyn nhw i gyd!”
Mark WelBeibl 6:38  “Ewch i weld faint o fwyd sydd ar gael,” meddai. Dyma nhw'n gwneud hynny, a dod yn ôl a dweud, “Pum torth fach a dau bysgodyn!”
Mark WelBeibl 6:39  Dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw am wneud i'r bobl eistedd mewn grwpiau ar y glaswellt.
Mark WelBeibl 6:40  Felly dyma pawb yn eistedd mewn grwpiau o hanner cant i gant.
Mark WelBeibl 6:41  Wedyn dyma Iesu'n cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a'i roi i'w ddisgyblion i'w rannu i'r bobl, a gwneud yr un peth gyda'r ddau bysgodyn.
Mark WelBeibl 6:43  a dyma nhw'n codi deuddeg llond basged o dameidiau o fara a physgod oedd dros ben.
Mark WelBeibl 6:44  Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo yno!
Mark WelBeibl 6:45  Yn syth wedyn dyma Iesu'n gwneud i'w ddisgyblion fynd yn ôl i'r cwch a chroesi drosodd o'i flaen i Bethsaida, tra oedd e'n anfon y dyrfa adre.
Mark WelBeibl 6:46  Ar ôl ffarwelio gyda nhw, aeth i ben mynydd er mwyn cael lle tawel i weddïo.
Mark WelBeibl 6:47  Roedd hi'n nosi, a'r cwch ar ganol y llyn, ac yntau ar ei ben ei hun ar y tir.
Mark WelBeibl 6:48  Gwelodd fod y disgyblion yn cael trafferthion wrth geisio rhwyfo yn erbyn y gwynt. Yna rywbryd ar ôl tri o'r gloch y bore aeth Iesu allan atyn nhw, gan gerdded ar y dŵr. Roedd fel petai'n mynd heibio iddyn nhw,
Mark WelBeibl 6:49  a dyma nhw'n ei weld yn cerdded ar y llyn. Roedden nhw'n meddwl eu bod yn gweld ysbryd, a dyma nhw'n gweiddi mewn ofn.
Mark WelBeibl 6:50  Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae'n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.”
Mark WelBeibl 6:51  Yna, wrth iddo ddringo i mewn i'r cwch, dyma'r gwynt yn tawelu. Roedden nhw wedi dychryn go iawn, ac mewn sioc.
Mark WelBeibl 6:52  Doedden nhw ddim wedi deall arwyddocâd y torthau o fara; roedden nhw mor ystyfnig.
Mark WelBeibl 6:53  Ar ôl croesi'r llyn dyma nhw'n glanio yn Genesaret a chlymu'r cwch.
Mark WelBeibl 6:54  Dyma bobl yn nabod Iesu yr eiliad ddaethon nhw o'r cwch.
Mark WelBeibl 6:55  Dim ots lle roedd yn mynd, roedd pobl yn rhuthro drwy'r ardal i gyd yn cario pobl oedd yn sâl ar fatresi a dod â nhw ato.
Mark WelBeibl 6:56  Dyna oedd yn digwydd yn y pentrefi, yn y trefi ac yng nghefn gwlad. Roedden nhw'n gosod y cleifion ar sgwâr y farchnad ac yn pledio arno i adael iddyn nhw gyffwrdd y taselau ar ei glogyn. Roedd pawb oedd yn ei gyffwrdd yn cael eu hiacháu.
Chapter 7
Mark WelBeibl 7:1  Dyma'r Phariseaid a rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith oedd wedi dod o Jerwsalem yn casglu o gwmpas Iesu.
Mark WelBeibl 7:2  Roedden nhw wedi sylwi fod rhai o ddisgyblion Iesu ddim yn golchi eu dwylo yn y ffordd iawn cyn bwyta.
Mark WelBeibl 7:3  (Dydy'r Phariseaid a phobl Jwda byth yn bwyta heb fynd drwy ddefod golchi dwylo fel mae'r traddodiad crefyddol yn gofyn.
Mark WelBeibl 7:4  Wnân nhw ddim bwyta dim wedi'i brynu yn y farchnad chwaith heb fynd drwy ddefod golchi. Ac mae ganddyn nhw lawer o reolau eraill tebyg, fel defod golchi cwpanau, jygiau a llestri copr o bob math.)
Mark WelBeibl 7:5  Gofynnodd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith i Iesu, “Pam dydy dy ddisgyblion di ddim yn cadw'r traddodiad. Maen nhw'n bwyta heb olchi eu dwylo!”
Mark WelBeibl 7:6  Atebodd Iesu, “Roedd Eseia yn llygad ei le pan broffwydodd amdanoch chi. Dych chi mor ddauwynebog! “Dyma ddwedodd e: ‘Mae'r bobl yma'n dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau yn bell oddi wrtho i.
Mark WelBeibl 7:7  Mae eu haddoliad yn ddiystyr; mân-reolau dynol ydy'r cwbl maen nhw'n ei ddysgu.’
Mark WelBeibl 7:8  “Dych chi'n diystyru beth mae Duw wedi'i orchymyn, ac yn lle hynny yn glynu wrth eich traddodiad crefyddol.”
Mark WelBeibl 7:9  “Ie, gwrthod beth mae Duw yn ei ddweud er mwyn cadw'ch traddodiadau eich hunain!” meddai wrthyn nhw.
Mark WelBeibl 7:10  “Er enghraifft, dwedodd Moses, ‘Gofala am dy dad a dy fam,’ a, ‘Rhaid i bwy bynnag sy'n sarhau ei dad neu ei fam gael ei ladd.’
Mark WelBeibl 7:11  Ond dych chi'n dweud ei bod yn iawn dweud wrth rieni mewn oed: ‘Alla i ddim gofalu amdanoch chi. Mae beth o'n i'n mynd i'w roi i chi wedi'i gyflwyno'n rhodd i Dduw.’
Mark WelBeibl 7:12  Wedyn wrth gwrs, does dim rhaid i chi wneud dim i helpu'ch rhieni.
Mark WelBeibl 7:13  Dych chi'n defnyddio'ch traddodiad i osgoi gwneud beth mae Duw'n ei ddweud. Ac mae digon o enghreifftiau eraill o'r un math o beth y gallwn i sôn amdanyn nhw.”
Mark WelBeibl 7:14  Dyma Iesu'n galw'r dyrfa ato eto, a dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch arna i, dw i am i chi i gyd ddeall hyn.
Mark WelBeibl 7:15  Dydy beth dych chi'n ei fwyta ddim yn eich gwneud chi'n ‛aflan‛. Beth sy'n dod allan ohonoch chi sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛ – pethau dych chi'n eu dweud a'u gwneud.”
Mark WelBeibl 7:17  Pan aeth i mewn i'r tŷ ar ôl gadael y dyrfa, gofynnodd ei ddisgyblion iddo esbonio'r peth iddyn nhw.
Mark WelBeibl 7:18  “Ydych chi wir mor ddwl?” meddai. “Ydych chi ddim yn gweld mai dim beth dych chi'n ei fwyta sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛?
Mark WelBeibl 7:19  Dydy bwyd ddim yn mynd yn agos at y galon, dim ond pasio drwy'r stumog ac yna dod allan yn y tŷ bach.” (Wrth ddweud hyn roedd Iesu'n dweud fod pob bwyd yn iawn i'w fwyta.)
Mark WelBeibl 7:20  “Yr hyn sy'n dod allan o'r galon sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛,” meddai.
Mark WelBeibl 7:21  “O'r tu mewn i chi mae meddyliau drwg yn dod, a phethau fel anfoesoldeb rhywiol, dwyn, llofruddio,
Mark WelBeibl 7:22  godinebu, bod yn farus, bod yn faleisus, twyllo, penrhyddid, bod yn hunanol, hel straeon cas, bod yn haerllug ac ymddwyn yn ffôl.
Mark WelBeibl 7:23  Y pethau drwg yma sy'n dod allan ohonoch chi sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛.”
Mark WelBeibl 7:24  Gadawodd Iesu Galilea ac aeth i fyny i ardal Tyrus. Ceisiodd gadw'r ffaith ei fod yn aros yno'n gyfrinach, ond methodd.
Mark WelBeibl 7:25  Yn wir, yn syth ar ôl clywed ei fod yno, daeth rhyw wraig ato a syrthio i lawr o'i flaen – roedd ganddi ferch fach oedd wedi'i meddiannu gan ysbryd drwg.
Mark WelBeibl 7:26  Gwraig wedi'i geni yn Syro-Phoenicia oedd hi, dim Iddewes, ac roedd hi'n pledio ar i Iesu fwrw'r cythraul allan o'i merch.
Mark WelBeibl 7:27  Dwedodd Iesu wrthi, “Rhaid i'r plant gael bwyta beth maen nhw eisiau gyntaf. Dydy hi ddim yn iawn i bobl daflu bwyd y plant i'r cŵn.”
Mark WelBeibl 7:28  “Digon gwir, Arglwydd,” meddai'r wraig, “ond mae hyd yn oed y cŵn dan y bwrdd yn cael bwyta briwsion y plant.”
Mark WelBeibl 7:29  “Am i ti roi ateb mor dda,” meddai Iesu wrthi, “cei fynd adre; mae'r cythraul wedi gadael dy ferch.”
Mark WelBeibl 7:30  Felly aeth adre, a dyna lle roedd ei merch yn gorwedd ar ei gwely, a'r cythraul wedi'i gadael.
Mark WelBeibl 7:31  Aeth Iesu yn ei flaen o ardal Tyrus a mynd drwy Sidon ac yna yn ôl i lawr at Lyn Galilea i ardal Decapolis.
Mark WelBeibl 7:32  Yno daeth rhyw bobl a dyn ato oedd yn fyddar ac yn methu siarad yn glir, a gofyn iddo osod ei ddwylo ar y dyn a'i iacháu.
Mark WelBeibl 7:33  Aeth Iesu a'r dyn i ffwrdd o olwg y dyrfa. Rhoddodd ei fysedd yng nghlustiau'r dyn ac wedyn poeri ar ei fysedd cyn cyffwrdd tafod y dyn.
Mark WelBeibl 7:34  Edrychodd i fyny i'r nefoedd, ac meddai gydag ochenaid ddofn, “Eph-phatha!” (sy'n golygu, “Agor!”)
Mark WelBeibl 7:35  Ar unwaith roedd y dyn yn gallu clywed a siarad yn glir.
Mark WelBeibl 7:36  Dwedodd Iesu wrthyn nhw am beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd. Ond po fwya oedd Iesu'n dweud wrth bobl i beidio, mwya oedden nhw'n dweud wrth bawb am y pethau roedd yn eu gwneud.
Mark WelBeibl 7:37  Roedd pobl wedi'u syfrdanu'n llwyr ganddo. “Mae popeth mae'n ei wneud mor ffantastig,” medden nhw. “Mae hyd yn oed yn gwneud i bobl fyddar glywed ac i bobl fud siarad!”
Chapter 8
Mark WelBeibl 8:1  Roedd tyrfa fawr arall wedi casglu o'i gwmpas tua'r un adeg. Am bod dim bwyd gan y bobl, dyma Iesu'n galw'i ddisgyblion ato a dweud,
Mark WelBeibl 8:2  “Dw i'n teimlo dros y bobl yma i gyd; maen nhw wedi bod yma ers tri diwrnod heb gael dim i'w fwyta.
Mark WelBeibl 8:3  Os anfona i nhw adre'n llwgu byddan nhw'n llewygu ar y ffordd. Mae rhai ohonyn nhw wedi dod o bell.”
Mark WelBeibl 8:4  Atebodd y disgyblion, “Pa obaith sydd i unrhyw un ddod o hyd i ddigon o fwyd iddyn nhw yn y lle anial yma?!”
Mark WelBeibl 8:5  Gofynnodd Iesu, “Sawl torth o fara sydd gynnoch chi?” “Saith,” medden nhw.
Mark WelBeibl 8:6  Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr. Cymerodd y saith torth ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w rhannu i'r bobl. A dyna wnaeth y disgyblion.
Mark WelBeibl 8:7  Roedd ychydig o bysgod bach ganddyn nhw hefyd; a gwnaeth Iesu yr un peth gyda'r rheiny.
Mark WelBeibl 8:8  Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben.
Mark WelBeibl 8:9  Roedd tua pedair mil o bobl yno! Ar ôl eu hanfon i ffwrdd,
Mark WelBeibl 8:10  aeth i mewn i'r cwch gyda'i ddisgyblion a chroesi i ardal Dalmanwtha.
Mark WelBeibl 8:11  Daeth Phariseaid ato, a dechrau ffraeo. “Profa pwy wyt ti drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol,” medden nhw.
Mark WelBeibl 8:12  Ochneidiodd Iesu'n ddwfn, a dweud: “Pam mae'r bobl yma o hyd yn gofyn am wyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i? Wir i chi, chân nhw ddim un gen i!”
Mark WelBeibl 8:13  Yna gadawodd nhw, a mynd yn ôl i mewn i'r cwch a chroesi drosodd i ochr arall Llyn Galilea.
Mark WelBeibl 8:14  Roedd y disgyblion wedi anghofio mynd â bwyd gyda nhw. Dim ond un dorth fach oedd ganddyn nhw yn y cwch.
Mark WelBeibl 8:15  Dyma Iesu'n eu rhybuddio nhw: “Byddwch yn ofalus! Cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid, a burum Herod hefyd.”
Mark WelBeibl 8:16  Wrth drafod y peth dyma'r disgyblion yn dod i'r casgliad mai tynnu sylw at y ffaith fod ganddyn nhw ddim bara oedd e.
Mark WelBeibl 8:17  Roedd Iesu'n gwybod beth roedden nhw'n ddweud, a gofynnodd iddyn nhw: “Pam dych chi'n poeni eich bod heb fara? Ydych chi'n dal ddim yn deall? Pryd dych chi'n mynd i ddysgu? Ydych chi wedi troi'n ystyfnig?
Mark WelBeibl 8:18  Ydych chithau hefyd yn ddall er bod llygaid gynnoch chi, ac yn fyddar er bod clustiau gynnoch chi? Ydych chi'n cofio dim byd?
Mark WelBeibl 8:19  Pan o'n i'n rhannu'r pum torth rhwng y pum mil, sawl basgedaid o dameidiau oedd dros ben wnaethoch chi eu casglu?” “Deuddeg,” medden nhw.
Mark WelBeibl 8:20  “A phan o'n i'n rhannu'r saith torth i'r pedair mil, sawl llond cawell o dameidiau wnaethoch chi eu casglu?” “Saith,” medden nhw.
Mark WelBeibl 8:21  “Ydych chi'n dal ddim yn deall?” meddai Iesu wrthyn nhw.
Mark WelBeibl 8:22  Dyma nhw'n cyrraedd Bethsaida, a dyma rhyw bobl yn dod â dyn dall at Iesu a gofyn iddo ei gyffwrdd.
Mark WelBeibl 8:23  Gafaelodd Iesu yn llaw y dyn dall a'i arwain allan o'r pentref. Ar ôl poeri ar lygaid y dyn a gosod dwylo arno, gofynnodd Iesu iddo, “Wyt ti'n gweld o gwbl?”
Mark WelBeibl 8:24  Edrychodd i fyny, ac meddai, “Ydw, dw i'n gweld pobl; ond maen nhw'n edrych fel coed yn symud o gwmpas.”
Mark WelBeibl 8:25  Yna rhoddodd Iesu ei ddwylo ar lygaid y dyn eto. Pan agorodd y dyn ei lygaid, roedd wedi cael ei olwg yn ôl! Roedd yn gweld popeth yn glir.
Mark WelBeibl 8:26  Dyma Iesu'n ei anfon adre, a dweud wrtho, “Paid mynd i mewn i'r pentref.”
Mark WelBeibl 8:27  Aeth Iesu a'i ddisgyblion yn eu blaenau i'r pentrefi o gwmpas Cesarea Philipi. Ar y ffordd yno gofynnodd iddyn nhw, “Pwy mae pobl yn ddweud ydw i?”
Mark WelBeibl 8:28  Dyma nhw'n ateb, “Mae rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti; eraill yn dweud Elias; a phobl eraill eto'n dweud mai un o'r proffwydi wyt ti.”
Mark WelBeibl 8:29  “Ond beth amdanoch chi?” gofynnodd, “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?” Atebodd Pedr, “Ti ydy'r Meseia.”
Mark WelBeibl 8:30  Yna dyma Iesu'n eu rhybuddio nhw i beidio dweud hynny wrth neb.
Mark WelBeibl 8:31  Dechreuodd esbonio iddyn nhw fod rhaid iddo fe, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy. Byddai'r arweinwyr Iddewig, y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei wrthod. Byddai'n cael ei ladd, ond yna'n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.
Mark WelBeibl 8:32  Roedd yn siarad yn hollol blaen gyda nhw. Felly dyma Pedr yn mynd ag e i'r naill ochr a dweud y drefn wrtho am ddweud y fath bethau.
Mark WelBeibl 8:33  Ond trodd Iesu i edrych ar ei ddisgyblion, ac yna dweud y drefn wrth Pedr o'u blaenau nhw. “Dos o'm golwg i Satan!” meddai. “Rwyt ti'n meddwl fel mae pobl yn meddwl yn lle gweld pethau fel mae Duw'n eu gweld nhw.”
Mark WelBeibl 8:34  Wedyn galwodd y dyrfa ato gyda'i ddisgyblion, a dwedodd wrthyn nhw: “Rhaid i bwy bynnag sydd am fy nilyn i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill a cherdded yr un llwybr â mi.
Mark WelBeibl 8:35  Bydd y rhai sy'n ceisio cadw eu bywyd eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd er fy mwyn i a'r newyddion da, yn diogelu bywyd go iawn.
Mark WelBeibl 8:36  Beth ydy'r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i'w gynnig, a cholli'r enaid?
Mark WelBeibl 8:37  Oes gynnoch chi unrhyw beth sy'n fwy gwerthfawr na'r enaid?
Mark WelBeibl 8:38  Pawb sydd â chywilydd ohono i a beth dw i'n ddweud yn yr oes ddi-gred a phechadurus yma, bydd gen i, Fab y Dyn, gywilydd ohonyn nhw pan fydda i'n dod yn ôl yn holl ysblander y Tad, a'r angylion sanctaidd gyda mi.”
Chapter 9
Mark WelBeibl 9:1  Yna meddai wrthyn nhw, “Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy'n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Duw'n dod mewn grym i deyrnasu.”
Mark WelBeibl 9:2  Chwe diwrnod wedyn aeth Iesu i ben mynydd uchel, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan gydag e. Roedden nhw yno ar eu pennau'u hunain. Dyma olwg Iesu'n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid.
Mark WelBeibl 9:3  Trodd ei ddillad yn wyn llachar; yn wynnach nag y gallai unrhyw bowdr golchi fyth eu glanhau.
Mark WelBeibl 9:4  Wedyn dyma Elias a Moses yn ymddangos o'u blaenau, yn sgwrsio gyda Iesu.
Mark WelBeibl 9:5  Dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Rabbi, mae'n dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches – un i ti, un i Moses ac un i Elias.”
Mark WelBeibl 9:6  (Doedd ganddo ddim syniad beth roedd yn ei ddweud go iawn – roedd y tri ohonyn nhw wedi dychryn gymaint!)
Mark WelBeibl 9:7  Wedyn dyma gwmwl yn dod i lawr a chau o'u cwmpas, a dyma lais o'r cwmwl yn dweud: “Fy Mab annwyl i ydy hwn. Gwrandwch arno!”
Mark WelBeibl 9:8  Yn sydyn dyma nhw'n edrych o'u cwmpas, a doedd neb i'w weld yno ond Iesu.
Mark WelBeibl 9:9  Wrth ddod i lawr o'r mynydd dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw i beidio sôn wrth neb am beth welon nhw nes y byddai e, Mab y Dyn, wedi codi yn ôl yn fyw.
Mark WelBeibl 9:10  (Felly cafodd y digwyddiad ei gadw'n gyfrinach, ond roedden nhw'n aml yn trafod gyda'i gilydd beth oedd ystyr “codi yn ôl yn fyw.”)
Mark WelBeibl 9:11  Dyma nhw'n gofyn iddo, “Pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod rhaid i Elias ddod yn ôl cyn i'r Meseia gyrraedd?”
Mark WelBeibl 9:12  Atebodd Iesu, “Mae Elias yn dod gyntaf reit siŵr, i roi trefn ar bopeth. Ond pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod Mab y Dyn yn mynd i ddioddef llawer a chael ei wrthod?
Mark WelBeibl 9:13  Dw i'n dweud wrthoch chi fod Elias wedi dod, ac maen nhw wedi'i gam-drin yn union fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud.”
Mark WelBeibl 9:14  Pan ddaethon nhw at y disgyblion eraill roedd tyrfa fawr o'u cwmpas, a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno'n dadlau gyda nhw.
Mark WelBeibl 9:15  Cafodd y bobl sioc o weld Iesu, a dyma nhw'n rhedeg i'w gyfarch.
Mark WelBeibl 9:16  “Am beth dych chi'n ffraeo gyda nhw?” gofynnodd.
Mark WelBeibl 9:17  Dyma rhyw ddyn yn ei ateb, “Athro, des i â'm mab atat ti; mae'n methu siarad am ei fod wedi'i feddiannu gan ysbryd drwg sy'n ei wneud yn fud.
Mark WelBeibl 9:18  Pan mae'r ysbryd drwg yn gafael ynddo mae'n ei daflu ar lawr, ac yna mae'n glafoerio a rhincian ei ddannedd ac yn mynd yn stiff i gyd. Gofynnais i dy ddisgyblion di fwrw'r ysbryd allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.”
Mark WelBeibl 9:19  “Pam dych chi mor amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi? Am faint alla i'ch dioddef chi? Dewch â'r bachgen yma.”
Mark WelBeibl 9:20  Wrth iddyn nhw ddod â'r bachgen at Iesu dyma'r ysbryd drwg yn ei weld ac yn gwneud i'r bachgen gael ffit epileptig. Syrthiodd ar lawr a rholio o gwmpas yn glafoerio o'i geg.
Mark WelBeibl 9:21  Dyma Iesu'n gofyn i'r tad, “Ers faint mae e fel hyn?” “Ers pan yn blentyn bach,” atebodd y dyn.
Mark WelBeibl 9:22  “Mae'r ysbryd drwg wedi'i daflu i ganol tân neu geisio'i foddi mewn dŵr lawer gwaith. Os wyt ti'n gallu gwneud unrhyw beth i'n helpu ni, plîs gwna.”
Mark WelBeibl 9:23  “Beth wyt ti'n feddwl ‘Os wyt ti'n gallu’?” meddai Iesu. “Mae popeth yn bosib i'r sawl sy'n credu!”
Mark WelBeibl 9:24  Gwaeddodd tad y bachgen ar unwaith, “Dw i yn credu! Helpa di fi i beidio amau!”
Mark WelBeibl 9:25  Pan welodd Iesu fod tyrfa o bobl yn rhedeg i weld beth oedd yn digwydd, dyma fe'n ceryddu'r ysbryd drwg a dweud wrtho, “Ysbryd mud a byddar, tyrd allan o'r plentyn yma, a phaid byth mynd yn ôl eto.”
Mark WelBeibl 9:26  Dyma'r ysbryd yn rhoi sgrech ac yn gwneud i'r bachgen ysgwyd yn ffyrnig, ond yna daeth allan. Roedd y bachgen yn gorwedd mor llonydd nes bod llawer yn meddwl ei fod wedi marw.
Mark WelBeibl 9:27  Ond gafaelodd Iesu yn ei law a'i godi, a safodd ar ei draed.
Mark WelBeibl 9:28  Ar ôl i Iesu fynd i mewn i dŷ, gofynnodd ei ddisgyblion iddo'n breifat, “Pam oedden ni'n methu ei fwrw allan?”
Mark WelBeibl 9:29  Atebodd Iesu, “Dim ond drwy weddi mae ysbrydion drwg fel yna'n dod allan.”
Mark WelBeibl 9:30  Dyma nhw'n gadael yr ardal honno ac yn teithio drwy Galilea. Doedd gan Iesu ddim eisiau i unrhyw un wybod ble roedden nhw,
Mark WelBeibl 9:31  am ei fod wrthi'n dysgu ei ddisgyblion. “Dw i, Mab y Dyn,” meddai wrthyn nhw, “yn mynd i gael fy mradychu i afael pobl fydd yn fy lladd, ond ddeuddydd ar ôl cael fy lladd bydda i'n dod yn ôl yn fyw.”
Mark WelBeibl 9:32  Doedd gan y disgyblion ddim syniad am beth roedd e'n sôn, ond roedd arnyn nhw ofn gofyn iddo.
Mark WelBeibl 9:33  Dyma nhw'n cyrraedd Capernaum. Pan oedd yn y tŷ lle roedden nhw'n aros gofynnodd Iesu i'r disgyblion, “Am beth oeddech chi'n dadlau ar y ffordd?”
Mark WelBeibl 9:34  Ond wnaeth neb ateb. Roedden nhw wedi bod yn dadlau pwy oedd y pwysica.
Mark WelBeibl 9:35  Eisteddodd Iesu i lawr, a galw'r deuddeg disgybl ato, ac meddai wrthyn nhw, “Rhaid i'r sawl sydd am fod yn geffyl blaen ddysgu mynd i'r cefn a gwasanaethu pawb arall.”
Mark WelBeibl 9:36  Gosododd blentyn bach yn y canol o'u blaenau. Yna cododd y plentyn yn ei freichiau, a dweud wrthyn nhw,
Mark WelBeibl 9:37  “Mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i blentyn bach fel yma am eu bod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi, yn croesawu'r Un sydd wedi fy anfon i.”
Mark WelBeibl 9:38  Dyma Ioan yn dweud wrtho, “Athro, gwelon ni rhywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni'n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o'n criw ni.”
Mark WelBeibl 9:39  “Peidiwch gwneud hynny,” meddai Iesu. “Does neb yn gwneud gwyrth yn fy enw i yn mynd i ddweud pethau drwg amdana i y funud nesa.
Mark WelBeibl 9:40  Os ydy rhywun ddim yn ein herbyn ni, mae o'n plaid ni.
Mark WelBeibl 9:41  Credwch chi fi, mae unrhyw un sy'n rhoi diod o ddŵr i chi am eich bod yn bobl y Meseia yn siŵr o gael ei wobr.
Mark WelBeibl 9:42  “Pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well iddo gael ei daflu i'r môr gyda maen melin wedi'i rwymo am ei wddf.
Mark WelBeibl 9:43  Os ydy dy law yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd wedi dy anafu, na bod gen ti ddwy law a mynd i uffern, lle dydy'r tân byth yn diffodd.
Mark WelBeibl 9:45  Ac os ydy dy droed yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i'r bywyd newydd yn gloff, na bod gen ti ddwy droed a chael dy daflu i uffern.
Mark WelBeibl 9:47  Ac os ydy dy lygad yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan. Mae'n well i ti fynd i mewn i deyrnas Dduw gyda dim ond un llygad na bod gen ti ddwy a chael dy daflu i uffern,
Mark WelBeibl 9:48  lle ‘dydy'r cynrhon ddim yn marw, a'r tân byth yn diffodd.’
Mark WelBeibl 9:50  “Mae halen yn beth defnyddiol, ond pan mae'n colli ei flas, pa obaith sydd i'w wneud yn hallt eto? Byddwch â halen ynoch, a byw'n heddychlon gyda'ch gilydd.”
Chapter 10
Mark WelBeibl 10:1  Yna gadawodd Iesu'r fan honno, a mynd i Jwdea a'r ardal yr ochr draw i'r Iorddonen. Unwaith eto daeth tyrfa o bobl ato, ac fel arfer buodd wrthi'n eu dysgu.
Mark WelBeibl 10:2  Dyma Phariseaid yn dod ato i geisio'i faglu drwy ofyn: “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod yn iawn i ddyn ysgaru ei wraig?”
Mark WelBeibl 10:3  Atebodd Iesu, “Beth oedd y gorchymyn roddodd Moses i chi?”
Mark WelBeibl 10:4  “Dwedodd Moses ei fod yn iawn,” medden nhw, “Dim ond i ddyn roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon i ffwrdd.”
Mark WelBeibl 10:5  “Wyddoch chi pam ysgrifennodd Moses y ddeddf yna?” meddai Iesu. “Am fod pobl fel chi mor ystyfnig!
Mark WelBeibl 10:6  Pan greodd Duw bopeth ar y dechrau cyntaf, gwnaeth bobl ‘yn wryw ac yn fenyw’.
Mark WelBeibl 10:7  ‘Felly bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam, ac yn cael ei uno â'i wraig,
Mark WelBeibl 10:8  a bydd y ddau yn dod yn un.’ Dim dau berson ar wahân ydyn nhw wedyn, ond uned.
Mark WelBeibl 10:9  Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi'i uno!”
Mark WelBeibl 10:10  Pan oedden nhw yn ôl yn y tŷ, dyma'r disgyblion yn holi Iesu am hyn
Mark WelBeibl 10:11  Dwedodd wrthyn nhw: “Mae unrhyw un sy'n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu.”
Mark WelBeibl 10:12  (Ac os ydy gwraig yn ysgaru ei gŵr er mwyn priodi dyn arall, mae hithau'n godinebu.)
Mark WelBeibl 10:13  Roedd pobl yn dod â'u plant bach at Iesu er mwyn iddo eu cyffwrdd a'u bendithio. Ond roedd y disgyblion yn dweud y drefn wrthyn nhw.
Mark WelBeibl 10:14  Roedd Iesu'n ddig pan welodd nhw'n gwneud hynny. “Gadewch i'r plant bach ddod ata i,” meddai wrthyn nhw, “Peidiwch eu rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad Duw.
Mark WelBeibl 10:15  Credwch chi fi, heb ymddiried fel plentyn bach, wnewch chi byth ddod yn un o'r rhai mae Duw'n teyrnasu yn eu bywydau.”
Mark WelBeibl 10:16  Yna cododd y plant yn ei freichiau, rhoi ei ddwylo arnyn nhw a'u bendithio.
Mark WelBeibl 10:17  Pan oedd Iesu ar fin gadael, dyma ddyn yn rhedeg ato a syrthio ar ei liniau o'i flaen. “Athro da,” meddai, “Beth sydd rhaid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?”
Mark WelBeibl 10:18  “Pam wyt ti'n fy ngalw i'n dda?” meddai Iesu, “Onid Duw ydy'r unig un sy'n dda?
Mark WelBeibl 10:19  Ti'n gwybod beth wnaeth Duw ei orchymyn: ‘Paid llofruddio, paid godinebu, paid dwyn, paid rhoi tystiolaeth ffals, paid twyllo, gofala am dy dad a dy fam.’”
Mark WelBeibl 10:20  Atebodd y dyn, “Athro, dw i wedi cadw'r rheolau yma i gyd ers pan o'n i'n fachgen ifanc.”
Mark WelBeibl 10:21  Roedd Iesu wedi hoffi'r dyn yn fawr. Edrychodd arno, a dweud, “Mae yna un peth arall ar ôl. Dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho'r arian i bobl dlawd. Wedyn cei di drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”
Mark WelBeibl 10:22  Roedd wyneb y dyn yn dweud y cwbl. Cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn.
Mark WelBeibl 10:23  Dyma Iesu'n troi at ei ddisgyblion a dweud, “Mae hi mor anodd i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!”
Mark WelBeibl 10:24  Roedd y disgyblion wedi'u syfrdanu gan yr hyn roedd yn ei ddweud. Ond dwedodd Iesu eto, “Wyddoch chi beth? Mae pobl yn ei chael hi mor anodd i adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!
Mark WelBeibl 10:25  Mae'n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau.”
Mark WelBeibl 10:26  Roedd y disgyblion yn rhyfeddu fwy fyth, ac yn gofyn i'w gilydd, “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?”
Mark WelBeibl 10:27  Dyma Iesu'n edrych arnyn nhw, a dweud, “Mae'r peth yn amhosib i bobl ei wneud, ond mae Duw yn gallu! Mae Duw'n gallu gwneud popeth!”
Mark WelBeibl 10:28  Yna dyma Pedr yn dechrau dweud, “Edrych, dŷn ni wedi gadael y cwbl i dy ddilyn di!”
Mark WelBeibl 10:29  “Credwch chi fi,” meddai Iesu, “Bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref a gadael brodyr a chwiorydd, mam neu dad, neu blant neu diroedd er fy mwyn i a'r newyddion da
Mark WelBeibl 10:30  yn derbyn can gwaith cymaint yn y bywyd yma! Bydd yn derbyn cartrefi, brodyr, chwiorydd, mamau, plant, a thiroedd – ac erledigaeth ar ben y cwbl. Ond yn yr oes sydd i ddod byddan nhw'n derbyn bywyd tragwyddol!
Mark WelBeibl 10:31  Ond bydd llawer o'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn, a'r rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen.”
Mark WelBeibl 10:32  Roedden nhw ar eu ffordd i Jerwsalem. Roedd Iesu'n cerdded ar y blaen, a'r disgyblion yn ei ddilyn, ond wedi'u syfrdanu ei fod yn mynd yno. Roedd pawb arall oedd yn ei ddilyn yn ofni'n fawr. Aeth Iesu â'r deuddeg disgybl i'r naill ochr eto i ddweud wrthyn nhw beth oedd yn mynd i ddigwydd iddo.
Mark WelBeibl 10:33  “Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem,” meddai, “Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i'r prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith. Byddan nhw'n rhoi dedfryd marwolaeth arna i, ac yna'n fy rhoi yn nwylo'r Rhufeiniaid.
Mark WelBeibl 10:34  Bydd y rheiny yn gwneud sbort am fy mhen, yn poeri arna i, yn fy chwipio a'm lladd. Ond yna, dau ddiwrnod wedyn, bydda i'n dod yn ôl yn fyw.”
Mark WelBeibl 10:35  Aeth Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, i siarad â Iesu. “Athro, dŷn ni eisiau gofyn ffafr,” medden nhw.
Mark WelBeibl 10:37  Dyma nhw'n ateb, “Dŷn ni eisiau cael eistedd bob ochr i ti pan fyddi'n teyrnasu.”
Mark WelBeibl 10:38  “Dych chi ddim yn gwybod am beth dych chi'n siarad!” meddai Iesu. “Allwch chi yfed o'r un gwpan chwerw â mi, neu gael eich bedyddio â'r un bedydd â mi?”
Mark WelBeibl 10:39  “Gallwn,” medden nhw. Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Byddwch chi'n yfed o'r un gwpan â mi, a chewch eich bedyddio â'r un bedydd a mi,
Mark WelBeibl 10:40  ond dim fi sydd i ddweud pwy sy'n cael eistedd bob ochr i mi. Mae'r lleoedd hynny wedi'u cadw i bwy bynnag mae Duw wedi'u dewis.”
Mark WelBeibl 10:41  Pan glywodd y deg disgybl arall am y peth, roedden nhw'n wyllt gyda Iago ac Ioan.
Mark WelBeibl 10:42  Felly dyma Iesu'n eu galw nhw i gyd at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n gwybod sut mae'r pwysigion sy'n llywodraethu'r cenhedloedd yn ymddwyn – maen nhw wrth eu bodd yn dangos eu hawdurdod ac yn ei lordio hi dros bobl.
Mark WelBeibl 10:43  Ond rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i'r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu,
Mark WelBeibl 10:44  a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod yn was i bawb arall.
Mark WelBeibl 10:45  Wnes i ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu'r pris i ryddhau llawer o bobl.”
Mark WelBeibl 10:46  Dyma nhw'n cyrraedd Jericho. Roedd tyrfa fawr yn dilyn Iesu a'i ddisgyblion allan o'r dref, a dyma nhw'n pasio heibio dyn dall oedd yn cardota ar ochr y ffordd – Bartimeus oedd enw'r dyn (hynny ydy, ‛mab Timeus‛).
Mark WelBeibl 10:47  Pan ddeallodd mai Iesu o Nasareth oedd yno, dechreuodd weiddi, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”
Mark WelBeibl 10:48  “Cau dy geg!” meddai rhai o'r bobl wrtho. Ond yn lle hynny dechreuodd weiddi'n uwch fyth, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”
Mark WelBeibl 10:49  Dyma Iesu'n stopio, “Dwedwch wrtho am ddod yma,” meddai. Felly dyma nhw'n galw'r dyn dall, “Hei! Cod dy galon! Mae'n galw amdanat ti. Tyrd!”
Mark WelBeibl 10:50  Felly taflodd y dyn dall ei glogyn i ffwrdd, neidio ar ei draed a mynd at Iesu.
Mark WelBeibl 10:51  Dyma Iesu'n gofyn iddo, “Beth ga i wneud i ti?” “Rabbwni,” atebodd y dyn dall, “Dw i eisiau gallu gweld.”
Mark WelBeibl 10:52  Yna dwedodd Iesu, “Dos, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” Yn sydyn roedd y dyn yn gweld, a dilynodd Iesu ar hyd y ffordd.
Chapter 11
Mark WelBeibl 11:1  Dyma nhw'n cyrraedd Bethffage a Bethania wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem. Dyma Iesu'n dweud wrth ddau o'i ddisgyblion,
Mark WelBeibl 11:2  “Ewch i'r pentref acw sydd o'ch blaen chi, ac wrth fynd i mewn iddo dewch o hyd i ebol wedi'i rwymo – un does neb wedi bod ar ei gefn o'r blaen. Dewch â'r ebol i mi, ac
Mark WelBeibl 11:3  os bydd rhywun yn gofyn, ‘Beth dych chi'n ei wneud?’ dwedwch, ‘Mae'r meistr ei angen; bydd yn ei anfon yn ôl wedyn.’”
Mark WelBeibl 11:4  Felly i ffwrdd â nhw, a dyna lle roedd yr ebol, allan yn y stryd wedi'i rwymo wrth ddrws. Wrth iddyn nhw ei ollwng yn rhydd
Mark WelBeibl 11:5  dyma rhyw bobl oedd yn sefyll yno yn dweud, “Hei! Beth dych chi'n ei wneud?”
Mark WelBeibl 11:6  Dyma nhw'n dweud yn union beth ddwedodd Iesu wrthyn nhw, a dyma'r bobl yn gadael iddyn nhw fynd.
Mark WelBeibl 11:7  Pan ddaethon nhw â'r ebol at Iesu dyma nhw'n taflu'u cotiau drosto, a dyma Iesu'n eistedd ar ei gefn.
Mark WelBeibl 11:8  Roedd llawer o bobl yn gosod eu cotiau fel carped ar y ffordd o'i flaen, neu ganghennau deiliog oedden nhw wedi'u torri o'r caeau.
Mark WelBeibl 11:9  Roedd pobl y tu blaen a'r tu ôl iddo yn gweiddi, “Hosanna! Clod i ti!” “Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi'i fendithio'n fawr!”
Mark WelBeibl 11:10  “Mae teyrnas ein cyndad Dafydd wedi'i bendithio!” “Hosanna! Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!”
Mark WelBeibl 11:11  Dyma Iesu'n mynd i mewn i Jerwsalem ac i'r deml. Edrychodd o gwmpas ar bopeth oedd yno cyn gadael. Gan ei bod yn mynd yn hwyr, aeth yn ôl i Bethania gyda'r deuddeg disgybl.
Mark WelBeibl 11:12  Y diwrnod wedyn, wrth adael Bethania, roedd Iesu eisiau bwyd.
Mark WelBeibl 11:13  Gwelodd goeden ffigys ddeiliog yn y pellter, ac aeth i edrych rhag ofn bod ffrwyth arni. Ond doedd dim byd ond dail, am ei bod hi ddim yr adeg iawn o'r flwyddyn i'r ffigys fod yn barod.
Mark WelBeibl 11:14  “Fydd neb yn bwyta dy ffrwyth di byth eto!” meddai Iesu. Clywodd y disgyblion beth ddwedodd e.
Mark WelBeibl 11:15  Pan gyrhaeddodd Iesu Jerwsalem, aeth i gwrt y deml a dechrau gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau'r rhai oedd yn cyfnewid arian a'u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod.
Mark WelBeibl 11:16  Yna gwrthododd adael i unrhyw un gario pethau i'w gwerthu i mewn i'r deml.
Mark WelBeibl 11:17  Yna dechreuodd eu dysgu, “Onid ydy'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.’? Ond dych chi wedi troi'r lle yn ‘guddfan i ladron’!”
Mark WelBeibl 11:18  Clywodd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith beth ddwedodd e, a mynd ati i geisio dod o hyd i ffordd i'w ladd. Roedden nhw'n ei weld yn fygythiad i'w hawdurdod, am fod y bobl wedi'u syfrdanu gan ei eiriau.
Mark WelBeibl 11:19  Pan ddechreuodd hi nosi, dyma Iesu a'i ddisgyblion yn gadael y ddinas.
Mark WelBeibl 11:20  Y bore wedyn roedden nhw'n pasio'r goeden ffigys eto. Roedd hi wedi gwywo'n llwyr!
Mark WelBeibl 11:21  Cofiodd Pedr eiriau Iesu'r diwrnod cynt, ac meddai, “Rabbi, edrych! Mae'r goeden wnest ti ei melltithio wedi gwywo!”
Mark WelBeibl 11:23  “Credwch chi fi, does ond rhaid i chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Dos, a thaflu dy hun i'r môr’ – heb amau o gwbl, dim ond credu y gwnaiff ddigwydd – a bydd yn digwydd!
Mark WelBeibl 11:24  Felly dw i'n dweud wrthoch chi, cewch beth bynnag dych chi'n gofyn amdano wrth weddïo, dim ond i chi gredu y byddwch yn ei dderbyn.
Mark WelBeibl 11:25  Ond cyn gweddïo'n gyhoeddus, rhaid i chi faddau i unrhyw un sydd wedi gwneud rhywbeth yn eich erbyn. Wedyn bydd eich Tad yn y nefoedd yn maddau'ch pechodau chi.”
Mark WelBeibl 11:27  Dyma nhw'n cyrraedd yn ôl i Jerwsalem. Pan oedd Iesu'n cerdded o gwmpas y deml, dyma'r prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato,
Mark WelBeibl 11:28  a gofyn iddo, “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy roddodd yr awdurdod i ti?”
Mark WelBeibl 11:29  Atebodd Iesu, “Gadewch i mi ofyn cwestiwn i chi. Atebwch chi hwn, ac ateba i'ch cwestiwn chi.
Mark WelBeibl 11:30  Dwedwch wrtho i – Ai Duw anfonodd Ioan i fedyddio neu ddim?”
Mark WelBeibl 11:31  Wrth drafod y peth gyda'i gilydd, dyma nhw'n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu felly?’
Mark WelBeibl 11:32  Ond allwn ni byth ddweud ‘Na’ …” (Roedd ganddyn nhw ofn y bobl, am fod pawb yn meddwl fod Ioan yn broffwyd.)
Mark WelBeibl 11:33  Felly dyma nhw'n gwrthod ateb, “Dŷn ni ddim yn gwybod,” medden nhw. “Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu.
Chapter 12
Mark WelBeibl 12:1  Roedd Iesu'n defnyddio straeon i ddarlunio beth roedd e eisiau'i ddweud, ac meddai wrthyn nhw: “Roedd rhyw ddyn wedi plannu gwinllan. Cododd ffens o'i chwmpas, cloddio lle i wasgu'r sudd o'r grawnwin ac adeiladu tŵr i'w gwylio. Yna gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd ar daith bell.
Mark WelBeibl 12:2  Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin anfonodd un o'i weision i nôl ei siâr o'r ffrwyth gan y tenantiaid.
Mark WelBeibl 12:3  Ond dyma'r tenantiaid yn gafael yn y gwas, ei guro a'i anfon i ffwrdd heb ddim.
Mark WelBeibl 12:4  Felly dyma'r dyn yn anfon gwas arall; dyma nhw'n cam-drin hwnnw a'i anafu ar ei ben.
Mark WelBeibl 12:5  Pan anfonodd was arall eto, cafodd hwnnw ei ladd. Digwyddodd yr un peth i lawer o weision eraill – cafodd rhai eu curo ac eraill eu lladd.
Mark WelBeibl 12:6  “Dim ond un oedd ar ôl y gallai ei anfon, a'i fab oedd hwnnw, ac roedd yn ei garu'n fawr. Yn y diwedd dyma fe'n ei anfon, gan feddwl, ‘Byddan nhw'n parchu fy mab i.’
Mark WelBeibl 12:7  “Ond dyma'r tenantiaid yn dweud wrth ei gilydd, ‘Hwn sy'n mynd i etifeddu'r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni'r winllan i ni'n hunain.’
Mark WelBeibl 12:8  Felly dyma nhw'n gafael ynddo a'i ladd a thaflu ei gorff allan o'r winllan.
Mark WelBeibl 12:9  “Beth fydd y dyn biau'r winllan yn ei wneud? Dweda i wrthoch chi beth! – bydd yn dod ac yn lladd y tenantiaid a rhoi'r winllan i rai eraill.
Mark WelBeibl 12:10  Ydych chi ddim wedi darllen hyn yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen;
Mark WelBeibl 12:11  yr Arglwydd wnaeth hyn, ac mae'r peth yn rhyfeddol yn ein golwg’?”
Mark WelBeibl 12:12  Roedden nhw eisiau ei arestio, am eu bod yn gwybod yn iawn ei fod e'n sôn amdanyn nhw yn y stori. Ond roedd ofn y dyrfa arnyn nhw; felly roedd rhaid iddyn nhw adael llonydd iddo a mynd i ffwrdd.
Mark WelBeibl 12:13  Wedyn dyma'r arweinwyr Iddewig yn anfon rhai o'r Phariseaid a rhai o gefnogwyr Herod gyda'i gilydd at Iesu. Roedden nhw eisiau ei gael i ddweud rhywbeth fyddai'n ei gael i drwbwl.
Mark WelBeibl 12:14  Dyma nhw'n mynd ato a dweud, “Athro, dŷn ni'n gwybod dy fod di'n onest. Ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw. Rwyt ti'n dysgu ffordd Duw, ac yn glynu wrth yr hyn sy'n wir. Felly dywed wrthon ni – Ydy'n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?
Mark WelBeibl 12:15  Ddylen ni eu talu nhw neu ddim?” Ond roedd Iesu'n gweld eu twyll yn iawn. “Pam dych chi'n ceisio nal i?” meddai wrthyn nhw. “Dewch â darn arian i mi.”
Mark WelBeibl 12:16  Dyma nhw'n rhoi un iddo, a dyma Iesu'n gofyn iddyn nhw, “Llun pwy ydy hwn? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?” “Cesar,” medden nhw.
Mark WelBeibl 12:17  Felly meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a'r hyn biau Duw i Dduw.” Roedden nhw wedi'u syfrdanu'n llwyr ganddo.
Mark WelBeibl 12:18  Wedyn dyma rai o'r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn iddo. (Dyma'r arweinwyr Iddewig sy'n dweud fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.)
Mark WelBeibl 12:19  “Athro,” medden nhw, “rhoddodd Moses y rheol yma i ni: ‘Os ydy dyn yn marw a gadael ei wraig heb blentyn, rhaid i frawd y dyn hwnnw briodi'r weddw a chael plant yn ei le.’
Mark WelBeibl 12:20  Nawr, roedd saith brawd. Priododd yr hynaf, a buodd farw heb adael plant.
Mark WelBeibl 12:21  Dyma'r ail frawd yn priodi'r weddw, ond buodd yntau farw heb gael plentyn. Digwyddodd yr un peth gyda'r trydydd.
Mark WelBeibl 12:22  A dweud y gwir, er iddyn nhw i gyd briodi'r wraig wnaeth yr un o'r saith adael plentyn ar ei ôl. Yn y diwedd dyma'r wraig yn marw hefyd.
Mark WelBeibl 12:23  Dyma'n cwestiwn ni: Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pwy fydd hi? Roedd hi wedi bod yn wraig i'r saith ohonyn nhw!”
Mark WelBeibl 12:24  Atebodd Iesu, “Dych chi'n deall dim! Dych chi ddim wedi deall yr ysgrifau sanctaidd a dych chi'n gwybod dim byd am allu Duw.
Mark WelBeibl 12:25  Fydd pobl ddim yn priodi pan fydd y meirw'n dod yn ôl yn fyw; byddan nhw yr un fath â'r angylion yn y nefoedd.
Mark WelBeibl 12:26  A bydd y meirw yn dod yn ôl yn fyw! – ydych chi ddim wedi darllen beth ysgrifennodd Moses? Yn yr hanes am y berth yn llosgi, dwedodd Duw wrtho, ‘Fi ydy Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob’.
Mark WelBeibl 12:27  Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw'r rhai sy'n fyw! Dych chi wedi camddeall yn llwyr!”
Mark WelBeibl 12:28  Roedd un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno'n gwrando arnyn nhw'n dadlau. Pan welodd fod Iesu wedi rhoi ateb da iddyn nhw, gofynnodd yntau gwestiwn iddo. “O'r holl orchmynion i gyd, pa un ydy'r pwysica?” gofynnodd.
Mark WelBeibl 12:29  Atebodd Iesu, “Y gorchymyn pwysica ydy hwn: ‘Gwrando Israel! Yr Arglwydd ein Duw ydy'r unig Arglwydd.
Mark WelBeibl 12:30  Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, â'th holl feddwl ac â'th holl nerth.’
Mark WelBeibl 12:31  A'r ail ydy: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.’ Does dim un gorchymyn sy'n bwysicach na'r rhain.”
Mark WelBeibl 12:32  “Rwyt ti'n iawn, athro,” meddai'r dyn, “Mae'n wir – un Duw sydd, a does dim un arall yn bod.
Mark WelBeibl 12:33  Ei garu fe â'r holl galon, ac â'r holl feddwl ac â'r holl nerth sydd ynon ni sy'n bwysig, a charu cymydog fel dŷn ni'n caru'n hunain. Mae hyn yn bwysicach na'r aberthau llosg a'r offrymau i gyd.”
Mark WelBeibl 12:34  Roedd Iesu'n gweld oddi wrth ei ymateb ei fod wedi deall, a dwedodd wrtho, “Ti ddim yn bell iawn o deyrnas Dduw.” O hynny ymlaen doedd neb yn meiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo.
Mark WelBeibl 12:35  Pan oedd Iesu wrthi'n dysgu yng nghwrt y deml, gofynnodd, “Pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod y Meseia yn fab i Dafydd?
Mark WelBeibl 12:36  Dafydd ei hun ddwedodd, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi osod dy elynion dan dy draed.”’
Mark WelBeibl 12:37  Mae Dafydd yn ei alw'n ‛Arglwydd‛! Felly, sut mae'n gallu bod yn fab iddo?” Roedd yno dyrfa fawr wrth eu boddau yn gwrando arno.
Mark WelBeibl 12:38  Dyma rai pethau eraill ddysgodd Iesu iddyn nhw, “Gwyliwch yr arbenigwyr yn y Gyfraith. Maen nhw wrth eu bodd yn cerdded o gwmpas yn swancio yn eu gwisgoedd swyddogol, a chael pawb yn eu cyfarch ac yn talu sylw iddyn nhw yn y farchnad.
Mark WelBeibl 12:39  Mae'n rhaid iddyn nhw gael y seddi gorau yn y synagogau, ac eistedd ar y bwrdd uchaf mewn gwleddoedd.
Mark WelBeibl 12:40  Maen nhw'n dwyn popeth oddi ar wragedd gweddwon ac wedyn yn ceisio rhoi'r argraff eu bod nhw'n dduwiol gyda'u gweddïau hir! Bydd pobl fel nhw yn cael eu cosbi'n llym.”
Mark WelBeibl 12:41  Eisteddodd Iesu gyferbyn â'r blychau casglu lle roedd pobl yn cyfrannu arian i drysorfa'r deml, a gwylio'r dyrfa yn rhoi eu harian yn y blychau. Roedd llawer o bobl gyfoethog yn rhoi arian mawr.
Mark WelBeibl 12:42  Ond yna daeth gwraig weddw dlawd a rhoi dwy geiniog i mewn (oedd yn werth dim byd bron).
Mark WelBeibl 12:43  Dyma Iesu'n galw'i ddisgyblion ato a dweud, “Credwch chi fi, mae'r wraig weddw dlawd yna wedi rhoi mwy nag unrhyw un arall.
Mark WelBeibl 12:44  Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben. Ond rhoddodd hon y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”
Chapter 13
Mark WelBeibl 13:1  Wrth iddyn nhw adael y deml, dyma un o'r disgyblion yn dweud, “Edrych ar y cerrig anferth yma, athro! Mae'r adeiladau yma'n fendigedig!”
Mark WelBeibl 13:2  Atebodd Iesu, “Ydych chi'n gweld yr adeiladau mawr yma i gyd? Bydd y cwbl yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi'i gadael yn ei lle.”
Mark WelBeibl 13:3  Yn nes ymlaen, pan oedd Iesu'n eistedd ar ochr Mynydd yr Olewydd, gyferbyn â'r deml, dyma Pedr, Iago, Ioan ac Andreas yn dod ato ac yn gofyn iddo'n breifat,
Mark WelBeibl 13:4  “Pryd mae beth roeddet ti'n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd cyn i'r pethau yma i gyd ddigwydd?”
Mark WelBeibl 13:5  Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi.
Mark WelBeibl 13:6  Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, a dweud ‘Fi ydy'r Meseia,’ a byddan nhw'n llwyddo i dwyllo llawer o bobl.
Mark WelBeibl 13:7  Bydd rhyfeloedd a sôn am ryfeloedd yn agos ac ymhell. Ond peidiwch cynhyrfu – mae pethau felly'n siŵr o ddigwydd, ond fydd y diwedd yn dal heb ddod.
Mark WelBeibl 13:8  Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd daeargrynfeydd mewn gwahanol leoedd, a newyn. Dim ond y dechrau ydy hyn!
Mark WelBeibl 13:9  “Gwyliwch eich hunain. Cewch eich dwyn o flaen yr awdurdodau, a'ch curo yn y synagogau. Cewch eich cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd, a byddwch yn tystiolaethu iddyn nhw amdana i.
Mark WelBeibl 13:10  Rhaid i'r newyddion da gael ei gyhoeddi ym mhob gwlad gyntaf.
Mark WelBeibl 13:11  Peidiwch poeni ymlaen llaw beth i'w ddweud pan gewch eich arestio a'ch rhoi ar brawf. Dwedwch beth fydd yn dod i chi ar y pryd, achos dim chi fydd yn siarad, ond yr Ysbryd Glân.
Mark WelBeibl 13:12  “Bydd dyn yn bradychu ei frawd i gael ei ladd, a thad yn bradychu ei blentyn. Bydd plant yn troi yn erbyn eu rhieni ac yn eu rhoi i'r awdurdodau i'w dienyddio.
Mark WelBeibl 13:13  Bydd pawb yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi, ond bydd y rhai sy'n sefyll yn gadarn i'r diwedd un yn cael eu hachub.
Mark WelBeibl 13:14  “Pan welwch ‘yr eilun ffiaidd sy'n dinistrio’ wedi'i osod lle na ddylai fod (rhaid i'r un sy'n darllen ddeall hyn!), yna dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i'r mynyddoedd.
Mark WelBeibl 13:15  Fydd dim cyfle i rywun sydd y tu allan i'w dŷ fynd i mewn i nôl unrhyw beth.
Mark WelBeibl 13:16  A ddylai neb sydd allan yn y maes fynd adre i nôl ei gôt hyd yn oed.
Mark WelBeibl 13:17  Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy'n magu plant bach bryd hynny!
Mark WelBeibl 13:19  achos bryd hynny bydd argyfwng gwaeth nag unrhyw beth welwyd erioed o'r blaen – ers i Dduw greu'r byd! A fydd dim byd tebyg yn y dyfodol chwaith!
Mark WelBeibl 13:20  Oni bai i'r Arglwydd ei wneud yn gyfnod byr, fyddai neb yn dianc! Ond mae'n gwneud hynny er mwyn y bobl mae wedi'u dewis iddo'i hun.
Mark WelBeibl 13:21  Felly, os bydd rhywun yn dweud, ‘Edrych! Hwn ydy'r Meseia!’ neu, ‘Edrych! Dacw fe!’ peidiwch credu'r peth.
Mark WelBeibl 13:22  Bydd llawer i ‛Feseia‛ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw'n twyllo'r bobl hynny mae Duw wedi'u dewis petai'r fath beth yn bosib!
Mark WelBeibl 13:23  Felly gwyliwch! Dw i wedi dweud hyn i gyd ymlaen llaw.
Mark WelBeibl 13:24  “Ond bryd hynny, ar ôl yr argyfwng, ‘Bydd yr haul yn tywyllu, a'r lleuad yn peidio rhoi golau;
Mark WelBeibl 13:25  bydd y sêr yn syrthio o'r awyr, a'r planedau yn ansefydlog.’
Mark WelBeibl 13:26  “Bryd hynny bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod mewn cymylau gyda grym ac ysblander mawr.
Mark WelBeibl 13:27  Yna bydd yn anfon yr angylion i gasglu'r rhai mae wedi'u dewis o bob rhan o'r byd.
Mark WelBeibl 13:28  “Dysgwch wers gan y goeden ffigys: Pan mae'r brigau'n dechrau blaguro a dail yn dechrau tyfu arni, gwyddoch fod yr haf yn agos.
Mark WelBeibl 13:29  Felly'r un fath, pan fyddwch yn gweld y pethau yma'n digwydd, byddwch yn gwybod ei fod ar fin dod yn ôl – reit tu allan i'r drws!
Mark WelBeibl 13:30  Credwch chi fi, bydd pobl y genhedlaeth bresennol yn dal yma pan fydd hyn yn digwydd.
Mark WelBeibl 13:31  Bydd yr awyr a'r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i'n ddweud yn aros am byth.
Mark WelBeibl 13:32  “Does neb ond y Tad ei hun yn gwybod y dyddiad a pha amser o'r dydd y bydd hyn yn digwydd – dydy'r angylion ddim yn gwybod, na hyd yn oed y Mab ei hun!
Mark WelBeibl 13:33  Gwyliwch eich hunain! Cadwch yn effro! Dych chi ddim yn gwybod pryd fydd e'n digwydd.
Mark WelBeibl 13:34  Mae fel dyn sy'n mynd i ffwrdd oddi cartref: Mae'n gadael ei dŷ yng ngofal ei weision ac yn rhoi gwaith penodol i bob un, ac mae'n dweud wrth yr un sy'n gofalu am y drws i edrych allan amdano.
Mark WelBeibl 13:35  “Gwyliwch felly, am eich bod chi ddim yn gwybod pryd fydd perchennog y tŷ yn dod yn ôl – gall ddod gyda'r nos, neu ganol nos, neu'n gynnar iawn yn y bore, neu ar ôl iddi wawrio.
Mark WelBeibl 13:36  Bydd yn dod heb rybudd, felly peidiwch gadael iddo'ch dal chi'n cysgu.
Mark WelBeibl 13:37  Dw i'n dweud yr un peth wrth bawb: ‘Gwyliwch!’”
Chapter 14
Mark WelBeibl 14:1  Ychydig dros ddiwrnod oedd cyn y Pasg a Gŵyl y Bara Croyw. Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dal i edrych am esgus i arestio Iesu a'i ladd.
Mark WelBeibl 14:2  Ond medden nhw, “Dim yn ystod yr Ŵyl, neu bydd reiat.”
Mark WelBeibl 14:3  Pan oedd Iesu yn Bethania, aeth am bryd o fwyd i gartref dyn roedd pawb yn ei alw yn ‛Simon y gwahanglwyf‛. Tra oedd Iesu'n bwyta daeth gwraig ato gyda jar alabaster hardd yn llawn o bersawr costus, olew nard pur. Torrodd y sêl ar y jar a thywallt y persawr ar ei ben.
Mark WelBeibl 14:4  Roedd rhai o'r bobl oedd yno wedi digio go iawn – “Am wastraff!” medden nhw,
Mark WelBeibl 14:5  “Gallai rhywun fod wedi gwerthu'r persawr yna am ffortiwn a rhoi'r arian i bobl dlawd.” Roedden nhw'n gas iawn ati hi.
Mark WelBeibl 14:6  “Gadewch lonydd iddi,” meddai Iesu. “Pam dych chi'n ei phoeni hi? Mae hi wedi gwneud peth hyfryd.
Mark WelBeibl 14:7  Bydd pobl dlawd o gwmpas bob amser, a gallwch eu helpu nhw unrhyw bryd. Ond fydda i ddim yma bob amser.
Mark WelBeibl 14:8  Gwnaeth hi beth allai ei wneud. Tywalltodd bersawr arna i, i baratoi fy nghorff i'w gladdu.
Mark WelBeibl 14:9  Credwch chi fi, ble bynnag fydd y newyddion da yn cael ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd, bydd pobl yn cofio beth wnaeth y wraig yma hefyd.”
Mark WelBeibl 14:10  Ar ôl i hyn ddigwydd aeth Jwdas Iscariot, oedd yn un o'r deuddeg disgybl, at y prif offeiriaid i fradychu Iesu iddyn nhw.
Mark WelBeibl 14:11  Roedden nhw wrth eu bodd pan glywon nhw beth oedd ganddo i'w ddweud, a dyma nhw'n addo rhoi arian iddo. Felly roedd yn edrych am gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw.
Mark WelBeibl 14:12  Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw (hynny ydy, y diwrnod pan oedd hi'n draddodiad i ladd oen y Pasg), gofynnodd disgyblion Iesu iddo, “Ble rwyt ti am fwyta swper y Pasg? – i ni fynd yno i'w baratoi.”
Mark WelBeibl 14:13  Felly anfonodd ddau o'i ddisgyblion i Jerwsalem, a dweud wrthyn nhw, “Wrth fynd i mewn i'r ddinas, bydd dyn yn dod i'ch cyfarfod yn cario llestr dŵr. Ewch ar ei ôl,
Mark WelBeibl 14:14  a gofyn i berchennog y tŷ y bydd yn mynd iddo, ‘Mae'r athro eisiau gwybod ble mae'r ystafell westai iddo ddathlu'r Pasg gyda'i ddisgyblion?’
Mark WelBeibl 14:15  Bydd yn mynd â chi i ystafell fawr i fyny'r grisiau wedi'i pharatoi'n barod. Gwnewch swper i ni yno.”
Mark WelBeibl 14:16  Felly, i ffwrdd â'r disgyblion i'r ddinas, a digwyddodd popeth yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Felly dyma nhw'n paratoi swper y Pasg yno.
Mark WelBeibl 14:17  Yn gynnar y noson honno aeth Iesu yno gyda'r deuddeg disgybl.
Mark WelBeibl 14:18  Tra oedden nhw'n bwyta, dyma Iesu'n dweud, “Wir i chi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i. Un ohonoch chi sy'n bwyta gyda mi yma.”
Mark WelBeibl 14:19  Dyma nhw'n mynd yn drist iawn, a dweud un ar ôl y llall, “Dim fi ydy'r un, nage?”
Mark WelBeibl 14:20  “Un ohonoch chi'r deuddeg,” meddai Iesu, “Un ohonoch chi sy'n bwyta yma, ac yn trochi ei fara yn y ddysgl saws gyda mi.
Mark WelBeibl 14:21  Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i! Byddai'n well arno petai erioed wedi cael ei eni!”
Mark WelBeibl 14:22  Tra oedden nhw'n bwyta dyma Iesu'n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma” meddai, “Dyma fy nghorff i.”
Mark WelBeibl 14:23  Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto a'i basio iddyn nhw, a dyma nhw i gyd yn yfed ohono.
Mark WelBeibl 14:24  “Dyma fy ngwaed,” meddai, “sy'n selio ymrwymiad Duw i'w bobl. Mae'n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl.
Mark WelBeibl 14:25  Credwch chi fi, fydda i ddim yn yfed gwin eto, nes daw'r diwrnod hwnnw pan fydda i'n yfed o'r newydd pan fydd Duw yn teyrnasu.”
Mark WelBeibl 14:26  Wedyn ar ôl canu emyn, dyma nhw'n mynd allan i Fynydd yr Olewydd.
Mark WelBeibl 14:27  “Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i,” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydda i'n taro'r bugail, a bydd y defaid yn mynd ar chwâl.’
Mark WelBeibl 14:28  Ond ar ôl i mi ddod yn ôl yn fyw af i o'ch blaen chi i Galilea.”
Mark WelBeibl 14:29  “Wna i byth droi cefn arnat ti!” meddai Pedr wrtho. “Hyd yn oed os bydd pawb arall yn gwneud hynny!”
Mark WelBeibl 14:30  “Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod yn fy nabod i!”
Mark WelBeibl 14:31  Ond roedd Pedr yn mynnu, “Na! wna i byth wadu mod i'n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda ti!” Ac roedd y lleill yn dweud yr un peth.
Mark WelBeibl 14:32  Dyma Iesu'n mynd gyda'i ddisgyblion i le o'r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i'n mynd i weddïo.”
Mark WelBeibl 14:33  Aeth a Pedr, Iago ac Ioan gydag e, a dechreuodd brofi dychryn a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu.
Mark WelBeibl 14:34  “Mae'r tristwch dw i'n ei deimlo yn ddigon i'm lladd i,” meddai wrthyn nhw. “Arhoswch yma a gwylio.”
Mark WelBeibl 14:35  Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar lawr a gweddïo i'r profiad ofnadwy oedd o'i flaen fynd i ffwrdd petai hynny'n bosib.
Mark WelBeibl 14:36  “Abba! Dad!” meddai, “Mae popeth yn bosib i ti. Cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.”
Mark WelBeibl 14:37  Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Simon, wyt ti'n cysgu? Allet ti ddim cadw golwg am un awr fechan?
Mark WelBeibl 14:38  Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi. Mae'r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.”
Mark WelBeibl 14:40  Ond pan ddaeth yn ôl roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw'n methu'n lân â chadw eu llygaid ar agor. Doedden nhw ddim yn gwybod beth i'w ddweud.
Mark WelBeibl 14:41  Pan ddaeth yn ôl y drydedd waith, meddai wrthyn nhw, “Dych chi'n cysgu eto? Dal i orffwys? Dyna ni, mae'r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid.
Mark WelBeibl 14:42  Codwch, gadewch i ni fynd! Mae'r bradwr wedi cyrraedd!”
Mark WelBeibl 14:43  Ac ar unwaith, wrth iddo ddweud y peth, dyma Jwdas yn cyrraedd, un o'r deuddeg disgybl, gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill wedi'u hanfon nhw i ddal Iesu.
Mark WelBeibl 14:44  Roedd Jwdas y bradwr wedi trefnu y byddai'n rhoi arwydd iddyn nhw: “Yr un fydda i'n ei gyfarch â chusan ydy'r dyn; arestiwch e, a'i gadw yn y ddalfa.”
Mark WelBeibl 14:45  Pan gyrhaeddodd, aeth Jwdas yn syth at Iesu. “Rabbi!” meddai, ac yna ei gyfarch â chusan.
Mark WelBeibl 14:47  Ond dyma un o'r rhai oedd yno yn tynnu cleddyf allan a tharo gwas yr archoffeiriad. Torrodd ei glust i ffwrdd.
Mark WelBeibl 14:48  “Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth?” meddai Iesu. “Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma?
Mark WelBeibl 14:49  Pam wnaethoch chi ddim fy arestio i yn y deml? Rôn i yno gyda chi bob dydd, yn dysgu'r bobl. Ond rhaid i bethau ddigwydd fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud.”
Mark WelBeibl 14:51  Ond roedd un dyn ifanc yn dilyn Iesu, yn gwisgo dim amdano ond crys nos o liain. Dyma nhw'n ceisio ei ddal e,
Mark WelBeibl 14:52  ond gadawodd ei grys a rhedodd y bachgen i ffwrdd yn noeth.
Mark WelBeibl 14:53  Dyma nhw'n mynd â Iesu at yr archoffeiriad. Roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr eraill, a'r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi dod at ei gilydd.
Mark WelBeibl 14:54  Roedd Pedr wedi bod yn dilyn o bell. Aeth i mewn i iard tŷ'r archoffeiriad. Eisteddodd yno gyda'r swyddogion diogelwch yn cadw'n gynnes wrth y tân.
Mark WelBeibl 14:55  Roedd y prif offeiriaid a'r Sanhedrin (hynny ydy yr uchel-lys Iddewig) yn edrych am dystiolaeth yn erbyn Iesu er mwyn ei ddedfrydu i farwolaeth.
Mark WelBeibl 14:56  Ond chawson nhw ddim tystiolaeth, er fod digon o bobl yn barod i ddweud celwydd ar lw. Y broblem oedd fod eu straeon yn gwrth-ddweud ei gilydd.
Mark WelBeibl 14:57  Yn y diwedd, dyma rhywrai'n tystio fel hyn (dweud celwydd oedden nhw):
Mark WelBeibl 14:58  “Clywon ni e'n dweud, ‘Dw i'n mynd i ddinistrio'r deml yma sydd wedi'i hadeiladu gan ddynion a chodi un arall o fewn tri diwrnod heb help dynion.’”
Mark WelBeibl 14:59  Hyd yn oed wedyn doedd eu tystiolaeth ddim yn gyson!
Mark WelBeibl 14:60  Felly dyma'r archoffeiriad yn codi ar ei draed ac yn gofyn i Iesu, “Wel, oes gen ti ateb? Beth am y dystiolaeth yma yn dy erbyn di?”
Mark WelBeibl 14:61  Ond ddwedodd Iesu ddim gair. Yna gofynnodd yr archoffeiriad eto, “Ai ti ydy'r Meseia, Mab yr Un Bendigedig?”
Mark WelBeibl 14:62  “Ie, fi ydy e,” meddai Iesu. “A byddwch chi'n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda'r Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau'r awyr.”
Mark WelBeibl 14:63  Wrth glywed yr hyn ddwedodd Iesu dyma'r archoffeiriad yn rhwygo'i ddillad. “Pam mae angen tystion arnon ni?!” meddai.
Mark WelBeibl 14:64  “Dych chi i gyd wedi'i glywed yn cablu. Beth ydy'ch dyfarniad chi?” A dyma nhw i gyd yn dweud ei fod yn haeddu ei gondemnio i farwolaeth.
Mark WelBeibl 14:65  Yna dyma rai ohonyn nhw'n dechrau poeri ato, a rhoi mwgwd dros ei lygaid, a'i ddyrnu yn ei wyneb. “Tyrd, Proffwyda!”, medden nhw. Wedyn dyma'r swyddogion diogelwch yn ei gymryd i ffwrdd a'i guro.
Mark WelBeibl 14:66  Yn y cyfamser, roedd Pedr yn yr iard i lawr y grisiau, a daeth un o forynion yr archoffeiriad heibio.
Mark WelBeibl 14:67  Digwyddodd sylwi ar Pedr yn cadw'n gynnes yno, a stopiodd i edrych arno. “Roeddet ti'n un o'r rhai oedd gyda'r Nasaread Iesu yna!” meddai.
Mark WelBeibl 14:68  Ond gwadu wnaeth Pedr. “Does gen i ddim syniad am beth rwyt ti'n sôn,” meddai, ac aeth allan at y fynedfa.
Mark WelBeibl 14:69  Ond dyma'r forwyn yn ei weld eto, ac meddai wrth y rhai oedd yn sefyll o gwmpas yno, “Mae hwn yn un ohonyn nhw.”
Mark WelBeibl 14:70  Ond gwadu wnaeth Pedr eto. Ychydig wedyn, dyma rai eraill oedd yn sefyll yno yn dweud wrth Pedr, “Ti'n un ohonyn nhw yn bendant! Mae'n amlwg dy fod ti'n dod o Galilea.”
Mark WelBeibl 14:71  Dyma Pedr yn dechrau rhegi a melltithio, “Dw i ddim yn nabod y dyn yma dych chi'n sôn amdano!”
Mark WelBeibl 14:72  A'r foment honno dyma'r ceiliog yn canu am yr ail waith. Yna cofiodd Pedr eiriau Iesu: “Byddi di wedi gwadu dy fod yn fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith.” Torrodd i lawr a beichio crio.
Chapter 15
Mark WelBeibl 15:1  Yn gynnar iawn yn y bore, dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr eraill, gyda'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Sanhedrin cyfan, yn penderfynu beth i'w wneud. Dyma nhw'n rhwymo Iesu a'i drosglwyddo i Peilat.
Mark WelBeibl 15:2  Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” “Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu.
Mark WelBeibl 15:3  Roedd y prif offeiriaid yn ei gyhuddo o bob math o bethau,
Mark WelBeibl 15:4  felly gofynnodd Peilat iddo eto, “Oes gen ti ddim i'w ddweud? Edrych cymaint o bethau maen nhw'n dy gyhuddo di o'u gwneud.”
Mark WelBeibl 15:5  Ond wnaeth Iesu ddim ateb o gwbl. Doedd y peth yn gwneud dim sens i Peilat.
Mark WelBeibl 15:6  Adeg y Pasg roedd hi'n draddodiad i ryddhau un carcharor – un oedd y bobl yn ei ddewis.
Mark WelBeibl 15:7  Roedd dyn o'r enw Barabbas yn y carchar – un o'r terfysgwyr oedd yn euog o lofruddiaeth adeg y gwrthryfel.
Mark WelBeibl 15:8  Felly dyma'r dyrfa'n mynd at Peilat a gofyn iddo wneud yn ôl ei arfer.
Mark WelBeibl 15:9  “Beth am i mi ryddhau hwn i chi, ‛Brenin yr Iddewon‛?” meddai Peilat.
Mark WelBeibl 15:10  (Roedd yn gwybod fod y prif offeiriaid wedi arestio Iesu am eu bod yn genfigennus ohono.)
Mark WelBeibl 15:11  Ond dyma'r prif offeiriaid yn cyffroi'r dyrfa a'u cael i ofyn i Peilat ryddhau Barabbas yn ei le.
Mark WelBeibl 15:12  “Felly beth dw i i'w wneud gyda'r un dych chi'n ei alw'n ‛Frenin yr Iddewon‛?” gofynnodd Peilat.
Mark WelBeibl 15:13  A dyma nhw'n dechrau gweiddi, “Croeshoelia fe!”
Mark WelBeibl 15:14  “Pam?” meddai Peilat, “Beth mae wedi'i wneud o'i le?” Ond dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uwch, “Croeshoelia fe!”
Mark WelBeibl 15:15  Gan ei fod am blesio'r dyrfa dyma Peilat yn rhyddhau Barabbas iddyn nhw. Wedyn gorchmynnodd fod Iesu i gael ei chwipio, ac yna ei ddedfrydu i gael ei groeshoelio.
Mark WelBeibl 15:16  Dyma'r milwyr Rhufeinig yn mynd â Iesu i'r iard yn y palas (hynny ydy, Pencadlys y llywodraethwr) a galw'r holl fintai at ei gilydd.
Mark WelBeibl 15:17  Dyma nhw'n rhoi clogyn porffor amdano, ac yn plethu drain i wneud coron i'w rhoi ar ei ben.
Mark WelBeibl 15:18  Wedyn dyma nhw'n dechrau ei saliwtio, “Eich mawrhydi! Brenin yr Iddewon!”
Mark WelBeibl 15:19  Roedden nhw'n ei daro ar ei ben gyda gwialen drosodd a throsodd, ac yn poeri arno. Wedyn roedden nhw'n mynd ar eu gliniau o'i flaen ac yn esgus talu teyrnged iddo.
Mark WelBeibl 15:20  Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw'n tynnu'r clogyn porffor oddi arno a'i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw'n ei arwain allan i gael ei groeshoelio.
Mark WelBeibl 15:21  Roedd dyn o Cyrene o'r enw Simon yn digwydd mynd heibio (tad Alecsander a Rwffus) – roedd ar ei ffordd i mewn i'r ddinas. A dyma'r milwyr yn ei orfodi i gario croes Iesu.
Mark WelBeibl 15:22  Dyma nhw'n dod â Iesu i Golgotha (sy'n golygu ‛Lle y Benglog‛),
Mark WelBeibl 15:23  a dyma nhw'n cynnig gwin wedi'i gymysgu â chyffur iddo, ond gwrthododd ei gymryd.
Mark WelBeibl 15:24  Ar ôl ei hoelio ar y groes dyma nhw'n gamblo i weld pwy fyddai'n cael ei ddillad.
Mark WelBeibl 15:25  Naw o'r gloch y bore oedd hi pan wnaethon nhw ei groeshoelio.
Mark WelBeibl 15:26  Roedd arwydd ysgrifenedig yn dweud beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn. Y geiriau ar yr arwydd oedd: BRENIN YR IDDEWON.
Mark WelBeibl 15:27  Cafodd dau leidr eu croeshoelio yr un pryd, un bob ochr iddo.
Mark WelBeibl 15:29  Roedd y bobl oedd yn pasio heibio yn gwneud sbort am ei ben, ac yn hyrddio enllibion ato, “Felly! Ti sy'n mynd i ddinistrio'r deml a'i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod?
Mark WelBeibl 15:30  Tyrd yn dy flaen! Achub dy hun oddi ar y groes yna!”
Mark WelBeibl 15:31  Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno hefyd yn cael sbort ymhlith ei gilydd. “Roedd e'n achub pobl eraill,” medden nhw, “ond dydy e ddim yn gallu achub ei hun!
Mark WelBeibl 15:32  Beth am i ni gael gweld y Meseia yma, Brenin Israel, yn dod i lawr oddi ar y groes. Gwnawn ni gredu wedyn!” Roedd hyd yn oed y rhai oedd wedi'u croeshoelio gydag e'n ei sarhau.
Mark WelBeibl 15:33  O ganol dydd hyd dri o'r gloch y p'nawn aeth yn hollol dywyll drwy'r wlad i gyd.
Mark WelBeibl 15:34  Yna am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu'n uchel, “Eloi! Eloi! L'ma shfachtâni?” sy'n golygu, “Fy Nuw, fy Nuw, pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?”
Mark WelBeibl 15:35  Pan glywodd rhai o'r bobl oedd yn sefyll yno hyn, “Ust!” medden nhw, “Mae'n galw ar y proffwyd Elias am help.”
Mark WelBeibl 15:36  Dyma un ohonyn nhw'n rhedeg ac yn trochi ysbwng mewn gwin sur rhad, a'i godi ar flaen ffon i'w gynnig i Iesu ei yfed. “Gadewch lonydd iddo,” meddai, “i ni gael gweld os daw Elias i'w dynnu i lawr.”
Mark WelBeibl 15:37  Ond yna dyma Iesu'n gweiddi'n uchel, yna stopio anadlu a marw.
Mark WelBeibl 15:38  A dyma'r llen oedd yn hongian yn y deml yn rhwygo yn ei hanner o'r top i'r gwaelod.
Mark WelBeibl 15:39  Roedd capten milwrol Rhufeinig yn sefyll yno wrth y groes. Pan welodd sut buodd Iesu farw, ei eiriau oedd, “Mab Duw oedd y dyn yma, reit siŵr!”
Mark WelBeibl 15:40  Roedd nifer o wragedd hefyd yn sefyll yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell, gan gynnwys Mair Magdalen, Mair mam Iago bach a Joses, a hefyd Salome.
Mark WelBeibl 15:41  Roedden nhw wedi bod yn dilyn Iesu o gwmpas Galilea gan wneud yn siŵr fod ganddo bopeth roedd ei angen. Roedden nhw, a llawer o wragedd eraill wedi dod i Jerwsalem gydag e.
Mark WelBeibl 15:42  Roedd hi'n nos Wener (sef y diwrnod cyn y Saboth). Wrth iddi ddechrau nosi
Mark WelBeibl 15:43  aeth un o aelodau blaenllaw y Sanhedrin i weld Peilat – dyn o'r enw Joseff oedd yn dod o Arimathea. Roedd Joseff yn ddyn duwiol oedd yn disgwyl am deyrnasiad Duw, a gofynnodd i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu.
Mark WelBeibl 15:44  Roedd Peilat yn methu credu bod Iesu eisoes wedi marw, a galwodd am y capten a gofyn iddo a oedd wedi marw ers peth amser.
Mark WelBeibl 15:45  Pan ddwedodd hwnnw ei fod, rhoddodd Peilat ganiatâd i Joseff gymryd y corff.
Mark WelBeibl 15:46  Ar ôl prynu lliain dyma Joseff yn tynnu'r corff i lawr a'i lapio yn y lliain. Yna fe'i rhoddodd i orwedd mewn bedd oedd wedi'i naddu yn y graig. Wedyn rholiodd garreg dros geg y bedd.
Mark WelBeibl 15:47  Roedd Mair Magdalen a Mair mam Joses yno'n edrych lle cafodd ei osod.
Chapter 16
Mark WelBeibl 16:1  Yn hwyr ar y nos Sadwrn, pan oedd y Saboth drosodd, aeth Mair Magdalen, Salome a Mair mam Iago i brynu perlysiau ar gyfer eneinio corff Iesu.
Mark WelBeibl 16:2  Yna'n gynnar iawn ar y bore Sul, pan oedd hi yn gwawrio, dyma nhw'n mynd at y bedd.
Mark WelBeibl 16:3  Roedden nhw wedi bod yn trafod ar eu ffordd yno pwy oedd yn mynd i rolio'r garreg oddi ar geg y bedd iddyn nhw.
Mark WelBeibl 16:4  Ond pan gyrhaeddon nhw'r bedd dyma nhw'n gweld fod y garreg, oedd yn un drom iawn, eisoes wedi'i rholio i ffwrdd.
Mark WelBeibl 16:5  Wrth gamu i mewn i'r bedd, dyma nhw'n dychryn, achos roedd dyn ifanc yn gwisgo mantell wen yn eistedd yno ar yr ochr dde.
Mark WelBeibl 16:6  “Peidiwch dychryn,” meddai wrthyn nhw. “Dych chi'n edrych am Iesu o Nasareth gafodd ei groeshoelio. Mae wedi dod yn ôl yn fyw! Dydy e ddim yma. Edrychwch, dyma lle cafodd ei gorff ei roi i orwedd.
Mark WelBeibl 16:7  Ewch, a dweud wrth ei ddisgyblion a Pedr, ‘Mae Iesu'n mynd i Galilea o'ch blaen chi. Cewch ei weld yno, yn union fel roedd wedi dweud.’”
Mark WelBeibl 16:8  Dyma'r gwragedd yn mynd allan ac yn rhedeg oddi wrth y bedd, yn crynu drwyddynt ac mewn dryswch. Roedd ganddyn nhw ofn dweud wrth unrhyw un am y peth.
Mark WelBeibl 16:9  Pan ddaeth Iesu yn ôl yn fyw yn gynnar ar y bore Sul, dangosodd ei hun gyntaf i Mair Magdalen, y wraig y bwriodd saith o gythreuliaid allan ohoni.
Mark WelBeibl 16:10  Aeth hithau i ddweud wrth y rhai oedd wedi bod gydag e. Roedden nhw'n galaru ac yn crio.
Mark WelBeibl 16:11  Pan ddwedodd hi fod Iesu'n fyw a'i bod hi wedi'i weld, doedden nhw ddim yn ei chredu.
Mark WelBeibl 16:12  Dangosodd ei hun wedyn, mewn ffurf wahanol, i ddau o'i ddilynwyr oedd ar eu ffordd o Jerwsalem i'r wlad.
Mark WelBeibl 16:13  Dyma nhw hefyd yn brysio'n ôl i Jerwsalem i ddweud wrth y lleill; ond doedden nhw ddim yn eu credu nhw chwaith.
Mark WelBeibl 16:14  Yn nes ymlaen dangosodd Iesu ei hun i'r unarddeg disgybl pan oedden nhw'n cael pryd o fwyd. Ar ôl dweud y drefn wrthyn nhw am fod mor ystyfnig yn gwrthod credu y rhai oedd wedi'i weld ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw,
Mark WelBeibl 16:15  dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i gyhoeddi'r newyddion da i bawb drwy'r byd i gyd.
Mark WelBeibl 16:16  Bydd pob un sy'n credu ac yn cael ei fedyddio yn cael ei achub, ond pob un sy'n gwrthod credu yn cael ei gondemnio.
Mark WelBeibl 16:17  A bydd yr arwyddion gwyrthiol yma'n digwydd i'r rhai sy'n credu: Byddan nhw'n bwrw cythreuliaid allan o bobl yn fy enw i; ac yn siarad ieithoedd gwahanol.
Mark WelBeibl 16:18  Byddan nhw'n gallu gafael mewn nadroedd; ac os byddan nhw'n yfed gwenwyn, fyddan nhw ddim yn dioddef o gwbl; byddan nhw'n gosod eu dwylo ar bobl sy'n glaf, a'u hiacháu nhw.”
Mark WelBeibl 16:19  Ar ôl i'r Arglwydd Iesu orffen siarad â nhw, cafodd ei gymryd i fyny i'r nefoedd i lywodraethu yno gyda Duw.
Mark WelBeibl 16:20  O hynny ymlaen aeth y disgyblion allan i bregethu ym mhobman. Roedd yr Arglwydd yn gweithio gyda nhw, ac yn cadarnhau fod y neges yn wir drwy'r arwyddion gwyrthiol oedd yn digwydd yr un pryd.