Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I SAMUEL
Up
Chapter 1
I Sa WelBeibl 1:1  Roedd yna ddyn o'r enw Elcana yn byw yn Rama ym mryniau Effraim. Roedd yn perthyn i deulu Swff, un o hen deuluoedd Effraim. (Ierocham oedd ei dad, a hwnnw'n fab i Elihw, mab Tochw, mab Swff.)
I Sa WelBeibl 1:2  Roedd gan Elcana ddwy wraig, Hanna a Penina. Roedd plant gan Penina ond ddim gan Hanna.
I Sa WelBeibl 1:3  Bob blwyddyn byddai Elcana yn mynd i Seilo i addoli a chyflwyno aberthau i'r ARGLWYDD hollbwerus. Yr offeiriaid yno oedd Hoffni a Phineas, meibion Eli.
I Sa WelBeibl 1:4  Pan fyddai Elcana yn aberthu byddai'n arfer rhoi cyfran o'r cig bob un i Penina a'i meibion a'i merched i gyd.
I Sa WelBeibl 1:5  Ond byddai'n rhoi cyfran sbesial i Hanna, am mai hi oedd e'n ei charu fwyaf, er fod Duw wedi'i rhwystro hi rhag cael plant.
I Sa WelBeibl 1:6  Roedd Penina yn arfer herian Hanna yn arw a'i phryfocio am ei bod yn methu cael plant.
I Sa WelBeibl 1:7  Yr un peth oedd yn digwydd bob blwyddyn pan oedden nhw'n mynd i gysegr yr ARGLWYDD. Byddai Penina yn pryfocio Hanna nes ei bod yn crio ac yn gwrthod bwyta.
I Sa WelBeibl 1:8  A byddai Elcana yn dweud wrthi, “Hanna, pam wyt ti'n crio a ddim yn bwyta? Pam wyt ti mor ddigalon? Ydw i ddim yn well na deg mab i ti?”
I Sa WelBeibl 1:9  Un tro, ar ôl iddyn nhw orffen bwyta ac yfed yn Seilo, dyma Hanna'n codi a mynd i weddïo. Roedd Eli'r offeiriad yn eistedd ar gadair wrth ddrws y deml ar y pryd.
I Sa WelBeibl 1:10  Roedd Hanna'n torri ei chalon ac yn beichio crio wrth weddïo ar yr ARGLWYDD.
I Sa WelBeibl 1:11  A dyma hi'n addo i Dduw, “ARGLWYDD hollbwerus, plîs wnei di gymryd sylw ohono i, a pheidio troi oddi wrtho i? Os gwnei di roi mab i mi, gwna i ei roi i ti am ei oes, a fydd e byth yn torri ei wallt.”
I Sa WelBeibl 1:12  Buodd Hanna'n gweddïo'n hir ar yr ARGLWYDD, ac roedd Eli wedi sylwi arni.
I Sa WelBeibl 1:13  Am ei bod hi'n gweddïo'n dawel, roedd e'n gweld ei gwefusau'n symud ond heb glywed dim, felly roedd e'n meddwl ei bod hi wedi meddwi.
I Sa WelBeibl 1:14  A dwedodd wrthi, “Pam wyt ti'n meddwi fel yma? Rho'r gorau iddi! Sobra!”
I Sa WelBeibl 1:15  Atebodd Hanna, “Na wir, syr! Dw i mor anhapus. Dw i ddim wedi bod yn yfed o gwbl. Dw i wedi bod yn bwrw fy mol o flaen yr ARGLWYDD.
I Sa WelBeibl 1:16  Paid meddwl amdana i fel rhyw wraig ddrwg, da i ddim. Dw i wedi bod yn dweud wrtho mor boenus a thrist dw i'n teimlo.”
I Sa WelBeibl 1:17  “Dos adre yn dawel dy feddwl,” meddai Eli, “a boed i Dduw Israel roi i ti beth wyt ti eisiau.”
I Sa WelBeibl 1:18  A dyma hi'n ateb, “Ti mor garedig, syr.” Felly aeth i ffwrdd a dechrau bwyta eto. Roedd yn edrych yn llawer hapusach.
I Sa WelBeibl 1:19  Yna bore drannoeth, dyma nhw'n codi ac addoli'r ARGLWYDD cyn mynd adre'n ôl i Rama. Dyma Elcana'n cysgu gyda'i wraig, a chofiodd yr ARGLWYDD ei gweddi.
I Sa WelBeibl 1:20  Dyma Hanna'n beichiogi, a chyn diwedd y flwyddyn roedd wedi cael mab. Galwodd e'n Samuel, am ei bod wedi gofyn i'r ARGLWYDD amdano.
I Sa WelBeibl 1:21  Daeth yn amser i Elcana a'i deulu fynd i Seilo unwaith eto, i aberthu a chyflawni addewid wnaeth e i Dduw.
I Sa WelBeibl 1:22  Ond aeth Hanna ddim y tro yma. “Dw i ddim am fynd nes bydd y bachgen yn gallu gwneud heb y fron,” meddai wrth ei gŵr. “Gwna i fynd ag e wedyn a'i gyflwyno i'r ARGLWYDD, a bydd e'n aros yno o hynny ymlaen.”
I Sa WelBeibl 1:23  Meddai Elcana, “Gwna di beth ti'n feddwl sydd orau. Aros nes bydd y bachgen ddim angen y fron, ond boed i Dduw dy gadw at dy addewid.” Felly arhosodd Hanna adre a magu'r plentyn nes ei fod ddim angen y fron.
I Sa WelBeibl 1:24  Pan oedd yn ddigon hen, aeth Hanna â'r bachgen i fyny i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo. Aeth â tharw teirblwydd oed, llond sach o flawd, a photel groen o win gyda hi. Aeth â fe i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo, er mai plentyn ifanc oedd e.
I Sa WelBeibl 1:25  Yna ar ôl iddyn nhw ladd y tarw, dyma nhw'n mynd â'r bachgen at Eli.
I Sa WelBeibl 1:26  Dyma Hanna'n cyfarch Eli a dweud, “Syr, wir i chi, fi ydy'r wraig oedd yn sefyll yma wrth eich ymyl chi yn gweddïo ar Dduw.
I Sa WelBeibl 1:27  Dyma'r bachgen rôn i'n gweddïo amdano, ac mae Duw wedi ateb fy ngweddi!
I Sa WelBeibl 1:28  Felly dw i'n ei roi e i'r ARGLWYDD. Dw i'n ei roi e i'r ARGLWYDD am weddill ei fywyd.” Yna dyma nhw'n addoli'r ARGLWYDD yno.
Chapter 2
I Sa WelBeibl 2:1  Dyma Hanna yn gweddïo fel hyn: “Dw i mor falch o'r ARGLWYDD. Gallaf godi fy mhen a chwerthin ar fy ngelynion, am fy mod mor hapus dy fod wedi fy achub.
I Sa WelBeibl 2:2  Does neb yn sanctaidd fel yr ARGLWYDD. Does neb tebyg i ti; neb sy'n graig fel ein Duw ni.
I Sa WelBeibl 2:3  Peidiwch brolio'ch hunain a siarad mor snobyddlyd, oherwydd mae'r ARGLWYDD yn Dduw sy'n gwybod popeth, ac mae'n barnu popeth sy'n cael ei wneud.
I Sa WelBeibl 2:4  Bydd grym milwrol y rhai cryfion yn cael ei dorri, ond bydd y rhai sy'n baglu yn cael nerth.
I Sa WelBeibl 2:5  Bydd y rhai sydd ar ben eu digon yn gorfod gweithio i fwyta, ond bydd y rhai sy'n llwgu'n cael eu llenwi. Bydd y wraig sy'n methu cael plant yn cael saith, ond yr un sydd â llawer yn llewygu.
I Sa WelBeibl 2:6  Yr ARGLWYDD sy'n lladd a rhoi bywyd. Fe sy'n gyrru rhai i'r bedd ac yn achub eraill oddi yno.
I Sa WelBeibl 2:7  Yr ARGLWYDD sy'n gwneud rhai yn dlawd ac eraill yn gyfoethog; fe sy'n tynnu rhai i lawr ac yn codi eraill i fyny.
I Sa WelBeibl 2:8  Mae e'n codi pobl dlawd o'r baw, a'r rhai sydd mewn angen o'r domen sbwriel i eistedd gyda'r bobl bwysig ar y sedd anrhydedd. Duw sy'n dal colofnau'r ddaear, a fe osododd y byd yn ei le arnyn nhw.
I Sa WelBeibl 2:9  Mae'n gofalu am y rhai sy'n ffyddlon iddo, ond bydd y rhai drwg yn darfod yn y tywyllwch, achos dydy pobl ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain.
I Sa WelBeibl 2:10  Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu dryllio, bydd e'n taranu o'r nefoedd yn eu herbyn. Yr ARGLWYDD sy'n barnu'r byd i gyd. Mae'n rhoi grym i'w frenin, a buddugoliaeth i'r un mae wedi'i ddewis.”
I Sa WelBeibl 2:11  Yna aeth Elcana adre i Rama. Ond arhosodd y bachgen Samuel i wasanaethu'r ARGLWYDD dan ofal Eli, yr offeiriad.
I Sa WelBeibl 2:12  Roedd meibion Eli yn ddynion drwg. Doedden nhw ddim yn nabod yr ARGLWYDD.
I Sa WelBeibl 2:13  Dyma beth roedd yr offeiriaid i fod i'w wneud pan oedd rhywun yn dod i offrymu aberth: Wrth iddyn nhw ferwi'r cig, byddai gwas yr offeiriaid yn dod hefo fforch â thair pig iddi yn ei law.
I Sa WelBeibl 2:14  Byddai'n gwthio'r fforch i'r badell, y fasged neu'r crochan, a beth bynnag fyddai'r fforch yn ei godi, dyna oedd siâr yr offeiriad. Ond beth oedd yn digwydd yn Seilo pan oedd pobl o bob rhan o Israel yn dod yno oedd hyn:
I Sa WelBeibl 2:15  Roedd gwas yr offeiriad yn mynd atyn nhw cyn iddyn nhw hyd yn oed gael cyfle i losgi'r braster, a dweud wrth yr un oedd yn offrymu, “Rho beth o'r cig i'r offeiriad ei rostio. Does ganddo ddim eisiau cig wedi'i ferwi, dim ond cig ffres.”
I Sa WelBeibl 2:16  Os oedd rhywun yn ateb, “Gad i'r braster gael ei losgi gynta; cei di gymryd beth bynnag wyt ti'n ei ffansïo wedyn,” byddai'r gwas yn dweud, “Na! rho fe i mi nawr. Os na wnei di, bydda i'n defnyddio grym.”
I Sa WelBeibl 2:17  Roedd yr ARGLWYDD yn ystyried hyn yn bechod difrifol. Doedd y dynion ifanc yma'n dangos dim parch at beth oedd i fod yn rhodd i'r ARGLWYDD.
I Sa WelBeibl 2:18  Roedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu'r ARGLWYDD, ac yn gwisgo effod o liain main.
I Sa WelBeibl 2:19  Roedd ei fam yn arfer gwneud côt fach iddo bob blwyddyn, ac yn dod â hi iddo pan fyddai hi a'i gŵr yn dod i fyny i gyflwyno'u haberth.
I Sa WelBeibl 2:20  Byddai Eli yn bendithio Elcana a'i wraig, a dweud, “Boed i'r ARGLWYDD roi plant i ti a Hanna yn lle yr un mae hi wedi'i fenthyg iddo.” Yna bydden nhw'n mynd yn ôl adre.
I Sa WelBeibl 2:21  A dyma Duw yn gadael i Hanna gael mwy o blant. Cafodd dri o fechgyn a dwy ferch. Yn y cyfamser, roedd y bachgen Samuel yn tyfu o flaen yr ARGLWYDD.
I Sa WelBeibl 2:22  Roedd Eli wedi mynd yn hen iawn. Byddai'n clywed o hyd am bopeth roedd ei feibion yn ei wneud i bobl Israel (ac roedd e'n gwybod hefyd eu bod nhw'n cael rhyw gyda'r merched oedd yn gweini wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw).
I Sa WelBeibl 2:23  Byddai'n dweud wrthyn nhw, “Pam dych chi'n bihafio fel yma? Dw i'n clywed gan bawb am y pethau drwg dych chi'n eu gwneud.
I Sa WelBeibl 2:24  Rhaid i chi stopio, fechgyn. Dydy'r straeon sy'n mynd o gwmpas amdanoch chi ddim yn dda.
I Sa WelBeibl 2:25  Os ydy rhywun yn pechu yn erbyn person arall, gall droi at Dduw am help. Ond os ydy rhywun yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, pwy sy'n mynd i'w helpu?” Ond roedd meibion Eli yn gwrthod gwrando ar eu tad, achos roedd yr ARGLWYDD wedi penderfynu eu lladd nhw.
I Sa WelBeibl 2:26  Roedd y bachgen ifanc Samuel yn tyfu ac yn plesio'r ARGLWYDD a phobl.
I Sa WelBeibl 2:27  Daeth dyn oedd yn proffwydo at Eli a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Gwnes i ddangos fy hun yn glir i dy hynafiaid di yn yr Aifft pan oedden nhw'n gaethweision i'r Pharo.
I Sa WelBeibl 2:28  Gwnes i eich dewis chi, allan o holl lwythau Israel, i fod yn offeiriaid; i offrymu ar fy allor i, i losgi arogldarth ac i gario'r effod o mlaen i. Chi gafodd y cyfrifoldeb o drin yr offrymau mae pobl Israel yn eu cyflwyno i'w llosgi i mi.
I Sa WelBeibl 2:29  Felly, pam dych chi'n amharchu'r aberthau a'r offrymau dw i wedi gorchymyn amdanyn nhw. Pam wyt ti'n dangos mwy o barch at dy feibion nag ata i? Dych chi'n stwffio'ch hunain gyda'r darnau gorau o offrymau fy mhobl Israel!’
I Sa WelBeibl 2:30  “Felly, dyma neges yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Do, gwnes i ddweud yn glir y byddai dy deulu di yn cael fy ngwasanaethu i am byth. Ond bellach fydd ddim o'r fath beth!’ Dyma neges yr ARGLWYDD: ‘Dw i'n rhoi parch i'r rhai sy'n fy mharchu i, ond yn dangos dirmyg at y rhai sy'n fy nghymryd i'n ysgafn.
I Sa WelBeibl 2:31  Gwylia di, mae'r amser yn dod pan fydda i'n dy ddifa di a dy deulu. Fydd yna neb yn dy deulu di yn byw i fod yn hen!
I Sa WelBeibl 2:32  Byddi'n gweld helynt yn fy nghysegr i! Bydd pethau da yn digwydd i Israel, ond fydd neb o dy deulu di yn byw i fod yn hen.
I Sa WelBeibl 2:33  Bydda i'n gadael un o dy deulu ar ôl i wasanaethu wrth fy allor, ond bydd hwnnw'n colli ei olwg ac yn torri ei galon. Bydd gweddill dy ddisgynyddion yn marw yn ddynion ifainc.
I Sa WelBeibl 2:34  “‘A dyma'r arwydd i brofi i ti fod hyn i gyd yn wir: bydd dy ddau fab, Hoffni a Phineas, yn marw ar yr un diwrnod!
I Sa WelBeibl 2:35  Wedyn bydda i'n dewis offeiriad sy'n ffyddlon i mi. Bydd e'n fy mhlesio i ac yn gwneud beth dw i eisiau. Bydda i'n rhoi llinach sefydlog iddo, a bydd e'n gwasanaethu'r un fydda i'n ei eneinio'n frenin am byth.
I Sa WelBeibl 2:36  Bydd pwy bynnag fydd ar ôl o dy deulu di yn dod a plygu o'i flaen i ofyn am arian neu damaid i'w fwyta. Byddan nhw'n crefu am unrhyw fath o waith fel offeiriad, er mwyn cael rhywbeth i'w fwyta.’”
Chapter 3
I Sa WelBeibl 3:1  Roedd y bachgen Samuel yn dal i wasanaethu'r ARGLWYDD gydag Eli, oedd erbyn hynny wedi dechrau colli ei olwg ac yn mynd yn ddall. Yr adeg yna doedd pobl ddim yn cael neges gan Dduw yn aml, nac yn cael gweledigaethau. Ond digwyddodd rhywbeth un noson, tra oedd Eli'n cysgu yn ei ystafell.
I Sa WelBeibl 3:2  Roedd y bachgen Samuel yn dal i wasanaethu'r ARGLWYDD gydag Eli, oedd erbyn hynny wedi dechrau colli ei olwg ac yn mynd yn ddall. Yr adeg yna doedd pobl ddim yn cael neges gan Dduw yn aml, nac yn cael gweledigaethau. Ond digwyddodd rhywbeth un noson, tra oedd Eli'n cysgu yn ei ystafell.
I Sa WelBeibl 3:3  Doedd lamp Duw ddim wedi diffodd, ac roedd Samuel hefyd yn cysgu yn y deml lle roedd Arch Duw.
I Sa WelBeibl 3:4  Dyma'r ARGLWYDD yn galw ar Samuel, a dyma Samuel yn ateb, “Dyma fi,”
I Sa WelBeibl 3:5  yna rhedeg at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti alw.” Ond meddai Eli, “Naddo, wnes i ddim dy alw di, dos yn ôl i gysgu.” Felly aeth Samuel yn ôl i orwedd.
I Sa WelBeibl 3:6  Dyma'r ARGLWYDD yn galw ar Samuel eto. Cododd a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti ngalw i.” “Naddo, machgen i,” meddai Eli, “wnes i ddim dy alw di. Dos yn ôl i gysgu.”
I Sa WelBeibl 3:7  (Roedd hyn i gyd cyn i Samuel ddod i nabod yr ARGLWYDD. Doedd e erioed wedi cael neges gan Dduw o'r blaen.)
I Sa WelBeibl 3:8  Galwodd yr ARGLWYDD ar Samuel y trydydd tro; a dyma Samuel yn mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti fy ngalw i.” A dyna pryd sylweddolodd Eli mai'r ARGLWYDD oedd yn galw'r bachgen.
I Sa WelBeibl 3:9  Dwedodd wrtho, “Dos yn ôl i gysgu. Pan fydd e'n dy alw di eto, ateb fel yma: ‘Siarada ARGLWYDD, mae dy was yn gwrando.’” Felly dyma Samuel yn mynd yn ôl i orwedd i lawr.
I Sa WelBeibl 3:10  A dyma'r ARGLWYDD yn dod ato eto, a galw arno fel o'r blaen, “Samuel! Samuel!”. A dyma Samuel yn ateb, “Siarada, mae dy was yn gwrando.”
I Sa WelBeibl 3:11  Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Samuel, “Dw i'n mynd i wneud rhywbeth yn Israel fydd yn sioc ofnadwy i bawb fydd yn clywed am y peth.
I Sa WelBeibl 3:12  Mae popeth dw i wedi sôn wrth Eli amdano – popeth ddwedais i fyddai'n digwydd i'w deulu – yn mynd i ddod yn wir!
I Sa WelBeibl 3:13  Dw i wedi dweud wrtho fy mod yn mynd i gosbi ei deulu am byth. Roedd e'n gwybod fod ei feibion yn melltithio Duw, ac eto wnaeth e ddim dweud y drefn wrthyn nhw.
I Sa WelBeibl 3:14  A dyna pam dw i wedi addo ar lw am deulu Eli, na fydd unrhyw aberth nac offrwm byth yn gallu gwneud iawn am eu pechod.”
I Sa WelBeibl 3:15  Arhosodd Samuel yn ei wely tan y bore. Yna dyma fe'n codi i agor drysau cysegr yr ARGLWYDD. Roedd arno ofn dweud wrth Eli am y weledigaeth.
I Sa WelBeibl 3:16  Ond dyma Eli'n ei alw, “Samuel, machgen i.” A dyma fe'n ateb, “Dyma fi.”
I Sa WelBeibl 3:17  Yna gofynnodd Eli iddo, “Beth ddwedodd Duw wrthot ti? Paid cuddio dim oddi wrtho i. Boed i Dduw dy gosbi di os byddi di'n cuddio unrhyw beth ddwedodd e oddi wrtho i!”
I Sa WelBeibl 3:18  Felly dyma Samuel yn dweud popeth wrtho. Wnaeth e guddio dim. Ymateb Eli oedd, “Yr ARGLWYDD ydy e, a bydd e'n gwneud beth mae e'n wybod sydd orau.”
I Sa WelBeibl 3:19  Wrth i Samuel dyfu i fyny, roedd Duw gydag e. Daeth pob neges roddodd e gan Dduw yn wir.
I Sa WelBeibl 3:20  Roedd Israel gyfan, o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, yn gwybod fod Duw wedi dewis Samuel yn broffwyd.
I Sa WelBeibl 3:21  Roedd yr ARGLWYDD yn dal i ymddangos i Samuel yn Seilo, ac yn rhoi negeseuon iddo yno.
Chapter 4
I Sa WelBeibl 4:1  A byddai Samuel yn rhannu'r neges gydag Israel gyfan. Dyma Israel yn mynd i ryfel yn erbyn y Philistiaid. Roedden nhw'n gwersylla yn Ebeneser, tra oedd y Philistiaid yn gwersylla yn Affec.
I Sa WelBeibl 4:2  Dyma'r Philistiaid yn trefnu eu byddin yn rhengoedd. Dechreuodd yr ymladd, a dyma Israel yn colli. Cafodd tua pedair mil o'u dynion eu lladd.
I Sa WelBeibl 4:3  Pan ddaeth gweddill y fyddin yn ôl i'r gwersyll, dyma arweinwyr Israel yn dechrau holi, “Pam wnaeth yr ARGLWYDD adael i'r Philistiaid ein curo ni? Gadewch i ni ddod ag Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yma aton ni o Seilo. Os bydd hi'n mynd gyda ni, bydd yn ein hachub ni o afael y gelyn!”
I Sa WelBeibl 4:4  Felly dyma nhw'n anfon i Seilo i nôl Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD hollbwerus, sy'n eistedd uwchben y cerwbiaid. Roedd meibion Eli, Hoffni a Phineas, yno gyda'r Arch.
I Sa WelBeibl 4:5  Pan gyrhaeddodd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD y gwersyll, dyma pawb yn bloeddio gweiddi mor uchel roedd fel petai'r ddaear yn crynu!
I Sa WelBeibl 4:6  Pan glywodd y Philistiaid y sŵn, roedden nhw'n holi, “Pam maen nhw'n bloeddio fel yna yng ngwersyll yr Hebreaid?” Yna dyma nhw'n sylweddoli fod Arch yr ARGLWYDD wedi dod i'r gwersyll.
I Sa WelBeibl 4:7  Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Mae hi ar ben arnon ni,” medden nhw. “Mae'r duwiau wedi dod i'w gwersyll nhw. Does dim byd fel yma wedi digwydd o'r blaen.
I Sa WelBeibl 4:8  Mae hi ar ben arnon ni go iawn. Pwy sy'n mynd i'n hachub ni o afael y duwiau cryfion yma? Dyma'r duwiau wnaeth daro'r Eifftiaid mor ofnadwy yn yr anialwch.
I Sa WelBeibl 4:9  Philistiaid, rhaid i chi fod yn ddewr! Byddwch yn ddynion! Neu byddwch chi'n mynd yn gaeth i'r Hebreaid fel buon nhw yn gaeth i chi. Byddwch yn ddynion, ac ymladd!”
I Sa WelBeibl 4:10  Felly dyma'r Philistiaid yn ymosod ar Israel. Collodd Israel y frwydr, a dyma'r fyddin i gyd yn dianc am adre. Roedd lladdfa fawr. Cafodd tua tri deg mil o filwyr traed Israel eu lladd.
I Sa WelBeibl 4:11  Cafodd Arch Duw ei chipio hefyd, a chafodd Hoffni a Phineas, meibion Eli, eu lladd.
I Sa WelBeibl 4:12  Y diwrnod hwnnw dyma ddyn o lwyth Benjamin yn rhedeg o'r frwydr a chyrraedd Seilo. Roedd wedi rhwygo'i ddillad a rhoi pridd ar ei ben.
I Sa WelBeibl 4:13  Pan gyrhaeddodd Seilo, roedd Eli'n eistedd ar gadair ar ochr y ffordd yn disgwyl am newyddion. Roedd yn poeni'n fawr am Arch Duw. Daeth y dyn i'r dre a phan ddwedodd beth oedd wedi digwydd dyma pawb yn dechrau wylo yn uchel.
I Sa WelBeibl 4:14  Pan glywodd Eli yr holl sŵn, gofynnodd, “Beth ydy'r holl gyffro yna?” A dyma'r dyn yn brysio draw i ddweud yr hanes wrth Eli
I Sa WelBeibl 4:16  “Dw i wedi dianc o'r frwydr,” meddai'r dyn, “gwnes i ddianc oddi yno heddiw.” “Sut aeth pethau, machgen i?” holodd Eli.
I Sa WelBeibl 4:17  A dyma'r negesydd yn ateb, “Mae Israel wedi ffoi o flaen y Philistiaid, ac mae llawer iawn wedi cael eu lladd. Mae dy ddau fab di, Hoffni a Phineas, wedi'u lladd, ac mae Arch Duw wedi cael ei chipio.”
I Sa WelBeibl 4:18  Pan glywodd Eli am Arch Duw syrthiodd wysg ei gefn oddi ar ei gadair wrth ymyl y giât. Am ei fod mor hen, ac yn ddyn mawr trwm, torrodd ei wddf a marw. Roedd wedi arwain Israel am bedwar deg o flynyddoedd.
I Sa WelBeibl 4:19  Roedd merch-yng-nghyfraith Eli, sef gwraig Phineas, yn disgwyl plentyn ac yn agos iawn i'w hamser. Pan glywodd hi'r newyddion fod Arch Duw wedi'i chipio a bod ei thad-yng-nghyfraith a'i gŵr wedi marw, plygodd yn ei dyblau am fod y plentyn yn dechrau dod. Ond roedd y poenau yn ormod iddi.
I Sa WelBeibl 4:20  Pan oedd hi ar fin marw, dwedodd y merched oedd gyda hi, “Paid bod ag ofn, rwyt ti wedi cael mab!” Ond wnaeth hi ddim ymateb na chymryd unrhyw sylw.
I Sa WelBeibl 4:21  A dyma hi'n rhoi'r enw Ichabod i'r babi. “Mae ysblander Duw wedi gadael Israel,” meddai (am fod Arch Duw wedi'i chipio a'i thad-yng-nghyfraith a'i gŵr wedi marw).
I Sa WelBeibl 4:22  “Mae ysblander Duw wedi gadael Israel, achos mae Arch Duw wedi'i chipio,” meddai.
Chapter 5
I Sa WelBeibl 5:1  Wedi iddyn nhw gipio Arch Duw, dyma'r Philistiaid yn mynd â hi o Ebeneser i Ashdod.
I Sa WelBeibl 5:2  Aethon nhw â hi i deml eu duw Dagon, a'i gosod hi wrth ochr y ddelw o Dagon.
I Sa WelBeibl 5:3  Bore trannoeth, pan gododd pobl Ashdod, roedd Dagon wedi syrthio ar ei wyneb o flaen Arch Duw. Felly dyma nhw yn ei godi a'i osod yn ôl yn ei le.
I Sa WelBeibl 5:4  Ond pan godon nhw'n gynnar y bore wedyn roedd Dagon wedi syrthio ar ei wyneb eto o flaen Arch Duw. Roedd ei ben a'i ddwy law wedi'u torri i ffwrdd, ac yn gorwedd wrth y drws. Dim ond corff Dagon oedd yn un darn.
I Sa WelBeibl 5:5  (Dyna pam mae offeiriaid Dagon hyd heddiw, a phawb arall sy'n dod i deml Dagon, yn osgoi camu ar stepen drws y deml yn Ashdod.)
I Sa WelBeibl 5:6  Cosbodd yr ARGLWYDD bobl Ashdod yn drwm, ac achosi hafoc yno. Cafodd pobl Ashdod, a'r ardal o'i chwmpas, eu taro'n wael gyda chwyddau cas drostyn nhw.
I Sa WelBeibl 5:7  Pan sylweddolodd pobl Ashdod beth oedd yn digwydd, dyma nhw'n dweud, “Ddylai Arch Duw Israel ddim aros yma gyda ni. Mae e wedi'n taro ni a Dagon ein duw ni!”
I Sa WelBeibl 5:8  Felly dyma nhw'n casglu llywodraethwyr trefi'r Philistiaid at ei gilydd, a gofyn, “Be wnawn ni ag Arch Duw Israel?” A dyma nhw'n ateb, “Ei symud hi i Gath”. Felly dyma nhw'n symud yr Arch yno.
I Sa WelBeibl 5:9  Ond wedi iddi gyrraedd Gath, dyma'r ARGLWYDD yn cosbi'r dref honno hefyd. Cafodd pawb eu taro gyda chwyddau cas. Roedd hi'n banig llwyr yno!
I Sa WelBeibl 5:10  Yna dyma nhw'n anfon Arch Duw ymlaen i Ecron. Ond pan gyrhaeddodd yno dechreuodd pobl Ecron brotestio, “Maen nhw wedi gyrru Arch Duw Israel aton ni i'n lladd ni a'n teuluoedd!”
I Sa WelBeibl 5:11  Felly dyma nhw'n casglu llywodraethwyr trefi'r Philistiaid at ei gilydd eto, a dweud wrthyn nhw, “Anfonwch Arch Duw Israel yn ôl i'w lle ei hun, neu bydd e'n ein lladd ni a'n teuluoedd.” Roedd y dref gyfan mewn panig llwyr, am fod Duw yn eu taro nhw mor drwm.
I Sa WelBeibl 5:12  Os nad oedd pobl yn marw roedden nhw'n cael eu taro'n wael gyda chwyddau cas drostyn nhw. Roedd pobl y dref yn galw i'r nefoedd am help.
Chapter 6
I Sa WelBeibl 6:1  Roedd Arch yr ARGLWYDD wedi bod yng ngwlad y Philistiaid am saith mis.
I Sa WelBeibl 6:2  A dyma'r Philistiaid yn galw'r offeiriaid a'r rhai oedd yn dewino a gofyn iddyn nhw, “Be wnawn ni gydag Arch yr ARGLWYDD? Dwedwch wrthon ni sut ddylen ni ei hanfon yn ôl i'w lle ei hun.”
I Sa WelBeibl 6:3  Dyma nhw'n ateb, “Os ydych chi am anfon Arch Duw Israel yn ôl, peidiwch gwneud hynny heb anfon rhywbeth hefo hi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon offrwm i gyfaddef bai gyda hi. Fel yna cewch eich iacháu a chewch wybod pam wnaeth e'ch cosbi chi.”
I Sa WelBeibl 6:4  “Ond beth ddylen ni ei anfon fel offrwm i gyfaddef ein bai?” medden nhw. Atebodd yr offeiriaid, “Mae pump llywodraethwr gan y Philistiaid, a dych chi a nhw wedi'ch taro gan yr un afiechyd. Felly gwnewch bump model aur o'r chwyddau a phump model o'r llygod
I Sa WelBeibl 6:5  sy'n difa'r wlad, fel teyrnged i Dduw Israel. Falle y bydd e'n stopio'ch cosbi chi, a'ch duwiau a'ch gwlad.
I Sa WelBeibl 6:6  Pam dylech chi fod yn ystyfnig fel y Pharo a phobl yr Aifft? Gwnaeth Duw ffyliaid ohonyn nhw, ac roedd rhaid iddyn nhw adael i bobl Israel fynd!
I Sa WelBeibl 6:7  Felly, gwnewch wagen newydd sbon a gosod dwy fuwch sy'n magu lloi ac erioed wedi bod mewn harnais i'w thynnu. Cymerwch y lloi oddi arnyn nhw a'u rhoi yn y cwt.
I Sa WelBeibl 6:8  Yna rhowch Arch Duw ar y wagen, a rhowch y pethau aur sy'n offrwm i gyfaddef bai mewn bocs wrth ei hochr. Yna gyrrwch y wagen i ffwrdd
I Sa WelBeibl 6:9  a gwylio. Os bydd hi'n mynd adre i gyfeiriad tref Beth-shemesh, byddwn yn gwybod mai Duw Israel wnaeth anfon yr haint ofnadwy yma arnon ni. Ond os na fydd hi'n mynd y ffordd honno, yna byddwn yn gwybod mai nid fe wnaeth ein taro ni, ac mai cyd-ddigwyddiad oedd y cwbl.”
I Sa WelBeibl 6:10  A dyna wnaeth y Philistiaid. Dyma nhw'n cymryd dwy fuwch oedd yn magu lloi a'u clymu wrth wagen, a rhoi eu lloi mewn cwt.
I Sa WelBeibl 6:11  Yna dyma nhw'n rhoi Arch Duw ar y wagen, a'r bocs gyda'r llygod aur a'r modelau o'r chwyddau ynddo.
I Sa WelBeibl 6:12  A dyma'r gwartheg yn mynd yn syth i gyfeiriad Beth-shemesh. Roedden nhw'n brefu wrth fynd, ond wnaethon nhw ddim troi oddi ar y ffordd o gwbl. Cerddodd llywodraethwyr y Philistiaid ar eu holau, nes cyrraedd cyrion Beth-shemesh.
I Sa WelBeibl 6:13  Roedd pobl Beth-shemesh yn casglu'r cynhaeaf gwenith yn y dyffryn. Pan welon nhw'r Arch roedden nhw wrth eu boddau.
I Sa WelBeibl 6:14  Daeth y wagen i stop wrth ymyl carreg fawr yng nghae Josua, un o ddynion Beth-shemesh. Dyma nhw'n torri'r wagen yn goed tân ac aberthu'r ddwy fuwch a'u llosgi'n offrwm i Dduw.
I Sa WelBeibl 6:15  Yna daeth Lefiaid yno i godi'r Arch i lawr, a'r bocs oedd yn dal y modelau aur, a'u gosod nhw ar y garreg fawr. A'r diwrnod hwnnw dyma bobl Beth-shemesh yn cyflwyno offrymau i'w llosgi'n llwyr ac aberthau i'r ARGLWYDD.
I Sa WelBeibl 6:16  Arhosodd pump llywodraethwr y Philistiaid i wylio beth oedd yn digwydd, cyn mynd yn ôl i Ecron yr un diwrnod.
I Sa WelBeibl 6:17  Roedd y chwyddau aur roddodd y Philistiaid i fod yn offrwm i gyfaddef eu bai i'r ARGLWYDD: un dros dref Ashdod, un dros Gasa, un dros Ashcelon, un dros Gath ac un dros Ecron.
I Sa WelBeibl 6:18  Yna roedd yna lygoden aur ar gyfer pob un o drefi caerog llywodraethwyr y Philistiaid, a'r pentrefi gwledig o'u cwmpas hefyd. Mae'r garreg fawr y cafodd Arch Duw ei gosod arni yn dal yna yng nghae Josua hyd heddiw.
I Sa WelBeibl 6:19  Ond dyma rai o bobl Beth-shemesh yn cael eu taro gan yr ARGLWYDD, am eu bod nhw wedi edrych i mewn i Arch Duw. Buodd saith deg ohonyn nhw farw, ac roedd pobl Beth-shemesh yn galaru'n fawr am fod Duw wedi'u taro nhw mor galed.
I Sa WelBeibl 6:20  “Pwy sy'n gallu sefyll o flaen yr ARGLWYDD, y Duw sanctaidd yma?” medden nhw. “At bwy ddylai'r Arch fynd o'r fan yma?”
I Sa WelBeibl 6:21  Felly dyma nhw'n anfon neges i Ciriath-iearîm, “Mae'r Philistiaid wedi anfon Arch yr ARGLWYDD yn ôl. Dewch i lawr i'w chymryd hi.”
Chapter 7
I Sa WelBeibl 7:1  Felly dyma bobl Ciriath-iearîm yn nôl Arch yr ARGLWYDD, a mynd â hi i ben y bryn i dŷ Abinadab. Yna dyma nhw'n cysegru Eleasar, ei fab, i ofalu am yr Arch.
I Sa WelBeibl 7:2  Aeth y blynyddoedd heibio. Roedd hi tua dau ddeg mlynedd ers i'r Arch ddod i Ciriath-iearîm, ac roedd pobl Israel i gyd yn dyheu am yr ARGLWYDD eto.
I Sa WelBeibl 7:3  Dwedodd Samuel wrth bobl Israel, “Os ydych chi wir am droi'n ôl at Dduw â'ch holl galon, taflwch allan eich duwiau eraill, a'r delwau sydd gynnoch chi o'r dduwies Ashtart. Rhowch eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD, a'i addoli e a neb arall. Wedyn, bydd e'n eich achub chi oddi wrth y Philistiaid.”
I Sa WelBeibl 7:4  Felly dyma bobl Israel yn cael gwared â'r delwau o Baal a'r dduwies Ashtart, a dechrau addoli'r ARGLWYDD yn unig.
I Sa WelBeibl 7:5  Dwedodd Samuel wrthyn nhw am gasglu pawb at ei gilydd yn Mitspa. “Gwna i weddïo ar yr ARGLWYDD trosoch chi,” meddai.
I Sa WelBeibl 7:6  Wedi iddyn nhw ddod at ei gilydd yn Mitspa, dyma nhw'n codi dŵr o'r ffynnon a'i dywallt ar lawr fel offrwm i Dduw. Wnaethon nhw ddim bwyta drwy'r dydd. “Dŷn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD,” medden nhw. (Samuel oedd yn arwain pobl Israel yn Mitspa.)
I Sa WelBeibl 7:7  Clywodd y Philistiaid fod pobl Israel wedi dod at ei gilydd yn Mitspa. Felly dyma lywodraethwyr y Philistiaid yn penderfynu ymosod arnyn nhw. Pan glywodd pobl Israel am hyn, roedden nhw wedi dychryn.
I Sa WelBeibl 7:8  Dyma nhw'n dweud wrth Samuel, “Dal ati i weddïo'n daer ar yr ARGLWYDD ein Duw, iddo'n hachub ni rhag y Philistiaid.”
I Sa WelBeibl 7:9  Felly dyma Samuel yn cymryd oen sugno a'i losgi'n gyfan yn offrwm i Dduw. Wrth i Samuel weddïo dros Israel, dyma Duw yn ei ateb.
I Sa WelBeibl 7:10  Roedd y Philistiaid ar fin ymosod ar Israel pan oedd Samuel yn cyflwyno'r offrwm. A'r foment honno dyma'r ARGLWYDD yn anfon anferth o storm o fellt a tharanau, wnaeth yrru'r Philistiaid i banig llwyr, a dyma nhw'n ffoi o flaen byddin Israel.
I Sa WelBeibl 7:11  Aeth dynion Israel allan o Mitspa ar eu holau, a lladd llawer iawn ohonyn nhw yr holl ffordd i'r ochr isaf i Beth-car.
I Sa WelBeibl 7:12  Yna dyma Samuel yn gosod carreg i fyny rhwng Mitspa a'r clogwyn. Rhoddodd yr enw Ebeneser iddi (sef ‛Carreg Help‛), a dweud, “Mae'r ARGLWYDD wedi'n helpu ni hyd yma.”
I Sa WelBeibl 7:13  Roedd y Philistiaid wedi'u trechu, a wnaethon nhw ddim ymosod ar Israel eto. Tra oedd Samuel yn fyw roedd yr ARGLWYDD yn delio gyda'r Philistiaid.
I Sa WelBeibl 7:14  Cafodd Israel y trefi roedd y Philistiaid wedi'u cymryd oddi arnyn nhw yn ôl, a'r tir o'u cwmpas nhw, o Ecron yn y gogledd i Gath yn y de. Ac roedd yna heddwch hefyd rhwng pobl Israel a'r Amoriaid.
I Sa WelBeibl 7:15  Buodd Samuel yn arwain Israel am weddill ei fywyd.
I Sa WelBeibl 7:16  Bob blwyddyn byddai'n mynd ar gylchdaith o Bethel i Gilgal ac yna i Mitspa. Byddai'n cynnal llys ym mhob tref yn ei thro
I Sa WelBeibl 7:17  cyn mynd yn ôl adre i Rama. Dyna lle roedd yn byw, ac o'r fan honno roedd e'n arwain Israel. Roedd wedi codi allor i'r ARGLWYDD yno hefyd.
Chapter 8
I Sa WelBeibl 8:1  Pan oedd Samuel wedi mynd yn hen, rhoddodd y gwaith o arwain Israel i'w feibion.
I Sa WelBeibl 8:2  Joel oedd enw'r hynaf ac Abeia oedd y llall. Roedd eu llys nhw yn Beersheba.
I Sa WelBeibl 8:3  Ond doedden nhw ddim yr un fath â'u tad. Roedden nhw'n twyllo er mwyn cael arian, ac yn derbyn breib am roi dyfarniad annheg.
I Sa WelBeibl 8:4  Felly dyma arweinwyr Israel yn cyfarfod â'i gilydd a mynd i weld Samuel yn Rama.
I Sa WelBeibl 8:5  Medden nhw wrtho, “Ti'n mynd yn hen a dydy dy feibion ddim yn dilyn dy esiampl di. Felly gad i ni gael brenin i'n harwain, yr un fath â'r gwledydd eraill i gyd.”
I Sa WelBeibl 8:6  Doedd y cais yma am frenin ddim yn plesio Samuel o gwbl. Felly dyma fe'n gweddïo ar yr ARGLWYDD.
I Sa WelBeibl 8:7  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Gwna bopeth mae'r bobl yn ei ofyn. Dim ti maen nhw'n ei wrthod; fi ydy'r un maen nhw wedi'i wrthod fel eu brenin.
I Sa WelBeibl 8:8  Mae'r un hen stori eto! Maen nhw wedi gwneud hyn ers i mi ddod â nhw allan o wlad yr Aifft – fy ngwrthod i ac addoli duwiau eraill. A nawr rwyt ti'n cael yr un driniaeth.
I Sa WelBeibl 8:9  Felly gwna beth maen nhw'n ofyn. Ond rhybuddia nhw'n glir, iddyn nhw ddeall y canlyniadau, a beth fydd y brenin yn ei wneud.”
I Sa WelBeibl 8:10  Felly dyma Samuel yn rhannu gyda'r bobl oedd yn gofyn am frenin beth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddweud wrtho.
I Sa WelBeibl 8:11  Dwedodd, “Dyma sut fydd y brenin yn eich trin chi: Bydd yn cymryd eich meibion a'u gwneud nhw'n farchogion i yrru ei gerbydau rhyfel ac i fod yn warchodwyr personol iddo.
I Sa WelBeibl 8:12  Bydd yn gwneud rhai yn gapteiniaid ar unedau o fil neu o hanner cant. Bydd eraill yn gweithio ar ei dir e ac yn casglu'r cnydau. Yna eraill eto yn gwneud arfau ac offer ar gyfer ei gerbydau rhyfel.
I Sa WelBeibl 8:13  Bydd yn cymryd eich merched hefyd i gymysgu persawr, i goginio ac i bobi bara iddo.
I Sa WelBeibl 8:14  Bydd yn cymryd eich caeau, a'ch gwinllannoedd a'ch gerddi olewydd gorau, a'u rhoi i'w swyddogion.
I Sa WelBeibl 8:15  Bydd yn hawlio treth o un rhan o ddeg o'ch grawn a'ch gwin a'i roi i weision y palas a'r swyddogion eraill.
I Sa WelBeibl 8:16  Bydd yn cymryd eich gweision a'ch morynion, eich gwartheg gorau a'ch asynnod, i weithio iddo fe'i hun.
I Sa WelBeibl 8:17  A bydd yn cymryd un o bob deg o'ch defaid a'ch geifr. Byddwch chi'n gaethweision iddo!
I Sa WelBeibl 8:18  Bryd hynny byddwch chi'n cwyno am y brenin wnaethoch chi ei ddewis, a fydd Duw ddim yn gwrando arnoch chi.”
I Sa WelBeibl 8:19  Ond doedd y bobl ddim am wrando ar Samuel. “Na,” medden nhw, “dŷn ni eisiau brenin.
I Sa WelBeibl 8:20  Dŷn ni eisiau bod yr un fath â'r gwledydd eraill i gyd. Dŷn ni eisiau brenin i lywodraethu arnon ni, a'n harwain ni i ryfel.”
I Sa WelBeibl 8:21  Ar ôl gwrando ar bopeth ddwedodd y bobl, dyma Samuel yn mynd i ddweud am y cwbl wrth yr ARGLWYDD.
I Sa WelBeibl 8:22  “Gwna beth maen nhw'n ei ofyn,” meddai'r ARGLWYDD wrth Samuel, “a rho frenin iddyn nhw.” Felly dyma Samuel yn dweud wrth ddynion Israel, “Ewch adre i gyd.”
Chapter 9
I Sa WelBeibl 9:1  Roedd yna ddyn yn perthyn i lwyth Benjamin o'r enw Cish. Roedd yn ddyn pwysig; yn fab i Abiel, mab Seror, mab Becorath, mab Affeia.
I Sa WelBeibl 9:2  Roedd gan Cish ei hun fab o'r enw Saul, oedd yn ddyn ifanc arbennig iawn. Doedd neb tebyg iddo yn Israel gyfan. Roedd yn dalach na phawb arall.
I Sa WelBeibl 9:3  Roedd rhai o asennod Cish, tad Saul, wedi mynd ar goll. A dyma Cish yn dweud wrth Saul, “Plîs, cymer un o'r gweision hefo ti, a dos i chwilio am yr asennod.”
I Sa WelBeibl 9:4  Felly dyma Saul a'r gwas yn croesi bryniau Effraim drwy ardal Shalisha, ond methu dod o hyd iddyn nhw. Ymlaen wedyn drwy ardal Sha-alîm, ac yna drwy ardal Benjamin, ond dal i fethu dod o hyd iddyn nhw.
I Sa WelBeibl 9:5  Pan ddaethon nhw i ardal Swff, dyma Saul yn dweud wrth y gwas, “Well i ni fynd yn ôl adre. Bydd dad wedi anghofio am yr asennod a dechrau poeni amdanon ni.”
I Sa WelBeibl 9:6  Ond meddai'r gwas wrtho, “Mae yna ddyn sy'n proffwydo yn byw yn y dre acw. Mae parch mawr ato, am fod popeth mae'n ei ddweud yn dod yn wir. Gad i ni fynd i'w weld e. Falle y bydd e'n gallu dweud wrthon ni pa ffordd i fynd.”
I Sa WelBeibl 9:7  “Iawn,” meddai Saul, “ond be rown ni iddo? Does gynnon ni ddim bwyd ar ôl hyd yn oed, a dim byd arall i'w gynnig iddo.”
I Sa WelBeibl 9:8  Dyma'r gwas yn dweud, “Edrych mae gen i un darn arian bach – dydy e'n ddim llawer, ond gwna i roi hwn i'r proffwyd am ddweud wrthon ni ble i fynd.”
I Sa WelBeibl 9:9  (Ers talwm, pan oedd rhywun yn Israel yn mynd i ofyn cyngor Duw, roedden nhw'n dweud: “Dewch i ni fynd at y gweledydd.” Gweledydd oedden nhw'n galw proffwyd bryd hynny.)
I Sa WelBeibl 9:10  Atebodd Saul ei was, “Gwych! Tyrd, gad i ni fynd.” Felly dyma nhw'n mynd i'r dre lle roedd proffwyd Duw.
I Sa WelBeibl 9:11  Wrth fynd i fyny'r allt at y dre dyma nhw'n cyfarfod merched ifanc yn mynd i nôl dŵr. A dyma ofyn iddyn nhw, “Ydy'r gweledydd yma?”
I Sa WelBeibl 9:12  “Ydy,” meddai'r merched, “yn syth o'ch blaen acw. Ond rhaid i chi frysio. Mae e newydd gyrraedd y dre am fod y bobl am gyflwyno aberth ar yr allor leol heddiw.
I Sa WelBeibl 9:13  Os ewch i mewn i'r dre, byddwch yn ei ddal e cyn iddo fynd at yr allor i fwyta. Fydd y bobl ddim yn bwyta cyn iddo fe gyrraedd, am fod rhaid iddo fendithio'r aberth. Dim ond wedyn y bydd y rhai sydd wedi cael eu gwahodd yn bwyta. Os ewch chi nawr, byddwch chi'n dod o hyd iddo'n syth.”
I Sa WelBeibl 9:14  Aeth y ddau i fyny i'r dre. Ac wrth fynd i mewn dyna lle roedd Samuel yn dod i'w cyfarfod. Roedd e ar ei ffordd i'r allor leol.
I Sa WelBeibl 9:15  Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Samuel y diwrnod cynt fod Saul yn mynd i ddod yno:
I Sa WelBeibl 9:16  “Tua'r adeg yma fory, dw i'n mynd i anfon dyn o lwyth Benjamin atat ti. Dw i eisiau i ti ei eneinio fe i arwain fy mhobl Israel. Bydd e'n achub fy mhobl o afael y Philistiaid. Dw i wedi bod yn gwylio fy mhobl, ac wedi'u clywed nhw'n galw am help.”
I Sa WelBeibl 9:17  Pan welodd Samuel Saul, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dacw'r dyn wnes i ddweud wrthot ti amdano. Fe sy'n mynd i arwain fy mhobl i.”
I Sa WelBeibl 9:18  Roedden nhw wrth giât y ddinas, a dyma Saul yn gofyn i Samuel, “Alli di ddweud wrtho i lle mae'r gweledydd yn byw?”
I Sa WelBeibl 9:19  Atebodd Samuel, “Fi ydy'r gweledydd. Dos o'm blaen at yr allor. Cewch chi'ch dau fwyta gyda mi heddiw, wedyn fory cei fynd ar dy ffordd ar ôl i mi ddweud am bopeth sy'n dy boeni di.
I Sa WelBeibl 9:20  Paid poeni am yr asennod sydd wedi bod ar goll ers tridiau. Maen nhw wedi dod o hyd iddyn nhw. Pwy wyt ti'n feddwl mae Israel i gyd yn dyheu amdano? Ie, ti ydy e, a theulu dy dad.”
I Sa WelBeibl 9:21  Ond dyma Saul yn ateb, “Sut mae hynny'n bosib? I lwyth Benjamin dw i'n perthyn, y llwyth lleiaf yn Israel! Ac mae fy nheulu i yn un o deuluoedd mwyaf cyffredin Benjamin. Pam wyt ti'n dweud peth felly wrtho i?”
I Sa WelBeibl 9:22  Yna dyma Samuel yn mynd â Saul a'i was i'r neuadd fwyta, a rhoi'r seddi gorau iddyn nhw ar ben y bwrdd. Roedd yna tua tri deg o bobl wedi'u gwahodd i gyd.
I Sa WelBeibl 9:23  Ac meddai Samuel wrth y cogydd, “Dos i nôl y darn yna o gig wnes i ddweud wrthot ti am ei gadw o'r neilltu.”
I Sa WelBeibl 9:24  A dyma'r cogydd yn dod â darn uchaf y goes a'i osod o flaen Saul. Ac meddai Samuel, “Mae'r darn yna i ti – mae wedi'i gadw i ti. Bwyta fe, achos pan o'n i'n gwahodd pobl yma, dwedais fod hwn i gael ei gadw ar dy gyfer di.” Felly dyma Saul yn bwyta gyda Samuel y diwrnod hwnnw.
I Sa WelBeibl 9:25  Wedi iddyn nhw ddod yn ôl o'r allor i'r dre, buodd Samuel yn siarad yn breifat gyda Saul ar do fflat y tŷ.
I Sa WelBeibl 9:26  Ben bore wedyn, pan oedd hi'n gwawrio, dyma Samuel yn galw ar Saul, oedd ar y to: “Cod, i mi dy anfon di ar dy ffordd.” Felly dyma Saul yn codi, a dyma fe a'i was yn mynd allan gyda Samuel.
I Sa WelBeibl 9:27  Pan ddaethon nhw i gyrion y dre, dyma Samuel yn dweud wrth Saul, “Dwed wrth dy was am fynd yn ei flaen”; a dyma'r gwas yn gwneud hynny. “Aros di yma. Mae gen i neges gan Dduw i ti.”
Chapter 10
I Sa WelBeibl 10:1  Dyma Samuel yn cymryd potel o olew olewydd a'i dywallt ar ben Saul. Yna ei gyfarch e gyda chusan, a dweud, “Mae'r ARGLWYDD yn dy eneinio di i arwain ei bobl, Israel. Byddi'n arwain ei bobl ac yn eu hachub nhw o afael y gelynion sydd o'u cwmpas. A dyma beth fydd yn digwydd i ddangos i ti mai'r ARGLWYDD sydd wedi dy ddewis di i arwain ei bobl:
I Sa WelBeibl 10:2  wrth i ti adael heddiw byddi'n cyfarfod dau ddyn wrth ymyl bedd Rachel, yn Seltsach ar ffin Benjamin. Byddan nhw'n dweud: ‘Mae'r asennod wyt ti wedi bod yn chwilio amdanyn nhw wedi dod i'r golwg. Dydy dy dad ddim yn poeni amdanyn nhw bellach. Poeni amdanoch chi mae e, a gofyn, “Be ddylwn i ei wneud am fy mab?”’
I Sa WelBeibl 10:3  “Byddi'n mynd yn dy flaen wedyn, a dod at dderwen Tabor, lle byddi'n cyfarfod tri dyn ar eu ffordd i addoli Duw yn Bethel – un yn cario tair gafr ifanc, un arall yn cario tair torth o fara, a'r olaf yn cario potel groen o win.
I Sa WelBeibl 10:4  Byddan nhw'n dy gyfarch ac yn rhoi dwy dorth i ti. Cymer nhw ganddyn nhw.
I Sa WelBeibl 10:5  “Wedyn, dos ymlaen i Gibeath Elohîm lle mae garsiwn milwrol gan y Philistiaid. Wrth i ti gyrraedd y dre, byddi'n cyfarfod criw o broffwydi yn dod i lawr o'r allor leol ar y bryn. Bydd nabl, drwm, pib a thelyn yn mynd o'u blaenau nhw, a hwythau'n dilyn ac yn proffwydo.
I Sa WelBeibl 10:6  Yna bydd Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod yn rymus arnat tithau, a byddi'n proffwydo gyda nhw. Byddi fel person gwahanol.
I Sa WelBeibl 10:7  Pan fydd yr arwyddion yma i gyd wedi digwydd gwna beth bynnag sydd angen ei wneud, achos mae Duw gyda ti.
I Sa WelBeibl 10:8  “Dos wedyn i Gilgal. Bydda i'n dod yno atat ti i gyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Aros amdana i am wythnos, a bydda i'n dod i ddangos i ti be i'w wneud nesaf.”
I Sa WelBeibl 10:9  Wrth iddo droi i ffwrdd i adael Samuel roedd Duw wedi newid agwedd Saul yn llwyr. A dyma'r arwyddion yna i gyd yn digwydd y diwrnod hwnnw.
I Sa WelBeibl 10:10  Pan gyrhaeddodd Saul a'i was Gibea roedd criw o broffwydi'n dod i'w cyfarfod nhw. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Saul, a dechreuodd broffwydo gyda nhw.
I Sa WelBeibl 10:11  Pan welodd pawb oedd yn ei nabod, Saul yn proffwydo gyda'r proffwydi, dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Be yn y byd sydd wedi digwydd i fab Cish? Ydy Saul hefyd yn un o'r proffwydi?”
I Sa WelBeibl 10:12  A dyma un dyn lleol yn ateb, “Ydy e o bwys pwy ydy tad proffwyd?” A dyna lle dechreuodd y dywediad, “Ydy Saul yn un o'r proffwydi?”
I Sa WelBeibl 10:13  Ar ôl gorffen proffwydo, dyma Saul yn mynd at yr allor leol.
I Sa WelBeibl 10:14  Gofynnodd ei ewythr iddo fe a'i was, “Ble dych chi wedi bod?” “I chwilio am yr asennod,” meddai Saul. “Ac am ein bod yn methu'u ffeindio nhw aethon ni at Samuel.”
I Sa WelBeibl 10:15  “A be ddwedodd Samuel wrthoch chi?” meddai'r ewythr.
I Sa WelBeibl 10:16  “Dweud wrthon ni fod yr asennod wedi'u ffeindio,” meddai Saul. Ond ddwedodd e ddim gair am beth oedd Samuel wedi'i ddweud wrtho am fod yn frenin.
I Sa WelBeibl 10:17  Galwodd Samuel bobl Israel at ei gilydd i Mitspa i gyfarfod yr ARGLWYDD.
I Sa WelBeibl 10:18  Dwedodd wrthyn nhw, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Des i ag Israel allan o'r Aifft. Gwnes i'ch achub chi o afael yr Eifftiaid a'r gwledydd eraill i gyd oedd yn eich gormesu chi.
I Sa WelBeibl 10:19  Ond erbyn hyn dych chi wedi gwrthod eich Duw sydd wedi'ch achub chi o bob drwg a helynt. Dych chi wedi dweud, “Na! Rho frenin i ni.”’ “Felly nawr,” meddai Samuel, “dw i eisiau i chi sefyll o flaen yr ARGLWYDD bob yn llwyth a theulu.”
I Sa WelBeibl 10:20  A dyma fe'n dod â pob un o lwythau Israel o flaen Duw yn eu tro. Cafodd llwyth Benjamin ei ddewis.
I Sa WelBeibl 10:21  Wedyn daeth â llwyth Benjamin ymlaen fesul clan. A dyma glan Matri yn cael ei ddewis. Ac yn y diwedd dyma Saul fab Cish yn cael ei ddewis. Roedden nhw'n chwilio amdano ond yn methu dod o hyd iddo.
I Sa WelBeibl 10:22  Felly dyma nhw'n gofyn i'r ARGLWYDD eto, “Ydy'r dyn wedi dod yma?” Ac ateb Duw oedd, “Dacw fe, yn cuddio yng nghanol yr offer.”
I Sa WelBeibl 10:23  Dyma nhw'n rhedeg yno i'w nôl a'i osod i sefyll yn y canol. Roedd e'n dalach na phawb o'i gwmpas.
I Sa WelBeibl 10:24  A dyma Samuel yn dweud wrth y bobl, “Ydych chi'n gweld y dyn mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis i chi? Does neb tebyg iddo.” A dyma'r bobl i gyd yn gweiddi, “Hir oes i'r brenin!”
I Sa WelBeibl 10:25  Wedyn dyma Samuel yn esbonio i'r bobl beth fyddai'r drefn o gael brenin, a'i ysgrifennu mewn sgrôl. Cafodd honno ei chadw o flaen yr ARGLWYDD. Yna dyma Samuel yn anfon y bobl i gyd adre.
I Sa WelBeibl 10:26  Aeth Saul adre hefyd, i Gibea; ac aeth dynion dewr oedd wedi'u cyffwrdd gan Dduw gydag e.
I Sa WelBeibl 10:27  Ond roedd yna rai eraill, dynion drwg, yn dweud, “Sut all hwn ein hachub ni?” Roedden nhw'n ei wfftio, a ddaethon nhw ddim ag anrheg iddo. Er, ddwedodd Saul ddim byd am y peth.
Chapter 11
I Sa WelBeibl 11:1  Yna dyma Nachash, brenin Ammon, yn arwain ei fyddin i ymosod ar dref Jabesh yn Gilead. Dyma ddynion Jabesh yn dweud wrth Nachash, “Gwna gytundeb â ni, a down ni'n weision i ti.”
I Sa WelBeibl 11:2  Atebodd Nachash, “Iawn, gwna i gytundeb â chi, ond bydd rhaid tynnu allan llygad dde pob un ohonoch chi. Fel yna bydda i'n codi cywilydd ar Israel gyfan.”
I Sa WelBeibl 11:3  Meddai arweinwyr Jabesh wrtho, “Gad lonydd i ni am wythnos, i ni gael anfon negeswyr i bobman yn Israel. Os fydd neb yn barod i ddod i'n hachub ni, byddwn yn ildio i ti.”
I Sa WelBeibl 11:4  Cyrhaeddodd y negeswyr Gibea (lle roedd Saul yn byw) a dweud beth oedd yn digwydd; a dyma'r bobl i gyd yn dechrau crio'n uchel.
I Sa WelBeibl 11:5  Ar y pryd roedd Saul ar ei ffordd adre o'r caeau gyda'i ychen. “Be sy'n bod?” meddai. “Pam mae pawb yn crio?” A dyma nhw'n dweud wrtho am neges pobl Jabesh.
I Sa WelBeibl 11:6  Pan glywodd Saul hyn, dyma Ysbryd Duw yn dod arno'n rymus. Roedd wedi gwylltio'n lân.
I Sa WelBeibl 11:7  Dyma fe'n lladd pâr o ychen a'u torri nhw'n ddarnau mân, ac anfon negeswyr gyda'r darnau i bob ardal yn Israel. Roedden nhw i gyhoeddi fel hyn: “Pwy bynnag sy'n gwrthod cefnogi Saul a Samuel a dod allan i ymladd, dyma fydd yn digwydd i'w ychen e!” Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar bawb, felly dyma nhw'n dod allan fel un dyn.
I Sa WelBeibl 11:8  Pan wnaeth Saul eu cyfri nhw yn Besec, roedd yna 300,000 o ddynion o Israel a 30,000 o Jwda.
I Sa WelBeibl 11:9  A dyma nhw'n dweud wrth y negeswyr oedd wedi dod o Jabesh yn Gilead, “Dwedwch wrth bobl Jabesh, ‘Erbyn canol dydd fory, byddwch wedi'ch achub.’” Aeth y negeswyr a dweud hynny wrth bobl Jabesh, ac roedden nhw wrth eu boddau.
I Sa WelBeibl 11:10  Yna dyma nhw'n dweud wrth Nachash, “Yfory byddwn ni'n dod allan atoch chi, a cewch wneud fel y mynnoch hefo ni.”
I Sa WelBeibl 11:11  Y noson honno dyma Saul yn rhannu'r dynion yn dair mintai. Dyma nhw'n mynd i mewn i wersyll byddin Ammon cyn iddi wawrio, a buon nhw'n taro byddin Ammon tan ganol dydd. Roedd y rhai oedd yn dal yn fyw ar chwâl, pob un ohonyn nhw ar ei ben ei hun.
I Sa WelBeibl 11:12  Yna dyma'r bobl yn gofyn i Samuel, “Ble mae'r rhai oedd yn dweud, ‘Pam ddylai Saul fod yn frenin arnon ni?’ Dewch â nhw yma. Maen nhw'n haeddu marw!”
I Sa WelBeibl 11:13  Ond dyma Saul yn dweud, “Does neb i gael ei ladd heddiw. Mae'n ddiwrnod pan mae'r ARGLWYDD wedi rhoi buddugoliaeth i Israel!”
I Sa WelBeibl 11:14  “Dewch,” meddai Samuel, “gadewch i ni fynd i Gilgal, a sefydlu'r frenhiniaeth yno eto.”
I Sa WelBeibl 11:15  Felly dyma'r bobl i gyd yn mynd i Gilgal a gwneud Saul yn frenin yno o flaen yr ARGLWYDD. Yna dyma nhw'n cyflwyno offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Roedd Saul a phobl Israel i gyd yn dathlu'n llawen yno.
Chapter 12
I Sa WelBeibl 12:1  Dyma Samuel yn dweud wrth bobl Israel: “Edrychwch, dw i wedi gwneud popeth dych chi wedi'i ofyn, ac wedi rhoi brenin i chi.
I Sa WelBeibl 12:2  O hyn ymlaen, y brenin fydd yn eich arwain chi. Dw i'n hen ŵr a'm gwallt yn wyn, ond mae fy meibion i gyda chi. Dw i wedi'ch arwain chi ers pan oeddwn i'n ifanc.
I Sa WelBeibl 12:3  Dyma fi. Dewch, cyhuddwch fi o flaen yr ARGLWYDD a'r un mae e wedi'i eneinio'n frenin. Ydw i wedi cymryd ych rhywun? Ydw i wedi cymryd asyn rhywun? Ydw i wedi twyllo unrhyw un? Ydw i wedi gwneud i unrhyw un ddioddef? Ydw i wedi derbyn breib gan unrhyw un i gau fy llygaid i ryw ddrwg? Dwedwch wrtho i. Gwna i dalu'r cwbl yn ôl.”
I Sa WelBeibl 12:4  Ond dyma nhw'n ateb, “Na, ti ddim wedi'n twyllo ni, na gwneud i ni ddioddef, na chymryd dim gan unrhyw un.”
I Sa WelBeibl 12:5  Yna dyma Samuel yn dweud, “Yma heddiw mae'r ARGLWYDD yn dyst, a'r brenin ddewisodd e, eich bod chi wedi cael hyd i ddim byd o gwbl yn fy erbyn i.” “Ydy, mae e'n dyst,” medden nhw.
I Sa WelBeibl 12:6  Yna dyma Samuel yn mynd ymlaen i ddweud wrth y bobl. “Yr ARGLWYDD wnaeth ddewis Moses ac Aaron, ac arwain eich hynafiaid chi allan o wlad yr Aifft.
I Sa WelBeibl 12:7  Safwch mewn trefn o flaen yr ARGLWYDD i mi roi siars i chi, a'ch atgoffa mor deg mae'r ARGLWYDD wedi'ch trin chi a'ch hynafiaid bob amser.
I Sa WelBeibl 12:8  “Aeth Jacob i lawr i'r Aifft. Ond ar ôl hynny, dyma'ch hynafiaid yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help, am fod yr Eifftiaid yn eu cam-drin nhw. Anfonodd yr ARGLWYDD Moses ac Aaron i'w harwain nhw allan o'r Aifft i'r lle yma.
I Sa WelBeibl 12:9  Ond dyma nhw'n anghofio'r ARGLWYDD eu Duw. Felly dyma Duw yn gadael i Sisera, capten byddin Chatsor, a'r Philistiaid, a brenin Moab eu cam-drin nhw. Daeth y rhain i ryfela yn eu herbyn nhw.
I Sa WelBeibl 12:10  Ond dyma nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD eto, a dweud: ‘Ein bai ni ydy hyn. Dŷn ni wedi troi cefn arnat ti ARGLWYDD ac wedi mynd i addoli eilunod Baal a delwau o'r dduwies Ashtart. Plîs achub ni nawr o afael ein gelynion a byddwn ni'n dy addoli di.’
I Sa WelBeibl 12:11  Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon Gideon, Barac, Jefftha a fi, Samuel, i'ch achub chi oddi wrth y gelynion o'ch cwmpas, fel eich bod chi'n saff.
I Sa WelBeibl 12:12  “Ond yna pan welsoch chi fod Nachash, brenin Ammon, yn mynd i ymosod arnoch chi, dyma chi'n dweud wrtho i, ‘Na! Dŷn ni eisiau brenin’ – pan oedd yr ARGLWYDD eich Duw i fod yn frenin arnoch chi!
I Sa WelBeibl 12:13  Dyma chi! Dyma'r brenin dych chi wedi'i ddewis – yr un wnaethoch chi ofyn amdano. Ydy, mae'r ARGLWYDD wedi rhoi brenin i chi!
I Sa WelBeibl 12:14  Os gwnewch chi barchu'r ARGLWYDD a'i addoli e, gwrando arno a pheidio gwrthryfela yn ei erbyn, ac os gwnewch chi a'ch brenin ddilyn yr ARGLWYDD eich Duw, bydd popeth yn iawn.
I Sa WelBeibl 12:15  Ond os wnewch chi ddim gwrando, a gwrthod bod yn ufudd, yna bydd yr ARGLWYDD yn eich cosbi chi a'r brenin.
I Sa WelBeibl 12:16  “Nawr safwch yma i weld rhywbeth anhygoel fydd yr ARGLWYDD yn ei wneud o flaen eich llygaid chi.
I Sa WelBeibl 12:17  Y tymor sych ydy hi ynte? Dw i'n mynd i weddïo ar Dduw, a gofyn iddo anfon glaw a tharanau! Byddwch chi'n sylweddoli wedyn peth mor ddrwg yng ngolwg Duw oedd i chi ofyn am frenin.”
I Sa WelBeibl 12:18  Yna dyma Samuel yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. A'r diwrnod hwnnw dyma'r ARGLWYDD yn anfon glaw a tharanau. Roedd gan y bobl i gyd ofn yr ARGLWYDD a Samuel wedyn.
I Sa WelBeibl 12:19  Ac medden nhw wrtho, “Gweddïa ar yr ARGLWYDD dy Dduw droson ni, rhag i ni farw. Dŷn ni wedi gwneud mwy o ddrwg nag erioed drwy ofyn am frenin.”
I Sa WelBeibl 12:20  Dyma Samuel yn ateb y bobl, “Peidiwch bod ofn. Mae'n wir eich bod chi wedi gwneud yr holl bethau drwg yma. Ond nawr, peidiwch troi cefn ar yr ARGLWYDD. Addolwch e â'ch holl galon.
I Sa WelBeibl 12:21  Peidiwch â'i adael a mynd ar ôl rhyw ddelwau diwerth. All y rheiny ddim helpu nac achub neb. Dŷn nhw'n dda i ddim!
I Sa WelBeibl 12:22  Yr ARGLWYDD wnaeth ddewis eich gwneud chi'n bobl iddo fe'i hun, felly fydd e ddim yn troi cefn arnoch chi. Mae e eisiau cadw ei enw da.
I Sa WelBeibl 12:23  Ac o'm rhan i fy hun, fyddwn i byth yn meiddio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD drwy beidio gweddïo drosoch chi. Bydda i'n eich dysgu chi i fyw yn y ffordd iawn:
I Sa WelBeibl 12:24  Cofiwch barchu'r ARGLWYDD, a'i addoli o ddifri â'ch holl galon. Meddyliwch am yr holl bethau mawr mae'r ARGLWYDD wedi'u gwneud i chi!
I Sa WelBeibl 12:25  Ond os byddwch chi'n mynnu dal ati i wneud drwg, bydd hi ar ben arnoch chi a'ch brenin.”
Chapter 13
I Sa WelBeibl 13:1  Does neb yn siŵr beth oedd oed Saul pan ddaeth yn frenin. Ar ôl bod yn frenin ar Israel am ddwy flynedd
I Sa WelBeibl 13:2  dyma fe'n dewis tair mil o ddynion i fod yn ei fyddin. Roedd dwy fil o'r dynion i aros gydag e yn Michmas a bryniau Bethel, a'r mil arall i fynd gyda Jonathan i Gibea ar dir llwyth Benjamin. Anfonodd bawb arall yn ôl adre.
I Sa WelBeibl 13:3  Clywodd y Philistiaid fod Jonathan wedi ymosod ar eu garsiwn milwrol yn Geba. Felly dyma Saul yn anfon negeswyr drwy'r wlad i gyd i chwythu'r corn hwrdd a dweud, “Chi Hebreaid, gwrandwch yn astud!”
I Sa WelBeibl 13:4  A chlywodd pawb yn Israel fod Saul wedi taro garsiwn milwrol y Philistiaid, a bod y Philistiaid yn ffieiddio pobl Israel. Felly dyma'r bobl yn cael eu galw i ymuno â byddin Saul yn Gilgal.
I Sa WelBeibl 13:5  Yn y cyfamser, roedd y Philistiaid yn paratoi i ymosod ar Israel. Roedden nhw wedi casglu tair mil o gerbydau rhyfel, chwe mil o farchogion a gormod o filwyr traed i'w cyfrif, ac wedi codi gwersyll yn Michmas i'r dwyrain o Beth-afen.
I Sa WelBeibl 13:6  Pan welodd byddin Israel mor ddrwg oedd hi arnyn nhw, dyma nhw'n colli pob hyder a mynd i guddio mewn ogofâu, drysni, yn y creigiau ac mewn pydewau.
I Sa WelBeibl 13:7  Roedd rhai wedi dianc dros afon Iorddonen i ardal Gad a Gilead. Ond arhosodd Saul yn Gilgal, er fod y fyddin oedd gydag e i gyd wedi dychryn am eu bywydau.
I Sa WelBeibl 13:8  Roedd Saul wedi aros am wythnos, fel roedd Samuel wedi gofyn iddo wneud, ond ddaeth Samuel ddim, a dechreuodd y dynion ei adael e.
I Sa WelBeibl 13:9  Felly dyma Saul yn dweud, “Dewch a'r anifeiliaid sydd i'w haberthu yma – y rhai sydd i'w llosgi a'r rhai sy'n offrwm i ofyn am fendith yr ARGLWYDD.” A dyma fe'n aberthu i Dduw.
I Sa WelBeibl 13:10  Roedd e newydd orffen llosgi'r aberth pan ddaeth Samuel i'r golwg. A dyma Saul yn mynd allan i'w gyfarfod a'i gyfarch.
I Sa WelBeibl 13:11  Ond dyma Samuel yn gofyn iddo, “Be wyt ti wedi'i wneud?” Atebodd Saul, “Roedd y dynion yn dechrau gadael. Doeddet ti ddim wedi dod fel roedden ni wedi trefnu, ac mae'r Philistiaid wedi casglu at ei gilydd yn Michmas.
I Sa WelBeibl 13:12  Roedd gen i ofn y bydden nhw'n ymosod arna i yn Gilgal, a finnau heb ofyn i Dduw am help. Felly doedd gen i ddim dewis ond mynd ati i losgi'r aberth.”
I Sa WelBeibl 13:13  “Ti wedi gwneud peth gwirion,” meddai Samuel wrtho. “Dylet ti fod wedi gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrthot ti. Petaet ti wedi bod yn ufudd byddai'r ARGLWYDD wedi cadw'r olyniaeth frenhinol yn dy deulu di am byth.
I Sa WelBeibl 13:14  Ond nawr, fydd hynny ddim yn digwydd. Mae'r ARGLWYDD wedi dod o hyd i ddyn sydd wrth ei fodd, ac wedi dewis hwnnw i arwain ei bobl, am dy fod ti heb gadw'i orchmynion.”
I Sa WelBeibl 13:15  Yna dyma Samuel yn gadael Gilgal a mynd i ffwrdd. Aeth Saul a'r milwyr oedd ar ôl ganddo i ymuno gyda'r dynion eraill oedd wedi dod i ryfela. A dyma nhw'n mynd o Gilgal i Gibea yn Benjamin. Pan gyfrodd Saul y dynion oedd ar ôl gydag e, dim ond chwe chant ohonyn nhw oedd yna!
I Sa WelBeibl 13:16  Roedd Saul, Jonathan ei fab a'r dynion oedd gyda nhw yn Gibea yn Benjamin, tra oedd y Philistiaid yn gwersylla yn Michmas.
I Sa WelBeibl 13:17  Yna'n sydyn aeth tair mintai allan o wersyll y Philistiaid i ymosod ar wahanol ardaloedd. Aeth un i'r gogledd i gyfeiriad Offra yn ardal Shwal,
I Sa WelBeibl 13:18  un arall i'r gorllewin i gyfeiriad Beth-choron, a'r drydedd i gyfeiriad yr anialwch yn y dwyrain, i'r grib sydd uwchben Dyffryn Seboïm.
I Sa WelBeibl 13:19  Bryd hynny doedd dim gof i'w gael yn holl wlad Israel. Roedd y Philistiaid eisiau rhwystro'r Hebreaid rhag gwneud cleddyfau a gwaywffyn.
I Sa WelBeibl 13:20  Felly roedd rhaid i bobl Israel fynd at y Philistiaid i roi min ar swch aradr, hof, bwyell neu gryman.
I Sa WelBeibl 13:21  Roedd rhaid talu prisiau uchel – 8 gram o arian am hogi swch aradr neu hof, 4 gram o arian am fwyell, a'r un faint am osod blaen ar ffon brocio ychen.
I Sa WelBeibl 13:22  Felly pan ddechreuodd y frwydr doedd gan filwyr Saul a Jonathan ddim cleddyfau na gwaywffyn; dim ond Saul ei hun a'i fab Jonathan oedd â rhai.
I Sa WelBeibl 13:23  Roedd byddin y Philistiaid yn symud allan i gyfeiriad bwlch Michmas.
Chapter 14
I Sa WelBeibl 14:1  Un diwrnod dyma Jonathan, mab Saul, yn dweud wrth y gwas oedd yn cario'i arfau, “Tyrd, gad i ni groesi drosodd i wersyll y Philistiaid.” Ond ddwedodd e ddim am y peth wrth ei dad.
I Sa WelBeibl 14:2  Roedd Saul yn eistedd o dan y goeden pomgranadau sydd wrth ymyl Migron ar gyrion Gibea, a tua chwe chant o ddynion gydag e.
I Sa WelBeibl 14:3  Achïa oedd yn cario'r effod. (Roedd Achïa yn fab i Achitwf, brawd Ichabod a mab Phineas fab Eli oedd yn arfer bod yn offeiriad yn Seilo.) Doedd neb o'r fyddin yn gwybod fod Jonathan wedi mynd.
I Sa WelBeibl 14:4  Roedd clogwyni uchel bob ochr i'r bwlch roedd Jonathan eisiau ei groesi i fynd at wersyll y Philistiaid. Enwau'r clogwyni oedd Botsets a Senne.
I Sa WelBeibl 14:5  Roedd un i'r gogledd ar ochr Michmas, a'r llall i'r de ar ochr Geba.
I Sa WelBeibl 14:6  Dyma Jonathan yn dweud wrth y gwas oedd yn cario'i arfau, “Tyrd, gad i ni fynd draw i wersyll y paganiaid acw. Falle bydd yr ARGLWYDD yn ein helpu ni. Mae'r un mor hawdd iddo fe achub hefo criw bach ag ydy hi gyda byddin fawr.”
I Sa WelBeibl 14:7  A dyma'i was yn ateb, “Gwna beth bynnag wyt ti eisiau. Dos amdani. Dw i gyda ti bob cam.”
I Sa WelBeibl 14:8  Meddai Jonathan, “Dyma be wnawn ni. Awn ni drosodd at y dynion a gadael iddyn nhw ein gweld ni.
I Sa WelBeibl 14:9  Os dwedan nhw ‘Arhoswch yna nes i ni ddod atoch chi,’ gwnawn ni aros lle rydyn ni.
I Sa WelBeibl 14:10  Ond os dwedan nhw, ‘Dewch i fyny yma,’ awn ni atyn nhw. Bydd hynny'n arwydd fod yr ARGLWYDD yn eu rhoi nhw'n ein gafael ni.”
I Sa WelBeibl 14:11  Felly dyma'r ddau'n mynd, a dangos eu hunain i fyddin y Philistiaid. A dyma'r rheiny yn dweud, “Edrychwch! Mae'r Hebreaid yn dod allan o'r tyllau lle maen nhw wedi bod yn cuddio!”
I Sa WelBeibl 14:12  Gwaeddodd y milwyr ar Jonathan a'i gludwr arfau, “Dewch i fyny yma i ni ddysgu gwers i chi!” A dyma Jonathan yn dweud wrth ei was, “Dilyn fi, achos mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i Israel.”
I Sa WelBeibl 14:13  Yna dringodd Jonathan i fyny ar ei bedwar, a'r gwas oedd yn cario'i arfau ar ei ôl. Dyma Jonathan yn taro gwylwyr y Philistiaid i lawr, ac yna roedd ei was yn ei ddilyn ac yn eu lladd nhw.
I Sa WelBeibl 14:14  Yn yr ymosodiad cyntaf yma, lladdodd Jonathan a'i was tua dau ddeg o ddynion mewn llai na chan llath.
I Sa WelBeibl 14:15  Yna roedd yna ddaeargryn, a dyma banig llwyr yn dod dros fyddin y Philistiaid. Roedden nhw'n panicio yn y gwersyll ac allan ar y maes – y fintai i gyd a'r grwpiau oedd wedi mynd allan i ymosod ar Israel. Duw oedd wedi achosi'r panig yma.
I Sa WelBeibl 14:16  Roedd gan Saul wylwyr yn Gibea yn Benjamin, a dyma nhw'n gweld milwyr y Philistiaid yn dyrfa yn diflannu i bob cyfeiriad.
I Sa WelBeibl 14:17  Dyma Saul yn gorchymyn galw'i filwyr at ei gilydd i weld pwy oedd ar goll, a dyma nhw'n ffeindio fod Jonathan a'r gwas oedd yn cario'i arfau ddim yno.
I Sa WelBeibl 14:18  Yna dyma Saul yn dweud wrth Achïa'r offeiriad, “Tyrd â'r Arch yma.” (Roedd Arch Duw allan gyda byddin Israel ar y pryd.)
I Sa WelBeibl 14:19  Ond tra oedd Saul yn siarad â'r offeiriad, roedd y panig yng ngwersyll y Philistiaid yn mynd o ddrwg i waeth. Felly dyma Saul yn dweud wrtho, “Anghofia hi.”
I Sa WelBeibl 14:20  A dyma Saul yn galw'i fyddin at ei gilydd a mynd allan i'r frwydr. Roedd byddin y Philistiaid mewn anhrefn llwyr. Dyna lle roedden nhw'n lladd ei gilydd!
I Sa WelBeibl 14:21  Roedd yna Hebreaid oedd wedi ymuno â byddin y Philistiaid cyn hyn, a dyma nhw'n troi i ymladd ar ochr yr Israeliaid gyda Saul a Jonathan.
I Sa WelBeibl 14:22  Wedyn, pan glywodd yr Israeliaid oedd wedi bod yn cuddio ym mryniau Effraim fod y Philistiaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn mynd ar eu holau.
I Sa WelBeibl 14:23  Roedd y brwydro wedi lledu tu draw i Beth-afen. Felly yr ARGLWYDD wnaeth achub Israel y diwrnod hwnnw.
I Sa WelBeibl 14:24  Roedd byddin Israel wedi llwyr ymlâdd y diwrnod hwnnw, am fod Saul wedi gwneud iddyn nhw dyngu llw a dweud, “Melltith ar unrhyw un fydd yn bwyta unrhyw beth cyn iddi nosi – cyn i mi ddial ar fy ngelynion.” Felly doedd neb wedi bwyta o gwbl.
I Sa WelBeibl 14:25  Daeth y fyddin at goedwig, ac roedd diliau mêl ar lawr ym mhobman. Er eu bod nhw'n gweld y mêl yn diferu, wnaeth neb gymryd dim am fod arnyn nhw ofn y felltith.
I Sa WelBeibl 14:26  Daeth y fyddin at goedwig, ac roedd diliau mêl ar lawr ym mhobman. Er eu bod nhw'n gweld y mêl yn diferu, wnaeth neb gymryd dim am fod arnyn nhw ofn y felltith.
I Sa WelBeibl 14:27  Ond doedd Jonathan ddim wedi clywed ei dad yn gwneud i bawb dyngu'r llw. Felly dyma fe'n estyn blaen ei ffon i'r mêl, ac yna ei rhoi yn ei geg. Roedd wedi'i adfywio'n llwyr.
I Sa WelBeibl 14:28  Yna dyma un o'r dynion yn dweud wrtho, “Gwnaeth dy dad i'r milwyr dyngu llw, a dweud, ‘Melltith ar unrhyw un sy'n bwyta unrhyw fwyd heddiw.’ Dyna pam mae'r dynion i gyd yn teimlo mor wan.”
I Sa WelBeibl 14:29  A dyma Jonathan yn ateb, “Mae dad wedi gwneud pethau'n anodd i bawb. Edrychwch gymaint gwell dw i'n teimlo ar ôl blasu'r mymryn bach yna o fêl!
I Sa WelBeibl 14:30  Petai'r dynion wedi cael bwyta'r bwyd adawodd y gelynion heddiw, bydden ni wedi lladd llawer mwy o'r Philistiaid!”
I Sa WelBeibl 14:31  Y diwrnod hwnnw llwyddodd y fyddin i daro'r Philistiaid yr holl ffordd o Michmas i Aialon, ond roedden nhw wedi blino'n lân.
I Sa WelBeibl 14:32  Felly dyma nhw'n rhuthro ar yr ysbail a chymryd defaid, gwartheg a lloi. Yna eu lladd nhw yn y fan a'r lle, a bwyta'r cig, y gwaed a'r cwbl.
I Sa WelBeibl 14:33  Dwedodd rhywun wrth Saul fod y bobl wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD drwy fwyta gwaed. A dyma Saul yn dweud, “Dych chi wedi bod yn anffyddlon. Rholiwch garreg fawr yma ata i.
I Sa WelBeibl 14:34  Yna ewch at y dynion a dweud wrthyn nhw fod rhaid i bawb ddod â'i fustach a'i ddafad i'r fan yma, i'w ladd cyn ei fwyta. Dwedwch wrthyn nhw am beidio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD drwy fwyta'r gwaed.” Felly'r noson honno, dyma pawb yn mynd â'i anifail yno i'w ladd.
I Sa WelBeibl 14:35  A dyna sut wnaeth Saul godi allor i'r ARGLWYDD am y tro cyntaf.
I Sa WelBeibl 14:36  Dyma Saul yn dweud, “Dewch i ni fynd i lawr ar ôl y Philistiaid yn y nos, a'u taro nhw nes bydd hi'n fore. Fydd yna run ohonyn nhw ar ôl!” Dyma'r dynion yn ateb, “Beth bynnag ti'n feddwl sydd orau.” Ond dyma'r offeiriad yn dweud, “Gadewch i ni ofyn i Dduw gyntaf.”
I Sa WelBeibl 14:37  Felly dyma Saul yn gofyn i Dduw, “Ddylwn i fynd ar ôl y Philistiaid? Wnei di adael i Israel ennill y frwydr?” Ond gafodd e ddim ateb y diwrnod hwnnw.
I Sa WelBeibl 14:38  Felly dyma Saul yn galw arweinwyr y fyddin ato a dweud, “Rhaid darganfod pwy sydd wedi pechu yma heddiw.
I Sa WelBeibl 14:39  Mor sicr â bod yr ARGLWYDD, achubwr Israel, yn fyw – hyd yn oed os mai Jonathan, fy mab i fy hun, ydy e – bydd rhaid iddo farw!” Ond wnaeth neb o'r milwyr ddweud gair.
I Sa WelBeibl 14:40  Felly dyma fe'n dweud wrth fyddin Israel, “Safwch chi i gyd yr ochr yna, a gwna i a fy mab Jonathan sefyll gyferbyn â chi.” A dyma'r dynion yn ateb, “Beth bynnag ti'n feddwl sydd orau.”
I Sa WelBeibl 14:41  Yna dyma Saul yn gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw Israel. Os mai fi neu Jonathan sydd wedi pechu, rho Wrim. Os mai un o fyddin Israel sydd wedi pechu, rho Thwmim.” A'r canlyniad oedd i Saul a Jonathan gael eu dangos yn euog, a bod y fyddin ddim ar fai.
I Sa WelBeibl 14:42  A dyma Saul yn dweud, “Tynnwch garreg i ddewis rhwng Jonathan a fi.” A chafodd Jonathan ei ddangos yn euog.
I Sa WelBeibl 14:43  Yna yma Saul yn gofyn i Jonathan, “Dwed wrtho i be wnest ti.” A dyma Jonathan yn ateb, “Blasu mymryn o fêl ar flaen fy ffon. Dyma fi, oes rhaid i mi farw?”
I Sa WelBeibl 14:44  A dyma Saul yn cyhoeddi, “Ar fy llw o flaen Duw, rhaid i Jonathan farw neu bydd Duw'n ein cosbi ni'n waeth fyth.”
I Sa WelBeibl 14:45  Ond dyma'r milwyr yn ateb, “Pam ddylai Jonathan farw? Mae e wedi ennill buddugoliaeth fawr i Israel heddiw. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw ddylai dim byd ddigwydd iddo. Roedd e'n cydweithio gyda Duw heddiw.” Felly dyma'r milwyr yn achub Jonathan, a chafodd fyw.
I Sa WelBeibl 14:46  Ar ôl hynny, rhoddodd Saul y gorau i fynd ar ôl y Philistiaid, a dyma'r rheiny'n mynd yn ôl i'w gwlad eu hunain.
I Sa WelBeibl 14:47  Pan oedd Saul yn frenin ar Israel aeth i ryfel yn erbyn y gelynion oedd o'i gwmpas i gyd: Moab, yr Ammoniaid, Edom, brenhinoedd Soba yn Syria, a'r Philistiaid. Roedd e'n ennill bob tro.
I Sa WelBeibl 14:48  Roedd e'n arwr. Trawodd yr Amaleciaid ac achub Israel o afael pawb oedd yn ymosod arnyn nhw.
I Sa WelBeibl 14:49  Enwau Meibion Saul oedd Jonathan, Ishfi a Malci-shwa. Roedd ganddo ddwy ferch hefyd, Merab, yr hynaf a Michal yr ifancaf.
I Sa WelBeibl 14:50  Enw gwraig Saul oedd Achinoam (merch Achimaäts). Pennaeth ei fyddin oedd Abner fab Ner, cefnder Saul. (
I Sa WelBeibl 14:51  Roedd Cish tad Saul, a Ner tad Abner yn feibion i Abiel).
I Sa WelBeibl 14:52  Roedd yna ryfela ffyrnig yn erbyn y Philistiaid yr holl amser roedd Saul yn frenin. Felly pan fyddai Saul yn gweld unrhyw ddyn cryf a dewr, byddai'n ei gonscriptio i'w fyddin.
Chapter 15
I Sa WelBeibl 15:1  Dyma Samuel yn dweud wrth Saul, “Fi ydy'r un wnaeth yr ARGLWYDD ei anfon i dy eneinio di yn frenin ar Israel. Felly, gwranda nawr ar beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.
I Sa WelBeibl 15:2  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Dw i am gosbi'r Amaleciaid am beth wnaethon nhw i bobl Israel, sef gwrthod gadael iddyn nhw basio pan oedden nhw ar ei ffordd o'r Aifft.
I Sa WelBeibl 15:3  Felly ewch i daro'r Amaleciaid. Dinistriwch nhw'n llwyr, a llosgi eu heiddo. Peidiwch teimlo trueni drostyn nhw. Lladdwch nhw i gyd – yn ddynion a merched, plant a babis bach, gwartheg a defaid, camelod ag asynnod.’”
I Sa WelBeibl 15:4  Dyma Saul yn galw'r fyddin at ei gilydd a'u cyfri nhw yn Telaïm. Daeth 200,000 o filwyr traed a 10,000 o ddynion o Jwda.
I Sa WelBeibl 15:5  Aeth Saul a'i fyddin i gyfeiriad y trefi lle roedd yr Amaleciaid yn byw, a chuddio yn y dyffryn yn barod i ymosod.
I Sa WelBeibl 15:6  Wedyn anfonodd neges at y Ceneaid, “Ewch i ffwrdd o'r ardal. Peidiwch aros gyda'r Amaleciaid, rhag i chi gael eich difa gyda nhw. Buoch chi'n garedig wrth bobl Israel pan oedden nhw'n dod o'r Aifft.” Felly dyma'r Ceneaid yn gadael yr Amaleciaid.
I Sa WelBeibl 15:7  Yna dyma Saul yn ymosod ar yr Amaleciaid a'u taro o Hafila yr holl ffordd i Shwr sydd wrth ymyl yr Aifft.
I Sa WelBeibl 15:8  Cafodd Agag, brenin yr Amaleciaid, ei ddal yn fyw, ond cafodd ei bobl i gyd eu lladd â'r cleddyf.
I Sa WelBeibl 15:9  Dyma Saul a'i fyddin yn gadael i Agag fyw, a dyma nhw hefyd yn cadw'r gorau o'r defaid a'r geifr, y gwartheg, y lloi, yr ŵyn ac unrhyw beth arall oedd o werth. Doedden nhw ddim am ladd yr anifeiliaid gorau; dim ond y rhai gwael a diwerth gafodd eu lladd.
I Sa WelBeibl 15:11  “Dw i'n sori mod i wedi gwneud Saul yn frenin. Mae e wedi troi cefn arna i, a dydy e ddim yn gwneud beth dw i'n ddweud.” Roedd Samuel wedi ypsetio'n lân, a bu'n crefu ar yr ARGLWYDD am y peth drwy'r nos.
I Sa WelBeibl 15:12  Yna'n gynnar iawn y bore wedyn aeth Samuel i weld Saul. Ond dyma rywun yn dweud wrtho fod Saul wedi mynd i dref Carmel i godi cofeb iddo'i hun yno, ac yna ymlaen i Gilgal.
I Sa WelBeibl 15:13  Pan ddaeth Samuel o hyd i Saul, dyma Saul yn ei gyfarch, “Bendith yr ARGLWYDD arnat i. Dw i wedi gwneud popeth ddwedodd yr ARGLWYDD.”
I Sa WelBeibl 15:14  Ond dyma Samuel yn ei ateb, “Os felly, beth ydy sŵn y defaid a'r gwartheg yna dw i'n ei glywed?”
I Sa WelBeibl 15:15  Atebodd Saul, “Y milwyr wnaeth eu cymryd nhw oddi ar yr Amaleciaid. Maen nhw wedi cadw'r defaid a'r gwartheg gorau i'w haberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw. Mae popeth arall wedi cael ei ddinistrio.”
I Sa WelBeibl 15:16  Ond dyma Samuel yn dweud wrth Saul, “Taw, i mi gael dweud wrthot ti beth ddwedodd Duw wrtho i neithiwr.” “Dwed wrtho i,” meddai Saul.
I Sa WelBeibl 15:17  Ac meddai Samuel, “Pan oeddet ti'n meddwl dy fod ti'n neb o bwys, cest ti dy wneud yn arweinydd ar lwythau Israel. Dewisodd yr ARGLWYDD di yn frenin ar Israel.
I Sa WelBeibl 15:18  Wedyn dyma fe'n dy anfon di allan a dweud, ‘Dos i ddinistrio'r Amaleciaid drwg yna. Ymladd yn eu herbyn nhw a dinistria nhw'n llwyr.’
I Sa WelBeibl 15:19  Felly pam wnest ti ddim gwrando? Yn lle hynny, rwyt ti wedi rhuthro ar yr ysbail i gael be alli di i ti dy hun. Ti wedi gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.”
I Sa WelBeibl 15:20  Dyma Saul yn ateb Samuel, “Ond dw i hefyd wedi gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD! Es i ar yr ymgyrch fel roedd e wedi dweud. Dw i wedi dal y Brenin Agag ac wedi dinistrio'r Amaleciaid yn llwyr.
I Sa WelBeibl 15:21  Cymerodd y fyddin y defaid a'r gwartheg gorau i'w haberthu nhw i'r ARGLWYDD dy Dduw yma yn Gilgal!”
I Sa WelBeibl 15:22  Yna dyma Samuel yn dweud, “Beth sy'n rhoi mwya o bleser i'r ARGLWYDD? Aberth ac offrwm i'w losgi, neu wneud beth mae e'n ddweud? Mae gwrando yn well nag aberth; mae talu sylw yn well na braster hyrddod.
I Sa WelBeibl 15:23  Mae gwrthryfela yn bechod, fel dablo mewn dewiniaeth, ac mae anufudd-dod mor ddrwg ac addoli eilunod. Am dy fod wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD mae e wedi dy wrthod di fel brenin.”
I Sa WelBeibl 15:24  Dyma Saul yn cyfaddef i Samuel, “Dw i wedi pechu. Dw i wedi bod yn anufudd i'r ARGLWYDD a gwrthod gwrando arnat ti. Roedd gen i ofn y milwyr, a dyma fi'n gwneud beth roedden nhw eisiau.
I Sa WelBeibl 15:25  Plîs maddau i mi. Tyrd yn ôl hefo fi, i mi gael addoli'r ARGLWYDD.”
I Sa WelBeibl 15:26  “Na,” meddai Samuel, “wna i ddim mynd yn ôl hefo ti. Ti wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD ac mae e wedi dy wrthod di yn frenin ar Israel.”
I Sa WelBeibl 15:27  Yna wrth i Samuel droi i adael, dyma Saul yn gafael yn ymyl ei glogyn, a dyma fe'n rhwygo.
I Sa WelBeibl 15:28  Meddai Samuel wrtho, “Mae'r ARGLWYDD wedi rhwygo'r deyrnas oddi arnat ti heddiw, a'i rhoi hi i rywun arall gwell na ti.
I Sa WelBeibl 15:29  Dydy Un Godidog Israel, ddim yn dweud celwydd nac yn newid ei feddwl. Dydy e ddim fel person dynol sy'n newid ei feddwl o hyd.”
I Sa WelBeibl 15:30  “Dw i wedi pechu”, meddai Saul eto. “Ond plîs dangos barch ata i o flaen arweinwyr a phobl Israel. Tyrd yn ôl hefo fi, i mi gael addoli'r ARGLWYDD dy Dduw.”
I Sa WelBeibl 15:31  Felly aeth Samuel yn ôl gyda Saul, a dyma Saul yn addoli'r ARGLWYDD.
I Sa WelBeibl 15:32  Yna dyma Samuel yn dweud, “Dewch ag Agag, brenin yr Amaleciaid, ata i.” Daeth Agag ato yn nerfus, gan feddwl, “Wnân nhw ddim fy lladd i bellach, siawns?”
I Sa WelBeibl 15:33  Ond dyma Samuel yn dweud, “Fel gwnaeth dy gleddyf di adael gwragedd heb blant, tro dy fam di ydy hi i alaru nawr.” A dyma fe'n hacio Agag i farwolaeth o flaen yr ARGLWYDD yn Gilgal.
I Sa WelBeibl 15:34  Aeth Samuel yn ôl i Rama, ac aeth Saul adre i Gibea
I Sa WelBeibl 15:35  Wnaeth Samuel ddim gweld Saul byth wedyn. Ond roedd yn dal i deimlo mor drist amdano. Roedd yr ARGLWYDD, ar y llaw arall, yn sori ei fod wedi gwneud Saul yn frenin ar Israel.
Chapter 16
I Sa WelBeibl 16:1  Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Samuel, “Am faint wyt ti'n mynd i ddal i deimlo'n drist am Saul? Dw i wedi'i wrthod e fel brenin ar Israel. Llenwa gorn gydag olew olewydd a dos i Bethlehem at ddyn o'r enw Jesse. Dw i wedi dewis un o'i feibion e i fod yn frenin i mi.”
I Sa WelBeibl 16:2  Atebodd Samuel, “Sut alla i wneud hynny? Os bydd Saul yn clywed am y peth bydd e'n fy lladd i!” “Dos â heffer gyda ti,” meddai'r ARGLWYDD, “a dweud, ‘Dw i'n mynd i aberthu i'r ARGLWYDD.’
I Sa WelBeibl 16:3  Gwahodd Jesse i'r aberth, a gwna i ddangos i ti pa un o'i feibion i'w eneinio â'r olew.”
I Sa WelBeibl 16:4  Gwnaeth Samuel fel roedd Duw wedi dweud, a mynd i Fethlehem. Ond roedd arweinwyr y dre yn nerfus iawn pan welon nhw e. Dyma nhw'n gofyn iddo, “Wyt ti'n dod yn heddychlon?”
I Sa WelBeibl 16:5  “Ydw”, meddai Samuel, “yn heddychlon. Dw i'n dod i aberthu i'r ARGLWYDD. Ewch drwy'r ddefod o buro eich hunain, a dewch gyda mi i'r aberth.” Yna dyma fe'n arwain Jesse a'i feibion drwy'r ddefod o gysegru eu hunain, a'u gwahodd nhw i'r aberth.
I Sa WelBeibl 16:6  Pan gyrhaeddon nhw, sylwodd Samuel ar Eliab a meddwl, “Dw i'n siŵr mai hwnna ydy'r un mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis yn frenin.”
I Sa WelBeibl 16:7  Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Paid cymryd sylw o pa mor dal a golygus ydy e. Dw i ddim wedi'i ddewis e. Dydy Duw ddim yn edrych ar bethau yr un fath ag mae pobl. Mae pobl yn edrych ar y tu allan, ond mae'r ARGLWYDD yn edrych ar sut berson ydy rhywun go iawn.”
I Sa WelBeibl 16:8  Yna dyma Jesse yn galw Abinadab, i Samuel gael ei weld e. Ond dyma Samuel yn dweud, “Dim hwn mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis chwaith.”
I Sa WelBeibl 16:9  Felly dyma Jesse yn dod â Shamma ato. Ond dyma Samuel yn dweud, “Dim hwn mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis chwaith.”
I Sa WelBeibl 16:10  Daeth Jesse â saith o'i feibion at Samuel yn eu tro. Ond dyma Samuel yn dweud wrtho, “Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dewis run o'r rhain.”
I Sa WelBeibl 16:11  Yna dyma Samuel yn holi Jesse, “Ai dyma dy fechgyn di i gyd?” “Na,” meddai Jesse, “Mae'r lleiaf ar ôl. Mae e'n gofalu am y defaid.” “Anfon rhywun i'w nôl e,” meddai Samuel. “Wnawn ni ddim byd arall nes bydd e wedi cyrraedd.”
I Sa WelBeibl 16:12  Felly dyma Jesse'n anfon amdano. Roedd yn fachgen iach yr olwg gyda llygaid hardd – bachgen golygus iawn. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Tyrd! Hwn ydy e! Eneinia fe â'r olew.”
I Sa WelBeibl 16:13  Felly dyma Samuel yn tywallt yr olew ar ben Dafydd o flaen ei frodyr i gyd. Daeth Ysbryd yr ARGLWYDD yn rymus ar Dafydd o'r diwrnod hwnnw ymlaen. Yna dyma Samuel yn mynd yn ôl adre i Rama.
I Sa WelBeibl 16:14  Roedd Ysbryd yr ARGLWYDD wedi gadael Saul. A dyma'r ARGLWYDD yn anfon ysbryd drwg i'w boeni.
I Sa WelBeibl 16:15  Roedd ei swyddogion yn dweud wrtho, “Mae'n amlwg fod Duw wedi anfon ysbryd drwg i dy boeni di.
I Sa WelBeibl 16:16  Syr, beth am i ni, dy weision, fynd i chwilio am rywun sy'n canu'r delyn yn dda? Wedyn, pan fydd Duw yn anfon yr ysbryd drwg arnat ti, bydd e'n canu'r delyn ac yn gwneud i ti deimlo'n well.”
I Sa WelBeibl 16:17  Felly dyma Saul yn ateb, “Iawn, ewch i ffeindio rhywun sy'n canu'r delyn yn dda, a dewch ag e yma.”
I Sa WelBeibl 16:18  A dyma un o'r dynion ifanc yn dweud, “Dw i'n gwybod am fab i Jesse o Fethlehem sy'n dda ar y delyn. Mae e'n filwr dewr, yn siaradwr da, mae'n fachgen golygus ac mae'r ARGLWYDD gydag e.”
I Sa WelBeibl 16:19  Felly dyma Saul yn anfon neges at Jesse, “Anfon dy fab Dafydd ata i, yr un sydd gyda'r defaid.”
I Sa WelBeibl 16:20  A dyma Jesse'n llwytho asyn gyda bara, potel groen yn llawn o win, a gafr ifanc, a'u hanfon gyda'i fab Dafydd at Saul.
I Sa WelBeibl 16:21  Aeth Dafydd i weithio i Saul. Roedd Saul yn ei hoffi'n fawr, a rhoddodd y cyfrifoldeb o gario'i arfau iddo.
I Sa WelBeibl 16:22  Anfonodd Saul neges at Jesse yn gofyn, “Plîs gad i Dafydd aros yma i fod yn was i mi. Dw i'n hapus iawn gydag e.”
I Sa WelBeibl 16:23  Felly, pan fyddai Duw yn anfon ysbryd drwg ar Saul, byddai Dafydd yn nôl ei delyn a'i chanu. Byddai hynny'n tawelu Saul a gwneud iddo deimlo'n well; a byddai'r ysbryd drwg yn gadael llonydd iddo.
Chapter 17
I Sa WelBeibl 17:1  Casglodd y Philistiaid eu byddin at ei gilydd yn Socho yn Jwda, i fynd i ryfel. Roedden nhw wedi codi gwersyll yn Effes-dammîm rhwng Socho ac Aseca.
I Sa WelBeibl 17:2  Roedd Saul a byddin Israel hefyd wedi codi gwersyll yn Nyffryn Ela, ac yn sefyll yn rhengoedd yn barod i ymladd yn erbyn y Philistiaid.
I Sa WelBeibl 17:3  Roedd y Philistiaid ar ben un bryn a'r Israeliaid ar ben bryn arall, gyda'r dyffryn rhyngddyn nhw.
I Sa WelBeibl 17:4  Daeth milwr o'r enw Goliath o dref Gath allan o wersyll y Philistiaid i herio'r Israeliaid. Roedd e dros naw troedfedd o daldra!
I Sa WelBeibl 17:5  Roedd yn gwisgo helmed bres, arfwisg bres oedd yn pwyso bron chwe deg cilogram,
I Sa WelBeibl 17:6  a phadiau pres ar ei goesau. Roedd cleddyf cam pres yn hongian dros ei ysgwydd.
I Sa WelBeibl 17:7  Roedd coes ei waywffon fel trawst ffrâm gwehydd, a'i phig haearn yn pwyso tua saith cilogram. Ac roedd gwas yn cario'i darian o'i flaen.
I Sa WelBeibl 17:8  Dyma fe'n sefyll a gweiddi ar fyddin Israel, “Pam dych chi'n paratoi i ryfela? Philistiad ydw i, a dych chi'n weision i Saul. Dewiswch un dyn i ddod i lawr yma i ymladd hefo fi!
I Sa WelBeibl 17:9  Os gall e fy lladd i, byddwn ni'n gaethweision i chi. Ond os gwna i ei ladd e yna chi fydd yn gaethweision i ni.”
I Sa WelBeibl 17:10  Yna gwaeddodd eto, “Dw i'n eich herio chi heddiw, fyddin Israel. Dewiswch ddyn i ymladd yn fy erbyn i!”
I Sa WelBeibl 17:11  Pan glywodd Saul a dynion Israel hyn dyma nhw'n dechrau panicio; roedd ganddyn nhw ofn go iawn.
I Sa WelBeibl 17:12  Roedd Dafydd yn fab i Jesse o deulu Effratha, oedd yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Roedd gan Jesse wyth mab, a phan oedd Saul yn frenin roedd e'n ddyn mewn oed a pharch mawr iddo.
I Sa WelBeibl 17:13  Roedd ei dri mab hynaf – Eliab, Abinadab a Shamma – wedi dilyn Saul i'r rhyfel.
I Sa WelBeibl 17:14  Dafydd oedd y mab ifancaf. Tra oedd y tri hynaf ym myddin Saul
I Sa WelBeibl 17:15  byddai Dafydd yn mynd yn ôl a blaen rhwng gwasanaethu Saul ac edrych ar ôl defaid ei dad yn Bethlehem.
I Sa WelBeibl 17:16  Yn y cyfamser, roedd y Philistiad yn dod allan i herio byddin Israel bob dydd, fore a nos. Gwnaeth hyn am bedwar deg diwrnod.
I Sa WelBeibl 17:17  Un diwrnod dyma Jesse yn dweud wrth Dafydd, “Plîs, brysia draw i'r gwersyll at dy frodyr. Dos â sachaid o rawn wedi'i grasu a deg torth iddyn nhw.
I Sa WelBeibl 17:18  A chymer y deg darn yma o gaws i'w roi i'r capten. Ffeindia allan sut mae pethau'n mynd, a thyrd â rhywbeth yn ôl i brofi eu bod nhw'n iawn.
I Sa WelBeibl 17:19  Maen nhw yn Nyffryn Ela gyda Saul a byddin Israel yn ymladd y Philistiaid.”
I Sa WelBeibl 17:20  Cododd Dafydd ben bore a gadael y defaid yng ngofal rhywun arall. Llwythodd ei bac a mynd fel roedd Jesse wedi dweud wrtho. Dyma fe'n cyrraedd y gwersyll wrth i'r fyddin fynd allan i'w rhengoedd yn barod i ymladd, yn gweiddi “I'r gad!”
I Sa WelBeibl 17:21  Roedd yr Israeliaid a'r Philistiaid yn wynebu'i gilydd yn eu rhengoedd.
I Sa WelBeibl 17:22  Gadawodd Dafydd y pac oedd ganddo gyda'r swyddog cyfarpar, a rhedeg i ganol y rhengoedd at ei frodyr i holi eu hanes.
I Sa WelBeibl 17:23  Tra oedd e'n siarad â nhw, dyma Goliath (y Philistiad o Gath) yn dod allan o rengoedd y Philistiaid, a dechrau bygwth yn ôl ei arfer. A chlywodd Dafydd e.
I Sa WelBeibl 17:24  Pan welodd milwyr Israel e, dyma nhw i gyd yn cilio'n ôl; roedd ganddyn nhw ei ofn go iawn.
I Sa WelBeibl 17:25  Roedden nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Ydych chi'n gweld y dyn yna sy'n dod i fyny? Mae'n gwneud hyn i wawdio pobl Israel. Mae'r brenin wedi addo arian mawr i bwy bynnag sy'n ei ladd e. Bydd y dyn hwnnw'n cael priodi merch y brenin, a fydd teulu ei dad byth yn gorfod talu trethi eto.”
I Sa WelBeibl 17:26  Dyma Dafydd yn holi'r dynion o'i gwmpas, “Be fydd y wobr i'r dyn sy'n lladd y Philistiad yma, ac yn stopio'r sarhau yma ar Israel? Pwy mae'r pagan yna'n meddwl ydy e, yn herio byddin y Duw byw?”
I Sa WelBeibl 17:27  A dyma'r milwyr yn dweud wrtho beth oedd wedi cael ei addo. “Dyna fydd gwobr pwy bynnag sy'n ei ladd e,” medden nhw.
I Sa WelBeibl 17:28  Dyma Eliab, ei frawd hynaf, yn clywed Dafydd yn siarad â'r dynion o'i gwmpas, ac roedd wedi gwylltio gydag e. “Pam ddest ti i lawr yma?” meddai. “Pwy sy'n gofalu am yr ychydig ddefaid yna yn yr anialwch i ti? Dw i'n dy nabod di y cenau drwg! Dim ond wedi dod i lawr i weld y frwydr wyt ti.”
I Sa WelBeibl 17:29  “Be dw i wedi'i wneud nawr?” meddai Dafydd. “Dim ond holi oeddwn i.”
I Sa WelBeibl 17:30  A dyma fe'n troi oddi wrtho a gofyn yr un peth eto i rywun arall. A chafodd yr un ateb ag o'r blaen.
I Sa WelBeibl 17:31  Roedd yna rai wedi sylwi ar y diddordeb roedd Dafydd yn ei ddangos, a dyma nhw'n mynd i ddweud wrth Saul; a chafodd Dafydd ei alw ato.
I Sa WelBeibl 17:32  Yna dyma Dafydd yn dweud wrth Saul, “Does dim rhaid i neb ddigalonni, syr. Dw i'n barod i ymladd y Philistiad yna!”
I Sa WelBeibl 17:33  “Alli di ddim ymladd yn ei erbyn e!” meddai Saul. “Dim ond bachgen wyt ti! Mae e wedi bod yn filwr ar hyd ei oes!”
I Sa WelBeibl 17:34  Atebodd Dafydd, “Bugail ydw i, syr, yn gofalu am ddefaid fy nhad. Weithiau bydd llew neu arth yn dod a chymryd oen o'r praidd.
I Sa WelBeibl 17:35  Bydda i'n rhedeg ar ei ôl, ei daro i lawr, ac achub yr oen o'i geg. Petai'n ymosod arna i, byddwn i'n gafael ynddo gerfydd ei wddf, ei daro, a'i ladd.
I Sa WelBeibl 17:36  Syr, dw i wedi lladd llew ac arth; a bydda i'n gwneud yr un fath i'r pagan o Philistiad yma, am ei fod wedi herio byddin y Duw byw!
I Sa WelBeibl 17:37  Bydd yr ARGLWYDD, wnaeth fy achub i rhag y llew a'r arth, yn fy achub i o afael y Philistiad yma hefyd!” Felly dyma Saul yn dweud, “Iawn, dos di. A'r ARGLWYDD fo gyda ti.”
I Sa WelBeibl 17:38  Dyma Saul yn rhoi ei arfwisg e'i hun i Dafydd ei gwisgo – helmed bres ar ei ben, a'i arfwisg bres amdano.
I Sa WelBeibl 17:39  Wedyn, dyma Dafydd yn rhwymo cleddyf Saul am ei ganol a cheisio cerdded. Ond roedd e'n methu. “Alla i ddim cerdded yn y rhain,” meddai e wrth Saul. “Dw i ddim wedi arfer gyda nhw.” Felly tynnodd nhw i ffwrdd.
I Sa WelBeibl 17:40  Gafaelodd yn ei ffon fugail, dewisodd bum carreg lefn o'r sychnant a'u rhoi yn ei fag bugail. Yna aeth i wynebu'r Philistiad gyda'i ffon dafl yn ei law.
I Sa WelBeibl 17:41  Roedd y Philistiad yn dod yn nes at Dafydd gyda'i was yn cario'i darian o'i flaen.
I Sa WelBeibl 17:42  Pan welodd e Dafydd roedd e'n ei wfftio am mai bachgen oedd e – bachgen ifanc, golygus, iach yr olwg.
I Sa WelBeibl 17:43  A dyma fe'n dweud wrth Dafydd, “Wyt ti'n meddwl mai ci ydw i, dy fod yn dod allan yn fy erbyn i â ffyn?” Ac roedd e'n rhegi Dafydd yn enw ei dduwiau,
I Sa WelBeibl 17:44  a gweiddi, “Tyrd yma i mi gael dy roi di'n fwyd i'r adar a'r anifeiliaid gwyllt!”
I Sa WelBeibl 17:45  Ond dyma Dafydd yn ei ateb e, “Rwyt ti'n dod yn fy erbyn i gyda gwaywffon a chleddyf, ond dw i'n dod yn dy erbyn di ar ran yr ARGLWYDD hollbwerus! Fe ydy Duw byddin Israel, yr un wyt ti'n ei herio.
I Sa WelBeibl 17:46  Heddiw bydd yr ARGLWYDD yn dy roi di yn fy llaw i. Dw i'n mynd i dy ladd di a thorri dy ben di i ffwrdd! Cyrff byddin y Philistiaid fydd yn fwyd i'r adar a'r anifeiliaid gwyllt! Bydd y wlad i gyd yn cael gwybod heddiw fod gan Israel Dduw.
I Sa WelBeibl 17:47  A bydd pawb sydd yma yn dod i weld mai nid gyda chleddyf a gwaywffon mae'r ARGLWYDD yn achub. Brwydr yr ARGLWYDD ydy hon. Bydd e'n eich rhoi chi yn ein gafael ni.”
I Sa WelBeibl 17:48  Dyma'r Philistiad yn symud yn nes at Dafydd i ymosod arno. A dyma Dafydd yn rhedeg at y rhengoedd i'w gyfarfod.
I Sa WelBeibl 17:49  Rhoddodd ei law yn ei fag, cymryd carreg allan a'i hyrddio at y Philistiad gyda'i ffon dafl. Tarodd y garreg Goliath ar ei dalcen a suddo i mewn nes iddo syrthio ar ei wyneb ar lawr.
I Sa WelBeibl 17:50  (Dyna sut wnaeth Dafydd guro'r Philistiad gyda ffon-dafl a charreg. Doedd ganddo ddim cleddyf hyd yn oed!)
I Sa WelBeibl 17:51  Rhedodd Dafydd a sefyll uwch ei ben. Wedyn dyma fe'n tynnu cleddyf y Philistiad allan o'r wain, ei ladd, a thorri ei ben i ffwrdd. Pan welodd y Philistiaid fod eu harwr wedi'i ladd, dyma nhw'n ffoi.
I Sa WelBeibl 17:52  Yna rhuthrodd byddin Israel a Jwda ymlaen gan weiddi “I'r gad!”, a mynd ar ôl y Philistiaid ar hyd y dyffryn nes cyrraedd giatiau tref Ecron. Roedd cyrff y Philistiaid yn gorwedd yr holl ffordd o Shaaraim i Gath ac Ecron.
I Sa WelBeibl 17:53  Pan ddaeth dynion Israel yn ôl wedi'r ymlid gwyllt ar ôl y Philistiaid dyma nhw'n ysbeilio'u gwersyll.
I Sa WelBeibl 17:54  (Aeth Dafydd â pen y Philistiad i Jerwsalem, ond cadwodd ei arfau yn ei babell.)
I Sa WelBeibl 17:55  Pan welodd Saul Dafydd yn mynd allan i gyfarfod y Philistiad, gofynnodd i Abner, capten y fyddin, “Mab i bwy ydy'r bachgen acw, Abner?” “Dw i wir ddim yn gwybod, syr,” atebodd Abner.
I Sa WelBeibl 17:56  A dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Dos i holi mab i bwy ydy e.”
I Sa WelBeibl 17:57  Felly pan ddaeth Dafydd yn ôl ar ôl lladd y Philistiad, dyma Abner yn mynd ag e at y brenin. Roedd pen y Philistiaid yn ei law.
I Sa WelBeibl 17:58  A dyma Saul yn gofyn iddo, “Mab i bwy wyt ti, machgen i?” Atebodd Dafydd, “Mab dy was Jesse o Fethlehem.”
Chapter 18
I Sa WelBeibl 18:1  Ar ôl siarad â Saul dyma Dafydd yn cyfarfod Jonathan, ei fab, a daeth y ddau yn ffrindiau gorau. Roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun.
I Sa WelBeibl 18:2  O'r diwrnod hwnnw ymlaen dyma Saul yn cadw Dafydd gydag e, a chafodd e ddim mynd adre at ei dad.
I Sa WelBeibl 18:3  Roedd Jonathan a Dafydd wedi ymrwymo i fod yn ffyddlon i'w gilydd. Roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun.
I Sa WelBeibl 18:4  Tynnodd ei fantell a'i rhoi am Dafydd, a'i grys hefyd, a hyd yn oed ei gleddyf, ei fwa a'i felt.
I Sa WelBeibl 18:5  Roedd Dafydd yn llwyddo beth bynnag roedd Saul yn gofyn iddo'i wneud. Felly dyma Saul yn ei wneud yn gapten ar ei fyddin. Ac roedd hynny'n plesio pawb, gan gynnwys swyddogion Saul.
I Sa WelBeibl 18:6  Pan aeth y fyddin adre ar ôl i Dafydd ladd y Philistiad, roedd merched pob tref yn dod allan i groesawu'r brenin Saul. Roedden nhw'n canu a dawnsio'n llawen i gyfeiliant offerynnau taro a llinynnol.
I Sa WelBeibl 18:7  Wrth ddathlu'n frwd roedden nhw'n canu fel hyn: “Mae Saul wedi lladd miloedd, ond Dafydd ddegau o filoedd!”
I Sa WelBeibl 18:8  Doedd Saul ddim yn hapus o gwbl am y peth. Roedd wedi gwylltio. “Maen nhw'n rhoi degau o filoedd i Dafydd, a dim ond miloedd i mi,” meddai. “Peth nesa, byddan nhw eisiau'i wneud e'n frenin!”
I Sa WelBeibl 18:9  Felly o hynny ymlaen roedd Saul yn amheus o Dafydd, ac yn cadw llygad arno.
I Sa WelBeibl 18:10  Y diwrnod wedyn dyma ysbryd drwg oddi wrth Dduw yn dod ar Saul, a dyma fe'n dechrau ymddwyn fel dyn gwallgo yn y tŷ. Roedd Dafydd wrthi'n canu'r delyn iddo fel arfer. Roedd gwaywffon yn llaw Saul,
I Sa WelBeibl 18:11  a dyma fe'n taflu'r waywffon at Dafydd. “Mi hoelia i e i'r wal,” meddyliodd. Digwyddodd hyn ddwywaith, ond llwyddodd Dafydd i'w osgoi.
I Sa WelBeibl 18:12  Roedd y sefyllfa'n codi ofn ar Saul, am fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, ond wedi'i adael e.
I Sa WelBeibl 18:13  Felly dyma Saul yn anfon Dafydd i ffwrdd a'i wneud yn gapten ar uned o fil o filwyr. Dafydd oedd yn arwain y fyddin allan i frwydro.
I Sa WelBeibl 18:14  Roedd yn llwyddo beth bynnag roedd e'n ei wneud, am fod yr ARGLWYDD gydag e.
I Sa WelBeibl 18:15  Pan welodd Saul mor llwyddiannus oedd e roedd yn ei ofni fwy fyth.
I Sa WelBeibl 18:16  Ond roedd pobl Israel a Jwda i gyd wrth eu boddau gyda Dafydd, am mai fe oedd yn arwain y fyddin.
I Sa WelBeibl 18:17  Yna dyma Saul yn dweud wrth Dafydd, “Dyma Merab, fy merch hynaf i. Cei di ei phriodi hi os gwnei di ymladd brwydrau'r ARGLWYDD yn ddewr.” (Syniad Saul oedd, “Fydd dim rhaid i mi ei ladd e, bydd y Philistiaid yn gwneud hynny i mi!”)
I Sa WelBeibl 18:18  “Pwy ydw i, i gael bod yn fab-yng-nghyfraith i'r brenin?” meddai Dafydd. “Dw i ddim yn dod o deulu digon pwysig.”
I Sa WelBeibl 18:19  Ond wedyn, pan ddaeth hi'n amser i roi Merab yn wraig i Dafydd, dyma Saul yn ei rhoi hi i Adriel o Mechola.
I Sa WelBeibl 18:20  Roedd Michal, merch arall Saul, wedi syrthio mewn cariad â Dafydd. Pan glywodd Saul am y peth roedd wrth ei fodd.
I Sa WelBeibl 18:21  Meddyliodd, “Gwna i ei rhoi hi i Dafydd, a bydd hi fel trap iddo, wedyn bydd e'n cael ei ladd gan y Philistiaid.” Felly dyma fe'n dweud wrth Dafydd am yr ail waith, “Cei di fod yn fab-yng-nghyfraith i mi.”
I Sa WelBeibl 18:22  Dyma Saul yn cael ei swyddogion i ddweud yn ddistaw bach wrth Dafydd, “Ti'n dipyn o ffefryn gan y brenin, ac yn boblogaidd ymhlith y swyddogion i gyd hefyd. Dylet ti briodi ei ferch e.”
I Sa WelBeibl 18:23  Ond pan gawson nhw air yn ei glust am hyn, ymateb Dafydd oedd, “Ydych chi'n meddwl fod priodi merch y brenin mor syml a hynny? Dw i'n rhy dlawd! Dw i ddim digon pwysig!”
I Sa WelBeibl 18:24  Yna pan aeth y swyddogion i ddweud wrth Saul beth oedd ymateb Dafydd,
I Sa WelBeibl 18:25  dyma Saul yn dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth Dafydd mai'r unig dâl mae'r brenin eisiau am gael priodi ei ferch ydy'r blaengrwyn cant o Philistiaid! Mae e eisiau dial ar ei elynion.” (Gobaith Saul oedd y byddai Dafydd yn cael ei ladd gan y Philistiaid.)
I Sa WelBeibl 18:26  Pan aeth y swyddogion i ddweud hyn wrth Dafydd, cymrodd Dafydd fod hynny'n golygu y gallai briodi merch y brenin. Cyn ei bod yn rhy hwyr
I Sa WelBeibl 18:27  dyma Dafydd a'i filwyr yn mynd allan ac yn ymosod ar y Philistiaid a lladd dau gant ohonyn nhw. Daeth â blaengrwyn pob un ohonyn nhw, a'u rhoi i'r brenin yn dâl am gael priodi ei ferch. Yna dyma Saul yn gadael iddo briodi Michal ei ferch.
I Sa WelBeibl 18:28  Roedd hi'n gwbl amlwg i Saul fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, a bod ei ferch, Michal, yn ei garu.
I Sa WelBeibl 18:29  Felly gwnaeth hyn iddo ofni Dafydd fwy fyth. Trodd Saul yn hollol yn erbyn Dafydd am weddill ei fywyd.
I Sa WelBeibl 18:30  Bob tro y byddai arweinwyr y Philistiaid yn dod allan i ymladd, byddai Dafydd yn fwy llwyddiannus yn eu herbyn nag unrhyw un arall o arweinwyr byddin Saul; a daeth Dafydd yn enwog iawn.
Chapter 19
I Sa WelBeibl 19:1  Dyma Saul yn cyfadde i'w fab Jonathan, a'i swyddogion i gyd, ei fod eisiau lladd Dafydd. Ond roedd Jonathan yn hoff iawn iawn o Dafydd.
I Sa WelBeibl 19:2  Felly dyma fe'n rhybuddio Dafydd, “Mae fy nhad Saul eisiau dy ladd di. Felly gwylia dy hun bore fory. Dos i guddio yn rhywle ac aros yno o'r golwg.
I Sa WelBeibl 19:3  Gwna i fynd allan a sefyll gyda dad yn agos i lle byddi di'n cuddio. Gwna i siarad ag e ar dy ran di, a gweld beth fydd ei ymateb. Gwna i adael i ti wybod.”
I Sa WelBeibl 19:4  Felly dyma Jonathan yn siarad ar ran Dafydd gyda Saul, ei dad. Dwedodd wrtho, “Paid gwneud cam â dy was Dafydd, achos dydy e erioed wedi gwneud dim byd yn dy erbyn di. Mae popeth mae e wedi'i wneud wedi bod yn dda i ti.
I Sa WelBeibl 19:5  Mentrodd ei fywyd i ladd y Philistiad yna, a rhoddodd yr ARGLWYDD fuddugoliaeth fawr i Israel. Roeddet ti'n hapus iawn pan welaist ti hynny. Pam mae'n rhaid i ti bechu drwy dywallt gwaed diniwed – lladd Dafydd am ddim rheswm?”
I Sa WelBeibl 19:6  Gwrandawodd Saul ar gyngor Jonathan, ac addo ar lw, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, wna i ddim ei ladd e!”
I Sa WelBeibl 19:7  Felly dyma Jonathan yn galw Dafydd a dweud wrtho beth ddigwyddodd. Aeth ag e at Saul, a chafodd Dafydd weithio iddo fel o'r blaen.
I Sa WelBeibl 19:8  Roedd rhyfel unwaith eto, a dyma Dafydd yn mynd allan i ymladd y Philistiaid. Trechodd nhw'n llwyr nes iddyn nhw redeg i ffwrdd o'i flaen.
I Sa WelBeibl 19:9  Yna dyma'r ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD yn dod ar Saul eto. Roedd yn eistedd yn ei dŷ a gwaywffon yn ei law, tra oedd Dafydd yn canu'r delyn.
I Sa WelBeibl 19:10  A dyma Saul yn trio trywanu Dafydd a'i hoelio i'r wal gyda'i waywffon. Ond llwyddodd Dafydd i'w hosgoi ac aeth y waywffon i'r wal, a rhedodd Dafydd i ffwrdd. Y noson honno
I Sa WelBeibl 19:11  dyma Saul yn anfon dynion i wylio tŷ Dafydd er mwyn ei ladd yn y bore. Ond roedd Michal, gwraig Dafydd, wedi dweud wrtho, “Os wnei di ddim dianc am dy fywyd heno, byddi wedi marw fory.”
I Sa WelBeibl 19:12  A dyma Michal yn gollwng Dafydd allan drwy'r ffenest, iddo redeg i ffwrdd a dianc.
I Sa WelBeibl 19:13  Yna dyma Michal yn rhoi eilun-ddelw teuluol yn y gwely, rhoi carthen o flew geifr wrth ei ben, a rhoi dillad Dafydd drosto.
I Sa WelBeibl 19:14  Wedyn pan ddaeth dynion Saul i arestio Dafydd, dyma hi'n dweud wrthyn nhw, “Mae e'n sâl.”
I Sa WelBeibl 19:15  Ond dyma Saul yn anfon y dynion yn ôl i chwilio am Dafydd. “Dewch â fe yma ar ei wely os oes rhaid, i mi gael ei ladd e.”
I Sa WelBeibl 19:16  Pan aethon nhw yn ôl, dyma nhw'n dod o hyd i'r eilun-ddelw yn y gwely a'r blew gafr lle byddai'r pen.
I Sa WelBeibl 19:17  “Pam wnest ti fy nhwyllo i fel yma? Ti wedi gadael i'm gelyn i ddianc!” meddai Saul wrth Michal. A dyma hi'n ateb, “Dwedodd wrtho i ‘Well i ti helpu fi i ddianc neu gwna i dy ladd di!’”
I Sa WelBeibl 19:18  Roedd Dafydd wedi rhedeg i ffwrdd a dianc at Samuel i Rama. Dwedodd wrth Samuel beth oedd Saul wedi bod yn ei wneud iddo. Yna dyma fe a Samuel yn mynd i aros gyda'r gymuned o broffwydi.
I Sa WelBeibl 19:19  Ond dwedodd rhywun wrth Saul fod Dafydd gyda'r gymuned yn Rama,
I Sa WelBeibl 19:20  felly dyma Saul yn anfon ei weision yno i arestio Dafydd. Ond pan gyrhaeddon nhw dyma nhw'n gweld grŵp o broffwydi'n proffwydo, a Samuel yn eu harwain nhw. A dyma Ysbryd Duw yn dod ar weision Saul, nes iddyn nhw hefyd ddechrau proffwydo.
I Sa WelBeibl 19:21  Pan glywodd Saul beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n anfon gweision eraill. Ond dechreuodd y rheiny hefyd broffwydo. Yna dyma Saul yn anfon trydydd criw, a dyma'r un peth yn digwydd iddyn nhw hefyd.
I Sa WelBeibl 19:22  Yna aeth Saul ei hun i Rama. Pan ddaeth at y pydew mawr yn Sechw dyma fe'n holi ble roedd Samuel a Dafydd. “Yn aros gyda'r gymuned o broffwydi yn Rama,” meddai rhywun wrtho.
I Sa WelBeibl 19:23  Ond pan oedd Saul ar ei ffordd yno daeth Ysbryd Duw arno – ie, arno fe hefyd! Aeth yn ei flaen yn proffwydo yr holl ffordd, nes iddo gyrraedd y gymuned yn Rama.
I Sa WelBeibl 19:24  Wedyn dyma Saul yn tynnu ei ddillad i ffwrdd a proffwydo o flaen Samuel. Bu'n gorwedd yno'n noeth drwy'r dydd a'r nos. (Dyna pam mae pobl yn dweud, “Ydy Saul hefyd yn un o'r proffwydi?”)
Chapter 20
I Sa WelBeibl 20:1  Dyma Dafydd yn dianc o gymuned y proffwydi yn Rama a mynd i weld Jonathan. “Be dw i wedi'i wneud o'i le?” meddai. “Sut ydw i wedi pechu? Be dw i wedi'i wneud i ddigio dy dad gymaint? Mae e'n trio fy lladd i!”
I Sa WelBeibl 20:2  Ond atebodd Jonathan, “Na, byth! Ti ddim yn mynd i farw. Dydy dad yn gwneud dim byd heb adael i mi wybod. Pam fyddai e'n cuddio'r peth oddi wrtho i? Dydy hyn ddim yn wir.”
I Sa WelBeibl 20:3  Ond roedd Dafydd yn taeru. “Mae dy dad yn gwybod yn iawn gymaint o ffrindiau ydyn ni. Mae'n siŵr ei fod e'n meddwl, ‘Alla i ddim dweud wrth Jonathan, neu bydd e'n ypsetio.’ Does dim amheuaeth am y peth, dw i o fewn dim i farw.”
I Sa WelBeibl 20:4  Felly dyma Jonathan yn gofyn, “Beth wyt ti eisiau i mi ei wneud i ti?”
I Sa WelBeibl 20:5  Atebodd Dafydd, “Mae'n ŵyl y lleuad newydd fory, ac mae disgwyl i mi fod yn bwyta gyda'r brenin. Ond rho di ganiatâd i mi fynd i ffwrdd i guddio yn y wlad am ddeuddydd.
I Sa WelBeibl 20:6  Os bydd dy dad yn fy ngholli i, dywed wrtho, ‘Roedd Dafydd wedi pledio'n daer arna i i roi caniatâd iddo fynd adre i Fethlehem, am ei bod yn ddiwrnod aberth blynyddol y clan.’
I Sa WelBeibl 20:7  Os bydd e'n ymateb, ‘Popeth yn iawn,’ yna dw i, dy was di, yn saff. Ond os bydd e'n colli ei dymer byddi'n gwybod ei fod e am wneud drwg i mi.
I Sa WelBeibl 20:8  Aros yn driw i mi, achos ti wedi gwneud ymrwymiad i mi o flaen yr ARGLWYDD. Ond os ydw i wedi gwneud rhywbeth o'i le, lladd fi dy hun. Waeth i ti hynny na mynd â fi at dy dad!”
I Sa WelBeibl 20:9  Atebodd Jonathan, “Paid siarad fel yna! Petawn i'n gwybod fod dad yn bwriadu gwneud niwed i ti, byddwn i'n siŵr o ddweud wrthot ti.”
I Sa WelBeibl 20:10  Yna dyma Dafydd yn gofyn i Jonathan, “Pwy sy'n mynd i ddweud wrtho i os bydd dy dad wedi colli ei dymer hefo ti?”
I Sa WelBeibl 20:11  “Tyrd, gad i ni fynd allan i'r caeau,” meddai Jonathan wrtho. Pan oedd y ddau ohonyn nhw allan yn y cae,
I Sa WelBeibl 20:12  dyma Jonathan yn dweud wrth Dafydd, “Dw i'n addo o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel: erbyn yr adeg yma'r diwrnod ar ôl fory bydda i wedi darganfod beth ydy agwedd dad atat ti. Os ydy ei agwedd e atat ti'n iach, bydda i'n anfon rhywun i adael i ti wybod.
I Sa WelBeibl 20:13  Os ydy e am wneud drwg i ti, boed i Dduw ddial arna i os gwna i ddim gadael i ti wybod a dy helpu di i ddianc yn saff! Dw i'n gweddïo y bydd Duw gyda ti fel roedd e gyda dad.
I Sa WelBeibl 20:14  Fel mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon, bydd dithau'n driw i mi tra bydda i byw. A hyd yn oed pan fydda i wedi marw,
I Sa WelBeibl 20:15  paid troi dy gefn ar dy ymrwymiad i'm teulu i. A phan fydd yr ARGLWYDD wedi cael gwared â phob un o dy elynion di oddi ar wyneb y ddaear
I Sa WelBeibl 20:16  a'u galw nhw i gyfri, paid gadael i rwyg godi rhyngddo i, Jonathan a theulu Dafydd.”
I Sa WelBeibl 20:17  A dyma Jonathan yn addo ar lw unwaith eto am ei fod yn caru Dafydd – roedd e'n caru Dafydd fwy na fe ei hun.
I Sa WelBeibl 20:18  Meddai Jonathan, “Mae hi'n ŵyl y lleuad newydd fory. Bydd dy le di wrth y bwrdd yn wag, a byddan nhw'n dy golli di.
I Sa WelBeibl 20:19  Y diwrnod wedyn bydd yn fwy amlwg fyth. Dos i guddio i lle roeddet ti o'r blaen, wrth Garreg Esel.
I Sa WelBeibl 20:20  Gwna i saethu tair saeth at ei hymyl hi, fel petawn i'n saethu at darged.
I Sa WelBeibl 20:21  Wedyn pan fydda i'n anfon gwas i nôl y saethau, os bydda i'n dweud, ‘Edrych, mae'r saethau yr ochr yma i ti. Dos i'w nôl nhw,’ yna byddi'n saff i ddod yn ôl. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw fydd yna ddim peryg.
I Sa WelBeibl 20:22  Ond os bydda i'n dweud wrth y bachgen, ‘Edrych, mae'r saethau yn bellach draw,’ yna rhaid i ti ddianc. Yr ARGLWYDD fydd wedi dy anfon di i ffwrdd.
I Sa WelBeibl 20:23  Mae'r ARGLWYDD yn dyst i bopeth dŷn ni wedi'i addo i'n gilydd.”
I Sa WelBeibl 20:24  Felly dyma Dafydd yn mynd i guddio yn y cae. Ar ŵyl y lleuad newydd dyma'r Brenin Saul yn eistedd i fwyta.
I Sa WelBeibl 20:25  Eisteddodd yn ei le arferol, wrth y wal, gyda Jonathan gyferbyn ag e, ac Abner wrth ei ymyl. Ond roedd lle Dafydd yn wag.
I Sa WelBeibl 20:26  Ddwedodd Saul ddim byd y diwrnod hwnnw. Roedd e'n meddwl falle fod rhywbeth wedi digwydd oedd yn golygu fod Dafydd ddim yn lân yn seremonïol.
I Sa WelBeibl 20:27  Ond y diwrnod wedyn (sef ail ddiwrnod gŵyl y lleuad newydd) roedd sedd Dafydd yn dal yn wag. A dyma Saul yn gofyn i Jonathan, “Pam nad ydy mab Jesse wedi dod i fwyta ddoe na heddiw?”
I Sa WelBeibl 20:28  Atebodd Jonathan, “Roedd Dafydd yn crefu arna i adael iddo fynd i Fethlehem.
I Sa WelBeibl 20:29  ‘Mae'n ddiwrnod aberthu i'n teulu ni,’ meddai, ‘ac mae fy mrawd wedi dweud fod rhaid i mi fod yno. Plîs gad i mi fynd i weld fy mrodyr.’ Dyna pam dydy e ddim yma i fwyta gyda'r brenin.”
I Sa WelBeibl 20:30  Dyma Saul yn gwylltio'n lân gyda Jonathan. “Y bastard dwl!” meddai wrtho. “Rôn ni'n gwybod dy fod ti ar ei ochr e. Ti'n codi cywilydd arnat ti dy hun a dy fam.
I Sa WelBeibl 20:31  Tra bydd mab Jesse yn dal yn fyw fyddi di byth yn frenin. Nawr, anfon i'w nôl e. Tyrd ag e ata i; mae'n rhaid iddo farw!”
I Sa WelBeibl 20:32  Ond dyma Jonathan yn ateb ei dad, “Pam wyt ti eisiau'i ladd e? Be mae wedi'i wneud o'i le?”
I Sa WelBeibl 20:33  Yna dyma Saul yn taflu ei waywffon at Jonathan gan fwriadu ei daro. Felly roedd Jonathan yn gwybod yn iawn bellach fod ei dad yn benderfynol o ladd Dafydd.
I Sa WelBeibl 20:34  Cododd ar ei draed, a gadael y bwrdd. Roedd wedi gwylltio'n lân. Wnaeth e fwyta dim byd o gwbl y diwrnod hwnnw. Roedd wedi ypsetio'n lân am agwedd ei dad at Dafydd.
I Sa WelBeibl 20:35  Y bore wedyn dyma Jonathan yn mynd i'r cae i gyfarfod Dafydd. Aeth â bachgen ifanc gydag e.
I Sa WelBeibl 20:36  Dwedodd wrth y bachgen, “Rheda i nôl y saethau wrth i mi eu saethu.” Tra oedd y bachgen yn rhedeg dyma fe'n saethu un y tu draw iddo.
I Sa WelBeibl 20:37  Pan gyrhaeddodd y bachgen lle roedd y saeth wedi disgyn, dyma Jonathan yn gweiddi ar ei ôl, “Hei, ydy'r saeth ddim yn bellach draw?”
I Sa WelBeibl 20:38  A dyma Jonathan yn gweiddi arno eto, “Brysia! Dos yn dy flaen! Paid loetran!” A dyma'r bachgen yn casglu'r saeth a mynd yn ôl at ei feistr.
I Sa WelBeibl 20:39  (Doedd y bachgen ddim yn deall o gwbl. Dim ond Jonathan a Dafydd oedd yn gwybod beth oedd yn digwydd.)
I Sa WelBeibl 20:40  Wedyn dyma Jonathan yn rhoi ei offer i'r bachgen, a dweud wrtho am fynd â nhw yn ôl i'r dre.
I Sa WelBeibl 20:41  Ar ôl i'r bachgen fynd dyma Dafydd yn dod i'r golwg o'r tu ôl i'r pentwr cerrig. Aeth ar ei liniau ac ymgrymu gyda'i wyneb ar lawr dair gwaith. Wedyn dyma'r ddau ffrind yn cusanu ei gilydd a wylo, yn enwedig Dafydd.
I Sa WelBeibl 20:42  Dwedodd Jonathan wrth Dafydd, “Bendith arnat ti! Dŷn ni'n dau wedi gwneud addewid i'n gilydd o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yn siŵr ein bod ni a'n plant yn cadw'r addewid yna.” Felly dyma Dafydd yn mynd i ffwrdd, ac aeth Jonathan yn ôl adre.
Chapter 21
I Sa WelBeibl 21:1  Aeth Dafydd i Nob, lle roedd Achimelech yn offeiriad. Roedd Achimelech yn nerfus iawn pan aeth allan at Dafydd, a gofynnodd iddo, “Pam wyt ti ar dy ben dy hun, a neb gyda ti?”
I Sa WelBeibl 21:2  A dyma Dafydd yn ateb, “Y brenin sydd wedi gofyn i mi wneud rhywbeth. Mae wedi dweud fod neb i gael gwybod pam na ble dw i'n mynd. Dw i wedi trefnu i'r milwyr fy nghyfarfod i mewn lle arbennig.
I Sa WelBeibl 21:3  Nawr, be wnei di ei roi i mi? Rho bum torth i mi, neu faint bynnag sydd gen ti.”
I Sa WelBeibl 21:4  Ond dyma'r offeiriad yn ateb, “Does gen i ddim bara cyffredin o gwbl, dim ond y bara sydd wedi'i gysegru i Dduw. Cei hwnnw gen i os ydy'r milwyr ddim wedi cysgu gyda merched neithiwr.”
I Sa WelBeibl 21:5  “Wrth gwrs! Dŷn ni ddim wedi bod yn agos at ferched,” meddai Dafydd. “Dydy'r dynion ddim yn cael mynd at ferched pan maen nhw ar gyrch cyffredin, felly'n sicr ddim heddiw. Maen nhw wedi cysegru'u hunain a'u harfau.”
I Sa WelBeibl 21:6  Felly dyma'r offeiriad yn rhoi'r bara cysegredig iddo. Doedd ganddo ddim bara arall i'w gynnig. (Dyma'r bara oedd wedi cael ei gymryd oddi ar y bwrdd sydd o flaen yr ARGLWYDD, i fara ffres gael ei osod yn ei le pan oedd hi'n amser gwneud hynny.)
I Sa WelBeibl 21:7  Roedd un o weision Saul yn digwydd bod yno y diwrnod hwnnw. Doedd e ddim yn gallu gadael am ei fod wedi mynd ar lw i'r ARGLWYDD. Doeg oedd ei enw ac roedd yn dod o Edom, a fe oedd fforman bugeiliaid Saul.
I Sa WelBeibl 21:8  Dyma Dafydd yn gofyn i Achimelech, “Oes gen ti gleddyf neu waywffon yma? Rôn i ar gymaint o frys i ufuddhau i'r brenin, dw i wedi dod heb na chleddyf nac arfau.”
I Sa WelBeibl 21:9  Meddai'r offeiriad wrtho, “Mae cleddyf Goliath yma – y Philistiad wnest ti ei ladd yn Nyffryn Ela. Mae wedi'i lapio mewn clogyn tu ôl i'r effod. Cei gymryd hwnnw os wyt ti eisiau. Hwnnw ydy'r unig un sydd yma.” Atebodd Dafydd, “Does dim un tebyg iddo! Rho fe i mi.”
I Sa WelBeibl 21:10  Felly dyma Dafydd yn mynd yn ei flaen y diwrnod hwnnw, a ffoi oddi wrth Saul at Achish brenin Gath.
I Sa WelBeibl 21:11  Ond pan gyrhaeddodd dyma swyddogion Achish yn dweud, “Onid Dafydd ydy hwn, brenin y wlad? Onid am hwn roedden nhw'n canu wrth ddawnsio: ‘Mae Saul wedi lladd miloedd, ond Dafydd ddegau o filoedd.’?”
I Sa WelBeibl 21:12  Roedd clywed hyn yn codi ofn ar Dafydd. Beth fyddai Achish, brenin Gath, yn ei wneud iddo?
I Sa WelBeibl 21:13  Felly dyma Dafydd yn dechrau ymddwyn yn od o'u blaenau nhw, a chymryd arno ei fod yn wallgof. Roedd rhaid iddyn nhw ei atal. Roedd e'n crafu drysau'r giât ac yn slefrian poer i lawr ei farf.
I Sa WelBeibl 21:14  A dyma Achish yn dweud wrth ei swyddogion, “Edrychwch mae'r dyn yn wallgof! Pam ddaethoch chi ag e ata i?
I Sa WelBeibl 21:15  Mae gen i ddigon o ffyliaid o'm cwmpas heb i chi ddod â hwn i actio'r ffŵl o mlaen i! Ewch â fe i ffwrdd o'r palas!”
Chapter 22
I Sa WelBeibl 22:1  Felly dyma Dafydd yn dianc o Gath a mynd i Ogof Adwlam. Pan glywodd ei frodyr a'i deulu ei fod yno dyma nhw'n mynd ato.
I Sa WelBeibl 22:2  Roedd pawb oedd mewn helynt yn ymuno gydag e hefyd, a'r rhai oedd mewn dyled neu'n chwerw am rywbeth. Roedd tua 400 ohonyn nhw i gyd, a Dafydd yn eu harwain nhw.
I Sa WelBeibl 22:3  Aeth Dafydd ymlaen o'r fan honno i Mitspe yn Moab. Gofynnodd i frenin Moab, “Plîs wnei di adael i dad a mam aros yma, nes bydda i'n gwybod be mae Duw am ei wneud i mi?”
I Sa WelBeibl 22:4  Felly aeth â nhw i aros at frenin Moab, a buon nhw'n aros gydag e yr holl amser roedd Dafydd yn ei gaer.
I Sa WelBeibl 22:5  Yna dyma Gad, y proffwyd, yn rhybuddio Dafydd, “Paid aros yn ei gaer. Dos yn ôl i wlad Jwda.” Felly dyma Dafydd yn mynd i Goedwig Chereth.
I Sa WelBeibl 22:6  Clywodd Saul fod Dafydd a'r dynion oedd gydag e wedi cael eu gweld. Roedd Saul yn Gibea yn eistedd o dan y goeden tamarisg ar ben y bryn, gyda'i waywffon yn ei law a'i swyddogion o'i gwmpas.
I Sa WelBeibl 22:7  A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch, bobl Benjamin. Ydy mab Jesse'n mynd i roi tir a gwinllannoedd i chi? Ydy e'n mynd i'ch gwneud chi'n gapteiniaid ac yn swyddogion yn ei fyddin?
I Sa WelBeibl 22:8  Pam dych chi'n cynllwynio yn fy erbyn i? Pam wnaeth neb ddweud wrtho i fod fy mab fy hun wedi gwneud cytundeb gyda mab Jesse? Doedd neb yn cydymdeimlo hefo fi. Doedd neb yn fodlon dweud wrtho i fod fy mab i fy hun yn helpu gwas i mi i baratoi i ymosod arna i. Dyna sut mae hi!”
I Sa WelBeibl 22:9  Yna dyma Doeg (y dyn o Edom oedd yn un o swyddogion Saul) yn dweud, “Gwnes i weld mab Jesse yn Nob. Roedd wedi mynd at yr offeiriad Achimelech fab Achitwf.
I Sa WelBeibl 22:10  Gweddïodd hwnnw am arweiniad yr ARGLWYDD iddo, ac yna rhoi bwyd iddo. Rhoddodd gleddyf Goliath y Philistiad iddo hefyd.”
I Sa WelBeibl 22:11  Felly dyma Saul yn anfon am Achimelech fab Achitwf, ac offeiriaid eraill Nob, a dyma nhw i gyd yn dod at y brenin.
I Sa WelBeibl 22:12  “Gwranda di, fab Achitwf,” meddai Saul wrtho. A dyma fe'n ateb, “Ie, syr?”
I Sa WelBeibl 22:13  Ac meddai Saul, “Pam wyt ti a mab Jesse wedi cynllwynio yn fy erbyn i? Rhoist ti fara a chleddyf iddo. Wedyn gweddïo am arweiniad Duw iddo, i wrthryfela yn fy erbyn i! Mae e wrthi heddiw yn paratoi i ymosod arna i!”
I Sa WelBeibl 22:14  Ond dyma Achimelech yn ateb y brenin, “Pwy o dy holl weision di sy'n fwy ffyddlon i ti na Dafydd? Dy fab-yng-nghyfraith di ydy e! Capten dy warchodlu di! Mae e'n uchel ei barch gan bawb yn dy balas.
I Sa WelBeibl 22:15  Ai dyna oedd y tro cyntaf i mi weddïo am arweiniad Duw iddo? Wrth gwrs ddim! Ddylai'r brenin ddim fy nghyhuddo i, na neb arall o'm teulu, o wneud dim o'i le. Doeddwn i'n gwybod dim byd o gwbl am y peth.”
I Sa WelBeibl 22:16  Ond dyma'r brenin yn ateb, “Rhaid i ti farw Achimelech! Ti a dy deulu i gyd!”
I Sa WelBeibl 22:17  Yna dyma fe'n dweud wrth y milwyr o'i gwmpas, “Daliwch yr offeiriaid a lladdwch nhw, achos maen nhw ar ochr Dafydd! Roedden nhw'n gwybod ei fod e'n dianc, ond wnaethon nhw ddim dweud wrtho i.” Ond doedd y milwyr ddim yn fodlon ymosod ar offeiriaid yr ARGLWYDD.
I Sa WelBeibl 22:18  Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Doeg, “Ti! Ymosod di arnyn nhw a'u lladd nhw.” A dyma Doeg, oedd o wlad Edom, yn mynd allan a'u taro nhw. Y diwrnod hwnnw lladdodd Doeg wyth deg pump o offeiriaid oedd yn gwisgo effod o liain.
I Sa WelBeibl 22:19  Wedyn aeth i ymosod ar dref Nob, lle roedd yr offeiriaid yn byw, a lladd pawb yno hefyd – dynion a merched, plant a babis bach, a hyd yn oed y gwartheg, yr asynnod a'r defaid.
I Sa WelBeibl 22:20  Ond dyma un o feibion Achimelech yn llwyddo i ddianc, sef Abiathar. Aeth at Dafydd
I Sa WelBeibl 22:21  a dweud wrtho fod Saul wedi lladd offeiriaid yr ARGLWYDD.
I Sa WelBeibl 22:22  “Pan welais i Doeg y diwrnod hwnnw,” meddai Dafydd, “ron ni'n gwybod y byddai'n siŵr o ddweud wrth Saul. Arna i mae'r bai fod dy deulu di i gyd wedi cael eu lladd.
I Sa WelBeibl 22:23  Aros di gyda mi. Paid bod ag ofn. Mae'r un sydd eisiau fy lladd i yn mynd i fod eisiau dy ladd di hefyd. Ond byddi'n saff yma hefo fi.”
Chapter 23
I Sa WelBeibl 23:1  Clywodd Dafydd fod y Philistiaid wedi ymosod ar Ceila, ac yn dwyn ŷd o'r lloriau dyrnu.
I Sa WelBeibl 23:2  A dyma fe'n gofyn am arweiniad yr ARGLWYDD, “Ddylwn i fynd i ymosod ar y Philistiaid yma?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ie, dos. Ymosod ar y Philistiaid ac achub Ceila.”
I Sa WelBeibl 23:3  Ond dyma ddynion Dafydd yn dweud wrtho, “Mae digon o ofn arnon ni yma yn Jwda! Bydd hi lawer gwaeth os awn ni i Ceila i ymladd yn erbyn byddin y Philistiaid!”
I Sa WelBeibl 23:4  Yna aeth Dafydd i ofyn i'r ARGLWYDD eto; a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r un ateb iddo, “Cod, a dos i lawr i Ceila, achos bydda i'n gwneud i ti ennill y frwydr yn erbyn y Philistiad.”
I Sa WelBeibl 23:5  Felly dyma Dafydd a'i ddynion yn mynd i Ceila ac ymladd yn erbyn y Philistiaid, a dwyn eu gwartheg nhw. Roedd lladdfa ofnadwy, ond llwyddodd Dafydd i achub pobl Ceila.
I Sa WelBeibl 23:6  Pan oedd Abiathar, mab Achimelech, wedi dianc at Dafydd, roedd wedi dod ag effod gydag e.
I Sa WelBeibl 23:7  Clywodd Saul fod Dafydd wedi dod i Ceila, a dwedodd, “Mae Duw wedi'i roi e'n fy nwylo i! Mae e wedi cau ei hun mewn trap drwy fynd i dref sydd â giatiau dwbl a barrau i'w cloi.”
I Sa WelBeibl 23:8  Felly dyma Saul yn galw'i fyddin gyfan at ei gilydd, i fynd i Ceila i warchae ar Dafydd a'i ddynion.
I Sa WelBeibl 23:9  Pan glywodd Dafydd fod Saul yn cynllunio i ymosod arno, dyma fe'n galw ar Abiathar yr offeiriad, “Tyrd â'r effod yma.”
I Sa WelBeibl 23:10  Yna dyma fe'n gweddïo: “O ARGLWYDD, Duw Israel, dw i wedi clywed fod Saul yn bwriadu dod yma i Ceila i ddinistrio'r dre am fy mod i yma.
I Sa WelBeibl 23:11  Fydd awdurdodau'r dre yn fy rhoi i'n ei ddwylo? Ydy Saul wir yn dod i lawr, fel dw i wedi clywed? O ARGLWYDD, Duw Israel, plîs ateb dy was.” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Ydy, mae e'n dod.”
I Sa WelBeibl 23:12  Wedyn dyma Dafydd yn gofyn, “Fydd awdurdodau Ceila yn fy rhoi i a'm dynion i Saul?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Byddan.”
I Sa WelBeibl 23:13  Felly dyma Dafydd a'i ddynion (tua 600 ohonyn nhw i gyd) yn gadael Ceila ar unwaith. Roedden nhw'n symud o le i le. Pan glywodd Saul fod Dafydd wedi dianc o Ceila, dyma fe'n rhoi'r gorau i'w fwriad i ymosod ar y dre.
I Sa WelBeibl 23:14  Bu Dafydd yn cuddio mewn lleoedd saff yn yr anialwch, ac yn y bryniau o gwmpas Siff. Roedd Saul yn chwilio amdano drwy'r amser. Ond wnaeth Duw ddim gadael iddo'i ddal.
I Sa WelBeibl 23:15  Pan oedd Dafydd yn Horesh yn anialwch Siff, roedd ganddo ofn am fod Saul wedi dod yno i geisio'i ladd e.
I Sa WelBeibl 23:16  Ond dyma Jonathan, mab Saul, yn mynd draw i Horesh at Dafydd i'w annog i drystio Duw.
I Sa WelBeibl 23:17  Dwedodd wrtho, “Paid bod ag ofn! Fydd fy nhad Saul ddim yn dod o hyd i ti. Ti fydd brenin Israel a bydda i'n ddirprwy i ti. Mae dad yn gwybod hyn yn iawn.”
I Sa WelBeibl 23:18  Ar ôl i'r ddau ymrwymo o flaen yr ARGLWYDD i fod yn ffyddlon i'w gilydd, dyma Dafydd yn aros yn Horesh ac aeth Jonathan adre.
I Sa WelBeibl 23:19  Aeth rhai o bobl Siff at Saul i Gibea a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod Dafydd yn cuddio wrth ein hymyl ni? Mae yn y cuddfannau wrth Horesh, ar Fryn Hachila i'r de o Jeshimon.
I Sa WelBeibl 23:20  Tyrd i lawr pryd bynnag wyt ti eisiau, O frenin. Awn ni'n gyfrifol am ei roi e'n dy afael di.”
I Sa WelBeibl 23:21  Ac meddai Saul wrthyn nhw, “Dych chi wedi bod yn garedig iawn ata i. Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi!
I Sa WelBeibl 23:22  Ewch i baratoi. Gwnewch yn siŵr ble mae e, a phwy sydd wedi'i weld e yno. Maen nhw'n dweud i mi ei fod yn un cyfrwys.
I Sa WelBeibl 23:23  Ffeindiwch allan lle yn union mae e'n cuddio. Pan fyddwch chi'n berffaith siŵr, dewch yn ôl ata i, a bydda i'n dod gyda chi. Bydda i'n dod o hyd iddo ble bynnag mae e, yng nghanol pobl Jwda i gyd.”
I Sa WelBeibl 23:24  Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Siff, o flaen Saul. Roedd Dafydd a'i ddynion yn anialwch Maon, yn Nyffryn Araba i'r de o Jeshimon.
I Sa WelBeibl 23:25  A dyma Saul a'i ddynion yn mynd i chwilio amdano. Ond dyma Dafydd yn cael gwybod, ac aeth i lawr i le o'r enw Y Graig, ac aros yno yn anialwch Maon.
I Sa WelBeibl 23:26  Clywodd Saul am hyn ac aeth ar ôl Dafydd i anialwch Maon. Roedd Saul un ochr i'r mynydd pan oedd Dafydd a'i ddynion yr ochr arall. Roedd Dafydd yn brysio i geisio osgoi Saul, ond roedd Saul a'i filwyr ar fin amgylchynu Dafydd a'i ddynion a'u dal nhw.
I Sa WelBeibl 23:27  Ond yna daeth neges yn dweud wrth Saul am frysio'n ôl adre am fod y Philistiaid wedi ymosod ar y wlad.
I Sa WelBeibl 23:28  Felly roedd rhaid i Saul stopio mynd ar ôl Dafydd a mynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid. (Dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Graig y Gwahanu.)
I Sa WelBeibl 23:29  Yna aeth Dafydd i fyny o'r fan honno ac aros mewn lle saff yn En-gedi.
Chapter 24
I Sa WelBeibl 24:1  Pan ddaeth Saul yn ôl ar ôl bod yn ymladd yn erbyn y Philistiaid dyma nhw'n dweud wrtho fod Dafydd yn anialwch En-gedi.
I Sa WelBeibl 24:2  Dewisodd Saul dair mil o filwyr gorau Israel, a mynd i Greigiau'r Geifr Gwyllt i chwilio am Dafydd.
I Sa WelBeibl 24:3  Ar y ffordd, wrth ymyl corlannau'r defaid, roedd yna ogof. Roedd Saul eisiau mynd i'r tŷ bach, felly aeth i mewn i'r ogof. Roedd Dafydd a'i ddynion yn cuddio ym mhen draw'r ogof ar y pryd.
I Sa WelBeibl 24:4  A dyma'r dynion yn dweud wrth Dafydd, “Dyma ti'r diwrnod y dwedodd yr ARGLWYDD wrthot ti amdano, ‘Bydda i'n rhoi dy elyn yn dy afael, a chei wneud fel y mynni gydag e.’” A dyma Dafydd yn mynd draw yn ddistaw bach, a thorri cornel clogyn Saul i ffwrdd.
I Sa WelBeibl 24:5  Ond wedyn roedd ei gydwybod yn ei boeni am ei fod wedi torri cornel y clogyn.
I Sa WelBeibl 24:6  Meddai wrth ei ddynion, “Ddylwn i ddim bod wedi gwneud y fath beth. Sut allwn i wneud dim yn erbyn fy meistr? Fe ydy'r brenin wedi'i eneinio gan yr ARGLWYDD.”
I Sa WelBeibl 24:7  A dyma Dafydd yn rhwystro ei ddynion rhag ymosod ar Saul. Felly dyma Saul yn mynd allan o'r ogof ac ymlaen ar ei ffordd.
I Sa WelBeibl 24:8  Yna dyma Dafydd yn mynd allan a gweiddi ar ei ôl, “Fy mrenin! Meistr!” Trodd Saul rownd i edrych, a dyma Dafydd yn ymgrymu iddo â'i wyneb ar lawr.
I Sa WelBeibl 24:9  Wedyn dyma Dafydd yn gofyn i Saul, “Pam wyt ti'n gwrando ar y straeon fy mod i eisiau gwneud niwed i ti?
I Sa WelBeibl 24:10  Ti wedi gweld drosot dy hun heddiw fod Duw wedi dy roi di yn fy ngafael i pan oeddet ti'n yr ogof. Roedd rhai yn annog fi i dy ladd di, ond wnes i ddim codi llaw yn erbyn fy meistr. Ti ydy'r un mae'r ARGLWYDD wedi'i eneinio'n frenin!
I Sa WelBeibl 24:11  Edrych, syr. Ie, edrych – dyma gornel dy glogyn di yn fy llaw i. Gwnes i dorri cornel dy glogyn, ond wnes i ddim dy ladd di. Dw i eisiau i ti ddeall nad ydw i'n gwrthryfela nac yn bwriadu dim drwg i ti. Dw i ddim wedi gwneud cam â thi er dy fod ti ar fy ôl i ac yn ceisio fy lladd i.
I Sa WelBeibl 24:12  Caiff yr ARGLWYDD farnu rhyngon ni'n dau. Caiff e ddial arnat ti, ond wna i ddim dy gyffwrdd.
I Sa WelBeibl 24:13  Fel mae'r hen ddihareb yn dweud, ‘O'r rhai drwg y daw drygioni.’ Wna i ddim drwg i ti.
I Sa WelBeibl 24:14  Ar ôl pwy mae brenin Israel wedi dod allan? Pwy wyt ti'n ceisio'i ddal? Dw i'n neb. Ci marw ydw i! Chwannen!
I Sa WelBeibl 24:15  Boed i'r ARGLWYDD farnu rhyngon ni'n dau. Bydd e'n ystyried yr achos ac yn dadlau o'm plaid i. Bydd e'n fy achub i o dy afael di!”
I Sa WelBeibl 24:16  Ar ôl i Dafydd ddweud hyn, dyma Saul yn ei ateb, “Ai ti sydd yna go iawn, Dafydd, machgen i?” A dyma fe'n dechrau crio'n uchel.
I Sa WelBeibl 24:17  Yna dyma fe'n dweud, “Ti'n well dyn na fi. Ti wedi bod yn dda ata i er fy mod i wedi ceisio gwneud drwg i ti.
I Sa WelBeibl 24:18  Ti wedi dangos hynny heddiw drwy fod yn garedig ata i. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi'r cyfle i ti fy lladd i, ond wnest ti ddim.
I Sa WelBeibl 24:19  Pan mae dyn yn dod o hyd i'w elyn, ydy e'n ei ollwng e'n rhydd? Boed i'r ARGLWYDD fod yn dda atat ti am beth wnest ti i mi heddiw.
I Sa WelBeibl 24:20  Gwranda, dw i'n gwybod yn iawn mai ti fydd yn frenin, a bydd teyrnas Israel yn llwyddo yn dy law di.
I Sa WelBeibl 24:21  Addo i mi, o flaen yr ARGLWYDD, na fyddi di'n lladd fy mhlant i gyd, gan adael neb i gario enw'r teulu yn ei flaen.”
I Sa WelBeibl 24:22  Ar ôl i Dafydd addo hynny ar lw i Saul, dyma Saul yn mynd adre, ac aeth Dafydd a'i ddynion yn ôl i fyny i'w guddfan.
Chapter 25
I Sa WelBeibl 25:1  Dyma Samuel yn marw, a daeth pobl Israel i gyd at ei gilydd i alaru amdano. Cafodd ei gladdu ger ei gartref yn Rama. Aeth Dafydd i lawr i anialwch Maon.
I Sa WelBeibl 25:2  Roedd yna ddyn cyfoethog iawn yn byw yn Maon, yn cadw tir wrth ymyl Carmel. Roedd ganddo dair mil o ddefaid a mil o eifr. Roedd e yn Carmel yn cneifio'i ddefaid.
I Sa WelBeibl 25:3  Nabal oedd enw'r dyn, ac Abigail oedd enw ei wraig. Roedd hi'n ddynes ddoeth, hardd iawn, ond roedd e'n ddyn blin ac annifyr. Roedd e'n dod o deulu Caleb.
I Sa WelBeibl 25:4  Pan oedd Dafydd yn yr anialwch clywodd fod Nabal yn cneifio yn Carmel.
I Sa WelBeibl 25:5  Dyma fe'n anfon deg o'i weision ifanc ato. Meddai wrthyn nhw, “Ewch i weld Nabal yn Carmel, a'i gyfarch e i mi.
I Sa WelBeibl 25:6  Dwedwch wrtho, ‘Heddwch a llwyddiant i ti a dy deulu! Gobeithio y cei di flwyddyn dda!
I Sa WelBeibl 25:7  Rôn i'n clywed dy fod yn cneifio. Pan oedd dy fugeiliaid di gyda ni yn Carmel, wnaethon ni ddim tarfu arnyn nhw na dwyn dim.
I Sa WelBeibl 25:8  Gofyn di i dy weision; gallan nhw ddweud wrthot ti mai felly roedd hi. Felly, wnei di fod yn garedig at fy ngweision i? Maen nhw wedi dod i dy weld ar ddydd gŵyl. Oes gen ti rywbeth i'w sbario i'w roi i dy weision ac i dy was Dafydd?’”
I Sa WelBeibl 25:9  Felly dyma'r gweision ifanc yn mynd ac yn cyfarch Nabal ar ran Dafydd, yn union fel roedd e wedi dweud wrthyn nhw. Dyma nhw'n disgwyl
I Sa WelBeibl 25:10  iddo ateb. Yna meddai Nabal. “Dafydd? Pwy mae e'n feddwl ydy e? Mab Jesse? Mae yna gymaint o weision yn rhedeg i ffwrdd oddi wrth eu meistri y dyddiau yma!
I Sa WelBeibl 25:11  Pam ddylwn i roi fy mara a'm dŵr a'm cig, sydd wedi'i baratoi i'r cneifwyr, i ryw griw o ddynion dw i'n gwybod dim byd amdanyn nhw?”
I Sa WelBeibl 25:12  Felly dyma weision Dafydd yn mynd yn ôl, a dweud y cwbl wrtho. Pan glywodd Dafydd beth oedd wedi digwydd,
I Sa WelBeibl 25:13  dyma fe'n gorchymyn i'w ddynion, “Pawb i wisgo'i gleddyf!” Ac wedi iddyn nhw i gyd wneud hynny, aeth tua pedwar cant ohonyn nhw gyda Dafydd, gan adael dau gant ar ôl gyda'r offer.
I Sa WelBeibl 25:14  Yn y cyfamser, roedd un o weision Nabal wedi dweud wrth Abigail, “Roedd Dafydd wedi anfon negeswyr o'r anialwch i gyfarch y meistr, ond dyma fe'n gweiddi a rhegi arnyn nhw.
I Sa WelBeibl 25:15  Roedden nhw wedi bod yn dda iawn wrthon ni. Wnaethon nhw ddim tarfu arnon ni, na dwyn dim yr holl amser roedden ni gyda'n gilydd yng nghefn gwlad.
I Sa WelBeibl 25:16  Roedden nhw fel wal o'n cwmpas ni yn ein hamddiffyn ni nos a dydd yr holl amser y buon ni'n gofalu am y defaid yn yr ardal honno.
I Sa WelBeibl 25:17  Rhaid i ti feddwl am rywbeth. Mae'n amlwg fod trychineb yn aros y meistr a'i deulu i gyd. Ond mae e'n greadur mor gas, does dim pwynt i neb ddweud dim wrtho!”
I Sa WelBeibl 25:18  Dyma Abigail yn brysio i gasglu bwyd a'i roi ar gefn asynnod: dau gan torth o fara, dwy botel groen o win, pum dafad wedi'u paratoi, pum sachaid o rawn wedi'i grasu, can swp o rhesins a dau gant o fariau ffigys.
I Sa WelBeibl 25:19  Yna dyma hi'n dweud wrth ei gweision, “Ewch chi ar y blaen. Dof fi ar eich ôl.” Ond ddwedodd hi ddim am hyn wrth ei gŵr Nabal.
I Sa WelBeibl 25:20  Roedd hi'n marchogaeth ar gefn asyn ac yn pasio heibo yng nghysgod y mynydd pan ddaeth Dafydd a'i ddynion i'w chyfarfod o'r cyfeiriad arall.
I Sa WelBeibl 25:21  Roedd Dafydd wedi bod yn meddwl, “Roedd hi'n wastraff amser llwyr i mi warchod eiddo'r dyn yna yn yr anialwch! Gymerais i ddim oddi arno, a dyma fe nawr yn talu drwg am dda i mi.
I Sa WelBeibl 25:22  Boed i Dduw ddial arna i os gwna i adael un o'i ddynion e yn dal yn fyw erbyn y bore!”
I Sa WelBeibl 25:23  Pan welodd Abigail Dafydd, dyma hi'n disgyn oddi ar ei hasyn ar frys. Dyma hi'n mynd ar ei gliniau ac ymgrymu ar lawr o'i flaen.
I Sa WelBeibl 25:24  A dyma hi'n dweud, “Arna i mae'r bai, syr. Plîs gwranda ar dy forwyn, i mi gael egluro.
I Sa WelBeibl 25:25  Paid cymryd sylw o beth mae'r dyn annifyr yna, Nabal, yn ei ddweud. Ffŵl ydy ystyr ei enw, a ffŵl ydy e. Wnes i, dy forwyn, ddim gweld y gweision wnest ti eu hanfon.
I Sa WelBeibl 25:26  A nawr, syr, heb unrhyw amheuaeth, mae'r ARGLWYDD am dy gadw di rhag tywallt gwaed a dial drosot ti dy hun. Boed i dy elynion, a phawb sydd am wneud drwg i ti, fod fel Nabal.
I Sa WelBeibl 25:27  Dw i wedi dod â rhodd i ti, syr, i ti ei roi i'r dynion ifanc sy'n dy ganlyn.
I Sa WelBeibl 25:28  Plîs maddau i mi am fusnesa. Mae Duw yn mynd i sicrhau dy linach di, syr, am byth. Brwydrau'r ARGLWYDD wyt ti'n eu hymladd. Dwyt ti erioed wedi gwneud dim byd o'i le!
I Sa WelBeibl 25:29  Os bydd rhywun yn codi yn dy erbyn a cheisio dy ladd di, bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy gadw di'n saff. Ond bydd bywyd dy elyn yn cael ei daflu i ffwrdd fel carreg o ffon dafl!
I Sa WelBeibl 25:30  Pan fydd yr ARGLWYDD wedi gwneud popeth mae e wedi addo i ti, a dy wneud di'n arweinydd Israel,
I Sa WelBeibl 25:31  fydd dy gydwybod ddim yn dy boeni am dy fod wedi tywallt gwaed am ddim rheswm, a dial drosot ti dy hun. A phan fydd yr ARGLWYDD wedi gwneud hyn i gyd i'm meistr, cofia amdana i, dy forwyn.”
I Sa WelBeibl 25:32  Dyma Dafydd yn ateb, “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, am iddo dy anfon di ata i!
I Sa WelBeibl 25:33  Diolch i ti am dy gyngor doeth, a bendith Duw arnat ti. Ti wedi fy rhwystro i, heddiw, rhag tywallt gwaed yn ddiangen a dial trosof fy hun.
I Sa WelBeibl 25:34  Yn wir i ti, oni bai dy fod ti wedi brysio i ddod ata i, fyddai gan Nabal ddim un dyn ar ôl yn fyw erbyn y bore. Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi fy rhwystro i rhag gwneud drwg heddiw.”
I Sa WelBeibl 25:35  Yna dyma Dafydd yn cymryd y pethau ddaeth hi â nhw iddo. “Dos adre'n dawel dy feddwl. Dw i wedi gwrando, a bydda i'n gwneud beth rwyt ti eisiau.”
I Sa WelBeibl 25:36  Pan aeth Abigail yn ôl at Nabal roedd yn cynnal parti mawr fel petai'n frenin. Roedd yn cael amser da ac wedi meddwi'n gaib. Felly ddwedodd Abigail ddim byd o gwbl wrtho tan y bore.
I Sa WelBeibl 25:37  Yna'r bore wedyn, ar ôl iddo sobri, dyma hi'n dweud yr hanes i gyd wrtho. Pan glywodd Nabal, dyma fe'n cael strôc. Roedd yn gorwedd wedi'i barlysu.
I Sa WelBeibl 25:38  Rhyw ddeg diwrnod wedyn dyma Duw yn ei daro, a buodd farw.
I Sa WelBeibl 25:39  Pan glywodd Dafydd fod Nabal wedi marw, dyma fe'n dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD! Mae wedi dial drosto i am y sarhad ges i gan Nabal. Mae wedi fy nghadw i rhag gwneud drwg ac wedi talu nôl i Nabal.” Yna dyma Dafydd yn anfon neges at Abigail yn gofyn iddi ei briodi e.
I Sa WelBeibl 25:40  Aeth gweision Dafydd i Carmel at Abigail a dweud wrthi, “Mae Dafydd wedi'n hanfon ni i ofyn i ti ei briodi e.”
I Sa WelBeibl 25:41  Cododd Abigail a plygu'n isel o'u blaenau nhw, a dweud, “Byddwn i, eich morwyn chi, yn hapus i fod yn gaethferch sy'n golchi traed gweision fy meistr.”
I Sa WelBeibl 25:42  Yna dyma hi'n brysio ar gefn ei hasyn, a mynd â phum morwyn gyda hi. Aeth yn ôl gyda gweision Dafydd, a dod yn wraig iddo.
I Sa WelBeibl 25:43  Roedd Dafydd wedi priodi Achinoam o Jesreel hefyd. Roedd y ddwy yn wragedd iddo.
I Sa WelBeibl 25:44  (Roedd Saul wedi rhoi ei ferch Michal, oedd wedi bod yn wraig i Dafydd, i Paltiel fab Laish o dref Galîm.)
Chapter 26
I Sa WelBeibl 26:1  Dyma bobl Siff yn mynd i Gibea i weld Saul eto, a dweud wrtho fod Dafydd yn cuddio ar Fryn Hachila wrth ymyl Jeshimon.
I Sa WelBeibl 26:2  Felly, aeth Saul i lawr i anialwch Siff, gyda thair mil o filwyr gorau Israel, i chwilio am Dafydd.
I Sa WelBeibl 26:3  Dyma Saul yn codi gwersyll wrth y ffordd fawr ar Fryn Hachila wrth ymyl Jeshimon. Roedd Dafydd yn aros allan yn yr anialwch, a chlywodd fod Saul wedi dod ar ei ôl.
I Sa WelBeibl 26:4  Felly dyma fe'n anfon ysbiwyr i wneud yn berffaith siŵr fod Saul yno.
I Sa WelBeibl 26:5  Dyma Dafydd yn mynd draw i'r lle roedd Saul a'i filwyr yn gwersylla. Gwelodd ble roedd Saul ac Abner fab Ner (capten ei fyddin) yn cysgu. Roedd Saul yn y canol, a'i filwyr wedi gwersylla o'i gwmpas.
I Sa WelBeibl 26:6  Yna gofynnodd Dafydd i Achimelech yr Hethiad, ac i frawd Joab, sef Abishai fab Serwia, “Pwy ddaw i lawr gyda mi i wersyll Saul?” A dyma Abishai yn ateb, “Dof i hefo ti.”
I Sa WelBeibl 26:7  Felly ar ôl iddi nosi, dyma Dafydd ac Abishai yn mynd i ganol y milwyr. A dyna lle roedd Saul yn cysgu. Roedd ei waywffon wedi'i gwthio i'r ddaear wrth ei ben, ac roedd Abner a'r milwyr yn gorwedd o'i gwmpas.
I Sa WelBeibl 26:8  “Mae Duw wedi rhoi dy elyn yn dy afael di heddiw,” meddai Abishai wrth Dafydd. “Gad i mi ei drywanu a'i hoelio i'r ddaear gyda'r waywffon. Un ergyd sydd ei angen.”
I Sa WelBeibl 26:9  Ond dyma Dafydd yn ei ateb, “Na, paid â'i ladd! Alli di ddim gwneud niwed i'r un mae'r ARGLWYDD wedi'i eneinio'n frenin a bod yn ddieuog!
I Sa WelBeibl 26:10  Yr ARGLWYDD ei hun fydd yn ei daro. Naill ai bydd ei amser yn dod, a bydd e'n marw, neu bydd e'n mynd i ryfel ac yn cael ei ladd.
I Sa WelBeibl 26:11  Duw am helpo rhag i mi wneud niwed i'r un mae'r ARGLWYDD wedi'i eneinio'n frenin! Tyrd, cymer y waywffon sydd wrth ei ben, a'i botel ddŵr, a gad i ni fynd o ma.”
I Sa WelBeibl 26:12  Felly dyma Dafydd yn cymryd y waywffon a'r botel ddŵr oedd wrth ben Saul, a dianc heb i neb weld na chlywed dim, na hyd yn oed troi yn ei gwsg. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud iddyn nhw i gyd gysgu'n drwm.
I Sa WelBeibl 26:13  Aeth Dafydd yn ôl i'r ochr draw a sefyll ar gopa'r mynydd, yn ddigon pell oddi wrth wersyll Saul.
I Sa WelBeibl 26:14  Yna dyma fe'n gweiddi ar y fyddin ac ar Abner fab Ner. “Wyt ti ddim am ateb, Abner?” meddai. “Pwy sydd galw ar y brenin?” meddai Abner.
I Sa WelBeibl 26:15  “Wel! Ti ddim llawer o ddyn!” meddai Dafydd. “Rôn i'n meddwl mai ti oedd pennaeth byddin Israel! Pam wnest ti ddim gwarchod dy feistr? Daeth un o'm milwyr draw acw i'w ladd e – dy feistr di, ie, dy frenin di!
I Sa WelBeibl 26:16  Wnest ti ddim job dda iawn. Dych chi i gyd yn haeddu marw am beidio amddiffyn eich meistr, yr un wnaeth yr ARGLWYDD ei eneinio'n frenin. Dos i edrych ble mae gwaywffon y brenin, a'r botel ddŵr oedd wrth ei ben!”
I Sa WelBeibl 26:17  Dyma Saul yn nabod llais Dafydd. “Ai ti sydd yna Dafydd, machgen i?” meddai. A dyma Dafydd yn ateb, “Ie, fy meistr y brenin, fi sydd yma.
I Sa WelBeibl 26:18  Pam wyt ti wedi dod ar fy ôl i, syr? Be dw i wedi'i wneud? Pa ddrwg wnes i?
I Sa WelBeibl 26:19  Gad i'm meistr y brenin wrando ar beth sydd gan dy was i'w ddweud. Os mai'r ARGLWYDD sydd wedi dy annog di i wneud hyn, dylai gael ei offrwm. Ond os mai pobl feidrol wnaeth, byddan nhw'n cael eu melltithio ganddo! Maen nhw wedi fy ngyrru i allan o dir yr ARGLWYDD ei hun, fel petaen nhw'n dweud, ‘Dos i addoli duwiau eraill!’
I Sa WelBeibl 26:20  Paid gadael i mi farw mewn gwlad arall, yn bell oddi wrth yr ARGLWYDD! Mae brenin Israel yn chwilio am chwannen! Mae fel rhywun sy'n hela petris yn y bryniau!”
I Sa WelBeibl 26:21  Yna dyma Saul yn ateb, “Dw i ar fai. Tyrd yn ôl Dafydd, machgen i. Wna i ddim niwed i ti eto. Ti wedi arbed fy mywyd i heddiw. Dw i wedi bod yn wirion ac wedi gwneud camgymeriad mawr!”
I Sa WelBeibl 26:22  Atebodd Dafydd, “Dyma waywffon y brenin. Gad i un o'r bechgyn ddod draw i'w nôl hi.
I Sa WelBeibl 26:23  Mae'r ARGLWYDD yn talu i ddyn am fod yn onest ac yn ffyddlon. Rhoddodd gyfle i mi dy ladd di heddiw, ond doeddwn i ddim yn fodlon gwneud niwed i'r dyn mae'r ARGLWYDD wedi'i eneinio'n frenin.
I Sa WelBeibl 26:24  Fel gwnes i arbed dy fywyd di, boed i'r ARGLWYDD arbed fy mywyd i a'm hachub o bob helynt.”
I Sa WelBeibl 26:25  A dyma Saul yn ei ateb, “Bendith arnat ti Dafydd, machgen i. Does dim amheuaeth dy fod ti'n mynd i lwyddo.” Felly aeth Dafydd i ffwrdd a dyma Saul yn mynd yn ôl adre.
Chapter 27
I Sa WelBeibl 27:1  Meddyliodd Dafydd, “Mae Saul yn mynd i'm lladd i un o'r dyddiau yma. Y peth gorau i mi fyddai dianc i wlad y Philistiaid. Wedyn bydd Saul yn rhoi'r gorau i geisio dod o hyd i mi yn ngwlad Israel. Bydda i o leia wedi llwyddo i ddianc o'i afael.”
I Sa WelBeibl 27:2  Felly dyma fe a'i chwe chant o ddynion yn croesi drosodd i dref Gath at y Brenin Achish, mab Maoch.
I Sa WelBeibl 27:3  Arhosodd Dafydd, a'i ddynion a'u teuluoedd, gydag Achish yn Gath. Roedd dwy wraig Dafydd gydag e hefyd, sef Achinoam o Jesreel ac Abigail o Carmel (gweddw Nabal).
I Sa WelBeibl 27:4  Pan glywodd Saul fod Dafydd wedi dianc i Gath, dyma fe'n rhoi'r gorau i chwilio amdano.
I Sa WelBeibl 27:5  Gofynnodd Dafydd i Achish, “Plîs ga i fynd i fyw yn un o'r trefi cefn gwlad? Ddylwn i, dy was, ddim bod yn byw yn ninas y brenin.”
I Sa WelBeibl 27:6  Felly dyma Achish yn rhoi tref Siclag i Dafydd y diwrnod hwnnw. (A dyna pam mae Siclag yn dal i berthyn i deyrnas Jwda hyd heddiw.)
I Sa WelBeibl 27:7  Buodd Dafydd yn byw yng nghefn gwlad Philistia am flwyddyn a phedwar mis.
I Sa WelBeibl 27:8  Byddai'n mynd allan gyda'i ddynion i ymosod ar y Geshwriaid, y Gisriaid a'r Amaleciaid. (Roedden nhw wedi bod yn byw yn yr ardal ers amser maith, o Shwr hyd at wlad yr Aifft.)
I Sa WelBeibl 27:9  Pan fyddai Dafydd yn ymosod ar ardal byddai'n lladd pawb, yn ddynion a merched. Wedyn byddai'n cymryd y defaid, gwartheg, asynnod, camelod a'r dillad, a mynd â nhw i Achish.
I Sa WelBeibl 27:10  Os byddai Achish yn gofyn, “Ble wnest ti ymosod y tro yma?”, byddai Dafydd yn ateb, “Negef Jwda,” neu “Negef Ierachmeël,” neu “Negef y Ceneaid.”
I Sa WelBeibl 27:11  Doedd e byth yn gadael neb yn fyw, dynion na merched, rhag ofn iddyn nhw ddod i Gath a dweud beth roedd e'n wneud go iawn. A dyma fuodd Dafydd yn ei wneud yr holl amser roedd yn aros yng nghefn gwlad Philistia.
I Sa WelBeibl 27:12  Roedd Achish yn trystio Dafydd ac yn meddwl, “Mae'n siŵr fod ei bobl yn Israel yn ei ffieiddio'n llwyr erbyn hyn! Bydd e'n was i mi am byth.”
Chapter 28
I Sa WelBeibl 28:1  Tua'r adeg yna, dyma'r Philistiaid yn casglu eu byddinoedd at ei gilydd i fynd allan i ryfela yn erbyn Israel. A dyma Achish yn dweud wrth Dafydd, “Dw i eisiau i ti ddeall mod i'n disgwyl i ti a dy ddynion ddod gyda mi.”
I Sa WelBeibl 28:2  Ac meddai Dafydd, “Iawn, cei weld drosot dy hun be alla i, dy was, ei wneud!” A dyma Achish yn ei ateb, “Iawn, cei fod yn warchodwr personol i mi o hyn ymlaen.”
I Sa WelBeibl 28:3  Roedd Samuel wedi marw, ac roedd Israel gyfan wedi galaru ar ei ôl a'i gladdu heb fod yn bell o'i gartref yn Rama. Roedd Saul wedi gyrru'r bobl oedd yn ymhél ag ysbrydion a'r rhai oedd yn siarad â'r meirw allan o'r wlad.
I Sa WelBeibl 28:4  Roedd y Philistiaid wedi casglu at ei gilydd a chodi gwersyll yn Shwnem. Felly dyma Saul yn casglu byddin gyfan Israel at ei gilydd a chodi gwersyll yn Gilboa.
I Sa WelBeibl 28:5  Ond pan welodd Saul wersyll y Philistiaid roedd wedi dychryn am ei fywyd.
I Sa WelBeibl 28:6  Felly dyma fe'n gofyn am help gan yr ARGLWYDD, ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn ei ateb – drwy freuddwyd, drwy'r Wrim (oedd gan offeiriad), na drwy broffwydi.
I Sa WelBeibl 28:7  Felly dyma Saul yn dweud wrth ei swyddogion, “Ewch i chwilio am wraig sy'n gallu dewino, i mi fynd ati hi i gael ei holi.” A dyma'i swyddogion yn ei ateb, “Mae yna wraig sy'n dewino yn En-dor.”
I Sa WelBeibl 28:8  Felly dyma Saul yn newid ei ddillad a chymryd arno fod yn rhywun arall. Aeth â dau ddyn gydag e, a mynd i weld y wraig ganol nos. Meddai wrthi, “Consuria i mi, a galw i fyny y person dw i'n gofyn amdano.”
I Sa WelBeibl 28:9  Dyma'r wraig yn ei ateb, “Ti'n gwybod yn iawn be mae Saul wedi'i wneud. Mae wedi gyrru pawb sy'n ymhél ag ysbrydion ac yn siarad â'r meirw allan o'r wlad. Wyt ti'n ceisio gosod trap i'm lladd i?”
I Sa WelBeibl 28:10  Ond dyma Saul yn addo ar lw o flaen yr ARGLWYDD, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, fydd dim byd drwg yn digwydd i ti am wneud hyn.”
I Sa WelBeibl 28:11  Felly dyma'r wraig yn gofyn iddo, “Pwy wyt ti eisiau i mi ei alw i ti?” A dyma fe'n ateb, “Galw Samuel i fyny ata i.”
I Sa WelBeibl 28:12  Pan welodd hi Samuel, dyma'r ddynes yn rhoi sgrech. “Pam wnest ti fy nhwyllo i?” meddai, “Saul wyt ti!”
I Sa WelBeibl 28:13  Dyma'r brenin yn dweud wrthi, “Paid bod ag ofn. Dwed be rwyt ti'n weld.” Ac meddai'r wraig wrth Saul, “Dw i'n gweld ysbryd yn dod i fyny o'r ddaear.”
I Sa WelBeibl 28:14  “Sut un ydy e?” meddai Saul. A dyma hi'n ateb, “Hen ŵr ydy e, ac mae'n gwisgo clogyn.” Roedd Saul yn gwybod mai Samuel oedd e, a dyma fe'n mynd ar ei liniau a plygu â'i wyneb ar lawr.
I Sa WelBeibl 28:15  Dyma Samuel yn gofyn i Saul, “Pam wyt ti wedi tarfu arna i, a'm galw i fyny?” A dyma Saul yn ateb, “Dw i mewn helynt. Mae'r Philistiaid wedi dod i ryfela yn fy erbyn i, ac mae Duw wedi troi cefn arna i. Dydy e ddim yn fy ateb i drwy'r proffwydi na drwy freuddwydion. Dyna pam dw i wedi dy alw di. Dw i eisiau i ti ddweud wrtho i be i'w wneud.”
I Sa WelBeibl 28:16  Dyma Samuel yn ei ateb, “Os ydy'r ARGLWYDD wedi troi cefn arnat ti a throi'n elyn i ti, pam ti'n troi ata i?
I Sa WelBeibl 28:17  Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud yn union beth wnes i broffwydo! Mae e wedi rhwygo'r deyrnas oddi arnat ti a'i rhoi hi i Dafydd.
I Sa WelBeibl 28:18  Wnest ti ddim gwrando ar yr ARGLWYDD, na gwneud beth oedd e eisiau i ti ei wneud i'r Amaleciaid. Dyna pam mae e'n gwneud hyn i ti nawr.
I Sa WelBeibl 28:19  Bydd e'n dy roi di ac Israel yn nwylo'r Philistiaid. Erbyn fory byddi di a dy feibion yn yr un lle â fi. Bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi byddin Israel yn nwylo'r Philistiaid.”
I Sa WelBeibl 28:20  Pan glywodd Saul beth ddwedodd Samuel dyma fe'n syrthio ar ei hyd ar lawr. Roedd wedi dychryn drwyddo, a doedd ganddo ddim nerth o gwbl am ei fod heb fwyta drwy'r dydd na'r nos.
I Sa WelBeibl 28:21  Roedd y wraig yn gweld gymaint roedd Saul wedi dychryn, ac meddai wrtho, “Dw i, dy forwyn, wedi gwneud beth roeddet ti eisiau. Rôn i'n mentro fy mywyd yn gwrando arnat ti.
I Sa WelBeibl 28:22  Nawr, gwrando di arna i. Gad i mi roi ychydig o fwyd i ti. Pan fyddi wedi cael dy nerth yn ôl cei fynd ar dy daith.”
I Sa WelBeibl 28:23  Ond gwrthod wnaeth Saul, a dweud ei fod e ddim eisiau bwyta. Ar ôl i'w weision a'r wraig bwyso a phwyso arno dyma fe'n gwrando yn y diwedd. Cododd oddi ar lawr ac eistedd ar y gwely.
I Sa WelBeibl 28:24  Roedd gan y wraig lo gwryw wedi'i besgi, felly dyma hi'n brysio i'w ladd. Wedyn, dyma hi'n cymryd blawd a phobi bara heb furum ynddo.
I Sa WelBeibl 28:25  Gosododd y bwyd o flaen Saul a'i weision. Yna ar ôl iddyn nhw fwyta, dyma nhw'n gadael y noson honno.
Chapter 29
I Sa WelBeibl 29:1  Roedd y Philistiaid wedi casglu at ei gilydd yn Affec, a dyma Israel yn codi gwersyll wrth y ffynnon yn Jesreel.
I Sa WelBeibl 29:2  Roedd llywodraethwyr y Philistiaid yn archwilio eu hunedau milwrol (unedau o gannoedd a miloedd), ac yn y cefn roedd Dafydd a'i ddynion yn cael eu harchwilio gydag unedau Achish.
I Sa WelBeibl 29:3  “Pwy ydy'r Hebreaid yma?” holodd capteiniaid y Philistiaid. “Dafydd ydy e,” meddai Achish wrthyn nhw. “Roedd e'n arfer bod yn was i Saul, brenin Israel. Ond mae e wedi bod gyda mi bellach ers blwyddyn a mwy. Dydy e wedi gwneud dim o'i le o'r diwrnod y daeth e drosodd aton ni.”
I Sa WelBeibl 29:4  Ond roedd capteiniaid y Philistiaid yn wyllt hefo Achish, “Anfon y dyn yn ei ôl! Gad iddo fynd yn ôl i ble bynnag roist ti iddo fyw. Paid gadael iddo ddod i ymladd gyda ni, rhag ofn iddo droi yn ein herbyn ni yng nghanol y frwydr. Pa ffordd well fyddai iddo ennill ffafr ei feistr eto na gyda phennau'r dynion yma?
I Sa WelBeibl 29:5  Hwn ydy'r Dafydd roedden nhw'n canu amdano wrth ddawnsio, ‘Mae Saul wedi lladd miloedd, ond Dafydd ddegau o filoedd!’”
I Sa WelBeibl 29:6  Felly dyma Achish yn galw Dafydd ato a dweud, “Mor siŵr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, dw i'n gwybod dy fod ti'n ddyn gonest. Byddwn i wrth fy modd yn dy gael di'n mynd allan gyda ni i ymladd. Dwyt ti wedi gwneud dim o'i le o'r diwrnod y dest ti drosodd aton ni. Ond dydy'r arweinwyr eraill ddim yn hapus.
I Sa WelBeibl 29:7  Felly, dos yn ôl heb wneud ffws. Paid gwneud dim byd i'w pechu nhw.”
I Sa WelBeibl 29:8  “Ond be dw i wedi'i wneud o'i le?” meddai Dafydd. “O'r diwrnod y dois i atat ti hyd heddiw, pa fai wyt ti wedi'i gael yn dy was? Pam ga i ddim dod i ryfela yn erbyn gelynion fy meistr, y brenin?”
I Sa WelBeibl 29:9  Atebodd Achish e, “Dw i'n gwybod dy fod ti mor ddibynnol ag angel Duw! Ond mae arweinwyr eraill y Philistiaid wedi dweud na chei di fynd i ryfela gyda nhw.
I Sa WelBeibl 29:10  Felly, coda'n gynnar bore fory, ti a gweision dy feistr sydd gyda ti. Gallwch fynd cyn gynted ag y bydd hi'n olau.”
I Sa WelBeibl 29:11  Felly dyma Dafydd a'i ddynion yn codi ben bore, a mynd yn ôl i wlad y Philistiaid. Ac aeth y Philistiaid i fyny i Jesreel.
Chapter 30
I Sa WelBeibl 30:1  Erbyn i Dafydd a'i ddynion gyrraedd yn ôl i Siclag ddeuddydd wedyn, roedd yr Amaleciaid wedi bod yno ac wedi ymosod ar dde Jwda a Siclag. Roedden nhw wedi llosgi Siclag,
I Sa WelBeibl 30:2  ac wedi cymryd y gwragedd oedd yno yn gaethion, hen ac ifanc. Doedden nhw ddim wedi lladd neb, ond wedi mynd â nhw i ffwrdd gyda nhw.
I Sa WelBeibl 30:3  Roedd y dre wedi'i llosgi pan gyrhaeddodd Dafydd yno. Roedd eu gwragedd a'u plant wedi'u cymryd yn gaethion.
I Sa WelBeibl 30:4  A dyma Dafydd a'i ddynion yn dechrau crio'n uchel nes eu bod nhw'n rhy wan i grio ddim mwy.
I Sa WelBeibl 30:5  Roedd gwragedd Dafydd wedi'u cymryd yn gaeth hefyd, sef Achinoam o Jesreel ac Abigail, gweddw Nabal o Carmel.
I Sa WelBeibl 30:6  Roedd Dafydd mewn trwbwl. Roedd y dynion yn bygwth taflu cerrig ato i'w ladd, am eu bod nhw i gyd mor chwerw am beth oedd wedi digwydd i'w plant. Ond cafodd Dafydd nerth gan yr ARGLWYDD ei Dduw.
I Sa WelBeibl 30:7  Yna dyma Dafydd yn galw'r offeiriad, Abiathar fab Achimelech, a dweud wrtho, “Tyrd â'r effod i mi.” Daeth Abiathar a'r effod iddo.
I Sa WelBeibl 30:8  A dyma Dafydd yn gofyn i'r ARGLWYDD, “Os af i ar ôl y rhai wnaeth ymosod, wna i eu dal nhw?” A dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Dos ar eu holau. Byddi'n eu dal nhw ac yn llwyddo i achub y rhai sydd wedi cael eu cipio!”
I Sa WelBeibl 30:9  Felly i ffwrdd a Dafydd, a'i chwe chant o ddynion gydag e. Dyma nhw'n cyrraedd Wadi Besor, a dyma rai o'r dynion yn aros yno.
I Sa WelBeibl 30:10  Aeth Dafydd yn ei flaen gyda pedwar cant o'r dynion. (Roedd dau gant wedi aros ar ôl am eu bod yn rhy flinedig i groesi Wadi Besor.)
I Sa WelBeibl 30:11  Dyma nhw'n dod o hyd i ddyn o'r Aifft mewn cae, a mynd â fe at Dafydd. Dyma nhw'n rhoi ychydig o fwyd iddo a diod o ddŵr.
I Sa WelBeibl 30:12  Wedyn dyma nhw'n rhoi bar o ffigys a dau lond dwrn o rhesins iddo, a daeth ato'i hun. Doedd e ddim wedi cael dim byd i'w fwyta na'i yfed ers tri diwrnod.
I Sa WelBeibl 30:13  Dyma Dafydd yn ei holi, “O ble ti'n dod? Pwy ydy dy feistr di?” A dyma'r bachgen yn ateb, “Dw i'n dod o'r Aifft ac yn gaethwas i un o'r Amaleciaid. Gadawodd fy meistr fi yma dridiau yn ôl am fy mod i'n sâl.
I Sa WelBeibl 30:14  Roedden ni newydd ymosod ar Negef y Cerethiaid, ar ardal Jwda a Negef Caleb. Ac roedden ni wedi rhoi Siclag ar dân.”
I Sa WelBeibl 30:15  Dyma Dafydd yn gofyn iddo, “Wnei di'n harwain ni at y criw wnaeth ymosod?” A dyma fe'n ateb, “Addo i mi o flaen dy Dduw na wnei di fy lladd i na'm rhoi i yn ôl i'm meistr, a gwna i dy arwain di atyn nhw.”
I Sa WelBeibl 30:16  Pan aeth e â Dafydd atyn nhw, roedden nhw dros bobman. Roedden nhw'n bwyta ac yn yfed ac yn dathlu am eu bod wedi llwyddo i ddwyn cymaint o wlad y Philistiaid ac o Jwda.
I Sa WelBeibl 30:17  Yna cyn iddi wawrio dyma Dafydd a'i fyddin yn ymosod arnyn nhw. Buon nhw'n ymladd drwy'r dydd nes oedd hi'n dechrau nosi. Yr unig rai wnaeth lwyddo i ddianc oedd rhyw bedwar cant o ddynion ifanc wnaeth ffoi ar gefn camelod.
I Sa WelBeibl 30:18  Llwyddodd Dafydd i achub popeth oedd yr Amaleciaid wedi'i gymryd, gan gynnwys ei ddwy wraig.
I Sa WelBeibl 30:19  Doedd neb ar goll, o'r ifancaf i'r hynaf, gan gynnwys y plant. Cafodd bawb a phopeth oedd wedi'i ddwyn yn ôl.
I Sa WelBeibl 30:20  Yna cymerodd Dafydd y defaid a'r gwartheg a'u gyrru nhw o flaen gweddill ei anifeiliaid. Roedd pawb yn dweud, “Dyma wobr Dafydd!”
I Sa WelBeibl 30:21  Aeth Dafydd yn ôl i Wadi Besor, at y dau gant o ddynion oedd wedi bod yn rhy flinedig i'w ddilyn. Dyma'r dynion yn dod allan i'w gyfarfod e a'i filwyr. Pan gwrddon nhw dyma Dafydd yn eu cyfarch.
I Sa WelBeibl 30:22  Ond roedd rhai o'r dynion oedd wedi mynd gyda Dafydd yn ddynion drwg, a dechreuon nhw godi stŵr a dweud, “Pam ddylai'r rhain gael siâr o'r ysbail? Wnaethon nhw ddim dod gyda ni! Gad i bob un ohonyn nhw gymryd ei wraig a'i blant yn ôl, ond wedyn rhaid iddyn nhw adael!”
I Sa WelBeibl 30:23  Ond meddai Dafydd, “Na, peidiwch gwneud hynny ar ôl popeth mae'r ARGLWYDD wedi'i roi i ni! Fe ydy'r un wnaeth ofalu amdanon ni, a rhoi'r dynion wnaeth ymosod arnon ni yn ei gafael.
I Sa WelBeibl 30:24  Does neb yn mynd i wrando arnoch chi yn siarad fel yna! Bydd siâr pawb yr un fath – y rhai aeth i ymladd a'r rhai arhosodd gyda'r offer. Bydd pawb yn cael yr un faint.”
I Sa WelBeibl 30:26  Wedi i Dafydd ddod yn ôl i Siclag, dyma fe'n anfon peth o'r ysbail i'r arweinwyr yn Jwda roedd e'n ffrindiau gyda nhw. “Dyma i chi rodd o ysbail gelynion yr ARGLWYDD!” meddai.
I Sa WelBeibl 30:27  Anfonodd beth i'r lleoedd canlynol: Bethel, Ramoth yn y Negef, a Iattir;
I Sa WelBeibl 30:31  a Hebron; ac i bobman arall roedd e wedi bod gyda'i ddynion o bryd i'w gilydd.
Chapter 31
I Sa WelBeibl 31:1  Dyma'r Philistiaid yn dod ac ymladd yn erbyn Israel, ac roedd rhaid i filwyr Israel ffoi. Cafodd llawer iawn ohonyn nhw eu lladd ar fynydd Gilboa.
I Sa WelBeibl 31:2  Yna dyma'r Philistiaid yn mynd ar ôl Saul a'i feibion, a dyma nhw'n llwyddo i ladd y meibion – Jonathan, Abinadab a Malci-shwa.
I Sa WelBeibl 31:3  Roedd y frwydr yn ffyrnig o gwmpas Saul, a dyma'r bwasaethwyr yn ei daro a'i anafu'n ddifrifol.
I Sa WelBeibl 31:4  Dyma Saul yn dweud wrth y gwas oedd yn cario'i arfau, “Cymer dy gleddyf a thrywana fi. Paid gadael i'r paganiaid yma ddod i'm cam-drin i a'm lladd i.” Ond roedd gan y gwas ofn gwneud hynny; felly dyma Saul yn cymryd ei gleddyf a syrthio arno.
I Sa WelBeibl 31:5  Pan welodd y gwas fod Saul wedi marw, dyma fe hefyd yn syrthio ar ei gleddyf a marw gydag e.
I Sa WelBeibl 31:6  Felly cafodd Saul a tri o'i feibion, y gwas oedd yn cario'i arfau a'i filwyr i gyd, eu lladd y diwrnod hwnnw.
I Sa WelBeibl 31:7  Dyma bobl Israel oedd yr ochr draw i'r dyffryn, a'r tu draw i'r Iorddonen, yn clywed fod milwyr Israel wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi cael eu lladd. Felly dyma nhw'n gadael eu trefi a ffoi; a symudodd y Philistiaid i fyw ynddyn nhw.
I Sa WelBeibl 31:8  Y diwrnod ar ôl y frwydr pan aeth y Philistiaid i ddwyn oddi ar y cyrff meirw, daethon nhw o hyd i Saul a'i dri mab yn gorwedd yn farw ar fynydd Gilboa.
I Sa WelBeibl 31:9  Dyma nhw'n torri pen Saul i ffwrdd a chymryd ei arfau, yna anfon negeswyr drwy wlad y Philistiaid i gyhoeddi'r newyddion da yn nhemlau eu duwiau ac wrth y bobl.
I Sa WelBeibl 31:10  Wedyn dyma nhw'n rhoi arfau Saul yn nheml y dduwies Ashtart, ac yn crogi ei gorff ar waliau Beth-shan.
I Sa WelBeibl 31:11  Pan glywodd pobl Jabesh yn Gilead beth roedd y Philistiaid wedi'i wneud i Saul,
I Sa WelBeibl 31:12  aeth eu milwyr i gyd allan a theithio drwy'r nos. Dyma nhw'n cymryd cyrff Saul a'i feibion oddi ar waliau Beth-shan, mynd â nhw i Jabesh a'u llosgi yno.
I Sa WelBeibl 31:13  Wedyn, dyma nhw'n cymryd yr esgyrn a'u claddu o dan y goeden tamarisg yn Jabesh, ac ymprydio am wythnos.