Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
Chapter 1
Isai WelBeibl 1:1  (Dyma welodd e am Jwda a Jerwsalem yn ystod y blynyddoedd pan oedd Wseia, Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd Jwda.)
Isai WelBeibl 1:2  Gwranda, nefoedd! Clyw, ddaear! Mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Dw i wedi magu plant a gofalu amdanyn nhw – ond maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i.
Isai WelBeibl 1:3  Mae ych yn nabod ei berchennog ac asyn yn gwybod lle mae cafn bwydo ei feistr: ond dydy Israel ddim yn fy nabod i; dydy fy mhobl i'n cymryd dim sylw!”
Isai WelBeibl 1:4  O! druan ohonot ti'r wlad sy'n pechu! Pobl sy'n llawn drygioni! Nythaid o rai sy'n gwneud drwg! Plant pwdr! Maen nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD a dirmygu Un Sanctaidd Israel; maen nhw wedi pellhau oddi wrtho.
Isai WelBeibl 1:5  Pam dych chi'n dal ati i wrthryfela? Ydych chi eisiau cael eich curo eto? Mae briwiau ar bob pen a'r corff yn hollol wan.
Isai WelBeibl 1:6  Does unman yn iach o'r corun i'r sawdl: dim ond clwyfau a chleisiau, a briwiau agored – heb eu gwella na'u rhwymo, a heb olew i'w hesmwytho.
Isai WelBeibl 1:7  Mae eich gwlad fel anialwch, a'ch dinasoedd wedi'u llosgi'n ulw. Mae dieithriaid yn bwyta eich cnydau o flaen eich llygaid – anialwch wedi'i ddinistrio gan estroniaid!
Isai WelBeibl 1:8  Dim ond Seion hardd sydd ar ôl – fel caban yng nghanol gwinllan, neu gwt mewn gardd lysiau; fel dinas yn cael ei gwarchae.
Isai WelBeibl 1:9  Oni bai fod yr ARGLWYDD hollbwerus wedi gadael i rai pobl fyw, bydden ni wedi'n dinistrio fel Sodom, neu wedi diflannu'n llwyr fel Gomorra.
Isai WelBeibl 1:10  Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, arweinwyr Sodom! Gwrandwch ar beth mae Duw'n ei ddysgu i chi, bobl Gomorra!
Isai WelBeibl 1:11  “Beth ydy pwynt eich holl aberthau chi?” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i wedi cael llond bol o hyrddod yn offrymau i'w llosgi, o fraster anifeiliaid a gwaed teirw. Dw i ddim eisiau'ch ŵyn a'ch bychod geifr chi.
Isai WelBeibl 1:12  Dych chi'n ymddangos o'm blaen i – ond pwy ofynnodd i chi ddod i stompio drwy'r deml?
Isai WelBeibl 1:13  Stopiwch ddod â'ch offrymau diystyr! Mae'r arogldarth yn troi arna i! Dych chi'n dathlu gŵyl y lleuad newydd a'r Sabothau, ac yn cynnal cyfarfodydd eraill, Ond alla i ddim diodde'r drygioni sy'n mynd gyda'ch dathliadau crefyddol chi.
Isai WelBeibl 1:14  Dw i'n casáu'r lleuadau newydd a'ch gwyliau eraill chi. Maen nhw'n faich arna i; alla i mo'u diodde nhw.
Isai WelBeibl 1:15  Pan fyddwch chi'n codi'ch dwylo i weddïo, bydda i'n edrych i ffwrdd. Gallwch chi weddïo faint fynnoch chi, ond fydda i ddim yn gwrando. Mae gwaed ar eich dwylo chi!
Isai WelBeibl 1:16  Ymolchwch! Byddwch yn lân! Ewch â'r pethau drwg dych chi'n eu gwneud allan o'm golwg i! Stopiwch wneud drwg;
Isai WelBeibl 1:17  dysgwch wneud da. Brwydrwch dros gyfiawnder, o blaid y rhai sy'n cael eu gorthrymu. Cefnogwch hawliau plant amddifad, a dadlau dros achos y weddw.
Isai WelBeibl 1:18  Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd,” —meddai'r ARGLWYDD. “Os ydy'ch pechodau chi'n goch llachar, gallan nhw droi'n wyn fel yr eira; os ydyn nhw'n goch tywyll, gallan nhw fod yn wyn fel gwlân.
Isai WelBeibl 1:19  Os dych chi'n fodlon gwrando a gwneud be dw i'n ddweud, cewch fwyta cynnyrch da'r tir;
Isai WelBeibl 1:20  ond os byddwch chi'n ystyfnig ac yn gwrthod gwrando, byddwch chi'n cael eich difa â'r cleddyf,” —mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
Isai WelBeibl 1:21  Ond o! Mae Seion wedi troi'n butain. Roedd hi'n ddinas ffyddlon, yn llawn o bobl yn gwneud beth oedd yn iawn. Cyfiawnder oedd yn arfer byw ynddi – ond bellach llofruddion.
Isai WelBeibl 1:22  Mae dy arian wedi'i droi'n amhuredd; mae dy win wedi'i gymysgu â dŵr!
Isai WelBeibl 1:23  Mae dy arweinwyr wedi gwrthryfela, ac yn ffrindiau i ladron; maen nhw i gyd yn hoffi breib, ac yn chwilio am wobr. Wnân nhw ddim amddiffyn plentyn amddifad na gwrando ar achos y weddw.
Isai WelBeibl 1:24  Felly, dyma mae'r Meistr yn ei ddweud (yr ARGLWYDD hollbwerus), Arwr Israel – “O! bydda i'n dangos fy llid i'r rhai sy'n fy erbyn! Bydda i'n dial ar fy ngelynion!
Isai WelBeibl 1:25  Bydda i'n ymosod arnat ac yn symud dy amhuredd â thoddydd. Bydda i'n cael gwared â'r slag i gyd!
Isai WelBeibl 1:26  Bydda i'n rhoi barnwyr gonest i ti fel o'r blaen, a chynghorwyr doeth, fel roedden nhw ers talwm. Wedyn byddi di'n cael dy alw ‛Y Ddinas Gyfiawn‛, ‛Tref Ffyddlon‛.”
Isai WelBeibl 1:27  Bydd Seion yn cael ei gollwng yn rhydd pan ddaw'r dyfarniad; a'r rhai sy'n troi'n ôl yn cael cyfiawnder.
Isai WelBeibl 1:28  Ond bydd y rhai sydd wedi gwrthryfela a phechu yn cael eu sathru; bydd hi wedi darfod ar y rhai sydd wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 1:29  Bydd gynnoch chi gywilydd o'r coed derw cysegredig roeddech chi mor hoff ohonyn nhw. Byddwch chi wedi drysu o achos y gerddi paganaidd roeddech wedi'u dewis.
Isai WelBeibl 1:30  Byddwch fel coeden dderwen â'i dail wedi gwywo, neu fel gardd sydd heb ddŵr.
Isai WelBeibl 1:31  Bydd y rhai cryf fel fflwff, a'u gwaith fel gwreichionen. Bydd y ddau yn llosgi gyda'i gilydd, a neb yn gallu diffodd y tân!
Chapter 2
Isai WelBeibl 2:1  Y neges gafodd Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem:
Isai WelBeibl 2:2  Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr ARGLWYDD wedi'i osod yn ben ar y mynyddoedd eraill, a'i godi'n uwch na'r bryniau. Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno,
Isai WelBeibl 2:3  a llawer o bobl yn mynd yno a dweud: “Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD, a mynd i deml Duw Jacob, iddo ddysgu ei ffyrdd i ni, ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.” Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod, a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
Isai WelBeibl 2:4  Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloedd ac yn setlo dadleuon rhwng pobloedd lawer. Byddan nhw'n curo'u cleddyfau yn sychau aradr a'u gwaywffyn yn grymanau tocio. Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.
Isai WelBeibl 2:5  Bobl Jacob – dewch! gadewch i ni fyw yng ngolau'r ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 2:6  Achos rwyt ti wedi gwrthod dy bobl, pobl Jacob, am eu bod nhw'n llawn o ofergoelion y dwyrain, yn dweud ffortiwn fel y Philistiaid ac yn gwneud busnes gydag estroniaid.
Isai WelBeibl 2:7  Mae'r wlad yn llawn o arian ac aur; does dim diwedd ar eu trysorau. Mae'r wlad yn llawn o feirch rhyfel; does dim diwedd ar eu cerbydau rhyfel.
Isai WelBeibl 2:8  Mae'r wlad yn llawn eilunod diwerth, ac maen nhw'n plygu i addoli gwaith eu dwylo – pethau maen nhw eu hunain wedi'u creu!
Isai WelBeibl 2:9  Bydd pobl yn cael eu darostwng a phawb yn cywilyddio – paid maddau iddyn nhw!
Isai WelBeibl 2:10  Ewch i guddio yn y graig, a chladdu eich hunain yn y llwch, rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDD eich dychryn chi!
Isai WelBeibl 2:11  Bydd y ddynoliaeth yn cael ei darostwng am ei balchder, a hunanhyder pobl feidrol yn cael ei dorri. Dim ond yr ARGLWYDD fydd yn cael ei ganmol bryd hynny!
Isai WelBeibl 2:12  Mae gan yr ARGLWYDD hollbwerus ddiwrnod arbennig i ddelio gyda phob un balch a snobyddlyd, a phawb sy'n canmol eu hunain – i dorri eu crib nhw!
Isai WelBeibl 2:13  Bydd yn delio gyda cedrwydd Libanus, sydd mor dal ac urddasol; gyda choed derw Bashan;
Isai WelBeibl 2:16  gyda llongau masnach Tarshish, a'r cychod pleser i gyd.
Isai WelBeibl 2:17  Dyna pryd bydd balchder y ddynoliaeth yn cael ei dynnu i lawr, a hunanhyder pobl yn syrthio. Dim ond yr ARGLWYDD fydd yn cael ei ganmol bryd hynny!
Isai WelBeibl 2:19  Bydd pobl yn mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiau a thyllau yn y ddaear – rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDD eu dychryn pan fydd yn dod ac yn gwneud i'r ddaear grynu.
Isai WelBeibl 2:20  Bryd hynny, bydd pobl yn taflu'r eilunod arian a'r eilunod aur i'r tyrchod daear a'r ystlumod – yr eilunod wnaethon nhw i'w haddoli.
Isai WelBeibl 2:21  Byddan nhw'n mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiau, a hafnau yn y clogwyni, rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDD eu dychryn pan fydd yn dod ac yn gwneud i'r ddaear grynu.
Isai WelBeibl 2:22  Peidiwch rhoi'ch ffydd mewn pobl sydd â dim byd ond anadl yn eu ffroenau! Achos pa werth sydd iddyn nhw?
Chapter 3
Isai WelBeibl 3:1  Edrychwch! Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus yn mynd i gymryd o Jerwsalem a Jwda bopeth sy'n eu cynnal a'u cadw nhw: bwyd a dŵr,
Isai WelBeibl 3:2  arwyr a milwyr dewr; barnwr a phroffwyd, yr un sy'n dewino a'r arweinydd;
Isai WelBeibl 3:3  grŵp-gapten a swyddog, strategydd a hudwr medrus, a'r un sy'n sibrwd swynau.
Isai WelBeibl 3:4  Bydda i'n rhoi bechgyn i lywodraethu arnyn nhw, a bwlis creulon i'w rheoli nhw.
Isai WelBeibl 3:5  Bydd y bobl yn gorthrymu ei gilydd – un yn erbyn y llall. Bydd pobl ifanc yn ymosod ar hen bobl, a phobl gyffredin yn ymosod ar y bonheddig.
Isai WelBeibl 3:6  Bydd dyn yn gafael yn ei gyfaill yn nhŷ ei dad, a dweud: “Mae gen ti gôt – bydd di'n feistr arnon ni. Cei di wneud rhywbeth o'r llanast yma,”
Isai WelBeibl 3:7  Ond bydd y llall yn protestio, ac yn dweud, “Alla i ddim gwella'ch briwiau chi; does gen i ddim bwyd yn y tŷ a does gen i ddim côt chwaith. Peidiwch gwneud fi'n feistr arnoch chi!”
Isai WelBeibl 3:8  Mae Jerwsalem yn gwegian, a Jwda wedi syrthio, am ddweud a gwneud pethau yn erbyn yr ARGLWYDD, a herio'i fawredd.
Isai WelBeibl 3:9  Mae eu ffafriaeth wrth farnu yn tystio yn eu herbyn; maen nhw'n arddangos eu pechod fel Sodom, heb geisio cuddio dim! Gwae nhw! Maen nhw wedi dod â dinistr arnyn nhw eu hunain.
Isai WelBeibl 3:10  Dywed: Bydd hi'n dda ar y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn; byddan nhw'n cael bwyta ffrwyth eu gweithredoedd.
Isai WelBeibl 3:11  Ond gwae y rhai sy'n gwneud drwg, bydd pethau'n ddrwg arnyn nhw; byddan nhw'n cael blas o'r hyn wnaethon nhw i bobl eraill.
Isai WelBeibl 3:12  Bydd plant yn feistri ar fy mhobl, a merched yn eu rheoli. O fy mhobl, mae dy arweinwyr yn dy gamarwain; maen nhw wedi dy ddrysu.
Isai WelBeibl 3:13  Mae'r ARGLWYDD yn sefyll i ddadlau ei achos, mae'n codi ar ei draed i farnu'r bobloedd.
Isai WelBeibl 3:14  Mae'r ARGLWYDD yn dod â'r cyhuddiad yma yn erbyn arweinwyr a thywysogion ei bobl: “Chi ydy'r rhai sydd wedi dinistrio'r winllan! Mae'r hyn sydd wedi'i ddwyn oddi ar y tlawd yn eich tai chi.
Isai WelBeibl 3:15  Sut allech chi feiddio sathru fy mhobl i, a gorthrymu'r rhai tlawd?” —meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus.
Isai WelBeibl 3:16  Yna dwedodd yr ARGLWYDD: “Mae merched Seion mor falch, yn dal eu pennau i fyny, yn fflyrtian â'u llygaid ac yn cerdded gyda chamau bach awgrymog, a'u tlysau ar eu traed yn tincian wrth iddyn nhw fynd.”
Isai WelBeibl 3:17  Felly bydd y Meistr yn gwneud i rash ddod ar bennau merched Seion. Bydd yr ARGLWYDD yn siafio'u talcennau nhw.
Isai WelBeibl 3:18  Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn cael gwared â'u tlysau nhw – y tlysau traed, y rhubanau, yr addurniadau siâp cilgant,
Isai WelBeibl 3:20  y diadem, y cadwyni, a'r sash; y ffiolau persawr a'r swyndlysau;
Isai WelBeibl 3:23  y gwisgoedd sidan, a'r dillad lliain; y twrban a'r clogyn.
Isai WelBeibl 3:24  Wedyn – yn lle persawr bydd pydredd; yn lle'r rhwymyn bydd rhaff; yn lle steil gwallt bydd moelni; yn lle mantell wedi'i brodio bydd sachliain. Ie, cywilydd yn lle harddwch.
Isai WelBeibl 3:25  Bydd dy ddynion yn cael eu lladd â'r cleddyf, a'th filwyr yn syrthio yn y frwydr.
Isai WelBeibl 3:26  Bydd galaru wrth giatiau'r ddinas – a hithau wedi'i gwagio ac yn eistedd ar lawr.
Chapter 4
Isai WelBeibl 4:1  Bryd hynny, bydd saith o ferched yn gafael mewn un dyn, ac yn dweud, “Gad i ni dy briodi di – Gwnawn fwyta ein bwyd ein hunain, a gwisgo'n dillad ein hunain. Ond cymer ein cywilydd ni i ffwrdd!”
Isai WelBeibl 4:2  Bryd hynny, bydd blaguryn yr ARGLWYDD yn rhoi harddwch ac ysblander, a bydd ffrwyth y tir yn cynnig urddas a mawredd i'r ychydig rai fydd ar ôl yn Israel.
Isai WelBeibl 4:3  Bydd y rhai sydd ar ôl yn Seion ac wedi'u gadael yn Jerwsalem yn cael eu galw'n sanctaidd – pawb yn Jerwsalem sydd i fod i gael byw.
Isai WelBeibl 4:4  Pan fydd yr ARGLWYDD wedi glanhau budreddi merched Seion, bydd yn cael gwared ag euogrwydd Jerwsalem – drwy farnu a charthu.
Isai WelBeibl 4:5  Bydd yr ARGLWYDD yn dod â chwmwl yn y dydd a thân yn llosgi yn y nos, a'u gosod uwchben y cysegr a'r man cyfarfod ar Fynydd Seion. Yn wir, bydd ei ysblander yn hongian fel canopi dros bopeth.
Isai WelBeibl 4:6  Bydd fel caban i gysgodi rhag y gwres yn ystod y dydd, ac yn lloches i gysgodi rhag y storm o law.
Chapter 5
Isai WelBeibl 5:1  Gad i mi ganu cân i'm cariad annwyl – cân fy nghariad am ei winllan. Roedd gan fy nghariad winllan ar fryn oedd yn ffrwythlon iawn.
Isai WelBeibl 5:2  Palodd y tir a chlirio'r cerrig, a phlannu gwinwydden arbennig ynddi. Adeiladodd dŵr gwylio yn ei chanol, a naddu gwinwasg ynddi. Roedd yn disgwyl cael grawnwin da, ond gafodd e ddim ond rhai drwg.
Isai WelBeibl 5:3  Felly, chi bobl Jerwsalem a'r rhai sy'n byw yn Jwda – beth ydy'ch barn chi? Beth ddylwn i ei wneud gyda'm gwinllan?
Isai WelBeibl 5:4  Oedd yna rywbeth mwy y gallwn ei wneud i'm gwinllan nag a wnes i? Pan oeddwn i'n disgwyl cael grawnwin da, pam ges i ddim ond rhai drwg?
Isai WelBeibl 5:5  Nawr, gadewch i mi ddweud wrthoch chi be dw i'n mynd i wneud gyda'm gwinllan: dw i'n mynd i symud ei chlawdd iddi gael ei dinistrio, a chwalu'r wal iddi gael ei sathru dan draed.
Isai WelBeibl 5:6  Bydda i'n ei gwneud yn dir diffaith; fydd neb yn ei thocio na'i chwynnu, a bydd yn tyfu'n wyllt gyda mieri a drain. A bydda i'n gorchymyn i'r cymylau beidio glawio arni.
Isai WelBeibl 5:7  Gwinllan yr ARGLWYDD hollbwerus ydy pobl Israel, a'r planhigion ofalodd amdanyn nhw ydy pobl Jwda. Roedd yn disgwyl gweld cyfiawnder, ond trais a gafodd. Roedd yn disgwyl am degwch, ond gwaedd daer a glywodd!
Isai WelBeibl 5:8  Gwae y rhai sy'n cydio tŷ wrth dŷ, ac yn ychwanegu cae at gae, nes bod dim lle i neb arall fyw yn y wlad!
Isai WelBeibl 5:9  Dw i wedi clywed yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud: Bydd llawer o dai yn cael eu dinistrio, fydd neb yn byw yn y tai mawr, crand.
Isai WelBeibl 5:10  Bydd deg acer o winllan yn rhoi llai na chwe galwyn o win; a chae lle heuwyd deg mesur o had yn rhoi dim ond un mesur yn ôl.
Isai WelBeibl 5:11  Gwae'r rhai sy'n codi'n fore i yfed diod feddwol ac yn aros ar eu traed gyda'r nos dan ddylanwad gwin.
Isai WelBeibl 5:12  Maen nhw'n cael partïon gyda'r delyn a'r nabl, y drwm a'r pib – a'r gwin, ond yn cymryd dim sylw o'r ARGLWYDD, nac yn gweld beth mae'n ei wneud.
Isai WelBeibl 5:13  Felly, bydd fy mhobl yn cael eu caethgludo am beidio cymryd sylw. Bydd y bobl bwysig yn marw o newyn, a'r werin yn gwywo gan syched.
Isai WelBeibl 5:14  Bydd chwant bwyd ar fyd y meirw; bydd yn agor ei geg yn anferth, a bydd ysblander Jerwsalem a'i chyffro, ei sŵn a'i sbri yn llithro i lawr iddo.
Isai WelBeibl 5:15  Bydd pobl yn cael eu darostwng a phawb yn cywilyddio; bydd llygaid y balch wedi syrthio.
Isai WelBeibl 5:16  Ond bydd yr ARGLWYDD hollbwerus wedi'i ddyrchafu drwy ei gyfiawnder; a'r Duw sanctaidd wedi profi ei fod yn sanctaidd drwy ei degwch.
Isai WelBeibl 5:17  Bydd ŵyn yn pori yno fel yn eu cynefin, a chrwydriaid yn bwyta yn adfeilion y cyfoethog.
Isai WelBeibl 5:18  Gwae'r rhai sy'n llusgo drygioni gyda rhaffau twyll, a llusgo pechod ar eu holau fel trol!
Isai WelBeibl 5:19  Y rhai sy'n dweud, “Gadewch iddo wneud rhywbeth yn sydyn, i ni gael gweld; gadewch i ni weld pwrpas Un Sanctaidd Israel, i ni gael gwybod beth ydy e!”
Isai WelBeibl 5:20  Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn dda a da yn ddrwg, sy'n dweud fod tywyllwch yn olau a golau yn dywyllwch, sy'n galw'r chwerw yn felys a'r melys yn chwerw!
Isai WelBeibl 5:21  Gwae'r rhai sy'n meddwl eu bod nhw'n ddoeth, ac yn ystyried eu hunain mor glyfar!
Isai WelBeibl 5:22  Gwae'r rhai sy'n arwyr wrth yfed gwin – ac yn meddwl eu bod nhw'n rêl bois wrth gymysgu'r diodydd;
Isai WelBeibl 5:23  y rhai sy'n gollwng troseddwyr yn rhydd am freib, ac yn gwrthod rhoi dedfryd gyfiawn i'r dieuog.
Isai WelBeibl 5:24  Felly, fel gwellt yn llosgi yn y fflamau a gwair yn crino yn y gwres, bydd eu gwreiddiau yn pydru a'u blagur yn cael ei chwythu ymaith fel llwch. Am eu bod wedi gwrthod beth mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddysgu, a chymryd dim sylw o neges Un Sanctaidd Israel.
Isai WelBeibl 5:25  Dyna pam roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda'i bobl. Dyna pam wnaeth e droi yn eu herbyn nhw, a'u taro nhw. Roedd y mynyddoedd yn crynu, a'r cyrff yn gorwedd fel sbwriel ar y strydoedd. Ac eto wnaeth Duw ddim tawelu, roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
Isai WelBeibl 5:26  Bydd e'n codi baner i alw cenedl o bell, ac yn chwibanu ar un o ben draw'r byd. Ac edrychwch, maen nhw'n dod ar ras wyllt!
Isai WelBeibl 5:27  Does neb yn blino nac yn baglu'n y rhengoedd, neb yn pendwmpian nac yn cysgu, neb â'i felt wedi'i ddatod, na charrai ei esgid wedi torri.
Isai WelBeibl 5:28  Mae eu saethau'n finiog, a'u bwâu i gyd yn dynn. Mae carnau'r meirch yn galed fel carreg, ac olwynion eu cerbydau yn troi fel corwynt.
Isai WelBeibl 5:29  Mae eu rhuad fel llew, maen nhw'n rhuo fel llewod ifanc sy'n chwyrnu wrth ddal yr ysglyfaeth a'i lusgo i ffwrdd – all neb ei achub!
Isai WelBeibl 5:30  Bryd hynny, bydd sŵn y rhuo fel tonnau'r môr yn taro'r tir. Wrth edrych tua'r tir gwelir tywyllwch ac argyfwng, a'r golau'n troi'n dywyllwch yn y cymylau o ewyn.
Chapter 6
Isai WelBeibl 6:1  Yn y flwyddyn y buodd y Brenin Wseia farw, gwelais y Meistr yn eistedd ar orsedd uchel, ac ymylon ei wisg yn llenwi'r deml.
Isai WelBeibl 6:2  Roedd seraffiaid yn hofran uwch ei ben, ac roedd gan bob un ohonyn nhw chwe adain: dwy i guddio'i wyneb, dwy i guddio'i goesau, a dwy i hedfan.
Isai WelBeibl 6:3  Ac roedd un yn galw ar y llall, ac yn dweud, “Sanctaidd! Sanctaidd! Mor sanctaidd ydy'r ARGLWYDD hollbwerus! Mae ei ysblander yn llenwi'r ddaear gyfan!”
Isai WelBeibl 6:4  Roedd sylfeini ffrâm y drws yn ysgwyd wrth iddyn nhw alw, a'r neuadd yn llenwi gyda mwg.
Isai WelBeibl 6:5  Gwaeddais yn uchel, “Gwae fi! Mae hi ar ben arna i! Dyn gyda gwefusau aflan ydw i, a dw i'n byw yng nghanol pobl gyda gwefusau aflan; ac eto dw i wedi gweld y Brenin gyda'm llygaid fy hun – yr ARGLWYDD hollbwerus.”
Isai WelBeibl 6:6  Yna dyma un o'r seraffiaid yn hedfan ata i, ac roedd ganddo farworyn poeth wedi'i gymryd oddi ar yr allor mewn gefel.
Isai WelBeibl 6:7  Cyffyrddodd fy ngwefusau gydag e, a dweud, “Edrych, mae hwn wedi cyffwrdd dy wefusau di, felly mae dy euogrwydd di wedi mynd, a thalwyd iawn am dy bechod.”
Isai WelBeibl 6:8  Yna clywais lais fy Arglwydd yn dweud: “Pwy dw i'n mynd i'w anfon? Pwy sy'n barod i fynd ar ein rhan ni?” A dyma fi'n dweud, “Dyma fi; anfon fi.”
Isai WelBeibl 6:9  Yna dwedodd, “Dos, a dweud wrth y bobl yma: ‘Gwrandwch yn astud, ond peidiwch â deall; edrychwch yn ofalus, ond peidiwch â dirnad.’
Isai WelBeibl 6:10  Gwna nhw'n ystyfnig, tro eu clustiau'n fyddar, a chau eu llygaid – rhag iddyn nhw weld â'u llygaid, clywed â'u clustiau, deall go iawn, a throi a chael eu hiacháu.”
Isai WelBeibl 6:11  Dyma fi'n gofyn, “Am faint o amser, fy Arglwydd?” A dyma fe'n ateb: “Nes bydd trefi wedi'u dinistrio a neb yn byw ynddyn nhw: tai heb bobl ynddyn nhw, a'r tir wedi'i ddifetha a'i adael yn ddiffaith.”
Isai WelBeibl 6:12  Bydd yr ARGLWYDD yn gyrru'r boblogaeth i ffwrdd – a bydd llawer iawn o ardaloedd gwag drwy'r wlad.
Isai WelBeibl 6:13  Ond os bydd un rhan o ddeg ar ôl, fydd honno eto'n cael ei losgi? “Bydd fel coeden anferth neu dderwen wedi'i thorri i lawr, a dim ond boncyff ar ôl. Ond bydd y boncyff yn ddechrau newydd, fel had sanctaidd.”
Chapter 7
Isai WelBeibl 7:1  Yn y cyfnod pan oedd Ahas (mab Jotham ac ŵyr i Wseia) yn frenin ar Jwda, dyma Resin (brenin Syria) a Pecach fab Remaleia (brenin Israel) yn ymosod ar Jerwsalem; ond wnaethon nhw ddim llwyddo i'w gorchfygu hi.
Isai WelBeibl 7:2  Pan ddaeth y newyddion i balas brenhinol Dafydd fod Syria ac Effraim mewn cynghrair, roedd y brenin a'r bobl wedi cynhyrfu. Roedden nhw fel coed yn y goedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt.
Isai WelBeibl 7:3  Felly dwedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, “Dos hefo dy fab Shear-iashŵf i gyfarfod ag Ahas wrth derfyn y sianel ddŵr sy'n dod o'r gronfa uchaf, ar ffordd Maes y Golchwr.
Isai WelBeibl 7:4  Dwed wrtho: ‘Paid panicio. Paid bod ag ofn. Does dim rhaid torri dy galon am fod Resin a'r Syriaid a mab Remaleia wedi gwylltio – dau stwmp ydyn nhw; dim mwy na ffaglau myglyd!’
Isai WelBeibl 7:5  Mae'r Syriaid – hefo Effraim a mab Remaleia – wedi cynllwynio yn dy erbyn di, a dweud,
Isai WelBeibl 7:6  ‘Gadewch i ni ymosod ar Jwda, codi ofn arni a'i gorchfygu. Yna gallwn osod mab Tafél yn frenin arni.’
Isai WelBeibl 7:7  “Ond dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: Fydd y cynllun ddim yn llwyddo, Fydd y peth ddim yn digwydd.
Isai WelBeibl 7:8  Damascus ydy prifddinas Syria, a Resin ydy pennaeth Damascus. Samaria ydy prifddinas Effraim, a Remaleia ydy pennaeth Samaria. Mewn llai na chwe deg pum mlynedd bydd Effraim wedi chwalu a pheidio â bod yn bobl. Os na wnewch chi gredu, wnewch chi'n sicr ddim sefyll.”
Isai WelBeibl 7:9  Damascus ydy prifddinas Syria, a Resin ydy pennaeth Damascus. Samaria ydy prifddinas Effraim, a Remaleia ydy pennaeth Samaria. Mewn llai na chwe deg pum mlynedd bydd Effraim wedi chwalu a pheidio â bod yn bobl. Os na wnewch chi gredu, wnewch chi'n sicr ddim sefyll.”
Isai WelBeibl 7:11  “Gofyn i'r ARGLWYDD dy Dduw roi arwydd i ti – unrhyw beth, does dim ffiniau.”
Isai WelBeibl 7:12  Ond dyma Ahas yn ateb, “Na wna i, dw i ddim am roi'r ARGLWYDD ar brawf.”
Isai WelBeibl 7:13  Yna dwedodd Eseia, “Gwrandwch, balas Dafydd. Ydy e ddim yn ddigon eich bod chi'n trethu amynedd pobl heb orfod trethu amynedd fy Nuw hefyd?
Isai WelBeibl 7:14  Felly, mae'r Meistr ei hun yn mynd i roi arwydd i chi! Edrychwch, bydd y ferch ifanc yn feichiog, ac yn cael mab – a bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel.
Isai WelBeibl 7:15  Cyn iddo ddod i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da, bydd yn bwyta caws colfran a mêl.
Isai WelBeibl 7:16  Cyn iddo allu gwrthod y drwg a dewis y da, bydd tir y ddau frenin rwyt ti'n eu hofni wedi'i adael yn wag.
Isai WelBeibl 7:17  Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i ti a dy bobl a phalas dy dad fynd drwy gyfnod na fu ei debyg ers i Effraim wrthryfela yn erbyn Jwda – bydd yn dod â brenin Asyria yma.”
Isai WelBeibl 7:18  Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn chwibanu ar y gwybed sydd yn afonydd pell yr Aifft a'r gwenyn sydd yng ngwlad Asyria.
Isai WelBeibl 7:19  Byddan nhw'n dod ac yn glanio yn y cymoedd cul, serth a'r hafnau sydd yn y creigiau, yn y llwyni drain a'r lleoedd i ddyfrio anifeiliaid.
Isai WelBeibl 7:20  Bryd hynny, bydd y Meistr yn defnyddio'r rasel mae wedi'i llogi yr ochr draw i afon Ewffrates (sef brenin Asyria) i siafio'r pen a'r blew ar y rhannau preifat; a bydd yn siafio'r farf hefyd.
Isai WelBeibl 7:22  Byddan nhw'n rhoi digon o laeth iddo fwyta caws colfran. Caws colfran a mêl fydd bwyd pawb sydd ar ôl yn y wlad.
Isai WelBeibl 7:23  Bryd hynny, bydd pobman lle roedd mil o goed gwinwydd (oedd yn werth mil o ddarnau arian) yn anialwch o ddrain a mieri.
Isai WelBeibl 7:24  Dim ond gyda bwa saeth fydd dynion yn mynd yno, am fod y tir i gyd yn anialwch o ddrain a mieri.
Isai WelBeibl 7:25  Fydd neb yn mynd i'r bryniau i drin y tir gyda chaib am fod cymaint o ddrain a mieri. Yn lle hynny bydd yn dir agored i wartheg a defaid bori arno.
Chapter 8
Isai WelBeibl 8:1  Yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, “Dos i nôl hysbysfwrdd mawr ac ysgrifenna arno'n glir ‘I Maher-shalal-has-bas’.”
Isai WelBeibl 8:2  Dyma fi'n cymryd dau dyst gyda mi, dynion y gallwn i ddibynnu arnyn nhw, sef Wreia yr offeiriad a Sechareia fab Ieberecheia.
Isai WelBeibl 8:3  Wedyn dyma fi'n gorwedd gyda'm gwraig a dyma hi'n beichiogi. Bachgen gafodd hi, a dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Galw fe'n Maher-shalal-has-bas,
Isai WelBeibl 8:4  achos cyn i'r bachgen allu dweud ‘dad’ neu ‘mam’, bydd brenin Asyria wedi cymryd cyfoeth Damascus a Samaria i gyd.”
Isai WelBeibl 8:6  “Mae'r bobl yma wedi gwrthod dŵr Siloa, sy'n llifo'n dawel, ac wedi plesio Resin a mab Remaleia.
Isai WelBeibl 8:7  Felly, bydd y Meistr yn gwneud i holl ddŵr cryf yr Ewffrates lifo drostyn nhw – sef brenin Asyria a'i fyddin. Bydd fel afon yn torri allan o'i sianelau, ac yn gorlifo'i glannau.
Isai WelBeibl 8:8  Bydd yn rhedeg drwy Jwda fel llifogydd ac yn codi at y gwddf. Mae ei adenydd wedi'u lledu dros dy dir i gyd, Emaniwel!”
Isai WelBeibl 8:9  Casglwch i ryfel, chi bobloedd – ond cewch eich dryllio! Gwrandwch, chi sydd ym mhen draw'r byd: paratowch i ryfela – ond cewch eich dryllio; paratowch i ryfela – ond cewch eich dryllio!
Isai WelBeibl 8:10  Cynlluniwch strategaeth – ond bydd yn methu! Cytunwch beth i'w wneud – ond fydd e ddim yn llwyddo. Achos mae Duw gyda ni!
Isai WelBeibl 8:11  Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i – fel petai'n gafael ynof fi a'm rhybuddio i beidio mynd yr un ffordd â'r bobl yma:
Isai WelBeibl 8:12  “Peidiwch dweud, ‘Cynllwyn ydy e!’ bob tro mae'r bobl yma'n dweud fod cynllwyn! Does dim rhaid dychryn na bod ag ofn beth maen nhw'n ei ofni.
Isai WelBeibl 8:13  Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy'r un i'w barchu! Fe ydy'r unig un i'w ofni, a dychryn rhagddo!
Isai WelBeibl 8:14  Bydd e'n gysegr – ond i ddau deulu brenhinol Israel bydd yn garreg sy'n baglu pobl a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio. Bydd fel trap neu fagl i'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem.
Isai WelBeibl 8:15  Bydd llawer yn baglu, yn syrthio ac yn cael eu dryllio; ac eraill yn cael eu rhwymo a'u dal.”
Isai WelBeibl 8:16  Bydd y rhybudd yma'n cael ei rwymo, a'r ddysgeidiaeth yn cael ei selio a'i chadw gan fy nisgyblion i.
Isai WelBeibl 8:17  Dw i'n mynd i ddisgwyl am yr ARGLWYDD, er ei fod e wedi troi cefn ar bobl Jacob – dw i'n ei drystio fe!
Isai WelBeibl 8:18  Dyma fi, a'r plant mae'r ARGLWYDD wedi'u rhoi i mi. Maen nhw'n arwyddion ac yn rhybudd i Israel oddi wrth yr ARGLWYDD hollbwerus, sy'n byw ar Fynydd Seion.
Isai WelBeibl 8:19  Bydd pobl yn dweud wrthoch chi, “Ewch i holi'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sgrechian a griddfan. Oni ddylai pobl geisio'u ‛duwiau‛ – holi'r meirw ar ran y byw?”
Isai WelBeibl 8:20  “At y gyfraith a'r dystiolaeth! Os nad ydyn nhw'n siarad yn gyson â'r neges yma, maen nhw yn y tywyllwch.”
Isai WelBeibl 8:21  Maen nhw'n cerdded o gwmpas mewn eisiau a newyn. Am eu bod yn llwgu byddan nhw'n gwylltio ac yn melltithio'u brenin a'u ‛duwiau‛, wrth edrych i fyny.
Isai WelBeibl 8:22  Wrth edrych ar y tir does dim i'w weld ond trwbwl a thywyllwch, düwch a gwewyr meddwl – bydd wedi'i daflu i dywyllwch dudew.
Chapter 9
Isai WelBeibl 9:1  Ond fydd y tywyllwch ddim yn para i'r tir aeth drwy'r fath argyfwng! Y tro cyntaf, cafodd tir Sabulon a thir Nafftali eu cywilyddio; ond yn y dyfodol bydd Duw yn dod ag anrhydedd i Galilea'r Cenhedloedd, ar Ffordd y Môr, a'r ardal yr ochr arall i afon Iorddonen.
Isai WelBeibl 9:2  Mae'r bobl oedd yn byw yn y tywyllwch wedi gweld golau llachar. Mae golau wedi gwawrio ar y rhai oedd yn byw dan gysgod marwolaeth.
Isai WelBeibl 9:3  Ti wedi lluosogi'r genedl, a'i gwneud yn hapus iawn; maen nhw'n dathlu o dy flaen di fel ffermwyr adeg y cynhaeaf, neu filwyr yn cael sbri wrth rannu'r ysbail.
Isai WelBeibl 9:4  Achos rwyt ti wedi torri'r iau oedd yn faich arnyn nhw, a'r ffon oedd yn curo'u cefnau nhw – sef gwialen y meistr gwaith – fel y gwnest ti bryd hynny yn Midian.
Isai WelBeibl 9:5  Bydd yr esgidiau fu'n sathru maes y gâd, a'r gwisgoedd gafodd eu rholio mewn gwaed, yn cael eu taflu i'r fflamau i'w llosgi.
Isai WelBeibl 9:6  Achos mae plentyn wedi cael ei eni i ni, mab wedi cael ei roi i ni. Bydd e'n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu. A bydd yn cael ei alw yn Strategydd rhyfeddol, y Duw arwrol, Tad yr oesoedd, Tywysog heddwch.
Isai WelBeibl 9:7  Fydd ei lywodraeth ddim yn stopio tyfu, a bydd yn dod â llwyddiant di-ben-draw i orsedd Dafydd a'i deyrnas. Bydd yn ei sefydlu a'i chryfhau a theyrnasu'n gyfiawn ac yn deg o hyn allan, ac am byth. Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn benderfynol o wneud hyn i gyd.
Isai WelBeibl 9:8  Dyma'r neges anfonodd y Meistr yn erbyn Jacob, a dyna ddigwyddodd i Israel.
Isai WelBeibl 9:9  Roedd y bobl i gyd yn cydnabod hynny – Effraim a'r rhai sy'n byw yn Samaria. Roedden nhw'n falch ac yn ystyfnig, ac yn honni:
Isai WelBeibl 9:10  “Mae'r blociau pridd wedi syrthio, ond byddwn yn ailadeiladu hefo cerrig nadd! Mae'r coed sycamor wedi'u torri i lawr, ond gadewch i ni dyfu cedrwydd yn eu lle!”
Isai WelBeibl 9:11  Yna, gadawodd yr ARGLWYDD i elynion Resin ei gorchfygu hi. Roedd e wedi arfogi ei gelynion –
Isai WelBeibl 9:12  daeth Syria o'r dwyrain a Philistia o'r gorllewin; roedd eu cegau'n llydan agored, a dyma nhw'n llyncu tir Israel. Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
Isai WelBeibl 9:13  Dydy'r bobl ddim wedi troi'n ôl at yr un wnaeth eu taro nhw; dŷn nhw ddim wedi ceisio'r ARGLWYDD hollbwerus.
Isai WelBeibl 9:14  Felly bydd yr ARGLWYDD yn torri pen a chynffon Israel, y gangen balmwydd a'r frwynen ar yr un diwrnod.
Isai WelBeibl 9:15  Yr arweinwyr a'r bobl bwysig – nhw ydy'r pen; y proffwydi sy'n dysgu celwydd – nhw ydy'r gynffon.
Isai WelBeibl 9:16  Mae'r arweinwyr wedi camarwain, a'r rhai sy'n eu dilyn wedi llyncu'r cwbl.
Isai WelBeibl 9:17  Dyna pam nad ydy'r ARGLWYDD yn hapus gyda'r bobl ifanc; dydy e ddim yn gallu cysuro'r plant amddifad a'r gweddwon. Maen nhw i gyd yn annuwiol ac yn ddrwg; maen nhw i gyd yn dweud pethau dwl. Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
Isai WelBeibl 9:18  Mae drygioni yn llosgi fel tân, ac yn dinistrio'r drain a'r mieri; mae'n llosgi drwy ddrysni'r coed nes bod y mwg yn codi'n golofnau.
Isai WelBeibl 9:19  Pan mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi digio, mae'r wlad yn llosgi. Mae'r bobl fel tanwydd, a does neb yn poeni am neb arall.
Isai WelBeibl 9:20  Maen nhw'n torri cig fan yma, ond yn dal i newynu; maen nhw'n bwyta fan acw ond ddim yn cael digon. Maen nhw'n brathu ac anafu ei gilydd –
Isai WelBeibl 9:21  Manasse'n ymosod ar Effraim ac Effraim ar Manasse, a'r ddau yn ymladd yn erbyn Jwda! Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, Roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
Chapter 10
Isai WelBeibl 10:1  Gwae'r rhai sy'n rhoi dyfarniad anghyfiawn ac ysgrifennu deddfau sy'n gormesu pobl.
Isai WelBeibl 10:2  Maen nhw'n dwyn cyfiawnder oddi ar bobl dlawd, a chymryd eu hawliau oddi ar yr anghenus. Maen nhw'n dwyn oddi ar y gweddwon, ac yn ysbeilio plant amddifad!
Isai WelBeibl 10:3  Beth wnewch chi ar ddiwrnod y cosbi, pan fydd dinistr yn dod o bell? At bwy fyddwch chi'n rhedeg am help? I ble'r ewch chi i guddio eich trysor?
Isai WelBeibl 10:4  Bydd rhaid crymu gyda'r carcharorion eraill, neu syrthio gyda phawb arall sy'n cael eu lladd! Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, Roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
Isai WelBeibl 10:5  Gwae Asyria, y wialen dw i'n ei defnyddio pan dw i'n ddig. Mae'r ffon sy'n dangos fy mod i wedi gwylltio yn ei llaw hi.
Isai WelBeibl 10:6  Dw i'n ei hanfon yn erbyn cenedl annuwiol, ac yn dweud wrthi am ymosod ar y bobl sy'n fy nigio i, i ysbeilio a rheibio a'u sathru dan draed fel baw ar y stryd.
Isai WelBeibl 10:7  Ond dim dyna ydy bwriad Asyria – rhywbeth arall sydd ganddi hi mewn golwg. Ei bwriad hi ydy dinistrio, a difa gwledydd yn llwyr – llawer ohonyn nhw!
Isai WelBeibl 10:8  Mae'n meddwl, “Mae brenhinoedd wedi dod yn swyddogion i mi.
Isai WelBeibl 10:9  Onid ydy Calno yr un fath â Carcemish, a Chamath fel Arpad, a Samaria fel Damascus?
Isai WelBeibl 10:10  Gan fy mod i wedi cael gafael yn y gwledydd hynny a'u heilun-dduwiau – gwledydd oedd â llawer mwy o ddelwau na Jerwsalem a Samaria –
Isai WelBeibl 10:11  bydda i'n gwneud yr un peth i Jerwsalem a'i heilunod ag a wnes i i Samaria a'i delwau.”
Isai WelBeibl 10:12  Ond pan fydd y Meistr wedi gorffen delio gyda Mynydd Seion a Jerwsalem, bydd e'n cosbi brenin Asyria am fod mor falch ac mor llawn ohono'i hun.
Isai WelBeibl 10:13  Am feddwl fel hyn: “Dw i wedi gwneud y cwbl am fy mod i mor gryf. Roedd gen i strategaeth glyfar, a dw i wedi dileu ffiniau gwledydd. Dw i wedi cymryd eu trysorau nhw, ac wedi bwrw brenhinoedd i lawr fel tarw.
Isai WelBeibl 10:14  Cefais afael ar gyfoeth y gwledydd mor hawdd â dwyn wyau o nyth: heb neb yn fflapio'i adenydd nac yn agor ei big i drydar.”
Isai WelBeibl 10:15  Ydy bwyell o unrhyw werth heb rywun i'w thrin? Ydy llif yn bwysicach na'r un sy'n ei defnyddio? Fel petai gwialen yn chwifio'r dyn sy'n ei chodi! Fel petai ffon yn codi'r person sydd ddim yn bren!
Isai WelBeibl 10:16  Felly, bydd y Meistr—yr ARGLWYDD hollbwerus— yn anfon afiechyd fydd yn nychu ei filwyr iach; bydd twymyn yn taro'i ysblander ac yn llosgi fel tân.
Isai WelBeibl 10:17  Bydd Golau Israel yn troi'n dân, a'r Un Sanctaidd yn fflam. Bydd yn llosgi'r drain a'r mieri mewn diwrnod,
Isai WelBeibl 10:18  a dinistrio'r goedwig a'r berllan yn llwyr. Bydd fel bywyd dyn sâl yn diflannu.
Isai WelBeibl 10:19  Bydd cyn lleied o goed ar ôl, bydd plentyn bach yn gallu eu cyfri!
Isai WelBeibl 10:20  Bryd hynny, fydd y rhai sydd ar ôl yn Israel a'r rhai hynny o bobl Jacob sydd wedi dianc ddim yn pwyso ar y genedl wnaeth eu gorthrymu nhw; Byddan nhw'n pwyso'n llwyr ar yr ARGLWYDD, Un sanctaidd Israel.
Isai WelBeibl 10:21  Bydd rhan fechan, ie, rhan fechan o Jacob yn troi yn ôl at y Duw cryf.
Isai WelBeibl 10:22  Israel, hyd yn oed petai dy bobl mor niferus â thywod y môr, dim ond nifer fechan fydd yn dod yn ôl. Mae'r dinistr yn sicr. Mae'r gosb sydd wedi'i haeddu yn dod fel llifogydd!
Isai WelBeibl 10:23  Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus, yn barod i ddod â'r dinistr sydd wedi'i ddyfarnu ar y tir.
Isai WelBeibl 10:24  Felly, dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus, yn ei ddweud: “O fy mhobl, sy'n byw yn Seion, peidiwch bod ag ofn Asyria – er iddi dy daro di gyda'i gwialen a dy fygwth gyda'i ffon fel y gwnaeth yr Eifftiaid.
Isai WelBeibl 10:25  Yn fuan iawn bydd fy llid wedi'i dawelu, a bydda i'n troi i'w dinistrio nhw.”
Isai WelBeibl 10:26  Bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn chwifio'i chwip uwch eu pennau, fel y gwnaeth pan drawodd Midian wrth Graig Oreb. Bydd yn codi ei wialen fel y gwnaeth dros yr Eifftiaid wrth y môr.
Isai WelBeibl 10:27  Bryd hynny, bydd y pwysau'n cael ei symud oddi ar dy ysgwyddau di, a bydd iau Asyria'n cael ei thorri oddi ar dy war am ei fod mor hunanfodlon.
Isai WelBeibl 10:28  Daeth y gelyn ac ymosod ar Aiath, ac yna aeth ymlaen i Migron cyn paratoi ei gêr yn Michmas.
Isai WelBeibl 10:29  Yna croesi'r bwlch ac aros yn Geba dros nos. Roedd Rama wedi dychryn, a phobl Gibea, tref Saul, yn ffoi.
Isai WelBeibl 10:30  “Rho sgrech, Bath-galîm! Gwrando'n astud, Laisha! Ateb hi, Anathoth!”
Isai WelBeibl 10:32  Heddiw mae'r gelyn yn Nob yn ysgwyd ei ddwrn bygythiol yn erbyn Mynydd Seion a bryn Jerwsalem!
Isai WelBeibl 10:33  Edrych! Mae'r Meistr—yr ARGLWYDD hollbwerus— yn mynd i hollti canghennau'r coed gyda nerth brawychus. Bydd yn torri'r coed talaf i lawr, a bydd y rhai uchel yn syrthio.
Isai WelBeibl 10:34  Bydd yn torri drwy ddrysni'r goedwig gyda bwyell, a bydd coed mawr Libanus yn cwympo.
Chapter 11
Isai WelBeibl 11:1  Ond bydd brigyn newydd yn tyfu o foncyff Jesse, a changen ffrwythlon yn tyfu o'i wreiddiau.
Isai WelBeibl 11:2  Bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno: ysbryd doethineb rhyfeddol, ysbryd strategaeth sicr, ysbryd defosiwn a pharch at yr ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 11:3  Bydd wrth ei fodd yn ufuddhau i'r ARGLWYDD: fydd e ddim yn barnu ar sail yr olwg gyntaf, nac yn gwneud penderfyniad ar sail rhyw si.
Isai WelBeibl 11:4  Bydd yn barnu achos pobl dlawd yn deg ac yn rhoi dyfarniad cyfiawn i'r rhai sy'n cael eu cam-drin yn y tir. Bydd ei eiriau fel gwialen yn taro'r ddaear a bydd yn lladd y rhai drwg gyda'i anadl.
Isai WelBeibl 11:5  Bydd cyfiawnder a ffyddlondeb fel belt am ei ganol.
Isai WelBeibl 11:6  Bydd y blaidd yn cyd-fyw gyda'r oen, a'r llewpard yn gorwedd i lawr gyda'r myn gafr. Bydd y llo a'r llew ifanc yn pori gyda'i gilydd, a bachgen bach yn gofalu amdanyn nhw.
Isai WelBeibl 11:7  Bydd y fuwch a'r arth yn pori gyda'i gilydd, a'u rhai ifanc yn cydorwedd; a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych.
Isai WelBeibl 11:8  Bydd babi bach yn chwarae wrth nyth y cobra a phlentyn bach yn rhoi ei law ar dwll y wiber.
Isai WelBeibl 11:9  Fydd neb yn gwneud drwg nac yn dinistrio dim ar y mynydd sydd wedi'i gysegru i mi. Fel mae'r môr yn llawn dop o ddŵr, bydd y ddaear yn llawn pobl sy'n nabod yr ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 11:10  Bryd hynny, bydd y ffaith fod boncyff Jesse yn dal i sefyll yn arwydd clir i'r bobloedd – bydd cenhedloedd yn dod ato am gyngor, a bydd ei le yn ysblennydd.
Isai WelBeibl 11:11  Bryd hynny, bydd y Meistr yn mynd ati i ryddhau gweddill ei bobl o wlad Asyria – a hefyd o'r Aifft, Pathros, Dwyrain Affrica, Elam, Babilonia, Chamath, a'r ynysoedd.
Isai WelBeibl 11:12  Bydd yn codi baner i alw'r cenhedloedd, ac yn casglu'r bobl gafodd eu halltudio o Israel. Bydd yn casglu pobl Jwda gafodd eu gwasgaru o bedwar ban byd.
Isai WelBeibl 11:13  Yna bydd cenfigen Effraim yn darfod a bydd yr elyniaeth rhyngddi a Jwda yn dod i ben. Fydd Effraim ddim yn cenfigennu wrth Jwda, a fydd Jwda ddim yn plagio Effraim.
Isai WelBeibl 11:14  Byddan nhw'n ymosod ar y Philistiaid i'r gorllewin, ac yn ysbeilio pobl y dwyrain gyda'i gilydd. Bydd Edom a Moab yn cael eu rheoli ganddyn nhw, a bydd pobl Ammon fel gwas bach iddyn nhw.
Isai WelBeibl 11:15  Bydd yr ARGLWYDD yn sychu Môr yr Aifft. Bydd yn codi ei law dros afon Ewffrates ac yn anfon gwynt ffyrnig i'w hollti'n saith sychnant, er mwyn gallu ei chroesi heb wlychu'r traed.
Isai WelBeibl 11:16  Felly bydd priffordd ar gyfer gweddill ei bobl sydd wedi'u gadael yn Asyria, fel yr un oedd i bobl Israel pan ddaethon nhw allan o wlad yr Aifft.
Chapter 12
Isai WelBeibl 12:1  Bryd hynny, byddi'n dweud: “Dw i eisiau diolch i ti, O ARGLWYDD! Er dy fod wedi digio gyda fi, rwyt wedi troi oddi wrth dy lid a'm cysuro.
Isai WelBeibl 12:2  Edrychwch ar y Duw sydd wedi fy achub i! Bydda i'n ei drystio, a fydd gen i ddim ofn. Yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi! Yr ARGLWYDD sydd wedi fy achub i.”
Isai WelBeibl 12:3  Byddwch yn codi dŵr yn llawen o ffynhonnau achubiaeth.
Isai WelBeibl 12:4  Byddwch yn dweud bryd hynny: “Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw. Dwedwch wrth bobl y gwledydd beth wnaeth e; cyhoeddwch fod ei enw wedi'i godi'n uchel.
Isai WelBeibl 12:5  Canwch salmau i'r ARGLWYDD, am iddo wneud peth mawr! Gwnewch yn siŵr fod y byd i gyd yn gwybod am y peth!
Isai WelBeibl 12:6  Bloeddiwch ganu'n llawen, chi sy'n byw yn Seion! Mae'r Un sydd yn eich plith yn fawr – Un Sanctaidd Israel.”
Chapter 13
Isai WelBeibl 13:2  “Codwch faner ar ben mynydd, a gweiddi'n uchel arnyn nhw! Codwch eich llaw i'w galw i mewn drwy giatiau'r bobl bwysig!
Isai WelBeibl 13:3  Dw i wedi rhoi gorchymyn i'r rhai dw i wedi'u dewis, a galw fy milwyr cryfion i ddangos mor ddig dw i; milwyr balch sy'n brolio.”
Isai WelBeibl 13:4  Gwrandwch! Mae sŵn cynnwrf ar y mynyddoedd – fel byddin enfawr; Gwrandwch! Sŵn twrw'r gwledydd! Cenhedloedd yn casglu at ei gilydd! Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn casglu byddin i ryfel!
Isai WelBeibl 13:5  Maen nhw'n dod o wlad bell, y tu hwnt i'r gorwel – yr ARGLWYDD ac arfau ei lid, yn dod i ddinistrio'r holl dir!
Isai WelBeibl 13:6  Udwch! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos! Mae'n dod fel dinistr oddi wrth yr Un sy'n rheoli popeth.
Isai WelBeibl 13:7  Felly, bydd pob llaw yn llipa, a phawb wedi digalonni
Isai WelBeibl 13:8  a'u llethu gan ddychryn. Bydd poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw, a byddan nhw'n gwingo mewn poen fel gwraig yn cael babi. Byddan nhw'n syllu'n syn ar ei gilydd, a'u hwynebau'n gwrido o gywilydd.
Isai WelBeibl 13:9  Ydy! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn dod; dydd creulon ei lid ffyrnig a thanbaid, i droi'r ddaear yn anialwch diffaith, a chael gwared â phechaduriaid ohoni.
Isai WelBeibl 13:10  Fydd y sêr a'u clystyrau ddim yn rhoi golau. Bydd yr haul yn dywyll pan fydd yn codi, a'r lleuad ddim yn llewyrchu.
Isai WelBeibl 13:11  “Bydda i'n cosbi'r byd am ei holl ddrygioni, a phobl ddrwg am eu pechod. Bydda i'n rhoi diwedd ar falchder pobl haerllug, ac yn torri crib y rhai creulon.
Isai WelBeibl 13:12  Bydd pobl yn fwy prin nag aur pur – yn fwy prin nag aur Offir.
Isai WelBeibl 13:13  Bydda i'n gwneud i'r awyr grynu, ac i'r ddaear ysgwyd o'i lle.” Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn barnu ar ddiwrnod ei lid ffyrnig.
Isai WelBeibl 13:14  Bydd pawb yn troi at ei bobl ei hun ac yn dianc i'w gynefin; fel gasél yn dianc pan mae'n cael ei hela, neu ddefaid ar wasgar a neb i'w casglu.
Isai WelBeibl 13:15  Bydd pob un sy'n cael ei ddarganfod yn cael ei drywanu, a phob un sy'n cael ei ddal yn cael ei ladd â'r cleddyf.
Isai WelBeibl 13:16  Bydd eu plant bach yn cael eu curo i farwolaeth, a'u lladd o flaen eu llygaid; bydd eu cartrefi'n cael eu gwagio, a'u gwragedd yn cael eu treisio.
Isai WelBeibl 13:17  “Ond edrychwch, dw i'n codi'r Mediaid yn eu herbyn nhw. Fydd arian ddim yn rhwystro'r rheiny, nac aur yn eu denu i droi.
Isai WelBeibl 13:18  Bydd eu bwâu yn taro'r dynion ifanc i lawr. Fydd dim tosturi at fabis bach, a fyddan nhw ddim yn arbed bywyd y plant.”
Isai WelBeibl 13:19  Bydd Babilon, y deyrnas harddaf – ysblander a balchder ei phobl – wedi'i bwrw i lawr gan Dduw fel Sodom a Gomorra.
Isai WelBeibl 13:20  Fydd neb yn byw yno byth eto, neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau – dim Bedowin yn codi ei babell, na bugail yn gorffwys ei braidd.
Isai WelBeibl 13:21  Bydd ysbrydion yr anialwch yn gorwedd yno, a'r tai yn llawn creaduriaid yn udo. Bydd y dylluan yn byw yno, a'r gafr-ddemoniaid yn llamu o gwmpas.
Isai WelBeibl 13:22  Bydd bwganod yn sgrechian yn ei hadfeilion, a siacaliaid yn ei phlastai. Mae ei hamser bron ar ben; fydd ei dyddiau ddim yn cael eu hestyn.
Chapter 14
Isai WelBeibl 14:1  Ond bydd yr ARGLWYDD yn maddau i Jacob, ac yn dewis Israel unwaith eto. Bydd yn eu gosod nhw yn eu tir eu hunain, a bydd ffoaduriaid yn ymuno gyda nhw ac yn uniaethu gyda phobl Jacob.
Isai WelBeibl 14:2  Bydd pobloedd eraill yn eu harwain yn ôl i'w mamwlad. Bydd pobl Jacob yn rhannu tir yr ARGLWYDD rhyngddyn nhw, i'w drin gan eu gweision a'u morynion. Byddan nhw'n caethiwo'r rhai wnaeth eu caethiwo nhw, ac yn feistri ar y rhai wnaeth eu gorthrymu nhw.
Isai WelBeibl 14:3  Pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi llonydd i ti o dy holl drafferthion a dy helbulon, a'r holl waith caled pan oeddet ti'n gaethwas,
Isai WelBeibl 14:4  byddi'n adrodd y gerdd ddychan yma am frenin Babilon: “Ble mae'r gormeswr wedi diflannu? Mae ei falchder wedi dod i ben!
Isai WelBeibl 14:5  Mae'r ARGLWYDD wedi torri ffon y rhai drwg, a gwialen y gormeswyr.
Isai WelBeibl 14:6  Roedd yn ddig ac yn taro cenhedloedd yn ddi-stop. Roedd yn sathru pobloedd yn ddidrugaredd a'u herlid yn ddi-baid.
Isai WelBeibl 14:7  Bellach mae'r ddaear yn dawel a digyffro, ac mae'r bobl yn canu'n llawen.
Isai WelBeibl 14:8  Mae hyd yn oed y coed pinwydd yn hapus, a'r coed cedrwydd yn Libanus yn canu: ‘Ers i ti gael dy fwrw i lawr, dydy'r torrwr coed ddim yn dod yn ein herbyn ni!’
Isai WelBeibl 14:9  Mae byd y meirw isod mewn cyffro, yn barod i dy groesawu di – bydd y meirw'n deffro, sef arweinwyr y byd, a bydd brenhinoedd gwledydd y ddaear yn codi oddi ar eu gorseddau.
Isai WelBeibl 14:10  Byddan nhw i gyd yn dy gyfarch di, ‘Felly, ti hyd yn oed – rwyt tithau'n wan fel ni!
Isai WelBeibl 14:11  Mae dy holl rwysg a sain cerdd dy liwtiau wedi eu tynnu i lawr i Annwn! Bydd y cynrhon yn wely oddi tanat a phryfed genwair yn flanced drosot ti!
Isai WelBeibl 14:12  Y fath gwymp! Rwyt ti, seren ddisglair, mab y wawr, wedi syrthio o'r nefoedd! Ti wedi dy dorri i lawr i'r ddaear – ti oedd yn sathru'r holl wledydd!
Isai WelBeibl 14:13  Roeddet ti'n meddwl i ti dy hun, “Dw i'n mynd i ddringo i'r nefoedd, a gosod fy ngorsedd yn uwch na sêr Duw. Dw i'n mynd i eistedd ar fynydd y gynulleidfa yn y gogledd pell.
Isai WelBeibl 14:14  Dw i'n mynd i ddringo ar gefn y cymylau, a gwneud fy hun fel y Duw Goruchaf.”
Isai WelBeibl 14:15  O'r fath gwymp – rwyt wedi dod i lawr i fyd y meirw, i'r lle dyfnaf yn y Pwll!
Isai WelBeibl 14:16  Mae pobl yn dy weld ac yn syllu arnat, ac yn pendroni: “Ai hwn ydy'r dyn wnaeth i'r ddaear grynu, a dychryn teyrnasoedd?
Isai WelBeibl 14:17  Ai fe ydy'r un drodd y byd yn anialwch, a dinistrio'i ddinasoedd – heb fyth ryddhau ei garcharorion i fynd adre?”’
Isai WelBeibl 14:18  Mae brenhinoedd y gwledydd i gyd – pob un ohonyn nhw – yn gorwedd yn grand yn eu beddau eu hunain.
Isai WelBeibl 14:19  Ond ti? – Cest ti dy adael heb dy gladdu, yn ffiaidd, fel ffetws wedi'i erthylu. Fel corff marw yn y dillad a wisgai pan gafodd ei drywanu â'r cleddyf. Fel y rhai sy'n syrthio i waelod y pwll, neu gorff yn cael ei sathru dan draed.
Isai WelBeibl 14:20  Gei di ddim angladd fel brenhinoedd eraill, am dy fod ti wedi dinistrio dy wlad dy hun a lladd dy bobl dy hun. Boed i neb fyth eto gofio'r fath hil o bobl ddrwg!
Isai WelBeibl 14:21  Paratowch floc i ddienyddio'i feibion o achos drygioni eu tad. Peidiwch gadael iddyn nhw godi i feddiannu'r tir a llenwi'r byd gyda'i dinasoedd!”
Isai WelBeibl 14:22  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Bydda i'n codi yn eu herbyn nhw. Bydda i'n dileu pob enw o Babilon, a lladd phawb sy'n dal ar ôl yno, eu plant a'u disgynyddion i gyd.
Isai WelBeibl 14:23  Bydda i'n llenwi'r wlad â draenogod a'i throi'n gors o byllau dŵr mwdlyd. Bydda i'n ei hysgubo i ffwrdd hefo brwsh dinistr.” —yr ARGLWYDD hollbwerus sy'n dweud hyn.
Isai WelBeibl 14:24  Mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi tyngu llw: “Bydd popeth yn digwydd yn union fel dwedais i; bydd fy nghynlluniau'n dod yn wir.
Isai WelBeibl 14:25  Bydda i'n dryllio grym Asyria yn fy nhir, ac yn ei sathru ar fy mryniau. Bydd ei hiau yn cael ei thynnu oddi ar fy mhobl, a'r baich trwm yn disgyn oddi ar eu cefnau.
Isai WelBeibl 14:26  Dyna'r cynllun sydd gen i ar gyfer y ddaear gyfan. Dyna pam mae fy llaw yn barod i ddelio gyda'r cenhedloedd i gyd.”
Isai WelBeibl 14:27  Mae gan yr ARGLWYDD hollbwerus gynllun – pwy sy'n mynd i'w rwystro? Mae ei law yn barod i weithredu – pwy sy'n mynd i'w ddal yn ôl?
Isai WelBeibl 14:28  Neges gafodd ei rhoi yn y flwyddyn y buodd y Brenin Ahas farw:
Isai WelBeibl 14:29  Peidiwch dathlu, chi'r Philistiaid i gyd, am fod y ffon fuodd yn eich curo chi wedi'i thorri. O wreiddyn y neidr bydd gwiber yn codi, gwiber wibiog fydd ei ffrwyth.
Isai WelBeibl 14:30  Bydd y tlotaf o'r tlawd yn cael pori, a'r rhai anghenus yn gorwedd yn ddiogel. Ond bydda i'n defnyddio newyn i ddinistrio dy wreiddyn, a bydd yn lladd pawb sydd ar ôl.
Isai WelBeibl 14:31  Udwch wrth y giatiau a sgrechian yn y ddinas; mae Philistia i gyd mewn dychryn! Achos mae cwmwl yn dod o'r gogledd, a does neb yn ei rengoedd yn llusgo'i draed.
Isai WelBeibl 14:32  Beth ydy'r ateb i negeswyr y genedl? Fod yr ARGLWYDD wedi gwneud Seion yn saff, a bod lloches yno i'w bobl anghenus.
Chapter 15
Isai WelBeibl 15:1  Neges am Moab: Do, cafodd ei dinistrio mewn noson, cafodd Ar yn Moab ei difrodi'n llwyr. Do, cafodd ei dinistrio mewn noson, cafodd Cir yn Moab ei difrodi'n llwyr.
Isai WelBeibl 15:2  Maen nhw wedi mynd i'r deml, ac i'r allor leol yn Dibon i wylo. Mae Moab yn udo am beth ddigwyddodd i Nebo a Medeba. Mae pob pen yn foel, pob barf wedi'i siafio,
Isai WelBeibl 15:3  ac maen nhw'n gwisgo sachliain yn y strydoedd. Mae pawb yn udo ac yn beichio crio ar bennau'r tai ac yn y sgwariau.
Isai WelBeibl 15:4  Mae sgrechian yn Cheshbon ac Elealê, ac mae'r sŵn i'w glywed mor bell â Iahats. Felly, mae milwyr Moab yn gweiddi a chrynu drwyddynt mewn ofn.
Isai WelBeibl 15:5  Mae fy nghalon yn gwaedu dros Moab – a'r ffoaduriaid sy'n dianc i Soar ac Eglath-shalisheia. Maen nhw'n wylo wrth ddringo llethr Lwchith. Mae gwaedd dinistr yn codi ar y ffordd i Choronaïm.
Isai WelBeibl 15:6  Mae dyfroedd Nimrim wedi sychu; mae'r glaswellt wedi gwywo a phob tyfiant yn methu. Mae pob planhigyn wedi diflannu.
Isai WelBeibl 15:7  Felly, maen nhw'n cario'u cynilion a'u heiddo dros Sychnant yr Helyg.
Isai WelBeibl 15:8  Ydy, mae sŵn y sgrechian wedi lledu drwy wlad Moab i gyd: mae'r udo i'w glywed mor bell ag Eglaim, hyd yn oed yn Beër-elim!
Isai WelBeibl 15:9  Mae dyfroedd Dimon yn llawn gwaed. Ond dw i'n mynd i wneud pethau'n waeth eto i Dimon: bydd llew yn ymosod ar weddill Moab, a'r rhai sydd ar ôl yn y tir.
Chapter 16
Isai WelBeibl 16:1  Anfon oen oddi wrth lywodraethwr y wlad, o Sela yn yr anialwch i Fynydd Seion hardd:
Isai WelBeibl 16:2  “Mae merched Moab wrth rydau Arnon, fel adar wedi'u tarfu a'u gyrru o'r nyth.
Isai WelBeibl 16:3  Rhowch gyngor! Gwnewch benderfyniad! Rhowch gysgod i ni rhag y gelyn, fel oerni'r nos rhwng gwres dau ddydd. Cuddiwch ein ffoaduriaid! Peidiwch bradychu'r rhai sy'n ffoi.
Isai WelBeibl 16:4  Rhowch loches i ffoaduriaid Moab; cuddiwch nhw rhag y gelyn sy'n dinistrio.” Pan fydd yr un creulon wedi diflannu a'r ysbeilio wedi dod i ben, a'r gormeswyr wedi diflannu o'r tir,
Isai WelBeibl 16:5  bydd brenin dibynadwy yn cael ei orseddu – un o deulu Dafydd. Bydd yn teyrnasu'n ffyddlon, bydd yn frwd dros gyfiawnder ac yn hybu tegwch.
Isai WelBeibl 16:6  “Dŷn ni wedi clywed am falchder Moab – mae ei phobl mor falch – yn snobyddlyd, yn brolio ac mor haerllug, ond mae ei brolio hi'n wag.”
Isai WelBeibl 16:7  Felly, mae Moab yn udo; mae pawb yn Moab yn udo! Mae'r rhai a anafwyd yn griddfan am deisennau ffrwyth melys Cir-chareseth.
Isai WelBeibl 16:8  Mae'r ffrwyth ar gaeau teras Cheshbon a gwinllannoedd Sibma wedi gwywo. Mae'r rhai sy'n rheoli'r cenhedloedd wedi torri eu gwinwydd gorau. Roedden nhw'n cyrraedd hyd at Iaser, ac yn ymestyn i'r anialwch; roedd eu brigau wedi ymledu ac yn cyrraedd at y môr.
Isai WelBeibl 16:9  Felly dw i'n wylo gyda Iaser dros winwydd Sibma. Gwlychaf di â'm dagrau, Cheshbon ac Elealê, am fod y gweiddi llawen am ffrwythau aeddfed dy gynhaeaf wedi dod i ben.
Isai WelBeibl 16:10  Mae'r miri a'r hwyl wedi'i ysgubo i ffwrdd o'r gerddi. Does dim canu na sŵn dathlu i'w glywed yn y gwinllannoedd. Does neb yn sathru'r grawnwin i'r cafnau – mae'r bwrlwm wedi tewi.
Isai WelBeibl 16:11  Felly mae fy mol yn murmur dros Moab fel tannau telyn, a'r cwbl sydd yno i dros Cir-chareseth.
Isai WelBeibl 16:12  Pan mae pobl Moab yn mynd at yr allor leol, ac yn gweddïo'n daer yn y cysegr, fydd dim byd yn tycio.
Isai WelBeibl 16:13  Dyna'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Moab o'r blaen.
Isai WelBeibl 16:14  Ond mae'r ARGLWYDD yn dweud nawr: mewn tair blynedd union bydd poblogaeth anferth Moab yn crebachu. Fydd dim hyd yn oed llond dwrn ar ôl – neb o bwys.
Chapter 17
Isai WelBeibl 17:1  Neges am Damascus: “Edrychwch ar Damascus! Dydy hi ddim yn ddinas bellach – pentwr o gerrig ydy hi!
Isai WelBeibl 17:2  Bydd ei phentrefi yn wag am byth – lle i breiddiau orwedd heb neb i'w dychryn.
Isai WelBeibl 17:3  Bydd trefi caerog Effraim, a sofraniaeth Damascus yn diflannu. Bydd y rhai sydd ar ôl yn Syria yn yr un cyflwr ‛gwych‛ ag Israel!” —yr ARGLWYDD hollbwerus sy'n dweud hyn.
Isai WelBeibl 17:4  “Bryd hynny, bydd gwychder Jacob wedi pylu, a'i gorff iach yn denau fel sgerbwd.
Isai WelBeibl 17:5  Yn lle bod fel cae o ŷd yn cael ei gynaeafu, a breichiau'r medelwr yn llawn, bydd fel y tywysennau sy'n cael eu lloffa yn Nyffryn Reffaïm –
Isai WelBeibl 17:6  dim ond ychydig loffion fydd ar ôl. Bydd fel ysgwyd coeden olewydd, a dim ond dau neu dri ffrwyth yn disgyn o'r brigau uchaf, a phedair neu bump o'r prif ganghennau,” —meddai'r ARGLWYDD, Duw Israel.
Isai WelBeibl 17:7  Bryd hynny, bydd pobl yn troi at eu Crëwr. Byddan nhw'n edrych at Un Sanctaidd Israel am help,
Isai WelBeibl 17:8  yn lle syllu ar yr allorau godon nhw, polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth – eu gwaith llaw eu hunain.
Isai WelBeibl 17:9  Bryd hynny, bydd eu trefi caerog fel yr adfeilion adawyd gan yr Amoriaid a'r Hefiaid pan ymosododd Israel arnyn nhw – wedi'u dinistrio'n llwyr.
Isai WelBeibl 17:10  Rwyt wedi anghofio'r Duw wnaeth dy achub; ac anwybyddu'r Graig – dy gaer ddiogel. Felly rwyt yn trin gerddi i'r ‛Anwylyd‛, a plannu sbrigyn i dduw estron!
Isai WelBeibl 17:11  Ti'n codi ffens o'i gwmpas y diwrnod rwyt yn ei blannu; ei weld yn blaguro y bore hwnnw a disgwyl pentwr o gynhaeaf! Ond y cwbl gei di fydd pryder a phoen na ellir ei gwella!
Isai WelBeibl 17:12  Gwae! Mae byddinoedd y gwledydd yn dod! Maen nhw'n rhuo fel tonnau'r môr; mae sŵn y rhuo fel sŵn dŵr mawr yn llifo.
Isai WelBeibl 17:13  Ond er bod y bobl yn rhuo fel sŵn dŵr mawr, bydd Duw'n eu ceryddu, a byddan nhw'n ffoi. Byddan nhw'n cael eu gyrru fel mân us o flaen y gwynt, neu blu ysgall o flaen corwynt.
Isai WelBeibl 17:14  Fin nos, daw dychryn sydyn, ond erbyn y bore does dim ar ôl. Dyna fydd yn digwydd i'r rhai sy'n ein hysbeilio, dyna sy'n disgwyl y rhai sy'n ein rheibio!
Chapter 18
Isai WelBeibl 18:1  Gwae wlad yr adenydd chwim wrth afonydd dwyrain Affrica! Mae'n anfon negeswyr dros y môr, mewn cychod brwyn ar wyneb y dŵr.
Isai WelBeibl 18:2  Ewch, negeswyr cyflym, at genedl o bobl dal gyda chroen llyfn – pobl sy'n cael eu hofni ym mhobman; cenedl gref sy'n hoffi ymladd, sydd â'i thir wedi'i rannu gan afonydd.
Isai WelBeibl 18:3  “Gwrandwch, bawb drwy'r byd i gyd, pawb sy'n byw ar y ddaear: byddwch yn ei weld! – fel baner ar ben y bryniau; byddwch yn ei glywed! – fel sŵn y corn hwrdd yn cael ei chwythu!”
Isai WelBeibl 18:4  Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i: “Dw i'n mynd i aros yn llonydd ac edrych o'm lle – fel tes yr haul yn tywynnu, neu gwmwl gwlith yng ngwres y cynhaeaf.”
Isai WelBeibl 18:5  Adeg y cynhaeaf grawn, pan mae'r blagur wedi mynd, a'r grawnwin yn dechrau aeddfedu, bydd yn torri'r brigau gyda chyllell, ac yn tocio'r canghennau sy'n lledu.
Isai WelBeibl 18:6  Bydd y cwbl yn cael ei adael i'r eryrod ar y mynydd ac i'r anifeiliaid gwyllt. Bydd yr adar yn byw drwy'r haf arnyn nhw, a'r anifeiliaid gwyllt drwy'r gaeaf.
Isai WelBeibl 18:7  Bryd hynny bydd pobl dal gyda chroen llyfn yn dod â rhoddion i'r ARGLWYDD hollbwerus – pobl sy'n cael eu hofni ym mhobman, cenedl gref sy'n hoffi ymladd, sydd â'i thir wedi'i rannu gan afonydd. Dônt i'r lle mae enw'r ARGLWYDD hollbwerus arno: i Fynydd Seion.
Chapter 19
Isai WelBeibl 19:1  Neges am yr Aifft: Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl cyflym, ac yn dod i'r Aifft. Bydd eilunod diwerth yr Aifft yn crynu o'i flaen, a bydd yr Eifftiaid yn digalonni.
Isai WelBeibl 19:2  “Achos bydd gwrthdaro sifil yn yr Aifft; bydd yr Eifftwyr yn ymladd ei gilydd, un yn erbyn y llall, dinas yn erbyn dinas, teyrnas yn erbyn teyrnas.
Isai WelBeibl 19:3  Bydd yr Aifft wedi anobeithio, a bydda i wedi drysu ei chynlluniau. Byddan nhw'n troi at eu heilunod diwerth am arweiniad, ac at yr ysbrydegwyr, y dewiniaid a'r rhai sy'n dweud ffortiwn.
Isai WelBeibl 19:4  Bydda i'n rhoi'r Eifftiaid yn nwylo meistri gwaith caled, a bydd brenin creulon yn teyrnasu arnyn nhw.” —y Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus sy'n dweud hyn.
Isai WelBeibl 19:5  Bydd afon Nîl yn sychu a gwely'r afon yn grasdir sych.
Isai WelBeibl 19:6  Bydd y camlesi yn drewi, canghennau afon Nîl yn sychu, a'r brwyn a'r hesg yn pydru.
Isai WelBeibl 19:7  Bydd y tir ar y delta yn ddiffaith, a bydd popeth sy'n cael ei hau ar y lan yn crino ac yn cael ei chwythu i ffwrdd – fydd dim ar ôl.
Isai WelBeibl 19:8  Bydd y pysgotwyr yn galaru ac yn cwyno – pawb sy'n taflu bachyn i'r afon, neu'n bwrw rhwyd ar wyneb y dŵr.
Isai WelBeibl 19:9  Bydd y gweithwyr llin yn gofidio hefyd, y rhai sy'n cribo a'r gwehyddion.
Isai WelBeibl 19:10  Bydd y rhai sy'n gwneud brethyn wedi'u llethu gan bryder, a phawb sy'n cael eu cyflogi wedi torri eu calonnau.
Isai WelBeibl 19:11  Mae arweinwyr Soan yn ffyliaid. Mae cynghorwyr mwya doeth y Pharo yn dweud pethau cwbl hurt! Sut allwch chi ddweud wrth y Pharo, “Dw i'n un o'r rhai doeth, o urdd yr hen frenhinoedd”?
Isai WelBeibl 19:12  Ble maen nhw? Ble mae dy rai doeth di? Gad iddyn nhw ddweud wrthot ti a deall beth mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn bwriadu ei wneud i'r Aifft.
Isai WelBeibl 19:13  Mae arweinwyr Soan yn ffyliaid, ac arweinwyr Memffis wedi'u twyllo; Mae penaethiaid ei llwythau wedi arwain yr Aifft ar gyfeiliorn.
Isai WelBeibl 19:14  Mae'r ARGLWYDD wedi'i chymysgu a'i drysu, a gwneud iddi faglu dros bobman, fel meddwyn yn mynd igam-ogam yn ei gyfog.
Isai WelBeibl 19:15  All neb wneud dim i helpu'r Aifft – pen na chynffon, cangen balmwydd na brwynen.
Isai WelBeibl 19:16  Bryd hynny bydd yr Eifftiaid yn wan fel merched. Byddan nhw'n crynu mewn ofn am fod yr ARGLWYDD hollbwerus yn codi ei law i'w taro nhw.
Isai WelBeibl 19:17  Bydd sôn am Jwda'n codi dychryn ar yr Aifft. Bydd pawb fydd yn cofio'i arwyddion, yn crynu wrth feddwl am beth mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn bwriadu ei wneud iddyn nhw.
Isai WelBeibl 19:18  Bryd hynny bydd pum tref yn yr Aifft yn siarad iaith Canaan ac yn tyngu llw o ffyddlondeb i'r ARGLWYDD hollbwerus. Dinas yr Haul fydd enw un ohonyn nhw.
Isai WelBeibl 19:19  Bryd hynny bydd allor i'r ARGLWYDD yng nghanol yr Aifft, a cholofn wedi'i chysegru i'r ARGLWYDD ar y ffin.
Isai WelBeibl 19:20  Bydd yn arwydd i atgoffa'r Aifft pwy ydy'r ARGLWYDD hollbwerus. Pan fyddan nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD am help yn erbyn y rhai sy'n eu gorthrymu nhw, bydd e'n anfon un i'w hachub nhw ac ymladd drostyn nhw.
Isai WelBeibl 19:21  Achos bydd yr ARGLWYDD yn datguddio'i hun i'r Eifftiaid, a byddan nhw'n dod i'w nabod e bryd hynny. Byddan nhw'n ei addoli gydag aberth ac offrwm o rawn, yn gwneud addunedau iddo, ac yn eu cadw.
Isai WelBeibl 19:22  Os bydd yr ARGLWYDD yn taro'r Aifft gyda phla, bydd yn ei tharo ac yna yn ei gwella. Os byddan nhw'n troi yn ôl at yr ARGLWYDD, bydd e'n ymateb iddyn nhw ac yn eu hiacháu nhw.
Isai WelBeibl 19:23  Bryd hynny, bydd priffordd o'r Aifft i Asyria. Bydd yr Asyriaid yn mynd i'r Aifft, a'r Eifftiaid yn mynd i Asyria, a bydd yr Eifftiaid a'r Asyriaid yn addoli gyda'i gilydd.
Isai WelBeibl 19:24  Bryd hynny, Israel fydd y trydydd partner gyda'r Aifft ac Asyria, a byddan nhw'n fendith ar y ddaear.
Isai WelBeibl 19:25  Bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn eu bendithio nhw, ac yn dweud, “Bendith ar yr Aifft, fy mhobl, ac ar Asyria, gwaith fy llaw, ac ar Israel, fy etifeddiaeth.”
Chapter 20
Isai WelBeibl 20:1  Roedd hi'r flwyddyn yr anfonodd Sargon, brenin Asyria, ei brif swyddog milwrol i ymosod ar dref Ashdod, a'i choncro.
Isai WelBeibl 20:2  Dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag Eseia fab Amos, a dweud, “Dos, datod y sachliain oddi amdanat, a thynna dy sandalau i ffwrdd.” A dyma Eseia yn gwneud hynny, a cherdded o gwmpas yn noeth a heb ddim am ei draed.
Isai WelBeibl 20:3  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Arwydd ydy hwn sy'n rhybudd i'r Aifft a theyrnas Cwsh yn nwyrain Affrica: Fel mae fy ngwas Eseia wedi cerdded o gwmpas am dair blynedd yn noeth a heb ddim am ei draed,
Isai WelBeibl 20:4  bydd brenin Asyria yn arwain yr Eifftiaid i ffwrdd, ac yn caethgludo pobl Cwsh – ifanc a hen, yn noeth a heb ddim am eu traed, a'u tinau yn y golwg – bydd yn sarhad ar yr Aifft!
Isai WelBeibl 20:5  Byddan nhw'n ddigalon, a bydd ganddyn nhw gywilydd o'r Affricaniaid (y rhai roedden nhw wedi gobeithio ynddyn nhw), a'r Aifft (y rhai roedden nhw'n eu brolio).
Isai WelBeibl 20:6  “Bryd hynny, bydd y rhai sy'n byw ar yr arfordir yma yn dweud, ‘Os ydy hyn wedi digwydd i'r Aifft, pa obaith sydd i ni? Roedden ni wedi gobeithio mai nhw fyddai'n ein helpu ni ac yn ein hachub rhag brenin Asyria.’”
Chapter 21
Isai WelBeibl 21:1  Neges am “yr Anialwch wrth y môr” (sef Babilon): Fel y gwyntoedd stormus sy'n rhuthro drwy'r Negef, mae e'n dod o'r anialwch, o wlad sydd i'w hofni.
Isai WelBeibl 21:2  Cafodd gweledigaeth erchyll ei rhoi i mi: “Mae'r bradwr yn bradychu, a'r dinistrydd yn dinistrio! Ymlaen, Elam! Gwarchae arni, Media! Dw i am roi taw ar y griddfan mae wedi'i achosi.”
Isai WelBeibl 21:3  Yn sydyn, mae fy nghorff yn ddolur i gyd; Mae poenau yn gafael yno i fel gwraig mewn poen wrth gael babi. Dw i wedi fy llethu gan beth dw i'n ei glywed, ac wedi dychryn gan beth dw i'n ei weld.
Isai WelBeibl 21:4  Mae'r galon yn pwmpio a dw i'n crynu mewn panig. Mae fy mreuddwyd am wawr newydd wedi troi'n hunllef:
Isai WelBeibl 21:5  Mae “Trefnwch wledd” wedi troi'n “Gosodwch wylwyr!” “Bwytwch ac yfwch!” wedi troi'n “Codwch swyddogion! Paratowch y tarianau!”
Isai WelBeibl 21:6  Achos dyma ddwedodd y Meistr wrtho i: “Dos, gosod wyliwr i edrych allan, a dweud beth mae'n ei weld.
Isai WelBeibl 21:7  Pan fydd yn gweld cerbyd gyda phâr o geffylau, marchog ar asyn neu farchog ar gamel, dylai ddal sylw a gwylio'n ofalus.”
Isai WelBeibl 21:8  Yna mae'r gwyliwr yn gweiddi'n uchel: “Meistr, dw i wedi sefyll ar y tŵr gwylio drwy'r dydd, ac wedi edrych allan bob nos.
Isai WelBeibl 21:9  Ac edrych draw! Mae rhywun yn dod – dyn mewn cerbyd gyda phâr o geffylau!” Ac mae'n gweiddi'n uchel, “Mae wedi syrthio! Mae Babilon wedi syrthio! Mae'r delwau o'i holl dduwiau yn ddarnau mân ar lawr!”
Isai WelBeibl 21:10  Chi sydd wedi dioddef – fy mhobl ar fy llawr dyrnu: dw i wedi dweud wrthoch chi beth glywais i gan yr ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel.
Isai WelBeibl 21:11  Neges am Dwma: Mae rhywun yn galw arna i o Seir: “Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl? Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl?”
Isai WelBeibl 21:12  Atebodd y gwyliwr, “Mae'r bore yn dod, ond daw'r nos yn ôl. Os ydych chi am ofyn eto, gofynnwch. Trowch! Dewch yn ôl!”
Isai WelBeibl 21:13  Neges am Arabia: Cuddiwch yn nrysni'r anialwch, chi grwydriaid Dedan!
Isai WelBeibl 21:14  Rhowch ddiod o ddŵr i'r sychedig, chi sy'n byw yn Tema; rhowch fara i'r ffoaduriaid.
Isai WelBeibl 21:15  Maen nhw'n dianc rhag y rhyfel, rhag y cleddyf sydd wedi'i dynnu o'r wain, rhag y bwa sy'n barod i saethu, a rhag caledi'r frwydr.
Isai WelBeibl 21:16  Achos dyma ddwedodd fy Meistr wrtho i: “Mewn blwyddyn union bydd ysblander Cedar wedi darfod;
Isai WelBeibl 21:17  nifer fach iawn o arwyr Cedar sy'n saethu gyda'r bwa fydd ar ôl.” Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi dweud.
Chapter 22
Isai WelBeibl 22:1  Neges am ‛Ddyffryn y Weledigaeth‛: Beth sy'n digwydd yma? Pam mae pawb wedi mynd i ben y toeau?
Isai WelBeibl 22:2  Roeddet ti mor llawn bwrlwm – yn ddinas mor swnllyd; yn dre oedd yn llawn miri! Nid cleddyf wnaeth ladd dy feirwon, na'r frwydr chwaith.
Isai WelBeibl 22:3  Rhedodd dy arweinwyr., a dianc i le pell i ffwrdd; cafodd pawb oedd ar ôl eu dal heb help run bwasaethwr.
Isai WelBeibl 22:4  Dyna pam dw i'n dweud, “Gadewch lonydd i mi, gadewch i mi wylo'n chwerw! Peidiwch boddran ceisio fy nghysuro am fod fy mhobl druan wedi'u dinistrio.”
Isai WelBeibl 22:5  Ydy, mae fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus, wedi trefnu diwrnod o banig, sathru, a dryswch – yn Nyffryn y Weledigaeth mae sŵn waliau'n syrthio, a phobl yn gweiddi ar y mynydd.
Isai WelBeibl 22:6  Mae Elam wedi codi'r gawell saethau, gyda'i marchogion a'i cherbydau, ac mae milwyr Cir wedi paratoi eu tarianau.
Isai WelBeibl 22:7  Mae dy ddyffrynnoedd, dy dir gorau, yn llawn cerbydau, a'r marchogion yn rhengoedd tu allan i'r giatiau.
Isai WelBeibl 22:8  Mae'r sgrîn oedd yn amddiffyn Jwda wedi'i symud. Felly, bryd hynny, dyma chi'n mynd i Blas y Goedwig i nôl yr arfau.
Isai WelBeibl 22:9  Roeddech chi'n gweld fod llawer iawn o fylchau yn waliau Dinas Dafydd. Dyma gasglu dŵr o'r Llyn Isaf,
Isai WelBeibl 22:10  cyfri'r tai yn Jerwsalem a chwalu rhai er mwyn gwneud waliau'r ddinas yn ddiogel.
Isai WelBeibl 22:11  Yna adeiladu cronfa rhwng y ddwy wal i ddal dŵr yr hen lyn. Ond gymeroch chi ddim sylw o'r Un wnaeth y cwbl, na meddwl am yr Un oedd wedi cynllunio hyn ers talwm.
Isai WelBeibl 22:12  Bryd hynny dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus, yn galw ar bobl i wylo a galaru, i siafio'r pen a gwisgo sachliain.
Isai WelBeibl 22:13  Ond yn lle hynny roedd hwyl a miri, lladd gwartheg a defaid, bwyta cig ac yfed gwin. “Gadewch i ni gael parti ac yfed, falle byddwn ni'n marw fory!”
Isai WelBeibl 22:14  Rôn i wedi clywed yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud: “Fydd dim byd yn gwneud iawn am y pechod yma nes i chi farw.” Ie, dyna ddwedodd fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus.
Isai WelBeibl 22:15  Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, “Dos i ofyn i'r swyddog – y Shefna yna sy'n gyfrifol am y palas:
Isai WelBeibl 22:16  ‘Beth sy'n digwydd yma? Pwy roddodd ganiatâd i ti dorri bedd i ti dy hun yma? Torri bedd i ti dy hun mewn lle pwysig; naddu lle i ti dy hun gael gorffwys yn y graig!
Isai WelBeibl 22:17  Mae'r ARGLWYDD yn mynd i dy daflu di i ffwrdd – dy hyrddio di'n bell, ti bwysigyn! Bydd yn dy lapio di'n dynn,
Isai WelBeibl 22:18  yn dy rolio i fyny fel pelen ac yn dy daflu i ffwrdd i wlad eang iawn! A dyna ble byddi di'n marw. Yr unig gerbydau crand i gario dy gorff fydd y cywilydd ddaeth ar dŷ dy feistr!
Isai WelBeibl 22:19  Dw i'n mynd i dy ddiswyddo di! Byddi di'n cael dy fwrw i lawr o dy safle!
Isai WelBeibl 22:20  Bryd hynny bydda i'n galw ar fy ngwas Eliacim fab Chilceia,
Isai WelBeibl 22:21  ac yn ei arwisgo fe gyda dy grys di, a'r sash sydd am dy ganol. Bydda i'n rhoi dy awdurdod di iddo fe, a bydd e'n gofalu am bawb sy'n byw yn Jerwsalem a phobl Jwda i gyd.
Isai WelBeibl 22:22  Bydda i'n rhoi allwedd tŷ Dafydd iddo. Fydd neb yn gallu cau yr hyn mae'n ei agor, nac agor yr hyn mae e'n ei gau.
Isai WelBeibl 22:23  Bydda i'n ei osod yn gadarn yn ei le – fel hoelen wedi'i tharo i wal. Bydd e'n cael y sedd anrhydedd yn nhŷ ei dad.
Isai WelBeibl 22:24  Bydd y cyfrifoldeb am deulu ei dad arno fe: pawb, o'r egin a'r dail; bydd y llestri bach i gyd, y powlenni a'r gwahanol jariau yn hongian arno.’”
Isai WelBeibl 22:25  “Bryd hynny,”—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus—“bydd yr hoelen oedd mor sownd yn dod yn rhydd. Bydd yn cael ei thorri a bydd yn syrthio, a bydd y llwyth oedd yn hongian arni yn cael ei dynnu i lawr.” Mae'r ARGLWYDD wedi dweud!
Chapter 23
Isai WelBeibl 23:1  Neges am Tyrus: Udwch, longau masnach Tarshish! Does dim porthladd i fynd adre iddo – achos mae wedi'i ddryllio! Cafodd y newyddion ei gyhoeddi o Cyprus.
Isai WelBeibl 23:2  Galarwch, chi sy'n byw ar yr arfordir, chi fasnachwyr Sidon. Maen nhw wedi croesi'r môr i'w chyflenwi,
Isai WelBeibl 23:3  wedi croesi'r dyfroedd mawr gyda had o Sihor a chynhaeaf afon Nîl; dyna oedd ei henillion – hi oedd marchnad y gwledydd.
Isai WelBeibl 23:4  Cywilydd arnat ti, Sidon, achos mae'r môr – y gaer ddiogel honno – wedi dweud, “Fi ydy'r un sydd heb ddiodde poenau wrth gael plant. Dw i heb fagu bechgyn na merched ifanc!”
Isai WelBeibl 23:5  Pan fydd yr Aifft yn clywed am y peth byddan nhw'n gwingo mewn poen wrth glywed am Tyrus.
Isai WelBeibl 23:6  Croeswch drosodd i Tarshish – udwch, chi sy'n byw ar yr arfordir!
Isai WelBeibl 23:7  Ai dyma'r ddinas gawsoch chi'r fath firi ynddi – y ddinas sydd â hanes mor hen iddi? Ai hon deithiodd mor bell i fasnachu?
Isai WelBeibl 23:8  Pwy drefnodd i hyn ddigwydd i Tyrus, y ddinas oedd yn gwisgo coron, a'i masnachwyr yn dywysogion ac yn bobl mor bwysig?
Isai WelBeibl 23:9  Yr ARGLWYDD hollbwerus drefnodd y peth – i ddirmygu ei balchder yn ei harddwch, a chodi cywilydd ar y bobl bwysig i gyd.
Isai WelBeibl 23:10  Hwyliwch adre, bobl Tarshish, i drin eich tir fel y rhai sy'n ffermio wrth afon Nîl; does dim harbwr i chi yma bellach.
Isai WelBeibl 23:11  Pan gododd yr ARGLWYDD ei law dros y môr gwnaeth i deyrnasoedd grynu mewn ofn! Yr ARGLWYDD roddodd orchymyn i ddinistrio trefi caerog Canaan.
Isai WelBeibl 23:12  Dwedodd, “Dyna ddigon o dy rialtwch, ferch Sidon, sydd wedi'i gorthrymu.” Dos! Cod, a chroesa drosodd i Cyprus, ond fyddi di ddim yn cael llonydd yno chwaith!
Isai WelBeibl 23:13  Edrychwch ar wlad Babilonia – y bobl sydd wedi peidio â bod! Rhoddodd Asyria nhw i'r anifeiliaid gwyllt. Codi tyrau i warchae arni, ysbeilio'i phlastai a'i throi yn adfeilion.
Isai WelBeibl 23:14  Udwch, longau masnach Tarshish, achos mae eich caer ddiogel wedi'i dinistrio!
Isai WelBeibl 23:15  Bryd hynny bydd Tyrus yn cael ei anghofio am saith deg mlynedd, sef hyd bywyd brenin. Ond ar ôl hynny bydd Tyrus fel y gân honno am y butain:
Isai WelBeibl 23:16  Cymer delyn, crwydra'r ddinas, butain a anghofiwyd; Cân dy alaw unwaith eto, i wneud i bobl gofio.
Isai WelBeibl 23:17  Achos, ar ôl saith deg mlynedd, bydd yr ARGLWYDD yn adfer Tyrus eto; bydd yn mynd yn ôl i werthu ei hun fel putain, a denu holl wledydd y byd i wneud busnes gyda hi.
Isai WelBeibl 23:18  Ond bydd ei helw a'i henillion yn cael eu cysegru i'r ARGLWYDD; fyddan nhw ddim yn cael eu cadw a'u storio. Bydd ei helw yn mynd i'r rhai sy'n agos at yr ARGLWYDD, iddyn nhw gael digonedd o fwyd, a'r dillad gorau.
Chapter 24
Isai WelBeibl 24:1  Edrych! Mae'r ARGLWYDD yn difetha'r tir a'i adael yn wag! Mae'n ei droi â'i ben i lawr, ac yn gwasgaru'r rhai sy'n byw arno.
Isai WelBeibl 24:2  Bydd yr un peth yn digwydd i'r offeiriad ac i'r bobl gyffredin, i'r gwas a'i feistr, i'r forwyn a'i meistres, i'r gwerthwr a'r prynwr, i'r benthyciwr a'r un sy'n benthyg, i'r credydwr a'r un mewn dyled.
Isai WelBeibl 24:3  Bydd y tir yn hollol wag – wedi'i ysbeilio'n llwyr. Yr ARGLWYDD sydd wedi dweud.
Isai WelBeibl 24:4  Mae'r tir yn sych; mae'n gwywo. Mae'r byd yn gwanio; mae'n gwywo. Mae ei phobl bwysica yn wan.
Isai WelBeibl 24:5  Mae'r tir ei hun wedi'i lygru gan y rhai sy'n byw arno. Maen nhw wedi anwybyddu'r ddysgeidiaeth, newid y deddfau, a thorri'r ymrwymiad oedd i fod am byth.
Isai WelBeibl 24:6  Dyna pam mae'r wlad wedi'i melltithio'n llwyr, a'i phobl yn cael eu cosbi. Dyna pam mae'r rhai sy'n byw ar y tir wedi diflannu, nes bod bron neb ar ôl.
Isai WelBeibl 24:7  Mae'r sudd grawnwin yn sychu a'r coed gwinwydd yn gwywo, a'r holl hwyl a'r miri'n troi'n riddfan.
Isai WelBeibl 24:8  Mae sŵn llawen y tambwrîn wedi tewi, yr holl firi swnllyd wedi peidio, a sain hyfryd y delyn yn dawel.
Isai WelBeibl 24:9  Does neb yn canu wrth yfed gwin, ac mae'r cwrw yn blasu'n chwerw.
Isai WelBeibl 24:10  Dinas mewn anhrefn wedi'i dryllio! Pob tŷ wedi'i gau i fyny, rhag i rywun fynd iddo.
Isai WelBeibl 24:11  Mae pobl yn gweiddi am win ar y strydoedd: mae pob hwyl wedi peidio, a miri wedi'i daflu allan o'r wlad.
Isai WelBeibl 24:12  Mae'r ddinas wedi'i gadael mewn llanast llwyr, a'i giatiau wedi'u dryllio'n ddarnau.
Isai WelBeibl 24:13  Fel yna bydd hi yn y tir, ymhlith y gwledydd: Fel coeden olewydd sy'n cael ei hysgwyd, a'r lloffa sy'n digwydd pan mae'r cynhaeaf grawnwin drosodd.
Isai WelBeibl 24:14  Ond bydd rhai'n codi eu lleisiau ac yn gweiddi'n llawen! Bydd rhai'n canu clod o'r gorllewin am fod yr ARGLWYDD mor fawreddog.
Isai WelBeibl 24:15  Felly, addolwch yr ARGLWYDD yn y dwyrain ac ar arfordir ac ynysoedd y gorllewin – addolwch enw'r ARGLWYDD, Duw Israel.
Isai WelBeibl 24:16  Mae canu i'w glywed o ben draw'r byd: “Mae'r Un Cyfiawn mor wych!” Ond wedyn dw i'n dweud: “Mae ar ben arna i! Mae ar ben arna i! Gwae fi! Mae bradwyr yn bradychu! Bradwyr yn bradychu â'u brad!”
Isai WelBeibl 24:18  Bydd pawb sy'n ffoi mewn dychryn yn disgyn i lawr i dwll. A bydd pawb sy'n dringo o'r twll yn cael ei ddal mewn trap! Mae'r llifddorau wedi'u hagor yn yr awyr, ac mae sylfeini'r ddaear yn crynu.
Isai WelBeibl 24:19  Mae'r tir wedi cracio drosto; mae wedi hollti'n ddarnau, ac yn cael ei erydu'n llwyr.
Isai WelBeibl 24:20  Mae'r tir yn gwegian fel meddwyn, ac yn sigledig fel cwt gwyliwr. Bydd yn cael ei lorio gan euogrwydd, bydd yn syrthio, a byth yn codi eto!
Isai WelBeibl 24:21  Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn cosbi pwerau'r awyr uchod a brenhinoedd y ddaear isod.
Isai WelBeibl 24:22  Byddan nhw'n cael eu casglu at ei gilydd fel carcharorion mewn dwnsiwn, a'u cloi yn y carchar, i wynebu eu tynged ar ôl amser hir.
Isai WelBeibl 24:23  Bydd y lleuad yn cywilyddio a'r haul yn swil, pan fydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn teyrnasu ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem, yn ei holl ysblander o flaen arweinwyr y bobl.
Chapter 25
Isai WelBeibl 25:1  ARGLWYDD, ti ydy fy Nuw i! Dw i'n dy ganmol di, dw i'n moli dy enw! Ti wedi gwneud peth rhyfeddol – rhywbeth gafodd ei gynllunio ymhell yn ôl; ti'n gwbl ddibynadwy!
Isai WelBeibl 25:2  Ti wedi troi dinas y gelyn yn bentwr o gerrig, troi'r gaer amddiffynnol yn adfeilion! Gaiff y palas estron fyth ei ailadeiladu!
Isai WelBeibl 25:3  Felly bydd gwledydd cryfion yn dy anrhydeddu di, a threfi'r cenhedloedd creulon yn dy barchu di!
Isai WelBeibl 25:4  Ond rwyt ti'n dal yn lle diogel i'r rhai tlawd guddio, yn lle i'r anghenus gysgodi mewn argyfwng, yn lloches rhag y storm, cysgod rhag gwres yr haul. Pan mae pobl greulon yn ein taro fel storm o law trwm,
Isai WelBeibl 25:5  neu fel gwres yr haul yn crasu'r tir, rwyt ti'n tewi twrw'r estroniaid. Mae fel cysgod cwmwl yn dod i leddfu'r gwres, ac mae cân y gormeswr creulon yn cael ei dewi.
Isai WelBeibl 25:6  Ar y mynydd hwn bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn paratoi gwledd o fwyd blasus i'r cenhedloedd i gyd: gwledd o winoedd aeddfed, bwyd blasus gyda'r gwin gorau.
Isai WelBeibl 25:7  Ar y mynydd hwn bydd yn dinistrio'r llen sy'n gorchuddio wynebau'r bobloedd, a'r gorchudd sy'n bwrw cysgod dros y cenhedloedd i gyd.
Isai WelBeibl 25:8  Bydd marwolaeth wedi'i lyncu am byth. Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn sychu'r dagrau oddi ar bob wyneb, a symud y cywilydd sydd wedi bod ar ei bobl o'r tir. —mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
Isai WelBeibl 25:9  Bryd hynny bydd y bobl yn dweud: “Dyma'n Duw ni, yr un roedden ni'n disgwyl iddo'n hachub. Dyma'r ARGLWYDD roedden ni'n ei drystio. Gadewch i ni ddathlu a mwynhau ei achubiaeth.”
Isai WelBeibl 25:10  Ydy, mae llaw yr ARGLWYDD yn gorffwys ar y mynydd hwn. Bydd Moab yn cael ei sathru ganddo fel gwellt yn cael ei sathru mewn tomen.
Isai WelBeibl 25:11  Bydd yn estyn ei ddwylo ar led yn ei chanol, fel nofiwr yn estyn ei ddwylo i nofio. Bydd yn gwneud i falchder Moab suddo hefo symudiad ei ddwylo.
Isai WelBeibl 25:12  Bydd y waliau diogel sy'n eu hamddiffyn yn cael eu bwrw i lawr ganddo; bydd yn eu chwalu i'r llawr – nes byddan nhw yn y llwch.
Chapter 26
Isai WelBeibl 26:1  Bryd hynny, bydd y gân hon yn cael ei chanu yng ngwlad Jwda: Mae gynnon ni ddinas gref; achubiaeth ydy ei waliau mewnol ac allanol hi.
Isai WelBeibl 26:2  Agorwch y giatiau, i'r genedl gyfiawn ddod i mewn a gweld ei ffyddlondeb.
Isai WelBeibl 26:3  Mae'r rhai sy'n dy drystio di yn gallu bod yn hollol dawel eu meddwl.
Isai WelBeibl 26:4  Trystiwch yr ARGLWYDD bob amser, achos, wir, mae'r ARGLWYDD yn graig am byth.
Isai WelBeibl 26:5  Mae'n tynnu'r rhai balch i lawr. Mae'n gwneud i'r ddinas saff syrthio – syrthio i'r llawr nes bydd yn y llwch.
Isai WelBeibl 26:6  Mae'n cael ei sathru dan draed – traed y rhai anghenus, a sodlau'r rhai tlawd.
Isai WelBeibl 26:7  Mae'r llwybr yn wastad i'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn; rwyt ti'n gwneud ffordd y cyfiawn yn llyfn.
Isai WelBeibl 26:8  Dŷn ni'n edrych atat ti, O ARGLWYDD, i wneud y peth iawn; cofio dy enw di ydy'n hiraeth dyfnaf ni.
Isai WelBeibl 26:9  Yn y nos dw i'n dyheu amdanat o waelod calon, mae'r cwbl sydd ynof yn dy geisio di'n daer; achos pan mae'r hyn sy'n iawn yn dy olwg di'n cael ei wneud yn y wlad, maen nhw'n dysgu beth sy'n iawn i bawb yn y byd.
Isai WelBeibl 26:10  Pan mae'r un sy'n gwneud drwg yn cael ei esgusodi, dydy e ddim yn dysgu beth sy'n iawn. Mae'n dal i wneud drwg mewn gwlad o bobl onest – dydy e'n dangos dim parch at fawredd yr ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 26:11  ARGLWYDD, rwyt ar fin gweithredu ond dŷn nhw ddim wedi sylwi. Gad iddyn nhw gywilyddio wrth weld dy sêl dros dy bobl, a'th dân yn llosgi dy elynion.
Isai WelBeibl 26:12  O ARGLWYDD! Ti wedi rhoi heddwch perffaith i ni; Ti sydd wedi cyflawni'r cwbl ar ein rhan!
Isai WelBeibl 26:13  O ARGLWYDD ein Duw, mae meistri eraill wedi bod yn ein rheoli, ond dim ond ti oedden ni'n ei gydnabod.
Isai WelBeibl 26:14  Mae'r lleill wedi marw, a fyddan nhw ddim yn byw; cysgodion ydyn nhw, a wnân nhw byth godi. Ti wnaeth benderfynu eu tynged, eu dinistrio a chael gwared â phob atgof ohonyn nhw.
Isai WelBeibl 26:15  Ti wedi gwneud i'r genedl dyfu, O ARGLWYDD, Ti wedi gwneud i'r genedl dyfu, ac ennill anrhydedd i ti dy hun. Ti wedi estyn ffiniau'r wlad.
Isai WelBeibl 26:16  ARGLWYDD, pan oedd hi'n argyfwng arnyn nhw dyma nhw'n dy geisio di. Roeddet ti wedi'u ceryddu nhw am yr holl sibrwd swynion.
Isai WelBeibl 26:17  Roedden ni o dy flaen di, O ARGLWYDD, fel gwraig ar fin cael plentyn, yn gwingo ac yn sgrechian mewn poen.
Isai WelBeibl 26:18  Ond os oedden ni'n feichiog, os oedden ni'n gwingo, doedden ni'n geni dim byd ond gwynt. Gafodd y wlad mo'i hachub, a doedd dim plant wedi'u geni i fyw yn y tir.
Isai WelBeibl 26:19  Ond bydd dy feirw di yn dod yn fyw! Bydd cyrff marw yn codi eto! Deffrwch a chanwch yn llawen, chi sy'n byw yn y pridd! Bydd dy olau fel gwlith y bore yn rhoi bywyd i dir y meirwon.
Isai WelBeibl 26:20  Ewch, fy mhobl! Ewch i'ch ystafelloedd, a chloi'r drysau ar eich hôl. Cuddiwch am funud fach, nes i'w lid basio heibio.
Isai WelBeibl 26:21  Achos mae'r ARGLWYDD yn dod allan i gosbi pobl y ddaear am eu drygioni. Bydd y tir yn dangos y trais fu arno, a ddim yn cuddio'r rhai gafodd eu lladd byth mwy.
Chapter 27
Isai WelBeibl 27:1  Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn cosbi Lefiathan, y neidr wibiog, gyda'i gleddyf llym, mawr a didostur – Lefiathan, y neidr droellog; a bydd yn lladd Rahab, anghenfil y môr.
Isai WelBeibl 27:2  Bryd hynny byddwch yn canu'r gân, "Y Winllan Hyfryd":
Isai WelBeibl 27:3  Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gofalu amdani, ac yn ei dyfrio hi bob amser. Dw i'n ei gwylio hi nos a dydd, rhag i rywun wneud niwed iddi.
Isai WelBeibl 27:4  Dw i ddim yn ddig bellach: petai rhywun yn rhoi drain a mieri i mi, byddwn yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn, ac yn eu llosgi nhw'n ulw.
Isai WelBeibl 27:5  Ond os ydyn nhw am i mi eu hamddiffyn nhw, rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi; ie, rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi.
Isai WelBeibl 27:6  Mae'r amser yn dod pan fydd Jacob yn bwrw gwreiddiau, ac Israel yn tyfu ac yn blodeuo – bydd y byd i gyd yn llawn o'i ffrwyth.
Isai WelBeibl 27:7  Gafodd e ei daro fel yr un wnaeth ei daro fe? Wnaeth e ddiodde lladdfa debyg i'r un wnaeth ei ladd e?
Isai WelBeibl 27:8  Cafodd ei yrru i ffwrdd a'i gaethgludo i'w alw i gyfrif. Cafodd ei chwythu i ffwrdd gan wynt cryf ar ddydd y storm.
Isai WelBeibl 27:9  Felly, dyma sut mae gwneud iawn am fai Jacob, a dyma fydd canlyniad symud ei bechod: Bydd cerrig yr allor yn cael eu malu i gyd fel petaen nhw'n garreg galch – a pholion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth wedi'u torri i gyd.
Isai WelBeibl 27:10  Mae'r ddinas gaerog wedi'i gadael yn wag, cartrefi gwag wedi'u gadael fel tir diffaith. Mae lloi yn pori yno, yn gorwedd i lawr ac yn bwyta popeth sydd ar y canghennau.
Isai WelBeibl 27:11  Yna mae'r brigau'n sychu ac yn torri, ac mae merched yn dod ac yn cynnau tân hefo nhw. Pobl oedd ddim yn deall oedden nhw; felly doedd Duw'n dangos dim trugaredd, doedd eu Crëwr yn dangos dim caredigrwydd atyn nhw.
Isai WelBeibl 27:12  Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn ysgwyd y goeden, o afon Ewffrates i Wadi'r Aifft; a byddwch chi, blant Israel, yn cael eich casglu bob yn un!
Isai WelBeibl 27:13  Bryd hynny, bydd y corn hwrdd yn cael ei ganu; bydd y rhai oedd ar goll yng ngwlad Asyria, a'r rhai oedd wedi cael eu gyrru i wlad yr Aifft, yn dod i addoli'r ARGLWYDD ar y mynydd cysegredig, yn Jerwsalem.
Chapter 28
Isai WelBeibl 28:1  Gwae Samaria! Bydd coron falch meddwon Effraim yn syrthio, a'i harddwch yn ddim ond blodau wedi gwywo – blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon. Maen nhw'n chwil gaib!
Isai WelBeibl 28:2  Edrychwch! Mae gan y Meistr un cryf a dewr sydd fel storm o genllysg, ie, drycin ddinistriol – fel storm pan mae'r glaw yn arllwys i lawr ac yn bwrw popeth i'r llawr.
Isai WelBeibl 28:3  Bydd coron falch meddwon Effraim wedi'i sathru dan draed,
Isai WelBeibl 28:4  a'i blodau wedi gwywo – y blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon. Byddan nhw fel ffigysen gynnar cyn i'r cynhaeaf ddod. Bydd rhywun yn sylwi arni ac yn ei llyncu yr eiliad mae'n gafael ynddi.
Isai WelBeibl 28:5  Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn goron hardd, ac yn dorch wedi'i phlethu'n hyfryd i'r bobl fydd wedi'u gadael ar ôl.
Isai WelBeibl 28:6  Bydd yn rhoi arweiniad i'r un sy'n eistedd i farnu, a nerth i'r rhai sy'n amddiffyn giatiau'r ddinas.
Isai WelBeibl 28:7  Ond mae'r rhain wedi meddwi'n gaib ar win; maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw. Mae'r offeiriad a'r proffwyd wedi meddwi'n gaib ar gwrw a drysu'n lân ar win. Maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw, a'u gweledigaethau'n ddryslyd; maen nhw'n baglu wrth farnu.
Isai WelBeibl 28:8  Mae chwŷd a charthion dros y byrddau i gyd; does dim lle'n lân o gwbl.
Isai WelBeibl 28:9  “Pwy mae e'n gallu ei ddysgu? I bwy fyddai e'n gallu esbonio rhywbeth? I blantos bach sydd newydd ddod oddi ar y frest falle!
Isai WelBeibl 28:10  Fel ailadrodd llythrennau'r wyddor, ‘a, b’, ‘a, b’, ‘c, ch, d’, ‘c, ch, d’, tyrd yma, bach; fan yma, bach!”
Isai WelBeibl 28:11  O'r gorau, bydd yn siarad gyda nhw fel un yn siarad yn aneglur mewn iaith estron.
Isai WelBeibl 28:12  Roedd wedi dweud wrthyn nhw yn y gorffennol: “Dyma le saff, lle i'r blinedig orffwys; dyma le i chi orwedd i lawr.” Ond doedd neb yn fodlon gwrando.
Isai WelBeibl 28:13  Felly dyma neges yr ARGLWYDD iddyn nhw: “‘a, b’, ‘a, b’, ‘c, ch, d’, ‘c, ch, d’, tyrd yma, bach; fan yma, bach!” Wrth geisio codi i gamu yn eu blaenau byddan nhw'n syrthio ar eu tinau, yn cael eu dryllio a'u rhwymo a'u dal.
Isai WelBeibl 28:14  Felly dyma neges yr ARGLWYDD i chi sy'n gwawdio, chi arweinwyr y bobl yn Jerwsalem!
Isai WelBeibl 28:15  Chi sy'n brolio, “Dŷn ni wedi gwneud cytundeb â Marwolaeth, a tharo bargen i osgoi'r bedd. Pan fydd y dinistr yn ysgubo heibio, fydd e ddim yn ein cyffwrdd ni. Dŷn ni wedi gwneud twyll yn lle i guddio, a chelwydd yn lle saff i gysgodi.”
Isai WelBeibl 28:16  Dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Edrychwch, dw i'n mynd i osod carreg yn Seion, carreg ddiogel, conglfaen gwerthfawr, sylfaen hollol gadarn. Fydd pwy bynnag sy'n credu ddim yn panicio.
Isai WelBeibl 28:17  Bydda i'n gwneud cyfiawnder yn llinyn mesur, a thegwch yn llinyn plwm. Bydd cenllysg yn ysgubo'r twyll, sef eich lle i guddio, a bydd dŵr y llifogydd yn boddi'ch lle saff i gysgodi.
Isai WelBeibl 28:18  Bydd eich cytundeb hefo Marwolaeth yn cael ei dorri, a'ch bargen gyda'r bedd yn chwalu. Pan fydd y dinistr yn ysgubo heibio, chi fydd yn diodde'r difrod.
Isai WelBeibl 28:19  Bydd yn eich taro chi bob tro y bydd yn dod. Bydd yn dod un bore ar ôl y llall, bob dydd a bob nos.” Bydd deall y neges yma yn achosi dychryn ofnadwy.
Isai WelBeibl 28:20  Mae'r gwely'n rhy fyr i ymestyn arno, a'r garthen yn rhy gul i rywun ei lapio amdano!
Isai WelBeibl 28:21  Bydd yr ARGLWYDD yn codi fel y gwnaeth ar Fynydd Peratsîm; bydd yn cyffroi i wneud ei waith fel y gwnaeth yn Nyffryn Gibeon – ond bydd yn waith rhyfedd! Bydd yn cyflawni'r dasg – ond bydd yn dasg ddieithr!
Isai WelBeibl 28:22  Felly, stopiwch wawdio, rhag i'ch rhwymau gael eu tynhau. Dw i wedi clywed fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus, yn gorchymyn dinistrio'r wlad gyfan.
Isai WelBeibl 28:23  Gwrandwch yn astud ar hyn! Gwnewch yn siŵr eich bod yn clywed be dw i'n ddweud.
Isai WelBeibl 28:24  Ydy'r sawl sy'n aredig yn aredig drwy'r amser heb hau? Ydy e'n troi'r tir a'i lyfnu'n ddi-baid?
Isai WelBeibl 28:25  Ar ôl ei lefelu, onid ydy e'n gwasgaru ffenigl a hadau cwmin? Onid ydy e'n hau gwenith mewn rhes, haidd yn ei le, a sbelt yn ei wely?
Isai WelBeibl 28:26  Ei Dduw sy'n ei ddysgu; mae'n dysgu'r ffordd iawn iddo.
Isai WelBeibl 28:27  Dydy ffenigl ddim yn cael ei ddyrnu gyda sled, na cwmin gydag olwyn trol. Mae ffenigl yn cael ei guro hefo ffon, a chwmin gyda gwialen.
Isai WelBeibl 28:28  Mae gwenith yn cael ei falu, ond ddim yn ddiddiwedd. Mae olwyn trol yn rholio drosto, ond dydy'r ceffylau ddim yn ei sathru.
Isai WelBeibl 28:29  A'r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi trefnu hyn hefyd – Mae ganddo gynllun gwych, ac mae'n rhyfeddol o ddoeth.
Chapter 29
Isai WelBeibl 29:1  Gwae Ariel! Ariel, y ddinas lle roedd Dafydd yn byw! Mae'r blynyddoedd yn mynd heibio a'r gwyliau yn pasio yn eu tro.
Isai WelBeibl 29:2  Ond dw i'n mynd i'w phoenydio, a bydd yn griddfan ac ochneidio. Bydd Ariel yn allor i aberthu i mi.
Isai WelBeibl 29:3  Bydda i'n gwersylla o dy gwmpas, yn gwarchae arnat hefo byddin ac offer gwarchae i ymosod arnat ti.
Isai WelBeibl 29:4  Byddi'n cael dy dynnu i lawr, a byddi'n galw o'r pridd; bydd dy eiriau fel rhywun yn mwmian o'r llwch. Byddi'n swnio fel ysbryd yn codi o'r pridd; bydd dy eiriau fel rhywun yn sibrwd o'r llwch.
Isai WelBeibl 29:5  A bydd y dyrfa greulon ddaeth yn dy erbyn yn cael ei malu fel llwch mân. Bydd y dyrfa o ormeswyr fel us yn cael ei chwythu i ffwrdd. Yn sydyn, mewn chwinciad,
Isai WelBeibl 29:6  bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn eu cosbi gyda tharan, daeargryn a sŵn byddarol, gyda corwynt, storm, a thân yn dinistrio.
Isai WelBeibl 29:7  A bydd yr holl genhedloedd wnaeth ryfela yn erbyn Ariel – ymosod arni, ei gwarchae a'i gormesu – fel breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos.
Isai WelBeibl 29:8  Bydd fel rhywun sy'n llwgu'n breuddwydio ei fod yn bwyta, ac yna'n deffro a'i fol yn dal yn wag; neu rywun sydd â syched arno yn breuddwydio ei fod yn yfed, ac yna'n deffro yn teimlo'n wan a'i geg yn sych grimp. Felly bydd hi ar yr holl genhedloedd sy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.
Isai WelBeibl 29:9  Arhoswch. Cewch eich syfrdanu! Ydych chi'n hollol ddall? Wedi meddwi – ond ddim ar win! Yn chwil – ond ddim ar gwrw!
Isai WelBeibl 29:10  Mae'r ARGLWYDD wedi'ch gwneud chi'n gysglyd. Mae e wedi cau eich llygaid chi'r proffwydi, ac wedi rhoi mwgwd dros eich pennau chi sy'n cael gweledigaethau.
Isai WelBeibl 29:11  Mae pob gweledigaeth fel neges mewn dogfen sydd wedi'i selio. Mae'n cael ei rhoi i rywun sy'n gallu darllen, gan ofyn iddo, “Darllen hwn i mi”, ond mae hwnnw'n ateb, “Alla i ddim, mae wedi'i selio.”
Isai WelBeibl 29:12  Yna mae'n cael ei rhoi i rywun sydd ddim yn gallu darllen, gan ofyn i hwnnw, “Darllen hwn i mi”, a'i ateb e ydy, “Dw i ddim yn gallu darllen.”
Isai WelBeibl 29:13  Dyma ddwedodd y Meistr: Mae'r bobl yma'n dod ata i ac yn dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau'n bell oddi wrtho i. Dydy eu haddoliad nhw yn ddim ond traddodiad dynol wedi'i ddysgu iddyn nhw.
Isai WelBeibl 29:14  Felly, dw i'n mynd i syfrdanu'r bobl yma dro ar ôl tro gydag un rhyfeddod ar ôl y llall. Ond bydd doethineb y deallus yn darfod, a chrebwyll pobl glyfar wedi'i guddio.
Isai WelBeibl 29:15  Gwae'r rhai sy'n ceisio cuddio'u cynlluniau oddi wrth yr ARGLWYDD, y rhai sy'n gweithio yn y tywyllwch, ac yn dweud, “Pwy sy'n ein gweld ni?” “Pwy sy'n gwybod amdanon ni?”
Isai WelBeibl 29:16  Dych chi mor droëdig! Ydy'r crochenydd i gael ei ystyried fel clai? Fel petai'r hyn gafodd ei greu yn dweud am yr un a'i gwnaeth, “Wnaeth e mohono i!” Neu'r hyn gafodd ei siapio yn dweud am yr un a'i siapiodd, “Dydy e'n deall dim!”
Isai WelBeibl 29:17  Yn fuan iawn, oni fydd Libanus yn cael ei throi'n berllan, a Carmel yn cael ei ystyried yn goedwig.
Isai WelBeibl 29:18  Bryd hynny, bydd y byddar yn clywed geiriau o lyfr, a bydd llygaid pobl ddall yn gweld ar ôl bod mewn tywyllwch dudew.
Isai WelBeibl 29:19  Bydd y rhai sy'n cael eu gorthrymu yn llawenhau yn yr ARGLWYDD, a'r bobl dlotaf yn gorfoleddu yn Un Sanctaidd Israel.
Isai WelBeibl 29:20  Fydd dim gormeswyr o hynny ymlaen, a bydd y rhai sy'n gwawdio yn peidio â bod; bydd pawb sy'n dal ati i wneud drwg yn cael eu torri i ffwrdd –
Isai WelBeibl 29:21  y rhai sy'n gwneud i rywun edrych fel troseddwr, ac yn gosod trap i'r un sy'n erlyn yn y llys wrth giatiau'r ddinas, a gwneud iddo droi ymaith achos cyfiawn gyda dadl wag.
Isai WelBeibl 29:22  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Deulu Jacob – y Duw brynodd ryddid i Abraham: Fydd Jacob ddim yn cael ei gywilyddio eto! Fydd ei wyneb ddim yn gwelwi eto!
Isai WelBeibl 29:23  Achos pan fyddan nhw'n gweld eu plant a beth fydda i wedi'i wneud yn eu plith, byddan nhw'n anrhydeddu fy enw i. Bydd pobl yn anrhydeddu Un Sanctaidd Jacob Ac yn dangos parch go iawn at Dduw Israel.
Isai WelBeibl 29:24  Bydd y rhai sydd wedi mynd ar gyfeiliorn yn dod i ddeall, a'r rhai sy'n cwyno o hyd wedi dysgu gwers.
Chapter 30
Isai WelBeibl 30:1  “Gwae chi, blant ystyfnig,” meddai'r ARGLWYDD – “yn gwneud cynlluniau sy'n groes i be dw i eisiau, a ffurfio cynghreiriau wnes i ddim eu hysbrydoli! A'r canlyniad? – Pentyrru un pechod ar y llall!
Isai WelBeibl 30:2  Rhuthro i lawr i'r Aifft heb ofyn i mi, a gofyn i'r Pharo eu hamddiffyn a'u cuddio dan gysgod yr Aifft.
Isai WelBeibl 30:3  Ond bydd cael y Pharo i amddiffyn yn codi cywilydd, a bydd cuddio dan gysgod yr Aifft yn siom mawr,
Isai WelBeibl 30:4  er bod ganddo swyddogion yn Soan a llysgenhadon mor bell â Chanes.
Isai WelBeibl 30:5  Cânt eu cywilyddio'n llwyr, am fod yr Aifft yn dda i ddim iddyn nhw – dim help o gwbl! Fyddan nhw'n elwa dim, ond yn profi siom a chywilydd.”
Isai WelBeibl 30:6  Neges am ‛Anifeiliaid y Negef‛: Yn nhir trafferthion a chaledi, gwlad y llewes a'r llew cry, y neidr a'r wiber wibiog, maen nhw'n cario'u cyfoeth ar gefn asynnod, a'u trysorau ar gefn camelod, ar ran pobl sy'n dda i ddim.
Isai WelBeibl 30:7  Mae'r Aifft yn ddiwerth! Dŷn nhw ddim help o gwbl! Felly, dw i'n ei galw hi'n “Yr un falch sy'n fud.”
Isai WelBeibl 30:8  Tyrd nawr, ysgrifenna hyn ar lechen a'i gofnodi mewn sgrôl, i fod yn dystiolaeth barhaol i'r dyfodol.
Isai WelBeibl 30:9  Achos maen nhw'n bobl anufudd ac yn blant sy'n twyllo – plant sy'n gwrthod gwrando ar beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddysgu.
Isai WelBeibl 30:10  Pobl sy'n dweud wrth y rhai sy'n cael gweledigaethau, “Peidiwch â cheisio gweledigaeth,” ac wrth y proffwydi, “Peidiwch proffwydo a dweud wrthon ni beth sy'n iawn. Dwedwch bethau neis – er eu bod yn gelwydd!
Isai WelBeibl 30:11  Trowch o'r ffordd! Ewch oddi ar y llwybr iawn! Stopiwch ein hatgoffa ni am Un Sanctaidd Israel!”
Isai WelBeibl 30:12  Felly, dyma mae Un Sanctaidd Israel yn ei ddweud: Am eich bod wedi gwrthod y neges yma, a dewis rhoi'ch ffydd mewn gormeswr twyllodrus –
Isai WelBeibl 30:13  bydd y bai yma fel wal uchel yn bochio, ac yn sydyn, mewn chwinciad, mae'n syrthio.
Isai WelBeibl 30:14  Bydd yn torri'n ddarnau, fel jwg pridd yn cael ei falu'n deilchion – bydd wedi darfod. Fydd dim un darn yn ddigon o faint i godi marwor o badell dân neu wagio dŵr o bwll.
Isai WelBeibl 30:15  Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel, yn ei ddweud: “Os trowch yn ôl a trystio cewch eich achub; wrth aros yn llonydd a chredu y cewch fuddugoliaeth.” Ond dych chi ddim yn fodlon gwneud hynny.
Isai WelBeibl 30:16  “Na,” meddech chi. “Gadewch i ni ddianc ar gefn meirch!” – a dyna wnewch chi. “Gadewch i ni farchogaeth yn gyflym!” – ond bydd y rhai sydd ar eich ôl yn gyflymach!
Isai WelBeibl 30:17  Bydd un gelyn yn bygwth a mil yn dianc; pump yn bygwth a phawb yn dianc. Bydd cyn lleied ar ôl, byddan nhw fel polyn fflag ar ben bryn, neu faner ar ben mynydd.
Isai WelBeibl 30:18  Ond mae'r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi; bydd yn siŵr o godi i faddau i chi. Achos mae'r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn, ac mae'r rhai sy'n disgwyl amdano yn cael bendith fawr!
Isai WelBeibl 30:19  Wir i chi, bobl Seion – chi sy'n byw yn Jerwsalem – fyddwch chi ddim yn wylo wedyn. Bydd e'n garedig atoch chi pan fyddwch chi'n galw. Bydd e'n ateb yr eiliad mae'n eich clywed chi.
Isai WelBeibl 30:20  Er bod y Meistr wedi rhoi helynt i chi'n fwyd, a dioddefaint yn ddŵr, fydd y Duw sy'n eich tywys ddim yn cuddio mwyach, byddwch yn ei weld yn eich arwain.
Isai WelBeibl 30:21  Wrth wyro i'r dde neu droi i'r chwith, byddwch yn clywed llais y tu ôl i chi'n dweud: “Dyma'r ffordd; ewch y ffordd yma!”
Isai WelBeibl 30:22  Byddwch yn ffieiddio'r delwau wedi'u gorchuddio ag arian, a'r delwau metel ag aur yn eu gorchuddio. Byddwch yn eu taflu i ffwrdd fel cadach misglwyf, ac yn dweud, “Budreddi!”
Isai WelBeibl 30:23  Bydd e'n rhoi glaw i'r had rwyt wedi'i hau yn y pridd, a bydd y tir yn rhoi cnwd da, cyfoethog. Bydd digonedd o borfa i dy anifeiliaid bryd hynny,
Isai WelBeibl 30:24  a bydd yr ychen a'r asynnod sy'n gweithio ar y tir yn cael eu bwydo gyda'r ebran gorau, wedi'i nithio â fforch a rhaw.
Isai WelBeibl 30:25  Bydd nentydd a ffrydiau o ddŵr yn llifo ar bob mynydd a bryn uchel – ar ddiwrnod y lladdfa fawr pan fydd y tyrau amddiffynnol yn syrthio.
Isai WelBeibl 30:26  Bydd y lleuad yn disgleirio fel yr haul, a bydd yr haul yn disgleirio saith gwaith cryfach nag arfer (fel golau saith diwrnod mewn un!) ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn rhwymo briwiau ei bobl, ac yn iacháu'r anafiadau gawson nhw pan darodd e nhw.
Isai WelBeibl 30:27  Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD ei hun yn dod o bell, yn wyllt gynddeiriog, yn corddi o'i fewn. Mae'n siarad yn ddig, a'i eiriau fel tân yn difa.
Isai WelBeibl 30:28  Mae ei dymer fel llifogydd gwyllt yn cyrraedd at y gwddf. Bydd yn ysgwyd y cenhedloedd mewn gogr i'w dinistrio, ac yn rhoi ffrwyn yng ngheg pobloedd i'w harwain ar gyfeiliorn.
Isai WelBeibl 30:29  Ond byddwch chi'n canu, fel petai'n noson i ddathlu gŵyl. Byddwch yn llawen ac yn dawnsio i gyfeiliant pib wrth fynd i fynydd yr ARGLWYDD, Craig Israel.
Isai WelBeibl 30:30  Bydd yr ARGLWYDD yn bloeddio'n uchel, a bydd ei fraich gref yn dod i lawr ac yn eu taro'n wyllt gynddeiriog, fel fflamau tân yn difa, neu gorwynt, storm a chenllysg.
Isai WelBeibl 30:31  Bydd llais yr ARGLWYDD yn chwalu Asyria, sef y wialen ddefnyddiodd i daro.
Isai WelBeibl 30:32  Bydd yn eu waldio gyda'r pastwn ddewisodd ac yn eu curo i gyfeiliant drymiau a thelynau, pan fydd yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn.
Isai WelBeibl 30:33  Mae'r goelcerth angladdol wedi'i pharatoi cyn hyn; mae'n barod ar gyfer eu brenin. Mae'r pwll tân yn ddwfn ac yn llydan, ac mae digon o goed i'w tanio. Bydd anadl yr ARGLWYDD fel llif lafa yn dod i'w llosgi.
Chapter 31
Isai WelBeibl 31:1  Gwae'r rhai sy'n mynd i lawr i'r Aifft am help, a'u ffydd mewn ceffylau rhyfel: y rhai sy'n dibynnu ar eu holl gerbydau a'u nifer fawr o farchogion, yn lle edrych ar Un Sanctaidd Israel a gofyn am help yr ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 31:2  Ond mae e hefyd yn ddoeth! Mae e'n dod â thrwbwl, a dydy e ddim yn torri ei air. Bydd yn codi yn erbyn y genedl ddrwg a'r rhai sy'n ei helpu i bechu.
Isai WelBeibl 31:3  Pobl feidrol ydy'r Eifftiaid, nid Duw, a'u ceffylau yn gnawd, nid ysbryd! Pan fydd yr ARGLWYDD yn estyn ei law, bydd yr helpwr yn baglu a'r un sy'n cael ei help yn syrthio – bydd hi wedi darfod ar y ddau gyda'i gilydd!
Isai WelBeibl 31:4  Dyma mae'r ARGLWYDD wedi'i ddweud wrtho i: Fel mae llew, neu lew ifanc, yn rhuo uwchben ei ysglyfaeth, a ddim yn dychryn wrth glywed sŵn criw o fugeiliaid yn dod ar ei ôl; dyna sut bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn dod i lawr i ymladd dros Fynydd Seion ar ei bryn.
Isai WelBeibl 31:5  Fel mae adar yn hofran yn yr awyr, bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn amddiffyn Jerwsalem. Bydd yn ei hamddiffyn a'i hachub, yn ei harbed a'i rhyddhau.
Isai WelBeibl 31:6  Blant Israel, trowch yn ôl at yr Un dych chi wedi gwrthryfela mor ddifrifol yn ei erbyn.
Isai WelBeibl 31:7  Bryd hynny bydd pob un ohonoch yn gwrthod yr eilunod o arian ac aur a wnaeth eich dwylo pechadurus.
Isai WelBeibl 31:8  “Bydd Asyria'n cael ei difa, ond nid gan gleddyf dynol; cleddyf Duw fydd yn eu taro. Byddan nhw'n ffoi rhag y cleddyf, ond bydd eu milwyr gorau'n gaethweision.
Isai WelBeibl 31:9  Bydd eu ‛craig‛ yn diflannu mewn dychryn, a'u swyddogion yn ffoi rhag baner eu gelyn.” Dyna mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un sydd â'i dân yn Seion, a'i ffwrnais yn Jerwsalem.
Chapter 32
Isai WelBeibl 32:1  Edrychwch, bydd brenin yn teyrnasu yn gyfiawn, a'i dywysogion yn rheoli yn deg.
Isai WelBeibl 32:2  Bydd pob un ohonyn nhw fel cysgod rhag y gwynt a lloches rhag y storm, fel nentydd o ddŵr mewn tir sych neu gysgod craig enfawr mewn crasdir.
Isai WelBeibl 32:3  Bydd llygaid y rhai sy'n gweld yn edrych, a chlustiau'r rhai sy'n clywed yn gwrando.
Isai WelBeibl 32:4  Bydd y difeddwl yn oedi ac yn sylwi, a thafod y rhai sydd ag atal dweud yn siarad yn glir.
Isai WelBeibl 32:5  Fydd y ffŵl ddim yn cael ei alw'n ŵr bonheddig, na'r twyllwr yn cael ei anrhydeddu.
Isai WelBeibl 32:6  Achos dweud pethau ffôl mae ffŵl a chynllunio i wneud pethau drwg. Mae'n ymddwyn yn annuwiol ac yn dweud celwydd am yr ARGLWYDD. Mae'n gadael y newynog hefo stumog wag ac yn gwrthod rhoi diod i'r sychedig.
Isai WelBeibl 32:7  Mae arfau'r twyllwr yn ddrwg. Mae'n cynllunio i wneud drwg – dinistrio pobl dlawd drwy eu twyllo a cham-drin yr anghenus yn y llys.
Isai WelBeibl 32:8  Ond mae bwriadau'r person anrhydeddus yn dda, ac mae bob amser yn gwneud beth sy'n nobl.
Isai WelBeibl 32:9  Chi wragedd cyfforddus, safwch! Gwrandwch arna i! Chi ferched heb bryder yn y byd, gwrandwch beth dw i'n ddweud!
Isai WelBeibl 32:10  Mewn llai na blwyddyn, cewch chi sydd mor hyderus eich ysgwyd. Bydd y cynhaeaf grawnwin yn methu, a dim ffrwyth i'w gasglu.
Isai WelBeibl 32:11  Dylech chi sy'n gyfforddus ddechrau poeni! Dylech chi sydd mor ddibryder ddechrau crynu! Tynnwch eich dillad! Stripiwch! Gwisgwch sachliain am eich canol,
Isai WelBeibl 32:12  ac am y bronnau sy'n galaru! Dros y caeau hyfryd a'r coed gwinwydd ffrwythlon,
Isai WelBeibl 32:13  dros dir fy mhobl bydd drain a mieri yn tyfu. Ie, dros yr holl dai hyfryd a'r dre llawn miri.
Isai WelBeibl 32:14  Bydd y palas wedi'i adael a'r ddinas boblog yn wag. Bydd y tyrau amddiffyn ar y bryniau yn troi'n foelydd am byth – yn gynefin i asynnod gwyllt a phorfa i breiddiau.
Isai WelBeibl 32:15  Dyna sut bydd hi, nes i ysbryd oddi uchod gael ei dywallt arnon ni, i'r anialwch gael ei droi'n gaeau ffrwythlon, a'r caeau droi'n goedwig.
Isai WelBeibl 32:16  Bryd hynny, bydd cyfiawnder yn aros yn yr anialwch a thegwch yn cartrefu yn y caeau;
Isai WelBeibl 32:17  bydd cyfiawnder yn arwain i heddwch, ac wedyn bydd llonydd a diogelwch am byth.
Isai WelBeibl 32:18  Bydd fy mhobl yn byw mewn cymunedau saff, tai diogel, a lleoedd i orffwys yn dawel.
Isai WelBeibl 32:19  Er i'r goedwig gael ei thorri i lawr gan genllysg ac i'r ddinas orwedd mewn cywilydd,
Isai WelBeibl 32:20  y fath fendith fydd i chi sy'n hau wrth ffrydiau dŵr, ac yn gollwng yr ych a'r asyn yn rhydd i bori.
Chapter 33
Isai WelBeibl 33:1  Gwae ti'r dinistriwr sydd heb gael dy ddinistrio, ti'r bradwr sydd heb gael dy fradychu! Pan fyddi wedi gorffen dinistrio, cei di dy ddinistrio; pan fyddi wedi gorffen bradychu, cei di dy fradychu!
Isai WelBeibl 33:2  O ARGLWYDD, bydd yn drugarog wrthon ni! Dŷn ni'n disgwyl amdanat ti. Bydd di yn nerth i ni yn y bore, ac achub ni pan dŷn ni mewn trwbwl.
Isai WelBeibl 33:3  Pan wyt ti'n rhuo mae pobl yn ffoi! Pan wyt ti'n codi mae cenhedloedd yn gwasgaru!
Isai WelBeibl 33:4  Mae'r cwbl maen nhw'n ei adael yn cael ei gasglu fel petai lindys neu haid o locustiaid wedi disgyn arno.
Isai WelBeibl 33:5  Mae'r ARGLWYDD mor ardderchog! Mae'n byw yn yr uchelder! Mae'n llenwi Seion gyda chyfiawnder a thegwch.
Isai WelBeibl 33:6  Fe sy'n rhoi sicrwydd iddi bob amser. Stôr helaeth o achubiaeth, doethineb, gwybodaeth, a pharch at yr ARGLWYDD – dyna'i drysor iddi.
Isai WelBeibl 33:7  Gwrandwch! Mae eu harwr yn gweiddi y tu allan! Mae negeswyr heddwch yn wylo'n chwerw!
Isai WelBeibl 33:8  Mae'r priffyrdd yn wag! Mae'r teithwyr wedi diflannu! Mae'r cytundebau wedi'u torri, a'r tystion yn cael eu dirmygu. Does dim parch at fywyd dynol.
Isai WelBeibl 33:9  Y fath alar! Mae'r tir wedi darfod amdano! Mae Libanus yn crino a gwywo! Mae Saron fel tir anial, a Bashan a Carmel wedi colli eu dail.
Isai WelBeibl 33:10  “Dw i'n mynd i godi nawr,” meddai'r ARGLWYDD, “dw i'n mynd i godi i fyny; cewch weld mor uchel ydw i!
Isai WelBeibl 33:11  Dim ond us dych chi'n ei feichiogi; dim ond gwellt fydd yn cael ei eni! Mae eich ysbryd fel tân fydd yn eich dinistrio chi!
Isai WelBeibl 33:12  Bydd eich pobl fel calch wedi'i losgi, neu ddrain wedi'u torri a'u rhoi ar dân.
Isai WelBeibl 33:13  Chi sy'n bell i ffwrdd, gwrandwch beth dw i wedi'i wneud! A chi sy'n agos, gwelwch mor nerthol ydw i.”
Isai WelBeibl 33:14  Mae pechaduriaid Seion wedi dychryn, Mae'r rhai annuwiol yn crynu mewn ofn. “Pwy all oroesi yn y tân dinistriol yma? Pwy all fyw gyda fflamau sydd byth yn diffodd?”
Isai WelBeibl 33:15  Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn dweud y gwir, sy'n gwrthod elwa drwy dwyll, na derbyn breib, yn gwrthod gwrando ar gynllwyn i dywallt gwaed, ac yn cau ei lygaid rhag cael ei ddenu i wneud drwg.
Isai WelBeibl 33:16  Person felly fydd yn saff rhag y cwbl, a chreigiau uchel yn gaer o'i gwmpas. Bydd bwyd yn cael ei roi i'w gynnal a bydd digonedd o ddŵr iddo.
Isai WelBeibl 33:17  Byddi'n gweld brenin yn ei holl ysblander, a thir eang yn ymestyn i'r pellter.
Isai WelBeibl 33:18  Byddi'n cofio am yr ofn a fu unwaith, “Ble mae'r un oedd yn cyfri'r trethi? Ble mae'r un oedd yn pwyso'r arian? Ble mae'r un oedd yn cyfri'r tyrau?”
Isai WelBeibl 33:19  Fyddi di ddim yn gweld y bobl farbaraidd yna eto – yn siarad iaith doeddet ti ddim yn ei deall, ac yn paldaruo'n ddiystyr.
Isai WelBeibl 33:20  Dychmyga Seion, dinas ein gwyliau crefyddol! Byddi'n gweld Jerwsalem fel lle tawel i fyw – pabell does dim rhaid ei phacio, gyda phegiau fydd neb yn eu tynnu byth eto, a rhaffau fydd byth yn torri.
Isai WelBeibl 33:21  Bydd yr ARGLWYDD yno gyda ni yn ei fawredd! Ardal o afonydd a ffrydiau llydan yn llifo, ond heb longau sy'n cael eu rhwyfo na llongau hwylio mawr yn mynd heibio.
Isai WelBeibl 33:22  Yr ARGLWYDD ydy'n barnwr ni, yr ARGLWYDD ydy'n llywodraethwr ni, yr ARGLWYDD ydy'n brenin ni – fe ydy'r un fydd yn ein hachub ni!
Isai WelBeibl 33:23  Byddi'n cael dy ddarn o dir a fyddan nhw ddim yn gallu gosod eu polyn fflag na chodi eu baner yno. Bydd digonedd o ysbail i gael ei rhannu, a bydd hyd yn oed y cloff yn cael ei siâr.
Isai WelBeibl 33:24  Fydd neb sy'n byw yno'n dweud, “Dw i'n sâl!” Bydd y bobl sy'n byw yno wedi cael maddeuant am bob bai.
Chapter 34
Isai WelBeibl 34:1  Dewch yma, chi wledydd, i wrando! Gwrandwch ar hyn, chi bobloedd y byd! Boed i'r ddaear a phawb arni wrando – y byd, a phopeth sydd ynddo.
Isai WelBeibl 34:2  Mae'r ARGLWYDD wedi digio gyda'r gwledydd; mae'n wyllt gyda'u holl fyddinoedd, a bydd yn eu dinistrio a'u lladd nhw.
Isai WelBeibl 34:3  Bydd y rhai gaiff eu lladd yn cael eu taflu allan – bydd y drewdod yn ofnadwy a bydd y mynyddoedd wedi'u trochi â'u gwaed.
Isai WelBeibl 34:4  Bydd y sêr i gyd yn diffodd, a'r awyr yn cael ei rholio fel sgrôl. Bydd y sêr i gyd yn syrthio fel dail yn disgyn o'r winwydden, neu ffrwyth aeddfed oddi ar goeden ffigys.
Isai WelBeibl 34:5  “Bydd fy nghleddyf i'w weld yn yr awyr, ac edrychwch, bydd yn syrthio ar Edom, ar y bobl dw i wedi'u dedfrydu i'w difrodi.”
Isai WelBeibl 34:6  Mae'r ARGLWYDD am drochi ei gleddyf mewn gwaed, a'i fodloni gyda braster anifeiliaid – gwaed ŵyn a bychod geifr, a'r braster ar arennau hyrddod. Ydy, mae'r ARGLWYDD yn cynnal aberth yn Bosra, a lladdfa yn Edom.
Isai WelBeibl 34:7  Bydd ychen gwyllt yn syrthio gyda nhw, bustych a theirw. Bydd eu tir wedi socian mewn gwaed, a'r llawr wedi'i orchuddio gan fraster.
Isai WelBeibl 34:8  Mae gan yr ARGLWYDD ddydd i ddial – mae'n bryd i dalu'r pwyth yn ôl ar ran Seion.
Isai WelBeibl 34:9  Bydd afonydd o byg yn gorlifo yn Edom, a bydd ei phridd yn troi'n lafa. Bydd ei thir yn troi'n byg sy'n llosgi,
Isai WelBeibl 34:10  a fydd y tân ddim yn diffodd ddydd na nos; bydd mwg yn codi ohono am byth. Bydd yn gorwedd yn adfeilion am genedlaethau; fydd neb yn cerdded y ffordd honno byth bythoedd.
Isai WelBeibl 34:11  Bydd tylluanod a draenogod yn ei meddiannu; y dylluan wen a'r gigfran fydd yn nythu yno. Bydd Duw yn ei mesur i achosi anhrefn ac yn ei phwyso i'w gwagio.
Isai WelBeibl 34:12  I ble'r aeth ei huchelwyr? Does dim y fath beth â theyrnas ar ôl! Mae ei harweinwyr i gyd wedi diflannu.
Isai WelBeibl 34:13  Bydd drain yn tyfu yn ei phlastai, danadl a mieri yn ei threfi caerog. Bydd y wlad yn gartref i siacaliaid, ac yn dir i'r estrys fyw ynddo.
Isai WelBeibl 34:14  Bydd ysbrydion yr anialwch a bwganod yn cyfarfod yno, a'r gafr-ddemoniaid yn galw ar ei gilydd. Yno bydd creaduriaid y nos yn gorffwys ac yn nythu,
Isai WelBeibl 34:15  a neidr wenwynig yn gorwedd ar ei hwyau, i'w deor a gofalu amdanyn nhw. Bydd adar rheibus hefyd yn casglu yno, pob un gyda'i gymar.
Isai WelBeibl 34:16  Astudiwch a darllenwch sgroliau'r ARGLWYDD, heb adael dim allan, a heb golli llinell. Yr ARGLWYDD sydd wedi gorchymyn y cwbl, a'i ysbryd e sydd wedi'u casglu at ei gilydd.
Isai WelBeibl 34:17  Fe sydd wedi rhoi ei siâr i bob un ac wedi rhannu'r tir rhyngddyn nhw hefo llinyn mesur. Bydd yn etifeddiaeth iddyn nhw am byth – byddan nhw'n byw yno ar hyd yr oesoedd.
Chapter 35
Isai WelBeibl 35:1  Bydd yr anialwch a'r tir sych yn llawen, bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo – yn blodeuo'n sydyn fel saffrwn.
Isai WelBeibl 35:2  Bydd yn dathlu'n llawen ac yn gweiddi; bydd ysblander Libanus yn cael ei roi iddi, a harddwch Carmel a Saron. Byddan nhw'n gweld ysblander yr ARGLWYDD, a harddwch ein Duw ni.
Isai WelBeibl 35:3  Cryfhewch y dwylo llesg; a gwnewch y gliniau gwan yn gadarn.
Isai WelBeibl 35:4  Dwedwch wrth y rhai ofnus, “Byddwch yn ddewr, peidiwch bod ag ofn. Edrychwch ar eich Duw – mae e'n dod i ddial ar eich gelynion! Y tâl dwyfol! Ydy, mae e'i hun yn dod i'ch achub chi!”
Isai WelBeibl 35:5  Bydd llygaid pobl ddall yn cael eu hagor, a chlustiau pobl fyddar hefyd.
Isai WelBeibl 35:6  Bydd y cloff yn neidio fel hydd, a'r mud yn gweiddi'n llawen! Achos bydd dŵr yn tasgu yn yr anialwch, ac afonydd yn llifo yn y diffeithwch.
Isai WelBeibl 35:7  Bydd y tywod poeth yn troi'n bwll dŵr, a'r tir sych yn ffynhonnau'n ffrydio. Bydd y fan lle roedd siacaliaid yn gorweddian yn troi'n gorsydd o frwyn.
Isai WelBeibl 35:8  Bydd priffordd, ie, ffordd yno sy'n cael ei galw, ‛Y Ffordd Sanctaidd‛. Fydd neb sy'n aflan yn cael teithio arni – mae ar gyfer y rhai sy'n cerdded y Ffordd. Fydd ffyliaid ddim yn crwydro ar ei hyd.
Isai WelBeibl 35:9  Fydd dim llew yno, a fydd anifail gwyllt ddim yn dod yn agos ati – fydd dim i'w gael yno. Ond bydd y rhai sydd wedi'u rhyddhau yn cerdded ar ei hyd.
Isai WelBeibl 35:10  Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhydd yn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu! Bydd y llawenydd sy'n para am byth yn goron ar eu pennau! Byddan nhw'n cael eu gwefreiddio gan hwyl a gorfoledd, am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.
Chapter 36
Isai WelBeibl 36:1  Pan oedd Heseceia wedi bod yn frenin am bron un deg pedair o flynyddoedd, dyma Senacherib, brenin Asyria, yn ymosod ar drefi amddiffynnol Jwda a'u dal nhw.
Isai WelBeibl 36:2  Yna dyma frenin Asyria yn anfon prif swyddog ei balas o Lachish at y Brenin Heseceia yn Jerwsalem, a byddin enfawr gydag e. Dyma'r prif swyddog yn aros wrth sianel ddŵr y gronfa uchaf, ar ffordd Maes y Golchwr.
Isai WelBeibl 36:3  Ac aeth Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, allan i'w gyfarfod gyda Shefna yr ysgrifennydd, a Ioach fab Asaff, y cofnodydd.
Isai WelBeibl 36:4  Dwedodd prif swyddog Asyria wrthyn nhw am roi'r neges yma i Heseceia: “Dyma mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria, yn ei ddweud: ‘Beth sy'n dy wneud di mor hyderus?
Isai WelBeibl 36:5  Siarad gwag ydy honni fod gen ti'r strategaeth a'r gallu milwrol angenrheidiol! Pwy wyt ti'n pwyso arno go iawn, dy fod yn beiddio gwrthryfela yn fy erbyn i?
Isai WelBeibl 36:6  Ai'r Aifft wyt ti'n ei drystio? Dydy'r ffon fagl yna ddim gwell na brwynen wedi hollti, ac mae'n torri llaw ac yn anafu pwy bynnag sy'n pwyso arni. Dyna sy'n digwydd i bawb sy'n trystio'r Pharo, brenin yr Aifft.
Isai WelBeibl 36:7  Neu ydych chi am ddweud wrtho i eich bod yn trystio'r ARGLWYDD eich Duw? Onid ydy Heseceia wedi cael gwared â'i ganolfannau addoli lleol a'i allorau e, a dweud wrth bobl Jwda mai dim ond wrth yr allor yn Jerwsalem maen nhw i addoli?
Isai WelBeibl 36:8  Tyrd nawr, beth am drafod telerau gyda fy meistr, brenin Asyria: betia i di, petawn i'n rhoi dwy fil o geffylau i ti, na fyddai gen ti ddigon o ddynion i'w reidio nhw!
Isai WelBeibl 36:9  Felly sut alli di wrthod cynnig gan ddirprwy un o weision lleia fy meistr hyd yn oed? Ti ddim yn mynd i fynnu dal ati i drystio'r Aifft am gerbydau a marchogion, siawns?
Isai WelBeibl 36:10  A beth bynnag, wyt ti'n meddwl fy mod i wedi martsio yn erbyn y wlad yma i'w dinistrio hi heb i'r ARGLWYDD fy helpu i? Yr ARGLWYDD ei hun ddwedodd wrtho i: “Dos i ymladd yn erbyn y wlad yna a'i dinistrio hi!”’”
Isai WelBeibl 36:11  Dyma Eliacim, Shefna, a Ioach yn dweud wrth y prif swyddog, “Plîs siarada yn Aramaeg hefo dy weision; dŷn ni'n deall yr iaith honno. Paid siarad hefo ni yn Hebraeg yng nghlyw'r bobl sydd ar y waliau.”
Isai WelBeibl 36:12  Ond dyma'r prif swyddog yn ateb, “Ydych chi'n meddwl mai atoch chi a'ch meistr yn unig mae fy meistr i wedi f'anfon i ddweud hyn? Na, mae'r neges i bawb sydd ar y waliau hefyd. Byddan nhw, fel chithau, yn gorfod bwyta'u cachu ac yfed eu piso eu hunain.”
Isai WelBeibl 36:13  Yna dyma'r prif swyddog yn camu ymlaen, ac yn gweiddi'n uchel yn Hebraeg,
Isai WelBeibl 36:14  “Gwrandwch beth mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria, yn ei ddweud! Peidiwch gadael i Heseceia eich twyllo chi, achos fydd e ddim yn gallu'ch achub chi.
Isai WelBeibl 36:15  A pheidiwch gadael iddo eich cael chi i drystio'r ARGLWYDD, a dweud wrthoch chi, ‘Bydd yr ARGLWYDD yn ein hachub ni. Fydd y ddinas yma ddim yn syrthio i ddwylo brenin Asyria!’
Isai WelBeibl 36:16  Peidiwch gwrando arno! Dyma mae brenin Asyria'n ei ddweud: ‘Derbyniwch y telerau dw i'n eu cynnig; dewch allan ata i, a bydd pob un ohonoch chi'n cael bwyta o'i winwydden a'i goeden ffigys, ac yn cael yfed dŵr o'i ffynnon ei hun.
Isai WelBeibl 36:17  Wedyn bydda i'n mynd â chi i wlad debyg i'ch gwlad chi – gwlad o fara a sudd grawnwin, o gaeau ŷd a gwinllannoedd.
Isai WelBeibl 36:18  Gwyliwch rhag i Heseceia eich camarwain chi wrth ddweud, “Bydd yr ARGLWYDD yn ein hachub ni.” Wnaeth duwiau'r gwledydd eraill achub eu tir nhw rhag brenin Asyria?
Isai WelBeibl 36:19  Ble roedd duwiau Chamath ac Arpad? Ble roedd duwiau Seffarfaîm? Wnaethon nhw achub Samaria o'm gafael i?
Isai WelBeibl 36:20  Pa un o'r duwiau yma i gyd achubodd eu gwlad o'm gafael i? Felly, sut mae'r ARGLWYDD yn mynd i achub Jerwsalem o'm gafael i?’”
Isai WelBeibl 36:21  Ond roedd pawb yn cadw'n dawel ac yn dweud dim, achos roedd y brenin wedi gorchymyn: “Peidiwch â'i ateb e.”
Isai WelBeibl 36:22  A dyma Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, Shefna yr ysgrifennydd a Ioach fab Asaff, y cofnodydd, yn mynd at Heseceia a'u dillad wedi'u rhwygo, a dweud wrtho beth oedd y swyddog o Asyria wedi'i ddweud.
Chapter 37
Isai WelBeibl 37:1  Pan glywodd y Brenin Heseceia hyn, dyma fe'n rhwygo'i ddillad, gwisgo sachliain a mynd i deml yr ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 37:2  A dyma fe'n anfon Eliacim, arolygwr y palas, Shefna, yr ysgrifennydd, a rhai o'r offeiriaid hynaf at y proffwyd Eseia fab Amos. Roedden nhw hefyd yn gwisgo sachliain.
Isai WelBeibl 37:3  A dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae Heseceia'n dweud: ‘Mae hi'n ddiwrnod o argyfwng, o gerydd ac o gywilydd, fel petai plant ar fin cael eu geni a'r fam heb ddigon o nerth i'w geni nhw.
Isai WelBeibl 37:4  Petaet ti'n gweddïo dros y rhai ohonon ni sy'n dal ar ôl yn y ddinas, falle y byddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn cymryd sylw o beth ddwedodd y swyddog gafodd ei anfon gan frenin Asyria i enllibio'r Duw byw, ac yn ei gosbi.’”
Isai WelBeibl 37:6  dyma Eseia'n dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth eich meistr: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid gadael i'r ffaith fod gweision bach brenin Asyria yn gwneud sbort am fy mhen i dy ddychryn di.
Isai WelBeibl 37:7  Dw i'n mynd i godi ofn arno fe. Bydd e'n clywed si am rywbeth ac yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun. Bydda i'n gwneud iddo gael ei ladd â'r cleddyf yn ei wlad ei hun.”’”
Isai WelBeibl 37:8  Yn y cyfamser, roedd prif swyddog brenin Asyria wedi mynd yn ôl a darganfod fod ei feistr wedi gadael Lachish a'i fod yn ymladd yn erbyn tref Libna.
Isai WelBeibl 37:9  Roedd wedi clywed fod y Brenin Tirhaca (oedd o dras Affricanaidd) ar ei ffordd i ymosod arno. Felly, dyma fe'n anfon negeswyr at Heseceia eto:
Isai WelBeibl 37:10  “Dwedwch wrth Heseceia, brenin Jwda: ‘Peidiwch gadael i'r Duw dych chi'n ei drystio eich twyllo chi i feddwl na fydd Jerwsalem yn syrthio i ddwylo brenin Asyria.
Isai WelBeibl 37:11  Dych chi'n gwybod yn iawn fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r gwledydd eraill i gyd. Ydych chi'n mynd i ddianc?
Isai WelBeibl 37:12  Gafodd y gwledydd ddinistriodd fy rhagflaenwyr eu hachub gan eu duwiau? – Beth am Gosan, Haran, Retseff, a phobl Eden oedd yn Telassar?
Isai WelBeibl 37:13  Ble mae brenin Chamath? Neu frenin Arpad? Neu frenhinoedd Lahir, Seffarfaîm, Hena, ac Ifa?’”
Isai WelBeibl 37:14  Ar ôl i Heseceia gymryd y llythyr gan y negeswyr, a'i ddarllen, aeth i'r deml a'i osod allan o flaen yr ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 37:16  “O ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, sy'n eistedd ar dy orsedd uwchben y cerwbiaid. Ti sydd Dduw – yr unig un – dros deyrnasoedd y byd i gyd. Ti wnaeth greu'r bydysawd a'r ddaear.
Isai WelBeibl 37:17  O ARGLWYDD, plîs gwrando! Agor dy lygaid, ARGLWYDD! Edrych! Gwranda ar beth mae Senacherib yn ei ddweud. Mae e wedi anfon neges sy'n enllibio'r Duw byw!
Isai WelBeibl 37:18  ARGLWYDD, mae'n wir fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r bobloedd i gyd, a'u tiroedd,
Isai WelBeibl 37:19  ac wedi llosgi eu duwiau nhw. Ond doedden nhw ddim yn dduwiau go iawn, dim ond coed neu gerrig wedi'u cerfio gan bobl, i'w haddoli.
Isai WelBeibl 37:20  Felly nawr, O ARGLWYDD ein Duw, achub ni o'i afael, er mwyn i deyrnasoedd y byd i gyd wybod mai ti ydy'r ARGLWYDD, yr unig un go iawn.”
Isai WelBeibl 37:21  Yna dyma Eseia fab Amos yn anfon y neges yma at Heseceia: “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Am dy fod ti wedi gweddïo am Senacherib, brenin Asyria,
Isai WelBeibl 37:22  dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud yn ei erbyn: “Mae'r forwyn hardd, Seion, yn dy ddirmygu di! Mae hi'n gwneud hwyl ar dy ben! Mae Jerwsalem hardd yn ysgwyd ei phen tu ôl i dy gefn.
Isai WelBeibl 37:23  Pwy wyt ti'n ei enllibio a'i wawdio? Yn erbyn pwy wyt ti'n codi dy lais, ac yn troi dy lygaid yn sarhaus? Yn erbyn Un Sanctaidd Israel!
Isai WelBeibl 37:24  Ti wedi defnyddio dy weision i enllibio'r Meistr, a dweud, ‘Gyda'r holl gerbydau rhyfel sydd gen i dringais i ben y mynyddoedd uchaf, ac i ben draw Libanus. Torrais i lawr y coed cedrwydd talaf, a'r coed pinwydd gorau, er mwyn cyrraedd copa uchaf y llechweddau coediog.
Isai WelBeibl 37:25  Dw i wedi cloddio ffynhonnau ac yfed o'u dŵr. Sychais holl ganghennau afon Nîl hefo gwadn fy nhraed.’
Isai WelBeibl 37:26  Mae'n rhaid dy fod wedi clywed! Fi sydd wedi trefnu'r cwbl ers talwm – mae'r cwbl wedi'i gynllunio ers amser maith, a nawr dw i'n troi'r cwbl yn ffaith: i ti droi caerau yn bentyrrau o rwbel.
Isai WelBeibl 37:27  Does gan y bobl sy'n byw ynddyn nhw ddim nerth, maen nhw'n ddigalon, ac wedi'u cywilyddio. Maen nhw fel planhigion mewn cae, neu dyfiant ar ben to wedi'i grino gan wynt y dwyrain.
Isai WelBeibl 37:28  Dw i'n gwybod popeth amdanat ti – dy symudiadau di i gyd, a sut rwyt ti wedi bod yn strancio yn fy erbyn i.
Isai WelBeibl 37:29  Am dy fod ti wedi strancio yn fy erbyn i, a minnau wedi gorfod gwrando ar dy eiriau haerllug, dw i'n mynd i roi bachyn drwy dy drwyn a ffrwyn yn dy geg, a gwneud i ti fynd yn ôl y ffordd daethost.”
Isai WelBeibl 37:30  A dyma fydd yr arwydd i ti, Heseceia, fod hyn yn wir: Byddi'n bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun eleni, a'r flwyddyn nesa beth fydd wedi tyfu o hwnnw. Ond y flwyddyn wedyn cewch hau a medi, plannu gwinllannoedd a bwyta'u ffrwyth nhw.
Isai WelBeibl 37:31  Bydd y bobl yn Jwda sydd wedi dianc a'u gadael ar ôl yn bwrw eu gwreiddiau eto, ac yn dwyn ffrwyth.
Isai WelBeibl 37:32  Bydd y rhai sy'n weddill yn lledu allan o Jerwsalem; y rhai o Fynydd Seion wnaeth ddianc. Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn benderfynol o wneud hyn i gyd.’
Isai WelBeibl 37:33  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am frenin Asyria: ‘Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma. Fydd e ddim yn saethu saeth i mewn iddi; fydd e ddim yn ymosod arni hefo tarian, nac yn codi rampiau i warchae yn ei herbyn.
Isai WelBeibl 37:34  Bydd e'n mynd yn ôl y ffordd ddaeth e. Na, fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma.’ —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Isai WelBeibl 37:35  ‘Dw i'n mynd i amddiffyn ac achub y ddinas yma, er mwyn cadw fy enw da, ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’”
Isai WelBeibl 37:36  A dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd allan ac yn taro cant wyth deg pum mil o filwyr Asyria. Erbyn y bore wedyn roedden nhw i gyd yn gyrff meirw.
Isai WelBeibl 37:37  Felly dyma Senacherib, brenin Asyria, yn codi ei wersyll, mynd yn ôl i Ninefe ac aros yno.
Isai WelBeibl 37:38  Un diwrnod, pan oedd e'n addoli yn nheml ei dduw Nisroch, dyma'i feibion, Adram-melech a Saretser, yn ei ladd gyda'r cleddyf ac yna'n dianc i ardal Ararat. A dyma fab arall iddo, Esar-chadon, yn dod yn frenin yn ei le.
Chapter 38
Isai WelBeibl 38:1  Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael, a bu bron iddo farw. Daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: rho drefn ar dy bethau, achos ti'n mynd i farw; fyddi di ddim yn gwella.”
Isai WelBeibl 38:2  Ond dyma Heseceia yn troi at y wal ac yn gweddïo,
Isai WelBeibl 38:3  “O ARGLWYDD, plîs cofia sut dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti. Dw i bob amser wedi gwneud beth oedd yn dy blesio di.” Roedd yn beichio crio.
Isai WelBeibl 38:5  “Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud (Duw Dafydd dy dad): “Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i'n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti.
Isai WelBeibl 38:6  Dw i'n mynd i dy achub di a'r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i'n amddiffyn y ddinas yma.
Isai WelBeibl 38:7  A dyma'r arwydd mae'r ARGLWYDD yn ei roi i ti i brofi y bydd e'n gwneud beth mae e wedi'i addo:
Isai WelBeibl 38:8  Edrych! Dw i'n mynd i wneud i'r cysgod sydd wedi disgyn ar risiau Ahas fynd yn ôl i fyny ddeg gris.”’” Yna dyma gysgod yr haul yn codi oddi ar ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi disgyn arnyn nhw.
Isai WelBeibl 38:9  Dyma ysgrifennodd Heseceia, brenin Jwda, ar ôl iddo wella o'i salwch:
Isai WelBeibl 38:10  “Meddyliais, ‘Dw i'n mynd i farw, a minnau'n ddim ond canol oed. Dw i wedi cael fy anfon drwy giatiau Annwn am weddill fy nyddiau.’
Isai WelBeibl 38:11  Meddyliais: ‘Ga i byth weld yr ARGLWYDD yn y bywyd hwn eto, nac edrych ar y ddynoliaeth fel y rhai sydd wedi peidio â bod.’
Isai WelBeibl 38:12  Mae fy mywyd wedi'i gymryd oddi arna i a'i symud fel pabell bugail. Roedd fy mywyd wedi ei rolio i fyny fel lliain wedi'i dorri i ffwrdd o'r wŷdd. Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.
Isai WelBeibl 38:13  Yn y bore, roedd fel petai llew yn malu fy esgyrn i gyd. Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.
Isai WelBeibl 38:14  Dw i'n trydar fel gwennol neu durtur, ac yn cŵan fel colomen, wrth i'm llygaid blinedig fethu edrych i fyny. ‘Fy ARGLWYDD, dw i'n cael fy llethu! Achub fi!’
Isai WelBeibl 38:15  Beth alla i ei ddweud? Dwedodd wrtho i beth fyddai'n ei wneud, a dyna wnaeth e! Roedd rhaid i mi gerdded yn ofalus am fod fy enaid mor chwerw.
Isai WelBeibl 38:16  Mae fy arglwydd wedi fy nghuddio, ac mae bywyd yn fy nghalon eto. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi gorffwys i mi. ‘Rwyt ti'n fy iacháu ac wedi fy nghadw'n fyw.’
Isai WelBeibl 38:17  Yn wir, roedd yr holl chwerwder yma yn lles i mi: ‘Ceraist fi, a'm hachub o bwll difodiant, a thaflu fy holl bechodau tu ôl i ti.’
Isai WelBeibl 38:18  ‘Dydy'r rhai sydd yn Annwn ddim yn diolch i ti, a dydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn dy foli di. Dydy'r rhai sydd wedi disgyn i'r pwll ddim yn gobeithio yn dy ffyddlondeb di.
Isai WelBeibl 38:19  Y rhai byw, dim ond y rhai byw sy'n gallu diolch i ti fel dw i'n gwneud heddiw. Mae tad yn dweud wrth ei blant am dy ffyddlondeb di:
Isai WelBeibl 38:20  mae'r ARGLWYDD wedi'n hachub ni! Gadewch i ni ganu offerynnau cerdd yn nheml yr ARGLWYDD weddill ein bywydau!’”
Isai WelBeibl 38:21  Roedd Eseia wedi dweud, “Ewch i nôl bar o ffigys wedi'u gwasgu a'i roi ar y chwydd sydd wedi casglu, a bydd yn gwella.”
Isai WelBeibl 38:22  Roedd Heseceia wedi gofyn, “Pa arwydd ga i y bydda i'n mynd i fyny i deml yr ARGLWYDD eto?”
Chapter 39
Isai WelBeibl 39:1  Tua'r un pryd anfonodd Merodach-baladan, mab Baladan, brenin Babilon, negeswyr gyda llythyrau ac anrheg i Heseceia – roedd wedi clywed ei fod yn sâl ac wedi gwella.
Isai WelBeibl 39:2  Roedd Heseceia wrth ei fodd eu bod nhw wedi dod, a dangosodd ei drysordy iddyn nhw – yr arian, yr aur, y perlysiau, a'r olew persawrus. Dangosodd ei stordy arfau iddyn nhw hefyd, a phopeth arall yn ei stordai. Dangosodd bopeth yn ei balas a'i deyrnas gyfan iddyn nhw!
Isai WelBeibl 39:3  Yna dyma'r proffwyd Eseia yn mynd at y Brenin Heseceia, a gofyn iddo: “Beth ddwedodd y dynion yna wrthot ti? O ble daethon nhw?” Atebodd Heseceia. “Daethon nhw ata i o wlad bell iawn – o Babilon.”
Isai WelBeibl 39:4  Gofynnodd Eseia wedyn, “Beth welon nhw yn dy balas di?” A dyma Heseceia'n ateb, “Popeth sydd gen i. Does dim byd yn fy stordai i gyd na welon nhw.”
Isai WelBeibl 39:5  A dyma Eseia'n dweud wrth Heseceia, “Gwranda ar neges yr ARGLWYDD hollbwerus:
Isai WelBeibl 39:6  ‘Edrych! Mae'r amser yn dod pan fydd popeth sydd yn dy balas di, popeth gasglodd dy ragflaenwyr di hyd heddiw, yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Fydd dim byd ar ôl!’ meddai'r ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 39:7  Bydd rhai o dy deulu di, ie, dy ddisgynyddion di dy hun, yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn gwasanaethu fel swyddogion ym mhalas brenin Babilon.”
Isai WelBeibl 39:8  Dyma Heseceia yn dweud wrth Eseia, “Mae'r neges rwyt ti wedi'i rhannu gan yr ARGLWYDD yn dda.” Meddyliodd, “Be wedyn? O leia bydd heddwch a diogelwch tra dw i'n fyw.”
Chapter 40
Isai WelBeibl 40:1  “Cysurwch nhw; cysurwch fy mhobl i,” – dyna mae eich Duw yn ei ddweud.
Isai WelBeibl 40:2  “Byddwch yn garedig wrth Jerwsalem, a dweud wrthi fod y dyddiau caled drosodd; mae hi wedi derbyn y gosb am ei drygioni. Yn wir, mae'r ARGLWYDD wedi gwneud iddi dalu'n llawn am ei holl bechodau.”
Isai WelBeibl 40:3  Mae llais yn gweiddi'n uchel: “Cliriwch y ffordd i'r ARGLWYDD yn yr anialwch; gwnewch briffordd syth i Dduw drwy'r diffeithwch!
Isai WelBeibl 40:4  Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi, pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu. Bydd y tir anwastad yn cael ei wneud yn llyfn, a bydd cribau'r mynyddoedd yn dir gwastad.
Isai WelBeibl 40:5  Bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dod i'r golwg, a bydd y ddynoliaeth gyfan yn ei weld yr un pryd.” —mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
Isai WelBeibl 40:6  Mae'r llais yn dweud, “Gwaedda!” Ac un arall yn gofyn, “Gweiddi be?” “Mae pobl feidrol fel glaswellt,” meddai, “a ffyddlondeb dynol fel blodyn gwyllt;
Isai WelBeibl 40:7  mae'r glaswellt yn crino a'r blodyn yn gwywo pan mae'r ARGLWYDD yn chwythu arnyn nhw.” Ie, glaswellt ydy'r bobl.
Isai WelBeibl 40:8  Mae'r glaswellt yn crino, a'r blodyn yn gwywo, ond mae neges yr ARGLWYDD yn aros am byth!
Isai WelBeibl 40:9  Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da, dringa i ben mynydd uchel! Ie, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da, gwaedda'n uchel! Gwaedda! Paid bod ag ofn! Dwed wrth drefi Jwda: “Dyma'ch Duw chi!”
Isai WelBeibl 40:10  Edrych! Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn dod fel milwr cryf i deyrnasu gyda nerth. Edrych! Mae ei wobr ganddo; mae'n dod â'i roddion o'i flaen.
Isai WelBeibl 40:11  Bydd yn bwydo'i braidd fel bugail; bydd yn codi'r ŵyn yn ei freichiau ac yn eu cario yn ei gôl, tra'n arwain y defaid sy'n eu magu.
Isai WelBeibl 40:12  Pwy sydd wedi dal y moroedd yng nghledr ei law, a mesur yr awyr rhwng ei fysedd? Pwy sydd wedi dal pridd y ddaear mewn padell, pwyso'r mynyddoedd mewn mantol a'r bryniau gyda chlorian?
Isai WelBeibl 40:13  Pwy sydd wedi gosod ffiniau i ysbryd yr ARGLWYDD, neu roi arweiniad iddo fel ei gynghorydd personol?
Isai WelBeibl 40:14  Gyda pwy mae Duw'n trafod i gael gwybod beth i'w wneud? Pwy sy'n ei ddysgu i wneud y peth iawn? Pwy sy'n rhoi gwybodaeth iddo? Pwy sy'n ei helpu i ddeall?
Isai WelBeibl 40:15  Dydy'r cenhedloedd ond diferyn mewn bwced, dim mwy na llwch ar glorian! Dydy'r ynysoedd yn ddim mwy na llwch mân.
Isai WelBeibl 40:16  Does dim digon o goed tân yn Libanus, na digon o anifeiliaid chwaith, i baratoi offrwm teilwng i'w losgi iddo.
Isai WelBeibl 40:17  Dydy'r gwledydd i gyd yn ddim o'i gymharu ag e – maen nhw fel rhywbeth dibwys yn ei olwg, yn llai na dim byd!
Isai WelBeibl 40:18  Felly, i bwy mae Duw yn debyg yn eich barn chi? Gyda beth allwch chi ei gymharu?
Isai WelBeibl 40:19  Eilun? Cerfiwr sy'n siapio hwnnw, a gof yn ei orchuddio ag aur a gwneud bachau i'w ddal yn ei le!
Isai WelBeibl 40:20  Mae'r sawl sy'n rhy dlawd yn dewis pren fydd ddim yn pydru, ac yn edrych am y crefftwr gorau i wneud eilun sydd ddim yn symud!
Isai WelBeibl 40:21  Ydych chi ddim yn gwybod? Ydych chi ddim wedi clywed? Oes neb wedi dweud wrthoch chi o'r dechrau? Ydych chi ddim yn deall sut gafodd y ddaear ei sylfaenu?
Isai WelBeibl 40:22  Fe ydy'r Un sy'n eistedd uwchben y ddaear, ac mae'r bobl sy'n byw arni fel ceiliogod rhedyn o'i flaen. Fe ydy'r Un sy'n taenu'r awyr fel llenni, ac yn ei lledu allan fel pabell i fyw ynddi.
Isai WelBeibl 40:23  Fe ydy'r un sy'n gwneud y pwysigion yn neb, a'r rhai sy'n llywodraethu ar y ddaear yn ddim.
Isai WelBeibl 40:24  Prin eu bod wedi'u plannu, prin eu bod wedi'u hau, prin eu bod wedi bwrw gwreiddiau yn y tir – mae e'n chwythu arnyn nhw ac maen nhw'n gwywo, ac mae gwynt stormus yn eu cario i ffwrdd fel us.
Isai WelBeibl 40:25  “I bwy dw i'n debyg yn eich barn chi? Oes rhywun arall cystal?” —meddai'r Un Sanctaidd.
Isai WelBeibl 40:26  Edrychwch i fyny ar y sêr! Pwy wnaeth eu creu nhw? Pwy sy'n eu galw nhw allan bob yn un? Pwy sy'n galw pob un wrth ei enw? Mae e mor gryf ac mor anhygoel o nerthol – does dim un ohonyn nhw ar goll.
Isai WelBeibl 40:27  Jacob, pam wyt ti'n dweud, “Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gweld beth sy'n digwydd i mi”? Israel, pam wyt ti'n honni, “Dydy Duw yn cymryd dim sylw o'm hachos i”?
Isai WelBeibl 40:28  Wyt ti ddim yn gwybod? Wyt ti ddim wedi clywed? Yr ARGLWYDD ydy'r Duw tragwyddol! Fe sydd wedi creu'r ddaear gyfan. Dydy ei nerth e ddim yn pallu; Dydy e byth yn blino. Mae e'n rhy ddoeth i unrhyw un ei ddeall!
Isai WelBeibl 40:29  Fe sy'n gwneud y gwan yn gryf, ac yn rhoi egni i'r blinedig.
Isai WelBeibl 40:30  Mae pobl ifanc yn pallu ac yn blino, a'r rhai mwya ffit yn baglu ac yn syrthio;
Isai WelBeibl 40:31  ond bydd y rhai sy'n pwyso ar yr ARGLWYDD yn cael nerth newydd. Byddan nhw'n hedfan i fyny fel eryrod, yn rhedeg heb flino a cherdded ymlaen heb stopio.
Chapter 41
Isai WelBeibl 41:1  Byddwch dawel a gwrando, ynysoedd; dw i am i'r bobloedd gael nerth newydd. Boed iddyn nhw nesáu i ddweud eu dweud. Gadewch i ni ddod at ein gilydd yn y llys barn.
Isai WelBeibl 41:2  Pwy sydd wedi codi'r un o'r dwyrain? Pwy mae Cyfiawnder yn ei alw i'w ddilyn? Mae'n rhoi gwledydd iddo eu concro, ac i fwrw eu brenhinoedd i lawr. Mae ei gleddyf yn eu gwneud fel llwch, a'i fwa yn eu gyrru ar chwâl fel us.
Isai WelBeibl 41:3  Mae'n mynd ar eu holau, ac yn pasio heibio'n ddianaf; dydy ei draed ddim yn cyffwrdd y llawr!
Isai WelBeibl 41:4  Pwy sydd wedi gwneud hyn i gyd? Pwy alwodd y cenedlaethau o'r dechrau? – Fi, yr ARGLWYDD, oedd yno ar y dechrau a bydda i yno yn y diwedd hefyd. Fi ydy e!
Isai WelBeibl 41:5  Mae'r ynysoedd yn gweld, ac maen nhw'n ofni; mae pob cwr o'r ddaear yn crynu. Dyma nhw'n dod, maen nhw'n agos!
Isai WelBeibl 41:6  Maen nhw'n helpu ei gilydd, ac mae un yn annog y llall, “Bydd yn ddewr!”
Isai WelBeibl 41:7  Mae'r saer coed yn annog y gof aur, a'r un sy'n bwrw gyda'r morthwyl yn annog yr un sy'n taro'r einion. Mae'n canmol y gwaith sodro, “Mae'n dda!” ac yna'n ei hoelio'n saff, a dweud, “Fydd hwnna ddim yn symud!”
Isai WelBeibl 41:8  Ond Israel, ti ydy fy ngwas i, Jacob, ti dw i wedi'i ddewis – disgynyddion Abraham, fy ffrind i.
Isai WelBeibl 41:9  Des i â ti yma o bell, a'th alw o ben draw'r byd, a dweud wrthot ti: “Ti ydy fy ngwas i.” Dw i wedi dy ddewis di! Dw i ddim wedi troi cefn arnat ti!
Isai WelBeibl 41:10  Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Paid dychryn – fi ydy dy Dduw di! Dw i'n dy nerthu di ac yn dy helpu di, dw i'n dy gynnal di ac yn dy achub di hefo fy llaw dde.
Isai WelBeibl 41:11  Bydd pawb sy'n codi yn dy erbyn di yn cael eu cywilyddio a'u drysu. Bydd y rhai sy'n ymladd yn dy erbyn di yn diflannu ac yn marw.
Isai WelBeibl 41:12  Byddi'n edrych am y rhai sy'n ymosod arnat ti ac yn methu dod o hyd iddyn nhw. Bydd y rhai sy'n rhyfela yn dy erbyn di yn diflannu ac yn peidio â bod.
Isai WelBeibl 41:13  Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di, yn rhoi cryfder i dy law dde di, ac yn dweud wrthot ti: “Paid bod ag ofn. Bydda i'n dy helpu di.”
Isai WelBeibl 41:14  Paid bod ag ofn, y pryf Jacob, y lindys bach Israel – Bydda i'n dy helpu di! —meddai'r ARGLWYDD. Fi sy'n dy ryddhau di, sef Un Sanctaidd Israel.
Isai WelBeibl 41:15  Bydda i'n dy wneud di yn sled ddyrnu – un newydd, hefo llawer iawn o ddannedd. Byddi'n dyrnu mynyddoedd a'u malu ac yn gwneud bryniau fel us.
Isai WelBeibl 41:16  Byddi'n eu nithio nhw, a bydd gwynt stormus yn eu chwythu i ffwrdd. Bydd corwynt yn eu gyrru ar chwâl. Ond byddi di'n llawenhau yn yr ARGLWYDD, Ac yn canu mawl i Un Sanctaidd Israel.
Isai WelBeibl 41:17  Ond am y bobl dlawd ac anghenus sy'n chwilio am ddŵr ac yn methu cael dim, ac sydd bron tagu gan syched, bydda i, yr ARGLWYDD, yn eu hateb nhw; fydda i, Duw Israel, ddim yn eu gadael nhw.
Isai WelBeibl 41:18  Bydda i'n gwneud i nentydd lifo ar y bryniau anial, ac yn agor ffynhonnau yn y dyffrynnoedd. Bydda i'n troi'r anialwch yn byllau dŵr, a'r tir sych yn ffynhonnau.
Isai WelBeibl 41:19  Bydda i'n plannu coed cedrwydd yno, coed acasia, myrtwydd, ac olewydd; bydda i'n gosod coed cypres, coed llwyfen a choed pinwydd hefyd –
Isai WelBeibl 41:20  er mwyn i bobl weld a gwybod, ystyried a sylweddoli mai'r ARGLWYDD sydd wedi gwneud hyn, ac mai Un Sanctaidd Israel sydd wedi peri iddo ddigwydd.
Isai WelBeibl 41:21  “Cyflwynwch eich achos,” meddai'r ARGLWYDD. “Sut ydych chi am bledio?” meddai Brenin Jacob.
Isai WelBeibl 41:22  “Dewch â'ch duwiau yma i ddweud wrthon ni beth sy'n mynd i ddigwydd. Beth am ddweud wrthon ni beth broffwydon nhw yn y gorffennol – i ni allu penderfynu wrth weld y canlyniadau, neu ddweud beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol?
Isai WelBeibl 41:23  Dwedwch wrthon ni beth sydd i ddod, er mwyn i ni gael gwybod eich bod chi'n dduwiau! Gwnewch rywbeth – da neu ddrwg – fydd yn gwneud i ni ryfeddu!
Isai WelBeibl 41:24  Ond y gwir ydy, dych chi ddim yn bod; allwch chi wneud dim byd o gwbl! Mae rhywun sy'n dewis eich addoli chi yn ffiaidd!
Isai WelBeibl 41:25  Fi wnaeth godi'r un o'r gogledd, ac mae wedi dod: yr un o'r dwyrain sy'n galw ar fy enw i. Mae wedi sathru arweinwyr fel sathru mwd neu fel mae crochenydd yn sathru clai.
Isai WelBeibl 41:26  Pwy arall ddwedodd am hyn wrthon ni o'r dechrau? Pwy wnaeth ddweud am y peth ymlaen llaw, i ni allu dweud, ‘Roedd e'n iawn!’? Wnaeth neb sôn am y peth – ddwedodd neb ddim. Na, does neb wedi'ch clywed chi'n dweud gair!
Isai WelBeibl 41:27  Fi wnaeth ddweud gyntaf wrth Seion: ‘Edrychwch! Maen nhw'n dod!’ Fi wnaeth anfon negesydd gyda newyddion da i Jerwsalem!
Isai WelBeibl 41:28  Dw i'n edrych, a does yr un o'r rhain yn gallu rhoi cyngor nac ateb cwestiwn gen i.
Isai WelBeibl 41:29  Y gwir ydy, eu bod nhw'n afreal – dŷn nhw'n gallu gwneud dim byd o gwbl! Mae eu delwau metel mor ddisylwedd ag anadl!
Chapter 42
Isai WelBeibl 42:1  Dyma fy ngwas, yr un dw i'n ei gynnal, yr un dw i wedi'i ddewis ac sydd wrth fy modd i! Rhof fy ysbryd iddo, a bydd yn dysgu cyfiawnder i'r cenhedloedd.
Isai WelBeibl 42:2  Fydd e ddim yn gweiddi a chodi ei lais, nac yn gadael i neb glywed ei lais ar y strydoedd.
Isai WelBeibl 42:3  Fydd e ddim yn torri brwynen fregus nac yn diffodd llin sy'n mygu. Bydd e'n dangos y ffordd iawn i ni.
Isai WelBeibl 42:4  Fydd e ddim yn methu nac yn anobeithio nes iddo sefydlu'r ffordd iawn ar y ddaear. Mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei ddysgeidiaeth.”
Isai WelBeibl 42:5  Dyma mae'r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud – yr un greodd yr awyr, a'i lledu allan, yr un wnaeth siapio'r ddaear a phopeth ynddi, yr un sy'n rhoi anadl i'r bobl sy'n byw arni, a bywyd i'r rhai sy'n cerdded arni:
Isai WelBeibl 42:6  “Fi ydy'r ARGLWYDD, dw i wedi dy alw i wneud beth sy'n iawn, a gafael yn dy law. Dw i'n gofalu amdanat ti, ac yn dy benodi'n ganolwr fy ymrwymiad i bobl, ac yn olau i genhedloedd –
Isai WelBeibl 42:7  i agor llygaid y dall, rhyddhau carcharorion o'u celloedd, a'r rhai sy'n byw yn y tywyllwch o'r carchar.
Isai WelBeibl 42:8  Fi ydy'r ARGLWYDD, dyna fy enw i. Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall, na rhoi'r clod dw i'n ei haeddu i ddelwau.
Isai WelBeibl 42:9  Mae'r pethau cyntaf ddwedais wedi dod yn wir, a nawr dw i'n cyhoeddi pethau newydd. Dw i'n gadael i chi glywed amdanyn nhw cyn iddyn nhw ddechrau digwydd.”
Isai WelBeibl 42:10  Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD, canwch ei glod o ben draw'r byd – chi sy'n hwylio ar y môr, a'r holl greaduriaid sydd ynddo, a chi sy'n byw ar yr ynysoedd!
Isai WelBeibl 42:11  Boed i'r anialwch a'i drefi godi eu lleisiau, a'r pentrefi lle mae crwydriaid Cedar yn byw. Canwch yn llawen, chi sy'n byw yn Sela, a gweiddi'n uchel o ben y mynyddoedd.
Isai WelBeibl 42:12  Boed iddyn nhw roi clod i'r ARGLWYDD, a dweud am ei ysblander ar yr ynysoedd.
Isai WelBeibl 42:13  Mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel milwr ar dân ac yn frwd i ymladd yn y rhyfel. Mae e'n gweiddi – yn wir, mae e'n rhuo wrth ymosod ar ei elynion.
Isai WelBeibl 42:14  “Dw i wedi bod yn ddistaw yn rhy hir – wedi cadw'n dawel, a dal fy hun yn ôl. Ond nawr, fel gwraig yn cael plentyn, dw i'n sgrechian a gwingo a griddfan.
Isai WelBeibl 42:15  Dw i'n mynd i ddifetha'r bryniau a'r mynyddoedd, a gwneud i bob tyfiant wywo. Dw i'n mynd i wneud yr afonydd yn sych, a sychu'r pyllau dŵr hefyd.
Isai WelBeibl 42:16  Dw i'n mynd i arwain y rhai sy'n ddall ar hyd ffordd sy'n newydd, a gwneud iddyn nhw gerdded ar hyd llwybrau sy'n ddieithr iddyn nhw. Bydda i'n gwneud y tywyllwch yn olau o'u blaen ac yn gwneud y tir anwastad yn llyfn. Dyma dw i'n addo ei wneud – a dw i'n cadw fy ngair.
Isai WelBeibl 42:17  Bydd y rhai sy'n trystio eilunod yn cael eu gyrru'n ôl a'u cywilyddio, sef y rhai sy'n dweud wrth ddelwau metel, ‘Chi ydy'n duwiau ni!’”
Isai WelBeibl 42:18  Gwrandwch, chi'r rhai byddar; ac edrychwch, chi sy'n ddall!
Isai WelBeibl 42:19  Pwy sy'n ddall fel fy ngwas, neu'n fyddar fel y negesydd dw i'n ei anfon? Pwy sy'n ddall fel yr un dw i wedi ymrwymo iddo? Pwy sy'n ddall fel gwas yr ARGLWYDD?
Isai WelBeibl 42:20  Er dy fod yn gweld llawer, ti ddim yn ystyried; er bod gen ti glustiau, ti ddim yn gwrando.
Isai WelBeibl 42:21  Roedd yr ARGLWYDD wedi'i blesio ei fod yn gyfiawn, a'i fod yn gwneud yn fawr o'r gyfraith, ac yn ei chadw.
Isai WelBeibl 42:22  Ond mae'r bobl hyn wedi colli popeth: maen nhw i gyd wedi'u dal mewn tyllau, a'u carcharu mewn celloedd. Maen nhw'n ysglyfaeth, a does neb i'w hachub; maen nhw'n ysbail, a does neb yn dweud, “Rho nhw'n ôl!”
Isai WelBeibl 42:23  Pwy sy'n barod i wrando ar hyn? Gwrandwch yn astud o hyn ymlaen!
Isai WelBeibl 42:24  Pwy adawodd i Jacob gael ei ysbeilio, a rhoi Israel i'r lladron? Yr ARGLWYDD, wrth gwrs – yr un wnaethon nhw bechu yn ei erbyn! Doedden nhw ddim am fyw fel roedd e eisiau, na bod yn ufudd i'w ddysgeidiaeth.
Isai WelBeibl 42:25  Felly dyma fe'n tywallt ei lid arnyn nhw, a thrais rhyfel. Roedd y fflamau o'u cwmpas ym mhobman, ond wnaethon nhw ddim dysgu'r wers. Cawson nhw eu llosgi, ond gymron nhw ddim sylw.
Chapter 43
Isai WelBeibl 43:1  Nawr, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un wnaeth dy greu di, Jacob, a rhoi siâp i ti, Israel: “Paid bod ag ofn! Dw i wedi dy ollwng di'n rhydd! Dw i wedi dy alw wrth dy enw! Fi piau ti!
Isai WelBeibl 43:2  Pan fyddi di'n mynd drwy lifogydd, bydda i gyda ti; neu drwy afonydd, fyddan nhw ddim yn dy gario di i ffwrdd. Wrth i ti gerdded drwy dân, fyddi di'n cael dim niwed; fydd y fflamau ddim yn dy losgi di.
Isai WelBeibl 43:3  Achos fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di, Un Sanctaidd Israel, dy Achubwr di! Rhoddais yr Aifft yn dâl amdanat ti, Cwsh a Seba yn dy le di.
Isai WelBeibl 43:4  Dw i'n dy drysori di ac yn dy garu di, achos ti'n werthfawr yn fy ngolwg i. Dw i'n barod i roi'r ddynoliaeth yn gyfnewid amdanat ti, a'r bobloedd yn dy le di.
Isai WelBeibl 43:5  Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Bydda i'n dod â'th ddisgynyddion di yn ôl o'r dwyrain, ac yn dy gasglu di o'r gorllewin.
Isai WelBeibl 43:6  Bydda i'n dweud wrth y gogledd, ‘Gollwng nhw!’ ac wrth y de, ‘Paid dal neb yn ôl!’ Tyrd â'm meibion i o wledydd pell, a'm merched o ben draw'r byd –
Isai WelBeibl 43:7  pawb sydd â'm henw i arnyn nhw, ac wedi'u creu i ddangos fy ysblander i. Ie, fi wnaeth eu siapio a'u gwneud nhw.
Isai WelBeibl 43:8  Dewch â nhw allan, y rhai sy'n ddall er bod ganddyn nhw lygaid, ac yn fyddar er bod ganddyn nhw glustiau.
Isai WelBeibl 43:9  Mae'r cenhedloedd i gyd wedi dod at ei gilydd, a gwledydd y byd wedi ymgasglu. Pa un o'u duwiau nhw soniodd am hyn, a dweud ymlaen llaw am beth sydd wedi digwydd? Gadewch iddyn nhw alw tystion i brofi eu hunain, er mwyn i bobl eu clywed, a dweud, ‘Mae'n wir!’”
Isai WelBeibl 43:10  “Chi ydy fy nhystion i,” —meddai'r ARGLWYDD, “a'r gwas dw i wedi'i ddewis i wybod ac i gadarnhau eich bod chi'n deall mai fi ydy e. Doedd dim duw o'm blaen i, a fydd yna ddim un ar fy ôl i.
Isai WelBeibl 43:11  Fi, ie fi ydy'r unig ARGLWYDD, a does neb ond fi yn gallu achub.
Isai WelBeibl 43:12  Fi wnaeth ddweud ymlaen llaw, fi wnaeth achub, fi wnaeth ei gyhoeddi, dim rhyw dduw dieithr – a dych chi'n dystion o'r peth.” —meddai'r ARGLWYDD. “Fi ydy'r unig Dduw,
Isai WelBeibl 43:13  Fi ydy e o'r dechrau cyntaf! Does neb yn gallu cipio rhywun oddi arna i. Pan dw i'n gwneud rhywbeth, does neb yn gallu ei ddadwneud.”
Isai WelBeibl 43:14  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un sy'n dy ryddhau, Un Sanctaidd Israel: “Dw i'n mynd i'w anfon e i Babilon er dy fwyn di. Bydda i'n bwrw ei barrau haearn i lawr, a throi bloeddio llawen y Babiloniaid yn alar.
Isai WelBeibl 43:15  Fi ydy'ch Un Sanctaidd chi, yr ARGLWYDD, eich Brenin chi, yr un greodd Israel.”
Isai WelBeibl 43:16  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un agorodd ffordd drwy'r môr a llwybr drwy'r dyfroedd mawr,
Isai WelBeibl 43:17  yr un ddinistriodd gerbydau a cheffylau, a'r fyddin ddewr i gyd (Maen nhw'n gorwedd gyda'i gilydd, a fyddan nhw ddim yn codi. Cawson nhw eu diffodd, fel diffodd cannwyll):
Isai WelBeibl 43:18  “Peidiwch hel atgofion am y gorffennol, a dim ond meddwl am beth ddigwyddodd o'r blaen!
Isai WelBeibl 43:19  Edrychwch, dw i'n gwneud rhywbeth newydd! Mae ar fin digwydd! Ydych chi ddim yn ei weld? Dw i'n mynd i agor ffordd drwy'r anialwch, a rhoi afonydd yn y tir diffaith.
Isai WelBeibl 43:20  Bydd anifeiliaid gwyllt yn diolch i mi, y siacaliaid a'r estrys, am fy mod wedi rhoi dŵr yn yr anialwch, ac afonydd mewn tir diffaith, i roi diod i'r bobl dw i wedi'u dewis –
Isai WelBeibl 43:21  y bobl wnes i eu llunio i mi fy hun, iddyn nhw fy moli i.”
Isai WelBeibl 43:22  “Ond ti ddim wedi galw arna i, Jacob; rwyt ti wedi blino arna i, Israel.
Isai WelBeibl 43:23  Ti ddim wedi dod â dafad yn offrwm i'w losgi i mi, nac wedi fy anrhydeddu gydag aberthau. Dw i ddim wedi pwyso arnat ti am offrwm o rawn, na dy boeni di am yr arogldarth o thus.
Isai WelBeibl 43:24  Ti ddim wedi prynu sbeisiau pêr i mi na'm llenwi gyda braster dy aberthau. Yn lle hynny, rwyt ti wedi rhoi baich dy bechodau arna i, a'm blino gyda dy ddrygioni.
Isai WelBeibl 43:25  Fi, ie, fi – er fy mwyn fy hun – ydy'r un sy'n dileu dy wrthryfel di, ac yn anghofio am dy bechodau di.
Isai WelBeibl 43:26  Atgoffa fi. Gad i ni drafod gyda'n gilydd. Gad i mi glywed dy ochr di o'r stori; ceisia di brofi dy fod yn ddieuog!
Isai WelBeibl 43:27  Pechodd dy dad cyntaf yn fy erbyn i, wedyn cododd dy arweinwyr yn fy erbyn i.
Isai WelBeibl 43:28  Felly dyma fi'n halogi arweinwyr y cysegr, a gadael i Jacob gael ei alltudio ac i Israel fod yn destun sbort.”
Chapter 44
Isai WelBeibl 44:1  Ond gwrando nawr, Jacob, fy ngwas, ac Israel, yr un dw i wedi'i dewis.
Isai WelBeibl 44:2  Dyma mae'r ARGLWYDD a'th wnaeth di yn ei ddweud – yr un wnaeth dy siapio di yn y groth; yr un sy'n dy helpu: “Paid bod ag ofn, Jacob, fy ngwas, Israel, yr un dw i wedi'i dewis.
Isai WelBeibl 44:3  Fel dw i'n tywallt dŵr ar y ddaear sychedig, a glaw ar dir sych, bydda i'n tywallt fy Ysbryd ar dy ddisgynyddion di, a'm bendith ar dy blant.
Isai WelBeibl 44:4  Byddan nhw'n tyfu fel glaswellt, ac fel coed helyg ar lan ffrydiau o ddŵr.
Isai WelBeibl 44:5  Bydd un yn dweud, ‘Dw i'n perthyn i'r ARGLWYDD’, un arall yn cymryd yr enw ‛Jacob‛, ac un arall eto yn ysgrifennu ar ei law ‛eiddo'r ARGLWYDD‛ ac yn galw'i hun yn ‛Israel‛.”
Isai WelBeibl 44:6  Dyma mae'r ARGLWYDD, Brenin Israel, yn ei ddweud – yr un sy'n eu rhyddhau nhw, yr ARGLWYDD hollbwerus: “Fi ydy'r cyntaf, a fi ydy'r olaf! Does dim duw arall yn bod ar wahân i mi.
Isai WelBeibl 44:7  Pwy sy'n debyg i mi? Boed iddo honni'r peth a dadlau ei achos! Dwedais i wrth bobl ers talwm beth oedd i ddod; beth am iddo fe ddweud beth sy'n mynd i ddigwydd?
Isai WelBeibl 44:8  Peidiwch bod ag ofn! Peidiwch dychryn! Ydw i ddim wedi dweud wrthoch chi ers talwm? Do, dw i wedi dweud, a chi ydy'r tystion! Oes yna unrhyw dduw arall ar wahân i mi? Na, does dim Craig arall; dw i ddim yn gwybod am un!
Isai WelBeibl 44:9  Mae'r rhai sy'n gwneud eilunod yn gwastraffu eu hamser. Dydy'r pethau maen nhw mor hoff ohonyn nhw yn dda i ddim! A dydy'r rhai sy'n tystio iddyn nhw ddim yn gweld! Dŷn nhw'n gwybod dim – ac felly maen nhw'n cael eu cywilyddio.
Isai WelBeibl 44:10  Pwy sy'n ddigon dwl i wneud duw neu gastio delw all wneud dim?
Isai WelBeibl 44:11  Mae pawb sy'n gweithio arno yn cael eu cywilyddio. Crefftwyr, ie, ond creaduriaid meidrol ydyn nhw. Gadewch iddyn nhw ddod at ei gilydd i wneud safiad! Byddan nhw'n cael eu dychryn a'u cywilyddio.
Isai WelBeibl 44:12  Mae'r gof yn defnyddio'i offer i baratoi'r metel ar y tân. Mae'n ei siapio gyda morthwyl, ac yn gweithio arno gyda nerth bôn braich. Ond pan mae eisiau bwyd arno, mae ei nerth yn pallu; heb yfed dŵr, byddai'n llewygu.
Isai WelBeibl 44:13  Mae'r saer coed yn ei fesur gyda llinyn, ac yn ei farcio gyda phensil; mae'n ei lyfnhau gyda phlaen, ac yn ei farcio gyda chwmpawd. Yna mae'n ei gerfio ar siâp dynol, yn gwneud iddo edrych fel bod dynol, a'i osod mewn teml.
Isai WelBeibl 44:14  Mae'n torri coed cedrwydd; mae'n dewis coeden gypres neu dderwen sydd wedi tyfu'n gryf yng nghanol y goedwig. Mae'n plannu coed pinwydd, ac mae'r glaw yn gwneud iddyn nhw dyfu.
Isai WelBeibl 44:15  Mae'n defnyddio peth o'r coed fel coed tân i gadw ei hun yn gynnes. Mae'n cynnau tân i bobi bara gydag e ac yn defnyddio'r gweddill i wneud duw i'w addoli! Mae'n cerfio eilun, ac yna'n plygu iddo!
Isai WelBeibl 44:16  Mae'n llosgi ei hanner yn y tân ac yn rhostio cig arno. Mae'n bwyta'r cig nes bod ei fol yn llawn, ac yn cynhesu o flaen y tân, ac yn dweud, ‘O, mae tân go iawn mor braf!’
Isai WelBeibl 44:17  Wedyn mae'n defnyddio beth sydd ar ôl i wneud eilun yn dduw iddo'i hun. Mae'n plygu o'i flaen, ac yn ei addoli. Mae'n gweddïo arno a dweud, ‘Achub fi – ti ydy fy Nuw i!’
Isai WelBeibl 44:18  Dŷn nhw'n gwybod dim! Dŷn nhw ddim yn meddwl! Maen nhw wedi mynd yn ddall, ac mae eu meddyliau ar gau.
Isai WelBeibl 44:19  Dŷn nhw ddim yn meddwl am funud, dŷn nhw'n gwybod nac yn deall dim: ‘Dw i wedi llosgi ei hanner yn y tân, wedi pobi bara arno a rhostio cig i'w fwyta – yna gwneud y gweddill yn eilun ffiaidd, a plygu i lawr i ddarn o bren!’
Isai WelBeibl 44:20  Mae e'n bwyta ar bentwr o ludw. Mae ei feddwl wedi mynd ar gyfeiliorn. Mae'n methu achub ei hun na dod rownd i gyfaddef, ‘Twyll ydy'r peth sydd yn fy llaw i!’
Isai WelBeibl 44:21  Cofia'r pethau yma, Jacob achos ti ydy fy ngwas i, Israel. Fi wnaeth dy siapio di, ac rwyt ti'n was i mi – fydda i ddim yn dy anghofio di, Israel.
Isai WelBeibl 44:22  Dw i wedi ysgubo dy wrthryfel di i ffwrdd fel cwmwl, a dy bechodau di fel niwl – tro yn ôl ata i! Dw i wedi dy ryddhau di.”
Isai WelBeibl 44:23  Canwch fawl, nefoedd, achos mae'r ARGLWYDD wedi'i wneud! Gwaeddwch yn uchel, ddyfnderoedd y ddaear! Bloeddiwch, fynyddoedd, a'r fforestydd a'u holl goed! Achos mae'r ARGLWYDD wedi rhyddhau Jacob, ac wedi dangos ei ysblander yn Israel.
Isai WelBeibl 44:24  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un sy'n dy ryddhau di, yr un wnaeth dy siapio di yn y groth: “Fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi gwneud y cwbl: fi fy hun wnaeth daenu'r awyr, a lledu'r ddaear ar fy mhen fy hun.
Isai WelBeibl 44:25  Fi sy'n torri swynion dewiniaid, ac yn gwneud ffyliaid o'r rhai sy'n darogan; gwneud i'r doethion lyncu eu geiriau, a gwneud nonsens o'u gwybodaeth nhw.
Isai WelBeibl 44:26  Dw i'n cadarnhau'r hyn mae fy ngwas yn ei ddweud, ac yn gwneud beth mae ei negeswyr yn ei gynghori. Dw i'n dweud wrth Jerwsalem, ‘Bydd pobl yn byw ynot ti’, ac wrth bentrefi Jwda, ‘Byddwch yn cael eich adeiladu; dw i'n mynd i ailgodi'r adfeilion.’
Isai WelBeibl 44:27  Fi ydy'r un ddwedodd wrth y môr, ‘Bydd sych!’ ac wrth yr afonydd, ‘Dw i'n mynd i'ch sychu chi!’
Isai WelBeibl 44:28  A fi hefyd sy'n dweud wrth Cyrus, ‘Fy mugail wyt ti.’ Bydd e'n gwneud beth dw i eisiau! Bydd yn dweud wrth Jerwsalem, ‘Cei dy adeiladu eto’, ac wrth y Deml: ‘Cei dy ailsefydlu’.”
Chapter 45
Isai WelBeibl 45:1  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Cyrus, yr un mae wedi'i eneinio, yr un mae wedi gafael yn ei law, iddo sathru gwledydd o'i flaen a diarfogi brenhinoedd, yr un mae wedi agor drysau iddo heb adael unrhyw giât ar gau:
Isai WelBeibl 45:2  “Dw i'n mynd o dy flaen di i fwrw waliau dinasoedd i lawr, dryllio drysau pres a thorri'r barrau haearn.
Isai WelBeibl 45:3  Dw i'n mynd i roi i ti drysorau sydd yn y tywyllwch, stôr o gyfoeth wedi'i guddio o'r golwg – er mwyn i ti wybod mai fi, yr ARGLWYDD, Duw Israel, sydd wedi dy alw di wrth dy enw.
Isai WelBeibl 45:4  Dw i wedi dy alw di wrth dy enw er mwyn fy ngwas Jacob, ac er mwyn Israel, yr un dw i wedi'i ddewis. Dw i'n mynd i roi teitl i ti, er nad wyt ti'n fy nabod.
Isai WelBeibl 45:5  Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall; does dim duw ar wahân i mi. Dw i'n mynd i dy arfogi di, er nad wyt ti'n fy nabod.
Isai WelBeibl 45:6  Dw i eisiau i bawb, o'r dwyrain i'r gorllewin, wybod fod neb arall ond fi. Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall.
Isai WelBeibl 45:7  Fi sy'n rhoi golau, ac yn creu twyllwch, yn dod â heddwch ac yn creu trwbwl – Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cwbl.
Isai WelBeibl 45:8  Arllwys law i lawr, o awyr! Glawiwch gyfiawnder, gymylau! Agor, ddaear, er mwyn i achubiaeth dyfu, ac i degwch flaguro. Fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi gwneud hyn.”
Isai WelBeibl 45:9  Gwae'r sawl sy'n dadlau gyda'i Wneuthurwr, ac yntau'n ddim byd ond darn o lestr wedi torri ar lawr! Ydy'r clai yn dweud wrth y crochenydd, “Beth yn y byd wyt ti'n wneud?” neu, “Does dim dolen ar dy waith”?
Isai WelBeibl 45:10  Gwae'r un sy'n dweud wrth dad, “Beth wyt ti'n ei genhedlu?” neu wrth fam, “Beth wyt ti'n ei eni?”
Isai WelBeibl 45:11  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – Un Sanctaidd Israel wnaeth ei siapio: “Dych chi'n fy holi am ddyfodol fy mhlant? Dych chi am ddweud wrtho i beth i'w wneud?
Isai WelBeibl 45:12  Fi wnaeth y ddaear, a chreu'r ddynoliaeth arni. Fi fy hun wnaeth ledu'r awyr a rhoi trefn ar y sêr.
Isai WelBeibl 45:13  A fi sydd wedi codi Cyrus i achub ac wedi gwneud y ffordd o'i flaen yn rhwydd. Bydd e'n ailadeiladu fy ninas i, ac yn gollwng fy mhobl gafodd eu caethgludo yn rhydd heb unrhyw dâl na gwobr,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.
Isai WelBeibl 45:14  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd cyfoeth yr Aifft ac enillion Affrica a'r Sabeaid tal yn dod yn eiddo i ti. Byddan nhw'n dy ddilyn di mewn cadwyni, yn plygu o dy flaen ac yn pledio: ‘Dim ond gyda ti mae Duw, a does dim duw arall o gwbl!’”
Isai WelBeibl 45:15  Ti'n sicr yn Dduw sy'n cuddio'i hun, O Dduw Israel, yr un sy'n achub!
Isai WelBeibl 45:16  Bydd y rhai sy'n cerfio eilunod yn teimlo cywilydd ac embaras – byddan nhw i gyd yn sleifio i ffwrdd mewn cywilydd.
Isai WelBeibl 45:17  Mae Israel yn saff gyda'r ARGLWYDD ac yn cael ei hachub am byth! Fydd hi ddim yn profi cywilydd nac embaras byth bythoedd!
Isai WelBeibl 45:18  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, sef Crëwr y nefoedd, yr unig Dduw, a wnaeth y ddaear, ei siapio a'i gosod yn ei lle – nid i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni: “Fi ydy'r ARGLWYDD, does dim un arall.
Isai WelBeibl 45:19  Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol, mewn rhyw le tywyll. Wnes i ddim dweud wrth blant Jacob, ‘Edrychwch amdana i i ddim pwrpas.’ – Dw i, yr ARGLWYDD, yn dweud beth sy'n iawn, ac yn dweud y gwir.
Isai WelBeibl 45:20  Dewch yma! Dewch ata i gyda'ch gilydd, chi ffoaduriaid y cenhedloedd! Dydy'r rhai sy'n cario delwau pren yn gwybod dim, na'r rhai sy'n gweddïo ar dduwiau sydd ddim yn gallu achub!
Isai WelBeibl 45:21  Cyflwynwch eich tystiolaeth – gadewch iddyn nhw drafod gyda'i gilydd! Pwy ddwedodd am hyn ymlaen llaw? Pwy soniodd am y peth o'r dechrau? Onid fi, yr ARGLWYDD? Does dim duw arall yn bod ar wahân i mi! Fi ydy'r Duw cyfiawn sy'n achub – does dim un arall!
Isai WelBeibl 45:22  Dewch o ben draw'r byd; trowch ata i i gael eich achub! Achos fi ydy Duw, a does dim un arall.
Isai WelBeibl 45:23  Dw i wedi mynd ar fy llw, dw i'n dweud y gwir, fydda i'n cymryd dim yn ôl: ‘Bydd pob glin yn plygu i mi, a phob tafod yn tyngu i mi!
Isai WelBeibl 45:24  Byddan nhw'n dweud: “Ydy, mae'r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn a chryf!”’” Bydd y rhai gododd yn ei erbyn yn troi ato mewn cywilydd.
Isai WelBeibl 45:25  Bydd disgynyddion Israel yn cael eu hachub gan yr ARGLWYDD ac yn canu mawl iddo.
Chapter 46
Isai WelBeibl 46:1  Mae Bel ar ei liniau, a Nabw yn gorwedd ar ei wyneb. Baich ar gefn anifeiliaid ydy eu delwau nhw, pethau mae'n rhaid eu cario – llwyth trwm ar gefn anifeiliaid blinedig!
Isai WelBeibl 46:2  Maen nhw hefyd wedi syrthio a phlygu gyda'i gilydd; doedd dim modd arbed y llwyth, ac maen nhw ar eu ffordd i'r gaethglud.
Isai WelBeibl 46:3  “Gwrandwch arna i, bobl Jacob, a phawb sydd ar ôl o bobl Israel. Fi wnaeth eich cario chi pan oeddech chi yn y groth, a dw i wedi'ch cynnal chi ers i chi gael eich geni.
Isai WelBeibl 46:4  A bydd pethau yr un fath pan fyddwch chi'n hen; bydda i'n dal i'ch cario chi pan fydd eich gwallt wedi troi'n wyn! Fi wnaeth chi, a fi sy'n eich cario chi – fi sy'n gwneud y cario, a fi sy'n achub.
Isai WelBeibl 46:5  Pwy sy'n cymharu hefo fi? Oes rhywun tebyg i mi? Dwedwch i bwy dw i'n debyg? Oes rhywun sydd yr un fath â mi?
Isai WelBeibl 46:6  Mae rhai pobl yn gwagio'r aur o'u pwrs ac yn pwyso'u harian mewn clorian, yna'n talu gweithiwr metel i wneud duw iddyn nhw, ac wedyn yn ei addoli a syrthio ar eu hwynebau o'i flaen!
Isai WelBeibl 46:7  Mae'n rhaid iddyn nhw ei gario ar eu hysgwyddau, ac wedyn maen nhw'n ei osod ar ei draed, a dydy e ddim yn gallu symud! Os ydy rhywun yn galw arno, dydy e ddim yn ateb; a dydy e ddim yn gallu achub neb o'i drafferthion!
Isai WelBeibl 46:8  Cofiwch chi hynny, a dal gafael yn y ffaith! Meddyliwch am y peth, chi wrthryfelwyr!
Isai WelBeibl 46:9  Cofiwch beth dw i wedi'i wneud yn y gorffennol. Achos fi sydd Dduw, a does dim un arall yn bod. Fi ydy Duw, a does neb tebyg i mi.
Isai WelBeibl 46:10  Dw i'n dweud o'r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd, ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto. Dw i'n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd; dw i'n cyflawni popeth dw i'n ei fwriadu.’
Isai WelBeibl 46:11  Fi alwodd yr aderyn rheibus yna o'r dwyrain, yr un ddaeth o bell i gyflawni fy mhwrpas i. Pan dw i'n dweud rhywbeth, mae'n siŵr o ddigwydd; fi sydd wedi'i gynllunio, a bydda i'n siŵr o'i wneud!
Isai WelBeibl 46:12  Gwrandwch arna i, chi bobl benstiff, sy'n cadw draw oddi wrth beth sy'n iawn:
Isai WelBeibl 46:13  dw i ar fin gwneud pethau'n iawn; dydy hyn ddim yn y dyfodol pell – fydd achubiaeth ddim yn cael ei gohirio. Dw i'n mynd i achub Seion! A rhoi fy ysblander i Israel!”
Chapter 47
Isai WelBeibl 47:1  “I lawr â ti! Eistedd yn y llwch, o wyryf, ferch Babilon. Eistedd ar lawr, ferch y Babiloniaid, mae dy ddyddiau ar yr orsedd wedi darfod. Gei di ddim dy alw yn dyner ac yn dlos byth eto.
Isai WelBeibl 47:2  Gafael yn y felin law i falu blawd. Tyn dy fêl, rhwyga dy wisg, a dangos dy goesau wrth gerdded drwy afonydd.
Isai WelBeibl 47:3  Byddi'n gwbl noeth, a bydd dy rannau preifat yn y golwg. Dw i'n mynd i ddial, a fydd neb yn fy rhwysto i.”
Isai WelBeibl 47:4  Dyna mae'r un sy'n ein gollwng ni'n rhydd yn ei ddweud —yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw— Un Sanctaidd Israel.
Isai WelBeibl 47:5  “Eistedd yn dawel! Dos i'r tywyllwch, ferch y Babiloniaid. Gei di ddim dy alw yn ‛Feistres y Teyrnasoedd‛ byth eto.
Isai WelBeibl 47:6  Rôn wedi digio gyda'm pobl, felly cosbais fy etifeddiaeth; rhoddais nhw yn dy ddwylo di, ond wnest ti ddangos dim trugaredd atyn nhw. Roeddet ti hyd yn oed yn cam-drin pobl mewn oed.
Isai WelBeibl 47:7  ‘Fi fydd y feistres am byth,’ meddet ti. Wnest ti ddim meddwl am funud beth fyddai'n digwydd yn y diwedd.
Isai WelBeibl 47:8  Felly, gwrando ar hyn, ti sy wedi dy sbwylio – ti sy'n ofni neb na dim, ac yn meddwl, ‘Fi ydy'r un – does neb tebyg i mi! Fydda i byth yn weddw, nac yn gwybod beth ydy colli plant.’
Isai WelBeibl 47:9  Ond yn sydyn bydd y ddau beth yn digwydd ar yr un diwrnod: colli dy blant a chael dy hun yn weddw. Byddi'n cael dy lethu'n llwyr ganddyn nhw, er gwaetha dy holl ddewino a'th swynion gorau.
Isai WelBeibl 47:10  Roeddet ti mor hunanfodlon yn dy ddrygioni, ac yn meddwl, ‘Does neb yn fy ngweld i.’ Roedd dy ddoethineb a dy glyfrwch yn dy arwain ar gyfeiliorn, ac roeddet ti'n dweud wrthot ti dy hun, ‘Fi ydy'r un – does neb tebyg i mi!’
Isai WelBeibl 47:11  Ond mae dinistr yn dod, a fydd dy holl swynion ddim yn ei gadw draw. Mae trychineb ar fin disgyn, a fyddi di ddim yn gallu ei droi i ffwrdd. Yn sydyn bydd dinistr yn dod arnat heb yn wybod.
Isai WelBeibl 47:12  Dal ati gyda dy swynion a'th ddewino – rwyt wedi bod yn ymarfer ers pan oeddet ti'n blentyn! Falle y cei di help! Falle gwnei di ddychryn y gelyn!
Isai WelBeibl 47:13  Ti'n gwastraffu dy amser yn gwrando ar holl gynghorion y rhai sy'n syllu i'r awyr ac yn darllen y sêr, ac yn dweud o fis i fis beth sy'n mynd i ddigwydd i ti! Gad iddyn nhw sefyll i fyny a dy achub di!
Isai WelBeibl 47:14  Maen nhw fel gwellt yn cael ei losgi'n y tân. Allan nhw ddim achub eu hunain rhag gwres y fflamau cryfion. Nid glo i dwymo wrtho ydy hwn, neu dân i eistedd o'i flaen!
Isai WelBeibl 47:15  Dyna faint o help ydyn nhw i ti – y rhai buost ti'n delio gyda nhw ers pan oeddet ti'n blentyn. Maen nhw i gyd wedi mynd eu ffordd eu hunain, a does neb ar ôl i dy achub di!”
Chapter 48
Isai WelBeibl 48:1  Gwrandwch ar hyn, bobl Jacob – chi sy'n cael eich galw wrth yr enw ‛Israel‛ ac yn ddisgynyddion i Jwda, sy'n tyngu i enw'r ARGLWYDD ac yn galw ar Dduw Israel – ond heb fod yn ddidwyll wrth wneud hynny.
Isai WelBeibl 48:2  (Maen nhw'n galw eu hunain yn ‛bobl y ddinas sanctaidd‛, ac yn honni pwyso ar Dduw Israel, sef yr ARGLWYDD hollbwerus):
Isai WelBeibl 48:3  “Dw i wedi sôn ers talwm am y pethau fyddai'n digwydd; dwedais yn glir i bawb glywed. Yna'n sydyn gweithredais, a dyma nhw'n digwydd.
Isai WelBeibl 48:4  Rôn i'n gwybod mor benstiff wyt ti – mae gewynnau dy wddf fel haearn a dy dalcen yn galed fel pres.
Isai WelBeibl 48:5  Dyna pam wnes i roi gwybod i ti'n bell yn ôl, a dweud yn glir cyn i ddim ddigwydd – rhag i ti ddweud, ‘Fy eilun-dduw wnaeth hyn, fy eilun a'm delw metel wnaeth ei drefnu.’
Isai WelBeibl 48:6  Ti wedi clywed hyn i gyd; edrych, pam wnei di ddim cydnabod y peth? A nawr dw i'n mynd i ddweud pethau newydd, pethau cudd allet ti ddim eu gwybod o'r blaen
Isai WelBeibl 48:7  pethau newydd sbon, ddim o'r gorffennol. Ti ddim wedi clywed hyn cyn heddiw, rhag i ti ddweud, ‘Rôn i'n gwybod hynny!’
Isai WelBeibl 48:8  Ti ddim wedi clywed, a ti ddim yn gwybod; allet ti ddim bod wedi clywed hyn o'r blaen. Er fy mod i'n gwybod dy fod ti'n twyllo ac yn cael dy alw'n rebel ers i ti gael dy eni,
Isai WelBeibl 48:9  dw i wedi atal fy llid er mwyn cadw fy enw da a bod yn amyneddgar er mwyn i mi gael fy moli; dw i wedi ymatal rhag dy ddinistrio di.
Isai WelBeibl 48:10  Edrych, dw i wedi dy buro di, ond nid fel arian; dw i wedi dy brofi di yn ffwrnais dioddefaint.
Isai WelBeibl 48:11  Er fy mwyn fy hun yn unig dw i'n gwneud hyn – pam ddylai fy enw da gael ei halogi? Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall!
Isai WelBeibl 48:12  Gwrandwch arna i, bobl Jacob, ac Israel, y rhai dw i wedi'u galw: Fi ydy e – fi ydy'r cyntaf, a fi ydy'r olaf hefyd.
Isai WelBeibl 48:13  Gosodais sylfeini'r ddaear gyda'm dwylo fy hun, a lledu'r awyr gyda'm llaw dde. Dw i'n eu galw nhw, ac maen nhw'n sefyll gyda'i gilydd.
Isai WelBeibl 48:14  ‘Dewch at eich gilydd i gyd, a gwrando! Pa un o'ch duwiau ddwedodd am y pethau yma? – y bydd ffrind yr ARGLWYDD yn cyflawni ei fwriad yn erbyn Babilon, ac yn defnyddio'i holl nerth yn erbyn pobl Caldea.’
Isai WelBeibl 48:15  Fi ddwedodd! Fi alwodd e. Fi ddaeth ag e allan, a bydd yn llwyddo.
Isai WelBeibl 48:16  Dewch ata i yma i glywed hyn: ‘Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol erioed; a phan mae'n digwydd dw i yna.’” Felly nawr mae fy Meistr, sef yr ARGLWYDD, wedi fy anfon i gyda'i ysbryd.
Isai WelBeibl 48:17  Dyma mae'r ARGLWYDD sy'n dy ollwng yn rhydd yn ei ddweud – Un Sanctaidd Israel: “Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw, sy'n dy ddysgu di er dy les, ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd.
Isai WelBeibl 48:18  O na fyddet ti wedi gwrando ar fy ngorchmynion! Byddai dy heddwch yn llifo fel afon, a dy gyfiawnder fel tonnau'r môr.
Isai WelBeibl 48:19  Byddai gen ti ddisgynyddion fel y tywod, a plant mor niferus â'r gronynnau o dywod. Fyddai eu henw nhw ddim wedi'i dorri i ffwrdd a'i ddileu o'm gŵydd i.
Isai WelBeibl 48:20  Ewch allan ar frys o Babilon, dianc oddi wrth bobl Caldea! Dwedwch beth sy'n digwydd a gweiddi'n llawen. Cyhoeddwch y peth! Anfonwch y neges i ben draw'r byd! Dwedwch: ‘Mae'r ARGLWYDD wedi gollwng ei was Jacob yn rhydd!
Isai WelBeibl 48:21  Wnaethon nhw ddim profi syched, er iddo eu harwain nhw drwy'r anialwch. Gwnaeth i ddŵr lifo o'r graig iddyn nhw; holltodd y graig a dyma ddŵr yn tasgu allan.’
Isai WelBeibl 48:22  Does dim heddwch i bobl ddrwg.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Chapter 49
Isai WelBeibl 49:1  Gwrandwch arna i, ynysoedd! Daliwch sylw, chi bobloedd o bell: Galwodd yr ARGLWYDD fi cyn i mi gael fy ngeni; rhoddodd fy enw i mi pan oeddwn i'n dal yng nghroth fy mam.
Isai WelBeibl 49:2  Gwnaeth fy ngheg fel cleddyf miniog, a chuddiodd fi dan gysgod ei law. Gwnaeth fi fel saeth loyw, a chuddiodd fi yn ei gawell.
Isai WelBeibl 49:3  Dwedodd wrtho i, “Ti ydy fy ngwas i, Israel, y caf fy anrhydeddu drwyddi.”
Isai WelBeibl 49:4  Meddyliais fy mod wedi gweithio'n galed i ddim byd, a gwastraffu fy holl egni i ddim pwrpas. Ond mae fy achos yn llaw'r ARGLWYDD, a bydd fy Nuw yn rhoi fy ngwobr i mi.
Isai WelBeibl 49:5  Nawr, mae'r ARGLWYDD, wnaeth fy llunio i yn y groth i fod yn was iddo, yn dweud ei fod am adfer pobl Jacob a dod ag Israel yn ôl ato'i hun. Bydda i wedi fy anrhydeddu yng ngolwg yr ARGLWYDD, am mai Duw sy'n fy nerthu i.
Isai WelBeibl 49:6  Yna dwedodd, “Mae'n beth rhy fach i ti fod yn was i mi dim ond i godi llwythau Jacob ar eu traed ac adfer yr ychydig rai fydd ar ôl yn Israel. Bydda i'n dy wneud di yn olau i'r cenhedloedd, er mwyn i bobl o ben draw'r byd gael eu hachub.”
Isai WelBeibl 49:7  Dyma mae'r ARGLWYDD sy'n rhyddhau Israel – yr Un Sanctaidd – yn ei ddweud wrth yr un sy'n cael ei dirmygu; wrth genedl sy'n cael ei ffieiddio, a gwas y rhai sy'n llywodraethu: “Bydd brenhinoedd yn gweld ac yn codi ar eu traed, a bydd tywysogion yn ymgrymu, am fod yr ARGLWYDD, sydd wedi bod mor ffyddlon, Un Sanctaidd Israel wedi dy ddewis di.”
Isai WelBeibl 49:8  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydda i'n dy ateb di pan fydd yr amser yn iawn, ac yn dy helpu di pan ddaw'r dydd i mi achub. Fi sydd wedi dy siapio di, a dy benodi di'n ganolwr fy ymrwymiad i'r bobl – bydda i'n adfer y wlad, ac yn rhoi'r hawliau ar y tir yn ôl i'w phobl.
Isai WelBeibl 49:9  Byddi'n dweud wrth garcharorion, ‘Cewch fod yn rhydd’, ac wrth y rhai sydd yn y tywyllwch, ‘Dewch i'r golwg’. Byddan nhw fel defaid yn pori ar ochr y ffyrdd, ac yn cael porfa ar lethrau'r bryniau.
Isai WelBeibl 49:10  Fydd dim syched nac eisiau bwyd arnyn nhw; fydd y gwynt poeth a'r haul ddim yn eu taro nhw. Achos bydd yr un sy'n eu caru nhw yn eu harwain, ac yn mynd â nhw at ffynhonnau o ddŵr.
Isai WelBeibl 49:11  Bydda i'n gwneud y mynyddoedd yn ffordd agored, ac yn adeiladu priffyrdd amlwg.”
Isai WelBeibl 49:12  Edrychwch! Mae rhai'n dod o bell. Edrychwch! Mae rhai'n dod o'r gogledd, eraill o'r gorllewin, a rhai o wlad Sinim.
Isai WelBeibl 49:13  Cân, nefoedd, a dathla, ddaear! Torrwch allan i ganu'n llawen, fynyddoedd! Achos mae'r ARGLWYDD wedi cysuro'i bobl, ac wedi tosturio wrth y rhai fu'n dioddef.
Isai WelBeibl 49:14  “Dwedodd Seion, ‘Mae'r ARGLWYDD wedi troi cefn arna i; mae fy Meistr wedi fy anghofio i.’
Isai WelBeibl 49:15  Ydy gwraig yn gallu anghofio'r babi ar ei bron? Ydy hi'n gallu peidio dangos tosturi at ei phlentyn? Hyd yn oed petaen nhw'n anghofio, fyddwn i'n sicr ddim yn dy anghofio di!
Isai WelBeibl 49:16  Dw i wedi cerfio dy enw ar gledrau fy nwylo! Wna i byth golli golwg ar dy waliau di.
Isai WelBeibl 49:17  Bydd dy adeiladwyr yn gweithio'n gyflymach na'r rhai wnaeth dy ddinistrio di; mae'r rhai achosodd y fath lanast wedi mynd!
Isai WelBeibl 49:18  Edrych o dy gwmpas! Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhw'n dod atat ti! Mor sicr â'r ffaith fy mod i'n fyw,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, “byddi di'n eu gwisgo nhw fel gemau, ac fel priodferch yn ei gwisg briodas.
Isai WelBeibl 49:19  Er dy fod wedi dy daro, dy ddifetha a dy ddinistrio fel gwlad, bellach fydd dim digon o le i bawb sydd am fyw ynot ti, a bydd y rhai wnaeth dy ddinistrio yn bell i ffwrdd.
Isai WelBeibl 49:20  Bydd y plant gafodd eu geni yn y cyfnod o golled yn dweud yn dy glyw di, ‘Mae hi'n rhy gyfyng yn y lle yma; symudwch i wneud lle i ni!’
Isai WelBeibl 49:21  A byddi di'n meddwl i ti dy hun, ‘Pwy gafodd y plant yma i mi? Rôn i'n weddw ac yn methu cael plant. Rôn wedi cael fy ngwrthod a'm gadael – felly pwy fagodd y rhain? Rôn wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun – felly o ble daeth y rhain i gyd?’”
Isai WelBeibl 49:22  Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dw i'n gwneud arwydd i alw'r cenhedloedd, ac yn codi fy maner i'r bobloedd. Byddan nhw'n cario dy feibion yn eu côl, a dy ferched ar eu hysgwyddau.
Isai WelBeibl 49:23  Bydd brenhinoedd yn gofalu amdanat ti, a breninesau yn famau maeth. Byddan nhw'n plygu o'th flaen a'u hwynebau ar lawr, ac yn llyfu'r llwch wrth dy draed di. A byddi di'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD – fydd y rhai sydd â'u gobaith ynof fi ddim yn cael eu siomi.
Isai WelBeibl 49:24  Ydy'n bosib dwyn ysbail oddi ar ryfelwr, neu ryddhau caethion o law gormeswr?”
Isai WelBeibl 49:25  Wel, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd caethion yn cael eu cymryd oddi ar ryfelwr, ac ysbail yn cael ei dwyn oddi ar ormeswr; Bydda i'n ymladd gyda dy elynion di, ac yn achub dy blant di.
Isai WelBeibl 49:26  Bydda i'n gwneud i dy ormeswyr fwyta eu cnawd eu hunain; byddan nhw'n meddwi ar eu gwaed eu hunain, fel ar win melys. A bydd y ddynoliaeth gyfan yn gwybod mai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n dy achub di ac yn dy ollwng yn rhydd – Un Cryf Jacob!”
Chapter 50
Isai WelBeibl 50:1  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Ble mae'r dystysgrif ysgariad rois i i'ch mam pan anfonais hi i ffwrdd? I bwy oeddwn i mewn dyled nes gorfod eich gwerthu chi iddyn nhw? Cawsoch eich gwerthu am fod mor ddrwg; cafodd eich mam ei hanfon i ffwrdd am eich bod wedi gwrthryfela.
Isai WelBeibl 50:2  Pam oedd neb yna pan ddes i? Pam wnaeth neb ateb pan oeddwn i'n galw? Ydy fy llaw i'n rhy wan i ryddhau? Ydw i'n rhy wan i achub? Edrychwch! Fi wnaeth geryddu'r môr a'i sychu! Galla i droi afonydd yn anialwch! Roedd pysgod yn pydru am eu bod heb ddŵr, wedi marw o syched!
Isai WelBeibl 50:3  Galla i wisgo'r awyr mewn du a'i gorchuddio â sachliain.”
Isai WelBeibl 50:4  Rhoddodd fy Meistr, yr ARGLWYDD, dafod i mi siarad ar ei ran; dw i wedi dysgu sut i gysuro'r blinedig. Bob bore mae'n fy neffro i ac yn fy nghael i wrando fel mae disgybl yn gwrando ac yn dysgu.
Isai WelBeibl 50:5  Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi fy nysgu i wrando, a dw i ddim wedi gwrthryfela na throi fy nghefn arno.
Isai WelBeibl 50:6  Rhoddais fy nghefn i'r rhai oedd yn fy chwipio, a'm gên i'r rhai oedd yn tynnu'r farf. Wnes i ddim cuddio fy wyneb oddi wrth yr amarch a'r poeri.
Isai WelBeibl 50:7  Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn fy helpu – felly dw i ddim yn derbyn yr amarch. Dw i'n gwneud fy wyneb yn galed fel fflint, a dw i'n gwybod na fydda i'n cywilyddio.
Isai WelBeibl 50:8  Mae'r un sy'n fy amddiffyn i wrth fy ymyl – pwy sy'n meiddio ymladd yn fy erbyn? Gadewch i ni wynebu'n gilydd! pwy sydd am fy ngwrthwynebu i? Gadewch iddo ddod ata i!
Isai WelBeibl 50:9  Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn fy helpu i – pwy sy'n mynd i'm cael yn euog o wneud drwg? Edrychwch! Byddan nhw'n treulio fel dilledyn; bydd gwyfyn yn eu difetha nhw.
Isai WelBeibl 50:10  Pwy ohonoch sy'n parchu'r ARGLWYDD? Pwy sy'n gwrando ar lais ei was? Dylai'r sawl sy'n cerdded mewn tywyllwch dudew, heb olau ganddo o gwbl, drystio'r ARGLWYDD a phwyso ar ei Dduw.
Isai WelBeibl 50:11  Ond chi sy'n cynnau'ch tân eich hunain ac yn paratoi ffaglau – cerddwch yng ngolau fflam eich tân a'r ffaglau ydych wedi'u tanio! Dyma fydd yn dod i chi o'm llaw i: byddwch chi'n gorwedd i gael eich poenydio!
Chapter 51
Isai WelBeibl 51:1  “Gwrandwch arna i, chi sy'n awyddus i wneud beth sy'n iawn, ac yn ceisio'r ARGLWYDD: ystyriwch y graig y cawsoch eich naddu ohoni, a'r chwarel y cawsoch eich cloddio ohoni.
Isai WelBeibl 51:2  Meddyliwch am Abraham, eich tad, a Sara, y cawsoch eich geni iddi. Roedd ar ei ben ei hun pan wnes i alw arno, ond bendithiais e, a'i wneud yn llawer.
Isai WelBeibl 51:3  Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, bydd yn cysuro'i hadfeilion. Bydd yn gwneud ei hanialwch fel Eden, a'i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD. Bydd llawenydd a dathlu i'w clywed ynddi, lleisiau'n diolch a sŵn canu.
Isai WelBeibl 51:4  Gwrandwch arna i, fy mhobl; daliwch sylw, fy nghenedl. Achos bydda i'n dysgu pobl, a bydd fy nghyfiawnder yn olau i'r bobloedd.
Isai WelBeibl 51:5  Dw i ar fin gwneud pethau'n iawn, dw i ar fy ffordd i achub, a bydd fy mraich gref yn rheoli pobloedd. Bydd yr ynysoedd yn troi ata i, ac yn disgwyl yn frwd i mi ddangos fy nerth.
Isai WelBeibl 51:6  Edrychwch i fyny i'r awyr, ac edrychwch ar y ddaear islaw: bydd yr awyr yn gwasgaru fel mwg, y ddaear yn treulio fel dillad, a'r bobl sy'n byw arni yn marw fel gwybed, ond mae fy achubiaeth i yn aros am byth, a'm cyfiawnder ddim yn pallu.
Isai WelBeibl 51:7  Gwrandwch arna i, chi sy'n gwybod beth sy'n iawn, y bobl sydd â'm cyfraith yn eu calonnau. Peidiwch bod ag ofn pan mae pobl feidrol yn eich sarhau chi, na digalonni pan maen nhw'n gwneud sbort.
Isai WelBeibl 51:8  Bydd gwyfyn yn eu bwyta fel dilledyn, a'r pryf dillad yn eu llyncu fel gwlân. Bydd fy nghyfiawnder yn para am byth, a'm hachubiaeth o un genhedlaeth i'r llall.”
Isai WelBeibl 51:9  Deffra, deffra! Dangos dy nerth, o fraich yr ARGLWYDD! Deffra, fel yn yr hen ddyddiau, yn yr amser a fu! Onid ti dorrodd Rahab yn ddarnau, a thrywanu'r ddraig?
Isai WelBeibl 51:10  Onid ti sychodd y môr, a dŵr y dyfnder mawr? Onid ti wnaeth ddyfnder y môr yn ffordd i'r rhai gafodd eu rhyddhau gerdded arni?
Isai WelBeibl 51:11  Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhydd yn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu! Bydd y llawenydd sy'n para am byth yn goron ar eu pennau! Byddan nhw'n cael eu gwefreiddio gan hwyl a gorfoledd, am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.
Isai WelBeibl 51:12  “Fi, fi ydy'r un sy'n eich cysuro chi! Pam wyt ti'n ofni dyn meidrol – pobl feidrol sydd fel glaswellt?
Isai WelBeibl 51:13  Wyt ti wedi anghofio'r ARGLWYDD sydd wedi dy greu di? Yr un wnaeth ledu'r awyr a gosod sylfeini'r ddaear! Pam mae gen ti ofn am dy fywyd drwy'r amser, fod y gormeswr wedi gwylltio ac yn barod i dy daro di i lawr? Ble mae llid y gormeswr beth bynnag?
Isai WelBeibl 51:14  Bydd yr un caeth yn cael ei ryddhau ar frys! Fydd e ddim yn marw yn ei gell nac yn llwgu.
Isai WelBeibl 51:15  Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di sy'n corddi'r môr yn donnau mawr – yr ARGLWYDD hollbwerus ydy fy enw i.
Isai WelBeibl 51:16  Dw i wedi rhoi neges i ti ei rhannu ac wedi dy amddiffyn di dan gysgod fy llaw; Fi roddodd yr awyr yn ei lle a gwneud y ddaear yn gadarn! A dw i wedi dweud wrth Seion: ‘Fy mhobl i ydych chi!’”
Isai WelBeibl 51:17  Deffra! Deffra! Saf ar dy draed, Jerwsalem – ti sydd wedi yfed o'r gwpan roddodd yr ARGLWYDD i ti yn ei lid! Ti sydd wedi yfed y gwpan feddwol i'w gwaelod!
Isai WelBeibl 51:18  Does yr un o'r meibion gafodd eu geni iddi yn ei harwain; does dim un o'r meibion fagodd hi yn gafael yn ei llaw.
Isai WelBeibl 51:19  Mae dau beth wedi digwydd i ti: llanast a dinistr – pwy sy'n cydymdeimlo gyda ti? newyn a'r cleddyf – sut alla i dy gysuro di?
Isai WelBeibl 51:20  Mae dy blant wedi llewygu! Maen nhw'n gorwedd ar gornel pob stryd, fel antelop wedi'i ddal mewn rhwyd – yn feddw gan ddigofaint yr ARGLWYDD, wedi'u ceryddu gan dy Dduw.
Isai WelBeibl 51:21  Felly, gwrando ar hyn, ti'r un druenus sydd wedi meddwi, ond ddim ar win!
Isai WelBeibl 51:22  Dyma mae dy feistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, y Duw sy'n dadlau achos ei bobl: “Edrych! Dw i wedi cymryd y gwpan feddwol o dy law di, y gostrel rois i i ti yn fy llid. Does dim rhaid i ti yfed ohoni byth eto!
Isai WelBeibl 51:23  Bydda i'n ei rhoi yn nwylo'r rhai wnaeth dy ormesu a dweud wrthot ti, ‘Gorwedd i lawr, i ni gerdded drosot ti.’ Roedd rhaid i ti roi dy gefn i fod fel stryd i bobl ei sathru.”
Chapter 52
Isai WelBeibl 52:1  Deffra! Deffra! Dangos dy nerth, Seion! Gwisga dy ddillad hardd, Jerwsalem, y ddinas sanctaidd! Fydd y paganiaid aflan sydd heb eu henwaedu byth yn dod i mewn i ti eto.
Isai WelBeibl 52:2  Cod ar dy draed, ac ysgwyd y llwch oddi arnat, eistedd ar dy orsedd, Jerwsalem! Tynna'r gefynnau oddi am dy wddf Seion, y gaethferch hardd!
Isai WelBeibl 52:3  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Cawsoch eich gwerthu am ddim, a fydd arian ddim yn eich rhyddhau chi.”
Isai WelBeibl 52:4  Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “I ddechrau, aeth fy mhobl i fyw dros dro yn yr Aifft; ac wedyn dyma Asyria yn eu gormesu nhw.
Isai WelBeibl 52:5  Felly, beth sy'n digwydd yma?” —meddai'r ARGLWYDD. “Mae fy mhobl wedi'u cipio i ffwrdd am ddim rheswm, ac mae'r rhai sy'n eu rheoli yn gwawdio.” —meddai'r ARGLWYDD. “Mae pethau drwg yn cael eu dweud amdana i drwy'r amser.
Isai WelBeibl 52:6  Ond bryd hynny bydd fy mhobl yn fy nabod, ac yn gwybod mai fi ydy'r un sy'n dweud, ‘Dyma fi!’”
Isai WelBeibl 52:7  Mae mor wych gweld negesydd yn dod dros y mynyddoedd yn cyhoeddi fod heddwch. Mae ganddo newyddion da – mae e'n cyhoeddi achubiaeth ac yn dweud wrth Seion, “Dy Dduw di sy'n teyrnasu!”
Isai WelBeibl 52:8  Clyw! Mae'r rhai sy'n gwylio dy furiau yn galw; maen nhw'n gweiddi'n llawen gyda'i gilydd! Maen nhw'n gweld, o flaen eu llygaid, yr ARGLWYDD yn dod yn ôl i Seion.
Isai WelBeibl 52:9  Gwaeddwch chithau hefyd, adfeilion Jerwsalem! Mae'r ARGLWYDD yn cysuro'i bobl ac yn mynd i ollwng Jerwsalem yn rhydd.
Isai WelBeibl 52:10  Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ei nerth i'r cenhedloedd i gyd, ac mae pobl o ben draw'r byd yn gweld ein Duw ni yn achub.
Isai WelBeibl 52:11  Ewch! Ewch! I ffwrdd â chi! Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan! Chi sy'n cario llestri'r ARGLWYDD, cadwch eich hunain yn lân wrth fynd allan oddi yno.
Isai WelBeibl 52:12  Ond does dim rhaid i chi adael ar frys na dianc fel ffoaduriaid, achos mae'r ARGLWYDD yn mynd o'ch blaen chi, ac mae Duw Israel yn eich amddiffyn o'r tu cefn.
Isai WelBeibl 52:13  “Edrychwch! Bydd fy ngwas yn llwyddo; bydd yn cael ei ganmol a'i godi yn uchel iawn.
Isai WelBeibl 52:14  Fel roedd llawer wedi dychryn o'i weld yn edrych mor ofnadwy – prin yn ddynol (doedd e ddim yn edrych fel dyn),
Isai WelBeibl 52:15  bydd e'n puro llawer o genhedloedd. Bydd brenhinoedd yn fud o'i flaen – byddan nhw'n gweld rhywbeth oedd heb ei egluro, ac yn deall rhywbeth roedden nhw heb glywed amdano.
Chapter 53
Isai WelBeibl 53:1  Pwy fyddai'n credu'r neges glywon ni? Oes rhywun wedi gweld un grymus yr ARGLWYDD?
Isai WelBeibl 53:2  Wrth iddo dyfu o'i flaen doedd e'n ddim mwy na brigyn, neu wreiddyn mewn tir sych. O ran ei olwg, doedd dim yn ein denu i edrych arno, dim oedd yn ei wneud yn arbennig o ddeniadol.
Isai WelBeibl 53:3  Cafodd ei ddirmygu a'i wrthod gan bobl; yn ddyn wnaeth ddiodde, yn gyfarwydd â phoen. Roedd pobl yn troi eu hwynebau i ffwrdd oddi wrtho; cafodd ei ddirmygu, a wnaethon ni mo'i werthfawrogi.
Isai WelBeibl 53:4  Ac eto, cymerodd ein salwch ni arno'i hun, a diodde ein poenau ni yn ein lle. Roedden ni'n meddwl ei fod yn cael ei gosbi, a'i guro a'i gam-drin gan Dduw.
Isai WelBeibl 53:5  Do, cafodd ei anafu am ein bod ni wedi gwrthryfela, cafodd ei sathru am ein bod ni ar fai. Cafodd ei gosbi i wneud pethau'n iawn i ni; ac am iddo fe gael ei guro cawson ni ein hiacháu.
Isai WelBeibl 53:6  Dŷn ni i gyd wedi crwydro fel defaid – pob un wedi mynd ei ffordd ei hun; ond mae'r ARGLWYDD wedi rhoi ein pechod ni i gyd arno fe.
Isai WelBeibl 53:7  Cafodd ei gam-drin a'i boenydio, wnaeth e ddweud dim, fel oen yn cael ei arwain i'r lladd-dy. Yn union fel mae dafad yn dawel pan mae'n cael ei chneifio, wnaeth e ddweud dim.
Isai WelBeibl 53:8  Cafodd ei gymryd i ffwrdd heb achos llys teg – a phwy oedd yn malio beth oedd yn digwydd iddo? Cafodd ei dorri i ffwrdd o dir y byw, a'i daro am fod fy mhobl i wedi gwrthryfela.
Isai WelBeibl 53:9  Y bwriad oedd ei gladdu gyda throseddwyr, ond cafodd fedd un cyfoethog. Roedd wedi gweithredu'n ddi-drais, a ddim wedi twyllo neb.
Isai WelBeibl 53:10  Ac eto, yr ARGLWYDD wnaeth benderfynu ei gleisio, ac achosi iddo ddiodde. Wrth roi ei hun yn offrwm dros bechod, bydd yn gweld ei blant ac yn cael byw yn hir. Bydd yn cyflawni bwriadau'r ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 53:11  Ar ôl y dioddef i gyd bydd yn gweld beth wnaeth, a bydd yn gwbl fodlon. Bydd fy ngwas cyfiawn yn gwneud llawer o bobl yn gyfiawn, ac yn cario baich eu beiau ar ei ysgwyddau.
Isai WelBeibl 53:12  Felly, y dyrfa yna fydd ei siâr e, a bydd yn rhannu'r ysbail gyda'r rhai cryfion, am ei fod wedi rhoi ei hun i farw, a'i gyfri'n un o'r gwrthryfelwyr. Cymerodd bechodau llawer o bobl arno'i hun ac ymyrryd ar ran gwrthryfelwyr.”
Chapter 54
Isai WelBeibl 54:1  “Cân yn llawen, ti sy'n methu cael plant, ac sydd erioed wedi geni plentyn! Bloeddia ganu'n llawen, ti sydd heb brofi poenau wrth eni plentyn! Bydd gan y wraig sydd ar ei phen ei hun fwy o blant na'r wraig sydd wedi priodi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Isai WelBeibl 54:2  “Gwna fwy o le i dy babell, a lledu'r llenni lle rwyt ti'n byw! Estyn nhw allan! Paid dal yn ôl! Gwna'r rhaffau'n hirach, rho'r pegiau'n sownd.
Isai WelBeibl 54:3  Byddi'n ymledu allan i bob cyfeiriad! Bydd dy ddisgynyddion yn meddiannu gwledydd eraill, ac yn byw mewn dinasoedd gafodd eu gadael yn adfeilion.
Isai WelBeibl 54:4  Paid bod ag ofn, gei di ddim dy wrthod. Paid synnu, gei di ddim dy siomi! Byddi'n anghofio cywilydd dy ieuenctid, ac yn cofio dim am warth dy gyfnod fel gweddw.
Isai WelBeibl 54:5  Mae'r un wnaeth dy greu di wedi dy briodi di! Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw e. Bydd Un Sanctaidd Israel yn dy ollwng di'n rhydd – ie, ‘Duw yr holl daear’.
Isai WelBeibl 54:6  Mae'r ARGLWYDD yn dy alw di yn ôl – fel gwraig oedd wedi'i gadael ac yn anobeithio, gwraig ifanc oedd wedi'i hanfon i ffwrdd.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Isai WelBeibl 54:7  “Gwrthodais di am ennyd fach, ond gyda thosturi mawr bydda i'n dod â ti'n ôl.
Isai WelBeibl 54:8  Rôn i wedi gwylltio am foment, ac wedi troi i ffwrdd oddi wrthot ti. Ond gyda chariad sy'n para am byth bydda i'n garedig atat ti eto,” —meddai'r ARGLWYDD, sy'n dy ollwng di'n rhydd.
Isai WelBeibl 54:9  “Mae'r un fath â'r dilyw yng nghyfnod Noa. Fel gwnes i addo bryd hynny na fyddai'r ddaear yn cael ei boddi byth eto, dw i'n addo i chi na fydda i'n ddig hefo chi, nac yn eich cosbi eto.
Isai WelBeibl 54:10  Falle y bydd y mynyddoedd yn symud a'r bryniau'n cael eu hysgwyd, ond bydd fy nghariad i atoch chi yn aros, a fydd fy ymrwymiad heddwch ddim yn siglo,” —meddai'r ARGLWYDD, sy'n dy garu di.
Isai WelBeibl 54:11  “Ti sydd mor druenus, wedi dy daro gan stormydd a heb dy gysuro! Dw i'n mynd i osod dy gerrig mewn morter glas, a defnyddio saffir fel dy sylfeini.
Isai WelBeibl 54:12  Bydda i'n gwneud dy dyrau o emau, dy giatiau o risial coch, a bydd dy waliau i gyd yn feini gwerthfawr.
Isai WelBeibl 54:13  Bydd pob un o dy blant yn cael eu dysgu gan yr ARGLWYDD, a bydd dy blant yn profi heddwch mawr.
Isai WelBeibl 54:14  Byddi wedi dy sylfaenu ar gyfiawnder, a fyddi di ddim yn cael dy orthrymu. Fydd dim rhaid i ti fod ag ofn, a fydd dychryn ddim yn dod yn agos atat ti.
Isai WelBeibl 54:15  Os bydd rhywun eisiau ymladd hefo ti, nid fi fydd tu ôl i hynny: bydd pwy bynnag sydd eisiau ymladd hefo ti yn syrthio, am mai ti wyt ti.
Isai WelBeibl 54:16  Os fi wnaeth greu'r gof sy'n chwythu'r tân marwor gyda'i fegin, i wneud offer ar gyfer ei waith; fi hefyd sy'n creu'r dinistriwr i ddinistrio.
Isai WelBeibl 54:17  Ond fydd yr arfau sydd wedi'u llunio i dy daro di ddim yn llwyddo, a bydd y rhai sy'n codi i dystio yn dy erbyn yn cael eu condemnio. Dyna ydy etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD, a'r hyn dw i wedi'i wneud iddyn nhw.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Chapter 55
Isai WelBeibl 55:1  “Hei! Os oes syched arnoch chi, dewch at y dŵr! Os nad oes gynnoch chi arian, dewch beth bynnag! Prynwch a bwytwch. Dewch! Prynwch win a llaeth heb arian – mae am ddim!
Isai WelBeibl 55:2  Pam gwario'ch arian ar rywbeth sydd ddim yn fwyd, a'ch cyflog ar rywbeth sydd ddim yn bodloni? Gwrandwch yn ofalus arna i! Cewch fwyta bwyd blasus, a mwynhau danteithion.
Isai WelBeibl 55:3  Gwrandwch arna i, a dewch yma. Os gwnewch chi wrando, cewch fyw! Bydda i'n gwneud ymrwymiad hefo chi fydd yn para am byth – fel y bendithion sicr wnes i eu haddo i Dafydd.
Isai WelBeibl 55:4  Gwnes i e'n dyst i bobloedd, yn arweinydd yn rheoli gwledydd.”
Isai WelBeibl 55:5  Byddi di'n galw ar genedl wyt ti ddim yn ei nabod, a bydd cenedl sydd ddim yn dy nabod di yn rhedeg atat ti – o achos yr ARGLWYDD dy Dduw, Un Sanctaidd Israel sydd wedi dy anrhydeddu di.
Isai WelBeibl 55:6  Dewch at yr ARGLWYDD tra mae ar gael! Galwch arno tra mae'n agos!
Isai WelBeibl 55:7  Rhaid i'r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg, a'r rhai sy'n creu helynt ar eu bwriadau – troi'n ôl at yr ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd; troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau.
Isai WelBeibl 55:8  Dydy fy mwriadau i ddim yr un fath â'ch bwriadau chi, a dydy fy ffyrdd i ddim yr un fath â'ch ffyrdd chi —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Isai WelBeibl 55:9  Fel mae'r nefoedd gymaint uwch na'r ddaear, mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chi, a'm bwriadau i yn well na'ch bwriadau chi.
Isai WelBeibl 55:10  Ond fel y glaw a'r eira sy'n disgyn o'r awyr a ddim yn mynd yn ôl nes dyfrio'r ddaear gan wneud i blanhigion dyfu a rhoi hadau i'w hau a bwyd i'w fwyta,
Isai WelBeibl 55:11  felly mae'r neges dw i'n ei chyhoeddi: dydy hi ddim yn dod yn ôl heb wneud ei gwaith – mae'n gwneud beth dw i eisiau, ac yn llwyddo i gyflawni ei phwrpas.
Isai WelBeibl 55:12  Ie, byddwch chi'n mynd allan yn llawen ac yn cael eich arwain mewn heddwch. Bydd y mynyddoedd a'r bryniau'n bloeddio canu o'ch blaen, a'r coed i gyd yn curo dwylo.
Isai WelBeibl 55:13  Bydd coed pinwydd yn tyfu yn lle drain, a llwyni myrtwydd yn lle mieri. Byddan nhw'n sefyll yno i atgoffa pobl am yr ARGLWYDD, fel arwydd parhaol fydd ddim yn cael ei dynnu i lawr.
Chapter 56
Isai WelBeibl 56:1  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gwnewch beth sy'n iawn! Gwnewch beth sy'n deg! Dw i ar fin achub, a dangos fy nghyfiawnder.
Isai WelBeibl 56:2  Y fath fendith fydd i'r bobl sy'n gwneud hyn, a'r rhai hynny sy'n dal gafael yn y peth – y rhai sy'n cadw'r Saboth, heb ei wneud yn aflan, ac yn stopio'u hunain rhag gwneud drwg.
Isai WelBeibl 56:3  Ddylai'r estron sydd wedi ymrwymo i'r ARGLWYDD ddim dweud: ‘Mae'r ARGLWYDD yn fy nghadw i ar wahân i'w bobl.’ A ddylai'r eunuch ddim dweud, ‘Coeden sydd wedi gwywo ydw i.’”
Isai WelBeibl 56:4  Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “I'r eunuchiaid hynny sy'n cadw fy Sabothau – sy'n dewis gwneud beth dw i eisiau ac yn glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i –
Isai WelBeibl 56:5  dw i'n mynd i godi cofeb yn fy nhŷ, y tu mewn i'w waliau: rhywbeth gwell na meibion a merched, a rhoi enw iddyn nhw fydd yn para am byth.
Isai WelBeibl 56:6  Ac i'r bobl estron sydd wedi ymrwymo i wasanaethu'r ARGLWYDD, ei garu, a dod yn weision iddo – pawb sy'n cadw'r Saboth heb ei wneud yn aflan, ac sy'n glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i –
Isai WelBeibl 56:7  Bydda i'n eu harwain at fy mynydd cysegredig i ddathlu'n llawen yn fy nhŷ gweddi. Bydd croeso iddyn nhw ddod ag offrymau i'w llosgi ac aberthau i'w cyflwyno ar fy allor i; achos bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.”
Isai WelBeibl 56:8  Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, yr un sy'n casglu ffoaduriaid Israel at ei gilydd: “Dw i'n mynd i gasglu mwy eto at y rhai sydd eisoes wedi'u casglu.”
Isai WelBeibl 56:9  “Dewch i fwyta, chi anifeiliaid gwyllt! Dewch, holl anifeiliaid y goedwig!
Isai WelBeibl 56:10  Mae'r gwylwyr i gyd yn ddall, ac yn deall dim. Maen nhw fel cŵn mud sy'n methu cyfarth – yn breuddwydio, yn gorweddian, ac wrth eu bodd yn pendwmpian.
Isai WelBeibl 56:11  Ond maen nhw hefyd yn gŵn barus sydd byth yn gwybod pryd maen nhw wedi cael digon; bugeiliaid sy'n deall dim! Mae pob un wedi mynd ei ffordd ei hun, ac maen nhw i gyd yn ceisio elwa rywsut.
Isai WelBeibl 56:12  ‘Dewch, dw i am nôl gwin! Gadewch i ni feddwi ar gwrw! Cawn wneud yr un fath yfory – bydd hyd yn oed yn well!’
Chapter 57
Isai WelBeibl 57:1  Mae rhywun cyfiawn yn marw, a does neb yn malio. Mae pobl ffyddlon yn cael eu cymryd, a does neb yn sylweddoli fod y cyfiawn yn cael eu symud i'w harbed rhag y drwg sy'n dod.
Isai WelBeibl 57:2  Bydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn profi heddwch, ac yn cael gorffwys ar eu gwlâu.
Isai WelBeibl 57:3  Dewch yma, chi blant y rhai sy'n dweud ffortiwn, disgynyddion y rhai sy'n godinebu ac yn puteinio!
Isai WelBeibl 57:4  Am ben bwy ydych chi'n gwneud sbort? Ar bwy ydych chi'n gwneud ystumiau ac yn tynnu tafod? Dych chi'n blant i rebeliaid, yn ddisgynyddion rhai sy'n dweud celwydd,
Isai WelBeibl 57:5  a'ch nwydau rhywiol yn llosgi wrth addoli dan bob coeden ddeiliog. Chi sy'n aberthu plant yn y dyffrynnoedd, ac yn hafnau'r creigiau.
Isai WelBeibl 57:6  Cerrig llithrig y nant ydy dy gyfran di; mentra di gyda nhw! Iddyn nhw rwyt ti wedi tywallt dy offrwm o ddiod, a chyflwyno dy offrwm o fwyd. Ddylwn i ymatal rhag dial yn wyneb hyn i gyd?
Isai WelBeibl 57:7  Rwyt yn gwneud dy wely ar ben pob mynydd uchel, ac yn mynd yno i gyflwyno dy aberthau.
Isai WelBeibl 57:8  Er bod arwydd wedi'i osod tu ôl i ffrâm drws dy dŷ, ti wedi ngadael i a gorwedd yn agored ar dy wely. Ti wedi ymrwymo dy hun i'r duwiau, wedi mwynhau gorweddian yn noeth a dewis dilyn dy chwantau.
Isai WelBeibl 57:9  Yna, mynd i lawr i weld y brenin gyda rhoddion o olew a llwyth o bersawr. Anfonaist negeswyr at un oedd yn bell i ffwrdd, hyd yn oed i Annwn!
Isai WelBeibl 57:10  Er bod yr holl deithio'n dy flino, wnest ti ddim rhoi i fyny! Llwyddaist i gael digon o egni i ddal ati.
Isai WelBeibl 57:11  Pwy oedd yn dy boeni a gwneud i ti ofni a dweud celwydd? Doeddet ti ddim yn meddwl amdana i nac yn cymryd unrhyw sylw ohono i. Ai'r rheswm wyt ti ddim yn fy ofni i ydy mod i wedi bod yn ddistaw mor hir?
Isai WelBeibl 57:12  Gwna i ddweud beth dw i'n feddwl o dy weithredoedd da: fydd y rheiny ddim yn gallu dy helpu!
Isai WelBeibl 57:13  A fydd dy gasgliad o dduwiau ddim yn dy helpu pan fyddi di'n gweiddi – does dim bywyd nac anadl ynddyn nhw! Ond bydd y rhai sy'n troi ata i yn meddiannu'r tir ac yn etifeddu fy mynydd cysegredig i.
Isai WelBeibl 57:14  Dyma fydd yn cael ei ddweud: Adeiladwch! Adeiladwch! Cliriwch y ffordd! Symudwch bob rhwystr o ffordd fy mhobl!
Isai WelBeibl 57:15  Dyma mae'r Un uchel iawn yn ei ddweud, yr un sy'n aros am byth, a'i enw'n sanctaidd: Dw i'n byw mewn lle uchel a sanctaidd, ond dw i hefyd gyda'r rhai gostyngedig sydd wedi'u sathru – dw i'n adfywio'r rhai gostyngedig, ac yn codi calon y rhai sydd wedi'u sathru.
Isai WelBeibl 57:16  Dw i ddim yn mynd i ddadlau drwy'r adeg, na dal dig am byth. Dw i ddim eisiau i ysbryd y bobl ballu, gan mai fi sy'n rhoi anadl iddyn nhw fyw.
Isai WelBeibl 57:17  Rôn i'n ddig am eu bod yn elwa drwy drais. Dyma fi'n eu taro, a throi i ffwrdd wedi digio, ond roedden nhw'n dal i fynd eu ffordd eu hunain!
Isai WelBeibl 57:18  Do, dw i wedi gweld beth maen nhw'n ei wneud, ond dw i'n mynd i'w hiacháu nhw. Dw i'n mynd i'w harwain a'u cysuro; cysuro'r rhai sy'n galaru,
Isai WelBeibl 57:19  a rhoi lle iddyn nhw ddathlu: heddwch a llwyddiant i bawb yn bell ac agos! Dw i'n mynd i'w hiacháu nhw,” —meddai'r ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 57:20  “Ond bydd y rhai drwg fel môr stormus sy'n methu bod yn dawel, a'i ddŵr yn corddi'r llaid a'r baw.
Isai WelBeibl 57:21  Fydd dim heddwch i bobl ddrwg,” —meddai fy Nuw.
Chapter 58
Isai WelBeibl 58:1  “Gwaedda mor uchel ag y medri di, heb ddal yn ôl; Cod dy lais fel sain corn hwrdd! Dwed wrth fy mhobl eu bod nhw wedi gwrthryfela, ac wrth bobl Jacob eu bod nhw wedi pechu.
Isai WelBeibl 58:2  Maen nhw'n troi ata i bob dydd, ac yn awyddus i ddysgu am fy ffyrdd. Yn ôl pob golwg maen nhw'n genedl sy'n gwneud beth sy'n iawn ac sydd heb droi cefn ar ddysgeidiaeth eu Duw. Maen nhw'n gofyn i mi am y ffordd iawn, ac yn awyddus i glosio at Dduw.
Isai WelBeibl 58:3  ‘Pam oeddet ti ddim yn edrych pan oedden ni'n ymprydio?’ medden nhw, ‘Pam oeddet ti ddim yn cymryd sylw pan oedden ni'n cosbi ein hunain?’ Am eich bod chi'n ymprydio i blesio'ch hunain ac yn cam-drin eich gweithwyr yr un pryd!
Isai WelBeibl 58:4  Dych chi'n ymprydio i ffraeo a ffustio, Dim dyna'r ffordd i ymprydio os ydych chi eisiau i Dduw wrando.
Isai WelBeibl 58:5  Ai dyma sut ymprydio dw i eisiau – diwrnod pan mae pobl yn llwgu eu hunain, ac yn plygu eu pennau fel planhigyn sy'n gwywo? Diwrnod i orwedd ar sachliain a lludw? Ai dyna beth wyt ti'n ei alw'n ymprydio, yn ddiwrnod sy'n plesio'r ARGLWYDD?
Isai WelBeibl 58:6  Na, dyma'r math o ymprydio dw i eisiau: cael gwared â chadwyni anghyfiawnder, datod rhaffau'r iau a gollwng y rhai sy'n cael eu gormesu yn rhydd; dryllio popeth sy'n rhoi baich ar bobl.
Isai WelBeibl 58:7  Rhannu dy fwyd gyda'r newynog, rhoi lle i fyw i'r rhai tlawd sy'n ddigartref a rhoi dillad i rywun rwyt yn ei weld yn noeth; peidio ceisio osgoi gofalu am dy deulu.
Isai WelBeibl 58:8  Wedyn bydd dy olau'n disgleirio fel y wawr, a byddi'n cael dy adfer yn fuan. Bydd dy gyfiawnder yn mynd o dy flaen di, a bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn o'r tu ôl.
Isai WelBeibl 58:9  Wedyn, byddi'n galw, a bydd yr ARGLWYDD yn ateb; byddi'n gweiddi, a bydd e'n dweud, ‘Dw i yma’. Rhaid cael gwared â'r iau sy'n gorthrymu, stopio pwyntio bys a siarad yn gas.
Isai WelBeibl 58:10  Rhaid i ti wneud popeth fedri i helpu'r newynog, a chwrdd ag anghenion y rhai sy'n diodde. Wedyn bydd dy olau'n disgleirio yn y tywyllwch, a bydd dy dristwch yn troi'n olau fel canol dydd!
Isai WelBeibl 58:11  Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser, yn torri dy syched pan wyt ti mewn anialwch poeth, ac yn dy wneud yn gryf. Byddi fel gardd wedi'i dyfrio, neu ffynnon ddŵr sydd byth yn sychu.
Isai WelBeibl 58:12  Byddi'n ailgodi'r hen adfeilion, ac yn adeiladu ar yr hen sylfeini. Byddi'n cael dy alw yn ‛atgyweiriwr y waliau‛ ac yn ‛adferwr y strydoedd‛, i bobl fyw yno.
Isai WelBeibl 58:13  Os gwnei di stopio teithio ar y Saboth, a plesio dy hun ar fy niwrnod sbesial i; os gwnei di alw'r Saboth yn bleser, parchu diwrnod sbesial yr ARGLWYDD, dangos parch ato drwy beidio gwneud beth wyt ti eisiau, plesio dy hun, a siarad fel y mynni –
Isai WelBeibl 58:14  wedyn gelli ddisgwyl i'r ARGLWYDD gael ei blesio. Byddi'n llwyddo, a fydd dim yn dy rwystro, a chei fwynhau etifeddiaeth Jacob, dy dad.” —mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
Chapter 59
Isai WelBeibl 59:1  Edrychwch, dydy'r ARGLWYDD ddim yn rhy wan i achub; a dydy e ddim yn rhy fyddar i glywed!
Isai WelBeibl 59:2  Mae eich drygioni chi wedi'ch gwahanu chi oddi wrth Dduw. Eich pechodau chi sydd wedi gwneud iddo guddio'i wyneb a gwrthod gwrando arnoch chi.
Isai WelBeibl 59:3  Mae tywallt gwaed yn gwneud eich dwylo'n aflan, a phechod yn baeddu eich bysedd. Mae eich gwefusau'n dweud celwydd a'ch tafod yn sibrwd twyll.
Isai WelBeibl 59:4  Does neb yn sefyll dros beth sy'n iawn, a neb sy'n mynd i'r llys yn onest, ond yn dibynnu ar eiriau gwag a chelwydd. Maen nhw'n achosi drygioni ac yn esgor ar drafferthion.
Isai WelBeibl 59:5  Maen nhw wedi deor wyau nadroedd, ac yn nyddu gwe pry copyn. Bydd pwy bynnag sy'n bwyta'r wyau hynny'n marw, ac os bydd un yn torri, mae neidr yn dod allan ohono.
Isai WelBeibl 59:6  Dydy'r gwe pry copyn ddim yn gwneud dillad; allan nhw ddim gwisgo'r hyn maen nhw'n ei nyddu. Mae popeth maen nhw'n ei wneud yn ddrwg, ac maen nhw'n llawn trais.
Isai WelBeibl 59:7  Maen nhw'n rhedeg at y drwg, ac yn barod iawn i ladd pobl ddiniwed. Maen nhw bob amser yn meddwl am wneud drwg, ac yn achosi llanast a dinistr.
Isai WelBeibl 59:8  Dŷn nhw'n gwybod dim am wir heddwch, a byth yn gwneud beth sy'n iawn. Mae'r ffyrdd maen nhw'n eu dilyn yn droellog, a fydd dim heddwch i'r rhai sy'n cerdded y ffordd honno.
Isai WelBeibl 59:9  Felly, dyna pam nad ydy'r sefyllfa wedi'i sortio, ac nad ydy Duw wedi gwneud pethau'n iawn. Dŷn ni'n disgwyl am olau, ond does dim ond tywyllwch, yn edrych am lygedyn o obaith, ond yn crwydro yn y gwyll.
Isai WelBeibl 59:10  Dŷn ni'n ymbalfalu wrth y wal fel pobl ddall, yn ceisio teimlo'n ffordd fel rhai sydd ddim yn gweld. Dŷn ni'n baglu ganol dydd, fel petai wedi tywyllu; dŷn ni fel cyrff meirw pan ddylen ni fod yn llawn egni.
Isai WelBeibl 59:11  Dŷn ni i gyd yn chwyrnu'n ddig fel eirth neu'n cwyno a cŵan fel colomennod. Dŷn ni'n edrych am gyfiawnder, ond ddim yn ei gael; am achubiaeth, ond mae allan o'n cyrraedd.
Isai WelBeibl 59:12  Dŷn ni wedi gwrthryfela mor aml yn dy erbyn di, mae'n pechodau yn tystio yn ein herbyn ni. Y gwir ydy, dŷn ni'n dal i wrthryfela, a dŷn ni'n gwybod yn iawn ein bod wedi methu:
Isai WelBeibl 59:13  gwrthryfela, gwadu'r ARGLWYDD a throi cefn ar Dduw; cymryd mantais anghyfiawn, bradychu, a phalu celwyddau!
Isai WelBeibl 59:14  Felly mae'r hyn sy'n iawn yn cael ei wthio i ffwrdd a chyfiawnder yn cadw draw. Mae gwirionedd yn baglu yn y gymdeithas, a gonestrwydd yn methu dod i mewn.
Isai WelBeibl 59:15  Mae gwirionedd wedi diflannu, ac mae'r un sy'n troi cefn ar ddrwg yn cael ei ysbeilio. Pan welodd yr ARGLWYDD fod dim cyfiawnder, roedd yn anhapus iawn.
Isai WelBeibl 59:16  Pan welodd nad oedd neb o gwbl yn ymyrryd, roedd yn arswydo. Ond yna, dyma fe'i hun yn mynd ati i achub, a'i gyfiawnder yn ei yrru'n ei flaen.
Isai WelBeibl 59:17  Gwisgodd gyfiawnder fel arfwisg, ac achubiaeth yn helmed ar ei ben. Rhoddodd ddillad dial amdano, a gwisgo sêl fel mantell.
Isai WelBeibl 59:18  Bydd yn rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu – llid i'r rhai sydd yn ei wrthwynebu, a chosb i'w elynion; bydd yn talu'n ôl yn llawn i ben draw'r byd.
Isai WelBeibl 59:19  Bydd pobl o'r gorllewin yn parchu enw'r ARGLWYDD, a phobl o'r dwyrain yn gweld ei ysblander. Bydd e'n dod fel afon sy'n llifo'n gryf, ac ysbryd yr ARGLWYDD yn ei yrru yn ei flaen.
Isai WelBeibl 59:20  “Bydd e'n dod i Jerwsalem i ollwng yn rhydd, ac at y rhai yn Jacob sy'n troi cefn ar eu gwrthryfel,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Isai WelBeibl 59:21  Dyma fy ymrwymiad i iddyn nhw, meddai'r ARGLWYDD: “Bydd fy Ysbryd i arnat ti, a fydd y neges dw i wedi'i rhoi i ti ddim yn dy adael di; byddi di a dy blant, a phlant dy blant, yn ei chofio o hyn allan ac am byth.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Chapter 60
Isai WelBeibl 60:1  “Cod! Disgleiria! Mae dy olau wedi dod. Mae ysblander yr ARGLWYDD wedi gwawrio arnat!
Isai WelBeibl 60:2  Er bod tywyllwch yn gorchuddio'r ddaear a thywyllwch dudew dros y gwledydd, bydd yr ARGLWYDD yn tywynnu arnat ti, a bydd ei ysblander i'w weld arnat.
Isai WelBeibl 60:3  Bydd cenhedloedd yn dod at dy oleuni, a brenhinoedd yn troi at dy wawr ddisglair.
Isai WelBeibl 60:4  Edrych o dy gwmpas! Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhw'n dod atat ti! Bydd dy feibion yn dod o wledydd pell, a dy ferched yn cael eu cario adre.
Isai WelBeibl 60:5  Pan weli hyn byddi'n wên i gyd; bydd dy galon yn curo wrth brofi'r wefr. Bydd cyfoeth y moroedd yn cael ei roi i ti, a chyfoeth y gwledydd yn dod atat.
Isai WelBeibl 60:6  Bydd gyrroedd o gamelod yn llenwi dy strydoedd, camelod o Midian, Effa a Sheba. Byddan nhw'n cario aur a thus, ac yn canu mawl i'r ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 60:7  Bydd holl ddefaid a geifr Cedar yn cael eu casglu atat, a bydd hyrddod Nebaioth yna i ti eu defnyddio; byddan nhw'n aberthau derbyniol ar fy allor i. Bydda i'n gwneud fy nhŷ hardd yn harddach fyth!
Isai WelBeibl 60:8  Pwy ydy'r rhain sy'n symud fel cwmwl, ac yn hedfan fel colomennod i'w nythod?
Isai WelBeibl 60:9  Mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu, a llongau masnach Tarshish ar y blaen. Maen nhw'n dod â dy blant o bell, a'u harian a'u haur hefo nhw, i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD dy Dduw – Un Sanctaidd Israel, sydd wedi dy anrhydeddu.
Isai WelBeibl 60:10  Bydd estroniaid yn ailadeiladu dy waliau, a'u brenhinoedd nhw yn dy wasanaethu di. Achos, er fy mod wedi dy daro di pan oeddwn i'n ddig, dw i am ddangos tosturi a bod yn garedig.
Isai WelBeibl 60:11  Bydd dy giatiau ar agor drwy'r amser; fyddan nhw ddim yn cael eu cau ddydd na nos – er mwyn i gyfoeth y cenhedloedd a'u brenhinoedd gael ei gario i mewn.
Isai WelBeibl 60:12  Bydd y wlad neu'r deyrnas sy'n gwrthod dy wasanaethu yn syrthio; bydd y gwledydd hynny'n cael eu dinistrio'n llwyr.
Isai WelBeibl 60:13  Bydd coed gorau Libanus yn dod i ti – coed cypres, planwydd a phinwydd i harddu fy nghysegr, ac anrhydeddu'r lle mae fy nhraed i'n gorffwys.
Isai WelBeibl 60:14  Bydd plant y rhai oedd yn dy ormesu yn dod o dy flaen ac ymgrymu. Bydd y rhai oedd yn dy gasáu yn plygu'n isel ar y llawr wrth dy draed di. Byddan nhw'n dy alw di yn ‘Ddinas yr ARGLWYDD’, a ‘Seion Un Sanctaidd Israel’.
Isai WelBeibl 60:15  Yn lle bod wedi dy wrthod, a dy gasáu, a neb yn mynd drwot ti, bydda i'n dy wneud di'n destun balchder am byth – yn llawenydd o un genhedlaeth i'r llall.
Isai WelBeibl 60:16  Byddi'n yfed o laeth y cenhedloedd, ac yn sugno bronnau brenhinoedd. Wedyn byddi di'n gwybod mai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n dy achub, Ie, fi, Un Cryf Jacob, sy'n dy ollwng di'n rhydd.
Isai WelBeibl 60:17  Bydda i'n dod ag aur yn lle pres ac arian yn lle haearn, pres yn lle coed a haearn yn lle cerrig. ‛Heddwch‛ fydd yn llywodraethu arnat, a ‛Cyfiawnder‛ fydd dy feistr.
Isai WelBeibl 60:18  Fydd neb yn gweiddi ‘Trais!’ yn y wlad byth eto, a fydd dim dinistr o fewn dy ffiniau. Byddi'n galw dy waliau yn ‛Achubiaeth‛ a dy giatiau yn ‛Foliant‛.
Isai WelBeibl 60:19  Fydd dim angen yr haul i oleuo'r dydd, na llewyrch y lleuad yn olau yn y nos. Yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth, a bydd ysblander dy Dduw yn disgleirio arnat.
Isai WelBeibl 60:20  Fydd dy haul ddim yn machlud byth mwy, a llewyrch y lleuad ddim yn cilio; yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth, a bydd dy gyfnod o alaru drosodd.
Isai WelBeibl 60:21  Bydd dy bobl i gyd yn gyfiawn, ac yn etifeddu'r tir am byth. Nhw ydy'r blagur dw i wedi'i blannu, gwaith fy llaw sy'n fy anrhydeddu.
Isai WelBeibl 60:22  Bydd yr un fechan yn troi yn llwyth, a'r lleiaf yn troi'n genedl fawr. Fi ydy'r ARGLWYDD! Pan ddaw'r amser iawn bydda i'n gwneud hyn ar frys!”
Chapter 61
Isai WelBeibl 61:1  Mae Ysbryd fy Meistr, yr ARGLWYDD, arna i, am fod yr ARGLWYDD wedi fy eneinio i'w wasanaethu. Mae wedi fy anfon i gyhoeddi newyddion da i'r tlodion, i drin briwiau'r rhai sydd wedi torri eu calonnau, a chyhoeddi fod y rhai sy'n gaeth i gael rhyddid, ac i ollwng carcharorion yn rhydd;
Isai WelBeibl 61:2  i gyhoeddi fod blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD yma, a'r diwrnod pan fydd Duw yn dial; i gysuro'r rhai sy'n galaru –
Isai WelBeibl 61:3  ac i roi i alarwyr Seion dwrban ar eu pennau yn lle lludw, ac olew llawenydd yn lle galar, mantell mawl yn lle ysbryd anobaith. Byddan nhw'n cael eu galw yn goed hardd, wedi'u plannu gan yr ARGLWYDD i arddangos ei ysblander.
Isai WelBeibl 61:4  Byddan nhw'n ailadeiladu'r hen hen adfeilion, yn codi lleoedd oedd wedi'u dinistrio, ac yn adfer trefi oedd wedi'u difa a heb neb yn byw ynddyn nhw ers cenedlaethau.
Isai WelBeibl 61:5  Bydd dieithriaid yn gofalu am dy ddefaid di, ac estroniaid yn aredig y tir ac yn trin y coed gwinwydd.
Isai WelBeibl 61:6  Byddwch chi'n cael eich galw yn ‛Offeiriaid yr ARGLWYDD‛, ‛Gweision Duw‛ fydd y teitl arnoch chi. Byddwch chi'n bwydo ar gyfoeth y cenhedloedd ac yn mwynhau eu holl drysorau nhw.
Isai WelBeibl 61:7  Yn lle'r cywilydd byddwch chi'n derbyn siâr ddwbl, ac yn lle'r gwarth byddwch chi'n dathlu yn eich etifeddiaeth. Felly, byddan nhw'n etifeddu siâr ddwbl yn eu tir, ac yn profi llawenydd fydd yn para am byth.
Isai WelBeibl 61:8  Fi ydy'r ARGLWYDD; dw i'n caru cyfiawnder, ac yn casáu gweld lladrata'r offrwm sydd i'w losgi. Bydda i'n siŵr o roi eu gwobr iddyn nhw, a bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda nhw fydd yn para am byth.
Isai WelBeibl 61:9  Bydd eu plant yn adnabyddus ymhlith y cenhedloedd, a'u disgynyddion ymhlith y bobloedd. Bydd pawb sy'n eu gweld nhw'n cydnabod mai nhw ydy'r rhai mae'r ARGLWYDD wedi'u bendithio.
Isai WelBeibl 61:10  Mae'r ARGLWYDD yn fy ngwneud i mor llawen, ac mae fy Nuw yn fy ngwefreiddio i. Mae e wedi fy ngwisgo ag achubiaeth a rhoi cyfiawnder yn fantell o'm cwmpas. Dw i fel priodfab yn gwisgo twrban hardd, neu briodferch wedi'i haddurno â'i thlysau.
Isai WelBeibl 61:11  Fel mae planhigion yn tyfu o'r ddaear, a ffrwythau'n tyfu yn yr ardd, bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn gwneud i gyfiawnder a moliant dyfu yng ngŵydd y cenhedloedd i gyd.
Chapter 62
Isai WelBeibl 62:1  “Er mwyn Seion dw i ddim yn mynd i dewi! Er mwyn Jerwsalem dw i ddim yn mynd i orffwys, nes bydd ei chyfiawnder yn disgleirio fel golau llachar a'i hachubiaeth yn llosgi fel ffagl.”
Isai WelBeibl 62:2  Bydd y gwledydd yn gweld dy gyfiawnder, a'r holl frenhinoedd yn gweld dy ysblander; a byddi di'n cael enw newydd gan yr ARGLWYDD ei hun.
Isai WelBeibl 62:3  Byddi fel coron hardd yn llaw yr ARGLWYDD, neu dwrban brenhinol yn llaw dy Dduw.
Isai WelBeibl 62:4  Gei di byth eto yr enw ‛Gwrthodedig‛, a fydd dy wlad ddim yn cael ei galw yn ‛Anialwch‛. Na, byddi'n cael dy alw ‛Fy hyfrydwch‛, a bydd dy wlad yn cael yr enw ‛Fy mhriod‛. Achos bydd yr ARGLWYDD wrth ei fodd gyda ti, a bydd dy wlad fel gwraig ffrwythlon iddo.
Isai WelBeibl 62:5  Fel mae bachgen yn priodi merch ifanc, bydd dy blant yn dy briodi di; ac fel mae priodfab wrth ei fodd gyda'i wraig, bydd dy Dduw wrth ei fodd gyda ti.
Isai WelBeibl 62:6  Dw i'n gosod gwylwyr ar dy waliau di, O Jerwsalem. Fyddan nhw ddim yn dawel nos na dydd! Chi sy'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, peidiwch tewi;
Isai WelBeibl 62:7  peidiwch rhoi llonydd iddo nes iddo adfer Jerwsalem, a'i gwneud yn destun mawl drwy'r byd.
Isai WelBeibl 62:8  Mae'r ARGLWYDD wedi tyngu llw i'w gryfder: “Dw i ddim yn mynd i roi dy ŷd yn fwyd i dy elynion byth eto! A fydd plant estroniaid ddim yn yfed y gwin wnest ti weithio mor galed amdano.
Isai WelBeibl 62:9  Bydd y rhai sy'n medi'r cynhaeaf yn ei fwyta ac yn moli'r ARGLWYDD. A bydd y rhai sy'n casglu'r grawnwin yn yfed y sudd yn fy nghysegr sanctaidd.”
Isai WelBeibl 62:10  Dewch i mewn! Dewch i mewn drwy'r giatiau! Cliriwch y ffordd i'r bobl ddod! Adeiladwch! Adeiladwch briffordd! Symudwch bob carreg sy'n rhwystr! Codwch faner dros y bobloedd!
Isai WelBeibl 62:11  Mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi hyn drwy'r byd i gyd: “Dwedwch wrth Seion annwyl, ‘Edrych! Mae dy Achubwr yn dod! Edrych! Mae ei wobr ganddo; mae'n dod â'i roddion o'i flaen.’”
Isai WelBeibl 62:12  Byddan nhw'n cael eu galw, “Y Bobl Sanctaidd. Pobl Rydd yr ARGLWYDD.” A byddi di, Jerwsalem, yn cael dy alw, “Yr un gafodd ei cheisio,” “Dinas heb ei gwrthod”.
Chapter 63
Isai WelBeibl 63:1  Pwy ydy hwn sy'n dod o Edom – o Bosra a'i ddillad yn goch? Pwy ydy'r un, yn ei wisgoedd brenhinol, sy'n martsio'n hyderus a diflino. “Fi ydy e, sy'n cyhoeddi cyfiawnder; yr un sy'n gallu achub.”
Isai WelBeibl 63:2  Pam mae dy ddillad yn goch? Maen nhw fel dillad un sy'n sathru grawnwin.
Isai WelBeibl 63:3  “Dw i wedi sathru'r grawnwin fy hun; doedd neb o gwbl gyda fi. Sathrais nhw yn fy llid, a'u gwasgu dan draed yn fy nicter, nes i'w gwaed nhw sblasio ar fy nillad; dw i wedi staenio fy nillad i gyd.
Isai WelBeibl 63:4  Roedd y diwrnod i ddial ar fy meddwl, a'r flwyddyn i ollwng yn rhydd wedi dod.
Isai WelBeibl 63:5  Pan edrychais, doedd neb yno i helpu; rôn i'n synnu fod neb yno i roi cymorth. Felly dyma fi'n mynd ati i achub, a'm dicter yn fy ngyrru ymlaen.
Isai WelBeibl 63:6  Sathrais genhedloedd yn fy llid, a'u meddwi nhw gyda fy llid, a thywallt eu gwaed ar lawr.”
Isai WelBeibl 63:7  Dw i'n mynd i atgoffa pobl mor hael a charedig ydy'r ARGLWYDD, a dw i'n mynd i ganu ei glod – am y cwbl mae'r ARGLWYDD wedi'i wneud i ni, a'r holl bethau da mae e wedi'u gwneud i bobl Israel. Mae e mor drugarog ac mor hael!
Isai WelBeibl 63:8  Meddyliodd: “Fy mhobl i ydyn nhw, plant fydd ddim yn anffyddlon.” Felly dyma fe'n eu hachub nhw.
Isai WelBeibl 63:9  Pan oedden nhw'n diodde roedd e'n diodde hefyd, a dyma fe'n anfon ei angel i'w hachub. Yn ei gariad a'i drugaredd, daeth i'w gollwng nhw'n rhydd. Cododd nhw, a'u cario nhw ar hyd y cyfnod hwnnw.
Isai WelBeibl 63:10  Ond dyma nhw'n gwrthryfela, ac yn tristáu ei Ysbryd Glân. Felly trodd yn elyn iddyn nhw, ac ymladd yn eu herbyn nhw.
Isai WelBeibl 63:11  Yna dyma fe'n cofio'r hen ddyddiau – Moses … a'i bobl! Ble mae'r Un ddaeth â nhw drwy'r Môr gyda bugeiliaid ei braidd? Ble mae'r Un wnaeth roi ei Ysbryd Glân yn eu plith nhw –
Isai WelBeibl 63:12  yr Un wnaeth roi ei nerth i Moses? Ble mae'r Un wnaeth hollti'r môr o'u blaenau a gwneud enw iddo'i hun am byth?
Isai WelBeibl 63:13  Ble mae'r Un wnaeth eu harwain nhw drwy'r dyfnder fel ceffyl yn carlamu ar dir agored?
Isai WelBeibl 63:14  Rhoddodd Ysbryd yr ARGLWYDD orffwys iddyn nhw, fel gwartheg yn mynd i lawr i'r dyffryn. Dyna sut wnest ti arwain dy bobl a gwneud enw gwych i ti dy hun!
Isai WelBeibl 63:15  Edrych i lawr o'r nefoedd, o'r lle sanctaidd a hardd lle rwyt ti'n byw! Ble mae dy sêl a dy nerth di bellach? Ble mae hiraeth dy galon a dy gariad? Paid dal yn ôl,
Isai WelBeibl 63:16  achos ti ydy'n Tad ni! Hyd yn oed petai Abraham ddim yn cymryd sylw, ac Israel ddim yn ein nabod ni, ti ydy'n Tad ni, O ARGLWYDD! Ti ydy'r Un sy'n ein rhyddhau ni! – Dyna dy enw di ers y dyddiau hynny.
Isai WelBeibl 63:17  ARGLWYDD, pam wyt ti wedi gadael i ni grwydro oddi ar dy ffyrdd di? Pam wyt ti wedi'n gwneud ni'n ystyfnig nes ein bod ddim yn dy barchu di? Maddau i ni, er mwyn dy weision, dy lwythau di dy hun!
Isai WelBeibl 63:18  Cafodd dy bobl feddiannu'r tir am gyfnod byr, ond wedyn sathrodd dy elynion dy gysegr dan draed.
Isai WelBeibl 63:19  Ni oedd dy bobl di o'r dechrau – wnest ti erioed lywodraethu drostyn nhw, a gawson nhw erioed eu henwi ar dy ôl di.
Chapter 64
Isai WelBeibl 64:1  O na fyddet ti'n rhwygo'r awyr a dod i lawr, nes bod y mynyddoedd yn crynu o dy flaen di –
Isai WelBeibl 64:2  byddai fel tân yn llosgi brigau sych, neu'n gwneud i ddŵr ferwi – i dy elynion ddod i wybod pwy wyt ti ac i'r cenhedloedd grynu o dy flaen di!
Isai WelBeibl 64:3  Roeddet ti'n arfer gwneud pethau syfrdanol, cwbl annisgwyl! Roeddet ti'n dod i lawr ac roedd y mynyddoedd yn crynu o dy flaen.
Isai WelBeibl 64:4  Does neb erioed wedi clywed a does neb wedi gweld Duw tebyg i ti, sy'n gweithredu o blaid y rhai sy'n ei drystio fe.
Isai WelBeibl 64:5  Ti'n helpu'r rhai sy'n mwynhau gwneud beth sy'n iawn, ac sy'n cofio sut un wyt ti. Er dy fod ti'n ddig am ein bod ni'n pechu o hyd, gallen ni ddal gael ein hachub!
Isai WelBeibl 64:6  Ond bellach dŷn ni i gyd fel rhywbeth aflan, mae hyd yn oed ein gorau ni fel dillad isaf budron. Dŷn ni i gyd wedi gwywo fel deilen, Ac mae'n methiant, fel y gwynt, yn ein chwythu i ffwrdd.
Isai WelBeibl 64:7  Does neb yn galw ar dy enw di, nac yn gwneud ymdrech i ddal gafael ynot ti. Ti wedi troi i ffwrdd oddi wrthon ni, a gwneud i ni wynebu'n methiant!
Isai WelBeibl 64:8  Ac eto, ARGLWYDD, ti ydy'n Tad ni! Gwaith dy ddwylo di ydyn ni – ni ydy'r clai a thi ydy'r crochenydd.
Isai WelBeibl 64:9  Paid gwylltio'n llwyr hefo ni, ARGLWYDD! Paid dal dig am ein methiant am byth! Edrych arnon ni i gyd, dy bobl!
Isai WelBeibl 64:10  Mae dy drefi sanctaidd yn anialwch! Mae Seion yn anialwch, a Jerwsalem yn adfeilion.
Isai WelBeibl 64:11  Mae'r deml gysegredig a hardd lle roedd ein hynafiaid yn dy foli di, wedi cael ei llosgi'n ulw. Mae ein trysorau'n bentwr o rwbel.
Isai WelBeibl 64:12  Wyt ti'n mynd i ddal i ymatal er gwaetha hyn i gyd, ARGLWYDD? Wyt ti'n mynd i sefyll yna'n dawel tra dŷn ni'n cael ein cosbi mor drwm?
Chapter 65
Isai WelBeibl 65:1  “Rôn i yno i rai oedd ddim yn gofyn amdana i; dangosais fy hun i rai oedd ddim yn chwilio amdana i. Dywedais, ‘Dyma fi! Dyma fi!’ wrth wlad oedd ddim yn galw ar fy enw.
Isai WelBeibl 65:2  Bues i'n estyn fy llaw drwy'r amser at bobl oedd yn gwrthryfela – pobl yn gwneud beth oedd ddim yn dda, ac yn dilyn eu mympwy eu hunain.
Isai WelBeibl 65:3  Roedden nhw'n fy nigio o hyd ac o hyd – yn aberthu yn y gerddi paganaidd ac yn llosgi aberthau ar allor frics;
Isai WelBeibl 65:4  yn eistedd yng nghanol beddau, ac yn treulio'r nos mewn mannau cudd; yn bwyta cig moch a phowlenni o gawl gyda cig aflan ynddo;
Isai WelBeibl 65:5  neu'n dweud, ‘Cadw draw! Dw i'n rhy lân i ti ddod yn agos ata i!’ Mae pobl fel yna'n gwneud i mi wylltio, mae fel tân sy'n dal i losgi drwy'r dydd.
Isai WelBeibl 65:6  Edrychwch! Mae wedi'i gofnodi o mlaen i! Dw i ddim am ei ddiystyru – dw i'n mynd i dalu'n ôl yn llawn: Talu'n ôl i bob un ohonyn nhw am eu pechodau,
Isai WelBeibl 65:7  a phechodau eu hynafiaid hefyd.” —meddai'r ARGLWYDD. “Roedden nhw'n llosgi arogldarth ar y mynyddoedd, ac yn fy enllibio i ar y bryniau. Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw'n llawn am bopeth wnaethon nhw o'r dechrau cyntaf!”
Isai WelBeibl 65:8  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fel mae sudd da mewn swp o rawnwin, a rhywun yn dweud, ‘Paid difetha fe; mae daioni ynddo’, felly y bydda i'n gwneud er mwyn fy ngweision – fydda i ddim yn eu dinistrio nhw i gyd.
Isai WelBeibl 65:9  Bydda i'n rhoi disgynyddion i Jacob, a phobl i etifeddu fy mynyddoedd yn Jwda. Bydd y rhai dw i wedi'u dewis yn eu meddiannu, a bydd fy ngweision yn byw yno.
Isai WelBeibl 65:10  Bydd Saron yn borfa i ddefaid, a Dyffryn Achor, sy'n lle i wartheg orwedd, yn eiddo i'r bobl sy'n fy ngheisio i.
Isai WelBeibl 65:11  Ond chi sydd wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, a diystyru fy mynydd cysegredig i; chi sy'n gosod bwrdd i'r duw ‘Ffawd’, ac yn llenwi cwpanau o win i'r duw ‛Tynged‛.
Isai WelBeibl 65:12  Dw i'n eich condemnio i gael eich lladd â'r cleddyf! Byddwch chi'n penlinio i gael eich dienyddio – achos roeddwn i'n galw, a wnaethoch chi ddim ateb; roeddwn i'n siarad, a wnaethoch chi ddim gwrando. Roeddech chi'n gwneud pethau oeddwn i'n eu casáu, ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”
Isai WelBeibl 65:13  Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Bydd fy ngweision yn bwyta, a chithau'n llwgu. Bydd fy ngweision yn yfed, a chithau'n sychedu. Bydd fy ngweision yn llawen, a chithau'n cael eich cywilyddio.
Isai WelBeibl 65:14  Bydd fy ngweision yn canu'n braf, a chithau'n wylo mewn poen, ac yn griddfan mewn gwewyr meddwl.
Isai WelBeibl 65:15  Bydd eich enw yn cael ei ddefnyddio fel melltith gan y rhai dw i wedi'u dewis. Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn dy ladd di! Ond bydd enw hollol wahanol gan ei weision.
Isai WelBeibl 65:16  Bydd pwy bynnag drwy'r byd sy'n derbyn bendith yn ei gael wrth geisio bendith gan y Duw ffyddlon; a'r sawl yn unman sy'n tyngu llw o ffyddlondeb yn ei gael wrth dyngu llw i enw'r Duw ffyddlon. Bydd trafferthion y gorffennol yn cael eu hanghofio, ac wedi'u cuddio o'm golwg.
Isai WelBeibl 65:17  Achos dw i'n mynd i greu nefoedd newydd a daear newydd! Bydd pethau'r gorffennol wedi'u hanghofio; fyddan nhw ddim yn croesi'r meddwl.
Isai WelBeibl 65:18  Ie, dathlwch a mwynhau am byth yr hyn dw i'n mynd i'w greu. Achos dw i'n mynd i greu Jerwsalem i fod yn hyfrydwch, a'i phobl yn rheswm i ddathlu.
Isai WelBeibl 65:19  Bydd Jerwsalem yn hyfrydwch i mi, a'm pobl yn gwneud i mi ddathlu. Fydd sŵn crio a sgrechian ddim i'w glywed yno byth eto.
Isai WelBeibl 65:20  Fydd babis bach ddim yn marw'n ifanc, na phobl mewn oed yn marw'n gynnar. Bydd rhywun sy'n marw yn gant oed yn cael ei ystyried yn llanc ifanc, a'r un sy'n marw heb gyrraedd y cant yn cael ei ystyried dan felltith.
Isai WelBeibl 65:21  Byddan nhw'n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw; byddan nhw'n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta'u ffrwyth.
Isai WelBeibl 65:22  Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw, nac yn plannu i rywun arall fwyta'r ffrwyth. Bydd fy mhobl yn byw mor hir â choeden; bydd y rhai dw i wedi'u dewis yn cael mwynhau'n llawn waith eu dwylo.
Isai WelBeibl 65:23  Fyddan nhw ddim yn gweithio'n galed i ddim byd; fyddan nhw ddim yn magu plant i'w colli. Byddan nhw'n bobl wedi'u bendithio gan yr ARGLWYDD, a'u plant gyda nhw hefyd.
Isai WelBeibl 65:24  Bydda i'n ateb cyn iddyn nhw alw arna i; bydda i wedi clywed cyn iddyn nhw orffen siarad.
Isai WelBeibl 65:25  Bydd y blaidd a'r oen yn pori gyda'i gilydd, a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych; ond llwch y ddaear fydd bwyd y neidr. Fyddan nhw'n gwneud dim drwg na niwed yn fy mynydd cysegredig i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Chapter 66
Isai WelBeibl 66:1  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Y nefoedd ydy fy ngorsedd i, a'r ddaear ydy fy stôl droed i. Ble allech chi adeiladu teml fel yna i mi? Ble dych chi am ei roi i mi i orffwys?
Isai WelBeibl 66:2  Onid fi sydd wedi creu popeth sy'n bodoli? Fi ddaeth â nhw i fod!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Ac eto dyma pwy dw i'n cymryd sylw ohonyn nhw: Y rhai tlawd sy'n teimlo'n annigonol ac sy'n parchu fy neges.
Isai WelBeibl 66:3  Ond am y bobl sy'n lladd ych ac yna'n llofruddio rhywun, yn aberthu oen ac yna'n torri gwddf ci, yn cyflwyno offrwm o rawn ac yna'n aberthu gwaed moch, yn llosgi arogldarth ac yna'n addoli eilun-dduwiau – maen nhw wedi dewis mynd eu ffordd eu hunain ac yn mwynhau gwneud y pethau ffiaidd yma –
Isai WelBeibl 66:4  bydda i'n dewis eu cosbi nhw'n llym, a throi eu hofnau gwaetha'n realiti. Pan oeddwn i'n galw, wnaeth neb ateb; pan oeddwn i'n siarad, doedd neb yn gwrando. Roedden nhw'n gwneud pethau roeddwn i'n eu casáu, ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”
Isai WelBeibl 66:5  Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, chi sy'n parchu beth mae'n ei ddweud! Mae eich pobl eich hunain yn eich casáu chi a'ch cau chi allan am sefyll drosto i. Maen nhw'n dweud yn wawdlyd: “Boed i'r ARGLWYDD gael ei anrhydeddu, i ni eich gweld chi'n cael eich gwneud yn hapus.” Ond byddan nhw'n cael eu cywilyddio.
Isai WelBeibl 66:6  Gwrandwch! Mae twrw yn dod o'r ddinas a sŵn yn dod o'r deml, sŵn yr ARGLWYDD yn talu'n ôl i'w elynion.
Isai WelBeibl 66:7  All gwraig gael plentyn heb boenau geni? All hi eni mab cyn i'r pyliau ddechrau?
Isai WelBeibl 66:8  Na! Pwy glywodd am y fath beth? Pwy welodd rywbeth felly'n digwydd? Ydy gwlad yn geni plant mewn diwrnod? Ydy cenedl yn dod i fod mewn moment? Ond dyma Seion newydd ddechrau esgor ac mae eisoes wedi cael ei phlant!
Isai WelBeibl 66:9  “Fyddwn i'n gadael i'r dŵr dorri heb eni plentyn?” —yr ARGLWYDD sy'n gofyn. “Fyddwn i'n dechrau'r broses eni, ac yna'n ei rhwystro?” —ie, dy Dduw sy'n gofyn.
Isai WelBeibl 66:10  Byddwch yn llawen dros Jerwsalem a dathlu gyda hi, bawb ohonoch chi sy'n ei charu! Ymunwch yn y dathlu, chi fu'n galaru drosti –
Isai WelBeibl 66:11  i chi gael sugno'i bronnau a chael eich bodloni, cael blas wrth lepian ar hyfrydwch ei thethi.
Isai WelBeibl 66:12  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n rhoi iddi heddwch perffaith fel afon, a bydd cyfoeth y cenhedloedd fel ffrwd yn gorlifo iddi. Byddwch yn cael sugno'i bronnau a'ch cario fel babi, ac yn chwarae ar ei gliniau fel plentyn bach.
Isai WelBeibl 66:13  Bydda i'n eich cysuro chi fel mam yn cysuro'i phlentyn; byddwch chi'n cael eich cysuro yn Jerwsalem.”
Isai WelBeibl 66:14  Byddwch wrth eich bodd wrth weld hyn, a bydd eich corff cyfan yn cael ei adnewyddu. Bydd hi'n amlwg fod nerth yr ARGLWYDD gyda'i weision, ond ei fod wedi digio gyda'i elynion.
Isai WelBeibl 66:15  Ydy, mae'r ARGLWYDD yn dod mewn tân ac mae sŵn ei gerbydau fel corwynt. Mae'n dod i ddangos ei fod yn ddig, ac i geryddu gyda fflamau tân.
Isai WelBeibl 66:16  Achos bydd yr ARGLWYDD yn barnu pawb hefo tân a gyda'i gleddyf, a bydd llawer yn cael eu lladd ganddo.
Isai WelBeibl 66:17  “Mae hi ar ben ar bawb sy'n cysegru eu hunain a mynd drwy'r ddefod o ‛buro‛ eu hunain i ddilyn yr un yn y canol ac addoli yn y gerddi paganaidd, gan wledda ar gig moch a phethau ffiaidd eraill fel llygod,” meddai'r ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 66:18  “Dw i'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud a'i feddwl. Dw i'n mynd i gasglu'r gwledydd i gyd, a phobl o bob iaith, iddyn nhw ddod a gweld fy ysblander i.
Isai WelBeibl 66:19  Bydda i'n gosod arwydd yn eu canol nhw, ac yn anfon at y cenhedloedd rai o'r bobl fydd wedi llwyddo i ddianc: i Tarshish, at y Libiaid a'r Lydiaid (y rhai sy'n defnyddio bwa saeth); i Twbal, Groeg, a'r ynysoedd pell sydd heb glywed sôn amdana i na gweld fy ysblander i. Byddan nhw'n dweud wrth y cenhedloedd am fy ysblander i.
Isai WelBeibl 66:20  A byddan nhw'n dod â'ch perthnasau o'r gwledydd i gyd yn offrwm i'r ARGLWYDD; dod â nhw ar gefn ceffylau, mewn wagenni a throliau, ar gefn mulod a chamelod, i Jerwsalem, fy mynydd sanctaidd,” meddai'r ARGLWYDD, “yn union fel mae pobl Israel yn dod ag offrwm o rawn i deml yr ARGLWYDD mewn llestr glân.
Isai WelBeibl 66:21  A bydda i'n dewis rhai ohonyn nhw i fod yn offeiriaid ac yn Lefiaid,” meddai'r ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 66:22  “Fel y bydd y nefoedd newydd a'r ddaear newydd dw i'n mynd i'w gwneud yn aros am byth o'm blaen i,” —meddai'r ARGLWYDD, “felly y bydd eich plant a'ch enw chi yn aros.
Isai WelBeibl 66:23  O un ŵyl y lleuad newydd i'r llall, ac o un Saboth i Saboth arall, bydd pawb yn dod i addoli o mlaen i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Isai WelBeibl 66:24  “Byddan nhw'n mynd allan ac yn gweld cyrff y rhai hynny oedd wedi gwrthryfela yn fy erbyn i: Fydd y cynrhon ynddyn nhw ddim yn marw, na'r tân sy'n eu llosgi nhw yn diffodd; byddan nhw'n ffiaidd yng ngolwg pawb.”