Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
DEUTERONOMY
Up
Chapter 1
Deut WelBeibl 1:1  Dyma beth ddwedodd Moses wrth bobl Israel i gyd pan oedden nhw yn yr anialwch yr ochr draw i afon Iorddonen – y tir anial sydd gyferbyn â Swff, rhwng Paran a Toffel, Laban, Chatseroth a Di-sahab.
Deut WelBeibl 1:2  Fel arfer mae'n cymryd un deg un diwrnod i deithio o Fynydd Sinai i Cadesh-barnea ar draws bryniau Seir.
Deut WelBeibl 1:3  Ond roedd pedwar deg mlynedd wedi mynd heibio. Roedd hi'r diwrnod cyntaf o fis un deg un y flwyddyn honno pan wnaeth Moses annerch pobl Israel, a dweud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn iddo.
Deut WelBeibl 1:4  Digwyddodd hyn ar ôl iddo ennill y frwydr yn erbyn Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, oedd yn byw yn Ashtaroth ac Edrei.
Deut WelBeibl 1:5  Yr ochr draw i afon Iorddonen, ar dir Moab, dyma Moses yn mynd ati i esbonio cyfarwyddiadau Duw iddyn nhw:
Deut WelBeibl 1:6  “Pan oedden ni wrth Fynydd Sinai, dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn dweud wrthon ni, ‘Dych chi wedi aros wrth y mynydd yma ddigon hir.
Deut WelBeibl 1:7  Mae'n bryd i chi symud yn eich blaenau. Ewch i gyfeiriad bryniau'r Amoriaid, a'r ardaloedd cyfagos – y tir anial, y bryniau, yr iseldir i'r gorllewin, y Negef a'r arfordir – sef gwlad Canaan i gyd, ac o Libanus yr holl ffordd i afon Ewffrates fawr.
Deut WelBeibl 1:8  Mae'r tir yma i gyd i chi. Dyma'r tir wnes i addo ei roi i'ch hynafiaid chi – Abraham, Isaac a Jacob. Ewch, a'i gymryd drosodd.’
Deut WelBeibl 1:9  “Dyna'r adeg hefyd pan ddwedais wrthoch chi, ‘Alla i ddim gwneud hyn ar fy mhen fy hun – mae'n ormod o faich.
Deut WelBeibl 1:10  Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud i'ch niferoedd chi dyfu, a bellach mae yna gymaint ohonoch chi ag sydd o sêr yn yr awyr!
Deut WelBeibl 1:11  A boed i'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ddal ati i'ch lluosi chi fil gwaith drosodd eto, a'ch bendithio chi fel gwnaeth e addo gwneud!
Deut WelBeibl 1:12  Ond sut alla i ddelio gyda'ch holl broblemau chi, a godde'ch cwynion chi i gyd?
Deut WelBeibl 1:13  Dewiswch ddynion doeth, deallus, o bob llwyth, i mi eu comisiynu nhw'n arweinwyr arnoch chi.’
Deut WelBeibl 1:15  Felly dyma fi'n cymryd y dynion doeth, deallus yma, a'u gwneud nhw'n arweinwyr y llwythau – yn swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant, a deg o bobl.
Deut WelBeibl 1:16  “Cafodd rhai eraill eu penodi'n farnwyr, a dyma fi'n eu siarsio nhw i gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif, a delio'n deg gyda'r achosion fyddai'n codi rhwng pobl – nid yn unig rhwng pobl Israel a'i gilydd, ond hefyd rhwng pobl Israel a'r rhai o'r tu allan oedd yn byw gyda nhw.
Deut WelBeibl 1:17  Dwedais wrthyn nhw am beidio dangos ffafriaeth wrth farnu achos, ond i wrando ar bawb, beth bynnag fo'i statws. A ddylen nhw ddim ofni pobl. Duw sy'n gwneud y barnu. Ac os oedd achos yn rhy gymhleth iddyn nhw, gallen nhw ofyn i mi ddelio gydag e.
Deut WelBeibl 1:18  “Rôn i wedi dweud wrthoch chi am bopeth roedd disgwyl i chi ei wneud.
Deut WelBeibl 1:19  “Yna, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i ni, dyma ni'n gadael Mynydd Sinai, a dechrau teithio drwy'r anialwch mawr peryglus yna, i gyfeiriad bryniau'r Amoriaid. A dyma ni'n cyrraedd Cadesh-barnea.
Deut WelBeibl 1:20  Ac yno dwedais wrthoch chi, ‘Dŷn ni wedi cyrraedd y bryniau lle mae'r Amoriaid yn byw. Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi'r tir yma i ni nawr.
Deut WelBeibl 1:21  Edrychwch, mae'r tir yna i chi ei gymryd. Ewch, a'i gymryd, fel mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi dweud wrthoch chi. Peidiwch bod ag ofn na phanicio.’
Deut WelBeibl 1:22  “Ond daethoch ata i a dweud, ‘Beth am anfon dynion i edrych dros y wlad gyntaf? Gallen nhw awgrymu pa ffordd fyddai orau i fynd, a rhoi gwybodaeth i ni am y trefi sydd yno.’
Deut WelBeibl 1:23  “Rôn i'n meddwl ei fod yn syniad da, felly dyma fi'n anfon un deg dau o ddynion o'n blaenau ni, un o bob llwyth.
Deut WelBeibl 1:24  Aethon nhw drosodd i'r bryniau, a chyrraedd Wadi Eshcol. Ar ôl edrych dros y wlad,
Deut WelBeibl 1:25  dyma nhw'n dod yn ôl gyda pheth o gynnyrch y tir. Roedden nhw'n dweud, ‘Mae'r tir mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei roi i ni yn dir da!’
Deut WelBeibl 1:26  “Ond dyma chi'n gwrthod mynd yn eich blaenau. Yn lle hynny dyma chi'n gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD,
Deut WelBeibl 1:27  aros yn eich pebyll, a dechrau cwyno ymhlith eich gilydd, a dweud pethau fel, ‘Daeth yr ARGLWYDD â ni allan o'r Aifft am ei fod yn ein casáu ni, ac er mwyn i ni gael ein lladd gan yr Amoriaid!
Deut WelBeibl 1:28  I ble awn ni? Mae'r dynion aeth i chwilio'r tir wedi'n gwneud ni'n hollol ddigalon wrth sôn am bobl sy'n dalach ac yn gryfach na ni. Mae waliau amddiffynnol eu trefi nhw yn codi'n uchel i'r awyr. Ac yn waeth na hynny, maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi gweld cewri yno – disgynyddion Anac.’
Deut WelBeibl 1:29  “Gwnes i drio dweud wrthoch chi, ‘Does dim rhaid i chi fod ag ofn!
Deut WelBeibl 1:30  Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd o'ch blaenau chi! Bydd e'n ymladd drosoch chi, yn union fel y gwelsoch chi e'n gwneud yn yr Aifft!
Deut WelBeibl 1:31  Meddyliwch sut wnaeth e ofalu amdanoch chi yn yr anialwch! Mae wedi'ch cario chi yr holl ffordd yma, fel mae dyn yn cario'i fab!’
Deut WelBeibl 1:32  “Ond doedd dim ots beth roeddwn i'n ddweud, roeddech chi'n dal i wrthod trystio'r ARGLWYDD eich Duw,
Deut WelBeibl 1:33  yr un oedd yn mynd o'ch blaen chi, ac yn dod o hyd i leoedd i chi godi gwersyll. Roedd yn eich arwain chi mewn colofn dân yn y nos a cholofn niwl yn y dydd, ac yn dangos i chi pa ffordd i fynd.
Deut WelBeibl 1:34  “Pan glywodd yr ARGLWYDD beth roeddech chi'n ei ddweud, roedd wedi digio go iawn hefo chi, a dyma fe'n addo ar lw:
Deut WelBeibl 1:35  ‘Fydd neb o'r genhedlaeth yma yn cael gweld y tir da wnes i addo ei roi i'ch hynafiaid chi!
Deut WelBeibl 1:36  Caleb fab Jeffwnne fydd yr unig eithriad. Bydd e'n cael mynd yno, a bydda i'n rhoi iddo fe a'i ddisgynyddion y tir y buodd e'n cerdded arno, am ei fod wedi bod yn gwbl ffyddlon i mi.’
Deut WelBeibl 1:37  “Ac roedd yr ARGLWYDD wedi digio hefo fi hefyd o'ch achos chi. Dwedodd, ‘Fyddi di ddim yn cael mynd yno chwaith.
Deut WelBeibl 1:38  Ond bydd Josua fab Nwn, dy was di, yn cael mynd. Dw i eisiau i ti ei annog e. Fe ydy'r un fydd yn arwain Israel i gymryd y tir.
Deut WelBeibl 1:39  Ond bydd y plant bach hefyd, y rhai oedd gynnoch chi ofn iddyn nhw gael eu dal, yn cael mynd – y rhai sy'n rhy ifanc eto i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Bydda i'n rhoi'r tir iddyn nhw, a nhw fydd piau e.
Deut WelBeibl 1:40  Ond nawr rhaid i chi droi'n ôl, a mynd drwy'r anialwch yn ôl i gyfeiriad y Môr Coch.’
Deut WelBeibl 1:41  “Roeddech chi'n cyfaddef wedyn eich bod ar fai, a dyma chi'n dweud, ‘Dŷn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Gwnawn ni fynd i ymladd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthon ni.’ “A dyma chi i gyd yn gwisgo'ch arfau, yn barod i fynd i ymladd yn y bryniau.
Deut WelBeibl 1:42  Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Dwed wrthyn nhw am beidio mynd i ymladd. Dw i ddim gyda nhw. Byddan nhw'n cael eu curo gan eu gelynion.’
Deut WelBeibl 1:43  “Rôn i wedi dweud wrthoch chi, ond roeddech chi'n gwrthod gwrando. Dyma chi'n gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD eto. I ffwrdd â chi, yn llawn ohonoch chi'ch hunain.
Deut WelBeibl 1:44  Dyma'r Amoriaid oedd yn byw yno yn dod allan fel haid o wenyn i ymladd gyda chi, a'ch gyrru chi i ffwrdd! Dyma nhw'n eich taro chi i lawr yr holl ffordd o dir Seir i dref Horma.
Deut WelBeibl 1:45  Pan gyrhaeddoch chi'n ôl, dyma chi'n mynd i ofyn i'r ARGLWYDD am help, ond wnaeth e ddim cymryd sylw ohonoch chi.
Deut WelBeibl 1:46  Felly dyma chi'n aros yn Cadesh am amser hir iawn.
Chapter 2
Deut WelBeibl 2:1  “A dyma ni'n troi'n ôl i gyfeiriad yr anialwch a'r Môr Coch, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthon ni. Buon ni'n crwydro o gwmpas cyrion bryniau Seir am amser hir iawn.
Deut WelBeibl 2:3  ‘Dych chi wedi bod yn crwydro o gwmpas y mynyddoedd yma yn llawer rhy hir. Trowch am y gogledd.
Deut WelBeibl 2:4  A dywed hyn wrth y bobl, “Dych chi ar fin croesi'r ffin i diriogaeth pobl Edom, sy'n perthyn i chi (sef disgynyddion Esau). Ond bydd ganddyn nhw'ch ofn chi, felly byddwch yn ofalus.
Deut WelBeibl 2:5  Peidiwch bygwth nhw. Dw i ddim yn mynd i roi modfedd sgwâr o'u tir nhw i chi. Dw i wedi rhoi bryniau Seir i ddisgynyddion Esau.
Deut WelBeibl 2:7  Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi bendithio popeth dych chi wedi'i wneud. Mae wedi gofalu amdanoch chi tra dych chi wedi bod yn crwydro yn yr anialwch yma ers pedwar deg o flynyddoedd. Mae e wedi bod gyda chi drwy'r amser, ac wedi rhoi i chi bopeth oedd arnoch chi ei angen.”’
Deut WelBeibl 2:8  “Felly dyma ni'n pasio heibio'n perthnasau, disgynyddion Esau, oedd yn byw yn Seir. Troi oddi ar ffordd yr Araba ac osgoi trefi Elat ac Etsion-geber, a theithio ymlaen i gyfeiriad tiroedd anial Moab.
Deut WelBeibl 2:9  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Peidiwch tarfu ar bobl Moab na dechrau ymladd gyda nhw. Dw i ddim am roi eu tir nhw i chi o gwbl. Dw i wedi rhoi Moab iddyn nhw, sy'n ddisgynyddion i Lot.’”
Deut WelBeibl 2:10  (Yr Emiaid oedd yn byw yno ar un adeg – tyrfa o gewri cryfion fel yr Anaciaid.
Deut WelBeibl 2:11  Enw pobl Moab arnyn nhw oedd Emiaid. Roedd pobl eraill yn eu galw nhw a'r Anaciaid yn Reffaiaid.
Deut WelBeibl 2:12  A'r Horiaid oedd yn arfer byw yn Seir, ond roedd disgynyddion Esau wedi'u concro nhw a setlo i lawr ar eu tiroedd. A dyna'n union wnaeth Israel yn y tir y daethon nhw i'w gymryd, sef y tir roddodd yr ARGLWYDD iddyn nhw.)
Deut WelBeibl 2:13  “Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Ewch yn eich blaenau, a chroesi Wadi Sered.’ A dyna wnaethon ni.
Deut WelBeibl 2:14  “Felly roedd tri deg wyth mlynedd wedi mynd heibio rhwng cyrraedd Cadesh-barnea y tro cyntaf, a chroesi'r Wadi Sered. Erbyn hynny, roedd y genhedlaeth gyfan o filwyr oedd yn Cadesh wedi marw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo ar lw.
Deut WelBeibl 2:15  Yn wir, yr ARGLWYDD ei hun oedd wedi cael gwared â nhw, a gwneud yn siŵr eu bod nhw i gyd wedi mynd.
Deut WelBeibl 2:16  Felly, pan oedd yr olaf o'r milwyr hynny wedi marw,
Deut WelBeibl 2:18  ‘Heddiw dych chi'n mynd i groesi tir Moab, wrth Ar.
Deut WelBeibl 2:19  Pan ddewch chi at dir pobl Ammon, peidiwch tarfu arnyn nhw chwaith, na dechrau ymladd gyda nhw. Dw i ddim am roi eu tir nhw i chi o gwbl. Dw i wedi'i roi e iddyn nhw, sy'n ddisgynyddion i Lot.’”
Deut WelBeibl 2:20  (Roedd y tir yma hefyd yn arfer perthyn i'r Reffaiaid. Nhw oedd yn byw yno'n wreiddiol. Enw pobl Ammon arnyn nhw oedd Samswmiaid –
Deut WelBeibl 2:21  tyrfa fawr arall o gewri cryfion fel yr Anaciaid. Ond roedd yr ARGLWYDD wedi'u dinistrio nhw, ac roedd pobl Ammon wedi setlo i lawr ar eu tiroedd.
Deut WelBeibl 2:22  A dyna'n union oedd wedi digwydd gyda disgynyddion Esau, sy'n dal i fyw hyd heddiw yn ardal Seir. Roedd yr ARGLWYDD wedi dinistrio'r Horiaid oedd yn byw yno o'u blaenau nhw.
Deut WelBeibl 2:23  A'r un fath gyda'r Afiaid oedd yn byw mewn pentrefi mor bell â Gasa yn y de. Y Philistiaid o ynys Creta wnaeth eu dinistrio nhw a setlo i lawr ar eu tiroedd.)
Deut WelBeibl 2:24  “Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Ewch yn eich blaenau, a chroesi Dyffryn Arnon. Dw i'n mynd i roi buddugoliaeth i chi dros Sihon yr Amoriad, brenin Cheshbon. Ewch i goncro'i dir! Ewch i ryfel yn ei erbyn!
Deut WelBeibl 2:25  O heddiw ymlaen bydd pobl ym mhobman yn dychryn ac yn ofni pan fyddan nhw'n clywed amdanoch chi. Byddan nhw'n crynu mewn ofn wrth i chi ddod yn agos.’”
Deut WelBeibl 2:26  “Pan oedden ni yn anialwch Cedemoth, dyma fi'n anfon negeswyr at y Brenin Sihon yn Cheshbon, yn cynnig telerau heddwch.
Deut WelBeibl 2:27  ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di? Gwnawn ni aros ar y briffordd, a mynd yn syth trwodd.
Deut WelBeibl 2:28  Gwnawn ni dalu am unrhyw fwyd neu ddŵr fyddwn ni ei angen. Dŷn ni ond am i ti adael i ni basio drwy'r wlad –
Deut WelBeibl 2:29  fel gwnaeth disgynyddion Esau yn Seir a'r Moabiaid yn Ar. Yna byddwn ni'n croesi afon Iorddonen i'r tir mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei roi i ni.’
Deut WelBeibl 2:30  “Ond doedd y Brenin Sihon o Cheshbon ddim yn fodlon gadael i ni groesi ei dir. Roedd yr ARGLWYDD wedi'i wneud yn galed ac ystyfnig, er mwyn i chi ei goncro.
Deut WelBeibl 2:31  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Dw i'n rhoi Sihon a'i dir i chi. Ewch ati i gymryd y wlad drosodd.’
Deut WelBeibl 2:32  “Pan ddaeth Sihon a'i fyddin allan i ymladd yn ein herbyn yn Iahats,
Deut WelBeibl 2:33  dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn ein helpu ni i'w drechu. Cafodd Sihon, ei feibion, a'i fyddin i gyd eu lladd.
Deut WelBeibl 2:34  Dyma ni'n concro a dinistrio'r trefi i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw – hyd yn oed gwragedd a phlant.
Deut WelBeibl 2:35  Dim ond yr anifeiliaid, ac unrhyw beth arall oedd yn werthfawr, wnaethon ni ei gadw.
Deut WelBeibl 2:36  Dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn ein helpu i goncro pob tref o Aroer, ger Dyffryn Arnon, a'r dref sydd yn y dyffryn ei hun, yr holl ffordd i Gilead yn y gogledd.
Deut WelBeibl 2:37  Ond fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn, wnaethon ni ddim cymryd tir pobl Ammon, wrth ymyl afon Jabboc, na'r trefi yn y bryniau.
Chapter 3
Deut WelBeibl 3:1  “Yna dyma ni'n troi i'r gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og brenin Bashan, yn dod â'i fyddin gyfan i ymladd yn ein herbyn ni yn Edrei.
Deut WelBeibl 3:2  Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Paid bod â'i ofn. Dw i'n mynd i roi Og a'i fyddin a'i dir i gyd i ti. Byddi'n gwneud yr un fath iddo fe ag a wnest ti i Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn byw yn Cheshbon.’
Deut WelBeibl 3:3  “A dyna wnaeth yr ARGLWYDD. Dyma ni'n taro Og, brenin Bashan a'i fyddin i gyd – cawson nhw i gyd eu lladd.
Deut WelBeibl 3:4  Dyma ni'n concro pob un o'i drefi – chwe deg ohonyn nhw – i gyd yn ardal Argob.
Deut WelBeibl 3:5  Roedden nhw i gyd yn gaerau amddiffynnol, gyda waliau uchel a giatiau dwbl hefo barrau i'w cloi. Ac roedd llawer iawn o bentrefi agored yno hefyd.
Deut WelBeibl 3:6  Dyma ni'n gwneud yn union yr un fath ag a wnaethon ni i drefi Sihon, brenin Cheshbon – eu dinistrio nhw i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, hyd yn oed gwragedd a phlant.
Deut WelBeibl 3:7  Ond dyma ni'n cadw'r anifeiliaid ac unrhyw beth arall oedd yn werthfawr.
Deut WelBeibl 3:8  “Dyna pryd gwnaethon ni gymryd tir dau frenin yr Amoriaid, yr ochr draw i'r Iorddonen – o Ddyffryn Arnon yn y de yr holl ffordd i Fynydd Hermon yn y gogledd.
Deut WelBeibl 3:9  (Sirion ydy enw pobl Sidon ar Hermon, ac mae'r Amoriaid yn ei alw yn Senir.)
Deut WelBeibl 3:10  Roedden ni wedi concro trefi'r byrdd-dir, Gilead i gyd a Bashan, yr holl ffordd i drefi Salca ac Edrei, oedd yn perthyn i deyrnas Og.
Deut WelBeibl 3:11  (Og, brenin Bashan, oedd yr unig un o'r Reffaiaid oedd yn dal ar ôl. Roedd ei arch yn bedwar metr o hyd, a bron dau fetr o led, ac wedi'i gwneud o garreg basalt du. Gellir ei gweld yn Rabba, prif dref yr Ammoniaid.)
Deut WelBeibl 3:12  “Felly, dyma'r tir wnaethon ni ei gymryd i'r dwyrain o afon Iorddonen: dyma fi'n rhoi'r tir sydd i'r gogledd o Aroer, ger Dyffryn Arnon, a hanner bryniau Gilead, i lwythau Reuben a Gad.
Deut WelBeibl 3:13  Wedyn dyma fi'n rhoi gweddill Gilead a theyrnas Og, sef Bashan, i hanner llwyth Manasse. (Roedd ardal Argob i gyd, sef Bashan, yn arfer cael ei galw yn Wlad y Reffaiaid.
Deut WelBeibl 3:14  Dyma Jair, o lwyth Manasse, yn cymryd ardal Argob, sef Bashan. Mae'r ardal yn ymestyn at y ffin gyda Geshwr a Maacha. Rhoddodd ei enw ei hun ar yr ardal – Hafoth-jair – a dyna'r enw ar yr ardal hyd heddiw.)
Deut WelBeibl 3:15  “Dyma fi'n rhoi Gilead i ddisgynyddion Machir, mab Manasse.
Deut WelBeibl 3:16  “Yna i lwythau Reuben a Gad dyma fi'n rhoi'r tir sy'n ymestyn o Gilead i Ddyffryn Arnon (Dyffryn Arnon oedd y ffin), ac ymlaen at Afon Jabboc a ffin Ammon.
Deut WelBeibl 3:17  “Y ffin i'r gorllewin oedd afon Iorddonen, o Lyn Galilea i lawr i'r Môr Marw, gyda llethrau Pisga i'r dwyrain.
Deut WelBeibl 3:18  Dwedais wrthoch chi bryd hynny, ‘Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi'r tir yma i chi. Ond rhaid i'ch milwyr chi groesi o flaen gweddill pobl Israel, yn barod i ymladd.
Deut WelBeibl 3:19  Bydd eich gwragedd a'ch plant yn cael aros yn y trefi dw i wedi'u rhoi i chi. A'r holl anifeiliaid sydd gynnoch chi hefyd – mae gynnoch chi lawer iawn o wartheg.
Deut WelBeibl 3:20  Wedyn bydd eich dynion yn cael dod yn ôl pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi buddugoliaeth i weddill pobl Israel, fel y gwnaeth gyda chi; hynny ydy, pan fyddan nhw wedi cymryd drosodd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw yr ochr draw i afon Iorddonen.’
Deut WelBeibl 3:21  “A dyma fi'n dweud wrth Josua, ‘Dych chi wedi gweld beth wnaeth yr ARGLWYDD i'r ddau frenin yna. Bydd yn gwneud yr un fath i'r teyrnasoedd lle dych chi'n mynd.
Deut WelBeibl 3:22  Peidiwch bod ag ofn. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ymladd drosoch chi.’
Deut WelBeibl 3:24  ‘O Feistr, ARGLWYDD, dw i'n dechrau gweld mor fawr ac mor gryf wyt ti! Oes yna dduw arall yn y nefoedd neu ar y ddaear sy'n gallu gwneud pethau mor anhygoel?
Deut WelBeibl 3:25  Plîs, wnei di adael i mi groesi dros afon Iorddonen i weld y tir da sydd yr ochr arall? – Y bryniau hyfryd a mynyddoedd Libanus.’
Deut WelBeibl 3:26  “Ond roedd yr ARGLWYDD yn wyllt hefo fi o'ch achos chi. Doedd e ddim yn fodlon gwrando. Dyma fe'n dweud, ‘Dyna ddigon! Dw i eisiau clywed dim mwy am y peth.
Deut WelBeibl 3:27  Cei ddringo i ben Mynydd Pisga, ac edrych ar y wlad i bob cyfeiriad, ond ti ddim yn mynd i gael croesi dros yr Iorddonen.
Deut WelBeibl 3:28  Dw i eisiau i ti gomisiynu Josua, a'i annog a rhoi hyder iddo. Fe ydy'r un sy'n mynd i arwain y bobl yma drosodd i gymryd y wlad fyddi di'n ei gweld o dy flaen di.’
Deut WelBeibl 3:29  “Felly dyma ni'n aros yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor.
Chapter 4
Deut WelBeibl 4:1  “Bobl Israel, dw i eisiau i chi wrando'n ofalus ar y rheolau a'r canllawiau dw i'n eu gosod i chi, er mwyn i chi gael byw a mynd i mewn i gymryd y wlad mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, yn ei rhoi i chi.
Deut WelBeibl 4:2  Peidiwch ychwanegu dim, na chymryd dim i ffwrdd. Gorchmynion yr ARGLWYDD eich Duw ydyn nhw, felly cadwch nhw!
Deut WelBeibl 4:3  Gwelsoch beth wnaeth yr ARGLWYDD yn Baal-peor. Lladdodd yr ARGLWYDD bawb wnaeth addoli duw Baal-peor.
Deut WelBeibl 4:4  Ond mae pawb ohonoch chi wnaeth aros yn ffyddlon i'r ARGLWYDD eu Duw, yn dal yn fyw.
Deut WelBeibl 4:5  Gwrandwch, dw i'n dysgu i chi'r rheolau a'r canllawiau mae Duw wedi'u rhoi i mi, er mwyn i chi eu cadw nhw yn y wlad dych chi'n mynd iddi i'w chymryd drosodd.
Deut WelBeibl 4:6  Felly, cadwch nhw. Dilynwch nhw. A phan fydd pobl yn dysgu amdanyn nhw, byddan nhw'n dweud, ‘Mae'n wir, mae pobl y wlad yma yn ddoeth a deallus.’
Deut WelBeibl 4:7  “Pa genedl arall sydd â duw sydd mor agos atyn nhw? Mae'r ARGLWYDD ein Duw yna bob tro dŷn ni'n galw arno.
Deut WelBeibl 4:8  A pha wlad arall sydd â rheolau a chanllawiau mor deg â'r casgliad yma o gyfreithiau dw i'n ei rannu gyda chi heddiw?
Deut WelBeibl 4:9  “Ond dw i'n dweud eto, dw i eisiau i chi wrando'n ofalus. Peidiwch anghofio beth dych chi wedi'i weld. Peidiwch anghofio nhw tra byddwch chi byw. Dysgwch nhw i'ch plant a'ch wyrion a'ch wyresau.
Deut WelBeibl 4:10  Pan oeddech chi'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD eich Duw wrth droed Mynydd Sinai, dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Casgla'r bobl at ei gilydd, i mi rannu gyda nhw beth dw i eisiau'i ddweud. Wedyn byddan nhw'n dangos parch ata i tra byddan nhw'n byw yn y wlad, ac yn dysgu eu plant i wneud yr un fath.’
Deut WelBeibl 4:11  “Dyma chi'n dod i sefyll wrth droed y mynydd oedd yn llosgi'n dân. Roedd fflamau'n codi i fyny i'r awyr, a chymylau o fwg tywyll, trwchus.
Deut WelBeibl 4:12  Yna dyma'r ARGLWYDD yn siarad â chi o ganol y tân. Roeddech chi'n clywed y llais yn siarad, ond yn gweld neb na dim.
Deut WelBeibl 4:13  A dyma fe'n dweud wrthoch chi beth oedd yr ymrwymiad roedd e am i chi ei wneud – y Deg Gorchymyn. A dyma fe'n eu hysgrifennu nhw ar ddwy lechen garreg.
Deut WelBeibl 4:14  Dyna hefyd pryd wnaeth yr ARGLWYDD orchymyn i mi ddysgu rheolau a chanllawiau eraill i chi eu dilyn yn y wlad dych chi'n mynd drosodd i'w chymryd.
Deut WelBeibl 4:15  Ond byddwch yn ofalus! Wnaethoch chi ddim gweld neb pan oedd yr ARGLWYDD yn siarad â chi o ganol y tân ar Fynydd Sinai.
Deut WelBeibl 4:16  Felly peidiwch sbwylio popeth drwy gerfio rhyw fath o ddelw – o ddyn neu ferch,
Deut WelBeibl 4:19  Wrth edrych i'r awyr ar yr haul, y lleuad a'r sêr i gyd, peidiwch cael eich temtio i'w haddoli nhw. Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi'u rhoi nhw i bawb drwy'r byd i gyd.
Deut WelBeibl 4:20  Ond mae wedi'ch dewis chi, a'ch arwain chi allan o ffwrnais haearn gwlad yr Aifft, i fod yn bobl sbesial iddo – a dyna ydych chi!
Deut WelBeibl 4:21  “Ond wedyn roedd yr ARGLWYDD wedi digio hefo fi o'ch achos chi. Dwedodd wrtho i na fyddwn i byth yn cael croesi afon Iorddonen a mynd i mewn i'r wlad dda mae e ar fin ei rhoi i chi.
Deut WelBeibl 4:22  Dyma ble bydda i'n marw. Ond dych chi'n mynd i groesi'r Iorddonen a chymryd y tir da yna.
Deut WelBeibl 4:23  Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n anghofio'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi'i wneud gyda chi. Peidiwch cerfio delw o unrhyw fath – mae e wedi dweud yn glir na ddylech chi wneud peth felly.
Deut WelBeibl 4:25  Pan fyddwch chi wedi bod yn y wlad am amser hir, ac wedi cael plant ac wyrion ac wyresau, peidiwch gwneud drwg i'ch hunain drwy gerfio delw o unrhyw fath. A pheidiwch gwneud pethau drwg eraill sy'n pryfocio'r ARGLWYDD eich Duw.
Deut WelBeibl 4:26  Dw i'n galw'r nefoedd a'r ddaear yn dystion yn eich erbyn chi – os gwnewch chi hynny, byddwch chi'n cael eich taflu allan o'r tir yna dych chi ar fin croesi afon Iorddonen i'w gymryd drosodd. Fyddwch chi ddim yn para'n hir yna, achos byddwch yn cael eich dinistrio'n llwyr!
Deut WelBeibl 4:27  Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd, a dim ond criw bach ohonoch chi fydd ar ôl.
Deut WelBeibl 4:28  A byddwch chi'n addoli duwiau wedi'u gwneud gan bobl – delwau o bren a charreg sydd ddim yn gallu gweld, clywed, bwyta nac arogli!
Deut WelBeibl 4:29  “Ond os gwnewch chi droi at yr ARGLWYDD yno, a hynny o ddifrif – â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid – byddwch yn dod o hyd iddo.
Deut WelBeibl 4:30  Yng nghanol eich holl drybini, pan fydd y pethau yma'n digwydd rywbryd yn y dyfodol, os gwnewch chi droi'n ôl at yr ARGLWYDD eich Duw a bod yn ufudd iddo,
Deut WelBeibl 4:31  fydd e ddim yn eich siomi chi. Mae e'n Dduw trugarog. Fydd e ddim yn eich dinistrio chi, am ei fod yn gwrthod anghofio'r ymrwymiad hwnnw wnaeth e gyda'ch hynafiaid chi. Gwnaeth e addo ar lw iddyn nhw.
Deut WelBeibl 4:32  “Edrychwch yn ôl dros hanes, o'r dechrau cyntaf pan wnaeth Duw greu pobl ar y ddaear yma. Holwch am unrhyw le drwy'r byd i gyd. Oes unrhyw beth fel yma wedi digwydd o'r blaen? Oes unrhyw un wedi clywed si am y fath beth?
Deut WelBeibl 4:33  Oes unrhyw genedl arall wedi clywed llais Duw yn siarad â nhw o ganol y tân, fel gwnaethoch chi, ac wedi byw i adrodd yr hanes?
Deut WelBeibl 4:34  Neu oes duw arall wedi mentro cymryd pobl iddo'i hun o ganol gwlad arall, gan gosbi, cyflawni gwyrthiau rhyfeddol, ymladd drostyn nhw gyda'i nerth rhyfeddol, a gwneud yr holl bethau dychrynllyd eraill welsoch chi'r ARGLWYDD eich Duw yn eu gwneud drosoch chi yn yr Aifft?
Deut WelBeibl 4:35  Mae wedi dangos i chi mai Un Duw sydd, a does dim un arall yn bod.
Deut WelBeibl 4:36  Gadawodd i chi glywed ei lais o'r nefoedd, i'ch dysgu chi. Ac ar y ddaear dangosodd i chi'r tân mawr, a siarad â chi o ganol hwnnw.
Deut WelBeibl 4:37  Ac am ei fod wedi caru'ch hynafiaid chi, dewisodd fendithio'u disgynyddion. Defnyddiodd ei nerth ei hun i ddod â chi allan o'r Aifft,
Deut WelBeibl 4:38  i chi gymryd tir pobloedd cryfach na chi oddi arnyn nhw. Daeth â chi yma heddiw i roi eu tir nhw i chi ei gadw.
Deut WelBeibl 4:39  “Felly dw i eisiau i hyn i gyd gael ei argraffu ar eich meddwl chi – dw i eisiau i chi sylweddoli fod Duw yn Dduw yn y nefoedd uchod ac i lawr yma ar y ddaear. Does dim un arall yn bod!
Deut WelBeibl 4:40  Rhaid i chi gadw'r gorchmynion a'r arweiniad dw i'n ei basio ymlaen i chi ganddo heddiw. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i chi a'ch plant. A byddwch chi'n cael byw am amser hir iawn yn y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi i'w gadw.”
Deut WelBeibl 4:41  Yna dyma Moses yn dewis tair tref i'r dwyrain o afon Iorddonen yn drefi lloches.
Deut WelBeibl 4:42  Byddai unrhyw un fyddai'n lladd person arall yn ddamweiniol, heb fwriadu unrhyw ddrwg iddo, yn gallu dianc am loches i un o'r trefi yma.
Deut WelBeibl 4:43  Y tair tref oedd Betser, yn anialwch y byrdd-dir, i lwyth Reuben; Ramoth yn Gilead i lwyth Gad; a Golan yn Bashan i lwyth Manasse.
Deut WelBeibl 4:44  Dyma'r gyfraith wnaeth Moses ei chyflwyno i bobl Israel –
Deut WelBeibl 4:45  y gofynion, y rheolau a'r canllawiau roddodd e i bobl Israel ar ôl dod â nhw allan o wlad yr Aifft,
Deut WelBeibl 4:46  pan oedden nhw'n dal ar ochr ddwyreiniol afon Iorddonen. Roedden nhw yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor – sef yr ardal oedd yn arfer cael ei rheoli gan Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon. Nhw wnaeth Moses a phobl Israel ymosod arnyn nhw pan ddaethon nhw allan o'r Aifft.
Deut WelBeibl 4:47  Dyma nhw'n cymryd ei dir e, a thir Og, brenin Bashan – y ddau ohonyn nhw'n teyrnasu ar yr ardaloedd i'r dwyrain o'r Iorddonen.
Deut WelBeibl 4:48  Roedd eu tiriogaeth yn ymestyn o dref Aroer, ger Dyffryn Arnon, yr holl ffordd i Fynydd Hermon yn y gogledd.
Deut WelBeibl 4:49  Roedd yn cynnwys y tir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, yr holl ffordd i'r Môr Marw o dan lethrau Mynydd Pisga.
Chapter 5
Deut WelBeibl 5:1  Dyma Moses yn galw pobl Israel at ei gilydd ac yn dweud wrthyn nhw: “Israel, gwrandwch ar y rheolau a'r canllawiau dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Dw i eisiau i chi eu dysgu nhw, a'u cadw nhw.
Deut WelBeibl 5:2  “Roedd yr ARGLWYDD ein Duw wedi gwneud ymrwymiad gyda ni wrth fynydd Sinai.
Deut WelBeibl 5:3  Gwnaeth hynny nid yn unig gyda'n rhieni, ond gyda ni sy'n fyw yma heddiw.
Deut WelBeibl 5:4  Siaradodd Duw gyda ni wyneb yn wyneb, o ganol y tân ar y mynydd.
Deut WelBeibl 5:5  (Fi oedd yn sefyll yn y canol rhyngoch chi a'r ARGLWYDD, am fod gynnoch chi ofn, a ddim eisiau mynd yn agos at y mynydd. Fi oedd yn dweud wrthoch chi beth oedd neges yr ARGLWYDD.) A dyma ddwedodd e:
Deut WelBeibl 5:6  ‘Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision.
Deut WelBeibl 5:7  Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi.
Deut WelBeibl 5:8  Paid cerfio eilun i'w addoli – dim byd sy'n edrych fel unrhyw aderyn, anifail na physgodyn.
Deut WelBeibl 5:9  Paid plygu i lawr a'u haddoli nhw. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus. Dw i'n cosbi pechodau'r rhieni sy'n fy nghasáu i, ac mae'r canlyniadau'n gadael eu hôl ar y plant am dair i bedair cenhedlaeth.
Deut WelBeibl 5:10  Ond dw i'n dangos cariad di-droi'n-ôl, am fil o genedlaethau, at y rhai sy'n fy ngharu i ac yn gwneud beth dw i'n ddweud.
Deut WelBeibl 5:11  Paid camddefnyddio enw'r ARGLWYDD dy Dduw. Fydda i ddim yn gadael i rywun sy'n camddefnyddio fy enw ddianc rhag cael ei gosbi.
Deut WelBeibl 5:12  Cadw'r dydd Saboth yn sbesial, yn ddiwrnod cysegredig, gwahanol i'r lleill, fel mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi gorchymyn i ti.
Deut WelBeibl 5:13  Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall, a gwneud popeth sydd angen ei wneud.
Deut WelBeibl 5:14  Mae'r seithfed diwrnod i'w gadw yn Saboth i'r ARGLWYDD. Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma – ti na dy feibion a dy ferched, dy weision na dy forynion chwaith; dim hyd yn oed dy ych a dy asyn, nac unrhyw anifail arall; nac unrhyw fewnfudwr sy'n aros gyda ti. Mae'r gwas a'r forwyn i gael gorffwys fel ti dy hun.
Deut WelBeibl 5:15  Cofia dy fod ti wedi bod yn gaethwas yn yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD dy Dduw wedi defnyddio'i nerth rhyfeddol i dy achub di oddi yno; Dyna pam mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi gorchymyn i ti gadw'r dydd Saboth yn sbesial.
Deut WelBeibl 5:16  Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam, a byddi'n byw yn hir yn y wlad mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti.
Deut WelBeibl 5:21  Paid chwennych gwraig rhywun arall. Paid chwennych ei dŷ na'i dir, na'i was, na'i forwyn, na'i darw, na'i asyn, na dim byd sydd gan rywun arall.’
Deut WelBeibl 5:22  “Dwedodd yr ARGLWYDD hyn i gyd wrth y bobl o ganol y tân, y cwmwl a'r tywyllwch ar y mynydd. A dyna'r cwbl wnaeth e ddweud. A dyma fe'n ysgrifennu'r geiriau ar ddwy lechen garreg, a'u rhoi nhw i mi.”
Deut WelBeibl 5:23  “Yna pan glywsoch chi sŵn y llais yn dod o'r tywyllwch, a'r mynydd yn llosgi'n dân, dyma arweinwyr eich llwythau a'ch henuriaid yn dod ata i.
Deut WelBeibl 5:24  Dyma nhw'n dweud, ‘Mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi dangos ei ysblander rhyfeddol i ni, a dŷn ni wedi'i glywed e'n siarad o ganol y tân. Dŷn ni wedi gweld bod pobl ddim yn marw'n syth pan mae Duw yn siarad â nhw.
Deut WelBeibl 5:25  Ond mae gynnon ni ofn i'r tân ofnadwy yma ein llosgi ni. Does gynnon ni ddim eisiau marw. Os byddwn ni'n dal i glywed llais yr ARGLWYDD ein Duw yn siarad gyda ni, byddwn ni'n siŵr o farw.
Deut WelBeibl 5:26  Oes yna unrhyw un erioed wedi clywed llais y Duw byw yn siarad o ganol y tân, fel dŷn ni wedi gwneud, ac wedi byw wedyn?
Deut WelBeibl 5:27  Dos di i wrando ar bopeth mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei ddweud, ac wedyn cei ddod yn ôl i ddweud wrthon ni. A byddwn ni'n gwneud popeth mae e'n ddweud.’
Deut WelBeibl 5:28  “Roedd yr ARGLWYDD wedi'ch clywed chi'n siarad hefo fi, a dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dw i wedi clywed beth mae'r bobl wedi'i ddweud wrthot ti. Maen nhw'n iawn.
Deut WelBeibl 5:29  Piti na fydden nhw'n dangos yr un parch ata i bob amser, ac eisiau gwneud beth dw i'n ddweud. Byddai pethau'n mynd yn dda iddyn nhw wedyn ar hyd y cenedlaethau.
Deut WelBeibl 5:30  Dos i ddweud wrthyn nhw am fynd yn ôl i'w pebyll.
Deut WelBeibl 5:31  Ond aros di yma, i mi gael dweud wrthot ti beth ydy'r gorchmynion, y rheolau a'r canllawiau dw i am i ti eu dysgu iddyn nhw. Wedyn, byddan nhw'n gallu byw felly yn y wlad dw i'n ei rhoi iddyn nhw.’
Deut WelBeibl 5:32  “Felly, gwnewch yn union fel mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ddweud. Peidiwch crwydro oddi wrth hynny o gwbl.
Deut WelBeibl 5:33  Dych chi i fyw fel mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi gorchymyn i chi, er mwyn i bethau fynd yn dda i chi, ac i chi gael byw yn hir yn y wlad dych chi'n mynd i'w chymryd.
Chapter 6
Deut WelBeibl 6:1  “Dyma'r gorchmynion, y rheolau a'r canllawiau roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i mi i'w dysgu i chi, er mwyn i chi eu cadw nhw yn y wlad lle dych chi'n mynd.
Deut WelBeibl 6:2  Byddwch chi'n dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw drwy gadw'i reolau a'i orchmynion – chi, eich plant, a'ch wyrion a'ch wyresau. Cadwch nhw tra byddwch chi byw, a chewch fyw yn hir.
Deut WelBeibl 6:3  Gwrandwch yn ofalus, bobl Israel! Os gwnewch chi hyn, bydd pethau'n mynd yn dda i chi. Bydd eich niferoedd chi'n tyfu'n aruthrol, ac fel gwnaeth yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, addo i chi, bydd gynnoch chi wlad ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo.
Deut WelBeibl 6:4  “Gwranda Israel! Yr ARGLWYDD ein Duw ydy'r unig ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 6:5  Rwyt i garu'r ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth.
Deut WelBeibl 6:6  “Paid anghofio'r pethau dw i'n eu gorchymyn i ti heddiw.
Deut WelBeibl 6:7  Rwyt i'w dysgu'n gyson i dy blant, a'u trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi yn y bore.
Deut WelBeibl 6:8  Rhwyma nhw ar dy freichiau i dy atgoffa di, a gwisga nhw ar dy dalcen i'w cofio.
Deut WelBeibl 6:9  Ysgrifenna nhw ar ffrâm drws dy dŷ, ac ar giatiau'r dref.
Deut WelBeibl 6:10  “Roedd yr ARGLWYDD wedi addo rhoi gwlad i'ch hynafiaid, Abraham, Isaac a Jacob – lle mae dinasoedd mawr hardd wnaethoch chi ddim eu hadeiladu;
Deut WelBeibl 6:11  tai yn llawn pethau wnaethoch chi mo'u casglu; pydewau wnaethoch chi ddim eu cloddio; gwinllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi mo'u plannu. Digon i'w fwyta!
Deut WelBeibl 6:12  Pan fydd yr ARGLWYDD yn dod â chi i'r wlad yna, peidiwch anghofio'r ARGLWYDD wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision.
Deut WelBeibl 6:13  Rhaid i chi barchu'r ARGLWYDD eich Duw, a'i wasanaethu e, a defnyddio'i enw e'n unig i dyngu llw.
Deut WelBeibl 6:15  Cofiwch fod yr ARGLWYDD eich Duw, sydd gyda chi, yn Dduw eiddigeddus. Bydd e'n digio gyda chi ac yn eich gyrru chi allan o'r wlad.
Deut WelBeibl 6:16  “Paid rhoi'r ARGLWYDD dy Dduw ar brawf, fel y gwnest ti yn Massa.
Deut WelBeibl 6:17  Gwnewch yn union beth mae'n ei orchymyn i chi, cadw ei ofynion a dilyn ei ganllawiau.
Deut WelBeibl 6:18  Gwnewch beth sy'n iawn yn ei olwg, a bydd pethau'n mynd yn dda i chi. Bydd yr ARGLWYDD yn gyrru'ch gelynion chi allan, a byddwch yn cymryd drosodd y wlad dda wnaeth Duw addo i'ch hynafiaid y byddai'n ei rhoi i chi.
Deut WelBeibl 6:19  Gwnewch beth sy'n iawn yn ei olwg, a bydd pethau'n mynd yn dda i chi. Bydd yr ARGLWYDD yn gyrru'ch gelynion chi allan, a byddwch yn cymryd drosodd y wlad dda wnaeth Duw addo i'ch hynafiaid y byddai'n ei rhoi i chi.
Deut WelBeibl 6:20  Yna pan fydd eich plant yn gofyn i chi, ‘Pam wnaeth Duw roi'r gofynion a'r rheolau a'r canllawiau yma i ni?’
Deut WelBeibl 6:21  atebwch, ‘Roedden ni'n gaethweision y Pharo yn yr Aifft, ond dyma'r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth rhyfeddol i ddod â ni allan o'r Aifft.
Deut WelBeibl 6:22  Gwelon ni e'n gwneud pethau ofnadwy i wlad yr Aifft ac i'r Pharo a'i deulu – gwyrthiau rhyfeddol.
Deut WelBeibl 6:23  Gollyngodd ni'n rhydd er mwyn rhoi i ni'r wlad roedd e wedi'i haddo i'n hynafiaid.
Deut WelBeibl 6:24  Dwedodd wrthon ni am gadw'r rheolau yma i gyd, a'i barchu e, er mwyn i bethau fynd yn dda i ni, ac iddo'n cadw ni'n fyw fel mae wedi gwneud hyd heddiw.
Deut WelBeibl 6:25  Bydd pethau'n iawn gyda ni os gwnawn ni gadw'r gorchmynion yma, fel mae'r ARGLWYDD wedi gofyn i ni wneud.’
Chapter 7
Deut WelBeibl 7:1  “Bydd yr ARGLWYDD yn eich helpu chi i gymryd y tir oddi ar saith grŵp o bobl sy'n gryfach na chi – yr Hethiaid, Girgasiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a'r Jebwsiaid. Bydd e'n eu gyrru nhw i gyd allan o'ch blaen chi.
Deut WelBeibl 7:2  Bydd e'n rhoi'r gallu i chi i'w concro nhw, ac mae'n rhaid i chi eu dinistrio nhw'n llwyr. Peidiwch gwneud cytundeb heddwch â nhw, a pheidiwch dangos unrhyw drugaredd.
Deut WelBeibl 7:4  rhag i'ch plant droi cefn ar yr ARGLWYDD, ac addoli duwiau eraill. Wedyn byddai'r ARGLWYDD yn gwylltio gyda chi, ac yn eich dinistrio chi'n llwyr!
Deut WelBeibl 7:5  Na, rhaid i chi chwalu eu hallorau paganaidd nhw, malu'r colofnau cysegredig, torri polion y dduwies Ashera i lawr, a llosgi eu delwau nhw.
Deut WelBeibl 7:6  Dych chi'n bobl sydd wedi'ch cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae wedi'ch dewis chi yn drysor sbesial iddo'i hun.
Deut WelBeibl 7:7  Wnaeth e ddim eich dewis chi am fod mwy ohonoch chi na'r bobloedd eraill i gyd – roedd llai ohonoch chi os rhywbeth!
Deut WelBeibl 7:8  Na, dewisodd yr ARGLWYDD chi am ei fod wedi'ch caru chi, ac am gadw'r addewid wnaeth e i'ch hynafiaid chi. Dyna pam wnaeth e ddefnyddio'i rym i'ch gollwng chi'n rhydd o fod yn gaethweision i'r Pharo, brenin yr Aifft.
Deut WelBeibl 7:9  Felly peidiwch anghofio mai'r ARGLWYDD eich Duw chi ydy'r unig dduw go iawn. Mae e'n Dduw ffyddlon, a bydd e bob amser yn cadw'r ymrwymiad mae wedi'i wneud i'r rhai sy'n ei garu ac yn gwneud beth mae e'n ddweud.
Deut WelBeibl 7:10  Ond mae'n talu'n ôl i'r bobl hynny sy'n ei gasáu, drwy roi iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu.
Deut WelBeibl 7:11  Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'r gorchmynion, y canllawiau a'r rheolau dw i'n eu rhoi i chi heddiw.
Deut WelBeibl 7:12  “Os gwrandwch chi ar y canllawiau yma, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cadw'r ymrwymiad hael wnaeth gyda chi, fel gwnaeth e addo i'ch hynafiaid.
Deut WelBeibl 7:13  Bydd e'n eich caru a'ch bendithio chi, ac yn rhoi lot o blant i chi. Bydd eich cnydau'n llwyddo, yr ŷd, y sudd grawnwin a'r olewydd; bydd eich gwartheg yn cael lloi, a'ch preiddiau yn cael lot o rai bach.
Deut WelBeibl 7:14  Byddwch yn cael eich bendithio fwy nag unrhyw wlad arall – bydd eich teuluoedd yn tyfu, a bydd nifer eich anifeiliaid yn cynyddu.
Deut WelBeibl 7:15  Bydd yr ARGLWYDD yn eich amddiffyn rhag salwch, a fyddwch chi ddim yn dioddef o'r heintiau wnaeth daro'r Aifft. Eich gelynion fydd yn dioddef o'r pethau yna.
Deut WelBeibl 7:16  “Rhaid i chi ddinistrio'r bobl fydd yr ARGLWYDD yn eich galluogi chi i'w concro nhw. Peidiwch teimlo trueni drostyn nhw, a pheidiwch addoli eu duwiau, neu bydd hi ar ben arnoch chi.
Deut WelBeibl 7:17  Falle dy fod yn gofyn, ‘Sut ydyn ni'n mynd i lwyddo i gymryd tir y bobloedd yma? Mae mwy ohonyn nhw nag sydd ohonon ni!’
Deut WelBeibl 7:18  Peidiwch poeni! Cofiwch beth wnaeth yr ARGLWYDD i'r Pharo ac i wlad yr Aifft.
Deut WelBeibl 7:19  Defnyddiodd ei rym a'i nerth, a gwneud gwyrthiau rhyfeddol i ddod â chi allan o'r Aifft. A bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud yr un fath eto i'r bobl yma dych chi'n eu hofni.
Deut WelBeibl 7:20  Bydd e'n achosi panig llwyr yn eu plith nhw. Bydd rhai yn ceisio cuddio oddi wrthoch chi, ond byddan nhw i gyd yn cael eu lladd yn y diwedd.
Deut WelBeibl 7:21  “Peidiwch bod ag ofn. Mae'r ARGLWYDD eich Duw gyda chi, ac mae e'n Dduw mawr a rhyfeddol.
Deut WelBeibl 7:22  Bydd e, y Duw sy'n eich arwain chi, yn eu gyrru nhw i ffwrdd o dipyn i beth. Fydd e ddim yn gadael i chi gael gwared â nhw i gyd ar unwaith, neu fydd dim digon o bobl yno i gadw niferoedd yr anifeiliaid gwyllt i lawr.
Deut WelBeibl 7:23  Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich galluogi chi i'w concro nhw. Bydd e'n achosi iddyn nhw banicio, nes byddan nhw i gyd wedi'u lladd.
Deut WelBeibl 7:24  Byddwch chi'n dal eu brenhinoedd nhw, ac yn eu lladd. Fydd neb yn cofio eu bod nhw wedi byw erioed!
Deut WelBeibl 7:25  Llosgwch y delwau o'u duwiau nhw. Peidiwch hyd yn oed cadw'r aur sy'n eu gorchuddio nhw, rhag i chi gael eich trapio ganddo. Mae'r pethau yma yn hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD eich Duw.
Deut WelBeibl 7:26  Peidiwch mynd â dim byd felly i'ch tai, neu byddwch chi dan felltith fel y peth ffiaidd ei hun! Rhaid i chi ei ffieiddio a'i wrthod fel rhywbeth mae'r ARGLWYDD eisiau ei ddinistrio.
Chapter 8
Deut WelBeibl 8:1  “Rhaid i chi gadw'r gorchmynion yma dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Os gwnewch chi hynny, cewch fyw, bydd eich niferoedd chi'n tyfu, a chewch fynd i mewn i'r wlad wnaeth yr ARGLWYDD addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi.
Deut WelBeibl 8:2  “Peidiwch anghofio'r blynyddoedd dych chi wedi'u treulio yn yr anialwch. Roedd yr ARGLWYDD yn eich dysgu chi a'ch profi chi, i weld a oeddech chi wir yn mynd i wneud beth roedd e'n ddweud.
Deut WelBeibl 8:3  Profodd chi drwy wneud i chi fynd heb fwyd, ac wedyn eich bwydo chi gyda'r manna (oedd yn brofiad dieithr iawn). Roedd e eisiau i chi ddeall mai nid bwyd ydy'r unig beth mae pobl angen i fyw. Maen nhw angen gwrando ar bopeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.
Deut WelBeibl 8:4  Am bedwar deg o flynyddoedd, wnaeth eich dillad chi ddim treulio, a wnaeth eich traed chi ddim chwyddo.
Deut WelBeibl 8:5  “Dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich disgyblu chi fel mae rhieni'n disgyblu eu plentyn.
Deut WelBeibl 8:6  Felly gwnewch beth mae e'n ddweud, byw fel mae e eisiau i chi fyw, a'i barchu.
Deut WelBeibl 8:7  Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd â chi i wlad dda, sy'n llawn nentydd, ffynhonnau a ffrydiau o ddŵr yn llifo rhwng y bryniau.
Deut WelBeibl 8:8  Gwlad lle mae digon o ŷd a haidd, gwinwydd, coed ffigys, pomgranadau, ac olewydd, a mêl hefyd.
Deut WelBeibl 8:9  Felly fyddwch chi byth yn brin o fwyd yno. Ac mae digon o fwynau i'w cloddio o'r tir – haearn a chopr.
Deut WelBeibl 8:10  Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, a byddwch yn moli'r ARGLWYDD eich Duw am roi gwlad mor dda i chi.
Deut WelBeibl 8:11  “Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n anghofio'r ARGLWYDD, nac yn peidio cadw'r gorchmynion, y canllawiau a'r rheolau dw i'n eu rhoi i chi heddiw.
Deut WelBeibl 8:12  Pan fydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, tai braf i fyw ynddyn nhw,
Deut WelBeibl 8:13  mwy o wartheg, defaid a geifr, digon o arian ac aur – yn wir, digon o bopeth –
Deut WelBeibl 8:14  gwyliwch rhag i chi droi'n rhy hunanfodlon, ac anghofio'r ARGLWYDD eich Duw, wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision.
Deut WelBeibl 8:15  Daeth yr ARGLWYDD â chi drwy'r anialwch mawr peryglus yna, oedd yn llawn nadroedd gwenwynig a sgorpionau. Roedd yn dir sych, lle doedd dim dŵr, ond dyma'r ARGLWYDD yn hollti craig, a gwneud i ddŵr bistyllio allan i chi ei yfed.
Deut WelBeibl 8:16  Rhoddodd fanna i chi ei fwyta (profiad dieithr i'ch hynafiaid chi) er mwyn eich dysgu chi a'ch profi chi, a gwneud lles i chi yn y diwedd.
Deut WelBeibl 8:17  Gwyliwch rhag i chi ddechrau meddwl, ‘Fi fy hun sydd wedi ennill y cyfoeth yma i gyd.’
Deut WelBeibl 8:18  Cofiwch mai'r ARGLWYDD eich Duw ydy'r un sy'n rhoi'r gallu yma i chi. Os cofiwch chi hynny, bydd e'n cadarnhau'r ymrwymiad wnaeth e ar lw i'ch hynafiaid chi. Mae wedi gwneud hynny hyd heddiw.
Deut WelBeibl 8:19  “Ond rhaid i mi eich rhybuddio chi – os gwnewch chi anghofio'r ARGLWYDD, a mynd ar ôl duwiau eraill i'w haddoli nhw, bydd e'n eich dinistrio chi!
Deut WelBeibl 8:20  Bydd yr un peth yn digwydd i chi ag sy'n mynd i ddigwydd i'r gwledydd dych chi ar fin ymladd yn eu herbyn nhw.
Chapter 9
Deut WelBeibl 9:1  “Gwranda Israel! Rwyt ti ar fin croesi afon Iorddonen i gymryd tir y bobloedd sy'n byw yno oddi arnyn nhw – pobloedd sy'n gryfach na chi, ac yn byw mewn trefi mawr gyda waliau amddiffynnol uchel iawn.
Deut WelBeibl 9:2  Mae'n cynnwys disgynyddion Anac – maen nhw'n bobl anferth ac mae tyrfa fawr ohonyn nhw, a dych chi'n gwybod beth sy'n cael ei ddweud amdanyn nhw, ‘Pa obaith sydd gan unrhyw un yn erbyn yr Anaciaid!’
Deut WelBeibl 9:3  Wel, dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD eich Duw fel tân sy'n difa popeth o'i flaen. Bydd e'n eu trechu nhw. Byddwch chi'n cymryd eu tir nhw, ac yn eu dinistrio nhw yn gyflym iawn, fel mae wedi dweud.
Deut WelBeibl 9:4  “Ond ar ôl i'r ARGLWYDD eu gyrru nhw allan o'ch blaenau chi, peidiwch meddwl am funud ei fod e'n rhoi'r tir i chi am eich bod chi'n bobl mor dda! Na, mae e'n gyrru'r bobloedd yma allan o'ch blaenau chi am eu bod nhw'n gwneud pethau mor ddrwg.
Deut WelBeibl 9:5  Does gan y peth ddim byd i'w wneud â'ch daioni chi a'ch moesoldeb chi. Na, y ffaith fod y bobl sy'n byw yno mor ddrwg, sy'n cymell yr ARGLWYDD eich Duw i'w gyrru nhw allan o'ch blaenau chi, a hefyd achos ei fod am gadw'r addewid wnaeth e i'ch hynafiaid chi, i Abraham, Isaac a Jacob.
Deut WelBeibl 9:6  Felly dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD ddim yn rhoi'r tir da yma i chi am eich bod chi'n bobl dda. Dych chi'n bobl benstiff!
Deut WelBeibl 9:7  “Cofiwch – peidiwch byth anghofio – sut wnaethoch chi ddigio'r ARGLWYDD eich Duw pan oeddech chi'n yr anialwch. Dych chi ddim wedi stopio gwrthryfela yn ei erbyn ers y diwrnod daethoch chi allan o'r Aifft.
Deut WelBeibl 9:8  Roeddech wedi'i ddigio yn Sinai, ac roedd yn mynd i'ch dinistrio chi.
Deut WelBeibl 9:9  Pan es i i fyny'r mynydd i dderbyn y llechi carreg, sef llechi ymrwymiad yr ARGLWYDD i chi, dyma fi'n aros yno nos a dydd am bedwar deg diwrnod, heb fwyta nac yfed o gwbl.
Deut WelBeibl 9:10  A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r ddwy lechen garreg i mi, gydag ysgrifen Duw ei hun arnyn nhw; y Deg Gorchymyn roedd e wedi'u rhoi i chi o ganol y tân ar y mynydd, pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd.
Deut WelBeibl 9:11  “Ar ddiwedd y cyfnod o bedwar deg diwrnod, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r ddwy lechen garreg i mi, llechi'r ymrwymiad.
Deut WelBeibl 9:12  Yna dwedodd, ‘Dos yn ôl i lawr ar unwaith; mae'r bobl wnest ti eu harwain allan o'r Aifft wedi pechu! Maen nhw wedi troi cefn yn barod ar y ffordd wnes i ei rhoi iddyn nhw, ac wedi gwneud delw o fetel tawdd.’
Deut WelBeibl 9:13  “Yna dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dw i wedi bod yn gwylio'r bobl yma – maen nhw'n griw penstiff!
Deut WelBeibl 9:14  Gad lonydd i mi, i mi gael gwared â nhw'n llwyr! Fydd neb yn cofio pwy oedden nhw! A bydda i'n dy wneud di yn genedl gryfach a mwy na nhw.’
Deut WelBeibl 9:15  “Felly dyma fi'n mynd yn ôl i lawr y mynydd tra oedd yn llosgi'n dân, gyda'r ddwy lechen yn fy nwylo.
Deut WelBeibl 9:16  A dyma fi'n gweld eich bod chi wedi pechu go iawn yn erbyn yr ARGLWYDD, a gwneud eilun ar siâp tarw ifanc. Roeddech chi wedi troi i ffwrdd mor sydyn oddi wrth beth roedd e'n ei ofyn gynnoch chi!
Deut WelBeibl 9:17  Felly dyma fi'n codi'r ddwy lechen, a'u taflu nhw ar lawr, a dyma nhw'n torri'n ddarnau yno o flaen eich llygaid chi.
Deut WelBeibl 9:18  “Yna dyma fi'n mynd ar lawr o flaen yr ARGLWYDD nos a dydd am bedwar deg diwrnod arall. Wnes i fwyta nac yfed dim byd o achos eich pechod chi, yn gwneud peth mor ofnadwy i bryfocio'r ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 9:19  Roedd gen i wir ofn fod yr ARGLWYDD wedi digio mor ofnadwy hefo chi y byddai e'n eich dinistrio chi'n llwyr. Ond dyma fe'n gwrando arna i unwaith eto.
Deut WelBeibl 9:20  “Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio gydag Aaron hefyd, ac yn mynd i'w ladd, ond dyma fi'n gweddïo drosto fe hefyd.
Deut WelBeibl 9:21  Yna dyma fi'n cymryd y tarw ifanc roeddech chi wedi pechu drwy ei wneud, ei doddi yn y tân, ac yna ei falu nes ei fod yn fân fel llwch, cyn taflu'r llwch i'r nant oedd yn rhedeg i lawr y mynydd.
Deut WelBeibl 9:22  “A dyma chi'n digio'r ARGLWYDD eto, yn Tabera, Massa a Cibroth-hattaäfa.
Deut WelBeibl 9:23  A phan wnaeth e'ch anfon chi o Cadesh-barnea, a dweud wrthoch chi, ‘Ewch, a chymryd y tir dw i wedi'i roi i chi,’ dyma chi'n tynnu'n groes i'r ARGLWYDD eto, a gwrthod ei gredu na gwneud beth roedd e'n ddweud.
Deut WelBeibl 9:24  Dych chi wedi bod yn gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD o'r diwrnod cyntaf i mi eich nabod chi!
Deut WelBeibl 9:25  “Bues i'n gorwedd ar fy wyneb ar lawr o flaen yr ARGLWYDD nos a dydd am bedwar deg diwrnod, am ei fod wedi dweud y byddai'n eich dinistrio chi.
Deut WelBeibl 9:26  A dyma fi'n gweddïo, ‘O Feistr, ARGLWYDD, paid dinistrio dy bobl. Ti wedi defnyddio dy nerth rhyfeddol i'w gollwng nhw'n rhydd, a dod â nhw allan o'r Aifft.
Deut WelBeibl 9:27  Cofia dy weision – Abraham, Isaac a Jacob. Paid cymryd sylw o'r bobl ystyfnig, ddrwg yma sy'n pechu yn dy erbyn.
Deut WelBeibl 9:28  Does gen ti ddim eisiau i bobl yr Aifft ddweud, “Doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu mynd â'r bobl yma i'r wlad roedd e wedi'i haddo iddyn nhw. Aeth â nhw allan o'r Aifft am ei fod yn eu casáu nhw, ac am eu lladd nhw yn yr anialwch.”
Deut WelBeibl 9:29  Dy bobl di ydyn nhw; dy eiddo sbesial di. Ti wedi defnyddio dy rym a dy nerth rhyfeddol i'w gollwng nhw'n rhydd.’
Chapter 10
Deut WelBeibl 10:1  “Dyna pryd y dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, ‘Cerfia ddwy lechen garreg, fel y rhai cyntaf, a hefyd gwna gist o bren; yna tyrd i fyny'r mynydd ata i.
Deut WelBeibl 10:2  Gwna i ysgrifennu ar y ddwy lechen yr union eiriau oedd ar y llechi cyntaf, y rhai wnest ti eu torri. Yna rhaid i ti eu rhoi nhw yn y gist.’
Deut WelBeibl 10:3  “Felly dyma fi'n gwneud cist o goed acasia, a cherfio dwy lechen garreg oedd yr un fath â'r rhai cyntaf. Wedyn dyma fi'n mynd i fyny'r mynydd yn cario'r ddwy lechen.
Deut WelBeibl 10:4  A dyma'r ARGLWYDD yn ysgrifennu'r un geiriau ag o'r blaen ar y ddwy lechen, sef y Deg Gorchymyn (beth roedd e wedi'i ddweud wrthoch chi o ganol y tân ar y mynydd, pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd). Yna dyma fe'n eu rhoi nhw i mi,
Deut WelBeibl 10:5  a dyma fi'n mynd yn ôl i lawr o'r mynydd, a'u rhoi nhw yn y gist roeddwn i wedi'i gwneud. Maen nhw'n dal tu mewn i'r gist hyd heddiw. Dyna roedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn.
Deut WelBeibl 10:6  “Teithiodd pobl Israel o ffynhonnau Bene-iacân i Mosera. Dyna pryd fuodd Aaron farw, a chael ei gladdu, a dyma'i fab Eleasar yn dod yn offeiriad yn ei le.
Deut WelBeibl 10:7  Wedyn dyma nhw'n mynd ymlaen i Gwdgoda, ac yna i Iotbatha, lle roedd lot fawr o nentydd.
Deut WelBeibl 10:8  A dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD ddewis llwyth Lefi i gario Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i'w wasanaethu fel offeiriaid a bendithio'r bobl ar ei ran. Ac maen nhw'n dal i wneud hynny hyd heddiw.
Deut WelBeibl 10:9  A dyna pam nad oes gan lwyth Lefi dir, fel y llwythau eraill. Yr ARGLWYDD ei hun ydy eu siâr nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Lefi.
Deut WelBeibl 10:10  “Dyma fi'n aros ar y mynydd fel y gwnes i y tro cyntaf, ddydd a nos am bedwar deg diwrnod. A dyma'r ARGLWYDD yn gwrando arna i eto, a phenderfynu peidio'ch dinistrio chi.
Deut WelBeibl 10:11  Dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dos, ac arwain y bobl yma i gymryd y tir wnes i ei addo i'w hynafiaid.’
Deut WelBeibl 10:12  “Nawr, bobl Israel, beth mae'r ARGLWYDD eich Duw eisiau i chi ei wneud? Mae e eisiau i chi ei barchu, byw fel mae e wedi gorchymyn i chi, ei garu, ei wasanaethu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid,
Deut WelBeibl 10:13  a chadw'r gorchmynion a'r arweiniad dw i'n eu pasio ymlaen i chi heddiw. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i chi.
Deut WelBeibl 10:14  Yr ARGLWYDD sydd biau popeth sy'n bodoli – y ddaear a'r cwbl sydd arni, a'r awyr, a hyd yn oed y nefoedd uchod.
Deut WelBeibl 10:15  Ac eto, eich hynafiaid chi wnaeth e eu caru, a chi, eu disgynyddion, wnaeth e eu dewis.
Deut WelBeibl 10:16  Felly newidiwch eich agwedd, a pheidio bod mor benstiff!
Deut WelBeibl 10:17  Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn fwy pwerus na'r duwiau eraill i gyd, ac yn Feistr ar bob meistr arall. Fe ydy'r Duw mawr, cryf a rhyfeddol, sy'n ddiduedd, a byth yn derbyn breib.
Deut WelBeibl 10:18  Mae e'n gwneud yn siŵr fod plant amddifad a gweddwon yn cael cyfiawnder, ac mae e'n caru'r mewnfudwyr, ac yn rhoi bwyd a dillad iddyn nhw.
Deut WelBeibl 10:19  Felly dylech chithau hefyd ddangos cariad at fewnfudwyr, achos pobl o'r tu allan oeddech chi yng ngwlad yr Aifft.
Deut WelBeibl 10:20  Rhaid i chi barchu'r ARGLWYDD eich Duw, ei wasanaethu, aros yn ffyddlon iddo, a defnyddio'i enw e'n unig i dyngu llw.
Deut WelBeibl 10:21  Fe ydy'r un i'w foli. Fe ydy'ch Duw chi, yr un dych chi wedi'i weld yn gwneud pethau rhyfeddol ar eich rhan chi.
Deut WelBeibl 10:22  Pan aeth eich hynafiaid i lawr i'r Aifft, dim ond saith deg ohonyn nhw oedd yna, ond bellach mae cymaint ohonoch chi ag sydd o sêr yn y nefoedd!
Chapter 11
Deut WelBeibl 11:1  “Rhaid i chi garu'r ARGLWYDD eich Duw, a gwneud beth mae e eisiau – cadw ei ganllawiau, ei reolau a'i orchmynion bob amser.
Deut WelBeibl 11:2  Cofiwch mai nid gyda'ch plant chi dw i'n siarad, ond gyda chi sydd wedi gweld yr ARGLWYDD yn cosbi. Dych chi wedi gweld mor fawr a chryf a nerthol ydy e.
Deut WelBeibl 11:3  Wnaeth eich plant ddim gweld y pethau ofnadwy wnaeth Duw i'r Pharo a'i bobl yn yr Aifft.
Deut WelBeibl 11:4  Wnaethon nhw ddim gweld beth wnaeth e i fyddin yr Aifft, a'u ceffylau a'u cerbydau. Gwnaeth i'r Môr Coch lifo drostyn nhw a'u boddi nhw pan oedden nhw'n ceisio'ch dal chi.
Deut WelBeibl 11:5  Wnaethon nhw ddim gweld beth wnaeth e i chi yn yr anialwch cyn i chi gyrraedd yma.
Deut WelBeibl 11:6  Gwnaeth yr ARGLWYDD i'r ddaear agor yng nghanol y gwersyll, a dyma Dathan ac Abiram (meibion Eliab o lwyth Reuben), a'u teuluoedd a'u pebyll a'u hanifeiliaid i gyd, yn cael eu llyncu gan y ddaear.
Deut WelBeibl 11:7  Gyda chi dw i'n siarad, am mai chi welodd y pethau mawr yma wnaeth yr ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 11:8  “Felly gwrandwch yn ofalus ar y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Wedyn byddwch chi'n gallu mynd i mewn a chymryd y tir
Deut WelBeibl 11:9  wnaeth yr ARGLWYDD ei addo i'ch hynafiaid chi. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo.
Deut WelBeibl 11:10  Dydy e ddim yr un fath â'r tir yn yr Aifft, o'r lle daethoch chi. Yno roeddech chi'n hau'r had ac yn gorfod gweithio'n galed i'w ddyfrio, fel gardd lysiau.
Deut WelBeibl 11:11  Na, mae'r wlad dych chi'n croesi afon Iorddonen i'w chymryd, yn wlad o fryniau a dyffrynnoedd, a'r tir yn cael ei ddyfrio gan y glaw sy'n disgyn o'r awyr.
Deut WelBeibl 11:12  Tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn gofalu amdano, o ddechrau'r flwyddyn i'w diwedd.
Deut WelBeibl 11:13  “Os gwrandwch chi'n ofalus ar y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw, a charu'r ARGLWYDD eich Duw â'ch holl galon ac â'ch holl enaid,
Deut WelBeibl 11:14  mae e'n addo ‘Bydda i'n anfon glaw ar y tir ar yr amser iawn, sef yn yr hydref a'r gwanwyn, er mwyn i chi gasglu'ch cnydau o ŷd a grawnwin ac olewydd.
Deut WelBeibl 11:15  Bydda i'n rhoi porfa i'ch anifeiliaid, a digonedd o fwyd i chi ei fwyta.’
Deut WelBeibl 11:16  “Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn troi cefn arno a dechrau addoli duwiau eraill!
Deut WelBeibl 11:17  Os gwnewch chi hynny, bydd yr ARGLWYDD yn digio'n lân hefo chi, ac yn gwneud iddi stopio glawio. Fydd dim cnydau'n tyfu, a byddwch chi'n cael eich symud o'r tir da mae'r ARGLWYDD ar fin ei roi i chi.
Deut WelBeibl 11:18  “Felly dysga'r gorchmynion yma ar dy gof. Rhwyma nhw ar dy freichiau i dy atgoffa di, a gwisga nhw ar dy dalcen i'w cofio.
Deut WelBeibl 11:19  Dysga nhw'n gyson i dy blant, a'u trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ, ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddi'n mynd i gysgu, ac yn codi yn y bore.
Deut WelBeibl 11:20  Ysgrifenna nhw ar ffrâm drws dy dŷ, ac ar giatiau'r dref.
Deut WelBeibl 11:21  Os gwnei di hynny, byddi di a dy ddisgynyddion yn aros yn y wlad wnaeth yr ARGLWYDD ei haddo i dy hynafiaid am byth.
Deut WelBeibl 11:22  “Os gwnewch chi'n union fel dw i'n dweud, caru'r ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e eisiau i chi fyw ac aros yn ffyddlon iddo,
Deut WelBeibl 11:23  byddwch chi'n gyrru allan y bobloedd sydd o'ch blaenau chi, ac yn cymryd tir oddi ar genhedloedd mwy a chryfach na chi.
Deut WelBeibl 11:24  Byddwch chi'n cael pob modfedd sgwâr o dir fyddwch chi'n cerdded arno. Bydd eich ffiniau'n mynd o'r anialwch yn y de i Libanus yn y gogledd, ac o afon Ewffrates yr holl ffordd at Fôr y Canoldir.
Deut WelBeibl 11:25  Fydd neb yn gallu'ch rhwystro chi. Fel gwnaeth e addo i chi, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud i chi godi ofn ar bawb, lle bynnag dych chi'n mynd.
Deut WelBeibl 11:26  “Gwrandwch yn ofalus – dw i'n rhoi dewis i chi, rhwng bendith a melltith.
Deut WelBeibl 11:27  Bendith gewch chi os byddwch chi'n ufudd i orchmynion yr ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 11:28  Ond melltith gewch chi os byddwch chi'n cymryd dim sylw o'i orchmynion, yn troi cefn ar y ffordd dw i'n ei gosod o'ch blaen chi, ac yn addoli eilun-dduwiau dych chi'n gwybod dim amdanyn nhw.
Deut WelBeibl 11:29  Pan fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn mynd â chi i mewn i'r wlad dych chi i'w chymryd, rhaid i chi gyhoeddi'r fendith ar Fynydd Gerisim, a'r felltith ar Fynydd Ebal.
Deut WelBeibl 11:30  Maen nhw'r ochr draw i afon Iorddonen, ar dir y Canaaneaid sy'n byw yn Nyffryn Iorddonen, wrth ymyl Gilgal, heb fod yn bell o dderwen More.
Deut WelBeibl 11:31  “Dych chi ar fin croesi afon Iorddonen i gymryd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi. Dyna lle byddwch chi'n byw.
Deut WelBeibl 11:32  Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'r rheolau a'r canllawiau dw i wedi'u rhoi i chi heddiw.
Chapter 12
Deut WelBeibl 12:1  “Dyma'r rheolau a'r canllawiau dw i eisiau i chi eu cadw pan fyddwch chi'n byw yn y wlad mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi'i rhoi i chi.
Deut WelBeibl 12:2  “Mae'n rhaid i chi ddinistrio'n llwyr y mannau hynny lle mae'r bobl fyddwch chi'n cymryd y tir oddi arnyn nhw yn addoli eu duwiau – ar y mynyddoedd a'r bryniau, a than bob coeden ddeiliog.
Deut WelBeibl 12:3  Chwalu eu hallorau paganaidd nhw, malu'r colofnau cysegredig, llosgi polion y dduwies Ashera i lawr, a bwrw'r delwau o'u duwiau nhw i lawr.
Deut WelBeibl 12:4  “Peidiwch addoli'r ARGLWYDD eich Duw yn y ffordd maen nhw'n addoli eu duwiau.
Deut WelBeibl 12:5  Ewch i'r lle mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis iddo'i hun, a'i addoli yno.
Deut WelBeibl 12:6  Dyna lle byddwch chi'n mynd i gyflwyno offrymau i'w llosgi ac aberthau eraill, eich rhoddion a'ch degymau, eich offrymau i wneud addewid, eich offrymau gwirfoddol, a'r anifeiliaid cyntaf-anedig – yn wartheg, defaid a geifr.
Deut WelBeibl 12:7  Byddwch chi a'ch teuluoedd yn mynd yno i fwyta a gwledda, ac i ddathlu'r ffaith fod yr ARGLWYDD wedi bendithio'ch gwaith caled chi a rhoi cnydau da i chi.
Deut WelBeibl 12:8  “Rhaid i chi beidio gwneud beth dŷn ni'n ei wneud yma heddiw – pawb yn gwneud beth maen nhw eisiau.
Deut WelBeibl 12:9  Dych chi ddim eto wedi cyrraedd pen y daith, a derbyn yr etifeddiaeth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi.
Deut WelBeibl 12:10  Ar ôl i chi groesi afon Iorddonen, a setlo yn y wlad mae'n ei rhoi i chi, a pan fyddwch chi'n cael llonydd gan yr holl elynion o'ch cwmpas chi, byddwch chi'n saff.
Deut WelBeibl 12:11  Byddwch chi'n mynd i'r lle fydd yr ARGLWYDD wedi'i ddewis iddo'i hun, ac yn mynd â'r pethau dw i'n eu gorchymyn i gyd iddo – offrymau i'w llosgi, aberthau, degymau, eich rhoddion personol, a'r offrymau i wneud adduned dych chi am eu rhoi iddo.
Deut WelBeibl 12:12  “Byddwch yn dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw, gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, a'r Lefiaid sy'n byw yn eich pentrefi (gan na chawson nhw dir fel y gweddill ohonoch chi).
Deut WelBeibl 12:13  Peidiwch cyflwyno offrymau i'w llosgi lle bynnag dych chi eisiau.
Deut WelBeibl 12:14  Gwnewch y cwbl dw i'n ei orchymyn i chi, ond dim ond yn y lle fydd yr ARGLWYDD wedi'i ddewis.
Deut WelBeibl 12:15  “Ond cewch ladd anifeiliaid i fwyta'u cig lle bynnag dych chi eisiau – cig y gasél a'r carw. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio, a bydd pawb yn cael ei fwyta – y bobl sy'n lân yn seremonïol a'r rhai sydd ddim.
Deut WelBeibl 12:16  Ond rhaid i chi beidio bwyta'r gwaed – mae'r gwaed i gael ei dywallt ar lawr fel dŵr.
Deut WelBeibl 12:17  “A dych chi ddim i fwyta'ch offrymau yn eich pentrefi – y degwm o'r ŷd, y sudd grawnwin a'r olew olewydd, yr anifeiliaid cyntaf-anedig, eich offrymau i wneud adduned a'ch offrymau personol gwirfoddol.
Deut WelBeibl 12:18  Mae'r rhain i gael eu bwyta o flaen yr ARGLWYDD yn y lle mae e wedi'i ddewis. Dych chi, a'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, a'r Lefiaid sy'n byw yn eich pentrefi, i fynd yno i ddathlu'r ffaith fod yr ARGLWYDD wedi bendithio'ch gwaith caled chi drwy roi cnydau mor dda i chi.
Deut WelBeibl 12:19  Gwnewch yn siŵr eich bod chi byth yn esgeuluso'ch cyfrifoldeb tuag at y bobl o lwyth Lefi.
Deut WelBeibl 12:20  “Mae'r ARGLWYDD wedi addo y bydd yn rhoi mwy o dir i chi. Pan fydd yn gwneud hynny, cewch fwyta faint bynnag o gig dych chi eisiau, lle bynnag dych chi eisiau.
Deut WelBeibl 12:21  Os bydd y lle mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis iddo'i hun yn rhy bell i chi deithio iddo, cewch ladd yr anifeiliaid fel dw i wedi dweud wrthoch chi, a'u bwyta nhw yn eich pentrefi.
Deut WelBeibl 12:22  Caiff pawb eu bwyta nhw – y bobl sy'n lân yn seremonïol a'r rhai sydd ddim. Cewch fwyta fel petai'n gig gasél neu garw.
Deut WelBeibl 12:23  Ond peidiwch bwyta gwaed ar unrhyw gyfri! Mae'r bywyd yn y gwaed, a rhaid i chi beidio bwyta'r bywyd gyda'r cig.
Deut WelBeibl 12:24  Peidiwch â'i fwyta! Rhaid i chi ei dywallt ar lawr fel dŵr.
Deut WelBeibl 12:25  Peidiwch â'i fwyta, er mwyn i bethau fynd yn dda i chi a'ch plant ar eich ôl. Byddwch yn gwneud beth sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 12:26  “Dim ond y pethau sanctaidd, a'r offrymau i wneud adduned, fydd rhaid i chi fynd â nhw i'r lle fydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis.
Deut WelBeibl 12:27  Rhaid i chi gyflwyno'r offrymau sydd i'w llosgi, y cig a'r gwaed, ar allor yr ARGLWYDD eich Duw. Ac mae gwaed yr aberthau eraill i'w dywallt ar yr allor pan fyddwch chi'n bwyta'r cig.
Deut WelBeibl 12:28  Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud beth dw i'n ei orchymyn i chi, er mwyn i bethau fynd yn dda i chi ac i'ch disgynyddion ar eich ôl. Byddwch chi'n gwneud beth sy'n dda ac yn iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw.
Deut WelBeibl 12:29  “Pan fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cael gwared â'r bobloedd sydd yn y wlad dych chi'n mynd i'w chymryd, byddwch chi'n setlo i lawr yno yn eu lle nhw.
Deut WelBeibl 12:30  Pan fyddan nhw wedi cael eu dinistrio o'ch blaen chi, gwyliwch rhag i chi gael eich trapio, yr un fath â nhw. Peidiwch addoli eu duwiau nhw, na cheisio darganfod sut roedden nhw'n addoli, a meddwl gwneud yr un fath â nhw.
Deut WelBeibl 12:31  Dych chi ddim i addoli'r ARGLWYDD eich Duw yn y ffyrdd roedden nhw'n addoli. Roedden nhw'n gwneud pethau sy'n hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD wrth addoli – pethau mae e'n eu casáu! Roedden nhw hyd yn oed yn llosgi eu plant yn aberth i'w duwiau!
Deut WelBeibl 12:32  “Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud popeth dw i'n ei orchymyn i chi – peidiwch ychwanegu dim na chymryd dim i ffwrdd!
Chapter 13
Deut WelBeibl 13:1  “Falle bydd proffwyd neu rywun sy'n cael gweledigaethau drwy freuddwydion yn dod atoch chi ac yn dweud fod gwyrth ryfeddol yn mynd i ddigwydd.
Deut WelBeibl 13:2  Hyd yn oed os ydy'r wyrth yn digwydd, a'r proffwyd yn ceisio'ch cael chi i addoli duwiau eraill (eilun-dduwiau oeddech chi'n gwybod dim amdanyn nhw o'r blaen),
Deut WelBeibl 13:3  peidiwch gwrando arno. Mae'r ARGLWYDD yn eich rhoi chi ar brawf, i weld os ydych chi wir yn ei garu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.
Deut WelBeibl 13:4  Dych chi i fod i ddilyn yr ARGLWYDD eich Duw, a'i barchu e yn unig. Bod yn ufudd i'w orchmynion, gwneud beth mae e'n ddweud, ei wasanaethu ac aros yn ffyddlon iddo.
Deut WelBeibl 13:5  “Os ydy proffwyd neu rywun sy'n cael gweledigaethau drwy freuddwydion, yn ceisio'ch arwain chi i droi cefn ar yr ARGLWYDD, dylai gael ei ddienyddio. Yr ARGLWYDD eich Duw wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, a'ch rhyddhau chi o fod yn gaethweision. Rhaid i chi gael gwared â'r drwg sydd yn eich plith chi.
Deut WelBeibl 13:6  “Os ydy un o'ch teulu agosaf, neu'ch ffrind gorau, yn ceisio'ch denu chi i addoli duwiau eraill
Deut WelBeibl 13:7  (sdim ots o lle – eilun-dduwiau'r bobl o'ch cwmpas chi, neu unrhyw le drwy'r byd i gyd),
Deut WelBeibl 13:8  peidiwch gwrando na chymryd unrhyw sylw. Peidiwch teimlo trueni drosto, na gwneud esgusion, na chadw'i ran.
Deut WelBeibl 13:9  Rhaid iddo gael ei ladd, drwy daflu cerrig ato. A chi ddylai daflu'r garreg gyntaf ato, ac wedyn pawb arall gyda chi.
Deut WelBeibl 13:10  Rhaid iddo gael ei ladd, drwy daflu cerrig ato. A chi ddylai daflu'r garreg gyntaf ato, ac wedyn pawb arall gyda chi.
Deut WelBeibl 13:11  Bydd pobl Israel yn clywed am y peth, ac yn dychryn, ac wedyn fydd neb yn gwneud y drwg byth eto.
Deut WelBeibl 13:12  “Tasech chi'n clywed yn un o'r trefi mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eu rhoi i chi, fod
Deut WelBeibl 13:13  rhyw bobl ddrwg wedi mynd ati i annog pobl y dre i addoli duwiau eraill (eilun-dduwiau oeddech chi'n gwybod dim amdanyn nhw o'r blaen),
Deut WelBeibl 13:14  rhaid i chi ymchwilio i'r mater a holi pobl yn fanwl i ddarganfod os ydy'r stori'n wir. Ac os ydy'n wir fod peth mor ofnadwy wedi digwydd,
Deut WelBeibl 13:15  rhaid i bobl y dref honno gael eu lladd – rhaid i bawb a phopeth byw gael eu lladd, gan gynnwys yr anifeiliaid.
Deut WelBeibl 13:16  Yna rhaid i chi gasglu'r pethau gwerthfawr i ganol sgwâr y dref, a llosgi'r dref a'r cwbl yn offrwm i'r ARGLWYDD eich Duw. Bydd y dref yn cael ei gadael yn domen o adfeilion, a byth i gael ei hadeiladu eto.
Deut WelBeibl 13:17  Peidiwch cadw dim byd sydd i fod i gael ei ddinistrio. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn stopio bod yn ddig, yn teimlo trueni, a bod yn garedig atoch chi, ac yn rhoi lot o blant i chi fel gwnaeth e addo i'ch hynafiaid.
Deut WelBeibl 13:18  “Felly rhaid i chi wneud beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud, cadw'r gorchmynion dw i'n eu pasio ymlaen i chi heddiw, a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg e.
Chapter 14
Deut WelBeibl 14:1  “Bobl Israel, chi ydy plant yr ARGLWYDD eich Duw. Felly peidiwch torri'ch hunain â chyllyll na siafio'ch talcen pan dych chi'n galaru am rywun sydd wedi marw.
Deut WelBeibl 14:2  Dych chi'n bobl sydd wedi'ch cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. O bob cenedl ar wyneb y ddaear, mae e wedi'ch dewis chi yn drysor sbesial iddo'i hun.
Deut WelBeibl 14:4  Dyma'r anifeiliaid sy'n iawn i'w bwyta: bustach, dafad, gafr,
Deut WelBeibl 14:5  hydd, gasél, carw, gafr wyllt, orycs, antelop, a'r ddafad fynydd.
Deut WelBeibl 14:6  “Gallwch fwyta unrhyw anifail sydd â charn fforchog ac sy'n cnoi cil.
Deut WelBeibl 14:7  Ond peidiwch bwyta camel, ysgyfarnog, a broch y creigiau. (Er eu bod nhw'n cnoi cil, does ganddyn nhw ddim carn fforchog, felly maen nhw i'w hystyried yn aflan.)
Deut WelBeibl 14:8  Peidiwch bwyta cig moch. (Er fod gan fochyn garn fforchog, dydy e ddim yn cnoi cil. Peidiwch hyd yn oed cyffwrdd mochyn sydd wedi marw!)
Deut WelBeibl 14:9  “Gallwch fwyta unrhyw greaduriaid sy'n byw yn y dŵr sydd ag esgyll a chennau arnyn nhw,
Deut WelBeibl 14:10  ond dim byd sydd heb esgyll a chennau – mae'r rheiny i'w hystyried yn aflan.
Deut WelBeibl 14:11  “Gallwch fwyta unrhyw aderyn sy'n lân yn seremonïol.
Deut WelBeibl 14:12  Ond peidiwch bwyta'r rhain: eryr, fwltur, fwltur du,
Deut WelBeibl 14:18  storc, gwahanol fathau o grëyr, copog, na'r ystlum chwaith.
Deut WelBeibl 14:19  “Mae pryfed sy'n hedfan yn aflan hefyd. Peidiwch bwyta nhw.
Deut WelBeibl 14:20  Gallwch fwyta unrhyw aderyn sy'n lân yn seremonïol.
Deut WelBeibl 14:21  Peidiwch bwyta corff unrhyw anifail neu aderyn sydd wedi marw ohono'i hun. Gallwch ei roi i'r bobl o'r tu allan sy'n byw yn eich pentrefi chi, neu ei werthu i estroniaid. Ond dych chi'n bobl wedi'u cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. “Peidiwch berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.
Deut WelBeibl 14:22  “Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n rhoi heibio ddeg y cant o gynnyrch eich tir bob blwyddyn.
Deut WelBeibl 14:23  Ac mae hwn i gael ei fwyta o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle bydd e'n ei ddewis – deg y cant o'r ŷd, y sudd grawnwin, yr olew olewydd, a phob anifail cyntaf-anedig – yn wartheg, defaid a geifr. Rhaid i chi ddysgu dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw bob amser.
Deut WelBeibl 14:24  “Pan fydd e'n eich bendithio, os ydy'r lle mae e wedi'i ddewis yn rhy bell,
Deut WelBeibl 14:25  gallwch werthu'r deg y cant o'ch cynnyrch, a mynd â'r arian gyda chi yn ei le.
Deut WelBeibl 14:26  Wedyn yno gallwch brynu cig eidion, cig oen, gwin, cwrw, ac unrhyw fwyd arall dych chi eisiau.
Deut WelBeibl 14:27  Ond cofiwch ofalu am y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, gan nad oes ganddyn nhw dir fel y gweddill ohonoch chi.
Deut WelBeibl 14:28  “Bob tair blynedd, rhaid i chi gymryd deg y cant o gynnyrch y flwyddyn honno a'i storio yn eich pentrefi.
Deut WelBeibl 14:29  Bydd yno i'w ddefnyddio gan y rhai sydd o lwyth Lefi, a'r mewnfudwyr, y plant amddifad, a'r gweddwon yn y pentref. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn bendithio popeth fyddwch chi'n ei wneud.
Chapter 15
Deut WelBeibl 15:1  “Ar ddiwedd pob saith mlynedd, rhaid cyhoeddi fod dyledion yn cael eu canslo.
Deut WelBeibl 15:2  Dyma beth sydd i ddigwydd: Rhaid i'r credydwr ddileu unrhyw ddyledion sydd gan bobl eraill iddo. Ddylai e ddim gorfodi run o'i gydwladwyr yn Israel i dalu'r ddyled. Mae'r amser i ganslo dyledion wedi dechrau.
Deut WelBeibl 15:3  Gallwch hawlio ad-daliad gan bobl o'r tu allan, ond mae dyledion eich cyd-Israeliaid i gael eu canslo.
Deut WelBeibl 15:4  “Ddylai neb fod mewn angen yn eich plith chi, am fod yr ARGLWYDD yn mynd i'ch bendithio chi yn y wlad mae'n ei rhoi i chi,
Deut WelBeibl 15:5  os byddwch chi'n ufudd ac yn cadw'r holl orchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw.
Deut WelBeibl 15:6  Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio, fel gwnaeth e addo. Bydd pobl Israel yn benthyg i wledydd eraill, ond ddim yn gorfod benthyca gan unrhyw un. Bydd Israel yn rheoli gwledydd eraill, ond fyddan nhw ddim yn eich rheoli chi.
Deut WelBeibl 15:7  “Os bydd un o bobl Israel, sy'n byw yn un o'ch pentrefi chi, mewn angen, peidiwch bod yn galon-galed ac yn grintachlyd.
Deut WelBeibl 15:8  Yn lle hynny, byddwch yn garedig ac yn hael, a benthyg beth bynnag sydd arno'i angen.
Deut WelBeibl 15:9  Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn meddwl pethau drwg pan mae'r seithfed flwyddyn (sef blwyddyn canslo dyledion) yn agosáu. Peidiwch meithrin agwedd anghywir tuag at eich cyd-Israeliad sydd mewn angen, a gwrthod benthyg iddo. Bydd e'n cwyno i'r ARGLWYDD amdanoch chi, a byddwch chi wedi pechu.
Deut WelBeibl 15:10  Dylech chi fod yn frwd i'w helpu, a pheidio bod yn flin eich bod wedi gwneud hynny. Bydd yr ARGLWYDD yn talu'n ôl i chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi.
Deut WelBeibl 15:11  Bydd yna bobl dlawd yn y wlad bob amser, a dyna pam dw i'n dweud wrthoch chi am fod yn hael tuag at eich cydwladwyr tlawd.
Deut WelBeibl 15:12  “Os ydy un o'ch pobl, Hebrëwr neu Hebraes, yn gwerthu'i hun i chi, dylai weithio i chi am chwe mlynedd, ond yna ar ddechrau'r seithfed flwyddyn rhaid i chi ei ollwng yn rhydd.
Deut WelBeibl 15:14  dylech roi defaid a geifr iddo, a digon o ŷd a gwin. Fel mae'r ARGLWYDD wedi bod yn hael atoch chi, rhaid i chi fod yn hael atyn nhw.
Deut WelBeibl 15:15  Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD wedi'ch gollwng chi'n rhydd. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi wneud hyn heddiw.
Deut WelBeibl 15:16  “Ond os ydy'r gwas yn dweud, ‘Dw i ddim eisiau dy adael di,’ am ei fod yn hapus gyda ti a dy deulu, a bod bywyd yn dda arno,
Deut WelBeibl 15:17  cymer fynawyd a gwneud twll drwy ei glust i'r drws. Wedyn bydd yn was i ti am weddill ei oes (ac mae'r un peth i'w wneud gyda dy forwyn).
Deut WelBeibl 15:18  “Paid cwyno os ydy'r gwas neu'r forwyn am gael mynd yn rhydd. Wedi'r cwbl, byddi wedi cael chwe blynedd o wasanaeth am hanner y gost o gadw gwas cyflog. Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn bendithio popeth wnei di os byddi di'n ufudd.
Deut WelBeibl 15:19  “Rhaid i bob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni o'r gwartheg, defaid a geifr gael ei gadw i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD. Peidiwch gwneud i'r ych cyntaf i gael ei eni weithio, na cneifio'r ddafad neu'r afr gyntaf i gael ei geni.
Deut WelBeibl 15:20  Bob blwyddyn, dych chi a'ch teulu i'w bwyta o flaen yr ARGLWYDD yn y lle mae e wedi'i ddewis.
Deut WelBeibl 15:21  Ond peidiwch aberthu anifail sydd â rhywbeth o'i le arno i'r ARGLWYDD – anifail sy'n gloff, yn ddall, neu gydag unrhyw beth arall o'i le arno.
Deut WelBeibl 15:22  Cewch fwyta'r anifeiliaid hynny yn eich pentrefi, fel petai'n gig gasél neu garw. A gall pawb eu bwyta – y bobl sy'n lân yn seremonïol a'r rhai sydd ddim.
Deut WelBeibl 15:23  Ond rhaid i chi beidio bwyta'r gwaed. Mae'r gwaed i gael ei dywallt ar lawr fel dŵr.
Chapter 16
Deut WelBeibl 16:1  “Cadwch Ŵyl y Pasg yn mis Abib, am mai dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw eich achub chi o'r Aifft yn ystod y nos.
Deut WelBeibl 16:2  Rhaid i anifail gael ei aberthu i'r ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi'i ddewis – un o'r gwartheg, y defaid neu'r geifr.
Deut WelBeibl 16:3  A pheidiwch bwyta bara gyda burum ynddo. Fel symbol o galedi, rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod, am eich bod wedi gadael yr Aifft ar frys. Dych chi i wneud hyn er mwyn cofio, am weddill eich bywydau, y diwrnod hwnnw y daethoch chi allan o'r Aifft.
Deut WelBeibl 16:4  Ddylai fod dim mymryn o furum yn y wlad am saith diwrnod. A ddylai dim o gig yr anifail gafodd ei aberthu gyda'r nos ar y diwrnod cyntaf fod wedi'i adael tan y bore wedyn.
Deut WelBeibl 16:5  “Dydy aberth y Pasg ddim i gael ei ladd yn unrhyw bentref mae'r ARGLWYDD wedi'i roi i chi.
Deut WelBeibl 16:6  Rhaid iddo gael ei aberthu yn y lle mae e wedi'i ddewis iddo'i hun, gyda'r nos, pan mae'r haul yn machlud – sef yr adeg o'r dydd y daethoch chi allan o'r Aifft.
Deut WelBeibl 16:7  Rhaid ei goginio a'i fwyta yn y lle mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis, yna'r bore wedyn cewch fynd yn ôl i'ch pebyll.
Deut WelBeibl 16:8  Bara heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta am chwe diwrnod. Yna bydd cyfarfod arbennig i addoli'r ARGLWYDD eich Duw yn cael ei gynnal ar y seithfed diwrnod. Rhaid i chi beidio gweithio ar y diwrnod hwnnw.
Deut WelBeibl 16:10  dych chi i ddathlu Gŵyl y Cynhaeaf o flaen yr ARGLWYDD eich Duw. A rhaid i chi ddod â pheth o'r cynhaeaf mae'r ARGLWYDD wedi'i roi i chi, yn offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol.
Deut WelBeibl 16:11  Byddwch yn dathlu o'i flaen – gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon.
Deut WelBeibl 16:12  Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'r canllawiau yma dw i'n eu rhoi i chi.
Deut WelBeibl 16:13  “Rhaid i chi gadw Gŵyl y Pebyll am saith diwrnod ar ôl i chi orffen casglu'r grawn o'r llawr dyrnu a gwasgu'r grawnwin.
Deut WelBeibl 16:14  Byddwch yn dathlu'r Ŵyl gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon.
Deut WelBeibl 16:15  Byddwch yn dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod, yn y lle mae e wedi'i ddewis, am ei fod e wedi bendithio'ch holl waith chi. Felly bydd gynnoch chi le i ddathlu go iawn!
Deut WelBeibl 16:16  “Felly dair gwaith bob blwyddyn, mae'r dynion i gyd i fynd o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi'i ddewis – ar Ŵyl y Bara Croyw, Gŵyl y Cynhaeaf, a Gŵyl y Pebyll. A rhaid iddyn nhw fynd â rhywbeth i'w offrymu bob tro.
Deut WelBeibl 16:17  Dylai pob un roi beth mae'n gallu, fel mae'r ARGLWYDD wedi'i fendithio.
Deut WelBeibl 16:18  “Rhaid i chi benodi barnwyr a swyddogion eraill i bob llwyth yn y trefi mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eu rhoi i chi. A rhaid iddyn nhw farnu'r bobl yn deg.
Deut WelBeibl 16:19  Peidio gwyrdroi cyfiawnder a dangos ffafriaeth. Peidio derbyn breib. Mae breib yn dallu pobl ddoeth a throi pobl onest yn gelwyddog.
Deut WelBeibl 16:20  Cyfiawnder pur dw i eisiau, dim llai, er mwyn i chi lwyddo a chymryd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi.
Deut WelBeibl 16:21  “Peidiwch codi polyn i'r dduwies Ashera wrth ymyl allor dych chi wedi'i gwneud i'r ARGLWYDD eich Duw.
Deut WelBeibl 16:22  A pheidiwch codi colofn gysegredig! Mae'r ARGLWYDD yn casáu pethau felly.
Chapter 17
Deut WelBeibl 17:1  “Peidiwch aberthu anifail sydd â rhywbeth o'i le arno. Mae gwneud peth felly yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 17:2  “Os ydych chi'n clywed fod dyn neu ddynes yn un o'ch trefi yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw drwy dorri amodau'r ymrwymiad
Deut WelBeibl 17:3  – gwneud pethau dw i wedi dweud wrthoch chi am beidio'u gwneud, fel addoli duwiau eraill, neu addoli'r haul, y lleuad neu'r sêr –
Deut WelBeibl 17:4  rhaid i chi ymchwilio'n fanwl i'r mater. Wedyn, os ydy e'n troi allan i fod yn wir fod peth erchyll fel yna yn bendant wedi digwydd yn Israel,
Deut WelBeibl 17:5  rhaid i'r person sydd wedi gwneud y drwg gael ei ddedfrydu gan y llys wrth giatiau'r dref. Yna bydd yn cael ei ladd drwy daflu cerrig ato.
Deut WelBeibl 17:6  Ond rhaid cael dau neu dri o bobl i roi tystiolaeth yn ei erbyn. Dydy gair un tyst ddim yn ddigon i'w brofi'n euog.
Deut WelBeibl 17:7  A'r tystion sydd i ddechrau'r dienyddiad, a phawb arall yn eu dilyn. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith.
Deut WelBeibl 17:8  “Os ydy rhyw achos yn y dref yn rhy anodd i'w farnu – achos o ladd, unrhyw achos cyfreithiol neu ymosodiad – yna ewch â'r achos i'r lle mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis.
Deut WelBeibl 17:9  Ewch i weld yr offeiriaid o lwyth Lefi a'r un sy'n farnwr bryd hynny, a byddan nhw'n penderfynu beth ydy'r ddedfryd.
Deut WelBeibl 17:10  A rhaid i chi wneud yn union fel maen nhw'n dweud. Os na wnewch chi fel maen nhw'n dweud, bydd rhaid i chi farw. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith.
Deut WelBeibl 17:11  A rhaid i chi wneud yn union fel maen nhw'n dweud. Os na wnewch chi fel maen nhw'n dweud, bydd rhaid i chi farw. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith.
Deut WelBeibl 17:12  A rhaid i chi wneud yn union fel maen nhw'n dweud. Os na wnewch chi fel maen nhw'n dweud, bydd rhaid i chi farw. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith.
Deut WelBeibl 17:13  Wedyn bydd pobl yn clywed beth ddigwyddodd ac yn dychryn, a fydd neb yn meiddio gwrthryfela felly eto.
Deut WelBeibl 17:14  “Ar ôl i chi goncro'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi, a setlo i lawr i fyw yno, byddwch yn penderfynu eich bod eisiau brenin, yr un fath â'r gwledydd o'ch cwmpas chi.
Deut WelBeibl 17:15  Dim ond yr un mae'r ARGLWYDD yn ei ddewis sydd i fod yn frenin. A rhaid iddo fod yn un o bobl Israel – peidiwch dewis rhywun o'r tu allan, sydd ddim yn Israeliad.
Deut WelBeibl 17:16  Rhaid iddo beidio casglu lot o geffylau rhyfel iddo'i hun, na gadael i bobl fynd i'r Aifft i nôl rhai. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthoch chi am beidio mynd yn ôl yno.
Deut WelBeibl 17:17  Rhaid i'r brenin beidio cymryd lot o wragedd iddo'i hun, rhag iddyn nhw ei demtio i droi cefn arna i. A rhaid iddo beidio hel cyfoeth iddo'i hun – arian ac aur.
Deut WelBeibl 17:18  “Yna, pan fydd e'n cael ei orseddu, bydd yn derbyn sgrôl, copi o'r Gyfraith, gan yr offeiriaid o lwyth Lefi.
Deut WelBeibl 17:19  Mae'n bwysig ei fod yn cadw'r sgrôl wrth law bob amser, ac yn ei darllen yn rheolaidd ar hyd ei fywyd. Wedyn bydd yn parchu'r ARGLWYDD ei Dduw, ac yn gwneud popeth mae'r gyfraith yn ei ddweud, a dilyn ei chanllawiau.
Deut WelBeibl 17:20  Wrth wneud hynny, fydd e ddim yn meddwl ei fod yn well na'i gyd-Israeliaid, nac yn crwydro oddi wrth y cyfarwyddiadau dw i wedi'u rhoi. A bydd e a'i ddisgynyddion yn cael teyrnasu am hir dros wlad Israel.
Chapter 18
Deut WelBeibl 18:1  “Fydd gan yr offeiriaid o lwyth Lefi, yn wir unrhyw un sy'n perthyn i'r llwyth, ddim tir fel pawb arall. Byddan nhw'n cael bwyta'r offrymau sy'n cael eu llosgi i'r ARGLWYDD – dyna eu siâr nhw.
Deut WelBeibl 18:2  Fydd ganddyn nhw ddim tir fel gweddill pobl Israel. Yr ARGLWYDD ei hun ydy eu siâr nhw, fel gwnaeth e addo iddyn nhw.
Deut WelBeibl 18:3  “Pan fydd pobl yn dod i aberthu anifail (o'r gwartheg neu'r defaid a geifr), mae'r ysgwydd, y bochau a'r stumog i gael eu rhoi i'r offeiriaid.
Deut WelBeibl 18:4  Maen nhw hefyd i gael y rhan orau o'ch ŷd, sudd grawnwin ac olew olewydd, a hefyd o'r gwlân pan fyddwch yn cneifio'ch defaid a'ch geifr.
Deut WelBeibl 18:5  Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi dewis llwyth Lefi i'w wasanaethu a'i gynrychioli am byth.
Deut WelBeibl 18:6  Os ydy e wir eisiau, mae unrhyw un o lwyth Lefi yn gallu gadael y pentref lle mae'n byw, a gwirfoddoli i wasanaethu yn y lle mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis iddo'i hun (gyda'r dynion eraill o lwyth Lefi sy'n gwasanaethu yno'n barhaol).
Deut WelBeibl 18:7  Os ydy e wir eisiau, mae unrhyw un o lwyth Lefi yn gallu gadael y pentref lle mae'n byw, a gwirfoddoli i wasanaethu yn y lle mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis iddo'i hun (gyda'r dynion eraill o lwyth Lefi sy'n gwasanaethu yno'n barhaol).
Deut WelBeibl 18:8  Mae'r dyn hwnnw i gael yr un siâr a'r lleill, er ei fod hefyd wedi gwerthu eiddo'i deulu.
Deut WelBeibl 18:9  “Pan fyddwch wedi cyrraedd y tir mae'r ARGLWYDD yn ei roi i chi, peidiwch gwneud y pethau ffiaidd mae'r bobl sy'n byw yno nawr yn eu gwneud.
Deut WelBeibl 18:10  Ddylai neb ohonoch chi aberthu ei fab neu ei ferch drwy dân. Ddylai neb ddewino, dweud ffortiwn, darogan, consurio,
Deut WelBeibl 18:11  swyno, mynd ar ôl ysbrydion, chwarae gyda'r ocwlt na cheisio siarad â'r meirw.
Deut WelBeibl 18:12  Mae gwneud pethau fel yna yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, a dyna pam mae e'n gyrru'r bobl sydd yno allan o'ch blaen chi.
Deut WelBeibl 18:13  Rhaid i chi wneud yn union beth mae'r ARGLWYDD eich Duw eisiau.
Deut WelBeibl 18:14  Mae'r bobloedd dych chi ar fin cymryd eu tir nhw yn gwrando ar bobl sy'n dweud ffortiwn ac yn dewino. Ond mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi dweud wrthoch chi am beidio gwneud pethau felly.
Deut WelBeibl 18:15  “Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn codi proffwyd arall fel fi o'ch plith chi. Rhaid i chi wrando'n ofalus arno fe.
Deut WelBeibl 18:16  Pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd wrth droed Mynydd Sinai, dyma chi'n dweud wrth yr ARGLWYDD: ‘Paid gwneud i ni wrando ar lais yr ARGLWYDD ein Duw, na gorfod edrych ar y tân mawr yma, rhag i ni farw.’
Deut WelBeibl 18:17  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Maen nhw'n iawn.
Deut WelBeibl 18:18  Bydda i'n codi proffwyd arall fel ti o'u plith nhw. Bydda i'n rhoi neges iddo'i chyhoeddi, a bydd e'n dweud beth dw i'n ei orchymyn.
Deut WelBeibl 18:19  Bydd e'n siarad drosto i, a bydd pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar beth mae e'n ddweud yn atebol i mi.’
Deut WelBeibl 18:20  Ond os bydd unrhyw broffwyd yn honni siarad drosto i heb i mi ddweud wrtho am wneud hynny, neu'n siarad ar ran duwiau eraill, rhaid i'r proffwyd hwnnw farw.
Deut WelBeibl 18:21  “‘Ond sut mae gwybod mai nid yr ARGLWYDD sydd wedi rhoi'r neges?’ meddech chi.
Deut WelBeibl 18:22  Wel, os ydy proffwyd yn honni siarad drosto i, a beth mae e'n ddweud ddim yn dod yn wir, nid fi sydd wedi siarad. Mae'r proffwyd hwnnw wedi siarad o'i ben a'i bastwn ei hun. Peidiwch cymryd sylw ohono.
Chapter 19
Deut WelBeibl 19:1  “Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd i ddinistrio'r bobloedd yn y wlad dych chi'n mynd i mewn iddi. Byddwch yn cymryd eu tir nhw, ac yn symud i fyw i'w trefi a'u tai.
Deut WelBeibl 19:2  Rhaid i chi rannu'r wlad yn dair, dewis tair tref lloches ac adeiladu ffyrdd da i'r trefi hynny. Bydd pwy bynnag sy'n lladd rhywun arall yn gallu dianc am loches i'r agosaf o'r tair tref.
Deut WelBeibl 19:3  Rhaid i chi rannu'r wlad yn dair, dewis tair tref lloches ac adeiladu ffyrdd da i'r trefi hynny. Bydd pwy bynnag sy'n lladd rhywun arall yn gallu dianc am loches i'r agosaf o'r tair tref.
Deut WelBeibl 19:4  “Dyma fydd y drefn os bydd rhywun yn lladd ar ddamwain, heb fod unrhyw ddrwg wedi'i fwriadu.
Deut WelBeibl 19:5  Er enghraifft, lle mae dau ddyn wedi mynd i'r goedwig i dorri coed, ac wrth i un godi'i fwyell, mae blaen y fwyell yn dod i ffwrdd o'r goes ac yn taro'r llall a'i ladd. Mae'r dyn wnaeth ladd yn gallu dianc i un o'r trefi yma.
Deut WelBeibl 19:6  Os na fydd yn gwneud hynny, gall perthynas agosa'r dyn laddwyd ei ddal, a dial arno a'i ladd. Ond doedd e ddim wir yn haeddu hynny, am nad oedd e wedi bwriadu unrhyw ddrwg pan ddigwyddodd y ddamwain.
Deut WelBeibl 19:7  Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi ddewis tair tref i'r pwrpas yma.
Deut WelBeibl 19:8  “Wedyn, pan fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn rhoi mwy eto o dir i chi, (sef yr holl dir wnaeth e addo ei roi i'ch hynafiaid chi,)
Deut WelBeibl 19:9  a chithau'n gwneud yn siŵr eich bod chi'n cadw'r holl orchmynion dw i'n eu rhoi i chi (sef caru'r ARGLWYDD eich Duw a byw fel mae e eisiau i chi fyw), rhaid i chi ddewis tair tref arall at y tair sydd gynnoch chi eisoes.
Deut WelBeibl 19:10  Does dim eisiau i bobl gael eu dienyddio os ydyn nhw'n ddieuog. Ddylai peth felly ddim digwydd yn y wlad mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi i chi.
Deut WelBeibl 19:11  “Ond os ydy rhywun yn casáu person arall, disgwyl amdano, ymosod arno a'i ladd, ac wedyn yn dianc i un o'r trefi yma, dyma sydd i ddigwydd:
Deut WelBeibl 19:12  Rhaid i arweinwyr y dref lle mae'n byw anfon dynion i'w arestio, a gadael i berthynas agosaf y sawl gafodd ei ladd ddial arno a'i ladd e.
Deut WelBeibl 19:13  Peidiwch teimlo trueni dros lofrudd. Ddylai pobl ddiniwed ddim cael eu lladd yn Israel.
Deut WelBeibl 19:14  “Peidiwch symud terfyn i ddwyn tir oddi ar rywun arall. Cafodd ffiniau dy etifeddiaeth eu gosod gan dy hynafiaid yn y wlad mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti ei chymryd.
Deut WelBeibl 19:15  “Dydy un tyst ddim yn ddigon i gael rhywun yn euog o drosedd. Rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.
Deut WelBeibl 19:16  Os ydy tyst yn dweud celwydd a chyhuddo rhywun o ryw drosedd,
Deut WelBeibl 19:17  rhaid i'r ddau fynd i sefyll o flaen yr ARGLWYDD, i'r offeiriaid a'r barnwyr benderfynu ar y ddedfryd.
Deut WelBeibl 19:18  Byddan nhw'n edrych yn fanwl ar yr achos, ac os byddan nhw'n darganfod fod y tyst wedi dweud celwydd,
Deut WelBeibl 19:19  bydd e'n cael y gosb roedd e wedi bwriadu i'r llall ei chael. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith.
Deut WelBeibl 19:20  Bydd gweddill y bobl yn clywed beth ddigwyddodd, a bydd ganddyn nhw ofn gwneud pethau mor ddrwg.
Deut WelBeibl 19:21  Peidiwch teimlo trueni. Mae'r gosb i ffitio'r drosedd – bywyd am fywyd, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.
Chapter 20
Deut WelBeibl 20:1  “Pan fyddwch chi'n mynd i ryfel yn erbyn eich gelynion, ac yn gweld eu holl geffylau a'u cerbydau, a bod ganddyn nhw lawer mwy o filwyr na chi, peidiwch bod ag ofn. Mae'r ARGLWYDD Dduw, wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, gyda chi.
Deut WelBeibl 20:2  Cyn i'r ymladd ddechrau, dylai'r offeiriad siarad â'r milwyr, a dweud,
Deut WelBeibl 20:3  ‘Ddynion Israel, gwrandwch! Dych chi ar fin mynd allan i ymladd yn erbyn eich gelynion. Peidiwch torri'ch calon na bod ag ofn. Peidiwch panicio.
Deut WelBeibl 20:4  Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd gyda chi i ymladd yn erbyn eich gelynion, a'ch helpu chi i ennill y frwydr.’
Deut WelBeibl 20:5  “Yna mae'r swyddogion i ddweud wrth y milwyr, ‘Oes rhywun yma wedi adeiladu tŷ, a heb ei gyflwyno i Dduw? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall gysegru'r tŷ.
Deut WelBeibl 20:6  Oes rhywun yma wedi plannu gwinllan, a heb eto gael ffrwyth ohoni? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall gael y ffrwyth.
Deut WelBeibl 20:7  Neu oes rhywun yma sydd wedi dyweddïo gyda merch, ond heb eto'i phriodi hi? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall ei phriodi hi.’
Deut WelBeibl 20:8  Maen nhw hyd yn oed i ddweud, ‘Oes rhywun yma sy'n nerfus ac yn ofnus? Gall fynd adre, rhag iddo wneud i'r milwyr eraill golli hyder hefyd.’
Deut WelBeibl 20:9  Ar ôl i'r swyddogion ddweud hyn i gyd, maen nhw i benodi capteiniaid i arwain unedau milwrol.
Deut WelBeibl 20:10  “Pan fydd y fyddin yn dod yn agos at dref maen nhw'n bwriadu ymosod arni, maen nhw i gynnig telerau heddwch iddi gyntaf.
Deut WelBeibl 20:11  Os byddan nhw'n cytuno i'r telerau ac yn ildio i chi, bydd y bobl i gyd yn gweithio fel caethweision i chi.
Deut WelBeibl 20:12  Os ydyn nhw'n gwrthod derbyn eich telerau chi, dych chi i warchae ar y dref.
Deut WelBeibl 20:13  Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich galluogi chi i'w choncro. Rhaid i chi ladd y dynion i gyd.
Deut WelBeibl 20:14  Ond gallwch gadw'r merched, y plant, yr anifeiliaid, ac unrhyw beth arall gwerthfawr sydd yn y dref. Cewch gadw'r holl stwff mae'r ARGLWYDD yn ei roi i chi.
Deut WelBeibl 20:15  “Dyna sut dych chi i ddelio gyda'r trefi sy'n bell o'ch tir chi'ch hunain (y rhai sydd ddim yn perthyn i'r bobloedd yn Canaan).
Deut WelBeibl 20:16  Ond gyda'r trefi sy'n perthyn i'r bobloedd mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi eu tir nhw i chi, does yr un person nac anifail i gael ei adael yn fyw.
Deut WelBeibl 20:17  Mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthoch chi. Rhaid i chi eu lladd nhw i gyd – yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a'r Jebwsiaid –
Deut WelBeibl 20:18  rhag iddyn nhw'ch arwain chi i fynd drwy'r defodau ffiaidd maen nhw'n eu dilyn wrth addoli eu duwiau eu hunain, a gwneud i chi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw.
Deut WelBeibl 20:19  “Os byddwch chi'n gwarchae am amser hir ar dref dych chi'n ymosod arni, rhaid i chi beidio torri ei choed ffrwythau i lawr. Gallwch fwyta'r ffrwyth oddi arnyn nhw, ond peidiwch torri nhw i lawr. Dydy'r coed ffrwythau ddim yn elynion i chi!
Deut WelBeibl 20:20  Ond cewch dorri i lawr unrhyw goed sydd ddim yn goed ffrwythau, a defnyddio'r pren i adeiladu offer gwarchae yn erbyn y dref sy'n rhyfela'n eich erbyn chi, nes bydd y dref honno wedi cael ei choncro.
Chapter 21
Deut WelBeibl 21:1  “Os byddwch chi'n darganfod corff yn rhywle yn y wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, a neb yn gwybod pwy sydd wedi'i ladd,
Deut WelBeibl 21:2  rhaid i'r arweinwyr a'r barnwyr fynd allan a phenderfynu pa dref sydd agosaf at y corff.
Deut WelBeibl 21:3  Yna rhaid i arweinwyr y dref agosaf gymryd heffer ifanc (un sydd erioed wedi gweithio gydag iau),
Deut WelBeibl 21:4  a mynd â hi i ddyffryn lle mae dŵr yn llifo, ond lle mae'r tir heb ei drin, a dim wedi'i hau yno. Wedyn maen nhw i ladd yr heffer.
Deut WelBeibl 21:5  Yna bydd yr offeiriaid o lwyth Lefi yn camu ymlaen (sef, y rhai sydd wedi'u dewis gan yr ARGLWYDD i'w wasanaethu ac i fendithio pobl ar ei ran, a dyfarnu achosion yn y llysoedd).
Deut WelBeibl 21:6  A bydd arweinwyr y dref agosaf yn golchi'u dwylo uwchben corff yr heffer gafodd ei lladd yn y dyffryn.
Deut WelBeibl 21:7  Yna byddan nhw'n gwneud datganiad, ‘Wnaethon ni ddim lladd y person yma, a does neb yn gwybod pwy wnaeth.
Deut WelBeibl 21:8  Felly, ARGLWYDD, paid rhoi'r bai ar dy bobl Israel a'u dal nhw'n gyfrifol am dywallt gwaed rhywun diniwed.’ A bydd yr ARGLWYDD yn maddau'r drosedd.
Deut WelBeibl 21:9  Dyna sut mae symud yr euogrwydd fod person diniwed wedi'i ladd, a sut mae gwneud beth sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 21:10  “Dyma sydd i ddigwydd os byddwch yn mynd i ryfel, a'r ARGLWYDD yn gadael i chi ennill y frwydr, a chymryd pobl yn garcharorion:
Deut WelBeibl 21:11  Os bydd un o'r carcharorion yn ferch hardd, ac un o'ch dynion chi yn ei ffansïo hi ac eisiau ei chymryd hi'n wraig,
Deut WelBeibl 21:12  mae i fynd â hi adre. Rhaid iddi siafio'i phen, a thorri'i hewinedd,
Deut WelBeibl 21:13  a thaflu i ffwrdd y dillad roedd hi'n eu gwisgo pan gafodd ei dal. Yna rhaid iddi aros yn y tŷ am fis cyfan, yn galaru am ei thad a'i mam. Dim ond ar ôl gwneud hynny y gall y dyn ei chymryd hi'n wraig a chael rhyw gyda hi.
Deut WelBeibl 21:14  Os na fydd hi'n ei blesio wedyn, rhaid iddo adael iddi fynd yn rhydd. Dydy e ddim yn gallu'i gwerthu hi. Ddylai e ddim cymryd mantais ohoni, am ei fod eisoes wedi cael rhyw gyda hi.
Deut WelBeibl 21:15  “Cymrwch fod gan ddyn ddwy wraig, ac mae'n caru un fwy na'r llall. Mae'r ddwy yn cael meibion iddo, ond y wraig mae'n ei charu leiaf sydd wedi cael y mab hynaf.
Deut WelBeibl 21:16  Pan mae'r dyn yn rhannu'i eiddo rhwng ei feibion, dydy e ddim i roi siâr y mab hynaf i fab ei hoff wraig, yn lle'i roi i'r mab hynaf go iawn.
Deut WelBeibl 21:17  Rhaid iddo dderbyn mai mab ei wraig arall ydy'r hynaf, a rhoi'r siâr ddwbl i hwnnw. Wedi'r cwbl, fe oedd y mab cyntaf i gael ei eni.
Deut WelBeibl 21:18  “Os oes gan rywun fab penstiff, sy'n gwrthryfela, ac yn gwrthod gwrando ar ei dad a'i fam pan maen nhw'n ei ddisgyblu,
Deut WelBeibl 21:19  rhaid i'w rieni fynd ag e at yr arweinwyr hŷn i'r llys wrth giât y dre.
Deut WelBeibl 21:20  Yna maen nhw i wneud y datganiad yma: ‘Mae ein mab ni'n benstiff ac yn gwrthryfela. Mae e'n gwrthod gwrando ar beth dŷn ni'n ddweud – mae e'n folgi ac yn feddwyn!’
Deut WelBeibl 21:21  Yna rhaid i ddynion y dref ladd y bachgen drwy daflu cerrig ato. Drwy wneud hynny, byddwch chi'n cael gwared â'r drwg o'ch plith. A bydd pobl Israel yn clywed am y peth ac yn dychryn.
Deut WelBeibl 21:22  Os ydy rhywun yn cael ei ddienyddio am gyflawni trosedd oedd yn haeddu'r gosb eithaf, a'r corff yn cael ei hongian ar bren,
Deut WelBeibl 21:23  rhaid peidio gadael y corff i hongian dros nos. Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn ei gladdu yr un diwrnod. Mae rhywun sydd wedi'i grogi ar bren dan felltith Duw. Rhaid i chi beidio halogi'r wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi. #####
Chapter 22
Deut WelBeibl 22:1  Os wyt ti'n gweld buwch, dafad neu afr rhywun ar goll, paid â'i hanwybyddu. Dos â'r anifail yn ôl at y perchennog.
Deut WelBeibl 22:2  Os nad wyt ti'n gwybod pwy ydy'r perchennog, neu os ydy e'n byw yn rhy bell, dos â'r anifail adre a gofalu amdano. Ond pan ddaw'r perchennog i edrych amdano, rhaid i ti roi'r anifail yn ôl iddo.
Deut WelBeibl 22:3  Gwna'r un fath gydag unrhyw beth ti'n dod o hyd iddo – asyn, dilledyn, unrhyw beth biau rhywun arall. Paid dim ond anwybyddu'r peth.
Deut WelBeibl 22:4  Os wyt ti'n dod ar draws rhywun mewn trafferth am fod ei asyn neu ych wedi syrthio ac yn methu codi, paid â'i anwybyddu. Helpa fe i gael yr anifail ar ei draed unwaith eto.
Deut WelBeibl 22:5  Ddylai merch ddim gwisgo dillad dyn, a ddylai dyn ddim gwisgo dillad merch. Mae gwneud peth felly yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 22:6  Os wyt ti'n digwydd dod ar draws nyth (mewn coeden neu ar lawr) gyda cywion neu wyau ynddi, a'r iâr yn eistedd arnyn nhw, paid cymryd yr iâr oddi ar y rhai bach.
Deut WelBeibl 22:7  Cei gymryd y rhai bach, ond gad i'r fam fynd. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i ti, a chei fyw'n hir.
Deut WelBeibl 22:8  Wrth adeiladu tŷ newydd, rhaid i ti adeiladu wal isel o gwmpas y to. Wedyn os bydd rhywun yn syrthio oddi ar y to, nid dy fai di fydd e.
Deut WelBeibl 22:9  Rhaid peidio plannu unrhyw gnwd arall mewn gwinllan. Bydd beth bynnag gafodd ei blannu, a'r grawnwin, wedi'u halogi ac yn dda i ddim.
Deut WelBeibl 22:10  Ddylai ych ac asyn ddim cael eu defnyddio gyda'i gilydd i aredig.
Deut WelBeibl 22:11  Paid gwisgo dillad wedi'u gwneud o frethyn sy'n gymysgedd o wlân a llin.
Deut WelBeibl 22:12  Gwna daselau i'w gosod ar bedair cornel dy fantell.
Deut WelBeibl 22:13  “Dyma sydd i ddigwydd os ydy dyn yn priodi merch, ac yn cymryd yn ei herbyn ar ôl cael perthynas rywiol gyda hi.
Deut WelBeibl 22:14  Mae'n ei chyhuddo hi o gamfihafio, ac yn dweud, ‘Dw i wedi priodi'r ferch yma, ond wrth gael rhyw gyda hi, wedi darganfod ei bod hi ddim yn wyryf!’
Deut WelBeibl 22:15  Pan mae hyn yn digwydd, rhaid i rieni'r ferch ifanc fynd â'r dystiolaeth ei bod hi'n wyryf i'w ddangos i arweinwyr y dref yn y llys wrth giatiau'r dref.
Deut WelBeibl 22:16  Yna rhaid i'r tad ddweud wrth yr arweinwyr, ‘Rôn i wedi rhoi fy merch yn wraig i'r dyn yma, ond mae e wedi troi'n ei herbyn hi,
Deut WelBeibl 22:17  a'i chyhuddo hi, ei bod hi ddim yn wyryf. Ond dyma'r prawf ei bod hi'n wyryf!’ Yna rhaid i rieni'r ferch ledu cynfas y gwely priodas o flaen yr arweinwyr, iddyn nhw weld y dystiolaeth.
Deut WelBeibl 22:18  Wedyn rhaid i arweinwyr y dref arestio'r dyn a'i gosbi.
Deut WelBeibl 22:19  Maen nhw i roi dirwy o gant o ddarnau arian iddo, a rhoi'r arian hwnnw i dad y ferch ifanc. Roedd ei gyhuddiad wedi rhoi enw drwg i un o ferched ifanc Israel, a hithau'n wyryf. Bydd y ferch yn aros yn wraig iddo am weddill ei fywyd, a fydd ganddo ddim hawl i'w hysgaru hi.
Deut WelBeibl 22:20  “Ond os ydy'r cyhuddiad yn cael ei brofi'n wir, a'r ferch ifanc ddim yn wyryf,
Deut WelBeibl 22:21  rhaid i ddynion y dref fynd â'r ferch at ddrws tŷ ei thad, a'i lladd drwy daflu cerrig ati. Roedd hi wedi actio fel putain pan oedd hi'n dal i fyw gyda'i rhieni – peth gwarthus i'w wneud yn Israel! Rhaid i chi gael gwared â'r drwg o'ch plith.
Deut WelBeibl 22:22  “Os ydy dyn yn cael ei ddal yn cael rhyw gyda gwraig rhywun arall, rhaid i'r ddau ohonyn nhw farw. Rhaid cael gwared â'r drwg o Israel.
Deut WelBeibl 22:23  “Os ydy merch, sy'n wyryf ac wedi'i dyweddïo, yn cyfarfod dyn arall yn y dref ac yn cael rhyw gydag e,
Deut WelBeibl 22:24  rhaid mynd â'r ddau ohonyn nhw i'r llys wrth giât y dref a'u lladd nhw drwy daflu cerrig atyn nhw. Mae'r ferch ifanc yn euog am ei bod hi heb weiddi am help, er fod y peth wedi digwydd yn y dref. Ac mae'r dyn i gael ei gosbi am dreisio dyweddi dyn arall. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith!
Deut WelBeibl 22:25  “Ond os digwyddodd y peth yng nghefn gwlad, a'r dyn wedi fforsio'i hun arni a'i threisio hi, dim ond y dyn sydd i farw.
Deut WelBeibl 22:26  Dydy'r ferch ifanc ddim i gael ei chosbi o gwbl. Wnaeth hi ddim byd o'i le i haeddu marw. Mae'r un fath â pan mae rhywun wedi ymosod ar berson arall a'i lofruddio –
Deut WelBeibl 22:27  roedd y peth wedi digwydd yng nghefn gwlad, lle doedd neb i'w hachub hi pan oedd hi'n gweiddi.
Deut WelBeibl 22:28  “Os ydy dyn yn cael ei ddal yn treisio merch ifanc sydd heb ei dyweddïo,
Deut WelBeibl 22:29  rhaid i'r dyn dalu pum deg darn arian i'w thad, ac yna priodi'r ferch. Am ei fod e wedi'i threisio hi, fydd e byth yn cael ei hysgaru hi.
Deut WelBeibl 22:30  “Dydy dyn ddim i briodi merch oedd ar un adeg yn wraig i'w dad. Byddai hynny'n amharchu'i dad.
Chapter 23
Deut WelBeibl 23:1  Dydy dyn sydd â'i geilliau wedi'u niweidio neu ei bidyn wedi'i dorri i ffwrdd ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 23:2  Dydy dyn gafodd ei eni tu allan i briodas ddilys ddim yn cael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na disgynyddion y person hwnnw chwaith, am byth.)
Deut WelBeibl 23:3  Dydy pobl Ammon a Moab ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na'u disgynyddion nhw chwaith, am byth.)
Deut WelBeibl 23:4  Pan ddaethoch chi allan o'r Aifft, roedden nhw wedi gwrthod rhoi dŵr a bwyd i chi. A dyma nhw hefyd yn talu Balaam fab Beor o Pethor yn Mesopotamia i'ch melltithio chi.
Deut WelBeibl 23:5  Ond dyma'r ARGLWYDD eich Duw yn gwrthod gwrando arno, ac yn troi'r felltith yn fendith! Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eich caru chi.
Deut WelBeibl 23:6  Felly peidiwch byth gwneud unrhyw beth i helpu Ammon a Moab i lwyddo a ffynnu.
Deut WelBeibl 23:7  “Ond mae pobl Edom yn perthyn i chi, felly rhaid i chi beidio'u ffieiddio nhw. A pheidiwch ffieiddio pobl yr Aifft, gan eich bod wedi byw fel mewnfudwr yn eu gwlad nhw.
Deut WelBeibl 23:8  Gall plant eu plant berthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 23:9  Pan fyddwch chi'n mynd allan i ymladd yn erbyn eich gelynion, cadwch draw oddi wrth unrhyw beth sydd ddim yn lân.
Deut WelBeibl 23:10  Er enghraifft, os ydy dyn yn gollwng ei had yn ei gwsg, mae'n aflan, a rhaid iddo adael y gwersyll, ac aros allan drwy'r dydd.
Deut WelBeibl 23:11  Yna, gyda'r nos, rhaid iddo olchi'i hun â dŵr. A bydd yn gallu mynd yn ôl i'r gwersyll ar ôl i'r haul fachlud.
Deut WelBeibl 23:12  Rhaid trefnu lle tu allan i'r gwersyll i'r dynion fynd i'r tŷ bach.
Deut WelBeibl 23:13  Rhaid i ti fynd â rhaw gyda ti i wneud twll, a gorchuddio dy garthion gyda phridd.
Deut WelBeibl 23:14  Mae'r gwersyll i'w gadw'n lân. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn cerdded o gwmpas y gwersyll; mae e gyda chi i'ch achub a'ch galluogi chi i ennill y frwydr. Does gynnoch chi ddim eisiau iddo fe weld rhywbeth afiach, a throi cefn arnoch chi.
Deut WelBeibl 23:15  Os ydy caethwas o wlad arall wedi dianc i wlad Israel, peidiwch mynd ag e'n ôl i'w feistr.
Deut WelBeibl 23:16  Mae i gael byw ble bynnag mae e eisiau. Caiff ddewis unrhyw un o'ch pentrefi i fynd i fyw yno. Peidiwch â'i gam-drin a chymryd mantais ohono.
Deut WelBeibl 23:17  Ddylai merched a dynion ifanc Israel byth wasanaethu fel puteiniaid teml.
Deut WelBeibl 23:18  Paid byth dod â thâl putain neu gyflog puteiniwr i deml yr ARGLWYDD dy Dduw er mwyn cadw addewid. Mae'r ddau beth yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 23:19  Peidiwch codi llog ar fenthyciad i gyd-Israeliaid – llog ar arian, ar fwyd, nac unrhyw beth arall sydd wedi'i fenthyg.
Deut WelBeibl 23:20  Cewch godi llog ar fenthyciad i bobl sydd ddim yn Israeliaid, ond peidiwch gwneud hynny wrth fenthyg i'ch pobl eich hunain. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn bendithio popeth wnewch chi yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd, os byddwch chi'n ufudd.
Deut WelBeibl 23:21  Pan fyddwch chi'n gwneud adduned i'r ARGLWYDD eich Duw, peidiwch oedi cyn ei chyflawni, neu byddwch chi'n cael eich dal yn gyfrifol ganddo.
Deut WelBeibl 23:22  Mae'n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf.
Deut WelBeibl 23:23  Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'ch adduned, beth bynnag oedd yr adduned honno. Er enghraifft, os gwnaethoch chi addo rhoi rhywbeth iddo yn offrwm gwirfoddol.
Deut WelBeibl 23:24  Os ydych chi'n mynd drwy winllan rhywun arall, cewch fwyta faint fynnoch chi o rawnwin, ond peidiwch mynd â dim i ffwrdd mewn basged.
Deut WelBeibl 23:25  Os ydych chi'n mynd drwy gae ŷd rhywun, cewch bigo'r tywysennau gyda'ch llaw, ond peidiwch defnyddio cryman i gymryd peth o'r cnwd.
Chapter 24
Deut WelBeibl 24:1  Os ydy dyn wedi priodi, ac yna'n darganfod rhywbeth am ei wraig sy'n codi cywilydd arno, rhaid iddo roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon hi i ffwrdd.
Deut WelBeibl 24:2  Ar ôl iddi ei adael, mae hi'n rhydd i ailbriodi.
Deut WelBeibl 24:3  Os ydy'r ail ŵr ddim yn hapus gyda hi, rhaid iddo yntau roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon hi i ffwrdd. Os bydd hynny'n digwydd, neu os bydd e'n marw,
Deut WelBeibl 24:4  dydy'r gŵr cyntaf ddim i gael ei chymryd hi'n ôl, am ei bod hi bellach yn aflan. Byddai peth felly yn ffiaidd yng ngolwg yr ARGLWYDD. Rhaid i chi beidio dod â phechod ar y wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi i'w hetifeddu.
Deut WelBeibl 24:5  Pan mae dyn newydd briodi, does dim rhaid iddo fynd allan i ymladd yn y fyddin na gwneud unrhyw wasanaeth cyhoeddus arall. Dylai fod yn rhydd i aros adre am flwyddyn gyfan a mwynhau bywyd gyda'i wraig.
Deut WelBeibl 24:6  Ddylai neb gymryd maen melin yn warant ar fenthyciad. Byddai gwneud hynny fel cymryd bywyd ei hun yn flaendal.
Deut WelBeibl 24:7  Os ydy rhywun yn cael ei ddal yn herwgipio un o'i gyd-Israeliaid, ac yn ei drin fel eiddo a'i werthu, y gosb ydy marwolaeth. Rhaid cael gwared â'r drwg yna o'ch plith.
Deut WelBeibl 24:8  Pan fydd rhyw glefyd heintus ar y croen yn dechrau lledu, gwnewch yn union beth mae'r offeiriaid o lwyth Lefi yn ei ddweud. Dylech chi wneud yn union fel dw i wedi gorchymyn iddyn nhw.
Deut WelBeibl 24:9  Cofiwch beth wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i Miriam pan oeddech chi wedi gadael yr Aifft.
Deut WelBeibl 24:10  Wrth fenthyg rhywbeth i rywun, paid mynd i mewn i'w dŷ i hawlio beth mae'n ei gynnig yn warant y gwnaiff ei dalu'n ôl.
Deut WelBeibl 24:11  Dylet ddisgwyl y tu allan, a gadael i'r sawl sy'n benthyg gen ti ddod â'i warant allan.
Deut WelBeibl 24:12  Os ydy e'n dlawd, ddylet ti ddim cymryd ei gôt a'i chadw dros nos fel gwystl.
Deut WelBeibl 24:13  Dylet roi'r gôt yn ôl iddo cyn iddi nosi, iddo gysgu ynddi a gofyn i Dduw dy fendithio. Dyna beth sy'n iawn i'w wneud yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw.
Deut WelBeibl 24:14  Os ydy rhywun gwirioneddol dlawd yn gweithio i chi, peidiwch ei gam-drin a chymryd mantais ohono – sdim ots os ydy e'n un o bobl Israel neu'n rhywun o'r tu allan sy'n byw yn eich plith chi.
Deut WelBeibl 24:15  Dylech dalu'i gyflog iddo cyn diwedd y dydd, am ei fod yn dlawd ac angen yr arian i fyw. Os fyddwch chi ddim yn talu iddo, bydd e'n cwyno i'r ARGLWYDD amdanoch chi, a byddwch chi wedi pechu.
Deut WelBeibl 24:16  Ddylai rhieni ddim cael eu lladd am droseddau'u plant, na'r plant am droseddau'u rhieni. Dim ond y troseddwr ei hun ddylai farw.
Deut WelBeibl 24:17  Peidiwch gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr neu blant amddifad. A pheidiwch cymryd dillad gwraig weddw yn warant ar fenthyciad.
Deut WelBeibl 24:18  Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD wedi'ch gollwng chi'n rhydd. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi wneud hyn i gyd.
Deut WelBeibl 24:19  Pan fyddi'n casglu cynhaeaf dy dir, os byddi wedi gadael ysgub yn y cae, paid mynd yn ôl i'w chasglu. Gadael hi i'r bobl dlawd – mewnfudwyr, plant amddifad a gwragedd gweddwon. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn bendithio popeth fyddi di'n ei wneud.
Deut WelBeibl 24:20  Pan fyddwch chi'n ysgwyd eich coed olewydd i gasglu'r ffrwyth, peidiwch gwneud hynny ddwywaith. Gadewch beth sydd ar ôl i'r mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon.
Deut WelBeibl 24:21  Pan fyddwch chi'n casglu'r grawnwin yn eich gwinllan, peidiwch mynd drwyddi'r ail waith. Gadewch beth sydd ar ôl i'r mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon.
Deut WelBeibl 24:22  Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft. Dyna pam dw i'n gorchymyn i chi wneud hyn i gyd.
Chapter 25
Deut WelBeibl 25:1  Pan fydd anghydfod yn codi rhwng pobl, dylen nhw fynd i'r llys. Bydd barnwyr yn gwrando ar yr achos, ac yn penderfynu pwy sy'n euog.
Deut WelBeibl 25:2  Os mai chwipio fydd y gosb, mae'r barnwr i wneud iddo orwedd ar lawr o'i flaen, a bydd yn cael ei chwipio faint bynnag o weithiau mae'n ei haeddu am beth wnaeth o'i le.
Deut WelBeibl 25:3  Ddylai'r barnwr ddim dedfrydu neb i fwy na pedwar deg llach. Petai rhywun yn cael ei chwipio fwy na hynny, byddai'r person yn cael ei amharchu'n gyhoeddus.
Deut WelBeibl 25:4  Peidiwch rhwysto'r ych sy'n sathru'r ŷd rhag bwyta.
Deut WelBeibl 25:5  Os ydy dau frawd yn byw gyda'i gilydd, ac un ohonyn nhw'n marw heb gael mab, ddylai ei weddw ddim priodi rhywun tu allan i'r teulu. Rhaid i frawd y gŵr fuodd farw ei phriodi hi, a chael mab yn ei le.
Deut WelBeibl 25:6  Bydd y mab cyntaf i gael ei eni iddyn nhw yn cael ei gyfri'n fab cyfreithiol i'r brawd fuodd farw, rhag i'w enw ddiflannu o Israel.
Deut WelBeibl 25:7  Ond os ydy'r dyn ddim eisiau priodi gweddw ei frawd, rhaid i'r weddw fynd at yr arweinwyr hŷn i'r llys wrth giât y dref a dweud wrthyn nhw, ‘Mae brawd fy ngŵr yn gwrthod wynebu'i gyfrifoldeb fel brawd-yng-nghyfraith, a chadw enw fy ngŵr yn fyw yn Israel!’
Deut WelBeibl 25:8  Yna bydd rhaid i arweinwyr y dref anfon am y dyn i siarad ag e. Os ydy e'n dal i wrthod ei phriodi hi,
Deut WelBeibl 25:9  dyma sydd i ddigwydd: Mae'r chwaer-yng-nghyfraith i gamu ato o flaen yr arweinwyr, tynnu un o sandalau'r dyn i ffwrdd a phoeri yn ei wyneb. Yna dweud, ‘Dyna sy'n digwydd i'r dyn sy'n gwrthod cadw enw teulu'i frawd i fynd!’
Deut WelBeibl 25:10  O hynny ymlaen, bydd ei deulu e'n cael ei nabod fel ‛teulu'r dyn y tynnwyd ei sandal‛.
Deut WelBeibl 25:11  Os ydy dau ddyn yn dechrau ymladd gyda'i gilydd, a gwraig un ohonyn nhw yn ymyrryd i amddiffyn ei gŵr, ac yn gafael yn organau preifat y dyn,
Deut WelBeibl 25:12  rhaid torri ei llaw i ffwrdd. Peidiwch teimlo trueni drosti.
Deut WelBeibl 25:13  Peidiwch twyllo wrth farchnata; defnyddiwch bwysau cywir, dim un sy'n ysgafn a'r llall yn drwm. A pheidiwch defnyddio basgedi mesur o faint gwahanol. Dylai'r pwysau dych chi'n eu defnyddio, a maint y basgedi dych chi'n eu defnyddio, fod yn gywir. Wedyn cewch fyw yn hir yn y wlad dych chi'n mynd i'w chymryd.
Deut WelBeibl 25:14  Peidiwch twyllo wrth farchnata; defnyddiwch bwysau cywir, dim un sy'n ysgafn a'r llall yn drwm. A pheidiwch defnyddio basgedi mesur o faint gwahanol. Dylai'r pwysau dych chi'n eu defnyddio, a maint y basgedi dych chi'n eu defnyddio, fod yn gywir. Wedyn cewch fyw yn hir yn y wlad dych chi'n mynd i'w chymryd.
Deut WelBeibl 25:15  Peidiwch twyllo wrth farchnata; defnyddiwch bwysau cywir, dim un sy'n ysgafn a'r llall yn drwm. A pheidiwch defnyddio basgedi mesur o faint gwahanol. Dylai'r pwysau dych chi'n eu defnyddio, a maint y basgedi dych chi'n eu defnyddio, fod yn gywir. Wedyn cewch fyw yn hir yn y wlad dych chi'n mynd i'w chymryd.
Deut WelBeibl 25:16  Mae'r ARGLWYDD eich Dduw yn casáu gweld pobl yn bod yn anonest – mae'r peth yn ffiaidd ganddo!
Deut WelBeibl 25:17  “Cofiwch beth wnaeth yr Amaleciaid i chi pan oeddech chi wedi gadael yr Aifft.
Deut WelBeibl 25:18  Roeddech chi wedi blino'n lân, a dyma nhw'n eich dilyn chi ac ymosod ar y rhai oedd yn methu dal i fyny gyda'r gweddill. Doedd ganddyn nhw ddim parch at Dduw.
Deut WelBeibl 25:19  Pan fyddwch chi'n cael llonydd gan yr holl elynion o'ch cwmpas chi yn y wlad mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi i chi, rhaid i chi ladd yr Amaleciaid i gyd – nes bydd neb yn cofio am eu bodolaeth nhw! Peidiwch chi anghofio gwneud hyn!
Chapter 26
Deut WelBeibl 26:1  “Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, ac wedi'i choncro a setlo i lawr ynddi,
Deut WelBeibl 26:2  rhowch ffrwyth cyntaf pob cnwd i'r ARGLWYDD. Rhowch e mewn basged, a mynd ag e i'r lle mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis i gael ei addoli.
Deut WelBeibl 26:3  Dwedwch wrth yr offeiriad sy'n gwasanaethu bryd hynny, ‘Dw i'n datgan heddiw fy mod i'n byw yn y wlad wnaeth yr ARGLWYDD dy Dduw addo i'n hynafiaid y byddai'n ei rhoi i ni.’
Deut WelBeibl 26:4  “Yna bydd yr offeiriad yn cymryd y fasged a'i gosod o flaen allor yr ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 26:5  Yna rhaid i ti wneud y datganiad yma: ‘Syriad yn crwydro yma ac acw oedd fy hynafiad. Aeth i lawr i'r Aifft a byw yno fel mewnfudwr. Criw bach oedd yn y teulu bryd hynny, ond dyma nhw'n tyfu i fod yn genedl fawr bwerus a niferus.
Deut WelBeibl 26:6  Ond dyma'r Eifftiaid yn ein cam-drin ni a'n gormesu ni, a'n gorfodi ni i wneud gwaith caled.
Deut WelBeibl 26:7  Felly dyma ni'n galw ar yr ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, am help. Clywodd ni'n galw, a gwelodd mor anodd oedd pethau arnon ni, a'r gwaith caled a'r gorthrwm.
Deut WelBeibl 26:8  Felly dyma'r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth rhyfeddol i ddod â ni allan o'r Aifft, a dychryn y bobl yno gyda'r gwyrthiau mwyaf syfrdanol.
Deut WelBeibl 26:9  Yna daeth â ni yma, a rhoi'r tir yma i ni. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo.
Deut WelBeibl 26:10  Felly, ARGLWYDD, edrych! Dw i wedi dod â ffrwyth cyntaf cynnyrch y tir rwyt ti wedi ei roi i mi.’ Yna rwyt i'w adael o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw, a'i addoli e.
Deut WelBeibl 26:11  Wedyn gelli di a dy deulu, gyda'r Lefiaid a'r mewnfudwyr sydd gyda chi, ddathlu a mwynhau'r holl bethau da mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi'u rhoi i chi.
Deut WelBeibl 26:12  “Ar ôl casglu un rhan o ddeg o'ch cynnyrch yn y drydedd flwyddyn (blwyddyn y degwm), dych chi i'w roi i'r Lefiaid, y mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon sy'n byw yn eich pentrefi chi, er mwyn iddyn nhw gael digon i'w fwyta.
Deut WelBeibl 26:13  Yna rwyt i ddweud wrth yr ARGLWYDD dy Dduw, ‘Dw i wedi casglu'r offrwm sydd i gael ei osod o'r neilltu, ac wedi'i roi i'r Lefiaid, y mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon, yn union fel rwyt ti wedi dweud wrtho i. Dw i ddim wedi torri nac anghofio dy reolau di.
Deut WelBeibl 26:14  Dw i ddim wedi bwyta peth ohono pan oeddwn i'n galaru, na'i gymryd pan oeddwn i'n aflan yn seremonïol, na cyflwyno peth ohono'n offrwm i'r meirw. Dw i wedi bod yn ufudd i ti, a gwneud popeth roeddet ti'n ddweud.
Deut WelBeibl 26:15  Edrych i lawr arnon ni o'r nefoedd, y lle sanctaidd ti'n byw ynddo, a bendithia dy bobl Israel, a'r tir rwyt ti wedi'i roi i ni, fel gwnest ti addo i'n hynafiaid – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo!’
Deut WelBeibl 26:16  “Heddiw, mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn i chi gadw'r rheolau a'r canllawiau yma, a gwneud hynny â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.
Deut WelBeibl 26:17  Heddiw, dych chi wedi datgan mai'r ARGLWYDD ydy'ch Duw chi, ac y gwnewch chi fyw fel mae e eisiau i chi fyw, cadw ei reolau, ei orchmynion a'i ganllawiau, a gwrando arno.
Deut WelBeibl 26:18  Heddiw, mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi mai chi ydy'i bobl e – ei drysor sbesial, fel gwnaeth e addo. Felly dylech gadw'i orchmynion e.
Deut WelBeibl 26:19  Duw sydd wedi gwneud y cenhedloedd, ond bydd e'n eich gwneud chi'n fwy enwog na nhw i gyd. Bydd pobl yn eich canmol chi a'ch anrhydeddu chi. Fel gwnaeth e addo, byddwch chi'n bobl wedi'ch cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw.”
Chapter 27
Deut WelBeibl 27:1  Yna dyma Moses, ac arweinwyr Israel gydag e, yn dweud wrth y bobl, “Cadwch y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw.
Deut WelBeibl 27:2  Pan fyddwch chi'n croesi afon Iorddonen i'r wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, rhaid i chi godi cerrig mawr ac yna rhoi plastr drostyn nhw.
Deut WelBeibl 27:3  Yna ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma arnyn nhw. Wedyn gallwch fynd i mewn i'r wlad – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo, fel gwnaeth yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ddweud wrthoch chi.
Deut WelBeibl 27:4  Mae'r cerrig yma i gael eu codi ar Fynydd Ebal, a'u gorchuddio gyda phlastr.
Deut WelBeibl 27:5  Yna dylech adeiladu allor yno i'r ARGLWYDD eich Duw – allor o gerrig sydd heb eu naddu gydag offer haearn.
Deut WelBeibl 27:6  Defnyddiwch gerrig cyfan i adeiladu'r allor, yna cyflwyno offrymau arni – offrymau i'w llosgi'n llwyr i'r ARGLWYDD eich Duw.
Deut WelBeibl 27:7  Hefyd offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a gallwch wledda a dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw.
Deut WelBeibl 27:8  Peidiwch anghofio ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma ar y cerrig sy'n cael eu gosod i fyny, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw i'w gweld yn glir.”
Deut WelBeibl 27:9  Yna dyma Moses, gyda'r offeiriaid o lwyth Lefi, yn dweud wrth bobl Israel: “Distawrwydd! Gwrandwch arna i, bobl Israel. Heddiw, dych chi wedi'ch gwneud yn bobl i'r ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 27:10  Rhaid i chi wrando arno, a chadw'r rheolau a'r canllawiau dw i'n eu rhoi i chi.”
Deut WelBeibl 27:12  “Ar ôl i chi groesi afon Iorddonen, mae'r llwythau canlynol i sefyll ar Fynydd Gerisim a bendithio'r bobl: Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Joseff a Benjamin.
Deut WelBeibl 27:13  Yna, mae'r llwythau eraill i sefyll ar Fynydd Ebal tra mae'r melltithion yn cael eu cyhoeddi: Reuben, Gad, Asher, Sabulon, Dan a Nafftali.
Deut WelBeibl 27:14  “Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi'n uchel wrth bobl Israel:
Deut WelBeibl 27:15  ‘Melltith ar rywun sy'n cael crefftwr i gerfio delw neu i wneud eilun o fetel tawdd, ac yna'n ei osod i fyny i'w addoli (hyd yn oed o'r golwg) – mae peth felly yn hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
Deut WelBeibl 27:16  ‘Melltith ar rywun sy'n dangos dim parch at ei dad a'i fam.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
Deut WelBeibl 27:17  ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n symud terfyn i ddwyn tir oddi ar rywun arall.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
Deut WelBeibl 27:18  ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n dweud wrth rywun dall am fynd y ffordd rong.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
Deut WelBeibl 27:19  ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
Deut WelBeibl 27:20  ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda gwraig ei dad. Byddai hynny'n amharchu ei dad.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
Deut WelBeibl 27:21  ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gydag anifail.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
Deut WelBeibl 27:22  ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i chwaer – merch i'w dad neu'i fam.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
Deut WelBeibl 27:23  ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i fam-yng-nghyfraith.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
Deut WelBeibl 27:24  ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n llofruddio rhywun arall.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
Deut WelBeibl 27:25  ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n derbyn tâl i lofruddio rhywun diniwed.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
Deut WelBeibl 27:26  ‘Melltith ar bawb sydd ddim yn gwneud pob peth mae'r gyfraith yma'n ei ddweud.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
Chapter 28
Deut WelBeibl 28:1  “Os byddwch chi wir yn ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw, ac yn gwneud yn siŵr eich bod chi'n cadw'r gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw, bydd e'n eich gwneud chi'n fwy enwog na'r cenhedloedd eraill i gyd.
Deut WelBeibl 28:2  Byddwch yn derbyn llond gwlad o fendithion os byddwch chi'n ufudd iddo:
Deut WelBeibl 28:3  Cewch eich bendithio ble bynnag dych chi'n gweithio.
Deut WelBeibl 28:4  Bydd bendith ar eich plant, ar gynnyrch eich tir, ac ar eich anifeiliaid i gyd – bydd eich gwartheg, defaid a geifr yn cael lot o rai bach.
Deut WelBeibl 28:5  Bydd digon o rawn yn eich basged, a digon o fwyd ar eich bwrdd.
Deut WelBeibl 28:7  Bydd yr ARGLWYDD yn achosi i'r gelynion sy'n ymosod arnoch chi gael eu taro i lawr o flaen eich llygaid! Byddan nhw'n ymosod arnoch chi o un cyfeiriad, ond yn dianc i bob cyfeiriad!
Deut WelBeibl 28:8  Bydd yr ARGLWYDD yn llenwi'ch ysguboriau chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi – ydy, mae e'n mynd i'ch bendithio chi yn y wlad mae'n ei rhoi i chi.
Deut WelBeibl 28:9  Bydd yr ARGLWYDD yn cadarnhau mai chi ydy'r bobl mae e wedi'u cysegru iddo'i hun, fel gwnaeth e addo, os gwnewch chi wneud beth mae e'n ddweud a byw fel mae e eisiau.
Deut WelBeibl 28:10  Wedyn bydd pawb drwy'r byd i gyd yn gwybod mai chi ydy pobl yr ARGLWYDD, a byddan nhw'n eich parchu chi.
Deut WelBeibl 28:11  Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi lwyddo bob ffordd – cewch lot o blant, bydd eich anifeiliaid yn cael lot o rai bach, a bydd eich cnydau'n llwyddo yn y wlad wnaeth e addo i'ch hynafiaid y byddai'n ei rhoi i chi.
Deut WelBeibl 28:12  Bydd yr ARGLWYDD yn agor ei stordai yn yr awyr, ac yn rhoi glaw yn ei dymor i'r tir. Bydd yn bendithio popeth wnewch chi. Bydd gynnoch chi ddigon i'w fenthyg i genhedloedd eraill, ond fydd dim angen benthyg arnoch chi o gwbl.
Deut WelBeibl 28:13  Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi arwain, ac nid dilyn. Byddwch chi ar y top, dim ar y gwaelod – dim ond i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n cadw'i orchmynion e, y rhai dw i'n eu rhoi i chi heddiw.
Deut WelBeibl 28:14  Ond rhaid i chi beidio crwydro o gwbl oddi wrth y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi, a pheidio mynd i addoli duwiau eraill.
Deut WelBeibl 28:15  “Ond os byddwch chi'n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw, heb wneud yn siŵr eich bod chi'n cadw'i orchmynion a'i ganllawiau e, bydd llond gwlad o felltithion yn dod arnoch chi!
Deut WelBeibl 28:16  Cewch eich melltithio lle bynnag dych chi'n gweithio.
Deut WelBeibl 28:17  Fydd dim grawn yn eich basged, a dim bwyd ar eich bwrdd.
Deut WelBeibl 28:18  Bydd eich plant a chynnyrch eich tir wedi'u melltithio – fydd eich gwartheg, defaid a geifr ddim yn cael rhai bach.
Deut WelBeibl 28:20  Bydd yr ARGLWYDD yn melltithio, drysu a gwrthwynebu popeth wnewch chi, nes byddwch chi wedi'ch dinistrio ac wedi diflannu o achos yr holl ddrwg fyddwch chi'n ei wneud, ac am eich bod chi wedi troi cefn arna i.
Deut WelBeibl 28:21  Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi ddal heintiau marwol, nes bydd e wedi cael gwared â chi'n llwyr o'r tir dych chi ar fin ei gymryd drosodd.
Deut WelBeibl 28:22  Byddwch yn dioddef o afiechydon na ellir mo'u gwella, gwres uchel, llid, heintiau, sychder, a cnydau wedi'u difetha gan ormod o wres neu ormod o law. Fyddan nhw ddim yn stopio nes byddwch chi wedi diflannu.
Deut WelBeibl 28:23  Bydd yr awyr uwch eich pennau fel pres, a'r ddaear dan eich traed yn galed fel haearn, am fod dim glaw.
Deut WelBeibl 28:24  Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud iddi lawio llwch a lludw. Bydd yn disgyn arnoch chi o'r awyr nes byddwch chi wedi'ch difa.
Deut WelBeibl 28:25  Bydd yr ARGLWYDD yn gadael i'ch gelynion eich trechu chi. Byddwch chi'n ymosod arnyn nhw o un cyfeiriad, ond yn gorfod dianc i bob cyfeiriad! Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn ddychryn i wledydd y byd i gyd.
Deut WelBeibl 28:26  Bydd eich cyrff marw yn fwyd i'r holl adar ac anifeiliaid gwyllt, a fydd yna neb ar ôl i'w dychryn nhw i ffwrdd.
Deut WelBeibl 28:27  Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi ddioddef o'r chwyddau wnaeth daro pobl yr Aifft, briwiau cas, crach ar y croen, a'r cosi – a fydd dim gwella i chi.
Deut WelBeibl 28:28  Bydd yr ARGLWYDD yn achosi panig, a'ch gwneud yn ddall ac yn ddryslyd.
Deut WelBeibl 28:29  Byddwch chi'n ymbalfalu ganol dydd fel rhywun dall sydd yn y tywyllwch, a fydd dim fyddwch chi'n ei wneud yn llwyddo. Bydd pobloedd eraill yn eich cam-drin chi ac yn dwyn oddi arnoch chi o hyd, a fydd yna neb i'ch achub chi.
Deut WelBeibl 28:30  Bydd dyn wedi dyweddïo gyda merch, a bydd dyn arall yn ei threisio hi. Byddwch chi'n adeiladu tŷ ond ddim yn cael byw ynddo. Byddwch chi'n plannu gwinllan, ond ddim yn casglu'i ffrwyth.
Deut WelBeibl 28:31  Bydd eich ych yn cael ei ladd o flaen eich llygaid, ond fyddwch chi ddim yn bwyta'r cig. Byddwch chi'n gwylio'ch asyn yn cael ei ddwyn oddi arnoch chi, a fyddwch chi ddim yn ei gael yn ôl. Bydd eich praidd o ddefaid yn cael ei gymryd gan eich gelynion, a fydd yna neb i'ch achub chi.
Deut WelBeibl 28:32  Bydd eich meibion a'ch merched yn cael eu rhoi i bobl eraill o flaen eich llygaid. Byddwch chi'n edrych amdanyn nhw, ac yn gallu gwneud dim i ddod â nhw'n ôl.
Deut WelBeibl 28:33  Bydd pobl dych chi ddim yn eu nabod yn mwynhau cynnyrch eich tir a ffrwyth eich gwaith caled, a byddwch chi'n cael eich gorthrymu a'ch sathru dan draed am weddill eich bywydau.
Deut WelBeibl 28:35  Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i'ch gliniau a'ch coesau chwyddo – byddwch chi mewn poen drosoch, o'r corun i'r sawdl.
Deut WelBeibl 28:36  Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi, a'r brenin fyddwch chi wedi'i benodi drosoch, at bobl dydych chi a'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw, ac yno byddwch chi'n addoli duwiau o bren a charreg.
Deut WelBeibl 28:37  Byddwch chi'n achos dychryn, ac wedi'ch gwneud yn esiampl ac yn destun sbort i'r bobloedd y bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi atyn nhw.
Deut WelBeibl 28:38  Byddwch chi'n hau lot fawr o had, ond yn medi ychydig iawn. Bydd locustiaid yn ei ddifetha.
Deut WelBeibl 28:39  Byddwch yn plannu gwinllannoedd a gofalu amdanyn nhw, ond gewch chi ddim yfed y gwin na chasglu'r grawnwin. Bydd pryfed yn eu bwyta nhw!
Deut WelBeibl 28:40  Bydd coed olewydd drwy'r wlad i gyd, ond gewch chi ddim rhoi'r olew ar eich wynebau. Bydd yr olewydd yn syrthio o'r coed cyn aeddfedu.
Deut WelBeibl 28:41  Byddwch yn magu plant – bechgyn a merched – ond yn eu colli nhw. Byddan nhw'n cael eu cymryd yn gaethion.
Deut WelBeibl 28:42  Bydd locustiaid swnllyd yn difetha'r coed a'r cnydau.
Deut WelBeibl 28:43  Bydd y bobl o'r tu allan sy'n byw gyda chi yn troi'n fwy cyfoethog ac yn llwyddo, a byddwch chi'n mynd yn is ac yn dlotach.
Deut WelBeibl 28:44  Byddan nhw'n benthyg i chi, ond fyddwch chi ddim yn benthyg iddyn nhw. Nhw fydd yn arwain a chi fydd yn dilyn!
Deut WelBeibl 28:45  “Bydd y melltithion yma i gyd yn dod arnoch chi. Fydd dim dianc, a byddwch yn cael eich dinistrio, am eich bod heb fod yn ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw, a heb gadw'r gorchmynion a'r canllawiau roddodd e i chi.
Deut WelBeibl 28:46  Bydd y cwbl yn arwydd clir fydd yn gwneud i bobl ryfeddu atoch chi a'ch disgynyddion.
Deut WelBeibl 28:47  “Wnaethoch chi ddim defnyddio'r digonedd oedd gynnoch chi i wasanaethu'r ARGLWYDD eich Duw, a rhoi eich hunain yn llwyr i wneud hynny,
Deut WelBeibl 28:48  felly byddwch chi'n gwasanaethu'r gelynion wnaeth yr ARGLWYDD eu hanfon i ymosod arnoch chi. Byddwch chi'n dioddef o newyn a syched, yn noeth ac yn dlawd. Byddan nhw'n gosod iau haearn ar eich gwar, a gwneud i chi weithio mor galed nes bydd yn ddigon i'ch lladd chi!
Deut WelBeibl 28:49  “Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i bobl o wlad bell godi'n eich erbyn chi. Byddan nhw'n dod o ben draw'r byd ac yn plymio i lawr arnoch chi fel eryr. Fyddwch chi ddim yn deall eu hiaith nhw.
Deut WelBeibl 28:50  Pobl greulon, yn dangos dim parch at yr henoed, a dim trugaredd at bobl ifanc.
Deut WelBeibl 28:51  Byddan nhw'n dwyn eich anifeiliaid chi, a chnydau'r tir i gyd, nes byddwch chi wedi'ch dinistrio'n llwyr. Fydd gynnoch chi ddim ŷd, sudd grawnwin, olew olewydd, lloi nac ŵyn ar ôl.
Deut WelBeibl 28:52  Byddan nhw'n gwarchae ar giatiau'ch trefi amddiffynnol chi ac yn ymosod ar y waliau uchel nes byddan nhw wedi syrthio – a chithau'n rhoi cymaint o ffydd yn y trefi yma! Byddan nhw'n gwarchae ar drefi drwy'r wlad i gyd,
Deut WelBeibl 28:53  a'ch cau chi i mewn, a bydd pethau'n mynd mor ofnadwy nes byddwch chi'n bwyta'ch plant – ie, bwyta cnawd eich meibion a'ch merched!
Deut WelBeibl 28:54  Bydd y dyn mwyaf tyner a charedig yn bwyta cnawd ei blant (am fod dim byd arall ar ôl i'w fwyta), a bydd e'n gwrthod rhannu gyda'i frawd, neu'r wraig mae'n ei charu, a'i blant eraill. Dyna i chi pa mor ddrwg fydd pethau pan fydd y gelyn yn gwarchae arnoch chi a'ch cau chi i mewn yn y trefi!
Deut WelBeibl 28:55  Bydd y dyn mwyaf tyner a charedig yn bwyta cnawd ei blant (am fod dim byd arall ar ôl i'w fwyta), a bydd e'n gwrthod rhannu gyda'i frawd, neu'r wraig mae'n ei charu, a'i blant eraill. Dyna i chi pa mor ddrwg fydd pethau pan fydd y gelyn yn gwarchae arnoch chi a'ch cau chi i mewn yn y trefi!
Deut WelBeibl 28:56  Bydd y wraig fwyaf addfwyn a charedig (sydd wedi cael bywyd braf, ac erioed wedi gorfod cerdded heb esgidiau), yn gwrthod rhannu gyda'r gŵr mae'n ei garu, a'i meibion a'i merched. Bydd canlyniadau'r gwarchae mor ofnadwy, bydd hi'n geni plentyn, ac yna'n dawel fach yn bwyta'r brych a'r plentyn. Dyna pa mor ddrwg fydd pethau pan fydd y gelyn yn gwarchae arnoch chi a'ch cau chi i mewn yn y trefi!
Deut WelBeibl 28:57  Bydd y wraig fwyaf addfwyn a charedig (sydd wedi cael bywyd braf, ac erioed wedi gorfod cerdded heb esgidiau), yn gwrthod rhannu gyda'r gŵr mae'n ei garu, a'i meibion a'i merched. Bydd canlyniadau'r gwarchae mor ofnadwy, bydd hi'n geni plentyn, ac yna'n dawel fach yn bwyta'r brych a'r plentyn. Dyna pa mor ddrwg fydd pethau pan fydd y gelyn yn gwarchae arnoch chi a'ch cau chi i mewn yn y trefi!
Deut WelBeibl 28:58  “Rhaid i chi wneud popeth mae'r gyfraith yn ei ddweud, sef beth sydd wedi'i ysgrifennu yn y sgrôl yma. A rhaid i chi barchu enw gwych a rhyfeddol yr ARGLWYDD eich Duw.
Deut WelBeibl 28:59  Os na wnewch chi, bydd e'n eich cosbi chi a'ch disgynyddion yn drwm – salwch tymor hir ac afiechydon marwol.
Deut WelBeibl 28:60  Byddwch yn dal yr heintiau ofnadwy wnaeth daro'r Aifft, a fydd dim iachâd.
Deut WelBeibl 28:61  Bydd yr ARGLWYDD yn eich taro chi gyda pob math o afiechydon – rhai does dim sôn amdanyn nhw yn sgrôl y Gyfraith. Byddwch wedi'ch dinistrio'n llwyr yn y diwedd.
Deut WelBeibl 28:62  Ar un adeg, roedd cymaint ohonoch chi ag sydd o sêr yn yr awyr, ond fydd bron neb ar ôl, am eich bod wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw.
Deut WelBeibl 28:63  “Dyma beth fydd yn digwydd: Yn union fel roedd yr ARGLWYDD wrth ei fodd yn gwneud i chi lwyddo a lluosogi, bydd wrth ei fodd yn eich dinistrio a'ch difetha chi. Byddwch yn cael eich symud o'r wlad dych chi ar fin ei chymryd drosodd.
Deut WelBeibl 28:64  Bydd yr ARGLWYDD yn eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd, a bydd rhaid i chi addoli eilun-dduwiau o bren a charreg – duwiau dych chi a'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw.
Deut WelBeibl 28:65  Fyddwch chi'n cael dim llonydd na gorffwys yn y gwledydd hynny. Bydd yr ARGLWYDD yn eich gwneud chi'n anesmwyth, yn ddigalon a diobaith.
Deut WelBeibl 28:66  Bydd eich bywyd yn y fantol. Nos a dydd byddwch ofn marw, heb sicrwydd y byddwch chi'n dal yn fyw y diwrnod wedyn.
Deut WelBeibl 28:67  Bydd amser yn llusgo, a fyddwch chi byth yn hapus – bydd y pethau gwaethaf allwch chi eu dychmygu yn digwydd i chi!
Deut WelBeibl 28:68  Bydd yr ARGLWYDD yn eich rhoi chi ar long, a'ch gyrru chi'n ôl i'r Aifft ar hyd llwybr roeddwn i wedi dweud fyddech chi byth yn ei weld eto. Yno byddwch yn ceisio gwerthu'ch hunain yn gaethweision a chaethferched i'ch gelynion, ond fydd neb eisiau'ch prynu chi.”
Chapter 29
Deut WelBeibl 29:1  Dyma amodau'r ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD orchymyn i Moses ei wneud gyda phobl Israel pan oedden nhw ar dir Moab. Roedd hwn yn ychwanegol i'r ymrwymiad wnaeth e gyda nhw ar Fynydd Sinai.
Deut WelBeibl 29:2  Dyma Moses yn galw pobl Israel at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw: “Dych chi wedi gweld popeth wnaeth yr ARGLWYDD yn yr Aifft i'r Pharo a'i swyddogion, a phawb arall drwy'r wlad.
Deut WelBeibl 29:3  Gwelsoch sut wnaeth e eu cosbi nhw, a'r gwyrthiau rhyfeddol wnaeth e.
Deut WelBeibl 29:4  Ond dydy'r ARGLWYDD ddim wedi rhoi'r gallu i chi ddeall y peth hyd heddiw. Does gynnoch chi ddim llygaid sy'n gweld na chlustiau sy'n clywed.
Deut WelBeibl 29:5  Dw i wedi'ch arwain chi drwy'r anialwch am bedwar deg mlynedd. Dydy'ch dillad chi ddim wedi difetha, na'ch sandalau chwaith.
Deut WelBeibl 29:6  Dych chi ddim wedi bwyta bara nac yfed gwin neu ddiod feddwol. A dw i wedi gwneud hyn i gyd er mwyn i chi ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi!
Deut WelBeibl 29:7  Pan gyrhaeddoch chi yma, dyma Sihon, brenin Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, yn dod allan i ryfela yn ein herbyn ni, ond ni wnaeth ennill y frwydr.
Deut WelBeibl 29:8  Dyma ni'n cymryd eu tir nhw, a'i roi i lwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse.
Deut WelBeibl 29:9  “Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw amodau'r ymrwymiad yma, a bydd popeth wnewch chi yn llwyddo.
Deut WelBeibl 29:10  Dych chi i gyd yn sefyll yma heddiw o flaen yr ARGLWYDD eich Duw – yn arweinwyr y llwythau, henuriaid, swyddogion, dynion,
Deut WelBeibl 29:11  plant, gwragedd, a'r bobl o'r tu allan sydd gyda chi, yn torri coed ac yn cario dŵr.
Deut WelBeibl 29:12  Dych chi i gyd yma i gytuno i amodau'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei wneud gyda chi.
Deut WelBeibl 29:13  Heddiw bydd e'n cadarnhau mai chi ydy ei bobl e, ac mai fe ydy'ch Duw chi, fel gwnaeth e addo i chi ar lw i Abraham, Isaac a Jacob.
Deut WelBeibl 29:14  A dim chi sydd yma ydy'r unig rai dw i'n gwneud yr ymrwymiad yma gyda nhw,
Deut WelBeibl 29:15  ond pawb sy'n fodlon sefyll gyda ni o flaen yr ARGLWYDD ein Duw, a hefyd y rhai sydd ddim wedi'u geni eto.
Deut WelBeibl 29:16  “Dych chi'n gwybod sut roedden ni'n byw yn yr Aifft, a sut roedd rhaid croesi'r gwahanol wledydd wrth deithio.
Deut WelBeibl 29:17  Dych chi wedi gweld eu pethau ffiaidd nhw, a'u heilun-dduwiau o bren, carreg, arian ac aur.
Deut WelBeibl 29:18  Gwnewch yn siŵr fod neb yn troi cefn ar yr ARGLWYDD ein Duw, a dechrau addoli duwiau'r cenhedloedd hynny – gŵr, gwraig, teulu na llwyth. Byddai hynny fel gadael i wreiddyn sy'n rhoi ffrwyth gwenwynig, chwerw, dyfu yn eich plith chi.
Deut WelBeibl 29:19  Mae person felly yn clywed amodau'r ymrwymiad yma, ac eto'n dawel fach yn bendithio'i hun a dweud, ‘Bydd popeth yn iawn hyd yn oed os gwna i dynnu'n groes!’ Mae peth felly yn dinistrio'r tir da gyda'r tir sych.
Deut WelBeibl 29:20  Fydd yr ARGLWYDD ddim yn maddau i'r person hwnnw. Bydd e'n wyllt gynddeiriog gydag e, a bydd y melltithion sydd yn y sgrôl yma yn dod arno. Bydd yr ARGLWYDD yn cael gwared ag e'n llwyr!
Deut WelBeibl 29:21  Bydd yr ARGLWYDD yn ei bigo allan o ganol llwythau Israel i gyd, yn union fel mae'r melltithion sydd yn sgrôl y Gyfraith yn dweud.
Deut WelBeibl 29:22  “Bydd eich disgynyddion, a phobl sy'n teithio o wledydd pell, yn gweld fel roedd y wlad wedi dioddef o'r afiechydon a'r trasiedïau wnaeth yr ARGLWYDD eu hanfon.
Deut WelBeibl 29:23  Bydd y tir i gyd wedi'i ddifetha gan frwmstan a halen a rwbel yn llosgi. Fydd dim yn cael ei blannu a fydd dim yn tyfu arno. Bydd fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboïm, gafodd eu dinistrio gan yr ARGLWYDD pan oedd e'n ddig.
Deut WelBeibl 29:24  A bydd y cenhedloedd i gyd yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i'r wlad yma? Pam oedd e wedi gwylltio cymaint?’
Deut WelBeibl 29:25  A bydd pobl yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, pan ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft.
Deut WelBeibl 29:26  Roedden nhw wedi troi i addoli duwiau eraill – eilun-dduwiau doedden nhw'n gwybod dim amdanyn nhw, a ddim i fod i'w haddoli nhw.
Deut WelBeibl 29:27  Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a dyna pam wnaethon nhw ddioddef yr holl felltithion mae'r sgrôl yma'n sôn amdanyn nhw.
Deut WelBeibl 29:28  Dyma'r ARGLWYDD yn eu diwreiddio nhw, a'u gyrru i wlad arall. Roedd yn flin, ac wedi digio'n lân gyda nhw.’
Deut WelBeibl 29:29  “Mae yna rai pethau, dim ond yr ARGLWYDD sy'n gwybod amdanyn nhw; ond mae pethau eraill sydd wedi'u datguddio i ni a'n disgynyddion, er mwyn i ni bob amser wneud beth mae'r gyfraith yn ei ddweud.
Chapter 30
Deut WelBeibl 30:1  “Pan fyddwch chi wedi profi'r holl fendithion a melltithion yma dw i'n eu gosod o'ch blaen chi, byddwch chi'n meddwl eto am beth ddwedais i pan fyddwch yn y gwledydd lle bydd yr ARGLWYDD eich Duw wedi'ch gyrru chi.
Deut WelBeibl 30:2  Wedyn, os byddwch chi a'ch disgynyddion yn troi'n ôl at yr ARGLWYDD eich Duw, ac yn bod yn ufudd iddo â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, fel dw i'n gorchymyn i chi heddiw,
Deut WelBeibl 30:3  bydd yr ARGLWYDD yn teimlo trueni drosoch chi ac yn gadael i chi lwyddo eto. Bydd yn eich casglu chi oddi wrth y bobl roedd e wedi'ch gwasgaru chi i'w canol nhw.
Deut WelBeibl 30:4  Hyd yn oed os byddwch chi wedi cael eich gyrru i ben draw'r byd, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn dod â chi yn ôl.
Deut WelBeibl 30:5  Bydd e'n dod â chi i gymryd yn ôl y wlad wnaeth eich hynafiaid ei meddiannu. Byddwch yn fwy llwyddiannus, a bydd mwy ohonoch chi nag oedd bryd hynny!
Deut WelBeibl 30:6  Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich newid chi o'r tu mewn, i'ch gwneud chi a'ch disgynyddion yn bobl go iawn iddo. Byddwch yn ei garu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, ac yn cael bywyd!
Deut WelBeibl 30:7  “Ond bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn melltithio'ch gelynion – y bobl hynny sy'n eich casáu chi ac yn eich erlid chi.
Deut WelBeibl 30:8  Bydd yn ddechrau newydd i chi! Byddwch yn gwrando ar yr ARGLWYDD, ac yn cadw'r gorchmynion dw i wedi'u rhoi i chi heddiw.
Deut WelBeibl 30:9  Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud i bopeth wnewch chi lwyddo. Byddwch chi'n cael lot o blant, bydd eich anifeiliaid yn cael rhai bach, a bydd cynnyrch y tir yn llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw wrth ei fodd gyda chi, ac yn gwneud i chi lwyddo, fel roedd e wrth ei fodd gyda'ch hynafiaid chi,
Deut WelBeibl 30:10  dim ond i chi fod yn ufudd iddo, a chadw'r gorchmynion a'r rheolau sydd wedi'u hysgrifennu yn sgrôl y Gyfraith yma. Ond rhaid i chi droi ato â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.
Deut WelBeibl 30:11  “Dydy beth dw i'n ei orchymyn i chi heddiw ddim yn anodd i'w ddeall, nac yn amhosib i'w gyrraedd.
Deut WelBeibl 30:12  Dydy e ddim yn y nefoedd, fel bod rhaid i rywun ofyn, ‘Pwy wnaiff fynd i fyny i'r nefoedd i'w gael i ni, a'i gyhoeddi er mwyn i ni wneud beth mae'n ddweud?’
Deut WelBeibl 30:13  A dydy e ddim ym mhen draw'r byd, fel bod rhaid gofyn, ‘Pwy wnaiff fynd dros y môr i'w gael i ni, a'i gyhoeddi er mwyn i ni wneud beth mae'n ddweud?’
Deut WelBeibl 30:14  Mae'r gorchmynion gen ti wrth law; ti'n eu deall ac yn gallu'u dyfynnu ar y cof. Felly gwna beth maen nhw'n ddweud.
Deut WelBeibl 30:15  “Edrychwch! Dw i wedi rhoi dewis i chi heddiw – bywyd a llwyddiant, neu farwolaeth a dinistr.
Deut WelBeibl 30:16  Beth dw i'n ei orchymyn i chi ydy i chi garu'r ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e eisiau i chi fyw, a chadw'i orchmynion, ei reolau, a'i ganllawiau. Wedyn byddwch chi'n byw ac yn llwyddo, a bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd.
Deut WelBeibl 30:17  “Ond os byddwch chi'n troi oddi wrtho a gwrthod gwrando arno, ac yn cael eich denu i addoli duwiau eraill,
Deut WelBeibl 30:18  dw i'n eich rhybuddio chi, byddwch chi'n cael eich dinistrio! Gewch chi ddim aros yn hir iawn yn y wlad dych chi'n croesi afon Iorddonen i'w chymryd.
Deut WelBeibl 30:19  “Dw i'n galw'r nefoedd a'r ddaear yn dystion yn eich erbyn chi. Dw i'n gosod dewis o'ch blaen chi – bywyd neu farwolaeth, bendith neu felltith. Felly dewiswch fywyd, a chewch chi a'ch disgynyddion fyw!
Deut WelBeibl 30:20  Rhaid i chi garu'r ARGLWYDD eich Duw, gwrando ar beth mae e'n ddweud ac aros yn ffyddlon iddo. Fe ydy'r un sy'n rhoi bywyd, a fe fydd yn eich galluogi chi i fyw yn y wlad wnaeth e addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi, Abraham, Isaac a Jacob.”
Chapter 31
Deut WelBeibl 31:2  a dweud wrthyn nhw, “Dw i'n gant dau ddeg, a ddim yn gallu mynd a dod fel roeddwn i. Ac mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrtho i na fydda i'n croesi afon Iorddonen.
Deut WelBeibl 31:3  Ond bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn mynd drosodd o'ch blaen chi. Bydd e'n dinistrio'r cenhedloedd ac yn cymryd eu tir oddi arnyn nhw. Mae e wedi dweud mai Josua fydd yn eich arwain chi.
Deut WelBeibl 31:4  Bydd yr ARGLWYDD yn eu dinistrio nhw a'u gwlad, fel y gwnaeth e i Sihon ac Og, brenhinoedd yr Amoriaid.
Deut WelBeibl 31:5  Bydd e'n rhoi'r gallu i chi i'w concro nhw, ond rhaid i chi wedyn wneud yn union fel dw i wedi gorchymyn i chi.
Deut WelBeibl 31:6  Byddwch yn gryf a dewr! Peidiwch bod ag ofn, a pheidiwch panicio. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd gyda chi. Fydd e byth yn eich siomi chi, nac yn troi'i gefn arnoch chi.”
Deut WelBeibl 31:7  Yna dyma Moses yn galw Josua ato o flaen pobl Israel, a dweud wrtho, “Bydd yn gryf a dewr! Ti'n mynd gyda'r bobl yma i'r wlad wnaeth yr ARGLWYDD ei addo i'w hynafiaid nhw. Ti fydd yn eu galluogi nhw i gymryd y tir.
Deut WelBeibl 31:8  Ond mae'r ARGLWYDD ei hun yn mynd o'ch blaen chi. Bydd e gyda chi; fydd e byth yn eich siomi chi, nac yn troi ei gefn arnoch chi. Peidiwch bod ag ofn na phanicio.”
Deut WelBeibl 31:9  Yna dyma Moses yn ysgrifennu'r cyfarwyddiadau yma, a'u rhoi nhw i'r offeiriaid o lwyth Lefi, sy'n cario Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i arweinwyr Israel i gyd.
Deut WelBeibl 31:10  A dyma fe'n gorchymyn iddyn nhw, “Pob saith mlynedd, ar Ŵyl y Pebyll, pan mae dyledion yn cael eu canslo,
Deut WelBeibl 31:11  a phobl Israel i gyd yn dod o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi'i ddewis, rhaid i chi ddarllen y cyfarwyddiadau yma iddyn nhw.
Deut WelBeibl 31:12  Galwch y bobl at ei gilydd – dynion, merched a phlant, a'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich pentrefi chi – iddyn nhw'u clywed, dysgu dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw, a gwneud popeth mae'r gyfraith yn ei ddweud.
Deut WelBeibl 31:13  Wedyn bydd eu disgynyddion, oedd ddim yn gwybod y gyfraith, yn cael clywed am yr ARGLWYDD eich Duw, a dysgu ei barchu, tra byddwch chi'n byw yn y wlad dych chi'n croesi dros afon Iorddonen i'w meddiannu.”
Deut WelBeibl 31:14  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Ti'n mynd i farw cyn bo hir. Galw am Josua, a dos gydag e i sefyll ym mhabell presenoldeb Duw, er mwyn i mi ei gomisiynu e.” Felly dyma Moses a Josua yn gwneud hynny.
Deut WelBeibl 31:15  A dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos iddyn nhw mewn colofn o niwl uwchben drws y babell.
Deut WelBeibl 31:16  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Ti'n mynd i farw cyn bo hir, a bydd y bobl yma'n anffyddlon i mi ac yn addoli duwiau'r wlad maen nhw'n mynd i mewn iddi. Byddan nhw'n troi cefn arna i, ac yn torri'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda nhw.
Deut WelBeibl 31:17  Bydda i'n digio gyda nhw, ac yn troi cefn arnyn nhw, nes byddan nhw wedi'u dinistrio. Bydd lot o drychinebau a helyntion yn dod arnyn nhw, a byddan nhw'n dweud, ‘Mae'r pethau ofnadwy yma wedi digwydd i ni am fod ein Duw wedi'n gadael ni.’
Deut WelBeibl 31:18  Ond fydda i'n sicr ddim yn eu helpu nhw, am eu bod nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg drwy droi i addoli duwiau eraill.
Deut WelBeibl 31:19  Felly ysgrifenna eiriau'r gân yma i lawr, a dysga hi i bobl Israel ar y cof. Bydd y gân yma'n dystiolaeth gen i yn erbyn pobl Israel.
Deut WelBeibl 31:20  “Ar ôl i mi fynd â nhw i'r wlad wnes i addo ei rhoi i'w hynafiaid – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo – byddan nhw ar ben eu digon. Ond yna byddan nhw'n troi i addoli duwiau eraill, yn dangos dirmyg ata i ac yn torri amodau'r ymrwymiad wnes i.
Deut WelBeibl 31:21  Wedyn, pan fydd y trychinebau a'r helyntion yn dod arnyn nhw, bydd y gân yma'n dystiolaeth yn eu herbyn nhw (Bydd eu disgynyddion yn dal i gofio'r gân.) Dw i'n gwybod yn iawn beth sydd ar eu meddyliau nhw, hyd yn oed cyn i mi fynd â nhw i mewn i'r wlad dw i wedi addo ei rhoi iddyn nhw.”
Deut WelBeibl 31:22  Felly dyma Moses yn ysgrifennu'r gân i lawr, ac yn ei dysgu hi i bobl Israel.
Deut WelBeibl 31:23  A dyma'r ARGLWYDD yn comisiynu Josua fab Nwn, “Bydd yn gryf a dewr. Ti sy'n mynd i arwain pobl Israel i'r wlad dw i wedi addo ei rhoi iddyn nhw. Ond bydda i gyda ti.”
Deut WelBeibl 31:24  Pan oedd Moses wedi gorffen ysgrifennu'r cyfarwyddiadau yma i gyd mewn sgrôl,
Deut WelBeibl 31:25  dyma fe'n rhoi'r gorchymyn yma i'r dynion o lwyth Lefi oedd yn cario Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD:
Deut WelBeibl 31:26  “Cymerwch sgrôl y Gyfraith, a'i gosod hi wrth ymyl Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD eich Duw. Bydd yna yn dystiolaeth yn eich erbyn chi.
Deut WelBeibl 31:27  Dych chi'n bobl benstiff. Dych chi wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD yr holl amser dw i wedi bod gyda chi, felly sut fyddwch chi ar ôl i mi farw?
Deut WelBeibl 31:28  Casglwch arweinwyr y llwythau a'r swyddogion at ei gilydd, i mi ddarllen y cwbl iddyn nhw, a bydda i'n galw ar y nefoedd a'r ddaear i dystio'u bod nhw'n gwybod beth maen nhw i fod i'w wneud.
Deut WelBeibl 31:29  Dw i'n gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd. Ar ôl i mi farw, byddwch chi'n sbwylio popeth drwy droi cefn ar y ffordd o fyw dw i wedi'i dysgu i chi. Bydd trychineb yn dod arnoch chi yn y dyfodol o ganlyniad i'r holl ddrwg fyddwch chi'n ei wneud yn pryfocio'r ARGLWYDD i ddigio gyda chi.”
Deut WelBeibl 31:30  Yna dyma Moses yn adrodd geiriau'r gân i bobl Israel i gyd, o'i dechrau i'w diwedd:
Chapter 32
Deut WelBeibl 32:2  Bydd beth dw i'n ddweud fel cawod o law, a'm dysgeidiaeth fel diferion o wlith; bydd fel glaw yn disgyn ar borfa, neu law mân ar laswellt.
Deut WelBeibl 32:3  Wrth i mi gyhoeddi enw'r ARGLWYDD, dwedwch mor fawr yw ein Duw!
Deut WelBeibl 32:4  Mae e fel craig, a'i waith yn berffaith; mae bob amser yn gwneud beth sy'n iawn. Bob amser yn deg ac yn onest – yn Dduw ffyddlon sydd byth yn anghyfiawn.
Deut WelBeibl 32:5  Ond mae ei bobl wedi bod yn anffyddlon, a heb ymddwyn fel dylai ei blant – a dyna'r drwg. Maen nhw'n genhedlaeth anonest, sy'n twyllo.
Deut WelBeibl 32:6  Ai dyma sut dych chi'n talu'n ôl i'r ARGLWYDD? Dych chi'n bobl mor ffôl! Onid fe ydy'ch tad chi, wnaeth eich creu chi? Fe sydd wedi'ch llunio chi, a rhoi hunaniaeth i chi!
Deut WelBeibl 32:7  Cofiwch y dyddiau a fu; meddyliwch beth ddigwyddodd yn y gorffennol: gofynnwch i'ch rhieni a'r genhedlaeth hŷn – byddan nhw'n gallu dweud wrthoch chi.
Deut WelBeibl 32:8  Pan roddodd y Goruchaf dir i'r cenhedloedd, a rhannu'r ddynoliaeth yn grwpiau, gosododd ffiniau i'r gwahanol bobloedd a rhoi angel i ofalu am bob un.
Deut WelBeibl 32:9  Ond cyfran yr ARGLWYDD ei hun oedd ei bobl; pobl Jacob oedd ei drysor sbesial.
Deut WelBeibl 32:10  Daeth o hyd iddyn nhw mewn tir anial; mewn anialwch gwag a gwyntog. Roedd yn eu cofleidio a'u dysgu, a'u hamddiffyn fel cannwyll ei lygad.
Deut WelBeibl 32:11  Fel eryr yn gwthio'i gywion o'r nyth, yna'n hofran a'u dal ar ei adenydd, dyma'r ARGLWYDD yn codi ei bobl ar ei adenydd e.
Deut WelBeibl 32:12  Yr ARGLWYDD ei hun oedd yn eu harwain, nid rhyw dduw estron oedd gyda nhw.
Deut WelBeibl 32:13  Gwnaeth iddyn nhw goncro'r wlad heb rwystr, a chawson nhw fwyta o gynnyrch y tir. Rhoddodd fêl iddyn nhw ei sugno o'r creigiau, olew olewydd o'r tir caregog,
Deut WelBeibl 32:14  caws colfran o'r gwartheg, a llaeth o'r geifr, gyda braster ŵyn, hyrddod a geifr Bashan. Cefaist fwyta'r gwenith gorau ac yfed y gwin gorau.
Deut WelBeibl 32:15  Ond dyma Israel onest yn pesgi, a dechrau strancio – magu bloneg a mynd yn dewach a thewach! Yna troi cefn ar y Duw a'i gwnaeth, a sarhau y Graig wnaeth ei hachub;
Deut WelBeibl 32:16  ei wneud yn eiddigeddus o'r duwiau paganaidd, a'i bryfocio gyda'u heilunod ffiaidd.
Deut WelBeibl 32:17  Aberthu i gythreuliaid, nid i Dduw – duwiau doedden nhw'n gwybod dim amdanyn nhw; y duwiau diweddaraf, duwiau doedd eich hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw.
Deut WelBeibl 32:18  Anwybyddu'r Graig wnaeth dy genhedlu, ac anghofio'r Duw ddaeth â ti i fod.
Deut WelBeibl 32:19  Gwelodd yr ARGLWYDD hyn, a'u gwrthod, am fod ei feibion a'i ferched wedi'i wylltio.
Deut WelBeibl 32:20  Meddai, “Dw i'n mynd i droi cefn arnyn nhw, a gweld beth fydd yn digwydd iddyn nhw. Maen nhw'n genhedlaeth anonest, yn blant sydd mor anffyddlon.
Deut WelBeibl 32:21  Maen nhw wedi fy ngwneud i'n eiddigeddus gyda'u duwiau ffals, a'm digio gyda'u delwau diwerth. Bydda i'n gwneud i chi fod yn eiddigeddus o rai nad ydyn nhw'n genedl, a'ch gwneud yn ddig drwy fendithio pobl sy'n deall dim.
Deut WelBeibl 32:22  Mae tân wedi'i gynnau – dw i mor ddig! Bydd yn llosgi i ddyfnder y ddaear. Bydd yn difa'r tir a'i gynnyrch, ac yn llosgi hyd sylfeini'r mynyddoedd.
Deut WelBeibl 32:23  Bydd trychinebau di-baid yn eu taro; bydda i'n defnyddio fy saethau i gyd.
Deut WelBeibl 32:24  Byddan nhw'n marw o newyn, yn cael eu dinistrio gan haint, a brathiadau chwerw anifeiliaid gwyllt a nadroedd gwenwynig.
Deut WelBeibl 32:25  Bydd cleddyf yn lladd pobl y tu allan, a phawb yn cuddio yn eu dychryn y tu mewn – dynion a merched ifanc, plant bach a henoed.
Deut WelBeibl 32:26  Gallwn fod wedi dweud, ‘Dw i am eu torri nhw'n ddarnau, a gwneud i bobl anghofio eu bod nhw wedi bodoli.
Deut WelBeibl 32:27  Ond roedd gen i ofn ymateb y gelynion; y bydden nhw'n camddeall ac yn dweud, “Ni sydd wedi ennill! Ni sydd wedi gwneud hyn! Dydy'r ARGLWYDD wedi gwneud dim!”’
Deut WelBeibl 32:28  Does gan bobl Israel ddim sens! Dŷn nhw'n deall dim!
Deut WelBeibl 32:29  Petaen nhw'n ddoeth, bydden nhw'n deall, ac yn sylweddoli beth fydd yn digwydd yn y diwedd.”
Deut WelBeibl 32:30  Sut mae un gelyn yn gallu gwneud i fil o Israel ffoi, a dau yn gyrru deg mil ar ffo, oni bai fod eu Craig wedi'u gwerthu nhw, a'r ARGLWYDD wedi gadael iddyn nhw fynd?
Deut WelBeibl 32:31  Dydy ‛craig‛ ein gelynion ddim fel ein Craig ni – mae'r gelynion eu hunain yn cydnabod hynny!
Deut WelBeibl 32:32  Mae eu gwreiddiau'n mynd yn ôl i Sodom, a'u gwinwydden yn tyfu ar gaeau teras Gomorra. Mae eu grawnwin yn llawn gwenwyn, a'u sypiau o ffrwyth yn chwerw.
Deut WelBeibl 32:33  Mae'r gwin fel gwenwyn nadroedd, gwenwyn marwol gwiberod.
Deut WelBeibl 32:34  “Onid ydw i'n cofio'r cwbl?” meddai'r ARGLWYDD, “Onid ydw i wedi'i gadw dan glo yn fy stordai?
Deut WelBeibl 32:35  Fi sy'n dial, ac yn talu nôl. Byddan nhw'n llithro – mae trychineb ar fin digwydd iddyn nhw, a'r farn sydd i ddod yn rhuthro draw!”
Deut WelBeibl 32:36  Bydd yr ARGLWYDD yn rhyddhau ei bobl, ac yn tosturio wrth ei weision, wrth weld eu bod nhw heb nerth, a bod neb ar ôl, yn gaeth nac yn rhydd.
Deut WelBeibl 32:37  Bydd e'n gofyn, “Ble mae eu duwiau nhw nawr? Ble mae'r graig lle roedden nhw'n ceisio cysgodi
Deut WelBeibl 32:38  – y duwiau wnaeth fwyta eu haberthau gorau, ac yfed gwin yr offrymau o ddiod? Gadewch iddyn nhw'ch helpu chi; gadewch iddyn nhw edrych ar eich ôl chi!
Deut WelBeibl 32:39  Dw i eisiau i chi ddeall mai fi, ie fi ydy e! Does dim duw arall ar wahân i mi. Mae gen i awdurdod i ladd ac i roi bywyd, awdurdod i anafu ac i iacháu, a does neb yn gallu fy stopio!
Deut WelBeibl 32:40  Dw i'n addo ar fy llw, ‘Mor sicr â'm bod i yn byw am byth,
Deut WelBeibl 32:41  dw i'n mynd i hogi fy nghleddyf disglair, a gafael ynddo i gosbi; Dw i'n mynd i ddial ar y gelynion, a thalu'n ôl i'r rhai sy'n fy nghasáu!
Deut WelBeibl 32:42  Bydd fy saethau wedi meddwi ar waed, a'm cleddyf yn darnio cnawd – gwaed y rhai wedi'u lladd a'r caethion, prif arweinwyr y gelyn!’”
Deut WelBeibl 32:43  Llawenhewch, genhedloedd, gyda'i bobl; bydd yn dial am ladd ei weision. Mae'n mynd i ddial ar y gelynion, a gwneud iawn am beth a wnaethon i'w dir ac i'w bobl.
Deut WelBeibl 32:44  Yna dyma Moses yn mynd gyda Josua fab Nwn, ac yn adrodd geiriau'r gân i'r bobl i gyd.
Deut WelBeibl 32:45  Ar ôl gwneud hynny, dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Cofiwch bopeth dw i wedi'i ddweud wrthoch chi heddiw. Dysgwch eich plant i wneud popeth mae'r gyfraith yma'n ddweud.
Deut WelBeibl 32:46  Ar ôl gwneud hynny, dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Cofiwch bopeth dw i wedi'i ddweud wrthoch chi heddiw. Dysgwch eich plant i wneud popeth mae'r gyfraith yma'n ddweud.
Deut WelBeibl 32:47  Dim geiriau gwag ydyn nhw – dyma'ch bywyd chi! Os cadwch chi nhw, byddwch chi'n byw yn hir yn y tir dych chi ar fin croesi'r Iorddonen i'w gymryd drosodd.”
Deut WelBeibl 32:48  Yna, ar yr un diwrnod, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses,
Deut WelBeibl 32:49  “Dos i fyny bryniau Afarîm, a dringo i ben Mynydd Nebo (sydd ar dir Moab, gyferbyn â Jericho), i ti gael gweld Canaan, y wlad dw i'n ei rhoi i bobl Israel.
Deut WelBeibl 32:50  Byddi di'n marw ar ben y mynydd, fel buodd dy frawd Aaron farw ar ben Mynydd Hor.
Deut WelBeibl 32:51  Roedd y ddau ohonoch chi wedi gwrthryfela yn fy erbyn i pan oeddech chi gyda phobl Israel wrth Ffynnon Meriba yn Cadesh yn Anialwch Sin. Wnaethoch chi ddim dangos parch ata i o flaen pobl Israel.
Deut WelBeibl 32:52  Felly byddi'n cael gweld y tir o dy flaen di, ond fyddi di ddim yn cael mynd i mewn i'r wlad dw i'n ei rhoi i bobl Israel.”
Chapter 33
Deut WelBeibl 33:1  Dyma'r fendith wnaeth Moses, dyn Duw, ei chyhoeddi dros bobl Israel cyn iddo farw:
Deut WelBeibl 33:2  “Daeth yr ARGLWYDD o Fynydd Sinai; roedd fel y wawr yn torri o gyfeiriad Edom. Roedd yn disgleirio o Fynydd Paran, ac yn dod allan gyda deg mil o angylion, a mellt yn saethu o'i law dde.
Deut WelBeibl 33:3  Mae'n amlwg ei fod yn caru'r bobl, ac yn gofalu am y rhai sydd wedi'u cysegru iddo. Maen nhw'n gwrando ar ei eiriau, ac yn addoli wrth ei draed.
Deut WelBeibl 33:4  Rhoddodd Moses gyfraith i ni; rhodd sbesial i bobl Jacob.
Deut WelBeibl 33:5  Yr ARGLWYDD oedd brenin Israel onest pan ddaeth arweinwyr y bobl a llwythau Israel at ei gilydd.
Deut WelBeibl 33:6  Boed i Reuben gael byw, nid marw, ond fydd ei bobl ddim yn niferus.”
Deut WelBeibl 33:7  Yna meddai am Jwda: “Gwranda, ARGLWYDD, ar lais Jwda, ac una fe gyda'i bobl. Rho nerth rhyfeddol iddo, a helpa fe i ymladd yn erbyn ei elynion.”
Deut WelBeibl 33:8  Yna meddai am Lefi: “I Lefi rhoddaist y Thwmim a'r Wrim, i'r gwas oedd wedi'i gysegru. Profaist e wrth Massa, a dadlau gydag e wrth Ffynnon Meriba.
Deut WelBeibl 33:9  Dwedodd wrth ei rieni, ‘Dw i erioed wedi'ch gweld’, wrth ei frodyr a'i chwiorydd, ‘Pwy ydych chi?’, ac wrth ei blant, ‘Dw i ddim yn eich nabod chi,’ am fod gwneud beth rwyt ti'n ddweud, ac amddiffyn dy ymrwymiad yn bwysicach ganddo.
Deut WelBeibl 33:10  Nhw sy'n dysgu dy ganllawiau i Jacob, a'th gyfarwyddiadau i Israel. Nhw sy'n cyflwyno arogldarth sy'n arogli'n hyfryd, ac offrymau cyflawn ar dy allor.
Deut WelBeibl 33:11  O ARGLWYDD, bendithia ei eiddo, a chael pleser o'r gwaith mae'n ei wneud. Torra goesau unrhyw un sy'n ymosod arno, a'r rhai sy'n ei gasáu, nes eu bod nhw'n methu sefyll.”
Deut WelBeibl 33:12  Yna meddai am Benjamin: “Bydd yr un sy'n annwyl gan yr ARGLWYDD yn byw yn saff wrth ei ymyl. Bydd Duw yn ei amddiffyn bob amser; bydd yr ARGLWYDD yn ei gadw'n saff.”
Deut WelBeibl 33:13  Yna meddai am Joseff: “Boed i'r ARGLWYDD fendithio ei dir, a rhoi cnydau da gyda gwlith o'r awyr, a'r dŵr sy'n ddwfn dan y ddaear;
Deut WelBeibl 33:14  cnydau wedi tyfu dan wenau'r haul ac yn aeddfedu o fis i fis;
Deut WelBeibl 33:15  cnydau'n tyfu ar ben y mynyddoedd hynafol, a'r cynhaeaf sy'n aeddfedu ar y bryniau;
Deut WelBeibl 33:16  y cnydau gorau all y tir ei roi, a ffafr yr Un oedd yn y berth oedd ar dân. Bendith Duw ar ben Joseff – ar ben yr un oedd y blaenaf o'i frodyr.
Deut WelBeibl 33:17  Mae iddo anrhydedd fel y tarw cyntaf, ac mae ei gyrn fel rhai ych gwyllt, i gornio'r bobloedd i ben draw'r byd – dyma ddegau o filoedd Effraim a miloedd Manasse.”
Deut WelBeibl 33:18  Yna meddai am Sabulon: “Bydd lawen, Sabulon, pan fyddi'n mynd allan, ac Issachar, pan fyddi yn dy bebyll.
Deut WelBeibl 33:19  Byddan nhw'n galw pobloedd at eu mynydd, ac yno'n cyflwyno aberthau iawn. Byddan nhw'n derbyn cyfoeth o'r moroedd, ac yn casglu trysorau o dywod y traeth.”
Deut WelBeibl 33:20  Yna meddai am Gad: “Bendith ar yr Un sy'n gwneud i Gad lwyddo! Bydd yn aros fel llew, yna'n rhwygo'r fraich a'r pen.
Deut WelBeibl 33:21  Mae wedi dewis y rhan orau iddo'i hun – rhan un sy'n rheoli. Daeth gydag arweinwyr y bobl, yn ufudd i ofynion da yr ARGLWYDD, a'i ganllawiau i bobl Israel.”
Deut WelBeibl 33:22  Yna meddai am Dan: “Mae Dan fel llew ifanc; bydd yn llamu allan o Bashan.”
Deut WelBeibl 33:23  Yna meddai am Nafftali: “O Nafftali, sy'n gorlifo o ffafr, ac wedi dy fendithio gymaint gan yr ARGLWYDD, dos i gymryd dy dir i'r gorllewin a'r de.”
Deut WelBeibl 33:24  Yna meddai am Asher: “Mae Asher wedi'i fendithio fwy na'r lleill! Boed i'w frodyr ddangos ffafr ato, a boed iddo drochi ei draed mewn olew olewydd.
Deut WelBeibl 33:25  Bydd y bariau ar dy giatiau o haearn a phres; byddi'n saff tra byddi byw.
Deut WelBeibl 33:26  Does neb tebyg i dy Dduw, o Israel onest; mae'n hedfan drwy'r awyr i dy helpu, a'r cymylau yn gerbyd i'w fawrhydi.
Deut WelBeibl 33:27  Mae'r Duw sydd o'r dechrau'n le diogel, a'i freichiau tragwyddol oddi tanat. Mae wedi gyrru dy elynion ar ffo, ac wedi gorchymyn eu dinistrio.
Deut WelBeibl 33:28  Mae Israel yn cael byw yn saff, ac mae pobl Jacob yn ddiogel, mewn gwlad o ŷd a grawnwin; lle mae gwlith yn disgyn o'r awyr.
Deut WelBeibl 33:29  Rwyt wedi dy fendithio, Israel! Oes pobloedd eraill tebyg i ti? – Pobl sydd wedi'ch achub gan yr ARGLWYDD, Fe ydy'r darian sy'n eich amddiffyn, a'r cleddyf gwych sy'n ymladd ar eich ran. Boed i'ch gelynion grynu o'ch blaen, a chithau'n sathru ar eu cefnau!”
Chapter 34
Deut WelBeibl 34:1  Yna dyma Moses yn mynd o wastatir Moab i ben Mynydd Nebo, ac i gopa Pisga, sydd gyferbyn â Jericho. Dangosodd yr ARGLWYDD y wlad gyfan iddo – o Gilead i Dan,
Deut WelBeibl 34:2  tir Nafftali i gyd, Effraim a Manasse, tir Jwda i gyd yr holl ffordd draw i'r môr,
Deut WelBeibl 34:3  y Negef a'r gwastatir o ddyffryn Jericho (tref y coed palmwydd), yr holl ffordd i Soar.
Deut WelBeibl 34:4  Yna meddai'r ARGLWYDD wrtho, “Dyma'r wlad wnes i ei haddo i Abraham, Isaac a Jacob pan ddwedais, ‘Dw i'n mynd i'w rhoi hi i'ch disgynyddion chi.’ Dw i wedi gadael i ti ei gweld, ond dwyt ti ddim yn mynd i gael croesi drosodd yno.”
Deut WelBeibl 34:5  Felly dyma Moses, gwas yr ARGLWYDD, yn marw yno yn Moab, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
Deut WelBeibl 34:6  Cafodd ei gladdu yng ngwlad Moab wrth ymyl Beth-peor, ond does neb yn gwybod yn union yn lle hyd heddiw.
Deut WelBeibl 34:7  Roedd Moses yn 120 oed pan fuodd farw, ond roedd yn dal i weld yn glir, ac mor gryf ag erioed.
Deut WelBeibl 34:8  Buodd pobl Israel yn galaru ar ôl Moses ar wastatir Moab am fis cyfan. Yna daeth y cyfnod o alar i ben.
Deut WelBeibl 34:9  Cyn i Moses farw, roedd e wedi gosod ei ddwylo ar Josua fab Nwn, ac roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud Josua yn berson doeth iawn. Roedd pobl Israel yn gwrando arno ac yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Deut WelBeibl 34:10  Fuodd yna erioed broffwyd arall tebyg i Moses yn Israel – roedd Duw yn delio gydag e wyneb yn wyneb.
Deut WelBeibl 34:11  Gwnaeth bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i anfon i'r Aifft i'w wneud. Gwnaeth wyrthiau rhyfeddol yn erbyn y Pharo a'i swyddogion, a phawb arall drwy'r wlad.
Deut WelBeibl 34:12  Roedd Moses wedi dangos nerth mawr a gwneud pethau rhyfeddol o flaen pobl Israel i gyd.