Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EXODUS
Up
Chapter 1
Exod WelBeibl 1:1  Dyma enwau meibion Israel, aeth i'r Aifft gyda'u tad Jacob a'u teuluoedd:
Exod WelBeibl 1:5  Saith deg o feibion ac wyrion i Jacob i gyd. (Roedd Joseff eisoes yn yr Aifft.)
Exod WelBeibl 1:6  Yna dyma Joseff a'i frodyr a'r genhedlaeth yna i gyd yn marw.
Exod WelBeibl 1:7  Ond roedd eu disgynyddion, pobl Israel, yn cael mwy a mwy o blant. Roedd cymaint ohonyn nhw roedden nhw'n cael eu gweld fel bygythiad. Roedden nhw ym mhobman – yn llenwi'r wlad!
Exod WelBeibl 1:8  Aeth amser hir heibio, a daeth brenin newydd i deyrnasu yn yr Aifft, un oedd yn gwybod dim byd am Joseff.
Exod WelBeibl 1:9  A dyma fe'n dweud wrth ei bobl, “Gwrandwch. Mae yna ormod o Israeliaid yn y wlad yma!
Exod WelBeibl 1:10  Rhaid i ni feddwl beth i'w wneud. Os bydd y niferoedd yn dal i dyfu, a rhyfel yn torri allan, byddan nhw'n helpu'n gelynion i ymladd yn ein herbyn ni. Gallen nhw hyd yn oed ddianc o'r wlad.”
Exod WelBeibl 1:11  Felly dyma'r Eifftiaid yn cam-drin pobl Israel a'u gorfodi i weithio am ddim iddyn nhw, a gosod meistri gwaith i gadw trefn arnyn nhw. A dyma nhw'n adeiladu Pithom a Rameses yn ganolfannau storfeydd i'r Pharo.
Exod WelBeibl 1:12  Ond er bod yr Eifftiaid yn eu gweithio nhw mor galed, roedd eu niferoedd yn dal i gynyddu a mynd ar wasgar. Felly dechreuodd yr Eifftiaid eu hofni a'u casáu nhw go iawn,
Exod WelBeibl 1:14  Roedd bywyd yn chwerw go iawn iddyn nhw, wrth i'r Eifftiaid wneud iddyn nhw weithio mor galed. Roedden nhw'n gwneud brics a chymysgu morter, ac yn slafio oriau hir yn y caeau hefyd.
Exod WelBeibl 1:15  Felly dyma frenin yr Aifft yn siarad â bydwragedd yr Hebreaid, Shiffra a Pwa, a dweud wrthyn nhw,
Exod WelBeibl 1:16  “Pan fyddwch chi'n gofalu am wragedd Hebreig wrth iddyn nhw eni plant, os bachgen fydd yn cael ei eni, dw i eisiau i chi ei ladd e'n syth; ond cewch adael i'r merched fyw.”
Exod WelBeibl 1:17  Ond am fod y bydwragedd yn parchu Duw, wnaethon nhw ddim beth roedd brenin yr Aifft wedi'i orchymyn iddyn nhw. Dyma nhw'n cadw'r bechgyn yn fyw.
Exod WelBeibl 1:18  A dyma frenin yr Aifft yn eu galw nhw ato eto, a gofyn, “Beth dych chi'n wneud? Pam dych chi'n gadael i'r bechgyn fyw?”
Exod WelBeibl 1:19  A dyma'r bydwragedd yn ateb, “Dydy'r gwragedd Hebreig ddim yr un fath â gwragedd yr Aifft – maen nhw'n gryfion, ac mae'r plant yn cael eu geni cyn i ni gyrraedd yno!”
Exod WelBeibl 1:20  Felly buodd Duw'n garedig at y bydwragedd. Roedd niferoedd pobl Israel yn dal i dyfu; roedden nhw'n mynd yn gryfach ac yn gryfach.
Exod WelBeibl 1:21  Am fod y bydwragedd wedi parchu Duw, rhoddodd Duw deuluoedd iddyn nhw hefyd.
Exod WelBeibl 1:22  Yna dyma'r Pharo yn rhoi gorchymyn i'w bobl: “Mae pob bachgen sy'n cael ei eni i'r Hebreaid i gael ei daflu i afon Nîl, ond cewch adael i'r merched fyw.”
Chapter 2
Exod WelBeibl 2:1  Bryd hynny, roedd dyn o deulu Lefi wedi priodi gwraig ifanc oedd hefyd yn un o ddisgynyddion Lefi.
Exod WelBeibl 2:2  A dyma'r wraig yn beichiogi, ac yn cael mab. Pan welodd hi'r babi bach hyfryd, dyma hi'n ei guddio am dri mis.
Exod WelBeibl 2:3  Ond ar ôl hynny roedd hi'n amhosib ei guddio. Felly dyma hi'n cymryd basged frwyn, a'i selio gyda tar. Yna rhoi'r babi yn y fasged, a'i osod yng nghanol y brwyn ar lan afon Nîl.
Exod WelBeibl 2:4  Aeth chwaer y plentyn i sefyll heb fod yn rhy bell, i weld beth fyddai'n digwydd iddo.
Exod WelBeibl 2:5  Daeth merch y Pharo i lawr at yr afon i ymdrochi, tra oedd ei morynion yn cerdded ar lan yr afon. A dyma hi'n sylwi ar y fasged yng nghanol y brwyn, ac yn anfon caethferch i'w nôl.
Exod WelBeibl 2:6  Agorodd y fasged, a gweld y babi bach – bachgen, ac roedd yn crio. Roedd hi'n teimlo trueni drosto. “Un o blant yr Hebreaid ydy hwn,” meddai.
Exod WelBeibl 2:7  Yna dyma chwaer y plentyn yn mynd at ferch y Pharo, a gofyn, “Ga i fynd i nôl un o'r gwragedd Hebreig i fagu'r plentyn i chi?”
Exod WelBeibl 2:8  A dyma ferch y Pharo yn dweud, “Ie, gwna hynny!” Felly dyma hi'n mynd adre i nôl mam y babi.
Exod WelBeibl 2:9  A dyma ferch y Pharo yn dweud wrthi, “Dw i eisiau i ti gymryd y plentyn yma, a'i fagu ar y fron i mi. Gwna i dalu cyflog i ti am wneud hynny.” Felly aeth y wraig a'r plentyn adre i'w fagu.
Exod WelBeibl 2:10  Yna, pan oedd y plentyn yn ddigon hen, dyma hi'n mynd ag e at ferch y Pharo, a dyma hithau'n ei fabwysiadu yn fab iddi'i hun. Rhoddodd yr enw Moses iddo – “Am fy mod wedi'i dynnu allan o'r dŵr,” meddai.
Exod WelBeibl 2:11  Flynyddoedd wedyn, pan oedd Moses wedi tyfu'n oedolyn, aeth allan at ei bobl, a gweld fel roedden nhw'n cael eu cam-drin. Gwelodd Eifftiwr yn curo Hebrëwr – un o'i bobl ei hun!
Exod WelBeibl 2:12  Ar ôl edrych o'i gwmpas i wneud yn siŵr fod neb yn ei weld, dyma fe'n taro'r Eifftiwr a'i ladd, a chladdu ei gorff yn y tywod.
Exod WelBeibl 2:13  Pan aeth allan y diwrnod wedyn, gwelodd ddau Hebrëwr yn dechrau ymladd gyda'i gilydd. A dyma Moses yn dweud wrth yr un oedd ar fai, “Pam wyt ti'n ymosod ar dy ffrind?”
Exod WelBeibl 2:14  A dyma'r dyn yn ei ateb, “Pwy sydd wedi rhoi'r hawl i ti ein rheoli ni a'n barnu ni? Wyt ti am fy lladd i fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr yna?” Roedd Moses wedi dychryn, a meddyliodd, “Mae'n rhaid bod pobl yn gwybod beth wnes i.”
Exod WelBeibl 2:15  A dyma'r Pharo yn dod i glywed am y peth, ac roedd am ladd Moses. Felly dyma Moses yn dianc oddi wrtho a mynd i wlad Midian. Pan gyrhaeddodd yno, eisteddodd wrth ymyl rhyw ffynnon.
Exod WelBeibl 2:16  Roedd gan offeiriad Midian saith merch, a dyma nhw'n dod at y ffynnon, a dechrau codi dŵr i'r cafnau er mwyn i ddefaid a geifr eu tad gael yfed.
Exod WelBeibl 2:17  Daeth grŵp o fugeiliaid yno a'u gyrru nhw i ffwrdd. Ond dyma Moses yn achub y merched, ac yn codi dŵr i'w defaid nhw.
Exod WelBeibl 2:18  Pan aeth y merched adre at eu tad, Reuel, dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi wedi dod adre mor gynnar heddiw?”
Exod WelBeibl 2:19  A dyma nhw'n dweud wrtho, “Daeth rhyw Eifftiwr a'n hachub ni rhag y bugeiliaid, ac yna codi dŵr i'r praidd.”
Exod WelBeibl 2:20  A dyma fe'n gofyn i'w ferched, “Ble mae e? Pam yn y byd wnaethoch chi adael y dyn allan yna? Ewch i'w nôl, a gofyn iddo ddod i gael pryd o fwyd gyda ni.”
Exod WelBeibl 2:21  Cytunodd Moses i aros gyda nhw, a dyma Reuel yn rhoi ei ferch Seffora yn wraig iddo.
Exod WelBeibl 2:22  Wedyn dyma nhw'n cael mab, a dyma Moses yn rhoi'r enw Gershom iddo – “Mewnfudwr yn byw mewn gwlad estron ydw i,” meddai.
Exod WelBeibl 2:23  Aeth blynyddoedd heibio, a dyma frenin yr Aifft yn marw. Roedd pobl Israel yn griddfan am eu bod yn dioddef fel caethweision. Roedden nhw'n gweiddi'n daer am help, a dyma'u cri yn cyrraedd Duw.
Exod WelBeibl 2:24  Clywodd Duw nhw'n griddfan, ac roedd yn cofio ei ymrwymiad i Abraham, Isaac a Jacob.
Exod WelBeibl 2:25  Gwelodd Duw bobl Israel, ac roedd yn teimlo i'r byw drostyn nhw.
Chapter 3
Exod WelBeibl 3:1  Roedd Moses yn gofalu am ddefaid a geifr ei dad-yng-nghyfraith, Jethro, offeiriad Midian. A dyma fe'n arwain y praidd i'r ochr draw i'r anialwch. Daeth at fynydd Duw, sef Mynydd Sinai.
Exod WelBeibl 3:2  Yno, dyma angel yr ARGLWYDD yn ymddangos iddo o ganol fflamau perth oedd ar dân. Wrth edrych, roedd yn gweld fod y berth yn fflamau tân, ond doedd hi ddim yn cael ei llosgi.
Exod WelBeibl 3:3  “Anhygoel!” meddyliodd. “Rhaid i mi fynd yn nes i weld beth sy'n digwydd – pam nad ydy'r berth yna wedi llosgi'n ulw.”
Exod WelBeibl 3:4  Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod yn mynd draw i edrych, dyma Duw yn galw arno o ganol y berth, “Moses! Moses!” “Dyma fi,” meddai Moses.
Exod WelBeibl 3:5  A dyma Duw yn dweud wrtho, “Paid dod dim nes. Tyn dy sandalau; ti'n sefyll ar dir cysegredig!”
Exod WelBeibl 3:6  Yna dyma fe'n dweud, “Fi ydy Duw dy dad; Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.” A dyma Moses yn cuddio'i wyneb, am fod ganddo ofn edrych ar Dduw.
Exod WelBeibl 3:7  Yna meddai'r ARGLWYDD wrtho, “Dw i wedi gweld sut mae fy mhobl i'n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi'u clywed nhw'n gweiddi wrth i'w meistri fod yn gas atyn nhw. Dw i'n teimlo drostyn nhw.
Exod WelBeibl 3:8  Felly dw i wedi dod lawr i'w rhyddhau nhw o afael yr Eifftiaid. Dw i'n mynd i'w harwain nhw o wlad yr Aifft, a rhoi gwlad dda, eang iddyn nhw – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo! Yr ardaloedd ble mae'r Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid yn byw.
Exod WelBeibl 3:9  Dw i wedi clywed cri pobl Israel am help, a dw i wedi gweld mor greulon ydy'r Eifftiaid atyn nhw.
Exod WelBeibl 3:10  Felly tyrd. Dw i'n mynd i dy anfon di at y Pharo, i arwain fy mhobl, pobl Israel, allan o'r Aifft.”
Exod WelBeibl 3:11  Dyma Moses yn dweud wrth Dduw, “Fi? Pwy ydw i i fynd at y Pharo, ac arwain pobl Israel allan o'r Aifft?”
Exod WelBeibl 3:12  “Bydda i gyda ti, dw i'n addo,” meddai Duw. “A dyna fydd yr arwydd clir mai fi wnaeth dy anfon di: Pan fyddi di wedi arwain y bobl allan o'r Aifft, byddwch chi'n fy addoli i ar y mynydd yma.”
Exod WelBeibl 3:13  Ond dyma Moses yn dweud, “Os gwna i fynd at bobl Israel a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw eich hynafiaid chi wedi fy anfon i atoch chi,’ byddan nhw'n gofyn i mi, ‘Beth ydy ei enw e?’ Beth ddylwn i ddweud wedyn wrthyn nhw?”
Exod WelBeibl 3:14  “FI YDY'R UN YDW I,” meddai Duw wrth Moses. “Rhaid i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Mae FI YDY wedi fy anfon i atoch chi.’”
Exod WelBeibl 3:15  A dyma fe'n dweud hefyd, “Dwed wrth bobl Israel, ‘Yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, sydd wedi fy anfon i atoch chi – Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.’ Dyma fy enw i am byth, a'r enw fydd pobl yn ei gofio o un genhedlaeth i'r llall.
Exod WelBeibl 3:16  Dos i alw arweinwyr Israel at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi ymddangos i mi – Duw Abraham, Isaac a Jacob. Mae'n dweud, “Dw i wedi bod yn cadw golwg arnoch chi. Dw i wedi gweld sut ydych chi'n cael eich trin yn yr Aifft.
Exod WelBeibl 3:17  A dw i'n addo eich rhyddhau chi o'r caledi yn yr Aifft, a'ch arwain chi i'r wlad ble mae'r Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid yn byw. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo!”’
Exod WelBeibl 3:18  “Bydd yr arweinwyr yn dy gredu di. Wedyn bydd rhaid i ti ac arweinwyr Israel fynd at frenin yr Aifft, a dweud wrtho, ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, wedi cyfarfod gyda ni. Felly, plîs gad i ni deithio i'r anialwch am dri diwrnod, er mwyn i ni aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw.’
Exod WelBeibl 3:19  Dw i'n gwybod yn iawn na fydd brenin yr Aifft yn gadael i chi fynd, dim hyd yn oed dan bwysau.
Exod WelBeibl 3:20  Felly bydda i'n defnyddio fy nerth i daro'r Aifft gyda gwyrthiau rhyfeddol. Bydd e'n eich gyrru chi allan wedyn!
Exod WelBeibl 3:21  Bydd pobl yr Aifft yn rhoi anrhegion i bobl Israel, felly fyddwch chi ddim yn gadael yn waglaw.
Exod WelBeibl 3:22  Bydd gwraig yn gofyn i'w chymdoges a'r un sy'n lletya gyda hi am bethau arian ac aur, a hefyd am ddillad. Bydd eich meibion a'ch merched yn eu gwisgo nhw. Byddwch yn cymryd y cwbl oddi ar bobl yr Aifft!”
Chapter 4
Exod WelBeibl 4:1  Ond dyma Moses yn ateb, “Beth os wnân nhw ddim fy nghredu i? Beth os ddwedan nhw, ‘Wnaeth yr ARGLWYDD ddim dangos ei hun i ti.’?”
Exod WelBeibl 4:2  Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Beth ydy honna yn dy law di?” A dyma fe'n ateb, “Ffon.”
Exod WelBeibl 4:3  “Tafla hi ar lawr,” meddai'r ARGLWYDD. Dyma fe'n taflu'r ffon ar lawr, a dyma hi'n troi'n neidr. A dyma Moses yn cilio'n ôl yn reit sydyn.
Exod WelBeibl 4:4  Ond yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Estyn dy law a gafael ynddi wrth ei chynffon.” Pan wnaeth Moses hynny dyma hi'n troi yn ôl yn ffon yn ei law.
Exod WelBeibl 4:5  “Gwna di hyn, a byddan nhw'n credu wedyn fod yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid wedi ymddangos i ti – Duw Abraham, Isaac a Jacob.”
Exod WelBeibl 4:6  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Rho dy law dan dy glogyn.” Felly dyma fe'n rhoi ei law dan ei glogyn, ond pan dynnodd hi allan roedd brech fel gwahanglwyf drosti – roedd yn wyn fel yr eira!
Exod WelBeibl 4:7  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud eto, “Rho dy law yn ôl dan dy glogyn.” Felly dyma Moses yn rhoi ei law yn ôl dan ei glogyn, a phan dynnodd hi allan y tro yma, roedd hi'n iach eto fel gweddill ei groen!
Exod WelBeibl 4:8  “Os byddan nhw'n gwrthod dy gredu di pan welan nhw'r arwydd cyntaf, falle y gwnân nhw gredu'r ail arwydd,” meddai'r ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 4:9  “Os byddan nhw'n dal i wrthod credu, yna cymer ddŵr o afon Nîl a'i dywallt ar y tir sych. Bydd y dŵr yn troi'n waed ar y tir sych.”
Exod WelBeibl 4:10  Ond wedyn dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Plîs, Meistr, dw i ddim yn siaradwr da iawn – dw i erioed wedi bod, a fydda i byth chwaith. Mae gen i atal dweud, a dw i'n ei chael hi'n anodd i siarad.”
Exod WelBeibl 4:11  Ond dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Pwy roddodd geg i ddyn yn y lle cyntaf? Pwy sy'n gwneud rhai yn fud, eraill yn fyddar, rhai yn gweld ac eraill yn ddall? Onid fi, yr ARGLWYDD?
Exod WelBeibl 4:12  Felly dos; bydda i'n dy helpu di i siarad, ac yn dy ddysgu di beth i'w ddweud.”
Exod WelBeibl 4:13  Ond meddai Moses, “O, plîs, Meistr, anfon rhywun arall!”
Exod WelBeibl 4:14  Erbyn hyn roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda Moses, “Iawn! Beth am dy frawd Aaron, y Lefiad? Dw i'n gwybod ei fod e'n gallu siarad yn dda. Mae e ar ei ffordd i dy gyfarfod di. Bydd e wrth ei fodd pan fydd e'n dy weld di!
Exod WelBeibl 4:15  Byddi di'n dweud wrtho beth i'w ddweud. Bydda i'n dy helpu di a'i helpu fe i siarad, ac yn dangos i chi beth i'w wneud.
Exod WelBeibl 4:16  Bydd e'n siarad ar dy ran di gyda'r bobl. Bydd e'n siarad ar dy ran di, a byddi di fel ‛duw‛ yn dweud wrtho beth i'w ddweud.
Exod WelBeibl 4:17  A dos â dy ffon gyda ti – byddi'n gwneud arwyddion gwyrthiol gyda hi.”
Exod WelBeibl 4:18  Felly dyma Moses yn mynd yn ôl adre at Jethro, ei dad-yng-nghyfraith, a dweud wrtho, “Plîs gad i mi fynd yn ôl at fy mhobl yn yr Aifft, i weld a ydyn nhw'n dal yn fyw.” A dyma Jethro'n dweud wrtho, “Dos, a bendith arnat ti!”
Exod WelBeibl 4:19  (Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses yn Midian, “Dos yn ôl i'r Aifft. Mae'r dynion oedd am dy ladd di wedi marw.”)
Exod WelBeibl 4:20  Felly dyma Moses yn mynd gyda'i wraig a'i feibion – eu rhoi nhw ar gefn mul, a dechrau yn ôl am yr Aifft. Ac aeth â ffon Duw gydag e yn ei law.
Exod WelBeibl 4:21  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Pan ei di yn ôl i'r Aifft, gwna'n siŵr dy fod yn gwneud yr holl wyrthiau rhyfeddol dw i wedi rhoi'r gallu i ti eu gwneud o flaen y Pharo. Ond bydda i'n ei wneud e'n ystyfnig, a bydd e'n gwrthod gadael i'r bobl fynd.
Exod WelBeibl 4:22  Felly dywed di wrth y Pharo, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fy mab i ydy Israel, fy mab hynaf i,
Exod WelBeibl 4:23  a dw i wedi dweud wrthot ti am adael iddo fynd, iddo gael fy addoli i. Gwylia dy hun os byddi di'n gwrthod! Bydda i'n lladd dy fab hynaf di!”’”
Exod WelBeibl 4:24  Ar y ffordd, roedd Moses a'i deulu wedi aros i letya dros nos. A dyma'r ARGLWYDD yn dod ato, ac roedd yn mynd i'w ladd.
Exod WelBeibl 4:25  Ond dyma Seffora yn cymryd cyllell finiog a torri'r blaengroen oddi ar bidyn ei mab. Yna dyma hi'n cyffwrdd man preifat Moses gydag e, a dweud, “Rwyt ti wir yn briodfab i mi drwy waed.”
Exod WelBeibl 4:26  A dyma'r ARGLWYDD yn gadael llonydd iddo. (Wrth ddweud “priodfab drwy waed” roedd Seffora'n cyfeirio at ddefod enwaediad.)
Exod WelBeibl 4:27  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron, “Dos i'r anialwch i gyfarfod Moses.” Felly dyma fe'n mynd ac yn cyfarfod Moses wrth fynydd Duw, a'i gyfarch gyda chusan.
Exod WelBeibl 4:28  A dyma Moses yn dweud wrth Aaron bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i anfon i'w ddweud, ac am yr arwyddion gwyrthiol roedd i'w gwneud.
Exod WelBeibl 4:29  Galwodd Moses ac Aaron arweinwyr Israel at ei gilydd.
Exod WelBeibl 4:30  A dyma Aaron yn dweud wrthyn nhw am bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddweud wrth Moses. Yna dyma'r bobl yn gweld yr arwyddion gwyrthiol
Exod WelBeibl 4:31  ac yn ei gredu. Pan glywon nhw fod yr ARGLWYDD wedi bod yn cadw golwg ar bobl Israel ac wedi gweld sut roedden nhw'n cael eu cam-drin, dyma nhw'n plygu i lawr yn isel i'w addoli.
Chapter 5
Exod WelBeibl 5:1  Aeth Moses ac Aaron at y Pharo, a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gynnal gŵyl i mi yn yr anialwch.’”
Exod WelBeibl 5:2  Ond dyma'r Pharo'n ateb, “A pwy ydy'r ARGLWYDD yma dw i i fod i wrando arno, a gadael i bobl Israel fynd? Dw i ddim yn gwybod pwy ydy e, a dw i ddim yn mynd i adael i Israel fynd yn rhydd chwaith!”
Exod WelBeibl 5:3  A dyma nhw'n ei ateb, “Mae Duw yr Hebreaid wedi cyfarfod gyda ni. Plîs, gad i ni deithio i'r anialwch am dri diwrnod, er mwyn i ni aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw, rhag iddo ein taro ni gyda haint ofnadwy neu i ni gael ein lladd mewn rhyfel.”
Exod WelBeibl 5:4  “Moses, Aaron,” meddai'r brenin, “dych chi'n stopio'r bobl rhag mynd ymlaen gyda'u gwaith! Ewch yn ôl i weithio!
Exod WelBeibl 5:5  Mae'r bobl yma drwy'r wlad i gyd, a dych chi'n eu stopio nhw rhag gweithio!”
Exod WelBeibl 5:6  Felly'r diwrnod hwnnw, dyma'r Pharo yn gorchymyn i'r meistri gwaith a'r fformyn oedd dros y bobl:
Exod WelBeibl 5:7  “Peidiwch rhoi cyflenwad o wellt i'r bobl sy'n gwneud brics o hyn ymlaen. Gwnewch iddyn nhw gasglu eu gwellt eu hunain!
Exod WelBeibl 5:8  Ond bydd dal ddisgwyl iddyn nhw wneud yr un nifer o frics ag o'r blaen. Peidiwch gadael iddyn nhw wneud llai. Mae'n amlwg eu bod nhw'n slacio, a dyna pam maen nhw'n dweud, ‘Gad i ni fynd i aberthu i'n Duw.’
Exod WelBeibl 5:9  Gwnewch iddyn nhw weithio'n galetach. Fydd ganddyn nhw ddim amser i wrando ar gelwyddau'r dynion yna wedyn!”
Exod WelBeibl 5:10  Felly dyma'r meistri gwaith a'r fformyn yn mynd at bobl Israel, a dweud, “Dyma orchymyn gan y Pharo: ‘Dw i ddim am roi gwellt i chi o hyn ymlaen.
Exod WelBeibl 5:11  Rhaid i chi'ch hunain fynd allan i chwilio am wellt. A rhaid i chi gynhyrchu'r un nifer o frics ag o'r blaen.’”
Exod WelBeibl 5:12  Felly dyma'r bobl yn mynd allan i wlad yr Aifft i bob cyfeiriad, i gasglu bonion gwellt.
Exod WelBeibl 5:13  Roedd y meistri gwaith yn rhoi pwysau ofnadwy arnyn nhw, “Rhaid i chi wneud yr un faint o waith bob dydd ag o'r blaen, pan oedden ni'n rhoi gwellt i chi!”
Exod WelBeibl 5:14  Roedd yr Israeliaid oedd wedi cael eu penodi'n fformyn gan y meistri gwaith yn cael eu curo am beidio cynhyrchu'r cwota llawn o frics fel o'r blaen.
Exod WelBeibl 5:15  Felly dyma'r fformyn yn mynd at y Pharo, a phledio arno, “Pam wyt ti'n trin dy weision fel yma?
Exod WelBeibl 5:16  Dŷn ni'n cael dim gwellt, ac eto mae disgwyl i ni wneud brics! Ni sy'n cael ein curo ond ar y meistri gwaith mae'r bai.”
Exod WelBeibl 5:17  Ond dyma'r Pharo yn dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi bod yn slacio! Dych chi'n ddiog! Dyna pam dych chi'n dweud, ‘Gad i ni fynd i aberthu i'r ARGLWYDD.’
Exod WelBeibl 5:18  Felly ewch, yn ôl i'ch gwaith! Fydd dim gwellt yn cael ei roi i chi, ond rhaid i chi gynhyrchu'r un faint o frics!”
Exod WelBeibl 5:19  Roedd fformyn pobl Israel yn gweld eu bod nhw mewn trwbwl pan ddywedwyd wrthyn nhw, “Rhaid i chi gynhyrchu'r un faint o frics ag o'r blaen.”
Exod WelBeibl 5:20  Wrth iddyn nhw adael y Pharo, roedd Moses ac Aaron yno'n disgwyl amdanyn nhw.
Exod WelBeibl 5:21  A dyma'r fformyn yn dweud wrthyn nhw, “Gobeithio bydd yr ARGLWYDD yn eich barnu chi am droi y Pharo a'i swyddogion yn ein herbyn ni. Dŷn ni'n drewi yn eu golwg nhw! Dych chi wedi'n rhoi ni mewn sefyllfa lle byddan nhw'n ein lladd ni!”
Exod WelBeibl 5:22  Dyma Moses yn mynd yn ôl at yr ARGLWYDD, a dweud, “O! Feistr, pam ti'n trin dy bobl fel yma? Pam yn y byd wnest ti fy anfon i atyn nhw?
Exod WelBeibl 5:23  O'r eiliad es i i siarad â'r Pharo ar dy ran di, mae e wedi achosi trwbwl i'r bobl yma, a dwyt ti wedi gwneud dim byd i'w hachub nhw!”
Chapter 6
Exod WelBeibl 6:1  Ond dyma'r ARGLWYDD yn ateb Moses, “Cei weld beth fydda i'n ei wneud i'r Pharo. Bydda i'n defnyddio fy nerth i'w orfodi e i'w gollwng nhw'n rhydd, a bydd e'n eu gyrru nhw allan o'i wlad!”
Exod WelBeibl 6:3  Gwnes i ddangos fy hun i Abraham, Isaac a Jacob fel y Duw sy'n rheoli popeth. Ond doeddwn i ddim wedi gadael iddyn nhw fy nabod i wrth fy enw, yr ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 6:4  Rôn i wedi gwneud ymrwymiad i roi gwlad Canaan iddyn nhw, sef y wlad lle roedden nhw'n byw fel mewnfudwyr.
Exod WelBeibl 6:5  Dw i wedi clywed pobl Israel yn griddfan am fod yr Eifftiaid wedi'u gwneud nhw'n gaethweision, a dw i wedi cofio fy ymrwymiad iddyn nhw.
Exod WelBeibl 6:6  Felly, dywed wrth bobl Israel, ‘Fi ydy'r ARGLWYDD. Dw i'n mynd i ddod â chi allan o'r Aifft. Fyddwch chi ddim yn gaethweision i'r Eifftiaid o hyn ymlaen. Dw i'n mynd i'ch achub chi rhag cael eich cam-drin ganddyn nhw. Dw i'n mynd i ddefnyddio fy nerth i'ch rhyddhau chi, ac yn mynd i'w cosbi nhw.
Exod WelBeibl 6:7  Dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n bobl i mi fy hun. Fi fydd eich Duw chi. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw wnaeth eich achub chi o fod yn gaethweision yn yr Aifft.
Exod WelBeibl 6:8  Bydda i'n dod â chi i'r wlad wnes i addo ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob – eich gwlad chi fydd hi wedyn! Fi ydy'r ARGLWYDD.’”
Exod WelBeibl 6:9  Dyma Moses yn dweud hyn i gyd wrth bobl Israel, ond roedden nhw'n gwrthod gwrando arno. Roedden nhw mor ddigalon am eu bod yn cael eu cam-drin mor ofnadwy.
Exod WelBeibl 6:11  “Dos at y Pharo, brenin yr Aifft, a dweud wrtho fod rhaid iddo ryddhau pobl Israel o'i wlad.”
Exod WelBeibl 6:12  Ond dyma Moses yn ateb yr ARGLWYDD, “Dydy pobl Israel ddim yn fodlon gwrando, felly pam ddylai'r Pharo wrando arna i? Dw i'n siaradwr gwael.”
Exod WelBeibl 6:13  Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron fod rhaid iddyn nhw fynd yn ôl at bobl Israel ac at y Pharo, am eu bod i arwain pobl Israel allan o wlad yr Aifft.
Exod WelBeibl 6:14  Dyma enwau penaethiaid teuluoedd Israel: Meibion Reuben, mab hynaf Israel: Chanoch, Palw, Hesron a Carmi – enwau teuluoedd o lwyth Reuben.
Exod WelBeibl 6:15  Meibion Simeon: Iemwel, Iamîn, Ohad, Iachîn, Sochar a Saul (mab i ferch o Canaan) – enwau teuluoedd o lwyth Simeon.
Exod WelBeibl 6:16  A dyma enwau meibion Lefi (bob yn genhedlaeth): Gershon, Cohath a Merari (Roedd Lefi wedi byw i fod yn 137 mlwydd oed.)
Exod WelBeibl 6:18  Meibion Cohath: Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel (Roedd Cohath wedi byw i fod yn 133 mlwydd oed.)
Exod WelBeibl 6:19  Meibion Merari: Machli a Mwshi. Dyma deuluoedd llwyth Lefi (bob yn genhedlaeth).
Exod WelBeibl 6:20  Roedd Amram wedi priodi Iochefed, chwaer ei dad, a nhw oedd rhieni Aaron a Moses. (Roedd Amram wedi byw i fod yn 137 mlwydd oed.)
Exod WelBeibl 6:23  Roedd Aaron wedi priodi Elisheba (merch Aminadab, a chwaer i Nachshon), a nhw oedd rhieni Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar.
Exod WelBeibl 6:24  Meibion Cora oedd Assir, Elcana ac Abiasaff. Eu disgynyddion nhw oedd y Corahiaid.
Exod WelBeibl 6:25  Roedd Eleasar (mab Aaron) wedi priodi un o ferched Pwtiel, a nhw oedd rhieni Phineas. Dyma benaethiaid y teuluoedd o lwyth Lefi.
Exod WelBeibl 6:26  Y rhain oedd yr Aaron a'r Moses wnaeth yr ARGLWYDD siarad â nhw, a dweud, “Dw i am i chi arwain pobl Israel allan o wlad yr Aifft mewn rhengoedd trefnus.”
Exod WelBeibl 6:27  Nhw oedd y rhai aeth i siarad â'r Pharo, brenin yr Aifft, a mynnu ei fod yn gadael i bobl Israel fynd allan o'r Aifft – yr un Moses ac Aaron.
Exod WelBeibl 6:28  Pan siaradodd yr ARGLWYDD gyda Moses yn yr Aifft,
Exod WelBeibl 6:29  dwedodd wrtho, “Fi ydy'r ARGLWYDD. Dw i eisiau i ti ddweud wrth y Pharo, brenin yr Aifft, bopeth dw i'n ei ddweud wrthot ti.”
Exod WelBeibl 6:30  Ond dyma Moses yn ateb yr ARGLWYDD, “Dw i'n siaradwr gwael! Pam ddylai'r Pharo wrando arna i?”
Chapter 7
Exod WelBeibl 7:1  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Bydda i'n dy wneud di fel ‛duw‛ i'r Pharo, a dy frawd Aaron fel dy broffwyd.
Exod WelBeibl 7:2  Rwyt i ddweud popeth dw i'n ei orchymyn i ti, ac mae dy frawd Aaron i ddweud wrth y Pharo fod rhaid iddo ryddhau pobl Israel o'i wlad.
Exod WelBeibl 7:3  Ond bydda i'n gwneud y Pharo'n ystyfnig. Bydda i'n gwneud lot fawr o arwyddion a gwyrthiau rhyfeddol yn yr Aifft,
Exod WelBeibl 7:4  ond fydd y Pharo ddim yn gwrando. Felly bydda i'n taro'r Aifft, yn eu cosbi nhw'n llym, ac yn arwain fy mhobl Israel allan o'r wlad mewn rhengoedd trefnus.
Exod WelBeibl 7:5  Wedyn bydd pobl yr Aifft yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n taro'r Aifft ac yn arwain pobl Israel allan o'u gwlad nhw.”
Exod WelBeibl 7:6  Dyma Moses ac Aaron yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw.
Exod WelBeibl 7:7  Roedd Moses yn wyth deg oed, ac Aaron yn wyth deg tri, pan aethon nhw i siarad â'r Pharo.
Exod WelBeibl 7:9  “Pan fydd y Pharo yn dweud, ‘Dangoswch wyrth i mi,’ dywed wrth Aaron am daflu ei ffon ar lawr o flaen y Pharo, a bydd y ffon yn troi'n neidr anferth.”
Exod WelBeibl 7:10  Pan aeth Moses ac Aaron at y Pharo, dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Dyma Aaron yn taflu ei ffon ar lawr o flaen y Pharo a'i swyddogion, a dyma'r ffon yn troi'n neidr anferth.
Exod WelBeibl 7:11  Ond yna dyma'r Pharo yn galw am swynwyr doeth a chonsurwyr – dewiniaid yr Aifft, oedd yn gwneud yr un math o beth drwy hud a lledrith.
Exod WelBeibl 7:12  Dyma nhw i gyd yn taflu eu ffyn ar lawr, a dyma'r ffyn yn troi'n nadroedd. Ond dyma ffon Aaron yn llyncu eu ffyn nhw i gyd!
Exod WelBeibl 7:13  Ond roedd y Pharo mor ystyfnig ag erioed. Roedd yn gwrthod gwrando arnyn nhw, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
Exod WelBeibl 7:14  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Mae'r Pharo mor ystyfnig. Mae'n gwrthod rhyddhau y bobl.
Exod WelBeibl 7:15  Bore yfory, dos i'w gyfarfod pan fydd yn mynd i lawr at yr afon. Dos i sefyll ar lan afon Nîl, yn disgwyl amdano. Dos â dy ffon gyda ti, sef yr un wnaeth droi'n neidr.
Exod WelBeibl 7:16  Dwed wrtho, ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, wedi fy anfon i atat ti i ddweud, “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw fy addoli i yn yr anialwch!” Ond hyd yn hyn rwyt ti wedi gwrthod gwrando.
Exod WelBeibl 7:17  Felly mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Dyma sut rwyt ti'n mynd i ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD: Dw i'n mynd i daro dŵr afon Nîl gyda'r ffon yma, a bydd yn troi yn waed.
Exod WelBeibl 7:18  Bydd y pysgod yn marw, a bydd afon Nîl yn drewi. Fydd pobl yr Aifft ddim yn gallu yfed dŵr ohoni.”’”
Exod WelBeibl 7:19  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dwed wrth Aaron am estyn ei ffon dros ddyfroedd yr Aifft – yr afonydd, y camlesi, y corsydd a'r dŵr sydd wedi'i gasglu – er mwyn i'r cwbl droi'n waed. Bydd gwaed drwy'r wlad i gyd, hyd yn oed yn y bwcedi pren a'r cafnau carreg.”
Exod WelBeibl 7:20  Dyma Moses ac Aaron yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Codi'r ffon a tharo dŵr afon Nîl o flaen llygaid y Pharo a'i swyddogion. A dyma ddŵr afon Nîl yn troi'n waed.
Exod WelBeibl 7:21  Dyma'r pysgod yn yr afon yn marw, ac roedd y dŵr yn drewi mor ofnadwy, doedd pobl yr Aifft ddim yn gallu ei yfed. Roedd gwaed drwy wlad yr Aifft i gyd!
Exod WelBeibl 7:22  Ond dyma ddewiniaid yr Aifft yn gwneud yr un peth drwy hud a lledrith. Felly roedd y Pharo mor ystyfnig ag erioed, ac yn gwrthod gwrando ar Moses ac Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
Exod WelBeibl 7:23  Dyma'r Pharo'n mynd yn ôl i'w balas, yn poeni dim am y peth.
Exod WelBeibl 7:24  Ond roedd pobl gyffredin yr Aifft yn gorfod cloddio am ddŵr, am eu bod yn methu yfed dŵr afon Nîl.
Exod WelBeibl 7:25  Aeth wythnos lawn heibio ar ôl i'r ARGLWYDD daro'r afon.
Chapter 8
Exod WelBeibl 8:1  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos at y Pharo a dweud wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i!
Exod WelBeibl 8:2  Os byddi di'n gwrthod gadael iddyn nhw fynd, bydda i'n anfon pla o lyffantod drwy'r wlad.
Exod WelBeibl 8:3  Bydd afon Nîl yn llawn ohonyn nhw. A byddan nhw'n dod i mewn i'r palas, i dy ystafell wely di, a hyd yn oed ar dy wely! Byddan nhw'n mynd i mewn i dai pawb. Byddan nhw ym mhob ffwrn a phowlen a phadell!
Exod WelBeibl 8:4  Byddan nhw dros bawb a phopeth! – drosot ti, dy bobl a dy swyddogion.”’”
Exod WelBeibl 8:5  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dwed wrth Aaron am estyn ei ffon dros yr afonydd, y camlesi a'r corsydd, a gwneud i lyffantod ddod allan dros wlad yr Aifft i gyd.”
Exod WelBeibl 8:6  Dyma Aaron yn gwneud hynny, a daeth llyffantod allan dros wlad yr Aifft i gyd.
Exod WelBeibl 8:7  Ond yna dyma'r dewiniaid yn gwneud yr un peth gyda'u hud a lledrith – roedden nhw hefyd yn gwneud i lyffantod ddod dros y wlad.
Exod WelBeibl 8:8  Yna dyma'r Pharo yn galw am Moses ac Aaron, a dweud wrthyn nhw, “Gweddïwch ar yr ARGLWYDD iddo gymryd y llyffantod i ffwrdd oddi wrtho i a'r bobl. Wedyn bydda i'n gadael i'r bobl fynd, iddyn nhw aberthu i'r ARGLWYDD.”
Exod WelBeibl 8:9  A dyma Moses yn ateb y Pharo, “Iawn, cei di'r fraint o ddweud pryd wyt ti eisiau i mi weddïo. Pryd wyt ti eisiau i'r llyffantod gael eu symud o'ch tai chi, fel bod dim ar ôl ond y rhai sydd yn afon Nîl?”
Exod WelBeibl 8:10  A dyma fe'n ateb, “Yfory.” “Iawn,” meddai Moses, “fel rwyt ti'n dweud! Byddi'n deall wedyn fod yna neb tebyg i'r ARGLWYDD ein Duw ni.
Exod WelBeibl 8:11  Bydd y llyffantod i gyd wedi mynd, heblaw'r rhai sydd yn afon Nîl.”
Exod WelBeibl 8:12  Felly dyma Moses ac Aaron yn gadael y Pharo, a gweddïodd Moses ar yr ARGLWYDD am y llyffantod roedd e wedi'u hanfon ar y Pharo.
Exod WelBeibl 8:13  A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud fel roedd Moses yn gofyn – dyma'r llyffantod i gyd yn marw, yn y tai, y pentrefi a'r caeau.
Exod WelBeibl 8:14  Cafodd y cwbl eu casglu'n domenni ym mhobman, nes bod y wlad yn drewi!
Exod WelBeibl 8:15  Ond yna, pan welodd y Pharo fod y broblem wedi mynd, dyma fe'n troi'n ystyfnig eto. Roedd yn gwrthod gwrando ar Moses ac Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
Exod WelBeibl 8:16  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dwed wrth Aaron am estyn ei ffon a tharo'r pridd ar lawr, iddo droi'n wybed dros wlad yr Aifft i gyd.”
Exod WelBeibl 8:17  A dyna wnaethon nhw. Dyma Aaron yn estyn ei ffon a tharo'r pridd ar lawr, ac roedd gwybed ym mhobman, ar bobl ac anifeiliaid. Trodd y pridd ar lawr yn wybed ym mhobman drwy wlad yr Aifft i gyd.
Exod WelBeibl 8:18  Ceisiodd y dewiniaid wneud yr un peth gyda'u hud a lledrith, ond roedden nhw'n methu. Roedd gwybed ym mhobman, ar bobl ac anifeiliaid!
Exod WelBeibl 8:19  “Duw sydd tu ôl i hyn!” meddai'r dewiniaid. Ond roedd y Pharo yn dal yr un mor ystyfnig, ac yn gwrthod gwrando ar Moses ac Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
Exod WelBeibl 8:20  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Coda'n fore, a sefyll o flaen y Pharo pan fydd yn mynd i lawr at yr afon. Dwed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i!
Exod WelBeibl 8:21  Os byddi di'n gwrthod gadael i'm pobl fynd, dw i'n mynd i anfon heidiau o bryfed i dy boeni di, dy swyddogion a dy bobl. Bydd eich tai yn llawn pryfed, byddan nhw hyd yn oed ar lawr ym mhobman.
Exod WelBeibl 8:22  Ond bydda i'n delio'n wahanol gyda Gosen, lle mae fy mhobl Israel yn byw; fydd yna ddim pryfed yno. Byddi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, a'm bod i yma yng nghanol gwlad yr Aifft.
Exod WelBeibl 8:23  Bydda i'n gwahaniaethu rhwng fy mhobl i a dy bobl di. Bydd hyn yn digwydd yfory.”’”
Exod WelBeibl 8:24  A dyna wnaeth yr ARGLWYDD. Daeth haid trwchus o bryfed i mewn i balas y Pharo, i dai ei swyddogion, a thrwy wlad yr Aifft i gyd. Roedd y pryfed yn difetha'r wlad.
Exod WelBeibl 8:25  A dyma'r Pharo yn galw am Moses ac Aaron, a dweud wrthyn nhw, “Iawn, ewch i aberthu i'ch Duw, ond o fewn ffiniau'r wlad yma.”
Exod WelBeibl 8:26  Ond dyma Moses yn ateb, “Na, fyddai hynny ddim yn beth call i'w wneud. Bydden ni'n tramgwyddo pobl yr Aifft gyda'r aberthau dŷn ni'n eu cyflwyno i'r ARGLWYDD ein Duw. Os byddan nhw'n ein gweld ni'n aberthu, byddan nhw'n dechrau taflu cerrig aton ni i'n lladd ni.
Exod WelBeibl 8:27  Rhaid i ni deithio am dri diwrnod i'r anialwch, ac aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw yno. Dyna mae e'n ddweud wrthon ni.”
Exod WelBeibl 8:28  Felly dyma'r Pharo'n dweud, “Iawn, gwna i adael i chi fynd i aberthu i'r ARGLWYDD eich Duw yn yr anialwch. Ond rhaid i chi beidio mynd yn rhy bell. Nawr, gweddïwch drosto i.”
Exod WelBeibl 8:29  A dyma Moses yn dweud, “Yn syth ar ôl i mi fynd allan, bydda i'n gweddïo ar yr ARGLWYDD ac yn gofyn iddo anfon y pryfed i ffwrdd yfory – oddi wrthot ti, dy swyddogion a dy bobl. Ond paid ceisio'n twyllo ni eto, a gwrthod gadael i'r bobl fynd i aberthu i'r ARGLWYDD.”
Exod WelBeibl 8:30  Felly dyma Moses yn gadael y Pharo, ac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 8:31  A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud fel roedd Moses yn gofyn – dyma fe'n gyrru'r pryfed i ffwrdd oddi wrth y Pharo, ei swyddogion a'i bobl. Doedd dim un ar ôl!
Exod WelBeibl 8:32  Ond dyma'r Pharo'n troi'n ystyfnig unwaith eto, ac yn gwrthod gadael i'r bobl fynd.
Chapter 9
Exod WelBeibl 9:1  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos at y Pharo a dweud wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid yn ei ddweud: “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i!”
Exod WelBeibl 9:2  Os byddi di'n gwrthod gadael iddyn nhw fynd, ac yn dal dy afael ynddyn nhw,
Exod WelBeibl 9:3  bydd yr ARGLWYDD yn taro dy anifeiliaid di i gyd gyda haint ofnadwy – y ceffylau, y mulod, y camelod, y gwartheg i gyd, a'r defaid a'r geifr.
Exod WelBeibl 9:4  Ond bydd e'n gwahaniaethu rhwng anifeiliaid pobl Israel a'ch anifeiliaid chi'r Eifftiaid. Fydd dim un o anifeiliaid pobl Israel yn marw.’”
Exod WelBeibl 9:5  Dwedodd yr ARGLWYDD y byddai hyn yn digwydd y diwrnod wedyn.
Exod WelBeibl 9:6  A dyna wnaeth yr ARGLWYDD. Y diwrnod wedyn, dyma anifeiliaid yr Eifftiaid i gyd yn marw, ond wnaeth dim un o anifeiliaid pobl Israel farw.
Exod WelBeibl 9:7  Dyma'r Pharo yn anfon swyddogion i weld, ac yn wir, doedd dim un o anifeiliaid pobl Israel wedi marw. Ond roedd e mor ystyfnig ag erioed, ac yn gwrthod gadael i'r bobl fynd.
Exod WelBeibl 9:8  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron, “Cymerwch ddyrneidiau o ludw o ffwrnais, a chael Moses i'w daflu i'r awyr o flaen llygaid y Pharo.
Exod WelBeibl 9:9  Bydd yn lledu fel llwch mân dros wlad yr Aifft i gyd, ac yn achosi chwyddau fydd yn troi'n septig ar gyrff pobl ac anifeiliaid drwy'r wlad.”
Exod WelBeibl 9:10  Felly dyma nhw'n cymryd lludw o ffwrnais a mynd i sefyll o flaen y Pharo. A dyma Moses yn ei daflu i'r awyr, ac roedd yn achosi chwyddau oedd yn troi'n septig ar gyrff pobl ac anifeiliaid.
Exod WelBeibl 9:11  Doedd y dewiniaid ddim yn gallu cystadlu gyda Moses o achos y chwyddau. Roedd y chwyddau dros eu cyrff nhw hefyd, fel pawb arall yn yr Aifft.
Exod WelBeibl 9:12  Ond roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud y Pharo yn fwy ystyfnig fyth. Roedd yn gwrthod gwrando arnyn nhw, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Exod WelBeibl 9:13  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Coda'n fore, a sefyll o flaen y Pharo, a dywed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, yn ei ddweud: “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i!
Exod WelBeibl 9:14  Y tro yma dw i'n mynd i dy daro di, a dy swyddogion a dy bobl gyda plâu gwaeth fyth, er mwyn i ti ddeall fod yna neb tebyg i mi ar y ddaear.
Exod WelBeibl 9:15  Gallwn i fod wedi dy daro di a dy bobl gyda pla ofnadwy fyddai wedi'ch dileu chi oddi ar wyneb y ddaear!
Exod WelBeibl 9:16  Dyma pam wnes i dy godi di – er mwyn dangos i ti mor bwerus ydw i, ac er mwyn i bawb drwy'r byd i gyd ddod i wybod amdana i.
Exod WelBeibl 9:17  Ond rwyt ti'n dal i ormesu fy mhobl, ac yn gwrthod gadael iddyn nhw fynd yn rhydd.
Exod WelBeibl 9:18  Felly, tua'r adeg yma yfory, dw i'n mynd i anfon y storm genllysg waethaf mae'r Aifft erioed wedi'i gweld.
Exod WelBeibl 9:19  Gwell i ti gasglu dy anifeiliaid a phopeth arall sydd biau ti'n y caeau i le saff. Bydd pob person ac anifail sy'n cael ei ddal yn y cae gan y storm yn cael ei daro gan y cenllysg ac yn marw!”’”
Exod WelBeibl 9:20  Dyma rai o swyddogion y Pharo yn credu beth ddwedodd yr ARGLWYDD, ac yn brysio allan i gasglu eu gweision a'u hanifeiliaid o'r caeau.
Exod WelBeibl 9:21  Ond roedd eraill yn poeni dim am y peth, a dyma nhw'n gadael eu gweision a'u hanifeiliaid yn y caeau.
Exod WelBeibl 9:22  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Cod dy law i fyny i'r awyr, i wneud i genllysg ddisgyn drwy wlad yr Aifft, ar bobl ac anifeiliaid, ac ar y cnydau sy'n tyfu drwy'r wlad i gyd.”
Exod WelBeibl 9:23  Pan gododd Moses ei ffon i'r awyr, dyma'r ARGLWYDD yn anfon storm o genllysg gyda mellt a tharanau. Dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddi fwrw cenllysg ar wlad yr Aifft i gyd.
Exod WelBeibl 9:24  Roedd y cenllysg yn syrthio, a'r mellt yn fflachio yn ôl a blaen. Roedd yn bwrw mor drwm, fuodd yna erioed storm debyg iddi yn holl hanes gwlad yr Aifft.
Exod WelBeibl 9:25  Roedd y cenllysg yn taro popeth oedd allan yn y caeau – pobl ac anifeiliaid, a'r cnydau drwy'r wlad i gyd. Roedd hyd yn oed y coed wedi cael eu dryllio!
Exod WelBeibl 9:26  Yr unig ardal yn yr Aifft gafodd ddim cenllysg oedd Gosen, lle roedd pobl Israel yn byw.
Exod WelBeibl 9:27  Felly dyma'r Pharo yn anfon am Moses ac Aaron, ac yn dweud wrthyn nhw, “Dw i'n cyfaddef fy mod i ar fai. Yr ARGLWYDD sy'n iawn. Dw i a'm pobl yn euog.
Exod WelBeibl 9:28  Gweddïa ar yr ARGLWYDD. Dŷn ni wedi cael digon! Mae'r taranau a'r cenllysg yma'n ormod! Gwna i adael i chi fynd – gorau po gynta!”
Exod WelBeibl 9:29  A dyma Moses yn dweud wrtho, “Pan fydda i wedi mynd allan o'r ddinas, bydda i'n codi fy nwylo ac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. Bydd y taranau a'r cenllysg yn stopio. Byddi'n deall wedyn mai'r ARGLWYDD sydd biau'r ddaear yma.
Exod WelBeibl 9:30  Ond dw i'n gwybod yn iawn dy fod ti a dy weision eto ddim wir yn parchu'r ARGLWYDD Dduw.”
Exod WelBeibl 9:31  (Roedd y cnydau llin a'r cnydau haidd wedi cael eu difetha gan y cenllysg. Roedd yr haidd yn aeddfed, a'r llin wedi blodeuo.
Exod WelBeibl 9:32  Ond roedd y gwenith a'r sbelt yn dal yn iawn, gan eu bod yn gnydau mwy diweddar.)
Exod WelBeibl 9:33  Felly dyma Moses yn gadael y Pharo a mynd allan o'r ddinas. Dyma fe'n codi ei ddwylo a gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma'r taranau a'r cenllysg yn stopio, a'r storm yn clirio.
Exod WelBeibl 9:34  Ond pan welodd y Pharo fod y glaw a'r cenllysg a'r taranau wedi stopio, dyma fe'n pechu eto. Dyma fe a'i swyddogion yn troi'n ystyfnig.
Exod WelBeibl 9:35  Roedd y Pharo yn hollol ystyfnig, ac yn gwrthod gadael i bobl Israel fynd, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
Chapter 10
Exod WelBeibl 10:1  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos at y Pharo. Dw i wedi'i wneud e a'i swyddogion yn ystyfnig, er mwyn iddyn nhw weld yr arwyddion gwyrthiol dw i'n eu gwneud.
Exod WelBeibl 10:2  Hefyd er mwyn i ti allu dweud am beth ddigwyddodd wrth dy blant a'u plant hwythau, sut roeddwn i wedi gwneud ffyliaid o'r Eifftiaid. Byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”
Exod WelBeibl 10:3  Felly dyma Moses ac Aaron yn mynd at y Pharo a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, yn ei ddweud: ‘Am faint wyt ti'n mynd i wrthod plygu i mi? Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i!
Exod WelBeibl 10:4  Os fyddi di'n gwrthod, gwylia dy hun! Bydda i'n anfon locustiaid drwy dy wlad di yfory.
Exod WelBeibl 10:5  Byddan nhw dros bobman! Fyddi di ddim yn gallu gweld y llawr! Byddan nhw'n dinistrio popeth wnaeth ddim cael ei ddifetha gan y cenllysg. Fydd yna ddim byd gwyrdd ar ôl, a dim blagur ar y coed.
Exod WelBeibl 10:6  Byddan nhw drwy dy balas di, tai dy swyddogion a thai pawb arall yn yr Aifft. Fydd dim byd tebyg i hyn wedi digwydd yn holl hanes gwlad yr Aifft!’” Yna dyma Moses yn troi ac yn gadael y Pharo.
Exod WelBeibl 10:7  A dyma swyddogion y Pharo yn dweud wrtho, “Am faint mae hyn i fynd ymlaen? Gad iddyn nhw fynd i addoli'r ARGLWYDD eu Duw. Wyt ti ddim yn gweld y bydd hi ar ben ar y wlad yma?”
Exod WelBeibl 10:8  Dyma nhw'n dod â Moses ac Aaron yn ôl at y Pharo. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch i addoli'r ARGLWYDD eich Duw. Ond pwy yn union fydd yn mynd?”
Exod WelBeibl 10:9  “Bydd pawb yn mynd,” meddai Moses, “hen ac ifanc, ein plant a'n hanifeiliaid. Dŷn ni'n mynd i gynnal gŵyl i'r ARGLWYDD.”
Exod WelBeibl 10:10  “Duw a'ch helpo os ydych chi'n meddwl y gwna i adael i'ch plant fynd gyda chi! Gwyliwch chi! Byddwch chi mewn trwbwl wedyn!
Exod WelBeibl 10:11  Na! Dim ond y dynion sydd i gael mynd i addoli'r ARGLWYDD. Dyna dych chi eisiau ynte?” A dyma fe'n gyrru'r ddau allan o'i olwg.
Exod WelBeibl 10:12  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Estyn dy law dros wlad yr Aifft i wneud i'r locustiaid ddod. Byddan nhw dros bobman, ac yn difetha popeth sy'n dal i dyfu ar ôl y cenllysg.”
Exod WelBeibl 10:13  Felly dyma Moses yn estyn ei ffon dros wlad yr Aifft. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i wynt o'r dwyrain chwythu drwy'r dydd a'r nos. Erbyn iddi wawrio y bore wedyn roedd y gwynt wedi dod â'r locustiaid i'r wlad.
Exod WelBeibl 10:14  Dyma nhw'n mynd drwy'r wlad i gyd, o un pen i'r llall. Fuodd yna erioed bla tebyg o locustiaid, a fydd yna ddim un tebyg byth eto.
Exod WelBeibl 10:15  Roedden nhw dros bobman! Roedd y ddaear yn ddu gan locustiaid, a dyma nhw'n difetha pob planhigyn a phob ffrwyth ar bob coeden oedd yn dal yna wedi'r cenllysg. Doedd yna ddim planhigyn na deilen werdd ar ôl drwy wlad yr Aifft i gyd!
Exod WelBeibl 10:16  Dyma'r Pharo yn galw am Moses ac Aaron ar frys. Meddai wrthyn nhw, “Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw, a chithau.
Exod WelBeibl 10:17  Plîs maddeuwch i mi yr un tro yma, a gweddïo y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cymryd y pla marwol yma i ffwrdd.”
Exod WelBeibl 10:18  Felly dyma Moses yn gadael y Pharo ac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 10:19  A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r gwynt droi, a chwythu'n gryf o gyfeiriad y gorllewin. Dyma'r gwynt yn codi'r locustiaid a'u chwythu nhw i gyd i'r Môr Coch. Doedd yna ddim un locust ar ôl drwy wlad yr Aifft i gyd!
Exod WelBeibl 10:20  Ond dyma'r ARGLWYDD yn gwneud y Pharo yn ystyfnig eto. Roedd yn gwrthod gadael i bobl Israel fynd.
Exod WelBeibl 10:21  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Estyn dy law i fyny i'r awyr, er mwyn i dywyllwch ddod dros wlad yr Aifft – tywyllwch dychrynllyd!”
Exod WelBeibl 10:22  Felly dyma Moses yn estyn ei law i fyny i'r awyr, ac roedd hi'n dywyll fel y fagddu drwy wlad yr Aifft am dri diwrnod.
Exod WelBeibl 10:23  Doedd pobl ddim yn gallu gweld ei gilydd, a doedd neb yn gallu mynd allan am dri diwrnod! Ond roedd hi'n olau lle roedd pobl Israel yn byw.
Exod WelBeibl 10:24  Dyma'r Pharo yn galw am Moses, a dweud, “Ewch i addoli'r ARGLWYDD. Cewch fynd â'ch plant gyda chi, ond dw i am gadw'r anifeiliaid yma.”
Exod WelBeibl 10:25  Atebodd Moses, “Wyt ti ddim am roi anifeiliaid i ni i'w haberthu a'u cyflwyno'n offrymau i'w llosgi i'r ARGLWYDD ein Duw?
Exod WelBeibl 10:26  Rhaid i'r anifeiliaid fynd gyda ni. Does dim un i gael ei adael ar ôl. Rhaid i ni ddewis rhai ohonyn nhw i'w haberthu i'r ARGLWYDD, a dŷn ni ddim yn gwybod pa rai nes byddwn ni wedi cyrraedd yno.”
Exod WelBeibl 10:27  Ond dyma'r ARGLWYDD yn gwneud y Pharo yn ystyfnig eto. Doedd e ddim am adael iddyn nhw fynd.
Exod WelBeibl 10:28  Meddai'r Pharo, “Dos o ngolwg i! Dw i byth eisiau dy weld di yma eto! Os gwela i di eto, bydda i'n dy ladd di!”
Exod WelBeibl 10:29  “Iawn,” meddai Moses, “fyddi di byth yn fy ngweld i eto.”
Chapter 11
Exod WelBeibl 11:1  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dw i'n mynd i daro'r Pharo a gwlad yr Aifft un tro olaf. Bydd yn eich gollwng chi'n rhydd wedyn, heb unrhyw amodau. Yn wir, bydd e'n eich gyrru chi allan o'r wlad.
Exod WelBeibl 11:2  Dwed wrth bobl Israel fod pawb i ofyn i'w cymdogion am bethau wedi'u gwneud o arian ac aur.”
Exod WelBeibl 11:3  A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r Eifftiaid fod yn hael at bobl Israel. Roedd Moses ei hun yn cael ei ystyried yn ddyn pwysig iawn yn yr Aifft. Roedd gan swyddogion y Pharo a'r bobl gyffredin barch mawr ato.
Exod WelBeibl 11:4  A dyma Moses yn dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Tua canol nos bydda i'n mynd drwy wlad yr Aifft,
Exod WelBeibl 11:5  a bydd pob mab hynaf drwy'r wlad yn marw – o fab hynaf y Pharo ar ei orsedd i fab hyna'r gaethferch sy'n troi'r felin law, a hyd yn oed pob anifail gwryw oedd y cyntaf i gael ei eni.
Exod WelBeibl 11:6  Bydd pobl yn wylofain drwy wlad yr Aifft i gyd. Fydd dim byd tebyg wedi digwydd erioed o'r blaen, a fydd dim byd tebyg byth eto.
Exod WelBeibl 11:7  Ond fydd dim yn bygwth pobl Israel na'u hanifeiliaid – dim hyd yn oed ci yn cyfarth! Byddwch chi'n deall wedyn fod yr ARGLWYDD yn gwahaniaethu rhwng yr Eifftiaid a phobl Israel.’
Exod WelBeibl 11:8  Bydd dy swyddogion i gyd yn dod i edrych amdana i, ac yn plygu'n isel o mlaen i. Byddan nhw'n dweud, ‘Ewch! – Ti a'r bobl sy'n dy ddilyn di.’ Wedyn bydda i'n mynd.” Yna dyma Moses yn gadael y Pharo, wedi digio'n lân.
Exod WelBeibl 11:9  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Fydd y Pharo ddim yn gwrando arnoch chi. Felly dw i'n mynd i wneud mwy o wyrthiau rhyfeddol yn yr Aifft.”
Exod WelBeibl 11:10  Er bod Moses ac Aaron wedi gwneud y gwyrthiau rhyfeddol yma o flaen y Pharo, roedd yr ARGLWYDD wedi'i wneud e'n ystyfnig. Roedd yn gwrthod gadael i bobl Israel fynd yn rhydd.
Chapter 12
Exod WelBeibl 12:1  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron yn yr Aifft,
Exod WelBeibl 12:3  Dwedwch wrth bobl Israel: Ar y degfed o'r mis rhaid i bob teulu gymryd oen neu fyn gafr i'w ladd.
Exod WelBeibl 12:4  Os ydy'r teulu'n rhy fach i fwyta'r anifail cyfan, dylen nhw ei rannu gyda'u cymdogion. Mae'n dibynnu faint o bobl sydd yn y teulu, a faint mae pawb yn gallu ei fwyta.
Exod WelBeibl 12:5  Rhaid iddo fod yn anifail gwryw, blwydd oed, heb ddim o'i le arno. Gall fod yn oen neu'n fyn gafr.
Exod WelBeibl 12:6  Rhaid ei gadw ar wahân hyd y pedwerydd ar ddeg o'r mis. Yna, y noson honno, ar ôl i'r haul fachlud, bydd pobl Israel i gyd yn lladd yr oen neu'r myn gafr sydd ganddyn nhw.
Exod WelBeibl 12:7  Wedyn maen nhw i gymryd peth o'r gwaed a'i roi ar ochrau ac ar dop ffrâm y drws i'r tŷ lle byddan nhw'n ei fwyta.
Exod WelBeibl 12:8  Rhaid iddyn nhw ei rostio y noson honno, a'i fwyta gyda bara heb furum ynddo a llysiau chwerw.
Exod WelBeibl 12:9  Rhaid rhostio'r anifail cyfan, yn cynnwys ei ben, ei goesau a'i berfeddion. Peidiwch bwyta'r cig os nad ydy e wedi'i goginio'n iawn, neu ddim ond wedi'i ferwi.
Exod WelBeibl 12:10  Does dim ohono i gael ei adael ar ôl tan y bore wedyn. Rhaid i unrhyw sbarion gael eu llosgi.
Exod WelBeibl 12:11  “A dyma sut mae i gael ei fwyta: Rhaid i chi fod wedi gwisgo fel petaech ar fin mynd ar daith, gyda'ch sandalau ar eich traed a'ch ffon gerdded yn eich llaw. Rhaid ei fwyta ar frys. Pasg yr ARGLWYDD ydy e.
Exod WelBeibl 12:12  Dw i'n mynd i fynd drwy wlad yr Aifft y noson honno, a tharo pob mab hynaf, a phob anifail gwryw oedd yn gyntaf i gael ei eni. Dw i'n mynd i farnu ‛duwiau‛ yr Aifft i gyd! Fi ydy'r ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 12:13  Mae'r gwaed fydd ar ffrâm drysau eich tai chi yn arwydd i chi. Pan fydda i'n gweld y gwaed, bydda i'n pasio heibio i chi. Fydd y pla yma ddim yn eich lladd chi pan fydda i'n taro gwlad yr Aifft.
Exod WelBeibl 12:14  Bydd yn ddiwrnod i'w gofio. Byddwch yn ei ddathlu bob blwyddyn drwy gadw gŵyl i'r ARGLWYDD – dyna fydd y drefn bob amser.
Exod WelBeibl 12:15  “Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo. Ar y diwrnod cyntaf, rhaid cael gwared ag unrhyw beth yn y tŷ sydd â burum ynddo. Yn ystod y saith diwrnod yna, bydd unrhyw un sydd yn bwyta bara wedi'i wneud gyda burum yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel.
Exod WelBeibl 12:16  Bydd cyfarfodydd arbennig i addoli yn cael eu cynnal ar y diwrnod cyntaf ac ar y seithfed diwrnod. A does dim gwaith i gael ei wneud ar y dyddiau hynny, ar wahân i baratoi bwyd i bawb.
Exod WelBeibl 12:17  “Dyna sut ydych chi i ddathlu Gŵyl y Bara Croyw. Dyma'r diwrnod wnes i eich arwain chi allan o'r Aifft, ac felly bydd yn rhan o'r drefn bob amser eich bod yn dathlu'r digwyddiad yn flynyddol.
Exod WelBeibl 12:18  Dim ond bara heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta o fachlud haul ar y pedwerydd ar ddeg hyd fachlud haul ar yr unfed ar hugain o'r mis cyntaf.
Exod WelBeibl 12:19  Does dim burum i fod yn eich tai o gwbl am saith diwrnod. Os bydd unrhyw un (un o bobl Israel neu rywun o'r tu allan) yn bwyta rhywbeth wedi'i wneud gyda burum, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel.
Exod WelBeibl 12:20  Peidiwch bwyta unrhyw beth wedi'i wneud gyda burum – dim ond bara heb furum ynddo.”
Exod WelBeibl 12:21  Yna, dyma Moses yn galw arweinwyr Israel at ei gilydd, ac yn dweud wrthyn nhw, “Ewch i ddewis oen neu fyn gafr i'ch teulu, i'w ladd fel aberth y Pasg.
Exod WelBeibl 12:22  Rhoi gwaed yr anifail mewn powlen, yna cymryd swp o frigau isop, ei ddipio yn y gwaed a'i frwsio ar dop ac ochrau ffrâm y drws. Yna does neb i fynd allan o'r tŷ tan y bore wedyn.
Exod WelBeibl 12:23  Bydd yr ARGLWYDD yn mynd drwy wlad yr Aifft yn taro'r bobl. Ond pan fydd e'n gweld y gwaed ar ffrâm drws unrhyw dŷ, bydd yn pasio heibio'r tŷ hwnnw. Fydd e ddim yn gadael i farwolaeth ddod i mewn a tharo eich teulu chi.
Exod WelBeibl 12:24  “Gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch plant yn gwneud hyn. Dyna fydd y drefn bob amser.
Exod WelBeibl 12:25  Pan fyddwch yn cyrraedd y wlad mae'r ARGLWYDD wedi addo ei rhoi i chi, byddwch yn dal i gadw'r ddefod yma.
Exod WelBeibl 12:26  Pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Pam dych chi'n gwneud hyn?’
Exod WelBeibl 12:27  dwedwch wrthyn nhw, ‘Aberth y Pasg i'r ARGLWYDD ydy e, i gofio sut wnaeth e basio heibio tai pobl Israel ac achub ein teuluoedd pan wnaeth e daro gwlad yr Aifft.’” A dyma'r bobl oedd yn gwrando ar Moses yn plygu i lawr yn isel i addoli.
Exod WelBeibl 12:28  Wedyn dyma nhw'n mynd i ffwrdd a gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses ac Aaron.
Exod WelBeibl 12:29  Yna digwyddodd y peth! Ganol nos y noson honno, dyma'r ARGLWYDD yn taro meibion hynaf yr Eifftiaid, o fab hynaf y Pharo ar ei orsedd i fab hyna'r carcharor yn ei gell, a hyd yn oed pob anifail oedd y cyntaf i gael ei eni.
Exod WelBeibl 12:30  A dyma'r Pharo yn deffro ganol nos, a'i swyddogion a phobl yr Aifft i gyd yr un fath. Roedd wylofain drwy'r wlad i gyd, am fod rhywun o bob teulu wedi marw.
Exod WelBeibl 12:31  A dyma'r Pharo yn galw am Moses ac Aaron yng nghanol y nos, a dweud wrthyn nhw, “Ewch o ma! I ffwrdd â chi! Gadewch lonydd i'm pobl – chi a phobl Israel! Ewch i addoli'r ARGLWYDD fel roeddech chi eisiau.
Exod WelBeibl 12:32  Ewch â'ch anifeiliaid i gyd fel roeddech chi eisiau. I ffwrdd â chi! Ond cofiwch ofyn am fendith arna i.”
Exod WelBeibl 12:33  Roedd yr Eifftiaid yn benderfynol bellach fod rhaid i bobl Israel adael y wlad, a hynny ar frys. Roedden nhw'n meddwl, “Os arhosan nhw, byddwn ni i gyd wedi marw!”
Exod WelBeibl 12:34  Dyma bobl Israel yn cymryd y toes oedd heb furum ynddo yn eu powlenni cymysgu, eu lapio mewn dillad, a'u cario ar eu hysgwyddau.
Exod WelBeibl 12:35  Ac roedden nhw wedi gwneud beth ddwedodd Moses wrthyn nhw hefyd – roedden nhw wedi gofyn i'r Eifftiaid am bethau o aur ac arian, ac am ddillad.
Exod WelBeibl 12:36  Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i'r Eifftiaid roi anrhegion i bobl Israel. Roedden nhw'n cael beth bynnag roedden nhw'n gofyn amdano. Dyma nhw'n cymryd popeth oddi ar bobl yr Aifft!
Exod WelBeibl 12:37  Felly dyma bobl Israel yn teithio o Rameses i Swccoth. Roedd tua 600,000 o ddynion yn cerdded ar droed, heb sôn am y gwragedd a'r plant.
Exod WelBeibl 12:38  Roedd tyrfa gymysg o bobl wedi mynd gyda nhw, a lot fawr iawn o anifeiliaid – defaid a geifr a gwartheg.
Exod WelBeibl 12:39  Roedden nhw'n gwneud bara i'w fwyta o'r toes wnaethon nhw ei gario o'r Aifft – bara heb furum ynddo. Roedden nhw wedi cael eu gyrru allan o'r Aifft ar gymaint o frys, doedd dim amser i baratoi bwyd cyn mynd.
Exod WelBeibl 12:40  Roedd pobl Israel wedi bod yn yr Aifft ers pedwar cant tri deg o flynyddoedd.
Exod WelBeibl 12:41  Ar ddiwedd y pedwar cant tri deg o flynyddoedd, dyma bobl yr ARGLWYDD yn gadael yr Aifft mewn rhengoedd trefnus fel byddin.
Exod WelBeibl 12:42  Roedd yr ARGLWYDD wedi cadw'r noson yma'n arbennig, i'w harwain nhw allan o wlad yr Aifft. Felly, o hyn ymlaen, ar y noson yma, mae pobl Israel i gyd i fod i gadw gwylnos i'r ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 12:43  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron, “Dyma reolau'r Pasg. Dydy pobl o'r tu allan ddim i gael bwyta ohono –
Exod WelBeibl 12:44  dim ond caethweision sydd wedi'u prynu ac wedi bod drwy'r ddefod o gael eu henwaedu.
Exod WelBeibl 12:45  Dydy mewnfudwyr neu weithwyr sy'n derbyn cyflog ddim i gael bwyta ohono.
Exod WelBeibl 12:46  Rhaid ei fwyta yn y tŷ, a pheidio mynd â dim o'r cig allan. A does dim un o'i esgyrn i gael ei dorri.
Exod WelBeibl 12:48  “Os ydy mewnfudwyr eisiau dathlu Pasg yr ARGLWYDD, rhaid i'r dynion a'r bechgyn fynd drwy ddefod enwaediad gyntaf. Wedyn byddan nhw'n gallu cymryd rhan – byddan nhw'n cael eu hystyried fel un o'ch pobl chi. Ond does neb sydd heb gael ei enwaedu i gael bwyta o'r Pasg.
Exod WelBeibl 12:49  Mae'r rheol hon yr un fath i bawb – Israeliaid a mewnfudwyr fel ei gilydd.”
Exod WelBeibl 12:50  Felly dyma bobl Israel yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses ac Aaron.
Exod WelBeibl 12:51  Ar yr union ddiwrnod yma, dyma'r ARGLWYDD yn dod â phobl Israel allan o'r Aifft, yn drefnus fel byddin.
Chapter 13
Exod WelBeibl 13:2  “Rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a phob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi piau nhw.”
Exod WelBeibl 13:3  Dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Mae'r diwrnod yma, pan ddaethoch chi allan o'r Aifft, yn ddiwrnod i'w gofio. Roeddech chi'n gaethion yno, a dyma'r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth i'ch rhyddhau chi. Ond peidiwch bwyta bara wedi'i wneud gyda burum pan fyddwch chi'n dathlu.
Exod WelBeibl 13:4  Dyma'r diwrnod, ym mis Abib, pan aethoch chi allan.
Exod WelBeibl 13:5  A phan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â chi i'r wlad wnaeth e addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi – gwlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Hefiaid, a Jebwsiaid; gwlad ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo – byddwch yn dathlu ar y mis yma bob blwyddyn.
Exod WelBeibl 13:6  Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo, yna ar y seithfed diwrnod cadw gŵyl i'r ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 13:7  Rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod. Does dim bara wedi'i wneud gyda burum, na hyd yn oed y burum ei hun, i fod yn unman.
Exod WelBeibl 13:8  Yna dych chi i esbonio i'ch plant, ‘Dŷn ni'n gwneud hyn i gofio beth wnaeth yr ARGLWYDD droson ni pan ddaethon ni allan o'r Aifft.’
Exod WelBeibl 13:9  Bydd fel arwydd ar eich llaw neu farc ar eich talcen, yn eich atgoffa chi i siarad am beth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddysgu i chi. Roedd e wedi defnyddio ei nerth i ddod â chi allan o'r Aifft.
Exod WelBeibl 13:10  Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn ar yr amser iawn bob blwyddyn.
Exod WelBeibl 13:11  “Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â chi i wlad y Canaaneaid, fel gwnaeth e addo i'ch hynafiaid chi,
Exod WelBeibl 13:12  rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a phob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi, yr ARGLWYDD sydd biau nhw.
Exod WelBeibl 13:13  Gellir prynu'n ôl pob asyn cyntaf i gael ei eni drwy roi oen neu fyn gafr yn ei le. Os nad ydy e'n cael ei brynu, rhaid ei ladd drwy dorri ei wddf. A rhaid i fab cyntaf pob gwraig gael ei brynu'n ôl hefyd.
Exod WelBeibl 13:14  Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy ystyr hyn?’, Dych chi i'w hateb, ‘Yr ARGLWYDD wnaeth ddefnyddio ei nerth i ddod â ni allan o'r Aifft, lle roedden ni'n gaethion.
Exod WelBeibl 13:15  Roedd y Pharo yn gwrthod ein gollwng ni'n rhydd, felly dyma'r ARGLWYDD yn lladd pob mab hynaf a phob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni. Dyna pam dŷn ni'n aberthu pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni i'r ARGLWYDD. Ond dŷn ni'n prynu'n ôl pob mab cyntaf i gael ei eni.’
Exod WelBeibl 13:16  Bydd fel arwydd ar eich llaw neu rywbeth yn cael ei wisgo ar y talcen, i'ch atgoffa fod yr ARGLWYDD wedi defnyddio ei nerth i ddod â ni allan o'r Aifft.”
Exod WelBeibl 13:17  Pan wnaeth y Pharo adael i'r bobl fynd, wnaeth Duw ddim eu harwain nhw i wlad y Philistiaid, er mai dyna fyddai'r ffordd gyntaf. Doedd gan Dduw ddim eisiau i'r bobl newid eu meddyliau a mynd yn ôl i'r Aifft pan oedd y Philistiaid yn bygwth rhyfela yn eu herbyn nhw.
Exod WelBeibl 13:18  Felly dyma Duw yn mynd â'r bobl drwy'r anialwch at y Môr Coch. Aeth pobl Israel allan o'r Aifft fel byddin yn ei rhengoedd.
Exod WelBeibl 13:19  Dyma Moses yn mynd ag esgyrn Joseff gyda nhw. Roedd Joseff wedi gwneud i bobl Israel addo, “Dw i'n gwybod y bydd Duw yn gofalu amdanoch chi. Dw i eisiau i chi fynd â'm hesgyrn i gyda chi o'r lle yma.”
Exod WelBeibl 13:20  Dyma nhw'n gadael Swccoth ac yn gwersylla yn Etham wrth ymyl yr anialwch.
Exod WelBeibl 13:21  Roedd yr ARGLWYDD yn arwain y ffordd mewn colofn o niwl yn ystod y dydd, a cholofn o dân yn y nos. Felly roedden nhw'n gallu teithio yn y dydd neu'r nos.
Exod WelBeibl 13:22  Roedd y golofn o niwl gyda nhw bob amser yn y dydd, a'r golofn o dân yn y nos.
Chapter 14
Exod WelBeibl 14:2  “Dwed wrth bobl Israel am droi yn ôl i gyfeiriad Pi-hachiroth, sydd rhwng Migdol a'r môr, a gwersylla ar lan y môr, yn union gyferbyn â Baal-tseffon.
Exod WelBeibl 14:3  Bydd y Pharo yn meddwl, ‘Dydy pobl Israel ddim yn gwybod ble i droi. Maen nhw wedi'u dal rhwng yr anialwch a'r môr!’
Exod WelBeibl 14:4  Bydda i'n gwneud y Pharo yn ystyfnig unwaith eto, a bydd yn dod ar eich ôl. Ond bydda i'n cael fy anrhydeddu drwy beth fydd yn digwydd i'r Pharo a'i fyddin, a bydd pobl yr Aifft yn dod i ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD.” Felly dyma bobl Israel yn gwneud beth ddwedodd Moses.
Exod WelBeibl 14:5  Pan ddywedwyd wrth frenin yr Aifft fod y bobl wedi dianc, dyma fe a'i swyddogion yn newid eu meddyliau, “Beth oedd ar ein pennau ni?” medden nhw. “Dŷn ni wedi gadael i'n caethweision fynd yn rhydd!”
Exod WelBeibl 14:6  Felly dyma'r Pharo'n paratoi ei gerbydau rhyfel ac yn mynd â'i filwyr gydag e.
Exod WelBeibl 14:7  Aeth â chwech chant o'i gerbydau gorau, a'r cerbydau eraill i gyd, gyda cadfridog yn bob un.
Exod WelBeibl 14:8  Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud y Pharo, brenin yr Aifft, yn ystyfnig, a dyma fe'n mynd ar ôl pobl Israel. Ond roedd pobl Israel yn mynd yn eu blaenau yn hyderus.
Exod WelBeibl 14:9  Dyma'r Eifftiaid yn mynd ar eu holau gyda'u ceffylau a'u cerbydau rhyfel a'u milwyr i gyd, a dod o hyd iddyn nhw yn gwersylla yn Pi-hachiroth, ar lan y môr, gyferbyn a Baal-tseffon.
Exod WelBeibl 14:10  Wrth i'r Pharo a'i fyddin agosáu, dyma bobl Israel yn eu gweld nhw'n dod tuag atyn nhw. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD,
Exod WelBeibl 14:11  a dweud wrth Moses, “Wyt ti wedi dod â ni allan i'r anialwch i farw am fod dim lle i'n claddu ni yn yr Aifft? Beth oedd ar dy ben di yn dod â ni allan o'r Aifft?
Exod WelBeibl 14:12  Dyma'n union ddwedon ni pan oedden ni yn yr Aifft, ‘Gad lonydd i ni ddal ati i weithio i'r Eifftiaid. Mae'n well gwneud hynny na mynd i farw yn yr anialwch!’”
Exod WelBeibl 14:13  Ond dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Peidiwch bod ag ofn! Arhoswch chi, a chewch weld sut bydd yr ARGLWYDD yn eich achub chi. Fyddwch chi ddim yn gweld yr Eifftiaid acw byth eto.
Exod WelBeibl 14:14  Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ymladd drosoch chi. Does rhaid i chi wneud dim!”
Exod WelBeibl 14:15  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Pam wyt ti'n galw arna i? Dwed wrth bobl Israel am fynd yn eu blaenau.
Exod WelBeibl 14:16  Cymer di dy ffon, a'i hestyn tuag at y môr. Bydd y môr yn hollti, a bydd pobl Israel yn gallu mynd drwy ei ganol ar dir sych!
Exod WelBeibl 14:17  Bydda i'n gwneud yr Eifftiaid mor ystyfnig, byddan nhw'n ceisio mynd ar eich ôl drwy'r môr. Ond bydda i'n cael fy anrhydeddu o achos beth fydd yn digwydd i'r Pharo a'i fyddin, gyda'i holl gerbydau a'i farchogion.
Exod WelBeibl 14:18  A bydd yr Eifftiaid yn dod i ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD, o achos beth fydd yn digwydd iddyn nhw.”
Exod WelBeibl 14:19  Dyma angel Duw, oedd wedi bod yn arwain pobl Israel, yn symud tu ôl iddyn nhw. A dyma'r golofn o niwl yn symud o'r tu blaen i sefyll tu ôl iddyn nhw,
Exod WelBeibl 14:20  rhwng gwersyll yr Eifftiaid a gwersyll pobl Israel. Roedd yn gwmwl tywyll un ochr, ac yn goleuo'r nos yr ochr arall. Felly doedd y fyddin un ochr ddim yn gallu mynd yn agos at yr ochr arall drwy'r nos.
Exod WelBeibl 14:21  Dyma Moses yn estyn ei law tuag at y môr, a dyma'r ARGLWYDD yn dod â gwynt cryf o'r dwyrain i chwythu drwy'r nos a gwneud i'r môr fynd yn ôl. Dyma'r môr yn gwahanu, ac roedd gwely'r môr yn llwybr sych drwy'r canol.
Exod WelBeibl 14:22  A dyma bobl Israel yn mynd drwy ganol y môr ar dir sych, a'r dŵr fel wal bob ochr iddyn nhw.
Exod WelBeibl 14:23  Yna dyma'r Eifftiaid yn mynd ar eu holau i ganol y môr – ceffylau a cherbydau rhyfel a marchogion y Pharo i gyd.
Exod WelBeibl 14:24  Yn ystod yr oriau cyn iddi wawrio, dyma'r ARGLWYDD yn edrych i lawr ar fyddin yr Aifft drwy'r golofn o dân a niwl, a dyma fe'n achosi iddyn nhw banicio.
Exod WelBeibl 14:25  Gwnaeth i olwynion y cerbydau rhyfel fynd yn sownd, ac roedden nhw'n cael trafferth symud. A dyma'r Eifftiaid yn dweud, “Dewch! Rhaid i ni ddianc! Mae'r ARGLWYDD yn ymladd dros bobl Israel yn ein herbyn ni'r Eifftiaid!”
Exod WelBeibl 14:26  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Estyn dy law tuag at y môr, i'r dŵr lifo yn ôl dros yr Eifftiaid, eu cerbydau rhyfel a'u marchogion.”
Exod WelBeibl 14:27  Felly dyma Moses yn estyn ei law tuag at y môr, a dyma'r môr yn mynd yn ôl i'w le wrth iddi wawrio. Roedd yr Eifftiaid yn ceisio dianc, ond dyma'r ARGLWYDD yn eu boddi nhw yng nghanol y môr.
Exod WelBeibl 14:28  Daeth y dŵr yn ôl dros yr holl gerbydau rhyfel a'r marchogion a byddin y Pharo oedd wedi mynd ar ôl pobl Israel i ganol y môr – wnaeth dim un ohonyn nhw fyw!
Exod WelBeibl 14:29  Ond roedd pobl Israel wedi cerdded drwy ganol y môr ar dir sych, gyda'r dŵr fel wal bob ochr iddyn nhw.
Exod WelBeibl 14:30  Dyna sut wnaeth yr ARGLWYDD achub Israel o law'r Eifftiaid y diwrnod hwnnw. Roedd pobl Israel yn gweld cyrff yr Eifftiaid yn gorwedd ar lan y dŵr.
Exod WelBeibl 14:31  Ar ôl gweld nerth anhygoel yr ARGLWYDD yn ymladd yn erbyn yr Eifftiaid, roedden nhw'n ei barchu fe, ac yn ei drystio fe a'i was Moses.
Chapter 15
Exod WelBeibl 15:1  Dyma Moses a phobl Israel yn canu'r gân yma i'r ARGLWYDD: “Dw i am ganu i'r ARGLWYDD a dathlu ei fuddugoliaeth: Mae e wedi taflu'r ceffylau a'u marchogion i'r môr!
Exod WelBeibl 15:2  Yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi! Fe sydd wedi fy achub i. Dyma'r Duw dw i'n ei addoli – Duw fy nhad, a dw i'n mynd i'w ganmol!
Exod WelBeibl 15:3  Yr ARGLWYDD ydy ei enw e. Mae'r ARGLWYDD yn rhyfelwr.
Exod WelBeibl 15:4  Mae wedi taflu cerbydau y Pharo a'i fyddin i gyd i'r môr! Cafodd eu swyddogion gorau eu boddi yn y Môr Coch.
Exod WelBeibl 15:5  Daeth y dŵr dwfn drostyn nhw, a dyma nhw'n suddo i'r gwaelod fel carreg.
Exod WelBeibl 15:6  Mae dy law gref yn rhyfeddol, ARGLWYDD; dy law gref di wnaeth ddryllio'r gelyn.
Exod WelBeibl 15:7  Am dy fod mor aruthrol fawr, rwyt ti'n bwrw i lawr y rhai sy'n codi yn dy erbyn – Ti'n dangos dy fod yn ddig, ac maen nhw'n cael eu difa fel bonion gwellt.
Exod WelBeibl 15:8  Wrth i ti chwythu dyma'r dŵr yn codi'n bentwr, y llif yn sefyll fel argae, a'r dŵr dwfn wedi caledu yng nghanol y môr.
Exod WelBeibl 15:9  Dyma'r gelyn yn dweud, ‘Ar eu holau nhw! Dalia i nhw, a rhannu'r ysbail! Dw i'n mynd i gael amser da! Fydd neb ar ôl i'r cleddyf ei daro – dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr!’
Exod WelBeibl 15:10  Ond dyma ti'n chwythu, a dyma'r môr yn llifo drostyn nhw! Dyma nhw'n suddo fel plwm yn y tonnau gwyllt!
Exod WelBeibl 15:11  Pa un o'r duwiau sy'n debyg i ti, ARGLWYDD? Does neb tebyg i ti – mor wych, ac mor sanctaidd, yn haeddu dy barchu a dy foli; ti'n gwneud gwyrthiau rhyfeddol!
Exod WelBeibl 15:12  Dyma ti'n codi dy law gref a dyma'r ddaear yn llyncu'r gelyn!
Exod WelBeibl 15:13  Yn dy gariad byddi'n arwain y bobl rwyt wedi'u rhyddhau; byddi'n eu tywys yn dy nerth i'r lle cysegredig lle rwyt yn byw.
Exod WelBeibl 15:14  Bydd y bobloedd yn clywed ac yn crynu – bydd pobl Philistia yn poeni,
Exod WelBeibl 15:15  ac arweinwyr Edom wedi brawychu. Bydd dynion cryf Moab yn crynu, a phobl Canaan yn poeni.
Exod WelBeibl 15:16  Bydd ofn a braw yn dod drostyn nhw – mae dy gryfder di yn eu gwneud yn fud fel carreg. Fyddan nhw'n gwneud dim nes bydd dy bobl wedi pasio heibio, ARGLWYDD; nes i'r bobl wnest ti eu prynu basio heibio.
Exod WelBeibl 15:17  Ond byddi'n mynd â nhw i mewn ac yn eu plannu ar dy fynydd dy hun – ble wyt ti wedi dewis byw, ARGLWYDD; y cysegr rwyt ti wedi'i sefydlu.
Exod WelBeibl 15:19  Pan aeth ceffylau y Pharo, a'i gerbydau a'i filwyr i'r môr, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i ddŵr y môr lifo'n ôl drostyn nhw. Ond roedd pobl Israel wedi cerdded ar dir sych drwy ganol y môr.”
Exod WelBeibl 15:20  Yna dyma Miriam y broffwydes (chwaer Aaron) yn gafael mewn drwm llaw, a dyma'r merched i gyd yn codi drymiau a mynd ar ei hôl, gan ddawnsio.
Exod WelBeibl 15:21  Roedd Miriam yn canu'r gytgan: “Canwch i'r ARGLWYDD i ddathlu ei fuddugoliaeth! Mae wedi taflu'r ceffylau a'u marchogion i'r môr!”
Exod WelBeibl 15:22  Dyma Moses yn cael pobl Israel i symud ymlaen oddi wrth y Môr Coch. Aethon nhw allan i Anialwch Shwr. Buon nhw'n cerdded yn yr anialwch am dri diwrnod heb ddod o hyd i ddŵr.
Exod WelBeibl 15:23  Yna dyma nhw'n cyrraedd Mara, ond roedden nhw'n methu yfed y dŵr yno am ei fod mor chwerw. (Dyna pam roedd yn cael ei alw yn Mara – sef “Chwerw.”)
Exod WelBeibl 15:24  Dyma'r bobl yn dechrau troi yn erbyn Moses. “Beth ydyn ni'n mynd i'w yfed?” medden nhw.
Exod WelBeibl 15:25  Dyma Moses yn gweddïo'n daer am help, a dyma'r ARGLWYDD yn ei arwain at ddarn o bren. Ar ôl i Moses ei daflu i'r dŵr, roedd y dŵr yn iawn i'w yfed. Yn Mara, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi rheol iddyn nhw, er mwyn profi pa mor ffyddlon oedden nhw:
Exod WelBeibl 15:26  “Os byddwch chi'n ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw, ac yn gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg e, gwrando ar beth mae'n ei ddweud a cadw at ei reolau, fydd dim rhaid i chi ddiodde'r afiechydon wnes i daro'r Eifftiaid gyda nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eich iacháu chi.”
Exod WelBeibl 15:27  Yna dyma nhw'n cyrraedd Elim, lle roedd un deg dwy o ffynhonnau a saith deg o goed palmwydd. A dyma nhw'n gwersylla yno wrth ymyl y ffynhonnau.
Chapter 16
Exod WelBeibl 16:1  Yna aeth pobl Israel ymlaen o Elim a chyrraedd Anialwch Sin, sydd rhwng Elim a Sinai, ar y pymthegfed diwrnod o'r ail fis ers iddyn nhw adael gwlad yr Aifft.
Exod WelBeibl 16:2  Pan oedden nhw yn yr anialwch, dyma nhw i gyd yn dechrau ymosod ar Moses ac Aaron unwaith eto.
Exod WelBeibl 16:3  “Byddai'n well petai'r ARGLWYDD wedi gadael i ni farw yn yr Aifft! O leia roedd gynnon ni ddigon o gig a bwyd i'w fwyta yno. Ond rwyt ti wedi dod â ni i gyd allan i'r anialwch yma i lwgu i farwolaeth!”
Exod WelBeibl 16:4  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dw i'n mynd i wneud i fara ddisgyn o'r awyr fel glaw arnoch chi. Bydd rhaid i'r bobl fynd allan i gasglu yr hyn sydd ei angen arnyn nhw bob dydd. Bydda i'n eu profi nhw i weld os gwnân nhw wrando ar beth dw i'n ddweud ai peidio.
Exod WelBeibl 16:5  Ar chweched diwrnod pob wythnos maen nhw i gasglu dwywaith cymaint ag roedden nhw wedi'i gasglu bob diwrnod arall.”
Exod WelBeibl 16:6  Felly dyma Moses ac Aaron yn dweud wrth bobl Israel, “Erbyn gyda'r nos heno, byddwch chi'n gwybod mai'r ARGLWYDD sydd wedi dod â chi allan o wlad yr Aifft.
Exod WelBeibl 16:7  A bore yfory byddwch chi'n gweld ysblander yr ARGLWYDD. Mae e wedi'ch clywed chi'n ymosod arno. Dŷn ni'n neb. Fe ydy'r un dych chi wedi bod yn ymosod arno, nid ni.”
Exod WelBeibl 16:8  Ac meddai Moses, “Byddwch chi'n deall yn iawn pan fydd yr ARGLWYDD yn rhoi cig i chi ei fwyta gyda'r nos, a digonedd o fara yn y bore. Mae'r ARGLWYDD wedi'ch clywed chi'n ymosod arno. Dŷn ni'n neb. Yr ARGLWYDD ydy'r un dych chi wedi bod yn ymosod arno, nid ni!”
Exod WelBeibl 16:9  Yna dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Galw'r dyrfa o bobl Israel i gyd at ei gilydd. Dwed wrthyn nhw, ‘Dewch yma i sefyll o flaen yr ARGLWYDD. Mae e wedi'ch clywed chi'n ymosod arno.’”
Exod WelBeibl 16:10  Tra oedd Aaron yn annerch pobl Israel i gyd, dyma nhw'n edrych i gyfeiriad yr anialwch a gweld ysblander yr ARGLWYDD yn disgleirio o'r golofn niwl.
Exod WelBeibl 16:12  “Dw i wedi clywed fel mae pobl Israel yn ymosod arna i. Dwed wrthyn nhw, ‘Byddwch yn cael cig i'w fwyta gyda'r nos, ac yn y bore byddwch yn cael llond eich bol o fara. Byddwch yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.’”
Exod WelBeibl 16:13  Gyda'r nos, dyma soflieir yn dod ac yn glanio yn y gwersyll – roedden nhw dros bobman! Yna yn y bore roedd haenen o wlith o gwmpas y gwersyll.
Exod WelBeibl 16:14  Pan oedd y gwlith wedi codi, roedd rhyw stwff tebyg i haen denau o farrug yn gorchuddio'r anialwch.
Exod WelBeibl 16:15  Pan welodd pobl Israel e, dyma nhw'n gofyn i'w gilydd, “Beth ydy e?” Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd e. Ac meddai Moses wrthyn nhw, “Dyma'r bara mae'r ARGLWYDD wedi'i roi i chi i'w fwyta.
Exod WelBeibl 16:16  A dyma beth mae'r ARGLWYDD wedi'i orchymyn: ‘Mae pawb i gasglu'r hyn sydd ei angen ar eu teulu nhw – tua dau chwart y person. Dylech gasglu digon i bawb sy'n aros yn eich pabell.’”
Exod WelBeibl 16:17  Felly dyma bobl Israel yn mynd allan i'w gasglu – rhai ohonyn nhw yn casglu mwy na'i gilydd.
Exod WelBeibl 16:18  Ond wrth iddyn nhw fesur faint oedd pawb wedi'i gasglu, doedd dim byd dros ben gan y rhai gasglodd lawer, a doedd y rhai gasglodd ychydig ddim yn brin. Roedd gan bawb faint oedd ei angen arnyn nhw.
Exod WelBeibl 16:19  Yna dyma Moses yn dweud, “Peidiwch cadw dim ohono dros nos.”
Exod WelBeibl 16:20  Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Roedd rhai wedi ceisio cadw peth ohono dros nos, ac erbyn y bore wedyn roedd cynrhon ynddo ac roedd yn drewi. Roedd Moses wedi gwylltio gyda nhw.
Exod WelBeibl 16:21  Felly, roedd y bobl yn mynd allan bob bore, i gasglu faint roedden nhw ei angen. Ond wrth i'r haul gynhesu roedd yn toddi.
Exod WelBeibl 16:22  Ar y chweched diwrnod, roedden nhw'n casglu dwywaith cymaint, sef pedwar chwart y person. A dyma arweinwyr y bobl yn mynd i ofyn pam i Moses.
Exod WelBeibl 16:23  A dyma fe'n ateb, “Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD: ‘Rhaid i chi beidio gweithio yfory, mae'n Saboth wedi'i gysegru i'r ARGLWYDD. Beth bynnag dych chi am ei bobi neu ei ferwi, gwnewch hynny heddiw. Wedyn cadw beth bynnag sydd dros ben at yfory.’”
Exod WelBeibl 16:24  Felly dyma nhw'n cadw beth oedd dros ben tan y bore, fel roedd Moses wedi dweud. Wnaeth e ddim drewi, a doedd dim cynrhon ynddo.
Exod WelBeibl 16:25  Ac meddai Moses, “Dyna sydd i'w fwyta heddiw, gan fod y diwrnod yma yn Saboth i'r ARGLWYDD. Fydd dim ohono i'w gael allan ar lawr heddiw.
Exod WelBeibl 16:26  Gallwch ei gasglu am chwe diwrnod, ond fydd dim yna ar y seithfed, sef y Saboth.”
Exod WelBeibl 16:27  Ond er hynny, ar y seithfed diwrnod dyma rai pobl yn mynd allan i'w gasglu, ond doedd dim byd yno.
Exod WelBeibl 16:28  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Am faint dych chi'n mynd i wrthod gwrando arna i a gwneud beth dw i'n ddweud?
Exod WelBeibl 16:29  Am fod yr ARGLWYDD wedi rhoi'r Saboth i chi, dyna pam mae e'n rhoi digon o fwyd i chi am ddau ddiwrnod ar y chweched dydd. Dylech chi i gyd eistedd i lawr, a pheidio mynd allan ar y seithfed diwrnod.”
Exod WelBeibl 16:30  Felly dyma'r bobl yn gorffwys ar y seithfed diwrnod.
Exod WelBeibl 16:31  Galwodd pobl Israel y stwff yn “manna”. Roedd yn edrych fel hadau coriander, yn wyn, ac yn blasu fel bisgedi wedi'u gwneud gyda mêl.
Exod WelBeibl 16:32  A dyma Moses yn rhoi'r gorchymyn yma gan yr ARGLWYDD iddyn nhw: “Mae dau chwart ohono i'w gadw am byth, er mwyn i bobl yn y dyfodol gael gweld y bwyd wnes i ei roi i chi yn yr anialwch, pan ddes i â chi allan o wlad yr Aifft.”
Exod WelBeibl 16:33  A dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Cymer jar, a rhoi dau chwart llawn o'r manna ynddo, a'i osod o flaen yr ARGLWYDD, i'w gadw'n saff ar hyd y cenedlaethau.”
Exod WelBeibl 16:34  A dyna wnaeth Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Dyma fe'n ei osod o flaen Arch y Dystiolaeth, i'w gadw'n saff.
Exod WelBeibl 16:35  Bu pobl Israel yn bwyta'r manna am bedwar deg o flynyddoedd, nes iddyn nhw gyrraedd gwlad Canaan ble gwnaethon nhw setlo i lawr.
Exod WelBeibl 16:36  (Omer oedd y mesur o ddau chwart oedd yn cael ei ddefnyddio, sef un rhan o ddeg o effa.)
Chapter 17
Exod WelBeibl 17:1  Dyma bobl Israel i gyd yn gadael Anialwch Sin ac yn teithio yn eu blaenau bob yn dipyn, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. Dyma nhw'n gwersylla yn Reffidim, ond doedd dim dŵr iddyn nhw ei yfed yno.
Exod WelBeibl 17:2  A dechreuodd y bobl ddadlau gyda Moses, a dweud, “Rhowch ddŵr i ni i'w yfed!” Atebodd Moses, “Pam dych chi'n swnian? Pam dych chi'n profi'r ARGLWYDD?”
Exod WelBeibl 17:3  Ond roedd y fath syched ar y bobl, roedden nhw'n dechrau troi yn erbyn Moses eto, “Pam yn y byd wnest ti ddod â ni allan o'r Aifft? Dŷn ni i gyd yn mynd i farw o syched – ni a'n plant a'n hanifeiliaid!”
Exod WelBeibl 17:4  Dyma Moses yn gweddïo'n daer ar yr ARGLWYDD, “Beth dw i'n mynd i'w wneud? Maen nhw ar fin fy lladd i!”
Exod WelBeibl 17:5  A dyma'r ARGLWYDD yn ateb Moses, “Dos allan o flaen y bobl, gyda'r ffon wnest ti daro afon Nîl gyda hi. A dos â rhai o arweinwyr Israel gyda ti.
Exod WelBeibl 17:6  Bydda i'n disgwyl amdanat ti ar y graig ar Fynydd Sinai. Dw i eisiau i ti daro'r graig, a bydd dŵr yn llifo allan ohoni, i'r bobl gael yfed.” A dyma Moses yn gwneud hynny o flaen llygaid arweinwyr Israel.
Exod WelBeibl 17:7  Dyma fe'n enwi'r lle yn Massa (“Lle'r profi”) a Meriba (“Lle'r ffraeo”), o achos yr holl ffraeo, a'r ffordd wnaeth pobl Israel roi'r ARGLWYDD ar brawf yno drwy ofyn, “Ydy'r ARGLWYDD gyda ni neu ddim?”
Exod WelBeibl 17:8  Tra oedden nhw yn Reffidim, dyma'r Amaleciaid yn ymosod ar bobl Israel.
Exod WelBeibl 17:9  A dyma Moses yn dweud wrth Josua, “Dewis rai o'n dynion ni i fynd allan i ymladd yn eu herbyn nhw. Yfory bydda i'n mynd i sefyll ar ben y bryn gyda ffon Duw yn fy llaw.”
Exod WelBeibl 17:10  Felly aeth Josua allan i ymladd yn erbyn yr Amaleciaid fel roedd Moses wedi dweud wrtho. A dyma Moses yn mynd i sefyll ar ben y bryn gydag Aaron a Hur.
Exod WelBeibl 17:11  Tra oedd Moses yn dal ei freichiau yn yr awyr, roedd Israel yn ennill y frwydr, ond os oedd yn rhoi ei freichiau i lawr, roedd yr Amaleciaid yn ennill.
Exod WelBeibl 17:12  Pan oedd Moses yn rhy flinedig i ddal ei freichiau i fyny, dyma Aaron a Hur yn cymryd carreg a'i gosod iddo eistedd arni. Yna safodd y ddau, un bob ochr iddo, a dal ei freichiau i fyny drwy'r dydd nes oedd yr haul wedi machlud.
Exod WelBeibl 17:13  Felly dyma Josua a'i filwyr yn ennill y frwydr a lladd yr Amaleciaid.
Exod WelBeibl 17:14  A dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dw i eisiau i ti gadw cofnod o hyn yn y llyfr, a gwneud yn siŵr fod Josua'n gwybod amdano. Dw i'n mynd i gael gwared â'r Amaleciaid yn llwyr – fydd neb yn cofio am eu bodolaeth nhw!”
Exod WelBeibl 17:15  Dyma Moses yn codi allor yno a'i galw yn Iafe-Nissi (sef ‛yr ARGLWYDD ydy fy fflag‛).
Exod WelBeibl 17:16  Dwedodd, “Am iddyn nhw godi dwrn yn erbyn gorsedd yr ARGLWYDD, bydd yr ARGLWYDD yn ymladd yn erbyn yr Amaleciaid bob amser.”
Chapter 18
Exod WelBeibl 18:1  Clywodd tad-yng-nghyfraith Moses (sef Jethro, offeiriad Midian) am y cwbl roedd Duw wedi'i wneud i Moses a phobl Israel. Clywodd fod yr ARGLWYDD wedi dod â phobl Israel allan o'r Aifft.
Exod WelBeibl 18:2  Roedd Moses wedi anfon ei wraig Seffora a'i ddau fab yn ôl at Jethro.
Exod WelBeibl 18:3  Gershom oedd enw un mab (am i Moses ddweud, “Dw i wedi bod fel mewnfudwr mewn gwlad ddieithr”),
Exod WelBeibl 18:4  ac Elieser oedd y llall (am fod Moses wedi dweud, “Mae Duw fy nhad wedi fy helpu, ac wedi fy achub rhag cael fy lladd gan y Pharo”).
Exod WelBeibl 18:5  A dyma Jethro yn dod â gwraig Moses a'i feibion i'r anialwch at Moses, oedd yn gwersylla wrth ymyl mynydd Sinai.
Exod WelBeibl 18:6  Roedd wedi anfon neges at Moses yn dweud, “Dw i'n dod i dy weld di, gyda dy wraig a dy ddau fab.”
Exod WelBeibl 18:7  A dyma Moses yn mynd allan i'w gyfarfod, yn ymgrymu o'i flaen ac yn ei gyfarch drwy ei gusanu. Ar ôl holi ei gilydd sut oedd pethau wedi bod, dyma nhw'n mynd yn ôl i babell Moses.
Exod WelBeibl 18:8  Dwedodd Moses wrth ei dad-yng-nghyfraith am bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i wneud i'r Pharo a phobl yr Aifft er mwyn achub pobl Israel. Dwedodd wrtho am y problemau roedden nhw wedi'u hwynebu ar y ffordd, a sut roedd yr ARGLWYDD wedi'u helpu nhw drwy'r cwbl.
Exod WelBeibl 18:9  Roedd Jethro wrth ei fodd yn clywed am y cwbl roedd yr ARGLWYDD wedi'i wneud i achub pobl Israel o'r Aifft.
Exod WelBeibl 18:10  “Bendith ar yr ARGLWYDD,” meddai. “Mae wedi'ch achub chi oddi wrth y Pharo a'r Eifftiaid!
Exod WelBeibl 18:11  Dw i'n gweld nawr fod yr ARGLWYDD yn gryfach na'r duwiau i gyd! Mae'n gallu gwneud beth maen nhw'n brolio amdano yn well na nhw!”
Exod WelBeibl 18:12  Yna dyma Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, yn dod ag offrwm i'w losgi ac aberthau eraill i'w cyflwyno i Dduw. A dyma Aaron ac arweinwyr Israel yn ymuno gyda Jethro i fwyta'r aberthau o flaen Duw.
Exod WelBeibl 18:13  Y diwrnod wedyn, dyma Moses yn eistedd i farnu achosion rhwng pobl. Roedd y bobl yn ciwio o'i flaen o fore gwyn tan nos.
Exod WelBeibl 18:14  Pan welodd ei dad-yng-nghyfraith gymaint roedd Moses yn ei wneud, dyma fe'n dweud, “Pam wyt ti'n gwneud hyn i gyd ar dy ben dy hun? Mae'r bobl yn gorfod sefyll yma drwy'r dydd yn disgwyl eu tro.”
Exod WelBeibl 18:15  “Mae'r bobl yn dod ata i am eu bod eisiau gwybod beth mae Duw'n ddweud,” meddai Moses.
Exod WelBeibl 18:16  “Pan mae dadl yn codi rhwng pobl, maen nhw'n gofyn i mi farnu, a dw i'n dweud wrthyn nhw beth ydy rheolau ac arweiniad Duw.”
Exod WelBeibl 18:17  “Dydy hyn ddim yn iawn,” meddai tad-yng-nghyfraith Moses.
Exod WelBeibl 18:18  “Byddi wedi ymlâdd – ti a'r bobl. Mae'n ormod o faich i ti ei gario ar dy ben dy hun.
Exod WelBeibl 18:19  Gwranda ar air o gyngor, a bydd Duw yn dy helpu di. Gelli di gynrychioli'r bobl o flaen Duw, a mynd â'u hachosion ato.
Exod WelBeibl 18:20  Gelli eu dysgu nhw am reolau a chyfreithiau Duw, a dweud wrthyn nhw sut dylen nhw fyw a beth ddylen nhw wneud.
Exod WelBeibl 18:21  Ond yna rhaid i ti ddewis dynion cyfrifol – dynion duwiol a gonest, fyddai'n gwrthod derbyn breib – a'u penodi nhw'n swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant a deg.
Exod WelBeibl 18:22  Cân nhw farnu'r achosion cyffredin o ddydd i ddydd, ond dod â'r achosion anodd atat ti. Gad iddyn nhw ysgafnhau'r baich arnat ti drwy ddelio gyda'r achosion hawdd.
Exod WelBeibl 18:23  Os gwnei di hynny (a dyna mae Duw eisiau), byddi di'n llwyddo i ymdopi, a bydd y bobl yn mynd adre'n fodlon.”
Exod WelBeibl 18:24  Gwrandawodd Moses ar gyngor ei dad-yng-nghyfraith a gwneud y cwbl roedd yn ei awgrymu.
Exod WelBeibl 18:25  Dewisodd ddynion cyfrifol o blith pobl Israel, a'u penodi nhw'n swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant a deg.
Exod WelBeibl 18:26  Roedden nhw'n barnu'r achosion cyffredin, ac yn mynd â'r achosion anodd at Moses. Roedden nhw'n gallu delio gyda'r achosion hawdd eu hunain.
Exod WelBeibl 18:27  Yna dyma Moses yn ffarwelio gyda'i dad-yng-nghyfraith, ac aeth Jethro yn ôl adre i'w wlad ei hun.
Chapter 19
Exod WelBeibl 19:1  Ddau fis union ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft, dyma bobl Israel yn cyrraedd Anialwch Sinai.
Exod WelBeibl 19:2  Roedden nhw wedi teithio o Reffidim i Anialwch Sinai, a gwersylla yno wrth droed y mynydd.
Exod WelBeibl 19:3  Yna dyma Moses yn dringo i fyny'r mynydd i gyfarfod gyda Duw, a dyma'r ARGLWYDD yn galw arno o'r mynydd, “Dwed wrth ddisgynyddion Jacob, sef pobl Israel:
Exod WelBeibl 19:4  ‘Dych chi wedi gweld beth wnes i i'r Eifftiaid. Dw i wedi'ch cario chi ar adenydd eryr a dod â chi yma.
Exod WelBeibl 19:5  Nawr, os gwrandwch chi arna i a chadw amodau'r ymrwymiad dw i'n ei wneud gyda chi, byddwch chi'n drysor sbesial i mi o blith holl wledydd y byd. Fi sydd biau'r ddaear gyfan;
Exod WelBeibl 19:6  a byddwch chi'n offeiriaid yn gwasanaethu'r Brenin, ac yn genedl sanctaidd.’ Dyna'r neges rwyt ti i'w rhoi i bobl Israel.”
Exod WelBeibl 19:7  Felly dyma Moses yn mynd yn ôl ac yn galw arweinwyr Israel at ei gilydd, a rhannu gyda nhw beth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddweud.
Exod WelBeibl 19:8  Roedd ymateb y bobl yn unfrydol: “Byddwn ni'n gwneud popeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.” Felly dyma Moses yn mynd â'u hateb yn ôl i'r ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 19:9  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dw i'n mynd i ddod atat ti mewn cwmwl trwchus, er mwyn i'r bobl glywed pan dw i'n siarad gyda ti. Byddan nhw'n dy drystio di wedyn.” Dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD beth ddwedodd y bobl.
Exod WelBeibl 19:10  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos i baratoi y bobl. Heddiw ac yfory dw i eisiau i ti eu cysegru nhw a gwneud iddyn nhw olchi eu dillad.
Exod WelBeibl 19:11  Gwna'n siŵr eu bod nhw'n barod ar gyfer y diwrnod wedyn. Dyna pryd fydd y bobl i gyd yn fy ngweld i, yr ARGLWYDD, yn dod i lawr ar Fynydd Sinai.
Exod WelBeibl 19:12  Rhaid i ti farcio ffin o gwmpas y mynydd, a dweud wrth y bobl, ‘Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn dringo na hyd yn oed yn cyffwrdd ymyl y mynydd. Os ydy unrhyw un yn ei gyffwrdd, y gosb ydy marwolaeth.
Exod WelBeibl 19:13  A does neb i gyffwrdd y person neu'r anifail sy'n gwneud hynny chwaith, rhaid ei ladd drwy daflu cerrig ato neu ei saethu gyda bwa saeth. Dydy e ddim i gael byw.’ Dim ond wedi i'r corn hwrdd seinio nodyn hir y cân nhw ddringo'r mynydd.”
Exod WelBeibl 19:14  Felly dyma Moses yn mynd yn ôl i lawr at y bobl. Yna eu cysegru nhw a gwneud iddyn nhw olchi eu dillad,
Exod WelBeibl 19:15  Dwedodd wrthyn nhw, “Byddwch barod ar gyfer y diwrnod ar ôl yfory. Peidiwch cael rhyw.”
Exod WelBeibl 19:16  Dau ddiwrnod wedyn, yn y bore, roedd yna fellt a tharanau, a daeth cwmwl trwchus i lawr ar y mynydd. Ac roedd sŵn nodyn hir yn cael ei seinio ar y corn hwrdd. Roedd y bobl i gyd yn crynu mewn ofn.
Exod WelBeibl 19:17  Dyma Moses yn arwain y bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod Duw, a dyma nhw'n sefyll wrth droed y mynydd.
Exod WelBeibl 19:18  Roedd mwg yn gorchuddio Mynydd Sinai, am fod yr ARGLWYDD wedi dod i lawr arno mewn tân. Roedd y mwg yn codi ohono fel mwg o ffwrnais fawr, ac roedd y mynydd yn crynu drwyddo.
Exod WelBeibl 19:19  Roedd sŵn y corn hwrdd yn uwch ac yn uwch drwy'r adeg. Roedd Moses yn siarad, a llais Duw yn ei ateb yn glir.
Exod WelBeibl 19:20  Daeth yr ARGLWYDD i lawr ar gopa mynydd Sinai. Galwodd ar Moses i fynd i fyny ato, a dyma Moses yn gwneud hynny.
Exod WelBeibl 19:21  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos i lawr a rhybuddio'r bobl i beidio croesi'r ffin i edrych ar yr ARGLWYDD, neu bydd lot fawr ohonyn nhw'n marw.
Exod WelBeibl 19:22  Rhaid i'r offeiriaid, sy'n mynd at yr ARGLWYDD yn rheolaidd, gysegru eu hunain, rhag i'r ARGLWYDD eu taro nhw'n sydyn.”
Exod WelBeibl 19:23  Atebodd Moses, “Dydy'r bobl ddim yn gallu dringo Mynydd Sinai, am dy fod ti dy hun wedi'n rhybuddio ni, ‘Marciwch ffin o gwmpas y mynydd, i'w gadw ar wahân.’”
Exod WelBeibl 19:24  Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos di i lawr, a thyrd yn ôl gydag Aaron. Ond paid gadael i'r offeiriaid na'r bobl groesi'r ffin a dod at yr ARGLWYDD, rhag iddo eu taro nhw'n sydyn.”
Exod WelBeibl 19:25  Felly dyma Moses yn mynd i lawr a dweud wrth y bobl.
Chapter 20
Exod WelBeibl 20:2  “Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision.
Exod WelBeibl 20:4  Paid cerfio eilun i'w addoli – dim byd sy'n edrych fel unrhyw aderyn, anifail na physgodyn.
Exod WelBeibl 20:5  Paid plygu i lawr a'u haddoli nhw. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus. Dw i'n cosbi pechodau'r rhieni sy'n fy nghasáu i, ac mae'r canlyniadau'n gadael eu hôl ar y plant am dair i bedair cenhedlaeth.
Exod WelBeibl 20:6  Ond dw i'n dangos cariad di-droi'n-ôl am fil o genedlaethau at y rhai sy'n fy ngharu i ac yn gwneud beth dw i'n ddweud.
Exod WelBeibl 20:7  Paid camddefnyddio enw'r ARGLWYDD dy Dduw. Fydda i ddim yn gadael i rywun sy'n camddefnyddio fy enw ddianc rhag cael ei gosbi.
Exod WelBeibl 20:8  Cofia gadw'r dydd Saboth yn sbesial. Mae'n ddiwrnod cysegredig, gwahanol i'r lleill.
Exod WelBeibl 20:9  Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall, a gwneud popeth sydd angen ei wneud.
Exod WelBeibl 20:10  Mae'r seithfed diwrnod i'w gadw yn Saboth i'r ARGLWYDD. Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma – ti na dy feibion a dy ferched, dy weision na dy forynion chwaith; dim hyd yn oed dy anifeiliaid nac unrhyw fewnfudwr sy'n aros gyda ti.
Exod WelBeibl 20:11  Mewn chwe diwrnod roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd, y ddaear, y môr a phopeth sydd ynddyn nhw; wedyn dyma fe'n gorffwys ar y seithfed diwrnod. Dyna pam wnaeth Duw fendithio'r dydd Saboth, a'i osod ar wahân, yn ddiwrnod wedi'i gysegru.
Exod WelBeibl 20:12  Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam, a byddi'n byw yn hir yn y wlad mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti.
Exod WelBeibl 20:17  Paid chwennych tŷ rhywun arall. Paid chwennych ei wraig, na'i was, na'i forwyn, na'i darw, na'i asyn, na dim byd sydd gan rywun arall.”
Exod WelBeibl 20:18  Roedd y bobl wedi dychryn o achos y mellt a'r taranau, sŵn y corn hwrdd, a'r mynydd yn mygu. Roedden nhw'n crynu mewn ofn, ac eisiau cadw ddigon pell i ffwrdd.
Exod WelBeibl 20:19  Dyma nhw'n dweud wrth Moses, “Siarad di gyda ni, a gwnawn ni wrando. Paid gadael i Dduw siarad â ni, neu byddwn ni'n marw.”
Exod WelBeibl 20:20  Dyma Moses yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Mae Duw yn eich profi chi, ac eisiau i chi ei barchu e, i chi stopio pechu.”
Exod WelBeibl 20:21  Felly dyma'r bobl yn cadw ddigon pell i ffwrdd, tra aeth Moses at y cwmwl trwchus lle roedd Duw.
Exod WelBeibl 20:22  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dwed fel hyn wrth bobl Israel: ‘Dych chi wedi gweld sut dw i wedi siarad â chi o'r nefoedd.
Exod WelBeibl 20:23  Rhaid i chi beidio gwneud duwiau eraill o arian ac aur i chi'ch hunain.
Exod WelBeibl 20:24  Codwch allor o bridd i mi, ac aberthu defaid, geifr a gwartheg arni – yr offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Ble bynnag fydda i'n cael fy anrhydeddu, bydda i'n dod atoch chi ac yn eich bendithio chi.
Exod WelBeibl 20:25  Os codwch allor o gerrig, rhaid iddyn nhw beidio bod yn gerrig sydd wedi'u naddu. Os bydd cŷn wedi'i defnyddio arni, bydd yr allor wedi'i halogi.
Exod WelBeibl 20:26  A pheidiwch dringo grisiau i fynd at fy allor, rhag i'ch rhannau preifat gael eu gweld.’”
Chapter 21
Exod WelBeibl 21:2  Os wyt ti'n prynu Hebrëwr yn gaethwas, rhaid iddo weithio i ti am chwe mlynedd. Ond ar ddechrau'r seithfed flwyddyn mae'n rhydd i fynd, heb dalu dim i ti.
Exod WelBeibl 21:3  Os oedd yn sengl pan ddechreuodd weithio i ti, bydd yn gadael ar ei ben ei hun; ond os oedd yn briod, bydd ei wraig yn cael mynd gydag e.
Exod WelBeibl 21:4  Os mai ei feistr roddodd wraig iddo, a hithau wedi cael plant, mae'r wraig a'i phlant yn aros gyda'r meistr, a'r gwas yn gadael ar ei ben ei hun.
Exod WelBeibl 21:5  Ond falle y bydd y gwas yn dweud, ‘Dw i'n hapus gyda fy meistr, fy ngwraig a'm plant – dw i ddim eisiau bod yn ddyn rhydd.’
Exod WelBeibl 21:6  Os felly, bydd rhaid i'r meistr fynd i'w gyflwyno o flaen Duw. Wedyn bydd y meistr yn mynd ag e at y drws neu ffrâm y drws, ac yn rhoi twll drwy glust y gwas gyda mynawyd, i ddangos ei fod wedi dewis gweithio i'w feistr am weddill ei fywyd.
Exod WelBeibl 21:7  Os ydy rhywun wedi gwerthu ei ferch i weithio fel caethforwyn, fydd hi ddim yn cael mynd yn rhydd ar ddiwedd y chwe mlynedd, fel y dynion.
Exod WelBeibl 21:8  Os nad ydy'r ferch yn plesio'r meistr wnaeth ei chymryd hi, mae'n gallu caniatáu i rywun ei phrynu hi'n ôl. Ond does ganddo ddim hawl i'w gwerthu hi i rywun o wlad arall, am ei fod wedi delio'n annheg gyda hi.
Exod WelBeibl 21:9  Os ydy e wedi dewis ei rhoi hi i'w fab, rhaid iddi hi gael yr un hawliau, a chael ei thrin fel petai'n ferch iddo.
Exod WelBeibl 21:10  Os ydy e'n cymryd gwraig arall, mae gan y wraig gyntaf hawl i dderbyn bwyd a dillad ganddo, ac i gael rhyw gydag e.
Exod WelBeibl 21:11  Os nad ydy e'n fodlon rhoi'r tri peth yna iddi, mae ganddi hawl i fynd yn rhydd, heb dalu dim.
Exod WelBeibl 21:12  Os ydy rhywun yn taro person arall a'i ladd, y gosb ydy marwolaeth.
Exod WelBeibl 21:13  Os digwyddodd y peth drwy ddamwain, heb unrhyw fwriad i ladd, dw i'n mynd i drefnu lle saff i'r lladdwr ddianc iddo.
Exod WelBeibl 21:14  Ond os oedd bwriad clir i ladd y person arall, cewch lusgo'r llofrudd i ffwrdd a'i ddienyddio, hyd yn oed os oedd e wedi dianc at fy allor i.
Exod WelBeibl 21:15  Os ydy rhywun yn taro ei dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth.
Exod WelBeibl 21:16  Os ydy rhywun yn herwgipio person arall, i'w werthu neu i'w ddal yn gaeth, y gosb ydy marwolaeth.
Exod WelBeibl 21:17  Os ydy rhywun yn melltithio'i dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth.
Exod WelBeibl 21:18  Dyma sydd i ddigwydd os bydd dynion yn ymladd, ac un yn taro'r llall gyda charreg neu gyda'i ddwrn nes ei anafu a'i adael yn orweddog, ond heb ei ladd:
Exod WelBeibl 21:19  Os bydd yr un gafodd ei anafu yn gwella ac yn gallu cerdded eto gyda ffon, fydd dim rhaid cosbi'r dyn wnaeth ei daro. Ond bydd disgwyl iddo dalu iawndal am yr amser gwaith gollodd y llall, a thalu unrhyw gostau meddygol nes bydd wedi gwella.
Exod WelBeibl 21:20  Os ydy rhywun yn curo ei gaethwas neu ei forwyn gyda ffon, a'r gwas neu'r forwyn yn marw, rhaid iddo gael ei gosbi.
Exod WelBeibl 21:21  Ond os ydy'r gwas neu'r forwyn yn dal yn fyw ar ôl diwrnod neu ddau, fydd y meistr ddim yn cael ei gosbi. Bydd eisoes ar ei golled.
Exod WelBeibl 21:22  Os bydd dynion yn ymladd ac yn taro gwraig feichiog, a hithau'n colli'r plentyn, ond heb gael unrhyw niwed pellach, rhaid i'r dyn wnaeth ei tharo gael ei gosbi a thalu faint bynnag o iawndal mae gŵr y wraig yn ei hawlio a'r llys yn ei ganiatáu.
Exod WelBeibl 21:23  Ond os ydy'r wraig ei hun yn cael niwed difrifol, rhaid i'r gosb gyfateb: Y ddedfryd fydd, bywyd am fywyd,
Exod WelBeibl 21:24  llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,
Exod WelBeibl 21:26  Os ydy rhywun yn taro ei gaethwas neu ei forwyn yn ei lygad, a'i ddallu, rhaid gadael iddo fe neu hi fynd yn rhydd, fel iawndal am golli ei lygad.
Exod WelBeibl 21:27  Os ydy e'n taro dant ei gaethwas neu ei forwyn allan, mae'r gwas neu'r forwyn i gael mynd yn rhydd, fel iawndal am y dant.
Exod WelBeibl 21:28  Os ydy dyn neu wraig yn marw am fod tarw wedi'i gornio e neu hi, rhaid lladd yr anifail drwy daflu cerrig ato, a dydy'r cig ddim i gael ei fwyta. Fydd y perchennog ddim yn cael ei gosbi.
Exod WelBeibl 21:29  Ond os oedd y tarw wedi cornio rhywun o'r blaen, a'r perchennog yn gwybod hynny ond heb ofalu na fyddai'r peth yn digwydd eto, rhaid i'r tarw gael ei ladd a rhaid i'r perchennog farw hefyd;
Exod WelBeibl 21:30  neu mae teulu'r un gafodd ei ladd yn gallu hawlio swm o arian yn iawndal gan berchennog y tarw.
Exod WelBeibl 21:31  Mae'r un peth yn wir os ydy'r tarw yn cornio plentyn.
Exod WelBeibl 21:32  Os ydy'r tarw yn cornio caethwas neu forwyn, mae'r perchennog i dalu tri deg darn o arian, ac mae'r tarw i gael ei ladd drwy daflu cerrig ato.
Exod WelBeibl 21:33  Os ydy rhywun yn cloddio pydew a'i adael ar agor, a tharw neu asyn rhywun yn syrthio iddo a marw,
Exod WelBeibl 21:34  rhaid i'r sawl sydd biau'r pydew dalu am yr anifail, ond bydd yn cael cadw'r corff.
Exod WelBeibl 21:35  Os ydy tarw un dyn yn cornio a lladd tarw rhywun arall, mae'r tarw byw i gael ei werthu, a'r arian i gael ei rannu rhyngddyn nhw. Maen nhw hefyd i rannu'r tarw gafodd ei ladd.
Exod WelBeibl 21:36  Ond os oedd y tarw wedi cornio o'r blaen, a'r perchennog yn gwybod hynny ond heb ofalu na fyddai'r peth yn digwydd eto, rhaid iddo roi tarw yn ei le, a bydd e'n cael cadw'r anifail marw.
Chapter 22
Exod WelBeibl 22:1  Os ydy rhywun yn dwyn tarw neu ddafad, ac yna'n lladd yr anifail neu'n ei werthu, rhaid iddo dalu'n ôl bump o fuchod am y tarw, a phedair dafad am yr un ddafad.
Exod WelBeibl 22:2  Os ydy lleidr yn cael ei ddal yn torri i mewn i dŷ, ac mae'n cael ei daro ac yn marw, fydd y person wnaeth ei ladd ddim yn cael ei gyfri'n euog o dywallt gwaed.
Exod WelBeibl 22:3  Ond os ydy'r peth yn digwydd yng ngolau dydd, bydd yn euog. Os ydy lleidr yn cael ei ddal, rhaid iddo dalu'n llawn am beth gafodd ei ddwyn. Os nad ydy e'n gallu talu, bydd y lleidr yn cael ei werthu fel caethwas i dalu'r ddyled.
Exod WelBeibl 22:4  Os ydy'r anifail gafodd ei ddwyn yn cael ei ddarganfod yn dal yn fyw – p'run ai tarw, asyn neu ddafad – rhaid i'r lleidr dalu dwywaith ei werth fel iawndal.
Exod WelBeibl 22:5  Os ydy rhywun yn rhoi ei anifeiliaid i bori yn ei gae neu ei winllan, ac yn gadael iddyn nhw grwydro a phori ar dir rhywun arall, rhaid iddo dalu am y golled gyda'r cynnyrch gorau o'i gae a'i winllan ei hun.
Exod WelBeibl 22:6  Os oes tân yn mynd allan o reolaeth, ac yn lledu drwy'r gwrychoedd a llosgi cnydau sydd wedi'u casglu neu gnydau sy'n dal i dyfu yn y caeau, rhaid i'r person ddechreuodd y tân dalu am y difrod.
Exod WelBeibl 22:7  Os ydy person yn rhoi arian neu bethau gwerthfawr i rywun eu cadw'n saff, a'r pethau hynny'n cael eu dwyn, rhaid i'r lleidr dalu dwywaith cymaint yn ôl os ydy e'n cael ei ddal.
Exod WelBeibl 22:8  Os nad oes lleidr yn cael ei ddal, rhaid i berchennog y tŷ sefyll ei brawf o flaen Duw, i weld os mai fe wnaeth ddwyn yr eiddo.
Exod WelBeibl 22:9  Dyma sydd i ddigwydd mewn achos o anghydfod rhwng pobl (am darw, asyn, dafad neu afr, dilledyn neu unrhyw beth arall), lle mae rhywun yn honni, ‘Fi sydd biau hwn.’: Mae'r ddau i ymddangos o flaen Duw, ac mae'r un sy'n cael ei ddedfrydu'n euog i dalu dwywaith cymaint yn ôl i'r llall.
Exod WelBeibl 22:10  Os ydy person yn gofyn i rywun arall edrych ar ôl asyn neu darw neu ddafad neu afr iddo, a'r anifail yn marw, yn cael ei anafu neu'n mynd ar goll, a neb wedi'i weld,
Exod WelBeibl 22:11  rhaid i'r un oedd yn gofalu am yr anifail fynd ar ei lw o flaen yr ARGLWYDD mai nid fe oedd yn gyfrifol. Wedyn bydd y sawl oedd piau'r anifail yn derbyn ei air, a fydd dim rhaid talu iawndal.
Exod WelBeibl 22:12  Ond os cafodd yr anifail ei ddwyn, rhaid iddo dalu amdano.
Exod WelBeibl 22:13  Os mai anifail gwyllt wnaeth ei ladd a'i rwygo'n ddarnau, rhaid dangos y corff yn dystiolaeth, a fydd dim rhaid talu iawndal.
Exod WelBeibl 22:14  Os ydy person yn benthyg anifail gan rywun arall, a'r anifail hwnnw'n cael ei anafu neu'n marw pan oedd y perchennog ddim yna, rhaid i'r un wnaeth fenthyg yr anifail dalu'n llawn amdano.
Exod WelBeibl 22:15  Ond os oedd y perchennog yno ar y pryd, fydd dim rhaid talu. Ac os oedd yr anifail wedi'i logi am dâl, mae'r arian gafodd ei dalu yn cyfro'r golled.
Exod WelBeibl 22:16  Os ydy dyn yn denu merch ifanc sydd heb ddyweddïo i gael rhyw gydag e, rhaid iddo dalu i'w rhieni y pris sy'n ddyledus i'w chymryd yn wraig iddo'i hun.
Exod WelBeibl 22:17  Rhaid iddo dalu'r arian hyd yn oed os ydy'r tad yn gwrthod gadael iddo briodi'r ferch.
Exod WelBeibl 22:19  Os ydy rhywun yn cael rhyw gydag anifail, y gosb ydy marwolaeth.
Exod WelBeibl 22:20  Os ydy rhywun yn aberthu i dduwiau ar wahân i'r ARGLWYDD, rhaid ei ddinistrio'n llwyr!
Exod WelBeibl 22:21  Paid cam-drin mewnfudwyr. Cofiwch mai mewnfudwyr oeddech chi eich hunain yn yr Aifft.
Exod WelBeibl 22:22  Paid cymryd mantais o wraig weddw neu blentyn amddifad.
Exod WelBeibl 22:23  Os gwnei di hynny, a hwythau'n gweiddi arna i am help, bydda i'n ymateb.
Exod WelBeibl 22:24  Bydda i wedi gwylltio'n lân. Byddwch chi'r dynion yn cael eich lladd mewn rhyfel. Bydd eich gwragedd chi'n cael eu gadael yn weddwon, a bydd eich plant yn amddifad.
Exod WelBeibl 22:25  Os wyt ti'n benthyg arian i un o'm pobl Israel sydd mewn angen, paid bod fel y benthycwyr sy'n codi llog arnyn nhw.
Exod WelBeibl 22:26  Os wyt ti'n cymryd côt rhywun yn ernes am ei fod mewn dyled i ti, gwna'n siŵr dy fod yn ei rhoi yn ôl iddo cyn i'r haul fachlud,
Exod WelBeibl 22:27  gan mai dyna'r cwbl sydd ganddo i gadw'n gynnes yn y nos. Os bydd e'n gweiddi arna i am help, bydda i'n gwrando arno, achos dw i'n garedig.
Exod WelBeibl 22:28  Paid cymryd enw Duw yn ysgafn, na melltithio un o arweinwyr dy bobl.
Exod WelBeibl 22:29  Paid cadw'n ôl beth sydd i fod i gael ei offrymu i mi o'r cynhaeaf grawn a'r cafnau gwin ac olew. Rhaid i bob mab hynaf gael ei roi i mi.
Exod WelBeibl 22:30  A'r un fath gyda phob anifail gwryw sydd gyntaf i gael ei eni – bustych, defaid a geifr – gallan nhw aros gyda'r fam am saith diwrnod, ond rhaid i chi eu rhoi nhw i mi ar yr wythfed diwrnod.
Exod WelBeibl 22:31  Dych chi i fod yn bobl wedi'u cysegru i mi. Peidiwch bwyta cig unrhyw beth sydd wedi'i ladd gan anifail gwyllt. Taflwch e i'r cŵn.
Chapter 23
Exod WelBeibl 23:1  Paid hel straeon sydd ddim yn wir. Paid helpu pobl ddrwg drwy ddweud celwydd yn y llys.
Exod WelBeibl 23:2  Paid dilyn y dorf i wneud drwg. Paid rhoi tystiolaeth ffals sydd ddim ond yn cyd-fynd gyda beth mae pawb arall yn ei ddweud.
Exod WelBeibl 23:3  A phaid dangos ffafriaeth at rywun mewn achos llys dim ond am ei fod yn dlawd.
Exod WelBeibl 23:4  Os wyt ti'n dod o hyd i darw neu asyn dy elyn yn crwydro, dos â'r anifail yn ôl i'w berchennog.
Exod WelBeibl 23:5  Os wyt ti'n gweld asyn rhywun sy'n dy gasáu di wedi syrthio dan ei faich, paid pasio heibio; dos i'w helpu i godi.
Exod WelBeibl 23:6  Paid gwrthod cyfiawnder i rywun mewn achos llys am ei fod yn dlawd.
Exod WelBeibl 23:7  Paid byth â chyhuddo pobl ar gam – rhag i rywun dieuog gael ei ddedfrydu i farwolaeth. Bydda i'n cosbi'r rhai sy'n gwneud drwg.
Exod WelBeibl 23:8  Paid derbyn breib. Mae breib yn dallu'r sawl sy'n gweld yn glir, ac yn tanseilio achos pobl sy'n ddieuog.
Exod WelBeibl 23:9  Paid cam-drin mewnfudwr. Ti'n gwybod yn iawn sut deimlad ydy e – mewnfudwyr oeddech chi yn yr Aifft.
Exod WelBeibl 23:10  Rwyt i hau cnydau a chasglu'r cynhaeaf am chwe mlynedd.
Exod WelBeibl 23:11  Ond yna ar y seithfed flwyddyn mae'r tir i gael gorffwys, heb gael ei drin. Bydd y bobl dlawd yn cael casglu a bwyta beth bynnag sy'n tyfu ohono'i hun, a'r anifeiliaid gwyllt yn cael beth sy'n weddill. Gwna'r un peth gyda dy winllan a dy goed olewydd.
Exod WelBeibl 23:12  Rwyt i weithio am chwe diwrnod, a gorffwys ar y seithfed. Bydd yn rhoi cyfle i dy ych a dy asyn orffwys, ac i'r caethweision sydd wedi'u geni yn dy dŷ a'r mewnfudwr sy'n gweithio i ti ymlacio.
Exod WelBeibl 23:13  Gwyliwch eich bod chi'n gwneud beth dw i'n ddweud wrthoch chi. Peidiwch talu sylw i dduwiau eraill, na hyd yn oed eu henwi nhw!
Exod WelBeibl 23:15  Yn gyntaf, Gŵyl y Bara Croyw. Ar ddyddiau arbennig yn mis Abib byddwch yn dathlu dod allan o wlad yr Aifft. Rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod, fel dwedais i bryd hynny. Does neb i ddod ata i heb rywbeth i'w offrymu.
Exod WelBeibl 23:16  Yna Gŵyl y Cynhaeaf, pan fyddwch yn dod â ffrwyth cyntaf eich cnydau i mi. Ac yn olaf, Gŵyl Casglu'r Cynhaeaf, ar ddiwedd y flwyddyn, pan fyddwch wedi gorffen casglu eich cnydau i gyd.
Exod WelBeibl 23:17  Felly dair gwaith bob blwyddyn, mae'r dynion i gyd i ddod o flaen y Meistr, sef yr ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 23:18  Rhaid peidio offrymu gwaed anifail sydd wedi'i aberthu gyda bara sydd â burum ynddo. A dydy'r braster ddim i'w adael heb ei losgi dros nos.
Exod WelBeibl 23:19  Tyrd â ffrwyth cyntaf gorau dy dir i deml yr ARGLWYDD dy Dduw. Paid berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.”
Exod WelBeibl 23:20  “Dw i'n mynd i anfon angel o'ch blaen chi, i'ch cadw chi'n saff pan fyddwch chi'n teithio, ac i'ch arwain i'r lle dw i wedi'i baratoi ar eich cyfer chi.
Exod WelBeibl 23:21  Gwrandwch arno, a gwnewch beth mae e'n ddweud. Peidiwch tynnu'n groes iddo achos fydd e ddim yn maddau i chi. Fi sydd yna ynddo fe.
Exod WelBeibl 23:22  Ond os gwnewch chi wrando arno, a gwneud beth dw i'n ddweud, bydda i'n ymladd yn erbyn y gelynion fydd yn codi yn eich erbyn chi.
Exod WelBeibl 23:23  Bydd fy angel yn eich arwain chi at yr Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Canaaneaid, Hefiaid a Jebwsiaid, a bydda i'n eu dinistrio nhw'n llwyr.
Exod WelBeibl 23:24  Peidiwch plygu i lawr i addoli eu duwiau nhw, na dilyn eu harferion nhw. Dw i eisiau i chi eu dinistrio nhw'n llwyr, a malu eu colofnau cysegredig yn ddarnau.
Exod WelBeibl 23:25  Addolwch yr ARGLWYDD eich Duw, a bydd e'n rhoi bara i chi ei fwyta a dŵr i chi ei yfed, ac yn eich cadw chi'n iach.
Exod WelBeibl 23:26  Fydd yna ddim gwragedd sy'n methu cael plant, na gwragedd beichiog yn colli eu plant, a bydd pawb yn cael byw yn hir.
Exod WelBeibl 23:27  “Bydda i'n achosi braw wrth i bobl eich gweld chi'n dod. Bydda i'n dinistrio'r bobloedd fyddwch chi'n dod ar eu traws. Byddan nhw'n dianc oddi wrthoch chi.
Exod WelBeibl 23:28  Bydda i'n achosi panig llwyr, ac yn gyrru'r Hefiaid, y Canaaneaid a'r Hethiaid allan o'ch ffordd.
Exod WelBeibl 23:29  Ond fydd hyn ddim yn digwydd i gyd ar yr un pryd. Does gen i ddim eisiau i'r wlad droi'n anialwch, ac anifeiliaid gwyllt yn cymryd drosodd.
Exod WelBeibl 23:30  Bydda i'n eu gyrru nhw allan bob yn dipyn, i roi cyfle i'ch poblogaeth chi dyfu digon i lenwi'r wlad.
Exod WelBeibl 23:31  “Bydda i'n gosod ffiniau i chi o'r Môr Coch i Fôr y Canoldir, ac o'r anialwch i afon Ewffrates. Bydda i'n gwneud i chi goncro'r wlad, a byddwch yn gyrru'r bobloedd sy'n byw yno allan.
Exod WelBeibl 23:32  Rhaid i chi beidio gwneud cytundeb gwleidyddol gyda nhw, na chael dim i'w wneud â'u duwiau nhw.
Exod WelBeibl 23:33  Dŷn nhw ddim i gael byw yn y wlad, rhag iddyn nhw wneud i chi bechu yn fy erbyn i. Bydd hi ar ben arnoch chi os gwnewch chi ddechrau addoli eu duwiau nhw.”
Chapter 24
Exod WelBeibl 24:1  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Tyrd i fyny yma ata i. Tyrd ag Aaron a'i ddau fab, Nadab ac Abihw, a saith deg arweinydd Israel gyda ti. Byddan nhw'n fy addoli o bell,
Exod WelBeibl 24:2  tra byddi di, Moses, yn dod yn nes ata i. Dydy'r lleill ddim i ddod yn rhy agos. A dydy'r bobl ddim i gael dringo'r mynydd o gwbl.”
Exod WelBeibl 24:3  Yna dyma Moses yn mynd i ddweud wrth y bobl beth ddwedodd yr ARGLWYDD. Roedd ymateb y bobl yn unfrydol, “Byddwn ni'n gwneud popeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.”
Exod WelBeibl 24:4  Felly dyma Moses yn ysgrifennu popeth ddwedodd yr ARGLWYDD. Yn gynnar y bore wedyn, dyma fe'n codi allor wrth droed y mynydd, ac un deg dwy o golofnau o'i chwmpas – un ar gyfer pob un o ddeuddeg llwyth Israel.
Exod WelBeibl 24:5  Yna anfonodd rai o'r dynion ifanc i gyflwyno offrymau oedd i'w llosgi'n llwyr, ac i aberthu teirw yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 24:6  Wedyn dyma Moses yn rhoi hanner y gwaed mewn powlenni, a sblasio'r gweddill ar yr allor.
Exod WelBeibl 24:7  Yna cymerodd Sgrôl yr Ymrwymiad, a'i darllen i'r bobl. A dyma nhw'n dweud eto, “Byddwn ni'n gwneud popeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, ac yn gwrando arno.”
Exod WelBeibl 24:8  Wedyn cymerodd Moses y gwaed oedd yn y powlenni, a'i daenellu ar y bobl. Ac meddai, “Mae'r gwaed hwn yn cadarnhau'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD wedi'i wneud, i chi fod yn ufudd i bopeth mae e'n ddweud.”
Exod WelBeibl 24:9  Yna dyma Moses, Aaron, Nadab, Abihw a saith deg arweinydd Israel yn mynd i fyny'r mynydd,
Exod WelBeibl 24:10  a dyma nhw'n gweld Duw Israel. Dan ei draed roedd rhywbeth tebyg i balmant wedi'i wneud o saffir. Roedd yn glir fel yr awyr las.
Exod WelBeibl 24:11  Ond wnaeth e ddim dinistrio arweinwyr Israel, er iddyn nhw weld Duw; a dyma nhw'n bwyta ac yn yfed yn ei gwmni.
Exod WelBeibl 24:12  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Tyrd i ben y mynydd, ac aros amdana i. Dw i fy hun wedi ysgrifennu fy rheolau a'm cyfreithiau ar lechi, a dw i'n mynd i'w rhoi nhw i ti i'w dysgu i'r bobl.”
Exod WelBeibl 24:13  Felly dyma Moses yn mynd, gyda'i was Josua, a dechrau dringo i fyny mynydd Duw.
Exod WelBeibl 24:14  Roedd wedi dweud wrth yr arweinwyr, “Arhoswch amdanon ni yma, nes down ni yn ôl. Mae Aaron a Hur gyda chi. Os oes angen setlo rhyw ddadl, gallwch fynd atyn nhw.”
Exod WelBeibl 24:15  Wrth i Moses ddringo i fyny, dyma'r cwmwl yn dod i lawr a gorchuddio'r mynydd.
Exod WelBeibl 24:16  Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn gorffwys ar Fynydd Sinai. Roedd y cwmwl wedi'i orchuddio am chwe diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod, dyma Duw yn galw ar Moses o ganol y cwmwl.
Exod WelBeibl 24:17  Roedd Moses wedi cerdded i mewn i'r cwmwl ar y mynydd. A buodd yno ddydd a nos am bedwar deg diwrnod llawn. Roedd y bobl yn gweld ysblander yr ARGLWYDD ar ben y mynydd – roedd yn edrych fel tân yn llosgi.
Exod WelBeibl 24:18  Roedd Moses wedi cerdded i mewn i'r cwmwl ar y mynydd. A buodd yno ddydd a nos am bedwar deg diwrnod llawn. Roedd y bobl yn gweld ysblander yr ARGLWYDD ar ben y mynydd – roedd yn edrych fel tân yn llosgi.
Chapter 25
Exod WelBeibl 25:2  “Dwed wrth bobl Israel am gasglu rhoddion i mi gan bawb sy'n awyddus i gyfrannu.
Exod WelBeibl 25:3  Dyma beth allan nhw ei gyfrannu: aur, arian, pres,
Exod WelBeibl 25:4  edau las, porffor a coch, lliain main drud, blew gafr,
Exod WelBeibl 25:5  crwyn hyrddod wedi'u llifo'n goch, crwyn môr-fuchod, coed acasia,
Exod WelBeibl 25:6  olew i'r lampau, perlysiau i wneud yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus,
Exod WelBeibl 25:7  onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fydd yn mynd dros y frest.
Exod WelBeibl 25:8  Dw i eisiau iddyn nhw godi lle sbesial i mi gael byw yn eu canol nhw.
Exod WelBeibl 25:9  Dw i eisiau i'r Tabernacl, a popeth fydd yn mynd i mewn ynddo, gael eu gwneud yn union fel dw i'n dangos i ti.
Exod WelBeibl 25:10  “Maen nhw i wneud Arch, sef cist o goed acasia – 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder.
Exod WelBeibl 25:11  Yna ei gorchuddio gyda haen o aur pur (y tu mewn a'r tu allan), a gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno.
Exod WelBeibl 25:12  Yna gwneud pedwar cylch aur, a'u gosod nhw ar draed y gist, dau bob ochr.
Exod WelBeibl 25:13  A dau bolyn o goed acasia wedi'u gorchuddio gydag aur.
Exod WelBeibl 25:14  Mae'r polion i ffitio drwy'r cylchoedd bob ochr i'r Arch, ac i'w defnyddio i'w chario hi.
Exod WelBeibl 25:15  Mae'r polion yma i aros yn eu lle yn y cylchoedd bob amser – rhaid peidio eu tynnu nhw allan.
Exod WelBeibl 25:16  Wedyn mae Llechi'r Dystiolaeth, dw i'n eu rhoi i ti, i'w gosod y tu mewn i'r Arch.
Exod WelBeibl 25:17  “Yna gwneud caead o aur pur i'r Arch – 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led.
Exod WelBeibl 25:18  Yna gwneud dau gerwb o aur wedi'i guro (gwaith morthwyl) – un bob pen i'r caead, yn un darn gyda'r caead ei hun.
Exod WelBeibl 25:19  Yna gwneud dau gerwb o aur wedi'i guro (gwaith morthwyl) – un bob pen i'r caead, yn un darn gyda'r caead ei hun.
Exod WelBeibl 25:20  Mae'r cerwbiaid i fod yn wynebu'i gilydd, yn edrych i lawr ar y caead, ac yn estyn eu hadenydd dros yr Arch.
Exod WelBeibl 25:21  Mae'r caead i'w osod ar yr arch, a Llechi'r Dystiolaeth i'w gosod y tu mewn iddi.
Exod WelBeibl 25:22  Dyma ble bydda i'n dy gyfarfod di. Rhwng y ddau gerwb sydd uwchben caead yr Arch, bydda i'n siarad â ti, ac yn dweud beth dw i eisiau i bobl Israel ei wneud.
Exod WelBeibl 25:23  “Rwyt i wneud bwrdd o goed acasia – 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder.
Exod WelBeibl 25:24  Mae'r bwrdd i gael ei orchuddio gyda haen o aur pur, a border aur i'w osod o'i gwmpas i'w addurno.
Exod WelBeibl 25:25  Ac mae croeslath 75 milimetr o drwch i fod o'i gwmpas – hwnnw hefyd wedi'i addurno yr un fath â'r border.
Exod WelBeibl 25:26  Yna gwneud pedwar cylch aur, a'u gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae'r coesau,
Exod WelBeibl 25:27  wrth ymyl y croeslath. Mae'r cylchoedd ar gyfer rhoi'r polion drwyddyn nhw i gario'r bwrdd.
Exod WelBeibl 25:28  Mae'r polion eu hunain i gael eu gwneud o goed acasia wedi'u gorchuddio gydag aur.
Exod WelBeibl 25:29  Hefyd platiau, pedyll, jygiau a phowlenni o aur pur, i dywallt yr offrymau o ddiod.
Exod WelBeibl 25:30  Mae'r bara cysegredig i gael ei osod o mlaen i ar y bwrdd yma bob amser.
Exod WelBeibl 25:31  “Yna gwneud y menora (sef stand i ddal y lampau) allan o aur pur – gwaith morthwyl, sef aur wedi'i guro. Mae'r cwbl i fod yn un darn – y droed, y goes, a'r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw.
Exod WelBeibl 25:32  Mae chwe cangen i ymestyn allan o ochrau'r menora, tair bob ochr.
Exod WelBeibl 25:33  Mae tair cwpan siâp blodyn almon i fod ar bob cangen – pob blodyn gyda calycs a petalau.
Exod WelBeibl 25:34  Ac ar brif goes y menora, pedair cwpan siâp blodyn almon gyda calycs a petalau;
Exod WelBeibl 25:35  un dan y pâr cyntaf o ganghennau, un dan yr ail, ac un dan y trydydd.
Exod WelBeibl 25:36  Mae'r cwbl i'w wneud o un darn o aur pur wedi'i guro – gwaith morthwyl.
Exod WelBeibl 25:37  Yna rhaid gwneud saith lamp, a'u gosod nhw arni fel eu bod yn goleuo o'i blaen hi.
Exod WelBeibl 25:38  Mae'r gefeiliau a'r padellau hefyd i'w gwneud o aur pur.
Exod WelBeibl 25:39  Dylid defnyddio 35 cilogram o aur pur i wneud y menora a'r offer i gyd.
Exod WelBeibl 25:40  Gwna'n siŵr dy fod yn eu gwneud nhw yn union fel yn y cynllun gafodd ei ddangos i ti ar y mynydd.
Chapter 26
Exod WelBeibl 26:1  “Mae'r Tabernacl ei hun i gael ei wneud o ddeg llen o'r lliain main gorau, gyda lluniau o gerwbiaid wedi'u dylunio'n gelfydd arnyn nhw a'u brodio gydag edau las, porffor a coch.
Exod WelBeibl 26:2  Mae pob llen i fod yn un deg dau metr o hyd a dau fetr o led – i gyd yr un faint.
Exod WelBeibl 26:3  Mae pump o'r llenni i gael eu gwnïo at ei gilydd, a'r pump arall yr un fath.
Exod WelBeibl 26:4  Yna gwneud dolenni o edau las ar hyd ymyl llen olaf pob set –
Exod WelBeibl 26:5  hanner cant o ddolenni ar bob un, fel eu bod gyferbyn a'i gilydd.
Exod WelBeibl 26:6  Wedyn gwneud hanner can bachyn aur i ddal y llenni at ei gilydd, fel bod y cwbl yn un darn.
Exod WelBeibl 26:7  “Yna nesaf gwneud llenni o flew gafr i fod fel pabell dros y Tabernacl – un deg un ohonyn nhw.
Exod WelBeibl 26:8  Mae pob llen i fod yn un deg tri metr o hyd a dau fetr o led – i gyd yr un faint.
Exod WelBeibl 26:9  Mae pump o'r llenni i gael eu gwnïo at ei gilydd, a'r chwech arall i gael eu gwnïo at ei gilydd. Mae'r chweched llen yn yr ail grŵp o lenni i'w phlygu drosodd i wneud mynedfa ar du blaen y babell.
Exod WelBeibl 26:10  Yna gwneud hanner can dolen ar hyd ymyl llen olaf pob set,
Exod WelBeibl 26:11  a hanner can bachyn pres i fynd drwy'r dolenni i ddal y llenni at ei gilydd, a gwneud y cwbl yn un darn.
Exod WelBeibl 26:12  Mae'r hanner llen sydd dros ben i'w adael yn hongian dros gefn y Tabernacl.
Exod WelBeibl 26:13  Yna ar ddwy ochr y Tabernacl bydd yr hanner metr ychwanegol yn golygu fod y darn sy'n hongian dros yr ymyl yn ei gorchuddio hi i'r llawr.
Exod WelBeibl 26:14  “Yna'n olaf, dau orchudd arall dros y cwbl – un wedi'i wneud o grwyn hyrddod wedi'u llifo'n goch, a gorchudd allanol o grwyn môr-fuchod.
Exod WelBeibl 26:15  “Mae fframiau'r Tabernacl i'w gwneud allan o goed acasia.
Exod WelBeibl 26:16  Mae pob un i fod yn bedwar metr o hyd, a chwe deg chwech centimetr o led,
Exod WelBeibl 26:17  gyda dau denon ar bob un i'w cysylltu â'i gilydd.
Exod WelBeibl 26:18  Rhaid gwneud dau ddeg ffrâm i ochr ddeheuol y Tabernacl,
Exod WelBeibl 26:19  a phedwar deg soced arian i ddal y fframiau – dwy soced i'r ddau denon ar bob ffrâm.
Exod WelBeibl 26:20  Wedyn dau ddeg ffrâm ar ochr arall y Tabernacl, sef yr ochr ogleddol.
Exod WelBeibl 26:21  A phedwar deg soced iddyn nhw – dwy soced dan bob ffrâm.
Exod WelBeibl 26:22  Yna chwe ffrâm i gefn y Tabernacl, sef y pen gorllewinol,
Exod WelBeibl 26:24  Yn y corneli, mae dau ffrâm yn ffitio gyda'i gilydd ar y gwaelod, ac yn cael eu dal gyda'i gilydd gan gylch ar y top. Mae'r fframiau ar y ddwy gornel i fod yr un fath.
Exod WelBeibl 26:25  Mae hynny'n gwneud wyth ffrâm gydag un deg chwech o socedi arian – dwy soced dan bob ffrâm.
Exod WelBeibl 26:26  “Yna rwyt i wneud croesfarrau o goed acasia – pump i'r fframiau bob ochr i'r Tabernacl, a phump i fframiau cefn y Tabernacl sy'n wynebu'r gorllewin.
Exod WelBeibl 26:27  “Yna rwyt i wneud croesfarrau o goed acasia – pump i'r fframiau bob ochr i'r Tabernacl, a phump i fframiau cefn y Tabernacl sy'n wynebu'r gorllewin.
Exod WelBeibl 26:28  Mae'r croesfar ar ganol y fframiau i ymestyn o un pen i'r llall.
Exod WelBeibl 26:29  Mae'r fframiau a'r croesfarrau i gael eu gorchuddio gydag aur, ac mae'r cylchoedd sy'n dal y croesfarrau i gael eu gwneud o aur hefyd.
Exod WelBeibl 26:30  “Pan fyddi'n codi'r Tabernacl, rhaid dilyn yr union fanylion gafodd eu rhoi i ti ar y mynydd.
Exod WelBeibl 26:31  “Rwyt i wneud llen arbennig o'r lliain main gorau, gyda lluniau o gerwbiaid wedi'u dylunio'n gelfydd arni, a'u brodio gydag edau las, porffor a coch.
Exod WelBeibl 26:32  Mae'r llen yma i hongian ar bedwar polyn o goed acasia, wedi'u gorchuddio gydag aur a'u gosod mewn socedi arian.
Exod WelBeibl 26:33  Mae'r llen i hongian ar fachau aur, ac wedyn mae Arch y dystiolaeth i'w gosod tu ôl i'r llen. Bydd y llen yn gwahanu'r Lle Sanctaidd oddi wrth y Lle Mwyaf Sanctaidd.
Exod WelBeibl 26:34  Yna mae'r caead i gael ei osod ar Arch y dystiolaeth yn y Lle Mwyaf Sanctaidd.
Exod WelBeibl 26:35  Wedyn mae'r bwrdd a'r menora (sef y stand i'r lampau) i gael eu gosod gyferbyn â'i gilydd tu allan i'r llen – y bwrdd ar ochr y gogledd, a'r menora ar ochr y de.
Exod WelBeibl 26:36  Wedyn rhaid gwneud sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r babell. Bydd hon eto wedi'i gwneud o'r lliain main gorau, ac wedi'i brodio gydag edau las, porffor a coch.
Exod WelBeibl 26:37  Mae i hongian ar bump polyn o goed acasia, wedi'u gorchuddio gydag aur. Mae'r bachau i'w gwneud o aur, ac mae pum soced bres i gael eu gwneud i ddal y polion.
Chapter 27
Exod WelBeibl 27:1  “Mae'r allor i gael ei gwneud o goed acasia. Mae hi i fod yn ddau pwynt dau metr sgwâr, ac yn un pwynt tri metr o uchder.
Exod WelBeibl 27:2  Mae cyrn i fod ar bedair cornel yr allor, yn un darn gyda'r allor ei hun. Yna rwyt i'w gorchuddio gyda phres.
Exod WelBeibl 27:3  Mae'r offer i gyd i'w gwneud o bres hefyd – y bwcedi lludw, rhawiau, powlenni taenellu, ffyrc, a'r padellau tân.
Exod WelBeibl 27:4  Hefyd gratin, sef rhwyll wifrog o bres gyda pedwar cylch pres ar y corneli.
Exod WelBeibl 27:5  Mae i'w gosod o dan silff yr allor, hanner ffordd i lawr.
Exod WelBeibl 27:6  Yna gwneud polion i'r allor, allan o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gyda pres.
Exod WelBeibl 27:7  Mae'r polion i gael eu gwthio drwy'r cylchoedd fel bod polyn bob ochr i'r allor i'w chario hi.
Exod WelBeibl 27:8  Dylai'r allor gael ei gwneud gyda planciau pren, fel ei bod yn wag y tu mewn. Dylid ei gwneud yn union fel cafodd ei ddangos i ti ar y mynydd.
Exod WelBeibl 27:9  “Yna rhaid gwneud iard y Tabernacl, gyda llenni o'i chwmpas wedi'u gwneud o'r lliain main gorau. Ar yr ochr ddeheuol
Exod WelBeibl 27:10  bydd dau ddeg postyn yn sefyll mewn dau ddeg o socedi pres, gyda bachau ar ffyn arian i ddal y llenni.
Exod WelBeibl 27:12  Ar y cefn, yn wynebu'r gorllewin, mae lled yr iard i fod yn ddau ddeg dau metr o lenni, a deg postyn yn sefyll mewn deg o socedi pres.
Exod WelBeibl 27:13  Yna ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres bob ochr i'r giât.
Exod WelBeibl 27:14  Yna ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres bob ochr i'r giât.
Exod WelBeibl 27:15  Yna ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres bob ochr i'r giât.
Exod WelBeibl 27:16  Yna sgrîn y giât yn naw metr o lenni yn hongian ar bedwar postyn mewn pedair soced bres. Bydd y llenni wedi'u gwneud o'r lliain main gorau ac wedi'u brodio gydag edau las, porffor a coch.
Exod WelBeibl 27:17  Bydd y polion o gwmpas yr iard i gyd wedi'u cysylltu gyda ffyn arian a bachau arian arnyn nhw, ac wedi'u gosod mewn socedi pres.
Exod WelBeibl 27:18  Bydd yr iard yn bedwar deg pedwar metr o hyd ac yn ddau ddeg dau metr o led. Mae uchder y llenni i fod yn ddau pwynt dau metr, yn cael eu dal i fyny gan bolion mewn socedi pres.
Exod WelBeibl 27:19  Mae offer y Tabernacl i gyd (popeth sy'n cael ei ddefnyddio yn y defodau), a'r pegiau, i gael eu gwneud o bres.
Exod WelBeibl 27:20  “Hefyd, dywed wrth bobl Israel am ddod ag olew olewydd pur i ti, fel bod y lampau wedi'u goleuo'n gyson.
Exod WelBeibl 27:21  Ym mhabell presenoldeb Duw, tu allan i'r llen sydd o flaen Arch y dystiolaeth, bydd Aaron a'i feibion yn cadw'r lampau'n llosgi o flaen yr ARGLWYDD drwy'r nos. Dyna fydd y drefn bob amser i bobl Israel, ar hyd y cenedlaethau.
Chapter 28
Exod WelBeibl 28:1  “Mae dy frawd Aaron a'i feibion, Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar, i wasanaethu fel offeiriaid i mi.
Exod WelBeibl 28:2  Rhaid i ti wneud gwisgoedd cysegredig i dy frawd Aaron – gwisgoedd hardd fydd yn dangos urddas y gwaith fydd yn ei wneud.
Exod WelBeibl 28:3  Rwyt i siarad â'r crefftwyr gorau, sydd wedi'u donio gen i, iddyn nhw wneud urddwisg i Aaron fydd yn dangos ei fod wedi'i ddewis i wasanaethu fel offeiriad i mi.
Exod WelBeibl 28:4  “Dyma'r gwahanol rannau o'r urddwisg sydd i gael eu gwneud: Y boced sydd i fynd dros y frest, effod, mantell, crys patrymog, twrban a sash. Mae'r dillad cysegredig yma i gael eu gwneud i dy frawd Aaron a'i feibion, fydd yn gwasanaethu fel offeiriaid i mi.
Exod WelBeibl 28:5  Mae'r cwbl i gael eu gwneud o'r lliain main gorau, wedi'i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch.
Exod WelBeibl 28:6  Mae'r effod i gael ei gwneud o'r lliain main gorau, wedi'i ddylunio'n gelfydd a'i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch.
Exod WelBeibl 28:7  Mae dau strap i fynd dros yr ysgwyddau, wedi'u cysylltu i'r corneli, i'w dal gyda'i gilydd.
Exod WelBeibl 28:8  Mae'r strap cywrain wedi'i blethu i fod yn un darn gyda'r effod, wedi'i wneud o'r lliain main gorau, ac wedi'i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch.
Exod WelBeibl 28:9  Yna rwyt i gymryd dwy garreg onics a chrafu enwau meibion Israel arnyn nhw,
Exod WelBeibl 28:10  yn y drefn y cawson nhw eu geni – chwech ar un garreg a chwech ar y llall.
Exod WelBeibl 28:11  Mae crefftwr profiadol i grafu'r enwau ar y cerrig, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud, ac yna eu gosod mewn gwaith ffiligri o aur.
Exod WelBeibl 28:12  Yna cysylltu'r ddwy garreg i strapiau ysgwydd yr effod, fel cerrig coffa i bobl Israel. Bydd Aaron yn gwisgo'r enwau ar ei ysgwyddau o flaen yr ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 28:14  gyda dwy gadwyn o aur pur wedi'u plethu yn hongian o un i'r llall.
Exod WelBeibl 28:15  “Y darn sy'n mynd dros y frest fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Mae i gael ei gynllunio'n gelfydd gan artist, a'i wneud yr un fath â'r effod – allan o liain main wedi'i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch.
Exod WelBeibl 28:16  Mae i'w blygu yn ei hanner i wneud poced 22 centimetr sgwâr.
Exod WelBeibl 28:17  Wedyn mae pedair rhes o gerrig i'w gosod ynddo: y rhes gyntaf yn rhuddem, topas a beryl;
Exod WelBeibl 28:20  a'r bedwaredd yn saffir melyn, onics a iasbis. Maen nhw i gyd i gael eu gosod mewn gwaith ffiligri o aur.
Exod WelBeibl 28:21  Mae pob carreg yn cynrychioli un o lwythau Israel, a bydd enw'r llwyth wedi'i grafu ar y garreg, yr un fath ag mae sêl yn cael ei gwneud.
Exod WelBeibl 28:22  Yna mae cadwyni o aur pur wedi'u plethu i'w gosod arno.
Exod WelBeibl 28:23  Yna gwneud dwy ddolen aur, a'u cysylltu nhw i'r corneli uchaf.
Exod WelBeibl 28:24  Wedyn cysylltu'r ddwy gadwyn aur i'r dolenni hynny,
Exod WelBeibl 28:25  a chysylltu pen arall y cadwyni i strapiau ysgwydd yr effod, ar y tu blaen.
Exod WelBeibl 28:26  Wedyn gwneud dwy ddolen aur arall a'u cysylltu nhw i gorneli isaf y darn sy'n mynd dros y frest, ar yr ymyl fewnol agosaf at yr effod.
Exod WelBeibl 28:27  Yna gwneud dwy ddolen aur arall a'u rhoi nhw ar waelod strapiau ysgwydd yr effod, wrth ymyl y gwnïad sydd uwchben strap yr effod.
Exod WelBeibl 28:28  Mae dolenni'r darn dros y frest i gael eu clymu i ddolenni'r effod gydag edau las, i'w gadw uwchben strap yr effod, yn lle ei fod yn hongian yn rhydd.
Exod WelBeibl 28:29  Felly pan fydd Aaron yn mynd i mewn i'r lle sanctaidd, bydd yn cario enwau llwythau Israel ar ei galon. Byddan nhw ar y darn dros y frest, fel cerrig coffa bob amser i bobl Israel.
Exod WelBeibl 28:30  Yna mae'r Wrim a'r Thwmim i'w rhoi tu mewn i'r darn dros y frest sy'n cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Byddan nhw ar galon Aaron pan fydd e'n mynd i mewn at yr ARGLWYDD. Mae Aaron i gario'r modd o wneud penderfyniadau dros bobl Israel ar ei galon bob amser pan fydd e'n mynd o flaen yr ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 28:31  “Mae'r fantell sy'n mynd gyda'r effod i fod yn las.
Exod WelBeibl 28:32  Mae lle i'r pen fynd drwyddo ar y top, gyda hem o'i gwmpas, wedi'i bwytho fel coler i'w atal rhag rhwygo.
Exod WelBeibl 28:33  Wedyn gosod pomgranadau bach o gwmpas ymylon y fantell, wedi'u gwneud o edau las, porffor a coch. A gosod clychau aur rhyngddyn nhw –
Exod WelBeibl 28:35  Mae Aaron i wisgo'r fantell yma pan fydd e'n gwasanaethu, a bydd sŵn y clychau i'w clywed wrth iddo fynd i mewn ac allan o'r Lle Sanctaidd o flaen yr ARGLWYDD, rhag iddo farw.
Exod WelBeibl 28:36  “Yna gwneud medaliwn o aur pur, a chrafu arno y geiriau: ‘Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD’.
Exod WelBeibl 28:37  Mae i gael ei glymu gydag edau las ar du blaen y twrban,
Exod WelBeibl 28:38  ar dalcen Aaron. Bydd Aaron yn cymryd y cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad sy'n cael ei wneud wrth gyflwyno'r offrymau sanctaidd mae pobl Israel wedi'u neilltuo i Dduw. Rhaid iddo wisgo'r medaliwn ar ei dalcen bob amser fel bod offrymau'r bobl yn dderbyniol.
Exod WelBeibl 28:39  “Mae'r crys patrymog a'r twrban i gael eu gwneud o'r lliain main gorau, gyda'r sash wedi'i frodio.
Exod WelBeibl 28:40  “Yna i feibion Aaron rhaid gwneud crysau, sashiau, a phenwisgoedd. Gwisgoedd hardd fydd yn dangos rhywbeth o urddas y gwaith fyddan nhw'n ei wneud.
Exod WelBeibl 28:41  “Yna byddi'n arwisgo dy frawd Aaron a'i feibion, a'u heneinio, eu hordeinio a'u cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi.
Exod WelBeibl 28:42  “Rhaid gwneud dillad isaf o liain iddyn nhw, i guddio eu cyrff noeth. Mae'r rhain i'w gwisgo o'r canol at y pen-glin.
Exod WelBeibl 28:43  Rhaid i Aaron a'i feibion wisgo'r rhain pan fyddan nhw'n mynd i mewn i babell presenoldeb Duw, neu i weinyddu wrth yr allor yn y Lle Sanctaidd, rhag iddyn nhw bechu a marw. Dyma fydd y drefn bob amser, i Aaron a'i ddisgynyddion ar ei ôl.
Chapter 29
Exod WelBeibl 29:1  “Dyma sut rwyt ti i'w cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi: Cymer darw ifanc a dau hwrdd sydd â ddim byd o'i le arnyn nhw.
Exod WelBeibl 29:2  Yna, gyda'r blawd gwenith gorau, gwna fara heb furum ynddo, cacennau wedi'u cymysgu gydag olew, a bisgedi tenau wedi'u socian mewn olew – y cwbl heb furum ynddyn nhw.
Exod WelBeibl 29:3  Rho'r rhain i gyd mewn basged, a mynd â nhw gyda'r tarw ifanc a'r ddau hwrdd.
Exod WelBeibl 29:4  Yna dos ag Aaron a'i feibion at y fynedfa i babell presenoldeb Duw. Golcha nhw â dŵr.
Exod WelBeibl 29:5  Yna cymer y gwisgoedd ac arwisgo Aaron gyda'r crys, y fantell sy'n mynd gyda'r effod, yr effod ei hun a'r darn dros y frest, a chlymu'r effod gyda'r strap cywrain sydd wedi'i blethu.
Exod WelBeibl 29:6  Yna rho'r twrban ar ei ben, a rhwymo'r symbol ei fod wedi'i gysegru i waith Duw ar y twrban.
Exod WelBeibl 29:9  rhwyma sash am eu canol (Aaron a'i feibion), a gosod eu penwisg arnyn nhw i ddangos mai nhw sydd i wasanaethu fel offeiriaid bob amser. Dyma sut mae Aaron a'i feibion i gael eu hordeinio.
Exod WelBeibl 29:10  “Rwyt i gyflwyno'r tarw o flaen pabell presenoldeb Duw. Yno mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar ben yr anifail.
Exod WelBeibl 29:11  Yna rwyt i ladd y tarw o flaen yr ARGLWYDD wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw.
Exod WelBeibl 29:12  Wedyn cymer beth o waed y tarw a'i roi ar gyrn yr allor gyda dy fys. Mae gweddill y gwaed i gael ei dywallt wrth droed yr allor.
Exod WelBeibl 29:13  Yna cymer y braster o gwmpas y perfeddion, rhan isaf yr iau, y ddwy aren a'r braster sydd arnyn nhw, a'u llosgi nhw ar yr allor.
Exod WelBeibl 29:14  Ond mae'r cig, y croen a'r coluddion i gael eu llosgi tu allan i'r gwersyll. Yr offrwm puro ydy e.
Exod WelBeibl 29:15  “Yna rwyt i gymryd un hwrdd, ac mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar ben yr anifail.
Exod WelBeibl 29:16  Wedyn lladd yr hwrdd, cymryd ei waed a'i sblasio o gwmpas yr allor.
Exod WelBeibl 29:17  Wedyn rhaid torri'r hwrdd yn ddarnau, golchi'r coluddion a'r coesau cyn eu gosod nhw ar y darnau a'r pen
Exod WelBeibl 29:18  ar yr allor, a llosgi'r cwbl. Offrwm i'w losgi'n llwyr ydy e – offrwm sy'n cael ei losgi, ac sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 29:19  “Yna cymryd yr ail hwrdd, ac mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar yr anifail yma eto.
Exod WelBeibl 29:20  Lladd yr hwrdd, yna cymer beth o'r gwaed a'i roi ar waelod clust dde Aaron, a'r un fath ar ei feibion. A hefyd ar fawd eu llaw dde ac ar fawd y droed dde. Yna sblasio gweddill y gwaed o gwmpas yr allor.
Exod WelBeibl 29:21  Wedyn cymryd peth o'r gwaed sydd ar yr allor, a'r olew eneinio, a'i daenellu ar Aaron a'i wisgoedd, ac ar feibion Aaron a'u gwisgoedd nhw. Wedyn bydd Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd wedi'u cysegru.
Exod WelBeibl 29:22  Yna cymer y braster i gyd, y braster ar gynffon yr hwrdd, y braster o gwmpas ei berfeddion, rhan isaf yr iau, y ddwy aren a'r braster sydd arnyn nhw, a rhan uchaf y goes dde (am mai hwrdd y cysegru ydy e).
Exod WelBeibl 29:23  Ac o'r fasged o fara heb furum ynddo sydd o flaen yr ARGLWYDD, cymer un dorth, un gacen wedi'i chymysgu gydag olew, ac un fisged denau wedi'i socian mewn olew.
Exod WelBeibl 29:24  Yna rho'r cwbl yn nwylo Aaron a'i feibion i'w gyflwyno fel offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 29:25  Wedyn rwyt i'w cymryd yn ôl ganddyn nhw, a llosgi'r cwbl ar yr allor. Offrwm i'w losgi'n llwyr ydy e – mae'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 29:26  “Wedyn rwyt i gymryd brest hwrdd cysegru Aaron, a'i gyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Chi sydd i gadw'r darn yma.
Exod WelBeibl 29:27  Mae'r darnau gafodd eu chwifio a'u codi fel siâr Aaron o hwrdd y cysegru i gael eu gosod o'r neilltu – sef y frest a darn uchaf y goes ôl dde.
Exod WelBeibl 29:28  Aaron a'i feibion fydd piau'r rhannau yma o offrymau pobl Israel. Dyna fydd y drefn bob amser. Nhw sydd i gael y darnau yma o'r offrymau mae pobl Israel yn eu cyflwyno i ofyn am fendith yr ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 29:29  “Mae gwisgoedd cysegredig Aaron i gael eu defnyddio pan fydd disgynyddion iddo yn cael eu heneinio a'u hordeinio ar ei ôl.
Exod WelBeibl 29:30  Bydd yr offeiriad fydd yn ei olynu yn eu gwisgo nhw am saith diwrnod pan fydd yn mynd i babell presenoldeb Duw i wasanaethu yn y Lle Sanctaidd am y tro cyntaf.
Exod WelBeibl 29:31  “Rhaid i ti gymryd hwrdd y cysegru, a choginio'r cig mewn lle cysegredig.
Exod WelBeibl 29:32  Yna mae Aaron a'i feibion i fwyta cig yr hwrdd, gyda'r bara oedd yn y fasged, wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw.
Exod WelBeibl 29:33  Dim ond nhw sydd i gael bwyta'r cig a'r bara gafodd eu defnyddio i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw a Duw, pan oedden nhw'n cael eu hordeinio a'u cysegru i'r gwaith. Does neb arall yn cael eu bwyta, am eu bod wedi'u cysegru.
Exod WelBeibl 29:34  Os oes cig neu fara dros ben y bore wedyn, rhaid ei losgi. Dydy e ddim i gael ei fwyta am ei fod wedi'i gysegru.
Exod WelBeibl 29:35  “Dyna sydd i gael ei wneud i Aaron a'i feibion, yn union fel dw i wedi gorchymyn i ti. Mae'r seremoni ordeinio yn para am saith diwrnod.
Exod WelBeibl 29:36  Bob dydd rhaid i ti aberthu tarw ifanc yn offrwm puro i wneud pethau'n iawn gyda Duw. Rwyt i buro'r allor, a'i gwneud hi'n iawn i gael ei defnyddio, a'i chysegru drwy ei heneinio ag olew.
Exod WelBeibl 29:37  Am saith diwrnod rwyt i baratoi'r allor a'i chysegru i'w gwneud yn iawn i'w defnyddio. Wedyn bydd yr allor yn sanctaidd iawn, a bydd unrhyw beth sy'n ei chyffwrdd yn gysegredig.
Exod WelBeibl 29:38  “Dyma beth sydd i'w gyflwyno ar yr allor yn rheolaidd bob dydd: Dau oen blwydd oed –
Exod WelBeibl 29:39  un i'w gyflwyno yn y bore, a'r llall pan mae'n dechrau nosi.
Exod WelBeibl 29:40  Mae'r oen cyntaf i'w gyflwyno gyda cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gyda litr o olew olewydd, a litr o win yn offrwm o ddiod.
Exod WelBeibl 29:41  Yna cyflwyno'r ail pan mae'n dechrau nosi, gyda'r un offrwm o rawn a'r un offrwm o ddiod â'r bore – offrwm sy'n cael ei losgi, ac sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 29:42  Bydd yr offrwm yma'n cael ei losgi'n rheolaidd, ar hyd y cenedlaethau, wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw. Dyna ble fydda i'n dy gyfarfod di, ac yn siarad â ti.
Exod WelBeibl 29:43  Dyna ble fydda i'n cyfarfod pobl Israel. Bydd fy ysblander i yn ei wneud yn lle cysegredig.
Exod WelBeibl 29:44  “Felly bydd y Tabernacl a'r allor wedi'u cysegru, a bydd Aaron a'i feibion wedi'u cysegru i fod yn offeiriaid i mi.
Exod WelBeibl 29:45  Dw i'n mynd i aros gyda pobl Israel. Fi fydd eu Duw nhw.
Exod WelBeibl 29:46  Byddan nhw'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw, ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft er mwyn i mi fyw gyda nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw.
Chapter 30
Exod WelBeibl 30:1  “Rwyt i wneud allor i losgi arogldarth. Gwna hi allan o goed acasia,
Exod WelBeibl 30:2  yn 45 centimetr sgwâr ac yn 90 centimetr o uchder. Mae'r cyrn arni i fod yn un darn gyda'r allor ei hun.
Exod WelBeibl 30:3  Yna gorchuddia hi i gyd gyda haen o aur pur – y top, yr ochrau a'r cyrn. A gosod forder aur o'i chwmpas i'w haddurno.
Exod WelBeibl 30:4  Gosod ddau gylch aur ar ddwy ochr iddi, gyferbyn â'i gilydd o dan y border, i roi'r polion drwyddyn nhw i gario'r allor.
Exod WelBeibl 30:5  Mae'r polion i gael eu gwneud o goed acasia, wedi'u gorchuddio gydag aur.
Exod WelBeibl 30:6  Yna gosod yr allor o flaen y llen mae Arch y dystiolaeth tu ôl iddi (y llen o flaen caead yr Arch sydd dros y dystiolaeth). Dyna lle bydda i'n dy gyfarfod di.
Exod WelBeibl 30:7  “Bob bore, pan fydd Aaron yn trin y lampau, rhaid iddo losgi arogldarth persawrus ar yr allor yma.
Exod WelBeibl 30:8  A'r un fath pan fydd e'n goleuo'r lampau ar ôl iddi ddechrau nosi. Mae hyn i ddigwydd yn rheolaidd ar hyd y cenedlaethau.
Exod WelBeibl 30:9  Rhaid peidio llosgi arogldarth gwahanol arni, na'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr, na'r offrwm o rawn, a rhaid peidio tywallt offrwm o ddiod arni.
Exod WelBeibl 30:10  Ond un waith y flwyddyn bydd Aaron yn puro'r allor, iddi fod yn iawn i'w defnyddio, drwy roi peth o waed yr offrwm dros bechod ar y cyrn. Mae hyn i fod i ddigwydd bob blwyddyn ar hyd y cenedlaethau. Bydd yn cael ei chysegru'n llwyr i'r ARGLWYDD.”
Exod WelBeibl 30:12  “Pan fyddi'n cynnal cyfrifiad o bobl Israel, mae pob dyn sy'n cael ei gyfri i dalu iawndal am ei fywyd. Wedyn fydd pla ddim yn eu taro nhw wrth i ti eu cyfrif nhw.
Exod WelBeibl 30:13  Maen nhw i gyd i dalu treth o hanner sicl (sef bron chwe gram o arian) pan maen nhw'n cael eu cyfrif. (Mesur safonol y cysegr sydd i gael ei ddefnyddio – sef un sicl yn pwyso dau ddeg gera.) Mae'r arian yma i'w roi'n offrwm i'r ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 30:14  Mae pob un sy'n ugain oed neu'n hŷn i roi offrwm i'r ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 30:15  Dydy'r cyfoethog ddim i roi mwy, a'r tlawd ddim i roi llai. Mae pob un i dalu'r hanner sicl yn iawndal am ei fywyd.
Exod WelBeibl 30:16  Rwyt i gasglu'r arian gan bobl Israel a'i roi tuag at gynnal pabell presenoldeb Duw. Bydd yn atgoffa'r ARGLWYDD o bobl Israel, eu bod wedi talu iawndal am eu bywydau.”
Exod WelBeibl 30:18  “Rwyt hefyd i wneud dysgl fawr bres gyda stand bres oddi tani. Mae hon ar gyfer ymolchi, i'w gosod rhwng pabell presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi â dŵr.
Exod WelBeibl 30:19  Bydd Aaron a'i feibion yn golchi eu dwylo a'u traed ynddi.
Exod WelBeibl 30:20  Maen nhw i ymolchi â dŵr pan fyddan nhw'n mynd i mewn i babell presenoldeb Duw, rhag iddyn nhw farw. A hefyd pan fyddan nhw'n mynd at yr allor i losgi offrwm i'r ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 30:21  Maen nhw i olchi eu dwylo a'u traed, rhag iddyn nhw farw. Dyma fydd y drefn bob amser, ar hyd y cenedlaethau.”
Exod WelBeibl 30:23  “Cymer y perlysiau gorau – pum cilogram a hanner o fyrr, hanner hynny (sef dau gilogram a thri-chwarter) o sinamon melys, yr un faint o sbeisiau pêr,
Exod WelBeibl 30:24  a phum cilogram a hanner o bowdr casia (a defnyddia fesur safonol y cysegr i bwyso'r rhain). Hefyd pedwar litr o olew olewydd.
Exod WelBeibl 30:25  Mae'r rhain i gael eu defnyddio i wneud olew eneinio cysegredig – cymysgedd persawrus wedi'i wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr.
Exod WelBeibl 30:26  Mae'r olew yma i gael ei ddefnyddio i eneinio pabell presenoldeb Duw, Arch y dystiolaeth,
Exod WelBeibl 30:27  y bwrdd a'i lestri i gyd, y menora (sef y stand i'r lampau) a'i hoffer, allor yr arogldarth,
Exod WelBeibl 30:28  yr allor i losgi'r offrymau a'r offer sy'n mynd gyda hi, a'r ddysgl fawr gyda'i stand.
Exod WelBeibl 30:29  Dyna sut maen nhw i gael eu cysegru, a byddan nhw'n sanctaidd iawn. Bydd unrhyw beth fydd yn eu cyffwrdd yn gysegredig.
Exod WelBeibl 30:30  Rwyt hefyd i eneinio Aaron a'i feibion, a'u cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi.
Exod WelBeibl 30:31  Ac rwyt i ddweud wrth bobl Israel, ‘Hwn fydd yr olew eneinio cysegredig ar hyd y cenedlaethau.
Exod WelBeibl 30:32  Dydy e ddim i gael ei ddefnyddio ar bobl gyffredin, a does neb i wneud olew tebyg iddo gyda'r un cynhwysion. Mae'n gysegredig, a rhaid i chi ei drin yn sanctaidd.
Exod WelBeibl 30:33  Os bydd rhywun yn gwneud cymysgedd tebyg iddo, neu yn ei ddefnyddio ar rywun sydd ddim yn offeiriad, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.’”
Exod WelBeibl 30:34  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Cymer berlysiau, sef gwm resin, onicha a galbanwm, gyda'r un faint o fyrr pur,
Exod WelBeibl 30:35  a'u cymysgu i wneud arogldarth – cymysgedd persawrus wedi'i wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr. Rhaid iddo fod wedi'i falu'n fân, ac yn gymysgedd pur, cysegredig.
Exod WelBeibl 30:36  Mae peth ohono i gael ei falu yn llwch mân, a'i roi o flaen Arch y dystiolaeth tu mewn i babell presenoldeb Duw, lle bydda i'n dy gyfarfod di. Rhaid iddo gael ei drin yn sanctaidd iawn.
Exod WelBeibl 30:37  Does neb i ddefnyddio'r un cynhwysion i wneud arogldarth tebyg iddo. Arogldarth yr ARGLWYDD ydy e, ac mae i gael ei drin yn sanctaidd.
Exod WelBeibl 30:38  Os bydd rhywun yn gwneud cymysgedd tebyg iddo i bwrpas arall, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.”
Chapter 31
Exod WelBeibl 31:2  “Dw i wedi dewis Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda.
Exod WelBeibl 31:3  Dw i wedi'i lenwi ag Ysbryd Duw, i roi dawn, deall a gallu iddo, a'i wneud yn feistr ym mhob crefft –
Exod WelBeibl 31:5  i dorri a gosod gemwaith, i gerfio coed a phob math o waith crefft arall.
Exod WelBeibl 31:6  A dw i am i Oholiab fab Achisamach, o lwyth Dan, ei helpu. Dw i hefyd wedi rhoi doniau i'r crefftwyr gorau eraill, iddyn nhw wneud yr holl bethau dw i wedi'u disgrifio i ti:
Exod WelBeibl 31:7  pabell presenoldeb Duw, Arch y dystiolaeth, y caead sydd ar yr Arch, a'r holl bethau eraill sy'n y babell,
Exod WelBeibl 31:8  sef y bwrdd a'i lestri i gyd, y menora (stand y lampau) a'i hoffer, allor yr arogldarth,
Exod WelBeibl 31:9  yr allor ar gyfer yr offrymau sydd i'w llosgi gyda'i hoffer i gyd, a'r ddysgl fawr gyda'i stand,
Exod WelBeibl 31:10  y gwisgoedd wedi'u brodio'n hardd, gwisg gysegredig Aaron, a'r gwisgoedd i'w feibion pan fyddan nhw'n gwasanaethu fel offeiriaid,
Exod WelBeibl 31:11  yr olew eneinio, a'r arogldarth persawrus ar gyfer y Lle Sanctaidd. Maen nhw i wneud y pethau yma i gyd yn union fel dw i wedi dweud wrthot ti.”
Exod WelBeibl 31:13  “Dwed wrth bobl Israel, ‘Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n cadw fy Sabothau i. Bydd gwneud hynny yn arwydd bob amser o'r berthynas sydd rhyngon ni, i chi ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi'ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun.
Exod WelBeibl 31:14  Felly rhaid i chi gadw'r Saboth, a'i ystyried yn sanctaidd. Os ydy rhywun yn ei halogi, y gosb ydy marwolaeth. Yn wir, os ydy rhywun yn gwneud unrhyw waith ar y Saboth, bydd y person hwnnw'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Exod WelBeibl 31:15  Mae chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae'r seithfed diwrnod yn Saboth – diwrnod i chi orffwys. Mae'r ARGLWYDD yn ei ystyried yn sbesial, yn ddiwrnod cysegredig, ac os ydy rhywun yn gweithio ar y Saboth, y gosb ydy marwolaeth.
Exod WelBeibl 31:16  Mae pobl Israel i gadw'r Saboth bob amser. Mae hwn yn ymrwymiad mae'n rhaid ei gadw am byth.
Exod WelBeibl 31:17  Mae'n arwydd o'r berthynas sydd gen i gyda phobl Israel. Roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd a'r ddaear mewn chwe diwrnod. Wedyn dyma fe'n gorffwys ac ymlacio.’”
Exod WelBeibl 31:18  Pan oedd Duw wedi gorffen siarad â Moses ar Fynydd Sinai, dyma fe'n rhoi dwy lech y dystiolaeth iddo – dwy lechen garreg gydag ysgrifen Duw ei hun arnyn nhw.
Chapter 32
Exod WelBeibl 32:1  Pan welodd y bobl fod Moses yn hir iawn yn dod i lawr o'r mynydd, dyma nhw'n casglu o gwmpas Aaron a dweud wrtho, “Tyrd, gwna rywbeth. Gwna dduwiau i ni i'n harwain. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i'r Moses yna wnaeth ein harwain ni allan o'r Aifft!”
Exod WelBeibl 32:2  Felly dyma Aaron yn dweud wrthyn nhw, “Cymerwch y modrwyau aur sydd yng nghlustiau eich gwragedd a'ch meibion a'ch merched, a dewch â nhw i mi.”
Exod WelBeibl 32:3  Felly dyma'r bobl i gyd yn tynnu eu clustdlysau, a dod â nhw i Aaron.
Exod WelBeibl 32:4  Cymerodd yr aur ganddyn nhw, a defnyddio offer gwaith metel i wneud eilun ar siâp tarw ifanc allan ohono. A dyma'r bobl yn dweud, “O Israel! Dyma'r duwiau ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft!”
Exod WelBeibl 32:5  Pan welodd Aaron eu hymateb nhw, dyma fe'n codi allor o flaen yr eilun, ac yna'n gwneud cyhoeddiad, “Yfory byddwn ni'n cynnal Gŵyl i'r ARGLWYDD!”
Exod WelBeibl 32:6  Felly dyma nhw'n codi'n gynnar y bore wedyn a chyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Eisteddodd y bobl i lawr i wledda ac yfed, ac yna codi i ymgolli mewn rhialtwch paganaidd.
Exod WelBeibl 32:7  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Brysia, dos yn ôl i lawr! Mae dy bobl di, y rhai ddaethost ti â nhw allan o wlad yr Aifft, wedi gwneud peth ofnadwy.
Exod WelBeibl 32:8  Maen nhw eisoes wedi troi i ffwrdd oddi wrth beth wnes i orchymyn – maen nhw wedi gwneud eilun ar siâp tarw ifanc, ac wedi'i addoli ac aberthu iddo a dweud, ‘O Israel! Dyma'r duwiau ddaeth â ti allan o'r Aifft!’”
Exod WelBeibl 32:9  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Dw i'n edrych ar y bobl yma, ac yn gweld eu bod nhw'n bobl ystyfnig iawn.
Exod WelBeibl 32:10  Gad lonydd i mi. Dw i wedi digio'n lân gyda nhw, a dw i'n mynd i'w dinistrio nhw. Bydda i'n dy wneud di, Moses, yn dad i genedl fawr yn eu lle nhw.”
Exod WelBeibl 32:11  Ond dyma Moses yn ceisio tawelu'r ARGLWYDD ei Dduw, a dweud wrtho, “O ARGLWYDD, pam wyt ti mor ddig hefo dy bobl? Ti sydd wedi defnyddio dy rym a dy nerth i ddod â nhw allan o wlad yr Aifft.
Exod WelBeibl 32:12  Wyt ti am i'r Eifftiaid ddweud, ‘Roedd e eisiau gwneud drwg iddyn nhw. Dyna pam wnaeth e eu harwain nhw allan. Roedd e eisiau eu lladd nhw ar y mynyddoedd, a chael gwared â nhw'n llwyr oddi ar wyneb y ddaear!’? Paid bod mor ddig. Meddwl eto cyn gwneud y fath ddrwg i dy bobl!
Exod WelBeibl 32:13  Cofia beth wnest ti ei addo i dy weision Abraham, Isaac a Jacob. Dwedaist wrthyn nhw, ‘Dw i'n mynd i roi cymaint o ddisgynyddion i ti ag sydd o sêr yn yr awyr, a dw i'n mynd i roi'r tir yma dw i wedi bod yn sôn amdano i dy ddisgynyddion di. Byddan nhw'n ei etifeddu am byth.’”
Exod WelBeibl 32:14  Felly dyma'r ARGLWYDD yn newid ei feddwl. Roedd yn sori ei fod wedi bwriadu gwneud niwed i'w bobl.
Exod WelBeibl 32:15  A dyma Moses yn dechrau yn ôl i lawr o ben y mynydd. Roedd yn cario dwy lech y dystiolaeth yn ei ddwylo. Roedd ysgrifen ar ddwy ochr y llechi.
Exod WelBeibl 32:16  Duw ei hun oedd wedi'u gwneud nhw, a Duw oedd wedi ysgrifennu arnyn nhw – roedd y geiriau wedi'u crafu ar y llechi.
Exod WelBeibl 32:17  Pan glywodd Josua holl sŵn y bobl yn gweiddi, dyma fe'n dweud wrth Moses, “Mae'n swnio fel petai yna ryfel yn y gwersyll!”
Exod WelBeibl 32:18  A dyma Moses yn ateb, “Nid cân dathlu buddugoliaeth, glywa i, na chân wylo'r rhai sydd wedi'u trechu, ond canu gwyllt rhai'n cynnal parti.”
Exod WelBeibl 32:19  Pan gyrhaeddodd y gwersyll a gweld yr eilun o darw ifanc, a'r bobl yn dawnsio'n wyllt, dyma Moses yn colli ei dymer yn lân. Taflodd y llechi oedd yn ei ddwylo ar lawr, a dyma nhw'n malu'n deilchion wrth droed y mynydd.
Exod WelBeibl 32:20  Yna dyma fe'n cymryd yr eilun o darw ifanc a'i doddi yn y tân. Wedyn ei falu'n lwch mân, ei wasgaru ar y dŵr, a gwneud i bobl Israel ei yfed.
Exod WelBeibl 32:21  A dyma Moses yn troi at Aaron a gofyn iddo, “Beth wnaeth y bobl yma i ti? Pam wyt ti wedi gwneud iddyn nhw bechu mor ofnadwy?”
Exod WelBeibl 32:22  Atebodd Aaron, “Paid bod yn ddig, meistr. Ti'n gwybod fel mae'r bobl yma'n tueddu i droi at y drwg.
Exod WelBeibl 32:23  Dyma nhw'n dweud wrtho i, ‘Gwna dduwiau i ni i'n harwain ni. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i'r Moses yna wnaeth ein harwain ni allan o'r Aifft.’
Exod WelBeibl 32:24  Felly dyma fi'n dweud wrthyn nhw, ‘Os oes gan rywun aur, rhowch e i mi.’ A dyma nhw'n gwneud hynny. Wedyn pan deflais i'r cwbl i'r tân, dyma'r tarw ifanc yma'n dod allan.”
Exod WelBeibl 32:25  Roedd Moses yn gweld fod y bobl allan o reolaeth yn llwyr – roedd Aaron wedi gadael iddyn nhw redeg yn wyllt, a gallai'r stori fynd ar led ymhlith eu gelynion.
Exod WelBeibl 32:26  Felly dyma Moses yn sefyll wrth y fynedfa i'r gwersyll a galw ar y bobl, “Os ydych chi ar ochr yr ARGLWYDD, dewch yma ata i.” A dyma'r Lefiaid i gyd yn mynd ato.
Exod WelBeibl 32:27  A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Gwisgwch eich cleddyfau! Ewch drwy'r gwersyll, o un pen i'r llall, a lladd eich brodyr, eich ffrindiau a'ch cymdogion!’”
Exod WelBeibl 32:28  Gwnaeth y Lefiaid beth ddwedodd Moses, a chafodd tua tair mil o ddynion eu lladd y diwrnod hwnnw.
Exod WelBeibl 32:29  Yna dyma Moses yn dweud, “Dych chi wedi cael eich ordeinio i wasanaethu'r ARGLWYDD heddiw. Am eich bod wedi bod yn fodlon troi yn erbyn mab neu frawd, mae'r ARGLWYDD wedi'ch bendithio chi'n fawr heddiw.”
Exod WelBeibl 32:30  Y diwrnod wedyn, dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Dych chi wedi pechu'n ofnadwy. Ond dw i am fynd yn ôl i fyny at yr ARGLWYDD. Falle y galla i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi a Duw, iddo faddau i chi am eich pechod.”
Exod WelBeibl 32:31  Felly dyma Moses yn mynd yn ôl at yr ARGLWYDD, a dweud, “O plîs! Mae'r bobl yma wedi pechu'n ofnadwy yn dy erbyn di. Maen nhw wedi gwneud duwiau o aur iddyn nhw'u hunain.
Exod WelBeibl 32:32  Petaet ti ond yn maddau iddyn nhw …! Os na wnei di, dw i eisiau i ti ddileu fy enw i oddi ar dy restr.”
Exod WelBeibl 32:33  Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Y person sydd wedi pechu yn fy erbyn i fydd yn cael ei ddileu oddi ar fy rhestr i.
Exod WelBeibl 32:34  Felly, dos di yn dy flaen, ac arwain y bobl yma i'r lle dw i wedi dweud wrthot ti amdano. Edrych, bydd fy angel yn mynd o dy flaen di. Ond pan ddaw'r amser i mi gosbi, bydda i'n reit siŵr o'u cosbi nhw am eu pechod.”
Exod WelBeibl 32:35  A dyma'r ARGLWYDD yn anfon pla ar y bobl am iddyn nhw wneud y tarw – yr un wnaeth Aaron.
Chapter 33
Exod WelBeibl 33:1  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos di yn dy flaen – ti a'r bobl wnest ti eu harwain allan o wlad yr Aifft. Ewch i'r wlad wnes i addo i Abraham, Isaac a Jacob, ‘Dw i'n mynd i'w rhoi hi i'ch disgynyddion chi.’
Exod WelBeibl 33:2  Dw i'n mynd i anfon angel o'ch blaen chi, a gyrru allan y Canaaneaid, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid.
Exod WelBeibl 33:3  Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Ond dw i ddim am fynd gyda chi. Dych chi'n bobl ystyfnig, a falle y bydda i'n eich dinistrio chi ar y ffordd.”
Exod WelBeibl 33:4  Dyna oedd newyddion drwg! Pan glywodd y bobl hynny, dyma nhw'n dechrau galaru. Doedd neb yn gwisgo tlysau,
Exod WelBeibl 33:5  am fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Dwed wrth bobl Israel, ‘Dych chi'n bobl ystyfnig. Petawn i'n mynd gyda chi dim ond am foment, falle y byddwn i'n eich dinistrio chi. Felly tynnwch eich tlysau i ffwrdd, i mi benderfynu beth i'w wneud gyda chi.’”
Exod WelBeibl 33:6  Felly dyma bobl Israel yn tynnu eu tlysau i gyd i ffwrdd pan oedden nhw wrth Fynydd Sinai.
Exod WelBeibl 33:7  Byddai Moses yn cymryd y babell, ac yn ei chodi tu allan i'r gwersyll, gryn bellter i ffwrdd. Galwodd hi yn babell cyfarfod Duw. Os oedd rhywun eisiau gwybod rhywbeth gan yr ARGLWYDD, byddai'n mynd at y babell yma tu allan i'r gwersyll.
Exod WelBeibl 33:8  Pan fyddai Moses yn mynd allan i'r babell, byddai'r bobl i gyd yn sefyll tu allan i'w pebyll eu hunain, ac yn gwylio Moses nes iddo fynd i mewn i'r babell.
Exod WelBeibl 33:9  Bob tro y byddai Moses yn mynd i mewn iddi, byddai colofn o niwl yn dod i lawr ac yn sefyll tu allan i'r fynedfa tra oedd yr ARGLWYDD yn siarad â Moses.
Exod WelBeibl 33:10  Pan oedd pawb yn gweld y golofn o niwl yn sefyll wrth y fynedfa, bydden nhw'n dod i sefyll wrth fynedfa eu pebyll eu hunain, ac yn addoli.
Exod WelBeibl 33:11  Byddai'r ARGLWYDD yn siarad wyneb yn wyneb gyda Moses, fel byddai rhywun yn siarad â ffrind. Yna byddai Moses yn dod yn ôl i'r gwersyll. Ond roedd ei was, y bachgen ifanc Josua fab Nwn, yn aros yn y babell drwy'r amser.
Exod WelBeibl 33:12  Dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Ti wedi bod yn dweud wrtho i, ‘Tyrd â'r bobl yma allan,’ ond ti ddim wedi gadael i mi wybod pwy fydd yn mynd hefo fi. Rwyt ti hefyd wedi dweud, ‘Dw i wedi dy ddewis di, ac wedi bod yn garedig atat ti.’
Exod WelBeibl 33:13  Os ydy hynny'n wir, dangos i mi beth rwyt ti am ei wneud, i mi ddeall yn well a dal ati i dy blesio di. A cofia mai dy bobl di ydy'r rhain.”
Exod WelBeibl 33:14  Atebodd yr ARGLWYDD e, “Bydda i fy hun yn mynd, ac yn gwneud yn siŵr y byddi di'n iawn.”
Exod WelBeibl 33:15  A dyma Moses yn dweud, “Wnawn ni ddim symud cam os na ddoi di gyda ni.
Exod WelBeibl 33:16  Sut arall mae pobl yn mynd i wybod mor garedig rwyt ti wedi bod ata i a dy bobl? Sut arall maen nhw i wybod ein bod ni'n sbesial ac yn wahanol i bawb arall drwy'r byd i gyd?”
Exod WelBeibl 33:17  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Iawn, bydda i'n gwneud beth rwyt ti'n ei ofyn. Ti wedi fy mhlesio i, a dw i wedi dy ddewis di.”
Exod WelBeibl 33:19  A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Dw i am adael i ti gael cipolwg bach o mor dda ydw i. A dw i'n mynd i gyhoeddi fy enw, ‛yr ARGLWYDD‛ o dy flaen di. Fi sy'n dewis pwy i drugarhau wrthyn nhw, a phwy dw i'n mynd i dosturio wrthyn nhw.
Exod WelBeibl 33:20  Ond gei di ddim gweld fy wyneb i. Does neb yn edrych arna i ac yn byw wedyn.”
Exod WelBeibl 33:21  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Edrych, mae yna le i ti sefyll ar y graig yn y fan yma.
Exod WelBeibl 33:22  Pan fydd fy ysblander i'n mynd heibio, bydda i'n dy guddio di mewn hollt yn y graig, a rhoi fy llaw drosot ti wrth i mi fynd heibio.
Exod WelBeibl 33:23  Wedyn bydda i'n cymryd fy llaw i ffwrdd, a gadael i ti edrych ar fy nghefn i. Does neb yn cael gweld fy wyneb i.”
Chapter 34
Exod WelBeibl 34:1  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Cerfia ddwy lechen garreg fel y rhai cyntaf. Gwna i ysgrifennu arnyn nhw beth oedd ar y llechi wnest ti eu malu.
Exod WelBeibl 34:2  Bydd barod i ddringo mynydd Sinai yn y bore, a sefyll yno ar ben y mynydd i'm cyfarfod i.
Exod WelBeibl 34:3  Does neb arall i ddod gyda ti. Does neb arall i ddod yn agos i'r mynydd. Paid hyd yn oed gadael i'r defaid a'r geifr a'r gwartheg bori o flaen y mynydd.”
Exod WelBeibl 34:4  Felly dyma Moses yn cerfio dwy lechen garreg fel y rhai cyntaf. Yna'n gynnar y bore wedyn aeth i fyny i ben Mynydd Sinai, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Aeth â'r ddwy lechen gydag e.
Exod WelBeibl 34:5  A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr yn y cwmwl, yn sefyll yna gydag e, a chyhoeddi mai ei enw ydy yr ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 34:6  Dyma'r ARGLWYDD yn pasio heibio o'i flaen a chyhoeddi, “Yr ARGLWYDD! Yr ARGLWYDD! Mae'n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a'i haelioni a'i ffyddlondeb yn anhygoel!
Exod WelBeibl 34:7  Mae'n dangos cariad di-droi'n-ôl am fil o genedlaethau, ac yn maddau beiau, gwrthryfel a phechod. Ond dydy e ddim yn gadael i'r euog fynd heb ei gosbi. Bydd yn ymateb i bechodau'r tadau sy'n gadael eu hôl ar eu plant a'u plant hwythau – am dair neu bedair cenhedlaeth.”
Exod WelBeibl 34:8  Ac ar unwaith dyma Moses yn ymgrymu yn isel i addoli,
Exod WelBeibl 34:9  a dweud, “Meistr, os ydw i wedi dy blesio di, wnei di, Meistr, fynd gyda ni? Mae'r bobl yma'n ystyfnig, ond plîs wnei di faddau ein beiau a'n pechod ni, a'n derbyn ni yn bobl arbennig i ti dy hun?”
Exod WelBeibl 34:10  Atebodd Duw, “Iawn. Dw i'n gwneud ymrwymiad. Dw i'n mynd i wneud pethau rhyfeddol does neb yn unman wedi'u dychmygu o'r blaen. Bydd y bobl rwyt ti'n byw yn eu canol nhw yn gweld beth mae'r ARGLWYDD yn ei wneud. Dw i'n gwneud rhywbeth anhygoel gyda ti.
Exod WelBeibl 34:11  Gwna'n siŵr dy fod ti'n gwneud beth dw i'n ddweud wrthot ti heddiw. Dw i'n mynd i yrru allan o'ch blaen chi yr Amoriaid, Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid.
Exod WelBeibl 34:12  Gwyliwch chi eich bod chi ddim yn gwneud cytundeb gwleidyddol gyda'r bobl hynny sy'n byw yn y wlad lle dych chi'n mynd, rhag iddyn nhw'ch baglu chi.
Exod WelBeibl 34:13  Dw i eisiau i chi ddinistrio'u hallorau, malu'r colofnau cysegredig, a thorri polion y dduwies Ashera i lawr.
Exod WelBeibl 34:14  Peidiwch plygu i addoli unrhyw dduw arall. Mae'r ARGLWYDD yn Dduw eiddigeddus – Eiddigedd ydy ei enw e.
Exod WelBeibl 34:15  Gwyliwch eich bod chi ddim yn gwneud cytundeb gwleidyddol gyda'r bobl sy'n byw yn y wlad. Y peryg wedyn ydy y byddwch chi'n derbyn gwahoddiad i fwyta gyda nhw pan fyddan nhw'n addoli ac yn aberthu i'w duwiau.
Exod WelBeibl 34:16  Byddwch chi'n gadael i'ch meibion briodi eu merched nhw. Bydd y rheiny yn addoli eu duwiau, ac yn cael eich meibion chi i fod yn anffyddlon i mi a gwneud yr un fath!
Exod WelBeibl 34:18  Rhaid i chi gadw Gŵyl y Bara Croyw. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo, fel gwnes i orchymyn i chi. Mae hyn i ddigwydd ar yr amser iawn ym mis Abib, am mai dyna pryd ddaethoch chi allan o'r Aifft.
Exod WelBeibl 34:19  Mae mab cyntaf pob gwraig, a phob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, yn perthyn i mi – o'r gwartheg, defaid a geifr.
Exod WelBeibl 34:20  Mae'r asyn bach cyntaf i gael ei eni i gael ei brynu yn ôl gydag oen. Os nad ydy e'n cael ei brynu, rhaid ei ladd drwy dorri ei wddf. Rhaid i fab cyntaf pob gwraig gael ei brynu'n ôl. A does neb i ddod ata i heb rywbeth i'w offrymu.
Exod WelBeibl 34:21  Cewch weithio am chwe diwrnod, ond rhaid i chi orffwys ar y seithfed. Rhaid i chi orffwys hyd yn oed os ydy hi'n amser i aredig neu i gasglu'r cnydau.
Exod WelBeibl 34:22  Rhaid i chi gadw Gŵyl y Cynhaeaf – gyda ffrwyth cyntaf y cynhaeaf gwenith – a Gŵyl Casglu'r Cynhaeaf ar ddiwedd y flwyddyn.
Exod WelBeibl 34:23  Felly, dair gwaith bob blwyddyn mae'r dynion i gyd i ddod o flaen y Meistr, yr ARGLWYDD, sef Duw Israel.
Exod WelBeibl 34:24  Dw i'n mynd i yrru allan bobloedd o dy flaen di a rhoi mwy eto o dir i ti. Ac os byddi di'n ymddangos o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw dair gwaith bob blwyddyn, fydd neb yn dod ac yn ceisio dwyn dy dir oddi arnat ti.
Exod WelBeibl 34:25  Rhaid peidio offrymu gwaed anifail sydd wedi'i aberthu gyda bara sydd â burum ynddo. A does dim o aberth Gŵyl y Pasg i fod wedi'i adael ar ôl tan y bore wedyn.
Exod WelBeibl 34:26  Tyrd â ffrwyth cyntaf gorau dy dir i deml yr ARGLWYDD dy Dduw. Paid berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.”
Exod WelBeibl 34:27  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Ysgrifenna hyn i gyd i lawr. Dyma amodau'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda ti a phobl Israel.”
Exod WelBeibl 34:28  Roedd Moses yno gyda Duw am bedwar deg diwrnod, ddydd a nos. Wnaeth e ddim bwyta nac yfed o gwbl. A dyma fe'n ysgrifennu amodau'r ymrwymiad ar y llechi – sef y Deg Gorchymyn.
Exod WelBeibl 34:29  Pan ddaeth Moses i lawr o ben Mynydd Sinai gyda dwy lechen y dystiolaeth yn ei law, doedd e ddim yn sylweddoli fod ei wyneb wedi bod yn disgleirio wrth i'r ARGLWYDD siarad ag e.
Exod WelBeibl 34:30  Pan welodd Aaron a phobl Israel Moses yn dod, roedd ei wyneb yn dal i ddisgleirio, ac roedd ganddyn nhw ofn mynd yn agos ato.
Exod WelBeibl 34:31  Ond dyma Moses yn galw arnyn nhw, a dyma Aaron a'r arweinwyr eraill yn dod yn ôl i siarad ag e.
Exod WelBeibl 34:32  Wedyn dyma'r bobl i gyd yn dod draw ato, a dyma Moses yn dweud wrthyn nhw beth oedd y gorchmynion roedd Duw wedi'i rhoi iddo ar Fynydd Sinai.
Exod WelBeibl 34:33  Pan oedd Moses wedi gorffen siarad â nhw, dyma fe'n rhoi gorchudd dros ei wyneb.
Exod WelBeibl 34:34  Ond pan fyddai'n mynd i mewn i siarad â'r ARGLWYDD, byddai'n tynnu'r gorchudd i ffwrdd nes byddai'n dod allan eto. Wedyn byddai'n dweud wrth bobl Israel beth roedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn iddo,
Exod WelBeibl 34:35  a byddai pobl Israel yn gweld wyneb Moses yn disgleirio. Yna byddai'n rhoi'r gorchudd yn ôl dros ei wyneb nes byddai'n mynd yn ôl i siarad â'r ARGLWYDD eto.
Chapter 35
Exod WelBeibl 35:1  Dyma Moses yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd, a dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD wedi'i orchymyn i chi ei wneud:
Exod WelBeibl 35:2  “Mae yna chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae'r seithfed diwrnod yn sbesial, yn ddiwrnod cysegredig, yn Saboth i'r ARGLWYDD – diwrnod i chi orffwys. Os ydy rhywun yn gweithio ar y Saboth, y gosb ydy marwolaeth.
Exod WelBeibl 35:3  Peidiwch hyd yn oed cynnau tân yn eich cartrefi ar y Saboth!”
Exod WelBeibl 35:4  Wedyn dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel i gyd, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn.
Exod WelBeibl 35:5  ‘Dylai pawb sy'n awyddus i gyfrannu ddod â rhoddion i'r ARGLWYDD: aur, arian, pres,
Exod WelBeibl 35:6  edau las, porffor a coch, lliain main drud, blew gafr,
Exod WelBeibl 35:7  crwyn hyrddod wedi'u llifo'n goch, crwyn môr-fuchod, coed acasia,
Exod WelBeibl 35:8  olew i'r lampau, perlysiau i wneud yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus,
Exod WelBeibl 35:9  onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fydd yn mynd dros y frest.
Exod WelBeibl 35:10  Mae'r crefftwyr yn eich plith chi i ddod a gwneud popeth mae'r ARGLWYDD wedi'i orchymyn:
Exod WelBeibl 35:11  Y Tabernacl, gyda'r babell a'i gorchudd, y bachau, y fframiau, y trawstiau, y polion a'r socedi.
Exod WelBeibl 35:12  Yr Arch a'i pholion, y caead drosti, a'r sgrîn sy'n ei chuddio.
Exod WelBeibl 35:13  Y bwrdd, gyda'i bolion a'i lestri, i osod y bara cysegredig arno.
Exod WelBeibl 35:14  Y menora sy'n rhoi golau, gyda'i hoffer i gyd, y lampau a'r olew.
Exod WelBeibl 35:15  Allor yr arogldarth gyda'i pholion, yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus. Y sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r Tabernacl.
Exod WelBeibl 35:16  Yr allor ar gyfer yr offrymau sydd i'w llosgi, y gratin bres sydd arni, y polion, a'r holl offer sy'n mynd gyda hi. Y ddysgl fawr gyda'i stand.
Exod WelBeibl 35:17  Llenni'r iard, y polion a'r socedi, a'r sgrîn sydd o flaen y fynedfa i'r iard.
Exod WelBeibl 35:19  Hefyd gwisgoedd y rhai fydd yn gwasanaethu yn yr addoliad yn y lle sanctaidd (i gyd wedi'u brodio'n hardd), gwisgoedd cysegredig Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion fydd hefyd yn gwasanaethu fel offeiriaid.’”
Exod WelBeibl 35:21  Ond daeth rhai, oedd wedi'u sbarduno, ac yn awyddus i gyfrannu, yn ôl a chyflwyno eu rhoddion i'r ARGLWYDD – rhoddion tuag at godi pabell presenoldeb Duw, cynnal y gwasanaeth ynddi, a tuag at y gwisgoedd cysegredig.
Exod WelBeibl 35:22  Dyma pawb oedd yn awyddus i roi yn dod – dynion a merched. A dyma nhw'n cyfrannu tlysau aur o bob math – broetshis, clustdlysau, modrwyau a breichledau. Roedd pawb yn dod ac yn cyflwyno'r aur yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
Exod WelBeibl 35:23  Roedd eraill yn dod ag edau las, porffor neu goch, lliain main drud, blew gafr, crwyn hyrddod wedi'u llifo'n goch, neu grwyn môr-fuchod.
Exod WelBeibl 35:24  Roedd pawb oedd eisiau rhoi arian neu bres yn ei gyflwyno yn offrwm i'r ARGLWYDD. Roedd eraill yn dod ag unrhyw goed acasia oedd ganddyn nhw.
Exod WelBeibl 35:25  Roedd y gwragedd oedd â dawn nyddu yn dod â'r defnydd roedden nhw wedi'i wneud – edau las, porffor neu goch, neu liain main drud.
Exod WelBeibl 35:26  Roedd gwragedd eraill wedi'u hysgogi i fynd ati i nyddu defnydd wedi'i wneud o flew gafr.
Exod WelBeibl 35:27  Dyma'r arweinwyr yn rhoi cerrig onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fyddai'n mynd dros y frest.
Exod WelBeibl 35:28  Hefyd perlysiau ac olew olewydd ar gyfer y lampau, yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus.
Exod WelBeibl 35:29  Felly, daeth pobl Israel ag offrymau gwirfoddol i'r ARGLWYDD – dynion a merched oedd yn awyddus i helpu i wneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddyn nhw ei wneud drwy Moses.
Exod WelBeibl 35:30  Dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel, “Mae'r ARGLWYDD wedi dewis Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda.
Exod WelBeibl 35:31  Mae wedi'i lenwi gydag Ysbryd Duw, sy'n rhoi dawn, deall a gallu iddo, i greu pob math o waith cywrain,
Exod WelBeibl 35:32  a gwneud pethau hardd allan o aur, arian a phres.
Exod WelBeibl 35:33  I dorri a gosod gemwaith, i gerfio coed ac i wneud pob math o waith artistig.
Exod WelBeibl 35:34  Mae Duw wedi rhoi'r ddawn iddo fe, ac i Oholiab fab Achisamach o lwyth Dan, i ddysgu eu crefft i eraill.
Exod WelBeibl 35:35  Mae Duw wedi rhoi'r doniau i'r rhai hynny i weithio fel crefftwyr ac artistiaid, i frodio lliain main gydag edau las, porffor a coch, ac i wneud gwaith gwehydd – pob un yn feistri yn eu crefft ac yn artistiaid.
Chapter 36
Exod WelBeibl 36:1  “Felly mae Betsalel, Oholiab a'r crefftwyr eraill, sef y rhai mae Duw wedi'u donio i wneud y gwaith o godi'r cysegr, i wneud popeth yn union fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud.”
Exod WelBeibl 36:2  Dyma Moses yn galw Betsalel ac Oholiab ato, a'r crefftwyr eraill roedd yr ARGLWYDD wedi'u donio – pob un oedd wedi'i sbarduno i wirfoddoli i helpu.
Exod WelBeibl 36:3  A dyma Moses yn rhoi iddyn nhw yr holl roddion roedd pobl Israel wedi'u hoffrymu i'r gwaith o godi'r cysegr. Ond roedd y bobl yn dod â mwy roddion gwirfoddol iddo bob bore.
Exod WelBeibl 36:4  Felly dyma'r crefftwyr oedd yn gweithio ar y cysegr yn gadael eu gwaith,
Exod WelBeibl 36:5  a dweud wrth Moses, “Mae'r bobl wedi dod â mwy na digon i orffen y gwaith mae'r ARGLWYDD wedi gofyn i ni ei wneud!”
Exod WelBeibl 36:6  Felly dyma Moses yn anfon neges allan drwy'r gwersyll, “Does dim angen mwy o bethau i'w cyflwyno'n rhoddion tuag at adeiladu'r cysegr!” Roedd rhaid stopio'r bobl rhag dod â mwy!
Exod WelBeibl 36:7  Roedd mwy na digon o bethau ganddyn nhw i wneud y gwaith i gyd.
Exod WelBeibl 36:8  Dyma'r crefftwyr i gyd yn gwneud y Tabernacl o ddeg llen o'r lliain main gorau, gyda lluniau o gerwbiaid wedi'u dylunio'n gelfydd arnyn nhw, a'u brodio gydag edau las, porffor a coch.
Exod WelBeibl 36:9  Roedd pob llen yn un deg dau metr o hyd, a dau fetr o led – i gyd yr un faint.
Exod WelBeibl 36:10  Yna dyma bump o'r llenni yn cael eu gwnïo at ei gilydd, a'r pump arall yr un fath.
Exod WelBeibl 36:11  Wedyn gwneud dolenni o edau las ar hyd ymyl llen olaf pob set –
Exod WelBeibl 36:12  hanner cant o ddolenni ar bob un, fel eu bod gyferbyn â'i gilydd.
Exod WelBeibl 36:13  Wedyn gwneud hanner can bachyn aur i ddal y llenni at ei gilydd, fel bod y cwbl yn un darn.
Exod WelBeibl 36:14  Wedyn gwneud llenni o flew gafr i fod fel pabell dros y Tabernacl – un deg un ohonyn nhw.
Exod WelBeibl 36:15  Roedd pob llen yn un deg pump metr o hyd, a dau fetr o led – i gyd yr un faint.
Exod WelBeibl 36:16  Yna gwnïo pump o'r llenni at ei gilydd, a gwnïo'r chwech arall at ei gilydd hefyd.
Exod WelBeibl 36:17  Yna gwneud hanner can dolen ar hyd ymyl llen olaf pob set,
Exod WelBeibl 36:18  a hanner can bachyn i ddal y llenni at ei gilydd, a gwneud y cwbl yn un darn.
Exod WelBeibl 36:19  Wedyn gwneud gorchudd dros y babell wedi'i wneud o grwyn hyrddod wedi'u llifo'n goch. Ac wedyn gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw.
Exod WelBeibl 36:20  Yna cafodd fframiau'r Tabernacl eu gwneud allan o goed acasia, pob un yn sefyll yn unionsyth.
Exod WelBeibl 36:21  Roedd pob un yn bedwar metr o hyd, a 66 centimetr o led,
Exod WelBeibl 36:22  gyda dau denon ar bob un i'w cysylltu â'i gilydd. Roedd y fframiau i gyd wedi'u gwneud yr un fath.
Exod WelBeibl 36:23  Roedd dau ddeg ffrâm ar ochr ddeheuol y Tabernacl,
Exod WelBeibl 36:24  a phedwar deg soced arian i ddal y fframiau – dwy soced i'r ddau denon ar bob ffrâm.
Exod WelBeibl 36:25  Wedyn dau ddeg ffrâm ar ochr arall y Tabernacl, sef yr ochr ogleddol,
Exod WelBeibl 36:26  gyda phedwar deg soced i'w dal nhw – dwy soced dan bob ffrâm.
Exod WelBeibl 36:27  Yna chwe ffrâm i gefn y Tabernacl, sef y pen gorllewinol,
Exod WelBeibl 36:29  Yn y corneli roedd y ddau ffrâm yn ffitio gyda'i gilydd ar y gwaelod, ac yn cael eu dal gyda'i gilydd gan gylch ar y top. Roedd y ddwy gornel yr un fath.
Exod WelBeibl 36:30  Felly roedd wyth ffrâm gydag un deg chwech o socedi arian – dwy soced dan bob ffrâm.
Exod WelBeibl 36:31  Wedyn gwneud croesfarrau o goed acasia – pump i'r fframiau bob ochr i'r Tabernacl, a phump i fframiau cefn y Tabernacl sy'n wynebu'r gorllewin.
Exod WelBeibl 36:32  Wedyn gwneud croesfarrau o goed acasia – pump i'r fframiau bob ochr i'r Tabernacl, a phump i fframiau cefn y Tabernacl sy'n wynebu'r gorllewin.
Exod WelBeibl 36:33  Roedd y croesfar ar ganol y fframiau yn ymestyn o un pen i'r llall.
Exod WelBeibl 36:34  Yna gorchuddio'r fframiau gyda haen o aur, a gwneud cylchoedd o aur i ddal y croesfarrau, a gorchuddio'r croesfarrau gydag aur hefyd.
Exod WelBeibl 36:35  Wedyn gwneud llen arbennig o'r lliain main gorau, gyda lluniau o gerwbiaid wedi'u dylunio'n gelfydd arni, a'u brodio gydag edau las, porffor a coch.
Exod WelBeibl 36:36  A gwneud pedwar polyn o goed acasia, wedi'u gorchuddio gydag aur, bachau aur i hongian y llen, a phedwar o socedi arian i osod y polion ynddyn nhw.
Exod WelBeibl 36:37  Yna gwneud sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r babell. Hon eto wedi'i gwneud o'r lliain main gorau, ac wedi'i brodio gydag edau las, porffor a coch.
Exod WelBeibl 36:38  Yna gwneud pump polyn o goed acasia gyda bachau aur. Gorchuddio top y polion gydag aur, a gwneud socedi o bres iddyn nhw.
Chapter 37
Exod WelBeibl 37:1  Yna dyma Betsalel yn gwneud yr Arch allan o goed acasia. Roedd hi'n 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder.
Exod WelBeibl 37:2  Gorchuddiodd hi gyda haen o aur pur (y tu mewn a'r tu allan), a gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno.
Exod WelBeibl 37:3  Yna gwneud pedwar cylch aur, a'u gosod nhw ar draed y gist, dau bob ochr.
Exod WelBeibl 37:4  Yna gwneud polion o goed acasia wedi'u gorchuddio gydag aur,
Exod WelBeibl 37:5  a rhoi'r polion drwy'r cylchoedd bob ochr i'r Arch, i'w defnyddio i'w chario hi.
Exod WelBeibl 37:6  Wedyn dyma fe'n gwneud caead o aur pur i'r Arch – 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led.
Exod WelBeibl 37:7  Yna gwneud dau gerwb o aur wedi'i guro (gwaith morthwyl) – un bob pen i'r caead,
Exod WelBeibl 37:9  Roedd adenydd y cerwbiaid ar led ac yn cysgodi caead yr Arch. Roedd y cerwbiaid yn wynebu'i gilydd ac yn edrych i lawr ar y caead.
Exod WelBeibl 37:10  Wedyn dyma fe'n gwneud y bwrdd o goed acasia – 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder.
Exod WelBeibl 37:11  Gorchuddiodd e gydag aur pur, a gosod border aur o'i gwmpas i'w addurno.
Exod WelBeibl 37:12  Yna gwneud croeslath 75 milimetr o drwch o'i gwmpas – hwnnw hefyd wedi'i addurno yr un fath â'r border.
Exod WelBeibl 37:13  Yna gwnaeth bedwar cylch aur, a'u gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae'r coesau,
Exod WelBeibl 37:14  wrth ymyl y croeslath. Roedd y cylchoedd ar gyfer rhoi'r polion drwyddyn nhw i gario'r bwrdd.
Exod WelBeibl 37:15  Yna gwnaeth y polion o goed acasia a'u gorchuddio nhw gydag aur.
Exod WelBeibl 37:16  Yna gwnaeth y llestri oedd ar y bwrdd allan o aur pur – y platiau, pedyll, jygiau a phowlenni, i dywallt yr offrymau o ddiod.
Exod WelBeibl 37:17  Yna dyma fe'n gwneud y menora (sef y stand i ddal y lampau) allan o aur pur – gwaith morthwyl, sef aur wedi'i guro. Mae'r cwbl i fod yn un darn – y droed, y goes, a'r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw.
Exod WelBeibl 37:18  Roedd chwe cangen yn ymestyn allan o ochrau'r menora, tair bob ochr.
Exod WelBeibl 37:19  Roedd tair cwpan siâp blodyn almon ar bob cangen – pob blodyn gyda calycs a phetalau.
Exod WelBeibl 37:20  Ac ar brif goes y menora, roedd pedair cwpan siâp blodyn almon gyda calycs a petalau.
Exod WelBeibl 37:21  Un dan y pâr cyntaf o ganghennau, un dan yr ail, ac un dan y trydydd.
Exod WelBeibl 37:22  Roedd y cwbl wedi'i wneud o un darn o aur pur wedi'i guro – gwaith morthwyl.
Exod WelBeibl 37:23  Yna gwnaeth ei saith lamp, ei gefeiliau a'i phadellau o aur pur.
Exod WelBeibl 37:24  Defnyddiodd 35 cilogram o aur pur i wneud y menora a'r offer oedd gyda hi i gyd.
Exod WelBeibl 37:25  Yna dyma fe'n gwneud yr allor i losgi arogldarth. Gwnaeth hi o goed acasia, yn 45 centimetr sgwâr ac yn 90 centimetr o uchder. Roedd y cyrn arni yn un darn gyda'r allor ei hun.
Exod WelBeibl 37:26  Yna gorchuddiodd hi i gyd gyda haen o aur pur – y top, yr ochrau a'r cyrn. A gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno.
Exod WelBeibl 37:27  Rhoddodd ddau gylch aur ar y ddwy ochr iddi, gyferbyn â'i gilydd o dan y border, i roi'r polion drwyddyn nhw i gario'r allor.
Exod WelBeibl 37:28  Yna gwnaeth y polion o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gydag aur.
Exod WelBeibl 37:29  Wedyn gwnaeth yr olew eneinio cysegredig a'r arogldarth persawrus, cymysgedd gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr.
Chapter 38
Exod WelBeibl 38:1  Yna dyma fe'n gwneud yr allor i losgi'r aberthau. Gwnaeth hi o goed acasia, yn ddau pwynt dau metr sgwâr, ac yn un pwynt tri metr o uchder.
Exod WelBeibl 38:2  Gwnaeth gyrn ar bedair cornel yr allor, yn un darn gyda'r allor ei hun. Yna ei gorchuddio gyda phres.
Exod WelBeibl 38:3  Pres ddefnyddiodd i wneud yr offer i gyd hefyd – y bwcedi lludw, rhawiau, powlenni taenellu, ffyrc, a'r padellau tân.
Exod WelBeibl 38:4  Yna gwnaeth y gratin, sef rhwyll wifrog o bres o dan silff yr allor, hanner ffordd i lawr.
Exod WelBeibl 38:5  A gwnaeth bedwar cylch i'w gosod ar bedair cornel y gratin, i roi'r polion drwyddyn nhw.
Exod WelBeibl 38:6  Yna gwnaeth y polion allan o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gyda phres.
Exod WelBeibl 38:7  Yna gwthiodd y polion drwy'r cylchoedd bob ochr i'r allor, i'w chario hi. Roedd yr allor yn wag y tu mewn, wedi'i gwneud gyda planciau o bren.
Exod WelBeibl 38:8  Yna gwnaeth y ddysgl fawr bres a'i stand bres allan o ddrychau y gwragedd oedd yn gwasanaethu wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw.
Exod WelBeibl 38:9  Yna gwnaeth yr iard. Roedd yr ochr ddeheuol yn bedwar deg pedwar metr o hyd, a'r llenni wedi'u gwneud o'r lliain main gorau.
Exod WelBeibl 38:10  Roedd yna ddau ddeg postyn yn sefyll mewn dau ddeg o socedi pres, a bachau ar ffyn arian i ddal y llenni.
Exod WelBeibl 38:12  Ar ochr y gorllewin, dau ddeg dau metr o lenni, gyda deg postyn yn sefyll mewn deg o socedi pres, gyda'r bachau a'r ffyn arian.
Exod WelBeibl 38:13  Ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres, bob ochr i'r giât.
Exod WelBeibl 38:14  Ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres, bob ochr i'r giât.
Exod WelBeibl 38:15  Ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres, bob ochr i'r giât.
Exod WelBeibl 38:16  Roedd y llenni o gwmpas yr iard i gyd wedi'u gwneud o'r lliain main gorau.
Exod WelBeibl 38:17  Y socedi yn bres. Y bachau a'r ffyn yn arian. Top y polion wedi'u gorchuddio gydag arian, a rhimyn o arian yn rhedeg o gwmpas y polion.
Exod WelBeibl 38:18  Roedd y sgrîn o flaen y fynedfa yn naw metr o hyd – llenni wedi'u gwneud o'r lliain main gorau ac wedi'u brodio gydag edau las, porffor a coch. Fel llenni'r iard ei hun, roedden nhw'n ddau pwynt dau metr o uchder,
Exod WelBeibl 38:19  ac yn cael eu dal ar bedwar polyn mewn pedwar soced bres. Roedd y bachau a'r ffyn yn arian, ac roedd top y polion wedi'u gorchuddio gydag arian.
Exod WelBeibl 38:20  Roedd pegiau y Tabernacl a'r iard o'i gwmpas wedi'u gwneud o bres.
Exod WelBeibl 38:21  Dyma restr lawn o'r hyn gafodd ei ddefnyddio i wneud Tabernacl y Dystiolaeth. Moses oedd wedi gorchymyn cofnodi'r cwbl; a'r Lefiaid, dan arweiniad Ithamar, mab Aaron yr offeiriad, wnaeth y gwaith.
Exod WelBeibl 38:22  Gwnaeth Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda, bopeth yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Exod WelBeibl 38:23  Ac roedd Oholiab fab Achisamach o lwyth Dan yn ei helpu. Roedd Oholiab yn grefftwr, yn ddyluniwr, ac yn brodio lliain main gydag edau las, porffor a coch.
Exod WelBeibl 38:24  Aur: 1,000 cilogram – dyma'r holl aur gafodd ei ddefnyddio i wneud popeth yn y cysegr (Yr aur oedd wedi'i gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD)
Exod WelBeibl 38:25  Arian: bron 3,500 cilogram – dyma'r arian gafodd ei gyfrannu gan y bobl.
Exod WelBeibl 38:26  Roedd hyn yn hanner sicl (bron yn chwe gram o arian) gan bawb dros ugain oed gafodd ei gyfrif – sef 603,550 o ddynion.
Exod WelBeibl 38:27  Cafodd 3,300 cilogram o'r arian ei ddefnyddio i wneud y socedi i bolion y cysegr, a'r socedi i'r llen arbennig – cant o socedi yn dri deg tri cilogram yr un.
Exod WelBeibl 38:28  Yna defnyddiodd y gweddill o'r arian i wneud y ffyn a'r bachau i ddal y llenni, ac i orchuddio top y polion.
Exod WelBeibl 38:29  Pres: bron 2,500 cilogram – (sef y pres gafodd ei gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD)
Exod WelBeibl 38:30  Cafodd hwn ei ddefnyddio i wneud socedi i'r fynedfa i babell presenoldeb Duw, yr allor bres, y gratin iddi, offer yr allor i gyd,
Exod WelBeibl 38:31  y socedi o gwmpas yr iard, a'r socedi i'r fynedfa i'r iard, a hefyd pegiau y Tabernacl a'r iard o'i gwmpas.
Chapter 39
Exod WelBeibl 39:1  Dyma nhw'n gwneud gwisgoedd i'r rhai fyddai'n gwasanaethu yn y cysegr – gwisgoedd wedi'u brodio'n hardd gydag edau las, porffor a coch. Gwisgoedd cysegredig i Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Exod WelBeibl 39:2  Roedd yr effod wedi'i gwneud o'r lliain main gorau, wedi'i frodio gydag aur, glas, porffor a coch.
Exod WelBeibl 39:3  Dyma'r crefftwyr yn gwneud dalen denau, denau o aur a'i thorri yn stribedi main a'u gwnïo i'r patrwm gyda'r edau las, porffor a coch; y cwbl wedi'i ddylunio'n gelfydd.
Exod WelBeibl 39:4  Dyma nhw'n gwneud dau strap i fynd dros yr ysgwyddau, wedi'u cysylltu i'r corneli, i'w dal gyda'i gilydd.
Exod WelBeibl 39:5  Ac roedd strap cywrain wedi'i blethu i fod yn un darn gyda'r effod. Roedd wedi'i wneud o'r lliain main gorau, ac wedi'i frodio gydag aur, ac edau las, porffor a coch, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Exod WelBeibl 39:6  Yna dyma nhw'n gosod y cerrig onics mewn gwaith ffiligri o aur, a chrafu enwau meibion Israel arnyn nhw, yr un fath ag mae sêl yn cael ei gwneud.
Exod WelBeibl 39:7  Yna eu rhoi nhw ar strapiau ysgwydd yr effod, fel cerrig coffa i bobl Israel, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Exod WelBeibl 39:8  Wedyn dyma nhw'n gwneud y darn sy'n mynd dros y frest, wedi'i gynllunio'n gelfydd gan artist. Ei wneud yr un fath â'r effod – allan o liain main wedi'i frodio gydag aur, ac edau las, porffor a coch.
Exod WelBeibl 39:9  Roedd wedi'i blygu drosodd i wneud poced 22 centimetr sgwâr.
Exod WelBeibl 39:10  Yna gosod pedair rhes o gerrig arno: y rhes gyntaf yn rhuddem, topas a beryl;
Exod WelBeibl 39:13  a'r bedwaredd yn saffir melyn, onics a iasbis – pob un wedi'i gosod mewn gwaith ffiligri o aur.
Exod WelBeibl 39:14  Roedd pob carreg yn cynrychioli un o feibion Israel – un deg dau enw wedi'u crafu arnyn nhw, yr un fath ag mae sêl yn cael ei gwneud.
Exod WelBeibl 39:15  A dyma nhw'n gwneud cadwyni o aur pur wedi'u plethu i'w gosod ar y darn sy'n mynd dros y frest.
Exod WelBeibl 39:16  Yna gwneud dau ffiligri o aur a dwy ddolen aur, a chysylltu'r dolenni i ddwy gornel uchaf y darn sy'n mynd dros y frest.
Exod WelBeibl 39:17  Wedyn cysylltu'r ddwy gadwyn aur i'r dolenni hynny,
Exod WelBeibl 39:18  a chysylltu pen arall y cadwyni i'r ddau ffiligri, a rhoi'r rheiny ar strapiau ysgwydd yr effod, ar y tu blaen.
Exod WelBeibl 39:19  Wedyn gwneud dwy ddolen aur arall a'u cysylltu nhw i gorneli isaf y darn sy'n mynd dros y frest, ar yr ymyl fewnol agosaf at yr effod.
Exod WelBeibl 39:20  Yna gwneud dwy ddolen aur arall eto, a'u rhoi nhw ar waelod strapiau ysgwydd yr effod wrth ymyl y gwnïad sydd uwchben strap yr effod.
Exod WelBeibl 39:21  Wedyn clymu dolenni'r darn dros y frest i ddolenni'r effod gydag edau las, i'w gadw uwchben strap yr effod, yn lle ei fod yn hongian yn rhydd. Roedd hyn i gyd yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Exod WelBeibl 39:22  Gwnaeth gwehydd y fantell sy'n mynd gyda'r effod i gyd yn las.
Exod WelBeibl 39:23  Roedd lle i'r pen fynd drwyddo yn y canol, gyda hem o'i gwmpas, wedi'i bwytho fel coler i'w atal rhag rhwygo.
Exod WelBeibl 39:24  Wedyn roedd pomgranadau bach o gwmpas ymylon y fantell, wedi'u gwneud o edau las, porffor a coch, a lliain main.
Exod WelBeibl 39:25  Ac yna gwneud clychau o aur pur a'u gosod nhw rhwng y pomgranadau ar ymylon y fantell –
Exod WelBeibl 39:26  clychau a ffrwythau bob yn ail o gwmpas y fantell fyddai'n cael ei gwisgo i wasanaethu, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Exod WelBeibl 39:27  Wedyn dyma nhw'n gwneud crysau o liain main i Aaron a'i feibion.
Exod WelBeibl 39:28  Hefyd twrban a phenwisgoedd o liain main, a dillad isaf o'r lliain main gorau.
Exod WelBeibl 39:29  Ac roedd y sash i'w wneud o'r lliain main gorau hefyd, wedi'i frodio gydag edau las, porffor a coch, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Exod WelBeibl 39:30  Wedyn gwneud medaliwn o aur pur, y symbol ei fod wedi'i gysegru i waith Duw, a chrafu arno (fel ar sêl) y geiriau: ‛Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD‛.
Exod WelBeibl 39:31  Wedyn ei glymu ar du blaen y twrban gydag edau las, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Exod WelBeibl 39:32  Felly roedd yr holl waith ar y Tabernacl (sef pabell presenoldeb Duw) wedi'i orffen. Roedd pobl Israel wedi gwneud popeth yn union fel dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
Exod WelBeibl 39:33  Felly dyma nhw'n dod â'r Tabernacl at Moses, sef y babell ei hun a'r darnau eraill i gyd: y bachau, y fframiau, y trawstiau, y polion a'r socedi.
Exod WelBeibl 39:34  Y gorchudd o grwyn hyrddod wedi'u llifo'n goch, y gorchudd o grwyn môr-fuchod, a llen y sgrîn.
Exod WelBeibl 39:35  Yna Arch y dystiolaeth, y polion i'w chario, a'i chaead (sef Caead y Cymodi),
Exod WelBeibl 39:37  Y menora gyda'i lampau mewn trefn, yr offer oedd gyda hi, a'r olew i'w goleuo.
Exod WelBeibl 39:38  Yr Allor Aur, yr olew eneinio, yr arogldarth persawrus, y sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r babell.
Exod WelBeibl 39:39  Yr Allor Bres a'i grât o bres, y polion i'w chario, a'i hoffer i gyd. Y ddysgl fawr a'i stand.
Exod WelBeibl 39:40  Y llenni ar gyfer y wal o gwmpas yr iard, y polion i'w dal a'r socedi, y sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r iard, y rhaffau a'r pegiau, a'r holl offer oedd ei angen ar gyfer y gwaith yn y Tabernacl, sef pabell presenoldeb Duw.
Exod WelBeibl 39:41  Hefyd gwisgoedd y rhai fyddai'n gwasanaethu yn yr addoliad yn y lle sanctaidd (i gyd wedi'u brodio'n hardd), a gwisgoedd cysegredig Aaron yr offeiriad, a'i feibion fyddai hefyd yn gwasanaethu fel offeiriaid.
Exod WelBeibl 39:42  Roedd pobl Israel wedi gwneud y gwaith i gyd yn union fel dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
Exod WelBeibl 39:43  Yna dyma Moses yn archwilio'r cwbl, ac yn wir, roedd y cwbl wedi'i wneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. A dyma Moses yn eu bendithio nhw.
Chapter 40
Exod WelBeibl 40:2  “Ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn rwyt i godi'r Tabernacl – pabell presenoldeb Duw.
Exod WelBeibl 40:3  Rho Arch y dystiolaeth ynddi, gyda'r sgrîn o'i blaen yn cuddio'r Arch.
Exod WelBeibl 40:4  Yna dod â'r bwrdd i mewn, a gosod popeth mewn trefn arno. Wedyn y menora, a gosod ei lampau yn eu lle arni.
Exod WelBeibl 40:5  Rho'r allor aur (allor yr arogldarth) o flaen Arch y dystiolaeth, a sgrîn wrth y fynedfa i'r Tabernacl.
Exod WelBeibl 40:6  Yna gosod yr allor i losgi'r offrymau o flaen y fynedfa i'r Tabernacl, pabell presenoldeb Duw.
Exod WelBeibl 40:7  Rho'r ddysgl fawr rhwng pabell presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi â dŵr.
Exod WelBeibl 40:8  Yna gosod yr iard o'i chwmpas, a hongian llenni mynedfa'r iard.
Exod WelBeibl 40:9  “Wedyn cymer yr olew eneinio, a'i daenellu ar y Tabernacl a phopeth sydd ynddi, i'w cysegru a'u gwneud yn sanctaidd.
Exod WelBeibl 40:10  Eneinia'r allor i losgi'r offrymau a'i hoffer i gyd. Cysegra'r allor i'w gwneud hi'n gwbl sanctaidd.
Exod WelBeibl 40:11  Yna eneinia'r ddysgl fawr a'i stand, i'w chysegru hi.
Exod WelBeibl 40:12  “Wedyn rwyt i ddod ag Aaron a'i feibion at fynedfa pabell presenoldeb Duw a'u golchi nhw â dŵr.
Exod WelBeibl 40:13  Arwisga fe gyda'r gwisgoedd cysegredig, a'i eneinio a'i gysegru i wasanaethu fel offeiriad i mi.
Exod WelBeibl 40:15  a'u heneinio nhw fel gwnest ti eneinio eu tad, iddyn nhw wasanaethu fel offeiriaid i mi. Drwy eu heneinio ti'n rhoi'r cyfrifoldeb iddyn nhw o wasanaethu fel offeiriaid i mi ar hyd y cenedlaethau.”
Exod WelBeibl 40:16  Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
Exod WelBeibl 40:17  Cafodd y Tabernacl ei godi ar ddiwrnod cynta'r ail flwyddyn.
Exod WelBeibl 40:18  Dyma Moses yn ei godi drwy roi'r socedi yn eu lle, yna codi'r fframiau, cysylltu'r croesfarrau a rhoi'r polion yn eu lle.
Exod WelBeibl 40:19  Wedyn dyma fe'n lledu'r babell dros fframwaith y Tabernacl, a'r gorchudd dros hwnnw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Exod WelBeibl 40:20  Yna dyma fe'n gosod Llechi'r Dystiolaeth yn yr Arch, cysylltu'r polion iddi a rhoi'r caead arni.
Exod WelBeibl 40:21  Wedyn mynd â'r Arch i'r Tabernacl a gosod llen y sgrîn o'i blaen, i guddio Arch y Dystiolaeth, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Exod WelBeibl 40:22  Wedyn dyma fe'n gosod y bwrdd tu mewn i babell presenoldeb Duw, ar ochr ogleddol y Tabernacl, o flaen y sgrîn.
Exod WelBeibl 40:23  A gosod y bara mewn trefn ar y bwrdd, o flaen yr ARGLWYDD, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Exod WelBeibl 40:24  Wedyn gosod y menora tu mewn i babell presenoldeb Duw, gyferbyn â'r bwrdd ar ochr ddeheuol y Tabernacl.
Exod WelBeibl 40:25  Yna gosod y lampau yn eu lle arni, o flaen yr ARGLWYDD, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Exod WelBeibl 40:26  Wedyn rhoi'r allor aur (allor yr arogldarth) tu mewn i babell presenoldeb Duw, o flaen y sgrîn,
Exod WelBeibl 40:27  a llosgi arogldarth persawrus arni, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Exod WelBeibl 40:28  Wedyn gosod y sgrîn wrth y fynedfa i'r Tabernacl.
Exod WelBeibl 40:29  Rhoddodd yr allor i losgi'r offrymau o flaen y fynedfa i'r Tabernacl hefyd, sef pabell presenoldeb Duw. Yna cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau o rawn arni fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Exod WelBeibl 40:30  Wedyn gosod y ddysgl fawr rhwng pabell presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi hi â dŵr ar gyfer ymolchi.
Exod WelBeibl 40:31  Byddai Moses ac Aaron a'i feibion yn golchi eu dwylo a'u traed gyda'r dŵr ynddi.
Exod WelBeibl 40:32  Bydden nhw'n ymolchi bob tro roedden nhw'n mynd i mewn i babell presenoldeb Duw neu'n mynd at yr allor, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Exod WelBeibl 40:33  Wedyn dyma fe'n gosod yr iard o gwmpas y Tabernacl a'r allor, a rhoi'r sgrîn o flaen y fynedfa i'r iard. Felly dyma Moses yn gorffen y gwaith.
Exod WelBeibl 40:34  A dyma'r cwmwl yn dod i lawr dros babell presenoldeb Duw, ac roedd ysblander yr ARGLWYDD yn ei llenwi (sef y Tabernacl).
Exod WelBeibl 40:35  Doedd Moses ddim yn gallu mynd i mewn i'r babell o achos y cwmwl oedd wedi setlo arni, ac am fod ysblander yr ARGLWYDD yn ei llenwi.
Exod WelBeibl 40:36  Pan oedd y cwmwl yn codi oddi ar y Tabernacl, roedd pobl Israel yn mynd ymlaen ar eu taith.
Exod WelBeibl 40:37  Os nad oedd y cwmwl yn codi, doedden nhw ddim yn symud o'u lle.
Exod WelBeibl 40:38  Roedd cwmwl yr ARGLWYDD ar y Tabernacl yn ystod y dydd, ac roedd tân yn y cwmwl drwy'r nos. Roedd pobl Israel i gyd yn gallu ei weld, yr holl amser buon nhw'n teithio.