Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOHN
Up
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21
Toggle notes
Chapter 1
John WelBeibl 1:1  Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf. Roedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair.
John WelBeibl 1:3  Drwyddo y crëwyd popeth sy'n bod. Does dim yn bodoli ond beth greodd e.
John WelBeibl 1:4  Ynddo fe roedd bywyd, a'r bywyd hwnnw'n rhoi golau i bobl.
John WelBeibl 1:5  Mae'r golau'n dal i ddisgleirio yn y tywyllwch, a'r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd.
John WelBeibl 1:6  Daeth dyn o'r enw Ioan i'r golwg. Duw oedd wedi anfon Ioan i roi tystiolaeth –
John WelBeibl 1:7  i ddweud wrth bawb am y golau, er mwyn i bawb ddod i gredu drwy'r hyn oedd yn ei ddweud.
John WelBeibl 1:8  Dim Ioan ei hun oedd y golau; dweud wrth bobl am y golau roedd e'n ei wneud.
John WelBeibl 1:9  Roedd y golau go iawn, sy'n rhoi golau i bawb, ar fin dod i'r byd.
John WelBeibl 1:10  Roedd y Gair yn y byd, ac er mai fe greodd y byd, wnaeth pobl y byd mo'i nabod.
John WelBeibl 1:11  Daeth i'w wlad ei hun, a chael ei wrthod gan ei bobl ei hun.
John WelBeibl 1:12  Ond cafodd pawb wnaeth ei dderbyn, (sef y rhai sy'n credu ynddo) hawl i ddod yn blant Duw.
John WelBeibl 1:13  Dim am fod ganddyn nhw waed Iddewig (Dim canlyniad perthynas rywiol a chwant gŵr sydd yma); Duw sydd wedi'u gwneud nhw'n blant iddo'i hun!
John WelBeibl 1:14  Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed; daeth i fyw yn ein plith ni. Gwelon ni ei ysblander dwyfol— ei ysblander fel Mab unigryw wedi dod oddi wrth y Tad yn llawn haelioni a gwirionedd.
John WelBeibl 1:15  Dyma'r un roedd Ioan yn sôn amdano. Cyhoeddodd yn uchel, “Dyma'r un ddwedais i amdano, ‘Mae'r un sy'n dod ar fy ôl i yn bwysicach na fi. Roedd e'n bodoli o'm blaen i.’”
John WelBeibl 1:16  Ynddo fe mae un fendith hael wedi cael ei rhoi yn lle'r llall – a hynny i bob un ohonon ni!
John WelBeibl 1:17  Rhoddodd Moses Gyfraith Duw i ni; wedyn dyma rodd hael Duw a'i wirionedd yn dod i ni yn Iesu y Meseia.
John WelBeibl 1:18  Does neb erioed wedi gweld Duw, ond mae'r Mab unigryw hwn (sy'n Dduw ei hun, gyda'r berthynas agosaf posib â'r Tad), wedi dweud yn glir amdano.
John WelBeibl 1:19  Dyma'r arweinwyr Iddewig yn Jerwsalem yn anfon offeiriaid a Lefiaid at Ioan Fedyddiwr i ofyn iddo pwy oedd.
John WelBeibl 1:20  Dwedodd Ioan yn blaen wrthyn nhw, “Dim fi ydy'r Meseia.”
John WelBeibl 1:21  “Felly pwy wyt ti?” medden nhw. “Ai Elias y proffwyd wyt ti?” “Nage” meddai Ioan. “Ai y Proffwyd soniodd Moses amdano wyt ti?” Atebodd eto, “Na.”
John WelBeibl 1:22  “Felly, pwy ti'n ddweud wyt ti?” medden nhw yn y diwedd, “i ni gael rhoi rhyw ateb i'r rhai sydd wedi'n hanfon ni. Beth fyddet ti'n ei ddweud amdanat ti dy hun?”
John WelBeibl 1:23  Atebodd Ioan drwy ddyfynnu geiriau'r proffwyd Eseia: “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Cliriwch y ffordd i'r Arglwydd!’ Dyna ydw i.”
John WelBeibl 1:25  yn gofyn iddo, “Ond pa hawl sydd gen ti i fedyddio os mai dim ti ydy'r Meseia, nac Elias, na'r Proffwyd?”
John WelBeibl 1:26  Atebodd Ioan nhw, “Dŵr dw i'n ei ddefnyddio i fedyddio pobl. Ond mae yna un dych chi ddim yn ei nabod yn sefyll yn eich plith chi –
John WelBeibl 1:27  sef yr un sy'n dod ar fy ôl i. Fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas i ddatod carrai ei sandalau hyd yn oed!”
John WelBeibl 1:28  Digwyddodd hyn i gyd yn Bethania yr ochr draw i afon Iorddonen, lle roedd Ioan yn bedyddio.
John WelBeibl 1:29  Y diwrnod wedyn gwelodd Ioan Iesu yn dod i'w gyfeiriad. “Edrychwch!” meddai, “Dacw Oen Duw, yr un sy'n cymryd pechod y byd i ffwrdd.
John WelBeibl 1:30  Dyma'r dyn ddwedais i amdano, ‘Mae un sy'n dod ar fy ôl i yn bwysicach na fi. Roedd e'n bodoli o mlaen i.’
John WelBeibl 1:31  Doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un. Ond dw i wedi bod yn bedyddio â dŵr er mwyn i Israel ei weld e.”
John WelBeibl 1:32  Yna dyma Ioan yn dweud hyn: “Gwelais yr Ysbryd Glân yn disgyn o'r nefoedd fel colomen ac yn aros arno.
John WelBeibl 1:33  Cyn hynny doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un, ond roedd yr un anfonodd fi i fedyddio â dŵr wedi dweud wrtho i, ‘Os gweli di'r Ysbryd yn dod i lawr ac yn aros ar rywun, dyna'r un fydd yn bedyddio â'r Ysbryd Glân.’
John WelBeibl 1:34  A dyna welais i'n digwydd! Dw i'n dweud wrthoch chi mai Iesu ydy Mab Duw.”
John WelBeibl 1:35  Roedd Ioan yno eto'r diwrnod wedyn gyda dau o'i ddisgyblion.
John WelBeibl 1:36  Wrth i Iesu fynd heibio, roedd Ioan yn syllu arno, ac meddai, “Edrychwch! Oen Duw!”
John WelBeibl 1:37  Dyma'r ddau ddisgybl glywodd beth ddwedodd Ioan yn mynd i ddilyn Iesu.
John WelBeibl 1:38  Trodd Iesu a'u gweld nhw'n ei ddilyn, a gofynnodd iddyn nhw, “Beth dych chi eisiau?” “Rabbi” medden nhw, “ble wyt ti'n aros?” (Ystyr y gair Hebraeg ‛Rabbi‛ ydy ‛Athro‛.)
John WelBeibl 1:39  Atebodd Iesu nhw, “Dewch i weld.” Felly dyma nhw'n mynd i weld lle roedd yn aros, a threulio gweddill y diwrnod gydag e. Roedd hi tua pedwar o'r gloch y p'nawn erbyn hynny.
John WelBeibl 1:41  a'r peth cyntaf wnaeth e wedyn oedd mynd i chwilio am ei frawd Simon, a dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod o hyd i'r Meseia” (gair Hebraeg sy'n golygu ‛Yr un wedi'i eneinio'n frenin‛).
John WelBeibl 1:42  Aeth Andreas ag e i gyfarfod Iesu. Edrychodd Iesu arno, ac yna dweud, “Simon fab Ioan wyt ti. Ond Ceffas fyddi di'n cael dy alw,” (enw sy'n golygu'r un peth â Pedr, sef ‛craig‛).
John WelBeibl 1:43  Y diwrnod wedyn penderfynodd Iesu fynd i Galilea. Daeth o hyd i Philip, a dweud wrtho, “Tyrd, dilyn fi.”
John WelBeibl 1:44  Roedd Philip hefyd (fel Andreas a Pedr), yn dod o dref Bethsaida.
John WelBeibl 1:45  Yna aeth Philip i edrych am Nathanael a dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod o hyd i'r dyn yr ysgrifennodd Moses amdano yn y Gyfraith, a'r un soniodd y proffwydi amdano hefyd – Iesu, mab Joseff o Nasareth.”
John WelBeibl 1:46  “Nasareth?” meddai Nathanael, “Ddaeth unrhyw beth da o'r lle yna erioed?” “Tyrd i weld,” meddai Philip.
John WelBeibl 1:47  Pan welodd Iesu Nathanael yn dod ato, meddai amdano, “Dyma ddyn fyddai'n twyllo neb – Israeliad go iawn!”
John WelBeibl 1:48  “Sut wyt ti'n gwybod sut un ydw i?” meddai Nathanael. Atebodd Iesu, “Gwelais di'n myfyrio dan y goeden ffigys, cyn i Philip dy alw di.”
John WelBeibl 1:49  Dyma Nathanael yn ateb, “Rabbi, ti ydy mab Duw; ti ydy Brenin Israel.”
John WelBeibl 1:50  Meddai Iesu wrtho, “Wyt ti'n credu dim ond am fy mod i wedi dweud i mi dy weld di dan y goeden ffigys?” Yna dwedodd wrthyn nhw i gyd, “Cewch weld pethau mwy na hyn!
John WelBeibl 1:51  Credwch chi fi, byddwch chi'n gweld y nefoedd yn agor, ac angylion Duw yn mynd i fyny ac yn dod i lawr arna i, Mab y Dyn.”
Chapter 2
John WelBeibl 2:1  Dau ddiwrnod wedyn roedd priodas yn Cana, pentref yn Galilea. Roedd mam Iesu yno
John WelBeibl 2:2  ac roedd Iesu a'i ddisgyblion wedi derbyn y gwahoddiad i'r briodas hefyd.
John WelBeibl 2:3  Pan oedd dim gwin ar ôl, dyma fam Iesu'n dweud wrtho, “Does ganddyn nhw ddim mwy o win.”
John WelBeibl 2:4  Atebodd Iesu, “Mam annwyl, gad lonydd i mi. Beth ydy hynny i ni? Dydy fy amser i ddim wedi dod eto.”
John WelBeibl 2:5  Ond dwedodd ei fam wrth y gweision, “Gwnewch beth bynnag fydd yn ei ddweud wrthoch chi.”
John WelBeibl 2:6  Roedd chwech ystên garreg wrth ymyl (y math sy'n cael eu defnyddio gan yr Iddewon i ddal dŵr ar gyfer y ddefod o ymolchi seremonïol). Roedd pob un ohonyn nhw'n dal rhwng wyth deg a chant dau ddeg litr.
John WelBeibl 2:7  Dwedodd Iesu wrth y gweision, “Llanwch yr ystenau yma â dŵr.” Felly dyma nhw'n eu llenwi i'r top.
John WelBeibl 2:8  Yna dwedodd wrthyn nhw, “Cymerwch beth ohono a mynd ag e i lywydd y wledd.” Dyma nhw'n gwneud hynny,
John WelBeibl 2:9  a dyma llywydd y wledd yn blasu'r dŵr oedd wedi'i droi'n win. (Doedd ganddo fe ddim syniad o ble roedd wedi dod, ond roedd y gweision oedd wedi codi'r dŵr yn gwybod.) Yna galwodd y priodfab ato
John WelBeibl 2:10  a dweud wrtho, “Mae pobl fel arfer yn dod â'r gwin gorau allan gyntaf a'r gwin rhad yn nes ymlaen, ar ôl i'r gwesteion gael gormod i'w yfed. Pam wyt ti wedi cadw'r gorau i'r diwedd?”
John WelBeibl 2:11  Y wyrth hon yn Cana Galilea oedd y gyntaf wnaeth Iesu, fel arwydd o pwy oedd e. Roedd yn dangos ei ysblander, a dyma'i ddisgyblion yn credu ynddo.
John WelBeibl 2:12  Ar ôl y briodas aeth Iesu i lawr i Capernaum gyda'i fam a'i frodyr a'i ddisgyblion, ac aros yno am ychydig ddyddiau.
John WelBeibl 2:13  Roedd yn amser Gŵyl y Pasg (un o wyliau'r Iddewon), a dyma Iesu'n mynd i Jerwsalem.
John WelBeibl 2:14  Yng nghwrt y deml gwelodd bobl yn gwerthu ychen, defaid a cholomennod, ac eraill yn eistedd wrth fyrddau yn cyfnewid arian.
John WelBeibl 2:15  Felly gwnaeth chwip o reffynnau, a'u gyrru nhw i gyd allan o'r deml gyda'r defaid a'r ychen. Chwalodd holl arian y rhai oedd yn cyfnewid arian, a throi eu byrddau drosodd.
John WelBeibl 2:16  Yna meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, “Ewch â'r rhain allan o ma! Stopiwch droi tŷ fy Nhad i yn farchnad!”
John WelBeibl 2:17  Yna cofiodd ei ddisgyblion fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd fy sêl dros dy dŷ di yn fy meddiannu i.”
John WelBeibl 2:18  Ond dyma'r arweinwyr Iddewig yn ei herio, “Pa arwydd gwyrthiol wnei di i brofi i ni fod gen ti hawl i wneud hyn i gyd?”
John WelBeibl 2:19  Atebodd Iesu nhw, “Dinistriwch y deml hon, a gwna i ei hadeiladu hi eto o fewn tri diwrnod.”
John WelBeibl 2:20  Atebodd yr arweinwyr Iddewig, “Mae'r deml wedi bod yn cael ei hadeiladu ers pedwar deg chwech mlynedd! Wyt ti'n mynd i'w hadeiladu mewn tri diwrnod?”
John WelBeibl 2:21  (Ond y deml oedd Iesu'n sôn amdani oedd ei gorff.
John WelBeibl 2:22  Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw, cofiodd ei ddisgyblion ei fod wedi dweud hyn, a dyma nhw'n credu'r ysgrifau sanctaidd a beth ddwedodd Iesu.)
John WelBeibl 2:23  Tra oedd Iesu yn Jerwsalem yn dathlu Gŵyl y Pasg, daeth llawer o bobl i gredu ynddo am eu bod nhw wedi'i weld e'n gwneud arwyddion gwyrthiol.
John WelBeibl 2:24  Ond doedd Iesu ddim yn eu trystio nhw – roedd e'n deall pobl i'r dim.
John WelBeibl 2:25  Doedd dim angen i neb esbonio iddo, am ei fod e'n gwybod yn iawn sut mae'r meddwl dynol yn gweithio.
Chapter 3
John WelBeibl 3:1  Un noson ar ôl iddi dywyllu daeth un o'r arweinwyr Iddewig at Iesu. Pharisead o'r enw Nicodemus oedd y dyn.
John WelBeibl 3:2  Meddai wrth Iesu, “Rabbi, dŷn ni'n gwybod dy fod di'n athro wedi'i anfon gan Dduw i'n dysgu ni. Mae'r gwyrthiau rwyt ti'n eu gwneud yn profi fod Duw gyda ti.”
John WelBeibl 3:3  Dyma Iesu'n ymateb drwy ddweud hyn wrtho: “Cred di fi – all neb weld Duw'n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni oddi uchod.”
John WelBeibl 3:4  “Sut gall unrhyw un gael ei eni pan mae'n oedolyn?” gofynnodd Nicodemus. “Allan nhw'n sicr ddim mynd i mewn i'r groth am yr ail waith i gael eu geni felly!”
John WelBeibl 3:5  Atebodd Iesu, “Cred di fi, all neb brofi Duw'n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni drwy ddŵr a drwy'r Ysbryd.
John WelBeibl 3:6  Mae'r corff dynol yn rhoi genedigaeth i berson dynol, ond yr Ysbryd sy'n rhoi genedigaeth ysbrydol.
John WelBeibl 3:7  Ddylet ti ddim synnu wrth i mi ddweud, ‘Rhaid i chi gael eich geni oddi uchod.’
John WelBeibl 3:8  Mae'r gwynt yn chwythu i bob cyfeiriad. Ti'n clywed ei sŵn, ond ti ddim yn gallu dweud o ble mae'n dod nac i ble mae'n mynd. Felly mae hi hefyd gyda phawb sydd wedi'u geni drwy'r Ysbryd.”
John WelBeibl 3:9  “Sut mae hynny'n gallu digwydd?” gofynnodd Nicodemus.
John WelBeibl 3:10  “Dyma ti,” meddai Iesu, “yr athro parchus yng ngolwg pobl Israel, a ti ddim yn deall!
John WelBeibl 3:11  Cred di fi, dŷn ni'n siarad am beth dŷn ni'n ei wybod, ac yn dweud am beth dŷn ni wedi'i weld, ond dych chi ddim yn ein credu ni.
John WelBeibl 3:12  Os dw i wedi siarad â chi am bethau sy'n digwydd ar y ddaear a dych chi ddim yn credu, sut byddwch chi'n credu os gwna i siarad am bethau'r byd nefol?
John WelBeibl 3:13  Does neb wedi bod i'r nefoedd, a fi, Mab y Dyn ydy'r unig un sydd wedi dod o'r nefoedd.
John WelBeibl 3:14  Cododd Moses neidr bres ar bolyn yn yr anialwch. Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy nghodi yr un fath.
John WelBeibl 3:15  Bydd pawb sy'n credu ynof fi yn cael bywyd tragwyddol.
John WelBeibl 3:16  “Ydy, mae Duw wedi caru'r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.
John WelBeibl 3:17  Oherwydd anfonodd Duw ei Fab i achub y byd, dim i gondemnio'r byd.
John WelBeibl 3:18  Dydy'r rhai sy'n credu ynddo ddim yn cael eu condemnio. Ond mae'r rhai sydd ddim yn credu wedi'u condemnio eisoes, am eu bod nhw wedi gwrthod credu ym Mab unigryw Duw.
John WelBeibl 3:19  Dyma'r dyfarniad: Mae golau wedi dod i'r byd, ond mae pobl wedi caru'r tywyllwch yn fwy na'r golau. Pam? Am eu bod nhw'n gwneud pethau drwg o hyd.
John WelBeibl 3:20  Mae pawb sy'n gwneud pethau drwg yn casáu'r golau. Maen nhw'n gwrthod dod allan i'r golau rhag ofn i'w gweithredoedd gael eu gweld.
John WelBeibl 3:21  Ond mae'r rhai sy'n ufudd i'r gwir yn dod allan i'r golau, ac mae'n amlwg mai Duw sy'n rhoi'r nerth iddyn nhw wneud beth sy'n iawn.”
John WelBeibl 3:22  Ar ôl hyn gadawodd Iesu a'i ddisgyblion Jerwsalem, a mynd i gefn gwlad Jwdea. Yno bu'n treulio amser gyda nhw, ac yn bedyddio pobl.
John WelBeibl 3:23  Bryd hynny roedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon ger Salim. Roedd digon o ddŵr yno, ac roedd pobl yn mynd ato yn gyson i gael eu bedyddio.
John WelBeibl 3:25  Dechreuodd rhyw arweinydd Iddewig ddadlau gyda disgyblion Ioan Fedyddiwr am y ddefod o ymolchi seremonïol.
John WelBeibl 3:26  Dyma ddisgyblion Ioan yn dod ato a dweud wrtho, “Rabbi, wyt ti'n gwybod y dyn rwyt ti wedi bod yn sôn amdano – yr un oedd gyda ti yr ochr draw i afon Iorddonen? Wel, mae e'n bedyddio hefyd, ac mae pawb yn mynd ato fe.”
John WelBeibl 3:27  Atebodd Ioan, “Dim ond gwneud y gwaith mae Duw wedi'i roi iddo mae rhywun yn gallu wneud.
John WelBeibl 3:28  Dych chi'n gallu tystio fy mod i wedi dweud, ‘Dim fi ydy'r Meseia. Dw i wedi cael fy anfon o'i flaen e.’
John WelBeibl 3:29  Mae'r briodferch yn mynd at y priodfab. Mae'r gwas priodas yn edrych ymlaen at hynny, ac mae wrth ei fodd pan mae'n digwydd. A dyna pam dw i'n wirioneddol hapus.
John WelBeibl 3:30  Rhaid iddo fe ddod i'r amlwg; rhaid i mi fynd o'r golwg.”
John WelBeibl 3:31  Daeth Iesu o'r nefoedd, ac mae uwchlaw pawb arall. Mae unrhyw berson daearol yn siarad fel un sydd o'r ddaear. Ond mae Iesu uwchlaw popeth.
John WelBeibl 3:32  Mae'n dweud am beth mae wedi'i weld a'i glywed yn y nefoedd, a does neb yn ei gredu!
John WelBeibl 3:33  Ond mae'r rhai sydd yn credu yn hollol sicr fod Duw yn dweud y gwir.
John WelBeibl 3:34  Oherwydd mae Iesu yn dweud yn union beth mae Duw'n ei ddweud. Mae Duw'n rhoi'r Ysbryd iddo heb ddal dim yn ôl.
John WelBeibl 3:35  Mae Duw y Tad yn caru'r Mab ac wedi rhoi popeth yn ei ofal e.
John WelBeibl 3:36  Mae bywyd tragwyddol gan bawb sy'n credu yn y Mab, ond fydd y rhai sy'n gwrthod y Mab ddim hyd yn oed yn cael cipolwg o'r bywyd hwnnw. Bydd digofaint Duw yn aros arnyn nhw.
Chapter 4
John WelBeibl 4:1  Roedd y Phariseaid wedi dod i wybod fod Iesu yn ennill ac yn bedyddio mwy o ddilynwyr na Ioan Fedyddiwr
John WelBeibl 4:2  (er mai'r disgyblion oedd yn gwneud y bedyddio mewn gwirionedd, dim Iesu).
John WelBeibl 4:3  Pan glywodd Iesu am hyn, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea.
John WelBeibl 4:4  Ar y ffordd roedd rhaid iddo basio drwy Samaria.
John WelBeibl 4:5  Daeth i bentref o'r enw Sychar, yn ymyl y darn tir enwog roedd Jacob wedi'i roi i'w fab Joseff ers talwm.
John WelBeibl 4:6  A dyna lle roedd ffynnon Jacob. Roedd Iesu wedi blino'n lân, ac eisteddodd i orffwys wrth y ffynnon. Roedd hi tua chanol dydd.
John WelBeibl 4:7  Daeth gwraig yno i godi dŵr. Samariad oedd y wraig, a gofynnodd Iesu iddi, “Ga i ddiod gen ti?”
John WelBeibl 4:8  (Roedd ei ddisgyblion wedi mynd i'r dre i brynu bwyd.)
John WelBeibl 4:9  “Iddew wyt ti,” meddai'r wraig, “Sut alli di ofyn i mi am ddiod? Dw i'n wraig o Samaria.” (Y rheswm pam wnaeth hi ymateb fel yna oedd fod Iddewon fel arfer yn gwrthod defnyddio'r un llestri â'r Samariaid.)
John WelBeibl 4:10  Atebodd Iesu, “Taset ti ond yn gwybod beth sydd gan Dduw i'w roi i ti, a phwy ydw i sy'n gofyn i ti am ddiod! Ti fyddai'n gofyn wedyn, a byddwn i'n rhoi dŵr bywiol i ti.”
John WelBeibl 4:11  “Syr,” meddai'r wraig, “Ble mae'r ‛dŵr bywiol‛ yma sydd gen ti? Does gen ti ddim bwced i godi dŵr ac mae'r pydew yn ddwfn.
John WelBeibl 4:12  Wyt ti'n meddwl dy fod di'n fwy na'n tad ni, Jacob? Jacob roddodd y pydew i ni. Buodd e'n yfed y dŵr yma, a'i feibion hefyd a'i anifeiliaid.”
John WelBeibl 4:13  Atebodd Iesu, “Bydd syched eto ar bawb sy'n yfed y dŵr yma,
John WelBeibl 4:14  ond fydd byth dim syched ar y rhai sy'n yfed y dŵr dw i'n ei roi. Yn wir, bydd y dŵr dw i'n ei roi yn troi'n ffynnon o ddŵr y tu mewn iddyn nhw, fel ffrwd yn llifo i fywyd tragwyddol.”
John WelBeibl 4:15  Meddai'r wraig wrtho, “Syr, rho beth o'r dŵr hwnnw i mi! Fydd dim syched arna i wedyn, a fydd dim rhaid i mi ddal ati i ddod yma i nôl dŵr.”
John WelBeibl 4:16  Yna dwedodd Iesu wrthi, “Dos i nôl dy ŵr, a thyrd yn ôl yma wedyn.”
John WelBeibl 4:17  “Does gen i ddim gŵr,” meddai'r wraig. “Ti'n iawn!” meddai Iesu wrthi, “Does gen ti ddim gŵr.
John WelBeibl 4:18  Y gwir ydy dy fod wedi cael pump o wŷr, a ti ddim yn briod i'r dyn sy'n byw gyda ti bellach. Ti wedi dweud y gwir.”
John WelBeibl 4:19  “Dw i'n gweld dy fod ti'n broffwyd syr,” meddai'r wraig.
John WelBeibl 4:20  “Dwed wrtho i, roedd ein hynafiaid ni'r Samariaid yn addoli ar y mynydd hwn, ond dych chi'r Iddewon yn mynnu mai Jerwsalem ydy'r lle iawn i addoli.”
John WelBeibl 4:21  Atebodd Iesu, “Cred di fi, mae'r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn addoli'r Tad yma ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem chwaith.
John WelBeibl 4:22  Dych chi'r Samariaid ddim yn gwybod beth dych chi'n ei addoli go iawn; dŷn ni'r Iddewon yn nabod y Duw dŷn ni'n ei addoli, am mai drwy'r Iddewon mae achubiaeth Duw yn dod.
John WelBeibl 4:23  Ond mae'r amser yn dod, ac mae yma'n barod, pan fydd Ysbryd Duw yn galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd. Pobl sy'n ei addoli fel hyn sydd gan Dduw eisiau.
John WelBeibl 4:24  Ysbryd ydy Duw, ac Ysbryd Duw sy'n galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd.”
John WelBeibl 4:25  Meddai'r wraig, “Dw i'n gwybod fod y Meseia (sy'n golygu ‘Yr un wedi'i eneinio'n frenin’) yn dod. Pan ddaw e, bydd yn esbonio popeth i ni.”
John WelBeibl 4:26  “Fi ydy e,” meddai Iesu wrthi, “yr un sy'n siarad â ti.”
John WelBeibl 4:27  Dyna pryd daeth ei ddisgyblion yn ôl. Roedden nhw'n rhyfeddu ei weld yn siarad â gwraig, ond wnaethon nhw ddim gofyn iddi hi, “Beth wyt ti eisiau?”, nac i Iesu, “Pam wyt ti'n siarad gyda hi?”
John WelBeibl 4:28  Dyma'r wraig yn gadael ei hystên ddŵr, a mynd yn ôl i'r pentref. Dwedodd wrth y bobl yno,
John WelBeibl 4:29  “Dewch i weld dyn oedd yn gwybod popeth amdana i. Allai e fod y Meseia tybed?”
John WelBeibl 4:30  Felly dyma'r bobl yn mynd allan o'r pentref i gyfarfod Iesu.
John WelBeibl 4:31  Yn y cyfamser, roedd ei ddisgyblion wedi bod yn ceisio'i gael i fwyta rhywbeth. “Rabbi,” medden nhw, “bwyta.”
John WelBeibl 4:32  Ond dyma ddwedodd Iesu: “Mae gen i fwyd i'w fwyta dych chi'n gwybod dim amdano.”
John WelBeibl 4:33  “Ddaeth rhywun arall â bwyd iddo'i fwyta?” meddai'r disgyblion wrth ei gilydd.
John WelBeibl 4:34  “Gwneud beth mae Duw'n ddweud ydy fy mwyd i,” meddai Iesu, “a gorffen y gwaith mae wedi'i roi i mi.
John WelBeibl 4:35  Mae pobl yn dweud ‘Mae pedwar mis rhwng hau a medi.’ Dw i'n dweud, ‘Agorwch eich llygaid! Edrychwch ar y caeau! Mae'r cynhaeaf yn barod!’
John WelBeibl 4:36  Mae'r gweithwyr sy'n medi'r cynhaeaf yn cael eu cyflog, maen nhw'n casglu'r cnwd, sef y bobl sy'n cael bywyd tragwyddol. Mae'r rhai sy'n hau a'r rhai sy'n medi yn dathlu gyda'i gilydd!
John WelBeibl 4:37  Mae'r hen ddywediad yn wir: ‘Mae un yn hau ac arall yn medi.’
John WelBeibl 4:38  Dw i wedi'ch anfon chi i fedi cynhaeaf wnaethoch chi ddim gweithio amdano. Mae pobl eraill wedi gwneud y gwaith caled, a chithau'n casglu'r ffrwyth.”
John WelBeibl 4:39  Roedd nifer o Samariaid y pentref wedi credu yn Iesu am fod y wraig wedi dweud, “Roedd yn gwybod popeth amdana i.”
John WelBeibl 4:40  Felly pan ddaethon nhw ato, dyma nhw'n ei annog i aros gyda nhw, ac arhosodd yno am ddau ddiwrnod.
John WelBeibl 4:41  Daeth llawer iawn mwy o bobl i gredu ynddo ar ôl clywed beth oedd ganddo i'w ddweud.
John WelBeibl 4:42  A dyma nhw'n dweud wrth y wraig, “Dŷn ni ddim yn credu o achos beth ddwedaist ti bellach; dŷn ni wedi'i glywed ein hunain, ac yn reit siŵr mai'r dyn yma ydy Achubwr y byd.”
John WelBeibl 4:43  Ar ôl aros yno am ddau ddiwrnod dyma Iesu'n mynd yn ei flaen i Galilea.
John WelBeibl 4:44  Roedd Iesu wedi bod yn dweud fod dim parch at broffwyd yn yr ardal lle cafodd ei fagu.
John WelBeibl 4:45  Ond pan gyrhaeddodd Galilea cafodd groeso brwd gan y bobl oedd wedi bod yn Jerwsalem dros Ŵyl y Pasg a gweld y cwbl roedd e wedi'i wneud yno.
John WelBeibl 4:46  Aeth yn ôl i bentref Cana, lle roedd wedi troi'r dŵr yn win. Clywodd un o swyddogion llywodraeth Herod yn Capernaum
John WelBeibl 4:47  fod Iesu wedi dod yn ôl o Jwdea i Galilea. Roedd mab y dyn mor sâl roedd ar fin marw, felly aeth i Cana i chwilio am Iesu ac ymbil arno i fynd i lawr i iacháu ei fab.
John WelBeibl 4:48  Dwedodd Iesu, “Heb gael gweld arwyddion a gwyrthiau rhyfeddol wnewch chi bobl byth gredu!”
John WelBeibl 4:49  “Ond syr,” meddai'r swyddog wrtho, “tyrd gyda mi cyn i'm plentyn bach i farw.”
John WelBeibl 4:50  “Dos di,” meddai Iesu wrtho, “mae dy fab yn mynd i fyw.” Dyma'r dyn yn credu beth ddwedodd Iesu, a mynd.
John WelBeibl 4:51  Tra oedd ar ei ffordd adre, daeth ei weision i'w gyfarfod gyda'r newyddion fod y bachgen yn mynd i fyw.
John WelBeibl 4:52  Gofynnodd iddyn nhw pryd yn union wnaeth e ddechrau gwella, a dyma nhw'n ateb, “Diflannodd y gwres tua un o'r gloch p'nawn ddoe.”
John WelBeibl 4:53  Sylweddolodd y tad mai dyna'n union pryd ddwedodd Iesu wrtho, “mae dy fab yn mynd i fyw.” Felly daeth y dyn a phawb yn ei dŷ i gredu yn Iesu.
John WelBeibl 4:54  Hon oedd yr ail wyrth wnaeth Iesu yn Galilea fel arwydd o pwy oedd. Gwnaeth y wyrth ar ôl dod yn ôl o Jwdea i Galilea.
Chapter 5
John WelBeibl 5:1  Beth amser wedyn, aeth Iesu i Jerwsalem eto i un o wyliau'r Iddewon.
John WelBeibl 5:2  Yn Jerwsalem wrth ymyl Giât y Defaid mae pwll o'r enw Bethsatha (enw Hebraeg). O gwmpas y pwll mae pum cyntedd colofnog gyda tho uwchben pob un.
John WelBeibl 5:3  Roedd nifer fawr o bobl anabl yn gorwedd yno – rhai yn ddall, eraill yn gloff neu wedi'u parlysu.
John WelBeibl 5:5  Roedd un dyn yno oedd wedi bod yn anabl ers tri deg wyth o flynyddoedd.
John WelBeibl 5:6  Gwelodd Iesu e'n gorwedd yno, ac roedd yn gwybod ers faint roedd y dyn wedi bod yn y cyflwr hwnnw, felly gofynnodd iddo, “Wyt ti eisiau gwella?”
John WelBeibl 5:7  “Syr,” meddai'r dyn, “does gen i neb i'm helpu i fynd i mewn i'r pwll pan mae'r dŵr yn cyffroi. Tra dw i'n ceisio mynd i mewn, mae rhywun arall yn llwyddo i gyrraedd o mlaen i.”
John WelBeibl 5:8  Yna dwedodd Iesu wrtho, “Saf ar dy draed! Cod dy fatras a cherdda.”
John WelBeibl 5:9  A dyma'r dyn yn cael ei wella ar unwaith; cododd ei fatras a dechrau cerdded. Digwyddodd hyn ar ddydd Saboth yr Iddewon,
John WelBeibl 5:10  felly dyma'r arweinwyr Iddewig yn dweud wrth y dyn oedd wedi cael ei iacháu, “Mae hi'n ddydd Saboth heddiw; rwyt ti'n torri'r Gyfraith wrth gario dy fatras!”
John WelBeibl 5:11  Ond atebodd, “Ond y dyn wnaeth fy iacháu i ddwedodd wrtho i, ‘Cod dy fatras a cherdda.’”
John WelBeibl 5:12  Felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Pwy ydy'r dyn ddwedodd hynny wrthot ti?”
John WelBeibl 5:13  Ond doedd gan y dyn gafodd ei iacháu ddim syniad, ac roedd Iesu wedi llithro i ffwrdd am fod tyrfa fawr wedi casglu yno.
John WelBeibl 5:14  Yna'n nes ymlaen daeth Iesu o hyd i'r dyn yn y deml, a dweud wrtho, “Edrych, rwyt ti'n iach bellach. Stopia bechu neu gallai rhywbeth gwaeth ddigwydd i ti.”
John WelBeibl 5:15  Aeth y dyn i ffwrdd a dweud wrth yr arweinwyr mai Iesu oedd wedi'i wella.
John WelBeibl 5:16  Dyna pam dechreuodd yr arweinwyr Iddewig erlid Iesu – am ei fod yn gwneud pethau fel hyn ar y dydd Saboth.
John WelBeibl 5:17  Ond yr ateb roddodd Iesu iddyn nhw oedd: “Mae fy Nhad yn dal i weithio drwy'r amser, felly dw innau'n gweithio hefyd.”
John WelBeibl 5:18  Am iddo ddweud hyn roedd yr arweinwyr crefyddol yn ceisio'n galetach fyth i'w ladd; doedd e ddim yn unig yn torri rheolau'r Saboth, roedd hefyd yn galw Duw yn Dad iddo'i hun, a gwneud ei hun yn gyfartal â Duw.
John WelBeibl 5:19  Dyma ddwedodd Iesu wrthyn nhw: “Credwch chi fi, dydy'r Mab ddim yn gallu gwneud unrhyw beth ohono'i hun; dim ond beth mae'n gweld ei Dad yn ei wneud. Dw i, y Mab, yn gwneud yn union beth mae'r Tad yn ei wneud.
John WelBeibl 5:20  Mae'r Tad yn caru'r Mab ac yn dangos iddo bopeth mae'n ei wneud. Bydda i'n gwneud pethau mwy na iacháu'r dyn yma – pethau fydd yn eich syfrdanu chi hyd yn oed!
John WelBeibl 5:21  Bydd y Mab yn dod â pwy bynnag mae'n ei ddewis yn ôl yn fyw, yn union fel y mae'r Tad yn codi'r meirw a rhoi bywyd iddyn nhw.
John WelBeibl 5:22  A dydy'r Tad ddim yn barnu neb – mae wedi rhoi'r awdurdod i farnu yng ngofal y Mab,
John WelBeibl 5:23  er mwyn i bawb anrhydeddu'r Mab yn union fel y maen nhw'n anrhydeddu'r Tad. Pwy bynnag sy'n gwrthod anrhydeddu'r Mab, mae hefyd yn gwrthod anrhydeddu Duw'r Tad anfonodd y Mab i'r byd.
John WelBeibl 5:24  “Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan y rhai sy'n gwrando ar beth dw i'n ddweud ac yn credu'r un wnaeth fy anfon i. Dŷn nhw ddim yn cael eu condemnio; maen nhw wedi croesi o fod yn farw i fod yn fyw.
John WelBeibl 5:25  Credwch chi fi, mae'r amser yn dod, ac mae yma'n barod, pan fydd y rhai sy'n farw yn clywed llais Mab Duw a bydd pob un sy'n gwrando ar beth mae'n ei ddweud yn byw.
John WelBeibl 5:26  Fel mae gan y Tad fywyd ynddo'i hun i'w roi i eraill, mae wedi caniatáu i'r Mab fod â bywyd ynddo'i hun i'w roi i eraill.
John WelBeibl 5:27  Ac mae hefyd wedi rhoi'r awdurdod iddo i farnu, am mai fe ydy Mab y Dyn.
John WelBeibl 5:28  “Peidiwch rhyfeddu at hyn! Mae'r amser yn dod pan fydd pawb sy'n eu beddau yn clywed llais Mab Duw
John WelBeibl 5:29  ac yn dod allan – bydd y rhai sydd wedi gwneud da yn codi i gael bywyd tragwyddol, a bydd y rhai sydd wedi gwneud drwg yn codi i gael eu barnu.
John WelBeibl 5:30  Ond dw i'n gwneud dim ar fy liwt fy hun; dw i'n barnu yn union fel dw i'n clywed. A dw i'n dyfarnu'n iawn, achos dw i ddim yn gwneud beth dw i eisiau, dim ond beth mae Duw, wnaeth fy anfon i, eisiau.
John WelBeibl 5:31  “Os mai dim ond fi sy'n tystio ar fy rhan fy hun, dydy'r dystiolaeth ddim yn ddilys.
John WelBeibl 5:32  Ond mae yna un arall sy'n rhoi tystiolaeth o'm plaid i, a dw i'n gwybod fod ei dystiolaeth e amdana i yn ddilys.
John WelBeibl 5:33  “Dych chi wedi anfon negeswyr at Ioan Fedyddiwr ac mae e wedi tystio am y gwir.
John WelBeibl 5:34  Does dim angen tystiolaeth ddynol arna i; ond dw i'n cyfeirio ato er mwyn i chi gael eich achub.
John WelBeibl 5:35  Roedd Ioan fel lamp ddisglair, a buoch chi'n mwynhau sefyll yn ei olau am gyfnod.
John WelBeibl 5:36  “Ond mae gen i dystiolaeth bwysicach na beth ddwedodd Ioan. Mae beth dw i'n ei wneud (y gwaith mae'r Tad wedi'i roi i mi ei gyflawni), yn dystiolaeth fod y Tad wedi fy anfon i.
John WelBeibl 5:37  Ac mae'r Tad ei hun, yr un anfonodd fi, wedi tystiolaethu amdana i. Ond dych chi ddim wedi clywed ei lais heb sôn am ei weld!
John WelBeibl 5:38  Dych chi ddim yn gwrando ar beth mae e'n ddweud, achos dych chi'n gwrthod credu ynof fi, yr un mae wedi'i anfon.
John WelBeibl 5:39  Dych chi'n astudio'r ysgrifau sanctaidd yn ddiwyd am eich bod yn meddwl y cewch fywyd tragwyddol wrth wneud hynny. Tystiolaethu amdana i mae'r ysgrifau hynny,
John WelBeibl 5:40  ond dych chi'n gwrthod troi ata i er mwyn cael y bywyd yna!
John WelBeibl 5:42  Dw i'n eich nabod chi'n iawn. Dw i'n gwybod eich bod chi ddim yn caru Duw go iawn.
John WelBeibl 5:43  Dw i wedi dod i gynrychioli fy Nhad, a dych chi'n fy ngwrthod i. Os daw rhywun arall ar ei liwt ei hun, byddwch yn ei dderbyn e!
John WelBeibl 5:44  Sut allwch chi gredu? Dych chi'n mwynhau canmol eich gilydd, tra'n gwneud dim ymdrech i dderbyn y ganmoliaeth sy'n dod oddi wrth yr unig Dduw.
John WelBeibl 5:45  “Ond peidiwch tybio mai fi fydd yn eich cyhuddo chi o flaen y Tad. Moses ydy'r un sy'n eich cyhuddo chi. Ie, Moses, yr un dych chi wedi bod yn pwyso arno.
John WelBeibl 5:46  Tasech chi wir yn credu Moses, byddech chi'n fy nghredu i, achos amdana i ysgrifennodd e!
John WelBeibl 5:47  Ond gan eich bod chi ddim yn credu beth ysgrifennodd e, sut ydych chi'n gallu credu beth dw i'n ddweud?”
Chapter 6
John WelBeibl 6:1  Beth amser ar ôl hyn croesodd Iesu i ochr draw Llyn Galilea (hynny ydy, Llyn Tiberias).
John WelBeibl 6:2  Aeth tyrfa fawr o bobl ar ei ôl am eu bod wedi gweld ei arwyddion gwyrthiol yn iacháu pobl oedd yn sâl.
John WelBeibl 6:3  Dringodd Iesu i ben y bryn, ac eistedd yno gyda'i ddisgyblion.
John WelBeibl 6:4  Roedd Gŵyl y Pasg (un o wyliau'r Iddewon) yn agos.
John WelBeibl 6:5  Pan welodd Iesu dyrfa fawr yn dod ato, gofynnodd i Philip, “Ble dŷn ni'n mynd i brynu bwyd i'r bobl yma i gyd?”
John WelBeibl 6:6  (Roedd eisiau gweld beth fyddai ymateb Philip, achos roedd Iesu'n gwybod beth roedd e'n mynd i'w wneud.)
John WelBeibl 6:7  Atebodd Philip, “Byddai angen ffortiwn i brynu digon o fwyd i bob un ohonyn nhw gael tamaid bach!”
John WelBeibl 6:8  Yna dyma un o'r disgyblion eraill, Andreas (brawd Simon Pedr), yn dweud,
John WelBeibl 6:9  “Mae bachgen yma sydd â phum torth haidd a dau bysgodyn bach ganddo. Ond dydy hynny fawr o werth hefo cymaint o bobl!”
John WelBeibl 6:10  Dwedodd Iesu, “Gwnewch i'r bobl eistedd.” Roedd digon o laswellt lle roedden nhw, a dyma'r dyrfa (oedd yn cynnwys tua pum mil o ddynion) yn eistedd.
John WelBeibl 6:11  Yna cymerodd Iesu y torthau, ac ar ôl adrodd gweddi o ddiolch, eu rhannu i'r bobl oedd yn eistedd. Yna gwnaeth yr un peth gyda'r pysgod, a chafodd pawb gymaint ag oedden nhw eisiau.
John WelBeibl 6:12  Ar ôl i bawb gael llond eu boliau, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sydd dros ben. Peidiwch gwastraffu dim.”
John WelBeibl 6:13  Felly dyma nhw'n eu casglu a llenwi deuddeg basged gyda'r tameidiau o'r pum torth haidd oedd heb eu bwyta.
John WelBeibl 6:14  Ar ôl i'r bobl weld yr arwydd gwyrthiol yma, roedden nhw'n dweud, “Mae'n rhaid mai hwn ydy'r Proffwyd ddwedodd Moses ei fod yn dod i'r byd.”
John WelBeibl 6:15  Gan fod Iesu'n gwybod eu bod nhw'n bwriadu ei orfodi i fod yn frenin, aeth i ffwrdd i fyny'r mynydd unwaith eto ar ei ben ei hun.
John WelBeibl 6:16  Pan oedd hi'n dechrau nosi, aeth ei ddisgyblion i lawr at y llyn,
John WelBeibl 6:17  a mynd i gwch i groesi'r llyn yn ôl i Capernaum. Roedd hi'n dechrau tywyllu, a doedd Iesu ddim wedi dod yn ôl atyn nhw eto.
John WelBeibl 6:18  Roedd y tonnau'n dechrau mynd yn arw am fod gwynt cryf yn chwythu.
John WelBeibl 6:19  Pan oedden nhw wedi rhwyfo rhyw dair neu bedair milltir, gwelon nhw Iesu yn cerdded ar y dŵr i gyfeiriad y cwch. Roedden nhw wedi dychryn,
John WelBeibl 6:20  ond meddai Iesu wrthyn nhw, “Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.”
John WelBeibl 6:21  Yna roedden nhw'n fodlon ei dderbyn i'r cwch, ond yn sydyn roedd y cwch wedi cyrraedd y lan roedden nhw'n anelu ati.
John WelBeibl 6:22  Y diwrnod wedyn roedd tyrfa o bobl yn dal i ddisgwyl yr ochr draw i'r llyn. Roedden nhw'n gwybod mai dim ond un cwch bach oedd wedi bod yno, a bod y disgyblion wedi mynd i ffwrdd yn hwnnw eu hunain. Doedd Iesu ddim wedi mynd gyda nhw.
John WelBeibl 6:23  Roedd cychod eraill o Tiberias wedi glanio heb fod ymhell o'r lle roedden nhw wedi bwyta ar ôl i'r Arglwydd roi diolch.
John WelBeibl 6:24  Felly, pan sylweddolodd y dyrfa fod Iesu ddim yno, na'i ddisgyblion chwaith, dyma nhw'n mynd i mewn i'r cychod hynny a chroesi i Capernaum i chwilio amdano.
John WelBeibl 6:25  Pan ddaethon nhw o hyd iddo ar ôl croesi'r llyn, dyma nhw'n gofyn iddo, “Rabbi, pryd ddest ti yma?”
John WelBeibl 6:26  Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, dych chi'n edrych amdana i am eich bod wedi bwyta'r torthau a llenwi'ch boliau, dim am eich bod wedi deall arwyddocâd y wyrth.
John WelBeibl 6:27  Peidiwch ymdrechu i gael y bwyd sy'n difetha, ond i gael y bwyd sy'n para i fywyd tragwyddol – fi, Mab y Dyn sy'n rhoi'r bwyd hwnnw i chi. Mae Duw y Tad wedi dangos fod sêl ei fendith arna i.”
John WelBeibl 6:28  Felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Beth ddylen ni ei wneud? Beth mae Duw yn ei ofyn gynnon ni?”
John WelBeibl 6:29  Atebodd Iesu, “Dyma beth mae Duw am i chi ei wneud: credu ynof fi, yr un mae wedi'i anfon.”
John WelBeibl 6:30  Felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Felly gwna wyrth fydd yn arwydd clir i ni o pwy wyt ti. Byddwn ni'n credu ynot ti wedyn. Beth wnei di?
John WelBeibl 6:31  Cafodd ein hynafiaid y manna i'w fwyta yn yr anialwch. Mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Rhoddodd fara o'r nefoedd iddyn nhw i'w fwyta.’”
John WelBeibl 6:32  Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, wnaeth Moses ddim rhoi bara o'r nefoedd i chi. Ond mae fy Nhad yn rhoi bara o'r nefoedd i chi nawr – y bara go iawn.
John WelBeibl 6:33  Bara Duw ydy'r un sy'n dod i lawr o'r nefoedd ac yn rhoi bywyd i'r byd.”
John WelBeibl 6:34  “Syr,” medden nhw, “rho'r bara hwnnw i ni o hyn ymlaen.”
John WelBeibl 6:35  Yna dyma Iesu'n datgan, “Fi ydy'r bara sy'n rhoi bywyd. Fydd pwy bynnag ddaw ata i ddim yn llwgu, a fydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi ddim yn sychedu.
John WelBeibl 6:36  Ond fel dw i wedi dweud, er eich bod chi wedi gweld dych chi ddim yn credu.
John WelBeibl 6:37  Bydd pawb mae'r Tad yn ei roi i mi yn dod ata i, a fydda i byth yn gyrru i ffwrdd unrhyw un sy'n dod ata i.
John WelBeibl 6:38  Dw i ddim wedi dod i lawr o'r nefoedd i wneud beth dw i fy hun eisiau, ond i wneud beth mae'r hwn anfonodd fi eisiau.
John WelBeibl 6:39  A dyma beth mae'r hwn anfonodd fi yn ei ofyn – na fydda i'n colli neb o'r rhai mae wedi'u rhoi i mi, ond yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.
John WelBeibl 6:40  Beth mae fy Nhad eisiau ydy bod pawb sy'n edrych at y Mab ac yn credu ynddo yn cael bywyd tragwyddol. Bydda i'n dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.”
John WelBeibl 6:41  Yna dechreuodd yr arweinwyr Iddewig gwyno amdano, am ei fod yn dweud, “Fi ydy'r bara ddaeth i lawr o'r nefoedd.”
John WelBeibl 6:42  “Onid Iesu, mab Joseff, ydy e?” medden nhw, “dŷn ni'n nabod ei dad a'i fam. Sut mae'n gallu dweud, ‘Dw i wedi dod i lawr o'r nefoedd’?”
John WelBeibl 6:43  “Stopiwch gwyno amdana i ymhlith eich gilydd,” meddai Iesu.
John WelBeibl 6:44  “Dydy pobl ddim yn gallu dod ata i heb fod y Tad anfonodd fi yn eu tynnu nhw, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.
John WelBeibl 6:45  Mae'n dweud yn ysgrifau'r Proffwydi: ‘Byddan nhw i gyd yn cael eu dysgu gan Dduw.’ Mae pawb sy'n gwrando ar y Tad, ac yn dysgu ganddo, yn dod ata i.
John WelBeibl 6:46  Ond does neb wedi gweld y Tad ond yr un sydd wedi dod oddi wrth Dduw – neb arall.
John WelBeibl 6:47  Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan bwy bynnag sy'n credu.
John WelBeibl 6:49  Er bod eich hynafiaid wedi bwyta'r manna yn yr anialwch, buon nhw farw.
John WelBeibl 6:50  Ond mae'r bara yma'n dod i lawr o'r nefoedd i'w fwyta gan bobl, a fyddan nhw ddim yn marw.
John WelBeibl 6:51  A fi ydy'r bara sy'n rhoi bywyd, wedi dod i lawr o'r nefoedd. Bydd pwy bynnag sy'n bwyta'r bara yma yn byw am byth. Y bara fydda i'n ei roi ydy fy nghnawd i, er mwyn i'r byd gael byw.”
John WelBeibl 6:52  Dyma'r arweinwyr Iddewig yn dechrau ffraeo'n filain gyda'i gilydd. “Sut all y dyn roi ei gnawd i ni i'w fwyta?” medden nhw.
John WelBeibl 6:53  Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi, os wnewch chi ddim bwyta cnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, fyddwch chi ddim yn cael bywyd.
John WelBeibl 6:54  Mae bywyd tragwyddol gan y rhai hynny sy'n bwydo ar fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.
John WelBeibl 6:55  Ydy, mae fy nghnawd i yn fwyd go iawn a'm gwaed i yn ddiod go iawn.
John WelBeibl 6:56  Mae'r rhai sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i yn aros mewn perthynas agos gyda mi, a dw i'n aros mewn perthynas agos gyda nhw.
John WelBeibl 6:57  Yn union fel mae'r Tad byw wedi fy anfon i, a dw i'n byw o achos y Tad, bydd yr un sy'n bwydo arna i yn byw o'm hachos i.
John WelBeibl 6:58  Mae'n wahanol i'r bara fwytaodd eich hynafiaid. Buon nhw farw. Ond dyma fara ddaeth i lawr o'r nefoedd, a bydd pwy bynnag sy'n ei fwyta yn byw am byth.”
John WelBeibl 6:59  Roedd yn dysgu yn y synagog yn Capernaum pan ddwedodd hyn i gyd.
John WelBeibl 6:60  Ond ymateb llawer o'i ddilynwyr wrth glywed y cwbl oedd, “Mae'n dweud pethau rhy galed. Pwy sy'n mynd i wrando arno?”
John WelBeibl 6:61  Roedd Iesu'n gwybod fod ei ddisgyblion yn cwyno am hyn, ac meddai wrthyn nhw, “Ydych chi'n mynd i droi cefn arna i?
John WelBeibl 6:62  Sut fydd hi pan welwch chi fi, Mab y Dyn, yn mynd i fyny i lle roeddwn i o'r blaen?
John WelBeibl 6:63  Ysbryd Duw sy'n rhoi bywyd; dydy pobl o gig a gwaed ddim yn gallu. Mae beth dw i wedi'i ddweud wrthoch chi yn dod o'r Ysbryd ac yn rhoi bywyd.
John WelBeibl 6:64  Ac eto mae rhai ohonoch chi'n gwrthod credu.” (Roedd Iesu'n gwybod o'r dechrau cyntaf pwy oedd ddim wir yn credu, a hefyd pwy oedd yn mynd i'w fradychu e.)
John WelBeibl 6:65  Aeth yn ei flaen i ddweud, “Dyma pam ddwedais i wrthoch chi fod neb yn gallu dod ata i oni bai fod y Tad wedi rhoi'r gallu iddyn nhw ddod.”
John WelBeibl 6:66  Ar ôl hyn dyma nifer o'i ddilynwyr yn troi cefn arno ac yn stopio'i ddilyn.
John WelBeibl 6:67  “Dych chi ddim am adael hefyd, ydych chi?” meddai Iesu wrth y deuddeg disgybl.
John WelBeibl 6:68  “Arglwydd, at bwy awn ni?” meddai Simon Pedr, “Mae beth rwyt ti'n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol.
John WelBeibl 6:69  Dŷn ni wedi dod i gredu, a dŷn ni'n gwybod mai ti ydy Un Sanctaidd Duw.”
John WelBeibl 6:70  Ond yna dyma Iesu'n dweud, “Onid fi ddewisodd chi'r deuddeg? Ac eto mae un ohonoch chi'n ddiafol!”
John WelBeibl 6:71  (Jwdas, mab Simon Iscariot oedd e'n ei olygu, yr un oedd yn mynd i'w fradychu yn nes ymlaen – er ei fod yn un o'r deuddeg disgybl.)
Chapter 7
John WelBeibl 7:1  Wedi hyn aeth Iesu o gwmpas Galilea. Roedd yn cadw draw o Jwdea yn fwriadol am fod yr arweinwyr Iddewig yno am ei ladd.
John WelBeibl 7:2  Ond pan oedd Gŵyl y Pebyll (un arall o wyliau'r Iddewon) yn agos,
John WelBeibl 7:3  dyma frodyr Iesu'n dweud wrtho, “Dylet ti adael yr ardal hon a mynd i Jwdea, i'r dilynwyr sydd gen ti yno gael gweld y gwyrthiau rwyt ti'n eu gwneud!
John WelBeibl 7:4  Does neb sydd am fod yn ffigwr cyhoeddus amlwg yn gweithredu o'r golwg. Gan dy fod yn gallu gwneud y pethau yma, dangos dy hun i bawb!”
John WelBeibl 7:5  (Doedd hyd yn oed ei frodyr ei hun ddim yn credu ynddo.)
John WelBeibl 7:6  “Dydy hi ddim yn amser i mi fynd eto” meddai Iesu wrthyn nhw, “ond gallwch chi fynd unrhyw bryd.
John WelBeibl 7:7  Dydy'r byd ddim yn gallu'ch casáu chi, ond mae'n fy nghasáu i am fy mod yn tystio fod yr hyn mae'n ei wneud yn ddrwg.
John WelBeibl 7:8  Ewch chi i'r Ŵyl. Dw i ddim yn barod i fynd i'r Ŵyl eto, am ei bod hi ddim yr amser iawn i mi fynd.”
John WelBeibl 7:10  Ond ar ôl i'w frodyr fynd i'r Ŵyl, daeth yr amser i Iesu fynd hefyd. Ond aeth yno'n ddistaw bach, allan o olwg y cyhoedd.
John WelBeibl 7:11  Yn yr Ŵyl roedd yr arweinwyr Iddewig yn edrych allan amdano. “Ble mae e?” medden nhw.
John WelBeibl 7:12  Roedd llawer o siarad amdano'n ddistaw bach ymhlith y tyrfaoedd. Rhai yn dweud ei fod yn ddyn da. Eraill yn dweud ei fod yn twyllo pobl.
John WelBeibl 7:13  Ond doedd neb yn mentro dweud dim yn gyhoeddus amdano am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig.
John WelBeibl 7:14  Roedd hi dros hanner ffordd drwy'r Ŵyl cyn i Iesu fynd i gwrt allanol y deml a dechrau dysgu yno.
John WelBeibl 7:15  Roedd yr arweinwyr crefyddol yn rhyfeddu ac yn gofyn, “Sut mae'r dyn yma'n gwybod cymaint heb fod wedi cael ei hyfforddi?”
John WelBeibl 7:16  Atebodd Iesu, “Dw i ddim yn dysgu ohono i'n hun. Mae'n dod oddi wrth Dduw, yr un anfonodd fi.
John WelBeibl 7:17  Bydd pwy bynnag sy'n dewis gwneud beth mae Duw eisiau yn darganfod fod beth dw i'n ei ddysgu yn dod oddi wrth Dduw, a mod i ddim yn siarad ar fy liwt fy hun.
John WelBeibl 7:18  Mae'r rhai sy'n siarad ohonyn nhw eu hunain yn ceisio ennill anrhydedd iddyn nhw'u hunain, ond mae'r un sy'n gweithio i anrhydeddu'r un wnaeth ei anfon e yn ddyn gonest; does dim byd ffals amdano.
John WelBeibl 7:19  Oni wnaeth Moses roi'r Gyfraith i chi? Ac eto does neb ohonoch chi'n ufudd i'r Gyfraith. Pam dych chi'n ceisio fy lladd i?”
John WelBeibl 7:20  “Mae cythraul yn dy wneud di'n wallgof,” atebodd y dyrfa. “Pwy sy'n ceisio dy ladd di?”
John WelBeibl 7:21  Meddai Iesu wrthyn nhw, “Gwnes i un wyrth ar y dydd Saboth, a dych chi i gyd mewn sioc!
John WelBeibl 7:22  Ac eto, roedd Moses wedi dweud fod rhaid i chi gadw defod enwaedu (er mai dim gan Moses ddaeth hi mewn gwirionedd, ond gan dadau'r genedl), a dych chi'n enwaedu bachgen ar y Saboth.
John WelBeibl 7:23  Nawr, os ydy'n iawn i fachgen gael ei enwaedu ar ddydd Saboth er mwyn peidio torri Cyfraith Moses, pam dych chi wedi gwylltio am fy mod i wedi iacháu rhywun yn llwyr ar y Saboth?
John WelBeibl 7:24  Stopiwch fod mor arwynebol wrth farnu; barnwch yn gywir bob amser.”
John WelBeibl 7:25  Roedd rhai o bobl Jerwsalem yn gofyn, “Onid hwn ydy'r dyn maen nhw'n ceisio'i ladd?
John WelBeibl 7:26  Mae e yma yn siarad yn gwbl agored, a dŷn nhw'n dweud dim! Tybed ydy'r awdurdodau wedi dod i'r casgliad mai fe ydy'r Meseia?
John WelBeibl 7:27  Ond wedyn, dŷn ni'n gwybod o ble mae'r dyn yma'n dod; pan ddaw'r Meseia, fydd neb yn gwybod o ble mae'n dod.”
John WelBeibl 7:28  A dyma Iesu, oedd yn dysgu yng nghwrt y deml ar y pryd, yn cyhoeddi'n uchel, “Ydych chi'n fy nabod i? Ydych chi'n gwybod o ble dw i'n dod? Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun. Duw go iawn sydd wedi fy anfon i, ond dych chi ddim yn ei nabod e.
John WelBeibl 7:29  Dw i'n ei nabod e, achos dw i wedi dod oddi wrtho fe. Fe ydy'r un anfonodd fi.”
John WelBeibl 7:30  Pan ddigwyddodd hyn dyma nhw'n ceisio'i ddal, ond lwyddodd neb i'w gyffwrdd, am fod ei amser iawn ddim wedi dod eto.
John WelBeibl 7:31  Ac eto, daeth llawer o bobl yn y dyrfa i gredu ynddo. Eu dadl oedd, “Pan ddaw'r Meseia, fydd e'n gallu gwneud mwy o arwyddion gwyrthiol na hwn?”
John WelBeibl 7:32  Daeth y Phariseaid i wybod fod sibrydion fel hyn yn mynd o gwmpas. Felly dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid yn anfon swyddogion diogelwch o'r deml i'w arestio.
John WelBeibl 7:33  Dwedodd Iesu, “Dw i yma gyda chi am amser byr eto, ac wedyn dw i'n mynd yn ôl at Dduw, yr un anfonodd fi.
John WelBeibl 7:34  Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi. Fyddwch chi ddim yn gallu dod i ble bydda i.”
John WelBeibl 7:35  Meddai'r arweinwyr Iddewig, “I ble mae'r dyn yma ar fin mynd os fyddwn ni ddim yn gallu dod o hyd iddo? Ydy e'n mynd at ein pobl ni sy'n byw ar wasgar mewn gwledydd eraill, a dysgu pobl y gwledydd hynny?
John WelBeibl 7:36  Beth mae'n e'n ei olygu wrth ddweud, ‘Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi,’ a ‘Fyddwch chi'n methu dod i ble bydda i’?”
John WelBeibl 7:37  Ar uchafbwynt yr Ŵyl, sef y diwrnod olaf, dyma Iesu'n sefyll ac yn cyhoeddi'n uchel, “Os oes syched ar rywun, dylai ddod i yfed ata i.
John WelBeibl 7:38  Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd ffrydiau o ddŵr sy'n rhoi bywyd yn llifo o'r rhai hynny!’”
John WelBeibl 7:39  (Sôn oedd am yr Ysbryd Glân. Roedd y rhai oedd wedi credu ynddo yn mynd i dderbyn yr Ysbryd yn nes ymlaen. Ond doedd yr Ysbryd ddim wedi dod eto, am fod Iesu ddim wedi'i anrhydeddu.)
John WelBeibl 7:40  Ar ôl clywed beth ddwedodd Iesu, dyma rhai o'r bobl yn dweud, “Y Proffwyd soniodd Moses amdano ydy'r dyn yma, siŵr o fod!”
John WelBeibl 7:41  Roedd eraill yn dweud, “Y Meseia ydy e!” Ond eraill wedyn yn dadlau, “Sut all y Meseia ddod o Galilea?
John WelBeibl 7:42  Onid ydy'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod y Meseia i ddod o deulu'r Brenin Dafydd ac o Bethlehem, lle roedd Dafydd yn byw?”
John WelBeibl 7:43  Felly roedd y dyrfa wedi'i rhannu – rhai o'i blaid ac eraill yn ei erbyn.
John WelBeibl 7:44  Roedd rhai eisiau ei arestio, ond lwyddodd neb i'w gyffwrdd.
John WelBeibl 7:45  Aeth swyddogion diogelwch y deml yn ôl at y prif offeiriaid a'r Phariseaid, a gofynnodd y rheiny iddyn nhw, “Pam wnaethoch chi ddim dod ag e yma?”
John WelBeibl 7:46  “Does neb erioed wedi siarad fel y dyn yma,” medden nhw.
John WelBeibl 7:47  “Beth!” atebodd y Phariseaid, “Ydy e wedi'ch twyllo chi hefyd?”
John WelBeibl 7:48  “Oes unrhyw un o'r arweinwyr neu o'r Phariseaid wedi credu ynddo?
John WelBeibl 7:49  Nac oes! Dim ond y werin ddwl yma sy'n gwybod dim byd am y Gyfraith – ac maen nhw dan felltith beth bynnag!”
John WelBeibl 7:50  Roedd Nicodemus yno ar y pryd (y dyn oedd wedi mynd at Iesu'n gynharach), a gofynnodd,
John WelBeibl 7:51  “Ydy'n Cyfraith ni yn condemnio pobl heb roi gwrandawiad teg iddyn nhw gyntaf, er mwyn darganfod y ffeithiau?”
John WelBeibl 7:52  Medden nhw wrtho, “Wyt ti'n dod o Galilea hefyd? Edrych di i mewn i'r peth, dydy proffwydi ddim yn dod o Galilea!”
Chapter 8
John WelBeibl 8:2  Pan wawriodd hi y bore wedyn, roedd Iesu yn ôl yng nghwrt y deml. Dyma dyrfa yn casglu o'i gwmpas, ac eisteddodd Iesu i'w dysgu nhw.
John WelBeibl 8:3  Tra oedd yn dysgu'r bobl dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid yn dod ato gyda gwraig oedd wedi cael ei dal yn godinebu. Dyma nhw'n ei rhoi hi i sefyll yn y canol o flaen pawb,
John WelBeibl 8:4  ac yna medden nhw wrth Iesu, “Athro, mae'r wraig hon wedi cael ei dal yn cael rhyw gyda dyn oedd ddim yn ŵr iddi.
John WelBeibl 8:5  Yn y Gyfraith mae Moses yn dweud fod gwragedd o'r fath i gael eu llabyddio i farwolaeth gyda cherrig. Beth wyt ti'n ei ddweud am y mater?”
John WelBeibl 8:6  (Roedden nhw'n defnyddio'r cwestiwn fel trap, er mwyn cael sail i ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn.) Ond dyma Iesu'n plygu i lawr a dechrau ysgrifennu gyda'i fys yn y llwch ar lawr.
John WelBeibl 8:7  Wrth iddyn nhw ddal ati i bwyso arno i ateb, edrychodd i fyny a dweud wrthyn nhw, “Os oes un ohonoch chi ddynion erioed wedi pechu, taflwch chi'r garreg gyntaf ati hi.”
John WelBeibl 8:9  Ar ôl clywed beth ddwedodd e, dyma'r dynion yn gadael. Y rhai hynaf aeth gyntaf, a'r lleill yn dilyn, nes oedd neb ar ôl ond Iesu, a'r wraig yn dal i sefyll o'i flaen.
John WelBeibl 8:10  Edrychodd i fyny eto, a gofyn iddi, “Wel, wraig annwyl, ble maen nhw? Oes neb wedi dy gondemnio di?”
John WelBeibl 8:11  “Nac oes syr, neb” meddai. “Dw innau ddim yn dy gondemnio di chwaith,” meddai Iesu. “Felly dos, a pheidio pechu fel yna eto.”
John WelBeibl 8:12  Pan oedd Iesu'n annerch y bobl dro arall, dwedodd, “Fi ydy golau'r byd. Bydd gan y rhai sy'n fy nilyn i olau i'w harwain nhw i fywyd, a fyddan nhw byth yn cerdded mewn tywyllwch.”
John WelBeibl 8:13  Ond dyma'r Phariseaid yn ymateb, “Rhoi tystiolaeth ar dy ran dy hun rwyt ti. Dydy tystiolaeth felly ddim yn ddilys.”
John WelBeibl 8:14  Atebodd Iesu, “Hyd yn oed os ydw i'n tystio ar fy rhan fy hun, mae'r dystiolaeth yna'n ddilys. Dw i'n gwybod o ble dw i wedi dod ac i ble dw i'n mynd. Ond does gynnoch chi ddim syniad o ble dw i wedi dod nac i ble dw i'n mynd.
John WelBeibl 8:15  Dych chi'n barnu yn ôl safonau dynol; dw i'n barnu neb felly.
John WelBeibl 8:16  Os dw i'n barnu, dw i'n dyfarnu'n gywir, am fy mod i ddim yn barnu ar fy mhen fy hun. Mae'r Tad sydd wedi fy anfon i yn barnu gyda mi.
John WelBeibl 8:17  Mae eich Cyfraith chi'n dweud yn glir fod tystiolaeth dau ddyn yn ddilys.
John WelBeibl 8:18  Dw i fy hun yn rhoi tystiolaeth, a'r Tad ydy'r tyst arall, yr un sydd wedi fy anfon i.”
John WelBeibl 8:19  “Ble mae dy dad di?” medden nhw. “Dych chi ddim wir yn gwybod pwy ydw i,” atebodd Iesu, “nac yn nabod fy Nhad chwaith. Tasech chi'n gwybod pwy ydw i, byddech chi'n nabod fy Nhad i hefyd.”
John WelBeibl 8:20  Dwedodd hyn pan oedd yn dysgu yn y deml wrth ymyl y blychau lle roedd pobl yn rhoi eu harian i'r drysorfa. Ond wnaeth neb ei ddal, am fod ei amser iawn ddim wedi dod.
John WelBeibl 8:21  Dwedodd Iesu wrthyn nhw dro arall, “Dw i'n mynd i ffwrdd. Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn marw yn eich pechod. Dych chi ddim yn gallu dod ble dw i'n mynd.”
John WelBeibl 8:22  Gwnaeth hyn i'r arweinwyr a phobl Jwdea ofyn, “Ydy e'n mynd i ladd ei hun neu rywbeth? Ai dyna pam mae'n dweud, ‘Dych chi ddim yn gallu dod i ble dw i'n mynd’?”
John WelBeibl 8:23  Ond aeth yn ei flaen i ddweud, “Dych chi'n dod o'r ddaear; dw i'n dod oddi uchod. O'r byd hwn dych chi'n dod; ond dw i ddim yn dod o'r byd hwn.
John WelBeibl 8:24  Dyna pam ddwedais i y byddwch chi'n marw yn eich pechod – os wnewch chi ddim credu mai fi ydy e, byddwch chi'n marw yn eich pechod.”
John WelBeibl 8:25  “Mai ti ydy pwy?” medden nhw. “Yn union beth dw i wedi'i ddweud o'r dechrau,” atebodd Iesu.
John WelBeibl 8:26  “Mae gen i lawer i'w ddweud amdanoch chi, a digon i'w gondemnio. Mae'r un sydd wedi fy anfon i yn dweud y gwir, a beth dw i wedi'i glywed ganddo fe dw i'n ei gyhoeddi i'r byd.”
John WelBeibl 8:27  Doedden nhw ddim yn deall ei fod yn siarad am Dduw y Tad.
John WelBeibl 8:28  Felly dwedodd Iesu, “Pan fyddwch wedi fy nghodi i, Mab y Dyn, i fyny, dyna pryd byddwch chi'n gwybod mai fi ydy e, ac nad ydw i yn gwneud dim ar fy mhen fy hun, dim ond dweud beth mae'r Tad wedi'i ddysgu i mi.
John WelBeibl 8:29  Mae'r un sydd wedi fy anfon i gyda mi; dydy e ddim wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, achos dw i bob amser yn gwneud beth sy'n ei blesio.”
John WelBeibl 8:30  Daeth llawer o bobl i gredu ynddo tra oedd yn siarad.
John WelBeibl 8:31  Yna dwedodd Iesu wrth yr Iddewon hynny oedd wedi credu ynddo, “Os daliwch afael yn yr hyn dw i wedi'i ddangos i chi, dych chi'n ddilynwyr go iawn i mi.
John WelBeibl 8:32  Byddwch yn dod i wybod beth sy'n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw'n rhoi rhyddid i chi.”
John WelBeibl 8:33  “Dŷn ni'n ddisgynyddion i Abraham,” medden nhw, “fuon ni erioed yn gaethweision! Felly beth wyt ti'n ei feddwl wrth ddweud, ‘Byddwch chi'n cael bod yn rhydd’?”
John WelBeibl 8:34  Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, mae pawb sy'n pechu wedi'i gaethiwo gan bechod.
John WelBeibl 8:35  Dydy caethwas ddim yn perthyn i'r teulu mae'n ei wasanaethu, ond mae mab yn perthyn am byth.
John WelBeibl 8:36  Felly os ydy'r Mab yn eich rhyddhau chi byddwch yn rhydd go iawn.
John WelBeibl 8:37  Dw i'n gwybod eich bod chi'n ddisgynyddion i Abraham, ond dych chi'n ceisio fy lladd i am eich bod chi ddim yn deall beth dw i'n ddweud go iawn.
John WelBeibl 8:38  Dw i'n cyhoeddi beth dw i wedi'i weld gyda'r Tad. Dych chi'n gwneud beth mae'ch tad chi'n ei ddweud wrthoch chi.”
John WelBeibl 8:39  “Abraham ydy'n tad ni,” medden nhw. “Petaech chi wir yn blant i Abraham,” meddai Iesu, “byddech chi'n gwneud beth wnaeth Abraham.
John WelBeibl 8:40  Yn lle hynny dych chi'n benderfynol o'm lladd i, a minnau ond wedi cyhoeddi'r gwirionedd glywais i gan Dduw. Doedd Abraham ddim yn gwneud peth felly!
John WelBeibl 8:41  Na, gwneud y pethau mae'ch tad chi'n eu gwneud dych chi.” “Dim plant siawns ydyn ni!” medden nhw, “Duw ei hun ydy'r unig Dad sydd gynnon ni.”
John WelBeibl 8:42  “Ond petai Duw yn Dad i chi,” meddai Iesu, “byddech chi'n fy ngharu i, am fy mod i wedi dod yma oddi wrth Dduw. Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun; Duw sydd wedi fy anfon i.
John WelBeibl 8:43  Pam nad ydy be dw i'n ddweud yn gwneud sens i chi? Am eich bod yn methu clywed y neges sydd gen i.
John WelBeibl 8:44  Y diafol ydy eich tad chi, a dych chi am wneud beth mae'ch tad eisiau. Llofrudd oedd e o'r dechrau, heb lynu wrth y gwir, am fod dim lle i'r gwir ynddo. Pan mae'n dweud celwydd, mae'n siarad ei famiaith! Celwyddgi ydy e! Tad pob celwydd!
John WelBeibl 8:45  Ond dw i'n dweud y gwir, felly dych chi ddim yn fy nghredu i!
John WelBeibl 8:46  Oes unrhyw un ohonoch chi'n gallu profi mod i'n euog o bechu? Felly os dw i'n dweud y gwir pam dych chi'n gwrthod credu?
John WelBeibl 8:47  Mae pwy bynnag sy'n perthyn i Dduw yn gwrando ar beth mae Duw yn ei ddweud. Y rheswm pam dych chi ddim yn gwrando ydy am eich bod chi ddim yn perthyn i Dduw.”
John WelBeibl 8:48  “Y Samariad ddiawl!” medden nhw, “Dŷn ni'n iawn. Mae cythraul ynot ti!”
John WelBeibl 8:49  “Fi? Does gen i ddim cythraul,” meddai Iesu, “Beth dw i'n ei wneud ydy anrhydeddu fy Nhad, a dych chi'n fy sarhau i.
John WelBeibl 8:50  Dw i ddim yn edrych am glod i mi fy hun; ond mae un sy'n ei geisio, a fe ydy'r un sy'n barnu.
John WelBeibl 8:51  Credwch chi fi – fydd pwy bynnag sy'n dal gafael yn yr hyn dw i wedi'i ddysgu iddyn nhw byth yn gweld marwolaeth.”
John WelBeibl 8:52  Pan ddwedodd hyn dyma'r arweinwyr Iddewig yn gweiddi, “Mae'n gwbl amlwg fod cythraul ynot ti! Buodd Abraham farw, a'r proffwydi hefyd, a dyma ti'n honni y bydd y rhai sy'n dal gafael yn yr hyn rwyt ti'n ei ddysgu ddim yn marw.
John WelBeibl 8:53  Wyt ti'n fwy o ddyn nag Abraham, tad y genedl? Buodd e farw, a'r proffwydi hefyd! Pwy wyt ti'n feddwl wyt ti?”
John WelBeibl 8:54  Atebodd Iesu, “Os dw i'n canmol fy hun, dydy'r clod yna'n golygu dim byd. Fy Nhad sy'n fy nghanmol i, yr un dych chi'n hawlio ei fod yn Dduw i chi.
John WelBeibl 8:55  Ond dych chi ddim wedi dechrau dod i'w nabod; dw i yn ei nabod e'n iawn. Petawn i'n dweud mod i ddim yn ei nabod e, byddwn innau'n gelwyddog fel chi. Dw i yn ei nabod e ac yn gwneud beth mae'n ei ddangos i mi.
John WelBeibl 8:56  Roedd Abraham, eich tad, yn gorfoleddu wrth feddwl y câi weld yr amser pan fyddwn i'n dod; fe'i gwelodd, ac roedd wrth ei fodd.”
John WelBeibl 8:57  “Ti ddim yn hanner cant eto!” meddai'r arweinwyr Iddewig wrtho, “Wyt ti'n honni dy fod di wedi gweld Abraham?”
John WelBeibl 8:58  Atebodd Iesu, “Credwch chi fi – dw i'n bodoli ers cyn i Abraham gael ei eni.”
John WelBeibl 8:59  Pan ddwedodd hyn, dyma nhw'n codi cerrig i'w taflu ato, ond cuddiodd Iesu ei hun, a llithro allan o'r deml.
Chapter 9
John WelBeibl 9:1  Un diwrnod roedd Iesu'n pasio heibio, a gwelodd ddyn oedd wedi bod yn ddall ers iddo gael ei eni.
John WelBeibl 9:2  Gofynnodd y disgyblion iddo, “Rabbi, pwy wnaeth bechu i achosi i'r dyn yma gael ei eni'n ddall – fe ei hun, neu ei rieni?”
John WelBeibl 9:3  “Dim ei bechod e na phechod ei rieni sy'n gyfrifol,” meddai Iesu. “Digwyddodd er mwyn i allu Duw gael ei arddangos yn ei fywyd.
John WelBeibl 9:4  Tra mae hi'n dal yn olau dydd, rhaid i ni wneud gwaith yr un sydd wedi fy anfon i. Mae'r nos yn dod, pan fydd neb yn gallu gweithio.
John WelBeibl 9:6  Ar ôl dweud hyn, poerodd ar lawr a gwneud mwd allan o'r poeryn, ac wedyn ei rwbio ar lygaid y dyn dall.
John WelBeibl 9:7  Yna meddai wrtho, “Dos i ymolchi i Bwll Siloam” (enw sy'n golygu ‛Anfonwyd‛). Felly aeth y dyn i ymolchi, a phan ddaeth yn ôl roedd yn gallu gweld!
John WelBeibl 9:8  Dyma'i gymdogion a phawb oedd wedi'i weld o'r blaen yn cardota yn gofyn, “Onid hwn ydy'r dyn oedd yn arfer cardota?”
John WelBeibl 9:9  Roedd rhai yn dweud “Ie”, ac eraill yn dweud, “Nage – er, mae'n debyg iawn iddo.” Ond dyma'r dyn ei hun yn dweud, “Ie, fi ydy e.”
John WelBeibl 9:11  “Y dyn maen nhw'n ei alw'n Iesu wnaeth fwd a'i rwbio ar fy llygaid,” meddai. “Yna dwedodd wrtho i am fynd i Siloam i ymolchi. A dyna wnes i. Ar ôl i mi ymolchi roeddwn i'n gallu gweld!”
John WelBeibl 9:12  “Ble mae e?” medden nhw. “Wn i ddim,” meddai.
John WelBeibl 9:13  Dyma nhw'n mynd â'r dyn oedd wedi bod yn ddall at y Phariseaid.
John WelBeibl 9:14  Roedd hi'n ddydd Saboth Iddewig pan oedd Iesu wedi gwneud y mwd i iacháu'r dyn.
John WelBeibl 9:15  Felly dyma'r Phariseaid hefyd yn dechrau holi'r dyn sut roedd e'n gallu gweld. Atebodd y dyn, “Rhoddodd fwd ar fy llygaid, es i ymolchi, a dw i'n gweld.”
John WelBeibl 9:16  Meddai rhai o'r Phariseaid, “All e ddim bod yn negesydd Duw; dydy e ddim yn cadw rheolau'r Saboth.” Ond roedd eraill yn dweud, “Sut mae rhywun sy'n bechadur cyffredin yn gallu gwneud y fath arwyddion gwyrthiol?” Felly roedden nhw'n anghytuno â'i gilydd.
John WelBeibl 9:17  Yn y diwedd dyma nhw'n troi at y dyn dall eto, “Beth sydd gen ti i'w ddweud amdano? Dy lygaid di agorodd e.” Atebodd y dyn, “Mae'n rhaid ei fod yn broffwyd.”
John WelBeibl 9:18  Ond roedd yr arweinwyr Iddewig yn gwrthod credu ei fod wedi bod yn ddall nes i'w rieni ddod yno.
John WelBeibl 9:19  “Ai eich mab chi ydy hwn?” medden nhw. “Gafodd e ei eni'n ddall? Ac os felly, sut mae e'n gallu gweld nawr?”
John WelBeibl 9:20  “Ein mab ni ydy e”, atebodd y rhieni, “a dŷn ni'n gwybod ei fod wedi cael ei eni'n ddall.
John WelBeibl 9:21  Ond does gynnon ni ddim syniad sut mae'n gallu gweld bellach, na phwy wnaeth iddo allu gweld. Gofynnwch iddo fe. Mae'n ddigon hen! Gall siarad drosto'i hun.”
John WelBeibl 9:22  (Y rheswm pam roedd ei rieni'n ymateb fel hyn oedd am fod arnyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig. Roedd yr awdurdodau Iddewig wedi cytuno y byddai unrhyw un fyddai'n cyffesu mai Iesu oedd y Meseia yn cael ei ddiarddel o'r synagog.
John WelBeibl 9:23  Felly dyna pam ddwedodd y rhieni, “Mae'n ddigon hen. Gofynnwch iddo fe.”)
John WelBeibl 9:24  Dyma nhw'n galw'r dyn oedd wedi bod yn ddall o'u blaenau am yr ail waith, ac medden nhw wrtho, “Dywed y gwir o flaen Duw. Dŷn ni'n gwybod fod y dyn wnaeth dy iacháu di yn bechadur.”
John WelBeibl 9:25  Atebodd e, “Wn i ddim os ydy e'n bechadur a'i peidio, ond dw i'n hollol sicr o un peth – roeddwn i'n ddall, a bellach dw i'n gallu gweld!”
John WelBeibl 9:26  Dyma nhw'n gofyn iddo eto, “Beth yn union wnaeth e? Sut agorodd e dy lygaid di?”
John WelBeibl 9:27  Atebodd y dyn, “Dw i wedi dweud unwaith, a dych chi ddim wedi gwrando. Pam dych chi eisiau mynd drwy'r peth eto? Ydych chi hefyd eisiau bod yn ddilynwyr iddo?”
John WelBeibl 9:28  Dyma nhw'n rhoi pryd o dafod iddo, “Ti sy'n ddilynwr i'r boi! Disgyblion Moses ydyn ni!
John WelBeibl 9:29  Dŷn ni'n gwybod fod Duw wedi siarad â Moses, ond wyddon ni ddim byd am hwn – dim hyd yn oed o ble mae'n dod!”
John WelBeibl 9:30  “Wel, mae hynny'n anhygoel!” meddai'r dyn, “Rhoddodd y dyn fy ngolwg i mi, a dych chi ddim yn gwybod o ble mae'n dod.
John WelBeibl 9:31  Dŷn ni'n gwybod bod Duw ddim yn gwrando ar bechaduriaid, ond ar bobl dduwiol sy'n gwneud beth mae e eisiau.
John WelBeibl 9:32  Does neb erioed wedi clywed am rywun yn agor llygaid person gafodd ei eni'n ddall!
John WelBeibl 9:33  Oni bai fod y dyn wedi dod oddi wrth Dduw, allai e wneud dim byd.”
John WelBeibl 9:34  “Wyt ti'n ceisio rhoi darlith i ni?” medden nhw, “Cest ti dy eni mewn pechod a dim byd arall!” A dyma nhw'n ei ddiarddel.
John WelBeibl 9:35  Clywodd Iesu eu bod nhw wedi diarddel y dyn, ac ar ôl dod o hyd iddo, gofynnodd iddo, “Wyt ti'n credu ym Mab y Dyn?”
John WelBeibl 9:36  “Pwy ydy hwnnw, syr?” meddai'r dyn. “Dwed wrtho i, er mwyn i mi gredu ynddo.”
John WelBeibl 9:37  Dwedodd Iesu, “Rwyt ti wedi'i weld; fi sy'n siarad â ti ydy e.”
John WelBeibl 9:38  Yna dwedodd y dyn, “Arglwydd, dw i'n credu,” a phlygu o'i flaen i'w addoli.
John WelBeibl 9:39  Dwedodd Iesu, “Mae'r ffaith fy mod i wedi dod i'r byd yn arwain i farn. Mae'r rhai sy'n ddall yn cael gweld a'r rhai sy'n gweld yn cael eu dallu.”
John WelBeibl 9:40  Roedd rhai o'r Phariseaid yno pan ddwedodd hyn, ac medden nhw, “Beth? Dŷn ni ddim yn ddall, ydyn ni?”
John WelBeibl 9:41  Atebodd Iesu, “Petaech chi'n ddall, fyddech chi ddim yn euog o bechu; ond am eich bod yn honni eich bod yn gweld, dych chi'n euog, ac yn aros felly.
Chapter 10
John WelBeibl 10:1  “Credwch chi fi, lleidr ydy'r un sy'n dringo i mewn i gorlan y defaid heb fynd drwy'r giât.
John WelBeibl 10:2  Mae'r bugail sy'n gofalu am y defaid yn mynd i mewn drwy'r giât.
John WelBeibl 10:3  Mae'r un sy'n gwylio'r gorlan dros nos yn agor y giât iddo, ac mae ei ddefaid ei hun yn nabod ei lais. Mae'n galw pob un o'i ddefaid wrth eu henwau, ac yn eu harwain nhw allan.
John WelBeibl 10:4  Ar ôl iddo fynd â nhw i gyd allan, mae'n cerdded o'u blaenau nhw, ac mae ei ddefaid yn ei ddilyn am eu bod yn nabod ei lais.
John WelBeibl 10:5  Fyddan nhw byth yn dilyn rhywun dieithr. Dŷn nhw ddim yn nabod lleisiau pobl ddieithr, a byddan nhw'n rhedeg i ffwrdd oddi wrthyn nhw.”
John WelBeibl 10:6  Defnyddiodd Iesu'r stori yna fel darlun, ond doedden nhw ddim yn deall yr ystyr.
John WelBeibl 10:7  Felly dwedodd Iesu eto, “Credwch chi fi – fi ydy'r giât i'r defaid fynd drwyddi.
John WelBeibl 10:8  Lladron yn dwyn oedd pob un ddaeth o mlaen i. Wnaeth y defaid ddim gwrando arnyn nhw.
John WelBeibl 10:9  Fi ydy'r giât. Bydd y rhai sy'n mynd i mewn trwof fi yn saff. Byddan nhw'n mynd i mewn ac allan, ac yn dod o hyd i borfa.
John WelBeibl 10:10  Mae'r lleidr yn dod gyda'r bwriad o ddwyn a lladd a dinistrio. Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw'n fywyd ar ei orau.
John WelBeibl 10:11  “Fi ydy'r bugail da. Mae'r bugail da yn fodlon marw dros y defaid.
John WelBeibl 10:12  Mae'r gwas sy'n cael ei dalu i ofalu am y defaid yn rhedeg i ffwrdd pan mae'n gweld y blaidd yn dod. (Dim fe ydy'r bugail, a does ganddo ddim defaid ei hun.) Mae'n gadael y defaid, ac mae'r blaidd yn ymosod ar y praidd ac yn eu gwasgaru nhw.
John WelBeibl 10:13  Dim ond am ei fod yn cael ei dalu mae'n edrych ar ôl y defaid, a dydy e'n poeni dim amdanyn nhw go iawn.
John WelBeibl 10:14  “Fi ydy'r bugail da. Dw i'n nabod fy nefaid fy hun ac maen nhw'n fy nabod i –
John WelBeibl 10:15  yn union fel mae'r Tad yn fy nabod i a dw i'n nabod y Tad. Dw i'n fodlon marw dros y defaid.
John WelBeibl 10:16  Mae gen i ddefaid eraill sydd ddim yn y gorlan yma. Rhaid i mi eu casglu nhw hefyd, a byddan nhw'n gwrando ar fy llais. Yna byddan nhw'n dod yn un praidd, a bydd un bugail.
John WelBeibl 10:17  Mae fy Nhad yn fy ngharu i am fy mod yn mynd i farw'n wirfoddol, er mwyn dod yn ôl yn fyw wedyn.
John WelBeibl 10:18  Does neb yn cymryd fy mywyd oddi arna i; fi fy hun sy'n dewis rhoi fy mywyd yn wirfoddol. Mae gen i'r gallu i'w roi a'r gallu i'w gymryd yn ôl eto. Mae fy Nhad wedi dweud wrtho i beth i'w wneud.”
John WelBeibl 10:19  Roedd beth roedd yn ei ddweud yn achosi rhaniadau ymhlith yr Iddewon eto.
John WelBeibl 10:20  Roedd llawer ohonyn nhw'n dweud, “Mae cythraul ynddo! Mae'n hurt bost! Pam ddylen ni wrando arno?”
John WelBeibl 10:21  Ond roedd pobl eraill yn dweud, “Dydy e ddim yn siarad fel rhywun wedi'i feddiannu gan gythraul. Ydy cythraul yn gallu rhoi golwg i bobl ddall?”
John WelBeibl 10:22  Roedd y gaeaf wedi dod, ac roedd hi'n amser dathlu Gŵyl y Cysegru yn Jerwsalem.
John WelBeibl 10:23  Roedd Iesu yno yng nghwrt y deml, yn cerdded o gwmpas Cyntedd Colofnog Solomon.
John WelBeibl 10:24  Dyma'r arweinwyr Iddewig yn casglu o'i gwmpas, a gofyn iddo, “Am faint wyt ti'n mynd i'n cadw ni'n disgwyl? Dwed wrthon ni'n blaen os mai ti ydy'r Meseia.”
John WelBeibl 10:25  “Dw i wedi dweud,” meddai Iesu, “ond dych chi'n gwrthod credu. Mae'r gwyrthiau dw i yn eu gwneud ar ran fy Nhad yn dweud y cwbl.
John WelBeibl 10:26  Ond dych chi ddim yn credu am eich bod chi ddim yn ddefaid i mi.
John WelBeibl 10:27  Mae fy nefaid i yn fy nilyn am eu bod yn nabod fy llais i, a dw i'n eu nabod nhw.
John WelBeibl 10:28  Dw i'n rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw, a fyddan nhw byth yn mynd i ddistryw. Does neb yn gallu eu cipio nhw oddi arna i.
John WelBeibl 10:29  Fy Nhad sydd wedi'u rhoi nhw i mi, ac mae e'n fwy na phawb a phopeth. Does neb yn gallu eu cipio nhw o afael fy Nhad.
John WelBeibl 10:31  Unwaith eto dyma'r arweinwyr Iddewig yn codi cerrig i'w labyddio'n farw,
John WelBeibl 10:32  ond meddai Iesu wrthyn nhw, “Dych chi wedi fy ngweld i'n gwneud lot fawr o bethau da – gwyrthiau'r Tad. Am ba un o'r rhain dych chi'n fy llabyddio i?”
John WelBeibl 10:33  “Dŷn ni ddim yn dy labyddio am wneud unrhyw beth da,” atebodd yr arweinwyr Iddewig, “ond am gablu! Am dy fod ti sydd ond yn ddynol, yn honni mai Duw wyt ti.”
John WelBeibl 10:34  Ond atebodd Iesu nhw, “Mae'n dweud yn eich ysgrifau sanctaidd chi, ‘Dwedais, “Duwiau ydych chi.”’
John WelBeibl 10:35  Dych chi ddim yn gallu diystyru'r ysgrifau sanctaidd! Felly os oedd yr arweinwyr ddwedodd Duw hynny wrthyn nhw yn ‛dduwiau‛
John WelBeibl 10:36  sut dych chi'n gallu dweud mod i'n cablu dim ond am fy mod i wedi dweud ‘Fi ydy mab Duw’? Y Tad ddewisodd fi a'm hanfon i i'r byd.
John WelBeibl 10:37  Os dw i ddim yn gwneud gwaith fy Nhad peidiwch credu ynof fi.
John WelBeibl 10:38  Ond os dw i yn gwneud yr un fath â'm Tad, credwch yn yr hyn dw i'n ei wneud er eich bod chi ddim yn credu ynof fi. Wedyn dewch i wybod a deall fod y Tad ynof fi, a minnau yn y Tad.”
John WelBeibl 10:39  Dyma nhw'n ceisio'i ddal unwaith eto, ond llwyddodd i ddianc o'u gafael nhw.
John WelBeibl 10:40  Aeth Iesu yn ôl ar draws afon Iorddonen eto i'r lle roedd Ioan Fedyddiwr wedi bod yn bedyddio yn y dyddiau cynnar. Arhosodd yno
John WelBeibl 10:41  a daeth llawer o bobl allan ato. Roedden nhw'n dweud, “Wnaeth Ioan ddim gwneud unrhyw wyrth, ond roedd popeth ddwedodd e am y dyn yma yn wir.”
Chapter 11
John WelBeibl 11:1  Roedd dyn o'r enw Lasarus yn sâl. Roedd yn dod o Bethania, pentref Mair a'i chwaer Martha.
John WelBeibl 11:2  (Mair oedd wedi tywallt persawr ar yr Arglwydd Iesu a sychu ei draed gyda'i gwallt, a'i brawd hi oedd Lasarus oedd yn sâl yn ei wely.)
John WelBeibl 11:3  Dyma'r chwiorydd yn anfon neges at Iesu, “Arglwydd, mae dy ffrind annwyl di'n sâl.”
John WelBeibl 11:4  Pan gafodd y neges, meddai Iesu, “Fydd marwolaeth ddim yn cael y gair olaf. Na, pwrpas hyn ydy dangos mor wych ydy Duw. A bydd Mab Duw yn cael ei anrhydeddu drwyddo hefyd.”
John WelBeibl 11:5  Roedd Iesu'n hoff iawn o Martha a'i chwaer a Lasarus.
John WelBeibl 11:6  Ac eto, ar ôl clywed fod Lasarus yn sâl, arhosodd lle roedd am ddau ddiwrnod arall.
John WelBeibl 11:7  Yna dwedodd wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.”
John WelBeibl 11:8  “Ond Rabbi,” medden nhw, “roedd yr arweinwyr Iddewig yn Jwdea yn ceisio dy ladd di gynnau! Wyt ti wir am fynd yn ôl yno?”
John WelBeibl 11:9  Atebodd Iesu, “Onid oes deuddeg awr o olau dydd? Dydy rhywun sy'n cerdded yn ystod y dydd ddim yn baglu, am fod ganddo olau'r haul.
John WelBeibl 11:10  Ond mae rhywun yn baglu wrth gerdded yn y nos, am fod dim golau ganddo.”
John WelBeibl 11:11  Yna dwedodd wrthyn nhw, “Mae ein ffrind Lasarus wedi syrthio i gysgu. Dw i i'n mynd yno i'w ddeffro.”
John WelBeibl 11:12  “Arglwydd,” meddai'r disgyblion, “os ydy e'n cysgu, bydd yn gwella.”
John WelBeibl 11:13  Ond marwolaeth oedd Iesu'n ei olygu wrth ‛gwsg‛. Roedd ei ddisgyblion wedi cael y syniad ei fod yn sôn am orffwys naturiol.
John WelBeibl 11:14  Felly dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw'n blaen, “Mae Lasarus wedi marw,
John WelBeibl 11:15  ac er eich mwyn chi dw i'n falch fy mod i ddim yno. Dw i eisiau i chi gredu. Gadewch inni fynd ato.”
John WelBeibl 11:16  Yna dyma Tomos (oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛) yn dweud wrth y disgyblion eraill, “Dewch, gadewch i ni fynd hefyd, i farw gydag e!”
John WelBeibl 11:17  Pan gyrhaeddodd Iesu, cafodd fod Lasarus wedi cael ei gladdu ers pedwar diwrnod.
John WelBeibl 11:19  ac roedd llawer o bobl o Jwdea wedi dod at Mair a Martha i gydymdeimlo â nhw ar golli eu brawd.
John WelBeibl 11:20  Pan glywodd Martha fod Iesu'n dod, aeth allan i'w gyfarfod, ond arhosodd Mair yn y tŷ.
John WelBeibl 11:21  “Arglwydd,” meddai Martha wrth Iesu, “taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.
John WelBeibl 11:22  Ond er hynny, dw i'n dal i gredu y bydd Duw yn rhoi i ti beth bynnag rwyt ti'n ei ofyn ganddo.”
John WelBeibl 11:23  Dwedodd Iesu wrthi, “Bydd dy frawd yn dod yn ôl yn fyw.”
John WelBeibl 11:24  Atebodd Martha, “Dw i'n gwybod y bydd yn dod yn ôl yn fyw adeg yr atgyfodiad ar y dydd olaf.”
John WelBeibl 11:25  Dwedodd Iesu wrthi, “Fi ydy'r atgyfodiad a'r bywyd. Bydd pawb sy'n credu ynof fi yn dod yn fyw, er iddyn nhw farw;
John WelBeibl 11:26  a bydd y rhai sy'n fyw ac yn credu ynof fi ddim yn marw go iawn. Wyt ti'n credu hyn?”
John WelBeibl 11:27  “Ydw, Arglwydd,” meddai Martha wrtho, “dw i'n credu mai ti ydy'r Meseia, Mab Duw, yr un oedd i ddod i'r byd.”
John WelBeibl 11:28  Ar ôl iddi ddweud hyn, aeth yn ei hôl a dweud yn dawel fach wrth Mair, “Mae'r Athro yma, ac mae'n gofyn amdanat ti.”
John WelBeibl 11:29  Pan glywodd Mair hyn, dyma hi'n codi ar frys i fynd ato.
John WelBeibl 11:30  (Doedd Iesu ddim wedi cyrraedd y pentref eto, roedd yn dal lle roedd Martha wedi'i gyfarfod.)
John WelBeibl 11:31  Roedd pobl o Jwdea wedi bod gyda Mair yn y tŷ yn cydymdeimlo gyda hi. Pan welon nhw hi'n codi mor sydyn i fynd allan, dyma nhw'n mynd ar ei hôl gan feddwl ei bod hi'n mynd at y bedd i alaru.
John WelBeibl 11:32  Pan gyrhaeddodd Mair lle roedd Iesu, a'i weld, syrthiodd wrth ei draed a dweud, “Arglwydd, taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.”
John WelBeibl 11:33  Wrth ei gweld hi'n wylofain yn uchel, a'r bobl o Jwdea oedd yno yn wylofain gyda hi, cynhyrfodd Iesu drwyddo ac roedd yn ddig.
John WelBeibl 11:34  Gofynnodd, “Ble dych chi wedi'i gladdu?” “Tyrd i weld, Arglwydd,” medden nhw.
John WelBeibl 11:36  “Edrychwch gymaint roedd yn ei garu e!” meddai'r bobl oedd yno.
John WelBeibl 11:37  Ond roedd rhai yn dweud, “Oni allai hwn, roddodd ei olwg i'r dyn dall yna, gadw Lasarus yn fyw?”
John WelBeibl 11:38  Roedd Iesu'n dal wedi cynhyrfu pan ddaeth at y bedd. (Ogof oedd y bedd, a charreg wedi'i gosod dros geg yr ogof.)
John WelBeibl 11:39  “Symudwch y garreg,” meddai. Ond dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud, “Arglwydd, bydd yn drewi bellach; mae wedi'i gladdu ers pedwar diwrnod.”
John WelBeibl 11:40  Meddai Iesu wrthi, “Wnes i ddim dweud wrthot ti y cei di weld mor wych ydy Duw, dim ond i ti gredu?”
John WelBeibl 11:41  Felly dyma nhw'n symud y garreg. Yna edrychodd Iesu i fyny, a dweud, “Dad, diolch i ti am wrando arna i.
John WelBeibl 11:42  Dw i fy hun yn gwybod dy fod ti'n gwrando arna i bob amser, ond dw i'n dweud hyn er mwyn y bobl sy'n sefyll o gwmpas, iddyn nhw gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.”
John WelBeibl 11:43  Ar ôl dweud hyn, dyma Iesu'n gweiddi'n uchel, “Lasarus, tyrd allan!”
John WelBeibl 11:44  A dyma'r dyn oedd wedi marw'n dod allan. Roedd ei freichiau a'i goesau wedi'u rhwymo gyda stribedi o liain, ac roedd cadach am ei wyneb. “Tynnwch nhw i ffwrdd a'i ollwng yn rhydd,” meddai Iesu.
John WelBeibl 11:45  Felly daeth llawer o bobl Jwdea i gredu ynddo – y bobl oedd yn ymweld â Mair, ac wedi gweld beth wnaeth Iesu.
John WelBeibl 11:46  Ond aeth rhai at y Phariseaid a dweud beth oedd Iesu wedi'i wneud.
John WelBeibl 11:47  A dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid hynny yn galw cyfarfod o'r Sanhedrin Iddewig. “Pam ydyn ni ddim yn gwneud rhywbeth?” medden nhw. “Mae'r dyn yma'n gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol.
John WelBeibl 11:48  Os wnawn ni adael iddo fynd yn ei flaen, bydd pawb yn credu ynddo! Bydd y Rhufeiniaid yn dod ac yn dinistrio’ch teml a'n gwlad ni.”
John WelBeibl 11:49  Ond dyma un ohonyn nhw, Caiaffas, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, yn dweud fel hyn: “Dych chi mor ddwl!
John WelBeibl 11:50  Onid ydy'n well i un person farw dros y bobl nag i'r genedl gyfan gael ei dinistrio?”
John WelBeibl 11:51  (Wnaeth e ddim dweud hyn ohono'i hun. Beth ddigwyddodd oedd ei fod e, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, wedi proffwydo y byddai Iesu'n marw dros y genedl.
John WelBeibl 11:52  A dim dros y genedl Iddewig yn unig, ond hefyd dros holl blant Duw ym mhobman, er mwyn eu casglu nhw at ei gilydd a'u gwneud nhw'n un.)
John WelBeibl 11:53  O'r diwrnod hwnnw ymlaen roedden nhw'n cynllwynio i ladd Iesu.
John WelBeibl 11:54  Felly wnaeth Iesu ddim mynd o gwmpas yn gyhoeddus ymhlith pobl Jwdea ar ôl hynny. Gadawodd yr ardal a mynd i bentref o'r enw Effraim oedd wrth ymyl yr anialwch. Buodd yn aros yno gyda'i ddisgyblion.
John WelBeibl 11:55  Pan oedd y Pasg Iddewig yn agosáu, roedd llawer o bobl yn mynd i Jerwsalem i fynd drwy'r ddefod o ymolchi eu hunain yn seremonïol i baratoi ar gyfer y Pasg ei hun.
John WelBeibl 11:56  Roedden nhw'n edrych am Iesu drwy'r adeg, ac yn sefyllian yng nghwrt y deml a holi ei gilydd, “Beth dych chi'n feddwl? Ddaw e ddim i'r Ŵyl, siawns!”
John WelBeibl 11:57  (Roedd y prif offeiriaid a'r Phariseaid wedi gorchymyn fod unrhyw un oedd yn gwybod lle roedd Iesu i ddweud wrthyn nhw, er mwyn iddo gael ei arestio.)
Chapter 12
John WelBeibl 12:1  Chwe diwrnod cyn Gŵyl y Pasg cyrhaeddodd Iesu Bethania, lle roedd Lasarus yn byw (y dyn wnaeth Iesu ddod ag e'n ôl yn fyw).
John WelBeibl 12:2  Roedd swper wedi'i drefnu i anrhydeddu Iesu. Roedd Martha yn gweini, a Lasarus yn un o'r rhai oedd yn eistedd gydag Iesu wrth y bwrdd.
John WelBeibl 12:3  Daeth Mair i mewn gyda jar hanner litr o nard pur, oedd yn bersawr drud iawn. Tywalltodd y persawr ar draed Iesu ac wedyn sychu ei draed â'i gwallt. Roedd arogl y persawr i'w glywed drwy'r tŷ i gyd.
John WelBeibl 12:4  Ond yna dyma Jwdas Iscariot (y disgybl oedd yn mynd i fradychu Iesu yn nes ymlaen) yn protestio,
John WelBeibl 12:5  “Roedd y persawr yna'n werth ffortiwn! Dylid bod wedi'i werthu, a rhoi'r arian i bobl dlawd!”
John WelBeibl 12:6  (Doedd e ddim wir yn poeni am y tlodion. Beth oedd tu ôl i'w eiriau oedd y ffaith ei fod yn lleidr. Roedd Iesu a'i ddisgyblion yn rhannu un pwrs, a Jwdas oedd yn gyfrifol amdano, ond byddai'n arfer helpu ei hun i'r arian.)
John WelBeibl 12:7  “Gad lonydd iddi,” meddai Iesu. “Mae hi wedi cadw hwn ar gyfer y diwrnod pan fydda i'n cael fy nghladdu.
John WelBeibl 12:8  Bydd pobl dlawd o gwmpas i chi eu helpu nhw bob amser, ond fydda i ddim yma bob amser.”
John WelBeibl 12:9  Roedd tyrfa fawr o bobl Jwdea wedi darganfod fod Iesu yn Bethania. Dyma nhw'n mynd yno, ddim jest i weld Iesu, ond hefyd i weld Lasarus yr un ddaeth Iesu ag e'n ôl yn fyw.
John WelBeibl 12:10  Ond roedd y prif offeiriaid wedi penderfynu fod rhaid cael gwared â Lasarus hefyd,
John WelBeibl 12:11  am fod llawer o bobl Jwdea wedi'u gadael nhw a dod i gredu yn Iesu o'i achos e.
John WelBeibl 12:12  Y diwrnod wedyn clywodd y dyrfa fawr oedd wedi dod i'r Ŵyl fod Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem.
John WelBeibl 12:13  Dyma nhw'n torri canghennau o'r coed palmwydd a mynd allan i'w gyfarfod gan weiddi, “Hosanna! Clod iddo!” “Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi'i fendithio'n fawr!” “Ie, dyma Frenin Israel!”
John WelBeibl 12:14  Eisteddodd Iesu ar gefn asyn, fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd,
John WelBeibl 12:15  “Paid ag ofni, ddinas Jerwsalem. Edrych! dy frenin sy'n dod, ar gefn ebol asen.”
John WelBeibl 12:16  (Doedd y disgyblion ddim wedi deall arwyddocâd hyn i gyd ar y pryd. Dim ond ar ôl i Iesu gael ei anrhydeddu wnaethon nhw sylweddoli fod y pethau yma wedi'u hysgrifennu amdano, a'u bod nhw wedi digwydd iddo.)
John WelBeibl 12:17  Roedd llawer iawn o'r bobl yn y dyrfa wedi gweld Iesu'n galw Lasarus allan o'r bedd a dod ag e'n ôl yn fyw, ac roedden nhw wedi bod yn dweud wrth bawb arall beth ddigwyddodd.
John WelBeibl 12:18  Dyna pam roedd cymaint o bobl wedi mynd allan i'w gyfarfod – roedden nhw wedi clywed am yr arwydd gwyrthiol roedd wedi'i wneud.
John WelBeibl 12:19  Dyma'r Phariseaid yn dweud wrth ei gilydd, “Does dim pwynt! Edrychwch! Mae fel petai'r byd i gyd yn mynd ar ei ôl e!”
John WelBeibl 12:20  Roedd rhai pobl oedd ddim yn Iddewon wedi mynd i addoli yn Jerwsalem adeg Gŵyl y Pasg.
John WelBeibl 12:21  Dyma nhw'n mynd at Philip (oedd yn dod o Bethsaida, Galilea), a gofyn iddo, “Syr, dŷn ni eisiau gweld Iesu.”
John WelBeibl 12:22  Aeth Philip i ddweud wrth Andreas, ac wedyn aeth y ddau ohonyn nhw i ddweud wrth Iesu.
John WelBeibl 12:23  Ymateb Iesu oedd dweud fel yma: “Mae'r amser wedi dod i mi, Mab y Dyn, gael fy anrhydeddu.
John WelBeibl 12:24  Credwch chi fi, os nad ydy hedyn o wenith yn disgyn ar y ddaear a marw, bydd yn aros fel y mae, yn ddim ond un hedyn bach. Ond os bydd yn marw, bydd yn troi yn gnwd o hadau.
John WelBeibl 12:25  Bydd y sawl sy'n meddwl am neb ond fe ei hun yn colli ei fywyd, tra bydd y sawl sy'n rhoi ei hun yn olaf yn y byd yma yn cael bywyd tragwyddol.
John WelBeibl 12:26  Os dych chi am fy ngwasanaethu i rhaid i chi ddilyn yr un llwybr â mi. Byddwch chi'n cael eich hun yn yr un sefyllfa a fi. Y rhai sy'n fy ngwasanaethu i fydd Duw, fy Nhad, yn eu hanrhydeddu.
John WelBeibl 12:27  “Dw i wedi cynhyrfu ar hyn o bryd. Beth alla i ddweud? O Dad, achub fi rhag y profiad ofnadwy sydd i ddod? Na! dyma pam dw i wedi dod.
John WelBeibl 12:28  Dad, dangos di mor wych wyt ti!” A dyma lais o'r nefoedd yn dweud, “Dw i wedi gwneud hynny, a bydda i'n gwneud eto.”
John WelBeibl 12:29  Roedd rhai o'r bobl oedd yno yn meddwl mai sŵn taran oedd, ac eraill yn dweud, “Na, angel oedd yn siarad ag e!”
John WelBeibl 12:30  Ond meddai Iesu, “Er eich mwyn chi daeth y llais, dim er fy mwyn i.
John WelBeibl 12:31  Mae'r amser wedi dod i'r byd gael ei farnu. Bydd Satan, tywysog y byd hwn, yn cael ei daflu allan.
John WelBeibl 12:32  A phan ga i fy nghodi i fyny ar y groes, bydda i'n tynnu pobl o bobman ata i fy hun.”
John WelBeibl 12:33  (Dwedodd hyn er mwyn dangos sut oedd yn mynd i farw.)
John WelBeibl 12:34  “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod y Meseia yn mynd i aros am byth,” meddai'r dyrfa wrtho, “felly am beth wyt ti'n sôn pan wyt ti'n dweud fod rhaid i Fab y Dyn farw? Pwy ydy'r ‛Mab y Dyn‛ yma rwyt ti'n sôn amdano?”
John WelBeibl 12:35  Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Bydd y golau gyda chi am ychydig mwy. Cerddwch yn y golau tra mae gyda chi, rhag i'r tywyllwch gael y llaw uchaf arnoch chi. Dydy'r rhai sy'n cerdded yn y tywyllwch ddim yn gwybod ble maen nhw'n mynd.
John WelBeibl 12:36  Credwch yn y golau tra mae gyda chi, er mwyn i chi ddod yn bobl sy'n olau.” Ar ôl iddo ddweud hyn, dyma Iesu'n mynd i ffwrdd ac yn cadw o'u golwg nhw.
John WelBeibl 12:37  Er bod Iesu wedi gwneud cymaint o arwyddion gwyrthiol o'u blaenau nhw, roedden nhw'n dal i wrthod credu ynddo.
John WelBeibl 12:38  Dyma'n union ddwedodd y proffwyd Eseia fyddai'n digwydd: “Arglwydd, oes rhywun wedi credu ein neges? Oes rhywun wedi gweld mor rymus ydy'r Arglwydd?”
John WelBeibl 12:39  Ac mae Eseia'n dweud mewn man arall pam oedd hi'n amhosib iddyn nhw gredu:
John WelBeibl 12:40  “Mae'r Arglwydd wedi dallu eu llygaid a chaledu eu calonnau; Fel arall, bydden nhw'n gweld a'u llygaid, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i'n eu hiacháu nhw.”
John WelBeibl 12:41  (Dwedodd Eseia y pethau yma am ei fod wedi gweld ysblander dwyfol Iesu. Am Iesu roedd e'n siarad.)
John WelBeibl 12:42  Ac eto roedd nifer o arweinwyr crefyddol, hyd yn oed, wedi dod i gredu ynddo. Ond doedden nhw ddim yn barod i gyfaddef hynny'n agored am eu bod yn ofni'r Phariseaid, a ddim am gael eu diarddel o'r synagog.
John WelBeibl 12:43  Roedd yn well ganddyn nhw gael eu canmol gan bobl na chan Dduw.
John WelBeibl 12:44  Yna dyma Iesu'n cyhoeddi'n uchel, “Mae'r rhai sy'n credu ynof fi yn credu yn Nuw hefyd, yn yr un sydd wedi fy anfon i.
John WelBeibl 12:45  Pan maen nhw yn fy ngweld i maen nhw'n gweld yr un sydd wedi fy anfon i.
John WelBeibl 12:46  Dw i wedi dod fel golau i'r byd, fel bod dim rhaid i'r bobl sy'n credu ynof fi aros yn y tywyllwch.
John WelBeibl 12:47  “Dim fi sy'n condemnio rhywun sydd wedi clywed beth dw i'n ddweud a gwrthod ufuddhau. Dod i achub y byd wnes i, dim dod i gondemnio'r byd.
John WelBeibl 12:48  Ond bydd pawb sy'n fy ngwrthod i ac yn gwrthod derbyn beth dw i'n ddweud yn cael eu barnu – bydd beth ddwedais i yn eu condemnio nhw ar y dydd olaf.
John WelBeibl 12:49  Dw i ddim wedi siarad ar fy liwt fy hun. Y Tad sydd wedi fy anfon i sydd wedi dweud wrtho i beth i'w ddweud, a sut i'w ddweud.
John WelBeibl 12:50  A dw i'n gwybod fod beth mae e'n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol. Felly dw i'n dweud yn union beth mae'r Tad yn ei ddweud wrtho i.”
Chapter 13
John WelBeibl 13:1  Erbyn hyn roedd hi bron yn Ŵyl y Pasg. Roedd Iesu'n gwybod fod yr amser wedi dod iddo adael y byd a mynd at y Tad. Roedd wedi caru y rhai oedd yn perthyn iddo, ac yn awr dangosodd iddyn nhw mor fawr oedd ei gariad.
John WelBeibl 13:2  Roedden nhw wrthi'n bwyta swper. Roedd y diafol eisoes wedi rhoi'r syniad i Jwdas, mab Simon Iscariot, i fradychu Iesu.
John WelBeibl 13:3  Gwyddai Iesu fod y Tad wedi rhoi popeth yn ei ddwylo e. Roedd wedi dod oddi wrth Dduw, ac roedd yn mynd yn ôl at Dduw.
John WelBeibl 13:4  Cododd oddi wrth y bwrdd, tynnu ei fantell allanol, a rhwymo tywel am ei ganol.
John WelBeibl 13:5  Yna tywalltodd ddŵr i fowlen a dechrau golchi traed ei ddisgyblion, a'u sychu gyda'r tywel oedd am ei ganol.
John WelBeibl 13:6  Pan ddaeth tro Simon Pedr, dyma Simon yn dweud, “Arglwydd, ti'n golchi fy nhraed i?”
John WelBeibl 13:7  Atebodd Iesu, “Ti ddim yn deall beth dw i'n wneud ar hyn o bryd, ond byddi'n dod i ddeall yn nes ymlaen.”
John WelBeibl 13:8  Ond meddai Pedr, “Na, byth! chei di ddim golchi fy nhraed i!” “Os ga i ddim dy olchi di,” meddai Iesu, “ti ddim yn perthyn i mi.”
John WelBeibl 13:9  “Os felly, Arglwydd,” meddai Simon Pedr, “golcha fy nwylo a'm pen i hefyd, dim jest fy nhraed i!”
John WelBeibl 13:10  Atebodd Iesu, “Does dim rhaid i rywun sydd wedi cael bath ymolchi eto, dim ond golchi ei draed, am fod gweddill ei gorff yn lân. A dych chi'n lân – pawb ond un ohonoch chi.”
John WelBeibl 13:11  (Roedd yn gwybod pwy oedd yn mynd i'w fradychu; a dyna pam y dwedodd e fod un ohonyn nhw ddim yn lân.)
John WelBeibl 13:12  Ar ôl iddo orffen golchi eu traed nhw, gwisgodd ei fantell eto a mynd yn ôl i'w le. “Ydych chi'n deall beth dw i wedi'i wneud i chi?” meddai.
John WelBeibl 13:13  “Dych chi'n fy ngalw i yn ‛Athro‛ neu'n ‛Arglwydd‛, ac mae hynny'n iawn, am mai dyna ydw i.
John WelBeibl 13:14  Felly, am fy mod i, eich Arglwydd a'ch Athro wedi golchi'ch traed chi, dylech chi olchi traed eich gilydd.
John WelBeibl 13:15  Dw i wedi rhoi esiampl i chi er mwyn i chi wneud yr un peth i'ch gilydd.
John WelBeibl 13:16  Credwch chi fi, dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr, a dydy negesydd ddim yn bwysicach na'r un wnaeth ei anfon e.
John WelBeibl 13:17  Dych chi'n gwybod y pethau yma, ond eu gwneud sy'n dod â bendith.
John WelBeibl 13:18  “Dw i ddim yn siarad amdanoch chi i gyd. Dw i'n nabod y rhai dw i wedi'u dewis yn dda. Ond mae'n rhaid i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ddweud ddod yn wir: ‘Mae'r un fu'n bwyta gyda mi wedi troi yn fy erbyn i.’
John WelBeibl 13:19  Dw i'n dweud nawr, cyn i'r peth ddigwydd, ac wedyn pan fydd yn digwydd byddwch yn credu mai fi ydy e.
John WelBeibl 13:20  Credwch chi fi, mae rhywun sy'n croesawu negesydd sydd wedi'i anfon gen i, yn rhoi croeso i mi. Ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi yn croesawu'r Tad sydd wedi fy anfon i.”
John WelBeibl 13:21  Ar ôl dweud hyn, roedd Iesu'n amlwg wedi cynhyrfu drwyddo. A dwedodd yn gwbl glir, “Credwch chi fi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i.”
John WelBeibl 13:22  Syllodd y disgyblion ar ei gilydd, heb syniad yn y byd am bwy roedd e'n sôn.
John WelBeibl 13:23  Roedd y disgybl oedd Iesu'n ei garu yn eistedd agosaf ato.
John WelBeibl 13:24  Dyma Simon Pedr yn gwneud arwydd i hwnnw ofyn i Iesu pwy oedd yn ei olygu.
John WelBeibl 13:25  Felly pwysodd yn ôl at Iesu, a gofyn iddo, “Arglwydd, am bwy wyt ti'n sôn?”
John WelBeibl 13:26  Atebodd Iesu, “Yr un wna i roi darn o fara iddo wedi'i drochi'n y ddysgl saws.” Yna rhoddodd ddarn o fara yn y saws, a'i basio i Jwdas, mab Simon Iscariot.
John WelBeibl 13:27  Yr eiliad y cymerodd Jwdas y bara, dyma Satan yn mynd i mewn iddo. “Dos ar unwaith,” meddai Iesu wrtho, “Gwna beth rwyt ti'n mynd i'w wneud.”
John WelBeibl 13:28  Ond doedd neb arall wrth y bwrdd yn deall beth oedd Iesu'n ei olygu.
John WelBeibl 13:29  Gan mai Jwdas oedd yn gofalu am y pwrs arian, roedd rhai yn tybio fod Iesu'n dweud wrtho am fynd i brynu beth oedd ei angen ar gyfer dathlu'r Ŵyl, neu i fynd i roi rhodd i bobl dlawd.
John WelBeibl 13:30  Aeth Jwdas allan yn syth ar ôl cymryd y bara. Roedd hi'n nos.
John WelBeibl 13:31  Ar ôl i Jwdas adael dwedodd Iesu, “Mae'n amser i mi, Mab y Dyn, gael fy anrhydeddu, ac i Dduw gael ei anrhydeddu drwy beth fydd yn digwydd i mi.
John WelBeibl 13:32  Os ydy Duw wedi'i anrhydeddu ynof fi, bydd Duw yn fy anrhydeddu i ynddo'i hun, ac yn gwneud hynny ar unwaith.
John WelBeibl 13:33  “Fy mhlant annwyl i, fydda i ddim ond gyda chi am ychydig mwy. Byddwch yn edrych amdana i, ond yn union fel dwedais i wrth yr arweinwyr Iddewig, allwch chi ddim dod i ble dw i'n mynd.
John WelBeibl 13:34  “Dw i'n rhoi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd. Rhaid i chi garu'ch gilydd yn union fel dw i wedi'ch caru chi.
John WelBeibl 13:35  Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi'n ddilynwyr i mi, am eich bod chi'n caru'ch gilydd.”
John WelBeibl 13:36  “Ble rwyt ti'n mynd, Arglwydd?” gofynnodd Simon Pedr iddo. Atebodd Iesu, “Ar hyn o bryd allwch chi ddim dod i ble dw i'n mynd. Ond byddwch yn dod yno yn nes ymlaen.”
John WelBeibl 13:37  “Pam alla i ddim dod rwan?” meddai Pedr, “dw i'n fodlon marw drosot ti!”
John WelBeibl 13:38  Atebodd Iesu, “Wnei di wir farw drosof fi? Cred di fi, cyn i'r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di'n fy nabod i!”
Chapter 14
John WelBeibl 14:1  “Peidiwch cynhyrfu,” meddai Iesu wrth y disgyblion, “Credwch yn Nuw, a chredwch ynof fi hefyd.
John WelBeibl 14:2  Mae digon o le i fyw yn nhŷ fy Nhad; byddwn i wedi dweud wrthoch chi os oedd hi fel arall. Dw i'n mynd yno i baratoi lle ar eich cyfer chi.
John WelBeibl 14:3  Wedyn dw i'n mynd i ddod yn ôl, a bydda i'n mynd â chi yno gyda mi, a chewch aros yno gyda mi.
John WelBeibl 14:5  “Ond Arglwydd,” meddai Tomos, “dŷn ni ddim yn gwybod lle rwyt ti'n mynd, felly sut allwn ni wybod y ffordd yno?”
John WelBeibl 14:6  “Fi ydy'r ffordd,” atebodd Iesu, “yr un gwir a'r bywyd. Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi.
John WelBeibl 14:7  Os dych chi wedi dod i fy nabod i, byddwch yn nabod fy Nhad hefyd. Yn wir, dych chi yn ei nabod e bellach, ac wedi'i weld.”
John WelBeibl 14:8  “Arglwydd,” meddai Philip, “dangos y Tad i ni, a fydd angen dim mwy arnon ni!”
John WelBeibl 14:9  Atebodd Iesu: “Dw i wedi bod gyda chi i gyd ers cymaint o amser! Wyt ti'n dal ddim yn fy nabod i, Philip? Mae pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad. Felly sut alli di ddweud, ‘Dangos y Tad i ni’?
John WelBeibl 14:10  Wyt ti ddim yn credu fy mod i yn y Tad, a bod y Tad ynof fi? Dw i ddim yn dweud pethau ar fy liwt fy hun. Y Tad, sy'n byw ynof fi, sydd ar waith.
John WelBeibl 14:11  Credwch beth dw i'n ddweud – dw i yn y Tad ac mae'r Tad ynof fi. Os ydy fy ngeiriau i ddim yn ddigon, dylech chi o leia gredu o achos y pethau dw i'n eu gwneud.
John WelBeibl 14:12  Credwch chi fi, bydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi yn gwneud yr un pethau ag ydw i wedi bod yn eu gwneud. Yn wir, byddan nhw'n gwneud llawer iawn mwy, am fy mod i yn mynd at y Tad.
John WelBeibl 14:13  Bydda i'n gwneud beth bynnag ofynnwch chi am awdurdod i'w wneud, fel bod y Mab yn anrhydeddu'r Tad.
John WelBeibl 14:14  Cewch ofyn i mi am awdurdod i wneud unrhyw beth, ac fe'i gwnaf.
John WelBeibl 14:15  “Os dych chi'n fy ngharu i, byddwch yn gwneud beth dw i'n ddweud.
John WelBeibl 14:16  Bydda i'n gofyn i'r Tad, a bydd e'n rhoi un arall fydd yn sefyll gyda chi ac yn aros gyda chi am byth –
John WelBeibl 14:17  sef yr Ysbryd sy'n dangos y gwir i chi. Dydy'r byd ddim yn gallu ei dderbyn am fod y byd ddim yn ei weld nac yn ei nabod. Ond dych chi yn ei nabod am ei fod yn sefyll gyda chi ac am ei fod yn mynd i fod ynoch chi.
John WelBeibl 14:18  Wna i ddim eich gadael chi ar eich pennau eich hunain – dw i'n mynd i ddod yn ôl atoch chi.
John WelBeibl 14:19  Cyn hir, fydd y byd ddim yn fy ngweld i eto, ond byddwch chi'n fy ngweld i. Am fy mod i'n mynd i fyw eto, bydd gynnoch chithau fywyd.
John WelBeibl 14:20  Byddwch yn sylweddoli y diwrnod hwnnw fy mod i yn y Tad. A byddwch chi ynof fi a minnau ynoch chi.
John WelBeibl 14:21  Y rhai sy'n derbyn beth dw i'n ddweud ac yn gwneud hynny ydy'r rhai sy'n fy ngharu i. Bydd y Tad yn caru y rhai sy'n fy ngharu i, a bydda i yn eu caru nhw hefyd, ac yn egluro fy hun iddyn nhw.”
John WelBeibl 14:22  “Ond, Arglwydd,” meddai Jwdas (dim Jwdas Iscariot), “Sut dy fod di am ddangos dy hun i ni ond ddim i'r byd?”
John WelBeibl 14:23  Atebodd Iesu, “Bydd y rhai sy'n fy ngharu i yn gwneud beth dw i'n ddweud wrthyn nhw. Bydd fy Nhad yn eu caru nhw, a byddwn ni'n dod atyn nhw i fyw gyda nhw.
John WelBeibl 14:24  Fydd pwy bynnag sydd ddim yn fy ngharu ddim yn gwneud beth dw i'n ddweud. A dim fy neges i fy hun dw i'n ei rhannu, ond neges gan y Tad sydd wedi fy anfon i.
John WelBeibl 14:25  “Dw i wedi dweud y pethau yma tra dw i'n dal gyda chi.
John WelBeibl 14:26  Ond mae un fydd yn sefyll gyda chi, sef yr Ysbryd Glân mae'r Tad yn mynd i'w anfon ar fy rhan. Bydd e'n dysgu popeth i chi ac yn eich atgoffa o bopeth dw i wedi'i ddweud.
John WelBeibl 14:27  Heddwch – dyna dw i'n ei roi yn rhodd i chi; yr heddwch go iawn sydd gen i, a neb arall, i'w roi. Dw i ddim yn rhoi heddwch yn yr un ffordd a'r byd. Peidiwch cynhyrfu, a pheidiwch bod yn llwfr.
John WelBeibl 14:28  “Dych chi wedi nghlywed i'n dweud, ‘Dw i'n mynd i ffwrdd, a dw i'n mynd i ddod yn ôl atoch chi.’ Petaech chi wir yn fy ngharu i, byddech yn falch fy mod i'n mynd at y Tad, achos mae'r Tad yn fwy na fi.
John WelBeibl 14:29  Dw i wedi dweud nawr, cyn i'r peth ddigwydd, er mwyn i chi gredu pan fydd yn digwydd.
John WelBeibl 14:30  Does gen i ddim llawer mwy o amser i siarad â chi, am fod Satan, tywysog y byd hwn, ar ei ffordd. Ond does ganddo ddim awdurdod drosof fi.
John WelBeibl 14:31  Rhaid i'r byd weld fy mod i'n caru'r Tad ac yn gwneud yn union beth mae'r Tad yn ei ddweud. “Dewch, gadewch i ni fynd.”
Chapter 15
John WelBeibl 15:1  “Fi ydy'r winwydden go iawn, a Duw, fy Nhad i, ydy'r garddwr.
John WelBeibl 15:2  Mae'n llifio i ffwrdd unrhyw gangen sydd heb ffrwyth yn tyfu arni. Ond os oes ffrwyth yn tyfu ar gangen, mae'n trin ac yn tocio'r gangen honno'n ofalus er mwyn i fwy o ffrwyth dyfu arni.
John WelBeibl 15:3  Dych chi wedi cael eich trin gan yr hyn dw i wedi'i ddweud wrthoch chi.
John WelBeibl 15:4  Arhoswch ynof fi, ac arhosa i ynoch chi. Fydd ffrwyth ddim yn tyfu ar gangen oni bai ei bod hi'n dal ar y winwydden. All eich bywydau chi ddim bod yn ffrwythlon oni bai eich bod chi wedi'ch cysylltu â mi.
John WelBeibl 15:5  “Fi ydy'r winwydden; chi ydy'r canghennau. Os gwnewch chi aros ynof fi, a minnau ynoch chi, bydd digonedd o ffrwyth yn eich bywydau. Ond allwch chi wneud dim ar wahân i mi.
John WelBeibl 15:6  Os gwnewch chi ddim aros ynof fi, byddwch fel y gangen sy'n cael ei thaflu i ffwrdd ac sy'n gwywo. Mae'r canghennau hynny'n cael eu casglu a'u taflu i'r tân i'w llosgi.
John WelBeibl 15:7  Os arhoswch ynof fi, a dal gafael yn beth ddwedais i, gofynnwch i Dduw am unrhyw beth, a byddwch yn ei gael.
John WelBeibl 15:8  Bydd eich bywydau yn llawn ffrwyth. Bydd hi'n amlwg eich bod yn ddisgyblion i mi, a bydd fy Nhad yn cael ei anrhydeddu.
John WelBeibl 15:9  “Dw i wedi'ch caru chi yn union fel mae'r Tad wedi fy ngharu i. Arhoswch yn fy nghariad i.
John WelBeibl 15:10  Byddwch yn aros yn fy nghariad i drwy wneud beth dw i'n ddweud, fel dw i wedi bod yn ufudd i'm Tad ac wedi aros yn ei gariad e.
John WelBeibl 15:11  Dw i wedi dweud y pethau yma er mwyn i chi rannu fy llawenydd i. Byddwch chi'n wirioneddol hapus!
John WelBeibl 15:12  Dyma dw i'n ei orchymyn: Carwch eich gilydd fel dw i wedi'ch caru chi.
John WelBeibl 15:13  Y cariad mwya all unrhyw un ei ddangos ydy bod yn fodlon marw dros ei ffrindiau.
John WelBeibl 15:14  Dych chi'n amlwg yn ffrindiau i mi os gwnewch chi beth dw i'n ddweud.
John WelBeibl 15:15  Dw i ddim yn eich galw chi'n weision bellach. Dydy meistr ddim yn trafod ei fwriadau gyda'r gweision. Na, ffrindiau i mi ydych chi, achos dw i wedi rhannu gyda chi bopeth mae'r Tad wedi'i ddweud.
John WelBeibl 15:16  Dim chi ddewisodd fi; fi ddewisodd chi, i chi fynd allan a byw bywydau ffrwythlon – hynny ydy, yn llawn o'r ffrwyth sy'n aros. Ac i chi gael beth bynnag ofynnwch chi i'r Tad amdano gyda fy awdurdod i.
John WelBeibl 15:18  Os ydy'r byd yn eich casáu chi, cofiwch bob amser ei fod wedi fy nghasáu i gyntaf.
John WelBeibl 15:19  Tasech chi'n perthyn i'r byd, byddai'r byd yn eich caru chi. Ond dych chi ddim yn perthyn i'r byd, achos dw i wedi'ch dewis chi allan o'r byd, felly mae'r byd yn eich casáu chi.
John WelBeibl 15:20  Cofiwch beth ddwedais i wrthoch chi: ‘Dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr.’ Os ydyn nhw wedi fy erlid i, byddan nhw'n eich erlid chithau hefyd. Os ydyn nhw wedi gwneud beth dw i'n ddweud wrthyn nhw, byddan nhw'n gwneud beth dych chi'n ei ddweud.
John WelBeibl 15:21  Byddan nhw'n eich trin chi felly am eich bod chi'n gweithio i mi. Y gwir ydy, dŷn nhw ddim yn nabod Duw, yr Un sydd wedi fy anfon i.
John WelBeibl 15:22  Petawn i heb ddod a siarad â nhw, fydden nhw ddim yn euog o bechod. Ond bellach, does ganddyn nhw ddim esgus am eu pechod.
John WelBeibl 15:23  Mae pob un sy'n fy nghasáu i yn casáu Duw y Tad hefyd.
John WelBeibl 15:24  Petaen nhw heb fy ngweld i'n gwneud pethau wnaeth neb arall erioed, fydden nhw ddim yn euog o bechod. Ond maen nhw wedi gweld, ac maen nhw wedi fy nghasáu i a'r Tad.
John WelBeibl 15:25  Ond dyna oedd i fod – dyna'n union sydd wedi'i ysgrifennu yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Maen nhw wedi fy nghasáu i am ddim rheswm.’
John WelBeibl 15:26  “Mae'r un fydd yn sefyll gyda chi yn dod. Bydda i'n ei anfon atoch chi. Mae'n dod oddi wrth y Tad – yr Ysbryd sy'n dangos i chi beth sy'n wir. Bydd e'n dweud wrth bawb amdana i.
John WelBeibl 15:27  A byddwch chi'n dweud amdana i hefyd, am eich bod wedi bod gyda mi o'r dechrau.
Chapter 16
John WelBeibl 16:1  “Dw i wedi dweud hyn i gyd wrthoch chi er mwyn i chi beidio troi cefn arna i.
John WelBeibl 16:2  Byddwch chi'n cael eich diarddel o'r synagog. Ac mae'r amser yn dod pan bydd pobl yn meddwl eu bod nhw'n gwneud ffafr i Dduw os gwnân nhw'ch lladd chi.
John WelBeibl 16:3  Byddan nhw'n eich trin chi felly am eu bod nhw ddim wedi nabod y Tad na fi.
John WelBeibl 16:4  Ond dw i wedi dweud hyn i gyd wrthoch chi, felly pan ddaw'r amser hwnnw byddwch chi'n cofio fy mod i wedi'ch rhybuddio chi. Dw i ddim wedi dweud hyn wrthoch chi o'r dechrau am fy mod i wedi bod gyda chi.
John WelBeibl 16:5  “Bellach dw i'n mynd yn ôl at Dduw, yr un anfonodd fi, a does neb ohonoch chi'n gofyn, ‘Ble rwyt ti'n mynd?’
John WelBeibl 16:6  Ond am fy mod wedi dweud hyn, dych chi'n drist i gyd.
John WelBeibl 16:7  Ond credwch chi fi: Mae o fantais i chi mod i'n mynd i ffwrdd. Os gwna i ddim mynd, fydd yr un sy'n sefyll gyda chi ddim yn dod; ond pan af fi, bydda i'n ei anfon atoch chi.
John WelBeibl 16:8  Pan ddaw, bydd yn dangos fod syniadau'r byd o bechod, cyfiawnder a barn yn anghywir:
John WelBeibl 16:10  o gyfiawnder am fy mod i'n mynd at y Tad, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i o hyn ymlaen;
John WelBeibl 16:11  ac o farn am fod Duw eisoes wedi condemnio Satan, tywysog y byd hwn.
John WelBeibl 16:12  “Mae gen i lawer mwy i'w ddweud wrthoch chi, ond mae'n ormod i chi ei gymryd ar hyn o bryd.
John WelBeibl 16:13  Ond pan ddaw e, sef yr Ysbryd sy'n dangos y gwir i chi, bydd yn eich arwain chi i weld y gwir i gyd. Fydd e ddim yn siarad ar ei liwt ei hun – bydd ond yn dweud beth mae'n ei glywed, a bydd yn dweud wrthoch chi beth fydd yn digwydd.
John WelBeibl 16:14  Bydd yn fy anrhydeddu i drwy gymryd beth dw i'n ddweud a'i rannu gyda chi.
John WelBeibl 16:15  Mae popeth sydd gan y Tad yn eiddo i mi hefyd, a dyna pam dw i'n dweud y bydd yr Ysbryd yn cymryd beth dw i'n ddweud a'i rannu gyda chi.
John WelBeibl 16:16  “Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna'n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld i eto.”
John WelBeibl 16:17  Dyma'i ddisgyblion yn gofyn i'w gilydd, “Beth mae'n ei olygu wrth ddweud, ‘Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna'n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld i eto’? A beth mae ‘Am fy mod i'n mynd at y Tad’ yn ei olygu?
John WelBeibl 16:18  Beth ydy ystyr ‘Yn fuan iawn’? Dŷn ni ddim yn deall.”
John WelBeibl 16:19  Roedd Iesu'n gwybod eu bod nhw eisiau gofyn iddo am hyn, felly meddai wrthyn nhw, “Ydych chi'n trafod beth dw i'n ei olygu wrth ddweud, ‘Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna'n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld i eto.’?
John WelBeibl 16:20  Credwch chi fi, Byddwch chi'n galaru ac yn crio tra bydd y byd yn dathlu. Byddwch yn drist go iawn, ond bydd y tristwch yn troi'n llawenydd.
John WelBeibl 16:21  Mae gwraig mewn poen pan mae'n cael babi, ond mae hi mor llawen pan mae ei babi wedi cael ei eni – mae hi'n anghofio'r poen!
John WelBeibl 16:22  Yr un fath gyda chi: Dych chi'n teimlo'n drist ar hyn o bryd. Ond bydda i'n eich gweld chi eto a byddwch yn dathlu, a fydd neb yn gallu dwyn eich llawenydd oddi arnoch chi.
John WelBeibl 16:23  Fydd dim cwestiynau gynnoch chi i'w gofyn y diwrnod hwnnw. Credwch chi fi, bydd fy Nhad yn rhoi i chi beth bynnag ofynnwch i mi am awdurdod i'w wneud.
John WelBeibl 16:24  Dych chi ddim wedi gofyn am awdurdod i wneud dim hyd yn hyn. Gofynnwch a byddwch yn derbyn. Byddwch chi'n wirioneddol hapus!
John WelBeibl 16:25  “Dw i wedi bod yn defnyddio darluniau wrth siarad â chi hyd yn hyn, ond mae'r amser yn dod pan fydd dim angen gwneud hynny. Bydda i'n gallu siarad yn blaen gyda chi am fy Nhad.
John WelBeibl 16:26  Y diwrnod hwnnw byddwch yn gofyn i Dduw am fy awdurdod i. Dim fi fydd yn gofyn i'r Tad ar eich rhan chi.
John WelBeibl 16:27  Na, mae'r Tad ei hun yn eich caru chi am eich bod chi wedi fy ngharu i, ac am eich bod chi wedi credu fy mod wedi dod oddi wrth y Tad.
John WelBeibl 16:28  Dw i wedi dod i'r byd oddi wrth y Tad, a dw i ar fin gadael y byd a mynd yn ôl at y Tad.”
John WelBeibl 16:29  “Nawr rwyt ti'n siarad yn blaen!” meddai'r disgyblion. “Dim darluniau i'w dehongli.
John WelBeibl 16:30  Dŷn ni'n gweld bellach dy fod di'n gwybod pob peth. Does dim rhaid i ti ofyn beth sydd ar feddwl rhywun hyd yn oed. Mae hynny'n ddigon i wneud i ni gredu dy fod di wedi dod oddi wrth Dduw.”
John WelBeibl 16:32  “Mae'r amser yn dod, yn wir mae yma, pan fyddwch chi'n mynd ar chwâl. Bydd pob un ohonoch chi'n mynd adre, a byddwch yn fy ngadael i ar fy mhen fy hun. Ond dw i ddim wir ar fy mhen fy hun, am fod fy Nhad gyda fi.
John WelBeibl 16:33  “Dw i wedi dweud y pethau hyn wrthoch chi, er mwyn i chi gael profi'r heddwch go iawn sydd ynof fi. Dim ond trafferthion gewch chi yn y byd hwn. Ond codwch eich calonnau, dw i wedi concro'r byd.”
Chapter 17
John WelBeibl 17:1  Ar ôl dweud hyn, edrychodd Iesu i fyny i'r nefoedd a dechrau gweddïo: “Dad, mae'r amser iawn wedi dod. Anrhydedda dy Fab, er mwyn i mi, y Mab hwnnw, ddangos dy ysblander di.
John WelBeibl 17:2  Rwyt wedi rhoi awdurdod i mi dros y ddynoliaeth gyfan, i mi roi bywyd tragwyddol i'r rhai roist ti i berthyn i mi.
John WelBeibl 17:3  Dyma beth ydy bywyd tragwyddol: iddyn nhw dy nabod di, yr unig Dduw sy'n bodoli go iawn, a Iesu y Meseia wyt ti wedi'i anfon.
John WelBeibl 17:4  Dw i wedi dy anrhydeddu di ar y ddaear drwy orffen y gwaith roist ti i mi.
John WelBeibl 17:5  Yn awr, Dad, rho i mi eto yr anrhydedd a'r ysblander oedd gen i pan oeddwn gyda ti hyd yn oed cyn i'r byd ddechrau.
John WelBeibl 17:6  “Dw i wedi dangos sut un wyt ti i'r rhai roist ti i mi allan o'r byd. Dy bobl di oedden nhw, a dyma ti'n eu rhoi nhw i mi, ac maen nhw wedi derbyn dy neges di.
John WelBeibl 17:7  Bellach maen nhw'n gwybod mai oddi wrthot ti mae popeth wyt wedi'i roi i mi wedi dod.
John WelBeibl 17:8  Dw i wedi dweud wrthyn nhw beth ddwedaist ti wrtho i, ac maen nhw wedi derbyn y cwbl. Maen nhw'n gwybod go iawn fy mod wedi dod oddi wrthot ti, ac yn credu mai ti sydd wedi fy anfon i.
John WelBeibl 17:9  “Dw i'n gweddïo drostyn nhw. Dw i ddim yn gweddïo dros y byd, ond dros y rhai rwyt ti wedi'u rhoi i berthyn i mi. Dw i'n gweddïo drostyn nhw am mai dy bobl di ydyn nhw.
John WelBeibl 17:10  Dy bobl di ydy pawb sydd gen i, a'm pobl i ydy dy bobl di, a dw i'n cael fy anrhydeddu drwyddyn nhw.
John WelBeibl 17:11  Dw i ddim yn aros yn y byd ddim mwy, ond maen nhw'n dal yn y byd. Dw i'n dod atat ti. Dad Sanctaidd, cadw'r rhai wyt ti wedi'u rhoi i mi yn saff ac yn ffyddlon i ti dy hun, er mwyn iddyn nhw ddod yn un fel dŷn ni'n un.
John WelBeibl 17:12  Tra dw i wedi bod gyda nhw, dw i wedi'u cadw nhw'n saff ac yn ffyddlon i ti. A chafodd dim un ohonyn nhw ei golli ar wahân i'r un oedd ar ei ffordd i ddinistr, er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir.
John WelBeibl 17:13  “Dw i'n dod atat ti nawr, ond dw i'n dweud y pethau yma tra dw i'n dal yn y byd er mwyn iddyn nhw gael bod yn wirioneddol hapus fel fi.
John WelBeibl 17:14  Dw i wedi rhoi dy neges di iddyn nhw ac mae'r byd wedi'u casáu nhw, am eu bod nhw ddim yn perthyn i'r byd fwy na dw i'n perthyn i'r byd.
John WelBeibl 17:15  Dw i ddim yn gweddïo ar i ti eu cymryd nhw allan o'r byd, ond ar i ti eu hamddiffyn nhw rhag yr un drwg.
John WelBeibl 17:16  Dŷn nhw ddim yn perthyn i'r byd fwy na dw i'n perthyn i'r byd.
John WelBeibl 17:17  Cysegra nhw i ti dy hun drwy'r gwirionedd; dy neges di ydy'r gwir.
John WelBeibl 17:18  Dw i yn eu hanfon nhw allan i'r byd yn union fel wnest ti fy anfon i.
John WelBeibl 17:19  Dw i'n cysegru fy hun er eu mwyn nhw, er mwyn iddyn nhw fod wedi'u cysegru drwy'r gwirionedd.
John WelBeibl 17:20  “Nid dim ond drostyn nhw dw i'n gweddïo. Dw i'n gweddïo hefyd dros bawb fydd yn credu ynof fi drwy eu neges nhw;
John WelBeibl 17:21  dw i'n gweddïo y byddan nhw i gyd yn un, Dad, yn union fel rwyt ti a fi yn un. Dw i am iddyn nhw hefyd fod wedi'u huno â ni er mwyn i'r byd gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.
John WelBeibl 17:22  Dw i wedi rhoi iddyn nhw yr ysblander roist ti i mi, er mwyn iddyn nhw fod yn un fel dŷn ni yn un:
John WelBeibl 17:23  Fi ynddyn nhw a ti ynof fi. Dw i am iddyn nhw gael eu dwyn i undod llawn, i'r byd gael gwybod mai ti sydd wedi fy anfon i, a dy fod ti wedi'u caru nhw yn union fel rwyt wedi fy ngharu i.
John WelBeibl 17:24  “Dad, dw i am i'r rhai rwyt ti wedi'u rhoi i mi fod gyda mi ble rydw i, iddyn nhw weld fy ysblander i – yr ysblander roist ti i mi am dy fod di wedi fy ngharu i ers cyn i'r byd gael ei greu.
John WelBeibl 17:25  “Dad Cyfiawn, dydy'r byd ddim yn dy nabod di, ond dw i yn dy nabod, ac mae'r rhain wedi dod i wybod mai ti sydd wedi fy anfon i.
John WelBeibl 17:26  Dw i wedi dangos pwy wyt ti iddyn nhw, a bydda i'n dal ati i wneud hynny, er mwyn iddyn nhw garu eraill fel rwyt ti wedi fy ngharu i, ac i mi fy hun fod ynddyn nhw.”
Chapter 18
John WelBeibl 18:1  Ar ôl gorffen gweddïo, dyma Iesu'n croesi Dyffryn Cidron gyda'i ddisgyblion. Dyma nhw'n dod at ardd olewydd oedd yno ac yn mynd i mewn iddi.
John WelBeibl 18:2  Roedd Jwdas, y bradwr, yn gwybod am y lle, am fod Iesu a'i ddisgyblion wedi cyfarfod yno lawer gwaith.
John WelBeibl 18:3  Felly aeth Jwdas i'r ardd, gyda mintai o filwyr a swyddogion diogelwch wedi'u hanfon gan y prif offeiriaid a'r Phariseaid. Roedden nhw'n cario ffaglau a lanternau ac arfau.
John WelBeibl 18:4  Roedd Iesu'n gwybod yn union beth oedd yn mynd i ddigwydd iddo, felly aeth atyn nhw a gofyn, “Am bwy dych chi'n edrych?”
John WelBeibl 18:5  “Iesu o Nasareth,” medden nhw. “Fi ydy e,” meddai Iesu. (A dyna lle roedd Jwdas, y bradwr, yn sefyll yno gyda nhw!)
John WelBeibl 18:6  Pan ddwedodd Iesu, “Fi ydy e,” dyma nhw'n symud at yn ôl ac yn syrthio ar lawr.
John WelBeibl 18:7  Gofynnodd iddyn nhw eto, “Pwy dych chi eisiau?” A dyma nhw'n dweud, “Iesu o Nasareth.”
John WelBeibl 18:8  “Dw i wedi dweud wrthoch chi mai fi ydy e,” meddai Iesu. “Felly os mai fi ydy'r un dych chi'n edrych amdano, gadewch i'r dynion yma fynd yn rhydd.”
John WelBeibl 18:9  (Er mwyn i beth ddwedodd e'n gynharach ddod yn wir: “Dw i ddim wedi colli neb o'r rhai roist ti i mi.”)
John WelBeibl 18:10  Yna dyma Simon Pedr yn tynnu cleddyf allan ac yn taro gwas yr archoffeiriad, a thorri ei glust dde i ffwrdd. (Malchus oedd enw'r gwas.)
John WelBeibl 18:11  “Cadw dy gleddyf!” meddai Iesu wrtho, “Wyt ti'n meddwl mod i ddim yn barod i ddioddef, ac yfed o'r cwpan chwerw mae'r Tad wedi'i roi i mi?”
John WelBeibl 18:12  Dyma'r fintai o filwyr a'i chapten a swyddogion yr arweinwyr Iddewig yn arestio Iesu a'i rwymo.
John WelBeibl 18:13  Aethon nhw ag e at Annas gyntaf, sef tad-yng-nghyfraith Caiaffas oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno.
John WelBeibl 18:14  (Caiaffas oedd yr un oedd wedi awgrymu i'r arweinwyr Iddewig y byddai'n well i un person farw dros y bobl.)
John WelBeibl 18:15  Dyma Simon Pedr ac un arall o'r disgyblion yn mynd ar ôl Iesu. Roedd yr archoffeiriad yn nabod y disgybl arall hwnnw yn dda, felly cafodd fynd i mewn gyda Iesu i iard tŷ'r archoffeiriad.
John WelBeibl 18:16  Ond roedd rhaid i Pedr aros wrth y drws y tu allan. Yna dyma'r disgybl oedd yr archoffeiriad yn ei nabod, yn mynd yn ôl ac yn perswadio'r ferch oedd yn cadw'r drws i adael Pedr i mewn.
John WelBeibl 18:17  Ond meddai hi wrth Pedr, “Onid wyt ti'n un o ddisgyblion y dyn yna?” Ond dyma Pedr yn ateb, “Nac ydw.”
John WelBeibl 18:18  Roedd hi'n oer, ac roedd y gweithwyr a'r swyddogion diogelwch yn sefyll o gwmpas tân golosg roedden nhw wedi'i gynnau i gadw'n gynnes. Felly dyma Pedr hefyd yn mynd i sefyll gyda nhw i gadw'n gynnes.
John WelBeibl 18:19  Yn y cyfamser, roedd Iesu'n cael ei groesholi gan yr archoffeiriad am beth roedd yn ei ddysgu, ac am ei ddisgyblion.
John WelBeibl 18:20  “Dw i wedi bod yn siarad yn gwbl agored,” meddai Iesu. “Rôn i bob amser yn dysgu yn y synagogau neu yn y deml, lle roedd y bobl yn cwrdd. Doedd gen i ddim cyfrinachau,
John WelBeibl 18:21  felly pam wyt ti'n fy holi i? Hola'r bobl oedd yn gwrando arna i. Maen nhw'n gwybod beth ddwedais i.”
John WelBeibl 18:22  Pan atebodd Iesu felly dyma un o'r swyddogion oedd yno yn ei daro ar draws ei wyneb. “Ai dyna sut wyt ti'n ateb yr archoffeiriad!” meddai.
John WelBeibl 18:23  “Os dwedais i rywbeth o'i le,” meddai Iesu, “dywed wrth bawb beth. Ond os oedd beth ddwedais i yn iawn, pam wnest ti fy nharo i?”
John WelBeibl 18:24  Yna, yn dal wedi'i rwymo, anfonodd Annas e at Caiaffas yr archoffeiriad.
John WelBeibl 18:25  Tra oedd Simon Pedr yn sefyll wrth y tân yn cadw'n gynnes, gofynnwyd iddo eto, “Wyt ti ddim yn un o'i ddisgyblion e?” Ond gwadu wnaeth Pedr, “Nac ydw,” meddai.
John WelBeibl 18:26  Wedyn dyma un o weithwyr yr archoffeiriad yn ei herio (perthynas i'r dyn oedd Pedr wedi torri ei glust i ffwrdd), “Wnes i ddim dy weld di gydag e yn yr ardd?”
John WelBeibl 18:27  Ond gwadu wnaeth Pedr eto, a'r foment honno dyma'r ceiliog yn canu.
John WelBeibl 18:28  Aeth yr arweinwyr Iddewig â Iesu oddi wrth Caiaffas i'r pencadlys Rhufeinig. Erbyn hyn roedd hi'n dechrau gwawrio. Aethon nhw ddim i mewn i'r pencadlys, am eu bod nhw eisiau osgoi torri'r rheolau ynglŷn â glendid seremonïol; roedden nhw eisiau gallu bwyta swper y Pasg.
John WelBeibl 18:29  Felly daeth Peilat allan atyn nhw a gofyn, “Beth ydy'r cyhuddiadau yn erbyn y dyn yma?”
John WelBeibl 18:30  “Fydden ni ddim wedi'i drosglwyddo i ti oni bai ei fod wedi troseddu,” medden nhw.
John WelBeibl 18:31  “Felly cymerwch chi e,” meddai Peilat. “Defnyddiwch eich cyfraith eich hunain i'w farnu.” “Ond does gynnon ni mo'r awdurdod i'w ddedfrydu i farwolaeth,” medden nhw.
John WelBeibl 18:32  (Digwyddodd hyn fel bod yr hyn ddwedodd Iesu am y ffordd roedd yn mynd i farw yn dod yn wir.)
John WelBeibl 18:33  Aeth Peilat yn ôl i mewn i'r palas, a galwodd Iesu i ymddangos o'i flaen a dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?”
John WelBeibl 18:34  “Wyt ti'n gofyn ohonot ti dy hun,” meddai Iesu, “neu ai eraill sydd wedi dweud hyn amdana i?”
John WelBeibl 18:35  “Dw i ddim yn Iddew!” atebodd Peilat. “Dy bobl di a'u prif offeiriaid sydd wedi dy drosglwyddo di i mi. Beth yn union wyt ti wedi'i wneud?”
John WelBeibl 18:36  Atebodd Iesu, “Dydy nheyrnas i ddim yn dod o'r byd yma. Petai hi, byddai fy ngweision wedi ymladd yn galed i'm cadw i rhag cael fy arestio gan yr awdurdodau Iddewig. Mae fy nheyrnas i yn dod o rywle arall.”
John WelBeibl 18:37  “Felly rwyt ti yn frenin!” meddai Peilat. Atebodd Iesu, “Ti sy'n defnyddio'r gair ‛brenin‛. Y rheswm pam ges i fy ngeni, a pham dw i wedi dod i'r byd ydy i dystio i beth sy'n wir go iawn. Mae pawb sydd ar ochr y gwir yn gwrando arna i.”
John WelBeibl 18:38  “Beth ydy gwirionedd?” meddai Peilat. Yna aeth allan at yr arweinwyr Iddewig eto a dweud, “Dw i ddim yn ei gael yn euog o unrhyw drosedd.
John WelBeibl 18:39  Mae'n arferiad i mi ryddhau un carcharor i chi adeg y Pasg. Ydych chi eisiau i mi ryddhau hwn, ‛Brenin yr Iddewon‛?”
John WelBeibl 18:40  “Na!” medden nhw, gan weiddi eto, “Dim hwn. Barabbas dŷn ni eisiau!” (Terfysgwr oedd Barabbas.)
Chapter 19
John WelBeibl 19:1  Felly dyma Peilat yn gorchymyn i Iesu gael ei chwipio.
John WelBeibl 19:2  Dyma'r milwyr yn plethu drain i wneud coron i'w rhoi am ei ben, a gwisgo clogyn porffor amdano.
John WelBeibl 19:3  Yna roedden nhw'n mynd ato drosodd a throsodd, a'i gyfarch gyda'r geiriau, “Eich mawrhydi, Brenin yr Iddewon!”, ac wedyn ei daro ar ei wyneb.
John WelBeibl 19:4  Yna aeth Peilat allan eto a dweud wrth y dyrfa, “Dw i'n dod ag e allan eto, i chi wybod mod i ddim yn ei gael e'n euog o unrhyw drosedd.”
John WelBeibl 19:5  Daeth Iesu allan yn gwisgo'r goron ddrain a'r clogyn porffor, ac meddai Peilat wrthyn nhw, “Edrychwch, dyma'r dyn!”
John WelBeibl 19:6  Y foment y gwelodd y prif offeiriaid a'u swyddogion e, dyma nhw'n dechrau gweiddi, “Croeshoelia fe! Croeshoelia fe!” Ond meddai Peilat, “Cymerwch chi e a'i groeshoelio eich hunain! Lle dw i'n y cwestiwn, mae e'n ddieuog.”
John WelBeibl 19:7  “Mae gynnon ni Gyfraith,” meddai'r arweinwyr Iddewig, “ac yn ôl y Gyfraith honno mae'n rhaid iddo farw, am ei fod wedi galw'i hun yn Fab Duw.”
John WelBeibl 19:8  Pan glywodd Peilat hynny, roedd yn ofni fwy fyth.
John WelBeibl 19:9  Aeth yn ôl i mewn i'r palas a gofyn i Iesu, “O ble wyt ti wedi dod?” Ond roddodd Iesu ddim ateb iddo.
John WelBeibl 19:10  “Wyt ti'n gwrthod siarad â fi?” meddai Peilat. “Wyt ti ddim yn sylweddoli mai fi sydd â'r awdurdod i dy ryddhau di neu dy groeshoelio di?”
John WelBeibl 19:11  Atebodd Iesu, “Fyddai gen ti ddim awdurdod o gwbl drosto i oni bai ei fod wedi'i roi i ti gan Dduw, sydd uwchlaw pawb. Felly mae'r un drosglwyddodd fi i ti'n euog o bechod llawer gwaeth.”
John WelBeibl 19:12  O hynny ymlaen gwnaeth Peilat ei orau i ollwng Iesu yn rhydd. Ond dyma'r arweinwyr Iddewig yn gweiddi eto, “Os gollyngi di'r dyn yna'n rhydd, ti ddim yn gyfaill i Cesar! Mae unrhyw un sy'n hawlio ei fod yn frenin yn gwrthryfela yn erbyn yr ymerawdwr Cesar!”
John WelBeibl 19:13  Pan glywodd Peilat hyn, daeth â Iesu allan eto, ac eisteddodd yn sedd y barnwr yn y lle oedd yn cael ei alw ‛Y Palmant‛ (‛Gabbatha‛ yn Hebraeg).
John WelBeibl 19:14  Roedd hi'r diwrnod paratoi ar gyfer wythnos y Pasg, tua canol dydd. “Dyma fe, eich brenin chi,” meddai Peilat wrth y dyrfa.
John WelBeibl 19:15  Ond dyma nhw'n gweiddi, “I ffwrdd ag e! I ffwrdd ag e! Croeshoelia fe!” “Dych chi am i mi groeshoelio eich brenin chi?” meddai Peilat. “Cesar ydy'n hunig frenin ni!” oedd ateb y prif offeiriaid.
John WelBeibl 19:16  Yn y diwedd dyma Peilat yn gadael iddyn nhw gael eu ffordd, ac yn rhoi Iesu i'w groeshoelio. Felly aeth y milwyr ag Iesu i ffwrdd.
John WelBeibl 19:17  Aeth allan, yn cario'i groes, i'r lle sy'n cael ei alw Lle y Benglog (‛Golgotha‛ yn Hebraeg).
John WelBeibl 19:18  Yno, dyma nhw'n hoelio Iesu ar groes, a dau arall hefyd – un bob ochr iddo, a Iesu yn y canol.
John WelBeibl 19:19  Trefnodd Peilat fod arwydd yn cael ei rwymo ar ei groes, yn dweud: IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON.
John WelBeibl 19:20  Gwelodd llawer o Iddewon yr arwydd yma, am fod y lle y cafodd Iesu ei groeshoelio yn agos i'r ddinas. Roedd yr arwydd mewn tair iaith – Hebraeg, Lladin a Groeg.
John WelBeibl 19:21  Aeth y prif offeiriaid at Peilat i gwyno, “Ddylet ti ddim ysgrifennu, ‛Brenin yr Iddewon‛, ond yn hytrach fod y dyn yna'n hawlio mai fe oedd Brenin yr Iddewon.”
John WelBeibl 19:22  Atebodd Peilat, “Dw i wedi'i ysgrifennu, a dyna ddiwedd ar y mater.”
John WelBeibl 19:23  Pan wnaeth y milwyr groeshoelio Iesu, dyma nhw'n cymryd ei ddillad a'u rhannu rhwng y pedwar ohonyn nhw. Ond roedd ei grys yn un darn o frethyn o'r top i'r gwaelod.
John WelBeibl 19:24  Felly dyma nhw'n dweud, “Ddylen ni ddim rhwygo hwn. Gadewch i ni gamblo amdano.” Digwyddodd hyn er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir, “Maen nhw wedi rhannu fy nillad rhyngddyn nhw, a gamblo am fy nghrys.” Dyna'n union wnaeth y milwyr!
John WelBeibl 19:25  Roedd mam Iesu yn sefyll wrth ymyl ei groes, a'i fodryb hefyd, a Mair gwraig Clopas a Mair Magdalen.
John WelBeibl 19:26  Pan welodd Iesu ei fam yn sefyll yno, a'r disgybl oedd Iesu'n ei garu yn sefyll gyda hi, meddai wrth ei fam, “Mam annwyl, cymer e fel mab i ti,”
John WelBeibl 19:27  ac wrth y disgybl, “Gofala amdani hi fel petai'n fam i ti.” Felly o hynny ymlaen aeth mam Iesu i fyw gyda'r disgybl hwnnw.
John WelBeibl 19:28  Roedd Iesu'n gwybod ei fod wedi gwneud popeth roedd gofyn iddo'i wneud. “Dw i'n sychedig,” meddai, gan gyflawni beth oedd yr ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud.
John WelBeibl 19:29  Roedd jwg o win sur rhad wrth ymyl, felly dyma nhw'n trochi ysbwng yn y gwin a'i rwymo ar goesyn isop i'w godi i fyny at wefusau Iesu.
John WelBeibl 19:30  Ar ôl cael diod, dyma Iesu'n dweud, “Mae'r cwbl wedi'i wneud.” Yna plygodd ei ben a marw.
John WelBeibl 19:31  Gan ei bod yn ddiwrnod paratoi ar gyfer wythnos y Pasg, a'r Saboth hwnnw'n ddiwrnod arbennig iawn, dyma'r arweinwyr Iddewig yn mynd i weld Peilat. Doedd ganddyn nhw ddim eisiau i'r cyrff gael eu gadael yn hongian ar y croesau dros y Saboth. Dyma nhw'n gofyn i Peilat ellid torri coesau Iesu a'r ddau leidr iddyn nhw farw'n gynt, ac wedyn gallai'r cyrff gael eu cymryd i lawr.
John WelBeibl 19:32  Felly dyma'r milwyr yn dod ac yn torri coesau'r ddau ddyn oedd wedi'u croeshoelio gyda Iesu.
John WelBeibl 19:33  Ond pan ddaethon nhw at Iesu gwelon nhw ei fod wedi marw'n barod. Yn lle torri ei goesau,
John WelBeibl 19:34  dyma un o'r milwyr yn trywanu Iesu yn ei ochr gyda gwaywffon, a dyma ddŵr a gwaed yn llifo allan.
John WelBeibl 19:35  Dw i'n dweud beth welais i â'm llygaid fy hun, ac mae beth dw i'n ddweud yn wir. Mae'r cwbl yn wir, a dw i'n rhannu beth welais i er mwyn i chi gredu.
John WelBeibl 19:36  Digwyddodd y pethau hynny er mwyn i beth sydd yn yr ysgrifau sanctaidd ddod yn wir: “Fydd dim un o'i esgyrn yn cael ei dorri,”
John WelBeibl 19:37  ac fel mae'n dweud yn rhywle arall, “Byddan nhw'n edrych ar yr un maen nhw wedi'i drywanu.”
John WelBeibl 19:38  Wedyn, dyma Joseff o Arimathea yn mynd at Peilat i ofyn am ganiatâd i gymryd corff Iesu. (Roedd Joseff yn un o ddilynwyr Iesu, ond yn cadw'n ddistaw am y peth am fod ganddo ofn yr arweinwyr Iddewig.) Cafodd ganiatâd Peilat, a daeth a chymryd y corff.
John WelBeibl 19:39  Roedd Nicodemus gydag e hefyd, sef y dyn oedd wedi mynd i weld Iesu ganol nos. Daeth Nicodemus a tua 34 cilogram o fyrr ac aloes,
John WelBeibl 19:40  i'w ddefnyddio wrth rwymo corff Iesu gyda stribedi o liain. Dyma sut roedd yr Iddewon yn arfer claddu pobl.
John WelBeibl 19:41  Roedd gardd wrth ymyl y man lle cafodd Iesu ei groeshoelio, ac roedd bedd newydd yn yr ardd – doedd neb erioed wedi'i gladdu ynddo o'r blaen.
John WelBeibl 19:42  Am ei bod hi'n bnawn Gwener (y diwrnod cyn y dydd Saboth Iddewig), ac am fod y bedd mor agos, dyma nhw'n rhoi Iesu i orwedd yno.
Chapter 20
John WelBeibl 20:1  Yn gynnar iawn ar y bore Sul, a hithau'n dal yn dywyll, dyma Mair Magdalen yn mynd at y bedd a darganfod fod y garreg fawr oedd ar geg y bedd wedi'i symud.
John WelBeibl 20:2  Felly dyma hi'n rhedeg at Simon Pedr a'r disgybl arall (yr un oedd Iesu'n ei garu), a dweud wrthyn nhw, “Maen nhw wedi cymryd yr Arglwydd allan o'r bedd, a dŷn ni ddim yn gwybod ble maen nhw wedi'i roi e!”
John WelBeibl 20:3  Felly dyma Pedr a'r disgybl arall yn mynd allan i fynd at y bedd.
John WelBeibl 20:4  Rhedodd y ddau gyda'i gilydd, ond dyma'r disgybl arall yn rhedeg yn gynt na Pedr a chyrraedd yno o'i flaen.
John WelBeibl 20:5  Plygodd i edrych i mewn i'r bedd, a gweld y stribedi o liain yn gorwedd yno, ond aeth e ddim i mewn.
John WelBeibl 20:6  Yna dyma Simon Pedr yn cyrraedd ar ei ôl ac yn mynd yn syth i mewn i'r bedd. Gwelodd yntau'r stribedi o liain yn gorwedd yno.
John WelBeibl 20:7  Gwelodd hefyd y cadach oedd wedi bod am wyneb Iesu, ond roedd hwnnw wedi'i blygu a'i osod o'r neilltu ar wahân i'r stribedi lliain.
John WelBeibl 20:8  Yna, yn y diwedd, dyma'r disgybl arall (oedd wedi cyrraedd y bedd gyntaf) yn mynd i mewn hefyd. Pan welodd e'r cwbl, credodd.
John WelBeibl 20:9  (Doedden nhw ddim eto wedi deall fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud fod rhaid i Iesu ddod yn ôl yn fyw.)
John WelBeibl 20:11  ond safodd Mair wrth ymyl y bedd yn crio. Plygodd i lawr i edrych i mewn i'r bedd
John WelBeibl 20:12  a gweld dau angel mewn dillad gwyn yn eistedd lle roedd corff Iesu wedi cael ei roi i orwedd – un wrth y pen a'r llall wrth y traed.
John WelBeibl 20:13  Dyma nhw'n gofyn i Mair, “Wraig annwyl, pam wyt ti'n crio?” “Maen nhw wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd,” atebodd, “a dw i ddim yn gwybod ble maen nhw wedi mynd ag e”
John WelBeibl 20:14  Dyna pryd y trodd hi rownd a gweld rhywun yn sefyll yno. Iesu oedd yno, ond doedd hi ddim yn sylweddoli mai Iesu oedd e.
John WelBeibl 20:15  “Wraig annwyl,” meddai Iesu wrthi, “pam wyt ti'n crio? Am bwy rwyt ti'n chwilio?” Roedd hi'n meddwl mai'r garddwr oedd e, a dwedodd, “Syr, os mai ti sydd wedi'i symud, dywed lle rwyt ti wedi'i roi e, a bydda i'n mynd i'w nôl e.”
John WelBeibl 20:16  Yna dyma Iesu'n dweud, “Mair.” Trodd ato, ac meddai yn Hebraeg, “Rabbwni!” (sy'n golygu ‛Athro‛).
John WelBeibl 20:17  Dyma Iesu'n dweud wrthi, “Paid dal gafael ynof fi. Dw i ddim yn mynd i fyny at y Tad eto. Dos at fy mrodyr i a dweud wrthyn nhw, ‘Dw i'n mynd at fy Nhad a'm Duw, eich Tad a'ch Duw chi hefyd.’”
John WelBeibl 20:18  Yna aeth Mair Magdalen at y disgyblion a dweud: “Dw i wedi gweld yr Arglwydd!” A dwedodd wrthyn nhw beth oedd e wedi'i ddweud wrthi.
John WelBeibl 20:19  Y noson honno, sef nos Sul, roedd y disgyblion gyda'i gilydd. Er bod y drysau wedi'u cloi am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig, dyma Iesu'n dod i mewn a sefyll yn y canol. “Shalôm!” meddai wrthyn nhw.
John WelBeibl 20:20  Yna dangosodd ei ddwylo a'i ochr iddyn nhw. Roedd y disgyblion mor hapus pan welon nhw'r Arglwydd.
John WelBeibl 20:21  Yna dwedodd Iesu eto, “Shalôm! Yn union fel anfonodd y Tad fi, dw i hefyd yn eich anfon chi.”
John WelBeibl 20:22  Wedyn chwythodd arnyn nhw, a dweud, “Derbyniwch yr Ysbryd Glân.
John WelBeibl 20:23  Os gwnewch chi faddau pechodau rhywun, bydd y pechodau hynny yn cael eu maddau; ond os fyddwch chi ddim yn maddau iddyn nhw, fyddan nhw ddim yn cael maddeuant.”
John WelBeibl 20:24  Doedd Tomos ddim yno pan wnaeth Iesu ymddangos, (Tomos oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛ – un o'r deuddeg disgybl).
John WelBeibl 20:25  Dyma'r lleill yn dweud wrtho, “Dŷn ni wedi gweld yr Arglwydd!” Ond ei ymateb oedd, “Nes i mi gael gweld ôl yr hoelion yn ei arddyrnau, a rhoi fy mys yn y briwiau hynny a rhoi fy llaw i mewn yn ei ochr, wna i byth gredu'r peth!”
John WelBeibl 20:26  Wythnos yn ddiweddarach roedd y disgyblion yn y tŷ eto, a'r tro hwn roedd Tomos yno gyda nhw. Er bod y drysau wedi'u cloi, daeth Iesu i mewn a sefyll yn y canol a dweud, “Shalôm!”
John WelBeibl 20:27  Trodd at Tomos a dweud, “Edrych ar fy arddyrnau; rho dy fys i mewn ynddyn nhw. Estyn dy law i'w rhoi yn fy ochr i. Stopia amau! Creda!”
John WelBeibl 20:28  A dyma Tomos yn dweud, “Fy Arglwydd a'm Duw!”
John WelBeibl 20:29  “Ti wedi dod i gredu am dy fod wedi fy ngweld i,” meddai Iesu wrtho. “Mae'r rhai fydd yn credu heb weld yn mynd i gael eu bendithio'n fawr.”
John WelBeibl 20:30  Gwelodd y disgyblion Iesu yn gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol eraill, ond dw i ddim wedi ysgrifennu amdanyn nhw yma.
John WelBeibl 20:31  Ond mae'r cwbl sydd yma wedi'i ysgrifennu er mwyn i chi gredu mai Iesu ydy'r Meseia, mab Duw. Pan fyddwch chi'n credu byddwch chi'n cael bywyd drwy ei awdurdod e.
Chapter 21
John WelBeibl 21:1  Dyma Iesu'n ymddangos eto i'w ddisgyblion wrth Lyn Tiberias.
John WelBeibl 21:2  Dyma beth ddigwyddodd: Roedd criw ohonyn nhw gyda'i gilydd – Simon Pedr, Tomos (oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛), Nathanael o Cana Galilea, meibion Sebedeus, a dau ddisgybl arall.
John WelBeibl 21:3  “Dw i'n mynd i bysgota,” meddai Simon Pedr wrth y lleill. A dyma nhw'n ateb, “Dŷn ni am ddod hefyd.” Felly aethon nhw allan mewn cwch, ond wnaethon nhw ddal dim drwy'r nos.
John WelBeibl 21:4  Pan oedd hi yn dechrau gwawrio dyma Iesu'n sefyll ar lan y llyn, ond doedd y disgyblion ddim yn gwybod mai Iesu oedd yno.
John WelBeibl 21:5  Galwodd arnyn nhw, “Oes gynnoch chi bysgod ffrindiau?” “Nac oes,” medden nhw.
John WelBeibl 21:6  Yna dwedodd Iesu, “Taflwch y rhwyd ar ochr dde'r cwch, a byddwch yn dal rhai.” Dyma nhw'n gwneud hynny, a chafodd cymaint o bysgod eu dal nes eu bod nhw'n methu tynnu'r rhwyd yn ôl i'r cwch.
John WelBeibl 21:7  Dyma'r disgybl roedd Iesu'n ei garu yn dweud wrth Pedr, “Yr Arglwydd ydy e!” A dyma Simon Pedr yn rhwymo dilledyn am ei ganol (doedd ganddo ddim byd amdano), yna neidio i'r dŵr.
John WelBeibl 21:8  Daeth y disgyblion eraill ar ei ôl yn y cwch, gan lusgo'r rhwyd oedd yn llawn o bysgod ar eu holau. (Doedden nhw ond ryw 90 metr o'r lan.)
John WelBeibl 21:9  Ar y lan roedd tân golosg a physgod yn coginio arno, ac ychydig fara.
John WelBeibl 21:10  “Dewch â rhai o'r pysgod dych chi newydd eu dal,” meddai Iesu wrthyn nhw.
John WelBeibl 21:11  Felly dyma Simon Pedr yn mynd i mewn i'r cwch a llusgo'r rhwyd i'r lan. Roedd hi'n llawn o bysgod mawr, 153 ohonyn nhw, ond er hynny wnaeth y rhwyd ddim rhwygo.
John WelBeibl 21:12  “Dewch i gael brecwast,” meddai Iesu. Doedd dim un o'r disgyblion yn meiddio gofyn iddo, “Pwy wyt ti?” – roedden nhw'n gwybod yn iawn mai'r Meistr oedd e.
John WelBeibl 21:13  Yna dyma Iesu'n cymryd y bara a'i roi iddyn nhw, a gwneud yr un peth gyda'r pysgod.
John WelBeibl 21:14  Dyma'r trydydd tro i Iesu adael i'w ddisgyblion ei weld ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw.
John WelBeibl 21:15  Pan oedden nhw wedi gorffen bwyta, dyma Iesu'n troi at Simon Pedr a dweud, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i fwy na'r rhain?” “Ydw, Arglwydd,” atebodd, “rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.” Dwedodd Iesu wrtho, “Gofala am fy ŵyn.”
John WelBeibl 21:16  Yna gofynnodd Iesu eto, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i?” Dwedodd eto, “Ydw, Arglwydd, rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.” Meddai Iesu, “Arwain fy nefaid.”
John WelBeibl 21:17  Yna gofynnodd Iesu iddo'r drydedd waith, “Simon fab Ioan, wyt ti'n fy ngharu i?” Roedd Pedr yn ddigalon fod Iesu wedi gofyn eto'r drydedd waith, “Wyt ti'n fy ngharu i?” “Arglwydd,” meddai, “rwyt ti'n gwybod pob peth; rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.” Yna dwedodd Iesu, “Gofala am fy nefaid.
John WelBeibl 21:18  Cred di fi, pan oeddet ti'n ifanc roeddet yn gwisgo ac yn mynd i ble bynnag oeddet ti eisiau; ond pan fyddi'n hen byddi'n estyn allan dy freichiau, a bydd rhywun arall yn dy rwymo di ac yn dy arwain i rywle ti ddim eisiau mynd.”
John WelBeibl 21:19  (Dwedodd Iesu hyn i ddangos sut fyddai Pedr yn marw i anrhydeddu Duw.) Yna dyma Iesu'n dweud wrtho, “Dilyn fi.”
John WelBeibl 21:20  Dyma Pedr yn troi a gweld y disgybl roedd Iesu yn ei garu yn eu dilyn nhw. (Yr un oedd wedi pwyso'n ôl at Iesu yn y swper a gofyn, “Arglwydd, pwy sy'n mynd i dy fradychu di?”)
John WelBeibl 21:21  Pan welodd Pedr e, gofynnodd i Iesu, “Arglwydd, beth fydd yn digwydd iddo fe?”
John WelBeibl 21:22  Atebodd Iesu, “Petawn i am iddo aros yn fyw nes i mi ddod yn ôl, beth ydy hynny i ti? Dilyn di fi.”
John WelBeibl 21:23  A dyna pam aeth y stori ar led ymhlith y credinwyr fod y disgybl hwnnw ddim yn mynd i farw. Ond dim dweud nad oedd e'n mynd i farw wnaeth Iesu; dim ond dweud, “Petawn i am iddo aros yn fyw nes i mi ddod yn ôl, beth ydy hynny i ti?”
John WelBeibl 21:24  Fi ydy'r disgybl hwnnw – yr un welodd hyn i gyd ac sydd wedi ysgrifennu am y cwbl. Ac mae popeth dw i'n ei ddweud yn wir.
John WelBeibl 21:25  Gwnaeth Iesu lawer o bethau eraill hefyd. Petaen nhw i gyd yn cael eu cofnodi, dw i ddim yn meddwl y byddai'r byd i gyd yn gallu dal yr holl lyfrau fyddai'n cael eu hysgrifennu!