Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
MATTHEW
Up
Toggle notes
Chapter 1
Matt WelBeibl 1:1  Rhestr achau Iesu y Meseia, oedd yn un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd, ac Abraham hefyd:
Matt WelBeibl 1:2  Abraham oedd tad Isaac, Isaac oedd tad Jacob, Jacob oedd tad Jwda a'i frodyr,
Matt WelBeibl 1:3  Jwda oedd tad Peres a Sera (a Tamar oedd eu mam), Peres oedd tad Hesron, Hesron oedd tad Ram,
Matt WelBeibl 1:4  Ram oedd tad Aminadab, Aminadab oedd tad Nahson, Nahson oedd tad Salmon,
Matt WelBeibl 1:5  Salmon oedd tad Boas (a Rahab oedd ei fam), Boas oedd tad Obed (a Ruth oedd ei fam), Obed oedd tad Jesse,
Matt WelBeibl 1:6  a Jesse oedd tad y Brenin Dafydd. Dafydd oedd tad Solomon (ac roedd ei fam wedi bod yn wraig i Wreia),
Matt WelBeibl 1:7  Solomon oedd tad Rehoboam, Rehoboam oedd tad Abeia, Abeia oedd tad Asa,
Matt WelBeibl 1:8  Asa oedd tad Jehosaffat, Jehosaffat oedd tad Jehoram, Jehoram oedd tad Wseia,
Matt WelBeibl 1:9  Wseia oedd tad Jotham, Jotham oedd tad Ahas, Ahas oedd tad Heseceia,
Matt WelBeibl 1:10  Heseceia oedd tad Manasse, Manasse oedd tad Amon, Amon oedd tad Joseia,
Matt WelBeibl 1:11  a Joseia oedd tad Jechoneia a'i frodyr (a hynny ar yr adeg y cafodd yr Iddewon eu caethgludo i Babilon).
Matt WelBeibl 1:12  Ar ôl y gaethglud i Babilon: Jechoneia oedd tad Shealtiel, Shealtiel oedd tad Sorobabel,
Matt WelBeibl 1:13  Sorobabel oedd tad Abiwd, Abiwd oedd tad Eliacim, Eliacim oedd tad Asor,
Matt WelBeibl 1:14  Asor oedd tad Sadoc, Sadoc oedd tad Achim, Achim oedd tad Eliwd,
Matt WelBeibl 1:15  Eliwd oedd tad Eleasar, Eleasar oedd tad Mathan, Mathan oedd tad Jacob,
Matt WelBeibl 1:16  a Jacob oedd tad Joseff (gŵr Mair – y ferch gafodd Iesu, y Meseia, ei eni iddi).
Matt WelBeibl 1:17  Felly roedd un deg pedair cenhedlaeth o Abraham i'r Brenin Dafydd, un deg pedair cenhedlaeth o Dafydd hyd nes i'r Iddewon gael eu caethgludo i Babilon, ac un deg pedair cenhedlaeth o'r gaethglud i'r Meseia.
Matt WelBeibl 1:18  Dyma ddigwyddodd pan gafodd Iesu y Meseia ei eni: Roedd ei fam, Mair, wedi cael ei haddo i fod yn wraig i Joseff. Ond cyn iddyn nhw briodi a chael rhyw, dyma nhw'n darganfod fod yr Ysbryd Glân wedi'i gwneud hi'n feichiog.
Matt WelBeibl 1:19  Roedd Joseff, oedd yn mynd i'w phriodi, yn ddyn da a charedig. Doedd e ddim eisiau gwneud esiampl ohoni a'i chyhuddo hi'n gyhoeddus, felly roedd yn ystyried yn dawel fach i ganslo'r briodas.
Matt WelBeibl 1:20  Roedd wedi bod yn meddwl am hyn pan gafodd freuddwyd: gwelodd angel Duw yn dod ato a dweud wrtho, “Joseff fab Dafydd, paid petruso mynd â Mair adre i fod yn wraig i ti, am mai'r Ysbryd Glân sydd wedi gwneud iddi feichiogi.
Matt WelBeibl 1:21  Bachgen fydd hi'n ei gael. Rwyt i roi'r enw Iesu iddo, am mai fe fydd yn achub ei bobl o'u pechodau.”
Matt WelBeibl 1:22  Digwyddodd hyn er mwyn i beth ddwedodd Duw drwy ei broffwyd ddod yn wir:
Matt WelBeibl 1:23  “Edrychwch! Bydd merch ifanc sy'n wyryf yn feichiog ac yn cael mab. Bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel” (Ystyr Emaniwel ydy “Mae Duw gyda ni.”)
Matt WelBeibl 1:24  Pan ddeffrodd Joseff, gwnaeth beth roedd angel Duw wedi'i ddweud wrtho. Priododd Mair,
Matt WelBeibl 1:25  ond chafodd e ddim rhyw hefo hi nes i'w mab gael ei eni. A rhoddodd yr enw Iesu iddo.
Chapter 2
Matt WelBeibl 2:1  Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem yn Jwdea, yn y cyfnod pan oedd Herod yn frenin. Ar ôl hynny, daeth gwŷr doeth o wledydd y dwyrain i Jerwsalem
Matt WelBeibl 2:2  i ofyn, “Ble mae'r un sydd newydd gael ei eni yn frenin yr Iddewon? Gwelon ni ei seren yn codi yn y dwyrain, a dŷn ni yma i dalu teyrnged iddo.”
Matt WelBeibl 2:3  Pan glywodd y Brenin Herod hyn roedd wedi cynhyrfu'n lân. Roedd cynnwrf yn Jerwsalem hefyd.
Matt WelBeibl 2:4  Felly galwodd Herod y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig i'w gyfarfod. Gofynnodd iddyn nhw, “Ble mae'r Meseia i fod i gael ei eni?”
Matt WelBeibl 2:5  “Yn Bethlehem Jwdea,” medden nhw. “Dyna ysgrifennodd y proffwyd:
Matt WelBeibl 2:6  ‘Bethlehem, yn nhir Jwda – Nid rhyw bentref dibwys yn Jwda wyt ti; achos ohonot ti daw un i deyrnasu, un fydd yn fugail i arwain fy mhobl Israel.’”
Matt WelBeibl 2:7  Ar ôl cael gwybod hyn, dyma Herod yn galw'r gwŷr doeth i gyfarfod preifat. Cafodd wybod ganddyn nhw pryd yn union oedd y seren wedi ymddangos.
Matt WelBeibl 2:8  Yna dwedodd, “Ewch i Bethlehem i chwilio am y plentyn. A gadewch i mi wybod pan ddewch o hyd iddo, er mwyn i mi gael mynd i dalu teyrnged iddo hefyd.”
Matt WelBeibl 2:9  Ar ôl gwrando beth oedd gan y brenin i'w ddweud, i ffwrdd â nhw. Dyma'r seren yn mynd o'u blaen, nes iddi aros uwchben yr union fan lle roedd y plentyn.
Matt WelBeibl 2:11  Pan aethon nhw i mewn i'r tŷ, dyna lle roedd y plentyn gyda'i fam, Mair, a dyma nhw'n disgyn ar eu gliniau o'i flaen a'i addoli. Yna dyma nhw'n agor eu paciau a rhoi anrhegion gwerthfawr iddo – aur a thus a myrr
Matt WelBeibl 2:12  Rhybuddiodd Duw nhw mewn breuddwyd i beidio mynd yn ôl at Herod, felly dyma'r gwŷr doeth yn teithio yn ôl i'w gwlad eu hunain ar hyd ffordd wahanol.
Matt WelBeibl 2:13  Ar ôl iddyn nhw fynd, cafodd Joseff freuddwyd arall. Gwelodd angel Duw yn dweud wrtho, “Rhaid i chi ddianc ar unwaith! Dos â'r plentyn a'i fam i'r Aifft, ac aros yno nes i mi ddweud ei bod yn saff i chi ddod yn ôl. Mae Herod yn ceisio dod o hyd i'r plentyn er mwyn ei ladd.”
Matt WelBeibl 2:14  Felly cododd Joseff ganol nos a gadael am yr Aifft gyda'r plentyn a'i fam.
Matt WelBeibl 2:15  Buon nhw yn yr Aifft nes oedd Herod wedi marw. Felly daeth beth ddwedodd yr Arglwydd drwy'r proffwyd yn wir: “Galwais fy mab allan o'r Aifft.”
Matt WelBeibl 2:16  Aeth Herod yn wyllt gynddeiriog pan sylweddolodd fod y gwŷr doeth wedi'i dwyllo. Anfonodd filwyr i Bethlehem a'r cylch i ladd pob bachgen bach dan ddwyflwydd oed – hynny ar sail beth oedd y gwŷr doeth wedi'i ddweud wrtho am y dyddiad y daeth y seren i'r golwg.
Matt WelBeibl 2:17  A dyna sut daeth geiriau y proffwyd Jeremeia yn wir:
Matt WelBeibl 2:18  “Mae cri i'w chlywed yn Rama, sŵn wylo chwerw a galaru mawr – Rachel yn crio am ei phlant. Mae'n gwrthod cael ei chysuro, am eu bod nhw wedi mynd.”
Matt WelBeibl 2:19  Pan fuodd Herod farw, cafodd Joseff freuddwyd arall yn yr Aifft. Gwelodd angel yr Arglwydd
Matt WelBeibl 2:20  yn dweud wrtho, “Dos â'r plentyn a'i fam yn ôl i wlad Israel. Mae'r bobl oedd am ei ladd wedi marw.”
Matt WelBeibl 2:22  Ond pan glywodd Joseff mai Archelaus, mab Herod, oedd llywodraethwr newydd Jwdea, roedd ganddo ofn mynd yno. Cafodd ei rybuddio mewn breuddwyd eto, a throdd i gyfeiriad Galilea,
Matt WelBeibl 2:23  a mynd i fyw i dref Nasareth. Felly daeth yr hyn ddwedodd y proffwydi am y Meseia yn wir unwaith eto: “Bydd yn cael ei alw yn Nasaread.”
Chapter 3
Matt WelBeibl 3:1  Yr adeg yna dechreuodd Ioan Fedyddiwr bregethu yn anialwch Jwdea.
Matt WelBeibl 3:2  Dyma'r neges oedd ganddo, “Trowch gefn ar bechod, achos mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu.”
Matt WelBeibl 3:3  Dyma pwy oedd y proffwyd Eseia wedi sôn amdano: “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i'r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau'n syth iddo!’”
Matt WelBeibl 3:4  Roedd dillad Ioan wedi'u gwneud o flew camel gyda belt lledr am ei ganol, a'i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.
Matt WelBeibl 3:5  Roedd pobl o Jerwsalem a phobman arall yn Jwdea a dyffryn Iorddonen yn heidio allan ato.
Matt WelBeibl 3:6  Pan oedden nhw'n cyfaddef eu pechodau roedd yn eu bedyddio nhw yn afon Iorddonen.
Matt WelBeibl 3:7  Dyma rai o'r Phariseaid a'r Sadwceaid yn dod i gael eu bedyddio ganddo. Pan welodd Ioan nhw, dwedodd yn blaen wrthyn nhw: “Dych chi fel nythaid o nadroedd! Pwy sydd wedi'ch rhybuddio chi i ddianc rhag y gosb sy'n mynd i ddod?
Matt WelBeibl 3:8  Rhaid i chi ddangos yn y ffordd dych chi'n byw eich bod chi wedi newid go iawn.
Matt WelBeibl 3:9  A pheidiwch meddwl eich bod chi'n saff drwy ddweud ‘Abraham ydy'n tad ni.’ Gallai Duw droi'r cerrig yma sydd ar lawr yn blant i Abraham!
Matt WelBeibl 3:10  Mae bwyell barn Duw yn barod i dorri'r gwreiddiau i ffwrdd! Bydd pob coeden sydd heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr a'i thaflu i'r tân!
Matt WelBeibl 3:11  “Dŵr dw i'n ei ddefnyddio i'ch bedyddio chi, fel arwydd eich bod chi'n troi at Dduw. Ond ar fy ôl i mae un llawer mwy grymus na fi yn dod – fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas iddo hyd yn oed, i gario ei sandalau. Bydd hwnnw yn eich bedyddio chi gyda'r Ysbryd Glân a gyda thân.
Matt WelBeibl 3:12  Mae ganddo fforch nithio yn ei law i wahanu'r grawn a'r us. Bydd yn clirio'r llawr dyrnu, yn casglu ei wenith i'r ysgubor ac yn llosgi'r us mewn tân sydd byth yn diffodd.”
Matt WelBeibl 3:13  Bryd hynny daeth Iesu o Galilea at afon Iorddonen i gael ei fedyddio gan Ioan.
Matt WelBeibl 3:14  Ond ceisiodd Ioan ei rwystro. Meddai wrtho, “Fi ddylai gael fy medyddio gen ti! Pam wyt ti'n dod ata i?”
Matt WelBeibl 3:15  Atebodd Iesu, “Gwna beth dw i'n ei ofyn; dyma sy'n iawn i'w wneud.” Felly cytunodd Ioan i'w fedyddio.
Matt WelBeibl 3:16  Ar ôl cael ei fedyddio, yr eiliad y daeth allan o'r dŵr, dyma'r awyr yn rhwygo'n agored, a gwelodd Ysbryd Duw yn dod i lawr fel colomen ac yn glanio arno.
Matt WelBeibl 3:17  A dyma lais o'r nefoedd yn dweud: “Hwn ydy fy Mab annwyl i; mae wedi fy mhlesio i'n llwyr.”
Chapter 4
Matt WelBeibl 4:1  Yn syth wedyn dyma'r Ysbryd yn arwain Iesu allan i'r anialwch i gael ei demtio gan y diafol.
Matt WelBeibl 4:2  Ar ôl bwyta dim byd am bedwar deg diwrnod, roedd yn llwgu.
Matt WelBeibl 4:3  Dyna pryd y daeth y diafol i'w demtio. “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i'r cerrig yma droi'n fara,” meddai.
Matt WelBeibl 4:4  “Na!”, atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud mai ‘Nid bwyd ydy'r unig beth mae pobl ei angen i fyw, ond popeth mae Duw yn ei ddweud.’”
Matt WelBeibl 4:5  Wedyn dyma'r diafol yn mynd â Iesu i'r ddinas sanctaidd (hynny ydy Jerwsalem) a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml.
Matt WelBeibl 4:6  “Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o'r fan yma. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd Duw yn gorchymyn i'w angylion dy ddal yn eu breichiau, fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.’”
Matt WelBeibl 4:7  Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi'r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’”
Matt WelBeibl 4:8  Yna dyma'r diafol yn mynd ag e i ben mynydd uchel iawn, a dangos holl wledydd y byd a'u cyfoeth iddo.
Matt WelBeibl 4:9  A dwedodd y diafol wrtho, “Cei di'r cwbl gen i os gwnei di blygu i lawr i fy addoli i.”
Matt WelBeibl 4:10  Ond dyma Iesu'n dweud, “Dos i ffwrdd Satan! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola'r Arglwydd dy Dduw, a'i wasanaethu e'n unig.’”
Matt WelBeibl 4:11  Yna dyma'r diafol yn ei adael, a daeth yr angylion ato a gofalu amdano.
Matt WelBeibl 4:12  Pan glywodd Iesu fod Ioan wedi cael ei garcharu, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea.
Matt WelBeibl 4:13  Ond yn lle mynd i Nasareth, aeth i fyw i Capernaum sydd ar lan y llyn yn ardal Sabulon a Nafftali.
Matt WelBeibl 4:14  Felly roedd beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn dod yn wir:
Matt WelBeibl 4:15  “Tir Sabulon a thir Nafftali, sydd ar Ffordd y Môr, a'r ardal yr ochr draw i afon Iorddonen, hynny ydy Galilea, lle mae pobl o genhedloedd eraill yn byw –
Matt WelBeibl 4:16  Mae'r bobl oedd yn byw mewn tywyllwch wedi gweld golau llachar; ac mae golau wedi gwawrio ar y rhai sy'n byw dan gysgod marwolaeth.”
Matt WelBeibl 4:17  Dyna pryd y dechreuodd Iesu gyhoeddi ei neges, “Trowch gefn ar bechod, achos mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu.”
Matt WelBeibl 4:18  Un tro roedd Iesu'n cerdded ar lan Llyn Galilea, a gwelodd ddau frawd – Simon, oedd pawb yn ei alw'n Pedr, a'i frawd Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi'n taflu rhwyd i'r llyn.
Matt WelBeibl 4:19  Dyma Iesu'n galw arnyn nhw, “Dewch, dilynwch fi, a gwna i chi'n bysgotwyr sy'n dal pobl yn lle pysgod.”
Matt WelBeibl 4:20  Heb oedi, dyma'r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl.
Matt WelBeibl 4:21  Wrth gerdded yn ei flaen, gwelodd Iesu ddau frawd arall – Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw mewn cwch hefo Sebedeus eu tad yn trwsio eu rhwydi. Dyma Iesu'n eu galw nhw hefyd,
Matt WelBeibl 4:22  a dyma nhw'n gadael y cwch a'u tad a dechrau dilyn Iesu.
Matt WelBeibl 4:23  Roedd Iesu'n teithio ar hyd a lled Galilea, yn dysgu'r bobl yn y synagogau, yn cyhoeddi'r newyddion da am deyrnasiad Duw ac yn iacháu pob afiechyd a salwch oedd ar bobl.
Matt WelBeibl 4:24  Daeth Iesu'n enwog y tu allan i Galilea, ac roedd pobl o bob rhan o Syria yn dod â phawb oedd yn sâl ato – pobl oedd yn dioddef o afiechydon gwahanol, neu mewn poen, eraill yng ngafael cythreuliaid, yn dioddef o ffitiau epileptig, neu wedi'u parlysu. Iachaodd Iesu nhw i gyd.
Matt WelBeibl 4:25  Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn i bobman – pobl o Galilea, y Decapolis, Jerwsalem a Jwdea, ac o'r ochr draw i afon Iorddonen.
Chapter 5
Matt WelBeibl 5:1  Pan welodd Iesu yr holl dyrfaoedd, aeth i fyny i ben y mynydd. Pan eisteddodd i lawr, daeth ei ddilynwyr ato,
Matt WelBeibl 5:3  “Mae'r rhai sy'n teimlo'n dlawd ac annigonol wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
Matt WelBeibl 5:4  Mae'r rhai sy'n galaru wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael eu cysuro.
Matt WelBeibl 5:5  Mae'r rhai addfwyn sy'n cael eu gorthrymu wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n etifeddu'r ddaear.
Matt WelBeibl 5:6  Mae'r rhai sy'n llwgu a sychedu am gyfiawnder wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael eu bodloni'n llwyr.
Matt WelBeibl 5:7  Mae'r rhai sy'n dangos trugaredd wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael profi trugaredd eu hunain.
Matt WelBeibl 5:8  Mae'r rhai sydd â chalon bur wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael gweld Duw.
Matt WelBeibl 5:9  Mae'r rhai sy'n hyrwyddo heddwch wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael eu galw'n blant Duw.
Matt WelBeibl 5:10  Mae'r rhai sy'n dioddef erledigaeth am eu bod yn byw'n gyfiawn wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
Matt WelBeibl 5:11  “Pan fydd pobl yn eich sarhau chi, a'ch erlid, ac yn dweud pethau drwg amdanoch chi am eich bod yn perthyn i mi, dych chi wedi'ch bendithio'n fawr!
Matt WelBeibl 5:12  Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaetha'r cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi. Cofiwch fod y proffwydi oedd yn byw ers talwm wedi cael eu herlid yn union yr un fath!
Matt WelBeibl 5:13  “Chi ydy halen y ddaear. Ond pan mae'r halen wedi colli ei flas pa obaith sydd i'w wneud yn hallt eto? Dydy e'n dda i ddim ond i'w daflu i ffwrdd a'i sathru dan draed.
Matt WelBeibl 5:14  “Chi ydy'r golau sydd yn y byd. Mae'n amhosib cuddio dinas sydd wedi'i hadeiladu ar ben bryn.
Matt WelBeibl 5:15  A does neb yn goleuo lamp i'w gosod o dan fowlen! Na, dych chi'n gosod lamp ar fwrdd er mwyn iddi roi golau i bawb yn y tŷ.
Matt WelBeibl 5:16  Dyna sut dylai'ch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foli'ch Tad yn y nefoedd wrth weld y pethau da dych chi'n eu gwneud.
Matt WelBeibl 5:17  “Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod i gael gwared â Chyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi. Dim o gwbl! Dw i wedi dod i ddangos beth maen nhw'n ei olygu.
Matt WelBeibl 5:18  Credwch chi fi, fydd dim un llythyren na manylyn lleia o'r Gyfraith yn cael ei ddileu nes bydd y nefoedd a'r ddaear yn diflannu. Rhaid i'r cwbl ddigwydd gyntaf.
Matt WelBeibl 5:19  Bydd pwy bynnag sy'n torri'r gorchymyn lleia, ac yn dysgu pobl eraill i wneud yr un peth, yn cael ei ystyried y lleia yn y deyrnas nefol. Ond bydd pwy bynnag sy'n byw yn ufudd i'r gorchmynion ac yn dysgu eraill i wneud hynny, yn cael ei ystyried y mwya yn y deyrnas nefol.
Matt WelBeibl 5:20  Dw i'n dweud hyn – os fyddwch chi ddim yn byw'n fwy cyfiawn na'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith, fyddwch chi byth yn un o'r rhai mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
Matt WelBeibl 5:21  “Dych chi wedi clywed beth oedd yn cael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid llofruddio’ (ac y bydd pawb sy'n llofruddio rhywun yn euog ac yn cael eu barnu).
Matt WelBeibl 5:22  Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod y sawl sy'n gwylltio gyda rhywun arall yn euog ac yn cael ei farnu. Os ydy rhywun yn sarhau ei gyfaill drwy ei alw'n idiot, mae'n atebol i'r Sanhedrin. Ac os bydd rhywun yn dweud ‘y diawl dwl’ wrth rywun arall, mae mewn perygl o losgi yn nhân uffern.
Matt WelBeibl 5:23  “Felly, os wyt ti wrth yr allor yn y deml yn addoli Duw, ac yn cofio yno fod gan rhywun gŵyn yn dy erbyn,
Matt WelBeibl 5:24  gad dy offrwm yno. Dos i wneud pethau'n iawn gyda nhw'n gyntaf; cei di gyflwyno dy offrwm i Dduw wedyn.
Matt WelBeibl 5:25  “Os bydd rhywun yn dy gyhuddo o rywbeth ac yn mynd â ti i'r llys, setla'r mater ar unwaith cyn cyrraedd y llys. Ydy'n well gen ti iddo fynd â ti o flaen y barnwr, ac i'r barnwr orchymyn i swyddog dy roi yn y carchar?
Matt WelBeibl 5:26  Cred di fi, chei di ddim dy ryddhau nes byddi wedi talu pob ceiniog.
Matt WelBeibl 5:27  “Dych chi wedi clywed beth oedd yn cael ei ddweud, ‘Paid godinebu’
Matt WelBeibl 5:28  Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod unrhyw ddyn sy'n llygadu gwraig a'i feddwl ar ryw eisoes wedi cyflawni godineb gyda hi.
Matt WelBeibl 5:29  Os ydy dy lygad orau yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a'i thaflu i ffwrdd. Mae'n well i ti golli rhan fach o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern.
Matt WelBeibl 5:30  Ac os ydy dy law gryfaf yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a'i thaflu ymaith. Mae'n well i ti golli rhan o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern.
Matt WelBeibl 5:31  “Mae wedi cael ei ddweud, ‘Rhaid i bwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig roi tystysgrif ysgariad iddi.’
Matt WelBeibl 5:32  Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod dyn sy'n ysgaru ei wraig am unrhyw reswm ond ei bod hi wedi bod yn anffyddlon iddo, yn gwneud iddi hi odinebu. Hefyd mae dyn sy'n priodi gwraig sydd wedi cael ysgariad yn godinebu.
Matt WelBeibl 5:33  “Dych chi hefyd wedi clywed i hyn gael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid gwneud llw, ac wedyn ei dorri. Rhaid cadw pob llw wyt ti wedi'i wneud i'r Arglwydd.’
Matt WelBeibl 5:34  Ond dw i'n dweud wrthoch chi, Peidiwch tyngu llw o gwbl: ddim i'r nefoedd, am mai dyna orsedd Duw;
Matt WelBeibl 5:35  nac i'r ddaear, y stôl iddo orffwys ei draed arni; nac i Jerwsalem, am mai hi ydy dinas Duw, y Brenin Mawr.
Matt WelBeibl 5:36  Peidiwch tyngu llw hyd yn oed i'ch pen eich hun, oherwydd allwch chi ddim troi un blewyn yn ddu neu'n wyn.
Matt WelBeibl 5:37  Yn lle hynny, dwedwch y gwir bob amser – dylai dweud ‘Ie’ olygu ‘Ie’, a dweud ‘Na’ olygu ‘Na’. Y diafol sy'n gwneud i chi fod eisiau dweud mwy na hynny.
Matt WelBeibl 5:38  “Dych chi wedi clywed fod hyn yn cael ei ddweud, ‘Llygad am lygad, a dant am ddant.’
Matt WelBeibl 5:39  Ond dw i'n dweud wrthoch chi: Peidiwch ceisio talu'n ôl. Os ydy rhywun yn rhoi clatsien i ti ar dy foch dde, cynnig y foch arall iddo.
Matt WelBeibl 5:40  Ac os ydy rhywun am dy siwio a chymryd dy grys, rho dy gôt iddo hefyd.
Matt WelBeibl 5:41  Os ydy milwr Rhufeinig yn dy orfodi i gario ei bac am un filltir, dos di ddwy.
Matt WelBeibl 5:42  Rho i bwy bynnag sy'n gofyn i ti am rywbeth, a phaid gwrthod y sawl sydd eisiau benthyg rhywbeth gen ti.
Matt WelBeibl 5:43  “Dych chi wedi clywed i hyn gael ei ddweud: ‘Rwyt i garu dy gymydog’ (ac ‘i gasáu dy elyn’).
Matt WelBeibl 5:44  Ond dw i'n dweud wrthoch chi: Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid chi!
Matt WelBeibl 5:45  Wedyn byddwch yn dangos eich bod yn blant i'ch Tad yn y nefoedd, am mai dyna'r math o beth mae e'n ei wneud – mae'n gwneud i'r haul dywynnu ar y drwg a'r da, ac yn rhoi glaw i'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn a'r rhai sydd ddim.
Matt WelBeibl 5:46  Pam dylech chi gael gwobr am garu'r bobl hynny sy'n eich caru chi? Onid ydy hyd yn oed y rhai sy'n casglu trethi i Rufain yn gwneud cymaint â hynny?
Matt WelBeibl 5:47  Ac os mai dim ond eich teip chi o bobl dych chi'n eu cyfarch, beth dych chi'n ei wneud sy'n wahanol? Mae hyd yn oed y paganiaid yn gwneud hynny!
Matt WelBeibl 5:48  Ond rhaid i chi fod yn berffaith, yn union fel mae'ch Tad nefol yn berffaith.
Chapter 6
Matt WelBeibl 6:1  “Byddwch yn ofalus i beidio gwneud sioe o'ch crefydd, er mwyn i bobl eraill eich gweld chi. Os gwnewch chi hynny, chewch chi ddim gwobr gan eich Tad yn y nefoedd.
Matt WelBeibl 6:2  “Felly, pan fyddi'n rhoi arian i'r tlodion, paid trefnu ffanffer er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn gwybod am y peth. Dyna mae'r rhai sy'n gwneud sioe o'u crefydd yn ei wneud yn y synagogau ac ar y strydoedd. Maen nhw eisiau i bobl eraill eu canmol nhw. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw!
Matt WelBeibl 6:3  Pan fyddi di'n rhoi arian i'r tlodion, paid gadael i'r llaw chwith wybod beth mae'r llaw dde yn ei wneud.
Matt WelBeibl 6:4  Dylai pob rhodd fod yn gyfrinach. Bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.
Matt WelBeibl 6:5  “A pheidiwch gweddïo fel y rhai sy'n gwneud sioe o'u crefydd. Maen nhw wrth eu boddau pan mae pobl yn edrych arnyn nhw yn codi i weddïo yn y synagogau neu ar strydoedd prysur. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw!
Matt WelBeibl 6:6  Pan fyddi di'n gweddïo, dos i ystafell o'r golwg, cau y drws, a gweddïo ar dy Dad sydd yno gyda ti er dy fod ddim yn ei weld. Wedyn bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.
Matt WelBeibl 6:7  A phan fyddwch chi'n gweddïo, peidiwch mwydro ymlaen yn ddiddiwedd fel mae'r paganiaid yn gwneud. Maen nhw'n meddwl y bydd Duw yn gwrando am eu bod yn gweddïo mor hir.
Matt WelBeibl 6:8  Peidiwch chi â bod fel yna. Mae'ch Tad chi'n gwybod yn union beth sydd ei angen arnoch chi cyn i chi ddweud gair.
Matt WelBeibl 6:9  “Dyma sut dylech chi weddïo: ‘Ein Tad sydd yn y nefoedd, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu.
Matt WelBeibl 6:10  Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu, ac i'r cwbl sy'n dda yn dy olwg di ddigwydd yma ar y ddaear fel mae'n digwydd yn y nefoedd.
Matt WelBeibl 6:11  Rho i ni ddigon o fwyd i'n cadw ni'n fyw am heddiw.
Matt WelBeibl 6:12  Maddau i ni am bob dyled i ti yn union fel dŷn ni'n maddau i'r rhai sydd mewn dyled i ni.
Matt WelBeibl 6:13  Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi, ac achub ni o afael y drwg.’
Matt WelBeibl 6:14  “Os gwnewch chi faddau i bobl pan maen nhw wedi gwneud cam â chi, bydd eich Tad nefol yn maddau i chi hefyd.
Matt WelBeibl 6:15  Ond os na wnewch chi faddau i'r bobl sydd wedi gwneud cam â chi, fydd eich Tad ddim yn maddau'ch pechodau chi.
Matt WelBeibl 6:16  “Pan fyddwch chi'n ymprydio, peidiwch gwneud i'ch hunain edrych yn drist er mwyn gwneud sioe; mae'r bobl sy'n gwneud hynny yn cuddio'u hwynebau er mwyn i bobl sylwi eu bod yn ymprydio. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw!
Matt WelBeibl 6:17  Pan fyddi di'n ymprydio, rho olew ar dy ben, criba dy wallt a golcha dy wyneb.
Matt WelBeibl 6:18  Wedyn fydd neb yn gallu gweld dy fod ti'n ymprydio. Dim ond dy Dad, sy'n anweledig, fydd yn gweld; a bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.
Matt WelBeibl 6:19  “Peidiwch casglu trysorau i chi'ch hunain yn y byd yma. Mae gwyfyn a rhwd yn gallu eu difetha, ac mae lladron yn gallu dod â'u dwyn.
Matt WelBeibl 6:20  Casglwch drysorau i chi'ch hunain yn y nefoedd – all gwyfyn a rhwd ddifetha dim byd yno, a does dim lladron yno i ddwyn dim byd.
Matt WelBeibl 6:22  “Y llygad ydy lamp y corff. Felly, mae llygad iach (sef bod yn hael) yn gwneud dy gorff yn olau drwyddo.
Matt WelBeibl 6:23  Ond mae llygad sâl (sef bod yn hunanol) yn gwneud dy gorff yn dywyll drwyddo. Felly os ydy dy oleuni di yn dywyllwch, mae'n dywyll go iawn arnat ti!
Matt WelBeibl 6:24  “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac i arian ar yr un pryd.
Matt WelBeibl 6:25  “Felly, dyma dw i'n ddweud – peidiwch poeni beth i'w fwyta a beth i'w yfed a beth i'w wisgo. Onid oes mwy i fywyd na bwyd a dillad?
Matt WelBeibl 6:26  Meddyliwch am adar er enghraifft: Dŷn nhw ddim yn hau nac yn medi nac yn storio mewn ysguboriau – ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo nhw. Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na nhw.
Matt WelBeibl 6:27  Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach drwy boeni!
Matt WelBeibl 6:28  “A pham poeni am ddillad? Meddyliwch sut mae blodau gwyllt yn tyfu. Dydy blodau ddim yn gweithio nac yn nyddu.
Matt WelBeibl 6:29  Ac eto, doedd hyd yn oed y Brenin Solomon yn ei ddillad crand ddim yn edrych mor hardd ag un ohonyn nhw.
Matt WelBeibl 6:30  Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy'n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae'n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae'ch ffydd chi?
Matt WelBeibl 6:31  Peidiwch poeni felly, a dweud, ‘Beth wnawn ni fwyta?’ neu ‘Beth wnawn ni yfed?’ neu ‘Beth wisgwn ni?’
Matt WelBeibl 6:32  Y paganiaid sy'n poeni am bethau felly. Mae'ch Tad nefol yn gwybod am bopeth sydd ei angen arnoch chi.
Matt WelBeibl 6:33  Y flaenoriaeth i chi ydy gadael i Dduw deyrnasu yn eich bywydau a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg; wedyn byddwch yn cael y pethau eraill yma i gyd.
Matt WelBeibl 6:34  Felly, peidiwch poeni am fory, cewch groesi'r bont honno pan ddaw. Mae'n well wynebu problemau un dydd ar y tro.
Chapter 7
Matt WelBeibl 7:1  “Peidiwch bod yn feirniadol o bobl eraill, ac wedyn wnaiff Duw mo'ch barnu chi.
Matt WelBeibl 7:2  Oherwydd cewch chi'ch barnu yn yr un ffordd â dych chi'n barnu pobl eraill. Y pren mesur dych chi'n ei ddefnyddio ar bobl eraill fydd yn cael ei ddefnyddio arnoch chi.
Matt WelBeibl 7:3  “Pam wyt ti'n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad dy hun!?
Matt WelBeibl 7:4  Sut alli di ddweud, ‘Gad i mi dynnu'r sbecyn yna allan o dy lygad di,’ pan mae trawst yn sticio allan o dy lygad dy hun?
Matt WelBeibl 7:5  Rwyt ti mor ddauwynebog! Tynna'r trawst allan o dy lygad dy hun yn gyntaf, ac wedyn byddi'n gweld yn ddigon clir i dynnu'r sbecyn allan o lygad y person arall.
Matt WelBeibl 7:6  “Peidiwch rhoi beth sy'n sanctaidd i gŵn, rhag iddyn nhw ymosod arnoch chi a'ch rhwygo chi'n ddarnau. Peidiwch taflu perlau gwerthfawr i foch, fydd yn gwneud dim ond eu sathru nhw dan draed.
Matt WelBeibl 7:7  “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch ar y drws a bydd yn cael ei agor.
Matt WelBeibl 7:8  Mae pawb sy'n gofyn yn derbyn; pawb sy'n chwilio yn cael; ac mae'r drws yn cael ei agor i bawb sy'n curo.
Matt WelBeibl 7:9  “Pwy ohonoch chi fyddai'n rhoi carreg i'ch plentyn pan mae'n gofyn am fara?
Matt WelBeibl 7:11  Felly os dych chi sy'n ddrwg yn gwybod sut i roi anrhegion da i'ch plant, mae'ch Tad yn y nefoedd yn siŵr o roi rhoddion da i'r rhai sy'n gofyn iddo!
Matt WelBeibl 7:12  Dylech chi bob amser drin pobl eraill fel byddech chi'n hoffi iddyn nhw'ch trin chi. Mae'n egwyddor sy'n crynhoi popeth mae Cyfraith Moses ac ysgrifau'r proffwydi'n ei ddweud.
Matt WelBeibl 7:13  “Ewch i mewn drwy'r fynedfa gul. Oherwydd mae'r fynedfa i'r ffordd sy'n arwain i ddinistr yn llydan. Mae'n ddigon hawdd dilyn y ffordd honno, ac mae llawer o bobl yn mynd arni.
Matt WelBeibl 7:14  Ond mae'r fynedfa sy'n arwain i fywyd yn gul, a'r llwybr yn galed. Does ond ychydig o bobl yn dod o hyd iddi.
Matt WelBeibl 7:15  “Gwyliwch allan am broffwydi ffug. Bleiddiaid rheibus ydyn nhw go iawn, ond yn rhoi'r argraff i chi eu bod mor ddiniwed â defaid.
Matt WelBeibl 7:16  Y ffordd i'w nabod nhw ydy drwy edrych ar y ffrwyth yn eu bywydau nhw. Dydy grawnwin ddim yn tyfu ar ddrain, na ffigys ar ysgall.
Matt WelBeibl 7:17  Felly lle mae ffrwyth da mae coeden iach, ond os ydy'r ffrwyth yn ddrwg mae'r goeden yn wael.
Matt WelBeibl 7:18  Dydy ffrwyth drwg ddim yn tyfu ar goeden iach, na ffrwyth da ar goeden wael!
Matt WelBeibl 7:19  Bydd pob coeden sydd heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr a'i llosgi.
Matt WelBeibl 7:20  Felly y ffordd i nabod y proffwydi ffug ydy drwy edrych ar y ffrwyth yn eu bywydau nhw.
Matt WelBeibl 7:21  “Fydd pawb sy'n fy ngalw i'n ‛Arglwydd‛ ddim yn cael dod dan deyrnasiad yr Un nefol, dim ond y bobl hynny sy'n gwneud beth mae fy Nhad yn y nefoedd yn ei ofyn.
Matt WelBeibl 7:22  Ar y diwrnod hwnnw pan fydd Duw yn dod i farnu, bydd llawer o bobl yn dweud wrtho i ‘Arglwydd, Arglwydd, oni fuon ni'n proffwydo ar dy ran di, ac yn bwrw allan gythreuliaid a gwneud llawer iawn o wyrthiau eraill?’
Matt WelBeibl 7:23  Ond bydda i'n dweud wrthyn nhw'n blaen, ‘Dw i erioed wedi'ch nabod chi. Ewch o ma! Pobl ddrwg ydych chi!’
Matt WelBeibl 7:24  “Felly dyma sut bobl ydy'r rhai sy'n gwrando arna i ac yna'n gwneud beth dw i'n ddweud. Maen nhw fel dyn call sy'n adeiladu ei dŷ ar graig solet.
Matt WelBeibl 7:25  Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, ond wnaeth y tŷ ddim syrthio am fod ei sylfeini ar graig solet.
Matt WelBeibl 7:26  Ond mae pawb sy'n gwrando arna i heb wneud beth dw i'n ddweud yn debyg i ddyn dwl sy'n adeiladu ei dŷ ar dywod!
Matt WelBeibl 7:27  Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, a syrthiodd y tŷ a chwalu'n llwyr.”
Matt WelBeibl 7:28  Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma, roedd y tyrfaoedd yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu.
Matt WelBeibl 7:29  Roedd yn wahanol i'r arbenigwyr yn y Gyfraith – roedd ganddo awdurdod oedd yn gwneud i bobl wrando arno.
Chapter 8
Matt WelBeibl 8:1  Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn pan ddaeth i lawr o ben y mynydd.
Matt WelBeibl 8:2  Yna dyma ddyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod ato a mynd ar ei liniau o'i flaen. “Arglwydd,” meddai, “gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.”
Matt WelBeibl 8:3  Dyma Iesu'n estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân.” A'r eiliad honno cafodd y dyn ei wneud yn holliach!
Matt WelBeibl 8:4  A dyma Iesu'n dweud wrtho, “Gwna'n siŵr dy fod ti'n dweud wrth neb beth sydd wedi digwydd. Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad, a chyflwyno'r offrwm ddwedodd Moses y dylet ti ei gyflwyno, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.”
Matt WelBeibl 8:5  Wrth i Iesu fynd i mewn i Capernaum, daeth swyddog milwrol Rhufeinig ato yn pledio arno i'w helpu.
Matt WelBeibl 8:6  “Arglwydd,” meddai, “mae ngwas i gartref, yn gorwedd yn ei wely wedi'i barlysu. Mae'n dioddef yn ofnadwy.”
Matt WelBeibl 8:8  Ond meddai'r swyddog wrtho, “Arglwydd, dw i ddim yn deilwng i ti ddod i mewn i nhŷ i. Does ond rhaid i ti ddweud a bydd fy ngwas yn cael ei iacháu.
Matt WelBeibl 8:9  Mae swyddogion uwch fy mhen i yn rhoi gorchmynion i mi, ac mae gen innau filwyr odanaf fi. Dw i'n dweud ‘Dos’ wrth un, ac mae'n mynd; ‘Tyrd yma’ wrth un arall ac mae'n dod. Dw i'n dweud ‘Gwna hyn’ wrth fy ngwas, ac mae'n ei wneud.”
Matt WelBeibl 8:10  Roedd Iesu wedi'i syfrdanu pan glywodd beth ddwedodd y dyn. Meddai wrth y rhai oedd yn ei ddilyn, “Wir i chi, dw i ddim wedi gweld neb o bobl Israel sydd â ffydd fel yna!
Matt WelBeibl 8:11  Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd llawer o bobl yn dod o bob rhan o'r byd ac yn eistedd i lawr i wledda gydag Abraham, Isaac a Jacob pan ddaw'r Un nefol i deyrnasu.
Matt WelBeibl 8:12  Ond bydd ‛dinasyddion y deyrnas‛ yn cael eu taflu allan i'r tywyllwch lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.”
Matt WelBeibl 8:13  Yna dwedodd Iesu wrth y swyddog milwrol, “Dos! Cei di beth wnest ti gredu allai ddigwydd.” A dyna'n union pryd cafodd y gwas ei iacháu.
Matt WelBeibl 8:14  Dyma Iesu'n mynd i gartref Pedr. Yno gwelodd fam-yng-nghyfraith Pedr yn ei gwely gyda gwres uchel.
Matt WelBeibl 8:15  Cyffyrddodd Iesu ei llaw a diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi'n codi o'i gwely a gwneud pryd o fwyd iddo.
Matt WelBeibl 8:16  Pan oedd hi'n dechrau nosi dyma bobl yn dod â llawer iawn o rai oedd yng ngafael cythreuliaid at Iesu. Doedd ond rhaid iddo ddweud gair i fwrw allan yr ysbrydion drwg a iacháu pawb oedd yn sâl.
Matt WelBeibl 8:17  Felly roedd beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn dod yn wir: “Cymerodd ein gwendidau arno'i hun, a chario ein hafiechydon i ffwrdd.”
Matt WelBeibl 8:18  Pan welodd Iesu'r dyrfa o'i gwmpas, penderfynodd fod rhaid croesi i ochr draw'r llyn.
Matt WelBeibl 8:19  Yna dyma un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dod ato a dweud, “Athro, dw i'n fodlon dy ddilyn di lle bynnag fyddi di'n mynd.”
Matt WelBeibl 8:20  Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.”
Matt WelBeibl 8:21  Dyma un arall o'i ddilynwyr yn dweud wrtho, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.”
Matt WelBeibl 8:22  Ond ateb Iesu oedd, “Dilyn di fi. Gad i'r rhai sy'n farw eu hunain gladdu eu meirw.”
Matt WelBeibl 8:23  Felly i ffwrdd â Iesu i'r cwch, a'i ddisgyblion ar ei ôl.
Matt WelBeibl 8:24  Yn gwbl ddirybudd, cododd storm ofnadwy ar y llyn, nes bod y cwch yn cael ei gladdu gan y tonnau. Ond cysgodd Iesu'n drwm drwy'r cwbl!
Matt WelBeibl 8:25  Dyma'r disgyblion yn mynd ato mewn panig a'i ddeffro, “Achub ni Arglwydd!” medden nhw, “Dŷn ni'n mynd i foddi!”
Matt WelBeibl 8:26  “Pam dych chi mor ofnus?” meddai Iesu, “Ble mae'ch ffydd chi?” Yna cododd ar ei draed a cheryddu'r gwynt a'r tonnau, ac yn sydyn roedd pobman yn hollol dawel.
Matt WelBeibl 8:27  Roedd y disgyblion yn gwbl syfrdan. “Beth wnawn ni o'r dyn yma?” medden nhw, “Mae hyd yn oed y gwyntoedd a'r tonnau yn ufuddhau iddo!”
Matt WelBeibl 8:28  Ar ôl iddo groesi'r llyn i ardal y Gadareniaid, dyma ddau ddyn oedd yng ngafael cythreuliaid yn dod i'w gyfarfod o gyfeiriad y fynwent. Roedd y dynion yma mor beryglus, doedd hi ddim yn saff i bobl fynd heibio'r ffordd honno.
Matt WelBeibl 8:29  Dyma nhw'n gweiddi'n uchel, “Gad di lonydd i ni Fab Duw! Wyt ti wedi dod yma i'n poenydio ni cyn i'r amser i hynny digwydd ddod?”
Matt WelBeibl 8:30  Roedd cenfaint fawr o foch yn pori draw oddi wrthyn nhw,
Matt WelBeibl 8:31  a dyma'r cythreuliaid yn pledio arno, “Gad i ni fynd i mewn i'r genfaint o foch acw os wyt ti'n mynd i'n bwrw ni allan.”
Matt WelBeibl 8:32  “Ewch!” meddai Iesu. Felly allan â nhw ac i mewn i'r moch. A'r peth nesa, dyma'r moch i gyd yn rhuthro i lawr y llechwedd serth a boddi yn y llyn.
Matt WelBeibl 8:33  Dyma'r rhai oedd yn gofalu am y moch yn rhedeg i ffwrdd i'r dre i adrodd y stori, a dweud am bopeth oedd wedi digwydd i'r dynion oedd wedi bod yng ngafael cythreuliaid.
Matt WelBeibl 8:34  Yna dyma pawb yn dod allan o'r dre i gyfarfod Iesu. Ar ôl dod o hyd iddo, dyma nhw'n pwyso arno i adael eu hardal.
Chapter 9
Matt WelBeibl 9:1  Dyma Iesu'n mynd i mewn i gwch a chroesi'r llyn yn ôl i'w dref ei hun.
Matt WelBeibl 9:2  A dyma rhyw bobl yn dod â dyn wedi'i barlysu ato, yn gorwedd ar fatras. Pan welodd Iesu eu ffydd nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi'i barlysu, “Cod dy galon, ffrind; mae dy bechodau wedi'u maddau.”
Matt WelBeibl 9:3  Roedd rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud wrth ei gilydd, “Mae'r dyn yma'n cablu!”
Matt WelBeibl 9:4  Ond roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn mynd drwy eu meddyliau, ac meddai, “Pam dych chi'n meddwl yn ddrwg amdana i?
Matt WelBeibl 9:5  Ydy'n haws dweud ‘Mae dy bechodau wedi'u maddau,’ neu ‘Cod ar dy draed a cherdda’?
Matt WelBeibl 9:6  Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear …” Yna dyma Iesu'n troi at y dyn oedd wedi'i barlysu, a dweud, “Saf ar dy draed, cymer dy fatras a dos adre.”
Matt WelBeibl 9:8  Roedd y dyrfa wedi dychryn, ac yn moli Duw, am iddo roi'r fath awdurdod i ddyn.
Matt WelBeibl 9:9  Wrth i Iesu fynd yn ei flaen, gwelodd ddyn o'r enw Mathew yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; a chododd Mathew ar unwaith a mynd ar ei ôl.
Matt WelBeibl 9:10  Yn nes ymlaen aeth Iesu a'i ddisgyblion i dŷ Mathew am bryd o fwyd. Daeth criw mawr o'r rhai oedd yn casglu trethi i Rufain i'r parti, a phobl eraill roedd y Phariseaid yn eu hystyried yn ‛bechaduriaid‛.
Matt WelBeibl 9:11  Wrth weld hyn, dyma'r Phariseaid yn gofyn i'w ddisgyblion, “Pam mae eich athro yn bwyta gyda'r bradwyr sy'n casglu trethi i Rufain a phobl eraill sy'n ddim byd ond ‛pechaduriaid‛?”
Matt WelBeibl 9:12  Clywodd Iesu nhw, ac meddai, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy'n sâl.
Matt WelBeibl 9:13  Mae'n bryd i chi ddysgu beth ydy ystyr y dywediad: ‘Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau.’ Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim rhai sy'n meddwl eu bod nhw heb fai.”
Matt WelBeibl 9:14  Dyma ddisgyblion Ioan yn dod at Iesu a gofyn iddo, “Dŷn ni a'r Phariseaid yn ymprydio, ond dydy dy ddisgyblion di ddim. Pam?”
Matt WelBeibl 9:15  Atebodd Iesu nhw, “Dydy pobl ddim yn mynd i wledd briodas i fod yn drist ac i alaru! Maen nhw yno i ddathlu gyda'r priodfab! Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhw'n ymprydio bryd hynny.
Matt WelBeibl 9:16  “Does neb yn trwsio hen ddilledyn gyda chlwt o frethyn newydd sydd heb shrincio. Byddai'r clwt o frethyn yn tynnu ar y dilledyn ac yn achosi rhwyg gwaeth.
Matt WelBeibl 9:17  A dydy gwin sydd heb aeddfedu ddim yn cael ei dywallt i hen boteli crwyn. Wrth i'r gwin aeddfedu byddai'r crwyn yn byrstio ac yn difetha, a'r gwin yn cael ei golli. Na, rhaid tywallt y gwin i boteli crwyn newydd, a bydd y poteli a'r gwin yn cael ei gadw.”
Matt WelBeibl 9:18  Tra oedd yn dweud hyn, dyma un o'r arweinwyr Iddewig yn dod ato ac yn plygu ar ei liniau o'i flaen. “Mae fy merch fach newydd farw,” meddai, “ond tyrd i roi dy law arni, a daw yn ôl yn fyw.”
Matt WelBeibl 9:19  Cododd Iesu a mynd gyda'r dyn, ac aeth y disgyblion hefyd.
Matt WelBeibl 9:20  Dyna pryd y daeth rhyw wraig oedd wedi bod yn dioddef o waedlif ers deuddeng mlynedd a sleifio i fyny y tu ôl iddo a chyffwrdd y taselau ar ei glogyn.
Matt WelBeibl 9:21  Roedd yn meddwl, “Petawn i ond yn llwyddo i gyffwrdd ei glogyn ca i fy iacháu.”
Matt WelBeibl 9:22  Trodd Iesu a'i gweld, ac meddai wrthi, “Cod dy galon, wraig annwyl. Am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” A'r eiliad honno cafodd y wraig ei hiacháu.
Matt WelBeibl 9:23  Pan gyrhaeddodd Iesu dŷ'r dyn, roedd tyrfa swnllyd o bobl yn galaru, a rhai yn canu pibau.
Matt WelBeibl 9:24  “Ewch i ffwrdd!” meddai wrthyn nhw, “Dydy'r ferch fach ddim wedi marw – cysgu mae hi!” Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben,
Matt WelBeibl 9:25  ond dyma Iesu'n anfon y dyrfa allan o'r tŷ. Yna aeth at y ferch fach a gafael yn ei llaw, a chododd ar ei thraed.
Matt WelBeibl 9:27  Pan aeth Iesu yn ei flaen oddi yno dyma ddau ddyn dall yn ei ddilyn, gan weiddi'n uchel, “Helpa ni, Fab Dafydd!”
Matt WelBeibl 9:28  Ar ôl mynd i mewn i'r tŷ, dyma'r dynion yn dod ato, a gofynnodd iddyn nhw, “Ydych chi'n credu go iawn y galla i wneud hyn?” “Ydyn, Arglwydd,” medden nhw.
Matt WelBeibl 9:29  Yna cyffyrddodd eu llygaid nhw a dweud, “Cewch beth dych wedi'i gredu sy'n bosib,”
Matt WelBeibl 9:30  ac roedden nhw'n gallu gweld eto. Dyma Iesu'n eu rhybuddio'n llym, “Gwnewch yn siŵr fod neb yn gwybod am hyn.”
Matt WelBeibl 9:31  Ond pan aethon nhw allan, dyma nhw'n dweud wrth bawb drwy'r ardal i gyd amdano.
Matt WelBeibl 9:32  Wrth iddyn nhw adael, dyma rhyw bobl yn dod â dyn at Iesu oedd yn methu siarad am ei fod yng ngafael cythraul.
Matt WelBeibl 9:33  Pan gafodd y cythraul ei fwrw allan ohono, dyma'r dyn yn dechrau siarad. Roedd y dyrfa wedi'i syfrdanu, a phobl yn dweud, “Does dim byd tebyg i hyn wedi digwydd yn Israel erioed o'r blaen.”
Matt WelBeibl 9:34  Ond roedd y Phariseaid yn dweud, “Tywysog y cythreuliaid sy'n rhoi'r gallu iddo wneud hyn.”
Matt WelBeibl 9:35  Roedd Iesu'n teithio o gwmpas yr holl drefi a'r pentrefi yn dysgu'r bobl yn eu synagogau, yn cyhoeddi'r newyddion da am deyrnasiad Duw ac yn iacháu pob afiechyd a salwch.
Matt WelBeibl 9:36  Roedd gweld tyrfaoedd o bobl yn ei gyffwrdd i'r byw, am eu bod fel defaid heb fugail, ar goll ac yn gwbl ddiymadferth.
Matt WelBeibl 9:37  Ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mae'r cynhaeaf mor fawr, a'r gweithwyr mor brin!
Matt WelBeibl 9:38  Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i'w feysydd.”
Chapter 10
Matt WelBeibl 10:1  Galwodd y deuddeg disgybl at ei gilydd, a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw ysbrydion drwg allan o bobl a iacháu pob afiechyd a salwch.
Matt WelBeibl 10:2  Dyma enwau'r deuddeg oedd i'w gynrychioli: Simon (oedd yn cael ei alw yn Pedr), Andreas (brawd Pedr), Iago fab Sebedeus, Ioan (brawd Iago),
Matt WelBeibl 10:3  Philip, Bartholomeus, Tomos, a Mathew (oedd yn casglu trethi i Rufain), Iago fab Alffeus, Thadeus,
Matt WelBeibl 10:4  Simon y Selot a Jwdas Iscariot (wnaeth ei fradychu).
Matt WelBeibl 10:5  Nhw oedd y deuddeg anfonodd Iesu allan. A dyma fe'n rhoi'r cyfarwyddiadau yma iddyn nhw: “Peidiwch mynd at y cenhedloedd eraill nac i mewn i un o bentrefi'r Samariaid.
Matt WelBeibl 10:6  Ewch yn lle hynny at bobl Israel, sydd fel defaid ar goll.
Matt WelBeibl 10:7  Dyma'r neges i chi ei chyhoeddi wrth fynd: ‘Mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu.’
Matt WelBeibl 10:8  Ewch i iacháu pobl sy'n glaf, dod â phobl sydd wedi marw yn ôl yn fyw, iacháu'r rhai sy'n dioddef o'r gwahanglwyf, a bwrw allan gythreuliaid o fywydau pobl. Gan eich bod wedi derbyn y cwbl am ddim, rhowch yn rhad ac am ddim.
Matt WelBeibl 10:9  Peidiwch cymryd arian, na hyd yn oed newid mân, gyda chi;
Matt WelBeibl 10:10  dim bag teithio, na dillad a sandalau sbâr, na ffon. Mae'r gweithiwr yn haeddu ei fara menyn.
Matt WelBeibl 10:11  “Ble bynnag ewch chi, i dref neu bentref, edrychwch am rywun sy'n barod i'ch croesawu, ac aros yng nghartre'r person hwnnw nes byddwch yn gadael yr ardal.
Matt WelBeibl 10:12  Wrth fynd i mewn i'r cartref, cyfarchwch y rhai sy'n byw yno.
Matt WelBeibl 10:13  Os oes croeso yno, bydd yn cael ei fendithio; os does dim croeso yno, cymerwch y fendith yn ôl.
Matt WelBeibl 10:14  Os bydd rhywun yn gwrthod rhoi croeso i chi ac yn gwrthod gwrando ar eich neges chi, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed pan fyddwch yn gadael y tŷ neu'r dref honno.
Matt WelBeibl 10:15  Credwch chi fi, bydd hi'n well ar dir Sodom a Gomorra ar ddydd y farn nag ar y dref honno!
Matt WelBeibl 10:16  Dw i'n eich anfon chi allan fel defaid i ganol pac o fleiddiaid. Felly byddwch yn graff fel nadroedd ond yn ddiniwed fel colomennod.
Matt WelBeibl 10:17  “Gwyliwch eich hunain! Bydd pobl yn eich dwyn o flaen yr awdurdodau ac yn eich chwipio yn eu synagogau.
Matt WelBeibl 10:18  Cewch eich llusgo o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd a'ch cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi. Byddwch yn tystiolaethu iddyn nhw ac i bobl o wledydd eraill amdana i.
Matt WelBeibl 10:19  Pan gewch eich arestio, peidiwch poeni beth i'w ddweud o flaen y llys na sut i'w ddweud. Bydd y peth iawn i'w ddweud yn dod i chi ar y pryd.
Matt WelBeibl 10:20  Dim chi fydd yn siarad, ond Ysbryd eich Tad fydd yn siarad trwoch chi.
Matt WelBeibl 10:21  “Bydd dyn yn bradychu ei frawd i gael ei ladd, a thad yn bradychu ei blentyn. Bydd plant yn troi yn erbyn eu rhieni, ac yn eu rhoi i'r awdurdodau i'w dienyddio.
Matt WelBeibl 10:22  Bydd pawb yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi, ond bydd y rhai sy'n sefyll yn gadarn i'r diwedd un yn cael eu hachub.
Matt WelBeibl 10:23  Pan fyddwch yn cael eich erlid yn un lle, ffowch i rywle arall. Credwch chi fi, fyddwch chi ddim wedi gorffen mynd drwy drefi Israel cyn i mi, Mab y Dyn, ddod.
Matt WelBeibl 10:24  “Dydy disgybl ddim yn dysgu ei athro, a dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr.
Matt WelBeibl 10:25  Mae'n ddigon i ddisgybl fod yn debyg i'w athro, ac i gaethwas fod fel ei feistr. Os ydy pennaeth y tŷ yn cael ei alw'n Beelsebwl (hynny ydy y diafol), ydy pawb arall yn y teulu'n disgwyl cael pethau'n haws?
Matt WelBeibl 10:26  “Felly peidiwch â'u hofni nhw. Bydd popeth sydd wedi'i guddio yn dod i'r golwg, a phob cyfrinach yn cael ei datgelu.
Matt WelBeibl 10:27  Yr hyn dw i'n ei ddweud o'r golwg, dwedwch chi'n agored yng ngolau dydd; beth sy'n cael ei sibrwd yn eich clust, cyhoeddwch yn uchel o bennau'r tai.
Matt WelBeibl 10:28  Peidiwch bod ofn pobl. Maen nhw'n gallu lladd y corff ond fedran nhw ddim lladd y person go iawn. Duw ydy'r un i'w ofni – mae'r gallu ganddo e i ddinistrio'r person a'i gorff yn uffern.
Matt WelBeibl 10:29  Beth ydy gwerth aderyn y to? Dych chi'n gallu prynu dau ohonyn nhw am newid mân! Ond does dim un aderyn bach yn syrthio'n farw heb i'ch Tad wybod am y peth.
Matt WelBeibl 10:30  Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi!
Matt WelBeibl 10:31  Felly peidiwch bod ofn dim byd; dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na haid fawr o adar y to!
Matt WelBeibl 10:32  “Pwy bynnag sy'n dweud yn agored o flaen pobl eraill ei fod yn credu ynof fi, bydda innau'n dweud yn agored o flaen fy Nhad yn y nefoedd fod y person hwnnw'n perthyn i mi.
Matt WelBeibl 10:33  Ond pwy bynnag sy'n gwadu ei fod yn credu ynof fi o flaen pobl eraill, bydda innau'n gwadu o flaen fy Nhad yn y nefoedd fod y person hwnnw'n perthyn i mi.
Matt WelBeibl 10:34  “Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod â heddwch i'r byd! Dw i ddim yn dod â heddwch, ond cleddyf.
Matt WelBeibl 10:35  Dw i wedi dod i droi ‘mab yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam; merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith –
Matt WelBeibl 10:36  bydd eich teulu agosaf yn troi'n elynion i chi.’
Matt WelBeibl 10:37  “Dydy'r sawl sy'n caru ei dad a'i fam yn fwy na fi ddim yn haeddu perthyn i mi; a dydy'r sawl sy'n caru mab neu ferch yn fwy na fi ddim yn haeddu perthyn i mi;
Matt WelBeibl 10:38  Dydy'r sawl sydd ddim yn codi ei groes, a cherdded yr un llwybr o hunanaberth â mi, ddim yn haeddu perthyn i mi.
Matt WelBeibl 10:39  Bydd y sawl sy'n ceisio amddiffyn ei fywyd yn colli'r bywyd go iawn, ond y sawl sy'n barod i ollwng gafael ar ei fywyd er fy mwyn i yn diogelu bywyd go iawn iddo'i hun.
Matt WelBeibl 10:40  “Mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i chi yn rhoi croeso i mi, a phwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi yn rhoi croeso i Dduw, yr un sydd wedi f'anfon i.
Matt WelBeibl 10:41  Bydd pwy bynnag sy'n rhoi croeso i broffwyd am ei fod yn cyhoeddi neges Duw yn derbyn yr un wobr â'r proffwyd, a phwy bynnag sy'n rhoi croeso i un cyfiawn am ei fod yn gwneud beth sy'n iawn yng ngolwg Duw yn derbyn yr un wobr â'r un cyfiawn.
Matt WelBeibl 10:42  Does ond rhaid i rywun roi diod o ddŵr oer i un o'r rhai bach yma sy'n ddilynwyr i mi, a chredwch chi fi, bydd y person yna'n siŵr o gael ei wobr.”
Chapter 11
Matt WelBeibl 11:1  Pan oedd Iesu wedi gorffen dysgu ei ddeuddeg disgybl, aeth yn ei flaen ar ei daith o gwmpas trefi Galilea yn dysgu ac yn pregethu.
Matt WelBeibl 11:2  Pan glywodd Ioan Fedyddiwr, oedd yn y carchar, beth oedd Crist yn ei wneud, anfonodd ei ddisgyblion
Matt WelBeibl 11:3  i ofyn iddo, “Ai ti ydy'r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?”
Matt WelBeibl 11:4  Ateb Iesu oedd, “Ewch yn ôl a dweud wrth Ioan beth dych chi wedi'i glywed a'i weld:
Matt WelBeibl 11:5  Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy'n dioddef o'r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Ac mae'r newyddion da yn cael ei gyhoeddi i bobl dlawd!
Matt WelBeibl 11:6  Ac un peth arall: Mae bendith fawr i bwy bynnag sydd ddim yn colli hyder ynddo i.”
Matt WelBeibl 11:7  Wrth i ddisgyblion Ioan adael, dechreuodd Iesu siarad â'r dyrfa am Ioan: “Sut ddyn aethoch chi allan i'r anialwch i'w weld? Brwynen wan yn cael ei chwythu i bob cyfeiriad gan y gwynt?
Matt WelBeibl 11:8  Na? Pam aethoch chi allan felly? I weld dyn mewn dillad crand? Wrth gwrs ddim! Mewn palasau mae pobl grand yn byw!
Matt WelBeibl 11:9  Felly, pam aethoch chi allan? I weld proffwyd? Ie, a dw i'n dweud wrthoch chi ei fod e'n fwy na phroffwyd.
Matt WelBeibl 11:10  Dyma'r un mae'r ysgrifau sanctaidd yn sôn amdano: ‘Edrych! – dw i'n anfon fy negesydd o dy flaen di, i baratoi'r ffordd i ti.’
Matt WelBeibl 11:11  Wir i chi, mae Ioan Fedyddiwr yn fwy na neb arall sydd wedi byw erioed. Ac eto mae'r person lleia pwysig yn nheyrnas yr Un nefol yn fwy nag e.
Matt WelBeibl 11:12  Ers i Ioan ddechrau pregethu, mae teyrnas yr Un nefol wedi bod yn torri allan yn rymus, a'r rhai sy'n rhuthro trwodd yn cael gafael ynddi.
Matt WelBeibl 11:13  Achos roedd yr holl broffwydi a Chyfraith Moses yn sôn am y peth fel rhywbeth oedd i ddigwydd yn y dyfodol, nes i Ioan ddod i'r golwg.
Matt WelBeibl 11:14  Felly, os dych chi'n fodlon derbyn y peth, fe ydy'r Elias oedd i ddod.
Matt WelBeibl 11:15  Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu.
Matt WelBeibl 11:16  “Sut mae disgrifio'r genhedlaeth yma? Mae hi fel plant yn eistedd yn sgwâr y farchnad yn cwyno am ei gilydd fel hyn:
Matt WelBeibl 11:17  ‘Roedden ni'n chwarae priodas, ond wnaethoch chi ddim dawnsio; Roedden ni'n chwarae angladd, ond wnaethoch chi ddim galaru.’
Matt WelBeibl 11:18  Am fod Ioan ddim yn bwyta nac yn yfed fel pawb arall, roedden nhw'n dweud, ‘Mae yna gythraul ynddo.’
Matt WelBeibl 11:19  Ond wedyn dyma fi, Mab y Dyn yn dod, yn bwyta ac yn yfed, a maen nhw'n dweud, ‘Y bolgi! Meddwyn sy'n diota a stwffio'i hun ydy e! Ffrind i'r twyllwyr sy'n casglu trethi i Rufain ac i bechaduriaid eraill!’ Gallwch nabod doethineb go iawn yn ôl pa mor gyson ydy'r dadleuon!”
Matt WelBeibl 11:20  Dechreuodd Iesu feirniadu pobl y trefi hynny lle gwnaeth y rhan fwyaf o'i wyrthiau, am eu bod heb droi at Dduw.
Matt WelBeibl 11:21  “Gwae ti, Chorasin! Gwae ti, Bethsaida! Petai'r gwyrthiau wnes i ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, byddai'r bobl yno wedi hen ddangos eu bod yn edifar drwy wisgo sachliain a thaflu lludw ar eu pennau.
Matt WelBeibl 11:22  Wir i chi, bydd hi'n well ar Tyrus a Sidon ar ddydd y farn nag arnoch chi!
Matt WelBeibl 11:23  A beth amdanat ti, Capernaum? Wyt ti'n meddwl y byddi di'n cael dy anrhydeddu? Na, byddi di'n cael dy fwrw i lawr i'r dyfnder tywyll! Petai'r gwyrthiau wnes i ynot ti wedi digwydd yn Sodom, byddai Sodom yn dal yma heddiw!
Matt WelBeibl 11:24  Wir i chi, bydd hi'n well ar Sodom ar ddydd y farn nag arnat ti!”
Matt WelBeibl 11:25  Bryd hynny dyma Iesu'n dweud, “Fy Nhad, Arglwydd y nefoedd a'r ddaear. Diolch i ti am guddio'r pethau yma oddi wrth y bobl sy'n meddwl eu bod nhw mor ddoeth a chlyfar, a'u dangos i rai sy'n agored fel plant bach.
Matt WelBeibl 11:27  “Mae fy Nhad wedi rhoi popeth yn fy ngofal i. Does neb yn nabod y Mab go iawn ond y Tad, a does neb yn nabod y Tad go iawn ond y Mab, a'r rhai hynny mae'r Mab wedi dewis ei ddangos iddyn nhw.
Matt WelBeibl 11:28  “Dewch ata i, bawb sy'n cael eich llethu gan feichiau trwm, a rhof i orffwys i chi.
Matt WelBeibl 11:29  Dewch gyda mi o dan fy iau, er mwyn i chi ddysgu gen i. Dw i'n addfwyn ac yn ostyngedig, a chewch chi orffwys.
Matt WelBeibl 11:30  Mae fy iau i yn gyfforddus a dw i ddim yn gosod beichiau trwm ar bobl.”
Chapter 12
Matt WelBeibl 12:1  Bryd hynny aeth Iesu drwy ganol caeau ŷd ar y dydd Saboth. Roedd ei ddisgyblion eisiau bwyd, a dyma nhw'n dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd a'u bwyta.
Matt WelBeibl 12:2  Wrth weld hyn dyma'r Phariseaid yn dweud wrtho, “Edrych! Mae dy ddisgyblion yn torri rheolau'r Gyfraith ar y Saboth!”
Matt WelBeibl 12:3  Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i griw o ddilynwyr yn llwgu?
Matt WelBeibl 12:4  Aeth i mewn i dŷ Dduw, a bwyta'r bara oedd wedi'i gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud fod ganddo fe a'i ddilynwyr ddim hawl i'w fwyta; dim ond yr offeiriaid oedd â hawl.
Matt WelBeibl 12:5  Neu ydych chi ddim wedi darllen beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud am y Saboth? Mae'r offeiriaid yn torri rheolau'r Saboth drwy weithio yn y deml! Ac eto maen nhw'n cael eu cyfri'n ddieuog.
Matt WelBeibl 12:7  Petaech chi wedi deall ystyr y gosodiad, ‘Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau,’ fyddech chi ddim yn condemnio'r dieuog.
Matt WelBeibl 12:8  Mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn ar y Saboth.”
Matt WelBeibl 12:10  ac roedd dyn yno oedd â'i law yn ddiffrwyth. Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i gyhuddo Iesu, felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod hi'n iawn i iacháu pobl ar y Saboth?”
Matt WelBeibl 12:11  Atebodd nhw, “Petai dafad un ohonoch chi'n syrthio i ffos ar y Saboth, fyddech chi ddim yn mynd i'w chodi hi allan?
Matt WelBeibl 12:12  Mae person yn llawer mwy gwerthfawr na dafad! Felly, ydy, mae'n iawn yn ôl y Gyfraith i wneud daioni ar y Saboth.”
Matt WelBeibl 12:13  Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i'r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella'n llwyr, nes ei bod mor gryf â'r llaw arall.
Matt WelBeibl 12:14  Ond dyma'r Phariseaid yn mynd allan i drafod sut allen nhw ladd Iesu.
Matt WelBeibl 12:15  Roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd, ac aeth i ffwrdd oddi yno. Roedd llawer o bobl yn ei ddilyn, ac iachaodd bob un ohonyn nhw oedd yn glaf,
Matt WelBeibl 12:16  ond roedd yn eu rhybuddio i beidio dweud pwy oedd e.
Matt WelBeibl 12:17  Dyma sut daeth yr hyn ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn wir:
Matt WelBeibl 12:18  “Dyma'r un dw i wedi'i ddewis yn was i mi, yr un dw i'n ei garu, ac mor falch ohono; Rhof fy Ysbryd Glân iddo, a bydd yn cyhoeddi cyfiawnder i'r cenhedloedd.
Matt WelBeibl 12:19  Fydd e ddim yn cweryla nac yn gweiddi i dynnu sylw ato'i hun, a fydd neb yn clywed ei lais ar y strydoedd;
Matt WelBeibl 12:20  Fydd e ddim yn torri brwynen wan, nac yn diffodd cannwyll sy'n mygu. Bydd e'n arwain cyfiawnder i fod yn fuddugol.
Matt WelBeibl 12:21  Bydd pobl o'r holl genhedloedd yn rhoi eu gobaith ynddo.”
Matt WelBeibl 12:22  Dyma nhw'n dod â dyn at Iesu oedd yn ddall ac yn methu siarad am ei fod yng ngafael cythraul. Dyma Iesu'n ei iacháu, ac roedd yn gallu siarad a gweld wedyn.
Matt WelBeibl 12:23  Roedd y bobl i gyd yn rhyfeddu, ac yn dweud, “Tybed ai hwn ydy Mab Dafydd?”
Matt WelBeibl 12:24  Ond pan glywodd y Phariseaid am y peth, dyma nhw'n dweud, “Beelsebwl (y diafol ei hun), tywysog y cythreuliaid, sy'n rhoi'r gallu iddo wneud hyn.”
Matt WelBeibl 12:25  Roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn mynd drwy'u meddyliau, ac meddai wrthyn nhw, “Bydd teyrnas lle mae yna ryfel cartref yn syrthio, a bydd dinas neu deulu sy'n ymladd â'i gilydd o hyd yn syrthio hefyd.
Matt WelBeibl 12:26  Os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun, a'i deyrnas wedi'i rhannu, sut mae'n bosib i'w deyrnas sefyll?
Matt WelBeibl 12:27  Os mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi, pwy sy'n rhoi'r gallu i'ch dilynwyr chi? Byddan nhw'n eich barnu chi.
Matt WelBeibl 12:28  Ond os mai Ysbryd Duw sy'n rhoi'r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid, yna mae Duw wedi dod i deyrnasu.
Matt WelBeibl 12:29  “Neu sut all rhywun fynd i mewn i gartre'r dyn cryf a dwyn ei eiddo heb rwymo'r dyn cryf yn gyntaf? Bydd yn gallu dwyn popeth o'i dŷ wedyn.
Matt WelBeibl 12:30  “Os ydy rhywun ddim ar fy ochr i, mae yn fy erbyn i. Ac os ydy rhywun ddim yn gweithio gyda mi, mae'n gweithio yn fy erbyn i.
Matt WelBeibl 12:31  Felly gwrandwch – mae maddeuant i'w gael am bob pechod a chabledd, ond does dim maddeuant i'r rhai sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd.
Matt WelBeibl 12:32  Bydd rhywun sydd wedi dweud rhywbeth yn fy erbyn i, Mab y Dyn, yn cael maddeuant, ond does dim maddeuant i bwy bynnag sy'n dweud rhywbeth yn erbyn yr Ysbryd Glân, yn yr oes yma nac yn yr oes i ddod.
Matt WelBeibl 12:33  “Dewiswch y naill neu'r llall – fod y goeden yn iach a'i ffrwyth yn dda, neu fod y goeden yn ddrwg a'i ffrwyth yn ddrwg. Y ffrwyth sy'n dangos sut goeden ydy hi.
Matt WelBeibl 12:34  Dych chi fel nythaid o nadroedd! Sut allwch chi sy'n ddrwg ddweud unrhyw beth da? Mae'r hyn mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sy'n eu calonnau nhw.
Matt WelBeibl 12:35  Mae pobl dda yn rhannu'r daioni sydd wedi'i storio o'u mewn, a phobl ddrwg yn rhannu'r drygioni sydd wedi'i storio ynddyn nhw.
Matt WelBeibl 12:36  Ar ddydd y farn, bydd rhaid i bobl roi cyfri am bob peth byrbwyll ddwedon nhw.
Matt WelBeibl 12:37  Cei dy ddyfarnu'n euog neu'n ddieuog ar sail beth ddwedaist ti.”
Matt WelBeibl 12:38  Dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid yn dod ato, a dweud wrtho, “Athro, gad i ni dy weld di'n gwneud rhyw arwydd gwyrthiol.”
Matt WelBeibl 12:39  Atebodd nhw, “Cenhedlaeth ddrwg ac anffyddlon sy'n gofyn am gael gweld gwyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i! Yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona.
Matt WelBeibl 12:40  Fel y daeth Jona allan yn fyw o fol y pysgodyn mawr ar ôl tri diwrnod, felly y bydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl yn fyw o berfedd y ddaear.
Matt WelBeibl 12:41  Bydd pobl Ninefe hefyd yn condemnio pobl y genhedlaeth yma, am eu bod nhw wedi newid eu ffyrdd ar ôl clywed pregethu Jona. Mae un mwy na Jona yma nawr!
Matt WelBeibl 12:42  A bydd Brenhines Seba yn condemnio'r genhedlaeth yma ar ddydd y farn. Roedd hi'n fodlon teithio o ben draw'r byd i wrando ar ddoethineb Solomon. Mae un mwy na Solomon yma nawr!
Matt WelBeibl 12:43  “Pan mae ysbryd drwg yn dod allan o rywun, mae'n mynd i grwydro lleoedd anial yn chwilio am le i orffwys. Ond pan mae'n methu dod o hyd i rywle,
Matt WelBeibl 12:44  mae'n meddwl, ‘Af i yn ôl i lle roeddwn i'n byw.’ Mae'n cyrraedd ac yn darganfod y tŷ yn wag ac wedi'i lanhau a'i dacluso drwyddo.
Matt WelBeibl 12:45  Wedyn mae'n mynd â saith ysbryd gwaeth na'i hun i fyw gydag e. Mae'r person mewn gwaeth cyflwr ar y diwedd nag oedd ar y dechrau! Fel yna fydd hi ar y genhedlaeth ddrwg yma.”
Matt WelBeibl 12:46  Tra oedd Iesu'n dal i siarad â'r bobl, cyrhaeddodd ei fam a'i frodyr yno. Dyma nhw'n sefyll y tu allan a gofyn am gael gair gydag e.
Matt WelBeibl 12:47  Dwedodd rhywun wrtho, “Mae dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan, eisiau siarad gyda ti.”
Matt WelBeibl 12:48  Dyma fe'n ateb, “Pwy ydy fy mam? Pwy ydy fy mrodyr i?”
Matt WelBeibl 12:49  A chan bwyntio at ei ddisgyblion, meddai, “Dyma fy mam a'm brodyr i.
Matt WelBeibl 12:50  Mae pwy bynnag sy'n gwneud beth mae fy Nhad nefol eisiau yn frawd a chwaer a mam i mi.”
Chapter 13
Matt WelBeibl 13:1  Y diwrnod hwnnw aeth Iesu allan ac eistedd ar lan Llyn Galilea.
Matt WelBeibl 13:2  Roedd cymaint o dyrfa wedi casglu o'i gwmpas nes bod rhaid iddo fynd i eistedd mewn cwch tra oedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan.
Matt WelBeibl 13:3  Roedd yn defnyddio llawer o straeon i rannu ei neges gyda nhw: “Aeth ffermwr allan i hau had.
Matt WelBeibl 13:4  Wrth iddo wasgaru'r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dyma'r adar yn dod a'i fwyta.
Matt WelBeibl 13:5  Dyma beth o'r had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn,
Matt WelBeibl 13:6  ond yn yr haul poeth dyma'r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau.
Matt WelBeibl 13:7  Yna dyma beth o'r had yn syrthio i ganol drain, ond tyfodd y drain a thagu'r planhigion.
Matt WelBeibl 13:8  Ond syrthiodd peth o'r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno – beth ohono gan gwaith, chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na chafodd ei hau.”
Matt WelBeibl 13:9  “Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”
Matt WelBeibl 13:10  Daeth y disgyblion ato a gofyn, “Pam wyt ti'n dweud y straeon yma wrthyn nhw?”
Matt WelBeibl 13:11  Dyma oedd ei ateb: “Dych chi'n cael gwybod beth ydy'r gyfrinach am deyrnasiad yr Un nefol, ond dydyn nhw ddim.
Matt WelBeibl 13:12  Bydd y rhai sydd wedi deall rhywfaint eisoes yn derbyn mwy, a byddan nhw ar ben eu digon! Ond am y rhai hynny sydd heb ddeall dim – bydd hyd yn oed yr hyn maen nhw yn ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw.
Matt WelBeibl 13:13  Dyna pam dw i'n defnyddio straeon i siarad â nhw. Er eu bod yn edrych, dŷn nhw ddim yn gweld; er eu bod yn gwrando, dŷn nhw ddim yn clywed nac yn deall.
Matt WelBeibl 13:14  Ynddyn nhw mae'r hyn wnaeth Eseia ei broffwydo yn dod yn wir: ‘Byddwch chi'n gwrando'n astud, ond byth yn deall; Byddwch chi'n edrych yn ofalus, ond byth yn dirnad.
Matt WelBeibl 13:15  Maen nhw'n rhy ystyfnig i ddysgu unrhyw beth – maen nhw'n fyddar, ac wedi cau eu llygaid. Fel arall, bydden nhw'n gweld â'u llygaid, yn clywed â'u clustiau, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i'n eu hiacháu nhw’.
Matt WelBeibl 13:16  Ond dych chi'n cael y fath fraint o weld a chlywed y cwbl!
Matt WelBeibl 13:17  Wir i chi, mae llawer o broffwydi a phobl dduwiol wedi hiraethu am gael gweld beth dych chi'n ei weld a chlywed beth dych chi'n ei glywed, ond chawson nhw ddim.
Matt WelBeibl 13:18  “Felly dyma beth ydy ystyr stori'r ffermwr yn hau:
Matt WelBeibl 13:19  Pan mae rhywun yn clywed y neges am y deyrnas a ddim yn deall, mae'r Un drwg yn dod ac yn cipio beth gafodd ei hau yn y galon. Dyna'r had ddisgynnodd ar y llwybr.
Matt WelBeibl 13:20  Yr had sy'n syrthio ar dir creigiog ydy'r sawl sy'n derbyn y neges yn frwd i ddechrau.
Matt WelBeibl 13:21  Ond dydy'r neges ddim yn gafael yn y person go iawn, ac felly dydy e ddim yn para'n hir iawn. Pan mae argyfwng yn codi, neu wrthwynebiad am ei fod wedi credu, mae'n troi cefn yn ddigon sydyn!
Matt WelBeibl 13:22  Wedyn yr had syrthiodd i ganol drain ydy'r sawl sy'n clywed y neges, ond mae'n rhy brysur yn poeni am hyn a'r llall ac yn ceisio gwneud arian. Felly mae'r neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth i'w weld yn ei fywyd.
Matt WelBeibl 13:23  Ond yr had sy'n syrthio ar dir da ydy'r sawl sy'n clywed y neges ac yn ei deall. Mae'r effaith fel cnwd anferth – can gwaith neu chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na gafodd ei hau.”
Matt WelBeibl 13:24  Dwedodd Iesu stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel dyn yn hau had da yn ei gae.
Matt WelBeibl 13:25  Tra oedd pawb yn cysgu, dyma rywun oedd yn ei gasáu yn hau chwyn yng nghanol y gwenith.
Matt WelBeibl 13:26  Pan ddechreuodd y gwenith egino a thyfu, daeth y chwyn i'r golwg hefyd.
Matt WelBeibl 13:27  “Aeth gweision y ffermwr ato a dweud, ‘Feistr, onid yr had gorau gafodd ei hau yn dy gae di? O ble mae'r holl chwyn yma wedi dod?’
Matt WelBeibl 13:28  “‘Rhywun sy'n fy nghasáu i sy'n gyfrifol am hyn’ meddai. “‘Felly, wyt ti am i ni fynd i godi'r chwyn?’ meddai ei weision.
Matt WelBeibl 13:29  “‘Na,’ meddai'r dyn, ‘Rhag ofn i chi godi peth o'r gwenith wrth dynnu'r chwyn.
Matt WelBeibl 13:30  Gadewch i'r gwenith a'r chwyn dyfu gyda'i gilydd. Wedyn pan ddaw'r cynhaeaf bydda i'n dweud wrth y rhai fydd yn casglu'r cynhaeaf: Casglwch y chwyn gyntaf, a'u rhwymo'n fwndeli i'w llosgi; wedyn cewch gasglu'r gwenith a'i roi yn fy ysgubor.’”
Matt WelBeibl 13:31  Dwedodd stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei gae.
Matt WelBeibl 13:32  Er mai dyma'r hedyn lleia un, mae'n tyfu i fod y planhigyn mwya yn yr ardd. Mae'n tyfu'n goeden y gall yr adar ddod i nythu yn ei changhennau!”
Matt WelBeibl 13:33  Dwedodd stori arall eto: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel burum. Mae gwraig yn ei gymryd a'i gymysgu gyda digonedd o flawd nes iddo ledu drwy'r toes i gyd.”
Matt WelBeibl 13:34  Roedd Iesu'n dweud popeth wrth y dyrfa drwy adrodd straeon; doedd e'n dweud dim heb ddefnyddio stori fel darlun.
Matt WelBeibl 13:35  Felly roedd beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd yn dod yn wir: “Siaradaf drwy adrodd straeon, Dwedaf bethau sy'n ddirgelwch ers i'r byd gael ei greu.”
Matt WelBeibl 13:36  Gadawodd Iesu y dyrfa a mynd i mewn i'r tŷ. Aeth ei ddisgyblion i mewn ato a gofyn iddo, “Wnei di esbonio'r stori am y chwyn i ni?”
Matt WelBeibl 13:37  Atebodd Iesu, “Fi, Mab y Dyn, ydy'r un sy'n hau yr had da.
Matt WelBeibl 13:38  Y byd ydy'r cae, ac mae'r hadau da yn cynrychioli'r bobl sy'n perthyn i'r deyrnas. Y bobl sy'n perthyn i'r un drwg ydy'r chwyn,
Matt WelBeibl 13:39  a'r gelyn sy'n eu hau nhw ydy'r diafol. Diwedd y byd ydy'r cynhaeaf, a'r angylion ydy'r rhai fydd yn casglu'r cynhaeaf.
Matt WelBeibl 13:40  “Dyma fydd yn digwydd pan ddaw diwedd y byd: Fel y chwyn sy'n cael eu casglu i'w llosgi,
Matt WelBeibl 13:41  bydd Mab y Dyn yn anfon yr angylion allan. Byddan nhw'n chwynnu o blith y rhai sy'n perthyn i'w deyrnas bawb sy'n gwneud i bobl bechu, a phawb sy'n gwneud drwg.
Matt WelBeibl 13:42  Bydd yr angylion yn eu taflu nhw i'r ffwrnais, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.
Matt WelBeibl 13:43  Wedyn, pan ddaw eu Tad nefol i deyrnasu, bydd y bobl wnaeth beth sy'n iawn yn disgleirio fel yr haul. Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu.
Matt WelBeibl 13:44  “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel trysor wedi'i guddio mewn cae. Dyma rywun yn ei ffeindio ac yna'n ei guddio eto, wedyn mynd yn llawen a gwerthu popeth oedd ganddo er mwyn gallu prynu'r cae hwnnw.
Matt WelBeibl 13:45  “Mae teyrnasiad yr Un nefol hefyd yn debyg i fasnachwr yn casglu perlau gwerthfawr.
Matt WelBeibl 13:46  Ar ôl dod o hyd i un perl arbennig o werthfawr, mae'n mynd i ffwrdd ac yn gwerthu'r cwbl sydd ganddo er mwyn gallu prynu'r un perl hwnnw.
Matt WelBeibl 13:47  “Unwaith eto, mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i rwyd sy'n cael ei gollwng i'r llyn a phob math o bysgod yn cael eu dal ynddi.
Matt WelBeibl 13:48  Mae'r pysgotwyr yn llusgo'r rhwyd lawn i'r lan. Wedyn mae'r pysgod da yn cael eu cadw a'u storio, ond y pysgod diwerth yn cael eu taflu i ffwrdd.
Matt WelBeibl 13:49  Dyna fydd yn digwydd pan ddaw diwedd y byd. Bydd yr angylion yn dod i gasglu'r bobl ddrwg o blith y bobl wnaeth beth sy'n iawn,
Matt WelBeibl 13:50  ac yn eu taflu nhw i'r ffwrnais dân, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.
Matt WelBeibl 13:51  “Ydych chi wedi deall hyn i gyd?” gofynnodd Iesu. “Ydyn,” medden nhw.
Matt WelBeibl 13:52  Yna meddai wrthyn nhw, “Felly mae pob arbenigwr yn yr ysgrifau sanctaidd sydd wedi ymostwng i deyrnasiad yr Un nefol fel perchennog tir sy'n dod â thrysorau newydd a hen allan o'i ystordy.”
Matt WelBeibl 13:53  Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y straeon yma, aeth yn ôl
Matt WelBeibl 13:54  i Nasareth lle cafodd ei fagu. Dechreuodd ddysgu'r bobl yn eu synagog, ac roedden nhw'n rhyfeddu ato. “Ble gafodd hwn y fath ddoethineb, a'r gallu yma i wneud gwyrthiau?” medden nhw.
Matt WelBeibl 13:55  “Mab y saer ydy e! Onid Mair ydy ei fam? Onid Iago, Joseff, Simon a Jwdas ydy ei frodyr?
Matt WelBeibl 13:56  Mae ei chwiorydd i gyd yn byw yma! Felly, ble cafodd e hyn i gyd?”
Matt WelBeibl 13:57  Roedden nhw wedi cymryd yn ei erbyn. Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw: “Mae proffwyd yn cael ei barchu ym mhobman ond yn yr ardal lle cafodd ei fagu, a chan ei deulu ei hun!”
Matt WelBeibl 13:58  Wnaeth Iesu ddim llawer o wyrthiau yno am eu bod nhw ddim yn credu.
Chapter 14
Matt WelBeibl 14:1  Tua'r adeg yna clywodd y llywodraethwr Herod y straeon am Iesu.
Matt WelBeibl 14:2  Dwedodd wrth ei swyddogion, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi dod yn ôl yn fyw! Dyna pam mae'n gallu gwneud gwyrthiau.”
Matt WelBeibl 14:3  Herod oedd wedi arestio Ioan Fedyddiwr a'i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias, gwraig ei frawd, Philip.
Matt WelBeibl 14:4  Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro: “Dydy'r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti ei chymryd hi.”
Matt WelBeibl 14:5  Er bod Herod eisiau lladd Ioan, roedd ganddo ofn gwneud hynny am fod y bobl yn ystyried Ioan yn broffwyd.
Matt WelBeibl 14:6  Ond yna, ar ddiwrnod pen-blwydd Herod dyma ferch Herodias yn perfformio dawns yn y parti. Roedd hi wedi plesio Herod gymaint
Matt WelBeibl 14:7  nes iddo dyngu ar lw y byddai'n rhoi iddi beth bynnag oedd hi'n gofyn amdano.
Matt WelBeibl 14:8  Gyda'i mam yn ei hannog, dwedodd wrtho, “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr, a'i roi i mi ar hambwrdd.”
Matt WelBeibl 14:9  Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl, ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, rhoddodd orchymyn i'w roi iddi.
Matt WelBeibl 14:10  Anfonodd filwyr i'r carchar i dorri pen Ioan i ffwrdd.
Matt WelBeibl 14:11  Wedyn, dyma nhw'n dod â'r pen ar hambwrdd a'i roi i'r ferch fach, a rhoddodd hithau e i'w mam.
Matt WelBeibl 14:12  Dyma ddisgyblion Ioan yn cymryd y corff a'i gladdu, ac wedyn yn mynd i ddweud wrth Iesu beth oedd wedi digwydd.
Matt WelBeibl 14:13  Pan glywodd Iesu beth oedd wedi digwydd, aeth i ffwrdd mewn cwch i le tawel i fod ar ei ben ei hun. Ond clywodd y tyrfaoedd am hyn, a'i ddilyn ar droed o'r trefi.
Matt WelBeibl 14:14  Pan gyrhaeddodd Iesu'r lan, roedd gweld y dyrfa fawr yno yn ei gyffwrdd i'r byw, ac iachaodd y rhai oedd yn sâl.
Matt WelBeibl 14:15  Pan oedd hi'n dechrau nosi, dyma'r disgyblion yn dod ato a dweud, “Mae'r lle yma'n anial ac mae'n mynd yn hwyr. Anfon y bobl i ffwrdd, iddyn nhw gael mynd i'r pentrefi i brynu bwyd.”
Matt WelBeibl 14:16  Atebodd Iesu, “Does dim rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd. Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.”
Matt WelBeibl 14:17  Medden nhw wrtho, “Dim ond pum torth fach a dau bysgodyn sydd gynnon ni.”
Matt WelBeibl 14:19  A dwedodd wrth y bobl am eistedd i lawr ar y glaswellt. Wedyn cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a rhoi'r torthau i'w ddisgyblion, a dyma'r disgyblion yn eu rhannu i'r bobl.
Matt WelBeibl 14:20  Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a dyma nhw'n codi deuddeg llond basged o dameidiau oedd wedi'u gadael dros ben.
Matt WelBeibl 14:21  Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant!
Matt WelBeibl 14:22  Dyma Iesu'n gwneud i'w ddisgyblion fynd yn ôl i'r cwch a chroesi drosodd o'i flaen.
Matt WelBeibl 14:23  Ar ôl iddo anfon y dyrfa adre, aeth i ben mynydd er mwyn cael lle tawel i weddïo. Roedd yno ar ei ben ei hun ac roedd hi'n nosi.
Matt WelBeibl 14:24  Erbyn hynny roedd y cwch yn bell o'r tir, ac yn cael ei daro gan y tonnau am fod y gwynt yn ei erbyn.
Matt WelBeibl 14:25  Yna, rywbryd ar ôl tri o'r gloch y bore aeth Iesu allan atyn nhw gan gerdded ar y dŵr.
Matt WelBeibl 14:26  Pan welodd y disgyblion e'n cerdded ar y llyn, roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Ysbryd ydy e!” medden nhw, gan weiddi mewn ofn.
Matt WelBeibl 14:27  Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae'n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.”
Matt WelBeibl 14:28  “Arglwydd, os mai ti sydd yna” meddai Pedr, “gad i mi ddod atat ti ar y dŵr.”
Matt WelBeibl 14:29  “Iawn, tyrd,” meddai Iesu. Yna camodd Pedr allan o'r cwch a dechrau cerdded ar y dŵr tuag at Iesu.
Matt WelBeibl 14:30  Ond pan welodd mor gryf oedd y gwynt, roedd arno ofn. Dechreuodd suddo, a gwaeddodd allan, “Achub fi, Arglwydd!”
Matt WelBeibl 14:31  Dyma Iesu'n estyn ei law a gafael ynddo. “Ble mae dy ffydd di?” meddai wrtho, “Pam wnest ti amau?”
Matt WelBeibl 14:32  Wrth iddyn nhw ddringo i mewn i'r cwch dyma'r gwynt yn tawelu.
Matt WelBeibl 14:33  Dyma'r rhai oedd yn y cwch yn ei addoli, a dweud, “Ti ydy Mab Duw, go iawn.”
Matt WelBeibl 14:34  Ar ôl croesi'r llyn, dyma nhw'n glanio yn Genesaret.
Matt WelBeibl 14:35  Dyma'r dynion yno yn nabod Iesu, ac yn anfon i ddweud wrth bawb drwy'r ardal i gyd. Roedd pobl yn dod â phawb oedd yn sâl ato
Matt WelBeibl 14:36  ac yn pledio arno i adael iddyn nhw gyffwrdd y taselau ar ei glogyn. Roedd pawb oedd yn ei gyffwrdd yn cael eu hiacháu.
Chapter 15
Matt WelBeibl 15:1  Dyma Phariseaid ac arbenigwyr yn y Gyfraith o Jerwsalem yn dod at Iesu, a gofyn iddo,
Matt WelBeibl 15:2  “Pam mae dy ddisgyblion di yn gwneud beth sy'n groes i'r traddodiad? Maen nhw'n bwyta heb fynd drwy'r ddefod o olchi eu dwylo!”
Matt WelBeibl 15:3  Atebodd Iesu, “A pham dych chi'n mynd yn groes i orchymyn Duw er mwyn cadw'ch traddodiadau?
Matt WelBeibl 15:4  Er enghraifft, gorchmynnodd Duw, ‘Gofala am dy dad a dy fam’ a ‘Rhaid i bwy bynnag sy'n sarhau ei dad neu ei fam gael ei ladd.’
Matt WelBeibl 15:5  Ond dych chi'n dweud ei bod yn iawn dweud wrth rieni mewn oed, ‘Alla i ddim gofalu amdanoch chi. Mae beth o'n i'n mynd i'w roi i chi wedi'i gyflwyno'n rhodd i Dduw,’
Matt WelBeibl 15:6  Does dim rhaid ‛gofalu am dad‛ wedyn. Er mwyn cadw'ch traddodiad dych chi'n osgoi gwneud beth mae Duw'n ei ddweud.
Matt WelBeibl 15:7  Dych chi mor ddauwynebog! Roedd Eseia yn llygad ei le pan broffwydodd amdanoch chi:
Matt WelBeibl 15:8  ‘Mae'r bobl yma'n dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau yn bell oddi wrtho i.
Matt WelBeibl 15:9  Mae eu haddoliad yn ddiystyr; mân-reolau dynol ydy'r cwbl maen nhw'n ei ddysgu.’”
Matt WelBeibl 15:10  Yna dyma Iesu'n galw'r dyrfa ato a dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch er mwyn i chi ddeall.
Matt WelBeibl 15:11  Dim beth dych chi'n ei fwyta sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛; y pethau dych chi'n eu dweud sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛.”
Matt WelBeibl 15:12  A dyma'r disgyblion yn mynd ato a dweud wrtho, “Mae beth ddwedaist ti wedi cythruddo'r Phariseaid go iawn!”
Matt WelBeibl 15:13  Atebodd yntau, “Bydd pob planhigyn wnaeth fy Nhad nefol ddim ei blannu yn cael ei dynnu i fyny.
Matt WelBeibl 15:14  Gadewch iddyn nhw – arweinwyr dall ydyn nhw! Os ydy dyn dall yn arwain dyn dall arall, bydd y ddau yn disgyn i ffos gyda'i gilydd.”
Matt WelBeibl 15:15  Yna meddai Pedr, “Esbonia i ni ystyr y dywediad.”
Matt WelBeibl 15:17  “Ydych chi ddim yn gweld fod bwyd ddim ond yn mynd drwy'r stumog ac yna'n dod allan yn y tŷ bach?
Matt WelBeibl 15:18  Ond mae'r pethau dych chi'n eu dweud yn dod o'r galon, a dyna sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛.
Matt WelBeibl 15:19  O'ch calon chi mae meddyliau drwg yn dod, a phethau fel llofruddio, godinebu, anfoesoldeb rhywiol, dwyn, rhoi tystiolaeth ffug, a hel straeon cas.
Matt WelBeibl 15:20  Dyma'r pethau sy'n gwneud rhywun yn ‛aflan‛. Dydy bwyta heb gadw'r ddefod o olchi'r dwylo ddim yn eich gwneud chi'n ‛aflan‛.”
Matt WelBeibl 15:21  Gadawodd Iesu Galilea ac aeth i ffwrdd i gylch Tyrus a Sidon.
Matt WelBeibl 15:22  Daeth gwraig ato (gwraig o'r ardal o dras Canaaneaidd), a gweiddi, “Arglwydd, Fab Dafydd, helpa fi! Mae fy merch yn dioddef yn ofnadwy am ei bod yng ngafael cythraul.”
Matt WelBeibl 15:23  Wnaeth Iesu ddim ymateb o gwbl. A dyma'i ddisgyblion yn dod ato a phwyso arno, “Anfon hi i ffwrdd, mae hi'n boen yn dal ati i weiddi ar ein holau ni!”
Matt WelBeibl 15:24  Felly atebodd Iesu hi, “Dim ond at bobl Israel, sydd fel defaid ar goll, ces i fy anfon.”
Matt WelBeibl 15:25  Ond dyma'r wraig yn dod a phenlinio o'i flaen. “Helpa fi, Arglwydd!” meddai.
Matt WelBeibl 15:26  Atebodd Iesu, “Dydy hi ddim yn iawn i bobl daflu bwyd y plant i'r cŵn.”
Matt WelBeibl 15:27  “Digon gwir, Arglwydd,” meddai'r wraig, “ond mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta'r briwsion sy'n disgyn oddi ar fwrdd eu meistr.”
Matt WelBeibl 15:28  Atebodd Iesu, “Wraig annwyl, mae gen ti lot o ffydd! Cei beth ofynnaist amdano.” A dyna'r union adeg y cafodd ei merch ei hiacháu.
Matt WelBeibl 15:29  Pan adawodd Iesu'r ardal honno, teithiodd ar hyd glan Llyn Galilea. Yna aeth i ben mynydd ac eistedd i lawr.
Matt WelBeibl 15:30  Daeth tyrfaoedd mawr o bobl ato, gyda phobl oedd yn gloff, yn ddall, yn anabl neu'n fud. Cawson nhw eu gosod o'i flaen, ac iachaodd nhw.
Matt WelBeibl 15:31  Roedd y bobl wedi'u syfrdanu wrth weld y mud yn siarad, pobl anabl wedi cael eu hiacháu, y cloff yn cerdded a'r dall yn gweld. A dyma nhw'n dechrau moli Duw Israel.
Matt WelBeibl 15:32  Dyma Iesu'n galw'i ddisgyblion ato a dweud, “Dw i'n teimlo dros y bobl yma i gyd; maen nhw wedi bod yma ers tri diwrnod heb gael dim i'w fwyta. Dw i ddim am iddyn nhw fynd i ffwrdd yn llwgu, rhag iddyn nhw lewygu ar y ffordd.”
Matt WelBeibl 15:33  Meddai'r disgyblion, “Ble gawn ni ddigon o fara i fwydo'r fath dyrfa mewn lle mor anial!”
Matt WelBeibl 15:34  “Sawl torth o fara sydd gynnoch chi?” meddai Iesu. “Saith,” medden nhw, “a rhyw ychydig o bysgod bach.”
Matt WelBeibl 15:36  Cymerodd y saith torth a'r pysgod, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a'u rhoi i'r disgyblion, a dyma'r disgyblion yn eu rhannu i'r bobl.
Matt WelBeibl 15:37  Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben.
Matt WelBeibl 15:38  Roedd pedair mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant!
Matt WelBeibl 15:39  Ar ôl i Iesu anfon y dyrfa adre aeth i mewn i'r cwch a chroesi i ardal Magadan.
Chapter 16
Matt WelBeibl 16:1  Daeth Phariseaid a Sadwceaid at Iesu a gofyn iddo brofi pwy oedd drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol.
Matt WelBeibl 16:2  Atebodd nhw, “Pan mae'r haul yn machlud dych chi'n dweud, ‘Bydd hi'n braf fory – mae'r awyr yn goch,’
Matt WelBeibl 16:3  ac yn y bore, ‘Bydd hi'n stormus heddiw – mae'r awyr yn goch a'r cymylau'n ddu.’ Dych chi'n gwybod sut mae'r tywydd yn argoeli, ond does gynnoch chi ddim syniad sut i ddeall yr arwyddion o beth sy'n digwydd nawr.
Matt WelBeibl 16:4  Cenhedlaeth ddrwg ac anffyddlon sy'n gofyn am gael gweld gwyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i! Yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona.” Yna gadawodd nhw a mynd i ffwrdd.
Matt WelBeibl 16:5  Pan groesodd y disgyblion i ochr arall y llyn, roedden nhw wedi anghofio mynd â bara gyda nhw.
Matt WelBeibl 16:6  Meddai Iesu wrthyn nhw, “Byddwch yn ofalus! Cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid a'r Sadwceaid.”
Matt WelBeibl 16:7  Wrth drafod y peth dyma'r disgyblion yn dod i'r casgliad ei fod yn tynnu sylw at y ffaith eu bod heb fynd â bara gyda nhw.
Matt WelBeibl 16:8  Roedd Iesu'n gwybod beth oedden nhw'n ei drafod, ac meddai, “Ble mae'ch ffydd chi? Pam dych chi'n poeni eich bod heb fara?
Matt WelBeibl 16:9  Ydych chi'n dal ddim yn deall? Ydych chi ddim yn cofio'r pum torth i fwydo'r pum mil, a sawl basgedaid wnaethoch chi eu casglu?
Matt WelBeibl 16:10  Neu'r saith torth i fwydo'r pedair mil, a sawl llond cawell wnaethoch chi eu casglu?
Matt WelBeibl 16:11  Ydych chi ddim yn gweld mod i ddim yn siarad am fara go iawn? Dw i am i chi gadw draw oddi wrth furum y Phariseaid a'r Sadwceaid.”
Matt WelBeibl 16:12  Roedden nhw'n deall wedyn mai nid sôn am fara go iawn oedd e; eisiau iddyn nhw osgoi dysgeidiaeth y Phariseaid a'r Sadwceaid oedd e.
Matt WelBeibl 16:13  Pan gyrhaeddodd Iesu ardal Cesarea Philipi, gofynnodd i'w ddisgyblion, “Pwy mae pobl yn ei ddweud ydw i, Mab y Dyn?”
Matt WelBeibl 16:14  “Mae rhai yn dweud Ioan Fedyddiwr,” medden nhw, “eraill yn dweud Elias, ac eraill eto'n dweud Jeremeia neu un o'r proffwydi.”
Matt WelBeibl 16:15  “Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?”
Matt WelBeibl 16:16  Atebodd Simon Pedr, “Ti ydy'r Meseia, Mab y Duw byw.”
Matt WelBeibl 16:17  “Rwyt ti wedi dy fendithio'n fawr, Simon fab Jona,” meddai Iesu, “am mai dim person dynol ddangosodd hyn i ti, ond fy Nhad yn y nefoedd.
Matt WelBeibl 16:18  A dw i'n dweud wrthyt ti mai ti ydy Pedr (sef ‛y garreg‛). A dyma'r graig dw i'n mynd i adeiladu fy eglwys arni hi, a fydd grym marwolaeth ddim yn ei gorchfygu hi.
Matt WelBeibl 16:19  Dw i'n mynd i roi allweddi teyrnas yr Un nefol i ti; bydd beth bynnag rwyt ti'n ei rwystro ar y ddaear wedi'i rwystro yn y nefoedd, a bydd beth bynnag rwyt ti'n ei ganiatáu ar y ddaear wedi'i ganiatáu yn y nefoedd.”
Matt WelBeibl 16:20  Yna dyma Iesu'n rhybuddio'i ddisgyblion i beidio dweud wrth neb mai fe oedd y Meseia.
Matt WelBeibl 16:21  O hynny ymlaen dechreuodd Iesu esbonio i'w ddisgyblion fod rhaid iddo fynd i Jerwsalem. Byddai'r arweinwyr Iddewig, y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn gwneud iddo ddiodde'n ofnadwy. Byddai'n cael ei ladd, ond yna'n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.
Matt WelBeibl 16:22  Dyma Pedr yn mynd ag e i'r naill ochr, a dweud y drefn wrtho am ddweud y fath bethau. “Duw a'n gwaredo!” meddai, “Wnaiff hynny byth ddigwydd i ti, Arglwydd!”
Matt WelBeibl 16:23  Ond trodd Iesu, a dweud wrth Pedr, “Dos o'm golwg i Satan! Rwyt ti'n rhwystr i mi; rwyt ti'n meddwl fel mae pobl yn meddwl yn lle gweld pethau fel mae Duw'n eu gweld nhw.”
Matt WelBeibl 16:24  Yna dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion, “Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid iddyn nhw stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill a cherdded yr un llwybr â mi.
Matt WelBeibl 16:25  Bydd y rhai sy'n ceisio achub eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond bydd y rhai hynny sy'n barod i ollwng gafael yn eu bywydau er fy mwyn i, yn dod o hyd i fywyd go iawn.
Matt WelBeibl 16:26  Beth ydy'r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i'w gynnig, a cholli'r enaid? Oes unrhyw beth sy'n fwy gwerthfawr na'r enaid?
Matt WelBeibl 16:27  Bydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl yn holl ysblander y Tad, a'r angylion gyda mi. Bydda i'n rhoi gwobr i bawb ar sail beth maen nhw wedi'i wneud.
Matt WelBeibl 16:28  Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy'n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Mab y Dyn yn dod i deyrnasu.”
Chapter 17
Matt WelBeibl 17:1  Chwe diwrnod wedyn aeth Iesu i ben mynydd uchel, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan (brawd Iago) gydag e.
Matt WelBeibl 17:2  Dyma olwg Iesu'n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid – roedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a throdd ei ddillad yn wyn llachar fel golau.
Matt WelBeibl 17:3  Wedyn dyma Moses ac Elias yn ymddangos, yn sgwrsio gyda Iesu.
Matt WelBeibl 17:4  Dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, mae'n dda cael bod yma. Os wyt ti eisiau, gwna i godi tair lloches yma – un i ti, un i Moses, ac un i Elias.”
Matt WelBeibl 17:5  Roedd yn dal i siarad pan ddaeth cwmwl disglair i lawr o'u cwmpas, a dyma lais o'r cwmwl yn dweud, “Fy Mab annwyl i ydy hwn; mae wedi fy mhlesio i'n llwyr. Gwrandwch arno!”
Matt WelBeibl 17:6  Pan glywodd y disgyblion y llais roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n syrthio ar eu hwynebau ar lawr.
Matt WelBeibl 17:7  Ond dyma Iesu'n mynd atyn nhw a'u cyffwrdd, a dweud wrthyn nhw, “Codwch, peidiwch bod ag ofn.”
Matt WelBeibl 17:8  Pan edrychon nhw i fyny doedd neb i'w weld yno ond Iesu.
Matt WelBeibl 17:9  Wrth ddod i lawr o'r mynydd, dyma Iesu'n dweud yn glir wrthyn nhw, “Peidiwch sôn wrth neb am beth dych chi wedi'i weld nes bydda i, Mab y Dyn, wedi dod yn ôl yn fyw ar ôl marw.”
Matt WelBeibl 17:10  Dyma'r disgyblion yn gofyn iddo, “Felly pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod rhaid i Elias ddod yn ôl cyn i'r Meseia gyrraedd?”
Matt WelBeibl 17:11  Atebodd Iesu, “Mae Elias yn dod, reit siŵr, i roi trefn ar bopeth.
Matt WelBeibl 17:12  Dw i'n dweud wrthoch chi fod Elias wedi dod eisoes, ond wnaethon nhw mo'i nabod, ac maen nhw wedi'i gam-drin. A bydda i, Mab y Dyn, yn dioddef yr un fath ganddyn nhw.”
Matt WelBeibl 17:13  Dyna pryd deallodd y disgyblion ei fod yn siarad am Ioan Fedyddiwr.
Matt WelBeibl 17:14  Pan ddaethon nhw at y dyrfa, dyma ddyn yn dod at Iesu a phenlinio o'i flaen.
Matt WelBeibl 17:15  “Arglwydd, helpa fy mab i,” meddai. “Mae'n cael ffitiau ac yn dioddef yn ofnadwy. Mae'n syrthio yn aml i ganol y tân, neu i ddŵr.
Matt WelBeibl 17:16  Des i ag e at dy ddisgyblion di, ond doedden nhw ddim yn gallu ei iacháu.”
Matt WelBeibl 17:17  “Pam dych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi? Am faint alla i'ch dioddef chi? Tyrd â'r bachgen yma ata i.”
Matt WelBeibl 17:18  Dyma Iesu'n ceryddu'r cythraul, a daeth allan o'r bachgen. Cafodd ei iacháu y foment honno.
Matt WelBeibl 17:19  Dyma'r disgyblion yn gofyn yn breifat i Iesu, “Pam oedden ni'n methu ei fwrw allan?”
Matt WelBeibl 17:20  “Am eich bod chi'n credu cyn lleied,” meddai. “Credwch chi fi, petai'ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Symud i'r fan acw’ a byddai'n symud. Fyddai dim byd yn amhosib i chi.”
Matt WelBeibl 17:22  Pan ddaethon nhw at ei gilydd yn Galilea, dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Dw i, Mab y Dyn, yn mynd i gael fy mradychu i afael
Matt WelBeibl 17:23  pobl fydd yn fy lladd, ond ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw.” Roedd y disgyblion yn ofnadwy o drist.
Matt WelBeibl 17:24  Pan gyrhaeddodd Iesu a'i ddisgyblion Capernaum, daeth y rhai oedd yn casglu'r dreth i gynnal y deml at Pedr (hynny ydy y dreth o ddwy ddrachma). Dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy dy athro di'n talu treth y deml?”
Matt WelBeibl 17:25  “Ydy, mae e” atebodd Pedr. Pan aeth Pedr adre, cyn iddo gael cyfle i ddweud gair, dyma Iesu'n gofyn iddo, “Simon, beth wyt ti'n feddwl? Gan bwy mae brenhinoedd yn casglu tollau a threthi – gan eu plant eu hunain neu gan bobl eraill?”
Matt WelBeibl 17:26  “Gan bobl eraill,” meddai Pedr. “Felly does dim rhaid i'r plant dalu,” meddai Iesu wrtho.
Matt WelBeibl 17:27  “Ond rhag i ni beri tramgwydd iddyn nhw, dos at y llyn a thaflu lein i'r dŵr. Cymer y pysgodyn cyntaf wnei di ei ddal, ac yn ei geg cei ddarn arian fydd yn ddigon i'w dalu. Defnyddia hwnnw i dalu'r dreth drosto i a thithau.”
Chapter 18
Matt WelBeibl 18:1  Bryd hynny daeth y disgyblion at Iesu a gofyn iddo, “Pwy ydy'r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol?”
Matt WelBeibl 18:2  Galwodd blentyn bach ato, a'i osod yn y canol o'u blaenau,
Matt WelBeibl 18:3  ac yna dwedodd: “Credwch chi fi, os na newidiwch chi i fod fel plant bach, fyddwch chi byth yn un o'r rhai mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
Matt WelBeibl 18:4  Felly, pwy bynnag sy'n gweld ei hun yn fach, fel y plentyn yma, ydy'r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol.
Matt WelBeibl 18:5  Ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i blentyn bach fel yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi.
Matt WelBeibl 18:6  Ond pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well i'r person hwnnw gael maen melin wedi'i rwymo am ei wddf, ac iddo foddi yn eigion y môr.
Matt WelBeibl 18:7  “Gwae'r sawl sy'n achosi i bobl eraill bechu! Mae temtasiynau yn siŵr o ddod, ond gwae'r sawl fydd yn gwneud y temtio!
Matt WelBeibl 18:8  Os ydy dy law neu dy droed yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a'i thaflu ymaith. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd wedi dy anafu neu'n gloff, na bod â dwy law a dwy droed a chael dy daflu i'r tân tragwyddol!
Matt WelBeibl 18:9  Ac os ydy dy lygad yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a'i thaflu i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd gyda dim ond un llygad na bod dwy gen ti a chael dy daflu i dân uffern.
Matt WelBeibl 18:10  “Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn edrych i lawr ar un o'r rhai bach yma. Wir i chi, mae'r angylion sy'n eu gwarchod nhw yn gallu mynd i bresenoldeb fy Nhad yn y nefoedd unrhyw bryd.
Matt WelBeibl 18:12  “Beth ydych chi'n feddwl? Meddyliwch am ddyn a chant o ddefaid ganddo, a bod un ohonyn nhw'n crwydro i ffwrdd. Oni fyddai'n gadael y naw deg naw ar y bryniau ac yn mynd i chwilio am yr un sydd ar goll?
Matt WelBeibl 18:13  Credwch chi fi, os daw o hyd iddi, mae'r un ddafad yna yn rhoi mwy o lawenydd iddo na'r naw deg naw wnaeth ddim mynd ar goll!
Matt WelBeibl 18:14  Yr un fath, dydy'ch Tad yn y nefoedd ddim am i unrhyw un o'r rhai bach yma gael eu colli.
Matt WelBeibl 18:15  “Os ydy crediniwr arall yn pechu yn dy erbyn, dos i siarad ag e am y peth wyneb yn wyneb – paid dweud wrth neb arall. Os bydd yn gwrando arnat byddi wedi adfer y berthynas rhyngoch.
Matt WelBeibl 18:16  Ond os fydd e ddim yn gwrando arnat, dos ag un neu ddau o bobl gyda ti, am fod ‘rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.’
Matt WelBeibl 18:17  Os bydd yn dal i wrthod gwrando, dos â'r mater o flaen yr eglwys. Ac os bydd hyd yn oed yn gwrthod gwrando ar yr eglwys, yna dylid ei drin fel pagan neu'r rhai sy'n casglu trethi i Rufain!
Matt WelBeibl 18:18  “Credwch chi fi, bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu rhwystro ar y ddaear wedi'u rhwystro yn y nefoedd, a bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu caniatáu ar y ddaear wedi'u caniatáu yn y nefoedd.
Matt WelBeibl 18:19  “A pheth arall hefyd: Pan mae dau ohonoch chi ar y ddaear yn cytuno i ofyn am arweiniad wrth ddelio ag unrhyw fater, bydd fy Nhad yn y nefoedd yn ei roi i chi.
Matt WelBeibl 18:20  Pan mae dau neu dri sy'n perthyn i mi wedi dod at ei gilydd, dw i yna gyda nhw.”
Matt WelBeibl 18:21  Gofynnodd Pedr i Iesu, “Arglwydd, sawl gwaith ddylwn i faddau i frawd neu chwaer sy'n dal ati i bechu yn fy erbyn? Gymaint â saith gwaith?”
Matt WelBeibl 18:22  Atebodd Iesu, “Na, wir i ti, dim saith gwaith, ond o leia saith deg saith gwaith!
Matt WelBeibl 18:23  “Dyna sut mae'r Un nefol yn teyrnasu – mae fel brenin oedd wedi benthyg arian i'w swyddogion, ac am archwilio'r cyfrifon.
Matt WelBeibl 18:24  Roedd newydd ddechrau ar y gwaith pan ddaethon nhw â dyn o'i flaen oedd mewn dyled o filiynau lawer iddo.
Matt WelBeibl 18:25  Doedd y swyddog ddim yn gallu talu'r ddyled, felly gorchmynnodd y meistr i'r dyn a'i wraig a'i blant gael eu gwerthu yn gaethweision, a bod y cwbl o'i eiddo i gael ei werthu hefyd, i dalu'r ddyled.
Matt WelBeibl 18:26  “Syrthiodd y dyn ar ei liniau o'i flaen, a phledio, ‘Rho amser i mi, ac fe dalaf i'r cwbl yn ôl i ti.’
Matt WelBeibl 18:27  Felly am ei fod yn teimlo trueni drosto, dyma'r meistr yn canslo'r ddyled gyfan a gadael iddo fynd yn rhydd.
Matt WelBeibl 18:28  Ond pan aeth y dyn allan, daeth ar draws un o'i gydweithwyr oedd mewn dyled fechan iddo. Gafaelodd ynddo a dechrau ei dagu, gan ddweud ‘Pryd wyt ti'n mynd i dalu dy ddyled i mi?’
Matt WelBeibl 18:29  Dyma'r cydweithiwr yn syrthio ar ei liniau a chrefu, ‘Rho amser i mi, ac fe dalaf i'r cwbl yn ôl i ti.’
Matt WelBeibl 18:30  Ond gwrthododd y dyn wrando arno. Yn lle hynny, aeth â'r mater at yr awdurdodau, a chafodd ei gydweithiwr ei daflu i'r carchar nes gallai dalu'r ddyled.
Matt WelBeibl 18:31  “Roedd y gweision eraill wedi ypsetio'n fawr pan welon nhw beth ddigwyddodd, a dyma nhw'n mynd ac yn dweud y cwbl wrth y brenin.
Matt WelBeibl 18:32  Felly dyma'r brenin yn galw'r dyn yn ôl. ‘Y cnaf drwg!’ meddai wrtho, ‘wnes i ganslo dy ddyled di yn llwyr am i ti grefu mor daer o mlaen i.
Matt WelBeibl 18:33  Ddylet ti ddim maddau i dy gydweithiwr fel gwnes i faddau i ti?’
Matt WelBeibl 18:34  Roedd y brenin yn gandryll, felly gorchmynnodd daflu'r swyddog i'r carchar i gael ei arteithio nes iddo dalu'r cwbl o'r ddyled yn ôl.
Matt WelBeibl 18:35  “Dyna sut fydd fy Nhad nefol yn delio gyda chi os na wnewch chi faddau'n llwyr i'ch gilydd.”
Chapter 19
Matt WelBeibl 19:1  Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma i gyd, gadawodd Galilea a mynd i Jwdea a'r ardal yr ochr draw i'r Iorddonen.
Matt WelBeibl 19:2  Cafodd ei ddilyn gan dyrfaoedd mawr, ac iachaodd eu cleifion.
Matt WelBeibl 19:3  Dyma Phariseaid yn dod ato i geisio'i faglu drwy ofyn, “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod yn iawn i ddyn ysgaru ei wraig am unrhyw reswm?”
Matt WelBeibl 19:4  Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Duw ar y dechrau? – ‘Gwnaeth bobl yn wryw ac yn fenyw’
Matt WelBeibl 19:5  a dweud, ‘felly bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.’
Matt WelBeibl 19:6  Dim dau berson ar wahân ydyn nhw wedyn, ond uned. Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi'i uno.”
Matt WelBeibl 19:7  Ond dyma nhw'n gofyn iddo, “Ond pam felly wnaeth Moses ddweud fod rhaid i ddyn roi tystysgrif ysgariad i'w wraig cyn ei hanfon i ffwrdd?”
Matt WelBeibl 19:8  “Wyddoch chi pam wnaeth Moses ganiatáu i chi ysgaru eich gwragedd?” meddai Iesu. “Am fod pobl fel chi mor ystyfnig! Ond dim felly oedd hi ar y dechrau.
Matt WelBeibl 19:9  Wir i chi, mae unrhyw un sy'n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu, oni bai fod ei wraig wedi bod yn anffyddlon iddo.”
Matt WelBeibl 19:10  Meddai'r disgyblion wrtho, “Mae'n well i ddyn beidio priodi o gwbl os mai fel yna mae hi!”
Matt WelBeibl 19:11  Atebodd Iesu, “All pawb ddim derbyn y peth, ond mae Duw wedi rhoi'r gallu i rai.
Matt WelBeibl 19:12  Mae rhai pobl wedi'u geni'n eunuchiaid, eraill wedi cael eu sbaddu a'u gwneud yn eunuchiaid, ac mae rhai'n dewis peidio priodi er mwyn gwasanaethu teyrnas yr Un nefol. Dylai'r rhai sydd â'r gallu i dderbyn hyn ei dderbyn.”
Matt WelBeibl 19:13  Dyma bobl yn dod â'u plant bach at Iesu er mwyn iddo osod ei ddwylo arnyn nhw a gweddïo drostyn nhw. Ond roedd y disgyblion yn dweud y drefn wrthyn nhw.
Matt WelBeibl 19:14  Ond meddai Iesu, “Gadewch i'r plant bach ddod ata i. Peidiwch â'u rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad yr Un nefol.”
Matt WelBeibl 19:15  Ar ôl iddo osod ei ddwylo arnyn nhw, aeth yn ei flaen oddi yno.
Matt WelBeibl 19:16  Daeth dyn at Iesu a gofyn iddo, “Athro, pa weithred dda sy'n rhaid i mi ei gwneud i gael bywyd tragwyddol?”
Matt WelBeibl 19:17  “Pam wyt ti'n gofyn cwestiynau i mi am beth sy'n dda?” atebodd Iesu. “Does dim ond Un sy'n dda, a Duw ydy hwnnw. Os wyt ti eisiau mynd i'r bywyd, ufuddha i'r gorchmynion.”
Matt WelBeibl 19:18  “Pa rai?” meddai. Atebodd Iesu, “‘Peidio llofruddio, peidio godinebu, peidio dwyn, peidio rhoi tystiolaeth ffals,
Matt WelBeibl 19:19  gofalu am dy dad a dy fam,’ a ‘caru dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun’.”
Matt WelBeibl 19:20  “Dw i wedi cadw'r rheolau yma i gyd,” meddai'r dyn ifanc, “ond mae rhywbeth ar goll.”
Matt WelBeibl 19:21  Atebodd Iesu, “Os wyt ti wir am gyrraedd y nod, dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho'r arian i bobl dlawd. Wedyn cei drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”
Matt WelBeibl 19:22  Pan glywodd y dyn ifanc hyn, cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn.
Matt WelBeibl 19:23  Dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion, “Credwch chi fi, mae'n anodd i rywun cyfoethog adael i'r Un nefol deyrnasu yn ei fywyd.
Matt WelBeibl 19:24  Gadewch i mi ddweud eto – mae'n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau.”
Matt WelBeibl 19:25  Roedd y disgyblion yn rhyfeddu wrth ei glywed yn dweud hyn. “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?” medden nhw.
Matt WelBeibl 19:26  Ond dyma Iesu'n edrych arnyn nhw, a dweud, “Mae'r peth yn amhosib i bobl ei wneud, ond mae Duw yn gallu! Mae Duw'n gallu gwneud popeth!”
Matt WelBeibl 19:27  Yna dyma Pedr yn ymateb, “Edrych, dŷn ni wedi gadael y cwbl i dy ddilyn di! Felly beth fyddwn ni'n ei gael?”
Matt WelBeibl 19:28  Meddai Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi – pan fydd popeth yn cael ei wneud yn newydd, a Mab y Dyn yn eistedd ar ei orsedd hardd, cewch chi sydd wedi fy nilyn i eistedd ar ddeuddeg gorsedd i farnu deuddeg llwyth gwlad Israel.
Matt WelBeibl 19:29  Bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref, a gadael brodyr a chwiorydd, tad neu fam neu blant neu diroedd er fy mwyn i yn derbyn can gwaith cymaint, ac yn cael bywyd tragwyddol.
Matt WelBeibl 19:30  Ond bydd llawer o'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn, a'r rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen.”
Chapter 20
Matt WelBeibl 20:1  “Dyma sut mae'r Un nefol yn teyrnasu – mae fel meistr tir yn mynd allan gyda'r wawr i gyflogi pobl i weithio yn ei winllan.
Matt WelBeibl 20:2  Cyn eu hanfon i'w winllan mae'n cytuno i dalu'r cyflog arferol iddyn nhw o un darn arian am ddiwrnod o waith.
Matt WelBeibl 20:3  “Yna, tua naw o'r gloch y bore, aeth allan eto a gweld rhai eraill yn sefyllian o gwmpas sgwâr y farchnad yn gwneud dim byd.
Matt WelBeibl 20:4  ‘Os ewch chi i weithio yn y winllan i mi, tala i gyflog teg i chi,’ meddai.
Matt WelBeibl 20:5  Felly i ffwrdd â nhw. “Gwnaeth yn union yr un peth pan aeth allan tua chanol dydd, ac eto am dri o'r gloch y p'nawn.
Matt WelBeibl 20:6  Hyd yn oed am bump o'r gloch y p'nawn gofynnodd i ryw bobl, ‘Pam dych chi'n sefyllian yma yn gwneud dim byd drwy'r dydd?’
Matt WelBeibl 20:7  “‘Does neb wedi'n cyflogi ni,’ medden nhw. “Felly meddai wrthyn nhw, ‘Ewch i weithio yn y winllan i mi.’
Matt WelBeibl 20:8  “Pan oedd hi wedi mynd yn hwyr galwodd perchennog y winllan ei fforman, ac meddai wrtho, ‘Galw'r gweithwyr draw a thalu eu cyflog iddyn nhw. Dechreua gyda'r rhai olaf i gael eu cyflogi a gorffen gyda'r rhai cyntaf.’
Matt WelBeibl 20:9  “Dyma'r gweithwyr oedd wedi dechrau tua pump o'r gloch y p'nawn yn dod ac yn cael un darn arian bob un.
Matt WelBeibl 20:10  Felly pan ddaeth y rhai gafodd eu cyflogi yn gynnar yn y bore, roedden nhw'n disgwyl derbyn mwy. Ond un darn arian gafodd pob un ohonyn nhw hefyd.
Matt WelBeibl 20:12  ‘Dim ond am awr weithiodd y rhai olaf yna,’ medden nhw, ‘A dych chi wedi rhoi'r un faint iddyn nhw ag i ni sydd wedi gweithio'n galed drwy'r dydd.’
Matt WelBeibl 20:13  “Ond meddai'r perchennog wrth un ohonyn nhw, ‘Gwranda gyfaill, dw i ddim yn annheg. Gwnest ti gytuno i weithio am y cyflog arferol, hynny ydy un darn arian am ddiwrnod o waith.
Matt WelBeibl 20:14  Felly cymer dy gyflog a dos adre. Fy newis i ydy rhoi'r un faint i'r person olaf un i gael ei gyflogi.
Matt WelBeibl 20:15  Mae gen i hawl i wneud beth fynna i gyda f'arian fy hun! Ai bod yn hunanol wyt ti am fy mod i'n dewis bod yn hael?’
Matt WelBeibl 20:16  “Felly bydd y rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen a'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn.”
Matt WelBeibl 20:17  Pan oedd Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem, aeth â'r deuddeg disgybl i'r naill ochr i gael gair gyda nhw.
Matt WelBeibl 20:18  “Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem, bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i'r prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith. Byddan nhw'n rhoi dedfryd marwolaeth arna i,
Matt WelBeibl 20:19  ac yna'n fy rhoi yn nwylo'r Rhufeiniaid. Bydd y rheiny yn gwneud sbort am fy mhen, fy chwipio a'm croeshoelio. Ond yna ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw!”
Matt WelBeibl 20:20  Dyma fam Iago ac Ioan, sef gwraig Sebedeus, yn mynd at Iesu gyda'i meibion. Aeth ar ei gliniau o'i flaen i ofyn ffafr ganddo.
Matt WelBeibl 20:21  “Beth ga i wneud i chi?” gofynnodd Iesu iddi. Dyma'r fam yn ateb, “Baswn i'n hoffi i'm meibion i gael eistedd bob ochr i ti pan fyddi'n teyrnasu.”
Matt WelBeibl 20:22  “Dych chi ddim yn gwybod am beth dych chi'n siarad!” meddai Iesu. “Allwch chi yfed o'r gwpan chwerw dw i'n mynd i yfed ohoni?” “Gallwn,” medden nhw wrtho.
Matt WelBeibl 20:23  Dwedodd Iesu, “Byddwch chi'n yfed o'm cwpan i, ond dim fi sydd i ddweud pwy sy'n cael eistedd bob ochr i mi. Mae'r lleoedd hynny wedi'u cadw i bwy bynnag mae fy Nhad wedi'u dewis.”
Matt WelBeibl 20:24  Pan glywodd y deg disgybl arall am y peth, roedden nhw'n wyllt gyda'r ddau frawd.
Matt WelBeibl 20:25  Ond dyma Iesu'n eu galw nhw i gyd at ei gilydd a dweud, “Dych chi'n gwybod sut mae'r rhai sy'n llywodraethu'r cenhedloedd yn ymddwyn – maen nhw wrth eu bodd yn dangos eu hawdurdod ac yn ei lordio hi dros bobl.
Matt WelBeibl 20:26  Ond rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i'r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu,
Matt WelBeibl 20:27  a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod yn was i eraill.
Matt WelBeibl 20:28  Wnes i, hyd yn oed, ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu'r pris i ryddhau llawer o bobl.”
Matt WelBeibl 20:29  Wrth iddo fynd allan o Jericho gyda'i ddisgyblion, roedd tyrfa fawr yn dilyn Iesu.
Matt WelBeibl 20:30  Roedd dau ddyn dall yn cardota ar ochr y ffordd, a phan ddeallodd y ddau ohonyn nhw mai Iesu oedd yn mynd heibio, dyma nhw'n gweiddi, “Helpa ni Fab Dafydd!”
Matt WelBeibl 20:31  “Caewch eich cegau!” meddai'r dyrfa wrthyn nhw. Ond yn lle hynny dyma nhw'n gweiddi'n uwch, “Arglwydd! Helpa ni Fab Dafydd!”
Matt WelBeibl 20:32  Dyma Iesu'n stopio, a'u galw nhw draw a gofyn, “Beth ga i wneud i chi?”
Matt WelBeibl 20:33  Dyma nhw'n ateb, “Arglwydd, dŷn ni eisiau gweld.”
Matt WelBeibl 20:34  Roedd Iesu'n teimlo drostyn nhw, a dyma fe'n cyffwrdd eu llygaid. Yn sydyn roedden nhw'n gallu gweld! A dyma nhw'n ei ddilyn e.
Chapter 21
Matt WelBeibl 21:1  Dyma nhw'n cyrraedd Bethffage wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem, a dyma Iesu'n dweud wrth ddau ddisgybl,
Matt WelBeibl 21:2  “Ewch i'r pentref acw sydd o'ch blaen chi, ac wrth fynd i mewn iddo dewch o hyd i asen wedi'i rhwymo a'i hebol gyda hi. Dewch â nhw yma i mi,
Matt WelBeibl 21:3  ac os bydd rhywun yn ceisio'ch rhwystro, dwedwch, ‘Mae'r meistr eu hangen nhw; bydd yn eu hanfon yn ôl wedyn.’”
Matt WelBeibl 21:4  Digwyddodd hyn er mwyn i beth ddwedodd Duw drwy ei broffwyd ddod yn wir:
Matt WelBeibl 21:5  “Dwed wrth bobl Seion, ‘Edrych! Mae dy frenin yn dod! Mae'n addfwyn ac yn marchogaeth ar asen; ie, ar ebol asyn.’”
Matt WelBeibl 21:6  I ffwrdd â'r disgyblion, a gwneud yn union beth ddwedodd Iesu wrthyn nhw.
Matt WelBeibl 21:7  Pan ddaethon nhw â'r asen a'i hebol yn ôl, dyma nhw'n taflu'u cotiau drostyn nhw, a dyma Iesu'n eistedd arnyn nhw.
Matt WelBeibl 21:8  Roedd tyrfa fawr yn gosod eu cotiau fel carped ar y ffordd o'i flaen, neu dorri dail o'r coed a'u lledu ar y ffordd.
Matt WelBeibl 21:9  Roedd y dyrfa y tu blaen a'r tu ôl iddo yn gweiddi, “Hosanna! Clod i Fab Dafydd!” “Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi'i fendithio'n fawr!” “Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!”
Matt WelBeibl 21:10  Roedd y ddinas gyfan mewn cynnwrf pan aeth Iesu i mewn i Jerwsalem. “Pwy ydy hwn?” meddai rhai.
Matt WelBeibl 21:11  Ac roedd y dyrfa o'i gwmpas yn ateb, “Iesu, y proffwyd o Nasareth yn Galilea.”
Matt WelBeibl 21:12  Aeth Iesu i mewn i gwrt y deml a gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau'r rhai oedd yn cyfnewid arian a'u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod.
Matt WelBeibl 21:13  Yna dwedodd, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi.’ Ond dych chi'n ei droi yn ‘guddfan i ladron’!”
Matt WelBeibl 21:14  Roedd pobl ddall a rhai cloff yn dod ato i'r deml, ac roedd yn eu hiacháu nhw.
Matt WelBeibl 21:15  Ond roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi gwylltio'n lân wrth weld y gwyrthiau rhyfeddol roedd yn eu gwneud, a'r plant yn gweiddi yn y deml, “Hosanna! Clod i Fab Dafydd!”
Matt WelBeibl 21:16  “Wyt ti ddim yn clywed beth mae'r plant yma'n ei ddweud?” medden nhw wrtho. “Ydw,” atebodd Iesu. “Ydych chi wedi darllen yn yr ysgrifau sanctaidd erioed, ‘Rwyt wedi dysgu plant a babanod i dy foli di’?”
Matt WelBeibl 21:17  Dyma fe'n eu gadael nhw, a mynd allan i Bethania, lle arhosodd dros nos.
Matt WelBeibl 21:18  Yn gynnar y bore wedyn roedd ar ei ffordd yn ôl i'r ddinas, ac roedd e eisiau bwyd.
Matt WelBeibl 21:19  Gwelodd goeden ffigys ar ochr y ffordd, ac aeth draw ati ond doedd dim byd ond dail yn tyfu arni. Yna dwedodd, “Fydd dim ffrwyth yn tyfu arnat ti byth eto!”, a dyma'r goeden yn gwywo.
Matt WelBeibl 21:20  Pan welodd y disgyblion hyn roedden nhw wedi'u syfrdanu. “Sut wnaeth y goeden wywo mor sydyn?” medden nhw.
Matt WelBeibl 21:21  “Credwch chi fi,” meddai Iesu, “dim ond i chi gredu a pheidio amau, gallech chi wneud mwy na beth gafodd ei wneud i'r goeden ffigys. Gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Dos, a thaflu dy hun i'r môr,’ a byddai'n digwydd.
Matt WelBeibl 21:22  Cewch beth bynnag dych chi'n gofyn amdano wrth weddïo, dim ond i chi gredu.”
Matt WelBeibl 21:23  Dyma Iesu'n mynd i gwrt y deml a dechrau dysgu'r bobl yno. A dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato, a gofyn iddo, “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy roddodd yr awdurdod i ti?”
Matt WelBeibl 21:24  Atebodd Iesu nhw, “Gadewch i mi ofyn cwestiwn i chi. Os rhowch chi'r ateb i mi, ateba i'ch cwestiwn chi.
Matt WelBeibl 21:25  Roedd Ioan yn bedyddio. Ai Duw anfonodd e neu ddim?” Wrth drafod y peth gyda'i gilydd, dyma nhw'n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn i ni, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu felly?’
Matt WelBeibl 21:26  Ond allwn ni ddim dweud ‘Na’, rhag i'r dyrfa ymosod arnon ni. Maen nhw i gyd yn meddwl fod Ioan yn broffwyd.”
Matt WelBeibl 21:27  Felly dyma nhw'n gwrthod ateb, “Dŷn ni ddim yn gwybod,” medden nhw. “Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu.
Matt WelBeibl 21:28  “Beth ydych chi'n feddwl? Roedd rhyw ddyn a dau o blant ganddo. Meddai wrth yr hynaf, ‘Dos i weithio yn y winllan heddiw.’
Matt WelBeibl 21:29  ‘Na wna i’ meddai hwnnw, ond yn nes ymlaen newidiodd ei feddwl a mynd.
Matt WelBeibl 21:30  “Dyma'r tad yn mynd at y mab arall a dweud yr un peth. Atebodd hwnnw, ‘Siŵr iawn, dad,’ ond aeth e ddim.
Matt WelBeibl 21:31  Pa un o'r ddau fab wnaeth beth oedd y tad eisiau?” “Y cyntaf,” medden nhw. Meddai Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi, bydd y rhai sy'n casglu trethi i Rufain a'r puteiniaid yn dod dan deyrnasiad Duw o'ch blaen chi!
Matt WelBeibl 21:32  Achos roedd Ioan wedi dod i ddangos y ffordd iawn i chi, a dyma chi'n gwrthod ei gredu. Ond dyma'r bobl sy'n casglu trethi i Rufain a'r puteiniaid yn credu! A hyd yn oed ar ôl gweld hynny'n digwydd, wnaethoch chi ddim newid eich meddwl a'i gredu e!
Matt WelBeibl 21:33  “Gwrandwch ar stori arall: Roedd rhyw ddyn a thir ganddo wedi plannu gwinllan. Cododd ffens o'i chwmpas, cloddio lle i wasgu'r sudd o'r grawnwin ac adeiladu tŵr i'w gwylio. Yna gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd ar daith bell.
Matt WelBeibl 21:34  “Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin, anfonodd weision at y tenantiaid i nôl ei siâr o'r ffrwyth.
Matt WelBeibl 21:35  Ond dyma'r tenantiaid yn gafael yn y gweision, ac yn ymosod ar un, lladd un arall, a llabyddio un arall gyda cherrig.
Matt WelBeibl 21:36  Felly dyma'r dyn yn anfon gweision eraill, mwy ohonyn nhw y tro yma, ond dyma'r tenantiaid yn gwneud yr un peth i'r rheiny.
Matt WelBeibl 21:37  “Yn y diwedd dyma'r dyn yn anfon ei fab atyn nhw. ‘Byddan nhw'n parchu fy mab i,’ meddai.
Matt WelBeibl 21:38  Ond pan welodd y tenantiaid y mab, dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd: ‘Hwn sy'n mynd i etifeddu'r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni'r winllan.’
Matt WelBeibl 21:39  Felly dyma nhw'n gafael ynddo, a'i daflu allan o'r winllan a'i ladd.
Matt WelBeibl 21:40  “Felly, beth fydd y dyn biau'r winllan yn ei wneud i'r tenantiaid pan ddaw yn ôl?”
Matt WelBeibl 21:41  Dyma nhw'n ateb, “Bydd yn lladd y cnafon drwg! Wedyn bydd yn gosod y winllan ar rent i denantiaid newydd, fydd yn barod i roi ei siâr o'r ffrwythau iddo bob tymor.”
Matt WelBeibl 21:42  Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Ydych chi wedi darllen yn yr ysgrifau sanctaidd erioed: ‘Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen; yr Arglwydd wnaeth hyn, ac mae'r peth yn rhyfeddol yn ein golwg.’?
Matt WelBeibl 21:43  “Hyn dw i'n ei ddweud: fod y breintiau o fod dan deyrnasiad Duw yn cael eu cymryd oddi arnoch chi a'u rhoi i bobl fydd yn dangos ei ffrwyth yn eu bywydau.
Matt WelBeibl 21:44  Bydd pwy bynnag sy'n baglu ar y garreg yma yn dryllio'n ddarnau, a bydd pwy bynnag mae'r garreg yn syrthio arno yn cael ei fathru.”
Matt WelBeibl 21:45  Pan glywodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid straeon Iesu, roedden nhw'n gwybod yn iawn ei fod yn sôn amdanyn nhw.
Matt WelBeibl 21:46  Roedden nhw eisiau ei arestio, ond roedd ofn y dyrfa arnyn nhw, am fod y bobl yn credu ei fod yn broffwyd.
Chapter 22
Matt WelBeibl 22:2  “Mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i frenin yn trefnu gwledd briodas i'w fab.
Matt WelBeibl 22:3  Anfonodd ei weision i ddweud wrth y rhai oedd wedi cael gwahoddiad fod popeth yn barod, ond roedden nhw'n gwrthod dod.
Matt WelBeibl 22:4  “Anfonodd weision eraill i ddweud wrthyn nhw: ‘Mae'r wledd yn barod. Dw i wedi lladd teirw a bustych, felly dewch i'r wledd!’
Matt WelBeibl 22:5  “Ond wnaethon nhw ddim cymryd unrhyw sylw, dim ond cerdded i ffwrdd – un i'w faes, ac un arall i'w fusnes.
Matt WelBeibl 22:6  Yna dyma'r gweddill yn gafael yn y gweision a'u cam-drin nhw a'u lladd.
Matt WelBeibl 22:7  Roedd y brenin yn wyllt gynddeiriog. Anfonodd ei fyddin i ladd y llofruddion a llosgi eu tref.
Matt WelBeibl 22:8  “Yna meddai wrth ei weision, ‘Mae'r wledd briodas yn barod, ond doedd y rhai gafodd wahoddiad ddim yn haeddu cael dod.
Matt WelBeibl 22:9  Felly ewch i sefyll ar y priffyrdd sy'n mynd allan o'r ddinas, a gwahodd pwy bynnag ddaw heibio i ddod i'r wledd.’
Matt WelBeibl 22:10  Felly dyma'r gweision yn mynd allan i'r strydoedd a chasglu pawb allen nhw ddod o hyd iddyn nhw – y drwg a'r da. A llanwyd y neuadd briodas â gwesteion.
Matt WelBeibl 22:11  “Ond pan ddaeth y brenin i mewn i edrych ar y gwesteion, sylwodd fod yno un oedd ddim yn gwisgo dillad addas i briodas.
Matt WelBeibl 22:12  ‘Gyfaill,’ meddai wrtho, ‘sut wnest ti lwyddo i ddod i mewn yma heb fod yn gwisgo dillad ar gyfer priodas?’ Allai'r dyn ddim ateb.
Matt WelBeibl 22:13  “Yna dyma'r brenin yn dweud wrth ei weision, ‘Rhwymwch ei ddwylo a'i draed, a'i daflu allan i'r tywyllwch, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.’
Matt WelBeibl 22:14  “Mae llawer wedi cael gwahoddiad, ond ychydig sy'n cael eu dewis.”
Matt WelBeibl 22:15  Dyma'r Phariseaid yn mynd allan a chynllwynio sut i'w gornelu a'i gael i ddweud rhywbeth fyddai'n ei gael i drwbwl.
Matt WelBeibl 22:16  Dyma nhw'n anfon rhai o'u disgyblion ato gyda rhai o gefnogwyr Herod. “Athro,” medden nhw, “dŷn ni'n gwybod dy fod ti'n onest a wir yn dysgu ffordd Duw. Ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw.
Matt WelBeibl 22:17  Felly, beth ydy dy farn di? Ydy'n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?”
Matt WelBeibl 22:18  Ond roedd Iesu'n gwybod mai drwg oedden nhw'n ei fwriadu, ac meddai wrthyn nhw, “Dych chi mor ddauwynebog! Pam dych chi'n ceisio nal i?
Matt WelBeibl 22:19  Dangoswch i mi ddarn arian sy'n cael ei ddefnyddio i dalu'r dreth.” Dyma nhw'n dod â darn arian iddo,
Matt WelBeibl 22:20  a dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Llun pwy ydy hwn? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?”
Matt WelBeibl 22:21  “Cesar,” medden nhw. Felly meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a'r hyn biau Duw i Dduw.”
Matt WelBeibl 22:22  Roedden nhw wedi'u syfrdanu pan glywon nhw ei ateb, a dyma nhw'n mynd i ffwrdd.
Matt WelBeibl 22:23  Yr un diwrnod dyma rhai o'r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn iddo. Nhw oedd yn dadlau fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.
Matt WelBeibl 22:24  “Athro,” medden nhw, “Dwedodd Moses, ‘os ydy dyn yn marw heb gael plant, rhaid i'w frawd briodi'r weddw a chael plant yn ei le.’”
Matt WelBeibl 22:25  “Nawr, roedd saith brawd yn ein plith ni. Priododd y cyntaf, ond buodd farw cyn cael plant.
Matt WelBeibl 22:26  A digwyddodd yr un peth i'r ail a'r trydydd, reit i lawr i'r seithfed.
Matt WelBeibl 22:28  Dyma'n cwestiwn ni: Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pa un o'r saith fydd hi? Roedd hi wedi bod yn wraig iddyn nhw i gyd!”
Matt WelBeibl 22:29  Atebodd Iesu, “Dych chi'n deall dim! Dych chi ddim wedi deall yr ysgrifau sanctaidd a dych chi'n gwybod dim byd am allu Duw.
Matt WelBeibl 22:30  Fydd pobl ddim yn priodi pan ddaw'r atgyfodiad; byddan nhw yr un fath â'r angylion yn y nefoedd.
Matt WelBeibl 22:31  A bydd yna atgyfodiad! Ydych chi ddim wedi darllen beth ddwedodd Duw? –
Matt WelBeibl 22:32  ‘Fi ydy Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.’ Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw'r rhai sy'n fyw!”
Matt WelBeibl 22:33  Roedd y dyrfa yn rhyfeddu wrth glywed yr hyn oedd Iesu'n ei ddysgu.
Matt WelBeibl 22:34  Ar ôl clywed fod Iesu wedi rhoi taw ar y Sadwceaid, daeth y Phariseaid at ei gilydd.
Matt WelBeibl 22:35  Dyma un ohonyn nhw, oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith, yn gofyn cwestiwn i geisio ei faglu:
Matt WelBeibl 22:36  “Athro, Pa un o'r gorchmynion yn y Gyfraith ydy'r pwysica?”
Matt WelBeibl 22:37  Atebodd Iesu: “‘Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid a'th holl feddwl.’
Matt WelBeibl 22:39  Ond mae yna ail un sydd yr un fath: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.’
Matt WelBeibl 22:40  Mae'r cwbl sydd yn y Gyfraith a'r Proffwydi yn dibynnu ar y ddau orchymyn yma.”
Matt WelBeibl 22:41  Tra oedd y Phariseaid yno gyda'i gilydd, gofynnodd Iesu gwestiwn iddyn nhw,
Matt WelBeibl 22:42  “Beth ydy'ch barn chi am y Meseia? Mab pwy ydy e?” “Mab Dafydd,” medden nhw.
Matt WelBeibl 22:43  A dyma Iesu'n dweud, “Os felly, sut mae Dafydd, dan ddylanwad yr Ysbryd, yn ei alw'n ‛Arglwydd‛? Achos mae'n dweud,
Matt WelBeibl 22:44  ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd, nes i mi osod dy elynion dan dy draed.”’
Matt WelBeibl 22:45  Os ydy Dafydd yn ei alw'n ‛Arglwydd‛, sut mae'n gallu bod yn fab iddo?”
Matt WelBeibl 22:46  Doedd gan yr un ohonyn nhw ateb, felly o hynny ymlaen wnaeth neb feiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo.
Chapter 23
Matt WelBeibl 23:2  “Yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid sy'n dehongli Cyfraith Moses,
Matt WelBeibl 23:3  ac wrth gwrs ‘Dylech chi wrando arnyn nhw a gwneud popeth maen nhw'n ei ddweud.’ Ond peidiwch dilyn eu hesiampl nhw – dŷn nhw ddim yn byw beth maen nhw'n ei bregethu.
Matt WelBeibl 23:4  Maen nhw'n gosod beichiau trwm eu rheolau crefyddol ar ysgwyddau pobl, ond wnân nhw ddim codi bys bach i helpu pobl i gario'r baich.
Matt WelBeibl 23:5  “Maen nhw'n gwneud popeth er mwyn dangos eu hunain. Maen nhw'n gwneud yn siŵr fod y blychau gweddi ar eu breichiau a'u talcennau yn amlwg, a'r taselau hir ar eu clogyn yn dangos mor dduwiol ydyn nhw.
Matt WelBeibl 23:6  Maen nhw wrth eu bodd yn cael y seddi gorau mewn gwleddoedd a'r seddi pwysica yn y synagogau,
Matt WelBeibl 23:7  a chael pobl yn symud o'u ffordd a'u cyfarch yn barchus yn sgwâr y farchnad, a'u galw yn ‛Rabbi‛.
Matt WelBeibl 23:8  “Peidiwch chi â gadael i neb eich galw'n ‛Rabbi‛. Dim ond un athro sydd gynnoch chi, a dych chi i gyd yn gydradd, fel brodyr a chwiorydd i'ch gilydd.
Matt WelBeibl 23:9  A pheidiwch rhoi'r teitl anrhydedd ‛Y tad‛ i neb. Duw yn y nefoedd ydy'ch Tad chi.
Matt WelBeibl 23:10  A pheidiwch gadael i neb eich galw'n ‛meistr‛ chwaith. Un meistr sydd gynnoch chi, a'r Meseia ydy hwnnw.
Matt WelBeibl 23:12  Bydd pwy bynnag sy'n gwthio ei hun i'r top yn cael ei dynnu i lawr, a phwy bynnag sy'n gwasanaethu eraill yn cael dyrchafiad.
Matt WelBeibl 23:13  “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n cau drws yn wyneb pobl, a'u rhwystro rhag dod dan deyrnasiad yr Un nefol. Dych chi'ch hunain ddim yn mynd i mewn, nac yn fodlon gadael i unrhyw un sydd am fynd i mewn gael mynediad.
Matt WelBeibl 23:15  “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n barod i deithio dros fôr a thir i gael un person i gredu yr un fath â chi. Wrth wneud hynny dych chi'n ei droi'n blentyn uffern – ddwywaith gwaeth na chi'ch hunain!
Matt WelBeibl 23:16  “Gwae chi! Arweinwyr dall ydych chi! Er enghraifft, dych chi'n dweud: ‘Os ydy rhywun yn enwi'r deml wrth dyngu llw, dydy'r llw ddim yn ddilys; ond os ydy rhywun yn enwi trysor y deml, mae wedi'i rwymo gan ei lw.’
Matt WelBeibl 23:17  Y ffyliaid dall! Pa un ydy'r pwysica – y trysor, neu'r deml sy'n gwneud y trysor yn gysegredig?
Matt WelBeibl 23:18  “Dyma enghraifft arall: ‘Os ydy rhywun yn enwi'r allor wrth dyngu llw, dydy'r llw ddim yn ddilys; ond os ydy rhywun yn enwi'r offrwm ar yr allor, mae wedi'i rwymo gan ei lw.’
Matt WelBeibl 23:19  Dych chi mor ddall! Pa un ydy'r pwysica – yr offrwm, neu'r allor sy'n gwneud yr offrwm yn gysegredig?
Matt WelBeibl 23:20  Os ydy rhywun yn enwi'r allor wrth dyngu llw, mae hynny'n cynnwys popeth sydd arni hefyd!
Matt WelBeibl 23:21  Ac os ydy rhywun yn enwi'r deml wrth dyngu llw, mae hefyd yn cyfeirio at Dduw, sy'n bresennol yn y deml.
Matt WelBeibl 23:22  Ac os ydy rhywun yn enwi'r nefoedd wrth dyngu llw, mae'n cyfeirio at orsedd Duw, ac at Dduw ei hun, sy'n eistedd arni.
Matt WelBeibl 23:23  “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n ofalus iawn gyda rhyw fanion fel rhoi un rhan o ddeg o beth sydd gynnoch chi i Dduw – hyd yn oed perlysiau fel mintys, anis a chwmin! Ond dych chi'n talu dim sylw i faterion pwysica'r Gyfraith – byw'n gyfiawn, bod yn drugarog ac yn ffyddlon i Dduw. Dylech chi wneud y pethau pwysica yma heb ddiystyru'r pethau eraill.
Matt WelBeibl 23:24  Arweinwyr dall ydych chi! Dych chi'n hidlo dŵr rhag i chi lyncu gwybedyn, ond yna'n llyncu camel!
Matt WelBeibl 23:25  “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n glanhau'r tu allan i'r gwpan neu'r ddysgl, ond cawsoch chi'r bwyd a'r diod oedd ynddyn nhw drwy drais a hunanoldeb.
Matt WelBeibl 23:26  Y Pharisead dall! Glanha'r tu mewn i'r gwpan neu'r ddysgl gyntaf; wedyn bydd y tu allan yn lân hefyd.
Matt WelBeibl 23:27  “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi fel beddau wedi'u gwyngalchu. Mae'r cwbl yn edrych yn ddel iawn ar y tu allan, ond y tu mewn maen nhw'n llawn o esgyrn pobl wedi marw a phethau afiach eraill.
Matt WelBeibl 23:28  Dych chi'r un fath! Ar y tu allan dych chi'n edrych yn bobl dda a duwiol, ond y tu mewn dych chi'n llawn rhagrith a drygioni!
Matt WelBeibl 23:29  “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n codi cofgolofnau i anrhydeddu'r proffwydi ac yn gofalu am feddau pobl dduwiol y gorffennol.
Matt WelBeibl 23:30  Dych chi'n dweud, ‘Petaen ni'n byw bryd hynny, fydden ni ddim wedi lladd y proffwydi, fel gwnaeth ein cyndeidiau.’
Matt WelBeibl 23:31  Felly, dych chi'n cydnabod eich bod yn ddisgynyddion i'r rhai lofruddiodd y proffwydi.
Matt WelBeibl 23:32  Iawn! Cariwch ymlaen! Waeth i chi orffen beth ddechreuodd eich cyndeidiau!
Matt WelBeibl 23:33  “Dych chi fel nythaid o nadroedd gwenwynig! Sut allwch chi osgoi cael eich dedfrydu i uffern?
Matt WelBeibl 23:34  Bydda i'n anfon proffwydi atoch chi, a phobl ddoeth ac athrawon. Byddwch yn lladd rhai ohonyn nhw a'u croeshoelio; byddwch yn gwneud i eraill ddioddef drwy eu chwipio yn eich synagogau. Byddwch yn eu herlid o un lle i'r llall.
Matt WelBeibl 23:35  Felly, chi fydd yn gyfrifol am yr holl bobl ddiniwed sydd wedi'u lladd ar y ddaear, o Abel (wnaeth ddim o'i le), hyd Sechareia fab Beracheia, gafodd ei lofruddio gynnoch chi rhwng y cysegr a'r allor yn y deml.
Matt WelBeibl 23:36  Credwch chi fi, bydd y genhedlaeth bresennol yn cael ei chosbi am hyn i gyd.
Matt WelBeibl 23:37  “O! Jerwsalem, Jerwsalem! Y ddinas sy'n lladd y proffwydi a llabyddio'r negeswyr mae Duw'n eu hanfon ati. Mor aml dw i wedi hiraethu am gael casglu dy blant at ei gilydd, fel mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd – ond doedd gen ti ddim diddordeb!
Matt WelBeibl 23:38  Edrych! Mae Duw wedi gadael dy deml – mae'n wag!
Matt WelBeibl 23:39  Dw i'n dweud hyn – fyddi di ddim yn fy ngweld i eto nes byddi'n dweud, ‘Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi'i fendithio'n fawr!’”
Chapter 24
Matt WelBeibl 24:1  Wrth i Iesu adael y deml dyma'i ddisgyblion yn dod ato ac yn tynnu ei sylw at yr adeiladau.
Matt WelBeibl 24:2  “Ydych chi'n gweld y rhain i gyd?” meddai. “Credwch chi fi, bydd y cwbl yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi'i gadael yn ei lle.”
Matt WelBeibl 24:3  Yn nes ymlaen, pan oedd Iesu'n eistedd ar ochr Mynydd yr Olewydd, daeth ei ddisgyblion ato yn breifat a gofyn, “Pryd mae beth oeddet ti'n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd i ddangos i ni dy fod di'n dod, a bod diwedd y byd wedi cyrraedd?”
Matt WelBeibl 24:4  Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi.
Matt WelBeibl 24:5  Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, ac yn dweud, ‘Fi ydy'r Meseia,’ a byddan nhw'n llwyddo i dwyllo llawer o bobl.
Matt WelBeibl 24:6  Bydd rhyfeloedd a sôn am ryfeloedd yn agos ac ymhell. Ond peidiwch cynhyrfu – mae pethau felly'n siŵr o ddigwydd, ond fydd y diwedd yn dal heb ddod.
Matt WelBeibl 24:7  Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd newyn mewn gwahanol leoedd, a daeargrynfeydd.
Matt WelBeibl 24:9  “Cewch eich arestio a'ch cam-drin a'ch lladd. Bydd pobl ym mhob gwlad yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi.
Matt WelBeibl 24:10  Bydd llawer yn troi cefn arna i bryd hynny, ac yn bradychu a chasáu ei gilydd.
Matt WelBeibl 24:11  Bydd proffwydi ffug yn codi ac yn twyllo llawer iawn o bobl.
Matt WelBeibl 24:12  Bydd mwy a mwy o ddrygioni a bydd cariad y rhan fwyaf yn oeri,
Matt WelBeibl 24:13  ond bydd yr un sy'n sefyll yn gadarn i'r diwedd un yn cael ei achub.
Matt WelBeibl 24:14  A bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed, a dim ond wedyn fydd y diwedd yn dod.
Matt WelBeibl 24:15  “Pan fydd beth soniodd y proffwyd Daniel amdano yn digwydd, hynny ydy pan fydd ‘Yr eilun ffiaidd sy'n dinistrio’ yn sefyll yn y cysegr sanctaidd
Matt WelBeibl 24:16  (rhaid i'r un sy'n darllen ddeall hyn!), dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i'r mynyddoedd.
Matt WelBeibl 24:17  Fydd dim cyfle i neb sydd y tu allan i'w dŷ fynd i mewn i nôl unrhyw beth.
Matt WelBeibl 24:18  A ddylai neb sydd allan yn y maes fynd adre i nôl ei gôt hyd yn oed.
Matt WelBeibl 24:19  Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy'n magu plant bach bryd hynny!
Matt WelBeibl 24:20  Gweddïwch bydd dim rhaid i chi ffoi yn ystod y gaeaf neu ar ddydd Saboth.
Matt WelBeibl 24:21  Achos bryd hynny bydd argyfwng gwaeth nag unrhyw beth welwyd erioed o'r blaen – a fydd dim byd tebyg yn y dyfodol chwaith!
Matt WelBeibl 24:22  Oni bai iddo gael ei wneud yn gyfnod byr, fyddai neb yn dianc! Ond bydd yn cael ei wneud yn gyfnod byr er mwyn y bobl mae Duw wedi'u dewis.
Matt WelBeibl 24:23  Felly, os bydd rhywun yn dweud, ‘Edrych! Hwn ydy'r Meseia!’ neu ‘Dacw fe!’ peidiwch credu'r peth.
Matt WelBeibl 24:24  Bydd llawer i ‛Feseia‛ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw'n twyllo'r bobl hynny mae Duw wedi'u dewis petai'r fath beth yn bosib!
Matt WelBeibl 24:26  “Felly os bydd rhywun yn dweud wrthoch chi, ‘Mae'r Meseia acw, allan yn yr anialwch,’ peidiwch mynd yno i edrych; neu ‘mae e'n cuddio yma,’ peidiwch credu'r peth.
Matt WelBeibl 24:27  Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl – bydd mor amlwg â mellten yn goleuo'r awyr o'r dwyrain i'r gorllewin.
Matt WelBeibl 24:28  Bydd mor amlwg â'r ffaith fod yna gorff marw ble bynnag mae fwlturiaid wedi casglu.
Matt WelBeibl 24:29  “Ond yn union ar ôl yr argyfwng hwnnw, ‘Bydd yr haul yn tywyllu, a'r lleuad yn peidio rhoi golau; bydd y sêr yn syrthio o'r awyr, a'r planedau yn ansefydlog.’
Matt WelBeibl 24:30  “Yna bydd arwydd i'w weld yn yr awyr yn rhybuddio fod Mab y Dyn ar fin dod, a bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear yn galaru. Bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod ar gymylau'r awyr gyda grym ac ysblander mawr.
Matt WelBeibl 24:31  Bydd utgorn yn canu a bydd Duw yn anfon ei angylion i gasglu'r rhai mae wedi'u dewis o bob rhan o'r byd.
Matt WelBeibl 24:32  “Dysgwch wers gan y goeden ffigys: Pan mae'r brigau'n dechrau blaguro a dail yn dechrau tyfu arni, gwyddoch fod yr haf yn agos.
Matt WelBeibl 24:33  Felly'r un fath, pan fyddwch yn gweld hyn i gyd, byddwch yn gwybod ei fod ar fin dod yn ôl – reit y tu allan i'r drws!
Matt WelBeibl 24:34  Credwch chi fi, bydd y genhedlaeth bresennol yn dal yma pan fydd hyn yn digwydd.
Matt WelBeibl 24:35  Bydd yr awyr a'r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i'n ddweud yn aros am byth.
Matt WelBeibl 24:36  “Does neb ond y Tad yn gwybod y dyddiad a pha amser o'r dydd y bydd hyn yn digwydd – dydy'r angylion ddim yn gwybod, na hyd yn oed y Mab ei hun!
Matt WelBeibl 24:37  Bydd hi yr un fath ag oedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl.
Matt WelBeibl 24:38  Yn union cyn y llifogydd, roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i'r arch.
Matt WelBeibl 24:39  Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd yn mynd i ddigwydd nes i'r llifogydd ddod a'u hysgubo nhw i gyd i ffwrdd! Fel yna'n union y bydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl.
Matt WelBeibl 24:40  Bydd dau allan yn y maes; bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei adael.
Matt WelBeibl 24:41  Bydd dwy wraig yn malu ŷd gyda melin law; bydd un yn cael ei chymryd a'r llall yn cael ei gadael.
Matt WelBeibl 24:42  “Gwyliwch felly, achos dych chi ddim yn gwybod y dyddiad pan fydd eich Arglwydd yn dod yn ôl.
Matt WelBeibl 24:43  Meddyliwch! Petai perchennog y tŷ yn gwybod ymlaen llaw pryd yn ystod y nos roedd y lleidr yn dod, byddai wedi aros i wylio a'i rwystro rhag torri i mewn i'w dŷ.
Matt WelBeibl 24:44  Felly rhaid i chi hefyd fod yn barod drwy'r adeg. Bydda i, Mab y Dyn, yn cyrraedd pan fyddwch chi ddim yn disgwyl!
Matt WelBeibl 24:45  “Felly pwy ydy'r gwas doeth mae'r meistr yn gallu dibynnu arno? Mae wedi'i benodi i fod yn gyfrifol am weddill y staff, i'w bwydo nhw'n rheolaidd.
Matt WelBeibl 24:46  Os bydd yn gwneud ei waith yn iawn pan ddaw'r meistr yn ôl, bydd yn cael ei wobrwyo.
Matt WelBeibl 24:47  Wir i chi, bydd yn cael y cyfrifoldeb o ofalu am eiddo'r meistr i gyd!
Matt WelBeibl 24:48  Ond beth petai'r gwas yna'n un drwg, ac yn meddwl iddo'i hun, ‘Mae'r meistr wedi bod i ffwrdd yn hir iawn,’
Matt WelBeibl 24:49  ac yn mynd ati i gam-drin ei gydweithwyr, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon.
Matt WelBeibl 24:51  a'i gosbi'n llym a'i daflu allan gyda'r rhai hynny sy'n gwneud sioe o'u crefydd. Yno bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.”
Chapter 25
Matt WelBeibl 25:1  “Bryd hynny, pan fydd yr Un nefol yn dod i deyrnasu, bydd yr un fath â deg morwyn briodas yn mynd allan gyda lampau yn y nos i gyfarfod â'r priodfab.
Matt WelBeibl 25:4  Ond roedd y lleill yn ddigon call i fynd ag olew sbâr gyda nhw.
Matt WelBeibl 25:5  Roedd y priodfab yn hir iawn yn cyrraedd, a dyma nhw i gyd yn dechrau pendwmpian a disgyn i gysgu.
Matt WelBeibl 25:6  “Am hanner nos dyma rywun yn gweiddi'n uchel: ‘Mae'r priodfab wedi cyrraedd! Dewch allan i'w gyfarfod!’
Matt WelBeibl 25:7  Dyma'r merched yn deffro ac yn goleuo eu lampau eto.
Matt WelBeibl 25:8  Ond meddai'r morynion dwl wrth y rhai call, ‘Rhowch beth o'ch olew chi i ni! Mae'n lampau ni'n diffodd!’
Matt WelBeibl 25:9  ‘Na wir,’ meddai'r lleill, ‘fydd gan neb ddigon wedyn. Rhaid i chi fynd i brynu peth yn rhywle.’
Matt WelBeibl 25:10  “Ond tra oedden nhw allan yn prynu mwy o olew, dyma'r priodfab yn cyrraedd. Aeth y morynion oedd yn barod i mewn i'r wledd briodas gydag e, a dyma'r drws yn cael ei gau.
Matt WelBeibl 25:11  “Yn nes ymlaen cyrhaeddodd y lleill yn ôl, a dyma nhw'n galw, ‘Syr! Syr! Agor y drws i ni!’
Matt WelBeibl 25:12  Ond dyma'r priodfab yn ateb, ‘Wir, dw i ddim yn eich nabod chi!’
Matt WelBeibl 25:13  “Gwyliwch eich hunain felly! Dych chi ddim yn gwybod y dyddiad na'r amser o'r dydd pan fydda i'n dod yn ôl.
Matt WelBeibl 25:14  “Pan ddaw'r Un nefol i deyrnasu, bydd yr un fath â dyn yn mynd oddi cartref: Galwodd ei weision at ei gilydd a rhoi ei eiddo i gyd yn eu gofal nhw.
Matt WelBeibl 25:15  Rhoddodd swm arbennig yng ngofal pob un yn ôl ei allu – pum talent (hynny ydy tri deg mil o ddarnau arian) i un, dwy dalent (hynny ydy deuddeg mil) i un arall, ac un dalent (hynny ydy chwe mil) i'r llall. Wedyn aeth i ffwrdd ar ei daith.
Matt WelBeibl 25:16  Dyma'r gwas oedd wedi cael pum talent yn bwrw iddi ar unwaith i farchnata gyda'i arian, a llwyddodd i ddyblu'r swm oedd ganddo.
Matt WelBeibl 25:17  Llwyddodd yr un gyda dwy dalent i wneud yr un peth.
Matt WelBeibl 25:18  Ond y cwbl wnaeth yr un gafodd un dalent oedd gwneud twll yn y ddaear a chadw arian ei feistr yn saff ynddo.
Matt WelBeibl 25:19  “Aeth amser hir heibio, yna o'r diwedd daeth y meistr yn ôl adre a galw'i weision i roi cyfri am yr arian oedd wedi'i roi yn eu gofal nhw.
Matt WelBeibl 25:20  Dyma'r un oedd wedi derbyn y pum talent yn dod a dweud wrtho, ‘Feistr, rhoist ti dri deg mil o ddarnau arian yn fy ngofal i. Dw i wedi llwyddo i wneud tri deg mil arall.’
Matt WelBeibl 25:21  “‘Da iawn ti!’ meddai'r meistr, ‘Rwyt ti'n weithiwr da, a galla i ddibynnu arnat ti! Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, felly dw i'n mynd i roi llawer iawn mwy o gyfrifoldeb i ti. Tyrd gyda mi i ddathlu!’
Matt WelBeibl 25:22  “Wedyn dyma'r un oedd wedi derbyn dwy dalent yn dod ac yn dweud, ‘Feistr, rhoist ti ddeuddeg mil o ddarnau arian yn fy ngofal i. Dw i wedi llwyddo i wneud deuddeg mil arall.’
Matt WelBeibl 25:23  “‘Da iawn ti!’ meddai'r meistr, ‘Rwyt ti'n weithiwr da, a galla i ddibynnu arnat ti! Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, felly dw i'n mynd i roi llawer iawn mwy o gyfrifoldeb i ti. Tyrd gyda mi i ddathlu!’
Matt WelBeibl 25:24  “Wedyn dyma'r un oedd wedi derbyn un dalent yn dod. ‘Feistr,’ meddai, ‘Mae pawb yn gwybod dy fod ti'n ddyn caled. Rwyt ti'n ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw.
Matt WelBeibl 25:25  Roedd gen i ofn gwneud colled, felly dw i wedi cadw dy arian di'n saff mewn twll yn y ddaear. Felly dyma dy arian yn ôl – mae'r cwbl yna.’
Matt WelBeibl 25:26  “Dyma'r meistr yn ei ateb, ‘Y cnaf diog, da i ddim! Dw i'n ddyn caled ydw i – yn ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw?
Matt WelBeibl 25:27  Dylet ti o leia fod wedi rhoi'r arian mewn cyfri cadw yn y banc, i mi ei gael yn ôl gyda rhyw fymryn o log!’
Matt WelBeibl 25:28  “Cymerwch yr arian oddi arno, a'i roi i'r un cyntaf sydd â deg talent ganddo.
Matt WelBeibl 25:29  Bydd y rhai sydd wedi gwneud defnydd da o beth sydd ganddyn nhw yn derbyn mwy, a bydd ganddyn nhw ddigonedd. Ond am y rhai sy'n gwneud dim byd, bydd hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhw yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw!
Matt WelBeibl 25:30  Taflwch y gwas diwerth i'r tywyllwch, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith!
Matt WelBeibl 25:31  “Pan fydd Mab y Dyn yn dod yn ôl, bydd yn dod fel brenin i deyrnasu. Bydd yn dod mewn ysblander, a'r holl angylion gydag e, ac yn eistedd ar yr orsedd hardd sydd yno ar ei gyfer yn y nefoedd.
Matt WelBeibl 25:32  Bydd yr holl genhedloedd yn cael eu casglu o'i flaen, a bydd yn eu rhannu'n ddau grŵp fel mae bugail yn gwahanu'r defaid a'r geifr.
Matt WelBeibl 25:33  Bydd yn rhoi'r defaid ar ei ochr dde a'r geifr ar ei ochr chwith.
Matt WelBeibl 25:34  “Dyma fydd y Brenin yn ei ddweud wrth y rhai sydd ar ei ochr dde, ‘Chi ydy'r rhai mae fy Nhad wedi'u bendithio, felly dewch i dderbyn eich etifeddiaeth. Mae'r cwbl wedi'i baratoi ar eich cyfer ers i'r byd gael ei greu.
Matt WelBeibl 25:35  Dewch, oherwydd chi roddodd fwyd i mi pan oeddwn i'n llwgu; chi roddodd ddiod i mi pan oedd syched arna i; chi roddodd groeso i mi pan doeddwn i ddim yn nabod neb;
Matt WelBeibl 25:36  chi roddodd ddillad i mi pan oeddwn i'n noeth; chi ofalodd amdana i pan oeddwn i'n sâl; chi ddaeth i ymweld â mi pan oeddwn i yn y carchar.’
Matt WelBeibl 25:37  “Ond bydd y rhai cyfiawn yma yn gofyn iddo, ‘Arglwydd, pryd welon ni ti'n llwgu a rhoi rhywbeth i ti i'w fwyta, neu'n sychedig a rhoi diod i ti?
Matt WelBeibl 25:38  Pryd wnaethon ni dy groesawu di pan oeddet ti'n nabod neb, neu roi dillad i ti pan oeddet ti'n noeth?
Matt WelBeibl 25:39  Pryd welon ni ti'n sâl neu yn y carchar a mynd i ymweld â ti?’
Matt WelBeibl 25:40  A bydd y Brenin yn ateb, ‘Credwch chi fi, pan wnaethoch chi helpu'r person lleiaf pwysig sy'n perthyn i mi, gwnaethoch chi fy helpu i.’
Matt WelBeibl 25:41  “Yna bydd yn dweud wrth y rhai sydd ar ei ochr chwith, ‘Dych chi wedi'ch melltithio! Ewch i ffwrdd oddi wrtho i, i'r tân tragwyddol sydd wedi'i baratoi i'r diafol a'i gythreuliaid.
Matt WelBeibl 25:42  Roesoch chi ddim byd i mi pan oeddwn i'n llwgu; roesoch chi ddim diod i mi pan oedd syched arna i;
Matt WelBeibl 25:43  ches i ddim croeso gynnoch chi pan oeddwn i'n ddieithr; roesoch chi ddim dillad i mi eu gwisgo pan oeddwn i'n noeth; a wnaethoch chi ddim gofalu amdana i pan oeddwn i'n sâl ac yn y carchar.’
Matt WelBeibl 25:44  “A byddan nhw'n gofyn iddo, ‘Arglwydd, pryd welon ni ti'n llwgu neu'n sychedig, neu'n nabod neb neu'n noeth neu'n sâl neu yn y carchar, a gwrthod dy helpu di?’
Matt WelBeibl 25:45  Bydd yn ateb, ‘Credwch chi fi, beth bynnag wrthodoch chi ei wneud i helpu'r un lleiaf pwysig o'r rhain, gwrthodoch chi ei wneud i mi.’
Matt WelBeibl 25:46  “Wedyn byddan nhw'n mynd i ffwrdd i gael eu cosbi'n dragwyddol, ond bydd y rhai wnaeth y peth iawn yn cael bywyd tragwyddol.”
Chapter 26
Matt WelBeibl 26:1  Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma i gyd, meddai wrth ei ddisgyblion,
Matt WelBeibl 26:2  “Fel dych chi'n gwybod, mae'n Ŵyl y Pasg nos fory. Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i'm croeshoelio.”
Matt WelBeibl 26:3  Yr un pryd, roedd y prif offeiriaid ac arweinwyr Iddewig eraill yn cyfarfod ym mhalas Caiaffas yr archoffeiriad,
Matt WelBeibl 26:5  “Ond dim yn ystod yr Ŵyl,” medden nhw, “neu bydd reiat.”
Matt WelBeibl 26:6  Pan oedd Iesu yn Bethania, aeth am bryd o fwyd i gartref dyn roedd pawb yn ei alw yn ‛Simon y gwahanglwyf‛.
Matt WelBeibl 26:7  Roedd yno'n bwyta pan ddaeth gwraig ato gyda jar alabaster hardd yn llawn o bersawr drud, a thywallt y persawr ar ei ben.
Matt WelBeibl 26:8  Roedd y disgyblion yn wyllt pan welon nhw hi'n gwneud hyn. “Am wastraff!” medden nhw,
Matt WelBeibl 26:9  “Gallai rhywun fod wedi gwerthu'r persawr yna am arian mawr, a rhoi'r cwbl i bobl dlawd.”
Matt WelBeibl 26:10  Roedd Iesu'n gwybod beth oedden nhw'n ei ddweud, ac meddai wrthyn nhw, “Gadewch lonydd i'r wraig! Mae hi wedi gwneud peth hyfryd.
Matt WelBeibl 26:11  Bydd pobl dlawd o gwmpas bob amser, ond fydda i ddim yma bob amser.
Matt WelBeibl 26:12  Wrth dywallt y persawr yma arna i mae hi wedi paratoi fy nghorff ar gyfer ei gladdu.
Matt WelBeibl 26:13  Credwch chi fi, ble bynnag fydd y newyddion da yn cael ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd, bydd pobl yn cofio beth wnaeth y wraig yma hefyd.”
Matt WelBeibl 26:14  Ar ôl i hyn ddigwydd aeth Jwdas Iscariot, un o'r deuddeg disgybl, at y prif offeiriaid
Matt WelBeibl 26:15  a gofyn iddyn nhw, “Faint wnewch chi dalu i mi os gwna i ei fradychu e?” A dyma nhw'n cytuno i roi tri deg darn arian iddo.
Matt WelBeibl 26:16  O hynny ymlaen roedd Jwdas yn edrych am ei gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw.
Matt WelBeibl 26:17  Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw, gofynnodd y disgyblion i Iesu, “Ble rwyt ti am fwyta swper y Pasg? – i ni fynd i'w baratoi.”
Matt WelBeibl 26:18  “Ewch i'r ddinas at hwn a hwn,” meddai. “Dwedwch wrtho: ‘Mae'r athro'n dweud fod yr amser wedi dod. Mae am ddathlu'r Pasg gyda'i ddisgyblion yn dy dŷ di.’”
Matt WelBeibl 26:19  Felly dyma'r disgyblion yn gwneud yn union fel roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw, a pharatoi swper y Pasg yno.
Matt WelBeibl 26:20  Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd gyda'r deuddeg disgybl.
Matt WelBeibl 26:21  Tra oedden nhw'n bwyta, meddai wrthyn nhw, “Wir i chi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i.”
Matt WelBeibl 26:22  Roedden nhw'n drist iawn, ac yn dweud wrtho, un ar ôl y llall, “Meistr, dim fi ydy'r un, nage?”
Matt WelBeibl 26:23  Atebodd Iesu, “Bydd un ohonoch chi'n fy mradychu i – un sydd yma, ac wedi trochi ei fwyd yn y ddysgl saws gyda mi.
Matt WelBeibl 26:24  Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i! Byddai'n well arno petai erioed wedi cael ei eni!”
Matt WelBeibl 26:25  Wedyn dyma Jwdas, yr un oedd yn mynd i'w fradychu, yn dweud, “Rabbi, dim fi ydy'r un, nage?” “Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu.
Matt WelBeibl 26:26  Tra oedden nhw'n bwyta, dyma Iesu'n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma, a'i fwyta,” meddai. “Dyma fy nghorff i.”
Matt WelBeibl 26:27  Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto, a'i basio iddyn nhw, a dweud, “Yfwch o hwn, bob un ohonoch chi.
Matt WelBeibl 26:28  Dyma fy ngwaed, sy'n selio ymrwymiad Duw i'w bobl. Mae'n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl, i faddau eu pechodau nhw.
Matt WelBeibl 26:29  Wir i chi, fydda i ddim yn yfed y gwin yma eto nes daw'r dydd y bydda i'n ei yfed o'r newydd gyda chi pan fydd fy Nhad yn teyrnasu.”
Matt WelBeibl 26:30  Wedyn, ar ôl canu emyn, dyma nhw'n mynd allan i Fynydd yr Olewydd.
Matt WelBeibl 26:31  “Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i heno” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydda i'n taro'r bugail, a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.’
Matt WelBeibl 26:32  Ond ar ôl i mi ddod yn ôl yn fyw, af i o'ch blaen chi i Galilea.”
Matt WelBeibl 26:33  Dyma Pedr yn dweud yn bendant, “Wna i byth droi cefn arnat ti, hyd yn oed os bydd pawb arall yn gwneud hynny!”
Matt WelBeibl 26:34  “Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i'r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di'n fy nabod i.”
Matt WelBeibl 26:35  Ond meddai Pedr, “Na! Wna i byth wadu mod i'n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda ti!” Ac roedd y disgyblion eraill i gyd yn dweud yr un peth.
Matt WelBeibl 26:36  Dyma Iesu'n mynd gyda'i ddisgyblion i le o'r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i'n mynd draw acw i weddïo.”
Matt WelBeibl 26:37  Aeth â Pedr a dau fab Sebedeus gydag e, a dechreuodd deimlo tristwch ofnadwy a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu.
Matt WelBeibl 26:38  “Mae'r tristwch dw i'n ei deimlo yn ddigon i'm lladd i,” meddai wrthyn nhw, “Arhoswch yma i wylio gyda mi.”
Matt WelBeibl 26:39  Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar ei wyneb ar lawr a gweddïo, “Fy Nhad, gad i'r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd os ydy hynny'n bosib. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.”
Matt WelBeibl 26:40  Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Felly, allech chi ddim cadw golwg gyda mi am un awr fechan?
Matt WelBeibl 26:41  Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi. Mae'r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.”
Matt WelBeibl 26:42  Yna aeth i ffwrdd a gweddïo eto, “Fy Nhad, os ydy hi ddim yn bosib cymryd y cwpan chwerw yma i ffwrdd heb i mi yfed ohono, gwna i beth rwyt ti eisiau.”
Matt WelBeibl 26:43  Ond pan ddaeth yn ôl, roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw'n methu'n lân â chadw eu llygaid ar agor.
Matt WelBeibl 26:44  Felly gadawodd nhw a mynd i ffwrdd i weddïo yr un peth eto y drydedd waith.
Matt WelBeibl 26:45  Yna daeth yn ôl at ei ddisgyblion a dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n cysgu eto? Yn dal i orffwys? Edrychwch! Mae'r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid.
Matt WelBeibl 26:46  Codwch, gadewch i ni fynd! Mae'r bradwr wedi cyrraedd!”
Matt WelBeibl 26:47  Wrth iddo ddweud y peth, dyma Jwdas, un o'r deuddeg disgybl, yn ymddangos gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill wedi'u hanfon nhw i ddal Iesu.
Matt WelBeibl 26:48  Roedd Jwdas y bradwr wedi trefnu y byddai'n rhoi arwydd iddyn nhw: “Yr un fydda i'n ei gyfarch â chusan ydy'r dyn i'w arestio.”
Matt WelBeibl 26:49  Aeth Jwdas yn syth at Iesu. “Helo Rabbi!”, meddai, ac yna ei gyfarch â chusan.
Matt WelBeibl 26:50  “Gwna be ti wedi dod yma i'w wneud, gyfaill,” meddai Iesu wrtho. Yna gafaelodd y lleill yn Iesu a'i arestio.
Matt WelBeibl 26:51  Ond yn sydyn, dyma un o ffrindiau Iesu yn tynnu cleddyf allan a tharo gwas yr archoffeiriad. Torrodd ei glust i ffwrdd.
Matt WelBeibl 26:52  “Cadw dy gleddyf!” meddai Iesu wrtho, “Bydd pawb sy'n trin y cleddyf yn cael eu lladd â'r cleddyf.
Matt WelBeibl 26:53  Wyt ti ddim yn sylweddoli y gallwn i alw ar fy Nhad am help, ac y byddai'n anfon miloedd ar filoedd o angylion ar unwaith?
Matt WelBeibl 26:54  Ond sut wedyn fyddai'r ysgrifau sanctaidd sy'n dweud fod rhaid i hyn i gyd ddigwydd yn dod yn wir?”
Matt WelBeibl 26:55  “Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth?” meddai Iesu wrth y dyrfa oedd yno. “Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma? Pam wnaethoch chi ddim fy arestio i yn y deml? Rôn i'n eistedd yno bob dydd, yn dysgu'r bobl.
Matt WelBeibl 26:56  Ond mae hyn i gyd wedi digwydd er mwyn i beth mae'r proffwydi'n ei ddweud yn yr ysgrifau sanctaidd ddod yn wir.” Yna dyma'r disgyblion i gyd yn ei adael ac yn dianc.
Matt WelBeibl 26:57  Dyma'r rhai oedd wedi arestio Iesu yn mynd ag e i dŷ Caiaffas yr archoffeiriad, lle roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr eraill wedi dod at ei gilydd.
Matt WelBeibl 26:58  Dyma Pedr yn dilyn o bell nes cyrraedd iard tŷ'r archoffeiriad. Aeth i mewn, ac eistedd i lawr gyda'r swyddogion diogelwch, a disgwyl i weld beth fyddai'n digwydd.
Matt WelBeibl 26:59  Roedd y prif offeiriaid a'r Sanhedrin (hynny ydy yr uchel-lys Iddewig) yn edrych am dystion oedd yn barod i ddweud celwydd am Iesu, er mwyn iddyn nhw ei ddedfrydu i farwolaeth.
Matt WelBeibl 26:60  Ond er i lawer o bobl ddod ymlaen a dweud celwydd amdano, chawson nhw ddim tystiolaeth allen nhw ei ddefnyddio yn ei erbyn. Yn y diwedd dyma ddau yn dod ymlaen
Matt WelBeibl 26:61  a dweud, “Dwedodd y dyn yma, ‘Galla i ddinistrio teml Dduw a'i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod.’”
Matt WelBeibl 26:62  Felly dyma'r archoffeiriad yn codi ar ei draed a dweud wrth Iesu, “Wel, oes gen ti ateb? Beth am y dystiolaeth yma yn dy erbyn di?”
Matt WelBeibl 26:63  Ond ddwedodd Iesu ddim. Yna dyma'r archoffeiriad yn dweud wrtho, “Dw i'n dy orchymyn di yn enw'r Duw byw i'n hateb ni! Ai ti ydy'r Meseia, mab Duw?”
Matt WelBeibl 26:64  “Ie,” meddai Iesu, “fel rwyt ti'n dweud. Ond dw i'n dweud wrthoch chi i gyd: Rhyw ddydd byddwch chi'n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda'r Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau'r awyr.”
Matt WelBeibl 26:65  Wrth glywed beth ddwedodd Iesu, dyma'r archoffeiriad yn rhwygo'i ddillad. “Cabledd!” meddai, “Pam mae angen tystion arnon ni?! Dych chi i gyd newydd ei glywed yn cablu.
Matt WelBeibl 26:66  Beth ydy'ch dyfarniad chi?” Dyma nhw'n ateb, “Rhaid iddo farw!”
Matt WelBeibl 26:67  Yna dyma nhw'n poeri yn ei wyneb a'i ddyrnu. Roedd rhai yn ei daro ar draws ei wyneb
Matt WelBeibl 26:68  ac yna'n dweud, “Tyrd! Proffwyda i ni, Feseia! Pwy wnaeth dy daro di y tro yna?”
Matt WelBeibl 26:69  Yn y cyfamser, roedd Pedr yn eistedd allan yn yr iard, a dyma un o'r morynion yn dod ato a dweud, “Roeddet ti'n un o'r rhai oedd gyda'r Galilead yna, Iesu!”
Matt WelBeibl 26:70  Ond gwadu'r peth wnaeth Pedr o flaen pawb. “Does gen i ddim syniad am beth wyt ti'n sôn,” meddai.
Matt WelBeibl 26:71  Aeth allan at y fynedfa i'r iard, a dyma forwyn arall yn ei weld yno, a dweud wrth y bobl o'i chwmpas, “Roedd hwn gyda Iesu o Nasareth.”
Matt WelBeibl 26:72  Ond gwadu'r peth wnaeth Pedr eto gan daeru: “Dw i ddim yn nabod y dyn!”
Matt WelBeibl 26:73  Ychydig wedyn, dyma rai eraill oedd yn sefyll yno yn mynd at Pedr a dweud, “Ti'n un ohonyn nhw'n bendant! Mae'n amlwg oddi wrth dy acen di.”
Matt WelBeibl 26:74  Dyma Pedr yn dechrau rhegi a melltithio, “Dw i ddim yn nabod y dyn!” meddai. A'r foment honno dyma'r ceiliog yn canu.
Matt WelBeibl 26:75  Yna cofiodd Pedr beth ddwedodd Iesu: “Byddi di wedi gwadu dy fod di'n fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu.” Aeth allan yn beichio crio.
Chapter 27
Matt WelBeibl 27:1  Yn gynnar iawn yn y bore, dyma'r holl brif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill yn penderfynu fod rhaid i Iesu gael ei ddedfrydu i farwolaeth.
Matt WelBeibl 27:2  Felly, dyma nhw'n ei rwymo a'i drosglwyddo i Peilat, y llywodraethwr.
Matt WelBeibl 27:3  Pan sylweddolodd Jwdas, y bradwr, fod Iesu'n mynd i gael ei ddienyddio, roedd yn edifar am beth wnaeth e. Aeth â'r tri deg darn arian yn ôl i'r prif offeiriaid a'r arweinwyr.
Matt WelBeibl 27:4  “Dw i wedi pechu;” meddai, “dw i wedi bradychu dyn cwbl ddieuog.” “Sdim ots gynnon ni,” medden nhw, “Dy gyfrifoldeb di ydy hynny.”
Matt WelBeibl 27:5  Felly dyma Jwdas yn taflu'r arian ar lawr y deml a mynd allan a chrogi ei hun.
Matt WelBeibl 27:6  Dyma'r prif offeiriaid yn codi'r darnau arian. “Allwn ni ddim rhoi'r arian yma yn nhrysorfa'r deml. Mae yn erbyn y Gyfraith i dderbyn arian gafodd ei dalu am ladd rhywun.”
Matt WelBeibl 27:7  Felly dyma nhw'n cytuno i ddefnyddio'r arian i brynu Maes y Crochenydd fel mynwent i gladdu pobl oedd ddim yn Iddewon.
Matt WelBeibl 27:8  A dyna pam mai ‛Maes y Gwaed‛ ydy'r enw arno hyd heddiw.
Matt WelBeibl 27:9  A dyna sut daeth geiriau'r proffwyd Jeremeia yn wir: “Dyma nhw'n cymryd y tri deg darn arian (dyna oedd ei werth yng ngolwg pobl Israel),
Matt WelBeibl 27:10  a phrynu maes y crochenydd, fel roedd yr Arglwydd wedi dweud.”
Matt WelBeibl 27:11  Yn y cyfamser, roedd Iesu'n sefyll ei brawf o flaen y llywodraethwr Rhufeinig. Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” “Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu.
Matt WelBeibl 27:12  Ond pan oedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr yn cyflwyno eu hachos yn ei erbyn, roedd Iesu'n gwrthod ateb.
Matt WelBeibl 27:13  A dyma Peilat yn gofyn iddo, “Wyt ti ddim yn clywed y cyhuddiadau yma sydd ganddyn nhw yn dy erbyn di?”
Matt WelBeibl 27:14  Ond wnaeth Iesu ddim ateb hyd yn oed un cyhuddiad. Doedd y peth yn gwneud dim sens i'r llywodraethwr.
Matt WelBeibl 27:15  Adeg y Pasg roedd hi'n arferiad gan y llywodraethwr i ryddhau un carcharor – un roedd y dyrfa'n ei ddewis.
Matt WelBeibl 27:16  Ar y pryd, roedd un carcharor roedd pawb yn gwybod amdano – dyn o'r enw Barabbas.
Matt WelBeibl 27:17  Felly pan oedd y dyrfa wedi ymgasglu, dyma Peilat yn gofyn iddyn nhw, “Pa un o'r ddau dych chi am i mi ei ollwng yn rhydd? Barabbas? neu Iesu, yr un sy'n cael ei alw ‛Y Meseia‛?”
Matt WelBeibl 27:18  (Roedd yn gwybod yn iawn eu bod wedi arestio Iesu am eu bod yn genfigennus ohono.)
Matt WelBeibl 27:19  Roedd Peilat yno'n eistedd yn sedd y barnwr pan ddaeth neges iddo oddi wrth ei wraig: “Mae'r dyn yna'n ddieuog – paid gwneud dim byd iddo. Ces i hunllef ofnadwy amdano neithiwr.”
Matt WelBeibl 27:20  Ond roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig wedi bod yn perswadio'r dyrfa i ofyn am ryddhau Barabbas, er mwyn gwneud yn siŵr fod Iesu'n cael ei ddienyddio.
Matt WelBeibl 27:21  Gofynnodd y llywodraethwr eto, “Pa un o'r ddau yma dych chi eisiau i mi ei ryddhau?” Dyma nhw'n ateb, “Barabbas!”
Matt WelBeibl 27:22  “Felly, beth dw i i'w wneud gyda'r Iesu yma, sy'n cael ei alw ‛Y Meseia‛?” Dyma nhw i gyd yn gweiddi, “Ei groeshoelio!”
Matt WelBeibl 27:23  “Pam?” meddai Peilat, “Beth mae e wedi'i wneud o'i le?” Ond dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uwch, “Croeshoelia fe!”
Matt WelBeibl 27:24  Dyma Peilat yn gweld fod dim pwynt cario ymlaen am fod y dyrfa'n dechrau cynhyrfu. Felly galwodd am ddŵr, a golchi ei ddwylo o flaen pawb. “Dim fi sy'n gyfrifol am ladd y dyn yma,” meddai. “Chi sy'n gyfrifol!”
Matt WelBeibl 27:25  Dyma'r bobl yn ateb gyda'i gilydd, “Iawn, ni fydd yn gyfrifol am y peth – ni a'n plant!”
Matt WelBeibl 27:26  Felly dyma Peilat yn rhyddhau Barabbas iddyn nhw. Wedyn gorchmynnodd fod Iesu i gael ei chwipio, ac yna ei ddedfrydu i gael ei groeshoelio.
Matt WelBeibl 27:27  Dyma filwyr Rhufeinig yn mynd â Iesu i'r palas (Pencadlys y llywodraethwr), a galw'r holl fintai i gasglu o'i gwmpas.
Matt WelBeibl 27:28  Dyma nhw'n tynnu ei ddillad a rhoi clogyn ysgarlad amdano,
Matt WelBeibl 27:29  plethu drain i wneud coron i'w rhoi ar ei ben, rhoi gwialen yn ei law dde a phenlinio o'i flaen a gwneud hwyl am ei ben. “Eich mawrhydi! Brenin yr Iddewon!” medden nhw.
Matt WelBeibl 27:30  Roedden nhw'n poeri arno, ac yn ei daro ar ei ben dro ar ôl tro gyda'r wialen.
Matt WelBeibl 27:31  Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw'n tynnu'r clogyn oddi arno a'i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw'n ei arwain allan i gael ei groeshoelio.
Matt WelBeibl 27:32  Ar eu ffordd allan, daeth dyn o Cyrene o'r enw Simon i'w cyfarfod, a dyma'r milwyr yn ei orfodi i gario croes Iesu.
Matt WelBeibl 27:33  Ar ôl cyrraedd y lle sy'n cael ei alw yn Golgotha (sef ‛Lle y Benglog‛),
Matt WelBeibl 27:34  dyma nhw'n cynnig diod o win wedi'i gymysgu gyda chyffur chwerw i Iesu, ond ar ôl ei flasu gwrthododd Iesu ei yfed.
Matt WelBeibl 27:35  Ar ôl ei hoelio ar y groes, dyma nhw'n gamblo i weld pwy fyddai'n cael ei ddillad.
Matt WelBeibl 27:36  Wedyn dyma nhw'n eistedd i lawr i gadw golwg arno.
Matt WelBeibl 27:37  Roedd arwydd uwch ei ben yn dweud beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn: DYMA IESU – BRENIN YR IDDEWON.
Matt WelBeibl 27:38  Cafodd dau leidr eu croeshoelio yr un pryd, un bob ochr iddo.
Matt WelBeibl 27:39  Roedd y bobl oedd yn pasio heibio yn gwneud sbort am ei ben, ac yn hyrddio enllibion ato,
Matt WelBeibl 27:40  “Felly! Ti sy'n mynd i ddinistrio'r deml a'i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod? Tyrd yn dy flaen! Achub dy hun! Tyrd i lawr o'r groes yna, os mai ti ydy Mab Duw go iawn!”
Matt WelBeibl 27:41  Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill yno hefyd yn cael sbort ymhlith ei gilydd.
Matt WelBeibl 27:42  “Roedd e'n achub pobl eraill,” medden nhw, “ond dydy e ddim yn gallu achub ei hun! Beth am iddo ddod i lawr oddi ar y groes yna, os mai Brenin Israel ydy e! Gwnawn ni gredu wedyn!
Matt WelBeibl 27:43  Mae'n dweud ei fod e'n trystio Duw, gadewch i ni weld Duw yn ei achub e! Onid oedd e'n dweud ei fod yn Fab Duw?”
Matt WelBeibl 27:44  Roedd hyd yn oed y lladron gafodd eu croeshoelio gydag e yn ei sarhau a'i enllibio.
Matt WelBeibl 27:45  O ganol dydd hyd dri o'r gloch y p'nawn aeth yn hollol dywyll drwy'r wlad i gyd.
Matt WelBeibl 27:46  Yna am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu'n uchel, “Eli! Eli! L'ma shfachtâni?” – sy'n golygu, “Fy Nuw! fy Nuw! Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?”
Matt WelBeibl 27:47  Pan glywodd rhai o'r bobl oedd yn sefyll yno hyn, medden nhw, “Mae'n galw ar y proffwyd Elias am help.”
Matt WelBeibl 27:48  Dyma un ohonyn nhw'n rhedeg ar unwaith i nôl ysbwng, a'i drochi mewn gwin sur rhad. Yna fe'i cododd ar flaen ffon i'w gynnig i Iesu ei yfed.
Matt WelBeibl 27:49  Ond dyma'r lleill yn dweud, “Gad lonydd iddo, i ni gael gweld os daw Elias i'w achub.”
Matt WelBeibl 27:50  Yna ar ôl gweiddi'n uchel eto, dyma Iesu'n marw.
Matt WelBeibl 27:51  Dyna'n union pryd wnaeth y llen oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner o'r top i'r gwaelod. Roedd y ddaear yn crynu a'r creigiau yn hollti,
Matt WelBeibl 27:52  a chafodd beddau eu hagor. (Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw cododd cyrff llawer iawn o bobl dduwiol
Matt WelBeibl 27:53  allan o'u beddau, a mynd i mewn i Jerwsalem, y ddinas sanctaidd, a gwelodd lot fawr o bobl nhw.)
Matt WelBeibl 27:54  Dyma'r daeargryn a phopeth arall ddigwyddodd yn dychryn y capten Rhufeinig a'r milwyr oedd wedi bod yn cadw golwg ar Iesu, ac medden nhw, “Mab Duw oedd e, reit siŵr!”
Matt WelBeibl 27:55  Roedd nifer o wragedd wedi bod yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell. Roedden nhw wedi dilyn Iesu yr holl ffordd o Galilea i ofalu fod ganddo bopeth oedd arno'i angen.
Matt WelBeibl 27:56  Roedd Mair Magdalen yn un ohonyn nhw, Mair mam Iago a Joseff, a mam Iago ac Ioan (sef gwraig Sebedeus) hefyd.
Matt WelBeibl 27:57  Ychydig cyn iddi nosi, dyma ddyn o'r enw Joseff (dyn cyfoethog o Arimathea oedd yn un o ddilynwyr Iesu) yn mynd at Peilat.
Matt WelBeibl 27:58  Aeth i ofyn i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu, a dyma Peilat yn gorchymyn rhoi'r corff iddo.
Matt WelBeibl 27:59  Dyma Joseff yn cymryd y corff a'i lapio mewn lliain glân.
Matt WelBeibl 27:60  Yna fe'i rhoddodd i orwedd yn ei fedd newydd ei hun, un wedi'i naddu yn y graig. Wedyn, ar ôl rholio carreg drom dros geg y bedd, aeth i ffwrdd.
Matt WelBeibl 27:61  Roedd Mair Magdalen a'r Fair arall wedi bod yno'n eistedd gyferbyn â'r bedd yn gwylio'r cwbl.
Matt WelBeibl 27:62  Y diwrnod wedyn, hynny ydy y dydd Saboth, dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid yn mynd i weld Peilat.
Matt WelBeibl 27:63  “Syr,” medden nhw wrtho, “un peth ddwedodd y twyllwr yna pan oedd e'n dal yn fyw oedd, ‘Bydda i'n dod yn ôl yn fyw ymhen deuddydd.’
Matt WelBeibl 27:64  Felly wnei di orchymyn i'r bedd gael ei wneud yn ddiogel hyd drennydd. Bydd hynny'n rhwystro'i ddisgyblion rhag dod a dwyn y corff, a mynd o gwmpas wedyn yn dweud wrth bobl ei fod wedi dod yn ôl yn fyw. Byddai'r twyll yna'n waeth na'r twyll cyntaf!”
Matt WelBeibl 27:65  “Cymerwch filwyr,” meddai Peilat, “ac ewch i wneud y bedd mor ddiogel ag y gallwch chi.”
Matt WelBeibl 27:66  Felly dyma nhw'n mynd a gosod sêl ar y garreg oedd dros geg y bedd, a rhoi milwyr ar ddyletswydd i'w gwarchod.
Chapter 28
Matt WelBeibl 28:1  Yna'n gynnar fore Sul, pan oedd y Saboth Iddewig drosodd, a hithau'n dechrau gwawrio, dyma Mair Magdalen a'r Fair arall yn mynd i edrych ar y bedd.
Matt WelBeibl 28:2  Yn sydyn roedd daeargryn mawr. Dyma angel yr Arglwydd yn dod i lawr o'r nefoedd a rholio'r garreg oddi ar geg y bedd ac eistedd arni.
Matt WelBeibl 28:3  Roedd wyneb yr angel yn disgleirio'n llachar fel mellten, a'i ddillad yn wyn fel eira.
Matt WelBeibl 28:4  Roedd y milwyr yn crynu gan ofn a dyma nhw'n llewygu.
Matt WelBeibl 28:5  Yna dyma'r angel yn dweud wrth y gwragedd, “Peidiwch bod ag ofn. Dw i'n gwybod eich bod chi'n edrych am Iesu, yr un gafodd ei groeshoelio.
Matt WelBeibl 28:6  Dydy e ddim yma; mae wedi dod yn ôl yn fyw! Dyna'n union beth ddwedodd fyddai'n digwydd. Dewch yma i weld lle bu'n gorwedd.
Matt WelBeibl 28:7  Yna ewch ar frys a dweud wrth ei ddisgyblion: ‘Mae Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac mae'n mynd i Galilea o'ch blaen chi. Cewch ei weld yno.’ Edrychwch, fi sydd wedi dweud wrthoch chi.”
Matt WelBeibl 28:8  Felly dyma'r gwragedd yn rhedeg ar frys o'r bedd i ddweud wrth y disgyblion. Roedden nhw wedi dychryn, ac eto'n teimlo rhyw wefr.
Matt WelBeibl 28:9  Yna'n sydyn dyma Iesu'n eu cyfarfod nhw. “Helo,” meddai. Dyma nhw'n rhedeg ato ac yn gafael yn ei draed a'i addoli.
Matt WelBeibl 28:10  “Peidiwch bod ag ofn,” meddai Iesu wrthyn nhw, “Ewch i ddweud wrth fy mrodyr am fynd i Galilea; byddan nhw'n cael fy ngweld i yno.”
Matt WelBeibl 28:11  Tra oedd y gwragedd ar eu ffordd, dyma rhai o'r milwyr yn mynd i'r ddinas i ddweud wrth y prif offeiriaid am bopeth oedd wedi digwydd.
Matt WelBeibl 28:12  Yna aeth y prif offeiriaid i gyfarfod gyda'r arweinwyr eraill i drafod beth i'w wneud. Dyma nhw'n penderfynu talu swm mawr o arian i'r milwyr
Matt WelBeibl 28:13  i ddweud celwydd. “Dyma beth dych chi i'w ddweud: medden nhw, ‘Daeth ei ddisgyblion yn ystod y nos a dwyn y corff tra oedden ni'n cysgu.’
Matt WelBeibl 28:14  Peidiwch poeni os bydd y llywodraethwr yn clywed y stori, deliwn ni gyda hynny a gwneud yn siŵr na chewch chi'ch cosbi.”
Matt WelBeibl 28:15  Felly dyma'r milwyr yn cymryd yr arian ac yn gwneud beth ddwedwyd wrthyn nhw. Dyma'r stori mae'r Iddewon i gyd yn dal i'w defnyddio heddiw!
Matt WelBeibl 28:16  Dyma'r un deg un disgybl yn mynd i Galilea, i'r mynydd lle roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw am fynd.
Matt WelBeibl 28:17  Pan welon nhw Iesu, dyma nhw'n ei addoli – ond roedd gan rai amheuon.
Matt WelBeibl 28:18  Wedyn dyma Iesu'n mynd atyn nhw ac yn dweud, “Dw i wedi cael awdurdod llwyr i reoli popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear.
Matt WelBeibl 28:19  Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a'u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas â'r Tad, a'r Mab a'r Ysbryd Glân.
Matt WelBeibl 28:20  A dysgwch nhw i wneud popeth dw i wedi'i ddweud wrthoch chi. Gallwch chi fod yn siŵr y bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod.”