Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LUKE
Up
Chapter 1
Luke WelBeibl 1:1  Theoffilws, syr – Fel dych chi'n gwybod, mae yna lawer o bobl wedi mynd ati i gasglu'r hanesion am yr hyn sydd wedi digwydd yn ein plith ni.
Luke WelBeibl 1:2  Cafodd yr hanesion yma eu rhannu â ni gan y rhai fu'n llygad-dystion i'r cwbl o'r dechrau cyntaf, ac sydd ers hynny wedi bod yn cyhoeddi neges Duw.
Luke WelBeibl 1:3  Felly, gan fy mod innau wedi astudio'r pethau yma'n fanwl, penderfynais fynd ati i ysgrifennu'r cwbl yn drefnus i chi, syr.
Luke WelBeibl 1:4  Byddwch yn gwybod yn sicr wedyn fod y pethau gafodd eu dysgu i chi yn wir.
Luke WelBeibl 1:5  Pan oedd Herod yn frenin ar Jwdea, roedd dyn o'r enw Sachareias yn offeiriad. Roedd yn perthyn i deulu offeiriadol Abeia, ac roedd ei wraig Elisabeth hefyd yn un o ddisgynyddion Aaron, brawd Moses.
Luke WelBeibl 1:6  Roedd y ddau ohonyn nhw yn bobl dda yng ngolwg Duw, ac yn gwneud yn union fel roedd e'n dweud.
Luke WelBeibl 1:7  Ond doedd Elisabeth ddim yn gallu cael plant, ac roedd y ddau ohonyn nhw'n eithaf hen.
Luke WelBeibl 1:8  Un tro, pan oedd y teulu offeiriadol oedd Sachareias yn perthyn iddo yn gwasanaethu yn y deml, roedd Sachareias yno gyda nhw yn gwneud ei waith fel offeiriad.
Luke WelBeibl 1:9  A fe oedd yr un gafodd ei ddewis, drwy daflu coelbren, i losgi arogldarth wrth fynd i mewn i'r cysegr. (Taflu coelbren oedd y ffordd draddodiadol roedd yr offeiriaid yn ei defnyddio i wneud y dewis.)
Luke WelBeibl 1:10  Pan oedd yn amser i'r arogldarth gael ei losgi, roedd yr holl bobl oedd wedi dod yno i addoli yn gweddïo y tu allan.
Luke WelBeibl 1:11  Roedd Sachareias wrthi'n llosgi'r arogldarth, ac yn sydyn gwelodd un o angylion yr Arglwydd o'i flaen yn sefyll ar yr ochr dde i'r allor.
Luke WelBeibl 1:13  Ond dyma'r angel yn dweud wrtho: “Paid bod ofn, Sachareias; mae Duw wedi clywed dy weddi. Mae Elisabeth dy wraig yn mynd i gael plentyn – dy fab di! Ioan ydy'r enw rwyt i'w roi iddo,
Luke WelBeibl 1:14  a bydd yn dy wneud di'n hapus iawn. A bydd llawer iawn o bobl eraill yn llawen hefyd am ei fod wedi'i eni.
Luke WelBeibl 1:15  Bydd e'n was pwysig iawn i'r Arglwydd Dduw. Fydd e ddim yn yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol, ond bydd wedi cael ei lenwi â'r Ysbryd Glân hyd yn oed cyn iddo gael ei eni.
Luke WelBeibl 1:16  Bydd yn troi llawer iawn o bobl Israel yn ôl at yr Arglwydd eu Duw.
Luke WelBeibl 1:17  Gyda'r un ysbryd a nerth a oedd gan y proffwyd Elias bydd yn mynd allan i gyhoeddi fod yr Arglwydd yn dod, ac yn paratoi'r bobl ar ei gyfer. Bydd yn gwella perthynas rhieni â'u plant, ac yn peri i'r rhai sydd wedi bod yn anufudd weld mai byw yn iawn sy'n gwneud synnwyr.”
Luke WelBeibl 1:18  “Sut alla i gredu'r fath beth?” meddai Sachareias wrth yr angel, “Wedi'r cwbl, dw i'n hen ddyn ac mae ngwraig i mewn oed hefyd.”
Luke WelBeibl 1:19  Dyma'r angel yn ateb, “Gabriel ydw i. Fi ydy'r angel sy'n sefyll o flaen Duw i'w wasanaethu. Fe sydd wedi fy anfon i siarad â ti a dweud y newyddion da yma wrthot ti.
Luke WelBeibl 1:20  Gan dy fod ti wedi gwrthod credu beth dw i'n ddweud, byddi'n methu siarad nes bydd y plentyn wedi'i eni. Ond daw'r cwbl dw i'n ei ddweud yn wir yn amser Duw.”
Luke WelBeibl 1:21  Tra oedd hyn i gyd yn digwydd, roedd y bobl yn disgwyl i Sachareias ddod allan o'r deml. Roedden nhw'n methu deall pam roedd e mor hir.
Luke WelBeibl 1:22  Yna pan ddaeth allan, roedd yn methu siarad â nhw. A dyma nhw'n sylweddoli ei fod wedi gweld rhywbeth rhyfeddol yn y deml – roedd yn ceisio esbonio iddyn nhw drwy wneud arwyddion, ond yn methu siarad.
Luke WelBeibl 1:23  Ar ôl i'r cyfnod pan oedd Sachareias yn gwasanaethu yn y deml ddod i ben, aeth adre.
Luke WelBeibl 1:24  Yn fuan wedyn dyma'i wraig Elisabeth yn darganfod ei bod hi'n disgwyl babi, a dyma hi'n cadw o'r golwg am bum mis.
Luke WelBeibl 1:25  “Yr Arglwydd Dduw sydd wedi gwneud hyn i mi!” meddai. “Mae wedi bod mor garedig, ac wedi symud y cywilydd roeddwn i'n ei deimlo am fod gen i ddim plant.”
Luke WelBeibl 1:26  Pan oedd Elisabeth chwe mis yn feichiog, anfonodd Duw yr angel Gabriel i Nasareth, un o drefi Galilea,
Luke WelBeibl 1:27  at ferch ifanc o'r enw Mair. Roedd Mair yn wyryf (heb erioed gael rhyw), ac wedi'i haddo'n wraig i ddyn o'r enw Joseff. Roedd e'n perthyn i deulu y Brenin Dafydd.
Luke WelBeibl 1:28  Dyma'r angel yn mynd ati a'i chyfarch, “Mair, mae Duw wedi dangos ffafr atat ti! Mae'r Arglwydd gyda ti!”
Luke WelBeibl 1:29  Ond gwnaeth yr angel i Mair deimlo'n ddryslyd iawn. Doedd hi ddim yn deall o gwbl beth roedd yn ei feddwl.
Luke WelBeibl 1:30  Felly dyma'r angel yn dweud wrthi, “Paid bod ofn, Mair. Mae Duw wedi dewis dy fendithio di'n fawr.
Luke WelBeibl 1:31  Rwyt ti'n mynd i fod yn feichiog, a byddi di'n cael mab. Iesu ydy'r enw rwyt i'w roi iddo.
Luke WelBeibl 1:32  Bydd yn ddyn pwysig iawn, a bydd yn cael ei alw'n Fab y Duw Goruchaf. Bydd yr Arglwydd Dduw yn ei osod i eistedd ar orsedd y Brenin Dafydd,
Luke WelBeibl 1:33  a bydd yn teyrnasu dros bobl Jacob am byth. Fydd ei deyrnasiad byth yn dod i ben!”
Luke WelBeibl 1:34  Ond meddai Mair, “Sut mae'r fath beth yn bosib? Dw i erioed wedi cael rhyw gyda neb.”
Luke WelBeibl 1:35  Dyma'r angel yn esbonio iddi, “Bydd yr Ysbryd Glân yn dod arnat ti, a nerth y Duw Goruchaf yn gofalu amdanat ti. Felly bydd y plentyn fydd yn cael ei eni yn berson sanctaidd – bydd yn cael ei alw yn Fab Duw.
Luke WelBeibl 1:36  Meddylia! Mae hyd yn oed Elisabeth, sy'n perthyn i ti, yn mynd i gael babi er ei bod hi mor hen. Roedd pawb yn gwybod ei bod hi'n methu cael plant, ond mae hi chwe mis yn feichiog!
Luke WelBeibl 1:37  Rwyt ti'n gweld, does dim byd sy'n amhosib i Dduw ei wneud.”
Luke WelBeibl 1:38  A dyma Mair yn dweud, “Dw i eisiau gwasanaethu'r Arglwydd Dduw. Felly gad i beth rwyt wedi'i ddweud ddod yn wir.” Wedyn dyma'r angel yn ei gadael hi.
Luke WelBeibl 1:39  Cyn gynted ag y gallai dyma Mair yn mynd i'r dref yng nghanol bryniau Jwda
Luke WelBeibl 1:40  lle roedd Sachareias ac Elisabeth yn byw. Pan gyrhaeddodd y tŷ dyma hi'n cyfarch Elisabeth,
Luke WelBeibl 1:41  a dyma fabi Elisabeth yn neidio yn ei chroth hi. Cafodd Elisabeth ei hun ei llenwi â'r Ysbryd Glân pan glywodd lais Mair,
Luke WelBeibl 1:42  a gwaeddodd yn uchel: “Mair, rwyt ti wedi dy fendithio fwy nag unrhyw wraig arall, a bydd y babi rwyt ti'n ei gario wedi'i fendithio hefyd!
Luke WelBeibl 1:43  Pam mae Duw wedi rhoi'r fath fraint i mi? – cael mam fy Arglwydd yn dod i ngweld i!
Luke WelBeibl 1:44  Wir i ti, wrth i ti nghyfarch i, dyma'r babi sydd yn fy nghroth i yn neidio o lawenydd pan glywais dy lais di.
Luke WelBeibl 1:45  Rwyt ti wedi dy fendithio'n fawr, am dy fod wedi credu y bydd yr Arglwydd yn gwneud beth mae wedi'i ddweud wrthot ti.”
Luke WelBeibl 1:46  A dyma Mair yn ymateb: “O, dw i'n moli'r Arglwydd!
Luke WelBeibl 1:47  Mae Duw, fy Achubwr, wedi fy ngwneud i mor hapus!
Luke WelBeibl 1:48  Roedd yn gwybod bod ei forwyn yn ferch gyffredin iawn, ond o hyn ymlaen bydd pobl o bob oes yn dweud fy mod wedi fy mendithio,
Luke WelBeibl 1:49  Mae Duw, yr Un Cryf, wedi gwneud pethau mawr i mi – Mae ei enw mor sanctaidd!
Luke WelBeibl 1:50  Mae bob amser yn trugarhau wrth y rhai sy'n ymostwng iddo.
Luke WelBeibl 1:51  Mae wedi defnyddio'i rym i wneud pethau rhyfeddol! – Mae wedi gyrru y rhai balch ar chwâl.
Luke WelBeibl 1:52  Mae wedi cymryd eu hawdurdod oddi ar lywodraethwyr, ac anrhydeddu'r bobl hynny sy'n ‛neb‛.
Luke WelBeibl 1:53  Mae wedi rhoi digonedd o fwyd da i'r newynog, ac anfon y bobl gyfoethog i ffwrdd heb ddim!
Luke WelBeibl 1:54  Mae wedi helpu ei was Israel, a dangos trugaredd at ei bobl.
Luke WelBeibl 1:55  Dyma addawodd ei wneud i'n cyndeidiau ni – dangos trugaredd at Abraham a'i ddisgynyddion am byth.”
Luke WelBeibl 1:56  Arhosodd Mair gydag Elisabeth am tua tri mis cyn mynd yn ôl adre.
Luke WelBeibl 1:57  Pan ddaeth yr amser i fabi Elisabeth gael ei eni, bachgen bach gafodd hi.
Luke WelBeibl 1:58  Clywodd ei chymdogion a'i pherthnasau y newyddion, ac roedden nhw i gyd yn hapus hefyd fod yr Arglwydd wedi bod mor garedig wrthi hi.
Luke WelBeibl 1:59  Wythnos ar ôl i'r babi gael ei eni roedd pawb wedi dod i seremoni enwaedu y bachgen, ac yn cymryd yn ganiataol mai Sachareias fyddai'n cael ei alw, yr un fath â'i dad.
Luke WelBeibl 1:60  Ond dyma Elisabeth yn dweud yn glir, “Na! Ioan fydd ei enw.”
Luke WelBeibl 1:61  “Beth?” medden nhw, “Does neb yn y teulu gyda'r enw yna.”
Luke WelBeibl 1:62  Felly dyma nhw'n gwneud arwyddion i ofyn i Sachareias beth oedd e eisiau galw'i fab.
Luke WelBeibl 1:63  Gofynnodd am lechen i ysgrifennu arni, ac er syndod i bawb, ysgrifennodd y geiriau, “Ioan ydy ei enw.”
Luke WelBeibl 1:64  Yr eiliad honno cafodd ei allu i siarad yn ôl, a dechreuodd foli Duw.
Luke WelBeibl 1:65  Roedd ei gymdogion i gyd wedi'u syfrdanu, ac roedd pawb drwy ardal bryniau Jwdea yn siarad am beth oedd wedi digwydd.
Luke WelBeibl 1:66  Roedd pawb yn gofyn, “Beth fydd hanes y plentyn yma?” Roedd hi'n amlwg i bawb fod llaw Duw arno.
Luke WelBeibl 1:67  Dyma Sachareias, tad y plentyn, yn cael ei lenwi â'r Ysbryd Glân, ac yn proffwydo fel hyn:
Luke WelBeibl 1:68  “Molwch yr Arglwydd – Duw Israel! Mae wedi dod i ollwng ei bobl yn rhydd.
Luke WelBeibl 1:69  Mae wedi anfon un cryf i'n hachub ni – un yn perthyn i deulu ei was, y Brenin Dafydd.
Luke WelBeibl 1:70  Dyma'n union addawodd ymhell yn ôl, drwy ei broffwydi sanctaidd:
Luke WelBeibl 1:71  Bydd yn ein hachub ni rhag ein gelynion ac o afael pawb sy'n ein casáu ni.
Luke WelBeibl 1:72  Mae wedi trugarhau, fel yr addawodd i'n cyndeidiau, ac wedi cofio'r ymrwymiad cysegredig a wnaeth
Luke WelBeibl 1:74  i'n hachub ni o afael ein gelynion, i ni allu ei wasanaethu heb ofni neb na dim,
Luke WelBeibl 1:75  a byw yn bobl sanctaidd a chyfiawn tra byddwn fyw.
Luke WelBeibl 1:76  A thithau, fy mab bach, byddi di'n cael dy alw yn broffwyd i'r Duw Goruchaf; oherwydd byddi'n mynd o flaen yr Arglwydd i baratoi'r ffordd ar ei gyfer.
Luke WelBeibl 1:77  Byddi'n dangos i'w bobl sut mae cael eu hachub drwy i'w pechodau gael eu maddau.
Luke WelBeibl 1:78  Oherwydd mae Duw yn dirion ac yn drugarog, ac mae ei oleuni ar fin gwawrio arnon ni o'r nefoedd.
Luke WelBeibl 1:79  Bydd yn disgleirio ar y rhai sy'n byw yn y tywyllwch gyda chysgod marwolaeth drostyn nhw, ac yn ein harwain ar hyd llwybr heddwch.”
Luke WelBeibl 1:80  Tyfodd y plentyn Ioan yn fachgen cryf yn ysbrydol. Yna aeth i fyw i'r anialwch nes iddo gael ei anfon i gyhoeddi ei neges i bobl Israel.
Chapter 2
Luke WelBeibl 2:1  Tua'r un adeg dyma Cesar Awgwstws yn gorchymyn cynnal cyfrifiad drwy'r Ymerodraeth Rufeinig i gyd.
Luke WelBeibl 2:2  (Hwn oedd y cyfrifiad cyntaf, gafodd ei gynnal cyn bod Cwiriniws yn llywodraethwr Syria.)
Luke WelBeibl 2:3  Roedd pawb yn mynd adre i'r trefi lle cawson nhw eu geni, i gofrestru ar gyfer y cyfrifiad.
Luke WelBeibl 2:4  Felly gan fod Joseff yn perthyn i deulu'r Brenin Dafydd, gadawodd Nasareth yn Galilea, a mynd i gofrestru yn Jwdea – yn Bethlehem, hynny ydy tref Dafydd.
Luke WelBeibl 2:5  Aeth yno gyda Mair oedd yn mynd i fod yn wraig iddo, ac a oedd erbyn hynny'n disgwyl babi.
Luke WelBeibl 2:6  Tra oedden nhw yno daeth yn amser i'r babi gael ei eni,
Luke WelBeibl 2:7  a dyna lle cafodd ei phlentyn cyntaf ei eni – bachgen bach. Dyma hi'n lapio cadachau geni yn ofalus amdano, a'i osod i orwedd mewn cafn ar gyfer bwydo anifeiliaid. Doedd dim llety iddyn nhw aros ynddo.
Luke WelBeibl 2:8  Yn ardal Bethlehem roedd bugeiliaid allan drwy'r nos yn yr awyr agored yn gofalu am eu defaid.
Luke WelBeibl 2:9  Yn sydyn dyma nhw'n gweld un o angylion yr Arglwydd, ac roedd ysblander yr Arglwydd fel golau llachar o'u cwmpas nhw. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau.
Luke WelBeibl 2:10  Ond dyma'r angel yn dweud wrthyn nhw, “Peidiwch bod ofn. Mae gen i newyddion da i chi! Newyddion fydd yn gwneud pobl ym mhobman yn llawen iawn.
Luke WelBeibl 2:11  Mae eich Achubwr wedi cael ei eni heddiw, yn Bethlehem (tref y Brenin Dafydd). Ie, y Meseia! Yr Arglwydd!
Luke WelBeibl 2:12  Dyma sut byddwch chi'n ei nabod e: Dewch o hyd iddo yn fabi bach wedi'i lapio mewn cadachau ac yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid.”
Luke WelBeibl 2:13  Yn sydyn dyma filoedd o angylion eraill yn dod i'r golwg, roedd fel petai holl angylion y nefoedd yno yn addoli Duw!
Luke WelBeibl 2:14  “Gogoniant i Dduw yn y nefoedd uchaf, heddwch ar y ddaear islaw, a bendith Duw ar bobl.”
Luke WelBeibl 2:15  Pan aeth yr angylion i ffwrdd yn ôl i'r nefoedd, dyma'r bugeiliaid yn dweud wrth ei gilydd, “Dewch! Gadewch i ni fynd i Bethlehem, i weld beth mae'r Arglwydd wedi'i ddweud wrthon ni sydd wedi digwydd.”
Luke WelBeibl 2:16  Felly i ffwrdd â nhw, a dyma nhw'n dod o hyd i Mair a Joseff a'r babi bach yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid.
Luke WelBeibl 2:17  Ar ôl ei weld, dyma'r bugeiliaid yn mynd ati i ddweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd, a beth ddwedodd yr angel wrthyn nhw am y plentyn yma.
Luke WelBeibl 2:18  Roedd pawb glywodd am y peth yn rhyfeddu at yr hyn roedd y bugeiliaid yn ei ddweud.
Luke WelBeibl 2:19  Ond roedd Mair yn cofio pob manylyn ac yn meddwl yn aml am y cwbl oedd wedi cael ei ddweud am ei phlentyn.
Luke WelBeibl 2:20  Aeth y bugeiliaid yn ôl i'w gwaith gan ganmol a moli Duw am bopeth roedden nhw wedi'i weld a'i glywed. Roedd y cwbl yn union fel roedd yr angel wedi dweud.
Luke WelBeibl 2:21  Pan oedd y plentyn yn wythnos oed cafodd ei enwaedu, a'i alw yn Iesu. Dyna oedd yr enw roddodd yr angel iddo hyd yn oed cyn iddo gael ei genhedlu yng nghroth Mair.
Luke WelBeibl 2:22  Pan oedd pedwar deg diwrnod wedi mynd heibio ers i'r bachgen gael ei eni, roedd y cyfnod o buro mae Cyfraith Moses yn sôn amdano wedi dod i ben. Felly aeth Joseff a Mair i Jerwsalem i gyflwyno eu mab cyntaf i'r Arglwydd
Luke WelBeibl 2:23  (Mae Cyfraith Duw yn dweud: “Os bachgen ydy'r plentyn cyntaf i gael ei eni, rhaid iddo gael ei gysegru i'r Arglwydd”
Luke WelBeibl 2:24  a hefyd fod rhaid offrymu aberth i'r Arglwydd – “pâr o durturod neu ddwy golomen”.)
Luke WelBeibl 2:25  Roedd dyn o'r enw Simeon yn byw yn Jerwsalem – dyn da a duwiol. Roedd dylanwad yr Ysbryd Glân yn drwm ar ei fywyd, ac roedd yn disgwyl yn frwd i'r Meseia ddod i helpu Israel.
Luke WelBeibl 2:26  Roedd yr Ysbryd Glân wedi dweud wrtho y byddai'n gweld y Meseia cyn iddo fe farw.
Luke WelBeibl 2:27  A'r diwrnod hwnnw dyma'r Ysbryd yn dweud wrtho i fynd i'r deml. Felly pan ddaeth rhieni Iesu yno gyda'u plentyn i wneud yr hyn roedd y Gyfraith yn ei ofyn,
Luke WelBeibl 2:28  dyma Simeon yn cymryd y plentyn yn ei freichiau a dechrau moli Duw fel hyn:
Luke WelBeibl 2:29  “O Feistr Sofran! Gad i mi, dy was, bellach farw mewn heddwch! Dyma wnest ti ei addo i mi –
Luke WelBeibl 2:30  dw i wedi gweld yr Achubwr gyda fy llygaid fy hun.
Luke WelBeibl 2:32  yn olau er mwyn i genhedloedd eraill allu gweld, ac yn rheswm i bobl Israel dy foli di.”
Luke WelBeibl 2:33  Roedd Mair a Joseff yn rhyfeddu at y pethau oedd yn cael eu dweud am Iesu.
Luke WelBeibl 2:34  Yna dyma Simeon yn eu bendithio nhw, a dweud wrth Mair, y fam: “Bydd y plentyn yma yn achos cwymp i lawer yn Israel ac yn fendith i eraill. Bydd yn rhybudd sy'n cael ei wrthod,
Luke WelBeibl 2:35  a bydd yr hyn mae pobl yn ei feddwl go iawn yn dod i'r golwg. A byddi di'n dioddef hefyd, fel petai cleddyf yn trywanu dy enaid di.”
Luke WelBeibl 2:36  Roedd gwraig o'r enw Anna, oedd yn broffwydes, yn y deml yr un pryd. Roedd yn ferch i Phanuel o lwyth Aser, ac yn hen iawn. Roedd hi wedi bod yn weddw ers i'w gŵr farw dim ond saith mlynedd ar ôl iddyn nhw briodi.
Luke WelBeibl 2:37  Erbyn hyn roedd hi'n wyth deg pedair mlwydd oed. Fyddai hi byth yn gadael y deml – roedd hi yno ddydd a nos yn addoli Duw, ac yn ymprydio a gweddïo.
Luke WelBeibl 2:38  Daeth at Mair a Joseff pan oedd Simeon gyda nhw a dechrau moli Duw a diolch iddo. Roedd yn siarad am Iesu gyda phawb oedd yn edrych ymlaen at ryddid i Jerwsalem.
Luke WelBeibl 2:39  Pan oedd Joseff a Mair wedi gwneud popeth roedd Cyfraith yr Arglwydd yn ei ofyn, dyma nhw'n mynd yn ôl adre i Nasareth yn Galilea.
Luke WelBeibl 2:40  Tyfodd y plentyn yn fachgen cryf a doeth iawn, ac roedd hi'n amlwg bod ffafr Duw arno.
Luke WelBeibl 2:41  Byddai rhieni Iesu yn arfer mynd i Jerwsalem i ddathlu Gŵyl y Pasg bob blwyddyn,
Luke WelBeibl 2:42  a phan oedd Iesu yn ddeuddeg oed aethon nhw yno i'r Ŵyl fel arfer.
Luke WelBeibl 2:43  Pan oedd yr Ŵyl drosodd dyma'i rieni yn troi am adre, heb sylweddoli fod Iesu wedi aros yn Jerwsalem.
Luke WelBeibl 2:44  Roedden nhw wedi teithio drwy'r dydd gan gymryd yn ganiataol ei fod gyda'i ffrindiau yn rhywle. Dyma nhw'n mynd ati i edrych amdano ymhlith eu ffrindiau a'u perthnasau,
Luke WelBeibl 2:45  ond methu dod o hyd iddo. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Jerwsalem i edrych amdano.
Luke WelBeibl 2:46  Roedd hi'r trydydd diwrnod cyn iddyn nhw ddod o hyd iddo! Roedd wedi bod yn y deml, yn eistedd gyda'r athrawon ac yn gwrando arnyn nhw ac yn gofyn cwestiynau.
Luke WelBeibl 2:47  Roedd pawb welodd e yn rhyfeddu gymaint roedd yn ei ddeall.
Luke WelBeibl 2:48  Cafodd ei rieni y fath sioc pan ddaethon nhw o hyd iddo, a dyma'i fam yn gofyn iddo, “Machgen i, pam wyt ti wedi gwneud hyn i ni? Mae dy dad a fi wedi bod yn poeni'n ofnadwy ac yn chwilio ym mhobman amdanat ti.”
Luke WelBeibl 2:49  Gofynnodd Iesu iddyn nhw, “Pam roedd rhaid i chi chwilio? Wnaethoch chi ddim meddwl y byddwn i'n siŵr o fod yn nhŷ fy Nhad?”
Luke WelBeibl 2:50  Ond doedd ei rieni ddim wir yn deall beth roedd yn ei olygu.
Luke WelBeibl 2:51  Felly aeth Iesu yn ôl i Nasareth gyda nhw a bu'n ufudd iddyn nhw. Roedd Mair yn cofio pob manylyn o beth ddigwyddodd, a beth gafodd ei ddweud.
Luke WelBeibl 2:52  Tyfodd Iesu'n fachgen doeth a chryf. Roedd ffafr Duw arno, ac roedd pobl hefyd yn hoff iawn ohono.
Chapter 3
Luke WelBeibl 3:1  Flynyddoedd yn ddiweddarach, tra oedd yn byw yn yr anialwch, cafodd Ioan, mab Sachareias, neges gan Dduw. Erbyn hynny roedd Tiberiws Cesar wedi bod yn teyrnasu ers pymtheng mlynedd; Pontius Peilat oedd llywodraethwr Jwdea, Herod yn is-lywodraethwr ar Galilea, ei frawd Philip ar Itwrea a Trachonitis, a Lysanias ar Abilene; ac roedd Annas a Caiaffas yn archoffeiriaid.
Luke WelBeibl 3:2  Flynyddoedd yn ddiweddarach, tra oedd yn byw yn yr anialwch, cafodd Ioan, mab Sachareias, neges gan Dduw. Erbyn hynny roedd Tiberiws Cesar wedi bod yn teyrnasu ers pymtheng mlynedd; Pontius Peilat oedd llywodraethwr Jwdea, Herod yn is-lywodraethwr ar Galilea, ei frawd Philip ar Itwrea a Trachonitis, a Lysanias ar Abilene; ac roedd Annas a Caiaffas yn archoffeiriaid.
Luke WelBeibl 3:3  Teithiodd Ioan drwy'r ardal o gwmpas afon Iorddonen, yn cyhoeddi bod rhaid i bobl gael eu bedyddio, fel arwydd eu bod nhw'n troi cefn ar eu pechodau ac yn derbyn maddeuant gan Dduw.
Luke WelBeibl 3:4  Roedd yn union fel mae'n dweud yn llyfr y proffwyd Eseia: “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i'r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau'n syth iddo!
Luke WelBeibl 3:5  Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi, pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu. Bydd y ffyrdd troellog yn cael eu gwneud yn syth, a'r lonydd anwastad yn cael eu gwneud yn llyfn.
Luke WelBeibl 3:6  Bydd y ddynoliaeth gyfan yn gweld Duw yn achub.’”
Luke WelBeibl 3:7  Roedd Ioan yn dweud yn blaen wrth y tyrfaoedd oedd yn mynd allan ato i gael eu bedyddio ganddo: “Dych chi fel nythaid o nadroedd! Pwy sydd wedi'ch rhybuddio chi i ddianc rhag y gosb sy'n mynd i ddod?
Luke WelBeibl 3:8  Rhaid i chi ddangos yn y ffordd dych chi'n byw eich bod wedi newid go iawn. A pheidiwch meddwl eich bod chi'n saff drwy ddweud, ‘Abraham ydy'n tad ni.’ Gallai Duw droi'r cerrig yma sydd ar lawr yn blant i Abraham!
Luke WelBeibl 3:9  Mae bwyell barn Duw yn barod i dorri'r gwreiddiau i ffwrdd! Bydd pob coeden sydd heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr a'i thaflu i'r tân!”
Luke WelBeibl 3:10  “Felly, beth ddylen ni ei wneud?” gofynnodd y dyrfa.
Luke WelBeibl 3:11  Atebodd Ioan, “Os oes gynnoch chi ddwy gôt, rhowch un ohonyn nhw i berson tlawd sydd heb un o gwbl. A gwnewch yr un fath gyda bwyd.”
Luke WelBeibl 3:12  Roedd rhai oedd yn casglu trethi i'r Rhufeiniaid yn dod i gael eu bedyddio hefyd, a dyma nhw'n gofyn iddo, “Beth ddylen ni ei wneud, athro?”
Luke WelBeibl 3:13  “Peidio casglu mwy o arian nag y dylech chi,” meddai wrthyn nhw.
Luke WelBeibl 3:14  “A beth ddylen ni ei wneud?” meddai rhyw filwyr ddaeth ato. “Peidiwch dwyn arian oddi ar bobl”, oedd ateb Ioan iddyn nhw, “a pheidiwch cyhuddo pobl ar gam er mwyn gwneud arian. Byddwch yn fodlon ar eich cyflog.”
Luke WelBeibl 3:15  Roedd pobl yn teimlo fod rhywbeth mawr ar fin digwydd, a phawb yn dechrau meddwl tybed ai Ioan oedd y Meseia.
Luke WelBeibl 3:16  Ond ateb Ioan iddyn nhw i gyd oedd, “Dŵr dw i'n ei ddefnyddio i'ch bedyddio chi. Ond mae un llawer mwy grymus na fi yn dod yn fuan – rhywun sydd mor bwysig, fyddwn i ddim yn deilwng o fod yn gaethwas sy'n datod carrai ei sandalau hyd yn oed! Bydd hwnnw yn eich bedyddio chi gyda'r Ysbryd Glân a gyda thân.
Luke WelBeibl 3:17  Mae ganddo fforch nithio yn ei law i wahanu'r grawn a'r us. Bydd yn clirio'r llawr dyrnu, yn casglu'r gwenith i'w ysgubor ac yn llosgi'r us mewn tân sydd byth yn diffodd.”
Luke WelBeibl 3:18  Roedd Ioan yn dweud llawer o bethau eraill tebyg wrth annog y bobl a chyhoeddi'r newyddion da iddyn nhw.
Luke WelBeibl 3:19  Ond yna dyma Ioan yn ceryddu Herod, y llywodraethwr, yn gyhoeddus. Ei geryddu am ei berthynas gyda Herodias, gwraig ei frawd, ac am lawer o bethau drwg eraill roedd wedi'u gwneud.
Luke WelBeibl 3:20  A'r canlyniad oedd i Herod ychwanegu at weddill y drygioni a wnaeth drwy roi Ioan yn y carchar.
Luke WelBeibl 3:21  Pan oedd Ioan wrthi'n bedyddio'r bobl i gyd, dyma Iesu'n dod i gael ei fedyddio hefyd. Wrth iddo weddïo, dyma'r awyr yn rhwygo'n agored
Luke WelBeibl 3:22  a'r Ysbryd Glân yn disgyn arno – ar ffurf colomen. A dyma lais o'r nefoedd yn dweud: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio i'n llwyr.”
Luke WelBeibl 3:23  Roedd Iesu tua tri deg oed pan ddechreuodd deithio o gwmpas yn dysgu'r bobl a iacháu. Roedd pawb yn cymryd ei fod yn fab i Joseff, oedd yn fab i Eli,
Luke WelBeibl 3:24  mab Mathat, mab Lefi, mab Melci, mab Janai, mab Joseff,
Luke WelBeibl 3:25  mab Matathïas, mab Amos, mab Nahum, mab Esli, mab Nagai,
Luke WelBeibl 3:26  mab Maath, mab Matathïas, mab Semein, mab Josech, mab Joda,
Luke WelBeibl 3:27  mab Joanan, mab Rhesa, mab Sorobabel, mab Shealtiel, mab Neri,
Luke WelBeibl 3:28  mab Melci, mab Adi, mab Cosam, mab Elmadam, mab Er,
Luke WelBeibl 3:29  mab Josua, mab Elieser, mab Jorim, mab Mathat, mab Lefi,
Luke WelBeibl 3:30  mab Simeon, mab Jwda, mab Joseff, mab Jonam, mab Eliacim,
Luke WelBeibl 3:31  mab Melea, mab Menna, mab Matatha, mab Nathan, mab Dafydd,
Luke WelBeibl 3:32  mab Jesse, mab Obed, mab Boas, mab Salmon, mab Nahson,
Luke WelBeibl 3:33  mab Aminadab, mab Admin, mab Ram, mab Hesron, mab Peres, mab Jwda,
Luke WelBeibl 3:34  mab Jacob, mab Isaac, mab Abraham, mab Tera, mab Nachor,
Luke WelBeibl 3:35  mab Serwg, mab Reu, mab Peleg, mab Eber, mab Sela,
Luke WelBeibl 3:36  mab Cenan, mab Arffacsad, mab Shem, mab Noa, mab Lamech,
Luke WelBeibl 3:37  mab Methwsela, mab Enoch, mab Jared, mab Mahalal-el, mab Cenan,
Chapter 4
Luke WelBeibl 4:1  Roedd Iesu'n llawn o'r Ysbryd Glân pan aeth yn ôl o ardal yr Iorddonen. Gadawodd i'r Ysbryd ei arwain i'r anialwch,
Luke WelBeibl 4:2  lle cafodd ei demtio gan y diafol am bedwar deg diwrnod. Wnaeth Iesu ddim bwyta o gwbl yn ystod y dyddiau yna, ac erbyn y diwedd roedd yn llwgu.
Luke WelBeibl 4:3  Dyma'r diafol yn dweud wrtho, “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i'r garreg yma droi'n dorth o fara.”
Luke WelBeibl 4:4  Atebodd Iesu, “Na! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Dim bwyd ydy'r unig beth mae pobl ei angen i fyw.’”
Luke WelBeibl 4:5  Dyma'r diafol yn ei arwain i le uchel ac yn dangos holl wledydd y byd iddo mewn eiliad.
Luke WelBeibl 4:6  Ac meddai'r diafol wrtho, “Gwna i adael i ti reoli'r rhain i gyd, a chael eu cyfoeth nhw hefyd. Mae'r cwbl wedi'u rhoi i mi, ac mae gen i hawl i'w rhoi nhw i bwy bynnag dw i'n ei ddewis.
Luke WelBeibl 4:7  Felly, os gwnei di fy addoli i, cei di'r cwbl.”
Luke WelBeibl 4:8  Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola'r Arglwydd dy Dduw, a'i wasanaethu e'n unig.’”
Luke WelBeibl 4:9  Dyma'r diafol yn mynd â Iesu i Jerwsalem a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml. “Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o'r fan yma.
Luke WelBeibl 4:10  Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd Duw yn gorchymyn i'w angylion dy gadw'n saff;
Luke WelBeibl 4:11  byddan nhw'n dy ddal yn eu breichiau, fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.’”
Luke WelBeibl 4:12  Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi'r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’”
Luke WelBeibl 4:13  Pan oedd y diafol wedi ceisio temtio Iesu bob ffordd bosib, gadawodd iddo nes i gyfle arall godi.
Luke WelBeibl 4:14  Aeth Iesu yn ôl i Galilea yn llawn o nerth yr Ysbryd, ac aeth y sôn amdano ar led drwy'r ardal gyfan.
Luke WelBeibl 4:15  Roedd yn dysgu yn y synagogau, ac yn cael ei ganmol gan bawb.
Luke WelBeibl 4:16  A daeth i Nasareth, lle cafodd ei fagu, a mynd i'r synagog ar y Saboth fel roedd yn arfer ei wneud. Safodd ar ei draed i ddarllen o'r ysgrifau sanctaidd.
Luke WelBeibl 4:17  Sgrôl proffwydoliaeth Eseia gafodd ei rhoi iddo, a dyma fe'n ei hagor, a dod o hyd i'r darn sy'n dweud:
Luke WelBeibl 4:18  “Mae Ysbryd yr Arglwydd arna i, oherwydd mae wedi fy eneinio i i gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd. Mae wedi fy anfon i gyhoeddi fod y rhai sy'n gaeth i gael rhyddid, a phobl sy'n ddall i gael eu golwg yn ôl, a'r rhai sy'n cael eu cam-drin i ddianc o afael y gormeswr,
Luke WelBeibl 4:19  a dweud hefyd fod y flwyddyn i'r Arglwydd ddangos ei ffafr wedi dod.”
Luke WelBeibl 4:20  Caeodd y sgrôl a'i rhoi yn ôl i'r dyn oedd yn arwain yr oedfa yn y synagog, ac yna eisteddodd. Roedd pawb yn y synagog yn syllu arno.
Luke WelBeibl 4:21  Yna dwedodd, “Mae'r geiriau yma o'r ysgrifau sanctaidd wedi dod yn wir heddiw.”
Luke WelBeibl 4:22  Roedd pawb yn dweud pethau da amdano, ac yn rhyfeddu at y pethau gwych roedd yn eu dweud. “Onid mab Joseff ydy hwn?” medden nhw.
Luke WelBeibl 4:23  Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae'n siŵr y byddwch chi'n cyfeirio at yr hen ddywediad: ‘Iachâ dy hun, feddyg!’ hynny ydy, ‘y math o beth dŷn ni wedi'i glywed i ti eu gwneud yn Capernaum, gwna yma yn dy dref dy hun.’”
Luke WelBeibl 4:24  “Ond y gwir plaen ydy, does dim parch at broffwyd yn y dre lle cafodd ei fagu!
Luke WelBeibl 4:25  Gallwch fod yn reit siŵr fod llawer iawn o wragedd gweddwon yn Israel yn amser y proffwyd Elias. Wnaeth hi ddim glawio am dair blynedd a hanner ac roedd newyn trwm drwy'r wlad i gyd.
Luke WelBeibl 4:26  Ond chafodd Elias mo'i anfon at yr un ohonyn nhw. Cafodd ei anfon at wraig o wlad arall – gwraig weddw yn Sareffath yn ardal Sidon!
Luke WelBeibl 4:27  Ac roedd llawer o bobl yn Israel yn dioddef o'r gwahanglwyf pan oedd y proffwyd Eliseus yn fyw. Ond Naaman o wlad Syria oedd yr unig un gafodd ei iacháu!”
Luke WelBeibl 4:28  Roedd pawb yn y synagog wedi gwylltio wrth ei glywed yn dweud hyn.
Luke WelBeibl 4:29  Dyma nhw'n codi ar eu traed a gyrru Iesu allan o'r dref i ben y bryn roedd y dre wedi'i hadeiladu arno. Roedden nhw'n bwriadu ei daflu dros y clogwyn,
Luke WelBeibl 4:30  ond llwyddodd i fynd drwy ganol y dyrfa ac aeth ymlaen ar ei daith.
Luke WelBeibl 4:31  Aeth i Capernaum, un o drefi Galilea, a dechrau dysgu'r bobl yno ar y Saboth.
Luke WelBeibl 4:32  Roedd pawb yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu, am fod ei neges yn gwneud i bobl wrando arno.
Luke WelBeibl 4:33  Un tro dyma rhyw ddyn oedd yn y synagog yn rhoi sgrech uchel. (Roedd y dyn wedi'i feddiannu gan gythraul, hynny ydy ysbryd drwg.)
Luke WelBeibl 4:34  “Aaaaar! Gad di lonydd i ni, Iesu o Nasareth. Rwyt ti yma i'n dinistrio ni. Dw i'n gwybod pwy wyt ti – Un Sanctaidd Duw!”
Luke WelBeibl 4:35  “Bydd ddistaw!” meddai Iesu'n ddig. “Tyrd allan ohono!” A dyma'r cythraul yn taflu'r dyn ar lawr o flaen pawb, yna daeth allan ohono heb wneud dim mwy o niwed iddo.
Luke WelBeibl 4:36  Roedd pawb wedi cael sioc, ac yn gofyn, “Beth sy'n mynd ymlaen? Mae ganddo'r fath awdurdod! Mae hyd yn oed yn gallu gorfodi ysbrydion drwg i ufuddhau iddo a dod allan o bobl!”
Luke WelBeibl 4:37  Aeth y newyddion amdano ar led fel tân gwyllt drwy'r ardal i gyd.
Luke WelBeibl 4:38  Dyma Iesu'n gadael y synagog ac yn mynd i gartref Simon. Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn sâl iawn gyda gwres uchel. Dyma nhw'n gofyn i Iesu ei helpu hi.
Luke WelBeibl 4:39  Plygodd Iesu drosti a gorchymyn i'r gwres i fynd, a diflannodd y tymheredd oedd ganddi yn y fan a'r lle! Yna dyma hi'n codi o'i gwely a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw.
Luke WelBeibl 4:40  Ar ôl i'r haul fachlud roedd y Saboth drosodd, a daeth pobl at Iesu gyda'u perthnasau oedd yn dioddef o bob math o salwch. Roedd yn eu hiacháu drwy roi ei ddwylo ar bob un ohonyn nhw.
Luke WelBeibl 4:41  A daeth cythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedden nhw'n gweiddi, “Mab Duw wyt ti!” am eu bod yn gwybod yn iawn mai Iesu oedd y Meseia, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud dim byd mwy.
Luke WelBeibl 4:42  Wrth iddi wawrio y bore wedyn aeth Iesu i ffwrdd i le unig. Roedd tyrfaoedd o bobl yn edrych amdano, ac ar ôl ei gael dyma nhw'n ceisio ei stopio rhag mynd.
Luke WelBeibl 4:43  Ond meddai Iesu, “Rhaid i mi gyhoeddi'r newyddion da am Dduw yn teyrnasu yn y trefi eraill hefyd. Dyna pam dw i wedi cael fy anfon yma.”
Luke WelBeibl 4:44  Felly aeth ati i bregethu yn y synagogau drwy wlad Jwdea.
Chapter 5
Luke WelBeibl 5:1  Un diwrnod roedd Iesu'n sefyll ar lan Llyn Galilea, ac roedd tyrfa o bobl o'i gwmpas yn gwthio ymlaen i wrando ar neges Duw.
Luke WelBeibl 5:2  Gwelodd fod dau gwch wedi'u gadael ar y lan tra oedd y pysgotwyr wrthi'n golchi eu rhwydi.
Luke WelBeibl 5:3  Aeth i mewn i un o'r cychod, a gofyn i Simon, y perchennog, ei wthio allan ychydig oddi wrth y lan. Yna eisteddodd a dechrau dysgu'r bobl o'r cwch.
Luke WelBeibl 5:4  Pan oedd wedi gorffen siarad dwedodd wrth Simon, “Dos â'r cwch allan lle mae'r dŵr yn ddwfn, a gollwng y rhwydi i ti gael dalfa o bysgod.”
Luke WelBeibl 5:5  “Meistr,” meddai Simon wrtho, “buon ni'n gweithio'n galed drwy'r nos neithiwr heb ddal dim byd! Ond am mai ti sy'n gofyn, gollynga i y rhwydi.”
Luke WelBeibl 5:6  Dyna wnaethon nhw a dyma nhw'n dal cymaint o bysgod nes i'r rhwydi ddechrau rhwygo.
Luke WelBeibl 5:7  Dyma nhw'n galw ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i'w helpu. Pan ddaeth y rheiny, cafodd y ddau gwch eu llenwi â chymaint o bysgod nes eu bod bron â suddo!
Luke WelBeibl 5:8  Pan welodd Simon Pedr beth oedd wedi digwydd, syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a dweud, “Dos i ffwrdd oddi wrtho i, Arglwydd; dw i'n ormod o bechadur!”
Luke WelBeibl 5:9  Roedd Simon a'i gydweithwyr wedi dychryn wrth weld faint o bysgod gafodd eu dal;
Luke WelBeibl 5:10  ac felly hefyd partneriaid Simon – Iago ac Ioan, meibion Sebedeus. Dyma Iesu'n dweud wrth Simon, “Paid bod ofn; o hyn ymlaen byddi di'n dal pobl yn lle pysgod.”
Luke WelBeibl 5:11  Felly ar ôl llusgo eu cychod i'r lan, dyma nhw'n gadael popeth i fynd ar ei ôl.
Luke WelBeibl 5:12  Yn un o'r trefi dyma Iesu'n cyfarfod dyn oedd â gwahanglwyf dros ei gorff i gyd. Pan welodd hwnnw Iesu, syrthiodd ar ei wyneb ar lawr a chrefu am gael ei iacháu, “Arglwydd, gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.”
Luke WelBeibl 5:13  Dyma Iesu yn estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân!” A'r eiliad honno dyma'r gwahanglwyf yn diflannu.
Luke WelBeibl 5:14  Ar ôl ei rybuddio i beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd, dyma Iesu'n dweud wrtho, “Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad. Ac fel y dwedodd Moses, dos ag offrwm gyda ti, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.”
Luke WelBeibl 5:15  Ond roedd y newyddion amdano yn mynd ar led fwy a mwy. Roedd tyrfaoedd mawr o bobl yn dod i wrando arno ac i gael eu hiacháu.
Luke WelBeibl 5:16  Ond byddai Iesu'n aml yn mynd o'r golwg i leoedd unig yn yr anialwch i weddïo.
Luke WelBeibl 5:17  Un diwrnod, pan oedd Iesu wrthi'n dysgu'r bobl, roedd Phariseaid ac arbenigwyr yn y Gyfraith yn eistedd, heb fod yn bell, yn gwrando arno. (Roedden nhw wedi dod yno o bob rhan o Galilea, a hefyd o Jwdea a Jerwsalem.) Ac roedd nerth yr Arglwydd yn galluogi Iesu i iacháu pobl.
Luke WelBeibl 5:18  A dyma ryw bobl yn dod â dyn oedd wedi'i barlysu ato, yn gorwedd ar fatras. Roedden nhw'n ceisio mynd i mewn i'w osod i orwedd o flaen Iesu.
Luke WelBeibl 5:19  Pan wnaethon nhw fethu gwneud hynny am fod yno gymaint o dyrfa, dyma nhw'n mynd i fyny ar y to a thynnu teils o'r to i'w ollwng i lawr ar ei fatras i ganol y dyrfa, reit o flaen Iesu.
Luke WelBeibl 5:20  Pan welodd Iesu'r ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn, “Mae dy bechodau wedi'u maddau.”
Luke WelBeibl 5:21  Dyma'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dechrau meddwl, “Pwy ydy hwn, ei fod yn cablu fel hyn? Duw ydy'r unig un sy'n gallu maddau pechodau!”
Luke WelBeibl 5:22  Roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd drwy'u meddyliau, a gofynnodd iddyn nhw, “Pam dych chi'n meddwl mod i'n cablu?
Luke WelBeibl 5:23  Ydy'n haws dweud ‘Mae dy bechodau wedi'u maddau,’ neu ‘Cod ar dy draed a cherdda’?
Luke WelBeibl 5:24  Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear.” A dyma Iesu'n troi at y dyn oedd wedi'i barlysu a dweud wrtho, “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.”
Luke WelBeibl 5:25  A dyna'n union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed o flaen pawb yn y fan a'r lle, cymryd y fatras roedd wedi bod yn gorwedd arni, ac aeth adre gan foli Duw.
Luke WelBeibl 5:26  Roedd pawb wedi'u syfrdanu'n llwyr ac roedden nhw hefyd yn moli Duw. “Dŷn ni wedi gweld pethau anhygoel heddiw,” medden nhw.
Luke WelBeibl 5:27  Ar ôl hyn aeth Iesu allan a gwelodd un oedd yn casglu trethi i Rufain, dyn o'r enw Lefi, yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho;
Luke WelBeibl 5:28  a dyma Lefi'n codi ar unwaith, gadael popeth, a mynd ar ei ôl.
Luke WelBeibl 5:29  Dyma Lefi yn trefnu parti mawr i Iesu yn ei dŷ, ac roedd criw mawr o ddynion oedd yn casglu trethi i Rufain a phobl eraill yno'n bwyta gyda nhw.
Luke WelBeibl 5:30  Ond dyma'r Phariseaid a'u harbenigwyr nhw yn y Gyfraith yn cwyno i'w ddisgyblion, “Pam dych chi'n bwyta ac yfed gyda'r bradwyr sy'n casglu trethi i Rufain, a phobl eraill sy'n ddim byd ond ‛pechaduriaid‛?”
Luke WelBeibl 5:31  Dyma Iesu'n eu hateb nhw, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy'n sâl.
Luke WelBeibl 5:32  Dw i wedi dod i alw pechaduriaid i droi at Dduw, dim y rhai sy'n meddwl eu bod nhw heb fai.”
Luke WelBeibl 5:33  Dyma nhw'n dweud wrth Iesu, “Mae disgyblion Ioan yn ymprydio ac yn gweddïo'n aml, a disgyblion y Phariseaid yr un fath. Pam mae dy rai di yn dal ati i fwyta ac yfed drwy'r adeg?”
Luke WelBeibl 5:34  Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi'n gorfodi pobl sy'n mynd i wledd briodas i ymprydio? Maen nhw yno i ddathlu gyda'r priodfab!
Luke WelBeibl 5:35  Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhw'n ymprydio bryd hynny.”
Luke WelBeibl 5:36  Yna dyma Iesu'n dweud fel hyn wrthyn nhw: “Does neb yn rhwygo darn o frethyn oddi ar ddilledyn newydd a'i ddefnyddio i drwsio hen ddilledyn. Byddai'r dilledyn newydd wedi'i rwygo, a'r darn newydd o frethyn ddim yn gweddu i'r hen.
Luke WelBeibl 5:37  A does neb yn tywallt gwin sydd heb aeddfedu i hen boteli crwyn. Byddai'r crwyn yn byrstio, y gwin yn cael ei golli a'r poteli yn cael eu difetha.
Luke WelBeibl 5:38  Na, rhaid defnyddio poteli crwyn newydd i'w ddal.
Luke WelBeibl 5:39  Ond y peth ydy, does neb eisiau'r gwin newydd ar ôl bod yn yfed yr hen win! ‘Mae'n well gynnon ni'r hen win,’ medden nhw!”
Chapter 6
Luke WelBeibl 6:1  Roedd Iesu'n croesi drwy ganol caeau ŷd ryw ddydd Saboth, a dyma'i ddisgyblion yn dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd, eu rhwbio yn eu dwylo a'u bwyta.
Luke WelBeibl 6:2  Gofynnodd rhai o'r Phariseaid, “Pam dych chi'n torri rheolau'r Gyfraith ar y Saboth?”
Luke WelBeibl 6:3  Atebodd Iesu, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i ddilynwyr yn llwgu?
Luke WelBeibl 6:4  Aeth i mewn i dŷ Dduw a chymryd y bara oedd wedi'i gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud mai dim ond yr offeiriaid sy'n cael ei fwyta, ond cymerodd Dafydd beth, a'i roi i'w ddilynwyr hefyd.”
Luke WelBeibl 6:5  Wedyn dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn ar y Saboth.”
Luke WelBeibl 6:6  Ar ryw Saboth arall, roedd Iesu'n dysgu yn y synagog, ac roedd yno ddyn oedd â'i law dde yn ddiffrwyth.
Luke WelBeibl 6:7  Roedd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei wylio'n ofalus – oedd e'n mynd i iacháu'r dyn yma ar y Saboth? Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn.
Luke WelBeibl 6:8  Ond roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd drwy'u meddyliau nhw, a galwodd y dyn ato, “Tyrd yma i sefyll o flaen pawb.” Felly cododd ar ei draed a sefyll lle gallai pawb ei weld.
Luke WelBeibl 6:9  “Gadewch i mi ofyn i chi,” meddai Iesu wrth y rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud sy'n iawn i'w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ddinistrio bywyd?”
Luke WelBeibl 6:10  Edrychodd Iesu arnyn nhw bob yn un, ac yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Gwnaeth hynny a chafodd y llaw ei gwella'n llwyr.
Luke WelBeibl 6:11  Roedden nhw'n wyllt gynddeiriog, a dyma nhw'n dechrau trafod gyda'i gilydd pa ddrwg y gallen nhw ei wneud i Iesu.
Luke WelBeibl 6:12  Rhyw ddiwrnod aeth Iesu i ben mynydd i weddïo, a buodd wrthi drwy'r nos yn gweddïo ar Dduw.
Luke WelBeibl 6:13  Pan ddaeth hi'n fore, galwodd ei ddisgyblion ato a dewis deuddeg ohonyn nhw fel ei gynrychiolwyr personol:
Luke WelBeibl 6:14  Simon (yr un roedd Iesu'n ei alw'n Pedr), Andreas (brawd Pedr) Iago, Ioan, Philip, Bartholomeus,
Luke WelBeibl 6:15  Mathew, Tomos, Iago fab Alffeus, Simon (oedd yn cael ei alw ‛y Selot‛),
Luke WelBeibl 6:16  Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot a drodd yn fradwr.
Luke WelBeibl 6:17  Yna aeth i lawr i le gwastad. Roedd tyrfa fawr o'i ddilynwyr gydag e, a nifer fawr o bobl eraill o bob rhan o Jwdea, ac o Jerwsalem a hefyd o arfordir Tyrus a Sidon yn y gogledd.
Luke WelBeibl 6:18  Roedden nhw wedi dod i wrando arno ac i gael eu hiacháu. Cafodd y rhai oedd yn cael eu poeni gan ysbrydion drwg eu gwella,
Luke WelBeibl 6:19  ac roedd pawb yn ceisio'i gyffwrdd am fod nerth yn llifo ohono ac yn eu gwella nhw i gyd.
Luke WelBeibl 6:20  Yna trodd Iesu at ei ddisgyblion, a dweud: “Dych chi sy'n dlawd wedi'ch bendithio'n fawr, oherwydd mae Duw yn teyrnasu yn eich bywydau.
Luke WelBeibl 6:21  Dych chi sy'n llwgu ar hyn o bryd wedi'ch bendithio'n fawr, oherwydd cewch chi wledd fydd yn eich bodloni'n llwyr ryw ddydd. Dych chi sy'n crio ar hyn o bryd wedi'ch bendithio'n fawr, oherwydd cewch chwerthin yn llawen ryw ddydd.
Luke WelBeibl 6:22  Dych chi wedi'ch bendithio'n fawr pan fydd pobl yn eich casáu a'ch cau allan a'ch sarhau, a'ch enwau'n cael eu pardduo am eich bod yn perthyn i mi, Mab y Dyn.
Luke WelBeibl 6:23  “Felly byddwch yn llawen pan mae'r pethau yma'n digwydd! Neidiwch o lawenydd! Achos mae gwobr fawr i chi yn y nefoedd. Cofiwch mai dyna'n union sut roedd hynafiaid y bobl yma'n trin y proffwydi.
Luke WelBeibl 6:24  Ond gwae chi sy'n gyfoethog, oherwydd dych chi eisoes wedi cael eich bywyd braf.
Luke WelBeibl 6:25  Gwae chi sydd â hen ddigon i'w fwyta, oherwydd daw'r dydd pan fyddwch chi'n llwgu. Gwae chi sy'n chwerthin yn ddi-hid ar hyn o bryd, oherwydd byddwch yn galaru ac yn crio.
Luke WelBeibl 6:26  Gwae chi sy'n cael eich canmol gan bawb, oherwydd dyna roedd hynafiaid y bobl yma'n ei wneud i'r proffwydi ffug.
Luke WelBeibl 6:27  “Dw i'n dweud wrthoch chi sy'n gwrando: Carwch eich gelynion, gwnewch ddaioni i'r bobl sy'n eich casáu chi,
Luke WelBeibl 6:28  bendithiwch y rhai sy'n eich melltithio chi, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich cam-drin chi.
Luke WelBeibl 6:29  Os ydy rhywun yn rhoi clatsien i ti ar un foch, tro'r foch arall ato. Os ydy rhywun yn dwyn dy gôt, paid â'i rwystro rhag cymryd dy grys hefyd.
Luke WelBeibl 6:30  Rho i bawb sy'n gofyn am rywbeth gen ti, ac os bydd rhywun yn cymryd rhywbeth piau ti, paid â'i hawlio yn ôl.
Luke WelBeibl 6:31  Dylech chi drin pobl eraill fel byddech chi'n hoffi iddyn nhw'ch trin chi.
Luke WelBeibl 6:32  “Pam dylech chi gael eich canmol am garu'r bobl hynny sy'n eich caru chi? Mae hyd yn oed ‛pechaduriaid‛ yn gwneud hynny!
Luke WelBeibl 6:33  Neu am wneud ffafr i'r rhai sy'n gwneud ffafr i chi? Mae ‛pechaduriaid‛ yn gwneud hynny hefyd!
Luke WelBeibl 6:34  Neu os dych chi'n benthyg i'r bobl hynny sy'n gallu'ch talu chi'n ôl, beth wedyn? Mae hyd yn oed ‛pechaduriaid‛ yn fodlon benthyg i'w pobl eu hunain – ac yn disgwyl cael eu talu yn ôl yn llawn!
Luke WelBeibl 6:35  Carwch chi eich gelynion. Gwnewch ddaioni iddyn nhw. Rhowch fenthyg iddyn nhw heb ddisgwyl cael dim byd yn ôl. Cewch chi wobr fawr am wneud hynny. Bydd hi'n amlwg eich bod yn blant i'r Duw Goruchaf, am mai dyna'r math o beth mae e'n ei wneud – mae'n garedig i bobl anniolchgar a drwg.
Luke WelBeibl 6:36  Rhaid i chi fod yn garedig, fel mae Duw eich tad yn garedig.
Luke WelBeibl 6:37  “Peidiwch bod yn feirniadol o bobl eraill, ac wedyn wnaiff Duw mo'ch barnu chi. Peidiwch eu condemnio nhw, a chewch chi mo'ch condemnio. Os gwnewch faddau i bobl eraill cewch chi faddeuant.
Luke WelBeibl 6:38  Os gwnewch roi, byddwch yn derbyn. Cewch lawer iawn mwy yn ôl – wedi'i wasgu i lawr, a'i ysgwyd i wneud lle i fwy! Bydd yn gorlifo! Y mesur dych chi'n ei ddefnyddio i roi fydd yn cael ei ddefnyddio i roi'n ôl i chi.”
Luke WelBeibl 6:39  Yna dyma Iesu'n dyfynnu'r hen ddywediad: “‘Ydy dyn dall yn gallu arwain dyn dall arall?’ Nac ydy wrth gwrs! Bydd y ddau yn disgyn i ffos gyda'i gilydd!
Luke WelBeibl 6:40  Dydy disgybl ddim yn dysgu ei athro – ond ar ôl cael ei hyfforddi'n llawn mae'n dod yn debyg i'w athro.
Luke WelBeibl 6:41  “Pam wyt ti'n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad di dy hun!?
Luke WelBeibl 6:42  Sut alli di ddweud, ‘Gyfaill, gad i mi dynnu'r sbecyn yna sydd yn dy lygad di,’ pan wyt ti'n methu'n lân â gweld dim am fod trawst yn sticio allan o dy lygad dy hun? Rwyt ti mor ddauwynebog! Tynna'r trawst allan o dy lygad dy hun yn gyntaf, ac wedyn byddi'n gweld yn ddigon clir i dynnu'r sbecyn allan o lygad y person arall.
Luke WelBeibl 6:43  “Dydy ffrwyth drwg ddim yn tyfu ar goeden iach, na ffrwyth da ar goeden wael.
Luke WelBeibl 6:44  Y ffrwyth sy'n dangos sut goeden ydy hi. Dydy ffigys ddim yn tyfu ar ddrain, na grawnwin ar fieri.
Luke WelBeibl 6:45  Mae pobl dda yn gwneud y daioni sydd wedi'i storio yn eu calonnau, a phobl ddrwg yn gwneud y drygioni sydd wedi'i storio yn eu calonnau nhw. Mae beth mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sydd yn eu calonnau nhw.
Luke WelBeibl 6:46  “Pam dych chi'n fy ngalw i'n ‛Arglwydd‛ ac eto ddim yn gwneud beth dw i'n ddweud?
Luke WelBeibl 6:47  Gwna i ddangos i chi sut bobl ydy'r rhai sy'n gwrando arna i ac yna'n gwneud beth dw i'n ddweud.
Luke WelBeibl 6:48  Maen nhw fel dyn sy'n mynd ati i adeiladu tŷ ac yn tyllu'n ddwfn i wneud yn siŵr fod y sylfeini ar graig solet. Pan ddaw llifogydd, a llif y dŵr yn taro yn erbyn y tŷ hwnnw, bydd yn sefyll am ei fod wedi'i adeiladu'n dda.
Luke WelBeibl 6:49  Ond mae'r rhai sy'n gwrando arna i heb wneud beth dw i'n ddweud yn debyg i ddyn sy'n adeiladu tŷ heb osod sylfaen gadarn iddo. Pan fydd llif y dŵr yn taro yn erbyn y tŷ hwnnw, bydd yn syrthio'n syth ac yn cael ei ddinistrio'n llwyr.”
Chapter 7
Luke WelBeibl 7:1  Ar ôl i Iesu orffen dweud hyn i gyd wrth y bobl, aeth i mewn i Capernaum.
Luke WelBeibl 7:2  Roedd gwas i swyddog milwrol Rhufeinig yn sâl ac ar fin marw. Roedd gan ei feistr feddwl uchel iawn ohono.
Luke WelBeibl 7:3  Pan glywodd y swyddog Rhufeinig am Iesu, anfonodd rai o'r arweinwyr Iddewig ato i ofyn iddo ddod i iacháu'r gwas.
Luke WelBeibl 7:4  Dyma nhw'n dod at Iesu ac yn pledio arno i helpu'r dyn. “Mae'r dyn yma yn haeddu cael dy help di.
Luke WelBeibl 7:5  Mae e'n caru ein pobl ni ac wedi adeiladu synagog i ni,” medden nhw.
Luke WelBeibl 7:6  Felly dyma Iesu'n mynd gyda nhw. Roedd Iesu bron â chyrraedd y tŷ pan anfonodd y swyddog Rhufeinig rai o'i ffrindiau i ddweud wrtho: “Arglwydd, paid trafferthu dod yma, dw i ddim yn deilwng i ti ddod i mewn i nhŷ i.
Luke WelBeibl 7:7  Dyna pam wnes i ddim dod i dy gyfarfod di fy hun. Does ond rhaid i ti ddweud, a bydd fy ngwas yn cael ei iacháu.
Luke WelBeibl 7:8  Mae swyddogion uwch fy mhen i yn rhoi gorchmynion i mi, ac mae gen innau filwyr odanaf fi. Dw i'n dweud ‘Dos’ wrth un, ac mae'n mynd; ‘Tyrd yma’ wrth un arall ac mae'n dod. Dw i'n dweud ‘Gwna hyn’ wrth fy ngwas, ac mae'n ei wneud.”
Luke WelBeibl 7:9  Roedd Iesu wedi'i syfrdanu pan glywodd hyn. Trodd at y dyrfa oedd yn ei ddilyn, ac meddai, “Dw i'n dweud wrthoch chi, dw i ddim wedi gweld neb o bobl Israel sydd â ffydd fel yna!”
Luke WelBeibl 7:10  Dyma'r dynion oedd wedi'u hanfon ato yn mynd yn ôl i'r tŷ, a dyna lle roedd y gwas yn holliach!
Luke WelBeibl 7:11  Yn fuan wedyn, dyma Iesu'n mynd i dref o'r enw Nain. Roedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr o bobl gydag e.
Luke WelBeibl 7:12  Pan oedd ar fin cyrraedd giât y dref roedd pobl mewn angladd ar y ffordd allan. Bachgen ifanc oedd wedi marw – unig fab rhyw wraig weddw. Roedd tyrfa fawr o bobl y dre yn yr angladd.
Luke WelBeibl 7:13  Pan welodd Iesu'r wraig weddw roedd yn teimlo drosti, ac meddai wrthi, “Paid crio.”
Luke WelBeibl 7:14  Yna gwnaeth rywbeth cwbl annisgwyl – cyffwrdd yr arch! Dyma'r rhai oedd yn ei chario yn sefyll yn stond. “Fachgen ifanc,” meddai Iesu, “dw i'n dweud wrthot ti am godi!”
Luke WelBeibl 7:15  A dyma'r bachgen oedd wedi marw yn codi ar ei eistedd a dechrau siarad. A dyma Iesu'n ei roi yn ôl i'w fam.
Luke WelBeibl 7:16  Roedd pawb wedi'u syfrdanu'n llwyr, a dyma nhw'n dechrau moli Duw. “Mae proffwyd mawr wedi codi yn ein plith ni!” medden nhw. “Mae Duw wedi dod aton ni i helpu ei bobl.”
Luke WelBeibl 7:17  Aeth yr hanes yma am Iesu ar led fel tân gwyllt, drwy Jwdea gyfan ac ymhellach na hynny.
Luke WelBeibl 7:18  Roedd disgyblion Ioan Fedyddiwr wedi mynd i ddweud wrtho am bopeth roedd Iesu'n ei wneud.
Luke WelBeibl 7:19  Felly dyma Ioan yn anfon dau ohonyn nhw at yr Arglwydd Iesu i ofyn iddo, “Ai ti ydy'r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?”
Luke WelBeibl 7:20  Dyma nhw'n dod o hyd i Iesu a dweud wrtho, “Mae Ioan Fedyddiwr eisiau gwybod, ‘Ai ti ydy'r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?’”
Luke WelBeibl 7:21  Yr adeg yna roedd Iesu wedi bod wrthi'n iacháu llawer o bobl oedd yn dioddef o afiechydon a phoenau, a dylanwad ysbrydion drwg. Roedd wedi rhoi eu golwg yn ôl i lawer o bobl ddall hefyd.
Luke WelBeibl 7:22  Felly ei ateb iddyn nhw oedd, “Ewch yn ôl a dweud wrth Ioan beth dych chi wedi'i weld a'i glywed: Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy'n dioddef o'r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Ac mae'r newyddion da yn cael ei gyhoeddi i bobl dlawd!
Luke WelBeibl 7:23  Ac un peth arall: Mae bendith fawr i bwy bynnag sydd ddim yn colli hyder ynddo i.”
Luke WelBeibl 7:24  Ar ôl i negeswyr Ioan fynd, dechreuodd Iesu siarad â'r dyrfa am Ioan: “Sut ddyn aethoch chi allan i'r anialwch i'w weld? Brwynen wan yn cael ei chwythu i bob cyfeiriad gan y gwynt?
Luke WelBeibl 7:25  Na? Beth roeddech chi'n ei ddisgwyl? Dyn yn gwisgo dillad crand? Wrth gwrs ddim! Mewn palasau mae pobl grand yn byw!
Luke WelBeibl 7:26  Felly ai proffwyd aethoch chi allan i'w weld? Ie! A dw i'n dweud wrthoch chi ei fod e'n fwy na phroffwyd.
Luke WelBeibl 7:27  Dyma'r un mae'r ysgrifau sanctaidd yn sôn amdano: ‘Edrych! – dw i'n anfon fy negesydd o dy flaen di, i baratoi'r ffordd i ti.’
Luke WelBeibl 7:28  Dw i'n dweud wrthoch chi, mae Ioan yn fwy na neb arall sydd wedi byw erioed. Ond mae'r person lleia pwysig yn nheyrnas Dduw yn fwy nag e.”
Luke WelBeibl 7:29  (Roedd y bobl gyffredin glywodd neges Ioan, hyd yn oed y dynion sy'n casglu trethi i Rufain, yn cydnabod mai ffordd Duw oedd yn iawn – dyna pam gawson nhw eu bedyddio gan Ioan.
Luke WelBeibl 7:30  Ond roedd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi gwrthod gwneud beth oedd Duw eisiau, a doedden nhw ddim wedi cael eu bedyddio gan Ioan.)
Luke WelBeibl 7:31  “Sut mae disgrifio'r dynion yma?” meddai Iesu, “I beth maen nhw'n debyg?
Luke WelBeibl 7:32  Maen nhw fel plant yn eistedd yn sgwâr y farchnad yn cwyno am ei gilydd fel hyn: ‘Roedden ni'n chwarae priodas, ond wnaethoch chi ddim dawnsio; Roedden ni'n chwarae angladd, Ond wnaethoch chi ddim wylo.’
Luke WelBeibl 7:33  Am fod Ioan Fedyddiwr ddim yn bwyta bara ac yfed gwin, roeddech chi'n dweud, ‘Mae cythraul ynddo.’
Luke WelBeibl 7:34  Ond wedyn dyma fi, Mab y Dyn yn dod, yn bwyta ac yn yfed fel pawb arall, a dyma chi'n dweud, ‘Y bolgi! Meddwyn sy'n diota a stwffio'i hun ydy e! Ffrind i'r twyllwyr sy'n casglu trethi i Rufain ac i bechaduriaid!’
Luke WelBeibl 7:35  Gallwch nabod doethineb go iawn yn ôl pa mor gyson fydd pobl!”
Luke WelBeibl 7:36  Roedd un o'r Phariseaid wedi gwahodd Iesu i swper, felly aeth Iesu i'w dŷ ac eistedd wrth y bwrdd.
Luke WelBeibl 7:37  Dyma wraig o'r dref oedd yn adnabyddus am ei bywyd anfoesol yn clywed fod Iesu yn cael pryd o fwyd yng nghartre'r Pharisead, ac aeth yno gyda blwch hardd yn llawn o bersawr.
Luke WelBeibl 7:38  Plygodd y tu ôl iddo wrth ei draed, yn crio. Roedd ei dagrau yn gwlychu ei draed, felly sychodd nhw â'i gwallt a'u cusanu, ac yna tywallt y persawr arnyn nhw.
Luke WelBeibl 7:39  Pan welodd y dyn oedd wedi gwahodd Iesu beth oedd yn digwydd, meddyliodd, “Petai'r dyn yma yn broffwyd byddai'n gwybod pa fath o wraig sy'n ei gyffwrdd – dydy hi'n ddim byd ond pechadures!”
Luke WelBeibl 7:40  Ond dyma Iesu'n dweud wrtho, “Simon, dw i eisiau dweud rhywbeth wrthot ti.” “Beth athro?” meddai.
Luke WelBeibl 7:41  “Roedd dau o bobl mewn dyled i fenthyciwr arian. Pum can denariws oedd dyled un, a hanner can denariws oedd dyled y llall.
Luke WelBeibl 7:42  Ond pan oedd y naill a'r llall yn methu ei dalu'n ôl, dyma'r benthyciwr yn canslo dyled y ddau! Felly, pa un o'r ddau wyt ti'n meddwl fydd yn ei garu fwyaf?”
Luke WelBeibl 7:43  “Mae'n debyg mai'r un gafodd y ddyled fwyaf wedi'i chanslo,” meddai Simon. “Rwyt ti'n iawn,” meddai Iesu.
Luke WelBeibl 7:44  Yna dyma Iesu'n troi at y wraig, ac yn dweud wrth Simon, “Edrych ar y wraig yma. Pan ddes i mewn i dy dŷ di, ches i ddim dŵr i olchi fy nhraed. Ond mae hon wedi gwlychu fy nhraed â'i dagrau a'u sychu â'i gwallt.
Luke WelBeibl 7:45  Wnest ti ddim fy nghyfarch i â chusan, ond dydy hon ddim wedi stopio cusanu fy nhraed ers i mi gyrraedd.
Luke WelBeibl 7:46  Wnest ti ddim rhoi croeso i mi drwy roi olew ar fy mhen, ond mae hon wedi tywallt persawr ar fy nhraed.
Luke WelBeibl 7:47  Felly dw i'n dweud wrthot ti, mae pob un o'i phechodau hi wedi'u maddau – ac mae hi wedi dangos cariad mawr ata i. Ond bach iawn ydy cariad y sawl sydd wedi cael maddeuant am bethau bach.”
Luke WelBeibl 7:48  Wedyn dyma Iesu'n dweud wrth y wraig ei hun, “Mae dy bechodau wedi'u maddau.”
Luke WelBeibl 7:49  A dyma'r gwesteion eraill yn dechrau siarad ymhlith ei gilydd, “Pwy ydy hwn, yn meddwl y gall faddau pechodau?”
Luke WelBeibl 7:50  Dyma Iesu'n dweud wrth y wraig, “Am i ti gredu rwyt wedi dy achub; dos adre! Bendith Duw arnat ti!”
Chapter 8
Luke WelBeibl 8:1  Am beth amser wedyn roedd Iesu'n teithio o gwmpas y trefi a'r pentrefi yn cyhoeddi'r newyddion da am Dduw yn teyrnasu. Roedd y deuddeg disgybl gydag e,
Luke WelBeibl 8:2  a hefyd rhyw wragedd oedd wedi cael eu hiacháu o effeithiau ysbrydion drwg ac afiechydon: Mair, oedd yn cael ei galw'n Magdalen – roedd saith o gythreuliaid wedi dod allan ohoni hi;
Luke WelBeibl 8:3  Joanna, gwraig Chwsa (prif reolwr palas Herod); Swsana, a nifer o rai eraill oedd yn defnyddio'u harian i helpu i gynnal Iesu a'i ddisgyblion.
Luke WelBeibl 8:4  Dwedodd y stori yma pan oedd tyrfa fawr o bobl o wahanol drefi wedi casglu at ei gilydd:
Luke WelBeibl 8:5  “Aeth ffermwr allan i hau hadau. Wrth iddo wasgaru'r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr. Cafodd ei sathru dan draed, a dyma'r adar yn ei fwyta.
Luke WelBeibl 8:6  Dyma beth ohono yn syrthio ar dir creigiog, ond wrth ddechrau tyfu dyma fe'n gwywo am fod dim dŵr ganddo.
Luke WelBeibl 8:7  A dyma beth yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain yr un pryd a thagu'r planhigion.
Luke WelBeibl 8:8  Ond syrthiodd peth ohono ar bridd da. Tyfodd hwnnw, a rhoddodd gnwd oedd gan gwaith mwy na beth gafodd ei hau.” Ar ôl dweud hyn, galwodd allan yn uchel, “Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”
Luke WelBeibl 8:9  Yn nes ymlaen dyma'i ddisgyblion yn gofyn iddo beth oedd ystyr y stori.
Luke WelBeibl 8:10  Atebodd Iesu, “Dych chi'n cael gwybod beth ydy'r gyfrinach am deyrnasiad Duw, ond i eraill dw i ddim ond yn adrodd straeon, felly, ‘Er eu bod yn edrych, chân nhw ddim gweld; er eu bod yn gwrando, chân nhw ddim deall.’
Luke WelBeibl 8:11  “Dyma beth ydy ystyr y stori: Neges Duw ydy'r hadau.
Luke WelBeibl 8:12  Y rhai ar y llwybr ydy'r bobl sy'n clywed y neges, ond mae'r diafol yn dod ac yn cipio'r neges oddi arnyn nhw, i'w rhwystro nhw rhag credu a chael eu hachub.
Luke WelBeibl 8:13  Y rhai ar y tir creigiog ydy'r bobl hynny sy'n derbyn y neges yn frwd i ddechrau, ond dydy'r neges ddim yn gafael ynddyn nhw. Maen nhw'n credu am sbel, ond pan ddaw'r amser iddyn nhw gael eu profi maen nhw'n rhoi'r gorau iddi.
Luke WelBeibl 8:14  Yna'r rhai syrthiodd i ganol drain ydy'r bobl sy'n clywed y neges, ond mae poeni drwy'r adeg am bethau fel cyfoeth a phleserau yn eu tagu, a dŷn nhw ddim yn aeddfedu.
Luke WelBeibl 8:15  Ond yr hadau syrthiodd i bridd da ydy'r bobl hynny sy'n clywed y neges ac yn dal gafael i'r diwedd – pobl sydd â chalon agored ddidwyll. Mae'r effaith ar eu bywydau nhw fel cnwd anferth.
Luke WelBeibl 8:16  “Dydy pobl ddim yn goleuo lamp ac yna'n rhoi rhywbeth drosti neu'n ei chuddio dan y gwely. Na, mae'n cael ei gosod ar fwrdd, er mwyn i bawb sy'n dod i mewn allu gweld.
Luke WelBeibl 8:17  Bydd popeth sydd wedi'i guddio yn cael ei weld yn glir maes o law. Bydd pob cyfrinach yn cael ei rhannu ac yn dod i'r golwg.
Luke WelBeibl 8:18  Felly gwrandwch yn ofalus. Bydd y rhai sydd wedi deall yn derbyn mwy; ond am y rhai hynny sydd heb ddeall, bydd hyd yn oed yr hyn maen nhw'n meddwl maen nhw'n ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw.”
Luke WelBeibl 8:19  Yna cyrhaeddodd mam Iesu a'i frodyr yno, ond roedden nhw'n methu mynd yn agos ato o achos y dyrfa.
Luke WelBeibl 8:20  Dwedodd rhywun wrtho, “Mae dy fam a dy frodyr yn sefyll y tu allan, eisiau dy weld di.”
Luke WelBeibl 8:21  Ond atebodd Iesu, “Fy mam a'm brodyr i ydy'r bobl sy'n clywed neges Duw ac yn gwneud beth mae'n ei ddweud.”
Luke WelBeibl 8:22  Un diwrnod dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Beth am i ni groesi i ochr draw'r llyn?” Felly i ffwrdd â nhw mewn cwch.
Luke WelBeibl 8:23  Wrth groesi'r llyn syrthiodd Iesu i gysgu. Daeth storm ofnadwy ar y llyn ac roedd y cwch yn llenwi â dŵr nes eu bod nhw mewn peryg o suddo.
Luke WelBeibl 8:24  Dyma'r disgyblion yn mynd at Iesu a'i ddeffro, ac yn dweud wrtho, “Feistr! dŷn ni'n suddo feistr!” Cododd Iesu ar ei draed a cheryddu'r gwynt a'r tonnau gwyllt; a dyma'r storm yn stopio, ac roedd pobman yn hollol dawel.
Luke WelBeibl 8:25  “Ble mae'ch ffydd chi?” gofynnodd i'w ddisgyblion. Roedden nhw wedi dychryn ac yn rhyfeddu at beth ddigwyddodd. “Pwy ydy hwn?” medden nhw, “Mae hyd yn oed yn rhoi gorchymyn i'r gwynt a'r dŵr, ac maen nhw'n ufuddhau iddo.”
Luke WelBeibl 8:26  Dyma nhw'n cyrraedd ardal Gerasa sydd yr ochr draw i'r llyn o Galilea.
Luke WelBeibl 8:27  Wrth i Iesu gamu allan o'r cwch i'r lan dyma ddyn o'r dref oedd yng ngafael cythreuliaid yn dod i'w gyfarfod. Doedd y dyn yma ddim wedi gwisgo dillad na byw mewn tŷ ers amser maith – roedd wedi bod yn byw yng nghanol y beddau.
Luke WelBeibl 8:28  Pan welodd Iesu, rhoddodd y dyn sgrech a syrthio i lawr o'i flaen gan weiddi nerth ei ben, “Gad di lonydd i mi, Iesu, mab y Duw Goruchaf! Dw i'n crefu arnat ti, paid poenydio fi!”
Luke WelBeibl 8:29  (Roedd Iesu newydd orchymyn i'r ysbryd drwg ddod allan o'r dyn. Ers amser hir roedd yr ysbryd wedi meistroli'r dyn yn llwyr. Roedd rhaid iddo gael ei warchod, gyda'i ddwylo a'i draed mewn cadwyni. Ond roedd yn llwyddo i ddianc o hyd, ac roedd y cythraul yn ei yrru allan i'r anialwch.)
Luke WelBeibl 8:30  A dyma Iesu'n gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Lleng,” atebodd, achos roedd llawer o gythreuliaid wedi mynd iddo.
Luke WelBeibl 8:31  Roedden nhw'n pledio'n daer ar i Iesu beidio gorchymyn iddyn nhw fynd i'r dyfnder tywyll.
Luke WelBeibl 8:32  Roedd cenfaint fawr o foch yn pori ar ochr bryn cyfagos, a dyma'r cythreuliaid yn pledio ar Iesu i adael iddyn nhw fynd i fyw yn y moch. Felly dyma Iesu'n rhoi caniatâd iddyn nhw.
Luke WelBeibl 8:33  Pan aeth y cythreuliaid allan o'r dyn a mynd i mewn i'r moch, dyma'r moch i gyd yn rhuthro i lawr y llechwedd serth i mewn i'r llyn, a boddi.
Luke WelBeibl 8:34  Pan welodd y rhai oedd yn gofalu am y moch beth ddigwyddodd, dyma nhw'n rhedeg i ffwrdd a dweud wrth bawb.
Luke WelBeibl 8:35  Aeth pobl allan i weld drostyn nhw'u hunain. Dyma nhw'n dychryn pan ddaethon nhw at Iesu, achos dyna lle roedd y dyn roedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn eistedd yn dawel o flaen Iesu yn gwisgo dillad ac yn ei iawn bwyll.
Luke WelBeibl 8:36  Dwedodd y llygad-dystion eto sut roedd y dyn yng ngafael cythreuliaid wedi cael ei iacháu.
Luke WelBeibl 8:37  Felly, ar ôl hynny dyma bobl ardal Gerasa i gyd yn gofyn i Iesu adael, achos roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Felly aeth Iesu yn ôl i'r cwch.
Luke WelBeibl 8:38  Dyma'r dyn roedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn erfyn am gael aros gydag e, ond dyma Iesu yn ei anfon i ffwrdd a dweud wrtho,
Luke WelBeibl 8:39  “Dos yn ôl adre i ddweud am y cwbl mae Duw wedi'i wneud i ti.” Felly i ffwrdd â'r dyn, a dweud wrth bawb yn y dref am bopeth roedd Iesu wedi'i wneud iddo.
Luke WelBeibl 8:40  Pan aeth Iesu yn ôl i ochr draw'r llyn, roedd tyrfa yno i'w groesawu – roedden nhw wedi bod yn disgwyl amdano.
Luke WelBeibl 8:41  Dyma ddyn o'r enw Jairus, un o arweinwyr y synagog, yn dod ato. Syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a chrefu'n daer arno i fynd i'w dŷ.
Luke WelBeibl 8:42  Roedd ei ferch fach ddeuddeg oed, oedd yn unig blentyn, yn marw. Wrth iddo fynd, roedd y dyrfa yn gwasgu o'i gwmpas.
Luke WelBeibl 8:43  Yn eu canol roedd gwraig oedd wedi bod â gwaedlif arni ers deuddeng mlynedd, a doedd neb yn gallu ei gwella.
Luke WelBeibl 8:44  Sleifiodd at Iesu o'r tu ôl iddo a chyffwrdd y taselau ar ei glogyn, a dyma'r gwaedu yn stopio'n syth.
Luke WelBeibl 8:45  “Pwy gyffyrddodd fi?” gofynnodd Iesu. Wrth i bawb wadu'r peth, dyma Pedr yn dweud, “Ond Feistr, mae'r bobl yma i gyd yn gwthio ac yn gwasgu o dy gwmpas di!”
Luke WelBeibl 8:46  Ond dyma Iesu'n dweud, “Mae rhywun wedi nghyffwrdd i; dw i'n gwybod fod nerth wedi llifo allan ohono i.”
Luke WelBeibl 8:47  Pan sylweddolodd y wraig ei bod hi ddim yn mynd i osgoi sylw, dyma hi'n dod a syrthio o'i flaen yn dal i grynu. Esboniodd o flaen pawb pam roedd hi wedi cyffwrdd Iesu, a'i bod wedi cael ei hiacháu y funud honno.
Luke WelBeibl 8:48  A dyma Iesu'n dweud wrthi, “Wraig annwyl, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu. Dos adre! Bendith Duw arnat ti!”
Luke WelBeibl 8:49  Tra oedd Iesu'n siarad, roedd dyn o dŷ Jairus wedi cyrraedd, a dweud wrtho, “Mae dy ferch wedi marw, felly paid poeni'r athro ddim mwy.”
Luke WelBeibl 8:50  Pan glywodd Iesu hyn, meddai wrth Jairus, “Paid bod ofn; dalia i gredu, a bydd hi'n cael ei hiacháu.”
Luke WelBeibl 8:51  Pan gyrhaeddodd dŷ Jairus, dim ond Pedr, Ioan a Iago, a rhieni'r ferch fach gafodd fynd i mewn gydag e.
Luke WelBeibl 8:52  Roedd y lle'n llawn o bobl yn galaru ac udo crio ar ei hôl. “Stopiwch y sŵn yma,” meddai Iesu, “dydy hi ddim wedi marw – cysgu mae hi!”
Luke WelBeibl 8:53  Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben, gan eu bod nhw'n gwybod ei bod hi wedi marw.
Luke WelBeibl 8:54  Dyma Iesu'n gafael yn llaw'r ferch fach a dweud, “Cod ar dy draed mhlentyn i!”
Luke WelBeibl 8:55  Daeth bywyd yn ôl i'w chorff a chododd ar ei thraed yn y fan a'r lle. Wedyn dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw am roi rhywbeth iddi i'w fwyta.
Luke WelBeibl 8:56  Roedd ei rhieni wedi'u syfrdanu, ond rhybuddiodd Iesu nhw i beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd.
Chapter 9
Luke WelBeibl 9:1  Galwodd Iesu y deuddeg disgybl at ei gilydd, a rhoi nerth ac awdurdod iddyn nhw fwrw allan gythreuliaid a iacháu pobl.
Luke WelBeibl 9:2  Yna anfonodd nhw allan i gyhoeddi bod Duw yn teyrnasu, ac i iacháu pobl.
Luke WelBeibl 9:3  Dwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd gyda chi – dim ffon, dim bag teithio, dim bwyd, dim arian, dim hyd yn oed dillad sbâr.
Luke WelBeibl 9:4  Pan gewch groeso yng nghartre rhywun, arhoswch yno nes byddwch chi'n gadael y dre.
Luke WelBeibl 9:5  Os na chewch chi groeso yn rhywle, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael y dref honno. Bydd hynny'n arwydd o farn Duw arnyn nhw!”
Luke WelBeibl 9:6  Felly i ffwrdd â nhw i deithio o un pentref i'r llall gan gyhoeddi'r newyddion da a iacháu pobl ym mhobman.
Luke WelBeibl 9:7  Clywodd y llywodraethwr Herod am y cwbl oedd yn digwydd. Roedd mewn penbleth, am fod rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr oedd wedi dod yn ôl yn fyw.
Luke WelBeibl 9:8  Roedd eraill yn dweud mai'r proffwyd Elias oedd wedi dod, ac eraill eto'n meddwl mai un o broffwydi'r gorffennol oedd wedi dod yn ôl yn fyw.
Luke WelBeibl 9:9  “Torrais ben Ioan i ffwrdd,” meddai Herod, “felly, pwy ydy hwn dw i'n clywed y pethau yma amdano?” Roedd ganddo eisiau gweld Iesu.
Luke WelBeibl 9:10  Pan ddaeth yr apostolion yn ôl, dyma nhw'n dweud wrth Iesu beth roedden nhw wedi'i wneud. Yna aeth Iesu â nhw i ffwrdd ar eu pennau'u hunain, i dref o'r enw Bethsaida.
Luke WelBeibl 9:11  Ond clywodd y tyrfaoedd ble roedd wedi mynd, a'i ddilyn yno. Dyma Iesu'n eu croesawu ac yn siarad â nhw am Dduw yn teyrnasu, a iacháu y rhai ohonyn nhw oedd yn sâl.
Luke WelBeibl 9:12  Yn hwyr yn y p'nawn dyma'r deuddeg disgybl yn dod ato a dweud wrtho, “Anfon y dyrfa i ffwrdd, iddyn nhw fynd i'r pentrefi sydd o gwmpas i gael llety a bwyd. Mae'r lle yma yn anial.”
Luke WelBeibl 9:13  Ond dwedodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.” “Dim ond pum torth fach a dau bysgodyn sydd gynnon ni,” medden nhw. “Wyt ti'n disgwyl i ni fynd i brynu bwyd i'r bobl yma i gyd?”
Luke WelBeibl 9:14  (Roedd tua pum mil o ddynion yno!) Dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion, “Gwnewch iddyn nhw eistedd mewn grwpiau o tua hanner cant.”
Luke WelBeibl 9:15  Dyma'r disgyblion yn gwneud hynny, ac eisteddodd pawb.
Luke WelBeibl 9:16  Wedyn dyma Iesu'n cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a'i roi i'w ddisgyblion i'w rannu i'r bobl.
Luke WelBeibl 9:17  Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a dyma nhw'n casglu deuddeg llond basged o dameidiau oedd dros ben.
Luke WelBeibl 9:18  Un tro pan oedd Iesu wedi bod yn gweddïo ar ei ben ei hun, aeth at ei ddisgyblion a gofyn iddyn nhw, “Pwy mae'r bobl yn ei ddweud ydw i?”
Luke WelBeibl 9:19  Dyma nhw'n ateb, “Mae rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti; eraill yn dweud Elias; a phobl eraill eto'n dweud fod un o'r proffwydi ers talwm wedi dod yn ôl yn fyw.”
Luke WelBeibl 9:20  “Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?” Atebodd Pedr, “Meseia Duw.”
Luke WelBeibl 9:21  Ond dyma Iesu'n pwyso'n drwm arnyn nhw i beidio dweud wrth neb.
Luke WelBeibl 9:22  Dwedodd wrthyn nhw, “Mae'n rhaid i mi, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy. Bydd yr arweinwyr, y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn fy ngwrthod i. Bydda i'n cael fy lladd, ond yna'n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.”
Luke WelBeibl 9:23  Yna dwedodd wrth bawb oedd yno: “Rhaid i bwy bynnag sydd am fy nilyn i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill bob dydd, a cherdded yr un llwybr â mi.
Luke WelBeibl 9:24  Bydd y rhai sy'n ceisio cadw eu bywyd eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd er fy mwyn i yn diogelu bywyd go iawn.
Luke WelBeibl 9:25  Beth ydy'r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i'w gynnig, a cholli eich hunan?
Luke WelBeibl 9:26  Pawb sydd â chywilydd ohono i a beth dw i'n ddweud, bydd gen i, Fab y Dyn, gywilydd ohonyn nhw pan fydda i'n dod yn ôl yn fy holl ysblander, sef ysblander y Tad a'i angylion sanctaidd.
Luke WelBeibl 9:27  Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy'n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Duw'n teyrnasu.”
Luke WelBeibl 9:28  Tuag wythnos ar ôl iddo ddweud hyn, aeth Iesu i weddïo i ben mynydd, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan gydag e.
Luke WelBeibl 9:29  Wrth iddo weddïo newidiodd ei olwg, a throdd ei ddillad yn wyn llachar.
Luke WelBeibl 9:30  A dyma nhw'n gweld dau ddyn, Moses ac Elias, yn sgwrsio gyda Iesu.
Luke WelBeibl 9:31  Roedd hi'n olygfa anhygoel, ac roedden nhw'n siarad am y ffordd roedd Iesu'n mynd i adael y byd, hynny ydy beth oedd ar fin digwydd iddo yn Jerwsalem.
Luke WelBeibl 9:32  Roedd Pedr a'r lleill wedi bod yn teimlo'n gysglyd iawn, ond dyma nhw'n deffro go iawn pan welon nhw ysblander Iesu a'r ddau ddyn yn sefyll gydag e.
Luke WelBeibl 9:33  Pan oedd Moses ac Elias ar fin gadael, dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Feistr, mae'n dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches – un i ti, un i Moses ac un i Elias.” (Doedd ganddo ddim syniad wir beth roedd yn ei ddweud!)
Luke WelBeibl 9:34  Tra oedd yn dweud hyn, dyma gwmwl yn dod i lawr a chau o'u cwmpas. Roedden nhw wedi dychryn wrth iddyn nhw fynd i mewn i'r cwmwl.
Luke WelBeibl 9:35  A dyma lais yn dod o'r cwmwl a dweud, “Fy Mab i ydy hwn – yr un dw i wedi'i ddewis. Gwrandwch arno!”
Luke WelBeibl 9:36  Ar ôl i'r llais ddweud hyn, roedd Iesu ar ei ben ei hun unwaith eto. Dyma'r lleill yn cadw'n dawel am y peth – ddwedon nhw ddim wrth neb bryd hynny am beth roedden nhw wedi'i weld.
Luke WelBeibl 9:37  Y diwrnod wedyn, pan ddaethon nhw i lawr o'r mynydd, daeth tyrfa fawr i'w gyfarfod.
Luke WelBeibl 9:38  Dyma ryw ddyn yn y dyrfa yn gweiddi ar Iesu, “Athro, dw i'n crefu arnat ti i edrych ar fy mab i – dyma fy unig blentyn i!
Luke WelBeibl 9:39  Mae yna ysbryd yn gafael ynddo'n aml, ac yn sydyn mae'n sgrechian; wedyn mae'r ysbryd yn gwneud iddo gael ffit nes ei fod yn glafoerio. Dydy'r ysbryd prin yn gadael llonydd iddo! Mae'n ei ddinistrio!
Luke WelBeibl 9:40  Rôn i'n crefu ar dy ddisgyblion i'w fwrw allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.”
Luke WelBeibl 9:41  “Pam dych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi a'ch dioddef chi? Tyrd â dy fab yma.”
Luke WelBeibl 9:42  Wrth i'r bachgen ddod ato dyma'r cythraul yn ei fwrw ar lawr mewn ffit epileptig. Ond dyma Iesu'n ceryddu'r ysbryd drwg, iacháu'r bachgen a'i roi yn ôl i'w dad.
Luke WelBeibl 9:43  Roedd pawb wedi'u syfrdanu wrth weld nerth Duw ar waith. Tra oedd pawb wrthi'n rhyfeddu at yr holl bethau roedd Iesu'n eu gwneud, dwedodd wrth ei ddisgyblion,
Luke WelBeibl 9:44  “Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio fy mod i wedi dweud hyn: Dw i, Mab y Dyn, yn mynd i gael fy mradychu.”
Luke WelBeibl 9:45  Doedd gan y disgyblion ddim syniad am beth roedd e'n sôn. Roedd yn ddirgelwch iddyn nhw, ac roedden nhw'n methu'n lân a deall beth roedd yn ei olygu, ond roedd arnyn nhw ofn gofyn iddo am y peth.
Luke WelBeibl 9:46  Dyma'r disgyblion yn dechrau dadlau pwy ohonyn nhw oedd y pwysica.
Luke WelBeibl 9:47  Roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd drwy eu meddyliau, a gosododd blentyn bach i sefyll wrth ei ymyl.
Luke WelBeibl 9:48  Yna meddai wrthyn nhw, “Mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i'r plentyn bach yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi yn croesawu'r Un sydd wedi fy anfon i. Mae'r un lleia pwysig ohonoch chi yn bwysig dros ben.”
Luke WelBeibl 9:49  “Feistr,” meddai Ioan, “gwelon ni rywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni'n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o'n criw ni.”
Luke WelBeibl 9:50  “Peidiwch gwneud hynny,” meddai Iesu. “Os ydy rhywun ddim yn eich erbyn chi, mae o'ch plaid chi.”
Luke WelBeibl 9:51  Dyma Iesu'n cychwyn ar y daith i Jerwsalem, gan fod yr amser yn agosáu iddo fynd yn ôl i'r nefoedd.
Luke WelBeibl 9:52  Anfonodd negeswyr o'i flaen, a dyma nhw'n mynd i un o bentrefi Samaria i baratoi ar ei gyfer;
Luke WelBeibl 9:53  ond dyma'r bobl yno yn gwrthod rhoi croeso iddo am ei fod ar ei ffordd i Jerwsalem.
Luke WelBeibl 9:54  Pan glywodd Iago ac Ioan am hyn, dyma nhw'n dweud wrth Iesu, “Arglwydd, wyt ti am i ni alw tân i lawr o'r nefoedd i'w dinistrio nhw?”
Luke WelBeibl 9:55  A dyma Iesu'n troi atyn nhw a'u ceryddu nhw am ddweud y fath beth.
Luke WelBeibl 9:57  Wrth iddyn nhw gerdded ar hyd y ffordd, dyma rywun yn dweud wrtho, “Dw i'n fodlon dy ddilyn di lle bynnag fyddi di'n mynd!”
Luke WelBeibl 9:58  Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.”
Luke WelBeibl 9:59  Dwedodd Iesu wrth rywun arall, “Tyrd, dilyn fi.” Ond dyma'r dyn yn dweud, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.”
Luke WelBeibl 9:60  Ond ateb Iesu oedd, “Gad i'r rhai sy'n farw eu hunain gladdu eu meirw; dy waith di ydy cyhoeddi fod Duw yn dod i deyrnasu.”
Luke WelBeibl 9:61  Dwedodd rhywun arall wedyn, “Gwna i dy ddilyn di, Arglwydd; ond gad i mi fynd i ffarwelio â'm teulu gyntaf.”
Luke WelBeibl 9:62  Atebodd Iesu, “Dydy'r sawl sy'n gafael yn yr aradr ac yn edrych yn ôl ddim ffit i wasanaethu'r Duw sy'n teyrnasu.”
Chapter 10
Luke WelBeibl 10:1  Ar ôl hyn dyma Iesu'n penodi saith deg dau o rai eraill a'u hanfon o'i flaen bob yn ddau i'r lleoedd roedd ar fin mynd iddyn nhw.
Luke WelBeibl 10:2  Meddai wrthyn nhw, “Mae'r cynhaeaf mor fawr, a'r gweithwyr mor brin! Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i'w feysydd.
Luke WelBeibl 10:3  Ewch! Dw i'n eich anfon chi allan fel ŵyn i ganol pac o fleiddiaid.
Luke WelBeibl 10:4  Peidiwch mynd â phwrs na bag teithio na sandalau gyda chi; a pheidiwch stopio i gyfarch neb ar y ffordd.
Luke WelBeibl 10:5  “Pan ewch i mewn i gartref rhywun, gofynnwch i Dduw fendithio'r cartref hwnnw cyn gwneud unrhyw beth arall.
Luke WelBeibl 10:6  Os oes rhywun yna sy'n agored i dderbyn y fendith, bydd yn cael ei fendithio; ond os oes neb, bydd y fendith yn dod yn ôl arnoch chi.
Luke WelBeibl 10:7  Peidiwch symud o gwmpas o un tŷ i'r llall; arhoswch yn yr un lle, gan fwyta ac yfed beth bynnag sy'n cael ei roi o'ch blaen chi. Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog.
Luke WelBeibl 10:8  “Os byddwch yn cael croeso mewn rhyw dref, bwytwch beth bynnag sy'n cael ei roi o'ch blaen chi.
Luke WelBeibl 10:9  Ewch ati i iacháu y rhai sy'n glaf yno, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw ar fin dod i deyrnasu.’
Luke WelBeibl 10:10  Ond os ewch i mewn i ryw dref heb gael dim croeso yno, ewch allan i'w strydoedd a dweud,
Luke WelBeibl 10:11  ‘Dŷn ni'n sychu llwch eich tref chi i ffwrdd oddi ar ein traed ni, fel arwydd yn eich erbyn chi! Ond gallwch fod yn reit siŵr o hyn – bod Duw ar fin dod i deyrnasu!’
Luke WelBeibl 10:12  Wir i chi, bydd hi'n well ar Sodom ar ddydd y farn nag ar y dref honno!
Luke WelBeibl 10:13  “Gwae ti, Chorasin! Gwae ti, Bethsaida! Petai'r gwyrthiau wnes i ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, byddai'r bobl yno wedi hen ddangos eu bod yn edifar, drwy eistedd ar lawr yn gwisgo sachliain a thaflu lludw ar eu pennau.
Luke WelBeibl 10:14  Bydd hi'n well ar Tyrus a Sidon ar ddydd y farn nag arnoch chi!
Luke WelBeibl 10:15  A beth amdanat ti, Capernaum? Wyt ti'n meddwl y byddi di'n cael dy anrhydeddu? Na, byddi di'n cael dy fwrw i lawr i'r dyfnder tywyll!
Luke WelBeibl 10:16  “Mae pwy bynnag sy'n gwrando ar eich neges chi yn fy nerbyn i, a phwy bynnag sy'n eich gwrthod chi yn fy ngwrthod i hefyd. Ac mae pwy bynnag sy'n fy ngwrthod i yn gwrthod Duw, yr un sydd wedi fy anfon i.”
Luke WelBeibl 10:17  Pan ddaeth y saith deg dau yn ôl, dyma nhw'n dweud yn frwd, “Arglwydd, mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ufuddhau i ni wrth i ni dy enwi di.”
Luke WelBeibl 10:18  Atebodd Iesu, “Gwelais Satan yn syrthio fel mellten o'r awyr!
Luke WelBeibl 10:19  Dw i wedi rhoi'r awdurdod i chi dros holl nerth y gelyn! Gallwch sathru ar nadroedd a sgorpionau a fydd dim byd yn gwneud niwed i chi!
Luke WelBeibl 10:20  Ond peidiwch bod yn llawen am fod ysbrydion drwg yn ufuddhau i chi; y rheswm dros fod yn llawen ydy bod eich enwau wedi'u hysgrifennu yn y nefoedd.”
Luke WelBeibl 10:21  Bryd hynny roedd Iesu'n fwrlwm o lawenydd yr Ysbryd Glân, ac meddai, “Fy Nhad. Arglwydd y nefoedd a'r ddaear. Diolch i ti am guddio'r pethau yma oddi wrth y bobl sy'n meddwl eu bod nhw mor ddoeth a chlyfar, a'u dangos i'r rhai sy'n agored fel plant bach. Ie, fy Nhad, dyna sy'n dy blesio di.
Luke WelBeibl 10:22  “Mae fy Nhad wedi rhoi popeth yn fy ngofal i. Does neb yn nabod y Mab go iawn ond y Tad, a does neb yn nabod y Tad go iawn ond y Mab, a'r rhai hynny mae'r Mab wedi dewis ei ddangos iddyn nhw.”
Luke WelBeibl 10:23  Pan oedden nhw ar eu pennau'u hunain trodd at ei ddisgyblion a dweud, “Dych chi'n cael y fath fraint o weld beth sy'n digwydd!
Luke WelBeibl 10:24  Dw i'n dweud wrthoch chi fod llawer o broffwydi a brenhinoedd wedi bod yn ysu am gael gweld beth dych chi'n ei weld a chlywed beth dych chi'n ei glywed, ond chawson nhw ddim.”
Luke WelBeibl 10:25  Un tro safodd un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith ar ei draed i roi prawf ar Iesu. Gofynnodd iddo, “Athro, beth sydd raid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?”
Luke WelBeibl 10:26  Atebodd Iesu, “Beth mae Cyfraith Moses yn ei ddweud? Sut wyt ti'n ei deall?”
Luke WelBeibl 10:27  Meddai'r dyn: “‘Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, â'th holl nerth ac â'th holl feddwl,’ a ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.’”
Luke WelBeibl 10:28  “Rwyt ti'n iawn!” meddai Iesu. “Gwna hynny a chei di fywyd.”
Luke WelBeibl 10:29  Ond roedd y dyn eisiau cyfiawnhau ei hun, felly gofynnodd i Iesu, “Ond pwy ydy fy nghymydog i?”
Luke WelBeibl 10:30  Dyma sut atebodd Iesu: “Roedd dyn yn teithio i lawr o Jerwsalem i Jericho, a dyma ladron yn ymosod arno. Dyma nhw'n dwyn popeth oddi arno, ac yna ei guro cyn dianc. Cafodd ei adael bron yn farw ar ochr y ffordd.
Luke WelBeibl 10:31  Dyma offeiriad Iddewig yn digwydd dod heibio, ond pan welodd y dyn yn gorwedd yno croesodd i ochr arall y ffordd a mynd yn ei flaen.
Luke WelBeibl 10:32  A dyma un o Lefiaid y deml yn gwneud yr un peth; aeth i edrych arno, ond yna croesi'r ffordd a mynd yn ei flaen.
Luke WelBeibl 10:33  Ond wedyn dyma Samariad yn dod i'r fan lle roedd y dyn yn gorwedd. Pan welodd e'r dyn, roedd yn teimlo trueni drosto.
Luke WelBeibl 10:34  Aeth ato a rhwymo cadachau am ei glwyfau, a'u trin gydag olew a gwin. Yna cododd y dyn a'i roi ar gefn ei asyn ei hun, a dod o hyd i lety a gofalu amdano yno.
Luke WelBeibl 10:35  Y diwrnod wedyn rhoddodd ddau ddenariws i berchennog y llety. ‘Gofala amdano,’ meddai wrtho, ‘Ac os bydd costau ychwanegol, gwna i dalu i ti y tro nesa bydda i'n mynd heibio.’
Luke WelBeibl 10:36  “Felly” meddai Iesu, “yn dy farn di, pa un o'r tri fu'n gymydog i'r dyn wnaeth y lladron ymosod arno?”
Luke WelBeibl 10:37  Dyma'r arbenigwr yn y Gyfraith yn ateb, “Yr un wnaeth ei helpu.” A dwedodd Iesu, “Dos dithau a gwna'r un fath.”
Luke WelBeibl 10:38  Wrth i Iesu deithio yn ei flaen i Jerwsalem gyda'i ddisgyblion, daeth i bentref lle roedd gwraig o'r enw Martha yn byw. A dyma hi'n rhoi croeso iddo i'w chartref.
Luke WelBeibl 10:39  Roedd gan Martha chwaer o'r enw Mair, ac eisteddodd hi o flaen yr Arglwydd yn gwrando ar yr hyn roedd e'n ei ddweud.
Luke WelBeibl 10:40  Ond roedd yr holl baratoadau roedd angen eu gwneud yn cymryd sylw Martha i gyd, a daeth at Iesu a gofyn iddo, “Arglwydd, wyt ti ddim yn poeni bod fy chwaer wedi gadael i mi wneud y gwaith i gyd? Dwed wrthi am ddod i helpu!”
Luke WelBeibl 10:41  “Martha annwyl,” meddai'r Arglwydd wrthi, “rwyt ti'n poeni ac yn cynhyrfu am y pethau yna i gyd,
Luke WelBeibl 10:42  ond dim ond un peth sydd wir yn bwysig. Mae Mair wedi dewis y peth hwnnw, a fydd neb yn gallu ei gymryd oddi arni hi.”
Chapter 11
Luke WelBeibl 11:1  Un diwrnod roedd Iesu'n gweddïo mewn lle arbennig. Pan oedd wedi gorffen, dyma un o'i ddisgyblion yn gofyn iddo, “Arglwydd, dysgodd Ioan ei ddisgyblion i weddïo, felly dysga di ni.”
Luke WelBeibl 11:2  Dwedodd wrthyn nhw, “Wrth weddïo dwedwch fel hyn: ‘Dad, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu. Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu.
Luke WelBeibl 11:3  Rho i ni ddigon o fwyd i'n cadw ni'n fyw bob dydd.
Luke WelBeibl 11:4  Maddau ein pechodau i ni – achos dŷn ni'n maddau i'r rhai sy'n pechu yn ein herbyn ni. Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi.’”
Luke WelBeibl 11:5  Yna dwedodd hyn: “Cymerwch fod gynnoch chi ffrind, a'ch bod yn mynd ato am hanner nos ac yn dweud, ‘Wnei di fenthyg tair torth o fara i mi?
Luke WelBeibl 11:6  Mae yna ffrind arall i mi wedi galw heibio i ngweld i, a does gen i ddim byd i'w roi iddo i'w fwyta.’
Luke WelBeibl 11:7  “Mae'r ffrind sydd yn y tŷ yn ateb, ‘Gad lonydd i mi. Dw i wedi cloi'r drws ac mae'r plant yn y gwely gyda mi. Alla i ddim dy helpu di.’
Luke WelBeibl 11:8  Ond wir i chi, er ei fod yn gwrthod codi i roi bara iddo am eu bod yn ffrindiau; rhag achosi cywilydd bydd yn codi yn y diwedd, ac yn rhoi popeth mae e eisiau iddo.
Luke WelBeibl 11:9  “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch y drws a bydd yn cael ei agor.
Luke WelBeibl 11:10  Mae pawb sy'n gofyn yn derbyn; pawb sy'n chwilio yn cael; ac mae'r drws yn cael ei agor i bawb sy'n curo.
Luke WelBeibl 11:11  “Pwy ohonoch chi fyddai'n rhoi neidr i'ch plentyn pan mae'n gofyn am bysgodyn?
Luke WelBeibl 11:12  Neu sgorpion pan mae'n gofyn am ŵy? Wrth gwrs ddim!
Luke WelBeibl 11:13  Felly os ydych chi sy'n ddrwg yn gwybod sut i roi anrhegion da i'ch plant, mae'r Tad nefol yn siŵr o roi'r Ysbryd Glân i'r rhai sy'n gofyn iddo!”
Luke WelBeibl 11:14  Roedd Iesu'n bwrw cythraul allan o ddyn oedd yn fud. Pan aeth y cythraul allan ohono dyma'r dyn yn dechrau siarad, ac roedd y bobl yno wedi'u syfrdanu.
Luke WelBeibl 11:15  Ond roedd rhai yn dweud, “Beelsebwl (y diafol ei hun), tywysog y cythreuliaid, sy'n rhoi'r gallu iddo wneud hyn.”
Luke WelBeibl 11:16  Ac roedd eraill yn ceisio cael Iesu i brofi ei hun drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol.
Luke WelBeibl 11:17  Ond roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd drwy eu meddyliau, ac meddai wrthyn nhw: “Bydd teyrnas lle mae yna ryfel cartref yn syrthio, a bydd teulu sy'n ymladd â'i gilydd o hyd yn chwalu.
Luke WelBeibl 11:18  Os ydy Satan yn ymladd ei hun, a'i deyrnas wedi'i rhannu, sut mae'n bosib i'w deyrnas sefyll? Dw i'n gofyn y cwestiwn am eich bod chi'n honni mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid.
Luke WelBeibl 11:19  Felly os mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi, pwy sy'n rhoi'r gallu i'ch dilynwyr chi? Byddan nhw'n eich barnu chi!
Luke WelBeibl 11:20  Ond os Duw sy'n rhoi'r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid, yna mae Duw wedi dod i deyrnasu.
Luke WelBeibl 11:21  “Pan mae dyn cryf arfog yn amddiffyn ei gartref, mae ei eiddo yn ddiogel.
Luke WelBeibl 11:22  Ond pan mae rhywun cryfach yn ymosod arno a'i drechu, mae'n cymryd ei arfau oddi ar y dyn, ac yn dwyn ei eiddo.
Luke WelBeibl 11:23  “Os ydy rhywun ddim ar fy ochr i, mae yn fy erbyn i. Ac os ydy rhywun ddim yn gweithio gyda mi, mae'n gweithio yn fy erbyn i.
Luke WelBeibl 11:24  “Pan mae ysbryd drwg yn dod allan o rywun, mae'n mynd i grwydro lleoedd anial yn edrych am le i orffwys. Ond yna pan mae'n methu dod o hyd i rywle, mae'n meddwl, ‘Dw i am fynd yn ôl i lle roeddwn i'n byw.’
Luke WelBeibl 11:25  Mae'n cyrraedd ac yn darganfod y tŷ wedi'i lanhau a'i dacluso drwyddo.
Luke WelBeibl 11:26  Wedyn mae'n mynd â saith ysbryd gwaeth na'i hun i fyw gydag e! Mae'r person mewn gwaeth cyflwr ar y diwedd nag oedd ar y dechrau!”
Luke WelBeibl 11:27  Pan oedd Iesu wrthi'n dweud y pethau yma, dyma ryw wraig yn y dyrfa yn gweiddi, “Mae dy fam, wnaeth dy gario di'n ei chroth a'th fagu ar ei bronnau, wedi'i bendithio'n fawr!”
Luke WelBeibl 11:28  Atebodd Iesu, “Mae'r rhai sy'n gwrando ar neges Duw ac yn ufuddhau iddo wedi'u bendithio'n fwy!”
Luke WelBeibl 11:29  Wrth i'r dyrfa fynd yn fwy, meddai Iesu, “Mae'r genhedlaeth yma yn ddrwg. Mae pobl yn gofyn am gael gweld gwyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i. Ond yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona.
Luke WelBeibl 11:30  Fel roedd beth ddigwyddodd i Jona yn arwydd i bobl Ninefe, bydd yr hyn fydd yn digwydd i mi, Mab y Dyn, yn arwydd i bobl y genhedlaeth yma.
Luke WelBeibl 11:31  Bydd Brenhines Seba yn condemnio pobl y genhedlaeth yma ar ddydd y farn, achos roedd hi'n fodlon teithio o ben draw'r byd i wrando ar ddoethineb Solomon. Mae un mwy na Solomon yma nawr!
Luke WelBeibl 11:32  Bydd pobl Ninefe hefyd yn condemnio pobl y genhedlaeth yma, am eu bod nhw wedi newid eu ffyrdd ar ôl clywed pregethu Jona. Mae un mwy na Jona yma nawr!
Luke WelBeibl 11:33  “Does neb yn goleuo lamp ac wedyn yn ei gosod yn rhywle o'r golwg neu o dan fowlen. Mae lamp yn cael ei gosod mewn lle amlwg, fel bod pawb sy'n dod i mewn yn cael golau.
Luke WelBeibl 11:34  Dy lygad di ydy lamp y corff. Mae llygad iach, sef bod yn hael, yn gwneud dy gorff yn olau drwyddo. Ond llygad sâl ydy bod yn hunanol, a bydd dy gorff yn dywyll drwyddo.
Luke WelBeibl 11:35  Felly gwylia, rhag ofn bod y golau sydd gen ti yn dywyllwch!
Luke WelBeibl 11:36  Felly os ydy dy gorff yn olau drwyddo, heb dywyllwch yn unman, bydd dy fywyd i gyd yn olau fel petai lamp yn disgleirio arnat ti.”
Luke WelBeibl 11:37  Ar ôl i Iesu orffen siarad, dyma un o'r Phariseaid yn ei wahodd i'w gartref am bryd o fwyd. Felly aeth Iesu yno ac eistedd wrth y bwrdd.
Luke WelBeibl 11:38  Roedd y dyn oedd wedi'i wahodd yn synnu gweld Iesu yn eistedd wrth y bwrdd heb fynd drwy'r ddefod Iddewig o olchi ei ddwylo cyn bwyta.
Luke WelBeibl 11:39  Dyma'r Arglwydd Iesu yn dweud wrtho, “Dych chi'r Phariseaid yn glanhau tu allan y cwpan neu'r ddysgl, ond y tu mewn dych chi'n gwbl hunanol a drwg!
Luke WelBeibl 11:40  Y ffyliaid dall! Oes gan Dduw ddim diddordeb yn y tu mewn yn ogystal â'r tu allan?
Luke WelBeibl 11:41  Rhowch beth sydd tu mewn i'r ddysgl i'r tlodion (yn lle ei gadw i chi'ch hunain) – wedyn byddwch yn lân i gyd.
Luke WelBeibl 11:42  “Gwae chi'r Phariseaid! Dych chi'n ofalus iawn gyda rhyw fanion fel rhoi un rhan o ddeg o beth sydd gynnoch chi i Dduw – hyd yn oed o'ch mintys, arianllys a'ch perlysiau eraill! Ond dych chi'n esgeuluso byw'n gyfiawn a charu Duw. Dylech wneud y pethau pwysicach yma heb ddiystyru'r pethau eraill.
Luke WelBeibl 11:43  “Gwae chi'r Phariseaid! Dych chi wrth eich bodd yn cael y seddi pwysica yn y synagogau a chael pobl yn symud o'ch ffordd chi a'ch cyfarch yn barchus yn sgwâr y farchnad.
Luke WelBeibl 11:44  “Gwae chi! Dych chi fel beddau mewn cae heb ddim arwydd i ddweud fod bedd yna, a phobl yn llygru eu hunain wrth gerdded drostyn nhw heb wybod beth maen nhw'n ei wneud!”
Luke WelBeibl 11:45  Dyma un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ymateb, “Athro, rwyt ti'n ein sarhau ni hefyd wrth ddweud y fath bethau!”
Luke WelBeibl 11:46  “Ie, a gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith!” meddai Iesu. “Dych chi'n llethu pobl gyda'ch rheolau crefyddol, a wnewch chi ddim codi bys bach i'w helpu nhw a gwneud pethau'n haws iddyn nhw.
Luke WelBeibl 11:47  “Gwae chi! Dych chi'n codi cofgolofnau i anrhydeddu'r proffwydi, a'ch cyndeidiau chi laddodd nhw!
Luke WelBeibl 11:48  Dych chi'n gwybod yn iawn beth wnaeth eich cyndeidiau, ac yn cytuno â nhw; nhw laddodd y proffwydi dych chi'n codi'r cofgolofnau iddyn nhw!
Luke WelBeibl 11:49  Dyma ddwedodd Duw yn ei ddoethineb, ‘Bydda i'n anfon proffwydi a negeswyr atyn nhw. Byddan nhw'n lladd rhai ac yn erlid y lleill.’
Luke WelBeibl 11:50  Bydd y genhedlaeth yma'n cael ei galw i gyfrif am ladd pob un o'r proffwydi ers i'r byd gael ei greu –
Luke WelBeibl 11:51  o lofruddiaeth Abel hyd Sechareia, gafodd ei lofruddio rhwng yr allor a'r cysegr. Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd y genhedlaeth yma yn cael ei galw i gyfrif am y cwbl!
Luke WelBeibl 11:52  “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith! Dych chi wedi cuddio allwedd y drws sy'n arwain at ddeall yr ysgrifau sanctaidd oddi wrth y bobl. Felly dych chi'ch hunain ddim yn mynd i mewn, a dych chi'n rhwystro pobl eraill rhag mynd i mewn hefyd.”
Luke WelBeibl 11:53  Ar ôl iddo adael y tŷ, dyma'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dechrau gwrthwynebu Iesu'n ffyrnig. Roedden nhw'n ymosod arno gyda chwestiynau di-baid,
Luke WelBeibl 11:54  yn y gobaith o'i gael i ddweud rhywbeth bydden nhw'n gallu ei ddefnyddio yn ei erbyn.
Chapter 12
Luke WelBeibl 12:1  Yn y cyfamser, roedd tyrfa yn ymgasglu – miloedd o bobl yn ymwthio a sathru ar draed ei gilydd. Dyma Iesu'n siarad â'i ddisgyblion yn gyntaf, ac meddai wrthyn nhw: “Cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid, sef y ffaith eu bod nhw mor ddauwynebog.
Luke WelBeibl 12:2  Bydd popeth sydd wedi'i guddio yn dod i'r golwg, a phob cyfrinach yn cael ei datgelu.
Luke WelBeibl 12:3  Bydd popeth ddwedoch chi o'r golwg yn cael ei glywed yng ngolau dydd, a beth gafodd ei sibrwd tu ôl i ddrysau caeëdig yn cael ei gyhoeddi'n uchel o bennau'r tai.
Luke WelBeibl 12:4  “Ffrindiau, peidiwch bod ofn pobl. Maen nhw'n gallu lladd eich corff chi, ond ddim mwy na hynny.
Luke WelBeibl 12:5  Gwrandwch, Duw ydy'r un i'w ofni – mae'r hawl ganddo fe i'ch taflu chi i uffern ar ôl lladd y corff! Ie, ofnwch Dduw!
Luke WelBeibl 12:6  Beth ydy gwerth aderyn y to? Dych chi'n gallu prynu pump ohonyn nhw am newid mân! Ond mae Duw'n gofalu am bob un aderyn bach.
Luke WelBeibl 12:7  Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na haid fawr o adar y to! Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi! Felly peidiwch bod ofn dim byd.
Luke WelBeibl 12:8  “Dych chi'n gallu bod yn siŵr o hyn: pwy bynnag sy'n dweud yn agored o flaen pobl eraill ei fod yn credu ynof fi, bydda i, Mab y Dyn, yn dweud yn agored o flaen angylion Duw fod y person hwnnw'n perthyn i mi.
Luke WelBeibl 12:9  Ond pwy bynnag sy'n gwadu ei fod yn credu ynof fi, bydda i'n gwadu o flaen angylion Duw fod y person hwnnw'n perthyn i mi.
Luke WelBeibl 12:10  A bydd pawb sydd wedi dweud rhywbeth yn fy erbyn i, Mab y Dyn, yn cael maddeuant, ond does dim maddeuant i'r sawl sy'n cablu'r Ysbryd Glân.
Luke WelBeibl 12:11  “Pan fyddwch ar brawf yn y synagogau, neu o flaen y llywodraethwyr a'r awdurdodau, peidiwch poeni am eich amddiffyniad, beth i'w ddweud.
Luke WelBeibl 12:12  Bydd yr Ysbryd Glân yn dangos i chi beth i'w ddweud yn y fan a'r lle.”
Luke WelBeibl 12:13  Yna dyma rywun o ganol y dyrfa yn galw arno, “Athro, mae fy mrawd yn gwrthod rhannu'r eiddo mae dad wedi'i adael i ni. Dwed wrtho am ei rannu.”
Luke WelBeibl 12:14  Atebodd Iesu, “Ffrind, pwy wnaeth fi yn farnwr neu'n ganolwr i sortio rhyw broblem felly rhyngoch chi'ch dau?”
Luke WelBeibl 12:15  Yna dwedodd, “Gwyliwch eich hunain! Mae'r awydd i gael mwy a mwy o bethau yn beryglus. Dim faint o bethau sydd gynnoch chi sy'n rhoi bywyd go iawn i chi.”
Luke WelBeibl 12:16  A dwedodd stori wrthyn nhw: “Roedd rhyw ddyn cyfoethog yn berchen tir, a chafodd gnwd arbennig o dda un cynhaeaf.
Luke WelBeibl 12:17  ‘Does gen i ddim digon o le i storio'r cwbl,’ meddai. ‘Beth wna i?’
Luke WelBeibl 12:18  “‘Dw i'n gwybod! Tynnu'r hen ysguboriau i lawr, ac adeiladau rhai mwy yn eu lle! Bydd gen i ddigon o le i storio popeth wedyn.
Luke WelBeibl 12:19  Yna bydda i'n gallu eistedd yn ôl a dweud wrtho i'n hun, “Mae gen i ddigon i bara am flynyddoedd lawer. Dw i'n mynd i ymlacio a mwynhau fy hun yn bwyta ac yn yfed.”’
Luke WelBeibl 12:20  “Ond dyma Duw yn dweud wrtho, ‘Y ffŵl dwl! Heno ydy'r noson rwyt ti'n mynd i farw. Pwy fydd yn cael y cwbl rwyt ti wedi'i gasglu i ti dy hun?’
Luke WelBeibl 12:21  “Ie, fel yna bydd hi ar bobl sy'n casglu cyfoeth iddyn nhw'u hunain ond sy'n dlawd mewn gwirionedd, am eu bod heb Dduw.”
Luke WelBeibl 12:22  Yna dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion: “Felly, dyma dw i'n ddweud – peidiwch poeni beth i'w fwyta a beth i'w wisgo.
Luke WelBeibl 12:24  Meddyliwch am gigfrain: Dŷn nhw ddim yn hau nac yn medi, a does ganddyn nhw ddim ystordy nac ysgubor – ac eto mae Duw'n eu bwydo nhw. Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr yn ei olwg nag adar!
Luke WelBeibl 12:25  Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach drwy boeni!
Luke WelBeibl 12:26  Os allwch chi ddim gwneud peth bach fel yna, beth ydy'r pwynt o boeni am bopeth arall?
Luke WelBeibl 12:27  “Meddyliwch sut mae blodau'n tyfu. Dydyn nhw ddim yn gweithio nac yn nyddu. Ac eto, doedd hyd yn oed y Brenin Solomon yn ei ddillad crand ddim yn edrych mor hardd ag un ohonyn nhw.
Luke WelBeibl 12:28  Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy'n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae'n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae'ch ffydd chi?
Luke WelBeibl 12:29  Felly peidiwch treulio'ch bywyd yn poeni am fwyd a diod!
Luke WelBeibl 12:30  Pobl sydd ddim yn credu sy'n poeni am bethau felly. Mae'ch Tad yn gwybod beth sydd ei angen arnoch chi.
Luke WelBeibl 12:31  Gwnewch yn siŵr mai'r flaenoriaeth i chi ydy ymostwng i deyrnasiad Duw, ac wedyn cewch y pethau eraill yma i gyd.
Luke WelBeibl 12:32  “Fy mhraidd bach i, peidiwch bod ofn. Mae Duw yn benderfynol o rannu ei deyrnas â chi.
Luke WelBeibl 12:33  Gwerthwch eich eiddo a rhoi'r arian i'r tlodion. Gofalwch fod gynnoch chi bwrs sy'n mynd i bara am byth, trysor sydd ddim yn colli ei werth. Dydy lleidr ddim yn gallu dwyn y trysor nefol, na gwyfyn yn gallu ei ddifetha.
Luke WelBeibl 12:35  “Byddwch yn barod bob amser; a chadwch eich lampau yn olau,
Luke WelBeibl 12:36  fel petaech yn disgwyl i'r meistr gyrraedd adre o wledd briodas. Pan fydd yn cyrraedd ac yn curo'r drws, byddwch yn gallu agor y drws yn syth.
Luke WelBeibl 12:37  Bydd y gweision hynny sy'n effro ac yn disgwyl am y meistr yn cael eu gwobrwyo – wir i chi, bydd y meistr yn mynd ati i weini arnyn nhw, a byddan nhw'n eistedd wrth y bwrdd i fwyta!
Luke WelBeibl 12:38  Falle y bydd hi'n oriau mân y bore pan fydd yn cyrraedd, ond bydd y gweision sy'n effro yn cael eu gwobrwyo.
Luke WelBeibl 12:39  “Meddyliwch! Petai perchennog y tŷ yn gwybod ymlaen llaw pryd roedd y lleidr yn dod, byddai wedi'i rwystro rhag torri i mewn i'w dŷ!
Luke WelBeibl 12:40  Rhaid i chi fod yn barod drwy'r adeg, achos bydda i, Mab y Dyn, yn cyrraedd pan fyddwch chi ddim yn disgwyl!”
Luke WelBeibl 12:41  Gofynnodd Pedr, “Ydy'r stori yma i ni yn unig neu i bawb?”
Luke WelBeibl 12:42  Atebodd yr Arglwydd, “Pwy ydy'r rheolwr doeth mae'r meistr yn gallu dibynnu arno? Mae wedi'i benodi i fod yn gyfrifol am weddill y staff, i'w bwydo'n rheolaidd.
Luke WelBeibl 12:43  Ac os bydd yn gwneud ei waith yn iawn pan ddaw'r meistr yn ôl, bydd yn cael ei wobrwyo.
Luke WelBeibl 12:44  Wir i chi, bydd yn cael y cyfrifoldeb o ofalu am eiddo'r meistr i gyd!
Luke WelBeibl 12:45  Ond beth petai'r gwas yn meddwl iddo'i hun, ‘Mae'r meistr yn hir iawn yn cyrraedd,’ ac yn mynd ati i gam-drin y gweision a'r morynion eraill, ac i bartïo ac yfed a meddwi?
Luke WelBeibl 12:46  Byddai'r meistr yn dod yn ôl yn gwbl ddirybudd, a'i gosbi'n llym a'i daflu allan gyda'r rhai sydd ddim yn credu.
Luke WelBeibl 12:47  “Bydd y gwas sy'n gwybod yn iawn beth mae'r meistr eisiau, ond ddim yn mynd ati i wneud hynny, yn cael ei gosbi'n llym.
Luke WelBeibl 12:48  Ond os dydy'r gwas ddim yn gwybod ei fod wedi gwneud rhywbeth o'i le, bydd y gosb yn ysgafn. Mae disgwyl llawer gan y sawl oedd wedi derbyn llawer; ac mae gofyn llawer mwy yn ôl gan y sawl oedd yn gyfrifol am lawer.
Luke WelBeibl 12:49  “Dw i wedi dod i gynnau tân ar y ddaear, a byddwn i'n hoffi petai'r gwaith eisoes wedi'i wneud!
Luke WelBeibl 12:50  Ond mae gen i brofiad dychrynllyd i fynd drwyddo, a dw i'n teimlo pwysau dychrynllyd nes bydd y cwbl drosodd!
Luke WelBeibl 12:51  Ydych chi'n meddwl mod i wedi dod i roi heddwch i'r byd? Na, wir i chi! Dim heddwch ond rhwygiadau.
Luke WelBeibl 12:52  Bydd teuluoedd yn cael eu rhwygo, tri yn erbyn a dau o blaid, neu fel arall.
Luke WelBeibl 12:53  Bydd tad yn erbyn ei fab a mab yn erbyn ei dad; mam yn erbyn ei merch a merch yn erbyn ei mam; mam-yng-nghyfraith yn erbyn merch-yng-nghyfraith a merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith!”
Luke WelBeibl 12:54  Yna dyma Iesu'n troi at y dyrfa a dweud: “Os gwelwch chi gwmwl yn codi yn y gorllewin, ‘Mae'n mynd i lawio,’ meddech chi ar unwaith, ac mae hi yn glawio.
Luke WelBeibl 12:55  Neu pan fydd gwynt y de yn chwythu, dych chi'n dweud, ‘Mae'n mynd i fod yn boeth,’ a dych chi'n iawn.
Luke WelBeibl 12:56  Am ragrithwyr! Dych chi'n gwybod sut i ddehongli arwyddion y tywydd. Pam allwch chi ddim dehongli beth sy'n digwydd nawr?
Luke WelBeibl 12:57  “Pam allwch chi ddim penderfynu beth sy'n iawn?
Luke WelBeibl 12:58  Os ydy rhywun yn mynd â ti i'r llys, gwna dy orau i gymodi cyn cyrraedd yno. Ydy'n well gen ti gael dy lusgo o flaen y barnwr, a'r barnwr yn gorchymyn i swyddog dy daflu di yn y carchar?
Luke WelBeibl 12:59  Wir i ti, chei di ddim dy ryddhau nes byddi wedi talu pob ceiniog.”
Chapter 13
Luke WelBeibl 13:1  Dyma bobl yn dod a dweud wrth Iesu fod Peilat wedi lladd rhyw bobl o Galilea pan oedden nhw wrthi'n aberthu i Dduw.
Luke WelBeibl 13:2  “Ydych chi'n meddwl fod y Galileaid yna yn bechaduriaid gwaeth na phobl eraill Galilea? Ai dyna pam wnaethon nhw ddioddef?”
Luke WelBeibl 13:3  “Nage! dim o gwbl! Cewch chithau hefyd eich dinistrio os fyddwch chi ddim yn newid eich ffyrdd a throi at Dduw!”
Luke WelBeibl 13:4  “Neu beth am y bobl yna gafodd eu lladd pan syrthiodd tŵr Siloam ar eu pennau? – un deg wyth ohonyn nhw! Ydych chi'n meddwl eu bod nhw'n waeth na phawb arall oedd yn byw yn Jerwsalem?”
Luke WelBeibl 13:5  “Nac oedden! Dim o gwbl! Ond byddwch chithau hefyd yn cael eich dinistrio os fyddwch chi ddim yn troi at Dduw!”
Luke WelBeibl 13:6  Yna dwedodd y stori yma: “Roedd rhyw ddyn wedi plannu coeden ffigys yn ei winllan. Bu'n disgwyl a disgwyl i rywbeth dyfu arni, ond chafodd e ddim byd.
Luke WelBeibl 13:7  Felly dyma'r dyn yn dweud wrth y gwas oedd yn gweithio fel garddwr iddo, ‘Dw i wedi bod yn disgwyl i ffrwyth dyfu ar y goeden ffigys yma ers tair blynedd, ac wedi cael dim. Torra hi i lawr, mae hi'n wastraff o dir da.’
Luke WelBeibl 13:8  “‘Ond syr,’ meddai'r garddwr, ‘gad hi am flwyddyn arall, i mi balu o'i chwmpas hi a rhoi digon o wrtaith iddi.
Luke WelBeibl 13:9  Wedyn os bydd ffrwyth yn tyfu arni, gwych! Ond os bydd dim ffrwyth eto, yna torrwn hi i lawr.’”
Luke WelBeibl 13:10  Roedd Iesu'n dysgu yn un o'r synagogau ryw Saboth,
Luke WelBeibl 13:11  ac roedd gwraig yno oedd ag ysbryd drwg wedi'i gwneud hi'n anabl ers un deg wyth mlynedd. Roedd ei chefn wedi crymu nes ei bod yn methu sefyll yn syth o gwbl.
Luke WelBeibl 13:12  Dyma Iesu'n ei gweld hi ac yn ei galw draw ato. “Wraig annwyl,” meddai wrthi, “rwyt ti'n mynd i gael dy iacháu o dy wendid.”
Luke WelBeibl 13:13  Yna rhoddodd ei ddwylo arni, a dyma'i chefn yn sythu yn y fan a'r lle. A dechreuodd hi foli Duw.
Luke WelBeibl 13:14  Ond roedd arweinydd y synagog wedi gwylltio am fod Iesu wedi iacháu ar y Saboth. Cododd a dweud wrth y bobl oedd yno, “Mae yna chwe diwrnod i weithio. Dewch i gael eich iacháu y dyddiau hynny, dim ar y Saboth!”
Luke WelBeibl 13:15  Ond meddai'r Arglwydd wrtho, “Ti mor ddauwynebog! Dych chi i gyd yn gollwng ych ac asyn yn rhydd ar y Saboth, ac yn eu harwain at ddŵr.
Luke WelBeibl 13:16  Dyma i chi un o blant Abraham – gwraig wedi'i rhwymo gan Satan ers un deg wyth mlynedd. Onid ydy'n iawn iddi hi hefyd gael ei gollwng yn rhydd ar y Saboth?”
Luke WelBeibl 13:17  Roedd ei eiriau'n codi cywilydd ar ei wrthwynebwyr i gyd. Ond roedd y bobl gyffredin wrth eu bodd gyda'r holl bethau gwych roedd yn eu gwneud.
Luke WelBeibl 13:18  Gofynnodd Iesu, “Sut beth ydy teyrnasiad Duw? Sut alla i ei ddisgrifio?
Luke WelBeibl 13:19  Mae fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei ardd. Tyfodd yn goeden, a daeth yr adar i nythu yn ei changhennau!”
Luke WelBeibl 13:21  Mae fel burum. Mae gwraig yn ei gymryd ac yn ei gymysgu gyda digonedd o flawd nes iddo ledu drwy'r toes i gyd.”
Luke WelBeibl 13:22  Ar ei ffordd i Jerwsalem roedd Iesu'n galw yn y trefi a'r pentrefi i gyd ac yn dysgu'r bobl.
Luke WelBeibl 13:23  Dyma rywun yn gofyn iddo, “Arglwydd, ai dim ond ychydig bach o bobl sy'n mynd i gael eu hachub?” Dyma'i ateb:
Luke WelBeibl 13:24  “Gwnewch eich gorau glas i gael mynd drwy'r drws cul. Wir i chi, bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ond yn methu.
Luke WelBeibl 13:25  Pan fydd perchennog y tŷ wedi codi i gau'r drws, bydd hi'n rhy hwyr. Byddwch chi'n sefyll y tu allan yn curo ac yn pledio, ‘Syr, agor y drws i ni.’ Ond bydd yn ateb, ‘Dw i ddim yn gwybod pwy ydych chi.’
Luke WelBeibl 13:26  Byddwch chithau'n dweud, ‘Buon ni'n bwyta ac yn yfed gyda ti. Roeddet ti'n dysgu ar ein strydoedd ni.’
Luke WelBeibl 13:27  A bydd e'n ateb eto, ‘Dw i ddim yn eich nabod chi. Ewch o ma! Pobl ddrwg ydych chi i gyd!’
Luke WelBeibl 13:28  “Byddwch chi'n wylo'n chwerw ac mewn artaith, wrth weld Abraham, Isaac a Jacob a'r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chi'ch hunain wedi'ch taflu allan.
Luke WelBeibl 13:29  Bydd pobl yn dod o bob rhan o'r byd i wledda pan ddaw Duw i deyrnasu.
Luke WelBeibl 13:30  Yn wir bydd y rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen, a'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn.”
Luke WelBeibl 13:31  Yna daeth rhyw Phariseaid at Iesu a dweud wrtho, “Rhaid i ti ddianc o ma. Mae Herod Antipas eisiau dy ladd di.”
Luke WelBeibl 13:32  Atebodd Iesu, “Ewch i ddweud wrth y llwynog, ‘Bydda i'n bwrw cythreuliaid allan ac yn iacháu pobl heddiw a fory, a'r diwrnod wedyn bydda i wedi cyrraedd lle dw i'n mynd.’
Luke WelBeibl 13:33  Mae'n rhaid i mi ddal i fynd am dri diwrnod arall – does dim un proffwyd yn marw y tu allan i Jerwsalem!
Luke WelBeibl 13:34  “O! Jerwsalem, Jerwsalem! Y ddinas sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r negeswyr mae Duw'n eu hanfon ati. Mor aml dw i wedi hiraethu am gael casglu dy blant at ei gilydd, fel mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd – ond doedd gen ti ddim diddordeb!
Luke WelBeibl 13:35  Edrych! Mae Duw wedi gadael dy deml. Dw i'n dweud hyn – fyddi di ddim yn fy ngweld i eto nes byddi'n dweud, ‘Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi'i fendithio'n fawr!’”
Chapter 14
Luke WelBeibl 14:1  Un Saboth, roedd Iesu wedi mynd am bryd o fwyd i gartref un o arweinwyr y Phariseaid. Roedd pawb yno'n ei wylio'n ofalus,
Luke WelBeibl 14:2  am fod dyn o'i flaen oedd a'i freichiau a'i goesau wedi chwyddo'n fawr am fod y dropsi arno.
Luke WelBeibl 14:3  Gofynnodd Iesu i'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith, “Ydy'n iawn yn ôl y Gyfraith i iacháu ar y Saboth neu ddim?”
Luke WelBeibl 14:4  Ond wnaethon nhw ddim ateb. Felly dyma Iesu'n rhoi ei ddwylo ar y dyn, a'i iacháu ac yna ei anfon i ffwrdd.
Luke WelBeibl 14:5  Wedyn gofynnodd iddyn nhw, “Petai plentyn neu ych un ohonoch chi yn syrthio i bydew ar y Saboth, fyddech chi ddim yn mynd i'w dynnu allan ar unwaith?”
Luke WelBeibl 14:7  Yna sylwodd Iesu hefyd fod y gwesteion i gyd yn ceisio cael y lleoedd gorau wrth y bwrdd. A dwedodd fel hyn wrthyn nhw:
Luke WelBeibl 14:8  “Pan wyt ti'n cael gwahoddiad i wledd briodas, paid bachu'r sedd orau wrth y bwrdd. Falle fod rhywun pwysicach na ti wedi cael gwahoddiad.
Luke WelBeibl 14:9  Wedyn byddai'n rhaid i'r sawl wnaeth dy wahodd di ofyn i ti symud – ‘Wnei di symud, i'r person yma gael eistedd.’ Am embaras! Gorfod symud i eistedd yn y sedd leia pwysig!
Luke WelBeibl 14:10  Mae'n llawer gwell i ti fynd ac eistedd yn y sedd honno, wedyn pan fydd y sawl roddodd wahoddiad i ti'n cyrraedd, bydd yn dweud, ‘Ffrind annwyl, tyrd yn nes, mae hon yn sedd well.’ Byddi di'n cael dy anrhydeddu yn lle cael dy gywilyddio o flaen y gwesteion eraill.
Luke WelBeibl 14:11  Bydd Duw yn torri crib pobl falch, ac yn anrhydeddu'r rhai gostyngedig.”
Luke WelBeibl 14:12  Wedyn dyma Iesu'n dweud hyn wrth y dyn oedd wedi'i wahodd i'r pryd bwyd, “Pan fyddi'n gwahodd pobl am bryd o fwyd, paid gwahodd dy ffrindiau, dy frodyr a dy chwiorydd, dy berthnasau, neu dy gymdogion cyfoethog. Mae'n bosib i bobl felly roi gwahoddiad yn ôl i ti, ac wedyn byddi di wedi derbyn dy dâl.
Luke WelBeibl 14:13  Dyma beth ddylet ti ei wneud: Pan fyddi di'n trefnu gwledd, rho wahoddiad i bobl dlawd, methedig, cloff a dall,
Luke WelBeibl 14:14  a byddi di'n cael dy fendithio. Dydyn nhw ddim yn gallu talu'n ôl i ti, ond byddi'n cael dy dâl pan fydd y rhai sydd â pherthynas iawn gyda Duw yn codi yn ôl yn fyw.”
Luke WelBeibl 14:15  Clywodd un o'r bobl oedd yn eistedd wrth y bwrdd hyn, a dwedodd wrth Iesu, “Mae'r rhai fydd yn cael bwyta yn y wledd pan ddaw Duw i deyrnasu wedi'u bendithio'n fawr!”
Luke WelBeibl 14:16  Atebodd Iesu: “Roedd rhyw ddyn wedi trefnu gwledd fawr a gwahodd llawer o bobl iddi.
Luke WelBeibl 14:17  Pan oedd popeth yn barod, anfonodd ei was i ddweud wrth y rhai oedd wedi cael gwahoddiad, ‘Dewch, mae'r wledd yn barod.’
Luke WelBeibl 14:18  “Ond dyma bob un ohonyn nhw yn dechrau hel esgusion. Dyma un yn dweud, ‘Dw i newydd brynu ychydig o dir, ac mae'n rhaid i mi fynd i'w weld. Wnei di f'esgusodi fi os gweli di'n dda?’
Luke WelBeibl 14:19  “Dyma un arall yn dweud, ‘Dw i newydd brynu pum pâr o ychen, a dw i'n mynd i roi prawf arnyn nhw. Wnei di f'esgusodi fi os gweli di'n dda?’
Luke WelBeibl 14:20  “A dyma un arall eto yn dweud, ‘Dw i newydd briodi, felly alla i ddim dod.’
Luke WelBeibl 14:21  “Felly dyma'r gwas yn mynd yn ôl a dweud wrth ei feistr beth oedd wedi digwydd. Roedd y meistr wedi gwylltio, ac meddai wrth y gwas, ‘Dos i'r dre ar unwaith, a thyrd â'r bobl sy'n cardota ar y strydoedd i mewn yma – y tlawd, y methedig, pobl sy'n gloff ac yn ddall.’
Luke WelBeibl 14:22  “Pan ddaeth y gwas yn ôl dwedodd wrth ei feistr, ‘Syr, dw i wedi gwneud beth ddwedaist ti, ond mae yna le ar ôl o hyd.’
Luke WelBeibl 14:23  “Felly dyma'r meistr yn dweud, ‘Dos allan o'r ddinas, i'r ffyrdd a'r lonydd yng nghefn gwlad. Perswadia'r bobl sydd yno i ddod. Dw i eisiau i'r tŷ fod yn llawn.
Luke WelBeibl 14:24  Fydd yna ddim lle i neb o'r bobl hynny gafodd eu gwahodd! Fyddan nhw ddim yn cael tamaid o'r wledd dw i wedi'i threfnu.’”
Luke WelBeibl 14:25  Roedd tyrfa fawr o bobl yn teithio gyda Iesu, a dyma fe'n troi atyn nhw a dweud:
Luke WelBeibl 14:26  “Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid i mi ddod o flaen popeth arall yn ei fywyd. Rhaid i'w gariad ata i wneud i bob perthynas arall edrych fel casineb! – ei dad a'i fam, ei wraig a'i blant, ei frodyr a'i chwiorydd – ie, hyd yn oed bywyd ei hun! Neu all e ddim bod yn ddisgybl i mi.
Luke WelBeibl 14:27  A does neb yn gallu bod yn ddisgybl i mi chwaith heb gario ei groes a cherdded yr un llwybr o hunanaberth.
Luke WelBeibl 14:28  “Does neb yn mynd ati i adeiladu adeilad mawr heb eistedd i lawr yn gyntaf i amcangyfri'r gost a gwneud yn siŵr fod ganddo ddigon o arian i orffen y gwaith.
Luke WelBeibl 14:29  Does dim pwynt iddo fynd ati i osod y sylfeini ac wedyn darganfod ei fod yn methu ei orffen. Byddai pawb yn gwneud hwyl ar ei ben,
Luke WelBeibl 14:30  ac yn dweud ‘Edrychwch, dyna'r dyn ddechreuodd y gwaith ar yr adeilad acw a methu ei orffen!’
Luke WelBeibl 14:31  “A dydy brenin ddim yn mynd i ryfel heb eistedd gyda'i gynghorwyr yn gyntaf, ac ystyried ydy hi'n bosib i'w fyddin o ddeg mil o filwyr drechu'r fyddin o ugain mil sy'n ymosod arno.
Luke WelBeibl 14:32  Os ydy'r peth yn amhosib bydd yn anfon swyddogion i geisio cytuno ar delerau heddwch – a hynny pan fydd byddin y gelyn yn dal yn bell i ffwrdd!
Luke WelBeibl 14:33  Dych chi yn yr un sefyllfa. All neb fod yn ddisgybl i mi heb roi heibio popeth arall er mwyn fy nilyn i.
Luke WelBeibl 14:34  “Mae halen yn ddefnyddiol, ond pan mae'n colli ei flas pa obaith sydd i'w wneud yn hallt eto?
Luke WelBeibl 14:35  Dydy e'n gwneud dim lles i'r pridd nac i'r domen dail; rhaid ei daflu i ffwrdd. “Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”
Chapter 15
Luke WelBeibl 15:1  Roedd y dynion oedd yn casglu trethi i Rufain a phobl eraill oedd yn cael eu hystyried yn ‛bechaduriaid‛ yn casglu o gwmpas Iesu i wrando arno.
Luke WelBeibl 15:2  Ond roedd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn cwyno a mwmblan, “Mae'r dyn yma'n rhoi croeso i bobl sy'n ‛bechaduriaid‛! Mae hyd yn oed yn bwyta gyda nhw!”
Luke WelBeibl 15:4  “Dychmygwch fod gan un ohonoch chi gant o ddefaid, a bod un ohonyn nhw wedi mynd ar goll. Oni fyddai'n gadael y naw deg naw ar y tir agored ac yn mynd i chwilio am y ddafad aeth ar goll nes dod o hyd iddi?
Luke WelBeibl 15:5  A phan mae'n dod o hyd iddi mae mor llawen! Mae'n ei chodi ar ei ysgwyddau
Luke WelBeibl 15:6  ac yn mynd adre. Wedyn mae'n galw'i ffrindiau a'i gymdogion draw, ac yn dweud wrthyn nhw, ‘Dewch i ddathlu; dw i wedi dod o hyd i'r ddafad oedd wedi mynd ar goll.’
Luke WelBeibl 15:7  Wir i chi, dyna sut mae hi yn y nefoedd – mae mwy o ddathlu am fod un pechadur wedi troi at Dduw nag am naw deg naw o bobl sy'n meddwl eu bod nhw'n iawn a dim angen newid!
Luke WelBeibl 15:8  “Neu petai gan ryw wraig ddeg darn arian, ac yn colli un ohonyn nhw. Byddai hi'n cynnau lamp ac yn mynd ati i lanhau'r tŷ i gyd, a chwilio ym mhob twll a chornel am y darn arian nes iddi ddod o hyd iddo.
Luke WelBeibl 15:9  Pan mae'n dod o hyd iddo, mae'n galw'i ffrindiau a'i chymdogion draw, ac yn dweud wrthyn nhw, ‘Dewch i ddathlu; dw i wedi dod o hyd i'r darn arian oedd wedi mynd ar goll.’
Luke WelBeibl 15:10  Wir i chi, dyna sut mae Duw yn dathlu o flaen ei angylion pan mae un pechadur yn troi ato!”
Luke WelBeibl 15:11  Aeth Iesu yn ei flaen i ddweud stori arall: “Roedd rhyw ddyn a dau fab ganddo.
Luke WelBeibl 15:12  Dyma'r mab ifancaf yn mynd at ei dad a dweud, ‘Dad, dw i eisiau i ti roi fy siâr i o'r ystâd i mi nawr.’ Felly dyma'r tad yn cytuno i rannu popeth oedd ganddo rhwng y ddau fab.
Luke WelBeibl 15:13  “Yn fuan wedyn, dyma'r mab ifancaf yn gwerthu'r cwbl lot, gadael cartref a theithio i wlad bell. Yno gwastraffodd ei arian i gyd ar fywyd gwyllt.
Luke WelBeibl 15:14  Ar ôl iddo golli'r cwbl bu newyn difrifol drwy'r wlad, ac roedd yn dechrau llwgu.
Luke WelBeibl 15:15  Llwyddodd i berswadio rhywun i roi gwaith iddo, a chafodd ei anfon allan i'r caeau i ofalu am foch.
Luke WelBeibl 15:16  Aeth pethau mor ddrwg nes ei fod yn cael ei demtio i fwyta peth o'r bwyd moch! Doedd neb yn rhoi dim arall iddo.
Luke WelBeibl 15:17  “Yna o'r diwedd, calliodd, ac meddai ‘Beth dw i'n ei wneud yn y fan yma yn llwgu i farwolaeth? Mae dad yn cyflogi gweithwyr, ac mae ganddyn nhw ddigonedd o fwyd.
Luke WelBeibl 15:18  Af i adre at dad, a dweud wrtho: Dad, dw i wedi pechu yn erbyn Duw ac yn dy erbyn di.
Luke WelBeibl 15:19  Dw i ddim yn haeddu cael fy ngalw'n fab i ti ddim mwy. Gad i mi fod yn un o'r gweithwyr sy'n cael eu cyflogi gen ti.’
Luke WelBeibl 15:20  Felly i ffwrdd ag e yn ôl adre. “Gwelodd ei dad e'n dod pan oedd yn dal yn bell i ffwrdd. Roedd ei dad wedi cynhyrfu, a rhedodd at ei fab, a'i gofleidio a'i gusanu.
Luke WelBeibl 15:21  “A dyma'r mab yn dweud wrtho, ‘Dad, dw i wedi pechu yn erbyn Duw ac yn dy erbyn di. Dw i ddim yn haeddu cael fy ngalw'n fab i ti ddim mwy.’
Luke WelBeibl 15:22  Meddai'r tad wrth y gweision, ‘Brysiwch! Ewch i nôl mantell iddo ei gwisgo – yr un orau! Rhowch fodrwy ar ei fys a sandalau ar ei draed.
Luke WelBeibl 15:23  Yna ewch i ladd y llo sydd wedi cael ei besgi, i ni gael parti!
Luke WelBeibl 15:24  Roedd fy mab i wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd e ar goll, ond dŷn ni wedi'i gael yn ôl.’ Felly dyma'r parti'n dechrau.
Luke WelBeibl 15:25  “Tra oedd hyn i gyd yn digwydd roedd y mab hynaf allan yn gweithio yn y caeau. Wrth ddod yn ôl at y tŷ roedd yn clywed sŵn cerddoriaeth a dawnsio.
Luke WelBeibl 15:26  Galwodd fachgen ifanc ato, a gofyn iddo beth oedd yn digwydd.
Luke WelBeibl 15:27  ‘Mae dy frawd yma!’ meddai hwnnw, ‘Mae dy dad wedi lladd y llo oedd wedi'i besgi i ddathlu ei fod wedi'i gael yn ôl yn saff.’
Luke WelBeibl 15:28  “Ond dyma'r mab hynaf yn digio, a gwrthod mynd i mewn. Felly dyma'i dad yn dod allan a chrefu arno i fynd i mewn.
Luke WelBeibl 15:29  Ond meddai wrth ei dad, ‘Edrych! Dw i wedi slafio ar hyd y blynyddoedd yma, heb erioed wrthod gwneud unrhyw beth i ti. Ches i erioed fyn gafr gen ti i gael parti gyda fy ffrindiau!
Luke WelBeibl 15:30  Ond dyma hwn yn dod adre – y mab yma sydd gen ti – yr un sydd wedi gwastraffu dy arian di i gyd ar buteiniaid. O! mae'n rhaid i ti ladd y llo sydd wedi'i besgi i hwn!’
Luke WelBeibl 15:31  “‘Machgen i,’ meddai'r tad wrtho, ‘rwyt ti yma bob amser, a ti sydd biau popeth sydd gen i ar ôl.
Luke WelBeibl 15:32  Ond roedd rhaid i ni ddathlu – roedd dy frawd wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd e ar goll, ond dŷn ni wedi'i gael yn ôl!’”
Chapter 16
Luke WelBeibl 16:1  Dyma Iesu'n dweud y stori yma wrth ei ddisgyblion: “Roedd rhyw ddyn cyfoethog yn cyflogi fforman, ac wedi clywed sibrydion ei fod yn gwastraffu ei eiddo.
Luke WelBeibl 16:2  Felly dyma'r dyn yn galw'r fforman i'w weld, a gofyn iddo, ‘Beth ydy hyn dw i'n ei glywed amdanat ti? Dw i eisiau gweld y llyfrau cyfrifon. Os ydy'r stori'n wir, cei di'r sac.’
Luke WelBeibl 16:3  “‘Beth wna i?’ meddyliodd y fforman. ‘Dw i'n mynd i golli fy job. Dw i ddim yn ddigon cryf i fod yn labrwr, a fyddwn i byth yn gallu cardota.
Luke WelBeibl 16:4  Dw i'n gwybod! Dw i'n mynd i wneud rhywbeth fydd yn rhoi digon o ffrindiau i mi, wedyn pan fydda i allan o waith bydd digon o bobl yn rhoi croeso i mi yn eu cartrefi.’
Luke WelBeibl 16:5  “A dyma beth wnaeth – cysylltodd â phob un o'r bobl oedd mewn dyled i'w feistr. Gofynnodd i'r cyntaf, ‘Faint o ddyled sydd arnat ti i'm meistr i?’
Luke WelBeibl 16:6  “‘Wyth can galwyn o olew olewydd,’ meddai. “Yna meddai'r fforman, ‘Tafla'r bil i ffwrdd. Gad i ni ddweud mai pedwar cant oedd e.’
Luke WelBeibl 16:7  “Yna gofynnodd i un arall, ‘Faint ydy dy ddyled di?’ “‘Can erw o wenith,’ atebodd. “‘Tafla'r bil i ffwrdd,’ meddai'r fforman. ‘Dwedwn ni wyth deg.’
Luke WelBeibl 16:8  “Roedd rhaid i'r meistr edmygu'r fforman am fod mor graff, er ei fod yn anonest. Ac mae'n wir fod pobl y byd yn fwy craff wrth drin pobl eraill na phobl y golau.
Luke WelBeibl 16:9  Dw i'n dweud wrthoch chi, gwnewch ffrindiau drwy ddefnyddio'ch arian er lles pobl eraill. Pan fydd gynnoch chi ddim ar ôl, bydd croeso i chi yn y nefoedd.
Luke WelBeibl 16:10  “Os gellir eich trystio chi gyda phethau bach, gellir eich trystio chi gyda phethau mawr. Ond os ydych chi'n twyllo gyda phethau bach, sut mae eich trystio chi gyda phethau mawr?
Luke WelBeibl 16:11  Felly os dych chi ddim yn onest wrth drin arian, pwy sy'n mynd i'ch trystio chi gyda'r gwir gyfoeth?
Luke WelBeibl 16:12  Os dych chi ddim yn onest wrth drin eiddo pobl eraill, pwy sy'n mynd i roi eiddo i chi ei gadw i chi'ch hun?
Luke WelBeibl 16:13  “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac arian ar yr un pryd.”
Luke WelBeibl 16:14  Pan glywodd y Phariseaid hyn roedden nhw'n gwneud hwyl am ben Iesu, gan eu bod nhw'n hoff iawn o'u harian.
Luke WelBeibl 16:15  Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n hoffi rhoi'r argraff eich bod chi mor dduwiol, ond mae Duw yn gwybod beth sydd yn eich calonnau chi! Mae beth mae pobl yn ei gyfri'n bwysig yn ddiwerth yng ngolwg Duw.”
Luke WelBeibl 16:16  “Cyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi oedd gynnoch chi nes i Ioan Fedyddiwr ddechrau pregethu. Ond ers hynny mae'r newyddion da fod Duw'n teyrnasu yn cael ei gyhoeddi, ac mae pawb yn cael eu hannog yn frwd i ymateb.
Luke WelBeibl 16:17  Ond dydy hynny ddim yn golygu fod y Gyfraith bellach yn ddiwerth. Bydd y nefoedd a'r ddaear yn diflannu cyn i'r manylyn lleia o'r Gyfraith golli ei rym.
Luke WelBeibl 16:18  “Os ydy dyn yn ysgaru ei wraig er mwyn priodi rhywun arall mae'n godinebu. Hefyd, mae'r dyn sy'n priodi'r wraig sydd wedi'i hysgaru yn godinebu.”
Luke WelBeibl 16:19  “Roedd rhyw ddyn cyfoethog oedd bob amser yn gwisgo'r dillad mwya crand ac yn byw yn foethus.
Luke WelBeibl 16:20  Y tu allan i'w dŷ roedd dyn tlawd o'r enw Lasarus yn cael ei adael i gardota; dyn oedd â briwiau dros ei gorff i gyd.
Luke WelBeibl 16:21  Dyna lle roedd, yn disgwyl am unrhyw sbarion bwyd oedd yn cael eu taflu gan y dyn cyfoethog! Byddai cŵn yn dod ato ac yn llyfu'r briwiau agored ar ei gorff.
Luke WelBeibl 16:22  “Un diwrnod dyma'r cardotyn yn marw, a daeth yr angylion i'w gario i'r nefoedd at Abraham. Ond pan fuodd y dyn cyfoethog farw, a chael ei gladdu,
Luke WelBeibl 16:23  aeth i uffern. Yno roedd yn dioddef yn ofnadwy, ac yn y pellter roedd yn gweld Abraham gyda Lasarus.
Luke WelBeibl 16:24  Gwaeddodd arno, ‘Fy nhad Abraham, plîs helpa fi! Anfon Lasarus yma i roi blaen ei fys mewn dŵr a'i roi ar fy nhafod i'w hoeri. Dw i mewn poen ofnadwy yn y tân yma!’
Luke WelBeibl 16:25  “Ond dyma Abraham yn ei ateb, ‘Fy mab, roedd gen ti bopeth roeddet ti eisiau ar y ddaear, ond doedd gan Lasarus ddim byd. Bellach mae e yma'n cael ei gysuro, a tithau'n cael dy arteithio.
Luke WelBeibl 16:26  A beth bynnag, mae'r hyn rwyt yn ei ofyn yn amhosib achos mae yna agendor enfawr yn ein gwahanu ni. Does neb yn gallu croesi o'r fan yma atat ti, a does neb yn gallu dod drosodd o lle rwyt ti aton ni chwaith.’
Luke WelBeibl 16:27  “Felly dyma'r dyn cyfoethog yn dweud, ‘Os felly, dw i'n ymbil arnat ti, plîs wnei di anfon Lasarus i rybuddio fy nheulu i.
Luke WelBeibl 16:28  Mae gen i bum brawd, a fyddwn i ddim am iddyn nhw ddod i'r lle ofnadwy yma pan fyddan nhw farw.’
Luke WelBeibl 16:29  “Ond atebodd Abraham, ‘Mae Cyfraith Moses ac ysgrifau'r proffwydi yn eu rhybuddio nhw. Does ond rhaid iddyn nhw wrando ar y rheiny.’
Luke WelBeibl 16:30  “‘Na, fy nhad,’ meddai'r dyn cyfoethog. ‘Petai rhywun sydd wedi marw yn cael ei anfon atyn nhw, bydden nhw'n troi cefn ar eu pechod.’
Luke WelBeibl 16:31  “Ond meddai Abraham, ‘Os ydyn nhw ddim yn gwrando ar Moses a'r Proffwydi, fyddan nhw ddim yn gwrando chwaith os bydd rhywun yn dod yn ôl yn fyw ar ôl marw.’”
Chapter 17
Luke WelBeibl 17:1  Dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Bydd bob amser bethau'n digwydd sy'n temtio pobl i bechu, ond gwae'r sawl sy'n gwneud y temtio!
Luke WelBeibl 17:2  Byddai'n well i'r person hwnnw gael ei daflu i'r môr gyda maen melin wedi'i rwymo am ei wddf, na gorfod wynebu canlyniadau gwneud i un o'r rhai bach yma bechu.
Luke WelBeibl 17:3  Felly gwyliwch eich hunain! Os ydy rhywun arall sy'n credu ynof fi yn pechu, rhaid i ti ei geryddu; ond pan mae'n edifar ac yn troi cefn ar ei bechod, rhaid i ti faddau iddo.
Luke WelBeibl 17:4  Hyd yn oed petai'n pechu yn dy erbyn saith gwaith y dydd, ond yn dod yn ôl bob tro ac yn gofyn am faddeuant, rhaid i ti faddau.”
Luke WelBeibl 17:5  Dyma'r apostolion yn gofyn i'r Arglwydd, “Sut allwn ni gael mwy o ffydd?”
Luke WelBeibl 17:6  Atebodd Iesu, “Petai'ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y goeden forwydden yma am gael ei chodi o'r ddaear wrth ei gwreiddiau a'i thaflu i'r môr, a byddai'n gwneud hynny!
Luke WelBeibl 17:7  “Pan mae eich gwas yn dod i'r tŷ ar ôl bod wrthi'n aredig y tir neu'n gofalu am y defaid drwy'r dydd, ydych chi'n dweud wrtho, ‘Tyrd i eistedd i lawr yma, a bwyta’?
Luke WelBeibl 17:8  Na, dych chi'n dweud, ‘Gwna swper i mi gyntaf. Cei di fwyta wedyn.’
Luke WelBeibl 17:9  A dych chi ddim yn diolch iddo, am fod y gwas ddim ond yn gwneud beth mae gwas i fod i'w wneud.
Luke WelBeibl 17:10  Felly chithau – ar ôl gwneud popeth dw i'n ei ofyn, dylech chi ddweud, ‘Dŷn ni'n haeddu dim. Gweision ydyn ni, sydd ddim ond yn gwneud beth mae disgwyl i ni ei wneud.’”
Luke WelBeibl 17:11  Aeth Iesu ymlaen ar ei ffordd i Jerwsalem, a daeth at y ffin rhwng Galilea a Samaria.
Luke WelBeibl 17:12  Wrth iddo fynd i mewn i ryw bentref, dyma ddeg dyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod i'w gyfarfod. Dyma nhw'n sefyll draw
Luke WelBeibl 17:13  ac yn gweiddi'n uchel arno o bell, “Feistr! Iesu! – wnei di'n helpu ni?”
Luke WelBeibl 17:14  Pan welodd Iesu nhw, dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i ddangos eich hunain i'r offeiriaid.” Ac roedden nhw ar eu ffordd i wneud hynny pan wnaeth y gwahanglwyf oedd ar eu cyrff ddiflannu!
Luke WelBeibl 17:15  Dyma un ohonyn nhw'n troi'n ôl pan welodd ei fod wedi cael ei iacháu. Roedd yn gweiddi'n uchel, “Clod i Dduw!”
Luke WelBeibl 17:16  Taflodd ei hun ar lawr o flaen Iesu, a diolch iddo am yr hyn roedd wedi'i wneud. (Gyda llaw, Samariad oedd y dyn.)
Luke WelBeibl 17:17  Meddai Iesu, “Rôn i'n meddwl mod i wedi iacháu deg o ddynion. Ble mae'r naw arall?
Luke WelBeibl 17:18  Ai dim ond y Samariad yma sy'n fodlon rhoi'r clod i Dduw?”
Luke WelBeibl 17:19  Yna dwedodd wrth y dyn, “Cod ar dy draed, a dos adre. Am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.”
Luke WelBeibl 17:20  Un diwrnod, dyma'r Phariseaid yn gofyn i Iesu, “Pryd mae teyrnasiad Duw yn mynd i ddechrau?” Atebodd Iesu, “Does yna ddim arwyddion gweledig yn dangos fod teyrnasiad Duw wedi cyrraedd!
Luke WelBeibl 17:21  Fydd pobl ddim yn gallu dweud, ‘Mae yma!’ neu ‘Mae draw acw!’ achos mae Duw yma'n teyrnasu yn eich plith chi.”
Luke WelBeibl 17:22  Roedd yn siarad am hyn gyda'i ddisgyblion wedyn, ac meddai, “Mae'r amser yn dod pan fyddwch chi'n dyheu am gael rhyw gipolwg bach o'r dyddiau pan fydda i, Mab y Dyn gyda chi eto, ond byddwch yn methu.
Luke WelBeibl 17:23  Bydd pobl yn honni fod Mab y Dyn wedi dod yn ôl; ‘Mae yma!’ neu ‘Mae draw acw!’ byddan nhw'n ei ddweud. Ond peidiwch gwrando arnyn nhw a mynd allan i edrych amdano.
Luke WelBeibl 17:24  Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl – bydd mor amlwg â mellten yn goleuo'r awyr o un pen i'r llall!
Luke WelBeibl 17:25  Ond cyn i hynny ddigwydd mae'n rhaid i mi ddioddef yn ofnadwy a chael fy ngwrthod gan bobl y genhedlaeth bresennol.
Luke WelBeibl 17:26  “Bydd hi yn union yr un fath â roedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl.
Luke WelBeibl 17:27  Roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i'r arch. Wedyn daeth y llifogydd a'u dinistrio nhw i gyd!
Luke WelBeibl 17:28  “A'r un fath yn amser Lot. Roedd pobl yn bwyta ac yn yfed, yn prynu a gwerthu, yn ffermio ac yn adeiladu.
Luke WelBeibl 17:29  Ond wedyn pan adawodd Lot Sodom daeth tân a brwmstan i lawr o'r awyr a'u dinistrio nhw i gyd.
Luke WelBeibl 17:30  “Fel yna'n union fydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod i'r golwg.
Luke WelBeibl 17:31  Y diwrnod hwnnw fydd yna ddim cyfle i neb sydd y tu allan i'w dŷ fynd i mewn i bacio ei bethau. A ddylai neb sydd allan yn y maes feddwl mynd adre.
Luke WelBeibl 17:33  Bydd y rhai sy'n ceisio achub eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd yn diogelu bywyd go iawn.
Luke WelBeibl 17:34  Y noson honno bydd dau yn rhannu gwely; bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei adael.
Luke WelBeibl 17:35  Bydd dwy wraig yn malu ŷd gyda'i gilydd; bydd un yn cael ei chymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei gadael.”
Luke WelBeibl 17:37  “Arglwydd, ble bydd hyn yn digwydd?” gofynnodd y disgyblion. Atebodd Iesu, “Bydd mor amlwg â'r ffaith fod yna gorff marw lle mae fwlturiaid wedi casglu.”
Chapter 18
Luke WelBeibl 18:1  Dwedodd Iesu stori wrth ei ddisgyblion i ddangos y dylen nhw ddal ati i weddïo, a pheidio byth ag anobeithio:
Luke WelBeibl 18:2  “Roedd barnwr yn byw mewn rhyw dref,” meddai, “dyn oedd ddim yn parchu Duw na neb arall.
Luke WelBeibl 18:3  Ac yn yr un dref roedd gwraig weddw oedd yn mynd ato o hyd ac o hyd i ofyn iddo farnu rhywun oedd wedi gwneud niwed iddi.
Luke WelBeibl 18:4  “Chymerodd y barnwr ddim sylw ohoni i ddechrau. Ond yn y diwedd roedd wedi cael hen ddigon – ‘Dw i ddim yn ddyn duwiol a dw i ddim yn poeni beth mae pobl eraill yn ei feddwl ohono i.
Luke WelBeibl 18:5  Ond bydd y wraig yma wedi ngyrru i'n wallgof os na wna i beth mae hi eisiau!’”
Luke WelBeibl 18:6  Yna meddai'r Arglwydd, “Gwrandwch, mae gwers i'w dysgu yma.
Luke WelBeibl 18:7  Dych chi'n gwybod beth ddwedodd y barnwr drwg. Felly beth am Dduw? Dych chi ddim yn meddwl y bydd e'n amddiffyn y bobl mae wedi'u dewis iddo'i hun? Fydd e ddim yn oedi! Bydd yn ymateb ar unwaith i'r rhai sy'n galw arno ddydd a nos!
Luke WelBeibl 18:8  Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd yn rhoi dedfryd gyfiawn iddyn nhw, a hynny ar frys! Ond, pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl, faint o bobl fydd yn dal i gredu bryd hynny?”
Luke WelBeibl 18:9  Dwedodd Iesu y stori yma wrth rai pobl oedd yn meddwl eu bod nhw eu hunain mor dduwiol, ac yn edrych i lawr eu trwynau ar bawb arall:
Luke WelBeibl 18:10  “Aeth dau ddyn i weddïo yn y deml. Pharisead oedd un ohonyn nhw, a'r llall yn ddyn oedd yn casglu trethi i Rufain.
Luke WelBeibl 18:11  Dyma'r Pharisead yn sefyll ar ei draed yn hyderus, a dyma oedd ei weddi: ‘O Dduw, dw i yn diolch i ti mod i ddim yr un fath â phobl eraill. Dw i ddim yn twyllo na gwneud dim byd drwg arall, a dw i ddim yn gwneud pethau anfoesol. Dw i ddim yr un fath â'r bradwr yma!
Luke WelBeibl 18:12  Dw i'n ymprydio ddwywaith yr wythnos ac yn rhoi un rhan o ddeg o bopeth sydd gen i i'r deml.’
Luke WelBeibl 18:13  “Ond roedd y casglwr trethi wedi mynd i sefyll mewn rhyw gornel ar ei ben ei hun. Doedd e ddim yn meiddio edrych i fyny hyd yn oed. Yn lle hynny roedd yn curo'i frest mewn cywilydd. Dyma oedd ei weddi e: ‘O Dduw, wnei di faddau i mi. Dw i'n bechadur ofnadwy.’
Luke WelBeibl 18:14  “Dw i'n dweud wrthoch chi mai'r casglwr trethi, dim y Pharisead, oedd yr un aeth adre a'i berthynas gyda Duw yn iawn. Bydd Duw yn torri crib pobl falch ac yn anrhydeddu'r rhai gostyngedig.”
Luke WelBeibl 18:15  Roedd pobl yn dod â'u babis bach at Iesu er mwyn iddo eu cyffwrdd a'u bendithio. Ond pan welodd y disgyblion nhw, dyma nhw'n dweud y drefn wrthyn nhw.
Luke WelBeibl 18:16  Ond dyma Iesu'n eu galw nhw ato. “Gadewch i'r plant bach ddod ata i,” meddai, “Peidiwch eu rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad Duw.
Luke WelBeibl 18:17  Credwch chi fi, heb ymddiried fel plentyn bach, wnewch chi byth ddod yn un o'r rhai mae Duw'n teyrnasu yn eu bywydau.”
Luke WelBeibl 18:18  Un tro gofynnodd rhyw arweinydd crefyddol y cwestiwn yma i Iesu: “Athro da, beth alla i ei wneud i gael bywyd tragwyddol?”
Luke WelBeibl 18:19  “Pam wyt ti'n fy ngalw i'n dda?” meddai Iesu. “Onid Duw ydy'r unig un sy'n dda?
Luke WelBeibl 18:20  Ti'n gwybod beth wnaeth Duw ei orchymyn: ‘Paid godinebu, paid llofruddio, paid dwyn, paid rhoi tystiolaeth ffals, gofala am dy dad a dy fam.’”
Luke WelBeibl 18:21  Atebodd y dyn, “Dw i wedi cadw'r rheolau yma i gyd ers pan o'n i'n fachgen ifanc.”
Luke WelBeibl 18:22  Pan glywodd Iesu hynny, dwedodd wrth y dyn, “Mae un peth arall ar ôl. Gwertha bopeth, dy eiddo i gyd, a rhannu'r arian gyda phobl dlawd. Wedyn cei di drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”
Luke WelBeibl 18:23  Doedd y dyn ddim yn hapus o gwbl pan glywodd beth ddwedodd Iesu, am ei fod yn ddyn cyfoethog dros ben.
Luke WelBeibl 18:24  Edrychodd Iesu ar y dyn yn cerdded i ffwrdd, ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mae hi mor anodd i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!
Luke WelBeibl 18:25  Mae'n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!”
Luke WelBeibl 18:26  Dyma'r rhai glywodd hyn yn dweud, “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?”
Luke WelBeibl 18:27  Atebodd Iesu, “Mae Duw yn gallu gwneud beth sy'n amhosib i bobl ei wneud.”
Luke WelBeibl 18:28  Dyma Pedr yn ymateb, “Edrych, dŷn ni wedi gadael popeth sydd gynnon ni i dy ddilyn di!”
Luke WelBeibl 18:29  “Credwch chi fi,” meddai Iesu wrthyn nhw, “bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref a gadael gwraig neu frodyr neu rieni neu blant er mwyn teyrnas Dduw
Luke WelBeibl 18:30  yn derbyn llawer iawn mwy yn y bywyd yma. Ac yn yr oes sydd i ddod byddan nhw'n derbyn bywyd tragwyddol!”
Luke WelBeibl 18:31  Aeth Iesu â'r deuddeg disgybl i'r naill ochr, a dweud wrthyn nhw, “Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem, daw'r cwbl mae'r proffwydi wedi'i ysgrifennu amdana i, Mab y Dyn, yn wir.
Luke WelBeibl 18:32  Bydda i'n cael fy rhoi yn nwylo'r Rhufeiniaid. Byddan nhw'n gwneud sbort am fy mhen, yn fy ngham-drin, ac yn poeri arna i.
Luke WelBeibl 18:33  Yna bydda i'n cael fy chwipio a'm lladd. Ond yna, ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw.”
Luke WelBeibl 18:34  Doedd y disgyblion ddim yn deall hyn o gwbl. Roedd y cwbl yn ddirgelwch pur iddyn nhw, a doedd ganddyn nhw ddim syniad am beth roedd e'n siarad.
Luke WelBeibl 18:35  Pan oedd Iesu'n agosáu at Jericho dyma ddyn dall oedd yn cardota ar ochr y ffordd
Luke WelBeibl 18:36  yn clywed sŵn tyrfa o bobl yn pasio heibio, a dyma fe'n gofyn, “Beth sy'n digwydd?”
Luke WelBeibl 18:37  “Iesu o Nasareth sy'n pasio heibio,” meddai rhywun wrtho.
Luke WelBeibl 18:38  Felly dyma'r dyn dall yn gweiddi'n uchel, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”
Luke WelBeibl 18:39  “Cau dy geg!” meddai'r bobl oedd ar flaen y dyrfa. Ond yn lle hynny dechreuodd weiddi'n uwch fyth, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”
Luke WelBeibl 18:40  Dyma Iesu'n stopio, ac yn dweud wrthyn nhw am ddod â'r dyn ato. Pan ddaeth ato, gofynnodd i'r dyn,
Luke WelBeibl 18:41  “Beth ga i wneud i ti?” “Arglwydd,” meddai, “dw i eisiau gallu gweld.”
Luke WelBeibl 18:42  Yna dwedodd Iesu wrtho, “Iawn, cei di weld; am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.”
Luke WelBeibl 18:43  Yn sydyn roedd y dyn yn gweld, a dilynodd Iesu gan foli Duw. Ac roedd pawb welodd beth ddigwyddodd yn moli Duw hefyd!
Chapter 19
Luke WelBeibl 19:1  Aeth Iesu yn ei flaen i mewn i Jericho, ac roedd yn mynd drwy'r dref.
Luke WelBeibl 19:2  Roedd dyn o'r enw Sacheus yn byw yno – Iddew oedd yn arolygwr yn adran casglu trethi Rhufain. Roedd yn ddyn hynod o gyfoethog.
Luke WelBeibl 19:3  Roedd arno eisiau gweld Iesu, ond roedd yn ddyn byr ac yn methu ei weld am fod gormod o dyrfa o'i gwmpas.
Luke WelBeibl 19:4  Rhedodd ymlaen a dringo coeden sycamorwydden oedd i lawr y ffordd lle roedd Iesu'n mynd, er mwyn gallu gweld.
Luke WelBeibl 19:5  Pan ddaeth Iesu at y goeden, edrychodd i fyny a dweud wrtho, “Sacheus, tyrd i lawr. Mae'n rhaid i mi ddod i dy dŷ di heddiw.”
Luke WelBeibl 19:6  Dringodd Sacheus i lawr ar unwaith a rhoi croeso brwd i Iesu i'w dŷ.
Luke WelBeibl 19:7  Doedd y bobl welodd hyn ddim yn hapus o gwbl! Roedden nhw'n cwyno a mwmblan, “Mae wedi mynd i aros i dŷ ‛pechadur‛ – dyn ofnadwy!”
Luke WelBeibl 19:8  Ond dyma Sacheus yn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, dw i'n mynd i roi hanner popeth sydd gen i i'r rhai sy'n dlawd. Ac os ydw i wedi twyllo pobl a chymryd mwy o drethi nag y dylwn i, tala i bedair gwaith cymaint yn ôl iddyn nhw.”
Luke WelBeibl 19:9  Meddai Iesu, “Mae'r bobl sy'n byw yma wedi gweld beth ydy achubiaeth heddiw. Mae'r dyn yma wedi dangos ei fod yn fab i Abraham.
Luke WelBeibl 19:10  Dw i, Mab y Dyn, wedi dod i chwilio am y rhai sydd ar goll, i'w hachub nhw.”
Luke WelBeibl 19:11  Roedd y dyrfa'n gwrando ar bopeth roedd Iesu'n ei ddweud. Gan ei fod yn dod yn agos at Jerwsalem, dwedodd stori wrthyn nhw i gywiro'r syniad oedd gan bobl fod teyrnasiad Duw yn mynd i ddod unrhyw funud.
Luke WelBeibl 19:12  Dyma'r stori: “Roedd rhyw ddyn pwysig aeth i ffwrdd i wlad bell i gael ei wneud yn frenin ar ei bobl.
Luke WelBeibl 19:13  Ond cyn mynd, galwodd ddeg o'i weision ato a rhannu swm o arian rhyngddyn nhw. ‘Defnyddiwch yr arian yma i farchnata ar fy rhan, nes dof i yn ôl adre,’ meddai.
Luke WelBeibl 19:14  “Ond roedd ei bobl yn ei gasáu, a dyma nhw'n anfon cynrychiolwyr ar ei ôl i ddweud eu bod nhw ddim eisiau iddo fod yn frenin arnyn nhw.
Luke WelBeibl 19:15  “Ond cafodd ei wneud yn frenin, a phan ddaeth adre galwodd ato y gweision hynny oedd wedi rhoi'r arian iddyn nhw. Roedd eisiau gwybod oedden nhw wedi llwyddo i wneud elw.
Luke WelBeibl 19:16  Dyma'r cyntaf yn dod, ac yn dweud ei fod wedi llwyddo i wneud elw mawr – deg gwaith cymaint â'r swm gwreiddiol!
Luke WelBeibl 19:17  ‘Da iawn ti!’ meddai'r meistr, ‘Rwyt ti'n weithiwr da. Gan dy fod di wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, dw i am dy wneud di'n rheolwr ar ddeg dinas.’
Luke WelBeibl 19:18  “Wedyn dyma'r ail yn dod ac yn dweud ei fod yntau wedi gwneud elw – pum gwaith cymaint â'r swm gwreiddiol.
Luke WelBeibl 19:19  ‘Da iawn ti!’ meddai'r meistr, ‘Dw i am dy osod di yn rheolwr ar bum dinas.’
Luke WelBeibl 19:20  “Wedyn dyma was arall yn dod ac yn rhoi'r arian oedd wedi'i gael yn ôl i'w feistr, a dweud, ‘Dw i wedi cadw'r arian yn saff i ti.
Luke WelBeibl 19:21  Roedd gen i ofn gwneud colled gan dy fod di'n ddyn caled. Rwyt ti'n ecsbloetio pobl, ac yn dwyn eu cnydau nhw.’
Luke WelBeibl 19:22  “Atebodd y meistr, ‘Dw i'n ddyn caled ydw i – yn ecsbloetio pobl ac yn dwyn eu cnydau nhw? Iawn! Dyna sut cei di dy drin gan dy fod ti'n was da i ddim!
Luke WelBeibl 19:23  Pam wnest ti ddim rhoi'r arian mewn cyfri banc? Byddwn i o leia wedi'i gael yn ôl gyda rhyw fymryn o log!’
Luke WelBeibl 19:24  “Felly dyma'r brenin yn rhoi gorchymyn i'r rhai eraill oedd yn sefyll yno, ‘Cymerwch yr arian oddi arno, a'i roi i'r un oedd wedi gwneud y mwya o elw!’
Luke WelBeibl 19:25  “‘Ond feistr,’ medden nhw, ‘Mae gan hwnnw hen ddigon yn barod!’
Luke WelBeibl 19:26  “Atebodd y meistr nhw, ‘Bydd y rhai sydd wedi gwneud defnydd da o beth sydd ganddyn nhw yn derbyn mwy; ond am y rhai sy'n gwneud dim byd, bydd hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhw'n cael ei gymryd oddi arnyn nhw!
Luke WelBeibl 19:27  Dw i'n mynd i ddelio gyda'r gelynion hynny oedd ddim eisiau i mi fod yn frenin arnyn nhw hefyd – dewch â nhw yma, a lladdwch nhw i gyd o mlaen i!’”
Luke WelBeibl 19:28  Ar ôl dweud y stori, aeth Iesu yn ei flaen i gyfeiriad Jerwsalem.
Luke WelBeibl 19:29  Pan oedd ar fin cyrraedd Bethffage a Bethania wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem, dwedodd wrth ddau o'i ddisgyblion,
Luke WelBeibl 19:30  “Ewch i'r pentref acw sydd o'ch blaen. Wrth fynd i mewn iddo, dewch o hyd i ebol wedi'i rwymo – un does neb wedi bod ar ei gefn o'r blaen. Dewch â'r ebol i mi.
Luke WelBeibl 19:31  Os bydd rhywun yn gofyn, ‘Pam dych chi'n ei ollwng yn rhydd?’ dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae'r meistr ei angen.’”
Luke WelBeibl 19:32  Felly i ffwrdd â'r ddau ddisgybl; a dyna lle roedd yr ebol yn union fel roedd Iesu wedi dweud.
Luke WelBeibl 19:33  Wrth iddyn nhw ei ollwng yn rhydd, dyma'r rhai oedd biau'r ebol yn dweud, “Hei! Beth ydych chi'n ei wneud?”
Luke WelBeibl 19:35  Pan ddaethon nhw â'r ebol at Iesu dyma nhw'n taflu'u cotiau drosto, a dyma Iesu'n eistedd ar ei gefn.
Luke WelBeibl 19:36  Wrth iddo fynd yn ei flaen, dyma bobl yn rhoi eu cotiau fel carped ar y ffordd.
Luke WelBeibl 19:37  Pan gyrhaeddon nhw'r fan lle mae'r ffordd yn mynd i lawr o Fynydd yr Olewydd, dyma'r dyrfa oedd yn dilyn Iesu yn dechrau gweiddi'n uchel a chanu mawl i Dduw o achos yr holl wyrthiau rhyfeddol roedden nhw wedi'u gweld:
Luke WelBeibl 19:38  “Mae'r Brenin sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi'i fendithio'n fawr!” “Heddwch yn y nefoedd a chlod i Dduw yn y goruchaf!”
Luke WelBeibl 19:39  Ond dyma ryw Phariseaid oedd yn y dyrfa yn troi at Iesu a dweud, “Athro, cerydda dy ddisgyblion am ddweud y fath bethau!”
Luke WelBeibl 19:40  Atebodd Iesu, “Petaen nhw'n tewi, byddai'r cerrig yn dechrau gweiddi.”
Luke WelBeibl 19:41  Wrth iddyn nhw ddod yn agos at Jerwsalem dyma Iesu yn dechrau crio wrth weld y ddinas o'i flaen.
Luke WelBeibl 19:42  “Petaet ti, hyd yn oed heddiw, ond wedi deall beth fyddai'n dod â heddwch parhaol i ti! Ond mae'n rhy hwyr, a dydy heddwch ddim o fewn dy gyrraedd o gwbl.
Luke WelBeibl 19:43  Mae dydd yn dod pan fydd dy elynion yn codi gwrthglawdd yn dy erbyn ac yn dy gau i mewn ac ymosod arnat o bob cyfeiriad.
Luke WelBeibl 19:44  Cei dy sathru dan draed, ti a'r bobl sy'n byw ynot. Bydd waliau'r ddinas yn cael eu chwalu'n llwyr, am dy fod wedi gwrthod dy Dduw ar y foment honno pan ddaeth i dy helpu di.”
Luke WelBeibl 19:45  Aeth i mewn i gwrt y deml a dechrau gyrru allan bawb oedd yn gwerthu yno.
Luke WelBeibl 19:46  Meddai wrthyn nhw, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud, ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi’; ond dych chi wedi troi'r lle yn ‘guddfan i ladron’!”
Luke WelBeibl 19:47  Wedi hynny, roedd yn mynd i'r deml bob dydd ac yn dysgu'r bobl. Roedd y prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith, a'r arweinwyr crefyddol eraill yn cynllwynio i'w ladd.
Luke WelBeibl 19:48  Ond doedden nhw ddim yn gwybod beth i'w wneud, gan fod y bobl gyffredin yn dal ar bob gair roedd yn ei ddweud.
Chapter 20
Luke WelBeibl 20:1  Un diwrnod roedd Iesu'n dysgu'r bobl ac yn cyhoeddi'r newyddion da yn y deml. Dyma'r prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato,
Luke WelBeibl 20:2  a gofyn iddo, “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy yn union roddodd yr awdurdod i ti?”
Luke WelBeibl 20:3  Atebodd Iesu, “Gadewch i mi ofyn un cwestiwn i chi'n gyntaf. Dwedwch wrtho i –
Luke WelBeibl 20:5  Wrth drafod y peth gyda'i gilydd, dyma nhw'n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu?’
Luke WelBeibl 20:6  Ond allwn ni ddim dweud ‘Na’ … Bydd y bobl yn ein llabyddio ni â cherrig. Maen nhw'n credu'n gwbl bendant fod Ioan yn broffwyd.”
Luke WelBeibl 20:7  Felly dyma nhw'n dweud eu bod nhw ddim yn gwybod yr ateb.
Luke WelBeibl 20:8  “Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu.
Luke WelBeibl 20:9  Aeth yn ei flaen i ddweud y stori yma wrth y bobl: “Roedd dyn wedi plannu gwinllan. Gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd am amser hir.
Luke WelBeibl 20:10  Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin anfonodd un o'i weision i nôl y siâr roedd y tenantiaid i fod i'w rhoi iddo. Ond dyma'r tenantiaid yn curo'r gwas a'i anfon i ffwrdd heb ddim.
Luke WelBeibl 20:11  Felly dyma'r dyn yn anfon gwas arall; dyma nhw'n curo hwnnw hefyd a'i gam-drin a'i anfon i ffwrdd heb ddim.
Luke WelBeibl 20:12  Pan anfonodd was arall eto, dyma nhw'n anafu hwnnw'n ddifrifol a'i daflu allan.
Luke WelBeibl 20:13  “‘Beth wna i?’ meddai'r dyn oedd biau'r winllan. ‘Dw i'n gwybod! Anfona i fy mab annwyl atyn nhw. Byddan nhw'n ei barchu e.’
Luke WelBeibl 20:14  “Ond pan welodd y tenantiaid y mab, dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd: ‘Hwn sy'n mynd i etifeddu'r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni'r winllan i ni'n hunain!’
Luke WelBeibl 20:15  Felly dyma nhw'n ei daflu allan o'r winllan a'i ladd. Felly beth fydd y dyn biau'r winllan yn ei wneud iddyn nhw?
Luke WelBeibl 20:16  Bydd yn dod ac yn lladd y tenantiaid hynny ac yn rhoi'r winllan i bobl eraill.” Pan glywodd y bobl y stori yma, eu hymateb oedd, “Na! Byth!”
Luke WelBeibl 20:17  Edrychodd Iesu i fyw eu llygaid, ac meddai, “Felly beth ydy ystyr y geiriau yma o'r ysgrifau sanctaidd: ‘Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen’?
Luke WelBeibl 20:18  Bydd pawb sy'n baglu dros y garreg honno yn dryllio'n ddarnau, a bydd pwy bynnag mae'r garreg yn syrthio arno yn cael ei fathru.”
Luke WelBeibl 20:19  Roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r prif offeiriaid yn gwybod yn iawn ei fod yn sôn amdanyn nhw yn y stori. Roedden nhw eisiau gafael ynddo yn y fan a'r lle, ond roedd arnyn nhw ofn y bobl.
Luke WelBeibl 20:20  Roedden nhw'n ei wylio'n ofalus, a dyma nhw'n anfon dynion ato oedd yn cymryd arnynt eu bod yn ddidwyll. Roedden nhw'n gobeithio dal Iesu yn dweud rhywbeth o'i le, ac wedyn bydden nhw'n gallu dod â chyhuddiad yn ei erbyn o flaen y llywodraethwr Rhufeinig.
Luke WelBeibl 20:21  Felly dyma'r rhai gafodd eu hanfon i geisio ei dwyllo yn gofyn iddo, “Athro, dŷn ni'n gwybod fod yr hyn rwyt ti'n ei ddweud ac yn ei ddysgu yn wir. Ti ddim yn dangos ffafriaeth, a ti'n dysgu ffordd Duw ac yn glynu wrth yr hyn sy'n wir.
Luke WelBeibl 20:22  Ydy'n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?”
Luke WelBeibl 20:23  Ond roedd Iesu'n gweld eu bod yn ceisio'i dwyllo.
Luke WelBeibl 20:24  “Dewch â darn arian yma,” meddai wrthyn nhw. “Llun pwy sydd arno? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?” “Cesar,” medden nhw.
Luke WelBeibl 20:25  “Felly,” meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a'r hyn biau Duw i Dduw.”
Luke WelBeibl 20:26  Felly roedden nhw wedi methu ei gael i ddweud unrhyw beth o'i le o flaen y bobl. Roedd ei ateb wedi'u syfrdanu'n llwyr – doedden nhw ddim yn gallu dweud dim.
Luke WelBeibl 20:27  Dyma rai o'r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn i Iesu. (Nhw ydy'r arweinwyr Iddewig sy'n dweud fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.)
Luke WelBeibl 20:28  “Athro,” medden nhw, “rhoddodd Moses y rheol yma i ni: os ydy dyn yn marw heb gael plant, rhaid i frawd y dyn hwnnw briodi'r weddw a chael plant yn ei le
Luke WelBeibl 20:29  Nawr, roedd saith brawd. Priododd yr hynaf, a buodd farw heb gael plant.
Luke WelBeibl 20:30  Dyma'r ail, ac yna'r trydydd yn priodi'r weddw. Yn wir, digwyddodd yr un peth gyda'r saith – wnaeth yr un ohonyn nhw adael plentyn ar ei ôl.
Luke WelBeibl 20:31  Dyma'r ail, ac yna'r trydydd yn priodi'r weddw. Yn wir, digwyddodd yr un peth gyda'r saith – wnaeth yr un ohonyn nhw adael plentyn ar ei ôl.
Luke WelBeibl 20:33  Felly dyma'n cwestiwn ni: ‘Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pwy fydd hi?’ Roedd hi wedi bod yn wraig i'r saith ohonyn nhw!”
Luke WelBeibl 20:34  Atebodd Iesu, “Yn y bywyd yma mae pobl yn priodi.
Luke WelBeibl 20:35  Ond yn yr oes sydd i ddod, fydd pobl ddim yn priodi – sef y bobl hynny sy'n cael eu cyfri'n deilwng i fod yn rhan ohoni ac wedi codi yn ôl yn fyw.
Luke WelBeibl 20:36  A fyddan nhw ddim yn marw eto. Byddan nhw yr un fath â'r angylion yn hynny o beth. Maen nhw'n blant Duw wedi'u codi yn ôl i fywyd newydd.
Luke WelBeibl 20:37  A bydd y meirw'n dod yn ôl yn fyw! Mae hyd yn oed Moses yn dangos fod hynny'n wir! Yn yr hanes am y berth yn llosgi mae'n dweud mai'r Arglwydd Dduw ydy ‘Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob’.
Luke WelBeibl 20:38  Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw'r rhai sy'n fyw! Maen nhw i gyd yn fyw iddo fe!”
Luke WelBeibl 20:39  Dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ymateb, “Go dda, athro! Clywch, clywch!”
Luke WelBeibl 20:40  O hynny ymlaen doedd neb yn meiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo.
Luke WelBeibl 20:41  Yna dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Pam maen nhw'n dweud fod y Meseia yn fab i Dafydd?
Luke WelBeibl 20:42  Mae Dafydd ei hun yn dweud yn Llyfr y Salmau: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd
Luke WelBeibl 20:43  nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”’
Luke WelBeibl 20:44  Mae Dafydd yn ei alw'n ‛Arglwydd‛! Felly sut mae'n gallu bod yn fab iddo?”
Luke WelBeibl 20:45  Tra oedd y bobl i gyd yn gwrando, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion,
Luke WelBeibl 20:46  “Gwyliwch yr arbenigwyr yn y Gyfraith. Maen nhw wrth eu bodd yn cerdded o gwmpas yn swancio yn eu gwisgoedd swyddogol, ac yn hoffi cael pawb yn eu cyfarch ac yn talu sylw iddyn nhw yn sgwâr y farchnad. Mae'n rhaid iddyn nhw gael y seddi gorau yn y synagogau, ac eistedd ar y bwrdd uchaf mewn gwleddoedd.
Luke WelBeibl 20:47  Maen nhw'n dwyn popeth oddi ar wragedd gweddwon ac wedyn yn ceisio rhoi'r argraff eu bod nhw'n dduwiol gyda'u gweddïau hir! Bydd pobl fel nhw yn cael eu cosbi'n llym.”
Chapter 21
Luke WelBeibl 21:1  Pan oedd yn y deml, sylwodd Iesu ar y bobl gyfoethog yn rhoi arian yn y blychau casglu at drysorfa'r deml.
Luke WelBeibl 21:2  Yna daeth gwraig weddw dlawd a rhoi dwy geiniog i mewn.
Luke WelBeibl 21:3  “Credwch chi fi,” meddai Iesu, “mae'r wraig weddw dlawd yna wedi rhoi mwy yn y blwch na neb arall.
Luke WelBeibl 21:4  Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben; ond yn ei thlodi rhoddodd y wraig yna y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”
Luke WelBeibl 21:5  Roedd rhai o'i ddisgyblion yn tynnu sylw at waith cerrig hardd y deml a'r meini coffa oedd yn ei haddurno. Ond dyma Iesu'n dweud,
Luke WelBeibl 21:6  “Mae'r amser yn dod pan fydd y cwbl welwch chi yma yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi'i gadael yn ei lle.”
Luke WelBeibl 21:7  A dyma nhw'n gofyn iddo, “Pryd mae hyn i gyd yn mynd i ddigwydd, Athro? Fydd unrhyw rybudd cyn i'r pethau yma ddigwydd?”
Luke WelBeibl 21:8  Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi. Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, a dweud, ‘Fi ydy'r Meseia’ a ‘Mae'r diwedd wedi dod’. Peidiwch eu dilyn nhw.
Luke WelBeibl 21:9  Pan fyddwch yn clywed am ryfeloedd a chwyldroadau, peidiwch dychryn. Mae'r pethau yma'n siŵr o ddigwydd gyntaf, ond fydd diwedd y byd ddim yn digwydd yn syth wedyn.”
Luke WelBeibl 21:10  Dwedodd wrthyn nhw, “Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd.
Luke WelBeibl 21:11  Bydd daeargrynfeydd mawr, a newyn a heintiau mewn gwahanol leoedd, a digwyddiadau dychrynllyd eraill ac arwyddion o'r nefoedd yn rhybuddio pobl.
Luke WelBeibl 21:12  “Ond cyn i hyn i gyd ddigwydd, byddwch chi'n cael eich erlid a'ch cam-drin. Cewch eich llusgo o flaen y synagogau a'ch rhoi yn y carchar. Cewch eich cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi o flaen brenhinoedd a llywodraethwyr.
Luke WelBeibl 21:14  Felly peidiwch poeni ymlaen llaw beth i'w ddweud wrth amddiffyn eich hunain.
Luke WelBeibl 21:15  Bydda i'n rhoi'r geiriau iawn i chi. Fydd gan y rhai sy'n eich gwrthwynebu chi ddim ateb!
Luke WelBeibl 21:16  Byddwch yn cael eich bradychu gan eich rhieni, eich brodyr a'ch chwiorydd, eich perthnasau eraill a'ch ffrindiau. Bydd rhai ohonoch chi'n cael eich lladd.
Luke WelBeibl 21:17  Bydd pawb yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi.
Luke WelBeibl 21:20  “Byddwch chi'n gwybod fod Jerwsalem ar fin cael ei dinistrio pan welwch chi fyddinoedd yn ei hamgylchynu.
Luke WelBeibl 21:21  Bryd hynny dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i'r mynyddoedd. Dylai pawb ddianc o'r ddinas, a ddylai neb yng nghefn gwlad fynd yno i chwilio am loches.
Luke WelBeibl 21:22  Dyna pryd y bydd Duw yn ei chosbi, a bydd y cwbl mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud am y peth yn dod yn wir.
Luke WelBeibl 21:23  Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy'n magu plant bach bryd hynny! Bydd trybini mawr yn y tir, a bydd digofaint Duw ar y genedl.
Luke WelBeibl 21:24  Byddan nhw'n cael eu lladd â'r cleddyf neu'n cael eu symud i wledydd eraill yn garcharorion. Bydd pobl o genhedloedd eraill yn concro Jerwsalem a'i sathru dan draed hyd nes i amser y cenhedloedd hynny ddod i ben.
Luke WelBeibl 21:25  “Bydd pethau rhyfedd yn digwydd yn yr awyr – arwyddion yn yr haul, y lleuad a'r sêr. Ar y ddaear bydd gwledydd mewn cynnwrf a ddim yn gwybod beth i'w wneud am fod y môr yn corddi a thonnau anferth yn codi.
Luke WelBeibl 21:26  Bydd pobl yn llewygu mewn dychryn wrth boeni am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd i'r byd, achos bydd hyd yn oed y sêr a'r planedau yn ansefydlog.
Luke WelBeibl 21:27  Bryd hynny bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod mewn cymylau gyda grym ac ysblander mawr.
Luke WelBeibl 21:28  Pan fydd hyn i gyd yn dechrau digwydd, safwch ar eich traed a daliwch eich pennau'n uchel. Mae rhyddid ar ei ffordd!”
Luke WelBeibl 21:29  Dyma fe'n darlunio'r peth fel yma: “Meddyliwch am y goeden ffigys a'r coed eraill i gyd.
Luke WelBeibl 21:30  Pan maen nhw'n dechrau deilio dych chi'n gwybod fod yr haf yn agos.
Luke WelBeibl 21:31  Felly'r un fath, pan fyddwch yn gweld y pethau yma'n digwydd, byddwch yn gwybod fod Duw ar fin dod i deyrnasu.
Luke WelBeibl 21:32  “Credwch chi fi, bydd y genhedlaeth bresennol yn dal yma pan fydd hyn yn digwydd.
Luke WelBeibl 21:33  Bydd yr awyr a'r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i'n ddweud yn aros am byth.
Luke WelBeibl 21:34  “Gwyliwch eich hunain! Peidiwch gwastraffu'ch bywydau yn gwneud dim byd ond joio, meddwi a phoeni am bethau materol, neu bydd y diwrnod hwnnw yn eich dal chi'n annisgwyl –
Luke WelBeibl 21:35  bydd fel cael eich dal mewn trap. A bydd yn digwydd i bawb drwy'r byd i gyd.
Luke WelBeibl 21:36  Cadwch eich llygaid yn agored! Gweddïwch y byddwch chi'n gallu osgoi'r pethau ofnadwy sy'n mynd i ddigwydd, ac y cewch chi sefyll o flaen Mab y Dyn.”
Luke WelBeibl 21:37  Roedd Iesu yn dysgu pobl yn y deml bob dydd, ac yna gyda'r hwyr yn mynd yn ôl i dreulio'r nos ar ochr Mynydd yr Olewydd.
Luke WelBeibl 21:38  Yn gynnar bob bore roedd tyrfa o bobl yn casglu at ei gilydd i wrando arno yn y deml.
Chapter 22
Luke WelBeibl 22:1  Roedd hi'n agos at Ŵyl y Bara Croyw, sy'n dechrau gyda dathlu'r Pasg.
Luke WelBeibl 22:2  Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dal i edrych am ffordd i gael gwared â Iesu. Ond roedd arnyn nhw ofn beth fyddai'r bobl yn ei wneud.
Luke WelBeibl 22:3  Ond yna aeth Satan i mewn i Jwdas Iscariot, oedd yn un o'r deuddeg disgybl.
Luke WelBeibl 22:4  Aeth Jwdas at y prif offeiriaid a swyddogion diogelwch y deml, i drafod sut y gallai fradychu Iesu iddyn nhw.
Luke WelBeibl 22:5  Roedden nhw wrth eu bodd, a dyma nhw'n addo rhoi arian iddo.
Luke WelBeibl 22:6  Cytunodd yntau a dechrau edrych am gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw pan oedd y dyrfa ddim o gwmpas.
Luke WelBeibl 22:7  Daeth diwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw (hynny ydy, y diwrnod pan oedd rhaid aberthu oen y Pasg).
Luke WelBeibl 22:8  Dyma Iesu'n anfon Pedr ac Ioan yn eu blaenau i wneud y trefniadau. “Ewch i baratoi swper y Pasg i ni, er mwyn i ni i gyd gael bwyta gyda'n gilydd,” meddai wrthyn nhw.
Luke WelBeibl 22:9  “Ble rwyt ti am i ni fynd i'w baratoi?” medden nhw wrtho.
Luke WelBeibl 22:10  Atebodd e, “Wrth i chi fynd i mewn i'r ddinas bydd dyn yn dod i'ch cyfarfod yn cario llestr dŵr. Ewch ar ei ôl
Luke WelBeibl 22:11  i mewn i'r tŷ y bydd yn mynd iddo, a gofyn i'r perchennog, ‘Mae'r athro eisiau gwybod ble mae'r ystafell westai, iddo ddathlu'r Pasg gyda'i ddisgyblion.’
Luke WelBeibl 22:12  Bydd yn mynd â chi i fyny'r grisiau i ystafell fawr wedi'i pharatoi'n barod. Gwnewch swper i ni yno.”
Luke WelBeibl 22:13  I ffwrdd â nhw, a digwyddodd popeth yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Felly dyma nhw'n paratoi swper y Pasg yno.
Luke WelBeibl 22:14  Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd, a'i apostolion gydag e.
Luke WelBeibl 22:15  Meddai wrthyn nhw, “Dw i wedi edrych ymlaen yn fawr at gael bwyta'r swper Pasg yma gyda chi cyn i mi ddioddef.
Luke WelBeibl 22:16  Dw i'n dweud wrthoch chi y bydda i ddim yn ei fwyta eto nes i'r cwbl gael ei gyflawni pan ddaw Duw i deyrnasu.”
Luke WelBeibl 22:17  Yna cymerodd gwpan o win, adrodd gweddi o ddiolch, ac yna dweud wrth ei ddisgyblion, “Cymerwch hwn a'i rannu rhyngoch.
Luke WelBeibl 22:18  Dw i'n dweud wrthoch chi, fydda i ddim yn yfed gwin eto nes i Dduw ddod i deyrnasu.”
Luke WelBeibl 22:19  Yna cymerodd dorth o fara, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Dyma fy nghorff i, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.”
Luke WelBeibl 22:20  Wedyn ar ôl bwyta swper gafaelodd yn y cwpan eto, a dweud, “Mae'r cwpan yma'n cynrychioli'r ymrwymiad newydd drwy fy ngwaed i, sy'n cael ei dywallt ar eich rhan chi.
Luke WelBeibl 22:21  Ond mae'r un sy'n mynd i mradychu i yn eistedd wrth y bwrdd yma gyda mi.
Luke WelBeibl 22:22  Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw fel mae wedi'i drefnu, ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i!”
Luke WelBeibl 22:23  Yna dechreuodd y disgyblion drafod pwy ohonyn nhw fyddai'n gwneud y fath beth.
Luke WelBeibl 22:24  Ond yna dyma ddadl yn codi yn eu plith nhw ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y pwysica.
Luke WelBeibl 22:25  Felly dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae brenhinoedd y cenhedloedd yn ei lordio hi dros bobl; ac mae pobl fawr eraill sy'n hoffi dangos eu hawdurdod yn cael teitlau fel ‛Cyfaill y bobl‛!
Luke WelBeibl 22:26  Ond dim fel yna dylech chi fod. Dylai'r pwysica ohonoch chi ymddwyn fel y person lleia pwysig, a dylai'r un sy'n arwain fod fel un sy'n gwasanaethu.
Luke WelBeibl 22:27  Pwy ydy'r pwysica fel arfer? Ai'r sawl sy'n eistedd wrth y bwrdd neu'r sawl sy'n gwasanaethu? Y sawl sy'n eistedd wrth y bwrdd wrth gwrs! Ond dw i yma fel un sy'n gwasanaethu.
Luke WelBeibl 22:29  a dw i'n mynd i roi hawl i chi deyrnasu yn union fel gwnaeth y Tad ei roi i mi.
Luke WelBeibl 22:30  Cewch chi fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i pan fydda i'n teyrnasu, a byddwch yn eistedd ar orseddau i farnu deuddeg llwyth gwlad Israel.
Luke WelBeibl 22:31  “Simon, Simon – mae Satan wedi bod eisiau'ch cymryd chi i gyd i'ch ysgwyd a'ch profi chi fel mae us yn cael ei wahanu oddi wrth y gwenith.
Luke WelBeibl 22:32  Ond dw i wedi gweddïo drosot ti, Simon, y byddi di ddim yn colli dy ffydd. Felly pan fyddi di wedi troi'n ôl dw i eisiau i ti annog a chryfhau'r lleill.”
Luke WelBeibl 22:33  “Ond Arglwydd,” meddai Pedr, “dw i'n fodlon mynd i'r carchar neu hyd yn oed farw drosot ti!”
Luke WelBeibl 22:34  “Pedr,” meddai'r Arglwydd wrtho, “gwranda'n ofalus ar beth dw i'n ddweud. Cyn i'r ceiliog ganu bore fory byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di hyd yn oed yn fy nabod i.”
Luke WelBeibl 22:35  Wedyn dyma Iesu'n gofyn i'w ddisgyblion, “Pan wnes i'ch anfon chi allan heb bwrs na bag teithio na sandalau sbâr, fuoch chi'n brin o gwbl?” “Naddo,” medden nhw.
Luke WelBeibl 22:36  Yna dwedodd wrthyn nhw, “Ond nawr, ewch â'ch pwrs a'ch bag gyda chi; ac os oes gynnoch chi ddim cleddyf, gwerthwch eich côt i brynu un.
Luke WelBeibl 22:37  Mae'r broffwydoliaeth sy'n dweud, ‘Roedd yn cael ei ystyried yn un o'r gwrthryfelwyr’, yn mynd i ddod yn wir. Ydy, mae'r cwbl sydd wedi'i ysgrifennu amdana i yn yr ysgrifau sanctaidd yn mynd i ddod yn wir.”
Luke WelBeibl 22:38  “Edrych, Arglwydd,” meddai'r disgyblion, “mae gynnon ni ddau gleddyf yn barod!” “Dyna ddigon!” meddai.
Luke WelBeibl 22:39  Dyma Iesu'n mynd allan i Fynydd yr Olewydd eto, fel roedd wedi gwneud bob nos. Ac aeth ei ddisgyblion ar ei ôl.
Luke WelBeibl 22:40  Pan gyrhaeddodd lle roedd yn mynd, dwedodd wrthyn nhw, “Gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi.”
Luke WelBeibl 22:41  Yna aeth yn ei flaen dafliad carreg, a mynd ar ei liniau a dechrau gweddïo,
Luke WelBeibl 22:42  “Dad, os wyt ti'n fodlon, cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.”
Luke WelBeibl 22:43  Yna gwelodd angel o'r nefoedd, ac roedd yr angel yn ei annog ac yn cryfhau ei benderfyniad.
Luke WelBeibl 22:44  Gweddïodd yn fwy taer, ond gan ei fod mewn cymaint o boen meddwl, roedd ei chwys yn disgyn ar lawr fel dafnau o waed.
Luke WelBeibl 22:45  Pan gododd ar ei draed a mynd yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. Roedd tristwch yn eu llethu nhw.
Luke WelBeibl 22:46  Gofynnodd iddyn nhw, “Pam dych chi'n cysgu? Codwch ar eich traed, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi.”
Luke WelBeibl 22:47  Wrth iddo ddweud hyn, dyma dyrfa yn dod ato. Jwdas, un o'r deuddeg disgybl oedd yn eu harwain, ac aeth at Iesu i'w gyfarch â chusan.
Luke WelBeibl 22:48  Ond dyma Iesu'n gofyn iddo, “Wyt ti'n bradychu Mab y Dyn â chusan?”
Luke WelBeibl 22:49  Pan sylweddolodd dilynwyr Iesu beth oedd ar fin digwydd, dyma nhw'n gweiddi, “Arglwydd, wyt ti eisiau i ni ymladd gyda'r cleddyfau yma?”
Luke WelBeibl 22:50  A dyma un ohonyn nhw yn taro gwas yr archoffeiriad, a thorri ei glust dde i ffwrdd.
Luke WelBeibl 22:51  “Stopiwch! Dyna ddigon!” meddai Iesu. Yna cyffyrddodd glust y dyn a'i iacháu.
Luke WelBeibl 22:52  Yna trodd at y prif offeiriaid, swyddogion diogelwch y deml a'r arweinwyr eraill oedd wedi dod i'w ddal, “Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth? Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma?
Luke WelBeibl 22:53  Pam na ddalioch chi fi yn y deml? Rôn i yno gyda chi bob dydd! Ond dyma'ch cyfle chi – yr amser pan mae pwerau'r tywyllwch yn rheoli.”
Luke WelBeibl 22:54  Dyma nhw'n gafael ynddo, a mynd ag e i dŷ'r archoffeiriad. Roedd Pedr yn eu dilyn o bell.
Luke WelBeibl 22:55  Ond yna ar ôl iddyn nhw gynnau tân yng nghanol yr iard dyma Pedr yn mynd yno ac yn eistedd gyda nhw.
Luke WelBeibl 22:56  Dyma un o'r morynion yn sylwi ei fod yn eistedd yno. Edrychodd hi'n ofalus arno yng ngolau'r tân, ac yna dweud, “Roedd y dyn yma gyda Iesu!”
Luke WelBeibl 22:57  Ond gwadu wnaeth Pedr. “Dw i ddim yn nabod y dyn, ferch!” meddai.
Luke WelBeibl 22:58  Yna ychydig yn ddiweddarach dyma rywun arall yn sylwi arno ac yn dweud, “Rwyt ti'n un ohonyn nhw!” “Na dw i ddim!” atebodd Pedr.
Luke WelBeibl 22:59  Yna ryw awr yn ddiweddarach dyma rywun arall eto yn dweud, “Does dim amheuaeth fod hwn gyda Iesu; mae'n amlwg ei fod yn dod o Galilea.”
Luke WelBeibl 22:60  Atebodd Pedr, “Does gen i ddim syniad am beth rwyt ti'n sôn, ddyn!” A dyma'r ceiliog yn canu wrth iddo ddweud y peth.
Luke WelBeibl 22:61  Dyma'r Arglwydd Iesu yn troi ac yn edrych yn syth ar Pedr. Yna cofiodd Pedr beth roedd yr Arglwydd wedi'i ddweud: “Byddi di wedi gwadu dy fod yn fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu.”
Luke WelBeibl 22:63  Dyma'r milwyr oedd yn cadw Iesu yn y ddalfa yn dechrau gwneud hwyl ar ei ben a'i guro.
Luke WelBeibl 22:64  Dyma nhw'n rhoi mwgwd arno ac yna ei daro a dweud wrtho, “Tyrd, Proffwyda! Pwy wnaeth dy daro di y tro yna?”
Luke WelBeibl 22:65  Roedden nhw'n ei regi ac yn hyrddio pob math o enllibion ato.
Luke WelBeibl 22:66  Pan oedd hi'n gwawrio dyma'r Sanhedrin yn cyfarfod, hynny ydy, yr arweinwyr oedd yn brif-offeiriaid neu'n arbenigwyr yn y Gyfraith. A dyma Iesu'n cael ei osod o'u blaenau nhw.
Luke WelBeibl 22:67  “Dwed wrthon ni ai ti ydy'r Meseia,” medden nhw. Atebodd Iesu, “Fyddech chi ddim yn credu taswn i yn dweud.
Luke WelBeibl 22:68  A taswn i'n gofyn y cwestiwn i chi, wnaech chi ddim ateb.
Luke WelBeibl 22:69  Ond o hyn ymlaen, bydd Mab y Dyn yn llywodraethu gyda'r Duw grymus.”
Luke WelBeibl 22:70  “Felly wyt ti'n dweud mai ti ydy Mab Duw?” medden nhw gyda'i gilydd. “Chi sydd wedi dweud y peth,” meddai.
Luke WelBeibl 22:71  A dyma nhw'n dweud, “Pam mae angen tystiolaeth bellach? Dŷn ni wedi'i glywed yn dweud y peth ei hun.”
Chapter 23
Luke WelBeibl 23:1  Yna dyma nhw i gyd yn codi a mynd ag e at Peilat.
Luke WelBeibl 23:2  Dyma nhw'n dechrau dadlau eu hachos yn ei erbyn, “Mae'r dyn yma wedi bod yn camarwain ein pobl. Mae'n gwrthwynebu talu trethi i lywodraeth Rhufain, ac mae'n honni mai fe ydy'r brenin, y Meseia.”
Luke WelBeibl 23:3  Felly dyma Peilat yn dweud wrth Iesu, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” “Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu.
Luke WelBeibl 23:4  Yna dyma Peilat yn troi at y prif offeiriaid a'r dyrfa ac yn cyhoeddi, “Dw i ddim yn credu fod unrhyw sail i ddwyn cyhuddiad yn erbyn y dyn yma.”
Luke WelBeibl 23:5  Ond roedden nhw'n benderfynol, “Mae'n creu helynt drwy Jwdea i gyd wrth ddysgu'r bobl. Dechreuodd yn Galilea, a nawr mae wedi dod yma.”
Luke WelBeibl 23:7  Pan sylweddolodd hynny, anfonodd Iesu at Herod Antipas, gan ei fod yn dod o'r ardal oedd dan awdurdod Herod. (Roedd Herod yn digwydd bod yn Jerwsalem ar y pryd.)
Luke WelBeibl 23:8  Roedd Herod wrth ei fodd ei fod yn cael cyfle i weld Iesu. Roedd wedi clywed amdano ers amser maith, ac wedi bod yn gobeithio cael ei weld yn gwneud rhywbeth gwyrthiol.
Luke WelBeibl 23:9  Gofynnodd un cwestiwn ar ôl y llall i Iesu, ond roedd Iesu'n gwrthod ateb.
Luke WelBeibl 23:10  A dyna lle roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei gyhuddo'n ffyrnig.
Luke WelBeibl 23:11  Yna dyma Herod a'i filwyr yn dechrau gwneud hwyl am ei ben a'i sarhau. Dyma nhw'n ei wisgo mewn clogyn crand, a'i anfon yn ôl at Peilat.
Luke WelBeibl 23:12  Cyn i hyn i gyd ddigwydd roedd Herod a Peilat wedi bod yn elynion, ond dyma nhw'n dod yn ffrindiau y diwrnod hwnnw.
Luke WelBeibl 23:13  Dyma Peilat yn galw'r prif offeiriaid a'r arweinwyr eraill, a'r bobl at ei gilydd,
Luke WelBeibl 23:14  a chyhoeddi ei ddedfryd: “Daethoch â'r dyn yma i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o fod yn arwain gwrthryfel. Dw i wedi'i groesholi o'ch blaen chi i gyd, a dw i'n ei gael yn ddieuog o'r holl gyhuddiadau.
Luke WelBeibl 23:15  Ac mae'n amlwg fod Herod wedi dod i'r un casgliad gan ei fod wedi'i anfon yn ôl yma. Dydy e ddim wedi gwneud unrhyw beth i haeddu marw.
Luke WelBeibl 23:16  Felly dysga i wers iddo â'r chwip ac yna ei ollwng yn rhydd.”
Luke WelBeibl 23:18  Dyma nhw i gyd yn gweiddi gyda'i gilydd, “Lladda fe! Gollwng Barabbas yn rhydd!”
Luke WelBeibl 23:19  (Roedd Barabbas yn y carchar am godi terfysg yn Jerwsalem ac am lofruddiaeth.)
Luke WelBeibl 23:20  Dyma Peilat yn eu hannerch nhw eto. Roedd e eisiau gollwng Iesu yn rhydd.
Luke WelBeibl 23:21  Ond roedden nhw wedi dechrau gweiddi drosodd a throsodd, “Croeshoelia fe! Croeshoelia fe!”
Luke WelBeibl 23:22  Gofynnodd iddyn nhw'r drydedd waith, “Pam? Beth mae wedi'i wneud o'i le? Dydy'r dyn ddim yn euog o unrhyw drosedd sy'n haeddu dedfryd marwolaeth! Felly dysga i wers iddo â'r chwip ac yna ei ollwng yn rhydd.”
Luke WelBeibl 23:23  Ond roedd y dyrfa'n gweiddi'n uwch ac yn uwch, ac yn mynnu fod rhaid i Iesu gael ei groeshoelio, ac yn y diwedd cawson nhw eu ffordd.
Luke WelBeibl 23:24  Dyma Peilat yn penderfynu rhoi beth roedden nhw eisiau iddyn nhw.
Luke WelBeibl 23:25  Rhyddhaodd Barabbas, y dyn oedd yn y carchar am derfysg a llofruddiaeth, a dedfrydu Iesu i farwolaeth fel roedden nhw eisiau iddo wneud.
Luke WelBeibl 23:26  Wrth iddyn nhw arwain Iesu i ffwrdd roedd Simon o Cyrene ar ei ffordd i mewn i'r ddinas, a dyma nhw'n ei orfodi i gario croes Iesu.
Luke WelBeibl 23:27  Roedd tyrfa fawr o bobl yn ei ddilyn, gan gynnwys nifer o wragedd yn galaru ac wylofain.
Luke WelBeibl 23:28  Ond dyma Iesu'n troi ac yn dweud wrthyn nhw, “Ferched Jerwsalem, peidiwch crio drosto i; crïwch drosoch eich hunain a'ch plant.
Luke WelBeibl 23:29  Mae'r amser yn dod pan fyddwch yn dweud, ‘Mae'r gwragedd hynny sydd heb blant wedi'u bendithio'n fawr! – y rhai sydd erioed wedi cario plentyn yn y groth na bwydo plentyn ar y fron!’
Luke WelBeibl 23:30  A ‘byddan nhw'n dweud wrth y mynyddoedd, “Syrthiwch arnon ni!” ac wrth y bryniau, “Cuddiwch ni!”’
Luke WelBeibl 23:31  Os ydy hyn yn cael ei wneud i'r goeden sy'n llawn dail, beth fydd yn digwydd i'r un sydd wedi marw?”
Luke WelBeibl 23:32  Roedd dau ddyn arall oedd yn droseddwyr yn cael eu harwain allan i gael eu dienyddio gyda Iesu.
Luke WelBeibl 23:33  Felly ar ôl iddyn nhw gyrraedd y lle sy'n cael ei alw ‛Y Benglog‛, dyma nhw'n hoelio Iesu ar groes, a'r ddau droseddwr arall un bob ochr iddo.
Luke WelBeibl 23:34  Ond yr hyn ddwedodd Iesu oedd, “Dad, maddau iddyn nhw. Dŷn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud.” A dyma'r milwyr yn gamblo i weld pwy fyddai'n cael ei ddillad.
Luke WelBeibl 23:35  Roedd y bobl yno'n gwylio'r cwbl, a'r arweinwyr yn chwerthin ar ei ben a'i wawdio. “Roedd e'n achub pobl eraill,” medden nhw, “felly gadewch iddo'i achub ei hun, os mai fe ydy'r Meseia mae Duw wedi'i ddewis!”
Luke WelBeibl 23:36  Roedd y milwyr hefyd yn gwneud sbort am ei ben. Roedden nhw'n cynnig gwin sur rhad iddo
Luke WelBeibl 23:37  ac yn dweud, “Achub dy hun os mai ti ydy Brenin yr Iddewon!”
Luke WelBeibl 23:38  Achos roedd arwydd uwch ei ben yn dweud: DYMA FRENIN YR IDDEWON.
Luke WelBeibl 23:39  Yna dyma un o'r troseddwyr oedd yn hongian yno yn dechrau'i regi: “Onid ti ydy'r Meseia? Achub dy hun, a ninnau hefyd!”
Luke WelBeibl 23:40  Ond dyma'r troseddwr arall yn ei geryddu. “Does arnat ti ddim ofn Duw a thithau ar fin marw hefyd?
Luke WelBeibl 23:41  Dŷn ni'n haeddu cael ein cosbi am yr hyn wnaethon ni. Ond wnaeth hwn ddim byd o'i le.”
Luke WelBeibl 23:42  Yna meddai, “Iesu, cofia amdana i pan fyddi di'n teyrnasu.”
Luke WelBeibl 23:43  Dyma Iesu'n ateb, “Wir i ti – cei di ddod gyda mi i baradwys heddiw.”
Luke WelBeibl 23:44  Roedd hi tua chanol dydd erbyn hyn, ac aeth yn hollol dywyll drwy'r wlad i gyd hyd dri o'r gloch y p'nawn.
Luke WelBeibl 23:45  Roedd fel petai golau'r haul wedi diffodd! Dyna pryd wnaeth y llen hir oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner.
Luke WelBeibl 23:46  A dyma Iesu'n gweiddi'n uchel, “Dad, dw i'n rhoi fy ysbryd yn dy ddwylo di,” ac ar ôl dweud hynny stopiodd anadlu a marw.
Luke WelBeibl 23:47  Pan welodd y capten milwrol oedd yno beth ddigwyddodd, dechreuodd foli Duw a dweud, “Roedd y dyn yma'n siŵr o fod yn ddieuog!”
Luke WelBeibl 23:48  A phan welodd y dyrfa oedd yno beth ddigwyddodd, dyma nhw'n troi am adre'n galaru.
Luke WelBeibl 23:49  Ond arhosodd ei ffrindiau agos i wylio o bell beth oedd yn digwydd – gan gynnwys y gwragedd oedd wedi'i ddilyn o Galilea.
Luke WelBeibl 23:50  Roedd yna ddyn o'r enw Joseff oedd yn dod o dref Arimathea yn Jwdea. Roedd yn ddyn da a gonest, ac yn aelod o'r Sanhedrin Iddewig,
Luke WelBeibl 23:51  ond doedd e ddim wedi cytuno â'r penderfyniad wnaeth yr arweinwyr eraill. Roedd Joseff yn ddyn oedd yn disgwyl i Dduw ddod i deyrnasu.
Luke WelBeibl 23:52  Aeth i ofyn i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu.
Luke WelBeibl 23:53  Tynnodd y corff i lawr a'i lapio gyda lliain ac yna ei roi i orwedd mewn bedd newydd oedd wedi'i naddu yn y graig – doedd neb erioed wedi'i gladdu yno o'r blaen.
Luke WelBeibl 23:54  Roedd hi'n hwyr bnawn dydd Gwener a'r Saboth ar fin dechrau.
Luke WelBeibl 23:55  Roedd y gwragedd o Galilea oedd gyda Iesu wedi dilyn Joseff, ac wedi gweld y bedd lle cafodd y corff ei osod.
Luke WelBeibl 23:56  Ar ôl mynd adre i baratoi cymysgedd o berlysiau a pheraroglau i eneinio'r corff, dyma nhw'n gorffwys dros y Saboth, fel mae Cyfraith Moses yn ei ddweud.
Chapter 24
Luke WelBeibl 24:1  Yn gynnar iawn y bore Sul aeth y gwragedd at y bedd gyda'r perlysiau roedden nhw wedi'u paratoi.
Luke WelBeibl 24:2  Dyma nhw'n darganfod fod y garreg fawr oedd ar geg y bedd wedi'i rholio i ffwrdd,
Luke WelBeibl 24:3  a phan aethon nhw i mewn i'r bedd doedd y corff ddim yno!
Luke WelBeibl 24:4  Roedden nhw wedi drysu'n lân, ond yna'n sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad llachar yn sefyll wrth eu hymyl.
Luke WelBeibl 24:5  Roedd y gwragedd wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n plygu gyda'u hwynebau ar lawr o'u blaenau. Yna dyma'r dynion yn gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi'n edrych mewn bedd am rywun sy'n fyw?
Luke WelBeibl 24:6  Dydy Iesu ddim yma; mae yn ôl yn fyw! Dych chi ddim yn cofio beth ddwedodd e pan oedd gyda chi yn Galilea?
Luke WelBeibl 24:7  Dwedodd y byddai e, Mab y Dyn, yn cael ei drosglwyddo i afael dynion pechadurus fyddai'n ei groeshoelio; ond yna ddeuddydd wedyn byddai e'n dod yn ôl yn fyw.”
Luke WelBeibl 24:9  Felly dyma nhw'n gadael y bedd a mynd yn ôl i ddweud beth oedd wedi digwydd wrth yr unarddeg disgybl a phawb arall.
Luke WelBeibl 24:10  Aeth Mair Magdalen, Joanna, Mair mam Iago, a nifer o wragedd eraill i ddweud yr hanes wrth yr apostolion.
Luke WelBeibl 24:11  Ond doedd yr apostolion ddim yn eu credu nhw – roedden nhw'n meddwl fod y stori yn nonsens llwyr.
Luke WelBeibl 24:12  Ond dyma Pedr yn rhedeg at y bedd i edrych. Plygodd i edrych i mewn i'r bedd a gweld y stribedi o liain yn gorwedd yno'n wag. Gadawodd y bedd yn methu'n lân a deall beth oedd wedi digwydd.
Luke WelBeibl 24:13  Yr un diwrnod, roedd dau o ddilynwyr Iesu ar eu ffordd i bentref Emaus, sydd ryw saith milltir o Jerwsalem.
Luke WelBeibl 24:14  Roedden nhw'n sgwrsio am bopeth oedd wedi digwydd.
Luke WelBeibl 24:15  Wrth i'r drafodaeth fynd yn ei blaen dyma Iesu'n dod atyn nhw a dechrau cerdded gyda nhw.
Luke WelBeibl 24:16  Ond doedden nhw ddim yn sylweddoli pwy oedd e, am fod Duw wedi'u rhwystro rhag ei nabod e.
Luke WelBeibl 24:17  Gofynnodd iddyn nhw, “Am beth dych chi'n dadlau gyda'ch gilydd?” Dyma nhw'n sefyll yn stond. (Roedd eu tristwch i'w weld ar eu hwynebau.)
Luke WelBeibl 24:18  A dyma Cleopas, un ohonyn nhw, yn dweud, “Mae'n rhaid mai ti ydy'r unig berson yn Jerwsalem sydd ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd y dyddiau dwetha yma!”
Luke WelBeibl 24:19  “Gwybod beth?” gofynnodd. “Beth sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth,” medden nhw. “Roedd yn broffwyd i Dduw ac yn siaradwr gwych, ac roedd pawb wedi'i weld yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol.
Luke WelBeibl 24:20  Ond dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr crefyddol eraill yn ei arestio a'i drosglwyddo i'r Rhufeiniaid i gael ei ddedfrydu i farwolaeth, a'i groeshoelio.
Luke WelBeibl 24:21  Roedden ni wedi gobeithio mai fe oedd y Meseia oedd yn mynd i ennill rhyddid i Israel. Digwyddodd hynny echdoe – Ond mae yna fwy …
Luke WelBeibl 24:22  Yn gynnar y bore ma dyma rai o'r merched oedd gyda ni yn mynd at y bedd lle roedd ei gorff wedi cael ei osod,
Luke WelBeibl 24:23  ond doedd y corff ddim yno! Roedden nhw'n dweud eu bod nhw wedi gweld angylion, a bod y rheiny wedi dweud wrthyn nhw fod Iesu'n fyw.
Luke WelBeibl 24:24  Felly dyma rai o'r dynion oedd gyda ni yn mynd at y bedd i edrych, ac roedd popeth yn union fel roedd y gwragedd wedi dweud. Ond welon nhw ddim Iesu o gwbl.”
Luke WelBeibl 24:25  “Dych chi mor ddwl!” meddai Iesu wrth y ddau roedd e'n cerdded gyda nhw, “Pam dych chi'n ei chael hi mor anodd i gredu'r cwbl ddwedodd y proffwydi?
Luke WelBeibl 24:26  Maen nhw'n dweud fod rhaid i'r Meseia ddioddef fel hyn cyn iddo gael ei anrhydeddu!”
Luke WelBeibl 24:27  A dyma Iesu'n mynd dros bopeth ac yn esbonio iddyn nhw beth roedd Moses a'r proffwydi eraill wedi'i ddweud amdano yn yr ysgrifau sanctaidd.
Luke WelBeibl 24:28  Pan oedden nhw bron â chyrraedd pen y daith, dyma Iesu'n dweud ei fod e'n mynd yn ei flaen.
Luke WelBeibl 24:29  Ond dyma nhw'n erfyn yn daer arno: “Tyrd i aros gyda ni dros nos; mae'n mynd yn hwyr.” Felly aeth i aros gyda nhw.
Luke WelBeibl 24:30  Pan oedden nhw'n eistedd wrth y bwrdd i fwyta, cymerodd dorth o fara, ac adrodd gweddi o ddiolch cyn ei thorri a'i rhannu iddyn nhw.
Luke WelBeibl 24:31  Yn sydyn dyma nhw'n sylweddoli mai Iesu oedd gyda nhw, a'r foment honno diflannodd o'u golwg.
Luke WelBeibl 24:32  Dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Roedden ni'n teimlo rhyw wefr, fel petai'n calonnau ni ar dân, wrth iddo siarad â ni ar y ffordd ac esbonio beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud!”
Luke WelBeibl 24:33  Ymhen dim o amser roedden nhw ar eu ffordd yn ôl i Jerwsalem. Dyma nhw'n dod o hyd i'r unarddeg disgybl a phawb arall gyda nhw,
Luke WelBeibl 24:34  a'r peth cyntaf gafodd ei ddweud wrthyn nhw oedd, “Mae'n wir! Mae'r Arglwydd wedi dod yn ôl yn fyw. Mae Simon Pedr wedi'i weld!”
Luke WelBeibl 24:35  Yna dyma'r ddau yn dweud beth oedd wedi digwydd iddyn nhw ar eu taith, a sut wnaethon nhw sylweddoli pwy oedd Iesu wrth iddo dorri'r bara.
Luke WelBeibl 24:36  Roedden nhw'n dal i siarad am y peth pan ddaeth Iesu a sefyll yn y canol. “Shalôm!” meddai wrthyn nhw.
Luke WelBeibl 24:37  Roedden nhw wedi cael braw. Roedden nhw'n meddwl eu bod nhw'n gweld ysbryd.
Luke WelBeibl 24:38  Ond dyma Iesu'n gofyn iddyn nhw, “Beth sy'n bod? Pam dych chi'n amau pwy ydw i?
Luke WelBeibl 24:39  Edrychwch ar fy nwylo a'm traed i. Fi sydd yma go iawn! Cyffyrddwch fi. Byddwch chi'n gweld wedyn mai dim ysbryd ydw i. Does gan ysbryd ddim corff ag esgyrn fel hyn!”
Luke WelBeibl 24:40  Roedd yn dangos ei ddwylo a'i draed iddyn nhw wrth ddweud y peth.
Luke WelBeibl 24:41  Roedden nhw'n teimlo rhyw gymysgedd o lawenydd a syfrdandod, ac yn dal i fethu credu'r peth. Felly gofynnodd Iesu iddyn nhw, “Oes gynnoch chi rywbeth i'w fwyta yma?”
Luke WelBeibl 24:42  Dyma nhw'n rhoi darn o bysgodyn wedi'i goginio iddo,
Luke WelBeibl 24:43  a dyma Iesu'n ei gymryd a'i fwyta o flaen eu llygaid.
Luke WelBeibl 24:44  Yna dwedodd wrthyn nhw, “Pan o'n i gyda chi, dwedais fod rhaid i'r cwbl ysgrifennodd Moses amdana i yn y Gyfraith, a beth sydd yn llyfrau'r Proffwydi a'r Salmau, ddod yn wir.”
Luke WelBeibl 24:45  Wedyn esboniodd iddyn nhw beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud, er mwyn iddyn nhw ddeall.
Luke WelBeibl 24:46  “Mae'r ysgrifau yn dweud fod y Meseia yn mynd i ddioddef a marw, ac yna dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.
Luke WelBeibl 24:47  Rhaid cyhoeddi'r neges yma yn Jerwsalem a thrwy'r gwledydd i gyd: fod pobl i droi cefn ar eu pechod a bod Duw'n barod i faddau iddyn nhw.
Luke WelBeibl 24:49  Felly dw i'n mynd i anfon beth wnaeth fy Nhad ei addo i chi – arhoswch yma yn y ddinas nes i'r Ysbryd Glân ddod i lawr a'ch gwisgo chi gyda nerth.”
Luke WelBeibl 24:50  Yna dyma Iesu'n mynd â nhw allan i ymyl Bethania. Wrth iddo godi ei ddwylo i'w bendithio nhw
Luke WelBeibl 24:52  ac roedden nhw'n ei addoli. Wedyn dyma nhw'n mynd yn ôl i Jerwsalem yn llawen,
Luke WelBeibl 24:53  a threulio eu hamser i gyd yn y deml yn moli Duw.