Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
Chapter 1
Jere WelBeibl 1:1  Neges Jeremeia, mab Chilceia, oedd yn offeiriad yn Anathoth (tref ar dir llwyth Benjamin).
Jere WelBeibl 1:2  Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges iddo am y tro cyntaf pan oedd Joseia fab Amon wedi bod yn frenin ar Jwda ers un deg tair o flynyddoedd.
Jere WelBeibl 1:3  Dyma Duw yn dal ati i roi negeseuon iddo pan oedd Jehoiacim, mab Joseia, yn frenin, ac wedyn am yr un deg un mlynedd y buodd Sedeceia (mab arall Joseia) yn frenin. Yn y pumed mis yn y flwyddyn olaf honno, cafodd pobl Jerwsalem eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.
Jere WelBeibl 1:5  “Rôn i'n dy nabod di cyn i mi dy siapio di yn y groth, ac wedi dy ddewis di cyn i ti gael dy eni, a dy benodi di'n broffwyd i siarad â gwledydd y byd.”
Jere WelBeibl 1:6  “O! Feistr, ARGLWYDD!” meddwn i. “Alla i ddim siarad ar dy ran di, dw i'n rhy ifanc.”
Jere WelBeibl 1:7  Ond dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Paid dweud, ‘Dw i'n rhy ifanc.’ Byddi di'n mynd i ble dw i'n dy anfon di ac yn dweud beth dw i'n ddweud wrthot ti.
Jere WelBeibl 1:8  Paid bod ag ofn pobl,” meddai'r ARGLWYDD “achos dw i gyda ti i ofalu amdanat.”
Jere WelBeibl 1:9  Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn estyn ei law ac yn cyffwrdd fy ngheg i, a dweud, “Dyna ti. Dw i'n rhoi fy ngeiriau i yn dy geg di.
Jere WelBeibl 1:10  Ydw, dw i wedi dy benodi di heddiw a rhoi awdurdod i ti dros wledydd a theyrnasoedd. Byddi'n tynnu o'r gwraidd ac yn chwalu, yn dinistrio ac yn bwrw i lawr, yn adeiladu ac yn plannu.”
Jere WelBeibl 1:11  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld cangen o goeden almon.”
Jere WelBeibl 1:12  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Ie, yn hollol. Dw i'n gwylio i wneud yn siŵr y bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir.”
Jere WelBeibl 1:13  Yna'r ail waith dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld crochan yn berwi, ac mae ar fin cael ei dywallt o gyfeiriad y gogledd.”
Jere WelBeibl 1:14  “Ie,” meddai'r ARGLWYDD wrtho i, “bydd dinistr yn cael ei dywallt ar bobl y wlad yma o gyfeiriad y gogledd.
Jere WelBeibl 1:15  Edrych, dw i'n mynd i alw ar bobloedd a brenhinoedd y gogledd.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “‘Byddan nhw'n gosod eu gorseddau wrth giatiau Jerwsalem. Byddan nhw'n ymosod ar y waliau o'i chwmpas, ac ar drefi eraill Jwda i gyd.’
Jere WelBeibl 1:16  “Bydda i'n cyhoeddi'r ddedfryd yn erbyn fy mhobl, ac yn eu cosbi nhw am yr holl bethau drwg maen nhw wedi'i wneud – sef troi cefn arna i a llosgi arogldarth i dduwiau eraill. Addoli pethau maen nhw wedi'u gwneud gyda'i dwylo eu hunain!
Jere WelBeibl 1:17  “Ond ti, Jeremeia, bydd di'n barod. Dos, a dweud wrthyn nhw bopeth dw i'n ddweud wrthot ti. Paid bod â'u hofn nhw, neu bydda i'n dy ddychryn di o'u blaenau nhw.
Jere WelBeibl 1:18  Ond heddiw dw i'n dy wneud di fel tref gaerog, neu fel colofn haearn neu wal bres. Byddi'n gwneud safiad yn erbyn y wlad i gyd, yn erbyn brenhinoedd Jwda, ei swyddogion, ei hoffeiriaid a'i phobl.
Jere WelBeibl 1:19  Byddan nhw'n trio dy wrthwynebu di, ond yn methu, am fy mod i gyda ti yn edrych ar dy ôl,” meddai'r ARGLWYDD.
Chapter 2
Jere WelBeibl 2:2  “Dos, a gwna'n siŵr fod pobl Jerwsalem yn clywed y neges yma. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n cofio mor awyddus oeddet ti i'm plesio i, a'r cariad roeddet ti'n ei ddangos, fel merch ifanc ar fin priodi. Dyma ti'n fy nilyn i drwy'r anialwch mewn tir oedd heb ei drin.
Jere WelBeibl 2:3  Roedd Israel wedi'i chysegru i'r ARGLWYDD, fel ffrwyth cyntaf ei gynhaeaf. Roedd pawb oedd yn ei chyffwrdd yn cael eu cyfri'n euog, a byddai dinistr yn dod arnyn nhw.’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 2:4  Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, bobl Jacob – llwythau Israel i gyd.
Jere WelBeibl 2:5  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Pa fai gafodd eich hynafiaid yno i eu bod wedi crwydro mor bell oddi wrtho i? Dilyn delwau diwerth, a gwneud eu hunain yn dda i ddim.
Jere WelBeibl 2:6  Wnaethon nhw ddim gofyn, ‘Ble mae'r ARGLWYDD ddaeth â ni allan o wlad yr Aifft, a'n harwain ni drwy'r anialwch – ein harwain drwy dir diffaith oedd yn llawn tyllau, tir sych a thywyll, tir does neb yn mynd drwyddo, a lle does neb yn byw?’
Jere WelBeibl 2:7  Des i â chi i dir ffrwythlon a gadael i chi fwynhau ei ffrwyth a'i gynnyrch da. Ond pan aethoch i mewn yno dyma chi'n llygru'r tir, a gwneud y wlad rois i'n etifeddiaeth i chi yn ffiaidd yn fy ngolwg i.
Jere WelBeibl 2:8  Wnaeth yr offeiriaid ddim gofyn, ‘Ble mae'r ARGLWYDD?’ Doedd y rhai sy'n dysgu'r Gyfraith ddim yn fy nabod i. Roedd yr arweinwyr yn gwrthryfela yn fy erbyn, a'r proffwydi'n rhoi negeseuon ar ran y duw Baal, ac yn dilyn delwau diwerth.
Jere WelBeibl 2:9  Felly, dyma fi eto'n dod â cyhuddiad yn eich erbyn chi, a bydda i'n cyhuddo eich disgynyddion chi hefyd.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 2:10  “Ewch drosodd i ynys Cyprus i weld, neu anfonwch rywun i Cedar i ymchwilio. Ydy'r fath beth wedi digwydd erioed o'r blaen?
Jere WelBeibl 2:11  Oes gwlad arall wedi newid ei duwiau? (A dydy'r rheiny ddim yn dduwiau go iawn!) Ond mae fy mhobl i wedi fy ffeirio i, y Duw gwych, am ‛dduwiau‛ sy'n ddim ond delwau diwerth.
Jere WelBeibl 2:12  Mae'r nefoedd mewn sioc fod y fath beth yn gallu digwydd! Mae'n ddychryn! Mae'r peth yn syfrdanol!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 2:13  “Mae fy mhobl wedi gwneud dau beth drwg: maen nhw wedi troi cefn arna i, y ffynnon o ddŵr glân gloyw, a chloddio pydewau iddyn nhw'u hunain – pydewau wedi cracio sydd ddim yn dal dŵr!”
Jere WelBeibl 2:14  “Ydy Israel yn gaethwas? Na! Gafodd e ei eni'n gaethwas? Naddo! Felly, pam mae e'n cael ei gipio gan y gelyn?
Jere WelBeibl 2:15  Mae'r gelyn yn rhuo drosto fel llewod ifanc yn rhuo'n swnllyd. Mae'r wlad wedi'i difetha, a'i threfi'n adfeilion heb neb yn byw yno bellach.
Jere WelBeibl 2:16  A daw milwyr yr Aifft, o drefi Memffis a Tachpanches i siafio'ch pennau chi, bobl Israel.
Jere WelBeibl 2:17  Ti, Israel, ddaeth â hyn arnat dy hun, drwy droi dy gefn ar yr ARGLWYDD dy Dduw pan oedd e'n dangos y ffordd i ti.
Jere WelBeibl 2:18  Felly beth ydy pwynt mynd i lawr i'r Aifft neu droi at Asyria am help? Ydy yfed dŵr afon Nîl neu'r Ewffrates yn mynd i dy helpu di?
Jere WelBeibl 2:19  Bydd dy ddrygioni'n dod â'i gosb, a'r ffaith i ti droi cefn arna i yn dysgu gwers i ti. Cei weld fod troi cefn ar yr ARGLWYDD dy Dduw a dangos dim parch tuag ata i yn ddrwg iawn ac yn gwneud niwed mawr,” —meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus.
Jere WelBeibl 2:20  “Ymhell bell yn ôl torrais yr iau oedd ar dy war a dryllio'r rhaffau oedd yn dy rwymo; ond dyma ti'n dweud, ‘Wna i ddim dy wasanaethu di!’ Felly addolaist dy ‛dduwiau‛ ar ben pob bryn a than pob coeden ddeiliog, a gorweddian ar led fel putain.
Jere WelBeibl 2:21  Rôn i wedi dy blannu di yn y tir fel gwinwydden arbennig o'r math gorau. Sut wnest ti droi'n winwydden wyllt a'i ffrwyth yn ddrwg a drewllyd?
Jere WelBeibl 2:22  Gelli drio defnyddio powdr golchi a llwythi o sebon i geisio ymolchi, ond dw i'n dal i weld staen dy euogrwydd di.” —y Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 2:23  “Sut elli di ddweud, ‘Dw i ddim yn aflan. Wnes i ddim addoli duwiau Baal’? Meddylia beth wnest ti yn y dyffryn! Rwyt fel camel ifanc yn rhuthro i bob cyfeiriad a ddim yn gwybod ble i droi!
Jere WelBeibl 2:24  Rwyt fel asen wyllt wedi'i magu yn yr anialwch yn sniffian yr awyr am gymar pan mae'n amser paru. Does dim modd ei dal hi'n ôl pan mae'r nwyd yna. Does dim rhaid i'r asynnod flino yn rhedeg ar ei hôl, mae hi yna'n disgwyl amdanyn nhw adeg paru.
Jere WelBeibl 2:25  Paid gadael i dy esgidiau dreulio a dy wddf sychu yn rhedeg ar ôl duwiau eraill. Ond meddet ti, ‘Na, does dim pwynt! Dw i'n caru'r duwiau eraill yna, a dw i am fynd ar eu holau nhw eto.’
Jere WelBeibl 2:26  Fel lleidr, dydy Israel ddim ond yn teimlo cywilydd pan mae wedi cael ei ddal! Brenhinoedd a swyddogion, offeiriaid a phroffwydi – maen nhw i gyd yr un fath.
Jere WelBeibl 2:27  Maen nhw'n dweud wrth ddarn o bren, ‘Ti ydy fy nhad i!’ ac wrth garreg, ‘Ti ydy fy mam, ddaeth â fi i'r byd!’ Ydyn, maen nhw wedi troi cefn arna i yn lle troi ata i. Ond wedyn, pan maen nhw mewn trafferthion maen nhw'n gweiddi arna i, ‘Tyrd, achub ni!’
Jere WelBeibl 2:28  Felly, ble mae'r duwiau rwyt ti wedi'u gwneud i ti dy hun? Gad iddyn nhw ddod i dy achub di, os gallan nhw, pan wyt ti mewn trafferthion! Wedi'r cwbl, Jwda, mae gen ti gymaint o dduwiau ag sydd gen ti o drefi!
Jere WelBeibl 2:29  Pam dych chi'n rhoi'r bai arna i? Chi ydy'r rhai sydd wedi gwrthryfela yn fy erbyn i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 2:30  “Dyma fi'n cosbi dy bobl, ond doedd dim pwynt; doedden nhw ddim yn fodlon cael eu cywiro. Chi eich hunain laddodd eich proffwydi fel llew ffyrnig yn ymosod ar ei brae.”
Jere WelBeibl 2:31  Bobl, gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud! “Ydw i wedi bod fel anialwch i Israel? Ydw i wedi bod fel tir tywyll i chi? Felly, pam mae fy mhobl yn dweud, ‘Dŷn ni'n rhydd i wneud beth leiciwn ni. Dŷn ni ddim am droi atat byth eto’?
Jere WelBeibl 2:32  Ydy merch ifanc yn anghofio gwisgo'i thlysau? Ydy priodferch yn anghofio'i gwisg briodas? Na! – Ond mae fy mhobl wedi fy anghofio i ers gormod o flynyddoedd i'w cyfri.
Jere WelBeibl 2:33  Ti'n un da iawn am redeg ar ôl dy gariadon. Byddai'r butain fwya profiadol yn dysgu lot fawr gen ti!
Jere WelBeibl 2:34  Ar ben hynny, mae olion gwaed y tlawd a'r diniwed ar eich dillad, er eich bod chi ddim wedi'u dal nhw yn torri i mewn i'ch tai. Ac eto, er gwaetha'r cwbl
Jere WelBeibl 2:35  ti'n dal i ddweud, ‘Dw i wedi gwneud dim byd o'i le; does bosib ei fod e'n dal yn ddig hefo fi!’ Gwylia dy hun! Dw i'n mynd i dy farnu di am ddweud, ‘Dw i ddim wedi pechu.’
Jere WelBeibl 2:36  Pam wyt ti'n ei chael hi mor hawdd newid ochr? Gofyn am help un, ac wedyn y llall! Byddi di'n cael dy siomi gan yr Aifft yn union fel y cest ti dy siomi gan Asyria.
Jere WelBeibl 2:37  Byddi'n dod allan o'r sefyllfa yma hefo dy ddwylo dros dy wyneb mewn cywilydd. Mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y rhai rwyt ti'n pwyso arnyn nhw; fyddi di ddim yn llwyddo gyda'u help nhw.
Chapter 3
Jere WelBeibl 3:1  Os ydy dyn yn ysgaru ei wraig, a hithau wedyn yn ei adael ac yn priodi rhywun arall, dydy'r dyn cyntaf ddim yn gallu ei chymryd hi yn ôl. Byddai gwneud hynny'n llygru'r tir! Ti wedi actio fel putain gyda dy holl gariadon; felly wyt ti'n meddwl y cei di ddod yn ôl ata i?” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 3:2  “Edrych ar y bryniau o dy gwmpas! Oes rhywle rwyt heb orwedd i gael rhyw? Roeddet ti'n eistedd ar ochr y ffordd, fel Bedowin yn yr anialwch, yn disgwyl amdanyn nhw! Ti wedi llygru'r tir gyda dy holl buteinio a'th ddrygioni.
Jere WelBeibl 3:3  Dyna pam does dim glaw wedi bod, a dim sôn am gawodydd y gwanwyn. Ond roeddet ti mor benstiff â phutain ac yn teimlo dim cywilydd o gwbl.
Jere WelBeibl 3:4  Ac eto dyma ti'n galw arna i, ‘Fy nhad! Ti wedi bod yn ffrind agos ers pan o'n i'n ifanc –
Jere WelBeibl 3:5  Wyt ti'n mynd i ddal dig am byth? Wyt ti ddim yn mynd i aros felly, nac wyt?’ Ie, dyna beth ti'n ddweud, ond yna'n dal i wneud cymaint o ddrwg ag y medri di!”
Jere WelBeibl 3:6  Pan oedd Joseia yn frenin dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, “Ti wedi gweld beth wnaeth Israel chwit-chwat – mynd i ben pob bryn uchel a gorwedd dan bob coeden ddeiliog a chwarae'r butain drwy addoli duwiau eraill.
Jere WelBeibl 3:7  Hyd yn oed wedyn, roeddwn i'n gobeithio y byddai hi'n troi'n ôl ata i. Ond wnaeth hi ddim. Ac roedd Jwda, ei chwaer anffyddlon, wedi gweld y cwbl.
Jere WelBeibl 3:8  Gwelodd fi'n rhoi papurau ysgariad i Israel ac yn ei hanfon hi i ffwrdd am fod yn anffyddlon i mi mor aml, drwy addoli duwiau eraill. Ond wnaeth hynny ddim gwahaniaeth i Jwda. Dyma hithau'n mynd ac yn puteinio yn union yr un fath!
Jere WelBeibl 3:9  Roedd Israel yn cymryd y cwbl mor ysgafn, ac roedd hi wedi llygru'r tir drwy addoli duwiau o bren a charreg.
Jere WelBeibl 3:10  Ond er gwaetha hyn i gyd, dydy Jwda, ei chwaer anffyddlon, ddim wedi troi'n ôl ata i go iawn. Dydy hi ddim ond yn esgus bod yn sori,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 3:11  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Roedd Israel chwit-chwat yn well na Jwda anffyddlon!
Jere WelBeibl 3:12  Felly, dos i wledydd y gogledd i ddweud wrth bobl Israel, ‘Tro yn ôl ata i, Israel anffyddlon!’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Dw i ddim yn mynd i edrych yn flin arnat ti o hyn ymlaen. Dw i'n Dduw trugarog! Fydda i ddim yn dal dig am byth.
Jere WelBeibl 3:13  Dim ond i ti gyfaddef dy fai – cyfaddef dy fod wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw a rhoi dy hun i dduwiau eraill dan bob coeden ddeiliog, cyfaddef dy fod ti ddim wedi gwrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 3:14  “‘Trowch yn ôl ata i, bobl anffyddlon,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fi ydy'ch gŵr chi go iawn. Bydda i'n mynd â chi'n ôl i Seion – bob yn un o'r pentrefi a bob yn ddau o'r gwahanol deuluoedd.
Jere WelBeibl 3:15  Bydda i'n rhoi arweinwyr i chi sy'n ffyddlon i mi. Byddan nhw'n gofalu amdanoch chi'n ddoeth ac yn ddeallus.’
Jere WelBeibl 3:16  Bydd y boblogaeth yn cynyddu eto, a bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “fydd pobl ddim yn dweud pethau fel, ‘Mae gynnon ni Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD!’ Fydd y peth ddim yn croesi'r meddwl. Fyddan nhw ddim yn ei chofio hi nac yn ei cholli hi! A fydd dim angen gwneud un newydd.
Jere WelBeibl 3:17  Bryd hynny bydd dinas Jerwsalem yn cael ei galw yn orsedd yr ARGLWYDD. Bydd pobl o wledydd y byd i gyd yn dod at ei gilydd yno i addoli'r ARGLWYDD. Fyddan nhw ddim yn dal ati'n ystyfnig i ddilyn y duedd sydd ynddyn nhw i wneud drwg.
Jere WelBeibl 3:18  Bryd hynny bydd pobl Jwda a phobl Israel yn teithio yn ôl gyda'i gilydd o'r gaethglud yn y gogledd. Byddan nhw'n dod yn ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid i'w hetifeddu.”
Jere WelBeibl 3:19  “Rôn i'n arfer meddwl, ‘Dw i'n mynd i dy drin di fel mab! Dw i'n mynd i roi'r tir hyfryd yma i ti – yr etifeddiaeth orau yn y byd i gyd!’ Rôn i'n arfer meddwl y byddet ti'n fy ngalw i ‘Fy nhad’ a byth yn troi cefn arna i.
Jere WelBeibl 3:20  Ond yn lle hynny, buoch yn anffyddlon i mi, bobl Israel, fel gwraig sy'n anffyddlon i'w gŵr.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 3:21  Mae lleisiau i'w clywed ar ben y bryniau, sŵn pobl Israel yn crio ac yn pledio ar eu ‛duwiau‛. Maen nhw wedi anghofio'r ARGLWYDD eu Duw a chrwydro mor bell oddi wrtho!
Jere WelBeibl 3:22  “Dewch yn ôl ata i, bobl anffyddlon; gadewch i mi eich gwella chi!” “Iawn! Dyma ni'n dod,” meddai'r bobl. “Ti ydy'r ARGLWYDD ein Duw ni.
Jere WelBeibl 3:23  Dydy eilun-dduwiau'r bryniau yn ddim ond twyll, a'r holl rialtwch wrth addoli ar y mynyddoedd. Yr ARGLWYDD ein Duw ydy'r unig un all achub Israel.
Jere WelBeibl 3:24  Ond mae Baal, y duw ffiaidd yna, wedi llyncu'r cwbl wnaeth ein hynafiaid weithio mor galed amdano o'r dechrau – eu defaid a'u gwartheg, eu meibion a'u merched.
Jere WelBeibl 3:25  Gadewch i ni orwedd mewn cywilydd, a'n gwarth fel blanced droson ni. Dŷn ni a'n hynafiaid wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw o'r dechrau cyntaf hyd heddiw. Dŷn ni ddim wedi bod yn ufudd iddo o gwbl.”
Chapter 4
Jere WelBeibl 4:1  “Dim ond i ti droi yn ôl, o Israel,” meddai'r ARGLWYDD “Ie, troi yn ôl! Cael gwared â'r eilun-dduwiau ffiaidd yna o'm golwg i a stopio crwydro o hyn ymlaen;
Jere WelBeibl 4:2  dweud y gwir, a bod yn onest wrth dyngu llw, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw!’ Wedyn bydd y cenhedloedd am iddo'u bendithio nhw, a byddan nhw'n ymffrostio ynddo.”
Jere WelBeibl 4:3  Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi, bobl Jwda a Jerwsalem: “Rhaid i chi drin y tir caled, a pheidio hau had da yng nghanol drain;
Jere WelBeibl 4:4  rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD, newid eich agwedd a chael gwared â phob rhwystr. Os na wnewch chi, bydda i'n ddig. Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd, o achos yr holl ddrwg dych chi wedi'i wneud.”
Jere WelBeibl 4:5  Yr ARGLWYDD: “Cyhoeddwch hyn yn Jwda, a dweud wrth bawb yn Jerwsalem: ‘Chwythwch y corn hwrdd i rybuddio pobl drwy'r wlad i gyd.’ Gwaeddwch yn uchel, ‘Dewch, rhaid dianc i'r trefi caerog!’
Jere WelBeibl 4:6  Codwch arwydd yn dweud, ‘I Seion!’ Ffowch i le saff! Peidiwch sefyllian! Dw i ar fin dod â dinistr o gyfeiriad y gogledd – trychineb ofnadwy!
Jere WelBeibl 4:7  Mae llew wedi dod allan o'i ffau! Mae'r un sy'n dinistrio cenhedloedd ar ei ffordd. Mae'n dod i ddifetha'r wlad, a gwneud ei threfi'n adfeilion lle bydd neb yn byw.
Jere WelBeibl 4:8  Felly gwisgwch sachliain, a galaru ac udo: ‘Mae'r ARGLWYDD yn dal wedi digio'n lân hefo ni.’”
Jere WelBeibl 4:9  “Y diwrnod hwnnw,” meddai'r ARGLWYDD, “bydd y brenin a'i swyddogion wedi colli pob hyder. Bydd yr offeiriaid yn syfrdan a'r proffwydi'n methu dweud gair.”
Jere WelBeibl 4:10  Fy ymateb i oedd, “O! Feistr, ARGLWYDD, mae'n rhaid dy fod ti wedi twyllo'r bobl yma'n llwyr, a Jerwsalem hefyd! Roeddet ti wedi addo heddwch i Jerwsalem, ond mae cleddyf yn cyffwrdd ein gyddfau ni!”
Jere WelBeibl 4:11  Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn dweud wrth y bobl yma ac wrth Jerwsalem, “Bydd gwynt poeth o fryniau'r anialwch yn chwythu ar fy mhobl druan. Nid rhyw wynt ysgafn i nithio'r had a chwythu'r us i ffwrdd fydd e.
Jere WelBeibl 4:12  Na, bydd yn wynt llawer rhy gryf i hynny! Dw i fy hun yn mynd i'w barnu nhw.”
Jere WelBeibl 4:13  Edrychwch! Mae'r gelyn yn dod fel cymylau'n casglu. Mae sŵn ei gerbydau fel sŵn corwynt, a'i geffylau yn gyflymach nag eryrod. “Gwae ni, mae hi ar ben arnon ni!” meddai'r bobl.
Jere WelBeibl 4:14  O, Jerwsalem, golcha'r drwg o dy galon i ti gael dy achub. Am faint wyt ti'n mynd i ddal gafael yn dy syniadau dinistriol?
Jere WelBeibl 4:15  Mae negeswyr yn dod i gyhoeddi dinistr o dref Dan ac o fryniau Effraim.
Jere WelBeibl 4:16  Cyhoeddwch i'r gwledydd o'i chwmpas, “Maen nhw yma!” a dwedwch wrth Jerwsalem, “Mae'r rhai sy'n ymosod ar ddinasoedd wedi dod o wlad bell, ac yn bloeddio, ‘I'r gad!’ yn erbyn trefi Jwda.”
Jere WelBeibl 4:17  Maen nhw'n cau amdani o bob cyfeiriad, fel gwylwyr yn gofalu am gae. “Ydy, mae hi wedi gwrthryfela yn fy erbyn i,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 4:18  Ti wedi dod â hyn arnat dy hun, achos y ffordd rwyt wedi byw a'r pethau rwyt wedi'u gwneud. Bydd dy gosb yn brofiad chwerw! Bydd fel cleddyf yn treiddio i'r byw!
Jere WelBeibl 4:19  Jeremeia: O'r poen dw i'n ei deimlo! Mae fel gwayw yn fy mol, ac mae fy nghalon i'n pwmpio'n wyllt. Alla i ddim cadw'n dawel wrth glywed y corn hwrdd yn seinio a'r milwyr yn gweiddi “I'r gad!”
Jere WelBeibl 4:20  Mae un dinistr yn dod ar ôl y llall, nes bod y wlad i gyd wedi'i difetha. Yn sydyn mae pob pabell wedi'i dinistrio, a'u llenni wedi'u rhwygo mewn chwinciad.
Jere WelBeibl 4:21  Am faint mae'n rhaid edrych ar faneri'r gelyn? Am faint fydd raid i'r rhyfela fynd ymlaen?
Jere WelBeibl 4:22  Yr ARGLWYDD: “Mae fy mhobl yn ffyliaid. Dŷn nhw ddim yn fy nabod i go iawn. Maen nhw fel plant heb ddim sens. Dŷn nhw'n deall dim byd! Maen nhw'n hen lawiau ar wneud drwg, ond ddim yn gwybod sut i wneud beth sy'n dda.”
Jere WelBeibl 4:23  Jeremeia: Edrychais ar y ddaear, ac roedd yn anrhefn gwag. Edrychais i'r awyr, a doedd dim golau!
Jere WelBeibl 4:24  Edrychais ar y mynyddoedd, ac roedden nhw'n crynu! Roedd y bryniau i gyd yn gwegian.
Jere WelBeibl 4:25  Edrychais eto – doedd dim pobl yn unman, ac roedd yr adar i gyd wedi hedfan i ffwrdd.
Jere WelBeibl 4:26  Edrychais, ac roedd y tir amaeth wedi troi'n anialwch, a'r trefi i gyd yn adfeilion. Yr ARGLWYDD oedd wedi achosi'r cwbl, am ei fod wedi digio'n lân hefo ni.
Jere WelBeibl 4:27  Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd y tir i gyd yn destun sioc ond fydda i ddim yn ei ddinistrio'n llwyr.
Jere WelBeibl 4:28  Bydd y ddaear yn galaru, a'r awyr wedi tywyllu. Dw i wedi dweud yn glir beth dw i am ei wneud, a dw i ddim yn bwriadu newid fy meddwl.”
Jere WelBeibl 4:29  Mae sŵn y marchogion a'r bwasaethwyr yn dod, ac mae pawb yn ffoi o'r trefi. Maen nhw'n cuddio yn y llwyni, ac yn dringo'r clogwyni. Mae'r trefi'n wag – does neb ar ôl ynddyn nhw!
Jere WelBeibl 4:30  A thithau'r ddinas sy'n mynd i gael dy ddinistrio: Beth wyt ti'n wneud yn dy ddillad gorau? Pam wyt ti'n addurno dy hun hefo dy dlysau? Pam wyt ti'n rhoi colur ar dy lygaid? Does dim pwynt i ti wisgo colur. Mae dy ‛gariadon‛ wedi dy wrthod; maen nhw eisiau dy ladd di!
Jere WelBeibl 4:31  A dweud y gwir, dw i wedi clywed sŵn crio, sŵn gwraig ifanc mewn poen wrth gael ei babi cyntaf, sŵn Seion yn anadlu'n drwm, ac yn pledio am help: “Mae ar ben arna i! Mae'r llofruddion yma wedi cael y gorau arna i.”
Chapter 5
Jere WelBeibl 5:1  Yr ARGLWYDD: “Ewch yn ôl ac ymlaen drwy strydoedd Jerwsalem. Edrychwch yn fanwl ym mhobman; chwiliwch yn ei sgwariau cyhoeddus. Os allwch chi ddod o hyd i un person sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn onest, gwna i faddau i'r ddinas gyfan!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 5:2  Jeremeia: Mae'r bobl yma'n tyngu llw, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw …” Ond y gwir ydy fod eu geiriau'n gelwydd!
Jere WelBeibl 5:3  O ARGLWYDD, onid gonestrwydd wyt ti eisiau? Ti'n ei cosbi nhw, a dŷn nhw'n cymryd dim sylw. Bron i ti eu dinistrio, ond maen nhw'n gwrthod cael eu cywiro. Maen nhw mor ystyfnig, ac yn gwrthod newid eu ffyrdd.
Jere WelBeibl 5:4  Wedyn dyma fi'n meddwl, “Pobl dlawd gyffredin ydy'r rhain. Maen nhw wedi ymddwyn yn ddwl; dŷn nhw ddim yn gwybod beth mae'r ARGLWYDD eisiau, a beth mae Duw yn ei ddisgwyl ganddyn nhw.
Jere WelBeibl 5:5  Gwna i fynd i siarad gyda'r arweinwyr. Byddan nhw'n gwybod beth mae'r ARGLWYDD eisiau, a beth mae Duw yn ei ddisgwyl ganddyn nhw.” Ond roedden nhw hefyd fel ychen wedi torri'r iau yn gwrthod gadael i Dduw eu harwain nhw.
Jere WelBeibl 5:6  Felly, bydd y gelyn yn dod i ymosod fel llew o'r goedwig. Bydd yn neidio arnyn nhw fel blaidd o'r anialwch. Bydd fel llewpard yn stelcian tu allan i'w trefi, a bydd unrhyw un sy'n mentro allan yn cael ei rwygo'n ddarnau! Maen nhw wedi gwrthryfela ac wedi troi cefn ar Dduw mor aml.
Jere WelBeibl 5:7  Yr ARGLWYDD: “Jerwsalem – sut alla i faddau i ti am hyn? Mae dy bobl wedi troi cefn arna i. Maen nhw wedi cymryd llw i ‛dduwiau‛ sydd ddim yn bod! Er fy mod i wedi rhoi popeth oedd ei angen iddyn nhw dyma nhw'n ymddwyn fel gwraig sy'n anffyddlon i'w gŵr. Maen nhw'n heidio i dai puteiniaid,
Jere WelBeibl 5:8  fel meirch cryfion yn awchu am gaseg; pob un yn gweryru am wraig ei gymydog.
Jere WelBeibl 5:9  Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?” meddai'r ARGLWYDD. “Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?”
Jere WelBeibl 5:10  Yr ARGLWYDD (wrth fyddin y gelyn): “Ewch i lawr y rhesi o goed gwinwydd, a difetha, ond peidiwch â'u dinistrio nhw'n llwyr. Torrwch y canghennau sy'n blaguro i ffwrdd, achos dŷn nhw ddim yn perthyn i'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 5:11  Mae pobl Israel a Jwda wedi bod yn anffyddlon i mi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 5:12  “Ydyn, maen nhw wedi gwrthod credu'r ARGLWYDD a dweud pethau fel, ‘Dydy e'n neb! Does dim dinistr i ddod go iawn. Welwn ni ddim rhyfel na newyn.
Jere WelBeibl 5:13  Mae'r proffwydi'n malu awyr! Dydy Duw ddim wedi rhoi neges iddyn nhw! Gadewch i'r hyn maen nhw'n ddweud ddigwydd iddyn nhw'u hunain!’”
Jere WelBeibl 5:14  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, yn ei ddweud: “Am eu bod nhw'n dweud hyn, dw i'n mynd i roi neges i ti fydd fel fflam dân yn eu llosgi nhw fel petaen nhw'n goed tân.”
Jere WelBeibl 5:15  “Gwranda Israel,” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i'n mynd i ddod â gwlad o bell i ymosod arnat ti – gwlad sydd wedi bod o gwmpas ers talwm. Ti ddim yn siarad ei hiaith hi nac yn deall beth mae'r bobl yn ei ddweud.
Jere WelBeibl 5:16  Mae ei milwyr i gyd yn gryfion, a'i chawell saethau fel bedd agored.
Jere WelBeibl 5:17  Byddan nhw'n bwyta dy gnydau a dy fwyd. Byddan nhw'n lladd dy feibion a dy ferched. Byddan nhw'n bwyta dy ddefaid a dy wartheg. Byddan nhw'n difetha dy goed gwinwydd a dy goed ffigys. Byddan nhw'n ymosod, ac yn dinistrio dy gaerau amddiffynnol – a thithau'n meddwl eu bod nhw mor saff!
Jere WelBeibl 5:18  “Ond hyd yn oed bryd hynny fydda i ddim yn eich dinistrio chi'n llwyr,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 5:19  “A Jeremeia, pan fydd y bobl yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi gwneud y pethau yma i ni?’, byddi di'n ateb, ‘Am eich bod wedi'i wrthod e, a gwasanaethu duwiau estron yn eich gwlad eich hunain, byddwch chi'n gwasanaethu pobl estron mewn gwlad ddieithr.’”
Jere WelBeibl 5:20  “Dwedwch fel hyn wrth ddisgynyddion Jacob, a chyhoeddwch y peth drwy Jwda:
Jere WelBeibl 5:21  ‘Gwrandwch, chi bobl ddwl sy'n deall dim – chi sydd â llygaid, ond yn gweld dim, chi sydd â chlustiau, ond yn clywed dim.
Jere WelBeibl 5:22  Oes gynnoch chi ddim parch ata i?’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Ddylech chi ddim gwingo mewn ofn o mlaen i? Fi roddodd dywod ar y traeth fel ffin nad ydy'r môr i'w chroesi. Er bod y tonnau'n hyrddio, fyddan nhw ddim yn llwyddo; er eu bod nhw'n rhuo, ân nhw ddim heibio.
Jere WelBeibl 5:23  Ond mae'r bobl yma mor benstiff, ac yn tynnu'n groes; maen nhw wedi troi cefn a mynd eu ffordd eu hunain.
Jere WelBeibl 5:24  Dŷn nhw ddim wir o ddifrif yn dweud, “Gadewch i ni barchu'r ARGLWYDD ein Duw. Mae'n rhoi'r glaw i ni yn y gwanwyn a'r hydref; mae'n rhoi'r cynhaeaf i ni ar yr adeg iawn.”
Jere WelBeibl 5:25  Mae'ch drygioni wedi rhoi stop ar y pethau yma! Mae'ch pechodau chi wedi cadw'r glaw i ffwrdd.’
Jere WelBeibl 5:26  ‘Mae yna bobl ddrwg iawn ymhlith fy mhobl i. Maen nhw fel helwyr adar yn cuddio ac yn gwylio, ar ôl gosod trapiau i ddal pobl.
Jere WelBeibl 5:27  Fel caets sy'n llawn o adar wedi'u dal, mae eu tai'n llawn o enillion eu twyll. Dyna pam maen nhw mor gyfoethog a phwerus,
Jere WelBeibl 5:28  wedi pesgi ac yn edrych mor dda. Does dim pen draw i'w drygioni nhw! Dŷn nhw ddim yn rhoi cyfiawnder i'r amddifad, nac yn amddiffyn hawliau pobl dlawd.
Jere WelBeibl 5:29  Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?’
Jere WelBeibl 5:30  Mae beth sy'n digwydd yn y wlad yma'n erchyll, mae'n warthus!
Jere WelBeibl 5:31  Mae'r proffwydi'n dweud celwydd, a'r offeiriaid yn rheoli fel maen nhw eisiau. Ac mae fy mhobl i wrth eu boddau gyda'r sefyllfa! Ond beth wnewch chi pan ddaw'r cwbl i ben?”
Chapter 6
Jere WelBeibl 6:1  “Bobl Benjamin, ffowch i le saff! A dianc o ganol Jerwsalem! Chwythwch y corn hwrdd yn Tecoa, a chynnau tân yn Beth-hacerem i rybuddio'r bobl. Mae byddin yn dod o'r gogledd i ddinistrio popeth.
Jere WelBeibl 6:3  ond daw byddin iddi fel bugeiliaid yn arwain eu praidd. Byddan nhw'n codi eu pebyll o'i chwmpas, a bydd yn cael ei phori nes bydd dim ar ôl!
Jere WelBeibl 6:4  ‘Paratowch i ymladd yn ei herbyn! Dewch! Gadewch i ni ymosod arni ganol dydd!’ ‘Hen dro, mae'n dechrau nosi – mae'r haul yn machlud a'r cysgodion yn hir.’
Jere WelBeibl 6:5  ‘Sdim ots! Gadewch i ni ymosod ganol nos, a dinistrio'i phalasau yn llwyr.’
Jere WelBeibl 6:6  Ie, dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Torrwch goed a chodi ramp i ymosod ar ei waliau. Hi ydy'r ddinas sydd i'w chosbi; does dim byd ond gormes ynddi!
Jere WelBeibl 6:7  Mae rhyw ddrwg yn tarddu ohoni'n ddi-baid, fel dŵr yn llifo o ffynnon. Sŵn trais a dinistr sydd i'w glywed ar ei strydoedd; a dw i'n gweld dim ond pobl wedi'u hanafu ym mhobman.’
Jere WelBeibl 6:8  Felly dysga dy wers, Jerwsalem! Neu bydda i'n troi yn dy erbyn, ac yn dy ddinistrio'n llwyr. Fydd neb yn byw ynot ti!”
Jere WelBeibl 6:9  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Byddan nhw'n lloffa'n llwyr y rhai fydd wedi'u gadael ar ôl. Byddan nhw fel casglwr grawnwin yn edrych dros y brigau yr ail waith i wneud yn siŵr fod dim ffrwyth wedi'i adael.”
Jere WelBeibl 6:10  Jeremeia: “Ond pwy sy'n mynd i wrando hyd yn oed os gwna i eu rhybuddio nhw? Maen nhw'n gwrthod gwrando. Dŷn nhw'n cymryd dim sylw! Mae dy neges, ARGLWYDD, yn jôc – does ganddyn nhw ddim eisiau ei chlywed!
Jere WelBeibl 6:11  Fel ti, dw i'n hollol ddig gyda nhw, ARGLWYDD; alla i ddim ei ddal yn ôl.” Yr ARGLWYDD: “Felly tywallt dy ddig ar y plant sy'n chwarae ar y stryd, ac ar y criw o bobl ifanc. Bydd cyplau priod yn cael eu cymryd i ffwrdd, y bobl hŷn a'r henoed.
Jere WelBeibl 6:12  Bydd eu tai'n cael eu rhoi i'r gelynion, a'u caeau, a'u gwragedd hefyd! Dw i'n mynd i daro pawb sy'n byw yn y wlad yma!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 6:13  “Maen nhw i gyd yn farus am elw anonest – y bobl gyffredin a'r arweinwyr. Hyd yn oed y proffwydi a'r offeiriaid – maen nhw i gyd yn twyllo!
Jere WelBeibl 6:14  Mae'r help maen nhw'n ei gynnig yn arwynebol a gwag. ‘Bydd popeth yn iawn,’ medden nhw; Ond dydy popeth ddim yn iawn!
Jere WelBeibl 6:15  Dylai fod cywilydd arnyn nhw am y fath beth! Ond na! Does ganddyn nhw ddim mymryn o gywilydd. Dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy gwrido! Felly byddan nhw'n cael eu lladd gyda pawb arall. Bydda i'n eu cosbi nhw, a byddan nhw'n syrthio.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 6:16  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dych chi'n sefyll ar groesffordd, felly holwch am yr hen lwybrau – sef y ffordd sy'n arwain i fendith. Ewch ar hyd honno a cewch orffwys wedyn.” Ond ymateb y bobl oedd, “Na, dim diolch!”
Jere WelBeibl 6:17  “Anfonais broffwydi fel gwylwyr i'ch rhybuddio chi. Os ydy'r corn hwrdd yn rhoi rhybudd, rhaid i chi ymateb. Ond roeddech chi'n gwrthod cymryd unrhyw sylw.
Jere WelBeibl 6:18  Felly, chi'r cenhedloedd, gwrandwch ar hyn. Cewch weld beth fydd yn digwydd i'r bobl yma.
Jere WelBeibl 6:19  Gwranda dithau, ddaear. Dw i'n dod â dinistr ar y bobl yma. Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am eu holl gynllwynio. Dŷn nhw ddim wedi cymryd sylw o beth dw i'n ddweud, ac maen nhw wedi gwrthod beth dw i'n ddysgu iddyn nhw.
Jere WelBeibl 6:20  Beth ydy pwynt cyflwyno thus o Sheba i mi, neu sbeisiau persawrus o wlad bell? Dw i ddim yn gallu derbyn eich offrymau i'w llosgi, a dydy'ch aberthau chi ddim yn plesio chwaith.”
Jere WelBeibl 6:21  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i osod cerrig o'u blaenau nhw, i wneud i'r bobl yma faglu a syrthio. Bydd rhieni a phlant, cymdogion a ffrindiau yn marw.”
Jere WelBeibl 6:22  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gwyliwch! Mae byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd. Mae gwlad gref ym mhen draw'r byd yn paratoi i fynd i ryfel.
Jere WelBeibl 6:23  Mae ei milwyr wedi gafael yn y bwa a'r cleddyf; maen nhw'n greulon a fyddan nhw'n dangos dim trugaredd. Mae sŵn eu ceffylau'n carlamu fel sŵn y môr yn rhuo. Mae eu rhengoedd nhw mor ddisgybledig, ac maen nhw'n dod yn eich erbyn chi, bobl Seion.”
Jere WelBeibl 6:24  Y bobl: “Dŷn ni wedi clywed amdanyn nhw, does dim byd allwn ni ei wneud. Mae dychryn wedi gafael ynon ni fel gwraig mewn poen wrth gael babi.
Jere WelBeibl 6:25  Paid mentro allan i gefn gwlad. Paid mynd allan ar y ffyrdd. Mae cleddyf y gelyn yn barod. Does ond dychryn ym mhobman!”
Jere WelBeibl 6:26  Jeremeia: “Fy mhobl annwyl, gwisgwch sachliain a rholio mewn lludw. Galarwch ac wylwch fel petai eich unig blentyn wedi marw – dyna'r golled fwya chwerw! Mae'r gelyn sy'n dinistrio yn dod unrhyw funud!”
Jere WelBeibl 6:27  Yr ARGLWYDD: “Jeremeia, dw i am i ti brofi fy mhobl, fel un sy'n profi safon metel. Dw i am i ti eu gwylio nhw, a phwyso a mesur.”
Jere WelBeibl 6:28  Jeremeia: “Maen nhw'n ofnadwy o benstiff, yn dweud celwyddau, ac mor galed â haearn neu bres. Maen nhw i gyd yn creu llanast llwyr!
Jere WelBeibl 6:29  Mae'r fegin yn chwythu'n ffyrnig, a'r tân yn poethi. Ond mae gormod o amhurdeb i'r plwm ei symud. Mae'r broses o buro wedi methu, a'r drwg yn dal yno.
Jere WelBeibl 6:30  ‛Arian diwerth‛ ydy'r enw arnyn nhw, am fod yr ARGLWYDD wedi'u gwrthod nhw.”
Chapter 7
Jere WelBeibl 7:1  Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia:
Jere WelBeibl 7:2  “Dos i sefyll wrth y giât i deml yr ARGLWYDD, a chyhoeddi'r neges yma: ‘Bobl Jwda, sy'n mynd i mewn drwy'r giatiau yma i addoli'r ARGLWYDD, gwrandwch!
Jere WelBeibl 7:3  Mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn dweud fod rhaid i chi ddechrau newid eich ffyrdd. Os gwnewch chi, cewch chi aros yn eich gwlad.
Jere WelBeibl 7:4  Peidiwch credu'r twyll sy'n addo y byddwch chi'n saff wrth ddweud, “Teml yr ARGLWYDD ydy hon! Teml yr ARGLWYDD ydy hi! Teml yr ARGLWYDD!”
Jere WelBeibl 7:5  “‘Rhaid i chi newid eich ffyrdd, dechrau trin pobl eraill yn deg,
Jere WelBeibl 7:6  peidio cam-drin mewnfudwyr, plant amddifad a gwragedd gweddwon. Peidio lladd pobl ddiniwed ac addoli eilun-dduwiau paganaidd. Dych chi ond yn gwneud drwg i chi'ch hunain!
Jere WelBeibl 7:7  Os newidiwch chi eich ffyrdd, bydda i'n gadael i chi aros yn y wlad yma, sef y wlad rois i i'ch hynafiaid chi i'w chadw am byth bythoedd.
Jere WelBeibl 7:8  “‘Ond dyma chi, yn credu'r celwydd fydd ddim help i chi yn y diwedd!
Jere WelBeibl 7:9  Ydy'n iawn eich bod chi'n dwyn, llofruddio, godinebu, dweud celwydd ar lw, llosgi arogldarth i Baal, ac addoli eilun-dduwiau dych chi'n gwybod dim amdanyn nhw,
Jere WelBeibl 7:10  ac wedyn yn dod i sefyll yn y deml yma – fy nheml i – a dweud, “Dŷn ni'n saff!”? Yna cario ymlaen i wneud yr holl bethau ffiaidd yna!
Jere WelBeibl 7:11  Ydy'r deml yma – fy nheml i – wedi troi'n guddfan i ladron? Gwyliwch eich hunain! Dw i wedi gweld beth rydych chi'n wneud,’” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 7:12  “‘Ewch i Seilo, lle roeddwn i'n cael fy addoli o'r blaen. Ewch i weld beth wnes i yno, o achos yr holl bethau drwg wnaeth fy mhobl – pobl Israel.
Jere WelBeibl 7:13  A nawr, dych chi'n gwneud yr un pethau!’” meddai'r ARGLWYDD. “‘Dw i wedi ceisio dweud wrthoch chi dro ar ôl tro, ond doeddech chi ddim am wrando. Rôn i'n galw arnoch chi, ond doeddech chi ddim am ateb.
Jere WelBeibl 7:14  Felly, dw i'n mynd i ddinistrio'r deml yma dych chi'n meddwl fydd yn eich cadw chi'n saff – ie, fy nheml i fy hun. Dw i'n mynd i ddinistrio'r lle yma rois i i chi a'ch hynafiaid, yn union fel y gwnes i ddinistrio Seilo!
Jere WelBeibl 7:15  Dw i'n mynd i'ch gyrru chi o'm golwg i, yn union fel gwnes i yrru pobl Israel i ffwrdd.’”
Jere WelBeibl 7:16  “A ti Jeremeia, paid gweddïo dros y bobl yma. Paid galw arna i na gweddïo drostyn nhw. Paid pledio arna i i'w helpu nhw, achos fydda i ddim yn gwrando arnat ti.
Jere WelBeibl 7:17  Wyt ti ddim yn gweld beth maen nhw'n ei wneud drwy drefi Jwda a strydoedd Jerwsalem?
Jere WelBeibl 7:18  Mae'r plant yn casglu coed tân, y tadau'n cynnau'r tân a'r gwragedd yn paratoi toes i wneud cacennau i'r dduwies maen nhw'n ei galw'n ‛Frenhines y Nefoedd‛! Maen nhw'n tywallt offrwm o ddiod i dduwiau paganaidd dim ond i'm gwylltio i.
Jere WelBeibl 7:19  Ond dim fi ydy'r un sy'n cael ei frifo!” meddai'r ARGLWYDD. “Brifo nhw'u hunain, a chywilyddio nhw'n hunain maen nhw yn y pen draw.”
Jere WelBeibl 7:20  Felly dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dw i'n wyllt gandryll, a bydda i'n tywallt fy llid ar y lle yma. Bydd pobl ac anifeiliaid, coed a chnydau yn cael eu dinistrio. Bydd fel tân sydd ddim yn diffodd.”
Jere WelBeibl 7:21  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Cymerwch gig yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr a'i ychwanegu at yr aberthau eraill. Waeth i chi fwyta hwnnw hefyd!
Jere WelBeibl 7:22  Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o wlad yr Aifft, nid rhoi rheolau iddyn nhw am offrymau i'w llosgi ac aberthau wnes i.
Jere WelBeibl 7:23  Beth ddwedais i oedd, ‘Gwrandwch ar beth dw i'n ddweud. Bydda i'n Dduw i chi a byddwch chi'n bobl i mi. Dw i eisiau i chi fyw yn union fel dw i'n dweud wrthoch chi, a bydd pethau'n mynd yn dda i chi.’
Jere WelBeibl 7:24  “Ond doedden nhw ddim am wrando na chymryd unrhyw sylw ohono i. Dim ond dilyn y duedd ynddyn nhw i wneud drwg, a mynd yn bellach oddi wrtho i yn lle dod yn nes.
Jere WelBeibl 7:25  Ond o'r diwrnod y daeth eich hynafiaid allan o'r Aifft hyd heddiw dw i wedi dal ati i anfon fy ngweision, y proffwydi, atoch chi, dro ar ôl tro.
Jere WelBeibl 7:26  Ond doedd neb yn gwrando arna i nac yn cymryd unrhyw sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff – hyd yn oed yn waeth na'u hynafiaid.
Jere WelBeibl 7:27  “Dwed hyn i gyd wrthyn nhw, Jeremeia. Ond fyddan nhw ddim yn gwrando arnat ti. Byddi di'n galw arnyn nhw, ond paid disgwyl iddyn nhw ymateb.
Jere WelBeibl 7:28  Dwed wrthyn nhw, ‘Mae'r wlad yma wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD ei Duw, a gwrthod cael ei dysgu. Mae gonestrwydd wedi diflannu! Dydy pobl ddim hyd yn oed yn honni ei ddilyn bellach!’
Jere WelBeibl 7:29  ‘Siafiwch eich gwallt, bobl Jerwsalem, a'i daflu i ffwrdd. Canwch gân angladdol ar ben y bryniau. Mae'r ARGLWYDD wedi'ch gwrthod, a throi ei gefn ar y genhedlaeth yma sydd wedi'i ddigio.’”
Jere WelBeibl 7:30  “Dw i wedi gwrthod pobl Jwda am eu bod nhw wedi gwneud drwg,” meddai'r ARGLWYDD. “Maen nhw'n llygru fy nheml i drwy osod eilun-dduwiau ffiaidd ynddi.
Jere WelBeibl 7:31  Maen nhw hefyd wedi codi allorau paganaidd yn Toffet yn Nyffryn Ben-hinnom. Maen nhw'n aberthu eu plant bach yn y tân! Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud y fath beth. Fyddai peth felly byth wedi croesi fy meddwl i!
Jere WelBeibl 7:32  “Felly mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd neb yn galw'r lle yn Toffet neu ddyffryn Ben-hinnom. ‛Dyffryn Llofruddiaeth‛ fydd enw'r lle. Fydd dim digon o le i gladdu pawb fydd yn cael eu lladd yno.
Jere WelBeibl 7:33  Bydd cyrff dynol yn fwyd i adar ac anifeiliaid gwyllt. Fydd yna neb ar ôl i'w dychryn nhw i ffwrdd.
Jere WelBeibl 7:34  Dw i'n mynd i roi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio ar strydoedd Jerwsalem, ac yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Bydd y wlad yn anialwch diffaith.”
Chapter 8
Jere WelBeibl 8:1  Meddai'r ARGLWYDD, “Bryd hynny, bydd esgyrn brenhinoedd Jwda yn cael eu cymryd allan o'u beddau, ac esgyrn y swyddogion hefyd, a'r offeiriaid a'r proffwydi, a phawb arall oedd yn byw yn Jerwsalem.
Jere WelBeibl 8:2  Byddan nhw'n cael eu gosod allan dan yr haul a'r lleuad a'r sêr. Dyma'r ‛duwiau‛ roedden nhw'n eu caru a'u gwasanaethu, yn addo bod yn ffyddlon iddyn nhw, yn ceisio arweiniad ganddyn nhw ac yn eu haddoli. A fydd yr esgyrn ddim yn cael eu casglu eto i'w claddu. Byddan nhw'n gorwedd fel tail ar wyneb y tir!
Jere WelBeibl 8:3  “Bydd rhai o'r bobl ddrwg yma wedi byw drwy'r cwbl a'u hanfon i ffwrdd i leoedd eraill. Ond byddai'n well gan y rheiny petaen nhw wedi marw!”—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.
Jere WelBeibl 8:4  “Jeremeia, dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Pan mae pobl yn syrthio, ydyn nhw ddim yn codi eto? Pan maen nhw'n colli'r ffordd, ydyn nhw ddim yn troi yn ôl?
Jere WelBeibl 8:5  Os felly, pam mae'r bobl yma'n dal i fynd y ffordd arall? Pam mae pobl Jerwsalem yn dal i droi cefn arna i? Maen nhw'n dal gafael mewn twyll, ac yn gwrthod troi'n ôl ata i.
Jere WelBeibl 8:6  Dw i wedi gwrando'n ofalus arnyn nhw, a dŷn nhw ddim yn dweud y gwir. Does neb yn sori am y drwg maen nhw wedi'i wneud; neb yn dweud, “Dw i ar fai.” Maen nhw i gyd yn mynd eu ffordd eu hunain, fel ceffyl yn rhuthro i'r frwydr.
Jere WelBeibl 8:7  Mae'r crëyr yn gwybod pryd i fudo, a'r durtur, y wennol a'r garan. Maen nhw i gyd yn dod yn ôl ar yr adeg iawn o'r flwyddyn. Ond dydy fy mhobl i'n cymryd dim sylw o'r hyn dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ofyn ganddyn nhw.
Jere WelBeibl 8:8  Sut allwch chi ddweud, “Dŷn ni'n ddoeth, mae Cyfraith yr ARGLWYDD gynnon ni”? Y gwir ydy fod athrawon y gyfraith yn ysgrifennu pethau sy'n gwyrdroi beth mae'n ei ddweud go iawn.
Jere WelBeibl 8:9  Bydd y dynion doeth yn cael eu cywilyddio. Byddan nhw'n syfrdan wrth gael eu cymryd i'r ddalfa. Nhw wnaeth wrthod neges yr ARGLWYDD – dydy hynny ddim yn ddoeth iawn!
Jere WelBeibl 8:10  Felly bydda i'n rhoi eu gwragedd i ddynion eraill, a'u tir i'w concwerwyr. Maen nhw i gyd yn farus am elw anonest – y bobl gyffredin a'r arweinwyr. Hyd yn oed y proffwydi a'r offeiriaid – maen nhw i gyd yn twyllo!
Jere WelBeibl 8:11  Mae'r help maen nhw'n ei gynnig yn arwynebol a gwag. “Bydd popeth yn iawn,” medden nhw; ond dydy popeth ddim yn iawn!
Jere WelBeibl 8:12  Dylai fod cywilydd arnyn nhw am y fath beth! Ond na! Does ganddyn nhw ddim mymryn o gywilydd. Dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy gwrido! Felly byddan nhw'n cael eu lladd gyda pawb arall. Bydda i'n eu cosbi nhw, a byddan nhw'n syrthio.’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 8:13  “Pan oeddwn i eisiau casglu'r cynhaeaf,” meddai'r ARGLWYDD, “doedd dim grawnwin na ffigys yn tyfu ar y coed. Roedd hyd yn oed y dail ar y coed wedi gwywo. Roedden nhw wedi colli popeth rois i iddyn nhw.”
Jere WelBeibl 8:14  Y bobl: “Pam ydyn ni'n eistedd yma yn gwneud dim? Gadewch i ni ddianc i'r trefi caerog, a marw yno. Mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi'n condemnio ni i farwolaeth. Mae e wedi gwneud i ni yfed dŵr gwenwynig am ein bod wedi pechu yn ei erbyn.
Jere WelBeibl 8:15  Roedden ni'n gobeithio y byddai popeth yn iawn, ond i ddim pwrpas; roedden ni'n edrych am amser gwell, ond dim ond dychryn gawson ni.
Jere WelBeibl 8:16  Mae sŵn ceffylau'r gelyn yn ffroeni i'w glywed yn Dan. Mae pawb yn crynu mewn ofn wrth glywed y ceffylau'n gweryru. Maen nhw ar eu ffordd i ddinistrio'r wlad a phopeth sydd ynddi! Maen nhw'n dod i ddinistrio'r trefi, a phawb sy'n byw ynddyn nhw.”
Jere WelBeibl 8:17  Yr ARGLWYDD: “Ydw, dw i'n anfon byddin y gelyn i'ch plith chi, fel nadroedd gwenwynig all neb eu swyno. A byddan nhw'n eich brathu chi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 8:18  Jeremeia: “Dw i wedi fy llethu gan dristwch. Dw i'n teimlo'n sâl.
Jere WelBeibl 8:19  Gwrandwch ar fy mhobl druan yn gweiddi ar hyd a lled y wlad: ‘Ydy'r ARGLWYDD wedi gadael Seion? Ydy ei Brenin hi ddim yno bellach?’” Yr ARGLWYDD: “Pam maen nhw wedi fy nigio i gyda'u heilunod a'u delwau diwerth?
Jere WelBeibl 8:20  ‘Mae'r cynhaeaf heibio, mae'r haf wedi dod i ben, a dŷn ni'n dal ddim wedi'n hachub,’ medden nhw.”
Jere WelBeibl 8:21  Jeremeia: Dw i'n diodde wrth weld fy mhobl annwyl i'n diodde. Dw i'n galaru; dw i'n anobeithio.
Jere WelBeibl 8:22  Oes yna ddim eli yn Gilead? Oes dim meddyg yno? Felly pam nad ydy briw fy mhobl wedi gwella?
Chapter 9
Jere WelBeibl 9:1  O na fyddai fy mhen yn ffynnon ddŵr a'r dagrau yn pistyllio o'm llygaid, Wedyn byddwn i'n crio ddydd a nos am y rhai hynny o'm pobl sydd wedi cael eu lladd!
Jere WelBeibl 9:2  O na fyddai gen i gaban yn yr anialwch – llety lle mae teithwyr yn aros dros nos. Wedyn byddwn i'n gallu dianc, a mynd i ffwrdd oddi wrth fy mhobl. Maen nhw i gyd wedi bod yn anffyddlon i Dduw. Cynulleidfa o fradwyr ydyn nhw!
Jere WelBeibl 9:3  Yr ARGLWYDD: “Mae eu tafodau fel bwa wedi'i blygu i saethu celwyddau. Maen nhw wedi dod yn bwerus yn y wlad drwy fod yn anonest. Ac maen nhw wedi mynd o ddrwg i waeth! Does ganddyn nhw ddim eisiau fy nabod i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 9:4  “Gwyliwch eich ffrindiau! Allwch chi ddim trystio'ch perthnasau hyd yn oed! Maen nhw i gyd yn twyllo'i gilydd, ac yn dweud celwyddau cas am ei gilydd.
Jere WelBeibl 9:5  Mae pawb yn twyllo'u ffrindiau. Does neb yn dweud y gwir. Maen nhw wedi hen arfer dweud celwydd: yn pechu, ac yn rhy wan i newid eu ffyrdd.
Jere WelBeibl 9:6  Pentyrru gormes ar ben gormes, a thwyll ar ben twyll! Does ganddyn nhw ddim eisiau fy nabod i,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 9:7  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i'w puro nhw mewn tân a'u profi nhw. Beth arall alla i ei wneud â'm pobl druan?
Jere WelBeibl 9:8  Mae eu tafodau fel saethau marwol, yn dweud celwydd drwy'r amser. Maen nhw'n dweud eu bod yn dymuno'n dda i'w cymdogion, ond yn eu calon yn bwriadu brad!
Jere WelBeibl 9:9  Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?” meddai'r ARGLWYDD. “Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?”
Jere WelBeibl 9:10  Jeremeia: Dw i'n mynd i grio'n uchel am y mynyddoedd, a galaru dros diroedd pori'r anialwch. Maen nhw wedi llosgi, a does neb yn teithio'r ffordd honno. Does dim sŵn anifeiliaid yn brefu. Mae hyd yn oed yr adar a'r anifeiliaid gwyllt wedi dianc oddi yno.
Jere WelBeibl 9:11  Yr ARGLWYDD: “Bydda i'n gwneud Jerwsalem yn bentwr o rwbel, ac yn lle i siacaliaid fyw. Bydda i'n dinistrio pentrefi Jwda, a fydd neb yn gallu byw ynddyn nhw.”
Jere WelBeibl 9:12  Pwy sy'n ddigon doeth i ddeall pam mae hyn wedi digwydd? Gyda pwy mae'r ARGLWYDD wedi siarad, er mwyn iddo esbonio'r peth? Pam mae'r wlad wedi'i difetha'n llwyr, a'r tir fel anialwch does neb yn teithio drwyddo?
Jere WelBeibl 9:13  A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Am eu bod nhw wedi troi cefn ar y ddysgeidiaeth rois i iddyn nhw. Dŷn nhw ddim wedi gwrando arna i, a gwneud beth rôn i'n ddweud.
Jere WelBeibl 9:14  Yn lle hynny maen nhw wedi bod yn hollol ystyfnig a gwneud beth maen nhw eisiau, ac wedi addoli'r duwiau Baal yr un fath â'u hynafiaid.
Jere WelBeibl 9:15  Felly, dyma dw i, Duw Israel, yr ARGLWYDD hollbwerus, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi profiadau chwerw yn fwyd i'r bobl, a dŵr gwenwynig barn iddyn nhw i'w yfed.’
Jere WelBeibl 9:16  “Dw i'n mynd i'w gyrru nhw ar chwâl. Byddan nhw ar goll mewn gwledydd dŷn nhw, fel eu hynafiaid, yn gwybod dim amdanyn nhw. Bydd byddinoedd eu gelynion yn mynd ar eu holau nes bydda i wedi'u dinistrio nhw'n llwyr.”
Jere WelBeibl 9:17  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Meddyliwch yn ofalus beth sy'n digwydd. Galwch am y gwragedd sy'n galaru dros y meirw. Anfonwch am y rhai mwyaf profiadol.
Jere WelBeibl 9:18  Ie, galwch arnyn nhw i ddod ar frys, a dechrau wylofain yn uchel: crio nes bydd y dagrau'n llifo, a'n llygaid ni'n socian.
Jere WelBeibl 9:19  Mae sŵn crio uchel i'w glywed yn Seion: ‘Mae hi ar ben arnon ni! Dŷn ni wedi'n cywilyddio'n llwyr. Rhaid i ni adael ein gwlad, achos maen nhw wedi chwalu'n tai ni i gyd.’”
Jere WelBeibl 9:20  “Felly, chi wragedd, gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud. Gwrandwch yn ofalus ar ei eiriau. Dysgwch eich merched i alaru. Dysgwch y gân angladdol yma i'ch gilydd:
Jere WelBeibl 9:21  ‘Mae marwolaeth wedi dringo drwy'r ffenestri; mae wedi dod i mewn i'n palasau. Mae wedi cipio ein plant oedd yn chwarae yn y strydoedd, a'r bechgyn ifanc oedd yn cyfarfod yn y sgwâr yn y trefi.’”
Jere WelBeibl 9:22  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd cyrff marw yn gorwedd fel tail wedi'i wasgaru ar gae, neu ŷd wedi'i dorri a'i adael yn sypiau, a neb yn ei gasglu.”
Jere WelBeibl 9:23  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Ddylai pobl glyfar ddim brolio'u clyfrwch, na'r pwerus eu bod nhw'n bobl bwerus; a ddylai pobl gyfoethog ddim brolio'u cyfoeth.
Jere WelBeibl 9:24  Dim ond un peth ddylai pobl frolio amdano: eu bod nhw yn fy nabod i, ac wedi deall mai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n llawn cariad, yn deg, ac yn gwneud beth sy'n iawn ar y ddaear. A dw i eisiau i bobl wneud yr un fath.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 9:25  “Gwyliwch!” meddai'r ARGLWYDD. “Mae'r amser yn dod pan fydda i'n cosbi'r rhai sydd ddim ond wedi cael enwaediad corfforol –
Jere WelBeibl 9:26  pobl yr Aifft, Jwda, Edom, Ammon, Moab, a'r bobl sy'n byw ar ymylon yr anialwch. Does dim un ohonyn nhw wedi'u henwaedu go iawn, a dydy calon pobl Israel ddim wedi'i henwaedu go iawn chwaith.”
Chapter 10
Jere WelBeibl 10:1  Bobl Israel, gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi: “Peidiwch gwneud yr un fath â'r gwledydd paganaidd. Peidiwch cymryd sylw o ‛arwyddion‛ y sêr a'r planedau, a gadael i bethau felly eich dychryn chi, fel maen nhw'n dychryn y gwledydd hynny.
Jere WelBeibl 10:2  Bobl Israel, gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi: “Peidiwch gwneud yr un fath â'r gwledydd paganaidd. Peidiwch cymryd sylw o ‛arwyddion‛ y sêr a'r planedau, a gadael i bethau felly eich dychryn chi, fel maen nhw'n dychryn y gwledydd hynny.
Jere WelBeibl 10:3  Dydy arferion paganaidd felly yn dda i ddim! Mae coeden yn cael ei thorri i lawr yn y goedwig, ac mae cerfiwr yn gwneud eilun ohoni gyda chŷn.
Jere WelBeibl 10:4  Wedyn mae'n ei addurno gydag arian ac aur, ac yn defnyddio morthwyl a hoelion i'w ddal yn ei le, rhag iddo syrthio!
Jere WelBeibl 10:5  Mae'r eilunod yma fel bwganod brain mewn gardd lysiau. Allan nhw ddim siarad; allan nhw ddim cerdded, felly mae'n rhaid eu cario nhw i bobman. Peidiwch bod â'u hofn nhw – allan nhw wneud dim niwed i chi, na gwneud dim i'ch helpu chi chwaith!”
Jere WelBeibl 10:6  Jeremeia: “O ARGLWYDD, does dim un ohonyn nhw'n debyg i ti. Ti ydy'r Duw mawr, sy'n enwog am dy fod mor bwerus!
Jere WelBeibl 10:7  Ti ydy Brenin y cenhedloedd, felly dylai pawb dy addoli di – dyna wyt ti'n ei haeddu! Dydy pobl fwya doeth y gwledydd i gyd a'r teyrnasoedd yn ddim byd tebyg i ti.
Jere WelBeibl 10:8  Pobl wyllt a dwl ydyn nhw, yn meddwl y gall eilun pren eu dysgu nhw!
Jere WelBeibl 10:9  Maen nhw'n dod ag arian wedi'i guro o Tarshish, ac aur pur o Wffas, i orchuddio'r delwau. Dim ond gwaith llaw cerfiwr a gof aur ydy'r rheiny; a'u dillad glas a phorffor yn waith teiliwr medrus!
Jere WelBeibl 10:10  Yr ARGLWYDD ydy'r unig Dduw go iawn – y Duw byw, sy'n frenin am byth! Pan mae e'n ddig mae'r ddaear yn crynu. Mae'r cenhedloedd yn cuddio oddi wrth ei ddicter.”
Jere WelBeibl 10:11  (Dylech ddweud wrth y cenhedloedd: “Wnaeth y ‛duwiau‛ yma ddim creu'r nefoedd a'r ddaear. Byddan nhw i gyd yn diflannu – fydd dim sôn amdanyn nhw yn unman!”)
Jere WelBeibl 10:12  Yr ARGLWYDD ddefnyddiodd ei rym i greu'r ddaear. Fe ydy'r un osododd y byd yn ei le drwy ei ddoethineb, a lledu'r awyr drwy ei ddeall.
Jere WelBeibl 10:13  Mae sŵn ei lais yn gwneud i'r awyr daranu. Mae'n gwneud i gymylau ddod i'r golwg ar y gorwel. Mae'n gwneud i fellt fflachio yng nghanol y glaw. Mae'n dod â'r gwynt allan o'i stordai i chwythu.
Jere WelBeibl 10:14  Mae pobl mor ddwl! Dŷn nhw'n gwybod dim byd! Bydd yr eilunod yn codi cywilydd ar y rhai a'u gwnaeth nhw. Duwiau ffals ydy'r delwau; does dim bywyd ynddyn nhw.
Jere WelBeibl 10:15  Dŷn nhw'n dda i ddim! Pethau i wneud sbort am eu pennau! Mae'r amser yn dod pan gân nhw eu cosbi a'u dinistrio.
Jere WelBeibl 10:16  Dydy Duw Jacob ddim byd tebyg iddyn nhw. Fe ydy'r un wnaeth greu pob peth, ac mae pobl Israel yn bobl sbesial iddo. Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw!
Jere WelBeibl 10:17  Mae'r gelyn o'ch cwmpas yn gwarchae, felly heliwch eich pac yn barod i fynd!
Jere WelBeibl 10:18  Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n mynd i daflu'r bobl allan o'r wlad yma, nawr! Maen nhw'n mynd i fod mewn helbul go iawn, a byddan nhw'n teimlo'r peth i'r byw.
Jere WelBeibl 10:19  Meddai Jerwsalem, “Mae ar ben arna i! Dw i wedi fy anafu'n ddifrifol. Rôn i'n arfer meddwl, ‘Salwch ydy e a bydda i'n dod drosto.’
Jere WelBeibl 10:20  Mae fy mhabell wedi'i dryllio, a'r rhaffau i gyd wedi'u torri. Mae fy mhlant wedi mynd, a fyddan nhw ddim yn dod yn ôl. Does neb ar ôl i godi'r babell eto, nac i hongian y llenni tu mewn iddi.
Jere WelBeibl 10:21  Mae'r arweinwyr wedi bod mor ddwl! Dŷn nhw ddim wedi gofyn i'r ARGLWYDD am arweiniad. Maen nhw wedi methu'n llwyr, ac mae eu praidd nhw wedi'u gyrru ar chwâl.
Jere WelBeibl 10:22  Gwrandwch! Mae'r si ar led! Mae'n dod! Sŵn twrw'r fyddin yn dod o gyfeiriad y gogledd. Mae'n dod i droi trefi Jwda yn rwbel, ac yn lle i siacaliaid fyw.
Jere WelBeibl 10:23  ARGLWYDD, dw i'n gwybod na all pobl reoli eu bywydau. Dŷn nhw ddim yn gallu trefnu beth sy'n mynd i ddigwydd.
Jere WelBeibl 10:24  Felly, ARGLWYDD, cywira ni, ond paid bod yn rhy galed. Paid gwylltio, neu fydd dim ohonon ni ar ôl.
Jere WelBeibl 10:25  Tywallt dy lid ar y bobloedd sydd ddim yn dy nabod, a'r llwythau hynny sydd ddim yn dy addoli. Nhw ydy'r rhai sydd wedi llarpio pobl Jacob – wedi'u dinistrio nhw'n llwyr a gadael y wlad yn adfeilion.”
Chapter 11
Jere WelBeibl 11:2  “Atgoffa bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem o amodau'r ymrwymiad wnes i gydag Israel.
Jere WelBeibl 11:3  Dwed wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn dweud: ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n diystyru amodau'r ymrwymiad.
Jere WelBeibl 11:4  Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o'r Aifft, o'r ffwrnais haearn, dwedais wrthyn nhw, “Rhaid i chi wrando arna i a chadw'r amodau dw i'n eu gosod. Os gwnewch chi hynny, byddwch chi'n bobl i mi, a bydda i'n Dduw i chi.”
Jere WelBeibl 11:5  Wedyn roeddwn i'n gallu rhoi beth wnes i ei addo iddyn nhw – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo. A dyna'r wlad lle dych chi'n byw heddiw.’” A dyma fi'n ateb, “Amen! Mae'n wir, ARGLWYDD!”
Jere WelBeibl 11:6  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Cyhoedda'r neges yma yn nhrefi Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem: ‘Gwrandwch ar amodau'r ymrwymiad rhyngon ni, a'u cadw nhw.
Jere WelBeibl 11:7  Rôn i wedi rhybuddio'ch hynafiaid chi pan ddes i â nhw allan o'r Aifft. A dw i wedi dal ati i wneud hynny hyd heddiw, i'ch cael chi i wrando arna i.
Jere WelBeibl 11:8  Ond doedd neb am wneud beth roeddwn i'n ddweud na chymryd unrhyw sylw. Roedden nhw'n ystyfnig, ac yn dal ati i ddilyn y duedd ynddyn nhw i wneud drwg. Felly, dw i wedi'u cosbi nhw, yn union fel roedd amodau'r ymrwymiad yn dweud – am wrthod gwneud beth roeddwn i'n ddweud.’”
Jere WelBeibl 11:9  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem wedi cynllwynio yn fy erbyn i.
Jere WelBeibl 11:10  Maen nhw wedi mynd yn ôl a gwneud yr union bethau drwg roedd eu hynafiaid yn eu gwneud. Maen nhw wedi gwrthod gwrando arna i, ac wedi addoli duwiau eraill. Mae gwlad Israel a gwlad Jwda wedi torri amodau'r ymrwymiad wnes i gyda'u hynafiaid nhw.
Jere WelBeibl 11:11  Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw, a fyddan nhw ddim yn gallu dianc. A phan fyddan nhw'n gweiddi arna i am help, wna i ddim gwrando arnyn nhw.
Jere WelBeibl 11:12  Wedyn bydd pobl trefi Jwda a phobl Jerwsalem yn gweiddi am help gan y duwiau maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth iddyn nhw. Ond fydd y duwiau hynny yn sicr ddim yn gallu eu hachub nhw o'u trafferthion!
Jere WelBeibl 11:13  A hynny er bod gen ti, Jwda, gymaint o dduwiau ag sydd gen ti o drefi! Ac er bod gan bobl Jerwsalem gymaint o allorau ag sydd o strydoedd yn y ddinas, i losgi arogldarth i'r duw ffiaidd yna, Baal!’
Jere WelBeibl 11:14  “A ti, Jeremeia, paid gweddïo dros y bobl yma. Paid galw arna i na gweddïo drostyn nhw. Paid pledio arna i i'w helpu nhw. Wna i ddim gwrando arnyn nhw pan fyddan nhw'n gweiddi am help o ganol eu trafferthion.
Jere WelBeibl 11:15  Pa hawl sydd gan fy mhobl annwyl i ddod i'm teml ar ôl gwneud cymaint o bethau erchyll? Ydy aberthu cig anifeiliaid yn mynd i gael gwared â'r drygioni? Fyddwch chi'n gallu bod yn hapus wedyn?
Jere WelBeibl 11:16  Roeddwn i, yr ARGLWYDD, wedi dy alw di yn goeden olewydd ddeiliog gyda ffrwyth hyfryd arni. Ond mae storm fawr ar y ffordd: dw i'n mynd i dy roi di ar dân, a byddi'n llosgi yn y fflamau gwyllt. Fydd dy ganghennau di yn dda i ddim wedyn.
Jere WelBeibl 11:17  Mae'r ARGLWYDD hollbwerus, wnaeth dy blannu di yn y wlad, wedi cyhoeddi fod dinistr yn dod arnat ti. Mae'n dod am fod gwledydd Israel a Jwda wedi gwneud drwg, a'm gwylltio i drwy losgi arogldarth i Baal.”
Jere WelBeibl 11:18  Dangosodd yr ARGLWYDD – rôn i'n gwybod wedyn; dangosodd beth roedden nhw'n bwriadu ei wneud.
Jere WelBeibl 11:19  Rôn i fel oen bach diniwed yn cael ei arwain i'r lladd-dy, ddim yn sylweddoli mai yn fy erbyn roedd eu cynllwyn: “Rhaid i ni ddinistrio'r goeden a'i ffrwyth! Gadewch i ni ei ladd, a'i dorri o dir y byw, a bydd pawb yn anghofio amdano.”
Jere WelBeibl 11:20  “O ARGLWYDD hollbwerus, rwyt ti'n barnu'n deg! Ti'n gweld beth mae pobl yn ei feddwl a'i fwriadu. Tala nôl iddyn nhw am beth maen nhw'n ei wneud. Dw i'n dy drystio di i ddelio gyda'r sefyllfa.”
Jere WelBeibl 11:21  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y dynion o Anathoth sydd eisiau fy lladd i. (Roedden nhw wedi dweud y bydden nhw'n fy lladd i os nad oeddwn i'n stopio proffwydo fel roedd yr ARGLWYDD yn dweud wrtho i.)
Jere WelBeibl 11:22  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud amdanyn nhw: “Dw i'n mynd i'w cosbi nhw! Bydd eu bechgyn ifanc yn cael eu lladd yn y rhyfel, a bydd eu plant yn marw o newyn.
Jere WelBeibl 11:23  Fydd yna neb ar ôl yn fyw! Mae'r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.”
Chapter 12
Jere WelBeibl 12:1  ARGLWYDD, ti sydd bob amser yn iawn pan dw i'n cwyno am rywbeth. Ond mae'n rhaid i mi ofyn hyn: Pam mae pobl ddrwg yn llwyddo? Pam mae'r rhai sy'n twyllo yn cael bywyd mor hawdd?
Jere WelBeibl 12:2  Ti'n eu plannu nhw fel coed, ac maen nhw'n bwrw gwreiddiau. Maen nhw'n tyfu ac yn dwyn ffrwyth. Maen nhw'n siarad amdanat ti drwy'r amser, ond ti ddim yn bwysig iddyn nhw go iawn.
Jere WelBeibl 12:3  Ond rwyt ti'n fy nabod i, ARGLWYDD. Ti'n fy ngwylio, ac wedi profi fy agwedd i atat ti. Llusga'r bobl ddrwg yma i ffwrdd fel defaid i gael eu lladd; cadw nhw o'r neilltu ar gyfer diwrnod y lladdfa.
Jere WelBeibl 12:4  Am faint mae'n rhaid i'r sychder aros, a glaswellt y caeau fod wedi gwywo? Mae'r anifeiliaid a'r adar wedi diflannu o'r tir am fod y bobl sy'n byw yma mor ddrwg, ac am eu bod nhw'n dweud, “Dydy Duw ddim yn gweld beth dŷn ni'n ei wneud.”
Jere WelBeibl 12:5  Yr ARGLWYDD: “Os ydy rhedeg ras gyda dynion yn dy flino di, sut wyt ti'n mynd i fedru cystadlu gyda cheffylau? Os wyt ti'n baglu ar y tir agored, beth am yn y goedwig wyllt ar lan yr Iorddonen?
Jere WelBeibl 12:6  Y gwir ydy: mae hyd yn oed dy berthnasau wedi dy fradychu di. Maen nhw hefyd yn gweiddi'n groch yn dy erbyn di. Felly paid â'u credu nhw, hyd yn oed os ydyn nhw'n dweud pethau caredig.
Jere WelBeibl 12:7  Dw i wedi troi cefn ar fy nheml, a gwrthod y bobl ddewisais. Dw i'n mynd i roi'r bobl wnes i eu caru yn nwylo'u gelynion.
Jere WelBeibl 12:8  Mae fy mhobl wedi troi arna i fel llew yn y goedwig. Maen nhw'n rhuo arna i, felly dw i yn eu herbyn nhw.
Jere WelBeibl 12:9  Mae'r wlad fel ffau hienas ac adar rheibus yn hofran o'u cwmpas! Casglwch yr anifeiliaid gwyllt i gyd. Gadewch iddyn nhw ddod i ddinistrio.
Jere WelBeibl 12:10  Mae arweinwyr y gwledydd yn dinistrio fy ngwinllan, a sathru'r tir ddewisais. Byddan nhw'n troi'r wlad hyfryd yn anialwch diffaith.
Jere WelBeibl 12:11  Byddan nhw'n ei dinistrio hi'n llwyr, nes bydd yn grastir gwag. Bydd y tir i gyd wedi'i ddinistrio, a does neb o gwbl yn malio.
Jere WelBeibl 12:12  Bydd byddin ddinistriol yn dod dros fryniau'r anialwch. Nhw ydy'r cleddyf mae'r ARGLWYDD yn ei ddefnyddio i ddod â dinistr o un pen o'r wlad i'r llall. Fydd neb yn saff!
Jere WelBeibl 12:13  Mae fy mhobl wedi hau gwenith, ond dim ond drain fyddan nhw'n eu casglu! Maen nhw wedi gweithio'n galed i ddim byd. Bydd eu cnydau bach yn achos cywilydd, am fod yr ARGLWYDD wedi digio'n lân hefo nhw.”
Jere WelBeibl 12:14  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y gwledydd drwg o'n cwmpas ni sy'n ymosod ar y tir roddodd e i'w bobl Israel: “Dw i'n mynd i symud pobl y gwledydd hynny o'u tir, a gollwng pobl Jwda yn rhydd o'u canol nhw.
Jere WelBeibl 12:15  Ond ar ôl symud y bobl, bydda i'n troi ac yn dangos trugaredd atyn nhw, a rhoi eu tir yn ôl iddyn nhw i gyd. Bydd pawb yn mynd adre i'w wlad ei hun.
Jere WelBeibl 12:16  Ond bydd rhaid iddyn nhw ddysgu byw fel fy mhobl i. Ar un adeg roedden nhw'n dysgu fy mhobl i dyngu llw yn enw'r duw Baal. Ond bryd hynny byddan nhw'n dweud ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw’, wrth dyngu llw, a byddan nhw hefyd yn cael eu hystyried yn bobl i mi.
Jere WelBeibl 12:17  Os wnân nhw ddim gwrando, bydda i'n eu diwreiddio nhw ac yn eu dinistrio nhw'n llwyr,” meddai'r ARGLWYDD.
Chapter 13
Jere WelBeibl 13:1  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos i brynu lliain isaf newydd, a'i wisgo am dy ganol. A phaid â'i olchi.”
Jere WelBeibl 13:2  Felly dyma fi'n prynu lliain isaf fel y dwedodd yr ARGLWYDD, a'i wisgo am fy nghanol.
Jere WelBeibl 13:3  Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi, a dweud,
Jere WelBeibl 13:4  “Cymer y lliain isaf brynaist ti, yr un rwyt ti'n ei wisgo, a dos at afon Ewffrates. Cuddia fe yno mewn hollt yn y graig.”
Jere WelBeibl 13:5  Felly dyma fi'n mynd ac yn ei guddio wrth yr Ewffrates, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
Jere WelBeibl 13:6  Aeth amser maith heibio, a dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Dos at afon Ewffrates i nôl y lliain ddwedais i wrthot ti am ei guddio yno.”
Jere WelBeibl 13:7  Felly dyma fi'n mynd yno a phalu am y lliain lle roeddwn i wedi'i guddio. Roedd wedi'i ddifetha, ac yn dda i ddim.
Jere WelBeibl 13:9  yn dweud, “Dyna sut bydda i'n difetha balchder Jwda a Jerwsalem.
Jere WelBeibl 13:10  Mae'r bobl ddrwg yma'n gwrthod gwrando arna i. Maen nhw'n ystyfnig ac yn mynnu gwneud beth maen nhw eisiau. Maen nhw'n addoli eilun-dduwiau paganaidd. Felly byddan nhw'n cael eu difetha fel y lliain yma, sy'n dda i ddim bellach.
Jere WelBeibl 13:11  Yn union fel lliain isaf wedi'i rwymo'n dynn am ganol dyn, roeddwn i wedi rhwymo pobl Israel a Jwda amdana i,” meddai'r ARGLWYDD. “Rôn i eisiau iddyn nhw fod yn bobl sbesial i mi, yn fy anrhydeddu i, ac yn fy addoli i. Ond roedden nhw'n gwrthod gwrando.”
Jere WelBeibl 13:12  “Felly dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae pob jar gwin i gael ei lenwi â gwin!’ A byddan nhw'n ateb, ‘Wrth gwrs! Dŷn ni'n gwybod hynny'n iawn.’
Jere WelBeibl 13:13  Yna dywed di wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i lenwi pobl y wlad yma nes byddan nhw'n feddw gaib – y brenhinoedd sy'n ddisgynyddion i Dafydd, yr offeiriaid, y proffwydi, a phobl Jerwsalem i gyd.
Jere WelBeibl 13:14  Bydda i'n eu malu nhw fel jariau yn erbyn ei gilydd, rhieni a'u plant. Fydda i'n dangos dim trueni na thosturi atyn nhw. Bydda i'n eu dinistrio nhw,’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 13:15  Jeremeia: Gwrandwch! Peidiwch bod yn falch! —mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
Jere WelBeibl 13:16  Rhowch i'r ARGLWYDD eich Duw y parch mae'n ei haeddu cyn iddo ddod â thywyllwch arnoch chi. Cyn i chi faglu a syrthio wrth iddi dywyllu ar y mynyddoedd. Cyn i'r golau dych chi'n chwilio amdano droi'n dristwch ac yn dywyllwch dudew.
Jere WelBeibl 13:17  Os wnewch chi ddim gwrando, bydda i'n mynd o'r golwg i grio am eich bod mor falch. Bydda i'n beichio crio, a bydd y dagrau'n llifo, am fod praidd yr ARGLWYDD wedi'i gymryd yn gaeth.
Jere WelBeibl 13:18  Yr ARGLWYDD: “Dwed wrth y brenin a'r fam frenhines: ‘Dewch i lawr o'ch gorseddau ac eistedd yn y llwch. Bydd eich coronau hardd yn cael eu cymryd oddi arnoch.
Jere WelBeibl 13:19  Bydd giatiau trefi'r Negef wedi'u cau, a neb yn gallu eu hagor. Bydd pobl Jwda i gyd yn cael eu caethgludo!’”
Jere WelBeibl 13:20  Jeremeia: “Edrych, Jerwsalem. Mae'r gelyn yn dod o'r gogledd. Ble mae'r praidd gafodd ei roi yn dy ofal di? Ble mae'r ‛defaid‛ roeddet ti mor falch ohonyn nhw?
Jere WelBeibl 13:21  Sut fyddi di'n teimlo pan fydd yr ARGLWYDD yn gosod y rhai wnest ti ffrindiau gyda nhw i dy reoli di? Byddi'n gwingo mewn poen fel gwraig ar fin cael babi.
Jere WelBeibl 13:22  Byddi'n gofyn i ti dy hun, ‘Pam mae'r pethau yma wedi digwydd i mi? Pam mae fy nillad wedi'u rhwygo i ffwrdd? Pam dw i wedi fy nhreisio fel hyn?’ A'r ateb ydy, am dy fod ti wedi gwneud cymaint o ddrwg!
Jere WelBeibl 13:23  Ydy dyn du yn gallu newid lliw ei groen? Ydy'r llewpard yn gallu cael gwared â'i smotiau? Na. A does dim gobaith i chi wneud da, am eich bod wedi hen arfer gwneud drwg!”
Jere WelBeibl 13:24  Yr ARGLWYDD “Dw i'n mynd i'ch gyrru chi ar chwâl, fel us yn cael ei chwythu i bobman gan wynt yr anialwch.
Jere WelBeibl 13:25  Dyna beth sy'n dod i ti! Dyna wyt ti'n ei haeddu. Ti wedi fy anghofio i, a throi at dduwiau ffals yn fy lle.
Jere WelBeibl 13:26  Bydda i'n gwneud i ti gywilyddio – yn codi dy sgert dros dy wyneb a bydd pawb yn gweld dy rannau preifat.
Jere WelBeibl 13:27  Dw i wedi gweld y pethau ffiaidd ti'n eu gwneud: godinebu, a gweryru'n nwydus ar ôl duwiau eraill. Ti wedi puteinio gyda nhw ar ben y bryniau ac yn y caeau. Mae hi ar ben arnat ti, Jerwsalem! Fyddi di byth yn lân! Am faint mwy mae hyn i fynd ymlaen?”
Chapter 14
Jere WelBeibl 14:1  Y negeseuon roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y sychder:
Jere WelBeibl 14:2  Jeremeia: “Mae pobl Jwda yn galaru. Mae'r busnesau yn y trefi yn methu. Mae pobl yn gorwedd ar lawr mewn anobaith. Mae Jerwsalem yn gweiddi am help.
Jere WelBeibl 14:3  Mae'r meistri yn anfon eu gweision i nôl dŵr; mae'r rheiny'n cyrraedd y pydewau a'u cael yn hollol sych. Maen nhw'n mynd yn ôl gyda llestri gwag, yn siomedig ac yn ddigalon. Maen nhw'n mynd yn ôl yn cuddio'u pennau mewn cywilydd.
Jere WelBeibl 14:4  Mae'r tir wedi sychu a chracio am nad ydy hi wedi glawio. Mae'r gweision fferm yn ddigalon, ac yn cuddio'u pennau mewn cywilydd.
Jere WelBeibl 14:5  Mae hyd yn oed yr ewig yn troi cefn ar y carw bach sydd newydd ei eni, am fod dim glaswellt ar ôl.
Jere WelBeibl 14:6  Mae'r asynnod gwyllt ar y bryniau moel yn nadu fel siacaliaid. Mae eu llygaid yn pylu am fod dim porfa yn unman.”
Jere WelBeibl 14:7  Pobl Jwda: “O ARGLWYDD, er bod ein pechodau yn tystio yn ein herbyn, gwna rywbeth i'n helpu ni er mwyn dy enw da. Dŷn ni wedi troi cefn arnat ti lawer gwaith, ac wedi pechu yn dy erbyn di.
Jere WelBeibl 14:8  Ti ydy unig obaith Israel – ein hachubwr pan oedden ni mewn trwbwl. Pam wyt ti fel estron yn y wlad? Pam wyt ti fel teithiwr sydd ddim ond yn aros am noson?
Jere WelBeibl 14:9  Pam ddylet ti ymddangos fel rhywun gwan, neu arwr sydd ddim yn gallu achub ddim mwy? Ond rwyt ti gyda ni, ARGLWYDD. Dŷn ni'n cael ein nabod fel dy bobl di. Paid troi dy gefn arnon ni!”
Jere WelBeibl 14:10  Yr ARGLWYDD: Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am ei bobl: “Maen nhw wrth eu bodd yn mynd i grwydro. Maen nhw'n mynd ble bynnag maen nhw eisiau. Felly dw i ddim yn eu derbyn nhw fel fy mhobl ddim mwy. Bydda i'n cofio'r pethau drwg maen nhw wedi'u gwneud ac yn eu cosbi nhw am eu pechodau.”
Jere WelBeibl 14:11  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Paid gweddïo dros y bobl yma.
Jere WelBeibl 14:12  Hyd yn oed os byddan nhw'n ymprydio, fydda i'n cymryd dim sylw. Ac os byddan nhw'n offrymu aberth llosg ac offrwm o rawn, fydda i ddim yn eu derbyn nhw. Bydda i'n eu dinistrio nhw â rhyfel, newyn a haint.”
Jere WelBeibl 14:13  A dyma fi'n dweud, “Ond Feistr, ARGLWYDD, mae'r proffwydi'n dweud wrthyn nhw, ‘Bydd popeth yn iawn! Fydd dim rhyfel na newyn, dim ond heddwch a llwyddiant.’”
Jere WelBeibl 14:14  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae'r proffwydi'n dweud celwydd. Maen nhw'n honni eu bod nhw'n siarad drosto i, ond wnes i mo'u hanfon nhw. Wnes i ddim eu penodi nhw na rhoi neges iddyn nhw. Maen nhw'n proffwydo gweledigaethau ffals ac yn darogan pethau diwerth. Maen nhw'n twyllo'u hunain.
Jere WelBeibl 14:15  “Felly dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud am y proffwydi sy'n hawlio eu bod nhw'n siarad drosto i ac yn dweud fod dim rhyfel na newyn yn mynd i fod: ‘Rhyfel a newyn fydd yn lladd y proffwydi hynny.’
Jere WelBeibl 14:16  A bydd y bobl maen nhw'n proffwydo iddyn nhw hefyd yn marw o ganlyniad i ryfel a newyn. Bydd eu cyrff yn cael eu taflu allan ar strydoedd Jerwsalem, a fydd neb yno i'w claddu nhw na'u gwragedd na'u plant. Bydda i'n tywallt arnyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu am eu drygioni.
Jere WelBeibl 14:17  Dwed fel hyn wrthyn nhw, Jeremeia: ‘Dw i'n colli dagrau nos a dydd; alla i ddim stopio crio dros fy mhobl druan. Mae'r wyryf annwyl wedi cael ergyd farwol. Mae hi wedi cael ei hanafu'n ddifrifol.
Jere WelBeibl 14:18  Pan dw i'n mynd allan i gefn gwlad, dw i'n gweld y rhai sydd wedi cael eu lladd gyda'r cleddyf. Pan dw i'n cerdded drwy'r ddinas, dw i'n gweld canlyniadau erchyll y newyn. Mae'r proffwydi a'r offeiriaid yn mynd ymlaen â'u busnes; dŷn nhw ddim yn deall beth sy'n digwydd.’”
Jere WelBeibl 14:19  Pobl Jwda: “ARGLWYDD, wyt ti wir wedi gwrthod Jwda? Wyt ti'n casáu Seion bellach? Pam wyt ti wedi'n taro ni mor galed nes bod dim gobaith i ni wella? Roedden ni'n gobeithio y byddai popeth yn iawn, ond i ddim pwrpas; roedden ni'n edrych am amser gwell, ond dim ond dychryn gawson ni.
Jere WelBeibl 14:20  ARGLWYDD, dŷn ni'n cyfadde'n drygioni, a bod ein hynafiaid wedi gwneud drwg hefyd. Dŷn ni wedi pechu go iawn yn dy erbyn di.
Jere WelBeibl 14:21  ARGLWYDD, er mwyn dy enw da, paid â'n gwrthod ni. Paid dirmygu'r lle ble mae dy orsedd wych di. Cofia'r ymrwymiad wnest ti hefo ni. Paid â'i dorri!
Jere WelBeibl 14:22  Oes un o eilunod diwerth y cenhedloedd yn gallu anfon glaw? Neu ydy glaw yn dod o'r awyr ohono'i hun? Wrth gwrs ddim! Ti, ARGLWYDD Dduw, sy'n gwneud y cwbl, A dyna pam mai ti ydy'n gobaith ni.”
Chapter 15
Jere WelBeibl 15:1  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud hyn wrtho i: “Hyd yn oed petai Moses a Samuel yn dod i bledio dros y bobl yma, fyddwn i ddim yn eu helpu nhw. Dos â nhw o ngolwg i! Anfon nhw i ffwrdd!
Jere WelBeibl 15:2  Ac os byddan nhw'n gofyn, ‘Ble awn ni?’, dywed wrthyn nhw: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd y rhai sydd i farw o haint yn marw o haint. Bydd y rhai sydd i farw yn y rhyfel yn marw yn y rhyfel. Bydd y rhai sydd i farw o newyn yn marw o newyn. Bydd y rhai sydd i gael eu cymryd yn gaethion yn cael eu cymryd yn gaethion.”’
Jere WelBeibl 15:3  Bydd pedwar peth ofnadwy yn digwydd iddyn nhw,” meddai'r ARGLWYDD: “Bydd y cleddyf yn eu lladd. Bydd cŵn yn llusgo'r cyrff i ffwrdd. Bydd adar yn eu bwyta a'r anifeiliaid gwyllt yn gorffen beth sydd ar ôl.
Jere WelBeibl 15:4  Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Dyna'r gosb am beth wnaeth Manasse fab Heseceia, brenin Jwda, yn Jerwsalem.”
Jere WelBeibl 15:5  Yr ARGLWYDD “Pwy sy'n mynd i deimlo trueni drosot ti, Jerwsalem? Fydd unrhyw un yn cydymdeimlo hefo ti? Fydd unrhyw un yn stopio i holi sut wyt ti?
Jere WelBeibl 15:6  Ti wedi troi cefn arna i,” meddai'r ARGLWYDD. “Rwyt ti wedi mynd o ddrwg i waeth! Felly dw i'n mynd i dy daro di a dy ddinistrio di. Dw i wedi blino rhoi cyfle arall i ti o hyd.
Jere WelBeibl 15:7  Dw i'n mynd i wahanu'r us a'r grawn ym mhob un o drefi'r wlad. Dw i'n mynd i ddinistrio fy mhobl, a mynd â'u plant i ffwrdd, am eu bod nhw wedi gwrthod newid eu ffyrdd.
Jere WelBeibl 15:8  Bydd mwy o weddwon nag o dywod ar lan y môr. Bydda i'n lladd dy filwyr ifanc ganol dydd, a chwalu bywydau eu mamau. Bydd dioddef a dychryn yn dod drostyn nhw'n sydyn.
Jere WelBeibl 15:9  Bydd y fam oedd â saith o feibion yn anadlu'n drwm mewn panig, ac yn llewygu. Mae'r haul oedd yn disgleirio yn ei bywyd wedi machlud ganol dydd. Mae hi'n eistedd mewn cywilydd a gwarth. A bydd y rhai sydd ar ôl yn cael eu lladd gan gleddyf y gelyn,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 15:10  “O, mam! Dw i'n sori fy mod i wedi cael fy ngeni! Ble bynnag dw i'n mynd dw i'n dadlau a thynnu'n groes i bobl! Dw i ddim wedi benthyg arian i neb na benthyg arian gan neb. Ond mae pawb yn fy rhegi i!”
Jere WelBeibl 15:11  A dyma'r ARGLWYDD yn ateb: “Onid ydw i wedi dy wneud di'n gryf am reswm da? Bydda i'n gwneud i dy elynion bledio am dy help di pan fyddan nhw mewn trafferthion.
Jere WelBeibl 15:12  “Oes rhywun yn gallu torri haearn, haearn o'r gogledd gyda phres ynddo?”
Jere WelBeibl 15:13  Yr ARGLWYDD “Am eich bod wedi pechu drwy'r wlad, bydda i'n rhoi eich cyfoeth a'ch trysorau yn ysbail i'ch gelynion.
Jere WelBeibl 15:14  Byddwch yn gwasanaethu eich gelynion mewn gwlad ddieithr. Mae fy llid yn llosgi fel tân fydd ddim yn diffodd.”
Jere WelBeibl 15:15  Jeremeia “ARGLWYDD, ti'n gwybod beth sy'n digwydd. Cofia amdana i, a thyrd i'm helpu i. Tyrd i dalu'n ôl i'r bobl hynny sy'n fy erlid i. Paid bod mor amyneddgar nes gadael iddyn nhw fy lladd i. Dw i'n diodde'r gwawdio er dy fwyn di.
Jere WelBeibl 15:16  Wrth i ti siarad rôn i'n llyncu pob gair; roedd dy eiriau'n fy ngwneud i mor hapus – rôn i wrth fy modd! I ti dw i'n perthyn, O ARGLWYDD, y Duw hollbwerus.
Jere WelBeibl 15:17  Wnes i ddim ymuno hefo pawb arall yn chwerthin a joio. Na, roeddwn i'n cadw ar wahân am fod dy law di arna i. Rôn i wedi gwylltio hefo nhw.
Jere WelBeibl 15:18  Felly, pam dw i'n dal i ddioddef? Pam dw i'n gorfod goddef hyn i gyd – fel petawn i wedi fy anafu, a'r briw yn gwrthod gwella? Wyt ti'n mynd i'm siomi fel nant sydd wedi sychu, – ffos â'i dŵr wedi diflannu?”
Jere WelBeibl 15:19  A dyma ateb yr ARGLWYDD: Yr ARGLWYDD “Rhaid i ti stopio siarad fel yna! Gwna i dy gymryd di'n ôl wedyn, a cei ddal ati i'm gwasanaethu i. Dywed bethau gwerth eu dweud yn lle siarad rwtsh, wedyn cei ddal ati i siarad ar fy rhan i. Ti sydd i ddylanwadu arnyn nhw, nid nhw'n dylanwadu arnat ti!
Jere WelBeibl 15:20  Dw i'n mynd i dy wneud di yn gryf fel wal bres. Byddan nhw'n ymosod arnat ti ond yn methu dy drechu di. Bydda i'n edrych ar dy ôl di ac yn dy achub di.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 15:21  “Bydda i'n dy achub di o afael y bobl ddrwg yma, ac yn dy ryddhau o grafangau pobl greulon,”
Chapter 16
Jere WelBeibl 16:3  Achos dyma sy'n mynd i ddigwydd i'r plant fydd yn cael eu geni yma, ac i'w mamau a'u tadau nhw:
Jere WelBeibl 16:4  byddan nhw'n marw o afiechydon erchyll. Fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw, a neb yn eu claddu nhw. Byddan nhw'n gorwedd fel tail ar wyneb y tir, wedi'u lladd yn y rhyfel neu wedi marw o newyn, a bydd yr adar a'r anifeiliaid gwyllt yn bwyta eu cyrff.”
Jere WelBeibl 16:5  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid mynd i dŷ lle mae rhywun wedi marw. Paid mynd i alaru nac i gydymdeimlo. Dw i ddim am roi llwyddiant na heddwch i'r bobl yma eto. Dw i ddim am ddangos caredigrwydd na thrugaredd atyn nhw.
Jere WelBeibl 16:6  Bydd yr arweinwyr a'r bobl gyffredin yn marw yn y wlad yma. Fyddan nhw ddim yn cael eu claddu, a fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw. Fydd pobl ddim yn torri eu hunain â chyllyll a siafio'u pennau i ddangos mor drist ydyn nhw.
Jere WelBeibl 16:7  Fydd neb yn mynd â bwyd i'r rhai sy'n galaru, i godi eu calonnau nhw, na rhoi gwin iddyn nhw chwaith, i'w cysuro ar ôl iddyn nhw golli mam neu dad.
Jere WelBeibl 16:8  “Paid mynd i rywle lle mae pobl yn gwledda a phartïo chwaith.
Jere WelBeibl 16:9  Dw i, yr ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn dweud fy mod i'n mynd i roi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio yn y wlad yma – sŵn pobl yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Cewch fyw i weld y peth yn digwydd!
Jere WelBeibl 16:10  “Pan fyddi di'n dweud hyn i gyd wrth y bobl, byddan nhw'n siŵr o ofyn i ti, ‘Pam mae'r ARGLWYDD yn bygwth gwneud y pethau ofnadwy yma i ni? Beth ydyn ni wedi'i wneud o'i le? Sut ydyn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?’
Jere WelBeibl 16:11  Dwed di wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am fod eich hynafiaid chi wedi troi cefn arna i. Aethon nhw i addoli a gwasanaethu duwiau eraill, troi cefn arna i a gwrthod beth ddysgais i iddyn nhw.
Jere WelBeibl 16:12  Ond dych chi'n waeth na'ch hynafiaid! Dych chi'n ystyfnig, yn dilyn y duedd ynoch chi i wneud drwg, ac wedi gwrthod gwrando arna i.
Jere WelBeibl 16:13  Felly dw i'n mynd i'ch taflu chi allan o'r wlad yma, a'ch gyrru chi i wlad dych chi a'ch hynafiaid yn gwybod dim amdani. Byddwch chi'n addoli duwiau eraill yno, nos a dydd. Fydda i ddim yn teimlo'n sori drosoch chi!’”
Jere WelBeibl 16:14  “Ac eto, mae amser gwell i ddod,” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o'r Aifft …’
Jere WelBeibl 16:15  bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o'r gwledydd lle roedd wedi'u gyrru nhw.’ Achos bryd hynny dw i'n mynd i ddod â nhw yn ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid nhw.”
Jere WelBeibl 16:16  Ond ar hyn o bryd, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n anfon am y gelynion, fydd yn dod i ddal y bobl yma fel pysgotwyr. Wedyn bydda i'n anfon am eraill i ddod fel helwyr. Byddan nhw'n eu hela nhw o'r mynyddoedd a'r bryniau lle maen nhw'n cuddio yn y creigiau.
Jere WelBeibl 16:17  Achos dw i'n gweld popeth maen nhw yn ei wneud – y cwbl! Allan nhw ddim cuddio'u pechodau oddi wrtho i.
Jere WelBeibl 16:18  Rhaid iddyn nhw'n gyntaf ddiodde'r gosb lawn maen nhw'n ei haeddu am eu drygioni a'u pechod. Maen nhw wedi llygru fy nhir i gyda delwau marw o'u heilun-dduwiau ffiaidd, a llenwi fy etifeddiaeth â'u defodau afiach.”
Jere WelBeibl 16:19  Jeremeia: “O ARGLWYDD, ti sy'n rhoi nerth i mi, ac yn fy amddiffyn; ti ydy'r lle saff i mi ddianc iddo pan dw i mewn trafferthion. Bydd cenhedloedd o bob rhan o'r byd yn dod atat ti ac yn dweud: ‘Roedd ein hynafiaid wedi'u magu i addoli delwau diwerth, pethau da i ddim oedd yn gallu helpu neb.
Jere WelBeibl 16:20  Ydy pobl yn gallu gwneud eu duwiau eu hunain? Na! Dydy pethau felly ddim yn dduwiau go iawn.’”
Jere WelBeibl 16:21  Yr ARGLWYDD “Felly, dw i'n mynd i'w dysgu nhw,” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i'n mynd i ddangos iddyn nhw unwaith ac am byth mor gryf ydw i, a byddan nhw'n gwybod mai'r ARGLWYDD ydy fy enw i.”
Chapter 17
Jere WelBeibl 17:1  “Mae pechod pobl Jwda wedi'i gerfio gyda chŷn haearn ar lech eu calonnau. Mae fel arysgrif wedi'i chrafu gyda diemwnt ar y cyrn ar gorneli'r allorau.
Jere WelBeibl 17:2  Dydy'r plant yn gwybod am ddim byd ond am allorau paganaidd a pholion y dduwies Ashera! Maen nhw wedi'u gosod wrth ymyl pob coeden ddeiliog ar ben pob bryn,
Jere WelBeibl 17:3  ar y mynyddoedd ac yn y caeau. Bydda i'n rhoi eich cyfoeth a'ch trysorau yn ysbail i'ch gelynion. Dyma'r pris fyddwch chi'n ei dalu am yr holl bechu drwy'r wlad.
Jere WelBeibl 17:4  Byddwch chi'n colli gafael yn y wlad rois i'n etifeddiaeth i chi. Byddwch yn gwasanaethu eich gelynion mewn gwlad ddieithr. Mae fy llid yn llosgi fel tân fydd ddim yn diffodd.”
Jere WelBeibl 17:5  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Yr ARGLWYDD “Melltith ar y rhai sy'n trystio pobl feidrol a chryfder dynol, ac sydd wedi troi cefn arna i.
Jere WelBeibl 17:6  Byddan nhw'n sych fel prysglwyn ar dir anial, heb ddim gobaith i'r dyfodol. Byddan nhw'n aros yn yr anialwch poeth, mewn tir diffaith lle does neb yn gallu byw.
Jere WelBeibl 17:7  Ond mae yna fendith fawr i'r rhai sy'n fy nhrystio i ac yn rhoi eu hyder ynof fi.
Jere WelBeibl 17:8  Byddan nhw'n gryf fel coeden wedi'i phlannu ar lan afon, a'i gwreiddiau'n ymwthio i'r dŵr. Dydy'r gwres crasboeth yn poeni dim arni hi; mae ei dail yn aros yn wyrdd. A does dim lle i boeni pan ddaw blwyddyn o sychder; bydd ei ffrwyth yn dal i dyfu arni.
Jere WelBeibl 17:9  Oes rhywun yn deall y galon ddynol? Mae'n fwy twyllodrus na dim, a does dim gwella arni.
Jere WelBeibl 17:10  Dw i, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galon ac yn gwybod beth sydd ar feddyliau pobl. Dw i'n rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn.
Jere WelBeibl 17:11  Mae pobl sy'n gwneud arian drwy dwyll fel petrisen yn eistedd ar wyau wnaeth hi mo'u dodwy. Byddan nhw'n colli'r cwbl yn annisgwyl, ac yn dangos yn y diwedd mai ffyliaid oedden nhw.”
Jere WelBeibl 17:12  Jeremeia: “ARGLWYDD, ti sydd ar dy orsedd wych, yn uchel o'r dechrau cyntaf: ti ydy'r lle saff i ni droi!
Jere WelBeibl 17:13  ARGLWYDD, ti ydy gobaith Israel, a bydd pawb sy'n troi cefn arnat ti yn cael eu cywilyddio. Yr ARGLWYDD Byddan nhw'n cael eu cofrestru ym myd y meirw am iddyn nhw droi cefn arna i, yr ARGLWYDD, y ffynnon o ddŵr glân croyw.”
Jere WelBeibl 17:14  Jeremeia: “ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gallu fy iacháu; dim ond ti sy'n gallu fy achub. Ti ydy'r un dw i'n ei foli!
Jere WelBeibl 17:15  Gwrando beth maen nhw'n ddweud wrtho i! ‘Beth am y neges yma gest ti gan yr ARGLWYDD? Tyrd! Gad i ni ei weld yn digwydd!’
Jere WelBeibl 17:16  Gwnes i dy annog i atal y dinistr. Doedd gen i ddim eisiau gweld y diwrnod o drwbwl di-droi'n-ôl yn cyrraedd. Ti'n gwybod yn iawn beth ddwedais i. Roedd y cwbl yn agored o dy flaen di.
Jere WelBeibl 17:17  Paid dychryn fi; ti ydy'r lle saff i mi guddio pan mae pethau'n ddrwg arna i.
Jere WelBeibl 17:18  Gwna i'r rhai sy'n fy erlid i gywilyddio; paid codi cywilydd arna i. Gad iddyn nhw gael eu siomi; paid siomi fi. Tyrd â'r dyddiau drwg arnyn nhw, a dinistria nhw'n llwyr!”
Jere WelBeibl 17:19  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos i sefyll wrth Giât y Bobl lle mae brenhinoedd Jwda yn mynd i mewn ac allan o'r ddinas. Yna dos at giatiau eraill y ddinas.
Jere WelBeibl 17:20  Dwed wrth y bobl yno: ‘Frenhinoedd Jwda, pobl Jwda, a phawb sy'n byw yn Jerwsalem, pawb sy'n dod drwy'r giatiau yma, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 17:21  Gwyliwch am eich bywydau eich bod chi ddim yn cario pethau i'w gwerthu drwy giatiau Jerwsalem ar y Saboth.
Jere WelBeibl 17:22  Peidiwch cario dim allan o'ch tai chwaith, a mynd i weithio ar y Saboth. Dw i eisiau i'r Saboth fod yn ddiwrnod sbesial, fel y dwedais i wrth eich hynafiaid.
Jere WelBeibl 17:23  Ond wnaethon nhw ddim gwrando na chymryd unrhyw sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff, ac yn gwrthod dysgu gwers.’
Jere WelBeibl 17:24  “‘Ond os gwnewch chi wrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘peidio cario pethau i'w gwerthu drwy giatiau Jerwsalem ar Saboth, cadw'r Saboth yn ddiwrnod sbesial, a pheidio gweithio ar y diwrnod hwnnw,
Jere WelBeibl 17:25  bydd brenhinoedd, disgynyddion Dafydd, yn dal i ddod drwy'r giatiau yma yn eu cerbydau ac ar geffylau. Bydd eu swyddogion yn dod gyda nhw, a phobl Jwda a Jerwsalem hefyd. Bydd pobl yn byw yn y ddinas yma am byth.
Jere WelBeibl 17:26  Bydd pobl yn dod yma o drefi Jwda a'r ardal o gwmpas Jerwsalem, o dir llwyth Benjamin, o'r iseldir yn y gorllewin, o'r bryniau ac o'r Negef yn y de. Byddan nhw'n dod i deml yr ARGLWYDD gydag offrymau i'w llosgi ac aberthau, offrymau o rawn ac arogldarth, ac offrymau diolch.
Jere WelBeibl 17:27  Ond rhaid i chi wrando arna i, a chadw'r Saboth yn ddiwrnod sbesial, a pheidio cario pethau i'w gwerthu drwy giatiau Jerwsalem ar y Saboth. Os wnewch chi ddim gwrando bydda i'n rhoi giatiau Jerwsalem ar dân. Fydd y tân ddim yn diffodd, a bydd plastai Jerwsalem i gyd yn cael eu llosgi'n ulw.’”
Chapter 18
Jere WelBeibl 18:2  “Dos i lawr i weithdy'r crochenydd, a bydda i'n siarad gyda ti yno.”
Jere WelBeibl 18:3  Felly dyma fi'n mynd i lawr i'r crochendy, a dyna lle roedd y crochenydd yn gweithio ar y droell.
Jere WelBeibl 18:4  Pan oedd rhywbeth o'i le ar y potyn roedd yn ei wneud o'r clai, byddai'n dechrau eto, ac yn gwneud rhywbeth oedd yn edrych yn iawn.
Jere WelBeibl 18:6  “Ydw i ddim yn gallu gwneud yr un peth i ti, wlad Israel? Rwyt ti yn fy nwylo i fel mae'r clai yn nwylo'r crochenydd.
Jere WelBeibl 18:7  Galla i ddweud un funud fy mod i'n mynd i chwynnu a chwalu a dinistrio gwlad arbennig.
Jere WelBeibl 18:8  Ond os ydy pobl y wlad dw i'n ei bygwth yn stopio gwneud drwg, fydda i ddim yn ei dinistrio hi fel roeddwn i wedi dweud.
Jere WelBeibl 18:9  Dro arall bydda i'n addo adeiladu gwlad neu deyrnas arbennig a'i gwneud hi'n sefydlog.
Jere WelBeibl 18:10  Ond os ydy pobl y wlad honno'n gwneud drwg ac yn gwrthod gwrando arna i, fydda i ddim yn gwneud y pethau da wnes i addo iddi.
Jere WelBeibl 18:11  “Felly dywed wrth bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem fod yr ARGLWYDD yn dweud: ‘Dw i'n paratoi i wneud drwg i chi, ac yn bwriadu eich cosbi chi. Felly rhaid i bob un ohonoch newid eich ffyrdd a stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud.’
Jere WelBeibl 18:12  “Ond byddan nhw'n dweud, ‘Does dim pwynt. Dŷn ni'n mynd i ddal ati i wneud beth dŷn ni eisiau.’”
Jere WelBeibl 18:13  Felly dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gofyn i bobl y gwledydd eraill os ydyn nhw wedi clywed am y fath beth! Mae Jerwsalem, dinas lân Israel, wedi gwneud peth cwbl ffiaidd!
Jere WelBeibl 18:14  Ydy'r eira'n diflannu oddi ar lethrau creigiog Libanus? Ydy nentydd oer y mynyddoedd pell yn stopio llifo? Nac ydyn.
Jere WelBeibl 18:15  Ond mae fy mhobl wedi fy anghofio i. Maen nhw'n llosgi arogldarth i eilun-dduwiau diwerth! Gwnaeth hynny iddyn nhw faglu a gadael yr hen ffyrdd a mynd ar goll ar lwybrau diarffordd.
Jere WelBeibl 18:16  O ganlyniad, bydd pethau ofnadwy yn digwydd i'r wlad. Fydd pobl ddim yn stopio chwibanu mewn rhyfeddod. Bydd pawb sy'n pasio heibio yn dychryn ac yn ysgwyd eu pennau'n syn.
Jere WelBeibl 18:17  Dw i'n mynd i wneud i'w gelynion eu gyrru nhw ar chwâl, fel tywod yn cael ei yrru gan wynt y dwyrain. Bydda i'n troi cefn arnyn nhw yn lle troi i'w helpu nhw pan ddaw'r drychineb.”
Jere WelBeibl 18:18  A dyma'r bobl yn dweud, “Dewch, gadewch i ni ddelio hefo Jeremeia. Bydd offeiriaid yn dal ar gael i roi arweiniad i ni, dynion doeth i roi cyngor i ni, a phroffwydi i roi neges Duw i ni. Dewch, gadewch i ni ddod â cyhuddiadau yn ei erbyn. Fydd dim rhaid i ni wrando arno fe o gwbl wedyn.”
Jere WelBeibl 18:19  Jeremeia: “ARGLWYDD, wnei di ymateb, plîs? Gwranda beth mae fy ngelynion yn ei ddweud.
Jere WelBeibl 18:20  Ydy'n iawn i dalu drwg am dda? Maen nhw wedi cloddio twll i mi. Wyt ti ddim yn cofio fel roeddwn i'n pledio ar eu rhan nhw o dy flaen di? Rôn i'n ceisio dy stopio di rhag bod yn ddig hefo nhw.
Jere WelBeibl 18:21  Felly gad i'w plant nhw lwgu! Gad iddyn nhw farw yn y rhyfel! Gwna eu gwragedd yn weddwon heb blant. Gad i'r dynion hŷn gael eu lladd gan heintiau, a'r bechgyn ifanc wrth ymladd yn y rhyfel.
Jere WelBeibl 18:22  Gad i sŵn sgrechian gael ei glywed yn y tai wrth i gangiau o filwyr ymosod arnyn nhw'n ddirybudd. Maen nhw wedi cloddio twll i mi a gosod trapiau i geisio fy nal.
Jere WelBeibl 18:23  ARGLWYDD, rwyt ti'n gwybod eu bod nhw'n bwriadu fy lladd i. Paid maddau iddyn nhw eto. Paid cuddio'u pechodau nhw o dy olwg. Gad iddyn nhw faglu o dy flaen. Delia gyda nhw yn dy lid.”
Chapter 19
Jere WelBeibl 19:1  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos i brynu jwg gan y crochenydd. Wedyn, dos ag arweinwyr y bobl a'r offeiriaid hynaf gyda ti
Jere WelBeibl 19:2  i ddyffryn Ben-hinnom sydd tu allan i Giât y Sbwriel. Yno, dywed wrthyn nhw beth dw i'n ddweud wrthot ti.
Jere WelBeibl 19:3  Dywed, ‘Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, frenhinoedd Jwda a phobl Jerwsalem. Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i ddod â dinistr ofnadwy i'r lle yma. Bydd pawb fydd yn clywed am y peth yn gegagored.
Jere WelBeibl 19:4  Mae'r bobl yma wedi troi cefn arna i, a gwneud y lle yma fel lle estron. Maen nhw wedi llosgi arogldarth i dduwiau eraill – duwiau nad oedden nhw na'u hynafiaid na brenhinoedd Jwda yn gwybod dim amdanyn nhw! Ac maen nhw wedi tywallt gwaed plant diniwed yma!
Jere WelBeibl 19:5  Maen nhw wedi adeiladu allorau paganaidd, ac wedi llosgi eu plant yn aberth i Baal. Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud hynny. Fyddai'r fath beth byth yn croesi fy meddwl i!
Jere WelBeibl 19:6  “‘“Felly mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd neb yn galw'r lle yn Toffet neu ddyffryn Ben-hinnom. Dyffryn y Lladdfa fydd enw'r lle.
Jere WelBeibl 19:7  Bydda i'n drysu cynlluniau pobl Jwda a Jerwsalem. Byddan nhw'n cael eu lladd gan eu gelynion yn y rhyfel. Bydd adar ac anifeiliaid gwyllt yn bwyta eu cyrff nhw.
Jere WelBeibl 19:8  Bydd y ddinas yma'n cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi dychryn am eu bywydau, ac yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld y dinistr.
Jere WelBeibl 19:9  Bydda i'n gwneud iddyn nhw fwyta'u meibion a'u merched. Byddan nhw'n bwyta cyrff pobl am fod y sefyllfa wedi mynd mor ddrwg, a'r gelynion yn gwarchae arnyn nhw ac yn rhoi'r fath bwysau arnyn nhw.”’
Jere WelBeibl 19:10  “Wedyn dw i eisiau i ti falu'r jwg yn deilchion o flaen y dynion fydd wedi mynd hefo ti,
Jere WelBeibl 19:11  yna dweud wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud: ‘Dw i'n mynd i ddryllio'r wlad yma a'r ddinas, yn union fel cafodd y jwg yma ei dorri'n deilchion. Does dim gobaith ei drwsio! Bydd cyrff yn cael eu claddu yma yn Toffet nes bydd dim lle ar ôl!
Jere WelBeibl 19:12  A bydd hi'r un fath ar y ddinas yma a'i phobl,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Bydd hi fel Toffet yma!
Jere WelBeibl 19:13  Am fod pobl wedi aberthu i'r sêr, a thywallt offrwm o ddiod i dduwiau eraill ar doeau'r tai a thoeau palasau brenhinoedd Jwda, bydd Jerwsalem hefyd wedi'i llygru gan gyrff yr un fath â Toffet.’”
Jere WelBeibl 19:14  Ar ôl dod yn ôl o Toffet, lle roedd yr ARGLWYDD wedi'i anfon i broffwydo, dyma Jeremeia'n mynd i deml yr ARGLWYDD a sefyll yn yr iard ac annerch y bobl yno.
Jere WelBeibl 19:15  “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Yn fuan iawn dw i'n mynd i ddod â dinistr ar y ddinas yma a'r pentrefi sydd o'i chwmpas, yn union fel dwedais i. Mae'r bobl wedi bod mor benstiff, a gwrthod gwrando arna i.’”
Chapter 20
Jere WelBeibl 20:1  Clywodd Pashchwr fab Immer beth ddwedodd Jeremeia. (Pashchwr oedd yr offeiriad oedd yn gyfrifol am gadw trefn yn y deml.)
Jere WelBeibl 20:2  A dyma fe'n gorchymyn arestio Jeremeia, ei guro a'i rwymo mewn cyffion wrth Giât Uchaf Benjamin yn y deml.
Jere WelBeibl 20:3  Y bore wedyn, dyma Pashchwr yn gollwng Jeremeia'n rhydd. A dyma Jeremeia'n dweud wrtho, “Nid Pashchwr mae'r ARGLWYDD yn dy alw di ond ‘Dychryn ym mhobman’.
Jere WelBeibl 20:4  Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di a dy ffrindiau wedi dychryn am eich bywydau. Byddi'n edrych arnyn nhw'n cael eu lladd gan eu gelynion. Dw i'n mynd i roi pobl Jwda yn nwylo brenin Babilon. Bydd e'n cymryd rhai yn gaeth i Babilon, a bydd rhai yn cael eu lladd.
Jere WelBeibl 20:5  Bydd cyfoeth y ddinas yma i gyd yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Bydd y gelynion yn cymryd holl eiddo'r bobl, popeth gwerthfawr sydd ganddyn nhw, a thrysorau brenhinol Jwda.
Jere WelBeibl 20:6  Byddi di a dy deulu, dy weision a dy forynion i gyd, yn cael eich cymryd yn gaethion i Babilon. Dyna lle byddi di a dy ffrindiau'n marw ac yn cael eich claddu, sef pawb y buost ti'n pregethu celwydd iddyn nhw ac yn dweud y byddai popeth yn iawn.’”
Jere WelBeibl 20:7  ARGLWYDD, ti wedi fy nhwyllo i, a dw innau wedi gadael i ti wneud hynny. Ti gafodd y llaw uchaf am dy fod ti'n gryfach na fi. A dyma fi bellach yn ddim byd ond testun sbort i bobl. Mae pawb yn chwerthin am fy mhen i!
Jere WelBeibl 20:8  Bob tro dw i'n agor fy ngheg rhaid i mi weiddi, “Mae trais a dinistr yn dod!” Mae neges yr ARGLWYDD yn fy ngwneud yn ddim byd ond jôc a thestun sbort i bobl drwy'r amser.
Jere WelBeibl 20:9  Dw i'n meddwl weithiau, “Wna i ddim sôn amdano eto. Dw i'n mynd i wrthod siarad ar ei ran!” Ond wedyn mae ei neges fel tân y tu mewn i mi. Mae fel fflam yn llosgi yn fy esgyrn. Dw i'n trio fy ngorau i'w ddal yn ôl, ond alla i ddim!
Jere WelBeibl 20:10  Dw i wedi clywed lot fawr o bobl yn hel straeon amdana i. “‛Dychryn ym mhobman‛ wir! Gadewch i ni ddweud wrth yr awdurdodau amdano!” Mae hyd yn oed y rhai oedd yn ffrindiau i mi yn disgwyl i'm gweld i'n baglu: “Falle y gallwn ei ddenu i wneud rhywbeth gwirion, wedyn byddwn ni'n gallu dial arno!”
Jere WelBeibl 20:11  Ond mae'r ARGLWYDD hefo fi fel rhyfelwr ffyrnig. Felly, y rhai sy'n fy erlid i fydd yn baglu. Fyddan nhw ddim yn ennill! Byddan nhw'n teimlo cywilydd mawr am eu methiant. Fydd y gwarth byth yn cael ei anghofio!
Jere WelBeibl 20:12  O ARGLWYDD hollbwerus, sy'n profi'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn. Ti'n gwybod beth mae pobl yn ei feddwl a'i fwriadu. Tala nôl iddyn nhw am beth maen nhw'n ei wneud. Dw i'n dy drystio di i ddelio gyda'r sefyllfa.
Jere WelBeibl 20:13  Canwch i'r ARGLWYDD! Molwch yr ARGLWYDD! Mae e'n achub y tlawd o afael pobl ddrwg.
Jere WelBeibl 20:14  Melltith ar y diwrnod ces i fy ngeni! Does dim byd da am y diwrnod y cafodd mam fi.
Jere WelBeibl 20:15  Melltith ar y person roddodd y newyddion i dad a'i wneud mor hapus wrth ddweud, “Mae gen ti fab!”
Jere WelBeibl 20:16  Boed i'r person hwnnw fod fel y trefi hynny gafodd eu dinistrio'n ddidrugaredd gan yr ARGLWYDD – yn clywed sŵn sgrechian yn y bore, a sŵn gweiddi yn y rhyfel ganol dydd!
Jere WelBeibl 20:17  Pam wnaeth e ddim fy lladd i cyn i mi ddod allan o'r groth? Byddai croth fy mam yn fedd i mi, a hithau'n feichiog am byth.
Jere WelBeibl 20:18  Pam oedd rhaid i mi gael fy ngeni o gwbl? Dw i wedi gweld dim byd ond trafferthion a thristwch, ac wedi profi dim byd ond cywilydd ar hyd fy mywyd!
Chapter 21
Jere WelBeibl 21:1  Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia, pan gafodd Pashchwr fab Malcîa a'r offeiriad Seffaneia fab Maaseia eu danfon ato gan y Brenin Sedeceia.
Jere WelBeibl 21:2  “Wnei di ofyn i'r ARGLWYDD ein helpu ni?” medden nhw. “Mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, ar fin ymosod arnon ni. Falle y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud gwyrth fel yn y gorffennol, ac yn ei anfon i ffwrdd oddi wrthon ni.”
Jere WelBeibl 21:3  A dyma oedd ateb Jeremeia: “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud:
Jere WelBeibl 21:4  ‘Mae dy fyddin wedi mynd allan i ymladd yn erbyn byddin brenin Babilon, ond bydda i'n gwneud iddyn nhw droi yn ôl. Bydda i'n dod â nhw yn ôl i'r ddinas yma.
Jere WelBeibl 21:5  Dw i'n wyllt, ac wedi digio'n fawr hefo chi, a dw i fy hun yn mynd i ymladd yn eich erbyn chi gyda'm holl nerth a'm grym.
Jere WelBeibl 21:6  Dw i'n mynd i daro popeth byw yn y ddinas yma – yn bobl ac anifeiliaid. Byddan nhw'n marw o haint erchyll.
Jere WelBeibl 21:7  Wedyn,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘bydda i'n rhoi Sedeceia, brenin Jwda (a'i swyddogion a phawb arall fydd yn dal yn fyw, ar ôl yr haint y rhyfel a'r newyn) yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd eu gelynion yn eu dal nhw, ac yn eu lladd â'r cleddyf. Fyddan nhw'n dangos dim piti. Fydd neb yn cael eu harbed. Fydd dim trugaredd o gwbl!’
Jere WelBeibl 21:8  “Yna dywed wrth bobl Jerwsalem mai dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud wrthyn nhw: ‘Dw i'n rhoi dewis i chi – ffordd bywyd neu ffordd marwolaeth.
Jere WelBeibl 21:9  Bydd y rhai sy'n aros yn y ddinas yma yn cael eu lladd yn y rhyfel, neu'n marw o newyn neu haint. Ond bydd pawb sy'n mynd allan ac yn ildio i'r Babiloniaid sy'n gwarchae ar y ddinas yma, yn cael byw.
Jere WelBeibl 21:10  Dw i wedi penderfynu gwneud drwg i'r ddinas yma yn lle gwneud da. Dw i'n mynd i adael i frenin Babilon ei choncro hi, a bydd yn ei llosgi'n ulw.’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 21:11  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth deulu brenhinol Jwda, sy'n perthyn i linach Dafydd: “Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD – ‘Gwnewch yn siŵr fod pobl yn cael tegwch yn y llysoedd. Achubwch bobl sy'n dioddef o grafangau'r rhai sy'n eu gormesu nhw. Os na wnewch chi, bydda i'n ddig. Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd, o achos yr holl ddrwg dych chi wedi'i wneud.
Jere WelBeibl 21:12  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth deulu brenhinol Jwda, sy'n perthyn i linach Dafydd: “Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD – ‘Gwnewch yn siŵr fod pobl yn cael tegwch yn y llysoedd. Achubwch bobl sy'n dioddef o grafangau'r rhai sy'n eu gormesu nhw. Os na wnewch chi, bydda i'n ddig. Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd, o achos yr holl ddrwg dych chi wedi'i wneud.
Jere WelBeibl 21:13  Hei, ti sydd wedi dy orseddu uwchben y dyffryn ar y byrdd-dir creigiog – dw i'n dy erbyn di!’ —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. ‘Dych chi'n dweud, “Fydd neb yn gallu ymosod arnon ni yma. Does gan neb obaith dod i mewn aton ni!”
Jere WelBeibl 21:14  Ond dw i'n mynd i roi'r gosb dych chi'n ei haeddu i chi,’ —meddai'r ARGLWYDD. ‘Bydda i'n rhoi dy balas ar dân, a bydd popeth o dy gwmpas yn cael ei losgi.’”
Chapter 22
Jere WelBeibl 22:1  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dos i lawr i balas brenin Jwda, a rho'r neges yma iddo:
Jere WelBeibl 22:2  ‘Frenin Jwda, gwrando ar neges yr ARGLWYDD – ti sy'n perthyn i deulu brenhinol Dafydd, dy swyddogion a phawb arall sy'n mynd drwy'r giatiau yma.
Jere WelBeibl 22:3  Mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Gwnewch beth sy'n gyfiawn ac yn deg, ac achubwch bobl sy'n dioddef o grafangau'r rhai sy'n eu gormesu nhw. Peidiwch cam-drin a chymryd mantais o fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon. A pheidiwch lladd pobl ddiniwed.
Jere WelBeibl 22:4  Os ewch chi ati i wneud beth dw i'n ddweud, bydd disgynyddion Dafydd yn dal i deyrnasu. Byddan nhw'n dod drwy'r giatiau yma mewn cerbydau ac ar gefn ceffylau, gyda'u swyddogion a'u pobl.
Jere WelBeibl 22:5  Ond os byddwch chi'n gwrthod gwrando, dw i'n addo ar fy llw y bydd y palas yma yn rwbel.”’” Yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 22:6  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am balas brenin Jwda: “Ti fel tir ffrwythlon Gilead i mi, neu fel y coed ar fynyddoedd Libanus. Ond bydda i'n dy wneud di'n anialwch, a fydd neb yn byw yn dy drefi di.
Jere WelBeibl 22:7  Mae gen i rai sy'n barod i dy ddinistrio di, pob un yn cario'i arfau. Byddan nhw'n torri'r coed cedrwydd gorau, ac yn taflu'r cwbl i'r tân.
Jere WelBeibl 22:8  “Bydd pobl o wledydd eraill yn pasio heibio'r ddinas yma, ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud y fath beth i'r ddinas wych yma?’
Jere WelBeibl 22:9  A bydd yr ateb yn cael ei roi. ‘Am fod y bobl wedi troi cefn ar yr ymrwymiad i'r ARGLWYDD eu Duw, ac wedi addoli a gwasanaethu duwiau eraill.’”
Jere WelBeibl 22:10  “Paid crio am fod y brenin wedi marw. Paid galaru ar ei ôl. Crïa am y brenin sy'n cael ei gymryd i ffwrdd. Fydd e ddim yn dod yn ôl adre, Gaiff e byth weld ei wlad eto.
Jere WelBeibl 22:11  Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Shalwm fab Joseia brenin Jwda, ddaeth i deyrnasu ar ôl ei dad, Joseia: ‘Mae e wedi'i gymryd i ffwrdd, a fydd e byth yn dod yn ôl.
Jere WelBeibl 22:12  Bydd e'n marw yn y wlad lle cafodd ei gymryd yn gaeth. Fydd e byth yn gweld y wlad yma eto.’”
Jere WelBeibl 22:13  “Gwae yr un anghyfiawn sy'n adeiladu ei balas, yr un sy'n trin pobl yn annheg wrth godi'r lloriau uchaf. Mae'n gwneud i'w bobl weithio am ddim; dydy e ddim yn talu cyflog iddyn nhw.
Jere WelBeibl 22:14  Mae'n dweud wrtho'i hun, ‘Dw i'n mynd i adeiladu palas gwych, gyda llofftydd mawr a digon o ffenestri. Dw i'n mynd i osod paneli o goed cedrwydd drwyddo, a'i beintio yn goch llachar.’
Jere WelBeibl 22:15  Ydy bod â mwy o baneli cedrwydd yn dy wneud di'n well brenin? Meddylia am dy dad. Roedd e'n hapus os oedd ganddo fwyd a diod. Roedd yn gwneud beth oedd yn gyfiawn ac yn deg, ac roedd pethau'n mynd yn dda gydag e.
Jere WelBeibl 22:16  Roedd yn amddiffyn hawliau pobl dlawd ac anghenus, ac roedd pethau'n mynd yn dda. Onid dyna beth mae fy nabod i yn ei olygu?” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 22:17  “Ond rwyt ti'n hunanol ac yn anonest. Ti'n lladd pobl ddiniwed, yn twyllo ac yn gorthrymu'r bobl.”
Jere WelBeibl 22:18  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda: “Fydd neb yn galaru ar ei ôl, a dweud, ‘O, dw i mor drist, fy mrawd! O, dw i mor drist, fy chwaer!’ Fydd neb yn dweud, ‘O, druan o'n harglwydd ni!’ ‘O, druan o'r brenin!’
Jere WelBeibl 22:19  Fydd ei angladd ddim gwell na phan mae asyn yn marw – Bydd ei gorff yn cael ei lusgo allan o'r ddinas a'i daflu tu allan i giatiau Jerwsalem.”
Jere WelBeibl 22:20  Dringwch fynyddoedd Libanus, a galaru yno. Gwaeddwch yn uchel ar fryniau Bashan. Ewch i alaru ar fynyddoedd Afarîm. Mae eich ‛cariadon‛ i gyd wedi'u concro!
Jere WelBeibl 22:21  Gwnes i eich rhybuddio pan oeddech chi'n byw'n ddibryder, ond yr ymateb ges i oedd, “Dŷn ni ddim am wrando.” Dyma sut dych chi wedi bod o'r dechrau cyntaf – dych chi erioed wedi bod yn barod i wrando.
Jere WelBeibl 22:22  Bydd eich arweinwyr yn cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt. Bydd eich ‛cariadon‛ i gyd wedi'u cymryd yn gaeth. Bryd hynny bydd gynnoch chi gywilydd go iawn o'r holl bethau drwg wnaethoch chi.
Jere WelBeibl 22:23  Falle eich bod chi'n teimlo'n reit saff, fel aderyn yn nythu ar goed cedrwydd Libanus. Ond byddwch yn griddfan mewn poen pan ddaw'r farn. Byddwch fel gwraig mewn poen wrth gael babi.
Jere WelBeibl 22:24  “Mor sicr â'm bod i fy hun yn fyw,” meddai'r ARGLWYDD, “er dy fod ti, Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, wedi bod yn sêl-fodrwy ar fy llaw dde, bydda i'n dy dynnu i ffwrdd.
Jere WelBeibl 22:25  Bydda i'n dy roi di yn nwylo'r rhai sydd eisiau dy ladd di, y rhai hynny rwyt ti'n eu hofni nhw, sef Nebwchadnesar, brenin Babilon, a'i fyddin.
Jere WelBeibl 22:26  A bydda i'n dy daflu di a dy fam i wlad ddieithr, a dyna lle byddwch chi'n marw.
Jere WelBeibl 22:27  Gewch chi byth ddod yn ôl yma, er eich holl hiraeth.”
Jere WelBeibl 22:28  Ai jwg diwerth wedi'i dorri ydy'r dyn Jehoiachin (fel potyn pridd does neb ei eisiau)? Pam mae e a'i blant wedi'u taflu i ffwrdd (wedi'u taflu i wlad ddieithr)?
Jere WelBeibl 22:30  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gwnewch gofnod fod y dyn yma'n ddi-etifedd (dyn fydd yn gweld dim llwyddiant)! Fydd dim un o'i blant yn teyrnasu yn Jwda ar ei ôl. Fydd neb yn ei ddilyn ar orsedd Dafydd.”
Chapter 23
Jere WelBeibl 23:1  “Mae ar ben ar arweinwyr y wlad!” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle gofalu am fy mhobl fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu defaid, maen nhw'n gwneud niwed iddyn nhw a'u gyrru nhw ar chwâl.”
Jere WelBeibl 23:2  Felly dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud am y ‛bugeiliaid‛ yma sydd i fod i ofalu am fy mhobl: “Dych chi wedi chwalu'r praidd a gyrru'r defaid i ffwrdd yn lle gofalu amdanyn nhw. Felly bydda i'n eich cosbi chi am y drwg dych chi wedi'i wneud,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 23:3  “Ond dw i'n mynd i gasglu'r defaid sydd ar ôl at ei gilydd. Bydda i'n eu casglu nhw o'r gwledydd lle gwnes i eu gyrru nhw, a'u harwain nhw yn ôl i'w corlan. Byddan nhw'n cael rhai bach a bydd mwy a mwy ohonyn nhw.
Jere WelBeibl 23:4  Bydda i'n penodi arweinwyr fydd yn gofalu'n iawn amdanyn nhw. Fydd dim rhaid iddyn nhw fod ag ofn. Fydd dim byd i'w dychryn nhw, a fydd dim un ohonyn nhw yn mynd ar goll,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 23:5  “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd, un fydd yn gwneud beth sy'n iawn. Bydd e'n frenin fydd yn teyrnasu'n ddoeth. Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad.
Jere WelBeibl 23:6  Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachub a bydd Israel yn saff. Yr enw ar y brenin yma fydd, ‘Yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i ni.’
Jere WelBeibl 23:7  “Ac eto, mae amser gwell i ddod,” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o'r Aifft …’
Jere WelBeibl 23:8  bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o'r gwledydd lle roedd wedi'u gyrru nhw.’ A bryd hynny byddan nhw'n cael byw yn eu gwlad eu hunain.”
Jere WelBeibl 23:9  Neges am y proffwydi: Jeremeia: Dw i wedi cynhyrfu'n lân, a dw i'n crynu drwyddo i. Dw i fel dyn wedi meddwi, fel rhywun sy'n chwil gaib. Alla i ddim diodde'r ffordd mae'r ARGLWYDD a'i neges yn cael eu trin.
Jere WelBeibl 23:10  Mae'r wlad yn llawn pobl sy'n anffyddlon iddo. Mae'r tir wedi sychu am ei fod wedi'i felltithio. Does dim porfa yn yr anialwch – mae wedi gwywo. A'r cwbl am eu bod nhw'n byw bywydau drwg ac yn camddefnyddio'u grym.
Jere WelBeibl 23:11  Yr ARGLWYDD: “Mae'r proffwydi a'r offeiriaid yn bobl annuwiol. Dw i wedi gweld y pethau ofnadwy maen nhw'n eu gwneud hyd yn oed yn y deml ei hun!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 23:12  “Felly bydd eu llwybrau yn dywyll a llithrig. Byddan nhw'n baglu ac yn syrthio. Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw. Mae'r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 23:13  “Gwelais broffwydi Samaria gynt yn gwneud peth cwbl anweddus: Roedden nhw'n proffwydo ar ran y duw Baal, ac yn camarwain fy mhobl, Israel.
Jere WelBeibl 23:14  A nawr dw i'n gweld proffwydi Jerwsalem yn gwneud rhywbeth yr un mor erchyll. Maen nhw'n anffyddlon i mi ac yn dilyn celwydd! Maen nhw'n annog y rhai sy'n gwneud drwg yn lle ceisio'u cael nhw i stopio. Maen nhw mor ddrwg â Sodom yn fy ngolwg i. Mae pobl Jerwsalem fel pobl Gomorra.”
Jere WelBeibl 23:15  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud am y proffwydi: “Bydda i'n gwneud i'r bobl yma ddioddef yn chwerw, ac yfed dŵr gwenwynig barn. Mae proffwydi Jerwsalem yn gyfrifol am ledaenu annuwioldeb drwy'r wlad i gyd.”
Jere WelBeibl 23:16  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Peidiwch gwrando ar beth mae'r proffwydi yna'n ei ddweud – maen nhw'n eich twyllo gyda'u gobaith gwag. Maen nhw'n rhannu eu ffantasïau yn lle beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.
Jere WelBeibl 23:17  Maen nhw'n dal ati i ddweud wrth y rhai sy'n ddirmygus ohono i, ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud y bydd popeth yn iawn!’ Maen nhw'n dweud wrth y rhai sy'n ystyfnig, ‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i chi.’
Jere WelBeibl 23:18  Ond prun ohonyn nhw sy'n gwybod cynlluniau'r ARGLWYDD, ac wedi clywed a deall beth mae e'n ddweud? Prun ohonyn nhw sydd wedi gwrando arno?”
Jere WelBeibl 23:19  Jeremeia: Gwyliwch chi! Bydd yr ARGLWYDD yn ddig. Bydd yn dod fel storm. Bydd fel corwynt dinistriol yn disgyn ar y rhai drwg.
Jere WelBeibl 23:20  Fydd llid yr ARGLWYDD ddim yn tawelu nes bydd wedi gwneud popeth mae'n bwriadu ei wneud. Byddwch chi'n dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd.
Jere WelBeibl 23:21  Yr ARGLWYDD: “Wnes i ddim anfon y proffwydi yma, ond roedden nhw'n rhedeg i gyhoeddi eu neges. Wnes i ddim rhoi neges iddyn nhw, ond roedden nhw'n dal i broffwydo.
Jere WelBeibl 23:22  Petaen nhw wedi sefyll o'm blaen a gwrando, bydden nhw wedi cyhoeddi fy neges i'm pobl. Bydden nhw wedi gwneud iddyn nhw droi cefn ar ddrwg.”
Jere WelBeibl 23:23  “Ai rhyw dduw bach lleol ydw i?” meddai'r ARGLWYDD. “Onid fi ydy'r Duw sy'n gweld popeth o bell?”
Jere WelBeibl 23:24  “Pwy sy'n gallu cuddio oddi wrtho i?” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i ym mhobman drwy'r nefoedd a'r ddaear!”
Jere WelBeibl 23:25  “Dw i wedi clywed beth mae'r proffwydi'n ei ddweud. Maen nhw'n honni siarad drosto i, ond yn dweud celwydd! ‘Dw i wedi cael breuddwyd! Dw i wedi cael breuddwyd!’ medden nhw.
Jere WelBeibl 23:26  Am faint mae'n rhaid i hyn fynd ymlaen? Am faint maen nhw'n mynd i ddal ati i ddweud celwydd? Maen nhw'n twyllo'u hunain! Ydyn nhw'n mynd i newid rywbryd?
Jere WelBeibl 23:27  Am faint maen nhw'n mynd i rannu eu breuddwydion gyda'i gilydd, a cheisio cael fy mhobl i anghofio pwy ydw i? Dyna beth wnaeth eu hynafiaid – anghofio amdana i ac addoli'r duw Baal.
Jere WelBeibl 23:28  Gadewch i'r proffwyd gafodd freuddwyd ei rhannu fel breuddwyd. Ond dylai'r un dw i wedi rhoi neges iddo gyhoeddi'r neges yna'n ffyddlon.” “Allwch chi ddim cymharu'r gwellt gyda'r grawn!” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 23:29  “Mae fy neges i fel tân yn llosgi,” meddai'r ARGLWYDD. “Mae fel gordd yn dryllio carreg.”
Jere WelBeibl 23:30  “Felly, dw i eisiau i chi ddeall fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n dwyn y neges oddi ar ei gilydd,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 23:31  “Dw i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n dweud beth maen nhw eisiau, ac yna'n honni, ‘Dyma beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud …’
Jere WelBeibl 23:32  Dw i eisiau i chi ddeall,” meddai'r ARGLWYDD, “fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n cyhoeddi'r celwydd maen nhw wedi'i ddychmygu. Maen nhw'n camarwain fy mhobl gyda'u celwyddau a'u honiadau anghyfrifol. Wnes i mo'u hanfon nhw na dweud wrthyn nhw beth i'w wneud. Dŷn nhw ddim yn helpu'r bobl yma o gwbl,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 23:33  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, pan mae'r bobl yma, neu broffwyd neu offeiriad, yn gofyn i ti, ‘Beth ydy'r baich mae'r ARGLWYDD yn ei roi arnon ni nawr?’ dywed wrthyn nhw, ‘Chi ydy'r baich, a dw i'n mynd i'ch taflu chi i ffwrdd,’
Jere WelBeibl 23:34  Ac os bydd proffwyd, offeiriad, neu unrhyw un arall yn dweud, ‘Mae'r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,’ bydda i'n cosbi'r dyn hwnnw a'i deulu.
Jere WelBeibl 23:35  Dyma ddylech chi fod yn ei ofyn i'ch gilydd: ‘Beth oedd ateb yr ARGLWYDD?’ neu ‘Beth ddwedodd yr ARGLWYDD?’
Jere WelBeibl 23:36  Rhaid i chi stopio dweud fod yr ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnoch chi. Y pethau dych chi'ch hunain yn eu dweud ydy'r ‛baich‛. Dych chi wedi gwyrdroi neges ein Duw ni, yr ARGLWYDD hollbwerus, y Duw byw!
Jere WelBeibl 23:37  Beth ddylech chi ei ofyn i'r proffwyd ydy, ‘Beth oedd ateb yr ARGLWYDD?’ neu ‘Beth ddwedodd yr ARGLWYDD?’
Jere WelBeibl 23:38  Os daliwch chi ati i ddweud, ‘Mae'r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,’ dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dych chi'n dal i ddweud, “Mae'r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,” er fy mod i wedi dweud yn glir wrthoch chi am beidio gwneud hynny.
Jere WelBeibl 23:39  Felly, dw i'n mynd i'ch codi chi a'ch taflu chi i ffwrdd – chi a'r ddinas rois i i'ch hynafiaid chi.
Jere WelBeibl 23:40  Bydda i'n eich gwneud chi'n jôc, a byddwch yn cael eich cywilyddio am byth.’”
Chapter 24
Jere WelBeibl 24:1  Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi cymryd Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, yn gaeth i Babilon. Cymerodd y swyddogion i gyd hefyd, a'r seiri coed a'r gweithwyr metel. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi gweledigaeth i mi. Gwelais ddwy fasged yn llawn ffigys wedi'u gosod o flaen teml yr ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 24:2  Roedd y ffigys yn un fasged yn rhai da iawn, fel ffigys wedi aeddfedu'n gynnar. Ond roedd y ffigys yn y fasged arall wedi mynd yn ddrwg, a ddim yn ffit i'w bwyta.
Jere WelBeibl 24:3  Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i mi, “Beth wyt ti'n weld, Jeremeia?” A dyma fi'n ateb, “Ffigys. Mae'r rhai da yn edrych yn hyfryd, ond mae'r lleill wedi mynd yn rhy ddrwg i'w bwyta.”
Jere WelBeibl 24:5  “Dyma dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae'r ffigys da yn cynrychioli'r bobl sydd wedi'u cymryd yn gaeth i wlad y Babiloniaid.
Jere WelBeibl 24:6  Dw i wedi'u hanfon nhw yno er eu lles eu hunain, a dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r wlad yma. Bydda i'n eu hadeiladu nhw, dim eu bwrw nhw i lawr. Bydda i'n eu plannu nhw yn y tir, dim yn eu tynnu fel chwyn.
Jere WelBeibl 24:7  Bydda i'n rhoi'r awydd ynddyn nhw i gydnabod mai fi ydy'r ARGLWYDD. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw. Byddan nhw'n troi'n ôl ata i go iawn.’
Jere WelBeibl 24:8  “Ond,” meddai'r ARGLWYDD, “mae'r ffigys drwg yn cynrychioli Sedeceia brenin Jwda a'i swyddogion, a'r bobl hynny sydd wedi'u gadael ar ôl yn Jerwsalem neu sydd wedi mynd i fyw i'r Aifft.
Jere WelBeibl 24:9  Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd eraill i gyd. Byddan nhw'n jôc. Bydda i'n gwneud esiampl ohonyn nhw. Byddan nhw'n destun sbort, ac yn esiampl o bobl wedi'u melltithio. Dyna sut fydd hi arnyn nhw ble bynnag wna i eu gyrru nhw.
Jere WelBeibl 24:10  Bydda i'n anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw nes byddan nhw wedi cael eu dileu'n llwyr o'r wlad rois i iddyn nhw a'u hynafiaid.”
Chapter 25
Jere WelBeibl 25:1  Cafodd Jeremeia neges gan yr ARGLWYDD am bobl Jwda yn ystod y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda (hon hefyd oedd y flwyddyn y cafodd Nebwchadnesar ei wneud yn frenin Babilon).
Jere WelBeibl 25:2  Dyma ddwedodd y proffwyd Jeremeia wrth bobl Jwda a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem:
Jere WelBeibl 25:3  “Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn siarad hefo fi ers dau ddeg tair o flynyddoedd – o'r adeg pan oedd Joseia fab Amon wedi bod yn frenin am un deg tair o flynyddoedd hyd heddiw. Dw i wedi dweud wrthoch chi dro ar ôl tro beth oedd ei neges, ond dych chi ddim wedi gwrando.
Jere WelBeibl 25:4  Ac mae'r ARGLWYDD wedi dal ati i anfon ei weision y proffwydi atoch chi. Ond dych chi ddim wedi gwrando na chymryd unrhyw sylw.
Jere WelBeibl 25:5  Y neges oedd, ‘Rhaid i bob un ohonoch chi stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud; wedyn byddwch chi'n cael aros yn y wlad roddodd yr ARGLWYDD i chi a'ch hynafiaid am byth bythoedd.
Jere WelBeibl 25:6  Stopiwch addoli a gwasanaethu duwiau eraill, a'm gwylltio i drwy blygu i eilunod dych chi eich hunain wedi'u cerfio. Wedyn fydda i'n gwneud dim drwg i chi.
Jere WelBeibl 25:7  Ond wnaethoch chi ddim gwrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Dych chi wedi fy ngwylltio i gyda'ch eilunod. Dych chi wedi dod â drwg arnoch chi'ch hunain.’
Jere WelBeibl 25:8  “Felly dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Dych chi ddim wedi gwrando arna i.
Jere WelBeibl 25:9  Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn mynd i'w wneud: dw i'n mynd i anfon am bobloedd y gogledd, ac am fy ngwas i, Nebwchadnesar brenin Babilon. Dw i'n mynd i'w cael nhw i ymosod ar y wlad yma a'i phobl ac ar y gwledydd o'i chwmpas hefyd. Dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd yma. Fydd pobl ddim yn stopio rhyfeddu at y llanast.
Jere WelBeibl 25:10  Bydda i'n rhoi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio, ac yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Fydd dim sŵn maen melin yn troi, a dim golau lamp i'w weld yn y tai.
Jere WelBeibl 25:11  Bydd y wlad yn anialwch diffaith. A bydd y gwledydd yn gorfod gwasanaethu brenin Babilon am saith deg mlynedd.
Jere WelBeibl 25:12  “‘Ar ddiwedd y saith deg mlynedd bydda i'n cosbi brenin Babilon a'i wlad am y drwg wnaethon nhw. Bydd gwlad y Babiloniaid yn cael ei dinistrio am byth.
Jere WelBeibl 25:13  Bydd popeth wnes i ei fygwth yn digwydd iddi – popeth sydd wedi'i ysgrifennu yn y llyfr yma, sef beth mae Jeremeia wedi'i broffwydo yn erbyn y gwledydd i gyd.
Jere WelBeibl 25:14  Bydd brenin a phobl Babilon yn gorfod gwasanaethu brenhinoedd a gwledydd eraill. Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw.’”
Jere WelBeibl 25:15  Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud wrtho i: “Cymer y gwpan yma gen i. Mae hi'n llawn dop o win fy llid. Cymer hi, a gwna i'r gwledydd dw i'n dy anfon di atyn nhw yfed ohoni.
Jere WelBeibl 25:16  Byddan nhw'n yfed, ac yn stagro yn ôl ac ymlaen. Bydd y rhyfel dw i'n ei anfon i'w cosbi nhw yn eu gyrru nhw'n wallgof.”
Jere WelBeibl 25:17  Felly dyma fi'n cymryd y gwpan o law'r ARGLWYDD, ac yn gwneud i'r holl wledydd lle'r anfonodd fi yfed ohoni:
Jere WelBeibl 25:18  Jerwsalem a threfi Jwda, ei brenhinoedd a'i swyddogion. Byddan nhw'n cael eu dinistrio a'u difetha'n llwyr. Bydd pobl yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld yr holl bethau dychrynllyd fydd yn digwydd, a bydd yn esiampl o wlad wedi'i melltithio. Mae'n dechrau digwydd heddiw!
Jere WelBeibl 25:19  Yna'r Pharo (brenin yr Aifft) a'i weision a'i swyddogion, pobl yr Aifft i gyd,
Jere WelBeibl 25:20  a'r bobl o dras gymysg sy'n byw yno. Wedyn brenhinoedd gwlad Us, a brenhinoedd trefi'r Philistiaid i gyd: pobl Ashcelon, Gasa, Ecron, a beth sydd ar ôl o Ashdod.
Jere WelBeibl 25:22  Brenhinoedd Tyrus a Sidon, a brenhinoedd y trefi eraill ar yr arfordir.
Jere WelBeibl 25:23  Pobl Dedan, Tema, Bws, a'r bobl sy'n byw ar ymylon yr anialwch.
Jere WelBeibl 25:24  Brenhinoedd Arabia a brenhinoedd y gwahanol lwythau nomadig yn yr anialwch.
Jere WelBeibl 25:26  Brenhinoedd y gogledd i gyd, pell ac agos, a phob un gwlad sydd ar wyneb y ddaear. Ac yn olaf bydd rhaid i frenin Babilon ei hun yfed o'r gwpan.
Jere WelBeibl 25:27  Yr ARGLWYDD: “Dwed di wrthyn nhw wedyn fod yr ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn dweud: ‘Yfwch nes byddwch chi'n feddw ac yn chwydu. Yfwch nes byddwch yn syrthio ac yn methu codi ar eich traed eto, o achos y rhyfel dw i'n ei anfon i'ch cosbi chi.’
Jere WelBeibl 25:28  “Os byddan nhw'n gwrthod cymryd y gwpan gen ti ac yfed ohoni, dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Does gynnoch chi ddim dewis. Bydd rhaid i chi yfed!
Jere WelBeibl 25:29  Gwyliwch chi, dw i wedi dechrau cosbi Jerwsalem, fy ninas i fy hun. Os felly, ydych chi'n mynd i osgoi cael eich cosbi? Na! Dw i'n mynd i ddod â rhyfel ar bawb sy'n byw ar y ddaear.” Fi, yr ARGLWYDD hollbwerus, sy'n dweud hyn.’
Jere WelBeibl 25:30  Felly, Jeremeia, proffwyda fel hyn yn eu herbyn nhw: ‘Mae'r ARGLWYDD yn rhuo fel llew oddi uchod, o'r lle sanctaidd lle mae'n byw. Mae'n rhuo yn erbyn y bobl mae'n byw yn eu plith. Bydd yn gweiddi fel un yn sathru'r grawnwin, wrth gosbi pawb sy'n byw ar wyneb y ddaear.
Jere WelBeibl 25:31  Bydd twrw'r frwydr yn atseinio drwy'r byd i gyd. Mae'r ARGLWYDD yn cyhuddo'r cenhedloedd, ac yn mynd i farnu'r ddynoliaeth gyfan. Bydd pobl ddrwg yn cael eu lladd â'r cleddyf!’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 25:32  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Mae trychineb yn mynd i ddod ar un wlad ar ôl y llall. Mae gwynt stormus ar fin dod o ben draw'r byd.”
Jere WelBeibl 25:33  Bydd y rhai fydd wedi'u lladd gan yr ARGLWYDD bryd hynny wedi'u gwasgaru ar hyd a lled y byd. Fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw, a neb yn casglu'r cyrff i'w claddu. Byddan nhw'n gorwedd fel tail wedi'i wasgaru ar wyneb y tir.
Jere WelBeibl 25:34  Dechreuwch udo a chrio, chi arweinwyr y bobl! Rholiwch yn y lludw, chi sy'n bugeilio praidd fy mhobl. Mae diwrnod y lladdfa wedi dod. Cewch eich gwasgaru. Byddwch fel llestr gwerthfawr wedi syrthio a malu'n ddarnau.
Jere WelBeibl 25:35  Fydd yr arweinwyr ddim yn gallu rhedeg i ffwrdd. Fydd dim dianc i'r rhai sy'n bugeilio'r praidd!
Jere WelBeibl 25:36  Gwrandwch ar sŵn yr arweinwyr yn crio! Gwrandwch ar fugeiliaid y praidd yn udo! Mae'r ARGLWYDD ar fin dinistrio'u tir nhw.
Jere WelBeibl 25:37  Bydd y borfa dawel lle maen nhw'n aros yn anialwch difywyd am fod yr ARGLWYDD wedi digio'n lân hefo nhw.
Jere WelBeibl 25:38  Mae'r ARGLWYDD fel llew wedi dod allan o'i ffau. Mae wedi digio'n lân a bydd y wlad yn cael ei difetha gan gleddyf y gelyn.
Chapter 26
Jere WelBeibl 26:1  Pan ddaeth Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda ces i'r neges yma gan yr ARGLWYDD:
Jere WelBeibl 26:2  dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Dos i sefyll yn iard teml yr ARGLWYDD. Siarada gyda'r bobl o holl drefi Jwda sydd wedi dod yno i addoli. Dwed wrthyn nhw bopeth fydda i'n ei ddweud – pob gair!
Jere WelBeibl 26:3  Falle y gwnân nhw wrando a stopio gwneud drwg. Wedyn fydda i ddim yn eu dinistrio nhw fel roeddwn i wedi bwriadu gwneud am yr holl bethau drwg roedden nhw'n eu gwneud.
Jere WelBeibl 26:4  Dwed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Rhaid i chi wrando arna i, a byw fel dw i wedi'ch dysgu chi i fyw.
Jere WelBeibl 26:5  Rhaid i chi wrando ar neges fy ngweision y proffwydi. Dw i wedi'u hanfon nhw atoch chi dro ar ôl tro, ond dych chi wedi cymryd dim sylw.
Jere WelBeibl 26:6  Felly os daliwch chi i wrthod gwrando, bydda i'n dinistrio'r deml yma fel gwnes i ddinistrio Seilo, a bydda i'n gwneud y ddinas yma'n esiampl i'r gwledydd o ddinas sydd wedi'i melltithio.’”
Jere WelBeibl 26:7  Roedd yr offeiriaid a'r proffwydi a'r bobl i gyd wedi clywed Jeremeia yn dweud y pethau yma yn y deml.
Jere WelBeibl 26:8  Ac yn syth ar ôl iddo orffen dweud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn iddo, dyma'r offeiriaid a'r proffwydi a'r bobl i gyd yn gafael ynddo gan weiddi, “Ti'n mynd i farw am hyn!
Jere WelBeibl 26:9  Rhag dy gywilydd di, yn honni fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrthot ti am broffwydo'r fath bethau! Sut alli di broffwydo fod y deml yma'n mynd i gael ei dinistrio yr un fath â Seilo, a bod dinas Jerwsalem yn mynd i gael ei chwalu, ac y bydd neb yn byw ynddi?” A dyma'r bobl yn dechrau hel o gwmpas Jeremeia yn y deml.
Jere WelBeibl 26:10  Pan glywodd swyddogion Jwda beth oedd yn digwydd, dyma nhw'n rhuthro draw o'r palas brenhinol i deml yr ARGLWYDD ac yn cynnal achos llys wrth y Giât Newydd.
Jere WelBeibl 26:11  Dyma'r offeiriaid a'r proffwydi'n dweud wrth y llys a'r bobl beth oedd y cyhuddiad yn erbyn Jeremeia, “Rhaid dedfrydu'r dyn yma i farwolaeth! Mae wedi proffwydo yn erbyn y ddinas yma. Dych chi wedi'i glywed eich hunain.”
Jere WelBeibl 26:12  Yna dyma Jeremeia yn amddiffyn ei hun: “Yr ARGLWYDD sydd wedi fy anfon i, a dweud wrtho i am broffwydo popeth rydych chi wedi fy nghlywed i'n ei ddweud yn erbyn y deml a'r ddinas yma.
Jere WelBeibl 26:13  Rhaid i chi newid eich ffyrdd, a gwneud beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud. Os gwnewch chi hynny, fydd e ddim yn eich dinistrio chi fel roedd e wedi bygwth gwneud.
Jere WelBeibl 26:14  Ond dw i yn eich dwylo chi. Gwnewch chi beth bynnag dych chi'n feddwl sy'n iawn.
Jere WelBeibl 26:15  Ond deallwch hyn: os gwnewch chi fy lladd i, byddwch yn tywallt gwaed dyn dieuog. Byddwch chi a'r ddinas yma a'i phobl yn gyfrifol am wneud hynny. Achos y ffaith ydy mai'r ARGLWYDD sydd wedi fy anfon i i'ch rhybuddio chi.”
Jere WelBeibl 26:16  Dyma'r swyddogion a'r bobl yn dweud wrth yr offeiriaid a'r proffwydi, “Dydy'r dyn yma ddim yn haeddu marw. Mae e wedi siarad ar ran yr ARGLWYDD ein Duw.”
Jere WelBeibl 26:17  A dyma rai o arweinwyr hŷn Jwda yn codi a dweud wrth y dyrfa o bobl oedd yno,
Jere WelBeibl 26:18  “Pan oedd Heseceia yn frenin ar Jwda, roedd Micha o Moresheth wedi proffwydo ac wedi dweud wrth y bobl, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Bydd Seion yn cael ei haredig fel cae, a bydd Jerwsalem yn bentwr o gerrig. Bydd y bryn lle mae'r deml yn sefyll, yn goedwig wedi tyfu'n wyllt.’
Jere WelBeibl 26:19  Wnaeth Heseceia a phobl Jwda roi Micha i farwolaeth? Naddo! Dangosodd Heseceia barch at yr ARGLWYDD a chrefu arno i fod yn garedig atyn nhw. Wedyn wnaeth yr ARGLWYDD ddim eu dinistrio nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud. Ond dŷn ni mewn peryg o wneud drwg mawr i ni'n hunain!”
Jere WelBeibl 26:20  Roedd yna ddyn arall o'r enw Wreia fab Shemaia o Ciriath-iearîm yn proffwydo ar ran yr ARGLWYDD. Roedd e hefyd wedi proffwydo yn erbyn y ddinas yma a'r wlad, yn union yr un fath â Jeremeia.
Jere WelBeibl 26:21  Pan glywodd y Brenin Jehoiacim a'i warchodwyr a'i swyddogion beth oedd y proffwyd yn ei ddweud, roedd yn mynd i'w ladd. Ond dyma Wreia'n clywed am y bwriad ac yn dianc am ei fywyd i'r Aifft.
Jere WelBeibl 26:22  Anfonodd y Brenin Jehoiacim ddynion i'r Aifft i'w ddal (roedd Elnathan fab Achbor yn un ohonyn nhw),
Jere WelBeibl 26:23  a dyma nhw'n dod ag Wreia yn ôl yn garcharor at y Brenin Jehoiacim. Dyma Jehoiacim yn gorchymyn ei ladd gyda'r cleddyf, a chafodd ei gorff ei gladdu ym mynwent y bobl gyffredin.
Jere WelBeibl 26:24  Ond roedd Achicam fab Shaffan o blaid Jeremeia, a gwrthododd drosglwyddo Jeremeia i'r bobl i gael ei ladd.
Chapter 27
Jere WelBeibl 27:1  Yn fuan ar ôl i Sedeceia fab Joseia ddod yn frenin ar Jwda dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:
Jere WelBeibl 27:2  Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i: “Gwna iau i ti dy hun, a'i rhwymo am dy wddf gyda strapiau lledr.
Jere WelBeibl 27:3  Wedyn anfon neges at frenhinoedd Edom, Moab, Ammon, Tyrus a Sidon. Rho'r neges i'r llysgenhadon maen nhw wedi'u hanfon at y Brenin Sedeceia yn Jerwsalem.
Jere WelBeibl 27:4  Dyma'r neges: ‘Mae Duw Israel, yr ARGLWYDD hollbwerus, yn dweud,
Jere WelBeibl 27:5  “Fi ydy'r Duw wnaeth greu'r ddaear a'r holl bobl ac anifeiliaid sydd arni. Dw i'n Dduw cryf a nerthol, a fi sy'n dewis pwy sy'n ei rheoli.
Jere WelBeibl 27:6  Dw i wedi penderfynu rhoi'ch gwledydd chi i gyd yn nwylo fy ngwas, y Brenin Nebwchadnesar o Babilon. Mae hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt yn ei wasanaethu e!
Jere WelBeibl 27:7  Bydd y gwledydd i gyd yn ei wasanaethu e, a'i fab a'i ŵyr. Ond wedyn bydd yr amser yn dod pan fydd ei wlad e'n syrthio, a bydd nifer o wledydd eraill a brenhinoedd mawr yn gorchfygu Babilon ac yn ei rheoli hi.
Jere WelBeibl 27:8  “‘“Ond beth os bydd gwlad neu deyrnas yn gwrthod ymostwng i Nebwchadnesar, brenin Babilon? Beth fydd yn digwydd i'r wlad sy'n gwrthod rhoi ei gwar dan iau Babilon? Bydda i fy hun yn ei chosbi! Bydda i'n anfon rhyfel, newyn a haint, nes bydd Babilon wedi'u dinistrio nhw yn llwyr.
Jere WelBeibl 27:9  Felly peidiwch gwrando ar eich proffwydi, na'r bobl hynny sy'n dweud ffortiwn drwy ddehongli breuddwydion, cysylltu gyda'r meirw neu ddewino – y rhai sy'n dweud fydd dim rhaid i chi wasanaethu brenin Babilon.
Jere WelBeibl 27:10  Maen nhw'n dweud celwydd. Os gwrandwch chi arnyn nhw byddwch chi'n cael eich cymryd i ffwrdd yn bell o'ch gwlad. Bydda i'n eich gyrru chi i ffwrdd, a byddwch yn marw yno.
Jere WelBeibl 27:11  Ond bydd y wlad sy'n rhoi ei gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu e, yn cael llonydd. Byddan nhw'n cael dal ati i drin eu tir a byw yn eu gwlad eu hunain. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.”’”
Jere WelBeibl 27:12  Dwedais yr un peth wrth Sedeceia, brenin Jwda. “Rhaid i chi roi eich gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu e a'i bobl. Os gwnewch chi hynny cewch fyw.
Jere WelBeibl 27:13  Pam ddylet ti â'th bobl gael eich lladd â'r cleddyf, neu drwy newyn a haint? Yn ôl yr ARGLWYDD dyna fydd yn digwydd i unrhyw wlad sy'n gwrthod plygu i frenin Babilon.
Jere WelBeibl 27:14  Peidiwch gwrando ar y proffwydi sy'n dweud wrthoch na fydd raid i chi wasanaethu brenin Babilon. Maen nhw'n dweud celwydd!
Jere WelBeibl 27:15  ‘Wnes i mo'u hanfon nhw,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Maen nhw'n honni eu bod nhw'n siarad drosto i, ond proffwydo celwydd maen nhw. Os gwrandwch chi arnyn nhw bydda i'n eich gyrru chi i ffwrdd, a byddwch chi a'r proffwydi sy'n dweud celwydd yn marw yn y gaethglud.’”
Jere WelBeibl 27:16  Wedyn dyma fi'n dweud wrth yr offeiriaid a'r bobl i gyd, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Peidiwch gwrando ar y proffwydi sy'n dweud wrthoch chi y bydd dodrefn a llestri gwerthfawr y deml yn dod yn ôl o Babilon.’ Maen nhw'n dweud celwydd.
Jere WelBeibl 27:17  Peidiwch gwrando arnyn nhw. Os gwnewch chi wasanaethu brenin Babilon, cewch fyw. Pam ddylai'r ddinas yma gael ei dinistrio?
Jere WelBeibl 27:18  Os ydyn nhw'n broffwydi go iawn ac os ydy'r ARGLWYDD yn siarad hefo nhw, gwell iddyn nhw ddechrau gweddïo'n daer ar yr ARGLWYDD hollbwerus – gweddïo na fydd y dodrefn a'r llestri sydd ar ôl yn y deml a phalas y brenin yn cael eu cymryd i ffwrdd i Babilon!
Jere WelBeibl 27:19  Achos dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud am y pileri pres o flaen y deml, y ddysgl fawr bres sy'n cael ei galw ‛Y Môr‛, a'r trolïau pres, ac am bob dodrefnyn arall gwerthfawr sydd wedi'i adael yn y ddinas yma.
Jere WelBeibl 27:20  (Dyma'r pethau adawodd Nebwchadnesar brenin Babilon yn Jerwsalem pan aeth â Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, a phobl bwysig Jerwsalem i gyd yn gaethion i Babilon.)
Jere WelBeibl 27:21  Ie, dyma mae Duw Israel, yr ARGLWYDD hollbwerus, yn ei ddweud am y pethau gwerthfawr sydd wedi'u gadael yn y deml a phalas y brenin yn Jerwsalem:
Jere WelBeibl 27:22  ‘Bydd y cwbl yn cael eu cario i ffwrdd i Babilon ac yn aros yno nes bydda i'n dewis gwneud rhywbeth amdanyn nhw. Wedyn bydda i'n dod â nhw'n ôl i'r lle yma eto,’ Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.”
Chapter 28
Jere WelBeibl 28:1  Yr un flwyddyn, ar ddechrau cyfnod Sedeceia fel brenin Jwda (sef pumed mis y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad), dyma Hananeia fab Asswr, y proffwyd o Gibeon, yn dweud wrth Jeremeia yn y deml o flaen yr offeiriaid a'r bobl i gyd:
Jere WelBeibl 28:2  “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i dorri iau brenin Babilon!
Jere WelBeibl 28:3  Mewn llai na dwy flynedd dw i'n mynd i ddod â phopeth wnaeth Nebwchadnesar brenin Babilon ei gymryd o ma yn ôl.
Jere WelBeibl 28:4  Dw i hefyd yn mynd i ddod â Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, yn ôl, a phawb arall gafodd eu cymryd yn gaeth i Babilon.’ Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n mynd i dorri iau brenin Babilon.’”
Jere WelBeibl 28:5  A dyma'r proffwyd Jeremeia yn ateb y proffwyd Hananeia, o flaen yr offeiriaid a phawb arall oedd yn y deml.
Jere WelBeibl 28:6  “Amen! Boed i'r ARGLWYDD wneud hynny! Boed i'r ARGLWYDD ddod â dy broffwydoliaeth di'n wir! O na fyddai'n gwneud hynny, a dod â holl offer y deml yn ôl o Babilon, a'r bobl gafodd eu cymryd yno'n gaeth hefyd!
Jere WelBeibl 28:7  Ond na, gwrando di nawr ar beth sydd gen i i'w ddweud wrthot ti a'r bobl yma i gyd.
Jere WelBeibl 28:8  Ers amser maith mae'r proffwydi ddaeth o dy flaen di a fi wedi proffwydo fod rhyfel, trychinebau a heintiau yn mynd i daro llawer o wledydd a theyrnasoedd mawr.
Jere WelBeibl 28:9  Os oedd proffwyd yn proffwydo y byddai popeth yn iawn, yr unig ffordd i wybod os oedd yr ARGLWYDD wedi'i anfon oedd pan fyddai ei neges yn dod yn wir.”
Jere WelBeibl 28:10  Yna dyma'r proffwyd Hananeia yn cymryd yr iau oddi ar war Jeremeia a'i thorri.
Jere WelBeibl 28:11  A dyma Hananeia yn datgan o flaen pawb: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Mewn llai na dwy flynedd dw i'n mynd i dynnu iau Nebwchadnesar, brenin Babilon, oddi ar war y gwledydd i gyd, a'i thorri.’” Yna dyma'r proffwyd Jeremeia yn mynd i ffwrdd.
Jere WelBeibl 28:12  Yn fuan ar ôl i Hananeia dorri'r iau oedd ar war Jeremeia, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:
Jere WelBeibl 28:13  “Dos i ddweud wrth Hananeia fod yr ARGLWYDD yn dweud: ‘Ti wedi torri'r iau bren dim ond i roi un haearn yn ei lle!
Jere WelBeibl 28:14  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i wedi rhoi iau haearn ar war y gwledydd yma i gyd. Bydd rhaid iddyn nhw wasanaethu Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt yn ei wasanaethu e!”’”
Jere WelBeibl 28:15  Yna dyma'r proffwyd Jeremeia yn dweud wrth Hananeia, “Gwranda, Hananeia. Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dy anfon di. Ti'n gwneud i'r bobl yma gredu celwydd!
Jere WelBeibl 28:16  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Mae hi ar ben arnat ti! Ti'n mynd i farw cyn diwedd y flwyddyn yma, am dy fod ti wedi annog pobl i wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD.’”
Jere WelBeibl 28:17  A'r flwyddyn honno cyn pen deufis, roedd y proffwyd Hananeia wedi marw.
Chapter 29
Jere WelBeibl 29:1  Dyma lythyr Jeremeia at yr arweinwyr oedd ar ôl, yr offeiriaid a'r proffwydi, a phawb arall o Jerwsalem oedd wedi'u cymryd yn gaeth i Babilon gan y Brenin Nebwchadnesar.
Jere WelBeibl 29:2  (Roedd hyn ar ôl i'r Brenin Jehoiachin a'r fam frenhines, swyddogion y palas brenhinol, arweinwyr Jwda a Jerwsalem, y seiri coed a'r gweithwyr metel i gyd gael eu cymryd i ffwrdd yn gaeth o Jerwsalem.)
Jere WelBeibl 29:3  Elasa fab Shaffan a Gemareia fab Chilceia aeth â'r llythyr yno. Roedden nhw wedi'u hanfon i Babilon at Nebwchadnesar gan Sedeceia, brenin Jwda. Dyma'r llythyr:
Jere WelBeibl 29:4  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud wrth y bobl mae wedi'u hanfon yn gaeth o Jerwsalem i Babilon:
Jere WelBeibl 29:5  “Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta'r hyn sy'n tyfu ynddyn nhw.
Jere WelBeibl 29:6  Priodwch a chael plant. Dewiswch wragedd i'ch meibion a gadael i'ch merched briodi, er mwyn iddyn nhw hefyd gael plant. Dw i eisiau i'ch niferoedd chi dyfu, yn lle lleihau.
Jere WelBeibl 29:7  Gweithiwch dros heddwch a llwyddiant y ddinas lle dw i wedi mynd â chi'n gaeth. Gweddïwch ar yr ARGLWYDD drosti. Ei llwyddiant hi fydd eich llwyddiant chi.”
Jere WelBeibl 29:8  Achos dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Peidiwch gadael i'r proffwydi sydd gyda chi, a'r rhai hynny sy'n dweud ffortiwn, eich twyllo chi. Peidiwch cymryd sylw o'u breuddwydion.
Jere WelBeibl 29:9  Maen nhw'n hawlio eu bod nhw'n siarad drosto i, ond yn dweud celwydd! Wnes i mo'u hanfon nhw,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 29:10  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Pan fydd Babilon wedi rheoli am saith deg mlynedd bydda i'n cymryd sylw ohonoch chi eto. Dyna pryd y bydda i'n gwneud y pethau da dw i wedi'u haddo, a dod â chi yn ôl yma i'ch gwlad eich hunain.
Jere WelBeibl 29:11  Fi sy'n gwybod beth dw i wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi,” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i'n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi.
Jere WelBeibl 29:12  Byddwch yn galw arna i ac yn gweddïo, a bydda i'n gwrando.
Jere WelBeibl 29:13  Os byddwch chi'n chwilio amdana i o ddifri, â'ch holl galon, byddwch chi'n fy ffeindio i.
Jere WelBeibl 29:14  Bydda i'n gadael i chi ddod o hyd i mi,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydda i'n rhoi'r cwbl wnaethoch chi ei golli yn ôl i chi. Bydda i'n eich casglu chi yn ôl o'r holl wledydd wnes i eich gyrru chi i ffwrdd iddyn nhw. Bydda i'n dod â chi adre i'ch gwlad eich hunain.”
Jere WelBeibl 29:15  “Ond mae'r ARGLWYDD wedi rhoi proffwydi i ni yma yn Babilon,” meddech chi.
Jere WelBeibl 29:16  Felly gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y brenin sy'n eistedd ar orsedd Dafydd yma yn Jerwsalem, ac am eich perthnasau sy'n dal i fyw yma a heb gael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion gyda chi.
Jere WelBeibl 29:17  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw. Byddan nhw fel ffigys ffiaidd sydd ddim ffit i'w bwyta.
Jere WelBeibl 29:18  Dw i'n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw. Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Byddan nhw'n enghraifft o wlad wedi'i melltithio. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd, pethau fydd yn achosi i bobl chwibanu mewn rhyfeddod. A byddan nhw'n destun sbort i'r gwledydd lle bydda i'n eu hanfon nhw'n gaeth.
Jere WelBeibl 29:19  Bydd hyn yn digwydd am eu bod nhw heb wrando na chymryd sylw o beth dw i wedi'i ddweud dro ar ôl tro drwy fy ngweision y proffwydi,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 29:20  Felly – chi sydd wedi'ch gyrru i ffwrdd o Jerwsalem yn gaeth i Babilon – gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 29:21  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Ahab fab Colaia a Sedeceia fab Maaseia sy'n proffwydo celwydd ac yn hawlio eu bod nhw'n siarad drosto i: “Dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon, a bydd e'n eu lladd nhw o'ch blaenau chi.
Jere WelBeibl 29:22  Bydd gan bobl Jwda sy'n gaeth yn Babilon y dywediad yma wrth felltithio rhywun: ‘Boed i'r ARGLWYDD dy wneud di fel Sedeceia ac Ahab, gafodd eu llosgi'n fyw gan frenin Babilon!’
Jere WelBeibl 29:23  Maen nhw wedi gwneud pethau gwarthus yn Israel, wedi cysgu gyda gwragedd dynion eraill a dweud celwydd, tra'n honni eu bod nhw'n siarad drosto i. Wnes i ddim dweud dim wrthyn nhw. Ond dw i'n gwybod yn iawn ac wedi gweld beth maen nhw wedi'i wneud,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 29:25  dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel yn ei ddweud: “Anfonaist lythyrau ar dy liwt dy hun at y bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia fab Maaseia a'r offeiriaid eraill i gyd, yn dweud fel hyn,
Jere WelBeibl 29:26  ‘Mae'r ARGLWYDD wedi dy wneud di'n offeiriad yn lle Jehoiada, i fod yn gyfrifol am beth sy'n digwydd yn y deml, a delio gydag unrhyw wallgofddyn sy'n dod yno a chymryd arno ei fod yn broffwyd. Dylet ei ddal a rhoi coler haearn a chyffion arno.
Jere WelBeibl 29:27  Felly pam wyt ti ddim wedi ceryddu Jeremeia o Anathoth am gymryd arno ei fod yn broffwyd?
Jere WelBeibl 29:28  Mae e wedi anfon neges aton ni yn Babilon, yn dweud, “Dych chi'n mynd i fod yna am amser hir. Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta'r hyn sy'n tyfu ynddyn nhw.”’
Jere WelBeibl 29:29  Darllenodd Seffaneia'r offeiriad y llythyr i Jeremeia.
Jere WelBeibl 29:31  ‘Anfon y neges yma at y bobl sydd wedi'u cymryd yn gaeth i Babilon: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Shemaia o Nechelam: ‘Mae Shemaia yn siarad fel petai'n broffwyd, ond wnes i ddim ei anfon e. Mae e wedi gwneud i chi gredu celwydd!’
Jere WelBeibl 29:32  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i gosbi Shemaia a'i deulu. Fydd neb ohonyn nhw'n cael byw i weld y pethau da dw i'n mynd i'w gwneud i'm pobl. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Mae e wedi annog pobl i wrthryfela yn fy erbyn i.’”’”
Chapter 30
Jere WelBeibl 30:2  “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i eisiau i ti ysgrifennu popeth dw i'n ei ddweud wrthot ti ar sgrôl.
Jere WelBeibl 30:3  Mae'r amser yn dod,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘pan fydda i'n rhoi'r cwbl wnaeth fy mhobl Israel a Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw. Dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid. Byddan nhw'n ei chymryd hi'n ôl eto.’”
Jere WelBeibl 30:4  Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i mi am bobl Israel a Jwda.
Jere WelBeibl 30:5  “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Sŵn pobl yn gweiddi mewn panig a dychryn sydd i'w glywed; does dim sôn am heddwch!’
Jere WelBeibl 30:6  Ond meddyliwch am hyn: ydy dyn yn gallu cael babi? Na? Felly pam dw i'n gweld y dynion cryf yma i gyd yn dal eu boliau fel gwraig yn cael babi? Pam mae eu hwynebau nhw i gyd yn wyn fel y galchen?
Jere WelBeibl 30:7  O! Mae'n amser caled ofnadwy! Does erioed gyfnod tebyg wedi bod o'r blaen. Mae'n argyfwng ofnadwy ar bobl Jacob – ac eto byddan nhw yn cael eu hachub.”
Jere WelBeibl 30:8  Yr ARGLWYDD hollbwerus sy'n dweud hyn, “Bryd hynny bydda i'n torri'r iau sydd ar eu gwar a dryllio'r rhaffau sy'n eu dal yn gaeth. Fydd pobl estron ddim yn feistri arnyn nhw o hynny ymlaen.
Jere WelBeibl 30:9  Byddan nhw'n gwasanaethu'r ARGLWYDD eu Duw a'r un o linach Dafydd fydda i'n ei wneud yn frenin arnyn nhw.”
Jere WelBeibl 30:10  “Felly, peidiwch bod ag ofn, bobl Jacob, fy ngweision,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Peidiwch anobeithio, bobl Israel. Dw i'n mynd i'ch achub chi a'ch plant o'r wlad bell lle buoch yn gaeth. Bydd pobl Jacob yn dod yn ôl adre ac yn mwynhau heddwch. Byddan nhw'n teimlo'n saff a fydd neb yn eu dychryn nhw.
Jere WelBeibl 30:11  Dw i gyda chi, i'ch achub chi,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Dw i'n mynd i ddinistrio'r gwledydd hynny lle gwnes i eich gyrru chi ar chwâl, ond wna i ddim eich dinistrio chi. Ydw, dw i'n mynd i'ch disgyblu, ond dim ond faint dych chi'n ei haeddu; alla i ddim peidio'ch cosbi chi o gwbl.”
Jere WelBeibl 30:12  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Does dim modd gwella dy friwiau; ti wedi dy anafu'n ddifrifol.
Jere WelBeibl 30:13  Does neb yn gallu dy helpu di. Does dim eli i wella'r dolur; does dim iachâd.
Jere WelBeibl 30:14  Mae dy ‛gariadon‛ i gyd wedi dy anghofio di. Dŷn nhw'n poeni dim amdanat ti! Dw i wedi dy daro di fel petawn i'n elyn; rwyt wedi diodde cosb greulon, am dy fod wedi bod mor ddrwg ac wedi pechu mor aml.
Jere WelBeibl 30:15  Pam wyt ti'n cwyno am dy friwiau? Does dim modd gwella dy boen Dw i wedi gwneud hyn i gyd i ti am dy fod ti wedi bod mor ddrwg ac wedi pechu mor aml.
Jere WelBeibl 30:16  Ond bydd y rhai wnaeth dy larpio di yn cael eu llarpio. Bydd dy elynion i gyd yn cael eu cymryd yn gaeth. Bydd y rhai wnaeth dy ysbeilio yn cael eu hysbeilio, a'r rhai wnaeth ddwyn dy drysorau yn colli popeth.
Jere WelBeibl 30:17  Ydw, dw i'n mynd i dy iacháu di; dw i'n mynd i wella dy friwiau,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Roedden nhw'n dy alw di ‛yr un gafodd ei gwrthod‛. ‘Does neb yn poeni am Seion,’ medden nhw.”
Jere WelBeibl 30:18  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i adfer tai pobl Jacob, a thosturio wrth eu teuluoedd. Bydd y ddinas yn cael ei chodi eto ar safle ei hadfeilion, a'r palas yn cael ei ailadeiladu lle roedd o'r blaen.
Jere WelBeibl 30:19  Bydd canu mawl a diolch a sŵn pobl yn joio i'w clywed yn dod oddi yno. Bydda i'n gwneud i'w poblogaeth dyfu yn lle lleihau; bydda i'n eu hanrhydeddu yn lle eu bod yn cael eu bychanu.
Jere WelBeibl 30:20  Bydd disgynyddion Jacob yn profi'r bendithion fel o'r blaen. Bydda i'n eu sefydlu nhw eto fel cymuned o bobl, a bydda i'n cosbi pawb sydd am eu gorthrymu nhw.
Jere WelBeibl 30:21  Bydd eu harweinydd yn un o'u pobl eu hunain; bydd yr un sy'n eu rheoli yn dod o'u plith. Bydda i'n ei wahodd i ddod ata i, a bydd yn dod. Pwy fyddai'n mentro dod heb gael gwahoddiad?” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 30:22  “Byddwch chi'n bobl i mi, a bydda i'n Dduw i chi.”
Jere WelBeibl 30:23  Gwyliwch chi! Mae'r ARGLWYDD yn ddig. Mae'n dod fel storm, fel corwynt dinistriol fydd yn disgyn ar y rhai drwg.
Jere WelBeibl 30:24  Fydd llid ffyrnig yr ARGLWYDD ddim yn tawelu nes bydd wedi gwneud popeth mae'n bwriadu ei wneud. Byddwch chi'n dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd.
Chapter 31
Jere WelBeibl 31:1  “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “fi fydd Duw pob llwyth yn Israel, a byddan nhw yn bobl i mi.”
Jere WelBeibl 31:2  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Cafodd pobl Israel osgoi'r cleddyf a profi ffafr Duw yn yr anialwch, wrth iddyn nhw chwilio am le i orffwys.
Jere WelBeibl 31:3  Roedd yr ARGLWYDD wedi ymddangos iddo mewn gwlad bell, a dweud, ‘Mae fy nghariad i atat ti yn gariad sy'n para am byth, a dyna pam dw i wedi aros yn ffyddlon i ti.
Jere WelBeibl 31:4  Bydda i'n dy ailadeiladu eto, o wyryf annwyl Israel! Byddi'n gafael yn dy dambwrîn eto, ac yn mynd allan i ddawnsio a joio.
Jere WelBeibl 31:5  Byddi'n plannu gwinllannoedd ar fryniau Samaria unwaith eto. A'r rhai fydd yn eu plannu fydd yn cael mwynhau eu ffrwyth.
Jere WelBeibl 31:6  Mae'r amser yn dod pan fydd y gwylwyr yn gweiddi ar fryniau Effraim: “Dewch! Gadewch i ni fynd i fyny i Seion i addoli'r ARGLWYDD ein Duw.”’”
Jere WelBeibl 31:7  Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Canwch yn llawen dros bobl Israel, a gweiddi o blaid y wlad bwysicaf. Gweiddi ac addoli gan ddweud, ‘Achub dy bobl, o ARGLWYDD, achub y rhai sydd ar ôl o Israel.’
Jere WelBeibl 31:8  ‘Ydw, dw i'n mynd i ddod â nhw o dir y gogledd; dw i'n mynd i'w casglu nhw o ben draw'r byd. Bydd pobl ddall a chloff yn dod gyda nhw, gwragedd beichiog hefyd, a'r rhai sydd ar fin cael plant. Bydd tyrfa fawr yn dod yn ôl yma.
Jere WelBeibl 31:9  Byddan nhw'n dod yn eu dagrau, yn gweddïo wrth i mi eu harwain yn ôl. Bydda i'n eu harwain wrth ymyl afonydd o ddŵr ac ar hyd llwybrau gwastad lle fyddan nhw ddim yn baglu. Fi ydy tad Israel; Effraim ydy fy mab hynaf.’”
Jere WelBeibl 31:10  Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, chi'r cenhedloedd i gyd, a'i chyhoeddi yn y gwledydd pell ar yr arfordir a'r ynysoedd: “Bydd yr ARGLWYDD, wnaeth yrru pobl Israel ar chwâl, yn eu casglu eto ac yn gofalu amdanyn nhw fel bugail yn gofalu am ei braidd.”
Jere WelBeibl 31:11  Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ryddhau pobl Jacob. Bydd yn eu gollwng nhw'n rhydd o afael yr un wnaeth eu trechu nhw.
Jere WelBeibl 31:12  Byddan nhw'n dod gan ganu'n frwd ar Fynydd Seion. Byddan nhw'n wên i gyd am fod yr ARGLWYDD mor dda. Mae'n rhoi ŷd, sudd grawnwin ac olew olewydd, ŵyn a lloi bach. Mae'n gwneud bywyd fel gardd hyfryd wedi'i dyfrio. Fyddan nhw byth yn teimlo'n llesg a blinedig eto.
Jere WelBeibl 31:13  Yna bydd y merched ifanc yn dawnsio'n llawen, a'r bechgyn ifanc a'r dynion hŷn yn dathlu gyda'i gilydd. Bydda i'n troi eu galar yn llawenydd. Bydda i'n eu cysuro nhw, a rhoi hapusrwydd yn lle tristwch.
Jere WelBeibl 31:14  Bydd gan yr offeiriaid fwy na digon o aberthau, a bydd fy mhobl yn cael digonedd o bethau da, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 31:15  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae cri i'w chlywed yn Rama, sŵn wylo chwerw a galaru mawr – Rachel yn crio am ei phlant. Mae'n gwrthod cael ei chysuro, am eu bod nhw wedi mynd.”
Jere WelBeibl 31:16  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Stopia grio. Paid colli mwy o ddagrau. Dw i'n mynd i roi gwobr i ti am dy waith. Bydd dy blant yn dod yn ôl o wlad y gelyn.
Jere WelBeibl 31:17  Mae gobaith i'r dyfodol,” meddai'r ARGLWYDD “Bydd dy blant yn dod yn ôl i'w gwlad eu hunain.
Jere WelBeibl 31:18  Dw i wedi clywed pobl Effraim yn dweud yn drist, ‘Roedden ni'n wyllt fel tarw ifanc heb ei ddofi. Ti wedi'n disgyblu ni, a dŷn ni wedi dysgu'n gwers. Gad i ni ddod yn ôl i berthynas iawn hefo ti. Ti ydy'r ARGLWYDD ein Duw ni.
Jere WelBeibl 31:19  Roedden ni wedi troi cefn arnat ti, ond bellach dŷn ni wedi troi'n ôl. Ar ôl gweld ein bai roedden ni wedi'n llethu gan alar am fod mor wirion! Roedd gynnon ni gywilydd go iawn am y ffordd roedden ni wedi ymddwyn pan oedden ni'n ifanc.’
Jere WelBeibl 31:20  Yr ARGLWYDD: Yn wir mae pobl Effraim yn dal yn blant i mi! Maen nhw'n blant annwyl yn fy ngolwg i. Er fy mod wedi gorfod eu ceryddu nhw, dw i'n dal yn eu caru nhw. Mae'r teimladau mor gryf yno i, alla i ddim peidio dangos trugaredd atyn nhw.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 31:21  Jeremeia: O wyryf annwyl Israel! Cofia'r ffordd aethost ti. Gosod arwyddion, a chodi mynegbyst i ganfod y ffordd yn ôl. Tyrd yn ôl! Tyrd adre i dy drefi dy hun.
Jere WelBeibl 31:22  Am faint wyt ti'n mynd i oedi, ferch anffyddlon? Mae'r ARGLWYDD yn creu rhywbeth newydd – mae fel benyw yn amddiffyn dyn!
Jere WelBeibl 31:23  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i roi'r cwbl wnaeth pobl Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw, a byddan nhw'n dweud eto am Jerwsalem: ‘O fynydd cysegredig lle mae cyfiawnder yn byw, boed i'r ARGLWYDD dy fendithio di!’
Jere WelBeibl 31:24  Bydd pobl yn byw gyda'i gilydd yn nhrefi Jwda unwaith eto. Bydd yno ffermwyr a bugeiliaid crwydrol yn gofalu am eu praidd.
Jere WelBeibl 31:25  Bydda i'n rhoi diod i'r rhai sydd wedi blino, ac yn adfywio'r rhai sy'n teimlo'n llesg.”
Jere WelBeibl 31:26  Yn sydyn dyma fi'n deffro ac yn edrych o'm cwmpas. Rôn i wedi bod yn cysgu'n braf!
Jere WelBeibl 31:27  “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd poblogaeth fawr a digonedd o anifeiliaid yn Israel a Jwda unwaith eto.
Jere WelBeibl 31:28  Yn union fel roeddwn i'n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu tynnu o'r gwraidd a'u chwalu, eu dinistrio a'u bwrw i lawr, yn y dyfodol bydda i'n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu hadeiladu a'u plannu'n ddiogel,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 31:29  “Bryd hynny fydd pobl ddim yn dweud pethau fel: ‘Mae'r rhieni wedi bwyta grawnwin surion ond y plant sy'n diodde'r blas drwg.’
Jere WelBeibl 31:30  Bydd pawb yn marw am ei bechod ei hun. Pwy bynnag sy'n bwyta'r grawnwin surion fydd yn diodde'r blas drwg.”
Jere WelBeibl 31:31  “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydda i'n gwneud ymrwymiad newydd gyda phobl Israel a Jwda.
Jere WelBeibl 31:32  Fydd hwn ddim yr un fath â'r un wnes i gyda'u hynafiaid (pan afaelais yn eu llaw a'u harwain allan o'r Aifft). Roedden nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad hwnnw, er fy mod i wedi bod yn ŵr ffyddlon iddyn nhw.
Jere WelBeibl 31:33  Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD: “Bydda i'n rhoi fy nghyfraith yn eu calonnau nhw, ac yn ei hysgrifennu ar eu meddyliau nhw. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i.
Jere WelBeibl 31:34  Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill, a dweud wrth ei gilydd, ‘Rhaid i ti ddod i nabod yr ARGLWYDD’. Byddan nhw i gyd yn fy nabod i, y bobl gyffredin a'r arweinwyr, am fy mod i'n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o'i le, ac yn anghofio'u pechodau am byth.”
Jere WelBeibl 31:35  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un sydd wedi gosod trefn i'r haul roi golau'n y dydd a'r lleuad a'r sêr roi eu golau'n y nos, yr un sy'n corddi'r môr yn donnau mawr – yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw e:
Jere WelBeibl 31:36  “Byddai dileu pobl Israel fel cenedl yr un fath â chael gwared â threfn natur!”
Jere WelBeibl 31:37  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae'n amhosib mesur yr awyr a'r gofod, neu archwilio sylfeini'r ddaear. Mae'r un mor amhosib i mi wrthod pobl Israel am bopeth drwg maen nhw wedi'i wneud,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 31:38  “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd dinas Jerwsalem yn cael ei hadeiladu i mi eto, o Dŵr Chanan-el i Giât y Gornel.
Jere WelBeibl 31:39  Bydd ei ffiniau'n ymestyn i'r gorllewin at Fryn Gareb ac yna'n troi i'r de i lawr i Goath.
Jere WelBeibl 31:40  Bydd hyd yn oed y dyffryn lle cafodd yr holl gyrff marw a'u lludw eu taflu, a'r holl gaeau i lawr at Ddyffryn Cidron yn y dwyrain at gornel Giât y Ceffylau, yn rhan o'r ddinas fydd wedi'i chysegru i'r ARGLWYDD. Fydd y ddinas ddim yn cael ei chwynnu na'i bwrw i lawr byth eto.”
Chapter 32
Jere WelBeibl 32:1  Rhoddodd yr ARGLWYDD neges arall i Jeremeia pan oedd Sedeceia wedi bod yn frenin ar Jwda ers deg mlynedd, bron. Roedd hi'n flwyddyn un deg wyth o deyrnasiad Nebwchadnesar,
Jere WelBeibl 32:2  ac roedd byddin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem. Roedd Jeremeia yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu ym mhalas brenin Jwda.
Jere WelBeibl 32:3  Sedeceia oedd wedi gorchymyn ei gadw yno ar ôl ei holi pam ei fod yn proffwydo fod yr ARGLWYDD yn dweud: “Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma i frenin Babilon. Bydd e'n ei choncro hi.
Jere WelBeibl 32:4  Bydd y Brenin Sedeceia yn cael ei ddal, a bydd yn cael ei osod i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon a'i wynebu'n bersonol.
Jere WelBeibl 32:5  Yna bydd Sedeceia'n cael ei gymryd i Babilon, a bydd yn aros yno nes bydda i, yr ARGLWYDD, wedi gorffen delio hefo fe. Gallwch ddal ati i ymladd yn erbyn y Babiloniaid, ond wnewch chi ddim ennill!”
Jere WelBeibl 32:6  Dyna pryd dwedodd Jeremeia, “Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r neges yma i mi:
Jere WelBeibl 32:7  ‘Bydd Chanamel, mab dy ewythr Shalwm, yn dod i dy weld di. Bydd yn gofyn i ti brynu'r cae sydd ganddo yn Anathoth, am mai ti ydy'r perthynas agosaf, ac felly ti sydd â'r hawl cyntaf i'w brynu.’
Jere WelBeibl 32:8  A dyna'n union ddigwyddodd. Dyma Chanamel, cefnder i mi, yn dod i'm gweld yn iard y gwarchodlu. Gofynnodd i mi, ‘Wyt ti eisiau prynu'r cae sydd gen i yn Anathoth, yn ardal Benjamin? Ti sydd â'r hawl cyntaf i'w brynu am mai ti ydy'r perthynas agosaf. Pryna fe i ti dy hun.’ Pan ddigwyddodd hyn, roeddwn i'n gwybod yn iawn fod yr ARGLWYDD wedi siarad gyda mi.
Jere WelBeibl 32:9  “Felly dyma fi'n prynu'r cae sydd yn Anathoth gan Chanamel, a thalu un deg saith darn arian amdano.
Jere WelBeibl 32:10  Dyma fi'n arwyddo'r gweithredoedd a'u selio o flaen tystion, pwyso'r arian mewn clorian a thalu iddo.
Jere WelBeibl 32:11  Roedd dau gopi o'r gweithredoedd – un wedi'i selio oedd yn cynnwys amodau a thelerau'r cytundeb, a'r llall yn gopi agored. Wedyn, dyma fi'n eu rhoi nhw
Jere WelBeibl 32:12  i Barŵch (mab Nereia ac ŵyr i Machseia). Gwnes hyn i gyd o flaen fy nghefnder Chanamel a'r dynion oedd wedi ardystio'r gweithredoedd, a phawb arall o bobl Jwda oedd yn eistedd yn iard y gwarchodlu.
Jere WelBeibl 32:13  Yna dyma fi'n dweud wrth Barŵch o'u blaenau nhw i gyd,
Jere WelBeibl 32:14  ‘Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Cymer y gweithredoedd yma, y copi sydd wedi'i selio a'r un agored, a'u rhoi mewn jar pridd i'w cadw'n saff am amser hir.”
Jere WelBeibl 32:15  Achos dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Bydd tai a chaeau a gwinllannoedd yn cael eu prynu yn y wlad yma eto.”’
Jere WelBeibl 32:16  “Ar ôl rhoi'r gweithredoedd i Barŵch, dyma fi'n gweddïo ar yr ARGLWYDD:
Jere WelBeibl 32:17  ‘O, Feistr, ARGLWYDD! Ti ydy'r Duw cryf a nerthol sydd wedi creu'r nefoedd a'r ddaear. Does dim byd yn rhy anodd i ti ei wneud.
Jere WelBeibl 32:18  Ti'n dangos cariad diddiwedd at filoedd. Ond rwyt ti hefyd yn gadael i blant ddiodde am bechodau eu rhieni. Ti ydy'r Duw mawr, yr Un grymus! Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy dy enw di.
Jere WelBeibl 32:19  Ti ydy'r Duw doeth sy'n gwneud pethau rhyfeddol. Ti'n gweld popeth mae pobl yn eu gwneud. Ti sy'n rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn.
Jere WelBeibl 32:20  Ti wnaeth arwyddion gwyrthiol a phethau rhyfeddol yng ngwlad yr Aifft. Ti'n enwog hyd heddiw yn Israel ac ar hyd a lled y byd am beth wnest ti.
Jere WelBeibl 32:21  Defnyddiaist dy nerth rhyfeddol i ddod â'th bobl Israel allan o wlad yr Aifft, a dychryn y bobl yno gyda'r gwyrthiau mwyaf syfrdanol.
Jere WelBeibl 32:22  Ac wedyn dyma ti'n rhoi'r wlad ffrwythlon yma iddyn nhw – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo! Dyna oeddet ti wedi'i addo i'w hynafiaid nhw.
Jere WelBeibl 32:23  Ond pan ddaethon nhw i gymryd y wlad drosodd, wnaethon nhw ddim gwrando arnat ti na byw fel roeddet ti wedi'u dysgu nhw. Wnaethon nhw ddim byd oeddet ti'n ei ddweud. Dyma pam mae'r dinistr yma wedi dod arnyn nhw.
Jere WelBeibl 32:24  Mae rampiau gwarchae wedi'u codi o gwmpas y ddinas, yn barod i'w chymryd hi. Mae'r rhyfela, y newyn a'r haint, yn siŵr o arwain at y ddinas yma'n cael ei choncro gan y Babiloniaid. Fel y gweli, mae popeth yn digwydd yn union fel gwnest ti rybuddio.
Jere WelBeibl 32:25  Ac eto, er bod y Babiloniaid yn mynd i goncro'r ddinas yma, rwyt ti wedi dweud wrtho i am brynu'r cae yma, a chael tystion i wneud y peth yn gyfreithlon.’”
Jere WelBeibl 32:27  “Yr ARGLWYDD ydw i, Duw'r ddynoliaeth gyfan. Mae'n wir, does dim byd yn rhy anodd i mi ei wneud.
Jere WelBeibl 32:28  Felly, dyma dw i'n ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma yn nwylo'r Babiloniaid. Bydd Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ei choncro.
Jere WelBeibl 32:29  Bydd byddin Babilon yn ymosod ac yn dod i mewn i'r ddinas yma, yn ei rhoi ar dân ac yn ei llosgi'n ulw. Bydd y tai lle buodd pobl yn aberthu i Baal ar eu toeau ac yn tywallt offrwm o ddiod i dduwiau eraill, yn cael eu llosgi. Roedd pethau fel yna'n fy ngwylltio i.
Jere WelBeibl 32:30  Dydy pobl Israel a Jwda wedi gwneud dim byd ond drwg o'r dechrau cyntaf. Maen nhw wedi fy nigio i drwy addoli eilunod maen nhw eu hunain wedi'u cerfio,’ meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 32:31  ‘Mae'r ddinas yma wedi fy ngwylltio i'n lân o'r diwrnod pan gafodd ei hadeiladu hyd heddiw. Felly rhaid i mi gael gwared â hi.
Jere WelBeibl 32:32  Mae pobl Israel a Jwda wedi fy ngwylltio'n lân drwy wneud cymaint o bethau drwg – nhw a'u brenhinoedd a'u swyddogion, yr offeiriaid a'r proffwydi, pobl Jwda i gyd, a phawb sy'n byw yn Jerwsalem!
Jere WelBeibl 32:33  Maen nhw wedi troi cefn arna i yn lle troi ata i! Dw i wedi ceisio'u dysgu nhw dro ar ôl tro, ond roedden nhw'n gwrthod gwrando a chael eu cywiro.
Jere WelBeibl 32:34  Maen nhw'n llygru fy nheml i drwy osod eilun-dduwiau ffiaidd ynddi.
Jere WelBeibl 32:35  Maen nhw hefyd wedi codi allorau paganaidd i Baal yn Nyffryn Ben-hinnom. Maen nhw'n aberthu eu plant bach i Molech! Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud y fath beth. Fyddai peth felly byth wedi croesi fy meddwl i! Mae wedi gwneud i Jwda bechu yn ofnadwy!’
Jere WelBeibl 32:36  “‘Mae'r rhyfel, a'r newyn a haint yn mynd i arwain at roi'r ddinas yma yn nwylo brenin Babilon,’ meddech chi. Gwir. Ond nawr dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel, am ddweud hyn am y ddinas yma:
Jere WelBeibl 32:37  ‘Dw i'n mynd i gasglu fy mhobl yn ôl o'r gwledydd lle gwnes i eu gyrru nhw. Rôn i wedi gwylltio'n lân hefo nhw. Rôn i'n ffyrnig! Ond dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r lle yma, a byddan nhw'n cael byw yma yn hollol saff.
Jere WelBeibl 32:39  Byddan nhw i gyd yn benderfynol o fyw yn ffyddlon i mi bob amser, a bydd hynny'n dda iddyn nhw a'u plant ar eu holau.
Jere WelBeibl 32:40  Bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda nhw fydd yn para am byth – ymrwymiad i beidio stopio gwneud daioni iddyn nhw. Bydda i'n plannu ynddyn nhw barch ata i fydd yn dod o waelod calon, a fyddan nhw byth yn troi cefn arna i eto.
Jere WelBeibl 32:41  Bydda i wrth fy modd yn gwneud pethau da iddyn nhw. Bydda i'n eu plannu nhw yn y tir yma eto. Bydda i'n ffyddlon iddyn nhw, ac yn rhoi fy hun yn llwyr i wneud hyn i gyd.’
Jere WelBeibl 32:42  “Ie, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Fel y bydda i'n dod â'r dinistr mawr yma arnyn nhw, bydda i wedyn yn dod â'r holl bethau da dw i'n ei addo iddyn nhw.’
Jere WelBeibl 32:43  ‘Ond mae'r wlad yma'n anialwch diffaith,’ meddech chi. ‘Does dim pobl nac anifeiliaid yn byw yma. Mae'r wlad wedi'i choncro gan y Babiloniaid.’ Ond gwrandwch, bydd caeau yn cael eu prynu yn y wlad yma unwaith eto.
Jere WelBeibl 32:44  Bydd caeau yn cael eu prynu a'u gwerthu yma eto, a gweithredoedd yn cael eu harwyddo a'u selio o flaen tystion. Bydd hyn yn digwydd yn nhir Benjamin, yr ardal o gwmpas Jerwsalem, trefi Jwda, yn y bryniau, yn yr iseldir yn y gorllewin a'r Negef yn y de. Bydda i'n rhoi'r cwbl wnaethon nhw ei golli yn ôl iddyn nhw,” meddai'r ARGLWYDD.
Chapter 33
Jere WelBeibl 33:1  Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Jeremeia yr ail waith (roedd yn dal yn gaeth yn iard y gwarchodlu ar y pryd):
Jere WelBeibl 33:2  “Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud hyn. Dw i'n cyflawni beth dw i'n ei fwriadu. Yr ARGLWYDD ydy fy enw i.
Jere WelBeibl 33:3  Galwa arna i, a bydda i'n ateb. Gwna i ddangos i ti bethau mawr cudd allet ti ddim eu gwybod ohonot dy hun.
Jere WelBeibl 33:4  “Dyma dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae tai'r ddinas yma a hyd yn oed y palasau brenhinol wedi'u chwalu i gael deunydd i amddiffyn rhag y rampiau gwarchae a'r ymosodiadau.
Jere WelBeibl 33:5  Dych chi'n bwriadu ymladd y Babiloniaid, ond bydd y tai yma'n cael eu llenwi hefo cyrff marw. Dw i'n mynd i daro pobl y ddinas yma yn ffyrnig. Dw i wedi troi cefn arnyn nhw am eu bod nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg.
Jere WelBeibl 33:6  “‘Ond bydda i'n iacháu'r ddinas yma eto. Dw i'n mynd i'w gwella hi a'i phobl, rhoi heddwch iddyn nhw a'u cadw nhw'n saff am byth.
Jere WelBeibl 33:7  Bydda i'n rhoi popeth wnaeth Israel a Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw. Dw i'n mynd i'w hadeiladu nhw eto, fel roedden nhw o'r blaen.
Jere WelBeibl 33:8  Dw i'n mynd i'w glanhau nhw o'u holl bechodau yn fy erbyn i. Bydda i'n maddau eu pechodau a'u gwrthryfel yn fy erbyn i.
Jere WelBeibl 33:9  Bydd y gwledydd i gyd yn clywed am y pethau da fydda i'n eu gwneud iddyn nhw. Bydd y ddinas yma'n fy ngwneud i'n enwog, ac yn dod ag anrhydedd a mawl i mi, am fy mod i wedi gwneud ei phobl hi mor llawen. Bydd y gwledydd wedi dychryn am fy mod i wedi gwneud cymaint o dda i'r ddinas ac wedi rhoi heddwch iddi.’”
Jere WelBeibl 33:10  “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dych chi'n dweud am y lle yma, “Mae'r wlad yma'n anialwch diffaith. Does dim pobl nac anifeiliaid yn byw yma.” Gwir! Yn fuan iawn bydd pentrefi Jwda a strydoedd Jerwsalem yn wag – fydd neb yn byw yma, a fydd dim anifeiliaid yma chwaith. Ac eto bydd sŵn
Jere WelBeibl 33:11  pobl yn chwerthin ac yn joio a mwynhau eu hunain mewn parti priodas i'w glywed yma eto. A bydd sŵn pobl yn canu wrth fynd i'r deml i gyflwyno offrwm diolch i'r ARGLWYDD: “Diolchwch i'r ARGLWYDD hollbwerus. Mae e mor dda aton ni; mae ei haelioni yn ddiddiwedd!” Dw i'n mynd i roi'r cwbl oedd gan y wlad ar y dechrau yn ôl iddi,’ meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 33:12  “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Mae'n wir – bydd y lle yma'n adfeilion, heb bobl nac anifeiliaid yn byw yma. Ond yna ryw ddydd bydd bugeiliaid unwaith eto yn arwain eu praidd i orffwys yma.
Jere WelBeibl 33:13  Bydd bugeiliaid yn cyfrif eu defaid wrth iddyn nhw fynd i'r gorlan yn y pentrefi i gyd, yn y bryniau a'r iseldir i'r gorllewin, yn y Negef i'r de, ar dir llwyth Benjamin, yn yr ardal o gwmpas Jerwsalem ac yn nhrefi Jwda i gyd. Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 33:14  “‘Mae'r amser yn dod,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘pan fydda i'n gwneud beth dw i wedi addo ei wneud i bobl Israel a Jwda.
Jere WelBeibl 33:15  Bryd hynny, bydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd, un fydd yn gwneud beth sy'n iawn. Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad.
Jere WelBeibl 33:16  Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachub, a bydd Jerwsalem yn saff. Bydd e'n cael ei alw, “Yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i ni”.’
Jere WelBeibl 33:17  “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd un o ddisgynyddion Dafydd yn eistedd ar orsedd Israel am byth.
Jere WelBeibl 33:18  A bydd yna bob amser offeiriaid o lwyth Lefi yn sefyll o'm blaen i gyflwyno offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn, ac aberthau.’”
Jere WelBeibl 33:19  Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:
Jere WelBeibl 33:20  “Dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Does neb yn gallu torri'r patrwm o nos a dydd yn dilyn ei gilydd mewn trefn.
Jere WelBeibl 33:21  A'r un fath, does neb yn gallu torri'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud i Dafydd fy ngwas, sef y bydd un o'i ddisgynyddion yn frenin bob amser. A does neb yn gallu torri'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud i lwyth Lefi chwaith.
Jere WelBeibl 33:22  Bydd cymaint o ddisgynyddion gan Dafydd fy ngwas, â'r rhai o lwyth Lefi sy'n fy ngwasanaethu i. Byddan nhw fel y sêr yn yr awyr neu'r tywod ar lan y môr – yn gwbl amhosib i'w cyfri!’”
Jere WelBeibl 33:24  “Mae'n siŵr dy fod ti wedi clywed beth mae pobl yn ei ddweud – ‘Mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y ddau deulu wnaeth e ddewis!’ Does ganddyn nhw ddim parch at fy mhobl i. Dŷn nhw ddim yn eu hystyried nhw'n genedl ddim mwy.
Jere WelBeibl 33:25  Ond dw i, yr ARGLWYDD, yn addo hyn: dw i wedi gosod trefn i reoli dydd a nos, ac wedi gosod deddfau i'r awyr a'r ddaear. Dydy'r pethau yna byth yn mynd i gael eu newid.
Jere WelBeibl 33:26  A'r un modd dw i ddim yn mynd i wrthod disgynyddion Jacob. Bydd un o ddisgynyddion Dafydd yn teyrnasu ar ddisgynyddion Abraham, Isaac a Jacob. Byddan nhw'n cael popeth maen nhw wedi'i golli yn ôl. Dw i'n mynd i ddangos trugaredd atyn nhw.”
Chapter 34
Jere WelBeibl 34:1  Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, a'i fyddin (oedd yn cynnwys milwyr o'r holl wledydd roedd wedi'u concro) yn ymosod ar Jerwsalem a'r trefi o'i chwmpas. A dyna pryd rhoddodd yr ARGLWYDD neges arall i Jeremeia,
Jere WelBeibl 34:2  a dweud wrtho am fynd i ddweud wrth Sedeceia, brenin Jwda: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma yn nwylo brenin Babilon, a bydd yn ei llosgi'n ulw.
Jere WelBeibl 34:3  A fyddi di ddim yn dianc o'i afael. Byddi'n cael dy ddal ac yn cael dy osod i sefyll dy brawf o'i flaen a'i wynebu'n bersonol. Wedyn byddi'n cael dy gymryd i Babilon.’
Jere WelBeibl 34:4  Ond gwrando ar beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud amdanat ti, Sedeceia, brenin Jwda. Mae'n dweud: ‘Fyddi di ddim yn cael dy ddienyddio.
Jere WelBeibl 34:5  Byddi'n cael marw'n dawel. Byddan nhw'n llosgi arogldarth yn dy angladd di, yn union fel gwnaethon nhw i'r brenhinoedd oedd o dy flaen di. Byddan nhw'n wylo ac yn galaru ar dy ôl di, “O, ein meistr!” Dw i'n addo i ti. Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.’”
Jere WelBeibl 34:6  Felly, dyma'r proffwyd Jeremeia yn dweud hyn i gyd wrth Sedeceia, brenin Jwda.
Jere WelBeibl 34:7  Roedd byddin brenin Babilon yn dal i ymladd yn erbyn Jerwsalem ar y pryd, a hefyd yn erbyn Lachish ac Aseca, yr unig gaerau amddiffynnol yn Jwda oedd yn dal eu tir.
Jere WelBeibl 34:8  Cafodd Jeremeia neges arall gan yr ARGLWYDD ar ôl i'r Brenin Sedeceia ymrwymo gyda'r bobl yn Jerwsalem i ollwng eu caethweision yn rhydd.
Jere WelBeibl 34:9  Roedd pawb i fod i ryddhau'r dynion a'r merched oedd yn gaethweision. Doedd neb i fod i gadw un o'u pobl eu hunain o Jwda yn gaeth.
Jere WelBeibl 34:10  Cytunodd pawb, yr arweinwyr a'r bobl i gyd, ac ymrwymo i ollwng eu caethweision yn rhydd – y dynion a'r merched oedd wedi bod yn gweithio iddyn nhw. Ar y dechrau dyma nhw'n gwneud beth roedden nhw wedi'i addo.
Jere WelBeibl 34:11  Ond ar ôl hynny dyma nhw'n newid eu meddyliau, a chymryd y dynion a'r merched yn ôl, a'u gorfodi i weithio fel caethweision eto.
Jere WelBeibl 34:12  Dyna pryd rhoddodd yr ARGLWYDD y neges yma i Jeremeia:
Jere WelBeibl 34:13  “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o'r Aifft, a'u rhyddhau nhw o fod yn gaethweision, gwnes i gytundeb gyda nhw:
Jere WelBeibl 34:14  “Bob saith mlynedd rhaid i chi ollwng yn rhydd eich cydwladwyr Hebreig sydd wedi gwerthu eu hunain i chi ac wedi'ch gwasanaethu chi am chwe mlynedd.” Ond wnaeth eich hynafiaid ddim gwrando na chymryd unrhyw sylw ohono i.
Jere WelBeibl 34:15  Ond yna'n ddiweddar dyma chi'n newid eich ffyrdd a gwneud beth roeddwn i eisiau. Dyma chi'n gadael i'ch cydwladwyr fynd yn rhydd, ac mewn seremoni yn y deml ymrwymo i gadw at hynny.
Jere WelBeibl 34:16  Ond wedyn dyma chi'n newid eich meddwl eto a dangos bod gynnoch chi ddim parch ata i go iawn. Dyma chi'n cymryd y dynion a'r merched oedd wedi cael eu gollwng yn rhydd i fyw eu bywydau eu hunain, a'u gwneud nhw'n gaethweision unwaith eto!
Jere WelBeibl 34:17  “‘Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dych chi ddim wedi gwrando arna i go iawn. Dych chi ddim wedi gollwng eich cymdogion a'ch cydwladwyr yn rhydd. Felly dw i'n mynd i roi rhyddid i ryfel, newyn a haint eich lladd chi.” Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn. “Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn dychryn pobl y gwledydd i gyd.
Jere WelBeibl 34:18  Bydda i'n cosbi'r bobl hynny sydd wedi torri amodau'r ymrwymiad. Bydda i'n eu gwneud nhw fel y llo gafodd ei dorri yn ei hanner ganddyn nhw wrth dyngu'r llw a cherdded rhwng y darnau.
Jere WelBeibl 34:19  Bydda i'n cosbi swyddogion Jwda, swyddogion Jerwsalem, swyddogion y llys brenhinol, yr offeiriaid, a phawb arall wnaeth gerdded rhwng y darnau o'r llo.
Jere WelBeibl 34:20  Byddan nhw'n cael eu rhoi yn nwylo'r gelynion sydd am eu lladd nhw. Bydd eu cyrff yn fwyd i adar ac anifeiliaid gwyllt.
Jere WelBeibl 34:21  Bydd y Brenin Sedeceia a'i swyddogion yn cael eu rhoi yn nwylo'r gelynion hefyd. Mae brenin Babilon a'i fyddin wedi mynd i ffwrdd a stopio ymosod arnoch chi am y tro.
Jere WelBeibl 34:22  Ond dw i, yr ARGLWYDD, yn mynd i orchymyn iddyn nhw ddod yn ôl yn fuan iawn. Byddan nhw'n ymladd yn erbyn y ddinas yma, yn ei choncro, ac yn ei llosgi'n ulw. Bydd trefi Jwda yn cael eu dinistrio'n llwyr, a fydd neb yn byw yno.”’”
Chapter 35
Jere WelBeibl 35:1  Dyma neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda:
Jere WelBeibl 35:2  “Dos i'r gymuned lle mae'r Rechabiaid yn byw, i siarad â nhw a'u gwahodd nhw i deml yr ARGLWYDD. Dos â nhw i un o'r ystafelloedd ochr, a chynnig gwin iddyn nhw i'w yfed.”
Jere WelBeibl 35:3  Felly dyma fi'n mynd i nôl Iaasaneia (mab Jeremeia ac ŵyr Hafatsiniâ) a'i frodyr a'i feibion, a gweddill y gymuned o Rechabiaid,
Jere WelBeibl 35:4  a mynd â nhw i deml yr ARGLWYDD. Es â nhw i'r ystafell lle roedd disgyblion y proffwyd Chanan fab Igdaleia yn aros – sef drws nesa i'r ystafell lle roedd swyddogion y deml yn aros, ac uwchben ystafell Maaseia fab Shalwm, prif borthor y deml.
Jere WelBeibl 35:5  Dyma fi'n rhoi jygiau o win a chwpanau o'u blaenau nhw, a dweud, “Cymerwch win.”
Jere WelBeibl 35:6  Ond dyma nhw'n ateb, “Na. Dŷn ni ddim yn yfed gwin am fod Jonadab fab Rechab, ein cyndad ni, wedi dweud wrthon ni am beidio. ‘Ddylech chi na'ch plant fyth yfed gwin,’ meddai.
Jere WelBeibl 35:7  ‘Peidiwch adeiladu tai. Peidiwch tyfu cnydau. A pheidiwch plannu na phrynu gwinllan. Dych chi i fyw mewn pebyll bob amser. Os gwnewch chi hynny, byddwch yn byw am hir yn y wlad lle rydych chi'n crwydro.’
Jere WelBeibl 35:8  Dŷn ni a'n gwragedd a'n plant bob amser wedi gwrando a bod yn ufudd i orchymyn Jonadab fab Rechab, ein cyndad. Dŷn ni erioed wedi yfed gwin
Jere WelBeibl 35:9  nac adeiladu tai; does gynnon ni ddim gwinllannoedd, caeau na chnydau,
Jere WelBeibl 35:10  a dŷn ni bob amser wedi byw mewn pebyll. Dŷn ni wedi gwrando a gwneud yn union beth ddwedodd ein cyndad Jonadab wrthon ni.
Jere WelBeibl 35:11  Ond pan ddaeth Nebwchadnesar brenin Babilon i ymosod ar y wlad, dyma ni'n penderfynu dianc i Jerwsalem oddi wrth fyddin Babilon a byddin Syria. A dyna pam dŷn ni yma yn Jerwsalem.”
Jere WelBeibl 35:13  “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, am i ti ei ddweud wrth bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem: ‘Pam wnewch chi ddim dysgu gwers o hyn, a gwrando ar beth dw i'n ddweud?’ meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 35:14  ‘Roedd Jonadab fab Rechab wedi dweud wrth ei ddisgynyddion am beidio yfed gwin, ac maen nhw wedi gwrando arno. Dŷn nhw erioed wedi yfed gwin. Ond dw i wedi bod yn siarad hefo chi dro ar ôl tro, a dych chi byth yn gwrando arna i.
Jere WelBeibl 35:15  Dw i wedi anfon un proffwyd ar ôl y llall i'ch rhybuddio chi, a dweud, “Rhaid i chi stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud. Rhaid i chi newid eich ffyrdd a pheidio addoli a gwasanaethu eilun-dduwiau paganaidd, wedyn cewch fyw yn y wlad rois i i chi a'ch hynafiaid.” Ond wnaethoch chi ddim cymryd unrhyw sylw na gwrando ar beth roeddwn i'n ddweud.
Jere WelBeibl 35:16  Mae disgynyddion Jonadab fab Rechab wedi gwneud beth ddwedodd e wrthyn nhw, ond dych chi ddim wedi bod yn ufudd i mi.’
Jere WelBeibl 35:17  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i daro pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem hefo pob dinistr dw i wedi'i fygwth. Dw i wedi siarad hefo nhw a dŷn nhw ddim wedi gwrando. Dw i wedi galw arnyn nhw a dŷn nhw ddim wedi ateb.’”
Jere WelBeibl 35:18  Yna dyma Jeremeia'n dweud wrth y gymuned o Rechabiaid: “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi gwrando ar orchymyn eich cyndad Jonadab. Dych chi wedi gwneud popeth ddwedodd e wrthych chi ei wneud.’
Jere WelBeibl 35:19  Felly mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn dweud hyn: ‘Bydd un o ddisgynyddion Jonadab fab Rechab yn fy ngwasanaethu i bob amser.’”
Chapter 36
Jere WelBeibl 36:1  Yn y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:
Jere WelBeibl 36:2  “Cymer sgrôl, ac ysgrifennu arni bopeth dw i wedi'i ddweud wrthot ti am Israel a Jwda a'r gwledydd eraill i gyd. Ysgrifenna bopeth dw i wedi'i ddweud ers i mi ddechrau siarad gyda ti yn y cyfnod pan oedd Joseia yn frenin.
Jere WelBeibl 36:3  Pan fydd pobl Jwda yn clywed am yr holl bethau ofnadwy dw i'n bwriadu eu gwneud iddyn nhw, falle y byddan nhw'n stopio gwneud yr holl bethau drwg maen nhw'n eu gwneud, a bydda i'n maddau iddyn nhw am y drwg a'r pechod maen nhw wedi ei wneud.”
Jere WelBeibl 36:4  Felly, dyma Jeremeia yn galw am Barŵch fab Nereia i'w helpu. Wrth i Jeremeia adrodd pob un neges roedd yr ARGLWYDD wedi'i rhoi iddo, roedd Barŵch yn ysgrifennu'r cwbl i lawr ar y sgrôl.
Jere WelBeibl 36:5  Wedyn dyma Jeremeia yn dweud wrth Barŵch, “Dw i'n cael fy rhwystro rhag mynd i mewn i deml yr ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 36:6  Felly dos di yno y tro nesa mae pobl trefi Jwda yn mynd i ymprydio. Dw i eisiau i ti ddarllen yn gyhoeddus yr holl negeseuon rwyt ti wedi'u hysgrifennu yn y sgrôl, yn union fel gwnes i eu hadrodd nhw.
Jere WelBeibl 36:7  Falle y gwnân nhw bledio ar yr ARGLWYDD i faddau iddyn nhw, ac y gwnân nhw stopio gwneud y pethau drwg maen nhw wedi bod yn eu gwneud. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud yn glir ei fod e wedi gwylltio'n lân gyda nhw.”
Jere WelBeibl 36:8  Felly dyma Barŵch yn gwneud yn union fel roedd Jeremeia wedi dweud wrtho. Aeth i deml yr ARGLWYDD a darllen negeseuon yr ARGLWYDD o'r sgrôl.
Jere WelBeibl 36:9  Roedd pobl Jerwsalem a'r holl bobl oedd wedi dod i mewn o drefi Jwda yn cynnal ympryd. Roedd hyn yn y nawfed mis o'r bumed flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda.
Jere WelBeibl 36:10  A dyma Barŵch yn mynd i deml yr ARGLWYDD, i ystafell Gemareia (mab Shaffan, yr ysgrifennydd brenhinol). Roedd ystafell Gemareia wrth iard uchaf y deml yn ymyl y Giât Newydd. A dyma Barŵch yn darllen yn uchel o'r sgrôl bopeth oedd Jeremeia wedi'i ddweud wrtho.
Jere WelBeibl 36:11  Dyma Michaia (mab Gemareia ac ŵyr i Shaffan) yn clywed Barŵch yn darllen y negeseuon gan yr ARGLWYDD oedd yn y sgrôl.
Jere WelBeibl 36:12  Felly aeth i lawr i balas y brenin, a mynd i ystafell yr ysgrifennydd brenhinol. Roedd swyddogion y llys brenhinol yno i gyd mewn cyfarfod: Elishama yr ysgrifennydd, Delaia fab Shemaia, Elnathan fab Achbor, Gemareia fab Shaffan, Sedeceia fab Chananeia a'r swyddogion eraill.
Jere WelBeibl 36:13  Dyma Michaia yn dweud wrthyn nhw am bopeth roedd Barŵch wedi'i ddarllen yn gyhoeddus o'r sgrôl.
Jere WelBeibl 36:14  Felly dyma swyddogion y llys yn anfon Iehwdi (oedd yn fab i Nethaneia, yn ŵyr i Shelemeia, ac yn or-ŵyr i Cwshi) at Barŵch i'w nôl ac i ddweud wrtho am ddod â'r sgrôl roedd e wedi'i darllen gydag e. Felly dyma Barŵch yn mynd atyn nhw a'r sgrôl gydag e.
Jere WelBeibl 36:15  “Eistedd i lawr a darllen y sgrôl i ni,” medden nhw. Felly dyma Barŵch yn ei darllen iddyn nhw.
Jere WelBeibl 36:16  Roedden nhw i gyd wedi dychryn yn lân pan glywon nhw'r negeseuon. “Rhaid i ni ddweud wrth y brenin am hyn i gyd,” medden nhw.
Jere WelBeibl 36:17  Yna dyma nhw'n gofyn i Barŵch, “Dwed wrthon ni, sut gest ti'r negeseuon yma i gyd? Ai pethau ddwedodd Jeremeia ydyn nhw?”
Jere WelBeibl 36:18  “Ie,” meddai Barŵch, “roedd Jeremeia'n adrodd y cwbl, a finnau wedyn yn ysgrifennu'r cwbl mewn inc ar y sgrôl.”
Jere WelBeibl 36:19  A dyma'r swyddogion yn dweud wrth Barŵch, “Rhaid i ti a Jeremeia fynd i guddio, a pheidio gadael i neb wybod ble rydych chi.”
Jere WelBeibl 36:20  Dyma nhw'n cadw'r sgrôl yn saff yn ystafell Elishama, yr ysgrifennydd brenhinol. Wedyn aethon nhw i ddweud wrth y brenin am y cwbl.
Jere WelBeibl 36:21  Dyma'r brenin yn anfon Iehwdi i nôl y sgrôl. Aeth Iehwdi i'w nôl o ystafell Elishama, ac yna ei darllen i'r brenin a'r swyddogion oedd yn sefyll o'i gwmpas.
Jere WelBeibl 36:22  Y nawfed mis oedd hi, ac roedd y brenin yn eistedd yn y gaeafdy lle roedd tân yn llosgi mewn padell dân o'i flaen.
Jere WelBeibl 36:23  Bob tro roedd Iehwdi wedi darllen tair neu bedair colofn byddai'r brenin yn eu torri i ffwrdd gyda chyllell fach a'u taflu i'r tân yn y badell. Gwnaeth hyn nes roedd y sgrôl gyfan wedi'i llosgi.
Jere WelBeibl 36:24  Wnaeth y brenin a'i swyddogion ddim cynhyrfu o gwbl pan glywon nhw'r negeseuon, a wnaethon nhw ddim rhwygo'u dillad i ddangos eu bod nhw'n edifar.
Jere WelBeibl 36:25  Roedd Elnathan, Delaia a Gemareia wedi pledio ar y brenin i beidio llosgi'r sgrôl, ond wnaeth e ddim gwrando arnyn nhw.
Jere WelBeibl 36:26  A dyma'r brenin yn gorchymyn i Ierachmeël (un o'r tywysogion brenhinol), Seraia fab Asriel a Shelemeia fab Abdeël, arestio Barŵch y copïwr a Jeremeia'r proffwyd. Ond roedd yr ARGLWYDD wedi'u cuddio nhw.
Jere WelBeibl 36:27  Ar ôl i'r brenin losgi'r sgrôl (sef yr un roedd Barŵch wedi ysgrifennu arni bopeth roedd Jeremeia wedi'i ddweud), dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jeremeia:
Jere WelBeibl 36:28  “Cymer sgrôl arall, ac ysgrifennu arni bopeth oedd ar y sgrôl wreiddiol gafodd ei llosgi gan Jehoiacim.
Jere WelBeibl 36:29  Yna dywed wrth Jehoiacim, brenin Jwda, fy mod i, yr ARGLWYDD, yn dweud: ‘Rwyt wedi llosgi'r sgrôl, a gofyn i Jeremeia pam wnaeth e ysgrifennu arni fod brenin Babilon yn mynd i ddod i ddinistrio'r wlad yma, a chipio pobl ac anifeiliaid ohoni.’
Jere WelBeibl 36:30  Felly dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jehoiacim, brenin Jwda: ‘Fydd neb o'i ddisgynyddion yn eistedd ar orsedd Dafydd. Pan fydd e farw, fydd ei gorff ddim yn cael ei gladdu – bydd yn cael ei daflu i orwedd allan yn haul poeth y dydd a barrug y nos.
Jere WelBeibl 36:31  Dw i'n mynd i'w gosbi e a'i ddisgynyddion a'i swyddogion am yr holl bethau drwg maen nhw wedi'u gwneud. Bydda i'n eu taro nhw (a pobl Jerwsalem a Jwda) hefo pob dinistr dw i wedi'i fygwth, am iddyn nhw ddal i wrthod gwrando.’”
Jere WelBeibl 36:32  Felly dyma Jeremeia'n rhoi sgrôl arall i Barŵch fab Nereia, y copïwr. A dyma Barŵch yn ysgrifennu arni bopeth roedd Jeremeia'n ei ddweud – y negeseuon oedd ar y sgrôl gafodd ei llosgi gan Jehoiacim, brenin Jwda. A chafodd llawer o negeseuon eraill tebyg eu hychwanegu.
Chapter 37
Jere WelBeibl 37:1  Sedeceia, mab i Joseia, wnaeth olynu Jehoiachin fab Jehoiacim yn frenin ar Jwda. Cafodd Sedeceia ei benodi'n frenin gan Nebwchadnesar, brenin Babilon.
Jere WelBeibl 37:2  Ond wnaeth e a'i swyddogion, na'r bobl gyffredin chwaith, ddim gwrando ar beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud drwy'r proffwyd Jeremeia.
Jere WelBeibl 37:3  Er hynny, dyma'r Brenin Sedeceia yn anfon Iehwchal fab Shelemeia a'r offeiriad Seffaneia fab Maaseia at Jeremeia. Dwedodd wrthyn nhw am ofyn iddo, “Plîs gweddïa y bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ein helpu ni.”
Jere WelBeibl 37:4  (Ar y pryd roedd Jeremeia'n dal yn rhydd i fynd a dod. Doedd e ddim eto wedi cael ei roi yn y carchar.)
Jere WelBeibl 37:5  Roedd byddin Babilon wedi stopio ymosod ar Jerwsalem am y tro. Roedden nhw wedi clywed fod byddin y Pharo yn dod i fyny o'r Aifft, ac felly dyma nhw'n gadael Jerwsalem.
Jere WelBeibl 37:7  “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dwedwch wrth frenin Jwda wnaeth eich anfon chi ata i am help: ‘Bydd byddin y Pharo, sydd ar ei ffordd i'ch helpu chi, yn mynd yn ôl adre i'r Aifft,
Jere WelBeibl 37:8  a bydd y Babiloniaid yn dod yn ôl i ymosod ar y ddinas yma. Byddan nhw'n ei choncro ac yn ei llosgi'n ulw.’
Jere WelBeibl 37:9  Mae'r ARGLWYDD yn dweud: ‘Peidiwch twyllo'ch hunain i feddwl y bydd y Babiloniaid yn mynd i ffwrdd ac yn gadael llonydd i chi. Fyddan nhw ddim yn mynd i ffwrdd.
Jere WelBeibl 37:10  Hyd yn oed petaech chi'n llwyddo i ddinistrio'r fyddin sy'n dod i ymladd yn eich erbyn chi, a gadael dim ond llond dwrn o ddynion wedi'u hanafu yn gorwedd yn eu pebyll, bydden nhw'n codi eto ac yn llosgi'r ddinas yma'n ulw.’”
Jere WelBeibl 37:11  Roedd byddin Babilon wedi gadael Jerwsalem am fod byddin y Pharo ar ei ffordd,
Jere WelBeibl 37:12  a dyma Jeremeia'n cychwyn allan o Jerwsalem i fynd adre i ardal Benjamin. Roedd yn mynd i dderbyn ei siâr e o'r tir oedd piau'r teulu.
Jere WelBeibl 37:13  Ond pan gyrhaeddodd Giât Benjamin dyma gapten y gwarchodlu, sef Ireia (mab Shelemeia ac ŵyr i Chananeia), yn ei stopio. “Ti'n mynd drosodd at y Babiloniaid!” meddai wrtho.
Jere WelBeibl 37:14  Ond dyma Jeremeia'n ateb, “Na, dydy hynny ddim yn wir. Dw i ddim yn mynd drosodd at y Babiloniaid.” Ond roedd Ireia'n gwrthod gwrando arno, a dyma fe'n arestio Jeremeia a mynd ag e at y swyddogion.
Jere WelBeibl 37:15  Roedd y swyddogion yn wyllt gynddeiriog hefo Jeremeia. Ar ôl ei guro dyma nhw'n ei garcharu yn nhŷ Jonathan, yr ysgrifennydd brenhinol – roedd y tŷ wedi cael ei droi'n garchar.
Jere WelBeibl 37:16  Felly roedd Jeremeia yn y carchar, wedi'i roi mewn dwnsiwn. A buodd yno am amser hir.
Jere WelBeibl 37:17  Dyma'r Brenin Sedeceia yn anfon am Jeremeia, a dod ag e i'r palas i'w holi'n gyfrinachol. “Oes gen ti neges gan yr ARGLWYDD?” meddai. “Oes,” meddai Jeremeia. “Ti'n mynd i gael dy roi yn nwylo brenin Babilon!”
Jere WelBeibl 37:18  Wedyn dyma Jeremeia'n gofyn i'r brenin, “Pa ddrwg dw i wedi'i wneud i ti, neu i dy swyddogion, neu i'r bobl yma? Pam dych chi wedi fy nhaflu i i'r carchar?
Jere WelBeibl 37:19  A ble mae'r proffwydi hynny wnaeth broffwydo y byddai brenin Babilon ddim yn ymosod ar y wlad yma?
Jere WelBeibl 37:20  Plîs gwranda arna i, f'arglwydd frenin. Dw i'n pledio am drugaredd. Bydda i'n marw os gwnei di f'anfon i'n ôl i'r carchar yna yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd.”
Jere WelBeibl 37:21  Felly dyma'r Brenin Sedeceia yn gorchymyn cadw Jeremeia yn iard y gwarchodlu. Rhoddodd orchymyn hefyd ei fod i gael dogn o fara ffres o Stryd y Pobyddion bob dydd, o leia tra oedd bara i'w gael yn y ddinas. Felly cafodd Jeremeia ei gadw yn iard y gwarchodlu.
Chapter 38
Jere WelBeibl 38:1  Roedd Sheffateia fab Mattan, Gedaleia fab Pashchwr, Iwchâl fab Shelemeia, a Pashchwr fab Malcîa, wedi clywed beth oedd Jeremeia wedi bod yn ei ddweud wrth y bobl. Roedd yn dweud,
Jere WelBeibl 38:2  “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd pawb sy'n aros yn y ddinas yma'n cael eu lladd yn y rhyfel, neu'n marw o newyn neu haint. Ond bydd y rhai sy'n ildio i'r Babiloniaid yn cael byw.’
Jere WelBeibl 38:3  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd y ddinas yma'n cael ei rhoi yn nwylo byddin brenin Babilon. Byddan nhw'n ei choncro hi.’”
Jere WelBeibl 38:4  Felly dyma'r pedwar swyddog yn mynd at y brenin a dweud, “Rhaid i'r dyn yma farw! Mae e'n torri calonnau'r milwyr a'r bobl sydd ar ôl yn y ddinas yma. Dydy e ddim yn trio helpu'r bobl yma o gwbl – gwneud niwed iddyn nhw mae e!”
Jere WelBeibl 38:5  “O'r gorau,” meddai'r Brenin Sedeceia, “gwnewch beth fynnoch chi ag e. Alla i ddim eich stopio chi.”
Jere WelBeibl 38:6  Felly dyma nhw'n cymryd Jeremeia a'i daflu i bydew Malcîa, aelod o'r teulu brenhinol. Mae'r pydew yn iard y gwarchodlu, a dyma nhw'n ei ollwng i lawr iddo gyda rhaffau. Doedd dim dŵr yn y pydew, ond roedd mwd ar y gwaelod. A dyma Jeremeia yn suddo i mewn i'r mwd.
Jere WelBeibl 38:7  Yna dyma Ebed-melech, dyn du o Affrica oedd yn swyddog yn y llys brenhinol, yn clywed eu bod nhw wedi rhoi Jeremeia yn y pydew. Roedd y brenin mewn achos llys wrth Giât Benjamin ar y pryd.
Jere WelBeibl 38:8  Dyma Ebed-melech yn gadael y palas ac yn mynd i siarad â'r brenin.
Jere WelBeibl 38:9  “Fy mrenin, syr,” meddai, “mae'r dynion yna wedi gwneud peth drwg iawn yn y ffordd maen nhw wedi trin y proffwyd Jeremeia. Maen nhw wedi'i daflu i mewn i'r pydew. Mae'n siŵr o lwgu i farwolaeth yno achos does prin dim bwyd ar ôl yn y ddinas.”
Jere WelBeibl 38:10  Felly dyma'r brenin yn rhoi'r gorchymyn yma i Ebed-melech o Affrica: “Dos â thri deg o ddynion gyda ti, a thynnu'r proffwyd Jeremeia allan o'r pydew cyn iddo farw.”
Jere WelBeibl 38:11  Felly dyma Ebed-melech yn mynd â'r dynion gydag e. Aeth i'r palas a nôl hen ddillad a charpiau o'r ystafell dan y trysordy. Gollyngodd nhw i lawr i Jeremeia yn y pydew gyda rhaffau.
Jere WelBeibl 38:12  Wedyn dyma Ebed-melech yn dweud wrth Jeremeia, “Rho'r carpiau a'r hen ddillad yma rhwng dy geseiliau a'r rhaffau.” A dyma Jeremeia'n gwneud hynny.
Jere WelBeibl 38:13  Yna dyma nhw'n tynnu Jeremeia allan o'r pydew gyda'r rhaffau. Ond roedd rhaid i Jeremeia aros yn iard y gwarchodlu wedyn.
Jere WelBeibl 38:14  Dyma'r Brenin Sedeceia yn anfon am y proffwyd Jeremeia i'w gyfarfod wrth y drydedd fynedfa i deml yr ARGLWYDD. A dyma fe'n dweud wrth Jeremeia, “Dw i eisiau dy holi di. Paid cuddio dim oddi wrtho i.”
Jere WelBeibl 38:15  Ond dyma Jeremeia'n ateb, “Os gwna i ddweud y cwbl wrthot ti, byddi'n fy lladd i. A wnei di ddim gwrando arna i os gwna i roi cyngor i ti beth bynnag.”
Jere WelBeibl 38:16  Ond dyma'r Brenin Sedeceia yn addo i Jeremeia, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD sy'n rhoi bywyd i ni yn fyw, wna i ddim dy ladd di, a wna i ddim dy roi di yn nwylo'r dynion hynny sydd eisiau dy ladd di chwaith.”
Jere WelBeibl 38:17  Felly dyma Jeremeia'n dweud wrth Sedeceia, “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Rhaid i ti ildio i swyddogion brenin Babilon. Os gwnei di, byddi di a dy deulu yn cael byw, a fydd y ddinas yma ddim yn cael ei llosgi.
Jere WelBeibl 38:18  Ond os byddi'n gwrthod ildio iddyn nhw, bydd y ddinas yma'n cael ei rhoi yn nwylo'r Babiloniaid, a byddan nhw'n ei llosgi'n ulw. A fyddi di ddim yn dianc o'u gafael nhw chwaith.’”
Jere WelBeibl 38:19  Dyma'r Brenin Sedeceia yn dweud wrth Jeremeia, “Mae gen i ofn y bobl hynny o Jwda sydd wedi mynd drosodd at y Babiloniaid. Os bydd y Babiloniaid yn fy rhoi i'n eu dwylo nhw, byddan nhw'n fy ngham-drin i.”
Jere WelBeibl 38:20  “Na, fydd hynny ddim yn digwydd,” meddai Jeremeia. “Gwna di beth mae'r ARGLWYDD wedi'i ddweud drwyddo i, a bydd popeth yn iawn. Bydd dy fywyd yn cael ei arbed.
Jere WelBeibl 38:21  Ond os gwnei di wrthod ildio, mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi beth fydd yn digwydd –
Jere WelBeibl 38:22  bydd y merched sydd ar ôl yn y palas brenhinol yn cael eu cymryd at swyddogion brenin Babilon, a dyma fydd yn cael ei ddweud amdanat ti: ‘Mae dy ffrindiau wedi dy gamarwain di! Maen nhw wedi cael y gorau arnat ti! Pan oedd dy draed yn sownd yn y mwd dyma nhw'n cerdded i ffwrdd!’
Jere WelBeibl 38:23  Bydd dy wragedd a dy blant i gyd yn cael eu cymryd gan y Babiloniaid. A fyddi di dy hun ddim yn dianc o'u gafael nhw chwaith – bydd brenin Babilon yn dy ddal di. A bydd y ddinas yma'n cael ei llosgi'n ulw.”
Jere WelBeibl 38:24  “Paid gadael i neb wybod am y sgwrs yma,” meddai Sedeceia wrth Jeremeia. “Os gwnei di, bydd dy fywyd mewn perygl.
Jere WelBeibl 38:25  Petai'r swyddogion yn dod i glywed fy mod i wedi siarad gyda ti ac yn dod atat i ofyn, ‘Beth ddwedaist ti wrth y brenin? A beth ddwedodd e wrthot ti? Dwed y cwbl wrthon ni, neu byddwn ni'n dy ladd di!’
Jere WelBeibl 38:26  Petai hynny'n digwydd, dywed wrthyn nhw, ‘Rôn i'n pledio ar i'r brenin beidio fy anfon i'n ôl i'r dwnsiwn yn nhŷ Jonathan, i farw yno.’”
Jere WelBeibl 38:27  A dyna ddigwyddodd. Pan ddaeth y swyddogion at Jeremeia i'w holi, dyma fe'n dweud yn union beth oedd y brenin wedi'i orchymyn iddo. Wnaethon nhw ddim ei groesholi ddim mwy, achos doedd neb wedi clywed y sgwrs rhwng Jeremeia a'r brenin.
Jere WelBeibl 38:28  Felly cafodd Jeremeia ei gadw yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu hyd y dydd pan gafodd Jerwsalem ei choncro.
Chapter 39
Jere WelBeibl 39:1  Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem a gwarchae arni. Digwyddodd hyn yn y degfed mis o nawfed flwyddyn Sedeceia yn frenin ar Jwda.
Jere WelBeibl 39:2  Buon nhw'n gwarchae arni am flwyddyn a hanner. Yna ar y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis ym mlwyddyn un deg un o deyrnasiad Sedeceia dyma nhw'n torri drwy waliau'r ddinas.
Jere WelBeibl 39:3  Dyma swyddogion brenin Babilon yn dod ac yn eistedd wrth y Giât Ganol – Nergal-sharetser o Samgar, Nebo-sarsechîm (prif swyddog y llys), Nergal-sharetser (oedd yn uchel-swyddog), a'r swyddogion eraill i gyd.
Jere WelBeibl 39:4  Roedd y Brenin Sedeceia a'i filwyr wedi dianc. Roedden nhw wedi gadael y ddinas yn ystod y nos, drwy ardd y brenin ac yna allan drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal. Wedyn mynd i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen.
Jere WelBeibl 39:5  Ond aeth byddin Babilon ar eu holau a dal Sedeceia ar wastatir Jericho. Dyma nhw'n mynd ag e i sefyll ei brawf o flaen Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn Ribla yn ardal Chamath.
Jere WelBeibl 39:6  Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd gan frenin Babilon. A chafodd pobl bwysig Jwda i gyd eu lladd ganddo hefyd.
Jere WelBeibl 39:7  Wedyn dyma fe'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon.
Jere WelBeibl 39:8  Dyma'r Babiloniaid yn llosgi'r palas brenhinol a thai'r bobl a bwrw waliau Jerwsalem i lawr.
Jere WelBeibl 39:9  Wedyn, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, yn mynd â'r bobl oedd ar ôl yn y ddinas yn gaeth i Babilon – gan gynnwys y bobl oedd wedi dianc ato o Jerwsalem yn gynharach.
Jere WelBeibl 39:10  Yr unig bobl gafodd eu gadael ganddo yn Jwda oedd rhai o'r bobl gyffredin dlawd oedd heb eiddo o gwbl. Rhoddodd gaeau a gwinllannoedd iddyn nhw i ofalu amdanyn nhw.
Jere WelBeibl 39:11  Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi rhoi gorchymyn i Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, am Jeremeia.
Jere WelBeibl 39:12  “Ffeindia Jeremeia, a gofalu amdano. Paid gwneud dim drwg iddo. Gwna beth mae e'n ei ofyn i ti.”
Jere WelBeibl 39:13  Felly dyma Nebwsaradan (capten y gwarchodlu brenhinol), Nebwshasban (prif swyddog y llys), Nergal-sharetser (oedd yn uchel-swyddog), a swyddogion eraill brenin Babilon
Jere WelBeibl 39:14  yn anfon am Jeremeia a mynd ag e o iard y gwarchodlu. Yna dyma nhw'n cael Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan) i ofalu amdano a mynd ag e i'w dŷ. Ond dewisodd Jeremeia aros gyda'r bobl gyffredin.
Jere WelBeibl 39:15  Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Jeremeia pan oedd yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu:
Jere WelBeibl 39:16  “Dos i ddweud wrth Ebed-melech yr Affricanwr: Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i wneud beth ddwedais i i'r ddinas yma – gwneud drwg iddi yn lle gwneud da. A byddi di yma i weld y cwbl yn digwydd.
Jere WelBeibl 39:17  Ond bydda i'n dy arbed di pan fydd y peth yn digwydd,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fyddi di ddim yn cael dy ddal gan y bobl rwyt ti'n eu hofni.
Jere WelBeibl 39:18  Bydda i'n dy achub di. Gei di ddim dy ladd yn y rhyfel. Byddi di'n cael byw, am dy fod ti wedi trystio yno i.’” Yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Chapter 40
Jere WelBeibl 40:1  Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia, pan gafodd ei ollwng yn rhydd gan Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol. Roedd yn Rama, wedi'i rwymo mewn cadwyni fel pawb arall o Jwda a Jerwsalem oedd yn cael eu cymryd yn gaeth i Babilon.
Jere WelBeibl 40:2  Yna, dyma Nebwsaradan yn cymryd Jeremeia o'r neilltu a dweud wrtho, “Roedd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi bygwth dinistrio'r lle yma,
Jere WelBeibl 40:3  a dyna wnaeth e. Mae wedi gwneud beth ddwedodd e am eich bod chi wedi pechu yn ei erbyn a gwrthod gwrando arno. Dyna pam mae hyn wedi digwydd i chi.
Jere WelBeibl 40:4  Nawr, dw i wedi tynnu dy gadwyni ac yn dy ollwng di'n rhydd. Os wyt ti eisiau dod hefo fi i Babilon, tyrd, a gwna i edrych ar dy ôl di. Ond does dim rhaid i ti ddod os wyt ti ddim eisiau. Ti'n rhydd i fynd i ble bynnag rwyt ti eisiau.
Jere WelBeibl 40:5  Os wyt ti am aros, dos yn ôl at Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan) sydd wedi'i benodi gan frenin Babilon yn llywodraethwr dros drefi Jwda. Aros gydag e a'r bobl yno. Neu dos i ble bynnag arall rwyt ti eisiau.” Yna ar ôl rhoi bwyd ac arian i Jeremeia, dyma gapten y gwarchodlu brenhinol yn gadael iddo fynd.
Jere WelBeibl 40:6  A dyma Jeremeia yn mynd i Mitspa at Gedaleia fab Achicam. Arhosodd yno gyda'r bobl oedd wedi'u gadael ar ôl yn y wlad.
Jere WelBeibl 40:7  Roedd rhai o swyddogion byddin Jwda a'u milwyr wedi bod yn cuddio yng nghefn gwlad. Dyma nhw'n clywed fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia fab Achicam i reoli'r wlad, a bod dynion, gwragedd a phlant mwya tlawd y wlad wedi'u gadael yno a heb eu cymryd yn gaeth i Babilon.
Jere WelBeibl 40:8  Felly dyma nhw'n mynd i gyfarfod â Gedaleia yn Mitspa – Ishmael fab Nethaneia, Iochanan a Jonathan (meibion Careach), Seraia fab Tanchwmeth, meibion Effai o Netoffa, a Iesaneia (mab y Maachathiad). Daeth y rhain i gyd gyda'u milwyr.
Jere WelBeibl 40:9  A dyma Gedaleia yn addo iddyn nhw, “Does dim rhaid i chi fod ag ofn ildio i'r Babiloniaid. Arhoswch yn y wlad a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd popeth yn iawn.
Jere WelBeibl 40:10  Bydda i'n aros yn Mitspa ac yn eich cynrychioli pan fydd y Babiloniaid yn dod i'n cyfarfod ni. Ewch chi i gasglu'r cynhaeaf grawnwin, y ffigys aeddfed a'r olew, a'u storio mewn jariau. Cewch setlo i lawr yn y trefi dych chi wedi'u cipio.”
Jere WelBeibl 40:11  Roedd llawer o bobl Jwda wedi dianc yn ffoaduriaid i Moab, gwlad Ammon, Edom a gwledydd eraill, a dyma nhw'n clywed beth oedd wedi digwydd. Clywon nhw fod brenin Babilon wedi gadael i rai pobl aros yn Jwda, a'i fod wedi penodi Gedaleia i reoli'r wlad.
Jere WelBeibl 40:12  Felly dyma'r bobl hynny i gyd yn dod adre i wlad Jwda o'r gwledydd lle roedden nhw wedi bod yn ffoaduriaid, a mynd i Mitspa i gyfarfod Gedaleia. A dyma nhw hefyd yn casglu cynhaeaf enfawr o rawnwin a ffigys.
Jere WelBeibl 40:13  Un diwrnod dyma Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin oedd wedi bod yn cuddio yng nghefn gwlad yn mynd i Mitspa eto i gyfarfod Gedaleia.
Jere WelBeibl 40:14  A dyma nhw'n dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod Baalis, brenin Ammon, wedi anfon Ishmael fab Nethaneia i dy lofruddio di?” Ond doedd Gedaleia ddim yn eu credu nhw.
Jere WelBeibl 40:15  Wedyn, dyma Iochanan fab Careach yn cael gair preifat hefo Gedaleia ym Mitspa. “Gad i mi fynd i ladd Ishmael fab Nethaneia,” meddai. “Fydd neb yn gwybod am y peth. Rhaid i ni beidio gadael iddo dy lofruddio di, neu bydd pobl Jwda sydd wedi dy gefnogi di'n mynd ar chwâl, a bydd y rhai sydd ar ôl yn Jwda yn diflannu!”
Jere WelBeibl 40:16  Ond dyma Gedaleia yn ateb Iochanan, “Paid meiddio gwneud y fath beth! Dydy beth rwyt ti'n ddweud am Ishmael ddim yn wir.”
Chapter 41
Jere WelBeibl 41:1  Yna, yn y seithfed mis dyma Ishmael (mab Nethaneia ac ŵyr i Elishama) yn mynd i gyfarfod â Gedaleia fab Achicam yn Mitspa. Roedd deg o ddynion eraill gydag e. (Roedd Ishmael yn perthyn i'r teulu brenhinol, ac roedd wedi bod yn un o brif swyddogion y Brenin Sedeceia.) Roedden nhw'n cael pryd o fwyd gyda'i gilydd yn Mitspa.
Jere WelBeibl 41:2  Ond yn sydyn dyma Ishmael a'r dynion oedd gydag e'n codi ac yn tynnu eu cleddyfau a lladd Gedaleia, y dyn roedd brenin Babilon wedi'i benodi i reoli'r wlad.
Jere WelBeibl 41:3  Lladdodd Ishmael hefyd bob un o swyddogion Jwda oedd gyda Gedaleia yn Mitspa, a rhai milwyr o Babilon oedd yn digwydd bod yno.
Jere WelBeibl 41:4  Y diwrnod wedyn, cyn i neb glywed fod Gedaleia wedi'i lofruddio,
Jere WelBeibl 41:5  dyma wyth deg o ddynion yn cyrraedd yno o Sichem, Seilo a Samaria. Roedden nhw wedi siafio'u barfau, rhwygo'u dillad a thorri eu hunain â chyllyll, ac yn dod ag offrymau o rawn ac arogldarth i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD yn y deml yn Jerwsalem.
Jere WelBeibl 41:6  Aeth Ishmael allan i'w cyfarfod nhw. Roedd yn cymryd arno ei fod yn crio. A phan ddaeth atyn nhw, dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dewch i weld Gedaleia fab Achicam.”
Jere WelBeibl 41:7  Ond pan aethon nhw i mewn i'r ddinas, dyma Ishmael a'r dynion oedd gydag e'n eu lladd nhw hefyd a thaflu eu cyrff i bydew.
Jere WelBeibl 41:8  Llwyddodd deg ohonyn nhw i arbed eu bywydau drwy ddweud wrth Ishmael, “Paid lladd ni. Mae gynnon ni stôr o wenith, haidd, olew a mêl wedi'i guddio mewn cae.” Felly wnaeth Ishmael ddim eu lladd nhw gyda'r lleill.
Jere WelBeibl 41:9  Roedd y pydew lle taflodd Ishmael gyrff y dynion laddwyd yn un mawr. (Dyma'r pydew oedd Asa, brenin Jwda, wedi'i adeiladu pan oedd yn amddiffyn y ddinas rhag Baasha, brenin Israel.) Ond roedd Ishmael wedi llenwi'r pydew gyda'r cyrff!
Jere WelBeibl 41:10  Yna, dyma Ishmael yn cymryd pawb oedd yn Mitspa yn gaeth – roedd hyn yn cynnwys merched o'r teulu brenhinol, a phawb arall roedd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, wedi'u gosod dan awdurdod Gedaleia fab Achicam. Cymerodd Ishmael nhw i gyd yn gaeth a chychwyn ar ei ffordd yn ôl i wlad Ammon.
Jere WelBeibl 41:11  Pan glywodd Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin am y pethau erchyll roedd Ishmael fab Nethaneia wedi'u gwneud,
Jere WelBeibl 41:12  dyma nhw'n mynd â'u milwyr i ymladd yn ei erbyn. Cawson nhw hyd iddo wrth y pwll mawr yn Gibeon.
Jere WelBeibl 41:13  Roedd y bobl roedd Ishmael wedi'u cymryd yn gaethion o Mitspa wrth eu boddau pan welon nhw Iochanan a swyddogion eraill y fyddin gydag e.
Jere WelBeibl 41:14  Dyma nhw'n troi a mynd drosodd at Iochanan fab Careach.
Jere WelBeibl 41:15  Ond llwyddodd Ishmael fab Nethaneia ac wyth o ddynion eraill i ddianc a chroesi drosodd i wlad Ammon.
Jere WelBeibl 41:16  Dyma Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin oedd gydag e yn arwain y bobl oedd wedi'u hachub i ffwrdd. (Roedd dynion, gwragedd a phlant, a swyddogion y llys yn eu plith, sef y bobl roedd Ishmael fab Nethaneia wedi'u cymryd yn gaeth o Mitspa ar ôl llofruddio Gedaleia fab Achicam.) Ar ôl gadael Gibeon,
Jere WelBeibl 41:17  dyma nhw'n aros yn Llety Cimham, sydd wrth ymyl Bethlehem. Y bwriad oedd mynd i'r Aifft
Jere WelBeibl 41:18  i ddianc oddi wrth y Babiloniaid. Roedd ganddyn nhw ofn beth fyddai'r Babiloniaid yn ei wneud am fod Ishmael fab Nethaneia wedi llofruddio Gedaleia, y dyn roedd brenin Babilon wedi'i benodi i reoli'r wlad.
Chapter 42
Jere WelBeibl 42:1  Dyma swyddogion y fyddin i gyd, gan gynnwys Iochanan fab Careach a Iesaneia fab Hoshaia, a phawb arall (y bobl gyffredin a'r arweinwyr)
Jere WelBeibl 42:2  yn mynd at y proffwyd Jeremeia, a gofyn iddo, “Plîs wnei di weddïo ar yr ARGLWYDD dy Dduw droson ni – fel ti'n gweld does ond criw bach ohonon ni ar ôl.
Jere WelBeibl 42:3  Gofyn i'r ARGLWYDD dy Dduw ddangos i ni ble i fynd a beth i'w wneud.”
Jere WelBeibl 42:4  A dyma Jeremeia yn ateb, “Iawn. Gwna i weddïo ar yr ARGLWYDD eich Duw fel dych chi'n gofyn, a dweud wrthoch chi bopeth fydd yr ARGLWYDD yn ei ddweud. Gwna i guddio dim byd.”
Jere WelBeibl 42:5  A dyma nhw'n ateb Jeremeia, “Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn dyst yn ein herbyn os na wnawn ni yn union beth fydd e'n ei ddweud wrthon ni drwot ti.
Jere WelBeibl 42:6  Dŷn ni'n dy anfon di at yr ARGLWYDD ein Duw, a sdim ots os fyddwn ni'n hoffi beth mae'n ei ddweud ai peidio, byddwn ni'n gwrando arno. Os gwnawn ni hynny, bydd popeth yn iawn.”
Jere WelBeibl 42:7  Ddeg diwrnod wedyn dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Jeremeia.
Jere WelBeibl 42:8  Felly, dyma Jeremeia yn galw am Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin, a gweddill y bobl – y bobl gyffredin a'r arweinwyr.
Jere WelBeibl 42:9  Yna, dyma Jeremeia'n dweud wrthyn nhw, “Anfonoch chi fi at yr ARGLWYDD, Duw Israel, gyda'ch cais; a dyma beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:
Jere WelBeibl 42:10  ‘Os gwnewch chi aros yn y wlad yma, bydda i'n eich adeiladu chi. Fydda i ddim yn eich bwrw chi i lawr. Bydda i'n eich plannu chi yn y tir yma, a ddim yn eich tynnu fel chwyn. Dw i'n wirioneddol drist o fod wedi'ch dinistrio chi.
Jere WelBeibl 42:11  Ond bellach does dim rhaid i chi fod ag ofn brenin Babilon. Peidiwch bod â'i ofn, achos dw i gyda chi, i'ch achub chi o'i afael.
Jere WelBeibl 42:12  Dw i'n mynd i fod yn garedig atoch chi, a gwneud iddo fe fod yn garedig atoch chi drwy adael i chi fynd yn ôl i'ch tir.’
Jere WelBeibl 42:13  “Os byddwch chi'n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw, a mynnu, ‘Na, dŷn ni ddim am aros yma,
Jere WelBeibl 42:14  dŷn ni am fynd i wlad yr Aifft i fyw. Fydd dim rhaid i ni wynebu rhyfel yno, a chlywed sŵn y corn hwrdd yn ein galw i ymladd. Fydd dim rhaid i ni lwgu yno …’
Jere WelBeibl 42:15  Os dyna wnewch chi, dyma neges yr ARGLWYDD i chi sydd ar ôl o bobl Jwda. Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel yn ei ddweud: ‘Os ydych chi mor benderfynol o fynd i'r Aifft a setlo yno,
Jere WelBeibl 42:16  bydd y rhyfel dych chi'n ei ofni yn eich dilyn chi i wlad yr Aifft. Bydd y newyn dych chi'n poeni amdano yn dod ar eich hôl chi hefyd, a byddwch chi'n marw yno.
Jere WelBeibl 42:17  Bydd pawb sy'n penderfynu mynd i setlo yn yr Aifft yn cael eu lladd mewn rhyfel, neu yn marw o newyn neu haint. Bydd y dinistr fydda i'n ei anfon arnyn nhw mor ofnadwy fel na fydd neb ar ôl yn fyw.’
Jere WelBeibl 42:18  “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Yn union fel gwnes i dywallt fy llid mor ffyrnig ar bobl Jerwsalem, bydda i'n tywallt fy llid arnoch chi pan ewch chi i'r Aifft. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd i chi, a byddwch yn destun sbort ac yn esiampl o bobl wedi'ch melltithio. A fyddwch chi ddim yn gweld y lle yma byth eto.’
Jere WelBeibl 42:19  “Chi bobl Jwda sydd ar ôl yma, mae'r ARGLWYDD yn dweud wrthoch chi, ‘Peidiwch mynd i'r Aifft.’ Dw i am i chi ddeall fy mod i wedi'ch rhybuddio chi heddiw.
Jere WelBeibl 42:20  Dych chi'n gwneud camgymeriad dybryd. Bydd yn costio'ch bywydau i chi! Chi anfonodd fi at yr ARGLWYDD Dduw. ‘Gweddïa ar yr ARGLWYDD ein Duw droson ni,’ meddech chi. ‘Dwed wrthon ni beth mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei ddweud, ac fe wnawn ni hynny.’
Jere WelBeibl 42:21  Wel, dyma fi wedi dweud wrthoch chi heddiw, ond dych chi ddim am wrando. Dych chi ddim am wneud beth mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi fy anfon i i'w ddweud wrthoch chi.
Jere WelBeibl 42:22  Felly dw i eisiau i chi ddeall y byddwch chi'n cael eich lladd â'r cleddyf, neu'n marw o newyn a haint yn y lle dych chi'n bwriadu mynd i fyw.”
Chapter 43
Jere WelBeibl 43:1  Pan oedd Jeremeia wedi gorffen dweud wrth y bobl beth oedd neges yr ARGLWYDD eu Duw iddyn nhw,
Jere WelBeibl 43:2  dyma Asareia fab Hoshaia, Iochanan fab Careach a dynion eraill oedd yn meddwl eu bod nhw'n gwybod yn well yn ateb Jeremeia, “Ti'n dweud celwydd! Dydy'r ARGLWYDD ein Duw ddim wedi dweud wrthon ni am beidio mynd i fyw i'r Aifft.
Jere WelBeibl 43:3  Barŵch fab Nereia sydd wedi dy annog di i ddweud hyn, er mwyn i'r Babiloniaid ein dal ni, a'n lladd neu ein cymryd ni'n gaeth i Babilon.”
Jere WelBeibl 43:4  Felly, wnaeth Iochanan fab Careach a swyddogion y fyddin a gweddill y bobl ddim aros yn Jwda fel y dwedodd yr ARGLWYDD wrthyn nhw.
Jere WelBeibl 43:5  Dyma Iochanan a'r swyddogion eraill yn mynd â'r bobl oedd ar ôl yn Jwda gyda nhw i'r Aifft. (Roedd ffoaduriaid gyda nhw, sef y rhai oedd wedi dod yn ôl i fyw yn Jwda o'r gwledydd lle roedden nhw wedi dianc.
Jere WelBeibl 43:6  Hefyd y bobl roedd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, wedi'u gadael yng ngofal Gedaleia – dynion, gwragedd, plant, a merched o'r teulu brenhinol. Aethon nhw hyd yn oed â'r proffwyd Jeremeia a Barŵch fab Nereia gyda nhw.)
Jere WelBeibl 43:7  Aethon nhw i'r Aifft am eu bod nhw'n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD. A dyma nhw'n cyrraedd Tachpanches.
Jere WelBeibl 43:8  Yn Tachpanches dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jeremeia:
Jere WelBeibl 43:9  “Cymer gerrig mawr a'u claddu nhw dan y pafin morter sydd o flaen y fynedfa i balas y Pharo yn Tachpanches. Dw i eisiau i bobl Jwda dy weld ti'n gwneud hyn.
Jere WelBeibl 43:10  Wedyn dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i anfon am fy ngwas Nebwchadnesar, brenin Babilon. Dw i'n mynd i osod ei orsedd e ar y cerrig yma dw i wedi'u claddu, a bydd e'n codi canopi drosti.
Jere WelBeibl 43:11  Mae e'n dod i daro gwlad yr Aifft. Bydd y rhai sydd i farw o haint yn marw o haint. Bydd y rhai sydd i'w cymryd yn gaeth yn cael eu cymryd yn gaeth. Bydd y rhai sydd i farw yn y rhyfel yn marw yn y rhyfel.
Jere WelBeibl 43:12  Bydd e'n rhoi temlau duwiau'r Aifft ar dân. Bydd e'n llosgi'r delwau neu'n mynd â nhw i ffwrdd. Bydd e'n clirio gwlad yr Aifft yn lân fel bugail yn pigo'r llau o'i ddillad. Wedyn bydd e'n gadael y lle heb gael unrhyw niwed.
Jere WelBeibl 43:13  Bydd e'n malu obelisgau Heliopolis, ac yn llosgi temlau duwiau'r Aifft yn ulw.’”
Chapter 44
Jere WelBeibl 44:1  Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am bobl Jwda oedd yn byw yn yr Aifft, yn Migdol ger Tachpanches, a Memffis yn y gogledd, a thir Pathros i'r de hefyd:
Jere WelBeibl 44:2  “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi gweld y dinistr anfonais i ar Jerwsalem a threfi Jwda i gyd. Pentwr o gerrig ydyn nhw bellach, a does neb yn byw ynddyn nhw.
Jere WelBeibl 44:3  Digwyddodd hyn i gyd am fod y bobl yno wedi gwneud cymaint o ddrwg, a'm gwylltio i drwy addoli duwiau eraill a llosgi arogldarth iddyn nhw. Duwiau oedden nhw doeddech chi na'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw.
Jere WelBeibl 44:4  Rôn i'n anfon fy ngweision y proffwydi atoch chi dro ar ôl tro, yn pledio arnoch chi i beidio ymddwyn mor ffiaidd am fy mod i'n casáu'r fath beth!
Jere WelBeibl 44:5  Ond wnaethoch chi ddim gwrando na chymryd unrhyw sylw ohono i. Wnaeth y bobl ddim troi cefn ar eu drygioni na stopio offrymu i'r duwiau eraill.
Jere WelBeibl 44:6  Felly, dyma fi'n tywallt fy llid yn ffyrnig arnyn nhw – roedd fel tân yn llosgi drwy drefi Jwda a strydoedd Jerwsalem. Dyna pam maen nhw'n adfeilion diffaith hyd heddiw.’
Jere WelBeibl 44:7  “Felly nawr mae'r ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, Duw Israel, yn gofyn: ‘Pam dych chi'n dal ati i wneud niwed i chi'ch hunain? Pam ddylai pob dyn, gwraig, plentyn a babi bach gael eu cipio i ffwrdd o Jwda, fel bod neb o gwbl ar ôl?
Jere WelBeibl 44:8  Pam dych chi'n fy ngwylltio i drwy addoli eilunod dych chi eich hunain wedi'u cerfio? Ac yma yn yr Aifft, lle daethoch chi i fyw, dych chi'n llosgi arogldarth i dduwiau eraill. Ydych chi eisiau cael eich torri i ffwrdd? Ydych chi eisiau bod yn esiampl o bobl wedi'u melltithio ac yn destun sbort yng ngolwg y gwledydd i gyd?
Jere WelBeibl 44:9  Ydych chi wedi anghofio'r holl ddrwg wnaeth eich hynafiaid yng ngwlad Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem – y drwg wnaeth brenhinoedd Jwda a'u gwragedd, a chi eich hunain a'ch gwragedd?
Jere WelBeibl 44:10  Does neb wedi dangos eu bod nhw'n sori o gwbl! Does neb wedi dangos parch ata i, na byw'n ffyddlon i'r ddysgeidiaeth a'r rheolau rois i i chi a'ch hynafiaid.’
Jere WelBeibl 44:11  “Felly dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n bendant yn mynd i ddod â dinistr arnoch chi. Dw i'n mynd i gael gwared â chi'n llwyr.
Jere WelBeibl 44:12  Byddwch chi i gyd yn marw – pawb oedd ar ôl yn Jwda ac a wnaeth benderfynu dod i fyw i'r Aifft, yn bobl gyffredin ac arweinwyr. Byddwch chi i gyd yn cael eich lladd yn y rhyfel neu'n marw o newyn. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd i chi, a byddwch yn destun sbort ac yn esiampl o bobl wedi'ch melltithio.
Jere WelBeibl 44:13  Dw i'n mynd i gosbi'r rhai sy'n byw yn yr Aifft, fel gwnes i gosbi pobl Jerwsalem. Dw i'n mynd i'w taro nhw gyda rhyfel, newyn a haint.
Jere WelBeibl 44:14  Fydd neb o bobl Jwda oedd ar ôl ag a aeth i lawr i'r Aifft yn dianc. Maen nhw'n hiraethu am gael mynd yn ôl i wlad Jwda, ond gân nhw ddim – ar wahân i lond dwrn o ffoaduriaid.’”
Jere WelBeibl 44:15  Dyma'r dynion oedd yn gwybod bod eu gwragedd wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a'r gwragedd oedd yno hefyd, yn ateb Jeremeia. (Roedd tyrfa fawr ohonyn nhw – sef pobl Jwda oedd yn byw yn Pathros, de'r Aifft.)
Jere WelBeibl 44:16  “Ti'n dweud dy fod ti'n siarad ar ran yr ARGLWYDD. Wel, dŷn ni ddim yn mynd i wrando arnat ti!
Jere WelBeibl 44:17  Dŷn ni wedi addo llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i'r dduwies ‛Brenhines y Nefoedd‛. Roedd ein hynafiaid a'n brenhinoedd a'n harweinwyr yn gwneud hynny yn nhrefi Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem, a bryd hynny roedd gynnon ni ddigon o fwyd, roedd pethau'n dda arnon ni a doedd dim trafferthion.
Jere WelBeibl 44:18  Ond ers i ni stopio llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod iddi, dŷn ni wedi bod mewn angen – mae llawer o'n pobl ni wedi cael eu lladd yn y rhyfel neu wedi marw o newyn.”
Jere WelBeibl 44:19  A dyma'r gwragedd oedd yno'n dweud, “Mae'n wir ein bod ni wedi bod yn llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i Frenhines y Nefoedd, ond wyt ti'n meddwl ein bod ni wedi bod yn gwneud cacennau a thywallt offrwm o ddiod iddi heb fod ein gwŷr yn gwybod am y peth ac yn ein cefnogi?”
Jere WelBeibl 44:20  A dyma Jeremeia yn eu hateb nhw, y dynion a'u gwragedd:
Jere WelBeibl 44:21  “Wnaeth yr ARGLWYDD ddim anghofio'r arogldarth wnaethoch chi ei losgi i eilun-dduwiau ar strydoedd Jerwsalem. Roeddech chi a'ch hynafiaid, eich brenhinoedd a'ch swyddogion, a'r bobl gyffredin yn gwneud hynny.
Jere WelBeibl 44:22  A doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu diodde'r holl ddrwg a'r pethau ffiaidd roeddech chi'n eu gwneud. Cafodd y wlad ei dinistrio a'i difetha'n llwyr ganddo. Cafodd ei gwneud yn esiampl o wlad wedi'i melltithio. Does neb yn byw yno heddiw.
Jere WelBeibl 44:23  Am eich bod chi wedi llosgi arogldarth i dduwiau eraill, am eich bod chi wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD a gwrthod gwrando arno, am eich bod chi ddim wedi byw fel dysgodd e chi a chadw ei reolau a'i ddeddfau – dyna pam mae'r dinistr yma wedi digwydd.”
Jere WelBeibl 44:24  Yna, dyma Jeremeia yn dweud fel hyn wrthyn nhw, yn arbennig y gwragedd: “Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, chi bobl Jwda sydd yng ngwlad yr Aifft.
Jere WelBeibl 44:25  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi'r gwragedd wedi gwneud yn union beth roeddech chi'n ei ddweud! Roeddech chi'n dweud eich bod chi wedi addo llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i Frenhines y Nefoedd, ac mai dyna oeddech chi'n mynd i'w wneud. Iawn! Ewch ymlaen! Cadwch eich gair!’
Jere WelBeibl 44:26  Ond gwrandwch ar beth sydd gan yr ARGLWYDD i'w ddweud wrthoch chi: ‘Dw i wedi tyngu llw i'm henw mawr fy hun,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fydd neb o bobl Jwda sydd yn yr Aifft yn galw arna i na dweud, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD, ein Meistr, yn fyw …”
Jere WelBeibl 44:27  Dw i'n gwylio, i wneud yn siŵr mai drwg fydd yn digwydd iddyn nhw, dim da. Byddan nhw'n cael eu lladd yn y rhyfel ac yn marw o newyn. Fydd neb ar ôl!
Jere WelBeibl 44:28  Ychydig iawn iawn fydd yn llwyddo i ddianc rhag y cleddyf. Byddan nhw'n mynd yn ôl o'r Aifft i wlad Jwda. Bydd y bobl o Jwda ddaeth i fyw i wlad yr Aifft yn gwybod mai beth dw i'n ddweud sy'n wir, nid beth maen nhw'n ddweud!
Jere WelBeibl 44:29  Byddwch chi'n gwybod wedyn fod y dinistr dw i'n ei fygwth yn mynd i ddigwydd. A dyma'r prawf fy mod i'n mynd i'ch cosbi chi,’ meddai'r ARGLWYDD:
Jere WelBeibl 44:30  ‘Dw i'n mynd i roi Pharo Hoffra, brenin yr Aifft, yng ngafael y gelynion sydd eisiau ei ladd. Bydd yn union fel y gwnes i i Sedeceia, brenin Jwda, pan gafodd ei ddal gan Nebwchadnesar, brenin Babilon, oedd am ei ladd e.’”
Chapter 45
Jere WelBeibl 45:1  Dyma'r proffwyd Jeremeia yn rhoi neges i Barŵch fab Nereia, oedd yn ysgrifennu'r cwbl roedd Jeremeia'n ei ddweud mewn sgrôl. (Roedd hyn yn ystod y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda):
Jere WelBeibl 45:2  “Barŵch, rwyt ti'n dweud, ‘Mae hi ar ben arna i! Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi tristwch ar ben y boen oedd yna'n barod! Dw i wedi blino tuchan. Alla i ddim gorffwys.’ Wel, dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud wrthot ti:
Jere WelBeibl 45:3  “Barŵch, rwyt ti'n dweud, ‘Mae hi ar ben arna i! Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi tristwch ar ben y boen oedd yna'n barod! Dw i wedi blino tuchan. Alla i ddim gorffwys.’ Wel, dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud wrthot ti:
Jere WelBeibl 45:4  ‘Dw i'n mynd i fwrw i lawr beth dw i wedi'i adeiladu, a thynnu o'r gwraidd beth dw i wedi'i blannu. Bydda i'n gwneud hyn drwy'r byd i gyd.
Jere WelBeibl 45:5  Ddylet ti ddim disgwyl pethau mawr i ti dy hun. Dw i'n dod â dinistr ar y ddynoliaeth gyfan. Ond bydda i'n dy gadw di'n fyw ble bynnag ei di.’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Chapter 46
Jere WelBeibl 46:1  Y negeseuon roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y gwledydd eraill.
Jere WelBeibl 46:2  Dyma'r neges am yr Aifft, ac am fyddin Pharo Necho, brenin yr Aifft, oedd yn gwersylla yn Carcemish ar lan afon Ewffrates. (Cafodd y fyddin ei threchu gan Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda):
Jere WelBeibl 46:4  Harneisiwch y ceffylau i'r cerbydau! Ar gefnau eich stalwyni! Helmedau ymlaen! Pawb i'w le! Rhowch fin ar eich picellau! Arfwisg ymlaen!”
Jere WelBeibl 46:5  “Ond beth dw i'n weld?” meddai'r ARGLWYDD. “Maen nhw wedi dychryn. Maen nhw'n ffoi. Mae'r milwyr dewr yn syrthio. Maen nhw'n dianc am eu bywydau, heb edrych yn ôl.” Does ond dychryn ym mhobman!
Jere WelBeibl 46:6  Dydy'r cyflymaf ddim yn gallu dianc; dydy'r cryfaf ddim yn llwyddo i ffoi. Maen nhw'n baglu ac yn syrthio ar lan afon Ewffrates yn y gogledd.
Jere WelBeibl 46:7  Pwy ydy'r wlad sy'n codi fel afon Nîl a'r afonydd sy'n llifo iddi, ac yn gorlifo?
Jere WelBeibl 46:8  Yr Aifft sy'n codi ac yn brolio ei bod yn mynd i orchuddio'r ddaear fel llifogydd, a dinistrio dinasoedd a'u pobl.
Jere WelBeibl 46:9  “Ymlaen! Rhuthrwch i'r frwydr, farchogion! Gyrrwch yn wyllt yn eich cerbydau! Martsiwch yn eich blaenau, filwyr traed – y cynghreiriaid o Affrica a Libia gyda'u tarianau; a'r rhai o Lydia sy'n trin bwa saeth.”
Jere WelBeibl 46:10  Ond mae beth fydd yn digwydd y diwrnod hwnnw yn llaw'r Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus. Diwrnod o dalu'n ôl i'w elynion. Bydd y cleddyf yn difa nes cael digon; bydd wedi meddwi ar eu gwaed! Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus, yn eu cyflwyno nhw'n aberth ar lan afon Ewffrates yn y gogledd.
Jere WelBeibl 46:11  Dos i fyny i Gilead i chwilio am eli, o wyryf annwyl yr Aifft! Gelli drio pob moddion dan haul, ond i ddim pwrpas – does dim gwella i fod i ti!
Jere WelBeibl 46:12  Bydd y gwledydd yn clywed am dy gywilydd. Bydd sŵn dy gri am help yn mynd drwy'r byd i gyd. Bydd dy filwyr cryfaf yn baglu dros ei gilydd, ac yn syrthio gyda'i gilydd!
Jere WelBeibl 46:13  Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod i ymosod ar wlad yr Aifft:
Jere WelBeibl 46:14  “Cyhoeddwch hyn drwy wlad yr Aifft, yn Migdol, Memffis a Tachpanches: ‘Pawb i'w le! Byddwch barod i amddiffyn! Mae pobman o'ch cwmpas yn cael ei ddinistrio gan y gelyn.’
Jere WelBeibl 46:15  Pam mae dy dduw Apis wedi ffoi? Pam wnaeth dy darw ddim dal ei dir? Am fod yr ARGLWYDD wedi'i fwrw i lawr!
Jere WelBeibl 46:16  Gwnaeth i lu o filwyr syrthio a baglu dros ei gilydd wrth geisio dianc. ‘Gadewch i ni fynd yn ôl at ein pobl,’ medden nhw. ‘Mynd yn ôl i'n gwledydd ein hunain, a dianc rhag i'r gelyn ein lladd!’
Jere WelBeibl 46:17  Bydd y Pharo, brenin yr Aifft, yn cael y llysenw ‘Ceg fawr wedi colli ei gyfle’.”
Jere WelBeibl 46:18  “Mor sicr â'm bod i fy hun yn fyw,” meddai'r Brenin (yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw e), “mae'r gelyn yn dod i ymosod ar yr Aifft. Bydd yn sefyll fel Mynydd Tabor yng nghanol y bryniau, neu Fynydd Carmel ar lan y môr.
Jere WelBeibl 46:19  ‘Paciwch eich bagiau, bobl yr Aifft, yn barod i'ch cymryd yn gaeth!’ Mae Memffis yn mynd i gael ei difetha; bydd yn adfeilion gyda neb yn byw yno.
Jere WelBeibl 46:20  Mae'r Aifft fel heffer a golwg da arni, ond bydd haid o bryfed o'r gogledd yn dod a'i phigo.
Jere WelBeibl 46:21  Mae'r milwyr tâl sydd yn ei chanol fel lloi wedi'u pesgi. Ond byddan nhw hefyd yn troi a dianc gyda'i gilydd; wnân nhw ddim sefyll eu tir. Mae'r dydd y cân nhw eu dinistrio wedi dod; mae'n bryd iddyn nhw gael eu cosbi.
Jere WelBeibl 46:22  Mae'r Aifft fel neidr yn llithro i ffwrdd yn dawel, tra mae byddin y gelyn yn martsio'n hyderus. Maen nhw'n dod yn ei herbyn gyda bwyeill, fel dynion yn mynd i dorri coed.
Jere WelBeibl 46:23  Bydd yr Aifft fel coedwig drwchus yn cael ei thorri i lawr, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Mae'r dyrfa sy'n dod yn ei herbyn fel haid o locustiaid! Mae'n amhosib eu cyfri nhw!
Jere WelBeibl 46:24  Bydd pobl yr Aifft yn cael eu cywilyddio. Byddan nhw'n cael eu concro gan fyddin o'r gogledd.”
Jere WelBeibl 46:25  Mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn dweud: “Dw i'n mynd i gosbi Amon, sef duw Thebes, a chosbi'r Aifft, ei duwiau a'i brenhinoedd. Dw i'n mynd i gosbi'r Pharo, a phawb sy'n ei drystio fe.
Jere WelBeibl 46:26  Dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn nwylo'r rhai sydd eisiau eu lladd nhw – sef Nebwchadnesar, brenin Babilon, a'i filwyr. Ond ar ôl hynny bydd pobl yn byw yng ngwlad yr Aifft fel o'r blaen,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 46:27  “Felly, peidiwch bod ag ofn, bobl Jacob, fy ngweision,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Peidiwch anobeithio, bobl Israel. Dw i'n mynd i'ch achub chi a'ch plant o'r wlad bell lle buoch yn gaeth. Bydd pobl Jacob yn dod yn ôl adre ac yn mwynhau heddwch. Byddan nhw'n teimlo'n saff a fydd neb yn eu dychryn nhw.
Jere WelBeibl 46:28  Peidiwch bod ag ofn, bobl Jacob, fy ngweision,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, “dw i gyda chi. Dw i'n mynd i ddinistrio'r gwledydd hynny lle gwnes i eich gyrru chi ar chwâl, ond wna i ddim eich dinistrio chi. Bydda i'n eich disgyblu chi, ond dim ond faint dych chi'n ei haeddu; alla i ddim peidio'ch cosbi chi o gwbl.”
Chapter 47
Jere WelBeibl 47:1  Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y Philistiaid, cyn i'r Pharo ymosod ar Gasa.
Jere WelBeibl 47:2  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Edrychwch! Mae'r gelynion yn codi yn y gogledd fel afon ar fin gorlifo. Byddan nhw'n dod fel llifogydd i orchuddio'r tir. Byddan nhw'n dinistrio'r wlad a phopeth ynddi, y trefi a phawb sy'n byw ynddyn nhw. Bydd pobl yn gweiddi mewn dychryn, a phopeth byw yn griddfan mewn poen.
Jere WelBeibl 47:3  Bydd sŵn y ceffylau'n carlamu, y cerbydau'n clecian, a'r olwynion yn rymblan. Bydd rhieni'n ffoi am eu bywydau heb feddwl troi'n ôl i geisio achub eu plant am fod arnyn nhw gymaint o ofn.
Jere WelBeibl 47:4  Mae'r diwrnod wedi dod i'r Philistiaid gael eu dinistrio, a'r cynghreiriaid sydd ar ôl yn Tyrus a Sidon. Ydw, dw i'r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio'r Philistiaid, y bobl ddaeth drosodd o ynys Creta.
Jere WelBeibl 47:5  Bydd pobl Gasa yn siafio'u pennau mewn galar, a phobl Ashcelon yn cael eu taro'n fud. Am faint ydych chi sydd ar ôl ar y gwastatir yn mynd i ddal ati i dorri eich hunain â chyllyll?”
Jere WelBeibl 47:6  Y bobl: “O! gleddyf yr ARGLWYDD, am faint wyt ti'n mynd i ddal ati i ladd? Dos yn ôl i'r wain! Aros yno, a gorffwys!”
Jere WelBeibl 47:7  Jeremeia: “Ond sut mae'n gallu gorffwys pan mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo? Fe sydd wedi dweud wrtho am ymosod ar dref Ashcelon a phobl yr arfordir.”
Chapter 48
Jere WelBeibl 48:1  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Moab: “Mae hi ar ben ar dref Nebo! Bydd hi'n cael ei dinistrio. Bydd Ciriathaim yn cael ei chywilyddio a'i choncro – bydd y gaer yn cael ei chywilyddio a'i bwrw i lawr.
Jere WelBeibl 48:2  Fydd Moab ddim yn cael ei hedmygu eto! Bu cynllwynio yn Cheshbon i'w dinistrio: ‘Dewch! Gadewch i ni roi diwedd ar y wlad!’ Tref Madmen, cei dithau dy dawelu – does dim dianc rhag y rhyfel i fod.
Jere WelBeibl 48:3  Gwrandwch ar y gweiddi yn Choronaïm! ‘Dinistr llwyr! Mae'n adfeilion!’
Jere WelBeibl 48:4  Mae Moab wedi'i dryllio! Bydd ei phlant yn gweiddi allan.
Jere WelBeibl 48:5  Byddan nhw'n dringo llethrau Lwchith ac yn wylo'n chwerw wrth fynd. Ar y ffordd i lawr i Choronaïm bydd sŵn pobl yn gweiddi mewn dychryn.
Jere WelBeibl 48:6  ‘Ffowch am eich bywydau! Byddwch fel prysglwyn unig yn yr anialwch.’
Jere WelBeibl 48:7  Am dy fod wedi trystio dy ymdrechion a dy gyfoeth dy hun, byddi di hefyd yn cael dy goncro. Bydd dy dduw Chemosh yn cael ei gymryd i ffwrdd, a'i offeiriaid a'i swyddogion gydag e.
Jere WelBeibl 48:8  Mae'r gelyn sy'n dinistrio yn dod i daro'r trefi i gyd; fydd dim un yn dianc. Bydd trefi'r dyffryn yn cael eu dinistrio, a'r trefi ar y byrdd-dir uchel hefyd. Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud.
Jere WelBeibl 48:9  Cod garreg fedd i Moab, achos bydd yn cael ei throi'n adfeilion. Bydd ei threfi'n cael eu dinistrio a fydd neb yn byw ynddyn nhw.”
Jere WelBeibl 48:10  (Melltith ar unrhyw un sy'n ddiog wrth wneud gwaith yr ARGLWYDD! Melltith ar unrhyw un sydd ddim yn defnyddio'i gleddyf i dywallt gwaed!)
Jere WelBeibl 48:11  “Mae Moab wedi teimlo'n saff o'r dechrau cyntaf. Mae hi wedi cael llonydd, fel gwin wedi hen setlo a heb gael ei dywallt o un jar i'r llall. Dydy hi erioed wedi cael ei chymryd yn gaeth; mae fel gwin sydd wedi cadw ei flas a'i arogl.
Jere WelBeibl 48:12  “Ond mae'r amser yn dod pan fydda i'n anfon dynion i'w selar i'w thywallt allan a malu'r jariau'n ddarnau,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 48:13  “Bydd gan Moab gywilydd o'i heilun-dduw Chemosh, fel roedd gan Israel gywilydd o'r llo roedd yn ei drystio yn Bethel.
Jere WelBeibl 48:14  Mae dynion Moab yn brolio, ‘Dŷn ni'n arwyr! Dŷn ni'n filwyr cryf!’
Jere WelBeibl 48:15  Ond mae'r un sy'n dinistrio Moab yn dod. Bydd ei threfi'n cael eu concro, a'i milwyr ifanc gorau'n cael eu lladd,” —y Brenin, sef yr ARGLWYDD hollbwerus, sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 48:16  “Mae dinistr Moab ar fin digwydd; mae'r drwg ddaw arni'n dod yn fuan.
Jere WelBeibl 48:17  Galarwch drosti, chi wledydd sydd o'i chwmpas a phawb sy'n gwybod amdani. Dwedwch, ‘O! Mae ei grym wedi'i golli; mae'r deyrnwialen hardd wedi'i thorri!’
Jere WelBeibl 48:18  Dewch i lawr o'ch safle balch ac eistedd yn y baw, chi sy'n byw yn Dibon. Bydd yr un fydd yn dinistrio Moab yn ymosod ac yn dymchwel y caerau sy'n eich amddiffyn.
Jere WelBeibl 48:19  Chi sy'n byw yn Aroer, safwch ar ochr y ffordd yn gwylio. Gofynnwch i'r dynion a'r merched sy'n dianc, ‘Beth sydd wedi digwydd?’
Jere WelBeibl 48:20  Byddan nhw'n ateb: ‘Mae Moab wedi'i chywilyddio – mae wedi'i choncro.’ Udwch a chrio! Cyhoeddwch ar lan afon Arnon ‘Mae Moab wedi'i dinistrio.’”
Jere WelBeibl 48:21  Mae trefi'r byrdd-dir i gael eu barnu – Cholon, Iahats, Meffaäth,
Jere WelBeibl 48:24  Cerioth a Bosra. Bydd trefi Moab i gyd yn cael eu cosbi – pell ac agos.
Jere WelBeibl 48:25  “Mae corn Moab wedi'i dorri, a'i nerth wedi dod i ben,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 48:26  Roedd Moab yn brolio ei bod yn well na'r ARGLWYDD. Ond bydd fel meddwyn yn rholio yn ei chwŷd. Bydd pawb yn chwerthin ar ei phen!
Jere WelBeibl 48:27  Onid chi, bobl Moab, oedd yn chwerthin ar ben Israel? Roeddech yn ei thrin fel petai'n lleidr, ac yn ysgwyd eich pennau bob tro roedd rhywun yn sôn amdani.
Jere WelBeibl 48:28  Bobl Moab, gadewch eich trefi a mynd i fyw yn y creigiau, fel colomennod yn nythu ar y clogwyni uwchben y ceunant.
Jere WelBeibl 48:29  Dŷn ni wedi clywed am falchder Moab – mae ei phobl mor falch: yn hunandybus, yn brolio, yn snobyddlyd, ac mor llawn ohoni ei hun!
Jere WelBeibl 48:30  “Dw innau'n gwybod mor filain ydy hi,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Mae ei brolio hi'n wag ac yn cyflawni dim byd!
Jere WelBeibl 48:31  Felly, bydda i'n udo dros bobl Moab. Bydda i'n crio dros Moab gyfan, ac yn griddfan dros bobl Cir-cheres.
Jere WelBeibl 48:32  Bydda i'n wylo dros winwydden Sibma mwy na mae tref Iaser yn wylo drosti. Roedd ei changhennau'n ymestyn i'r Môr Marw ar un adeg; roedden nhw'n cyrraedd mor bell â Iaser. Ond mae'r gelyn sy'n dinistrio'n mynd i ddifetha ei chnydau o ffigys a grawnwin.
Jere WelBeibl 48:33  Bydd pleser a llawenydd yn diflannu'n llwyr o dir ffrwythlon Moab. Bydda i'n stopio'r gwin rhag llifo i'r cafnau; fydd neb yn gweiddi'n llawen wrth sathru'r grawnwin – bydd gweiddi, ond bydd y gweiddi'n wahanol.
Jere WelBeibl 48:34  “Bydd y gweiddi a'r galar yn Cheshbon i'w clywed yn Elealê a hyd yn oed Iahats. Bydd y sŵn i'w glywed o Soar i Choronaïm ac Eglath-shalisheia. Bydd hyd yn oed dŵr Nimrim yn cael ei sychu.
Jere WelBeibl 48:35  Fydd neb yn mynd i fyny i aberthu ar yr allorau paganaidd ac yn llosgi arogldarth i dduwiau Moab,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 48:36  “Felly bydd fy nghalon yn griddfan fel pibau dros Moab. Pibau chwyth yn canu cân i alaru dros bobl Cir-cheres. Bydd y cyfoeth wnaethon nhw ei gasglu'n diflannu.
Jere WelBeibl 48:37  “Bydd pawb wedi siafio'r pen a'r farf. Bydd pawb wedi torri eu dwylo â chyllyll, ac yn gwisgo sachliain.
Jere WelBeibl 48:38  Fydd dim byd ond galaru i'w glywed ar bennau'r tai ac yn y sgwariau. Dw i'n mynd i dorri Moab fel potyn pridd does neb ei eisiau,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 48:39  “Bydd wedi'i dorri'n deilchion! Bydd y bobl yn udo! Bydd Moab yn troi ei chefn mewn cywilydd! Bydd yn destun sbort ac yn olygfa ddychrynllyd i'r gwledydd o'i chwmpas.”
Jere WelBeibl 48:40  Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Edrychwch! Bydd y gelyn fel eryr yn lledu ei adenydd ac yn plymio i lawr ar Moab.
Jere WelBeibl 48:41  Bydd ei threfi'n cael eu meddiannu, a'r caerau sy'n ei hamddiffyn yn cael eu dal. Y diwrnod hwnnw bydd milwyr Moab wedi dychryn fel gwraig ar fin cael babi!
Jere WelBeibl 48:42  Bydd Moab yn cael ei dinistrio ac yn peidio â bod yn genedl, am ei bod hi wedi brolio ei bod yn well na'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 48:43  Panig, pydew a thrap sydd o'ch blaenau chi, bobl Moab! —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 48:44  Bydd pawb sy'n ffoi mewn dychryn yn disgyn i dwll. A bydd pawb sy'n dringo o'r twll yn cael eu dal mewn trap! Mae'r amser wedi dod i mi gosbi Moab, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 48:45  Bydd ffoaduriaid yn sefyll wedi ymlâdd dan gysgod waliau Cheshbon. Mae tân wedi lledu o Cheshbon, fflamau o diriogaeth y Brenin Sihon. Mae'n llosgi ar hyd ffiniau Moab i ben y mynyddoedd yng ngwlad y bobl ryfelgar.
Jere WelBeibl 48:46  Mae hi ar ben arnat ti, Moab! Dych chi, bobl sy'n addoli Chemosh, wedi'ch difa. Mae eich meibion yn garcharorion, a'ch merched wedi'u cymryd yn gaethion.
Jere WelBeibl 48:47  Ond yn y dyfodol, bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Moab yn ôl iddi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Dyma ddiwedd y neges o farn ar Moab.
Chapter 49
Jere WelBeibl 49:1  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am bobl Ammon: “Oes gan Israel ddim disgynyddion? Oes neb ohonyn nhw ar ôl i etifeddu'r tir? Ai dyna pam dych chi sy'n addoli Milcom wedi dwyn tir Gad a setlo yn ei drefi?
Jere WelBeibl 49:2  Felly, mae'r amser yn dod,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, “pan fydd sŵn rhyfel i'w glywed yn Rabba. Bydd prifddinas Ammon yn domen o adfeilion, a bydd ei phentrefi yn cael eu llosgi'n ulw. Wedyn bydd Israel yn cymryd ei thir yn ôl gan y rhai gymrodd ei thir oddi arni,” —meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 49:3  “Udwch, bobl Cheshbon, am fod Ai wedi'i bwrw i lawr! Gwaeddwch, chi sydd yn y pentrefi o gwmpas Rabba! Gwisgwch sachliain a galarwch! Rhedwch o gwmpas yn anafu eich hunain! Bydd eich duw Milcom yn cael ei gymryd i ffwrdd, a'i offeiriaid a'i swyddogion gydag e!
Jere WelBeibl 49:4  Pam dych chi'n brolio eich bod mor gryf? Mae eich cryfder yn diflannu, bobl anffyddlon! Roeddech yn trystio eich cyfoeth ac yn meddwl, ‘Pwy fyddai'n meiddio ymosod arnon ni?’
Jere WelBeibl 49:5  Wel, dw i'n mynd i dy ddychryn di o bob cyfeiriad,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus. “Byddi'n cael dy yrru ar chwâl, a fydd neb yna i helpu'r ffoaduriaid.
Jere WelBeibl 49:6  “Ond wedyn bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Ammon yn ôl iddi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 49:7  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud am Edom: “Oes rhywun doeth ar ôl yn Teman? Oes neb call ar ôl i roi cyngor? Ydy eu doethineb nhw wedi diflannu?
Jere WelBeibl 49:8  Ffowch! Trowch yn ôl! Ewch i guddio'n bell, bobl Dedan! Dw i'n dod â dinistr ar ddisgynyddion Esau, mae'n amser i mi eu cosbi.
Jere WelBeibl 49:9  Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti, oni fydden nhw'n gadael rhywbeth i'w loffa? Petai lladron yn dod yn y nos, fydden nhw ond yn dwyn beth roedden nhw eisiau!
Jere WelBeibl 49:10  Ond dw i'n mynd i gymryd popeth oddi ar bobl Esau. Bydda i'n dod o hyd iddyn nhw; fyddan nhw ddim yn gallu cuddio. Bydd eu plant, eu perthnasau, a'u cymdogion i gyd yn cael eu dinistrio. Fydd neb ar ôl!
Jere WelBeibl 49:11  Gadael dy blant amddifad gyda mi, gwna i ofalu amdanyn nhw. Bydd dy weddwon hefyd yn gallu dibynnu arna i.”
Jere WelBeibl 49:12  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Os oes rhaid i bobl ddiniwed ddiodde, wyt ti'n meddwl y byddi di'n dianc? Na! Bydd rhaid i tithau yfed o gwpan barn.
Jere WelBeibl 49:13  Dw i wedi addo ar lw,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydd Bosra yn cael ei throi'n adfeilion. Bydd yn destun sbort. Bydd yn cael ei dinistrio'n llwyr a'i gwneud yn enghraifft o bobl wedi'u melltithio. Bydd eu trefi yn cael eu gadael yn adfeilion am byth.”
Jere WelBeibl 49:14  Jeremeia: “Ces i neges gan yr ARGLWYDD, pan gafodd negesydd ei anfon i'r gwledydd, yn dweud, ‘Dewch at eich gilydd i ymosod arni hi. Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!’”
Jere WelBeibl 49:15  Yr ARGLWYDD: “Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan; bydd pawb yn cael hwyl ar dy ben.
Jere WelBeibl 49:16  Mae dy allu i ddychryn pobl a dy falchder wedi dy dwyllo di. Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig, yn byw ar ben y mynydd – ond hyd yn oed petaet ti'n gwneud dy nyth mor uchel â'r eryr, bydda i'n dy dynnu di i lawr.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 49:17  “Bydd Edom yn cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi dychryn am eu bywydau ac yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld y dinistr.
Jere WelBeibl 49:18  Bydd yn union yr un fath â Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas. Fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno eto,” yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 49:19  “Bydda i'n gyrru pobl Edom o'u tir, fel llew yn dod allan o goedwig wyllt yr Iorddonen ac yn gyrru'r praidd yn y borfa agored ar chwâl. Bydda i'n dewis yr hyrddod gorau i'w llarpio. Achos pwy sy'n debyg i mi? Pwy sy'n mynd i'm galw i gyfri? Pa fugail sy'n gallu sefyll yn fy erbyn i?”
Jere WelBeibl 49:20  Dyma gynllun yr ARGLWYDD yn erbyn Edom. Dyma mae'n bwriadu ei wneud i bobl Teman. “Bydd hyd yn oed yr ŵyn bach yn cael eu llusgo i ffwrdd. Bydd eu corlan yn cael ei dinistrio am beth wnaethon nhw.
Jere WelBeibl 49:21  Bydd pobl y ddaear yn crynu wrth glywed am eu cwymp. Bydd eu sŵn nhw'n gweiddi i'w glywed wrth y Môr Coch.
Jere WelBeibl 49:22  Edrychwch! Bydd y gelyn fel eryr yn codi i'r awyr, yn lledu ei adenydd ac yn plymio i lawr ar Bosra. Y diwrnod hwnnw bydd milwyr Edom wedi dychryn, fel gwraig ar fin cael babi!”
Jere WelBeibl 49:23  Neges am Damascus: “Mae pobl Chamath ac Arpad wedi drysu. Maen nhw wedi clywed newyddion drwg. Maen nhw'n poeni ac wedi cynhyrfu fel môr stormus sy'n methu bod yn llonydd.
Jere WelBeibl 49:24  Mae pobl Damascus wedi colli pob hyder, ac wedi ffoi mewn panig. Mae poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw, fel gwraig ar fin cael babi.
Jere WelBeibl 49:25  Bydd y ddinas enwog yn wag cyn bo hir – y ddinas oedd unwaith yn llawn bwrlwm a hwyl!
Jere WelBeibl 49:26  Bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd, a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd y diwrnod hwnnw,” —yr ARGLWYDD hollbwerus sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 49:27  “Bydda i'n llosgi waliau Damascus, a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad.”
Jere WelBeibl 49:28  Neges am Cedar ac ardaloedd Chatsor, gafodd eu taro gan Nebwchadnesar, brenin Babilon: Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fyddin Babilon, codwch ac ymosod ar Cedar! Dinistriwch bobl y dwyrain.
Jere WelBeibl 49:29  Cymerwch eu pebyll a'u preiddiau, eu llenni a'u hoffer, a'u camelod i gario'r cwbl i ffwrdd. Bydd pobl yn gweiddi: ‘Does ond dychryn ym mhobman!’
Jere WelBeibl 49:30  Bobl Chatsor, rhedwch i ffwrdd; ewch i guddio mewn ogofâu! Mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn bwriadu ymosod arnoch chi. Mae e'n bwriadu eich dinistrio chi!
Jere WelBeibl 49:31  Codwch, ac ymosod ar wlad sy'n meddwl ei bod mor saff!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Does dim giatiau dwbl gyda barrau i'w hamddiffyn, a does neb wrth ymyl i'w helpu.
Jere WelBeibl 49:32  Bydd y milwyr yn cymryd ei chamelod a'i gyrroedd o wartheg yn ysbail. Bydda i'n gyrru ar chwâl bawb sy'n byw ar ymylon yr anialwch. Daw dinistr arnyn nhw o bob cyfeiriad, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 49:33  Bydd Chatsor wedi'i throi'n adfeilion am byth. Bydd yn lle i siacaliaid fyw – fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno.
Jere WelBeibl 49:34  Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am wlad Elam, yn fuan ar ôl i Sedeceia gael ei wneud yn frenin ar Jwda.
Jere WelBeibl 49:35  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i ladd bwasaethwyr Elam, sef asgwrn cefn eu grym milwrol.
Jere WelBeibl 49:36  Dw i'n mynd i ddod â gelynion yn erbyn pobl Elam o bob cyfeiriad, a byddan nhw'n cael eu gyrru ar chwâl. Bydd ffoaduriaid o Elam yn dianc i bobman.
Jere WelBeibl 49:37  Bydd pobl Elam wedi'u dychryn yn lân gan y gelynion sydd am eu lladd nhw. Dw i wedi gwylltio'n lân hefo nhw, a dw i'n mynd i'w dinistrio nhw,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydda i'n anfon byddinoedd eu gelynion ar eu holau, nes bydda i wedi'u dinistrio nhw'n llwyr.
Jere WelBeibl 49:38  Bydda i'n teyrnasu dros Elam. Bydda i'n lladd eu brenin a'u swyddogion,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 49:39  “Ond wedyn bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Elam yn ôl iddi,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Chapter 50
Jere WelBeibl 50:1  Y neges roddodd yr ARGLWYDD am Babilon a gwlad Babilonia, drwy'r proffwyd Jeremeia:
Jere WelBeibl 50:2  “Cyhoeddwch y newyddion drwy'r gwledydd i gyd; peidiwch dal dim yn ôl. Gwnewch yn siŵr fod pawb yn clywed ac yn deall: ‘Mae Babilon yn mynd i syrthio! Bydd y duw Bel yn cael ei gywilyddio! Bydd Merodach yn cael ei falu! Bydd eilun-dduwiau Babilon yn cael eu cywilyddio! Bydd ei delwau diwerth yn cael eu malu.
Jere WelBeibl 50:3  Bydd gwlad yn ymosod arni o gyfeiriad y gogledd. Bydd yn ei dinistrio hi'n llwyr, a fydd neb yn byw yno. Bydd pobl ac anifeiliaid wedi dianc i ffwrdd.’”
Jere WelBeibl 50:4  “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “bydd pobl Israel a phobl Jwda yn dod adre gyda'i gilydd.” Byddan nhw'n crio wrth gerdded, ac eisiau perthynas iawn gyda'u Duw eto.
Jere WelBeibl 50:5  Byddan nhw'n holi am y ffordd i Seion, ac yna'n troi i'r cyfeiriad hwnnw. Byddan nhw'n ymrwymo i fod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD, a fydd yr ymrwymiad hwnnw byth yn cael ei anghofio.
Jere WelBeibl 50:6  “Mae fy mhobl wedi bod fel defaid oedd ar goll. Roedd eu bugeiliaid wedi gadael iddyn nhw grwydro i ffwrdd. Maen nhw wedi bod yn crwydro ar y mynyddoedd – crwydro o gopa un bryn i'r llall, wedi anghofio'r ffordd yn ôl i'r gorlan.
Jere WelBeibl 50:7  Roedd pawb ddaeth ar eu traws yn eu llarpio. Ond wedyn roedd y gelynion hynny'n dweud, ‘Does dim bai arnon ni. Maen nhw wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Fe oedd eu porfa go iawn nhw – unig obaith eu hynafiaid.’”
Jere WelBeibl 50:8  “Ffowch o Babilon! Ewch allan o wlad y Babiloniaid! Am y cyntaf i adael – fel y bychod geifr sy'n arwain y praidd.
Jere WelBeibl 50:9  Dw i'n mynd i wneud i nifer o wledydd cryf o'r gogledd ymosod ar Babilon. Byddan nhw'n trefnu'u hunain yn rhengoedd i ymosod arni, yn dod o'r gogledd ac yn ei choncro hi. Bydd eu saethau'n taro'r targed bob tro, fel saethau'r milwyr gorau.
Jere WelBeibl 50:10  Bydd gwlad Babilonia yn cael ei hysbeilio. Bydd milwyr y gelyn yn cymryd popeth maen nhw eisiau,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 50:11  Yr ARGLWYDD: “Bobl Babilon, chi wnaeth ysbeilio gwlad fy mhobl i. Roeddech chi mor hapus, ac yn dathlu. Roeddech chi'n prancio o gwmpas fel lloi mewn cae. Roeddech chi'n gweryru fel meirch.
Jere WelBeibl 50:12  Ond bydd Babilon eich mamwlad yn cael ei chywilyddio'n fawr, a'r wlad lle cawsoch eich geni yn teimlo'r gwarth. A dweud y gwir, hi fydd y lleiaf pwysig o'r gwledydd i gyd! Bydd hi'n anialwch sych a diffaith.”
Jere WelBeibl 50:13  Jeremeia: Am fod yr ARGLWYDD wedi digio fydd neb yn cael byw yno – bydd Babilon yn cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi'u syfrdanu, ac yn chwibanu wrth weld beth ddigwyddodd iddi.
Jere WelBeibl 50:14  Yr ARGLWYDD: “Pawb i'w le, yn barod i ymosod ar Babilon! Dewch, chi sy'n trin y bwa saeth, saethwch ati! Defnyddiwch eich saethau i gyd! Mae hi wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 50:15  Gwaeddwch wrth ymosod o bob cyfeiriad. Mae'n rhoi arwydd ei bod am ildio. Mae ei thyrau amddiffynnol wedi syrthio, a'i waliau wedi'u bwrw i lawr. Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dial arni. Gwna i iddi beth wnaeth hi i eraill!
Jere WelBeibl 50:16  Bydd y rhai sy'n hau hadau yn cael eu cipio o Babilon, a'r rhai sy'n trin y cryman adeg cynhaeaf hefyd. Bydd pawb yn ffoi at eu pobl eu hunain, a dianc i'w gwledydd rhag i'r gelyn eu lladd.”
Jere WelBeibl 50:17  Mae Israel fel praidd wedi'i yrru ar chwâl gan lewod. Brenin Asyria oedd y cyntaf i'w llarpio nhw, a nawr mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi cnoi beth oedd ar ôl o'r esgyrn!
Jere WelBeibl 50:18  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i gosbi brenin Babilon a'i bobl, fel gwnes i gosbi brenin Asyria.
Jere WelBeibl 50:19  Bydda i'n dod â phraidd Israel yn ôl i'w borfa ei hun. Byddan nhw'n pori ar Fynydd Carmel ac yn ardal Bashan. Byddan nhw'n cael eu digoni ar fryniau Effraim ac yn ardal Gilead.
Jere WelBeibl 50:20  Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “Fydd Israel yn gwneud dim byd o'i le; fydd dim pechod i'w gael yn Jwda. Dw i'n mynd i faddau i'r rhai wnes i eu cadw'n fyw.”
Jere WelBeibl 50:21  Yr ARGLWYDD: “Ewch i ymosod ar wlad Merathaïm! Ymosodwch ar bobl Pecod! Lladdwch nhw a'u dinistrio'n llwyr,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Gwnewch bopeth dw i'n ei orchymyn i chi.
Jere WelBeibl 50:22  Mae sŵn rhyfel i'w glywed yn y wlad – sŵn dinistr ofnadwy!
Jere WelBeibl 50:23  Roedd Babilon fel gordd yn malu'r ddaear, ond bellach mae'r ordd wedi'i thorri! Mae Babilon wedi'i gwneud yn olygfa ddychrynllyd i'r gwledydd i gyd.
Jere WelBeibl 50:24  Rôn i wedi gosod trap i ti, Babilon, a cest dy ddal cyn i ti sylweddoli beth oedd yn digwydd! Am dy fod wedi ymladd yn fy erbyn i, yr ARGLWYDD, cest dy ddal a'th gymryd yn gaeth.”
Jere WelBeibl 50:25  Jeremeia: Mae'r ARGLWYDD wedi agor ei stordy arfau; mae wedi dod ag arfau ei ddigofaint i'r golwg. Mae gan y Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus, waith i'w wneud yng ngwlad y Babiloniaid.
Jere WelBeibl 50:26  Yr ARGLWYDD: “Dewch yn ei herbyn hi o ben draw'r byd. Agorwch ei hysguboriau hi. Trowch hi'n domen o adfeilion! Dinistriwch hi'n llwyr! Peidiwch gadael unrhyw un ar ôl yn fyw!
Jere WelBeibl 50:27  Lladdwch ei milwyr hi i gyd, fel teirw yn cael eu gyrru i'r lladd-dy. Ydy, mae hi ar ben arnyn nhw! Mae'r diwrnod iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.”
Jere WelBeibl 50:28  Gwrandwch ar y ffoaduriaid sy'n dianc o Babilon. Maen nhw ar eu ffordd i Seion, i ddweud sut mae'r ARGLWYDD wedi dial – wedi dial ar Babilon am beth wnaethon nhw i'w deml.
Jere WelBeibl 50:29  Yr ARGLWYDD: “Galwch am fwasaethwyr i ymosod ar Babilon! Galwch ar bawb sy'n trin y bwa saeth i ddod yn ei herbyn hi! Codwch wersyll o gwmpas y ddinas! Does neb i gael dianc! Talwch yn ôl iddi am beth wnaeth hi. Gwnewch iddi hi beth wnaeth hi i eraill. Mae hi wedi ymddwyn yn haerllug yn erbyn yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel.
Jere WelBeibl 50:30  Felly, bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd, a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 50:31  “Gwranda! Dw i yn dy erbyn di, ddinas falch,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus. “Mae'r diwrnod pan dw i'n mynd i dy gosbi di wedi dod.
Jere WelBeibl 50:32  Bydd y ddinas falch yn baglu ac yn syrthio, a fydd neb yna i'w chodi ar ei thraed. Dw i'n mynd i roi dy drefi di ar dân, a bydd popeth o dy gwmpas yn cael ei losgi'n ulw.”
Jere WelBeibl 50:33  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Mae pobl Israel a phobl Jwda yn cael eu cam-drin. Mae'r rhai wnaeth eu caethiwo yn dal gafael ynddyn nhw, ac yn gwrthod eu gollwng nhw'n rhydd.
Jere WelBeibl 50:34  Ond mae'r un fydd yn eu rhyddhau nhw yn gryf—yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw e. Bydd e'n gweithredu ar eu rhan nhw, ac yn dod â heddwch i'w gwlad nhw. Ond bydd yn aflonyddu ar y bobl sy'n byw yn Babilon.
Jere WelBeibl 50:35  Bydd cleddyf yn taro'r Babiloniaid,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydd yn taro pawb sydd yn byw yn Babilon. Bydd yn taro'i swyddogion a'i gwŷr doeth!
Jere WelBeibl 50:36  Bydd cleddyf yn taro'i phroffwydi ffals, a bydd hi'n amlwg mai ffyliaid oedden nhw. Bydd cleddyf yn taro'i milwyr, a byddan nhw'n cael eu difa!
Jere WelBeibl 50:37  Bydd cleddyf yn taro'u ceffylau a'u cerbydau rhyfel. Bydd yn taro'r milwyr tramor sydd gyda hi, a byddan nhw'n wan fel merched! Bydd cleddyf yn taro'i thrysorau, a bydd y cwbl yn cael ei gymryd i ffwrdd yn ysbail.
Jere WelBeibl 50:38  Bydd sychder yn taro'r wlad, a bydd y cyflenwad dŵr yn dod i ben! Achos mae'r wlad yn llawn o eilun-dduwiau a delwau dychrynllyd sy'n eu gyrru nhw'n wallgof!
Jere WelBeibl 50:39  Felly, ysbrydion yr anialwch, bwganod ac estrys fydd yn byw yn Babilon. Fydd pobl yn byw yno byth eto – neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau.
Jere WelBeibl 50:40  Bydd yn union yr un fath â Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas. Fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno eto.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 50:41  “Gwyliwch! Mae byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd. Mae gwlad gref a brenhinoedd ym mhen draw'r byd yn paratoi i fynd i ryfel.
Jere WelBeibl 50:42  Mae ei milwyr wedi gafael yn y bwa a'r cleddyf, maen nhw'n greulon a fyddan nhw'n dangos dim trugaredd. Mae sŵn eu ceffylau'n carlamu fel sŵn y môr yn rhuo. Mae eu rhengoedd nhw mor ddisgybledig, ac maen nhw'n dod yn eich erbyn chi, bobl Babilon.”
Jere WelBeibl 50:43  Mae brenin Babilon wedi clywed amdanyn nhw. Does dim byd all e ei wneud. Mae dychryn wedi gafael ynddo, fel gwraig mewn poen wrth gael babi.
Jere WelBeibl 50:44  “Bydda i'n gyrru pobl Babilon o'u tir, fel llew yn dod allan o goedwig wyllt yr Iorddonen ac yn gyrru'r praidd yn y borfa agored ar chwâl. Bydda i'n dewis yr hyrddod gorau i'w llarpio. Achos pwy sy'n debyg i mi? Pwy sy'n mynd i'm galw i i gyfri? Pa fugail sy'n gallu sefyll yn fy erbyn i?”
Jere WelBeibl 50:45  Dyma gynllun yr ARGLWYDD yn erbyn Babilon. Dyma mae'n bwriadu ei wneud i wlad Babilonia: “Bydd hyd yn oed yr ŵyn bach yn cael eu llusgo i ffwrdd. Bydd eu corlan yn cael ei dinistrio am beth wnaethon nhw.
Jere WelBeibl 50:46  Bydd pobl y ddaear yn crynu wrth glywed fod Babilon wedi'i choncro. Bydd eu sŵn nhw'n gweiddi i'w glywed drwy'r gwledydd i gyd.”
Chapter 51
Jere WelBeibl 51:1  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i ddod â corwynt dinistriol yn erbyn Babilon, ac yn erbyn y bobl sy'n byw yn Babilonia.
Jere WelBeibl 51:2  Bydda i'n anfon pobl estron i'w nithio; bydd fel gwynt yn chwythu'r us i ffwrdd. Bydd y wlad yn cael ei gadael yn wag. Byddan nhw'n ymosod o bob cyfeiriad y diwrnod hwnnw pan fydd pethau'n ddrwg arni.
Jere WelBeibl 51:3  Peidiwch rhoi cyfle i'r bwasaethwr roi llinyn ar ei fwa; nac amser iddo roi ei arfwisg amdano. Lladdwch y bechgyn ifanc i gyd! Dinistriwch y fyddin yn llwyr!”
Jere WelBeibl 51:4  Bydd pobl Babilon yn syrthio'n farw, wedi'u hanafu ar strydoedd y ddinas.
Jere WelBeibl 51:5  Dydy Duw, yr ARGLWYDD hollbwerus, ddim wedi troi cefn ar Israel a Jwda. Mae gwlad Babilonia yn euog o bechu yn erbyn Un sanctaidd Israel!
Jere WelBeibl 51:6  Ffowch o ganol Babilon! Rhedwch am eich bywydau, bawb! Does dim rhaid i chi ddiodde am ei bod hi'n cael ei chosbi. Mae'r amser wedi dod i'r ARGLWYDD dalu'n ôl iddi. Bydd yn rhoi iddi beth mae'n ei haeddu!
Jere WelBeibl 51:7  Roedd Babilon fel cwpan aur yn llaw'r ARGLWYDD. Roedd wedi gwneud y byd i gyd yn feddw. Roedd gwledydd wedi yfed y gwin ohoni, ac wedi'u gyrru'n wallgof.
Jere WelBeibl 51:8  Ond yn sydyn mae Babilon yn mynd i syrthio a dryllio. “Udwch drosti! Dewch ag eli i wella'i briwiau! Falle y bydd hi'n cael ei hiacháu!
Jere WelBeibl 51:9  ‘Bydden ni wedi ceisio helpu Babilon, ond doedd dim modd ei helpu. Gadewch i ni fynd adre i'n gwledydd ein hunain. Mae'r farn sy'n dod arni'n anferthol! Mae fel pentwr enfawr sy'n ymestyn i'r entrychion, ac yn codi i'r cymylau!’”
Jere WelBeibl 51:10  Pobl Israel a Jwda: “Mae'r ARGLWYDD wedi achub ein cam ni. Dewch! Gadewch i ni fynd i ddweud wrth Seion beth mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi'i wneud.”
Jere WelBeibl 51:11  Arweinwyr byddin Media: “Rhowch fin ar y saethau! Llanwch eich cewyll!” (Mae'r ARGLWYDD yn gwneud i frenhinoedd Media godi yn erbyn Babilon. Mae e'n bwriadu dinistrio Babilon. Dyna sut mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddial arnyn nhw. Mae'n mynd i ddial arnyn nhw am beth wnaethon nhw i'w deml e.)
Jere WelBeibl 51:12  “Rhowch yr arwydd i ymosod ar waliau Babilon! Dewch â mwy o filwyr! Gosodwch wylwyr o'i chwmpas! Paratowch grwpiau i ymosod arni!” Mae'r ARGLWYDD yn mynd i wneud beth mae wedi'i gynllunio yn erbyn pobl Babilon.
Jere WelBeibl 51:13  “Ti'n byw yng nghanol yr afonydd a'r camlesi. Rwyt wedi casglu cymaint o drysorau. Ond mae dy ddiwedd wedi dod; mae edau dy fywyd ar fin cael ei thorri!”
Jere WelBeibl 51:14  Mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi addo ar lw, “Dw i'n mynd i lenwi'r wlad â milwyr y gelyn. Byddan nhw fel haid o locustiaid ym mhobman. Byddan nhw'n gweiddi'n llawen am eu bod wedi ennill y frwydr.”
Jere WelBeibl 51:15  Yr ARGLWYDD ddefnyddiodd ei rym i greu'r ddaear. Fe ydy'r un osododd y byd yn ei le drwy ei ddoethineb, a lledu'r awyr drwy ei ddeall.
Jere WelBeibl 51:16  Mae sŵn ei lais yn gwneud i'r awyr daranu. Mae'n gwneud i gymylau ddod i'r golwg ar y gorwel. Mae'n gwneud i fellt fflachio yng nghanol y glaw. Mae'n dod â'r gwynt allan o'i stordai i chwythu.
Jere WelBeibl 51:17  Mae pobl mor ddwl! Dŷn nhw'n gwybod dim byd! Bydd yr eilunod yn codi cywilydd ar y rhai a'u gwnaeth nhw. Duwiau ffals ydy'r delwau; does dim bywyd ynddyn nhw.
Jere WelBeibl 51:18  Dŷn nhw'n dda i ddim! Pethau i wneud sbort ohonyn nhw! Mae'r amser yn dod pan gân nhw eu cosbi a'u dinistrio.
Jere WelBeibl 51:19  Dydy Duw Jacob ddim byd tebyg iddyn nhw. Fe ydy'r un wnaeth greu pob peth, ac mae pobl Israel yn bobl sbesial iddo. Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw!
Jere WelBeibl 51:20  “Ti ydy fy mhastwn rhyfel i, yr arf dw i'n ei ddefnyddio yn y frwydr. Dw i wedi dryllio gwledydd gyda ti, a dinistrio teyrnasoedd gyda ti.
Jere WelBeibl 51:21  Dw i wedi taro ceffylau a'u marchogion gyda ti, cerbydau rhyfel a'r milwyr sy'n eu gyrru.
Jere WelBeibl 51:22  Dw i wedi taro dynion a merched – dynion hŷn, bechgyn a merched ifanc.
Jere WelBeibl 51:23  Dw i wedi taro bugeiliaid a'u preiddiau, ffermwyr a'r ychen maen nhw'n aredig gyda nhw. Dw i wedi taro llywodraethwyr a swyddogion gyda ti.
Jere WelBeibl 51:24  “Dw i'n mynd i dalu'n ôl i Babilon a phawb sy'n byw yn Babilonia am yr holl bethau drwg wnaethon nhw yn Seion o flaen eich llygaid chi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 51:25  “Dw i yn dy erbyn di, Babilon!” meddai'r ARGLWYDD. “Ti ydy'r llosgfynydd sy'n dinistrio'r byd i gyd. Dw i'n mynd i dy daro di, a dy rolio di i lawr oddi ar y clogwyni. Byddi fel llosgfynydd mud.
Jere WelBeibl 51:26  Fydd neb yn defnyddio carreg ohonot ti fel maen congl na charreg sylfaen. Byddi'n adfeilion am byth.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 51:27  “Rhowch arwydd clir a chwythu'r corn hwrdd i alw'r gwledydd i ryfel yn erbyn Babilon – Ararat, Minni ac Ashcenas. Penodwch gadfridog i arwain yr ymosodiad. Dewch â cheffylau rhyfel fel haid o locustiaid.
Jere WelBeibl 51:28  Paratowch wledydd i ymladd yn ei herbyn hi – brenhinoedd Media, ei llywodraethwyr a'i swyddogion, a'r gwledydd sy'n cael eu rheoli ganddi.”
Jere WelBeibl 51:29  Mae'r ddaear yn crynu ac yn gwingo mewn poen, am fod bwriadau'r ARGLWYDD yn mynd i gael eu cyflawni. Mae'n mynd i ddinistrio gwlad Babilon yn llwyr, a fydd neb yn byw yno.
Jere WelBeibl 51:30  Bydd milwyr Babilon yn stopio ymladd. Byddan nhw'n cuddio yn eu caerau. Fydd ganddyn nhw ddim nerth i gario mlaen; byddan nhw'n wan fel merched. Bydd eu tai yn y ddinas yn cael eu llosgi. Bydd barrau eu giatiau wedi'u torri.
Jere WelBeibl 51:31  Bydd negeswyr yn rhedeg, un ar ôl y llall, i ddweud wrth frenin Babilon fod y ddinas gyfan wedi cael ei dal.
Jere WelBeibl 51:32  Mae'r rhydau, lle gallai pobl ddianc, wedi eu cipio. Mae'r corsydd brwyn, lle gallai pobl guddio, wedi'u llosgi. Mae'r fyddin mewn panig.
Jere WelBeibl 51:33  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel yn ei ddweud: “Bydd Babilon fel llawr dyrnu pan mae'n cael ei sathru. Mae amser cynhaeaf yn dod yn fuan iawn!”
Jere WelBeibl 51:34  Jerwsalem: Nebwchadnesar, brenin Babilon, wnaeth fy llarpio, a gyrru fy mhobl i ffwrdd. Llyncodd fi fel anghenfil a llenwi ei fol gyda'm cyfoeth. Gadawodd fi fel plât gwag wedi'i glirio'n llwyr.
Jere WelBeibl 51:35  “Rhaid i Babilon dalu am y ffordd gwnaeth hi ein treisio ni!” meddai'r bobl sy'n byw yn Seion. “Dial ar bobl Babilonia am dywallt gwaed fy mhobl,” meddai Jerwsalem.
Jere WelBeibl 51:36  Felly, dyma beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i weithredu ar dy ran di. Dw i'n mynd i dalu'n ôl i'r Babiloniaid am beth wnaethon nhw i ti. Dw i'n mynd i wagio ei chyflenwad dŵr hi, a sychu ei ffynhonnau.
Jere WelBeibl 51:37  Bydd Babilon yn bentwr o rwbel, ac yn lle i siacaliaid fyw. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd yno a bydd pobl yn chwibanu mewn rhyfeddod. Fydd neb yn byw yno.
Jere WelBeibl 51:38  Byddan nhw'n rhuo fel llewod gyda'i gilydd, ac yn chwyrnu fel rhai bach eisiau bwyd.
Jere WelBeibl 51:39  Wrth awchu am fwyd bydda i'n rhoi gwledd o'u blaenau, ac yn eu meddwi nes byddan nhw'n chwil gaib. Byddan nhw'n llewygu, ac yn syrthio i gysgu, a fyddan nhw byth yn deffro eto,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 51:40  “Bydda i'n eu harwain nhw fel ŵyn i'r lladd-dy, neu hyrddod a bychod geifr sydd i gael eu haberthu.”
Jere WelBeibl 51:41  “Meddyliwch! Bydd Babilon yn cael ei dal! Bydd y ddinas mae'r byd yn ei chanmol yn cael ei choncro! Bydd beth fydd yn digwydd i Babilon yn dychryn y gwledydd i gyd!
Jere WelBeibl 51:42  Bydd y môr yn ysgubo drosti. Bydd tonnau gwyllt yn ei gorchuddio hi.
Jere WelBeibl 51:43  Bydd beth fydd yn digwydd i'w threfi yn creu dychryn. Bydd yn troi'n dir sych anial – tir lle does neb yn byw a heb bobl yn pasio drwyddo.
Jere WelBeibl 51:44  Dw i'n mynd i gosbi'r duw Bel yn Babilon. Bydda i'n gwneud iddo chwydu beth mae wedi'i lyncu. Fydd y gwledydd ddim yn llifo ato ddim mwy. Bydd waliau Babilon yn syrthio!
Jere WelBeibl 51:45  Dewch allan ohoni, fy mhobl! Rhedwch am eich bywydau, bob un ohonoch chi! A dianc oddi wrth lid ffyrnig yr ARGLWYDD!
Jere WelBeibl 51:46  Peidiwch torri'ch calon na bod ag ofn pan glywch y si'n mynd ar led drwy'r wlad. Bydd un stori'n mynd o gwmpas un flwyddyn, ac un arall y flwyddyn wedyn. Bydd trais ofnadwy yn y wlad, wrth i lywodraethwyr ymladd yn erbyn ei gilydd.
Jere WelBeibl 51:47  Mae'r amser yn dod pan fydda i'n cosbi eilun-dduwiau Babilon. Bydd y wlad i gyd yn cael ei chywilyddio, a bydd pobl yn syrthio'n farw ym mhobman.
Jere WelBeibl 51:48  Bydd y nefoedd a'r ddaear a phopeth ynddyn nhw yn canu'n llawen am beth fydd yn digwydd i Babilon. Bydd byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd i'w dinistrio nhw,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 51:49  “Rhaid i Babilon syrthio, am ei bod wedi lladd cymaint o bobl Israel, ac am ei bod wedi lladd cymaint o bobl drwy'r byd i gyd.”
Jere WelBeibl 51:50  Chi bobl wnaeth lwyddo i ddianc rhag cael eich lladd gan gleddyf Babilon, ewch allan ohoni ar frys! Peidiwch loetran! Cofiwch yr ARGLWYDD yn y wlad bell. Meddyliwch am Jerwsalem.
Jere WelBeibl 51:51  Y bobl: “Mae gynnon ni gywilydd; dŷn ni wedi cael ein sarhau. Mae'r gwarth i'w weld ar ein hwynebau. Aeth paganiaid i mewn i'r lleoedd sanctaidd yn nheml yr ARGLWYDD.”
Jere WelBeibl 51:52  Yr ARGLWYDD: “Felly mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydda i'n cosbi eu heilun-dduwiau nhw, a bydd pobl wedi'u hanafu yn griddfan mewn poen drwy'r wlad i gyd.
Jere WelBeibl 51:53  Hyd yn oed petai waliau Babilon yn cyrraedd i'r awyr, a'i chaerau'n anhygoel o gryf, byddwn i'n anfon byddin i'w dinistrio hi,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 51:54  Gwrandwch – pobl yn gweiddi yn Babilon! Sŵn dinistr ofnadwy'n dod o wlad Babilonia!
Jere WelBeibl 51:55  Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio Babilon. Mae e'n mynd i roi taw ar ei thwrw! Bydd sŵn y gelyn fel sŵn tonnau'n rhuo – byddin a'i sŵn yn fyddarol.
Jere WelBeibl 51:56  Ydy, mae'r gelyn sy'n dinistrio'n ymosod! Bydd milwyr Babilon yn cael eu dal, a'i bwâu yn cael eu torri. Mae'r ARGLWYDD yn Dduw sy'n cosbi. Bydd yn talu'n ôl yn llawn iddyn nhw!
Jere WelBeibl 51:57  “Bydda i'n meddwi ei swyddogion a'i gwŷr doeth, ei llywodraethwyr, ei phenaethiaid a'i milwyr. Byddan nhw'n syrthio i gysgu am byth. Fyddan nhw ddim yn deffro eto,” meddai'r Brenin —yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw e.
Jere WelBeibl 51:58  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Bydd wal drwchus dinas Babilon yn cael ei bwrw i lawr. Bydd ei giatiau uchel yn cael eu llosgi. Bydd ymdrechion y bobloedd i ddim byd. Bydd holl lafur y gwledydd yn cael ei losgi!”
Jere WelBeibl 51:59  Dyna'r negeseuon roedd y proffwyd Jeremeia wedi'u rhoi i Seraia (mab Nereia ac ŵyr i Machseia). Seraia oedd swyddog llety'r brenin, ac roedd wedi mynd gyda Sedeceia, brenin Jwda, i Babilon yn y bedwaredd flwyddyn i Sedeceia fel brenin.
Jere WelBeibl 51:60  Roedd Jeremeia wedi ysgrifennu mewn sgrôl am y dinistr ofnadwy oedd yn mynd i ddod ar Babilon.
Jere WelBeibl 51:61  Yna dwedodd wrth Seraia: “Gwna'n siŵr dy fod yn darllen y cwbl yn uchel i'r bobl ar ôl cyrraedd Babilon.
Jere WelBeibl 51:62  Wedyn gweddïa, ‘O ARGLWYDD, rwyt ti wedi dweud yn glir dy fod ti'n mynd i ddinistrio'r lle yma. Fydd dim pobl nac anifeiliaid yn gallu byw yma. Bydd yn lle anial am byth.’
Jere WelBeibl 51:63  Ar ôl darllen y sgrôl, rhwyma hi wrth garreg a'i thaflu i ganol afon Ewffrates.
Jere WelBeibl 51:64  Yna gwna'r datganiad yma: ‘Fel hyn bydd Babilon yn suddo, a fydd hi byth yn codi eto, o achos yr holl ddinistr dw i'n ei anfon arni.’” Dyma ddiwedd neges Jeremeia.
Chapter 52
Jere WelBeibl 52:1  Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi'n frenin. Bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna).
Jere WelBeibl 52:2  Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y Brenin Jehoiacim.
Jere WelBeibl 52:3  Felly gyrrodd yr ARGLWYDD bobl Jerwsalem a Jwda o'i olwg am ei fod mor ddig hefo nhw. Ond yna, dyma Sedeceia yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon.
Jere WelBeibl 52:4  A dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o'r degfed mis yn nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin. Dyma nhw'n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni.
Jere WelBeibl 52:5  Buon nhw'n gwarchae ar y ddinas am flwyddyn a hanner (blwyddyn un deg un Sedeceia fel brenin).
Jere WelBeibl 52:6  Erbyn y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis y flwyddyn honno roedd y newyn yn y ddinas mor ddrwg doedd gan y werin bobl ddim byd o gwbl i'w fwyta.
Jere WelBeibl 52:7  Dyma'r gelyn yn llwyddo i fylchu wal y ddinas. A dyma filwyr Jwda i gyd yn ceisio dianc, a mynd allan o'r ddinas ganol nos drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal wrth ymyl gardd y brenin. Dyma nhw'n dianc i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen. (Roedd y Babiloniaid yn amgylchynu'r ddinas.)
Jere WelBeibl 52:8  Ond aeth byddin Babilon ar ôl y Brenin Sedeceia. Cafodd ei ddal ar wastatir Jericho, a dyma'i fyddin gyfan yn cael ei gyrru ar chwâl.
Jere WelBeibl 52:9  Dyma nhw'n mynd â'r brenin Sedeceia i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon yn Ribla yn ardal Chamath.
Jere WelBeibl 52:10  Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd gan frenin Babilon. Cafodd swyddogion Jwda i gyd eu lladd ganddo yn Ribla hefyd.
Jere WelBeibl 52:11  Wedyn dyma fe'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon. Yn Babilon cafodd Sedeceia ei roi yn y carchar, a dyna lle bu nes iddo farw.
Jere WelBeibl 52:12  Rhyw fis yn ddiweddarach, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, un o swyddogion pwysica brenin Babilon, yn cyrraedd Jerwsalem (Roedd hyn ar y degfed diwrnod o'r pumed mis, a Nebwchadnesar wedi bod yn frenin Babilon ers un deg naw o flynyddoedd.)
Jere WelBeibl 52:13  Dyma fe'n rhoi teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a'r tai yn Jerwsalem i gyd ar dân. Llosgodd yr adeiladau pwysig i gyd.
Jere WelBeibl 52:14  Wedyn dyma fyddin Babilon oedd gyda'r capten yn bwrw'r waliau o gwmpas Jerwsalem i lawr.
Jere WelBeibl 52:15  A dyma Nebwsaradan yn mynd â'r bobl dlawd a phawb oedd wedi'u gadael ar ôl yn y ddinas, y milwyr oedd wedi mynd drosodd at y gelyn ac unrhyw grefftwyr oedd ar ôl, yn gaethion i Babilon.
Jere WelBeibl 52:16  Ond gadawodd rai o'r bobl mwyaf tlawd yn y wlad, a rhoi gwinllannoedd a thir iddyn nhw edrych ar ei ôl.
Jere WelBeibl 52:17  Wedyn dyma'r Babiloniaid yn malu'r offer pres oedd yn y deml – y ddwy golofn bres, y trolïau pres, a'r basn mawr pres oedd yn cael ei alw ‛Y Môr‛. A dyma nhw'n cario'r metel yn ôl i Babilon.
Jere WelBeibl 52:18  Dyma nhw hefyd yn cymryd y bwcedi lludw, y rhawiau, y sisyrnau, y dysglau, y powlenni arogldarth, a phopeth arall o bres oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr addoliad.
Jere WelBeibl 52:19  Cymerodd capten y gwarchodlu bopeth oedd wedi'i wneud o aur neu arian – y powlenni bach, y padellau, y dysglau, bwcedi lludw, y lampau ar stand, y padellau a phowlenni'r offrwm o ddiod.
Jere WelBeibl 52:20  Roedd cymaint o bres yn yr offer oedd y Brenin Solomon wedi'u gwneud ar gyfer y deml – pres y ddau biler, y ddysgl bres fawr sy'n cael ei galw ‛Y Môr‛, y deuddeg tarw pres oedd dan y Môr, a'r trolïau pres – roedd y cwbl yn ormod i'w bwyso.
Jere WelBeibl 52:21  Roedd y pileri yn wyth metr o uchder, ac roedd eu cylchedd yn bum metr a hanner; roedden nhw'n wag y tu mewn, ac wedi'u gwneud o fetel oedd tua 75 milimetr o drwch.
Jere WelBeibl 52:22  Ar dop y pileri roedd capan pres oedd tua dau fetr o uchder. O gwmpas top y capan roedd rhwyllwaith cain a phomgranadau yn ei haddurno, y cwbl wedi'i wneud o bres. Roedd y ddau biler yn union yr un fath.
Jere WelBeibl 52:23  Roedd 96 o bomgranadau ar yr ochrau, a chyfanswm o gant o gwmpas y rhwyllwaith ar y top.
Jere WelBeibl 52:24  Cymerodd capten y gwarchodlu brenhinol rai pobl yn garcharorion hefyd. Aeth â Seraia (y prif-offeiriad), Seffaneia (yr offeiriad cynorthwyol), a tri porthor y deml.
Jere WelBeibl 52:25  Wedyn o'r ddinas cymerodd swyddog y llys oedd yn gyfrifol am y milwyr, saith o gynghorwyr y brenin oedd wedi cael eu darganfod yn cuddio yn y ddinas, un o'r swyddogion oedd yn drafftio pobl i ymladd yn y fyddin, a chwe deg o'i ddynion gafodd eu darganfod yn y ddinas.
Jere WelBeibl 52:26  Aeth Nebwsaradan, capten y gwarchodlu, â nhw at frenin Babilon i Ribla,
Jere WelBeibl 52:27  a dyma'r brenin yn eu curo nhw a'u dienyddio nhw yno. Felly roedd pobl Jwda wedi cael eu caethgludo o'u tir.
Jere WelBeibl 52:28  Dyma nifer y bobl gafodd eu caethgludo gan Nebwchadnesar: Yn ei seithfed flwyddyn fel brenin, 3,023 o bobl Jwda.
Jere WelBeibl 52:29  Ym mlwyddyn un deg wyth o'i deyrnasiad, 832 o bobl.
Jere WelBeibl 52:30  Yna ym mlwyddyn dau ddeg tri o'i deyrnasiad, cymerodd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, 745 o Iddewon yn gaethion. Cafodd 4,600 o bobl eu caethgludo i gyd.
Jere WelBeibl 52:31  Roedd Jehoiachin, brenin Jwda, wedi bod yn garcharor am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Efil-merodach yn frenin ar Babilon. Ar y pumed ar hugain o'r deuddegfed mis y flwyddyn honno dyma Efil-merodach yn rhyddhau Jehoiachin o'r carchar.
Jere WelBeibl 52:32  Buodd yn garedig ato, a'i anrhydeddu fwy nag unrhyw un o'r brenhinoedd eraill oedd gydag e yn Babilon.
Jere WelBeibl 52:33  Felly dyma Jehoiachin yn newid o'i ddillad carchar. Cafodd eistedd i fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd brenin Babilon,
Jere WelBeibl 52:34  ac roedd yn derbyn lwfans dyddiol gan y brenin am weddill ei fywyd.