Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LEVITICUS
Up
Chapter 1
Levi WelBeibl 1:1  Dyma'r ARGLWYDD yn galw Moses ac yn siarad ag e o'r Tabernacl.
Levi WelBeibl 1:2  “Dwed wrth bobl Israel: Pan mae rhywun yn dod ag offrwm i'r ARGLWYDD, dylai fod o'r gyr o wartheg neu o'r praidd o ddefaid a geifr.
Levi WelBeibl 1:3  “Os ydy'r offrwm sydd i'w losgi yn dod o'r gyr o wartheg, dylai fod yn anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno. Rhaid ei gyflwyno wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw iddo gael ei dderbyn gan yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 1:4  Wedyn rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail sydd i'w losgi. Bydd yr anifail yn cael ei dderbyn gan Dduw fel ffordd o wneud pethau'n iawn rhwng yr addolwr a Duw.
Levi WelBeibl 1:5  Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn lladd yr anifail o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn cyflwyno'r gwaed i Dduw ac yn ei sblasio o gwmpas yr allor sydd o flaen y fynedfa i'r Tabernacl.
Levi WelBeibl 1:6  Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn blingo'r anifail a'i dorri yn ddarnau.
Levi WelBeibl 1:7  Bydd yr offeiriaid yn rhoi tân ar yr allor ac yn gosod coed ar y tân.
Levi WelBeibl 1:8  Wedyn byddan nhw'n gosod y pen a'r braster a'r darnau eraill mewn trefn ar y tân.
Levi WelBeibl 1:9  Bydd y person sy'n cyflwyno'r anifail yn golchi'r coluddion a'r coesau ôl. A bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 1:10  “Os anifail o'r praidd ydy'r offrwm sydd i'w losgi, dylai fod yn hwrdd neu'n fwch gafr – anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno.
Levi WelBeibl 1:11  Mae i gael ei ladd ar ochr ogleddol yr allor o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.
Levi WelBeibl 1:12  Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn torri'r anifail yn ddarnau. Bydd yr offeiriad yn gosod y darnau, y pen a'r braster mewn trefn ar y tân sydd ar yr allor.
Levi WelBeibl 1:13  Wedyn bydd y person sy'n cyflwyno'r anifail yn golchi'r coluddion a'r coesau ôl â dŵr. A bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 1:14  “Os aderyn ydy'r offrwm sy'n cael ei losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, rhaid iddo fod yn durtur neu'n golomen ifanc.
Levi WelBeibl 1:15  Bydd offeiriad yn mynd â'r aderyn at yr allor bres. Yno bydd yn troi'r gwddf i dorri pen yr aderyn i ffwrdd, ac yn llosgi'r pen. Wedyn bydd yn gwasgu gwaed yr aderyn ar un ochr i'r allor.
Levi WelBeibl 1:16  Yna bydd yr offeiriad yn tynnu allan grombil yr aderyn a'i gynnwys, ac yn eu taflu ar y twr lludw ar ochr ddwyreiniol yr allor.
Levi WelBeibl 1:17  Ac wedyn gafael yn adenydd yr aderyn, a dechrau ei rwygo ond peidio ei dorri'n ddau. Wedyn llosgi'r cwbl ohono yn y tân ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Chapter 2
Levi WelBeibl 2:1  “Pan mae rhywun yn dod ag offrwm o rawn i'r ARGLWYDD, dylai ddefnyddio'r blawd gwenith gorau. Dylai dywallt olew olewydd arno ac wedyn rhoi thus arno.
Levi WelBeibl 2:2  Wedyn mynd ag e at yr offeiriaid, disgynyddion Aaron. Bydd un ohonyn nhw yn cymryd llond llaw o'r blawd gwenith a'r olew, a'r thus i gyd, ac yn llosgi hwnnw fel ernes ar yr allor. Mae'n rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 2:3  Mae'r offeiriaid, sef Aaron a'i ddisgynyddion, i gael y gweddill. Mae'n gysegredig am ei fod yn rhan o'r offrwm gafodd ei losgi i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 2:4  “Pan dych chi'n cyflwyno offrwm o fara wedi'i bobi mewn popty pridd, defnyddiwch y blawd gwenith gorau. Dylai'r blawd gael ei gymysgu gydag olew olewydd i wneud bara heb furum ynddo neu fisgedi tenau wedi'u brwsio gyda'r olew.
Levi WelBeibl 2:5  “Os ydy'r offrwm yn cael ei grasu ar radell, rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew olewydd a dim burum.
Levi WelBeibl 2:6  Wedyn ei dorri'n ddarnau a thywallt mwy o olew arno. Mae hwn hefyd yn offrwm o rawn.
Levi WelBeibl 2:7  “Os ydy'r offrwm yn cael ei baratoi mewn padell, rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau wedi'i goginio mewn olew olewydd.
Levi WelBeibl 2:8  Gallwch ddod ag offrwm grawn i'r ARGLWYDD os ydy e wedi'i baratoi gyda'r cynhwysion yma. Rhowch e i'r offeiriad, a bydd e'n mynd ag e at yr allor.
Levi WelBeibl 2:9  Bydd yr offeiriad yn cymryd peth ohono i'w losgi'n ernes ar yr allor – yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 2:10  Mae'r offeiriaid, Aaron a'i ddisgynyddion, i gael y gweddill. Mae'n gysegredig am ei fod yn rhan o'r offrwm gafodd ei losgi i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 2:11  “Does dim burum i gael ei ddefnyddio yn unrhyw offrwm o rawn sy'n cael ei gyflwyno i'r ARGLWYDD. Dydy burum na mêl ddim i gael eu defnyddio mewn offrwm sydd i gael ei losgi i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 2:12  Gallwch eu rhoi nhw fel offrwm o ffrwythau cyntaf y cynhaeaf i'r ARGLWYDD, ond ddylen nhw byth gael eu llosgi ar yr allor.
Levi WelBeibl 2:13  “Mae halen yn cael ei ddefnyddio fel arwydd o ymrwymiad rhyngot ti a Duw. Felly paid anghofio rhoi halen ar dy offrwm o rawn. Rho halen ar bob offrwm rwyt ti'n ei gyflwyno i Dduw.
Levi WelBeibl 2:14  “Os wyt ti'n dod ag offrwm o rawn cyntaf y cynhaeaf i'r ARGLWYDD, defnyddia rawn aeddfed meddal wedi'i rostio neu ei falu'n flawd.
Levi WelBeibl 2:15  Ychwanega olew olewydd ato, a rho thus arno – offrwm o rawn ydy e.
Levi WelBeibl 2:16  Wedyn mae'r offeiriad i losgi peth ohono fel ernes – y grawn wedi'i wasgu, yr olew a'r thus. Offrwm i gael ei losgi i'r ARGLWYDD ydy e.
Chapter 3
Levi WelBeibl 3:1  “Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, os anifail o'r gyr o wartheg ydy e, gall fod yn wryw neu'n fenyw, ond rhaid iddo fod heb ddim byd o'i le arno.
Levi WelBeibl 3:2  Rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail ac yna ei ladd o flaen y fynedfa i'r Tabernacl. Wedyn bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.
Levi WelBeibl 3:3  Yna bydd y person sy'n cyflwyno'r offrwm yn rhoi'r darnau yma yn rhodd i'r ARGLWYDD: y braster sydd o gwmpas perfeddion yr anifail ac ar yr organau gwahanol,
Levi WelBeibl 3:4  y ddwy aren a'r braster sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.
Levi WelBeibl 3:5  Bydd yr offeiriaid yn llosgi'r rhain ar yr allor gyda'r offrwm sy'n cael ei losgi'n llwyr – yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 3:6  “Os mai anifail o'r praidd o ddefaid a geifr sy'n cael ei offrymu i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, gall fod yn wryw neu'n fenyw, ond rhaid iddo fod heb ddim byd o'i le arno.
Levi WelBeibl 3:7  Os mai oen ydy'r offrwm, rhaid ei gyflwyno i'r ARGLWYDD o flaen y fynedfa i'r Tabernacl.
Levi WelBeibl 3:8  Rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail, ac yna ei ladd o flaen y fynedfa. Wedyn bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.
Levi WelBeibl 3:9  Yna bydd y person sy'n ei gyflwyno yn rhoi'r braster yn offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD: y braster ar y gynffon lydan (sydd i gael ei thorri wrth yr asgwrn cefn), y braster o gwmpas perfeddion yr anifail, y braster ar yr organau gwahanol,
Levi WelBeibl 3:10  y ddwy aren a'r braster sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.
Levi WelBeibl 3:11  Wedyn bydd offeiriad yn llosgi'r rhain ar yr allor. Dyma'r rhan o'r offrwm bwyd sy'n cael ei losgi i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 3:12  “Os mai bwch gafr sy'n cael ei offrymu, rhaid ei gyflwyno i'r ARGLWYDD
Levi WelBeibl 3:13  o flaen y fynedfa i'r Tabernacl. Rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail, ac yna ei ladd yno. Wedyn bydd offeiriad yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.
Levi WelBeibl 3:14  Yna rhaid iddo gyflwyno'r canlynol yn rhodd i'r ARGLWYDD: Y braster o gwmpas perfeddion yr anifail a'r braster ar yr organau gwahanol,
Levi WelBeibl 3:15  y ddwy aren a'r braster sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.
Levi WelBeibl 3:16  Wedyn bydd offeiriad yn llosgi'r rhain ar yr allor, yn offrwm bwyd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Yr ARGLWYDD piau'r braster i gyd.
Levi WelBeibl 3:17  Fydd y rheol yma byth yn newid, ble bynnag fyddwch chi'n byw: Peidiwch byth â bwyta unrhyw fraster na gwaed.”
Chapter 4
Levi WelBeibl 4:2  “Dwed wrth bobl Israel: Dyma sydd i ddigwydd pan mae rhywun yn pechu'n ddamweiniol (drwy wneud rhywbeth mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthoch chi am beidio'i wneud):
Levi WelBeibl 4:3  “Os ydy'r archoffeiriad wedi pechu, mae'n effeithio ar bawb. Mae'n gwneud pawb yn euog. Felly rhaid iddo gyflwyno tarw ifanc sydd â dim byd o'i le arno yn offrwm puro i'w lanhau o'i bechod.
Levi WelBeibl 4:4  Rhaid iddo fynd â'r tarw o flaen yr ARGLWYDD, at y fynedfa i'r Tabernacl. Wedyn gosod ei law ar ben yr anifail cyn ei ladd yno.
Levi WelBeibl 4:5  Yna bydd rhaid i'r archoffeiriad gymryd peth o waed y tarw i mewn i'r Tabernacl.
Levi WelBeibl 4:6  Bydd yn rhoi ei fys yn y gwaed ac yn taenellu peth ohono saith gwaith i gyfeiriad y llen o flaen y cysegr.
Levi WelBeibl 4:7  Wedyn bydd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth sydd yno o flaen yr ARGLWYDD. A bydd yn mynd â gweddill y gwaed a'i dywallt wrth droed yr allor i losgi offrymau sydd y tu allan i'r fynedfa i'r Tabernacl.
Levi WelBeibl 4:8  “Yna bydd yr archoffeiriad yn cymryd braster yr anifail i gyd: y braster sydd o gwmpas perfeddion yr anifail ac ar yr organau gwahanol,
Levi WelBeibl 4:9  y ddwy aren a'r braster sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.
Levi WelBeibl 4:10  (Mae hyn yn union yr un fath â beth sy'n cael ei wneud i fustach yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.) Rhaid i'r archoffeiriad losgi'r braster yma i gyd ar yr allor i losgi offrymau.
Levi WelBeibl 4:11  Ond mae i fynd â gweddill y tarw y tu allan i'r gwersyll – y croen, y cig, ei ben a'i goesau, y perfeddion, a'r coluddion. Mae'r rhain i gael eu llosgi ar dân coed wrth ymyl tomen ludw'r braster. Lle sydd wedi cael ei gysegru i'r pwrpas hwnnw.
Levi WelBeibl 4:12  Ond mae i fynd â gweddill y tarw y tu allan i'r gwersyll – y croen, y cig, ei ben a'i goesau, y perfeddion, a'r coluddion. Mae'r rhain i gael eu llosgi ar dân coed wrth ymyl tomen ludw'r braster. Lle sydd wedi cael ei gysegru i'r pwrpas hwnnw.
Levi WelBeibl 4:13  “Pan mae pobl Israel yn pechu yn fy erbyn i heb sylweddoli eu bod wedi gwneud hynny, maen nhw i gyd yn euog.
Levi WelBeibl 4:14  Unwaith maen nhw'n sylweddoli beth maen nhw wedi'i wneud, maen nhw i ddod â tharw ifanc yn offrwm i'w glanhau o'u pechod. Rhaid cyflwyno'r anifail o flaen y Tabernacl.
Levi WelBeibl 4:15  Yno bydd arweinwyr y bobl yn gosod eu dwylo ar ben y tarw o flaen yr ARGLWYDD. Wedyn bydd y tarw yn cael ei ladd o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 4:16  Wedyn bydd rhaid i'r archoffeiriad gymryd peth o waed y tarw i mewn i'r Tabernacl.
Levi WelBeibl 4:17  Bydd yn rhoi ei fys yn y gwaed ac yn taenellu peth ohono saith gwaith i gyfeiriad y llen.
Levi WelBeibl 4:18  Wedyn bydd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth sydd o flaen yr ARGLWYDD yn y Tabernacl. Yna bydd yn mynd â gweddill y gwaed a'i dywallt wrth droed yr allor i losgi offrymau sydd y tu allan i'r fynedfa i'r Tabernacl.
Levi WelBeibl 4:19  Bydd yr archoffeiriad wedyn yn cymryd braster yr anifail i gyd a'i losgi ar yr allor.
Levi WelBeibl 4:20  Wedyn mae i wneud yr un peth gyda'r tarw yma ag a wnaeth gyda'r tarw gafodd ei offrymu dros ei bechod ei hun. Bydd yr archoffeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y bobl a Duw, a bydd Duw yn maddau iddyn nhw.
Levi WelBeibl 4:21  Bydd e'n mynd â gweddill y tarw tu allan i'r gwersyll. Bydd e'n ei losgi, yr un fath â'r tarw arall. Mae'n offrwm i lanhau pobl Israel o bechod.
Levi WelBeibl 4:22  “Pan mae un o arweinwyr pobl Israel yn pechu yn fy erbyn i heb sylweddoli ei fod wedi gwneud hynny, mae e'n euog.
Levi WelBeibl 4:23  Unwaith mae e'n sylweddoli beth mae wedi'i wneud, mae i fynd â bwch gafr heb ddim byd o'i le arno i'w aberthu.
Levi WelBeibl 4:24  Rhaid iddo osod ei law ar ben y bwch gafr ac wedyn ei ladd o flaen yr ARGLWYDD (yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi yn cael ei ladd). Mae'n offrwm i'w lanhau o'i bechod.
Levi WelBeibl 4:25  Wedyn mae offeiriad i gymryd peth o waed yr anifail a'i roi gyda'i fys ar gyrn yr allor i losgi offrymau. Ac wedyn bydd yn tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor.
Levi WelBeibl 4:26  Bydd yn llosgi'r braster i gyd ar yr allor, fel roedd yn gwneud gyda braster yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.
Levi WelBeibl 4:27  “Os ydy person cyffredin yn pechu yn fy erbyn i heb sylweddoli ei fod wedi gwneud hynny, mae e'n euog.
Levi WelBeibl 4:28  Unwaith mae e'n sylweddoli beth mae e wedi'i wneud, mae i fynd â gafr sydd â dim byd o'i le arni i'w haberthu dros ei bechod.
Levi WelBeibl 4:29  Wedyn rhaid iddo osod ei law ar ben yr afr sydd i'w haberthu, ac wedyn ei lladd (yn yr un lle ag mae'r offrwm sydd i'w losgi yn cael ei ladd).
Levi WelBeibl 4:30  Wedyn mae offeiriad i gymryd peth o waed yr anifail a'i roi gyda'i fys ar gyrn yr allor i losgi offrymau. Ac wedyn bydd yn tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor.
Levi WelBeibl 4:31  Bydd y person sy'n cyflwyno'r offrwm yn cymryd braster yr anifail (fel mae'n gwneud gyda'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD). Wedyn bydd yr offeiriad yn llosgi'r braster ar yr allor – yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.
Levi WelBeibl 4:32  “Os ydy e'n dod â dafad yn offrwm dros ei bechod, rhaid iddi fod yn ddafad heb ddim byd o'i le arni.
Levi WelBeibl 4:33  Wedyn rhaid iddo osod ei law ar ben y ddafad sydd i'w haberthu, ac yna ei lladd (yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi yn cael ei ladd).
Levi WelBeibl 4:34  Wedyn mae offeiriad i gymryd peth o waed y ddafad a'i roi gyda'i fys ar gyrn yr allor i losgi offrymau. Ac wedyn bydd yn tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor.
Levi WelBeibl 4:35  Bydd y person sy'n cyflwyno'r offrwm yn cymryd braster y ddafad (fel mae'n gwneud gyda'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD). Ac wedyn bydd yr offeiriad yn llosgi'r braster ar yr allor gyda'r offrymau sydd i'w llosgi i'r ARGLWYDD. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.
Chapter 5
Levi WelBeibl 5:1  “Pan mae rhywun yn gwrthod rhoi tystiolaeth mewn llys (ac yn gwybod neu wedi gweld beth ddigwyddodd), mae e'n euog, a bydd yn cael ei gosbi.
Levi WelBeibl 5:2  “Pan mae rhywun wedi cyffwrdd rhywbeth sy'n aflan drwy ddamwain (fel corff anifail neu greadur arall sy'n aflan), mae'n euog ac mae e'i hun yn aflan.
Levi WelBeibl 5:3  “Pan mae rhywun wedi cyffwrdd drwy ddamwain unrhyw beth aflan sy'n dod o'r corff dynol, mae e'n euog y funud mae e'n sylweddoli beth sydd wedi digwydd.
Levi WelBeibl 5:4  “Pan mae rhywun yn fyrbwyll ac yn addo ar lw ei fod yn mynd i wneud rhywbeth – da neu ddrwg – mae e'n euog y funud mae e'n sylweddoli beth mae e wedi'i wneud.
Levi WelBeibl 5:5  “Pan mae rhywun yn sylweddoli ei fod yn euog o wneud un o'r pethau yma, rhaid iddo gyffesu beth mae wedi'i wneud.
Levi WelBeibl 5:6  Wedyn rhaid iddo dalu am y drwg mae wedi'i wneud drwy ddod â dafad neu afr i'w chyflwyno i'r ARGLWYDD yn offrwm i'w lanhau o'i bechod. Bydd offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.
Levi WelBeibl 5:7  “Os ydy rhywun ddim yn gallu fforddio dafad neu afr, dylai ddod â dwy durtur neu ddwy golomen ifanc – un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi'n llwyr.
Levi WelBeibl 5:8  Rhaid dod â nhw i'r offeiriad. Wedyn bydd yr offeiriad yn cyflwyno un ohonyn nhw yn offrwm i lanhau o bechod. Bydd yn troi ei wddf ond heb dorri ei ben i ffwrdd.
Levi WelBeibl 5:9  Wedyn bydd yn taenellu peth o waed yr aderyn ar ochr yr allor. Bydd gweddill y gwaed yn cael ei wasgu allan wrth droed yr allor.
Levi WelBeibl 5:10  Wedyn bydd yr ail aderyn yn cael ei gyflwyno yn offrwm i'w losgi'n llwyr. Bydd yr offeiriad yn dilyn y ddefod arferol wrth ei gyflwyno. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r offrwm a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.
Levi WelBeibl 5:11  “Os ydy rhywun ddim yn gallu fforddio dwy durtur neu ddwy golomen ifanc, dylai ddod â cilogram o'r blawd gwenith gorau yn offrwm i'w lanhau o'i bechod. Rhaid peidio rhoi olew olewydd na thus arno am mai offrwm i'w lanhau o'i bechod ydy e.
Levi WelBeibl 5:12  Dylai roi'r blawd i'r offeiriad, a bydd yr offeiriad yn cymryd llond llaw ohono i'w losgi fel ernes ar yr allor gyda'r offrymau eraill. Mae'n offrwm i lanhau o bechod.
Levi WelBeibl 5:13  Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r offrwm a Duw, pa un bynnag o'r pethau hyn mae e wedi'i wneud o'i le, a bydd Duw yn maddau iddo. Mae'r offeiriad yn cael gweddill y blawd, fel gyda'r offrwm o rawn.”
Levi WelBeibl 5:15  “Pan mae rhywun yn pechu'n ddamweiniol ac yn torri'r rheolau am y pethau sanctaidd sydd i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD, rhaid iddo ddod ag offrwm i gyfaddef bai. Yr offrwm fydd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno, neu gall dalu'r pris llawn am hwrdd gydag arian swyddogol y cysegr.
Levi WelBeibl 5:16  Mae e hefyd i dalu'r ddyled yn ôl ac ychwanegu 20% a'i roi i'r offeiriad. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r hwrdd a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.
Levi WelBeibl 5:17  “Os ydy rhywun yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD heb sylweddoli ei fod wedi gwneud hynny, mae'n euog, a bydd yn cael ei gosbi.
Levi WelBeibl 5:18  Rhaid i'r person hwnnw ddod â hwrdd heb ddim byd o'i le arno, neu gall dalu beth ydy gwerth yr hwrdd, yn offrwm i gyfaddef bai. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r hwrdd a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei gamgymeriad.
Levi WelBeibl 5:19  Mae'n offrwm i gyfaddef bai. Roedd y person yn euog o flaen yr ARGLWYDD.”
Chapter 6
Levi WelBeibl 6:2  “Pan mae rhywun yn troseddu yn fy erbyn i, yr ARGLWYDD, drwy dwyllo person arall, dyma sydd raid ei wneud: “Os ydy rhywun yn gwrthod rhoi rhywbeth sydd yn ei ofal yn ôl. Neu os ydy e'n gwrthod talu benthyciad yn ôl. Neu os ydy e wedi dwyn rhywbeth. Neu os ydy e wedi gwneud elw ar draul rhywun arall.
Levi WelBeibl 6:3  Neu os ydy e wedi dod o hyd i rywbeth ac yn honni nad ydy'r peth hwnnw ganddo. Pan mae person yn dweud celwydd am unrhyw un o'r pethau yma, mae e'n pechu.
Levi WelBeibl 6:4  Os ydy e wedi'i gael yn euog o wneud unrhyw un o'r pethau yma, rhaid iddo dalu'n ôl beth bynnag oedd e wedi'i ddwyn.
Levi WelBeibl 6:5  Rhaid iddo dalu'r swm yn ôl yn llawn, ac ychwanegu 20%. Mae i'w dalu i'r person gafodd ei dwyllo ganddo pan fydd wedi cael ei ddedfrydu'n euog o'r drosedd.
Levi WelBeibl 6:6  Wedyn rhaid iddo fynd ag offrwm i'r ARGLWYDD i gyfaddef ei fai. Yr offrwm fydd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno; neu gall dalu beth ydy gwerth yr hwrdd gydag arian swyddogol y cysegr.
Levi WelBeibl 6:7  Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am beth bynnag wnaeth e o'i le.”
Levi WelBeibl 6:9  “Dwed wrth Aaron a'i ddisgynyddion mai dyma'r drefn gyda'r offrwm sydd i'w losgi: Mae'r offrwm i aros ar yr allor drwy'r nos tan y bore wedyn. Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi.
Levi WelBeibl 6:10  Mae'r offeiriad i wisgo ei wisg o liain, a'i ddillad isaf lliain. Wedyn mae i gasglu'r lludw sydd ar ôl wedi i'r offrwm gael ei losgi, a'i osod yn domen wrth ymyl yr allor.
Levi WelBeibl 6:11  Wedyn rhaid iddo newid ei ddillad cyn mynd â'r lludw allan i le tu allan i'r gwersyll sydd wedi cael ei gysegru i'r pwrpas hwnnw.
Levi WelBeibl 6:12  Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi. Dydy e byth i fod i ddiffodd. Rhaid i offeiriad roi coed arno bob bore. Wedyn mae'n gosod yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr arno, ac yn llosgi braster yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 6:13  Rhaid cadw'r tân ar yr allor yn llosgi drwy'r amser. Dydy e byth i fod i ddiffodd.
Levi WelBeibl 6:14  “Dyma'r drefn gyda'r offrwm o rawn: Rhaid i'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, ei gyflwyno i'r ARGLWYDD o flaen yr allor.
Levi WelBeibl 6:15  Maen nhw i gymryd llond dwrn o flawd gwenith ac olew yr offrwm, a'r thus i gyd, a'i losgi fel ernes ar yr allor – yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD ac yn ei atgoffa o'i ymrwymiad.
Levi WelBeibl 6:16  Bydd yr offeiriaid, Aaron a'i ddisgynyddion, yn bwyta'r gweddill ohono. Rhaid ei fwyta heb furum mewn lle sydd wedi'i gysegru, sef iard y Tabernacl.
Levi WelBeibl 6:17  Mae'r bara yma yn gysegredig iawn, fel yr offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i gyfaddef bai. Mae'r bara i gael ei bobi heb furum. Dw i'n ei roi i'r offeiriaid. Mae'n rhan o'r hyn sy'n cael ei gyflwyno i mi ar yr allor.
Levi WelBeibl 6:18  Dim ond y dynion sy'n ddisgynyddion i Aaron sy'n cael ei fwyta. Dyma eu siâr nhw bob amser. Rhaid i unrhyw un sy'n cyffwrdd y bara fod wedi'i gysegru.”
Levi WelBeibl 6:20  “Dyma'r offrwm mae offeiriad i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD pan mae'n cael ei ordeinio: mae'r un fath â'r offrwm sy'n cael ei wneud fore a nos bob dydd, sef hanner cilogram o'r blawd gwenith gorau
Levi WelBeibl 6:21  wedi'i gymysgu gydag olew olewydd a'i grasu ar radell. Rhaid iddo fod wedi'i socian mewn olew, ei dorri yn ddarnau, a'i gyflwyno yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 6:22  Yr Archoffeiriad sydd i'w baratoi. Siâr yr ARGLWYDD ydy hwn bob amser, ac mae i gael ei losgi'n llwyr ar yr allor.
Levi WelBeibl 6:23  Mae'r offrwm grawn sy'n cael ei roi gan offeiriad i gael ei losgi'n llwyr. Dydy e ddim i gael ei fwyta.”
Levi WelBeibl 6:25  “Dwed wrth Aaron a'i ddisgynyddion mai dyma'r drefn gyda'r offrwm i lanhau o bechod: Mae'r offrwm i lanhau o bechod i gael ei ladd o flaen yr ARGLWYDD yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi yn cael ei ladd. Mae'n gysegredig iawn.
Levi WelBeibl 6:26  Yr offeiriad sy'n cyflwyno'r aberth sydd i'w fwyta. Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi'i gysegru, sef yn iard y Tabernacl.
Levi WelBeibl 6:27  Rhaid i unrhyw un sy'n cyffwrdd y cig fod wedi'i gysegru. Os ydy gwaed yr aberth yn sblasio ar wisg yr offeiriad, rhaid golchi'r dilledyn mewn lle sydd wedi'i gysegru.
Levi WelBeibl 6:28  Rhaid i unrhyw lestr pridd gafodd ei ddefnyddio i ferwi'r cig gael ei dorri wedyn. Ond os ydy'r cig yn cael ei ferwi mewn llestr pres, rhaid ei sgwrio ac wedyn ei rinsio mewn dŵr.
Levi WelBeibl 6:29  Dim ond yr offeiriaid, sef y dynion, sy'n cael ei fwyta. Mae'n gysegredig iawn.
Levi WelBeibl 6:30  Ond os ydy peth o'r gwaed wedi cael ei gymryd i'r cysegr yn y Tabernacl i wneud pethau'n iawn rhwng yr addolwr a Duw, dydy'r offrwm hwnnw dros bechod ddim i gael ei fwyta. Rhaid i hwnnw gael ei losgi'n llwyr.
Chapter 7
Levi WelBeibl 7:1  “Dyma'r drefn gyda'r offrwm i gyfaddef bai (sy'n gysegredig iawn):
Levi WelBeibl 7:2  Rhaid i'r offrwm i gyfaddef bai gael ei ladd yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi'n llwyr yn cael ei ladd. Mae'r gwaed i gael ei sblasio o gwmpas yr allor.
Levi WelBeibl 7:3  Rhaid cyflwyno braster yr anifail i gyd: y braster ar y gynffon lydan, y braster o gwmpas perfeddion yr anifail,
Levi WelBeibl 7:4  y ddwy aren a'r braster sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.
Levi WelBeibl 7:5  Bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor yn offrwm i'r ARGLWYDD. Mae'n offrwm i gyfaddef bai.
Levi WelBeibl 7:6  Dim ond y dynion, sef yr offeiriaid, sy'n cael ei fwyta. Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi'i gysegru. Mae'n gysegredig iawn.
Levi WelBeibl 7:7  “Mae'r drefn yr un fath gyda'r offrwm i gyfaddef bai a'r offrwm i lanhau o bechod. Yr offeiriad sy'n gwneud pethau'n iawn gyda'r offrwm sydd i gael y cig.
Levi WelBeibl 7:8  Yr offeiriad sy'n cyflwyno'r offrwm i'w losgi ar ran unigolyn sy'n cael cadw croen yr anifail.
Levi WelBeibl 7:9  A'r un fath gyda'r offrwm o rawn. Yr offeiriad sy'n ei gyflwyno sy'n cael cadw'r offrwm sydd wedi'i baratoi mewn popty, padell neu ar radell.
Levi WelBeibl 7:10  Ond mae'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, i rannu pob offrwm o rawn sydd heb ei goginio, p'run ai wedi'i gymysgu gydag olew olewydd neu'n sych.
Levi WelBeibl 7:11  “Dyma'r drefn gyda'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD:
Levi WelBeibl 7:12  Os ydy rhywun yn ei gyflwyno i ddweud diolch am rywbeth, rhaid cyflwyno offrwm gydag e sydd wedi'i wneud o'r blawd gwenith gorau: bara heb furum ynddo wedi'i gymysgu gydag olew olewydd, bisgedi tenau wedi'u brwsio gydag olew, a bara wedi'i wneud o'r blawd gwenith gorau ac wedi'i socian mewn olew.
Levi WelBeibl 7:13  Wrth gyflwyno'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, rhaid dod â bara wedi'i wneud gyda burum hefyd.
Levi WelBeibl 7:14  Rhaid rhoi un dorth o bob math o offrwm o rawn yn gyfraniad i'r offeiriad sy'n sblasio gwaed yr offrwm o gwmpas yr allor.
Levi WelBeibl 7:15  Wedyn rhaid i gig yr aberth i ddweud diolch gael ei fwyta ar y diwrnod mae'n cael ei offrymu. Does dim ohono i gael ei gadw tan y bore wedyn.
Levi WelBeibl 7:16  Ond os ydy'r aberth yn cael ei gyflwyno am fod rhywun yn gwneud addewid neu'n rhoi rhywbeth o'i wirfodd i'r ARGLWYDD, mae'n iawn i gadw peth ohono a'i fwyta y diwrnod wedyn.
Levi WelBeibl 7:17  Ond os oes unrhyw gig dros ben ar ôl hynny, rhaid ei losgi y diwrnod wedyn.
Levi WelBeibl 7:18  Ddylai cig yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD ddim cael ei fwyta fwy na diwrnod ar ôl ei gyflwyno. Os ydy hynny'n digwydd, fydd y person sydd wedi cyflwyno'r offrwm ddim yn cael ei dderbyn. Bydd yr offrwm wedi'i sbwylio, a bydd unrhyw un sydd wedi'i fwyta yn cael ei gyfri'n euog.
Levi WelBeibl 7:19  “Os ydy'r cig wedi cyffwrdd unrhyw beth sy'n aflan, dydy e ddim i gael ei fwyta. Rhaid ei losgi. Ond, fel arall, mae unrhyw un sydd yn lân yn seremonïol yn gallu ei fwyta.
Levi WelBeibl 7:20  Os ydy rhywun yn dal yn aflan ac yn bwyta cig yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Levi WelBeibl 7:21  Pan fydd rhywun wedi cyffwrdd unrhyw beth aflan sy'n dod o'r corff dynol, neu gorff anifail neu ryw greadur arall, ac wedyn yn bwyta cig yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.”
Levi WelBeibl 7:23  “Dwed wrth bobl Israel: Rhaid i chi beidio bwyta braster unrhyw anifail – gwartheg, defaid na geifr.
Levi WelBeibl 7:24  Os oes anifail wedi marw neu wedi cael ei ladd gan anifail gwyllt, gallwch ddefnyddio'r braster i wneud unrhyw beth, ond rhaid i chi beidio ei fwyta.
Levi WelBeibl 7:25  Os oes unrhyw un yn bwyta braster anifail sydd wedi cael ei offrymu i'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Levi WelBeibl 7:26  Peidiwch bwyta gwaed unrhyw aderyn neu anifail, ble bynnag dych chi'n byw.
Levi WelBeibl 7:27  Bydd unrhyw berson sy'n bwyta gwaed yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.”
Levi WelBeibl 7:29  “Dwed wrth bobl Israel: Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, rhaid i'r person ei hun ddod â'r offrwm i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 7:30  Mae i ddod â'r braster a'r frest. Mae'r frest i gael ei chodi'n uchel a'i chyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 7:31  Bydd offeiriad yn llosgi'r braster ar yr allor, ond mae'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn cael cadw'r frest.
Levi WelBeibl 7:32  Rwyt i roi darn uchaf y goes ôl dde i'r offeiriad sy'n cyflwyno gwaed a braster yr aberth. Mae e i gael cadw'r darn hwnnw.
Levi WelBeibl 7:33  Rwyt i roi darn uchaf y goes ôl dde i'r offeiriad sy'n cyflwyno gwaed a braster yr aberth. Mae e i gael cadw'r darn hwnnw.
Levi WelBeibl 7:34  Dw i'n cymryd y frest sydd i'w chwifio a darn uchaf y goes ôl dde gan bobl Israel. Dyna'r rhannau o'r offrwm hwn mae pobl Israel i'w rhoi bob amser i Aaron yr offeiriad a'i ddisgynyddion.”
Levi WelBeibl 7:35  Ers i Moses eu cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i'r ARGLWYDD, dyna'r rhannau o'r offrymau oedd i gael eu rhoi i Aaron a'i feibion.
Levi WelBeibl 7:36  Yr ARGLWYDD ddwedodd, pan gawson nhw eu heneinio gan Moses, mai dyna oedd i gael ei roi iddyn nhw. Dyna beth mae pobl Israel i fod i'w roi iddyn nhw bob amser.
Levi WelBeibl 7:37  Felly dyma'r drefn sydd i'w chadw gyda'r offrwm i'w losgi, yr offrwm o rawn, yr offrwm i lanhau o bechod, yr offrwm i gyfaddef bai, yr offrwm ordeinio, a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 7:38  Dyma wnaeth yr ARGLWYDD ei orchymyn i Moses ar fynydd Sinai pan oedd pobl Israel yn yr anialwch. Dyma'r offrymau oedd pobl Israel i'w cyflwyno iddo.
Chapter 8
Levi WelBeibl 8:2  “Galw Aaron a'i feibion. Cymer eu gwisgoedd, yr olew eneinio, y tarw ifanc i'w offrymu dros eu pechod, y ddau hwrdd, a basged o fara wedi'i bobi heb furum.
Levi WelBeibl 8:3  Wedyn galw bobl Israel i gyd at ei gilydd o flaen y fynedfa i babell presenoldeb Duw.”
Levi WelBeibl 8:4  A dyma Moses yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Pan oedd pawb yno,
Levi WelBeibl 8:5  dyma Moses yn cyhoeddi, “Yr ARGLWYDD sydd wedi gorchymyn gwneud hyn.”
Levi WelBeibl 8:6  A dyma fe'n galw Aaron a'i feibion i ddod ymlaen. Dyma fe'n eu golchi nhw â dŵr.
Levi WelBeibl 8:7  Wedyn dyma fe'n rhoi crys am Aaron, a'i rwymo am ei ganol gyda sash. Yna rhoi mantell yr offeiriad amdano, a'r effod dros ei ysgwyddau, a'i glymu gyda strap wedi'i blethu.
Levi WelBeibl 8:8  Wedyn dyma fe'n gosod y boced oedd i fynd dros y frest arno, gyda'r Wrim a'r Thwmim ynddi.
Levi WelBeibl 8:9  Ac yn olaf dyma fe'n rhoi twrban ar ben Aaron. Ar flaen y twrban gosododd fedaliwn aur bach, yn symbol ei fod wedi'i gysegru i wasanaethu Duw. Gwnaeth Moses bopeth fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
Levi WelBeibl 8:10  Yna nesaf, dyma Moses yn cymryd yr olew eneinio a'i daenellu ar y Tabernacl a phopeth ynddo, i'w cysegru nhw.
Levi WelBeibl 8:11  Dyma fe'n taenellu peth ar yr allor saith gwaith; taenellu peth ar yr offer i gyd, a'r ddysgl bres fawr a'i stand.
Levi WelBeibl 8:12  Ac wedyn dyma fe'n tywallt peth o'r olew ar ben Aaron, i'w gysegru i waith yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 8:13  Yna dyma Moses yn gwisgo meibion Aaron yn eu crysau, rhwymo sash am eu canol, a rhoi cap ar eu pennau. Gwnaeth Moses bopeth fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
Levi WelBeibl 8:14  Wedyn dyma Moses yn cymryd y tarw ifanc oedd i gael ei offrymu i'w glanhau o'u pechodau, a dyma Aaron a'i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr anifail.
Levi WelBeibl 8:15  Ar ôl i'r tarw gael ei ladd, dyma Moses yn cymryd peth o'r gwaed a'i roi gyda'i fys ar gyrn yr allor i'w phuro hi. Wedyn dyma fe'n tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor. Dyma sut wnaeth e gysegru'r allor, a'i gwneud hi'n iawn i aberthu arni.
Levi WelBeibl 8:16  Yna cymerodd y braster oedd o gwmpas perfeddion y tarw, rhan isaf yr iau, a'r ddwy aren a'r braster sydd arnyn nhw, a'u llosgi nhw ar yr allor.
Levi WelBeibl 8:17  Wedyn dyma fe'n cymryd gweddill y tarw, ei groen, y cig a'r coluddion, a'i losgi tu allan i'r gwersyll, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
Levi WelBeibl 8:18  Nesaf, dyma Moses yn cymryd yr hwrdd oedd i'w gyflwyno'n offrwm i'w losgi, a dyma Aaron a'i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr anifail.
Levi WelBeibl 8:19  Ar ôl i'r hwrdd gael ei ladd, dyma Moses yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.
Levi WelBeibl 8:20  Roedd yr hwrdd wedyn yn cael ei dorri'n ddarnau, cyn i Moses losgi'r pen a'r darnau a'r braster.
Levi WelBeibl 8:21  Yna ar ôl golchi'r coluddion a'r coesau ôl â dŵr, dyma Moses yn llosgi'r hwrdd cyfan ar yr allor. Offrwm i'w losgi oedd e, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Gwnaeth Moses bopeth fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
Levi WelBeibl 8:22  Wedyn dyma Moses yn cymryd yr ail hwrdd, sef hwrdd yr ordeinio, a dyma Aaron a'i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr anifail.
Levi WelBeibl 8:23  Ar ôl i'r hwrdd gael ei ladd, dyma Moses yn rhoi peth o'r gwaed ar glust dde Aaron, bawd ei law dde, a bawd ei droed dde.
Levi WelBeibl 8:24  Yna dyma fe'n gwneud yr un peth i feibion Aaron, cyn sblasio gweddill y gwaed o gwmpas yr allor.
Levi WelBeibl 8:25  Yna dyma fe'n cymryd y braster – sef braster y gynffon, y braster o gwmpas y perfeddion, rhan isaf yr iau, a'r ddwy aren a'r braster sydd arnyn nhw – a darn uchaf y goes ôl dde.
Levi WelBeibl 8:26  Yna cymerodd Moses o'r fasged beth o'r bara wedi'i wneud gyda'r blawd gwenith gorau – un dorth o fara heb furum ynddi, un dorth wedi'i socian mewn olew olewydd, ac un o'r bisgedi.
Levi WelBeibl 8:27  Yna eu gosod nhw ar ben y braster a darn uchaf y goes ôl dde, a rhoi'r cwbl yn nwylo Aaron a'i feibion. A dyma nhw'n ei godi'n uchel a'i gyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 8:28  Wedyn dyma Moses yn cymryd y cwbl yn ôl ac yn ei losgi ar yr allor gyda'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr. Roedd hwn yn offrwm ordeinio, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 8:29  Yna dyma Moses yn codi'r frest yn uchel a'i chyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Roedd Moses yn cael cadw'r rhan yma o hwrdd yr ordeinio, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
Levi WelBeibl 8:30  Yna'n olaf dyma Moses yn cymryd peth o'r olew eneinio a pheth o'r gwaed oedd ar yr allor a'i daenellu ar Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd. Dyna sut wnaeth e gysegru Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd i wasanaeth yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 8:31  A dyma Moses yn dweud wrth Aaron a'i feibion, “Rhaid i chi goginio cig yr hwrdd yma wrth y fynedfa i'r Tabernacl. Yna ei fwyta gyda'r bara sydd yn y fasged sy'n dal yr offrymau ordeinio. Mae Duw wedi dweud wrtho i mai dim ond chi sydd i fod i'w fwyta.
Levi WelBeibl 8:32  Wedyn rhaid i chi losgi'r cig a'r bara sydd ar ôl.
Levi WelBeibl 8:33  Rhaid i chi aros yma wrth y fynedfa i'r Tabernacl am saith diwrnod, nes bydd cyfnod y seremoni ordeinio drosodd.
Levi WelBeibl 8:34  Dŷn ni wedi gwneud popeth heddiw yn union fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi a fe.
Levi WelBeibl 8:35  Nawr, mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrtho i fod rhaid i chi aros wrth y fynedfa i'r Tabernacl nos a dydd am saith diwrnod, neu byddwch chi'n marw.”
Levi WelBeibl 8:36  A dyma Aaron a'i feibion yn gwneud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn drwy Moses.
Chapter 9
Levi WelBeibl 9:1  Wythnos wedyn, pan oedd y seremoni ordeinio drosodd, dyma Moses yn galw Aaron a'i feibion ac arweinwyr Israel at ei gilydd.
Levi WelBeibl 9:2  A dyma fe'n dweud wrth Aaron, “Cymer fustach ifanc a hwrdd sydd â dim byd o'i le arnyn nhw. Offryma'r bustach i'r ARGLWYDD fel offrwm i lanhau o bechod, a'r hwrdd fel offrwm i'w losgi.”
Levi WelBeibl 9:3  Yna dywed wrth bobl Israel, “Cymerwch fwch gafr yn offrwm i lanhau o bechod, llo blwydd oed ac oen heb ddim byd o'i le arnyn nhw yn offrwm i'w losgi,
Levi WelBeibl 9:4  a bustach a hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Mae'r rhain i gael eu haberthu gydag offrwm o rawn wedi'i gymysgu gydag olew olewydd. Gwnewch hyn am fod yr ARGLWYDD yn mynd i ddod i'r golwg heddiw.”
Levi WelBeibl 9:5  Felly dyma nhw'n dod â'r cwbl oedd Moses wedi'i ddweud o flaen y Tabernacl. A dyma'r bobl i gyd yn sefyll yno o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 9:6  A dyma Moses yn dweud, “Yr ARGLWYDD sydd wedi dweud wrthoch chi am wneud hyn, i chi gael gweld ei ysblander e.”
Levi WelBeibl 9:7  Wedyn dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Dos at yr allor a mynd drwy'r ddefod o gyflwyno'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i'w losgi. Cyflwyna nhw i wneud pethau'n iawn rhyngot ti a Duw a rhwng dy bobl a Duw. Gwna yn union beth mae'r ARGLWYDD wedi dweud.”
Levi WelBeibl 9:8  Felly dyma Aaron yn mynd at yr allor ac yn lladd y llo yn offrwm dros ei bechod ei hun.
Levi WelBeibl 9:9  Wedyn dyma'i feibion yn cyflwyno'r gwaed iddo. Dyma Aaron yn rhoi ei fys yn y gwaed, ac yn ei roi ar gyrn yr allor. Wedyn dyma fe'n tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor.
Levi WelBeibl 9:10  Yna llosgi'r braster, yr arennau a rhan isaf yr iau ar yr allor, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Levi WelBeibl 9:11  Wedyn dyma fe'n llosgi'r croen a'r cig tu allan i'r gwersyll.
Levi WelBeibl 9:12  Dyma fe'n lladd yr offrwm i'w losgi nesaf. A dyma'i feibion yn cyflwyno'r gwaed iddo, a dyma Aaron yn ei sblasio o gwmpas yr allor.
Levi WelBeibl 9:13  Roedden nhw wedi cyflwyno'r anifail iddo bob yn ddarn, gan gynnwys y pen, ac roedd wedi llosgi'r cwbl ar yr allor.
Levi WelBeibl 9:14  Dyma fe'n golchi'r coluddion a'r coesau ôl, ac wedyn eu llosgi nhw ar ben gweddill yr offrwm ar yr allor.
Levi WelBeibl 9:15  Wedyn dyma Aaron yn cyflwyno offrymau'r bobl. Cymerodd y bwch gafr oedd yn offrwm i lanhau'r bobl o'u pechod, ei ladd, a mynd drwy'r un ddefod o buro ag o'r blaen.
Levi WelBeibl 9:16  Wedyn dyma fe'n cyflwyno'r offrwm i'w losgi, gan ddilyn y ddefod arferol wrth wneud hynny.
Levi WelBeibl 9:17  Wedyn yr offrwm o rawn. Cymerodd lond llaw ohono a'i losgi ar yr allor gyda'r offrwm oedd i'w losgi yn y bore.
Levi WelBeibl 9:18  Ar ôl hynny, dyma fe'n lladd y bustach a'r hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Dyma feibion Aaron yn cyflwyno'r gwaed iddo, a dyma fe'n sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.
Levi WelBeibl 9:19  Wedyn cymerodd fraster y bustach a'r hwrdd – braster y gynffon, y braster o gwmpas y perfeddion, y ddwy aren a'r braster sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.
Levi WelBeibl 9:20  A dyma fe'n gosod y rhain ar ben y brestiau, ac yna'n llosgi'r braster i gyd ar yr allor.
Levi WelBeibl 9:21  Wedyn dyma Aaron yn codi'r brestiau a rhan uchaf y goes ôl, ac yn eu cyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Gwnaeth yn union fel roedd Moses wedi dweud.
Levi WelBeibl 9:22  Wedyn dyma Aaron yn troi at y bobl ac yn codi ei ddwylo a'u bendithio nhw. Ar ôl gorffen cyflwyno'r offrymau i gyd, daeth i lawr o'r allor,
Levi WelBeibl 9:23  ac yna mynd gyda Moses i mewn i babell presenoldeb Duw. Pan ddaethon nhw allan, dyma nhw'n bendithio'r bobl, a dyma'r bobl i gyd yn gweld ysblander yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 9:24  Yna dyma'r ARGLWYDD yn anfon tân i losgi popeth oedd ar yr allor. Pan welodd pawb hyn, dyma nhw'n gweiddi'n llawen ac yn plygu'n isel a'u hwynebau ar lawr.
Chapter 10
Levi WelBeibl 10:1  Dyma feibion Aaron, sef Nadab ac Abihw, yn gwneud rhywbeth wnaeth yr ARGLWYDD ddim ei orchymyn. Dyma'r ddau yn cymryd padell dân bob un, rhoi tân arnyn nhw, a llosgi arogldarth. Ond roedden nhw wedi defnyddio tân ddaeth o rywle arall o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 10:2  A dyma'r ARGLWYDD yn anfon tân i'w llosgi nhw, a buon nhw farw yno o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 10:3  A dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Dyma oedd yr ARGLWYDD yn ei olygu pan ddwedodd e: ‘Dw i am i'r offeiriaid ddangos fy mod i'n sanctaidd, a dw i am i'r bobl weld fy ysblander i.’” Roedd Aaron yn methu dweud gair.
Levi WelBeibl 10:4  Yna dyma Moses yn anfon am Mishael ac Eltsaffan (meibion Wssiel, oedd yn ewythr i Aaron). A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch â dau gorff eich perthnasau allan o'r gwersyll, yn bell oddi wrth y fynedfa i'r Tabernacl.”
Levi WelBeibl 10:5  Felly dyma nhw'n llusgo'r ddau allan gerfydd eu dillad, fel roedd Moses wedi dweud.
Levi WelBeibl 10:6  A dyma Moses yn dweud wrth Aaron a'i ddau fab arall, Eleasar ac Ithamar, “Peidiwch galaru drwy adael i'ch gwallt hongian yn flêr, a drwy rwygo eich dillad. Os gwnewch chi, byddwch chi'n marw, a bydd yr ARGLWYDD yn ddig gyda'r bobl i gyd. Ond bydd pawb arall o bobl Israel yn galaru am y dynion wnaeth yr ARGLWYDD eu lladd gyda'r tân.
Levi WelBeibl 10:7  Rhaid i chi beidio mynd allan o'r Tabernacl rhag i chi farw, am eich bod wedi cael eich eneinio ag olew i wasanaethu'r ARGLWYDD.” A dyma nhw'n gwneud fel roedd Moses yn dweud.
Levi WelBeibl 10:9  “Rhaid i ti a dy ddisgynyddion beidio yfed gwin neu ddiod feddwol cyn mynd i mewn i'r Tabernacl, rhag i chi farw. Fydd y rheol yma byth yn newid.
Levi WelBeibl 10:10  Rhaid i chi fedru gwahaniaethu rhwng beth sy'n gysegredig a beth sy'n gyffredin, a rhwng beth sy'n aflan a beth sy'n lân.
Levi WelBeibl 10:11  A rhaid i chi ddysgu i bobl Israel y rheolau mae'r ARGLWYDD wedi'u rhoi iddyn nhw drwy Moses.”
Levi WelBeibl 10:12  Wedyn dyma Moses yn siarad gydag Aaron a'r ddau fab oedd ganddo ar ôl, sef Eleasar ac Ithamar: “Cymerwch yr offrwm grawn sydd ar ôl, a bwyta'r hyn sydd heb furum ynddo wrth ymyl yr allor. Mae'n gysegredig iawn.
Levi WelBeibl 10:13  Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi'i gysegru. Eich siâr chi a'ch disgynyddion ydy e. Dyna mae'r ARGLWYDD wedi'i ddweud.
Levi WelBeibl 10:14  Ond gyda'r frest sy'n cael ei chwifio a darn uchaf y goes ôl dde sy'n cael eu rhoi i chi, cewch chi a'ch meibion a'ch merched eu bwyta yn unrhyw le sydd wedi cael ei gysegru. Y darnau yma ydy'ch siâr chi o'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 10:15  Dyma'r darnau sy'n cael eu rhoi, gyda'r braster sydd i'w losgi, yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Dyma'ch siâr chi a'ch plant bob amser. Dyna mae'r ARGLWYDD wedi'i ddweud.”
Levi WelBeibl 10:16  Buodd Moses yn edrych ym mhobman am fwch gafr yr offrwm i lanhau o bechod, ond darganfyddodd ei fod wedi cael ei losgi. Roedd e wedi digio gydag Eleasar ac Ithamar (y ddau fab oedd gan Aaron ar ôl).
Levi WelBeibl 10:17  “Pam wnaethoch chi ddim bwyta'r offrwm i lanhau o bechod yn y lle sydd wedi'i gysegru? Mae'r offrwm yn gysegredig iawn, ac mae Duw wedi'i roi i chi i dalu am ddrygioni'r bobl ac i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw a'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 10:18  Wnaeth y gwaed ddim cael ei gymryd i'r Lle Mwyaf Sanctaidd, felly dylech fod wedi'i fwyta yn y cysegr fel y dwedais i.”
Levi WelBeibl 10:19  Ond dyma Aaron yn ateb Moses, “Meddylia. Heddiw roedd dau o'm meibion i wedi offrymu'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm sydd i'w losgi, ac eto meddylia beth sydd wedi digwydd! Fyddai'r ARGLWYDD wedi bod yn hapus petawn i wedi bwyta'r offrwm i lanhau o bechod heddiw?”
Levi WelBeibl 10:20  Ar ôl clywed esboniad Aaron, roedd Moses yn fodlon.
Chapter 11
Levi WelBeibl 11:2  “Dwed wrth bobl Israel: “Dyma pa anifeiliaid gewch chi fwyta:
Levi WelBeibl 11:3  Unrhyw anifail sydd â charn fforchog (wedi'i rhannu'n ddwy), ac sy'n cnoi cil.
Levi WelBeibl 11:4  Ond peidiwch bwyta'r anifeiliaid sydd ddim ond yn cnoi cil neu sydd ddim ond â charn fforchog. Mae unrhyw anifail sy'n cnoi cil ond heb garn fforchog i'w ystyried yn aflan – er enghraifft y camel, broch y creigiau, a'r ysgyfarnog.
Levi WelBeibl 11:5  Ond peidiwch bwyta'r anifeiliaid sydd ddim ond yn cnoi cil neu sydd ddim ond â charn fforchog. Mae unrhyw anifail sy'n cnoi cil ond heb garn fforchog i'w ystyried yn aflan – er enghraifft y camel, broch y creigiau, a'r ysgyfarnog.
Levi WelBeibl 11:6  Ond peidiwch bwyta'r anifeiliaid sydd ddim ond yn cnoi cil neu sydd ddim ond â charn fforchog. Mae unrhyw anifail sy'n cnoi cil ond heb garn fforchog i'w ystyried yn aflan – er enghraifft y camel, broch y creigiau, a'r ysgyfarnog.
Levi WelBeibl 11:7  Peidiwch bwyta moch – mae ganddyn nhw garn fforchog, ond dŷn nhw ddim yn cnoi cil. Felly maen nhw hefyd i'w hystyried yn aflan.
Levi WelBeibl 11:8  Peidiwch bwyta cig yr anifeiliaid yma. Peidiwch hyd yn oed cyffwrdd y carcas. Maen nhw i'w hystyried yn aflan.
Levi WelBeibl 11:9  “Cewch fwyta unrhyw greaduriaid sy'n byw yn y dŵr sydd ag esgyll a chennau arnyn nhw hefyd. Sdim ots os ydyn nhw'n byw yn y môr neu mewn afon.
Levi WelBeibl 11:10  Ond mae unrhyw greaduriaid sy'n heigio yn y dŵr ac sydd heb esgyll a chennau arnyn nhw i'w hystyried yn aflan. Peidiwch bwyta eu cig nhw na cyffwrdd un sydd wedi marw.
Levi WelBeibl 11:11  Ond mae unrhyw greaduriaid sy'n heigio yn y dŵr ac sydd heb esgyll a chennau arnyn nhw i'w hystyried yn aflan. Peidiwch bwyta eu cig nhw na cyffwrdd un sydd wedi marw.
Levi WelBeibl 11:12  Ond mae unrhyw greaduriaid sy'n heigio yn y dŵr ac sydd heb esgyll a chennau arnyn nhw i'w hystyried yn aflan. Peidiwch bwyta eu cig nhw na cyffwrdd un sydd wedi marw.
Levi WelBeibl 11:13  “Dyma restr o adar sydd i'w hystyried yn aflan, ac felly ddim i gael eu bwyta: gwahanol fathau o fwltur, barcud a boda, unrhyw fath o frân, gwahanol fathau o dylluan, pob math o hebog, y fulfran, gwalch y pysgod, y storc, unrhyw fath o grëyr, y copog, a'r ystlum hefyd.
Levi WelBeibl 11:14  “Dyma restr o adar sydd i'w hystyried yn aflan, ac felly ddim i gael eu bwyta: gwahanol fathau o fwltur, barcud a boda, unrhyw fath o frân, gwahanol fathau o dylluan, pob math o hebog, y fulfran, gwalch y pysgod, y storc, unrhyw fath o grëyr, y copog, a'r ystlum hefyd.
Levi WelBeibl 11:15  “Dyma restr o adar sydd i'w hystyried yn aflan, ac felly ddim i gael eu bwyta: gwahanol fathau o fwltur, barcud a boda, unrhyw fath o frân, gwahanol fathau o dylluan, pob math o hebog, y fulfran, gwalch y pysgod, y storc, unrhyw fath o grëyr, y copog, a'r ystlum hefyd.
Levi WelBeibl 11:16  “Dyma restr o adar sydd i'w hystyried yn aflan, ac felly ddim i gael eu bwyta: gwahanol fathau o fwltur, barcud a boda, unrhyw fath o frân, gwahanol fathau o dylluan, pob math o hebog, y fulfran, gwalch y pysgod, y storc, unrhyw fath o grëyr, y copog, a'r ystlum hefyd.
Levi WelBeibl 11:17  “Dyma restr o adar sydd i'w hystyried yn aflan, ac felly ddim i gael eu bwyta: gwahanol fathau o fwltur, barcud a boda, unrhyw fath o frân, gwahanol fathau o dylluan, pob math o hebog, y fulfran, gwalch y pysgod, y storc, unrhyw fath o grëyr, y copog, a'r ystlum hefyd.
Levi WelBeibl 11:18  “Dyma restr o adar sydd i'w hystyried yn aflan, ac felly ddim i gael eu bwyta: gwahanol fathau o fwltur, barcud a boda, unrhyw fath o frân, gwahanol fathau o dylluan, pob math o hebog, y fulfran, gwalch y pysgod, y storc, unrhyw fath o grëyr, y copog, a'r ystlum hefyd.
Levi WelBeibl 11:19  “Dyma restr o adar sydd i'w hystyried yn aflan, ac felly ddim i gael eu bwyta: gwahanol fathau o fwltur, barcud a boda, unrhyw fath o frân, gwahanol fathau o dylluan, pob math o hebog, y fulfran, gwalch y pysgod, y storc, unrhyw fath o grëyr, y copog, a'r ystlum hefyd.
Levi WelBeibl 11:20  “Mae unrhyw bryfed sy'n hedfan ac yn gwibio o gwmpas i'w hystyried yn aflan. Ond cewch fwyta'r pryfed hyn (sydd â choesau cymalog ac yn gallu neidio): pob math o locust, ceiliog rhedyn, cricedyn a sioncyn y gwair.
Levi WelBeibl 11:21  “Mae unrhyw bryfed sy'n hedfan ac yn gwibio o gwmpas i'w hystyried yn aflan. Ond cewch fwyta'r pryfed hyn (sydd â choesau cymalog ac yn gallu neidio): pob math o locust, ceiliog rhedyn, cricedyn a sioncyn y gwair.
Levi WelBeibl 11:22  “Mae unrhyw bryfed sy'n hedfan ac yn gwibio o gwmpas i'w hystyried yn aflan. Ond cewch fwyta'r pryfed hyn (sydd â choesau cymalog ac yn gallu neidio): pob math o locust, ceiliog rhedyn, cricedyn a sioncyn y gwair.
Levi WelBeibl 11:23  “Mae unrhyw bryfed sy'n hedfan ac yn gwibio o gwmpas i'w hystyried yn aflan. Ond cewch fwyta'r pryfed hyn (sydd â choesau cymalog ac yn gallu neidio): pob math o locust, ceiliog rhedyn, cricedyn a sioncyn y gwair.
Levi WelBeibl 11:24  “Peidiwch cyffwrdd corff marw unrhyw anifail sydd â charn fforchog ond sydd ddim yn cnoi cil. Hefyd anifeiliaid sydd â phawennau. Byddan nhw'n eich gwneud chi'n aflan am weddill y dydd. A pheidiwch pigo'r corff i fyny. Os gwnewch chi, rhaid i chi olchi'ch dillad, a byddwch yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 11:25  “Peidiwch cyffwrdd corff marw unrhyw anifail sydd â charn fforchog ond sydd ddim yn cnoi cil. Hefyd anifeiliaid sydd â phawennau. Byddan nhw'n eich gwneud chi'n aflan am weddill y dydd. A pheidiwch pigo'r corff i fyny. Os gwnewch chi, rhaid i chi olchi'ch dillad, a byddwch yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 11:26  “Peidiwch cyffwrdd corff marw unrhyw anifail sydd â charn fforchog ond sydd ddim yn cnoi cil. Hefyd anifeiliaid sydd â phawennau. Byddan nhw'n eich gwneud chi'n aflan am weddill y dydd. A pheidiwch pigo'r corff i fyny. Os gwnewch chi, rhaid i chi olchi'ch dillad, a byddwch yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 11:27  “Peidiwch cyffwrdd corff marw unrhyw anifail sydd â charn fforchog ond sydd ddim yn cnoi cil. Hefyd anifeiliaid sydd â phawennau. Byddan nhw'n eich gwneud chi'n aflan am weddill y dydd. A pheidiwch pigo'r corff i fyny. Os gwnewch chi, rhaid i chi olchi'ch dillad, a byddwch yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 11:28  “Peidiwch cyffwrdd corff marw unrhyw anifail sydd â charn fforchog ond sydd ddim yn cnoi cil. Hefyd anifeiliaid sydd â phawennau. Byddan nhw'n eich gwneud chi'n aflan am weddill y dydd. A pheidiwch pigo'r corff i fyny. Os gwnewch chi, rhaid i chi olchi'ch dillad, a byddwch yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 11:29  “Mae'r creaduriaid yma i'w hystyried yn aflan iawn: y llygoden fawr, llygoden a madfall o unrhyw fath. Bydd rhywun sy'n cyffwrdd corff marw unrhyw un ohonyn nhw yn aflan am weddill y dydd. Ac mae beth bynnag maen nhw'n syrthio arno pan maen nhw'n marw yn aflan – llestr pren, dilledyn, unrhyw beth wedi'i wneud o ledr, sachliain, neu unrhyw declyn i wneud gwaith ag e. Beth bynnag ydy e, rhaid ei olchi mewn dŵr, a bydd yn aflan am weddill y dydd. Ar ôl hynny bydd e'n iawn i'w ddefnyddio eto.
Levi WelBeibl 11:30  “Mae'r creaduriaid yma i'w hystyried yn aflan iawn: y llygoden fawr, llygoden a madfall o unrhyw fath. Bydd rhywun sy'n cyffwrdd corff marw unrhyw un ohonyn nhw yn aflan am weddill y dydd. Ac mae beth bynnag maen nhw'n syrthio arno pan maen nhw'n marw yn aflan – llestr pren, dilledyn, unrhyw beth wedi'i wneud o ledr, sachliain, neu unrhyw declyn i wneud gwaith ag e. Beth bynnag ydy e, rhaid ei olchi mewn dŵr, a bydd yn aflan am weddill y dydd. Ar ôl hynny bydd e'n iawn i'w ddefnyddio eto.
Levi WelBeibl 11:31  “Mae'r creaduriaid yma i'w hystyried yn aflan iawn: y llygoden fawr, llygoden a madfall o unrhyw fath. Bydd rhywun sy'n cyffwrdd corff marw unrhyw un ohonyn nhw yn aflan am weddill y dydd. Ac mae beth bynnag maen nhw'n syrthio arno pan maen nhw'n marw yn aflan – llestr pren, dilledyn, unrhyw beth wedi'i wneud o ledr, sachliain, neu unrhyw declyn i wneud gwaith ag e. Beth bynnag ydy e, rhaid ei olchi mewn dŵr, a bydd yn aflan am weddill y dydd. Ar ôl hynny bydd e'n iawn i'w ddefnyddio eto.
Levi WelBeibl 11:32  “Mae'r creaduriaid yma i'w hystyried yn aflan iawn: y llygoden fawr, llygoden a madfall o unrhyw fath. Bydd rhywun sy'n cyffwrdd corff marw unrhyw un ohonyn nhw yn aflan am weddill y dydd. Ac mae beth bynnag maen nhw'n syrthio arno pan maen nhw'n marw yn aflan – llestr pren, dilledyn, unrhyw beth wedi'i wneud o ledr, sachliain, neu unrhyw declyn i wneud gwaith ag e. Beth bynnag ydy e, rhaid ei olchi mewn dŵr, a bydd yn aflan am weddill y dydd. Ar ôl hynny bydd e'n iawn i'w ddefnyddio eto.
Levi WelBeibl 11:33  Os bydd corff unrhyw un ohonyn nhw'n cael ei ddarganfod mewn llestr pridd, rhaid torri'r llestr, a bydd popeth oedd ynddo yn aflan.
Levi WelBeibl 11:34  Os oes dŵr o'r llestr yn mynd ar fwyd, bydd y bwyd yn aflan. Ac os oedd diod yn y llestr, bydd hwnnw'n aflan.
Levi WelBeibl 11:35  Bydd beth bynnag mae corff marw un o'r creaduriaid yna yn ei gyffwrdd yn aflan. Os mai popty pridd neu stôf ydy e, rhaid ei falu.
Levi WelBeibl 11:36  Mae unrhyw ffynnon neu bydew i ddal dŵr yn dal yn lân. Ond bydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd corff y creadur yn aflan.
Levi WelBeibl 11:37  Os ydy'r corff yn cael ei ddarganfod ar had sydd i'w hau, bydd yr had yn aros yn lân.
Levi WelBeibl 11:38  Ond os ydy'r had wedi cael ei socian mewn dŵr, bydd yn aflan.
Levi WelBeibl 11:39  “Os ydy anifail sy'n iawn i'w fwyta yn marw, a rhywun yn cyffwrdd y corff, bydd yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 11:40  Mae pwy bynnag sy'n bwyta peth o'i gig neu'n cario'r corff i ffwrdd yn aflan. Rhaid iddo olchi ei ddillad, ond mae'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 11:41  “Mae'r creaduriaid bach sy'n llusgo ar lawr ar eu boliau, neu sydd â nifer fawr o goesau, i'w hystyried yn aflan. Peidiwch bwyta nhw, neu byddwch chi'n gwneud eich hunain yn ffiaidd ac yn aflan.
Levi WelBeibl 11:42  “Mae'r creaduriaid bach sy'n llusgo ar lawr ar eu boliau, neu sydd â nifer fawr o goesau, i'w hystyried yn aflan. Peidiwch bwyta nhw, neu byddwch chi'n gwneud eich hunain yn ffiaidd ac yn aflan.
Levi WelBeibl 11:43  “Mae'r creaduriaid bach sy'n llusgo ar lawr ar eu boliau, neu sydd â nifer fawr o goesau, i'w hystyried yn aflan. Peidiwch bwyta nhw, neu byddwch chi'n gwneud eich hunain yn ffiaidd ac yn aflan.
Levi WelBeibl 11:44  Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi gysegru'ch hunain yn llwyr i mi, a bod yn sanctaidd am fy mod i'n sanctaidd. Peidiwch gwneud eich hunain yn ffiaidd drwy fwyta un o'r creaduriaid aflan yma.
Levi WelBeibl 11:45  Fi ydy'r ARGLWYDD wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft i fod yn Dduw i chi. Rhaid i chi fod yn sanctaidd, am fy mod i yn sanctaidd.
Levi WelBeibl 11:46  “Dyma'r rheolau am anifeiliaid, adar, pysgod a chreaduriaid eraill –
Chapter 12
Levi WelBeibl 12:2  “Dwed wrth bobl Israel: Pan mae gwraig yn cael babi, os mai bachgen ydy'r babi, bydd hi'n aflan am saith diwrnod (fel gyda'r misglwyf).
Levi WelBeibl 12:3  Pan mae'r bachgen yn wythnos oed, rhaid iddo fynd drwy'r ddefod o gael ei enwaedu, sef torri blaengroen ei bidyn i ffwrdd.
Levi WelBeibl 12:4  Fydd y wraig ddim yn hollol lân am dri deg tri diwrnod arall. Felly yn ystod y cyfnod yma o gael ei glanhau, ddylai hi ddim cyffwrdd unrhyw beth cysegredig na mynd i'r cysegr i addoli.
Levi WelBeibl 12:5  Os mai merch ydy'r babi, bydd y fam yn aflan am bythefnos (fel gyda'r misglwyf). A fydd hi ddim yn hollol lân am chwe deg chwech diwrnod arall.
Levi WelBeibl 12:6  “Pan fydd y fam wedi gorffen y cyfnod o gael ei glanhau, rhaid iddi ddod at fynedfa'r Tabernacl, a chyflwyno oen sy'n flwydd oed yn offrwm i'w losgi a cholomen neu durtur yn offrwm i lanhau o bechod.
Levi WelBeibl 12:7  Bydd yr offeiriad yn eu cyflwyno i'r ARGLWYDD ac yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi hi a Duw. Dyma sydd i ddigwydd pan fydd bachgen neu ferch yn cael eu geni.
Levi WelBeibl 12:8  Os ydy'r wraig ddim yn gallu fforddio oen, mae hi'n gallu cyflwyno dwy durtur neu ddwy golomen. Un yn offrwm i'w losgi a'r llall yn offrwm i lanhau o bechod. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi hi a Duw, a bydd hi'n lân.”
Chapter 13
Levi WelBeibl 13:2  “Pan fydd gan rywun chwydd neu rash neu smotyn wedi troi'n llidiog ar y croen, gall fod yn arwydd o glefyd heintus. Rhaid mynd â'r person hwnnw at offeiriad, sef Aaron neu un o'i ddisgynyddion.
Levi WelBeibl 13:3  Rhaid i'r offeiriad archwilio'r briw. Os ydy'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn a bod y drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, mae'n glefyd heintus. Rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan.
Levi WelBeibl 13:4  “Ond os ydy'r smotyn yn wyn, a ddim dyfnach na'r croen, a'r blew heb droi'n wyn, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 13:5  Os bydd y drwg ddim gwaeth a heb ledu, bydd yr offeiriad yn dweud wrth y person am aros ar wahân am saith diwrnod arall.
Levi WelBeibl 13:6  Wedyn, os fydd e wedi gwella ychydig, a heb ledu, bydd yr offeiriad yn datgan fod y person hwnnw yn lân. Dim ond rash ydy e. Rhaid iddo olchi ei ddillad a bydd yn lân.
Levi WelBeibl 13:7  “Os bydd y rash yn dod yn ôl ac yn ymledu wedyn, rhaid mynd at yr offeiriad eto.
Levi WelBeibl 13:8  Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac os ydy'r rash wedi lledu, bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn aflan. Mae'n glefyd heintus.
Levi WelBeibl 13:9  “Pan fydd gan rywun afiechyd ar y croen, rhaid mynd â'r person hwnnw at yr offeiriad
Levi WelBeibl 13:10  i'w archwilio. Os ydy'r smotyn yn wyn, y briw wedi casglu, a'r blew wedi troi'n wyn,
Levi WelBeibl 13:11  mae'n afiechyd parhaol ar y croen, ac mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Waeth heb ei gadw ar wahân am gyfnod. Mae e'n aflan.
Levi WelBeibl 13:12  Ond os ydy'r afiechyd wedi lledu'n sydyn dros y corff i gyd, a'r offeiriad yn gallu gweld dim byd ond croen sych gwyn ar ôl, mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n lân.
Levi WelBeibl 13:13  Ond os ydy'r afiechyd wedi lledu'n sydyn dros y corff i gyd, a'r offeiriad yn gallu gweld dim byd ond croen sych gwyn ar ôl, mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n lân.
Levi WelBeibl 13:14  Ond os oes briwiau wedi casglu yn dod i'r golwg eto, mae'r person yn aflan. Mae'r offeiriad i'w archwilio a chyhoeddi ei fod yn aflan. Mae'n glefyd heintus.
Levi WelBeibl 13:15  Ond os oes briwiau wedi casglu yn dod i'r golwg eto, mae'r person yn aflan. Mae'r offeiriad i'w archwilio a chyhoeddi ei fod yn aflan. Mae'n glefyd heintus.
Levi WelBeibl 13:16  “Ond wedyn, os ydy'r drwg yn diflannu a chroen sych yn dod yn ei le, rhaid iddo fynd at yr offeiriad i gael ei archwilio, a bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn lân.
Levi WelBeibl 13:17  “Ond wedyn, os ydy'r drwg yn diflannu a chroen sych yn dod yn ei le, rhaid iddo fynd at yr offeiriad i gael ei archwilio, a bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn lân.
Levi WelBeibl 13:18  “Os ydy rhywun wedi bod â chwydd oedd wedi casglu, a hwnnw wedi gwella, ac wedyn mae chwydd gwyn neu smotyn coch yn codi yn yr un lle, rhaid mynd i'w ddangos i'r offeiriad.
Levi WelBeibl 13:19  “Os ydy rhywun wedi bod â chwydd oedd wedi casglu, a hwnnw wedi gwella, ac wedyn mae chwydd gwyn neu smotyn coch yn codi yn yr un lle, rhaid mynd i'w ddangos i'r offeiriad.
Levi WelBeibl 13:20  Rhaid i'r offeiriad archwilio'r briw. Os ydy'r drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, a'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan. Mae'n glefyd heintus sydd wedi torri allan ble roedd y chwydd gwreiddiol.
Levi WelBeibl 13:21  Ond os ydy'r blew ddim wedi troi'n wyn, ac os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen, a'i fod yn edrych fel petai wedi gwella ychydig, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 13:22  “Os bydd y drwg yn lledu yn y cyfnod yma, mae'r offeiriad i ddatgan fod y person hwnnw'n aflan.
Levi WelBeibl 13:23  Ond os fydd e ddim yn lledu, a dim byd ond croen sych gwyn ar ôl, mae'r offeiriad i ddatgan ei fod yn lân.
Levi WelBeibl 13:24  “Pan mae rhywun wedi llosgi ei hun, ac mae'r cnawd ble mae'r llosg wedi troi'n goch neu'n smotyn gwyn,
Levi WelBeibl 13:25  rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn a bod y drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, mae'n glefyd heintus. Mae wedi torri allan o'r llosg, a rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan.
Levi WelBeibl 13:26  Ond os ydy'r blew ddim wedi troi'n wyn, ac os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen ac fel petai'n gwella ychydig, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 13:27  Bydd yr offeiriad yn ei archwilio eto ar y seithfed dydd. Os ydy'r drwg yn lledu, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Mae'n glefyd heintus.
Levi WelBeibl 13:28  Os ydy'r drwg ddim gwaeth a heb ledu, ac fel petai'n gwella ychydig, dim ond chwydd o ganlyniad i'r llosg ydy e. Bydd yr offeiriad yn datgan ei fod yn lân, am mai dim ond craith sy'n ganlyniad i'r llosg ydy e.
Levi WelBeibl 13:29  “Os oes gan rywun friw wedi troi'n ddrwg ar y pen neu'r ên,
Levi WelBeibl 13:30  rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, a'r blew yn y drwg yn felyn ac yn denau, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw'n aflan. Ffafws ydy e, clefyd heintus ar y pen neu'r ên.
Levi WelBeibl 13:31  Ond os ydy'r drwg ddim dyfnach na'r croen, a'r blew yn dal yn iach, bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 13:32  Os fydd e heb ledu ar ôl saith diwrnod, a dim blew melyn ynddo, ac yn dal i'w weld ddim dyfnach na'r croen,
Levi WelBeibl 13:33  rhaid i'r person siafio. Ond rhaid peidio siafio lle mae'r briw. Bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod eto.
Levi WelBeibl 13:34  Os fydd e heb ledu erbyn hynny, ac yn dal i'w weld ddim dyfnach na'r croen, bydd yr offeiriad yn datgan fod y person hwnnw yn lân. Rhaid iddo olchi ei ddillad, a bydd yn lân.
Levi WelBeibl 13:35  Ond os ydy'r drwg yn lledu ar ôl i'r offeiriad ddatgan ei fod yn lân,
Levi WelBeibl 13:36  rhaid i'r offeiriad ei archwilio eto. Os ydy'r drwg wedi lledu, does dim rhaid edrych am flew melyn, mae e'n aflan.
Levi WelBeibl 13:37  Ond os ydy'r offeiriad yn meddwl ei fod heb ledu, ac os oes blew du wedi tyfu ynddo, mae wedi gwella. Mae'r person yn lân, a rhaid i'r offeiriad ddatgan ei fod yn lân.
Levi WelBeibl 13:38  “Os oes gan ddyn neu ddynes smotiau wedi troi'n llidiog ar y croen, smotiau gwyn,
Levi WelBeibl 13:39  rhaid i offeiriad eu harchwilio. Os ydy'r smotiau'n lliw gwelw, dim ond rash ydy e. Mae'r person yn lân.
Levi WelBeibl 13:40  “Os ydy dyn yn colli ei wallt o dop ei ben neu ar ei dalcen, dim ond moelni ydy e. Mae e'n lân.
Levi WelBeibl 13:41  “Os ydy dyn yn colli ei wallt o dop ei ben neu ar ei dalcen, dim ond moelni ydy e. Mae e'n lân.
Levi WelBeibl 13:42  Ond os oes smotyn wedi troi'n goch neu'n wyn ar y darn moel, mae'n glefyd heintus sy'n lledu.
Levi WelBeibl 13:43  Rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r chwydd ar ei ben yn goch a gwyn, ac yn edrych fel clefyd heintus ar y corff,
Levi WelBeibl 13:44  rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y dyn yn aflan. Mae ganddo glefyd heintus ar ei ben.
Levi WelBeibl 13:45  “Rhaid i unrhyw un sydd â clefyd heintus ar y croen rwygo'i ddillad. Rhaid iddo adael i'w wallt hongian yn flêr, cuddio hanner isaf ei wyneb, a gweiddi ‘Dw i'n aflan! Dw i'n aflan!’
Levi WelBeibl 13:46  Bydd yn aflan tra mae'r afiechyd arno, a rhaid iddo fyw ar wahân i bawb, y tu allan i'r gwersyll.
Levi WelBeibl 13:47  “Os oes llwydni gwyrdd neu goch wedi ymddangos ar unrhyw ddilledyn (lliain neu wlân), neu ar unrhyw beth wedi'i wneud o ledr, rhaid ei ddangos i'r offeiriad.
Levi WelBeibl 13:48  “Os oes llwydni gwyrdd neu goch wedi ymddangos ar unrhyw ddilledyn (lliain neu wlân), neu ar unrhyw beth wedi'i wneud o ledr, rhaid ei ddangos i'r offeiriad.
Levi WelBeibl 13:49  “Os oes llwydni gwyrdd neu goch wedi ymddangos ar unrhyw ddilledyn (lliain neu wlân), neu ar unrhyw beth wedi'i wneud o ledr, rhaid ei ddangos i'r offeiriad.
Levi WelBeibl 13:50  Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac wedyn yn ei osod o'r neilltu am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 13:51  Os bydd y llwydni wedi lledu ar ôl saith diwrnod, mae'r eitem wedi'i difetha ac mae'n aflan. Beth bynnag oedd ei phwrpas, rhaid iddi gael ei llosgi.
Levi WelBeibl 13:52  Os bydd y llwydni wedi lledu ar ôl saith diwrnod, mae'r eitem wedi'i difetha ac mae'n aflan. Beth bynnag oedd ei phwrpas, rhaid iddi gael ei llosgi.
Levi WelBeibl 13:53  “Ond os ydy'r offeiriad yn gweld fod y llwydni heb ledu,
Levi WelBeibl 13:54  rhaid golchi'r eitem, ac wedyn ei gosod o'r neilltu am saith diwrnod arall.
Levi WelBeibl 13:55  Wedyn bydd yr offeiriad yn ei harchwilio eto. Os ydy'r marc yn dal i edrych yr un fath, mae'r eitem yn aflan – hyd yn oed os nad ydy'r llwydni wedi lledu. Rhaid llosgi'r eitem, sdim ots os ydy'r marc ar y tu allan neu ar y tu mewn.
Levi WelBeibl 13:56  Ond os ydy'r marc ddim mor amlwg ar ôl iddo gael ei olchi, rhaid torri'r darn hwnnw i ffwrdd.
Levi WelBeibl 13:57  Ond wedyn, os ydy'r llwydni'n dod yn ôl, rhaid llosgi'r dilledyn neu beth bynnag oedd yr eitem o ledr.
Levi WelBeibl 13:58  Os ydy'r marc wedi diflannu'n llwyr ar ôl cael ei olchi, dylid ei olchi eto ac wedyn bydd yn lân.
Levi WelBeibl 13:59  “Dyma'r drefn wrth benderfynu os ydy dilledyn, neu unrhyw beth wedi'i wneud o ledr, yn lân neu'n aflan pan mae llwydni wedi ymddangos arno.”
Chapter 14
Levi WelBeibl 14:2  “Dyma'r drefn pan mae rhywun wedi gwella o glefyd heintus ar y croen: “Rhaid mynd â'r mater at yr offeiriad.
Levi WelBeibl 14:3  Bydd yr offeiriad yn mynd allan o'r gwersyll i'w archwilio. Os ydy'r afiechyd wedi gwella,
Levi WelBeibl 14:4  bydd yr offeiriad yn dweud wrth y person am fynd â dau aderyn byw i'w haberthu, darn o bren cedrwydd, edau goch, a brigau o isop.
Levi WelBeibl 14:5  Wedyn bydd yr offeiriad yn dweud wrtho am ladd un o'r adar uwchben potyn pridd sydd â dŵr glân ynddo.
Levi WelBeibl 14:6  Wedyn rhaid iddo gymryd yr aderyn sy'n dal yn fyw, y darn o bren cedrwydd, yr edau goch a'r brigau o isop, a'u trochi nhw i gyd yng ngwaed yr aderyn gafodd ei ladd.
Levi WelBeibl 14:7  Wedyn bydd yn taenellu peth o'r gwaed saith gwaith ar y person sydd wedi gwella o'r clefyd heintus. Yna bydd yn cyhoeddi fod y person yn lân, ac yn gadael i'r aderyn hedfan i ffwrdd.
Levi WelBeibl 14:8  “Nesaf, rhaid i'r person sydd wedi gwella o'r afiechyd olchi ei ddillad, siafio'i gorff i gyd, ac ymolchi mewn bath. Wedyn bydd yn lân. Bydd yn gallu mynd i mewn i'r gwersyll, ond ddim yn cael mynd i fyw i'w babell am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 14:9  Ar ôl hynny bydd yn siafio eto – ei ben, ei farf, ei aeliau, a gweddill ei gorff. Yna'n olaf bydd yn golchi ei ddillad eto, cymryd bath arall, a bydd e'n gwbl lân.
Levi WelBeibl 14:10  “Y diwrnod wedyn, mae i fynd â dau oen gwryw ac oen banw blwydd oed, sydd â dim byd o'i le arnyn nhw, at yr offeiriad. Hefyd tri cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew olewydd, ac un rhan o dair o litr o olew olewydd.
Levi WelBeibl 14:11  Bydd yr offeiriad sy'n arwain y ddefod glanhau yn mynd â'r person a'i offrwm o flaen yr ARGLWYDD at fynedfa'r Tabernacl.
Levi WelBeibl 14:12  Yno, bydd yr offeiriad yn aberthu un o'r ŵyn yn offrwm i gyfaddef bai. Bydd yn ei gymryd gyda'r olew olewydd ac yn eu codi nhw'n uchel i'w cyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 14:13  Mae'r oen i gael ei ladd yn yr un lle ag mae'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i'w losgi yn cael eu lladd. Yr offeiriad sydd biau fe, fel gyda'r offrwm i lanhau o bechod. Mae'n gysegredig iawn.
Levi WelBeibl 14:14  “Mae'r offeiriad wedyn i gymryd peth o waed yr offrwm i gyfaddef bai, a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde.
Levi WelBeibl 14:15  Wedyn mae'r offeiriad i gymryd peth o'r olew olewydd a'i dywallt i gledr ei law ei hun.
Levi WelBeibl 14:16  Yna rhoi bys ei law dde yn yr olew sydd yn ei law chwith, a'i daenellu saith gwaith o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 14:17  Wedyn mae i gymryd peth o'r olew sydd ar ôl yn ei law a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Mae'r olew i gael ei roi ar ben y gwaed gafodd ei roi arnyn nhw.
Levi WelBeibl 14:18  Wedyn mae i roi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben y person sy'n cael ei lanhau. Wedyn bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw:
Levi WelBeibl 14:19  bydd yn cyflwyno'r offrwm i lanhau o bechod, i wneud pethau'n iawn rhwng y person a Duw a'i lanhau o'r cyflwr aflan roedd wedi bod ynddo. Yna bydd yr offeiriad yn lladd yr offrwm sydd i'w losgi.
Levi WelBeibl 14:20  Bydd yn cyflwyno'r offrwm sydd i'w losgi a'r offrwm o rawn ar yr allor. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person a Duw, a bydd e'n lân.
Levi WelBeibl 14:21  “Os ydy rhywun ddim yn gallu fforddio hyn i gyd, mae i gymryd un oen gwryw yn offrwm i gyfaddef bai sydd i'w godi'n uchel. Bydd yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw. Hefyd, un rhan o dair o litr o olew olewydd a cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew yn offrwm o rawn.
Levi WelBeibl 14:22  Hefyd, dwy durtur neu ddwy golomen – un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi.
Levi WelBeibl 14:23  Dylai fynd â nhw at yr offeiriad ar yr wythfed diwrnod, ar gyfer y ddefod i gael ei lanhau. Mae i fynd â nhw at fynedfa'r Tabernacl, o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 14:24  “Bydd yr offeiriad yn cymryd yr oen sy'n offrwm i gyfaddef bai, gyda'r olew olewydd, ac yn eu codi nhw'n uchel yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 14:25  Mae'r oen i gael ei ladd fel offrwm i gyfaddef bai. Mae'r offeiriad i gymryd peth o waed yr offrwm a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde.
Levi WelBeibl 14:26  Wedyn mae'r offeiriad i dywallt peth o'r olew olewydd i gledr ei law chwith.
Levi WelBeibl 14:27  Yna gyda bys ei law dde, mae i daenellu peth o'r olew sydd yn ei law chwith saith gwaith o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 14:28  Wedyn mae i gymryd peth o'r olew sydd yn ei law a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Mae'r olew i gael ei roi ar ben y gwaed gafodd ei roi arnyn nhw.
Levi WelBeibl 14:29  Wedyn mae i roi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben y person sy'n cael ei lanhau, i wneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw.
Levi WelBeibl 14:30  “Wedyn mae i gymryd y turturod neu'r colomennod ifanc (beth bynnag mae'n gallu ei fforddio).
Levi WelBeibl 14:31  Mae un i'w gyflwyno'n offrwm i lanhau o bechod, a'r llall yn offrwm i'w losgi'n llwyr gyda'r offrwm o rawn. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cael ei lanhau a Duw.
Levi WelBeibl 14:32  Dyna'r drefn ar gyfer rhywun sydd wedi bod â clefyd heintus ar y croen, ond sy'n methu fforddio'r offrymau ar gyfer y ddefod glanhau.”
Levi WelBeibl 14:34  “Pan fyddwch chi wedi cyrraedd gwlad Canaan, sef y wlad dw i'n ei rhoi i chi, dyma beth sydd rhaid ei wneud os bydd tyfiant ffyngaidd yn un o'r tai:
Levi WelBeibl 14:35  Mae perchennog y tŷ i fynd at yr offeiriad, a dweud, ‘Mae'n edrych fel petai rhyw dyfiant fel ffwng yn fy nhŷ i.’
Levi WelBeibl 14:36  Bydd yr offeiriad yn dweud fod rhaid gwagio'r tŷ cyn iddo fynd yno i'w archwilio, rhag i bopeth yn y tŷ gael ei wneud yn aflan. Wedyn bydd yr offeiriad yn mynd yno i archwilio'r tŷ.
Levi WelBeibl 14:37  Os bydd e'n darganfod tyfiant gwyrdd neu goch ar y waliau sy'n ddyfnach na'r wyneb,
Levi WelBeibl 14:38  mae'r offeiriad i fynd allan o'r tŷ a'i gau am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 14:39  Wedyn bydd yr offeiriad yn mynd yn ôl mewn wythnos i archwilio'r tŷ eto. Os ydy'r tyfiant wedi lledu ar waliau'r tŷ,
Levi WelBeibl 14:40  mae'r offeiriad i orchymyn fod y cerrig oedd â'r tyfiant arnyn nhw i gael eu tynnu allan o'r waliau a'u taflu i le aflan tu allan i'r dre.
Levi WelBeibl 14:41  Wedyn bydd yn trefnu i'r plastr ar y waliau gael ei grafu i ffwrdd i gyd. Bydd y plastr hefyd yn cael ei daflu i le aflan tu allan i'r dre.
Levi WelBeibl 14:42  Wedyn bydd y waliau'n cael eu trwsio gyda cherrig newydd, a bydd y tŷ yn cael ei ailblastro.
Levi WelBeibl 14:43  “Os bydd y tyfiant yn ailymddangos ar ôl cael gwared â'r cerrig, trwsio'r waliau ac ailblastro'r tŷ,
Levi WelBeibl 14:44  mae'r offeiriad i fynd yn ôl i archwilio'r tŷ eto. Os bydd y tyfiant wedi lledu, mae'n broblem barhaol. Rhaid ystyried y tŷ yn aflan.
Levi WelBeibl 14:45  Bydd rhaid i'r tŷ gael ei dynnu i lawr, a bydd rhaid i'r cerrig, y coed, a'r plastr i gyd gael eu taflu mewn lle aflan tu allan i'r dre.
Levi WelBeibl 14:46  Bydd pawb aeth i mewn i'r tŷ pan oedd wedi'i gau, yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 14:47  A rhaid i bawb fuodd yn cysgu neu'n bwyta yn y tŷ olchi eu dillad.
Levi WelBeibl 14:48  “Ond os ydy'r offeiriad yn darganfod fod y tyfiant heb ddod yn ôl i'r tŷ ar ôl iddo gael ei ailblastro, bydd e'n cyhoeddi fod y tŷ yn lân – mae'r drwg wedi mynd.
Levi WelBeibl 14:49  Ac er mwyn dangos fod y tŷ yn lân, bydd e'n cymryd dau aderyn, darn o bren cedrwydd, edau goch a brigau o isop.
Levi WelBeibl 14:50  Bydd yn lladd un o'r adar uwchben potyn pridd sydd â dŵr glân ynddo.
Levi WelBeibl 14:51  Wedyn rhaid iddo gymryd y darn o bren cedrwydd, yr edau goch a'r brigau o isop, a'r aderyn sy'n dal yn fyw, a'u trochi nhw i gyd yng ngwaed yr aderyn gafodd ei ladd a'r dŵr, ac yna taenellu'r tŷ saith gwaith gydag e.
Levi WelBeibl 14:52  Dyna sut y bydd e'n glanhau'r tŷ gyda gwaed yr aderyn gafodd ei ladd, y dŵr, yr aderyn byw, y darn o bren cedrwydd, y brigau o isop a'r edau goch.
Levi WelBeibl 14:53  Yna bydd yn gadael i'r aderyn byw hedfan i ffwrdd allan o'r dre. Dyna sut y bydd e'n gwneud y tŷ yn lân ac yn iawn i fyw ynddo eto.
Levi WelBeibl 14:54  “Dyna'r drefn ar gyfer delio gydag unrhyw glefyd heintus, ffafws,
Levi WelBeibl 14:55  llwydni mewn dilledyn, neu dyfiant ffyngaidd mewn tŷ,
Levi WelBeibl 14:57  Dyna sut mae gwahaniaethu rhwng y glân a'r aflan. Dyna'r drefn ar gyfer delio gydag afiechydon heintus.”
Chapter 15
Levi WelBeibl 15:2  “Dwed wrth bobl Israel: “Pan mae dyn yn diodde o glefyd ar ei bidyn, mae'n ei wneud e'n aflan.
Levi WelBeibl 15:3  Gall yr aflendid fod yn ddiferiad cyson, neu'n rhyw rwystr sy'n ei gwneud yn anodd iddo biso.
Levi WelBeibl 15:4  Bydd ei wely yn aflan, ac unrhyw ddodrefnyn mae'n eistedd arno hefyd.
Levi WelBeibl 15:5  Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd y dyn neu ei wely, neu'n eistedd ar ddodrefnyn mae e wedi eistedd arno, bydd rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:6  Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd y dyn neu ei wely, neu'n eistedd ar ddodrefnyn mae e wedi eistedd arno, bydd rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:7  Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd y dyn neu ei wely, neu'n eistedd ar ddodrefnyn mae e wedi eistedd arno, bydd rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:8  “Os ydy'r dyn sydd â'r afiechyd arno yn poeri ar rywun, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi hefyd. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:9  Mae cyfrwy neu unrhyw beth arall mae'r dyn sydd â'r afiechyd arno wedi eistedd arno wrth deithio yn aflan.
Levi WelBeibl 15:10  Mae unrhyw un sy'n cyffwrdd unrhyw un o'r pethau yma yn aflan am weddill y dydd. Ac os ydy rhywun yn cario rhywbeth mae e wedi eistedd arno, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:11  Os ydy'r dyn yn cyffwrdd rhywun heb olchi ei ddwylo, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. A bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:12  Rhaid torri unrhyw lestr pridd mae e wedi'i gyffwrdd. Rhaid golchi unrhyw fowlen bren mae e wedi'i chyffwrdd.
Levi WelBeibl 15:13  “Pan mae'r dyn yn gwella o'i afiechyd, saith diwrnod wedyn mae i olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr glân.
Levi WelBeibl 15:14  Y diwrnod wedyn mae i gymryd dwy durtur neu ddwy golomen, mynd â nhw o flaen yr ARGLWYDD wrth fynedfa'r Tabernacl, a'u rhoi nhw i'r offeiriad.
Levi WelBeibl 15:15  Bydd yr offeiriad yn eu cyflwyno nhw – un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw ar ôl iddo wella o'i afiechyd.
Levi WelBeibl 15:16  “Pan mae dyn yn gollwng ei had, rhaid iddo olchi ei gorff i gyd mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:17  Os ydy ei had yn cyffwrdd rhywbeth sydd wedi'i wneud o frethyn neu o ledr, rhaid eu golchi nhw. Ond byddan nhw'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:18  Pan mae dyn yn cael rhyw gyda gwraig, rhaid i'r ddau ohonyn nhw ymolchi mewn dŵr. Ond byddan nhw'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:19  “Pan mae gwraig yn diodde o'r misglwyf, mae hi'n aros yn aflan am saith diwrnod. A bydd unrhyw un sy'n ei chyffwrdd hi yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:20  Bydd popeth mae hi'n gorwedd arno neu'n eistedd arno yn y cyfnod yma yn aflan.
Levi WelBeibl 15:21  Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd ei gwely hi, neu unrhyw beth mae hi wedi eistedd arno, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:22  Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd ei gwely hi, neu unrhyw beth mae hi wedi eistedd arno, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:23  Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd ei gwely hi, neu unrhyw beth mae hi wedi eistedd arno, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:24  Os ydy dyn yn cael rhyw gyda hi yn ystod y cyfnod yma, bydd e hefyd yn aflan am saith diwrnod. A bydd unrhyw wely mae e'n gorwedd arno yn aflan.
Levi WelBeibl 15:25  “Os ydy gwraig yn diodde o waedlif am gyfnod ar wahân i'w misglwyf, mae'r un peth yn wir bryd hynny. Mae hi'n aflan.
Levi WelBeibl 15:26  Bydd pob gwely mae hi'n gorwedd arno yn ystod y cyfnod o waedlif, ac unrhyw beth mae hi'n eistedd arno yn yr un cyfnod, yn aflan (yr un fath â phan mae hi'n diodde o'r misglwyf).
Levi WelBeibl 15:27  Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd un o'r pethau yna, bydd y person hwnnw yn aflan. Rhaid iddo olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. A bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:28  Os ydy'r gwaedlif yn peidio, mae hi i aros am saith diwrnod, ac ar ôl hynny bydd hi'n lân.
Levi WelBeibl 15:29  Y diwrnod wedyn mae hi i gymryd dwy durtur neu ddwy golomen, a mynd â nhw i'r offeiriad wrth y fynedfa i'r Tabernacl.
Levi WelBeibl 15:30  Bydd yr offeiriad yn cyflwyno un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi a Duw ar ôl i'w gwaedlif hi stopio.
Levi WelBeibl 15:31  “Dyna sut ydych chi i gadw pobl Israel ar wahân i'r pethau sy'n eu gwneud nhw'n aflan. Does gen i ddim eisiau iddyn nhw farw yn eu haflendid am eu bod nhw wedi llygru'r Tabernacl sydd yn eu plith nhw.
Levi WelBeibl 15:32  “A dyna'r drefn gyda dyn sydd â clefyd ar ei bidyn neu sydd wedi gollwng ei had ac sy'n aflan o ganlyniad i hynny.
Levi WelBeibl 15:33  A hefyd i wraig sy'n diodde o'r misglwyf, neu'n diodde o waedlif. Hefyd pan mae dyn yn cael rhyw gyda gwraig yn ystod y cyfnod pan mae hi'n aflan.”
Chapter 16
Levi WelBeibl 16:1  Ar ôl i ddau fab Aaron farw pan aethon nhw o flaen yr ARGLWYDD, dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Moses
Levi WelBeibl 16:2  a dweud wrtho: “Dwed wrth Aaron dy frawd ei fod e ddim yn cael mynd i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd unrhyw bryd mae e eisiau, neu bydd e'n marw. Dyna ble fydda i'n ymddangos, mewn cwmwl uwchben caead yr Arch, tu ôl i'r llen.
Levi WelBeibl 16:3  “Dyma sut mae e i fynd i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd: Rhaid iddo gyflwyno tarw ifanc yn offrwm i'w lanhau o'i bechod, a hwrdd yn offrwm i'w losgi.
Levi WelBeibl 16:4  Rhaid iddo ymolchi mewn dŵr gyntaf. Wedyn gwisgo'r crys lliain pwrpasol, y dillad isaf, y sash, a'r twrban, i gyd o liain. Dyma'i wisg gysegredig e.
Levi WelBeibl 16:5  Ar ran pobl Israel, mae i fynd â dau fwch gafr yn offrwm i lanhau o bechod, a hwrdd yn offrwm i'w losgi.
Levi WelBeibl 16:6  “Bydd Aaron yn cyflwyno'r tarw yn offrwm dros ei bechod ei hun, i wneud pethau'n iawn rhyngddo fe a'i gyd-offeiriaid a Duw.
Levi WelBeibl 16:7  Wedyn bydd yn mynd â'r ddau fwch gafr o flaen yr ARGLWYDD at fynedfa pabell presenoldeb Duw.
Levi WelBeibl 16:8  Yno bydd yn taflu coelbren i ddewis pa un biau'r ARGLWYDD a pha un biau Asasel.
Levi WelBeibl 16:9  Wedyn mae Aaron i gyflwyno'r bwch gafr cyntaf i'r ARGLWYDD yn offrwm i lanhau o bechod.
Levi WelBeibl 16:10  Mae bwch gafr Asasel i'w osod i sefyll yn fyw o flaen yr ARGLWYDD, iddo wneud pethau'n iawn drwy gael ei anfon allan i Asasel yn yr anialwch.
Levi WelBeibl 16:11  “Mae Aaron yn cyflwyno'r tarw yn offrwm dros ei bechod ei hun, i wneud pethau'n iawn rhyngddo fe a'i deulu a Duw.
Levi WelBeibl 16:12  Wedyn mae i gymryd padell dân wedi'i llenwi gyda marwor poeth oddi ar yr allor sydd o flaen yr ARGLWYDD, a dwy lond llaw o arogldarth persawrus wedi'i falu'n fân, a mynd i'r Lle Mwyaf Sanctaidd sydd tu ôl i'r llen.
Levi WelBeibl 16:13  Yno mae i roi'r arogldarth ar y marwor, a bydd y mwg o'r thus fel cwmwl yn gorchuddio caead yr Arch, rhag iddo farw.
Levi WelBeibl 16:14  Wedyn mae i gymryd peth o waed y tarw, a'i daenellu ar gaead yr Arch gyda'i fys ar yr ochr sy'n wynebu'r dwyrain. Mae i daenellu'r gwaed fel hyn saith gwaith.
Levi WelBeibl 16:15  “Wedyn mae e i ladd y bwch gafr sy'n offrwm i lanhau'r bobl o'u pechod, a mynd â gwaed hwnnw y tu ôl i'r llen. Mae i wneud yr un peth gyda gwaed y bwch gafr ag a wnaeth gyda gwaed y tarw, sef ei daenellu ar gaead yr Arch.
Levi WelBeibl 16:16  Dyna sut bydd e'n gwneud y cysegr yn lân. Mae'n rhaid gwneud hyn am fod pobl Israel wedi pechu a gwrthryfela yn erbyn Duw. Mae i wneud hyn am fod y Tabernacl yn aros yng nghanol pobl sy'n aflan o ganlyniad i'w pechod.
Levi WelBeibl 16:17  Does neb arall i fod yn y Tabernacl o'r amser mae e'n mynd i mewn i wneud pethau'n iawn hyd yr amser mae e'n dod allan. Bydd e'n gwneud pethau'n iawn ar ei ran ei hun a'i gyd-offeiriaid, ac ar ran pobl Israel.
Levi WelBeibl 16:18  Wedyn bydd yn mynd allan at yr allor sydd o flaen yr ARGLWYDD ac yn ei gwneud hi'n lân. Bydd yn cymryd peth o waed y tarw a gwaed y bwch gafr a'i roi ar bob un o gyrn yr allor.
Levi WelBeibl 16:19  Bydd yn taenellu peth o'r gwaed ar yr allor gyda'i fys. Dyna sut bydd e'n cysegru'r allor a'i gwneud yn lân ar ôl iddi gael ei llygru gan bechodau pobl Israel.
Levi WelBeibl 16:20  “Pan fydd Aaron wedi gorffen gwneud y Lle Mwyaf Sanctaidd, y Tabernacl, a'r allor yn lân, bydd yn mynd â'r bwch gafr byw o flaen y Tabernacl.
Levi WelBeibl 16:21  Mae i osod ei ddwy law ar ben yr anifail, tra'n cyffesu beiau pobl Israel a'r holl bethau wnaethon nhw i wrthryfela a phechu yn erbyn Duw. Mae'r cwbl yn cael ei roi ar ben y bwch gafr, a bydd dyn yno yn barod i arwain yr anifail allan i'r anialwch.
Levi WelBeibl 16:22  Bydd y bwch gafr yn cario holl feiau pobl Israel allan i le unig. Bydd yr anifail yn cael ei ollwng yn rhydd yn yr anialwch.
Levi WelBeibl 16:23  “Wedyn mae Aaron i fynd yn ôl i mewn i'r Tabernacl. Mae i dynnu'r dillad o liain roedd wedi'u gwisgo cyn mynd i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd, a'u gadael nhw yno.
Levi WelBeibl 16:24  Mae i ymolchi â dŵr mewn lle cysegredig, a rhoi ei wisgoedd offeiriadol yn ôl ymlaen. Yna mae i ddod allan ac offrymu'r offrwm i'w losgi drosto'i hun a'r offrwm i'w losgi dros y bobl, i wneud pethau'n iawn rhyngddo'i hun a Duw a rhwng y bobl a Duw.
Levi WelBeibl 16:25  Yna mae i losgi braster yr aberthau dros bechod ar yr allor.
Levi WelBeibl 16:26  “Mae'r dyn oedd wedi arwain y bwch gafr byw allan i Asasel yn yr anialwch, i olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr cyn dod yn ôl i mewn i'r gwersyll.
Levi WelBeibl 16:27  Mae gweddillion y tarw ifanc a'r bwch gafr oedd yn offrymau dros bechod (eu gwaed nhw gafodd ei gymryd i wneud pethau'n iawn yn y Lle Mwyaf Sanctaidd) i'w cymryd tu allan i'r gwersyll i gael eu llosgi yno – y crwyn, y coluddion, a'r perfeddion.
Levi WelBeibl 16:28  Mae'n rhaid i bwy bynnag sy'n gwneud hyn olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr cyn dod yn ôl i mewn i'r gwersyll.
Levi WelBeibl 16:29  “Mae hyn i fod yn rheol i chi bob amser: Bob blwyddyn, ar y degfed diwrnod o'r seithfed mis, dych chi i beidio bwyta a gwneud dim gwaith – pawb, yn bobl Israel ac unrhyw un arall sy'n byw gyda chi.
Levi WelBeibl 16:30  Dyma'r diwrnod pan mae pethau'n cael eu gwneud yn iawn drosoch chi, a phan dych chi'n cael eich gwneud yn lân. Byddwch yn cael eich glanhau o'ch holl bechodau yng ngolwg yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 16:31  Mae i fod yn Saboth – yn ddiwrnod o orffwys – i chi, a rhaid i chi beidio bwyta. Fydd y rheol yma byth yn newid.
Levi WelBeibl 16:32  Dim ond yr offeiriad sydd wedi'i gysegru a'i eneinio i gymryd lle ei dad fel archoffeiriad sydd i wneud pethau'n iawn, ac i wisgo'r wisg gysegredig o liain.
Levi WelBeibl 16:33  Bydd yn gwneud y Lle Mwyaf Sanctaidd, y Tabernacl a'r allor yn lân, ac yn gwneud pethau'n iawn rhwng Duw a'r offeiriaid a phobl Israel i gyd.
Levi WelBeibl 16:34  Mae hyn i fod yn rheol am byth. Unwaith y flwyddyn, bydd pethau'n cael eu gwneud yn iawn rhwng pobl Israel a Duw, a byddan nhw'n cael eu glanhau o'u holl bechodau.” Dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
Chapter 17
Levi WelBeibl 17:2  “Dwed wrth Aaron a'i ddisgynyddion, ac wrth bobl Israel i gyd, mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn:
Levi WelBeibl 17:3  Os ydy unrhyw un o bobl Israel yn aberthu bustach, dafad, neu afr yn y gwersyll neu'r tu allan i'r gwersyll,
Levi WelBeibl 17:4  yn lle mynd â'r anifail at y fynedfa i'r Tabernacl i'w gyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn euog o dywallt gwaed. Mae e wedi tywallt gwaed, a bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Levi WelBeibl 17:5  Pwrpas y rheol yma ydy gwneud i bobl Israel ddod â'u haberthau i'r ARGLWYDD, at yr offeiriad o flaen y fynedfa i'r Tabernacl, yn lle eu haberthu allan yn y wlad. Maen nhw i'w cyflwyno iddo yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 17:6  Bydd yr offeiriad yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor wrth y fynedfa i'r Tabernacl, ac yn llosgi'r braster fel offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 17:7  Dŷn nhw ddim i aberthu i'r gafr-ddemoniaid o hyn ymlaen. Maen nhw'n ymddwyn fel puteiniaid wrth wneud y fath beth. Fydd y rheol yma byth yn newid.
Levi WelBeibl 17:8  “Atgoffa nhw: Does neb o bobl Israel, nag unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw, i gyflwyno offrwm i'w losgi neu offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD,
Levi WelBeibl 17:9  oni bai ei fod yn dod â'r offrwm hwnnw at y fynedfa i babell presenoldeb Duw. Bydd unrhyw un sy'n gwneud yn wahanol yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Levi WelBeibl 17:10  “Bydda i'n troi yn erbyn unrhyw un sy'n bwyta cig sydd â'r gwaed yn dal ynddo – un o bobl Israel neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw. Bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Levi WelBeibl 17:11  Mae bywyd yr anifail yn y gwaed. Dw i wedi'i roi i'w aberthu ar yr allor yn eich lle chi. Y bywyd yn y gwaed sy'n gwneud pethau'n iawn rhyngoch chi a Duw.
Levi WelBeibl 17:12  Dyna pam dw i wedi dweud wrth bobl Israel fod neb ohonyn nhw, gan gynnwys mewnfudwyr o'r tu allan, i fwyta cig sydd â'r gwaed yn dal ynddo.
Levi WelBeibl 17:13  “Os ydy unrhyw un o bobl Israel, neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw, yn dal anifail neu aderyn sy'n iawn i'w fwyta, rhaid gadael i'r gwaed redeg allan ohono, ac wedyn gorchuddio'r gwaed hwnnw gyda phridd.
Levi WelBeibl 17:14  Mae bywyd pob creadur byw yn y gwaed. Dyna pam dw i wedi dweud wrth bobl Israel fod neb i fwyta cig unrhyw anifail gyda'r gwaed yn dal ynddo. Bydd pwy bynnag sy'n ei fwyta yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Levi WelBeibl 17:15  “Os ydy rhywun yn bwyta cig anifail sydd wedi marw neu sydd wedi cael ei ladd gan anifail gwyllt, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd. Ond ar ôl hynny bydd e'n lân.
Levi WelBeibl 17:16  Os nad ydy'r person hwnnw yn golchi ei ddillad ac yn ymolchi, bydd yn cael ei gosbi am ei bechod.”
Chapter 18
Levi WelBeibl 18:2  “Dwed wrth bobl Israel: “Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
Levi WelBeibl 18:3  Peidiwch gwneud yr un fath â phobl yr Aifft, ble roeddech chi'n arfer byw. Na'r un fath â phobl Canaan, ble dw i'n mynd â chi. Peidiwch dilyn eu harferion nhw.
Levi WelBeibl 18:4  Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi ddilyn fy rheolau i, a gwneud be dw i'n ddweud wrthoch chi.
Levi WelBeibl 18:5  Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i. Y rhai sy'n gwneud y pethau yma sy'n cael byw go iawn. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 18:6  “Paid cael rhyw gyda rhywun sy'n perthyn yn agos i ti.
Levi WelBeibl 18:7  Paid amharchu dy dad drwy gael rhyw gyda dy fam. Dy fam di ydy hi!
Levi WelBeibl 18:8  A phaid amharchu dy dad drwy gael rhyw gyda dy lysfam, gwraig dy dad.
Levi WelBeibl 18:9  Paid cael rhyw gyda dy chwaer neu dy hanner chwaer – sdim ots ble mae hi wedi'i geni.
Levi WelBeibl 18:10  Paid cael rhyw gyda phlentyn dy fab neu dy ferch. Maen nhw'n perthyn yn agos i ti!
Levi WelBeibl 18:12  Paid cael rhyw gyda dy fodryb, chwaer dy dad. Mae hi'n berthynas agos i dy dad.
Levi WelBeibl 18:13  Paid cael rhyw gyda dy fodryb, chwaer dy fam. Mae hi'n berthynas agos i dy fam.
Levi WelBeibl 18:14  Paid amharchu dy ewyrth, brawd dy dad, drwy gael rhyw gyda'i wraig. Dy fodryb di ydy hi!
Levi WelBeibl 18:15  Paid cael rhyw gyda dy ferch-yng-nghyfraith. Gwraig dy fab di ydy hi, a ti ddim i gael rhyw gyda hi.
Levi WelBeibl 18:16  Paid cael rhyw gyda gwraig dy frawd. Hi ydy perthynas agosaf dy frawd.
Levi WelBeibl 18:17  Paid cael rhyw gyda merch neu wyres unrhyw wraig rwyt ti wedi cael rhyw gyda hi yn y gorffennol. Maen nhw'n perthyn yn agos i'r wraig honno, ac mae gwneud peth felly yn gwbl ffiaidd.
Levi WelBeibl 18:18  Paid achosi ffrae drwy briodi chwaer dy wraig, a chael rhyw gyda hi, pan mae dy wraig yn dal yn fyw.
Levi WelBeibl 18:19  “Paid cael rhyw gyda gwraig pan mae hi'n cael ei hystyried yn ‛aflan‛ am ei bod yn diodde o'r misglwyf.
Levi WelBeibl 18:20  Paid cael rhyw gyda gwraig rhywun arall. Mae gwneud peth felly yn dy wneud di'n ‛aflan‛.
Levi WelBeibl 18:21  “Paid rhoi un o dy blant i'w losgi'n fyw i'r duw Molech. Mae gwneud peth felly yn sarhau enw Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 18:22  Dydy dyn ddim i gael rhyw gyda dyn arall. Mae hynny'n beth ffiaidd i'w wneud.
Levi WelBeibl 18:23  Paid cael rhyw gydag anifail. Mae gwneud peth felly yn dy wneud di'n aflan. Rhaid i wraig beidio rhoi ei hun i anifail i gael rhyw gydag e. Mae'n beth ffiaidd, annaturiol i'w wneud.
Levi WelBeibl 18:24  “Peidiwch gwneud eich hunain yn ffiaidd drwy wneud pethau fel yna. Dyna sut mae'r bobloedd dw i'n mynd i'w gyrru allan o'ch blaen chi wedi llygru eu hunain.
Levi WelBeibl 18:25  Mae'r tir ei hun wedi cael ei wneud yn aflan yn fy ngolwg i. Dyna pam dw i'n eu cosbi nhw. Bydd y tir yn eu chwydu nhw allan.
Levi WelBeibl 18:26  Byddwch yn ufudd, a chadw fy rheolau i. Peidiwch gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd maen nhw'n eu gwneud; neb ohonoch chi – pobl Israel nac unrhyw un arall sy'n byw gyda chi.
Levi WelBeibl 18:27  (Roedd y bobl oedd yn byw yn y wlad o'ch blaen chi yn gwneud y pethau yma i gyd, ac roedd hynny wedi gwneud y wlad yn aflan yn fy ngolwg i.)
Levi WelBeibl 18:28  Os gwnewch chi'r un pethau, bydd y tir yn eich chwydu chi allan hefyd yr un fath.
Levi WelBeibl 18:29  Pwy bynnag sy'n gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd yma, bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Levi WelBeibl 18:30  Gwnewch beth dw i'n eich siarsio chi i'w wneud, a pheidio gwneud y pethau ffiaidd sy'n cael eu gwneud gan y bobl sydd yno o'ch blaen chi. Peidiwch gwneud y pethau sy'n eich gwneud chi'n aflan yn fy ngolwg i. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”
Chapter 19
Levi WelBeibl 19:2  “Dwed wrth bobl Israel: “Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i'n sanctaidd.
Levi WelBeibl 19:3  Rhaid i bob un ohonoch chi barchu ei fam a'i dad. Rhaid i chi gadw fy Sabothau. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
Levi WelBeibl 19:4  Peidiwch troi cefn arna i ac addoli eilunod diwerth, na gwneud delwau o fetel tawdd. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
Levi WelBeibl 19:5  Pan fyddwch chi'n cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, rhaid i chi ei gyflwyno mewn ffordd sy'n ei wneud yn dderbyniol.
Levi WelBeibl 19:6  Rhaid ei fwyta ar y diwrnod mae'n cael ei aberthu neu'r diwrnod wedyn. Os oes peth ar ôl ar y trydydd diwrnod rhaid ei losgi.
Levi WelBeibl 19:7  Dydy e ddim i gael ei fwyta y diwrnod hwnnw. Mae'n gig sydd wedi'i halogi. Dydy e ddim yn dderbyniol i Dduw.
Levi WelBeibl 19:8  Bydd pwy bynnag sy'n ei fwyta yn cael ei gosbi am bechu, am ei fod wedi trin rhywbeth sydd wedi'i gysegru i'r ARGLWYDD yn sarhaus. Bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Levi WelBeibl 19:9  Pan fyddi'n casglu'r cynhaeaf, rhaid i ti beidio casglu'r cwbl o bob cornel o'r cae. A phaid mynd drwy'r cae yn casglu popeth sydd wedi'i adael ar ôl.
Levi WelBeibl 19:10  Paid casglu'r grawnwin sy'n dy winllan i gyd. A phaid mynd drwy'r winllan yn casglu'r ffrwyth sydd wedi disgyn ar lawr. Rhaid i ti adael peth i bobl dlawd, ac i'r rhai sydd ddim yn bobl Israel. Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di.
Levi WelBeibl 19:11  Peidiwch dwyn. Peidiwch dweud celwydd. Peidiwch twyllo pobl eraill.
Levi WelBeibl 19:12  Paid defnyddio fy enw wrth gymryd llw rwyt ti'n mynd i'w dorri. Mae gwneud peth felly yn amharchu enw Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 19:13  Paid cymryd mantais o bobl eraill neu ddwyn oddi arnyn nhw. Tala ei gyflog i weithiwr ar ddiwedd y dydd, paid cadw'r arian tan y bore.
Levi WelBeibl 19:14  Paid enllibio rhywun sy'n fyddar, neu osod rhywbeth o flaen rhywun sy'n ddall i wneud iddo faglu. Parcha Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 19:15  Paid bod yn annheg wrth farnu. Paid cadw ochr rhywun am ei fod yn dlawd na dangos parch at rywun am ei fod yn bwysig. Bydd yn hollol deg wrth farnu.
Levi WelBeibl 19:16  Paid mynd o gwmpas dy bobl yn dweud celwydd a hel clecs. Paid gwneud dim sy'n rhoi bywyd rhywun arall mewn perygl. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 19:17  Paid dal dig yn erbyn rhywun. Os oes gen ti ddadl gyda rhywun, mae'n well delio gyda'r peth yn agored rhag i ti bechu o'i achos e.
Levi WelBeibl 19:18  Paid dial ar bobl neu ddal dig yn eu herbyn nhw. Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 19:19  Byddwch yn ufudd i mi. Paid croesi dau fath gwahanol o anifail gyda'i gilydd. Paid hau dau fath gwahanol o hadau yn dy gaeau. Paid gwisgo dillad wedi'u gwneud o ddau fath gwahanol o ddefnydd.
Levi WelBeibl 19:20  “Os ydy dyn yn cael rhyw gyda caethferch sydd wedi'i dyweddïo i ddyn arall ond heb eto gael ei phrynu'n rhydd, rhaid iddyn nhw gael eu cosbi. Fyddan nhw ddim yn wynebu'r gosb eithaf am nad oedd hi eto wedi cael ei rhyddid.
Levi WelBeibl 19:21  Ond rhaid i'r dyn ddod ag offrwm i gyfaddef ei fai i'r ARGLWYDD at fynedfa pabell presenoldeb Duw – offrwm o hwrdd i gyfaddef ei fai.
Levi WelBeibl 19:22  Mae'r offeiriad i gymryd yr hwrdd a mynd drwy'r ddefod o wneud pethau'n iawn rhwng y dyn sydd wedi pechu a'r ARGLWYDD. Bydd Duw yn maddau iddo am y pechod.
Levi WelBeibl 19:23  “Pan fyddwch wedi cyrraedd y wlad, ac wedi plannu coed ffrwythau yno, rhaid i chi beidio casglu'r ffrwyth na'i fwyta am dair blynedd.
Levi WelBeibl 19:24  Yn y bedwaredd flwyddyn, mae'r ffrwyth i gael ei gysegru yn offrwm o fawl i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 19:25  Wedyn yn y bumed flwyddyn cewch fwyta'r ffrwyth. Os gwnewch chi hyn byddwch yn cael cnydau lawer iawn mwy. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
Levi WelBeibl 19:26  Peidiwch bwyta dim byd sydd â gwaed yn dal ynddo. Peidiwch gwneud pethau fel dweud ffortiwn neu ddewino.
Levi WelBeibl 19:27  Peidiwch siafio'r gwallt ar ochr eich pen, na trimio'ch barf,
Levi WelBeibl 19:28  na torri'ch hunain â chyllyll wrth alaru am rywun sydd wedi marw. Peidiwch rhoi tatŵ ar eich corff. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 19:29  Paid amharchu dy ferch drwy ei gwneud hi'n butain crefyddol, rhag i'r wlad i gyd droi cefn arna i ac ymddwyn yn gwbl ffiaidd fel puteiniaid.
Levi WelBeibl 19:30  Rhaid i chi gadw fy Sabothau a pharchu fy lle cysegredig i. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 19:31  Peidiwch mynd ar ôl ysbrydion neu siarad â'r meirw. Mae pethau felly'n eich gwneud chi'n aflan yng ngolwg Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
Levi WelBeibl 19:32  Dylet godi ar dy draed i ddangos parch at bobl mewn oed. Ac ofni Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 19:33  Paid cam-drin mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi.
Levi WelBeibl 19:34  Dylet ti eu trin nhw a dy bobl dy hun yr un fath. Dylet ti eu caru nhw am mai pobl ydyn nhw fel ti. Pobl o'r tu allan oeddech chi yn yr Aifft. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
Levi WelBeibl 19:35  “Peidiwch twyllo wrth fesur hyd, pwysau, na mesur hylifol rhywbeth.
Levi WelBeibl 19:36  Dylech ddefnyddio clorian sy'n gywir, pwysau cywir a mesurau sych a hylifol cywir. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft.
Levi WelBeibl 19:37  Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i gyd. Fi ydy'r ARGLWYDD.”
Chapter 20
Levi WelBeibl 20:2  “Dwed wrth bobl Israel: Os ydy unrhyw un o bobl Israel, neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw, yn aberthu un o'i blant i'r duw Molech, y gosb ydy marwolaeth. Rhaid i bobl daflu cerrig ato nes bydd wedi marw.
Levi WelBeibl 20:3  Bydda i'n troi yn erbyn person felly. Bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw, am iddo roi ei blentyn i Molech, llygru'r cysegr, a sarhau fy enw sanctaidd i.
Levi WelBeibl 20:4  Os bydd pobl y wlad yn diystyru'r peth pan mae rhywun yn rhoi ei blentyn i Molech, a ddim yn ei roi i farwolaeth,
Levi WelBeibl 20:5  bydda i fy hun yn troi yn erbyn y dyn hwnnw a'i deulu. Byddan nhw'n cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw. Dyna fydd yn digwydd iddo, ac i bawb arall sy'n gwneud yr un fath ac yn puteinio drwy addoli'r duw Molech.
Levi WelBeibl 20:6  Neu os ydy rhywun yn mynd ar ôl ysbrydion neu'n ceisio siarad â'r meirw, bydda i'n troi yn erbyn y person hwnnw, a bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Levi WelBeibl 20:7  Rhaid i chi gysegru'ch hunain i mi, a bod yn sanctaidd. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
Levi WelBeibl 20:8  Byddwch yn ufudd i mi, a gwneud beth dw i'n ddweud. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eich cysegru chi'n bobl i mi fy hun.
Levi WelBeibl 20:9  Os ydy rhywun yn melltithio'i dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth. Fe ei hun sydd ar fai.
Levi WelBeibl 20:10  Os ydy rhywun yn cysgu gyda gwraig dyn arall, y gosb ydy marwolaeth i'r ddau ohonyn nhw.
Levi WelBeibl 20:11  Mae dyn sy'n cael rhyw gyda gwraig ei dad yn amharchu ei dad. Y gosb ydy marwolaeth i'r ddau. Arnyn nhw mae'r bai.
Levi WelBeibl 20:12  Os ydy dyn yn cael rhyw gyda'i ferch-yng-nghyfraith, y gosb ydy marwolaeth i'r ddau. Maen nhw wedi gwneud peth ffiaidd. Arnyn nhw mae'r bai.
Levi WelBeibl 20:13  Os ydy dyn yn cael rhyw gyda dyn arall, mae'r ddau wedi gwneud peth ffiaidd. Y gosb ydy marwolaeth i'r ddau. Arnyn nhw mae'r bai.
Levi WelBeibl 20:14  Mae hefyd yn beth cwbl ffiaidd i ddyn gael rhyw gyda gwraig a'i mam. Y gosb ydy llosgi'r tri ohonyn nhw i farwolaeth. Does dim byd ffiaidd fel yma i ddigwydd yn eich plith chi.
Levi WelBeibl 20:15  Os ydy dyn yn cael rhyw gydag anifail, y gosb ydy marwolaeth. Ac mae'r anifail i gael ei ladd hefyd.
Levi WelBeibl 20:16  Os ydy gwraig yn mynd at anifail i gael rhyw gydag e, y gosb ydy marwolaeth. Rhaid i'r wraig a'r anifail farw. Arnyn nhw mae'r bai.
Levi WelBeibl 20:17  Mae'n beth gwarthus i ddyn gael rhyw gyda'i chwaer (merch i'w dad neu i'w fam), a'r ddau yn gweld ei gilydd yn noeth. Byddan nhw'n cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw. Mae'r dyn wedi amharchu ei chwaer, ac mae'n rhaid iddo gael ei gosbi.
Levi WelBeibl 20:18  Os ydy dyn yn cael rhyw gyda gwraig sy'n diodde o'r misglwyf, mae ffynhonnell ei gwaedlif wedi'i amlygu. Bydd y ddau ohonyn nhw yn cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Levi WelBeibl 20:19  Paid cael rhyw gyda chwaer dy fam neu chwaer dy dad. Mae gwneud hynny yn amharchu perthynas agos. Byddan nhw'n cael eu cosbi am eu pechod.
Levi WelBeibl 20:20  Os ydy dyn yn cael rhyw gyda gwraig ei ewythr, mae e'n amharchu ei ewythr. Maen nhw'n gyfrifol am eu pechod. Byddan nhw'n marw heb gael plant.
Levi WelBeibl 20:21  Mae'n beth anweddus i ddyn gymryd gwraig ei frawd. Mae e'n amharchu ei frawd. Byddan nhw'n methu cael plant.
Levi WelBeibl 20:22  “Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i gyd, er mwyn i'r tir dw i'n mynd â chi i fyw ynddo beidio eich chwydu chi allan.
Levi WelBeibl 20:23  Peidiwch gwneud yr un fath â phobl y wlad dw i'n eu gyrru allan o'ch blaen chi. Rôn i'n eu ffieiddio nhw am wneud y fath bethau.
Levi WelBeibl 20:24  Ond dw i wedi dweud wrthoch chi: Dw i wedi addo rhoi eu tir nhw i chi. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Dw i wedi'ch dewis chi i fod yn wahanol i'r gwledydd eraill.
Levi WelBeibl 20:25  Dyna pam mae'n rhaid i chi wahaniaethu rhwng yr anifeiliaid a'r adar sy'n lân a'r rhai sy'n aflan. Peidiwch llygru eich hunain drwy fwyta unrhyw anifail neu aderyn neu greadur arall dw i wedi dweud wrthoch chi ei fod yn aflan.
Levi WelBeibl 20:26  Rhaid i chi gysegru'ch hunain i mi. Dw i, yr ARGLWYDD, yn sanctaidd, a dw i wedi'ch dewis chi i fod yn bobl i mi, ac yn wahanol i'r gwledydd eraill i gyd.
Levi WelBeibl 20:27  “Os oes dyn neu wraig sy'n codi ysbrydion neu'n galw'r meirw yn ôl yn byw yn eich plith chi, y gosb am wneud peth felly ydy marwolaeth. Rhaid eu lladd drwy daflu cerrig atyn nhw. Arnyn nhw mae'r bai.”
Chapter 21
Levi WelBeibl 21:1  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dwed hyn wrth yr offeiriaid, disgynyddion Aaron: “Dydy offeiriad ddim i wneud ei hun yn aflan drwy fynd yn agos at gorff perthynas sydd wedi marw.
Levi WelBeibl 21:2  Dydy e ddim ond yn cael mynd at ei berthnasau agosaf – mam, tad, merch, brawd,
Levi WelBeibl 21:4  Dydy e ddim i fynd at rywun sy'n perthyn iddo drwy briodas. Byddai'n gwneud ei hun yn aflan wrth wneud hynny.
Levi WelBeibl 21:5  Dydy offeiriad ddim i siafio rhan o'i ben yn foel, na trimio ei farf, na torri ei hun wrth alaru.
Levi WelBeibl 21:6  Maen nhw i gysegru eu hunain i Dduw, a pheidio sarhau enw eu Duw. Nhw sy'n cyflwyno offrymau i'w llosgi i'r ARGLWYDD, sef bwyd i'w Duw. Maen nhw i fod wedi'u cysegru.
Levi WelBeibl 21:7  Dydy offeiriad ddim i briodi putain, na gwraig sydd wedi gweithio mewn teml baganaidd, na gwraig sydd wedi cael ysgariad. Maen nhw wedi cysegru eu hunain i Dduw.
Levi WelBeibl 21:8  Rhaid i chi ystyried yr offeiriad yn sanctaidd, am fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi'ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun.
Levi WelBeibl 21:9  Pan mae merch offeiriad yn amharchu ei hun drwy droi'n butain grefyddol, mae hi'n amharchu ei thad hefyd. Rhaid iddi gael ei llosgi i farwolaeth.
Levi WelBeibl 21:10  “Dydy'r archoffeiriad, sef yr un sydd wedi cael ei eneinio ag olew a'i ordeinio i wisgo'r gwisgoedd offeiriadol, ddim i adael ei wallt yn flêr nac i rwygo'i ddillad.
Levi WelBeibl 21:11  Dydy e ddim i fynd yn agos at gorff marw. Dydy e ddim i wneud ei hun yn aflan hyd yn oed pan mae ei dad neu ei fam wedi marw.
Levi WelBeibl 21:12  Dydy e ddim i fynd allan o'r cysegr, rhag iddo sarhau cysegr Duw. Mae wedi'i gysegru gydag olew eneinio ei Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 21:14  Dydy e ddim i briodi gwraig weddw, gwraig sydd wedi cael ysgariad, gwraig sydd wedi gweithio mewn teml baganaidd neu butain. Rhaid iddo briodi merch o'i lwyth ei hun sy'n wyryf,
Levi WelBeibl 21:15  rhag iddo gael plant sydd ddim yn dderbyniol i Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi'i gysegru e i mi fy hun.”
Levi WelBeibl 21:17  “Dwed wrth Aaron: Does neb o dy ddisgynyddion di sydd â nam arno i gael dod yn agos i offrymu bwyd ei Dduw.
Levi WelBeibl 21:18  Neb sy'n ddall, yn gloff, gyda wyneb wedi'i anffurfio, neu ryw nam corfforol arall,
Levi WelBeibl 21:20  yn grwca neu'n gorrach, neu'n ddyn sydd â rhywbeth o'i le ar ei lygaid, rhyw afiechyd ar y croen, neu wedi niweidio ei geilliau.
Levi WelBeibl 21:21  Does neb o ddisgynyddion Aaron sydd â nam arnyn nhw i gael dod i offrymu rhoddion i'r ARGLWYDD. Os oes nam arno, dydy e ddim yn cael cyflwyno bwyd ei Dduw.
Levi WelBeibl 21:22  Mae'n iawn iddo fwyta bwyd ei Dduw, yr hyn sydd wedi'i gysegru a'r offrymau mwyaf sanctaidd.
Levi WelBeibl 21:23  Ond dydy e ddim i gael mynd yn agos at y llen na'r allor, am fod nam arno, rhag iddo lygru fy lle cysegredig i a phopeth sydd yno. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd yn eu cysegru nhw i mi fy hun.”
Levi WelBeibl 21:24  Dyma'r pethau ddwedodd Moses wrth Aaron a'i ddisgynyddion ac wrth bobl Israel.
Chapter 22
Levi WelBeibl 22:2  “Dwed wrth Aaron a'i ddisgynyddion fod rhaid iddyn nhw ddangos parch at yr offrymau sanctaidd mae pobl Israel yn eu cyflwyno, fel eu bod nhw ddim yn sarhau fy enw sanctaidd i. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 22:3  Dwed wrthyn nhw: O hyn ymlaen, os bydd unrhyw un ohonoch chi yn aflan am ryw reswm ac yn mynd yn agos at yr offrymau sanctaidd mae pobl Israel yn eu cyflwyno, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan, a ddim yn cael dod yn agos ata i. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 22:4  “Does neb o ddisgynyddion Aaron sy'n diodde o glefyd heintus ar y croen neu glefyd ar ei bidyn i gael bwyta'r offrymau sanctaidd nes bydd e'n lân. A pheidiwch cyffwrdd unrhyw beth sydd wedi'i wneud yn aflan (gan gorff marw, dyn sydd wedi gollwng ei had,
Levi WelBeibl 22:5  unrhyw anifail aflan neu greadur aflan arall, neu unrhyw berson sy'n aflan am unrhyw reswm o gwbl).
Levi WelBeibl 22:6  Bydd y dyn sy'n cyffwrdd rhywbeth felly yn aflan am weddill y dydd, a dydy e ddim i fwyta o'r offrymau sanctaidd nes bydd e wedi ymolchi mewn dŵr.
Levi WelBeibl 22:7  Bydd e'n lân ar ôl i'r haul fachlud. Mae'n iawn iddo fwyta'r offrymau sanctaidd wedyn – wedi'r cwbl, dyna'i fwyd e.
Levi WelBeibl 22:8  “A pheidiwch bwyta rhywbeth sydd wedi marw ohono'i hun neu wedi cael ei ladd gan anifail gwyllt. Mae hynny'n eich gwneud chi'n aflan hefyd. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 22:9  Gwnewch beth dw i'n ddweud, rhag i mi eich cael chi'n euog ac i chi farw yn y cysegr am eich bod wedi'i halogi. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi'ch cysegru chi'r offeiriaid.
Levi WelBeibl 22:10  “Does neb ond yr offeiriaid a'u teulu agosaf i gael bwyta'r offrymau sanctaidd. Does neb sy'n lletya gyda'r offeiriad i'w fwyta, na neb sy'n gweithio iddo. Ond os ydy e wedi prynu caethwas, mae hwnnw a'i deulu yn cael bwyta.
Levi WelBeibl 22:11  “Does neb ond yr offeiriaid a'u teulu agosaf i gael bwyta'r offrymau sanctaidd. Does neb sy'n lletya gyda'r offeiriad i'w fwyta, na neb sy'n gweithio iddo. Ond os ydy e wedi prynu caethwas, mae hwnnw a'i deulu yn cael bwyta.
Levi WelBeibl 22:12  Os ydy merch offeiriad yn priodi dyn sydd ddim yn offeiriad, dydy hi ddim i gael bwyta'r offrymau o hynny ymlaen.
Levi WelBeibl 22:13  Ond wedyn, os ydy merch yr offeiriad yn mynd yn ôl i fyw at ei thad am fod ei gŵr wedi marw neu am ei bod hi wedi cael ysgariad, a bod dim plant ganddi, mae ganddi hawl i fwyta bwyd ei thad eto. Does neb ond yr offeiriaid a'u teulu agosaf i gael ei fwyta.
Levi WelBeibl 22:14  “Os ydy unrhyw un arall yn ddamweiniol yn bwyta'r offrymau sanctaidd, rhaid iddo dalu am y bwyd ac ychwanegu 20%.
Levi WelBeibl 22:15  Does neb i amharchu'r offrymau sanctaidd mae pobl Israel yn eu cyflwyno i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 22:16  Mae unrhyw un sydd ddim i fod i'w bwyta yn euog os ydyn nhw'n gwneud hynny. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eu cysegru nhw i mi fy hun.”
Levi WelBeibl 22:18  “Dwed wrth Aaron a'i ddisgynyddion, ac wrth bobl Israel i gyd: ‘Pan mae un o bobl Israel, neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw, yn cyflwyno offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD – offrwm wrth wneud addewid, neu un sy'n cael ei roi i'r ARGLWYDD o wirfodd –
Levi WelBeibl 22:19  dylai fod yn anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno – tarw ifanc, hwrdd neu fwch gafr.
Levi WelBeibl 22:20  Rhaid peidio cyflwyno anifail sydd â nam arno. Fydd Duw ddim yn ei dderbyn ar eich rhan chi.
Levi WelBeibl 22:21  “‘Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD ar ôl iddo gyflawni ei addewid, rhaid i'r anifail – o'r gyr o wartheg neu o'r praidd o ddefaid a geifr – fod heb ddim byd o'i le arno. Os ydy'r ARGLWYDD i'w dderbyn, rhaid iddo fod heb nam arno.
Levi WelBeibl 22:22  Peidiwch cyflwyno anifail i'r ARGLWYDD sy'n ddall, wedi torri asgwrn, wedi'i anafu, gyda briw wedi mynd yn ddrwg, brech neu gydag unrhyw afiechyd ar y croen. Dydy anifail felly ddim i gael ei gyflwyno ar yr allor yn rhodd i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 22:23  Mae'n iawn i gyflwyno anifail sydd ag un goes yn hirach neu'n fyrrach na'r lleill fel offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol, ond dim fel offrwm i wneud addewid.
Levi WelBeibl 22:24  Peidiwch cyflwyno anifail i'r ARGLWYDD sydd â'i geilliau wedi'u hanafu neu sydd wedi cael ei sbaddu. Dydy hynny ddim i gael ei wneud yn eich gwlad chi.
Levi WelBeibl 22:25  A dydy anifail felly sydd wedi'i brynu gan rywun sydd ddim yn Israeliad ddim i gael ei gyflwyno yn fwyd i'ch Duw. Am eu bod nhw wedi'u sbwylio, ac am fod nam arnyn nhw, fydd yr ARGLWYDD ddim yn eu derbyn nhw ar eich rhan chi.’”
Levi WelBeibl 22:27  “Pan mae llo neu oen neu fyn gafr yn cael ei eni, mae'r anifail i aros gyda'i fam am saith diwrnod. Ond ar ôl wythnos bydd yn iawn i'w gyflwyno'n offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 22:28  Dydy buwch neu ddafad ddim i gael ei lladd ar yr un diwrnod a'i rai bach.
Levi WelBeibl 22:29  Wrth aberthu anifail i ddiolch i'r ARGLWYDD am rywbeth, rhaid ei aberthu yn y ffordd iawn, fel bod Duw yn ei dderbyn ar eich rhan.
Levi WelBeibl 22:30  Rhaid ei fwyta y diwrnod hwnnw. Does dim ohono i gael ei adael tan y bore wedyn. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 22:32  Peidiwch sarhau fy enw sanctaidd i. Dw i eisiau i bobl Israel fy anrhydeddu i. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi'ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun.
Levi WelBeibl 22:33  Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, i mi fod yn Dduw i chi. Fi ydy'r ARGLWYDD.”
Chapter 23
Levi WelBeibl 23:2  “Dwed wrth bobl Israel: “Dw i wedi dewis amserau penodol i chi eu cadw fel gwyliau pan fyddwch chi'n dod at eich gilydd i addoli:
Levi WelBeibl 23:3  “Mae chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae'r seithfed diwrnod yn Saboth. Diwrnod i chi orffwys a dod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio lle bynnag fyddwch chi'n byw. Mae'r diwrnod yma yn Saboth i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 23:4  “Dyma'r gwyliau penodol eraill pan mae'r ARGLWYDD am i chi ddod at eich gilydd i addoli:
Levi WelBeibl 23:5  “Mae Pasg yr ARGLWYDD i gael ei ddathlu pan mae'n dechrau nosi ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf.
Levi WelBeibl 23:6  “Mae Gŵyl y Bara Croyw yn dechrau ar y pymthegfed o'r mis hwnnw. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo.
Levi WelBeibl 23:7  Ar y diwrnod cyntaf rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.
Levi WelBeibl 23:8  Rhaid i chi gyflwyno offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD bob dydd, ac ar y seithfed diwrnod dod at eich gilydd i addoli eto, a pheidio gwneud eich gwaith arferol.”
Levi WelBeibl 23:10  “Dwed wrth bobl Israel: “Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi, ac yn casglu'r cynhaeaf, mae'r ysgub gyntaf o bob cnwd i gael ei rhoi i'r offeiriad.
Levi WelBeibl 23:11  Y diwrnod ar ôl y Saboth, mae'r offeiriad i gymryd yr ysgub a'i chwifio o flaen yr ARGLWYDD, a bydd Duw yn ei derbyn hi.
Levi WelBeibl 23:12  Ar y diwrnod hwnnw hefyd, rhaid i chi gyflwyno oen blwydd oed heb nam arno yn offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 23:13  Gydag e rhaid llosgi dau gilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew olewydd, yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD, ac offrwm o ddiod hefyd, sef litr o win.
Levi WelBeibl 23:14  Peidiwch bwyta dim o'r grawn, fel y mae neu wedi'i grasu, na bara wedi'i wneud ohono chwaith, nes byddwch chi wedi cyflwyno'r offrwm yma. Fydd y rheol yma byth yn newid lle bynnag fyddwch chi'n byw.
Levi WelBeibl 23:15  “Saith wythnos union ar ôl y diwrnod pan oedd yr ysgub yn cael ei chodi yn offrwm i'r ARGLWYDD, rwyt i ddod ag offrwm arall o rawn newydd.
Levi WelBeibl 23:16  Mae hyn i ddigwydd bum deg diwrnod wedyn, sef y diwrnod ar ôl y seithfed Saboth.
Levi WelBeibl 23:17  Tyrd â dwy dorth o fara i'w codi a'u chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Maen nhw i gael eu gwneud o ddau gilogram o'r blawd gwenith gorau, a'u pobi gyda burum, fel offrwm wedi'i wneud o rawn cnwd cynta'r cynhaeaf.
Levi WelBeibl 23:18  “Hefyd, rhaid cyflwyno saith oen sy'n flwydd oed, tarw ifanc, a dau hwrdd. Anifeiliaid heb unrhyw nam arnyn nhw, i'w llosgi'n llwyr yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD, gyda'r offrwm o rawn a'r offrwm o ddiod sydd i fynd gyda pob un.
Levi WelBeibl 23:19  Rwyt i gyflwyno bwch gafr yn offrwm i lanhau o bechod, a dau oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gydnabod mor dda ydw i.
Levi WelBeibl 23:20  Rhaid i'r offeiriad eu codi nhw – sef y ddau oen – a'u chwifio nhw o flaen yr ARGLWYDD gyda'r bara sydd wedi'i wneud o rawn cnwd cynta'r cynhaeaf. Byddan nhw wedi'u cysegru ac yn cael eu rhoi i'r offeiriaid.
Levi WelBeibl 23:21  Dych chi i ddathlu ar y diwrnod yma, a dod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer. Fydd y rheol yma byth yn newid, lle bynnag fyddwch chi'n byw.
Levi WelBeibl 23:22  “Pan fyddi'n casglu'r cynhaeaf, rhaid i ti beidio casglu'r cwbl o bob cornel o'r cae. A phaid mynd drwy'r cae yn casglu popeth sydd wedi'i adael ar ôl. Rhaid i ti adael peth i bobl dlawd, a'r rhai sydd ddim yn bobl Israel. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”
Levi WelBeibl 23:24  “Dwed wrth bobl Israel: “Ar ddiwrnod cyntaf y seithfed mis dych chi i orffwys yn llwyr. Diwrnod y cofio fydd hwn, yn cael ei gyhoeddi drwy ganu utgyrn pan fyddwch chi'n dod at eich gilydd i addoli.
Levi WelBeibl 23:25  Peidiwch gweithio fel arfer, ond dod a chyflwyno rhoddion i'w llosgi i'r ARGLWYDD.”
Levi WelBeibl 23:27  “Y degfed diwrnod o'r seithfed mis ydy'r diwrnod i wneud pethau'n hollol iawn rhyngoch chi a Duw. Rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi beidio bwyta, i ddangos eich bod chi'n sori am eich pechod, a dod â rhoddion i'w llosgi i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 23:28  Peidiwch gweithio ar y diwrnod yna, am mai'r diwrnod i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi a'r ARGLWYDD eich Duw ydy e.
Levi WelBeibl 23:29  Yn wir, os bydd rhywun yn gwrthod mynd heb fwyd, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Levi WelBeibl 23:30  Ac os bydd unrhyw un yn gweithio ar y diwrnod hwnnw, bydda i'n dinistrio'r person hwnnw – bydd e'n marw.
Levi WelBeibl 23:31  Rhaid i chi beidio gweithio! Fydd y rheol yma byth yn newid, ble bynnag fyddwch chi'n byw.
Levi WelBeibl 23:32  Mae'r diwrnod yma yn ddiwrnod o orffwys llwyr i chi, fel y Saboth. Rhaid i chi beidio bwyta o'r amser pan fydd hi'n nosi y noson cynt nes iddi nosi y diwrnod hwnnw. Rhaid i chi ei gadw fel Saboth.”
Levi WelBeibl 23:34  “Dwed wrth bobl Israel: “Ar y pymthegfed diwrnod o'r seithfed mis rhaid i bawb ddathlu Gŵyl y Pebyll am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 23:35  Does neb i weithio ar ddiwrnod cynta'r Ŵyl. Byddwch yn dod at eich gilydd i addoli.
Levi WelBeibl 23:36  Rhaid i chi gyflwyno offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD bob dydd am saith diwrnod. Ar yr wythfed diwrnod, byddwch yn dod at eich gilydd i addoli a chyflwyno rhoddion i'r ARGLWYDD. Dyma'r diwrnod olaf i chi ddod at eich gilydd. Rhaid i chi beidio gweithio o gwbl.
Levi WelBeibl 23:37  “Dyma'r gwyliau penodol dw i wedi'u dewis i chi ddod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi gyflwyno rhoddion i'r ARGLWYDD – offrymau i'w llosgi'n llwyr, offrymau o rawn, aberthau, a'r offrymau o ddiod sydd wedi'u penodi ar gyfer bob dydd.
Levi WelBeibl 23:38  Hyn i gyd heb sôn am Sabothau'r ARGLWYDD, eich rhoddion, eich offrymau wrth wneud addewid, a'r offrymau dych chi'n eu rhoi o'ch gwirfodd i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 23:39  “Ar y pymthegfed diwrnod o'r seithfed mis, pan fyddwch wedi casglu'ch cnydau i gyd, rhaid i chi ddathlu a chynnal Gŵyl i'r ARGLWYDD am saith diwrnod. Mae'r diwrnod cyntaf i fod yn ddiwrnod o orffwys llwyr, a'r wythfed diwrnod hefyd.
Levi WelBeibl 23:40  Ar y diwrnod cyntaf, dych chi i gymryd canghennau o'r coed ffrwythau gorau, canghennau coed palmwydd a choed deiliog eraill, a'r helyg sy'n tyfu ar lan yr afon – a dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 23:41  Rhaid i chi ddathlu'r Ŵyl yma i'r ARGLWYDD am saith diwrnod bob blwyddyn. Mae'n rheol sydd i'w chadw bob amser yn y seithfed mis.
Levi WelBeibl 23:42  Rhaid i chi aros mewn lloches dros dro am saith diwrnod. Mae pobl Israel i gyd i aros ynddyn nhw,
Levi WelBeibl 23:43  er mwyn i'ch plant chi wybod mod i wedi gwneud i bobl Israel aros mewn llochesau felly pan ddes i â nhw allan o wlad yr Aifft. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”
Levi WelBeibl 23:44  Felly dwedodd Moses wrth bobl Israel am y gwyliau penodol roedd yr ARGLWYDD eisiau iddyn nhw eu cadw.
Chapter 24
Levi WelBeibl 24:2  “Dwed wrth bobl Israel fod rhaid iddyn nhw ddod ag olew olewydd pur i mi fel bod y lampau wedi'u goleuo'n gyson.
Levi WelBeibl 24:3  Mae Aaron i'w gosod tu allan i'r llen sydd o flaen Arch y dystiolaeth yn y Tabernacl. Rhaid iddo ofalu eu bod yn llosgi drwy'r nos o flaen yr ARGLWYDD. Mae hyn i fod yn rheol bob amser.
Levi WelBeibl 24:4  Rhaid iddo ofalu bob amser am y lampau ar y menora cysegredig sydd o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 24:5  “Rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau a phobi deuddeg torth gydag e. Dau gilogram o flawd ar gyfer pob torth.
Levi WelBeibl 24:6  Mae'r deuddeg torth i'w gosod ar y bwrdd cysegredig sydd o flaen yr ARGLWYDD. Rhaid eu gosod yn ddau bentwr o chwech yr un.
Levi WelBeibl 24:7  Yna rhaid rhoi thus pur ar y ddau bentwr, a bydd y bara yn ernes, yn rhodd i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 24:8  Mae Aaron i wneud hyn yn ddi-ffael bob Saboth, a'u gosod mewn trefn o flaen yr ARGLWYDD. Mae'n ymrwymiad mae'n rhaid i bobl Israel ei gadw bob amser.
Levi WelBeibl 24:9  Mae'r offeiriaid, Aaron a'i feibion, i gael y bara. Rhaid iddyn nhw fwyta'r torthau mewn lle cysegredig am eu bod yn rhoddion sydd wedi'u cysegru i'r ARGLWYDD.”
Levi WelBeibl 24:10  Un diwrnod, roedd dyn oedd yn fab i un o wragedd Israel, ond ei dad yn Eifftiwr, wedi mynd allan o'i babell i wersyll yr Israeliaid. A dyma fe'n dechrau ymladd gydag un o ddynion Israel. Dyma fe'n amharchu enw Duw, a melltithio. Felly dyma nhw'n mynd ag e at Moses. Enw ei fam oedd Shlomit (merch Dibri, o lwyth Dan).
Levi WelBeibl 24:11  Un diwrnod, roedd dyn oedd yn fab i un o wragedd Israel, ond ei dad yn Eifftiwr, wedi mynd allan o'i babell i wersyll yr Israeliaid. A dyma fe'n dechrau ymladd gydag un o ddynion Israel. Dyma fe'n amharchu enw Duw, a melltithio. Felly dyma nhw'n mynd ag e at Moses. Enw ei fam oedd Shlomit (merch Dibri, o lwyth Dan).
Levi WelBeibl 24:12  Dyma nhw'n ei gadw yn y ddalfa nes byddai'r ARGLWYDD yn gwneud yn glir iddyn nhw beth oedd i ddigwydd iddo.
Levi WelBeibl 24:14  “Mae'r dyn yma wedi fy melltithio i. Dos â fe allan o'r gwersyll, a gwna i'r rhai glywodd e'n melltithio osod eu dwylo ar ei ben. Wedyn rhaid i bawb sydd wedi dod at ei gilydd yno ei ladd drwy daflu cerrig ato.
Levi WelBeibl 24:15  Wedyn rhaid i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Mae unrhyw un sy'n melltithio enw ei Dduw yn gyfrifol am ei bechod,
Levi WelBeibl 24:16  ac mae unrhyw un sy'n amharchu enw'r ARGLWYDD i farw. Rhaid i bawb daflu cerrig ato a'i ladd. Sdim ots os ydy'r person yn un o bobl Israel neu'n fewnfudwr sy'n byw yn ein plith. Mae unrhyw un sy'n amharchu enw Duw i farw.
Levi WelBeibl 24:17  “‘Marwolaeth ydy'r gosb am lofruddiaeth hefyd.
Levi WelBeibl 24:18  Os ydy rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo dalu drwy roi anifail tebyg yn ei le i'r perchennog.
Levi WelBeibl 24:19  Os ydy rhywun wedi anafu person arall, rhaid i'r gosb gyfateb i'r drosedd –
Levi WelBeibl 24:20  anaf am anaf, llygad am lygad, dant am ddant – beth bynnag mae e wedi'i wneud i'r person arall, dyna sydd i gael ei wneud iddo fe.
Levi WelBeibl 24:21  Os ydy rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo wneud iawn am y peth. Ond os ydy rhywun yn llofruddio rhywun arall, rhaid iddo farw.
Levi WelBeibl 24:22  Yr un ydy'r gyfraith i bobl Israel a mewnfudwyr sy'n byw yn eu plith. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.’”
Levi WelBeibl 24:23  Ar ôl i Moses ddweud hyn, dyma nhw'n mynd â'r un oedd wedi melltithio Duw allan o'r gwersyll, a'i ladd drwy daflu cerrig ato. Felly dyma bobl Israel yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Chapter 25
Levi WelBeibl 25:1  Pan oedd Moses ar Fynydd Sinai, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho:
Levi WelBeibl 25:2  “Dwed wrth bobl Israel: “Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi, rhaid i'r tir gadw Saboth i'r ARGLWYDD a gorffwys.
Levi WelBeibl 25:3  Cewch hau eich had a thrin eich gwinllannoedd a chasglu'r cnydau am chwe mlynedd.
Levi WelBeibl 25:4  Ond mae'r seithfed flwyddyn i fod yn Saboth i'r ARGLWYDD – blwyddyn i'r tir orffwys. Does dim hau i fod, na thrin gwinllannoedd.
Levi WelBeibl 25:5  Rhaid i chi beidio casglu'r cnwd sy'n tyfu ohono'i hun, na'r grawnwin o'r gwinllannoedd sydd heb eu trin. Mae'r tir i gael gorffwys yn llwyr am flwyddyn.
Levi WelBeibl 25:6  Ond mae'n iawn i unigolion fwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun – chi'ch hunain, y dynion a'r merched sy'n gaethweision, y bobl sy'n cael eu cyflogi gynnoch chi, ac unrhyw fewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi.
Levi WelBeibl 25:7  Mae yna i'ch anifeiliaid ei fwyta hefyd, a'r anifeiliaid gwyllt sy'n byw ar y tir.
Levi WelBeibl 25:8  “Bob pedwar deg naw mlynedd (sef saith Saboth o flynyddoedd – saith wedi'i luosi gyda saith),
Levi WelBeibl 25:9  ar y degfed diwrnod o'r seithfed mis, sef y diwrnod i wneud pethau'n hollol iawn, rhaid canu'r corn hwrdd drwy'r wlad i gyd.
Levi WelBeibl 25:10  Rhaid cyhoeddi fod y flwyddyn wedyn, sef yr hanner canfed flwyddyn, wedi'i chysegru. Dyma flwyddyn y rhyddhau mawr i bawb drwy'r wlad i gyd – blwyddyn o ddathlu. Mae pawb i gael eiddo'r teulu yn ôl, ac i fynd yn ôl at ei deulu estynedig.
Levi WelBeibl 25:11  Mae hon i fod yn flwyddyn o ddathlu mawr. Rhaid i chi beidio hau na chasglu'r cnwd sy'n tyfu ohono'i hun, na'r grawnwin o'r gwinllannoedd sydd heb eu trin.
Levi WelBeibl 25:12  Mae'n flwyddyn o ddathlu, wedi'i chysegru. Mae unigolion i gael bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun.
Levi WelBeibl 25:13  “Yn y flwyddyn yma, mae pawb i gael eiddo'r teulu yn ôl.
Levi WelBeibl 25:14  Os ydy rhywun yn gwerthu eiddo, neu'n prynu gan gyd-Israeliad, rhaid bod yn gwbl deg a pheidio cymryd mantais.
Levi WelBeibl 25:15  Dylai'r pris gael ei gytuno ar sail faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers blwyddyn y rhyddhau, a nifer y cnydau fydd y tir yn eu rhoi cyn y flwyddyn rhyddhau nesaf.
Levi WelBeibl 25:16  Os oes blynyddoedd lawer i fynd, bydd y pris yn uwch. Os mai ychydig o flynyddoedd sydd i fynd, bydd y pris yn is. Beth sy'n cael ei werthu go iawn ydy nifer y cnydau fydd y tir yn eu rhoi.
Levi WelBeibl 25:17  Peidiwch cymryd mantais o rywun arall. Ofnwch eich Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
Levi WelBeibl 25:18  “Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i'n ffyddlon. Cewch fyw yn saff yn y wlad wedyn.
Levi WelBeibl 25:19  Bydd y tir yn rhoi digon i chi ei fwyta, a chewch fyw yn saff.
Levi WelBeibl 25:20  Peidiwch poeni na fydd digon i'w fwyta yn y seithfed flwyddyn, pan dych chi ddim i fod i hau na chasglu cnydau.
Levi WelBeibl 25:21  Bydda i'n gwneud yn siŵr fod cnwd y chweched flwyddyn yn ddigon i bara am dair blynedd.
Levi WelBeibl 25:22  Byddwch chi'n dal i fwyta o gnydau y chweched flwyddyn pan fyddwch chi'n hau eich had yn yr wythfed flwyddyn. Bydd digon gynnoch chi tan y nawfed flwyddyn pan fydd y cnwd newydd yn barod i'w gasglu.
Levi WelBeibl 25:23  “Dydy tir ddim i gael ei werthu am byth. Fi sydd biau'r tir. Mewnfudwyr neu denantiaid sy'n byw arno dros dro ydych chi.
Levi WelBeibl 25:24  Pan mae tir yn cael ei werthu, rhaid i'r gwerthwr fod â'r hawl i'w brynu yn ôl.
Levi WelBeibl 25:25  “Os ydy un o'ch pobl chi yn mynd mor dlawd nes bod rhaid iddo werthu peth o'i dir, mae gan ei berthynas agosaf hawl i ddod a prynu'r tir yn ôl.
Levi WelBeibl 25:26  Lle does dim perthynas agosaf yn gallu prynu'r tir, mae'r gwerthwr ei hun yn gallu ei brynu os ydy e'n llwyddo i ennill digon o arian i wneud hynny.
Levi WelBeibl 25:27  Dylai gyfri faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers iddo werthu'r tir, talu'r gwahaniaeth i'r person wnaeth ei brynu, a chymryd y tir yn ôl.
Levi WelBeibl 25:28  Os nad oes ganddo ddigon i brynu ei dir yn ôl, mae'r tir i aros yn nwylo'r prynwr hyd flwyddyn y rhyddhau mawr. Bydd yn ei gael yn ôl beth bynnag y flwyddyn honno.
Levi WelBeibl 25:29  “Os ydy rhywun yn gwerthu tŷ mewn tref sydd â wal o'i chwmpas, mae ganddo hawl i brynu'r tŷ yn ôl o fewn blwyddyn ar ôl iddo'i werthu.
Levi WelBeibl 25:30  Os nad ydy'r tŷ yn cael ei brynu'n ôl o fewn blwyddyn, mae'r prynwr a'i deulu yn cael cadw'r tŷ am byth. Fydd e ddim yn mynd yn ôl i'r perchennog gwreiddiol pan ddaw blwyddyn y rhyddhau mawr.
Levi WelBeibl 25:31  Ond mae tŷ mewn pentref agored (sydd heb wal o'i gwmpas) i gael ei drin yr un fath â darn o dir. Mae yna'r un hawliau i'w brynu'n ôl, a bydd yn mynd yn ôl i'r perchennog gwreiddiol ar flwyddyn y rhyddhau mawr.
Levi WelBeibl 25:32  “Mae'r sefyllfa'n wahanol i'r Lefiaid. Mae ganddyn nhw hawl i brynu tai sy'n eu trefi nhw yn ôl unrhyw bryd.
Levi WelBeibl 25:33  Bydd unrhyw dŷ sydd wedi cael ei werthu yn un o'u trefi nhw yn cael ei roi'n ôl iddyn nhw ar flwyddyn y rhyddhau, am mai'r tai yma ydy eu heiddo nhw.
Levi WelBeibl 25:34  A dydy tir pori o gwmpas trefi y Lefiaid ddim i gael ei werthu. Nhw sydd biau'r tir yna bob amser.
Levi WelBeibl 25:35  “Os ydy un o bobl Israel yn colli popeth ac yn methu cynnal ei hun, rhaid i chi ei helpu, yn union fel y byddech chi'n gofalu am rywun o'r tu allan neu am ymwelydd.
Levi WelBeibl 25:36  Peidiwch cymryd mantais ohono neu ddisgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad. Rhaid i chi ddangos parch at Dduw drwy adael i'r person ddal i fyw yn eich plith chi.
Levi WelBeibl 25:37  Peidiwch disgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad, a pheidiwch gwneud elw wrth werthu bwyd iddo.
Levi WelBeibl 25:38  Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, rhoi gwlad Canaan i chi, a bod yn Dduw i chi.
Levi WelBeibl 25:39  “Os ydy un o bobl Israel yn colli popeth ac yn gwerthu'i hun yn gaethwas i chi, peidiwch gwneud iddo weithio fel caethwas.
Levi WelBeibl 25:40  Dylech ei drin fel gweithiwr sy'n cael ei gyflogi gynnoch chi, neu fel mewnfudwr sy'n aros gyda chi. Mae i weithio i chi hyd flwyddyn y rhyddhau mawr.
Levi WelBeibl 25:41  Ar ôl hynny bydd e a'i blant yn rhydd i fynd yn ôl at eu teulu a'u heiddo.
Levi WelBeibl 25:42  Fy ngweision i ydyn nhw. Fi ddaeth â nhw allan o'r Aifft. Felly dŷn nhw ddim i gael eu gwerthu fel caethweision.
Levi WelBeibl 25:43  Peidiwch bod yn greulon wrthyn nhw. Dangoswch barch at eich Duw.
Levi WelBeibl 25:44  “Os oes gynnoch chi eisiau dynion neu ferched yn gaethweision, dylech chi eu prynu nhw o'r gwledydd eraill sydd o'ch cwmpas.
Levi WelBeibl 25:45  Cewch brynu plant mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi hefyd – hyd yn oed y rhai sydd wedi'u geni a'u magu yn eich gwlad chi. Gallan nhw fod yn eiddo i chi.
Levi WelBeibl 25:46  Cewch eu pasio ymlaen i'ch plant yn eich ewyllys hefyd. Cewch eu cadw nhw yn gaethweision am byth. Ond cofiwch, does gan neb hawl i drin un o bobl Israel yn greulon.
Levi WelBeibl 25:47  “Dwedwch fod un o'r mewnfudwyr, rhywun sydd ddim yn un o bobl Israel, yn llwyddo ac yn dod yn gyfoethog iawn. Mae un o bobl Israel sy'n byw yn yr un ardal yn colli popeth, ac mor dlawd nes ei fod yn gwerthu ei hun yn gaethwas i'r person sydd ddim yn dod o Israel, neu i un o'i deulu.
Levi WelBeibl 25:48  Mae'n dal efo'r hawl i brynu ei ryddid. Gall un o'i frodyr brynu ei ryddid,
Levi WelBeibl 25:49  neu ewyrth neu gefnder, neu'n wir unrhyw un o'r teulu estynedig. Neu os ydy e'n llwyddo i wneud arian, gall brynu ei ryddid ei hun.
Levi WelBeibl 25:50  Dylai dalu am y blynyddoedd sydd rhwng y flwyddyn wnaeth e werthu ei hun a blwyddyn y rhyddhau mawr. Dylai'r pris fod yr un faint â beth fyddai gweithiwr sy'n cael ei gyflogi wedi'i ennill yn y blynyddoedd hynny.
Levi WelBeibl 25:51  Os oes nifer fawr o flynyddoedd i fynd, bydd y pris yn uchel,
Levi WelBeibl 25:52  ond os mai dim ond ychydig o flynyddoedd sydd ar ôl, bydd y pris yn is.
Levi WelBeibl 25:53  Mae i gael ei drin fel gweithiwr sy'n cael ei gyflogi bob blwyddyn, a dydy e ddim i gael ei drin yn greulon.
Levi WelBeibl 25:54  Os nad oes rhywun yn prynu ei ryddid, mae'n dal i gael mynd yn rhydd ar flwyddyn y rhyddhau mawr – y dyn a'i blant gydag e.
Levi WelBeibl 25:55  Fy ngweision i ydy pobl Israel. Fi ddaeth â nhw allan o'r Aifft. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
Chapter 26
Levi WelBeibl 26:1  “Peidiwch gwneud eilun-dduwiau i chi'ch hunain. Peidiwch gwneud delw o rywbeth, neu godi colofn gysegredig, na gosod cerflun ar eich tir i blygu o'i flaen a'i addoli. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
Levi WelBeibl 26:2  Rhaid i chi gadw fy Sabothau a pharchu fy lle cysegredig i. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 26:3  “Os byddwch chi'n ufudd a ffyddlon, ac yn gwneud beth dw i'n ddweud,
Levi WelBeibl 26:4  bydda i'n anfon glaw ar yr amser iawn, er mwyn i gnydau dyfu ar y tir, a ffrwythau ar y coed.
Levi WelBeibl 26:5  Byddwch yn cael cnydau gwych, a llwythi o rawnwin. Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, a chewch fyw yn saff yn y wlad.
Levi WelBeibl 26:6  Bydda i'n rhoi heddwch a llonydd i chi. Byddwch yn gallu gorwedd i gysgu heb fod ofn. Bydda i'n cael gwared â'r anifeiliaid peryglus sy'n y wlad, a fydd neb yn ymosod ar y wlad.
Levi WelBeibl 26:7  Byddwch chi'n concro'ch gelynion. Byddwch yn eu lladd nhw gyda'r cleddyf.
Levi WelBeibl 26:8  Bydd pump ohonoch chi yn curo cant ohonyn nhw, a chant yn curo deg mil. Byddwch yn eu lladd nhw gyda'r cleddyf.
Levi WelBeibl 26:9  Bydda i'n eich helpu chi. Byddwch chi'n cael lot fawr o ddisgynyddion. Bydda i'n cadw'r ymrwymiad wnes i i chi.
Levi WelBeibl 26:10  Fydd gynnoch chi ddim digon o le i gadw eich cnydau i gyd. Bydd rhaid i chi daflu peth o gnwd y flwyddyn cynt i ffwrdd.
Levi WelBeibl 26:11  Bydda i'n dod i fyw yn eich canol chi. Fydda i ddim yn eich ffieiddio chi.
Levi WelBeibl 26:12  Bydda i'n byw yn eich plith chi. Fi fydd eich Duw chi, a chi fydd fy mhobl i.
Levi WelBeibl 26:13  Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, er mwyn i chi beidio bod yn gaethweision iddyn nhw. Dyma fi'n torri'r iau ar eich cefnau chi, i chi allu sefyll yn syth a cherdded yn rhydd.
Levi WelBeibl 26:14  “Ond os byddwch chi'n anufudd ac yn gwrthod gwneud beth dw i'n ei ddweud, byddwch chi'n cael eich cosbi.
Levi WelBeibl 26:15  Os byddwch chi'n gwrthod cadw fy rheolau i ac yn torri'r ymrwymiad wnes i gyda chi,
Levi WelBeibl 26:16  dyma fydda i'n ei wneud: Bydda i'n dod â thrychineb sydyn arnoch chi – afiechydon na ellir mo'u gwella, gwres uchel, colli'ch golwg a cholli archwaeth at fwyd. Byddwch yn hau eich had i ddim byd achos bydd eich gelynion yn bwyta'r cnwd.
Levi WelBeibl 26:17  Bydda i'n troi yn eich erbyn chi. Bydd eich gelynion yn eich sathru chi dan draed. Bydd y rhai sy'n eich casáu chi yn eich rheoli chi. Byddwch chi'n dianc i ffwrdd er bod neb yn eich erlid chi.
Levi WelBeibl 26:18  Ac os byddwch chi'n dal ddim yn gwrando arna i, bydda i'n eich cosbi chi yn llawer iawn gwaeth.
Levi WelBeibl 26:19  Bydda i'n delio gyda'ch balchder ystyfnig chi. Bydd yr awyr yn galed fel haearn, a'r ddaear fel pres, am fod dim glaw.
Levi WelBeibl 26:20  Byddwch chi'n gweithio'n galed i ddim byd. Fydd dim cnydau'n tyfu ar y tir, a dim ffrwyth yn tyfu ar y coed.
Levi WelBeibl 26:21  “Os dych chi'n mynnu tynnu'n groes a gwrthod gwrando, bydda i'n eich cosbi chi'n waeth fyth.
Levi WelBeibl 26:22  Bydda i'n anfon anifeiliaid gwyllt i ymosod arnoch chi. Byddan nhw'n lladd eich plant, yn difa eich anifeiliaid. Bydd y boblogaeth yn lleihau a'r ffyrdd yn wag.
Levi WelBeibl 26:23  “Os fydd hynny i gyd ddim yn gwneud i chi droi'n ôl ata i, ac os byddwch chi'n dal i dynnu'n groes,
Levi WelBeibl 26:24  bydda i'n troi yn eich erbyn chi. Bydda i, ie fi fy hun, yn eich cosbi chi'n waeth fyth.
Levi WelBeibl 26:25  Bydd rhyfel yn dechrau. Dyma'r dial wnes i sôn amdano pan wnes i'r ymrwymiad gyda chi. Byddwch chi'n dianc i'r trefi caerog, ond yn dioddef o afiechydon yno, a bydd eich gelynion yn eich dal chi.
Levi WelBeibl 26:26  Fydd gynnoch chi ddim bwyd. Bydd un ffwrn yn ddigon i ddeg o wragedd bobi ynddi. Fydd yna ddim ond briwsion i bawb. Fydd yna byth ddigon i'w fwyta.
Levi WelBeibl 26:27  “Wedyn, os fyddwch chi'n dal ddim yn gwrando arna i, ac yn dal i dynnu'n groes,
Levi WelBeibl 26:28  bydda i'n wirioneddol ddig. Bydda i'n troi yn eich erbyn chi, a bydda i, ie fi fy hun, yn eich cosbi chi'n ofnadwy.
Levi WelBeibl 26:29  Byddwch chi'n dioddef newyn mor ofnadwy nes byddwch chi'n bwyta eich plant eich hunain – eich bechgyn a'ch merched.
Levi WelBeibl 26:30  Bydda i'n dinistrio'ch allorau paganaidd chi, a'ch lleoedd cysegredig, ac yn taflu'ch cyrff marw chi ar ‛gyrff‛ eich eilun-dduwiau chi. Bydda i'n eich ffieiddio chi.
Levi WelBeibl 26:31  Bydd eich trefi'n adfeilion a'ch temlau chi'n cael eu dinistrio. Fydd eich offrymau chi ddim yn fy mhlesio i o gwbl.
Levi WelBeibl 26:32  Bydd eich tir chi yn y fath gyflwr, bydd y gelynion fydd yn dod i fyw yno wedi dychryn.
Levi WelBeibl 26:33  Bydd y rhyfel yn dinistrio'r wlad a'r trefi, a byddwch chi'n cael eich gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd.
Levi WelBeibl 26:34  Tra byddwch chi'n gaethion yng ngwlad eich gelynion, bydd y tir yn cael gorffwys.
Levi WelBeibl 26:35  Bydd e'n cael mwynhau gorffwys y Saboth roedd i fod i'w gael pan oeddech chi'n byw yno.
Levi WelBeibl 26:36  Bydd y rhai ohonoch chi fydd yn dal yn fyw wedi anobeithio'n llwyr yng ngwlad y gelyn. Bydd sŵn deilen yn ysgwyd yn ddigon i'w dychryn nhw. Byddan nhw'n dianc oddi wrth y cleddyf ac yn syrthio, er bod neb yn eu herlid nhw.
Levi WelBeibl 26:37  Byddwch chi'n baglu dros eich gilydd wrth ddianc, er bod neb ar eich ôl chi. Fydd neb ohonoch chi'n ddigon cryf i sefyll yn erbyn y gelyn.
Levi WelBeibl 26:38  Bydd llawer ohonoch chi'n marw ac yn cael eich claddu mewn gwledydd tramor.
Levi WelBeibl 26:39  A bydd y rhai sy'n dal yn fyw yn gwywo yng ngwlad y gelyn o achos eu drygioni, a'r holl bethau drwg wnaeth eu hynafiaid.
Levi WelBeibl 26:40  “Ond os gwnân nhw gyfaddef eu bod nhw a'u hynafiaid wedi bod ar fai; eu bod nhw wedi fy mradychu, bod yn anffyddlon a thynnu'n groes i mi;
Levi WelBeibl 26:41  (Dyna pam wnes i droi yn eu herbyn nhw a mynd â nhw i wlad eu gelynion); os gwnân nhw stopio bod mor ystyfnig a derbyn eu bod nhw wedi bod ar fai,
Levi WelBeibl 26:42  bydda i'n cofio'r ymrwymiad wnes i gyda Jacob, a gydag Isaac, a gydag Abraham, a beth wnes i ei addo am y tir rois i iddyn nhw.
Levi WelBeibl 26:43  Byddan nhw wedi gadael y tir er mwyn iddo fwynhau gorffwys y Sabothau roedd i fod i'w cael. Bydd y tir yn gorwedd yn anial hebddyn nhw. Bydd rhaid iddyn nhw dderbyn eu bod nhw wedi bod ar fai yn gwrthod gwrando arna i na chadw fy rheolau.
Levi WelBeibl 26:44  “Ac eto i gyd, pan fyddan nhw yng ngwlad eu gelynion, fydda i ddim yn troi cefn arnyn nhw a'u ffieiddio nhw a'u dinistrio nhw'n llwyr. Fydda i ddim yn torri'r ymrwymiad wnes i gyda nhw, am mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw.
Levi WelBeibl 26:45  Bydda i'n cofio'r ymrwymiad wnes i gyda'i hynafiaid nhw pan ddes i â nhw allan o'r Aifft i fod yn Dduw iddyn nhw. Roedd pobl y gwledydd i gyd wedi gweld y peth. Fi ydy'r ARGLWYDD.”
Levi WelBeibl 26:46  Dyma'r rheolau a'r canllawiau roddodd yr ARGLWYDD i bobl Israel drwy Moses ar Fynydd Sinai.
Chapter 27
Levi WelBeibl 27:2  “Dwed wrth bobl Israel: “Os ydy rhywun wedi addo cyflwyno person i mi, dyma'r prisiau sydd i'w talu (yn arian swyddogol y cysegr):
Levi WelBeibl 27:3  – Pum deg darn arian am ddyn rhwng ugain oed a chwe deg oed, a tri deg darn arian am wraig. – Dau ddeg darn arian am fachgen rhwng pump oed ac ugain oed, a deg darn arian am ferch. – Pump darn arian am fachgen rhwng un mis a phump oed, a tri darn arian am ferch. – Un deg pump darn arian am ddyn dros chwe deg oed, a deg darn arian am wraig.
Levi WelBeibl 27:4  – Pum deg darn arian am ddyn rhwng ugain oed a chwe deg oed, a tri deg darn arian am wraig. – Dau ddeg darn arian am fachgen rhwng pump oed ac ugain oed, a deg darn arian am ferch. – Pump darn arian am fachgen rhwng un mis a phump oed, a tri darn arian am ferch. – Un deg pump darn arian am ddyn dros chwe deg oed, a deg darn arian am wraig.
Levi WelBeibl 27:5  – Pum deg darn arian am ddyn rhwng ugain oed a chwe deg oed, a tri deg darn arian am wraig. – Dau ddeg darn arian am fachgen rhwng pump oed ac ugain oed, a deg darn arian am ferch. – Pump darn arian am fachgen rhwng un mis a phump oed, a tri darn arian am ferch. – Un deg pump darn arian am ddyn dros chwe deg oed, a deg darn arian am wraig.
Levi WelBeibl 27:6  – Pum deg darn arian am ddyn rhwng ugain oed a chwe deg oed, a tri deg darn arian am wraig. – Dau ddeg darn arian am fachgen rhwng pump oed ac ugain oed, a deg darn arian am ferch. – Pump darn arian am fachgen rhwng un mis a phump oed, a tri darn arian am ferch. – Un deg pump darn arian am ddyn dros chwe deg oed, a deg darn arian am wraig.
Levi WelBeibl 27:7  – Pum deg darn arian am ddyn rhwng ugain oed a chwe deg oed, a tri deg darn arian am wraig. – Dau ddeg darn arian am fachgen rhwng pump oed ac ugain oed, a deg darn arian am ferch. – Pump darn arian am fachgen rhwng un mis a phump oed, a tri darn arian am ferch. – Un deg pump darn arian am ddyn dros chwe deg oed, a deg darn arian am wraig.
Levi WelBeibl 27:8  “Os ydy'r un wnaeth yr adduned yn rhy dlawd i dalu'r pris llawn, rhaid iddo fynd â'r person sydd wedi cael ei gyflwyno i mi at yr offeiriad. Bydd yr offeiriad yn penderfynu faint mae'r sawl wnaeth yr adduned yn gallu ei fforddio.
Levi WelBeibl 27:9  “Os ydy rhywun wedi addo rhoi anifail i'w gyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD, mae'r rhodd yna'n gysegredig.
Levi WelBeibl 27:10  Dydy'r anifail ddim i gael ei gyfnewid am un arall, hyd yn oed os ydy'r anifail hwnnw'n un gwell. Os ydy e'n ceisio gwneud hynny, bydd y ddau anifail yn gysegredig.
Levi WelBeibl 27:11  Os ydy e ddim yn anifail cymwys i'w offrymu i'r ARGLWYDD, rhaid iddo fynd â'r anifail hwnnw i'w ddangos i'r offeiriad.
Levi WelBeibl 27:12  Bydd yr offeiriad yn penderfynu beth ydy gwerth yr anifail.
Levi WelBeibl 27:13  Wedyn, os ydy'r person wnaeth addo'r anifail eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris.
Levi WelBeibl 27:14  “Os ydy rhywun yn addo rhoi ei dŷ i'w gysegru i'r ARGLWYDD, mae'r offeiriad i benderfynu beth ydy gwerth y tŷ.
Levi WelBeibl 27:15  Os ydy'r person wnaeth gyflwyno'r tŷ eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris, a bydd yn ei gael.
Levi WelBeibl 27:16  “Os ydy rhywun yn addo rhoi peth o dir y teulu i'w gysegru i'r ARGLWYDD, dylid penderfynu beth ydy ei werth yn ôl faint o gnwd fyddai'n tyfu arno. Pum deg darn arian am bob cant cilogram o haidd.
Levi WelBeibl 27:17  Os ydy'r tir yn cael ei addo yn ystod blwyddyn y rhyddhau mawr, rhaid talu'r gwerth llawn.
Levi WelBeibl 27:18  Unrhyw bryd ar ôl hynny, bydd yr offeiriad yn penderfynu faint yn llai sydd i'w dalu ar sail faint o flynyddoedd sydd ar ôl cyn y flwyddyn rhyddhau nesaf.
Levi WelBeibl 27:19  Os ydy'r person wnaeth gyflwyno'r tir eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris, a bydd yn ei gael.
Levi WelBeibl 27:20  Ond os ydy e'n gwerthu'r tir i rywun arall, fydd e ddim yn cael ei brynu'n ôl byth.
Levi WelBeibl 27:21  Pan ddaw blwyddyn y rhyddhau mawr, bydd y tir wedi'i neilltuo unwaith ac am byth i'r ARGLWYDD ei gadw. Bydd yn cael ei roi yng ngofal yr offeiriaid.
Levi WelBeibl 27:22  “Os ydy rhywun yn cysegru i'r ARGLWYDD ddarn o dir sydd wedi'i brynu (sef tir oedd ddim yn perthyn i'w deulu),
Levi WelBeibl 27:23  bydd yr offeiriad yn penderfynu faint mae e'n werth. Bydd yn ei brisio ar sail faint o flynyddoedd sydd ar ôl cyn y flwyddyn rhyddhau nesaf. Rhaid talu am y tir y diwrnod hwnnw. Mae wedi'i gysegru i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 27:24  Ar flwyddyn y rhyddhau, bydd y tir yn mynd yn ôl i'r person y cafodd y tir ei brynu ganddo'n wreiddiol (sef y sawl roedd y tir yn rhan o etifeddiaeth ei deulu).
Levi WelBeibl 27:25  Mae'r pris i'w dalu yn ôl mesur safonol y cysegr – sef un sicl yn pwyso dau ddeg gera.
Levi WelBeibl 27:26  “Does gan neb hawl i gyflwyno anifail cyntaf-anedig i'r ARGLWYDD (buwch, dafad na gafr), achos yr ARGLWYDD piau'r anifail hwnnw yn barod.
Levi WelBeibl 27:27  Os ydy e ddim yn anifail cymwys i'w offrymu i'r ARGLWYDD, mae ganddo hawl i'w brynu'n ôl. Rhaid iddo dalu beth ydy gwerth yr anifail, ac ychwanegu 20%. Os ydy'r anifail ddim yn cael ei brynu yn ôl, rhaid iddo'i werthu am faint bynnag mae e'n werth.
Levi WelBeibl 27:28  “Dydy rhywbeth sydd wedi'i gadw o'r neilltu i'r ARGLWYDD (yn berson dynol, yn anifail neu'n ddarn o dir y teulu) ddim i gael ei werthu na'i brynu'n ôl. Mae popeth sydd wedi'i gadw o'r neilltu iddo yn gysegredig. Mae'n perthyn i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 27:29  Dydy person dynol sydd wedi'i gadw o'r neilltu iddo ddim i gael ei brynu'n ôl. Rhaid i'r person hwnnw gael ei ladd.
Levi WelBeibl 27:30  “Yr ARGLWYDD sydd biau un rhan o ddeg o bopeth yn y wlad – y cnydau o rawn ac o ffrwythau. Mae wedi'i gysegru i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 27:31  Os ydy rhywun eisiau prynu'r un rhan o ddeg yn ôl, rhaid iddo dalu'r pris llawn amdano ac ychwanegu 20%.
Levi WelBeibl 27:32  “Mae un rhan o ddeg o'r gyr o wartheg ac o'r praidd o ddefaid a geifr i gael ei gysegru i'r ARGLWYDD. Wrth iddyn nhw basio dan ffon y bugail i gael eu cyfrif, mae pob degfed anifail i gael ei gysegru i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 27:33  Does gan y perchennog ddim hawl i wahanu'r anifeiliaid da oddi wrth y rhai gwan, neu i gyfnewid un o'r anifeiliaid. Os ydy e'n gwneud hynny, bydd y ddau anifail wedi'u cysegru i'r ARGLWYDD. Fydd dim hawl i brynu'r naill na'r llall yn ôl.”
Levi WelBeibl 27:34  Dyma'r rheolau roddodd yr ARGLWYDD i bobl Israel drwy Moses ar Fynydd Sinai.