Toggle notes
Chapter 1
Prov | WelBeibl | 1:2 | I dy helpu i fod yn ddoeth a dysgu byw yn iawn, ac i ti ddeall beth sy'n gyngor call. | |
Prov | WelBeibl | 1:5 | (Bydd y doeth yn gwrando ac eisiau dysgu mwy, a'r rhai sy'n gall yn derbyn arweiniad.) | |
Prov | WelBeibl | 1:7 | Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf at wybodaeth; does gan ffyliaid ddim diddordeb mewn bod yn ddoeth na dysgu byw yn iawn. | |
Prov | WelBeibl | 1:8 | Fy mab, gwrando ar beth mae dy dad yn ei ddweud, a phaid anghofio beth ddysgodd dy fam i ti. | |
Prov | WelBeibl | 1:9 | Bydd beth ddysgon nhw i ti fel torch hyfryd ar dy ben, neu gadwyni hardd am dy wddf. | |
Prov | WelBeibl | 1:11 | Os dwedan nhw, “Tyrd gyda ni! Gad i ni guddio i ymosod ar rywun; mygio rhywun diniwed am ddim rheswm! | |
Prov | WelBeibl | 1:12 | Gad i ni eu llyncu nhw'n fyw, fel y bedd; a rhoi crasfa iawn iddyn nhw, nes byddan nhw bron â marw. | |
Prov | WelBeibl | 1:19 | Ie, dyna sy'n digwydd i'r rhai sy'n elwa ar draul eraill; mae ymddwyn felly yn difetha bywyd y person ei hun! | |
Prov | WelBeibl | 1:21 | Mae'n sefyll ar gorneli'r strydoedd prysur ac yn galw allan; ac yn dweud ei dweud wrth giatiau'r ddinas: | |
Prov | WelBeibl | 1:22 | “Ydych chi, bobl wirion, yn mwynhau anwybodaeth? Ydych chi sy'n gwawdio am ddal ati? A chi rai dwl, ydych chi byth eisiau dysgu? | |
Prov | WelBeibl | 1:23 | Peidiwch diystyru beth dw i'n ddweud! Dw i'n mynd i dywallt fy nghalon, a dweud beth sydd ar fy meddwl wrthoch chi. | |
Prov | WelBeibl | 1:24 | Roeddech chi wedi gwrthod ymateb pan o'n i'n galw, ac yn cymryd dim sylw pan wnes i estyn llaw atoch chi. | |
Prov | WelBeibl | 1:25 | Roeddech chi'n diystyru'r cyngor oedd gen i ac yn gwrthod gwrando arna i'n ceryddu. | |
Prov | WelBeibl | 1:26 | Ond fi fydd yn chwerthin pan fyddwch chi mewn trafferthion; fi fydd yn gwawdio pan fyddwch chi'n panicio! | |
Prov | WelBeibl | 1:27 | Bydd dychryn yn dod arnoch chi fel storm, a thrychineb yn eich taro chi fel corwynt! Byddwch mewn helbul ac mewn argyfwng go iawn. | |
Prov | WelBeibl | 1:28 | Byddwch chi'n galw arna i bryd hynny, ond fydda i ddim yn ateb; byddwch chi'n chwilio'n daer amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi. | |
Prov | WelBeibl | 1:31 | Felly bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau eich ffyrdd, a byddwch wedi cael llond bol ar eich cynlluniau. | |
Prov | WelBeibl | 1:32 | Bydd anufudd-dod pobl wirion yn eu lladd nhw, a difaterwch pobl ddwl yn eu dinistrio. | |
Chapter 2
Prov | WelBeibl | 2:1 | Fy mab, os byddi di'n derbyn beth dw i'n ddweud, ac yn trysori'r hyn dw i'n ei orchymyn; | |
Prov | WelBeibl | 2:4 | os byddi'n ceisio doethineb fel arian ac yn chwilio amdani fel am drysor wedi'i guddio, | |
Prov | WelBeibl | 2:6 | Achos yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb; beth mae e'n ddweud sy'n rhoi gwybodaeth a deall. | |
Prov | WelBeibl | 2:7 | Mae'n rhoi llwyddiant i'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn – ac mae fel tarian i amddiffyn y sawl sy'n byw yn onest. | |
Prov | WelBeibl | 2:8 | Mae'n gwneud yn siŵr fod cyfiawnder yn llwyddo, ac mae'n gwarchod y rhai sy'n ffyddlon iddo. | |
Prov | WelBeibl | 2:10 | Pan fydd doethineb yn rheoli dy ffordd o feddwl a gwybod beth sydd orau yn dy gofleidio di, | |
Prov | WelBeibl | 2:16 | Bydd yn dy achub di rhag y wraig anfoesol, yr un lac ei moesau sy'n fflyrtian drwy'r adeg, | |
Prov | WelBeibl | 2:18 | Mae ei thŷ hi yn llwybr llithrig i farwolaeth; mae ei dilyn hi yn arwain i fyd y meirw. | |
Prov | WelBeibl | 2:19 | Does neb sy'n mynd ati hi'n gallu troi yn ôl, a chael eu hunain ar lwybr bywyd unwaith eto. | |
Prov | WelBeibl | 2:20 | Dilyn di ffordd y rhai sy'n byw yn dda, cadw at lwybrau'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn. | |
Prov | WelBeibl | 2:21 | Y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn fydd yn byw yn y tir, y rhai sy'n byw'n onest fydd yn cael aros yno. | |
Chapter 3
Prov | WelBeibl | 3:1 | Fy mab, paid anghofio beth dw i'n ei ddysgu i ti; cadw'r pethau dw i'n eu gorchymyn yn dy galon. | |
Prov | WelBeibl | 3:2 | Byddi'n byw yn hirach ac yn cael blynyddoedd da; bydd eu dilyn nhw yn gwneud byd o les i ti. | |
Prov | WelBeibl | 3:3 | Bydd yn garedig ac yn ffyddlon bob amser; clyma bethau felly fel cadwyn am dy wddf, ysgrifenna nhw ar lech ar dy galon. | |
Prov | WelBeibl | 3:7 | Paid meddwl dy fod ti'n glyfar; dangos barch at yr ARGLWYDD a throi dy gefn ar ddrygioni. | |
Prov | WelBeibl | 3:11 | Fy mab, paid diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD, na thorri dy galon pan mae e'n dy gywiro di. | |
Prov | WelBeibl | 3:12 | Achos mae'r ARGLWYDD yn disgyblu'r rhai mae'n eu caru, fel mae tad yn cosbi'r plentyn mae mor falch ohono. | |
Prov | WelBeibl | 3:18 | Mae hi fel coeden sy'n rhoi bywyd i'r rhai sy'n gafael ynddi, ac mae'r rhai sy'n dal gafael ynddi mor hapus! | |
Prov | WelBeibl | 3:19 | Doethineb yr ARGLWYDD osododd sylfeini'r ddaear; a'i ddeall e wnaeth drefnu'r bydysawd. | |
Prov | WelBeibl | 3:20 | Ei drefn e wnaeth i'r ffynhonnau dŵr dorri allan, ac i'r awyr roi dafnau o wlith. | |
Prov | WelBeibl | 3:21 | Fy mab, paid colli golwg ar gyngor doeth a'r ffordd iawn; dal dy afael ynddyn nhw. | |
Prov | WelBeibl | 3:24 | Pan fyddi'n gorwedd i lawr, fydd dim byd i'w ofni; byddi'n gorwedd ac yn gallu cysgu'n braf. | |
Prov | WelBeibl | 3:28 | Paid dweud wrth rywun, “Tyrd yn ôl rywbryd eto; bydda i'n dy helpu di yfory,” a thithau'n gallu gwneud hynny'n syth. | |
Prov | WelBeibl | 3:32 | Mae'n gas gan yr ARGLWYDD bobl sy'n twyllo, ond mae ganddo berthynas glòs gyda'r rhai sy'n onest. | |
Prov | WelBeibl | 3:33 | Mae melltith yr ARGLWYDD ar dai pobl ddrwg, ond mae e'n bendithio cartrefi'r rhai sy'n byw'n iawn. | |
Prov | WelBeibl | 3:34 | Mae e'n dirmygu'r rhai sy'n gwawdio pobl eraill, ond yn hael at y rhai gostyngedig. | |
Chapter 4
Prov | WelBeibl | 4:1 | Blant, clywch beth mae'ch tad yn ei ddysgu i chi. Gwrandwch, i chi ddysgu sut i fod yn ddoeth. | |
Prov | WelBeibl | 4:4 | Roedd dad yn fy nysgu i, ac yn dweud wrtho i, “Dal dy afael yn yr hyn dw i'n ddweud. Gwna beth dw i'n ei orchymyn, i ti gael bywyd da. | |
Prov | WelBeibl | 4:5 | Mynna fod yn ddoeth, mynna ddeall yn iawn; paid anghofio, na throi cefn ar beth dw i'n ddweud. | |
Prov | WelBeibl | 4:6 | Paid troi cefn ar ddoethineb – bydd hi'n dy warchod di; os gwnei di ei charu, bydd hi'n dy amddiffyn di. | |
Prov | WelBeibl | 4:7 | Mynna fod yn ddoeth o flaen popeth arall! Petai'n costio popeth sydd gen ti – mynna ddeall. | |
Prov | WelBeibl | 4:8 | Os byddi'n meddwl yn uchel ohoni, bydd hi'n dy helpu di; cofleidia hi, a bydd hi'n dod ag anrhydedd i ti. | |
Prov | WelBeibl | 4:13 | Dal yn dynn yn beth wyt ti'n ddysgu, paid gollwng gafael. Cadw'r cwbl yn saff – mae'n rhoi bywyd i ti! | |
Prov | WelBeibl | 4:16 | Allan nhw ddim cysgu heb fod wedi gwneud drwg. Maen nhw'n colli cwsg os nad ydyn nhw wedi baglu rhywun. | |
Prov | WelBeibl | 4:17 | Drygioni ydy'r bara sy'n eu cadw nhw'n fyw, A thrais ydy'r gwin maen nhw'n ei yfed! | |
Prov | WelBeibl | 4:18 | Mae llwybr y rhai sy'n byw yn iawn yn ddisglair fel y wawr, ac yn goleuo fwyfwy nes bydd hi'n ganol dydd. | |
Prov | WelBeibl | 4:19 | Ond mae ffordd pobl ddrwg yn dywyll; dŷn nhw ddim yn gwybod beth fydd yn eu baglu nhw. | |
Chapter 5
Prov | WelBeibl | 5:3 | Mae gwefusau'r wraig anfoesol yn diferu fel mêl, a'i geiriau hudol yn llyfn fel olew; | |
Prov | WelBeibl | 5:6 | Dydy hi'n gwybod dim am fywyd go iawn; mae hi ar goll – a ddim yn sylweddoli hynny. | |
Prov | WelBeibl | 5:9 | rhag i ti golli pob hunan-barch, ac i'w gŵr creulon gymryd dy fywyd oddi arnat ti. | |
Prov | WelBeibl | 5:10 | Rhag i bobl ddieithr lyncu dy gyfoeth di, ac i rywun arall gael popeth rwyt ti wedi gweithio'n galed amdano. | |
Prov | WelBeibl | 5:12 | Byddi'n dweud, “Pam wnes i gasáu disgyblaeth gymaint? Pam wnes i wrthod cymryd sylw o gerydd? | |
Prov | WelBeibl | 5:13 | Pam wnes i ddim gwrando ar fy athrawon, a chymryd sylw o'r rhai oedd yn fy nysgu i? | |
Prov | WelBeibl | 5:18 | Gad i dy ffynnon gael ei bendithio! Mwynha dy hun gyda'r wraig briodaist ti pan oeddet ti'n ifanc | |
Prov | WelBeibl | 5:19 | – dy ewig hyfryd, dy afr dlos. Gad i'w bronnau roi boddhad i ti, i ti ymgolli yn ei chariad bob amser. | |
Prov | WelBeibl | 5:20 | Fy mab, pam gwirioni ar ferch anfoesol? Ydy anwesu bronnau gwraig rhywun arall yn iawn? | |
Prov | WelBeibl | 5:21 | Cofia fod Duw yn gweld popeth ti'n wneud. Mae'n gweld y cwbl, o'r dechrau i'r diwedd. | |
Prov | WelBeibl | 5:22 | Bydd yr un sy'n gwneud drwg yn cael ei ddal gan ei ddrygioni – bydd wedi'i rwymo gan raffau ei bechod ei hun. | |
Chapter 6
Prov | WelBeibl | 6:1 | Fy mab, dywed dy fod wedi gwarantu benthyciad rhywun, ac wedi cytuno i dalu ei ddyledion. | |
Prov | WelBeibl | 6:2 | Os wyt mewn picil, wedi dy ddal gan dy eiriau ac wedi dy rwymo gan beth ddwedaist ti, | |
Prov | WelBeibl | 6:3 | dyma ddylet ti ei wneud i ryddhau dy hun (achos rwyt ti wedi chwarae i ddwylo'r person arall): dos ato i bledio am gael dy ryddhau. Dos, a'i blagio! | |
Prov | WelBeibl | 6:5 | Achub dy hun, fel carw yn dianc rhag yr heliwr, neu aderyn yn dianc o law'r adarwr. | |
Prov | WelBeibl | 6:6 | Ti'r diogyn, edrych ar y morgrugyn; astudia'i ffyrdd, a dysga sut i fod yn ddoeth. | |
Prov | WelBeibl | 6:8 | ac eto mae'n mynd ati i gasglu bwyd yn yr haf, a storio'r hyn sydd arno'i angen adeg y cynhaeaf. | |
Prov | WelBeibl | 6:9 | Am faint wyt ti'n mynd i orweddian yn dy wely, y diogyn? Pryd wyt ti'n mynd i ddeffro a gwneud rhywbeth? | |
Prov | WelBeibl | 6:10 | “Ychydig bach mwy o gwsg, pum munud arall! Swatio'n gyfforddus yn y gwely am ychydig.” | |
Prov | WelBeibl | 6:11 | Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon; bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog! | |
Prov | WelBeibl | 6:13 | Mae'n wincio ar bobl drwy'r adeg, mae ei draed yn aflonydd, ac mae'n pwyntio bys at bawb. | |
Prov | WelBeibl | 6:15 | Bydd trychineb annisgwyl yn ei daro! Yn sydyn bydd yn torri, a fydd dim gwella arno! | |
Prov | WelBeibl | 6:20 | Fy mab, gwna beth orchmynnodd dy dad i ti; paid troi dy gefn ar beth ddysgodd dy fam i ti. | |
Prov | WelBeibl | 6:22 | Ble bynnag fyddi di'n mynd, byddan nhw'n dy arwain di; pan fyddi'n gorwedd i orffwys, byddan nhw'n edrych ar dy ôl di; pan fyddi di'n deffro, byddan nhw'n rhoi cyngor i ti. | |
Prov | WelBeibl | 6:23 | Mae gorchymyn fel lamp, a dysgeidiaeth fel golau, ac mae cerydd a disgyblaeth yn arwain i fywyd. | |
Prov | WelBeibl | 6:25 | Paid gadael i'r awydd i'w chael hi afael ynot ti, na gadael iddi hi dy drapio di drwy fflyrtian â'i llygaid. | |
Prov | WelBeibl | 6:26 | Mae putain yn dy adael gyda dim ond torth o fara; ond mae gwraig dyn arall yn cymryd popeth – gall gostio dy fywyd! | |
Prov | WelBeibl | 6:29 | Mae cysgu gyda gwraig dyn arall yr un fath; does neb sy'n gwneud hynny yn osgoi cael ei gosbi. | |
Prov | WelBeibl | 6:31 | Ond os ydy e'n cael ei ddal, rhaid iddo dalu'n llawn; bydd yn colli popeth sydd ganddo. | |
Prov | WelBeibl | 6:32 | Does gan y rhai sy'n godinebu ddim sens o gwbl; dim ond rhywun sydd am ddinistrio'i hun sy'n gwneud peth felly. | |
Prov | WelBeibl | 6:34 | Bydd gŵr y wraig yn wyllt gynddeiriog; fydd e'n dangos dim trugaredd pan ddaw'r cyfle i ddial. | |
Chapter 7
Prov | WelBeibl | 7:2 | Gwna beth dw i'n ei orchymyn, i ti gael bywyd da; paid tynnu dy lygad oddi ar y pethau dw i'n eu dysgu. | |
Prov | WelBeibl | 7:5 | Bydd yn dy warchod di rhag y wraig anfoesol; rhag yr un lac ei moesau sy'n fflyrtian drwy'r adeg. | |
Prov | WelBeibl | 7:10 | Yn sydyn, dyma'r wraig yn dod allan i'w gyfarfod, wedi'i gwisgo fel putain – roedd ei bwriad hi'n amlwg. | |
Prov | WelBeibl | 7:14 | “Tyrd, mae gen i fwyd adre – cig yr offrwm rois i; dw i wedi gwneud popeth oedd ei angen. | |
Prov | WelBeibl | 7:15 | A dyma fi, wedi dod allan i dy gyfarfod di – roeddwn i'n edrych amdanat ti, a dyma ti! | |
Prov | WelBeibl | 7:16 | Dw i wedi paratoi'r gwely! Mae yna gynfasau glân arno, a chwilt lliwgar, hyfryd o'r Aifft. | |
Prov | WelBeibl | 7:18 | Tyrd, gad i ni ymgolli mewn pleserau rhywiol; mwynhau ein hunain yn caru drwy'r nos. | |
Prov | WelBeibl | 7:22 | Dyma'r llanc yn mynd ar ei hôl ar unwaith, fel ych yn mynd i'r lladd-dy, neu garw yn neidio i drap | |
Prov | WelBeibl | 7:23 | cyn i saeth ei drywanu! Roedd fel aderyn wedi hedfan yn syth i'r rhwyd, heb sylweddoli ei fod yn mynd i golli ei fywyd. | |
Prov | WelBeibl | 7:26 | Mae hi wedi achosi i lawer un syrthio; mae yna fyddin o ddynion cryf wedi diodde! | |
Chapter 8
Prov | WelBeibl | 8:5 | Chi rai gwirion, dysgwch sut mae bod yn gall; chi bobl ddwl, dysgwch chithau rywbeth. | |
Prov | WelBeibl | 8:6 | Gwrandwch, achos mae gen i bethau gwych i'w dweud; dw i am ddweud beth sy'n iawn wrthoch chi. | |
Prov | WelBeibl | 8:9 | Mae'r peth yn amlwg i unrhyw un sy'n gall, ac mae unrhyw un craff yn gweld eu bod yn iawn. | |
Prov | WelBeibl | 8:10 | Cymer beth dw i'n ei ddysgu, mae'n well nag arian; ac mae'r arweiniad dw i'n ei roi yn well na'r aur gorau.” | |
Prov | WelBeibl | 8:13 | Mae parchu'r ARGLWYDD yn golygu casáu'r drwg. Dw i'n casáu balchder snobyddlyd, pob ymddygiad drwg a thwyll. | |
Prov | WelBeibl | 8:15 | Fi sy'n rhoi'r gallu i frenhinoedd deyrnasu, ac i lywodraethwyr lunio cyfreithiau cyfiawn. | |
Prov | WelBeibl | 8:17 | Dw i'n caru'r rhai sy'n fy ngharu i, ac mae'r rhai sy'n chwilio amdana i yn fy nghael. | |
Prov | WelBeibl | 8:19 | Mae fy ffrwyth i'n well nag aur, ie, aur coeth, a'r cynnyrch sydd gen i yn well na'r arian gorau. | |
Prov | WelBeibl | 8:21 | Dw i'n rhoi etifeddiaeth gyfoethog i'r rhai sy'n fy ngharu, ac yn llenwi eu trysordai nhw. | |
Prov | WelBeibl | 8:25 | Doedd y mynyddoedd ddim wedi'u gosod yn eu lle, a doedd y bryniau ddim yn bodoli. | |
Prov | WelBeibl | 8:27 | Rôn i yno pan roddodd Duw y bydysawd yn ei le, a phan farciodd y gorwel ar wyneb y moroedd; | |
Prov | WelBeibl | 8:28 | pan roddodd y cymylau yn yr awyr, a phan wnaeth i'r ffynhonnau ddechrau tasgu dŵr; | |
Prov | WelBeibl | 8:29 | pan osododd ffiniau i'r môr, fel bod y dŵr ddim yn anufudd iddo; a phan osododd sylfeini'r ddaear. | |
Prov | WelBeibl | 8:30 | Rôn i yno fel crefftwr, yn rhoi pleser pur iddo bob dydd wrth ddawnsio a dathlu'n ddi-stop o'i flaen. | |
Prov | WelBeibl | 8:31 | Rôn i'n dawnsio ar wyneb y ddaear, ac roedd y ddynoliaeth yn rhoi pleser pur i mi. | |
Prov | WelBeibl | 8:32 | Nawr, blant, gwrandwch arna i; mae'r rhai sy'n gwneud beth dw i'n ddweud mor hapus. | |
Prov | WelBeibl | 8:34 | Mae'r rhai sy'n gwrando arna i yn derbyn y fath fendith, maen nhw'n gwylio amdana i wrth y drws bob dydd, yn disgwyl i mi ddod allan. | |
Chapter 9
Prov | WelBeibl | 9:7 | Ceisia gywiro rhywun balch sy'n gwawdio a chei lond ceg! Cerydda rywun drwg a byddi'n cael dy gam-drin. | |
Prov | WelBeibl | 9:8 | Cerydda'r un balch sy'n gwawdio, a bydd yn dy gasáu di; ond os gwnei di geryddu'r doeth bydd e'n diolch i ti. | |
Prov | WelBeibl | 9:9 | Rho gyngor i'r doeth, a byddan nhw'n ddoethach; dysga'r rhai sy'n byw yn iawn a byddan nhw'n dysgu mwy. | |
Prov | WelBeibl | 9:10 | Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf i fod yn ddoeth, ac mae nabod yr Un Sanctaidd yn rhoi deall. | |
Prov | WelBeibl | 9:12 | Os wyt ti'n ddoeth, mae hynny'n beth da i ti; ond os wyt ti'n falch, ti fydd yn wynebu'r canlyniadau. | |
Prov | WelBeibl | 9:13 | Mae'r wraig arall, sef Ffolineb, yn gwneud lot o sŵn; mae hi'n wirion, ac yn deall dim byd. | |
Prov | WelBeibl | 9:16 | Mae'n dweud wrth bobl sy'n brin o synnwyr cyffredin, “Dewch yma, chi bobl wirion! | |
Prov | WelBeibl | 9:17 | Mae dŵr sydd wedi'i ddwyn yn felys, a bara sy'n cael ei fwyta ar y slei yn flasus!” | |
Chapter 10
Prov | WelBeibl | 10:1 | Diarhebion Solomon: Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus; ond mae plentyn ffôl yn gwneud ei fam yn drist. | |
Prov | WelBeibl | 10:2 | Dydy ennill ffortiwn drwy dwyll o ddim lles, ond mae gonestrwydd yn achub bywyd o berygl marwol. | |
Prov | WelBeibl | 10:3 | Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gadael i rywun cyfiawn lwgu, ond mae'n rhwystro'r rhai drwg rhag cael beth maen nhw eisiau. | |
Prov | WelBeibl | 10:5 | Mae'r un sy'n casglu ei gnwd yn yr haf yn gall, ond yr un sy'n cysgu drwy'r cynhaeaf yn achosi cywilydd. | |
Prov | WelBeibl | 10:6 | Mae cawodydd o fendith yn disgyn ar y cyfiawn, ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb. | |
Prov | WelBeibl | 10:8 | Mae'r un sy'n ddoeth yn derbyn cyngor, ond mae'r ffŵl sy'n siarad dwli yn syrthio. | |
Prov | WelBeibl | 10:9 | Mae'r un sy'n byw yn onest yn byw'n ddibryder, ond bydd y gwir yn dod i'r golwg am yr un sy'n twyllo. | |
Prov | WelBeibl | 10:10 | Mae'r un sy'n wincio o hyd yn creu helynt, ond mae'r sawl sy'n ceryddu'n agored yn dod â heddwch. | |
Prov | WelBeibl | 10:11 | Mae geiriau person cyfiawn yn ffynnon sy'n rhoi bywyd, ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb. | |
Prov | WelBeibl | 10:13 | Mae pobl gall yn siarad yn ddoeth, ond gwialen sydd ei hangen ar rai sydd heb synnwyr cyffredin. | |
Prov | WelBeibl | 10:14 | Mae pobl ddoeth yn storio gwybodaeth, ond mae siarad dwl yn dod â dinistr yn agos. | |
Prov | WelBeibl | 10:16 | Gwobr y person sy'n byw'n iawn ydy bywyd, ond cosb am bechod ydy cyflog pobl ddrwg. | |
Prov | WelBeibl | 10:17 | Mae derbyn cyngor yn arwain i fywyd, ond gwrthod gwrando ar gerydd yn arwain ar gyfeiliorn. | |
Prov | WelBeibl | 10:18 | Mae'r un sy'n cuddio casineb yn twyllo, a'r sawl sy'n enllibio pobl eraill yn ffŵl. | |
Prov | WelBeibl | 10:19 | Mae siarad gormod yn siŵr o dramgwyddo rhywun; mae'r person call yn brathu ei dafod. | |
Prov | WelBeibl | 10:20 | Mae geiriau person da fel arian gwerthfawr, ond dydy syniadau pobl ddrwg yn dda i ddim. | |
Prov | WelBeibl | 10:21 | Mae cyngor person da yn fwyd i gynnal pobl, ond mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr cyffredin. | |
Prov | WelBeibl | 10:22 | Bendith yr ARGLWYDD sy'n cyfoethogi bywyd, dydy ymdrech ddynol yn ychwanegu dim ato. | |
Prov | WelBeibl | 10:23 | Mae ffŵl yn cael sbort wrth wneud drygau, ond doethineb sy'n rhoi mwynhad i bobl gall. | |
Prov | WelBeibl | 10:24 | Bydd yr hyn mae pobl ddrwg yn ei ofni yn digwydd iddyn nhw; ond bydd rhai sy'n byw'n iawn yn cael beth maen nhw eisiau. | |
Prov | WelBeibl | 10:25 | Fydd dim sôn am bobl ddrwg pan fydd y corwynt wedi mynd heibio, ond mae sylfeini'r rhai sy'n byw'n iawn yn aros yn gadarn. | |
Prov | WelBeibl | 10:27 | Mae parchu'r ARGLWYDD yn rhoi bywyd hir i chi, ond mae blynyddoedd y rhai drwg yn cael eu byrhau. | |
Prov | WelBeibl | 10:29 | Mae'r ARGLWYDD yn gaer i amddiffyn y rhai sy'n byw yn iawn, ond bydd pobl ddrwg yn cael eu dinistrio. | |
Prov | WelBeibl | 10:30 | Fydd y cyfiawn byth yn cael ei symud, ond fydd y rhai drwg ddim yn cael byw yn y tir. | |
Prov | WelBeibl | 10:31 | Mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn siarad yn gall, ond bydd y rhai sy'n twyllo yn cael eu tewi. | |
Chapter 11
Prov | WelBeibl | 11:1 | Mae'n gas gan yr ARGLWYDD glorian dwyllodrus, ond mae defnyddio pwysau cywir wrth ei fodd. | |
Prov | WelBeibl | 11:3 | Mae gonestrwydd yn arwain y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn, ond mae twyll yn dinistrio'r rhai sy'n twyllo. | |
Prov | WelBeibl | 11:5 | Mae cyfiawnder rhywun gonest yn dangos y ffordd iawn iddo, ond mae'r un sy'n gwneud drwg yn syrthio o achos ei ddrygioni. | |
Prov | WelBeibl | 11:6 | Mae cyfiawnder rhywun gonest yn ei achub ond mae'r un sy'n twyllo yn cael ei ddal gan ei driciau. | |
Prov | WelBeibl | 11:7 | Pan mae rhywun drwg yn marw, dyna ni – does dim gobaith; dydy'r cyfoeth oedd ganddo yn dda i ddim bellach. | |
Prov | WelBeibl | 11:8 | Mae'r cyfiawn yn cael ei achub rhag helyntion, a'r un sy'n gwneud drwg yn gorfod cymryd ei le! | |
Prov | WelBeibl | 11:9 | Mae'r annuwiol yn dinistrio pobl gyda'i eiriau, ond mae'r cyfiawn yn deall hynny ac yn cael ei arbed. | |
Prov | WelBeibl | 11:10 | Pan mae'r cyfiawn yn llwyddo mae'r ddinas wrth ei bodd; mae gweiddi llawen ynddi pan mae'r rhai drwg yn cael eu dinistrio. | |
Prov | WelBeibl | 11:11 | Mae dinas yn ffynnu pan mae pobl dda yn cael eu bendithio, ond mae geiriau pobl ddrwg yn ei dinistrio hi. | |
Prov | WelBeibl | 11:12 | Does dim sens gan rywun sy'n bychanu pobl eraill; mae'r person call yn cadw'n dawel. | |
Prov | WelBeibl | 11:13 | Mae'r un sy'n hel clecs yn bradychu cyfrinach, ond mae ffrind go iawn yn cadw cyfrinach. | |
Prov | WelBeibl | 11:14 | Heb arweiniad clir mae gwlad yn methu; mae llwyddiant yn dod gyda digon o gyngor doeth. | |
Prov | WelBeibl | 11:15 | Mae gwarantu benthyciad i rywun dieithr yn gofyn am drwbwl; gwell bod yn saff a gwrthod. | |
Prov | WelBeibl | 11:17 | Mae person caredig yn gwneud lles iddo'i hun, a rhywun sy'n greulon yn achosi trwbwl iddo'i hun. | |
Prov | WelBeibl | 11:18 | Dydy'r elw mae pobl ddrwg yn ei wneud yn ddim byd ond rhith, ond mae'r rhai sy'n gweithio dros gyfiawnder yn cael gwobr go iawn. | |
Prov | WelBeibl | 11:19 | Mae gwir gyfiawnder yn arwain at fywyd, ond dilyn y drwg yn arwain at farwolaeth. | |
Prov | WelBeibl | 11:20 | Mae'n gas gan yr ARGLWYDD bobl sy'n twyllo, ond mae'r rhai sy'n byw yn onest yn rhoi pleser iddo. | |
Prov | WelBeibl | 11:21 | Fydd pobl ddrwg yn sicr ddim yn osgoi cosb, ond bydd y rhai sy'n byw'n iawn yn cael mynd yn rhydd. | |
Prov | WelBeibl | 11:23 | Dim ond daioni mae'r cyfiawn eisiau'i weld, ond mae gobaith pobl ddrwg yn arwain i ddigofaint. | |
Prov | WelBeibl | 11:24 | Mae un yn rhoi yn hael, ac yn ennill mwy o gyfoeth, ac un arall yn grintachlyd, ac ar ei golled. | |
Prov | WelBeibl | 11:25 | Mae'r bobl sy'n fendith i eraill yn llwyddo, a'r rhai sy'n rhoi dŵr i eraill yn cael eu diwallu. | |
Prov | WelBeibl | 11:26 | Mae'r un sy'n cadw ei ŷd iddo'i hun yn haeddu melltith, ond mae'r un sy'n ei werthu yn cael ei fendithio. | |
Prov | WelBeibl | 11:27 | Mae'r un sy'n ymdrechu i wneud da yn ennill ffafr, ond drwg ddaw ar y rhai sy'n edrych am helynt. | |
Prov | WelBeibl | 11:28 | Bydd rhywun sy'n dibynnu ar ei gyfoeth yn syrthio, ond y rhai sy'n byw yn iawn yn blodeuo. | |
Prov | WelBeibl | 11:29 | Bydd yr un sy'n creu trwbwl i'w deulu yn etifeddu dim; bydd y ffŵl yn gaethwas i rywun sydd wedi bod yn ddoeth. | |
Prov | WelBeibl | 11:30 | Mae byw yn iawn yn dwyn ffrwyth, fel coeden sy'n rhoi bywyd; ond mae trais yn lladd pobl. | |
Chapter 12
Prov | WelBeibl | 12:1 | Mae rhywun sy'n barod i gael ei gywiro yn caru gwybodaeth, ond mae'r un sy'n gwrthod derbyn cerydd yn ddwl! | |
Prov | WelBeibl | 12:2 | Mae pobl dda yn profi ffafr yr ARGLWYDD, ond mae'r rhai sydd â chynlluniau cyfrwys yn cael eu cosbi ganddo. | |
Prov | WelBeibl | 12:3 | Dydy drygioni ddim yn rhoi sylfaen gadarn i fywyd, ond mae gwreiddiau dwfn gan y rhai sy'n byw yn iawn. | |
Prov | WelBeibl | 12:4 | Mae gwraig dda yn gwneud i'w gŵr deimlo fel brenin, ond mae un sy'n codi cywilydd arno fel cancr i'r esgyrn. | |
Prov | WelBeibl | 12:5 | Mae bwriadau'r rhai sy'n byw yn iawn yn dda, ond cyngor pobl ddrwg yn dwyllodrus. | |
Prov | WelBeibl | 12:6 | Mae geiriau pobl ddrwg yn barod i ymosod a lladd, ond bydd beth mae pobl gyfiawn yn ei ddweud yn eu hachub nhw. | |
Prov | WelBeibl | 12:7 | Mae pobl ddrwg yn cael eu dymchwel ac yn diflannu, ond mae cartrefi pobl dda yn sefyll yn gadarn. | |
Prov | WelBeibl | 12:8 | Mae person deallus yn cael enw da, ond mae'r rhai sy'n twyllo yn cael eu dirmygu. | |
Prov | WelBeibl | 12:9 | Mae'n well bod yn neb o bwys a gweithio i gynnal eich hun na chymryd arnoch eich bod yn rhywun ac eto heb fwyd. | |
Prov | WelBeibl | 12:10 | Mae pobl dda yn gofalu am eu hanifeiliaid, ond mae hyd yn oed ‛tosturi‛ pobl ddrwg yn greulon! | |
Prov | WelBeibl | 12:11 | Bydd yr un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond does dim sens gan yr un sy'n gwastraffu amser. | |
Prov | WelBeibl | 12:12 | Mae pobl ddrwg yn blysio am ffrwyth eu drygioni, ond gwreiddiau'r cyfiawn sy'n rhoi cnwd. | |
Prov | WelBeibl | 12:13 | Mae geiriau pobl ddrwg yn eu baglu nhw, ond mae'r un sy'n gwneud y peth iawn yn osgoi trafferthion. | |
Prov | WelBeibl | 12:14 | Mae rhywun yn derbyn canlyniadau beth mae'n ei ddweud, ac yn cael ei dalu am beth mae'n ei wneud. | |
Prov | WelBeibl | 12:15 | Mae'r ffŵl byrbwyll yn meddwl ei fod e'n gwybod orau, ond mae'r person doeth yn derbyn cyngor. | |
Prov | WelBeibl | 12:16 | Mae'r ffŵl yn dangos ar unwaith ei fod wedi gwylltio, ond mae'r person call yn anwybyddu'r ffaith ei fod wedi'i sarhau. | |
Prov | WelBeibl | 12:20 | Twyllo ydy bwriad y rhai sy'n cynllwynio i wneud drwg; ond mae'r rhai sy'n hybu heddwch yn profi llawenydd. | |
Prov | WelBeibl | 12:21 | Fydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn ddim yn cael niwed, ond bydd pobl ddrwg yn cael llwythi o drafferthion. | |
Prov | WelBeibl | 12:22 | Mae'n gas gan yr ARGLWYDD gelwydd, ond mae'r rhai sy'n dweud y gwir yn ei blesio. | |
Prov | WelBeibl | 12:23 | Mae person call yn cuddio beth mae'n ei wybod, ond mae ffyliaid yn cyhoeddi eu nonsens. | |
Prov | WelBeibl | 12:24 | Pobl sy'n gweithio'n galed fydd yn arweinwyr; bydd y rhai diog yn cael eu hunain yn gaethweision. | |
Prov | WelBeibl | 12:26 | Mae'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dangos y ffordd i'w ffrind, ond mae person drwg yn arwain rhywun ar gyfeiliorn. | |
Prov | WelBeibl | 12:27 | Does gan rywun diog byth helfa i'w rhostio, ond mae gan y gweithiwr caled gyfoeth gwerthfawr. | |
Chapter 13
Prov | WelBeibl | 13:1 | Mae plentyn doeth yn gwrando pan mae ei dad yn ei gywiro, ond dydy plant sy'n meddwl eu bod nhw'n gwybod yn well ddim yn gwrando ar gerydd. | |
Prov | WelBeibl | 13:2 | Mae canlyniadau da i eiriau caredig, ond dydy'r twyllwr yn cynnig dim byd ond trais. | |
Prov | WelBeibl | 13:3 | Mae'r person sy'n ffrwyno'i dafod yn diogelu ei hun, ond yr un sy'n methu cau ei geg yn dinistrio'i hun. | |
Prov | WelBeibl | 13:4 | Mae'r person diog eisiau pethau, ond yn cael dim; ond bydd y person gweithgar yn cael popeth mae e eisiau. | |
Prov | WelBeibl | 13:5 | Mae'r person cyfiawn yn casáu celwydd, ond y person drwg yn dwyn cywilydd a gwarth arno'i hun. | |
Prov | WelBeibl | 13:6 | Mae cyfiawnder yn amddiffyn y rhai sy'n byw yn iawn, ond mae'r pechadur yn cael ei faglu gan ei ddrygioni. | |
Prov | WelBeibl | 13:7 | Mae un heb ddim yn cymryd arno ei fod yn gyfoethog, ac un arall yn gyfoethog yn cymryd arno ei fod yn dlawd. | |
Prov | WelBeibl | 13:8 | Gall y cyfoethog gael ei fygwth am ei gyfoeth, ond dydy'r person tlawd ddim yn cael y broblem yna. | |
Prov | WelBeibl | 13:9 | Mae golau'r cyfiawn yn disgleirio'n llachar, ond mae'r person drwg fel lamp sy'n diffodd. | |
Prov | WelBeibl | 13:10 | Dydy balchder yn gwneud dim ond creu trafferthion; mae pobl ddoeth yn derbyn cyngor. | |
Prov | WelBeibl | 13:11 | Mae cyfoeth gafodd ei ennill heb ymdrech yn diflannu'n hawdd, ond bydd cyfoeth sydd wedi'i gasglu o dipyn i beth yn cynyddu. | |
Prov | WelBeibl | 13:12 | Mae gobaith sy'n cael ei ohirio yn torri'r galon, ond mae dymuniad sy'n dod yn wir fel pren sy'n rhoi bywyd. | |
Prov | WelBeibl | 13:13 | Bydd pethau'n mynd yn ddrwg i'r un sy'n gwrthod cyngor, ond bydd y person sy'n gwrando ar orchymyn yn cael ei wobrwyo. | |
Prov | WelBeibl | 13:14 | Mae dysgu gan rai doeth fel ffynnon sy'n rhoi bywyd, ac yn cadw rhywun rhag syrthio i faglau marwolaeth. | |
Prov | WelBeibl | 13:15 | Mae dangos tipyn o sens yn ennill ffafr, ond mae byw fel twyllwr yn arwain at ddinistr. | |
Prov | WelBeibl | 13:17 | Mae negesydd gwael yn achosi dinistr, ond mae negesydd ffyddlon yn dod ag iachâd. | |
Prov | WelBeibl | 13:18 | Tlodi a chywilydd fydd i'r un sy'n gwrthod cael ei gywiro; ond bydd y sawl sy'n gwrando ar gerydd yn cael ei ganmol. | |
Prov | WelBeibl | 13:19 | Mae dymuniad wedi'i gyflawni yn beth melys, ond mae'n gas gan ffyliaid droi cefn ar ddrwg. | |
Prov | WelBeibl | 13:20 | Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi'n ddoeth, ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl. | |
Prov | WelBeibl | 13:21 | Mae helyntion yn dilyn pechaduriaid, ond bydd bywyd yn dda i'r rhai sy'n byw'n gyfiawn. | |
Prov | WelBeibl | 13:22 | Mae person da yn gadael etifeddiaeth i'w wyrion a'i wyresau, ond mae cyfoeth pechaduriaid yn mynd i'r rhai sy'n byw'n gyfiawn. | |
Prov | WelBeibl | 13:23 | Mae digon o fwyd yn tyfu ar dir pobl dlawd, ond mae anghyfiawnder yn ei ysgubo i ffwrdd. | |
Prov | WelBeibl | 13:24 | Mae'r sawl sy'n atal y wialen yn casáu ei blentyn; mae'r un sy'n ei garu yn ei ddisgyblu o'r dechrau cyntaf. | |
Chapter 14
Prov | WelBeibl | 14:1 | Mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei chartref, ond mae'r un ffôl yn ei rwygo i lawr â'i dwylo ei hun. | |
Prov | WelBeibl | 14:2 | Mae'r person sy'n byw'n iawn yn parchu'r ARGLWYDD, ond mae'r rhai sy'n twyllo yn ei ddirmygu. | |
Prov | WelBeibl | 14:3 | Mae siarad balch y ffŵl yn wialen ar ei gefn, ond mae geiriau'r doeth yn ei amddiffyn. | |
Prov | WelBeibl | 14:6 | Mae gwawdiwr yn chwilio am ddoethineb, ac yn methu ei gael; ond mae person deallus yn dysgu'n rhwydd. | |
Prov | WelBeibl | 14:8 | Mae person call yn gwybod ble mae e'n mynd, ond mae ffyliaid yn mynd ar goll yn eu ffolineb. | |
Prov | WelBeibl | 14:9 | Mae ffyliaid yn gwawdio offrwm dros euogrwydd, ond mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn profi ffafr Duw. | |
Prov | WelBeibl | 14:10 | Dim ond y galon ei hun sy'n gwybod pa mor chwerw ydy hi, a does neb arall yn gallu rhannu'i llawenydd. | |
Prov | WelBeibl | 14:11 | Bydd tai pobl ddrwg yn syrthio, ond bydd cartre'r un sy'n byw'n iawn yn llwyddo. | |
Prov | WelBeibl | 14:12 | Mae yna ffordd o fyw sy'n edrych yn iawn i bobl, ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw. | |
Prov | WelBeibl | 14:13 | Gall y galon fod yn drist hyd yn oed pan mae rhywun yn chwerthin, ac mae hapusrwydd yn gallu troi'n dristwch yn y diwedd. | |
Prov | WelBeibl | 14:14 | Bydd pobl ddiegwyddor yn wynebu canlyniadau eu ffyrdd, ond pobl dda yn cael eu gwobrwyo am eu gweithredoedd. | |
Prov | WelBeibl | 14:16 | Mae rhywun doeth yn cymryd gofal, ac yn troi cefn ar ddrygioni, ond mae'r ffŵl yn rhy hyderus ac yn rhuthro i mewn yn fyrbwyll. | |
Prov | WelBeibl | 14:17 | Mae rhywun sy'n fyr ei dymer yn gwneud pethau ffôl, ac mae'n gas gan bobl rai sydd â chynlluniau cyfrwys. | |
Prov | WelBeibl | 14:18 | Mae pobl ddiniwed yn etifeddu ffolineb, ond pobl gall yn cael eu coroni â gwybodaeth. | |
Prov | WelBeibl | 14:19 | Bydd pobl ddrwg yn ymgrymu o flaen y da, a'r rhai wnaeth ddrwg yn disgwyl wrth giatiau'r cyfiawn. | |
Prov | WelBeibl | 14:20 | Mae hyd yn oed cymdogion y person tlawd yn ei gasáu, ond mae gan y cyfoethog lot o ffrindiau. | |
Prov | WelBeibl | 14:21 | Mae rhywun sy'n malio dim am bobl eraill yn pechu, ond mae bendith fawr i'r rhai sy'n helpu pobl mewn angen. | |
Prov | WelBeibl | 14:22 | Onid ydy'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn mynd ar goll? Ond mae'r rhai sy'n bwriadu gwneud daioni yn garedig ac yn ffyddlon. | |
Prov | WelBeibl | 14:25 | Mae tyst sy'n dweud y gwir yn achub bywydau, ond mae'r un sy'n palu celwyddau yn dwyllwr. | |
Prov | WelBeibl | 14:27 | Mae parchu'r ARGLWYDD yn ffynnon sy'n rhoi bywyd, ac yn troi rhywun oddi wrth faglau marwolaeth. | |
Prov | WelBeibl | 14:28 | Mae bod yn frenin ar boblogaeth fawr yn anrhydedd, ond heb bobl dydy llywodraethwr yn neb. | |
Prov | WelBeibl | 14:29 | Mae rheoli'ch tymer yn beth call iawn i'w wneud, ond mae colli'ch tymer yn dangos eich bod yn ddwl. | |
Prov | WelBeibl | 14:31 | Mae'r un sy'n gormesu'r tlawd yn amharchu ei Grëwr, ond mae bod yn garedig at rywun mewn angen yn anrhydeddu Duw. | |
Prov | WelBeibl | 14:32 | Mae pobl ddrwg yn cael eu dymchwel gan eu drygioni eu hunain, ond mae gonestrwydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn eu cadw nhw'n saff. | |
Prov | WelBeibl | 14:33 | Mae doethineb yn eistedd yn gyfforddus ym meddwl rhywun sy'n synhwyrol, ond ydy ffyliaid yn gwybod amdano o gwbl? | |
Chapter 15
Prov | WelBeibl | 15:2 | Mae geiriau person doeth yn hybu gwybodaeth, ond mae cegau ffyliaid yn chwydu ffolineb. | |
Prov | WelBeibl | 15:4 | Mae gair caredig fel coeden sy'n rhoi bywyd, ond mae dweud celwydd yn torri calon. | |
Prov | WelBeibl | 15:5 | Mae'r ffŵl yn diystyru disgyblaeth ei dad, ond mae'r sawl sy'n gwrando ar gerydd yn gall. | |
Prov | WelBeibl | 15:6 | Mae digon o gyfoeth yn nhŷ person cyfiawn, ond trafferthion fydd unig gyflog pobl ddrwg. | |
Prov | WelBeibl | 15:8 | Mae'n gas gan yr ARGLWYDD offrymau pobl ddrwg, ond mae gweddi'r rhai sy'n byw yn iawn yn ei blesio. | |
Prov | WelBeibl | 15:9 | Mae'n gas gan yr ARGLWYDD ymddygiad pobl ddrwg, ond mae'n caru'r rhai sy'n trio byw'n iawn. | |
Prov | WelBeibl | 15:10 | Mae'r un sydd wedi troi cefn ar y ffordd yn cael ei ddisgyblu'n llym; bydd yr un sy'n gwrthod cael ei gywiro yn marw. | |
Prov | WelBeibl | 15:11 | Mae'r ARGLWYDD yn gweld beth sy'n digwydd yn Annwn, felly mae'n sicr yn gwybod beth sy'n mynd drwy feddyliau pobl! | |
Prov | WelBeibl | 15:12 | Dydy'r un sy'n gwawdio pobl eraill ddim yn hoffi cael ei gywiro; dydy e ddim yn fodlon gofyn cyngor gan rywun doeth. | |
Prov | WelBeibl | 15:13 | Mae calon lawen yn rhoi gwên ar yr wyneb, ond mae calon drist yn llethu'r ysbryd. | |
Prov | WelBeibl | 15:15 | Mae pobl sy'n diodde yn cael bywyd caled, ond mae bodlonrwydd fel gwledd ddiddiwedd. | |
Prov | WelBeibl | 15:16 | Mae ychydig bach gan rywun sy'n parchu'r ARGLWYDD yn well na chyfoeth mawr gyda helbulon. | |
Prov | WelBeibl | 15:18 | Mae rhywun sy'n fyr ei dymer yn creu helynt, ond mae person amyneddgar yn tawelu ffrae. | |
Prov | WelBeibl | 15:19 | Mae'r ffordd mae person diog yn ymddwyn fel llwyn o fieri, ond mae llwybr yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn fel priffordd agored. | |
Prov | WelBeibl | 15:20 | Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus, ond plentyn ffôl yn dangos dim parch at ei fam. | |
Prov | WelBeibl | 15:21 | Mae chwarae'r ffŵl yn hwyl i rywun heb sens, ond mae person call yn cadw ar y llwybr iawn. | |
Prov | WelBeibl | 15:22 | Mae cynlluniau'n mynd ar chwâl heb ymgynghori, ond yn llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor. | |
Prov | WelBeibl | 15:25 | Bydd yr ARGLWYDD yn chwalu tŷ'r balch, ond mae'n gwneud eiddo'r weddw yn ddiogel. | |
Prov | WelBeibl | 15:26 | Mae'n gas gan yr ARGLWYDD feddyliau drwg, ond mae geiriau caredig yn bur yn ei olwg. | |
Prov | WelBeibl | 15:27 | Mae rhywun sy'n elwa ar draul eraill yn creu trwbwl i'w deulu, ond bydd yr un sy'n gwrthod breib yn cael byw. | |
Prov | WelBeibl | 15:28 | Mae'r person cyfiawn yn meddwl cyn ateb, tra mae'r person drwg yn chwydu aflendid. | |
Prov | WelBeibl | 15:29 | Mae'r ARGLWYDD yn cadw draw oddi wrth bobl ddrwg, ond mae'n gwrando ar weddi'r rhai sy'n byw'n gywir. | |
Prov | WelBeibl | 15:32 | Mae'r un sy'n gwrthod cael ei gywiro yn ei gasáu ei hun, ond yr un sy'n gwrando ar gerydd yn dangos synnwyr. | |
Chapter 16
Prov | WelBeibl | 16:2 | Mae pobl bob amser yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn, ond mae'r ARGLWYDD yn pwyso a mesur y cymhellion. | |
Prov | WelBeibl | 16:4 | Mae gan yr ARGLWYDD bwrpas i bopeth mae'n ei wneud, hyd yn oed pobl ddrwg ar gyfer dydd dinistr. | |
Prov | WelBeibl | 16:5 | Mae'n gas gan yr ARGLWYDD bobl falch; fyddan nhw'n sicr ddim yn osgoi cael eu cosbi. | |
Prov | WelBeibl | 16:6 | Mae caredigrwydd a ffyddlondeb yn cuddio beiau pobl eraill, a dangos parch at yr ARGLWYDD yn troi rhywun oddi wrth ddrwg. | |
Prov | WelBeibl | 16:7 | Pan mae ymddygiad rhywun yn plesio'r ARGLWYDD, mae hyd yn oed ei elynion yn troi'n ffrindiau. | |
Prov | WelBeibl | 16:9 | Mae pobl yn gallu cynllunio beth i'w wneud, ond yr ARGLWYDD sy'n arwain y ffordd. | |
Prov | WelBeibl | 16:11 | Mae'r ARGLWYDD eisiau clorian deg; rhaid i bob un o'r pwysau sydd yn y god fod yn gywir. | |
Prov | WelBeibl | 16:12 | Mae brenhinoedd yn casáu torcyfraith, am mai cyfiawnder sy'n gwneud gorsedd yn ddiogel. | |
Prov | WelBeibl | 16:14 | Mae gwylltio brenin yn arwain i farwolaeth ond bydd person doeth yn gallu ei dawelu. | |
Prov | WelBeibl | 16:15 | Mae gwên ar wyneb y brenin yn arwain i fywyd; mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn. | |
Prov | WelBeibl | 16:16 | Mae dysgu bod yn ddoeth yn llawer gwell nag aur; a chael deall yn well nag arian. | |
Prov | WelBeibl | 16:17 | Mae ffordd glir o flaen yr un sy'n osgoi drygioni; ac mae'r person sy'n gwylio ble mae'n mynd yn saff. | |
Prov | WelBeibl | 16:20 | Mae'r un sy'n gwrando ar neges Duw yn llwyddo, a'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn hapus. | |
Prov | WelBeibl | 16:21 | Mae'r person doeth yn cael ei gyfri'n gall, ac mae geiriau caredig yn helpu rhywun i ddysgu. | |
Prov | WelBeibl | 16:22 | Mae synnwyr cyffredin fel ffynnon sy'n rhoi bywyd i rywun, ond mae ffyliaid yn talu'r pris am eu ffolineb. | |
Prov | WelBeibl | 16:25 | Mae yna ffordd o fyw sy'n edrych yn iawn i bobl, ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw. | |
Prov | WelBeibl | 16:26 | Mae'r angen am fwyd yn gwneud i rywun weithio'n galed, a bol gwag yn ei yrru yn ei flaen. | |
Prov | WelBeibl | 16:29 | Mae person treisgar yn denu pobl, ac yn eu harwain nhw i wneud pethau sydd ddim yn dda. | |
Prov | WelBeibl | 16:30 | Mae'n wincio pan mae'n bwriadu twyllo, a rhoi ei fys ar ei wefusau wrth wneud drwg. | |
Chapter 17
Prov | WelBeibl | 17:1 | Mae crystyn sych a thipyn o heddwch yn well na gwledd fawr lle mae pobl yn ffraeo. | |
Prov | WelBeibl | 17:2 | Bydd gwas da yn rheoli mab sy'n achos cywilydd, a bydd yn rhannu'r etifeddiaeth fel un o'r teulu. | |
Prov | WelBeibl | 17:4 | Mae'r rhai sy'n gwneud drwg yn gwrando ar gyngor drwg; a'r un sy'n dweud celwydd yn rhoi sylw i eiriau maleisus. | |
Prov | WelBeibl | 17:5 | Mae'r sawl sy'n chwerthin ar y tlawd yn amharchu ei Grëwr; a bydd yr un sy'n mwynhau gweld trychineb yn cael ei gosbi. | |
Prov | WelBeibl | 17:9 | Mae'r sawl sy'n cuddio bai yn ceisio cyfeillgarwch, ond yr un sy'n hel clecs yn colli ffrindiau. | |
Prov | WelBeibl | 17:10 | Mae gair o gerydd yn gwneud mwy o argraff ar ddyn doeth na chwipio ffŵl gant o weithiau. | |
Prov | WelBeibl | 17:11 | Dydy rhywun drwg ddim ond eisiau gwrthryfela; felly bydd swyddog creulon yn cael ei anfon yn ei erbyn. | |
Prov | WelBeibl | 17:14 | Mae dechrau ffrae fel crac mewn argae; gwell tewi cyn i bethau fynd yn draed moch. | |
Prov | WelBeibl | 17:16 | Wnaiff arian yn llaw ffŵl ddim prynu doethineb. Pam talu am wersi, ac yntau ddim eisiau deall? | |
Prov | WelBeibl | 17:19 | Mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi trafferthion, a'r un sy'n brolio yn gofyn am drwbwl. | |
Prov | WelBeibl | 17:20 | Fydd yr un sy'n twyllo ddim yn llwyddo; mae'r rhai sy'n edrych am helynt yn mynd i drafferthion. | |
Prov | WelBeibl | 17:21 | Mae'r un sy'n magu plentyn ffôl yn profi tristwch; does dim mwynhad i dad plentyn gwirion. | |
Prov | WelBeibl | 17:24 | Mae'r person craff yn gweld yn glir beth sy'n ddoeth, ond dydy'r ffŵl ddim yn gwybod ble i edrych. | |
Prov | WelBeibl | 17:26 | Dydy cosbi rhywun dieuog ddim yn iawn; byddai fel rhoi curfa i swyddog llys am fod yn onest. | |
Prov | WelBeibl | 17:27 | Mae'r un sy'n brathu ei dafod yn dangos synnwyr cyffredin, a'r person pwyllog yn dangos ei fod yn gall. | |
Chapter 18
Prov | WelBeibl | 18:10 | Mae enw'r ARGLWYDD fel tŵr solet; mae'r rhai sy'n byw'n iawn yn rhedeg ato i fod yn saff. | |
Prov | WelBeibl | 18:11 | Ond caer ddiogel y cyfoethog ydy ei gyfoeth; mae'n dychmygu ei fod yn wal uchel i'w amddiffyn. | |
Prov | WelBeibl | 18:12 | Cyn i'r chwalfa ddod roedd digon o frolio; gostyngeiddrwydd sy'n arwain i anrhydedd. | |
Prov | WelBeibl | 18:13 | Mae ateb rhywun yn ôl cyn gwrando arno yn beth dwl i'w wneud, ac yn dangos diffyg parch. | |
Prov | WelBeibl | 18:14 | Gall ysbryd rhywun ei gynnal drwy afiechyd; ond mae iselder ysbryd yn faich trwm i'w gario. | |
Prov | WelBeibl | 18:17 | Mae'r cyntaf i gyflwyno ei dystiolaeth yn ymddangos yn iawn nes i rywun ddod a'i groesholi. | |
Prov | WelBeibl | 18:19 | Mae perthynas wedi digio yn ystyfnig fel caer; a chwerylon fel barrau i gloi giatiau castell. | |
Prov | WelBeibl | 18:21 | Mae'r tafod yn gallu rhoi bywyd a marwolaeth; ac mae'r rhai sy'n hoffi siarad yn gorfod byw gyda'u geiriau. | |
Prov | WelBeibl | 18:22 | Mae'r dyn sydd wedi ffeindio gwraig yn hapus; mae'r ARGLWYDD wedi bod yn dda ato. | |
Chapter 19
Prov | WelBeibl | 19:2 | Dydy sêl heb ddeall ddim yn beth da; mae'r rhai sydd ar ormod o frys yn colli'r ffordd. | |
Prov | WelBeibl | 19:3 | Ffolineb pobl sy'n difetha'u bywydau, ond maen nhw'n dal dig yn erbyn yr ARGLWYDD. | |
Prov | WelBeibl | 19:4 | Mae cyfoeth yn denu llawer o ffrindiau, ond mae ffrind person tlawd yn troi cefn arno. | |
Prov | WelBeibl | 19:5 | Bydd tyst celwyddog yn cael ei gosbi; fydd rhywun sy'n palu celwyddau ddim yn dianc. | |
Prov | WelBeibl | 19:6 | Mae llawer yn crafu i ennill ffafr pobl bwysig, ac mae pawb eisiau bod yn ffrindiau gyda rhywun hael. | |
Prov | WelBeibl | 19:7 | Mae perthnasau rhywun tlawd eisiau cael gwared ag e; does dim syndod fod ei ffrindiau'n ei osgoi! Mae'n gofyn am help, ond does dim ymateb. | |
Prov | WelBeibl | 19:8 | Mae'r person doeth yn caru ei fywyd, a'r un sy'n gwneud yn siŵr ei fod yn deall yn hapus. | |
Prov | WelBeibl | 19:9 | Bydd tyst celwyddog yn cael ei gosbi; mae wedi darfod ar rywun sy'n palu celwyddau. | |
Prov | WelBeibl | 19:10 | Dydy byw'n foethus ddim yn gweddu i ffŵl; llai fyth, caethwas yn rheoli ei feistr. | |
Prov | WelBeibl | 19:11 | Mae rhywun call yn rheoli ei dymer; mae i'w ganmol am faddau i rywun sy'n pechu yn ei erbyn. | |
Prov | WelBeibl | 19:13 | Mae plentyn ffôl yn achosi trafferthion i'w dad, a gwraig sy'n swnian fel dŵr yn diferu'n ddi-baid. | |
Prov | WelBeibl | 19:14 | Mae plant yn etifeddu tŷ ac eiddo gan eu rhieni, ond yr ARGLWYDD sy'n rhoi gwraig ddoeth. | |
Prov | WelBeibl | 19:16 | Mae'r sawl sy'n cadw'r gorchmynion yn cael byw, ond bydd yr un sy'n diystyru ei ffyrdd yn marw. | |
Prov | WelBeibl | 19:17 | Mae rhoi yn hael i'r tlawd fel benthyg i'r ARGLWYDD; bydd e'n talu'n ôl iddo am fod mor garedig. | |
Prov | WelBeibl | 19:19 | Mae'r un sy'n fyr ei dymer yn gorfod talu'r pris; os wyt am ei helpu, byddi'n gorfod gwneud hynny fwy nag unwaith. | |
Prov | WelBeibl | 19:21 | Mae gan bobl bob math o gynlluniau, ond cynllun yr ARGLWYDD fydd yn cael ei gyflawni. | |
Prov | WelBeibl | 19:22 | Mae ffyddlondeb yn beth dymunol mewn person; gwell bod yn dlawd na dweud celwydd. | |
Prov | WelBeibl | 19:23 | Mae parchu'r ARGLWYDD yn arwain i fywyd; mae person felly yn dawel ei feddwl, ac yn ofni dim drwg. | |
Prov | WelBeibl | 19:25 | Cura'r un sy'n gwawdio, a bydd y gwirion yn dysgu gwers; cywira rywun call a bydd yn dysgu mwy fyth. | |
Prov | WelBeibl | 19:26 | Mae plentyn sy'n dwyn oddi ar ei dad ac yn gyrru ei fam o'i chartref yn achos cywilydd a gwarth. | |
Prov | WelBeibl | 19:27 | Fy mab, os byddi'n stopio gwrando pan wyt ti'n cael dy gywiro, byddi wedi troi dy gefn ar ddoethineb. | |
Prov | WelBeibl | 19:28 | Mae tyst sy'n twyllo yn dibrisio cyfiawnder, a phobl ddrwg wrth eu boddau gyda chelwydd. | |
Chapter 20
Prov | WelBeibl | 20:1 | Mae gwin yn gwawdio, a chwrw yn creu helynt; dydy'r rhai sy'n meddwi ddim yn ddoeth. | |
Prov | WelBeibl | 20:2 | Mae brenin sy'n bygwth fel llew yn rhuo; mae'r sawl sy'n ei wylltio yn mentro'i fywyd. | |
Prov | WelBeibl | 20:4 | Os nad ydy'r dyn diog yn aredig yn y gwanwyn, pan ddaw'r cynhaeaf, fydd e'n cael dim byd. | |
Prov | WelBeibl | 20:5 | Mae bwriad y meddwl dynol fel dŵr dwfn, ond gall person deallus ei ddwyn i'r golwg. | |
Prov | WelBeibl | 20:6 | Mae llawer o bobl yn honni bod yn ffrindiau triw, ond pwy allwch chi ei drystio go iawn? | |
Prov | WelBeibl | 20:7 | Pan mae rhywun yn byw bywyd cyfiawn a gonest, mae ei blant wedi'u bendithio'n fawr. | |
Prov | WelBeibl | 20:8 | Mae brenin sy'n eistedd ar yr orsedd i farnu yn gallu gwahaniaethu rhwng drwg a da. | |
Prov | WelBeibl | 20:9 | Oes unrhyw un yn gallu dweud, “Dw i wedi cadw fy nghalon yn lân; dw i'n hollol lân a heb bechod”? | |
Prov | WelBeibl | 20:11 | Mae'r ffordd mae person ifanc yn ymddwyn yn dangos ydy e'n gymeriad glân a gonest ai peidio. | |
Prov | WelBeibl | 20:13 | Paid bod yn rhy hoff o dy gwsg, rhag i ti fynd yn dlawd; cadw'n effro, a bydd gen ti ddigon i'w fwyta. | |
Prov | WelBeibl | 20:14 | Mae'r prynwr yn dadlau, “Dydy e ddim yn werth rhyw lawer,” ond yna'n mynd i ffwrdd ac yn brolio'i hun am gael bargen. | |
Prov | WelBeibl | 20:15 | Mae digonedd o aur i'w gael, a pherlau hefyd; mae geiriau doeth fel gem werthfawr. | |
Prov | WelBeibl | 20:16 | Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun; cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros bobl ddieithr. | |
Prov | WelBeibl | 20:17 | Falle fod bwyd sydd wedi'i ddwyn yn flasus, ond bydd dy geg yn llawn graean yn y diwedd. | |
Prov | WelBeibl | 20:18 | Mae cyngor da yn gwneud i gynlluniau lwyddo; ewch i ryfel gyda strategaeth glir. | |
Prov | WelBeibl | 20:19 | Mae'r un sy'n hel clecs yn methu cadw cyfrinach; paid cael dim i'w wneud â'r llac ei dafod. | |
Prov | WelBeibl | 20:20 | Os ydy rhywun yn melltithio'i dad neu ei fam, bydd ei lamp yn diffodd mewn tywyllwch dudew. | |
Prov | WelBeibl | 20:21 | Pan mae rhywun yn derbyn etifeddiaeth yn rhy hawdd, fydd dim bendith yn y diwedd. | |
Prov | WelBeibl | 20:22 | Paid dweud, “Bydda i'n talu'r pwyth yn ôl!” Disgwyl i'r ARGLWYDD achub dy gam di. | |
Prov | WelBeibl | 20:23 | Mae twyllo wrth bwyso nwyddau yn gas gan yr ARGLWYDD; dydy clorian dwyllodrus ddim yn dda. | |
Prov | WelBeibl | 20:24 | Yr ARGLWYDD sy'n trefnu'r ffordd mae rhywun yn mynd; sut all unrhyw un wybod beth sydd o'i flaen? | |
Prov | WelBeibl | 20:25 | Mae'n gamgymeriad i rywun gyflwyno rhodd i Dduw yn fyrbwyll, a dim ond meddwl wedyn beth wnaeth e addo ei wneud. | |
Prov | WelBeibl | 20:26 | Mae brenin doeth yn gwahanu'r drwg oddi wrth y da, ac yna'n troi'r olwyn sy'n eu dyrnu nhw. | |
Prov | WelBeibl | 20:27 | Mae'r gydwybod fel lamp gan yr ARGLWYDD, yn chwilio'n ddwfn beth sydd yn y galon. | |
Prov | WelBeibl | 20:28 | Cariad a ffyddlondeb sy'n amddiffyn y brenin, a'i gariad e sy'n ei gadw ar yr orsedd. | |
Prov | WelBeibl | 20:29 | Mae pobl yn edmygu cryfder dynion ifanc, ond gwallt gwyn sy'n rhoi urddas i bobl mewn oed. | |
Chapter 21
Prov | WelBeibl | 21:1 | Mae penderfyniadau y brenin fel sianel ddŵr yn llaw'r ARGLWYDD; mae'n ei arwain i ble bynnag mae e eisiau. | |
Prov | WelBeibl | 21:2 | Mae pobl bob amser yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn, ond mae'r ARGLWYDD yn pwyso a mesur y cymhellion. | |
Prov | WelBeibl | 21:3 | Mae cael rhywun yn gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn well gan yr ARGLWYDD nag aberthau. | |
Prov | WelBeibl | 21:5 | Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled, ond dydy brys gwyllt ddim ond yn arwain i dlodi. | |
Prov | WelBeibl | 21:6 | Mae ffortiwn wedi'i hennill drwy ddweud celwydd fel tarth sy'n diflannu – magl i farwolaeth. | |
Prov | WelBeibl | 21:7 | Mae pobl ddrwg yn cael eu llusgo i ffwrdd gan eu trais, maen nhw'n gwrthod gwneud beth sy'n iawn. | |
Prov | WelBeibl | 21:8 | Mae pobl yn gallu bod yn dwyllodrus ac yn rhyfedd, ond mae'r sawl sy'n bur yn gwneud beth sy'n iawn. | |
Prov | WelBeibl | 21:10 | Mae person drwg yn ysu am gael gwneud drwg, ac yn dangos dim trugaredd at bobl eraill. | |
Prov | WelBeibl | 21:11 | Pan mae'r gwawdiwr yn cael ei gosbi mae'r gwirion yn dysgu gwers, ond mae'r person doeth yn dysgu wrth wrando. | |
Prov | WelBeibl | 21:12 | Mae'r Duw cyfiawn yn gweld cartrefi pobl ddrwg; bydd yn dod â dinistr arnyn nhw. | |
Prov | WelBeibl | 21:13 | Os ydy rhywun yn gwrthod gwrando ar gri'r tlawd, bydd e'n gweiddi hefyd, a fydd neb yn ei ateb. | |
Prov | WelBeibl | 21:14 | Mae rhodd gyfrinachol yn tawelu llid, a childwrn yn tewi'r un sydd wedi colli ei dymer. | |
Prov | WelBeibl | 21:15 | Mae'r rhai cyfiawn wrth eu bodd yn gwneud beth sy'n iawn, ond mae'n ddychryn i bobl ddrwg. | |
Prov | WelBeibl | 21:16 | Bydd pwy bynnag sy'n crwydro oddi ar y llwybr iawn yn cael ei hun yn gorffwys gyda'r ysbrydion. | |
Prov | WelBeibl | 21:17 | Bydd y sawl sydd ddim ond eisiau bywyd o bleser yn cael ei hun yn dlawd; dydy gwin a bywyd moethus ddim yn gwneud rhywun yn gyfoethog. | |
Prov | WelBeibl | 21:18 | Bydd y drwg yn talu'r pris yn lle'r cyfiawn, a'r twyllwr yn diodde yn lle'r un sy'n onest. | |
Prov | WelBeibl | 21:21 | Mae'r un sy'n ceisio gwneud beth sy'n iawn a bod yn garedig yn cael bywyd, llwyddiant ac enw da. | |
Prov | WelBeibl | 21:22 | Mae dyn doeth yn gallu concro dinas sydd â byddin bwerus a bwrw i lawr y gaer roedden nhw'n teimlo'n saff ynddi. | |
Prov | WelBeibl | 21:23 | Mae'r person sy'n gwylio beth mae'n ei ddweud ac yn ffrwyno'i dafod yn cadw ei hun allan o drafferthion. | |
Prov | WelBeibl | 21:24 | Mae'r person balch, haerllug – yr un sy'n gwawdio pobl eraill – yn gwneud pethau cwbl ddigywilydd. | |
Prov | WelBeibl | 21:25 | Mae blys person diog yn ddigon i'w ladd, am ei fod yn gwrthod gweithio â'i ddwylo. | |
Prov | WelBeibl | 21:26 | Mae'n dyheu ac yn ysu am fwy drwy'r adeg, tra mae'r person cyfiawn yn rhoi yn ddi-baid. | |
Prov | WelBeibl | 21:27 | Mae'n gas gan Dduw aberth sy'n cael ei gyflwyno gan rywun drwg, yn enwedig os ydy ei fwriad wrth ddod ag e yn ddrwg. | |
Prov | WelBeibl | 21:28 | Mae tyst celwyddog yn cael ei dewi; y tyst oedd wedi gwrando sy'n cael y gair ola. | |
Prov | WelBeibl | 21:29 | Mae person drwg yn smalio ac yn bwrw yn ei flaen, ond mae'r person gonest yn meddwl ble mae'n mynd. | |
Chapter 22
Prov | WelBeibl | 22:2 | Mae un peth sy'n wir am y cyfoethog a'r tlawd: yr ARGLWYDD wnaeth greu'r ddau ohonyn nhw. | |
Prov | WelBeibl | 22:3 | Mae'r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi; ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu'r pris. | |
Prov | WelBeibl | 22:4 | Mae gostyngeiddrwydd a pharch at yr ARGLWYDD yn arwain i gyfoeth, anrhydedd a bywyd. | |
Prov | WelBeibl | 22:5 | Mae drain a maglau ar lwybr pobl sy'n twyllo, ond mae'r person sy'n ofalus yn cadw draw oddi wrthyn nhw. | |
Prov | WelBeibl | 22:6 | Dysga blentyn y ffordd orau i fyw, a fydd e ddim yn troi cefn arni pan fydd e'n hŷn. | |
Prov | WelBeibl | 22:7 | Fel mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd, mae'r un sydd mewn dyled yn gaethwas i'r benthyciwr. | |
Prov | WelBeibl | 22:8 | Bydd y rhai sy'n hau drygioni yn medi helyntion, a bydd eu gwialen greulon yn cael ei thorri. | |
Prov | WelBeibl | 22:10 | Taflwch allan yr un sy'n creu helynt, a bydd y cweryla'n peidio, bydd y ffraeo a'r sarhau yn stopio. | |
Prov | WelBeibl | 22:12 | Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am yr un sy'n gwybod y gwir, ond mae'n tanseilio beth mae'r twyllwr yn ei ddweud. | |
Prov | WelBeibl | 22:13 | Mae'r diogyn yn dweud, “Mae yna lew yna! Mae'n beryg bywyd i fynd allan i'r stryd.” | |
Prov | WelBeibl | 22:14 | Mae fflyrtian y wraig anfoesol fel pwll dwfn; mae'r rhai sy'n digio'r ARGLWYDD yn syrthio iddo. | |
Prov | WelBeibl | 22:15 | Pan mae ffolineb wedi cael gafael ar feddwl person ifanc, bydd gwialen disgyblaeth yn cael gwared ag e. | |
Prov | WelBeibl | 22:16 | Dydy gwneud arian drwy gam-drin pobl dlawd, neu roi anrhegion i'r cyfoethog, yn ddim byd ond colled! | |
Prov | WelBeibl | 22:17 | Gwranda'n astud ar beth mae'r doethion wedi'i ddweud, a meddylia am y pethau dw i'n eu dysgu i ti. | |
Prov | WelBeibl | 22:18 | Mae'n beth da i'r rhain wreiddio'n ddwfn ynot ti ac iddyn nhw fod ar flaen dy dafod bob amser. | |
Prov | WelBeibl | 22:19 | Dw i am eu rhannu nhw hefo ti heddiw – ie, ti – er mwyn i ti drystio'r ARGLWYDD. | |
Prov | WelBeibl | 22:21 | i ti ddysgu'r gwir, a beth sy'n iawn, a mynd â'r atebion iawn i'r rhai wnaeth dy anfon di. | |
Prov | WelBeibl | 22:22 | Paid dwyn oddi ar y tlawd, achos maen nhw'n dlawd, na chymryd mantais o bobl mewn angen yn y llys. | |
Prov | WelBeibl | 22:23 | Bydd yr ARGLWYDD yn sefyll hefo nhw, ac yn gorthrymu'r rhai sy'n eu gorthrymu nhw. | |
Prov | WelBeibl | 22:24 | Paid gwneud ffrindiau gyda rhywun piwis, na chadw cwmni rhywun sydd â thymer wyllt, | |
Chapter 23
Prov | WelBeibl | 23:1 | Pan wyt ti'n eistedd i lawr i fwyta gyda llywodraethwr, gwylia'n ofalus sut rwyt ti'n ymddwyn; | |
Prov | WelBeibl | 23:3 | Paid stwffio dy hun ar ei ddanteithion, mae'n siŵr ei fod e eisiau rhywbeth gen ti! | |
Prov | WelBeibl | 23:5 | Cyn i ti droi rownd mae e wedi mynd! Mae'n magu adenydd ac yn hedfan i ffwrdd fel eryr. | |
Prov | WelBeibl | 23:7 | Mae e'n cadw cyfri o bopeth wyt ti'n ei fwyta! Mae'n dweud, “Tyrd, bwyta ac yfed faint fynni di,” ond dydy e ddim yn meddwl hynny go iawn. | |
Prov | WelBeibl | 23:8 | Byddi'n chwydu'r ychydig rwyt wedi'i fwyta, ac wedi gwastraffu dy eiriau caredig. | |
Prov | WelBeibl | 23:11 | mae'r Un sy'n eu hamddiffyn nhw yn gryf, a bydd yn cymryd eu hachos yn dy erbyn di. | |
Prov | WelBeibl | 23:18 | Wedyn bydd pethau'n iawn yn y diwedd, a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi. | |
Prov | WelBeibl | 23:20 | Paid cael gormod i'w wneud gyda'r rhai sy'n goryfed, ac yn stwffio'u hunain hefo bwyd. | |
Prov | WelBeibl | 23:21 | Bydd y rhai sy'n meddwi a gorfwyta yn mynd yn dlawd; fydd ganddyn nhw ddim egni, a byddan nhw mewn carpiau. | |
Prov | WelBeibl | 23:22 | Gwranda ar dy dad, ddaeth â ti i'r byd; a phaid diystyru dy fam pan fydd hi'n hen. | |
Prov | WelBeibl | 23:23 | Gafael yn y gwirionedd, a phaid â'i ollwng, doethineb hefyd, a disgyblaeth a deall! | |
Prov | WelBeibl | 23:24 | Os ydy plentyn yn gwneud beth sy'n iawn bydd ei dad mor hapus; mae plentyn doeth yn rhoi'r fath bleser i'w rieni. | |
Prov | WelBeibl | 23:25 | Bydd dy dad a dy fam wrth eu boddau; felly gwna'r un ddaeth â ti i'r byd yn hapus! | |
Prov | WelBeibl | 23:28 | Mae hi'n disgwyl amdanat ti fel lleidr; ac yn gwneud mwy a mwy o ddynion yn anffyddlon i'w gwragedd. | |
Prov | WelBeibl | 23:29 | Pwy sy'n teimlo'n wael ac yn druenus? Pwy sy'n ffraeo ac yn dadlau drwy'r adeg? Pwy sy'n cael damweiniau diangen? Pwy sydd â llygaid cochion? | |
Prov | WelBeibl | 23:31 | Paid llygadu'r gwin coch yna sy'n edrych mor ddeniadol yn y gwydr ac yn mynd i lawr mor dda. | |
Prov | WelBeibl | 23:34 | Bydd fel mynd i dy wely mewn storm ar y môr, neu geisio gorwedd i gysgu ar ben yr hwylbren. | |
Chapter 24
Prov | WelBeibl | 24:4 | Mae angen gwybodaeth i lenwi'r ystafelloedd gyda phob math o bethau gwerthfawr a hardd. | |
Prov | WelBeibl | 24:6 | Mae angen strategaeth i ymladd brwydr, a digon o gyngor doeth i ennill buddugoliaeth. | |
Prov | WelBeibl | 24:7 | Mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl; does ganddo ddim i'w ddweud pan mae'r arweinwyr yn cyfarfod. | |
Prov | WelBeibl | 24:11 | Achub y rhai sy'n cael eu llusgo i ffwrdd i'w lladd! Bydd barod i helpu'r rhai sy'n baglu i'r bedd. | |
Prov | WelBeibl | 24:12 | Os byddi di'n dweud, “Ond doedden ni'n gwybod dim am y peth,” cofia fod yr Un sy'n pwyso'r galon yn gweld y gwir! Mae Duw yn dy wylio di, ac mae e'n gwybod; a bydd pawb yn cael beth maen nhw'n ei haeddu. | |
Prov | WelBeibl | 24:14 | A'r un modd mae doethineb yn dda i ti. Os wyt ti'n ddoeth, byddi'n iawn yn y diwedd, a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi. | |
Prov | WelBeibl | 24:16 | Gelli faglu pobl dda dro ar ôl tro, ond byddan nhw'n codi ar eu traed; tra mae un anffawd yn ddigon i fwrw pobl ddrwg i lawr. | |
Prov | WelBeibl | 24:17 | Paid dathlu pan mae dy elyn yn syrthio; paid bod yn falch os ydy e'n cael ei fwrw i lawr, | |
Prov | WelBeibl | 24:18 | rhag i'r ARGLWYDD weld y peth, a bod yn flin hefo ti; wedyn bydd e'n arbed y gelyn rhag y gosb. | |
Prov | WelBeibl | 24:21 | Fy mab, dylet ti barchu'r ARGLWYDD a'r brenin, a pheidio cadw cwmni'r rhai sy'n gwrthryfela. | |
Prov | WelBeibl | 24:22 | Yn sydyn bydd dinistr yn dod arnyn nhw; pwy ŵyr faint o ddrwg allan nhw ei achosi? | |
Prov | WelBeibl | 24:23 | Dyma fwy o eiriau'r doethion: Dydy dangos ffafriaeth wrth farnu ddim yn beth da. | |
Prov | WelBeibl | 24:24 | Bydd barnwr sy'n gollwng yr euog yn rhydd yn cael ei felltithio gan bobl, a'i gondemnio gan wledydd; | |
Prov | WelBeibl | 24:25 | ond bydd bywyd yn braf i'r un sy'n barnu'n deg; bydd e'n cael ei fendithio'n fawr. | |
Prov | WelBeibl | 24:27 | Rho drefn ar dy waith tu allan, a chael y caeau'n barod i'w plannu, ac wedyn mynd ati i adeiladu dy dŷ. | |
Prov | WelBeibl | 24:29 | Paid dweud, “Dw i'n mynd i dalu'r pwyth yn ôl! Bydda i'n dial arno am beth wnaeth e.” | |
Prov | WelBeibl | 24:31 | Roedd drain wedi tyfu drosto, a chwyn ym mhobman, a'r wal gerrig o'i gwmpas wedi syrthio. | |
Prov | WelBeibl | 24:33 | “Ychydig bach mwy o gwsg, pum munud arall! Swatio'n gyfforddus yn y gwely am ychydig.” | |
Chapter 25
Prov | WelBeibl | 25:1 | Diarhebion Solomon ydy'r rhain hefyd, wedi'u casglu gan weision Heseceia, brenin Jwda: | |
Prov | WelBeibl | 25:2 | Braint Duw ydy cadw pethau'n ddirgelwch; braint brenhinoedd ydy chwilio a darganfod. | |
Prov | WelBeibl | 25:3 | Fel mae'r awyr yn rhy uchel, a'r ddaear yn rhy ddofn, does neb yn gwybod beth sy'n mynd drwy feddwl brenhinoedd. | |
Prov | WelBeibl | 25:5 | Ar ôl symud y rhai drwg o ŵydd y brenin bydd cyfiawnder yn gwneud ei orsedd yn ddiogel. | |
Prov | WelBeibl | 25:7 | Mae'n well cael rhywun yn dweud, “Symud i fyny,” na chael dy gywilyddio o flaen pobl bwysig. | |
Prov | WelBeibl | 25:8 | Paid bod ar ormod o frys i fynd i'r llys am dy fod wedi gweld rhywbeth. Beth os bydd rhywun arall yn dweud yn groes i ti? | |
Prov | WelBeibl | 25:9 | Trafod y peth yn breifat gyda'r person hwnnw, a phaid dweud am y peth wrth neb arall. | |
Prov | WelBeibl | 25:13 | Mae negesydd ffyddlon yn adfywio ysbryd ei feistri, fel dŵr oer ar ddiwrnod poeth o gynhaeaf. | |
Prov | WelBeibl | 25:14 | Cymylau a gwynt, ond dim glaw – felly mae'r un sy'n brolio'i haelioni, ond byth yn rhoi. | |
Prov | WelBeibl | 25:15 | Gyda tipyn o amynedd gellir perswadio llywodraethwr, ac mae geiriau tyner yn delio gyda gwrthwynebiad. | |
Prov | WelBeibl | 25:16 | Pan gei fêl, paid cymryd mwy nag wyt ei angen, rhag i ti fwyta gormod, a chwydu'r cwbl i fyny. | |
Prov | WelBeibl | 25:17 | Paid mynd i dŷ rhywun arall yn rhy aml, rhag iddo gael llond bol, a throi yn dy erbyn di. | |
Prov | WelBeibl | 25:18 | Mae tyst sy'n dweud celwydd mewn achos llys yn gwneud niwed fel pastwn neu gleddyf neu saeth finiog. | |
Prov | WelBeibl | 25:19 | Mae trystio rhywun sy'n ddi-ddal mewn amser anodd fel diodde o'r ddannodd neu fod yn simsan ar dy draed. | |
Prov | WelBeibl | 25:20 | Mae canu caneuon i rywun sydd â chalon drist fel tynnu dillad ar ddiwrnod oer, neu roi halen ar friw. | |
Prov | WelBeibl | 25:21 | Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo; os ydy e'n sychedig, rho ddŵr iddo i'w yfed. | |
Prov | WelBeibl | 25:22 | Byddi'n tywallt marwor tanllyd ar ei ben, a bydd yr ARGLWYDD yn rhoi dy wobr i ti. | |
Prov | WelBeibl | 25:23 | Mae gwynt y gogledd yn dod â glaw, a thafod sy'n bradychu cyfrinach yn dod â gwg. | |
Prov | WelBeibl | 25:26 | Mae dyn da sy'n plygu i ddyn drwg fel ffynnon yn llawn mwd neu bydew wedi'i ddifetha. | |
Prov | WelBeibl | 25:27 | Dydy bwyta gormod o fêl ddim yn beth da, a dydy edrych am ganmoliaeth ddim yn iawn. | |
Chapter 26
Prov | WelBeibl | 26:2 | Fel aderyn y to yn gwibio heibio neu wennol yn hedfan, dydy melltith heb ei haeddu ddim yn gorffwys. | |
Prov | WelBeibl | 26:7 | Mae dihareb yn cael ei hadrodd gan ffŵl fel coesau rhywun cloff yn hongian yn llipa. | |
Prov | WelBeibl | 26:10 | Mae'r un sy'n cyflogi ffŵl neu feddwyn fel bwasaethwr yn anafu pawb sy'n mynd heibio. | |
Prov | WelBeibl | 26:18 | Mae twyllo rhywun arall ac wedyn dweud, “Dim ond jôc oedd e,” fel dyn gwallgo yn taflu ffaglau tân a saethau marwol i bob cyfeiriad. | |
Prov | WelBeibl | 26:19 | Mae twyllo rhywun arall ac wedyn dweud, “Dim ond jôc oedd e,” fel dyn gwallgo yn taflu ffaglau tân a saethau marwol i bob cyfeiriad. | |
Prov | WelBeibl | 26:20 | Mae tân yn diffodd os nad oes coed i'w llosgi, ac mae ffrae yn tawelu os nad oes rhywun yn hel clecs. | |
Prov | WelBeibl | 26:25 | paid â'i gredu pan mae'n dweud pethau caredig, achos mae pob math o bethau ffiaidd ar ei feddwl. | |
Prov | WelBeibl | 26:26 | Mae'n cuddio'i gasineb drwy dwyll, ond bydd ei ddrygioni yn dod yn amlwg i bawb. | |
Prov | WelBeibl | 26:27 | Mae rhywun yn gallu cloddio twll a syrthio i'w drap ei hun; pan mae rhywun yn rholio carreg, gall rolio yn ôl drosto! | |
Chapter 27
Prov | WelBeibl | 27:1 | Paid brolio am beth wnei di yfory, ti ddim yn gwybod beth all ddigwydd mewn diwrnod. | |
Prov | WelBeibl | 27:3 | Mae carreg yn drom ac mae pwysau i dywod, ond mae ffŵl sy'n pryfocio yn waeth na'r ddau. | |
Prov | WelBeibl | 27:4 | Mae gwylltio yn greulon a cholli tymer yn llethu, ond mae cenfigen yn waeth na'r ddau. | |
Prov | WelBeibl | 27:6 | Mae'n well cael eich brifo gan ffrind na chael eich cusanu'n ddi-baid gan rywun sy'n eich casáu. | |
Prov | WelBeibl | 27:7 | Mae rhywun sydd wedi cael digon i'w fwyta yn gwrthod mêl, ond i'r sawl sy'n llwgu, mae'r peth mwyaf chwerw yn blasu'n felys. | |
Prov | WelBeibl | 27:9 | Fel mae olew a phersawr yn gwneud rhywun yn hapus, mae cyngor ffrind yn gwneud bywyd yn felys. | |
Prov | WelBeibl | 27:10 | Paid troi cefn ar ffrind neu un o ffrindiau'r teulu, a fydd dim rhaid i ti redeg i dŷ perthynas pan fyddi mewn trafferthion. Mae ffrind sy'n agos yn well na pherthynas pell. | |
Prov | WelBeibl | 27:11 | Bydd ddoeth, fy mab, a gwna fi'n hapus, er mwyn i mi fedru ateb y rhai sy'n gwneud sbort am fy mhen. | |
Prov | WelBeibl | 27:12 | Mae'r person call yn gweld perygl ac yn ei osgoi, ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu'r pris. | |
Prov | WelBeibl | 27:13 | Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun arall; cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros wraig anfoesol. | |
Prov | WelBeibl | 27:14 | Mae gweiddi'n uchel wrth gyfarch ffrind yn gynnar yn y bore yn gallu bod yn fwy o felltith na dim arall. | |
Prov | WelBeibl | 27:16 | mae rhoi taw arni fel ceisio stopio'r gwynt rhag chwythu, neu ddal olew yn y llaw. | |
Prov | WelBeibl | 27:18 | Yr un sy'n gofalu am y goeden ffigys sydd yn bwyta ei ffrwyth, a bydd y gwas sy'n gofalu am ei feistr yn cael ei anrhydeddu. | |
Prov | WelBeibl | 27:19 | Fel adlewyrchiad o'r wyneb mewn dŵr, mae'r bersonoliaeth yn adlewyrchu beth sy'n y galon. | |
Prov | WelBeibl | 27:20 | Dydy Annwn ac Abadon byth yn cael digon, a dydy'r llygad dynol byth yn fodlon chwaith. | |
Prov | WelBeibl | 27:22 | Gelli falu'r ffŵl fel ŷd gyda phestl mewn mortar ond fydd ei ffolineb ddim yn ei adael. | |
Prov | WelBeibl | 27:25 | Ar ôl cario'r gwair mae'r glaswellt yn tyfu eto, ac ar ôl i gnwd y bryniau gael ei gasglu, | |
Chapter 28
Prov | WelBeibl | 28:1 | Mae pobl ddrwg yn ffoi pan does neb ar eu holau, ond mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn hyderus fel llew ifanc. | |
Prov | WelBeibl | 28:2 | Pan mae gwlad mewn anhrefn mae pawb eisiau arwain, ond mae'n cymryd arweinydd doeth a deallus i'w gwneud hi'n sefydlog. | |
Prov | WelBeibl | 28:3 | Mae person tlawd sy'n gormesu pobl eraill sydd mewn angen fel storm o law trwm sy'n dinistrio cnydau. | |
Prov | WelBeibl | 28:4 | Mae'r rhai sy'n gwrthod Cyfraith Dduw yn canmol pobl ddrwg, ond mae'r rhai sy'n cadw'r Gyfraith yn eu gwrthwynebu nhw. | |
Prov | WelBeibl | 28:5 | Dydy pobl ddrwg ddim yn gwybod beth ydy cyfiawnder, ond mae'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn ei ddeall i'r dim. | |
Prov | WelBeibl | 28:7 | Mae plentyn doeth yn gwrando ar beth sy'n cael ei ddysgu iddo ond mae'r un sy'n cymysgu gyda criw da i ddim yn codi cywilydd ar ei dad. | |
Prov | WelBeibl | 28:8 | Mae yna un sy'n gwneud arian drwy godi llogau uchel, ond bydd ei gyfoeth yn mynd i rywun sy'n garedig at y tlawd. | |
Prov | WelBeibl | 28:10 | Bydd rhywun sy'n camarwain pobl dda, a'u cael nhw i wneud drwg yn syrthio i mewn i'w drap ei hun, ond bydd pethau'n mynd yn dda i'r un sy'n onest. | |
Prov | WelBeibl | 28:11 | Mae person cyfoethog yn meddwl ei fod e'n glyfar, ond mae'r person tlawd sy'n gall yn gweld drwyddo. | |
Prov | WelBeibl | 28:12 | Pan mae pobl dda yn ennill, mae dathlu mawr, ond pan mae pobl ddrwg yn dod i rym, mae pawb yn cuddio. | |
Prov | WelBeibl | 28:13 | Fydd y sawl sy'n cuddio'i feiau ddim yn llwyddo; yr un sy'n cyfaddef ac yn stopio gwneud pethau felly sy'n cael trugaredd. | |
Prov | WelBeibl | 28:14 | Mae'r un sy'n dangos gofal wedi'i fendithio'n fawr, ond mae person penstiff yn syrthio i bob math o drafferthion. | |
Prov | WelBeibl | 28:16 | Arweinydd heb sens sy'n gormesu o hyd; yr un sy'n gwrthod elwa ar draul eraill sy'n cael byw'n hir. | |
Prov | WelBeibl | 28:18 | Bydd yr un sy'n byw'n onest yn saff, ond bydd person dauwynebog yn siŵr o syrthio. | |
Prov | WelBeibl | 28:19 | Bydd y sawl sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond yr un sy'n gwastraffu amser yn cael dim ond tlodi. | |
Prov | WelBeibl | 28:20 | Bydd y person cydwybodol yn cael ei fendithio'n fawr, ond yr un sydd ond eisiau gwneud arian sydyn yn cael ei gosbi. | |
Prov | WelBeibl | 28:21 | Dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth da, ond mae rhai pobl yn fodlon gwneud drwg am damaid o fara! | |
Prov | WelBeibl | 28:22 | Mae person cybyddlyd eisiau gwneud arian sydyn, heb sylweddoli mai colled sy'n dod iddo. | |
Prov | WelBeibl | 28:23 | Mae'r un sy'n barod i roi gair o gerydd yn cael mwy o barch yn y diwedd na'r un sy'n seboni. | |
Prov | WelBeibl | 28:24 | Mae'r un sy'n dwyn oddi ar ei dad a'i fam, ac yna'n dweud, “Wnes i ddim byd o'i le,” yn ffrind i lofrudd. | |
Prov | WelBeibl | 28:25 | Mae person hunanol yn creu helynt, ond mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn llwyddo. | |
Prov | WelBeibl | 28:26 | Mae trystio'r hunan yn beth twp i'w wneud, ond mae'r sawl sy'n ymddwyn yn gall yn saff. | |
Prov | WelBeibl | 28:27 | Fydd dim angen ar y sawl sy'n rhoi i'r tlodion, ond mae'r un sy'n cau ei lygaid i'r angen yn cael ei felltithio go iawn. | |
Chapter 29
Prov | WelBeibl | 29:1 | Pan mae rhywun yn troi'n ystyfnig ar ôl cael ei geryddu dro ar ôl tro, yn sydyn bydd e'n torri, a fydd dim gwella arno. | |
Prov | WelBeibl | 29:2 | Pan mae pobl dda yn llwyddo, mae dathlu mawr, ond pan mae'r rhai drwg yn rheoli, mae pobl yn griddfan. | |
Prov | WelBeibl | 29:3 | Mae'r un sy'n caru doethineb yn gwneud ei dad yn hapus, ond bydd y dyn sy'n cadw cwmni puteiniaid yn gwastraffu ei eiddo. | |
Prov | WelBeibl | 29:4 | Mae brenin yn gwneud gwlad yn sefydlog drwy weithredu'n gyfiawn, ond mae'r un sy'n trethu'r bobl yn drwm yn ei rhwygo i lawr. | |
Prov | WelBeibl | 29:6 | Mae pobl ddrwg yn cael eu trapio gan eu drygioni, ond mae'r cyfiawn yn hapus ac yn canu'n braf. | |
Prov | WelBeibl | 29:7 | Mae gan y cyfiawn gonsýrn am hawliau pobl dlawd, ond dydy pobl ddrwg ddim yn gweld pam y dylid poeni. | |
Prov | WelBeibl | 29:8 | Mae'r rhai sy'n gwawdio pobl eraill yn creu helynt, ond mae'r doeth yn tawelu dig. | |
Prov | WelBeibl | 29:9 | Pan mae person doeth yn mynd â ffŵl i gyfraith, bydd digon o arthio a gwawdio, ond dim heddwch! | |
Prov | WelBeibl | 29:10 | Mae llofruddion yn casáu pobl onest, ond mae'r rhai cyfiawn yn eu hamddiffyn nhw. | |
Prov | WelBeibl | 29:13 | Mae un peth sy'n wir am y cyfoethog a'r tlawd: yr ARGLWYDD sydd wedi rhoi bywyd i'r ddau. | |
Prov | WelBeibl | 29:15 | Mae gwialen a cherydd yn gwneud plentyn yn ddoeth, ond mae plentyn afreolus yn codi cywilydd ar ei fam. | |
Prov | WelBeibl | 29:16 | Pan mae pobl ddrwg mewn grym, mae mwy o droseddu, ond bydd y cyfiawn yn gweld eu cwymp. | |
Prov | WelBeibl | 29:18 | Heb weledigaeth gan Dduw does dim rheolaeth ar bobl, ond mae'r rhai sy'n cadw'r Gyfraith wedi'u bendithio'n fawr. | |
Prov | WelBeibl | 29:19 | Dydy geiriau ddim yn ddigon i ddisgyblu gwas; falle ei fod e'n deall, ond fydd e ddim yn gwrando. | |
Prov | WelBeibl | 29:21 | Pan mae caethwas wedi'i sbwylio ers yn blentyn, fydd dim ond trafferthion yn y diwedd. | |
Prov | WelBeibl | 29:22 | Mae'r un sy'n fyr ei dymer yn creu helynt, a'r un sy'n gwylltio'n hawdd yn troseddu'n aml. | |
Prov | WelBeibl | 29:23 | Mae balchder yn arwain i gywilydd, ond bydd person gostyngedig yn cael ei anrhydeddu. | |
Prov | WelBeibl | 29:24 | Mae rhywun sy'n helpu lleidr yn elyn iddo'i hun; mae'n cael ei alw i dystio, ond yn dweud dim. | |
Prov | WelBeibl | 29:25 | Mae bod ag ofn pobl yn drap peryglus, ond mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn saff. | |
Prov | WelBeibl | 29:26 | Mae llawer yn ceisio ennill ffafr llywodraethwr, ond yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i bobl. | |
Chapter 30
Prov | WelBeibl | 30:1 | Geiriau Agwr fab Iace, o Massa. Dyma neges y dyn: Nid Duw ydw i. Nid Duw ydw i; dydy'r gallu ddim gen i. | |
Prov | WelBeibl | 30:4 | Pwy sydd wedi mynd i fyny i'r nefoedd, a dod yn ôl i lawr eto? Pwy sydd wedi gallu dal gafael yn y gwynt? Pwy sydd wedi lapio'r moroedd mewn mantell? Pwy sydd wedi mesur y ddaear o un pen i'r llall? Beth ydy ei enw e, ac enw ei fab? – Dywed os wyt ti'n gwybod. | |
Prov | WelBeibl | 30:5 | Mae pob un o eiriau Duw wedi'u profi. Mae e'n darian i amddiffyn y rhai sy'n ei drystio. | |
Prov | WelBeibl | 30:6 | Paid ychwanegu dim at ei eiriau, rhag iddo dy geryddu di, a phrofi dy fod ti'n dweud celwydd. | |
Prov | WelBeibl | 30:8 | Yn gyntaf, cadw fi rhag dweud celwydd a thwyllo; ac yn ail, paid rhoi tlodi na chyfoeth i mi, ond rho ddigon o fwyd i mi bob dydd. | |
Prov | WelBeibl | 30:9 | Ie, cadw fi rhag teimlo fod popeth gen i, ac yna dy wrthod di, a dweud, “Pwy ydy'r ARGLWYDD?” A chadw fi rhag dwyn am fy mod yn dlawd, a rhoi enw drwg i Dduw. | |
Prov | WelBeibl | 30:10 | Paid hel straeon am gaethwas wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio di, ac i ti orfod talu'r pris. | |
Prov | WelBeibl | 30:12 | Mae yna bobl sy'n meddwl eu bod nhw'n dda, ond sydd heb eu glanhau o garthion eu pechod. | |
Prov | WelBeibl | 30:13 | Mae yna bobl sydd mor snobyddlyd; maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n well na pawb arall! | |
Prov | WelBeibl | 30:14 | Mae yna bobl sydd â dannedd fel cleddyfau, a'u brathiad fel cyllyll. Maen nhw'n llarpio pobl dlawd y tir, a'r rhai hynny sydd mewn angen. | |
Prov | WelBeibl | 30:15 | Mae gan y gele ddwy ferch, “Rho fwy!” a “Rho fwy!” Mae tri peth sydd byth yn fodlon, pedwar sydd byth yn dweud, “Dyna ddigon!”: | |
Prov | WelBeibl | 30:16 | y bedd, croth ddiffrwyth, tir sydd angen dŵr, a thân – dydy'r rhain byth yn dweud “Digon!” | |
Prov | WelBeibl | 30:17 | Llygad sy'n gwneud sbort am dad ac yn malio dim am wrando ar mam – bydd hi'n cael ei thynnu allan gan gigfrain, a'i bwyta gan y fwltur. | |
Prov | WelBeibl | 30:19 | ffordd yr eryr drwy'r awyr; ffordd y neidr dros graig; llwybr llong yn hwylio'r moroedd; a llwybr cariad dyn a merch. | |
Prov | WelBeibl | 30:20 | Ond ffordd gwraig anffyddlon i'w gŵr ydy: bwyta, sychu ei cheg, a dweud, “Wnes i ddim byd o'i le.” | |
Prov | WelBeibl | 30:26 | Brochod y graig, sydd ddim yn gryf chwaith, ond sy'n gwneud eu cartrefi yn y creigiau. | |
Prov | WelBeibl | 30:27 | locustiaid, sydd heb frenin i'w rheoli, ond sy'n mynd allan mewn rhengoedd trefnus; | |
Prov | WelBeibl | 30:28 | a madfallod – gelli eu dal yn dy law, ond gallan nhw fynd i mewn i balasau brenhinoedd! | |
Prov | WelBeibl | 30:32 | Os wyt ti wedi actio'r ffŵl wrth frolio, neu wedi bod yn cynllwynio drwg, dal dy dafod! | |
Chapter 31
Prov | WelBeibl | 31:3 | Paid gwastraffu dy nerth i gyd ar ferched, a rhoi dy holl egni i'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd. | |
Prov | WelBeibl | 31:7 | Gadewch iddyn nhw yfed i anghofio'u tlodi, a fydd dim rhaid iddyn nhw gofio'u trafferthion. | |
Prov | WelBeibl | 31:8 | Siarad ar ran y bobl hynny sydd heb lais, ac amddiffyn y rhai sydd wedi colli popeth. | |
Prov | WelBeibl | 31:9 | Coda dy lais o'u plaid nhw, barna'n gyfiawn, a dadlau dros hawliau'r rhai mewn angen a'r tlawd. | |
Prov | WelBeibl | 31:15 | Mae hi'n codi yn yr oriau mân i baratoi bwyd i'w theulu, a rhoi gwaith i'w morynion. | |
Prov | WelBeibl | 31:16 | Mae hi'n meddwl yn ofalus cyn prynu cae, a defnyddio'i harian i blannu gwinllan ynddo. | |
Prov | WelBeibl | 31:18 | Mae hi'n gwneud yn siŵr fod ei busnes yn llwyddo; dydy ei lamp ddim yn diffodd drwy'r nos. | |
Prov | WelBeibl | 31:21 | Dydy hi ddim yn poeni am ei theulu pan ddaw eira, am fod digon o ddillad cynnes ganddyn nhw. | |
Prov | WelBeibl | 31:23 | Mae ei gŵr yn adnabyddus ar gyngor y ddinas, ac yn eistedd gyda'r arweinwyr i gyd. | |
Prov | WelBeibl | 31:25 | Mae hi'n wraig o gymeriad cryf ac urddasol, ac yn edrych ymlaen i'r dyfodol yn hyderus. | |
Prov | WelBeibl | 31:28 | Mae ei phlant yn tyfu ac yn meddwl y byd ohoni; ac mae ei gŵr yn ei chanmol i'r cymylau, | |
Prov | WelBeibl | 31:30 | Mae prydferthwch yn gallu twyllo, a harddwch yn arwynebol. Gwraig sy'n parchu'r ARGLWYDD sydd yn haeddu cael ei chanmol. | |