Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
Chapter 1
Job WelBeibl 1:1  Un tro roedd dyn o'r enw Job yn byw yng ngwlad Us. Roedd yn ddyn gonest, yn trin pobl eraill yn deg, ac yn ddyn oedd yn addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg.
Job WelBeibl 1:3  A dyma restr o'i holl eiddo: saith mil o ddefaid, tair mil o gamelod, pum cant pâr o ychen a phum cant o asennod, a nifer fawr iawn o weithwyr. Roedd yn fwy cyfoethog nag unrhyw un arall o bobl y dwyrain i gyd.
Job WelBeibl 1:4  Roedd ei feibion yn arfer cynnal partïon yn eu cartrefi, pob un yn ei dro ar ddiwrnod penodol o'r wythnos. Bydden nhw'n gwahodd eu tair chwaer i fwyta ac yfed gyda nhw.
Job WelBeibl 1:5  Pan oedd yr wythnos o bartïo drosodd, byddai Job yn anfon amdanyn nhw iddyn nhw fynd drwy'r ddefod o gael eu glanhau. Byddai'n codi'n gynnar yn y bore, ac yn cyflwyno offrymau i'w llosgi i Dduw ar eu rhan nhw i gyd. Roedd yn meddwl, “Falle fod fy mhlant i wedi pechu, ac wedi melltithio Duw.” Roedd Job yn gwneud hyn yn rheolaidd.
Job WelBeibl 1:6  Un diwrnod dyma'r bodau nefol yn dod i sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a dyma Satan yn dod gyda nhw.
Job WelBeibl 1:7  Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “Ble wyt ti wedi bod?” Atebodd Satan yr ARGLWYDD, “Dim ond crwydro yma ac acw ar y ddaear.”
Job WelBeibl 1:8  A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Satan, “Wyt ti wedi sylwi ar fy ngwas Job? Does neb tebyg iddo ar wyneb y ddaear. Mae'n ddyn gonest ac yn trin pobl eraill yn deg; mae'n addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg.”
Job WelBeibl 1:9  Atebodd Satan, “Ond mae dy addoli di yn fanteisiol iddo!
Job WelBeibl 1:10  Y ffaith ydy, rwyt ti wedi gosod ffens o'i gwmpas i'w amddiffyn, ac o gwmpas ei deulu a phopeth sydd ganddo. Ti'n gadael iddo lwyddo beth bynnag mae'n ei wneud. Mae ganddo ddigon o anifeiliaid i lenwi'r wlad i gyd!
Job WelBeibl 1:11  Ond petaet ti'n cymryd y cwbl oddi arno, byddai'n dy felltithio di yn dy wyneb!”
Job WelBeibl 1:12  Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Satan, “Edrych, cei wneud beth bynnag rwyt ti eisiau i'w eiddo; ond paid cyffwrdd Job ei hun.” Yna dyma Satan yn mynd allan oddi wrth yr ARGLWYDD.
Job WelBeibl 1:13  Un diwrnod, roedd meibion a merched Job yn bwyta ac yn yfed gwin mewn parti yn nhŷ'r brawd hynaf.
Job WelBeibl 1:14  A dyma negesydd yn dod at Job a dweud, “Roedd yr ychen yn aredig, a'r asennod yn pori heb fod yn bell oddi wrthyn nhw,
Job WelBeibl 1:15  a dyma'r Sabeaid yn ymosod ac yn eu cymryd nhw i gyd, a lladd y gweision gyda'r cleddyf. Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”
Job WelBeibl 1:16  Tra oedd yn dal i siarad, dyma negesydd arall yn cyrraedd a dweud, “Mae mellten wedi lladd y defaid i gyd a'r gweision oedd yn gofalu amdanyn nhw – mae'r cwbl wedi mynd! Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”
Job WelBeibl 1:17  Tra oedd hwn yn dal i siarad, daeth negesydd arall eto, a dweud, “Mae Caldeaid wedi dwyn y camelod i gyd. Roedd tair mintai ohonyn nhw, yn ymosod o wahanol gyfeiriadau. Maen nhw wedi cymryd y cwbl, ac wedi lladd y gweision i gyd. Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”
Job WelBeibl 1:18  A tra oedd hwn yn dal i siarad dyma un arall yn dod ac yn dweud, “Roedd dy feibion a dy ferched di'n bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ'r brawd hynaf,
Job WelBeibl 1:19  ac yn sydyn dyma gorwynt ofnadwy yn chwythu dros yr anialwch ac yn taro'r tŷ. Syrthiodd yr adeilad ar ben y bobl ifanc a'u lladd nhw i gyd! Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”
Job WelBeibl 1:20  Dyma Job yn codi ar ei draed ac yn rhwygo'i ddillad. Yna siafiodd ei ben a mynd ar ei liniau o flaen Duw â'i wyneb ar lawr,
Job WelBeibl 1:21  a dweud: “Ces i fy ngeni heb ddim, a bydda i'n marw heb ddim. Yr ARGLWYDD wnaeth roi popeth i mi, a'r ARGLWYDD sydd wedi cymryd popeth oddi arna i. Boed i enw'r ARGLWYDD gael ei foli!”
Job WelBeibl 1:22  Er gwaetha'r cwbl, wnaeth Job ddim pechu na rhoi'r bai ar Dduw.
Chapter 2
Job WelBeibl 2:1  Daeth y diwrnod eto i'r bodau nefol ddod o flaen yr ARGLWYDD. A dyma Satan yn dod gyda nhw i sefyll o flaen yr ARGLWYDD.
Job WelBeibl 2:2  Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “Ble wyt ti wedi bod?” Atebodd Satan yr ARGLWYDD, “Dim ond yn crwydro yma ac acw ar y ddaear.”
Job WelBeibl 2:3  A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Wyt ti wedi sylwi ar fy ngwas Job? Does neb tebyg iddo ar wyneb y ddaear. Mae'n ddyn gonest ac yn trin pobl eraill yn deg; mae'n addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg. Ac mae mor ffyddlon ag erioed er dy fod ti wedi fy annog i ddod â dinistr arno heb achos.”
Job WelBeibl 2:4  Atebodd Satan, “Croen am groen! – mae pobl yn fodlon colli popeth i achub eu bywydau!
Job WelBeibl 2:5  Petaet ti'n ei daro ag afiechyd a gwneud iddo ddioddef, byddai'n dy felltithio di yn dy wyneb!”
Job WelBeibl 2:6  Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Edrych, cei wneud beth bynnag wyt ti eisiau iddo; ond rhaid i ti ei gadw'n fyw.”
Job WelBeibl 2:7  Felly dyma Satan yn mynd allan oddi wrth yr ARGLWYDD ac yn taro Job â briwiau cas o'i gorun i'w sawdl.
Job WelBeibl 2:8  A dyma Job yn cymryd darn o botyn i grafu ei friwiau, a mynd i eistedd yn y lludw ar y domen sbwriel.
Job WelBeibl 2:9  Ac meddai ei wraig wrtho, “Ti'n dal mor ffyddlon ag erioed, wyt ti? Melltithia Dduw, er mwyn i ti gael marw!”
Job WelBeibl 2:10  Ond atebodd Job hi, “Ti'n siarad fel y byddai gwraig ddwl, ddi-Dduw yn siarad! Dŷn ni'n derbyn popeth da gan Dduw; oni ddylen ni dderbyn y drwg hefyd?” Er gwaetha'r cwbl, wnaeth Job ddweud dim i bechu yn erbyn Duw.
Job WelBeibl 2:11  Pan glywodd tri o ffrindiau Job am y trychinebau ofnadwy oedd wedi digwydd iddo, dyma nhw'n penderfynu mynd i'w weld. Y tri oedd Eliffas o Teman, Bildad o Shwach, a Soffar o Naamâ. Dyma nhw'n cyfarfod â'i gilydd, a mynd ato i gydymdeimlo a cheisio ei gysuro.
Job WelBeibl 2:12  Pan welon nhw e o bell, doedden nhw prin yn ei nabod, a dyma nhw'n dechrau wylo'n uchel. Dyma'r tri yn rhwygo'u dillad ac yn taflu pridd i'r awyr.
Job WelBeibl 2:13  Buon nhw'n eistedd gydag e ar lawr ddydd a nos am wythnos. Ddwedodd neb yr un gair wrtho, achos roedden nhw'n gweld ei fod e'n dioddef yn ofnadwy.
Chapter 3
Job WelBeibl 3:1  Job oedd y cyntaf i siarad, a melltithiodd y diwrnod y cafodd ei eni.
Job WelBeibl 3:3  “O na fyddai'r diwrnod y ces i fy ngeni yn cael ei ddileu o hanes! – y noson honno y dwedodd rhywun, ‘Mae bachgen wedi'i eni!’
Job WelBeibl 3:4  O na fyddai'r diwrnod hwnnw yn dywyllwch, fel petai'r Duw sydd uchod heb erioed ei alw i fod, a golau dydd heb wawrio arno!
Job WelBeibl 3:5  O na fyddai tywyllwch dudew yn ei guddio; a chwmwl yn gorwedd drosto, a'r düwch yn ei ddychryn i ffwrdd!
Job WelBeibl 3:6  O na fyddai tywyllwch dudew wedi cipio'r noson honno, fel na fyddai'n cael ei chyfrif yn un o ddyddiau'r flwyddyn, ac na fyddai i'w gweld ar galendr y misoedd!
Job WelBeibl 3:7  O na fyddai'r noson honno wedi bod yn ddiffrwyth, heb sŵn neb yn dathlu'n llawen ynddi!
Job WelBeibl 3:8  O na fyddai'r rhai sy'n dewino wedi melltithio'r diwrnod hwnnw – y rhai sy'n gallu deffro'r ddraig yn y môr!
Job WelBeibl 3:9  O na fyddai'r sêr wedi diffodd y noson honno, a'r bore wedi disgwyl yn ofer am y golau, a heb weld pelydrau'r wawr –
Job WelBeibl 3:10  am ei bod heb gloi drysau croth fy mam, a'm rhwystro rhag gweld trybini.
Job WelBeibl 3:11  Pam wnes i ddim cael fy ngeni'n farw, neu ddarfod wrth ddod allan o'r groth?
Job WelBeibl 3:12  Pam oedd gliniau yn disgwyl amdana i, a bronnau i mi ddechrau eu sugno?
Job WelBeibl 3:13  Heb hynny byddwn yn gorwedd yn dawel, yn cysgu'n drwm a gorffwys yn y bedd,
Job WelBeibl 3:14  gyda brenhinoedd a'u cynghorwyr, y rhai fu'n codi palasau sydd bellach yn adfeilion;
Job WelBeibl 3:15  gydag arweinwyr oedd â digon o aur, ac wedi llenwi eu tai ag arian.
Job WelBeibl 3:16  Pam na ches i fy nghuddio fel erthyl marw, neu fabi wnaeth ddim gweld y golau?
Job WelBeibl 3:17  Yn y bedd mae holl brysurdeb pobl ddrwg wedi peidio, a'r gweithwyr oedd dan orthrwm yn cael gorffwys.
Job WelBeibl 3:18  Mae caethion yn cael ymlacio'n llwyr, heb lais y meistri gwaith yn gweiddi.
Job WelBeibl 3:19  Mae pobl fawr a chyffredin yno fel ei gilydd, a'r caethwas yn rhydd rhag ei feistr.
Job WelBeibl 3:20  Pam mae Duw'n rhoi golau i'r un sy'n dioddef, a bywyd i'r rhai sy'n chwerw eu hysbryd?
Job WelBeibl 3:21  Maen nhw'n ysu am gael marw, ond yn methu – yn chwilio am hynny yn fwy na thrysor cudd.
Job WelBeibl 3:22  Maen nhw'n hapus, ac yn dathlu'n llawen pan maen nhw'n cyrraedd y bedd.
Job WelBeibl 3:23  Pam rhoi bywyd i berson heb bwrpas, a'i gau i mewn rhag dianc o'i drybini?
Job WelBeibl 3:24  Yn lle bwyta dw i'n gwneud dim ond ochneidio; dw i'n griddfan ac yn beichio crio.
Job WelBeibl 3:25  Mae'r hyn oeddwn yn ei ofni wedi digwydd; yr hyn oedd yn peri arswyd wedi dod yn wir.
Job WelBeibl 3:26  Does gen i ddim llonydd, dim heddwch, dim gorffwys – dim ond trafferthion.”
Chapter 4
Job WelBeibl 4:2  “Wnei di faddau i mi os gwna i fentro dweud gair? Mae'n anodd peidio dweud rhywbeth!
Job WelBeibl 4:3  Meddylia gymaint o bobl wnest ti eu dysgu, a'r holl rai gwan wnest ti eu hannog a'u helpu.
Job WelBeibl 4:4  Roedd dy eiriau yn cynnal y rhai oedd yn baglu, ac yn cryfhau'r rhai oedd yn simsanu.
Job WelBeibl 4:5  Ond nawr, mae wedi digwydd i ti, a fedri di ddim godde'r peth; mae drwg wedi dy daro, a dyma ti'n anobeithio!
Job WelBeibl 4:6  Ydy dy grefydd ddim yn dy gynnal? Ydy dy fywyd da ddim yn rhoi gobaith i ti?
Job WelBeibl 4:7  Meddylia am eiliad, gafodd rhywun dieuog ei ddifa erioed? Ble cafodd y rhai sy'n byw'n iawn eu difa'n llwyr?
Job WelBeibl 4:8  Fel yma dw i'n ei gweld hi: y rhai sy'n aredig drygioni ac yn hau helynt sy'n medi cynhaeaf hynny!
Job WelBeibl 4:9  Mae Duw yn chwythu arnyn nhw, ac maen nhw'n cael eu difa; maen nhw'n diflannu gydag anadl ei ffroenau.
Job WelBeibl 4:10  Maen nhw fel y llew yn rhuo, a'i rai bach yn cwyno, pan mae dannedd y llewod ifanc wedi'u torri.
Job WelBeibl 4:11  Heb ysglyfaeth mae'r llew cryf yn marw, a chenawon y llewes yn mynd ar wasgar.
Job WelBeibl 4:12  Ces neges yn dawel o'r dirgel, dim ond sibrydiad bach a glywais.
Job WelBeibl 4:13  Yng nghanol breuddwydion dryslyd y nos, pan mae pobl yn cysgu'n drwm.
Job WelBeibl 4:14  Rôn i wedi dychryn, ac yn crynu trwof; roedd fel ias drwy fy esgyrn i gyd!
Job WelBeibl 4:15  Teimlais awel yn pasio heibio i'm hwyneb, a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll.
Job WelBeibl 4:16  Roedd siâp rhywun yn sefyll o'm blaen, ond doeddwn i ddim yn ei nabod. Tawelwch, ac yna clywais ei lais yn sibrwd:
Job WelBeibl 4:17  ‘Ydy person dynol yn fwy cyfiawn na Duw? Ydy pobl yn fwy pur na'r Un wnaeth nhw?
Job WelBeibl 4:18  Os ydy Duw ddim yn trystio ei weision, ac yn cyhuddo'i angylion o fod yn ffôl,
Job WelBeibl 4:19  pa obaith sydd i'r rhai sy'n byw mewn corff o bridd, ac yn tarddu o'r llwch – y rhai y gellir eu gwasgu fel gwyfyn!
Job WelBeibl 4:20  Gallan nhw gael eu sathru'n farw, unrhyw bryd rhwng gwawr a machlud, a'u difa'n llwyr am byth, heb neb yn cymryd sylw.
Job WelBeibl 4:21  Mae rhaffau eu pebyll daearol yn cael eu codi, ac maen nhw'n marw mewn anwybodaeth.’
Chapter 5
Job WelBeibl 5:1  Galw am help! Fydd rhywun yn dy ateb di? At ba un o'r angylion sanctaidd wyt ti'n mynd i droi?
Job WelBeibl 5:2  Mae'r ffŵl byrbwyll yn marw o ddiffyg amynedd, a'r person dwl pan mae'n dal dig.
Job WelBeibl 5:3  Dw i wedi gweld y ffŵl yn llwyddo a gwreiddio, ond yna'n sydyn roedd ei gartref wedi'i felltithio.
Job WelBeibl 5:4  Dydy ei blant byth yn saff – byddan nhw'n colli'r achos yn y llys, heb neb i'w hachub.
Job WelBeibl 5:5  Bydd pobl newynog yn bwyta ei gnydau, a'i gario i ffwrdd i'w guddio; a'r rhai sy'n llwgu yn ysu am ei gyfoeth.
Job WelBeibl 5:6  Dydy profiadau drwg ddim yn tyfu o'r pridd, na thrafferthion yn egino o'r ddaear;
Job WelBeibl 5:7  ond mae pobl yn cael eu geni i drafferthion, mor siŵr ag mae gwreichion yn hedfan i fyny.
Job WelBeibl 5:8  Petawn i'n ti, byddwn i'n troi at Dduw, ac yn gosod fy achos o'i flaen.
Job WelBeibl 5:9  Mae e'n gwneud pethau mawr, tu hwnt i'n deall ni, cymaint o bethau rhyfeddol, ni ellir eu cyfri!
Job WelBeibl 5:10  Mae e'n anfon glaw i'r ddaear, ac yn dyfrio'r caeau.
Job WelBeibl 5:11  Mae e'n codi'r rhai sy'n isel, ac yn gwneud y rhai sy'n galaru yn ddiogel.
Job WelBeibl 5:12  Mae e'n drysu cynlluniau'r cyfrwys, i'w hatal rhag llwyddo.
Job WelBeibl 5:13  Mae'n gwneud i glyfrwch pobl eu baglu nhw; mae cynlluniau'r cyfrwys yn mynd o chwith.
Job WelBeibl 5:14  Maen nhw'n cael eu hunain mewn tywyllwch yng ngolau dydd, ac yn ymbalfalu ganol dydd fel petai'n nos!
Job WelBeibl 5:15  Ond mae e'n achub y tlawd rhag eu geiriau creulon, a'r anghenus o afael y rhai cryf.
Job WelBeibl 5:16  Felly mae gobaith i'r tlawd, ac mae anghyfiawnder yn gorfod tewi!
Job WelBeibl 5:17  Mae'r rhai mae Duw'n eu ceryddu wedi'u bendithio'n fawr; felly paid gwrthod disgyblaeth y Duw sy'n rheoli popeth!
Job WelBeibl 5:18  Mae e'n anafu, ond hefyd yn rhwymo'r anaf; mae'n dolurio, ond mae ei ddwylo hefyd yn iacháu.
Job WelBeibl 5:19  Bydd yn dy achub rhag un trychineb ar ôl y llall; chei di ddim niwed byth.
Job WelBeibl 5:20  Mewn newyn bydd yn dy ryddhau o afael marwolaeth, ac mewn rhyfel, o afael y cleddyf.
Job WelBeibl 5:21  Byddi'n cael dy amddiffyn rhag y tafod maleisus; a fyddi di ddim yn ofni dinistr pan ddaw yn agos.
Job WelBeibl 5:22  Byddi'n gwawdio dinistr a newyn, a fydd gen ti ddim ofn anifeiliaid gwyllt.
Job WelBeibl 5:23  Bydd cerrig yn cytuno i gadw draw o dy dir, a fydd anifeiliaid gwyllt ddim yn ymosod arnat ti.
Job WelBeibl 5:24  Byddi'n gwybod fod dy gartref yn ddiogel, ac wrth archwilio dy anifeiliaid, fydd dim un ar goll.
Job WelBeibl 5:25  Byddi'n siŵr o gael llawer iawn o blant; bydd dy ddisgynyddion fel glaswellt ar y tir.
Job WelBeibl 5:26  Byddi mewn oedran mawr pan gyrhaeddi'r bedd, fel ysgub o wenith yn cael ei chasglu yn ei thymor.
Job WelBeibl 5:27  Edrych! Dŷn ni wedi astudio hyn yn fanwl, ac mae'n wir. Felly gwrando, a meddylia sut mae'n berthnasol i ti.”
Chapter 6
Job WelBeibl 6:2  “Petai fy rhwystredigaeth yn cael ei phwyso, a'm helyntion yn cael eu rhoi mewn clorian,
Job WelBeibl 6:3  bydden nhw'n drymach na holl dywod y môr! Dim syndod fy mod i wedi siarad yn fyrbwyll!
Job WelBeibl 6:4  Mae saethau'r Duw Hollalluog yn fy nghorff, ac mae fy ysbryd wedi sugno eu gwenwyn. Mae'r dychryn mae Duw yn ei achosi fel rhes o filwyr yn ymosod arna i.
Job WelBeibl 6:5  Ydy asyn gwyllt yn nadu pan mae ganddo laswellt? Ydy ych yn brefu pan mae ganddo borfa?
Job WelBeibl 6:6  Ydy bwyd di-flas yn cael ei fwyta heb halen? Oes blas ar y gwynnwy?
Job WelBeibl 6:7  Dw i'n gwrthod eu cyffwrdd nhw; maen nhw'n gwneud i mi fod eisiau chwydu.
Job WelBeibl 6:8  O na fyddwn i'n cael fy nymuniad, a bod Duw yn rhoi i mi beth dw i eisiau.
Job WelBeibl 6:9  O na fyddai Duw yn fodlon fy lladd fel pryf, drwy godi ei law a'm taro i lawr!
Job WelBeibl 6:10  Faint bynnag o boen fyddai'n rhaid i mi ei ddiodde, byddai'n gysur i mi fy mod heb wrthod geiriau'r Un Sanctaidd.
Job WelBeibl 6:11  Does gen i mo'r cryfder i ddal ati; beth ydy'r pwynt o aros yn fyw?
Job WelBeibl 6:12  Oes gen i gryfder fel y graig? Oes gen i gnawd fel pres?
Job WelBeibl 6:13  Y gwir ydy, does gen i ddim nerth o gwbl! Alla i wneud dim i helpu fy hunan.
Job WelBeibl 6:14  Dylai rhywun sy'n anobeithio gael ffrindiau sy'n ffyddlon, hyd yn oed os ydy e'n troi ei gefn ar yr Un sy'n rheoli popeth;
Job WelBeibl 6:15  ond alla i ddim dibynnu o gwbl arnoch chi, frodyr! Dych chi fel sychnant lle roedd dŵr yn gorlifo ar un adeg,
Job WelBeibl 6:16  fel ffrwd sy'n dywyll o dan rew ac wedi'i chuddio o dan eira;
Job WelBeibl 6:17  ond cyn gynted ag y mae'n meirioli mae'n sychu – yn y gwres tanbaid mae hi'n diflannu.
Job WelBeibl 6:18  Mae carafanau camelod yn gadael eu llwybr, ac yn troi am y tir anial, ond mae'r ffrwd wedi mynd.
Job WelBeibl 6:19  Mae carafanau Tema yn chwilio am y dŵr, a marchnatwyr Sheba yn gobeithio dod o hyd iddo.
Job WelBeibl 6:20  Maen nhw mor hyderus, ond byddan nhw'n cael eu siomi; byddan nhw'n cyrraedd y lle, ac yn sefyll yno'n syfrdan.
Job WelBeibl 6:21  Ac felly dych chi! Fel nant wedi sychu, yn dda i ddim! Dych chi'n gweld fy helynt, ac yn cael eich dychryn.
Job WelBeibl 6:22  Ydw i wedi dweud, ‘Rhowch rodd i mi!’ neu, ‘Talwch gildwrn drosto i o'ch cyfoeth’?
Job WelBeibl 6:23  ‘Achubwch fi o afael y gelyn!’ neu, ‘Rhyddhewch fi o afael y gormeswyr!’?
Job WelBeibl 6:24  Dangoswch i mi beth wnes i, a bydda i'n tewi; esboniwch i mi beth wnes i o'i le!
Job WelBeibl 6:25  Mae geiriau gonest yn gallu bod yn greulon! Ond beth mae'ch cerydd chi yn ei brofi?
Job WelBeibl 6:26  Ydy hi'n iawn i chi geryddu â'ch geiriau wrth gyhuddo dyn diobaith o siarad gwag?
Job WelBeibl 6:27  Mae fel gamblo gyda bywyd yr amddifad, neu roi bywyd eich cyfaill ar ocsiwn!
Job WelBeibl 6:28  Nawr dewch! Edrychwch arna i! Fyddwn i'n dweud celwydd yn eich wynebau chi?
Job WelBeibl 6:29  Dewch! Plîs peidiwch bod mor annheg! Meddyliwch eto! Mae fy ngonestrwydd i yn y fantol.
Job WelBeibl 6:30  Na, dw i ddim yn dweud celwydd, a dw i'n gwybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da.
Chapter 7
Job WelBeibl 7:1  Pam mae bywyd dyn ar y ddaear mor galed? Mae ei ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog –
Job WelBeibl 7:2  fel caethwas yn dyheu am gysgod, neu was cyflog yn disgwyl am ei dâl.
Job WelBeibl 7:3  Mis ar ôl mis o fyw dibwrpas, a nosweithiau diddiwedd o dristwch.
Job WelBeibl 7:4  Pan dw i'n gorwedd i lawr, dw i'n meddwl, ‘Pryd dw i'n mynd i fedru codi?’ Mae'r nos yn llusgo'n araf, a dw i'n troi a throsi nes iddi wawrio.
Job WelBeibl 7:5  Mae briwiau a chrachod dros fy nghorff i gyd; mae'r croen wedi cracio ac yn casglu.
Job WelBeibl 7:6  Mae dyddiau fy mywyd wedi hedfan fel gwennol gwehydd, ac yn dod i ben mewn anobaith.
Job WelBeibl 7:7  O Dduw, cofia mai anadl ydy fy mywyd! Wna i ddim profi pleser byth eto.
Job WelBeibl 7:8  Fydd y llygaid sy'n edrych arna i'n fy ngweld i ddim mwy; bydda i wedi diflannu mewn chwinciad.
Job WelBeibl 7:9  Fel cwmwl yn chwalu ac yn diflannu, dydy'r un sy'n mynd i'r bedd byth yn dod yn ôl i fyny;
Job WelBeibl 7:10  fydd e byth yn mynd adre eto; a fydd y lle roedd yn byw ddim yn ei gofio.
Job WelBeibl 7:11  Felly, dw i ddim am gadw'n dawel! Dw i'n mynd i rannu fy ngwewyr meddwl; dw i'n teimlo'n chwerw, a dw i'n mynd i gwyno.
Job WelBeibl 7:12  Ai'r môr ydw i, neu anghenfil y dyfroedd, i ti orfod fy nghadw yn gaeth?
Job WelBeibl 7:13  Pan dw i'n meddwl, ‘Bydd mynd i'r gwely'n gysur, a gorffwys yn gwneud i mi deimlo'n well,’
Job WelBeibl 7:14  ti'n fy nychryn â breuddwydion, ac yn codi braw â hunllefau.
Job WelBeibl 7:15  Byddai'n well gen i gael fy stranglo; mae marwolaeth yn well na bodolaeth.
Job WelBeibl 7:16  Dw i wedi cael llond bol, does gen i ddim eisiau byw ddim mwy. Gad lonydd i mi, mae fy nyddiau'n mynd heibio fel mwg.
Job WelBeibl 7:17  Beth ydy person dynol, i ti boeni amdano, a rhoi cymaint o sylw iddo?
Job WelBeibl 7:18  Ti'n ei archwilio bob bore, ac yn ei brofi bob munud.
Job WelBeibl 7:19  Wyt ti byth yn mynd i edrych i ffwrdd? Rho gyfle i mi lyncu fy mhoeryn!
Job WelBeibl 7:20  Os dw i wedi pechu, beth dw i wedi'i wneud i ti, ti Wyliwr pobl? Pam dewis fi yn darged? Ydw i wedi troi'n gymaint o faich i ti?
Job WelBeibl 7:21  Pam wnei di ddim maddau i mi am droseddu, a chael gwared â'm pechod? Achos bydda i'n gorwedd yn farw cyn pen dim; byddi'n edrych amdana i, ond bydda i wedi mynd.”
Chapter 8
Job WelBeibl 8:2  “Am faint wyt ti'n mynd i ddal ati i siarad fel yma? Mae dy eiriau'n wyllt fel gwynt stormus!
Job WelBeibl 8:3  Ydy Duw yn gwyrdroi cyfiawnder? Ydy'r Un sy'n rheoli popeth yn ystumio beth sy'n iawn?
Job WelBeibl 8:4  Roedd dy feibion wedi pechu yn ei erbyn, ac mae e wedi gadael iddyn nhw wynebu canlyniadau eu gwrthryfel.
Job WelBeibl 8:5  Ond os gwnei di droi at Dduw a gofyn i'r Duw sy'n rheoli popeth dy helpu,
Job WelBeibl 8:6  os wyt ti'n ddi-fai ac yn byw yn iawn, bydd e'n dy amddiffyn di, ac yn dy adfer i dy gyflwr cyfiawn.
Job WelBeibl 8:7  Er bod dy ddechrau'n fach, bydd dy lwyddiant yn fawr i'r dyfodol.
Job WelBeibl 8:8  Gofyn i'r genhedlaeth sydd wedi mynd heibio, meddylia am yr hyn wnaeth pobl ddarganfod ers talwm.
Job WelBeibl 8:9  (Achos dim ond yn ddiweddar y daethon ni i'r golwg, a dŷn ni'n gwybod dim; a dydy'n dyddiau ni ar y ddaear yn ddim ond cysgod.)
Job WelBeibl 8:10  Byddan nhw'n siŵr o dy ddysgu, ac esbonio beth wnaethon nhw ei ddeall.
Job WelBeibl 8:11  Ydy papurfrwyn yn gallu tyfu heb gors? Ydy brwyn yn gallu tyfu heb ddŵr?
Job WelBeibl 8:12  Wrth ddechrau tyfu, cyn bod yn barod i'w torri, bydden nhw'n gwywo'n gynt na'r glaswellt.
Job WelBeibl 8:13  Dyna sy'n digwydd i'r rhai sy'n anghofio Duw; mae gobaith yr annuwiol yn diflannu –
Job WelBeibl 8:14  mae fel gafael mewn edau frau, neu bwyso ar we pry cop.
Job WelBeibl 8:15  Mae'n pwyso arno ac yn syrthio; mae'n gafael ynddo i godi, ond yn methu.
Job WelBeibl 8:16  Dan wenau'r haul mae'n blanhigyn iach wedi'i ddyfrio, a'i frigau'n lledu drwy'r ardd.
Job WelBeibl 8:17  Mae ei wreiddiau'n lapio am bentwr o gerrig, ac yn edrych am le rhwng y meini.
Job WelBeibl 8:18  Ond pan mae'n cael ei godi a'i ddiwreiddio, bydd yr ardd lle roedd yn tyfu yn dweud, ‘Dw i erioed wedi dy weld di.’
Job WelBeibl 8:19  Dyna fydd ei ddiwedd hapus! A bydd planhigion eraill yn tyfu yn ei le.
Job WelBeibl 8:20  Edrych! Dydy Duw ddim yn gwrthod pobl onest nac yn helpu pobl ddrwg!
Job WelBeibl 8:21  Bydd yn gwneud i ti chwerthin unwaith eto, a byddi'n gweiddi'n llawen!
Job WelBeibl 8:22  Bydd dy elynion yn cael eu cywilyddio, a bydd pebyll pobl ddrwg yn diflannu.”
Chapter 9
Job WelBeibl 9:2  “Wrth gwrs, dw i'n gwybod fod hyn i gyd yn wir! Sut all person dynol fod yn gyfiawn o flaen Duw?
Job WelBeibl 9:3  Er y carai rhywun ddadlau ei achos gydag e, fyddai rhywun ddim yn gallu ateb un o bob mil o'i gwestiynau!
Job WelBeibl 9:4  Mae Duw mor ddoeth a grymus – pwy sydd wedi'i herio a dod allan yn un darn?
Job WelBeibl 9:5  Mae e'n symud mynyddoedd heb rybudd, ac yn eu bwrw wyneb i waered yn ei ddig.
Job WelBeibl 9:6  Mae'n ysgwyd y ddaear o'i lle, nes bod ei cholofnau'n crynu.
Job WelBeibl 9:7  Mae'n rhoi gorchymyn i'r haul beidio tywynnu, ac yn cloi y sêr dan sêl.
Job WelBeibl 9:8  Mae e'n lledu'r awyr, ac yn sathru tonnau'r môr.
Job WelBeibl 9:9  Fe wnaeth yr Arth ac Orion, Pleiades a chlystyrau sêr y de.
Job WelBeibl 9:10  Mae'n gwneud pethau mawr, tu hwnt i'n deall ni, a phethau rhyfeddol na ellir byth eu cyfrif.
Job WelBeibl 9:11  Ond petai'n pasio heibio allwn i mo'i weld; mae'n symud yn ei flaen heb i mi sylwi.
Job WelBeibl 9:12  Petai'n cymryd rhywbeth, pwy all ei stopio? Pwy fyddai'n meiddio dweud, ‘Beth wyt ti'n wneud?’
Job WelBeibl 9:13  Duw ydy e, a dydy e ddim yn atal ei ddigofaint; mae helpwyr bwystfil y môr wedi'u bwrw i lawr.
Job WelBeibl 9:14  Felly pa obaith sydd i mi ei ateb, a dod o hyd i ddadleuon yn ei erbyn?
Job WelBeibl 9:15  Er fy mod i'n ddieuog, alla i mo'i ateb, dim ond pledio am drugaredd gan fy Marnwr.
Job WelBeibl 9:16  Hyd yn oed petai'n ymateb i'm gwŷs, allwn i ddim bod yn siŵr y byddai'n gwrando arna i –
Job WelBeibl 9:17  oherwydd mae'n fy sathru i am y nesa peth i ddim, ac wedi fy anafu drosodd a throsodd am ddim rheswm.
Job WelBeibl 9:18  Dydy e ddim yn rhoi cyfle i mi ddal fy ngwynt, dim ond fy llenwi â gwenwyn chwerw!
Job WelBeibl 9:19  Os mai prawf cryfder ydy hyn – fe ydy'r Un cry! Os mai cwestiwn o bwy sy'n iawn – pwy sy'n mynd i'w alw e i'r llys?
Job WelBeibl 9:20  Er fy mod i'n ddieuog, byddai fy ngeiriau'n fy nghondemnio i; er fy mod i'n ddi-fai, byddai e'n dangos i mi fy mod yn euog.
Job WelBeibl 9:21  Dydw i ddim ar fai, ond dw i'n poeni dim beth fydd yn digwydd i mi; dw i wedi cael llond bol ar fywyd!
Job WelBeibl 9:22  ‘Does dim gwahaniaeth!’, dyna dw i'n ddweud, ‘Mae e'n dinistrio'r di-fai a'r euog fel ei gilydd.’
Job WelBeibl 9:23  Pan mae ei chwip yn dod â marwolaeth sydyn, mae e'n chwerthin ar anobaith y dieuog.
Job WelBeibl 9:24  Mae'r tir wedi'i roi yn nwylo pobl ddrwg, ac mae Duw'n rhoi mwgwd dros lygaid ei barnwyr. Os nad fe sy'n gwneud hyn, yna pwy sydd?
Job WelBeibl 9:25  Mae dyddiau fy mywyd yn mynd heibio'n gynt na rhedwr; yn rhuthro i ffwrdd heb i mi weld hapusrwydd.
Job WelBeibl 9:26  Maen nhw'n llithro heibio fel cychod brwyn, neu fel eryr yn disgyn ar ei ysglyfaeth.
Job WelBeibl 9:27  Os dweda i, ‘Dw i'n mynd i stopio cwyno, dw i am wenu a bod yn hapus,’
Job WelBeibl 9:28  dw i'n dychryn wrth feddwl beth fydda i'n ei ddiodde nesa. Dw i'n gwybod wnei di ddim gadael i mi fynd!
Job WelBeibl 9:29  Dw i'n cael fy nghyfri'n euog beth bynnag, felly beth ydy'r pwynt ymdrechu?
Job WelBeibl 9:30  Petawn i'n ymolchi â sebon, ac yn sgwrio fy nwylo â soda,
Job WelBeibl 9:31  byddet ti'n fy suddo mewn carthion nes bod hyd yn oed fy nillad yn ffiaidd i mi.
Job WelBeibl 9:32  Nid creadur dynol fel fi ydy Duw, felly alla i ddim dweud, ‘Gad i ni fynd i gyfraith!’
Job WelBeibl 9:33  O na fyddai canolwr rhyngon ni, i osod ei law ar y naill a'r llall ohonon ni!
Job WelBeibl 9:34  Rhywun i symud gwialen Duw oddi arna i fel bod dim rhaid i mi ddychryn ac arswydo o'i flaen.
Job WelBeibl 9:35  Byddwn i'n siarad yn agored wedyn, heb ofni; ond fel mae pethau, alla i ddim gwneud hynny.
Chapter 10
Job WelBeibl 10:1  Mae'n gas gen i orfod byw! Ydw, dw i'n mynd i gwyno, a dweud mor chwerw dw i'n teimlo.
Job WelBeibl 10:2  Dweud wrth Dduw, ‘Paid condemnio fi heb achos! Gad i mi wybod pam ti'n ymosod arna i.’
Job WelBeibl 10:3  Wyt ti'n mwynhau cam-drin pobl? Taflu i ffwrdd waith dy ddwylo, a gwenu ar gynlluniau pobl ddrwg?
Job WelBeibl 10:4  Wyt ti'n edrych ar bethau drwy lygaid dynol? Wyt ti'n deall pethau fel mae pobl yn eu gweld nhw?
Job WelBeibl 10:5  Ydy dy fywyd di mor fyr â bywyd rhywun meidrol? Ydy dy flynyddoedd di'n mynd heibio fel ein blynyddoedd ni?
Job WelBeibl 10:6  Ai dyna pam ti'n chwilio am fy meiau i a cheisio dod o hyd i'm pechod?
Job WelBeibl 10:7  Ti'n gwybod yn iawn nad ydw i'n euog, ond all neb fy achub o dy ddwylo di.
Job WelBeibl 10:8  Dy ddwylo di wnaeth fy naddu i a'm creu, ond yna dyma ti'n troi i'm dinistrio'n llwyr!
Job WelBeibl 10:9  Cofia mai ti wnaeth fy siapio i fel clai. Wyt ti'n mynd i wneud llwch ohono i eto?
Job WelBeibl 10:10  Ti dywalltodd fi fel llaeth i'r groth, a'm ceulo fel caws ym mol fy mam.
Job WelBeibl 10:11  Gwisgaist fi â chnawd a chroen, a gweu fy esgyrn a'm gewynnau at ei gilydd.
Job WelBeibl 10:12  Ti roddodd fywyd i mi, a gofalu amdana i – dy ofal di sydd wedi fy nghadw i'n fyw.
Job WelBeibl 10:13  Ond roeddet ti'n cuddio dy gynllun go iawn. Dw i'n gwybod mai dyma oedd dy fwriad:
Job WelBeibl 10:14  Fy ngwylio i, i weld fyddwn i'n pechu, ac wedyn gwrthod gadael i mi fynd.
Job WelBeibl 10:15  Os ydw i'n euog – mae ar ben arna i! Ond hyd yn oed os ydw i'n ddieuog, alla i ddim codi fy mhen; dw i'n llawn cywilydd ac wedi cael llond bol o ofid.
Job WelBeibl 10:16  Os coda i fy mhen, rwyt yn fy hela fel llew, i ddangos dy hun yn rhyfeddol – a hynny ar fy nhraul i!
Job WelBeibl 10:17  Ti'n galw tystion newydd yn fy erbyn, ac yn troi'n fwy a mwy dig gyda mi; dod â byddin newydd yn fy erbyn o hyd.
Job WelBeibl 10:18  Felly pam wnest ti adael i mi ddod allan o'r groth? Pam wnes i ddim marw bryd hynny, cyn i neb fy ngweld i? –
Job WelBeibl 10:19  Byddai'n braf petawn i erioed wedi bodoli, neu wedi cael fy nghario o'r groth i'r bedd!
Job WelBeibl 10:20  Mae fy nyddiau i mor brin, felly stopia! Gad lonydd i mi, i mi gael ychydig o gysur!
Job WelBeibl 10:21  Cyn i mi fynd – heb fyth ddod yn ôl – i wlad y twyllwch dudew,
Job WelBeibl 10:22  i dir y gwyll a'r fagddu, lle does ond cysgodion ac anhrefn, a lle mae'r golau ei hun fel tywyllwch.”
Chapter 11
Job WelBeibl 11:2  “Mae'n rhaid ateb y malu awyr diddiwedd yma! Ydy siarad di-baid yn gwneud rhywun yn iawn?
Job WelBeibl 11:3  Wyt ti'n meddwl y bydd dy barablu di'n gwneud i ddynion dewi? Oes neb yn mynd i dy geryddu di am dy siarad gwawdlyd?
Job WelBeibl 11:4  Ti'n dweud, ‘Mae beth dw i'n gredu yn iawn, a dw i'n lân yn dy olwg di, O Dduw.’
Job WelBeibl 11:5  O na fyddai Duw yn dweud rhywbeth, yn dy ateb di drosto'i hun,
Job WelBeibl 11:6  ac yn dangos i ti beth ydy doethineb go iawn! Mae dwy ochr i bob stori! Byddet ti'n gweld fod Duw yn dy gosbi lai nag wyt ti'n ei haeddu!
Job WelBeibl 11:7  Wyt ti'n meddwl dy fod yn deall hanfod Duw? Wyt ti wedi darganfod ffiniau i allu'r Un sy'n rheoli popeth?
Job WelBeibl 11:8  Mae'n uwch na'r nefoedd – beth alli di ei wneud? Mae'n ddyfnach nag Annwn – beth wyt ti'n ei wybod?
Job WelBeibl 11:10  Os ydy Duw'n dod heibio ac arestio rhywun, a mynd ag e i'r llys, pwy sy'n gallu ei rwystro?
Job WelBeibl 11:11  Achos mae e'n nabod y rhai sy'n twyllo; pan mae'n gweld drygioni, mae'n delio ag e.
Job WelBeibl 11:12  Ond mae mor amhosib i ddyn dwl droi'n ddoeth ag ydy hi i asyn gwyllt gael ei eni'n ddof!
Job WelBeibl 11:13  Os gwnei di droi at Dduw, ac estyn dy ddwylo ato mewn gweddi –
Job WelBeibl 11:14  troi cefn ar y drwg rwyt ti wedi'i wneud, a pheidio rhoi lle i anghyfiawnder –
Job WelBeibl 11:15  yna byddi'n dal dy ben yn uchel, heb gywilydd, ac yn gallu sefyll yn gadarn, heb ofn.
Job WelBeibl 11:16  Byddi'n anghofio dy holl drybini – bydd fel dŵr wedi mynd dan y bont.
Job WelBeibl 11:17  Bydd bywyd yn brafiach na chanol dydd, a'r adegau mwyaf tywyll yn olau fel y bore!
Job WelBeibl 11:18  Byddi'n teimlo'n saff, am fod gen ti obaith; yn edrych o dy gwmpas ac yn gorffwys yn ddiogel.
Job WelBeibl 11:19  Byddi'n gorwedd i lawr, heb angen bod ofn; a bydd llawer yn ceisio ennill dy ffafr.
Job WelBeibl 11:20  Ond fydd pobl ddrwg yn gweld dim o hyn. Does dim dianc iddyn nhw! Eu hunig obaith fydd cael marw.”
Chapter 12
Job WelBeibl 12:2  “Mae'n amlwg eich bod chi'n bobl mor bwysig! Fydd doethineb ddim yn bod ar ôl i chi fynd!
Job WelBeibl 12:3  Ond mae gen innau feddwl hefyd – dw i ddim gwaeth na chi. Mae pawb yn gwybod y pethau yna!
Job WelBeibl 12:4  Ond dw i wedi troi'n destun sbort i'm ffrindiau – ie fi, oedd yn galw ar Dduw ac yn cael ateb. Fi, y dyn da a gonest – yn destun sbort!
Job WelBeibl 12:5  Mae pobl gyfforddus eu byd yn wfftio fy helyntion – ‘Dyna sy'n digwydd pan mae dyn yn llithro!’
Job WelBeibl 12:6  Ond mae lladron yn cael bywyd braf, a'r rhai sy'n herio Duw yn byw yn saff – ac yn cario eu duw yn eu dwylo!
Job WelBeibl 12:7  Ond meddwch chi: ‘Gofyn i'r anifeiliaid – byddan nhw'n dy ddysgu; neu i'r adar – byddan nhw'n dweud wrthot ti.
Job WelBeibl 12:8  Neu gofyn i'r ddaear – bydd hi'n dy ddysgu, ac i bysgod y môr ddangos y ffordd i ti.
Job WelBeibl 12:9  Pa un ohonyn nhw sydd ddim yn gwybod mai Duw sydd wedi gwneud hyn?
Job WelBeibl 12:10  Yn ei law e mae bywyd pob creadur ac anadl pob person byw.
Job WelBeibl 12:11  Ydy'r glust ddim yn profi geiriau fel mae'r geg yn blasu bwyd?
Job WelBeibl 12:12  Onid pobl mewn oed sy'n ddoeth, a'r rhai sydd wedi byw'n hir sy'n deall?’
Job WelBeibl 12:13  Duw ydy'r un doeth a chryf; ganddo fe y mae cyngor a deall.
Job WelBeibl 12:14  Does dim ailadeiladu beth mae e wedi'i chwalu; na dianc i'r sawl mae e wedi'i garcharu.
Job WelBeibl 12:15  Pan mae'n dal y glawogydd yn ôl, mae sychder yn dilyn; pan mae e'n eu gollwng yn rhydd, maen nhw'n boddi'r tir.
Job WelBeibl 12:16  Duw ydy'r un cryf a medrus; mae'r un sydd ar goll a'r un sy'n camarwain yn atebol iddo.
Job WelBeibl 12:17  Mae'n arwain cynghorwyr i ffwrdd yn noeth, ac yn gwneud i farnwyr edrych fel ffyliaid.
Job WelBeibl 12:18  Mae'n tynnu gwisg brenhinoedd oddi arnyn nhw, ac yn rhwymo gwisg caethwas amdanyn nhw.
Job WelBeibl 12:19  Mae'n arwain offeiriaid i ffwrdd yn noeth, ac yn bwrw swyddogion y deml i lawr.
Job WelBeibl 12:20  Mae'n cau cegau'r cynghorwyr ffyddlon, ac yn diddymu cyngor y dynion doeth.
Job WelBeibl 12:21  Mae'n dwyn anfri ar dywysogion, ac yn diarfogi'r rhyfelwr cryf.
Job WelBeibl 12:22  Mae'n datguddio pethau dirgel y tywyllwch, ac yn dod â phethau tywyll i'r golau.
Job WelBeibl 12:23  Mae'n gwneud i wledydd dyfu, ac yna'n eu dinistrio; mae'n estyn ffiniau'r gwledydd ac yna'n eu chwalu.
Job WelBeibl 12:24  Mae'n gwneud i arweinwyr y bobl fynd o'u pwyll, ac yn eu gadael i grwydro mewn anialwch heb lwybrau;
Job WelBeibl 12:25  yn ymbalfalu heb olau yn y tywyllwch, ac yn sigledig ar eu traed fel meddwon.
Chapter 13
Job WelBeibl 13:1  Ydw, dw i wedi gweld hyn i gyd; dw i wedi'i glywed a'i ddeall.
Job WelBeibl 13:2  Dw i'n gwybod cystal â chi; dw i ddim gwaeth na chi!
Job WelBeibl 13:3  Ond dw i eisiau siarad â'r Duw sy'n rheoli popeth; dw i am ddadlau fy achos gyda Duw.
Job WelBeibl 13:4  Dych chi'n palu celwyddau i guddio'r gwir! Cwacs! Dyna beth ydych chi.
Job WelBeibl 13:5  O na fyddech chi'n cau eich cegau! Dyna fyddai'r peth callaf i chi ei wneud.
Job WelBeibl 13:6  Gwrandwch ar beth sydd gen i i'w ddweud; rhowch gyfle i mi ddadlau fy achos.
Job WelBeibl 13:7  Ydych chi'n dweud y pethau annheg yma ar ran Duw? Ydych chi'n dweud celwydd er ei fwyn e?
Job WelBeibl 13:8  Ydych chi am adael i Dduw ddweud rhywbeth? Neu oes angen i chi ei amddiffyn e?
Job WelBeibl 13:9  Sut fydd hi arnoch chi pan fydd e'n eich archwilio chi? Neu allwch chi ei dwyllo fe fel dych chi'n twyllo pobl?
Job WelBeibl 13:10  Bydd e'n siŵr o'ch ceryddu chi am ddangos ffafr annheg ar y slei.
Job WelBeibl 13:11  Bydd ei ysblander yn codi arswyd arnoch chi, a bydd ei ofn yn cydio ynoch.
Job WelBeibl 13:12  Geiriau gwag ydy'ch dywediadau slic chi; atebion disylwedd, yn frau fel clai.
Job WelBeibl 13:13  Byddwch ddistaw, i mi gael cyfle i siarad. Beth bynnag fydd yn digwydd i mi,
Job WelBeibl 13:14  dw i ddim am ollwng gafael! Dw i'n fodlon mentro fy mywyd!
Job WelBeibl 13:15  Falle y bydd e'n fy lladd i; dw i heb obaith! Ond dw i'n mynd i amddiffyn fy hun o'i flaen e.
Job WelBeibl 13:16  Yn wir, gallai hyn droi i fod yn achubiaeth i mi – fyddai'r annuwiol byth yn meiddio sefyll o'i flaen.
Job WelBeibl 13:17  Gwrandwch yn ofalus arna i; clywch beth sydd gen i i'w ddweud.
Job WelBeibl 13:18  Cewch weld, dw i wedi paratoi fy amddiffyniad, a dw i'n gwybod mai fi sy'n iawn.
Job WelBeibl 13:19  Petai rhywun yn gallu profi'r achos yn fy erbyn byddwn i'n tewi wedyn a disgwyl marw.
Job WelBeibl 13:20  Ond gwna ddau beth i mi, O Dduw, fel bod dim rhaid i mi guddio oddi wrthot ti:
Job WelBeibl 13:22  Yna galw fi i gyfri, a bydda i'n ymateb; neu gad i mi siarad gyntaf, i ti fy ateb i.
Job WelBeibl 13:23  Sawl gwaith dw i wedi gwneud camgymeriad a phechu? Dangos i mi'r pechod a'r gwrthryfel yn dy erbyn di.
Job WelBeibl 13:24  Pam wyt ti'n cuddio oddi wrtho i? Pam wyt ti'n fy nhrin i fel gelyn?
Job WelBeibl 13:25  Pam pryfocio deilen sy'n cael ei chwythu gan wynt? Pam rhedeg ar ôl us wedi sychu?
Job WelBeibl 13:26  Rwyt wedi dyfarnu cosb chwerw i mi, a gwneud i mi dalu am gamgymeriadau fy ieuenctid.
Job WelBeibl 13:27  Rwyt ti wedi rhoi fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylio popeth dw i'n ei wneud – rwyt ti'n marcio pob cam dw i'n ei gymryd.
Job WelBeibl 13:28  Dw i'n darfod fel rhywbeth yn pydru, neu ddilledyn wedi'i ddifetha gan wyfyn.
Chapter 14
Job WelBeibl 14:1  Byr ydy bywyd dyn, wedi'i eni o wraig, ac mae ei ddyddiau yn llawn trafferthion.
Job WelBeibl 14:2  Mae'n blodeuo ac yna'n gwywo; mae'n diflannu fel cysgod, a byth yn aros.
Job WelBeibl 14:3  Ai ar un felly wyt ti'n syllu? Wyt ti am fy rhoi i ar brawf?
Job WelBeibl 14:5  Mae dyddiau rhywun wedi'u rhifo; ti'n gwybod faint o fisoedd fydd e'n byw ac wedi gosod ffin fydd e byth yn ei chroesi.
Job WelBeibl 14:6  Edrych i ffwrdd a gad lonydd iddo, fel gwas cyflog wedi gorffen ei waith.
Job WelBeibl 14:7  Mae gobaith i goeden dyfu eto ar ôl cael ei thorri i lawr. Fydd ei blagur newydd ddim yn methu.
Job WelBeibl 14:8  Er bod ei gwreiddiau'n hen yn y pridd, a'i boncyff wedi dechrau pydru,
Job WelBeibl 14:9  mae'n synhwyro dŵr ac yn blaguro eto, a'i brigau'n tyfu fel petai newydd ei phlannu.
Job WelBeibl 14:10  Ond mae'r dyn cryfaf yn marw heb gryfder; mae'n anadlu am y tro olaf, ac mae wedi mynd.
Job WelBeibl 14:11  Fel dŵr yn diflannu o lyn, neu afon yn llifo i ffwrdd ac yn sychu.
Job WelBeibl 14:12  Mae pobl feidrol yn gorwedd a byth yn codi; fydd dim deffro na chodi o'u cwsg tra bydd yr awyr yn dal i fod.
Job WelBeibl 14:13  O na fyddet ti'n fy nghuddio'n saff yn y bedd, a'm cadw o'r golwg nes i dy ddigofaint fynd heibio; yna gosod amser penodol i'm cofio i eto.
Job WelBeibl 14:14  Ar ôl i rywun farw, fydd e'n cael byw eto? Ar hyd fy mywyd caled byddwn i'n disgwyl i rywun ddod i'm rhyddhau.
Job WelBeibl 14:15  Byddet ti'n galw, a byddwn innau'n dod; byddet yn hiraethu am waith dy ddwylo.
Job WelBeibl 14:16  Byddet ti'n gofalu amdana i bob cam, heb wylio am fy mhechod o hyd.
Job WelBeibl 14:17  Byddai pob trosedd o'r golwg mewn bag wedi'i selio, a'm pechod wedi'i guddio dan orchudd.
Job WelBeibl 14:18  Ond na, fel mae mynyddoedd yn cael eu herydu, a chreigiau yn syrthio o'u lle;
Job WelBeibl 14:19  neu fel mae dŵr yn gwneud carreg yn llyfn, a glaw trwm yn golchi ymaith bridd y ddaear; dyna sut rwyt ti'n lladd gobaith rhywun.
Job WelBeibl 14:20  Ti'n ei drechu'n llwyr – mae ar ben arno! Rwyt yn ei anffurfio ac yn ei anfon i ffwrdd.
Job WelBeibl 14:21  Fydd e ddim yn gwybod os bydd ei feibion yn cael anrhydedd; nac yn ymwybodol os cân nhw eu bychanu.
Job WelBeibl 14:22  Dydy e'n teimlo dim ond ei boen ei hun ac yn poeni dim am neb arall.”
Chapter 15
Job WelBeibl 15:2  “Ydy dyn doeth yn ateb drwy falu awyr? Ti'n llawn o wynt poeth y dwyrain!
Job WelBeibl 15:3  Ydy e'n dadlau ei achos drwy siarad lol, a defnyddio dim ond geiriau gwag?
Job WelBeibl 15:4  Dwyt ti'n dangos dim parch at Dduw, ac yn rhwystro eraill rhag myfyrio arno!
Job WelBeibl 15:5  Dy bechod sy'n gwneud i ti ddweud y fath bethau; rwyt ti mor gyfrwys yn y ffordd ti'n siarad.
Job WelBeibl 15:6  Dy eiriau dy hun sy'n dy gondemnio – nid fi; mae dy geg yn tystio yn dy erbyn di!
Job WelBeibl 15:7  Ai ti oedd y dyn cyntaf i gael ei eni? Oeddet ti'n bodoli cyn y bryniau?
Job WelBeibl 15:8  Oeddet ti wedi clustfeinio ar gyfrinachau Duw? Ai ti ydy'r unig un doeth?
Job WelBeibl 15:9  Beth wyt ti'n ei wybod yn fwy na ni? Beth wyt ti'n ei ddeall nad ydyn ni'n ei ddeall?
Job WelBeibl 15:10  Mae oedran a gwallt gwyn o'n plaid ni – dw i wedi byw yn hirach na dy dad!
Job WelBeibl 15:11  Ydy'r cysur mae Duw'n ei gynnig ddim yn ddigon? Mae ei eiriau mor garedig a thyner.
Job WelBeibl 15:12  Pam wyt ti'n gadael i deimladau dy reoli? Mae dy lygaid yn dangos dy fod wedi gwylltio.
Job WelBeibl 15:13  Sut alli di golli dy dymer gyda Duw, a gadael i'r fath eiriau groesi dy wefusau!
Job WelBeibl 15:14  Sut all person meidrol fod yn lân? Neu un wedi'i eni o wraig honni mai fe sy'n iawn?
Job WelBeibl 15:15  Os ydy Duw ddim yn gallu trystio ei angylion, a'r byd nefol ddim yn lân yn ei olwg,
Job WelBeibl 15:16  sut mae'n edrych ar ddynoliaeth ffiaidd, lygredig, sy'n gwneud drwg fel mae'n yfed dŵr!
Job WelBeibl 15:17  Gwna i ddangos i ti, os gwnei di wrando. Gwna i ddweud beth dw i wedi'i weld –
Job WelBeibl 15:18  pethau mae dynion doeth wedi'u dangos, pethau wedi'u dysgu gan eu tadau.
Job WelBeibl 15:19  Cafodd y tir ei roi iddyn nhw, a doedd pobl estron ddim yn eu plith nhw.
Job WelBeibl 15:20  Mae'r dyn drwg yn dioddef poen ar hyd ei fywyd; a'r gormeswr creulon drwy gydol ei holl flynyddoedd.
Job WelBeibl 15:21  Mae'n clywed sŵn sy'n ei fygwth o hyd, a phan mae bywyd yn braf mae'r dinistrydd yn dod.
Job WelBeibl 15:22  Does ganddo ddim gobaith dianc o'r tywyllwch; ac mae'n gwybod y bydd y cleddyf yn ei ladd.
Job WelBeibl 15:23  Mae'n crwydro – bydd yn fwyd i fwlturiaid; ac mae'n gwybod fod y diwrnod tywyll yn dod.
Job WelBeibl 15:24  Mae'n cael ei ddychryn gan ofid a'i lethu gan bryder, fel brenin ar fin mynd i ryfel;
Job WelBeibl 15:25  am ei fod wedi codi ei ddwrn i fygwth Duw, a gwrthwynebu'r Duw sy'n rheoli popeth;
Job WelBeibl 15:26  wedi'i herio ac ymosod arno â'i darian drwchus gref!
Job WelBeibl 15:27  Er ei fod yn llond ei groen ac yn iach a'i lwynau'n gryfion,
Job WelBeibl 15:28  mae'n byw mewn trefi fydd yn cael eu dinistrio, ac mewn tai lle bydd neb ar ôl; rhai fydd yn ddim mwy na pentwr o rwbel.
Job WelBeibl 15:29  Fydd e ddim yn aros yn gyfoethog, a fydd yr hyn sydd ganddo ddim yn para; fydd ganddo ddim eiddo ar wasgar drwy'r wlad.
Job WelBeibl 15:30  Fydd e ddim yn dianc o'r tywyllwch. Fel coeden a'r fflamau wedi llosgi ei brigau; bydd Duw yn anadlu arno, a bydd yn diflannu.
Job WelBeibl 15:31  Dylai beidio trystio'r hyn sy'n ddiwerth, a'i dwyllo ei hun, fydd dim yn cael ei dalu'n ôl iddo.
Job WelBeibl 15:32  Bydd yn gwywo o flaen ei amser, cyn i'w frigau gael cyfle i flaguro.
Job WelBeibl 15:33  Bydd fel gwinwydden yn gollwng ei grawnwin; neu goeden olewydd yn bwrw ei blodau.
Job WelBeibl 15:34  Mae cwmni pobl annuwiol fel coeden ddiffrwyth; ac mae tân yn llosgi pebyll y rhai sy'n derbyn breib.
Job WelBeibl 15:35  Maen nhw'n beichiogi helynt, yn esgor ar bechod, a'r plentyn yn y groth ydy twyll.”
Chapter 16
Job WelBeibl 16:2  “Dw i wedi clywed hyn i gyd o'r blaen; dych chi i gyd yn gysurwyr gwael!
Job WelBeibl 16:3  Oes dim diwedd i'r malu awyr yma? Beth sy'n dy gorddi di fod rhaid i ti gael y gair olaf?
Job WelBeibl 16:4  Gallwn innau siarad â chi yr un fath petaech chi yn fy lle i. Gallwn i eich drysu chi â geiriau diddiwedd, ac ysgwyd fy mhen arnoch chi.
Job WelBeibl 16:5  Ond eich calonogi chi fyddwn i'n wneud; eich cysuro chi, a lleddfu'r poen.
Job WelBeibl 16:6  Ond alla i ddweud dim i leddfu fy mhoen fy hun; ac os ydw i'n cadw'n dawel dydy'r poen ddim llai.
Job WelBeibl 16:7  Y ffaith ydy, mae Duw wedi fy mlino'n lân! Mae e wedi dinistrio fy nheulu.
Job WelBeibl 16:8  Dw i'n crebachu yn ei law – dw i'n ddim ond croen ac esgyrn ac mae hynny'n tystio yn fy erbyn i.
Job WelBeibl 16:9  Mae e'n ddig, ac wedi fy rhwygo'n ddarnau; ac mae'n ysgyrnygu ei ddannedd arna i. Mae'n rhythu fel gelyn,
Job WelBeibl 16:10  ac mae pobl yn chwerthin ac yn gwneud sbort am fy mhen. Maen nhw'n rhoi slap sarhaus i mi, ac yn uno gyda'i gilydd yn fy erbyn.
Job WelBeibl 16:11  Mae Duw wedi fy ngadael i'r annuwiol, ac wedi fy nhaflu i ddwylo dynion drwg.
Job WelBeibl 16:12  Roedd bywyd yn ddibryder, ond chwalodd y cwbl; gafaelodd yn fy ngwar a'm malu'n ddarnau mân. Mae wedi fy newis fel targed,
Job WelBeibl 16:13  ac mae ei saethwyr o'm cwmpas. Mae wedi trywanu fy mherfedd yn ddidrugaredd, ac mae fy ngwaed wedi'i dywallt ar lawr.
Job WelBeibl 16:14  Dw i fel wal mae'n torri drwyddi dro ar ôl tro, ac mae e'n rhuthro yn fy erbyn fel rhyfelwr.
Job WelBeibl 16:15  Mae sachliain yn sownd i'm croen; a chladdwyd pob nerth oedd gen i yn y llwch.
Job WelBeibl 16:16  Ar ôl wylo'n chwerw mae fy wyneb yn goch, ac mae cysgodion tywyll dan fy llygaid.
Job WelBeibl 16:17  Ond dw i ddim wedi gwneud niwed i neb, ac mae fy ngweddïau'n ddidwyll.
Job WelBeibl 16:18  Ddaear, paid gorchuddio fy ngwaed! Paid gadael i'm protest fynd o'r golwg!
Job WelBeibl 16:19  Hyd yn oed nawr, mae gen i dyst yn y nefoedd; mae Un all sefyll gyda mi yn yr uchelder!
Job WelBeibl 16:20  Ond mae fy ffrindiau'n fy nirmygu, tra dw i'n wylo dagrau o flaen Duw.
Job WelBeibl 16:21  O na fyddai e'n dadlau achos creadur meidrol, fel rhywun yn amddiffyn ei ffrind.
Job WelBeibl 16:22  Does gen i ddim llawer o flynyddoedd i fynd cyn y bydda i'n cerdded y llwybr di-droi'n-ôl.
Chapter 17
Job WelBeibl 17:1  Dw i wedi torri fy nghalon, mae fy nyddiau'n diffodd; dim ond y bedd sydd o'm blaen.
Job WelBeibl 17:2  Mae pawb o'm cwmpas yn gwawdio, mae fy llygaid yn gorfod diodde'u pryfocio.
Job WelBeibl 17:3  Cynnig dy hun yn fechnïydd drosto i! Pwy arall sy'n fodlon gwarantu ar fy rhan?
Job WelBeibl 17:4  Ti wedi dallu'r rhain; dŷn nhw ddim yn deall, felly fyddan nhw ddim yn llwyddo.
Job WelBeibl 17:5  Maen nhw fel dyn yn cynnig gwledd i'w ffrindiau tra mae ei blant ei hun yn llwgu.
Job WelBeibl 17:6  Dw i wedi cael fy ngwneud yn destun sbort i'r bobl; maen nhw'n poeri yn fy wyneb.
Job WelBeibl 17:7  Mae fy llygaid yn pylu oherwydd y gofid, a'm corff i gyd yn ddim ond cysgod.
Job WelBeibl 17:8  Mae pobl dda yn methu credu'r peth, a'r un heb fai yn cael ei gythruddo gan yr annuwiol.
Job WelBeibl 17:9  Mae'r rhai cyfiawn yn cadw eu hunain yn bur, a'r rhai glân eu dwylo yn mynd o nerth i nerth.
Job WelBeibl 17:10  Felly dewch yn eich blaen i ymosod arna i eto! Does dim dyn doeth i'w gael yn eich plith chi!
Job WelBeibl 17:11  Mae fy mywyd ar ben, a'm cynlluniau wedi'u chwalu – pethau oeddwn i wir eisiau eu gwneud.
Job WelBeibl 17:12  Mae'r ffrindiau yma'n dweud fod nos yn ddydd! ‘Mae'n olau!’ medden nhw, a hithau'n hollol dywyll!
Job WelBeibl 17:13  Dw i'n edrych ymlaen at gartrefu yn y bedd, a gwneud fy ngwely yn y tywyllwch;
Job WelBeibl 17:14  Dw i'n dweud wrth y bedd, ‘Fy nhad i wyt ti,’ ac wrth y cynrhon, ‘Fy mam!’, ‘Fy chwaer!’ –
Job WelBeibl 17:15  Felly, ble mae fy ngobaith i? Oes rhywun yn gweld unrhyw obaith i mi?
Job WelBeibl 17:16  Fydd gobaith yn mynd gyda mi drwy giatiau marwolaeth? Fyddwn ni'n mynd i lawr gyda'n gilydd i'r pridd?”
Chapter 18
Job WelBeibl 18:2  “Pryd wyt ti'n mynd i stopio siarad fel yma? Meddylia am funud, i ni gael cyfle i drafod.
Job WelBeibl 18:3  Pam wyt ti'n ein trin ni fel anifeiliaid direswm, ac yn ein hystyried ni'n dwp?
Job WelBeibl 18:4  Cei rwygo dy hun yn ddarnau yn dy wylltineb, ond a fydd trefn pethau yn cael ei newid er dy fwyn di? Fydd y creigiau yn cael eu symud o'u lle?
Job WelBeibl 18:5  Na, mae golau'r rhai drwg yn cael ei ddiffodd; fydd ei fflam e ddim yn ailgynnau.
Job WelBeibl 18:6  Mae'r golau yn ei babell yn gwanhau, a'r lamp uwch ei ben yn diffodd.
Job WelBeibl 18:7  Bydd ei gamau hyderus yn troi'n betrus, a'i gynlluniau ei hun yn ei faglu.
Job WelBeibl 18:8  Mae'n cerdded yn syth i'r rhwyd, ac yn camu ar y fagl.
Job WelBeibl 18:9  Mae ei droed yn cael ei dal mewn trap, a'r fagl yn tynhau amdani.
Job WelBeibl 18:10  Mae rhaff wedi'i chuddio ar y ddaear i'w ddal; mae magl ar ei lwybr.
Job WelBeibl 18:11  Mae'n cael ei ddychryn o bob cyfeiriad, ac mae ofnau'n ei ddilyn i bobman.
Job WelBeibl 18:12  Mae trychineb yn ysu amdano, a dinistr yn disgwyl iddo lithro.
Job WelBeibl 18:13  Mae ei groen yn cael ei fwyta gan afiechyd, a'i gorff yn dioddef y farwolaeth fwya erchyll.
Job WelBeibl 18:14  Mae'n cael ei lusgo allan o'i babell ddiogel, a'i alw i ymddangos o flaen brenin braw.
Job WelBeibl 18:15  Mae tân yn byw yn ei babell, a brwmstan yn cael ei chwalu dros ei gartref.
Job WelBeibl 18:16  Mae ei wreiddiau yn crino oddi tano, a'i ganghennau'n gwywo uwch ei ben.
Job WelBeibl 18:17  Mae pawb drwy'r wlad wedi anghofio amdano; does dim sôn am ei enw yn unman.
Job WelBeibl 18:18  Mae'n cael ei wthio o'r golau i'r tywyllwch, a'i yrru i ffwrdd o'r byd.
Job WelBeibl 18:19  Heb blant na pherthnasau i'w enw, a neb ar ôl lle roedd yn byw.
Job WelBeibl 18:20  Bydd pobl y gorllewin yn synnu at ei dynged, a phobl y dwyrain wedi dychryn yn lân.
Job WelBeibl 18:21  Ond dyna beth sy'n digwydd i'r rhai drwg; felly mae hi ar bobl sydd ddim yn nabod Duw.”
Chapter 19
Job WelBeibl 19:2  “Am faint mwy dych chi'n mynd i'm poenydio, a'm dryllio gyda'ch areithio?
Job WelBeibl 19:3  Dych chi'n fy nwrdio i dro ar ôl tro, ac yn ymosod arna i'n gwbl haerllug.
Job WelBeibl 19:4  A hyd yn oed petai'n wir fy mod ar fai, dim ond fi fyddai'n dioddef wedyn!
Job WelBeibl 19:5  Ond mae'n rhaid i chi ddangos eich bod chi'n well na fi, a defnyddio'r hyn dw i'n ddiodde i brofi eich pwynt!
Job WelBeibl 19:6  Dylech weld fod Duw wedi gwneud cam â mi; mae wedi f'amgylchynu ac yn gwarchae yn fy erbyn.
Job WelBeibl 19:7  Dw i'n gweiddi, ‘Trais!’ ond does neb yn ateb; gweiddi am help, ond does dim tegwch.
Job WelBeibl 19:8  Mae Duw wedi blocio fy ffordd; alla i ddim dianc! Mae wedi gwneud fy llwybr yn dywyll.
Job WelBeibl 19:9  Mae wedi dwyn fy urddas oddi arna i, a thynnu'r goron oddi ar fy mhen.
Job WelBeibl 19:10  Mae wedi fy mwrw i lawr yn llwyr – mae hi ar ben arna i! Mae fy ngobaith wedi mynd, fel coeden wedi'i diwreiddio.
Job WelBeibl 19:11  Mae e wedi gwylltio'n lân gyda mi, ac yn fy nhrin fel un o'i elynion.
Job WelBeibl 19:12  Mae ei fyddin yn ymosod gyda'i gilydd, wedi codi rampiau i warchae yn fy erbyn a gwersylla o gwmpas fy mhabell.
Job WelBeibl 19:13  Mae wedi gwneud i'm perthnasau gadw draw; dydy'r bobl sy'n fy nabod i ddim eisiau gwybod.
Job WelBeibl 19:14  Mae fy nghymdogion wedi troi cefn arna i, a'm ffrindiau gorau wedi anghofio amdana i.
Job WelBeibl 19:15  Mae fy morynion yn fy nhrin i fel dieithryn – fel petawn i'n rhywun o wlad arall.
Job WelBeibl 19:16  Dw i'n galw fy ngwas, ond dydy e ddim yn ateb, er fy mod yn crefu arno i ddod.
Job WelBeibl 19:17  Mae fy anadl yn atgas i'm gwraig, a dw i'n drewi'n ffiaidd i'm teulu.
Job WelBeibl 19:18  Mae hyd yn oed plant bach yn gwneud sbort am fy mhen; pan dw i'n codi, maen nhw'n gwawdio.
Job WelBeibl 19:19  Mae fy ffrindiau agosaf yn fy ffieiddio; a'r rhai dw i'n eu caru wedi troi yn fy erbyn.
Job WelBeibl 19:20  Dw i'n ddim byd ond croen ac esgyrn a dw i'n dal yma o drwch blewyn!
Job WelBeibl 19:21  Byddwch yn garedig ata i! Chi ydy fy ffrindiau! Mae Duw wedi fy nharo i!
Job WelBeibl 19:22  Pam mae'n rhaid i chi hefyd fy erlid, fel Duw? Oes yna ddim diwedd ar eich ymosodiadau?
Job WelBeibl 19:23  O na fyddai fy ngeiriau yn cael eu hysgrifennu i lawr, a'u cofnodi'n glir mewn sgrôl;
Job WelBeibl 19:24  eu naddu ar graig gyda chŷn haearn, a'u llenwi â phlwm i gael eu gweld am byth!
Job WelBeibl 19:25  Ond dw i'n gwybod fod fy Amddiffynnwr yn fyw, ac yn y diwedd y bydd yn sefyll ar y ddaear i dystio ar fy rhan,
Job WelBeibl 19:26  hyd yn oed ar ôl i'm croen i gael ei ddifa. Ond cael gweld Duw tra dw i'n dal yn fyw – dyna dw i eisiau,
Job WelBeibl 19:27  ei weld drosof fy hun; i'm llygaid i ei weld, nid rhywun arall: dw i'n hiraethu am hynny fwy na dim.
Job WelBeibl 19:28  Wrth ofyn, ‘Sut allwn ni ei erlid e?’ ac wrth ddweud, ‘Arno fe'i hun mae'r bai!’
Job WelBeibl 19:29  dylech chi ofni cael eich cosbi eich hunain – mae eich dicter chi'n haeddu ei gosbi â'r cleddyf! Cofiwch fod yna farn i ddod!”
Chapter 20
Job WelBeibl 20:2  “Dw i ddim yn hapus o gwbl! Dw i'n teimlo fod rhaid i mi ateb.
Job WelBeibl 20:3  Dw i wedi gwrando arnat ti'n ceryddu a sarhau, ac mae pob rheswm yn fy nghymell i ateb:
Job WelBeibl 20:4  Wyt ti ddim yn sylweddoli? Ers cyn cof, pan gafodd pobl eu gosod ar y ddaear gyntaf –
Job WelBeibl 20:5  dydy pobl ddrwg ddim yn cael dathlu'n hir. Fydd yr annuwiol ddim ond yn hapus dros dro.
Job WelBeibl 20:6  Er i'w falchder dyfu'n dal, nes i'w ben gyffwrdd y cymylau,
Job WelBeibl 20:7  bydd yn pydru fel ei garthion, ac yn diflannu am byth! Bydd y rhai oedd yn ei nabod yn gofyn, ‘Ble'r aeth e?’
Job WelBeibl 20:8  Bydd wedi hedfan i ffwrdd fel breuddwyd wedi'i hanghofio; fel gweledigaeth ddaeth yn y nos ac yna diflannu.
Job WelBeibl 20:9  Fydd y bobl oedd yn sylwi arno ddim yn ei weld eto; fydd e ddim yno, lle roedd yn amlwg o'r blaen.
Job WelBeibl 20:10  Bydd rhaid i'w feibion dalu'n ôl i'r tlodion; bydd ei blant yn gollwng gafael ar ei gyfoeth.
Job WelBeibl 20:11  Yn ifanc, a'i esgyrn yn llawn egni, bydd yn gorwedd yn y llwch heb ddim.
Job WelBeibl 20:12  Er bod drygioni'n blasu'n felys iddo, a'i fod yn ei gadw o'r golwg dan ei dafod,
Job WelBeibl 20:13  i gadw'r blas yn ei geg, a cheisio ei rwystro rhag darfod;
Job WelBeibl 20:14  bydd yn suro yn ei stumog, ac fel gwenwyn gwiber yn ei fol.
Job WelBeibl 20:15  Bydd yn chwydu'r holl gyfoeth a lyncodd; bydd Duw yn gwneud iddo gyfogi.
Job WelBeibl 20:16  Roedd wedi sugno gwenwyn y wiber; ac mae neidr arall yn ei frathu a'i ladd.
Job WelBeibl 20:17  Fydd e ddim yn cael mwynhau'r nentydd, yr afonydd a'r ffrydiau diddiwedd o fêl a chaws colfran.
Job WelBeibl 20:18  Fydd e ddim yn gallu cadw'r holl elw a lyncodd; fydd e ddim yn cael mwynhau ffrwyth ei fasnachu.
Job WelBeibl 20:19  Pam? Am ei fod wedi sathru'r tlodion a'u gadael i ddioddef, ac wedi dwyn tai wnaeth e ddim eu hadeiladu.
Job WelBeibl 20:20  Ond dydy e byth yn cael ei fodloni, a dydy ei chwant am fwy byth yn ei adael.
Job WelBeibl 20:21  Does dim byd ar ôl iddo ei lowcio, felly fydd ei lwyddiant ddim yn gallu para.
Job WelBeibl 20:22  Pan fydd ar ben ei ddigon, mae argyfwng yn dod, a phob math o helyntion yn dod ar ei draws.
Job WelBeibl 20:23  Tra mae'n stwffio'i fol bydd Duw yn anfon tân ei ddigofaint yn ei erbyn, ac yn tywallt ei saethau i lawr arno.
Job WelBeibl 20:24  Wrth iddo ddianc rhag yr arfau haearn bydd saeth bres yn ei drywanu.
Job WelBeibl 20:25  Wrth geisio ei thynnu allan o'i gefn, a blaen y saeth o'i iau, mae dychryn yn dod drosto.
Job WelBeibl 20:26  Mae tywyllwch dudew yn disgwyl am ei drysorau, a bydd tân heb ei gynnau gan berson dynol yn ei losgi'n ulw, ac yn difa popeth sydd ar ôl yn ei babell.
Job WelBeibl 20:27  Bydd y nefoedd yn dod â'i ddrygioni i'r golwg; bydd y ddaear yn codi i'w gyhuddo.
Job WelBeibl 20:28  Bydd ei gartref yn cael ei ysgubo i ffwrdd gan lifogydd, gan y llifeiriant ar ddydd digofaint Duw.
Job WelBeibl 20:29  Dyma dynged pobl ddrwg; dyma'r etifeddiaeth fydd Duw yn ei rhoi iddyn nhw.”
Chapter 21
Job WelBeibl 21:2  “Gwrandwch yn ofalus ar beth dw i'n ddweud; rhowch cyn lleied â hynny o gysur i mi!
Job WelBeibl 21:3  Rhowch gyfle i mi, ac ar ôl i mi gael dweud fy mhwt cewch wneud sbort.
Job WelBeibl 21:4  Ai cwyn yn erbyn person meidrol sydd gen i? Felly pam ga i ddim bod ychydig yn flin?
Job WelBeibl 21:5  Edrychwch arna i. Bydd hyn yn eich dychryn chi. Rhowch eich llaw dros eich ceg.
Job WelBeibl 21:6  Dw i'n arswydo wrth feddwl am y peth! Mae fy nghorff yn crynu drwyddo.
Job WelBeibl 21:7  Pam mae'r rhai drwg yn cael dal i fyw a heneiddio a mynd yn fwy a mwy pwerus?
Job WelBeibl 21:8  Mae eu plant yn cael bywyd da gyda nhw, ac maen nhw'n byw i weld plant eu plant.
Job WelBeibl 21:9  Mae eu cartrefi'n saff, does dim rhaid ofni, a dŷn nhw ddim yn profi gwialen Duw'n eu cosbi.
Job WelBeibl 21:10  Mae eu teirw'n bridio heb fethu, a'u gwartheg yn cael lloi heb golli'r un.
Job WelBeibl 21:11  Mae eu plant bach yn cael rhedeg yn rhydd, ac yn prancio o gwmpas yn hapus fel ŵyn,
Job WelBeibl 21:12  yn canu'n llon gyda'r tambwrîn a'r delyn, a mwynhau gwrando ar alaw'r ffliwt.
Job WelBeibl 21:13  Maen nhw'n cael byw yn braf am flynyddoedd, ac yna marw'n dawel a mynd i'r bedd mewn heddwch.
Job WelBeibl 21:14  Eu hagwedd at Dduw ydy, ‘Gad lonydd i ni, does gynnon ni ddim eisiau gwybod am dy ffyrdd di!
Job WelBeibl 21:15  Pwy ydy'r Un sy'n rheoli popeth? Pam ddylen ni ei wasanaethu? Beth ydy'r pwynt i ni weddïo arno?’
Job WelBeibl 21:16  Ond dŷn nhw ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain. Dydy ffordd y rhai drwg o feddwl yn gwneud dim sens i mi!
Job WelBeibl 21:17  Pa mor aml mae lamp pobl ddrwg yn cael ei diffodd yn annisgwyl? Pa mor aml mae trychineb yn dod ar eu traws? Pa mor aml mae Duw'n gwneud iddyn nhw ddiodde am ei fod yn ddig?
Job WelBeibl 21:18  Pa mor aml maen nhw'n cael eu chwythu i ffwrdd fel gwellt, neu fel us yn cael ei gipio ymaith gan y gwynt?
Job WelBeibl 21:19  Ydy Duw yn cosbi plant yr annuwiol yn eu lle? Dylai gosbi'r annuwiol eu hunain – iddyn nhw ddysgu eu gwers!
Job WelBeibl 21:20  Gad iddyn nhw brofi dinistr eu hunain, ac yfed o ddigofaint yr Un sy'n rheoli popeth!
Job WelBeibl 21:21  Dŷn nhw'n poeni dim beth fydd yn digwydd i'w teuluoedd pan fydd eu dyddiau eu hunain wedi dod i ben!
Job WelBeibl 21:22  All rhywun ddysgu gwers i Dduw? Onid fe sy'n barnu'r angylion yn y nefoedd uchod?
Job WelBeibl 21:23  Mae un dyn yn marw pan mae'n iach ac yn ffit, yn braf ei fyd ac yn ofni dim;
Job WelBeibl 21:25  Mae un arall yn marw yn ddyn chwerw, heb wybod beth ydy bod yn hapus.
Job WelBeibl 21:26  Ond mae'r ddau fel ei gilydd yn gorwedd yn y pridd a chynrhon drostyn nhw i gyd.
Job WelBeibl 21:27  O ydw, dw i'n gwybod beth sydd ar eich meddyliau chi, a'r drwg dych chi'n bwriadu ei wneud i mi.
Job WelBeibl 21:28  Dych chi'n gofyn, ‘Ble mae tŷ'r gŵr bonheddig? Ble mae cartrefi'r bobl ddrwg wedi mynd?’
Job WelBeibl 21:29  Ydych chi ddim wedi gofyn i'r rhai sy'n teithio? Allwch chi ddim gwrthod eu tystiolaeth nhw:
Job WelBeibl 21:30  fod pobl ddrwg yn cael eu harbed pan mae trychineb yn dod, ac yn dianc ar y dydd pan mae Duw'n ddig?
Job WelBeibl 21:31  Does neb yn ceryddu dyn felly am ei ffyrdd; neb yn talu nôl iddo am beth mae wedi'i wneud.
Job WelBeibl 21:32  Pan mae'n cael ei gario i'r fynwent, mae rhywrai'n gwylio dros ei fedd.
Job WelBeibl 21:33  Mae gorwedd dan bridd y dyffryn yn felys iddo, a phawb yn ei ddilyn mewn prosesiwn; ac aeth tyrfa fawr yno o'i flaen.
Job WelBeibl 21:34  Felly, sut allwch chi fy nghysuro i gyda'ch nonsens? Dydy'ch atebion chi yn ddim byd ond twyll!”
Chapter 22
Job WelBeibl 22:2  “All person dynol fod o unrhyw help i Dduw? Ydy dyn doeth o unrhyw fudd iddo?
Job WelBeibl 22:3  Ydy'r Un sy'n rheoli popeth ar ei ennill os wyt ti'n ddieuog? Oes mantais iddo dy fod ti'n byw yn iawn?
Job WelBeibl 22:4  Ydy e'n dy alw i gyfri am dy fod wedi byw'n dduwiol? Ai dyna pam mae e'n dy farnu di?
Job WelBeibl 22:5  Na, mae'n rhaid dy fod wedi gwneud drwg, ac wedi pechu'n ddiddiwedd,
Job WelBeibl 22:6  wedi cymryd gwystl oddi ar bobl heb achos, a'u gadael nhw yn noeth, heb ddillad.
Job WelBeibl 22:7  Wnest ti ddim rhoi dŵr i'r sychedig ei yfed, na bara i'w fwyta i bobl oedd yn newynu.
Job WelBeibl 22:8  Roeddet ti'n ddyn pwerus, yn berchen tir ac yn byw arno, ac mor freintiedig;
Job WelBeibl 22:9  ond yn troi gweddwon i ffwrdd heb ddim, ac yn dwyn eu hawliau oddi ar blant amddifad.
Job WelBeibl 22:10  Dyna pam wyt ti wedi dy ddal yn y picil yma, ac yn sydyn yn cael dy hun mewn panig.
Job WelBeibl 22:11  Mae hi mor dywyll arnat ti, alli di weld dim, ac mae'r llifogydd ar fin dy foddi di!
Job WelBeibl 22:12  Ydy Duw ddim yn y nefoedd uchod? Edrych ar y sêr pellaf, sy mor uchel!
Job WelBeibl 22:13  Ond rwyt ti'n dweud, ‘Beth mae Duw'n ei wybod? Ydy e'n gallu barnu drwy'r cymylau duon?
Job WelBeibl 22:14  Dydy e ddim yn gweld, am fod cymylau yn ei guddio wrth iddo gerdded o gwmpas yn entrychion y nefoedd!’
Job WelBeibl 22:15  Wyt ti am ddilyn yr un hen ffordd dywyll mae pobl annuwiol wedi'i cherdded?
Job WelBeibl 22:16  Cawson nhw eu cipio i ffwrdd o flaen eu hamser, pan lifodd y dilyw dros eu sylfeini.
Job WelBeibl 22:17  Roedden nhw'n dweud wrth Dduw, ‘Gad lonydd i ni!’ a ‘Beth mae'r Un sy'n rheoli popeth yn gallu ei wneud i ni?’
Job WelBeibl 22:18  Ac eto Duw oedd yn llenwi eu tai â phethau da! Dydy ffordd pobl ddrwg o feddwl yn gwneud dim sens i mi!
Job WelBeibl 22:19  Mae'r rhai cyfiawn yn gweld eu dinistr, ac yn llawen; mae'r diniwed yn eu gwawdio nhw.
Job WelBeibl 22:20  ‘Mae'r rhai cas wedi'u dinistrio, a'u cyfoeth wedi'i losgi gan dân.’
Job WelBeibl 22:21  Ildia dy hun i Dduw, i ti brofi ei heddwch, wedyn bydd pethau da yn digwydd i ti.
Job WelBeibl 22:22  Plîs! Derbyn beth mae e'n ceisio'i ddysgu i ti, a thrysora ei neges yn dy galon.
Job WelBeibl 22:23  Os gwnei di droi nôl at yr Un sy'n rheoli popeth, cei dy adfer. Os gwnei di stopio ymddwyn yn anghyfiawn.
Job WelBeibl 22:24  Os gwnei di drin dy aur fel petai'n ddim ond pridd, aur pur Offir yn ddim gwell na cherrig mewn nant,
Job WelBeibl 22:25  yna yr Un sy'n rheoli popeth fydd dy aur di, fe fydd fel arian gwerthfawr.
Job WelBeibl 22:26  Bydd yr Un sy'n rheoli popeth yn dy wefreiddio, a byddi'n gallu edrych eto ar Dduw.
Job WelBeibl 22:27  Byddi'n gweddïo arno, a bydd e'n gwrando arnat ti, a byddi'n cadw dy addewidion iddo.
Job WelBeibl 22:28  Pan fyddi'n penderfynu gwneud rhywbeth, byddi'n llwyddo, a bydd golau'n disgleirio ar dy ffyrdd.
Job WelBeibl 22:29  Pan fydd pobl mewn trafferthion, byddi'n galw ‘Helpa nhw!’ a bydd Duw yn achub y digalon.
Job WelBeibl 22:30  Bydd hyd yn oed yn achub yr euog; bydd yn dianc am fod dy ddwylo di'n lân.”
Chapter 23
Job WelBeibl 23:2  “Dw i am gwyno yn ei erbyn eto heddiw; mae e'n dal i'm cosbi er fy mod i'n griddfan.
Job WelBeibl 23:3  O na fyddwn i'n gwybod ble i ddod o hyd iddo, a sut i gyrraedd ei orsedd, lle mae'n barnu!
Job WelBeibl 23:4  Byddwn yn gosod fy achos ger ei fron ac yn cyflwyno llond ceg o ddadleuon iddo.
Job WelBeibl 23:5  Byddwn i'n gweld wedyn sut byddai'n fy ateb i a dechrau deall beth mae'n ddweud wrtho i.
Job WelBeibl 23:6  Fyddai e'n fy sathru drwy ddadlau yn fy erbyn? Na, byddai'n rhoi gwrandawiad teg i mi.
Job WelBeibl 23:7  Yno gall dyn gonest gyflwyno ei achos o'i flaen. Byddai fy marnwr yn fy nghael yn ddieuog am byth!
Job WelBeibl 23:8  Dw i'n edrych i'r dwyrain, a dydy e ddim yno; i'r gorllewin, ond dw i'n dal ddim yn ei weld.
Job WelBeibl 23:9  Edrych i'r gogledd, a methu dod o hyd iddo; i'r de, ond does dim sôn amdano.
Job WelBeibl 23:10  Ond mae e'n gwybod popeth amdana i; wedi iddo fy mhrofi, bydda i'n dod allan fel aur pur.
Job WelBeibl 23:11  Dw i wedi'i ddilyn yn ffyddlon, ac wedi cadw ei ffyrdd heb wyro.
Job WelBeibl 23:12  Dw i ddim wedi tynnu'n groes i'w orchmynion; a dw i wedi trysori ei eiriau'n fwy na dim byd.
Job WelBeibl 23:13  Fe ydy'r unig Un; pwy all newid ei feddwl? Mae'n gwneud beth bynnag mae e eisiau.
Job WelBeibl 23:14  Bydd yn cyflawni ei gynllun ar fy nghyfer i, fel llawer o gynlluniau eraill sydd ganddo.
Job WelBeibl 23:15  Dyna pam dw i wedi dychryn o'i flaen; mae meddwl am y peth yn codi ofn arna i.
Job WelBeibl 23:16  Mae Duw wedi gwneud i mi anobeithio; mae'r Un sy'n rheoli popeth yn codi arswyd arna i!
Job WelBeibl 23:17  Ond er gwaetha'r tywyllwch, dw i ddim wedi tewi – y tywyllwch dudew ddaeth drosto i.
Chapter 24
Job WelBeibl 24:1  Pam nad ydy'r Un sy'n rheoli popeth yn cadw dyddiau barn? Pam nad ydy'r rhai sy'n ei nabod yn cael gweld hynny?
Job WelBeibl 24:2  Mae pobl ddrwg yn dwyn tir drwy symud ffiniau, ac yn cymryd praidd pobl eraill i'w bugeilio.
Job WelBeibl 24:3  Maen nhw'n dwyn asynnod yr amddifad, ac yn cadw ych y weddw sydd mewn dyled.
Job WelBeibl 24:4  Maen nhw'n gwthio'r anghenus o'r ffordd, ac mae pobl dlawd yn gorfod mynd i guddio.
Job WelBeibl 24:5  Fel asynnod gwyllt yn yr anialwch, mae'r tlodion yn mynd allan i weithio, ac yn chwilio am fwyd ar dir diffaith – bwyd iddyn nhw a'u plant.
Job WelBeibl 24:6  Maen nhw'n casglu cnwd ebran o gaeau pobl eraill, a lloffa grawnwin o winllannoedd pobl ddrwg.
Job WelBeibl 24:7  Maen nhw'n treulio'r nos yn noeth a heb ddillad, heb orchudd i'w hamddiffyn rhag yr oerni.
Job WelBeibl 24:8  Maen nhw'n wlyb domen yn y glaw trwm, ac yn swatio gyda'i gilydd dan loches y graig.
Job WelBeibl 24:9  Mae plentyn y weddw'n cael ei gipio o'r fron, a babanod y tlawd yn cael eu cymryd am ddyled.
Job WelBeibl 24:10  Maen nhw'n crwydro o gwmpas yn noeth, heb ddillad, ac yn llwgu wrth gario ysgubau pobl eraill.
Job WelBeibl 24:11  Maen nhw'n gwasgu'r olewydd rhwng y meini, ac yn sathru'r grawnwin i'r cafnau, ond yn sychedig.
Job WelBeibl 24:12  Mae pobl yn griddfan marw yn y ddinas; a dynion wedi'u hanafu yn gweiddi am help; ond dydy Duw'n cyhuddo neb am wneud y drwg.
Job WelBeibl 24:13  Mae rhai pobl yn gwrthod y golau; dŷn nhw ddim yn gwybod am ei ffyrdd nac yn aros ar ei lwybrau.
Job WelBeibl 24:14  Mae'r llofrudd yn codi cyn iddi wawrio i ladd y tlawd a'r anghenus; mae e fel y lleidr yn y nos.
Job WelBeibl 24:15  Mae'r un sy'n godinebu yn disgwyl iddi dywyllu; mae'n gwisgo mwgwd ar ei wyneb, gan feddwl, ‘Fydd neb yn fy nabod i.’
Job WelBeibl 24:16  Mae lladron yn torri i mewn i dai pobl yn y nos, ond yn cuddio o'r golwg drwy'r dydd – dŷn nhw ddim eisiau gwybod am y golau.
Job WelBeibl 24:17  Maen nhw i gyd yn gweld y bore fel tywyllwch; dyna pryd mae ofn yn gafael ynddyn nhw.
Job WelBeibl 24:18  Mae rhywun felly fel ewyn ar wyneb y dŵr. Boed i'w dir e gael ei felltithio; boed i neb alw heibio i'w winllannoedd!
Job WelBeibl 24:19  Fel sychder a gwres yn gwneud i ddŵr eira ddiflannu, mae'r bedd yn cipio'r rhai sydd wedi pechu.
Job WelBeibl 24:20  Mae'r groth yn ei anghofio, a'r cynrhon yn gwledda arno; a fydd neb yn ei gofio eto; bydd y drwg yn cael ei dorri i lawr fel coeden.
Job WelBeibl 24:21  Maen nhw'n manteisio ar wraig ddi-blant, ac yn cam-drin y weddw.
Job WelBeibl 24:22  Ond mae Duw'n gallu cael gwared â'r rhai pwerus, pan mae e'n codi, all neb fod yn siŵr y caiff fyw.
Job WelBeibl 24:23  Mae'n gadael iddyn nhw gredu eu bod yn saff, ond yn cadw golwg ar beth maen nhw'n ei wneud.
Job WelBeibl 24:24  Maen nhw'n bwysig am ychydig, ond yna'n diflannu; maen nhw'n syrthio ac yn crino fel glaswellt, ac yn gwywo fel pen y dywysen.
Job WelBeibl 24:25  Os nad ydy hyn yn wir, pwy sydd am wrthbrofi'r peth a dangos mod i'n siarad nonsens?”
Chapter 25
Job WelBeibl 25:2  “Mae gan Dduw awdurdod a gallu dychrynllyd, ac mae'n sefydlu heddwch yn y nefoedd uchod.
Job WelBeibl 25:3  A ellir cyfrif ei fyddinoedd? Ydy ei olau e ddim yn disgleirio ar bawb?
Job WelBeibl 25:4  Sut all person dynol fod yn iawn gyda Duw? Sut all un sydd wedi'i eni o wraig fod yn lân?
Job WelBeibl 25:5  Os nad ydy'r lleuad yn ddisglair, na'r sêr yn lân yn ei olwg,
Job WelBeibl 25:6  pa obaith sydd i berson dynol, sydd fel pryfyn, creadur meidrol, sy'n ddim ond pryf genwair?”
Chapter 26
Job WelBeibl 26:2  “O, ti'n gymaint o help i'r gwan! Ti wedi cynnal braich yr un sydd heb nerth!
Job WelBeibl 26:3  Mae dy gyngor mor werthfawr i rywun sydd mor ddwl! Ti wedi bod mor hael yn rhannu dy ddoethineb!
Job WelBeibl 26:4  Pwy wnaeth ddysgu hyn i gyd i ti? Pwy sy'n dy ysbrydoli i siarad fel yma?
Job WelBeibl 26:5  Mae'r meirw yn crynu o flaen Duw – pawb sy'n byw yn y byd dan y dŵr.
Job WelBeibl 26:6  Mae Annwn yn noeth o'i flaen, ac Abadon heb orchudd i'w guddio.
Job WelBeibl 26:7  Duw sy'n lledu'r sêr dros yr anhrefn, ac yn hongian y ddaear uwch y gwagle.
Job WelBeibl 26:8  Mae'n rhwymo'r dŵr yn ei gymylau trwchus, ond does yr un yn byrstio dan y pwysau.
Job WelBeibl 26:9  Mae'n cuddio wyneb y lleuad llawn drwy ledu ei gymylau drosto.
Job WelBeibl 26:10  Mae'n marcio'r gorwel ar wyneb y moroedd, fel terfyn rhwng y golau a'r tywyllwch.
Job WelBeibl 26:11  Mae colofnau'r nefoedd yn crynu, wedi'u dychryn gan ei gerydd.
Job WelBeibl 26:12  Mae'n gallu tawelu'r môr; trawodd fwystfil y môr i lawr drwy ei ddoethineb.
Job WelBeibl 26:13  Mae ei wynt yn clirio'r awyr; trywanodd y sarff wibiog â'i law.
Job WelBeibl 26:14  A dydy hyn prin yn cyffwrdd ei allu! Mae fel rhyw sibrydiad bach tawel. Pwy all ddychmygu holl rym ei nerth?”
Chapter 27
Job WelBeibl 27:2  “Mor sicr â'i fod yn fyw, dydy Duw ddim wedi bod yn deg! Mae'r Un sy'n rheoli popeth wedi gwneud fy enaid yn chwerw!
Job WelBeibl 27:3  Tra mae bywyd yn dal ynof i, ac anadl Duw yn fy ffroenau,
Job WelBeibl 27:4  wna i byth ddweud gair o gelwydd, na siarad yn dwyllodrus.
Job WelBeibl 27:5  Wna i byth gytuno mai chi sy'n iawn! Bydda i'n onest hyd fy medd –
Job WelBeibl 27:6  Dw i'n dal i fynnu mai fi sy'n iawn; mae fy nghydwybod i'n glir!
Job WelBeibl 27:7  Boed i'm gelyn gael ei drin fel un drwg; yr un sy'n ymosod arna i, fel yr anghyfiawn.
Job WelBeibl 27:8  Pa obaith sydd i'r annuwiol pan mae'n marw, a Duw yn dwyn ei fywyd oddi arno?
Job WelBeibl 27:9  Fydd Duw yn gwrando arno'n gweiddi pan fydd mewn trafferthion?
Job WelBeibl 27:10  Fydd e'n ymgolli yn yr Un sy'n rheoli popeth? Fydd e'n galw ar Dduw yn ddi-baid?
Job WelBeibl 27:11  Dysgaf i i chi am nerth Duw, heb guddio dim o fwriad yr Un sy'n rheoli popeth.
Job WelBeibl 27:12  Dych chi wedi gweld y peth eich hunain, felly pam dych chi'n dal i siarad y fath nonsens?
Job WelBeibl 27:13  Dyma mae pobl ddrwg yn ei gael gan Dduw, a'r gormeswr yn ei dderbyn gan yr Un sy'n rheoli popeth:
Job WelBeibl 27:14  Er iddo gael llawer o blant – cânt eu taro â'r cleddyf; fydd gan ei deulu ddim digon o fwyd.
Job WelBeibl 27:15  Bydd y rhai sy'n goroesi yn marw o'r pla, a fydd dim amser i'r gweddwon alaru.
Job WelBeibl 27:16  Er casglu pentwr o arian fel pridd, a thomen o ddillad fel baw –
Job WelBeibl 27:17  gall gasglu'r cwbl, ond y cyfiawn fydd yn eu gwisgo, a'r diniwed fydd yn rhannu'r arian.
Job WelBeibl 27:18  Mae'r tŷ mae'n ei godi yn frau fel cocŵn gwyfyn, neu'r lloches dros dro mae'r gwyliwr yn ei chreu.
Job WelBeibl 27:19  Mae'n mynd i'w wely yn gyfoethog, ond am y tro olaf; pan fydd yn agor ei lygaid bydd y cwbl wedi mynd.
Job WelBeibl 27:20  Mae dychryn yn dod drosto fel ffrydlif, a'r storm yn ei gipio yn y nos.
Job WelBeibl 27:21  Mae gwynt y dwyrain yn ei godi a'i gymryd, a'i ysgubo i ffwrdd o'i le;
Job WelBeibl 27:22  mae'n ei daro'n ddidrugaredd wrth iddo drio'i orau i ddianc o'i afael;
Job WelBeibl 27:23  mae'n curo'i ddwylo'n wawdlyd, a chwibanu wrth ei yrru o'i le.
Chapter 28
Job WelBeibl 28:2  Mae haearn yn cael ei dynnu o'r ddaear, a chopr yn cael ei doddi o'r garreg.
Job WelBeibl 28:3  Mae dynion yn mynd â golau i'r tywyllwch, ac yn chwilio ym mhob cilfach am y mwynau sydd yn y tywyllwch dudew.
Job WelBeibl 28:4  Maen nhw'n agor siafft ymhell oddi wrth bawb, mewn lleoedd nad oes neb wedi cerdded, ac yn siglo wrth hongian ymhell o olwg pobl.
Job WelBeibl 28:5  Ar y ddaear mae bwyd yn tyfu, ond islaw mae tân yn ei thoddi.
Job WelBeibl 28:6  Mae saffir i'w gael yn y cerrig, ac aur yn ei llwch hefyd.
Job WelBeibl 28:7  All aderyn rheibus ddim mynd ato; all llygad barcud ddim gweld y llwybr yno.
Job WelBeibl 28:8  Fu anifeiliaid rheibus ddim yn troedio yno; does dim llew wedi pasio heibio.
Job WelBeibl 28:9  Mae chwarelwyr yn taro'r graig galed, ac yn symud sylfeini'r mynyddoedd.
Job WelBeibl 28:10  Maen nhw'n agor siafftiau yn y creigiau, ac yn edrych am bethau gwerthfawr.
Job WelBeibl 28:11  Maen nhw'n archwilio ble mae afonydd yn tarddu a dod â'r hyn oedd o'r golwg i'r golau.
Job WelBeibl 28:12  Ond ble mae dod o hyd i ddoethineb? Ble mae deall i'w gael?
Job WelBeibl 28:13  Does neb yn gwybod ble mae; dydy e ddim i'w gael ar dir y byw.
Job WelBeibl 28:14  Mae'r dyfnder yn dweud, ‘Dydy e ddim yma,’ a'r môr yn dweud, ‘Dydy e ddim gen i.’
Job WelBeibl 28:15  Does dim modd ei brynu gyda bar o aur, na thalu amdano drwy bwyso arian.
Job WelBeibl 28:16  Ellir ddim ei brynu gydag aur Offir, nac onics gwerthfawr, na saffir chwaith.
Job WelBeibl 28:17  Dydy aur na grisial ddim cystal, ac ni ellir ffeirio llestri o aur pur amdano.
Job WelBeibl 28:18  Dydy cwrel a grisial ddim gwerth sôn amdanyn nhw; mae pris doethineb yn uwch na pherlau.
Job WelBeibl 28:19  Dydy topas Affrica yn werth dim o'i gymharu, a dydy aur pur ddim yn ddigon i'w brynu.
Job WelBeibl 28:20  O ble mae doethineb yn dod? Ym mhle mae deall i'w gael?
Job WelBeibl 28:21  Mae wedi'i guddio oddi wrth bopeth byw, hyd yn oed yr adar yn yr awyr.
Job WelBeibl 28:22  Mae Abadon a Marwolaeth yn dweud, ‘Dŷn ni ond wedi clywed rhyw si amdano.’
Job WelBeibl 28:23  Dim ond Duw sy'n gwybod sut i'w gyrraedd; mae e'n gwybod o ble mae'n dod.
Job WelBeibl 28:24  Mae e'n gweld i bedwar ban byd; mae'n gweld popeth sydd dan yr haul.
Job WelBeibl 28:25  Pan benderfynodd pa mor gryf ydy'r gwynt, a mesur maint y dyfroedd;
Job WelBeibl 28:26  pan osododd reolau i'r glaw a llwybr i'r mellt a'r taranau,
Job WelBeibl 28:27  gwelodd ddoethineb, a mesur ei werth; ei sefydlu a'i archwilio'n ofalus.
Job WelBeibl 28:28  A dwedodd wrth y ddynoliaeth: ‘Parchu'r ARGLWYDD – dyna sy'n ddoeth; peth call ydy troi cefn ar ddrygioni.’”
Chapter 29
Job WelBeibl 29:2  “O na fyddai pethau fel roedden nhw o'r blaen, pan oedd Duw yn gofalu amdana i.
Job WelBeibl 29:3  Roedd golau ei lamp uwch fy mhen, ac rôn i'n cerdded drwy'r tywyllwch yn ei olau e.
Job WelBeibl 29:4  Roedd popeth yn mynd yn iawn, ac roedd Duw fel ffrind agos i'r teulu.
Job WelBeibl 29:5  Roedd yr Un sy'n rheoli popeth gyda mi bryd hynny, a'm plant i gyd o'm cwmpas i.
Job WelBeibl 29:6  Rôn i'n byw yn fras – ar ben fy nigon, roedd ffrydiau o olew yn llifo rhwng y meini.
Job WelBeibl 29:7  Rôn i'n cerdded drwy giât y ddinas, ac yn eistedd ar y cyngor yn y sgwâr.
Job WelBeibl 29:8  Roedd dynion ifanc yn camu o'r ffordd i mi, a'r dynion hŷn yn codi ar eu traed.
Job WelBeibl 29:9  Roedd yr arweinwyr yn dal eu tafodau, ac yn rhoi eu llaw dros eu cegau.
Job WelBeibl 29:10  Roedd y swyddogion yn cadw'n dawel, fel petai eu tafodau wedi glynu wrth dop y geg.
Job WelBeibl 29:11  Roedd pawb oedd yn gwrando arna i'n canmol, a phawb oedd yn fy ngweld yn siarad yn dda,
Job WelBeibl 29:12  am fy mod i'n achub y tlawd oedd yn galw am help, a'r plentyn amddifad oedd heb neb i'w helpu.
Job WelBeibl 29:13  Roedd pobl oedd bron wedi marw yn fy mendithio, ac roeddwn i'n gwneud i'r weddw ganu'n llawen.
Job WelBeibl 29:14  Roedd cyfiawnder fel gwisg amdana i, a thegwch fel mantell a thwrban.
Job WelBeibl 29:16  Rôn i'n dad i'r rhai mewn angen, ac yn gwrando ar achos y rhai dieithr.
Job WelBeibl 29:17  Rôn i'n dryllio dannedd y dyn drwg, ac yn gwneud iddo ollwng ei ysglyfaeth.
Job WelBeibl 29:18  Dyma roeddwn i'n ei dybio: ‘Bydda i'n aros gyda'm teulu nes i mi farw, ac yn cael byw am flynyddoedd lawer.
Job WelBeibl 29:19  Bydda i fel coeden a'i gwreiddiau'n cyrraedd y dŵr, a'r gwlith yn aros ar ei changhennau.
Job WelBeibl 29:20  Bydd fy nerth yn cael ei adnewyddu, a'm bwa yn newydd yn fy llaw.’
Job WelBeibl 29:21  Roedd pobl yn gwrando'n astud arna i, ac yn cadw'n dawel wrth i mi roi cyngor.
Job WelBeibl 29:22  Ar ôl i mi siarad doedd gan neb ddim mwy i'w ddweud – roedd fy ngeiriau yn disgyn yn dyner ar eu clustiau.
Job WelBeibl 29:23  Roedd disgwyl i mi siarad fel disgwyl am law, disgwyl yn frwd am y glaw yn y gwanwyn.
Job WelBeibl 29:24  Pan fyddwn i'n gwenu, bydden nhw wrth eu boddau; doedden nhw ddim eisiau fy nigio i.
Job WelBeibl 29:25  Fi oedd yn dangos y ffordd, fi oedd yn ben; rôn i fel brenin yng nghanol ei filwyr; rôn i'n cysuro'r rhai sy'n galaru.
Chapter 30
Job WelBeibl 30:1  Ond bellach mae hogiau ifanc yn gwenu'n wawdlyd arna i, rhai y byddwn i'n rhoi mwy o sylw i'm cŵn defaid nag i'w tadau nhw!
Job WelBeibl 30:2  Dynion rhy wan i fod o iws i mi – dynion wedi colli pob cryfder;
Job WelBeibl 30:3  dynion sy'n denau o angen a newyn, yn crwydro'r tir sych, a'r diffeithwch anial yn y nos.
Job WelBeibl 30:4  Maen nhw'n casglu planhigion gwyllt, a gwreiddiau'r banadl i gadw'n gynnes;
Job WelBeibl 30:5  dynion wedi'u gyrru allan o gymdeithas, a phobl yn gweiddi arnyn nhw fel lladron.
Job WelBeibl 30:6  Maen nhw'n byw ar waelod ceunentydd, mewn tyllau yn y ddaear ac ogofâu.
Job WelBeibl 30:7  Maen nhw'n brefu fel anifeiliaid yng nghanol y chwyn, ac yn swatio gyda'i gilydd dan y llwyni.
Job WelBeibl 30:8  Pobl ddwl a da i ddim, wedi'u gyrru i ffwrdd o gymdeithas.
Job WelBeibl 30:9  Ond bellach dw i'n gocyn hitio iddyn nhw; ac yn ddim byd ond testun sbort.
Job WelBeibl 30:10  Maen nhw'n fy ffieiddio i, ac yn cadw draw oddi wrtho i; ac yn poeri'n fy wyneb heb feddwl ddwywaith.
Job WelBeibl 30:11  Am fod Duw wedi datod llinyn fy mwa a'm poenydio i, maen nhw'n ymosod arna i'n ddi-stop.
Job WelBeibl 30:12  Fel gang o lanciau'n codi twrw ar un ochr, i'm bwrw oddi ar fy nhraed; maen nhw'n codi rampiau i warchae a dinistrio.
Job WelBeibl 30:13  Maen nhw'n sefyll ar fy llwybr i'm rhwystro, ac yn llwyddo i'm llorio, heb angen unrhyw help.
Job WelBeibl 30:14  Fel byddin yn llifo drwy fwlch llydan, yn rholio i mewn wrth i'r waliau syrthio.
Job WelBeibl 30:15  Mae dychryn yn dod drosto i, fel gwynt yn ysgubo fy urddas i ffwrdd; mae'r gobaith o ddianc wedi diflannu fel cwmwl.
Job WelBeibl 30:16  Bellach mae fy enaid yn drist, a dyddiau dioddef wedi gafael ynof fi.
Job WelBeibl 30:17  Mae poenau yn fy esgyrn drwy'r nos, a gewynnau'r corff yn cnoi'n ddi-baid.
Job WelBeibl 30:18  Mae Duw wedi gafael yn dynn yn fy nillad, a'm tagu gyda choler fy nghrys.
Job WelBeibl 30:19  Mae e wedi fy nhaflu i'r mwd; dw i'n ddim byd ond llwch a lludw.
Job WelBeibl 30:20  O Dduw, dw i'n gweiddi am dy help, ond does dim ateb; dw i'n sefyll o dy flaen, ond dwyt ti'n cymryd dim sylw.
Job WelBeibl 30:21  Rwyt ti wedi troi mor greulon tuag ata i; a'm taro mor galed ag y medri.
Job WelBeibl 30:22  Ti wedi fy nghodi ar y corwynt; a'm taflu o gwmpas yn y storm.
Job WelBeibl 30:23  Dw i'n gwybod mod i'n mynd i farw, a mynd i'r lle sydd wedi'i bennu i bopeth byw.
Job WelBeibl 30:24  Wnes i erioed godi fy llaw i daro rhywun oedd yn galw am help yn ei drybini!
Job WelBeibl 30:25  Rôn i'n wylo dros y rhai oedd yn cael amser caled, ac yn torri fy nghalon dros y tlawd.
Job WelBeibl 30:26  Ond wrth ddisgwyl y da, ddaeth dim ond drwg; wrth edrych am olau, daeth tywyllwch.
Job WelBeibl 30:27  Dw i'n corddi y tu mewn i mi, wrth wynebu dydd ar ôl dydd o ddioddef.
Job WelBeibl 30:28  Mae fy nghroen wedi duo, ond nid yn yr haul; dw i'n sefyll yn y sgwâr ac yn pledio am help.
Job WelBeibl 30:29  Dw i'n swnio fel brawd i'r siacal, neu gymar i'r estrys.
Job WelBeibl 30:30  Mae fy nghroen wedi tywyllu, a'm corff drwyddo yn llosgi gan wres.
Job WelBeibl 30:31  Felly, mae fy nhelyn yn canu alaw drist, a'm ffliwt yn cyfeilio i'r rhai sy'n galaru.
Chapter 31
Job WelBeibl 31:2  Beth fyddai rhywun felly'n ei dderbyn gan Dduw? Beth fyddai'n ei gael gan yr Un uchod sy'n rheoli popeth?
Job WelBeibl 31:3  Onid i'r annuwiol mae dinistr yn cael ei roi, a thrychineb i'r un sy'n gwneud drwg?
Job WelBeibl 31:4  Ydy e ddim wedi gweld sut dw i wedi byw? Ydy e ddim wedi gwylio pob cam?
Job WelBeibl 31:5  Ydw i wedi cymysgu gyda'r rhai celwyddog, neu wedi bod yn rhy barod i dwyllo?
Job WelBeibl 31:6  Dylai fy mhwyso i ar glorian sy'n gywir, iddo weld fy mod i'n gwbl ddieuog.
Job WelBeibl 31:7  Os ydw i wedi crwydro o'i ffyrdd a gadael i'm llygaid ddenu'r galon, neu os oes staen drygioni ar fy nwylo,
Job WelBeibl 31:8  yna boed i eraill fwyta'r cynhaeaf wnes i ei hau, ac i'r cnwd a blannais gael ei ddinistrio!
Job WelBeibl 31:9  Os cafodd fy nghalon ei hudo gan wraig rhywun arall, a minnau'n dechrau loetran wrth ddrws ei thŷ,
Job WelBeibl 31:10  boed i'm gwraig i falu blawd i ddyn arall, a boed i ddynion eraill orwedd gyda hi!
Job WelBeibl 31:11  Am i mi wneud peth mor ffiaidd – pechod sy'n haeddu ei gosbi.
Job WelBeibl 31:12  Mae fel tân sy'n dinistrio'n llwyr, ac yn llosgi fy eiddo i gyd.
Job WelBeibl 31:13  Ydw i wedi diystyru cwyn caethwas neu forwyn yn fy erbyn erioed?
Job WelBeibl 31:14  Beth wnawn i pe byddai Duw yn codi i edrych ar y mater? Sut fyddwn i'n ei ateb?
Job WelBeibl 31:15  Onid Duw greodd nhw, fel fi, yn y groth? Onid yr un Duw sy wedi'n gwneud ni i gyd?
Job WelBeibl 31:16  Ydw i wedi gwrthod helpu'r tlawd, neu siomi'r weddw oedd yn disgwyl rhywbeth?
Job WelBeibl 31:17  Ydw i wedi bwyta ar fy mhen fy hun, a gwrthod ei rannu gyda'r amddifad?
Job WelBeibl 31:18  Na, dw i wedi'i fagu fel tad bob amser, a helpu'r weddw ar hyd fy mywyd.
Job WelBeibl 31:19  Wnes i erioed adael neb yn rhewi heb ddillad, na gadael rhywun tlawd heb gôt.
Job WelBeibl 31:20  Bydden nhw'n diolch i mi o waelod calon wrth i wlân fy nefaid eu cadw'n gynnes.
Job WelBeibl 31:21  Os gwnes i fygwth yr amddifad, wrth weld fod gen i gefnogaeth yn y llys,
Job WelBeibl 31:22  yna boed i'm hysgwydd gael ei thynnu o'i lle, a'm braich gael ei thorri wrth y penelin.
Job WelBeibl 31:23  Roedd gen i ofn i Dduw anfon dinistr; allwn i byth wynebu ei fawredd!
Job WelBeibl 31:24  Ydw i wedi rhoi fy hyder mewn aur, a theimlo'n saff am fod gen i aur coeth?
Job WelBeibl 31:25  Wnes i orfoleddu yn y cyfoeth, a'r holl feddiannau oedd gen i?
Job WelBeibl 31:26  Wnes i edrych ar yr haul yn tywynnu, a'r lleuad yn symud yn ei ysblander,
Job WelBeibl 31:27  nes i'm calon gael ei hudo'n dawel fach, a'm llaw yn taflu cusan i'w haddoli?
Job WelBeibl 31:28  Byddai hynny hefyd yn bechod i'w gosbi – byddwn wedi gwadu'r Duw sydd uchod.
Job WelBeibl 31:29  Oeddwn i'n falch pan oedd fy ngelyn mewn helynt, neu'n cael gwefr o weld pethau'n ddrwg arno?
Job WelBeibl 31:30  Na, wnes i ddweud dim yn ei erbyn na'i felltithio yn y gobaith y byddai'n marw.
Job WelBeibl 31:31  Oes unrhyw un o'm teulu wedi dweud, ‘Pam gafodd hwn a hwn ddim croeso wrth fwrdd Job?’
Job WelBeibl 31:32  Doedd dim rhaid i'r crwydryn gysgu allan ar y stryd, am fod fy nrws yn agored i deithwyr.
Job WelBeibl 31:33  Ydw i wedi ceisio cuddio fy meiau fel Adda, neu gladdu fy mhechod dan fy mantell,
Job WelBeibl 31:34  am fod gen i ofn barn y dyrfa, a dirmyg pawb o'm cwmpas – cadw'n dawel a dewis peidio mynd allan?
Job WelBeibl 31:35  O na fyddai gen i rywun i wrando arna i! Dw i'n llofnodi f'amddiffyniad! Boed i'r Un sy'n rheoli popeth fy ateb! Boed i'r un sy'n cyhuddo ddod â gwŷs ddilys yn fy erbyn!
Job WelBeibl 31:36  Byddwn i'n ei chario'n gyhoeddus, a'i gwisgo fel coron ar fy mhen.
Job WelBeibl 31:37  Byddwn yn rhoi cyfrif iddo am bob cam, ac yn camu o'i flaen yn hyderus fel tywysog.
Job WelBeibl 31:38  Os ydy'r tir wedi gweiddi yn fy erbyn, a'i gwysi wedi wylo â'i gilydd –
Job WelBeibl 31:39  Os ydw i wedi dwyn ei gnwd heb dalu, ac achosi i'r tenantiaid lwgu,
Job WelBeibl 31:40  yna boed i fieri dyfu yn lle gwenith, a chwyn ffiaidd yn lle haidd!” Roedd Job wedi gorffen siarad.
Chapter 32
Job WelBeibl 32:1  Felly dyma'r tri dyn yn stopio dadlau gyda Job, am ei fod mor siŵr ei fod yn iawn.
Job WelBeibl 32:2  Ond roedd Elihw fab Barachel o deulu Bws, oedd yn perthyn i glan Ram, wedi gwylltio'n lân gyda Job am fynnu mai fe oedd yn iawn ac nid Duw.
Job WelBeibl 32:3  Roedd yn wyllt gyda'r tri chyfaill hefyd, oedd yn condemnio Job ac eto'n methu ei ateb.
Job WelBeibl 32:4  Roedd Elihw wedi cadw'n dawel tra oedden nhw'n siarad â Job, am eu bod nhw'n hŷn nag e.
Job WelBeibl 32:5  Ond pan welodd Elihw nad oedd y tri yn gallu ateb Job, roedd e wedi gwylltio'n lân.
Job WelBeibl 32:6  Yna, dyma Elihw fab Barachel o deulu Bws yn dweud fel hyn: “Dyn ifanc dw i, a dych chi i gyd yn hen; felly dw i wedi bod yn cadw'n dawel ac yn rhy swil i ddweud be dw i'n feddwl.
Job WelBeibl 32:7  Dwedais wrthof fy hun, ‘Gad i'r dynion hŷn siarad; rho gyfle i'r rhai sydd â phrofiad blynyddoedd lawer i ddangos doethineb.’
Job WelBeibl 32:8  Ond Ysbryd Duw yn rhywun, anadl yr Un sy'n rheoli popeth sy'n gwneud iddo ddeall.
Job WelBeibl 32:9  Nid dim ond pobl mewn oed sy'n ddoeth, does dim rhaid bod yn hen i farnu beth sy'n iawn.
Job WelBeibl 32:10  Felly dw i'n dweud, ‘Gwrandwch arna i, a gadewch i mi ddweud be dw i'n feddwl.’
Job WelBeibl 32:11  Dw i wedi bod yn disgwyl i chi orffen siarad, ac yn gwrando'n ofalus ar eich dadleuon chi, wrth i chi drafod y pethau hyn.
Job WelBeibl 32:12  Ond mae'n gwbl amlwg i mi fod dim un ohonoch chi'n gallu ateb Job, a gwrthbrofi'r hyn mae wedi'i ddweud.
Job WelBeibl 32:13  A pheidiwch dweud, ‘Y peth doeth i'w wneud ydy hyn – Gadael i Dduw ei geryddu, nid dyn!’
Job WelBeibl 32:14  Dydy Job ddim wedi dadlau gyda fi eto, a dw i ddim yn mynd i'w ateb gyda'ch dadleuon chi.
Job WelBeibl 32:15  Mae'r tri yma mewn sioc, heb ateb bellach; does ganddyn nhw ddim byd ar ôl i'w ddweud.
Job WelBeibl 32:16  Oes rhaid i mi ddal i ddisgwyl, a nhw'n dawel? Maen nhw wedi stopio dadlau, a ddim yn ateb.
Job WelBeibl 32:17  Mae fy nhro i wedi dod i ddweud fy mhwt, cyfle i mi ddweud be dw i'n feddwl.
Job WelBeibl 32:18  Mae gen i gymaint i'w ddweud, alla i ddim peidio dweud rhywbeth.
Job WelBeibl 32:19  Dw i'n teimlo fel potel o win sydd angen ei hagor; fel poteli crwyn newydd sydd ar fin byrstio.
Job WelBeibl 32:20  Mae'n rhaid i mi siarad, does gen i ddim dewis. Gadewch i mi ddweud rhywbeth, i'w ateb.
Job WelBeibl 32:21  Dw i ddim yn mynd i gadw ochr neb, na seboni drwy roi teitlau parchus i bobl;
Job WelBeibl 32:22  dw i ddim yn gwybod sut i seboni – petawn i'n gwneud hynny, byddai'r Duw a'm gwnaeth i yn fy symud yn ddigon buan!
Chapter 33
Job WelBeibl 33:1  Felly, Job, gwrando beth sydd gen i i'w ddweud. Gwranda'n ofalus ar fy ngeiriau i.
Job WelBeibl 33:2  Edrych, dw i am agor fy ngheg, a gadael i'm tafod ddweud ei ddweud.
Job WelBeibl 33:3  Dw i'n mynd i siarad yn onest, a dweud fy marn yn gwbl agored.
Job WelBeibl 33:4  Ysbryd Duw luniodd fi; anadl yr Un sy'n rheoli popeth sy'n fy nghadw i'n fyw.
Job WelBeibl 33:5  Ateb fi, os wyt ti'n gallu; gwna dy safiad, a dadlau yn fy erbyn i.
Job WelBeibl 33:6  Dŷn ni'n dau yr un fath yng ngolwg Duw; ces innau hefyd fy ngwneud o'r pridd.
Job WelBeibl 33:7  Felly does dim byd i ti ei ofni; fydda i ddim yn llawdrwm arnat ti.
Job WelBeibl 33:8  Dyma wyt ti wedi'i ddweud, (clywais dy eiriau di'n glir):
Job WelBeibl 33:9  ‘Dw i'n ddieuog, heb wneud dim o'i le; dw i'n lân, a heb bechu.
Job WelBeibl 33:10  Ond mae Duw wedi troi yn fy erbyn; mae'n fy nhrin i fel gelyn.
Job WelBeibl 33:11  Mae wedi rhoi fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylio popeth dw i'n ei wneud.’
Job WelBeibl 33:12  Ti ddim yn iawn. A gwna i ddweud pam: mae Duw yn fwy na dyn.
Job WelBeibl 33:13  Pam wyt ti'n dadlau yn ei erbyn? Oes rhaid iddo ateb pob cwestiwn?
Job WelBeibl 33:14  Mae Duw yn siarad mewn un ffordd un tro, ac mewn ffordd wahanol dro arall – ond er hynny dydy pobl ddim yn deall.
Job WelBeibl 33:15  Mewn breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos, pan mae pobl yn cysgu'n drwm, pan maen nhw'n gorwedd ar eu gwlâu,
Job WelBeibl 33:16  mae e'n gwneud i bobl wrando – yn eu dychryn nhw gyda rhybudd
Job WelBeibl 33:17  i beidio gwneud rhywbeth, a'u stopio nhw rhag bod mor falch.
Job WelBeibl 33:18  Mae'n achub bywyd rhywun o bwll y bedd, rhag iddo groesi afon marwolaeth.
Job WelBeibl 33:19  Mae'n disgyblu un sy'n sâl yn ei wely a chryndod di-baid drwy ei esgyrn.
Job WelBeibl 33:20  Mae bwyd yn codi cyfog arno; does ganddo awydd dim byd blasus.
Job WelBeibl 33:21  Mae wedi colli cymaint o bwysau, nes bod ei esgyrn i gyd yn y golwg.
Job WelBeibl 33:22  Mae'n agos iawn at y bedd, bron â'i gipio gan negeswyr marwolaeth.
Job WelBeibl 33:23  Ond os daw angel at ei ochr (dim ond un o'i blaid, un o blith y mil) i ddadlau ei hawl drosto –
Job WelBeibl 33:24  yna bydd Duw yn drugarog wrtho. ‘Achubwch e rhag mynd i lawr i'r bedd; dw i wedi cael y pris i'w ollwng yn rhydd.’
Job WelBeibl 33:25  Yna bydd ei groen yn iach fel pan oedd yn ifanc; bydd ei egni yn ôl fel yn nyddiau ieuenctid!
Job WelBeibl 33:26  Bydd yn gweddïo, a bydd Duw'n gwrando; bydd yn gweiddi'n llawen wrth fynd i'w bresenoldeb, a bydd Duw yn ei adfer i berthynas iawn ag e'i hun.
Job WelBeibl 33:27  Bydd yn canu o flaen pobl, ‘Pechais, a gwneud y peth anghywir, ond ches i mo'r gosb rôn i'n ei haeddu.
Job WelBeibl 33:28  Mae e wedi fy achub o afael y bedd; dw i'n dal yn fyw, ac yn gweld y golau!’
Job WelBeibl 33:29  Yn wir, mae Duw yn gwneud hyn drosodd a throsodd:
Job WelBeibl 33:30  achub bywyd o bwll y bedd, iddo gael gweld goleuni bywyd.
Job WelBeibl 33:31  Edrych, Job, gwranda arna i; gwrando'n dawel i mi gael siarad.
Job WelBeibl 33:32  Os oes gen ti rywbeth i'w ddweud, ateb fi; dywed, achos dw i eisiau dangos dy fod ti'n iawn.
Job WelBeibl 33:33  Ond os oes gen ti ddim i'w ddweud, gwranda arna i; gwrando'n dawel, ac fe ddysga i beth sy'n ddoeth i ti.”
Chapter 34
Job WelBeibl 34:2  “Gwrandwch be dw i'n ddweud, chi ddynion doeth; dych chi'n ddynion deallus, felly gwrandwch yn astud.
Job WelBeibl 34:3  Mae'r glust yn profi geiriau fel mae'r geg yn blasu bwyd.
Job WelBeibl 34:4  Gadewch i ni ystyried beth sy'n wir; a phenderfynu rhyngon beth sy'n iawn.
Job WelBeibl 34:5  Mae Job wedi dweud, ‘Dw i'n ddieuog; dydy Duw ddim wedi bod yn deg â mi.
Job WelBeibl 34:6  Fi sy'n iawn. Ydw i i fod i ddweud celwydd? Dw i wedi fy anafu, a does dim gwella ar y clwyf, er fy mod heb droseddu.’
Job WelBeibl 34:7  Oes rhywun tebyg i Job? Mae'n dangos dirmyg fel yfed dŵr!
Job WelBeibl 34:8  Mae'n cadw cwmni cnafon ac yn ymddwyn fel pobl ddrwg!
Job WelBeibl 34:9  Achos mae wedi dweud, ‘Does dim pwynt byw i blesio Duw.’
Job WelBeibl 34:10  Felly, gwrandwch, chi ddynion deallus, Fyddai Duw byth yn gwneud drwg; a'r Un sy'n rheoli popeth yn gwneud dim o'i le!
Job WelBeibl 34:11  Mae e'n talu i bobl am yr hyn maen nhw'n ei wneud, mae pawb yn cael beth maen nhw'n ei haeddu!
Job WelBeibl 34:12  Dydy Duw yn sicr ddim yn gwneud drwg; dydy'r Un sy'n rheoli popeth ddim yn gwyrdroi cyfiawnder.
Job WelBeibl 34:13  Pwy roddodd y ddaear yn ei ofal? Pwy roddodd hawl iddo roi trefn ar y byd?
Job WelBeibl 34:14  Petai'n dewis, gallai gymryd ei ysbryd a'i anadl yn ôl,
Job WelBeibl 34:15  a byddai pob creadur byw yn marw, a'r ddynoliaeth yn mynd yn ôl i'r pridd.
Job WelBeibl 34:16  Gwranda, os wyt ti'n ddyn deallus; gwrando'n astud ar beth dw i'n ddweud.
Job WelBeibl 34:17  Ydy rhywun sy'n casáu cyfiawnder yn gallu llywodraethu? Wyt ti'n mynd i gondemnio'r Un Grymus a Chyfiawn
Job WelBeibl 34:18  sy'n dweud wrth frenin, ‘Y pwdryn diwerth!’ ac wrth wŷr bonheddig, ‘Y cnafon drwg!’?
Job WelBeibl 34:19  Dydy e ddim yn ochri gyda thywysogion, nac yn ffafrio'r cyfoethog ar draul y tlawd; am mai gwaith ei ddwylo e ydyn nhw i gyd!
Job WelBeibl 34:20  Maen nhw'n marw yn sydyn yng nghanol y nos; mae'r bobl bwysig yn cael eu hysgwyd, ac yn diflannu; mae'r pwerus yn cael eu symud o'r ffordd yn hawdd.
Job WelBeibl 34:21  Mae e'n cadw golwg ar beth maen nhw'n ei wneud; mae'n gwybod am bob symudiad.
Job WelBeibl 34:22  Does dim tywyllwch na chwmwl lle gall pobl ddrwg guddio.
Job WelBeibl 34:23  Nid lle pobl ydy gosod amser i ddod o flaen Duw i gael eu barnu!
Job WelBeibl 34:24  Mae'n dryllio arweinwyr heb gynnal ymchwiliad, ac yn gosod eraill i gymryd eu lle.
Job WelBeibl 34:25  Am ei fod yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud, mae'n eu dymchwel dros nos, a'u dryllio.
Job WelBeibl 34:26  Mae'n eu taro nhw i lawr fel pobl ddrwg, ac yn gwneud hynny o flaen pawb,
Job WelBeibl 34:27  am eu bod nhw wedi bod yn anffyddlon iddo, a gwrthod cymryd sylw o'i ffyrdd.
Job WelBeibl 34:28  Maen nhw wedi achosi i'r tlodion alw arno, a gwneud iddo wrando ar gri'r anghenus.
Job WelBeibl 34:29  Os ydy Duw'n cadw'n dawel, pwy sydd i'w feirniadu? Os ydy e'n cuddio, pwy all ddod o hyd iddo? Ond mae e'n dal i wylio dros wledydd a dynoliaeth,
Job WelBeibl 34:30  rhag i rywun annuwiol deyrnasu a gosod maglau i'r bobl.
Job WelBeibl 34:31  Ond os dywed rhywun wrth Dduw, ‘Dw i'n euog, a wna i ddim troseddu eto.
Job WelBeibl 34:32  Dysga fi am y drwg dw i ddim yn ei weld. Os dw i wedi gwneud drwg, wna i ddim yr un peth eto.’
Job WelBeibl 34:33  Wyt ti'n credu y dylai Duw dalu'n ôl iddo, gan dy fod yn gwrthod gwrando? Ti sydd i ddewis, nid fi; gad i ni glywed beth sydd gen ti i'w ddweud.
Job WelBeibl 34:34  Bydd dynion deallus yn dweud wrtho i – unrhyw ddyn doeth sy'n gwrando arna i –
Job WelBeibl 34:35  ‘Mae Job wedi dweud pethau dwl; dydy ei eiriau'n gwneud dim sens.’
Job WelBeibl 34:36  Dylai gael ei gosbi i'r eithaf am siarad fel mae pobl ddrwg yn siarad.
Job WelBeibl 34:37  Mae e wedi gwneud mwy na phechu – mae e wedi gwrthryfela a gwawdio Duw yn ein plith ni, a chyhuddo Duw'n ddi-stop.”
Chapter 35
Job WelBeibl 35:2  “Wyt ti'n meddwl ei bod hi'n iawn i ti ddweud, ‘Fi sy'n iawn, nid Duw’?
Job WelBeibl 35:3  A dweud wrtho, ‘Pa fantais ydy e i ti?’ a ‘Beth ydw i'n ennill o beidio pechu?’
Job WelBeibl 35:4  Gad i mi dy ateb di – ti, a dy ffrindiau gyda ti.
Job WelBeibl 35:5  Edrych i fyny i'r awyr, ac ystyria; edrych ar y cymylau ymhell uwch dy ben.
Job WelBeibl 35:6  Os wyt ti'n pechu, sut mae hynny'n effeithio ar Dduw? Os wyt ti'n troseddu dro ar ôl tro, beth wyt ti'n ei wneud iddo fe?
Job WelBeibl 35:7  Os wyt ti'n gwneud beth sy'n iawn, sut mae hynny'n helpu Duw? Beth mae e'n ei dderbyn gen ti?
Job WelBeibl 35:8  Pobl eraill sy'n diodde pan wyt ti'n gwneud drwg, neu'n cael eu helpu pan wyt ti'n gwneud beth sy'n iawn.
Job WelBeibl 35:9  Mae pobl sy'n cael eu gorthrymu yn gweiddi am help, ac yn galw am rywun i'w hachub o afael y rhai pwerus.
Job WelBeibl 35:10  Ond does neb yn dweud, ‘Ble mae Duw, fy Nghrëwr, sy'n rhoi testun cân i mi pan mae'n nos dywyll?
Job WelBeibl 35:11  Ble mae'r Duw sy'n dysgu mwy i ni na'r anifeiliaid, ac sy'n ein gwneud ni'n fwy doeth na'r adar?’
Job WelBeibl 35:12  Ydyn, mae'r bobl yn gweiddi, ond dydy e ddim yn ateb, am eu bod nhw'n bobl ddrwg a balch.
Job WelBeibl 35:13  Dŷn nhw ddim o ddifrif – a dydy Duw ddim yn gwrando; dydy'r Un sy'n rheoli popeth yn cymryd dim sylw.
Job WelBeibl 35:14  Felly, pam gwrando arnat ti, sy'n cwyno nad wyt yn ei weld, fod dy achos o'i flaen, a dy fod yn aros am ymateb?
Job WelBeibl 35:15  A hyd yn oed yn honni nad ydy e'n cosbi yn ei ddig, ac nad ydy e'n poeni dim am bechod!
Job WelBeibl 35:16  Mae Job yn siarad nonsens; mae'n mwydro ymlaen heb ddeall dim.”
Chapter 36
Job WelBeibl 36:2  “Bydd yn amyneddgar â fi am ychydig, mae gen i fwy i'w ddweud ar ran Duw.
Job WelBeibl 36:3  Dw i wedi derbyn gwybodaeth o bell, a dw i am ddangos mai fy Nghrëwr sy'n iawn.
Job WelBeibl 36:4  Wir i ti, heb air o gelwydd, mae'r un sydd o dy flaen di wedi deall y cwbl.
Job WelBeibl 36:5  Mae Duw yn rymus, ond dydy e ddim yn ddirmygus; mae'n rymus ac yn gwybod beth mae'n ei wneud.
Job WelBeibl 36:6  Dydy e ddim yn gadael i bobl ddrwg fyw; mae'n sicrhau cyfiawnder i'r rhai sy'n dioddef.
Job WelBeibl 36:7  Mae e'n gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn. Mae'n eu hanrhydeddu nhw, a'u gosod ar orseddau fel brenhinoedd.
Job WelBeibl 36:8  Ond os ydyn nhw'n gaeth mewn cyffion, wedi'u rhwymo â rhwydi gorthrwm,
Job WelBeibl 36:9  mae e'n dangos iddyn nhw beth wnaethon nhw i droseddu, a bod mor haerllug.
Job WelBeibl 36:10  Mae e'n gwneud iddyn nhw wrando drwy eu disgyblu, a dweud wrthyn nhw am droi cefn ar eu drygioni.
Job WelBeibl 36:11  Os gwnân nhw wrando a bod yn ufudd iddo, byddan nhw'n llwyddo am weddill eu bywydau, ac yn cael blynyddoedd o hapusrwydd.
Job WelBeibl 36:12  Ond os na fyddan nhw'n gwrando, byddan nhw'n croesi afon marwolaeth, ac yn darfod heb ddeall dim.
Job WelBeibl 36:13  Mae pobl annuwiol yn achosi dig; dŷn nhw ddim yn gweiddi am help pan mae Duw'n eu disgyblu.
Job WelBeibl 36:14  Maen nhw'n marw'n ifanc, ar ôl treulio'u bywydau gyda phuteiniaid teml.
Job WelBeibl 36:15  Ond mae Duw'n defnyddio dioddefaint i achub pobl, ac yn defnyddio poen i'w cael nhw i wrando.
Job WelBeibl 36:16  Y gwir ydy, mae am dy ddenu di oddi wrth ddibyn gofid, o'r gornel gyfyng i le agored; at fwrdd yn llawn o fwyd blasus.
Job WelBeibl 36:17  Ond rwyt ti'n wynebu barn Duw ar bobl ddrwg, a does dim dianc rhag ei farn gyfiawn.
Job WelBeibl 36:18  Gwylia rhag i ti gael dy hudo gan gyfoeth, ac i faint y breib dy arwain ar gyfeiliorn.
Job WelBeibl 36:19  Fyddai dy holl gyfoeth o unrhyw help yn dy helbul? Na fyddai, na dy holl ddylanwad chwaith!
Job WelBeibl 36:20  Paid dyheu am y nos, pan mae pobl yn cael eu cipio i ffwrdd.
Job WelBeibl 36:21  Gwylia rhag troi at y drwg – dyna pam ti'n dioddef ac yn cael dy brofi.
Job WelBeibl 36:22  Edrych, mae nerth Duw yn aruthrol. Pwy sy'n athro tebyg iddo?
Job WelBeibl 36:23  Pwy sy'n dweud wrtho beth i'w wneud? Pwy sy'n gallu dweud, ‘Ti wedi gwneud peth drwg’?
Job WelBeibl 36:24  Cofia mai dy le di ydy canmol ei waith, sef y rheswm pam mae pobl yn ei foli ar gân.
Job WelBeibl 36:25  Mae'r ddynoliaeth i gyd wedi gweld ei waith, mae pobl feidrol yn syllu arno o bell.
Job WelBeibl 36:26  Ydy, mae Duw yn fawr – y tu hwnt i'n deall ni; does dim modd cyfri hyd ei oes e!
Job WelBeibl 36:27  Mae'n codi dafnau o ddŵr sy'n diferu'n law mân fel tarth.
Job WelBeibl 36:28  Mae'r cymylau'n tywallt y glaw, mae'n arllwys yn gawodydd ar y ddaear.
Job WelBeibl 36:29  Oes rhywun yn deall sut mae'r cymylau'n lledu, a'r taranau sydd yn ei bafiliwn?
Job WelBeibl 36:30  Edrych, mae'r mellt yn lledu o'i gwmpas, ac yn goleuo gwaelod y môr.
Job WelBeibl 36:31  Dyma sut mae'n barnu'r cenhedloedd, ac yn rhoi digonedd o fwyd iddyn nhw.
Job WelBeibl 36:32  Mae'n dal y mellt yn ei ddwylo, ac yn gwneud iddyn nhw daro'r targed.
Job WelBeibl 36:33  Mae sŵn ei daranau'n dweud ei fod yn dod mewn storm, yn angerdd ei lid.
Chapter 37
Job WelBeibl 37:1  Ac ydy, mae fy nghalon i'n crynu ac yn colli curiad.
Job WelBeibl 37:2  Gwrandwch ar ei lais yn rhuo, ac ar ei eiriau'n atseinio!
Job WelBeibl 37:3  Mae ei fellt yn fflachio drwy'r awyr – ac yn mynd i ben draw'r byd.
Job WelBeibl 37:4  Yna wedyn, mae'n rhuo eto, a'i lais cryf yn taranu; mae'r mellt wedi hen ddiflannu pan glywir ei lais.
Job WelBeibl 37:5  Mae sŵn llais Duw'n taranu yn rhyfeddol! Ac mae'n gwneud pethau gwyrthiol, tu hwnt i'n deall ni.
Job WelBeibl 37:6  Mae'n dweud wrth yr eira, ‘Disgyn ar y ddaear!’ neu wrth y glaw trwm, ‘Arllwys i lawr!’
Job WelBeibl 37:7  Mae'n stopio pawb rhag gweithio, mae pobl yn gorfod sefyll yn segur.
Job WelBeibl 37:8  Mae anifeiliaid yn mynd i gysgodi, ac i guddio yn eu gwâl.
Job WelBeibl 37:9  Mae'r corwynt yn codi o'r de, ac oerni o wyntoedd y gogledd.
Job WelBeibl 37:10  Anadl Duw sy'n dod â rhew, ac mae'r llynnoedd yn rhewi'n galed.
Job WelBeibl 37:11  Mae'n llenwi'r cymylau trwchus â gwlybaniaeth ac yn anfon mellt ar wasgar o'r cymylau.
Job WelBeibl 37:12  Mae'n gwneud i'r cymylau droi a throelli, ac yn gwneud beth mae Duw'n ei orchymyn dros wyneb y ddaear i gyd.
Job WelBeibl 37:13  Mae'n gwneud hyn naill ai i gosbi'r tir, neu i ddangos ei gariad ffyddlon.
Job WelBeibl 37:14  Gwranda ar hyn, Job: aros i ystyried y pethau rhyfeddol mae Duw'n eu gwneud.
Job WelBeibl 37:15  Wyt ti'n deall sut mae Duw'n trefnu'r cwbl, ac yn gwneud i'r mellt fflachio o'r cymylau?
Job WelBeibl 37:16  Wyt ti'n deall sut mae'r cymylau'n aros yn yr awyr – gwaith rhyfeddol Duw, sy'n deall popeth yn berffaith?
Job WelBeibl 37:17  Ti, sy'n chwysu yn dy ddillad pan mae'n glòs ac yn boeth dan wynt y de.
Job WelBeibl 37:18  Alli di helpu Duw i ledu'r awyr, sy'n galed fel drych metel?
Job WelBeibl 37:19  Dwed wrthon ni beth i'w ddweud wrtho! Dŷn ni ddim yn gwybod, mae hi'n dywyll arnon ni.
Job WelBeibl 37:20  Fyddwn i ddim yn meiddio gofyn am gael siarad! Ydy dyn meidrol yn gofyn am gael ei lyncu ganddo?
Job WelBeibl 37:21  Does neb yn gallu edrych ar yr haul pan mae'n disgleirio yn yr awyr, ar ôl i'r gwynt ddod a chlirio'r cymylau i ffwrdd.
Job WelBeibl 37:22  Fel pelydrau euraid yn llewyrchu o'r gogledd, mae ysblander Duw yn syfrdanol!
Job WelBeibl 37:23  Mae'r Un sy'n rheoli popeth y tu hwnt i'n cyrraedd ni; mae ei nerth mor aruthrol fawr! Mae'n gyfiawn ac yn gwneud beth sy'n iawn, a dydy e ddim yn gorthrymu neb.
Job WelBeibl 37:24  Dyna pam mae pobl yn ei ofni. Dydy e'n cymryd dim sylw o'r rhai sy'n ddoeth yn eu golwg eu hunain.”
Chapter 38
Job WelBeibl 38:1  Yna dyma'r ARGLWYDD yn ateb Job o'r storm ac yn dweud:
Job WelBeibl 38:2  “Pwy ydy hwn sy'n amau fy nghynllun i, ac yn siarad heb ddeall dim?
Job WelBeibl 38:3  Torcha dy lewys fel dyn! Fi fydd yn gofyn y cwestiynau, a gei di ateb.
Job WelBeibl 38:4  Ble roeddet ti pan osodais i sylfeini'r ddaear? Ateb fi os wyt ti'n gwybod y cwbl!
Job WelBeibl 38:5  Pwy benderfynodd beth fyddai ei maint? – ti'n siŵr o fod yn gwybod! Pwy wnaeth ddefnyddio llinyn i'w mesur?
Job WelBeibl 38:6  Ar beth y gosodwyd ei sylfeini? Pwy osododd ei chonglfaen?
Job WelBeibl 38:7  Ble roeddet ti pan oedd sêr y bore yn canu gyda'i gilydd a holl angylion Duw yn gweiddi'n llawen?
Job WelBeibl 38:8  Pwy gaeodd y drysau ar y môr wrth iddo arllwys allan o'r groth?
Job WelBeibl 38:9  Fi roddodd gymylau yn wisg amdano, a'i lapio mewn niwl trwchus.
Job WelBeibl 38:10  Fi osododd derfyn iddo, a'i gadw tu ôl i ddrysau wedi'u bolltio.
Job WelBeibl 38:11  Dwedais, ‘Cei di ddod hyd yma, ond dim pellach; dyma lle mae ymchwydd dy donnau yn stopio!’
Job WelBeibl 38:12  Wyt ti erioed wedi gorchymyn i'r bore ddod, a dangos i'r wawr ble i dorri,
Job WelBeibl 38:13  a sut i ledu a gafael yn ymylon y ddaear, ac ysgwyd y rhai drwg oddi arni?
Job WelBeibl 38:14  Mae ei siâp yn dod i'r golwg fel clai dan sêl, a ffurfiau'r tir i'w gweld fel plygion dilledyn.
Job WelBeibl 38:15  Mae'r golau'n tarfu ar y rhai drwg, ac mae'r fraich sy'n treisio'n cael ei thorri.
Job WelBeibl 38:16  Wyt ti wedi bod at y ffynhonnau sy'n llenwi'r môr, neu gerdded mannau dirgel y dyfnder?
Job WelBeibl 38:17  Ydy giatiau marwolaeth wedi'u dangos i ti? Wyt ti wedi gweld y giatiau i'r tywyllwch dudew?
Job WelBeibl 38:18  Oes gen ti syniad mor fawr ydy'r ddaear? Os wyt ti'n gwybod hyn i gyd – dywed wrtho i!
Job WelBeibl 38:19  Pa ffordd mae mynd i ble mae'r golau'n byw? O ble mae'r tywyllwch yn dod?
Job WelBeibl 38:20  Wyt ti'n gallu dangos ble mae ffiniau'r ddau, a dangos iddyn nhw sut i fynd adre?
Job WelBeibl 38:21  Mae'n siŵr dy fod, gan dy fod wedi dy eni bryd hynny, ac wedi bod yn fyw ers cymaint o flynyddoedd!
Job WelBeibl 38:22  Wyt ti wedi bod i mewn yn stordai'r eira, neu wedi gweld y storfeydd o genllysg
Job WelBeibl 38:23  sy'n cael eu cadw ar gyfer y dyddiau anodd, pan mae brwydrau a rhyfeloedd?
Job WelBeibl 38:24  Sut mae mynd i ble mae'r mellt yn cael eu gwasgaru? O ble daw gwynt y dwyrain i chwythu drwy'r byd?
Job WelBeibl 38:25  Pwy gerfiodd sianelau i'r stormydd glaw, a llwybrau i'r mellt a'r taranau,
Job WelBeibl 38:26  iddi lawio ar dir lle does neb yn byw, ac anialwch sydd heb unrhyw un yno?
Job WelBeibl 38:27  Mae'r tir anial sych yn cael ei socian, ac mae glaswellt yn tyfu drosto.
Job WelBeibl 38:28  Oes tad gan y glaw? Pwy genhedlodd y defnynnau gwlith?
Job WelBeibl 38:29  O groth pwy y daeth y rhew? Pwy roddodd enedigaeth i'r barrug,
Job WelBeibl 38:30  pan mae'r dŵr yn troi'n galed, ac wyneb y dyfroedd yn rhewi?
Job WelBeibl 38:32  Alli di ddod â'r planedau allan yn eu tymor, neu dywys yr Arth Fawr a'r Arth Fach?
Job WelBeibl 38:33  Wyt ti'n gyfarwydd â threfn y cosmos, a sut mae'n effeithio ar y ddaear?
Job WelBeibl 38:34  Alli di roi gorchymyn i'r cymylau i arllwys dŵr ar dy ben fel llif?
Job WelBeibl 38:35  Alli di alw ar y mellt i fflachio, a'u cael nhw i ateb, ‘Dyma ni’?
Job WelBeibl 38:36  Pwy sy'n rhoi doethineb i'r galon a deall i'r meddwl?
Job WelBeibl 38:37  Pwy sy'n ddigon clyfar i gyfri'r cymylau? Pwy sy'n gallu arllwys dŵr o gostreli'r awyr
Job WelBeibl 38:38  a gwneud i'r pridd lifo fel llaid, ac i'r talpiau o bridd lynu wrth ei gilydd?
Job WelBeibl 38:39  Wyt ti'n gallu hela ysglyfaeth i'r llewes, a rhoi bwyd i'r llewod ifanc
Job WelBeibl 38:40  sy'n gorwedd yn eu gwâl, neu'n llechu dan y llwyni am helfa?
Job WelBeibl 38:41  Pwy sy'n rhoi bwyd i'r gigfran pan mae ei chywion yn galw ar Dduw a hithau'n hedfan o gwmpas heb ddim?
Chapter 39
Job WelBeibl 39:1  Wyt ti'n gwybod pryd mae geifr mynydd yn cael eu geni? Wyt ti wedi gwylio'r ceirw yn esgor ar rai bach?
Job WelBeibl 39:2  Wyt ti wedi cyfri'r misoedd tra maen nhw'n disgwyl? Wyt ti'n gwybod pryd yn union maen nhw'n geni rhai bach,
Job WelBeibl 39:3  yn crymu wrth roi genedigaeth, ac yn bwrw eu brych?
Job WelBeibl 39:4  Mae'r rhai bach yn tyfu'n iach, allan yng nghefn gwlad; yna'n gadael y fam, a byth yn dod yn ôl.
Job WelBeibl 39:5  Pwy wnaeth ollwng yr asyn gwyllt, a datod ei ffrwyn iddo fynd yn rhydd?
Job WelBeibl 39:6  Rhoi'r anialwch yn gartref iddo, a'r tir diffaith yn lle iddo fyw.
Job WelBeibl 39:7  Mae'n gwawdio twrw'r dre, ac yn fyddar i floedd unrhyw feistr.
Job WelBeibl 39:8  Mae'n crwydro'r mynyddoedd am borfa, yn chwilio am laswellt i'w fwyta.
Job WelBeibl 39:9  Fyddai'r ych gwyllt yn fodlon gweithio i ti, ac aros dros nos wrth gafn bwydo?
Job WelBeibl 39:10  Alli di ei gadw yn y gŵys gyda rhaff? Fydd e'n dy ddilyn ac yn trin y tir?
Job WelBeibl 39:11  Alli di ddibynnu arno gan ei fod mor gryf, a gadael iddo wneud dy waith caled yn dy le?
Job WelBeibl 39:12  Fyddet ti'n disgwyl iddo i ddod yn ôl a chasglu dy rawn i'r llawr dyrnu?
Job WelBeibl 39:13  Mae adenydd yr estrys yn ysgwyd yn llawen; ond does ganddi ddim plu i hedfan fel y garan!
Job WelBeibl 39:14  Mae hi'n dodwy ei hwyau ar lawr, ac yn eu gadael i gynhesu ar y tywod,
Job WelBeibl 39:15  heb feddwl y gallen nhw gael eu sathru, ac y gallai anifail gwyllt eu malu dan draed.
Job WelBeibl 39:16  Mae'n trin ei chywion yn greulon, fel petaen nhw ddim yn perthyn iddi; dydy hi'n poeni dim y gallai ei llafur fod yn ofer.
Job WelBeibl 39:17  Gadawodd Duw hi heb ddoethineb, roddodd e ddim mymryn o ddeall iddi.
Job WelBeibl 39:18  Ond pan mae'n codi a dechrau rhedeg, mae'n chwerthin am ben y ceffyl a'i farchog!
Job WelBeibl 39:19  Ai ti sy'n rhoi cryfder i geffyl? Ai ti wisgodd ei wddf â'r mwng?
Job WelBeibl 39:20  Ai ti sy'n gwneud iddo neidio fel y locust, a chreu dychryn wrth weryru?
Job WelBeibl 39:21  Mae'n curo llawr y dyffryn â'i garnau, ac yn rhuthro'n frwd i'r frwydr.
Job WelBeibl 39:22  Does ganddo ddim ofn; does dim yn ei ddychryn; dydy e ddim yn cilio oddi wrth y cleddyf.
Job WelBeibl 39:23  Mae llond cawell o saethau'n chwyrlïo heibio iddo, a'r waywffon a'r cleddyf yn fflachio.
Job WelBeibl 39:24  Mae'n llawn cynnwrf, ac yn carlamu'n wyllt; mae'n methu aros yn llonydd pan mae'r corn hwrdd yn seinio.
Job WelBeibl 39:25  Mae'n synhwyro'r frwydr o bell; mae'n gweryru wrth glywed y corn hwrdd, a gwaedd swyddogion yn bloeddio gorchmynion.
Job WelBeibl 39:26  Ai dy ddoethineb di sy'n gwneud i'r hebog hedfan, a lledu ei adenydd i droi tua'r de?
Job WelBeibl 39:27  Ai dy orchymyn di sy'n gwneud i'r fwltur hofran, a gosod ei nyth ar y creigiau uchel?
Job WelBeibl 39:28  Mae'n byw ar y graig, lle mae'n treulio'r nos; mae'r clogwyn yn gaer ddiogel iddo.
Job WelBeibl 39:29  Oddi yno mae'n chwilio am fwyd, ac yn syllu arno o bell;
Job WelBeibl 39:30  bydd ei gywion yn llowcio gwaed. Ble mae corff marw, mae'r fwltur yno.”
Chapter 40
Job WelBeibl 40:2  “Ydy'r un sy'n dadlau gyda'r Hollalluog am ddal i'w gywiro? Beth am i ti sy'n beirniadu Duw roi ateb i mi!”
Job WelBeibl 40:4  “Mae'n wir, dw i'n neb. Beth alla i ddweud? Dw i'n mynd i gadw'n dawel.
Job WelBeibl 40:5  Dw i wedi siarad gormod, ac alla i ddim ateb eto. Dw i am ddweud dim mwy.”
Job WelBeibl 40:6  Yna dyma'r ARGLWYDD yn ateb Job o'r storm ac yn dweud:
Job WelBeibl 40:7  “Torcha dy lewys fel dyn! Fi fydd yn gofyn y cwestiynau, a gei di ateb.
Job WelBeibl 40:8  Wyt ti'n gwadu fy mod i'n Dduw cyfiawn? Wyt ti'n fy nghondemnio i er mwyn profi mai ti sy'n iawn?
Job WelBeibl 40:9  Wyt ti mor gryf ag ydw i? Ydy dy lais di'n gallu taranu fel fy llais i?
Job WelBeibl 40:10  Os felly, addurna dy hun ag anrhydedd a mawrhydi. Gwisga dy hun ag ysblander ac urddas.
Job WelBeibl 40:11  Dangos i bawb mor ddig wyt ti; dos ar ôl y bobl falch, a'u rhoi nhw yn eu lle.
Job WelBeibl 40:12  Dos ar ôl y bobl falch, a'u cywilyddio nhw; sathra'r rhai drwg yn y fan a'r lle!
Job WelBeibl 40:14  Gwna i gyfaddef wedyn dy fod ti'n ddigon cryf i achub dy hun!
Job WelBeibl 40:15  Edrych ar y Behemoth, a greais i fel y creais i ti; mae e'n bwyta glaswellt fel ych.
Job WelBeibl 40:16  Edrych mor gryf ydy ei gluniau, ac ar gryfder cyhyrau ei fol.
Job WelBeibl 40:17  Mae'n codi ei gynffon fel coeden dal; mae gewynnau ei gluniau wedi'u gweu i'w gilydd.
Job WelBeibl 40:18  Mae ei esgyrn fel pibellau pres, a'i goesau fel barrau haearn.
Job WelBeibl 40:19  Dyma'r creadur cryfaf a greodd Duw; dim ond ei Grëwr all dynnu'r cleddyf a'i ladd.
Job WelBeibl 40:20  Y bryniau sy'n rhoi bwyd iddo, lle mae'r holl anifeiliaid gwyllt eraill yn chwarae.
Job WelBeibl 40:21  Mae'n mynd i orwedd dan y llwyn deiliog, o'r golwg yng nghanol brwyn y gors.
Job WelBeibl 40:22  Mae'r llwyn yn ei guddio dan ei gysgod, a'r coed helyg sydd o'i gwmpas ger y nant.
Job WelBeibl 40:23  Dydy e ddim yn dychryn pan mae'r afon wedi chwyddo; mae'n ddigyffro wrth i ddŵr yr Iorddonen ruthro drosto.
Job WelBeibl 40:24  All unrhyw un ei ddal tra mae'n gwylio, neu wthio bachyn drwy ei drwyn?
Chapter 41
Job WelBeibl 41:1  Alli di ddal y Lefiathan â bachyn pysgota? Alli di rwymo ei dafod â rhaff?
Job WelBeibl 41:2  Alli di roi cylch yn ei drwyn, neu wthio bachyn drwy ei ên?
Job WelBeibl 41:3  Fydd e'n pledio'n daer am drugaredd? Fydd e'n seboni wrth siarad gyda ti?
Job WelBeibl 41:4  Fydd e'n ceisio dod i gytundeb, ac addo bod yn gaethwas i ti am byth?
Job WelBeibl 41:5  Alli di chwarae gydag e fel aderyn, neu ei rwymo i ddifyrru dy forynion?
Job WelBeibl 41:6  Fydd pysgotwyr yn bargeinio amdano? Fydd e'n cael ei rannu rhwng y masnachwyr?
Job WelBeibl 41:7  Alli di drywanu ei groen gyda phicellau, neu roi bachau pysgota yn ei geg?
Job WelBeibl 41:8  Gafael ynddo, a dychmyga'r frwydr – fyddet ti ddim yn gwneud yr un peth eto!
Job WelBeibl 41:9  Pam? Am nad oes gobaith ei ddal; mae hyd yn oed ei olwg yn torri calon rhywun.
Job WelBeibl 41:10  Does neb yn ddigon dewr i ddeffro hwn, felly pwy sy'n mynd i sefyll yn fy erbyn i?
Job WelBeibl 41:11  Pwy sydd wedi rhoi i mi nes bod dyled arna i iddo? Fi sydd biau popeth dan y nef!
Job WelBeibl 41:12  Dw i ddim am fod yn dawel am ei goesau, ei gryfder, a'i gorff gosgeiddig.
Job WelBeibl 41:13  Pwy sy'n gallu tynnu ei gôt oddi arno, neu drywanu ei arfwisg blethog?
Job WelBeibl 41:14  Pwy sy'n gallu gwthio ei geg ar agor? Mae'r dannedd sydd o'i chwmpas yn frawychus.
Job WelBeibl 41:15  Mae ei gefn fel rhesi o darianau, wedi'u cloi i'w gilydd gan sêl.
Job WelBeibl 41:16  Mae un yn cyffwrdd y llall; maen nhw'n hollol dynn yn erbyn ei gilydd.
Job WelBeibl 41:17  Maen nhw wedi glynu wrth ei gilydd, a does dim modd eu gwahanu nhw.
Job WelBeibl 41:18  Mae'n fflachio mellt wrth disian. Mae ei lygaid fel pelydrau'r wawr.
Job WelBeibl 41:19  Mae fflamau yn llifo o'i geg, a gwreichion yn tasgu ohoni.
Job WelBeibl 41:20  Mae mwg yn dod allan o'i ffroenau fel crochan berw yn stemio.
Job WelBeibl 41:21  Mae ei anadl yn cynnau marwor, ac mae fflamau'n dod allan o'i geg.
Job WelBeibl 41:22  Mae ei wddf mor gryf, a nerth yn llamu allan o'i flaen.
Job WelBeibl 41:23  Mae plygion ei gnawd yn glynu wrth ei gilydd; maen nhw'n dynn amdano, a does dim modd eu symud.
Job WelBeibl 41:24  Mae ei galon yn galed fel y graig, yn solet fel maen melin.
Job WelBeibl 41:25  Pan mae'n codi mae'r rhai cryfaf yn dychryn; wrth iddo gynhyrfu maen nhw'n camu'n ôl.
Job WelBeibl 41:26  Dydy ei daro gyda'r cleddyf yn cael dim effaith, na gwaywffon, na saeth, na phicell.
Job WelBeibl 41:27  Mae'n trin haearn fel gwellt, a phres fel pren wedi pydru.
Job WelBeibl 41:28  Dydy saethau ddim yn gwneud iddo ffoi, ac mae cerrig tafl fel us yn ei olwg.
Job WelBeibl 41:29  Mae pastwn fel gwelltyn yn ei daro, ac mae'n chwerthin ar y cleddyf sy'n clecian.
Job WelBeibl 41:30  Oddi tano mae fel darnau o botyn wedi torri, ac mae'n gadael ei ôl yn y llaid fel sled ddyrnu.
Job WelBeibl 41:31  Mae'n gwneud i'r dŵr dwfn ferwi fel crochan, ac i'r môr gorddi fel eli'n cael ei gymysgu.
Job WelBeibl 41:32  Mae'n gadael llwybr gloyw ar ei ôl, ac mae'r dŵr dwfn yn edrych fel gwallt gwyn.
Job WelBeibl 41:33  Does dim byd tebyg iddo'n fyw ar y ddaear; creadur sy'n ofni dim byd.
Job WelBeibl 41:34  Mae'n edrych i lawr ar bob anifail cryf; mae'n frenin ar bopeth balch.”
Chapter 42
Job WelBeibl 42:2  “Dw i'n gwybod dy fod ti'n gallu gwneud unrhyw beth; does dim modd rhwystro dy gynlluniau di.
Job WelBeibl 42:3  ‘Pwy ydy hwn sy'n amau fy nghynllun i, ac yn deall dim?’ meddet ti. Ti'n iawn, dw i wedi siarad am bethau doeddwn i ddim yn eu deall; pethau oedd y tu hwnt i mi, pethau allwn i mo'u dirnad nhw.
Job WelBeibl 42:4  ‘Gwranda arna i, a gwna i siarad; Fi fydd yn gofyn y cwestiynau, a gei di ateb,’ meddet ti.
Job WelBeibl 42:5  O'r blaen, wedi clywed amdanat ti oeddwn i, ond nawr dw i wedi dy weld drosof fy hun.
Job WelBeibl 42:6  Felly, dw i'n tynnu'r cwbl yn ôl, ac yn edifarhau mewn llwch a lludw.”
Job WelBeibl 42:7  Ar ôl i'r ARGLWYDD siarad â Job, dyma fe'n dweud wrth Eliffas o Teman, “Dw i'n ddig iawn gyda ti a dy ddau ffrind, am beidio dweud beth sy'n wir amdana i, yn wahanol i fy ngwas Job.
Job WelBeibl 42:8  Felly cymerwch saith tarw a saith hwrdd a mynd at fy ngwas Job a chyflwyno offrwm i'w losgi drosoch eich hunain. Bydd fy ngwas Job yn gweddïo drosoch chi, a bydda i'n gwrando arno. Felly fydda i ddim yn delio gyda chi fel dych chi'n haeddu am beidio dweud beth sy'n wir amdana i, yn wahanol i fy ngwas Job.”
Job WelBeibl 42:9  Felly dyma Eliffas o Teman, Bildad o Shwach a Soffar o Naamâ yn mynd a gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrthyn nhw, a dyma'r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Job.
Job WelBeibl 42:10  Ar ôl i Job weddïo dros ei ffrindiau, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi yn ôl iddo y cwbl oedd wedi'i golli – yn wir rhoddodd yr ARGLWYDD iddo ddwywaith cymaint ag o'r blaen.
Job WelBeibl 42:11  Daeth ei frodyr a'i chwiorydd, a'i hen ffrindiau i gyd, i'w dŷ am bryd o fwyd, ac i gydymdeimlo gydag e a'i gysuro achos yr holl drasiedïau roedd yr ARGLWYDD wedi'u dwyn arno. Rhoddodd pob un ohonyn nhw arian a modrwy aur iddo.
Job WelBeibl 42:12  Dyma'r ARGLWYDD yn bendithio Job fwy yn y blynyddoedd ar ôl hynny nag roedd wedi ei wneud yn y blynyddoedd cyn hynny. Roedd ganddo un deg pedair mil o ddefaid, chwe mil o gamelod, mil o barau o ychen, a mil o asennod.
Job WelBeibl 42:14  Enw'r ferch hynaf oedd Jemima, Cetsia oedd enw'r ail, a Ceren-hapwch oedd y drydedd.
Job WelBeibl 42:15  Doedd dim merched harddach i'w cael yn unman, a rhoddodd Job etifeddiaeth iddyn nhw fel i'w brodyr.
Job WelBeibl 42:16  Cafodd Job fyw am gant pedwar deg o flynyddoedd ar ôl hynny, a gwelodd bedair cenhedlaeth o'i ddisgynyddion.
Job WelBeibl 42:17  Felly, roedd Job yn hen ŵr mewn oedran mawr pan fuodd e farw.