Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
Toggle notes
Chapter 1
Gene WelBeibl 1:1  Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a'r ddaear.
Gene WelBeibl 1:2  Roedd y ddaear yn anhrefn gwag, ac roedd hi'n hollol dywyll dros y dŵr dwfn. Ond roedd Ysbryd Duw yn hofran dros wyneb y dŵr.
Gene WelBeibl 1:3  A dwedodd Duw, “Dw i eisiau golau!” a daeth golau i fod.
Gene WelBeibl 1:4  Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, a dyma Duw yn gwahanu'r golau oddi wrth y tywyllwch.
Gene WelBeibl 1:5  Rhoddodd Duw yr enw ‛dydd‛ i'r golau a'r enw ‛nos‛ i'r tywyllwch, ac roedd nos a dydd ar y diwrnod cyntaf.
Gene WelBeibl 1:6  Wedyn dwedodd Duw, “Dw i eisiau cromen o aer rhwng y dyfroedd, i wahanu'r dŵr yn ddau.”
Gene WelBeibl 1:7  A dyna ddigwyddodd. Gwnaeth Duw gromen o aer, ac roedd yn gwahanu'r dŵr oddi tani oddi wrth y dŵr uwch ei phen.
Gene WelBeibl 1:8  Rhoddodd Duw yr enw ‛awyr‛ iddi, ac roedd nos a dydd ar yr ail ddiwrnod.
Gene WelBeibl 1:9  Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i'r dŵr sydd dan yr awyr gasglu i un lle, er mwyn i ddaear sych ddod i'r golwg.” A dyna ddigwyddodd.
Gene WelBeibl 1:10  Rhoddodd Duw yr enw ‛tir‛ i'r ddaear, a ‛moroedd‛ i'r dŵr. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda.
Gene WelBeibl 1:11  Yna dwedodd Duw, “Dw i eisiau i laswellt dyfu o'r tir, a phob math o blanhigion sydd â hadau ynddyn nhw, a choed ffrwythau. Bydd yr hadau ynddyn nhw yn gwneud i fwy a mwy o'r planhigion gwahanol hynny dyfu.” A dyna ddigwyddodd.
Gene WelBeibl 1:12  Roedd y tir wedi'i orchuddio â glaswellt a phlanhigion a choed o bob math, a'u hadau eu hunain ynddyn nhw. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda,
Gene WelBeibl 1:14  Dwedodd Duw, “Dw i eisiau goleuadau yn yr awyr i wahanu'r dydd a'r nos. Byddan nhw hefyd yn arwyddion i fesur y tymhorau, y dyddiau a'r blynyddoedd.
Gene WelBeibl 1:15  Byddan nhw'n goleuo'r ddaear o'r awyr.” A dyna ddigwyddodd.
Gene WelBeibl 1:16  Gwnaeth Duw ddau olau mawr – yr haul a'r lleuad. Roedd yr un mwya disglair, sef yr haul, i reoli'r dydd, a'r golau lleia, sef y lleuad, i reoli'r nos. Gwnaeth Duw y sêr hefyd.
Gene WelBeibl 1:18  i reoli dydd a nos, ac i wahanu'r golau oddi wrth y tywyllwch. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda,
Gene WelBeibl 1:20  Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i'r dyfroedd fod yn orlawn o bysgod a chreaduriaid byw eraill, a dw i eisiau i adar hedfan yn ôl ac ymlaen yn yr awyr uwchben y ddaear.”
Gene WelBeibl 1:21  Felly dyma Duw yn creu y creaduriaid enfawr sydd yn y môr, a'r holl bethau byw eraill sydd ynddo, a'r holl wahanol fathau o adar hefyd. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda.
Gene WelBeibl 1:22  A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud, “Dw i eisiau i chi gael haid o rai bach, nes eich bod chi'n llenwi'r dŵr sydd yn y môr, a dw i eisiau llawer o adar ar y ddaear.”
Gene WelBeibl 1:24  Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i greaduriaid byw o bob math lenwi'r ddaear: anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed, a bywyd gwyllt o bob math.” A dyna ddigwyddodd.
Gene WelBeibl 1:25  Gwnaeth Duw bob math o greaduriaid gwyllt, pob math o anifeiliaid, ac ymlusgiaid a phryfed gwahanol i fyw ar y ddaear. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda.
Gene WelBeibl 1:26  Yna dwedodd Duw, “Gadewch i ni wneud pobl yn ddelw ohonon ni'n hunain, i fod yn debyg i ni; i fod yn feistri sy'n gofalu am bopeth – y pysgod yn y môr, yr adar yn yr awyr, yr anifeiliaid, y ddaear gyfan a'r holl greaduriaid a phryfed sy'n byw arni.”
Gene WelBeibl 1:27  Felly dyma Duw yn creu pobl ar ei ddelw ei hun. Yn ddelw ohono'i hun y creodd nhw. Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw.
Gene WelBeibl 1:28  A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud wrthyn nhw, “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr i ofalu am y pysgod sydd yn y môr, yr adar sy'n hedfan yn yr awyr, a'r holl greaduriaid sy'n byw ar y ddaear.”
Gene WelBeibl 1:29  Dwedodd Duw, “Edrychwch. Dw i wedi rhoi'r planhigion sydd â hadau a'r ffrwythau ar y coed i gyd, i fod yn fwyd i chi.
Gene WelBeibl 1:30  A dw i wedi rhoi'r holl blanhigion yn fwyd i'r bywyd gwyllt a'r adar a'r holl greaduriaid bach eraill sydd ar y ddaear – ie, pob un creadur byw.” A dyna ddigwyddodd.
Gene WelBeibl 1:31  Edrychodd Duw ar bopeth roedd wedi'i wneud, a gweld fod y cwbl yn dda iawn. Ac roedd nos a dydd ar y chweched diwrnod.
Chapter 2
Gene WelBeibl 2:1  Felly gorffennodd Duw y gwaith o greu y bydysawd a phopeth sydd ynddo.
Gene WelBeibl 2:2  Ar y seithfed diwrnod dyma Duw yn gorffwys, am ei fod wedi gorffen ei holl waith.
Gene WelBeibl 2:3  Bendithiodd Duw y seithfed diwrnod a'i wneud yn ddiwrnod arbennig, am mai dyna'r diwrnod roedd e wedi gorffwys ar ôl gorffen y gwaith o greu.
Gene WelBeibl 2:4  Dyma hanes y bydysawd yn cael ei greu: Pan wnaeth Duw y bydysawd,
Gene WelBeibl 2:5  doedd dim planhigion gwyllt na llysiau yn tyfu ar y tir. Doedd Duw ddim eto wedi gwneud iddi lawio, a doedd neb chwaith i weithio ar y tir.
Gene WelBeibl 2:6  Ond roedd dŵr yn codi o'r ddaear ac yn dyfrio wyneb y tir.
Gene WelBeibl 2:7  Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn siapio dyn o'r pridd. Wedyn chwythodd i'w ffroenau yr anadl sy'n rhoi bywyd, a daeth y dyn yn berson byw.
Gene WelBeibl 2:8  Yna dyma'r ARGLWYDD Dduw yn plannu gardd tua'r dwyrain, yn Eden, a rhoi'r dyn roedd wedi'i siapio yno.
Gene WelBeibl 2:9  Wedyn gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i goed o bob math dyfu o'r tir – coed hardd gyda ffrwythau arnyn nhw oedd yn dda i'w bwyta. Yng nghanol yr ardd roedd y goeden sy'n rhoi bywyd a'r goeden sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg.
Gene WelBeibl 2:10  Roedd afon yn tarddu yn Eden ac yn dyfrio'r ardd. Wedyn roedd yn rhannu'n bedair cangen.
Gene WelBeibl 2:11  Pison ydy enw un. Mae hi'n llifo o gwmpas gwlad Hafila, lle mae aur
Gene WelBeibl 2:12  – aur pur iawn, ac mae perlau ac onics yno hefyd.
Gene WelBeibl 2:13  Gihon ydy enw'r ail afon. Mae hi yn llifo o gwmpas gwlad Cwsh.
Gene WelBeibl 2:14  Tigris ydy enw'r drydedd afon. Mae hi'n llifo i'r dwyrain o ddinas Ashŵr. Ac Ewffrates ydy enw'r bedwaredd afon.
Gene WelBeibl 2:15  Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn cymryd y dyn a'i osod yn yr ardd yn Eden, i'w thrin hi a gofalu amdani.
Gene WelBeibl 2:16  A dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r dyn: “Cei fwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd,
Gene WelBeibl 2:17  ond paid bwyta ffrwyth y goeden sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Pan wnei di hynny byddi'n siŵr o farw.”
Gene WelBeibl 2:18  Dwedodd yr ARGLWYDD Dduw wedyn, “Dydy e ddim yn beth da i'r dyn fod ar ei ben ei hun. Dw i'n mynd i wneud cymar iddo i'w gynnal.”
Gene WelBeibl 2:19  A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn siapio pob math o anifeiliaid ac adar o'r pridd, ac yn gwneud iddyn nhw ddod at y dyn i weld beth fyddai'n eu galw nhw. Y dyn oedd yn rhoi enw i bob un.
Gene WelBeibl 2:20  Rhoddodd enwau i'r anifeiliaid, i'r adar, ac i'r bywyd gwyllt i gyd, ond doedd run ohonyn nhw yn gwneud cymar iddo i'w gynnal.
Gene WelBeibl 2:21  Felly dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i'r dyn gysgu'n drwm. Cymerodd ddarn o ochr y dyn, a rhoi cnawd yn ei le.
Gene WelBeibl 2:22  Wedyn dyma'r ARGLWYDD Dduw yn ffurfio dynes allan o'r darn oedd wedi'i gymryd o'r dyn, a dod â hi at y dyn.
Gene WelBeibl 2:23  A dyma'r dyn yn dweud, “O'r diwedd! Un sydd yr un fath â fi! Asgwrn o'm hesgyrn, a chnawd o'm cnawd. ‛Dynes‛ fydd yr enw arni, am ei bod wedi'i chymryd allan o ddyn.”
Gene WelBeibl 2:24  Dyna pam mae dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig. Byddan nhw'n dod yn uned deuluol newydd.
Gene WelBeibl 2:25  Roedd y dyn a'i wraig yn hollol noeth, a doedd ganddyn nhw ddim cywilydd.
Chapter 3
Gene WelBeibl 3:1  Roedd y neidr yn fwy cyfrwys na phob anifail gwyllt arall roedd yr ARGLWYDD Dduw wedi'u creu. A dyma'r neidr yn dweud wrth y wraig, “Ydy Duw wir wedi dweud, ‘Peidiwch bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd’?”
Gene WelBeibl 3:2  “Na,” meddai'r wraig, “dŷn ni'n cael bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd.
Gene WelBeibl 3:3  Dim ond am ffrwyth y goeden yng nghanol yr ardd y dwedodd Duw, ‘Peidiwch bwyta ei ffrwyth hi a pheidiwch ei chyffwrdd hi, rhag i chi farw.’”
Gene WelBeibl 3:4  Ond dyma'r neidr yn dweud wrth y wraig, “Na! Fyddwch chi ddim yn marw.
Gene WelBeibl 3:5  Mae Duw yn gwybod y byddwch chi'n gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta ohoni. Byddwch chi'n gwybod am bopeth – da a drwg – fel Duw ei hun.”
Gene WelBeibl 3:6  Gwelodd y wraig fod ffrwyth y goeden yn edrych yn dda i'w fwyta. Roedd cael ei gwneud yn ddoeth yn apelio ati, felly dyma hi'n cymryd peth o'i ffrwyth ac yn ei fwyta. Yna rhoddodd beth i'w gŵr oedd gyda hi, a dyma fe'n bwyta hefyd.
Gene WelBeibl 3:7  Yn sydyn roedden nhw'n gweld popeth yn glir, ac yn sylweddoli eu bod nhw'n noeth. Felly dyma nhw'n rhwymo dail coeden ffigys at ei gilydd a gwneud sgertiau iddyn nhw'u hunain.
Gene WelBeibl 3:8  Yna dyma nhw'n clywed sŵn yr ARGLWYDD Dduw yn mynd drwy'r ardd pan oedd gwynt yn dechrau codi. A dyma'r dyn a'i wraig yn mynd i guddio o olwg yr ARGLWYDD Dduw, i ganol y coed yn yr ardd.
Gene WelBeibl 3:9  Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a gofyn iddo, “Ble wyt ti?”
Gene WelBeibl 3:10  Atebodd y dyn, “Rôn i'n clywed dy sŵn di yn yr ardd, ac roedd arna i ofn am fy mod i'n noeth. Felly dyma fi'n cuddio.”
Gene WelBeibl 3:11  “Pwy ddwedodd wrthot ti dy fod di'n noeth?” meddai Duw. “Wyt ti wedi bwyta ffrwyth y goeden ddwedais i wrthot ti am beidio ei fwyta?”
Gene WelBeibl 3:12  Ac meddai'r dyn, “Y wraig wnest ti ei rhoi i mi – hi roddodd y ffrwyth i mi, a dyma fi'n ei fwyta.”
Gene WelBeibl 3:13  Yna gofynnodd yr ARGLWYDD Dduw i'r wraig, “Be ti'n feddwl ti'n wneud?” A dyma'r wraig yn ateb, “Y neidr wnaeth fy nhwyllo i. Dyna pam wnes i ei fwyta.”
Gene WelBeibl 3:14  Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn dweud wrth y neidr: “Melltith arnat ti am wneud hyn! Ti fydd yr unig anifail dof neu wyllt sydd wedi dy felltithio. Byddi'n llusgo o gwmpas ar dy fol ac yn llyfu'r llwch drwy dy fywyd.
Gene WelBeibl 3:15  Byddi di a'r wraig yn elynion. Bydd dy had di a'i had hi bob amser yn elynion. Bydd e'n sathru dy ben di, a byddi di'n taro ei sawdl e.”
Gene WelBeibl 3:16  Yna dyma fe'n dweud wrth y wraig: “Bydd cael plant yn waith llawer anoddach i ti; byddi'n diodde poenau ofnadwy wrth eni plentyn. Byddi di eisiau dy ŵr, ond bydd e fel meistr arnat ti.”
Gene WelBeibl 3:17  Wedyn dyma fe'n dweud wrth Adda: “Rwyt ti wedi gwrando ar dy wraig a bwyta ffrwyth y goeden rôn i wedi dweud amdani, ‘Paid bwyta ei ffrwyth hi.’ Felly mae'r ddaear wedi'i melltithio o dy achos di. Bydd rhaid i ti weithio'n galed i gael bwyd bob amser.
Gene WelBeibl 3:18  Bydd drain ac ysgall yn tyfu ar y tir, a byddi'n bwyta'r cnydau sy'n tyfu yn y caeau.
Gene WelBeibl 3:19  Bydd rhaid i ti weithio'n galed a chwysu i gael bwyd i fyw, hyd nes i ti farw a mynd yn ôl i'r pridd. Dyna o lle y daethost ti. Pridd wyt ti, a byddi'n mynd yn ôl i'r pridd.”
Gene WelBeibl 3:20  Dyma'r dyn yn rhoi'r enw Efa i'w wraig, am mai hi fyddai mam pob person byw.
Gene WelBeibl 3:21  Wedyn dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud dillad o grwyn anifeiliaid i Adda a'i wraig eu gwisgo.
Gene WelBeibl 3:22  A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn dweud, “Mae dyn bellach yr un fath â ni, yn gwybod am bopeth – da a drwg. Rhaid peidio gadael iddo gymryd ffrwyth y goeden sy'n rhoi bywyd, neu bydd yn ei fwyta ac yn byw am byth.”
Gene WelBeibl 3:23  Felly dyma'r ARGLWYDD Dduw yn ei anfon allan o'r ardd yn Eden i drin y pridd y cafodd ei wneud ohono.
Gene WelBeibl 3:24  Pan gafodd y dyn ei daflu allan o'r ardd, gosododd Duw gerwbiaid ar ochr ddwyreiniol yr ardd yn Eden, a chleddyf tân yn chwyrlïo, i rwystro unrhyw un rhag mynd at y goeden sy'n rhoi bywyd.
Chapter 4
Gene WelBeibl 4:1  Cysgodd Adda gyda'i wraig Efa, a dyma hi'n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Cain, ac meddai, “Dw i wedi cael plentyn, gyda help yr ARGLWYDD.”
Gene WelBeibl 4:2  Wedyn cafodd blentyn arall, brawd i Cain, sef Abel. Tyfodd Abel i fod yn fugail, ond roedd Cain yn trin y tir.
Gene WelBeibl 4:3  Adeg y cynhaeaf daeth Cain â pheth o gynnyrch y tir i'w roi yn offrwm i'r ARGLWYDD.
Gene WelBeibl 4:4  Daeth Abel â rhai o ŵyn cyntaf y praidd, a rhoi'r rhai gorau yn offrwm i Dduw. Roedd Abel a'i offrwm yn plesio'r ARGLWYDD,
Gene WelBeibl 4:5  ond wnaeth e ddim cymryd sylw o Cain a'i offrwm e. Roedd Cain wedi gwylltio'n lân. Roedd i'w weld ar ei wyneb!
Gene WelBeibl 4:6  Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Cain, “Ydy'n iawn i ti wylltio fel yma? Pam wyt ti mor ddig?
Gene WelBeibl 4:7  Os gwnei di beth sy'n iawn bydd pethau'n gwella. Ond os na wnei di beth sy'n iawn, mae pechod fel anifail yn llechu wrth y drws. Mae am dy gael di, ond rhaid i ti ei reoli.”
Gene WelBeibl 4:8  Dwedodd Cain wrth ei frawd, “Gad i ni fynd allan i gefn gwlad.” Yna pan oedden nhw allan yng nghefn gwlad dyma Cain yn ymosod ar ei frawd Abel a'i ladd.
Gene WelBeibl 4:9  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Cain, “Ble mae Abel, dy frawd di?” Atebodd Cain, “Dw i ddim yn gwybod. Ai fi sydd i fod i ofalu am fy mrawd?”
Gene WelBeibl 4:10  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Beth yn y byd wyt ti wedi'i wneud? Gwranda! Mae gwaed dy frawd yn gweiddi arna i o'r pridd.
Gene WelBeibl 4:11  Melltith arnat ti. Rhaid i ti adael y tir yma lyncodd waed dy frawd pan wnest ti ei ladd.
Gene WelBeibl 4:12  Byddi'n ceisio trin y tir ond yn methu cael cnwd da ohono. Byddi'n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad.”
Gene WelBeibl 4:13  Ac meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, “Mae'r gosb yn ormod i mi ei chymryd!
Gene WelBeibl 4:14  Ti wedi fy ngyrru i ffwrdd o'r tir, a bydda i wedi fy nhorri i ffwrdd oddi wrthot ti. Bydda i'n crwydro o gwmpas yn ddigyfeiriad, a bydd pwy bynnag sy'n dod o hyd i mi yn fy lladd.”
Gene WelBeibl 4:15  Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Na. Bydd pwy bynnag sy'n lladd Cain yn cael ei gosbi saith gwaith drosodd.” A dyma'r ARGLWYDD yn marcio Cain i ddangos iddo na fyddai'n cael ei ladd gan bwy bynnag fyddai'n dod o hyd iddo.
Gene WelBeibl 4:16  Felly aeth Cain i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD a mynd i fyw i wlad Nod i'r dwyrain o Eden.
Gene WelBeibl 4:17  Cysgodd Cain gyda'i wraig, a dyma hi'n beichiogi. Cafodd blentyn, sef Enoch. Roedd Cain yn adeiladu pentref gyda wal i'w amddiffyn, a galwodd y pentref yn ‛Enoch‛ ar ôl ei fab.
Gene WelBeibl 4:18  Roedd Enoch yn dad i Irad, Irad yn dad i Mechwiael, Mechwiael yn dad i Methwshael, a Methwshael yn dad i Lamech.
Gene WelBeibl 4:19  Dyma Lamech yn cymryd dwy wraig iddo'i hun – Ada oedd enw un a Sila oedd y llall.
Gene WelBeibl 4:20  Cafodd Ada blentyn, sef Iabal. Iabal oedd y cyntaf i fyw mewn pebyll a chadw anifeiliaid.
Gene WelBeibl 4:21  Roedd ganddo frawd o'r enw Iwbal. Iwbal oedd y cyntaf i ganu'r delyn a'r ffliwt.
Gene WelBeibl 4:22  Dyma Sila, y wraig arall, yn cael plentyn hefyd, sef Twbal-cain. Fe oedd y cyntaf i weithio gyda metelau, a gwneud offer pres a haearn. Roedd gan Twbal-cain chwaer o'r enw Naamâ.
Gene WelBeibl 4:23  Dyma Lamech yn dweud wrth ei wragedd: “Ada a Sila, gwrandwch arna i! Wragedd Lamech, sylwch beth dw i'n ddweud: Byddwn i'n lladd dyn am fy anafu i, neu blentyn am fy nharo i.
Gene WelBeibl 4:24  Os bydd y dial am Cain saith gwaith gwaeth, bydd y dial am Lamech saith deg saith gwaith!”
Gene WelBeibl 4:25  Cysgodd Adda gyda'i wraig eto, a chafodd hi fab arall. Galwodd hwn yn Seth, “am fod Duw wedi rhoi plentyn i mi yn lle Abel, ar ôl i Cain ei ladd.”
Gene WelBeibl 4:26  Cafodd Seth fab, a'i alw yn Enosh. Dyna pryd y dechreuodd pobl addoli'r ARGLWYDD.
Chapter 5
Gene WelBeibl 5:1  Dyma restr deuluol Adda: Pan greodd Duw bobl, gwnaeth nhw i fod yn ddelw ohono'i hun.
Gene WelBeibl 5:2  Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw, bendithiodd nhw, a rhoi'r enw ‛dynoliaeth‛ iddyn nhw.
Gene WelBeibl 5:3  Pan oedd Adda yn 130 oed, cafodd fab a'i alw'n Seth. Roedd Seth yr un ffunud â'i dad.
Gene WelBeibl 5:4  Buodd Adda fyw am 800 mlynedd ar ôl i Seth gael ei eni, a chafodd blant eraill.
Gene WelBeibl 5:6  Pan oedd Seth yn 105 oed cafodd ei fab Enosh ei eni.
Gene WelBeibl 5:7  Buodd Seth fyw am 807 o flynyddoedd ar ôl i Enosh gael ei eni, a chafodd blant eraill.
Gene WelBeibl 5:9  Pan oedd Enosh yn 90 oed cafodd ei fab Cenan ei eni.
Gene WelBeibl 5:10  Buodd Enosh fyw am 815 mlynedd ar ôl i Cenan gael ei eni, a chafodd blant eraill.
Gene WelBeibl 5:12  Pan oedd Cenan yn 70 oed cafodd ei fab Mahalal-el ei eni.
Gene WelBeibl 5:13  Buodd Cenan fyw am 840 mlynedd ar ôl i Mahalal-el gael ei eni, a chafodd blant eraill.
Gene WelBeibl 5:15  Pan oedd Mahalal-el yn 65 oed cafodd ei fab Iered ei eni.
Gene WelBeibl 5:16  Buodd Mahalal-el fyw am 830 mlynedd ar ôl i Iered gael ei eni, a chafodd blant eraill.
Gene WelBeibl 5:18  Pan oedd Iered yn 162 oed cafodd ei fab Enoch ei eni.
Gene WelBeibl 5:19  Buodd Iered fyw am 800 mlynedd ar ôl i Enoch gael ei eni, a chafodd blant eraill.
Gene WelBeibl 5:21  Pan oedd Enoch yn 65 oed cafodd ei fab Methwsela ei eni.
Gene WelBeibl 5:22  Roedd gan Enoch berthynas agos gyda Duw, a buodd fyw am 300 mlynedd ar ôl i Methwsela gael ei eni, a chafodd blant eraill.
Gene WelBeibl 5:24  Roedd ganddo berthynas agos gyda Duw, ond yn sydyn doedd e ddim yna. Roedd Duw wedi'i gymryd i ffwrdd.
Gene WelBeibl 5:25  Pan oedd Methwsela yn 187 oed cafodd ei fab Lamech ei eni.
Gene WelBeibl 5:26  Buodd Methwsela fyw am 782 o flynyddoedd ar ôl i Lamech gael ei eni, a chafodd blant eraill.
Gene WelBeibl 5:29  a'i alw yn Noa. Dwedodd, “Bydd hwn yn rhoi gorffwys i ni o'r gwaith caled o drin y tir mae'r ARGLWYDD wedi'i felltithio.”
Gene WelBeibl 5:30  Buodd Lamech fyw am 595 mlynedd ar ôl i Noa gael ei eni, a chafodd blant eraill.
Gene WelBeibl 5:32  Pan oedd Noa yn 500 mlwydd oed roedd ganddo dri mab – Shem, Cham a Jaffeth.
Chapter 6
Gene WelBeibl 6:1  Wrth i boblogaeth y byd dyfu ac i ferched gael eu geni,
Gene WelBeibl 6:2  dyma'r bodau nefol yn gweld fod merched dynol yn hardd. A dyma nhw'n cymryd y rhai roedden nhw'n eu ffansïo i fod yn wragedd iddyn nhw'u hunain.
Gene WelBeibl 6:3  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Alla i ddim gadael i bobl fyw am byth. Maen nhw'n greaduriaid sy'n mynd i farw, ac o hyn ymlaen fyddan nhw ddim yn byw fwy na 120 mlynedd.”
Gene WelBeibl 6:4  Roedd cewri yn byw ar y ddaear bryd hynny (ac wedyn hefyd). Nhw oedd y plant gafodd eu geni ar ôl i'r bodau nefol gael rhyw gyda merched dynol. Dyma arwyr enwog yr hen fyd.
Gene WelBeibl 6:5  Roedd yr ARGLWYDD yn gweld bod y ddynoliaeth bellach yn ofnadwy o ddrwg. Doedden nhw'n meddwl am ddim byd ond gwneud drwg drwy'r amser.
Gene WelBeibl 6:6  Roedd yr ARGLWYDD yn sori ei fod e wedi creu'r ddynoliaeth. Roedd wedi'i frifo a'i ddigio.
Gene WelBeibl 6:7  Felly dyma fe'n dweud, “Dw i'n mynd i gael gwared â'r ddynoliaeth yma dw i wedi'i chreu. Ydw, a'r anifeiliaid, yr holl ymlusgiaid a phryfed a'r adar hefyd. Dw i'n sori mod i wedi'u creu nhw yn y lle cyntaf.”
Gene WelBeibl 6:9  Dyma hanes Noa a'i deulu: Roedd Noa yn ddyn da – yr unig un bryd hynny oedd yn gwneud beth roedd Duw eisiau. Roedd ganddo berthynas agos gyda Duw.
Gene WelBeibl 6:11  Roedd y byd wedi'i sbwylio yng ngolwg Duw. Roedd trais a chreulondeb ym mhobman.
Gene WelBeibl 6:12  Gwelodd Duw fod y byd wedi'i sbwylio go iawn. Roedd pawb yn gwneud drwg.
Gene WelBeibl 6:13  Felly dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dw i wedi penderfynu bod rhaid i bawb gael eu dinistrio. Mae trais a chreulondeb ym mhobman, felly dw i'n mynd i'w dinistrio nhw, a'r byd hefo nhw.
Gene WelBeibl 6:14  Dw i am i ti adeiladu arch, sef cwch mawr, wedi'i gwneud o goed goffer. Rhanna hi yn ystafelloedd a'i selio hi y tu mewn a'r tu allan â phyg.
Gene WelBeibl 6:15  Gwna hi'n 130 metr o hyd, 22 metr o led ac 13 metr o uchder.
Gene WelBeibl 6:16  Rho do ar yr arch, ond gad fwlch o 45 centimetr rhwng y to ac ochrau'r arch. Rho ddrws ar ochr yr arch, ac adeilada dri llawr ynddi – yr isaf, y canol a'r uchaf.
Gene WelBeibl 6:17  Dw i'n mynd i ddod â llifogydd ar y ddaear a boddi popeth sy'n anadlu. Bydd popeth byw yn marw.
Gene WelBeibl 6:18  Ond bydda i'n gwneud ymrwymiad i ti. Byddi di'n mynd i mewn i'r arch – ti a dy feibion, dy wraig di a'u gwragedd nhw.
Gene WelBeibl 6:19  “Dw i am i ti fynd â dau o bob math o anifail i'r arch hefo ti i'w cadw'n fyw, sef un gwryw ac un benyw.
Gene WelBeibl 6:20  Dau o bob math o adar, pob math o anifeiliaid a phob math o ymlusgiaid – bydd dau o bopeth yn dod atat ti i'w cadw'n fyw.
Gene WelBeibl 6:21  Dos â bwyd o bob math gyda ti hefyd, a'i storio. Digon o fwyd i chi ac i'r anifeiliaid.”
Gene WelBeibl 6:22  A dyma Noa yn gwneud yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.
Chapter 7
Gene WelBeibl 7:1  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Noa, “Dos i mewn i'r arch gyda dy deulu. Ti ydy'r unig un sy'n gwneud beth dw i eisiau.
Gene WelBeibl 7:2  Dos â saith pâr o bob anifail sy'n iawn i'w fwyta a'i aberthu, ac un pâr o bob anifail arall. Un gwryw ac un fenyw ym mhob pâr.
Gene WelBeibl 7:3  Dos â saith pâr o bob aderyn gyda ti hefyd. Dw i eisiau i'r amrywiaeth o anifeiliaid ac adar oroesi ar y ddaear.
Gene WelBeibl 7:4  Wythnos i heddiw bydda i'n gwneud iddi lawio. Bydd hi'n glawio nos a dydd am bedwar deg diwrnod. Dw i'n mynd i gael gwared â phopeth byw dw i wedi'i greu oddi ar wyneb y ddaear.”
Gene WelBeibl 7:5  A dyma Noa yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
Gene WelBeibl 7:6  Roedd Noa yn 600 oed pan ddaeth y llifogydd a boddi'r ddaear.
Gene WelBeibl 7:7  Aeth Noa a'i wraig, ei feibion a'u gwragedd i mewn i'r arch i ddianc rhag y llifogydd.
Gene WelBeibl 7:8  Dyma'r anifeiliaid gwahanol (y rhai oedd yn iawn i'w bwyta a'u haberthu, a'r lleill hefyd), a'r gwahanol fathau o adar a chreaduriaid bach eraill,
Gene WelBeibl 7:9  yn dod at Noa i'r arch bob yn bâr – gwryw a benyw. Digwyddodd hyn yn union fel roedd Duw wedi dweud wrth Noa.
Gene WelBeibl 7:10  Wythnos union wedyn dyma'r llifogydd yn dod ac yn boddi'r ddaear.
Gene WelBeibl 7:11  Pan oedd Noa yn 600 mlwydd oed, ar yr ail ar bymtheg o'r ail fis, byrstiodd y ffynhonnau dŵr tanddaearol, ac agorodd llifddorau'r awyr.
Gene WelBeibl 7:12  Buodd hi'n bwrw glaw yn drwm, ddydd a nos, am bedwar deg diwrnod.
Gene WelBeibl 7:13  Ar y diwrnod y dechreuodd hi lawio, aeth Noa i'r arch gyda'i wraig, ei feibion, Shem, Cham a Jaffeth, a'u gwragedd nhw.
Gene WelBeibl 7:14  Gyda nhw roedd y gwahanol fathau o anifeiliaid gwyllt a dof, yr ymlusgiaid, ac adar a phryfed – popeth oedd yn gallu hedfan.
Gene WelBeibl 7:15  Aeth y creaduriaid byw i gyd at Noa i'r arch bob yn ddau –
Gene WelBeibl 7:16  gwryw a benyw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrth Noa. A dyma'r ARGLWYDD yn eu cau nhw i mewn.
Gene WelBeibl 7:17  Dyma'r dilyw yn para am bedwar deg diwrnod. Roedd y llifogydd yn mynd yn waeth, nes i'r arch gael ei chodi ar wyneb y dŵr.
Gene WelBeibl 7:18  Roedd y dŵr yn codi'n uwch ac yn uwch, a'r arch yn nofio ar yr wyneb.
Gene WelBeibl 7:19  Roedd cymaint o ddŵr nes bod hyd yn oed y mynyddoedd o'r golwg.
Gene WelBeibl 7:20  Daliodd i godi nes bod y dŵr dros saith metr yn uwch na'r mynyddoedd uchaf.
Gene WelBeibl 7:21  Cafodd popeth byw ei foddi – adar, anifeiliaid dof a gwyllt, yr holl greaduriaid sy'n heidio ar y ddaear, a phob person byw.
Gene WelBeibl 7:22  Roedd pob creadur oedd yn anadlu ac yn byw ar dir sych wedi marw.
Gene WelBeibl 7:23  Dyma Duw yn cael gwared â nhw i gyd – pobl, anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed, ac adar. Cafodd wared â'r cwbl. Dim ond Noa a'r rhai oedd yn yr arch oedd ar ôl.
Chapter 8
Gene WelBeibl 8:1  Ond doedd Duw ddim wedi anghofio am Noa a'r holl anifeiliaid gwyllt a dof oedd gydag e yn yr arch. Felly gwnaeth i wynt chwythu, a dyma lefel y dŵr yn dechrau mynd i lawr.
Gene WelBeibl 8:2  Dyma'r ffynhonnau dŵr tanddaearol a'r llifddorau yn yr awyr yn cael eu cau, a dyma hi'n stopio glawio.
Gene WelBeibl 8:4  Bum mis union ar ôl i'r dilyw ddechrau, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.
Gene WelBeibl 8:5  Ddau fis a hanner wedyn, wrth i'r dŵr ddal i fynd i lawr o dipyn i beth, daeth rhai o'r mynyddoedd eraill i'r golwg.
Gene WelBeibl 8:6  Pedwar deg diwrnod ar ôl i'r arch lanio, dyma Noa yn agor ffenest
Gene WelBeibl 8:7  ac yn anfon cigfran allan. Roedd hi'n hedfan i ffwrdd ac yn dod yn ôl nes oedd y dŵr wedi sychu oddi ar wyneb y ddaear.
Gene WelBeibl 8:8  Wedyn dyma Noa yn anfon colomen allan, i weld a oedd y dŵr wedi mynd.
Gene WelBeibl 8:9  Ond roedd y golomen yn methu dod o hyd i le i glwydo, a daeth yn ôl i'r arch. Roedd y dŵr yn dal i orchuddio'r ddaear. Estynnodd Noa ei law ati a dod â hi yn ôl i mewn i'r arch.
Gene WelBeibl 8:10  Arhosodd am wythnos cyn danfon y golomen allan eto.
Gene WelBeibl 8:11  Y tro yma, pan oedd hi'n dechrau nosi, dyma'r golomen yn dod yn ôl gyda deilen olewydd ffres yn ei phig. Felly roedd Noa'n gwybod bod y dŵr bron wedi mynd.
Gene WelBeibl 8:12  Yna arhosodd am wythnos arall cyn anfon y golomen allan eto, a'r tro yma ddaeth hi ddim yn ôl.
Gene WelBeibl 8:13  Pan oedd Noa yn 601 oed, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn roedd y llifogydd wedi mynd. Dyma Noa yn symud rhan o'r gorchudd oedd ar do'r arch, a gwelodd fod y ddaear bron wedi sychu.
Gene WelBeibl 8:14  Erbyn y seithfed ar hugain o'r ail fis roedd y ddaear yn sych.
Gene WelBeibl 8:17  Tyrd â phopeth allan – yr adar a'r anifeiliaid, a phob creadur bach arall – dw i eisiau iddyn nhw gael haid o rai bach, drwy'r ddaear i gyd.”
Gene WelBeibl 8:18  Felly dyma Noa a'i wraig, a'i feibion a'u gwragedd nhw, yn mynd allan o'r arch.
Gene WelBeibl 8:19  A daeth yr anifeiliaid i gyd, a'r ymlusgiaid, a'r adar allan yn eu grwpiau.
Gene WelBeibl 8:20  Yna cododd Noa allor i'r ARGLWYDD ac aberthu rhai o'r gwahanol fathau o anifeiliaid ac adar oedd yn dderbyniol fel offrwm i'w losgi.
Gene WelBeibl 8:21  Roedd yr aberth yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD, ac meddai wrtho'i hun, “Dw i byth yn mynd i felltithio'r ddaear eto o achos y ddynoliaeth, er fod pobl yn dal i feddwl am ddim byd ond gwneud drwg hyd yn oed pan maen nhw'n blant ifanc. Wna i byth eto ddinistrio popeth byw fel dw i newydd wneud.
Gene WelBeibl 8:22  Tra mae'r byd yn bod, bydd amser i blannu a chasglu'r cynhaeaf; bydd tywydd oer a thywydd poeth, haf a gaeaf, nos a dydd.”
Chapter 9
Gene WelBeibl 9:1  Dyma Duw yn bendithio Noa a'i feibion, a dweud wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear.
Gene WelBeibl 9:2  Bydd gan yr anifeiliaid, yr adar, pob creadur bach arall a'r pysgod eich ofn chi. Byddwch yn eu rheoli nhw.
Gene WelBeibl 9:3  Bellach cewch fwyta unrhyw greadur byw, nid dim ond planhigion fel o'r blaen.
Gene WelBeibl 9:4  Ond rhaid i chi beidio bwyta cig sydd â bywyd yn dal ynddo (sef y gwaed).
Gene WelBeibl 9:5  Mae tywallt gwaed dynol yn rhywbeth sy'n rhaid ei gosbi. Rhaid lladd unrhyw anifail gwyllt sy'n gwneud hynny. A rhaid i berson sy'n lladd rhywun arall farw hefyd, am fod pobl yn frodyr a chwiorydd i'w gilydd.
Gene WelBeibl 9:6  Mae rhywun sy'n lladd person arall yn haeddu cael ei ladd ei hun, am fod Duw wedi creu'r ddynoliaeth yn ddelw ohono'i hun.
Gene WelBeibl 9:7  Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi drwy'r byd i gyd.”
Gene WelBeibl 9:9  “Dw i am wneud ymrwymiad i chi a'ch disgynyddion,
Gene WelBeibl 9:10  a hefyd gyda phob creadur byw – adar, anifeiliaid dof a phob creadur arall ddaeth allan o'r arch.
Gene WelBeibl 9:11  Dw i'n addo na fydda i byth yn anfon dilyw eto i gael gwared â phopeth byw ac i ddinistrio'r ddaear.
Gene WelBeibl 9:12  A dw i'n mynd i roi arwydd i chi i ddangos fod yr ymrwymiad dw i'n ei wneud yn mynd i bara am byth:
Gene WelBeibl 9:13  Dw i'n rhoi fy enfys yn y cymylau, a bydd yn arwydd o'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda'r ddaear.
Gene WelBeibl 9:14  Pan fydd cymylau yn yr awyr, ac enfys i'w gweld yn y cymylau,
Gene WelBeibl 9:15  bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud i chi a phob creadur byw. Fydd llifogydd ddim yn dod i ddinistrio popeth byw byth eto.
Gene WelBeibl 9:16  Pan fydd enfys yn y cymylau bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda phob creadur byw sydd ar y ddaear.”
Gene WelBeibl 9:17  A dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dyma'r arwydd sy'n dangos y bydda i'n cadw'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda phopeth byw ar y ddaear.”
Gene WelBeibl 9:18  Shem, Cham a Jaffeth oedd enwau meibion Noa ddaeth allan o'r arch. (Cham oedd tad Canaan.)
Gene WelBeibl 9:19  Roedd y tri ohonyn nhw yn feibion i Noa, ac mae holl bobloedd y byd yn ddisgynyddion iddyn nhw.
Gene WelBeibl 9:20  Roedd Noa yn ffermwr. Fe oedd y cyntaf un i blannu gwinllan.
Gene WelBeibl 9:21  Yfodd Noa beth o'r gwin, a meddwi. Tynnodd ei ddillad a gorwedd yn noeth yn ei babell.
Gene WelBeibl 9:22  Dyma Cham, tad Canaan, yn edrych ar ei dad yn noeth ac yna'n mynd allan i ddweud wrth ei frodyr.
Gene WelBeibl 9:23  Ond dyma Shem a Jaffeth yn cymryd clogyn a'i osod ar eu hysgwyddau. Wedyn dyma nhw'n cerdded at yn ôl i mewn i'r babell a gorchuddio corff noeth eu tad. Roedden nhw'n edrych i ffwrdd wrth wneud hyn, felly wnaethon nhw ddim gweld eu tad yn noeth.
Gene WelBeibl 9:24  Ar ôl i Noa ddeffro a sobri, clywodd beth roedd ei fab ifancaf wedi'i wneud,
Gene WelBeibl 9:25  ac meddai, “Melltith ar Canaan! Bydd fel caethwas dibwys i'w frodyr.”
Gene WelBeibl 9:26  Wedyn dwedodd Noa, “Bendith yr ARGLWYDD Dduw ar Shem! Bydd Canaan yn gaethwas iddo.
Gene WelBeibl 9:27  Boed i Dduw roi digonedd o le i Jaffeth, a gwneud iddo gyd-fyw'n heddychlon gyda Shem. A bydd Canaan yn gaethwas iddo yntau hefyd.”
Chapter 10
Gene WelBeibl 10:1  Dyma hanes teuluoedd meibion Noa – Shem, Cham a Jaffeth. (Ar ôl y dilyw cafodd y tri ohonyn nhw blant):
Gene WelBeibl 10:2  Meibion Jaffeth: Gomer, Magog, Madai, Iafan, Twbal, Meshech, a Tiras.
Gene WelBeibl 10:3  Disgynyddion Gomer oedd pobl Ashcenas, Riffath, a Togarma.
Gene WelBeibl 10:4  Disgynyddion Iafan oedd pobl Elisha, Tarshish, Cittim, a Dodanîm,
Gene WelBeibl 10:5  sef pobloedd yr arfordir a'r ynysoedd. Rhannodd y rhain yn genhedloedd gwahanol gyda'u tiroedd, a phob grŵp ethnig gyda'i iaith ei hun.
Gene WelBeibl 10:7  Disgynyddion Cwsh oedd pobl Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabtecha. Disgynyddion Raama oedd pobl Sheba a Dedan.
Gene WelBeibl 10:8  Cafodd Cwsh fab arall o'r enw Nimrod. Nimrod oedd y concwerwr cyntaf.
Gene WelBeibl 10:9  Fe oedd yr heliwr gorau yn y byd i gyd. Dyna pam mae'r hen ddywediad yn dweud, “Mae fel Nimrod, yr heliwr gorau welodd yr ARGLWYDD.”
Gene WelBeibl 10:10  Dechreuodd ei ymerodraeth gyda dinasoedd Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Babilonia.
Gene WelBeibl 10:11  Wedyn lledodd ei ymerodraeth i Asyria, ac adeiladodd ddinasoedd Ninefe, Rehoboth-ir, Cala,
Gene WelBeibl 10:13  Disgynyddion Mitsraïm oedd y Lydiaid, Anamiaid, Lehabiaid (pobl Libia), Nafftwiaid,
Gene WelBeibl 10:14  Pathrwsiaid, Caslwchiaid (y daeth y Philistiaid ohonyn nhw), a'r Cafftoriaid.
Gene WelBeibl 10:15  Disgynyddion Canaan oedd pobl Sidon (o'i fab hynaf), yr Hethiaid,
Gene WelBeibl 10:18  Arfadiaid, Semariaid, a phobl Chamath. Cafodd llwythau'r Canaaneaid eu gwasgaru
Gene WelBeibl 10:19  nes bod eu ffiniau nhw yn estyn o Sidon yr holl ffordd i Gerar ac i fyny i Gasa, ac wedyn yr holl ffordd i Sodom, Gomorra, Adma, a Seboïm, mor bell â Lesha.
Gene WelBeibl 10:20  Felly dyna ddisgynyddion Cham yn ôl eu llwythau, ieithoedd, tiroedd a chenhedloedd.
Gene WelBeibl 10:21  Cafodd Shem, brawd hynaf Jaffeth, feibion hefyd. Shem oedd tad disgynyddion Eber i gyd.
Gene WelBeibl 10:22  Meibion Shem: Elam, Ashŵr, Arffacsad, Lwd, ac Aram.
Gene WelBeibl 10:23  Disgynyddion Aram oedd pobl Us, Chwl, Gether, a Mash.
Gene WelBeibl 10:24  Arffacsad oedd tad Shelach, a Shelach oedd tad Eber.
Gene WelBeibl 10:25  Roedd gan Eber ddau fab – cafodd un ei alw'n Peleg, am mai dyna pryd y cafodd ieithoedd y byd eu rhannu. Yna enw ei frawd oedd Ioctan.
Gene WelBeibl 10:26  Disgynyddion Ioctan oedd pobl Almodad, Sheleff, Chatsar-mafeth, Ierach,
Gene WelBeibl 10:29  Offir, Hafila, a Iobab. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ioctan.
Gene WelBeibl 10:30  Roedden nhw'n byw ar y tir rhwng Mesha a bryniau Seffar yn y dwyrain.
Gene WelBeibl 10:31  Felly dyna ddisgynyddion Shem, yn ôl eu llwythau, ieithoedd, tiroedd a chenhedloedd.
Gene WelBeibl 10:32  Dyna'r llwythau ddaeth o feibion Noa, wedi'u rhestru yn eu cenhedloedd yn ôl eu hachau. Ar ôl y dilyw dyma nhw'n rhannu i wneud gwahanol genhedloedd yn y byd.
Chapter 11
Gene WelBeibl 11:1  Ar un adeg, un iaith oedd drwy'r byd i gyd. Roedd pawb yn defnyddio'r un geiriau.
Gene WelBeibl 11:2  Pan oedd y bobl yn symud o le i le yn y dwyrain, dyma nhw'n dod i dir gwastad yn Babilonia ac yn setlo yno.
Gene WelBeibl 11:3  Ac medden nhw, “Gadewch i ni wneud brics wedi'u tanio'n galed i'w defnyddio i adeiladu.” (Roedden nhw'n defnyddio brics yn lle cerrig, a tar yn lle morter.)
Gene WelBeibl 11:4  “Dewch,” medden nhw, “gadewch i ni adeiladu dinas fawr i ni'n hunain, gyda thŵr uchel yn estyn i fyny i'r nefoedd. Byddwn ni'n enwog, a fydd dim rhaid i ni gael ein gwasgaru drwy'r byd i gyd.”
Gene WelBeibl 11:5  A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr i edrych ar y ddinas a'r tŵr roedd y bobl yn eu hadeiladu.
Gene WelBeibl 11:6  Ac meddai, “Maen nhw wedi dechrau gwneud hyn am eu bod nhw'n un bobl sy'n siarad yr un iaith. Does dim byd yn eu rhwystro nhw rhag gwneud beth bynnag maen nhw eisiau.
Gene WelBeibl 11:7  Dewch, gadewch i ni fynd i lawr a chymysgu eu hiaith nhw, fel na fyddan nhw'n deall ei gilydd yn siarad.”
Gene WelBeibl 11:8  Felly dyma'r ARGLWYDD yn eu gwasgaru nhw drwy'r byd i gyd, a dyma nhw'n stopio adeiladu'r ddinas.
Gene WelBeibl 11:9  Roedd y ddinas yn cael ei galw yn Babel am mai dyna ble wnaeth yr ARGLWYDD gymysgu ieithoedd pobl, a'u gwasgaru drwy'r byd.
Gene WelBeibl 11:10  Dyma hanes teulu Shem: Pan oedd Shem yn gant oed, cafodd ei fab Arffacsad ei eni. (Roedd hyn ddwy flynedd ar ôl y dilyw.)
Gene WelBeibl 11:11  Buodd Shem fyw am 500 mlynedd ar ôl i Arffacsad gael ei eni, a chafodd blant eraill.
Gene WelBeibl 11:12  Pan oedd Arffacsad yn 35 oed, cafodd ei fab Shelach ei eni.
Gene WelBeibl 11:13  Buodd Arffacsad fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Shelach gael ei eni, a chafodd blant eraill.
Gene WelBeibl 11:14  Pan oedd Shelach yn 30 oed, cafodd ei fab Eber ei eni.
Gene WelBeibl 11:15  Buodd Shelach fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Eber gael ei eni, a chafodd blant eraill.
Gene WelBeibl 11:16  Pan oedd Eber yn 34 oed, cafodd ei fab Peleg ei eni.
Gene WelBeibl 11:17  Buodd Eber fyw am 430 mlynedd ar ôl i Peleg gael ei eni, a chafodd blant eraill.
Gene WelBeibl 11:18  Pan oedd Peleg yn 30 oed, cafodd ei fab Reu ei eni.
Gene WelBeibl 11:19  Buodd Peleg fyw am 209 o flynyddoedd ar ôl i Reu gael ei eni, a chafodd blant eraill.
Gene WelBeibl 11:20  Pan oedd Reu yn 32 oed, cafodd ei fab Serwg ei eni.
Gene WelBeibl 11:21  Buodd Reu fyw am 207 o flynyddoedd ar ôl i Serwg gael ei eni, a chafodd blant eraill.
Gene WelBeibl 11:22  Pan oedd Serwg yn 30 oed, cafodd ei fab Nachor ei eni.
Gene WelBeibl 11:23  Buodd Serwg fyw am 200 mlynedd ar ôl i Nachor gael ei eni, a chafodd blant eraill.
Gene WelBeibl 11:24  Pan oedd Nachor yn 29 oed, cafodd ei fab Tera ei eni.
Gene WelBeibl 11:25  Buodd Nachor fyw am 119 mlynedd ar ôl i Tera gael ei eni, a chafodd blant eraill.
Gene WelBeibl 11:26  Pan oedd Tera yn 70 oed, roedd ganddo dri mab – Abram, Nachor a Haran.
Gene WelBeibl 11:27  Dyma hanes teulu Tera: Tera oedd tad Abram, Nachor a Haran. Haran oedd tad Lot.
Gene WelBeibl 11:28  Pan fuodd Haran farw yn Ur yn Babilonia, lle cafodd ei eni, roedd ei dad Tera yn dal yn fyw.
Gene WelBeibl 11:29  Priododd y ddau frawd arall. Sarai oedd enw gwraig Abram, a Milca oedd enw gwraig Nachor (Roedd hi'n un o ferched Haran, ac enw ei chwaer oedd Isca).
Gene WelBeibl 11:31  Dyma Tera yn gadael Ur yn Babilonia gyda'r bwriad o symud i wlad Canaan. Aeth ag Abram ei fab gydag e, Sarai ei ferch-yng-nghyfraith a hefyd Lot ei ŵyr (sef mab Haran). Ond ar ôl cyrraedd Haran dyma nhw'n setlo yno.
Chapter 12
Gene WelBeibl 12:1  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Dw i am i ti adael dy wlad, dy bobl a dy deulu, a mynd i ble dw i'n ei ddangos i ti.
Gene WelBeibl 12:2  Bydda i'n dy wneud di yn genedl fawr, ac yn dy fendithio di, a byddi'n enwog. Dw i eisiau i ti fod yn fendith i eraill.
Gene WelBeibl 12:3  Bydda i'n bendithio'r rhai sy'n dy fendithio di ac yn melltithio unrhyw un sy'n dy fychanu di. A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.”
Gene WelBeibl 12:4  Felly dyma Abram yn mynd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. A dyma Lot yn mynd gydag e. (Roedd Abram yn 75 mlwydd oed pan adawodd Haran.)
Gene WelBeibl 12:5  Aeth Abram â'i wraig Sarai gydag e, a Lot ei nai. Aeth â'i eiddo i gyd, a'r gweithwyr roedd wedi'u cymryd ato yn Haran, a mynd i wlad Canaan. Pan gyrhaeddon nhw yno
Gene WelBeibl 12:6  dyma Abram yn teithio drwy'r wlad ac yn cyrraedd derwen More, oedd yn lle addoli yn Sichem. (Y Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.)
Gene WelBeibl 12:7  Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Abram, ac yn dweud, “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di.” Felly cododd Abram allor i'r ARGLWYDD oedd wedi dod ato.
Gene WelBeibl 12:8  Wedyn symudodd Abram yn ei flaen tua'r de, a gwersylla yn y bryniau sydd i'r dwyrain o Bethel. Roedd Bethel i'r gorllewin iddo, ac Ai tua'r dwyrain. Cododd allor yno hefyd, ac addoli'r ARGLWYDD.
Gene WelBeibl 12:9  Yna teithiodd Abram yn ei flaen bob yn dipyn i gyfeiriad y Negef yn y de.
Gene WelBeibl 12:10  Roedd newyn difrifol yn y wlad. Felly dyma Abram yn mynd i lawr i'r Aifft i grwydro yno.
Gene WelBeibl 12:11  Pan oedd bron cyrraedd yr Aifft, dwedodd wrth ei wraig Sarai, “Ti'n ddynes hardd iawn.
Gene WelBeibl 12:12  Pan fydd yr Eifftiaid yn dy weld di byddan nhw'n dweud, ‘Ei wraig e ydy hi’, a byddan nhw yn fy lladd i er mwyn dy gael di.
Gene WelBeibl 12:13  Dwed wrthyn nhw mai fy chwaer i wyt ti. Byddan nhw'n garedig ata i wedyn am eu bod nhw'n dy hoffi di, a bydda i'n saff.”
Gene WelBeibl 12:14  Pan gyrhaeddodd Abram yr Aifft, roedd yr Eifftiaid yn gweld fod Sarai yn ddynes hardd iawn.
Gene WelBeibl 12:15  Gwelodd swyddogion y Pharo hi, a mynd i ddweud wrtho mor hardd oedd hi. Felly cymerodd y Pharo hi i fod yn un o'i harîm.
Gene WelBeibl 12:16  Roedd y Pharo'n garedig iawn at Abram o'i hachos hi. Rhoddodd ddefaid a gwartheg, asennod, caethweision a chaethferched, a chamelod iddo.
Gene WelBeibl 12:17  Ond am fod y Pharo wedi cymryd Sarai, gwraig Abram, iddo'i hun, dyma'r ARGLWYDD yn anfon afiechydon ofnadwy arno fe a phawb yn ei balas.
Gene WelBeibl 12:18  Galwodd y Pharo am Abram, a dweud wrtho, “Pam wyt ti wedi gwneud hyn i mi? Pam wnest ti ddim dweud mai dy wraig di oedd hi?
Gene WelBeibl 12:19  Pam dweud ‘Fy chwaer i ydy hi’, a gadael i mi ei chymryd hi'n wraig i mi fy hun? Felly dyma hi, dy wraig, yn ôl i ti. Cymer hi a dos o ngolwg i!”
Gene WelBeibl 12:20  Rhoddodd y Pharo orchymyn i'w filwyr yrru Abram a'i wraig a phopeth oedd ganddo, allan o'r wlad.
Chapter 13
Gene WelBeibl 13:1  Felly dyma Abram yn gadael yr Aifft, gyda'i wraig a phopeth oedd ganddo a Lot. Aethon nhw yn ôl i'r Negef yn ne Canaan.
Gene WelBeibl 13:2  Roedd Abram yn gyfoethog iawn – roedd ganddo lawer iawn o anifeiliaid ac arian ac aur.
Gene WelBeibl 13:3  Teithiodd yn ei flaen bob yn dipyn drwy'r Negef ac yn ôl i fyny i Bethel. Aeth i'r man lle roedd wedi gwersylla gyntaf, rhwng Bethel ac Ai.
Gene WelBeibl 13:4  Dyna ble roedd wedi codi allor bryd hynny; ac addolodd yr ARGLWYDD yno eto.
Gene WelBeibl 13:5  Roedd gan Lot, oedd yn teithio gydag Abram, ddefaid a gwartheg a phebyll hefyd.
Gene WelBeibl 13:6  Doedd dim digon o borfa a dŵr iddyn nhw fyw gyda'i gilydd, am fod gan y ddau gymaint o anifeiliaid.
Gene WelBeibl 13:7  Ac roedd gweision Abram a gweision Lot yn cweryla drwy'r adeg. (Y Canaaneaid a'r Peresiaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.)
Gene WelBeibl 13:8  Felly dyma Abram yn dweud wrth Lot, “Da ti, gad i ni a'n gweision beidio ffraeo! Dŷn ni'n perthyn i'r un teulu!
Gene WelBeibl 13:9  Edrych, mae'r wlad i gyd o dy flaen di. Beth am i ni wahanu? Dewis di ble wyt ti am fynd i fyw, a gwna i fynd i'r cyfeiriad arall.”
Gene WelBeibl 13:10  Edrychodd Lot o'i gwmpas, a gwelodd fod dyffryn Iorddonen i fyny at Soar yn dir da gyda digon o ddŵr. Roedd yn ffrwythlon fel gardd yr ARGLWYDD yn Eden, neu wlad yr Aifft. (Roedd hyn cyn i'r ARGLWYDD ddinistrio trefi Sodom a Gomorra.)
Gene WelBeibl 13:11  Felly dyma Lot yn dewis dyffryn Iorddonen, a mynd i gyfeiriad y dwyrain. A dyma'r teulu'n gwahanu.
Gene WelBeibl 13:12  Setlodd Abram yng ngwlad Canaan, ac aeth Lot i fyw wrth y trefi yn y dyffryn, a gwersylla wrth ymyl Sodom.
Gene WelBeibl 13:13  Roedd pobl Sodom yn ddrwg iawn, ac yn pechu'n fawr yn erbyn yr ARGLWYDD.
Gene WelBeibl 13:14  Ar ôl i Lot ei adael, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Edrych o dy gwmpas i bob cyfeiriad.
Gene WelBeibl 13:15  Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i gyd i ti a dy ddisgynyddion, am byth.
Gene WelBeibl 13:16  Bydd gen ti gymaint o ddisgynyddion fydd dim posib eu cyfri nhw. Byddan nhw fel llwch ar y ddaear!
Gene WelBeibl 13:17  Dos i deithio o gwmpas y wlad. Bydda i'n rhoi'r cwbl i ti.”
Gene WelBeibl 13:18  Felly dyma Abram yn mynd, ac yn setlo i lawr wrth goed derw Mamre, oedd yn fan addoli yn Hebron. A dyma fe'n codi allor i'r ARGLWYDD yno.
Chapter 14
Gene WelBeibl 14:1  Bryd hynny roedd Amraffel brenin Babilonia, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Tidal brenin Goïm,
Gene WelBeibl 14:2  yn rhyfela yn erbyn Bera brenin Sodom, Birsha brenin Gomorra, Shinab brenin Adma, Shemeber brenin Seboïm, a brenin Bela (sef Soar).
Gene WelBeibl 14:3  Roedd brenhinoedd Sodom, Gomorra, Adma, Seboïm a Bela wedi ffurfio cynghrair, a dod at ei gilydd yn nyffryn Sidim (lle mae'r Môr Marw).
Gene WelBeibl 14:4  Roedden nhw wedi bod dan reolaeth Cedorlaomer am ddeuddeg mlynedd, ond y flwyddyn wedyn dyma nhw'n gwrthryfela yn ei erbyn.
Gene WelBeibl 14:5  Flwyddyn ar ôl hynny daeth Cedorlaomer a'r brenhinoedd oedd ar ei ochr e, a choncro y Reffaiaid yn Ashteroth-carnaïm, y Swsiaid yn Ham, yr Emiaid yn Safe-Ciriathaim,
Gene WelBeibl 14:6  a'r Horiaid ym mryniau Seir, yr holl ffordd i El-paran sydd wrth ymyl yr anialwch.
Gene WelBeibl 14:7  Wedyn dyma nhw yn troi yn ôl ac yn ymosod ar En-mishpat (sef Cadesh), a gorchfygu gwlad yr Amaleciaid i gyd, a hefyd yr Amoriaid oedd yn byw yn Chatsason-tamar.
Gene WelBeibl 14:8  Felly dyma frenhinoedd Sodom, Gomorra, Adma, Seboïm a Bela (sef Soar) yn mynd i ddyffryn Sidim, a pharatoi i ymladd
Gene WelBeibl 14:9  yn erbyn Cedorlaomer brenin Elam, a brenhinoedd Goïm, Babilonia ac Elasar – pedwar brenin yn erbyn pump.
Gene WelBeibl 14:10  Roedd Dyffryn Sidim yn llawn o byllau tar. Wrth i fyddinoedd Sodom a Gomorra ddianc oddi wrth y gelyn, dyma rai ohonyn nhw yn llithro i mewn i'r pyllau, ond llwyddodd y gweddill i ddianc i'r bryniau.
Gene WelBeibl 14:11  Dyma'r byddinoedd oedd yn fuddugol yn cymryd eiddo Sodom a Gomorra, a'r bwyd oedd yno, cyn mynd i ffwrdd.
Gene WelBeibl 14:12  Wrth adael, dyma nhw'n cymryd Lot, nai Abram, a'i eiddo fe i gyd hefyd, gan fod Lot yn byw yn Sodom.
Gene WelBeibl 14:13  Ond dyma un oedd wedi llwyddo i ddianc yn mynd i ddweud wrth Abram yr Hebread beth oedd wedi digwydd. (Roedd Abram yn byw wrth goed derw Mamre yr Amoriad, ac roedd Mamre a'i frodyr, Eshcol ac Aner, wedi ffurfio cynghrair gydag Abram.)
Gene WelBeibl 14:14  Felly pan glywodd Abram fod ei nai wedi cael ei gymryd yn gaeth, casglodd ei filwyr, sef 318 o ddynion oedd wedi'u geni gyda'r clan. Aeth ar ôl y gelyn mor bell â Dan yn y gogledd.
Gene WelBeibl 14:15  Yn ystod y nos dyma Abram yn rhannu ei fyddin ac yn ymosod ar y gelyn. Aeth ar eu holau mor bell â Choba, sydd i'r gogledd o Damascus.
Gene WelBeibl 14:16  Cafodd bopeth roedden nhw wedi'i ddwyn yn ôl. Daeth â'i nai Lot a'i eiddo yn ôl hefyd, a'r gwragedd a gweddill y bobl oedd wedi cael eu dal.
Gene WelBeibl 14:17  Ar ôl ennill y frwydr yn erbyn Cedorlaomer a'r brenhinoedd eraill, dyma Abram yn mynd adre. Aeth brenin Sodom i'w groesawu yn Nyffryn Shafe (sef Dyffryn y Brenin).
Gene WelBeibl 14:18  A dyma Melchisedec, brenin Salem, yn mynd â bwyd a gwin iddo. Roedd Melchisedec yn offeiriad i'r Duw Goruchaf,
Gene WelBeibl 14:19  a dyma fe'n bendithio Abram fel hyn: “Boed i'r Duw Goruchaf, sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear, dy fendithio Abram.
Gene WelBeibl 14:20  A boed i'r Duw Goruchaf gael ei foli, am ei fod wedi gwneud i ti goncro dy elynion!” Yna dyma Abram yn rhoi iddo un rhan o ddeg o'r cwbl oedd ganddo.
Gene WelBeibl 14:21  Wedyn dyma frenin Sodom yn dweud wrth Abram, “Rho'r bobl yn ôl i mi, ond cadw bopeth arall i ti dy hun.”
Gene WelBeibl 14:22  Ond atebodd Abram, “Na, dw i wedi cymryd llw, ac addo i'r ARGLWYDD, y Duw Goruchaf sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear,
Gene WelBeibl 14:23  na fydda i'n cymryd dim byd gen ti – y mymryn lleiaf hyd yn oed. Dw i ddim am i ti ddweud, ‘Fi sydd wedi gwneud Abram yn gyfoethog.’
Gene WelBeibl 14:24  Does gen i eisiau dim byd ond beth mae'r milwyr ifanc yma wedi'i fwyta. Ond dylai Aner, Eshcol a Mamre, aeth i ymladd gyda mi, gael eu siâr nhw.”
Chapter 15
Gene WelBeibl 15:1  Rywbryd wedyn, dyma'r ARGLWYDD yn siarad ag Abram mewn gweledigaeth, “Paid bod ag ofn Abram. Fi ydy dy darian di. Byddi'n derbyn gwobr fawr.”
Gene WelBeibl 15:2  Ond meddai Abram, “O Feistr, ARGLWYDD, beth ydy'r pwynt os bydda i'n marw heb gael mab? Elieser o Ddamascus fydd yn cael popeth sydd gen i!
Gene WelBeibl 15:3  Dwyt ti ddim wedi rhoi plant i mi, felly caethwas sydd wedi bod gyda mi ers iddo gael ei eni fydd yn etifeddu'r cwbl!”
Gene WelBeibl 15:4  Ond dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Na, dim hwn fydd yn cael dy eiddo di. Dy fab naturiol di dy hun fydd yn etifeddu dy eiddo di.”
Gene WelBeibl 15:5  A dyma'r ARGLWYDD yn mynd ag Abram allan, a dweud wrtho, “Edrych i fyny i'r awyr. Cyfra faint o sêr sydd yna, os fedri di! Fel yna fydd dy ddisgynyddion di – yn gwbl amhosib i'w cyfri.”
Gene WelBeibl 15:6  Credodd Abram yr ARGLWYDD, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gydag e.
Gene WelBeibl 15:7  Wedyn dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi dod â ti yma o Ur yn Babilonia. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i ti.”
Gene WelBeibl 15:8  Ond dyma Abram yn gofyn, “O Feistr, ARGLWYDD, sut alla i fod yn siŵr dy fod ti'n mynd i'w rhoi i mi?”
Gene WelBeibl 15:9  Yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Tyrd â heffer, gafr a hwrdd yma – pob un ohonyn nhw'n dair blwydd oed – a hefyd turtur a cholomen ifanc.”
Gene WelBeibl 15:10  Dyma Abram yn dod â'r tri anifail, yn eu hollti nhw ar eu hyd, a yn gosod y ddau ddarn gyferbyn â'i gilydd. Ond wnaeth e ddim hollti'r adar yn eu hanner.
Gene WelBeibl 15:11  Pan oedd fwlturiaid yn dod i lawr ar y cyrff roedd Abram yn eu hel nhw i ffwrdd.
Gene WelBeibl 15:12  Ond gyda'r nos, pan oedd hi'n machlud, dyma Abram yn syrthio i gysgu'n drwm. A daeth tywyllwch a dychryn ofnadwy drosto.
Gene WelBeibl 15:13  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dw i eisiau i ti ddeall y bydd dy ddisgynyddion yn cael eu hunain yn byw fel ffoaduriaid mewn gwlad ddieithr. Byddan nhw'n cael eu gwneud yn gaethweision, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd.
Gene WelBeibl 15:14  Ond bydda i'n cosbi'r genedl fydd wedi'u gwneud nhw'n gaethweision, ac wedyn byddan nhw'n gadael y wlad honno gyda lot fawr o eiddo.
Gene WelBeibl 15:15  (Ond byddi di dy hun yn cael bywyd hir, braf cyn i ti farw a chael dy gladdu.)
Gene WelBeibl 15:16  Bydd dy ddisgynyddion yn dod yn ôl yma wedi pedair cenhedlaeth. Dydy'r holl ddrwg mae'r Amoriaid yn ei wneud ddim ar ei waethaf eto.”
Gene WelBeibl 15:17  Pan oedd yr haul wedi machlud a hithau'n dywyll, dyma grochan tân oedd yn mygu a ffagl oedd yn llosgi yn pasio rhwng y darnau o'r anifeiliaid.
Gene WelBeibl 15:18  Y diwrnod hwnnw dyma'r ARGLWYDD yn gwneud ymrwymiad gydag Abram: “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di – y tir i gyd o afon yr Aifft i afon fawr Ewffrates.
Gene WelBeibl 15:21  Amoriaid, Canaaneaid, Girgasiaid, a'r Jebwsiaid.”
Chapter 16
Gene WelBeibl 16:1  Doedd Sarai, gwraig Abram, ddim yn gallu cael plant. Ond roedd ganddi forwyn o'r enw Hagar, o wlad yr Aifft.
Gene WelBeibl 16:2  A dyma Sarai yn dweud wrth Abram, “Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi gadael i mi gael plant, felly dw i am i ti gysgu gyda fy morwyn i. Falle y ca i blant drwyddi hi.” A dyma Abram yn gwneud beth ddwedodd Sarai wrtho.
Gene WelBeibl 16:3  Felly dyma Sarai, gwraig Abram, yn rhoi Hagar, ei morwyn Eifftaidd, yn wraig i Abram. Roedd hyn ddeg mlynedd ar ôl i Abram symud i fyw i Canaan.
Gene WelBeibl 16:4  Ar ôl i Abram gysgu gyda Hagar dyma hi'n beichiogi. Pan sylweddolodd hi ei bod hi'n disgwyl babi dechreuodd Hagar edrych i lawr ar ei meistres.
Gene WelBeibl 16:5  Dyma Sarai'n dweud wrth Abram, “Arnat ti mae'r bai mod i'n cael fy ngham-drin fel yma! Gwnes i adael i ti gysgu gyda hi, ond pan welodd hi ei bod hi'n disgwyl babi dyma hi'n dechrau edrych i lawr arna i. Boed i'r ARGLWYDD ddangos pwy sydd ar fai!”
Gene WelBeibl 16:6  Ond atebodd Abram, “Gan mai dy forwyn di ydy hi, gwna di beth wyt ti eisiau gyda hi.” Felly dyma Sarai yn dechrau ei cham-drin hi, a dyma Hagar yn rhedeg i ffwrdd.
Gene WelBeibl 16:7  Daeth angel yr ARGLWYDD o hyd iddi wrth ymyl ffynnon yn yr anialwch, sef y ffynnon sydd ar y ffordd i Shwr.
Gene WelBeibl 16:8  “Hagar, forwyn Sarai,” meddai wrthi, “o ble wyt ti wedi dod? I ble ti'n mynd?” A dyma Hagar yn ateb, “Dw i wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth Sarai, fy meistres.”
Gene WelBeibl 16:9  Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn dweud wrthi, “Dos adre at dy feistres, a bydd yn ufudd iddi.”
Gene WelBeibl 16:10  Wedyn aeth ymlaen i ddweud, “Fydd hi ddim yn bosib cyfri dy ddisgynyddion di; bydd cymaint ohonyn nhw.”
Gene WelBeibl 16:11  A dyma'r angel yn dweud wrthi: “Ti'n feichiog, ac yn mynd i gael mab. Rwyt i roi'r enw Ishmael iddo, am fod yr ARGLWYDD wedi gweld beth wyt ti wedi'i ddiodde.
Gene WelBeibl 16:12  Ond bydd dy fab yn ymddwyn fel asyn gwyllt. Bydd yn erbyn pawb, a bydd pawb yn ei erbyn e. Bydd hyd yn oed yn tynnu'n groes i'w deulu ei hun.”
Gene WelBeibl 16:13  Dyma Hagar yn galw'r ARGLWYDD oedd wedi siarad â hi yn El-roi (sef ‛y Duw sy'n edrych arna i‛). “Ydw i wir wedi gweld y Duw sy'n edrych ar fy ôl i?” meddai. (
Gene WelBeibl 16:14  A dyna pam y cafodd y ffynnon ei galw yn Beër-lachai-roi. Mae hi rhwng Cadesh a Bered.)
Gene WelBeibl 16:15  Cafodd Hagar ei babi – mab i Abram. A dyma Abram yn ei alw yn Ishmael.
Gene WelBeibl 16:16  (Roedd Abram yn 86 oed pan gafodd Ishmael ei eni.)
Chapter 17
Gene WelBeibl 17:1  Pan oedd Abram yn 99 mlwydd oed, dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos iddo, ac yn dweud, “Fi ydy'r Duw sy'n rheoli popeth. Dw i am i ti fyw mewn perthynas â mi, a gwneud beth dw i eisiau.
Gene WelBeibl 17:2  Bydda i'n gwneud ymrwymiad rhyngon ni'n dau, ac yn rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.”
Gene WelBeibl 17:3  Plygodd Abram â'i wyneb ar lawr. Ac meddai Duw wrtho,
Gene WelBeibl 17:4  “Dyma'r ymrwymiad dw i'n ei wneud i ti: byddi di'n dad i lawer iawn o bobloedd gwahanol.
Gene WelBeibl 17:5  A dw i am newid dy enw di o Abram i Abraham, am fy mod i wedi dy wneud di yn dad llawer o bobloedd gwahanol.
Gene WelBeibl 17:6  Bydd gen ti filiynau o ddisgynyddion. Bydd cenhedloedd cyfan yn dod ohonot ti, a bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd.
Gene WelBeibl 17:7  Bydda i'n cadarnhau fy ymrwymiad i ti ac i dy ddisgynyddion ar dy ôl di. Bydd yr ymrwymiad yn para am byth, ar hyd y cenedlaethau. Dw i'n addo bod yn Dduw i ti ac i dy ddisgynyddion di.
Gene WelBeibl 17:8  A dw i'n mynd i roi'r wlad lle rwyt ti'n crwydro, gwlad Canaan, i ti a dy ddisgynyddion am byth. Fi fydd eu Duw nhw.”
Gene WelBeibl 17:9  Yna dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “Rhaid i ti gadw gofynion yr ymrwymiad – ti, a dy ddisgynyddion ar dy ôl di, ar hyd y cenedlaethau.
Gene WelBeibl 17:10  Dyma mae'n rhaid i chi ei wneud: Rhaid i bob gwryw fynd drwy ddefod enwaediad.
Gene WelBeibl 17:11  Byddwch yn torri'r blaengroen fel arwydd o'r ymrwymiad rhyngon ni.
Gene WelBeibl 17:12  I lawr y cenedlaethau bydd rhaid i bob bachgen gael ei enwaedu pan mae'n wythnos oed. Mae hyn i gynnwys y bechgyn sy'n perthyn i'r teulu, a'ch caethweision a'u plant.
Gene WelBeibl 17:13  Bydd rhaid i'r caethweision gafodd eu prynu gynnoch chi, a'u plant nhw, fynd drwy ddefod enwaediad hefyd. Bydd arwydd yr ymrwymiad rhyngon ni i'w weld ar y corff am byth.
Gene WelBeibl 17:14  Bydd unrhyw wryw sydd heb fynd drwy ddefod enwaediad yn cael ei dorri allan o'r gymuned, am ei fod heb gadw gofynion yr ymrwymiad.”
Gene WelBeibl 17:15  Wedyn dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “I droi at Sarai, dy wraig. Ti ddim i'w galw hi'n Sarai o hyn ymlaen, ond Sara.
Gene WelBeibl 17:16  Dw i'n mynd i'w bendithio hi, a rhoi mab i ti ohoni hi. Dw i'n mynd i'w bendithio hi, a bydd hi yn fam i lawer o genhedloedd. Bydd brenhinoedd gwahanol bobloedd yn dod ohoni.”
Gene WelBeibl 17:17  Aeth Abraham ar ei wyneb ar lawr eto, ond yna chwerthin iddo'i hun, a meddwl, “Sut all dyn sy'n gant oed gael plentyn? Ydy Sara, sy'n naw deg oed, yn gallu cael babi?”
Gene WelBeibl 17:18  Yna dyma Abraham yn dweud wrth Dduw, “Pam wnei di ddim gadael i Ishmael dderbyn y bendithion yna?”
Gene WelBeibl 17:19  “Na,” meddai Duw, “mae dy wraig Sara yn mynd i gael mab i ti. Rwyt i'w alw yn Isaac. Bydda i'n cadarnhau iddo fe yr ymrwymiad dw i wedi'i wneud – ei fod yn ymrwymiad fydd yn para am byth, ac i'w ddisgynyddion ar ei ôl.
Gene WelBeibl 17:20  Ond dw i wedi clywed beth ti'n ei ofyn am Ishmael hefyd. Bydda i'n ei fendithio ac yn rhoi lot fawr o ddisgynyddion iddo. Bydd yn dad i un deg dau o benaethiaid llwythau, a bydda i'n ei wneud yn genedl fawr.
Gene WelBeibl 17:21  Ond gydag Isaac y bydda i'n cadarnhau'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud. Bydd yn cael ei eni i Sara yr adeg yma'r flwyddyn nesa.”
Gene WelBeibl 17:22  Ar ôl dweud hyn i gyd, dyma Duw yn gadael Abraham.
Gene WelBeibl 17:23  Felly'r diwrnod hwnnw dyma Abraham yn enwaedu ei fab Ishmael, a'i weision i gyd (y rhai oedd gydag e ers iddyn nhw gael eu geni a'r rhai roedd wedi'u prynu) – pob un gwryw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.
Gene WelBeibl 17:24  Roedd Abraham yn 99 mlwydd oed pan gafodd ei enwaedu,
Gene WelBeibl 17:26  Cafodd y ddau ohonyn nhw eu henwaedu yr un diwrnod.
Gene WelBeibl 17:27  A chafodd pob un o'r dynion a'r bechgyn eraill oedd gydag e eu henwaedu hefyd (y gweision oedd gydag e ers iddyn nhw gael eu geni a'r rhai roedd wedi'u prynu).
Chapter 18
Gene WelBeibl 18:1  Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Abraham wrth goed derw Mamre. Roedd yr haul yn boeth ganol dydd, ac roedd yn eistedd wrth y fynedfa i'w babell.
Gene WelBeibl 18:2  Gwelodd dri dyn yn sefyll gyferbyn ag e. Rhedodd draw atyn nhw ac ymgrymu yn isel o'u blaenau.
Gene WelBeibl 18:3  “Fy meistr,” meddai, “Plîs peidiwch â mynd. Byddai'n fraint i'ch gwahodd chi i aros yma am ychydig.
Gene WelBeibl 18:4  Cewch ddŵr i olchi eich traed, a chyfle i orffwys dan y goeden yma.
Gene WelBeibl 18:5  Af i nôl ychydig o fwyd i'ch cadw chi i fynd. Cewch fynd ymlaen ar eich taith wedyn. Mae'n bleser gen i eich bod wedi dod heibio cartre'ch gwas.” A dyma nhw'n ateb, “Iawn, gwna di hynny.”
Gene WelBeibl 18:6  Brysiodd Abraham i mewn i'r babell at Sara, a dweud, “Brysia, cymer sachaid o flawd mân i wneud bara.”
Gene WelBeibl 18:7  Wedyn dyma Abraham yn rhuthro allan at y gwartheg, ac yn dewis llo ifanc. Rhoddodd y llo i'w was i'w baratoi ar frys.
Gene WelBeibl 18:8  Pan oedd y bwyd yn barod, cymerodd Abraham gaws colfran a llaeth a'r cig wedi'i rostio a'u gosod o'u blaenau. A safodd wrth eu hymyl dan y goeden tra oedden nhw'n bwyta.
Gene WelBeibl 18:9  “Ble mae dy wraig, Sara?” medden nhw wrth Abraham. “Fan yna, yn y babell,” atebodd yntau.
Gene WelBeibl 18:10  A dyma un ohonyn nhw'n dweud, “Dw i'n mynd i ddod yn ôl yr adeg yma'r flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.” Roedd Sara y tu ôl i ddrws y babell, yn gwrando ar hyn i gyd.
Gene WelBeibl 18:11  (Roedd Abraham a Sara mewn oed, ac roedd Sara yn rhy hen i gael plant.)
Gene WelBeibl 18:12  Pan glywodd hi beth ddywedwyd, roedd hi'n chwerthin ynddi ei hun, ac yn meddwl, “Ydw i'n mynd i gael pleser felly? Dw i wedi hen ddarfod ac mae Abraham yn hen ddyn hefyd.”
Gene WelBeibl 18:13  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Pam wnaeth Sara chwerthin, a dweud ‘Ydw i'n mynd i gael plentyn a minnau mor hen?’
Gene WelBeibl 18:14  Dw i, yr ARGLWYDD, yn gallu gwneud unrhyw beth. Bydda i'n dod yn ôl fel y dwedais i, yr adeg yma'r flwyddyn nesa, a bydd Sara'n cael mab.”
Gene WelBeibl 18:15  Roedd Sara wedi dychryn, a dyma hi'n ceisio gwadu'r peth, “Wnes i ddim chwerthin,” meddai hi. “Dydy hynny ddim yn wir,” meddai'r ARGLWYDD. “Roeddet ti yn chwerthin.”
Gene WelBeibl 18:16  Pan gododd y dynion i fynd, roedden nhw'n edrych allan i gyfeiriad Sodom. Roedd Abraham wedi cerdded gyda nhw beth o'r ffordd.
Gene WelBeibl 18:17  A dyma'r ARGLWYDD yn meddwl, “Ddylwn i guddio beth dw i'n mynd i'w wneud oddi wrth Abraham?
Gene WelBeibl 18:18  Mae cenedl fawr gref yn mynd i ddod o Abraham, a bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio drwyddo.
Gene WelBeibl 18:19  Na, dw i'n mynd i ddweud wrtho. Dw i eisiau iddo ddysgu ei blant a phawb sydd gydag e i fyw fel mae'r ARGLWYDD am iddyn nhw fyw, a gwneud beth sy'n iawn ac yn deg. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn dod â'r addewid wnaeth e i Abraham yn wir.”
Gene WelBeibl 18:20  Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Mae pobl yn cwyno yn ofnadwy yn erbyn Sodom a Gomorra, eu bod nhw'n gwneud pethau drwg iawn!
Gene WelBeibl 18:21  Dw i am fynd i lawr i weld a ydy'r cwbl sy'n cael ei ddweud yn wir ai peidio. Bydda i'n gwybod wedyn.”
Gene WelBeibl 18:22  Aeth y dynion yn eu blaenau i gyfeiriad Sodom, tra oedd Abraham yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD.
Gene WelBeibl 18:23  Yna dyma Abraham yn mynd yn nes ato a gofyn, “Fyddet ti ddim yn cael gwared â'r bobl dda gyda'r bobl ddrwg, fyddet ti?
Gene WelBeibl 18:24  Beth petai pum deg o bobl yno sy'n byw yn iawn? Fyddet ti'n dinistrio'r lle yn llwyr a gwrthod ei arbed er mwyn y pum deg yna?
Gene WelBeibl 18:25  Alla i ddim credu y byddet ti'n gwneud y fath beth – lladd pobl dduwiol hefo pobl ddrwg, a thrin y drwg a'r da yr un fath! Fyddet ti byth yn gwneud hynny! Onid ydy Barnwr y byd yn gwneud beth sy'n iawn?”
Gene WelBeibl 18:26  A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Os bydda i'n dod o hyd i bum deg o bobl dduwiol yn y ddinas, bydda i'n arbed y ddinas er eu mwyn nhw.”
Gene WelBeibl 18:27  Yna gofynnodd Abraham, “Gan fy mod i wedi mentro agor fy ngheg, meistr – a dw i'n gwybod nad ydw i'n neb –
Gene WelBeibl 18:28  beth petai yna bump yn llai na hanner cant? Fyddet ti'n dinistrio'r ddinas am fod pump yn eisiau?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim dinistrio'r ddinas os bydd pedwar deg pump yno.”
Gene WelBeibl 18:29  A dyma Abraham yn dweud eto, “Beth am bedwar deg?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd pedwar deg yno.”
Gene WelBeibl 18:30  Ac meddai Abraham, “Plîs paid digio hefo fi, meistr. Beth os oes tri deg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei wneud os bydd tri deg yno.”
Gene WelBeibl 18:31  “Dw i'n mynd i fentro agor fy ngheg eto,” meddai Abraham, “Beth os oes dau ddeg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd dau ddeg yno.”
Gene WelBeibl 18:32  A dyma Abraham yn dweud eto, “Meistr, plîs paid â digio os gwna i siarad un waith eto, am y tro ola. Beth os oes deg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd deg yno.”
Gene WelBeibl 18:33  Ar ôl iddo orffen siarad ag Abraham dyma'r ARGLWYDD yn mynd i ffwrdd. Yna aeth Abraham adre.
Chapter 19
Gene WelBeibl 19:1  Dyma'r ddau angel yn cyrraedd Sodom pan oedd hi'n dechrau nosi. Roedd Lot yn eistedd wrth giât y ddinas. Pan welodd Lot nhw, cododd i'w cyfarch, a phlygu o'u blaenau nhw, â'i wyneb ar lawr.
Gene WelBeibl 19:2  “Fy meistri,” meddai wrthyn nhw, “plîs dewch draw i'm tŷ i. Cewch aros dros nos a golchi eich traed. Wedyn bore fory cewch godi'n gynnar a mynd ymlaen ar eich taith.” Ond dyma nhw'n ei ateb, “Na. Dŷn ni am aros allan yn y sgwâr drwy'r nos.”
Gene WelBeibl 19:3  Ond dyma Lot yn dal ati i bwyso arnyn nhw, ac yn y diwedd aethon nhw gydag e i'w dŷ. Gwnaeth wledd iddyn nhw, gyda bara ffres wedi'i wneud heb furum, a dyma nhw'n bwyta.
Gene WelBeibl 19:4  Cyn iddyn nhw setlo i lawr i gysgu, dyma ddynion Sodom i gyd yn cyrraedd yno ac yn amgylchynu'r tŷ – dynion hen ac ifanc o bob rhan o'r ddinas.
Gene WelBeibl 19:5  A dyma nhw'n galw ar Lot, “Ble mae'r dynion sydd wedi dod atat ti heno? Tyrd â nhw allan yma i ni gael rhyw gyda nhw.”
Gene WelBeibl 19:6  Aeth Lot allan at y dynion, a chau'r drws tu ôl iddo.
Gene WelBeibl 19:7  “Dw i'n pledio arnoch chi, ffrindiau, plîs peidiwch gwneud peth mor ddrwg.
Gene WelBeibl 19:8  Edrychwch, mae gen i ddwy ferch sydd erioed wedi cysgu hefo dyn. Beth am i mi ddod â nhw allan atoch chi? Cewch wneud beth dych chi eisiau iddyn nhw. Ond peidiwch gwneud dim i'r dynion yma – maen nhw'n westeion yn fy nghartre i.”
Gene WelBeibl 19:9  Ond dyma'r dynion yn ei ateb, “Dos o'r ffordd! Un o'r tu allan wyt ti beth bynnag. Pwy wyt ti i'n barnu ni? Cei di hi'n waeth na nhw gynnon ni!” Dyma nhw'n gwthio yn erbyn Lot, nes bron torri'r drws i lawr.
Gene WelBeibl 19:10  Ond dyma'r dynion yn y tŷ yn llwyddo i afael yn Lot a'i dynnu yn ôl i mewn a chau y drws.
Gene WelBeibl 19:11  Yna dyma nhw'n gwneud i'r dynion oedd y tu allan gael eu taro'n ddall – pob un ohonyn nhw, o'r ifancaf i'r hynaf. Roedden nhw'n methu dod o hyd i'r drws.
Gene WelBeibl 19:12  Gofynnodd y dynion i Lot, “Oes gen ti berthnasau yma? – meibion neu ferched, meibion yng nghyfraith neu unrhyw un arall? Dos i'w nôl nhw a gadael y lle yma,
Gene WelBeibl 19:13  achos dŷn ni'n mynd i ddinistrio'r ddinas. Mae pobl wedi bod yn cwyno'n ofnadwy am y lle, ac mae'r ARGLWYDD wedi'n hanfon ni i'w ddinistrio.”
Gene WelBeibl 19:14  Felly dyma Lot yn mynd i siarad â'r dynion oedd i fod i briodi ei ferched. “Codwch!” meddai, “Rhaid i ni adael y lle yma. Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio'r ddinas.” Ond roedden nhw yn meddwl mai tynnu coes oedd e.
Gene WelBeibl 19:15  Ben bore wedyn gyda'r wawr, dyma'r angylion yn dweud wrth Lot am frysio, “Tyrd yn dy flaen. Dos â dy wraig a'r ddwy ferch sydd gen ti, neu byddwch chithau'n cael eich lladd pan fydd y ddinas yn cael ei dinistrio!”
Gene WelBeibl 19:16  Ond roedd yn llusgo'i draed, felly dyma'r dynion yn gafael yn Lot a'i wraig a'i ferched, a mynd â nhw allan o'r ddinas. (Roedd yr ARGLWYDD mor drugarog ato.)
Gene WelBeibl 19:17  Ar ôl mynd â nhw allan, dyma un o'r angylion yn dweud wrthyn nhw, “Rhedwch am eich bywydau. Peidiwch edrych yn ôl, a pheidiwch stopio nes byddwch chi allan o'r dyffryn yma. Rhedwch i'r bryniau, neu byddwch chi'n cael eich lladd.”
Gene WelBeibl 19:19  Rwyt ti wedi bod mor garedig, ac wedi achub fy mywyd i. Ond mae'r bryniau acw'n rhy bell. Alla i byth gyrraedd mewn pryd. Bydd y dinistr yn fy nal i a bydda i'n marw cyn cyrraedd.
Gene WelBeibl 19:20  Edrych, mae'r dre fach acw'n ddigon agos. Gad i mi ddianc yno. Mae'n lle bach, a bydda i'n cael byw.”
Gene WelBeibl 19:21  “Iawn,” meddai'r angel, “wna i ddim dinistrio'r dref yna.
Gene WelBeibl 19:22  Brysia felly. Dianc yno. Alla i wneud dim byd nes byddi di wedi cyrraedd yno.” A dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Soar.
Gene WelBeibl 19:24  A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i dân a brwmstan syrthio o'r awyr ar Sodom a Gomorra.
Gene WelBeibl 19:25  Cafodd y ddwy dref eu dinistrio'n llwyr, a phawb a phopeth arall yn y dyffryn, hyd yn oed y planhigion.
Gene WelBeibl 19:26  A dyma wraig Lot yn edrych yn ôl a syllu ar beth oedd yn digwydd, a chafodd ei throi'n golofn o halen.
Gene WelBeibl 19:27  Yn gynnar y bore wedyn aeth Abraham i'r man lle buodd e'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD.
Gene WelBeibl 19:28  Edrychodd i lawr ar y dyffryn i gyfeiriad Sodom a Gomorra a gweld y mwg yn codi o'r tir fel mwg o ffwrnais.
Gene WelBeibl 19:29  Ond pan ddinistriodd Duw drefi'r dyffryn, cofiodd beth roedd wedi'i addo i Abraham. Roedd wedi achub Lot o ganol y dinistr.
Gene WelBeibl 19:30  Roedd gan Lot ofn aros yn Soar, felly aeth i'r bryniau i fyw. Roedd yn byw yno gyda'i ddwy ferch mewn ogof.
Gene WelBeibl 19:31  Dwedodd y ferch hynaf wrth yr ifancaf, “Mae dad yn mynd yn hen, a does yna run dyn yn agos i'r lle yma i roi plant i ni.
Gene WelBeibl 19:32  Tyrd, gad i ni wneud i dad feddwi ar win, a chysgu gydag e, er mwyn i ni gael plant o'n tad a chadw enw'r teulu i fynd.”
Gene WelBeibl 19:33  Felly'r noson honno dyma nhw'n rhoi gwin i'w tad a gwneud iddo feddwi. A dyma'r hynaf yn mynd at ei thad a chael rhyw gydag e. Ond roedd yn rhy feddw i wybod dim am y peth.
Gene WelBeibl 19:34  Y bore wedyn dyma'r hynaf yn dweud wrth yr ifancaf, “Gwnes i gysgu gyda dad neithiwr. Gad i ni roi gwin iddo eto heno, a chei di gysgu gydag e, er mwyn i ni gael plant o'n tad a chadw enw'r teulu i fynd.”
Gene WelBeibl 19:35  Felly dyma nhw'n gwneud i'w tad feddwi y noson honno eto. A dyma'r ifancaf yn mynd at ei thad ac yn cael rhyw gydag e. Ond roedd Lot eto yn rhy feddw i wybod dim am y peth.
Gene WelBeibl 19:37  Cafodd y ferch hynaf fab a'i alw yn Moab. Ohono fe y daeth y Moabiaid.
Gene WelBeibl 19:38  Cafodd yr ifancaf fab hefyd, a'i alw yn Ben-ammi. Ac ohono fe y daeth yr Ammoniaid.
Chapter 20
Gene WelBeibl 20:1  Symudodd Abraham i'r de i gyfeiriad y Negef, a buodd yn byw rhwng Cadesh a Shwr. Pan oedd yn crwydro am gyfnod yn ardal Gerar
Gene WelBeibl 20:2  dwedodd wrth bobl mai ei chwaer oedd Sara, ei wraig. A dyma Abimelech, brenin Gerar, yn anfon amdani i'w chymryd iddo'i hun.
Gene WelBeibl 20:3  Ond dyma Duw yn siarad ag Abimelech mewn breuddwyd un noson, a dweud wrtho, “Ti'n mynd i farw am gymryd y wraig yma, achos mae hi'n wraig briod.”
Gene WelBeibl 20:4  Doedd Abimelech ddim wedi cysgu gyda hi ar y pryd, ac felly dwedodd, “Meistr, fyddet ti'n dinistrio pobl sy'n ddieuog?
Gene WelBeibl 20:5  Roedd Abraham wedi dweud mai ei chwaer e oedd hi. Ac roedd hithau'n dweud mai ei brawd hi oedd Abraham. Rôn i'n gweithredu'n gwbl ddiniwed.”
Gene WelBeibl 20:6  A dyma Duw yn ei ateb, “Ie, dw i'n gwybod dy fod ti'n ddiniwed. Fi gadwodd di rhag pechu yn fy erbyn. Wnes i ddim gadael i ti ei chyffwrdd hi.
Gene WelBeibl 20:7  Felly, rho'r wraig yn ôl i'w gŵr. Mae e'n broffwyd. Bydd e'n gweddïo drosot ti, a chei di fyw. Ond os nad wyt ti'n fodlon mynd â hi yn ôl, rhaid i ti ddeall y byddi di a dy bobl yn marw.”
Gene WelBeibl 20:8  Felly yn gynnar y bore wedyn dyma Abimelech yn galw'i swyddogion i gyd. Dwedodd wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd, ac roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau.
Gene WelBeibl 20:9  Yna galwodd am Abraham a dweud wrtho, “Pam wyt ti wedi gwneud hyn i ni? Ydw i wedi gwneud rhywbeth o'i le i ti? Pam wyt ti wedi achosi i mi a'm pobl bechu mor ofnadwy? Ddylai neb fy nhrin i fel yma.”
Gene WelBeibl 20:10  A gofynnodd i Abraham, “Beth oeddet ti'n feddwl roeddet ti'n ei wneud?”
Gene WelBeibl 20:11  A dyma Abraham yn ateb, “Doeddwn i ddim yn meddwl fod unrhyw un yn addoli Duw yma. Rôn i'n meddwl y byddech chi'n siŵr o'm lladd i er mwyn cael fy ngwraig.
Gene WelBeibl 20:12  Ond yn digwydd bod, mae'n berffaith wir ei bod hi'n chwaer i mi. Mae gynnon ni'r un tad, ond dim yr un fam. Felly dyma fi'n ei phriodi hi.
Gene WelBeibl 20:13  Pan wnaeth Duw i mi adael cartref fy nhad, dwedais wrthi, ‘Dw i am i ti addo rhywbeth i mi. Ble bynnag awn ni, dywed wrth bobl ein bod ni'n frawd a chwaer.’”
Gene WelBeibl 20:14  Wedyn dyma Abimelech yn rhoi defaid ac ychen, caethweision a chaethferched i Abraham. A rhoddodd ei wraig Sara yn ôl iddo hefyd.
Gene WelBeibl 20:15  Wedyn dwedodd wrtho, “Cei fyw ble bynnag rwyt ti eisiau yn fy ngwlad i.”
Gene WelBeibl 20:16  A dwedodd wrth Sara, “Dw i'n rhoi mil o ddarnau arian i dy ‛frawd‛ di. Dw i'n ei roi yn iawndal am bopeth sydd wedi digwydd i ti. Bydd pawb yn gweld wedyn dy fod ti heb wneud dim byd o'i le.”
Gene WelBeibl 20:17  Yna dyma Abraham yn gweddïo ar Dduw, a dyma Duw yn iacháu Abimelech, a'i wraig a'r merched eraill yn ei harîm, fel eu bod nhw'n gallu cael plant eto.
Gene WelBeibl 20:18  (Roedd yr ARGLWYDD wedi stopio'r merched i gyd rhag cael plant, am fod Abimelech wedi cymryd Sara, gwraig Abraham.)
Chapter 21
Gene WelBeibl 21:1  Gwnaeth yr ARGLWYDD yn union fel roedd wedi'i addo i Sara.
Gene WelBeibl 21:2  Dyma hi'n beichiogi, ac yn cael mab i Abraham pan oedd e'n hen ddyn, ar yr union adeg roedd Duw wedi'i ddweud.
Gene WelBeibl 21:4  Pan oedd yn fabi wythnos oed dyma Abraham yn enwaedu ei fab Isaac, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.
Gene WelBeibl 21:5  (Roedd Abraham yn gan mlwydd oed pan gafodd Isaac ei eni.)
Gene WelBeibl 21:6  A dyma Sara'n dweud, “Mae Duw wedi gwneud i mi chwerthin yn llawen, a bydd pawb sy'n clywed am y peth yn chwerthin gyda mi.”
Gene WelBeibl 21:7  Ac meddai wedyn, “Fyddai neb erioed wedi dweud wrth Abraham, ‘Bydd Sara yn magu plant’! Ond dyma fi, wedi rhoi mab iddo, ac yntau'n hen ddyn!”
Gene WelBeibl 21:8  Roedd y plentyn bach yn tyfu. Pan stopiodd gael ei fwydo ar y fron, dyma Abraham yn trefnu parti i ddathlu.
Gene WelBeibl 21:9  Gwelodd Sara y mab gafodd Hagar yr Eifftes i Abraham yn gwneud hwyl am ben ei mab hi, Isaac
Gene WelBeibl 21:10  A dyma hi'n dweud wrth Abraham, “Dw i eisiau i ti gael gwared â'r gaethferch yna a'i mab. Fydd mab y gaethferch yna ddim yn cael rhan o etifeddiaeth fy mab i Isaac!”
Gene WelBeibl 21:11  Doedd Abraham ddim yn hapus o gwbl am y peth, achos roedd Ishmael hefyd yn fab iddo.
Gene WelBeibl 21:12  Ond dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “Paid teimlo'n ddrwg am y bachgen a'i fam. Gwna bopeth mae Sara'n ei ddweud wrthyt. Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw.
Gene WelBeibl 21:13  Ond bydda i'n gwneud mab y gaethferch yn genedl hefyd, am mai dy blentyn di ydy e.”
Gene WelBeibl 21:14  Dyma Abraham yn codi'n gynnar. Rhoddodd fwyd a photel groen o ddŵr i Hagar i'w gario ar ei chefn. Yna anfonodd hi i ffwrdd gyda'i mab. Aeth i grwydro o gwmpas anialwch Beersheba.
Gene WelBeibl 21:15  Pan oedd dim dŵr ar ôl yn y botel, dyma hi'n gadael y bachgen dan gysgod un o'r llwyni.
Gene WelBeibl 21:16  Wedyn aeth i eistedd ar ei phen ei hun reit bell oddi wrtho (tua ergyd bwa i ffwrdd). “Alla i ddim edrych ar y bachgen yn marw,” meddyliodd. Eisteddodd i lawr gyferbyn ag e, a dechrau crio'n uchel.
Gene WelBeibl 21:17  Ond clywodd Duw lais y bachgen. A dyma angel Duw yn galw ar Hagar o'r nefoedd, a gofyn iddi, “Beth sy'n bod, Hagar? Paid bod ag ofn. Mae Duw wedi clywed llais y bachgen.
Gene WelBeibl 21:18  Tyrd, cod y bachgen ar ei draed a'i ddal yn dynn. Bydda i'n gwneud cenedl fawr ohono.”
Gene WelBeibl 21:19  Yna gwnaeth Duw iddi sylwi fod yna ffynnon yno. Dyma hi'n mynd i lenwi'r botel groen hefo dŵr, a rhoi peth i'r bachgen i'w yfed.
Gene WelBeibl 21:20  Roedd Duw yn gofalu am y bachgen wrth iddo dyfu. Roedd yn byw yn yr anialwch a daeth yn fwasaethwr gwych.
Gene WelBeibl 21:21  Roedd yn byw yn anialwch Paran. A dyma'i fam yn trefnu iddo briodi gwraig o wlad yr Aifft.
Gene WelBeibl 21:22  Tua'r adeg honno, dyma Abimelech, a dyn o'r enw Pichol, pennaeth ei fyddin, yn cyfarfod ag Abraham. “Mae'n gwbl amlwg fod Duw gyda ti bob amser,” meddai Abimelech.
Gene WelBeibl 21:23  “Dw i am i ti addo i mi o flaen Duw na fyddi di'n troi yn fy erbyn i a'm plant a'm pobl. Dw i wedi bod yn garedig atat ti, felly bydd di'n garedig ata i a phobl y wlad yma lle rwyt ti wedi setlo i fyw.”
Gene WelBeibl 21:25  Ond yna dyma fe'n cwyno am y ffynnon roedd gweision Abimelech wedi'i dwyn oddi arno.
Gene WelBeibl 21:26  “Dw i ddim yn gwybod pwy sydd wedi gwneud hyn,” meddai Abimelech. “Beth bynnag, wnest ti ddim dweud wrtho i. Dyma'r cyntaf i mi glywed am y peth.”
Gene WelBeibl 21:27  Wedyn dyma Abraham yn rhoi defaid ac ychen i Abimelech a dyma'r ddau yn gwneud cytundeb.
Gene WelBeibl 21:28  Ond roedd Abraham wedi rhoi saith oen banw ar un ochr.
Gene WelBeibl 21:29  A gofynnodd Abimelech iddo, “Beth ydy'r saith oen banw yma rwyt ti wedi'u gosod ar wahân?”
Gene WelBeibl 21:30  “Dw i eisiau i ti gymryd y saith oen banw yma gen i fel tystiolaeth mai fi sydd wedi cloddio'r ffynnon yma,” meddai Abraham.
Gene WelBeibl 21:31  Dyna pam y galwodd y lle yn Beersheba, am fod y ddau ohonyn nhw wedi mynd ar eu llw yno.
Gene WelBeibl 21:32  Ar ôl gwneud y cytundeb yn Beersheba, dyma Abimelech, a Pichol (pennaeth ei fyddin), yn mynd yn ôl adre i wlad y Philistiaid.
Gene WelBeibl 21:33  Plannodd Abraham goeden tamarisg yn Beersheba. Addolodd yr ARGLWYDD yno, sef y Duw sy'n byw am byth.
Gene WelBeibl 21:34  Buodd Abraham yn crwydro yng ngwlad y Philistiaid am amser hir.
Chapter 22
Gene WelBeibl 22:1  Beth amser wedyn dyma Duw yn rhoi Abraham ar brawf. “Abraham!” meddai Duw. “Ie, dyma fi,” atebodd Abraham.
Gene WelBeibl 22:2  Ac meddai Duw wrtho, “Plîs, cymer dy fab Isaac – yr unig fab sydd gen ti, yr un rwyt ti'n ei garu – a dos i ardal Moreia. Yno dw i am i ti ei ladd a llosgi ei gorff yn offrwm ar un o'r mynyddoedd. Bydda i'n dangos i ti pa un.”
Gene WelBeibl 22:3  Dyma Abraham yn codi'n fore, torri coed ar gyfer llosgi'r offrwm, a'u rhoi ar gefn ei asyn. Aeth â dau o'i weision ifanc gydag e, a hefyd ei fab, Isaac. A dechreuodd ar y daith i ble roedd Duw wedi dweud wrtho.
Gene WelBeibl 22:4  Ar ôl teithio am ddeuddydd, roedd Abraham yn gweld pen y daith yn y pellter.
Gene WelBeibl 22:5  Dwedodd wrth ei weision, “Arhoswch chi yma gyda'r asyn tra bydda i a'r bachgen yn mynd draw acw. Dŷn ni'n mynd i addoli Duw, ac wedyn down ni'n ôl atoch chi.”
Gene WelBeibl 22:6  Dyma Abraham yn rhoi'r coed ar gefn ei fab, Isaac. Wedyn cymerodd y tân a'r gyllell, ac aeth y ddau yn eu blaenau gyda'i gilydd.
Gene WelBeibl 22:7  “Dad,” meddai Isaac wrth Abraham. “Ie, machgen i?” meddai Abraham. “Dad, mae gen ti dân a choed ar gyfer llosgi'r offrwm, ond ble mae'r oen sydd i gael ei aberthu?”
Gene WelBeibl 22:8  “Bydd Duw ei hun yn gwneud yn siŵr fod oen gynnon ni i'w aberthu, machgen i,” meddai Abraham. Felly dyma'r ddau yn mynd yn eu blaenau gyda'i gilydd.
Gene WelBeibl 22:9  Ar ôl cyrraedd y lle roedd Duw wedi sôn amdano, dyma Abraham yn adeiladu allor yno, ac yn gosod y coed ar yr allor. Wedyn dyma fe'n rhwymo ei fab Isaac ac yn ei roi i orwedd ar ben y coed ar yr allor.
Gene WelBeibl 22:10  Gafaelodd Abraham yn y gyllell, ac roedd ar fin lladd ei fab.
Gene WelBeibl 22:11  Ond dyma angel yr ARGLWYDD yn galw arno o'r nefoedd, “Abraham! Abraham!” “Ie? Dyma fi,” meddai Abraham.
Gene WelBeibl 22:12  “Paid cyffwrdd y bachgen, na gwneud dim byd iddo. Dw i'n gwybod bellach dy fod ti'n ddyn sy'n parchu Duw. Roeddet ti hyd yn oed yn fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti.”
Gene WelBeibl 22:13  Gwelodd Abraham hwrdd y tu ôl iddo. Roedd cyrn yr hwrdd wedi mynd yn sownd mewn drysni. Felly dyma Abraham yn cymryd yr hwrdd a'i losgi yn offrwm i Dduw yn lle ei fab.
Gene WelBeibl 22:14  Galwodd Abraham y lle yn “Yr ARGLWYDD sy'n darparu”. Mae pobl yn dal i ddweud heddiw, “Mae'r ARGLWYDD yn darparu beth sydd ei angen ar ei fynydd.”
Gene WelBeibl 22:16  “Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n addo hyn ar fy llw: Am dy fod ti wedi gwneud beth wnest ti (roeddet ti'n fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti),
Gene WelBeibl 22:17  dw i'n mynd i dy fendithio di go iawn a rhoi cymaint o ddisgynyddion i ti ag sydd o sêr yn yr awyr. Byddan nhw fel y tywod ar lan y môr. Byddan nhw'n concro dinasoedd eu gelynion.
Gene WelBeibl 22:18  Drwy dy ddisgynyddion di bydd cenhedloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio, am dy fod ti wedi gwneud beth ddwedais i.’”
Gene WelBeibl 22:19  Felly, aeth Abraham yn ôl at ei weision, a dyma nhw'n teithio gyda'i gilydd i Beersheba, lle gwnaeth Abraham setlo.
Gene WelBeibl 22:20  Beth amser wedyn dwedodd rhywun wrth Abraham fod Milca, gwraig ei frawd Nachor, wedi cael plant hefyd.
Gene WelBeibl 22:21  Us oedd y mab hynaf, wedyn ei frawd Bws, wedyn Cemwel tad Aram,
Gene WelBeibl 22:22  ac wedyn Cesed, Chaso, Pildash, Idlaff a Bethwel.
Gene WelBeibl 22:23  (Bethwel oedd tad Rebeca.) Roedd yr wyth yma yn blant i Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham.
Gene WelBeibl 22:24  Ond roedd gan Nachor bartner arall o'r enw Rŵma, a chafodd hi blant hefyd, sef Tefach, Gachâm, Tachash a Maacha.
Chapter 23
Gene WelBeibl 23:1  Bu farw Sara yn 127 oed, yn Ciriath-arba (sef Hebron), yn Canaan. A buodd Abraham yn galaru ac yn wylo drosti.
Gene WelBeibl 23:2  Bu farw Sara yn 127 oed, yn Ciriath-arba (sef Hebron), yn Canaan. A buodd Abraham yn galaru ac yn wylo drosti.
Gene WelBeibl 23:3  Yna dyma Abraham yn codi a mynd i siarad â disgynyddion Heth,
Gene WelBeibl 23:4  “Mewnfudwr ydw i, yn byw dros dro yn eich plith chi. Wnewch chi werthu darn o dir i mi i gladdu fy ngwraig?”
Gene WelBeibl 23:6  “Wrth gwrs, syr. Rwyt ti fel tywysog pwysig yn ein golwg ni. Dewis y bedd gorau sydd gynnon ni i gladdu dy wraig ynddo. Byddai'n fraint gan unrhyw un ohonon ni i roi ei fedd i ti gladdu dy wraig.”
Gene WelBeibl 23:7  Dyma Abraham yn codi ar ei draed ac yn ymgrymu o flaen y bobl leol, sef disgynyddion Heth.
Gene WelBeibl 23:8  Yna dwedodd wrthyn nhw, “Os ydych chi'n hapus i mi gladdu fy ngwraig yma, wnewch chi berswadio Effron fab Sochar
Gene WelBeibl 23:9  i werthu'r ogof yn Machpela i mi? Mae'r ogof ar ei dir e, reit ar y ffin. Gwna i dalu'r pris llawn iddo amdani yma, o'ch blaen chi, er mwyn i mi gael lle i gladdu fy ngwraig.”
Gene WelBeibl 23:10  Roedd Effron yn eistedd yno ar y pryd, ac meddai wrth Abraham o flaen pawb oedd yno wrth giât y ddinas,
Gene WelBeibl 23:11  “Na, gwranda syr. Dw i'n fodlon gwerthu'r darn hwnnw o dir i gyd i ti, a'r ogof sydd arno. Dw i'n dweud hyn o flaen fy mhobl yma. Dw i'n hapus i ti ei gymryd i gladdu dy wraig.”
Gene WelBeibl 23:12  A dyma Abraham yn ymgrymu eto o flaen y bobl leol.
Gene WelBeibl 23:13  “Iawn,” meddai wrth Effron o flaen pawb, “dw i'n cytuno. Dw i'n fodlon talu am y darn tir hefyd. Cei faint bynnag rwyt ti eisiau amdano, er mwyn i mi gael lle i gladdu fy ngwraig.”
Gene WelBeibl 23:15  “Syr. Beth am 400 sicl o arian? Dydy hynny'n ddim byd i ddynion fel ti a fi. Wedyn cei gladdu dy wraig.”
Gene WelBeibl 23:16  Felly dyma Abraham yn cytuno i'w dalu. A dyma Abraham yn pwyso'r swm o arian oedd wedi'i gytuno o flaen tystion, a'i roi i Effron, sef 400 darn o arian yn ôl mesur safonol y cyfnod.
Gene WelBeibl 23:17  Felly prynodd Abraham y tir gan Effron. Roedd yn Machpela, i'r dwyrain o Mamre. Cafodd yr ogof oedd arno a'r coed oedd o fewn ei ffiniau.
Gene WelBeibl 23:18  Roedd disgynyddion Heth, a phawb arall oedd wrth giât y ddinas, yn dystion i'r cytundeb.
Gene WelBeibl 23:19  Ar ôl prynu'r tir, dyma Abraham yn claddu Sara ei wraig yn yr ogof oedd yno, yn Machpela ger Mamre (sef Hebron) yng ngwlad Canaan.
Gene WelBeibl 23:20  Cafodd y tir a'r ogof oedd arno eu gwerthu i Abraham gan ddisgynyddion Heth, iddo gladdu ei deulu yno.
Chapter 24
Gene WelBeibl 24:1  Roedd Abraham yn ddyn hen iawn. Roedd yr ARGLWYDD wedi'i fendithio ym mhob ffordd.
Gene WelBeibl 24:2  Un diwrnod dyma Abraham yn dweud wrth ei brif was (sef yr un oedd yn gyfrifol am bopeth oedd ganddo), “Dw i am i ti fynd ar dy lw,
Gene WelBeibl 24:3  ac addo i mi o flaen yr ARGLWYDD, Duw'r nefoedd a'r ddaear, na fyddi di'n cymryd un o ferched Canaan i fod yn wraig i'm mab i.
Gene WelBeibl 24:4  Dw i eisiau i ti fynd i'm gwlad i, at fy mherthnasau, i chwilio am wraig i Isaac.”
Gene WelBeibl 24:5  Meddai'r gwas, “Beth os bydd y ferch yn gwrthod dod yn ôl yma gyda mi? Ddylwn i wedyn fynd â dy fab di yn ôl i'r wlad honno?”
Gene WelBeibl 24:6  “Na,” meddai Abraham, “gwna di'n siŵr na fyddi byth yn mynd a'm mab i yn ôl yno.
Gene WelBeibl 24:7  Yr ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, ydy'r un wnaeth i mi adael cartref fy nhad a'm teulu. Mae wedi dweud wrtho i, ac wedi addo i mi, ‘Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i dy ddisgynyddion di.’ Bydd e'n anfon ei angel i ofalu amdanat ti, er mwyn i ti ffeindio gwraig i'm mab i yno.
Gene WelBeibl 24:8  Os bydd y ferch yn gwrthod dod gyda ti, fydda i ddim yn dy ddal di'n gyfrifol i gadw dy lw. Ond paid byth â mynd â'm mab i yn ôl yno.”
Gene WelBeibl 24:9  Felly dyma'r gwas yn addo ar lw y byddai'n gwneud yn union fel roedd ei feistr wedi dweud wrtho.
Gene WelBeibl 24:10  Cymerodd y gwas ddeg o gamelod ei feistr wedi'u llwytho â phob math o anrhegion, ac aeth i ffwrdd i dref Nachor yng Ngogledd Mesopotamia.
Gene WelBeibl 24:11  Gwnaeth i'r camelod orwedd wrth y pydew dŵr oedd tu allan i'r dre. (Roedd hi'n hwyr yn y p'nawn, sef yr amser y byddai'r merched yn mynd allan i godi dŵr.)
Gene WelBeibl 24:12  Dyma'r gwas yn gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, arwain fi heddiw. Cadw dy addewid i'm meistr.
Gene WelBeibl 24:13  Dw i'n sefyll wrth ymyl y ffynnon yma, ac mae merched y dre yn dod allan i godi dŵr.
Gene WelBeibl 24:14  Dw i am ofyn i un o'r merched ifanc, ‘Wnei di godi dŵr i mi gael yfed?’ Gad i'r un rwyt ti wedi'i dewis i fod yn wraig i dy was Isaac ddweud, ‘Gwnaf wrth gwrs! Gad i mi roi dŵr i dy gamelod di hefyd.’ Bydda i'n gwybod wedyn dy fod ti wedi cadw dy addewid i'm meistr.”
Gene WelBeibl 24:15  Cyn iddo orffen gweddïo roedd Rebeca wedi cyrraedd yno yn cario jwg dŵr ar ei hysgwydd. Roedd Rebeca'n ferch i Bethwel (oedd yn fab i Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham).
Gene WelBeibl 24:16  Roedd hi'n ferch arbennig o hardd, yn ei harddegau, a doedd hi erioed wedi cael rhyw. Aeth i lawr at y pydew, llenwi ei jwg, a dod yn ôl i fyny.
Gene WelBeibl 24:17  Yna dyma'r gwas yn brysio draw ati a gofyn iddi, “Ga i ychydig o ddŵr i'w yfed gen ti?”
Gene WelBeibl 24:18  “Wrth gwrs, syr,” meddai. A dyma hi'n tynnu'r jwg i lawr oddi ar ei hysgwydd ac yn rhoi diod iddo.
Gene WelBeibl 24:19  Ar ôl gwneud hynny, dyma hi'n dweud, “Gad i mi godi dŵr i dy gamelod di hefyd, nes byddan nhw wedi cael digon i'w yfed.”
Gene WelBeibl 24:20  Felly dyma hi'n gwagio'r dŵr oedd ganddi yn ei jwg i'r cafn anifeiliaid, a mynd yn ôl at y pydew i godi mwy o ddŵr. A gwnaeth hynny nes oedd hi wedi codi digon o ddŵr i'r camelod i gyd.
Gene WelBeibl 24:21  Ddwedodd y gwas ddim byd. Roedd yn sefyll yno yn syllu arni, i weld a oedd yr ARGLWYDD wedi rhoi taith lwyddiannus iddo ai peidio.
Gene WelBeibl 24:22  Pan oedd y camelod wedi gorffen yfed, dyma'r gwas yn rhoi modrwy drwyn werthfawr i'r ferch ifanc, a dwy freichled aur gostus hefyd.
Gene WelBeibl 24:23  Gofynnodd iddi, “Merch pwy wyt ti? Fyddai gan dy dad le i ni aros dros nos?”
Gene WelBeibl 24:24  Atebodd hithau, “Dw i'n ferch i Bethwel, mab Milca a Nachor.
Gene WelBeibl 24:25  Mae gynnon ni ddigon o wellt a bwyd i'r camelod, a lle i chithau aros dros nos.”
Gene WelBeibl 24:26  Dyma'r gwas yn plygu i lawr ac yn addoli'r ARGLWYDD.
Gene WelBeibl 24:27  “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Abraham, fy meistr! Mae wedi bod yn gwbl ffyddlon i'w addewid. Mae'r ARGLWYDD wedi fy arwain i gartref teulu fy meistr!”
Gene WelBeibl 24:28  Rhedodd y ferch ifanc adre at ei mam, a dweud wrthi hi a phawb arall oedd yno am beth oedd wedi digwydd.
Gene WelBeibl 24:29  Roedd gan Rebeca frawd o'r enw Laban, a dyma Laban yn brysio allan i gyfarfod y dyn wrth y pydew.
Gene WelBeibl 24:30  Ar ôl gweld y fodrwy drwyn a'r breichledau roedd ei chwaer Rebeca'n eu gwisgo, a chlywed beth roedd y dyn wedi'i ddweud wrthi, aeth allan ato ar unwaith. A dyna lle roedd y dyn, yn sefyll gyda'r camelod wrth y pydew.
Gene WelBeibl 24:31  Aeth ato a dweud, “Tyrd, ti sydd wedi dy fendithio gan yr ARGLWYDD. Pam wyt ti'n sefyll allan yma? Mae gen i le yn barod i ti yn y tŷ, ac mae lle i'r camelod hefyd.”
Gene WelBeibl 24:32  Felly dyma gwas Abraham yn mynd i'r tŷ. Cafodd y camelod eu dadlwytho, a dyma wellt a bwyd yn cael ei roi iddyn nhw. Cafodd y gwas a'r dynion oedd gydag e ddŵr i olchi eu traed.
Gene WelBeibl 24:33  Wedyn dyma fwyd yn cael ei baratoi iddyn nhw. Ond meddai'r gwas, “Dw i ddim am fwyta nes i mi ddweud pam dw i wedi dod yma.” “Iawn,” meddai Laban, “dywed wrthon ni.”
Gene WelBeibl 24:35  “Mae'r ARGLWYDD wedi bendithio fy meistr yn fawr. Mae'n ddyn cyfoethog iawn. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi defaid a gwartheg iddo, arian ac aur, gweision a morynion, camelod ac asynnod.
Gene WelBeibl 24:36  Cafodd Sara, gwraig fy meistr, fab iddo pan oedd hi'n hen iawn. Mae fy meistr wedi rhoi popeth sydd ganddo i'w fab.
Gene WelBeibl 24:37  Gwnaeth fy meistr i mi fynd ar fy llw, a dwedodd wrtho i, ‘Ti ddim i gymryd un o ferched y Canaaneaid, o'r wlad ble dw i'n byw, i fod yn wraig i'm mab i.
Gene WelBeibl 24:38  Dw i am i ti fynd yn ôl i gartref fy nhad, at fy mherthnasau, i chwilio am wraig i'm mab i.’
Gene WelBeibl 24:39  Dwedais wrth fy meistr, ‘Beth os bydd y ferch yn gwrthod dod gyda mi?’
Gene WelBeibl 24:40  Ond ei ateb oedd, ‘Bydd yr ARGLWYDD dw i'n ei wasanaethu yn anfon ei angel gyda ti, ac yn gwneud yn siŵr dy fod yn cael taith lwyddiannus. Dw i eisiau i ti ffeindio gwraig i'm mab o blith fy mherthnasau, o gartref fy nhad.
Gene WelBeibl 24:41  Os ei di at fy mherthnasau a hwythau'n gwrthod ei rhoi hi i ti, fydda i ddim yn dy ddal di yn gyfrifol. Byddi di'n rhydd o bob cyfrifoldeb.’
Gene WelBeibl 24:42  “Pan gyrhaeddais i'r pydew heddiw, dyma fi'n gweddïo, ‘O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, os wyt ti wir eisiau i mi fod yn llwyddiannus ar y daith yma, gad i hyn ddigwydd:
Gene WelBeibl 24:43  Dw i'n sefyll wrth ymyl y ffynnon yma. Dw i am ofyn i un o'r merched ifanc sy'n dod i godi dŵr, “Ga i ychydig ddŵr i'w yfed gen ti?”
Gene WelBeibl 24:44  Os bydd hi'n ateb, “Cei, wrth gwrs. Gad i mi godi dŵr i dy gamelod di hefyd,” – hi fydd y ferch mae'r ARGLWYDD wedi'i dewis i fod yn wraig i fab fy meistr.’
Gene WelBeibl 24:45  Rôn i'n dal i weddïo'n dawel pan gyrhaeddodd Rebeca â jwg dŵr ar ei hysgwydd. Aeth i lawr at y pydew i godi dŵr. A dyma fi'n gofyn iddi, ‘Plîs ga i ddiod o ddŵr gen ti.’
Gene WelBeibl 24:46  Dyma hi'n tynnu'r jwg i lawr oddi ar ei hysgwydd, a dweud, ‘Cei, wrth gwrs. Gad i mi roi dŵr i dy gamelod di hefyd.’ Ces i yfed, a dyma hi'n rhoi dŵr i'r camelod hefyd.
Gene WelBeibl 24:47  Wedyn dyma fi'n gofyn iddi, ‘Merch pwy wyt ti?’ Atebodd hithau, ‘Dw i'n ferch i Bethwel, mab Nachor a'i wraig Milca.’ Yna dyma fi'n rhoi'r fodrwy drwyn a'r breichledau iddi,
Gene WelBeibl 24:48  a plygu i addoli'r ARGLWYDD. Rôn i'n moli'r ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, am ei fod wedi fy arwain i at wyres ei frawd.
Gene WelBeibl 24:49  Dyna ddigwyddodd, felly beth amdani? Ydych chi'n mynd i fod yn garedig at fy meistr neu ddim? Dwedwch wrtho i, er mwyn i mi wybod beth i'w wneud nesa.”
Gene WelBeibl 24:50  Dyma Laban a Bethwel yn dweud, “Mae'r ARGLWYDD tu ôl i hyn i gyd. Does dim byd allwn ni ei ddweud.
Gene WelBeibl 24:51  Dyma Rebeca; dos â hi gyda ti. Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ddigon clir mai hi sydd i fod yn wraig i fab dy feistr.”
Gene WelBeibl 24:52  Pan glywodd gwas Abraham hyn, plygodd yn isel o flaen yr ARGLWYDD.
Gene WelBeibl 24:53  Wedyn dyma fe'n estyn tlysau arian ac aur, a dillad, a'u rhoi i Rebeca. Rhoddodd anrhegion drud i'w brawd a'i mam hefyd.
Gene WelBeibl 24:54  Ar ôl gwneud hynny, dyma'r gwas a'r dynion oedd gydag e yn bwyta'r pryd bwyd, ac yn yfed, ac yn aros yno dros nos. Ar ôl iddyn nhw godi y bore wedyn, dyma'r gwas yn dweud, “Gadewch i mi fynd yn ôl at fy meistr nawr.”
Gene WelBeibl 24:55  Ond dyma frawd a mam Rebeca'n ei ateb, “Gad i'r ferch aros gyda ni am ryw wythnos i ddeg diwrnod. Caiff fynd wedyn.”
Gene WelBeibl 24:56  Ond meddai'r gwas wrthyn nhw, “Peidiwch fy nal i nôl. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi taith lwyddiannus i mi. Gadewch i mi fynd yn ôl at fy meistr.”
Gene WelBeibl 24:57  “Beth am ei galw hi draw a gofyn beth mae hi'n feddwl?” medden nhw.
Gene WelBeibl 24:58  A dyma nhw'n galw Rebeca a gofyn iddi, “Wyt ti'n barod i fynd gyda'r dyn yma?” A dyma hi'n ateb, “Ydw.”
Gene WelBeibl 24:59  Felly dyma nhw'n ei hanfon hi i ffwrdd gyda'r forwyn oedd wedi'i magu, a gwas Abraham a'r dynion oedd gydag e.
Gene WelBeibl 24:60  Dyma nhw'n bendithio Rebeca a dweud wrthi, “Boed i ti, ein chwaer, fod yn fam i filiynau! Boed i dy ddisgynyddion di orchfygu eu gelynion i gyd.”
Gene WelBeibl 24:61  Felly i ffwrdd â Rebeca a'i morynion ar gefn y camelod gyda gwas Abraham.
Gene WelBeibl 24:62  Un noson roedd Isaac yn dod o gyfeiriad Beër-lachai-roi. (Roedd yn byw yn ardal y Negef yn y de.)
Gene WelBeibl 24:63  Aeth allan am dro gyda'r nos, a gwelodd gamelod yn dod i'w gyfeiriad.
Gene WelBeibl 24:64  Gwelodd Rebeca Isaac hefyd. Daeth i lawr o'i chamel
Gene WelBeibl 24:65  a gofyn i was Abraham, “Pwy ydy'r dyn acw sy'n dod i'n cyfeiriad ni?” Ac meddai'r gwas, “Fy meistr i ydy e.” Felly dyma Rebeca yn rhoi fêl dros ei hwyneb.
Gene WelBeibl 24:66  Dwedodd y gwas wrth Isaac am bopeth oedd wedi digwydd.
Gene WelBeibl 24:67  Ac aeth Isaac â Rebeca i mewn i babell ei fam Sara, a'i chymryd hi'n wraig iddo'i hun. Roedd e'n ei charu hi'n fawr, ac roedd yn hapus eto ar ôl colli ei fam.
Chapter 25
Gene WelBeibl 25:1  Roedd Abraham wedi cymryd gwraig arall o'r enw Cetwra.
Gene WelBeibl 25:2  Hi oedd mam Simran, Iocsan, Medan, Midian, Ishbac a Shwach.
Gene WelBeibl 25:3  Iocsan oedd tad Sheba a Dedan. A disgynyddion Dedan oedd yr Ashwriaid, y Letwshiaid a'r Lewmiaid.
Gene WelBeibl 25:4  Wedyn meibion Midian oedd Effa, Effer, Chanoch, Abida ac Eldaä. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Cetwra.
Gene WelBeibl 25:5  Gadawodd Abraham bopeth oedd ganddo i'w fab Isaac.
Gene WelBeibl 25:6  Roedd wedi anfon meibion ei bartneriaid eraill i ffwrdd i'r dwyrain, yn bell oddi wrth ei fab Isaac, ac wedi rhoi anrhegion iddyn nhw bryd hynny.
Gene WelBeibl 25:8  Roedd yn hen ddyn pan fuodd farw, wedi byw bywyd llawn.
Gene WelBeibl 25:9  Cafodd ei gladdu gan ei feibion Isaac ac Ishmael yn ogof Machpela (ar y darn tir oedd i'r dwyrain o Mamre – sef y tir roedd Abraham wedi'i brynu gan Effron, un o ddisgynyddion Heth). Cafodd Abraham ei gladdu yno gyda'i wraig Sara.
Gene WelBeibl 25:10  Cafodd ei gladdu gan ei feibion Isaac ac Ishmael yn ogof Machpela (ar y darn tir oedd i'r dwyrain o Mamre – sef y tir roedd Abraham wedi'i brynu gan Effron, un o ddisgynyddion Heth). Cafodd Abraham ei gladdu yno gyda'i wraig Sara.
Gene WelBeibl 25:11  Ar ôl i Abraham farw, dyma Duw yn bendithio Isaac. Aeth i fyw wrth ymyl Beër-lachai-roi.
Gene WelBeibl 25:12  Dyma hanes teulu Ishmael, y mab gafodd Abraham gan Hagar, morwyn Eifftaidd Sara:
Gene WelBeibl 25:13  Enwau meibion Ishmael, mewn trefn (o'r hynaf i'r ifancaf): Nebaioth oedd ei fab hynaf, wedyn Cedar, Adbe-el, Mifsam,
Gene WelBeibl 25:16  Y rhain oedd meibion Ishmael, a chafodd y pentrefi ble roedden nhw'n byw eu henwi ar eu holau. Roedd y deuddeg ohonyn nhw yn benaethiaid ar eu llwythau.
Gene WelBeibl 25:17  Roedd Ishmael yn 137 oed pan fuodd farw a mynd at ei hynafiaid.
Gene WelBeibl 25:18  Roedd ei ddisgynyddion yn byw yn yr ardal rhwng Hafila a Shwr, sy'n ffinio â'r Aifft, i gyfeiriad Ashŵr. Roedd Ishmael yn tynnu'n groes i'w deulu ei hun.
Gene WelBeibl 25:19  Dyma hanes teulu Isaac, mab Abraham: Abraham oedd tad Isaac.
Gene WelBeibl 25:20  Roedd Isaac yn 40 oed pan briododd Rebeca (sef merch Bethwel yr Aramead o Padan-aram, a chwaer Laban yr Aramead).
Gene WelBeibl 25:21  Roedd Rebeca'n methu cael plant, felly dyma Isaac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD drosti, a dyma hi'n beichiogi.
Gene WelBeibl 25:22  Roedd hi'n disgwyl gefeilliaid, ond roedden nhw'n gwthio ac yn taro ei gilydd yn ei chroth. “Pam mae hyn yn digwydd i mi?” gofynnodd. Aeth i ofyn i'r ARGLWYDD.
Gene WelBeibl 25:23  A dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrthi: “Bydd dwy wlad yn dod o'r bechgyn yn dy groth. Dau grŵp o bobl fydd yn erbyn ei gilydd. Bydd un yn gryfach na'r llall, a bydd y mab hynaf yn was i'r ifancaf.”
Gene WelBeibl 25:24  Dyma'r amser yn dod i'r gefeilliaid gael eu geni.
Gene WelBeibl 25:25  Daeth y cyntaf allan o'r groth yn gochlyd i gyd ac yn flewog fel dilledyn, felly dyma nhw'n ei alw yn Esau.
Gene WelBeibl 25:26  Wedyn daeth y llall, yn cydio'n dynn yn sawdl Esau, felly dyma nhw'n ei alw yn Jacob. Roedd Isaac yn 60 oed pan gawson nhw eu geni.
Gene WelBeibl 25:27  Pan oedd y bechgyn wedi tyfu, roedd Esau yn heliwr gwych, wrth ei fodd yn mynd allan i'r wlad. Ond roedd Jacob yn fachgen tawel, yn hoffi aros gartref.
Gene WelBeibl 25:28  Esau oedd ffefryn Isaac, am ei fod yn mwynhau bwyta'r anifeiliaid roedd wedi'u hela. Ond Jacob oedd ffefryn Rebeca.
Gene WelBeibl 25:29  Un tro pan oedd Jacob yn coginio cawl, dyma Esau yn dod i mewn wedi blino'n lân ar ôl bod allan yn hela.
Gene WelBeibl 25:30  “Dw i bron marw eisiau bwyd,” meddai. “Ga i beth o'r cawl coch yna i'w fwyta gen ti?” (Dyna sut y daeth i gael ei alw yn Edom.)
Gene WelBeibl 25:31  “Cei os gwnei di werthu dy hawliau fel y mab hynaf i mi,” meddai Jacob.
Gene WelBeibl 25:32  Atebodd Esau, “Fydd hawliau'r mab hynaf yn werth dim byd i mi os gwna i farw!”
Gene WelBeibl 25:33  “Rhaid i ti addo i mi ar lw,” meddai Jacob. Felly dyma Esau yn addo ar lw, ac yn gwerthu hawliau'r mab hynaf i Jacob;
Gene WelBeibl 25:34  a rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau. Ar ôl iddo fwyta ac yfed, cododd Esau ar ei draed a gadael. Roedd yn dangos ei fod yn malio dim am ei hawliau fel y mab hynaf.
Chapter 26
Gene WelBeibl 26:1  Roedd newyn yn y wlad (newyn gwahanol i'r newyn ddigwyddodd pan oedd Abraham yn fyw). A dyma Isaac yn mynd at Abimelech, brenin y Philistiaid, yn Gerar.
Gene WelBeibl 26:2  Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Isaac a dweud wrtho, “Paid mynd i lawr i'r Aifft. Dos i'r wlad fydda i'n ei dangos i ti.
Gene WelBeibl 26:3  Aros yn y wlad honno. Bydda i gyda ti ac yn dy fendithio di. Dw i'n mynd i roi'r tiroedd yma i gyd i ti a dy ddisgynyddion. Dw i'n mynd i wneud beth wnes i ei addo i dy dad Abraham.
Gene WelBeibl 26:4  Bydd gen ti gymaint o ddisgynyddion ag sydd o sêr yn yr awyr. Dw i'n mynd i roi'r tiroedd yma i gyd i dy ddisgynyddion di. Drwy dy ddisgynyddion di bydd cenhedloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio.
Gene WelBeibl 26:5  Bydd hyn i gyd yn digwydd am fod Abraham wedi gwneud beth ddwedais i. Roedd yn dilyn y cyfarwyddiadau, ac yn cadw'r gorchmynion, yr arweiniad a'r ddysgeidiaeth rois i iddo.”
Gene WelBeibl 26:7  Roedd y dynion yno yn dangos diddordeb yn ei wraig. Felly dwedodd Isaac, “Fy chwaer i ydy hi.” (Roedd arno ofn dweud mai ei wraig oedd hi, rhag i'r dynion ei ladd er mwyn cael Rebeca. Roedd hi'n wraig hardd iawn.)
Gene WelBeibl 26:8  Pan oedd Isaac wedi bod yn byw yno am amser hir, dyma Abimelech, brenin y Philistiaid, yn digwydd edrych allan o ffenest a gweld Isaac yn anwesu ei wraig Rebeca.
Gene WelBeibl 26:9  Dyma Abimelech yn gofyn i Isaac fynd i'w weld, a dwedodd wrtho, “Felly, dy wraig di ydy hi go iawn! Pam wnest ti ddweud, ‘Fy chwaer i ydy hi’?” Atebodd Isaac, “Roedd gen i ofn i rywun fy lladd i er mwyn ei chael hi.”
Gene WelBeibl 26:10  “Beth yn y byd wyt ti'n meddwl ti'n wneud?” meddai Abimelech. “Gallai unrhyw un o'r dynion fod wedi cysgu hefo hi. Byddet ti wedi'n gwneud ni i gyd yn euog!”
Gene WelBeibl 26:11  Felly dyma Abimelech yn rhoi gorchymyn i'w bobl, “Os bydd unrhyw un yn cyffwrdd â'r dyn yma neu ei wraig, y gosb fydd marwolaeth.”
Gene WelBeibl 26:12  Dyma Isaac yn hau had ar y tir y flwyddyn honno a chafodd gnwd oedd gan gwaith cymaint yn ôl. Roedd yr ARGLWYDD yn ei fendithio.
Gene WelBeibl 26:13  Roedd yn ddyn llwyddiannus iawn, a daeth yn gyfoethog dros ben.
Gene WelBeibl 26:14  Roedd ganddo gymaint o ddefaid a gwartheg, a gweision, nes bod y Philistiaid yn genfigennus ohono.
Gene WelBeibl 26:15  Felly dyma'r Philistiaid yn llenwi'r pydewau dŵr i gyd gyda phridd. (Y pydewau oedd wedi cael eu cloddio gan weision Abraham pan oedd Abraham yn dal yn fyw.)
Gene WelBeibl 26:16  A dyma Abimelech yn dweud wrth Isaac, “Ti'n llawer cryfach na ni bellach, felly rhaid i ti adael ein gwlad ni.”
Gene WelBeibl 26:17  Felly dyma Isaac yn mynd ac yn gwersylla wrth Wadi Gerar.
Gene WelBeibl 26:18  Roedd Isaac wedi ailagor y pydewau dŵr gafodd eu cloddio pan oedd Abraham yn fyw (y rhai roedd y Philistiaid wedi'u llenwi ar ôl i Abraham farw), a galwodd nhw wrth yr enwau roddodd ei dad iddyn nhw'n wreiddiol.
Gene WelBeibl 26:19  Yna pan aeth gweision Isaac ati i gloddio pydewau yn y dyffryn, dyma nhw'n darganfod ffynnon lle roedd dŵr glân yn llifo drwy'r adeg.
Gene WelBeibl 26:20  Ond dechreuodd bugeiliaid Gerar ddadlau â gweision Isaac. “Ni piau'r dŵr,” medden nhw. Felly galwodd Isaac y ffynnon yn Esec, am eu bod nhw wedi ffraeo gydag e.
Gene WelBeibl 26:21  Dyma nhw'n cloddio pydew arall, ac roedd dadlau am hwnnw hefyd. Felly galwodd Isaac hwnnw yn Sitna.
Gene WelBeibl 26:22  Symudodd yn ei flaen a chloddio pydew arall, a fuodd dim dadlau am hwnnw, felly galwodd y pydew hwnnw yn Rehoboth. “Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi digon o le i ni, a byddwn yn llwyddo yn y wlad,” meddai.
Gene WelBeibl 26:23  Aeth Isaac yn ei flaen o'r fan honno i Beersheba.
Gene WelBeibl 26:24  Y noson honno dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos iddo. Dwedodd wrtho, “Fi ydy Duw Abraham dy dad. Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Bydda i'n dy fendithio di ac yn rhoi lot fawr o ddisgynyddion i ti o achos Abraham fy ngwas.”
Gene WelBeibl 26:25  Felly dyma fe'n codi allor yno ac yn addoli'r ARGLWYDD. Gwersyllodd yno am gyfnod, a dyma'i weision yn cloddio pydew yno hefyd.
Gene WelBeibl 26:26  Dyma Abimelech yn dod ato o Gerar, gydag Achwsath ei gynghorwr a Pichol pennaeth ei fyddin.
Gene WelBeibl 26:27  Gofynnodd Isaac iddyn nhw, “Pam dych chi wedi dod yma? Dych chi'n fy nghasáu i, ac wedi fy anfon i ffwrdd oddi wrthych.”
Gene WelBeibl 26:28  Dyma nhw'n ateb, “Mae'n hollol amlwg i ni fod yr ARGLWYDD gyda ti. Felly dŷn ni eisiau gwneud cytundeb hefo ti.
Gene WelBeibl 26:29  Wnei di addo peidio ymosod arnon ni? Wnaethon ni ddim drwg i ti, dim ond da, a cefaist dy anfon i ffwrdd mewn heddwch. Mae'r ARGLWYDD wedi dy fendithio di.”
Gene WelBeibl 26:30  Felly dyma Isaac yn paratoi gwledd iddyn nhw, a dyma nhw'n bwyta ac yn yfed gyda'i gilydd.
Gene WelBeibl 26:31  Y bore wedyn dyma nhw'n codi'n gynnar ac yn gwneud cytundeb gyda'i gilydd. Wedyn dyma Isaac yn ffarwelio â nhw ar delerau da.
Gene WelBeibl 26:32  Y diwrnod hwnnw hefyd daeth gweision Isaac ato i ddweud wrtho eu bod wedi dod o hyd i ddŵr yn y pydew y buon nhw'n ei gloddio.
Gene WelBeibl 26:33  Galwodd Isaac y pydew yn Sheba. Felly Beersheba ydy enw'r lle hyd heddiw.
Gene WelBeibl 26:34  Pan oedd Esau yn 40 mlwydd oed, priododd Judith (merch Beëri'r Hethiad), a Basemath (merch Elon yr Hethiad).
Gene WelBeibl 26:35  Roedd y ddwy yn gwneud bywyd yn ddiflas iawn i Isaac a Rebeca.
Chapter 27
Gene WelBeibl 27:1  Roedd Isaac yn hen ddyn ac yn dechrau mynd yn ddall. Dyma fe'n galw Esau, ei fab hynaf ato,
Gene WelBeibl 27:2  a dweud, “Gwranda, dw i wedi mynd yn hen, a gallwn i farw unrhyw bryd.
Gene WelBeibl 27:3  Cymer dy fwa, a chawell o saethau, a dos allan i hela i mi.
Gene WelBeibl 27:4  Wedyn dw i am i ti baratoi y math o fwyd blasus dw i'n ei hoffi, i mi gael bwyta. Dw i wir eisiau dy fendithio di cyn i mi farw.”
Gene WelBeibl 27:5  Tra oedd Isaac yn dweud hyn wrth Esau, roedd Rebeca wedi bod yn gwrando. Felly pan aeth Esau allan i hela
Gene WelBeibl 27:6  dyma Rebeca'n mynd at Jacob a dweud wrtho, “Dw i newydd glywed dy dad yn dweud wrth Esau dy frawd,
Gene WelBeibl 27:7  ‘Dos allan i hela a gwneud bwyd blasus i mi ei fwyta. Wedyn gwna i dy fendithio di o flaen yr ARGLWYDD cyn i mi farw.’
Gene WelBeibl 27:9  Dewis ddau fyn gafr da i mi o'r praidd. Gwna i eu coginio a gwneud pryd blasus i dy dad – y math o fwyd mae'n ei hoffi.
Gene WelBeibl 27:10  Cei di fynd â'r bwyd i dy dad iddo'i fwyta. Wedyn bydd e'n dy fendithio di cyn iddo farw.”
Gene WelBeibl 27:11  “Ond mae Esau yn flewog i gyd,” meddai Jacob wrth ei fam. “Croen meddal sydd gen i.
Gene WelBeibl 27:12  Os gwnaiff dad gyffwrdd fi bydd yn gweld fy mod i'n ceisio ei dwyllo. Bydda i'n dod â melltith arna i fy hun yn lle bendith.”
Gene WelBeibl 27:13  Ond dyma'i fam yn dweud, “Gad i'r felltith ddod arna i. Gwna di beth dw i'n ddweud. Dos i nôl y geifr.”
Gene WelBeibl 27:14  Felly aeth Jacob i nôl y geifr, a dod â nhw i'w fam. A dyma'i fam yn eu coginio nhw, a gwneud y math o fwyd blasus roedd Isaac yn ei hoffi.
Gene WelBeibl 27:15  Roedd dillad gorau Esau, ei mab hynaf, yn y tŷ gan Rebeca. Dyma hi'n eu cymryd nhw a gwneud i Jacob, ei mab ifancaf, eu gwisgo nhw.
Gene WelBeibl 27:16  Wedyn dyma hi'n cymryd crwyn y myn geifr a'u rhoi nhw ar ddwylo a gwddf Jacob.
Gene WelBeibl 27:17  Yna dyma hi'n rhoi'r bwyd blasus, gyda bara roedd hi wedi'i bobi, i'w mab Jacob.
Gene WelBeibl 27:18  Aeth Jacob i mewn at ei dad. “Dad,” meddai. “Ie, dyma fi,” meddai Isaac. “Pa un wyt ti?”
Gene WelBeibl 27:19  “Esau, dy fab hynaf,” meddai Jacob. “Dw i wedi gwneud beth ofynnaist ti i mi. Tyrd, eistedd i ti gael bwyta o'r helfa. Wedyn cei fy mendithio i.”
Gene WelBeibl 27:20  Ond meddai Isaac, “Sut yn y byd wnest ti ei ddal mor sydyn?” A dyma Jacob yn ateb, “Yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth fy arwain i ato.”
Gene WelBeibl 27:21  Wedyn dyma Isaac yn dweud wrth Jacob, “Tyrd yma i mi gael dy gyffwrdd di. Dw i eisiau bod yn siŵr mai Esau wyt ti.”
Gene WelBeibl 27:22  Felly aeth Jacob at ei dad, a dyma Isaac yn gafael yn ei law. “Llais Jacob dw i'n ei glywed,” meddai, “ond dwylo Esau ydy'r rhain.”
Gene WelBeibl 27:23  (Wnaeth e ddim ei nabod am fod y dwylo'n flewog fel dwylo Esau. Dyna pam wnaeth Isaac fendithio Jacob.)
Gene WelBeibl 27:24  “Fy mab Esau wyt ti go iawn?” gofynnodd Isaac. “Ie,” meddai Jacob.
Gene WelBeibl 27:25  “Tyrd â'r helfa yma i mi gael bwyta cyn dy fendithio di,” meddai Isaac. Felly daeth Jacob â'r bwyd iddo, a dyma Isaac yn ei fwyta. Daeth â gwin iddo'i yfed hefyd.
Gene WelBeibl 27:26  Wedyn dyma Isaac yn dweud, “Tyrd yma a rho gusan i mi fy mab.”
Gene WelBeibl 27:27  Aeth Jacob ato a rhoi cusan iddo. Pan glywodd Isaac yr arogl ar ddillad ei fab, dyma fe'n ei fendithio, a dweud, “Ie, mae fy mab yn arogli fel y tir mae'r ARGLWYDD wedi'i fendithio.
Gene WelBeibl 27:28  Boed i Dduw roi gwlith o'r awyr i ti, a chnydau gwych o'r tir, – digonedd o ŷd a grawnwin.
Gene WelBeibl 27:29  Boed i bobloedd eraill dy wasanaethu di, a gwledydd eraill ymgrymu o dy flaen. Byddi'n feistr ar dy frodyr, a bydd meibion dy fam yn ymgrymu o dy flaen. Bydd Duw yn melltithio pawb sy'n dy felltithio di, ac yn bendithio pawb sy'n dy fendithio di!”
Gene WelBeibl 27:30  Roedd Isaac newydd orffen bendithio Jacob, a Jacob prin wedi gadael, pan ddaeth Esau i mewn ar ôl bod yn hela.
Gene WelBeibl 27:31  Dyma yntau'n paratoi bwyd blasus, a mynd ag e i'w dad. “Tyrd, eistedd, i ti gael bwyta o helfa dy fab, ac wedyn cei fy mendithio i.”
Gene WelBeibl 27:32  “Pwy wyt ti?” meddai Isaac wrtho. “Esau, dy fab hynaf,” meddai yntau.
Gene WelBeibl 27:33  Dechreuodd Isaac grynu drwyddo'n afreolus. “Ond pwy felly ddaeth â bwyd i mi ar ôl bod allan yn hela? Dw i newydd fwyta cyn i ti ddod i mewn, a'i fendithio fe. Bydd e wir yn cael ei fendithio!”
Gene WelBeibl 27:34  Pan glywodd Esau beth ddwedodd ei dad, dyma fe'n sgrechian gweiddi'n chwerw. “Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” meddai.
Gene WelBeibl 27:35  Ond meddai Isaac, “Mae dy frawd wedi fy nhwyllo i, a dwyn dy fendith.”
Gene WelBeibl 27:36  “Mae'r enw Jacob yn ei ffitio i'r dim!” meddai Esau. “Dyma'r ail waith iddo fy nisodli. Mae wedi cymryd fy hawliau fel y mab hynaf oddi arna i, a nawr mae e wedi dwyn fy mendith i.” Ac meddai wrth ei dad, “Wyt ti ddim wedi cadw un fendith i mi?”
Gene WelBeibl 27:37  Ond dyma Isaac yn ei ateb, “Dw i wedi'i wneud e yn feistr arnat ti. Bydd ei berthnasau i gyd yn ei wasanaethu. Bydd ganddo ddigon o ŷd a sudd grawnwin i'w gynnal. Felly beth sydd ar ôl i mi ei roi i ti, fy mab?”
Gene WelBeibl 27:38  “Ai dim ond un fendith sydd gen ti, dad? Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” A dyma Esau'n dechrau crio'n uchel.
Gene WelBeibl 27:39  Felly dyma Isaac, ei dad, yn dweud fel hyn: “Byddi di'n byw heb gael cnydau da o'r tir, a heb wlith o'r awyr.
Gene WelBeibl 27:40  Byddi di'n byw drwy ymladd â'r cleddyf, ac yn gwasanaethu dy frawd. Ond byddi di'n gwrthryfela, ac yn torri'r iau oedd wedi'i rhoi ar dy ysgwyddau.”
Gene WelBeibl 27:41  Roedd Esau yn casáu Jacob o achos y fendith roedd ei dad wedi'i rhoi iddo. “Bydd dad wedi marw cyn bo hir,” meddai'n breifat. “Bydda i'n lladd Jacob wedyn.”
Gene WelBeibl 27:42  Ond daeth Rebeca i glywed am beth roedd Esau, ei mab hynaf, yn ei ddweud. Felly dyma hi'n galw am Jacob, ei mab ifancaf, ac yn dweud wrtho, “Mae dy frawd Esau yn bwriadu dial arnat ti drwy dy ladd di.
Gene WelBeibl 27:43  Felly gwna beth dw i'n ddweud. Rhaid i ti ddianc ar unwaith at fy mrawd Laban yn Haran.
Gene WelBeibl 27:44  Aros yno gydag e am ychydig, nes bydd tymer dy frawd wedi tawelu.
Gene WelBeibl 27:45  Pan fydd e wedi anghofio beth wnest ti, gwna i anfon amdanat ti, i ti ddod yn ôl. Pam ddylwn i golli'r ddau ohonoch chi'r un diwrnod?”
Gene WelBeibl 27:46  Aeth Rebeca at Isaac a dweud wrtho, “Mae'r merched yma o blith yr Hethiaid yn gwneud bywyd yn annioddefol! Os bydd Jacob yn gwneud yr un peth ag Esau ac yn priodi un o'r merched lleol yma, fydd bywyd ddim yn werth ei fyw!”
Chapter 28
Gene WelBeibl 28:1  Felly galwodd Isaac am Jacob a'i fendithio. Dwedodd wrtho, “Rhaid i ti beidio priodi un o ferched Canaan.
Gene WelBeibl 28:2  Dos i dŷ Bethwel dy daid yn Padan-aram, a phriodi un o ferched Laban, brawd dy fam.
Gene WelBeibl 28:3  Boed i'r Duw sy'n rheoli popeth dy fendithio di a rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti, nes byddan nhw'n grŵp mawr o bobloedd.
Gene WelBeibl 28:4  Boed i Dduw roi bendith Abraham i ti a dy ddisgynyddion, i ti gymryd drosodd y tir rwyt ti wedi bod yn byw arno fel mewnfudwr. Dyma'r tir roddodd Duw i Abraham.”
Gene WelBeibl 28:5  Felly dyma Isaac yn anfon Jacob i ffwrdd. Aeth i Padan-aram at frawd ei fam, sef Laban (mab Bethwel yr Aramead).
Gene WelBeibl 28:6  Clywodd Esau fod Isaac wedi bendithio Jacob a'i anfon i Padan-aram i ffeindio gwraig. Clywodd ei fod wedi dweud wrtho am beidio priodi un o ferched Canaan,
Gene WelBeibl 28:7  a bod Jacob wedi gwrando ar ei dad a'i fam a mynd i Padan-aram.
Gene WelBeibl 28:8  Sylweddolodd Esau fod ei wragedd Canaaneaidd ddim yn plesio'i dad.
Gene WelBeibl 28:9  Felly dyma Esau yn mynd at ei ewythr Ishmael (mab Abraham) a phriodi gwraig arall, sef Machalath, merch Ishmael a chwaer Nebaioth.
Gene WelBeibl 28:10  Yn y cyfamser, roedd Jacob wedi gadael Beersheba i fynd i Haran.
Gene WelBeibl 28:11  Daeth i le arbennig a phenderfynu aros yno dros nos, am fod yr haul wedi machlud. Cymerodd gerrig oedd yno a'u gosod o gwmpas ei ben a gorwedd i lawr i gysgu.
Gene WelBeibl 28:12  Cafodd freuddwyd. Roedd yn gweld grisiau yn codi'r holl ffordd o'r ddaear i'r nefoedd, ac angylion Duw yn mynd i fyny ac i lawr y grisiau,
Gene WelBeibl 28:13  a'r ARGLWYDD yn sefyll ar dop y grisiau. “Fi ydy'r ARGLWYDD – Duw Abraham dy daid ac Isaac dy dad,” meddai. “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma lle rwyt ti'n gorwedd i ti a dy ddisgynyddion.
Gene WelBeibl 28:14  Bydd gen ti ddisgynyddion i bob cyfeiriad – gogledd, de, gorllewin a dwyrain. Byddan nhw fel llwch ar y ddaear! A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti a dy ddisgynyddion.
Gene WelBeibl 28:15  Dw i eisiau i ti wybod y bydda i gyda ti. Bydda i'n dy amddiffyn ble bynnag ei di, ac yn dod â ti'n ôl yma. Wna i ddim dy adael di. Bydda i'n gwneud beth dw i wedi'i addo i ti.”
Gene WelBeibl 28:16  Dyma Jacob yn deffro. “Mae'n rhaid bod yr ARGLWYDD yma,” meddai, “a doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny.”
Gene WelBeibl 28:17  Roedd e wedi dychryn, “Am le rhyfeddol! Mae Duw yn byw yma! Mae fel giât i mewn i'r nefoedd!”
Gene WelBeibl 28:18  Felly dyma Jacob yn codi'n gynnar. Cymerodd y garreg oedd wedi bod wrth ei ben, a'i gosod fel colofn, a thywallt olew drosti.
Gene WelBeibl 28:19  Galwodd y lle yn Bethel (Lws oedd enw'r dre o'r blaen).
Gene WelBeibl 28:20  Wedyn dyma Jacob yn gwneud addewid: “O Dduw, os byddi di gyda mi, yn fy amddiffyn i ar fy nhaith ac yn rhoi bwyd a dillad i mi
Gene WelBeibl 28:21  nes i mi gyrraedd yn ôl adre'n saff, ti, yr ARGLWYDD, fydd fy Nuw i.
Gene WelBeibl 28:22  Bydd y garreg dw i wedi'i gosod yma yn nodi dy fod ti'n byw yma. A dw i hefyd yn addo rhoi un rhan o ddeg o bopeth yn ôl i ti.”
Chapter 29
Gene WelBeibl 29:1  Dyma Jacob yn bwrw ymlaen ar ei daith, ac yn dod i wlad pobl y dwyrain.
Gene WelBeibl 29:2  Daeth ar draws pydew dŵr yng nghanol y wlad, a thri praidd o ddefaid yn gorwedd o gwmpas y pydew. Dyna ble roedd yr anifeiliaid yn cael dŵr. Roedd carreg fawr yn gorwedd ar geg y pydew.
Gene WelBeibl 29:3  Pan fyddai'r preiddiau i gyd wedi cyrraedd yno, byddai'r bugeiliaid yn symud y garreg a rhoi dŵr i'r defaid. Wedyn bydden nhw'n rhoi'r garreg yn ôl ar geg y pydew.
Gene WelBeibl 29:4  Gofynnodd Jacob iddyn nhw, “O ble dych chi'n dod, frodyr?” “O Haran,” medden nhw.
Gene WelBeibl 29:5  “Ydych chi'n nabod Laban fab Nachor?” holodd Jacob. “Ydyn,” medden nhw.
Gene WelBeibl 29:6  “Sut mae e'n cadw?” gofynnodd Jacob. “Mae e'n cadw'n dda,” medden nhw. “Edrych, dyma Rachel, ei ferch, yn cyrraedd gyda'i defaid.”
Gene WelBeibl 29:7  Yna dyma Jacob yn dweud wrthyn nhw, “Edrychwch, mae'n dal yn olau dydd. Dydy hi ddim yn amser casglu'r anifeiliaid at ei gilydd eto. Rhowch ddŵr iddyn nhw, a mynd â nhw allan i bori am ychydig mwy.”
Gene WelBeibl 29:8  “Ond allwn ni ddim gwneud hynny nes bydd y preiddiau i gyd wedi cyrraedd,” medden nhw. “Dyna pryd byddwn ni'n symud y garreg oddi ar geg y pydew ac yn rhoi dŵr i'r defaid.”
Gene WelBeibl 29:9  Tra oedd e'n dal i siarad â nhw, dyma Rachel yn cyrraedd gyda defaid ei thad. Hi oedd yn gofalu amdanyn nhw.
Gene WelBeibl 29:10  Pan welodd Jacob Rachel, merch ei ewythr Laban, gyda'r defaid, dyma fe'n symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi dŵr i braidd ei ewythr.
Gene WelBeibl 29:11  Yna aeth at Rachel, a'i chyfarch â chusan. Roedd yn methu peidio crio.
Gene WelBeibl 29:12  Dwedodd wrth Rachel ei fod yn nai i'w thad, ac yn fab i Rebeca. A dyma Rachel yn rhedeg i ddweud wrth ei thad.
Gene WelBeibl 29:13  Pan glywodd Laban y newyddion am Jacob, mab ei chwaer, rhuthrodd allan i'w gyfarfod. Rhoddodd groeso brwd iddo drwy ei gofleidio a'i gusanu, ac aeth ag e i'w dŷ. Yna dwedodd Jacob y cwbl wrth Laban.
Gene WelBeibl 29:14  “Rwyt ti wir yn un o nheulu i!” meddai Laban. Roedd Jacob wedi aros gyda Laban am fis,
Gene WelBeibl 29:15  ac meddai Laban wrtho, “Ti'n perthyn i mi, felly ddylet ti ddim bod yn gweithio i mi am ddim. Dwed beth rwyt ti eisiau'n gyflog.”
Gene WelBeibl 29:16  Roedd gan Laban ddwy ferch – Lea, yr hynaf, a Rachel, yr ifancaf.
Gene WelBeibl 29:17  Roedd gan Lea lygaid hyfryd, ond roedd Rachel yn ferch wirioneddol hardd a siapus.
Gene WelBeibl 29:18  Roedd Jacob wedi syrthio mewn cariad hefo Rachel, ac meddai wrth Laban, “Gwna i weithio i ti am saith mlynedd os ca i briodi Rachel, dy ferch ifancaf.”
Gene WelBeibl 29:19  “Byddai'n well gen i ei rhoi hi i ti nag i unrhyw ddyn arall,” meddai Laban. “Aros di yma i weithio i mi.”
Gene WelBeibl 29:20  Felly dyma Jacob yn gweithio am saith mlynedd er mwyn cael priodi Rachel. Ond roedd fel ychydig ddyddiau i Jacob am ei fod yn ei charu hi gymaint.
Gene WelBeibl 29:21  Ar ddiwedd y saith mlynedd dyma Jacob yn dweud wrth Laban, “Dw i wedi gweithio am yr amser wnaethon ni gytuno arno, felly rho fy ngwraig i mi, i mi gael cysgu hefo hi.”
Gene WelBeibl 29:22  Felly dyma Laban yn trefnu parti i ddathlu, ac yn gwahodd pobl y cylch i gyd i'r parti.
Gene WelBeibl 29:23  Ond ar ddiwedd y noson aeth Laban â'i ferch Lea at Jacob, a dyma Jacob yn cysgu gyda hi.
Gene WelBeibl 29:24  (Ac roedd Laban wedi rhoi ei forwyn Silpa i'w ferch Lea i fod yn forwyn iddi hi.)
Gene WelBeibl 29:25  Y bore wedyn, cafodd Jacob sioc – dyna ble roedd Lea yn gorwedd gydag e! Aeth at Laban. “Beth yn y byd rwyt ti wedi'i wneud i mi?” meddai Jacob. “Rôn i wedi gweithio i ti er mwyn cael Rachel. Pam wyt ti wedi fy nhwyllo i?”
Gene WelBeibl 29:26  Ac meddai Laban, “Mae'n groes i'r arferiad yn y wlad yma i'r ferch ifancaf briodi o flaen yr hynaf.
Gene WelBeibl 29:27  Disgwyl nes bydd yr wythnos yma o ddathlu drosodd, a gwna i roi Rachel i ti hefyd os gwnei di weithio i mi am saith mlynedd arall.”
Gene WelBeibl 29:28  Felly dyna wnaeth Jacob. Arhosodd nes oedd yr wythnos o ddathlu drosodd, ac wedyn dyma Laban yn rhoi ei ferch Rachel iddo hefyd.
Gene WelBeibl 29:29  (A rhoddodd ei forwyn Bilha i'w ferch Rachel i fod yn forwyn iddi hi.)
Gene WelBeibl 29:30  Felly cysgodd Jacob gyda Rachel. Roedd yn caru Rachel yn fwy na Lea. A gweithiodd i Laban am saith mlynedd arall.
Gene WelBeibl 29:31  Pan welodd yr ARGLWYDD fod Jacob ddim yn caru Lea cymaint â Rachel, rhoddodd blant i Lea. Ond roedd Rachel yn methu cael plant.
Gene WelBeibl 29:32  Dyma Lea'n beichiogi ac yn cael mab ac yn ei alw'n Reuben. “Mae'r ARGLWYDD wedi gweld mod i'n cael fy nhrin yn wael,” meddai. “Bydd fy ngŵr yn siŵr o ngharu i nawr!”
Gene WelBeibl 29:33  A dyma hi'n beichiogi eto ac yn cael mab arall. “Mae'r ARGLWYDD wedi clywed mod i ddim yn cael fy ngharu, ac mae wedi rhoi mab arall i mi,” meddai. A dyma hi'n ei alw'n Simeon.
Gene WelBeibl 29:34  Dyma hi'n beichiogi eto a chael mab arall. “Bydd fy ngŵr yn siŵr o deimlo'n un hefo fi nawr,” meddai. “Dw i wedi rhoi tri mab iddo.” A dyna pam wnaeth hi ei alw'n Lefi.
Gene WelBeibl 29:35  A dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab arall eto. “Y tro yma dw i'n mynd i foli'r ARGLWYDD,” meddai hi. A dyna pam wnaeth hi ei alw'n Jwda. Ac wedyn dyma hi'n stopio cael plant.
Chapter 30
Gene WelBeibl 30:1  Pan sylweddolodd Rachel ei bod hi'n methu cael plant, roedd hi'n genfigennus o'i chwaer. “Dw i'n mynd i farw os wnei di ddim rhoi plant i mi!” meddai hi wrth Jacob.
Gene WelBeibl 30:2  Ond dyma Jacob yn digio go iawn gyda hi. “Ai Duw ydw i? Duw sydd wedi dy rwystro di rhag cael plant.”
Gene WelBeibl 30:3  Yna dyma Rachel yn dweud, “Cymer fy morwyn i, Bilha. Cysga gyda hi, er mwyn iddi hi gael plant i mi eu magu. Ga i deulu drwyddi hi.”
Gene WelBeibl 30:4  Felly dyma Rachel yn rhoi ei morwyn Bilha yn wraig iddo, a dyma Jacob yn cysgu gyda hi.
Gene WelBeibl 30:5  A dyma Bilha yn beichiogi ac yn cael mab i Jacob.
Gene WelBeibl 30:6  “Mae Duw wedi dyfarnu o'm plaid i,” meddai Rachel. “Mae wedi fy nghlywed i, a rhoi mab i mi.” A dyna pam wnaeth hi ei alw'n Dan.
Gene WelBeibl 30:7  Dyma Bilha, morwyn Rachel, yn beichiogi eto, a rhoi mab arall i Jacob.
Gene WelBeibl 30:8  A dyma Rachel yn dweud, “Dw i wedi ymladd yn galed yn erbyn fy chwaer, ac wedi ennill!” Felly dyma hi'n ei alw'n Nafftali.
Gene WelBeibl 30:9  Pan sylweddolodd Lea ei bod hi wedi stopio cael plant, dyma hithau'n rhoi ei morwyn Silpa yn wraig i Jacob.
Gene WelBeibl 30:11  “Am lwc dda!” meddai. A dyna pam wnaeth hi alw'r plentyn yn Gad.
Gene WelBeibl 30:13  “Dw i mor hapus!” meddai Lea. “Bydd merched yn dweud mor hapus ydw i.” Felly dyma hi'n ei alw yn Asher.
Gene WelBeibl 30:14  Un diwrnod, ar adeg y cynhaeaf gwenith, aeth Reuben allan a dod o hyd i ffrwythau cariad mewn cae. A daeth â nhw yn ôl i'w fam, Lea. Yna dyma Rachel yn gofyn i Lea, “Plîs ga i rai o'r ffrwythau cariad wnaeth dy fab eu ffeindio?”
Gene WelBeibl 30:15  Ond atebodd Lea, “Oedd cymryd fy ngŵr i ddim yn ddigon gen ti? Wyt ti nawr am gymryd y ffrwythau cariad ffeindiodd fy mab hefyd?” Felly dyma Rachel yn dweud wrthi, “Cei di gysgu gydag e heno os ca i'r ffrwythau cariad ffeindiodd dy fab.”
Gene WelBeibl 30:16  Pan oedd Jacob ar ei ffordd yn ôl o'r caeau gyda'r nos, aeth Lea allan i'w gyfarfod. “Rhaid i ti gysgu hefo fi heno,” meddai wrtho. “Dw i wedi talu am dy gael di gyda'r ffrwythau cariad ffeindiodd fy mab.” Felly dyma Jacob yn cael rhyw gyda hi y noson honno.
Gene WelBeibl 30:17  A dyma Duw yn gwrando ar Lea, a dyma hi'n beichiogi ac yn cael ei phumed mab i Jacob.
Gene WelBeibl 30:18  “Mae Duw wedi rhoi gwobr i mi am roi fy morwyn i'm gŵr.” Felly dyma hi'n ei alw yn Issachar.
Gene WelBeibl 30:19  Yna dyma Lea'n beichiogi eto a rhoi chweched mab i Jacob.
Gene WelBeibl 30:20  “Mae Duw wedi rhoi rhodd hael i mi i'w chyflwyno i'm gŵr. Bydd yn fy nghyfri i'n sbesial, am fy mod i wedi rhoi chwe mab iddo.” Felly galwodd y plentyn yn Sabulon.
Gene WelBeibl 30:22  Ond doedd Duw ddim wedi anghofio am Rachel. Dyma fe'n gwrando ar ei gweddi a rhoi plant iddi.
Gene WelBeibl 30:23  Dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab. “Mae Duw wedi symud y cywilydd oeddwn i'n deimlo,” meddai.
Gene WelBeibl 30:24  Galwodd hi'r plentyn yn Joseff. “Boed i'r ARGLWYDD roi mab arall i mi!” meddai.
Gene WelBeibl 30:25  Ar ôl i Joseff gael ei eni i Rachel, dyma Jacob yn dweud wrth Laban, “Gad i mi fynd! Dw i eisiau mynd adre i'm gwlad fy hun.
Gene WelBeibl 30:26  Gad i mi fynd gyda'r gwragedd a'r plant wnes i weithio i ti amdanyn nhw. Ti'n gwybod mor galed dw i wedi gweithio i ti.”
Gene WelBeibl 30:27  Ond atebodd Laban, “Plîs wnei di ystyried aros yma? Dw i wedi dod yn gyfoethog, ac mae'r ARGLWYDD wedi fy mendithio i am dy fod ti gyda mi.
Gene WelBeibl 30:28  Dwed faint o gyflog wyt ti eisiau, a gwna i ei dalu!”
Gene WelBeibl 30:29  A dyma Jacob yn dweud, “Ti'n gwybod fel dw i wedi gweithio i ti, ac mor dda mae'r anifeiliaid dw i'n gofalu amdanyn nhw wedi gwneud.
Gene WelBeibl 30:30  Ychydig oedd gen ti cyn i mi ddod. Ond bellach mae gen ti lot fawr. Mae'r ARGLWYDD wedi dy fendithio di ble bynnag roeddwn i'n gweithio. Mae'n bryd i mi wneud rhywbeth i'm teulu fy hun.”
Gene WelBeibl 30:31  “Dw i'n fodlon rhoi faint bynnag ti'n gofyn amdano,” meddai Laban. “Does dim rhaid i ti roi dim byd i mi,” meddai Jacob. “Ond os gwna i edrych ar ôl dy breiddiau di a'u cadw nhw'n saff, dw i am i ti gytuno i un peth.
Gene WelBeibl 30:32  Gad i mi fynd drwyddyn nhw i gyd heddiw, a dewis pob dafad frith ac oen du, a'r un fath gyda'r geifr. Dyna fydd fy nghyflog i.
Gene WelBeibl 30:33  Byddi bob amser yn gallu gweld os ydw i wedi bod yn onest. Gelli archwilio fy nghyflog unrhyw bryd. Os bydd gen i afr sydd ddim yn frith, neu ddafad sydd ddim yn ddu, byddi di'n gwybod mod i wedi dwyn honno.”
Gene WelBeibl 30:34  “Cytuno!” meddai Laban. “Gad i ni wneud beth rwyt ti'n ei awgrymu.”
Gene WelBeibl 30:35  Ond y diwrnod hwnnw dyma Laban yn symud y bychod geifr brith, a'r geifr brith (pob un oedd ag ychydig o wyn arno). Symudodd y defaid duon hefyd, a rhoi'r anifeiliaid hynny i gyd i'w feibion i edrych ar eu holau.
Gene WelBeibl 30:36  Aeth â nhw daith tridiau i ffwrdd oddi wrth Jacob a gwnaeth i Jacob ofalu am weddill y praidd.
Gene WelBeibl 30:37  Wedyn dyma Jacob yn cymryd brigau gleision o goed poplys ac almon a planwydd. Tynnodd beth o'r rhisgl i ffwrdd fel bod stribedi gwyn ar y gwiail.
Gene WelBeibl 30:38  Rhoddodd y gwiail o flaen y cafnau dŵr ble roedd y preiddiau'n dod i yfed. Roedd yr anifeiliaid yn paru pan fydden nhw'n dod i yfed.
Gene WelBeibl 30:39  Pan oedd y geifr yn bridio o flaen y gwiail, roedd y rhai bach fyddai'n cael eu geni yn rhai brith.
Gene WelBeibl 30:40  Roedd hefyd yn cymryd y defaid oedd yn gofyn hwrdd ac yn gwneud iddyn nhw wynebu'r anifeiliaid brithion a'r rhai duon ym mhraidd Laban. Roedd yn cadw ei braidd ei hun ar wahân, a ddim yn eu cymysgu â phraidd Laban.
Gene WelBeibl 30:41  Pan oedd yr anifeiliaid cryfion yn paru, roedd Jacob yn rhoi'r gwiail wrth y cafnau, er mwyn iddyn nhw fridio wrth ymyl y gwiail.
Gene WelBeibl 30:42  Ond doedd e ddim yn gosod y gwiail o flaen yr anifeiliaid gwan yn y praidd. Felly roedd yr anifeiliaid gwannaf yn perthyn i Laban, a'r rhai cryfaf yn perthyn i Jacob.
Gene WelBeibl 30:43  Felly daeth Jacob yn ddyn cyfoethog iawn. Roedd ganddo breiddiau mawr, gweision a morynion, camelod ac asynnod.
Chapter 31
Gene WelBeibl 31:1  Clywodd Jacob fod meibion Laban yn cwyno amdano. “Mae Jacob wedi cymryd popeth oddi ar dad. Mae wedi dod yn gyfoethog ar draul ein tad ni!” medden nhw.
Gene WelBeibl 31:2  A daeth Jacob i weld fod agwedd Laban tuag ato wedi newid hefyd.
Gene WelBeibl 31:3  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jacob, “Dos yn ôl adre at dy deulu a dy bobl. Bydda i gyda ti.”
Gene WelBeibl 31:4  Felly dyma Jacob yn anfon rhywun i nôl Rachel a Lea, a dod â nhw allan i gefn gwlad lle roedd y preiddiau.
Gene WelBeibl 31:5  Dwedodd wrthyn nhw, “Dw i wedi sylwi fod agwedd eich tad tuag ata i wedi newid. Ond mae'r Duw mae fy nhad yn ei addoli wedi bod gyda mi.
Gene WelBeibl 31:6  Mae'r ddwy ohonoch yn gwybod mor galed dw i wedi gweithio i'ch tad.
Gene WelBeibl 31:7  Ond mae'ch tad wedi gwneud ffŵl ohono i, a newid fy nghyflog dro ar ôl tro. Ond wnaeth Duw ddim gadael iddo wneud niwed i mi.
Gene WelBeibl 31:8  Pan oedd yn dweud, ‘Y brychion fydd dy gyflog di,’ roedd yr anifeiliaid i gyd yn cael rhai bach oedd yn frych. Os oedd yn dweud, ‘Y brithion fydd dy gyflog di,’ roedd yr anifeiliaid yn cael rhai bach oedd yn frith.
Gene WelBeibl 31:9  Felly Duw oedd yn rhoi anifeiliaid eich tad i mi.
Gene WelBeibl 31:10  “Yn ystod y tymor bridio ces i freuddwyd. Roedd y bychod geifr oedd yn paru i gyd yn frithion.
Gene WelBeibl 31:11  A dyma angel Duw yn galw arna i. ‘Jacob,’ meddai. ‘Ie, dyma fi,’ meddwn innau.
Gene WelBeibl 31:12  ‘Edrych, mae'r bychod geifr sy'n paru i gyd yn frithion. Dw i wedi gweld sut mae Laban wedi dy drin di.
Gene WelBeibl 31:13  Fi ydy Duw Bethel, lle wnest ti dywallt olew ar y golofn a gwneud addewid i mi. Nawr dos! Dw i eisiau i ti adael y wlad yma a mynd yn ôl i'r wlad ble cest ti dy eni.’”
Gene WelBeibl 31:14  A dyma Rachel a Lea yn ei ateb, “Does dim rheswm i ni aros yma. Dŷn ni ddim yn mynd i dderbyn dim byd mwy gan ein tad.
Gene WelBeibl 31:15  Mae e'n ein trin ni fel tasen ni'n estroniaid. Mae wedi'n gwerthu ni, ac wedyn wedi gwastraffu a cholli'r cwbl gafodd e!
Gene WelBeibl 31:16  Mae Duw wedi rhoi popeth oedd ganddo i ni a'n plant. Felly gwna beth mae Duw wedi'i ddweud wrthot ti.”
Gene WelBeibl 31:17  Felly dyma Jacob yn paratoi i fynd. Rhoddodd ei blant a'i wragedd ar gefn camelod.
Gene WelBeibl 31:18  Casglodd ei anifeiliaid a'i eiddo i gyd (popeth a gafodd yn Padan-aram) i fynd adre at ei dad Isaac yn Canaan.
Gene WelBeibl 31:19  Ar y pryd roedd Laban wedi mynd i gneifio'i ddefaid. A dyma Rachel yn dwyn yr eilun-ddelwau teuluol.
Gene WelBeibl 31:20  Roedd Jacob hefyd wedi twyllo Laban yr Aramead drwy redeg i ffwrdd heb ddweud wrtho.
Gene WelBeibl 31:21  Rhedodd i ffwrdd gyda'i eiddo i gyd. Croesodd afon Ewffrates a mynd i gyfeiriad bryniau Gilead.
Gene WelBeibl 31:22  Ddeuddydd wedyn dyma Laban yn darganfod fod Jacob wedi mynd.
Gene WelBeibl 31:23  Felly aeth Laban a'i berthnasau ar ei ôl. Ar ôl teithio am wythnos roedden nhw bron â'i ddal ym mryniau Gilead.
Gene WelBeibl 31:24  Ond dyma Duw yn siarad â Laban yr Aramead mewn breuddwyd y noson honno. Dwedodd wrtho, “Paid ti dweud dim byd yn erbyn Jacob.”
Gene WelBeibl 31:25  Roedd Jacob wedi codi gwersyll ym mryniau Gilead pan ddaliodd Laban i fyny ag e. A dyma Laban a'i berthnasau yn gwersylla yno hefyd.
Gene WelBeibl 31:26  “Beth rwyt ti wedi'i wneud?” meddai Laban wrth Jacob. “Ti wedi fy nhwyllo i. Ti wedi cymryd fy merched i ffwrdd fel tasen nhw'n garcharorion rhyfel!
Gene WelBeibl 31:27  Pam wnest ti redeg i ffwrdd yn ddistaw bach heb i mi wybod? Pam wnest ti ddim dweud wrtho i? Byddwn i wedi trefnu parti i ffarwelio'n iawn, gyda chanu a dawnsio a cherddoriaeth.
Gene WelBeibl 31:28  Wnest ti ddim hyd yn oed roi cyfle i mi roi cusan i ffarwelio â'm merched a'u plant. Ti wedi gwneud peth hollol wirion.
Gene WelBeibl 31:29  Gallwn i wneud drwg i ti, ond dyma'r Duw mae dy dad yn ei addoli yn siarad â mi neithiwr. Dwedodd wrtho i, ‘Paid dweud dim byd yn erbyn Jacob.’
Gene WelBeibl 31:30  Dw i'n derbyn fod gen ti hiraeth go iawn am dy dad a'i deulu, ond pam roedd rhaid i ti ddwyn fy nuwiau?”
Gene WelBeibl 31:31  A dyma Jacob yn ei ateb, “Wnes i redeg i ffwrdd am fod arna i ofn. Rôn i'n meddwl y byddet ti'n cymryd dy ferched oddi arna i.
Gene WelBeibl 31:32  Bydd pwy bynnag sydd wedi cymryd dy dduwiau di yn marw! Dw i'n dweud hyn o flaen ein perthnasau ni i gyd. Dangos i mi beth sydd biau ti, a'i gymryd.” (Doedd Jacob ddim yn gwybod fod Rachel wedi'u dwyn nhw.)
Gene WelBeibl 31:33  Felly dyma Laban yn mynd i bebyll Jacob, Lea, a'r ddwy forwyn, ond methu dod o hyd i'r eilun-ddelwau. Daeth allan o babell Lea a mynd i babell Rachel.
Gene WelBeibl 31:34  (Ond roedd Rachel wedi cymryd yr eilun-ddelwau a'u rhoi nhw yn y bag cyfrwy ar ei chamel, ac yna eistedd arnyn nhw.) Dyma Laban yn chwilio drwy'r babell i gyd, ond methu dod o hyd iddyn nhw.
Gene WelBeibl 31:35  A dyma Rachel yn dweud wrth ei thad, “Maddau i mi, dad, am beidio codi i ti. Mae hi'r amser yna o'r mis arna i.” Felly er iddo chwilio ym mhobman wnaeth e ddim dod o hyd i eilun-ddelwau'r teulu.
Gene WelBeibl 31:36  Erbyn hyn roedd Jacob wedi gwylltio, a dechreuodd ddadlau yn ôl. “Beth dw i wedi'i wneud o'i le?” meddai. “Beth dw i wedi'i wneud i bechu yn dy erbyn di? Pam wyt ti'n fy ymlid i fel yma?
Gene WelBeibl 31:37  Wyt ti wedi dod o hyd i rywbeth piau ti ar ôl palu drwy fy stwff i gyd? Os wyt ti, gad i dy berthnasau di a'm perthnasau i ei weld. Gad iddyn nhw setlo'r ddadl rhyngon ni.
Gene WelBeibl 31:38  Dw i wedi bod hefo ti ers ugain mlynedd. Dydy dy ddefaid a dy eifr di ddim wedi erthylu. Dw i ddim wedi cymryd hyrddod dy braidd di i'w bwyta.
Gene WelBeibl 31:39  Os oedd rhai wedi'u lladd gan anifeiliaid gwyllt, wnes i ddim dod â nhw atat ti er mwyn i ti dderbyn y golled. Wnes i gymryd y golled fy hun. Roeddet ti'n gwneud i mi dalu am unrhyw golled, sdim ots os oedd yn cael ei ddwyn yng ngolau dydd neu yn y nos.
Gene WelBeibl 31:40  Fi oedd yr un oedd yn gorfod diodde gwres poeth y dydd a'r barrug oer yn y nos. Fi oedd yr un oedd yn gorfod colli cwsg.
Gene WelBeibl 31:41  Dw i wedi gweithio fel caethwas i ti am ugain mlynedd. Roedd rhaid i mi weithio am un deg pedair blynedd i briodi dy ddwy ferch, a chwe blynedd arall am dy anifeiliaid. Ac rwyt ti wedi newid fy nghyflog i dro ar ôl tro.
Gene WelBeibl 31:42  Petai Duw Abraham, sef y Duw mae fy nhad Isaac yn ei addoli, ddim wedi bod gyda mi, byddet ti wedi fy anfon i ffwrdd heb ddim byd. Ond roedd Duw wedi gweld sut roeddwn i'n cael fy nhrin ac mor galed roeddwn i wedi gweithio. A dyna pam wnaeth e dy geryddu di neithiwr.”
Gene WelBeibl 31:43  Ac meddai Laban wrth Jacob, “Fy merched i ydy'r rhain, ac mae'r plant yma yn wyrion ac wyresau i mi. Fi piau'r preiddiau yma a phopeth arall rwyt ti'n weld. Ond sut alla i wneud drwg i'm merched a'u plant?
Gene WelBeibl 31:44  Tyrd, gad i'r ddau ohonon ni wneud cytundeb â'n gilydd. Bydd Duw yn dyst rhyngon ni.”
Gene WelBeibl 31:45  Felly dyma Jacob yn cymryd carreg a'i gosod fel colofn.
Gene WelBeibl 31:46  Ac meddai Jacob wrth ei berthnasau, “Casglwch gerrig.” Felly dyma nhw'n gwneud hynny ac yn eu codi'n garnedd, a chael pryd o fwyd gyda'i gilydd yno.
Gene WelBeibl 31:47  Galwodd Laban y garnedd yn Jegar-sahadwtha a galwodd Jacob hi'n Gal-êd.
Gene WelBeibl 31:48  “Mae'r garnedd yma yn dystiolaeth ein bod ni wedi gwneud cytundeb,” meddai Laban. Dyna pam mae'r lle'n cael ei alw yn Gal-êd.
Gene WelBeibl 31:49  Roedd y lle hefyd yn cael ei alw yn Mitspa, am fod Laban wedi dweud, “Boed i'r ARGLWYDD ein gwylio ni'n dau pan na fyddwn ni'n gweld ein gilydd.
Gene WelBeibl 31:50  Os gwnei di gam-drin fy merched i neu briodi merched eraill, er bod neb arall yno, cofia fod Duw yn gweld popeth wnei di.”
Gene WelBeibl 31:51  Ac meddai, “Mae'r garnedd yma a'r golofn yma wedi'u gosod rhyngon ni.
Gene WelBeibl 31:52  Mae'r garnedd a'r golofn yn ein hatgoffa ni o hyn: Dw i ddim i ddod heibio'r lle yma i wneud drwg i ti, a ti ddim i ddod heibio'r fan yma i wneud drwg i mi.
Gene WelBeibl 31:53  Boed i dduwiau Abraham a Nachor, duwiau eu tad nhw, farnu rhyngon ni.” Felly dyma Jacob yn gwneud adduned i'r Duw roedd ei dad Isaac yn ei addoli.
Gene WelBeibl 31:54  A dyma fe'n cyflwyno aberth i Dduw ar y mynydd a gwahodd ei deulu i gyd i fwyta. A dyma nhw'n aros yno drwy'r nos.
Gene WelBeibl 31:55  Yn gynnar y bore wedyn dyma Laban yn rhoi cusan i'w ferched a'u plant ac yn eu bendithio nhw cyn troi am adre.
Chapter 32
Gene WelBeibl 32:1  Aeth Jacob ymlaen ar ei daith, a dyma angylion Duw yn ei gyfarfod.
Gene WelBeibl 32:2  Pan welodd Jacob nhw, meddai, “Dyma wersyll Duw!” Felly galwodd y lle yn Machanaîm.
Gene WelBeibl 32:3  Yna dyma Jacob yn anfon negeswyr at ei frawd Esau yn ardal Seir yn Edom.
Gene WelBeibl 32:4  “Fel yma dych chi i siarad gyda fy meistr Esau,” meddai. “Dwedwch wrtho, ‘Dyma mae dy was Jacob yn ei ddweud: Dw i wedi bod yn aros gyda Laban. Dyna ble dw i wedi bod hyd heddiw.
Gene WelBeibl 32:5  Mae gen i ychen, asynnod, defaid a geifr, gweision a morynion. Dw i'n anfon i ddweud wrthot ti yn y gobaith y gwnei di fy nerbyn i.’”
Gene WelBeibl 32:6  Pan ddaeth y negeswyr yn ôl at Jacob, dyma nhw'n dweud wrtho, “Aethon ni at dy frawd Esau, ac mae ar ei ffordd i dy gyfarfod di. Mae ganddo bedwar cant o ddynion gydag e.”
Gene WelBeibl 32:7  Roedd gan Jacob ofn am ei fywyd. Rhannodd y bobl oedd gydag e, a'r defaid a'r geifr, yr ychen a'r camelod, yn ddau grŵp.
Gene WelBeibl 32:8  “Os bydd Esau yn ymosod ar un grŵp,” meddyliodd, “bydd y grŵp arall yn gallu dianc.”
Gene WelBeibl 32:9  Gweddïodd Jacob, “O Dduw fy nhaid Abraham a'm tad Isaac. Ti ydy'r ARGLWYDD ddwedodd wrtho i, ‘Dos yn ôl i dy wlad dy hun at dy deulu. Bydda i'n dda i ti.’
Gene WelBeibl 32:10  Dw i'n neb, a ddim yn haeddu'r ffaith dy fod ti wedi bod mor hael a ffyddlon i'r addewid wnest ti i dy was. Doedd gen i ddim byd ond ffon pan es i oddi cartref a chroesi afon Iorddonen. Bellach mae digon ohonon ni i rannu'n ddau grŵp.
Gene WelBeibl 32:11  Plîs wnei di'n achub i o afael fy mrawd Esau? Mae gen i ofn iddo ymosod arna i, a lladd y gwragedd a'r plant.
Gene WelBeibl 32:12  Rwyt ti wedi dweud, ‘Bydda i'n dda i ti. Bydd dy ddisgynyddion di fel tywod y môr – yn gwbl amhosib i'w cyfri!’”
Gene WelBeibl 32:13  Ar ôl aros yno dros nos, anfonodd Jacob rai o'i anifeiliaid yn rhodd i Esau:
Gene WelBeibl 32:15  30 cameles oedd yn magu rhai bach, 40 buwch, 10 tarw, 20 asen a 10 asyn.
Gene WelBeibl 32:16  Dyma fe'n rhoi'r anifeiliaid mewn grwpiau ar wahân yng ngofal ei weision. “Croeswch yr afon o mlaen i, ond cadwch fwlch rhwng pob grŵp o anifeiliaid,” meddai wrthyn nhw.
Gene WelBeibl 32:17  Ac aeth ymlaen i ddweud wrth y gwas fyddai'n arwain y grŵp cyntaf, “Pan fydd fy mrawd Esau yn dy gyfarfod di ac yn gofyn, ‘Gwas pwy wyt ti? Ble rwyt ti'n mynd? Pwy biau'r anifeiliaid yma?’
Gene WelBeibl 32:18  dywed wrtho, ‘Dy was Jacob piau nhw. Mae'n eu hanfon nhw yn anrheg i ti syr. Mae Jacob ei hun ar ei ffordd tu ôl i ni.’”
Gene WelBeibl 32:19  Dwedodd yr un peth wrth yr ail was a'r trydydd, a'r gweision oedd yn dilyn yr anifeiliaid. “Dwedwch chi'r un peth wrth Esau. A chofiwch ddweud hefyd, ‘Mae dy was Jacob ar ei ffordd tu ôl i ni.’”
Gene WelBeibl 32:20  Roedd Jacob yn gobeithio y byddai'r anrhegion yn ei dawelu cyn i'r ddau gyfarfod wyneb yn wyneb. Roedd yn gobeithio y byddai Esau yn ei dderbyn wedyn.
Gene WelBeibl 32:21  Felly cafodd yr anifeiliaid eu hanfon drosodd o'i flaen. Ond arhosodd Jacob yn y gwersyll y noson honno.
Gene WelBeibl 32:22  Yn ystod y nos dyma Jacob yn codi a chroesi rhyd Jabboc gyda'i ddwy wraig, ei ddwy forwyn a'i un deg un mab.
Gene WelBeibl 32:23  Ar ôl mynd â nhw ar draws, dyma fe'n anfon pawb a phopeth arall oedd ganddo drosodd.
Gene WelBeibl 32:24  Roedd Jacob ar ei ben ei hun. A dyma ddyn yn dod ac yn ymladd gydag e nes iddi wawrio.
Gene WelBeibl 32:25  Pan welodd y dyn nad oedd e'n ennill, dyma fe'n taro Jacob yn ei glun a'i rhoi o'i lle.
Gene WelBeibl 32:26  “Gad i mi fynd,” meddai'r dyn, “mae hi'n dechrau gwawrio.” “Na!” meddai Jacob, “Wna i ddim gadael i ti fynd nes i ti fy mendithio i.”
Gene WelBeibl 32:27  Felly dyma'r dyn yn gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Jacob,” meddai.
Gene WelBeibl 32:28  A dyma'r dyn yn dweud wrtho, “Fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di. Am dy fod ti wedi ymladd gyda Duw a phobl, ac wedi ennill.”
Gene WelBeibl 32:29  Gofynnodd Jacob iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Pam wyt ti'n gofyn am fy enw i?” meddai'r dyn. Ac wedyn dyma fe'n bendithio Jacob yn y fan honno.
Gene WelBeibl 32:30  Felly galwodd Jacob y lle yn Peniel. “Dw i wedi gweld Duw wyneb yn wyneb,” meddai, “a dw i'n dal yn fyw!”
Gene WelBeibl 32:31  Roedd yr haul yn tywynnu ar Jacob wrth iddo adael Peniel. Ac roedd yn gloff o achos yr anaf i'w glun.
Gene WelBeibl 32:32  (Dyna pam dydy pobl Israel hyd heddiw ddim yn bwyta'r gewyn wrth gymal y glun. Maen nhw'n cofio'r digwyddiad yma, pan gafodd Jacob ei daro ar ei glun.)
Chapter 33
Gene WelBeibl 33:1  Edrychodd Jacob a gweld Esau yn dod yn y pellter gyda phedwar cant o ddynion. Felly dyma fe'n rhannu'r plant rhwng Lea, Rachel a'r ddwy forwyn.
Gene WelBeibl 33:2  Rhoddodd y ddwy forwyn a'u plant ar y blaen, wedyn Lea a'i phlant hi, a Rachel a Joseff yn olaf.
Gene WelBeibl 33:3  Aeth Jacob ei hun o'u blaenau nhw i gyd. Ymgrymodd yn isel saith gwaith wrth iddo agosáu at ei frawd.
Gene WelBeibl 33:4  Ond rhedodd Esau ato a'i gofleidio'n dynn a'i gusanu. Roedd y ddau ohonyn nhw'n crio.
Gene WelBeibl 33:5  Pan welodd Esau y gwragedd a'r plant, gofynnodd, “Pwy ydy'r rhain?” A dyma Jacob yn ateb, “Dyma'r plant mae Duw wedi bod mor garedig â'u rhoi i dy was.”
Gene WelBeibl 33:6  Dyma'r morynion yn camu ymlaen gyda'u plant, ac yn ymgrymu.
Gene WelBeibl 33:7  Wedyn daeth Lea ymlaen gyda'i phlant hi, ac ymgrymu. Ac yn olaf daeth Joseff a Rachel, ac ymgrymu.
Gene WelBeibl 33:8  “Beth oedd dy fwriad di yn anfon yr anifeiliaid yna i gyd ata i?” meddai Esau. Atebodd Jacob, “Er mwyn i'm meistr fy nerbyn i.”
Gene WelBeibl 33:9  “Mae gen i fwy na digon, fy mrawd,” meddai Esau. “Cadw beth sydd biau ti.”
Gene WelBeibl 33:10  “Na wir, plîs cymer nhw,” meddai Jacob. “Os wyt ti'n fy nerbyn i, derbyn nhw fel anrheg gen i. Mae gweld dy wyneb di fel gweld wyneb Duw – rwyt ti wedi rhoi'r fath groeso i mi.
Gene WelBeibl 33:11  Plîs derbyn y rhodd gen i. Mae Duw wedi bod mor garedig ata i. Mae gen i bopeth dw i eisiau.” Am ei fod yn pwyso arno, dyma Esau yn ei dderbyn.
Gene WelBeibl 33:12  Wedyn dyma Esau yn dweud, “I ffwrdd â ni felly! Gwna i'ch arwain chi.”
Gene WelBeibl 33:13  Ond atebodd Jacob, “Mae'r plant yn ifanc, fel y gweli, syr. Ac mae'n rhaid i mi edrych ar ôl yr anifeiliaid sy'n magu rhai bach. Os byddan nhw'n cael eu gyrru'n rhy galed, hyd yn oed am ddiwrnod, byddan nhw i gyd yn marw.
Gene WelBeibl 33:14  Dos di o flaen dy was. Bydda i'n dod yn araf ar dy ôl di – mor gyflym ag y galla i gyda'r anifeiliaid a'r plant. Gwna i dy gyfarfod di yn Seir.”
Gene WelBeibl 33:15  “Gad i mi adael rhai o'r dynion yma i fynd gyda ti,” meddai Esau wedyn. “I beth?” meddai Jacob. “Mae fy meistr wedi bod mor garedig yn barod.”
Gene WelBeibl 33:16  Felly dyma Esau yn troi'n ôl am Seir y diwrnod hwnnw.
Gene WelBeibl 33:17  Ond aeth Jacob i'r cyfeiriad arall, i Swccoth. Dyma fe'n adeiladu tŷ iddo'i hun yno, a chytiau i'w anifeiliaid gysgodi. Dyna pam y galwodd y lle yn Swccoth.
Gene WelBeibl 33:18  Roedd Jacob wedi teithio o Padan-aram, a chyrraedd yn saff yn y diwedd yn nhre Sichem yn Canaan. Gwersyllodd heb fod yn bell o'r dre.
Gene WelBeibl 33:19  Wedyn, prynodd y tir lle roedd wedi gwersylla, gan feibion Hamor (tad Sechem) am gant o ddarnau arian.
Gene WelBeibl 33:20  Cododd allor i Dduw yno, a'i galw yn El-Elohe-Israel.
Chapter 34
Gene WelBeibl 34:1  Aeth Dina (merch Lea a Jacob) allan i weld rhai o ferched ifanc yr ardal.
Gene WelBeibl 34:2  Pan welodd Sechem hi (Sechem oedd yn fab i bennaeth yr ardal, Hamor yr Hefiad), cipiodd hi, ymosod yn rhywiol arni a'i threisio.
Gene WelBeibl 34:3  Ond wedyn syrthiodd yn ddwfn mewn cariad â hi a cheisiodd ennill ei serch.
Gene WelBeibl 34:4  Aeth at ei dad, Hamor, a dweud, “Dw i eisiau i ti gael y ferch yma yn wraig i mi.”
Gene WelBeibl 34:5  Clywodd Jacob fod Sechem wedi treisio ei ferch, Dina. Roedd ei feibion allan yn y wlad yn gofalu am yr anifeiliaid ar y pryd. A phenderfynodd Jacob beidio dweud dim nes iddyn nhw ddod adre.
Gene WelBeibl 34:6  Yna dyma Hamor, tad Sechem, yn mynd i siarad â Jacob am Dina.
Gene WelBeibl 34:7  Yn y cyfamser, roedd meibion Jacob wedi cyrraedd yn ôl. Roedden nhw wedi clywed y newyddion, yn teimlo'r sarhad ac yn wyllt gynddeiriog. Roedd Sechem wedi gwneud peth gwarthus yn Israel drwy ymosod yn rhywiol ar ferch Jacob – rhywbeth na ddylai byth fod wedi digwydd.
Gene WelBeibl 34:8  Ond dyma Hamor yn apelio arnyn nhw, “Mae Sechem dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â'r ferch. Plîs gadewch iddo'i phriodi hi.
Gene WelBeibl 34:9  Gadewch i ni gytuno fod ein plant ni'n cael priodi ei gilydd. Gadewch i'ch merched chi briodi rhai o'n dynion ni, a gewch chi briodi ein merched ni.
Gene WelBeibl 34:10  Cewch fyw yma gyda ni. Mae'r wlad o'ch blaen chi. Arhoswch yma. Cewch fynd ble mynnwch chi, a phrynu tir yma.”
Gene WelBeibl 34:11  Wedyn dyma Sechem ei hun yn dweud wrth dad a brodyr Dina, “Plîs wnewch chi fy nerbyn i? Dw i'n fodlon rhoi i chi beth bynnag dych chi eisiau.
Gene WelBeibl 34:12  Gwnewch y tâl am y briodferch mor uchel ag y mynnwch chi. Dw i'n fodlon talu unrhyw beth, dim ond i chi roi'r ferch yn wraig i mi.”
Gene WelBeibl 34:13  Ond am fod Sechem wedi treisio eu chwaer, dyma frodyr Dina yn twyllo Sechem a Hamor ei dad.
Gene WelBeibl 34:14  Dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Allwn ni ddim gadael i'n chwaer briodi dyn sydd heb fod drwy ddefod enwaediad. Byddai hynny'n gywilydd mawr arnon ni.
Gene WelBeibl 34:15  Allwn ni ddim ond cytuno ar un amod: rhaid i bob un o'ch dynion chi gael ei enwaedu yr un fath â ni.
Gene WelBeibl 34:16  Os gwnewch chi hynny, cewch briodi ein merched ni a byddwn ni'n priodi eich merched chi. Byddwn yn dod i fyw atoch chi, a byddwn ni'n un bobl.
Gene WelBeibl 34:17  Ond os gwrthodwch chi gael eich enwaedu, awn ni i ffwrdd, a mynd â'n chwaer gyda ni.”
Gene WelBeibl 34:18  Roedd eu cynnig yn swnio'n dda i Hamor a'i fab Sechem.
Gene WelBeibl 34:19  Felly dyma Sechem yn cytuno ar unwaith. Roedd e eisiau Dina, merch Jacob, cymaint. (A fe oedd y person pwysica yn y teulu i gyd.)
Gene WelBeibl 34:20  Felly dyma Hamor a'i fab Sechem yn mynd at giât y dre ble roedden nhw'n byw i siarad â'r dynion yno. A dyma ddwedon nhw:
Gene WelBeibl 34:21  “Mae'r bobl yma'n gyfeillgar. Gadewch iddyn nhw fyw yn y wlad yma, a mynd i ble fynnan nhw. Mae yna ddigon o dir iddyn nhw. Gadewch i ni briodi eu merched nhw, a cân nhw briodi ein merched ni.
Gene WelBeibl 34:22  Ond wnân nhw ddim ond cytuno i fyw gyda ni a bod yn un bobl gyda ni ar yr amod yma: rhaid i'n dynion ni i gyd gael eu henwaedu yr un fath â nhw.
Gene WelBeibl 34:23  Onid ni fydd piau'r holl anifeiliaid a phopeth arall sydd ganddyn nhw wedyn? Gadewch i ni gytuno gyda nhw a gadael iddyn nhw fyw gyda ni.”
Gene WelBeibl 34:24  Dyma'r dynion ar gyngor y dre yn cytuno gyda Hamor a'i fab Sechem. A dyma pob un o ddynion y dre yn mynd drwy'r ddefod o gael eu henwaedu.
Gene WelBeibl 34:25  Ddeuddydd wedyn, pan oedden nhw'n dal mewn poen, aeth dau o feibion Jacob, Simeon a Lefi (brodyr Dina), i mewn i'r dre yn dawel fach, a lladd y dynion i gyd.
Gene WelBeibl 34:26  Dyma nhw'n lladd Hamor a'i fab Sechem, cymryd Dina o dŷ Sechem, a gadael.
Gene WelBeibl 34:27  Wedyn dyma feibion eraill Jacob yn mynd yno ac yn ysbeilio'r cyrff a'r dref, am fod eu chwaer wedi cael ei threisio.
Gene WelBeibl 34:28  Cymeron nhw ddefaid a geifr, ychen ac asynnod, a phopeth arall allen nhw ddod o hyd iddo yn y dref ei hun a'r ardal o'i chwmpas –
Gene WelBeibl 34:29  popeth o werth, y gwragedd a'r plant a phopeth oedd yn eu tai.
Gene WelBeibl 34:30  “Dych chi wedi achosi trwbwl go iawn i mi,” meddai Jacob wrth Simeon a Lefi. “Bydd pobl y wlad yma, y Canaaneaid a'r Peresiaid, yn fy nghasáu i. Does dim llawer ohonon ni. Os byddan nhw'n dod at ei gilydd ac ymosod arnon ni, bydd hi ar ben arnon ni i gyd. Byddwn ni'n cael ein dinistrio'n llwyr!”
Gene WelBeibl 34:31  Ond dyma Simeon a Lefi yn ei ateb, “Oedd hi'n iawn i'n chwaer ni gael ei thrin fel putain?”
Chapter 35
Gene WelBeibl 35:1  Dwedodd Duw wrth Jacob, “Dos i fyny i Bethel i fyw. Gwna allor yno i addoli'r Duw ddaeth atat ti pan oeddet ti'n dianc oddi wrth dy frawd Esau.”
Gene WelBeibl 35:2  Felly dyma Jacob yn dweud wrth ei deulu a phawb arall oedd gydag e, “Rhaid i chi gael gwared â'r duwiau eraill sydd gynnoch chi. Ymolchwch a gwisgwch ddillad glân.
Gene WelBeibl 35:3  Wedyn gadewch i ni fynd i Bethel. Dw i eisiau codi allor yno i'r Duw wnaeth fy ateb i pan oedd pethau'n anodd arna i. Mae e wedi bod gyda mi bob cam o'r ffordd.”
Gene WelBeibl 35:4  Felly dyma nhw'n rhoi'r duwiau eraill oedd ganddyn nhw i Jacob, a'r clustdlysau hefyd. Claddodd Jacob y cwbl dan y dderwen oedd wrth Sichem,
Gene WelBeibl 35:5  ac yna dyma nhw'n cychwyn ar eu taith. Roedd Duw wedi creu panig yn y trefi o gwmpas, ac felly wnaeth neb geisio ymosod arnyn nhw.
Gene WelBeibl 35:6  Felly dyma Jacob a'r bobl oedd gydag e yn cyrraedd Lws (sef Bethel), yng ngwlad Canaan.
Gene WelBeibl 35:7  Cododd allor yno a galw'r lle yn El-bethel, am mai dyna ble roedd Duw wedi ymddangos iddo pan oedd yn dianc oddi wrth ei frawd Esau.
Gene WelBeibl 35:8  A dyma Debora (sef y forwyn oedd wedi magu Rebeca pan oedd hi'n ferch fach) yn marw yno. Cafodd ei chladdu dan y dderwen oedd islaw Bethel. Felly cafodd y lle ei alw yn Dderwen yr Wylo.
Gene WelBeibl 35:9  A dyma Duw yn ymddangos i Jacob eto, a'i fendithio (ar ôl iddo ddod o Padan-aram).
Gene WelBeibl 35:10  Dwedodd Duw wrtho, “Jacob ydy dy enw di, ond fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di.” Dyna sut cafodd e'r enw Israel.
Gene WelBeibl 35:11  Yna dwedodd Duw wrtho, “Fi ydy'r Duw sy'n rheoli popeth. Dw i eisiau i ti gael lot o blant. Bydd cenedl – ie, hyd yn oed grŵp o genhedloedd – yn dod ohonot ti. Bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd.
Gene WelBeibl 35:12  Ti sydd i gael y tir rois i i Abraham ac Isaac, a bydd yn perthyn i dy ddisgynyddion ar dy ôl di.”
Gene WelBeibl 35:13  Wedyn dyma Duw yn gadael y lle ble roedd wedi siarad â Jacob.
Gene WelBeibl 35:14  Dyma Jacob yn codi colofn gysegredig ble roedd Duw wedi siarad ag e. Colofn garreg oedd hi, a thywalltodd offrwm o ddiod drosti, ac olew hefyd.
Gene WelBeibl 35:15  Galwodd Jacob y lle hwnnw ble roedd Duw wedi siarad ag e yn Bethel.
Gene WelBeibl 35:16  Dyma nhw'n teithio ymlaen o Bethel. Roedden nhw'n dal yn eitha pell o Effrath pan ddechreuodd Rachel gael ei babi – ac roedd yr enedigaeth yn galed.
Gene WelBeibl 35:17  Pan oedd y sefyllfa ar ei gwaethaf, dyma'r fydwraig yn dweud wrth Rachel, “Paid bod ag ofn. Mae gen ti fab arall ar ei ffordd.”
Gene WelBeibl 35:18  A dyma Rachel yn marw. Wrth iddi dynnu ei hanadl olaf, dyma hi'n galw'r plentyn yn Ben-oni; ond galwodd ei dad e yn Benjamin.
Gene WelBeibl 35:19  Buodd Rachel farw, a chafodd ei chladdu ar ochr y ffordd oedd yn mynd i Effrath (sef Bethlehem).
Gene WelBeibl 35:20  Cododd Jacob gofgolofn wrth ei bedd, ac mae yno hyd heddiw – Cofeb Bedd Rachel.
Gene WelBeibl 35:21  Teithiodd Israel (sef Jacob) yn ei flaen, a gwersylla yr ochr draw i Migdal-eder.
Gene WelBeibl 35:22  Tra oedd yn byw yno, dyma Reuben yn cysgu gyda Bilha, partner ei dad. A daeth Israel i glywed am y peth. Roedd gan Jacob un deg dau o feibion:
Gene WelBeibl 35:23  Meibion Lea: Reuben (mab hynaf Jacob), Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon.
Gene WelBeibl 35:26  Meibion Silpa, morwyn Lea: Gad ac Asher. Dyma'r meibion gafodd eu geni i Jacob yn Padan-aram.
Gene WelBeibl 35:27  Felly daeth Jacob yn ôl at ei dad Isaac i Mamre, yn Ciriath-arba (sef Hebron). Dyna ble roedd Abraham ac Isaac wedi bod yn byw fel mewnfudwyr.
Gene WelBeibl 35:29  pan fuodd farw yn hen ddyn, a mynd at ei hynafiaid. A dyma'i feibion Esau a Jacob yn ei gladdu.
Chapter 36
Gene WelBeibl 36:2  Roedd Esau wedi priodi merched o Canaan: Ada (merch Elon yr Hethiad), Oholibama (merch Ana ac wyres Sibeon yr Hefiad),
Gene WelBeibl 36:4  Cafodd Ada fab i Esau, sef Eliffas. Cafodd Basemath fab, sef Reuel,
Gene WelBeibl 36:5  a chafodd Oholibama dri o fechgyn, sef Iewsh, Ialam a Cora. Dyma enwau'r meibion gafodd Esau pan oedd yng ngwlad Canaan.
Gene WelBeibl 36:6  Symudodd Esau i ffwrdd i wlad oedd yn reit bell oddi wrth ei frawd Jacob. Aeth â'i wragedd gydag e, a'i feibion a'i ferched, a phawb arall oedd gydag e, a'i anifeiliaid a'r holl eiddo roedd wedi'i gasglu pan oedd yn byw yng ngwlad Canaan.
Gene WelBeibl 36:7  Roedd gan y ddau ormod o anifeiliaid i allu byw gyda'i gilydd – doedd y tir ddim yn gallu cynnal y cwbl.
Gene WelBeibl 36:8  Felly dyma Esau (sef Edom) yn setlo ym mryniau Seir.
Gene WelBeibl 36:9  Dyma hanes teulu Esau (ohono fe y daeth pobl Edom, sy'n byw ym mryniau Seir):
Gene WelBeibl 36:10  Enwau meibion Esau: Eliffas (mab Ada, gwraig Esau), a Reuel (mab Basemath, gwraig Esau)
Gene WelBeibl 36:11  Enwau meibion Eliffas: Teman, Omar, Seffo, Gatam a Cenas.
Gene WelBeibl 36:12  Y rhain oedd disgynyddion Ada gwraig Esau. (Roedd gan Eliffas, mab Esau, bartner o'r enw Timna hefyd. Cafodd hi fab i Eliffas, sef Amalec.)
Gene WelBeibl 36:13  Enwau meibion Reuel: Nachath, Serach, Shamma a Missa. Y rhain oedd disgynyddion Basemath gwraig Esau.
Gene WelBeibl 36:14  A dyma enwau meibion Oholibama (merch Ana ac wyres Sibeon): cafodd dri o feibion i Esau, sef Iewsh, Ialam a Cora.
Gene WelBeibl 36:15  Roedd disgynyddion Esau yn arweinwyr llwythau gwahanol: Disgynyddion Eliffas (mab hynaf Esau) oedd arweinwyr llwythau Teman, Omar, Seffo, Cenas,
Gene WelBeibl 36:16  Cora, Gatam ac Amalec. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn Edom i gyd yn ddisgynyddion i Eliffas ac Ada.
Gene WelBeibl 36:17  Disgynyddion Reuel (mab Esau) oedd arweinwyr llwythau Nachath, Serach, Shamma a Missa. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn Edom i gyd yn ddisgynyddion i Eliffas a Basemath.
Gene WelBeibl 36:18  Wedyn dyma ddisgynyddion Oholibama (gwraig arall Esau): arweinwyr llwythau Iewsh, Ialam a Cora. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn ddisgynyddion i Esau ac Oholibama (merch Ana).
Gene WelBeibl 36:19  Mae'r rhain i gyd yn ddisgynyddion i Esau – dyma arweinwyr llwythau Edom.
Gene WelBeibl 36:20  A dyma feibion Seir yr Horiad, oedd yn byw yn y wlad o'r blaen: Lotan, Shofal, Sibeon, Ana,
Gene WelBeibl 36:21  Dishon, Etser a Dishan. Y rhain oedd arweinwyr llwythau'r Horiaid, disgynyddion Seir sy'n byw yng ngwlad Edom.
Gene WelBeibl 36:22  Meibion Lotan oedd Chori a Homam (a Timna oedd chwaer Lotan).
Gene WelBeibl 36:23  Meibion Shofal oedd Alfan, Manachath, Ebal, Sheffo ac Onam.
Gene WelBeibl 36:24  Meibion Sibeon oedd Aia ac Ana (sef yr Ana ddarganfyddodd y ffynhonnau yn yr anialwch pan oedd yn gofalu am asynnod ei dad Sibeon).
Gene WelBeibl 36:26  Meibion Dishon oedd Chemdan, Eshban, Ithran a Ceran.
Gene WelBeibl 36:29  Dyma arweinwyr llwythau'r Horiaid: Lotan, Shofal, Sibeon, Ana,
Gene WelBeibl 36:30  Dishon, Etser a Dishan. Y rhain oedd arweinwyr llwythau'r Horiaid yng ngwlad Seir.
Gene WelBeibl 36:31  Dyma enwau brenhinoedd gwlad Edom yn y cyfnod cyn i Israel gael brenin:
Gene WelBeibl 36:32  Roedd Bela fab Beor o dre Dinhaba yn frenin ar Edom.
Gene WelBeibl 36:33  Ar ôl i Bela farw, daeth Iobab fab Serach o Bosra yn frenin yn ei le.
Gene WelBeibl 36:34  Ar ôl i Iobab farw, daeth Chwsham o ardal Teman yn frenin yn ei le.
Gene WelBeibl 36:35  Ar ôl i Chwsham farw, daeth Hadad fab Bedad o dre Afith yn frenin yn ei le. Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.
Gene WelBeibl 36:36  Ar ôl i Hadad farw, daeth Samla o Masreca yn frenin yn ei le.
Gene WelBeibl 36:37  Ar ôl i Samla farw, daeth Saul o Rehoboth-ger-yr-Afon yn frenin yn ei le.
Gene WelBeibl 36:38  Ar ôl i Saul farw, daeth Baal-chanan fab Achbor yn frenin yn ei le.
Gene WelBeibl 36:39  Wedyn ar ôl i Baal-chanan fab Achbor farw daeth Hadar o dre Paw yn frenin yn ei le. Enw gwraig Hadar oedd Mehetafél (merch Matred ac wyres Me-sahab).
Gene WelBeibl 36:40  Dyma enwau arweinwyr llwythau Esau – pob llwyth yn byw mewn ardal arbennig o'r wlad: Timna, Alfa, Ietheth,
Gene WelBeibl 36:43  Magdiel ac Iram. Y rhain oedd arweinwyr llwythau Edom (sef Esau, tad pobl Edom) – pob un yn byw yn y rhan o'r wlad roedd wedi'i meddiannu.
Chapter 37
Gene WelBeibl 37:1  A dyma Jacob yn setlo yn y rhan o wlad Canaan roedd ei dad wedi ymfudo iddi.
Gene WelBeibl 37:2  Dyma hanes teulu Jacob: Pan oedd Joseff yn 17 oed, roedd gyda'i frodyr yn gofalu am y preiddiau. Llanc ifanc oedd e, yn gweithio gyda meibion Bilha a Silpa, gwragedd ei dad. Ond roedd yn cario straeon am ei frodyr i'w dad.
Gene WelBeibl 37:3  Roedd Israel yn caru Joseff fwy na'i feibion eraill i gyd, am fod Joseff wedi cael ei eni pan oedd e'n hen ddyn; ac roedd wedi gwneud côt sbesial iddo.
Gene WelBeibl 37:4  Ond roedd ei frodyr yn ei gasáu, am fod eu tad yn caru Joseff fwy na nhw. Doedden nhw ddim yn gallu dweud run gair caredig wrtho.
Gene WelBeibl 37:5  Ond wedyn cafodd Joseff freuddwyd. Pan ddwedodd wrth ei frodyr am y freuddwyd, roedden nhw'n ei gasáu e fwy fyth.
Gene WelBeibl 37:6  “Gwrandwch ar y freuddwyd yma ges i,” meddai wrthyn nhw.
Gene WelBeibl 37:7  “Roedden ni i gyd wrthi'n rhwymo ysgubau mewn cae. Yn sydyn dyma fy ysgub i yn codi a sefyll yn syth. A dyma'ch ysgubau chi yn casglu o'i chwmpas ac yn ymgrymu iddi!”
Gene WelBeibl 37:8  “Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n frenin neu rywbeth?” medden nhw. “Wyt ti'n mynd i deyrnasu droson ni?” Roedden nhw'n ei gasáu e fwy fyth o achos y freuddwyd a beth ddwedodd e wrthyn nhw.
Gene WelBeibl 37:9  Wedyn cafodd Joseff freuddwyd arall, a dwedodd am honno wrth ei frodyr hefyd. “Dw i wedi cael breuddwyd arall,” meddai. “Roedd yr haul a'r lleuad ac un deg un o sêr yn ymgrymu o mlaen i.”
Gene WelBeibl 37:10  Ond pan ddwedodd wrth ei dad a'i frodyr am y freuddwyd, dyma'i dad yn dweud y drefn wrtho. “Sut fath o freuddwyd ydy honna?” meddai wrtho. “Wyt ti'n meddwl fy mod i a dy fam a dy frodyr yn mynd i ddod ac ymgrymu o dy flaen di?”
Gene WelBeibl 37:11  Roedd ei frodyr yn genfigennus ohono; ond roedd ei dad yn cadw'r peth mewn cof.
Gene WelBeibl 37:12  Roedd ei frodyr wedi mynd ag anifeiliaid eu tad i bori wrth ymyl Sichem.
Gene WelBeibl 37:13  A dyma Israel yn dweud wrth Joseff, “Mae dy frodyr wedi mynd â'r praidd i bori i Sichem. Dw i eisiau i ti fynd yno i'w gweld nhw.” “Iawn, dw i'n barod,” meddai Joseff.
Gene WelBeibl 37:14  “Dos i weld sut maen nhw, a sut mae'r praidd,” meddai ei dad wrtho. “Wedyn tyrd yn ôl i ddweud wrtho i.” Felly dyma Joseff yn mynd o ddyffryn Hebron i Sichem. Pan gyrhaeddodd Sichem
Gene WelBeibl 37:15  dyma ryw ddyn yn dod ar ei draws yn crwydro o gwmpas. Gofynnodd y dyn iddo, “Am beth ti'n chwilio?”
Gene WelBeibl 37:16  “Dw i'n edrych am fy mrodyr,” meddai Joseff. “Alli di ddweud wrtho i ble maen nhw wedi mynd â'r praidd i bori?”
Gene WelBeibl 37:17  A dyma'r dyn yn ateb, “Maen nhw wedi gadael yr ardal yma. Clywais nhw'n dweud eu bod yn mynd i Dothan.” Felly dyma Joseff yn mynd ar eu holau, ac yn dod o hyd iddyn nhw yn Dothan.
Gene WelBeibl 37:18  Roedden nhw wedi'i weld yn dod o bell, a chyn iddo gyrraedd dyma nhw'n cynllwynio i'w ladd.
Gene WelBeibl 37:19  “Edrychwch, mae'r breuddwydiwr mawr yn dod!” medden nhw.
Gene WelBeibl 37:20  “Gadewch i ni ei ladd. Gallwn ei daflu i bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi'i ladd. Cawn weld beth ddaw o'i freuddwydion wedyn!”
Gene WelBeibl 37:21  Dyma Reuben yn digwydd clywed beth ddwedon nhw, a llwyddodd i achub bywyd Joseff. “Na, gadewch i ni beidio â'i ladd,”
Gene WelBeibl 37:22  meddai wrthyn nhw. “Peidiwch tywallt gwaed. Taflwch e i mewn i'r pydew yma yn yr anialwch, ond peidiwch gwneud niwed iddo.” (Bwriad Reuben oedd achub Joseff, a mynd ag e yn ôl at ei dad.)
Gene WelBeibl 37:23  Felly pan ddaeth Joseff at ei frodyr, dyma nhw'n tynnu ei gôt oddi arno (y gôt sbesial roedd e'n ei gwisgo).
Gene WelBeibl 37:24  Wedyn dyma nhw'n ei daflu i mewn i'r pydew. (Roedd y pydew yn wag – doedd dim dŵr ynddo.)
Gene WelBeibl 37:25  Pan oedden nhw'n eistedd i lawr i fwyta, dyma nhw'n gweld carafán o Ismaeliaid yn teithio o gyfeiriad Gilead. Roedd ganddyn nhw gamelod yn cario gwm pêr, balm, a myrr i lawr i'r Aifft.
Gene WelBeibl 37:26  A dyma Jwda'n dweud wrth ei frodyr, “Dŷn ni'n ennill dim drwy ladd ein brawd a cheisio cuddio'r ffaith.
Gene WelBeibl 37:27  Dewch, gadewch i ni ei werthu e i'r Ismaeliaid acw. Ddylen ni ddim gwneud niwed iddo. Wedi'r cwbl, mae yn frawd i ni.” A dyma'r brodyr yn cytuno.
Gene WelBeibl 37:28  Felly pan ddaeth y masnachwyr o Midian heibio, dyma nhw'n tynnu Joseff allan o'r pydew a'i werthu i'r Ismaeliaid am 20 darn o arian. A dyma'r Ismaeliaid yn mynd â Joseff gyda nhw i'r Aifft.
Gene WelBeibl 37:29  Yn nes ymlaen dyma Reuben yn dod yn ôl at y pydew. Pan welodd fod Joseff ddim yno, dyma fe'n rhwygo'i ddillad.
Gene WelBeibl 37:30  Aeth at ei frodyr, a dweud, “Mae'r bachgen wedi mynd! Sut alla i fynd adre nawr?”
Gene WelBeibl 37:31  Yna dyma nhw'n cymryd côt Joseff, lladd gafr ac yna trochi'r gôt yng ngwaed yr anifail.
Gene WelBeibl 37:32  Wedyn dyma nhw'n mynd â'r gôt sbesial at eu tad, a dweud, “Daethon ni o hyd i hon. Pwy sydd biau hi? Ai côt dy fab di ydy hi neu ddim?”
Gene WelBeibl 37:33  Dyma Jacob yn nabod y gôt. “Ie, côt fy mab i ydy hi! Mae'n rhaid bod anifail gwyllt wedi ymosod arno a'i rwygo'n ddarnau!”
Gene WelBeibl 37:34  A dyma fe'n rhwygo'i ddillad a gwisgo sachliain. A buodd yn galaru am ei fab am amser hir.
Gene WelBeibl 37:35  Roedd ei feibion a'i ferched i gyd yn ceisio ei gysuro, ond roedd yn gwrthod codi ei galon. “Dw i'n mynd i fynd i'r bedd yn dal i alaru am fy mab,” meddai. Ac roedd yn beichio crio.
Gene WelBeibl 37:36  Yn y cyfamser, roedd y Midianiaid wedi gwerthu Joseff yn yr Aifft. Cafodd ei werthu i Potiffar, un o swyddogion y Pharo, a chapten ei warchodlu.
Chapter 38
Gene WelBeibl 38:1  Tua'r adeg honno, dyma Jwda yn gadael ei frodyr ac yn ymuno â dyn o Adwlam o'r enw Chira.
Gene WelBeibl 38:2  Yno dyma fe'n cyfarfod ac yn priodi merch i ddyn o Canaan o'r enw Shwa. Cysgodd gyda hi,
Gene WelBeibl 38:3  a dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab. Galwodd Jwda'r plentyn yn Er.
Gene WelBeibl 38:4  Wedyn dyma hi'n beichiogi eto ac yn cael mab arall, a'i alw yn Onan.
Gene WelBeibl 38:5  A chafodd fab arall eto a'i alw yn Shela. Roedd Jwda yn Chesib pan gafodd hi'r plentyn hwnnw.
Gene WelBeibl 38:6  Dyma Jwda yn cael gwraig i Er, ei fab hynaf. Tamar oedd ei henw hi.
Gene WelBeibl 38:7  Ond roedd Er yn ddrwg, a dyma'r ARGLWYDD yn gadael iddo farw.
Gene WelBeibl 38:8  Felly dwedodd Jwda wrth Onan, brawd Er, “Dy le di ydy cymryd gwraig dy frawd Er, a magu teulu iddo.”
Gene WelBeibl 38:9  Ond roedd Onan yn gwybod na fyddai'r plant yn cael eu cyfri yn blant iddo fe. Felly bob tro roedd e'n cael rhyw gyda Tamar, roedd yn gwneud yn siŵr fod ei had ddim yn mynd iddi, rhag ofn iddi feichiogi. Doedd arno ddim eisiau rhoi plentyn i'w frawd.
Gene WelBeibl 38:10  Roedd beth wnaeth e'n ddrwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, felly dyma Duw yn gadael iddo fe farw hefyd.
Gene WelBeibl 38:11  Yna dyma Jwda yn dweud wrth Tamar, ei ferch-yng-nghyfraith, “Dos adre at dy dad, ac aros yn weddw nes bydd Shela, fy mab arall, wedi tyfu.” (Ond ofni i Shela farw hefyd, fel ei frodyr, oedd Jwda.) Felly aeth Tamar adre i fyw at ei thad.
Gene WelBeibl 38:12  Beth amser wedyn dyma wraig Jwda (sef merch Shwa) yn marw. Pan oedd y cyfnod i alaru drosodd, dyma Jwda a'i ffrind Chira o Adwlam yn mynd i Timna i gneifio'i ddefaid.
Gene WelBeibl 38:13  A dwedodd rhywun wrth Tamar fod ei thad-yng-nghyfraith wedi mynd yno.
Gene WelBeibl 38:14  Roedd Tamar yn gwybod fod Shela wedi tyfu, ac eto doedd hi ddim wedi cael ei rhoi yn wraig iddo. Felly dyma Tamar yn newid o'r dillad oedd yn dangos ei bod hi'n weddw, gwisgo i fyny, a rhoi fêl dros ei hwyneb. Yna aeth i eistedd ar ochr y ffordd y tu allan i bentref Enaim, sydd ar y ffordd i Timna.
Gene WelBeibl 38:15  Pan welodd Jwda hi, roedd yn meddwl mai putain oedd hi, gan ei bod wedi cuddio'i hwyneb.
Gene WelBeibl 38:16  Aeth draw ati ar ochr y ffordd, a dweud, “Tyrd, dw i eisiau cysgu hefo ti.” (Doedd e ddim yn gwybod mai ei ferch-yng-nghyfraith oedd hi.) A dyma hithau yn ateb, “Faint wnei di dalu i mi am gael rhyw gyda mi?”
Gene WelBeibl 38:17  “Wna i anfon myn gafr i ti o'r praidd,” meddai Jwda. A dyma hi'n ateb, “Dim ond os ca i rywbeth i'w gadw'n ernes nes i ti anfon yr afr i mi.”
Gene WelBeibl 38:18  “Beth wyt ti eisiau?” meddai. “Y sêl yna sydd ar y cordyn am dy wddf, a dy ffon di.” Felly dyma fe'n eu rhoi nhw iddi. Cafodd ryw gyda hi, a dyma hi'n beichiogi.
Gene WelBeibl 38:19  Aeth Tamar i ffwrdd ar unwaith, tynnu'r fêl, a gwisgo'i dillad gweddw eto.
Gene WelBeibl 38:20  Dyma Jwda'n anfon ei ffrind o Adwlam gyda'r myn gafr iddi, ac i gael y pethau roddodd e iddi yn ôl. Ond roedd y ffrind yn methu dod o hyd iddi.
Gene WelBeibl 38:21  Dyma fe'n holi dynion yr ardal amdani. “Ble mae'r butain oedd ar ochr y ffordd yn Enaim?” “Does dim putain yma,” medden nhw.
Gene WelBeibl 38:22  Felly aeth yn ôl at Jwda a dweud wrtho, “Dw i wedi methu dod o hyd iddi. Mae dynion yr ardal yn dweud fod dim putain yno.”
Gene WelBeibl 38:23  “Caiff hi gadw'r pethau rois i iddi,” meddai Jwda. “Anfonais i'r myn gafr iddi, ond roeddet ti'n methu dod o hyd iddi. Fyddwn ni'n ddim byd ond testun sbort os awn ni yn ôl yno eto.”
Gene WelBeibl 38:24  Tua tri mis yn ddiweddarach, dwedodd rhywun wrth Jwda, “Mae Tamar, dy ferch-yng-nghyfraith, wedi bod yn cysgu o gwmpas. Mae hi'n disgwyl babi.” “Dewch â hi allan yma, a'i llosgi hi!” meddai Jwda.
Gene WelBeibl 38:25  Ond wrth iddyn nhw ddod â hi allan, dyma hi'n anfon neges at ei thad-yng-nghyfraith, “Y dyn sydd biau'r pethau yma sydd wedi fy ngwneud i'n feichiog. Edrych pwy sydd biau nhw – y sêl yma sydd ar gordyn, a'r ffon.”
Gene WelBeibl 38:26  Dyma Jwda'n gweld mai fe oedd piau nhw. “Hi sy'n iawn a fi sydd ar fai,” meddai. “Wnes i ddim ei rhoi hi'n wraig i'm mab Shela.” Wnaeth Jwda ddim cysgu gyda hi ar ôl hynny.
Gene WelBeibl 38:27  Pan ddaeth ei hamser hi, roedd ganddi efeilliaid.
Gene WelBeibl 38:28  Wrth iddi eni'r plant, dyma un plentyn yn gwthio ei law allan, a dyma'r fydwraig yn rhwymo edau goch am ei arddwrn, a dweud, “Hwn ddaeth allan gynta.”
Gene WelBeibl 38:29  Ond wedyn tynnodd ei law yn ôl, a daeth ei frawd allan o'i flaen. “Sut wnest ti lwyddo i wthio trwodd?” meddai'r fydwraig. Felly dyma'r plentyn hwnnw yn cael ei alw yn Perets.
Gene WelBeibl 38:30  Wedyn dyma'i frawd yn cael ei eni, gyda'r edau goch am ei arddwrn. A dyma fe'n cael ei alw yn Serach.
Chapter 39
Gene WelBeibl 39:1  Cafodd Joseff ei gymryd i lawr i'r Aifft gan yr Ismaeliaid. A dyma un o swyddogion y Pharo, sef Potiffar, capten y gwarchodlu, yn ei brynu e ganddyn nhw.
Gene WelBeibl 39:2  Roedd yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff. Roedd pethau'n mynd yn dda iddo wrth iddo weithio yn nhŷ ei feistr yn yr Aifft.
Gene WelBeibl 39:3  Sylwodd ei feistr fod yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff a bod popeth roedd e'n ei wneud yn llwyddo.
Gene WelBeibl 39:4  Felly am fod Joseff yn ei blesio, gwnaeth Potiffar e'n was personol iddo'i hun. Joseff oedd yn rhedeg popeth oedd yn digwydd yn y tŷ, am fod Potiffar wedi rhoi'r cwbl oedd ganddo yn ei ofal.
Gene WelBeibl 39:5  Ac o'r diwrnod y cafodd Joseff ei benodi i'r swydd, roedd yr ARGLWYDD yn bendithio tŷ'r Eifftiwr. Roedd yn gwneud hyn er mwyn Joseff. Roedd popeth yn mynd yn dda i Potiffar, yn ei dŷ a'i dir.
Gene WelBeibl 39:6  Felly Joseff oedd yn gofalu am bopeth iddo. Doedd Potiffar yn gorfod poeni am ddim byd ond beth i'w fwyta. Roedd Joseff yn ddyn ifanc cryf a golygus.
Gene WelBeibl 39:7  Roedd gwraig Potiffar yn ei ffansïo, ac meddai wrtho, “Tyrd i'r gwely hefo fi.”
Gene WelBeibl 39:8  Ond gwrthododd Joseff, a dweud wrthi, “Mae fy meistr yn trystio fi'n llwyr. Mae e wedi rhoi popeth sydd ganddo yn fy ngofal i.
Gene WelBeibl 39:9  Does neb yn ei dŷ yn bwysicach na fi. Dydy e'n cadw dim oddi wrtho i ond ti, gan mai ei wraig e wyt ti. Felly sut allwn i feiddio gwneud y fath beth, a phechu yn erbyn Duw?”
Gene WelBeibl 39:10  Roedd hi'n dal ati i ofyn yr un peth iddo ddydd ar ôl dydd, ond doedd Joseff ddim yn fodlon cael rhyw na gwneud dim byd arall gyda hi.
Gene WelBeibl 39:11  Ond un diwrnod, pan aeth e i'r tŷ i wneud ei waith, a neb arall yno,
Gene WelBeibl 39:12  dyma hi'n gafael yn ei ddillad, a dweud, “Tyrd i'r gwely hefo fi!” Ond dyma Joseff yn gadael ei gôt allanol yn ei llaw, ac yn rhedeg allan.
Gene WelBeibl 39:14  dyma hi'n galw ar weision y tŷ a dweud, “Edrychwch, mae fy ngŵr wedi dod â'r Hebrëwr aton ni i'n cam-drin ni. Ceisiodd fy nhreisio i, ond dyma fi'n sgrechian.
Gene WelBeibl 39:15  Pan glywodd fi'n gweiddi a sgrechian gadawodd ei gôt wrth fy ymyl a dianc.”
Gene WelBeibl 39:16  Cadwodd y dilledyn wrth ei hymyl nes i Potiffar ddod adre.
Gene WelBeibl 39:17  Wedyn dwedodd yr un stori wrtho fe. “Daeth yr Hebrëwr yna ddoist ti ag e yma i mewn ata i a cheisio fy ngham-drin i,
Gene WelBeibl 39:18  ond pan ddechreuais i sgrechian, dyma fe'n gadael ei gôt wrth fy ymyl a dianc.”
Gene WelBeibl 39:19  Pan glywodd y meistr ei wraig yn dweud sut roedd Joseff wedi'i thrin hi, roedd e'n gynddeiriog.
Gene WelBeibl 39:20  Taflodd Joseff i'r carchar lle roedd carcharorion y brenin yn cael eu cadw, a dyna lle'r arhosodd.
Gene WelBeibl 39:21  Ond roedd yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff yno hefyd, ac yn garedig iawn ato. Gwnaeth i warden y carchar ei hoffi.
Gene WelBeibl 39:22  Gwnaeth y warden Joseff yn gyfrifol am y carcharorion eraill. Joseff oedd yn gyfrifol am beth bynnag oedd yn digwydd yno.
Gene WelBeibl 39:23  Doedd y warden yn gorfod poeni am ddim byd oedd dan ofal Joseff, am fod yr ARGLWYDD gydag e. Beth bynnag roedd Joseff yn ei wneud, roedd yr ARGLWYDD yn ei lwyddo.
Chapter 40
Gene WelBeibl 40:1  Beth amser wedyn, dyma brif-fwtler a phen-pobydd y palas brenhinol yn pechu yn erbyn eu meistr, brenin yr Aifft.
Gene WelBeibl 40:2  Roedd y Pharo yn wyllt gynddeiriog gyda'i ddau swyddog,
Gene WelBeibl 40:3  a thaflodd nhw i'r carchar ble roedd Joseff, sef carchar capten y gwarchodlu.
Gene WelBeibl 40:4  Rhoddodd y capten y gwaith o edrych ar eu holau i Joseff. Roedd yn gweini arnyn nhw, a buon nhw yn y carchar am amser hir.
Gene WelBeibl 40:5  Un noson, dyma'r ddau ohonyn nhw yn cael breuddwyd – prif-fwtler a phen-pobydd brenin yr Aifft, oedd yn y carchar. Cafodd y ddau freuddwyd, ac roedd ystyr arbennig i'r ddwy freuddwyd.
Gene WelBeibl 40:6  Pan ddaeth Joseff i mewn atyn nhw y bore wedyn, sylwodd fod y ddau yn poeni am rywbeth.
Gene WelBeibl 40:7  Felly gofynnodd iddyn nhw, “Pam dych chi'n edrych mor ddigalon?”
Gene WelBeibl 40:8  A dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae'r ddau ohonon ni wedi cael breuddwydion neithiwr ond does neb yn gallu esbonio'r ystyr i ni.” Atebodd Joseff, “Dim ond Duw sy'n medru esbonio'r ystyr. Dwedwch wrtho i beth oedd y breuddwydion.”
Gene WelBeibl 40:9  Felly dyma'r prif-fwtler yn dweud wrth Joseff am ei freuddwyd. “Yn fy mreuddwyd i roeddwn i'n gweld gwinwydden.
Gene WelBeibl 40:10  Roedd tair cangen ar y winwydden. Dechreuodd flaguro a blodeuo, ac wedyn roedd sypiau o rawnwin yn aeddfedu arni.
Gene WelBeibl 40:11  Roedd cwpan y Pharo yn fy llaw. A dyma fi'n cymryd y grawnwin a gwasgu eu sudd i mewn i gwpan y Pharo, a'i roi iddo i'w yfed.”
Gene WelBeibl 40:12  Dwedodd Joseff wrtho, “Dyma'r ystyr. Mae'r tair cangen yn cynrychioli tri diwrnod.
Gene WelBeibl 40:13  O fewn tri diwrnod bydd y Pharo yn rhoi dy swydd yn ôl i ti. Byddi di'n rhoi ei gwpan i'r Pharo eto, fel roeddet ti'n arfer gwneud pan oeddet ti'n brif-fwtler.
Gene WelBeibl 40:14  Ond cofia amdana i pan fydd pethau'n mynd yn dda arnat ti. Gwna ffafr â mi, a sonia wrth y Pharo amdana i, i minnau gael dod allan o'r carchar yma.
Gene WelBeibl 40:15  Ces i fy nghipio o wlad yr Hebreaid, a dw i wedi gwneud dim byd i haeddu cael fy rhoi yn y twll yma.”
Gene WelBeibl 40:16  Pan welodd y pen-pobydd fod yr esboniad yn dda, dyma fe'n dweud wrth Joseff, “Ces i freuddwyd hefyd. Rôn i'n cario tair basged o fara gwyn ar fy mhen.
Gene WelBeibl 40:17  Yn y fasged uchaf roedd pob math o fara a chacennau wedi'u pobi i'r Pharo ond roedd yr adar yn eu bwyta nhw o'r fasged oedd ar fy mhen i.”
Gene WelBeibl 40:18  A dyma Joseff yn dweud, “Dyma ydy'r ystyr. Mae'r tair basged yn cynrychioli tri diwrnod.
Gene WelBeibl 40:19  Mewn tri diwrnod bydd y Pharo yn torri dy ben di i ffwrdd, ac yn rhoi dy gorff ar bolyn, a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd di.”
Gene WelBeibl 40:20  Ddeuddydd wedyn roedd pen-blwydd y Pharo, a dyma fe'n trefnu gwledd fawr i'w swyddogion i gyd. Daeth â'r prif-fwtler a'r pen-pobydd allan o'r carchar.
Gene WelBeibl 40:21  Rhoddodd ei swydd yn ôl i'r prif-fwtler, a dechreuodd weini ar y Pharo eto.
Gene WelBeibl 40:22  Wedyn gorchmynnodd grogi corff y pen-pobydd ar bolyn, yn union fel roedd Joseff wedi dweud.
Chapter 41
Gene WelBeibl 41:1  Aeth dwy flynedd gyfan heibio. A dyma'r Pharo yn cael breuddwyd. Roedd yn sefyll wrth afon Nîl,
Gene WelBeibl 41:2  a dyma saith o wartheg oedd yn edrych yn dda ac wedi'u pesgi yn dod allan o'r afon a dechrau pori ar y lan.
Gene WelBeibl 41:3  Ac wedyn dyma saith o wartheg eraill yn dod allan o'r afon ar eu holau. Roedd golwg denau, wael ar y rhain. Dyma nhw'n sefyll gyda'r gwartheg eraill ar lan afon Nîl.
Gene WelBeibl 41:4  A dyma'r gwartheg tenau, gwael yn bwyta'r gwartheg oedd yn edrych yn dda. Ac wedyn dyma'r Pharo'n deffro.
Gene WelBeibl 41:5  Pan aeth yn ôl i gysgu cafodd freuddwyd arall. Gwelodd saith tywysen o rawn, oedd yn edrych yn llawn ac yn iach, yn tyfu ar un gwelltyn.
Gene WelBeibl 41:6  A dyma saith tywysen arall yn tyfu ar eu holau, rhai gwael wedi'u crino gan wynt y dwyrain.
Gene WelBeibl 41:7  A dyma'r tywysennau gwael yn llyncu'r tywysennau iach. Deffrodd y Pharo a sylweddoli mai breuddwyd arall oedd hi.
Gene WelBeibl 41:8  Y bore wedyn roedd yn teimlo'n anesmwyth, felly galwodd ar swynwyr doeth yr Aifft i ddod i'w weld. Dwedodd wrthyn nhw am ei freuddwyd ond doedd neb yn gallu esbonio ystyr y freuddwyd iddo.
Gene WelBeibl 41:9  Yna dyma'r prif-fwtler yn mynd i siarad â'r Pharo. “Dw i newydd gofio rhywbeth heddiw. Dw i wedi bod ar fai,” meddai.
Gene WelBeibl 41:10  “Roedd y Pharo wedi gwylltio gyda'i weision, ac wedi fy anfon i a'r pen-pobydd i garchar capten y gwarchodlu.
Gene WelBeibl 41:11  Cafodd y ddau ohonon ni freuddwyd ar yr un noson, ac roedd ystyr arbennig i'r ddwy freuddwyd.
Gene WelBeibl 41:12  Roedd Hebrëwr ifanc yn y carchar, gwas capten y gwarchodlu. Pan ddwedon ni wrtho am ein breuddwydion, dyma fe'n esbonio ystyr y ddwy freuddwyd.
Gene WelBeibl 41:13  A digwyddodd popeth yn union fel roedd wedi dweud. Ces i fy swydd yn ôl ond cafodd corff y pobydd ei grogi ar bolyn.”
Gene WelBeibl 41:14  Felly dyma'r Pharo yn anfon am Joseff. A dyma nhw'n dod ag e allan ar frys o'i gell dan ddaear. Ar ôl iddo siafio a gwisgo dillad glân, dyma fe'n cael ei ddwyn o flaen y Pharo.
Gene WelBeibl 41:15  A dyma'r Pharo yn dweud wrtho, “Dw i wedi cael breuddwyd a does neb yn gallu dweud wrtho i beth ydy ei hystyr hi. Dw i'n deall dy fod ti'n gallu dehongli breuddwydion.”
Gene WelBeibl 41:16  Atebodd Joseff, “Dim fi. Duw ydy'r unig un all wneud i'r Pharo deimlo'n well.”
Gene WelBeibl 41:17  Felly dyma'r Pharo'n dweud wrth Joseff, “Yn y freuddwyd roeddwn i'n sefyll ar lan afon Nîl.
Gene WelBeibl 41:18  Dyma saith o wartheg oedd yn edrych yn dda ac wedi'u pesgi yn dod allan o'r afon a dechrau pori ar y lan.
Gene WelBeibl 41:19  Ac wedyn dyma saith o wartheg eraill yn dod allan o'r afon ar eu holau. Roedd golwg denau, wael ar y rhain. Doeddwn i erioed wedi gweld rhai oedd yn edrych mor wael yng ngwlad yr Aifft i gyd.
Gene WelBeibl 41:20  A dyma'r gwartheg tenau, gwael yn bwyta'r saith buwch oedd yn edrych yn dda.
Gene WelBeibl 41:21  Ond fyddai neb yn gwybod eu bod nhw wedi gwneud hynny, achos roedden nhw'n dal i edrych mor wael ag erioed. Ac wedyn dyma fi'n deffro.
Gene WelBeibl 41:22  “Es i yn ôl i gysgu, a chefais freuddwyd arall. Gwelais saith tywysen o rawn oedd yn edrych yn llawn ac yn iach, yn tyfu ar un gwelltyn.
Gene WelBeibl 41:23  Wedyn dyma saith tywysen arall yn tyfu ar eu holau, rhai gwael, wedi gwywo ac wedi'u crino gan wynt y dwyrain.
Gene WelBeibl 41:24  A dyma'r tywysennau gwael yn llyncu'r saith tywysen iach. Ond pan ddwedais hyn wrth y swynwyr, doedd neb ohonyn nhw'n gallu dweud yr ystyr wrtho i.”
Gene WelBeibl 41:25  Yna dyma Joseff yn dweud wrth y Pharo, “Yr un ystyr sydd i'r ddwy freuddwyd. Mae Duw wedi dangos i'r Pharo beth mae ar fin ei wneud.
Gene WelBeibl 41:26  Saith mlynedd ydy'r saith o wartheg sy'n edrych yn dda, a saith mlynedd ydy'r saith dywysen iach. Un ystyr sydd i'r ddwy freuddwyd.
Gene WelBeibl 41:27  Saith mlynedd ydy'r saith o wartheg tenau, gwael, a saith mlynedd ydy'r saith dywysen wag wedi'u crino gan wynt y dwyrain. Maen nhw'n cynrychioli saith mlynedd o newyn.
Gene WelBeibl 41:28  Fel dw i newydd ddweud: mae Duw wedi dangos i'r Pharo beth mae ar fin ei wneud.
Gene WelBeibl 41:29  Mae saith mlynedd yn dod pan fydd digonedd o fwyd yng ngwlad yr Aifft.
Gene WelBeibl 41:30  Ond bydd saith mlynedd o newyn yn dilyn, a fydd dim arwydd yn y wlad fod cyfnod o ddigonedd wedi bod. Bydd y newyn yn difetha'r wlad.
Gene WelBeibl 41:31  Fydd dim sôn am y blynyddoedd llewyrchus am fod y newyn mor ddifrifol.
Gene WelBeibl 41:32  Cafodd y Pharo y freuddwyd ddwywaith am fod Duw am ddangos fod y peth yn siŵr o ddigwydd. Mae Duw yn mynd i wneud iddo ddigwydd ar unwaith.
Gene WelBeibl 41:33  Felly dylai'r Pharo ddewis dyn galluog a doeth i reoli gwlad yr Aifft.
Gene WelBeibl 41:34  Dylai benodi swyddogion ar hyd a lled y wlad, i gasglu un rhan o bump o gynnyrch y tir yn ystod y saith mlynedd o ddigonedd.
Gene WelBeibl 41:35  Dylen nhw gasglu'r cnydau yma o'r blynyddoedd da. A dylai'r Pharo roi awdurdod iddyn nhw storio'r grawn fel bod bwyd i'w gael yn y dinasoedd. A bydd rhaid cael milwyr i'w warchod.
Gene WelBeibl 41:36  Dylai'r bwyd yma fod wrth gefn ar gyfer y saith mlynedd o newyn sy'n mynd i daro gwlad yr Aifft. Wedyn fydd y newyn ddim yn rhoi diwedd llwyr ar y wlad.”
Gene WelBeibl 41:37  Roedd y cyngor roddodd Joseff yn gwneud sens i'r Pharo a'i swyddogion.
Gene WelBeibl 41:38  A dwedodd y Pharo wrth ei swyddogion, “Ydyn ni'n mynd i ddod o hyd i unrhyw un tebyg i'r dyn yma? Mae Ysbryd Duw ynddo.”
Gene WelBeibl 41:39  Felly dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Gan fod Duw wedi dangos hyn i gyd i ti, mae'n amlwg fod yna neb sy'n fwy galluog a doeth na ti.
Gene WelBeibl 41:40  Dw i'n rhoi'r gwaith o reoli'r cwbl i ti. Bydd rhaid i'm pobl i gyd wneud fel rwyt ti'n dweud. Dim ond y ffaith mai fi ydy'r brenin fydd yn fy ngwneud i'n bwysicach na ti.”
Gene WelBeibl 41:41  Yna dyma'r Pharo'n dweud wrth Joseff, “Dw i'n dy osod di yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.”
Gene WelBeibl 41:42  Tynnodd ei sêl-fodrwy oddi ar ei fys a'i rhoi hi ar fys Joseff. Wedyn dyma fe'n arwisgo Joseff â gŵn o liain main drud a rhoi cadwyn aur am ei wddf.
Gene WelBeibl 41:43  Gwnaeth iddo deithio yn ei ail gerbyd, gyda rhai yn gweiddi o'i flaen, “I lawr ar eich gliniau!” Felly dyma'r Pharo yn ei wneud yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.
Gene WelBeibl 41:44  Dwedodd y Pharo wrth Joseff, “Fi ydy'r Pharo. Ond fydd neb yng ngwlad yr Aifft yn cael symud bys bach heb dy ganiatâd di.”
Gene WelBeibl 41:45  Rhoddodd y Pharo yr enw Saffnat-paneach i Joseff, a rhoi Asnath, merch Potiffera, offeiriad Heliopolis yn wraig iddo. A dyma Joseff yn mynd allan i reoli gwlad yr Aifft.
Gene WelBeibl 41:46  Tri deg oed oedd Joseff pan ddechreuodd weithio i'r Pharo, brenin yr Aifft. Aeth allan oddi wrth y Pharo, a theithio drwy wlad yr Aifft i gyd.
Gene WelBeibl 41:47  Yn ystod y saith mlynedd o ddigonedd, cafwyd cnydau gwych yn y wlad.
Gene WelBeibl 41:48  Casglodd Joseff y grawn oedd dros ben yn yr Aifft yn ystod y blynyddoedd hynny, a'i storio yn y trefi. Ym mhob tref roedd yn storio cynnyrch yr ardal o'i chwmpas.
Gene WelBeibl 41:49  Llwyddodd i storio swm aruthrol fawr o ŷd; roedd fel y tywod ar lan y môr. Roedd rhaid stopio ei bwyso i gyd am fod gormod ohono.
Gene WelBeibl 41:50  Cyn i'r newyn ddechrau cafodd Joseff ac Asnath, merch Potiffera, ddau fab.
Gene WelBeibl 41:51  Galwodd Joseff ei blentyn cyntaf yn Manasse – “Mae Duw wedi gwneud i mi anghofio fy holl drafferthion, a'm teulu,” meddai.
Gene WelBeibl 41:52  Galwodd yr ail blentyn yn Effraim – “Mae Duw wedi fy ngwneud i'n ffrwythlon yn y wlad lle dw i wedi diodde,” meddai.
Gene WelBeibl 41:53  Dyma'r saith mlynedd o ddigonedd yng ngwlad yr Aifft yn dod i ben.
Gene WelBeibl 41:54  Yna dechreuodd saith mlynedd o newyn, yn union fel roedd Joseff wedi dweud. Roedd newyn yn y gwledydd o gwmpas i gyd ond roedd bwyd i'w gael yn yr Aifft.
Gene WelBeibl 41:55  Pan oedd y newyn wedi dod a tharo'r Aifft, dyma'r bobl yn galw ar y Pharo am fwyd. A dyma'r Pharo yn dweud, “Ewch i weld Joseff, a gwnewch beth bynnag mae e'n ddweud.”
Gene WelBeibl 41:56  Roedd y newyn wedi lledu drwy'r tir, ac agorodd Joseff y stordai a dechrau gwerthu ŷd i bobl yr Aifft, am fod y newyn mor drwm yno.
Gene WelBeibl 41:57  Roedd pobl o bob gwlad yn dod i'r Aifft at Joseff i brynu ŷd am fod y newyn yn drwm drwy'r byd i gyd.
Chapter 42
Gene WelBeibl 42:1  Clywodd Jacob fod ŷd ar werth yn yr Aifft. “Pam dych chi'n sefyllian yma yn gwneud dim byd?” meddai wrth ei feibion.
Gene WelBeibl 42:2  “Dw i wedi clywed fod ŷd yn yr Aifft. Ewch i lawr yno i brynu peth i ni er mwyn i ni gael byw yn lle marw.”
Gene WelBeibl 42:3  Felly dyma ddeg o frodyr Joseff yn mynd i lawr i'r Aifft i brynu ŷd.
Gene WelBeibl 42:4  Ond wnaeth Jacob ddim anfon Benjamin, brawd Joseff, gyda'r brodyr eraill. Roedd arno ofn i rywbeth ddigwydd iddo.
Gene WelBeibl 42:5  Aeth meibion Israel i lawr i'r Aifft i brynu ŷd gyda phawb arall. Roedd y newyn wedi taro gwlad Canaan yn drwm.
Gene WelBeibl 42:6  Joseff oedd yn rheoli gwlad yr Aifft, a fe oedd yn gwerthu'r ŷd i bobl. A daeth brodyr Joseff yno ac ymgrymu o'i flaen.
Gene WelBeibl 42:7  Dyma Joseff yn eu nabod nhw pan welodd nhw. Ond roedd yn ymddwyn fel dyn dieithr o'u blaenau nhw a dechreuodd siarad yn gas gyda nhw. “O ble dych chi'n dod?” meddai. A dyma nhw'n ateb, “O wlad Canaan. Dŷn ni wedi dod yma i brynu bwyd.”
Gene WelBeibl 42:8  Er bod Joseff wedi'u nabod nhw, doedden nhw ddim wedi'i nabod e.
Gene WelBeibl 42:9  A dyma Joseff yn cofio'r breuddwydion roedd wedi'u cael amdanyn nhw. Ac meddai wrthyn nhw, “Ysbiwyr ydych chi! Dych chi wedi dod i weld lle fyddai'n hawdd i chi ymosod ar y wlad.”
Gene WelBeibl 42:10  “Na, syr,” medden nhw. “Mae dy weision wedi dod yma i brynu bwyd.
Gene WelBeibl 42:11  Dŷn ni i gyd yn feibion i'r un dyn, ac yn ddynion gonest. Dŷn ni erioed wedi bod yn ysbiwyr.”
Gene WelBeibl 42:12  “Na,” meddai Joseff. “Dych chi wedi dod i weld lle fyddai'n hawdd i chi ymosod ar y wlad!”
Gene WelBeibl 42:13  A dyma nhw'n ei ateb, “Mae dy weision yn ddeuddeg brawd. Dŷn ni i gyd yn feibion i'r un dyn sy'n byw yng ngwlad Canaan. Mae'r ifancaf adre gyda'n tad, ac mae un wedi marw.”
Gene WelBeibl 42:14  “Na,” meddai Joseff eto. “Ysbiwyr ydych chi, yn union fel dw i wedi dweud.
Gene WelBeibl 42:15  Ond dw i'n mynd i'ch profi chi. Mor sicr â bod y Pharo'n fyw, gewch chi ddim gadael nes bydd eich brawd bach wedi dod yma!
Gene WelBeibl 42:16  Caiff un ohonoch chi fynd i nôl eich brawd tra mae'r lleill yn aros yn y carchar. Cewch gyfle i brofi eich bod yn dweud y gwir. Os nad ydych chi'n dweud y gwir, mae'n amlwg mai ysbiwyr ydych chi.”
Gene WelBeibl 42:17  A dyma fe'n eu cadw nhw yn y ddalfa am dri diwrnod.
Gene WelBeibl 42:18  Ar y trydydd diwrnod dyma Joseff yn dweud wrthyn nhw, “Gwnewch beth dw i'n ei ofyn a chewch fyw. Dw i'n ddyn sy'n addoli Duw.
Gene WelBeibl 42:19  Os ydych chi wir yn ddynion gonest, bydd rhaid i un ohonoch chi aros yma yn y carchar, a chaiff y gweddill fynd ag ŷd yn ôl i'ch teuluoedd.
Gene WelBeibl 42:20  Ond rhaid i chi ddod â'ch brawd ifancaf yma ata i. Wedyn bydda i'n gwybod eich bod chi'n dweud y gwir, a fydd dim rhaid i chi farw.” Dyma nhw'n cytuno i hynny.
Gene WelBeibl 42:21  Ond medden nhw wrth ei gilydd, “Dŷn ni'n talu'r pris am beth wnaethon ni i'n brawd. Roedden ni'n gweld yn iawn gymaint roedd e wedi dychryn, pan oedd yn pledio am drugaredd. Ond wnaethon ni ddim gwrando. Dyna pam mae hyn i gyd wedi digwydd i ni.”
Gene WelBeibl 42:22  “Ddwedais i wrthoch chi am beidio gwneud niwed i'r bachgen, ond wnaethoch chi ddim gwrando,” meddai Reuben. “A nawr mae'n rhaid i ni dalu am dywallt ei waed!”
Gene WelBeibl 42:23  (Doedden nhw ddim yn sylweddoli fod Joseff yn deall popeth roedden nhw'n ei ddweud. Roedd wedi bod yn siarad â nhw drwy gyfieithydd.)
Gene WelBeibl 42:24  Dyma Joseff yn eu gadael nhw ac yn torri i lawr i grio. Pan ddaeth yn ôl i siarad â nhw eto, dyma fe'n dewis Simeon i'w gadw yn y ddalfa, a gorchymyn ei rwymo yn y fan a'r lle.
Gene WelBeibl 42:25  Wedyn dyma Joseff yn gorchymyn llenwi eu sachau ag ŷd, rhoi arian pob un ohonyn nhw yn ôl yn ei sach, a rhoi bwyd iddyn nhw ar gyfer y daith. A dyna wnaed.
Gene WelBeibl 42:27  Pan wnaethon nhw stopio i aros dros nos, agorodd un ohonyn nhw ei sach i fwydo'i asyn. A dyna lle roedd ei arian yng ngheg y sach.
Gene WelBeibl 42:28  Aeth i ddweud wrth ei frodyr, “Mae fy arian wedi cael ei roi yn ôl. Mae e yma yn fy sach!” Roedden nhw wedi dychryn go iawn. “Be mae Duw wedi'i wneud?” medden nhw.
Gene WelBeibl 42:29  Pan gyrhaeddon nhw adre i wlad Canaan at eu tad Jacob, dyma nhw'n dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd.
Gene WelBeibl 42:30  “Roedd llywodraethwr y wlad yn gas gyda ni ac yn ein cyhuddo ni o fod yn ysbiwyr.
Gene WelBeibl 42:31  Dwedon ni wrtho ‘Dŷn ni'n ddynion gonest, dim ysbiwyr.
Gene WelBeibl 42:32  Teulu o ddeuddeg brawd, meibion i'r un tad. Mae un brawd wedi marw, ac mae'r ifancaf adre gyda'n tad yng ngwlad Canaan.’
Gene WelBeibl 42:33  A dyma'r dyn oedd yn rheoli'r wlad yn dweud fel hyn, ‘Dyma sut fydda i'n gwybod os ydych chi'n ddynion gonest. Rhaid i un ohonoch chi aros yma gyda mi. Caiff y gweddill ohonoch chi fynd. Ewch ag ŷd i fwydo'ch teuluoedd.
Gene WelBeibl 42:34  Wedyn dewch â'ch brawd bach yn ôl yma ata i. Bydda i'n gwybod wedyn eich bod chi'n ddynion gonest, ac nid ysbiwyr. Wedyn gwna i ryddhau'r brawd arall, a byddwch yn rhydd i brynu a gwerthu yma.’”
Gene WelBeibl 42:35  Wedyn aethon nhw ati i wagio eu sachau. A dyna lle roedd cod arian pob un yn ei sach. Pan welon nhw a'u tad y codau arian roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau.
Gene WelBeibl 42:36  “Dych chi'n fy ngwneud i'n ddi-blant fel hyn,” meddai Jacob. “Mae Joseff wedi mynd. Mae Simeon wedi mynd. A nawr dych chi am gymryd Benjamin oddi arna i! Mae popeth yn fy erbyn i.”
Gene WelBeibl 42:37  Yna dyma Reuben yn dweud wrth ei dad, “Gad i mi fod yn gyfrifol amdano. Dof i ag e'n ôl. Os gwna i ddim dod ag e'n ôl atat ti, cei ladd fy nau fab i.”
Gene WelBeibl 42:38  Ond meddai Jacob, “Na, dydy fy mab i ddim yn mynd gyda chi. Mae ei frawd wedi marw, a dim ond fe sydd ar ôl. Dw i'n hen ddyn. Petai rhywbeth yn digwydd iddo ar y daith, byddai'r golled yn ddigon i'm gyrru i'r bedd.”
Chapter 43
Gene WelBeibl 43:2  Pan oedd yr ŷd ddaethon nhw ag e o'r Aifft wedi gorffen, dyma Jacob yn dweud wrth ei feibion, “Ewch yn ôl i brynu ychydig mwy o fwyd.”
Gene WelBeibl 43:3  Ond dyma Jwda'n dweud wrtho, “Roedd y dyn wedi'n rhybuddio ni, ‘Gewch chi ddim dod i'm gweld i oni bai fod eich brawd gyda chi.’
Gene WelBeibl 43:4  Os gwnei di anfon Benjamin gyda ni, awn ni i lawr i brynu bwyd i ti.
Gene WelBeibl 43:5  Ond os wyt ti ddim yn fodlon iddo ddod, wnawn ni ddim mynd chwaith. Dwedodd y dyn, ‘Gewch chi ddim dod i'm gweld i oni bai fod eich brawd gyda chi.’”
Gene WelBeibl 43:6  “Pam wnaethoch chi beth mor wirion â dweud wrth y dyn fod gynnoch chi frawd arall?” meddai Israel.
Gene WelBeibl 43:7  “Roedd y dyn yn ein holi ni'n fanwl amdanon ni'n hunain a'n teuluoedd,” medden nhw. “Roedd yn gofyn, ‘Ydy'ch tad chi'n dal yn fyw? Oes gynnoch chi frawd arall?’ Wnaethon ni ddim byd ond ateb ei gwestiynau. Sut oedden ni i fod i wybod y byddai'n dweud, ‘Dewch â'ch brawd i lawr yma’?”
Gene WelBeibl 43:8  Yna dyma Jwda yn dweud wrth ei dad, Israel, “Anfon y bachgen gyda fi. Gallwn ni baratoi i fynd yn syth, er mwyn i ni i gyd gael byw a dim marw – ti a ninnau a'n plant.
Gene WelBeibl 43:9  Dw i'n addo ar fy llw, bydda i'n edrych ar ei ôl e. Cei di fy nal i'n gyfrifol amdano. Os na ddof i ag e'n ôl a'i osod yma o dy flaen di, bydda i'n euog yn dy olwg di am byth.
Gene WelBeibl 43:10  Petaen ni heb lusgo'n traed bydden ni wedi bod yno ac yn ôl ddwywaith!”
Gene WelBeibl 43:11  Felly dyma Israel, eu tad, yn dweud wrthyn nhw, “O'r gorau, ond gwnewch hyn: Ewch â pheth o gynnyrch gorau'r wlad yn eich paciau, yn anrheg i'r dyn – ychydig o falm a mêl, gwm pêr, myrr, cnau pistasio ac almon.
Gene WelBeibl 43:12  Ewch â dwbl yr arian gyda chi. Ewch â'r arian oedd yng ngheg eich sachau yn ôl. Camgymeriad oedd hynny mae'n siŵr.
Gene WelBeibl 43:13  Ac ewch â'ch brawd gyda chi. Ewch, ar unwaith, i weld y dyn.
Gene WelBeibl 43:14  A boed i'r Duw sy'n rheoli popeth wneud iddo fod yn garedig atoch chi, a gadael i Simeon a Benjamin ddod adre. Os oes rhaid i mi golli fy mhlant, rhaid i mi dderbyn hynny.”
Gene WelBeibl 43:15  Felly i ffwrdd â nhw gyda dwbl yr arian, yr anrheg, a Benjamin. Dyma nhw'n teithio i lawr i'r Aifft a sefyll o flaen Joseff.
Gene WelBeibl 43:16  Pan welodd Joseff fod Benjamin gyda nhw, dyma fe'n dweud wrth brif swyddog ei dŷ, “Dos â'r dynion i mewn i'r tŷ. Lladd anifail i ginio. Byddan nhw'n bwyta gyda mi ganol dydd.”
Gene WelBeibl 43:17  Felly dyma'r gwas yn gwneud hynny ac yn mynd â nhw i dŷ Joseff.
Gene WelBeibl 43:18  Roedden nhw'n dechrau ofni go iawn pan gawson nhw eu cymryd i dŷ Joseff. “Mae wedi dod â ni yma o achos yr arian oedd wedi'i roi yn ein sachau y tro dwetha,” medden nhw. “Mae'n mynd i'n dal ni, ein gwneud ni'n gaethweision a chymryd yr asynnod.”
Gene WelBeibl 43:19  Felly dyma nhw'n mynd at brif swyddog tŷ Joseff oedd wrth y drws, a dweud wrtho,
Gene WelBeibl 43:20  “Syr. Daethon ni i lawr y tro cyntaf i brynu ŷd.
Gene WelBeibl 43:21  Ar ein ffordd adre dyma ni'n stopio dros nos ac agor ein sachau, a dyna lle roedd arian pob un ohonon ni yng ngheg ei sach – roedd yr arian i gyd yno! Felly dŷn ni wedi dod â'r cwbl yn ôl.
Gene WelBeibl 43:22  A dŷn ni wedi dod â mwy o arian gyda ni i brynu bwyd. Does gynnon ni ddim syniad pwy roddodd yr arian yn ein sachau ni.”
Gene WelBeibl 43:23  “Mae popeth yn iawn,” meddai'r swyddog. “Peidiwch bod ag ofn. Mae'n rhaid bod eich Duw chi, a Duw eich tad, wedi rhoi'r arian yn ôl yn eich sachau. Gwnes i dderbyn eich arian chi.” A dyma fe'n dod â Simeon allan atyn nhw.
Gene WelBeibl 43:24  Ar ôl i'r swyddog fynd â nhw i dŷ Joseff, rhoddodd ddŵr iddyn nhw i olchi eu traed, a bwydodd eu hasynnod nhw.
Gene WelBeibl 43:25  A dyma nhw'n paratoi'r anrheg ar gyfer pan fyddai Joseff yn dod ganol dydd. Roedden nhw wedi clywed eu bod nhw'n mynd i fwyta gydag e.
Gene WelBeibl 43:26  Pan ddaeth Joseff adre, dyma nhw'n cyflwyno'r anrhegion iddo, ac yn ymgrymu o'i flaen.
Gene WelBeibl 43:27  Gofynnodd iddyn nhw sut oedden nhw. “Sut mae'ch tad yn cadw?” meddai. “Roeddech chi'n dweud ei fod mewn oed. Ydy e'n dal yn fyw?”
Gene WelBeibl 43:28  “Mae dy was, ein tad, yn fyw ac yn iach,” medden nhw. A dyma nhw'n ymgrymu yn isel o'i flaen.
Gene WelBeibl 43:29  Yna dyma Joseff yn gweld ei frawd Benjamin, mab ei fam. “Ai hwn ydy'r brawd bach y sonioch chi amdano?” gofynnodd. Ac meddai wrth Benjamin, “Bendith Duw arnat ti fy machgen i.”
Gene WelBeibl 43:30  Ond yna roedd rhaid i Joseff frysio allan o'r ystafell. Roedd ei deimladau at ei frawd yn cael y gorau arno, ac roedd ar fin torri i lawr i grio. Aeth i ystafell breifat ac wylo yno.
Gene WelBeibl 43:31  Ar ôl golchi ei wyneb daeth yn ôl allan. Gan reoli ei deimladau, dyma fe'n gorchymyn dod â'r bwyd o'u blaenau.
Gene WelBeibl 43:32  Roedd lleoedd ar wahân wedi'u gosod iddo fe, i'w frodyr, ac i'r Eifftiaid oedd yn bwyta gydag e. (Doedd Eifftiaid ddim yn gallu bwyta gyda Hebreaid. Byddai gwneud hynny yn tabŵ.)
Gene WelBeibl 43:33  Cafodd y brodyr eu gosod i eistedd o'i flaen mewn trefn, o'r hynaf i'r ifancaf. Ac roedden nhw'n edrych ar ei gilydd wedi'u syfrdanu.
Gene WelBeibl 43:34  Rhoddodd Joseff beth o'r bwyd oedd wedi'i osod o'i flaen e iddyn nhw. Roedd digon o fwyd i bump o ddynion wedi'i roi o flaen Benjamin! A buon nhw'n yfed gydag e nes roedden nhw wedi meddwi.
Chapter 44
Gene WelBeibl 44:1  Dyma Joseff yn dweud wrth brif swyddog ei dŷ, “Llanw sachau'r dynion â chymaint o ŷd ag y gallan nhw ei gario. Wedyn rho arian pob un ohonyn nhw yng ngheg ei sach.
Gene WelBeibl 44:2  Rho fy nghwpan i, sef y gwpan arian, yng ngheg sach yr ifancaf ohonyn nhw, gyda'i arian am yr ŷd.” A dyma'r prif swyddog yn gwneud fel dwedodd Joseff.
Gene WelBeibl 44:3  Wrth iddi wawrio'r bore wedyn, cychwynnodd y dynion ar eu taith adre gyda'r asynnod.
Gene WelBeibl 44:4  Doedden nhw ddim wedi mynd yn bell o'r ddinas, pan ddwedodd Joseff wrth ei brif swyddog, “Dos ar ôl y dynion yna! Pan fyddi di wedi'u dal nhw, gofyn iddyn nhw, ‘Pam dych chi wedi gwneud drwg i mi ar ôl i mi fod mor garedig atoch chi?’ Gofyn pam maen nhw wedi dwyn fy nghwpan arian i.
Gene WelBeibl 44:5  Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma'r gwpan mae fy meistr yn yfed ohoni ac yn darogan y dyfodol gyda hi. Dych chi wedi gwneud peth drwg iawn!’”
Gene WelBeibl 44:6  Pan ddaliodd y swyddog nhw, dyna ddwedodd e wrthyn nhw.
Gene WelBeibl 44:7  A dyma nhw'n ei ateb, “Syr, sut alli di ddweud y fath beth? Fyddai dy weision byth yn meiddio gwneud peth felly.
Gene WelBeibl 44:8  Daethon ni â'r arian gawson ni yng ngheg ein sachau yn ôl o wlad Canaan. Felly pam fydden ni eisiau dwyn arian neu aur o dŷ dy feistr?
Gene WelBeibl 44:9  Os ydy'r gwpan gan unrhyw un ohonon ni, dylai hwnnw farw, a bydd y gweddill ohonon ni'n gaethweision i'n meistr.”
Gene WelBeibl 44:10  “Iawn; chi sy'n dweud y dylech gael eich cosbi,” meddai. “Bydd pwy bynnag mae'r gwpan ganddo yn dod yn gaethwas i mi. Caiff y gweddill ohonoch chi fynd yn rhydd.”
Gene WelBeibl 44:11  Felly dyma nhw i gyd yn tynnu eu sachau i lawr ar unwaith ac yn eu hagor.
Gene WelBeibl 44:12  Edrychodd y swyddog yn y sachau i gyd. Dechreuodd gyda sach yr hynaf, a gorffen gyda'r ifancaf. A dyna lle roedd y gwpan, yn sach Benjamin.
Gene WelBeibl 44:13  Dyma nhw'n rhwygo'u dillad. Yna dyma nhw'n llwytho'r asynnod eto, a mynd yn ôl i'r ddinas.
Gene WelBeibl 44:14  Pan gyrhaeddodd Jwda a'i frodyr dŷ Joseff, roedd e'n dal yno. A dyma nhw'n syrthio ar eu gliniau o'i flaen.
Gene WelBeibl 44:15  Gofynnodd Joseff iddyn nhw, “Pam dych chi wedi gwneud hyn? Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn fel fi yn gallu darogan beth sy'n digwydd?”
Gene WelBeibl 44:16  A dyma Jwda'n ateb, “Beth allwn ni ei ddweud wrth ein meistr? Dim byd. Allwn ni ddim profi ein bod ni'n ddieuog. Mae Duw yn gwybod am y drwg wnaethon ni. Dy gaethweision di ydyn ni bellach. Ni a'r un roedd y gwpan ganddo.”
Gene WelBeibl 44:17  Ond dyma Joseff yn dweud, “Faswn i byth yn gwneud y fath beth! Yr un roedd y gwpan ganddo fydd yn gaethwas i mi. Mae'r gweddill ohonoch chi yn rhydd i fynd adre at eich tad.”
Gene WelBeibl 44:18  Yna dyma Jwda'n camu ymlaen a gofyn iddo, “Fy meistr, plîs gad i dy was gael gair gyda ti. Paid bod yn ddig. Rwyt ti fel y Pharo.
Gene WelBeibl 44:19  Roedd fy meistr wedi gofyn i'w weision, ‘Oes gynnoch chi dad, neu frawd arall?’
Gene WelBeibl 44:20  A dyma ninnau'n dweud, ‘Mae ein tad yn hen ddyn, ac mae gynnon ni frawd bach gafodd ei eni pan oedd dad mewn oed. Mae brawd y bachgen wedi marw. Fe ydy unig blentyn ei fam sydd ar ôl, ac mae ei dad yn ei garu'n fawr.’
Gene WelBeibl 44:21  Wedyn dyma ti'n dweud wrth dy weision, ‘Dewch ag e ata i, i mi gael ei weld.’
Gene WelBeibl 44:22  A dyma ninnau'n dweud wrth ein meistr, ‘All y bachgen ddim gadael ei dad. Byddai ei dad yn marw petai'n ei adael.’
Gene WelBeibl 44:23  Ond wedyn dyma ti'n dweud wrth dy weision, ‘Os fydd eich brawd bach ddim yn dod i lawr gyda chi, gewch chi ddim dod i'm gweld i eto.’
Gene WelBeibl 44:24  Yna aethon ni adre a dweud hyn i gyd wrth dy was, ein tad.
Gene WelBeibl 44:25  Felly pan ddwedodd ein tad wrthyn ni, ‘Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni,’
Gene WelBeibl 44:26  dyma ni'n dweud wrtho, ‘Allwn ni ddim oni bai fod ein brawd bach gyda ni. Gawn ni ddim gweld y dyn oni bai fod ein brawd bach gyda ni.’
Gene WelBeibl 44:27  A dyma dad yn dweud wrthon ni, ‘Dych chi'n gwybod mai dau fab roddodd fy ngwraig i mi.
Gene WelBeibl 44:28  Mae un wedi mynd – wedi'i rwygo'n ddarnau gan ryw anifail gwyllt mae'n debyg – a dw i ddim wedi'i weld ers hynny.
Gene WelBeibl 44:29  Os cymerwch chi ei frawd oddi arna i hefyd, a bod rhywbeth yn digwydd iddo, byddai'r golled yn ddigon i'm gyrru i i'r bedd.’
Gene WelBeibl 44:30  Mae'r ddau mor agos at ei gilydd. Felly os af i yn ôl at fy nhad heb y bachgen,
Gene WelBeibl 44:31  bydd hynny'n ddigon i'w ladd. Byddai dy weision yn euog o yrru eu tad i'w fedd.
Gene WelBeibl 44:32  Gwnes i addo i dad y byddwn i'n edrych ar ei ôl e. ‘Os wna i ddim dod ag e'n ôl i ti,’ meddwn i wrtho, ‘bydda i'n euog yn dy olwg di am weddill fy mywyd.’
Gene WelBeibl 44:33  Felly plîs, gad i mi aros yma yn gaethwas i'm meistr yn lle'r bachgen. Gad i'r bachgen fynd adre gyda'i frodyr.
Gene WelBeibl 44:34  Sut alla i fynd adre at fy nhad heb y bachgen? Allwn i ddim diodde gweld y poen fyddai hynny'n ei achosi i dad.”
Chapter 45
Gene WelBeibl 45:1  Doedd Joseff ddim yn gallu rheoli ei deimladau o flaen pawb oedd o'i gwmpas. “Pawb allan!” meddai wrth ei weision. Felly wnaeth neb aros gydag e pan ddwedodd wrth ei frodyr pwy oedd e.
Gene WelBeibl 45:2  Ond roedd yn crio mor uchel nes bod pawb drwy'r tŷ yn ei glywed. A daeth palas y Pharo i glywed am y peth.
Gene WelBeibl 45:3  Dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr, “Joseff ydw i! Ydy dad yn dal yn fyw?” Ond allai ei frodyr ddweud dim. Roedden nhw'n sefyll yn fud o'i flaen.
Gene WelBeibl 45:4  A dyma Joseff yn gofyn, “Plîs dewch yn nes.” A dyma nhw'n mynd yn nes ato. “Joseff, eich brawd chi, ydw i,” meddai wrthyn nhw, “yr un wnaethoch chi ei werthu i'r Aifft.
Gene WelBeibl 45:5  Peidiwch ypsetio na beio'ch hunain am fy ngwerthu i. Duw anfonodd fi yma o'ch blaen chi i achub bywydau.
Gene WelBeibl 45:6  Dydy'r newyn yn y wlad yma ddim ond wedi para am ddwy flynedd hyd yn hyn. Mae pum mlynedd arall o newyn i ddod pan fydd y cnydau'n methu.
Gene WelBeibl 45:7  Mae Duw wedi fy anfon i yma o'ch blaen chi er mwyn i rai ohonoch chi gael byw, ac i chi gael eich achub mewn ffordd ryfeddol.
Gene WelBeibl 45:8  Nid chi wnaeth fy anfon i yma, ond Duw! Dw i'n gynghorydd i'r Pharo, yn rheoli ei balas, ac yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.
Gene WelBeibl 45:9  Brysiwch adre i ddweud wrth dad fod Joseff ei fab yn dweud, ‘Mae Duw wedi fy ngwneud i'n bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd. Tyrd i lawr yma ata i ar unwaith.
Gene WelBeibl 45:10  Cei fyw yn ardal Gosen. Byddi di'n agos ata i. Tyrd a dy deulu i gyd, a dy anifeiliaid a phopeth sydd gen ti.
Gene WelBeibl 45:11  Bydda i'n gwneud yn siŵr fod gynnoch chi ddigon o fwyd, ac na fyddwch chi'n brin o unrhyw beth. Achos mae'r newyn yn mynd i bara am bum mlynedd arall.’
Gene WelBeibl 45:12  Edrychwch! Gallwch chi a'm brawd Benjamin weld mai fi sy'n siarad â chi.
Gene WelBeibl 45:13  Rhaid i chi fynd i ddweud wrth dad am fy statws i yma yn yr Aifft, ac am bopeth dych chi wedi'i weld. Dewch â dad i lawr yma ar unwaith.”
Gene WelBeibl 45:14  Wedyn dyma fe'n taflu ei freichiau am Benjamin a'i gofleidio. Roedd y ddau ohonyn nhw yn crio ym mreichiau ei gilydd.
Gene WelBeibl 45:15  Yna, yn dal i grio, cusanodd ei frodyr eraill i gyd. A dyna pryd dechreuodd ei frodyr siarad ag e.
Gene WelBeibl 45:16  Dyma'r newyddion yn cyrraedd palas y Pharo – “Mae brodyr Joseff wedi dod yma.” Roedd y Pharo a'i swyddogion yn hapus iawn.
Gene WelBeibl 45:17  A dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Dwed wrth dy frodyr: ‘Llwythwch eich anifeiliaid a mynd yn ôl i Canaan.
Gene WelBeibl 45:18  Wedyn dewch â'ch tad a'ch teuluoedd i gyd ata i. Cewch y tir gorau yn yr Aifft gen i. Cewch fwyta'r bwyd gorau sy'n y wlad.’
Gene WelBeibl 45:19  A dywed hyn wrthyn nhw hefyd, ‘Cymerwch wagenni o'r Aifft i'ch plant a'ch gwragedd a'ch tad gael teithio yn ôl ynddyn nhw.
Gene WelBeibl 45:20  Peidiwch poeni am eich dodrefn. Cewch y gorau o bopeth sydd yma yn yr Aifft.’”
Gene WelBeibl 45:21  Felly dyna wnaeth meibion Jacob. Rhoddodd Joseff wagenni iddyn nhw fel roedd y Pharo wedi gorchymyn, a bwyd ar gyfer y daith.
Gene WelBeibl 45:22  Rhoddodd set o ddillad newydd i bob un ohonyn nhw. Ond cafodd Benjamin bump set o ddillad a 300 darn o arian.
Gene WelBeibl 45:23  Anfonodd y rhain i'w dad hefyd: deg asyn wedi'u llwytho gyda chynnyrch gorau yr Aifft, deg o asennod wedi'u llwytho gyda ŷd, bara, a bwyd ar gyfer taith ei dad yn ôl.
Gene WelBeibl 45:24  Wedyn dyma fe'n anfon ei frodyr i ffwrdd. Wrth iddyn nhw adael dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Peidiwch dechrau poeni am bethau ar eich ffordd.”
Gene WelBeibl 45:25  Felly dyma nhw'n gadael yr Aifft ac yn dod at eu tad yng ngwlad Canaan.
Gene WelBeibl 45:26  “Mae Joseff yn dal yn fyw!” medden nhw wrtho. “Fe sy'n rheoli gwlad yr Aifft i gyd.” Bu bron i galon Jacob stopio. Doedd e ddim yn credu ei glustiau.
Gene WelBeibl 45:27  Ond pan ddwedon nhw bopeth roedd Joseff wedi'i ddweud wrthyn nhw, a phan welodd y wagenni roedd Joseff wedi'u hanfon, dyma Jacob yn dechrau dod ato'i hun.
Gene WelBeibl 45:28  “Dyna ddigon!” meddai. “Mae Joseff yn fyw. Rhaid i mi fynd i'w weld cyn i mi farw.”
Chapter 46
Gene WelBeibl 46:1  Felly dyma Jacob yn cychwyn ar ei daith, a mynd â phopeth oedd ganddo gydag e. Daeth i Beersheba a chyflwyno aberthau yno i Dduw ei dad Isaac.
Gene WelBeibl 46:2  Yn ystod y nos dyma Jacob yn cael gweledigaeth. “Jacob, Jacob” meddai Duw wrtho. Ac atebodd Jacob, “Ie? dyma fi.”
Gene WelBeibl 46:3  Ac meddai Duw, “Duw ydw i – Duw dy dad. Paid bod ag ofn mynd i lawr i'r Aifft. Bydda i'n dy wneud di'n genedl fawr yno.
Gene WelBeibl 46:4  Dw i'n mynd gyda ti i'r Aifft, a bydda i'n dod â ti yn ôl eto. Bydd Joseff gyda ti pan fyddi di farw.”
Gene WelBeibl 46:5  Yna aeth Jacob yn ei flaen o Beersheba. Rhoddodd meibion Jacob eu tad, a'u gwragedd a'u plant yn y wagenni roedd y Pharo wedi'u hanfon iddyn nhw.
Gene WelBeibl 46:6  A dyma nhw'n mynd â'u hanifeiliaid gyda nhw, a'r eiddo roedden nhw wedi'i gasglu pan oedden nhw'n byw yng ngwlad Canaan. Dyma Jacob a'i deulu i gyd yn cyrraedd gwlad yr Aifft:
Gene WelBeibl 46:7  ei feibion a'i wyrion, ei ferched a'i wyresau. Aeth â nhw i gyd gydag e.
Gene WelBeibl 46:8  Dyma enwau'r Israeliaid aeth i lawr i'r Aifft, sef Jacob a'i deulu: Reuben (mab hynaf Jacob).
Gene WelBeibl 46:10  Meibion Simeon: Iemwel, Iamîn, Ohad, Iachîn, Sochar, a Saul (oedd yn fab i wraig o Canaan).
Gene WelBeibl 46:12  Meibion Jwda: Er, Onan, Shela, Perets a Serach (ond roedd Er ac Onan wedi marw yng ngwlad Canaan). Ac roedd gan Perets ddau fab: Hesron a Chamŵl.
Gene WelBeibl 46:15  (Dyna'r meibion gafodd Lea i Jacob yn Padan-aram. Ac roedd wedi cael un ferch hefyd, sef Dina. Felly roedd 33 ohonyn nhw i gyd.)
Gene WelBeibl 46:16  Meibion Gad: Siffion, Haggi, Shwni, Etsbon, Eri, Arodi ac Areli.
Gene WelBeibl 46:17  Meibion Asher: Imna, Ishfa, Ishfi, Bereia, a'u chwaer Serach. Ac roedd gan Bereia ddau fab: Heber a Malciel.
Gene WelBeibl 46:18  (Dyna'r meibion gafodd Silpa – y forwyn roddodd Laban i'w ferch Lea. Roedd 16 i gyd.)
Gene WelBeibl 46:19  Meibion Rachel, gwraig Jacob, oedd Joseff a Benjamin.
Gene WelBeibl 46:20  Cafodd Joseff ddau fab yn yr Aifft: Manasse ac Effraim (Asnath, merch Potiffera, offeiriad Heliopolis, oedd eu mam).
Gene WelBeibl 46:21  Yna meibion Benjamin: Bela, Becher, Ashbel, Gera, Naaman, Echi, Rosh, Mwpîm, Chwpîm ac Ard.
Gene WelBeibl 46:22  (Dyna'r meibion gafodd Rachel. Felly roedd 14 yn ddisgynyddion i Rachel a Jacob.)
Gene WelBeibl 46:24  Meibion Nafftali: Iachtseël, Gwni, Ietser a Shilem.
Gene WelBeibl 46:25  (Dyma'r meibion gafodd Bilha – y forwyn roddodd Laban i'w ferch Rachel. Roedd saith yn ddisgynyddion i Jacob a Bilha.)
Gene WelBeibl 46:26  Felly roedd 66 o ddisgynyddion Jacob wedi mynd gydag e i'r Aifft. (Dydy'r rhif yna ddim yn cynnwys gwragedd ei feibion.)
Gene WelBeibl 46:27  Gyda'r ddau fab gafodd eu geni i Joseff yn yr Aifft, roedd 70 o bobl o deulu Jacob yn yr Aifft.
Gene WelBeibl 46:28  Dyma Jacob yn anfon Jwda o'i flaen at Joseff i ddod â Joseff ato i Gosen. Wedyn dyma nhw'n cyrraedd ardal Gosen.
Gene WelBeibl 46:29  Cafodd Joseff ei gerbyd yn barod, a mynd yno i gyfarfod ei dad. Pan ddaeth at ei dad, dyma fe'n ei gofleidio'n dynn, a bu'n crio ar ei ysgwydd am hir.
Gene WelBeibl 46:30  “Dw i'n barod i farw bellach,” meddai Jacob wrth Joseff. “Dw i wedi cael gweld dy fod ti'n dal yn fyw.”
Gene WelBeibl 46:31  Yna dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr a theulu ei dad, “Rhaid i mi ddweud wrth y Pharo eich bod chi wedi dod yma ata i o wlad Canaan.
Gene WelBeibl 46:32  Bydd rhaid i mi ddweud eich bod chi'n fugeiliaid ac yn cadw anifeiliaid, a'ch bod chi wedi dod â'ch preiddiau a'ch anifeiliaid i gyd gyda chi.
Gene WelBeibl 46:33  Os bydd y Pharo eisiau'ch gweld chi, ac yn gofyn ‘Beth ydy'ch gwaith chi?’
Gene WelBeibl 46:34  dwedwch wrtho, ‘Mae dy weision wedi bod yn cadw anifeiliaid ar hyd eu bywydau. Dyna mae'r teulu wedi'i wneud ers cenedlaethau.’ Dwedwch hyn er mwyn i chi gael symud i fyw i ardal Gosen. Mae bugeiliaid yn tabŵ i'r Eifftiaid.”
Chapter 47
Gene WelBeibl 47:1  Felly dyma Joseff yn mynd at y Pharo a dweud wrtho, “Mae dad a'm brodyr i wedi dod yma o wlad Canaan gyda'u hanifeiliaid a'u heiddo i gyd. Maen nhw wedi cyrraedd ardal Gosen.”
Gene WelBeibl 47:2  Dewisodd bump o'i frodyr i fynd gydag e, a'u cyflwyno i'r Pharo.
Gene WelBeibl 47:3  Gofynnodd y Pharo i'r brodyr, “Beth ydy'ch gwaith chi?” A dyma nhw'n ateb, “Mae dy weision yn fugeiliaid. Dyna mae'r teulu wedi'i wneud ers cenedlaethau.”
Gene WelBeibl 47:4  A dyma nhw'n dweud wrth y Pharo, “Dŷn ni wedi dod i aros dros dro yn y wlad yma. Does dim porfa i'n hanifeiliaid ni yn Canaan am fod y newyn mor drwm yno. Plîs wnewch chi adael i'ch gweision aros yn ardal Gosen.”
Gene WelBeibl 47:5  A dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Mae dy dad a dy frodyr wedi dod atat ti.
Gene WelBeibl 47:6  Mae gwlad yr Aifft o dy flaen di. Gad i dy dad a dy frodyr setlo yn y rhan orau o'r wlad. Gad iddyn nhw fynd i fyw yn ardal Gosen. Dewis y rhai gorau ohonyn nhw i ofalu am fy anifeiliaid i.”
Gene WelBeibl 47:7  Wedyn aeth Joseff â'i dad Jacob at y Pharo i'w gyflwyno iddo. A dyma Jacob yn bendithio'r Pharo.
Gene WelBeibl 47:8  Gofynnodd y Pharo i Jacob, “Faint ydy'ch oed chi?”
Gene WelBeibl 47:9  “Dw i wedi crwydro'r hen fyd yma ers cant tri deg o flynyddoedd,” meddai Jacob. “Bywyd byr, a digon o drafferthion. Dw i ddim wedi cael byw mor hir â'm hynafiaid.”
Gene WelBeibl 47:10  A dyma Jacob yn bendithio'r Pharo eto cyn ei adael.
Gene WelBeibl 47:11  Felly dyma Joseff yn trefnu lle i'w dad a'i frodyr fyw. Rhoddodd dir iddyn nhw yn y rhan orau o wlad yr Aifft – yn ardal Rameses, fel roedd y Pharo wedi dweud.
Gene WelBeibl 47:12  Roedd Joseff hefyd yn rhoi digon o fwyd i gynnal ei dad a'i frodyr, a'r teulu a'u plant i gyd.
Gene WelBeibl 47:13  Doedd dim bwyd yn unman yn y wlad. Roedd y newyn yn wirioneddol ddrwg. Roedd pobl yr Aifft a gwlad Canaan wedi mynd yn wan o achos y newyn.
Gene WelBeibl 47:14  Roedd Joseff yn gwerthu ŷd i'r bobl, a chasglodd yr holl arian oedd ar gael drwy wlad yr Aifft a gwlad Canaan; yna aeth a'r arian i balas y Pharo.
Gene WelBeibl 47:15  Pan oedd dim arian ar ôl yn yr Aifft na gwlad Canaan, dyma'r Eifftiaid yn mynd at Joseff eto. “Rho fwyd i ni. Pam ddylen ni orfod marw am fod gynnon ni ddim arian?” medden nhw.
Gene WelBeibl 47:16  Atebodd Joseff, “Os nad oes gynnoch chi arian, rhowch eich anifeiliaid i mi. Rho i fwyd i chi am eich anifeiliaid.”
Gene WelBeibl 47:17  Felly dyma nhw'n dod â'u hanifeiliaid i Joseff. A rhoddodd Joseff fwyd iddyn nhw am eu ceffylau, eu defaid a'u geifr, eu gwartheg a'u hasynnod. Y flwyddyn honno rhoddodd fwyd iddyn nhw yn gyfnewid am eu hanifeiliaid.
Gene WelBeibl 47:18  Pan ddaethon nhw yn ôl y flwyddyn wedyn, dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae'n meistr yn gwybod nad oes gynnon ni arian, ac mae ein meistr hefyd wedi cymryd ein hanifeiliaid ni. Does gynnon ni ddim byd ar ôl i'w gynnig ond ni'n hunain a'n tir.
Gene WelBeibl 47:19  Beth ydy'r pwynt os gwnawn ni farw? Pryna ni a'n tir am fwyd. Gwna ni'n gaethweision i'r Pharo, a chymer ein tir ni hefyd. Mae'n well i ni gael byw na marw, ac wedyn fydd y wlad i gyd ddim wedi'i difetha.”
Gene WelBeibl 47:20  Felly dyma Joseff yn prynu tir yr Aifft i gyd i'r Pharo. Roedd yr Eifftiaid i gyd yn gwerthu eu caeau iddo, am eu bod nhw'n diodde mor ofnadwy o achos y newyn. Felly'r Pharo oedd piau'r tir i gyd.
Gene WelBeibl 47:21  A dyma'r bobl o un pen i'r wlad i'r llall yn cael eu gwneud yn gaethweision.
Gene WelBeibl 47:22  (Yr unig dir wnaeth e ddim ei brynu oedd tir yr offeiriaid. Roedd yr offeiriaid yn cael lwfans gan y Pharo, ac yn byw ar y lwfans hwnnw. Felly wnaethon nhw ddim gwerthu eu tir.)
Gene WelBeibl 47:23  Yna dyma Joseff yn dweud wrth y bobl, “Heddiw dw i wedi'ch prynu chi a'ch tir i'r Pharo. Felly dyma had i chi ei hau ar y tir.
Gene WelBeibl 47:24  Adeg y cynhaeaf, rhaid i chi roi un rhan o bump o'r cnwd i'r Pharo. Gewch chi gadw'r gweddill i'w hau y flwyddyn ganlynol ac i fwydo'ch teuluoedd a'ch plant.”
Gene WelBeibl 47:25  “Ti wedi achub ein bywydau ni,” medden nhw. “Ti wedi bod yn garedig iawn aton ni, a dŷn ni'n hapus i fod yn gaethweision i'r Pharo.”
Gene WelBeibl 47:26  Felly gwnaeth Joseff ddeddf yng ngwlad yr Aifft, fod y Pharo i gael un rhan o bump o'r cynhaeaf. (Mae'r ddeddf hon yn dal mewn grym heddiw.) Yr unig dir oedd ddim yn perthyn i'r Pharo oedd tir yr offeiriaid.
Gene WelBeibl 47:27  Felly arhosodd pobl Israel yn yr Aifft, yn ardal Gosen. Nhw oedd piau'r tir yno. Cawson nhw lot o blant, ac roedd eu niferoedd yn mynd yn fwy ac yn fwy.
Gene WelBeibl 47:28  Buodd Jacob yn byw yn yr Aifft am un deg saith mlynedd. Felly cafodd fyw i fod yn 147 oed.
Gene WelBeibl 47:29  Cyn i Jacob farw, galwodd am ei fab Joseff, a dwedodd wrtho, “Mae gen i ffafr i'w gofyn gen ti. Dw i am i ti fynd ar dy lw ac addo y byddi di'n gwneud be dw i'n ofyn. Plîs paid claddu fi yn yr Aifft.
Gene WelBeibl 47:30  Pan fydda i wedi marw, dos â fi o'r Aifft. Cladda fi ble mae fy hynafiaid wedi'u claddu.” A dyma Joseff yn ateb, “Dw i'n addo gwneud beth ti'n ofyn.”
Gene WelBeibl 47:31  “Dw i eisiau i ti fynd ar dy lw y gwnei di,” meddai Jacob. A dyma Joseff yn addo iddo. A dyma Jacob yn plygu drosodd ar ben ei wely.
Chapter 48
Gene WelBeibl 48:1  Rywbryd wedyn clywodd Joseff fod ei dad yn sâl. Felly aeth i'w weld gyda'i ddau fab Manasse ac Effraim.
Gene WelBeibl 48:2  Pan ddywedwyd wrth Jacob fod ei fab Joseff wedi dod i'w weld, dyma fe'n bywiogi ac yn eistedd i fyny yn ei wely.
Gene WelBeibl 48:3  A dyma fe'n dweud wrth Joseff, “Pan oeddwn i yn Lws yng ngwlad Canaan, roedd y Duw sy'n rheoli popeth wedi ymddangos i mi. Bendithiodd fi
Gene WelBeibl 48:4  a dweud wrtho i, ‘Dw i'n mynd i wneud yn siŵr dy fod ti'n cael lot fawr o ddisgynyddion. Bydd grŵp o bobloedd yn dod ohonot ti. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i ti a dy ddisgynyddion am byth.’
Gene WelBeibl 48:5  Joseff, bydd dy ddau fab, gafodd eu geni i ti yn yr Aifft cyn i mi ddod yma, yn feibion i mi. Bydd Effraim a Manasse yn cael eu cyfri yn feibion i mi, yn union yr un fath â Reuben a Simeon.
Gene WelBeibl 48:6  Bydd y plant eraill sydd gen ti yn aros yn feibion i ti, ond yn cael eu rhestru fel rhai fydd yn etifeddu tir gan eu brodyr.
Gene WelBeibl 48:7  “Buodd Rachel farw yng ngwlad Canaan pan oeddwn i ar fy ffordd yn ôl o Padan, ac roeddwn i'n drist iawn. Digwyddodd pan oedden ni'n dal yn reit bell o Effrath. Felly dyma fi'n ei chladdu hi yno, ar y ffordd i Effrath,” (hynny ydy, Bethlehem).
Gene WelBeibl 48:8  “Pwy ydy'r rhain?” meddai Jacob pan welodd feibion Joseff.
Gene WelBeibl 48:9  “Dyma'r meibion roddodd Duw i mi yma,” meddai Joseff wrth ei dad. A dyma Jacob yn dweud, “Plîs, tyrd â nhw ata i, i mi gael eu bendithio nhw.”
Gene WelBeibl 48:10  Doedd Jacob ddim yn gweld yn dda iawn. Roedd wedi colli ei olwg wrth fynd yn hen. Felly dyma Joseff yn mynd â'i feibion yn nes at ei dad, a dyma Jacob yn eu cofleidio nhw a'u cusanu nhw.
Gene WelBeibl 48:11  Ac meddai wrth Joseff, “Doeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i'n dy weld di eto. Mae Duw wedi gadael i mi weld dy blant di hefyd!”
Gene WelBeibl 48:12  Cymerodd Joseff y bechgyn oddi ar liniau ei dad, ac wedyn ymgrymodd â'i wyneb ar lawr o'i flaen.
Gene WelBeibl 48:13  Rhoddodd Joseff Effraim ar yr ochr dde iddo (o flaen llaw chwith Jacob), a Manasse ar yr ochr chwith (o flaen llaw dde Jacob), a mynd â nhw'n nes ato.
Gene WelBeibl 48:14  Ond dyma Jacob yn croesi ei freichiau a rhoi ei law dde ar ben Effraim (yr ifancaf o'r ddau) a'i law chwith ar ben Manasse (y mab hynaf).
Gene WelBeibl 48:15  A dyma fe'n bendithio Joseff drwy ddweud, “O Dduw – y Duw roedd fy nhaid Abraham a'm tad Isaac yn ei wasanaethu; y Duw sydd wedi bod fel bugail i mi ar hyd fy mywyd;
Gene WelBeibl 48:16  Yr angel sydd wedi fy amddiffyn i rhag pob drwg – bendithia'r bechgyn yma. Cadw fy enw i ac enw fy nhaid Abraham a'm tad Isaac yn fyw drwyddyn nhw. Gwna nhw yn dyrfa fawr o bobl ar y ddaear.”
Gene WelBeibl 48:17  Pan sylwodd Joseff fod ei dad wedi rhoi ei law dde ar ben Effraim, doedd e ddim yn hapus. Felly gafaelodd yn llaw dde ei dad i'w symud o ben Effraim i ben Manasse,
Gene WelBeibl 48:18  a dwedodd wrtho, “Na, dad. Hwn ydy'r mab hynaf. Rho dy law dde ar ei ben e.”
Gene WelBeibl 48:19  Ond gwrthododd ei dad. “Dw i'n gwybod be dw i'n wneud, fy mab,” meddai. “Bydd hwn hefyd yn dod yn genedl fawr o bobl. Ond bydd ei frawd bach yn fwy nag e. Bydd ei ddisgynyddion e yn tyfu'n llawer iawn o bobloedd gwahanol.”
Gene WelBeibl 48:20  Felly pan fendithiodd nhw y diwrnod hwnnw, dwedodd: “Bydd pobl Israel yn defnyddio dy enw i fendithio eraill: ‘Boed i Dduw dy wneud di fel Effraim a Manasse.’” Enwodd Effraim gyntaf a Manasse wedyn.
Gene WelBeibl 48:21  Wedyn dyma Jacob yn dweud wrth Joseff, “Fel y gweli, dw i ar fin marw. Ond bydd Duw gyda ti, ac yn mynd â ti'n ôl i wlad dy hynafiaid.
Gene WelBeibl 48:22  Dw i am roi siâr fwy i ti nag i dy frodyr – sef llethrau mynydd Sichem, a gymerais oddi ar yr Amoriaid gyda'm cleddyf a'm bwa.”
Chapter 49
Gene WelBeibl 49:1  Galwodd Jacob ei feibion ato. “Dewch yma i mi gael dweud wrthoch chi beth sy'n mynd i ddigwydd i chi yn y dyfodol,” meddai.
Gene WelBeibl 49:2  “Dewch yma i wrando, feibion Jacob; gwrandwch ar Israel, eich tad.
Gene WelBeibl 49:3  Reuben, ti ydy fy mab hynaf; fy nghryfder, a ffrwyth cyntaf fy egni – yr un â'r safle uchaf a'r anrhydedd mwyaf.
Gene WelBeibl 49:4  Ond rwyt ti mor afreolus â dŵr – fyddi di ddim yn gyntaf. Est ti i mewn i wely dy dad, a'i lygru drwy dreisio fy ngwraig – gorwedd ar glustogau dy dad!
Gene WelBeibl 49:5  Mae Simeon a Lefi yn frodyr. Dyma nhw'n cytuno i ddefnyddio arfau treisiol.
Gene WelBeibl 49:6  Dw i ddim eisiau bod yn rhan o'r peth – dw i am gadw draw o'r math yna o feddwl. Roedden nhw wedi gwylltio, a dyma nhw'n lladd dynion fel rhai'n gwneud ych yn gloff am hwyl.
Gene WelBeibl 49:7  Melltith arnyn nhw am wylltio mor ofnadwy; am ddigio a bod mor greulon. Dw i'n mynd i wasgaru eu disgynyddion nhw ar hyd a lled Israel!
Gene WelBeibl 49:8  Jwda, bydd dy frodyr yn dy ganmol di. Byddi di'n cael y llaw uchaf ar dy elynion. Bydd teulu dy dad yn ymgrymu'n isel o dy flaen di.
Gene WelBeibl 49:9  Jwda, fy mab, rwyt ti fel llew ifanc wedi lladd dy brae ac yn sefyll uwch ei ben. Mae'n gorwedd i lawr eto fel llew, a does neb yn meiddio aflonyddu arno.
Gene WelBeibl 49:10  Fydd y deyrnwialen ddim yn gadael Jwda. Bydd ffon y llywodraethwr gan ei ddisgynyddion nes daw pobl i dalu teyrnged iddo. Bydd pobl y gwledydd yn ufuddhau iddo.
Gene WelBeibl 49:11  Bydd yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a'i asen ifanc wrth y winwydden orau. Bydd yn golchi ei ddillad mewn gwin a'i glogyn yng ngwaed y grawnwin.
Gene WelBeibl 49:12  Bydd ei lygaid yn gochion gan win, a'i ddannedd yn wynion fel llaeth.
Gene WelBeibl 49:13  Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr. Bydd yn hafan ddiogel i longau. Bydd ei ffin yn ymestyn at Sidon.
Gene WelBeibl 49:14  Mae Issachar fel asyn cryf yn gorwedd dan bwysau ei baciau.
Gene WelBeibl 49:15  Gwelodd le da i orffwys a bod y wlad yno yn hyfryd. Felly plygodd i lawr i dderbyn baich ar ei gefn a chael ei hun yn gaethwas.
Gene WelBeibl 49:16  Bydd Dan yn rheoli ei bobl fel un o lwythau Israel.
Gene WelBeibl 49:17  Boed i Dan fod fel neidr ar ochr y ffordd – fel gwiber ar y llwybr yn brathu troed y ceffyl a gwneud i'r marchog syrthio yn ôl.
Gene WelBeibl 49:18  Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, o ARGLWYDD!
Gene WelBeibl 49:19  Bydd ysbeilwyr yn ymosod ar Gad, ond bydd e'n troi ac yn eu gyrru nhw i ffwrdd.
Gene WelBeibl 49:20  Bydd bwyd cyfoethog gan Asher. Bydd e'n darparu danteithion i'r llys brenhinol.
Gene WelBeibl 49:21  Mae Nafftali fel ewig, yn rhedeg yn rhydd, sy'n cael llydnod hardd.
Gene WelBeibl 49:22  Mae Joseff yn goeden ffrwythlon – coeden ffrwythlon wrth ffynnon, a'i changhennau'n ymestyn dros y wal.
Gene WelBeibl 49:23  Roedd bwasaethwyr yn ymosod arno, yn saethu ato ac yn dal dig yn ei erbyn.
Gene WelBeibl 49:24  Ond daliai ei fwa'n llonydd ac roedd ei ddwylo a'i freichiau'n chwim. Roedd Un Cryf Jacob gydag e – y Bugail, Craig Israel.
Gene WelBeibl 49:25  Duw dy dad, yr un fydd yn dy helpu di; y Duw sy'n rheoli popeth. Bydd e'n dy fendithio di gyda'r bendithion o'r awyr uchod, a'r bendithion sy'n gorwedd dan y ddaear isod, gyda bendithion y fron a'r groth.
Gene WelBeibl 49:26  Mae'r bendithion gafodd dy dad yn well na bendithion y mynyddoedd tragwyddol a'r pethau da mae'r bryniau hynafol yn eu rhoi. Byddan nhw'n disgyn ar ben Joseff – ar dalcen yr un sy'n flaenaf ar ei frodyr.
Gene WelBeibl 49:27  Mae Benjamin fel blaidd rheibus, yn rhwygo'i ysglyfaeth yn y bore, ac yn rhannu beth sydd ar ôl gyda'r nos.”
Gene WelBeibl 49:28  Dyma'r deuddeg llwyth yn Israel. A dyma beth ddwedodd eu tad wrthyn nhw pan fendithiodd nhw. Rhoddodd fendith addas i bob un ohonyn nhw.
Gene WelBeibl 49:29  Wedyn rhoddodd Jacob orchymyn iddyn nhw. “Dw i'n mynd i farw cyn hir. Dw i eisiau i chi fy nghladdu gyda fy hynafiaid, yn yr ogof ar dir Effron yr Hethiad.
Gene WelBeibl 49:30  Yr ogof yn Machpela ger Mamre yng ngwlad Canaan. Yr un brynodd Abraham gan Effron yr Hethiad fel man claddu i'w deulu.
Gene WelBeibl 49:31  Dyna lle mae Abraham a'i wraig Sara wedi'u claddu. Dyna lle mae Isaac a'i wraig Rebeca wedi'u claddu. A dyna lle gwnes i gladdu Lea.
Gene WelBeibl 49:32  Cafodd y darn tir a'r ogof sydd arno ei brynu gan yr Hethiaid.”
Gene WelBeibl 49:33  Pan oedd Jacob wedi gorffen dweud wrth ei feibion beth i'w wneud, cododd ei draed yn ôl ar y gwely, cymryd ei anadl olaf a marw.
Chapter 50
Gene WelBeibl 50:1  Dyma Joseff yn cofleidio corff ei dad. Roedd yn crio ac yn ei gusanu.
Gene WelBeibl 50:2  Wedyn gorchmynnodd i'w weision, y meddygon, falmeiddio'r corff. A dyna gafodd ei wneud i gorff Jacob.
Gene WelBeibl 50:3  Cymerodd y broses yma bedwar deg diwrnod, achos dyna faint o amser roedd yn ei gymryd i falmeiddio corff. A bu cyfnod o alaru ar ei ôl drwy wlad yr Aifft am saith deg diwrnod.
Gene WelBeibl 50:4  Pan oedd y cyfnod o alar drosodd, dyma Joseff yn mynd at gynghorwyr y Pharo, a dweud: “Mae gen i ffafr i'w gofyn gan y Pharo. Wnewch chi ofyn iddo ar fy rhan i, plîs?
Gene WelBeibl 50:5  Gwnaeth fy nhad i mi addo rhywbeth iddo ar lw. Dyma ddwedodd e: ‘Dw i ar fin marw, a dw i eisiau i ti fy nghladdu i yn y bedd dw i wedi'i dorri i mi fy hun yng ngwlad Canaan.’ Felly gofyn ydw i am ganiatâd i fynd yno i gladdu dad. Bydda i'n dod yn ôl yma wedyn.”
Gene WelBeibl 50:6  Ateb Pharo oedd, “Dos i gladdu dy dad, fel gwnest ti addo iddo.”
Gene WelBeibl 50:7  Felly dyma Joseff yn mynd i gladdu ei dad. Aeth swyddogion y Pharo i gyd gydag e, a phobl bwysig y llys ac arweinwyr y wlad.
Gene WelBeibl 50:8  Teulu Joseff i gyd, ei frodyr, a theulu ei dad hefyd. Dim ond y plant bach a'r anifeiliaid gafodd eu gadael yn ardal Gosen.
Gene WelBeibl 50:9  Roedd cerbydau rhyfel a marchogion gyda nhw hefyd – tyrfa fawr iawn o bobl.
Gene WelBeibl 50:10  Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Atad (i'r dwyrain o afon Iorddonen), dyma nhw'n cynnal cyfnod o alar angladdol. Buodd Joseff yn galaru yno am ei dad am wythnos.
Gene WelBeibl 50:11  Pan welodd pobl Canaan nhw yn galaru ar lawr dyrnu Atad, dyma nhw'n dweud, “Mae'r angladd yma'n ddigwyddiad trist iawn yng ngolwg yr Eifftiaid.” Felly cafodd y lle, sydd yr ochr draw i afon Iorddonen, ei alw yn Abel-misraïm.
Gene WelBeibl 50:12  Felly gwnaeth meibion Jacob beth roedd eu tad wedi'i ddweud wrthyn nhw.
Gene WelBeibl 50:13  Aethon nhw â'i gorff i wlad Canaan, a'i gladdu yn yr ogof yn Machpela ger Mamre, ar y tir roedd Abraham wedi'i brynu gan Effron yr Hethiad i fod yn fan claddu i'w deulu.
Gene WelBeibl 50:14  Ar ôl claddu ei dad, aeth Joseff yn ôl i'r Aifft gyda'i frodyr a phawb arall oedd wedi bod yn yr angladd.
Gene WelBeibl 50:15  Gan fod eu tad wedi marw, roedd brodyr Joseff yn dechrau ofni, “Beth os ydy Joseff yn dal yn ddig hefo ni? Beth os ydy e am dalu'r pwyth yn ôl am yr holl ddrwg wnaethon ni iddo?”
Gene WelBeibl 50:16  Felly dyma nhw'n anfon neges at Joseff: “Roedd dad wedi dweud wrthon ni cyn iddo farw,
Gene WelBeibl 50:17  ‘Dwedwch wrth Joseff: Plîs maddau i dy frodyr am y drwg wnaethon nhw, yn dy drin di mor wael.’ Felly dyma ni, gweision y Duw roedd dy dad yn ei addoli. O, plîs wnei di faddau i ni am beth wnaethon ni?” Pan glywodd Joseff hyn dyma fe'n dechrau crio.
Gene WelBeibl 50:18  Yna daeth ei frodyr a syrthio o'i flaen, a dweud, “Byddwn ni'n gaethweision i ti.”
Gene WelBeibl 50:19  Ond dyma Joseff yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Ai Duw ydw i?
Gene WelBeibl 50:20  Roeddech chi am wneud drwg i mi, ond dyma Duw yn troi y drwg yn beth da. Roedd arno eisiau achub bywydau llawer o bobl, a dyna dych chi'n weld heddiw.
Gene WelBeibl 50:21  Felly peidiwch bod ag ofn. Gwna i ofalu amdanoch chi a'ch plant.” Felly rhoddodd Joseff dawelwch meddwl iddyn nhw drwy siarad yn garedig gyda nhw.
Gene WelBeibl 50:22  Arhosodd Joseff a theulu ei dad yn yr Aifft. Cafodd Joseff fyw i fod yn 110 oed.
Gene WelBeibl 50:23  Cafodd weld tair cenhedlaeth o deulu Effraim. Gwelodd blant Machir (mab Manasse) hefyd a'u derbyn nhw fel ei blant ei hun.
Gene WelBeibl 50:24  Wedyn dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr, “Dw i ar fin marw. Ond bydd Duw yn dod atoch chi ac yn mynd â chi'n ôl o'r wlad yma i'r wlad wnaeth e addo ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob.”
Gene WelBeibl 50:25  Felly dyma Joseff yn gwneud i bobl Israel addo, “Pan fydd Duw yn dod atoch chi, dw i am i chi fynd â fy esgyrn i o'r lle yma.”
Gene WelBeibl 50:26  A dyma Joseff yn marw yn 110 oed. Cafodd ei gorff ei falmeiddio a'i osod mewn arch yn yr Aifft.