Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ACTS
Up
Chapter 1
Acts WelBeibl 1:1  Annwyl Theoffilws: Ysgrifennais yn fy llyfr cyntaf am y pethau aeth Iesu ati i'w gwneud a'u dysgu
Acts WelBeibl 1:2  cyn iddo gael ei gymryd yn ôl i fyny i'r nefoedd. Cyn mynd dwedodd wrth yr apostolion beth oedd am iddyn nhw ei wneud yn nerth yr Ysbryd Glân.
Acts WelBeibl 1:3  Am bron chwe wythnos ar ôl iddo gael ei groeshoelio dangosodd ei hun iddyn nhw dro ar ôl tro, a phrofi y tu hwnt i bob amheuaeth ei fod yn fyw. Roedd yn siarad â nhw am beth mae teyrnasiad Duw yn ei olygu.
Acts WelBeibl 1:4  Un o'r troeon hynny pan oedd yn cael pryd o fwyd gyda nhw, dwedodd fel hyn: “Peidiwch gadael Jerwsalem nes byddwch wedi derbyn y rhodd mae fy Nhad wedi'i addo. Dych chi'n cofio fy mod wedi siarad am hyn o'r blaen.
Acts WelBeibl 1:5  Roedd Ioan yn bedyddio â dŵr, ond mewn ychydig ddyddiau cewch chi'ch bedyddio â'r Ysbryd Glân.”
Acts WelBeibl 1:6  Pan oedd y disgyblion yn cyfarfod gyda Iesu roedden nhw'n gofyn iddo o hyd, “Arglwydd, ai dyma pryd rwyt ti'n mynd i ryddhau Israel a'i gwneud yn wlad annibynnol unwaith eto?”
Acts WelBeibl 1:7  Ateb Iesu oedd: “Duw sy'n penderfynu pethau felly. Does dim rhaid i chi wybod beth ydy'r amserlen mae Duw wedi'i threfnu.
Acts WelBeibl 1:8  Ond bydd yr Ysbryd Glân yn disgyn arnoch chi, ac yn rhoi nerth i chi ddweud amdana i wrth bawb – yn Jerwsalem a Jwdea, yn Samaria, a drwy'r byd i gyd.”
Acts WelBeibl 1:9  Yna ar ôl iddo ddweud hynny cafodd ei godi i fyny i'r awyr o flaen eu llygaid. Dyma gwmwl yn dod o'i gwmpas a diflannodd o'u golwg.
Acts WelBeibl 1:10  Tra oedden nhw'n syllu i'r awyr yn edrych arno'n mynd, yn sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad gwyn yn ymddangos wrth eu hymyl nhw,
Acts WelBeibl 1:11  a dweud, “Chi Galileaid, beth dych chi'n ei wneud yma yn syllu i'r awyr? Mae Iesu wedi cael ei gymryd i'r nefoedd oddi wrthoch chi. Ond yn union yr un fath ag y gweloch e'n mynd bydd yn dod yn ôl eto.”
Acts WelBeibl 1:12  Digwyddodd hyn i gyd ar Fynydd yr Olewydd oedd rhyw dri chwarter milltir i ffwrdd o'r ddinas. Dyma nhw'n cerdded yn ôl i Jerwsalem
Acts WelBeibl 1:13  a mynd yn syth i'r ystafell honno i fyny'r grisiau yn y tŷ lle roedden nhw'n aros. Roedd Pedr yno, Ioan, Iago ac Andreas, Philip a Tomos, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus, Simon y Selot a Jwdas fab Iago.
Acts WelBeibl 1:14  Roedden nhw'n cyfarfod yno'n gyson i weddïo gyda'i gilydd, gyda Mair mam Iesu, a'i frodyr, a nifer o wragedd.
Acts WelBeibl 1:15  Un tro roedd tua cant ac ugain yno yn y cyfarfod, a safodd Pedr yn y canol,
Acts WelBeibl 1:16  a dweud: “Frodyr a chwiorydd, roedd rhaid i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud ddigwydd. Yn bell yn ôl roedd y Brenin Dafydd, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, wedi sôn am Jwdas yr un wnaeth arwain y bobl at Iesu i'w arestio.
Acts WelBeibl 1:17  Roedd wedi bod yn un ohonon ni ac wedi gwasanaethu gyda ni!”
Acts WelBeibl 1:18  (Prynodd Jwdas faes gyda'r tâl gafodd am y brad. Yno syrthiodd i'w farwolaeth, a byrstiodd ei gorff yn agored nes bod ei berfedd yn y golwg.
Acts WelBeibl 1:19  Daeth pawb yn Jerwsalem i wybod am beth ddigwyddodd, a dechreuodd pobl alw y lle yn eu hiaith nhw yn Aceldama, sef ‛Maes y Gwaed‛.)
Acts WelBeibl 1:20  “Dyma mae llyfr y Salmau yn cyfeirio ato,” meddai Pedr, “‘Bydded ei le yn anial, heb neb yn byw yno.’ “Ac mae'n dweud hefyd, ‘Gad i rywun arall gymryd ei waith.’
Acts WelBeibl 1:21  “Felly mae'n rhaid i ni ddewis rhywun i gymryd ei le – un ohonoch chi oedd gyda ni pan oedd yr Arglwydd Iesu yma.
Acts WelBeibl 1:22  Rhywun fuodd yno drwy'r adeg, o'r dechrau cyntaf pan gafodd ei fedyddio gan Ioan i'r diwedd pan gafodd Iesu ei gymryd i fyny i'r nefoedd. Rhaid i'r person, fel ni, fod yn dyst i'r ffaith fod Iesu wedi dod yn ôl yn fyw.”
Acts WelBeibl 1:23  Dyma ddau enw yn cael eu cynnig: Joseff oedd un, sef Barsabas (sy'n cael ei alw'n Jwstus weithiau hefyd), a Mathïas oedd y llall.
Acts WelBeibl 1:24  Felly dyma nhw'n gweddïo, “Arglwydd, rwyt ti'n nabod calon pawb. Dangos i ni pa un o'r ddau yma rwyt ti wedi'i ddewis
Acts WelBeibl 1:25  i wasanaethu fel cynrychiolydd personol i Iesu yn lle Jwdas; mae hwnnw wedi'n gadael ni, ac wedi mynd lle mae'n haeddu.”
Acts WelBeibl 1:26  Yna dyma nhw'n taflu coelbren, a syrthiodd o blaid Mathïas; felly cafodd e ei ddewis i fod yn gynrychiolydd personol i Iesu gyda'r unarddeg.
Chapter 2
Acts WelBeibl 2:1  Ar ddiwrnod dathlu Gŵyl y Pentecost roedd pawb gyda'i gilydd eto.
Acts WelBeibl 2:2  Ac yn sydyn dyma nhw'n clywed sŵn o'r awyr, fel gwynt cryf yn chwythu drwy'r ystafell lle roedden nhw'n cyfarfod.
Acts WelBeibl 2:3  Ac wedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yn dod i lawr ac yn gorffwys ar ben pob un ohonyn nhw.
Acts WelBeibl 2:4  Dyma pawb oedd yno yn cael eu llenwi â'r Ysbryd Glân ac yn dechrau siarad mewn ieithoedd eraill. Yr Ysbryd oedd yn eu galluogi nhw i wneud hynny.
Acts WelBeibl 2:5  Bryd hynny roedd Iddewon crefyddol o wahanol wledydd wedi dod i aros yn Jerwsalem.
Acts WelBeibl 2:6  Clywon nhw'r sŵn hefyd, ac roedd tyrfa fawr wedi casglu at ei gilydd i weld beth oedd yn digwydd. Roedden nhw wedi drysu, am fod pob un ohonyn nhw yn clywed ei iaith ei hun yn cael ei siarad.
Acts WelBeibl 2:7  Roedd y peth yn syfrdanol! “Onid o Galilea mae'r bobl yma'n dod?” medden nhw.
Acts WelBeibl 2:8  “Sut maen nhw'n gallu siarad ein hieithoedd ni?”
Acts WelBeibl 2:9  (Roedd Parthiaid yno, a Mediaid, Elamitiaid, pobl o Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia,
Acts WelBeibl 2:10  Phrygia, Pamffilia, yr Aifft, a'r rhan o Libia sydd wrth ymyl Cyrene; pobl oedd ar ymweliad o Rufain
Acts WelBeibl 2:11  – rhai yn Iddewon ac eraill yn bobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig – a hefyd Cretiaid ac Arabiaid) “Maen nhw'n siarad ein hieithoedd ni, ac yn dweud am y pethau rhyfeddol mae Duw wedi'u gwneud!”
Acts WelBeibl 2:12  Dyna lle roedden nhw'n sefyll yn syn, heb ddim clem beth oedd yn digwydd. “Beth sy'n mynd ymlaen?” medden nhw.
Acts WelBeibl 2:13  Ond roedd rhai yno'n gwatwar a dweud, “Maen nhw wedi meddwi!”
Acts WelBeibl 2:14  Dyma Pedr yn codi ar ei draed i annerch y dyrfa, a'r unarddeg arall wrth ei ymyl: “Arweinwyr, bobl Jwdea, a phawb arall sy'n aros yma yn Jerwsalem, gwrandwch yn ofalus – gwna i esbonio i chi beth sy'n digwydd.
Acts WelBeibl 2:15  Dydy'r bobl yma ddim wedi meddwi fel mae rhai ohonoch chi'n dweud. Mae'n rhy gynnar i hynny! Naw o'r gloch y bore ydy hi!
Acts WelBeibl 2:16  “Na, beth sy'n digwydd ydy beth soniodd y proffwyd Joel amdano:
Acts WelBeibl 2:17  ‘Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd. Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo, bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau, a dynion hŷn yn cael breuddwydion.
Acts WelBeibl 2:18  Bryd hynny bydda i'n tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd, yn ddynion a merched, a byddan nhw'n proffwydo.
Acts WelBeibl 2:19  Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr awyr ac arwyddion gwyrthiol yn digwydd ar y ddaear – gwaed a thân a mwg yn lledu ym mhobman.
Acts WelBeibl 2:20  Bydd yr haul yn troi'n dywyll a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed cyn i'r diwrnod mawr, rhyfeddol yna ddod, sef, Dydd yr Arglwydd.
Acts WelBeibl 2:21  Bydd pawb sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael eu hachub.’
Acts WelBeibl 2:22  “Bobl Israel, gwrandwch beth dw i'n ddweud: Dangosodd Duw i chi ei fod gyda Iesu o Nasareth – dych chi'n gwybod hynny'n iawn, am fod Duw wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol drwyddo, a phethau eraill oedd yn dangos pwy oedd e.
Acts WelBeibl 2:23  Roedd Duw'n gwybod ac wedi trefnu ymlaen llaw beth fyddai'n digwydd iddo. Gyda help y Rhufeiniaid annuwiol dyma chi'n ei ladd, drwy ei hoelio a'i hongian ar groes.
Acts WelBeibl 2:24  Ond dyma Duw yn ei godi yn ôl yn fyw a'i ollwng yn rhydd o grafangau marwolaeth. Roedd yn amhosib i farwolaeth ddal gafael ynddo!
Acts WelBeibl 2:25  Dyna'n union ddwedodd y Brenin Dafydd: ‘Gwelais fod yr Arglwydd gyda mi bob amser. Am ei fod yn sefyll wrth fy ochr i fydd dim yn fy ysgwyd i.
Acts WelBeibl 2:26  Felly mae nghalon i'n llawen a'm tafod yn gorfoleddu; mae fy nghorff yn byw mewn gobaith,
Acts WelBeibl 2:27  am na fyddi di'n fy ngadael i gyda'r meirw, gadael i'r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd.
Acts WelBeibl 2:28  Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi; bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd.’
Acts WelBeibl 2:29  “Frodyr a chwiorydd, mae'n amlwg bod y Brenin Dafydd ddim yn sôn amdano'i hun. Buodd farw a chafodd ei gladdu ganrifoedd yn ôl, ac mae ei fedd yn dal gyda ni heddiw.
Acts WelBeibl 2:30  Ond roedd Dafydd yn broffwyd, ac yn gwybod fod Duw wedi addo y byddai un o'i ddisgynyddion yn eistedd ar ei orsedd, sef y Meseia.
Acts WelBeibl 2:31  Roedd yn sôn am rywbeth fyddai'n digwydd yn y dyfodol. Sôn am y Meseia'n dod yn ôl yn fyw oedd Dafydd pan ddwedodd na chafodd ei adael gyda'r meirw ac na fyddai ei gorff y pydru'n y bedd!
Acts WelBeibl 2:32  A dyna sydd wedi digwydd! – mae Duw wedi codi Iesu yn ôl yn fyw, a dŷn ni'n lygad-dystion i'r ffaith!
Acts WelBeibl 2:33  Bellach mae'n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Rhoddodd y Tad yr Ysbryd Glân oedd wedi'i addo, iddo ei dywallt arnon ni. Dyna dych chi wedi'i weld a'i glywed yn digwydd yma heddiw.
Acts WelBeibl 2:34  “Meddyliwch am y peth! – chafodd y Brenin Dafydd mo'i godi i fyny i'r nefoedd, ac eto dwedodd hyn: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd
Acts WelBeibl 2:35  nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”’
Acts WelBeibl 2:36  “Felly dw i am i Israel gyfan ddeall hyn: Mae Duw wedi gwneud yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio yn Arglwydd, a Meseia.”
Acts WelBeibl 2:37  Roedd pobl wedi'u hysgwyd i'r byw gan beth ddwedodd Pedr, a dyma nhw'n gofyn iddo ac i'r apostolion eraill, “Frodyr, beth ddylen ni wneud?”
Acts WelBeibl 2:38  Dyma Pedr yn ateb, “Rhaid i chi droi cefn ar eich pechod, a chael eich bedyddio fel arwydd eich bod yn perthyn i Iesu y Meseia a bod Duw yn maddau eich pechodau chi. Wedyn byddwch chi'n derbyn yr Ysbryd Glân yn rhodd gan Dduw.
Acts WelBeibl 2:39  Mae Duw wedi addo hyn i chi ac i'ch disgynyddion, ac i bobl sy'n byw yn bell i ffwrdd – pawb fydd yr Arglwydd ein Duw yn eu galw ato'i hun.”
Acts WelBeibl 2:40  Aeth Pedr yn ei flaen i ddweud llawer iawn mwy wrthyn nhw. Roedd yn eu rhybuddio nhw ac yn apelio'n daer, “Achubwch eich hunain o afael y gymdeithas droëdig yma!”
Acts WelBeibl 2:41  Dyma'r rhai wnaeth gredu beth oedd Pedr yn ei ddweud yn cael eu bedyddio – tua tair mil ohonyn nhw y diwrnod hwnnw!
Acts WelBeibl 2:42  Roedden nhw'n dal ati o ddifri – yn dilyn beth oedd yr apostolion yn ei ddysgu, yn rhannu popeth, yn bwyta a dathlu Swper yr Arglwydd ac yn gweddïo gyda'i gilydd.
Acts WelBeibl 2:43  Roedd rhyw ymdeimlad o ryfeddod dwfn yn eu plith nhw. Roedd yr apostolion yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gyda nhw.
Acts WelBeibl 2:44  Roedd pawb oedd yn credu yn teimlo'u bod nhw'n un teulu, ac yn rhannu popeth gyda'i gilydd.
Acts WelBeibl 2:45  Roedden nhw'n gwerthu eu heiddo er mwyn gallu helpu pwy bynnag oedd mewn angen.
Acts WelBeibl 2:46  Roedden nhw'n dal ati i gyfarfod bob dydd yng nghwrt y deml, ac yn bwyta a dathlu Swper yr Arglwydd yn nhai ei gilydd.
Acts WelBeibl 2:47  Roedden nhw'n moli Duw, ac roedd agwedd pobl tuag atyn nhw yn bositif iawn. Roedd mwy a mwy o bobl yn ymuno â nhw, ac yn cael eu hachub gan Dduw, bob dydd.
Chapter 3
Acts WelBeibl 3:1  Un diwrnod, am dri o'r gloch y p'nawn, roedd Pedr ac Ioan ar eu ffordd i'r deml i'r cyfarfod gweddi.
Acts WelBeibl 3:2  Wrth y fynedfa sy'n cael ei galw ‛Y Fynedfa Hardd‛ roedd dyn oedd ddim wedi gallu cerdded erioed. Roedd yn cael ei gario yno bob dydd, i gardota gan y bobl oedd yn mynd a dod i'r deml.
Acts WelBeibl 3:3  Pan oedd Pedr ac Ioan yn pasio heibio gofynnodd iddyn nhw am arian.
Acts WelBeibl 3:4  Dyma'r ddau yn edrych arno, a dyma Pedr yn dweud, “Edrych arnon ni.”
Acts WelBeibl 3:5  Edrychodd y dyn arnyn nhw, gan feddwl ei fod yn mynd i gael rhywbeth ganddyn nhw.
Acts WelBeibl 3:6  “Does gen i ddim arian i'w roi i ti,” meddai Pedr, “ond cei di beth sydd gen i i'w roi. Dw i'n dweud hyn gydag awdurdod Iesu y Meseia o Nasareth – cod ar dy draed a cherdda.”
Acts WelBeibl 3:7  Yna gafaelodd yn llaw dde y dyn a'i helpu i godi ar ei draed. Cryfhaodd traed a choesau'r dyn yr eiliad honno,
Acts WelBeibl 3:8  a dyma fe'n neidio ar ei draed a dechrau cerdded! Aeth i mewn i'r deml gyda nhw, yn neidio ac yn moli Duw.
Acts WelBeibl 3:9  Roedd pawb yn ei weld yn cerdded ac yn moli Duw,
Acts WelBeibl 3:10  ac yn sylweddoli mai hwn oedd y dyn oedd yn arfer eistedd i gardota wrth ‛Fynedfa Hardd‛ y deml. Roedden nhw wedi'u syfrdanu'n llwyr o achos beth oedd wedi digwydd iddo.
Acts WelBeibl 3:11  Dyna lle roedd y cardotyn a'i freichiau am Pedr ac Ioan, a dyma'r bobl yn tyrru i mewn i Gyntedd Colofnog Solomon lle roedden nhw.
Acts WelBeibl 3:12  Pan welodd Pedr y bobl o'u cwmpas, dwedodd wrthyn nhw: “Pam dych chi'n rhyfeddu at hyn, bobl Israel? Pam syllu arnon ni fel petai gynnon ni'r gallu ynon ni'n hunain i wneud i'r dyn yma gerdded, neu fel tasen ni'n rhyw bobl arbennig o dduwiol?
Acts WelBeibl 3:13  Duw sydd wedi gwneud y peth – Duw Abraham, Isaac a Jacob; Duw ein cyndeidiau ni. Gwnaeth hyn i anrhydeddu ei was Iesu. Yr Iesu wnaethoch chi ei drosglwyddo i'r awdurdodau Rhufeinig i gael ei ladd. Yr un wnaethoch chi ei wrthod pan oedd Peilat yn fodlon ei ryddhau.
Acts WelBeibl 3:14  Gwrthod yr un glân a chyfiawn, a gofyn iddo ryddhau llofrudd yn ei le.
Acts WelBeibl 3:15  Ie, chi laddodd awdur bywyd, ond dyma Duw yn dod ag e'n ôl yn fyw! Dŷn ni'n dystion i'r ffaith!
Acts WelBeibl 3:16  Iesu roddodd y nerth i'r dyn yma o'ch blaen chi gael ei iacháu. Enw Iesu, a'r ffaith ein bod ni'n credu ynddo sydd wedi'i wneud yn iach o flaen eich llygaid chi.
Acts WelBeibl 3:17  “Frodyr a chwiorydd, dw i'n gwybod eich bod chi ddim yn sylweddoli beth oeddech yn ei wneud; ac mae'r un peth yn wir am eich arweinwyr chi.
Acts WelBeibl 3:18  Ond dyma sut wnaeth Duw gyflawni beth oedd y proffwydi wedi dweud fyddai'n digwydd i'r Meseia, sef fod rhaid iddo ddioddef.
Acts WelBeibl 3:19  Felly trowch gefn ar eich pechod, a throi at Dduw, a bydd eich pechodau chi'n cael eu maddau.
Acts WelBeibl 3:20  Yna bydd yr Arglwydd yn anfon ei fendith, cyn iddo anfon y Meseia atoch unwaith eto, sef Iesu.
Acts WelBeibl 3:21  Mae'n rhaid iddo aros yn y nefoedd nes daw'r amser pan fydd Duw yn gwneud popeth yn iawn am byth. Roedd wedi dweud hyn ymhell yn ôl drwy ei broffwydi.
Acts WelBeibl 3:22  Dwedodd Moses, ‘Bydd yr Arglwydd eich Duw yn codi Proffwyd arall fel fi o'ch plith chi. Rhaid i chi wrando'n ofalus ar bopeth fydd yn ei ddweud wrthoch chi.
Acts WelBeibl 3:23  Bydd pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar y Proffwyd hwnnw yn cael ei dorri allan yn llwyr o blith pobl Dduw.’
Acts WelBeibl 3:24  “Yn wir, roedd pob un o'r proffwydi, o Samuel ymlaen, yn dweud ymlaen llaw am y cwbl fyddai'n digwydd yn ein dyddiau ni.
Acts WelBeibl 3:25  Chi ydy'r plant sydd i etifeddu beth wnaeth y proffwydi ei addo a'r ymrwymiad wnaeth Duw i'ch cyndeidiau chi. Dyma ddwedodd wrth Abraham: ‘Drwy dy ddisgynyddion di bydd holl bobloedd y byd yn cael eu bendithio.’
Acts WelBeibl 3:26  Pan ddaeth Duw â'i was Iesu i'r golwg, cafodd ei anfon atoch chi'n gyntaf, i'ch bendithio chi drwy droi pob un ohonoch chi o'ch ffyrdd drwg.”
Chapter 4
Acts WelBeibl 4:1  Tra oedd Pedr ac Ioan wrthi'n siarad â'r bobl dyma'r offeiriaid yn dod draw atyn nhw gyda phennaeth gwarchodlu'r deml a rhai o'r Sadwceaid.
Acts WelBeibl 4:2  Doedden nhw ddim yn hapus o gwbl fod Pedr ac Ioan yn dysgu'r bobl am Iesu ac yn dweud y byddai pobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw.
Acts WelBeibl 4:3  Felly dyma nhw'n arestio'r ddau a'u cadw yn y ddalfa dros nos am ei bod hi wedi mynd yn hwyr yn y dydd.
Acts WelBeibl 4:4  Ond roedd llawer o'r bobl a glywodd beth roedden nhw'n ei ddweud wedi dod i gredu. Erbyn hyn roedd tua pum mil o ddynion yn credu yn Iesu, heb sôn am y gwragedd a'r plant!
Acts WelBeibl 4:5  Y diwrnod wedyn dyma'r cyngor, sef yr arweinwyr a'r henuriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith, yn cyfarfod yn Jerwsalem.
Acts WelBeibl 4:6  Roedd Annas, yr archoffeiriad, yno, hefyd Caiaffas, Ioan, Alecsander ac aelodau eraill o deulu'r archoffeiriad.
Acts WelBeibl 4:7  Dyma nhw'n galw Pedr ac Ioan i ymddangos o'u blaenau a dechrau eu holi: “Pa bŵer ysbrydol, neu pa enw wnaethoch chi ei ddefnyddio i wneud hyn?”
Acts WelBeibl 4:8  Dyma Pedr, wedi'i lenwi â'r Ysbryd Glân, yn eu hateb: “Arweinwyr a henuriaid y genedl.
Acts WelBeibl 4:9  Ydyn ni'n cael ein galw i gyfrif yma heddiw am wneud tro da i ddyn oedd yn methu cerdded? Os dych chi eisiau gwybod sut cafodd y dyn ei iacháu,
Acts WelBeibl 4:10  dweda i wrthoch chi. Dw i am i bobl Israel i gyd wybod! Enw Iesu y Meseia o Nasareth sydd wedi iacháu'r dyn yma sy'n sefyll o'ch blaen chi. Yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio, ond daeth Duw ag e'n ôl yn fyw.
Acts WelBeibl 4:11  Iesu ydy'r un mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn amdano: ‘Mae'r garreg wrthodwyd gynnoch chi'r adeiladwyr, wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen.’
Acts WelBeibl 4:12  Fe ydy'r unig un sy'n achub! Does neb arall yn unman sy'n gallu achub pobl.”
Acts WelBeibl 4:13  Roedd aelodau'r cyngor yn rhyfeddu fod Pedr ac Ioan mor hyderus. Roedden nhw'n gweld mai dynion cyffredin di-addysg oedden nhw, ond yn ymwybodol hefyd fod y dynion yma wedi bod gyda Iesu.
Acts WelBeibl 4:14  Gan fod y dyn oedd wedi cael ei iacháu yn sefyll yno o'u blaenau, doedd dim byd arall i'w ddweud.
Acts WelBeibl 4:15  Felly dyma nhw'n eu hanfon allan o'r Sanhedrin er mwyn trafod y mater gyda'i gilydd.
Acts WelBeibl 4:16  “Beth wnawn ni â'r dynion yma?” medden nhw. “Mae pawb yn Jerwsalem yn gwybod eu bod wedi cyflawni gwyrth anhygoel, a dŷn ni ddim yn gallu gwadu hynny.
Acts WelBeibl 4:17  Ond mae'n rhaid stopio hyn rhag mynd ymhellach. Rhaid i ni eu rhybuddio nhw i beidio dysgu am yr Iesu yma byth eto.”
Acts WelBeibl 4:18  Dyma nhw yn eu galw i ymddangos o'u blaenau unwaith eto, a dweud wrthyn nhw am beidio siarad am Iesu na dysgu amdano byth eto.
Acts WelBeibl 4:19  Ond dyma Pedr ac Ioan yn ateb, “Beth fyddai Duw am i ni ei wneud? Penderfynwch chi – gwrando arnoch chi, neu ufuddhau iddo fe?
Acts WelBeibl 4:20  Allwn ni ddim stopio sôn am y pethau dŷn ni wedi'u gweld a'u clywed.”
Acts WelBeibl 4:21  Dyma nhw'n eu bygwth eto, ond yna'n eu gollwng yn rhydd. Doedd dim modd eu cosbi nhw, am fod y bobl o'u plaid nhw. Roedd pawb yn moli Duw am yr hyn oedd wedi digwydd.
Acts WelBeibl 4:22  Roedd hi'n wyrth anhygoel! Roedd y dyn dros bedwar deg oed a doedd e ddim wedi cerdded erioed o'r blaen!
Acts WelBeibl 4:23  Ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau, dyma Pedr ac Ioan yn mynd yn ôl at eu ffrindiau a dweud yr hanes i gyd, a beth oedd y prif offeiriaid a'r henuriaid wedi'i fygwth.
Acts WelBeibl 4:24  Ar ôl clywed yr hanes, dyma nhw'n gweddïo gyda'i gilydd: “O Feistr Sofran,” medden nhw, “Ti sy'n rheoli'r cwbl, a thi ydy'r Un sydd wedi creu yr awyr a'r ddaear a'r môr a'r cwbl sydd ynddyn nhw.
Acts WelBeibl 4:25  Ti ddwedodd drwy'r Ysbryd Glân yng ngeiriau dy was, y Brenin Dafydd: ‘Pam mae'r cenhedloedd mor gynddeiriog, a'r bobloedd yn gwastraffu eu hamser yn cynllwynio?
Acts WelBeibl 4:26  Mae brenhinoedd daearol yn gwneud safiad a'r llywodraethwyr yn dod at ei gilydd i wrthwynebu'r Arglwydd, ac i wrthwynebu ei Eneiniog.’
Acts WelBeibl 4:27  “Dyna ddigwyddodd yn y ddinas yma! Daeth Herod Antipas a Pontius Peilat, pobl o Israel ac o genhedloedd eraill at ei gilydd yn erbyn Iesu, dy was sanctaidd wnest ti ei eneinio.
Acts WelBeibl 4:28  Ond dim ond gwneud beth roeddet ti wedi'i drefnu i ddigwydd oedden nhw!
Acts WelBeibl 4:29  Felly, Arglwydd, edrych arnyn nhw yn ein bygwth ni nawr. Rho'r gallu i dy weision i gyhoeddi dy neges di yn gwbl ddi-ofn.
Acts WelBeibl 4:30  Dangos dy fod ti gyda ni drwy ddal ati i iacháu pobl, a rhoi awdurdod dy was sanctaidd Iesu i ni, i wneud gwyrthiau rhyfeddol.”
Acts WelBeibl 4:31  Ar ôl iddyn nhw weddïo, dyma'r adeilad lle roedden nhw'n cyfarfod yn cael ei ysgwyd. Dyma nhw'n cael eu llenwi eto â'r Ysbryd Glân, ac roedden nhw'n cyhoeddi neges Duw yn gwbl ddi-ofn.
Acts WelBeibl 4:32  Roedd undod go iawn ymhlith y credinwyr i gyd. Doedd neb yn dweud, “Fi biau hwnna!” Roedden nhw'n rhannu popeth gyda'i gilydd.
Acts WelBeibl 4:33  Roedd cynrychiolwyr Iesu yn cael rhyw nerth rhyfedd i dystio'n glir fod yr Arglwydd Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac roedden nhw i gyd yn teimlo fod Duw mor dda tuag atyn nhw.
Acts WelBeibl 4:34  Doedd neb ohonyn nhw mewn angen, am fod pobl oedd yn berchen tir neu dai yn eu gwerthu,
Acts WelBeibl 4:35  ac yn rhoi'r arian i'r apostolion i'w rannu i bwy bynnag oedd mewn angen.
Acts WelBeibl 4:36  Er enghraifft, Joseff, y dyn roedd yr apostolion yn ei alw'n Barnabas (sy'n golygu ‛yr anogwr‛). Iddew o dras llwyth Lefi yn byw yn Cyprus.
Acts WelBeibl 4:37  Gwerthodd hwnnw dir oedd ganddo a rhoi'r arian i'r apostolion.
Chapter 5
Acts WelBeibl 5:1  Roedd dyn arall o'r enw Ananias, a'i wraig Saffeira, wedi gwerthu peth o'u heiddo.
Acts WelBeibl 5:2  Ond dyma Ananias yn cadw peth o'r arian iddo'i hun a mynd â'r gweddill i'r apostolion gan honni mai dyna'r cwbl oedd wedi'i gael. Roedd e a'i wraig wedi cytuno mai dyna fydden nhw'n ei wneud.
Acts WelBeibl 5:3  Pan ddaeth at yr apostolion dyma Pedr yn dweud wrtho, “Ananias, pam wyt ti wedi gadael i Satan gael gafael ynot ti? Rwyt ti wedi dweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân drwy gadw peth o'r arian gest ti am y tir i ti dy hun!
Acts WelBeibl 5:4  Ti oedd biau'r tir, ac roedd gen ti hawl i wneud beth fynnet ti â'r arian. Beth wnaeth i ti feddwl gwneud y fath beth? Dim wrthon ni rwyt ti wedi dweud celwydd, ond wrth Dduw!”
Acts WelBeibl 5:5  Pan glywodd Ananias yr hyn ddwedodd Pedr, syrthiodd yn farw yn y fan a'r lle. Roedd pawb glywodd beth ddigwyddodd wedi dychryn am eu bywydau.
Acts WelBeibl 5:6  Yna daeth dynion ifanc a lapio'r corff cyn ei gario allan i'w gladdu.
Acts WelBeibl 5:7  Rhyw dair awr yn ddiweddarach dyma'i wraig yn dod i'r golwg. Doedd hi'n gwybod dim byd am yr hyn roedd wedi digwydd.
Acts WelBeibl 5:8  Felly, dyma Pedr yn gofyn iddi, “Dwed wrtho i, ai dyma faint o arian gest ti ac Ananias am y tir wnaethoch chi ei werthu?” “Ie,” meddai hi, “dyna'n union faint gawson ni.”
Acts WelBeibl 5:9  Ac meddai Pedr, “Beth wnaeth i'r ddau ohonoch chi gytuno i roi Ysbryd yr Arglwydd ar brawf? Gwranda! Mae'r dynion ifanc wnaeth gladdu dy ŵr di tu allan i'r drws, a byddan nhw'n dy gario di allan yr un fath.”
Acts WelBeibl 5:10  A dyma hithau yn disgyn ar lawr yn farw yn y fan a'r lle. Daeth y dynion ifanc i mewn, gweld ei bod hi'n farw, a'i chario hithau allan i'w chladdu wrth ymyl ei gŵr.
Acts WelBeibl 5:11  Roedd yr eglwys i gyd, a phawb arall glywodd am y peth, wedi dychryn am eu bywydau.
Acts WelBeibl 5:12  Roedd yr apostolion yn gwneud llawer o wyrthiau rhyfeddol ymhlith y bobl – gwyrthiau oedd yn dangos fod Duw gyda nhw. Byddai'r credinwyr i gyd yn cyfarfod gyda'i gilydd yng Nghyntedd Colofnog Solomon yn y deml.
Acts WelBeibl 5:13  Fyddai neb arall yn meiddio ymuno gyda nhw, er bod gan bobl barch mawr tuag atyn nhw.
Acts WelBeibl 5:14  Ac eto roedd mwy a mwy o bobl yn dod i gredu yn yr Arglwydd – yn ddynion a merched.
Acts WelBeibl 5:15  Roedd pobl yn dod â'r cleifion allan i'r stryd ar welyau a matresi yn y gobaith y byddai o leia cysgod Pedr yn disgyn ar rai ohonyn nhw wrth iddo gerdded heibio.
Acts WelBeibl 5:16  Roedd tyrfaoedd hefyd yn dod o'r trefi o gwmpas Jerwsalem gyda phobl oedd yn sâl neu'n cael eu poenydio gan ysbrydion drwg, ac roedd pob un ohonyn nhw yn cael eu hiacháu.
Acts WelBeibl 5:17  Roedd yr Archoffeiriad a'i gyd-Sadwceaid yn genfigennus.
Acts WelBeibl 5:18  Felly dyma nhw'n arestio'r apostolion a'u rhoi yn y carchar.
Acts WelBeibl 5:19  Ond yn ystod y nos dyma angel yr Arglwydd yn dod ac yn agor drysau'r carchar a'u gollwng yn rhydd. Dwedodd wrthyn nhw,
Acts WelBeibl 5:20  “Ewch i'r deml, sefyll yno a dweud wrth bobl am y bywyd newydd yma.”
Acts WelBeibl 5:21  Felly ar doriad gwawr dyma nhw'n mynd i'r deml a gwneud beth ddwedodd yr angel wrthyn nhw, a dechrau dysgu'r bobl. Pan gyrhaeddodd yr archoffeiriad a'i swyddogion ar gyfer y cyfarfod o'r Sanhedrin – sef cyfarfod llawn o arweinwyr Israel – dyma nhw'n anfon dynion i nôl yr apostolion o'r carchar.
Acts WelBeibl 5:22  Ond pan gyrhaeddodd rheiny'r celloedd, doedd yr apostolion ddim yno! Felly dyma nhw'n mynd yn ôl at y Sanhedrin a dweud,
Acts WelBeibl 5:23  “Pan aethon ni i'r carchar roedd wedi'i gloi yn ddiogel, ac roedd swyddogion yno yn gwarchod y drysau; ond pan agoron nhw'r gell i ni, doedd neb i mewn yno!”
Acts WelBeibl 5:24  Pan glywodd y prif offeiriaid a phennaeth gwarchodlu'r deml hyn, roedden nhw wedi drysu'n lân, ac yn meddwl, “Beth nesa!”
Acts WelBeibl 5:25  Dyna pryd daeth rhywun i mewn a dweud, “Dych chi'n gwybod beth! – mae'r dynion wnaethoch chi eu rhoi yn y carchar yn sefyll yn y deml yn dysgu'r bobl!”
Acts WelBeibl 5:26  Felly dyma'r capten a'i swyddogion yn mynd i arestio'r apostolion eto, ond heb ddefnyddio trais. Roedd ganddyn nhw ofn i'r bobl gynhyrfu a dechrau taflu cerrig atyn nhw a'u lladd.
Acts WelBeibl 5:27  Dyma nhw'n dod â'r apostolion o flaen y Sanhedrin i gael eu croesholi gan yr archoffeiriad.
Acts WelBeibl 5:28  “Cawsoch chi orchymyn clir i beidio sôn am y dyn yna,” meddai, “ond dych chi wedi bod yn dweud wrth bawb yn Jerwsalem amdano, ac yn rhoi'r bai arnon ni am ei ladd!”
Acts WelBeibl 5:29  Atebodd Pedr a'r apostolion eraill: “Mae'n rhaid i ni ufuddhau i Dduw, dim i ddynion meidrol fel chi!
Acts WelBeibl 5:30  Duw ein cyndeidiau ni ddaeth â Iesu yn ôl yn fyw ar ôl i chi ei ladd drwy ei hoelio ar bren!
Acts WelBeibl 5:31  Ac mae Duw wedi'i osod i eistedd yn y sedd anrhydedd yn y nefoedd. Iesu ydy'r Tywysog a'r Achubwr sy'n rhoi cyfle i Israel droi'n ôl at Dduw a chael eu pechodau wedi'u maddau.
Acts WelBeibl 5:32  Dŷn ni'n gwybod fod hyn i gyd yn wir, ac mae'r Ysbryd Glân hefyd yn tystio i'r ffaith gyda ni. Dyma'r Ysbryd mae Duw yn ei roi i bawb sy'n ufuddhau iddo.”
Acts WelBeibl 5:33  Pan glywon nhw beth ddwedodd yr apostolion roedden nhw'n gynddeiriog. Roedden nhw eisiau eu lladd nhw!
Acts WelBeibl 5:34  Ond dyma Pharisead o'r enw Gamaliel yn sefyll ar ei draed. (Roedd Gamaliel yn arbenigwr yn y Gyfraith, ac yn ddyn oedd gan bawb barch mawr ato.) Rhoddodd orchymyn i'r apostolion gael eu cymryd allan o'r cyfarfod am ychydig,
Acts WelBeibl 5:35  ac yna dwedodd hyn: “Ddynion. Arweinwyr Israel. Rhaid meddwl yn ofalus cyn penderfynu beth i'w wneud â'r dynion yma.
Acts WelBeibl 5:36  Ydych chi'n cofio Theudas? Cododd hwnnw beth amser yn ôl, yn honni ei fod yn arweinydd mawr. Roedd tua pedwar cant o ddynion yn ei ddilyn, ond cafodd ei ladd a chafodd ei ddilynwyr eu gwasgaru. Wnaeth dim byd ddod o'r peth.
Acts WelBeibl 5:37  Wedyn, cawsoch chi Jwdas y Galilead yn arwain gwrthryfel adeg y cyfrifiad. Cafodd yntau ei ladd, a chafodd ei ddilynwyr e eu gyrru ar chwâl.
Acts WelBeibl 5:38  Felly, dyma fyddwn i yn ei gynghori yn yr achos sydd o'n blaenau ni: Peidiwch gwneud dim gyda nhw. Gadewch lonydd iddyn nhw. Chwalu wnân nhw os mai dim ond syniadau pobl sydd y tu ôl i'r cwbl.
Acts WelBeibl 5:39  Ond os oes gan Dduw rywbeth i'w wneud â'r peth, wnewch chi byth eu stopio nhw; a chewch eich hunain yn brwydro yn erbyn Duw.”
Acts WelBeibl 5:40  Llwyddodd Gamaliel i'w perswadio nhw. Felly dyma nhw'n galw'r apostolion yn ôl i mewn ac yn gorchymyn iddyn nhw gael eu curo. Ar ôl eu rhybuddio nhw eto i beidio sôn am Iesu, dyma nhw'n eu gollwng yn rhydd.
Acts WelBeibl 5:41  Roedd yr apostolion yn llawen wrth adael y Sanhedrin. Roedden nhw'n ei chyfri hi'n fraint eu bod wedi cael eu cam-drin am ddilyn Iesu.
Acts WelBeibl 5:42  Bob dydd, yn y deml ac yn eu tai, roedden nhw'n dal ati i ddysgu'r bobl a chyhoeddi'r newyddion da mai Iesu ydy'r Meseia.
Chapter 6
Acts WelBeibl 6:1  Ond wrth i nifer y bobl oedd yn credu dyfu, cododd problemau. Roedd y rhai oedd o gefndir Groegaidd yn cwyno am y rhai oedd yn dod o gefndir Hebreig. Roedden nhw'n teimlo fod eu gweddwon nhw yn cael eu hesgeuluso gan y rhai oedd yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd bob dydd.
Acts WelBeibl 6:2  Felly dyma'r Deuddeg yn galw'r credinwyr i gyd at ei gilydd. “Cyhoeddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw ydy'n gwaith ni, dim trefnu'r ffordd mae bwyd yn cael ei ddosbarthu” medden nhw.
Acts WelBeibl 6:3  “Felly frodyr a chwiorydd, dewiswch saith dyn o'ch plith – dynion mae pawb yn eu parchu ac yn gwybod eu bod yn llawn o'r Ysbryd Glân – dynion sy'n gallu gwneud y gwaith. Dŷn ni'n mynd i roi'r cyfrifoldeb yma iddyn nhw.
Acts WelBeibl 6:4  Wedyn byddwn ni'n gallu rhoi'n sylw i gyd i weddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw.”
Acts WelBeibl 6:5  Roedd y syniad yma'n plesio pawb, a dyma nhw'n dewis y rhain: Steffan (dyn oedd yn credu'n gryf ac yn llawn o'r Ysbryd Glân), a Philip, Procorws, Nicanor, Timon, Parmenas, a Nicolas o Antiochia (oedd ddim yn Iddew, ond wedi troi at y grefydd Iddewig, a bellach yn dilyn y Meseia).
Acts WelBeibl 6:6  Dyma nhw'n eu cyflwyno i'r apostolion, ac ar ôl gweddïo dyma'r apostolion yn eu comisiynu nhw ar gyfer y gwaith drwy roi eu dwylo arnyn nhw.
Acts WelBeibl 6:7  Roedd neges Duw yn mynd ar led, a nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn tyfu'n gyflym. Roedd nifer fawr o'r offeiriaid Iddewig yn dilyn y Meseia hefyd.
Acts WelBeibl 6:8  Roedd Steffan yn ddyn oedd â ffafr Duw arno a nerth Duw ar waith yn ei fywyd. Roedd yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol ymhlith y bobl, oedd yn dangos fod Duw gydag e.
Acts WelBeibl 6:9  Ond dyma rhai o aelodau'r synagog oedd yn cael ei galw'n ‛Synagog y Dynion Rhydd‛ yn codi yn ei erbyn. Iddewon o Cyrene ac Alecsandria oedden nhw, yn ogystal â rhai o Cilicia ac o dalaith Asia. Dyma nhw'n dechrau dadlau gyda Steffan,
Acts WelBeibl 6:10  ond doedden nhw ddim yn gallu ateb ei ddadleuon. Roedd e mor ddoeth, ac roedd yr Ysbryd Glân yn amlwg yn siarad drwyddo.
Acts WelBeibl 6:11  Felly dyma nhw'n defnyddio tacteg wahanol, ac yn perswadio rhyw ddynion i ddweud celwydd amdano: “Dŷn ni wedi clywed Steffan yn dweud pethau cableddus am Moses ac am Dduw.”
Acts WelBeibl 6:12  Wrth gwrs achosodd hyn stŵr ymhlith y bobl a'r henuriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith. Dyma nhw'n arestio Steffan ac roedd rhaid iddo ymddangos o flaen y Sanhedrin.
Acts WelBeibl 6:13  Dyma rai yn dweud celwydd wrth roi tystiolaeth ar lw: “Mae'r dyn yma o hyd ac o hyd yn dweud pethau yn erbyn y deml ac yn erbyn Cyfraith Moses.
Acts WelBeibl 6:14  Dŷn ni wedi'i glywed yn dweud y bydd yr Iesu yna o Nasareth yn dinistrio'r deml yma ac yn newid y traddodiadau wnaeth Moses eu rhoi i ni.”
Acts WelBeibl 6:15  Dyma pob un o aelodau'r Sanhedrin yn troi i syllu ar Steffan. Roedd ei wyneb yn disgleirio fel wyneb angel.
Chapter 7
Acts WelBeibl 7:1  Gofynnodd yr archoffeiriad iddo, “Ydy'r cyhuddiadau yma'n wir?”
Acts WelBeibl 7:2  A dyma oedd ateb Steffan: “Frodyr, ac arweinwyr parchus, gwrandwch arna i. Roedd y Duw gogoneddus wedi ymddangos i Abraham pan oedd e'n dal i fyw yn Mesopotamia – cyn iddo symud i Haran hyd yn oed.
Acts WelBeibl 7:3  ‘Dw i am i ti adael dy wlad a'th bobl,’ meddai Duw wrtho, ‘a mynd i ble bydda i'n ei ddangos i ti.’
Acts WelBeibl 7:4  “Felly gadawodd wlad y Caldeaid, a setlo i lawr yn Haran. Wedyn, ar ôl i'w dad farw, dyma Duw yn ei arwain ymlaen i'r wlad yma dych chi'n byw ynddi nawr.
Acts WelBeibl 7:5  Chafodd Abraham ei hun ddim tir yma – dim o gwbl! Ond roedd Duw wedi addo iddo y byddai'r wlad i gyd yn perthyn iddo fe a'i ddisgynyddion ryw ddydd – a hynny pan oedd gan Abraham ddim plentyn hyd yn oed!
Acts WelBeibl 7:6  Dyma ddwedodd Duw: ‘Bydd rhaid i dy ddisgynyddion di fyw fel ffoaduriaid mewn gwlad arall. Byddan nhw'n gaethweision yno, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd.
Acts WelBeibl 7:7  Ond bydda i'n cosbi'r genedl fydd wedi'u cam-drin nhw’ meddai Duw, ‘a chân nhw adael y wlad honno a dod i'm haddoli i yn y fan yma.’
Acts WelBeibl 7:8  Dyna pryd wnaeth Duw ddweud wrth Abraham mai defod enwaediad oedd i fod yn arwydd o'r ymrwymiad yma. Felly pan gafodd Abraham fab, sef Isaac, dyma fe'n enwaedu y plentyn yn wyth diwrnod oed. Yna Isaac oedd tad Jacob, a Jacob oedd tad y deuddeg patriarch roddodd eu henwau i ddeuddeg llwyth Israel.
Acts WelBeibl 7:9  “Roedd y dynion hynny (meibion Jacob) yn genfigennus o'u brawd Joseff, dyma nhw'n ei werthu fel caethwas i'r Aifft. Ond roedd Duw gyda Joseff
Acts WelBeibl 7:10  ac yn ei achub o bob creisis. Roedd Duw wedi gwneud Joseff yn ddyn doeth iawn. Daeth i ennill parch y Pharo, brenin yr Aifft, a dyma'r Pharo yn ei benodi yn llywodraethwr ar y wlad gyfan, a'i wneud yn gyfrifol am redeg y palas brenhinol.
Acts WelBeibl 7:11  “Ond bryd hynny dyma newyn yn taro'r Aifft i gyd a gwlad Canaan. Roedd ein pobl ni'n dioddef yn ofnadwy am fod dim bwyd yn unman.
Acts WelBeibl 7:12  Clywodd Jacob fod gwenith ar werth yn yr Aifft, ac anfonodd ei feibion (sef ein cyndeidiau ni) yno i brynu bwyd.
Acts WelBeibl 7:13  Pan aethon nhw yno yr ail waith, dwedodd Joseff pwy oedd wrth ei frodyr. Dyna pryd ddaeth y Pharo i wybod am deulu Joseff.
Acts WelBeibl 7:14  Felly dyma Joseff yn cael Jacob a'r teulu cyfan (saith deg pump o bobl i gyd)
Acts WelBeibl 7:15  i fynd i lawr i'r Aifft. Yn yr Aifft y buodd Jacob farw – a'i feibion, ein cyndeidiau ni.
Acts WelBeibl 7:16  Ond cafodd eu cyrff eu cario yn ôl i Sechem a'u claddu yn y tir oedd Abraham wedi'i brynu gan feibion Hamor.
Acts WelBeibl 7:17  “Wrth i'r amser agosáu i Dduw wneud yr hyn oedd wedi'i addo i Abraham, roedd nifer ein pobl ni yn yr Aifft wedi tyfu'n fawr.
Acts WelBeibl 7:18  Erbyn hynny, roedd brenin newydd yn yr Aifft – un oedd yn gwybod dim byd am Joseff.
Acts WelBeibl 7:19  Buodd hwnnw'n gas iawn i'n pobl ni, a'u gorfodi nhw i adael i'w babis newydd eu geni farw.
Acts WelBeibl 7:20  “Dyna pryd cafodd Moses ei eni. Doedd hwn ddim yn blentyn cyffredin! Roedd ei rieni wedi'i fagu o'r golwg yn eu cartref am dri mis.
Acts WelBeibl 7:21  Ond pan gafodd ei adael allan, dyma ferch y Pharo yn dod o hyd iddo, ac yn ei gymryd a'i fagu fel petai'n blentyn iddi hi ei hun.
Acts WelBeibl 7:22  Felly cafodd Moses yr addysg orau yn yr Aifft; roedd yn arweinydd galluog iawn, ac yn llwyddo beth bynnag roedd e'n wneud.
Acts WelBeibl 7:23  “Pan oedd yn bedwar deg mlwydd oed, penderfynodd fynd i ymweld â'i bobl ei hun, sef pobl Israel.
Acts WelBeibl 7:24  Dyna pryd y gwelodd un ohonyn nhw yn cael ei gam-drin gan ryw Eifftiwr. Ymyrrodd Moses i'w amddiffyn a lladd yr Eifftiwr.
Acts WelBeibl 7:25  Roedd yn rhyw obeithio y byddai ei bobl yn dod i weld fod Duw wedi'i anfon i'w hachub nhw, ond wnaethon nhw ddim.
Acts WelBeibl 7:26  Y diwrnod wedyn gwelodd ddau o bobl Israel yn ymladd â'i gilydd. Ymyrrodd eto, a cheisio eu cael i gymodi. ‘Dych chi'n frodyr i'ch gilydd ffrindiau! Pam dych chi'n gwneud hyn?’
Acts WelBeibl 7:27  “Ond dyma'r dyn oedd ar fai yn gwthio Moses o'r ffordd ac yn dweud wrtho, ‘Pwy sydd wedi rhoi'r hawl i ti ein rheoli ni a'n barnu ni?
Acts WelBeibl 7:28  Wyt ti am fy lladd i fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr yna ddoe?’
Acts WelBeibl 7:29  Clywed hynny wnaeth i Moses ddianc o'r wlad. Aeth i Midian. Er ei fod yn ddieithryn yno, setlodd i lawr a chafodd dau fab eu geni iddo.
Acts WelBeibl 7:30  “Bedwar deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn yr anialwch wrth ymyl Mynydd Sinai, dyma angel yn ymddangos i Moses yng nghanol fflamau perth oedd ar dân.
Acts WelBeibl 7:31  Doedd ganddo ddim syniad beth oedd yn ei weld. Wrth gamu ymlaen i weld yn agosach, clywodd lais yr Arglwydd yn dweud,
Acts WelBeibl 7:32  ‘Duw dy gyndeidiau di ydw i, Duw Abraham, Isaac a Jacob.’ Erbyn hyn roedd Moses yn crynu drwyddo gan ofn, a ddim yn meiddio edrych ar yr hyn oedd o'i flaen.
Acts WelBeibl 7:33  Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, ‘Tynna dy sandalau; rwyt ti'n sefyll ar dir cysegredig.
Acts WelBeibl 7:34  Dw i wedi gweld y ffordd mae fy mhobl i'n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi'u clywed nhw'n griddfan a dw i'n mynd i'w rhyddhau nhw. Tyrd, felly; dw i'n mynd i dy anfon di yn ôl i'r Aifft.’
Acts WelBeibl 7:35  “Moses oedd yr union ddyn oedden nhw wedi'i wrthod pan wnaethon nhw ddweud, ‘Pwy sydd wedi rhoi'r hawl i ti ein rheoli ni a'n barnu ni?’ Drwy gyfrwng yr angel a welodd yn y berth cafodd ei anfon gan Dduw ei hun i'w harwain nhw a'u hachub nhw!
Acts WelBeibl 7:36  Drwy wneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gydag e, arweiniodd y bobl allan o'r Aifft, drwy'r Môr Coch ac yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd.
Acts WelBeibl 7:37  “Moses ddwedodd wrth bobl Israel, ‘Bydd Duw yn codi proffwyd arall fel fi o'ch plith chi.’
Acts WelBeibl 7:38  Roedd yn arwain y bobl pan oedden nhw gyda'i gilydd yn yr anialwch. Gyda Moses y siaradodd yr angel ar Fynydd Sinai. Derbyniodd neges fywiol i'w phasio ymlaen i ni.
Acts WelBeibl 7:39  Ac eto gwrthododd ein hynafiaid wrando arno! Roedden nhw eisiau mynd yn ôl i'r Aifft!
Acts WelBeibl 7:40  Dyma nhw'n dweud wrth Aaron, ‘Gwna dduwiau i ni i'n harwain ni. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i'r Moses hwnnw wnaeth ein harwain ni allan o'r Aifft.’
Acts WelBeibl 7:41  Felly dyma nhw'n gwneud eilun ar ffurf llo, aberthu iddo a chynnal parti i anrhydeddu rhywbeth roedden nhw wedi'i lunio â'i dwylo eu hunain!
Acts WelBeibl 7:42  Trodd Duw ei gefn arnyn nhw a gadael iddyn nhw fwrw ymlaen i addoli'r sêr a'r planedau yn yr awyr. Dyma'n union beth sydd wedi'i ysgrifennu yn llyfr y proffwydi: ‘Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, O bobl Israel?
Acts WelBeibl 7:43  Na! Mae'n well gynnoch chi anrhydeddu allor Molech a Reffan, duw'r sêr, a'r eilunod wnaethoch chi i'w haddoli nhw. Felly dw i'n mynd i'ch anfon chi'n gaethion ymhell i ffwrdd i Babilon.’
Acts WelBeibl 7:44  “Roedd ‛pabell y dystiolaeth‛ gyda'n hynafiaid ni yn yr anialwch. Roedd wedi cael ei gwneud yn union yn ôl y patrwm oedd Duw wedi'i ddangos i Moses.
Acts WelBeibl 7:45  Pan oedd Josua yn arwain y bobl i gymryd y tir oddi ar y cenhedloedd gafodd eu bwrw allan o'r wlad yma gan Dduw, dyma nhw'n mynd â'r babell gyda nhw. Ac roedd hi'n dal gyda nhw hyd cyfnod y Brenin Dafydd.
Acts WelBeibl 7:46  “Roedd Dafydd wedi profi ffafr Duw, a gofynnodd am y fraint o gael codi adeilad parhaol i Dduw Jacob.
Acts WelBeibl 7:48  Ond wedyn, dydy'r Duw Goruchaf ddim yn byw mewn adeiladau wedi'u codi gan ddynion! Yn union fel mae'r proffwyd yn dweud:
Acts WelBeibl 7:49  ‘Y nefoedd ydy fy ngorsedd i, a'r ddaear yn stôl i mi orffwys fy nhraed arni. Allech chi adeiladu teml fel yna i mi? meddai'r Arglwydd. Ble dych chi'n mynd i'w roi i mi i orffwys?
Acts WelBeibl 7:51  “Dych chi mor benstiff! Dych chi fel y paganiaid – yn ystyfnig a byddar! Dych chi'n union yr un fath â'ch hynafiaid – byth yn gwrando ar yr Ysbryd Glân!
Acts WelBeibl 7:52  Fuodd yna unrhyw broffwyd gafodd mo'i erlid gan eich cyndeidiau? Nhw lofruddiodd hyd yn oed y rhai broffwydodd fod yr Un Cyfiawn yn dod – sef y Meseia. A dych chi nawr wedi'i fradychu a'i ladd e!
Acts WelBeibl 7:53  Dych chi wedi gwrthod ufuddhau i Gyfraith Duw, a chithau wedi'i derbyn hi gan angylion!”
Acts WelBeibl 7:54  Roedd yr hyn ddwedodd Steffan wedi gwneud yr arweinwyr Iddewig yn wyllt gandryll. Dyma nhw'n troi'n fygythiol,
Acts WelBeibl 7:55  ond roedd Steffan yn llawn o'r Ysbryd Glân, ac wrth edrych i fyny gwelodd ogoniant Duw, a Iesu yn sefyll ar ei ochr dde.
Acts WelBeibl 7:56  “Edrychwch!” meddai, “dw i'n gweld y nefoedd ar agor! Mae Mab y Dyn wedi'i anrhydeddu – mae'n sefyll ar ochr dde Duw.”
Acts WelBeibl 7:57  Dyma nhw'n gwrthod gwrando ar ddim mwy, a chan weiddi nerth eu pennau dyma nhw'n rhuthro ymlaen i ymosod arno.
Acts WelBeibl 7:58  Ar ôl ei lusgo allan o'r ddinas dyma nhw'n dechrau taflu cerrig ato i'w labyddio i farwolaeth. Roedd y rhai oedd wedi tystio yn ei erbyn wedi tynnu eu mentyll, a'u rhoi yng ngofal dyn ifanc o'r enw Saul.
Acts WelBeibl 7:59  Wrth iddyn nhw daflu cerrig ato i'w ladd, roedd Steffan yn gweddïo, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd i.”
Acts WelBeibl 7:60  Yna syrthiodd ar ei liniau a gweiddi'n uchel, “Arglwydd, paid dal nhw'n gyfrifol am y pechod yma.” Ac ar ôl dweud hynny, buodd farw.
Chapter 8
Acts WelBeibl 8:1  Roedd Saul yno, yn cytuno'n llwyr y dylai Steffan farw. O'r diwrnod hwnnw ymlaen dechreuodd yr eglwys yn Jerwsalem gael ei herlid yn ffyrnig, a dyma pawb ond yr apostolion yn gwasgaru drwy Jwdea a Samaria.
Acts WelBeibl 8:2  Cafodd Steffan ei gladdu gan ddynion duwiol fu'n galaru'n fawr ar ei ôl.
Acts WelBeibl 8:3  Ond dyma Saul yn mynd ati i ddinistrio'r eglwys. Roedd yn mynd o un tŷ i'r llall ac yn arestio dynion a merched fel ei gilydd a'u rhoi yn y carchar.
Acts WelBeibl 8:4  Roedd y credinwyr oedd wedi'u gwasgaru yn dweud wrth bobl beth oedd y newyddion da ble bynnag oedden nhw'n mynd.
Acts WelBeibl 8:5  Er enghraifft, aeth Philip i dref yn Samaria a chyhoeddi'r neges am y Meseia yno.
Acts WelBeibl 8:6  Roedd tyrfaoedd o bobl yn dod i wrando ar beth roedd Philip yn ei ddweud, wrth weld yr arwyddion gwyrthiol roedd e'n eu gwneud.
Acts WelBeibl 8:7  Roedd ysbrydion drwg yn dod allan o lawer o bobl gan sgrechian, ac roedd llawer o bobl oedd wedi'u parlysu neu'n gloff yn cael iachâd.
Acts WelBeibl 8:9  Yn y dre honno roedd dewin o'r enw Simon wedi bod yn ymarfer ei swynion ers blynyddoedd, ac yn gwneud pethau oedd yn rhyfeddu pawb yn Samaria. Roedd yn honni ei fod yn rhywun pwysig dros ben.
Acts WelBeibl 8:10  Roedd pawb, o'r ifancaf i'r hynaf, yn sôn amdano ac yn dweud fod nerth y duw roedden nhw'n ei alw ‛Yr Un Pwerus‛ ar waith ynddo.
Acts WelBeibl 8:11  Roedd ganddo lawer o ddilynwyr, a phobl wedi cael eu syfrdanu ers blynyddoedd lawer gan ei ddewiniaeth.
Acts WelBeibl 8:12  Ond nawr, dyma'r bobl yn dod i gredu'r newyddion da oedd Philip yn ei gyhoeddi am Dduw yn teyrnasu ac am enw Iesu y Meseia. Cafodd nifer fawr o ddynion a merched eu bedyddio.
Acts WelBeibl 8:13  Yna credodd Simon ei hun a chael ei fedyddio. Ac roedd yn dilyn Philip i bobman, wedi'i syfrdanu'n llwyr gan y gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos mor glir fod Duw gyda Philip.
Acts WelBeibl 8:14  Pan glywodd yr apostolion yn Jerwsalem fod pobl yn Samaria wedi credu'r neges am Dduw, dyma nhw'n anfon Pedr ac Ioan yno.
Acts WelBeibl 8:15  Yn syth ar ôl cyrraedd, dyma nhw'n gweddïo dros y credinwyr newydd yma – ar iddyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân,
Acts WelBeibl 8:16  achos doedd yr Ysbryd Glân ddim wedi disgyn arnyn nhw eto. Y cwbl oedd wedi digwydd oedd eu bod wedi cael eu bedyddio fel arwydd eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd Iesu.
Acts WelBeibl 8:17  Pan osododd Pedr ac Ioan eu dwylo arnyn nhw, dyma nhw'n derbyn yr Ysbryd Glân.
Acts WelBeibl 8:18  Pan welodd Simon fod yr Ysbryd Glân yn dod pan oedd yr apostolion yn gosod eu dwylo ar bobl, cynigodd dalu iddyn nhw am y gallu i wneud yr un peth.
Acts WelBeibl 8:19  “Rhowch y gallu yma i minnau hefyd, er mwyn i bawb fydda i yn gosod fy nwylo arnyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân,” meddai.
Acts WelBeibl 8:20  Ond dyma Pedr yn ei ateb, “Gad i dy arian bydru gyda ti! Rhag dy gywilydd di am feddwl y gelli di brynu rhodd Duw!
Acts WelBeibl 8:21  Does gen ti ddim rhan yn y gwaith – dydy dy berthynas di gyda Duw ddim yn iawn.
Acts WelBeibl 8:22  Tro dy gefn ar y drygioni yma a gweddïa ar yr Arglwydd. Falle y gwnaiff faddau i ti am feddwl y fath beth.
Acts WelBeibl 8:23  Rwyt ti'n ddyn chwerw, ac mae pechod wedi dy ddal di yn ei grafangau.”
Acts WelBeibl 8:24  Meddai Simon, “Gweddïa ar yr Arglwydd drosto i, fel na fydd beth rwyt ti'n ei ddweud yn digwydd i mi.”
Acts WelBeibl 8:25  Ar ôl tystiolaethu a chyhoeddi neges Duw yn Samaria, dyma Pedr ac Ioan yn mynd yn ôl i Jerwsalem. Ond ar eu ffordd dyma nhw'n galw yn nifer o bentrefi'r Samariaid i gyhoeddi'r newyddion da.
Acts WelBeibl 8:26  Roedd Philip wedi cael neges gan angel yr Arglwydd yn dweud wrtho: “Dos i lawr i'r de i ffordd yr anialwch, sef y ffordd o Jerwsalem i Gasa.”
Acts WelBeibl 8:27  Aeth Philip ar unwaith, a phan oedd ar ei ffordd dyma fe'n dod ar draws eunuch oedd yn swyddog pwysig yn llywodraeth y Candace, sef Brenhines Ethiopia – fe oedd pennaeth ei thrysorlys. Roedd wedi bod yn Jerwsalem yn addoli Duw,
Acts WelBeibl 8:28  ac roedd yn darllen llyfr proffwydoliaeth Eseia wrth deithio yn ei gerbyd ar ei ffordd adre.
Acts WelBeibl 8:29  Dyma'r Ysbryd Glân yn dweud wrth Philip, “Dos a rheda wrth ymyl y cerbyd acw.”
Acts WelBeibl 8:30  Felly dyma Philip yn rhedeg at y cerbyd, ac roedd yn clywed y dyn yn darllen o lyfr proffwydoliaeth Eseia. Felly gofynnodd Philip iddo, “Wyt ti'n deall beth rwyt ti'n ei ddarllen?”
Acts WelBeibl 8:31  “Sut alla i ddeall heb i rywun ei esbonio i mi?” meddai'r dyn. Felly gofynnodd i Philip fynd i eistedd yn y cerbyd gydag e.
Acts WelBeibl 8:32  Dyma'r adran o'r ysgrifau sanctaidd roedd yr eunuch yn ei ddarllen: “Cafodd ei arwain fel dafad i'r lladd-dy. Yn union fel mae oen yn dawel pan mae'n cael ei gneifio, wnaeth e ddweud dim.
Acts WelBeibl 8:33  Cafodd ei gam-drin heb achos llys teg. Sut mae'n bosib sôn am ddisgynyddion iddo? Cafodd ei dorri i ffwrdd o dir y byw.”
Acts WelBeibl 8:34  A dyma'r eunuch yn gofyn i Philip, “Dwed wrtho i, ydy'r proffwyd yn sôn amdano'i hun neu am rywun arall?”
Acts WelBeibl 8:35  Felly dyma Philip yn dechrau gyda'r rhan honno o'r ysgrifau sanctaidd, ac yn mynd ati i ddweud y newyddion da am Iesu wrtho.
Acts WelBeibl 8:36  Wrth fynd yn eu blaenau, dyma nhw'n dod at le lle roedd dŵr. “Edrych,” meddai'r eunuch, “mae dŵr yn y fan yma. Oes yna unrhyw reswm pam ddylwn i ddim cael fy medyddio?”
Acts WelBeibl 8:38  Rhoddodd orchymyn i'r cerbyd stopio. Wedyn aeth gyda Philip i lawr i'r dŵr, a dyma Philip yn ei fedyddio yn y fan a'r lle.
Acts WelBeibl 8:39  Wrth iddyn nhw ddod yn ôl allan o'r dŵr, dyma Ysbryd yr Arglwydd yn cipio Philip i ffwrdd. Wnaeth yr eunuch mo'i weld ar ôl hynny, ond aeth yn ei flaen ar ei daith yn llawen.
Acts WelBeibl 8:40  Cafodd Philip ei hun yn Asotus! Yna aeth yn ei flaen i Cesarea gan gyhoeddi'r newyddion da ym mhob un o'r trefi ar y ffordd.
Chapter 9
Acts WelBeibl 9:1  Yn y cyfamser, roedd Saul yn dal i fynd o gwmpas yn bygwth lladd dilynwyr yr Arglwydd. Roedd wedi mynd at yr Archoffeiriad
Acts WelBeibl 9:2  i ofyn am lythyrau i synagogau Damascus yn rhoi'r hawl iddo arestio unrhyw un oedd yn dilyn y Ffordd. Roedd ganddo awdurdod i gadw dynion a merched yn y ddalfa a mynd â nhw'n gaeth i Jerwsalem.
Acts WelBeibl 9:3  Roedd yn agos at Damascus pan fflachiodd golau disglair o'r nefoedd o'i gwmpas.
Acts WelBeibl 9:4  Syrthiodd ar lawr a chlywed llais yn dweud wrtho: “Saul? Saul? Pam wyt ti'n fy erlid i?”
Acts WelBeibl 9:5  “Pwy wyt ti, syr?” gofynnodd Saul. “Iesu ydw i,” atebodd, “yr un rwyt ti'n ei erlid.
Acts WelBeibl 9:6  Nawr cod ar dy draed a dos i mewn i'r ddinas. Cei di wybod yno beth mae'n rhaid i ti ei wneud.”
Acts WelBeibl 9:7  Roedd y rhai oedd yn teithio gydag e'n sefyll yn fud; roedden nhw'n clywed y llais ond doedden nhw'n gweld neb.
Acts WelBeibl 9:8  Cododd Saul ar ei draed, ond pan agorodd ei lygaid, doedd e ddim yn gallu gweld. Felly dyma nhw'n gafael yn ei law ac yn ei arwain i mewn i dre Damascus.
Acts WelBeibl 9:9  Arhosodd yno am dri diwrnod. Roedd yn ddall ac yn gwrthod bwyta nac yfed dim.
Acts WelBeibl 9:10  Yn byw yn Damascus roedd disgybl o'r enw Ananias oedd wedi cael gweledigaeth o'r Arglwydd yn galw arno – “Ananias!” “Ie, Arglwydd,” atebodd.
Acts WelBeibl 9:11  A dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, “Dos i dŷ Jwdas yn Stryd Union a gofyn am ddyn o Tarsus o'r enw Saul. Mae yno'n gweddïo.
Acts WelBeibl 9:12  Dw i wedi dangos iddo y bydd dyn o'r enw Ananias yn mynd ato a gosod ei ddwylo arno iddo gael ei olwg yn ôl.”
Acts WelBeibl 9:13  “Ond Arglwydd,” meddai Ananias, “dw i wedi clywed llawer o hanesion am y dyn yma. Mae wedi gwneud pethau ofnadwy i dy bobl di yn Jerwsalem.
Acts WelBeibl 9:14  Mae'r prif offeiriaid wedi rhoi awdurdod iddo ddod yma i arestio pawb sy'n credu ynot ti.”
Acts WelBeibl 9:15  Ond meddai'r Arglwydd wrth Ananias, “Dos! Dyma'r dyn dw i wedi'i ddewis i ddweud amdana i wrth bobl o genhedloedd eraill a'u brenhinoedd yn ogystal ag wrth bobl Israel.
Acts WelBeibl 9:16  Bydda i'n dangos iddo y bydd e'i hun yn dioddef llawer am fy nilyn i.”
Acts WelBeibl 9:17  Felly dyma Ananias yn mynd. Aeth i mewn i'r tŷ, gosod ei ddwylo ar Saul a dweud wrtho, “Saul, frawd. Mae'r Arglwydd Iesu, wnaeth ymddangos i ti ar dy ffordd yma, wedi fy anfon i atat ti er mwyn i ti gael dy olwg yn ôl, a chei dy lenwi â'r Ysbryd Glân hefyd.”
Acts WelBeibl 9:18  Yr eiliad honno dyma rywbeth tebyg i gen yn syrthio oddi ar lygaid Saul, ac roedd yn gallu gweld eto. Cododd ar ei draed a chafodd ei fedyddio.
Acts WelBeibl 9:19  Wedyn cymerodd rywbeth i'w fwyta, a chael ei gryfder yn ôl. Arhosodd Saul gyda'r disgyblion yn Damascus am beth amser.
Acts WelBeibl 9:20  Aeth ati ar unwaith i bregethu yn y synagogau mai Iesu ydy Mab Duw.
Acts WelBeibl 9:21  Roedd pawb a'i clywodd wedi'u syfrdanu. “Onid dyma'r dyn wnaeth achosi'r fath drafferth i'r rhai yn Jerwsalem sy'n dilyn yr Iesu yna? Roedden ni'n meddwl ei fod wedi dod yma ar ran y prif offeiriaid i arestio'r bobl hynny a'u rhoi yn y carchar.”
Acts WelBeibl 9:22  Roedd pregethu Saul yn mynd yn gryfach ac yn gryfach bob dydd, a doedd yr Iddewon yn Damascus ddim yn gallu dadlau yn ei erbyn wrth iddo brofi mai Iesu ydy'r Meseia.
Acts WelBeibl 9:23  Felly ar ôl peth amser dyma'r arweinwyr Iddewig yn cynllwynio i'w ladd.
Acts WelBeibl 9:24  Ond clywodd Saul am eu bwriad, a'r ffaith eu bod yn gwylio giatiau'r ddinas yn ofalus ddydd a nos er mwyn ei ddal a'i lofruddio.
Acts WelBeibl 9:25  Felly dyma rhai o'r credinwyr yn ei ollwng i lawr mewn basged drwy agoriad yn wal y ddinas.
Acts WelBeibl 9:26  Pan gyrhaeddodd Saul Jerwsalem, ceisiodd fynd at y credinwyr yno, ond roedd ganddyn nhw ei ofn. Doedden nhw ddim yn credu ei fod wedi dod yn Gristion go iawn.
Acts WelBeibl 9:27  Ond dyma Barnabas yn ei dderbyn, ac yn mynd ag e at yr apostolion. Dwedodd wrthyn nhw sut gwelodd Saul yr Arglwydd pan oedd yn teithio i Damascus, a beth oedd yr Arglwydd wedi'i ddweud wrtho. Hefyd dwedodd ei fod wedi pregethu am Iesu yn gwbl ddi-ofn pan oedd yn Damascus.
Acts WelBeibl 9:28  Felly cafodd ei dderbyn gan yr apostolion, ac roedd yn mynd o gwmpas Jerwsalem yn gwbl agored yn dweud wrth bawb am yr Arglwydd Iesu.
Acts WelBeibl 9:29  Buodd yn siarad ac yn dadlau gyda rhyw Iddewon Groegaidd, ond y canlyniad oedd iddyn nhw benderfynu ei ladd.
Acts WelBeibl 9:30  Pan glywodd y credinwyr am y peth, dyma nhw'n mynd â Saul i Cesarea, ac yna ei anfon yn ei flaen i Tarsus lle roedd ei gartref.
Acts WelBeibl 9:31  Ar ôl hyn cafodd yr eglwys yn Jwdea, Galilea a Samaria gyfnod o dawelwch a llwyddiant – roedd ffydd y credinwyr yn cryfhau ac roedd eu niferoedd yn tyfu hefyd. Roedden nhw'n byw mewn ffordd oedd yn dangos eu bod yn ofni'r Arglwydd, a'r Ysbryd Glân yn eu hannog yn eu blaenau.
Acts WelBeibl 9:32  Roedd Pedr yn teithio o gwmpas y wlad, ac aeth i ymweld â'r Cristnogion oedd yn Lyda.
Acts WelBeibl 9:33  Yno daeth ar draws dyn o'r enw Aeneas, oedd wedi'i barlysu ac wedi bod yn gaeth i'w wely ers wyth mlynedd.
Acts WelBeibl 9:34  Dyma Pedr yn dweud wrtho, “Aeneas, mae Iesu y Meseia am dy iacháu di. Cod ar dy draed a phlyga dy fatras.” Cafodd Aeneas ei iacháu ar unwaith.
Acts WelBeibl 9:35  Dyma pawb oedd yn byw yn Lyda a Sharon yn troi at yr Arglwydd pan welon nhw Aeneas yn cerdded.
Acts WelBeibl 9:36  Yna yn Jopa roedd disgybl o'r enw Tabitha (Dorcas fyddai ei henw yn yr iaith Roeg). Roedd hi bob amser wedi gwneud daioni a helpu pobl dlawd,
Acts WelBeibl 9:37  ond tua'r adeg yna aeth yn glaf, a buodd farw. Cafodd ei chorff ei olchi a'i osod i orwedd mewn ystafell i fyny'r grisiau.
Acts WelBeibl 9:38  Pan glywodd y credinwyr fod Pedr yn Lyda (sydd ddim yn bell iawn o Jopa), dyma nhw'n anfon dau ddyn ato i ofyn iddo, “Plîs, tyrd ar unwaith!”
Acts WelBeibl 9:39  Aeth Pedr gyda nhw, ac wedi iddo gyrraedd dyma fynd ag e i fyny'r grisiau i'r ystafell. Roedd yr ystafell yn llawn o wragedd gweddwon yn eu dagrau yn dangos iddo'r mentyll a'r dillad eraill roedd Dorcas wedi'u gwneud iddyn nhw pan oedd hi'n dal yn fyw.
Acts WelBeibl 9:40  Dyma Pedr yn anfon pawb allan o'r ystafell, ac yna aeth ar ei liniau a gweddïo. Yna trodd at gorff y wraig oedd wedi marw, a dweud wrthi, “Tabitha, cod ar dy draed.” Agorodd ei llygaid! A phan welodd Pedr eisteddodd i fyny.
Acts WelBeibl 9:41  Gafaelodd Pedr yn ei llaw a'i helpu i sefyll ar ei thraed. Wedyn galwodd Pedr y credinwyr a'r gwragedd gweddwon yn ôl i mewn a dangos iddyn nhw fod Dorcas yn fyw.
Acts WelBeibl 9:42  Dyma'r newyddion yn mynd ar led drwy dre Jopa fel tân gwyllt, a daeth llawer iawn o bobl i gredu yn yr Arglwydd.
Acts WelBeibl 9:43  Arhosodd Pedr yno am gryn amser, yn lletya yn nhŷ gweithiwr lledr o'r enw Simon.
Chapter 10
Acts WelBeibl 10:1  Roedd dyn o'r enw Cornelius yn byw yn Cesarea, oedd yn swyddog milwrol yn y Gatrawd Eidalaidd.
Acts WelBeibl 10:2  Roedd e a'i deulu yn bobl grefyddol a duwiol; roedd yn rhoi'n hael i'r Iddewon oedd mewn angen ac yn ddyn oedd yn gweddïo ar Dduw yn rheolaidd.
Acts WelBeibl 10:3  Un diwrnod, tua tri o'r gloch y p'nawn, cafodd weledigaeth. Gwelodd un o angylion Duw yn dod ato ac yn galw arno, “Cornelius!”
Acts WelBeibl 10:4  Roedd Cornelius yn syllu arno mewn dychryn. “Beth, Arglwydd?” meddai. Atebodd yr angel, “Mae dy weddïau a'th roddion i'r tlodion wedi cael eu derbyn fel offrwm gan Dduw.
Acts WelBeibl 10:5  Anfon ddynion i Jopa i nôl dyn o'r enw Simon Pedr.
Acts WelBeibl 10:6  Mae'n aros yn nhŷ Simon y gweithiwr lledr ar lan y môr.”
Acts WelBeibl 10:7  Pan aeth yr angel i ffwrdd, dyma Cornelius yn galw dau o'i weision a milwr duwiol oedd yn un o'i warchodwyr personol.
Acts WelBeibl 10:8  Dwedodd wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd, a'u hanfon i Jopa.
Acts WelBeibl 10:9  Tua chanol dydd y diwrnod wedyn pan oedd gweision Cornelius bron â chyrraedd Jopa, roedd Pedr wedi mynd i fyny i ben y to i weddïo.
Acts WelBeibl 10:10  Dechreuodd deimlo ei fod eisiau bwyd. Tra oedd cinio yn cael ei baratoi cafodd weledigaeth.
Acts WelBeibl 10:11  Gwelodd yr awyr yn agor a rhywbeth tebyg i gynfas fawr yn cael ei gollwng i lawr i'r ddaear wrth ei phedair cornel.
Acts WelBeibl 10:12  Y tu mewn i'r gynfas roedd pob math o anifeiliaid, ymlusgiaid ac adar.
Acts WelBeibl 10:13  A dyma lais yn dweud wrtho, “Cod Pedr, lladd beth wyt ti eisiau, a'i fwyta.”
Acts WelBeibl 10:14  “Ti ddim o ddifri, Arglwydd!” meddai Pedr. “Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy'n cael ei gyfri'n aflan neu'n anghywir i'w fwyta.”
Acts WelBeibl 10:15  Ond meddai'r llais, “Os ydy Duw wedi dweud fod rhywbeth yn iawn i'w fwyta, paid ti â dweud fel arall!”
Acts WelBeibl 10:16  Digwyddodd yn union yr un peth dair gwaith! Yna'n sydyn aeth y gynfas yn ôl i fyny i'r awyr.
Acts WelBeibl 10:17  Roedd Pedr yn methu'n lân â deall beth oedd ystyr y weledigaeth. Yna tra oedd yn meddwl am y peth cyrhaeddodd y dynion roedd Cornelius wedi'u hanfon. Dyma nhw'n sefyll y tu allan i'r giât,
Acts WelBeibl 10:19  Yn y cyfamser, tra oedd Pedr yn pendroni am y weledigaeth gafodd, dwedodd yr Ysbryd Glân wrtho, “Simon, mae tri dyn yma'n edrych amdanat ti,
Acts WelBeibl 10:20  felly dos i lawr atyn nhw. Dos gyda nhw, am mai fi sydd wedi'u hanfon nhw. Paid petruso.”
Acts WelBeibl 10:21  Felly dyma Pedr yn mynd i lawr y grisiau a dweud wrth y dynion, “Fi dych chi'n edrych amdano. Pam dych chi yma?”
Acts WelBeibl 10:22  Atebodd y dynion, “Ein meistr ni, Cornelius, sy'n swyddog yn y fyddin sydd wedi'n hanfon ni yma. Mae e'n ddyn da a duwiol sy'n cael ei barchu'n fawr gan yr Iddewon i gyd. Dwedodd angel wrtho am dy wahodd i'w dŷ iddo gael clywed beth sydd gen ti i'w ddweud.”
Acts WelBeibl 10:23  Felly dyma Pedr yn croesawu'r dynion i mewn i'r tŷ i aros dros nos. Y diwrnod wedyn dyma Pedr yn mynd gyda nhw, ac aeth rhai o gredinwyr Jopa gydag e hefyd.
Acts WelBeibl 10:24  Dyma nhw'n cyrraedd Cesarea y diwrnod ar ôl hynny. Roedd Cornelius yn disgwyl amdanyn nhw, ac wedi galw'i berthnasau a'i ffrindiau draw.
Acts WelBeibl 10:25  Pan ddaeth Pedr i mewn drwy'r drws, dyma Cornelius yn mynd ato a syrthio i lawr o'i flaen fel petai'n ei addoli.
Acts WelBeibl 10:26  Ond dyma Pedr yn gwneud iddo godi: “Saf ar dy draed,” meddai wrtho, “dyn cyffredin ydw i fel ti.”
Acts WelBeibl 10:27  Roedd Pedr wrthi'n sgwrsio gyda Cornelius wrth fynd i mewn, a gwelodd fod criw mawr o bobl wedi dod i wrando arno.
Acts WelBeibl 10:28  A dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Dych chi'n gwybod fod ein Cyfraith ni'r Iddewon ddim yn caniatáu i ni gymysgu gyda phobl o genhedloedd eraill. Ond mae Duw wedi dangos i mi fod gen i ddim hawl i ystyried unrhyw un yn aflan.
Acts WelBeibl 10:29  Felly pan anfonoch chi amdana i, doedd dim dadl am y peth – des i ar unwaith. Ga i ofyn felly, pam wnaethoch chi anfon amdana i?”
Acts WelBeibl 10:30  Atebodd Cornelius: “Bedwar diwrnod yn ôl tua'r adeg yma, sef tri o'r gloch y p'nawn, roeddwn i yn y tŷ yn gweddïo. Yn sydyn roedd dyn yn sefyll o mlaen i a'i ddillad yn disgleirio'n llachar.
Acts WelBeibl 10:31  Dwedodd wrtho i ‘Cornelius, mae Duw wedi clywed dy weddi a derbyn dy roddion i'r tlodion.
Acts WelBeibl 10:32  Anfon rywun i Jopa i nôl dyn o'r enw Simon Pedr. Mae'n aros yng nghartref Simon, gweithiwr lledr sy'n byw ar lan y môr.’
Acts WelBeibl 10:33  Felly dyma fi'n anfon amdanat ti ar unwaith. Dw i'n ddiolchgar i ti am ddod. Felly dŷn ni yma i gyd i wrando ar y cwbl mae'r Arglwydd Dduw am i ti ei ddweud wrthon ni.”
Acts WelBeibl 10:34  Felly dyma Pedr yn dechrau eu hannerch: “Dw i'n deall yn iawn, bellach, y dywediad hwnnw fod Duw ddim yn dangos ffafriaeth!
Acts WelBeibl 10:35  Mae'n derbyn pobl o bob gwlad sy'n ei addoli ac yn gwneud beth sy'n iawn.
Acts WelBeibl 10:36  Anfonodd Duw ei neges at bobl Israel, a dweud y newyddion da fod bywyd llawn i'w gael drwy Iesu y Meseia, sy'n Arglwydd ar bopeth.
Acts WelBeibl 10:37  Dych chi'n gwybod, mae'n siŵr, beth fuodd yn digwydd yn Jwdea. Dechreuodd y cwbl yn Galilea ar ôl i Ioan ddechrau galw pobl i gael eu bedyddio.
Acts WelBeibl 10:38  Roedd Duw wedi eneinio Iesu o Nasareth â'r Ysbryd Glân ac â nerth rhyfeddol. Roedd yn mynd o gwmpas yn gwneud daioni ac yn iacháu pawb oedd yn dioddef am fod y diafol yn eu poeni nhw. Roedd Duw gydag e!
Acts WelBeibl 10:39  Dŷn ni'n llygad-dystion i'r cwbl! Gwelon ni bopeth wnaeth Iesu yn Jerwsalem a gweddill Israel. Cafodd ei ladd drwy gael ei hoelio ar bren ganddyn nhw,
Acts WelBeibl 10:40  ond ddeuddydd yn ddiweddarach dyma Duw yn dod ag e'n ôl yn fyw! Gwelodd pobl e'n fyw!
Acts WelBeibl 10:41  (Wnaeth pawb mo'i weld, dim ond y rhai ohonon ni oedd Duw wedi'u dewis i fod yn llygad-dystion.) Buon ni'n bwyta ac yn yfed gydag e ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw!
Acts WelBeibl 10:42  Rhoddodd orchymyn i ni gyhoeddi'r newyddion da ym mhobman, a dweud mai fe ydy'r un mae Duw wedi'i benodi i farnu pawb – pawb sy'n fyw a phawb sydd wedi marw.
Acts WelBeibl 10:43  Fe ydy'r un mae'r proffwydi i gyd yn sôn amdano, ac yn dweud y bydd pechodau pawb sy'n credu ynddo yn cael eu maddau.”
Acts WelBeibl 10:44  Tra oedd Pedr ar ganol dweud hyn i gyd, dyma'r Ysbryd Glân yn disgyn ar bawb oedd yn gwrando.
Acts WelBeibl 10:45  Roedd y credinwyr Iddewig oedd gyda Pedr wedi'u syfrdanu'n llwyr fod yr Ysbryd Glân wedi cael ei dywallt ar bobl o genhedloedd eraill!
Acts WelBeibl 10:46  Ond dyna oedd wedi digwydd – roedden nhw'n eu clywed nhw'n siarad mewn ieithoedd dieithr ac yn moli Duw. A dyma Pedr yn dweud,
Acts WelBeibl 10:47  “Oes unrhyw un yn gallu gwrthwynebu bedyddio'r bobl yma â dŵr? Maen nhw wedi derbyn yr Ysbryd Glân yn union yr un fath â ni!”
Acts WelBeibl 10:48  Felly dyma Pedr yn dweud eu bod nhw i gael eu bedyddio fel arwydd o ddod i berthynas â Iesu y Meseia. Wedyn dyma nhw'n gofyn i Pedr aros gyda nhw am beth amser.
Chapter 11
Acts WelBeibl 11:1  Clywodd yr apostolion a'r credinwyr yn Jwdea fod pobl o genhedloedd eraill wedi credu neges Duw.
Acts WelBeibl 11:2  Ond pan aeth Pedr yn ôl i Jerwsalem, cafodd ei feirniadu'n hallt gan rai o'r credinwyr Iddewig,
Acts WelBeibl 11:3  “Rwyt ti wedi mynd at bobl o genhedloedd eraill a hyd yn oed bwyta gyda nhw!” medden nhw.
Acts WelBeibl 11:4  Dyma Pedr yn dweud wrthyn nhw'n union beth oedd wedi digwydd:
Acts WelBeibl 11:5  “Rôn i yn Jopa, ac wrthi'n gweddïo ryw ddiwrnod pan ges i weledigaeth. Gwelais i rywbeth tebyg i gynfas fawr yn cael ei gollwng i lawr o'r awyr wrth ei phedair cornel. Daeth i lawr reit o mlaen i.
Acts WelBeibl 11:6  Edrychais i mewn, ac roedd pob math o anifeiliaid ynddi – rhai gwyllt, ymlusgiaid ac adar.
Acts WelBeibl 11:7  Wedyn dyma lais yn dweud wrtho i, ‘Cod Pedr, lladd beth rwyt ti eisiau, a'i fwyta.’
Acts WelBeibl 11:8  “Ti ddim o ddifri, Arglwydd!” meddwn i. “Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy'n cael ei gyfri'n aflan neu'n anghywir i'w fwyta!”
Acts WelBeibl 11:9  “Ond wedyn dyma'r llais o'r nefoedd yn dweud, ‘Os ydy Duw wedi dweud fod rhywbeth yn iawn i'w fwyta, paid ti â dweud fel arall!’
Acts WelBeibl 11:10  Digwyddodd yr un peth dair gwaith cyn i'r gynfas gael ei thynnu yn ôl i fyny i'r awyr.
Acts WelBeibl 11:11  “Y funud honno dyma dri dyn oedd wedi cael eu hanfon ata i o Cesarea yn cyrraedd y tu allan i'r tŷ lle roeddwn i'n aros.
Acts WelBeibl 11:12  Dyma'r Ysbryd Glân yn dweud wrtho i am beidio petruso mynd gyda nhw. Aeth y chwe brawd yma gyda mi a dyma ni'n mynd i mewn i dŷ'r dyn oedd wedi anfon amdana i.
Acts WelBeibl 11:13  Dwedodd wrthon ni ei fod wedi gweld angel yn ei dŷ, a bod yr angel wedi dweud wrtho, ‘Anfon i Jopa i nôl dyn o'r enw Simon Pedr.
Acts WelBeibl 11:14  Bydd e'n dweud sut y gelli di a phawb sy'n dy dŷ gael eu hachub.’
Acts WelBeibl 11:15  “Pan ddechreuais i siarad, dyma'r Ysbryd Glân yn dod arnyn nhw yn union fel y daeth arnon ni ar y dechrau.
Acts WelBeibl 11:16  A dyma fi'n cofio beth roedd yr Arglwydd Iesu wedi'i ddweud: ‘Roedd Ioan yn bedyddio â dŵr, ond mewn ychydig ddyddiau cewch chi'ch bedyddio â'r Ysbryd Glân.’
Acts WelBeibl 11:17  Felly gan fod Duw wedi rhoi'r un rhodd iddyn nhw ag a roddodd i ni pan wnaethon ni gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i geisio rhwystro Duw?”
Acts WelBeibl 11:18  Pan glywon nhw'r hanes, doedden nhw ddim yn gallu dweud dim yn groes, a dyma nhw'n dechrau moli Duw. “Mae'n rhaid fod Duw felly'n gadael i bobl o genhedloedd eraill droi cefn ar eu pechod a chael bywyd!” medden nhw.
Acts WelBeibl 11:19  O ganlyniad i'r erlid ddechreuodd yn dilyn beth ddigwyddodd i Steffan, roedd rhai credinwyr wedi dianc mor bell a Phenicia, Cyprus ac Antiochia yn Syria. Roedden nhw'n rhannu'r neges, ond dim ond gydag Iddewon.
Acts WelBeibl 11:20  Ond yna dyma'r rhai aeth i Antiochia o Cyprus a Cyrene yn dechrau cyhoeddi'r newyddion da am yr Arglwydd Iesu i bobl o genhedloedd eraill.
Acts WelBeibl 11:21  Roedd Duw gyda nhw, a dyma nifer fawr o bobl yn credu ac yn troi at yr Arglwydd.
Acts WelBeibl 11:22  Pan glywodd yr eglwys yn Jerwsalem am y peth, dyma nhw'n anfon Barnabas i Antiochia i weld beth oedd yn digwydd.
Acts WelBeibl 11:23  Pan gyrhaeddodd yno gwelodd yn glir fod Duw ar waith. Roedd wrth ei fodd, ac yn annog y rhai oedd wedi credu i aros yn ffyddlon i'r Arglwydd a rhoi eu hunain yn llwyr iddo.
Acts WelBeibl 11:24  Roedd Barnabas yn ddyn da, yn llawn o'r Ysbryd Glân ac yn credu'n gryf, a chafodd nifer fawr o bobl eu harwain ganddo at yr Arglwydd.
Acts WelBeibl 11:25  Aeth Barnabas yn ei flaen i Tarsus wedyn i edrych am Saul.
Acts WelBeibl 11:26  Ar ôl dod o hyd iddo, aeth ag e'n ôl i Antiochia. Buodd y ddau yno gyda'r eglwys am flwyddyn gyfan yn dysgu tyrfa fawr o bobl. (Gyda llaw, yn Antiochia y cafodd dilynwyr Iesu eu galw yn Gristnogion am y tro cyntaf.)
Acts WelBeibl 11:27  Rywbryd yn ystod y flwyddyn honno daeth rhyw broffwydi o Jerwsalem i Antiochia.
Acts WelBeibl 11:28  Yn un o'r cyfarfodydd, dyma un ohonyn nhw (dyn o'r enw Agabus) yn sefyll ar ei draed, ac yn proffwydo dan ddylanwad yr Ysbryd Glân fod newyn trwm yn mynd i ledu drwy'r byd Rhufeinig i gyd. (Digwyddodd y newyn hwnnw yn ystod teyrnasiad Clawdiws.)
Acts WelBeibl 11:29  Felly dyma'r credinwyr yn Antiochia yn penderfynu helpu eu brodyr a'u chwiorydd yn Jwdea, drwy i bawb gyfrannu cymaint ag y gallai.
Acts WelBeibl 11:30  Dyma nhw'n gwneud hynny, a Barnabas a Saul gafodd eu dewis i fynd â'r rhodd i arweinwyr eglwys Jerwsalem.
Chapter 12
Acts WelBeibl 12:1  Tua'r adeg yna dyma'r Brenin Herod Agripa yn cam-drin rhai o'r bobl oedd yn perthyn i'r eglwys.
Acts WelBeibl 12:2  Cafodd Iago (sef brawd Ioan) ei ddienyddio ganddo – drwy ei ladd gyda'r cleddyf.
Acts WelBeibl 12:3  Yna pan welodd fod hyn yn plesio'r arweinwyr Iddewig, dyma fe'n arestio Pedr hefyd. (Roedd hyn yn ystod Gŵyl y Bara Croyw.)
Acts WelBeibl 12:4  Cafodd Pedr ei roi yn y carchar. Trefnwyd fod pedwar milwr ar wyliadwriaeth bob sifft. Bwriad Herod oedd dwyn achos cyhoeddus yn erbyn Pedr ar ôl y Pasg.
Acts WelBeibl 12:5  Tra oedd Pedr yn y carchar roedd yr eglwys yn gweddïo'n daer ar Dduw drosto.
Acts WelBeibl 12:6  Y noson cyn yr achos llys, roedd Pedr yn cysgu. Roedd wedi'i gadwyno i ddau filwr – un bob ochr iddo, a'r lleill yn gwarchod y fynedfa.
Acts WelBeibl 12:7  Yn sydyn roedd angel yno, a golau'n disgleirio drwy'r gell. Rhoddodd bwniad i Pedr yn ei ochr i'w ddeffro. “Brysia!” meddai, “Cod ar dy draed!”, a dyma'r cadwyni'n disgyn oddi ar ei freichiau.
Acts WelBeibl 12:8  Wedyn dyma'r angel yn dweud wrtho, “Rho dy ddillad amdanat a gwisga dy sandalau.” Ac ar ôl i Pedr wneud hynny, dyma'r angel yn dweud, “Tafla dy glogyn amdanat a dilyn fi.”
Acts WelBeibl 12:9  Felly dyma Pedr yn ei ddilyn allan o'r gell – ond heb wybod a oedd y peth yn digwydd go iawn neu ai dim ond breuddwyd oedd y cwbl!
Acts WelBeibl 12:10  Dyma nhw'n mynd heibio'r gwarchodwr cyntaf a'r ail, a chyrraedd y giât haearn oedd yn mynd allan i'r ddinas. Agorodd honno ohoni ei hun! Wedi mynd drwyddi a cherdded i lawr y stryd dyma'r angel yn sydyn yn diflannu a gadael Pedr ar ei ben ei hun.
Acts WelBeibl 12:11  Dyna pryd daeth ato'i hun. “Mae wedi digwydd go iawn! – mae'r Arglwydd wedi anfon ei angel i'm hachub i o afael Herod, fel bod yr hyn roedd yr Iddewon yn ei obeithio ddim yn digwydd i mi.”
Acts WelBeibl 12:12  Pan sylweddolodd hyn, aeth i gartref Mair, mam Ioan Marc. Roedd criw o bobl wedi dod at ei gilydd i weddïo yno.
Acts WelBeibl 12:13  Dyma Pedr yn curo'r drws allanol, ac aeth morwyn o'r enw Rhoda i ateb y drws.
Acts WelBeibl 12:14  Pan wnaeth hi nabod llais Pedr roedd hi mor llawen nes iddi redeg yn ôl i mewn i'r tŷ heb agor y drws! “Mae Pedr wrth y drws!” meddai hi wrth bawb.
Acts WelBeibl 12:15  “Ti'n drysu,” medden nhw. Ond roedd Rhoda yn dal i fynnu fod y peth yn wir. “Mae'n rhaid mai ei angel sydd yna,” medden nhw wedyn.
Acts WelBeibl 12:16  Roedd Pedr yn dal ati i guro'r drws, a chawson nhw'r sioc ryfedda pan agoron nhw'r drws a'i weld.
Acts WelBeibl 12:17  Dyma Pedr yn rhoi arwydd iddyn nhw dawelu, ac esboniodd iddyn nhw sut roedd yr Arglwydd wedi'i ryddhau o'r carchar. “Ewch i ddweud beth sydd wedi digwydd wrth Iago a'r credinwyr eraill,” meddai, ac wedyn aeth i ffwrdd i rywle arall.
Acts WelBeibl 12:18  Y bore wedyn roedd cynnwrf anhygoel ymhlith y milwyr ynglŷn â beth oedd wedi digwydd i Pedr.
Acts WelBeibl 12:19  Dyma Herod yn gorchymyn chwilio amdano ym mhobman ond wnaethon nhw ddim llwyddo i ddod o hyd iddo. Ar ôl croesholi y milwyr oedd wedi bod yn gwarchod Pedr, dyma fe'n gorchymyn iddyn nhw gael eu dienyddio. Ar ôl hyn gadawodd Herod Jwdea, a mynd i aros yn Cesarea am ychydig.
Acts WelBeibl 12:20  Roedd gwrthdaro ffyrnig wedi bod rhyngddo ag awdurdodau Tyrus a Sidon. Ond dyma nhw'n dod at ei gilydd i ofyn am gael cyfarfod gydag e. Roedd rhaid iddyn nhw sicrhau heddwch, am eu bod nhw'n dibynnu ar wlad Herod i werthu bwyd iddyn nhw. Ac roedden nhw wedi perswadio Blastus i'w helpu nhw. (Blastus oedd swyddog personol y brenin, ac roedd y brenin yn ymddiried yn llwyr ynddo.)
Acts WelBeibl 12:21  Ar y diwrnod mawr, eisteddodd Herod ar ei orsedd yn gwisgo'i holl regalia, ac annerch y bobl.
Acts WelBeibl 12:22  Dyma'r bobl yn dechrau gweiddi, “Duw ydy hwn, nid dyn sy'n siarad!”
Acts WelBeibl 12:23  A'r eiliad honno dyma angel Duw yn ei daro'n wael, am iddo adael i'r bobl ei addoli fel petai e'n dduw. Cafodd ei fwyta gan lyngyr a buodd farw.
Acts WelBeibl 12:24  Ond roedd neges Duw yn dal i fynd ar led, a mwy a mwy o bobl yn dod i gredu.
Acts WelBeibl 12:25  Ar ôl i Barnabas a Saul fynd â'r rhodd i Jerwsalem, dyma nhw'n mynd yn ôl i Antiochia, a mynd â Ioan Marc gyda nhw.
Chapter 13
Acts WelBeibl 13:1  Roedd nifer o broffwydi ac athrawon yn yr eglwys yn Antiochia: Barnabas, Simeon (y dyn du), Lwcius o Cyrene, Manaen (oedd yn ffrind i Herod Antipas pan oedd yn blentyn), a Saul.
Acts WelBeibl 13:2  Pan oedden nhw'n addoli Duw ac yn ymprydio, dyma'r Ysbryd Glân yn dweud, “Mae gen i waith arbennig i Barnabas a Saul ei wneud, a dw i am i chi eu rhyddhau nhw i wneud y gwaith hwnnw.”
Acts WelBeibl 13:3  Felly ar ôl ymprydio a gweddïo, dyma nhw'n rhoi eu dwylo ar y ddau i'w comisiynu nhw, ac yna eu hanfon i ffwrdd.
Acts WelBeibl 13:4  Dyma'r Ysbryd Glân yn eu hanfon allan, a dyma'r ddau yn mynd i lawr i borthladd Antiochia, sef Selwsia, ac yn hwylio drosodd i Ynys Cyprus.
Acts WelBeibl 13:5  Ar ôl cyrraedd Salamis aethon nhw ati i gyhoeddi neges Duw yn synagogau'r Iddewon. (Roedd Ioan gyda nhw hefyd fel cynorthwywr.)
Acts WelBeibl 13:6  Dyma nhw'n teithio drwy'r ynys gyfan, ac yn dod i Paffos. Yno dyma nhw'n dod ar draws rhyw Iddew oedd yn ddewin ac yn broffwyd ffug. Bar-Iesu oedd yn cael ei alw,
Acts WelBeibl 13:7  ac roedd yn gwasanaethu fel aelod o staff y rhaglaw Sergiws Pawlus. Roedd y rhaglaw yn ddyn deallus, ac anfonodd am Barnabas a Saul am ei fod eisiau clywed beth oedd y neges yma gan Dduw.
Acts WelBeibl 13:8  Ond dyma Elymas (‛y dewin‛ – dyna ystyr ei enw yn yr iaith Roeg) yn dadlau yn eu herbyn ac yn ceisio troi'r rhaglaw yn erbyn y ffydd.
Acts WelBeibl 13:9  Dyma Saul (oedd hefyd yn cael ei alw'n Paul), yn llawn o'r Ysbryd Glân, yn edrych i fyw llygad Elymas, ac yn dweud,
Acts WelBeibl 13:10  “Plentyn i'r diafol wyt ti! Gelyn popeth da! Rwyt ti mor dwyllodrus a llawn castiau! Pryd wyt ti'n mynd i stopio gwyrdroi ffyrdd yr Arglwydd?
Acts WelBeibl 13:11  Mae Duw yn mynd i dy gosbi di! Rwyt ti'n mynd i fod yn ddall am gyfnod – fyddi di ddim yn gallu gweld golau dydd!” Yr eiliad honno daeth rhyw niwl a thywyllwch drosto! Roedd yn ymbalfalu o gwmpas, yn ceisio cael rhywun i afael yn ei law.
Acts WelBeibl 13:12  Pan welodd y rhaglaw beth ddigwyddodd, daeth i gredu. Roedd wedi'i syfrdanu gan yr hyn oedd yn cael ei ddysgu iddo am yr Arglwydd.
Acts WelBeibl 13:13  Yna dyma Paul a'r lleill yn gadael Paffos a hwylio yn eu blaenau i Perga yn Pamffilia. Dyna lle gadawodd Ioan Marc nhw i fynd yn ôl i Jerwsalem.
Acts WelBeibl 13:14  Ond aethon nhw yn eu blaenau i Antiochia Pisidia. Ar y dydd Saboth dyma nhw'n mynd i'r gwasanaeth yn y synagog.
Acts WelBeibl 13:15  Ar ôl i rannau o Gyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi gael eu darllen, dyma arweinwyr y synagog yn cael rhywun i ofyn iddyn nhw, “Frodyr, teimlwch yn rhydd i siarad os oes gynnoch chi air o anogaeth i'r bobl.”
Acts WelBeibl 13:16  Dyma Paul yn sefyll ac yn codi ei law i dawelu'r bobl, ac meddai: “Gwrandwch, bobl Israel, a chithau o genhedloedd eraill sydd yma'n addoli Duw.
Acts WelBeibl 13:17  Ein Duw ni, Duw Israel ddewisodd ein hynafiaid ni yn bobl iddo'i hun. Gwnaeth i'w niferoedd dyfu pan oedden nhw yn yr Aifft, ac yna eu harwain allan o'r wlad honno mewn ffordd rymus iawn.
Acts WelBeibl 13:18  Goddefodd eu hymddygiad yn yr anialwch am tua pedwar deg o flynyddoedd.
Acts WelBeibl 13:19  Yna dinistrio saith cenedl yn Canaan a rhoi eu tir i'w bobl Israel ei etifeddu.
Acts WelBeibl 13:20  Digwyddodd hyn i gyd dros gyfnod o ryw 450 o flynyddoedd. Yn dilyn hynny rhoddodd Duw farnwyr iddyn nhw i'w harwain hyd gyfnod y proffwyd Samuel.
Acts WelBeibl 13:21  Dyna pryd y gofynnodd y bobl am frenin, a rhoddodd Duw Saul fab Cis (o lwyth Benjamin) iddyn nhw, a buodd yn frenin am bedwar deg mlynedd.
Acts WelBeibl 13:22  Ar ôl cael gwared â Saul, dyma Duw yn gwneud Dafydd yn frenin arnyn nhw. Dyma ddwedodd Duw am Dafydd: ‘Mae Dafydd fab Jesse yn ddyn sydd wrth fy modd; bydd yn gwneud popeth dw i am iddo'i wneud.’
Acts WelBeibl 13:23  “Un o ddisgynyddion Dafydd ydy'r un anfonodd Duw yn Achubwr i Israel, sef Iesu.
Acts WelBeibl 13:24  Roedd Ioan Fedyddiwr wedi bod yn pregethu i bobl Israel cyn i Iesu ddod, ac yn galw arnyn nhw i droi cefn ar bechod a chael eu bedyddio.
Acts WelBeibl 13:25  Pan oedd gwaith Ioan bron â dod i ben, dwedodd fel hyn: ‘Dych chi'n meddwl mai fi ydy'r Meseia? Na, dim fi ydy e. Mae'n dod ar fy ôl i, a dw i ddim yn haeddu bod yn gaethwas i ddatod carrai ei sandalau hyd yn oed!’
Acts WelBeibl 13:26  “Frodyr a chwiorydd – chi sy'n blant i Abraham, a chithau o genhedloedd eraill sy'n addoli Duw hefyd, mae'r neges yma am achubiaeth wedi'i hanfon aton ni.
Acts WelBeibl 13:27  Wnaeth pobl Jerwsalem a'u harweinwyr mo'i nabod e. Wrth ei gondemnio i farwolaeth roedden nhw'n gwneud yn union beth roedd y proffwydi sy'n cael eu darllen bob Saboth yn ei ddweud!
Acts WelBeibl 13:28  Er bod ganddyn nhw ddim achos digonol yn ei erbyn i gyfiawnhau'r gosb eithaf, dyma nhw'n gofyn i Peilat ei ddienyddio.
Acts WelBeibl 13:29  Ar ôl gwneud iddo bopeth oedd wedi'i broffwydo, dyma nhw yn ei dynnu i lawr o'r pren a'i roi mewn bedd.
Acts WelBeibl 13:31  Am gyfnod o rai wythnosau cafodd ei weld gan y bobl oedd wedi teithio gydag e o Galilea i Jerwsalem. Maen nhw'n lygad-dystion sy'n gallu dweud wrth y bobl beth welon nhw.
Acts WelBeibl 13:32  “Dŷn ni yma gyda newyddion da i chi: Mae'r cwbl wnaeth Duw ei addo i'n cyndeidiau ni
Acts WelBeibl 13:33  wedi dod yn wir! Mae wedi codi Iesu yn ôl yn fyw. Dyna mae'r ail Salm yn ei ddweud: ‘Ti ydy fy Mab i; heddiw des i'n dad i ti.’
Acts WelBeibl 13:34  Mae Duw wedi'i godi yn fyw ar ôl iddo farw, a fydd ei gorff byth yn pydru'n y bedd! Dyna ystyr y geiriau yma: ‘Rhof i ti y bendithion sanctaidd a sicr gafodd eu haddo i Dafydd.’
Acts WelBeibl 13:35  Ac mae Salm arall yn dweud: ‘Fyddi di ddim yn gadael i'r un sydd wedi'i gysegru i ti bydru yn y bedd.’
Acts WelBeibl 13:36  “Dydy'r geiriau yma ddim yn sôn am Dafydd. Buodd Dafydd farw ar ôl gwneud popeth roedd Duw am iddo ei wneud yn ei gyfnod. Cafodd ei gladdu ac mae ei gorff wedi pydru.
Acts WelBeibl 13:37  Ond wnaeth corff yr un gododd Duw yn ôl yn fyw ddim pydru!
Acts WelBeibl 13:38  “Felly, frodyr a chwiorydd, dw i am i chi ddeall fod maddeuant pechodau ar gael i chi o achos beth wnaeth Iesu.
Acts WelBeibl 13:39  Drwyddo fe mae pawb sy'n credu yn cael perthynas iawn gyda Duw. Dydy Cyfraith Moses ddim yn gallu rhoi'r berthynas iawn yna i chi.
Acts WelBeibl 13:40  Felly, gwyliwch fod yr hyn soniodd y proffwydi amdano ddim yn digwydd i chi:
Acts WelBeibl 13:41  ‘Edrychwch, chi sy'n gwawdio, rhyfeddwch at hyn, a gwywo! Oherwydd bydda i'n gwneud yn eich dyddiau chi rywbeth fyddwch chi ddim yn ei gredu, hyd yn oed petai rhywun yn dweud wrthoch chi!’”
Acts WelBeibl 13:42  Wrth i Paul a Barnabas adael y synagog, dyma'r bobl yn gofyn iddyn nhw ddod yn ôl i ddweud mwy y Saboth wedyn.
Acts WelBeibl 13:43  Pan oedd y cyfarfod drosodd, dyma nifer dda o Iddewon a phobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig yn mynd ar ôl Paul a Barnabas. Dyma'r ddau yn pwyso arnyn nhw i ddal gafael yn y ffaith fod Duw mor hael.
Acts WelBeibl 13:44  Y Saboth wedyn roedd fel petai'r ddinas i gyd wedi dod i glywed neges yr Arglwydd.
Acts WelBeibl 13:45  Ond pan welodd yr arweinwyr Iddewig cymaint o dyrfa oedd yno, roedden nhw'n genfigennus; a dyma nhw'n dechrau hyrddio enllibion at Paul, a dadlau yn erbyn popeth roedd yn ei ddweud.
Acts WelBeibl 13:46  Ond roedd ateb Paul a Barnabas yn ddi-flewyn-ar-dafod: “Roedd rhaid i ni gyhoeddi neges Duw i chi gyntaf. Ond gan eich bod chi'n gwrthod gwrando, ac felly'n barnu eich hunain yn anaddas i gael bywyd tragwyddol, awn ni at bobl y cenhedloedd eraill.
Acts WelBeibl 13:47  Achos dyma wnaeth Duw ei orchymyn i ni: ‘Dw i wedi dy wneud di yn olau i'r cenhedloedd, er mwyn i bobl o ben draw'r byd gael eu hachub.’”
Acts WelBeibl 13:48  Roedd pobl y cenhedloedd wrth eu boddau pan glywon nhw hyn, a dyma nhw'n canmol neges yr Arglwydd. Dyma pob un oedd i fod i gael bywyd tragwyddol yn dod i gredu.
Acts WelBeibl 13:49  Felly aeth neges yr Arglwydd ar led drwy'r ardal i gyd.
Acts WelBeibl 13:50  Ond yna dyma'r arweinwyr Iddewig yn creu cynnwrf ymhlith y gwragedd o'r dosbarth uwch oedd yn ofni Duw, a dynion pwysig y ddinas. A dyma nhw'n codi twrw a pheri i Paul a Barnabas gael eu taflu allan o'r ardal.
Acts WelBeibl 13:51  Ar ôl ysgwyd y llwch oddi ar eu traed fel arwydd o brotest, dyma'r ddau yn mynd yn eu blaen i Iconium.
Acts WelBeibl 13:52  Ond roedd y disgyblion yno yn fwrlwm o lawenydd ac yn llawn o'r Ysbryd Glân.
Chapter 14
Acts WelBeibl 14:1  Digwyddodd yr un peth yn Iconium. Aeth Paul a Barnabas i'r synagog Iddewig, a siarad mor dda nes bod nifer fawr o Iddewon a phobl o genhedloedd eraill wedi credu.
Acts WelBeibl 14:2  Ond dyma'r Iddewon oedd yn gwrthod credu yn codi twrw ymhlith pobl y cenhedloedd a'u troi nhw'n hollol yn erbyn y brodyr.
Acts WelBeibl 14:3  Arhosodd Paul a Barnabas yno am amser hir, yn dal ati i siarad yn gwbl ddi-ofn am yr Arglwydd. Ac roedd yr Arglwydd yn profi fod y neges am ei ddaioni yn wir drwy roi'r gallu iddyn nhw wneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos ei fod e gyda nhw.
Acts WelBeibl 14:4  Roedd pobl y ddinas wedi'u rhannu; rhai yn ochri gyda'r Iddewon, a'r lleill o blaid yr apostolion.
Acts WelBeibl 14:5  Dyma rai o bobl y cenhedloedd, gyda'r Iddewon a'u harweinwyr, yn cynllwynio i ymosod ar Paul a Barnabas a'u lladd drwy daflu cerrig atyn nhw.
Acts WelBeibl 14:6  Ond clywon nhw beth oedd ar y gweill, a dianc i'r ardal o gwmpas Lystra a Derbe yn Lycaonia.
Acts WelBeibl 14:7  A dyma nhw'n mynd ati i gyhoeddi'r newyddion da yno.
Acts WelBeibl 14:8  Yn Lystra dyma nhw'n dod ar draws rhyw ddyn oedd ag anabledd yn ei draed; roedd wedi'i eni felly ac erioed wedi gallu cerdded.
Acts WelBeibl 14:9  Roedd yn gwrando ar Paul yn siarad. Roedd Paul yn edrych arno, a gwelodd fod gan y dyn ffydd y gallai gael ei iacháu.
Acts WelBeibl 14:10  Meddai wrtho yng nghlyw pawb, “Saf ar dy draed!”, a dyma'r dyn yn neidio ar ei draed yn y fan a'r lle ac yn dechrau cerdded.
Acts WelBeibl 14:11  Pan welodd y dyrfa beth wnaeth Paul, dyma nhw'n dechrau gweiddi yn iaith Lycaonia, “Mae'r duwiau wedi dod i lawr aton ni fel dynion!”
Acts WelBeibl 14:12  Dyma nhw'n penderfynu mai y duw Zews oedd Barnabas, ac mai Hermes oedd Paul (gan mai fe oedd yn gwneud y siarad).
Acts WelBeibl 14:13  Dyma offeiriad o deml Zews, oedd ychydig y tu allan i'r ddinas, yn dod â theirw a thorchau o flodau at giatiau'r ddinas, gyda'r bwriad o gyflwyno aberthau iddyn nhw.
Acts WelBeibl 14:14  Ond pan ddeallodd y ddau beth oedd yn digwydd, dyma nhw'n rhwygo'u dillad ac yn rhuthro allan i ganol y dyrfa, yn gweiddi:
Acts WelBeibl 14:15  “Na! Na! Ffrindiau! Pam dych chi'n gwneud hyn? Pobl gyffredin fel chi ydyn ni! Dŷn ni wedi dod â newyddion da i chi! Rhaid i chi droi cefn ar y pethau diwerth yma, a chredu yn y Duw byw. Dyma'r Duw wnaeth greu popeth – yr awyr a'r ddaear a'r môr a'r cwbl sydd ynddyn nhw!
Acts WelBeibl 14:16  Yn y gorffennol gadawodd i'r cenhedloedd fynd eu ffordd eu hunain,
Acts WelBeibl 14:17  ond mae digonedd o dystiolaeth o'i ddaioni o'ch cwmpas chi: mae'n rhoi glaw ac yn gwneud i gnydau dyfu yn eu tymor – i chi gael digon o fwyd, ac i'ch bywydau fod yn llawn o lawenydd.”
Acts WelBeibl 14:18  Ond cafodd Paul a Barnabas drafferth ofnadwy i rwystro'r dyrfa rhag aberthu iddyn nhw hyd yn oed ar ôl dweud hyn i gyd.
Acts WelBeibl 14:19  Ond wedyn dyma Iddewon o Antiochia ac Iconium yn cyrraedd yno a llwyddo i droi'r dyrfa yn eu herbyn. A dyma nhw'n dechrau taflu cerrig at Paul a'i lusgo allan o'r dref, gan dybio ei fod wedi marw.
Acts WelBeibl 14:20  Ond ar ôl i'r credinwyr yno gasglu o'i gwmpas, cododd ar ei draed a mynd yn ôl i mewn i'r dref. Y diwrnod wedyn aeth yn ei flaen gyda Barnabas i Derbe.
Acts WelBeibl 14:21  Buon nhw'n cyhoeddi'r newyddion da yno, a daeth nifer fawr o bobl yn ddisgyblion i Iesu y Meseia. Ar ôl hynny dyma nhw'n mynd yn ôl i Lystra, Iconium ac Antiochia Pisidia.
Acts WelBeibl 14:22  Dyma nhw'n cryfhau ffydd y disgyblion a'u hannog i aros yn ffyddlon. “Rhaid gadael i Dduw deyrnasu yn ein bywydau i ni allu wynebu'r holl drafferthion,” medden nhw.
Acts WelBeibl 14:23  Peth arall wnaeth Paul a Barnabas oedd penodi grŵp o arweinwyr ym mhob eglwys. Ar ôl ymprydio a gweddïo dyma nhw'n eu gadael yng ngofal yr Arglwydd roedden nhw wedi credu ynddo.
Acts WelBeibl 14:24  Wedyn dyma nhw'n mynd yn eu blaenau i Pisidia ac yna i Pamffilia,
Acts WelBeibl 14:25  ac ar ôl pregethu'r newyddion da yn Perga mynd yn eu blaenau i Atalia.
Acts WelBeibl 14:26  Wedyn hwylio o Atalia yn ôl i Antiochia Syria. (Dyna lle gwnaethon nhw gael eu cyflwyno i ofal Duw i wneud y gwaith roedden nhw bellach wedi'i orffen.)
Acts WelBeibl 14:27  Yno dyma nhw'n galw'r eglwys at ei gilydd a dweud am y cwbl roedd Duw wedi'i wneud drwyddyn nhw, a sut oedd wedi rhoi'r cyfle i bobl o genhedloedd eraill ddod i gredu.
Acts WelBeibl 14:28  Wedyn dyma nhw'n aros gyda'r Cristnogion yn Antiochia am amser hir.
Chapter 15
Acts WelBeibl 15:1  Yn ystod y cyfnod hwnnw daeth rhyw ddynion o Jwdea a dechrau dysgu hyn i'r credinwyr yn Antiochia: “Allwch chi ddim cael eich achub heb gadw'r ddefod Iddewig o enwaedu dynion fel gwnaeth Moses ddysgu.”
Acts WelBeibl 15:2  Achosodd hyn ddadlau a thaeru ffyrnig rhyngddyn nhw a Paul a Barnabas. Felly dyma'r eglwys yn dewis Paul a Barnabas gydag eraill i fynd i Jerwsalem i drafod y mater gyda'r apostolion a'r arweinwyr yno.
Acts WelBeibl 15:3  Ar eu ffordd yno dyma nhw'n galw heibio'r credinwyr yn Phenicia a Samaria, a dweud wrthyn nhw am y bobl o genhedloedd eraill oedd wedi cael tröedigaeth. Roedd y credinwyr wrth eu boddau o glywed yr hanes.
Acts WelBeibl 15:4  Pan gyrhaeddon nhw Jerwsalem cawson nhw groeso mawr gan yr eglwys a gan yr apostolion a'r arweinwyr eraill yno. A dyma nhw'n adrodd hanes y cwbl roedd Duw wedi'i wneud drwyddyn nhw.
Acts WelBeibl 15:5  Ond dyma rai o'r Phariseaid oedd wedi dod i gredu yn sefyll ar eu traed a dadlau fod rhaid i bobl o genhedloedd eraill sy'n dod i gredu ufuddhau i Gyfraith Moses a chadw'r ddefod o enwaedu.
Acts WelBeibl 15:6  Dyma'r apostolion ac arweinwyr eraill yr eglwys yn cyfarfod i ystyried y cwestiwn.
Acts WelBeibl 15:7  Ar ôl lot o ddadlau brwd dyma Pedr yn codi ar ei draed, a dweud: “Frodyr. Beth amser yn ôl dych chi'n cofio fod Duw wedi fy newis i rannu'r newyddion da gyda phobl o genhedloedd eraill, a'u cael nhw i gredu.
Acts WelBeibl 15:8  Mae Duw yn gwybod beth sydd yng nghalon pobl, a dangosodd yn glir ei fod yn eu derbyn nhw drwy roi'r Ysbryd Glân iddyn nhw yn union fel y cafodd ei roi i ni.
Acts WelBeibl 15:9  Doedd Duw ddim yn gwahaniaethu rhyngon ni a nhw, am ei fod wedi puro eu calonnau nhw hefyd wrth iddyn nhw gredu.
Acts WelBeibl 15:10  Felly pam dych chi'n amau beth mae Duw wedi'i wneud, drwy fynnu fod y disgyblion yma'n cario beichiau roedden ni a'n hynafiaid yn methu'u cario?
Acts WelBeibl 15:11  Dŷn ni'n credu'n hollol groes! – mai dim ond ffafr a haelioni'r Arglwydd Iesu sy'n ein hachub ni fel hwythau!”
Acts WelBeibl 15:12  Doedd gan neb ddim byd arall i'w ddweud, a dyma nhw'n gwrando ar Barnabas a Paul yn dweud am yr arwyddion gwyrthiol a'r pethau rhyfeddol eraill roedd Duw wedi'u gwneud drwyddyn nhw pan oedden nhw gyda phobl o genhedloedd eraill.
Acts WelBeibl 15:13  Ar ôl iddyn nhw orffen siarad dyma Iago'n dweud: “Gwrandwch, frodyr.
Acts WelBeibl 15:14  Mae Simon wedi disgrifio sut dewisodd Duw bobl iddo'i hun o genhedloedd eraill am y tro cyntaf.
Acts WelBeibl 15:15  Ac mae beth ddwedodd y proffwydi yn cadarnhau hynny, er enghraifft:
Acts WelBeibl 15:16  ‘Bydda i'n dod nôl wedi hyn i ailsefydlu teyrnas Dafydd sydd wedi syrthio. Bydda i'n adeiladu ei adfeilion, a'i adfer,
Acts WelBeibl 15:17  er mwyn i weddill y ddynoliaeth geisio'r Arglwydd, a'r holl wledydd eraill sy'n perthyn i mi.’ Mae'r Arglwydd wedi gwneud y pethau yma
Acts WelBeibl 15:19  “Felly, yn fy marn i, ddylen ni ddim gwneud pethau'n anodd i'r bobl o genhedloedd eraill sy'n troi at Dduw.
Acts WelBeibl 15:20  Yn lle hynny, gadewch i ni ysgrifennu atyn nhw, a gofyn iddyn nhw beidio bwyta bwyd sydd wedi'i lygru gan eilun-dduwiau, cadw draw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol, a pheidio bwyta cig anifeiliaid sydd wedi'u tagu nac unrhyw beth â gwaed ynddo.
Acts WelBeibl 15:21  Mae yna rai ym mhob dinas sydd wedi bod yn pregethu beth ddysgodd Moses ers amser maith, ac mae Cyfraith Moses yn cael ei darllen yn y synagogau bob Saboth.”
Acts WelBeibl 15:22  Dyma'r apostolion, gyda'r eglwys gyfan a'i harweinwyr, yn penderfynu dewis dynion i fynd i Antiochia yn Syria gyda Paul a Barnabas. Dau o'r arweinwyr gafodd eu dewis, sef Jwdas (sy'n cael ei alw'n Barsabas) a Silas.
Acts WelBeibl 15:23  Ac roedden nhw i fynd â'r llythyr yma gyda nhw: Llythyr oddi wrth y brodyr yn Jerwsalem, sef apostolion ac arweinwyr yr eglwys. At ein brodyr a'n chwiorydd o genhedloedd eraill yn Antiochia, Syria a Cilicia: Cyfarchion!
Acts WelBeibl 15:24  Dŷn ni wedi clywed fod rhywrai oddi yma wedi bod yn creu helynt acw, ac yn eich drysu a'ch ypsetio chi gyda beth maen nhw'n ei ddysgu. Dim ni wnaeth eu hanfon nhw.
Acts WelBeibl 15:25  Felly dŷn ni wedi cytuno'n unfrydol i anfon dynion atoch chi gyda'n ffrindiau annwyl Barnabas a Paul
Acts WelBeibl 15:26  sydd wedi mentro'u bywydau dros ein Harglwydd Iesu Grist.
Acts WelBeibl 15:27  Bydd Jwdas a Silas yn cadarnhau ar lafar beth dŷn ni wedi'i roi yn y llythyr yma.
Acts WelBeibl 15:28  Mae'r Ysbryd Glân wedi dangos i ni, a ninnau wedi penderfynu na ddylen ni ofyn mwy na hyn gynnoch chi:
Acts WelBeibl 15:29  Eich bod i beidio bwyta unrhyw beth sydd wedi'i aberthu i eilun-dduwiau, na dim sydd â gwaed ynddo, na chig unrhyw anifail sydd wedi'i dagu. Hefyd, eich bod i gadw draw oddi wrth unrhyw anfoesoldeb rhywiol. Byddai'n beth da i chi osgoi y pethau yma. Pob hwyl i chi!
Acts WelBeibl 15:30  Felly dyma Paul a Barnabas, Jwdas a Silas yn cael eu hanfon ar eu ffordd, ac yn cyrraedd Antiochia yn Syria. Yno dyma nhw'n casglu pawb at ei gilydd ac yn cyflwyno'r llythyr iddyn nhw.
Acts WelBeibl 15:31  Cafodd y llythyr ei ddarllen, ac roedd y bobl yn hapus iawn ac wedi'u calonogi'n fawr gan yr hyn roedd yn ei ddweud.
Acts WelBeibl 15:32  A dyma Jwdas a Silas, oedd yn broffwydi, yn siarad yn hir gyda'r Cristnogion yno, a dweud llawer o bethau i'w hannog a chryfhau eu ffydd.
Acts WelBeibl 15:33  Ar ôl aros yn Antiochia am beth amser, dyma'r ddau yn mynd yn ôl i Jerwsalem at y bobl oedd wedi'u hanfon, a hynny gyda bendith Cristnogion Antiochia.
Acts WelBeibl 15:35  Ond arhosodd Paul a Barnabas i helpu pawb arall oedd yn dysgu ac yn cyhoeddi neges yr Arglwydd yno.
Acts WelBeibl 15:36  Ar ôl i dipyn o amser fynd heibio dyma Paul yn dweud wrth Barnabas, “Gad i ni fynd yn ôl i ymweld â'r credinwyr yn y lleoedd hynny lle buon ni'n cyhoeddi neges yr Arglwydd, i weld sut maen nhw'n dod yn eu blaenau.”
Acts WelBeibl 15:37  Roedd Barnabas am fynd, ond roedd eisiau mynd â Ioan Marc gyda nhw hefyd.
Acts WelBeibl 15:38  Ond roedd Paul yn gwbl benderfynol na ddylai gael mynd, am fod Marc wedi troi ei gefn arnyn nhw yn Pamffilia a heb gario ymlaen gyda nhw yn y gwaith.
Acts WelBeibl 15:39  Aeth hi'n gymaint o ffrae rhyngddyn nhw nes iddyn nhw wahanu. Dyma Barnabas yn hwylio i Cyprus gyda Marc,
Acts WelBeibl 15:40  a Paul yn dewis Silas i fynd gydag e. Ar ôl cael eu cyflwyno i ofal yr Arglwydd gan y credinwyr eraill,
Acts WelBeibl 15:41  dyma nhw'n teithio drwy Syria a Cilicia yn cryfhau'r eglwysi.
Chapter 16
Acts WelBeibl 16:1  Aeth Paul ymlaen i Derbe ac yna i Lystra, lle roedd disgybl o'r enw Timotheus yn byw. Roedd ei fam yn Iddewes ac yn credu, ond ei dad yn Roegwr.
Acts WelBeibl 16:2  Dim ond pethau da oedd gan Gristnogion Lystra ac Iconium i'w dweud am Timotheus,
Acts WelBeibl 16:3  felly roedd Paul am iddo fynd gyda nhw ar y daith. Trefnodd i Timotheus gael ei enwaedu rhag i'r Iddewon yn yr ardal gael eu tramgwyddo. Roedden nhw'n gwybod fod tad Timotheus yn Roegwr.
Acts WelBeibl 16:4  Wrth deithio o un dref i'r llall roedden nhw'n dweud beth oedd yr apostolion a'r arweinwyr eraill yn Jerwsalem wedi penderfynu ei ofyn gan gredinwyr o genhedloedd eraill.
Acts WelBeibl 16:5  Felly roedd ffydd yr eglwysi yn cryfhau a nifer y bobl ynddyn nhw'n tyfu bob dydd.
Acts WelBeibl 16:6  Teithiodd Paul a'i ffrindiau ymlaen ar hyd cyrion Phrygia a Galatia, gan fod yr Ysbryd Glân wedi'u stopio nhw rhag mynd i dalaith Asia i rannu eu neges.
Acts WelBeibl 16:7  Dyma nhw'n cyrraedd ffin Mysia gyda'r bwriad o fynd ymlaen i Bithynia, ond dyma Ysbryd Glân Iesu yn eu stopio nhw rhag mynd yno hefyd.
Acts WelBeibl 16:8  Felly dyma nhw'n mynd drwy Mysia i lawr i ddinas Troas.
Acts WelBeibl 16:9  Y noson honno cafodd Paul weledigaeth – roedd dyn o Macedonia yn sefyll o'i flaen, yn crefu arno, “Tyrd draw i Macedonia i'n helpu ni!”
Acts WelBeibl 16:10  Felly, o ganlyniad i'r weledigaeth yma, dyma ni'n paratoi i fynd i Macedonia ar unwaith. Roedden ni wedi dod i'r casgliad mai yno roedd Duw am i ni fynd i gyhoeddi'r newyddion da.
Acts WelBeibl 16:11  Dyma ni'n hwylio o borthladd Troas a chroesi'n syth ar draws i ynys Samothrace, cyn glanio yn Neapolis y diwrnod wedyn.
Acts WelBeibl 16:12  O'r fan honno aethon ni ymlaen i Philipi sy'n dref Rufeinig – y ddinas fwyaf yn y rhan honno o Macedonia. Buon ni yno am rai dyddiau.
Acts WelBeibl 16:13  Ar y dydd Saboth dyma ni'n mynd allan o'r ddinas at lan yr afon, lle roedden ni'n deall fod pobl yn cyfarfod i weddïo. Dyma ni'n eistedd i lawr a dechrau siarad â'r gwragedd oedd wedi dod at ei gilydd yno.
Acts WelBeibl 16:14  Roedd un wraig yno o'r enw Lydia – gwraig o ddinas Thyatira oedd â busnes gwerthu brethyn porffor drud. Roedd hi'n un oedd yn addoli Duw. Wrth wrando, agorodd yr Arglwydd ddrws ei chalon hi, a dyma hi'n ymateb i neges Paul.
Acts WelBeibl 16:15  Cafodd hi a rhai eraill o'i thŷ eu bedyddio, a rhoddodd wahoddiad i ni i aros yn ei thŷ. “Os dych chi'n derbyn mod i wedi dod i gredu yn yr Arglwydd,” meddai, “dewch i aros yn fy nghartref i.” A llwyddodd i'n perswadio ni i wneud hynny.
Acts WelBeibl 16:16  Rhyw ddiwrnod arall pan oedden ni ar ein ffordd i'r lle gweddi, dyma ni'n cyfarfod caethferch oedd ag ysbryd ynddi yn ei galluogi i ragweld y dyfodol. Roedd hi'n ennill arian mawr i'w pherchnogion drwy ddweud ffortiwn.
Acts WelBeibl 16:17  Dechreuodd ein dilyn ni, gan weiddi, “Mae'r dynion yma yn weision i'r Duw Goruchaf! Maen nhw'n dweud wrthoch chi sut i gael eich achub!”
Acts WelBeibl 16:18  Aeth hyn ymlaen am ddyddiau lawer. Yn y diwedd, roedd hi wedi mynd ar nerfau Paul cymaint nes iddo droi rownd a dweud wrth yr ysbryd drwg oedd ynddi, “Yn enw Iesu y Meseia, tyrd allan ohoni!” A dyma'r ysbryd yn ei gadael hi yr eiliad honno.
Acts WelBeibl 16:19  Pan welodd ei meistri fod pob gobaith o wneud elw drwyddi wedi mynd, dyma nhw'n gafael yn Paul a Silas a'u llusgo o flaen yr awdurdodau yn sgwâr y farchnad.
Acts WelBeibl 16:20  “Mae'r Iddewon yma yn codi twrw yn y dre,” medden nhw wrth yr ynadon
Acts WelBeibl 16:21  “ac maen nhw'n annog pobl i wneud pethau sy'n groes i'n harferion ni Rufeiniaid.”
Acts WelBeibl 16:22  Ymunodd y dyrfa yn yr ymosod ar Paul a Silas, a dyma'r ynadon yn gorchymyn tynnu dillad y ddau a'u curo â ffyn.
Acts WelBeibl 16:23  Wedyn ar ôl eu curo'n ddidrugaredd, dyma nhw'n eu taflu nhw i'r carchar. Cafodd swyddog y carchar orchymyn i'w gwylio nhw'n ofalus,
Acts WelBeibl 16:24  felly rhoddodd y ddau ohonyn nhw yn y gell fwyaf diogel a rhoi eu traed mewn cyffion.
Acts WelBeibl 16:25  Tua hanner nos roedd Paul a Silas wrthi'n gweddïo ac yn canu emynau o fawl, ac roedd y carcharorion eraill i gyd yn gwrando.
Acts WelBeibl 16:26  Yna'n sydyn dyma ddaeargryn mawr yn ysgwyd y carchar i'w sylfeini. Dyma'r drysau i gyd yn agor, a'r cadwyni yn disgyn i ffwrdd oddi ar bawb!
Acts WelBeibl 16:27  Pan ddeffrodd swyddog y carchar a gweld y drysau ar agor, roedd yn meddwl fod y carcharorion wedi dianc. Gafaelodd yn ei gleddyf gan fwriadu lladd ei hun.
Acts WelBeibl 16:28  Ond dyma Paul yn gweiddi, “Paid! Dŷn ni i gyd yma!”
Acts WelBeibl 16:29  Galwodd y swyddog am oleuadau, a rhuthro i mewn i gell Paul a Silas, a syrthio i lawr o'u blaenau yn crynu mewn ofn.
Acts WelBeibl 16:30  Yna aeth a nhw allan a gofyn iddyn nhw, “Beth sydd raid i mi ei wneud i gael fy achub?”
Acts WelBeibl 16:31  Dyma nhw'n ateb, “Credu yn yr Arglwydd Iesu, dyna sut mae cael dy achub – ti a phawb arall yn dy dŷ.”
Acts WelBeibl 16:32  A dyma nhw'n rhannu'r newyddion da am yr Arglwydd Iesu gyda'r swyddog a phawb arall yn ei dŷ.
Acts WelBeibl 16:33  Aeth y swyddog â nhw yng nghanol y nos i lanhau eu briwiau. Wedyn cafodd e a phawb arall yn ei dŷ eu bedyddio.
Acts WelBeibl 16:34  Yna aeth â nhw i'w gartref a rhoi pryd o fwyd iddyn nhw. Roedd pawb yn ei dŷ mor hapus eu bod nhw wedi credu yn Nuw.
Acts WelBeibl 16:35  Yn gynnar y bore wedyn dyma'r ynadon yn anfon plismyn i'r carchar i ddweud wrth y swyddog am ollwng Paul a Silas yn rhydd.
Acts WelBeibl 16:36  Dyma'r swyddog yn dweud wrth Paul, “Mae'r ynadon wedi dweud eich bod chi'ch dau yn rhydd i fynd.”
Acts WelBeibl 16:37  Ond meddai Paul wrth y plismyn: “Maen nhw wedi'n curo ni'n gyhoeddus a'n taflu ni i'r carchar heb achos llys, a ninnau'n ddinasyddion Rhufeinig! Ydyn nhw'n meddwl nawr eu bod nhw'n gallu cael gwared â ni'n ddistaw bach? Dim gobaith! Bydd rhaid iddyn nhw ddod yma eu hunain i'n hebrwng ni allan!”
Acts WelBeibl 16:38  Dyma'r plismyn yn mynd i ddweud wrth yr ynadon beth oedd wedi digwydd. Pan glywon nhw fod Paul a Silas yn ddinasyddion Rhufeinig roedden nhw wedi dychryn.
Acts WelBeibl 16:39  Felly dyma nhw'n dod i'r carchar i ymddiheuro. Ar ôl mynd â nhw allan o'r carchar, dyma nhw'n pwyso ar y ddau dro ar ôl tro i adael y ddinas.
Acts WelBeibl 16:40  Felly dyma Paul a Silas yn mynd i dŷ Lydia i gyfarfod y credinwyr a'u hannog nhw i ddal ati, ac wedyn dyma nhw'n gadael Philipi.
Chapter 17
Acts WelBeibl 17:1  Dyma nhw'n teithio drwy drefi Amffipolis ac Apolonia a chyrraedd Thesalonica, lle roedd synagog Iddewig.
Acts WelBeibl 17:2  Aeth Paul i'r cyfarfodydd yn y synagog yn ôl ei arfer, ac am dri Saboth yn olynol buodd yn trafod yr ysgrifau sanctaidd gyda'r bobl yno.
Acts WelBeibl 17:3  Dangosodd iddyn nhw'n glir a phrofi fod rhaid i'r Meseia ddioddef, a dod yn ôl yn fyw ar ôl marw. “Yr Iesu dw i'n sôn amdano ydy'r Meseia,” meddai wrthyn nhw.
Acts WelBeibl 17:4  Cafodd rhai o'r Iddewon oedd yno'n gwrando eu perswadio, a dyma nhw'n ymuno â Paul a Silas. Daeth nifer fawr o'r Groegiaid oedd yn addoli Duw i gredu hefyd, a sawl un o wragedd pwysig y dre.
Acts WelBeibl 17:5  Ond roedd arweinwyr yr Iddewon yn genfigennus; felly dyma nhw'n casglu criw o ddynion oedd yn loetran yn sgwâr y farchnad a'u cael i ddechrau codi twrw yn y ddinas. Aethon nhw i dŷ Jason i chwilio am Paul a Silas er mwyn dod â nhw allan at y dyrfa.
Acts WelBeibl 17:6  Ond ar ôl methu dod o hyd iddyn nhw, dyma nhw'n llusgo Jason a rhai o'r Cristnogion eraill o flaen swyddogion y ddinas. Roedden nhw'n gweiddi: “Mae'r dynion sydd wedi bod yn codi twrw ar hyd a lled y byd wedi dod i'n dinas ni,
Acts WelBeibl 17:7  ac mae Jason wedi'u croesawu nhw i'w dŷ! Maen nhw'n herio Cesar, drwy ddweud fod brenin arall o'r enw Iesu!”
Acts WelBeibl 17:8  Roedd y dyrfa a'r swyddogion wedi cyffroi wrth glywed y cyhuddiadau yma.
Acts WelBeibl 17:9  Ond dyma'r swyddogion yn penderfynu rhyddhau Jason a'r lleill ar fechnïaeth.
Acts WelBeibl 17:10  Yn syth ar ôl iddi nosi, dyma'r credinwyr yn anfon Paul a Silas i ffwrdd i Berea. Ar ôl cyrraedd yno dyma nhw'n mynd i'r synagog Iddewig.
Acts WelBeibl 17:11  Roedd pobl Berea yn fwy agored na'r Thesaloniaid. Roedden nhw'n gwrando'n astud ar neges Paul, ac wedyn yn mynd ati i chwilio'r ysgrifau sanctaidd yn ofalus i weld a oedd y pethau roedd e'n ddweud yn wir.
Acts WelBeibl 17:12  Daeth llawer o'r Iddewon i gredu, a nifer o wragedd pwysig o blith y Groegiaid, a dynion hefyd.
Acts WelBeibl 17:13  Ond pan glywodd Iddewon Thesalonica fod Paul yn cyhoeddi neges Duw yn Berea, dyma nhw'n mynd yno i greu helynt a chynhyrfu'r dyrfa.
Acts WelBeibl 17:14  Dyma'r Cristnogion yno yn penderfynu anfon Paul i'r arfordir ar unwaith, ond arhosodd Silas a Timotheus yn Berea.
Acts WelBeibl 17:15  Aeth rhai gyda Paul cyn belled ag Athen, ac yna ei adael a mynd yn ôl i Berea gyda chais ar i Silas a Timotheus fynd ato cyn gynted â roedden nhw'n gallu.
Acts WelBeibl 17:16  Tra oedd Paul yn disgwyl amdanyn nhw yn Athen, roedd wedi cynhyrfu'n lân wrth weld cymaint o eilunod oedd yn y ddinas.
Acts WelBeibl 17:17  Aeth i'r synagog i geisio rhesymu gyda'r Iddewon a'r Groegiaid oedd yn addoli Duw, ond hefyd i sgwâr y farchnad i geisio rhesymu gyda pwy bynnag oedd yn digwydd bod yno.
Acts WelBeibl 17:18  Dechreuodd dadl rhyngddo a grŵp o athronwyr, rhai yn Epicwreaid ac eraill yn Stoiciaid. “Beth mae'r mwydryn yma'n sôn amdano?” meddai rhai ohonyn nhw. “Sôn am ryw dduwiau tramor mae e,” meddai eraill. (Roedden nhw'n dweud hyn am fod Paul yn cyhoeddi'r newyddion da am Iesu a'r atgyfodiad.)
Acts WelBeibl 17:19  Felly dyma nhw'n mynd â Paul i gyfarfod o gyngor yr Areopagus. “Dwed beth ydy'r grefydd newydd yma rwyt ti'n sôn amdani,” medden nhw.
Acts WelBeibl 17:20  “Mae gen ti ryw syniadau sy'n swnio'n od iawn i ni, a dŷn ni eisiau gwybod beth ydy ystyr y cwbl.”
Acts WelBeibl 17:21  (Roedd yr Atheniaid a'r ymwelwyr oedd yn byw yno yn treulio'u hamser hamdden i gyd yn trafod ac yn gwrando pob syniad newydd!)
Acts WelBeibl 17:22  Dyma Paul yn sefyll ar ei draed o flaen cyngor yr Areopagus, a'u hannerch fel hyn: “Bobl Athen! Dw i'n gweld tystiolaeth ym mhobman eich bod chi'n bobl grefyddol iawn.
Acts WelBeibl 17:23  Dw i wedi bod yn cerdded o gwmpas yn edrych yn ofalus ar yr hyn dych chi'n ei addoli. Yng nghanol y cwbl des i o hyd i un allor oedd â'r geiriau yma wedi'u cerfio arni: I'R DUW ANHYSBYS. Dyma'r Duw dw i'n mynd i ddweud wrthoch chi amdano – yr un dych chi'n ei addoli ond ddim yn ei nabod.
Acts WelBeibl 17:24  “Fe ydy'r Duw wnaeth greu'r byd a phopeth sydd ynddo. Mae'n Arglwydd ar y nefoedd a'r ddaear. Dydy e ddim yn byw mewn temlau sydd wedi'u hadeiladu gan bobl,
Acts WelBeibl 17:25  a dydy pobl ddim yn gallu rhoi unrhyw beth iddo – does dim byd sydd arno'i angen! Y Duw yma sy'n rhoi bywyd ac anadl a phopeth arall i bawb.
Acts WelBeibl 17:26  Fe ydy'r Duw wnaeth greu y dyn cyntaf, a gwneud ohono yr holl genhedloedd gwahanol sy'n byw drwy'r byd i gyd. Mae'n penderfynu am faint fydd y cenhedloedd yna'n bodoli, a lle'n union mae eu ffiniau daearyddol.
Acts WelBeibl 17:27  Gwnaeth hyn i gyd er mwyn iddyn nhw geisio dod o hyd iddo, ac estyn allan a'i gael. A dydy e ddim yn bell oddi wrthon ni mewn gwirionedd.
Acts WelBeibl 17:28  Fel dwedodd un o'ch beirdd chi, ‘Dŷn ni'n byw, yn symud ac yn bod ynddo fe.’ Ac mae un arall yn dweud, ‘Ni yw ei blant.’
Acts WelBeibl 17:29  “Felly, os ydyn ni'n blant Duw, ddylen ni ddim meddwl amdano fel rhyw ddelw o aur neu arian neu faen – sef dim byd ond cerflun wedi'i ddylunio a'i greu gan grefftwr!
Acts WelBeibl 17:30  Ydy, mae Duw wedi diystyru'r fath ddwli yn y gorffennol, ond bellach mae'n galw ar bobl ym mhobman i droi ato.
Acts WelBeibl 17:31  Mae e wedi dewis diwrnod pan fydd y byd i gyd yn cael ei farnu. Bydd y farn yna'n gwbl deg. Mae wedi dewis dyn i wneud y barnu, ac mae wedi dangos yn glir ei fod yn mynd i wneud hyn drwy ddod â'r dyn hwnnw yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.”
Acts WelBeibl 17:32  Pan glywon nhw am y syniad o rywun yn dod yn ôl yn fyw ar ôl marw, dyma rhai ohonyn nhw yn dechrau gwneud sbort, ond meddai rhai eraill, “Fasen ni'n hoffi dy glywed di'n siarad am y pwnc yma rywbryd eto.”
Acts WelBeibl 17:34  Ond roedd rhai wedi credu beth roedd Paul yn ei ddweud a dechrau ei ddilyn. Roedd hyd yn oed un oedd yn aelod o gyngor yr Areopagus, sef Dionysiws; a gwraig o'r enw Damaris, a nifer o bobl eraill hefyd.
Chapter 18
Acts WelBeibl 18:2  Yno dyma fe'n cyfarfod Iddew o'r enw Acwila oedd yn dod yn wreiddiol o Pontus. Roedd Acwila a'i wraig Priscila wedi symud i Corinth o'r Eidal ychydig cyn hyn, am fod yr ymerawdwr Clawdiws Cesar wedi gorchymyn fod pob Iddew i adael Rhufain.
Acts WelBeibl 18:3  Gwneud pebyll oedd eu crefft nhw fel yntau, ac felly aeth Paul i weithio atyn nhw.
Acts WelBeibl 18:4  Yna bob Saboth byddai'n mynd i'r synagog ac yn ceisio perswadio Iddewon a Groegiaid i gredu'r newyddion da.
Acts WelBeibl 18:5  Ar ôl i Silas a Timotheus gyrraedd o Macedonia dyma Paul yn mynd ati i bregethu'n llawn amser, a dangos yn glir i'r Iddewon mai Iesu oedd y Meseia.
Acts WelBeibl 18:6  Ond pan wnaethon nhw droi yn ei erbyn a dechrau ei sarhau, dyma Paul yn ysgwyd y llwch oddi ar ei ddillad fel arwydd iddyn nhw. “Arnoch chi mae'r bai am beth bynnag fydd yn digwydd i chi!” meddai, “Dw i wedi gwneud beth dw i'n gallu. O hyn ymlaen dw i'n mynd at bobl y cenhedloedd eraill.”
Acts WelBeibl 18:7  Aeth Paul i aros yn nhŷ Titius Jwstus, oedd ddim yn Iddew ond oedd yn addoli Duw ac yn byw y drws nesa i'r synagog.
Acts WelBeibl 18:8  Roedd Crispus, arweinydd y synagog, a phawb yn ei dŷ, wedi dod i gredu yn yr Arglwydd; ac roedd llawer o bobl eraill Corinth wedi clywed Paul a dod i gredu hefyd, a chael eu bedyddio.
Acts WelBeibl 18:9  Un noson cafodd Paul weledigaeth, pan ddwedodd yr Arglwydd wrtho: “Paid bod ofn! Dal ati i ddweud wrth bobl amdana i. Paid bod yn ddistaw.
Acts WelBeibl 18:10  Dw i gyda ti, a fydd neb yn ymosod arnat ti na gwneud niwed i ti. Dw i'n mynd i achub llawer o bobl yn y ddinas yma.”
Acts WelBeibl 18:11  Felly arhosodd Paul yn Corinth am flwyddyn a hanner, yn dysgu neges Duw i'r bobl.
Acts WelBeibl 18:12  Tra oedd Galio yn rhaglaw ar Achaia, dyma'r arweinwyr Iddewig yn dod at ei gilydd i ddal Paul a mynd ag e i'r llys.
Acts WelBeibl 18:13  Y cyhuddiad yn ei erbyn oedd, “Perswadio pobl i addoli Duw mewn ffyrdd anghyfreithlon.”
Acts WelBeibl 18:14  Ond cyn i Paul gael cyfle i gyflwyno ei amddiffyniad, dyma Galio yn dweud wrth yr Iddewon: “Petaech chi Iddewon yn dod â'r dyn yma o flaen y llys am gamymddwyn neu gyflawni rhyw drosedd difrifol, byddwn i'n caniatáu i'r achos fynd yn ei flaen.
Acts WelBeibl 18:15  Ond y cwbl sydd yma ydy dadl am sut i ddehongli manion eich Cyfraith chi. Felly ewch i ddelio gyda'r mater eich hunain. Dw i'n gwrthod barnu'r achos.”
Acts WelBeibl 18:17  Y tu allan i'r llys dyma griw o bobl yn gafael yn Sosthenes, arweinydd y synagog, a'i guro. Ond doedd Galio ddim fel petai'n poeni dim.
Acts WelBeibl 18:18  Arhosodd Paul yn Corinth am amser hir wedyn. Pan ffarweliodd â'r Cristnogion yno hwyliodd i Syria, ac aeth Priscila ac Acwila gydag e. (Cyn mynd ar y llong yn Cenchrea roedd Paul wedi cadw'r ddefod Iddewig o eillio ei ben fel arwydd o gysegru ei hun yn llwyr i Dduw.)
Acts WelBeibl 18:19  Ar ôl glanio yn Effesus, gadawodd Paul Priscila ac Acwila yno. Ond tra oedd yno aeth i drafod gyda'r Iddewon yn y synagog.
Acts WelBeibl 18:20  Dyma nhw'n gofyn iddo aros yn hirach yno, ond gwrthododd.
Acts WelBeibl 18:21  Ond wrth adael addawodd iddyn nhw, “Bydda i'n dod nôl atoch chi os Duw a'i myn.” Felly hwyliodd Paul yn ei flaen o Effesus,
Acts WelBeibl 18:22  a chyrraedd Cesarea. Yna aeth i ymweld â'r eglwys yn Jerwsalem cyn mynd yn ei flaen i'w eglwys gartref yn Antiochia Syria.
Acts WelBeibl 18:23  Ar ôl aros yn Antiochia am dipyn, aeth i ymweld â'r eglwysi yn ardal Galatia a Phrygia unwaith eto, a chryfhau ffydd y Cristnogion yno.
Acts WelBeibl 18:24  Yn y cyfamser, roedd rhyw Iddew o'r enw Apolos wedi mynd i Effesus. Roedd yn dod yn wreiddiol o Alecsandria – dyn galluog, hyddysg iawn yn yr ysgrifau sanctaidd.
Acts WelBeibl 18:25  Roedd wedi dysgu am yr Arglwydd Iesu, ac yn siarad yn frwd iawn amdano. Roedd beth roedd e'n ei ddysgu am Iesu yn ddigon cywir, ond dim ond bedydd Ioan roedd e'n gwybod amdano.
Acts WelBeibl 18:26  Roedd yn siarad yn gwbl agored am y pethau yma yn y synagog. Pan glywodd Priscila ac Acwila beth oedd yn ei ddweud, dyma nhw yn ei wahodd i'w cartref ac yn esbonio ffordd Duw iddo yn fwy manwl.
Acts WelBeibl 18:27  Cododd awydd yn Apolos i fynd i Achaia, ac roedd y credinwyr eraill yn ei gefnogi. Felly dyma nhw'n ysgrifennu llythyr at Gristnogion Achaia yn dweud wrthyn nhw am roi croeso iddo. Pan gyrhaeddodd yno roedd yn help mawr i'r rhai oedd, drwy garedigrwydd Duw, wedi dod i gredu.
Acts WelBeibl 18:28  Roedd e'n gwrthbrofi dadleuon yr Iddewon mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Roedd yn defnyddio'r ysgrifau sanctaidd i ddangos yn glir mai Iesu oedd y Meseia.
Chapter 19
Acts WelBeibl 19:1  Tra oedd Apolos yn Corinth teithiodd Paul ar draws gwlad a chyrraedd Effesus. Yno daeth o hyd i grŵp o gredinwyr,
Acts WelBeibl 19:2  a gofynnodd iddyn nhw, “Wnaethoch chi dderbyn yr Ysbryd Glân pan ddaethoch chi i gredu?” “Na,” medden nhw, “dŷn ni ddim hyd yn oed wedi clywed fod yna'r fath beth ag Ysbryd Glân!”
Acts WelBeibl 19:3  “Felly pa fedydd gawsoch chi?” meddai Paul. “Bedydd Ioan,” medden nhw.
Acts WelBeibl 19:4  Atebodd Paul, “Bedydd i ddangos eich bod am droi cefn ar bechod oedd bedydd Ioan. Dwedodd Ioan wrth y bobl hefyd am gredu yn yr un oedd i ddod ar ei ôl, sef yn Iesu.”
Acts WelBeibl 19:5  Felly ar ôl clywed hyn dyma nhw'n cael eu bedyddio i ddangos eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd Iesu.
Acts WelBeibl 19:6  Wedyn dyma Paul yn rhoi ei ddwylo arnyn nhw, a daeth yr Ysbryd Glân arnyn nhw, a dyma nhw'n dechrau siarad ieithoedd eraill a phroffwydo.
Acts WelBeibl 19:8  Am dri mis aeth Paul i'r synagog, a siarad yn gwbl agored yno, a cheisio perswadio'r bobl am deyrnasiad Duw.
Acts WelBeibl 19:9  Ond dyma rhai ohonyn nhw'n troi'n ystyfnig – yn lle credu roedden nhw'n dechrau siarad yn erbyn Ffordd yr Arglwydd Iesu o flaen pawb. Felly dyma Paul yn eu gadael nhw, a mynd â'r credinwyr eraill gydag e. Roedden nhw'n cyfarfod yn narlithfa Tyranus i wrando ar Paul yn dysgu.
Acts WelBeibl 19:10  Aeth hyn ymlaen am ddwy flynedd, nes bod pawb yn nhalaith Asia wedi clywed neges yr Arglwydd, yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill.
Acts WelBeibl 19:11  Roedd Duw yn gwneud gwyrthiau anhygoel drwy Paul.
Acts WelBeibl 19:12  Roedd cleifion yn cael eu hiacháu ac ysbrydion drwg yn mynd allan ohonyn nhw pan oedd cadachau a ffedogau oedd wedi'i gyffwrdd yn cael eu cymryd atyn nhw.
Acts WelBeibl 19:13  Roedd grŵp o Iddewon hefyd yn mynd o gwmpas yn bwrw ysbrydion drwg allan o bobl, a dyma nhw'n ceisio defnyddio enw'r Arglwydd Iesu i ddelio gyda phobl oedd yng ngafael cythreuliaid. “Yn enw'r Iesu mae Paul yn pregethu amdano, dw i'n gorchymyn i ti ddod allan!” medden nhw.
Acts WelBeibl 19:14  (Meibion Scefa, archoffeiriad Iddewig, oedden nhw – ac roedd saith ohonyn nhw.)
Acts WelBeibl 19:15  Dyma'r ysbryd drwg yn ateb, “Dw i'n nabod Iesu, ac yn gwybod am Paul, ond pwy dych chi?”
Acts WelBeibl 19:16  A dyma'r dyn oedd a'r ysbryd drwg ynddo yn ymosod arnyn nhw a rhoi'r fath gweir iddyn nhw i gyd nes iddyn nhw redeg allan o'r tŷ yn noeth ac yn gwaedu.
Acts WelBeibl 19:17  Clywodd pawb yn Effesus beth oedd wedi digwydd – yr Iddewon a phawb arall. Daeth ofn drostyn nhw i gyd, ac roedd enw'r Arglwydd Iesu yn cael ei barchu fwy fyth.
Acts WelBeibl 19:18  Dyma lawer o'r bobl wnaeth gredu yn cyfaddef yn agored y pethau drwg roedden nhw wedi'u gwneud.
Acts WelBeibl 19:19  Roedd nifer ohonyn nhw wedi bod yn medlan gyda dewiniaeth, a dyma nhw'n dod â'r llyfrau oedd ganddyn nhw ar y pwnc ac yn eu llosgi'n gyhoeddus. Roedd y llyfrau gafodd eu llosgi yn werth ffortiwn – dros 50,000 drachma yn ôl un amcangyfrif.
Acts WelBeibl 19:20  Fel hyn roedd neges yr Arglwydd Iesu yn mynd ar led ac yn mynd yn fwy a mwy dylanwadol.
Acts WelBeibl 19:21  Ar ôl hyn i gyd, dyma Paul yn penderfynu fod rhaid iddo fynd i Jerwsalem, a galw heibio Macedonia ac Achaia ar ei ffordd. “Wedyn ar ôl bod yn Jerwsalem,” meddai, “mae'n rhaid i mi ymweld â Rhufain.”
Acts WelBeibl 19:22  Ond arhosodd yn Asia am ychydig mwy, ac anfon Timotheus ac Erastus o'i flaen i Macedonia.
Acts WelBeibl 19:23  Tua'r adeg yna buodd yna dwrw mawr yn Effesus ynglŷn â Ffordd yr Arglwydd.
Acts WelBeibl 19:24  Roedd gof arian o'r enw Demetrius yn rhedeg busnes gwneud modelau bach o deml y dduwies Artemis, ac yn cyflogi nifer o weithwyr.
Acts WelBeibl 19:25  Daeth â'r gweithwyr i gyd at ei gilydd, a gwahodd pobl eraill oedd â busnesau tebyg. Dwedodd wrthyn nhw, “Ffrindiau, y busnes yma ydy'n bywoliaeth ni – mae'n gwneud arian da i ni.
Acts WelBeibl 19:26  Ond, fel dych chi'n gwybod, mae'r dyn Paul yma wedi llwyddo i berswadio lot fawr o bobl bod y delwau dŷn ni'n eu gwneud ddim yn dduwiau o gwbl mewn gwirionedd. Mae wedi gwneud hyn, dim yn unig yma yn Effesus, ond bron drwy dalaith Asia i gyd.
Acts WelBeibl 19:27  Mae peryg nid yn unig i'n busnes ni fynd i'r wal, ond hefyd i deml Artemis golli ei dylanwad, ac i'r dduwies fawr ei hun, sy'n cael ei haddoli ar hyd a lled Asia, golli ei statws!”
Acts WelBeibl 19:28  Wrth glywed beth oedd gan Demetrius i'w ddweud, dyma'r dyrfa'n cynhyrfu'n lân a dechrau gweiddi: “Artemis yr Effesiaid am byth!”
Acts WelBeibl 19:29  Cyn bo hir roedd y ddinas i gyd yn ferw gwyllt. Dyma nhw'n dal Gaius ac Aristarchus (dau o Macedonia oedd wedi bod yn teithio gyda Paul), a'u llusgo nhw i'r amffitheatr enfawr oedd yno.
Acts WelBeibl 19:30  Roedd Paul eisiau mynd i mewn i wynebu'r dyrfa, ond wnaeth y disgyblion ddim gadael iddo.
Acts WelBeibl 19:31  A dyma hyd yn oed rai o swyddogion y dalaith, roedd Paul yn ffrindiau â nhw, yn anfon neges ato i bwyso arno i beidio mentro i mewn.
Acts WelBeibl 19:32  Roedd y dyrfa yno mewn anhrefn llwyr. Roedd rhai ohonyn nhw'n gweiddi un peth a rhai eraill yn gweiddi rhywbeth arall. Doedd gan y rhan fwyaf o'r bobl oedd yno ddim syniad beth oedd yn mynd ymlaen!
Acts WelBeibl 19:33  Dyma rai o'r arweinwyr Iddewig yn gwthio dyn o'r enw Alecsander i'r blaen i esbonio fod gan y cwbl ddim byd i'w wneud â'r Iddewon. Cododd yntau ei law i geisio tawelu'r dyrfa, er mwyn iddo amddiffyn enw da'r Iddewon.
Acts WelBeibl 19:34  Ond pan ddeallodd y dyrfa ei fod yn Iddew, dyma nhw'n dechrau gweiddi gyda'i gilydd eto, “Artemis yr Effesiaid am byth!” Aeth y siantio ymlaen yn ddi-stop am tua dwy awr.
Acts WelBeibl 19:35  Clerc y ddinas lwyddodd i dawelu'r dyrfa yn y diwedd, ac meddai: “Bobl Effesus. Mae pawb drwy'r byd i gyd yn gwybod mai yn ein dinas ni mae teml y dduwies fawr Artemis, ac mai ni sy'n gwarchod y ddelw ohoni ddaeth i lawr o'r nefoedd.
Acts WelBeibl 19:36  Does neb yn gallu gwadu hynny, felly mae'n bryd i chi dawelu, a pheidio gwneud dim byd byrbwyll.
Acts WelBeibl 19:37  Dydy'r dynion ddaethoch chi â nhw yma ddim yn euog o ddwyn unrhyw beth o'r deml nac o gablu ein duwies ni.
Acts WelBeibl 19:38  Felly, os oes gan Demetrius a'i ffrindiau gŵyn yn erbyn rhywun, mae llysoedd i ddelio gyda'r mater, a barnwyr. Dyna'r lle i ddwyn cyhuddiad yn erbyn rhywun.
Acts WelBeibl 19:39  Ac os oes unrhyw beth pellach, caiff ei setlo mewn cyfarfod cyhoeddus swyddogol.
Acts WelBeibl 19:40  Mae peryg i ni gael ein cyhuddo o ddechrau reiat o achos beth sydd wedi digwydd yma heddiw. A phetai hynny'n digwydd, beth fydden ni'n ei ddweud wrth yr awdurdodau? – Does dim esgus am y peth.”
Chapter 20
Acts WelBeibl 20:1  Pan oedd yr helynt drosodd, dyma Paul yn galw'r Cristnogion at ei gilydd i ffarwelio â nhw a'u hannog nhw i ddal ati. Gadawodd i fynd i Macedonia,
Acts WelBeibl 20:2  ac ar ôl teithio ar hyd a lled yr ardal honno yn annog y bobl, aeth i lawr i Corinth yn y de,
Acts WelBeibl 20:3  ac aros yno am dri mis. Pan oedd ar fin hwylio i Syria dyma fe'n darganfod fod yr Iddewon yn cynllwynio i ymosod arno, felly penderfynodd deithio yn ôl drwy Macedonia.
Acts WelBeibl 20:4  Yn teithio gydag e roedd Sopater fab Pyrrhus o Berea, Aristarchus a Secwndus o Thesalonica, Gaius o Derbe, hefyd Timotheus, a Tychicus a Troffimus o dalaith Asia.
Acts WelBeibl 20:5  Ond yna aeth y rhain yn eu blaenau i Troas, a disgwyl amdanon ni yno.
Acts WelBeibl 20:6  Wnaethon ni ddim gadael Philipi nes oedd Gŵyl y Bara Croyw (sef y Pasg) drosodd. Yna bum diwrnod wedyn roedden ni wedi ymuno gyda'r lleill eto yn Troas, a dyma ni'n aros yno am wythnos.
Acts WelBeibl 20:7  Ar y nos Sadwrn dyma ni'n cyfarfod i fwyta a dathlu Swper yr Arglwydd. Paul oedd yn pregethu, a chan ei fod yn bwriadu gadael y diwrnod wedyn, daliodd ati i siarad nes oedd hi'n hanner nos.
Acts WelBeibl 20:8  Roedden ni'n cyfarfod mewn ystafell i fyny'r grisiau, ac roedd llawer o lampau yn llosgi yno.
Acts WelBeibl 20:9  Wrth i Paul fynd ymlaen ac ymlaen, dyma fachgen ifanc o'r enw Eutychus yn dechrau pendwmpian. Roedd yn eistedd ar silff un o'r ffenestri, a phan oedd yn cysgu go iawn syrthiodd allan o'r ffenest oedd ar y trydydd llawr. Dyma nhw'n mynd i'w godi, ond roedd wedi marw.
Acts WelBeibl 20:10  Ond yna aeth Paul i lawr, a thaflu ei freichiau o gwmpas y dyn ifanc. “Peidiwch cynhyrfu!”, meddai, “Mae'n fyw!”
Acts WelBeibl 20:11  Wedyn aeth yn ôl i fyny i fwyta a dathlu Swper yr Arglwydd. Aeth yn ei flaen i siarad nes oedd hi wedi gwawrio, ac yna gadawodd nhw.
Acts WelBeibl 20:12  Dyma nhw'n mynd â'r dyn ifanc adre'n fyw, ac roedd pawb wedi'u calonogi'n fawr.
Acts WelBeibl 20:13  Dyma Paul yn penderfynu croesi ar draws gwlad i Assos. Roedd am i'r gweddill ohonon ni hwylio yno ar long, a byddai'n ein cyfarfod ni yno.
Acts WelBeibl 20:14  Yn Assos ymunodd â ni ar y llong a dyma ni'n hwylio ymlaen i Mitylene.
Acts WelBeibl 20:15  Y diwrnod wedyn dyma ni'n cyrraedd gyferbyn ag ynys Cios. Croesi i Samos y diwrnod canlynol. Ac yna'r diwrnod ar ôl hynny dyma ni'n glanio yn Miletus.
Acts WelBeibl 20:16  Roedd Paul wedi penderfynu peidio galw yn Effesus y tro yma, rhag iddo golli gormod o amser yn nhalaith Asia. Roedd ar frys, ac yn awyddus i gyrraedd Jerwsalem erbyn Gŵyl y Pentecost.
Acts WelBeibl 20:17  Ond tra oedd yn Miletus, anfonodd neges i Effesus yn galw arweinwyr yr eglwys i ddod draw i Miletus i'w gyfarfod.
Acts WelBeibl 20:18  Pan gyrhaeddon nhw, dyma oedd ganddo i'w ddweud wrthyn nhw: “Dych chi'n gwybod yn iawn sut fues i'n gweithio i'r Arglwydd heb dynnu sylw ata i fy hun pan oeddwn i gyda chi yn nhalaith Asia.
Acts WelBeibl 20:19  Dych chi'n gwybod am y dagrau gollais i, ac mor anodd roedd hi'n gallu bod am fod yr Iddewon yn cynllwynio yn fy erbyn i.
Acts WelBeibl 20:20  Dych chi'n gwybod mod i wedi cyhoeddi beth oedd o les i chi, a mynd o gwmpas yn gwbl agored o un tŷ i'r llall yn eich dysgu chi.
Acts WelBeibl 20:21  Dw i wedi dweud yn glir wrth yr Iddewon a phawb arall fod rhaid iddyn nhw droi o'u pechod at Dduw, a chredu yn yr Arglwydd Iesu.
Acts WelBeibl 20:22  “A nawr dw i'n mynd i Jerwsalem. Mae'r Ysbryd wedi dweud fod rhaid i mi fynd, er nad ydw i'n gwybod beth fydd yn digwydd i mi ar ôl i mi gyrraedd yno.
Acts WelBeibl 20:23  Yr unig beth dw i'n wybod ydy mod i'n mynd i gael fy arestio a bod pethau'n mynd i fod yn galed – mae'r Ysbryd Glân wedi gwneud hynny'n ddigon clir dro ar ôl tro mewn gwahanol leoedd.
Acts WelBeibl 20:24  Sdim ots! Cyn belled â'm bod i'n gorffen y ras! Dydy mywyd i'n dda i ddim oni bai mod i'n gwneud y gwaith mae'r Arglwydd Iesu wedi'i roi i mi – sef dweud y newyddion da am gariad a haelioni Duw wrth bobl.
Acts WelBeibl 20:25  “A dyna dw i wedi'i wneud yn eich plith chi – dw i wedi bod yn mynd o le i le yn pregethu am deyrnasiad Duw, ond bellach dw i'n gwybod na chewch chi ngweld i byth eto.
Acts WelBeibl 20:26  Felly, dw i am ddweud yma heddiw – dim fi sy'n gyfrifol am beth fydd yn digwydd i unrhyw un.
Acts WelBeibl 20:27  Dw i wedi dweud popeth sydd ei angen am y ffordd mae Duw'n achub, a beth mae'n ei ddisgwyl gynnon ni.
Acts WelBeibl 20:28  “Gofalwch amdanoch eich hunain, a'r bobl mae'r Ysbryd Glân wedi'u rhoi yn eich gofal fel arweinwyr. Bugeilio eglwys Dduw fel mae bugail yn gofalu am ei braidd – dyma'r eglwys wnaeth Duw ei phrynu'n rhydd â'i waed ei hun!
Acts WelBeibl 20:29  Dw i'n gwybod yn iawn y bydd athrawon twyllodrus yn dod i'ch plith chi cyn gynted ag y bydda i wedi mynd, fel bleiddiaid gwyllt yn llarpio'r praidd.
Acts WelBeibl 20:30  Bydd hyd yn oed rhai o'ch pobl chi'ch hunain yn twistio'r gwirionedd i geisio denu dilynwyr iddyn nhw'u hunain.
Acts WelBeibl 20:31  Felly gwyliwch eich hunain! Cofiwch mod i wedi'ch rhybuddio chi ddydd a nos, a cholli dagrau lawer am y tair blynedd roeddwn i gyda chi.
Acts WelBeibl 20:32  “Dw i'n eich gadael chi yng ngofal Duw bellach, a'r neges am ei gariad a'i haelioni. Y neges yma sy'n eich adeiladu chi a rhoi etifeddiaeth i chi gyda phawb arall mae wedi'u cysegru iddo'i hun.
Acts WelBeibl 20:33  Dw i ddim wedi ceisio cael arian na dillad gan neb.
Acts WelBeibl 20:34  Dych chi'n gwybod yn iawn mod i wedi gweithio'n galed i dalu fy ffordd a chynnal fy ffrindiau.
Acts WelBeibl 20:35  Drwy'r cwbl roeddwn i'n dangos sut bydden ni'n gallu helpu'r tlodion drwy weithio'n galed. Dych chi'n cofio fod yr Arglwydd Iesu ei hun wedi dweud: ‘Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.’”
Acts WelBeibl 20:36  Ar ôl dweud hyn i gyd, aeth ar ei liniau i weddïo gyda nhw.
Acts WelBeibl 20:37  Dyma pawb yn dechrau crio wrth gofleidio Paul a'i gusanu.
Acts WelBeibl 20:38  Roedden nhw'n arbennig o drist am ei fod wedi dweud y bydden nhw ddim yn ei weld byth eto. Wedyn dyma nhw'n mynd i lawr at y llong gydag e.
Chapter 21
Acts WelBeibl 21:1  Ar ôl llwyddo i dynnu'n hunain i ffwrdd oddi wrthyn nhw dyma ni'n dechrau'r fordaith a hwylio'n syth i ynys Cos. Cyrraedd Rhodos y diwrnod wedyn, ac yna mynd ymlaen i Patara.
Acts WelBeibl 21:2  Newid llong yno, a hwylio ymlaen ar long oedd yn mynd i dalaith Phenicia yn Syria.
Acts WelBeibl 21:3  Cael cipolwg ar ynys Cyprus wrth hwylio i'r de o'r ynys, ac yna mynd ymlaen i Syria. Dyma ni'n glanio yn Tyrus lle roedd y llong yn dadlwytho ei chargo.
Acts WelBeibl 21:4  Daethon ni o hyd i'r Cristnogion yno, ac aros gyda nhw am wythnos. Roedden nhw'n pwyso ar Paul i beidio mynd i Jerwsalem o achos beth roedden nhw'n ei broffwydo drwy'r Ysbryd Glân.
Acts WelBeibl 21:5  Ond mynd ymlaen ar ein taith wnaethon ni pan ddaeth hi'n amser i ni symud. Daethon nhw i gyd i lawr i'r traeth gyda ni i ffarwelio – hyd yn oed y gwragedd a'r plant. Yno dyma ni i gyd yn mynd ar ein gliniau i weddïo.
Acts WelBeibl 21:6  Ar ôl ffarwelio â'n gilydd aethon ni ar y llong a dyma nhw'n mynd adre.
Acts WelBeibl 21:7  Dyma ni'n hwylio ymlaen o Tyrus ac yn glanio wedyn yn Ptolemais. Rhoddodd y Cristnogion yno groeso i ni, a chawson dreulio'r diwrnod gyda nhw.
Acts WelBeibl 21:8  A'r diwrnod wedyn dyma ni'n mynd ymlaen i Cesarea, ac aros yng nghartref Philip yr efengylydd (un o'r saith gafodd eu dewis gan eglwys Jerwsalem i fod yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd i'r gweddwon).
Acts WelBeibl 21:9  Roedd gan Philip bedair o ferched dibriod oedd yn proffwydo.
Acts WelBeibl 21:10  Roedden ni wedi bod yno am rai dyddiau, a dyma broffwyd o'r enw Agabus yn dod yno o Jwdea.
Acts WelBeibl 21:11  Pan ddaeth, cymerodd felt Paul oddi arno a rhwymo ei ddwylo a'i draed ei hun gyda hi. Yna meddai, “Dyma mae'r Ysbryd Glân yn ei ddweud, ‘Bydd arweinwyr yr Iddewon yn Jerwsalem yn rhwymo'r sawl sydd biau'r belt yma, ac yna'n ei drosglwyddo i'r Rhufeiniaid.’”
Acts WelBeibl 21:12  Ar ôl clywed hyn, dyma ni a'r Cristnogion lleol yn Cesarea yn dechrau pledio ar Paul i beidio mynd i Jerwsalem.
Acts WelBeibl 21:13  Ond ateb Paul oedd, “Pam yr holl grio yma? Dych chi'n torri fy nghalon i. Dw i'n fodlon nid yn unig cael fy rhwymo, ond marw yn Jerwsalem er mwyn yr Arglwydd Iesu.”
Acts WelBeibl 21:14  Doedd dim modd ei berswadio, felly dyma ni'n rhoi'r gorau iddi a dweud, “Wel, rhaid i beth bynnag mae'r Arglwydd eisiau ddigwydd.”
Acts WelBeibl 21:15  Yn fuan wedyn dyma ni'n dechrau'r daith ymlaen i Jerwsalem.
Acts WelBeibl 21:16  Daeth rhai o Gristnogion Cesarea gyda ni, a mynd â ni i aros yng nghartref Mnason (dyn o Cyprus oedd yn un o'r rhai cyntaf i ddod i gredu).
Acts WelBeibl 21:17  Cawson ni groeso cynnes gan y Cristnogion pan gyrhaeddon ni Jerwsalem.
Acts WelBeibl 21:18  Yna'r diwrnod wedyn aeth Paul gyda ni i weld Iago, ac roedd yr arweinwyr i gyd yno.
Acts WelBeibl 21:19  Ar ôl eu cyfarch dyma Paul yn rhoi adroddiad manwl o'r cwbl roedd Duw wedi'i wneud drwy ei waith ymhlith pobl o genhedloedd eraill.
Acts WelBeibl 21:20  Pan glywon nhw'r hanes dyma nhw'n moli Duw. Ond wedyn dyma nhw'n dweud wrth Paul: “Frawd, rwyt ti'n gwybod fod degau o filoedd o Iddewon wedi dod i gredu hefyd, ac maen nhw i gyd yn ofalus iawn i gadw Cyfraith Moses.
Acts WelBeibl 21:21  Ond maen nhw wedi clywed dy fod ti'n dysgu'r Iddewon sy'n byw mewn gwledydd eraill i droi cefn ar Moses, i stopio enwaedu eu bechgyn a chadw'r traddodiadau Iddewig eraill.
Acts WelBeibl 21:22  Mae'n rhaid gwneud rhywbeth. Maen nhw'n siŵr o glywed dy fod ti wedi dod yma.
Acts WelBeibl 21:23  Dyma beth dŷn ni'n awgrymu. Mae pedwar dyn yma sydd wedi cymryd llw.
Acts WelBeibl 21:24  Dos gyda nhw, a mynd drwy'r ddefod o lanhau dy hun, a thalu'r costau iddyn nhw gael eillio eu pennau. Bydd hi'n amlwg i bawb wedyn bod y sibrydion amdanat ti ddim yn wir, a dy fod ti'n byw yn ufudd i'r Gyfraith.
Acts WelBeibl 21:25  Ond lle mae'r Cristnogion o genhedloedd eraill yn y cwestiwn, dŷn ni wedi dweud mewn llythyr beth dŷn ni'n ei ddisgwyl ganddyn nhw – sef peidio bwyta cig wedi'i aberthu i eilun-dduwiau, na dim sydd â gwaed ynddo, na chig anifeiliaid sydd wedi'u tagu, a'u bod i gadw draw oddi wrth unrhyw anfoesoldeb rhywiol.”
Acts WelBeibl 21:26  Felly'r diwrnod wedyn dyma Paul yn mynd drwy'r ddefod o lanhau ei hun gyda'r dynion eraill. Wedyn aeth i'r deml i gyhoeddi'r dyddiad y byddai'r cyfnod o buredigaeth drosodd, pan fyddai offrwm yn cael ei gyflwyno ar ran pob un ohonyn nhw.
Acts WelBeibl 21:27  Pan oedd saith diwrnod y buredigaeth bron ar ben, dyma ryw Iddewon o dalaith Asia yn gweld Paul yn y deml. Dyma nhw'n llwyddo i gynhyrfu'r dyrfa a gafael ynddo
Acts WelBeibl 21:28  gan weiddi, “Bobl Israel, helpwch ni! Dyma'r dyn sy'n dysgu pawb ym mhobman i droi yn erbyn ein pobl ni, a'n Cyfraith, a'r Deml yma! Ac mae wedi halogi'r lle sanctaidd yma drwy ddod â phobl o genhedloedd eraill i mewn yma!”
Acts WelBeibl 21:29  (Roedden nhw wedi gweld Troffimus o Effesus gyda Paul yn y ddinas yn gynharach, ac yn cymryd yn ganiataol ei fod wedi mynd gyda Paul lle na ddylai fynd yn y deml.)
Acts WelBeibl 21:30  Dyma'r cynnwrf yn lledu drwy'r ddinas i gyd, a phobl yn rhedeg yno o bob cyfeiriad. Dyma nhw'n gafael yn Paul a'i lusgo allan o'r deml, ac wedyn cau'r giatiau.
Acts WelBeibl 21:31  Roedden nhw'n mynd i'w ladd, ond clywodd capten y fyddin Rhufeinig fod reiat yn datblygu yn Jerwsalem.
Acts WelBeibl 21:32  Aeth yno ar unwaith gyda'i filwyr a rhedeg i'r lle roedd y dyrfa. Roedd rhai wrthi'n curo Paul, ond pan welon nhw'r milwyr dyma nhw'n stopio.
Acts WelBeibl 21:33  Dyma'r capten yn arestio Paul ac yn gorchymyn ei rwymo gyda dwy gadwyn. Wedyn gofynnodd i'r dyrfa pwy oedd, a beth roedd wedi'i wneud.
Acts WelBeibl 21:34  Ond roedd rhai yn gweiddi un peth, ac eraill yn gweiddi rhywbeth hollol wahanol. Roedd hi'n amhosib darganfod beth oedd y gwir yng nghanol yr holl dwrw, felly dyma'r capten yn gorchymyn i'r milwyr fynd â Paul i'r barics milwrol yn Antonia.
Acts WelBeibl 21:35  Erbyn i Paul gyrraedd y grisiau roedd y dyrfa wedi troi'n dreisgar, ac roedd rhaid i'r milwyr ei gario.
Acts WelBeibl 21:36  Roedd y dyrfa yn ei dilyn nhw yn gweiddi, “Rhaid ei ladd! Rhaid ei ladd!”
Acts WelBeibl 21:37  Roedd y milwyr ar fin mynd â Paul i mewn i'r barics pan ofynnodd i'r capten, “Ga i ddweud rhywbeth?” “Sut dy fod di'n siarad Groeg?” meddai'r capten wrtho,
Acts WelBeibl 21:38  “Onid ti ydy'r Eifftiwr hwnnw ddechreuodd wrthryfel ychydig yn ôl ac arwain pedair mil o aelodau'r grŵp terfysgol ‛y Sicari‛ i'r anialwch?”
Acts WelBeibl 21:39  “Na,” meddai Paul, “Iddew ydw i; dw i'n ddinesydd o Tarsus yn Cilicia. Ga i siarad â'r bobl yma os gweli di'n dda?”
Acts WelBeibl 21:40  Rhoddodd y capten ganiatâd iddo, a safodd Paul ar y grisiau a chodi ei law i gael y dyrfa i dawelu. Pan oedden nhw i gyd yn dawel, dechreuodd eu hannerch yn yr iaith Hebraeg:
Chapter 22
Acts WelBeibl 22:1  “Frodyr ac arweinwyr parchus ein cenedl, ga i ddweud gair i amddiffyn fy hun?”
Acts WelBeibl 22:2  Pan glywon nhw Paul yn siarad Hebraeg dyma nhw'n mynd yn hollol dawel. Yna meddai Paul wrthyn nhw,
Acts WelBeibl 22:3  “Iddew ydw i, wedi fy ngeni yn Tarsus yn Cilicia, ond ces i fy magu yma yn Jerwsalem. Bues i'n astudio Cyfraith ein hynafiaid yn fanwl dan yr athro Gamaliel. Rôn i'n frwd iawn dros bethau Duw, yn union fel dych chi yma heddiw.
Acts WelBeibl 22:4  Bues i'n erlid y rhai oedd yn dilyn y Ffordd Gristnogol, ac yn arestio dynion a merched, a'u taflu nhw i'r carchar.
Acts WelBeibl 22:5  Gall yr archoffeiriad ac aelodau Cyngor y Sanhedrin dystio i'r ffaith fod hyn i gyd yn wir, am mai nhw roddodd lythyrau i mi i'w cyflwyno i arweinwyr ein pobl yn Damascus. Rôn i'n mynd yno i arestio'r Cristnogion a dod â nhw yn ôl yn gaeth i Jerwsalem i'w cosbi nhw.
Acts WelBeibl 22:6  “Roedd hi tua chanol dydd, ac roeddwn i bron â chyrraedd Damascus, ac yn sydyn dyma rhyw olau llachar o'r nefoedd yn fflachio o'm cwmpas i.
Acts WelBeibl 22:7  Syrthiais ar lawr, a chlywed llais yn dweud wrtho i, ‘Saul! Saul! Pam wyt ti'n fy erlid i?’
Acts WelBeibl 22:8  “Gofynnais, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ “‘Iesu o Nasareth ydw i,’ meddai'r llais, ‘sef yr un rwyt ti'n ei erlid.’
Acts WelBeibl 22:9  Roedd y rhai oedd gyda mi yn gweld y golau, ond ddim yn deall y llais oedd yn siarad â mi.
Acts WelBeibl 22:10  “Gofynnais iddo, ‘Beth wna i, Arglwydd?’ A dyma'r Arglwydd yn ateb, ‘Cod ar dy draed, a dos i Damascus. Yno cei di wybod popeth rwyt ti i fod i'w wneud.’
Acts WelBeibl 22:11  Rôn i wedi cael fy nallu gan y golau disglair, ac roedd rhaid i mi gael fy arwain gerfydd fy llaw i Damascus.
Acts WelBeibl 22:12  “Daeth dyn o'r enw Ananias i ngweld i. Dyn duwiol iawn, yn cadw Cyfraith Moses yn ofalus ac yn ddyn roedd yr Iddewon yno yn ei barchu'n fawr.
Acts WelBeibl 22:13  Safodd wrth fy ymyl a dweud. ‘Saul, frawd. Derbyn dy olwg yn ôl!’ Ac o'r eiliad honno rôn i'n gallu gweld eto.
Acts WelBeibl 22:14  “Wedyn dwedodd Ananias wrtho i: ‘Mae Duw ein cyndeidiau ni wedi dy ddewis di i wybod beth mae e eisiau, i weld Iesu, yr Un Cyfiawn, a chlywed beth sydd ganddo i'w ddweud.
Acts WelBeibl 22:15  Byddi di'n mynd i ddweud wrth bawb beth rwyt ti wedi'i weld a'i glywed.
Acts WelBeibl 22:16  Felly, pam ddylet ti oedi? Cod ar dy draed i ti gael dy fedyddio a golchi dy bechodau i ffwrdd wrth alw arno i dy achub di.’
Acts WelBeibl 22:17  “Pan ddes i yn ôl i Jerwsalem roeddwn i'n gweddïo yn y Deml pan ges i weledigaeth –
Acts WelBeibl 22:18  yr Arglwydd yn siarad â mi, ac yn dweud ‘Brysia! Rhaid i ti adael Jerwsalem ar unwaith, achos wnân nhw ddim credu beth fyddi di'n ei ddweud amdana i.’
Acts WelBeibl 22:19  “‘Ond Arglwydd,’ meddwn innau, ‘mae'r bobl yma'n gwybod yn iawn mod i wedi mynd o un synagog i'r llall yn carcharu'r bobl sy'n credu ynot ti, ac yn eu curo nhw.
Acts WelBeibl 22:20  Pan gafodd Steffan ei ladd am ei fod yn siarad amdanat ti, roeddwn i yno'n cefnogi beth oedd yn digwydd! Fi oedd yn gofalu am fentyll y rhai oedd yn ei ladd.’
Acts WelBeibl 22:21  “Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho i, ‘Dos; dw i'n mynd i dy anfon di'n bell i ffwrdd, at bobl o genhedloedd eraill.’”
Acts WelBeibl 22:22  Roedd y dyrfa wedi gwrando arno nes iddo ddweud hynny. Ond yna dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uchel, “Rhaid iddo gael ei ladd! Dydy e ddim yn haeddu byw!”
Acts WelBeibl 22:23  Dyma nhw'n dechrau gweiddi eto, tynnu eu mentyll i ffwrdd a thaflu llwch i'r awyr.
Acts WelBeibl 22:24  Felly dyma'r capten yn gorchymyn mynd â Paul i mewn i'r barics i gael ei groesholi gyda'r chwip, er mwyn ceisio darganfod pam roedd y bobl yn gweiddi arno fel hyn.
Acts WelBeibl 22:25  Wrth iddyn nhw rwymo ei freichiau ar led i'w chwipio, dyma Paul yn gofyn i'r swyddog milwrol oedd yn gyfrifol, “Oes gynnoch chi hawl i chwipio dinesydd Rhufeinig heb ei gael yn euog mewn llys barn?”
Acts WelBeibl 22:26  Pan glywodd y swyddog hynny, aeth at y capten. “Syr, beth dych chi'n ei wneud?” meddai wrtho. “Mae'r dyn yn ddinesydd Rhufeinig.”
Acts WelBeibl 22:27  Felly dyma'r capten yn mynd at Paul a gofyn iddo, “Wyt ti'n ddinesydd Rhufeinig?” “Ydw,” meddai Paul.
Acts WelBeibl 22:28  “Roedd rhaid i mi dalu arian mawr i gael bod yn ddinesydd,” meddai'r capten. “Ces i fy ngeni'n ddinesydd,” meddai Paul.
Acts WelBeibl 22:29  Dyma'r rhai oedd yn mynd i'w groesholi yn camu nôl yn syth. Ac roedd y capten ei hun wedi dychryn pan sylweddolodd ei fod wedi rhwymo dinesydd Rhufeinig â chadwyni.
Acts WelBeibl 22:30  Y diwrnod wedyn roedd y capten eisiau deall yn union beth oedd cyhuddiad yr Iddewon yn erbyn Paul. Dyma fe'n gollwng Paul yn rhydd o'i gadwyni, a gorchymyn i'r prif offeiriaid a'r Sanhedrin ddod at ei gilydd. Wedyn daeth â Paul, a'i osod i sefyll o'u blaenau.
Chapter 23
Acts WelBeibl 23:1  Dyma Paul yn edrych ar aelodau'r Sanhedrin ac yn dweud, “Frodyr, dw i wedi gwasanaethu Duw gyda chydwybod glir, a dw i'n dal i wneud hynny heddiw.”
Acts WelBeibl 23:2  Ar unwaith, dyma Ananias yr archoffeiriad yn gorchymyn i'r rhai oedd yn sefyll wrth ymyl Paul ei daro ar ei geg.
Acts WelBeibl 23:3  Dyma Paul yn ymateb drwy ddweud, “Bydd Duw yn dy daro di, y rhagrithiwr! Sut alli di eistedd yna yn fy marnu i ar sail Cyfraith Moses, tra'n torri'r un Gyfraith drwy orchymyn fy nharo i!”
Acts WelBeibl 23:4  “Wyt ti'n meiddio sarhau archoffeiriad Duw fel yna?” meddai'r rhai wrth ei ymyl.
Acts WelBeibl 23:5  “Frodyr,” meddai Paul, “doeddwn i ddim yn sylweddoli mai'r archoffeiriad oedd e. Mae'r ysgrifau'n dweud: ‘Paid dweud dim byd drwg am arweinydd dy bobl.’”
Acts WelBeibl 23:6  Roedd Paul yn gwybod yn iawn fod rhai ohonyn nhw'n Sadwceaid ac eraill yn Phariseaid, felly galwodd allan yng nghanol y Sanhedrin, “Frodyr, Pharisead ydw i, a dyna oedd fy nghyndadau. Dw i yma ar brawf am fy mod i'n credu fod y meirw'n mynd i ddod yn ôl yn fyw.”
Acts WelBeibl 23:7  Pan ddwedodd hyn dyma'r Phariseaid a'r Sadwceaid yn dechrau dadlau.
Acts WelBeibl 23:8  (Dydy Sadwceaid ddim yn credu fod atgyfodiad, nac angylion nac ysbrydion, ond mae'r Phariseaid yn credu ynddyn nhw i gyd.)
Acts WelBeibl 23:9  Roedd yna dwrw ofnadwy, gyda rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith oedd yn Phariseaid ar eu traed yn dadlau'n ffyrnig. “Dydy'r dyn yma ddim wedi gwneud unrhyw beth o'i le! Falle fod ysbryd neu angel wedi siarad â fe!”
Acts WelBeibl 23:10  Aeth pethau mor ddrwg nes bod y capten yn ofni y byddai Paul yn cael ei anafu yn eu canol nhw! Felly gorchmynnodd i'w filwyr fynd i lawr i'w achub o'u canol a mynd ag e yn ôl i'r barics.
Acts WelBeibl 23:11  Y noson honno daeth yr Arglwydd at Paul a dweud wrtho, “Bydd yn ddewr! Mae'n rhaid i ti ddweud amdana i yn Rhufain, yn union fel rwyt ti wedi gwneud yma yn Jerwsalem.”
Acts WelBeibl 23:12  Y bore wedyn dyma grŵp o Iddewon yn mynd ar lw i beidio bwyta nac yfed nes roedden nhw wedi llwyddo i ladd Paul.
Acts WelBeibl 23:13  Roedd dros bedwar deg o ddynion yn rhan o'r cynllwyn yma.
Acts WelBeibl 23:14  A dyma nhw'n mynd at yr archoffeiriad a'r arweinwyr Iddewig a dweud wrthyn nhw, “Dŷn ni wedi mynd ar lw i beidio bwyta dim byd nes byddwn ni wedi lladd Paul.
Acts WelBeibl 23:15  Ond mae arnon ni angen eich help chi. Gofynnwch i'r capten ddod ag e o flaen y Sanhedrin eto, gan esgus eich bod chi eisiau edrych yn fwy manwl ar ei achos. Gwnawn ni ymosod arno a'i ladd ar y ffordd yma.”
Acts WelBeibl 23:16  Ond clywodd nai i Paul (mab ei chwaer) am y cynllwyn, ac aeth i'r barics i ddweud wrth Paul.
Acts WelBeibl 23:17  Dyma Paul yn galw un o'r swyddogion milwrol a dweud wrtho, “Dos â'r bachgen ifanc yma at y capten; mae ganddo rywbeth pwysig i'w ddweud wrtho.”
Acts WelBeibl 23:18  Gwnaeth hynny, ac esbonio i'r capten, “Paul y carcharor ofynnodd i mi ddod â'r bachgen yma atoch chi am fod ganddo rywbeth i'w ddweud wrthoch chi.”
Acts WelBeibl 23:19  Dyma'r capten yn gafael yn llaw'r bachgen, a mynd o'r neilltu a gofyn iddo, “Beth rwyt ti eisiau ei ddweud wrtho i?”
Acts WelBeibl 23:20  Meddai'r bachgen: “Mae'r Iddewon yn mynd i ofyn i chi fynd â Paul i sefyll o flaen y Sanhedrin eto fory, gan esgus eu bod eisiau ystyried ei achos yn fwy manwl.
Acts WelBeibl 23:21  Ond rhaid i chi beidio. Mae yna dros bedwar deg o ddynion yn cuddio ar y ffordd, yn barod i ymosod arno. Maen nhw wedi cymryd llw i beidio bwyta nac yfed nes byddan nhw wedi lladd Paul. Maen nhw'n barod, yn disgwyl i chi gytuno i'r cais.”
Acts WelBeibl 23:22  “Paid sôn wrth neb dy fod ti wedi dweud wrtho i am hyn,” meddai'r capten wrth iddo anfon y bachgen i ffwrdd.
Acts WelBeibl 23:23  Wedyn dyma'r capten yn galw dau o'i swyddogion, a gorchymyn iddyn nhw, “Paratowch fintai o ddau gant o filwyr erbyn naw o'r gloch heno i fynd i Cesarea. Hefyd saith deg o farchogion a dau gant o bicellwyr.
Acts WelBeibl 23:24  Paratowch geffyl i Paul hefyd, a mynd ag e'n saff at y llywodraethwr Ffelics.”
Acts WelBeibl 23:26  Oddi wrth Clawdiws Lysias, at eich Anrhydedd, y Llywodraethwr Ffelics: Cyfarchion!
Acts WelBeibl 23:27  Roedd y dyn yma wedi'i ddal gan yr Iddewon, ac roedden nhw ar fin ei ladd. Ond ar ôl deall ei fod yn ddinesydd Rhufeinig dyma fi'n mynd â'm milwyr i'w achub.
Acts WelBeibl 23:28  Gan fy mod eisiau deall beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn, dyma fi'n mynd ag e i sefyll o flaen y Sanhedrin Iddewig.
Acts WelBeibl 23:29  Daeth yn amlwg fod gan y cwbl rywbeth i'w wneud â'r ffordd iawn o ddehongli eu Cyfraith nhw – doedd e'n sicr ddim yn haeddu ei ddienyddio, na hyd yn oed ei garcharu!
Acts WelBeibl 23:30  Ond wedyn ces wybodaeth fod cynllwyn ar y gweill i'w ladd, felly dyma fi'n ei anfon atoch chi ar unwaith. Dw i wedi dweud wrth y rhai sy'n ei gyhuddo am fynd â'u hachos atoch chi.
Acts WelBeibl 23:31  Felly yn ystod y nos dyma'r milwyr yn mynd â Paul o Jerwsalem, ac yn cyrraedd cyn belled ag Antipatris, oedd tua hanner ffordd i Cesarea.
Acts WelBeibl 23:32  Y diwrnod wedyn dyma'r marchogion yn mynd yn eu blaenau gydag e, a gweddill y milwyr yn mynd yn ôl i'r barics yn Jerwsalem.
Acts WelBeibl 23:33  Pan gyrhaeddodd y marchogion Cesarea, dyma nhw'n mynd â'r llythyr at y llywodraethwr ac yn trosglwyddo Paul i'w ofal.
Acts WelBeibl 23:34  Ar ôl darllen y llythyr dyma'r llywodraethwr yn gofyn o ba dalaith roedd Paul yn dod. Ar ôl deall ei fod yn dod o Cilicia,
Acts WelBeibl 23:35  meddai, “Gwna i wrando ar dy achos di pan fydd y rhai sy'n dy gyhuddo di wedi cyrraedd.” Yna gorchmynnodd fod Paul i gael ei gadw yn y ddalfa ym mhencadlys Herod.
Chapter 24
Acts WelBeibl 24:1  Bum diwrnod wedyn daeth Ananias yr archoffeiriad i Cesarea gyda rhai o'r arweinwyr Iddewig, a chyfreithiwr o'r enw Tertwlus. Dyma nhw'n cyflwyno'r cyhuddiadau yn erbyn Paul i'r llywodraethwr.
Acts WelBeibl 24:2  Yna cafodd Paul ei alw i mewn, a dyma Tertwlus yn cyflwyno achos yr erlyniad i Ffelics: “Eich Anrhydedd. Dŷn ni'r Iddewon wedi mwynhau cyfnod hir o heddwch dan eich llywodraeth, ac mae gwelliannau mawr wedi digwydd yn y wlad o ganlyniad i'ch craffter gwleidyddol chi, syr.
Acts WelBeibl 24:3  Mae pobl ym mhobman yn cydnabod hyn, a dŷn ni'n hynod ddiolchgar i chi.
Acts WelBeibl 24:4  Ond heb gymryd gormod o'ch amser chi, carwn ofyn i chi fod mor garedig â gwrando arnon ni'n fyr iawn.
Acts WelBeibl 24:5  “Mae'r dyn yma o'ch blaen chi yn un o arweinwyr sect y Nasareaid. Mae wedi bod yn achosi trwbwl a chreu cynnwrf ymhlith yr Iddewon ar hyd a lled y byd.
Acts WelBeibl 24:6  Ceisiodd halogi'r deml yn Jerwsalem hyd yn oed, a dyna pam wnaethon ni ei arestio.
Acts WelBeibl 24:8  Cewch ei groesholi eich hunan, i weld mai dyna'n union ydy'r sefyllfa.”
Acts WelBeibl 24:9  A dyma'r arweinwyr Iddewig eraill yn dechrau ymuno i mewn, a mynnu mai dyna'r gwir.
Acts WelBeibl 24:10  Dyma'r llywodraethwr yn troi at Paul a rhoi arwydd mai ei dro e oedd hi i siarad. Felly dyma Paul yn ateb: “Syr, o wybod eich bod chi wedi bod yn farnwr ar y genedl yma ers blynyddoedd lawer, dw i'n falch iawn mai o'ch blaen chi dw i'n amddiffyn fy hun.
Acts WelBeibl 24:11  Mae'n ddigon hawdd i chi gadarnhau'r ffaith fod llai na deuddeg diwrnod wedi mynd heibio ers i mi gyrraedd Jerwsalem a mynd i addoli yn y deml.
Acts WelBeibl 24:12  Doeddwn i ddim hyd yn oed yn dadlau gydag unrhyw un, heb sôn am achosi cynnwrf yn y deml nac mewn unrhyw synagog, nac yn unman arall yn y ddinas.
Acts WelBeibl 24:13  A dydyn nhw ddim yn gallu profi'r cyhuddiadau yma yn fy erbyn i chwaith!
Acts WelBeibl 24:14  Ond, dw i yn cyfaddef i chi mod i'n addoli Duw ein cyndeidiau ni fel un o ddilynwyr yr hyn maen nhw'n ei alw'n sect, sef y Ffordd. Dw i'n credu popeth sydd yn y Gyfraith Iddewig ac yn ysgrifau'r Proffwydi.
Acts WelBeibl 24:15  Dw i'n credu bod Duw yn mynd i ddod â phobl sy'n gyfiawn yn ei olwg a phobl ddrwg yn ôl yn fyw. Mae'r dynion eraill yma'n credu'r un peth!
Acts WelBeibl 24:16  Felly dw i'n gwneud fy ngorau i gadw cydwybod glir mewn perthynas â Duw ac yn y ffordd dw i'n trin pobl eraill.
Acts WelBeibl 24:17  “Ar ôl bod i ffwrdd ers rhai blynyddoedd, des i Jerwsalem gydag arian i helpu'r tlodion ac i gyflwyno offrwm i Dduw.
Acts WelBeibl 24:18  Dyna roeddwn i'n ei wneud yn y deml – roeddwn i newydd fod drwy'r ddefod o buredigaeth. Doedd dim tyrfa gyda mi, a doeddwn i ddim yn creu twrw o fath yn y byd.
Acts WelBeibl 24:19  Ond roedd yno Iddewon o dalaith Asia, a nhw ddylai fod yma i ddwyn cyhuddiad yn fy erbyn, os oes ganddyn nhw unrhyw reswm i wneud hynny!
Acts WelBeibl 24:20  Neu gadewch i'r dynion yma ddweud yn glir pa drosedd mae'r Sanhedrin wedi fy nghael i'n euog ohoni.
Acts WelBeibl 24:21  Ai'r gosodiad yma wnes i pan o'n i'n sefyll o'u blaen nhw ydy'r broblem: ‘Dw i ar brawf o'ch blaen chi am gredu fod y meirw'n mynd i ddod yn ôl yn fyw’?”
Acts WelBeibl 24:22  Roedd Ffelics yn deall beth oedd y Ffordd Gristnogol, a dyma fe'n gohirio'r achos. “Gwna i benderfyniad yn yr achos yma ar ôl i'r capten Lysias ddod yma.”
Acts WelBeibl 24:23  Rhoddodd orchymyn fod Paul i gael ei gadw yn y ddalfa, ond ei fod i gael peth rhyddid, a bod ei ffrindiau'n rhydd i ymweld a gofalu am ei anghenion.
Acts WelBeibl 24:24  Ychydig ddyddiau wedyn dyma Ffelics yn anfon am Paul. Roedd ei wraig Drwsila (oedd yn Iddewes) gydag e, a dyma nhw'n rhoi cyfle i Paul ddweud wrthyn nhw am y gred mai Iesu oedd y Meseia.
Acts WelBeibl 24:25  Wrth iddo sôn am fyw yn gyfiawn yng ngolwg Duw, yr angen i ddisgyblu'r hunan, a'r ffaith fod Duw yn mynd i farnu, daeth ofn ar Ffelics. “Dyna ddigon am y tro!” meddai, “Cei di fynd nawr. Anfona i amdanat ti eto pan fydd cyfle.”
Acts WelBeibl 24:26  Byddai'n anfon am Paul yn aml iawn i siarad ag e, ond un rheswm am hynny oedd ei fod yn rhyw obeithio y byddai Paul yn cynnig arian iddo i'w ryddhau.
Acts WelBeibl 24:27  Aeth dros ddwy flynedd heibio, a dyma Porcius Ffestus yn olynu Ffelics fel llywodraethwr. Ond roedd Ffelics wedi gadael Paul yn y carchar am ei fod eisiau ennill ffafr yr arweinwyr Iddewig.
Chapter 25
Acts WelBeibl 25:1  Dridiau ar ôl iddo gyrraedd y dalaith, aeth Ffestus i Jerwsalem.
Acts WelBeibl 25:2  A dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig yn mynd ato, i ddweud wrtho beth oedd y cyhuddiadau oedd ganddyn nhw yn erbyn Paul.
Acts WelBeibl 25:3  Dyma nhw'n gofyn iddo anfon Paul yn ôl i Jerwsalem fel ffafr iddyn nhw. (Eu bwriad oedd ymosod arno a'i ladd pan oedd ar ei ffordd.)
Acts WelBeibl 25:4  Ond dyma Ffestus yn ateb: “Mae Paul yn y ddalfa yn Cesarea, a dw i'n mynd yn ôl yno'n fuan.
Acts WelBeibl 25:5  Caiff rhai o'ch arweinwyr chi fynd gyda mi a'i gyhuddo yno, os ydy e wedi gwneud rhywbeth o'i le.”
Acts WelBeibl 25:6  Buodd Ffestus yn Jerwsalem am ryw wyth i ddeg diwrnod, yna aeth yn ôl i Cesarea. Yna'r diwrnod wedyn cafodd Paul ei alw o flaen y llys.
Acts WelBeibl 25:7  Yn y llys dyma'r Iddewon o Jerwsalem yn casglu o'i gwmpas, a dwyn nifer o gyhuddiadau difrifol yn ei erbyn, er bod dim modd profi dim un ohonyn nhw.
Acts WelBeibl 25:8  Wedyn dyma Paul yn cyflwyno ei amddiffyniad: “Dw i ddim wedi torri'r Gyfraith Iddewig na gwneud dim yn erbyn y Deml yn Jerwsalem na'r llywodraeth Rufeinig chwaith.”
Acts WelBeibl 25:9  Ond gan fod Ffestus yn awyddus i wneud ffafr i'r Iddewon, gofynnodd i Paul, “Wyt ti'n barod i fynd i Jerwsalem i sefyll dy brawf o'm blaen i yno?”
Acts WelBeibl 25:10  Atebodd Paul: “Dw i'n sefyll yma o flaen llys Cesar, a dyna lle dylid gwrando'r achos. Dych chi'n gwybod yn iawn fy mod i heb wneud dim yn erbyn yr Iddewon.
Acts WelBeibl 25:11  Os ydw i wedi gwneud rhywbeth sy'n haeddu'r gosb eithaf, dw i'n fodlon marw. Ond, os nad ydy'r cyhuddiadau yma'n wir, does gan neb hawl i'm rhoi fi yn eu dwylo nhw. Felly dw i'n cyflwyno apêl i Gesar!”
Acts WelBeibl 25:12  Ar ôl i Ffestus drafod y mater gyda'i gynghorwyr, dyma fe'n ateb: “Rwyt ti wedi cyflwyno apêl i Gesar. Cei dy anfon at Cesar!”
Acts WelBeibl 25:13  Ychydig ddyddiau wedyn daeth y Brenin Herod Agripa i Cesarea gyda'i chwaer Bernice, i ddymuno'n dda i Ffestus ar ei apwyntiad yn Llywodraethwr.
Acts WelBeibl 25:14  Buon nhw yno am rai dyddiau, a buodd Ffestus yn trafod achos Paul gyda'r brenin. “Mae yma ddyn sydd wedi'i adael gan Ffelics yn garcharor,” meddai.
Acts WelBeibl 25:15  “Y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill ddwedodd wrtho i amdano pan o'n i yn Jerwsalem, a gofyn i mi ei ddedfrydu.
Acts WelBeibl 25:16  “Esboniais bod cyfraith Rhufain ddim yn dedfrydu unrhyw un heb achos teg, a chyfle i'r person sy'n cael ei gyhuddo amddiffyn ei hun.
Acts WelBeibl 25:17  Felly pan ddaethon nhw yma dyma fi'n trefnu i'r llys eistedd y diwrnod wedyn, a gwrando'r achos yn erbyn y dyn.
Acts WelBeibl 25:18  Pan gododd yr erlyniad i gyflwyno'r achos yn ei erbyn, wnaethon nhw mo'i gyhuddo o unrhyw drosedd roeddwn i'n ei disgwyl.
Acts WelBeibl 25:19  Yn lle hynny roedd y ddadl i gyd am ryw fanion yn eu crefydd nhw, ac am ryw ddyn o'r enw Iesu oedd wedi marw – ond roedd Paul yn mynnu ei fod yn fyw.
Acts WelBeibl 25:20  Doedd gen i ddim syniad sut i farnu ar faterion o'r fath; felly gofynnais iddo a fyddai'n barod i fynd i Jerwsalem i sefyll ei brawf yno.
Acts WelBeibl 25:21  Ond dyma Paul yn gwneud apêl i'r achos gael ei ohirio a'i drosglwyddo i uchel-lys o flaen ei fawrhydi yr Ymerawdwr. Felly dw i wedi gorchymyn iddo gael ei gadw yn y ddalfa nes daw cyfle i'w anfon at Cesar.”
Acts WelBeibl 25:22  Dyma Agripa'n dweud wrth Ffestus, “Baswn i'n hoffi clywed y dyn yma fy hun.” A dyma Ffestus yn ateb, “Iawn! Cei di ei glywed fory!”
Acts WelBeibl 25:23  Felly, y diwrnod wedyn dyma'r Brenin Herod Agripa a Bernice yn cyrraedd y neuadd lle roedd y gwrandawiad i'w gynnal. Roedd yn achlysur crand iawn, gyda phenaethiaid y fyddin a phobl bwysig y ddinas i gyd yno. Dyma Ffestus yn gorchymyn dod â Paul i mewn.
Acts WelBeibl 25:24  Yna meddai Ffestus, “Y Brenin Agripa, a phawb arall sydd yma heddiw. Mae'r Iddewon yma ac yn Jerwsalem wedi gwneud cais am y dyn yma – maen nhw wedi gwneud twrw ofnadwy fod rhaid iddo farw.
Acts WelBeibl 25:25  Dw i ddim yn credu ei fod wedi gwneud dim i haeddu cael ei ddienyddio, ond gan ei fod wedi gwneud apêl i'r Ymerawdwr dw i'n bwriadu ei anfon i Rufain.
Acts WelBeibl 25:26  Ond does gen i ddim byd pendant i'w ddweud wrth ei fawrhydi amdano. Felly dw i wedi'i alw o'ch blaen chi i gyd, ac yn arbennig o'ch blaen chi, frenin Agripa. Dw i'n gobeithio y bydd gen i rywbeth i'w ysgrifennu amdano ar ôl yr ymchwiliad swyddogol yma.
Acts WelBeibl 25:27  Mae'n gwbl afresymol i mi ei anfon ymlaen heb ddweud yn glir beth ydy'r cyhuddiadau yn ei erbyn!”
Chapter 26
Acts WelBeibl 26:1  Dyma'r Brenin Agripa'n dweud wrth Paul, “Rwyt ti'n rhydd i siarad.” Felly dyma Paul yn cyflwyno ei amddiffyniad:
Acts WelBeibl 26:2  “Y Brenin Agripa, dw i'n cyfri'n hun yn ffodus iawn mai o'ch blaen dw i'n sefyll yma heddiw i amddiffyn fy hun.
Acts WelBeibl 26:3  Dych chi'n gwbl gyfarwydd ag arferion yr Iddewon a'r pynciau llosg sy'n codi yn ein plith. Felly ga i ofyn i chi, os gwelwch yn dda, wrando ar beth sydd gen i i'w ddweud.
Acts WelBeibl 26:4  “Mae'r arweinwyr Iddewig yn gwybod amdana i ers pan o'n i'n blentyn – y blynyddoedd cynnar yn Cilicia, a hefyd y cyfnod fues i yn Jerwsalem.
Acts WelBeibl 26:5  Maen nhw'n gwybod ers talwm, petaen nhw'n fodlon cyfaddef hynny, fy mod i wedi byw fel Pharisead, sef sect fwyaf caeth ein crefydd ni.
Acts WelBeibl 26:6  A dw i ar brawf yma heddiw am fy mod i'n edrych ymlaen at weld yr hyn wnaeth Duw ei addo i'n cyndeidiau ni yn dod yn wir.
Acts WelBeibl 26:7  Mae pobl Israel i gyd yn rhannu'r un gobaith – dyna pam maen nhw'n addoli Duw mor gydwybodol ddydd a nos. A'r gobaith yma ydy'r rheswm pam mae'r arweinwyr Iddewig wedi dod â cyhuddiad yn fy erbyn i, eich mawrhydi.
Acts WelBeibl 26:8  “Pam dych chi bobl yn ei chael hi mor anodd i gredu fod Duw yn gallu dod â'r meirw yn ôl yn fyw?
Acts WelBeibl 26:9  Wrth gwrs, roeddwn innau ar un adeg yn meddwl fod rhaid i mi wneud popeth allwn i i wrthwynebu dilynwyr Iesu o Nasareth.
Acts WelBeibl 26:10  A dyna wnes i: ces i awdurdod gan y prif offeiriaid yn Jerwsalem i daflu nifer fawr o Gristnogion i'r carchar. Rôn i'n un o'r rhai oedd o blaid rhoi'r gosb eithaf iddyn nhw!
Acts WelBeibl 26:11  Rôn i'n mynd o un synagog i'r llall i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cosbi, ac yn ceisio'u gorfodi nhw i gablu. Roedd y peth yn obsesiwn gwyllt gen i, ac roeddwn i hyd yn oed yn teithio i wledydd tramor i'w herlid nhw.
Acts WelBeibl 26:12  “Dyna'n union oeddwn i'n ei wneud ryw ddiwrnod – roedd y prif offeiriaid wedi rhoi'r awdurdod a'r cyfrifoldeb i mi fynd ar ôl y Cristnogion yn Damascus.
Acts WelBeibl 26:13  Roedd hi tua chanol dydd pan oeddwn i ar fy ffordd yno. Yna'n sydyn, eich mawrhydi, dyma olau o'r awyr yn disgleirio o'm cwmpas i a phawb oedd gyda mi. Roedd yn olau llawer mwy tanbaid na'r haul.
Acts WelBeibl 26:14  Dyma ni i gyd yn disgyn ar lawr, a chlywais lais yn siarad â mi yn Hebraeg, ‘Saul, Saul, pam wyt ti'n fy erlid i? Dim ond gwneud drwg i ti dy hun wyt ti wrth dynnu'n groes i mi.’
Acts WelBeibl 26:15  “A dyma fi'n gofyn, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dyma'r Arglwydd yn ateb, ‘Iesu ydw i, sef yr un rwyt ti'n ei erlid.
Acts WelBeibl 26:16  Cod ar dy draed. Dw i wedi dy ddewis di i fod yn was i mi. Dw i am i ti ddweud wrth bobl am beth sydd wedi digwydd, ac am bopeth arall bydda i'n ei ddangos i ti.
Acts WelBeibl 26:17  Bydda i'n dy achub di o afael dy bobl dy hun a phobl y cenhedloedd eraill. Dw i'n dy anfon di atyn nhw
Acts WelBeibl 26:18  i agor eu llygaid nhw er mwyn iddyn nhw droi o dywyllwch i oleuni, a dianc o afael Satan at Dduw. Bydda i'n maddau eu pechodau nhw, a byddan nhw'n cael perthyn i'r bobl hynny sydd wedi'u gwneud yn lân drwy gredu ynof fi.’
Acts WelBeibl 26:19  “Felly, eich mawrhydi, dw i wedi ufuddhau i'r weledigaeth ges i o'r nefoedd.
Acts WelBeibl 26:20  Dw i wedi bod yn dweud wrth bobl fod rhaid iddyn nhw droi cefn ar eu pechodau a throi at Dduw – a byw mewn ffordd sy'n dangos eu bod wedi newid go iawn. Gwnes i hynny gyntaf yn Damascus, ac wedyn yn Jerwsalem ac ar draws Jwdea, a hefyd i bobl o genhedloedd eraill.
Acts WelBeibl 26:21  A dyna pam wnaeth yr Iddewon fy nal i yn y deml a cheisio fy lladd i.
Acts WelBeibl 26:22  Ond mae Duw wedi edrych ar fy ôl i hyd heddiw, a dyna sut dw i'n dal yma i rannu'r neges gyda phawb, yn fach a mawr. Dw i'n dweud dim byd mwy na beth ddwedodd y proffwydi a Moses fyddai'n digwydd –
Acts WelBeibl 26:23  sef y byddai'r Meseia yn dioddef, ac mai fe fyddai'r cyntaf i ddod yn ôl yn fyw oddi wrth y meirw, yn oleuni i Iddewon a phobl o genhedloedd eraill.”
Acts WelBeibl 26:24  Yn sydyn dyma Ffestus yn gweiddi ac yn torri ar draws ei amddiffyniad, “Ti ddim yn gall, Paul! Mae dy holl ddysg yn dy yrru di'n wallgof!”
Acts WelBeibl 26:25  “Na, dw i ddim yn wallgof, eich Anrhydedd Ffestus,” meddai Paul. “Mae'r cwbl dw i'n ei ddweud yn berffaith wir ac yn rhesymol.
Acts WelBeibl 26:26  Mae'r Brenin Agripa yn deall y pethau yma, a dw i'n gallu siarad yn blaen gydag e. Dw i'n reit siŵr ei fod wedi clywed am hyn i gyd, achos wnaeth y cwbl ddim digwydd mewn rhyw gornel dywyll o'r golwg.
Acts WelBeibl 26:27  Agripa, eich mawrhydi – ydych chi'n credu beth ddwedodd y proffwydi? Dw i'n gwybod eich bod chi!”
Acts WelBeibl 26:28  “Wyt ti'n meddwl y gelli di berswadio fi i droi'n Gristion mor sydyn â hynny?”
Acts WelBeibl 26:29  Atebodd Paul, “Yn sydyn neu beidio – dw i'n gweddïo ar Dduw y gwnewch chi, a phawb arall sy'n gwrando arna i yma heddiw, ddod yr un fath â fi – ar wahân i'r cadwyni yma!”
Acts WelBeibl 26:30  Yna dyma'r brenin yn codi ar ei draed, a chododd y llywodraethwr a Bernice gydag e, a phawb arall oedd yno.
Acts WelBeibl 26:31  Roedden nhw'n sgwrsio wrth fynd allan, “Dydy'r dyn wedi gwneud dim byd i haeddu marw na hyd yn oed ei garcharu,” medden nhw.
Acts WelBeibl 26:32  “Gallet ti ei ollwng yn rhydd oni bai am y ffaith ei fod wedi gwneud apêl i Gesar,” meddai Agripa wrth Ffestus.
Chapter 27
Acts WelBeibl 27:1  Dyma nhw'n penderfynu ein bod i hwylio i'r Eidal. Cafodd Paul a nifer o garcharorion eraill eu rhoi yng ngofal swyddog milwrol o'r enw Jwlius – aelod o'r Gatrawd Ymerodrol.
Acts WelBeibl 27:2  Dyma ni'n mynd ar fwrdd llong o Adramitiwm oedd ar fin mynd i nifer o borthladdoedd yn Asia, a hwylio allan i'r môr. Roedd Aristarchus, o ddinas Thesalonica yn Macedonia, gyda ni.
Acts WelBeibl 27:3  Y diwrnod wedyn, wedi i ni lanio yn Sidon, dyma Jwlius, yn garedig iawn, yn caniatáu i Paul fynd i weld ei ffrindiau iddyn nhw roi iddo unrhyw beth oedd ei angen.
Acts WelBeibl 27:4  Dyma ni'n gadael porthladd Sidon, ond roedd y gwynt yn ein herbyn ni, a bu'n rhaid i ni hwylio o gwmpas ochr gysgodol ynys Cyprus.
Acts WelBeibl 27:5  Ar ôl croesi'r môr mawr gyferbyn ag arfordir Cilicia a Pamffilia, dyma ni'n glanio yn Myra yn Lycia.
Acts WelBeibl 27:6  Yno daeth Jwlius o hyd i long o Alecsandria oedd ar ei ffordd i'r Eidal, a'n rhoi ni ar fwrdd honno.
Acts WelBeibl 27:7  Roedd hi'n fordaith araf iawn am ddyddiau lawer a chawson ni drafferth mawr i gyrraedd Cnidus. Ond roedd y gwynt yn rhy gryf i ni fynd ddim pellach, a dyma ni'n cael ein gorfodi i droi i'r de tua Creta, a hwylio yng nghysgod yr ynys o gwmpas pentir Salmone.
Acts WelBeibl 27:8  Cawson ni gryn drafferth eto i ddilyn arfordir deheuol yr ynys, ond llwyddo o'r diwedd i gyrraedd porthladd yr Hafan Deg sydd wrth ymyl tref o'r enw Lasaia.
Acts WelBeibl 27:9  Roedden ni wedi colli lot o amser, ac roedd hi'n beryglus i hwylio yr adeg honno o'r flwyddyn. (Roedd hi'n ddechrau Hydref, a Dydd y Cymod eisoes wedi mynd heibio.) Ceisiodd Paul eu rhybuddio nhw o'r peryglon,
Acts WelBeibl 27:10  “Gyfeillion, trychineb fydd pen draw'r fordaith yma os byddwn ni'n mynd yn ein blaenau. Byddwch chi'n colli'r llong â'i chargo, heb sôn am beryglu'n bywydau ni sy'n hwylio arni hefyd.”
Acts WelBeibl 27:11  Ond yn lle gwrando ar Paul, dyma Jwlius yn dilyn cyngor y peilot a chapten y llong.
Acts WelBeibl 27:12  Roedd yr Hafan Deg yn borthladd agored, a ddim yn addas iawn i aros yno dros y gaeaf. Felly dyma'r mwyafrif yn penderfynu mai ceisio hwylio yn ein blaenau oedd orau. Y gobaith oedd cyrraedd lle o'r enw Phenics ar ben gorllewinol yr ynys, ac aros yno dros y gaeaf. Roedd porthladd Phenics yn wynebu'r de-orllewin a'r gogledd-orllewin.
Acts WelBeibl 27:13  Pan ddechreuodd awel ysgafn chwythu o gyfeiriad y de, roedden nhw'n meddwl y byddai popeth yn iawn; felly dyma godi angor a dechrau hwylio ar hyd arfordir Creta.
Acts WelBeibl 27:14  Ond yn sydyn dyma gorwynt cryf (sef yr Ewraculon) yn chwythu i lawr dros yr ynys o'r gogledd-ddwyrain.
Acts WelBeibl 27:15  Cafodd y llong ei dal yn y storm. Roedd hi'n amhosib hwylio yn erbyn y gwynt, felly dyma roi i fyny, a chawson ni ein cario i ffwrdd ganddo.
Acts WelBeibl 27:16  Bu bron i ni golli cwch glanio'r llong pan oedden ni'n pasio heibio ynys fach Cawda.
Acts WelBeibl 27:17  Ar ôl i'r dynion lwyddo i'w chodi ar fwrdd y llong, dyma nhw'n rhoi rhaffau o dan gorff y llong rhag iddi ddryllio ar farrau tywod Syrtis. Wedyn dyma nhw'n gollwng yr angor môr ac yn gadael i'r llong gael ei gyrru gan y gwynt.
Acts WelBeibl 27:18  Roedd y llong wedi'i churo cymaint gan y storm nes iddyn nhw orfod dechrau taflu'r cargo i'r môr y diwrnod wedyn.
Acts WelBeibl 27:19  A'r diwrnod ar ôl hynny dyma nhw hyd yn oed yn dechrau taflu tacl y llong i'r môr!
Acts WelBeibl 27:20  Dyma'r storm yn para'n ffyrnig am ddyddiau lawer, a doedd dim sôn am haul na'r sêr. Erbyn hynny, roedd pawb yn meddwl ei bod hi ar ben arnon ni.
Acts WelBeibl 27:21  Doedd neb ag awydd bwyta ers dyddiau lawer. Yna dyma Paul yn y diwedd yn sefyll o flaen pawb, ac meddai: “Dylech chi fod wedi gwrando arna i a pheidio hwylio o ynys Creta; byddech chi wedi arbed y golled yma i gyd wedyn.
Acts WelBeibl 27:22  Ond codwch eich calonnau – does neb yn mynd i farw, er ein bod ni'n mynd i golli'r llong.
Acts WelBeibl 27:23  Safodd angel Duw wrth fy ymyl i neithiwr – sef y Duw biau fi; yr un dw i'n ei wasanaethu.
Acts WelBeibl 27:24  A dyma ddwedodd, ‘Paid bod ag ofn, Paul. Mae'n rhaid i ti sefyll dy brawf o flaen Cesar. Ac mae Duw'n garedig yn mynd i arbed bywydau pawb arall sydd ar y llong.’
Acts WelBeibl 27:25  Felly codwch eich calonnau! Dw i'n credu fod popeth yn mynd i ddigwydd yn union fel mae Duw wedi dweud wrtho i.
Acts WelBeibl 27:26  Ond mae'r llong yn mynd i gael ei dryllio ar greigiau rhyw ynys neu'i gilydd.”
Acts WelBeibl 27:27  Roedd pedair noson ar ddeg wedi mynd heibio ers i'r storm ddechrau, ac roedden ni'n dal i gael ein gyrru ar draws Môr Adria. Tua hanner nos dyma'r morwyr yn synhwyro ein bod ni'n agos at dir.
Acts WelBeibl 27:28  Dyma nhw'n plymio ac yn cael dyfnder o dri deg saith metr. Yna dyma nhw'n plymio eto ychydig yn nes ymlaen a chael dyfnder o ddau ddeg saith metr.
Acts WelBeibl 27:29  Rhag ofn i ni gael ein hyrddio yn erbyn creigiau dyma nhw'n gollwng pedwar angor o'r starn ac yn disgwyl am olau dydd.
Acts WelBeibl 27:30  Ond yna ceisiodd y morwyr ddianc o'r llong. Roedden nhw'n esgus eu bod nhw'n gollwng angorau ar du blaen y llong, ond yn lle gwneud hynny roedden nhw'n ceisio gollwng y cwch glanio i'r môr.
Acts WelBeibl 27:31  Ond dyma Paul yn dweud wrth y swyddog Rhufeinig a'i filwyr, “Os fydd y dynion yna ddim yn aros ar y llong fyddwch chi ddim yn cael eich achub.”
Acts WelBeibl 27:32  Felly dyma'r milwyr yn torri'r rhaffau oedd yn dal y cwch glanio a gadael iddi ddisgyn i'r dŵr.
Acts WelBeibl 27:33  Dyma Paul yn annog pawb i fwyta cyn iddi wawrio. “Dych chi wedi bod yn poeni a heb fwyta dim byd ers pythefnos.
Acts WelBeibl 27:34  Dw i'n erfyn arnoch chi i gymryd rhywbeth – bydd ei angen arnoch i ddod drwy hyn. Ond gaiff neb niwed.”
Acts WelBeibl 27:35  Cymerodd Paul dorth o fara, diolch i Dduw o'u blaenau nhw i gyd, ac yna ei thorri a dechrau bwyta.
Acts WelBeibl 27:36  Roedd wedi codi calon pawb, a dyma ni i gyd yn cymryd bwyd.
Acts WelBeibl 27:38  Ar ôl cael digon i'w fwyta dyma'r criw yn mynd ati i ysgafnhau'r llong drwy daflu'r cargo o wenith i'r môr.
Acts WelBeibl 27:39  Pan ddaeth hi'n olau dydd, doedd neb yn nabod y tir o'n blaenau. Roedd bae gyda traeth o dywod i'w weld a dyma nhw'n penderfynu ceisio cael y llong i dirio ar y traeth hwnnw.
Acts WelBeibl 27:40  Felly dyma nhw'n torri'r angorau'n rhydd a'u gadael yn y môr, a'r un pryd yn datod y rhaffau oedd yn dal y llyw. Wedyn dyma nhw'n agor yr hwyl flaen i ddal y gwynt ac anelu am y traeth.
Acts WelBeibl 27:41  Ond dyma'r llong yn taro banc tywod, ac roedd tu blaen y llong yn hollol sownd ac yn gwrthod dod y rhydd. A dyma'r starn yn dechrau dryllio wrth i'r tonnau gwyllt hyrddio yn erbyn y llong.
Acts WelBeibl 27:42  Roedd y milwyr eisiau lladd y carcharorion rhag iddyn nhw nofio i ffwrdd a dianc,
Acts WelBeibl 27:43  ond rhwystrodd y pennaeth nhw rhag gwneud hynny am ei fod eisiau i Paul gael byw. Wedyn rhoddodd orchymyn i'r rhai oedd yn gallu nofio i neidio i'r dŵr a cheisio cyrraedd y lan.
Acts WelBeibl 27:44  Wedyn roedd pawb arall i geisio dal gafael mewn planciau neu ddarnau eraill o'r llong. A dyna sut gyrhaeddodd pawb y tir yn saff!
Chapter 28
Acts WelBeibl 28:1  Ar ôl cyrraedd y lan yn saff dyma ni'n darganfod mai Malta oedd yr ynys.
Acts WelBeibl 28:2  Roedd pobl yr ynys yn hynod garedig. Dyma nhw'n rhoi croeso i ni ac yn gwneud tân, am ei bod hi wedi dechrau glawio'n drwm, ac roedd hi'n oer.
Acts WelBeibl 28:3  Roedd Paul wedi casglu llwyth o frigau mân, ac wrth iddo eu gosod nhw ar y tân, dyma neidr wenwynig oedd yn dianc o'r gwres yn glynu wrth ei law.
Acts WelBeibl 28:4  Pan welodd pobl yr ynys y neidr yn hongian oddi ar ei law medden nhw, “Mae'n rhaid fod y dyn yna'n llofrudd! Dydy'r dduwies Cyfiawnder ddim am adael iddo fyw.”
Acts WelBeibl 28:5  Ond dyma Paul yn ysgwyd y neidr i ffwrdd yn ôl i'r tân. Chafodd e ddim niwed o gwbl.
Acts WelBeibl 28:6  Roedd y bobl yn disgwyl iddo chwyddo neu ddisgyn yn farw'n sydyn. Ond aeth amser hir heibio a dim byd yn digwydd iddo, felly dyma nhw'n dod i'r casgliad fod Paul yn dduw.
Acts WelBeibl 28:7  Roedd ystâd gyfagos yn perthyn i brif swyddog Rhufain ar yr ynys – dyn o'r enw Pobliws. Rhoddodd groeso mawr i ni, a dyma ni'n aros yn ei gartref am dridiau.
Acts WelBeibl 28:8  Roedd tad Pobliws yn glaf yn ei wely, yn dioddef pyliau o wres uchel a dysentri. Aeth Paul i'w weld, ac ar ôl gweddïo rhoddodd ei ddwylo arno a'i iacháu.
Acts WelBeibl 28:9  Ar ôl i hyn ddigwydd dyma lawer o bobl eraill oedd yn glaf ar yr ynys yn dod ato ac yn cael eu gwella.
Acts WelBeibl 28:10  Cawson ni bob math o anrhegion ganddyn nhw, a phan ddaeth hi'n bryd i ni adael yr ynys dyma nhw'n rhoi popeth oedd ei angen i ni.
Acts WelBeibl 28:11  Aeth tri mis heibio cyn i ni hwylio o'r ynys. Aethon ar long oedd wedi gaeafu yno – llong o Alecsandria gyda delwau o'r ‛Efeilliaid dwyfol‛ (Castor a Polwcs) ar ei thu blaen.
Acts WelBeibl 28:12  Dyma ni'n hwylio i Syracwsa, ac yn aros yno am dridiau.
Acts WelBeibl 28:13  Wedyn dyma ni'n croesi i Rhegium. Ar ôl bod yno am ddiwrnod cododd gwynt o'r de, felly'r diwrnod wedyn llwyddon ni i gyrraedd Potioli.
Acts WelBeibl 28:14  Daethon ni o hyd i grŵp o gredinwyr yno, a chael gwahoddiad i aros gyda nhw am wythnos. Yna, o'r diwedd, dyma ni'n cyrraedd Rhufain.
Acts WelBeibl 28:15  Roedd y Cristnogion yno wedi clywed ein bod ni'n dod, ac roedd rhai wedi teithio i lawr cyn belled â Marchnad Apius i'n cyfarfod ni, ac eraill at y Tair Tafarn. Roedd gweld y bobl yma'n galondid mawr i Paul, a diolchodd i Dduw am fod mor ffyddlon.
Acts WelBeibl 28:16  Yn Rhufain cafodd Paul ganiatâd i fyw yn ei lety ei hun, ond fod milwr yno i'w warchod.
Acts WelBeibl 28:17  Dri diwrnod ar ôl cyrraedd Rhufain dyma Paul yn galw'r arweinwyr Iddewig yno at ei gilydd. “Frodyr,” meddai wrthyn nhw: “er na wnes i ddim byd yn erbyn ein pobl, na dim sy'n groes i arferion ein hynafiaid, ces fy arestio yn Jerwsalem ac yna fy nhrosglwyddo i ddwylo'r Rhufeiniaid.
Acts WelBeibl 28:18  Dyma'r llys yn fy nghael i'n ddieuog o unrhyw drosedd oedd yn haeddu marwolaeth, ac roedden nhw am fy rhyddhau i.
Acts WelBeibl 28:19  Ond dyma'r arweinwyr Iddewig yn codi gwrthwynebiad a ches fy ngorfodi i apelio i Gesar – nid fod gen i unrhyw gyhuddiad i'w ddwyn yn erbyn fy mhobl.
Acts WelBeibl 28:20  Gofynnais am gael eich gweld chi er mwyn esbonio hyn i gyd i chi. Y rheswm pam mae'r gadwyn yma arna i ydy am fy mod i yn credu yn y Meseia, Gobaith Israel!”
Acts WelBeibl 28:21  Dyma nhw'n ei ateb, “Dŷn ni ddim wedi derbyn unrhyw lythyrau o Jwdea amdanat ti, a does neb o'n pobl ni wedi dod yma i sôn am y peth na dweud dim byd drwg amdanat ti.
Acts WelBeibl 28:22  Ond dŷn ni eisiau clywed beth rwyt yn ei gredu. Dŷn ni'n gwybod fod pobl ym mhobman yn siarad yn erbyn y sect yma.”
Acts WelBeibl 28:23  Felly dyma nhw'n trefnu diwrnod i gyfarfod â Paul. Daeth llawer iawn mwy ohonyn nhw yno y diwrnod hwnnw. Buodd Paul wrthi drwy'r dydd, o fore tan nos, yn esbonio beth oedd yn ei gredu. Roedd yn eu dysgu nhw am deyrnasiad Duw ac yn defnyddio Cyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi i geisio'u cael nhw i weld mai Iesu oedd y Meseia.
Acts WelBeibl 28:24  Llwyddodd i argyhoeddi rhai ohonyn nhw, ond roedd y lleill yn gwrthod credu.
Acts WelBeibl 28:25  Buon nhw'n dadlau gyda'i gilydd, a dyma nhw'n dechrau gadael ar ôl i Paul ddweud hyn i gloi: “Roedd yr Ysbryd Glân yn dweud y gwir wrth eich hynafiaid chi wrth siarad drwy'r proffwyd Eseia:
Acts WelBeibl 28:26  ‘Dos at y bobl yma a dweud, “Gwrandwch yn astud, ond fyddwch chi ddim yn deall; Edrychwch yn ofalus, ond fyddwch chi ddim yn dirnad.”
Acts WelBeibl 28:27  Maen nhw'n rhy ystyfnig i ddysgu unrhyw beth – maen nhw'n gwrthod gwrando, ac wedi cau eu llygaid. Fel arall, bydden nhw'n gweld â'u llygaid, yn clywed â'u clustiau, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i'n eu hiacháu nhw.’
Acts WelBeibl 28:28  Felly deallwch hyn – mae'r newyddion da am Dduw yn achub ar gael i bobl y cenhedloedd eraill hefyd, a byddan nhw'n gwrando!”
Acts WelBeibl 28:30  Am ddwy flynedd gyfan, arhosodd Paul yno yn y tŷ oedd yn ei rentu. Roedd yn rhoi croeso i bawb oedd yn dod i'w weld.
Acts WelBeibl 28:31  Roedd yn cyhoeddi'n gwbl hyderus fod Duw yn teyrnasu ac yn dysgu pobl am yr Arglwydd Iesu Grist, a doedd neb yn ei rwystro.