EZEKIEL
Up
Chapter 1
Ezek | WelBeibl | 1:1 | Pan oeddwn i'n dri deg oed, roeddwn i'n byw wrth Gamlas Cebar yn Babilon gyda'r bobl oedd wedi cael eu caethgludo yno o Jwda. Ar y pumed diwrnod o'r pedwerydd mis roedd fel petai'r nefoedd wedi agor, a Duw yn rhoi gweledigaethau i mi. | |
Ezek | WelBeibl | 1:2 | (Roedd hyn bum mlynedd ar ôl i'r brenin Jehoiachin gael ei gymryd yn gaeth i Babilon.) | |
Ezek | WelBeibl | 1:3 | Offeiriad ydw i, Eseciel fab Bwsi, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i mi pan oeddwn i wrth Gamlas Cebar yng ngwlad Babilon. Roedd yr ARGLWYDD wedi fy nghyffwrdd i yno! | |
Ezek | WelBeibl | 1:4 | Wrth i mi edrych, rôn i'n gweld storm yn dod o'r gogledd. Roedd cwmwl anferth, a mellt yn fflachio, a golau llachar o'i gwmpas. Roedd ei ganol yn llachar fel tân mewn ffwrnais fetel. | |
Ezek | WelBeibl | 1:5 | Yna o'i ganol dyma bedwar ffigwr yn dod i'r golwg. Roedden nhw'n edrych fel creaduriaid byw. Roedden nhw yr un siâp a phobl, | |
Ezek | WelBeibl | 1:7 | Roedden nhw'n sefyll i fyny'n syth fel pobl, ond carnau llo oedd eu traed. Ac roedden nhw'n gloywi fel pres wedi'i sgleinio. | |
Ezek | WelBeibl | 1:8 | Roedd ganddyn nhw freichiau a dwylo dynol o dan eu hadenydd, ac roedd eu hadenydd nhw'n cyffwrdd ei gilydd. | |
Ezek | WelBeibl | 1:9 | Am fod ganddyn nhw bedwar wyneb, doedden nhw ddim yn troi, dim ond symud yn syth yn eu blaenau i ba gyfeiriad bynnag roedden nhw'n mynd. | |
Ezek | WelBeibl | 1:10 | Roedd gan bob un ohonyn nhw un wyneb dynol, wedyn wyneb llew ar yr ochr dde, wyneb tarw ar y chwith, a wyneb eryr ar y cefn. | |
Ezek | WelBeibl | 1:11 | Roedden nhw'n dal eu hadenydd ar led – roedd dwy aden gan bob un yn cyffwrdd adenydd y creaduriaid oedd bob ochr iddyn nhw, a'r ddwy aden arall yn gorchuddio'u cyrff. | |
Ezek | WelBeibl | 1:12 | Roedden nhw'n mynd ble bynnag roedd yr ysbryd am fynd – yn syth yn eu blaenau, heb droi o gwbl. | |
Ezek | WelBeibl | 1:13 | Yn eu canol roedd rhywbeth oedd yn edrych fel marwor yn llosgi, ac roedd y tân fel ffaglau yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng y creaduriaid byw. Roedd yn llosgi'n danbaid ac roedd gwreichion yn saethu allan ohono i bob cyfeiriad, | |
Ezek | WelBeibl | 1:14 | ac roedd y creaduriaid byw eu hunain yn symud yn ôl ac ymlaen fel fflachiadau mellt. | |
Ezek | WelBeibl | 1:16 | Roedd yr olwynion yn sgleinio fel meini saffir. Roedd pob olwyn yr un fath, gydag olwyn arall tu mewn iddyn nhw ar ongl sgwâr. | |
Ezek | WelBeibl | 1:17 | Felly pan oedden nhw'n symud roedden nhw'n gallu mynd i unrhyw un o'r pedwar cyfeiriad heb orfod troi. | |
Ezek | WelBeibl | 1:19 | Pan oedd y creaduriaid byw yn symud, roedd yr olwynion wrth eu hymyl nhw'n symud. Pan oedd y creaduriaid yn codi oddi ar y ddaear, roedd yr olwynion yn codi hefyd. | |
Ezek | WelBeibl | 1:20 | Roedd y creaduriaid yn mynd ble bynnag roedd yr ysbryd am fynd, ac roedd yr olwynion yn codi gyda nhw am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion hefyd. | |
Ezek | WelBeibl | 1:21 | Roedd yr olwynion yn symud ac yn stopio ac yn codi gyda'r creaduriaid am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion. | |
Ezek | WelBeibl | 1:22 | Uwchben y creaduriaid byw roedd rhywbeth oedd yn edrych yn debyg i lwyfan oedd yn sgleinio fel grisial. Roedd wedi'i ledu fel cromen uwch eu pennau. | |
Ezek | WelBeibl | 1:23 | Dyna lle roedd y creaduriaid byw, o dan y llwyfan yma, gyda'u hadenydd yn ymestyn allan at ei gilydd. Roedd gan bob un ohonyn nhw ddwy aden yn gorchuddio ei gorff hefyd. | |
Ezek | WelBeibl | 1:24 | Pan oedd y creaduriaid yn hedfan, roeddwn i'n clywed sŵn eu hadenydd nhw – sŵn tebyg i raeadr, neu lais y Duw mawr sy'n rheoli popeth, neu fyddin enfawr yn martsio. Wedyn pan oedden nhw'n stopio roedden nhw'n rhoi eu hadenydd i lawr. | |
Ezek | WelBeibl | 1:26 | Uwchben y llwyfan roedd rhywbeth oedd yn edrych fel gorsedd wedi'i gwneud o saffir. Wedyn ar yr orsedd roedd ffigwr oedd yn edrych fel person dynol. | |
Ezek | WelBeibl | 1:27 | O'i ganol i fyny roedd yn edrych fel tân yn llosgi mewn ffwrnais fetel, ac o'i ganol i lawr fel fflamau tân. Roedd golau llachar yn disgleirio o'i gwmpas. | |
Chapter 2
Ezek | WelBeibl | 2:2 | Dyma ysbryd yn dod i mewn i mi a gwneud i mi sefyll ar fy nhraed. A dyma'r llais oedd yn siarad â mi | |
Ezek | WelBeibl | 2:3 | yn dweud: “Ddyn, dw i'n dy anfon di at bobl Israel. Maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i – nhw a'u hynafiaid hefyd. | |
Ezek | WelBeibl | 2:4 | Maen nhw'n bobl benstiff ac ystyfnig. Rwyt i ddweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud.’ | |
Ezek | WelBeibl | 2:5 | Os byddan nhw'n gwrando neu beidio – wedi'r cwbl maen nhw'n griw o rebeliaid – byddan nhw o leia'n gwybod fod proffwyd wedi bod gyda nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 2:6 | “Ond paid dychryn pan fyddan nhw'n dy fygwth di. Bydd fel cael mieri a drain o dy gwmpas di ym mhobman, neu eistedd yng nghanol sgorpionau – ond paid ti bod ag ofn wrth iddyn nhw fygwth ac edrych yn gas arnat ti. | |
Ezek | WelBeibl | 2:7 | Dwed di wrthyn nhw beth ydy'r neges gen i, os ydyn nhw am wrando neu beidio. Maen nhw'n griw anufudd. | |
Ezek | WelBeibl | 2:8 | Gwna di'n siŵr dy fod ti'n gwrando arna i. Paid ti â thynnu'n groes. Agor dy geg a bwyta'r hyn dw i'n ei roi i ti.” | |
Chapter 3
Ezek | WelBeibl | 3:1 | A dyma'r llais yn dweud wrtho i, “Ddyn, bwyta'r sgrôl yma sydd o dy flaen, ac wedyn mynd i siarad gyda phobl Israel.” | |
Ezek | WelBeibl | 3:3 | A dyma fe'n dweud, “Ddyn, llenwa dy fol gyda'r sgrôl yma dw i'n ei rhoi i ti.” A dyma fi'n ei bwyta. Roedd hi'n blasu'n felys fel mêl. | |
Ezek | WelBeibl | 3:4 | A dyma fe'n dweud wrtho i, “Ddyn, dos at bobl Israel a dweud beth ydy fy neges i iddyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 3:5 | Dw i ddim yn dy anfon di at bobl sy'n siarad iaith wyt ti ddim yn ei deall. Pobl Israel ydyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 3:6 | Petawn i'n dy anfon di at dyrfa o bobl sy'n siarad iaith wyt ti ddim yn ei deall, mae'n siŵr y byddai'r rheiny yn gwrando arnat ti! | |
Ezek | WelBeibl | 3:7 | Ond fydd pobl Israel ddim yn gwrando arnat ti, achos dŷn nhw ddim yn fodlon gwrando arna i. Maen nhw'n bobl ofnadwy o benstiff ac ystyfnig. | |
Ezek | WelBeibl | 3:9 | Bydda i'n dy wneud di yn galed fel diemwnt (sy'n gletach na charreg fflint!) Paid bod ag ofn. Paid gadael iddyn nhw dy ddychryn di. Maen nhw'n griw o rebeliaid. | |
Ezek | WelBeibl | 3:11 | Dos at dy gydwladwyr, y bobl gafodd eu symud yma yn gaethion gyda ti. Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.’ Dw i am i ti wneud hyn os ydyn nhw'n dewis gwrando neu beidio.” | |
Ezek | WelBeibl | 3:12 | Yna cododd yr ysbryd fi oddi ar y llawr. Clywais sŵn rymblan y tu ôl i mi wrth i ysblander yr ARGLWYDD godi o'i le. | |
Ezek | WelBeibl | 3:13 | Adenydd y creaduriaid byw oedd yn rhwbio yn erbyn ei gilydd, a sŵn yr olwynion wrth eu hymyl yn troi. Roedd fel sŵn rymblan mawr. | |
Ezek | WelBeibl | 3:14 | Cododd yr ysbryd fi oddi ar y llawr, a'm cario i ffwrdd. Rôn i'n teimlo'n flin ac yn llawn emosiwn. Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i ac roedd yn rheoli beth oedd yn digwydd i mi yn llwyr. | |
Ezek | WelBeibl | 3:15 | Dyma fi'n cyrraedd Tel-abib, sydd wrth ymyl Camlas Cebar. Bues i yno am wythnos, yn eistedd yn syfrdan yng nghanol y bobl oedd wedi cael eu caethgludo. | |
Ezek | WelBeibl | 3:17 | “Ddyn, dw i'n dy benodi di yn wyliwr i warchod pobl Israel. Rhaid i ti eu rhybuddio nhw pan fydda i'n rhoi neges i ti. | |
Ezek | WelBeibl | 3:18 | Pan dw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a tithau ddim wedi'i rybuddio a'i annog i newid ei ffyrdd a byw, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu a bydda i'n dy ddal di'n gyfrifol ei fod wedi marw. | |
Ezek | WelBeibl | 3:19 | Ond os byddi di wedi'i rybuddio, ac yntau wedi gwrthod newid ei ffyrdd, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu ond byddi di wedi achub dy hun. | |
Ezek | WelBeibl | 3:20 | “Ar y llaw arall, os ydy rhywun sydd fel arfer yn gwneud beth sy'n iawn yn newid ei ffyrdd ac yn dechrau gwneud pethau drwg, bydda i'n achosi i rywbeth ddigwydd fydd yn gwneud i'r person hwnnw syrthio. Bydd e'n marw. Os na fyddi di wedi'i rybuddio bydd e'n marw am ei fod wedi pechu. Fydd y pethau da wnaeth e o'r blaen ddim yn cyfrif. A bydda i'n dy ddal di'n gyfrifol am beth fydd yn digwydd. | |
Ezek | WelBeibl | 3:21 | Ond os byddi di wedi'i rybuddio fe i beidio pechu, ac yntau wedi gwrando arnat ti, bydd e'n cael byw, a byddi di hefyd wedi achub dy hun.” | |
Ezek | WelBeibl | 3:22 | Dyma ddylanwad yr ARGLWYDD yn dod arna i, a dyma fe'n dweud, “Cod ar dy draed. Dos allan i'r dyffryn, a bydda i'n siarad gyda ti yno.” | |
Ezek | WelBeibl | 3:23 | Felly dyma fi'n codi'n syth, ac yn mynd allan i'r dyffryn. A dyma fi'n gweld ysblander yr ARGLWYDD eto, yn union yr un fath ag wrth Gamlas Cebar. Syrthiais ar fy wyneb ar lawr. | |
Ezek | WelBeibl | 3:24 | Ond yna dyma ysbryd yn mynd i mewn i mi ac yn fy nghodi ar fy nhraed. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Dos, a chau dy hun i mewn yn dy dŷ. | |
Ezek | WelBeibl | 3:25 | Bydd y bobl yma'n dy rwymo di gyda rhaffau, er mwyn dy rwystro di rhag cymysgu gyda nhw y tu allan. | |
Ezek | WelBeibl | 3:26 | Bydda i'n gwneud i dy dafod di sticio i dop dy geg a fyddi di ddim yn gallu siarad na dweud wrthyn nhw beth maen nhw'n ei wneud o'i le. Maen nhw'n griw o rebeliaid. | |
Chapter 4
Ezek | WelBeibl | 4:1 | “Ddyn, cymer fricsen fawr, ei gosod o dy flaen a thynnu llun map o ddinas Jerwsalem arni. | |
Ezek | WelBeibl | 4:2 | Wedyn gwna fodel o fyddin yn gwarchae arni: waliau gwarchae, ramp, gwersylloedd milwyr ac offer fel hyrddod rhyfel o'i chwmpas. | |
Ezek | WelBeibl | 4:3 | Yna cymer badell haearn, a'i gosod i fyny fel wal haearn rhyngot ti a'r ddinas. Wedyn gwylia hi, drwy'r amser, fel taset ti'n gwarchae arni. Mae beth fyddi di'n wneud yn rhybudd i bobl Israel. | |
Ezek | WelBeibl | 4:4 | “Yna dw i eisiau i ti orwedd ar dy ochr chwith am dri chant naw deg diwrnod. Byddi'n dioddef wrth orfod cario baich pechod pobl Israel | |
Ezek | WelBeibl | 4:5 | (diwrnod am bob blwyddyn maen nhw wedi pechu). Wedyn ar ôl i ti gario baich pechod pobl Israel, | |
Ezek | WelBeibl | 4:6 | gorwedd ar dy ochr dde am bedwar deg diwrnod. Byddi'n cario baich pechod pobl Jwda (sef diwrnod am bob blwyddyn eto). | |
Ezek | WelBeibl | 4:7 | “Dal ati i wylio'r model o'r gwarchae ar Jerwsalem. Torcha dy lewys, a proffwyda yn erbyn y ddinas. | |
Ezek | WelBeibl | 4:8 | Bydda i'n dy rwymo di gyda rhaffau, a byddi'n methu symud na throi drosodd nes bydd dyddiau'r gwarchae drosodd. | |
Ezek | WelBeibl | 4:9 | “Wedyn cymer ŷd, haidd, ffa, ffacbys, miled a sbelt, a'u cadw mewn llestr gyda'i gilydd. Defnyddia'r cymysgedd i wneud bara i ti dy hun. Dyna fyddi di'n ei fwyta pan fyddi'n gorwedd ar dy ochr am dri chant naw deg diwrnod. | |
Ezek | WelBeibl | 4:10 | Dim ond wyth owns y dydd fyddi di'n ei gael i'w fwyta, a hynny yr un amser bob dydd. | |
Ezek | WelBeibl | 4:11 | Wedyn ychydig dros hanner litr o ddŵr i'w yfed – hwnnw eto i'w yfed yr un amser bob dydd. | |
Ezek | WelBeibl | 4:12 | Gwna rywbeth fel bara haidd fflat ohono, a defnyddio carthion dynol wedi'u sychu yn danwydd i'w bobi o flaen pawb. | |
Ezek | WelBeibl | 4:13 | Gwna hyn fel darlun symbolaidd o'r ffaith y bydd pobl Israel yn bwyta bwyd sy'n aflan ar ôl cael eu gyrru i ganol y gwledydd paganaidd.” | |
Ezek | WelBeibl | 4:14 | “O, na! ARGLWYDD, Meistr, Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy'n ‛aflan‛ o'r blaen – fel carcas anifail oedd wedi marw ohono'i hun, neu un gafodd ei ladd gan anifeiliaid gwyllt, neu unrhyw gig sy'n ‛aflan‛.” | |
Ezek | WelBeibl | 4:15 | Felly dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Iawn, cei di ddefnyddio tail gwartheg yn lle carthion dynol. Cei bobi dy fara ar hwnnw.” | |
Ezek | WelBeibl | 4:16 | Yna aeth yn ei flaen i ddweud, “Yn fuan iawn fydd yna ddim bwyd yn Jerwsalem. Bydd pobl yn poeni am fod bwyd yn brin, ac yn anobeithio am fod y cyflenwad dŵr yn isel. | |
Chapter 5
Ezek | WelBeibl | 5:1 | “Ddyn, dw i eisiau i ti gymryd cleddyf miniog, a'i ddefnyddio fel rasel i siafio dy ben a dy farf. Wedyn cymer glorian i bwyso'r gwallt wyt ti wedi'i dorri, a'i rannu'n dri. | |
Ezek | WelBeibl | 5:2 | Rwyt i losgi traean ohono yn y ddinas pan fydd y cyfnod o warchae symbolaidd drosodd. Yna cymryd traean arall a'i dorri'n ddarnau mân gyda'r cleddyf o gwmpas y ddinas. Yna taflu'r traean sydd ar ôl i'r gwynt ei chwalu i bobman. Dw i'n mynd i dynnu fy nghleddyf o'i wain, a mynd ar eu holau nhw! | |
Ezek | WelBeibl | 5:4 | Byddi'n cymryd ychydig o hwnnw i'w losgi yn y tân. Bydd y tân hwnnw'n lledu ac yn dinistrio Israel i gyd.” | |
Ezek | WelBeibl | 5:5 | Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dyma Jerwsalem. Dw i wedi rhoi'r lle canolog iddi hi, gyda'r gwledydd eraill i gyd o'i chwmpas. | |
Ezek | WelBeibl | 5:6 | Ond mae pobl Jerwsalem wedi torri fy rheolau a gwrthod gwrando arna i, a gwneud mwy o ddrwg nag unrhyw wlad arall!” | |
Ezek | WelBeibl | 5:7 | Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud: “Dych chi'n achosi mwy o drafferth na'r gwledydd o'ch cwmpas chi i gyd! Dych chi wedi torri fy rheolau a gwrthod gwrando arna i. Allwch chi ddim hyd yn oed cadw safonau'r gwledydd paganaidd o'ch cwmpas chi! | |
Ezek | WelBeibl | 5:8 | Felly dw i'n mynd i ddelio gyda chi – ie, fi, yr ARGLWYDD. Dw i'n eich erbyn chi! Dw i'n mynd i'ch cosbi chi, a bydd y gwledydd i gyd yn cael gweld y peth. | |
Ezek | WelBeibl | 5:9 | Dw i'n mynd i wneud rhywbeth dw i erioed wedi'i wneud o'r blaen a fydda i byth yn ei wneud eto, am eich bod chi wedi gwneud pethau mor ffiaidd. | |
Ezek | WelBeibl | 5:10 | Bydd pethau'n mynd mor wael yn Jerwsalem, bydd rhieni'n bwyta'u plant a plant yn bwyta'u rhieni! Dw i'n mynd i'ch barnu chi, a bydd y bobl hynny fydd yn llwyddo i oroesi yn cael eu gyrru ar chwâl i bob cyfeiriad.” | |
Ezek | WelBeibl | 5:11 | “Mor sicr a'r ffaith fy mod i'n fyw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, “Am eich bod chi wedi llygru fy lle sanctaidd i gyda'ch eilunod a'r holl bethau ffiaidd eraill dych chi wedi'u gwneud, dw i'n mynd i'ch torri chi i ffwrdd. Fydd yna ddim trugaredd o gwbl! | |
Ezek | WelBeibl | 5:12 | Bydd traean poblogaeth Jerwsalem yn marw yn y ddinas o haint a newyn. Bydd traean arall yn cael eu lladd yn y rhyfel. A bydd y traean sydd ar ôl yn cael eu gyrru ar chwâl i bob cyfeiriad. Ond bydda i'n tynnu fy nghleddyf o'i wain ac yn mynd ar eu holau nhw!” | |
Ezek | WelBeibl | 5:13 | “Ar ôl hynny, bydda i wedi tywallt hynny o ddigofaint sydd gen i arnyn nhw! Byddan nhw'n gweld, wedyn, fy mod i wedi bod yn hollol o ddifri, ac wedi cael fy mrifo go iawn ganddyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 5:15 | Byddi'n destun sbort i bawb sy'n pasio heibio. Bydd y gwledydd sydd o dy gwmpas wrth eu boddau yn enllibio ac yn cega pan fydda i'n dy farnu di ac yn dy gosbi mor ffyrnig. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod! | |
Ezek | WelBeibl | 5:16 | Bydda i'n saethu saethau creulon newyn atoch chi, a'ch dinistrio chi. Fydd gynnoch chi ddim bwyd ar ôl. | |
Chapter 6
Ezek | WelBeibl | 6:2 | “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu mynyddoedd Israel, a proffwydo yn eu herbyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 6:3 | “Dywed, ‘Fynyddoedd Israel, gwrandwch ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD! Dyma mae e'n ddweud wrth y mynyddoedd a'r bryniau, y ceunentydd a'r dyffrynnoedd: Dw i'n anfon byddin i ymosod arnoch chi, a dinistrio'ch allorau paganaidd lleol chi. | |
Ezek | WelBeibl | 6:4 | Fydd yr allorau'n ddim byd ond rwbel, a'r llestri i losgi arogldarth wedi'u malu'n ddarnau. Bydd pobl yn syrthio'n farw o flaen eich eilunod da i ddim. | |
Ezek | WelBeibl | 6:5 | Bydd cyrff meirw yn gorwedd o'u blaen, ac esgyrn pobl ym mhobman o gwmpas yr allorau. | |
Ezek | WelBeibl | 6:6 | Fydd dim dianc! Bydd eich trefi'n cael eu dinistrio'n llwyr, a'r allorau paganaidd yn ddim byd ond rwbel. Bydd yr eilunod wedi'u malu a'u bwrw i lawr, a'r llestri arogldarth yn ddarnau. Fydd dim byd o'ch gwaith llaw chi ar ôl! | |
Ezek | WelBeibl | 6:8 | “‘Ond bydda i'n gadael i rai ohonoch chi ddianc. Bydd y rheiny'n ffoaduriaid wedi'u gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd. | |
Ezek | WelBeibl | 6:9 | A byddan nhw'n cofio amdana i yno! Byddan nhw'n sylweddoli sut roedden nhw'n torri fy nghalon i wrth fod mor anffyddlon a dilyn pa dduw bynnag oedd yn cymryd eu ffansi. Bydd ganddyn nhw gymaint o gywilydd am eu bod wedi cymryd rhan mewn defodau mor ffiaidd. | |
Ezek | WelBeibl | 6:10 | Byddan nhw'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD, ac mai nid bygythiad gwag oedd y drychineb ddaeth arnyn nhw!’” | |
Ezek | WelBeibl | 6:11 | Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: “Dangos mor ddig wyt ti drwy ysgwyd dy ddwrn a stampio dy draed, a gweiddi, ‘Gwae!’ o achos yr holl bethau ffiaidd mae pobl Israel wedi'u gwneud. Byddan nhw'n cael eu lladd gan gleddyf y gelyn, newyn, neu haint.” | |
Ezek | WelBeibl | 6:12 | Bydd pobl yn marw ym mhobman! Bydd y rhai sy'n bell i ffwrdd yn marw o afiechydon, y rhai sy'n agos yn cael eu lladd gan y gelyn, ac unrhyw un sydd ar ôl yn marw o newyn. Bydda i'n tywallt hynny o ddigofaint sydd gen i arnyn nhw! | |
Ezek | WelBeibl | 6:13 | Bydd eu cyrff marw yn gorwedd ym mhobman, am eu bod nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i'w heilunod. Bydd cyrff o gwmpas yr eilunod a'r allorau paganaidd, ar bob bryn uchel a mynydd, a dan pob coeden ddeiliog. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD! | |
Chapter 7
Ezek | WelBeibl | 7:2 | “Ddyn, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth Israel: Mae'r diwedd yn dod! Mae'r diwedd yn dod ar y wlad gyfan! | |
Ezek | WelBeibl | 7:3 | Dw i wedi digio go iawn. Dw i'n mynd i'ch cosbi chi am y ffordd dych chi wedi ymddwyn. Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am yr holl bethau ffiaidd dych chi wedi'u gwneud. | |
Ezek | WelBeibl | 7:4 | Fydd yna ddim trugaredd i chi! Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am eich ymddygiad, a bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau y pethau ffiaidd wnaethoch chi. Byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 7:5 | “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae yna drychineb ofnadwy yn dod, un heb ei thebyg. | |
Ezek | WelBeibl | 7:7 | Mae'r farn yn dod ar bawb sy'n byw yn y wlad yma! Mae hi ar ben! Mae'r diwrnod mawr yn agos! Bydd sŵn pobl yn gweiddi mewn panig ar y mynyddoedd yn lle sŵn pobl yn dathlu ac yn cael hwyl. | |
Ezek | WelBeibl | 7:8 | Dw i'n mynd i dywallt fy llid arnoch chi nawr. Cewch weld gymaint dw i wedi gwylltio. Dw i'n mynd i'ch cosbi chi am y ffordd dych chi wedi ymddwyn. Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am yr holl bethau ffiaidd dych chi wedi'u gwneud. | |
Ezek | WelBeibl | 7:9 | Fydd yna ddim trugaredd! Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am eich ymddygiad, a bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau y pethau ffiaidd wnaethoch chi. Byddwch chi'n deall wedyn mai fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi'ch taro chi. | |
Ezek | WelBeibl | 7:10 | “Edrychwch! Y diwrnod mawr! Mae'r farn ar ei ffordd! Mae anghyfiawnder a drygioni wedi blodeuo! | |
Ezek | WelBeibl | 7:11 | Mae trais wedi troi'n wialen i gosbi drygioni. Fydd neb ar ôl – neb o'r werin, neb o'r cyfoethog, neb o'r pwysigion. | |
Ezek | WelBeibl | 7:12 | Mae'n amser! Mae'r diwrnod wedi dod! Fydd y prynwr ddim yn dathlu, na'r gwerthwr yn drist. Mae Duw wedi digio gyda phawb. | |
Ezek | WelBeibl | 7:13 | Fydd y gwerthwr ddim yn cael yr eiddo'n ôl. Mae beth mae Duw wedi'i ddweud yn mynd i ddigwydd. Bydd pawb yn cael eu cosbi am eu pechod. | |
Ezek | WelBeibl | 7:14 | “Mae'r utgorn yn galw pawb i fod yn barod, ond does dim ymateb a does neb yn paratoi i ymladd. Mae fy nigofaint i wedi'u parlysu nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 7:15 | Mae cleddyfau'r gelyn yn barod y tu allan i waliau'r ddinas. Mae haint a newyn yn disgwyl amdanyn nhw y tu mewn. Bydd pwy bynnag sydd yng nghefn gwlad yn cael ei ladd â'r cleddyf, a bydd pawb yn y ddinas yn marw o newyn a haint. | |
Ezek | WelBeibl | 7:16 | Bydd y rhai sy'n dianc yn rhedeg i'r mynyddoedd. Byddan nhw fel colomennod yn cŵan wrth alaru am eu pechodau. | |
Ezek | WelBeibl | 7:17 | Fydd pobl ddim yn gwybod beth i'w wneud, a byddan nhw'n gwlychu eu hunain mewn ofn. | |
Ezek | WelBeibl | 7:18 | Byddan nhw'n gwisgo sachliain, ac yn crynu mewn ofn. Bydd y cywilydd i'w weld ar eu hwynebau, a byddan nhw wedi siafio'u pennau. | |
Ezek | WelBeibl | 7:19 | “Fydd aur ac arian yn golygu dim iddyn nhw. Bydd fel sbwriel ar y stryd. Fydd eu cyfoeth ddim yn eu hachub nhw ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu! A fyddan nhw ddim yn gallu prynu bwyd gydag e. Eu harian nhw wnaeth eu baglu nhw a'u harwain nhw i bechu! | |
Ezek | WelBeibl | 7:20 | Roedden nhw wedi defnyddio'u tlysau hardd i wneud delwau ffiaidd – duwiau da i ddim. Ond bydd y cwbl fel sbwriel afiach. | |
Ezek | WelBeibl | 7:21 | Bydda i'n ei roi yn ysbail i bobl o wledydd eraill. Bydd paganiaid drwg yn ei gymryd ac yn poeri arno. | |
Ezek | WelBeibl | 7:22 | Bydda i'n edrych i ffwrdd tra maen nhw'n treisio fy nheml i. Bydd fandaliaid yn dod i mewn i'r ddinas, yn ei threisio | |
Ezek | WelBeibl | 7:23 | ac yn creu hafoc llwyr. (Bydd hyn i gyd yn digwydd o achos y tywallt gwaed ofnadwy sy'n y wlad a'r creulondeb sydd yn y ddinas.) | |
Ezek | WelBeibl | 7:24 | Bydd y wlad waethaf un yn dod ac yn cymryd eu tai nhw. Bydda i'n rhoi taw ar eu holl falchder ac yn dinistrio'r holl leoedd cysegredig sydd ganddyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 7:26 | Bydd un drychineb ar ôl y llall, a dim byd ond newyddion drwg. Fydd gan y proffwydi ddim gweledigaeth i'w gynnig. Fydd yr offeiriaid ddim yn gallu rhoi arweiniad o'r Gyfraith, a fydd yr arweinwyr gwleidyddol ddim yn gwybod beth i'w ddweud. | |
Chapter 8
Ezek | WelBeibl | 8:1 | Roedd hi chwe blynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pumed diwrnod o'r chweched mis. Rôn i'n eistedd yn y tŷ gydag arweinwyr Jwda o mlaen i. A dyma ddylanwad yr ARGLWYDD yn dod arna i. | |
Ezek | WelBeibl | 8:2 | Wrth i mi edrych dyma fi'n gweld ffigwr oedd yn edrych fel person dynol. O'i ganol i lawr roedd fel fflamau tân, ac o'i ganol i fyny roedd yn llachar fel ffwrnais fetel. | |
Ezek | WelBeibl | 8:3 | Dyma fe'n estyn ei law a gafael yn fy ngwallt. Yna cododd yr ysbryd fi i fyny i'r awyr a mynd â fi i Jerwsalem mewn gweledigaeth. Aeth â fi at ddrws y giât fewnol sy'n wynebu'r gogledd, lle roedd y ddelw oedd wedi gwneud yr ARGLWYDD mor ddig. | |
Ezek | WelBeibl | 8:4 | A dyna lle roedd ysblander Duw Israel o mlaen i, yn union yr un fath â'r hyn welais i yn y dyffryn y tro cyntaf. | |
Ezek | WelBeibl | 8:5 | A dyma Duw'n dweud wrtho i: “Ddyn, edrych i gyfeiriad y gogledd.” Dyma fi'n edrych, a dyna lle roedd allor i'r ddelw oedd wedi gwneud Duw mor ddig. | |
Ezek | WelBeibl | 8:6 | “Edrych beth mae'r bobl yn ei wneud!” meddai Duw. “Mae pobl Israel yn gwneud pethau cwbl ffiaidd, ac yn fy ngyrru i allan o'r deml. Ond mae yna bethau gwaeth na hyn!” | |
Ezek | WelBeibl | 8:7 | Dyma fe'n mynd â fi at fynedfa'r cyntedd. Wrth i mi edrych dyma fi'n gweld twll yn y wal. | |
Ezek | WelBeibl | 8:8 | “Torra drwy'r twll,” meddai Duw. Felly dyma fi'n gwthio drwy'r twll ac yn darganfod drws. | |
Ezek | WelBeibl | 8:9 | “Dos i mewn, i ti gael gweld y pethau cwbl ffiaidd maen nhw'n eu gwneud yna!” meddai Duw | |
Ezek | WelBeibl | 8:10 | Felly dyma fi'n mynd i mewn. Ar y waliau o mlaen i roedd lluniau o bob math o ymlusgiaid a chreaduriaid ffiaidd eraill, a'r holl eilun-dduwiau mae pobl Israel wedi bod yn eu haddoli. | |
Ezek | WelBeibl | 8:11 | Dyna lle roedd saith deg o arweinwyr Israel yn sefyll o flaen y lluniau yma oedd wedi'u cerfio ar y waliau, a Iaasaneia fab Shaffan yn y canol. Roedd pob un ohonyn nhw yn dal llestr i losgi arogldarth, ac roedd mwg yr arogldarth yn yr awyr ym mhobman. | |
Ezek | WelBeibl | 8:12 | A dyma Duw yn dweud wrtho i: “Ddyn, wyt ti'n gweld beth mae arweinwyr Israel yn ei wneud yn y tywyllwch – pob un ohonyn nhw o flaen ei hoff eilun? ‘Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gweld. Mae e wedi troi cefn ar y wlad,’ medden nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 8:14 | Dyma fe'n mynd â fi at giât y gogledd yn y deml. A dyna lle roedd merched yn mynd drwy'r ddefod o wylo ar ôl Tammws, duw ffrwythlondeb Babilon! | |
Ezek | WelBeibl | 8:16 | Dyma fe'n mynd â fi i iard fewnol teml yr ARGLWYDD. Ac yno, wrth y fynedfa i'r cysegr, rhwng y cyntedd a'r allor, roedd tua dau ddeg pump o ddynion. Roedden nhw wedi troi'u cefnau ar y cysegr, ac yn wynebu'r dwyrain a plygu i lawr i addoli'r haul! | |
Ezek | WelBeibl | 8:17 | “Edrych ar hyn!” meddai Duw wrtho i eto. “Ai peth bach ydy'r ffaith fod pobl Jwda'n gwneud y pethau ffiaidd yma? Maen nhw wedi fy ngwylltio i ddigon yn barod yn llenwi'r wlad hefo trais. A dyma nhw eto yn codi dau fys ata i! | |
Chapter 9
Ezek | WelBeibl | 9:1 | Wedyn dyma fi'n clywed Duw yn gweiddi'n uchel, “Dewch yma, chi sy'n mynd i ddinistrio'r ddinas! Dewch gyda'ch arfau i wneud eich gwaith!” | |
Ezek | WelBeibl | 9:2 | Gwelais chwe dyn yn dod o gyfeiriad y giât uchaf sy'n wynebu'r gogledd. Roedd gan bob un arf, sef pastwn, yn ei law. Roedd dyn arall gyda nhw, mewn gwisg o liain, ac roedd ganddo offer ysgrifennu wedi'i strapio am ei ganol. Dyma nhw'n dod i'r deml, a sefyll wrth ymyl yr allor bres. | |
Ezek | WelBeibl | 9:3 | Dyma ysblander Duw Israel yn codi oddi ar y cerbyd a'r cerwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. A dyma'r ARGLWYDD yn galw ar y dyn mewn gwisg o liain oedd yn cario'r offer ysgrifennu, | |
Ezek | WelBeibl | 9:4 | a dweud wrtho: “Dos o gwmpas dinas Jerwsalem, a rho farc ar dalcen pawb sy'n galaru'n drist am yr holl bethau ffiaidd sy'n digwydd yma.” | |
Ezek | WelBeibl | 9:5 | Wedyn clywais e'n dweud wrth y lleill: “Ewch o gwmpas y ddinas ar ei ôl a lladd pawb sydd heb eu marcio. Does neb i ddianc! Byddwch yn hollol ddidrugaredd! | |
Ezek | WelBeibl | 9:6 | Lladdwch nhw i gyd – yr hen a'r ifanc, gwragedd a phlant! Ond peidiwch cyffwrdd unrhyw un sydd â marc ar ei dalcen. Dechreuwch yma yn y deml.” Felly dyma nhw'n dechrau gyda'r arweinwyr oedd yn sefyll o flaen y deml. | |
Ezek | WelBeibl | 9:7 | “Gwnewch y deml yn lle sydd wedi'i lygru, gyda chyrff marw ar lawr ym mhobman! Wedyn ewch allan a lladd pobl drwy'r ddinas i gyd.” | |
Ezek | WelBeibl | 9:8 | Pan aethon nhw allan i'r ddinas ces fy ngadael yn sefyll yno ar fy mhen fy hun. A dyma fi'n mynd ar fy wyneb ar lawr, a gweddïo'n uchel ar Dduw, “O, na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt ti'n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel drwy dywallt dy lid ar Jerwsalem fel yma?” | |
Ezek | WelBeibl | 9:9 | A dyma fe'n ateb, “Mae pobl Israel a Jwda wedi pechu yn ofnadwy yn fy erbyn i. Mae cymaint o dywallt gwaed drwy'r wlad, ac anghyfiawnder yn y ddinas. Ac mae pobl yn dweud, ‘Mae'r ARGLWYDD wedi troi cefn ar y wlad. Dydy e ddim yn gweld beth bynnag!’ | |
Ezek | WelBeibl | 9:10 | Felly, dw i ddim yn teimlo'n sori drostyn nhw o gwbl. Fydd yna ddim trugaredd! Dw i'n mynd i dalu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi'i wneud!” | |
Chapter 10
Ezek | WelBeibl | 10:1 | Yna wrth i mi edrych dyma fi'n gweld, ar y llwyfan uwchben y cerwbiaid, rywbeth oedd yn edrych yn debyg i orsedd wedi'i gwneud o saffir yn dod i'r golwg. | |
Ezek | WelBeibl | 10:2 | A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth y dyn mewn gwisg o liain: “Dos rhwng yr olwynion o dan y cerwbiaid, llenwi dy ddwylo gyda'r marwor poeth, a'u taflu nhw dros y ddinas i gyd.” A dyma fi'n ei weld yn mynd i nôl y marwor. | |
Ezek | WelBeibl | 10:3 | (Roedd y cerwbiaid yn sefyll i gyfeiriad y de o'r deml ar y pryd, ac roedd cwmwl yn llenwi'r iard fewnol.) | |
Ezek | WelBeibl | 10:4 | Dyma ysblander yr ARGLWYDD yn codi oddi ar y cerbyd a'r cerwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. Dyma'r cwmwl yn llenwi'r deml i gyd, ac roedd ysblander yr ARGLWYDD yn disgleirio'n llachar yn yr iard fewnol. | |
Ezek | WelBeibl | 10:5 | Roedd sŵn adenydd y cerwbiaid i'w glywed o'r iard allanol. Roedd fel sŵn y Duw sy'n rheoli popeth yn siarad. | |
Ezek | WelBeibl | 10:6 | Pan ddwedodd yr ARGLWYDD wrth y dyn mewn gwisg o liain, “Cymer beth o'r tân sydd rhwng yr olwynion dan y cerwbiaid,” dyma fe'n mynd a sefyll wrth ymyl un o'r olwynion. | |
Ezek | WelBeibl | 10:7 | Roedd gan y cerwbiaid ddwylo a breichiau dynol o dan eu hadenydd. A dyma un o'r cerwbiaid yn estyn ei law at y tân oedd rhyngddyn nhw, ac yn cymryd peth ohono a'i roi yn nwylo'r dyn oedd mewn gwisg o liain. Ar ôl cymryd y tân dyma'r dyn yn mynd allan. | |
Ezek | WelBeibl | 10:8 | Roedd gan y cerwbiaid ddwylo a breichiau dynol o dan eu hadenydd. A dyma un o'r cerwbiaid yn estyn ei law at y tân oedd rhyngddyn nhw, ac yn cymryd peth ohono a'i roi yn nwylo'r dyn oedd mewn gwisg o liain. Ar ôl cymryd y tân dyma'r dyn yn mynd allan. | |
Ezek | WelBeibl | 10:9 | Wrth i mi edrych dyma fi'n sylwi ar y pedair olwyn wrth ymyl y cerwbiaid. Roedd un olwyn wrth ymyl pob cerwb, ac roedden nhw'n sgleinio fel meini saffir. | |
Ezek | WelBeibl | 10:10 | Roedd y pedair olwyn yn edrych yn union yr un fath â'i gilydd. Roedd fel petai olwyn arall y tu mewn iddyn nhw ar ongl sgwâr. | |
Ezek | WelBeibl | 10:11 | Pan oedd y cerwbiaid yn symud roedden nhw'n gallu mynd i unrhyw un o'r pedwar cyfeiriad heb orfod troi. Pa gyfeiriad bynnag roedden nhw'n mynd, roedd y wynebau eraill yn eu dilyn, heb orfod troi. | |
Ezek | WelBeibl | 10:12 | Roedd eu cyrff yn gyfan – eu cefnau, eu dwylo a'u hadenydd – wedi'u gorchuddio â llygaid, ac roedd olwynion y pedwar wedi'u gorchuddio â llygaid hefyd. | |
Ezek | WelBeibl | 10:14 | Roedd gan bob un o'r cerwbiaid bedwar wyneb: wyneb tarw, wyneb dynol, wyneb llew ac wyneb eryr. | |
Ezek | WelBeibl | 10:15 | A dyma'r cerwbiaid yn mynd at i fyny. Nhw oedd y creaduriaid byw roeddwn i wedi'u gweld wrth Gamlas Cebar. | |
Ezek | WelBeibl | 10:16 | Pan oedd y cerwbiaid yn symud, roedd yr olwynion wrth eu hymyl nhw'n symud. Pan oedd y cerwbiaid yn lledu eu hadenydd i godi oddi ar y ddaear, roedd yr olwynion yn aros gyda nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 10:17 | Pan oedd y cerwbiaid yn stopio neu'n codi, roedd yr olwynion yn stopio a chodi gyda nhw, am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion. | |
Ezek | WelBeibl | 10:18 | A dyma ysblander yr ARGLWYDD yn symud i ffwrdd o'r deml, ac yn hofran uwchben y cerwbiaid. | |
Ezek | WelBeibl | 10:19 | Ac wrth i mi edrych, dyma'r cerwbiaid yn lledu eu hadenydd ac yn codi oddi ar y ddaear (a'r olwynion gyda nhw). Ond dyma nhw'n stopio wrth y fynedfa i giât ddwyreiniol y deml, gydag ysblander Duw Israel yn hofran uwch eu pennau. | |
Ezek | WelBeibl | 10:20 | Nhw oedd y creaduriaid byw roeddwn i wedi'u gweld o dan Dduw Israel pan oeddwn wrth Gamlas Cebar. Rôn i'n sylweddoli mai cerwbiaid oedden nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 10:21 | Roedd gan bob un bedwar wyneb a phedair aden, gyda breichiau a dwylo dynol o dan yr adenydd. | |
Chapter 11
Ezek | WelBeibl | 11:1 | Dyma'r ysbryd yn fy nghodi ac yn mynd â fi at giât ddwyreiniol teml yr ARGLWYDD. Yno, wrth y fynedfa i'r giât, dyma fi'n gweld dau ddeg pump o ddynion. Yn eu plith roedd Iaasaneia fab Asswr a Plateia fab Benaia, oedd yn arweinwyr sifil. | |
Ezek | WelBeibl | 11:2 | A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, y dynion yma sydd yn cynllwynio drwg ac yn rhoi cyngor gwael i bobl y ddinas. | |
Ezek | WelBeibl | 11:3 | ‘Fydd dim angen adeiladu tai yn y dyfodol agos,’ medden nhw. ‘Y crochan ydy'r ddinas yma, a ni ydy'r cig sy'n cael aros ynddo.’ | |
Ezek | WelBeibl | 11:5 | A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arna i, a dwedodd wrtho i am ddweud: “Dyma neges yr ARGLWYDD: ‘Dyna beth ydych chi'n ddweud, ie? Wel, dw i'n gwybod beth sy'n mynd drwy eich meddyliau chi! | |
Ezek | WelBeibl | 11:6 | Chi sy'n gyfrifol am farwolaeth llawer iawn o bobl yn y ddinas yma. Mae ei strydoedd yn llawn o gyrff y meirw.’ | |
Ezek | WelBeibl | 11:7 | Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Y ddinas yma ydy'r crochan, a'r holl gyrff meirw sydd wedi'u taflu ar y strydoedd ydy'r cig. Chi ydy'r rhai dw i'n mynd i'w taflu allan! | |
Ezek | WelBeibl | 11:8 | Mae gynnoch chi ofn i'r gelyn ymosod gyda'i gleddyf. Wel, bydda i'n gwneud i'r gelyn hwnnw ymosod arnoch chi,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 11:9 | ‘Bydda i'n eich barnu chi, drwy eich taflu chi allan o'r ddinas a'ch rhoi chi yn nwylo pobl o wlad arall. | |
Ezek | WelBeibl | 11:10 | Byddwch chi'n cael eich lladd yn y rhyfel. Bydd y farn yma'n digwydd o fewn ffiniau gwlad Israel, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 11:11 | Fydd y ddinas yma ddim yn grochan i chi, a nid chi fydd y cig ynddo! Bydda i'n eich barnu chi ar dir Israel, | |
Ezek | WelBeibl | 11:12 | a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Dych chi wedi torri fy rheolau i, a gwrthod gwrando arna i. Dych chi wedi ymddwyn fel pobl y gwledydd paganaidd o'ch cwmpas chi!’” | |
Ezek | WelBeibl | 11:13 | Wrth i mi gyhoeddi'r neges yma, dyma Plateia fab Benaia yn syrthio'n farw. A dyma fi'n mynd ar fy wyneb ar lawr, a gweddïo'n uchel ar Dduw, “O na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt ti'n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel?” | |
Ezek | WelBeibl | 11:15 | “Ddyn, mae'r bobl sy'n byw yn Jerwsalem wedi bod yn dweud am dy frodyr a dy berthnasau di a phawb o bobl Israel sydd wedi'u cymryd yn gaethion, ‘Maen nhw'n bell i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD. Mae'r wlad yma wedi cael ei rhoi i ni bellach.’ | |
Ezek | WelBeibl | 11:16 | “Felly dywed di fel yma: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Er fy mod i wedi'u hanfon nhw yn bell i ffwrdd, a'u chwalu nhw drwy'r gwledydd eraill, dw i fy hun wedi bod yn lle saff iddyn nhw aros dros dro yn y gwledydd hynny.’ | |
Ezek | WelBeibl | 11:17 | “Dwed fel yma: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthyn nhw: Dw i'n mynd i'ch casglu chi o'r gwledydd lle dych chi ar chwâl, a dw i'n mynd i roi gwlad Israel yn ôl i chi.’ | |
Ezek | WelBeibl | 11:18 | “Byddan nhw'n dod yn ôl ac yn cael gwared â'r holl eilunod a'r pethau ffiaidd sy'n cael eu gwneud yma. | |
Ezek | WelBeibl | 11:19 | Bydda i'n rhoi calon newydd iddyn nhw, ac ysbryd newydd hefyd. Bydda i'n cael gwared â'r galon galed, ystyfnig sydd ynddyn nhw, ac yn rhoi calon dyner iddyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 11:20 | Byddan nhw'n cadw fy rheolau i, ac yn gwneud beth dw i'n ddweud. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 11:21 | Ond am y bobl hynny sy'n addoli'r eilunod ac yn mynd drwy'r defodau ffiaidd yma, bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi'i wneud.” Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud. | |
Ezek | WelBeibl | 11:22 | Yna dyma'r cerwbiaid yn lledu eu hadenydd i hedfan. Roedd yr olwynion wrth eu hymyl, ac ysblander Duw Israel yn hofran uwch eu pennau. | |
Ezek | WelBeibl | 11:23 | Dyma ysblander yr ARGLWYDD yn codi a gadael y ddinas, yna aros uwchben y mynydd sydd i'r dwyrain o'r ddinas. | |
Ezek | WelBeibl | 11:24 | Yna cododd yr ysbryd fi, ac aeth Ysbryd Duw a fi yn ôl yn fy ngweledigaeth at y caethion yn Babilon. A dyna ddiwedd y weledigaeth. | |
Chapter 12
Ezek | WelBeibl | 12:2 | “Ddyn, mae'r bobl rwyt ti'n byw gyda nhw yn griw o rebeliaid. Mae ganddyn nhw lygaid, ond dŷn nhw'n gweld dim byd! Mae ganddyn nhw glustiau, ond dŷn nhw'n clywed dim byd! Criw o rebeliaid ydyn nhw! | |
Ezek | WelBeibl | 12:3 | “Felly dyma dw i eisiau i ti ei wneud: Pacia dy fag fel taset ti'n ffoadur yn dianc o'i gartref ac yn paratoi i fynd i ffwrdd i rywle arall. Gwna hyn yng ngolau dydd, fel bod pawb yn gallu gweld beth ti'n wneud. Falle y gwnân nhw ddeall eu bod nhw'n griw anufudd. | |
Ezek | WelBeibl | 12:4 | Gad iddyn nhw dy weld di yn pacio dy fag gyda'r pethau rwyt ti eu hangen. Yna gyda'r nos rwyt i fynd i ffwrdd o'u blaenau nhw, yn union fel byddai ffoadur yn gwneud. | |
Ezek | WelBeibl | 12:5 | Gad iddyn nhw dy weld di yn torri twll yn y wal, ac yn mynd â dy bac allan drwyddo. | |
Ezek | WelBeibl | 12:6 | Yna rho dy bac ar dy gefn, a cherdded i ffwrdd wrth iddi dywyllu. Gorchuddia dy wyneb, a phaid edrych yn ôl ar y tir. Dw i'n dy ddefnyddio di fel darlun i ddysgu gwers i bobl Israel.” | |
Ezek | WelBeibl | 12:7 | Felly dyma fi'n gwneud yn union beth ddwedodd Duw wrtho i. Yn ystod y dydd dyma fi'n pacio pethau i fynd i ffwrdd fel ffoadur, ac yna pan oedd hi'n nosi dyma fi'n torri twll drwy'r wal. Wedyn, o flaen llygaid pawb, dyma fi'n rhoi'r pecyn ar fy nghefn ac yn cerdded i ffwrdd wrth iddi dywyllu. | |
Ezek | WelBeibl | 12:9 | “Ddyn, roedd pobl Israel, y criw o rebeliaid yna, wedi gofyn i ti, ‘Beth wyt ti'n wneud?’ | |
Ezek | WelBeibl | 12:10 | Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae'r neges yma i Sedeceia, pennaeth pobl Jerwsalem, ac i holl bobl Israel sy'n dal yno.’ | |
Ezek | WelBeibl | 12:11 | Esbonia dy fod ti'n ddarlun i ddysgu gwers iddyn nhw. Bydd yr hyn wnest ti yn digwydd iddyn nhw. Byddan nhw'n ffoaduriaid, ac yn cael eu cymryd yn gaethion. | |
Ezek | WelBeibl | 12:12 | Bydd hyd yn oed Sedeceia, y pennaeth, yn codi ei bac fin nos, yn mynd allan drwy dwll yn y wal ac yn gorchuddio ei wyneb am na fydd yn cael gweld y tir byth eto. | |
Ezek | WelBeibl | 12:13 | Ond bydd e'n cael ei ddal. Bydda i'n taflu fy rhwyd drosto, ac yn mynd ag e'n gaeth i Babilon. Ond fydd byth yn gweld y wlad honno lle bydd e'n marw. | |
Ezek | WelBeibl | 12:14 | Bydd ei weision a'i forynion, a'i filwyr i gyd yn cael eu chwalu i bob cyfeiriad, a bydd y gelyn yn mynd ar eu holau gyda'i gleddyf. | |
Ezek | WelBeibl | 12:15 | Pan fydda i wedi'u gyrru nhw ar chwâl drwy'r gwledydd paganaidd i gyd, byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD! | |
Ezek | WelBeibl | 12:16 | Ond bydda i'n gadael i griw bach ohonyn nhw fyw. Fydd cleddyf y gelyn, y newyn, a'r haint ddim yn lladd y rheiny. Yn y gwledydd lle byddan nhw'n mynd dw i eisiau iddyn nhw gyfaddef yr holl bethau ffiaidd maen nhw wedi'u gwneud. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.” | |
Ezek | WelBeibl | 12:19 | Yna rhanna'r neges yma: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud am y bobl sy'n dal i fyw yn Israel a Jerwsalem: “Fyddan nhw ddim yn gallu bwyta ac yfed heb grynu mewn ofn a phoeni am eu bywydau. Mae'r wlad yn mynd i gael ei difetha, a byddan nhw'n colli popeth am iddyn nhw fod mor greulon. | |
Ezek | WelBeibl | 12:20 | Bydd y trefi a'r pentrefi lle mae pobl yn byw yn cael eu dinistrio, a bydd y tir yn cael ei adael yn ddiffaith. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”’” | |
Ezek | WelBeibl | 12:22 | “Ddyn, mae yna ddywediad yn Israel, ‘Mae amser yn mynd heibio, a dydy'r proffwydoliaethau ddim wedi dod yn wir.’ | |
Ezek | WelBeibl | 12:23 | Felly dywed di wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i roi stop ar y math yna o siarad. Fydd pobl Israel ddim yn dweud hynny eto!’ Dwed wrthyn nhw, ‘Yn fuan iawn bydd popeth dw i wedi'i ddangos yn dod yn wir! | |
Ezek | WelBeibl | 12:25 | Fi, yr ARGLWYDD fydd yn siarad, a bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir. Fydd dim mwy o oedi. Bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir yn eich cyfnod chi rebeliaid anufudd.’ Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.” | |
Ezek | WelBeibl | 12:27 | “Ddyn, wyt ti wedi clywed beth mae pobl Israel yn ei ddweud? ‘Sôn am rywbryd yn bell yn y dyfodol mae e. Fydd y broffwydoliaeth ddim yn dod yn wir am amser hir iawn.’ | |
Chapter 13
Ezek | WelBeibl | 13:2 | “Ddyn, dw i eisiau i ti broffwydo yn erbyn y proffwydi hynny o Israel sy'n cyhoeddi ffrwyth eu dychymyg eu hunain a'i alw'n ‛broffwydoliaeth‛. Dwed wrthyn nhw, | |
Ezek | WelBeibl | 13:3 | ‘Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: Gwae'r proffwydi yna sy'n dychmygu pethau a ddim yn gweld beth dw i'n ei ddangos sy'n digwydd go iawn! | |
Ezek | WelBeibl | 13:5 | Dŷn nhw ddim wedi mynd ati i drwsio'r bylchau yn y wal, er mwyn i bobl Israel allu sefyll yn gadarn ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu. | |
Ezek | WelBeibl | 13:6 | Dŷn nhw'n rhannu dim byd ond ffantasi a chelwydd! “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud,” medden nhw, ond wnaeth yr ARGLWYDD ddim eu hanfon nhw! Ac maen nhw'n disgwyl i'w geiriau ddod yn wir! | |
Ezek | WelBeibl | 13:7 | Ond ffantasi pur a chelwydd ydy honni, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud,” pan dw i ddim wedi dweud y fath beth. | |
Ezek | WelBeibl | 13:8 | “‘Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda chi, achos dych chi wedi bod yn siarad nonsens ac yn cyhoeddi celwydd. | |
Ezek | WelBeibl | 13:9 | Dw i'n mynd i daro'r proffwydi hynny sydd ond yn dychmygu pethau a dweud celwydd. Fyddan nhw ddim yn cael bod ar y cyngor sy'n arwain fy mhobl, na hyd yn oed yn cael eu cyfri'n rhan o bobl Israel, nac yn cael mynd i mewn i wlad Israel eto.’ Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 13:10 | “Ydyn, maen nhw wedi camarwain pobl. Maen nhw wedi dweud ‘Bydd popeth yn iawn!’ pan nad ydy pethau'n iawn o gwbl. Mae fel adeiladu wal sych sydd braidd yn simsan, a phobl yn meddwl y bydd peintio drosti yn ei gwneud hi'n saffach! | |
Ezek | WelBeibl | 13:13 | “‘Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n ddig, a dw i'n mynd i anfon gwynt stormus, glaw trwm, a chenllysg fydd yn achosi difrod ofnadwy. | |
Ezek | WelBeibl | 13:14 | Bydda i'n chwalu'r wal wnaethoch chi ei pheintio. Fydd dim ohoni'n sefyll. A phan fydd hi'n syrthio, byddwch chithau'n cael eich dinistrio gyda hi, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 13:15 | Dw i'n mynd i dywallt hynny o ddigofaint sydd gen i ar y wal, ac ar y rhai fuodd yn ei pheintio. Ac wedyn bydda i'n dweud, “Dyna ni, mae'r wal wedi mynd, a'r peintwyr hefyd – | |
Ezek | WelBeibl | 13:16 | sef y proffwydi yna yn Israel oedd yn proffwydo am Jerwsalem ac yn dweud ‘Bydd popeth yn iawn!’ pan nad oedd pethau'n iawn o gwbl.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.’ | |
Ezek | WelBeibl | 13:17 | “Ddyn, dw i eisiau i ti droi at y merched hynny sy'n proffwydo dim byd ond ffrwyth eu dychymyg eu hunain. Proffwyda yn eu herbyn nhw, | |
Ezek | WelBeibl | 13:18 | a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae'r merched yna sy'n gwnïo breichledau hud i'w gwisgo ar yr arddwrn, a sgarffiau hud i'w gwisgo ar y pen. Eu hunig fwriad ydy trapio pobl! Ydych chi'n meddwl y cewch chi drapio fy mhobl i ac wedyn llwyddo i ddianc eich hunain? | |
Ezek | WelBeibl | 13:19 | Dych chi wedi gwneud i bobl droi cefn arna i am lond dwrn o haidd ac ychydig dameidiau o fara. Drwy ddweud celwydd wrth fy mhobl, sy'n mwynhau gwrando ar gelwydd, dych chi wedi lladd pobl ddylai fod wedi cael byw, a chynnig bywyd i'r rhai ddylai farw! | |
Ezek | WelBeibl | 13:20 | “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Deallwch chi fy mod i'n erbyn y breichledau hud dych chi'n eu defnyddio i drapio pobl fel dal adar. Bydda i'n eu rhwygo nhw oddi ar eich breichiau chi, a gollwng y bobl dych chi'n ceisio'u dal, yn rhydd. | |
Ezek | WelBeibl | 13:21 | Bydda i'n tynnu'r sgarffiau hud oddi ar eich pennau chi, ac yn achub fy mhobl o'ch gafael chi. Dw i ddim yn mynd i adael i chi ddal gafael ynddyn nhw ddim mwy. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 13:22 | “‘Dych chi wedi lladd ysbryd pobl dda gyda'ch celwyddau (pobl fyddwn i byth eisiau gwneud drwg iddyn nhw). A dych chi wedi annog pobl ddrwg i ddal ati i wneud drwg, yn lle troi ac achub eu bywydau. | |
Chapter 14
Ezek | WelBeibl | 14:3 | “Ddyn, mae'r dynion yma wedi troi at eilunod. Maen nhw wedi rhoi sylw i bethau sy'n gwneud iddyn nhw bechu. Pam ddylwn i adael iddyn nhw ofyn unrhyw beth i mi? | |
Ezek | WelBeibl | 14:4 | Felly dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Os ydy unrhyw un yn Israel yn troi at eilunod, a rhoi sylw i bethau sy'n gwneud iddyn nhw bechu, ac wedyn yn dod at broffwyd i geisio arweiniad, bydda i, yr ARGLWYDD, yn rhoi iddyn nhw'r ateb maen nhw a'u heilunod yn ei haeddu! | |
Ezek | WelBeibl | 14:5 | Bydda i'n gwneud hyn i'w galw nhw i gyfri, am eu bod nhw wedi pellhau oddi wrtho i a mynd ar ôl eu heilunod i gyd.’ | |
Ezek | WelBeibl | 14:6 | “Felly dw i am i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Trowch yn ôl ata i! Dw i eisiau i chi droi cefn ar eich eilunod, a stopio gwneud y pethau ffiaidd dych chi wedi bod yn eu gwneud. | |
Ezek | WelBeibl | 14:7 | Os ydy unrhyw un yn Israel (hyd yn oed mewnfudwyr sy'n byw yn y wlad) yn troi cefn arna i, mynd ar ôl eilunod a rhoi sylw i bethau sy'n gwneud iddyn nhw bechu, ac wedyn yn mynd at broffwyd i geisio arweiniad, bydda i, yr ARGLWYDD, yn rhoi iddyn nhw'r ateb maen nhw'n ei haeddu! | |
Ezek | WelBeibl | 14:8 | Bydda i'n troi yn erbyn pobl felly, ac yn eu gwneud nhw'n destun sbort. Bydda i'n gwneud esiampl ohonyn nhw, ac yn eu torri nhw i ffwrdd o gymdeithas fy mhobl. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 14:9 | “‘A phan fydd proffwyd yn cael ei dwyllo i roi neges sydd ddim yn wir, bydda i, yr ARGLWYDD, yn gwneud ffŵl ohono. Bydda i'n ei daro a'i daflu allan o gymdeithas pobl Israel. | |
Ezek | WelBeibl | 14:10 | Bydd y ddau ohonyn nhw'n cael eu cosbi am eu pechod – y proffwyd, a'r un oedd wedi mynd ato i ofyn am arweiniad. | |
Ezek | WelBeibl | 14:11 | Wedyn fydd pobl Israel ddim yn crwydro oddi wrtho i, a llygru eu hunain drwy wrthryfela yn fy erbyn i. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 14:13 | “Ddyn, os ydy gwlad yn pechu yn fy erbyn i drwy fod yn anffyddlon, a finnau wedyn yn eu taro nhw drwy wneud bwyd yn brin, a pheri i newyn ladd pobl ac anifeiliaid, | |
Ezek | WelBeibl | 14:14 | hyd yn oed petai Noa, Daniel a Job yn byw yno, fyddai eu daioni nhw yn achub neb ond nhw eu hunain.” Dyna ydy neges y Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 14:15 | “Neu petawn i'n gadael i anifeiliaid gwyllt fynd drwy'r wlad yn lladd y plant i gyd, a bod neb yn gallu teithio drwy'r wlad am ei bod hi'n rhy beryglus. | |
Ezek | WelBeibl | 14:16 | Hyd yn oed petai'r tri dyn yna'n byw yno ar y pryd, fyddai neb ond nhw eu hunain yn cael eu hachub. Byddai'r wlad yn cael ei difetha'n llwyr, a fydden nhw ddim hyd yn oed yn gallu achub eu plant eu hunain,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 14:17 | “Neu petawn i'n gadael i fyddin ymosod ar y wlad, a dweud, ‘Mae cleddyf y gelyn i gael lladd pobl ac anifeiliaid drwy'r wlad i gyd!’ | |
Ezek | WelBeibl | 14:18 | Hyd yn oed petai'r tri dyn yna'n byw yno ar y pryd, fyddai neb ond nhw eu hunain yn cael eu hachub. Fydden nhw ddim hyd yn oed yn gallu achub eu plant eu hunain,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 14:19 | “Neu petawn i'n anfon afiechydon ofnadwy ac yn tywallt fy llid arnyn nhw, nes bod pobl ac anifeiliaid yn marw. | |
Ezek | WelBeibl | 14:20 | Hyd yn oed petai Noa, Daniel a Job yn byw yno ar y pryd, fyddai neb ond nhw eu hunain yn cael eu hachub. Fydden nhw ddim hyd yn oed yn gallu achub eu plant eu hunain,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 14:21 | “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd hi'n erchyll pan fydda i'n anfon y pedwar yma i farnu Jerwsalem – cleddyf, newyn, anifeiliaid gwyllt, ac afiechydon ofnadwy – i ladd pobl ac anifeiliaid. | |
Ezek | WelBeibl | 14:22 | Ond creda neu beidio, bydd yna rai yn llwyddo i ddod allan yn fyw! Byddan nhw'n dod yma i Babilon atat ti. Pan fyddi di'n gweld sut maen nhw'n ymddwyn, byddi'n teimlo'n well am beth fydd wedi digwydd i Jerwsalem, a'r cwbl wnes i iddi. | |
Chapter 15
Ezek | WelBeibl | 15:2 | “Ddyn, o'r holl wahanol fathau o goed sydd i'w cael, ydy pren y winwydden yn dda i rywbeth? | |
Ezek | WelBeibl | 15:3 | Wyt ti'n gallu gwneud rhywbeth defnyddiol gydag e? Ydy o'n ddigon cryf i wneud peg i hongian pethau arno? | |
Ezek | WelBeibl | 15:4 | Na, y gwir ydy, dydy e'n dda i ddim byd ond i'w losgi. Ac mae'n llosgi'n rhy gyflym beth bynnag! Fydd yr hyn sydd ar ôl ohono wedyn yn dda i rywbeth? | |
Ezek | WelBeibl | 15:5 | Na. Os oedd e ddim yn ddefnyddiol cyn ei losgi, sut all e fod o ddefnydd i unrhyw un pan mae e wedi'i losgi'n ulw? | |
Ezek | WelBeibl | 15:6 | “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae pobl Jerwsalem fel pren y winwydden. Dŷn nhw'n dda i ddim ond i gael eu llosgi! | |
Ezek | WelBeibl | 15:7 | Dw i wedi troi yn eu herbyn nhw. Falle eu bod nhw wedi llwyddo i ddianc o'r tân unwaith, ond maen nhw'n dal yn mynd i gael eu llosgi! Pan fydd hyn yn digwydd, byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD! | |
Chapter 16
Ezek | WelBeibl | 16:2 | “Ddyn, dw i eisiau i ti wneud i Jerwsalem wynebu'r ffaith ei bod wedi gwneud pethau ffiaidd. | |
Ezek | WelBeibl | 16:3 | Dwed fel hyn, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth Jerwsalem: I'r Canaaneaid paganaidd rwyt ti'n perthyn go iawn! Ti wedi dy eni a dy fagu gyda nhw! Roedd dy dad yn Amoriad a dy fam yn Hethiad. | |
Ezek | WelBeibl | 16:4 | Pan gest ti dy eni gafodd dy linyn bogail mo'i dorri. Wnaeth neb dy olchi, rhwbio halen ar dy gorff, na lapio cadachau geni amdanat ti. | |
Ezek | WelBeibl | 16:5 | Doedd neb yn poeni amdanat ti; neb yn teimlo trueni drosot ti. Cest dy daflu allan i farw. Doedd gan neb dy eisiau di. | |
Ezek | WelBeibl | 16:6 | “‘Yna dyma fi'n dod heibio ac yn dy weld di'n gorwedd ar lawr yn cicio. Ac wrth i ti orwedd yna yn dy waed, dyma fi'n dweud, “Rhaid i ti fyw!” | |
Ezek | WelBeibl | 16:7 | Dyma fi'n gwneud i ti dyfu a llwyddo, fel cnwd mewn cae. Ac yn wir, dyma ti'n tyfu ac yn aeddfedu yn wraig ifanc hardd gyda bronnau llawn a gwallt hir hyfryd. Ond roeddet ti'n dal yn gwbl noeth. | |
Ezek | WelBeibl | 16:8 | “‘Yna dyma fi'n dod heibio eto a gweld dy fod yn ddigon hen i gael rhyw. Dyma fi'n estyn ymyl fy mantell dros dy gorff noeth di. Dyma fi'n addo bod yn ffyddlon i ti, ac yn dy briodi di. Fy ngwraig i oeddet ti,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 16:9 | “‘Dyma fi'n dy olchi di â dŵr, golchi'r gwaed i ffwrdd, a rhwbio olew persawrus drosot ti. | |
Ezek | WelBeibl | 16:10 | Rhoddais fantell hardd wedi'i brodio a sandalau lledr i ti eu gwisgo; a ddillad costus o liain main drud a sidan. | |
Ezek | WelBeibl | 16:11 | Rhoddais dlysau a gemwaith i ti – breichledau ar dy fraich a chadwyn am dy wddf, | |
Ezek | WelBeibl | 16:13 | Roeddet wedi dy harddu gydag arian ac aur, yn gwisgo dillad o liain main drud, sidan a defnydd wedi'i frodio'n hardd. Roeddet ti'n bwyta'r bwyd gorau, wedi'i baratoi gyda blawd mân, mêl ac olew. Roeddet ti'n hynod o hardd, ac yn edrych fel brenhines! | |
Ezek | WelBeibl | 16:14 | Roeddet ti'n enwog drwy'r byd am dy harddwch. Roeddet ti'n berffaith, am fy mod i wedi rhoi popeth i dy wneud di mor hardd,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 16:15 | “‘Ond aeth y cwbl i dy ben di. Dyma ti'n defnyddio dy enwogrwydd i ddechrau cysgu o gwmpas. Roeddet ti fel putain yn cynnig dy gorff i bwy bynnag oedd yn pasio heibio. Gallai unrhyw un dy gael di. | |
Ezek | WelBeibl | 16:16 | Roeddet ti'n defnyddio dy ddillad hardd i addurno allorau paganaidd, ac yn gorwedd yno i buteinio! Mae'r peth yn anhygoel! | |
Ezek | WelBeibl | 16:17 | A dyma ti'n cymryd dy dlysau hardd o aur ac arian i wneud delwau gwrywaidd anweddus a'u haddoli nhw yn fy lle i. | |
Ezek | WelBeibl | 16:18 | Wedyn cymryd y defnydd wedi'i frodio i'w haddurno nhw, a chyflwyno fy olew a'm harogldarth i iddyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 16:19 | Roeddet ti hyd yn oed yn offrymu iddyn nhw y bwyd roeddwn i wedi'i roi i ti – bwyd hyfryd oedd wedi'i baratoi gyda blawd mân, mêl ac olew. Ie, dyna'n union ddigwyddodd!’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 16:20 | “‘Roeddet ti hyd yn oed yn aberthu dy blant, yn fechgyn a merched, fel bwyd i dy eilun-dduwiau! Oedd dy buteindra ddim yn ddigon? | |
Ezek | WelBeibl | 16:21 | Oedd rhaid i ti ladd fy mhlant i hefyd, a'u haberthu nhw i eilun-dduwiau paganaidd? | |
Ezek | WelBeibl | 16:22 | Ac yng nghanol y puteinio a'r holl bethau ffiaidd yma roeddet ti'n eu gwneud, wnest ti ddim meddwl am funud beth oedd wedi digwydd pan oeddet ti'n fabi bach newydd dy eni, yn gorwedd yn dy waed yn noeth ac yn cicio. | |
Ezek | WelBeibl | 16:25 | Ti'n codi dy stondin a chywilyddio dy hun drwy ledu dy goesau i bwy bynnag oedd yn pasio heibio! | |
Ezek | WelBeibl | 16:26 | Roeddet ti'n puteinio gyda dy gymdogion yr Eifftiaid, oedd bob amser yn barod i gael rhyw. Roeddet ti'n mynd o ddrwg i waeth ac yn fy ngwylltio i'n lân. | |
Ezek | WelBeibl | 16:27 | Felly dyma fi'n dy daro di'n galed, ac yn cymryd tir oddi arnat ti. Dyma fi'n gadael i dy elynion, y Philistiaid, dy reibio di. Roedd y ffordd roeddet ti'n ymddwyn yn ddigon i godi embaras arnyn nhw hyd yn oed! | |
Ezek | WelBeibl | 16:28 | “‘Wedyn dyma ti'n rhoi dy hun i'r Asyriaid! Doeddet ti byth yn fodlon; byth wedi cael digon. Roedd gen ti eisiau mwy o hyd! | |
Ezek | WelBeibl | 16:29 | A dyma roi dy hun i wlad y masnachwyr, sef Babilon. Ond doedden nhw ddim yn dy fodloni di chwaith. | |
Ezek | WelBeibl | 16:30 | “‘Mae'n dangos mor wan wyt ti,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. ‘Doedd gen ti ddim cywilydd o gwbl, fel putain | |
Ezek | WelBeibl | 16:31 | yn codi stondin a phabell i ti dy hun ar bob stryd. Ond yn wahanol i buteiniaid eraill, doeddet ti ddim yn derbyn unrhyw dâl! | |
Ezek | WelBeibl | 16:32 | “‘Gwraig anffyddlon wyt ti! Mae'n well gen ti roi dy hun i ddynion eraill nag i dy ŵr dy hun! | |
Ezek | WelBeibl | 16:33 | Mae puteiniaid go iawn yn codi arian am eu gwasanaeth, ond dim ti! Na, rwyt ti'n rhoi anrhegion i dy gariadon ac yn cynnig tâl er mwyn eu perswadio nhw i ddod o bob cyfeiriad i dy gymryd di! | |
Ezek | WelBeibl | 16:34 | Ti ddim byd tebyg i'r puteiniaid sy'n cael eu talu am ryw. Does neb wir dy eisiau di! Ti ddim yn cael dy dalu; rhaid i ti dalu iddyn nhw! Mae'r peth yn hollol groes i'r arfer! | |
Ezek | WelBeibl | 16:36 | Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Rwyt ti wedi tywallt dy haelioni rhywiol yn ddi-stop, a thynnu dy ddillad i ddangos popeth i dy gariadon. Ti wedi mynd ar ôl eilun-dduwiau ffiaidd, ac wedi lladd dy blant a'u haberthu iddyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 16:37 | Felly gwylia di beth dw i'n mynd i'w wneud: Dw i'n mynd i gasglu dy gariadon di at ei gilydd – y rhai roeddet ti'n eu caru a'r rhai roeddet ti'n eu casáu. Dw i'n mynd i'w casglu nhw o dy gwmpas di, ac yna dy stripio di'n noeth o'u blaenau nhw, a byddan nhw'n gweld dy rannau preifat. | |
Ezek | WelBeibl | 16:38 | Bydda i'n cyhoeddi'r ddedfryd (sef beth mae gwragedd sydd wedi godinebu neu lofruddio yn ei haeddu), yn tywallt fy nigofaint ac yn gweinyddu'r gosb eithaf. | |
Ezek | WelBeibl | 16:39 | Bydda i'n gadael i dy gariadon ddinistrio dy allorau di, a bwrw i lawr dy stondin. Byddan nhw'n rhwygo dy ddillad oddi arnat, yn dwyn y gemwaith hardd sydd gen ti, ac yn dy adael di'n noeth. | |
Ezek | WelBeibl | 16:40 | Byddan nhw'n galw'r mob i ymosod arnat ti drwy daflu cerrig, dy hacio di'n ddarnau gyda chleddyfau | |
Ezek | WelBeibl | 16:41 | a llosgi dy dai. Bydd llawer o wragedd eraill yn gwylio hyn i gyd yn digwydd i ti. Dw i'n mynd i roi stop ar dy buteinio di! Fyddi di byth yn talu rhywun i ddod atat ti eto. | |
Ezek | WelBeibl | 16:42 | “‘Ar ôl gwneud hynny bydda i'n gallu ymatal, a gadael llonydd i ti. Bydda i'n gallu bod yn dawel. Fydd dim rhaid gwylltio ddim mwy. | |
Ezek | WelBeibl | 16:43 | “‘Am dy fod wedi anghofio'r dyddiau cynnar hynny, ac wedi fy ngwylltio i'n lân drwy ymddwyn fel gwnest ti, dw i'n mynd i dalu yn ôl i ti,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “‘Ti wedi ymddwyn yn hollol ffiaidd, a hynny ar ben yr holl bethau anweddus eraill ti wedi'u gwneud! | |
Ezek | WelBeibl | 16:44 | Y dywediad mae pobl yn ei ddefnyddio wrth sôn amdanat ti, ydy: “Fel y fam y bydd y ferch.” | |
Ezek | WelBeibl | 16:45 | Ti'n union fel dy fam! Roedd hithau'n casáu ei gŵr a'i phlant. Ac roedd dy chwiorydd yr un fath. Hethiad oedd eich mam chi, ac Amoriad oedd eich tad! | |
Ezek | WelBeibl | 16:46 | Dy chwaer fawr di oedd Samaria, yn byw i'r gogledd gyda'i merched. A dy chwaer fach di oedd Sodom, yn byw i'r de gyda'i merched hithau. | |
Ezek | WelBeibl | 16:47 | Ti wedi ymddwyn yr un fath â nhw, ac wedi copïo'u harferion ffiaidd nhw. Yn wir, mewn byr o dro rwyt ti wedi mynd lot gwaeth na nhw! | |
Ezek | WelBeibl | 16:48 | “‘Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, ‘doedd dy chwaer Sodom a'i merched ddim yn ymddwyn mor ddrwg ag wyt ti a dy ferched wedi gwneud! | |
Ezek | WelBeibl | 16:49 | Drwg dy chwaer Sodom oedd ei bod hi'n mwynhau byw'n foethus, yn gorfwyta, yn gwbl ddi-hid ac yn gwneud dim i helpu pobl dlawd oedd mewn angen. | |
Ezek | WelBeibl | 16:50 | Roedden nhw'n snobyddlyd, ac yn gwneud peth cwbl ffiaidd. Felly dyma fi'n cael gwared â nhw, fel rwyt ti'n gwybod yn iawn. | |
Ezek | WelBeibl | 16:51 | Ac wedyn Samaria – wnaeth hi ddim hanner y drwg rwyt ti wedi'i wneud! Yn wir, mae dy chwiorydd yn edrych yn reit ddiniwed o'u cymharu â ti! | |
Ezek | WelBeibl | 16:52 | Dylet ti fod â chywilydd ohonot ti dy hun. Mae dy ymddygiad di wedi bod yn erchyll; rwyt ti wedi gwneud iddyn nhw edrych yn dda! Dylai'r fath beth godi cywilydd arnat ti! | |
Ezek | WelBeibl | 16:53 | “‘Ryw ddydd dw i'n mynd i adfer eu sefyllfa nhw, Sodom a Samaria. A bydda i'n adfer dy sefyllfa dithau hefyd, | |
Ezek | WelBeibl | 16:54 | i ti deimlo cywilydd go iawn am beth wnest ti, yn gwneud iddyn nhw deimlo'n eitha da! | |
Ezek | WelBeibl | 16:55 | Bydd dy chwiorydd, Sodom a Samaria a'u pobl, yn cael eu hadfer i'w safle cynt. A thithau yr un fath. | |
Ezek | WelBeibl | 16:57 | cyn i dy ddrygioni di ddod i'r golwg. Bellach ti dy hun ydy'r testun sbort, gan bobl Edom a'i chymdogion y Philistiaid a phawb arall o dy gwmpas di. | |
Ezek | WelBeibl | 16:58 | Rhaid i ti dderbyn y canlyniadau am dy ymddygiad anweddus a'r holl bethau ffiaidd ti wedi'u gwneud, meddai'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 16:59 | “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ydw i'n mynd i ddelio gyda ti fel rwyt ti'n haeddu am gymryd dy lw yn ysgafn a thorri'r ymrwymiad oedd rhyngon ni? | |
Ezek | WelBeibl | 16:60 | Na, dw i'n cofio'r ymrwymiad wnes i gyda ti pan oeddet ti'n ifanc, a bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda ti fydd yn para am byth. | |
Ezek | WelBeibl | 16:61 | Wedyn byddi di'n cofio sut wnest ti ymddwyn, ac yn teimlo cywilydd mawr pan fyddi di'n derbyn dy ddwy chwaer yn ôl, yr hynaf a'r ifancaf. Dw i'n eu rhoi nhw i ti fel merched, er bod yr ymrwymiad wnes i ddim yn rhoi rheidrwydd arna i i wneud hynny. | |
Ezek | WelBeibl | 16:62 | Dyma'r ymrwymiad dw i'n ei wneud gyda ti, a byddi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Chapter 17
Ezek | WelBeibl | 17:3 | Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Eryr mawr a'i adenydd enfawr a'i blu hir ar eu blaenau. Daeth eryr a'i wisg amryliw draw i Libanus. Pigo coron y goeden gedrwydd | |
Ezek | WelBeibl | 17:4 | a thorri ei brigyn uchaf. Ei gario i ffwrdd i wlad masnachwyr, a'i blannu yn ninas y farchnad. | |
Ezek | WelBeibl | 17:5 | Cymerodd un o hadau'r wlad a'i blannu mewn pridd da, yn sbrigyn wedi'i osod ar lan y dŵr fel coeden helygen. | |
Ezek | WelBeibl | 17:6 | Blagurodd, a throi yn winwydden yn tyfu a lledu'n isel. Roedd ei gwreiddiau oddi tanodd a'i changhennau'n ymestyn at yr eryr. Tyfodd ei changhennau a daeth dail ar ei brigau. | |
Ezek | WelBeibl | 17:7 | Ond roedd eryr mawr arall, gydag adenydd enfawr a thrwch o blu hardd. A dyma'r winwydden yn troi ei gwreiddiau at hwnnw, ac yn ymestyn ei changhennau ato i gael ei dyfrio ganddo. | |
Ezek | WelBeibl | 17:8 | Roedd wedi'i phlannu mewn pridd da ar lan digonedd o ddŵr, i'w changhennau ledu ac i ffrwyth dyfu arni, yn winwydden hardd.’ | |
Ezek | WelBeibl | 17:9 | Ond dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Fydd hi'n llwyddo? Na – bydd yr eryr yn ei chodi o'r gwraidd, yn tynnu ei ffrwyth oddi arni a'i gadael i bydru. Bydd ei dail ir yn gwywo. Fydd dim angen byddin fawr gref i dynnu ei gwreiddiau o'r pridd. | |
Ezek | WelBeibl | 17:10 | Ar ôl ei thrawsblannu, fydd hi'n llwyddo? Na – bydd gwynt poeth y dwyrain yn chwythu a bydd hi'n crino'n llwyr. Bydd hi'n gwywo yn y tir lle tyfodd!’” | |
Ezek | WelBeibl | 17:12 | “Dwed wrth rebeliaid anufudd Israel: ‘Does gynnoch chi ddim syniad am beth dw i'n sôn, nac oes?’ Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma'r ystyr. Daeth brenin Babilon i Jerwsalem a chymryd brenin Jwda a'i swyddogion yn garcharorion i Babilon. | |
Ezek | WelBeibl | 17:13 | Wedyn, dyma frenin Babilon yn gwneud cytundeb gydag un o deulu brenhinol Jwda, a'i gael i addo ar lw y byddai'n ufudd iddo. A gwnaeth yr un peth gyda rhai o bobl bwysig y wlad. | |
Ezek | WelBeibl | 17:14 | Roedd eisiau cadw'r wlad yn wan, a gwneud yn siŵr na fyddai hi'n gwrthryfela yn ei erbyn. Os oedd hi am gadw ei hunaniaeth, byddai'n rhaid iddi gadw amodau'r cytundeb. | |
Ezek | WelBeibl | 17:15 | Ond dyma'r un wnaeth y cytundeb yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon drwy anfon ei lysgenhadon i'r Aifft i ofyn am geffylau rhyfel a byddin fawr. Fydd e'n llwyddo? Ydy e'n mynd i allu torri'r cytundeb ac osgoi cael ei gosbi? | |
Ezek | WelBeibl | 17:16 | Na, bydd e'n cael ei ladd. Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘bydd e'n marw yn Babilon, gwlad y brenin wnaeth y cytundeb gydag e'n y lle cyntaf a gadael iddo lywodraethu. | |
Ezek | WelBeibl | 17:17 | Fydd y Pharo gyda'i fyddin fawr a'i holl rym milwrol ddim help o gwbl pan fydd Babilon yn ymosod ar Jerwsalem eto ac yn codi rampiau a thyrau gwarchae yn ei herbyn. Bydd lot fawr o bobl yn cael eu lladd. | |
Ezek | WelBeibl | 17:18 | Roedd e wedi gwneud cytundeb ar lw ac yna ei dorri; addo bod yn ufudd ac yna torri ei air. Gwylia di, fydd e ddim yn dianc!’ | |
Ezek | WelBeibl | 17:19 | “Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud: ‘Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, dw i'n mynd i'w gosbi e am dorri ei ymrwymiad i mi a'r cytundeb wnaeth e o mlaen i. | |
Ezek | WelBeibl | 17:20 | Bydd e'n cael ei ddal. Bydda i'n taflu fy rhwyd drosto a mynd ag e'n gaeth i Babilon, a bydda i'n ei farnu yno am iddo fy mradychu i. | |
Ezek | WelBeibl | 17:21 | Bydd ei filwyr gorau'n cael eu lladd yn y rhyfel, a'r gweddill yn cael eu gwasgaru i bob cyfeiriad. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n dweud beth sydd i ddod.’ | |
Ezek | WelBeibl | 17:22 | “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i gymryd sbrigyn o ben uchaf y goeden gedrwydd; bydda i'n ei bigo o goron y goeden, a'i blannu ar ben mynydd uchel. | |
Ezek | WelBeibl | 17:23 | Bydda i'n ei blannu ar fynydd uchaf Israel. Bydd yn tyfu'n goeden gedrwydd hardd ffrwythlon, a bydd adar o bob math yn nythu ynddi ac yn cysgodi dan ei changhennau. | |
Chapter 18
Ezek | WelBeibl | 18:2 | “Beth ydy'r dywediad yna dych chi'n ei ddefnyddio o hyd am wlad Israel, ‘Mae'r rhieni wedi bwyta grawnwin surion, ond y plant sy'n diodde'r blas drwg.’? | |
Ezek | WelBeibl | 18:3 | Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,” meddai'r ARGLWYDD, “fydd y dywediad yma ddim i'w glywed yn Israel eto. | |
Ezek | WelBeibl | 18:4 | Mae pob unigolyn yn atebol i mi – y rhieni a'r plant fel ei gilydd. Mae pob person yn marw am ei bechod ei hun. | |
Ezek | WelBeibl | 18:5 | “Meddyliwch am rywun sy'n gwneud beth sy'n iawn, ac yn ymddwyn yn gyfiawn ac yn deg. | |
Ezek | WelBeibl | 18:6 | Dydy e ddim yn mynd at allorau paganaidd ar y mynyddoedd i fwyta o'r aberthau, nac yn addoli eilun-dduwiau Israel. Dydy e ddim wedi cysgu gyda gwraig rhywun arall, nac yn cael rhyw gyda gwraig pan mae'r misglwyf arni. | |
Ezek | WelBeibl | 18:7 | Dydy e'n cam-drin neb. Mae'n talu'n ôl beth bynnag gafodd ei roi iddo'n ernes. Dydy e ddim yn dwyn oddi ar bobl eraill, ond yn rhannu ei fwyd gyda'r newynog, a rhoi dillad i'r noeth. | |
Ezek | WelBeibl | 18:8 | Dydy e ddim yn cymryd mantais o bobl drwy godi llog ar fenthyciad. Mae'n osgoi gwneud unrhyw beth sy'n anghyfiawn, ac mae bob amser yn onest ac yn deg wrth drin pobl eraill. | |
Ezek | WelBeibl | 18:9 | Mae e'n gwneud beth dw i'n ddweud, ac yn cadw fy rheolau i. Dyna beth ydy byw bywyd da! Bydd person felly yn sicr o gael byw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 18:10 | “Cymrwch wedyn fod mab y dyn yna'n troi allan i fod yn lleidr ac yn llofrudd. Mae'n gwneud y pethau drwg yma i gyd | |
Ezek | WelBeibl | 18:11 | (pethau wnaeth ei dad ddim un ohonyn nhw): Mae'n mynd at allorau paganaidd ar y mynyddoedd ac yn bwyta o'r aberthau. Mae'n cysgu gyda gwraig rhywun arall. | |
Ezek | WelBeibl | 18:12 | Mae'n cam-drin pobl dlawd sydd mewn angen ac yn dwyn. Dydy e ddim yn talu'n ôl beth gafodd ei roi iddo'n ernes. Mae'n addoli eilun-dduwiau, ac yn gwneud pethau cwbl ffiaidd. | |
Ezek | WelBeibl | 18:13 | Ac mae'n cymryd mantais o bobl drwy godi llog uchel ar fenthyciad. Fydd e'n cael byw? Na, dim o gwbl! Rhaid iddo farw am wneud pethau mor ffiaidd. Arno fe fydd y bai. | |
Ezek | WelBeibl | 18:14 | “Wedyn cymrwch fod hwnnw'n cael mab, sy'n gweld yr holl ddrwg mae ei dad yn ei wneud ac yn penderfynu peidio dilyn ei esiampl. | |
Ezek | WelBeibl | 18:15 | Dydy e ddim yn mynd at allorau paganaidd ar y mynyddoedd i fwyta o'r aberthau, nac yn addoli eilun-dduwiau Israel. Dydy e ddim wedi cysgu gyda gwraig rhywun arall. | |
Ezek | WelBeibl | 18:16 | Dydy e'n cam-drin neb. Mae'n talu'n ôl beth bynnag gafodd ei roi iddo'n ernes. Dydy e ddim yn dwyn oddi ar bobl eraill, ond yn rhannu ei fwyd gyda'r newynog, a rhoi dillad i'r noeth. | |
Ezek | WelBeibl | 18:17 | Mae'n osgoi gwneud unrhyw beth sy'n anghyfiawn. Dydy e ddim yn cymryd mantais o bobl drwy godi llog uchel ar fenthyciad. Mae'n cadw fy rheolau i ac yn gwneud beth dw i'n ddweud. “Fydd y dyn yma ddim yn cael ei gosbi am beth wnaeth ei dad! Bydd e'n cael byw. | |
Ezek | WelBeibl | 18:18 | Ond bydd ei dad, oedd yn gorthrymu pobl a chymryd mantais annheg ohonyn nhw, yn dwyn eiddo'i gydwladwyr a gwneud pob math o bethau drwg eraill, yn cael ei gosbi. Bydd rhaid iddo farw. | |
Ezek | WelBeibl | 18:19 | ‘Beth?’ meddech chi, ‘Ydy'r mab ddim yn dioddef o gwbl am yr holl ddrwg wnaeth ei dad?’ Na, pan mae'r mab yn gwneud beth sy'n iawn ac yn deg, yn cadw fy rheolau a gwneud beth dw i'n ddweud, bydd e'n cael byw. | |
Ezek | WelBeibl | 18:20 | Yr un sy'n pechu fydd yn marw. Fydd mab ddim yn dioddef am y drwg wnaeth ei dad, a fydd tad ddim yn dioddef am ddrygioni ei fab. Bydd y bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael eu gwobr, a bydd pobl ddrwg yn cael eu cosbi am beth wnaethon nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 18:21 | “Ond os ydy rhywun sydd wedi gwneud pethau drwg yn troi cefn ar y ffordd yna o fyw ac yn dechrau gwneud beth sy'n iawn ac yn deg a gwrando arna i, bydd e'n cael byw. Fydd dim rhaid iddo farw. | |
Ezek | WelBeibl | 18:22 | Fydda i ddim yn cadw rhestr o'i holl bechodau e. Am ei fod e wedi dechrau gwneud beth sy'n iawn bydd e'n cael byw. | |
Ezek | WelBeibl | 18:23 | “Ydw i'n mwynhau gweld pobl ddrwg yn marw?” meddai'r ARGLWYDD. “Wrth gwrs ddim! Byddai'n well gen i eu gweld nhw'n troi cefn ar yr holl ddrwg a chael byw. | |
Ezek | WelBeibl | 18:24 | Ond wedyn, ar y llaw arall, os bydd person da yn stopio gwneud beth sy'n iawn ac yn dechrau gwneud yr holl bethau ffiaidd mae pobl ddrwg yn eu gwneud, fydd e'n cael byw? Na fydd. Bydda i'n anghofio'r holl bethau da wnaeth e. Am ei fod e wedi bod yn anffyddlon i mi a phechu yn fy erbyn i, bydd rhaid iddo farw. | |
Ezek | WelBeibl | 18:25 | “‘Ond dydy hynny ddim yn iawn!’ meddech chi. “Gwrandwch, bobl Israel: Ydych chi'n dweud fy mod i ddim yn gwneud y peth iawn? Onid chi sydd ddim yn gwneud y peth iawn? | |
Ezek | WelBeibl | 18:26 | Pan mae pobl dda yn stopio gwneud beth sy'n iawn, ac yn dechrau byw bywyd drwg, bydd rhaid iddyn nhw farw. Byddan nhw'n marw o achos y pethau drwg maen nhw wedi'u gwneud. | |
Ezek | WelBeibl | 18:27 | A phan mae person drwg yn troi cefn ar y ffordd yna o fyw, ac yn dechrau gwneud beth sy'n iawn ac yn deg, bydd e'n achub ei fywyd. | |
Ezek | WelBeibl | 18:28 | Am ei fod wedi meddwl am y peth a phenderfynu stopio ymddwyn felly bydd e'n cael byw. Fydd dim rhaid iddo farw. | |
Ezek | WelBeibl | 18:29 | “Ond mae pobl Israel yn dal i gwyno, ‘Dydy hynny ddim yn iawn!’ Ai fi ydy'r un sydd ddim yn gwneud beth sy'n iawn, bobl Israel? Onid chi ydy'r rhai sydd ddim yn gwneud y peth iawn? | |
Ezek | WelBeibl | 18:30 | “Felly, bobl Israel, bydda i'n barnu pob un ohonoch chi ar sail sut ydych chi wedi byw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Trowch gefn ar eich gwrthryfel, a fydd eich pechod ddim yn eich dinistrio chi. | |
Ezek | WelBeibl | 18:31 | Stopiwch dynnu'n groes i mi, a chewch galon newydd ac ysbryd newydd! Pam ddylech chi ddewis marw, bobl Israel? | |
Chapter 19
Ezek | WelBeibl | 19:2 | Dwed fel hyn: ‘Sut un oedd dy fam di? Onid llewes gyda'r llewod, yn gorwedd gyda'r llewod ifanc ac yn magu ei chenawon? | |
Ezek | WelBeibl | 19:3 | Magodd un o'i chenawon, a thyfodd i fod yn llew ifanc cryf. Dysgodd sut i hela a rhwygo'i ysglyfaeth; roedd yn bwyta cnawd dynol. | |
Ezek | WelBeibl | 19:4 | Clywodd y gwledydd o'i gwmpas amdano, a chafodd ei ddal yn eu trap. Dyma nhw'n ei gymryd gyda bachau yn gaeth i'r Aifft. | |
Ezek | WelBeibl | 19:5 | Pan welodd y fam ei fod wedi mynd, a bod ei gobaith wedi chwalu, cymerodd un arall o'i chenawon, a'i fagu i fod yn llew ifanc cryf. | |
Ezek | WelBeibl | 19:6 | Cerddodd yng nghanol y llewod, wedi tyfu i fod yn llew ifanc cryf. Dysgodd sut i hela a rhwygo'i ysglyfaeth; roedd yn bwyta cnawd dynol. | |
Ezek | WelBeibl | 19:7 | Cymerodd y gweddwon iddo'i hun a dinistrio'r trefi'n llwyr. Pan oedd yn rhuo, roedd yn codi ofn ar bawb drwy'r wlad. | |
Ezek | WelBeibl | 19:8 | Daeth byddinoedd y gwledydd o'i gwmpas i ymosod arno. Dyma nhw'n taflu eu rhwyd drosto a'i ddal yn eu trap; | |
Ezek | WelBeibl | 19:9 | rhoi coler a bachyn am ei wddf, a mynd ag e at frenin Babilon. Cafodd ei ddal yn gaeth yn y carchar fel bod ei ruo i'w glywed ddim mwy ar fynyddoedd Israel. | |
Ezek | WelBeibl | 19:10 | Roedd dy fam fel gwinwydden gyda brigau hir wedi'i phlannu ar lan y dŵr. Roedd ei changhennau yn llawn ffrwyth am fod digon o ddŵr iddi. | |
Ezek | WelBeibl | 19:11 | Tyfodd ei changhennau'n ddigon cryf i wneud teyrnwialen brenin ohonyn nhw. Tyfodd yn uchel at y cymylau; roedd pawb yn ei gweld am ei bod mor dal ac mor ganghennog. | |
Ezek | WelBeibl | 19:12 | Ond cafodd ei thynnu o'r gwraidd a'i thaflu ar lawr. Chwythodd gwynt poeth y dwyrain a chrino ei changhennau ffrwythlon. Llosgodd yn y tân. | |
Chapter 20
Ezek | WelBeibl | 20:1 | Roedd hi'r seithfed flwyddyn ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y degfed diwrnod o'r pumed mis. A dyma rai o arweinwyr Israel yn dod ac yn eistedd o mlaen i a gofyn am arweiniad gan yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 20:3 | “Ddyn, dywed wrth arweinwyr Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dych chi eisiau i mi roi arweiniad i chi, ydych chi? Wel, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, gewch chi ddim arweiniad gen i, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.’ | |
Ezek | WelBeibl | 20:4 | “Ddyn, wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn? Wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn, a'u cael nhw i wynebu'r pethau ffiaidd wnaeth eu hynafiaid? | |
Ezek | WelBeibl | 20:5 | Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan ddewisais Israel a chyflwyno fy hun i ddisgynyddion Jacob, dyma fi'n tyngu llw ac yn addo iddyn nhw, “Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi.” | |
Ezek | WelBeibl | 20:6 | Dyma fi'n addo eu rhyddhau nhw o wlad yr Aifft, a'u harwain nhw i wlad roeddwn i wedi'i dewis yn arbennig ar eu cyfer. Tir lle roedd llaeth a mêl yn llifo! Y wlad harddaf o'r cwbl i gyd! | |
Ezek | WelBeibl | 20:7 | Dwedais, “Rhaid i chi gael gwared â'r eilun-dduwiau ffiaidd dych chi'n eu haddoli. Stopiwch lygru'ch hunain gydag eilunod yr Aifft. Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi.” | |
Ezek | WelBeibl | 20:8 | Ond roedden nhw'n tynnu'n groes i mi, ac yn gwrthod gwrando. Wnaethon nhw ddim cael gwared â'i heilun-dduwiau ffiaidd, na throi cefn ar eilunod yr Aifft. Dyma fi'n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw, a dangos faint roeddwn i wedi gwylltio pan oedden nhw'n dal yn yr Aifft, | |
Ezek | WelBeibl | 20:9 | ond wnes i ddim. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl o'u cwmpas nhw. Rôn i am ddangos sut un oeddwn i drwy ddod â nhw allan o'r Aifft. | |
Ezek | WelBeibl | 20:11 | Rhois reolau iddyn nhw, a dweud sut roeddwn i eisiau iddyn nhw fyw. Byddai'r rhai fyddai'n gwneud y pethau yma yn cael byw go iawn. | |
Ezek | WelBeibl | 20:12 | Dyma fi'n rhoi ‛Sabothau‛ iddyn nhw hefyd, i'w hatgoffa nhw o'r berthynas rhyngon ni. Rôn i eisiau iddyn nhw ddeall fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi'u gwneud nhw'n wahanol, yn bobl sbesial i mi. | |
Ezek | WelBeibl | 20:13 | “‘Ond dyma bobl Israel yn gwrthryfela yn yr anialwch. Wnaethon nhw ddim cadw fy rheolau na byw fel rôn i eisiau. (Byddai'r rhai sy'n gwneud y pethau yna wedi cael byw go iawn!) A dyma nhw'n diystyru'r dyddiau Saboth yn llwyr hefyd. Rôn i'n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw yn y fan a'r lle; eu dinistrio nhw'n llwyr yn yr anialwch! | |
Ezek | WelBeibl | 20:14 | Ond wnes i ddim. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl oedd wedi fy ngweld i'n dod â nhw allan o'r Aifft. | |
Ezek | WelBeibl | 20:15 | Ond dyma fi'n tyngu ar lw yn yr anialwch, a dweud na fyddwn i'n eu harwain nhw i'r wlad oedd gen i ar eu cyfer nhw – tir lle roedd llaeth a mêl yn llifo! Y wlad harddaf o'r cwbl i gyd! | |
Ezek | WelBeibl | 20:16 | Roedden nhw wedi gwrthod cadw fy rheolau, wedi gwrthod byw fel rôn i eisiau, ac wedi diystyru'r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw. Pam? Am fod eu calonnau'n dal i ddilyn yr eilunod! | |
Ezek | WelBeibl | 20:17 | Ac eto, bod yn garedig atyn nhw wnes i. Wnes i ddim eu dinistrio nhw'n llwyr yn yr anialwch. | |
Ezek | WelBeibl | 20:18 | “‘Dyma fi'n dweud wrth eu plant yn yr anialwch: “Peidiwch byw yr un fath â'ch rhieni. Peidiwch dilyn eu ffyrdd nhw, a llygru eich hunain yn addoli eu heilun-dduwiau. | |
Ezek | WelBeibl | 20:19 | Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi. Dw i eisiau i chi fyw fel dw i'n dweud a chadw fy rheolau i. | |
Ezek | WelBeibl | 20:20 | A dw i eisiau i chi gadw'r dyddiau Saboth yn sbesial, i'ch atgoffa chi o'r berthynas sydd rhyngon ni. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.” | |
Ezek | WelBeibl | 20:21 | “‘Ond dyma'r plant yn gwrthryfela yn fy erbyn i hefyd. Wnaethon nhw ddim cadw fy rheolau na byw fel rôn i eisiau. (Byddai'r rhai sy'n gwneud y pethau yna wedi cael byw go iawn.) A dyma nhw'n diystyru'r dyddiau Saboth yn llwyr hefyd. Rôn i'n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw yn y fan a'r lle, yn yr anialwch. | |
Ezek | WelBeibl | 20:22 | Ond dyma fi'n dal yn ôl. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl oedd wedi fy ngweld i'n dod â nhw allan o'r Aifft. | |
Ezek | WelBeibl | 20:23 | Ond dyma fi'n tyngu ar lw yn yr anialwch, a dweud y byddwn i'n eu gyrru nhw ar chwâl i'r cenhedloedd, a'u gwasgaru nhw drwy'r gwledydd i gyd. | |
Ezek | WelBeibl | 20:24 | Roedden nhw wedi gwrthod cadw fy rheolau, wedi gwrthod byw fel roeddwn i eisiau, ac wedi diystyru'r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw. Pam? Am fod eu calonnau'n dal i ddilyn yr eilunod! | |
Ezek | WelBeibl | 20:25 | Felly dyma fi'n gadael iddyn nhw ddilyn rheolau oedd ddim yn dda iddyn nhw a chanllawiau oedd ddim yn rhoi bywyd go iawn. | |
Ezek | WelBeibl | 20:26 | Dyma fi'n gadael iddyn nhw lygru eu hunain gyda'r rhoddion roedden nhw'n ei cyflwyno i'w duwiau – roedden nhw'n llosgi eu plentyn cyntaf yn aberth! Dylen nhw fod wedi gweld mor erchyll oedd y fath beth. Rôn i eisiau iddyn nhw wybod mai fi ydy'r ARGLWYDD.’ | |
Ezek | WelBeibl | 20:27 | “Ddyn, dw i eisiau i ti fynd i siarad gyda phobl Israel a dweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae eich hynafiaid wedi dal ati i ddangos dirmyg ata i a bod yn anffyddlon. | |
Ezek | WelBeibl | 20:28 | Roedden nhw wedi cael dod i'r wlad roeddwn i wedi'i haddo iddyn nhw. Ond y funud roedden nhw'n dod ar draws bryn uchel neu goeden ddeiliog, roedden nhw'n aberthu ac yn cyflwyno offrymau oedd yn fy nigio i. Roedden nhw'n llosgi arogldarth i'w duwiau ac yn tywallt offrymau o ddiod iddyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 20:29 | A dyma fi'n gofyn iddyn nhw, “Beth ydy'r allor baganaidd yma dych chi'n heidio ati?”’” (Dyna pam mae'r lle'n cael ei alw ‛Yr Allor‛ hyd heddiw.) | |
Ezek | WelBeibl | 20:30 | “Felly, dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Chithau hefyd? Ydych chi'n mynd i lygru'ch hunain fel gwnaeth eich hynafiaid? Ydych chi'n mynd i buteinio drwy addoli eilun-dduwiau ffiaidd? | |
Ezek | WelBeibl | 20:31 | Bob tro dych chi'n cyflwyno rhoddion i'ch duwiau a llosgi'ch plentyn cyntaf yn aberth, dych chi'n llygru'ch hunain. Ydw i'n mynd i adael i chi ofyn am arweiniad gen i, bobl Israel? Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, gewch chi ddim arweiniad gen i!’” | |
Ezek | WelBeibl | 20:32 | “‘“Dŷn ni'n mynd i fod yr un fath â pawb arall,” meddech chi. “Fel pobl y gwledydd o'n cwmpas ni sy'n addoli duwiau o bren a charreg.” Ond fydd hynny byth yn digwydd. | |
Ezek | WelBeibl | 20:33 | Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, ‘Fi fydd yn frenin arnoch chi, a bydda i'n tywallt fy llid, ac yn teyrnasu gyda nerth a chryfder rhyfeddol. | |
Ezek | WelBeibl | 20:34 | Bydda i'n dod â chi allan o ganol y bobloedd, ac yn eich casglu chi o'r gwledydd lle dych chi wedi'ch gwasgaru. Ie, bydda i'n tywallt fy llid gyda nerth a chryfder rhyfeddol. | |
Ezek | WelBeibl | 20:35 | Bydda i'n dod â chi allan i anialwch y cenhedloedd, a bydd rhaid i chi wynebu cael eich barnu yno. | |
Ezek | WelBeibl | 20:36 | Yn union fel roedd rhaid i mi farnu eich hynafiaid yn anialwch yr Aifft, bydda i'n eich barnu chi,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 20:37 | ‘Bydda i'n edrych ar bob un ohonoch chi'n ei dro, wrth i chi basio dan fy ffon fugail, ac yn eich dal chi at amodau'r ymrwymiad rhyngon ni. | |
Ezek | WelBeibl | 20:38 | Bydda i'n cael gwared â phawb sy'n gwrthryfela a thynnu'n groes i mi. Byddan nhw yn cael dod allan o'r wlad maen nhw ynddi ar hyn o bryd, ond gân nhw ddim mynd yn ôl i wlad Israel! Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 20:39 | “‘Bobl Israel, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthoch chi: “Ewch, bob un ohonoch chi – ewch i addoli'ch eilun-dduwiau! Ond wedyn, peidiwch sarhau fy enw sanctaidd i gyda'ch rhoddion a'ch eilunod. | |
Ezek | WelBeibl | 20:40 | Dim ond ar y mynydd dw i wedi'i gysegru – sef mynydd uchel Israel – y bydd pobl Israel yn fy addoli i, ie, pawb drwy'r wlad i gyd. Bydda i'n eu derbyn nhw yno. Dyna ble dych chi i ddod â chyflwyno rhoddion ac offrymau ac aberthau sanctaidd i mi. | |
Ezek | WelBeibl | 20:41 | Pan fydda i'n dod â chi allan o ganol y bobloedd a'ch casglu chi o'r gwledydd lle dych chi wedi'ch gwasgaru, cewch eich derbyn gen i fel arogl hyfryd eich aberthau. A bydd pobl y gwledydd yn gweld mai fi ydy'r Duw sanctaidd sydd gyda chi. | |
Ezek | WelBeibl | 20:42 | Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, pan fydda i'n gadael i chi fynd yn ôl i wlad Israel, sef y wlad wnes i addo ei rhoi i'ch hynafiaid. | |
Ezek | WelBeibl | 20:43 | Byddwch chi'n edrych yn ôl ac yn gweld beth wnaethoch chi i lygru'ch hunain. Bydd gynnoch chi gywilydd eich bod wedi gwneud pethau mor ofnadwy. | |
Ezek | WelBeibl | 20:44 | A byddwch chi'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD, am fy mod i wedi delio gyda chi mewn ffordd oedd yn diogelu fy enw da i, a dim fel roeddech chi'n ei haeddu am fod mor ddrwg a gwneud pethau mor ffiaidd!”’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 20:46 | “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu'r de, a pregethu yn erbyn y de drwy gyhoeddi proffwydoliaeth yn erbyn coedwig y Negef. | |
Ezek | WelBeibl | 20:47 | Dwed wrth goedwig y Negef, ‘Gwranda ar neges yr ARGLWYDD i ti. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i gynnau tân yn dy ganol, a bydd yn llosgi'r coed gwyrdd yn ogystal â'r coed sydd wedi crino. Fydd y fflamau tanbaid ddim yn diffodd, a bydd y tir i gyd, o'r de i'r gogledd, wedi'i losgi'n ddu. | |
Ezek | WelBeibl | 20:48 | Bydd pawb yn gweld mai fi, yr ARGLWYDD ddechreuodd y tân, ac na fydd yn diffodd.’” | |
Chapter 21
Ezek | WelBeibl | 21:2 | “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Jerwsalem, a pregethu yn erbyn ei lleoedd cysegredig hi. Proffwyda yn erbyn Israel, | |
Ezek | WelBeibl | 21:3 | a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda chi! Dw i'n mynd i dynnu fy nghleddyf o'r wain a lladd pawb, y da a'r drwg! | |
Ezek | WelBeibl | 21:4 | Ydw, dw i'n mynd i ladd y da a'r drwg. Bydda i'n tynnu fy nghleddyf ac yn taro pawb, o'r de i'r gogledd! | |
Ezek | WelBeibl | 21:5 | Bydd pawb yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, ac mai fi sydd wedi tynnu'r cleddyf, a fydd e ddim yn mynd yn ôl i'r wain!’ | |
Ezek | WelBeibl | 21:6 | “Felly griddfan di, ddyn! Griddfan yn chwerw o'u blaenau a syrthio ar lawr yn dy ddyblau fel petaet ti mewn poen. | |
Ezek | WelBeibl | 21:7 | Pan fyddan nhw'n gofyn i ti, ‘Beth sy'n bod?’ dywed wrthyn nhw, ‘Mae newyddion dychrynllyd ar ei ffordd. Bydd pawb wedi dychryn am eu bywydau, a ddim yn gwybod beth i'w wneud. Byddan nhw'n teimlo'n gwbl ddiymadferth, ac yn gwlychu eu hunain mewn ofn.’” | |
Ezek | WelBeibl | 21:9 | “Ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Cleddyf! Cleddyf! Wedi'i hogi a'i sgleinio. | |
Ezek | WelBeibl | 21:10 | Wedi'i hogi i ladd, ac yn fflachio fel mellten. Pwy sy'n chwerthin nawr? Mae teyrnwialen Jwda wedi'i gwrthod a phob ffon debyg iddi! | |
Ezek | WelBeibl | 21:11 | Mae'r cleddyf wedi'i roi i'w sgleinio a'i ddal yng nghledr y llaw. Mae wedi'i hogi a'i lanhau i'w roi yn llaw y lladdwr. | |
Ezek | WelBeibl | 21:12 | “‘Gwaedda, ddyn, galara! Mae'r cleddyf yn dod i daro fy mhobl, ac arweinwyr Israel i gyd! Bydd y galar yn llethol! | |
Ezek | WelBeibl | 21:13 | Ydy, mae'r profi'n dod! Pa obaith sydd pan mae teyrnwialen Jwda wedi'i gwrthod?’ meddai'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 21:14 | “Dw i eisiau i ti broffwydo, ddyn, ac ysgwyd dy ddwrn arnyn nhw. Dywed, ‘Bydd y cleddyf yn taro ddwywaith … na, tair! Cleddyf i ladd! Bydd cleddyf y lladdfa fawr yn dod o bob cyfeiriad! | |
Ezek | WelBeibl | 21:15 | Bydd pawb yn wan gan ddychryn a bydd llawer iawn yn baglu a syrthio. Mae cleddyf y lladdfa fawr yn disgwyl wrth y giatiau i gyd. O! Mae'n fflachio fel mellten wrth gael ei chwifio i ladd! | |
Ezek | WelBeibl | 21:17 | Byddaf finnau'n ysgwyd fy nwrn a dangos faint dw i wedi gwylltio. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.’” | |
Ezek | WelBeibl | 21:19 | “Ddyn, dw i eisiau i ti wneud map a marcio dwy ffordd y gallai cleddyf brenin Babilon ddod. Mae'r ddwy ffordd i ddechrau o'r un lle. Yna, ble maen nhw'n fforchio dw i eisiau i ti godi arwydd ffordd yn pwyntio at y ddinas – | |
Ezek | WelBeibl | 21:20 | Marcia ddwy ffordd i'r cleddyf fynd – un i Rabba, dinas pobl Ammon, a'r llall i Jerwsalem, y gaer yn Jwda. | |
Ezek | WelBeibl | 21:21 | Mae brenin Babilon wedi stopio lle mae'r ffordd yn fforchio, ac yn ansicr pa ffordd i fynd. Mae'n aros i ddewino: mae'n ysgwyd saethau, yn ceisio arweiniad ei eilun-ddelwau teuluol, ac yn archwilio iau anifeiliaid wedi'u haberthu. | |
Ezek | WelBeibl | 21:22 | Mae'n agor ei law dde, a dyna'r arweiniad – i droi am Jerwsalem. Rhaid paratoi hyrddod rhyfel i fwrw'r giatiau, bloeddio'r gorchymyn i ymosod, a chodi rampiau a thyrau gwarchae. | |
Ezek | WelBeibl | 21:23 | Bydd pobl Jerwsalem yn meddwl ei fod wedi gwneud camgymeriad, am eu bod wedi gwneud cytundeb gyda Babilon. Ond mae'n dangos eu bod nhw'n euog, a byddan nhw'n cael eu cymryd yn gaeth. | |
Ezek | WelBeibl | 21:24 | “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi'i gwneud hi'n gwbl amlwg eich bod chi'n euog. Dych chi wedi troseddu, a does gynnoch chi ddim cywilydd o'ch pechod. Mae pawb yn ei weld! Felly byddwch yn cael eich cymryd yn gaeth. | |
Ezek | WelBeibl | 21:25 | “‘A tithau, Sedeceia, dywysog llwgr a drwg Israel – mae dy ddiwrnod wedi dod. Ie, dydd barn! | |
Ezek | WelBeibl | 21:26 | Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Tynna dy goron oddi ar dy ben! Mae pethau'n mynd i newid! Codi'r rhai sy'n ‛neb‛, a thorri crib y balch! | |
Ezek | WelBeibl | 21:27 | Adfeilion! Adfeilion! Bydd y lle'n adfeilion llwyr! Fydd dim yn newid nes i'r un dw i wedi rhoi iddo'r hawl i farnu ddod. Bydda i'n ei rhoi iddo fe.’” | |
Ezek | WelBeibl | 21:28 | “Ond yna, ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud am gosb pobl Ammon: Cleddyf! Cleddyf yn cael ei chwifio i ladd. Wedi'i sgleinio i ddifa ac yn fflachio fel mellten. | |
Ezek | WelBeibl | 21:29 | Mae gweledigaethau dy broffwydi'n ffug, a'r arweiniad drwy ddewino yn gelwydd! Mae'r cleddyf ar yddfau pobl lwgr a drwg. Ydy, mae eich diwrnod wedi dod. Ie, dydd barn! | |
Ezek | WelBeibl | 21:30 | “‘Fydd y cleddyf ddim yn ôl yn ei wain nes i mi eich barnu chi yn y wlad lle cawsoch eich geni. | |
Ezek | WelBeibl | 21:31 | Dw i'n mynd i dywallt fy llid arnoch chi, a'ch ffrwydro gyda tân fy ffyrnigrwydd. Bydda i'n eich rhoi chi yn nwylo dynion gwyllt sy'n gwybod sut i ddinistrio. | |
Chapter 22
Ezek | WelBeibl | 22:2 | “Wel ddyn, wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn? Wnei di farnu dinas y tywallt gwaed? Gwna iddi wynebu'r ffaith ei bod wedi gwneud pethau hollol ffiaidd! | |
Ezek | WelBeibl | 22:3 | Dwed wrthi, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: O ddinas, mae cymaint o waed wedi'i dywallt ynot ti, mae dydd barn wedi dod i ti. Mae cymaint o eilun-dduwiau ynot ti, rwyt ti wedi llygru dy hun yn llwyr. | |
Ezek | WelBeibl | 22:4 | Ti'n euog o lofruddiaeth ac addoli eilun-dduwiau. Ti wedi gwneud i dy ddiwedd ddod yn agos. Dw i'n mynd i dy wneud di'n destun sbort i'r gwledydd o dy gwmpas. Byddi di'n jôc drwy'r byd i gyd. | |
Ezek | WelBeibl | 22:5 | Bydd pawb ym mhobman yn gwneud hwyl ar dy ben. Byddi'n enwog am dy ddrygioni a dy helyntion. | |
Ezek | WelBeibl | 22:6 | “‘“Mae arweinwyr Israel sy'n byw ynot ti wedi defnyddio'i hawdurdod i dywallt gwaed. | |
Ezek | WelBeibl | 22:7 | Mae yna bobl ynot ti sy'n dirmygu tad a mam, yn gormesu mewnfudwyr, ac yn cam-drin plant amddifad a gwragedd gweddwon. | |
Ezek | WelBeibl | 22:8 | Mae dy bobl wedi trin y pethau sanctaidd sy'n cael eu cyflwyno i mi yn ysgafn, ac wedi diystyru'r dyddiau Saboth rois i chi! | |
Ezek | WelBeibl | 22:9 | Mae rhai ynot ti wedi dweud celwydd a hel clecs am bobl ac yn gyfrifol am dywallt eu gwaed. Mae eraill yn bwyta aberthau paganaidd ar y mynyddoedd, ac yn gwneud pethau hollol ffiaidd. | |
Ezek | WelBeibl | 22:10 | Mae yna rai sy'n cael rhyw gyda gwraig eu tad, neu'n gorfodi gwragedd sy'n diodde o'r misglwyf i gael rhyw gyda nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 22:11 | Mae un yn cam-drin gwraig ei gymydog yn rhywiol; ac un arall yn gorfodi ei ferch-yng-nghyfraith i gael rhyw, neu'n treisio ei chwaer neu ei hanner chwaer. | |
Ezek | WelBeibl | 22:12 | Mae yna rai sy'n derbyn tâl i lofruddio. Dych chi'n cymryd mantais o bobl drwy godi llog uchel ar fenthyciadau, ac yn gorfodi arian oddi ar bobl. Dych chi wedi fy anghofio i,” meddai'r ARGLWYDD, y Meistr. | |
Ezek | WelBeibl | 22:13 | “‘“Dw i'n ysgwyd fy nwrn arnoch chi. Mae'r holl elwa anonest yma, a'r holl dywallt gwaed yn eich plith chi yn gwneud i mi wylltio. | |
Ezek | WelBeibl | 22:14 | Cawn weld faint o blwc sydd gynnoch chi! Tybed pa mor ddewr fyddwch chi pan fydda i'n delio gyda chi? Fi ydy'r ARGLWYDD, a bydd beth dw i'n ddweud yn digwydd! | |
Ezek | WelBeibl | 22:16 | Dw i'n fodlon i'm henw da i gael ei sarhau gan y cenhedloedd o'ch achos chi. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”’” | |
Ezek | WelBeibl | 22:18 | “Ddyn, mae pobl Israel fel yr amhuredd sydd ar ôl pan mae metel yn cael ei goethi mewn ffwrnais! Maen nhw fel y slag diwerth sy'n cael ei adael pan mae copr, tin, haearn a phlwm yn cael ei goethi. | |
Ezek | WelBeibl | 22:19 | Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi'n ddim byd ond amhuredd dw i'n mynd i'ch casglu chi at eich gilydd i ganol Jerwsalem. | |
Ezek | WelBeibl | 22:20 | Dw i'n ddig, a dw i'n mynd i'ch casglu chi yno a'ch toddi chi, yn union fel mae arian, copr, haearn, plwm a tin yn cael eu rhoi mewn ffwrnais i'w toddi yn y tân. | |
Ezek | WelBeibl | 22:22 | Byddwch chi'n cael eich toddi fel arian mewn ffwrnais. Byddwch chi'n sylweddoli fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi tywallt fy llid ffyrnig arnoch chi!’” | |
Ezek | WelBeibl | 22:24 | “Ddyn, dywed wrth Jerwsalem, ‘Pan fydda i'n dangos fy llid fydd dim glaw na hyd yn oed cawod ysgafn yn disgyn ar dy dir.’ | |
Ezek | WelBeibl | 22:25 | Mae ei harweinwyr yn cynllwynio fel llewod sy'n rhuo wrth rwygo'r ysglyfaeth. Maen nhw'n dwyn arian a phopeth gwerthfawr oddi ar bobl, ac yn gadael llawer o wragedd yn weddwon. | |
Ezek | WelBeibl | 22:26 | Mae'r offeiriaid yn torri fy nghyfraith ac yn halogi'r pethau sanctaidd sy'n cael eu cyflwyno i mi. Dŷn nhw ddim yn gwahaniaethu rhwng y cysegredig a'r cyffredin, na rhwng y glân a'r aflan. Maen nhw'n diystyru'r Sabothau rois i iddyn nhw. Maen nhw'n pardduo fy enw i! | |
Ezek | WelBeibl | 22:27 | Mae ei swyddogion fel bleiddiaid yn rheibio – yn tywallt gwaed a dinistrio bywydau – er mwyn elw anonest. | |
Ezek | WelBeibl | 22:28 | Mae ei phroffwydi yn honni eu bod wedi cael gweledigaeth neu neges gan Dduw pan nad ydyn nhw go iawn. ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud,’ medden nhw. Ond dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dweud y fath beth! Maen nhw'n meddwl fod peintio drosti yn mynd i wneud wal simsan yn saff! | |
Ezek | WelBeibl | 22:29 | Mae pobl y wlad wedi bod yn gorthrymu'r bobl dlawd sydd mewn angen, a dwyn oddi arnyn nhw. Maen nhw wedi gormesu mewnfudwyr a'u trin nhw'n gwbl annheg. | |
Ezek | WelBeibl | 22:30 | “Dyma fi'n edrych i weld os oedd rhywun fyddai'n trwsio'r wal ac yn sefyll yn y bwlch, fel bod dim rhaid i mi ddinistrio'r ddinas. Ond doedd neb. | |
Chapter 23
Ezek | WelBeibl | 23:3 | Pan oedden nhw'n ifanc iawn dyma nhw'n dechrau actio fel puteiniaid yn yr Aifft. Roedden nhw'n gadael i ddynion afael yn eu bronnau ac anwesu eu cyrff. | |
Ezek | WelBeibl | 23:4 | Enw'r chwaer hynaf oedd Ohola, ac enw'r ifancaf oedd Oholiba. Rôn i wedi'u priodi nhw, a dyma nhw'n cael plant i mi. (Samaria ydy Ohola, a Jerwsalem ydy Oholiba.) | |
Ezek | WelBeibl | 23:5 | “Roedd Ohola yn actio fel putain pan oedd hi hefo fi, ac yn ysu am gael rhyw gyda'i chariadon – swyddogion milwrol Asyria | |
Ezek | WelBeibl | 23:6 | yn eu lifrai porffor, capteiniaid a swyddogion eraill; dynion golygus i gyd, yn farchogion yn y cafalri. | |
Ezek | WelBeibl | 23:7 | Roedd hi'n rhoi ei hun iddyn nhw – dynion ifanc gorau Asyria i gyd. Roedd hi'n halogi ei hun yn addoli eu heilun-dduwiau nhw ac yn rhoi ei hun iddyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 23:8 | Roedd hi'n dal ati i buteinio fel roedd hi'n gwneud pan yn ferch ifanc yn yr Aifft, yn gadael i ddynion gael rhyw gyda hi, anwesu ei bronnau, a gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau. | |
Ezek | WelBeibl | 23:9 | Felly dyma fi'n gadael i'w chariadon, yr Asyriaid, ei chael hi – dyna oedd hi eisiau. | |
Ezek | WelBeibl | 23:10 | Dyma nhw'n rhwygo'i dillad oddi arni, cymryd ei meibion a'i merched yn gaethion ac yna ei lladd hi. Roedd ei henw'n warth. Roedd y merched i gyd yn meddwl ei bod hi wedi cael beth roedd yn ei haeddu. | |
Ezek | WelBeibl | 23:11 | “Er fod Oholiba, ei chwaer, wedi gweld hyn i gyd, dyma hi'n ymddwyn yn waeth fyth! Roedd hi'n hollol wyllt – fel hwren hollol lac ei moesau! | |
Ezek | WelBeibl | 23:12 | Roedd hi'n ysu am gael rhyw gyda'r Asyriaid; swyddogion a chapteiniaid, milwyr yn eu lifrai gwych, a marchogion yn y cafalri – dynion ifanc golygus i gyd. | |
Ezek | WelBeibl | 23:14 | “Ond aeth hi ymlaen i wneud pethau llawer gwaeth na'i chwaer! Dyma hi'n gweld lluniau o ddynion Babilon wedi'u cerfio'n goch llachar ar waliau. | |
Ezek | WelBeibl | 23:15 | Roedd pob un gyda sash am ei ganol, a thwrban hardd ar ei ben. Roedden nhw'n edrych fel swyddogion milwrol; dynion Babilon, o'r wlad oedd yn cael ei galw yn Caldea. | |
Ezek | WelBeibl | 23:16 | Pan welodd hi'r lluniau roedd hi'n ysu i'w cael nhw, a dyma hi'n anfon gwahoddiad iddyn nhw ddod ati. | |
Ezek | WelBeibl | 23:17 | Felly dyma'r Babiloniaid yn dod ac yn neidio i'r gwely gyda hi. Dyma nhw'n ei halogi a'i threisio hi, nes iddi hi wedyn droi yn eu herbyn nhw am beidio dangos parch ati. | |
Ezek | WelBeibl | 23:18 | “A dyna sut wnes i ymateb iddi hi, am orwedd yn ôl a chynnig ei hun iddyn nhw mor agored! Rôn i wedi ymateb yr un fath i'w chwaer. | |
Ezek | WelBeibl | 23:19 | Ond doedd hi'n poeni dim! Aeth o ddrwg i waeth! Roedd hi'n dal i actio fel y butain yn yr Aifft pan oedd hi'n eneth ifanc! | |
Ezek | WelBeibl | 23:20 | Roedd ganddi hiraeth am ei chariadon Eifftaidd oedd â pidynnau fel asynnod, ac yn bwrw had fel stalwyni. | |
Ezek | WelBeibl | 23:21 | Dyna sut roedd hi'n cofio'i hymddygiad yn eneth ifanc, gyda dynion yr Aifft yn anwesu ei chorff ac yn gafael yn ei bronnau. | |
Ezek | WelBeibl | 23:22 | “Felly, Oholiba, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i wneud i'r cariadon wnest ti droi yn eu herbyn nhw godi yn dy erbyn di. Byddan nhw'n ymosod arnat ti o bob cyfeiriad – | |
Ezek | WelBeibl | 23:23 | y Babiloniaid a phobl Caldea i gyd, llwythau Pecod, Shoa a Coa, a'r Asyriaid i gyd. Dynion ifanc golygus, yn swyddogion a chapteiniaid, cadfridogion ac arwyr milwrol – i gyd yn y cafalri. | |
Ezek | WelBeibl | 23:24 | Byddan nhw'n ymosod arnat ti gyda'i cerbydau, wagenni, a byddin enfawr. Byddan nhw'n trefnu'u hunain yn rhengoedd o dy gwmpas di, gyda'u tarianau bach a mawr, ac yn gwisgo'u helmedau. Bydda i'n gadael iddyn nhw ddelio gyda ti yn ôl eu harferion eu hunain. | |
Ezek | WelBeibl | 23:25 | “Dw i wedi cynhyrfu, a dw i'n mynd i ddangos i ti mor wyllt ydw i! Bydd y fyddin sy'n ymosod arnat ti yn dy drin di'n gwbl farbaraidd! Byddan nhw'n torri trwynau a chlustiau pobl i ffwrdd, ac yn lladd pawb yn gwbl ddidrugaredd. Byddan nhw'n cymryd dy blant yn gaethion, a bydd pawb sydd ar ôl yn cael eu llosgi'n fyw. | |
Ezek | WelBeibl | 23:27 | Dw i'n mynd i roi stop ar dy ymddygiad anweddus di, a'r holl buteinio ddechreuodd yn yr Aifft! Fyddi di ddim yn edrych yn ôl yn hiraethus ar y dyddiau yna byth eto! | |
Ezek | WelBeibl | 23:28 | “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ydw, dw i'n mynd i dy roi di yn nwylo'r bobl hynny rwyt ti'n eu casáu, sef y cariadon hynny wnest ti droi cefn arnyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 23:29 | Byddan nhw'n gas atat ti, yn cymryd popeth wyt ti wedi gweithio amdano ac yn dy adael di'n noeth. Bydd pawb yn dy weld di'n noeth, fel pan oeddet ti'n byw'n anweddus ac yn puteinio. | |
Ezek | WelBeibl | 23:30 | Bydd hyn i gyd yn digwydd am dy fod ti wedi puteino gyda gwledydd paganaidd a llygru dy hun yn addoli eu heilun-dduwiau nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 23:31 | Ti wedi mynd yr un ffordd â dy chwaer, a bydd cwpan y farn yfodd hi ohono yn cael ei basio ymlaen i ti. | |
Ezek | WelBeibl | 23:32 | “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Byddi'n yfed o gwpan dy chwaer – cwpan fawr, ddofn, yn llawn i'r ymylon (a bydd pawb yn gwneud hwyl ar dy ben). | |
Ezek | WelBeibl | 23:33 | Byddi'n hollol feddw ac yn y felan: Mae cwpan dy chwaer, Samaria, yn gwpan dychryn a dinistr. | |
Ezek | WelBeibl | 23:34 | Byddi'n yfed pob diferyn yna'i malu'n ddarnau a rhwygo dy fronnau. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. | |
Ezek | WelBeibl | 23:35 | “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am dy fod ti wedi anghofio amdana i, a throi dy gefn yn llwyr arna i, bydd rhaid i ti wynebu canlyniadau'r ymddygiad anweddus a'r puteinio.” | |
Ezek | WelBeibl | 23:36 | A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, Wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn ar Ohola ac Oholiba? Dwed wrthyn nhw mor ffiaidd maen nhw wedi bod! | |
Ezek | WelBeibl | 23:37 | Maen nhw wedi godinebu a thywallt gwaed. Maen nhw wedi godinebu drwy addoli eilun-dduwiau, a thywallt gwaed eu plant drwy eu llosgi'n aberth. | |
Ezek | WelBeibl | 23:38 | Ar ben y cwbl maen nhw wedi halogi'r cysegr a diystyru'r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 23:39 | Yr un diwrnod ac roedden nhw'n lladd eu meibion i'r eilun-dduwiau, roedden nhw'n dod i mewn i'r deml i addoli! Halogi'r cysegr, fy nhŷ i! | |
Ezek | WelBeibl | 23:40 | “Ac wedyn roedden nhw'n anfon negeswyr i wlad bell i ofyn am help. A beth wnest ti pan wnaeth y rheiny gyrraedd? Cael bath, rhoi colur ar dy lygaid, a gwisgo dy dlysau. | |
Ezek | WelBeibl | 23:41 | Wedyn gorwedd yn ôl ar soffa grand, a bwrdd llawn o'i blaen gydag arogldarth ac olew arno – fy rhai i! | |
Ezek | WelBeibl | 23:42 | Roedd sŵn tyrfa o bobl yn diota a chael amser da gyda ti – dynion o bobman, hyd yn oed Sabeaid o'r anialwch. Roedden nhw'n rhoi breichledau i'r chwiorydd, a tiaras hardd i'w gwisgo ar eu pennau. | |
Ezek | WelBeibl | 23:43 | “A dyma fi'n dweud, ‘Os ydyn nhw wir eisiau putain fel hon sydd wedi hen ddarfod amdani, cân nhw gario ymlaen!’ | |
Ezek | WelBeibl | 23:44 | A dyna ddigwyddodd. Dyma nhw'n mynd at y ddwy, Ohola ac Oholiba, i gael rhyw. Merched hollol wyllt ac anfoesol! | |
Ezek | WelBeibl | 23:45 | Ond bydd dynion cyfiawn yn eu barnu nhw, a rhoi'r gosb maen nhw'n ei haeddu am odinebu a thywallt gwaed. Dyna'n hollol maen nhw'n euog o'i wneud. | |
Ezek | WelBeibl | 23:46 | “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dewch â byddin yn eu herbyn i greu dychryn ac i ddwyn oddi arnyn nhw! | |
Ezek | WelBeibl | 23:47 | Bydd y fyddin yn eu lladd drwy daflu cerrig, a'u taro i lawr gyda chleddyfau. Bydd yn lladd eu plant ac yn llosgi eu tai! | |
Ezek | WelBeibl | 23:48 | Dw i'n mynd i roi stop ar yr holl ymddygiad anweddus yma, er mwyn i wragedd eraill ddysgu gwers a pheidio gwneud yr un peth. | |
Chapter 24
Ezek | WelBeibl | 24:1 | Roedd hi'r nawfed flwyddyn ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y degfed diwrnod o'r degfed mis. A dyma fi'n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD: | |
Ezek | WelBeibl | 24:2 | “Ddyn, dw i eisiau i ti ysgrifennu dyddiad heddiw i lawr. Heddiw ydy'r union ddiwrnod mae brenin Babilon wedi dechrau ymosod ar Jerwsalem. | |
Ezek | WelBeibl | 24:3 | Rhanna'r darlun yma gyda rebeliaid anufudd Israel: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Rho'r crochan ar y tân a'i lenwi â dŵr. | |
Ezek | WelBeibl | 24:4 | Rho ddarnau o gig ynddo, y darnau gorau – y goes a'r ysgwydd. Ei lenwi gyda'r esgyrn da | |
Ezek | WelBeibl | 24:5 | o'r anifeiliaid gorau. Rho bentwr o goed tân oddi tano, a berwi'r cig a'i goginio a'r esgyrn yn dal ynddo. | |
Ezek | WelBeibl | 24:6 | “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae ddinas y tywallt gwaed – y crochan sy'n llawn budreddi; budreddi sy'n dal ynddo! Tynnwch y darnau allan bob yn un – sdim ots am y drefn. | |
Ezek | WelBeibl | 24:7 | Mae'r gwaed dywalltwyd yn dal ynddi. Cafodd ei dywallt ar garreg i bawb ei weld, yn lle ei dywallt ar lawr i'r pridd ei lyncu. | |
Ezek | WelBeibl | 24:8 | Felly dw i'n mynd i dywallt ei gwaed hi ar garreg agored, er mwyn i bawb weld faint dw i wedi digio, ac mai fi sy'n dial arni! | |
Ezek | WelBeibl | 24:9 | “‘Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae ddinas y tywallt gwaed! Dw i'n mynd i gasglu pentwr o goed; | |
Ezek | WelBeibl | 24:10 | digon o goed i wneud tanllwyth o dân! Coginio'r cig yn dda gyda digon o sbeisys. Wedyn gwagio'r crochan a llosgi'r esgyrn. | |
Ezek | WelBeibl | 24:11 | Yna rhoi'r crochan gwag yn ôl ar y tân golosg, a'i boethi nes bydd y copr yn gloywi, a'r amhuredd o'i fewn yn toddi a'r budreddi yn cael ei losgi. | |
Ezek | WelBeibl | 24:12 | Ond mae'r holl ymdrech i ddim pwrpas – mae'r budreddi yn dal yna! Rhaid ei losgi! | |
Ezek | WelBeibl | 24:13 | “‘Yr amhuredd ydy dy ymddygiad anweddus di. Dw i wedi ceisio dy lanhau di, ond i ddim pwrpas. Fyddi di ddim yn lân eto nes bydda i wedi tywallt fy llid i gyd arnat ti. | |
Ezek | WelBeibl | 24:14 | Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod! Mae'r amser wedi dod i mi wneud rhywbeth! Does dim troi'n ôl. Fydda i'n dangos dim piti, nac yn teimlo'n sori am y peth. Dw i'n mynd i dy gosbi di am y cwbl rwyt ti wedi'i wneud, meddai'r ARGLWYDD, y Meistr.’” | |
Ezek | WelBeibl | 24:16 | “Ddyn, dw i'n gwybod fod hyn yn mynd i fod yn ergyd galed, ond dw i'n mynd i gymryd y wraig wyt ti wedi gwirioni arni oddi arnat ti. Ond paid galaru amdani. Paid wylo. Paid colli dagrau. | |
Ezek | WelBeibl | 24:17 | Byddi'n drist, ond cadwa'r peth i ti dy hun. Paid galaru'n gyhoeddus. Rho dwrban ar dy ben a sandalau ar dy draed. Paid cuddio hanner isaf dy wyneb, na derbyn bwyd gan bobl sy'n dod atat ti i gydymdeimlo.” | |
Ezek | WelBeibl | 24:18 | Y noson honno buodd fy ngwraig farw. Ond y bore wedyn dyma fi'n gwneud beth ddywedwyd wrtho i, a mynd allan i bregethu. | |
Ezek | WelBeibl | 24:21 | “Dwed wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddinistrio'r deml – ie, y deml sy'n gwneud i chi deimlo mor siŵr ohonoch chi'ch hunain, yr un dych chi wedi gwirioni'n lân arni. Bydd y plant gafodd eu gadael ar ôl yn Jwda yn cael eu lladd. | |
Ezek | WelBeibl | 24:22 | Rhaid i chi wneud yr un fath â fi. Peidio cuddio hanner isaf yr wyneb na derbyn bwyd gan bobl sydd eisiau cydymdeimlo. | |
Ezek | WelBeibl | 24:23 | Gwisgo twrban ar eich pennau a sandalau ar eich traed. Peidio galaru na wylo. Ond byddwch chi'n gwywo o'ch mewn, o achos yr holl ddrwg dych chi wedi'i wneud. | |
Ezek | WelBeibl | 24:24 | Dw i'n defnyddio Eseciel fel darlun i ddysgu gwers i chi. Rhaid i chi wneud yr un fath. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r Meistr, yr ARGLWYDD.’ | |
Ezek | WelBeibl | 24:25 | “A ti, ddyn, dyma fydd yn digwydd i ti ar y diwrnod y bydda i'n cymryd y ddinas sy'n eu gwneud nhw mor hapus oddi arnyn nhw, a'r deml maen nhw a'u plant wedi gwirioni'n lân arni: | |
Ezek | WelBeibl | 24:26 | Ar y diwrnod hwnnw bydd ffoadur fydd wedi llwyddo i ddianc yn dod atat ti i ddweud beth ddigwyddodd. | |
Chapter 25
Ezek | WelBeibl | 25:3 | Dwed wrth bobl Ammon, ‘Gwrandwch ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD, i chi. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: “Ha, ha!” meddech chi. Roeddech chi'n chwerthin pan gafodd y deml ei dinistrio, gwlad Israel ei gadael yn anial, a phobl Jwda eu caethgludo. | |
Ezek | WelBeibl | 25:4 | Ond gwyliwch chi'ch hunain! Dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n gaethweision i bobl y dwyrain. Maen nhw'n dod i godi eu pebyll a symud i fyw yn eich plith chi. Byddan nhw'n cymryd eich ffrwythau chi ac yn yfed llaeth eich preiddiau chi. | |
Ezek | WelBeibl | 25:5 | Bydda i'n gwneud Rabba yn dir comin i gamelod bori arno ac Ammon yn gorlan i ddefaid. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 25:6 | “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi wedi ysgwyd dwrn a stampio'ch traed ar Israel, a dathlu a gweiddi hwrê yn sbeitlyd pan gafodd y wlad ei dinistrio, | |
Ezek | WelBeibl | 25:7 | dw i'n mynd i'ch taro chi'n galed! Dw i'n mynd i adael i'r cenhedloedd eich cymryd chi. Byddwch chi'n peidio bod yn genedl. Dw i'n mynd i'ch dinistrio chi'n llwyr. A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’” | |
Ezek | WelBeibl | 25:8 | “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae Moab a Seir yn honni fod pobl Jwda ddim gwahanol i neb arall! | |
Ezek | WelBeibl | 25:9 | Felly dyma dw i'n mynd i'w wneud iddyn nhw: dw i'n mynd i agor ffin ddwyreiniol Moab a dinistrio'r trefi hyfryd sydd yno – Beth-ieshimoth, Baal-meon a Ciriathaim. | |
Ezek | WelBeibl | 25:10 | Dw i'n mynd i roi eich tir a'ch pobl yn nwylo'r llwythau o'r dwyrain. Bydd Ammon yn peidio bod yn genedl. | |
Ezek | WelBeibl | 25:11 | A dw i'n mynd i farnu Moab hefyd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’” | |
Ezek | WelBeibl | 25:12 | “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae pobl Edom yn euog. Am eu bod wedi dal ati i ddial mor gas ar Jwda, maen nhw'n euog.’ | |
Ezek | WelBeibl | 25:13 | Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i daro Edom yn galed, a lladd pawb sy'n byw yno, pobl ac anifeiliaid. Bydd y wlad yn anialwch diffaith. Bydd pawb yn cael eu lladd yn y rhyfel, yr holl ffordd o Teman i Dedan yn y de. | |
Ezek | WelBeibl | 25:14 | Bydda i'n defnyddio fy mhobl Israel i ddial ar Edom. Bydd y ffordd fyddan nhw'n delio gydag Edom yn dangos faint dw i wedi gwylltio, a bydd pobl Edom yn gwybod mai fi sy'n dial arnyn nhw, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.’” | |
Ezek | WelBeibl | 25:15 | “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae'r Philistiaid wedi bod yn gwbl farbaraidd tuag at Jwda. Maen nhw wedi bod mor sbeitlyd tuag at Jwda, a bob amser wedi bod eisiau'i dinistrio hi. | |
Ezek | WelBeibl | 25:16 | Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwyliwch chi! Dw i'n mynd i daro'r Philistiaid yn galed. Dw i'n mynd i ladd y Cerethiaid a dinistrio pawb fydd ar ôl ar yr arfordir. | |
Chapter 26
Ezek | WelBeibl | 26:1 | Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn, a dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD: | |
Ezek | WelBeibl | 26:2 | “Ddyn, dyma mae Tyrus wedi bod yn ei ddweud am Jerwsalem: ‘Hwrê! Mae'r giât i'r ddinas fasnach ryngwladol wedi'i dryllio! Bydda i'n cael ei busnes! Dw i'n mynd i fod yn gyfoethog! Ydy, mae hi wedi'i dinistrio.’ | |
Ezek | WelBeibl | 26:3 | “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Gwyliwch eich hunain! Dw i'n mynd i ddelio gyda chi! O, Tyrus! Mae byddinoedd y gwledydd yn dod yn dy erbyn di fel tonnau gwyllt y môr. | |
Ezek | WelBeibl | 26:4 | Byddan nhw'n dinistrio dy waliau ac yn bwrw'r tyrau amddiffynnol i lawr.’ Bydda i'n clirio'r rwbel oddi arni ac yn gadael dim ar ôl ond craig noeth. | |
Ezek | WelBeibl | 26:5 | Bydd fel ynys yng nghanol y môr, yn dda i ddim ond i daenu rhwydau pysgota. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. Bydd byddinoedd o wledydd eraill yn concro Tyrus, | |
Ezek | WelBeibl | 26:6 | a bydd y pentrefi yn yr ardal o'i chwmpas yn cael eu dinistrio yn y rhyfel. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 26:7 | “Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Gwyliwch chi! Dw i'n dod â'r brenin Nebwchadnesar, yr un sy'n frenin ar frenhinoedd, i lawr o Babilon yn y gogledd, a bydd yn ymosod ar Tyrus. Bydd ganddo geffylau, cerbydau rhyfel, marchogion a byddin enfawr. | |
Ezek | WelBeibl | 26:8 | Bydd yn dinistrio'r pentrefi gwledig o dy gwmpas di. Wedyn bydd yn codi tyrau gwarchae a rampiau i ymosod arnat ti. Bydd llu o filwyr gyda'u tarianau yn dod yn dy erbyn di! | |
Ezek | WelBeibl | 26:9 | Bydd yn bwrw dy waliau gyda'i hyrddod rhyfel ac yn chwalu dy dyrau amddiffynnol gyda'i arfau haearn. | |
Ezek | WelBeibl | 26:10 | Bydd y llwch fydd yn cael ei godi gan yr holl geffylau rhyfel yn dy orchuddio di! Bydd sŵn y cafalri a'r holl wagenni a cherbydau rhyfel yn ddigon i ysgwyd dy waliau di. Bydd e'n dod i mewn drwy dy giatiau yn fuddugoliaethus ar ôl i'w fyddin dorri drwy'r waliau. | |
Ezek | WelBeibl | 26:11 | Bydd carnau'r ceffylau yn sathru dy strydoedd. Bydd dy bobl yn cael eu lladd â'r cleddyf, a bydd dy golofnau enwog yn cael eu bwrw i lawr. | |
Ezek | WelBeibl | 26:12 | Byddan nhw'n dwyn dy gyfoeth a dy eiddo i gyd. Byddan nhw'n bwrw dy waliau i lawr ac yn dinistrio dy dai gwych. Bydd y cerrig a'r coed a'r rwbel i gyd yn cael ei daflu i'r môr. | |
Ezek | WelBeibl | 26:13 | Bydda i'n rhoi taw ar dy ganeuon di, a fydd neb yn clywed sŵn dy delynau byth eto. | |
Ezek | WelBeibl | 26:14 | Fydd dim ar ôl ond craig noeth. Fyddi di'n ddim byd ond lle i daenu rhwydau pysgota. Gei di byth dy adeiladu eto. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!’ | |
Ezek | WelBeibl | 26:15 | “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth Tyrus: ‘Bydd yr arfordir cyfan yn crynu pan fyddi di'n syrthio, a sŵn dy bobl wedi'u hanafu yn griddfan wedi'r lladdfa. | |
Ezek | WelBeibl | 26:16 | Bydd llywodraethwyr yr arfordir i gyd yn camu i lawr o'u gorseddau. Byddan nhw'n tynnu eu clogynnau brenhinol a'u dillad hardd. Dychryn fydd yr unig wisg amdanyn nhw. Byddan nhw'n eistedd ar lawr yn crynu drwyddynt o achos beth fydd wedi digwydd i ti. | |
Ezek | WelBeibl | 26:17 | Byddan nhw'n canu'r gân yma o alar ar dy ôl: O ddinas enwog ar y môr, rwyt wedi dy ddinistrio! Ti oedd yn rheoli'r tonnau, gyda dy bobl yn codi dychryn ar y ddynoliaeth gyfan. | |
Ezek | WelBeibl | 26:18 | Ond bellach mae'r arfordir yn crynu ar ddydd dy gwymp. Mae'r ynysoedd i gyd mewn sioc am dy fod wedi mynd.’ | |
Ezek | WelBeibl | 26:19 | “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Bydda i'n dy wneud di yn anialwch diffaith, fel trefi sy'n adfeilion gyda neb yn byw ynddyn nhw. Bydd fel tswnami, a thithau'n cael dy foddi dan donnau gwyllt y môr. | |
Ezek | WelBeibl | 26:20 | Byddi'n cael dy hun yn y Pwll – pwll marwolaeth; yn gorwedd yno gyda phobl sydd wedi marw ers talwm. Byddi'n adfeilion wedi dy gladdu yn nyfnder y ddaear. Fydd neb yn byw ynot ti, a fyddi di byth eto'n cael dy barchu ar dir y byw. | |
Chapter 27
Ezek | WelBeibl | 27:3 | Dwed wrth Tyrus, sy'n eistedd wrth borthladdoedd, ac yn ganolfan fasnachol bwysig i weddill y byd: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: O Tyrus, rwyt yn brolio mai ti ydy harddwch yn ei berffeithrwydd. | |
Ezek | WelBeibl | 27:6 | Dy rwyfau o goed derw Bashan, a dy gorff yn bren cypres, o dde Cyprus, wedi'i addurno ag ifori. | |
Ezek | WelBeibl | 27:7 | Dy hwyl o liain main gorau'r Aifft wedi'i brodio'n batrymau, ac yn faner i bawb dy nabod. Y llen dros y dec yn borffor a phiws; defnydd o lannau Elisha. | |
Ezek | WelBeibl | 27:8 | Arweinwyr Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr, a dynion medrus Tyrus wrth yr helm yn forwyr. | |
Ezek | WelBeibl | 27:9 | Roedd arweinwyr Gebal ar dy fwrdd yn trwsio unrhyw niwed. Roedd y llongau i gyd a'u criwiau yn galw yn dy borthladdoedd i gyfnewid nwyddau. | |
Ezek | WelBeibl | 27:10 | Roedd dynion o wledydd pell – Persia, Lydia a Libia – yn filwyr yn dy fyddin. Yn hongian tarian a helmed ar dy waliau; ac yn rhoi i ti enw gwych. | |
Ezek | WelBeibl | 27:11 | “‘Roedd dynion Arfad a Helech yn gwarchod dy waliau, a dynion Gammad ar y tyrau amddiffynnol. Roedden nhw'n hongian eu cewyll saethau ar dy waliau, a gwneud dy harddwch yn berffaith. | |
Ezek | WelBeibl | 27:12 | Roeddet ti'n masnachu gyda Tarshish bell, ac yn cyfnewid arian, haearn, tin a phlwm am dy nwyddau. | |
Ezek | WelBeibl | 27:15 | Roeddet ti'n masnachu gyda phobl Rhodos, a llawer o ynysoedd eraill. Roedden nhw'n talu gydag ifori a choed eboni. | |
Ezek | WelBeibl | 27:16 | Roedd Edom yn delio gyda ti am dy fod yn gwerthu cymaint o bethau gwahanol. Roedden nhw'n talu gyda meini gwerthfawr, defnydd porffor, defnydd wedi'i frodio, lliain main drud, cwrel, a rhuddem. | |
Ezek | WelBeibl | 27:17 | A Jwda a gwlad Israel hefyd, yn cyfnewid gwenith o Minnith, ffigys, mêl, olew olewydd a balm. | |
Ezek | WelBeibl | 27:18 | Roedd Damascus yn delio gyda ti am fod gen ti gymaint o nwyddau ac am dy fod ti mor gyfoethog. Roedden nhw'n dod â gwin o Chelbon, gwlân o Sachar, | |
Ezek | WelBeibl | 27:22 | Masnachwyr Sheba a Raama yn cynnig eu perlysiau gorau, meini gwerthfawr o bob math ac aur. | |
Ezek | WelBeibl | 27:23 | Roedd Haran, Canne ac Eden, a masnachwyr Sheba, Ashŵr a Cilmad yn gwsmeriaid i ti hefyd, | |
Ezek | WelBeibl | 27:24 | yn cynnig dillad costus, defnydd porffor, brodwaith a charpedi amryliw wedi'u clymu a'u plethu'n dynn. | |
Ezek | WelBeibl | 27:25 | Roedd llongau masnach mawr yn cludo dy nwyddau ar draws y moroedd. Roeddet fel llong wedi'i llwytho'n llawn, yng nghanol y moroedd. | |
Ezek | WelBeibl | 27:26 | Ond aeth dy rwyfwyr â ti i ganol storm ar y môr mawr! Daeth gwynt y dwyrain i dy ddryllio yng nghanol y moroedd. | |
Ezek | WelBeibl | 27:27 | “‘Mae diwrnod dy ddryllio'n dod, a byddi'n suddo yng nghanol y môr, gyda dy gyfoeth i gyd, dy nwyddau, dy fasnach, dy forwyr, dy rwyfwyr, dy grefftwyr, dy fasnachwyr a dy filwyr – pawb sydd ar dy fwrdd. | |
Ezek | WelBeibl | 27:30 | Byddan nhw'n galaru'n uchel ac yn crio'n chwerw; byddan nhw'n taflu pridd ar eu pennau ac yn rholio mewn lludw. | |
Ezek | WelBeibl | 27:31 | Byddan nhw'n siafio'u pennau ac yn gwisgo sachliain. Byddan nhw'n wylo'n chwerw wrth alaru ar dy ôl. | |
Ezek | WelBeibl | 27:32 | Yn nadu canu cân o alar ar dy ôl: “Pwy oedd fel Tyrus, fel tŵr yng nghanol y môr?” | |
Ezek | WelBeibl | 27:33 | Roedd dy nwyddau'n cael eu dadlwytho o'r moroedd, i gwrdd ag angen pobloedd. Roedd dy gyfoeth mawr a dy nwyddau yn cyfoethogi brenhinoedd i ben draw'r byd! | |
Ezek | WelBeibl | 27:34 | Ond bellach rwyt yn llong wedi'i dryllio yn gorwedd ar waelod y môr. Mae dy nwyddau a'r criw i gyd wedi suddo a boddi gyda ti. | |
Ezek | WelBeibl | 27:35 | Mae pobl yr arfordir i gyd wedi dychryn yn lân; brenhinoedd yn crynu mewn braw, a'r poen i'w weld ar eu hwynebau. | |
Chapter 28
Ezek | WelBeibl | 28:2 | “Dwed wrth dywysog Tyrus, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ti mor falch! Ti'n meddwl dy fod ti'n dduw, ac yn eistedd ar orsedd y duwiau yng nghanol y moroedd! Duw wir! Dim ond dyn meidrol wyt ti, er dy fod yn honni pethau mor fawr. | |
Ezek | WelBeibl | 28:4 | Ti wedi defnyddio dy graffter a dy glyfrwch i gael mwy o gyfoeth. Ti wedi casglu aur ac arian i dy goffrau. | |
Ezek | WelBeibl | 28:5 | Ti wedi defnyddio dy graffter masnachol i gael mwy o gyfoeth, ond mae dy gyfoeth wedi chwyddo dy ben. | |
Ezek | WelBeibl | 28:6 | Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am dy fod yn meddwl dy fod ti'n dduw | |
Ezek | WelBeibl | 28:7 | dw i'n mynd i ddod â byddin o wlad estron yn dy erbyn di – y wlad fwya creulon sydd. Byddan nhw'n tynnu eu cleddyfau ac yn taro dy glyfrwch rhyfeddol a difetha dy ysblander. | |
Ezek | WelBeibl | 28:8 | Byddi'n cael dy anfon i lawr i Bwll distryw ac yn marw'n greulon yng nghanol y môr. | |
Ezek | WelBeibl | 28:9 | Wyt ti'n mynd i ddal ati i honni dy fod yn dduw pan fyddi wyneb yn wyneb â'r rhai fydd yn dy ladd? Dyn meidrol fyddi di yn eu golwg nhw, nid duw! | |
Ezek | WelBeibl | 28:10 | Byddi'n cael dy ladd yn y ffordd fwya creulon gan fyddin o wlad estron. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.’” | |
Ezek | WelBeibl | 28:12 | “Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl brenin Tyrus. Dwed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Roeddet ti'n batrwm o berffeithrwydd! Mor ddoeth, ac yn rhyfeddol o hardd! | |
Ezek | WelBeibl | 28:13 | Roeddet ti'n byw yn Eden, gardd Duw. Roeddet wedi dy addurno gyda gemau gwerthfawr – rhuddem, topas, emrallt, saffir melyn, onics, iasbis, saffir, glasfaen, a beryl. Roedd y cwbl wedi'u gosod yn gywrain mewn aur pur, ac wedi'u cyflwyno i ti ar y diwrnod cest ti dy greu. | |
Ezek | WelBeibl | 28:14 | Rôn i wedi dy osod yno, gydag angel gwarcheidiol â'i adenydd ar led, ar y mynydd wnaeth Duw ei gysegru. Roeddet yn cerdded yng nghanol y gemau o dân. | |
Ezek | WelBeibl | 28:15 | O'r diwrnod y cest dy greu roeddet ti'n ymddwyn yn berffaith … ond yna cest dy ddal yn pechu. | |
Ezek | WelBeibl | 28:16 | Roedd yr holl fasnachu wedi dy droi yn dreisiol. Dyma ti'n pechu; dyma fi'n dy yrru i ffwrdd o fynydd Duw. Roedd yr angel gwarcheidiol yn dy gadw draw o'r gemau o dân. | |
Ezek | WelBeibl | 28:17 | Roeddet wedi troi'n falch am dy fod mor hardd. Camddefnyddio dy ddoethineb am dy fod mor llawn ohonot dy hun. A dyna pam wnes i dy fwrw i lawr, a gwneud sioe ohonot ti o flaen brenhinoedd eraill. | |
Ezek | WelBeibl | 28:18 | Roeddet wedi dinistrio dy leoedd cysegredig o achos dy holl ddrygioni a'r twyllo wrth fasnachu. Felly gwnes i dân gynnau y tu mewn i ti, a dy ddifa di. Llosgaist yn dwr o ludw o flaen pawb. | |
Ezek | WelBeibl | 28:19 | Roedd pawb oedd yn dy nabod mewn sioc, am fod dy ddiwedd wedi bod mor erchyll.’” | |
Ezek | WelBeibl | 28:22 | Dwed fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwylia dy hun! Dw i'n mynd i ddelio gyda ti, Sidon. Dw i'n mynd i ddangos fy ysblander yn dy ganol di. Bydd pobl yn gweld mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n ei barnu hi, ac yn dangos y gallu sydd gen i a neb arall. | |
Ezek | WelBeibl | 28:23 | Bydda i'n anfon afiechydon ofnadwy a thrais ar ei strydoedd. Bydd ei phobl yn cael eu lladd wrth i fyddin ymosod arni o bob cyfeiriad. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 28:24 | “‘Fydd pobl Israel ddim yn gorfod diodde eu cymdogion maleisus yn pigo ac yn rhwygo fel drain a mieri. A byddan nhw hefyd yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr. | |
Ezek | WelBeibl | 28:25 | “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydda i'n casglu pobl Israel at ei gilydd o'r holl wledydd lle maen nhw ar chwâl. Bydda i'n dangos y gallu sydd gen i a neb arall i'r gwledydd i gyd. Bydd pobl Israel yn byw unwaith eto yn y tir rois i i'm gwas Jacob. | |
Chapter 29
Ezek | WelBeibl | 29:1 | Roedd hi ddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y deuddegfed diwrnod o'r degfed mis. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: | |
Ezek | WelBeibl | 29:2 | “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu'r Pharo, brenin yr Aifft, a proffwydo yn ei erbyn e a holl wlad yr Aifft. | |
Ezek | WelBeibl | 29:3 | Dyma rwyt ti i'w ddweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti! y Pharo, brenin yr Aifft; y ddraig fawr sy'n gorwedd yng nghanol ei ffosydd. “Fi piau afon Nîl,” meddet ti, “a fi sydd wedi'i chreu hi.” | |
Ezek | WelBeibl | 29:4 | Bydda i'n rhoi bachyn yn dy ên ac yn dy lusgo allan o'r dŵr gyda physgod o'r ffosydd yn glynu wrth dy groen. | |
Ezek | WelBeibl | 29:5 | Bydda i'n dy daflu i'r anialwch, ti a physgod y ffosydd. Byddi'n gorwedd, heb dy gladdu, i farw ar dir agored – yn fwyd i'r anifeiliaid ac i'r adar. | |
Ezek | WelBeibl | 29:6 | Yna bydd pawb sy'n byw yn yr Aifft yn gweld mai fi ydy'r ARGLWYDD. Rwyt wedi bod yn ffon fagl wan fel brwynen i bobl Israel bwyso arni. | |
Ezek | WelBeibl | 29:7 | Dyma nhw'n gafael ynot, ond dyma ti'n torri ac yn bwrw eu hysgwydd o'i lle. Wrth iddyn nhw bwyso arnat dyma ti'n hollti a gadael eu cluniau'n sigledig. | |
Ezek | WelBeibl | 29:8 | “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n anfon byddin i ymosod arnat ti, a bydd yr holl bobl a'r anifeiliaid yn cael eu lladd. | |
Ezek | WelBeibl | 29:9 | Bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. “‘Am dy fod wedi dweud, “Fi piau afon Nîl, a fi sydd wedi'i chreu hi,” | |
Ezek | WelBeibl | 29:10 | dw i'n mynd i ddelio gyda ti a dy ffosydd. Dw i'n mynd i droi gwlad yr Aifft yn anialwch diffaith yr holl ffordd o Migdol yn y gogledd i Aswan yn y de, sydd ar y ffin gydag Ethiopia. | |
Ezek | WelBeibl | 29:11 | Fydd neb yn gallu byw yno am bedwar deg o flynyddoedd – fydd dim pobl nac anifeiliaid yn crwydro yno. | |
Ezek | WelBeibl | 29:12 | Bydda i'n gwneud gwlad yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion. Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd. | |
Ezek | WelBeibl | 29:13 | “‘Ond yna, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ar ddiwedd y pedwar deg mlynedd bydda i'n casglu pobl yr Aifft o'r gwledydd lle roedden nhw ar chwâl. | |
Ezek | WelBeibl | 29:14 | Bydda i'n adfer sefyllfa pobl yr Aifft a dod â nhw yn ôl i ardal Pathros, i wlad eu mebyd. Ond gwlad ddi-nod fydd yr Aifft. | |
Ezek | WelBeibl | 29:15 | Bydd hi'n un o'r gwledydd lleia dylanwadol, a fydd hi byth yn rheoli gwledydd eraill eto. | |
Ezek | WelBeibl | 29:16 | A fydd Israel ddim yn pwyso arni byth eto. Bydd hi'n atgoffa Israel o'i phechod yn troi at yr Aifft am help. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’” | |
Ezek | WelBeibl | 29:17 | Roedd hi ddau ddeg saith mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn. A dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD: | |
Ezek | WelBeibl | 29:18 | “Ddyn, mae byddin Nebwchadnesar brenin Babilon wedi brwydro'n galed yn erbyn Tyrus. Maen nhw wedi gweithio'u bysedd at yr asgwrn, ond dydy'r milwyr wedi ennill dim ar ôl yr holl ymdrech! | |
Ezek | WelBeibl | 29:19 | Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i roi gwlad yr Aifft yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd e'n cymryd holl gyfoeth y wlad ac yn ysbeilio'i thrysorau i dalu cyflog i'w filwyr. | |
Ezek | WelBeibl | 29:20 | Dw i'n mynd i roi gwlad yr Aifft iddo i'w ddigolledu am yr holl ymdrech yn ymosod ar Tyrus. Mae e wedi bod yn gwneud hyn i mi.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Chapter 30
Ezek | WelBeibl | 30:2 | “Ddyn, proffwyda a dywed: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Uda, “O na! Mae'r diwrnod wedi dod!” | |
Ezek | WelBeibl | 30:3 | Ydy, mae'r diwrnod mawr yn agos; dydd barn yr ARGLWYDD! Diwrnod o gymylau duon bygythiol; amser anodd i'r gwledydd i gyd. | |
Ezek | WelBeibl | 30:4 | Mae byddin yn dod i ymosod ar yr Aifft a bydd teyrnas Cwsh mewn panig wrth weld pobl yr Aifft yn syrthio'n farw, cyfoeth y wlad yn cael ei gario i ffwrdd a'i sylfeini'n cael eu dinistrio. | |
Ezek | WelBeibl | 30:5 | “‘Bydd pobl o ddwyrain Affrica, Pwt, Lydia a Libia sy'n byw yn yr Aifft, a hyd yn oed pobl Israel sy'n byw yno yn cael eu lladd yn y rhyfel.’ | |
Ezek | WelBeibl | 30:6 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd y rhai sy'n cefnogi'r Aifft yn syrthio. Bydd ei balchder yn ei grym yn chwilfriw! Bydd pawb yn cael eu lladd yn y brwydro yr holl ffordd o Migdol i Aswan.’” —y Meistr, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn. | |
Ezek | WelBeibl | 30:7 | “‘Bydd yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion. | |
Ezek | WelBeibl | 30:8 | Byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n cynnau tân yn yr Aifft ac yn sathru pawb sy'n ei chefnogi. | |
Ezek | WelBeibl | 30:9 | Pan fydd hynny'n digwydd bydda i'n anfon negeswyr mewn llongau i ddychryn pobl ddibryder teyrnas Cwsh. Pan glywan nhw beth sy'n digwydd i'r Aifft bydd panig yn dod drostyn nhw! Gwyliwch! Mae'n dod!’” | |
Ezek | WelBeibl | 30:10 | “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddefnyddio Nebwchadnesar, brenin Babilon, i roi diwedd ar fyddin enfawr yr Aifft. | |
Ezek | WelBeibl | 30:11 | Bydd e a'i fyddin, byddin y wlad fwya creulon yn y byd, yn dod i lawr i ddinistrio'r Aifft. Byddan nhw'n tynnu eu cleddyfau i ymosod, ac yn llenwi'r wlad gyda chyrff marw. | |
Ezek | WelBeibl | 30:12 | Bydda i'n sychu ei ffosydd, ac yn rhoi'r wlad yn nwylo dynion drwg. Bydda i'n defnyddio byddin estron i ddinistrio'r wlad a phopeth ynddi. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod! | |
Ezek | WelBeibl | 30:13 | “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddinistrio dy eilunod, a chael gwared â duwiau diwerth Memffis. Fydd neb ar ôl i arwain gwlad yr Aifft. Bydd dychryn drwy'r wlad i gyd. | |
Ezek | WelBeibl | 30:16 | Ydw dw i'n mynd i gynnau tân yn yr Aifft. Bydd Pelwsiwm yn gwingo mewn poen, Thebes yn cael ei thorri i lawr a Memffis yn dioddef trais diddiwedd. | |
Ezek | WelBeibl | 30:17 | Bydd milwyr ifanc Heliopolis a Bwbastis yn cael eu lladd, a'r bobl i gyd yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion. | |
Ezek | WelBeibl | 30:18 | Bydd hi'n ddiwrnod tywyll ar Tachpanches pan fydda i'n dod â grym gwleidyddol yr Aifft i ben. Bydd ei balchder yn ei grym wedi darfod. Bydd cwmwl yn ei gorchuddio, a bydd ei merched yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion. | |
Ezek | WelBeibl | 30:20 | Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y seithfed diwrnod o'r mis cyntaf, a dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD: | |
Ezek | WelBeibl | 30:21 | “Ddyn, dw i wedi torri braich y Pharo, brenin yr Aifft. Dydy'r fraich ddim wedi cael ei rhwymo i roi cyfle iddi wella, ac felly fydd hi byth yn ddigon cryf i drin cleddyf eto. | |
Ezek | WelBeibl | 30:22 | Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwyliwch chi! Dw i'n mynd i ddelio gyda'r Pharo, brenin yr Aifft. Dw i'n mynd i dorri ei freichiau – y fraich gref, a'r un sydd eisoes wedi torri – a bydd ei gleddyf yn syrthio ar lawr. | |
Ezek | WelBeibl | 30:24 | Ond bydda i'n cryfhau breichiau brenin Babilon, ac yn rhoi fy nghleddyf i yn ei law. Bydda i'n torri breichiau'r Pharo, a bydd e'n griddfan mewn poen, fel dyn wedi'i anafu ac sydd ar fin marw. | |
Ezek | WelBeibl | 30:25 | Bydda i'n cryfhau breichiau brenin Babilon, ond bydd breichiau'r Pharo yn llipa. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, ac mai fi sydd wedi rhoi'r cleddyf yn llaw brenin Babilon iddo ymosod ar wlad yr Aifft. | |
Chapter 31
Ezek | WelBeibl | 31:1 | Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r trydydd mis. A dyma fi'n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD: | |
Ezek | WelBeibl | 31:2 | “Ddyn, dywed wrth y Pharo, brenin yr Aifft, a'i bobl i gyd: ‘Oes rhywbeth sy'n cymharu â dy fawredd di? | |
Ezek | WelBeibl | 31:3 | Roedd Asyria fel coeden gedrwydd yn Libanus, a'i changhennau hardd fel cysgod y goedwig. Roedd yn aruthrol dal, a'i brigau uchaf yn y cymylau. | |
Ezek | WelBeibl | 31:4 | Y dŵr oedd yn gwneud iddi dyfu, a'r ffynhonnau dwfn yn ei gwneud yn dal. Roedd nentydd yn llifo o'i chwmpas; a sianeli dŵr yn dyfrio'r coed i gyd. | |
Ezek | WelBeibl | 31:5 | Ond roedd y goeden hon yn dalach na'r coed o'i chwmpas i gyd. Canghennau mawr a brigau hir, a'i gwreiddiau'n lledu at y dŵr. | |
Ezek | WelBeibl | 31:6 | Roedd yr adar i gyd yn nythu yn ei brigau, a'r anifeiliaid gwyllt yn geni rhai bach dan ei changhennau. Roedd y gwledydd mawr i gyd yn byw dan ei chysgod. | |
Ezek | WelBeibl | 31:7 | Roedd yn rhyfeddol o hardd gyda'i changhennau hir, a'i gwreiddiau'n ymestyn yn ddwfn at ddigonedd o ddŵr. | |
Ezek | WelBeibl | 31:8 | Doedd coed cedrwydd eraill gardd Duw ddim yn cystadlu â hi. Doedd canghennau'r coed pinwydd ddim byd tebyg; a'r coed planwydd yn ddim o'u cymharu â hi. Doedd dim un o goed gardd Duw mor hardd â hon! | |
Ezek | WelBeibl | 31:9 | Fi wnaeth hi'n hardd gyda'i holl ganghennau. Roedd coed Eden i gyd, gardd Duw, yn genfigennus ohoni. | |
Ezek | WelBeibl | 31:10 | “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am ei bod hi mor falch ohoni ei hun, mor aruthrol dal gyda'i brigau uchaf yn y cymylau, | |
Ezek | WelBeibl | 31:11 | rhois hi yn nwylo arweinydd y cenhedloedd, i'w chosbi am ei drygioni. Dw i wedi'i thaflu hi i ffwrdd. | |
Ezek | WelBeibl | 31:12 | Mae byddin estron y wlad fwya creulon wedi'i thorri i lawr a'i gadael i orwedd ar y mynyddoedd. Mae ei changhennau'n gorwedd ar chwâl yn y dyffrynnoedd a'r ceunentydd. Mae pawb oedd yn cysgodi oddi tani wedi ffoi pan gafodd ei thaflu i ffwrdd. | |
Ezek | WelBeibl | 31:13 | Mae'r adar i gyd yn clwydo ar ei boncyff marw, a'r anifeiliaid gwyllt yn cerdded dros ei changhennau. | |
Ezek | WelBeibl | 31:14 | “‘Digwyddodd hyn i stopio i unrhyw goeden arall dyfu mor dal nes bod ei brigau uchaf yn y cymylau. Byddan nhw i gyd, fel pobl feidrol, yn marw yn nyfnder y ddaear. Byddan nhw'n ymuno gyda phawb arall sydd yn y Pwll. | |
Ezek | WelBeibl | 31:15 | “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan aeth Asyria i lawr i'r bedd, roedd y dyfnder yn galaru amdani. Dyma fi'n dal yr afonydd yn ôl oddi wrthi. Gwisgais Libanus mewn du, a gwneud i'r coed eraill i gyd wywo. | |
Ezek | WelBeibl | 31:16 | Roedd y gwledydd i gyd yn crynu pan glywon nhw amdani'n syrthio, pan wnes i ei thaflu i lawr i fyd y meirw gyda phawb arall sydd yn y Pwll. Yn y byd tanddaearol cafodd coed Eden i gyd a'r gorau o goed Libanus, pob un oedd wedi cael digon o ddŵr, eu bodloni. | |
Ezek | WelBeibl | 31:17 | Roedd ei chefnogwyr i gyd (y gwledydd oedd wedi byw dan ei chysgod) wedi mynd i lawr i fyd y meirw gyda hi, i ymuno gyda phawb arall oedd wedi'u lladd â'r cleddyf. | |
Chapter 32
Ezek | WelBeibl | 32:1 | Roedd hi ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r deuddegfed mis, a dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD: | |
Ezek | WelBeibl | 32:2 | “Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl y Pharo, brenin yr Aifft, a dweud wrtho: ‘Roeddet ti'n gweld dy hun fel llew yng nghanol y gwledydd, ond ti fwy fel draig yn y môr. Rwyt ti'n sblasio yn y ffosydd, yn corddi'r dŵr gyda dy draed a baeddu'r ffosydd.’ | |
Ezek | WelBeibl | 32:3 | Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydda i'n taflu fy rhwyd drosot ti (bydd tyrfa enfawr o bobl yno), ac yn dy lusgo allan o'r dŵr gyda'm llusgrwyd. | |
Ezek | WelBeibl | 32:4 | Wedyn bydda i'n dy daflu di ar dir sych, a bydd yr adar yn dod ac yn byw arnat ti, a'r anifeiliaid gwyllt yn llenwi eu hunain arnat. | |
Ezek | WelBeibl | 32:6 | Bydda i'n socian y tir gyda dy waed di, yr holl ffordd i ben y mynyddoedd, a bydd dy waed yn llenwi'r ceunentydd i gyd. | |
Ezek | WelBeibl | 32:7 | Pan fydda i'n dy ddiffodd bydda i'n rhoi gorchudd ar yr awyr, ac yn diffodd y sêr i gyd. Bydd cwmwl yn cuddio'r haul, ac yn rhwystro'r lleuad rhag llewyrchu. | |
Ezek | WelBeibl | 32:8 | Bydd pob golau yn yr awyr yn diffodd, a bydd tywyllwch drwy'r wlad i gyd,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 32:9 | “Bydd pobloedd lawer wedi cynhyrfu pan fydd y cenhedloedd yn clywed am dy ddinistr. Hyd yn oed gwledydd dwyt ti erioed wedi clywed amdanyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 32:10 | Bydd pobl mewn sioc o glywed beth fydd wedi digwydd i ti. Bydd brenhinoedd wedi dychryn am eu bywydau pan fydda i'n chwifio fy nghleddyf o'u blaenau nhw. Ar y diwrnod y byddi di'n syrthio byddan nhw'n crynu drwyddynt yn ofni am eu bywydau eu hunain.” | |
Ezek | WelBeibl | 32:11 | Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd cleddyf brenin Babilon yn ymosod arnat ti. | |
Ezek | WelBeibl | 32:12 | Bydda i'n gwneud i gleddyfau milwyr cryfion ladd dy fyddin enfawr di – nhw ydy'r milwyr mwyaf creulon sydd. Byddan nhw'n torri balchder yr Aifft, a bydd ei byddin enfawr yn cael ei dinistrio. | |
Ezek | WelBeibl | 32:13 | Bydd yr anifeiliaid sy'n pori ar lan y dŵr yn cael eu lladd i gyd. Fydd y dŵr ddim yn cael ei faeddu eto gan draed dynol na charnau anifeiliaid. | |
Ezek | WelBeibl | 32:14 | Bydd y dŵr drwy'r Aifft yn glir, a'r afonydd yn llifo'n llyfn fel olew. “Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 32:15 | Pan fydda i'n troi gwlad yr Aifft yn anialwch ac yn dinistrio popeth sydd ynddi; Pan fydda i'n lladd pawb sy'n byw yno, byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 32:16 | “Dyma'r gân angladdol fyddan nhw'n ei chanu. Bydd merched y gwledydd i gyd yn ei chanu ac yn galaru am yr Aifft a'i byddin enfawr.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 32:17 | Ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pymthegfed diwrnod o'r un mis, dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 32:18 | “Ddyn, uda dros fyddin yr Aifft. ‘I lawr â hi! I lawr â hi at drefi a dinasoedd y gwledydd pwerus eraill sydd yn nyfnder y ddaear. I lawr â hi gyda phawb sy'n mynd i'r Pwll!’ | |
Ezek | WelBeibl | 32:19 | Wyt ti'n harddach na'r gwledydd eraill? Na! Dos i lawr i orwedd gyda'r gwledydd paganaidd. | |
Ezek | WelBeibl | 32:20 | Byddi'n gorwedd gyda phawb arall sydd wedi'u lladd mewn rhyfel! Mae'r cleddyf yn barod i'w taro nhw; bydd yr Aifft a'i byddin yn cael eu llusgo i ffwrdd. | |
Ezek | WelBeibl | 32:21 | Bydd arweinwyr grymus y gwledydd yn gwawdio'r Aifft a'i chefnogwyr: ‘Dyma nhw wedi cyrraedd, i orwedd gyda'r paganiaid eraill sydd wedi'u lladd â'r cleddyf.’ | |
Ezek | WelBeibl | 32:22 | “Mae brenin Asyria yna, a beddau ei fyddin enfawr ym mhobman. Pob un wedi'i ladd â'r cleddyf. | |
Ezek | WelBeibl | 32:23 | Mae eu beddau yn gorchuddio llethrau dyfnaf y Pwll, ac mae ei chefnogwyr o'i chwmpas. Ie, dyma nhw, y rhai oedd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd! | |
Ezek | WelBeibl | 32:24 | “Mae Elam yna, a beddau ei byddin enfawr hithau ym mhobman. Pob un wedi'i ladd â'r cleddyf. Hwythau'n baganiaid wedi mynd i lawr i ddyfnder y ddaear, ond ar un adeg yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll! | |
Ezek | WelBeibl | 32:25 | Mae hithau'n gorffwys gyda'r meirw, a beddau ei byddin enfawr ym mhobman. Paganiaid wedi'u lladd â'r cleddyf am eu bod wedi codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll! | |
Ezek | WelBeibl | 32:26 | “Mae Meshech a Twbal yna, a beddau eu byddinoedd hwythau ym mhobman. Paganiaid wedi'u lladd â'r cleddyf am eu bod wedi codi dychryn ar bawb drwy'r byd. | |
Ezek | WelBeibl | 32:27 | Dŷn nhw ddim gydag arwyr dewr y gorffennol, wedi'u claddu'n anrhydeddus gyda'u harfau – gyda'r cleddyf wedi'i osod dan y pen a'r darian yn gorwedd ar yr esgyrn. Roedden nhw hefyd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd. | |
Ezek | WelBeibl | 32:28 | A byddi dithau, y Pharo, yn gorwedd wedi dy dorri gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd â'r cleddyf! | |
Ezek | WelBeibl | 32:29 | “Mae Edom yna, gyda'i brenhinoedd a'i phenaethiaid i gyd. Er eu bod mor gryf ar un adeg, maen nhw'n gorwedd gyda'r rhai sydd wedi'u lladd â'r cleddyf. Maen nhw'n gorwedd gyda'r paganiaid eraill sydd wedi mynd i lawr i'r Pwll. | |
Ezek | WelBeibl | 32:30 | “Mae arweinwyr gwledydd y gogledd yno i gyd, a'r Sidoniaid. Y rhai oedd yn codi dychryn bellach yn gorwedd mewn cywilydd gyda'r meirw – gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd â'r cleddyf. Maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll. | |
Ezek | WelBeibl | 32:31 | “Bydd y Pharo yn eu gweld, ac yn cael ei gysuro mai nid ei fyddin enfawr e oedd yr unig un i gael ei lladd â'r cleddyf,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Chapter 33
Ezek | WelBeibl | 33:2 | “Ddyn, dywed hyn wrth dy bobl, ‘Pan dw i'n gadael i fyddin ymosod ar wlad, mae pobl y wlad honno'n dewis un o'u plith i fod yn wyliwr. | |
Ezek | WelBeibl | 33:4 | Os ydy pobl yn clywed y corn hwrdd ond yn cymryd dim sylw, nhw fydd ar fai pan gân nhw eu lladd. | |
Ezek | WelBeibl | 33:5 | Roedden nhw wedi clywed y corn hwrdd, ond ei anwybyddu. Arnyn nhw mae'r bai. Petaen nhw wedi gwrando bydden nhw'n dal yn fyw. | |
Ezek | WelBeibl | 33:6 | Ond beth petai'r gwyliwr heb ganu'r corn hwrdd i rybuddio'r bobl pan welodd y fyddin yn dod? Mae rhywun yn cael ei ladd. Mae'r person hwnnw'n marw am ei fod e'i hun wedi pechu, ond bydda i'n dal y gwyliwr yn gyfrifol am achosi iddo gael ei ladd. | |
Ezek | WelBeibl | 33:7 | “Ddyn, ti dw i wedi'i benodi yn wyliwr i warchod pobl Israel. Rhaid i ti eu rhybuddio nhw pan fydda i'n rhoi neges i ti. | |
Ezek | WelBeibl | 33:8 | Pan dw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a thithau ddim yn ei rybuddio fod rhaid iddo newid ei ffyrdd, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu a bydda i'n dy ddal di'n gyfrifol ei fod wedi marw. | |
Ezek | WelBeibl | 33:9 | Ond os byddi di wedi'i rybuddio i newid ei ffyrdd, ac yntau wedi gwrthod gwneud hynny, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu ond byddi di wedi achub dy hun. | |
Ezek | WelBeibl | 33:10 | “Ddyn, dyma rwyt ti i'w ddweud wrth bobl Israel: ‘Dych chi wedi bod yn dweud, “Mae hyn i gyd yn digwydd am ein bod ni wedi gwrthryfela ac wedi pechu. Mae wedi darfod arnon ni. Pa obaith sydd?”’ | |
Ezek | WelBeibl | 33:11 | Wel, dywed wrthyn nhw, ‘Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, dydy gweld pobl ddrwg yn marw yn rhoi dim pleser i mi. Byddai'n well gen i iddyn nhw newid eu ffyrdd a chael byw. Dewch bobl Israel, trowch gefn ar eich drygioni. Pam ddylech chi farw?’ | |
Ezek | WelBeibl | 33:12 | “Ddyn, dywed wrth dy bobl, ‘Fydd daioni y bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn ddim yn eu hachub nhw pan fyddan nhw'n gwrthryfela. A fydd drygioni pobl ddrwg ddim yn eu condemnio nhw os gwnân nhw newid eu ffyrdd a stopio gwneud drwg. Fydd yr holl bethau da mae rhywun wedi'i gwneud ddim yn ei achub os ydy e'n dewis pechu wedyn.’ | |
Ezek | WelBeibl | 33:13 | Os dw i'n dweud wrth rywun sy'n gwneud beth sy'n iawn ei fod yn cael byw ac mae e'n dewis pechu wedyn, bydd yr holl bethau da wnaeth e yn cael eu hanghofio. Bydd e'n marw am ei fod wedi pechu. | |
Ezek | WelBeibl | 33:14 | Ond os ydw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a hwnnw wedyn yn troi cefn ar ei bechod a gwneud beth sy'n iawn ac yn dda | |
Ezek | WelBeibl | 33:15 | (Os bydd e'n talu'n ôl beth gafodd ei roi iddo'n ernes, yn rhoi beth mae wedi'i ddwyn yn ôl, yn cadw'r deddfau sy'n rhoi bywyd ac yn peidio pechu) bydd e'n cael byw. Fydd e ddim yn marw. | |
Ezek | WelBeibl | 33:16 | Bydd y pechodau wnaeth e yn cael eu hanghofio. Mae e'n gwneud beth sy'n iawn ac yn dda, a bydd e'n cael byw.” | |
Ezek | WelBeibl | 33:17 | “Ond mae dy bobl yn dweud, ‘Dydy beth mae'r Meistr yn ei wneud ddim yn iawn!’ Y gwir ydy mai'r ffordd maen nhw'n ymddwyn sydd ddim yn iawn! | |
Ezek | WelBeibl | 33:18 | Pan mae pobl sy'n gwneud beth sy'n iawn yn newid eu ffyrdd ac yn dewis gwneud drwg, byddan nhw'n marw. | |
Ezek | WelBeibl | 33:19 | Ond os ydy pobl ddrwg yn troi cefn ar eu pechod ac yn gwneud beth sy'n iawn ac yn dda, byddan nhw'n cael byw. | |
Ezek | WelBeibl | 33:20 | Ac eto, dych chi bobl Israel yn dweud, ‘Dydy beth mae'r Meistr yn ei wneud ddim yn iawn!’ Felly, bobl Israel, bydda i'n barnu pob un ohonoch chi ar sail beth dych chi wedi'i wneud.” | |
Ezek | WelBeibl | 33:21 | Ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pumed diwrnod o'r degfed mis, dyma ffoadur oedd wedi llwyddo i ddianc o Jerwsalem yn dod ata i a dweud, “Mae'r ddinas wedi syrthio!” | |
Ezek | WelBeibl | 33:22 | Roedd yr ARGLWYDD wedi fy nghyffwrdd i y noson cynt, ac erbyn i'r ffoadur gyrraedd y bore wedyn roeddwn i'n gallu siarad eto. Oeddwn, roeddwn i'n gallu siarad; doeddwn i ddim yn fud. | |
Ezek | WelBeibl | 33:24 | “Ddyn, mae'r rhai sy'n byw yng nghanol adfeilion Israel yn siarad fel yma: ‘Un dyn oedd Abraham, ac eto llwyddodd i feddiannu'r wlad i gyd! Mae yna lot fawr ohonon ni. Mae'r wlad yma'n siŵr o gael ei rhoi i ni!’ | |
Ezek | WelBeibl | 33:25 | Felly, dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dych chi'n bwyta cig sydd â'r gwaed yn dal ynddo, yn addoli eilun-dduwiau ac yn lladd pobl ddiniwed. Ydych chi wir yn meddwl y bydd y wlad yn cael ei rhoi i chi? | |
Ezek | WelBeibl | 33:26 | Dych chi'n dibynnu ar eich arfau, yn gwneud pethau ffiaidd, ac yn cysgu gyda gwraig rhywun arall. Fydd y wlad yn cael ei rhoi i chi?’ | |
Ezek | WelBeibl | 33:27 | “Dwed hyn wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, bydd y rhai sy'n byw yng nghanol yr adfeilion yn cael eu lladd â'r cleddyf, a phawb ar y tir agored yn fwyd i anifeiliaid gwyllt, a bydd y rhai sy'n cuddio mewn cuddfannau saff ac ogofâu yn cael eu taro'n farw gan heintiau. | |
Ezek | WelBeibl | 33:28 | Bydda i'n troi'r wlad yn anialwch diffaith. Bydd ei balchder yn ei grym yn dod i ben. Bydd mynyddoedd Israel mor anial, fydd neb yn cerdded drostyn nhw.’ | |
Ezek | WelBeibl | 33:29 | Byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n troi'r wlad yn anialwch diffaith o achos yr holl bethau ffiaidd maen nhw wedi'u gwneud. | |
Ezek | WelBeibl | 33:30 | “Ddyn, mae dy bobl yn siarad amdanat ti o gwmpas y ddinas ac ar y stepen drws, ac yn dweud wrth ei gilydd, ‘Dewch i wrando ar y neges gan yr ARGLWYDD.’ | |
Ezek | WelBeibl | 33:31 | Mae tyrfa ohonyn nhw'n dod ac yn eistedd o dy flaen di. Maen nhw'n gwrando ond dŷn nhw ddim yn gweithredu. Dŷn nhw ddim yn gwneud beth dw i'n ddweud. Maen nhw'n gofyn am fwy ond gwneud arian ac elwa ar draul pobl eraill ydy eu hobsesiwn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 33:32 | Adloniant ydy'r cwbl iddyn nhw. Ti fel canwr yn canu caneuon serch. Mae gen ti lais hyfryd ac rwyt ti'n offerynnwr medrus. Maen nhw'n gwrando ond dŷn nhw ddim yn gweithredu. | |
Chapter 34
Ezek | WelBeibl | 34:2 | “Ddyn, proffwyda yn erbyn bugeiliaid Israel (sef yr arweinwyr). Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae chi, fugeiliaid Israel, sy'n gofalu am neb ond chi'ch hunain! Oni ddylai bugeiliaid ofalu am y praidd? | |
Ezek | WelBeibl | 34:3 | Dych chi'n yfed eu llaeth nhw, yn gwisgo'u gwlân ac yn lladd yr ŵyn gorau i'w rhostio, ond dych chi ddim yn gofalu am y praidd! | |
Ezek | WelBeibl | 34:4 | Dych chi ddim wedi helpu'r rhai gwan, gwella y rhai sy'n sâl na rhwymo briwiau y rhai sydd wedi'u hanafu. Dych chi ddim wedi edrych am y rhai sydd wedi crwydro a mynd ar goll. Na, yn lle hynny, dych chi wedi'u rheoli nhw a'u bygwth fel meistri creulon. | |
Ezek | WelBeibl | 34:5 | Bellach maen nhw ar chwâl am fod dim bugail wedi gofalu amdanyn nhw. Maen nhw'n cael eu llarpio gan anifeiliaid gwyllt. | |
Ezek | WelBeibl | 34:6 | Mae fy nefaid wedi crwydro dros y mynyddoedd a'r bryniau uchel i gyd. Maen nhw ar wasgar drwy'r byd i gyd, a does neb yn edrych a chwilio amdanyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 34:8 | Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, meddai'r ARGLWYDD, y Meistr, mae fy nefaid yn cael eu llarpio gan anifeiliaid gwyllt am fod dim bugail wedi gofalu amdanyn nhw. Mae'r bugeiliaid wedi gofalu amdanyn nhw eu hunain yn lle mynd i edrych am y defaid. | |
Ezek | WelBeibl | 34:10 | Mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn dweud, “Dw i yn erbyn y bugeiliaid! Dw i'n ei dal nhw'n gyfrifol, a fyddan nhw ddim yn cael gofalu am y praidd o hyn ymlaen. Na, fydd dim mwy o ofalu am neb ond nhw eu hunain! Gân nhw ddim bwyta'r defaid eto; bydda i'n achub y defaid o'u gafael nhw.” | |
Ezek | WelBeibl | 34:11 | “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i fy hun am fynd allan i chwilio am fy nefaid. A dw i'n mynd i ddod o hyd iddyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 34:12 | Fel mae bugail yn chwilio am ei braidd pan maen nhw wedi mynd ar chwâl, bydda i'n dod o hyd i'm praidd i. Bydda i'n eu hachub nhw o ble bynnag aethon nhw ar y diwrnod tywyll, stormus hwnnw. | |
Ezek | WelBeibl | 34:13 | Dw i'n mynd i ddod â nhw adre o'r gwledydd eraill; dod â nhw yn ôl i'w tir eu hunain. Dw i'n mynd i adael iddyn nhw bori ar fryniau a dyffrynnoedd Israel, ble bynnag mae porfa iddyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 34:14 | Ydw, dw i'n mynd i roi porfa iddyn nhw ar ben bryniau Israel. Byddan nhw'n gorwedd mewn porfa hyfryd ac yn bwydo ar laswellt cyfoethog bryniau Israel. | |
Ezek | WelBeibl | 34:15 | Dw i fy hun yn mynd i ofalu amdanyn nhw, a rhoi lle iddyn nhw orwedd i lawr, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 34:16 | Dw i'n mynd i chwilio am y rhai sydd ar goll, a dod â'r rhai sydd wedi crwydro yn ôl adre. Dw i'n mynd i rwymo briwiau y rhai sydd wedi'u hanafu, a helpu'r rhai sy'n wan. Ond bydd y rhai cyfoethog a chryf yn cael eu dinistrio. Bydda i'n gofalu eu bod nhw'n cael beth maen nhw'n ei haeddu! | |
Ezek | WelBeibl | 34:17 | “‘Ie, dyma beth mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthoch chi'r defaid: Dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng un ddafad a'r llall, a rhwng yr hyrddod a'r bychod geifr. | |
Ezek | WelBeibl | 34:18 | Ydy bwydo ar borfa dda ddim digon i chi? Oes rhaid i chi sathru gweddill y borfa hefyd? Wrth yfed y dŵr glân oes rhaid i chi faeddu gweddill y dŵr drwy sathru'r mwd? | |
Ezek | WelBeibl | 34:19 | Pam ddylai gweddill fy nefaid i orfod bwyta'r borfa sydd wedi'i sathru gynnoch chi ac yfed dŵr sydd wedi'i faeddu? | |
Ezek | WelBeibl | 34:20 | “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng y defaid tewion a'r defaid tenau. | |
Ezek | WelBeibl | 34:21 | Dych chi'r rhai cryfion wedi gwthio'r rhai gwan o'r ffordd. Dych chi wedi'u cornio nhw a'i gyrru nhw i ffwrdd. | |
Ezek | WelBeibl | 34:22 | Ond dw i'n mynd i achub fy nefaid. Fyddan nhw ddim yn cael eu cam-drin o hyn ymlaen. Ydw, dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng un ddafad a'r llall. | |
Ezek | WelBeibl | 34:23 | “‘Dw i'n mynd i apwyntio un bugail i ofalu amdanyn nhw, sef fy ngwas Dafydd. Bydd e'n fugail arnyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 34:24 | Fi, yr ARGLWYDD fydd eu Duw nhw, a'm gwas Dafydd fydd pennaeth y wlad i'w harwain nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. | |
Ezek | WelBeibl | 34:25 | “‘Bydda i'n gwneud ymrwymiad i roi heddwch iddyn nhw. Bydda i'n cael gwared â'r anifeiliaid gwyllt o'r tir. Byddan nhw'n saff i aros yn yr anialwch, ac yn gallu cysgu yn y goedwig hyd yn oed. | |
Ezek | WelBeibl | 34:26 | Bydda i'n eu bendithio nhw, a'r ardaloedd o gwmpas fy mryn hefyd. Bydd glaw yn disgyn ar yr adeg iawn; cawodydd yn dod â bendith! | |
Ezek | WelBeibl | 34:27 | Bydd ffrwythau'n tyfu ar y coed yng nghefn gwlad, a chnydau yn tyfu o'r tir. Byddan nhw i gyd yn teimlo'n saff. Byddan nhw'n gwybod mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n torri'r iau a'u gollwng nhw'n rhydd o afael y rhai wnaeth eu caethiwo nhw, | |
Ezek | WelBeibl | 34:28 | a fydd gwledydd eraill byth eto'n eu dinistrio nhw. Fydd anifeiliaid gwyllt ddim yn ymosod arnyn nhw. Byddan nhw'n hollol saff. Fyddan nhw'n ofni dim. | |
Ezek | WelBeibl | 34:29 | Bydda i'n gwneud i'w cnydau nhw lwyddo, a fyddan nhw byth yn dioddef o newyn eto. A fyddan nhw byth eto'n destun sbort i'r gwledydd o'u cwmpas. | |
Ezek | WelBeibl | 34:30 | Byddan nhw'n gwybod yn iawn wedyn fy mod i, yr ARGLWYDD eu Duw, gyda nhw, ac mai nhw, pobl Israel, ydy fy mhobl i.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Chapter 35
Ezek | WelBeibl | 35:3 | Dwed wrthi, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti, Edom. Dw i'n mynd i dy daro di'n galed, a dy droi di yn anialwch diffaith! | |
Ezek | WelBeibl | 35:4 | Bydda i'n gwneud dy drefi'n adfeilion. Byddi fel anialwch! A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 35:5 | “‘Rwyt ti bob amser wedi casáu pobl Israel. Roeddet ti'n ymosod arnyn nhw gyda'r cleddyf pan oedden nhw mewn trafferthion, pan o'n i eisoes wedi'u cosbi nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 35:6 | Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, gan dy fod ti mor hoff o dywallt gwaed mae lladdfa ar ei ffordd i ti! | |
Ezek | WelBeibl | 35:7 | Bydda i'n troi Edom yn anialwch diffaith. Bydd hyd yn oed y rhai sy'n pasio trwodd yn cael eu lladd. | |
Ezek | WelBeibl | 35:8 | Bydd cyrff marw yn gorchuddio dy fynyddoedd. Bydd pobl wedi'u lladd â'r cleddyf yn gorwedd ar y bryniau, yn y dyffrynnoedd ac ym mhob ceunant. | |
Ezek | WelBeibl | 35:9 | Byddi'n adfeilion am byth. Fydd neb yn byw ynot ti. A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 35:10 | “‘Roeddet ti'n dweud, “Bydd y ddwy wlad yna yn perthyn i mi! Bydda i'n eu cymryd nhw,” – er bod yr ARGLWYDD yna. | |
Ezek | WelBeibl | 35:11 | Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, ‘dw i'n mynd i ddelio gyda ti fel rwyt ti'n haeddu, am fod mor gas a chenfigennus a sbeitlyd. Bydda i'n dangos pwy ydw i iddyn nhw, drwy dy gosbi di. | |
Ezek | WelBeibl | 35:12 | Byddi'n gwybod wedyn fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi clywed yr holl bethau sarhaus rwyt ti wedi bod yn eu dweud am fynyddoedd Israel. “Maen nhw wedi'u dinistrio,” meddet ti, “Maen nhw yna ar blât i ni!” | |
Ezek | WelBeibl | 35:13 | Roeddet ti'n brolio dy hun a ddim yn stopio gwneud sbort am fy mhen i – ydw, dw i wedi clywed y cwbl!’ | |
Ezek | WelBeibl | 35:14 | Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Bydd y byd i gyd yn dathlu pan fydda i'n dy droi di'n adfeilion. | |
Chapter 36
Ezek | WelBeibl | 36:1 | “Ddyn, dw i eisiau i ti broffwydo wrth fynyddoedd Israel, a dweud: ‘Israel fynyddig, gwrando ar neges yr ARGLWYDD: | |
Ezek | WelBeibl | 36:2 | Mae'r gelyn wedi bod yn dy wawdio di. “Ha! ha!” medden nhw, “Mae'r bryniau hynafol yna'n perthyn i ni bellach!”’ | |
Ezek | WelBeibl | 36:3 | Felly ddyn, proffwyda a dweud: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae dy elynion wedi ymosod arnat ti o bob cyfeiriad, yn dinistrio ac yn dy gam-drin di. Mae gwledydd wedi dwyn dy dir di. Mae pobl yn hel straeon ac yn gwneud jôcs amdanat ti. | |
Ezek | WelBeibl | 36:4 | Felly Israel, gwrando ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth y mynyddoedd a'r bryniau, y dyffrynnoedd a'r ceunentydd, yr holl adfeilion a'r trefi gwag sydd wedi'u dinistrio a'i dilorni gan y gwledydd sydd ar ôl o dy gwmpas – | |
Ezek | WelBeibl | 36:5 | Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n wyllt gyda'r gwledydd yna ac wedi siarad yn gryf yn eu herbyn nhw. Yn arbennig Edom, sydd wedi bod mor sbeitlyd tuag ata i. Roedd hi wrth ei bodd yn cymryd y tir oddi arna i.’ | |
Ezek | WelBeibl | 36:6 | “Felly dw i eisiau i ti broffwydo am wlad Israel, a dweud wrth y mynyddoedd a'r bryniau, y dyffrynnoedd a'r ceunentydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n wyllt gyda'r gwledydd yna am dy fod ti wedi gorfod eu diodde nhw'n dy fychanu di. | |
Ezek | WelBeibl | 36:7 | Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n addo i ti – mae ei tro nhw i gael eu bychanu yn dod! | |
Ezek | WelBeibl | 36:8 | “‘Ond bydd dy ganghennau di yn tyfu, Israel fynyddig, a bydd ffrwythau'n pwyso'n drwm arnyn nhw; ffrwythau ar gyfer fy mhobl, Israel. Byddan nhw'n dod yn ôl adre'n fuan! | |
Ezek | WelBeibl | 36:9 | Gwranda, dw i ar dy ochr di. Dw i'n mynd i dy helpu di. Bydd y tir yn cael ei aredig eto, a chnydau'n cael eu plannu. | |
Ezek | WelBeibl | 36:10 | Bydd dy boblogaeth yn tyfu drwy'r wlad i gyd. Bydd pobl yn byw yn dy drefi, a'r adfeilion yn cael eu hadeiladu. | |
Ezek | WelBeibl | 36:11 | Bydd y wlad yn fwrlwm o fywyd eto – pobl ac anifeiliaid yn magu rhai bach. Bydd pobl yn byw ynot ti unwaith eto, a bydd pethau'n well arnat ti nag erioed o'r blaen. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 36:12 | Bydda i'n dod â'm pobl Israel yn ôl i bob rhan o'r wlad. Byddan nhw'n etifeddu'r tir. A fyddi di ddim yn cymryd eu plant oddi arnyn nhw byth eto. | |
Ezek | WelBeibl | 36:13 | “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae pobl yn cael hwyl ar dy ben di, ac yn dweud, “Mae Israel yn wlad sy'n dinistrio'i phobl ei hun – fydd dim plant ar ôl yno!” | |
Ezek | WelBeibl | 36:14 | Ond fyddwch chi ddim yn dinistrio'ch pobl a cholli'ch plant o hyn ymlaen, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 36:15 | Fydda i ddim yn gadael i'r gwledydd eraill eich sarhau chi. Fydd dim rhaid i chi deimlo cywilydd o flaen pawb. Fyddwch chi ddim yn colli'ch plant.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 36:17 | “Ddyn, pan oedd pobl Israel yn byw yn eu gwlad eu hunain, roedden nhw wedi llygru'r wlad drwy'r ffordd roedden nhw'n ymddwyn. Roedd yn aflan, fel gwraig pan mae'n dioddef o'r misglwyf. | |
Ezek | WelBeibl | 36:18 | Felly dw i wedi tywallt fy llid arnyn nhw, am eu bod nhw wedi tywallt gwaed a llygru'r wlad gyda'u heilunod. | |
Ezek | WelBeibl | 36:19 | Dw i wedi'u gyrru nhw ar chwâl drwy'r gwledydd. Dw i wedi'u cosbi nhw am y ffordd roedden nhw'n ymddwyn. | |
Ezek | WelBeibl | 36:20 | “Ond wedyn, roedden nhw'n dal i sarhau fy enw sanctaidd ar ôl cyrraedd y gwledydd hynny. Roedd pobl yn dweud amdanyn nhw, ‘Maen nhw i fod yn bobl yr ARGLWYDD, ond maen nhw wedi colli eu tir!’ | |
Ezek | WelBeibl | 36:21 | Rôn i'n poeni am fy enw da. Roedd yn cael ei sarhau gan bobl Israel ble bynnag roedden nhw'n mynd. | |
Ezek | WelBeibl | 36:22 | “Felly dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i ddim yn gwneud hyn er eich mwyn chi, bobl Israel, ond er mwyn cadw fy enw da – yr enw dych chi wedi'i sarhau ym mhobman. | |
Ezek | WelBeibl | 36:23 | Dw i'n mynd i ddangos mor wych ydy fy enw i – yr enw dych chi wedi'i sarhau ym mhobman. Bydd y gwledydd i gyd yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD. Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn dangos yn glir iddyn nhw mor wych ydw i. | |
Ezek | WelBeibl | 36:24 | “‘Bydda i'n eich casglu chi a dod â chi allan o'r gwledydd i gyd, a mynd â chi yn ôl i'ch gwlad eich hunain. | |
Ezek | WelBeibl | 36:25 | Bydda i'n taenellu dŵr glân arnoch chi, a byddwch chi'n cael eich glanhau o bopeth sy'n eich gwneud chi'n aflan, ac yn stopio addoli eilun-dduwiau. | |
Ezek | WelBeibl | 36:26 | Bydda i'n rhoi calon newydd i chi, ac yn rhoi ysbryd newydd i chi. Byddai'n cymryd y galon garreg ystyfnig i ffwrdd ac yn rhoi calon newydd dyner i chi. | |
Ezek | WelBeibl | 36:27 | Dw i'n mynd i anadlu fy Ysbryd fy hun i mewn i chi, i wneud yn siŵr eich bod chi'n ufudd i mi ac yn gwneud beth sy'n iawn. | |
Ezek | WelBeibl | 36:28 | Wedyn byddwch chi'n cael byw yn y wlad rois i i'ch hynafiaid chi. Chi fydd fy mhobl i, a fi fydd eich Duw chi. | |
Ezek | WelBeibl | 36:29 | Bydda i'n eich achub chi o ganlyniadau'r holl bethau aflan wnaethoch chi. Byddai'n gwneud i'r caeau roi cnydau mawr i chi, yn lle anfon newyn arnoch chi. | |
Ezek | WelBeibl | 36:30 | Bydd digonedd o ffrwythau'n tyfu ar y coed, a bydd cnydau'r caeau i gyd yn llwyddo. Fyddwch chi byth eto'n gorfod cywilyddio am fod y gwledydd o'ch cwmpas chi'n eich gweld chi'n diodde o newyn. | |
Ezek | WelBeibl | 36:31 | Byddwch chi'n edrych yn ôl ac yn cofio'r holl bethau drwg wnaethoch chi, ac yn teimlo cywilydd ofnadwy am yr holl bechodau a'r pethau ffiaidd wnaethoch chi. | |
Ezek | WelBeibl | 36:32 | Ond dw i eisiau i hyn fod yn glir: Dw i ddim yn gwneud hyn er eich mwyn chi, meddai'r ARGLWYDD, y Meistr. Dylech chi fod â chywilydd go iawn o'r ffordd dych chi wedi ymddwyn! | |
Ezek | WelBeibl | 36:33 | “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan fydda i'n eich glanhau chi o'ch pechodau, bydda i'n dod â phobl yn ôl i fyw yn y trefi. Bydd yr adfeilion yn cael eu hadeiladu eto. | |
Ezek | WelBeibl | 36:34 | Bydd y tir anial yn cael ei drin a'i aredig eto, yn lle bod pawb yn ei weld wedi tyfu'n wyllt. | |
Ezek | WelBeibl | 36:35 | Bydd pobl yn dweud, “Mae'r wlad yma oedd yn anial wedi troi i fod fel gardd Eden unwaith eto. Mae'r trefi oedd yn adfeilion wedi'u hadeiladu eto, ac mae pobl yn byw ynddyn nhw!” | |
Ezek | WelBeibl | 36:36 | Bydd y gwledydd sydd ar ôl o'ch cwmpas chi yn sylweddoli mai fi sydd wedi achosi i'r trefi gael eu hadeiladu ac i'r tir gael ei drin unwaith eto. Fi ydy'r ARGLWYDD, a bydd beth dw i'n ddweud yn digwydd!’ | |
Ezek | WelBeibl | 36:37 | “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i adael i bobl Israel ofyn i mi wneud hyn iddyn nhw. Bydd yna gymaint o bobl ag sydd o ddefaid yn y wlad! | |
Chapter 37
Ezek | WelBeibl | 37:1 | Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i, a dyma'i Ysbryd yn mynd â fi i ffwrdd ac yn fy ngosod yng nghanol dyffryn llydan. Roedd y dyffryn yn llawn o esgyrn. | |
Ezek | WelBeibl | 37:2 | Gwnaeth i mi gerdded o gwmpas drwy'i canol nhw, yn ôl ac ymlaen. Roedden nhw ym mhobman! Esgyrn sychion ar lawr y dyffryn i gyd. | |
Ezek | WelBeibl | 37:3 | Yna gofynnodd i mi, “Ddyn, oes gobaith i'r esgyrn yma ddod yn ôl yn fyw eto?” A dyma fi'n ateb, “Meistr, ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gwybod hynny.” | |
Ezek | WelBeibl | 37:4 | Yna dyma fe'n gofyn i mi broffwydo dros yr esgyrn, a dweud wrthyn nhw: “Esgyrn sychion, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 37:5 | Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi anadl ynoch chi, a dod â chi yn ôl yn fyw. | |
Ezek | WelBeibl | 37:6 | Dw i'n mynd i roi cnawd arnoch chi, gewynnau a chyhyrau, a rhoi croen amdanoch chi. Wedyn bydda i'n rhoi anadl ynoch chi, a byddwch chi'n dod yn ôl yn fyw. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’” | |
Ezek | WelBeibl | 37:7 | Felly, dyma fi'n proffwydo fel roedd Duw wedi dweud wrtho i. Ac wrth i mi wneud hynny dyma fi'n clywed sŵn ratlo, a dyma'r esgyrn yn dod at ei gilydd, pob un yn ôl i'w le. | |
Ezek | WelBeibl | 37:8 | Wrth i mi edrych dyma fi'n gweld gewynnau a chyhyrau'n dod arnyn nhw, a chroen yn ffurfio amdanyn nhw, ond doedd dim anadl ynddyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 37:9 | A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Proffwyda i'r anadl ddod. Ddyn, proffwyda a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Tyrd anadl, o'r pedwar gwynt. Anadla ar y cyrff yma, iddyn nhw ddod yn ôl yn fyw.’” | |
Ezek | WelBeibl | 37:10 | Felly, dyma fi'n proffwydo fel roedd Duw wedi dweud wrtho i a dyma nhw'n dechrau anadlu. Roedden nhw'n fyw! A dyma nhw'n sefyll ar eu traed, yn un fyddin enfawr. | |
Ezek | WelBeibl | 37:11 | Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, pobl Israel ydy'r esgyrn yma. Maen nhw'n dweud, ‘Does dim gobaith! – dŷn ni wedi'n taflu i ffwrdd, fel esgyrn sychion.’ | |
Ezek | WelBeibl | 37:12 | Ond dw i eisiau i ti broffwydo a dweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i agor eich beddau, a dod â chi allan yn fyw! O fy mhobl, dw i'n mynd i'ch arwain chi yn ôl i wlad Israel! | |
Ezek | WelBeibl | 37:13 | Pan fydda i'n agor eich beddau a dod â chi allan, byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 37:14 | Dw i'n mynd i anadlu fy Ysbryd fy hun i mewn i chi, a byddwch yn byw. Dw i'n mynd i'ch setlo chi i lawr yn ôl yn eich gwlad eich hunain, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Mae beth dw i'n ddweud yn mynd i ddigwydd,’” meddai'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 37:16 | “Ddyn, dw i eisiau i ti gymryd ffon, ac ysgrifennu arni, ‛Jwda a holl bobl Israel sydd gydag e.‛ Yna cymer ffon arall, ac ysgrifennu arni hi, ‛ffon Joseff, sef Effraim, a holl bobl Israel sydd gydag e.‛ | |
Ezek | WelBeibl | 37:19 | Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i gymryd y ffon sy'n cynrychioli Joseff a'r llwythau sydd gydag e, a'i chysylltu hi gyda ffon Jwda. Byddan nhw'n un ffon yn fy llaw i.’ | |
Ezek | WelBeibl | 37:21 | a dweud fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i gasglu pobl Israel o'r gwledydd lle'r aethon nhw. Dw i'n mynd i'w casglu nhw o'r gwledydd hynny, a dod â nhw adre i'w gwlad eu hunain. | |
Ezek | WelBeibl | 37:22 | Dw i'n mynd i'w gwneud nhw'n un genedl eto, ar fynyddoedd Israel. Un brenin fydd ganddyn nhw, a fyddan nhw byth eto wedi'u rhannu'n ddwy wlad ar wahân. | |
Ezek | WelBeibl | 37:23 | Fyddan nhw ddim yn llygru eu hunain yn addoli eu heilunod ffiaidd, nac yn gwrthryfela yn fy erbyn i. Dw i'n mynd i'w hachub nhw er eu bod nhw wedi troi oddi wrtho i a phechu. Dw i'n mynd i'w glanhau nhw. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 37:24 | Fy ngwas Dafydd fydd yn frenin arnyn nhw. Yr un bugail fydd ganddyn nhw i gyd. Byddan nhw'n ufudd i mi, ac yn gwneud beth sy'n iawn. | |
Ezek | WelBeibl | 37:25 | “‘Byddan nhw'n byw ar y tir rois i i'm gwas Jacob, lle roedd eu hynafiaid yn byw. Byddan nhw'n cael byw yno, a'u plant, a'u disgynyddion am byth. Fy ngwas Dafydd fydd eu pennaeth nhw am byth. | |
Ezek | WelBeibl | 37:26 | Bydda i'n gwneud ymrwymiad i roi heddwch iddyn nhw – ymrwymiad fydd yn para am byth. Bydda i'n eu setlo nhw yn y tir, yn gwneud i'r boblogaeth dyfu eto, a gosod y deml yn eu canol nhw am byth. | |
Chapter 38
Ezek | WelBeibl | 38:2 | “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Gog o dir Magog, sef y tywysog sy'n teyrnasu dros Meshech a Twbal. Proffwyda yn ei erbyn, | |
Ezek | WelBeibl | 38:3 | a dweud: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti, Gog, tywysog Meshech a Twbal. | |
Ezek | WelBeibl | 38:4 | Dw i'n mynd i dy droi di rownd, rhoi bachyn yn dy ên, a dy arwain di a dy fyddin i ryfel – gyda dy geffylau a dy farchogion arfog, yn dyrfa enfawr yn cario tarianau mawr a bach ac yn chwifio'u cleddyfau. | |
Ezek | WelBeibl | 38:5 | Bydd byddinoedd Persia, dwyrain Affrica a Libia gyda nhw. Hwythau hefyd wedi'u harfogi gyda tharianau a helmedau. | |
Ezek | WelBeibl | 38:6 | Hefyd Gomer a'i byddin, a Beth-togarma o'r gogledd pell, a llawer o bobloedd eraill. | |
Ezek | WelBeibl | 38:8 | Ar ôl amser hir, byddi'n cael dy alw i wlad Israel. Gwlad wedi'i hadfer ar ôl cael ei dinistrio gan ryfel. Gwlad â'i phobl wedi'u casglu at ei gilydd ar y mynyddoedd oedd wedi bod yn anial am amser hir. Pobl wedi dod adre ac yn teimlo'n saff yn eu gwlad. | |
Ezek | WelBeibl | 38:9 | Byddi'n ymosod arnyn nhw fel storm. Byddi di a dy fyddin, a byddinoedd yr holl wledydd eraill, fel cwmwl du yn dod dros y wlad.” | |
Ezek | WelBeibl | 38:10 | “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bryd hynny byddi di'n cael syniad, ac yn cynllwynio i wneud drwg. | |
Ezek | WelBeibl | 38:11 | “Dw i am ymosod ar Israel. Gwlad o drefi heb waliau na giatiau a barrau i'w hamddiffyn! Fydd ei phobl ddim yn disgwyl y peth; maen nhw'n teimlo mor saff! | |
Ezek | WelBeibl | 38:12 | Dw i'n mynd i ysbeilio a rheibio'r bobl sydd wedi'u casglu at ei gilydd o'r gwledydd, yn byw lle roedd adfeilion, yn ffermio gwartheg a marchnata, ac yn meddwl mai nhw ydy canolbwynt y byd!” | |
Ezek | WelBeibl | 38:13 | Bydd Sheba a Dedan a marchnatwyr Tarshish yn gofyn, “Wyt ti wedi dod i ysbeilio? Wyt ti wedi casglu dy fyddin i reibio'r wlad – cymryd yr arian a'r aur, y gwartheg a phopeth arall sydd ganddyn nhw?”’ | |
Ezek | WelBeibl | 38:14 | “Felly ddyn, proffwyda a dywed wrth Gog: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bryd hynny, pan fydd fy mhobl Israel yn teimlo'n saff, bydd rhywbeth yn tynnu dy sylw. | |
Ezek | WelBeibl | 38:15 | Byddi'n gadael dy wlad yn y gogledd pell, ac yn dod gyda thyrfa enfawr – dy gafalri a dy fyddin fawr. | |
Ezek | WelBeibl | 38:16 | Byddi'n dod fel cwmwl du dros y wlad. Ac yn y dyfodol pan fydd hyn yn digwydd, Gog, bydd y gwledydd i gyd yn cydnabod pwy ydw i. Bydd beth fydd yn digwydd i ti, Gog, yn dangos yn glir iddyn nhw mor wych ydw i. | |
Ezek | WelBeibl | 38:17 | “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ai ti ydy'r un gwnes i sôn amdano yn y gorffennol drwy fy ngweision y proffwydi yn Israel? Roedden nhw'n proffwydo yn bell yn ôl, flwyddyn ar ôl blwyddyn, y byddwn i'n dod â ti yn eu herbyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 38:18 | “‘“Y diwrnod hwnnw, pan fydd Gog yn ymosod ar wlad Israel, bydda i wedi cynhyrfu, a gwylltio'n lân. | |
Ezek | WelBeibl | 38:19 | Bydd tân fy ffyrnigrwydd yn llosgi. Bydd daeargryn yn ysgwyd gwlad Israel bryd hynny. | |
Ezek | WelBeibl | 38:20 | Bydd pawb a phopeth yn crynu mewn ofn o mlaen i – pysgod, adar, anifeiliaid gwyllt, creaduriaid bach a phryfed, a phob person byw! Bydd y mynyddoedd yn cael eu bwrw i lawr, y clogwyni'n dryllio a phob wal sydd wedi'i hadeiladu yn syrthio. | |
Ezek | WelBeibl | 38:21 | Bydda i'n galw am gleddyf i ymosod arnat ti ar fynyddoedd Israel, Gog,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Bydd dy filwyr yn dechrau ymladd yn erbyn ei gilydd. | |
Ezek | WelBeibl | 38:22 | Bydda i'n barnu Gog gydag afiechydon ofnadwy, a thrais. Bydd storm yn arllwys i lawr arno fe a'i fyddin, a phawb arall sydd gyda nhw – cenllysg, tân a lafa. | |
Chapter 39
Ezek | WelBeibl | 39:1 | “Ddyn, proffwyda yn erbyn Gog, a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti Gog, tywysog Meshech a Twbal! | |
Ezek | WelBeibl | 39:2 | Dw i'n mynd i dy droi di rownd, a dy lusgo di o'r gogledd pell i ymosod ar fynyddoedd Israel. | |
Ezek | WelBeibl | 39:4 | Byddi di a dy filwyr, a phawb arall sydd gyda ti, yn syrthio'n farw ar fynyddoedd Israel. Byddi'n fwyd i bob math o adar rheibus ac anifeiliaid gwyllt. | |
Ezek | WelBeibl | 39:5 | Byddi'n disgyn yn farw ar dir agored. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. | |
Ezek | WelBeibl | 39:6 | Bydda i'n anfon tân ar Magog a'r bobl sy'n byw ar yr arfordir, ac sy'n teimlo'u bod nhw mor saff. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 39:7 | Dw i ddim yn mynd i adael i fy enw sanctaidd i gael ei sarhau o hyn allan. A bydd y cenhedloedd yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel. | |
Ezek | WelBeibl | 39:8 | “‘Mae'n dod! Ydy, mae'n mynd i ddigwydd!’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. ‘Dyma'r diwrnod soniais i amdano. | |
Ezek | WelBeibl | 39:9 | Bydd y rhai sy'n byw yn y trefi yn Israel yn mynd allan i losgi'r arfau rhyfel i gyd – y tarianau bach a mawr, pob bwa saeth, pastwn rhyfel a gwaywffon – byddan nhw'n dal i'w llosgi am saith mlynedd! | |
Ezek | WelBeibl | 39:10 | Fydd dim angen coed o gefn gwlad na thorri coed o'r fforestydd. Byddan nhw'n llosgi'r arfau. Byddan nhw'n ysbeilio a rheibio'r bobl oedd wedi'u rheibio nhw,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 39:11 | “‘Bydda i wedi paratoi mynwent anferth yn Israel i Gog a'i filwyr – yn Nyffryn y Teithwyr, i'r dwyrain o'r Môr Marw. Bydd y dyffryn yn cael ei gau i deithwyr, am fod Gog a'i fyddin i gyd wedi'u claddu yno. Byddan nhw'n galw'r dyffryn yn Ddyffryn Hamon-Gog o hynny ymlaen. | |
Ezek | WelBeibl | 39:12 | Bydd yn cymryd saith mis i bobl Israel lanhau y tir o'r cyrff, a'u claddu nhw i gyd. | |
Ezek | WelBeibl | 39:13 | Bydd pawb yn Israel yn gorfod helpu gyda'r gwaith. Bydd y diwrnod y bydda i'n dangos mor wych ydw i yn ddiwrnod mawr i bobl Israel. | |
Ezek | WelBeibl | 39:14 | “‘Ar ddiwedd y saith mis bydd criwiau o ddynion yn cael eu penodi i chwilio drwy'r wlad am unrhyw gyrff sydd wedi'u gadael ar ôl, a'u claddu nhw. Byddan nhw gwneud yn siŵr fod y tir wedi'i lanhau'n gyfan gwbl. | |
Ezek | WelBeibl | 39:15 | Pan fydd un o'r dynion yn dod o hyd i asgwrn dynol byddan nhw'n marcio'r fan gydag arwydd er mwyn i'r rhai sy'n eu claddu ei gymryd i ffwrdd a'i gladdu yn y fynwent dorfol yn Nyffryn Hamon-Gog. | |
Ezek | WelBeibl | 39:17 | “A ti, ddyn, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Galw'r adar a'r anifeiliaid gwyllt at ei gilydd. Dwed wrthyn nhw, “Dewch yma. Dw i wedi paratoi lladdfa – gwledd i chi ar fynyddoedd Israel! Dewch i fwyta eu cnawd ac yfed eu gwaed. | |
Ezek | WelBeibl | 39:18 | Cewch fwyta cyrff milwyr ac yfed gwaed penaethiaid y gwledydd – hyrddod, ŵyn, bychod geifr, teirw, a lloi wedi'u pesgi yn Bashan. | |
Ezek | WelBeibl | 39:19 | Byddwch yn stwffio eich hunain ar fraster, ac yn meddwi ar waed yn y wledd dw i wedi'i pharatoi i chi. | |
Ezek | WelBeibl | 39:20 | Byddwch yn dod at fy mwrdd ac yn gwledda ar gnawd ceffylau a marchogion, arwyr a milwyr o bob math,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 39:21 | “‘Bydda i'n dangos fy ysblander i'r cenhedloedd. Bydd y gwledydd i gyd yn fy ngweld i'n eu barnu nhw, ac mor rymus ydw i. | |
Ezek | WelBeibl | 39:23 | Bydd y cenhedloedd yn deall fod pobl Israel wedi'u cymryd yn gaeth am bechu drwy fod yn anffyddlon i mi. Felly dyma fi'n troi i ffwrdd oddi wrthyn nhw ac yn gadael i'w gelynion eu lladd nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 39:24 | Dyma nhw'n cael beth roedden nhw'n ei haeddu am wneud pethau mor aflan a gwrthryfela yn fy erbyn i.’ | |
Ezek | WelBeibl | 39:25 | “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i adfer sefyllfa pobl Jacob, a dangos trugaredd at bobl Israel. Dw i'n mynd i ddangos fy sêl dros fy enw sanctaidd. | |
Ezek | WelBeibl | 39:26 | Byddan nhw'n teimlo cywilydd go iawn am fod mor anffyddlon i mi, pan fyddan nhw'n byw yn saff yn y wlad a neb yn eu dychryn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 39:27 | Bydda i'n dangos mor wych ydw i drwy beth fydd yn digwydd iddyn nhw. Bydda i wedi dod â nhw adre o wledydd eu gelynion. | |
Ezek | WelBeibl | 39:28 | Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw. Fi wnaeth eu cymryd nhw'n gaeth i'r cenhedloedd, a fi fydd yn eu casglu nhw'n ôl i'w gwlad eu hunain. Fydda i'n gadael neb ar ôl. | |
Chapter 40
Ezek | WelBeibl | 40:1 | Roedd hi'n ddechrau'r flwyddyn, ddau ddeg pum mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y degfed diwrnod o'r mis cyntaf (sef un deg pedair blynedd ar ôl i ddinas Jerwsalem gael ei dinistrio). Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i, a dyma fe'n mynd â fi i wlad Israel. | |
Ezek | WelBeibl | 40:2 | Aeth â fi yno mewn gweledigaeth a'm gosod ar ben mynydd uchel iawn. Roedd adeiladau i'w gweld i gyfeiriad y de, tebyg i ddinas. | |
Ezek | WelBeibl | 40:3 | Dyma fe'n mynd â fi yno; ac yno'n sefyll o flaen giât y ddinas roedd dyn oedd yn ddisglair fel pres. Roedd ganddo dâp mesur a ffon fesur yn ei law. | |
Ezek | WelBeibl | 40:4 | Dwedodd wrtho i, “Ddyn, edrych yn ofalus a gwrando'n astud. Dw i eisiau i ti sylwi'n fanwl ar bopeth dw i'n ddangos i ti. Dyna pam mae Duw wedi dod â ti yma. Rwyt i fynd yn ôl a dweud wrth bobl Israel am bopeth rwyt ti wedi'i weld.” | |
Ezek | WelBeibl | 40:5 | Roedd wal o gwmpas adeiladau'r deml. Roedd ffon fesur tua tri metr o hyd yn llaw y dyn. Roedd y wal yn dri metr o drwch a tri metr o uchder. | |
Ezek | WelBeibl | 40:6 | Yna aeth at y giât oedd yn wynebu'r dwyrain. Dringodd i fyny'r grisiau a mesur y trothwy allanol. Roedd yn dri metr o ddyfnder. | |
Ezek | WelBeibl | 40:7 | Roedd cilfachau i'r gwarchodwyr bob ochr i'r fynedfa – pob un yn dri metr sgwâr, gyda wal dau fetr a hanner rhyngddyn nhw. Roedd trothwy mewnol y fynedfa i'r ystafell gyntedd o flaen cwrt y deml yn dri metr o ddyfnder. | |
Ezek | WelBeibl | 40:9 | Roedd yn bedwar metr o hyd, gyda colofnau oedd yn fetr o drwch. Roedd y cyntedd hwn yn wynebu cwrt y deml. | |
Ezek | WelBeibl | 40:10 | Roedd tair cilfach bob ochr i'r fynedfa, sef y giât ddwyreiniol. Roedden nhw i gyd yr un faint, a'r waliau rhyngddyn nhw yn mesur yr un faint. | |
Ezek | WelBeibl | 40:12 | Roedd wal fach hanner metr o daldra o flaen pob un o'r cilfachau, a'r cilfachau eu hunain yn dri metr sgwâr. | |
Ezek | WelBeibl | 40:13 | Yna mesurodd led y fynedfa o'r to uwchben wal gefn un gilfach i'r to uwchben wal gefn y gilfach gyferbyn â hi. Roedd yn un deg tri metr. | |
Ezek | WelBeibl | 40:14 | Mesurodd y colofnau i gyd (o du blaen y fynedfa i gwrt y deml), ac roedden nhw'n dri deg un metr a hanner o uchder. | |
Ezek | WelBeibl | 40:15 | Mesurodd y pellter o du blaen y fynedfa i du blaen yr ystafell gyntedd fewnol. Roedd yn ddau ddeg chwech metr. | |
Ezek | WelBeibl | 40:16 | Roedd yna ffenestri cul yn waliau cilfachau'r gwarchodwyr ac o gwmpas yr ystafell gyntedd. Ac roedd y colofnau wedi'u haddurno gyda coed palmwydd. | |
Ezek | WelBeibl | 40:17 | Yna aeth â fi allan i gwrt allanol y deml. Roedd yna bafin o gwmpas yr iard, a tri deg o ystafelloedd o gwmpas y pafin. | |
Ezek | WelBeibl | 40:18 | Roedd y pafin yn cysylltu'r giatiau, ac roedd yr un lled â'r giatiau eu hunain. Dyma'r pafin isaf. | |
Ezek | WelBeibl | 40:19 | Yna dyma fe'n mesur y pellter rhwng y tu mewn i'r giât isaf a tu blaen yr iard fewnol. Roedd yn bum deg dau metr a hanner. Aeth â fi wedyn o'r ochr ddwyreiniol i'r ochr ogleddol. | |
Ezek | WelBeibl | 40:21 | Roedd y cilfachau (tair bob ochr), y colofnau a'r ystafell gyntedd yr un fath â'r giât gyntaf: dau ddeg chwech metr o hyd ac un deg tri metr o led. | |
Ezek | WelBeibl | 40:22 | Roedd y ffenestri, yr ystafell gyntedd a'r coed palmwydd yr un fath ag yn y giât ddwyreiniol. Roedd saith gris i fyny at y giât ac roedd ystafell gyntedd ar yr ochr fewnol. | |
Ezek | WelBeibl | 40:23 | Roedd giât arall i'r iard fewnol gyferbyn a'r fynedfa ar yr ochr ogleddol, fel gyda'r fynedfa ddwyreiniol. Mesurodd y pellter o'r naill i'r llall ac roedd yn bum deg dau metr a hanner. | |
Ezek | WelBeibl | 40:24 | Yna aeth â fi i'r ochr ddeheuol. Mesurodd y colofnau a'r cilfachau ar y giât ddeheuol ac roedden nhw yr un faint â'r lleill. | |
Ezek | WelBeibl | 40:25 | Roedd y ffenestri yno a'r ffenestri yn yr ystafell gyntedd yr un fath â'r lleill, ac roedd hyd a lled y fynedfa yr un fath hefyd, sef dau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr. | |
Ezek | WelBeibl | 40:26 | Roedd saith gris yn mynd i fyny at y giât, ac roedd ystafell gyntedd ar yr ochr fewnol. Ac roedd coed palmwydd ar y colofnau, un bob ochr. | |
Ezek | WelBeibl | 40:27 | Roedd giât i'r iard fewnol yn wynebu'r de hefyd. Mesurodd y pellter o un giât i'r llall, ac roedd yn bum deg dau metr a hanner. | |
Ezek | WelBeibl | 40:28 | Yna aeth â fi i'r iard fewnol drwy'r giât ddeheuol. Mesurodd y fynedfa, ac roedd yr un faint â'r lleill. | |
Ezek | WelBeibl | 40:29 | Roedd y cilfachau, y colofnau a'r ystafell gyntedd yr un faint â'r lleill; roedd ei ffenestri'r un fath; ac roedd yn mesur dau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr. | |
Ezek | WelBeibl | 40:30 | Roedd cynteddau o'i chwmpas, yn un deg tri metr o hyd a dau fetr a hanner o led. | |
Ezek | WelBeibl | 40:31 | Roedd yr ystafell gyntedd yn wynebu'r iard allanol. Roedd coed palmwydd ar ei cholofnau. Roedd wyth gris i fyny at y giât. | |
Ezek | WelBeibl | 40:32 | Yna aeth â fi i ochr ddwyreiniol yr iard fewnol. Mesurodd y fynedfa, ac roedd yr un faint â'r lleill. | |
Ezek | WelBeibl | 40:33 | Roedd y cilfachau, y colofnau a'r ystafell gyntedd yr un faint â'r lleill; roedd ei ffenestri'r un fath; ac roedd yn ddau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr. | |
Ezek | WelBeibl | 40:34 | Roedd yr ystafell gyntedd yn wynebu'r iard allanol. Roedd coed palmwydd ar ei cholofnau. Roedd wyth gris i fyny at y giât. | |
Ezek | WelBeibl | 40:36 | y cilfachau, y colofnau a'r ystafell gyntedd; roedd ei ffenestri'r un fath; ac roedd yn mesur dau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr. | |
Ezek | WelBeibl | 40:37 | Roedd yr ystafell gyntedd yn wynebu'r iard allanol. Roedd coed palmwydd ar ei cholofnau. Roedd wyth gris i fyny at y giât. | |
Ezek | WelBeibl | 40:38 | Roedd drws i mewn i ystafell arall wrth ymyl ystafell y cyntedd. Dyma lle roedd yr offrymau i'w llosgi yn cael eu golchi. | |
Ezek | WelBeibl | 40:39 | Yn ystafell gyntedd y fynedfa roedd dau fwrdd bob ochr, lle roedd yr anifeiliaid ar gyfer y gwahanol offrymau yn cael eu lladd – yr offrwm i'w losgi, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai. | |
Ezek | WelBeibl | 40:40 | Roedd byrddau tu allan i'r ystafell gyntedd hefyd, dau bob ochr i'r grisiau sy'n mynd at fynedfa'r gogledd. | |
Ezek | WelBeibl | 40:41 | Felly roedd wyth bwrdd i gyd – pedwar y tu allan i'r fynedfa a phedwar y tu mewn – lle roedd yr anifeiliaid i'w haberthu yn cael eu lladd. | |
Ezek | WelBeibl | 40:42 | Roedd y pedwar bwrdd ar gyfer yr offrymau i'w llosgi wedi'u cerfio o garreg. Roedden nhw tua wyth deg centimetr sgwâr, a hanner can centimetr o uchder. Roedd yr offer oedd yn cael ei ddefnyddio i ladd yr anifeiliaid yn cael eu hongian ar | |
Ezek | WelBeibl | 40:43 | fachau 75 milimetr o hyd oedd ar y waliau o gwmpas. Roedd cyrff yr anifeiliaid oedd i'w haberthu i'w gosod ar y byrddau. | |
Ezek | WelBeibl | 40:44 | Y tu allan i'r giât yn yr iard fewnol roedd dwy ystafell – un wrth ochr y giât ogleddol yn wynebu'r de, a'r llall wrth ochr y giât ddeheuol yn wynebu'r gogledd. | |
Ezek | WelBeibl | 40:45 | A dyma'r dyn yn dweud wrtho i, “Ystafell yr offeiriaid sy'n gofalu am y deml ydy'r un sy'n wynebu'r de, | |
Ezek | WelBeibl | 40:46 | ac ystafell yr offeiriaid sy'n gofalu am yr allor ydy'r un sy'n wynebu'r gogledd. Disgynyddion Sadoc ydy'r dynion yma, sef yr unig rai o ddisgynyddion Lefi sy'n cael mynd yn agos at yr ARGLWYDD i'w wasanaethu e.” | |
Ezek | WelBeibl | 40:47 | Yna mesurodd yr iard. Roedd yn bum deg dau metr a hanner sgwâr, gyda'r allor yn sefyll o flaen y deml. | |
Ezek | WelBeibl | 40:48 | Aeth â fi at gyntedd y deml ei hun a mesur ei dwy golofn. Roedden nhw tua dau fetr a hanner sgwâr. Roedd y giât yn saith metr o led a'r waliau bob ochr yn fetr a hanner o drwch. | |
Chapter 41
Ezek | WelBeibl | 41:1 | Yna dyma'r dyn yn mynd â fi i mewn i gysegr allanol adeilad y deml. Mesurodd y colofnau bob ochr i'r fynedfa. Roedden nhw'n dri metr o led. | |
Ezek | WelBeibl | 41:2 | Roedd y fynedfa ei hun yn bum metr a chwarter, ac roedd y waliau bob ochr yn ddau fetr a hanner o drwch. Roedd y cysegr allanol yn ddau ddeg un metr o hyd a deg metr a hanner o led. | |
Ezek | WelBeibl | 41:3 | Yna aeth y dyn i mewn i'r cysegr mewnol. Mesurodd y colofnau bob ochr i'r fynedfa yn fetr o led, y fynedfa ei hun yn dri metr, a'r waliau bob ochr i'r fynedfa yn dri metr a hanner. | |
Ezek | WelBeibl | 41:4 | Roedd yr ystafell yn ddeg metr a hanner sgwâr, ar ben pella'r cysegr allanol. “Dyma'r Lle Mwyaf Sanctaidd,” meddai wrtho i. | |
Ezek | WelBeibl | 41:5 | Yna mesurodd wal y deml, ac roedd hi'n dri metr o drwch. Roedd pob un o'r ystafelloedd ochr o gwmpas y deml yn ddau fetr o led. | |
Ezek | WelBeibl | 41:6 | Roedd yr ystafelloedd ochr ar dri llawr, tri deg ar bob llawr. Roedd y trawstiau o dan yr ystafelloedd yma yn gorwedd ar siliau o gwmpas y wal. Doedden nhw ddim wedi'u gosod yn wal y deml ei hun. | |
Ezek | WelBeibl | 41:7 | Roedd yr ystafelloedd ar y llawr canol yn lletach na'r rhai ar y llawr isaf, a'r rhai ar llawr uchaf yn lletach eto. Roedd grisiau yn arwain o'r llawr isaf i'r llawr uchaf drwy'r llawr canol. | |
Ezek | WelBeibl | 41:8 | Roedd y deml wedi'i hadeiladu ar deras tri metr o uchder, ac roedd y teras yma'n rhoi sylfaen i'r ystafelloedd ochr. | |
Ezek | WelBeibl | 41:9 | Roedd wal allanol yr ystafelloedd ochr dros ddau fetr a hanner o drwch. Roedd lle agored rhwng ystafelloedd ochr y deml | |
Ezek | WelBeibl | 41:10 | a'r ystafelloedd ar wal allanol yr iard fewnol; roedd y lle agored yma o gwmpas y deml i gyd ac yn ddeg metr a hanner o led. | |
Ezek | WelBeibl | 41:11 | Roedd dau ddrws o bob ystafell ochr i'r lle agored – un yn wynebu'r gogledd a'r llall yn wynebu'r de. Roedd dau fetr a hanner o deras o gwmpas y cwbl. | |
Ezek | WelBeibl | 41:12 | Roedd yr adeilad oedd yn wynebu'r iard sydd ar wahân ar ochr orllewinol y deml yn dri deg saith metr o led. Roedd wal allanol yr adeilad yn ddau fetr a hanner o drwch ac yn bedwar deg saith metr o hyd. | |
Ezek | WelBeibl | 41:13 | Yna mesurodd y deml ei hun. Roedd yn bum deg dau metr a hanner o hyd, ac roedd yr iard sydd ar wahân o'i chwmpas yn bum deg dau metr a hanner arall. | |
Ezek | WelBeibl | 41:14 | Hefyd roedd lled y deml a'r iard sydd ar wahân ar yr ochr ddwyreiniol iddi yn bum deg dau metr a hanner. | |
Ezek | WelBeibl | 41:15 | Yna mesurodd hyd yr adeilad oedd yn wynebu'r iard sydd ar wahân tu cefn i'r deml gyda'r galeri bob ochr, ac roedd yn bum deg dau metr a hanner. Roedd tu mewn y cysegr allanol a'r cyntedd oedd yn wynebu'r cwrt | |
Ezek | WelBeibl | 41:16 | wedi'u panelu mewn pren i gyd. Roedd pob trothwy, y ffenestri culion a'r galerïau ar y tair ochr oedd yn wynebu'r trothwy wedi'u panelu o'r llawr at y ffenestri. O gwmpas y ffenestri, | |
Ezek | WelBeibl | 41:17 | ar y wal sydd uwchben y fynedfa i'r cysegr mewnol ac ar y tu allan a'r tu mewn i'r cysegr mewnol ei hun | |
Ezek | WelBeibl | 41:18 | roedd y cwbl wedi'i addurno gyda cerwbiaid a choed palmwydd. Roedd coeden balmwydd a cherwb bob yn ail. Roedd gan bob cerwb ddau wyneb – | |
Ezek | WelBeibl | 41:20 | Roedden nhw'n addurno'r cysegr allanol i gyd, o'r llawr i'r darn o wal sydd uwchben y fynedfa i'r cysegr mewnol. | |
Ezek | WelBeibl | 41:21 | Roedd colofnau sgwâr bob ochr i fynedfa'r cysegr allanol. Yna o flaen y cysegr mewnol roedd rhywbeth oedd yn edrych fel | |
Ezek | WelBeibl | 41:22 | allor bren. Roedd yn fetr a hanner o uchder ac yn fetr o hyd. Roedd ei gorneli, ei waelod a'i ochrau yn bren. A dyma'r dyn yn dweud wrtho i, “Dyma'r bwrdd sy'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD.” | |
Ezek | WelBeibl | 41:25 | Roedd cerwbiaid a choed palmwydd wedi'u cerfio ar ddrysau'r cysegr allanol, yr un fath â'r rhai ar y waliau. Ac roedd canopi pren uwchben y cyntedd y tu allan. | |
Chapter 42
Ezek | WelBeibl | 42:1 | Yna aeth y dyn â fi i'r iard allanol, i'r ochr ogleddol. Roedd bloc o ystafelloedd yno gyferbyn â'r iard sydd ar wahân ac wrth ymyl yr adeilad ger y wal ogleddol. | |
Ezek | WelBeibl | 42:2 | Roedd yn bum deg dau metr a hanner o hyd ac yn ddau ddeg chwech metr a chwarter o led. | |
Ezek | WelBeibl | 42:3 | Roedd y bloc yma o ystafelloedd yn edrych dros yr iard fewnol oedd yn ddeg metr a hanner o led un ochr, a dros bafin yr iard allanol ar yr ochr arall. Roedd wedi'i adeiladu ar dri llawr. | |
Ezek | WelBeibl | 42:4 | O flaen yr ystafelloedd roedd llwybr pum metr a chwarter o led a phum deg dau metr a hanner o hyd. Roedd eu drysau'n wynebu'r gogledd. | |
Ezek | WelBeibl | 42:5 | Roedd yr ystafelloedd ar y llawr uchaf yn fwy cul, am fod y galerïau yn cymryd mwy o le nag ar y llawr isaf a'r llawr canol. | |
Ezek | WelBeibl | 42:6 | Am eu bod ar dair lefel, a heb golofnau i'w cynnal fel yr ystafelloedd yn yr iard, roedd yr ystafelloedd uwch wedi'u gosod yn bellach yn ôl na'r rhai oddi tanyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 42:8 | Roedd y bloc o ystafelloedd oedd yn wynebu'r iard allanol yn ddau ddeg chwech metr o hyd, ond y rhai oedd yn wynebu'r deml yn bum deg dau metr a hanner. | |
Ezek | WelBeibl | 42:10 | Ar yr ochr ddeheuol ar hyd wal yr iard allanol roedd bloc arall o ystafelloedd gyferbyn â'r iard sydd ar wahân ac wrth ymyl yr adeilad ger y wal ogleddol. | |
Ezek | WelBeibl | 42:11 | Roedd llwybr o'u blaenau nhw. Roedden nhw'n union yr un fath â'r ystafelloedd ar yr ochr ogleddol. Roedden nhw yr un hyd a lled â'r lleill, a'r drysau a phopeth arall yn yr un lle. | |
Ezek | WelBeibl | 42:12 | Roedd y drysau'n wynebu'r de, ac roedd mynedfa i'r ystafelloedd ar yr ochr ddwyreiniol. | |
Ezek | WelBeibl | 42:13 | A dyma'r dyn yn dweud wrtho i: “Mae'r ystafelloedd yma i'r gogledd a'r de, ac sy'n wynebu'r iard sydd ar wahân, yn ystafelloedd sydd wedi'u cysegru. Dyna lle mae'r offeiriaid sy'n mynd at yr ARGLWYDD yn bwyta'r offrymau sanctaidd. Dyna lle byddan nhw'n gosod yr offrymau – yr offrwm o rawn, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai. Mae'r ystafelloedd yma wedi'u cysegru i'r pwrpas hwnnw. | |
Ezek | WelBeibl | 42:14 | Dydy'r offeiriaid ddim i fynd yn syth allan o'r cysegr i'r iard allanol. Rhaid iddyn nhw dynnu'r dillad cysegredig maen nhw wedi bod yn gweinidogaethu ynddyn nhw a gwisgo dillad eraill cyn mynd allan i ble mae'r bobl yn cael mynd.” | |
Ezek | WelBeibl | 42:15 | Ar ôl iddo orffen mesur y tu mewn i adeiladau'r deml, aeth y dyn â fi allan drwy'r giât ddwyreiniol a mesur y tu allan i'r cwbl. | |
Ezek | WelBeibl | 42:16 | Defnyddiodd ei ffon fesur ar yr ochr ddwyreiniol ac roedd yn ddau gant chwe deg dau metr a hanner. | |
Ezek | WelBeibl | 42:17 | Yna mesurodd yr ochr ogleddol, yr ochr ddeheuol a'r ochr orllewinol, ac roedden nhw i gyd yr un faint. | |
Ezek | WelBeibl | 42:18 | Yna mesurodd yr ochr ogleddol, yr ochr ddeheuol a'r ochr orllewinol, ac roedden nhw i gyd yr un faint. | |
Ezek | WelBeibl | 42:19 | Yna mesurodd yr ochr ogleddol, yr ochr ddeheuol a'r ochr orllewinol, ac roedden nhw i gyd yr un faint. | |
Chapter 43
Ezek | WelBeibl | 43:2 | Yno gwelais ysblander Duw Israel yn dod o gyfeiriad y dwyrain. Roedd ei sŵn yn debyg i sŵn rhaeadr ac roedd ei ysblander yn goleuo'r ddaear i gyd. | |
Ezek | WelBeibl | 43:3 | Roedd yr un fath â'r weledigaeth ges i pan ddaeth e i ddinistrio'r ddinas, a'r un pan oeddwn i wrth Gamlas Cebar. Dyma fi'n mynd ar fy wyneb ar lawr. | |
Ezek | WelBeibl | 43:4 | A dyma ysblander yr ARGLWYDD yn mynd yn ôl i mewn i'r deml drwy'r giât oedd yn wynebu'r dwyrain. | |
Ezek | WelBeibl | 43:5 | Yna cododd yr ysbryd fi a mynd â fi i'r iard fewnol. A dyna lle roeddwn i yn syllu ar ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml. | |
Ezek | WelBeibl | 43:6 | A dyma fi'n clywed llais yn siarad â mi o adeilad y deml. (Roedd y dyn yn dal i sefyll wrth fy ymyl i.) | |
Ezek | WelBeibl | 43:7 | Dwedodd y llais: “Ddyn, dyma lle mae fy ngorsedd i a'r lle i mi orffwys fy nhraed. Bydda i'n byw yma gyda phobl Israel am byth. Fydd pobl Israel a'u brenhinoedd ddim yn sarhau fy enw sanctaidd i eto drwy eu puteindra ysbrydol na thrwy godi cofgolofnau i'w brenhinoedd pan fyddan nhw'n marw. | |
Ezek | WelBeibl | 43:8 | Wrth adeiladu eu palasau drws nesa i'm teml i, gyda dim byd ond wal denau yn eu gwahanu nhw, roedden nhw'n sarhau fy enw sanctaidd i drwy'r pethau ffiaidd roedden nhw'n eu gwneud. Felly dyma fi'n eu difa nhw pan oeddwn i'n ddig. | |
Ezek | WelBeibl | 43:9 | Ond nawr rhaid i'r puteinio ysbrydol stopio a rhaid i'r cofgolofnau brenhinol fynd, ac wedyn bydda i'n byw gyda nhw am byth. | |
Ezek | WelBeibl | 43:10 | “Beth dw i eisiau i ti ei wneud, ddyn, ydy disgrifio'r deml rwyt ti wedi'i gweld i bobl Israel, er mwyn iddyn nhw fod â chywilydd o'u pechod. Gwna iddyn nhw astudio'r cynllun yn fanwl | |
Ezek | WelBeibl | 43:11 | wedyn bydd ganddyn nhw gywilydd go iawn o beth wnaethon nhw. Dangos gynllun y deml i gyd iddyn nhw – pob mynedfa a drws, y cyfarwyddiadau a'r rheolau i gyd. Tynna lun manwl o'r cwbl iddyn nhw, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn deall y cynllun ac yn cadw'n ffyddlon ato. | |
Ezek | WelBeibl | 43:12 | “A dyma beth sydd raid ei ddeall am y deml – mae'n hollol sanctaidd! Mae top y mynydd i gyd, lle mae'r deml i gael ei hadeiladu, wedi'i gysegru'n llwyr. Mae hon yn egwyddor gwbl sylfaenol.” | |
Ezek | WelBeibl | 43:13 | “A dyma fesuriadau'r allor: Mae ei gwter i fod yn bum deg dwy centimetr a hanner o ddyfnder ac yn bum deg dwy centimetr a hanner o led, gydag ymyl o tua dau ddeg centimetr o'i chwmpas. Uchder yr allor ei hun | |
Ezek | WelBeibl | 43:14 | o'r llawr i'r sil isaf yn un metr, a lled y sil yn bum deg dwy centimetr a hanner. Yna o'r sil gyntaf i'r ail sil, mae'n ddau fetr arall, a lled y sil honno eto yn bum deg dwy centimetr a hanner. | |
Ezek | WelBeibl | 43:15 | Wedyn mae top yr allor yn ddau fetr arall eto, gyda corn yn codi o'r pedair cornel. | |
Ezek | WelBeibl | 43:16 | Mae top yr allor ei hun yn chwe metr a chwarter o hyd a chwe metr a chwarter o led, | |
Ezek | WelBeibl | 43:17 | gyda sil sy'n ei gwneud yn saith metr a chwarter bob ffordd. Mae'r ymyl yn ddau ddeg chwech centimetr gyda gwter bum deg dau centimetr a hanner o led o'i chwmpas. Mae'r grisiau yn mynd i fyny ati o'r ochr ddwyreiniol.” | |
Ezek | WelBeibl | 43:18 | Wedyn dyma fe'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dyma'r rheolau am yr offrymau i'w llosgi a'r gwaed sydd i'w sblasio ar yr allor pan fydd wedi'i hadeiladu. | |
Ezek | WelBeibl | 43:19 | Rhaid rhoi tarw ifanc yn offrwm i lanhau o bechod i'r offeiriaid o lwyth Lefi sy'n ddisgynyddion Sadoc ac sy'n dod ata i i'm gwasanaethu i. | |
Ezek | WelBeibl | 43:20 | Dylid cymryd peth o'r gwaed a'i roi ar bedwar corn yr allor, ar bedair cornel y sil a reit rownd yr ymyl. Bydd yn ei gwneud yn lân ac yn iawn i'w defnyddio. | |
Ezek | WelBeibl | 43:21 | Wedyn rhaid cymryd corff y tarw sy'n offrwm i lanhau o bechod a'i losgi yn y lle iawn tu allan i'r cysegr. | |
Ezek | WelBeibl | 43:22 | “‘Yna ar yr ail ddiwrnod rhaid offrymu bwch gafr sydd â dim o'i le arno yn offrwm i lanhau o bechod. Byddan nhw'n glanhau yr allor, fel y gwnaethon nhw cyn offrymu'r tarw. | |
Ezek | WelBeibl | 43:23 | Ar ôl ei glanhau, rhaid offrymu tarw ifanc sydd â dim byd o'i le arno a hefyd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno. | |
Ezek | WelBeibl | 43:24 | Rhaid eu cyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid yn taenu halen arnyn nhw, ac yna eu rhoi nhw'n offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 43:25 | “‘Rwyt i gyflwyno bwch gafr bob dydd am saith diwrnod, yn offrwm i lanhau o bechod, a hefyd tarw ifanc a hwrdd, y ddau yn anifeiliaid heb unrhyw beth o'i le arnyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 43:26 | Am saith diwrnod byddan nhw'n gwneud yr allor yn lân ac yn iawn i'w defnyddio. Dyna sut mae'r allor i gael ei chysegru. | |
Chapter 44
Ezek | WelBeibl | 44:1 | Yna aeth y dyn â fi yn ôl at giât allanol y cysegr sy'n wynebu'r dwyrain, ond roedd wedi'i chau. | |
Ezek | WelBeibl | 44:2 | A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Bydd y giât yma yn aros wedi'i chau. Does neb yn cael mynd drwyddi. Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi mynd drwyddi, felly rhaid iddi aros ar gau. | |
Ezek | WelBeibl | 44:3 | Dim ond pennaeth y wlad sydd i gael eistedd yn y fynedfa i fwyta o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yn mynd i mewn drwy'r cyntedd ochr ac yn mynd allan yr un ffordd.” | |
Ezek | WelBeibl | 44:4 | Yna aeth y dyn â fi i'r iard fewnol drwy'r giât sy'n wynebu'r gogledd o flaen y deml. Wrth i mi edrych, rôn i'n gweld ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml a dyma fi'n mynd ar fy wyneb ar lawr. | |
Ezek | WelBeibl | 44:5 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, dw i am i ti sylwi ar hyn. Edrych yn ofalus a gwrando'n astud ar bopeth dw i'n ei ddweud am reolau a deddfau teml yr ARGLWYDD. Sylwa'n fanwl ar bob mynedfa i'r deml a'r drysau allan o'r cysegr. | |
Ezek | WelBeibl | 44:6 | Dwed wrth y rebeliaid, pobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyna ddigon! Mae'r holl bethau ffiaidd yma wedi mynd yn rhy bell! | |
Ezek | WelBeibl | 44:7 | Dych chi'n dod â phobl o'r tu allan i weithio yn y cysegr, paganiaid llwyr sy'n dangos dim parch ata i. Dych chi'n llygru'r deml drwy gynnig beth sydd biau fi – sef y braster a'r gwaed – iddyn nhw. Dych chi wedi torri'r ymrwymiad rhyngon ni drwy wneud yr holl bethau ffiaidd yma. | |
Ezek | WelBeibl | 44:8 | Dych chi ddim wedi cadw'r rheolau wrth drin y pethau sanctaidd; dych chi wedi gadael i baganiaid edrych ar ôl y lle yma! | |
Ezek | WelBeibl | 44:9 | Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dydy'r paganiaid sy'n byw gyda'm pobl Israel ddim i gael mynd i mewn i'r cysegr eto. | |
Ezek | WelBeibl | 44:10 | “‘Bydd y Lefiaid wnaeth droi cefn arna i a mynd ar ôl eilunod, fel pawb arall yn Israel, yn cael eu dal yn gyfrifol am eu pechod. | |
Ezek | WelBeibl | 44:11 | Byddan nhw'n gweithio yn y cysegr ond dim ond fel dynion diogelwch. Nhw hefyd fydd yn lladd yr anifeiliaid sydd i'w llosgi, a'r aberthau, yn lle'r bobl eu hunain. Byddan nhw fel gweision i'r bobl. | |
Ezek | WelBeibl | 44:12 | Am eu bod nhw wedi helpu'r bobl i addoli eilunod a gwneud i bobl Israel faglu a phechu yn fy erbyn i, ar fy llw, bydd rhaid iddyn nhw wynebu canlyniadau eu pechod, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 44:13 | Fyddan nhw ddim yn cael dod yn agos ata i i wasanaethu fel offeiriaid, na chyffwrdd dim byd dw i wedi'i gysegru. Bydd rhaid iddyn nhw fyw gyda'r cywilydd o fod wedi mynd drwy'r holl ddefodau ffiaidd yna. | |
Ezek | WelBeibl | 44:14 | Byddan nhw'n gweithio fel gofalwyr y deml ac yn gwneud yr holl waith cynnal a chadw ynddi. | |
Ezek | WelBeibl | 44:15 | “‘Ond bydd yr offeiriaid o lwyth Lefi sy'n ddisgynyddion Sadoc, yn cael dod ata i a gwasanaethu fel offeiriaid. Roedden nhw wedi dal ati i wneud eu gwaith yn ffyddlon yn y deml pan oedd gweddill pobl Israel wedi troi cefn arna i a mynd i addoli eilunod. Byddan nhw'n dod i gyflwyno braster a gwaed yr aberthau i mi.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 44:16 | “‘Byddan nhw'n dod i mewn i'r cysegr i weini wrth fy mwrdd i a gwneud eu dyletswyddau. | |
Ezek | WelBeibl | 44:17 | “‘Pan fyddan nhw'n dod i mewn drwy giatiau'r iard fewnol rhaid iddyn nhw wisgo dillad o liain. Dŷn nhw ddim i wisgo gwlân o gwbl pan maen nhw'n gwasanaethu yn yr iard fewnol neu yn adeilad y Deml ei hun. | |
Ezek | WelBeibl | 44:18 | Rhaid iddyn nhw wisgo twrban o liain a dillad isaf o liain – dim byd fyddai'n gwneud iddyn nhw chwysu. | |
Ezek | WelBeibl | 44:19 | Ond pan fyddan nhw'n mynd allan at y bobl i'r iard allanol rhaid iddyn nhw newid eu dillad; cadw'r dillad roedden nhw'n gwasanaethu ynddyn nhw yn yr ystafelloedd sydd wedi'u neilltuo i'r pwrpas hwnnw, a gwisgo'u dillad bob dydd. Wedyn fyddan nhw ddim yn peryglu'r bobl drwy ddod â nhw i gysylltiad â'r dillad sanctaidd. | |
Ezek | WelBeibl | 44:20 | “‘Rhaid iddyn nhw dorri eu gwallt yn rheolaidd – peidio siafio'u pennau, na thyfu eu gwallt yn rhy hir. | |
Ezek | WelBeibl | 44:22 | Dŷn nhw ddim i briodi gwraig weddw na gwraig sydd wedi cael ysgariad, dim ond un o ferched Israel sy'n wyryf neu wraig weddw oedd yn briod ag offeiriad o'r blaen. | |
Ezek | WelBeibl | 44:23 | Byddan nhw'n dysgu'r bobl i wahaniaethu rhwng beth sy'n gysegredig a beth sy'n gyffredin, a dangos iddyn nhw sut i wahaniaethu rhwng beth sy'n aflan ac yn lân. | |
Ezek | WelBeibl | 44:24 | “‘Pan mae pobl yn mynd ag achos i'r llys, yr offeiriaid fydd yn barnu ac yn gwneud yn union beth dw i'n ddweud. Byddan nhw'n cadw'r deddfau a'r rheolau am y Gwyliau a'r dyddiau Saboth dw i wedi'u trefnu. | |
Ezek | WelBeibl | 44:25 | “‘Rhaid iddyn nhw beidio gwneud eu hunain yn aflan drwy fynd yn agos at gorff marw, ac eithrio corff tad, mam, mab, merch, brawd neu chwaer. | |
Ezek | WelBeibl | 44:26 | Pan fydd yr offeiriad yn lân eto bydd rhaid iddo ddisgwyl am saith diwrnod arall | |
Ezek | WelBeibl | 44:27 | cyn mynd i mewn i'r cysegr. A phan fydd yn mynd i'r iard fewnol i wasanaethu yn y cysegr eto, bydd rhaid iddo gyflwyno offrwm i lanhau o bechod,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 44:29 | Yr offrymau fydd eu bwyd nhw – sef yr offrwm o rawn, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai, a beth bynnag arall sy'n cael ei gadw o'r neilltu i Dduw gan bobl Israel. | |
Ezek | WelBeibl | 44:30 | A'r offeiriaid fydd piau ffrwythau cyntaf y cynhaeaf hefyd. Wrth i chi gyflwyno'r rhain, a'r offrwm cyntaf o does hefyd, bydd yr ARGLWYDD yn bendithio eich cartrefi. | |
Chapter 45
Ezek | WelBeibl | 45:1 | “‘Pan fyddwch chi'n rhannu'r tir rhwng llwythau Israel, rhaid i chi roi cyfran ohono i'r ARGLWYDD – darn o dir wedi'i gysegru'n arbennig. Mae i fod dros wyth milltir o hyd a dros chwe milltir a hanner o led. Bydd yr ardal yna i gyd yn dir cysegredig. | |
Ezek | WelBeibl | 45:2 | (Mae darn o dir 260 metr wrth 260 metr i'w ddefnyddio ar gyfer y Deml, a llain o dir agored gwag o'i gwmpas sy'n 26 metr o led.) | |
Ezek | WelBeibl | 45:3 | Mesurwch ddarn o dir dros wyth milltir o hyd a thair milltir a chwarter o led. Bydd y cysegr a'r Lle Mwyaf Sanctaidd wedi'i osod yn ei ganol. | |
Ezek | WelBeibl | 45:4 | Bydd yn dir wedi'i gysegru'n arbennig. Tir i'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yn y cysegr ac sy'n cael mynd yn agos at yr ARGLWYDD i'w wasanaethu e. Dyna ble bydd yr offeiriaid yn byw, a dyna hefyd ble bydd y Deml. | |
Ezek | WelBeibl | 45:5 | Wedyn bydd darn o dir wyth milltir o hyd a thair milltir a chwarter o led ar gyfer pentrefi y Lefiaid sy'n gwasanaethu yn y deml. | |
Ezek | WelBeibl | 45:6 | “‘Wrth ochr y tir cysegredig yna, bydd darn o dir wyth milltir o hyd a dros filltir a hanner o led, lle gall unrhyw un o bobl Israel fyw. | |
Ezek | WelBeibl | 45:7 | “‘Wedyn bydd dau ddarn o dir ar gyfer pennaeth y wlad – un i'r gorllewin o'r tir cysegredig, a'r llall i'r dwyrain. Bydd ei ffiniau'n gyfochrog â ffiniau tiroedd y llwythau. | |
Ezek | WelBeibl | 45:8 | Dyna'i diroedd e yn Israel. Fydd arweinwyr y wlad ddim yn gormesu fy mhobl o hyn ymlaen. Byddan nhw'n parchu ffiniau'r tir sydd wedi'i roi i bob un o lwythau Israel. | |
Ezek | WelBeibl | 45:9 | “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyna ddigon! Chi arweinwyr Israel, stopiwch yr holl drais a'r gormes yma! Gwnewch beth sy'n iawn ac yn deg. Stopiwch daflu pobl allan o'u cartrefi. | |
Ezek | WelBeibl | 45:11 | Dylai pob mesur sych a hylifol fod yr un fath, ac yn gywir. Rhaid cael mesur safonol, a rhaid i bob mesur arall fod yn gyson â'r safon hwnnw. | |
Ezek | WelBeibl | 45:12 | A rhaid i werth arian fod yn gywir hefyd. Pum darn arian yn bump go iawn, a deg yn ddeg. Rhaid bod hanner cant o ddarnau arian mewn mina. | |
Ezek | WelBeibl | 45:15 | ac un ddafad o bob praidd o ddau gant sy'n pori ar dir Israel. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio ar gyfer yr offrwm o rawn, yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr, a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw a Duw,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 45:16 | “Bydd pawb drwy'r wlad i gyd yn gyfrifol i ddod â chyflwyno'r offrymau yma i bennaeth y wlad. | |
Ezek | WelBeibl | 45:17 | Bydd y pennaeth wedyn yn gyfrifol am yr offrymau i'w llosgi, yr offrymau o rawn a'r offrymau o ddiod ar gyfer y Gwyliau, yr offrymau misol a'r Sabothau – pob un o wyliau crefyddol Israel. Fe fydd yn cyflwyno'r aberthau dros bechod, yr offrymau o rawn, yr offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, er mwyn gwneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw. | |
Ezek | WelBeibl | 45:18 | “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn rhaid aberthu tarw ifanc sydd â dim byd o'i le arno i wneud y cysegr yn lân. | |
Ezek | WelBeibl | 45:19 | Bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr offrwm i lanhau o bechod a'i roi ar gilbyst drws y deml, ar bedair cornel sil yr allor ac ar byst y giât i'r iard fewnol. | |
Ezek | WelBeibl | 45:20 | Rhaid gwneud yr un peth ar y seithfed o'r mis, ar ran unrhyw un sydd wedi pechu'n ddamweiniol neu heb wybod am y peth. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud y deml yn lân. | |
Ezek | WelBeibl | 45:21 | “‘Mae Gŵyl y Pasg i'w dathlu ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf, a rhaid bwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod. | |
Ezek | WelBeibl | 45:22 | Ar y diwrnod hwnnw mae pennaeth y wlad i ddarparu tarw ifanc yn offrwm i lanhau o bechod ar ei ran ei hun a'r bobl. | |
Ezek | WelBeibl | 45:23 | Yna am saith diwrnod yr Ŵyl mae i gyflwyno anifeiliaid yn offrwm i gael eu llosgi'n llwyr i'r ARGLWYDD: saith tarw ifanc a saith hwrdd bob dydd, pob un yn anifail â dim byd o'i le arno. Hefyd un bwch gafr bob dydd yn offrwm i lanhau o bechod. | |
Ezek | WelBeibl | 45:24 | Bydd e hefyd yn rhoi deg cilogram o rawn a phedwar litr o olew olewydd gyda phob tarw a phob hwrdd. | |
Chapter 46
Ezek | WelBeibl | 46:1 | “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd y giât i'r iard fewnol sy'n wynebu'r dwyrain wedi'i chau ar y chwe diwrnod gwaith; ond bydd yn cael ei hagor ar y diwrnod Saboth ac ar ŵyl y lleuad newydd bob mis. | |
Ezek | WelBeibl | 46:2 | Bydd pennaeth y wlad yn dod i mewn drwy gyntedd allanol y giât. Bydd yn sefyll wrth ymyl pyst y giât tra bydd yr offeiriaid yn cyflwyno'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Bydd yn ymgrymu i addoli ar drothwy'r giât, ac yna'n mynd allan. Ond fydd y giât ddim yn cael ei chau nes iddi nosi. | |
Ezek | WelBeibl | 46:3 | Bydd y bobl gyffredin yn addoli tu allan i'r fynedfa honno ar y Sabothau ac ar ŵyl y lleuad newydd bob mis. | |
Ezek | WelBeibl | 46:4 | “‘Dyma fydd pennaeth y wlad yn ei roi yn offrwm i'w losgi bob Saboth: chwe oen ac un hwrdd heb ddim byd o'i le arnyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 46:5 | Bydd deg cilogram o rawn yn cael ei offrymu gyda'r hwrdd, a faint bynnag mae e eisiau'i roi gyda phob oen. Mae hefyd i roi galwyn o olew olewydd gyda phob mesur o rawn. | |
Ezek | WelBeibl | 46:6 | Ar ŵyl y lleuad newydd mae i offrymu tarw ifanc, chwe oen ac un hwrdd – anifeiliaid sydd â dim byd o'i le arnyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 46:7 | Offrwm o rawn hefyd – sef deg cilogram gyda'r tarw, deg cilogram gyda'r hwrdd, faint bynnag mae e eisiau ei roi gyda phob oen, a galwyn o olew olewydd gyda phob mesur o rawn. | |
Ezek | WelBeibl | 46:8 | Mae pennaeth y wlad i fynd at y giât drwy'r cyntedd allanol, a mynd allan yr un ffordd. | |
Ezek | WelBeibl | 46:9 | “‘Ond pan mae'r bobl gyffredin yn mynd i addoli'r ARGLWYDD ar y gwyliau crefyddol, mae pwy bynnag sy'n mynd i mewn drwy giât y gogledd i fynd allan drwy giât y de, a'r ffordd arall. Does neb i fynd allan yr un ffordd ag yr aeth i mewn; rhaid iddyn nhw ddefnyddio'r giât gyferbyn. | |
Ezek | WelBeibl | 46:10 | Ar yr adegau yma bydd pennaeth y wlad yn mynd i mewn ac allan gyda gweddill y bobl. | |
Ezek | WelBeibl | 46:11 | “‘Adeg y gwyliau crefyddol dylid cyflwyno deg cilogram o rawn gyda'r tarw, deg cilogram gyda'r hwrdd, a faint bynnag mae rhywun eisiau gyda'r ŵyn. A galwyn o olew olewydd gyda phob mesur o rawn. | |
Ezek | WelBeibl | 46:12 | Pan mae pennaeth y wlad yn cyflwyno offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol, offrwm i'w losgi'n llwyr neu offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a hynny o'i ddewis ei hun, bydd y giât sy'n wynebu'r dwyrain yn cael ei hagor iddo. Bydd yn cyflwyno'r offrymau yn union fel mae'n gwneud ar y Saboth. Wedyn bydd yn mynd allan, a bydd y giât yn cael ei chau tu ôl iddo. | |
Ezek | WelBeibl | 46:13 | “‘Bob bore rhaid i oen blwydd oed sydd â dim byd o'i le arno gael ei gyflwyno yn offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 46:14 | Gyda'r oen rhaid cyflwyno offrwm o rawn bob bore – tua dau gilogram ac un rhan o dair o alwyn o olew olewydd i wlychu'r blawd. Fydd y rheol yma am yr offrwm o rawn byth yn newid. | |
Ezek | WelBeibl | 46:15 | Mae'r oen, yr offrwm o rawn a'r olew olewydd i'w gyflwyno bob bore yn offrwm i'w losgi'n llwyr. | |
Ezek | WelBeibl | 46:16 | “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Os ydy pennaeth y wlad yn rhoi tir i un o'i feibion ei etifeddu, bydd y tir hwnnw'n perthyn iddo fe a'i ddisgynyddion am byth. | |
Ezek | WelBeibl | 46:17 | Ond os ydy e'n rhoi tir i un o'i weision, bydd yn perthyn i'r gwas hyd flwyddyn y rhyddhau; bryd hynny bydd y pennaeth yn cael y tir yn ôl. Dim ond y meibion sy'n cael cadw'r etifeddiaeth am byth. | |
Ezek | WelBeibl | 46:18 | Ddylai pennaeth y wlad ddim cymryd tir pobl oddi arnyn nhw a'u gorfodi nhw i adael eu cartrefi. Dim ond ei dir ei hun mae'n cael ei roi i'w feibion. Ddylai fy mhobl ddim cael eu gyrru oddi ar eu tir.’” | |
Ezek | WelBeibl | 46:19 | Wedyn aeth â fi drwy'r fynedfa sydd wrth ymyl y giât ac i mewn i ystafelloedd yr offeiriaid oedd yn wynebu'r gogledd. Dangosodd ystafell i mi oedd reit ar y pen draw ar yr ochr orllewinol. | |
Ezek | WelBeibl | 46:20 | “Dyma lle mae'r offeiriaid yn berwi cig yr offrwm i gyfaddef bai a'r offrwm i lanhau o bechod,” meddai. “Dyma hefyd lle maen nhw'n pobi'r offrwm o rawn. Maen nhw'n gwneud y cwbl yma er mwyn osgoi mynd â'r offrymau drwy'r iard allanol a pheryglu'r bobl drwy ddod â nhw i gysylltiad â phethau sy'n sanctaidd.” | |
Ezek | WelBeibl | 46:21 | Wedyn aeth â fi allan i'r iard allanol a mynd â fi heibio pedair cornel yr iard. Roedd cwrt bach arall ym mhob cornel: | |
Ezek | WelBeibl | 46:23 | Roedd wal gerrig isel o gwmpas pob un ohonyn nhw, a nifer o leoedd tân ar gyfer coginio wrth waelod y wal. | |
Chapter 47
Ezek | WelBeibl | 47:1 | Aeth y dyn â fi yn ôl at fynedfa'r deml ei hun. Gwelais fod dŵr yn tarddu allan o dan drothwy y deml ac yn llifo i gyfeiriad y dwyrain (sef y cyfeiriad roedd y deml yn ei wynebu). Roedd y dŵr yn llifo ar hyd wal ddeheuol y deml, i'r de o'r allor. | |
Ezek | WelBeibl | 47:2 | Yna aeth y dyn â fi allan drwy giât y gogledd a rownd at y giât allanol sy'n wynebu'r dwyrain. Yno roedd y dŵr i'w weld yn pistyllio allan ar yr ochr ddeheuol i'r giât. | |
Ezek | WelBeibl | 47:3 | Aeth y dyn allan i gyfeiriad y dwyrain gyda llinyn mesur yn ei law. Mesurodd 525 metr ac yna fy arwain drwy'r dŵr. Roedd i fyny at fy fferau. | |
Ezek | WelBeibl | 47:4 | Mesurodd 525 metr arall, ac yna fy arwain drwy'r dŵr eto. Erbyn hyn roedd i fyny at fy ngliniau. Mesurodd 525 metr arall, ac roedd y dŵr i fyny at fy nghanol. | |
Ezek | WelBeibl | 47:5 | Yna mesurodd 525 metr arall ac roedd yn afon amhosib i'w chroesi ar droed. Roedd y dŵr yn ddigon dwfn i nofio ynddo, ond doedd hi ddim yn bosib cerdded drwyddo. | |
Ezek | WelBeibl | 47:6 | Yna dwedodd wrtho i, “Ddyn, wyt ti wedi gweld hyn?” Yna aeth â fi yn ôl i lan yr afon. | |
Ezek | WelBeibl | 47:8 | “Mae'r dŵr yma,” meddai wrtho i, “yn llifo allan tua'r dwyrain, i lawr i'r Dyffryn lle mae'r Môr Marw. Pan mae'n gwagio i'r Môr, mae'r dŵr hallt yn troi yn ddŵr glân, ffres. | |
Ezek | WelBeibl | 47:9 | Lle bynnag mae'r afon yn llifo, bydd creaduriaid o bob math yn byw ac yn ffynnu. Bydd llwythi o bysgod yn byw yn y Môr am fod yr afon wedi troi'r dŵr hallt yn ddŵr glân. Lle bynnag mae'r dŵr yn llifo bydd bywyd yn llwyddo. | |
Ezek | WelBeibl | 47:10 | Bydd pysgotwyr yn sefyll ar lan y Môr Marw. Byddan nhw'n taenu eu rhwydi pysgota yr holl ffordd o En-gedi i En-eglaim. Bydd y Môr Marw yn llawn pysgod o bob math, yn union fel Môr y Canoldir. | |
Ezek | WelBeibl | 47:12 | Bydd coed ffrwythau o bob math yn tyfu bob ochr i'r afon. Fydd eu dail byth yn gwywo, a bydd ffrwyth yn tyfu arnyn nhw bob amser. Bydd cnwd newydd yn tyfu arnyn nhw bob mis am fod eu dŵr yn llifo o'r cysegr. Bydd eu ffrwyth yn fwyd, a'i dail yn iacháu.” | |
Ezek | WelBeibl | 47:13 | Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyma'r ffiniau ar gyfer rhannu'r tir rhwng deuddeg llwyth Israel. (Bydd Joseff yn cael dwy ran.) | |
Ezek | WelBeibl | 47:14 | Mae'r tir i'w rannu'n gyfartal rhwng y llwythau. Rôn i wedi'i addo i'ch hynafiaid, ac mae'n cael ei roi yn etifeddiaeth i chi. | |
Ezek | WelBeibl | 47:15 | “A dyma'r ffiniau: Bydd ffin y gogledd yn rhedeg o Fôr y Canoldir ar hyd ffordd Chethlon a Bwlch Chamath i Sedad. | |
Ezek | WelBeibl | 47:16 | Wedyn i Berotha a Sibraîm (sydd ar y ffin rhwng Damascus a Chamath), ac yna'r holl ffordd i Chatser-hatticon (sydd ar y ffin gyda Chawran). | |
Ezek | WelBeibl | 47:17 | Felly bydd y ffin yn rhedeg o Fôr y Canoldir i Chatsar-einon ar y ffin gyda Damascus a Chamath i'r gogledd. Dyna ffin y gogledd. | |
Ezek | WelBeibl | 47:18 | Wedyn i'r dwyrain mae'r ffin yn rhedeg o'r pwynt yna rhwng Chawran a Damascus, i lawr afon Iorddonen rhwng Israel a Gilead, ac wedyn heibio'r Môr Marw cyn belled â Tamar yn y de. Dyna'r ffin i'r dwyrain. | |
Ezek | WelBeibl | 47:19 | Yn y de, bydd y ffin yn rhedeg ar draws o Tamar at Ffynnon Meriba yn Cadesh, ar hyd Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir. Dyna ffin y de. | |
Ezek | WelBeibl | 47:20 | Wedyn i'r gorllewin, Môr y Canoldir ei hun fydd y ffin i fyny'r holl ffordd at bwynt gyferbyn â Bwlch Chamath. Dyna ffin y gorllewin. | |
Ezek | WelBeibl | 47:22 | Mae i'w rannu rhyngoch yn etifeddiaeth i chi a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi ac yn magu eu plant yn eich plith. Rhaid i chi eu trin nhw fel petaen nhw wedi'u geni yn Israeliaid. Maen nhw i gael etifeddu tir fel pawb arall. | |
Chapter 48
Ezek | WelBeibl | 48:1 | “Dyma enwau llwythau Israel, a'r tir mae pob un i'w dderbyn: Bydd Dan reit yn y gogledd, wrth ymyl ffordd Chethlon i Fwlch Chamath, cyn belled â Chatsar-einan ar y ffin gyda Damascus a Chamath i'r gogledd. Bydd tir Dan yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin. | |
Ezek | WelBeibl | 48:2 | Wedyn y nesaf i lawr, yn ffinio gyda Dan, ac eto'n ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin, bydd Asher. | |
Ezek | WelBeibl | 48:7 | Ac wedyn Jwda. Pob un ohonyn nhw yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin. | |
Ezek | WelBeibl | 48:8 | “Yna'n ffinio gyda Jwda bydd y tir cysegredig sy'n wyth milltir o led, a'r un hyd â thiroedd y llwythau o'r dwyrain i'r gorllewin; a bydd y cysegr yn ei ganol. | |
Ezek | WelBeibl | 48:9 | Bydd y tir sydd wedi'i gysegru a'i neilltuo i'r ARGLWYDD yn wyth milltir o hyd, a thair milltir a chwarter o led. | |
Ezek | WelBeibl | 48:10 | Bydd y tir yma sydd wedi'i gysegru yn cael ei rannu rhwng yr offeiriaid – wyth milltir o'r gogledd i'r de, a thair milltir a hanner o'r dwyrain i'r gorllewin. A bydd cysegr yr ARGLWYDD yn ei ganol. | |
Ezek | WelBeibl | 48:11 | Hwn fydd y tir i'r offeiriaid, sef disgynyddion Sadoc wnaeth ddal ati i wneud eu gwaith heb grwydro i ffwrdd fel y gwnaeth gweddill pobl Israel a'r Lefiaid. | |
Ezek | WelBeibl | 48:12 | Eu darn arbennig nhw o'r tir fydd e; y tir mwyaf cysegredig o'r cwbl, gyda thir y Lefiaid eraill drws nesa iddyn nhw. | |
Ezek | WelBeibl | 48:13 | “Bydd tir y Lefiaid hefyd yn wyth milltir o hyd a thair milltir a chwarter o led. Bydd y cwbl gyda'i gilydd yn wyth milltir o hyd a chwe milltir a hanner o led. | |
Ezek | WelBeibl | 48:14 | Dydy'r tir arbennig yma byth i gael ei werthu na'i gyfnewid, na'i ddefnyddio gan unrhyw un arall. Mae wedi'i gysegru a'i neilltuo'n arbennig i'r ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 48:15 | “Bydd y gweddill – milltir a hanner o led ac wyth milltir o hyd – yn dir cyhoeddus i adeiladu tai arno neu ei gadw'n dir agored. Ond bydd y ddinas yn ei ganol. | |
Ezek | WelBeibl | 48:18 | Bydd gweddill y tir, sydd bob ochr i'r tir cysegredig yn dir amaeth, i dyfu bwyd ar gyfer y bobl sy'n gweithio yn y ddinas. Tair milltir a hanner ar yr ochr ddwyreiniol, a thair milltir a hanner i'r gorllewin. | |
Ezek | WelBeibl | 48:19 | Bydd y tir yma'n cael ei ffermio gan bobl o'r gwahanol lwythau sydd wedi dod i weithio yn y ddinas. | |
Ezek | WelBeibl | 48:20 | Bydd y darn tir i gyd (y tiroedd cysegredig a thiroedd y ddinas gyda'i gilydd) yn wyth milltir i bob cyfeiriad. | |
Ezek | WelBeibl | 48:21 | “Pennaeth y wlad fydd piau'r gweddill (sef beth sydd ar ôl bob ochr i'r tir cysegredig a thir amaeth y ddinas). Bydd yn ymestyn o ymylon yr wyth milltir o dir cysegredig, yr holl ffordd i'r ffin ddwyreiniol un ochr ac i Fôr y Canoldir yr ochr arall. A bydd y tir cysegredig a'r deml ei hun yn y canol. | |
Ezek | WelBeibl | 48:22 | Bydd tir y Lefiaid yn y canol hefyd, a thir amaeth y ddinas, gyda thir pennaeth y wlad bob ochr iddo. Bydd tir y pennaeth yn ymestyn o ffin Jwda i ffin Benjamin. | |
Ezek | WelBeibl | 48:23 | “Wedyn tiroedd gweddill y llwythau: Tir Benjamin nesaf, yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin. | |
Ezek | WelBeibl | 48:28 | A bydd tir Gad yn dilyn y ffin ddeheuol, ar draws o Tamar at Ffynnon Meriba yn Cadesh, ar hyd Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir. | |
Ezek | WelBeibl | 48:29 | Dyma'r tir sydd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. | |
Ezek | WelBeibl | 48:30 | Dyma ddisgrifiad o'r ddinas o'r tu allan: Ar yr ochr ogleddol, sydd filltir a hanner o hyd, | |
Ezek | WelBeibl | 48:31 | bydd tair giât wedi'u henwi ar ôl llwythau Israel – giât Reuben, giât Jwda, a giât Lefi. | |
Ezek | WelBeibl | 48:32 | Ar yr ochr ddwyreiniol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Joseff, giât Benjamin, a giât Dan. | |
Ezek | WelBeibl | 48:33 | Ar yr ochr ddeheuol, sydd filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Simeon, giât Issachar, a giât Sabulon. | |
Ezek | WelBeibl | 48:34 | Ac ar yr ochr orllewinol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Gad, giât Asher, a giât Nafftali. | |