Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
Chapter 1
Psal WelBeibl 1:1  Mae'r un sy'n gwrthod gwrando ar gyngor pobl ddrwg wedi'i fendithio'n fawr; yr un sydd ddim yn cadw cwmni pechaduriaid, nac yn eistedd gyda'r rhai sy'n gwneud dim byd ond dilorni pobl eraill;
Psal WelBeibl 1:2  yr un sydd wrth ei fodd yn gwneud beth mae'r ARGLWYDD eisiau, ac yn myfyrio ar y pethau mae'n eu dysgu ddydd a nos.
Psal WelBeibl 1:3  Bydd fel coeden wedi'i phlannu wrth ffrydiau o ddŵr, yn dwyn ffrwyth yn ei thymor, a'i dail byth yn gwywo. Beth bynnag mae'n ei wneud, bydd yn llwyddo.
Psal WelBeibl 1:4  Ond fydd hi ddim felly ar y rhai drwg! Byddan nhw fel us yn cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt.
Psal WelBeibl 1:5  Fydd y rhai drwg ddim yn gallu gwrthsefyll y farn. Fydd pechaduriaid ddim yn cael sefyll gyda'r dyrfa o rai cyfiawn.
Psal WelBeibl 1:6  Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am y rhai sy'n ei ddilyn, ond bydd y rhai drwg yn cael eu difa.
Chapter 2
Psal WelBeibl 2:1  Pam mae'r cenhedloedd yn gwrthryfela? Pam mae pobloedd yn gwastraffu eu hamser yn cynllwynio?
Psal WelBeibl 2:2  Mae brenhinoedd daearol yn gwneud safiad; ac mae'r llywodraethwyr yn dod at ei gilydd i ymladd yn erbyn yr ARGLWYDD a'r un mae wedi'i ddewis, y brenin.
Psal WelBeibl 2:3  “Gadewch i ni dorri'n rhydd o'u cadwynau, a thaflu'r rhaffau sy'n ein rhwymo i ffwrdd!”
Psal WelBeibl 2:4  Mae'r Un sydd ar ei orsedd yn y nefoedd yn chwerthin – maen nhw'n destun sbort i'r ARGLWYDD!
Psal WelBeibl 2:5  Wedyn mae'n eu dychryn am ei fod mor ffyrnig, ac yn dweud wrthyn nhw'n ddig:
Psal WelBeibl 2:6  “Dw i wedi gosod fy mrenin yn Seion, fy mynydd cysegredig!”
Psal WelBeibl 2:7  Gadewch i mi ddweud beth mae'r ARGLWYDD wedi'i ddatgan: dwedodd wrtho i, “Ti ydy fy mab i; heddiw des i'n dad i ti.
Psal WelBeibl 2:8  Dim ond i ti ofyn, cei etifeddu'r cenhedloedd. Bydd dy ystad di'n ymestyn i ben draw'r byd.
Psal WelBeibl 2:9  Byddi'n eu malu â phastwn haearn yn ddarnau mân, fel darn o grochenwaith.”
Psal WelBeibl 2:10  Felly, chi frenhinoedd, byddwch ddoeth; dysgwch eich gwers, chi arweinwyr daearol!
Psal WelBeibl 2:11  Gwasanaethwch yr ARGLWYDD gyda pharch; byddwch yn falch ei fod wedi'ch dychryn chi!
Psal WelBeibl 2:12  Plygwch, a thalu teyrnged i'r mab; neu bydd yn digio, a cewch eich difa pan fydd yn dangos mor ddig ydy e. Mae pawb sy'n troi ato am loches wedi'u bendithio'n fawr!
Chapter 3
Psal WelBeibl 3:1  O ARGLWYDD, mae gen i gymaint o elynion! Mae cymaint o bobl yn ymosod arna i.
Psal WelBeibl 3:2  Mae cymaint ohonyn nhw'n dweud, “Fydd Duw ddim yn dod i'w achub e!” Saib
Psal WelBeibl 3:3  Ond ARGLWYDD, rwyt ti fel tarian o'm cwmpas. Ti ydy'r Un dw i'n brolio amdano! Ti ydy'r Un sy'n rhoi hyder i mi.
Psal WelBeibl 3:4  Dim ond i mi weiddi'n uchel ar yr ARGLWYDD, bydd e'n fy ateb i o'i fynydd cysegredig. Saib
Psal WelBeibl 3:5  Dw i wedi gallu gorwedd i lawr, cysgu a deffro, am fod yr ARGLWYDD yn gofalu amdana i.
Psal WelBeibl 3:6  Does gen i ddim ofn y miloedd o filwyr sy'n ymosod arna i o bob cyfeiriad.
Psal WelBeibl 3:7  Cod, ARGLWYDD! Achub fi, O fy Nuw. Rho glatsien iawn i'm gelynion i gyd. Torra ddannedd y rhai drwg.
Psal WelBeibl 3:8  “Yr ARGLWYDD sy'n achub!” Rwyt ti'n bendithio dy bobl! Saib
Chapter 4
Psal WelBeibl 4:1  O Dduw, ateb fi pan dw i'n galw arnat! Ti ydy'r un sy'n achub fy ngham! Dw i mewn argyfwng, ond gelli di ddod â fi allan ohono. Dangos drugaredd ata i, a gwrando ar fy ngweddi.
Psal WelBeibl 4:2  “Chi bobl feidrol, am faint fydd fy enw'n cael ei sarhau? Am faint ydych chi'n mynd i roi'ch bryd ar bethau diwerth, a dilyn pethau twyllodrus?” Saib
Psal WelBeibl 4:3  Deallwch fod yr ARGLWYDD yn cadw'r rhai ffyddlon iddo'i hun! Mae'r ARGLWYDD yn clywed pan dw i'n galw arno.
Psal WelBeibl 4:4  Dylech chi grynu mewn ofn, a stopio pechu! Myfyriwch ar y peth ar eich gwely, a dechreuwch wylo.
Psal WelBeibl 4:5  Dewch â chyflwyno'r aberthau iawn iddo; trowch a trystio'r ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 4:6  Mae llawer yn gofyn, “Pryd welwn ni ddyddiau da eto?” O ARGLWYDD, wnei di fod yn garedig aton ni?
Psal WelBeibl 4:7  Gwna fi'n hapus eto, fel yr adeg pan mae'r cnydau ŷd a grawnwin yn llwyddo.
Psal WelBeibl 4:8  Bydda i'n gallu gorwedd i lawr a chysgu'n dawel, am dy fod ti, O ARGLWYDD, yn fy nghadw i'n saff.
Chapter 5
Psal WelBeibl 5:1  Gwranda ar beth dw i'n ddweud, O ARGLWYDD; ystyria yn ofalus beth sy'n fy mhoeni i.
Psal WelBeibl 5:2  Cymer sylw ohono i'n gweiddi am help, oherwydd arnat ti dw i'n gweddïo fy Mrenin a'm Duw.
Psal WelBeibl 5:3  Gwranda arna i ben bore, O ARGLWYDD; dw i'n pledio fy achos wrth iddi wawrio, ac yn disgwyl am ateb.
Psal WelBeibl 5:4  Ti ddim yn Dduw sy'n mwynhau drygioni; dydy pobl ddrwg ddim yn gallu aros yn dy gwmni.
Psal WelBeibl 5:5  Dydy'r rhai sy'n brolio ddim yn gallu sefyll o dy flaen di; ti'n casáu'r rhai sy'n gwneud drwg.
Psal WelBeibl 5:6  Byddi'n dinistrio'r rhai sy'n dweud celwydd; mae'n gas gen ti bobl sy'n dreisgar ac yn twyllo, O ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 5:7  Ond dw i'n gallu mynd i mewn i dy dŷ di am fod dy gariad di mor anhygoel. Plygaf i addoli mewn rhyfeddod yn dy deml sanctaidd.
Psal WelBeibl 5:8  O ARGLWYDD, arwain fi i wneud beth sy'n iawn. Mae yna rai sy'n fy ngwylio i ac am ymosod arna i; plîs symud y rhwystrau sydd ar y ffordd o'm blaen i.
Psal WelBeibl 5:9  Achos dŷn nhw ddim yn dweud y gwir; eu hawydd dyfnaf ydy dinistrio pobl! Mae eu geiriau'n drewi fel bedd agored, a'u tafodau slic yn gwneud dim byd ond seboni.
Psal WelBeibl 5:10  Dinistria nhw, O Dduw! Gwna i'w cynlluniau nhw eu baglu! Tafla nhw i ffwrdd am eu bod wedi tynnu'n groes gymaint! Maen nhw wedi gwrthryfela yn dy erbyn di!
Psal WelBeibl 5:11  Ond gad i bawb sy'n troi atat ti am loches fod yn llawen! Gad iddyn nhw orfoleddu am byth! Cysgoda drostyn nhw, er mwyn i'r rhai sy'n caru dy enw di gael dathlu.
Psal WelBeibl 5:12  Oherwydd byddi di'n bendithio'r rhai cyfiawn, O ARGLWYDD; bydd dy ffafr fel tarian fawr o'u cwmpas nhw.
Chapter 6
Psal WelBeibl 6:1  O ARGLWYDD, paid bod yn ddig a'm cosbi i, paid dweud y drefn yn dy wylltineb.
Psal WelBeibl 6:2  Bydd yn garedig ata i, ARGLWYDD, achos dw i mor wan. Iachâ fi, ARGLWYDD, dw i'n crynu at yr asgwrn.
Psal WelBeibl 6:3  Dw i wedi dychryn am fy mywyd, ac rwyt ti, ARGLWYDD … – O, am faint mwy?
Psal WelBeibl 6:4  ARGLWYDD, tyrd! Achub fi! Dangos mor ffyddlon wyt ti. Gollwng fi'n rhydd!
Psal WelBeibl 6:5  Dydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn dy gofio di. Pwy sy'n dy foli di yn ei fedd?
Psal WelBeibl 6:6  Dw i wedi blino tuchan. Mae fy ngwely'n wlyb gan ddagrau bob nos; mae dagrau wedi socian lle dw i'n gorwedd.
Psal WelBeibl 6:7  Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder, dw i wedi ymlâdd o achos fy holl elynion.
Psal WelBeibl 6:8  Ewch i ffwrdd, chi sy'n gwneud drwg! Mae'r ARGLWYDD wedi fy nghlywed i'n crio.
Psal WelBeibl 6:9  Mae wedi fy nghlywed i'n pledio am help. Bydd yr ARGLWYDD yn ateb fy ngweddi.
Psal WelBeibl 6:10  Bydd fy holl elynion yn cael eu siomi a'u dychryn. Byddan nhw'n troi yn ôl yn sydyn, wedi'u siomi.
Chapter 7
Psal WelBeibl 7:1  O ARGLWYDD, fy Nuw, dw i'n troi atat ti am loches. Helpa fi i ddianc oddi wrth y rhai sy'n fy erlid. Achub fi,
Psal WelBeibl 7:2  rhag iddyn nhw, fel llew, fy rhwygo'n ddarnau, ie, yn ddarnau mân, nes bod neb yn gallu fy achub.
Psal WelBeibl 7:3  O ARGLWYDD, fy Nuw, os ydy e'n wir – os ydw i'n euog o wneud drwg,
Psal WelBeibl 7:4  os ydw i wedi bradychu fy ffrind (ie, fi, yr un a achubodd fy ngelyn am ddim gwobr),
Psal WelBeibl 7:5  yna gad i'r gelyn ddod ar fy ôl i, a'm dal i. Gad iddo fy sathru dan draed, a'm gadael i orwedd mewn cywilydd ar lawr. Saib
Psal WelBeibl 7:6  Cod, ARGLWYDD! Dangos dy fod ti'n ddig, a sefyll yn erbyn ymosodiadau ffyrnig y gelyn! Symud! Tyrd i ymladd ar fy rhan i, a dangos sut rwyt ti'n mynd i'w barnu nhw!
Psal WelBeibl 7:7  Mae'r bobloedd wedi ymgasglu o dy gwmpas; eistedd di ar dy orsedd uwch eu pennau!
Psal WelBeibl 7:8  Mae'r ARGLWYDD yn barnu'r cenhedloedd! Achub fy ngham, O ARGLWYDD, achos dw i wedi gwneud beth sy'n iawn. Dw i ddim ar fai.
Psal WelBeibl 7:9  O Dduw cyfiawn, yr un sy'n treiddio'r meddwl a'r gydwybod, stopia'r holl ddrygioni mae pobl yn ei wneud. Ond gwna'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn gadarn.
Psal WelBeibl 7:10  Mae'r Duw mawr fel tarian i mi; mae'n achub yr un sy'n byw'n iawn.
Psal WelBeibl 7:11  Mae Duw yn farnwr cyfiawn, ond mae'n dangos bob dydd ei fod wedi digio
Psal WelBeibl 7:12  wrth y rhai sydd ddim yn troi cefn ar bechod. Mae'n rhoi min ar ei gleddyf, yn plygu ei fwa ac yn anelu.
Psal WelBeibl 7:13  Mae'n paratoi arfau marwol ac yn defnyddio saethau tanllyd i ymladd yn eu herbyn.
Psal WelBeibl 7:14  Edrychwch! Mae'r dyn drwg wrthi eto! Mae'n feichiog o ddrygioni, ac yn geni dim byd ond twyll!
Psal WelBeibl 7:15  Ond ar ôl cloddio twll dwfn i eraill, bydd yn syrthio i'w drap ei hun!
Psal WelBeibl 7:16  Bydd y drwg mae'n ei wneud yn ei daro'n ôl, a'i drais yn ei fwrw ar ei dalcen.
Psal WelBeibl 7:17  A bydda i'n moli'r ARGLWYDD am fod mor gyfiawn, ac yn canu emyn o fawl i enw'r ARGLWYDD Goruchaf.
Chapter 8
Psal WelBeibl 8:1  O ARGLWYDD, ein brenin, mae dy enw di mor fawr drwy'r byd i gyd! Mae dy ysblander yn gorchuddio'r nefoedd yn gyfan!
Psal WelBeibl 8:2  Gyda lleisiau plant bach a babanod rwyt yn dangos dy nerth, yn wyneb dy elynion, i roi diwedd ar y gelyn sy'n hoffi dial.
Psal WelBeibl 8:3  Wrth edrych allan i'r gofod, a gweld gwaith dy fysedd, y lleuad a'r sêr a osodaist yn eu lle,
Psal WelBeibl 8:4  Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw? Pam cymryd sylw o un person dynol?
Psal WelBeibl 8:5  Rwyt wedi'i wneud ond ychydig is na'r bodau nefol, ac wedi'i goroni ag ysblander a mawredd!
Psal WelBeibl 8:6  Rwyt wedi'i wneud yn feistr ar waith dy ddwylo, a gosod popeth dan ei awdurdod –
Psal WelBeibl 8:7  defaid ac ychen o bob math, a hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt;
Psal WelBeibl 8:8  yr adar sy'n hedfan, y pysgod sydd yn y môr, a phopeth arall sy'n teithio ar gerrynt y moroedd.
Psal WelBeibl 8:9  O ARGLWYDD, ein brenin, mae dy enw di mor fawr drwy'r byd i gyd!
Chapter 9
Psal WelBeibl 9:1  Addolaf di, ARGLWYDD, o waelod calon; a sôn am yr holl bethau rhyfeddol wnest ti.
Psal WelBeibl 9:2  Byddaf yn llawen, a gorfoleddaf ynot. Canaf emyn o fawl i dy enw, y Goruchaf.
Psal WelBeibl 9:3  Pan mae fy ngelynion yn ceisio dianc, maen nhw'n baglu ac yn cael eu dinistrio o dy flaen di,
Psal WelBeibl 9:4  am dy fod ti'n camu i mewn a gweithredu ar fy rhan i. Ti'n eistedd ar yr orsedd ac yn dyfarnu'n gyfiawn.
Psal WelBeibl 9:5  Ti sy'n ceryddu'r cenhedloedd, yn dinistrio'r rhai drwg, ac yn cael gwared â nhw am byth bythoedd!
Psal WelBeibl 9:6  Mae hi ar ben ar y gelyn! Mae eu trefi'n adfeilion, a fydd neb yn cofio ble roedden nhw.
Psal WelBeibl 9:7  Ond mae'r ARGLWYDD yn teyrnasu am byth! Mae ar ei orsedd, yn barod i farnu.
Psal WelBeibl 9:8  Bydd yn barnu'n deg, ac yn llywodraethu'r gwledydd yn gyfiawn.
Psal WelBeibl 9:9  Mae'r ARGLWYDD yn hafan ddiogel i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu – yn hafan pan maen nhw mewn trafferthion.
Psal WelBeibl 9:10  Mae'r rhai sy'n dy nabod di yn dy drystio di. Ti ddim yn troi cefn ar y rhai sy'n dy geisio di, O ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 9:11  Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n teyrnasu yn Seion! Dwedwch wrth bawb beth mae wedi'i wneud!
Psal WelBeibl 9:12  Dydy e ddim yn diystyru cri y rhai sy'n dioddef; mae'r un sy'n dial ar y llofruddion yn gofalu amdanyn nhw.
Psal WelBeibl 9:13  Dangos drugaredd ata i, O ARGLWYDD; edrych fel mae'r rhai sy'n fy nghasáu yn gwneud i mi ddioddef. Dim ond ti all fy nghadw rhag mynd drwy giatiau marwolaeth.
Psal WelBeibl 9:14  Wedyn bydda i'n dy foli di o fewn giatiau Seion hardd. Bydda i'n dathlu am dy fod wedi fy achub i!
Psal WelBeibl 9:15  Mae'r cenhedloedd wedi llithro i'r twll wnaethon nhw ei gloddio, a'u traed wedi mynd yn sownd yn y rhwyd wnaethon nhw ei chuddio.
Psal WelBeibl 9:16  Mae'r ARGLWYDD wedi dangos sut un ydy e! Mae e'n gwneud beth sy'n iawn. Mae'r rhai drwg wedi'u dal gan eu dyfais eu hunain. (Yn ddwys:) Saib
Psal WelBeibl 9:17  Bydd y rhai drwg yn mynd i fyd y meirw. Dyna dynged y cenhedloedd sy'n diystyru Duw!
Psal WelBeibl 9:18  Ond fydd y rhai mewn angen ddim yn cael eu hanghofio am byth; fydd gobaith ddim yn diflannu i'r rhai sy'n cael eu cam-drin.
Psal WelBeibl 9:19  Cod, O ARGLWYDD! Paid gadael i ddynion meidrol gael eu ffordd! Boed i'r cenhedloedd gael eu barnu gen ti!
Psal WelBeibl 9:20  Dychryn nhw, O ARGLWYDD! Gad iddyn nhw wybod mai dim ond dynol ydyn nhw! Saib
Chapter 10
Psal WelBeibl 10:1  O ARGLWYDD, pam wyt ti'n cadw draw? Pam wyt ti'n aros o'r golwg pan mae pethau'n anodd arna i?
Psal WelBeibl 10:2  Mae'r rhai drwg mor hy! Maen nhw'n hela'r tlawd – gwna iddyn nhw gael eu dal gan eu dyfais eu hunain!
Psal WelBeibl 10:3  Mae'r un drwg yn brolio ei fod yn cael ei ffordd ei hun, a'r lleidr yn melltithio a dirmygu'r ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 10:4  Mae'r un drwg mor falch, yn swancio ac yn dweud wrth ddirmygu'r ARGLWYDD: “Dydy e ddim yn galw neb i gyfri; dydy Duw ddim yn bodoli!”
Psal WelBeibl 10:5  Ydy, mae'n meddwl y bydd e'n llwyddo bob amser. Dydy e'n gwybod dim am dy safonau di, ac mae'n wfftio pawb sy'n ei wrthwynebu.
Psal WelBeibl 10:6  Mae'n meddwl wrtho'i hun, “Dw i'n hollol saff. Mae popeth yn iawn! Fydda i byth mewn trafferthion.”
Psal WelBeibl 10:7  Mae e mor gegog – yn llawn melltith a thwyll a gormes, a'i dafod yn gwneud dim ond drwg ac achosi trafferthion!
Psal WelBeibl 10:8  Mae'n cuddio wrth y pentrefi, yn barod i ymosod; mae'n neidio o'i guddfan a lladd y dieuog – unrhyw un sy'n ddigon anffodus.
Psal WelBeibl 10:9  Mae'n disgwyl yn ei guddfan fel llew yn ei ffau, yn barod i ddal y truan a'i gam-drin; ac mae'n ei ddal yn ei rwyd.
Psal WelBeibl 10:10  Mae'n plygu i lawr, yn swatio, ac mae rhywun anlwcus yn syrthio i'w grafangau.
Psal WelBeibl 10:11  Mae'n dweud wrtho'i hun, “Dydy Duw ddim yn poeni! Dydy e'n cymryd dim sylw. Dydy e byth yn edrych!”
Psal WelBeibl 10:12  Cod, O ARGLWYDD! Cod dy law i'w daro, O Dduw! Paid anghofio'r rhai sy'n cael eu gorthrymu.
Psal WelBeibl 10:13  Pam ddylai dyn drwg gael dilorni Duw a meddwl dy fod ti'n galw neb i gyfri?
Psal WelBeibl 10:14  Rwyt ti'n gweld y cwbl – ti'n sylwi ar y poen a'r dioddefaint. A byddi'n talu'n ôl! Mae'r un oedd yn anlwcus yn dy drystio di, am mai ti sy'n helpu plant amddifad.
Psal WelBeibl 10:15  Torra rym y dyn drwg! Galw fe i gyfrif am y drygioni roedd e'n meddwl na fyddet ti'n ei weld.
Psal WelBeibl 10:16  Mae'r ARGLWYDD yn frenin am byth a bydd y cenhedloedd yn diflannu o'r tir!
Psal WelBeibl 10:17  Ti'n gwrando ar lais y rhai sy'n cael eu gorthrymu yn crefu arnat, O ARGLWYDD. Byddan nhw'n teimlo'n saff am dy fod ti'n gwrando arnyn nhw.
Psal WelBeibl 10:18  Unwaith eto byddi'n rhoi cyfiawnder i'r amddifad a'r rhai sy'n cael eu sathru; byddi'n stopio dynion meidrol rhag eu gormesu.
Chapter 11
Psal WelBeibl 11:1  Dw i wedi troi at yr ARGLWYDD i'm cadw'n saff. Felly sut allwch chi ddweud wrtho i: “Dianc i'r mynyddoedd fel aderyn!”?
Psal WelBeibl 11:2  “Gwylia dy hun! Mae'r rhai drwg yn plygu eu bwa, ac yn gosod saeth ar y llinyn i saethu o'r cysgodion at y rhai sy'n byw'n gywir!”
Psal WelBeibl 11:3  Pan mae'r sylfeini wedi chwalu, beth all y cyfiawn ei gyflawni?
Psal WelBeibl 11:4  Mae'r ARGLWYDD yn ei balas sanctaidd! Ie, yr ARGLWYDD – mae ei orsedd yn y nefoedd! Mae e'n gweld y cwbl! Mae'n edrych yn fanwl ar y ddynoliaeth.
Psal WelBeibl 11:5  Mae'r ARGLWYDD yn gwylio y rhai cyfiawn, ond mae'n casáu y rhai drwg a'r rhai sy'n hoffi trais.
Psal WelBeibl 11:6  Bydd yn tywallt tân a lafa ar y rhai drwg! Corwynt dinistriol maen nhw'n ei haeddu!
Psal WelBeibl 11:7  Ydy, mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn. Mae'n caru gweld cyfiawnder, a bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn cael gweld ei wyneb.
Chapter 12
Psal WelBeibl 12:1  Help, ARGLWYDD! Does neb ffyddlon ar ôl! Mae'r rhai sy'n driw wedi diflannu.
Psal WelBeibl 12:2  Mae pawb yn dweud celwydd wrth ei gilydd; maen nhw'n seboni ond yn ddauwynebog.
Psal WelBeibl 12:3  Boed i'r ARGLWYDD roi stop ar eu geiriau ffals, a rhoi taw ar bob tafod sy'n brolio!
Psal WelBeibl 12:4  “Gallwn wneud unrhyw beth!” medden nhw. “Gallwn ddweud beth leiciwn ni! Dŷn ni'n atebol i neb!”
Psal WelBeibl 12:5  Ond meddai'r ARGLWYDD: “Am fod yr anghenus yn dioddef trais, a'r tlawd yn griddfan mewn poen, dw i'n mynd i weithredu. Bydda i'n ei gadw'n saff; ie, dyna mae'n dyheu amdano.”
Psal WelBeibl 12:6  Mae geiriau'r ARGLWYDD yn wir. Maen nhw fel arian wedi'i buro mewn ffwrnais bridd, neu aur wedi'i goethi'n drwyadl.
Psal WelBeibl 12:7  Byddi'n gofalu amdanon ni, ARGLWYDD, Byddwn ni'n saff o afael y genhedlaeth ddrwg yma
Psal WelBeibl 12:8  sy'n cerdded o gwmpas yn falch, a phobl yn canmol y pethau ofnadwy maen nhw'n eu gwneud!
Chapter 13
Psal WelBeibl 13:1  Am faint mwy, ARGLWYDD? Wyt ti'n mynd i'm diystyru i am byth? Am faint mwy rwyt ti'n mynd i droi cefn arna i?
Psal WelBeibl 13:2  Am faint mwy mae'n rhaid i mi boeni f'enaid, a dal i ddioddef fel yma bob dydd? Am faint mwy mae'r gelyn i gael y llaw uchaf?
Psal WelBeibl 13:3  Edrych arna i! Ateb fi, O ARGLWYDD, fy Nuw! Adfywia fi, rhag i mi suddo i gwsg marwolaeth;
Psal WelBeibl 13:4  rhag i'r gelyn ddweud, “Dw i wedi ennill!” ac i'r rhai sy'n fy nghasáu ddathlu wrth i mi syrthio.
Psal WelBeibl 13:5  Ond na, dw i'n trystio dy fod ti'n ffyddlon! Bydda i'n gorfoleddu am dy fod wedi f'achub i. Bydda i'n canu mawl i ti, ARGLWYDD, am achub fy ngham.
Chapter 14
Psal WelBeibl 14:1  Dim ond ffŵl sy'n meddwl wrtho'i hun, “Dydy Duw ddim yn bodoli.” Mae pobl yn gwneud pob math o bethau ffiaidd; does neb yn gwneud daioni.
Psal WelBeibl 14:2  Mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd ar y ddynoliaeth i weld a oes unrhyw un call; unrhyw un sy'n ceisio Duw.
Psal WelBeibl 14:3  Ond mae pawb wedi troi cefn arno, ac yn gwbl lygredig. Does neb yn gwneud daioni – dim un!
Psal WelBeibl 14:4  Ydyn nhw wir mor dwp – yr holl rhai drwg sy'n llarpio fy mhobl fel taen nhw'n llowcio bwyd, a byth yn galw ar yr ARGLWYDD?
Psal WelBeibl 14:5  Byddan nhw'n dychryn am eu bywydau, am fod Duw yn gofalu am y rhai cyfiawn.
Psal WelBeibl 14:6  Dych chi'n ceisio drysu hyder yr anghenus, ond mae'r ARGLWYDD yn ei gadw'n saff.
Psal WelBeibl 14:7  O, dw i eisiau i'r un sy'n achub Israel ddod o Seion! Pan fydd yr ARGLWYDD yn troi'r sefyllfa rownd bydd Jacob yn gorfoleddu, a bydd Israel mor hapus!
Chapter 15
Psal WelBeibl 15:1  ARGLWYDD, pwy sy'n cael aros yn dy babell di? Pwy sy'n cael byw ar dy fynydd cysegredig?
Psal WelBeibl 15:2  Y sawl sy'n byw bywyd di-fai, yn gwneud beth sy'n iawn, ac yn dweud y gwir bob amser.
Psal WelBeibl 15:3  Dydy e ddim yn defnyddio'i dafod i wneud drwg, i wneud niwed i neb, na gwneud hwyl am ben pobl eraill.
Psal WelBeibl 15:4  Mae'n ffieiddio'r rhai mae Duw'n eu gwrthod, ond yn anrhydeddu'r rhai sy'n parchu'r ARGLWYDD. Mae'n cadw ei air hyd yn oed pan mae hynny'n gostus iddo.
Psal WelBeibl 15:5  Dydy e ddim yn ceisio gwneud elw wrth fenthyg arian, na derbyn breib i gondemnio'r dieuog. Fydd yr un sy'n byw felly byth yn cael ei ysgwyd.
Chapter 16
Psal WelBeibl 16:1  Amddiffyn fi, O Dduw; dw i'n troi atat ti am loches.
Psal WelBeibl 16:2  Dwedais wrth yr ARGLWYDD, “Ti ydy fy Meistr i; mae fy lles i'n dibynnu arnat ti.”
Psal WelBeibl 16:3  Y bobl dduwiol yn y wlad ydy fy arwyr, dw i wrth fy modd gyda nhw.
Psal WelBeibl 16:4  Ond bydd y rhai sy'n dilyn duwiau eraill yn cael llwyth o drafferthion! Dw i eisiau dim i'w wneud â'u hoffrymau o waed. Dw i ddim am eu henwi nhw hyd yn oed!
Psal WelBeibl 16:5  Ti, ARGLWYDD, ydy'r un dw i eisiau. Mae fy nyfodol i yn dy law di.
Psal WelBeibl 16:6  Rwyt ti wedi rhoi tir da i mi; mae gen i etifeddiaeth hyfryd.
Psal WelBeibl 16:7  Bendithiaf yr ARGLWYDD am fy arwain i, ac am siarad gyda mi yn y nos.
Psal WelBeibl 16:8  Dw i mor ymwybodol fod yr ARGLWYDD gyda mi. Mae'n sefyll wrth fy ochr, a fydd dim byd yn fy ysgwyd.
Psal WelBeibl 16:9  Felly, mae fy nghalon i'n llawen; dw i'n gorfoleddu! Dw i'n gwybod y bydda i'n saff!
Psal WelBeibl 16:10  Wnei di ddim gadael i mi fynd i fyd y meirw, na gadael i'r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd.
Psal WelBeibl 16:11  Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi; bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd a hyfrydwch diddiwedd bob amser.
Chapter 17
Psal WelBeibl 17:1  O ARGLWYDD, dw i'n gofyn am gyfiawnder. Gwranda arna i'n galw arnat ti. Clyw fy ngweddi, sy'n gwbl ddidwyll.
Psal WelBeibl 17:2  Ti sy'n gallu rhoi cyfiawnder i mi. Mae dy lygaid yn gweld y gwir.
Psal WelBeibl 17:3  Rwyt wedi dod ata i yn y nos, chwilio fy meddyliau, fy mhwyso a'm mesur a chael dim byd o'i le. Dw i'n benderfynol o beidio dweud dim i dy dramgwyddo di.
Psal WelBeibl 17:4  Dw i'n gweld beth mae pobl eraill yn ei wneud, ond dw i wedi cadw at beth rwyt ti'n ddweud, ac wedi cadw draw oddi wrth ffyrdd lladron.
Psal WelBeibl 17:5  Dw i wedi dilyn dy lwybrau di, a heb grwydro oddi ar y ffordd o gwbl.
Psal WelBeibl 17:6  Dw i'n galw arnat ti, achos byddi di'n ateb, O Dduw. Gwranda arna i. Clyw beth dw i'n ddweud.
Psal WelBeibl 17:7  Dangos mor ffyddlon wyt ti drwy wneud pethau rhyfeddol! Ti sy'n gallu achub y rhai sy'n troi atat i'w hamddiffyn rhag yr ymosodwyr.
Psal WelBeibl 17:8  Amddiffyn fi fel cannwyll dy lygad. Cuddia fi dan gysgod dy adenydd.
Psal WelBeibl 17:9  Cuddia fi oddi wrth y rhai drwg sy'n ymosod arna i, y gelynion o'm cwmpas sydd eisiau fy lladd.
Psal WelBeibl 17:10  Maen nhw'n gwbl ddidrugaredd! Maen nhw mor falch wrth gega!
Psal WelBeibl 17:11  Maen nhw wedi fy amgylchynu i, ac maen nhw am fy mwrw i'r llawr.
Psal WelBeibl 17:12  Maen nhw fel llew yn edrych am ysglyfaeth, neu lew ifanc yn llechu o'r golwg.
Psal WelBeibl 17:13  Cod, ARGLWYDD! Dos allan yn eu herbyn. Taro nhw i lawr gyda dy gleddyf! Achub fi rhag y rhai drwg;
Psal WelBeibl 17:14  achub fi o afael y llofruddion, ARGLWYDD! Lladd nhw! Paid gadael iddyn nhw fyw! Ond i'r rhai sy'n werthfawr yn dy olwg – rwyt yn llenwi eu boliau, mae eu plant yn cael eu bodloni a byddan nhw'n gadael digonedd i'w rhai bach.
Psal WelBeibl 17:15  Caf gyfiawnder, a bydda i'n gweld dy wyneb! Pan fyddaf yn deffro, bydd dy weld yn ddigon i mi!
Chapter 18
Psal WelBeibl 18:1  Dw i'n dy garu di, ARGLWYDD; ti sy'n rhoi nerth i mi.
Psal WelBeibl 18:2  Mae'r ARGLWYDD fel craig i mi, yn gastell ac yn achubwr. Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani, yn darian, yn gryfder ac yn hafan ddiogel.
Psal WelBeibl 18:3  Galwais ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu ei foli, ac achubodd fi oddi wrth fy ngelynion.
Psal WelBeibl 18:4  Rôn i'n boddi dan donnau marwolaeth; roedd llifogydd dinistr yn fy llethu.
Psal WelBeibl 18:5  Roedd rhaffau byd y meirw o'm cwmpas, a maglau marwolaeth o'm blaen.
Psal WelBeibl 18:6  Galwais ar yr ARGLWYDD o ganol fy helynt, a gweiddi ar fy Nuw. Roedd yn ei deml, a chlywodd fy llais; gwrandawodd arna i'n galw.
Psal WelBeibl 18:7  Yna, dyma'r ddaear yn symud a chrynu. Roedd sylfeini'r mynyddoedd yn crynu ac yn ysgwyd am ei fod wedi digio.
Psal WelBeibl 18:8  Daeth mwg allan o'i ffroenau, a thân dinistriol o'i geg; roedd marwor yn tasgu ohono.
Psal WelBeibl 18:9  Agorodd yr awyr fel llenni a daeth i lawr. Roedd cwmwl trwchus dan ei draed.
Psal WelBeibl 18:10  Marchogai ar gerwbiaid yn hedfan, a chodi ar adenydd y gwynt.
Psal WelBeibl 18:11  Gwisgodd dywyllwch fel gorchudd drosto – cymylau duon stormus, a gwnaeth gymylau trwchus yr awyr yn ffau o'i gwmpas.
Psal WelBeibl 18:12  Roedd golau disglair o'i flaen; saethodd mellt o'r cymylau, cenllysg a marwor tanllyd.
Psal WelBeibl 18:13  Yna taranodd yr ARGLWYDD yn yr awyr – sŵn llais y Goruchaf yn galw.
Psal WelBeibl 18:14  Taflodd ei saethau a chwalu'r gelyn; roedd ei folltau mellt yn eu gyrru ar ffo.
Psal WelBeibl 18:15  Daeth gwely'r môr i'r golwg; ac roedd sylfeini'r ddaear yn noeth wrth i ti ruo, O ARGLWYDD, a chwythu anadl o dy ffroenau.
Psal WelBeibl 18:16  Estynnodd i lawr o'r uchelder a gafael ynof; tynnodd fi allan o'r dŵr dwfn.
Psal WelBeibl 18:17  Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig, a'r rhai sy'n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi.
Psal WelBeibl 18:18  Dyma nhw'n ymosod pan oeddwn mewn helbul, ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i.
Psal WelBeibl 18:19  Daeth â fi allan i ryddid! Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi.
Psal WelBeibl 18:20  Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi. Dw i wedi byw'n gyfiawn; mae fy nwylo'n lân ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi.
Psal WelBeibl 18:21  Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon, heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg.
Psal WelBeibl 18:22  Dw i wedi cadw ei ddeddfau'n ofalus; dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau.
Psal WelBeibl 18:23  Dw i wedi bod yn ddi-fai ac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn.
Psal WelBeibl 18:24  Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi. Dw i wedi byw'n gyfiawn, ac mae e wedi gweld bod fy nwylo'n lân.
Psal WelBeibl 18:25  Rwyt ti'n ffyddlon i'r rhai sy'n ffyddlon, ac yn deg â'r rhai di-euog.
Psal WelBeibl 18:26  Mae'r rhai di-fai yn dy brofi'n ddi-fai, ond rwyt ti'n fwy craff na'r rhai anonest.
Psal WelBeibl 18:27  Ti'n achub pobl sy'n dioddef, ond yn torri crib y rhai balch.
Psal WelBeibl 18:28  Ie, ti sy'n goleuo fy lamp, o ARGLWYDD; fy Nuw sy'n rhoi golau i mi yn y tywyllwch.
Psal WelBeibl 18:29  Gyda ti gallaf ruthro allan i'r frwydr; gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw!
Psal WelBeibl 18:30  Mae Duw yn gwneud beth sy'n iawn; mae'r ARGLWYDD yn dweud beth sy'n wir. Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy'n troi ato.
Psal WelBeibl 18:31  Oes duw arall ond yr ARGLWYDD? Oes craig arall ar wahân i'n Duw ni?
Psal WelBeibl 18:32  Fe ydy'r Duw sy'n rhoi nerth i mi – mae'n symud pob rhwystr o'm blaen.
Psal WelBeibl 18:33  Mae'n rhoi coesau fel carw i mi; fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel.
Psal WelBeibl 18:34  Dysgodd fi sut i ymladd – dw i'n gallu plygu bwa o bres!
Psal WelBeibl 18:35  Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian; mae dy law gref yn fy nghynnal. Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo.
Psal WelBeibl 18:36  Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaen a wnes i ddim baglu.
Psal WelBeibl 18:37  Es ar ôl fy ngelynion, a'u dal nhw; wnes i ddim troi'n ôl nes roedden nhw wedi darfod.
Psal WelBeibl 18:38  Dyma fi'n eu taro nhw i lawr, nes eu bod yn methu codi; roeddwn i'n eu sathru nhw dan draed.
Psal WelBeibl 18:39  Ti roddodd y nerth i mi ymladd; ti wnaeth i'r gelyn blygu o'm blaen.
Psal WelBeibl 18:40  Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl. Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr.
Psal WelBeibl 18:41  Roedden nhw'n galw am help, ond doedd neb i'w hachub! Roedden nhw'n galw ar yr ARGLWYDD hyd yn oed! Ond wnaeth e ddim ateb.
Psal WelBeibl 18:42  Dyma fi'n eu malu nhw'n llwch i'w chwythu i ffwrdd gan y gwynt; a'u taflu i ffwrdd fel baw ar y strydoedd.
Psal WelBeibl 18:43  Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn. Gwnest fi'n bennaeth ar y gwledydd. Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhw yn derbyn fy awdurdod.
Psal WelBeibl 18:44  Maen nhw'n plygu wrth glywed amdana i – ie, estroniaid yn crynu o'm blaen!
Psal WelBeibl 18:45  Mae pobloedd estron wedi colli pob hyder, ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau.
Psal WelBeibl 18:46  Ydy, mae'r ARGLWYDD yn fyw! Bendith ar y graig sy'n fy amddiffyn i! Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu!
Psal WelBeibl 18:47  Fe ydy'r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i, a gwneud i bobloedd blygu o'm blaen.
Psal WelBeibl 18:48  Fe ydy'r Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion, a'm cipio o afael y rhai sy'n fy nghasáu. Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar.
Psal WelBeibl 18:49  Felly, O ARGLWYDD, bydda i'n dy foli di o flaen y cenhedloedd ac yn canu mawl i dy enw:
Psal WelBeibl 18:50  mae'n rhoi buddugoliaeth i'w frenin – un fuddugoliaeth fawr ar ôl y llall! Mae'n aros yn ffyddlon i'w eneiniog – i Dafydd, ac i'w ddisgynyddion am byth.
Chapter 19
Psal WelBeibl 19:1  Mae'r nefoedd yn dangos ysblander Duw, a'r awyr yn dweud am grefftwaith ei ddwylo.
Psal WelBeibl 19:2  Mae'r neges yn mynd allan bob dydd; mae i'w gweld yn amlwg bob nos!
Psal WelBeibl 19:3  Does dim llais go iawn, na geiriau, na dim i'w glywed yn llythrennol.
Psal WelBeibl 19:4  Ond mae pawb wedi clywed beth maen nhw'n ddweud; a'r neges wedi mynd i ben draw'r byd! Cododd babell i'r haul yn yr awyr.
Psal WelBeibl 19:5  Mae'n dod allan fel priodfab o'i ystafell; neu athletwr yn frwd i redeg ras.
Psal WelBeibl 19:6  Mae'n codi ar y gorwel, ac yn symud o un pen i'r llall. Does dim yn gallu cuddio rhag ei wres.
Psal WelBeibl 19:7  Mae dysgeidiaeth yr ARGLWYDD yn berffaith – mae'n rhoi bywyd newydd i mi! Mae rheolau yr ARGLWYDD yn glir ac yn gwneud y person mwyaf cyffredin yn ddoeth.
Psal WelBeibl 19:8  Mae cyngor yr ARGLWYDD yn dangos beth sy'n iawn ac yn gwneud y galon yn llawen. Mae arweiniad yr ARGLWYDD yn bur ac yn ein goleuo ni.
Psal WelBeibl 19:9  Mae'r gorchymyn i barchu'r ARGLWYDD yn glir ac yn aros bob amser. Mae dyfarniad yr ARGLWYDD yn gywir – mae e'n gwbl deg bob amser.
Psal WelBeibl 19:10  Mae'r pethau yma'n fwy gwerthfawr nag aur – ie, llwythi o aur coeth! Maen nhw'n felysach na'r mêl sy'n diferu o'r diliau.
Psal WelBeibl 19:11  Ydyn, maen nhw'n rhoi goleuni i dy was; ac mae gwobr fawr i'r rhai sy'n ufuddhau.
Psal WelBeibl 19:12  Ond pwy sy'n gweld ei feiau ei hun? O, maddau i mi pan dw i'n pechu heb wybod,
Psal WelBeibl 19:13  a chadw fi rhag pechu'n fwriadol. Paid gadael i bechod reoli fy mywyd i. Yna byddaf yn ddi-fai, a dieuog o droseddu yn dy erbyn.
Psal WelBeibl 19:14  Gad i'r cwbl dw i'n ei ddweud a'i feddwl dy blesio di, O ARGLWYDD, fy nghraig a'm hachubwr.
Chapter 20
Psal WelBeibl 20:1  Boed i'r ARGLWYDD dy ateb pan wyt mewn trafferthion; boed i Dduw Jacob dy gadw di'n saff.
Psal WelBeibl 20:2  Boed iddo anfon help o'r cysegr, a rhoi nerth i ti o Seion.
Psal WelBeibl 20:3  Boed iddo gofio dy holl offrymau, a derbyn dy offrymau sydd i'w llosgi. Saib
Psal WelBeibl 20:4  Boed iddo roi i ti beth wyt ti eisiau, a dod â dy gynlluniau di i gyd yn wir.
Psal WelBeibl 20:5  Wedyn byddwn yn bloeddio'n llawen am dy fod wedi ennill y frwydr! Byddwn yn codi baner i enw ein Duw. Boed i'r ARGLWYDD roi i ti bopeth rwyt ti'n gofyn amdano!
Psal WelBeibl 20:6  Dw i'n gwybod y bydd yr ARGLWYDD yn achub ei eneiniog, y brenin. Bydd yn ei ateb o'r cysegr yn y nefoedd ac yn rhoi buddugoliaeth ryfeddol iddo, drwy ei nerth.
Psal WelBeibl 20:7  Mae rhai'n brolio yn eu cerbydau rhyfel a'u meirch, ond dŷn ni'n brolio'r ARGLWYDD ein Duw.
Psal WelBeibl 20:8  Byddan nhw'n syrthio ar lawr, ond byddwn ni'n sefyll yn gadarn.
Psal WelBeibl 20:9  Bydd yr ARGLWYDD yn achub y brenin. Bydd yn ateb pan fyddwn ni'n galw arno.
Chapter 21
Psal WelBeibl 21:1  O ARGLWYDD, mae'r brenin yn llawen am dy fod ti'n ei nerthu; mae'n gorfoleddu'n fawr am dy fod yn rhoi'r fuddugoliaeth iddo!
Psal WelBeibl 21:2  Ti wedi rhoi iddo beth oedd e eisiau, wnest ti ddim gwrthod beth roedd e'n gofyn amdano. Saib
Psal WelBeibl 21:3  Ti'n ei fendithio â phopeth da, ac yn gosod coron o aur pur ar ei ben.
Psal WelBeibl 21:4  Gofynnodd i ti ei gadw'n fyw, a dyma ti'n rhoi bywyd iddo – bywyd hir a llinach brenhinol fydd yn aros.
Psal WelBeibl 21:5  Mae'n enwog am dy fod wedi rhoi'r fuddugoliaeth iddo. Ti wedi rhoi iddo ysblander ac urddas.
Psal WelBeibl 21:6  Ti wedi rhoi bendithion fydd yn para am byth, a'r boddhad a'r llawenydd o fod yn dy gwmni.
Psal WelBeibl 21:7  Ydy, mae'r brenin yn trystio'r ARGLWYDD. Mae'n gwybod fod y Duw Goruchaf yn ffyddlon, felly fydd dim byd yn ei ysgwyd.
Psal WelBeibl 21:8  Byddi'n llwyddo i ddal dy holl elynion; byddi'n rhy gryf i'r rhai sy'n dy gasáu.
Psal WelBeibl 21:9  Pan fyddi'n dod i'r golwg byddi'n eu llosgi nhw mewn ffwrnais. Mae'r ARGLWYDD yn ddig, a bydd yn eu dinistrio nhw; bydd tân yn eu llosgi nhw.
Psal WelBeibl 21:10  Byddi'n cael gwared â'u disgynyddion o'r ddaear; byddan nhw'n diflannu o blith y ddynoliaeth.
Psal WelBeibl 21:11  Roedden nhw eisiau gwneud niwed i ti; roedd ganddyn nhw gynllun ond allen nhw byth lwyddo.
Psal WelBeibl 21:12  Ti'n gwneud iddyn nhw droi yn ôl drwy gymryd dy fwa ac anelu dy saethau atyn nhw.
Psal WelBeibl 21:13  Cod, ARGLWYDD, dangos dy nerth! Byddwn yn canu mawl i ti am wneud pethau mor fawr.
Chapter 22
Psal WelBeibl 22:1  Fy Nuw, fy Nuw, pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i? Dw i'n griddfan mewn poen, pam wyt ti ddim yn fy achub i?
Psal WelBeibl 22:2  Fy Nuw, dw i'n galw arnat ti drwy'r dydd, ond ti ddim yn ateb. Dw i'n dal ati drwy'r nos heb orffwys o gwbl.
Psal WelBeibl 22:3  Ti ydy'r Duw Sanctaidd! Rwyt ti'n eistedd ar dy orsedd, ac yn derbyn mawl pobl Israel.
Psal WelBeibl 22:4  Ti oedd ein hynafiaid ni'n ei drystio. Roedden nhw'n dy drystio di a dyma ti'n eu hachub nhw.
Psal WelBeibl 22:5  Dyma nhw'n gweiddi arnat ti a llwyddo i ddianc; roedden nhw wedi dy drystio di, a chawson nhw mo'u siomi.
Psal WelBeibl 22:6  Dw i'n neb. Pryf ydw i, nid dyn! Dw i'n cael fy wfftio gan bobl, a'm dirmygu.
Psal WelBeibl 22:7  Dw i'n destun sbort i bawb. Maen nhw'n gwneud ystumiau arna i, ac yn ysgwyd eu pennau.
Psal WelBeibl 22:8  “Mae e wedi trystio'r ARGLWYDD; felly gadewch i'r ARGLWYDD ei achub, a'i ollwng e'n rhydd! Mae e mor hoff ohono!”
Psal WelBeibl 22:9  Ti ddaeth â fi allan o'r groth. Ti wnaeth i mi deimlo'n saff ar fron fy mam.
Psal WelBeibl 22:10  Dw i wedi dibynnu arnat ti o'r dechrau cyntaf. Ti ydy fy Nuw i ers i mi gael fy ngeni.
Psal WelBeibl 22:11  Paid cadw draw! Mae helyntion gerllaw a does gen i neb i'm helpu.
Psal WelBeibl 22:12  Mae teirw o'm cwmpas ym mhobman. Mae teirw cryfion Bashan yn fy mygwth.
Psal WelBeibl 22:13  Maen nhw'n barod i'm llyncu i, fel llewod yn rhuo ac yn rhwygo ysglyfaeth.
Psal WelBeibl 22:14  Dw i bron marw! Mae fy esgyrn i gyd wedi dod o'u lle, ac mae fy nghalon yn wan fel cwyr yn toddi tu mewn i mi.
Psal WelBeibl 22:15  Mae fy egni wedi sychu fel potyn pridd. Mae fy nhafod wedi glynu i dop fy ngheg. Rwyt wedi fy rhoi i lwch marwolaeth.
Psal WelBeibl 22:16  Mae cŵn wedi casglu o'm cwmpas! Criw o fwlis yn cau amdana i ac yn fy nal i lawr gerfydd fy nwylo a'm traed.
Psal WelBeibl 22:17  Dw i'n ddim byd ond swp o esgyrn, ac maen nhw'n syllu arna i a chwerthin.
Psal WelBeibl 22:18  Maen nhw'n rhannu fy nillad rhyngddyn nhw, ac yn gamblo am fy nghrys.
Psal WelBeibl 22:19  O ARGLWYDD, paid ti cadw draw. Ti sy'n rhoi nerth i mi. Brysia, helpa fi!
Psal WelBeibl 22:20  Achub fi rhag y cleddyf, achub fy mywyd o afael y cŵn!
Psal WelBeibl 22:21  Gad i mi ddianc oddi wrth y llew; achub fi rhag cyrn yr ych gwyllt. Ateb fi!
Psal WelBeibl 22:22  Bydda i'n dweud wrth fy mrodyr sut un wyt ti; ac yn canu mawl i ti gyda'r rhai sy'n dy addoli.
Psal WelBeibl 22:23  Ie, chi sy'n addoli'r ARGLWYDD, canwch fawl iddo! Chi ddisgynyddion Jacob, anrhydeddwch e! Chi bobl Israel i gyd, safwch o'i flaen mewn rhyfeddod!
Psal WelBeibl 22:24  Wnaeth e ddim dirmygu na diystyru cri'r anghenus; wnaeth e ddim troi ei gefn arno. Pan oedd yn gweiddi am help, gwrandawodd Duw.
Psal WelBeibl 22:25  Dyna pam dw i'n dy foli di yn y gynulleidfa fawr, ac yn cadw fy addewidion o flaen y rhai sy'n dy addoli.
Psal WelBeibl 22:26  Bydd yr anghenus yn bwyta ac yn cael digon! Bydd y rhai sy'n dilyn yr ARGLWYDD yn canu mawl iddo – byddwch yn llawen bob amser!
Psal WelBeibl 22:27  Bydd pobl drwy'r byd i gyd yn gwrando ac yn troi at yr ARGLWYDD. Bydd pobl y gwledydd i gyd yn ei addoli,
Psal WelBeibl 22:28  am mai'r ARGLWYDD ydy'r Brenin! Fe sy'n teyrnasu dros y cenhedloedd.
Psal WelBeibl 22:29  Bydd pawb sy'n iach yn plygu i'w addoli; a phawb sydd ar fin marw – ar wely angau – yn plygu glin o'i flaen!
Psal WelBeibl 22:30  Bydd plant yn ei wasanaethu; a bydd enw'r ARGLWYDD yn cael ei gyhoeddi i'r genhedlaeth sydd i ddod. Byddan nhw'n dweud am ei gyfiawnder wrth y rhai sydd ddim eto wedi'u geni! Ie, dweud beth mae e wedi'i wneud!
Psal WelBeibl 22:31  Bydd plant yn ei wasanaethu; a bydd enw'r ARGLWYDD yn cael ei gyhoeddi i'r genhedlaeth sydd i ddod. Byddan nhw'n dweud am ei gyfiawnder wrth y rhai sydd ddim eto wedi'u geni! Ie, dweud beth mae e wedi'i wneud!
Chapter 23
Psal WelBeibl 23:1  Yr ARGLWYDD ydy fy mugail i; mae gen i bopeth dw i angen.
Psal WelBeibl 23:2  Mae'n mynd â fi i orwedd mewn porfa hyfryd, ac yn fy arwain at ddŵr glân sy'n llifo'n dawel.
Psal WelBeibl 23:3  Mae'n rhoi bywyd newydd i mi, ac yn dangos i mi'r ffordd iawn i fynd. Ydy, mae e'n enwog am ei ofal.
Psal WelBeibl 23:4  Hyd yn oed mewn ceunant tywyll dychrynllyd, fydd gen i ddim ofn, am dy fod ti gyda mi. Mae dy ffon a dy bastwn yn fy amddiffyn i.
Psal WelBeibl 23:5  Rwyt ti'n paratoi gwledd i mi ac mae fy ngelynion yn gorfod gwylio. Rwyt ti'n tywallt olew ar fy mhen. Mae gen i fwy na digon!
Psal WelBeibl 23:6  Bydd dy ddaioni a dy ofal ffyddlon gyda mi weddill fy mywyd. A byddaf yn byw eto yn nhŷ'r ARGLWYDD am byth.
Chapter 24
Psal WelBeibl 24:1  Yr ARGLWYDD piau'r ddaear a phopeth sydd ynddi: y byd, a phawb sy'n byw ynddo.
Psal WelBeibl 24:2  Mae wedi gosod ei sylfeini ar y moroedd, a'i sefydlu ar ffrydiau'r dyfnder.
Psal WelBeibl 24:3  Pwy sy'n cael dringo mynydd yr ARGLWYDD? Pwy sy'n cael sefyll yn ei deml sanctaidd?
Psal WelBeibl 24:4  Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn a'i gymhellion yn bur; yr un sydd ddim yn twyllo neu'n addo rhywbeth heb fwriadu ei gyflawni.
Psal WelBeibl 24:5  Mae'r ARGLWYDD yn bendithio pobl felly; byddan nhw'n cael eu derbyn i berthynas iawn gyda'r Duw sy'n achub.
Psal WelBeibl 24:6  Dyma'r math o bobl sy'n cael troi ato: y rhai sydd eisiau dy gwmni di, O Dduw Jacob. Saib
Psal WelBeibl 24:7  Giatiau'r ddinas, edrychwch! Agorwch, chi ddrysau tragwyddol, er mwyn i'r Brenin gwych gael dod i mewn!
Psal WelBeibl 24:8  Pwy ydy'r Brenin gwych yma? Yr ARGLWYDD, cryf a dewr, Yr ARGLWYDD sy'n ennill pob brwydr!
Psal WelBeibl 24:9  Giatiau'r ddinas, edrychwch! Agorwch, chi ddrysau tragwyddol, er mwyn i'r Brenin gwych gael dod i mewn!
Psal WelBeibl 24:10  Pwy ydy'r Brenin gwych yma? – Yr ARGLWYDD hollbwerus! Fe ydy'r Brenin gwych! Saib
Chapter 25
Psal WelBeibl 25:2  Fy Nuw, dw i'n dy drystio di; paid â'm siomi; paid gadael i'm gelynion gael hwyl am fy mhen.
Psal WelBeibl 25:3  Does neb sy'n dy drystio di yn cael ei siomi. Y rhai sy'n twyllo fydd yn methu, nhw fydd yn cael eu siomi!
Psal WelBeibl 25:4  Dw i eisiau dy ddilyn di, ARGLWYDD; dysga dy ffyrdd i mi.
Psal WelBeibl 25:5  Arwain fi ar y ffordd iawn a dysga fi, achos ti ydy'r Duw sy'n fy achub i. Dw i'n dibynnu arnat ti bob amser.
Psal WelBeibl 25:6  O ARGLWYDD, cofia dy fod yn Dduw trugarog a ffyddlon – un felly wyt ti wedi bod erioed!
Psal WelBeibl 25:7  Paid dal yn fy erbyn y pechodau a'r holl bethau wnes i o'i le pan oeddwn i'n ifanc. Bydd yn garedig ata i, ARGLWYDD; rwyt ti'n Dduw mor ffyddlon.
Psal WelBeibl 25:8  Mae'r ARGLWYDD yn dda ac yn hollol deg, felly mae e'n dangos i bechaduriaid sut dylen nhw fyw.
Psal WelBeibl 25:9  Mae'n dangos y ffordd iawn i'r rhai sy'n plygu iddo ac yn eu dysgu nhw sut i fyw.
Psal WelBeibl 25:10  Mae'r ARGLWYDD bob amser yn ffyddlon, ac mae'r rhai sy'n cadw amodau'r ymrwymiad wnaeth e yn gallu dibynnu'n llwyr arno.
Psal WelBeibl 25:11  Er mwyn dy enw da, O ARGLWYDD, maddau'r holl ddrwg dw i wedi'i wneud – mae yna gymaint ohono!
Psal WelBeibl 25:12  Mae'r ARGLWYDD yn dangos i'r rhai sy'n ffyddlon iddo sut dylen nhw fyw.
Psal WelBeibl 25:13  Byddan nhw'n mwynhau bywyd, a bydd eu plant yn etifeddu'r tir.
Psal WelBeibl 25:14  Mae'r ARGLWYDD yn rhoi arweiniad i'w ddilynwyr ffyddlon, ac mae'n dysgu iddyn nhw oblygiadau'r ymrwymiad wnaeth e.
Psal WelBeibl 25:15  Dw i'n troi at yr ARGLWYDD am help bob amser, am mai fe sy'n fy ngollwng i'n rhydd o rwyd y gelyn.
Psal WelBeibl 25:16  Tyrd ata i, bydd yn garedig a helpa fi, dw i ar fy mhen fy hun, ac yn dioddef.
Psal WelBeibl 25:17  Achub fi o'r helbul dw i ynddo; gollwng fi'n rhydd o'r argyfwng yma.
Psal WelBeibl 25:18  Edrych arna i'n dioddef mewn poen. Maddau fy holl bechodau.
Psal WelBeibl 25:19  Edrych gymaint o elynion sydd gen i; maen nhw'n fy nghasáu i, ac am wneud niwed i mi!
Psal WelBeibl 25:20  Amddiffyn fi, ac achub fi! Paid gadael i mi gael fy siomi, achos dw i wedi troi atat ti am loches.
Psal WelBeibl 25:21  Amddiffyn fi, am fy mod i'n onest ac yn agored hefo ti; dw i'n dibynnu arnat ti, ARGLWYDD!
Psal WelBeibl 25:22  O Dduw, gollwng Israel yn rhydd o'i holl drafferthion!
Chapter 26
Psal WelBeibl 26:1  Achub fy ngham, O ARGLWYDD, dw i wedi bod yn onest. Dw i wedi dy drystio di, ARGLWYDD, bob amser.
Psal WelBeibl 26:2  Archwilia fi, ARGLWYDD; gosod fi ar brawf! Treiddia i'm meddwl a'm cydwybod.
Psal WelBeibl 26:3  Dw i'n gwybod mor ffyddlon wyt ti – a dyna sydd yn fy ysgogi i fynd ymlaen.
Psal WelBeibl 26:4  Dw i ddim yn derbyn cyngor gan bobl sy'n twyllo, nac yn cymysgu gyda rhai sy'n anonest.
Psal WelBeibl 26:5  Dw i'n casáu cwmni dynion drwg, ac yn gwrthod cyngor pobl felly.
Psal WelBeibl 26:6  Dw i'n golchi fy nwylo'n lân, ac am gerdded o gwmpas dy allor, O ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 26:7  Dw i eisiau diolch i ti, a dweud am y pethau rhyfeddol wnest ti.
Psal WelBeibl 26:8  O ARGLWYDD, dw i'n caru'r deml lle rwyt ti'n byw; y fan lle mae dy ysblander i'w weld.
Psal WelBeibl 26:9  Paid ysgubo fi i ffwrdd gyda phechaduriaid, na'm lladd gyda'r bobl dreisgar
Psal WelBeibl 26:10  sydd bob amser yn cynllwynio rhyw ddrwg, neu'n barod i gynnig breib.
Psal WelBeibl 26:11  Dw i wedi bod yn onest. Gollwng fi'n rhydd! Bydd yn garedig ata i!
Psal WelBeibl 26:12  Dw i'n gwybod fy mod i'n saff. Bydda i'n addoli'r ARGLWYDD eto gyda'i bobl.
Chapter 27
Psal WelBeibl 27:1  Mae'r ARGLWYDD yn rhoi golau i mi, ac yn fy achub i; does gen i ofn neb. Mae'r ARGLWYDD fel caer yn fy amddiffyn i, does neb yn fy nychryn.
Psal WelBeibl 27:2  Pan oedd dynion drwg yn ymosod arna i i'm llarpio fel ysglyfaeth – nhw (y gelynion oedd yn fy nghasáu), ie, nhw wnaeth faglu a syrthio.
Psal WelBeibl 27:3  Petai byddin gyfan yn dod yn fy erbyn i, fyddai gen i ddim ofn. Petai rhyfel ar fin torri allan, byddwn i'n gwbl hyderus.
Psal WelBeibl 27:4  Gofynnais i'r ARGLWYDD am un peth – dyma beth dw i wir eisiau: dw i eisiau aros yn nhŷ'r ARGLWYDD am weddill fy mywyd, i ryfeddu ar haelioni'r ARGLWYDD, a myfyrio yn ei deml.
Psal WelBeibl 27:5  Bydd e'n fy nghuddio i pan dw i mewn perygl; bydda i'n saff yn ei babell. Bydd yn fy ngosod i ar graig ddiogel, allan o gyrraedd y gelyn.
Psal WelBeibl 27:6  Bydda i'n ennill y frwydr yn erbyn y gelynion sydd o'm cwmpas. Bydda i'n cyflwyno aberthau i Dduw, ac yn gweiddi'n llawen. Bydda i'n canu ac yn cyfansoddi cerddoriaeth i foli'r ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 27:7  O ARGLWYDD, gwranda arna i'n galw arnat ti. Bydd yn garedig ata i. Ateb fi!
Psal WelBeibl 27:8  Dw i'n gwybod dy fod ti'n dweud, “Ceisiwch fi.” Felly, ARGLWYDD, dw i'n dy geisio di.
Psal WelBeibl 27:9  Paid troi cefn arna i. Paid gwthio fi i ffwrdd. Ti sy'n gallu fy helpu i. Paid gwrthod fi! Paid â'm gadael i. O Dduw, ti ydy'r un sy'n fy achub i.
Psal WelBeibl 27:10  Hyd yn oed petai dad a mam yn troi cefn arna i, byddai'r ARGLWYDD yn gofalu amdana i.
Psal WelBeibl 27:11  Dangos i mi sut rwyt ti eisiau i mi fyw, O ARGLWYDD. Arwain fi ar hyd y llwybr iawn, achos mae'r rhai sy'n fy nghasáu yn fy ngwylio i.
Psal WelBeibl 27:12  Paid gadael i'm gelynion i gael eu ffordd. Mae tystion celwyddog yn codi ac yn tystio yn fy erbyn i.
Psal WelBeibl 27:13  Ond dw i'n gwybod yn iawn y bydda i'n profi daioni'r ARGLWYDD ar dir y byw!
Psal WelBeibl 27:14  Gobeithia yn yr ARGLWYDD. Bydd yn ddewr ac yn hyderus. Ie, gobeithia yn yr ARGLWYDD.
Chapter 28
Psal WelBeibl 28:1  O ARGLWYDD, arnat ti dw i'n galw! Paid diystyru fi – ti ydy fy nghraig i. Os wnei di ddim ateb bydda i'n siŵr o ddisgyn i'r bedd!
Psal WelBeibl 28:2  Gwranda arna i'n galw – dw i'n erfyn am drugaredd! Dw i'n estyn fy nwylo at dy deml sanctaidd.
Psal WelBeibl 28:3  Paid llusgo fi i ffwrdd gyda'r rhai drwg, y bobl hynny sy'n gwneud dim byd ond drwg. Maen nhw'n dweud pethau sy'n swnio'n garedig ond does dim byd ond malais yn y galon.
Psal WelBeibl 28:4  Tala nôl iddyn nhw am wneud y fath beth! Rho iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu! Cosba nhw!
Psal WelBeibl 28:5  Dŷn nhw ddim yn deall y ffordd mae'r ARGLWYDD yn gweithio. Bydd e'n eu bwrw nhw i lawr, a fyddan nhw byth yn codi eto!
Psal WelBeibl 28:6  Bendith ar yr ARGLWYDD! Ydy, mae e wedi gwrando arna i'n erfyn am drugaredd!
Psal WelBeibl 28:7  Mae'r ARGLWYDD yn rhoi nerth i mi; mae e'n darian i'm hamddiffyn. Dw i'n ei drystio fe'n llwyr. Daeth i'm helpu, a dw i wrth fy modd! Felly dw i'n mynd i ganu mawl iddo!
Psal WelBeibl 28:8  Mae'r ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf. Mae e fel caer yn amddiffyn ac yn achub ei eneiniog, y brenin.
Psal WelBeibl 28:9  Achub dy bobl! Bendithia dy bobl sbesial! Gofala amdanyn nhw fel bugail a'u cario yn dy freichiau bob amser!
Chapter 29
Psal WelBeibl 29:1  Dewch, angylion, Cyhoeddwch! Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r ARGLWYDD!
Psal WelBeibl 29:2  Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da! Plygwch i addoli'r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr.
Psal WelBeibl 29:3  Mae llais yr ARGLWYDD i'w glywed uwchben y dŵr – sŵn y Duw gwych yn taranu. Mae'r ARGLWYDD yn taranu uwchben y dyfroedd mawr.
Psal WelBeibl 29:4  Mae llais yr ARGLWYDD yn rymus. Mae llais yr ARGLWYDD yn urddasol.
Psal WelBeibl 29:5  Mae llais yr ARGLWYDD yn dryllio'r cedrwydd; mae e'n dryllio coed cedrwydd Libanus.
Psal WelBeibl 29:6  Mae'n gwneud i Libanus brancio fel llo; a Sirion fel ych gwyllt ifanc.
Psal WelBeibl 29:8  Mae llais yr ARGLWYDD yn ysgwyd yr anialwch; mae'r ARGLWYDD yn ysgwyd anialwch Cadesh.
Psal WelBeibl 29:9  Mae llais yr ARGLWYDD yn plygu'r coed mawr, ac yn tynnu'r dail oddi ar y fforestydd. Ac yn ei deml mae pawb yn gweiddi, “Rwyt ti'n wych!”
Psal WelBeibl 29:10  Mae'r ARGLWYDD ar ei orsedd uwchben y llifogydd. Mae'r ARGLWYDD yn Frenin ar ei orsedd am byth.
Psal WelBeibl 29:11  Mae'r ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf. Mae'r ARGLWYDD yn rhoi heddwch i'w bobl.
Chapter 30
Psal WelBeibl 30:1  Dw i'n dy ganmol di, O ARGLWYDD, am i ti fy nghodi ar fy nhraed; wnest ti ddim gadael i'm gelynion ddathlu.
Psal WelBeibl 30:2  O ARGLWYDD, fy Nuw, gwaeddais arnat ti a dyma ti'n fy iacháu i.
Psal WelBeibl 30:3  O ARGLWYDD, codaist fi allan o fyd y meirw, a'm cadw rhag disgyn i'r bedd.
Psal WelBeibl 30:4  Canwch i'r ARGLWYDD, chi sy'n ei ddilyn yn ffyddlon, a'i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e!
Psal WelBeibl 30:5  Dim ond am foment mae e'n ddig. Pan mae'n dangos ei ffafr mae'n rhoi bywyd. Gall rhywun fod yn crio wrth fynd i orwedd gyda'r nos; ond erbyn y bore mae pawb yn dathlu'n llawen.
Psal WelBeibl 30:6  Roedd popeth yn mynd yn dda a minnau'n meddwl, “All dim byd fynd o'i le.”
Psal WelBeibl 30:7  Pan oeddet ti'n dangos dy ffafr, ARGLWYDD, roeddwn i'n gadarn fel y graig. Ond dyma ti'n troi dy gefn arna i, ac roedd arna i ofn am fy mywyd.
Psal WelBeibl 30:8  Dyma fi'n galw arnat ti, ARGLWYDD, ac yn pledio arnat ti fy Meistr:
Psal WelBeibl 30:9  “Beth ydy'r pwynt os gwna i farw, a disgyn i'r bedd? Fydd fy llwch i'n gallu dy foli di? Fydd e'n gallu sôn am dy ffyddlondeb?
Psal WelBeibl 30:10  Gwranda arna i, ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i. O ARGLWYDD, helpa fi!”
Psal WelBeibl 30:11  Yna dyma ti'n troi fy nhristwch yn ddawns; tynnu'r sachliain a rhoi gwisg i mi ddathlu!
Psal WelBeibl 30:12  Felly dw i'n mynd i ganu i ti gyda'm holl galon – wna i ddim tewi! O ARGLWYDD fy Nuw, bydda i'n dy foli di bob amser.
Chapter 31
Psal WelBeibl 31:1  Dw i'n troi atat ti am loches, O ARGLWYDD; paid gadael i mi gael fy siomi. Rwyt ti'n gyfiawn, felly achub fi.
Psal WelBeibl 31:2  Gwranda arna i! Achub fi'n fuan! Bydd yn graig ddiogel i mi, yn gaer lle bydda i'n hollol saff.
Psal WelBeibl 31:3  Ti ydy'r graig ddiogel yna; ti ydy'r gaer. Cadw dy enw da, dangos y ffordd i mi ac arwain fi.
Psal WelBeibl 31:4  Rhyddha fi o'r rhwyd sydd wedi'i gosod i'm dal i, Ie, ti ydy fy lle diogel i.
Psal WelBeibl 31:5  Dw i'n rhoi fy mywyd yn dy ddwylo di. Dw i'n gwybod y gwnei di fy rhyddhau i achos ti, o ARGLWYDD, ydy'r Duw ffyddlon.
Psal WelBeibl 31:6  Dw i'n casáu'r rhai sy'n addoli eilunod diwerth; ond dw i'n dy drystio di, ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 31:7  Bydda i'n dathlu'n llawen am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon. Ti wedi gweld mor anodd mae hi arna i ac yn gwybod am yr argyfwng dw i ynddo,
Psal WelBeibl 31:8  Paid gadael i'r gelyn fy nal i; gad i mi ddianc i le agored.
Psal WelBeibl 31:9  Helpa fi, O ARGLWYDD, mae hi'n argyfwng arna i. Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder – fy nghorff i gyd, a dweud y gwir.
Psal WelBeibl 31:10  Dw i'n cael fy llethu gan boen; mae fy mlynyddoedd yn dod i ben mewn tuchan. Mae pechod wedi fy ngwneud i'n wan, ac mae fy esgyrn yn frau.
Psal WelBeibl 31:11  Mae'r holl elynion sydd gen i yn gwneud hwyl am fy mhen. Mae fy ffrindiau yn arswydo; mae pobl yn cadw draw pan maen nhw'n fy ngweld i ar y stryd.
Psal WelBeibl 31:12  Maen nhw wedi anghofio amdana i, fel petawn i wedi marw! Dw i'n dda i ddim, fel jar sydd wedi torri.
Psal WelBeibl 31:13  Dw i'n clywed beth maen nhw'n ei sibrwd, a'r straeon ofnadwy sy'n dod o bob cyfeiriad. Maen nhw'n cynllwynio yn fy erbyn i; maen nhw eisiau fy lladd i.
Psal WelBeibl 31:14  Ond dw i'n dy drystio di, O ARGLWYDD. Dw i'n datgan yn glir, “Ti ydy fy Nuw i!”
Psal WelBeibl 31:15  Dw i'n dy ddwylo di achub fi o afael y gelynion sydd ar fy ôl i.
Psal WelBeibl 31:16  Bydd yn garedig at dy was. Dangos mor ffyddlon wyt ti; achub fi!
Psal WelBeibl 31:17  O ARGLWYDD, paid â'm siomi pan dw i'n galw arnat. Gwna i'r rhai drwg gael eu siomi; cau eu cegau nhw unwaith ac am byth.
Psal WelBeibl 31:18  Rho daw ar y rhai sy'n dweud celwydd, y bobl hynny sy'n herio'r rhai sy'n byw'n iawn ac mor haerllug a dirmygus ohonyn nhw.
Psal WelBeibl 31:19  Ond mae gen ti gymaint o bethau da i'w rhoi i'r rhai sy'n dy addoli di. O flaen pawb, byddi'n rhoi'r cwbl iddyn nhw, sef y rhai sy'n troi atat ti am loches.
Psal WelBeibl 31:20  Rwyt ti gyda nhw, ac yn eu cuddio rhag y dynion sy'n cynllwynio yn eu herbyn. Ti'n cysgodi drostyn nhw ac maen nhw'n saff rhag y tafodau miniog sy'n ymosod.
Psal WelBeibl 31:21  Bendith ar yr ARGLWYDD! Mae wedi bod yn anhygoel o ffyddlon pan oedd y gelynion yn ymosod.
Psal WelBeibl 31:22  Rôn i mewn panig, ac yn meddwl, “Ti ddim yn gweld beth sy'n digwydd i mi!” Ond na, pan oeddwn i'n crefu am help roeddet ti wedi clywed.
Psal WelBeibl 31:23  Felly carwch yr ARGLWYDD, chi sy'n ei ddilyn yn ffyddlon. Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn y rhai sy'n ffyddlon iddo, ond mae'n talu'n ôl yn llawn i'r rhai sy'n haerllug.
Psal WelBeibl 31:24  Byddwch yn ddewr a hyderus, chi sy'n credu y bydd yr ARGLWYDD yn eich ateb chi.
Chapter 32
Psal WelBeibl 32:1  Mae'r un sydd wedi cael maddeuant am ei wrthryfel wedi'i fendithio'n fawr, mae ei bechodau wedi'u symud o'r golwg am byth.
Psal WelBeibl 32:2  Mae'r un dydy'r ARGLWYDD ddim yn dal ati i gyfri ei fai yn ei erbyn wedi'i fendithio'n fawr – yr un sydd heb dwyll yn agos i'w galon.
Psal WelBeibl 32:3  Pan oeddwn i'n cadw'n ddistaw am y peth, roedd fy esgyrn yn troi'n frau ac roeddwn i'n tuchan mewn poen drwy'r dydd.
Psal WelBeibl 32:4  Roeddet ti'n fy mhoenydio i nos a dydd; doedd gen i ddim egni, fel pan mae'r gwres yn llethol yn yr haf. Saib
Psal WelBeibl 32:5  Ond wedyn dyma fi'n cyfaddef fy mhechod. Wnes i guddio dim byd. “Dw i'n mynd i gyffesu'r cwbl i'r ARGLWYDD,” meddwn i, ac er fy mod i'n euog dyma ti'n maddau'r cwbl. Saib
Psal WelBeibl 32:6  Felly, pan mae rhywun sy'n dy ddilyn di'n ffyddlon yn darganfod ei fod wedi pechu, dylai weddïo arnat ti rhag i'r dyfroedd peryglus ei ysgubo i ffwrdd.
Psal WelBeibl 32:7  Ti ydy'r lle saff i mi guddio! Ti'n fy amddiffyn i rhag trafferthion. Mae pobl o'm cwmpas yn dathlu'n llawen am dy fod ti wedi fy achub i. Saib
Psal WelBeibl 32:8  Gadewch i mi ddangos y ffordd i chi, a'ch helpu chi i wybod sut i fyw. Gadewch i mi roi cyngor i chi, wyneb yn wyneb.
Psal WelBeibl 32:9  Peidiwch bod yn ystyfnig fel mul sy'n gwrthod bod yn ufudd, neu geffyl sydd angen ffrwyn i gadw rheolaeth arno.
Psal WelBeibl 32:10  Mae pobl ddrwg yn mynd i ddioddef yn fawr, ond mae'r ARGLWYDD yn hollol ffyddlon i'r rhai sy'n ei drystio fe.
Psal WelBeibl 32:11  Felly, chi sy'n gwneud beth sy'n iawn, dathlwch beth mae'r ARGLWYDD wedi'i wneud. Gorfoleddwch! Bloeddiwch yn llawen, bawb sy'n byw'n gywir!
Chapter 33
Psal WelBeibl 33:1  Chi, rai cyfiawn, canwch yn llawen i'r ARGLWYDD! Mae'n beth da i'r rhai sy'n byw'n gywir ei foli.
Psal WelBeibl 33:2  Molwch yr ARGLWYDD gyda'r delyn; canwch iddo ar yr offeryn dectant.
Psal WelBeibl 33:3  Canwch gân newydd iddo i gyfeiliant hyfryd a bwrlwm llawenydd.
Psal WelBeibl 33:4  Achos mae beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud yn iawn; ac mae'r cwbl mae'n ei wneud yn gywir.
Psal WelBeibl 33:5  Mae e'n caru beth sy'n deg ac yn gyfiawn, ac mae ei ofal ffyddlon i'w weld drwy'r byd i gyd.
Psal WelBeibl 33:6  Dwedodd y gair, a dyma'r awyr yn cael ei chreu. Anadlodd, a daeth y sêr a'r planedau i fod.
Psal WelBeibl 33:7  Mae e'n casglu dŵr y moroedd yn bentwr, ac yn ei gadw yn ei stordai.
Psal WelBeibl 33:8  Dylai'r byd i gyd barchu'r ARGLWYDD! Dylai pob person byw ei ofni!
Psal WelBeibl 33:9  Siaradodd, a digwyddodd y peth; rhoddodd orchymyn, a dyna fu.
Psal WelBeibl 33:10  Mae'r ARGLWYDD yn drysu cynlluniau'r cenhedloedd, ac yn rhwystro bwriadau pobloedd.
Psal WelBeibl 33:11  Beth mae'r ARGLWYDD yn ei fwriadu sy'n aros. Mae ei gynlluniau e'n para ar hyd y cenedlaethau.
Psal WelBeibl 33:12  Mae'r genedl sydd â'r ARGLWYDD yn Dduw iddi wedi'i bendithio'n fawr, sef y bobl hynny mae wedi'u dewis yn eiddo iddo'i hun.
Psal WelBeibl 33:13  Mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd; ac mae'n gweld y ddynoliaeth gyfan.
Psal WelBeibl 33:14  Mae'n syllu i lawr o'i orsedd ar bawb sy'n byw ar y ddaear.
Psal WelBeibl 33:15  Mae wedi gwneud pawb yn wahanol, ac mae'n sylwi ar bopeth maen nhw'n ei wneud.
Psal WelBeibl 33:16  Nid byddin fawr sy'n achub y brenin; na'i gryfder ei hun sy'n achub milwr dewr.
Psal WelBeibl 33:17  Dydy march rhyfel ddim yn gallu ennill brwydr; er ei fod mor gryf, dydy e ddim yn gallu achub.
Psal WelBeibl 33:18  Yr ARGLWYDD sy'n gofalu am ei bobl, sef y rhai sy'n credu ei fod e'n ffyddlon.
Psal WelBeibl 33:19  Fe sy'n eu harbed nhw rhag cael eu lladd, ac yn eu cadw nhw'n fyw mewn cyfnod o newyn.
Psal WelBeibl 33:20  Mae'n gobaith ni yn yr ARGLWYDD! Fe sy'n ein helpu ni, ac yn darian i'n hamddiffyn.
Psal WelBeibl 33:21  Fe sy'n ein gwneud ni mor llawen! Dŷn ni'n credu yn ei enw sanctaidd e.
Psal WelBeibl 33:22  O ARGLWYDD, gad i ni brofi dy haelioni, gan ein bod wedi credu ynot ti.
Chapter 34
Psal WelBeibl 34:1  Dw i am ganmol yr ARGLWYDD bob amser; a'i foli'n ddi-baid!
Psal WelBeibl 34:2  Dw i am frolio'r ARGLWYDD. Bydd y rhai sy'n cael eu cam-drin yn clywed ac yn llawenhau!
Psal WelBeibl 34:3  Dewch i ganmol yr ARGLWYDD gyda mi. Gadewch i ni ei foli gyda'n gilydd!
Psal WelBeibl 34:4  Rôn i wedi troi at yr ARGLWYDD am help, ac atebodd fi. Achubodd fi o'm holl ofnau.
Psal WelBeibl 34:5  Mae'r rhai sy'n troi ato yn wên i gyd; does dim mymryn o gywilydd ar eu hwynebau.
Psal WelBeibl 34:6  Dyma i chi ddyn anghenus wnaeth alw arno, a dyma'r ARGLWYDD yn gwrando ac yn ei achub o'i holl drafferthion.
Psal WelBeibl 34:7  Mae angel yr ARGLWYDD fel byddin yn amddiffyn y rhai sy'n ei ddilyn yn ffyddlon, ac mae'n eu hachub nhw.
Psal WelBeibl 34:8  Profwch drosoch eich hunain mor dda ydy'r ARGLWYDD. Mae'r rhai sy'n troi ato am loches wedi'u bendithio'n fawr.
Psal WelBeibl 34:9  Arhoswch yn ffyddlon i'r ARGLWYDD, chi sydd wedi'ch dewis ganddo, mae gan y rhai sy'n ffyddlon iddo bopeth sydd arnyn nhw ei angen.
Psal WelBeibl 34:10  Mae llewod ifanc yn gallu bod heb fwyd ac yn llwgu weithiau, ond fydd dim angen ar y rhai hynny sy'n troi at yr ARGLWYDD am help.
Psal WelBeibl 34:11  Dewch, blant, gwrandwch arna i. Dysga i chi beth mae parchu'r ARGLWYDD yn ei olygu.
Psal WelBeibl 34:12  Ydych chi eisiau mwynhau bywyd? Ydych chi eisiau byw yn hir a bod yn llwyddiannus?
Psal WelBeibl 34:14  troi cefn ar ddrwg a gwneud beth sy'n dda; a gwneud eich gorau i gael perthynas dda gyda phawb.
Psal WelBeibl 34:15  Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn, ac yn gwrando'n astud pan maen nhw'n galw arno.
Psal WelBeibl 34:16  Ond mae e yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni – bydd yn cael gwared â phob atgof ohonyn nhw o'r ddaear.
Psal WelBeibl 34:17  Pan mae'r rhai sy'n byw'n iawn yn gweiddi am help, mae'r ARGLWYDD yn gwrando ac yn eu hachub nhw o'u holl drafferthion.
Psal WelBeibl 34:18  Mae'r ARGLWYDD yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e'n achub y rhai sydd wedi anobeithio.
Psal WelBeibl 34:19  Mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn wynebu pob math o helyntion, ond bydd yr ARGLWYDD yn eu hachub nhw drwy'r cwbl.
Psal WelBeibl 34:20  Mae'n amddiffyn eu hesgyrn; fydd dim un yn cael ei dorri!
Psal WelBeibl 34:21  Mae pobl ddrwg yn cael eu dinistrio gan eu drygioni eu hunain. Bydd y rhai sy'n casáu pobl dduwiol yn cael eu cosbi.
Psal WelBeibl 34:22  Ond mae'r rhai sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD yn cael mynd yn rhydd! Fydd y rhai sy'n troi ato fe am loches ddim yn cael eu cosbi.
Chapter 35
Psal WelBeibl 35:1  O ARGLWYDD, delia gyda'r rhai sy'n ymladd yn fy erbyn. Ymosod ar y rhai sy'n ymosod arna i!
Psal WelBeibl 35:2  Coda dy darian fach a'r un fawr, a thyrd yma i'm helpu i!
Psal WelBeibl 35:3  Defnyddia dy waywffon a dy bicell yn erbyn y rhai sydd ar fy ôl i. Gad i mi dy glywed di'n dweud, “Gwna i dy achub di!”
Psal WelBeibl 35:4  Rhwystra'r rhai sydd am fy lladd i; coda gywilydd arnyn nhw! Gwna i'r rhai sydd eisiau gwneud niwed i mi droi'n ôl mewn dychryn.
Psal WelBeibl 35:5  Gwna nhw fel us yn cael ei chwythu i ffwrdd gan y gwynt wrth i angel yr ARGLWYDD ymosod arnyn nhw.
Psal WelBeibl 35:6  Pan fydd angel yr ARGLWYDD yn mynd ar eu holau, gwna eu llwybr nhw yn dywyll ac yn llithrig.
Psal WelBeibl 35:7  Roedden nhw wedi gosod rhwyd i'm dal i, a hynny am ddim rheswm. Roedden nhw wedi cloddio twll i mi ddisgyn iddo.
Psal WelBeibl 35:8  Gwna i drychineb annisgwyl ddod ar eu traws nhw; gad iddyn nhw gael eu dal yn eu rhwyd eu hunain. Gwna iddyn nhw ddisgyn i lawr i dwll dinistr!
Psal WelBeibl 35:9  Bydda i, wedyn, yn gallu moli'r ARGLWYDD, a llawenhau am ei fod wedi fy achub i!
Psal WelBeibl 35:10  Bydd y cwbl ohono i'n datgan, “Pwy sy'n debyg i ti, ARGLWYDD? Ti'n achub y gwan rhag un sy'n rhy gryf iddo – achub y gwan a'r diamddiffyn rhag yr un sydd am ddwyn oddi arno.”
Psal WelBeibl 35:11  Mae tystion celwyddog yn codi ac yn fy nghyhuddo i ar gam.
Psal WelBeibl 35:12  Maen nhw'n talu drwg i mi am yr holl ddaioni wnes i. Maen nhw eisiau gweld diwedd arna i.
Psal WelBeibl 35:13  Pan oedden nhw'n sâl roeddwn i'n gwisgo sachliain, ac yn mynd heb fwyd yn fwriadol. Rôn i'n gweddïo drostyn nhw yn ddi-baid.
Psal WelBeibl 35:14  Rôn i'n cerdded o gwmpas yn galaru fel y byddwn i'n galaru dros ffrind neu frawd. Rôn i'n dal fy mhen yn isel fel un yn galaru ar ôl ei fam.
Psal WelBeibl 35:15  Ond roedden nhw wrth eu boddau pan wnes i faglu. Dyma nhw'n dod at ei gilydd yn fy erbyn – wn i ddim pam; roedden nhw'n llarpio fel anifeiliaid gwyllt.
Psal WelBeibl 35:16  Dynion annuwiol yn gwawdio am sbort, ac yn ceisio dangos eu dannedd!
Psal WelBeibl 35:17  O ARGLWYDD, am faint wyt ti'n mynd i sefyll yna'n gwylio'r cwbl? Achub fi wrth iddyn nhw ymosod arna i; cadw fi'n saff oddi wrth y llewod ifanc!
Psal WelBeibl 35:18  Wedyn bydda i'n diolch i ti yn y gynulleidfa fawr; bydda i'n dy foli di o flaen tyrfa enfawr o bobl.
Psal WelBeibl 35:19  Paid gadael i'r rhai sy'n elynion heb reswm lawenhau, nac i'r rhai sy'n fy nghasáu i heb achos wincio ar ei gilydd.
Psal WelBeibl 35:20  Dŷn nhw ddim am wneud lles i neb, dim ond cynllwynio yn eu herbyn, a thwyllo pobl ddiniwed.
Psal WelBeibl 35:21  A dyma nhw'n barod i'm llyncu innau, “A-ha! Dŷn ni wedi dy ddal di!” medden nhw.
Psal WelBeibl 35:22  O ARGLWYDD, rwyt ti wedi gweld y cwbl, felly paid cadw draw. Tyrd yma.
Psal WelBeibl 35:23  Symud, deffra, amddiffyn fi! Fy Nuw a'm Harglwydd, ymladd drosto i!
Psal WelBeibl 35:24  Achub fy ngham, O ARGLWYDD fy Nuw, am dy fod ti'n gyfiawn. Paid gadael iddyn nhw ddal ati i wneud sbort.
Psal WelBeibl 35:25  Paid gadael iddyn nhw feddwl, “A-ha! Dyma'n union beth roedden ni eisiau!” Paid gadael iddyn nhw ddweud, “Dŷn ni wedi'i ddinistrio!”
Psal WelBeibl 35:26  Rhwystra'r rhai sydd am wneud niwed i mi; coda gywilydd arnyn nhw! Cymer y rhai sydd wedi bod yn gwawdio mor falch a gwisga nhw gyda chywilydd ac embaras!
Psal WelBeibl 35:27  Ond gad i'r rhai sydd am i ti achub fy ngham weiddi'n llawen! Gad iddyn nhw allu dweud bob amser, “Yr ARGLWYDD sy'n rheoli! Mae am weld ei was yn llwyddo.”
Psal WelBeibl 35:28  Wedyn bydda i'n dweud wrth bawb dy fod ti'n gwneud beth sy'n iawn. Bydda i'n canu mawl i ti drwy'r dydd.
Chapter 36
Psal WelBeibl 36:1  Mae'r duedd i droseddu yn ddwfn yng nghalon un drwg; does ganddo ddim parch at Dduw o gwbl.
Psal WelBeibl 36:2  Mae e mor llawn ohono'i hun, mae'n ddall ac yn methu gweld y drygioni i'w gasáu.
Psal WelBeibl 36:3  Mae popeth mae e'n ddweud yn ddrwg ac yn dwyllodrus; dydy e'n poeni dim am wneud daioni.
Psal WelBeibl 36:4  Mae e'n gorwedd ar ei wely'n cynllwynio; mae e'n dilyn llwybr sydd ddim yn dda, ac yn gwrthod troi cefn ar ddrygioni.
Psal WelBeibl 36:5  O ARGLWYDD, mae dy ofal cariadus yn uwch na'r nefoedd; mae dy ffyddlondeb di y tu hwnt i'r cymylau!
Psal WelBeibl 36:6  Mae dy haelioni di mor gadarn a'r mynyddoedd uchel; mae dy gyfiawnder yn ddwfn fel y moroedd. Ti'n gofalu am bobl ac anifeiliaid, ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 36:7  Mae dy ofal cariadus mor werthfawr, O Dduw! Mae'r ddynoliaeth yn saff dan gysgod dy adenydd.
Psal WelBeibl 36:8  Mae pobl yn cael bwyta o'r wledd sydd yn dy dŷ, ac yn cael yfed dŵr dy afon hyfryd di.
Psal WelBeibl 36:9  Ti ydy'r ffynnon sy'n rhoi bywyd; dy olau di sy'n rhoi'r gallu i ni weld.
Psal WelBeibl 36:10  Dal ati i ofalu am y rhai sy'n ffyddlon i ti, ac achub gam y rhai sy'n byw'n gywir.
Psal WelBeibl 36:11  Paid gadael i'r rhai balch fy sathru dan draed, nac i'r rhai drwg fy ngwneud i'n ddigartref.
Psal WelBeibl 36:12  Dw i'n gweld y rhai sy'n gwneud drygioni wedi syrthio. Dacw nhw wedi'u bwrw i lawr; maen nhw'n methu codi!
Chapter 37
Psal WelBeibl 37:1  Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo; paid bod yn genfigennus ohonyn nhw.
Psal WelBeibl 37:2  Byddan nhw'n gwywo'n ddigon sydyn, fel glaswellt, ac yn diflannu fel egin gwan.
Psal WelBeibl 37:3  Trystia'r ARGLWYDD a gwna beth sy'n dda. Setla i lawr yn y tir a mwynhau ei ffyddlondeb.
Psal WelBeibl 37:4  Ceisia ffafr yr ARGLWYDD bob amser, a bydd e'n rhoi i ti bopeth rwyt ti eisiau.
Psal WelBeibl 37:5  Rho dy hun yn nwylo'r ARGLWYDD a'i drystio fe; bydd e'n gweithredu ar dy ran di.
Psal WelBeibl 37:6  Bydd e'n achub dy gam di o flaen pawb. Bydd y ffaith fod dy achos yn gyfiawn mor amlwg â'r haul ganol dydd.
Psal WelBeibl 37:7  Bydd yn amyneddgar wrth ddisgwyl am yr ARGLWYDD. Paid digio pan wyt ti'n gweld pobl eraill yn llwyddo wrth ddilyn eu cynlluniau cyfrwys.
Psal WelBeibl 37:8  Paid gwylltio am y peth, na cholli dy dymer. Paid digio. Drwg ddaw iddyn nhw yn y diwedd!
Psal WelBeibl 37:9  Bydd pobl ddrwg yn cael eu taflu allan, ond bydd y rhai sy'n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn meddiannu'r tir!
Psal WelBeibl 37:10  Fydd y rhai drwg ddim i'w gweld yn unman mewn ychydig. Byddi'n edrych amdanyn nhw, ond byddan nhw wedi mynd.
Psal WelBeibl 37:11  Y rhai sy'n cael eu cam-drin fydd yn meddiannu'r tir, a byddan nhw'n mwynhau heddwch a llwyddiant.
Psal WelBeibl 37:12  Mae'r rhai drwg yn cynllwynio yn erbyn y rhai sy'n byw yn iawn, ac yn ysgyrnygu eu dannedd fel anifeiliaid gwyllt.
Psal WelBeibl 37:13  Ond mae'r ARGLWYDD yn chwerthin am eu pennau; mae e'n gwybod fod eu tro nhw'n dod!
Psal WelBeibl 37:14  Mae'r rhai drwg yn tynnu eu cleddyfau ac yn plygu eu bwâu, i daro i lawr y rhai sy'n cael eu gorthrymu ac sydd mewn angen, ac i ladd y rhai sy'n byw'n gywir.
Psal WelBeibl 37:15  Ond byddan nhw'n cael eu trywanu gan eu cleddyfau eu hunain, a bydd eu bwâu yn cael eu torri!
Psal WelBeibl 37:16  Mae'r ychydig sydd gan berson sy'n byw yn iawn yn well na'r holl gyfoeth sydd gan y rhai drwg.
Psal WelBeibl 37:17  Bydd pobl ddrwg yn colli eu grym, ond mae'r ARGLWYDD yn cynnal y rhai sy'n byw yn iawn.
Psal WelBeibl 37:18  Mae'r ARGLWYDD yn gofalu amdanyn nhw bob dydd; mae ganddyn nhw etifeddiaeth fydd yn para am byth.
Psal WelBeibl 37:19  Fydd dim cywilydd arnyn nhw pan fydd hi'n ddyddiau anodd; pan fydd newyn bydd ganddyn nhw ddigon i'w fwyta.
Psal WelBeibl 37:20  Ond bydd y rhai drwg yn marw. Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu difa, fel gwellt yn cael ei losgi mewn ffwrn.
Psal WelBeibl 37:21  Mae pobl ddrwg yn benthyg heb dalu'r ddyled yn ôl; ond mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn hael ac yn dal ati i roi.
Psal WelBeibl 37:22  Bydd y bobl mae Duw'n eu bendithio yn meddiannu'r tir, ond y rhai mae'n eu melltithio yn cael eu gyrru i ffwrdd.
Psal WelBeibl 37:23  Mae'r ARGLWYDD yn sicrhau llwyddiant yr un sy'n byw i'w blesio.
Psal WelBeibl 37:24  Bydd yn baglu weithiau, ond fydd e ddim yn syrthio ar ei wyneb, achos mae'r ARGLWYDD yn gafael yn ei law.
Psal WelBeibl 37:25  Rôn i'n ifanc ar un adeg, ond bellach dw i mewn oed. Dw i erioed wedi gweld rhywun sy'n byw yn iawn yn cael ei siomi gan Dduw, na'i blant yn gorfod chwilio am fwyd.
Psal WelBeibl 37:26  Mae bob amser yn hael ac yn benthyg i eraill, ac mae ei blant yn cael eu bendithio.
Psal WelBeibl 37:27  Tro dy gefn ar ddrwg a gwna beth sy'n dda, a byddi'n saff am byth.
Psal WelBeibl 37:28  Mae'r ARGLWYDD yn caru beth sy'n gyfiawn, a dydy e byth yn siomi'r rhai sy'n ffyddlon iddo. Maen nhw'n saff bob amser; ond bydd plant y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd.
Psal WelBeibl 37:29  Bydd y rhai sy'n byw yn iawn yn meddiannu'r tir, ac yn aros yno am byth.
Psal WelBeibl 37:30  Mae pobl dduwiol yn dweud pethau doeth, ac yn hybu cyfiawnder.
Psal WelBeibl 37:31  Cyfraith Duw sy'n rheoli eu ffordd o feddwl, a dŷn nhw byth yn llithro.
Psal WelBeibl 37:32  Mae'r rhai drwg yn disgwyl am gyfle i ymosod ar y sawl sy'n byw yn iawn, yn y gobaith o'i ladd;
Psal WelBeibl 37:33  ond fydd yr ARGLWYDD ddim yn gadael iddo syrthio i'w dwylo; fydd e ddim yn cael ei gondemnio yn y llys.
Psal WelBeibl 37:34  Disgwyl am yr ARGLWYDD! Dos y ffordd mae e'n dweud a bydd e'n rhoi'r gallu i ti feddiannu'r tir. Byddi'n gweld y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd.
Psal WelBeibl 37:35  Dw i wedi gweld pobl ddrwg, greulon, yn llwyddo ac ymledu fel coeden ddeiliog yn ei chynefin.
Psal WelBeibl 37:36  Ond wedyn wrth basio heibio, sylwais eu bod wedi diflannu! Rôn i'n chwilio, ond doedd dim sôn amdanyn nhw.
Psal WelBeibl 37:37  Edrych ar y rhai gonest! Noda'r rhai sy'n byw'n gywir! Mae dyfodol i'r rhai sy'n hybu heddwch.
Psal WelBeibl 37:38  Ond bydd y rhai sy'n troseddu yn cael eu dinistrio'n llwyr. Does dim dyfodol i'r rhai drwg.
Psal WelBeibl 37:39  Mae'r ARGLWYDD yn achub y rhai sy'n byw'n gywir, ac yn eu hamddiffyn pan maen nhw mewn trafferthion.
Psal WelBeibl 37:40  Mae'r ARGLWYDD yn eu helpu ac yn eu hachub; mae'n eu hachub o afael pobl ddrwg, am eu bod wedi troi ato i'w hamddiffyn.
Chapter 38
Psal WelBeibl 38:1  O ARGLWYDD, paid bod yn ddig a'm cosbi i, a dweud y drefn yn dy wylltineb.
Psal WelBeibl 38:2  Mae dy saethau wedi fy anafu; mae dy law wedi fy nharo i.
Psal WelBeibl 38:3  Dw i'n sâl yn gorfforol o achos dy ddigofaint di! Does dim iechyd yn fy esgyrn am fy mod wedi pechu.
Psal WelBeibl 38:4  Dw i wedi cael fy llethu gan y drwg wnes i; mae fel baich sy'n rhy drwm i'w gario.
Psal WelBeibl 38:5  Mae'r briwiau ar fy nghorff wedi casglu a dechrau drewi, a'r cwbl am fy mod i wedi bod mor dwp.
Psal WelBeibl 38:6  Dw i wedi crymu. Mae gen i gywilydd ohono i'n hun. Dw i'n cerdded o gwmpas yn isel fy ysbryd drwy'r dydd.
Psal WelBeibl 38:7  Mae fy ochrau'n boenus i gyd; dw i'n teimlo'n sâl drwyddo i.
Psal WelBeibl 38:8  Mae rhyw boen mud yn fy llethu'n llwyr. Dw i'n griddfan mewn gwewyr meddwl.
Psal WelBeibl 38:9  O ARGLWYDD, ti'n gwybod yn iawn be dw i eisiau! Rwyt ti wedi nghlywed i'n griddfan.
Psal WelBeibl 38:10  Mae fy nghalon i'n curo'n gyflym; does gen i ddim nerth, a dw i'n colli fy ngolwg.
Psal WelBeibl 38:11  Mae fy ffrindiau a'm teulu yn cadw draw oddi wrtho i; a'm cymdogion yn sefyll yn bell i ffwrdd.
Psal WelBeibl 38:12  Mae'r rhai sydd am fy lladd i yn gosod trap i mi, a'r rhai sydd am wneud niwed i mi yn siarad yn faleisus ac yn dweud pethau twyllodrus drwy'r adeg.
Psal WelBeibl 38:13  Ond dw i'n ymateb fel tawn i'n fyddar – yn gwrthod gwrando. Dw i'n ymddwyn fel rhywun sy'n fud – yn dweud dim.
Psal WelBeibl 38:14  Dw i'n clywed dim, a dw i ddim am ddadlau gyda nhw.
Psal WelBeibl 38:15  Ond ARGLWYDD, dw i'n disgwyl amdanat ti; byddi di'n eu hateb nhw, fy meistr a'm Duw.
Psal WelBeibl 38:16  Dw i'n gweddïo, “Paid rhoi'r pleser iddyn nhw o gael eu ffordd!” Roedden nhw mor falch, ac yn gwawdio pan wnes i lithro.
Psal WelBeibl 38:17  Mae hi ar ben arna i! Dw i mewn poen ofnadwy drwy'r adeg.
Psal WelBeibl 38:18  Dw i'n cyfaddef mod i wedi gwneud drwg. Dw i'n poeni am fy mhechod.
Psal WelBeibl 38:19  Ond mae gen i gymaint o elynion heb achos, cymaint o rai sy'n fy nghasáu i am ddim rheswm:
Psal WelBeibl 38:20  pobl sy'n talu drwg am dda, ac yn tynnu'n groes am i mi geisio gwneud beth sy'n iawn.
Psal WelBeibl 38:21  Paid gadael fi, ARGLWYDD! O Dduw, paid ti cadw draw!
Chapter 39
Psal WelBeibl 39:1  Dyma fi'n penderfynu, “Dw i'n mynd i wylio fy hun a pheidio dweud dim byd i bechu. Dw i'n mynd i gau fy ngheg tra dw i yng nghwmni pobl ddrwg.”
Psal WelBeibl 39:2  Rôn i'n hollol dawel, yn brathu fy nhafod a dweud dim. Ond roeddwn i'n troi'n fwy a mwy rhwystredig.
Psal WelBeibl 39:3  Roedd y tensiwn yno i'n mynd o ddrwg i waeth. Rôn i'n methu ymatal. A dyma fi'n dweud:
Psal WelBeibl 39:4  “O ARGLWYDD, beth ydy'r pwynt, faint o amser sydd gen i ar ôl? Bydda i wedi mynd mewn dim o amser!
Psal WelBeibl 39:5  Ti wedi gwneud bywyd mor fyr. Dydy oes rhywun yn ddim byd yn dy olwg di. Mae bywyd y cryfaf yn mynd heibio fel tarth.” Saib
Psal WelBeibl 39:6  Mae pobl yn pasio drwy fywyd fel cysgodion. Maen nhw'n casglu cyfoeth iddyn nhw'u hunain, heb wybod pwy fydd yn ei gymryd yn y diwedd.
Psal WelBeibl 39:7  Beth alla i bwyso arno, felly, O ARGLWYDD? Ti dy hun ydy fy unig obaith i!
Psal WelBeibl 39:8  Achub fi rhag canlyniadau fy ngwrthryfel. Paid gadael i ffyliaid wneud hwyl am fy mhen.
Psal WelBeibl 39:9  Dw i'n fud, ac yn methu dweud dim o achos beth rwyt ti wedi'i wneud.
Psal WelBeibl 39:10  Plîs, paid dal ati i'm taro! Dw i wedi cael fy nghuro i farwolaeth, bron!
Psal WelBeibl 39:11  Ti'n disgyblu pobl mor llym am eu pechodau, er mwyn i'r ysfa i bechu ddiflannu fel gwyfyn yn colli ei nerth. Ydy, mae bywyd pawb fel tarth. Saib
Psal WelBeibl 39:12  Clyw fy ngweddi, O ARGLWYDD. Gwranda arna i'n gweiddi am help; paid diystyru fy nagrau! Dw i fel ffoadur, yn dibynnu arnat ti. Fel fy hynafiaid dw i angen dy help.
Psal WelBeibl 39:13  Stopia syllu mor ddig arna i. Gad i mi fod yn hapus unwaith eto, cyn i mi farw a pheidio â bod.
Chapter 40
Psal WelBeibl 40:1  Ar ôl disgwyl yn frwd i'r ARGLWYDD wneud rhywbeth, dyma fe'n troi ata i; roedd wedi gwrando arna i'n gweiddi am help.
Psal WelBeibl 40:2  Cododd fi allan o'r pwll lleidiog a'r mwd trwchus. Rhoddodd fy nhraed ar graig, a gwneud yn siŵr fy mod i ddim yn baglu.
Psal WelBeibl 40:3  Roedd gen i gân newydd i'w chanu – cân o fawl i Dduw! Bydd llawer o bobl yn gweld beth wnaeth e, ac yn dod i drystio'r ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 40:4  Mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD wedi'i fendithio'n fawr. Dydy e ddim yn troi am help at bobl sy'n brolio'u hunain ac yn dweud celwydd.
Psal WelBeibl 40:5  O ARGLWYDD fy Nuw, rwyt ti wedi gwneud cymaint – wedi gwneud pethau rhyfeddol i gyflawni dy bwrpas ynon ni. Does neb yn gallu dy rwystro di. Dw i eisiau sôn am y pethau hyn wrth bobl eraill, ond mae yna ormod ohonyn nhw i'w cyfrif!
Psal WelBeibl 40:6  Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau; mae hynny'n gwbl amlwg i mi! Ddim am aberthau i'w llosgi ac offrymau dros bechod rwyt ti'n gofyn.
Psal WelBeibl 40:7  Felly dyma fi'n dweud, “O Dduw, dw i'n dod i wneud beth rwyt ti eisiau – fel mae wedi'i ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.” Mae dy ddysgeidiaeth di'n rheoli fy mywyd i.
Psal WelBeibl 40:8  Felly dyma fi'n dweud, “O Dduw, dw i'n dod i wneud beth rwyt ti eisiau – fel mae wedi'i ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.” Mae dy ddysgeidiaeth di'n rheoli fy mywyd i.
Psal WelBeibl 40:9  Dw i wedi dweud wrth y gynulleidfa fawr am dy gyfiawnder. Dw i wedi dal dim yn ôl. Ti'n gwybod hynny, O ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 40:10  Wnes i ddim cadw'r peth i mi fy hun; ond dweud wrth bawb dy fod ti'n Dduw ffyddlon ac yn achub! Dw i ddim wedi cadw'n dawel am dy ofal ffyddlon di.
Psal WelBeibl 40:11  Tyrd, ARGLWYDD, paid atal dy dosturi oddi wrtho i. Dy ofal ffyddlon di fydd yn fy amddiffyn i bob amser.
Psal WelBeibl 40:12  Mae peryglon di-ben-draw o'm cwmpas i ym mhobman. Mae fy mhechodau wedi fy nal i. Maen nhw wedi fy nallu! Mae mwy ohonyn nhw nag sydd o wallt ar fy mhen! Dw i wedi dod i ben fy nhennyn!
Psal WelBeibl 40:13  Plîs, ARGLWYDD, achub fi! O ARGLWYDD, brysia i'm helpu!
Psal WelBeibl 40:14  Gwna i'r rhai sydd am fy lladd i deimlo embaras a chywilydd. Gwna i'r rhai sydd am wneud niwed i mi droi yn ôl mewn cywilydd.
Psal WelBeibl 40:15  Gwna i'r rhai sy'n chwerthin ar fy mhen i gael eu cywilyddio a'u dinistrio.
Psal WelBeibl 40:16  Ond gwna i bawb sy'n dy geisio di ddathlu'n llawen. Gwna i'r rhai sy'n mwynhau dy weld ti'n achub ddweud, “Mae'r ARGLWYDD mor fawr!”
Psal WelBeibl 40:17  Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn, ond mae gan yr ARGLWYDD ei fwriadau ar fy nghyfer. Ti ydy'r un sy'n gallu fy helpu a'm hachub. O fy Nuw, paid oedi!
Chapter 41
Psal WelBeibl 41:1  Mae'r un sy'n garedig at y tlawd wedi'i fendithio'n fawr. Bydd yr ARGLWYDD yn ei gadw'n saff pan mae mewn perygl.
Psal WelBeibl 41:2  Bydd yr ARGLWYDD yn ei amddiffyn ac yn achub ei fywyd, A bydd yn profi bendith yn y tir. Fydd e ddim yn gadael i'w elynion gael eu ffordd.
Psal WelBeibl 41:3  Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal pan fydd yn sâl yn ei wely, ac yn ei iacháu yn llwyr o'i afiechyd.
Psal WelBeibl 41:4  “O ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i,” meddwn i. “Iachâ fi. Dw i'n cyfaddef mod i wedi pechu yn dy erbyn di.”
Psal WelBeibl 41:5  Mae fy ngelynion yn dweud pethau cas amdana i, “Pryd mae'n mynd i farw a chael ei anghofio?”
Psal WelBeibl 41:6  Mae rhywun yn ymweld â mi, ac yn cymryd arno ei fod yn ffrind; ond ei fwriad ydy gwneud drwg i mi, ac ar ôl mynd allan, mae'n lladd arna i.
Psal WelBeibl 41:7  Mae fy ngelynion yn sibrwd amdana i ymhlith ei gilydd, ac yn cynllwynio i wneud niwed i mi.
Psal WelBeibl 41:8  “Mae'n diodde o afiechyd ofnadwy; fydd e ddim yn codi o'i wely byth eto.”
Psal WelBeibl 41:9  Mae hyd yn oed fy ffrind agos – yr un roeddwn i'n ei drystio, yr un fu'n bwyta wrth fy mwrdd i – wedi troi yn fy erbyn i!
Psal WelBeibl 41:10  Felly, O ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i; gad i mi godi eto, i mi gael talu'n ôl iddyn nhw!
Psal WelBeibl 41:11  Ond dw i'n gwybod mod i'n dy blesio di: a fydd y gelyn ddim yn bloeddio ei fod wedi ennill y fuddugoliaeth.
Psal WelBeibl 41:12  Rwyt ti'n fy nghynnal i am fy mod i'n onest gyda ti. Dw i'n cael aros yn dy gwmni di am byth.
Psal WelBeibl 41:13  Ie, bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! Amen ac Amen.
Chapter 42
Psal WelBeibl 42:1  Fel hydd yn brefu am ddiod o ddŵr, dw i'n hiraethu go iawn amdanat ti, O Dduw.
Psal WelBeibl 42:2  Mae gen i syched am Dduw, y Duw byw; O, pryd ga i fynd eto i sefyll o'i flaen yn ei deml?
Psal WelBeibl 42:3  Dw i'n methu bwyta, ac yn crio nos a dydd, wrth iddyn nhw wawdio'n ddiddiwedd, “Ble mae dy Dduw di, felly?”
Psal WelBeibl 42:4  Wrth gofio hyn i gyd dw i'n teimlo mor drist. Cofio mynd gyda'r dyrfa i dŷ Dduw; gweiddi a moli'n llawen gyda phawb arall wrth ddathlu'r Ŵyl!
Psal WelBeibl 42:5  F'enaid, pam wyt ti'n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig? Rho dy obaith yn Nuw! Bydda i'n moli Duw eto am iddo ymyrryd i'm hachub i.
Psal WelBeibl 42:6  O fy Nuw, dw i'n teimlo mor isel. Felly dw i am feddwl amdanat ti tra dw i'n ffoadur yma. Yma mae'r Iorddonen yn tarddu o fryniau Hermon a Mynydd Misar,
Psal WelBeibl 42:7  lle mae sŵn dwfn y rhaeadrau yn galw ar ei gilydd. Mae fel petai tonnau mawr dy fôr yn llifo drosto i!
Psal WelBeibl 42:8  Ond dw i'n profi gofal ffyddlon yr ARGLWYDD drwy'r dydd; ac yn y nos dw i'n canu cân o fawl iddo ac yn gweddïo ar y Duw byw.
Psal WelBeibl 42:9  Dw i'n gofyn i Dduw, fy nghraig uchel, “Pam wyt ti'n cymryd dim sylw ohono i? Pam mae'n rhaid i mi gerdded o gwmpas yn drist, am fod y gelynion yn fy ngham-drin i?”
Psal WelBeibl 42:10  Mae'r rhai sy'n fy nghasáu i yn gwawdio; ac mae'n brathu i'r byw wrth iddyn nhw wawdio'n ddiddiwedd, “Ble mae dy Dduw di, felly?”
Psal WelBeibl 42:11  F'enaid, pam wyt ti'n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig? Rho dy obaith yn Nuw! Bydda i'n moli Duw eto am iddo ymyrryd i'm hachub i.
Chapter 43
Psal WelBeibl 43:1  Achub fy ngham, O Dduw! Dadlau fy achos yn erbyn pobl anffyddlon. Achub fi rhag y twyllwyr drwg!
Psal WelBeibl 43:2  Ti ydy fy Nuw i – fy nghaer ddiogel i; felly pam wyt ti wedi fy ngwrthod? Pam mae'n rhaid i mi gerdded o gwmpas yn drist, am fod fy ngelynion yn fy ngham-drin i?
Psal WelBeibl 43:3  Rho dy olau i mi, gyda dy wirionedd, i'm harwain. Byddan nhw'n dod â fi yn ôl at y mynydd sanctaidd lle rwyt ti'n byw.
Psal WelBeibl 43:4  Bydda i'n cael mynd at allor Duw, y Duw sy'n fy ngwneud i mor hapus. Bydda i'n dy foli di gyda'r delyn, O Dduw, fy Nuw.
Psal WelBeibl 43:5  F'enaid, pam wyt ti'n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig? Rho dy obaith yn Nuw! Bydda i'n moli Duw eto am iddo ymyrryd i'm hachub i.
Chapter 44
Psal WelBeibl 44:1  Dŷn ni wedi clywed, O Dduw, ac mae'n hynafiaid wedi dweud wrthon ni beth wnest ti yn eu dyddiau nhw, ers talwm.
Psal WelBeibl 44:2  Gyda dy nerth symudaist genhedloedd, a rhoi ein hynafiaid yn y tir yn eu lle. Gwnaethost niwed i'r bobl oedd yn byw yno, a gollwng ein hynafiaid ni yn rhydd.
Psal WelBeibl 44:3  Nid eu cleddyf roddodd y tir iddyn nhw; wnaethon nhw ddim ennill y frwydr yn eu nerth eu hunain. Na! Dy nerth di, dy allu di, dy ffafr di tuag atyn nhw wnaeth y cwbl! Roeddet ti o'u plaid nhw.
Psal WelBeibl 44:4  Ti ydy fy mrenin i, O Dduw, yr un sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i bobl Jacob!
Psal WelBeibl 44:5  Ti sy'n ein galluogi ni i yrru'n gelynion i ffwrdd. Gyda dy nerth di dŷn ni'n sathru'r rhai sy'n ein herbyn.
Psal WelBeibl 44:6  Dw i ddim yn dibynnu ar fy mwa, ac nid cleddyf sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i mi.
Psal WelBeibl 44:7  Ti sy'n rhoi'r fuddugoliaeth dros y gelyn. Ti sy'n codi cywilydd ar y rhai sy'n ein casáu ni.
Psal WelBeibl 44:8  Duw ydy'r un i frolio amdano bob amser. Dw i am foli ei enw'n ddi-baid. Saib
Psal WelBeibl 44:9  Ond bellach rwyt ti wedi'n gwrthod ni, a'n cywilyddio ni! Ti ddim yn mynd allan gyda'n byddin ni.
Psal WelBeibl 44:10  Ti'n gwneud i ni ffoi oddi wrth ein gelynion. Mae'n gelynion wedi cymryd popeth oddi arnon ni.
Psal WelBeibl 44:11  Rwyt wedi'n rhoi fel defaid i'w lladd a'u bwyta. Rwyt wedi'n chwalu ni drwy'r gwledydd.
Psal WelBeibl 44:12  Rwyt wedi gwerthu dy bobl am y nesa peth i ddim, wnest ti ddim gofyn pris uchel amdanyn nhw.
Psal WelBeibl 44:13  Rwyt wedi'n dwrdio ni o flaen ein cymdogion. Dŷn ni'n destun sbort i bawb o'n cwmpas.
Psal WelBeibl 44:14  Mae'r cenhedloedd i gyd yn ein gwawdio ni, pobl estron yn gwneud hwyl am ein pennau ni.
Psal WelBeibl 44:15  Does gen i ddim mymryn o urddas ar ôl. Dw i'n teimlo dim byd ond cywilydd
Psal WelBeibl 44:16  o flaen y gelyn dialgar sy'n gwawdio ac yn bychanu.
Psal WelBeibl 44:17  Mae hyn i gyd wedi digwydd i ni, er na wnaethon ni dy wrthod di na thorri amodau ein hymrwymiad i ti.
Psal WelBeibl 44:18  Dŷn ni ddim wedi bod yn anffyddlon i ti, nac wedi crwydro oddi ar dy lwybrau di.
Psal WelBeibl 44:19  Ac eto rwyt ti wedi'n sathru ni, a'n gadael ni fel adfail lle mae'r siacaliaid yn byw. Rwyt wedi'n gorchuddio ni gyda thywyllwch dudew.
Psal WelBeibl 44:20  Petaen ni wedi anghofio enw Duw ac estyn ein dwylo mewn gweddi at ryw dduw arall,
Psal WelBeibl 44:21  oni fyddai Duw wedi gweld hynny? Mae e'n gwybod beth sy'n mynd drwy'n meddyliau ni.
Psal WelBeibl 44:22  O'th achos di dŷn ni'n wynebu marwolaeth drwy'r amser, dŷn ni fel defaid ar eu ffordd i'r lladd-dy.
Psal WelBeibl 44:23  Symud! O ARGLWYDD, pam wyt ti'n cysgu? Deffra! Paid gwrthod ni am byth!
Psal WelBeibl 44:24  Pam wyt ti'n edrych i ffwrdd, ac yn cymryd dim sylw o'r ffordd dŷn ni'n cael ein cam-drin a'n gorthrymu?
Psal WelBeibl 44:25  Dŷn ni'n gorwedd ar ein hwynebau yn y llwch, ac yn methu codi oddi ar lawr.
Psal WelBeibl 44:26  Tyrd, helpa ni! Dangos dy ofal ffyddlon, a gollwng ni'n rhydd.
Chapter 45
Psal WelBeibl 45:1  Mae gen i destun cerdd hyfryd yn fy ysbrydoli. Dw i am adrodd fy marddoniaeth i'r brenin; mae fy nhafod fel ysgrifbin yn llaw awdur profiadol.
Psal WelBeibl 45:2  Ti ydy'r dyn mwya golygus sy'n bod, ac mae dy eiriau mor garedig. Mae'n dangos fod Duw wedi dy fendithio di bob amser.
Psal WelBeibl 45:3  Gwisga dy gleddyf ar dy glun, O ryfelwr! Dangos dy ysblander a dy fawredd.
Psal WelBeibl 45:4  Dangos dy fawredd! Dos allan i ennill buddugoliaeth! Marchoga dros y gwir a dros gyfiawnder. Drwy dy nerth byddi'n cyflawni pethau rhyfeddol!
Psal WelBeibl 45:5  Bydd dy saethau miniog yn trywanu calonnau dy elynion, a bydd pobloedd yn syrthio wrth dy draed.
Psal WelBeibl 45:6  Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth; a byddi di'n teyrnasu mewn ffordd sy'n deg.
Psal WelBeibl 45:7  Ti'n caru beth sy'n iawn ac yn casáu drygioni; felly mae Duw, ie, dy Dduw di, wedi dy eneinio di a thywallt olew llawenydd arnat ti yn fwy na neb arall.
Psal WelBeibl 45:8  Mae arogl hyfryd myrr, aloes a chasia ar dy ddillad i gyd. Mae offerynnau llinynnol o balasau ifori yn cael eu canu i dy ddifyrru di.
Psal WelBeibl 45:9  Mae tywysogesau ymhlith dy westeion, ac mae dy briodferch yn sefyll wrth dy ochr, yn gwisgo tlysau o aur coeth Offir.
Psal WelBeibl 45:10  Clyw, o dywysoges! Gwrando'n astud! Anghofia dy bobl a dy deulu.
Psal WelBeibl 45:11  Gad i'r brenin gael ei hudo gan dy harddwch! Fe ydy dy feistr di bellach, felly ymostwng iddo.
Psal WelBeibl 45:12  Bydd pobl gyfoethog Tyrus yn ceisio dy ffafr, ac yn dod ag anrhegion i ti.
Psal WelBeibl 45:13  Mae'r dywysoges yn anhygoel o hardd, a'i gwisg briodas wedi'i brodio gyda gwaith aur manwl.
Psal WelBeibl 45:14  Mae hi'n cael ei harwain at y brenin, ac mae gosgordd o forynion yn ei dilyn, i'w chyflwyno i ti.
Psal WelBeibl 45:15  Maen nhw'n llawn bwrlwm wrth gael eu harwain i mewn i balas y brenin.
Psal WelBeibl 45:16  Bydd dy feibion yn dy olynu yn llinach dy hynafiaid, ac yn cael eu gwneud yn dywysogion yn y wlad.
Psal WelBeibl 45:17  Bydda i'n coffáu dy enw di ar hyd y cenedlaethau, a bydd pobloedd yn dy ganmol di am byth bythoedd.
Chapter 46
Psal WelBeibl 46:1  Mae Duw yn ein cadw ni'n saff ac yn rhoi nerth i ni. Mae e bob amser yna i'n helpu pan mae trafferthion.
Psal WelBeibl 46:2  Felly fydd gynnon ni ddim ofn hyd yn oed petai'r ddaear yn ysgwyd, a'r mynyddoedd yn syrthio i ganol y môr
Psal WelBeibl 46:3  gyda'i donnau gwyllt yn troelli ac yn ewynnu. Mae'r mynyddoedd yn crynu wrth iddo ymchwyddo. Saib
Psal WelBeibl 46:4  Y mae afon! Mae ei chamlesi yn gwneud dinas Duw yn llawen. Ie, y ddinas lle mae'r Duw Goruchaf yn byw.
Psal WelBeibl 46:5  Mae Duw yn ei chanol – fydd hi byth yn syrthio! Bydd Duw yn dod i'w helpu yn y bore bach.
Psal WelBeibl 46:6  Mae gwledydd mewn cyffro, a theyrnasoedd yn syrthio. Pan mae Duw yn taranu mae'r ddaear yn toddi.
Psal WelBeibl 46:7  Mae'r ARGLWYDD hollbwerus gyda ni! Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni! Saib
Psal WelBeibl 46:8  Dewch i weld beth mae'r ARGLWYDD wedi'i wneud; y difrod rhyfeddol mae wedi'i ddwyn ar y ddaear!
Psal WelBeibl 46:9  Mae'n dod â rhyfeloedd i ben drwy'r ddaear gyfan; mae'n malu'r bwa ac yn torri'r waywffon, ac yn llosgi cerbydau rhyfel mewn tân.
Psal WelBeibl 46:10  “Stopiwch! Mae'n bryd i chi ddeall mai Duw ydw i! Dw i'n llawer uwch na'r cenhedloedd; dw i'n llawer uwch na'r ddaear gyfan.”
Psal WelBeibl 46:11  Mae'r ARGLWYDD hollbwerus gyda ni! Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni! Saib
Chapter 47
Psal WelBeibl 47:1  Holl bobloedd y byd, curwch ddwylo! Gwaeddwch yn llawen wrth addoli Duw!
Psal WelBeibl 47:2  Mae'r ARGLWYDD Goruchaf yn Dduw i'w ryfeddu, ac yn Frenin mawr dros y byd i gyd.
Psal WelBeibl 47:3  Mae'n gwneud i bobloedd ymostwng i ni, ni sy'n eu rheoli nhw.
Psal WelBeibl 47:4  Dewisodd dir yn etifeddiaeth i ni – tir i Jacob, y bobl mae wedi'u caru, ymfalchïo ynddo. Saib
Psal WelBeibl 47:5  Mae Duw wedi esgyn i'w orsedd, a'r dyrfa'n gweiddi'n llawen. Aeth yr ARGLWYDD i fyny, a'r corn hwrdd yn seinio!
Psal WelBeibl 47:6  Canwch fawl i Dduw, canwch! canwch fawl i'n brenin ni, canwch!
Psal WelBeibl 47:7  Ydy, mae Duw yn frenin dros y byd i gyd; Canwch gân hyfryd iddo!
Psal WelBeibl 47:8  Mae Duw yn teyrnasu dros y cenhedloedd. Mae e'n eistedd ar ei orsedd sanctaidd.
Psal WelBeibl 47:9  Mae tywysogion y bobloedd wedi ymgasglu gyda phobl Duw Abraham. Mae awdurdod Duw dros lywodraethwyr y byd; mae e ymhell uwch eu pennau nhw i gyd.
Chapter 48
Psal WelBeibl 48:1  Mae'r ARGLWYDD mor fawr ac mae'n haeddu ei foli yn ninas ein Duw ar ei fynydd cysegredig –
Psal WelBeibl 48:2  y copa hardd sy'n gwneud yr holl fyd yn hapus. Mynydd Seion, sydd fel copaon Saffon, ydy dinas y Brenin mawr.
Psal WelBeibl 48:3  Mae Duw yn byw yn ei chaerau, ac mae'n adnabyddus fel caer ddiogel.
Psal WelBeibl 48:4  Edrychwch! Mae brenhinoedd yn ffurfio cynghrair, ac yn dod i ymosod gyda'i gilydd.
Psal WelBeibl 48:5  Ond ar ôl ei gweld roedden nhw'n fud, wedi dychryn am eu bywydau, ac yn dianc mewn panig!
Psal WelBeibl 48:6  Roedden nhw'n crynu drwyddynt, ac yn gwingo fel gwraig yn geni plentyn,
Psal WelBeibl 48:7  neu longau Tarshish yn cael eu dryllio gan wynt y dwyrain.
Psal WelBeibl 48:8  Dŷn ni bellach yn dystion i'r math o beth y clywson ni amdano; yn ninas yr ARGLWYDD hollbwerus, sef dinas ein Duw – mae e wedi'i gwneud hi'n ddiogel am byth! Saib
Psal WelBeibl 48:9  O Dduw, dŷn ni wedi bod yn myfyrio yn dy deml am dy ofal ffyddlon.
Psal WelBeibl 48:10  O Dduw, rwyt ti'n enwog drwy'r byd i gyd, ac yn haeddu dy foli! Rwyt ti'n sicrhau cyfiawnder.
Psal WelBeibl 48:11  Mae Mynydd Seion yn gorfoleddu! Mae pentrefi Jwda yn llawen, o achos beth wnest ti.
Psal WelBeibl 48:12  Cerdda o gwmpas Seion, dos reit rownd! Cyfra'r tyrau,
Psal WelBeibl 48:13  edrych yn fanwl ar ei waliau, a dos drwy ei chaerau, er mwyn i ti allu dweud wrth y genhedlaeth nesa.
Psal WelBeibl 48:14  Dyma sut un ydy Duw, ein Duw ni, bob amser. Bydd e'n ein harwain ni tra byddwn ni byw.
Chapter 49
Psal WelBeibl 49:1  Gwrandwch ar hyn, chi'r bobloedd; clywch, bawb drwy'r byd i gyd –
Psal WelBeibl 49:3  Dw i'n mynd i rannu doethineb gyda chi, a dweud pethau dwfn.
Psal WelBeibl 49:4  Dw i'n mynd i ddysgu cân am ddoethineb, a'i chanu i gyfeiliant y delyn.
Psal WelBeibl 49:5  Pam ddylwn i ofni'r amserau anodd pan mae drygioni'r rhai sy'n twyllo yn fy mygwth?
Psal WelBeibl 49:6  Maen nhw'n dibynnu ar eu cyfoeth, ac yn brolio'r holl bethau sydd ganddyn nhw.
Psal WelBeibl 49:7  Ond all dyn ddim ei ryddhau ei hun, na thalu i Dduw i'w ollwng yn rhydd!
Psal WelBeibl 49:8  (Mae pris bywyd yn rhy uchel; waeth iddo adael y mater am byth!)
Psal WelBeibl 49:9  Ydy e'n mynd i allu byw am byth, a pheidio gweld y bedd?
Psal WelBeibl 49:10  Na, mae hyd yn oed pobl ddoeth yn marw. Mae bywyd ffyliaid gwyllt yn dod i ben, ac maen nhw'n gadael eu cyfoeth i eraill.
Psal WelBeibl 49:11  Maen nhw'n aros yn eu beddau am byth; byddan nhw yno ar hyd y cenedlaethau. Mae pobl gyfoethog yn enwi tiroedd ar eu holau,
Psal WelBeibl 49:12  ond dydyn nhw eu hunain ddim yn aros. Maen nhw, fel yr anifeiliaid, yn marw.
Psal WelBeibl 49:13  Dyna ydy tynged y rhai ffôl, a diwedd pawb sy'n dilyn eu syniadau. Saib
Psal WelBeibl 49:14  Maen nhw'n cael eu gyrru i Annwn fel defaid; a marwolaeth yn eu bugeilio nhw. Bydd y duwiol yn teyrnasu drostyn nhw pan ddaw'r wawr. Bydd y bedd yn llyncu eu cyrff; fyddan nhw ddim yn byw yn eu tai crand ddim mwy.
Psal WelBeibl 49:15  Ond bydd Duw yn achub fy mywyd i o grafangau'r bedd; bydd e'n dal gafael ynof fi! Saib
Psal WelBeibl 49:16  Paid poeni pan mae dyn yn dod yn gyfoethog, ac yn ennill mwy a mwy o eiddo.
Psal WelBeibl 49:17  Pan fydd e'n marw fydd e'n mynd â dim byd gydag e! Fydd ei gyfoeth ddim yn ei ddilyn i lawr i'r bedd!
Psal WelBeibl 49:18  Gall longyfarch ei hun yn ystod ei fywyd – “Mae pobl yn fy edmygu i am wneud mor dda” –
Psal WelBeibl 49:19  ond bydd yntau'n mynd at ei hynafiaid, a fyddan nhw byth yn gweld golau dydd eto.
Psal WelBeibl 49:20  Dydy pobl gyfoethog ddim yn deall; maen nhw, fel anifeiliaid, yn marw.
Chapter 50
Psal WelBeibl 50:1  Mae Duw, y Duw go iawn, sef yr ARGLWYDD, wedi siarad, ac wedi galw pawb drwy'r byd i gyd i ddod at ei gilydd.
Psal WelBeibl 50:2  Mae Duw yn dod o Seion, y ddinas harddaf un; mae wedi ymddangos yn ei holl ysblander!
Psal WelBeibl 50:3  Mae ein Duw yn dod, a fydd e ddim yn dawel – mae tân yn difa popeth o'i flaen, ac mae storm yn rhuo o'i gwmpas.
Psal WelBeibl 50:4  Mae'n galw ar y nefoedd uchod, a'r ddaear isod, i dystio yn erbyn ei bobl.
Psal WelBeibl 50:5  “Galwch fy mhobl arbennig i mewn, y rhai sydd wedi ymrwymo i mi drwy aberth.”
Psal WelBeibl 50:6  Yna dyma'r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn, am mai Duw ydy'r Barnwr. Saib
Psal WelBeibl 50:7  “Gwrandwch yn ofalus, fy mhobl! Dw i'n siarad. Gwrando, Israel. Dw i'n tystio yn dy erbyn di. Duw ydw i, dy Dduw di!
Psal WelBeibl 50:8  Dw i ddim yn dy geryddu di am aberthu i mi, nac am gyflwyno offrymau i'w llosgi'n rheolaidd.
Psal WelBeibl 50:9  Ond does gen i ddim angen dy darw di, na bwch gafr o dy gorlannau.
Psal WelBeibl 50:10  Fi piau holl greaduriaid y goedwig, a'r anifeiliaid sy'n pori ar fil o fryniau.
Psal WelBeibl 50:11  Dw i'n nabod pob un o adar y mynydd, a fi piau'r pryfed yn y caeau!
Psal WelBeibl 50:12  Petawn i eisiau bwyd, fyddwn i ddim yn gofyn i ti, gan mai fi piau'r byd a phopeth sydd ynddo.
Psal WelBeibl 50:13  Ydw i angen cig eidion i'w fwyta, neu waed geifr i'w yfed? – Na!
Psal WelBeibl 50:14  Cyflwyna dy offrwm diolch i Dduw, a chadw dy addewidion i'r Goruchaf.
Psal WelBeibl 50:15  Galw arna i pan wyt mewn trafferthion, ac fe wna i dy achub di, a byddi'n fy anrhydeddu i.”
Psal WelBeibl 50:16  Ond dyma ddwedodd Duw wrth y rhai drwg: “Pa hawl sydd gen ti i sôn am fy nghyfreithiau, a thrafod yr ymrwymiad wnaethon ni?
Psal WelBeibl 50:17  Ti ddim eisiau dysgu gen i; ti'n cymryd dim sylw o beth dw i'n ddweud!
Psal WelBeibl 50:18  Pan wyt ti'n gweld lleidr, rwyt ti'n ei helpu. Ti'n cymysgu gyda dynion sy'n anffyddlon i'w gwragedd.
Psal WelBeibl 50:19  Ti'n dweud pethau drwg o hyd, ac yn twyllo pobl wrth siarad.
Psal WelBeibl 50:20  Ti'n cynllwynio yn erbyn dy frawd, ac yn gweld bai ar fab dy fam.
Psal WelBeibl 50:21  Am fy mod i'n dawel pan wnest ti'r pethau hyn, roeddet ti'n meddwl fy mod i run fath â ti! Ond dw i'n mynd i dy geryddu di, a dwyn cyhuddiadau yn dy erbyn di.
Psal WelBeibl 50:22  Felly meddylia am y peth, ti sy'n anwybyddu Duw! Neu bydda i'n dy rwygo di'n ddarnau, a fydd neb yn gallu dy achub di!
Psal WelBeibl 50:23  Mae'r un sy'n cyflwyno offrwm diolch yn fy anrhydeddu i. Bydd y person sy'n byw fel dw i am iddo fyw yn cael gweld Duw yn dod i'w achub.”
Chapter 51
Psal WelBeibl 51:1  O Dduw, dangos drugaredd ata i; rwyt ti mor llawn cariad. Gan dy fod ti mor barod i dosturio, wnei di ddileu'r gwrthryfel oedd yno i?
Psal WelBeibl 51:2  Golcha'r drygioni ohono i'n llwyr, a phura fi o'm pechod.
Psal WelBeibl 51:3  Dw i'n cyfaddef mod i wedi tynnu'n groes, a dw i'n ymwybodol iawn o'm methiant.
Psal WelBeibl 51:4  Yn dy erbyn di dw i wedi pechu, ie, dim ond ti, a gwneud beth sy'n ddrwg yn dy olwg. Mae beth rwyt ti'n ddweud yn hollol deg, ac rwyt ti'n iawn i'm cosbi i.
Psal WelBeibl 51:5  Y gwir ydy, ces fy ngeni'n bechadur; roedd y pechod yno pan wnaeth mam feichiogi arna i.
Psal WelBeibl 51:6  Ond rwyt ti eisiau gonestrwydd y tu mewn; rwyt ti eisiau i mi fod yn ddoeth.
Psal WelBeibl 51:7  Pura fi ag isop, i'm gwneud yn hollol lân; golcha fi, nes bydda i'n lanach nag eira.
Psal WelBeibl 51:8  Gad i mi wybod beth ydy bod yn hapus eto; rwyt ti wedi malu fy esgyrn – gad i mi lawenhau eto.
Psal WelBeibl 51:9  Paid edrych ar fy mhechodau i; dilea'r drygioni i gyd.
Psal WelBeibl 51:10  Crea galon lân yno i, O Dduw, a rhoi ysbryd penderfynol i mi unwaith eto.
Psal WelBeibl 51:11  Paid taflu fi i ffwrdd oddi wrthot ti, na chymryd dy Ysbryd Glân oddi arna i.
Psal WelBeibl 51:12  Gad i mi brofi'r wefr eto o gael fy achub gen ti, a gwna fi'n awyddus i fod yn ufudd i ti.
Psal WelBeibl 51:13  Wedyn bydda i'n dysgu'r rhai sy'n gwrthryfela i dy ddilyn di, a bydd pechaduriaid yn troi atat ti.
Psal WelBeibl 51:14  Maddau i mi am fod wedi tywallt gwaed, O Dduw. Ti ydy'r Duw sy'n fy achub i, a bydda i'n canu am dy faddeuant di.
Psal WelBeibl 51:16  Nid aberthau sy'n dy blesio di, a dydy offrwm i'w losgi ddim yn dy fodloni di.
Psal WelBeibl 51:17  Yr aberthau wyt ti eisiau ydy ysbryd wedi'i ddryllio, calon wedi'i thorri, ac ysbryd sy'n edifar – wnei di ddim diystyru peth felly, O Dduw.
Psal WelBeibl 51:18  Gwna i Seion lwyddo! Helpa hi! Adeilada waliau Jerwsalem unwaith eto!
Psal WelBeibl 51:19  Wedyn bydd aberthau sy'n cael eu cyflwyno'n iawn, ac offrymau cyflawn i'w llosgi, yn dy blesio di; a bydd teirw yn cael eu hoffrymu ar dy allor di.
Chapter 52
Psal WelBeibl 52:1  Wyt ti'n falch o'r drwg wnest ti, ac yn meddwl dy fod ti'n dipyn o arwr? Wel, dw i'n gwybod fod Duw yn ffyddlon!
Psal WelBeibl 52:2  Rwyt ti'n cynllwynio dinistr, ac mae dy dafod di fel rasel finiog, y twyllwr!
Psal WelBeibl 52:3  Mae drwg yn well na da gen ti, a chelwydd yn well na dweud y gwir. Saib
Psal WelBeibl 52:4  Ti'n hoffi dweud pethau sy'n gwneud niwed i bobl, ac yn twyllo pobl.
Psal WelBeibl 52:5  Ond bydd Duw yn dy daro i lawr unwaith ac am byth. Bydd yn dy gipio allan o dy babell, ac yn dy lusgo i ffwrdd o dir y byw. Saib
Psal WelBeibl 52:6  Bydd y rhai sy'n iawn gyda Duw yn gweld y peth, ac wedi'u syfrdanu. Byddan nhw'n chwerthin ar dy ben, ac yn dweud,
Psal WelBeibl 52:7  “Edrychwch! Dyma'r dyn oedd yn gwrthod troi at Dduw am help; y dyn oedd yn pwyso ar ei gyfoeth, ac yn meddwl ei fod yn dipyn o foi yn dinistrio pobl eraill!”
Psal WelBeibl 52:8  Ond dw i'n llwyddo fel coeden olewydd sy'n tyfu yn nhŷ Dduw! Dw i'n trystio Duw am ei fod yn ffyddlon bob amser.
Psal WelBeibl 52:9  Bydda i'n dy foli di am byth, O Dduw, am beth rwyt ti wedi'i wneud. Dw i'n mynd i obeithio yn dy enw di. Mae'r rhai sy'n ffyddlon i ti yn gwybod mor dda wyt ti!
Chapter 53
Psal WelBeibl 53:1  Dim ond ffŵl sy'n meddwl wrtho'i hun, “Dydy Duw ddim yn bodoli.” Mae pobl yn gwneud pob math o bethau ffiaidd. Does neb yn gwneud daioni!
Psal WelBeibl 53:2  Mae Duw yn edrych i lawr o'r nefoedd ar y ddynoliaeth i weld a oes unrhyw un call, unrhyw un sy'n ceisio Duw.
Psal WelBeibl 53:3  Ond mae pawb wedi troi cefn arno, ac yn gwbl lygredig. Does neb yn gwneud daioni – dim un!
Psal WelBeibl 53:4  Ydyn nhw wir mor dwp? – Yr holl rhai drwg sy'n llarpio fy mhobl fel taen nhw'n llowcio bwyd, a byth yn galw ar yr ARGLWYDD?
Psal WelBeibl 53:5  Byddan nhw'n dychryn am eu bywydau – fuodd erioed y fath beth o'r blaen – Bydd Duw yn chwalu esgyrn y rhai sy'n ymosod arnat ti. Byddi di'n codi cywilydd arnyn nhw, am fod Duw wedi'u gwrthod nhw.
Psal WelBeibl 53:6  O, dw i eisiau i'r un sy'n achub Israel ddod o Seion! Pan fydd Duw yn troi'r sefyllfa rownd bydd Jacob yn gorfoleddu, a bydd Israel mor hapus!
Chapter 54
Psal WelBeibl 54:1  O Dduw, tyrd ac achub fi! Amddiffyn fi gyda dy holl nerth.
Psal WelBeibl 54:2  O Dduw, gwrando ar fy ngweddi! Clyw beth dw i'n ddweud.
Psal WelBeibl 54:3  Mae pobl estron wedi troi yn fy erbyn i. Mae dynion creulon am fy lladd i. Does dim bwys ganddyn nhw am Dduw. Saib
Psal WelBeibl 54:4  Ond Duw ydy'r un sy'n fy helpu i. Yr ARGLWYDD sy'n fy nghadw i'n fyw.
Psal WelBeibl 54:5  Tro fwriadau drwg y gelynion yn eu herbyn! Dinistria nhw, fel rwyt wedi addo gwneud.
Psal WelBeibl 54:6  Wedyn bydda i'n dod ag offrwm gwirfoddol i'w aberthu i ti. Bydda i'n moli dy enw di, ARGLWYDD, am dy fod mor dda!
Psal WelBeibl 54:7  Ie, rwyt yn fy achub o'm holl drafferthion; dw i'n gweld fy ngelynion yn cael eu gorchfygu!
Chapter 55
Psal WelBeibl 55:1  Gwrando ar fy ngweddi, O Dduw; paid diystyru fi'n galw am dy help!
Psal WelBeibl 55:2  Gwranda arna i, ac ateb fi. Mae'r sefyllfa yma'n fy llethu; dw i wedi drysu'n lân!
Psal WelBeibl 55:3  Mae'r gelyn yn gweiddi arna i, ac yn bygwth pob math o ddrwg. Dŷn nhw ond eisiau creu helynt ac ymosod arna i'n wyllt.
Psal WelBeibl 55:4  Mae fy nghalon yn rasio tu mewn i mi. Mae ofn marw wedi mynd yn drech na mi.
Psal WelBeibl 55:5  Mae ofn a dychryn wedi fy llethu i – dw i'n methu stopio crynu!
Psal WelBeibl 55:6  “O na fyddai gen i adenydd fel colomen, i mi gael hedfan i ffwrdd a gorffwys!
Psal WelBeibl 55:7  Byddwn i'n hedfan yn bell i ffwrdd, ac yn aros yn yr anialwch. Saib
Psal WelBeibl 55:8  Byddwn i'n brysio i ffwrdd i guddio, ymhell o'r storm a'r cythrwfl i gyd.”
Psal WelBeibl 55:9  Dinistria nhw, ARGLWYDD, a drysu eu cynlluniau nhw! Dw i'n gweld dim byd ond trais a chweryla yn y ddinas.
Psal WelBeibl 55:10  Mae milwyr yn cerdded ei waliau i'w hamddiffyn ddydd a nos, ond y tu mewn iddi mae'r drwg go iawn:
Psal WelBeibl 55:11  pobl yn bygwth ei gilydd ym mhobman – dydy gormes a thwyll byth yn gadael ei strydoedd!
Psal WelBeibl 55:12  Nid y gelyn sy'n fy ngwawdio i – gallwn oddef hynny; nid y gelyn sy'n fy sarhau i – gallwn guddio oddi wrth hwnnw;
Psal WelBeibl 55:13  ond ti, sy'n ddyn fel fi, yn gyfaill agos, fy ffrind i!
Psal WelBeibl 55:14  Roedd dy gwmni di mor felys wrth i ni gerdded gyda'n gilydd yn nhŷ Dduw.
Psal WelBeibl 55:15  Gad i'r gelynion yn sydyn gael eu taro'n farw! Gad i'r bedd eu llyncu nhw'n fyw! Does dim ond drygioni lle bynnag maen nhw.
Psal WelBeibl 55:16  Ond dw i'n mynd i alw ar Dduw, a bydd yr ARGLWYDD yn fy achub i.
Psal WelBeibl 55:17  Dw i'n dal ati i gwyno a phledio, fore, nos a chanol dydd. Dw i'n gwybod y bydd e'n gwrando!
Psal WelBeibl 55:18  Bydd e'n dod â fi allan yn saff o ganol yr ymladd, er bod cymaint yn fy erbyn i.
Psal WelBeibl 55:19  Bydd Duw, sy'n teyrnasu o'r dechrau cyntaf, yn gwrando arna i ac yn eu trechu nhw. Saib Maen nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd, a dangos parch tuag at Dduw.
Psal WelBeibl 55:20  Ond am fy ffrind wnaeth droi yn fy erbyn i, torri ei air wnaeth e.
Psal WelBeibl 55:21  Roedd yn seboni gyda'i eiriau, ond ymosod oedd ei fwriad. Roedd ei eiriau'n dyner fel olew, ond cleddyfau noeth oedden nhw go iawn.
Psal WelBeibl 55:22  Rho dy feichiau trwm i'r ARGLWYDD; bydd e'n edrych ar dy ôl di. Wnaiff e ddim gadael i'r cyfiawn syrthio.
Psal WelBeibl 55:23  O Dduw, byddi di'n taflu'r rhai drwg i bwll dinistr – Bydd y rhai sy'n lladd ac yn twyllo yn marw'n ifanc. Ond dw i'n dy drystio di.
Chapter 56
Psal WelBeibl 56:1  Dangos drugaredd ata i, O Dduw, dw i'n cael fy erlid! Mae'r gelynion yn ymosod arna i drwy'r amser.
Psal WelBeibl 56:2  Maen nhw'n fy ngwylio i ac yn fy erlid i'n ddi-baid. Mae cymaint ohonyn nhw yn ymladd yn fy erbyn! O Dduw, y Goruchaf.
Psal WelBeibl 56:4  Duw, yr un dw i'n gwybod sy'n cadw ei air! Dw i'n trystio Duw, does gen i ddim ofn. Beth all dynion meidrol ei wneud i mi?
Psal WelBeibl 56:5  Maen nhw'n twistio fy ngeiriau a dim ond eisiau gwneud niwed i mi.
Psal WelBeibl 56:6  Maen nhw'n dod at ei gilydd i ysbïo arna i. Maen nhw'n gwylio pob symudiad, ac yn edrych am gyfle i'm lladd.
Psal WelBeibl 56:7  Wyt ti'n mynd i adael iddyn nhw lwyddo? Bwrw nhw i lawr yn dy lid, O Dduw!
Psal WelBeibl 56:8  Ti'n cadw cofnod bob tro dw i'n ochneidio. Ti'n casglu fy nagrau mewn costrel. Mae'r cwbl wedi'i ysgrifennu yn dy lyfr.
Psal WelBeibl 56:9  Bydd y gelyn yn ffoi pan fydda i'n galw arnat ti. Achos dw i'n gwybod un peth – mae Duw ar fy ochr i.
Psal WelBeibl 56:10  Duw, yr un dw i'n gwybod sy'n cadw ei air! Yr ARGLWYDD – dw i'n gwybod ei fod yn cadw ei air!
Psal WelBeibl 56:11  Dw i'n trystio Duw, does gen i ddim ofn. Beth all dynion meidrol ei wneud i mi?
Psal WelBeibl 56:12  Dw i'n mynd i gadw fy addewidion, O Dduw, a chyflwyno offrymau diolch i ti.
Psal WelBeibl 56:13  Ti wedi achub fy mywyd i, a chadw fy nhraed rhag llithro. Dw i'n gallu byw i ti, O Dduw, a mwynhau goleuni bywyd.
Chapter 57
Psal WelBeibl 57:1  Dangos drugaredd ata i, O Dduw, dangos drugaredd ata i! Dw i'n troi atat ti am loches. Dw i am guddio dan dy adenydd di nes bydd y storm yma wedi mynd heibio.
Psal WelBeibl 57:2  Dw i'n galw ar Dduw, y Goruchaf, ar y Duw sydd mor dda tuag ata i.
Psal WelBeibl 57:3  Bydd yn anfon help o'r nefoedd i'm hachub. Bydd yn herio'r rhai sy'n fy erlid. Saib Bydd yn dangos ei ofal ffyddlon amdana i!
Psal WelBeibl 57:4  Mae llewod ffyrnig o'm cwmpas i ym mhobman, rhai sy'n bwyta pobl. Mae eu dannedd fel picellau neu saethau, a'u tafodau fel cleddyfau miniog.
Psal WelBeibl 57:5  Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw, i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd!
Psal WelBeibl 57:6  Maen nhw wedi gosod rhwyd i geisio fy nal – a minnau'n isel fy ysbryd. Maen nhw wedi cloddio twll ar fy nghyfer i, ond nhw fydd yn syrthio i mewn iddo! Saib
Psal WelBeibl 57:7  Dw i'n benderfynol, O Dduw; dw i'n hollol benderfynol. Dw i'n mynd i ganu mawl i ti.
Psal WelBeibl 57:8  Deffro, fy enaid! Deffro, nabl a thelyn! Dw i'n mynd i ddeffro'r wawr gyda'm cân.
Psal WelBeibl 57:9  Dw i'n mynd i ddiolch i ti, O ARGLWYDD, o flaen pawb! Dw i'n mynd i ganu mawl i ti o flaen pobl o bob cenedl!
Psal WelBeibl 57:10  Mae dy gariad di mor uchel â'r nefoedd, a dy ffyddlondeb di yn uwch na'r cymylau.
Psal WelBeibl 57:11  Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw, i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd!
Chapter 58
Psal WelBeibl 58:1  Chi arweinwyr, ydych chi'n rhoi dedfryd gyfiawn? Ydych chi'n barnu pobl yn deg?
Psal WelBeibl 58:2  Na! Dych chi'n anghyfiawn, ac yn rhannu trais ym mhobman.
Psal WelBeibl 58:3  Mae rhai drwg felly'n troi cefn ers cael eu geni, yn dweud celwydd a mynd eu ffordd eu hunain o'r dechrau.
Psal WelBeibl 58:4  Maen nhw'n brathu fel neidr wenwynig, neu gobra sy'n cau ei chlustiau.
Psal WelBeibl 58:5  Mae'n gwrthod gwrando ar alaw'r swynwr, er mor hyfryd ydy'r alaw i'w hudo.
Psal WelBeibl 58:6  Torra eu dannedd nhw, O Dduw! Dryllia ddannedd y llewod ifanc, ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 58:7  Gwna iddyn nhw ddiflannu fel dŵr mewn tir sych; gwna iddyn nhw saethu saethau wedi'u torri.
Psal WelBeibl 58:8  Gwna nhw fel ôl malwen sy'n toddi wrth iddi symud; neu blentyn wedi marw yn y groth cyn gweld golau dydd!
Psal WelBeibl 58:9  Bydd Duw yn eu hysgubo nhw i ffwrdd fel storm wyllt, cyn i grochan deimlo gwres tân agored.
Psal WelBeibl 58:10  Bydd y duwiol mor hapus wrth weld dial ar yr annhegwch. Byddan nhw'n trochi eu traed yng ngwaed y rhai drwg.
Psal WelBeibl 58:11  A bydd pobl yn dweud, “Felly mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael gwobr! Mae yna Dduw sydd yn barnu ar y ddaear!”
Chapter 59
Psal WelBeibl 59:1  Achub fi rhag fy ngelynion, O Dduw. Amddiffyn fi rhag y rhai sy'n ymosod arna i.
Psal WelBeibl 59:2  Achub fi rhag y bobl ddrwg yma – y rhai sy'n ceisio fy lladd i.
Psal WelBeibl 59:3  Edrych arnyn nhw'n cuddio. Maen nhw'n barod i ymosod. Mae dynion cas yn disgwyl amdana i, a minnau heb wneud dim byd i'w croesi nhw, O ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 59:4  Dw i ddim ar fai ond maen nhw'n rhuthro i ymosod arna i. Deffra! Gwna rywbeth i'm helpu!
Psal WelBeibl 59:5  O ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, ti ydy Duw Israel. Symud! Tyrd i gosbi'r gwledydd! Paid dangos trugaredd at y bradwyr! Saib
Psal WelBeibl 59:6  Maen nhw'n dod allan bob nos, yn udo fel y cŵn sy'n prowla drwy'r ddinas.
Psal WelBeibl 59:7  Mae eu cegau'n glafoerio budreddi, a'u geiriau creulon fel cleddyfau – “Pwy sy'n clywed?” medden nhw.
Psal WelBeibl 59:8  Ond rwyt ti, ARGLWYDD, yn chwerthin am eu pennau. Byddi di'n gwawdio'r cenhedloedd.
Psal WelBeibl 59:9  Ti ydy fy nerth i. Dw i'n disgwyl amdanat ti. Rwyt ti, O Dduw, fel craig ddiogel i mi.
Psal WelBeibl 59:10  Ti ydy'r Duw ffyddlon fydd yn fy helpu; byddi'n gadael i mi orfoleddu dros fy ngelynion.
Psal WelBeibl 59:11  Paid lladd nhw'n syth, neu bydd fy mhobl yn anghofio'r wers. Anfon nhw ar chwâl gyda dy nerth, cyn eu llorio nhw, O ARGLWYDD, ein tarian.
Psal WelBeibl 59:12  Gad iddyn nhw gael eu baglu gan eu geiriau pechadurus a'r pethau drwg maen nhw'n ddweud – y balchder, y melltithion a'r celwyddau.
Psal WelBeibl 59:13  Dinistria nhw yn dy lid! Difa nhw'n llwyr! Yna bydd pawb drwy'r byd i gyd yn gwybod fod Duw yn teyrnasu dros bobl Jacob. Saib
Psal WelBeibl 59:14  Maen nhw'n dod allan bob nos, yn udo fel cŵn sy'n prowla drwy'r ddinas;
Psal WelBeibl 59:15  Maen nhw'n crwydro o gwmpas yn chwilio am fwyd, ac yn udo nes iddyn nhw gael eu bodloni.
Psal WelBeibl 59:16  Ond bydda i'n canu am dy rym di, ac yn gweiddi'n llawen bob bore am dy fod mor ffyddlon! Rwyt ti'n graig saff i mi, ac yn lle i mi guddio pan dw i mewn trafferthion.
Psal WelBeibl 59:17  Ti ydy fy nerth i, a dw i am ganu mawl i ti! O Dduw, rwyt fel craig ddiogel i mi – y Duw ffyddlon.
Chapter 60
Psal WelBeibl 60:1  O Dduw, rwyt ti wedi'n gwrthod ni a bylchu ein hamddiffyn. Buost yn ddig gyda ni. Plîs, adfer ni!
Psal WelBeibl 60:2  Gwnaethost i'r tir grynu, a'i hollti'n agored. Selia'r holltau, cyn i'r cwbl syrthio!
Psal WelBeibl 60:3  Ti wedi rhoi amser caled i dy bobl, a rhoi gwin i'w yfed sydd wedi'n gwneud ni'n chwil.
Psal WelBeibl 60:4  Coda faner i'r rhai sy'n dy ddilyn allu dianc ati rhag saethau'r bwa. Saib
Psal WelBeibl 60:5  Defnyddia dy gryfder o'n plaid, ac ateb ni er mwyn i dy rai annwyl gael eu hachub.
Psal WelBeibl 60:6  Mae Duw wedi addo yn ei gysegr: “Dw i'n mynd i fwynhau rhannu Sichem, a mesur dyffryn Swccoth.
Psal WelBeibl 60:7  Fi sydd biau Gilead a Manasse hefyd. Effraim ydy fy helmed i, a Jwda ydy'r deyrnwialen.
Psal WelBeibl 60:8  Ond bydd Moab fel powlen ymolchi. Byddaf yn taflu fy esgid at Edom, ac yn dathlu ar ôl gorchfygu Philistia!”
Psal WelBeibl 60:9  Pwy sy'n gallu mynd â fi i'r ddinas ddiogel? Pwy sy'n gallu fy arwain i Edom?
Psal WelBeibl 60:10  Onid ti, O Dduw? Ond rwyt wedi'n gwrthod ni! Wyt ti ddim am fynd allan gyda'n byddin, O Dduw?
Psal WelBeibl 60:11  Plîs, helpa ni i wynebu'r gelyn, achos dydy help dynol yn dda i ddim.
Psal WelBeibl 60:12  Gyda Duw gallwn wneud pethau mawr – bydd e'n sathru ein gelynion dan draed!
Chapter 61
Psal WelBeibl 61:1  Gwranda arna i'n galw, O Dduw. Gwranda ar fy ngweddi.
Psal WelBeibl 61:2  Dw i'n galw arnat ti o ben draw'r byd. Pan dw i'n anobeithio, arwain fi at graig uchel, ddiogel.
Psal WelBeibl 61:3  Achos rwyt ti'n lle saff i mi fynd; yn gaer gref lle all fy ngelynion ddim dod.
Psal WelBeibl 61:4  Gad i mi aros yn dy babell am byth, yn saff dan gysgod dy adenydd. Saib
Psal WelBeibl 61:5  O Dduw, clywaist yr addewidion wnes i; ti wedi rhoi etifeddiaeth i mi gyda'r rhai sy'n dy addoli.
Psal WelBeibl 61:6  Gad i'r brenin fyw am flynyddoedd eto! Gad iddo fyw am genedlaethau lawer,
Psal WelBeibl 61:7  ac eistedd ar yr orsedd o flaen Duw am byth! Gwylia drosto gyda dy gariad a dy ofal ffyddlon.
Psal WelBeibl 61:8  Yna byddaf yn canu mawl i dy enw am byth, wrth i mi gadw fy addewidion i ti bob dydd.
Chapter 62
Psal WelBeibl 62:1  Ydw, dw i'n disgwyl yn dawel am Dduw; fe ydy'r un all fy achub i.
Psal WelBeibl 62:2  Ie, fe ydy'r graig lle dw i'n ddiogel; lle i mi gysgodi sy'n hollol saff.
Psal WelBeibl 62:3  Pryd dych chi'n mynd i stopio ymosod ar ddyn, ymosod arno i'w ddifa fel wal sydd ar fin syrthio, neu ffens sy'n simsan?
Psal WelBeibl 62:4  Ydyn, maen nhw'n cynllunio i'w fwrw i lawr o'i safle dylanwadol. Maen nhw wrth eu boddau gyda chelwydd; maen nhw'n dweud pethau sy'n swnio'n garedig, ond yn ei felltithio yn eu calonnau. Saib
Psal WelBeibl 62:5  Ie, disgwyl di'n dawel am Dduw, fy enaid, achos fe ydy dy obaith di.
Psal WelBeibl 62:6  Fe ydy'r graig lle dw i'n ddiogel; lle i mi gysgodi sy'n hollol saff.
Psal WelBeibl 62:7  Mae Duw'n edrych ar ôl fy lles i, ac mae'n rhoi nerth i mi. Dw i'n gadarn fel y graig, ac yn hollol saff gyda Duw.
Psal WelBeibl 62:8  Gallwch ei drystio fe bob amser, bobl! Tywalltwch beth sydd ar eich calon o'i flaen. Duw ydy'n hafan ddiogel ni. Saib
Psal WelBeibl 62:9  Dydy pobl gyffredin yn ddim byd ond anadl, a phobl bwysig yn ddim ond rhith! Rhowch nhw ar glorian ac mae hi'n codi! – maen nhw i gyd yn pwyso llai nag anadl.
Psal WelBeibl 62:10  Peidiwch trystio trais i ennill cyfoeth. Peidiwch rhoi'ch gobaith mewn lladrad. Os ydych chi'n ennill cyfoeth mawr peidiwch dibynnu arno.
Psal WelBeibl 62:11  Un peth mae Duw wedi'i ddweud, ac mae wedi'i gadarnhau: Duw ydy'r un nerthol,
Psal WelBeibl 62:12  Ie ti, O ARGLWYDD, ydy'r un ffyddlon, sy'n rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu.
Chapter 63
Psal WelBeibl 63:1  O Dduw, ti ydy fy Nuw i! Dw i wir yn dy geisio di. Mae fy enaid yn sychedu amdanat. Mae fy nghorff yn dyheu amdanat, fel tir sych ac anial sydd heb ddŵr.
Psal WelBeibl 63:2  Ydw, dw i wedi dy weld di yn y cysegr, a gweld dy rym a dy ysblander!
Psal WelBeibl 63:3  Profi dy ffyddlondeb di ydy'r peth gorau am fywyd, ac mae fy ngwefusau'n dy foli di!
Psal WelBeibl 63:4  Dw i'n mynd i dy foli fel yma am weddill fy mywyd; codi fy nwylo mewn gweddi, a galw ar dy enw.
Psal WelBeibl 63:5  Dw i wedi fy modloni'n llwyr, fel ar ôl bwyta gwledd! Dw i'n canu mawl i ti â gwefusau llawen.
Psal WelBeibl 63:6  Dw i'n meddwl amdanat wrth orwedd ar fy ngwely, ac yn myfyrio arnat ti yng nghanol y nos;
Psal WelBeibl 63:7  Dw i'n cofio fel y gwnest ti fy helpu – rôn i'n gorfoleddu, yn saff dan gysgod dy adenydd.
Psal WelBeibl 63:8  Dw i am lynu'n dynn wrthot ti; dy law gref di sy'n fy nghynnal i.
Psal WelBeibl 63:9  Bydd y rhai sy'n ceisio fy lladd i yn mynd i lawr yn ddwfn i'r ddaear.
Psal WelBeibl 63:10  Bydd y rhai sydd am fy nharo gyda'r cleddyf yn cael eu gadael yn fwyd i siacaliaid.
Psal WelBeibl 63:11  Ond bydd y brenin yn dathlu beth wnaeth Duw. Bydd pawb sy'n tyngu llw iddo'n gorfoleddu, pan fydd e'n cau cegau y rhai celwyddog!
Chapter 64
Psal WelBeibl 64:1  Gwranda arna i, O Dduw, wrth i mi swnian. Amddiffyn fi rhag y gelynion sy'n ymosod.
Psal WelBeibl 64:2  Cuddia fi oddi wrth y mob o ddynion drwg, y gang sydd ddim ond am godi twrw.
Psal WelBeibl 64:3  Maen nhw'n hogi eu tafodau fel cleddyfau, ac yn anelu eu geiriau creulon fel saethau.
Psal WelBeibl 64:4  Maen nhw'n cuddio er mwyn saethu'r dieuog – ei saethu'n ddirybudd. Dŷn nhw'n ofni dim.
Psal WelBeibl 64:5  Maen nhw'n annog ei gilydd i wneud drwg, ac yn siarad am osod trapiau, gan feddwl, “Does neb yn ein gweld.”
Psal WelBeibl 64:6  Maen nhw'n cynllwynio gyda'i gilydd, “Y cynllun perffaith!” medden nhw. (Mae'r galon a'r meddwl dynol mor ddwfn!)
Psal WelBeibl 64:7  Ond bydd Duw yn eu taro nhw gyda'i saeth e; yn sydyn byddan nhw wedi syrthio.
Psal WelBeibl 64:8  Bydd eu geiriau'n arwain at eu cwymp, a bydd pawb fydd yn eu gweld yn ysgwyd eu pennau'n syn.
Psal WelBeibl 64:9  Bydd pawb yn sefyll yn syfrdan! Byddan nhw'n siarad am beth wnaeth Duw, ac yn dechrau deall sut mae e'n gweithredu.
Psal WelBeibl 64:10  Bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn gorfoleddu yn yr ARGLWYDD, ac yn dod o hyd i le saff ynddo fe. Bydd pawb sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dathlu.
Chapter 65
Psal WelBeibl 65:1  Safwn yn dawel, a dy addoli yn Seion, O Dduw, a chyflawni'n haddewidion i ti.
Psal WelBeibl 65:2  Ti sy'n gwrando gweddïau, boed i bob person byw ddod atat ti!
Psal WelBeibl 65:3  Pan mae'n holl bechodau yn ein llethu ni, rwyt ti'n maddau'r gwrthryfel i gyd.
Psal WelBeibl 65:4  Y fath fendith sydd i'r rhai rwyt ti'n eu dewis, a'u gwahodd i dreulio amser yn iard dy deml. Llenwa ni â bendithion dy dŷ, sef dy deml sanctaidd!
Psal WelBeibl 65:5  Ti'n gwneud pethau syfrdanol i wneud pethau'n iawn, a'n hateb, O Dduw, ein hachubwr. Mae pobl drwy'r byd i gyd, ac ymhell dros y môr, yn dibynnu arnat ti.
Psal WelBeibl 65:6  Ti, yn dy nerth, roddodd y mynyddoedd yn eu lle; rwyt ti mor gryf!
Psal WelBeibl 65:7  Ti sy'n tawelu'r môr stormus, a'i donnau gwyllt, a'r holl bobloedd sy'n codi terfysg.
Psal WelBeibl 65:8  Mae pobl ym mhen draw'r byd wedi'u syfrdanu gan dy weithredoedd. O'r dwyrain i'r gorllewin maen nhw'n gweiddi'n llawen.
Psal WelBeibl 65:9  Ti'n gofalu am y ddaear, yn ei dyfrio a'i gwneud yn hynod ffrwythlon. Mae'r sianel ddwyfol yn gorlifo o ddŵr! Ti'n rhoi ŷd i bobl drwy baratoi'r tir fel yma.
Psal WelBeibl 65:10  Ti'n socian y cwysi ac mae dŵr yn llifo i'r rhychau. Ti'n mwydo'r tir â chawodydd, ac yn bendithio'r cnwd sy'n tyfu.
Psal WelBeibl 65:11  Dy ddaioni di sy'n coroni'r flwyddyn. Mae dy lwybrau'n diferu digonedd.
Psal WelBeibl 65:12  Mae hyd yn oed porfa'r anialwch yn diferu, a'r bryniau wedi'u gwisgo â llawenydd.
Psal WelBeibl 65:13  Mae'r caeau wedi'u gorchuddio gyda defaid a geifr, a'r dyffrynnoedd dan flanced o ŷd. Maen nhw'n gweiddi ac yn canu'n llawen.
Chapter 66
Psal WelBeibl 66:2  Canwch gân i ddweud mor wych ydy e, a'i foli'n hyfryd.
Psal WelBeibl 66:3  Dwedwch wrth Dduw, “Mae dy weithredoedd di mor syfrdanol! Am dy fod ti mor rymus mae dy elynion yn crynu o dy flaen.
Psal WelBeibl 66:4  Mae'r byd i gyd yn dy addoli, ac yn canu mawl i ti! Maen nhw'n dy foli di ar gân!” Saib
Psal WelBeibl 66:5  Dewch i weld beth wnaeth Duw. Mae'r hyn wna ar ran pobl yn syfrdanol.
Psal WelBeibl 66:6  Trodd y môr yn dir sych, a dyma nhw'n cerdded drwy'r afon! Gadewch i ni ddathlu'r peth!
Psal WelBeibl 66:7  Mae e'n dal i deyrnasu yn ei nerth, ac mae'n cadw ei lygaid ar y cenhedloedd; felly peidiwch gwrthryfela a chodi yn ei erbyn. Saib
Psal WelBeibl 66:8  O bobloedd, bendithiwch ein Duw ni; gadewch i ni glywed pobl yn ei foli!
Psal WelBeibl 66:9  Fe sy'n ein cadw ni'n fyw; dydy e ddim wedi gadael i'n traed lithro.
Psal WelBeibl 66:10  Ti wedi'n profi ni, O Dduw, a'n puro ni fel arian mewn ffwrnais.
Psal WelBeibl 66:11  Ti wedi'n dal ni mewn rhwyd, a gwneud i ni ddioddef baich trwm.
Psal WelBeibl 66:12  Ti wedi gadael i bobl farchogaeth droson ni. Dŷn ni wedi bod drwy ddŵr a thân, ond ti wedi dod â ni drwy'r cwbl i brofi digonedd.
Psal WelBeibl 66:13  Dw i'n dod i dy deml ag offrymau llosg ac yn cadw fy addewidion,
Psal WelBeibl 66:14  drwy wneud popeth wnes i addo pan oeddwn i mewn trafferthion.
Psal WelBeibl 66:15  Dw i'n dod ag anifeiliaid wedi'u pesgi yn offrymau llosg – arogl hyrddod yn cael eu llosgi, teirw a geifr yn cael eu haberthu. Saib
Psal WelBeibl 66:16  Dewch i wrando, chi sy'n addoli Duw, i mi ddweud wrthoch chi beth wnaeth e i mi.
Psal WelBeibl 66:17  Dyma fi'n gweiddi'n uchel arno am help – roeddwn i'n barod i'w foli.
Psal WelBeibl 66:18  Petawn i'n euog o feddwl yn ddrwg amdano, fyddai'r ARGLWYDD ddim wedi gwrando arna i.
Psal WelBeibl 66:20  Mae Duw yn haeddu ei foli! Wnaeth e ddim diystyru fy ngweddi, na bod yn anffyddlon i mi.
Chapter 67
Psal WelBeibl 67:1  O Dduw, dangos drugaredd aton ni a'n bendithio ni. Bydd yn garedig aton ni. Saib
Psal WelBeibl 67:2  Wedyn bydd pawb drwy'r byd yn gwybod sut un wyt ti; bydd y gwledydd i gyd yn gwybod dy fod ti'n gallu achub.
Psal WelBeibl 67:3  Bydd pobloedd yn dy foli, O Dduw; bydd y bobloedd i gyd yn dy foli di!
Psal WelBeibl 67:4  Bydd y cenhedloedd yn dathlu ac yn gweiddi'n llawen, am dy fod ti'n barnu'n hollol deg, ac yn arwain cenhedloedd y ddaear. Saib
Psal WelBeibl 67:5  Bydd pobloedd yn dy foli, O Dduw; bydd y bobloedd i gyd yn dy foli di!
Psal WelBeibl 67:6  Mae'r tir yn rhoi ei gynhaeaf i ni! O Dduw, ein Duw, dal ati i'n bendithio.
Psal WelBeibl 67:7  O Dduw, bendithia ni! Wedyn bydd pobl drwy'r byd i gyd yn dy addoli.
Chapter 68
Psal WelBeibl 68:1  Pan mae Duw yn codi, mae'r gelynion yn cael eu gwasgaru; mae'r rhai sydd yn ei erbyn yn dianc oddi wrtho.
Psal WelBeibl 68:2  Chwytha nhw i ffwrdd, fel mwg yn cael ei chwythu gan y gwynt! Bydd pobl ddrwg yn cael eu difa gan Dduw, fel cwyr yn cael ei doddi gan dân.
Psal WelBeibl 68:3  Ond bydd y rhai cyfiawn yn dathlu, ac yn gorfoleddu o flaen Duw; byddan nhw wrth eu boddau!
Psal WelBeibl 68:4  Canwch i Dduw! Canwch gân o fawl iddo, a chanmol yr un sy'n marchogaeth y cymylau! Yr ARGLWYDD ydy ei enw! Dewch i ddathlu o'i flaen!
Psal WelBeibl 68:5  Tad plant amddifad, yr un sy'n amddiffyn gweddwon, ie, Duw yn ei gysegr.
Psal WelBeibl 68:6  Mae Duw yn rhoi'r digartref mewn teulu, ac yn gollwng caethion yn rhydd i sain cerddoriaeth. Ond bydd y rhai sy'n gwrthryfela yn byw mewn anialwch.
Psal WelBeibl 68:7  O Dduw, pan oeddet ti'n arwain dy bobl allan, ac yn martsio ar draws yr anialwch, Saib
Psal WelBeibl 68:8  dyma'r ddaear yn crynu, a'r awyr yn arllwys y glaw o flaen Duw, yr un oedd ar Sinai, o flaen Duw, sef Duw Israel.
Psal WelBeibl 68:9  Rhoist ddigonedd o law i'r tir, O Dduw, ac adfer dy etifeddiaeth pan oedd yn gwywo.
Psal WelBeibl 68:10  Dyna ble mae dy bobl yn byw. Buost yn dda, a rhoi yn hael i'r anghenus, O Dduw.
Psal WelBeibl 68:11  Mae'r ARGLWYDD yn dweud y gair, ac mae tyrfa o ferched yn cyhoeddi'r newyddion da:
Psal WelBeibl 68:12  Mae'r brenhinoedd a'u byddinoedd yn ffoi ar frys, a gwragedd tŷ yn rhannu'r ysbail.
Psal WelBeibl 68:13  “Er dy fod wedi aros adre rhwng y corlannau, dyma i ti adenydd colomen wedi'u gorchuddio ag arian a blaenau'r adenydd yn aur melyn coeth.”
Psal WelBeibl 68:14  Pan oedd y Duw Hollalluog yn gwasgaru'r brenhinoedd, roedd fel petai storm eira yn chwythu ar Fynydd Salmon!
Psal WelBeibl 68:15  O fynydd anferth, mynydd Bashan; O fynydd y copaon uchel, mynydd Bashan;
Psal WelBeibl 68:16  O fynydd y copaon uchel, pam wyt ti mor genfigennus o'r mynydd mae Duw wedi'i ddewis i fyw arno? Dyna lle bydd yr ARGLWYDD yn aros am byth!
Psal WelBeibl 68:17  Mae gan Dduw ddegau o filoedd o gerbydau, a miloedd ar filoedd o filwyr. Mae'r ARGLWYDD gyda nhw; mae Duw Sinai wedi dod i'w gysegr.
Psal WelBeibl 68:18  Ti wedi mynd i fyny i'r ucheldir, ac arwain caethion ar dy ôl, a derbyn rhoddion gan bobl – hyd yn oed gan y rhai oedd yn gwrthwynebu i ti aros yno, ARGLWYDD Dduw.
Psal WelBeibl 68:19  Mae'r ARGLWYDD yn Dduw bendigedig! Mae e'n edrych ar ein holau ni o ddydd i ddydd. Duw ydy'n hachubwr ni! Saib
Psal WelBeibl 68:20  Ein Duw ni ydy'r Duw sy'n achub! Gyda'r ARGLWYDD, ein Meistr, gallwn ddianc rhag marwolaeth.
Psal WelBeibl 68:21  Fe ydy'r Duw sy'n taro pennau ei elynion – pob copa walltog sy'n euog o'i flaen.
Psal WelBeibl 68:22  Dwedodd yr ARGLWYDD, “Bydda i'n dod â'r gelynion yn ôl o Bashan, ie, hyd yn oed yn ôl o waelod y môr!
Psal WelBeibl 68:23  Byddi'n trochi dy draed yn eu gwaed, a bydd tafodau dy gŵn yn cael eu siâr o'r cyrff.”
Psal WelBeibl 68:24  Mae pobl yn gweld dy orymdaith, O Dduw, yr orymdaith pan mae fy Nuw, fy mrenin, yn mynd i'r cysegr:
Psal WelBeibl 68:25  y cantorion ar y blaen, yna'r offerynnwr yng nghanol y merched ifanc sy'n taro'r tambwrîn.
Psal WelBeibl 68:26  “Bendithiwch Dduw yn y gynulleidfa fawr! Bendithiwch yr ARGLWYDD, bawb sy'n tarddu o ffynnon Israel.”
Psal WelBeibl 68:27  Dacw Benjamin, yr ifancaf, yn arwain; penaethiaid Jwda yn dyrfa swnllyd; penaethiaid Sabulon a Nafftali.
Psal WelBeibl 68:28  Mae dy Dduw yn dy wneud di'n gryf! O Dduw, sydd wedi gweithredu ar ein rhan, dangos dy rym
Psal WelBeibl 68:29  wrth ddod o dy deml yn Jerwsalem. Boed i frenhinoedd dalu teyrnged i ti!
Psal WelBeibl 68:30  Cerydda fwystfil y corsydd brwyn, y gyr o deirw a'r bobl sy'n eu dilyn fel lloi! Gwna iddyn nhw blygu o dy flaen a rhoi arian i ti'n rhodd. Ti'n gyrru'r bobloedd sy'n mwynhau rhyfel ar chwâl!
Psal WelBeibl 68:31  Bydd llysgenhadon yn dod o'r Aifft, a bydd pobl Affrica yn brysio i dalu teyrnged i Dduw.
Psal WelBeibl 68:32  Canwch i Dduw, chi wledydd y byd! Canwch fawl i'r ARGLWYDD. Saib
Psal WelBeibl 68:33  I'r un sy'n marchogaeth drwy'r awyr – yr awyr sydd yno o'r dechrau. Gwrandwch! Mae ei lais nerthol yn taranu.
Psal WelBeibl 68:34  Cyfaddefwch mor rymus ydy Duw! Mae e'n teyrnasu yn ei holl ysblander dros Israel, ac yn dangos ei rym yn yr awyr.
Psal WelBeibl 68:35  O Dduw, rwyt ti'n syfrdanol yn dod allan o dy gysegr! Ie, Duw Israel sy'n rhoi grym a nerth i'w bobl. Boed i Dduw gael ei anrhydeddu!
Chapter 69
Psal WelBeibl 69:1  Achub fi, O Dduw, mae'r dŵr i fyny at fy ngwddf.
Psal WelBeibl 69:2  Dw i'n suddo mewn cors ddofn, a does dim byd i mi sefyll arno. Dw i mewn dyfroedd dyfnion, ac yn cael fy ysgubo i ffwrdd gan y llifogydd.
Psal WelBeibl 69:3  Dw i wedi blino gweiddi am help; mae fy ngwddf yn sych; mae fy llygaid yn cau ar ôl bod yn disgwyl yn obeithiol am Dduw.
Psal WelBeibl 69:4  Mae mwy o bobl yn fy nghasáu i nag sydd o flew ar fy mhen. Mae cymaint o bobl gelwyddog yn fy erbyn i, ac eisiau fy nistrywio i. Sut alla i roi yn ôl rywbeth dw i heb ei ddwyn?
Psal WelBeibl 69:5  O Dduw, rwyt ti'n gwybod gymaint o ffŵl ydw i. Dydy'r pethau dw i'n euog o'u gwneud ddim wedi'u cuddio oddi wrthot ti.
Psal WelBeibl 69:6  Paid gadael i'r rhai sy'n dy drystio di fod â chywilydd ohono i, Feistr, ARGLWYDD hollbwerus. Paid gadael i'r rhai sy'n dy ddilyn di gael eu bychanu, O Dduw Israel.
Psal WelBeibl 69:7  Ti ydy'r rheswm pam dw i'n cael fy sarhau, a'm cywilyddio.
Psal WelBeibl 69:8  Dydy fy nheulu ddim eisiau fy nabod i; dw i fel rhywun estron i'm brodyr a'm chwiorydd.
Psal WelBeibl 69:9  Mae fy sêl dros dy dŷ di wedi fy meddiannu i; dw i'n cael fy sarhau gan y rhai sy'n dy sarhau di.
Psal WelBeibl 69:10  Hyd yn oed pan oeddwn i'n wylo ac yn ymprydio roeddwn i'n destun sbort.
Psal WelBeibl 69:11  Roedd pobl yn gwneud hwyl am fy mhen pan oeddwn i'n gwisgo sachliain.
Psal WelBeibl 69:12  Mae'r rhai sy'n eistedd wrth giât y ddinas yn siarad amdana i; a dw i'n destun cân i'r meddwon.
Psal WelBeibl 69:13  O ARGLWYDD, dw i'n gweddïo arnat ti ac yn gofyn i ti ddangos ffafr ata i. O Dduw, am dy fod ti mor ffyddlon, ateb fi ac achub fi.
Psal WelBeibl 69:14  Tynna fi allan o'r mwd yma. Paid gadael i mi suddo! Achub fi rhag y bobl sy'n fy nghasáu i – achub fi o'r dŵr dwfn.
Psal WelBeibl 69:15  Paid gadael i'r llifogydd fy ysgubo i ffwrdd! Paid gadael i'r dyfnder fy llyncu. Paid gadael i geg y pwll gau arna i.
Psal WelBeibl 69:16  Ateb fi, ARGLWYDD; rwyt ti mor ffyddlon. Tro ata i, gan dy fod ti mor drugarog;
Psal WelBeibl 69:17  Paid troi dy gefn ar dy was – dw i mewn trafferthion, felly brysia! Ateb fi!
Psal WelBeibl 69:18  Tyrd yma! Gollwng fi'n rhydd! Gad i mi ddianc o afael y gelynion.
Psal WelBeibl 69:19  Ti'n gwybod fel dw i wedi cael fy sarhau, a'm bychanu a'm cywilyddio. Ti'n gweld y gelynion i gyd.
Psal WelBeibl 69:20  Mae'r sarhau wedi torri fy nghalon i. Dw i'n anobeithio. Dw i'n edrych am gydymdeimlad, ond yn cael dim; am rai i'm cysuro, ond does neb.
Psal WelBeibl 69:21  Yn lle hynny maen nhw'n rhoi gwenwyn yn fy mwyd, ac yn gwneud i mi yfed finegr i dorri fy syched.
Psal WelBeibl 69:22  Gad i'w bwrdd bwyd droi'n fagl iddyn nhw, ac yn drap i'w ffrindiau nhw.
Psal WelBeibl 69:23  Gad iddyn nhw golli eu golwg a mynd yn ddall. Gwna iddyn nhw grynu mewn ofn drwy'r adeg.
Psal WelBeibl 69:24  Tywallt dy ddicter arnyn nhw. Gwylltia'n gynddeiriog gyda nhw.
Psal WelBeibl 69:25  Gwna eu gwersylloedd nhw'n anial, heb neb yn byw yn eu pebyll!
Psal WelBeibl 69:26  Maen nhw'n blino y rhai rwyt ti wedi'u taro, ac yn siarad am boen y rhai rwyt ti wedi'u hanafu.
Psal WelBeibl 69:27  Ychwanega hyn at y pethau maen nhw'n euog o'u gwneud. Paid gadael iddyn nhw fynd yn rhydd!
Psal WelBeibl 69:28  Rhwbia'u henwau oddi ar sgrôl y rhai sy'n fyw, Paid rhestru nhw gyda'r bobl sy'n iawn gyda ti.
Psal WelBeibl 69:29  Ond fi – yr un sy'n dioddef ac mewn poen – O Dduw, achub fi a chadw fi'n saff.
Psal WelBeibl 69:30  Dw i'n mynd i ganu cân o fawl i Dduw, a'i ganmol a diolch iddo.
Psal WelBeibl 69:31  Bydd hynny'n plesio'r ARGLWYDD fwy nag ych, neu darw gyda chyrn a charnau.
Psal WelBeibl 69:32  Bydd pobl gyffredin yn gweld hyn ac yn dathlu. Felly codwch eich calonnau, chi sy'n ceisio dilyn Duw!
Psal WelBeibl 69:33  Mae'r ARGLWYDD yn gwrando ar y rhai sydd mewn angen, a dydy e ddim yn diystyru ei bobl sy'n gaeth.
Psal WelBeibl 69:34  Boed i'r nefoedd a'r ddaear ei foli, a'r môr hefyd, a phopeth sydd ynddo!
Psal WelBeibl 69:35  Oherwydd bydd Duw yn achub Seion ac yn adeiladu trefi Jwda eto. Bydd y bobl sy'n ei wasanaethu yn byw yno ac yn meddiannu'r wlad.
Psal WelBeibl 69:36  Bydd eu disgynyddion yn ei hetifeddu, a bydd y rhai sy'n caru ei enw yn cael byw yno.
Chapter 70
Psal WelBeibl 70:2  Gwna i'r rhai sydd am fy lladd i deimlo embaras a chywilydd. Gwna i'r rhai sydd am wneud niwed i mi droi yn ôl mewn cywilydd.
Psal WelBeibl 70:3  Gwna i'r rhai sy'n chwerthin ar fy mhen droi yn ôl mewn cywilydd.
Psal WelBeibl 70:4  Ond gwna i bawb sy'n dy geisio di ddathlu'n llawen! Gwna i'r rhai sy'n mwynhau dy weld ti'n achub ddweud, “Mae Duw mor fawr!”
Psal WelBeibl 70:5  Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn; O Dduw, brysia ata i! Ti ydy'r un sy'n gallu fy helpu a'm hachub. O ARGLWYDD, paid oedi!
Chapter 71
Psal WelBeibl 71:1  Dw i'n troi atat ti am loches, O ARGLWYDD; paid gadael i mi gael fy siomi.
Psal WelBeibl 71:2  Rwyt ti'n gyfiawn, felly achub fi a gollwng fi'n rhydd. Gwranda arna i! Achub fi!
Psal WelBeibl 71:3  Bydd yn graig i mi gysgodi tani – yn gaer lle bydda i'n hollol saff! Ti ydy'r graig ddiogel yna; ti ydy'r gaer.
Psal WelBeibl 71:4  Fy Nuw, achub fi o ddwylo'r rhai drwg, ac o afael y rhai anghyfiawn a chreulon.
Psal WelBeibl 71:5  Achos ti ydy fy ngobaith i, fy meistr, fy ARGLWYDD. Dw i wedi dy drystio di ers pan o'n i'n ifanc.
Psal WelBeibl 71:6  Dw i'n dibynnu arnat ti ers cyn i mi gael fy ngeni; ti wedi gofalu amdana i o groth fy mam, a thi ydy testun fy mawl bob amser.
Psal WelBeibl 71:7  Dw i wedi bod yn destun rhyfeddod i lawer, am dy fod ti wedi bod yn lle saff, cadarn i mi.
Psal WelBeibl 71:8  Dw i'n dy foli di drwy'r adeg, ac yn dy ganmol drwy'r dydd.
Psal WelBeibl 71:9  Paid taflu fi i ffwrdd yn fy henaint, a'm gadael wrth i'r corff wanhau.
Psal WelBeibl 71:10  Mae fy ngelynion yn siarad amdana i, a'r rhai sy'n gwylio fy mywyd yn cynllwynio.
Psal WelBeibl 71:11  “Mae Duw wedi'i adael,” medden nhw. “Ewch ar ei ôl, a'i ddal; fydd neb yn dod i'w achub!”
Psal WelBeibl 71:12  O Dduw, paid mynd yn rhy bell! Fy Nuw, brysia i'm helpu i!
Psal WelBeibl 71:13  Gad i'r rhai sy'n fy erbyn i gael eu cywilyddio'n llwyr. Gad i'r rhai sydd am wneud niwed i mi gael eu gwisgo mewn gwarth a chywilydd!
Psal WelBeibl 71:14  Ond bydda i'n gobeithio bob amser, ac yn dal ati i dy foli di fwy a mwy.
Psal WelBeibl 71:15  Bydda i'n dweud am dy gyfiawnder. Bydda i'n sôn yn ddi-baid am y ffordd rwyt ti'n achub; mae cymaint i'w ddweud!
Psal WelBeibl 71:16  Dw i'n dod i ddweud am y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud – fy meistr, fy ARGLWYDD – a dathlu'r ffaith dy fod mor gyfiawn – ie, ti yn unig!
Psal WelBeibl 71:17  O Dduw, dw i wedi profi'r peth ers pan oeddwn i'n ifanc, ac wedi bod yn sôn am y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud hyd heddiw.
Psal WelBeibl 71:18  Dw i bellach yn hen a'm gwallt yn wyn, ond paid gadael fi nawr, O Dduw. Dw i eisiau dweud wrth y genhedlaeth sydd i ddod am dy gryfder a'r pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud.
Psal WelBeibl 71:19  Mae dy gyfiawnder yn cyrraedd y nefoedd, O Dduw! Ti wedi gwneud pethau mor fawr – O Dduw, does neb tebyg i ti!
Psal WelBeibl 71:20  Er i ti adael i mi wynebu pob math o brofiadau chwerw, wnei di adael i mi fyw eto? Wnei di fy nghodi eto o ddyfnderoedd y ddaear?
Psal WelBeibl 71:22  Yna byddaf yn dy foli gyda'r nabl, a chanmol dy ffyddlondeb, O fy Nuw! Bydda i'n canu i ti gyda'r delyn, O Un Sanctaidd Israel.
Psal WelBeibl 71:23  Bydda i'n gweiddi'n llawen, ac yn canu i ti go iawn – ie, â'm holl nerth, am i ti ngollwng i'n rhydd.
Psal WelBeibl 71:24  Fydda i ddim yn stopio sôn am dy gyfiawnder. Bydd y rhai oedd am wneud niwed i mi yn cael eu siomi a'u cywilyddio!
Chapter 72
Psal WelBeibl 72:1  O Dduw, rho'r gallu i'r brenin i farnu'n deg, a gwna i fab y brenin wneud beth sy'n iawn.
Psal WelBeibl 72:2  Helpa fe i farnu'r bobl yn ddiduedd, a thrin dy bobl anghenus yn iawn.
Psal WelBeibl 72:3  Boed i'r mynyddoedd gyhoeddi heddwch a'r bryniau gyfiawnder i'r bobl.
Psal WelBeibl 72:4  Bydd e'n amddiffyn achos pobl dlawd, yn achub pawb sydd mewn angen ac yn cosbi'r rhai sy'n eu cam-drin.
Psal WelBeibl 72:5  Bydd pobl yn dy addoli tra bydd haul yn yr awyr, a'r lleuad yn goleuo, o un genhedlaeth i'r llall.
Psal WelBeibl 72:6  Bydd fel glaw mân yn disgyn ar dir ffrwythlon, neu gawodydd trwm yn dyfrhau'r tir.
Psal WelBeibl 72:7  Gwna i gyfiawnder lwyddo yn ei ddyddiau, ac i heddwch gynyddu tra bo'r lleuad yn yr awyr.
Psal WelBeibl 72:8  Boed iddo deyrnasu o fôr i fôr, ac o afon Ewffrates i ben draw'r byd!
Psal WelBeibl 72:9  Gwna i lwythau'r anialwch blygu o'i flaen, ac i'w elynion lyfu'r llwch.
Psal WelBeibl 72:10  Bydd brenhinoedd Tarshish a'r ynysoedd yn talu trethi iddo; brenhinoedd Sheba a Seba yn dod â rhoddion iddo.
Psal WelBeibl 72:11  Bydd y brenhinoedd i gyd yn plygu o'i flaen, a'r cenhedloedd i gyd yn ei wasanaethu.
Psal WelBeibl 72:12  Mae'n achub y rhai sy'n galw arno mewn angen, a'r tlawd sydd heb neb i'w helpu.
Psal WelBeibl 72:13  Mae'n gofalu am y gwan a'r anghenus, ac yn achub y tlodion.
Psal WelBeibl 72:14  Mae'n eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais; mae eu bywyd nhw'n werthfawr yn ei olwg.
Psal WelBeibl 72:15  Hir oes iddo! Boed iddo dderbyn aur o Sheba; boed i bobl weddïo drosto'n ddi-baid a dymuno bendith Duw arno bob amser.
Psal WelBeibl 72:16  Boed digonedd o ŷd yn y wlad – yn tyfu hyd at ben y mynyddoedd. Boed i'r cnydau lwyddo fel coed Libanus. Boed i bobl y trefi ffynnu fel glaswellt.
Psal WelBeibl 72:17  Boed iddo fod yn enwog am byth; a boed i'w linach aros tra bod haul yn yr awyr. Boed i bobl gael eu bendithio drwyddo, ac i genhedloedd weld mor hapus ydy e.
Psal WelBeibl 72:18  Bendith ar yr ARGLWYDD Dduw! Duw Israel, yr unig un sy'n gwneud pethau rhyfeddol.
Psal WelBeibl 72:19  Bendigedig fyddo'i enw gwych am byth! Boed i'w ysblander lenwi'r byd i gyd. Ie! Amen ac Amen.
Psal WelBeibl 72:20  Dyma ddiwedd y casgliad yma o weddïau Dafydd fab Jesse.
Chapter 73
Psal WelBeibl 73:1  Ydy wir, mae Duw mor dda wrth Israel; wrth y rhai sydd â chalon lân.
Psal WelBeibl 73:2  Ond bu bron i mi faglu; roeddwn i bron iawn â llithro.
Psal WelBeibl 73:3  Rôn i'n genfigennus o'r rhai balch, wrth weld pobl ddrwg yn llwyddo.
Psal WelBeibl 73:4  Does dim byd yn eu rhwymo nhw; maen nhw'n iach yn gorfforol.
Psal WelBeibl 73:5  Dŷn nhw ddim yn cael eu hunain i helyntion fel pobl eraill, a ddim yn dioddef fel y gweddill ohonon ni.
Psal WelBeibl 73:6  Maen nhw'n gwisgo balchder fel cadwyn aur am eu gwddf, a chreulondeb ydy'r wisg amdanyn nhw.
Psal WelBeibl 73:7  Maen nhw'n llond eu croen, ac mor llawn ohonyn nhw eu hunain hefyd!
Psal WelBeibl 73:8  Maen nhw'n gwawdio ac yn siarad yn faleisus, ac mor hunanhyderus wrth fygwth gormesu.
Psal WelBeibl 73:9  Maen nhw'n siarad fel petai piau nhw'r nefoedd, ac yn strytian yn falch wrth drin y ddaear.
Psal WelBeibl 73:10  Ac mae pobl Dduw yn dilyn eu hesiampl, ac yn llyncu eu llwyddiant fel dŵr.
Psal WelBeibl 73:11  “Na, fydd Duw ddim yn gwybod!” medden nhw. “Ydy'r Goruchaf yn gwybod unrhyw beth?”
Psal WelBeibl 73:12  Edrychwch! Dyna sut rai ydy pobl ddrwg! Yn malio dim, ac yn casglu cyfoeth.
Psal WelBeibl 73:13  Mae'n rhaid fy mod i wedi cadw fy nghalon yn lân i ddim byd, wedi bod mor ddiniwed wrth olchi fy nwylo!
Psal WelBeibl 73:14  Dw i wedi cael fy mhlagio'n ddi-baid, ac wedi dioddef rhyw gosb newydd bob bore.
Psal WelBeibl 73:15  Petawn i wedi siarad yn agored fel hyn byddwn i wedi bradychu dy bobl di.
Psal WelBeibl 73:16  Rôn i'n ceisio deall y peth, a doedd e'n gwneud dim sens,
Psal WelBeibl 73:17  nes i mi fynd i mewn i deml Dduw a sylweddoli beth oedd tynged y rhai drwg!
Psal WelBeibl 73:18  Byddi'n eu gosod nhw mewn lleoedd llithrig, ac yn gwneud iddyn nhw syrthio i ddinistr.
Psal WelBeibl 73:19  Byddan nhw'n cael eu dinistrio mewn chwinciad! Byddan nhw'n cael eu hysgubo i ffwrdd gan ofn.
Psal WelBeibl 73:20  Fel breuddwyd ar ôl i rywun ddeffro, byddi di'n deffro, O ARGLWYDD, a fyddan nhw'n ddim byd ond atgof.
Psal WelBeibl 73:21  Dw i wedi bod yn chwerw fel finegr, a gadael i'r cwbl gorddi tu mewn i mi.
Psal WelBeibl 73:22  Dw i wedi bod mor dwp ac afresymol. Dw i wedi ymddwyn fel anifail gwyllt o dy flaen di.
Psal WelBeibl 73:23  Ac eto, dw i'n dal gyda ti; rwyt ti'n gafael yn dynn ynof fi.
Psal WelBeibl 73:24  Ti sy'n dangos y ffordd ymlaen i mi, a byddi'n fy nerbyn ac yn fy anrhydeddu.
Psal WelBeibl 73:25  Pwy sydd gen i yn y nefoedd ond ti? A does gen i eisiau neb ond ti ar y ddaear chwaith.
Psal WelBeibl 73:26  Mae'r corff a'r meddwl yn pallu, ond mae Duw'n graig ddiogel i mi bob amser.
Psal WelBeibl 73:27  Bydd y rhai sy'n bell oddi wrthot ti'n cael eu difa; byddi'n dinistrio pawb sy'n anffyddlon i ti.
Psal WelBeibl 73:28  Ond dw i'n gwybod mai cadw'n agos at Dduw sydd orau. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn fy nghadw'n saff. Dw i'n mynd i ddweud wrth bawb am beth rwyt ti wedi'i wneud!
Chapter 74
Psal WelBeibl 74:1  O Dduw, pam wyt ti'n ddig gyda ni drwy'r amser? Pam mae dy ffroenau'n mygu yn erbyn defaid dy borfa?
Psal WelBeibl 74:2  Cofia'r criw o bobl gymeraist ti i ti dy hun mor bell yn ôl, y bobl ollyngaist yn rhydd i fod yn llwyth sbesial i ti! Dyma Fynydd Seion, lle rwyt ti'n byw!
Psal WelBeibl 74:3  Brysia! Edrych ar yr adfeilion diddiwedd yma, a'r holl niwed mae'r gelyn wedi'i wneud i dy deml!
Psal WelBeibl 74:4  Mae'r gelynion wedi rhuo wrth ddathlu eu concwest yn dy gysegr; a gosod eu harwyddion a'u symbolau eu hunain yno.
Psal WelBeibl 74:5  Roedden nhw fel dynion yn chwifio bwyeill wrth glirio drysni a choed,
Psal WelBeibl 74:6  yn dryllio'r holl waith cerfio cywrain gyda bwyeill a morthwylion.
Psal WelBeibl 74:7  Yna rhoi dy gysegr ar dân, a dinistrio'n llwyr y deml lle roeddet ti'n aros.
Psal WelBeibl 74:8  “Gadewch i ni ddinistrio'r cwbl!” medden nhw. A dyma nhw'n llosgi pob cysegr i Dduw yn y tir.
Psal WelBeibl 74:9  Does dim arwydd o obaith i'w weld! Does dim proffwyd ar ôl, neb sy'n gwybod am faint mae hyn yn mynd i bara.
Psal WelBeibl 74:10  O Dduw, am faint mwy mae'r gelyn yn mynd i wawdio? Ydy e'n mynd i gael sarhau dy enw di am byth?
Psal WelBeibl 74:11  Pam wyt ti ddim yn gwneud rhywbeth? Pam wyt ti'n dal yn ôl? Plîs, gwna rywbeth!
Psal WelBeibl 74:12  O Dduw, ti ydy fy Mrenin i o'r dechrau! Ti ydy'r Duw sy'n gweithredu ac yn achub ar y ddaear!
Psal WelBeibl 74:13  Ti, yn dy nerth, wnaeth hollti'r môr. Ti ddrylliodd bennau'r ddraig yn y dŵr.
Psal WelBeibl 74:14  Ti sathrodd bennau Lefiathan, a'i adael yn fwyd i greaduriaid yr anialwch.
Psal WelBeibl 74:15  Ti agorodd y ffynhonnau a'r nentydd, a sychu llif yr afonydd.
Psal WelBeibl 74:16  Ti sy'n rheoli'r dydd a'r nos; ti osododd y lleuad a'r haul yn eu lle.
Psal WelBeibl 74:17  Ti roddodd dymhorau i'r ddaear; haf a gaeaf – ti drefnodd y cwbl!
Psal WelBeibl 74:18  Cofia fel mae'r gelyn wedi dy wawdio di, ARGLWYDD; fel mae pobl ffôl wedi dy sarhau di.
Psal WelBeibl 74:19  Paid rhoi dy golomen i'r bwystfil! Paid anghofio dy bobl druan yn llwyr.
Psal WelBeibl 74:20  Cofia'r ymrwymiad wnest ti! Mae lleoedd tywyll sy'n guddfan i greulondeb ym mhobman.
Psal WelBeibl 74:21  Paid gadael i'r bobl sy'n dioddef droi'n ôl yn siomedig. Gad i'r tlawd a'r anghenus foli dy enw.
Psal WelBeibl 74:22  Cod, O Dduw, a dadlau dy achos! Cofia fod ffyliaid yn dy wawdio drwy'r adeg.
Psal WelBeibl 74:23  Paid diystyru twrw'r gelynion, a bloeddio diddiwedd y rhai sy'n dy wrthwynebu di.
Chapter 75
Psal WelBeibl 75:1  Dŷn ni'n diolch i ti, O Dduw; ie, diolch i ti! Rwyt ti wrth law bob amser, ac mae pobl yn sôn am y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud.
Psal WelBeibl 75:2  Meddai Duw, “Mae amser wedi'i drefnu pan fydda i'n barnu'n deg.
Psal WelBeibl 75:3  Pan mae'r ddaear a phawb sy'n byw arni yn crynu, fi sy'n cadw ei cholofnau'n gadarn. Saib
Psal WelBeibl 75:4  Dw i'n dweud wrth y balch, ‘Peidiwch brolio!’ ac wrth y rhai drwg, ‘Peidiwch bod yn rhy siŵr ohonoch eich hunain!
Psal WelBeibl 75:5  Peidiwch codi eich cyrn yn uchel a bod mor heriol wrth siarad.’”
Psal WelBeibl 75:6  Nid o'r gorllewin na'r dwyrain, nac o'r anialwch y daw buddugoliaeth –
Psal WelBeibl 75:7  Duw ydy'r un sy'n barnu; fe sy'n tynnu un i lawr ac yn codi un arall.
Psal WelBeibl 75:8  Oes, mae cwpan yn llaw'r ARGLWYDD ac mae'r gwin ynddi yn ewynnu ac wedi'i gymysgu. Bydd yn ei dywallt allan, a bydd y rhai drwg ar y ddaear yn ei yfed – yn yfed pob diferyn!
Psal WelBeibl 75:9  Ond bydda i'n ei glodfori am byth, ac yn canu mawl i Dduw Jacob, sy'n dweud,
Psal WelBeibl 75:10  “Bydda i'n torri cyrn y rhai drwg, ac yn rhoi'r fuddugoliaeth i'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.”
Chapter 76
Psal WelBeibl 76:1  Mae pawb yn Jwda'n gwybod am Dduw; mae ganddo enw da yn Israel.
Psal WelBeibl 76:2  Mae'n byw ar Fynydd Seion, yn Jerwsalem, dinas heddwch.
Psal WelBeibl 76:3  Dyna lle torrodd e'r saethau tanllyd, y darian, y cleddyf, a'r holl arfau rhyfel. Saib
Psal WelBeibl 76:4  Ti ydy'r Un Disglair, yr Un Hardd sy'n dod i lawr o'r mynyddoedd ar ôl trechu dy elynion.
Psal WelBeibl 76:5  Cafodd eu milwyr dewr eu hysbeilio! Maen nhw'n ‛cysgu‛ am y tro olaf! Doedd y rhyfelwr cryfaf ddim yn gallu codi bys!
Psal WelBeibl 76:6  Dyma ti'n rhoi bloedd, O Dduw Jacob, ac roedd pob marchog a gyrrwr cerbyd yn farw.
Psal WelBeibl 76:7  O, rwyt ti mor rhyfeddol! Pwy sy'n gallu sefyll yn dy erbyn pan wyt ti'n ddig?
Psal WelBeibl 76:8  Wrth i ti gyhoeddi dy ddedfryd o'r nefoedd, roedd y ddaear wedi'i pharlysu gan ofn,
Psal WelBeibl 76:9  wrth weld Duw yn codi i farnu ac achub y rhai sy'n cael eu cam-drin yn y tir. Saib
Psal WelBeibl 76:10  Bydd rhai mwyaf ffyrnig y ddaear yn dy gydnabod pan fyddi'n dangos dy ddigofaint yn llawn.
Psal WelBeibl 76:11  Gwnewch addunedau i'r ARGLWYDD eich Duw, a'u cadw! Boed i bawb sydd o'i gwmpas ddod â rhoddion i'r Duw sydd i'w ofni!
Psal WelBeibl 76:12  Mae'n torri crib y llywodraethwyr balch, ac yn dychryn brenhinoedd y ddaear.
Chapter 77
Psal WelBeibl 77:1  Dw i'n gweiddi'n uchel ar Dduw, yn gweiddi'n uchel ar iddo wrando arna i.
Psal WelBeibl 77:2  Dw i mewn helbul, ac yn troi at yr ARGLWYDD; dw i wedi bod yn estyn fy nwylo ato mewn gweddi drwy'r nos, ond ches i ddim cysur.
Psal WelBeibl 77:3  Dw i wedi bod yn ochneidio wrth feddwl am Dduw, dw i wedi bod yn myfyrio arno – ond yn anobeithio. Saib
Psal WelBeibl 77:4  Ti sydd wedi fy nghadw i'n effro; dw i mor boenus, wn i ddim beth i'w ddweud.
Psal WelBeibl 77:5  Dw i wedi bod yn meddwl am yr hen ddyddiau, flynyddoedd lawer yn ôl.
Psal WelBeibl 77:6  Cofio'r gân roeddwn i'n arfer ei chanu. Meddwl drwy'r nos am y peth, a chwilio am ateb.
Psal WelBeibl 77:7  “Ydy'r ARGLWYDD wedi troi cefn arnon ni am byth? Ydy e'n mynd i ddangos ei ffafr aton ni eto?
Psal WelBeibl 77:8  Ydy ei ffyddlondeb e wedi dod i ben yn llwyr? Ydy'r addewidion wnaeth e byth yn mynd i gael eu cyflawni?
Psal WelBeibl 77:9  Ydy Duw wedi anghofio sut i ddangos trugaredd? Ydy ei ddig yn gryfach na'i dosturi?” Saib
Psal WelBeibl 77:10  “Mae meddwl y fath beth yn codi cyfog arna i: fod y Goruchaf wedi newid ei ffyrdd.”
Psal WelBeibl 77:11  Dw i'n mynd i atgoffa fy hun beth wnaeth yr ARGLWYDD – ydw, dw i'n cofio'r pethau rhyfeddol wnest ti ers talwm!
Psal WelBeibl 77:12  Dw i'n mynd i gofio am bopeth wnest ti, a myfyrio ar y cwbl.
Psal WelBeibl 77:13  O Dduw, mae dy ffyrdd di'n gwbl unigryw! Oes yna dduw tebyg i'n Duw ni?
Psal WelBeibl 77:14  Na! Ti ydy'r Duw sy'n gwneud pethau anhygoel! Ti wedi dangos dy nerth i'r bobloedd i gyd.
Psal WelBeibl 77:15  Ti wnaeth ollwng dy bobl yn rhydd gyda dy fraich gref, sef disgynyddion Jacob a Joseff. Saib
Psal WelBeibl 77:16  Dyma'r dyfroedd yn dy weld di, O Dduw, dyma'r dyfroedd yn dy weld di ac yn cynhyrfu. Roedd y môr dwfn yn crynu mewn ofn!
Psal WelBeibl 77:17  Roedd y cymylau'n tywallt y glaw, yr awyr yn taranu, a dy saethau yn fflachio ym mhobman.
Psal WelBeibl 77:18  Roedd dy lais i'w glywed yn taranu yn y storm; dy fellt yn goleuo'r byd, a'r ddaear yn crynu drwyddi.
Psal WelBeibl 77:19  Agoraist ffordd drwy'r môr; cerddaist drwy'r dyfroedd cryfion, er bod neb yn gweld olion dy draed.
Psal WelBeibl 77:20  Dyma ti'n arwain dy bobl fel praidd dan ofal Moses ac Aaron.
Chapter 78
Psal WelBeibl 78:1  Gwrandwch arna i'n eich dysgu, fy mhobl! Trowch i wrando ar beth dw i'n ddweud.
Psal WelBeibl 78:2  Dw i'n mynd i adrodd straeon, a dweud am bethau o'r gorffennol sy'n ddirgelwch:
Psal WelBeibl 78:3  pethau glywson ni, a'u dysgu am fod ein hynafiaid wedi adrodd y stori.
Psal WelBeibl 78:4  A byddwn ni'n eu rhannu gyda'n plant, ac yn dweud wrth y genhedlaeth nesaf. Dweud fod yr ARGLWYDD yn haeddu ei foli! Sôn am ei nerth a'r pethau rhyfeddol a wnaeth.
Psal WelBeibl 78:5  Rhoddodd ei reolau i bobl Jacob, a sefydlu ei gyfraith yn Israel. Gorchmynnodd i'n hynafiaid eu dysgu i'w plant,
Psal WelBeibl 78:6  er mwyn i'r genhedlaeth nesaf wybod sef y plant sydd heb eu geni eto – iddyn nhw, yn eu tro, ddysgu eu plant.
Psal WelBeibl 78:7  Iddyn nhw ddysgu trystio Duw a pheidio anghofio'r pethau mawr mae'n eu gwneud. Iddyn nhw fod yn ufudd i'w orchmynion,
Psal WelBeibl 78:8  yn lle bod fel eu hynafiaid yn tynnu'n groes ac yn ystyfnig; cenhedlaeth oedd yn anghyson, ac yn anffyddlon i Dduw.
Psal WelBeibl 78:9  Fel dynion Effraim, bwasaethwyr gwych, yn troi cefn yng nghanol y frwydr.
Psal WelBeibl 78:10  Wnaethon nhw ddim cadw eu hymrwymiad i Dduw, na gwrando ar ei ddysgeidiaeth.
Psal WelBeibl 78:11  Roedden nhw wedi anghofio'r cwbl wnaeth e, a'r pethau rhyfeddol oedd wedi eu dangos iddyn nhw.
Psal WelBeibl 78:12  Gwnaeth bethau rhyfeddol o flaen eu hynafiaid yn yr Aifft, ar wastatir Soan.
Psal WelBeibl 78:13  Holltodd y môr a'u harwain nhw drwyddo, a gwneud i'r dŵr sefyll i fyny fel wal.
Psal WelBeibl 78:14  Eu harwain gyda chwmwl yn ystod y dydd, ac yna tân disglair drwy'r nos.
Psal WelBeibl 78:15  Holltodd greigiau yn yr anialwch, a rhoi digonedd o ddŵr iddyn nhw i'w yfed.
Psal WelBeibl 78:16  Nentydd yn arllwys o'r graig; dŵr yn llifo fel afonydd!
Psal WelBeibl 78:17  Ond roedden nhw'n dal i bechu yn ei erbyn, a herio'r Duw Goruchaf yn yr anialwch.
Psal WelBeibl 78:18  Roedden nhw'n fwriadol yn rhoi Duw ar brawf drwy hawlio'r bwyd roedden nhw'n crefu amdano.
Psal WelBeibl 78:19  Roedden nhw'n sarhau Duw drwy ofyn, “Ydy'r gallu gan Dduw i wneud hyn? All e baratoi gwledd i ni yn yr anialwch?
Psal WelBeibl 78:20  Mae'n wir ei fod wedi taro'r graig, a bod dŵr wedi pistyllio allan a llifo fel afonydd. Ond ydy e'n gallu rhoi bwyd i ni hefyd? Ydy e'n gallu rhoi cig i'w bobl?”
Psal WelBeibl 78:21  Roedd yr ARGLWYDD yn gynddeiriog pan glywodd hyn. Roedd fel tân yn llosgi yn erbyn pobl Jacob. Roedd wedi gwylltio'n lân gydag Israel,
Psal WelBeibl 78:22  am eu bod nhw heb drystio Duw, a chredu ei fod yn gallu achub.
Psal WelBeibl 78:23  Ond rhoddodd orchymyn i'r awyr uwch eu pennau, ac agorodd ddrysau'r nefoedd.
Psal WelBeibl 78:24  Glawiodd fanna iddyn nhw i'w fwyta; rhoddodd ŷd o'r nefoedd iddyn nhw!
Psal WelBeibl 78:25  Cafodd y bobl fwyta bara'r angylion! Roedd digonedd o fwyd i bawb.
Psal WelBeibl 78:26  Yna gwnaeth i wynt y dwyrain chwythu yn yr awyr, ac arweiniodd wynt y de drwy ei nerth.
Psal WelBeibl 78:27  Roedd hi'n glawio cig fel llwch, adar yn hedfan – cymaint â'r tywod ar lan y môr!
Psal WelBeibl 78:28  Gwnaeth iddyn nhw ddisgyn yng nghanol y gwersyll, o gwmpas y babell lle roedd e'i hun yn aros.
Psal WelBeibl 78:29  Felly cawson nhw fwy na digon i'w fwyta; rhoddodd iddyn nhw'r bwyd roedden nhw'n crefu amdano.
Psal WelBeibl 78:30  Ond cyn iddyn nhw orffen bwyta, pan oedd y bwyd yn dal yn eu cegau,
Psal WelBeibl 78:31  dyma Duw yn dangos mor ddig oedd e! Lladdodd y rhai cryfaf ohonyn nhw, a tharo i lawr rai ifanc Israel.
Psal WelBeibl 78:32  Ond hyd yn oed wedyn roedden nhw'n dal i bechu! Doedden nhw ddim yn credu yn ei allu rhyfeddol.
Psal WelBeibl 78:33  Yn sydyn roedd Duw wedi dod â'u dyddiau i ben; daeth y diwedd mewn trychineb annisgwyl.
Psal WelBeibl 78:34  Pan oedd Duw yn eu taro, dyma nhw'n ei geisio; roedden nhw'n troi'n ôl ato ac yn hiraethu amdano.
Psal WelBeibl 78:35  Dyma nhw'n cofio mai Duw oedd eu Craig ac mai'r Duw Goruchaf oedd wedi'u rhyddhau nhw.
Psal WelBeibl 78:36  Ond doedd eu geiriau'n ddim byd ond rhagrith; roedden nhw'n dweud celwydd.
Psal WelBeibl 78:37  Doedden nhw ddim wir o ddifrif, nac yn ffyddlon i'w hymrwymiad.
Psal WelBeibl 78:38  Ac eto, mae Duw mor drugarog! Roedd yn maddau iddyn nhw am fod mor wamal; wnaeth e ddim eu dinistrio nhw. Roedd yn ffrwyno'i deimladau dro ar ôl tro, yn lle arllwys ei ddicter ffyrnig arnyn nhw.
Psal WelBeibl 78:39  Roedd yn cofio mai pobl feidrol oedden nhw – chwa o wynt yn pasio heibio heb ddod yn ôl.
Psal WelBeibl 78:40  Roedden nhw wedi gwrthryfela mor aml yn yr anialwch, a pheri gofid iddo yn y tir diffaith.
Psal WelBeibl 78:41  Rhoi Duw ar brawf dro ar ôl tro, a digio Un Sanctaidd Israel.
Psal WelBeibl 78:42  Anghofio beth wnaeth e pan ollyngodd nhw'n rhydd o afael y gelyn.
Psal WelBeibl 78:43  Roedd wedi dangos iddyn nhw yn yr Aifft, a gwneud pethau rhyfeddol ar wastatir Soan:
Psal WelBeibl 78:44  Trodd yr afonydd yn waed, fel eu bod nhw'n methu yfed y dŵr.
Psal WelBeibl 78:45  Anfonodd haid o bryfed i'w pigo a llyffantod i ddifetha'r wlad.
Psal WelBeibl 78:46  Trawodd eu cnydau â phla o lindys, ffrwyth y tir â phla o locustiaid.
Psal WelBeibl 78:47  Dinistriodd y gwinwydd â chenllysg, a'r coed sycamorwydd â rhew.
Psal WelBeibl 78:48  Trawodd y cenllysg eu gwartheg, a'r mellt eu preiddiau.
Psal WelBeibl 78:49  Dangosodd ei fod yn ddig gyda nhw, yn wyllt gynddeiriog! Tarodd nhw â thrybini, ac anfon criw o angylion dinistriol
Psal WelBeibl 78:50  i agor llwybr i'w lid. Wnaeth e ddim arbed eu bywydau, ond anfon haint i'w dinistrio nhw.
Psal WelBeibl 78:51  Trawodd y mab hynaf ym mhob teulu yn yr Aifft, ffrwyth cyntaf eu cyfathrach ym mhebyll Cham.
Psal WelBeibl 78:52  Yna aeth â'i bobl allan fel defaid, a'u harwain fel praidd yn yr anialwch.
Psal WelBeibl 78:53  Arweiniodd nhw'n saff a heb ofn, ond cafodd y gelynion eu llyncu yn y môr.
Psal WelBeibl 78:54  Yna daeth â nhw i'w dir cysegredig, i'r mynydd oedd wedi'i gymryd drwy rym.
Psal WelBeibl 78:55  Gyrrodd allan genhedloedd o'u blaenau, a rhannu'r tir rhyngddyn nhw; gwnaeth i lwythau Israel setlo yn eu lle.
Psal WelBeibl 78:56  Ond dyma nhw'n rhoi'r Duw Goruchaf ar brawf eto! Gwrthryfela yn ei erbyn, a pheidio gwneud beth oedd yn ei ofyn.
Psal WelBeibl 78:57  Dyma nhw'n troi eu cefnau arno, a bod yn anffyddlon fel eu hynafiaid; roedden nhw fel bwa llac – yn dda i ddim!
Psal WelBeibl 78:58  Roedd eu hallorau paganaidd yn ei ddigio; a'u delwau metel yn ei wneud yn eiddigeddus.
Psal WelBeibl 78:59  Clywodd Duw nhw wrthi, ac roedd yn gynddeiriog; a gwrthododd Israel yn llwyr.
Psal WelBeibl 78:60  Trodd ei gefn ar ei dabernacl yn Seilo, sef y babell lle roedd yn byw gyda'i bobl.
Psal WelBeibl 78:61  Gadawodd i'w Arch gael ei dal; rhoddodd ei ysblander yn nwylo'r gelyn!
Psal WelBeibl 78:62  Gadawodd i'w bobl gael eu lladd â'r cleddyf; roedd wedi gwylltio gyda'i etifeddiaeth.
Psal WelBeibl 78:63  Daeth tân i ddinistrio'r dynion ifanc, ac roedd merched ifanc yn marw cyn priodi.
Psal WelBeibl 78:64  Tarodd y cleddyf eu hoffeiriaid i lawr, a doedd dim amser i'r gweddwon alaru.
Psal WelBeibl 78:65  Ond yna dyma'r Meistr yn deffro! Roedd fel milwr gwallgo wedi cael gormod o win.
Psal WelBeibl 78:66  Gyrrodd ei elynion yn eu holau a chodi cywilydd arnyn nhw am byth.
Psal WelBeibl 78:67  Ond yna gadawodd dir Joseff, a pheidio dewis llwyth Effraim.
Psal WelBeibl 78:68  Dewisodd lwyth Jwda, a Mynydd Seion mae mor hoff ohono.
Psal WelBeibl 78:69  Cododd ei deml yn uchel fel y nefoedd, ac yn ddiogel fel y ddaear, sydd wedi'i sefydlu am byth.
Psal WelBeibl 78:70  Dewisodd Dafydd, ei was, a'i gymryd oddi wrth y corlannau;
Psal WelBeibl 78:71  o fod yn gofalu am y defaid i ofalu am ei bobl Jacob, sef Israel, ei etifeddiaeth.
Psal WelBeibl 78:72  Gofalodd amdanyn nhw gydag ymroddiad llwyr; a'u harwain mor fedrus.
Chapter 79
Psal WelBeibl 79:1  O Dduw, mae'r gwledydd paganaidd wedi cymryd dy dir. Maen nhw wedi halogi dy deml sanctaidd a throi Jerwsalem yn bentwr o gerrig.
Psal WelBeibl 79:2  Maen nhw wedi gadael cyrff dy weision yn fwyd i'r adar, a chnawd dy bobl ffyddlon i anifeiliaid gwyllt.
Psal WelBeibl 79:3  Mae gwaed dy bobl yn llifo fel dŵr o gwmpas Jerwsalem, a does neb i gladdu'r cyrff.
Psal WelBeibl 79:4  Dŷn ni'n gyff gwawd i'n cymdogion; ac yn destun sbort a dirmyg i bawb o'n cwmpas.
Psal WelBeibl 79:5  Am faint mwy, O ARGLWYDD? Fyddi di'n ddig am byth? Fydd dy eiddigedd, sy'n llosgi fel tân, byth yn diffodd?
Psal WelBeibl 79:6  Tywallt dy lid ar y bobloedd sydd ddim yn dy nabod a'r teyrnasoedd hynny sydd ddim yn dy addoli!
Psal WelBeibl 79:7  Nhw ydy'r rhai sydd wedi llarpio Jacob a dinistrio'i gartref.
Psal WelBeibl 79:8  Aethon ni ar gyfeiliorn, ond paid dal hynny yn ein herbyn. Brysia! Dangos dosturi aton ni, achos dŷn ni mewn trafferthion go iawn!
Psal WelBeibl 79:9  Helpa ni, O Dduw ein hachubwr, er mwyn dy enw da. Achub ni a maddau ein pechodau, er mwyn dy enw da.
Psal WelBeibl 79:10  Pam ddylai'r paganiaid gael dweud, “Ble mae eu Duw nhw?” Gad i ni dy weld di'n rhoi gwers i'r cenhedloedd, a thalu'n ôl iddyn nhw am dywallt gwaed dy weision.
Psal WelBeibl 79:11  Gwrando ar y carcharorion rhyfel yn griddfan! Defnyddia dy nerth i arbed y rhai sydd wedi'u condemnio i farwolaeth!
Psal WelBeibl 79:12  Tala nôl yn llawn i'n cymdogion! Maen nhw wedi dy enllibio di, Feistr.
Psal WelBeibl 79:13  Yna byddwn ni, dy bobl a phraidd dy borfa, yn ddiolchgar i ti am byth ac yn dy foli di ar hyd y cenedlaethau!
Chapter 80
Psal WelBeibl 80:1  Gwrando, o fugail Israel sy'n arwain Joseff fel praidd. Ti sydd wedi dy orseddu uwchben y cerwbiaid, disgleiria
Psal WelBeibl 80:2  o flaen Effraim, Benjamin, a Manasse! Dangos dy nerth i ni, a thyrd i'n hachub!
Psal WelBeibl 80:3  Adfer ni, O Dduw! Gwena'n garedig arnon ni. Achub ni!
Psal WelBeibl 80:4  O ARGLWYDD Dduw hollbwerus, am faint mwy rwyt ti'n mynd i fod yn ddig gyda gweddïau dy bobl?
Psal WelBeibl 80:5  Ti wedi'u bwydo nhw â dagrau, a gwneud iddyn nhw yfed dagrau wrth y gasgen.
Psal WelBeibl 80:6  Ti wedi troi ein cymdogion yn ein herbyn; mae'n gelynion yn gwneud sbort ar ein pennau.
Psal WelBeibl 80:7  O Dduw hollbwerus, adfer ni! Gwena'n garedig arnon ni! Achub ni!
Psal WelBeibl 80:8  Cymeraist winwydden o'r Aifft, a gyrru cenhedloedd i ffwrdd er mwyn ei thrawsblannu hi.
Psal WelBeibl 80:9  Cliriaist le iddi, er mwyn iddi fwrw gwreiddiau a llenwi'r tir.
Psal WelBeibl 80:10  Roedd ei chysgod dros y mynyddoedd, a'i changhennau fel rhai coed cedrwydd.
Psal WelBeibl 80:11  Roedd ei changhennau'n cyrraedd at y môr, a'i brigau at afon Ewffrates.
Psal WelBeibl 80:12  Pam wnest ti fwrw'r wal o'i chwmpas i lawr, fel bod pwy bynnag sy'n pasio heibio yn pigo'i ffrwyth?
Psal WelBeibl 80:13  Mae'r baedd gwyllt wedi tyrchu o dani, a'r pryfed yn bwyta ei dail.
Psal WelBeibl 80:14  O Dduw hollbwerus, tro yn ôl aton ni! Edrych i lawr o'r nefoedd ac archwilia gyflwr dy winwydden!
Psal WelBeibl 80:16  Ond bellach mae hi wedi'i llosgi a'i thorri i lawr! Mae wedi'i difetha gan dy gerydd di.
Psal WelBeibl 80:17  Nertha'r dyn rwyt wedi'i ddewis, yr un dynol rwyt wedi'i wneud yn gryf.
Psal WelBeibl 80:18  Wnawn ni ddim troi cefn arnat ti. Adfywia ni, a byddwn ni'n galw ar dy enw.
Psal WelBeibl 80:19  O ARGLWYDD Dduw hollbwerus, adfer ni! Gwena'n garedig arnon ni. Achub ni!
Chapter 81
Psal WelBeibl 81:1  Canwch yn llawen i Dduw, ein nerth! Gwaeddwch yn uchel ar Dduw Jacob!
Psal WelBeibl 81:2  Canwch gân, taro'r drwm, a chanu'r delyn fwyn a'r nabl!
Psal WelBeibl 81:3  Seiniwch y corn hwrdd ar y lleuad newydd, ar ddechrau'r Ŵyl pan mae'r lleuad yn llawn.
Psal WelBeibl 81:4  Dyma'r drefn yn Israel; gorchymyn wedi'i roi gan Dduw Jacob.
Psal WelBeibl 81:5  Rhoddodd hi'n rheol i bobl Joseff pan ymosododd ar yr Aifft i'w gollwng yn rhydd. Dw i'n clywed iaith dw i ddim yn ei deall –
Psal WelBeibl 81:6  “Cymerais y baich oddi ar dy ysgwyddau, a dy ollwng yn rhydd o orfod cario'r fasged.
Psal WelBeibl 81:7  Dyma ti'n gweiddi yn dy argyfwng, a dyma fi'n dy achub; atebais di o'r lle dirgel lle mae'r taranau. Yna dy roi ar brawf wrth Ffynnon Meriba. Saib
Psal WelBeibl 81:8  Gwrandwch, fy mhobl, dw i'n eich rhybuddio chi! O na fyddet ti'n gwrando arna i, Israel!
Psal WelBeibl 81:9  Ti ddim i gael duw arall na phlygu i lawr i addoli duw estron.
Psal WelBeibl 81:10  Fi, yr ARGLWYDD ydy dy Dduw di. Fi ddaeth â ti allan o wlad yr Aifft. Agor dy geg, a bydda i'n dy fwydo!
Psal WelBeibl 81:11  Ond wnaeth fy mhobl ddim gwrando. Wnaeth Israel ddim ufuddhau i mi;
Psal WelBeibl 81:12  felly dyma fi'n gadael iddyn nhw fod yn ystyfnig a gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau.
Psal WelBeibl 81:13  O na fyddai fy mhobl yn gwrando arna i! O na fyddai Israel yn fy nilyn i!
Psal WelBeibl 81:14  Byddwn i'n trechu eu gelynion nhw yn syth; ac yn ymosod ar y rhai sy'n eu gwrthwynebu nhw.”
Psal WelBeibl 81:15  (Boed i'r rhai sy'n casáu'r ARGLWYDD wingo o'i flaen – dyna eu tynged nhw am byth!)
Psal WelBeibl 81:16  “Byddwn i'n bwydo Israel â'r ŷd gorau, ac yn dy fodloni gyda mêl o'r graig.”
Chapter 82
Psal WelBeibl 82:1  Mae Duw'n sefyll i fyny yn y cyngor dwyfol, ac yn cyhoeddi dedfryd yng nghanol y ‛duwiau‛.
Psal WelBeibl 82:2  “Am faint ydych chi'n mynd i farnu'n anghyfiawn a dangos ffafr at y rhai sy'n gwneud drwg?” Saib
Psal WelBeibl 82:3  “Dylech roi dedfryd o blaid y gwan a'r amddifad! Sefyll dros hawliau'r rhai anghenus sy'n cael eu gorthrymu!
Psal WelBeibl 82:4  Cadw'r rhai sy'n wan a di-rym yn saff a'u hachub nhw o afael pobl ddrwg!”
Psal WelBeibl 82:5  Ond dŷn nhw'n deall dim. Maen nhw'n crwydro yn y tywyllwch, tra mae sylfeini'r ddaear yn ysgwyd!
Psal WelBeibl 82:6  Dywedais, “Duwiau ydych chi, meibion y Duw Goruchaf bob un ohonoch.
Psal WelBeibl 82:7  Ond byddwch yn marw fel pobl feidrol; byddwch yn syrthio fel unrhyw arweinydd dynol.”
Psal WelBeibl 82:8  Cod, O Dduw, i farnu'r byd! Dy etifeddiaeth di ydy'r cenhedloedd i gyd.
Chapter 83
Psal WelBeibl 83:1  O Dduw, paid bod yn ddistaw! Paid diystyru ni a gwneud dim!
Psal WelBeibl 83:2  Edrych! Mae dy elynion di'n codi twrw. Mae'r rhai sy'n dy gasáu di yn codi eu pennau.
Psal WelBeibl 83:3  Maen nhw mor gyfrwys, ac yn cynllwynio yn erbyn dy bobl di. Maen nhw am wneud niwed i'r rhai rwyt ti'n eu trysori!
Psal WelBeibl 83:4  Maen nhw'n dweud, “Gadewch i ni eu difa nhw'n llwyr! Fydd dim sôn am genedl Israel byth mwy.”
Psal WelBeibl 83:5  Maen nhw'n unfrydol yn eu bwriad, ac wedi ffurfio cynghrair yn dy erbyn di –
Psal WelBeibl 83:7  Gebal, Ammon, ac Amalec, Philistia a phobl Tyrus.
Psal WelBeibl 83:8  Mae Asyria wedi ymuno â nhw hefyd, i roi help llaw i ddisgynyddion Lot. Saib
Psal WelBeibl 83:9  Delia gyda nhw fel y gwnest ti gyda Midian – fel y gwnest ti i Sisera a Jabin, wrth afon Cison.
Psal WelBeibl 83:10  Cawson nhw eu dinistrio yn En-dor. Roedd eu cyrff fel tail ar wyneb y tir!
Psal WelBeibl 83:11  Delia gyda'u harweinwyr nhw fel y gwnest ti gydag Oreb a Seëb. Gwna eu tywysogion nhw fel Seba a Tsalmwna,
Psal WelBeibl 83:13  O fy Nuw, trin nhw fel plu ysgall, neu us yn cael ei chwythu gan y gwynt!
Psal WelBeibl 83:14  Difa nhw, fel mae tân yn llosgi coedwig, a'i fflamau'n lledu dros y bryniau.
Psal WelBeibl 83:15  Dos ar eu hôl nhw â'th storm, a'u dychryn nhw â'th gorwynt.
Psal WelBeibl 83:16  Coda gywilydd arnyn nhw, a gwna iddyn nhw dy gydnabod di, O ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 83:17  Cywilydd a dychryn fydd byth yn dod i ben! Gad iddyn nhw farw yn eu gwarth!
Psal WelBeibl 83:18  Byddan nhw'n deall wedyn mai ti ydy'r ARGLWYDD, ie, ti yn unig! Ti ydy'r Duw Goruchaf sy'n rheoli'r byd i gyd!
Chapter 84
Psal WelBeibl 84:1  Mae lle rwyt ti'n byw mor hyfryd, O ARGLWYDD hollbwerus!
Psal WelBeibl 84:2  Dw i'n hiraethu; ydw, dw i'n ysu am gael mynd i deml yr ARGLWYDD. Mae'r cyfan ohono i'n gweiddi'n llawen ar y Duw byw!
Psal WelBeibl 84:3  Mae hyd yn oed aderyn y to wedi gwneud ei gartref yno! Mae'r wennol wedi gwneud nyth iddi'i hun, i fagu ei chywion wrth ymyl dy allor di, O ARGLWYDD hollbwerus, fy Mrenin a'm Duw.
Psal WelBeibl 84:4  Y fath fendith sydd i'r rhai sy'n aros yn dy dŷ di, y rhai sy'n dy addoli di drwy'r adeg! Saib
Psal WelBeibl 84:5  Y fath fendith sydd i'r rhai rwyt ti'n eu cadw nhw'n saff, wrth iddyn nhw deithio'n frwd ar bererindod i dy deml!
Psal WelBeibl 84:6  Wrth iddyn nhw basio drwy ddyffryn Bacha, byddi di wedi ei droi yn llawn ffynhonnau. Bydd y glaw cynnar wedi tywallt ei fendithion arno.
Psal WelBeibl 84:7  Byddan nhw'n symud ymlaen o nerth i nerth, a byddan nhw i gyd yn ymddangos o flaen Duw yn Seion.
Psal WelBeibl 84:8  O ARGLWYDD Dduw hollbwerus, gwrando ar fy ngweddi! Clyw fi, O Dduw Jacob. Saib
Psal WelBeibl 84:9  Edrych ar y brenin, ein tarian ni, O Dduw! Edrych yn ffafriol ar yr un wnest ti ei eneinio.
Psal WelBeibl 84:10  Mae un diwrnod yn dy deml yn well na miloedd yn rhywle arall! Byddai'n well gen i aros ar drothwy tŷ fy Nuw na mynd i loetran yng nghartrefi pobl ddrwg.
Psal WelBeibl 84:11  Mae'r ARGLWYDD Dduw yn haul ac yn darian i'n hamddiffyn ni! Mae'r ARGLWYDD yn garedig ac yn rhannu ei ysblander gyda ni. Mae e'n rhoi popeth da i'r rhai sy'n byw yn onest.
Psal WelBeibl 84:12  O ARGLWYDD hollbwerus, y fath fendith sydd i rywun sy'n dy drystio di!
Chapter 85
Psal WelBeibl 85:1  O ARGLWYDD, ti wedi bod yn garedig wrth dy dir, ac wedi rhoi llwyddiant i Jacob eto.
Psal WelBeibl 85:2  Ti wedi symud euogrwydd dy bobl, a maddau eu pechodau i gyd. Saib
Psal WelBeibl 85:3  Ti wedi tynnu dy lid yn ôl, a throi cefn ar dy wylltineb.
Psal WelBeibl 85:4  Tro ni'n ôl, O Dduw, ein hachubwr! Rho heibio dy ddicter tuag aton ni.
Psal WelBeibl 85:5  Wyt ti'n mynd i fod yn ddig gyda ni am byth? Wyt ti'n mynd i aros yn wyllt am genedlaethau?
Psal WelBeibl 85:6  Plîs, wnei di'n hadfywio ni unwaith eto, i dy bobl gael dathlu beth wnest ti!
Psal WelBeibl 85:7  O ARGLWYDD, dangos dy gariad ffyddlon i ni. Plîs, achub ni!
Psal WelBeibl 85:8  Dw i'n mynd i wrando beth sydd gan Dduw i'w ddweud. Ydy wir! Mae'r ARGLWYDD yn addo heddwch i'r rhai sy'n ei ddilyn yn ffyddlon – ond rhaid iddyn nhw beidio troi'n ôl at eu ffolineb!
Psal WelBeibl 85:9  Mae e'n barod iawn i achub y rhai sy'n ei ddilyn e; wedyn bydd ei ysblander i'w weld yn ein tir eto.
Psal WelBeibl 85:10  Bydd cariad a gwirionedd yn dod at ei gilydd; bydd cyfiawnder a heddwch yn cusanu.
Psal WelBeibl 85:11  Bydd gwirionedd yn tarddu o'r tir, a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd.
Psal WelBeibl 85:12  Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi pethau da i ni; a bydd y tir yn rhoi ei gnydau.
Psal WelBeibl 85:13  Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen ac yn paratoi'r ffordd iddo.
Chapter 86
Psal WelBeibl 86:1  Gwranda, O ARGLWYDD, ac ateb fi! Dw i'n wan ac yn ddiamddiffyn.
Psal WelBeibl 86:2  Cadw fi'n saff. Dw i'n ffyddlon i ti! Achub dy was. Ti ydy fy Nuw a dw i'n dy drystio di.
Psal WelBeibl 86:3  Dangos drugaredd ata i, O ARGLWYDD! Dw i wedi bod yn gweiddi arnat ti'n ddi-baid.
Psal WelBeibl 86:4  Gwna dy was yn llawen eto! Dw i'n gweddïo'n daer arnat ti, ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 86:5  Rwyt ti, ARGLWYDD, yn dda ac yn maddau. Rwyt ti mor anhygoel o hael at y rhai sy'n galw arnat ti.
Psal WelBeibl 86:6  Gwranda ar fy ngweddi, O ARGLWYDD! Edrych, dw i'n erfyn am drugaredd!
Psal WelBeibl 86:7  Dw i mewn trafferthion ac yn galw arnat, am mai ti sy'n gallu fy ateb i.
Psal WelBeibl 86:8  Does dim un o'r duwiau eraill yn debyg i ti, ARGLWYDD. Does neb arall yn gallu gwneud y pethau rwyt ti'n eu gwneud.
Psal WelBeibl 86:9  Bydd yr holl genhedloedd rwyt ti wedi'u creu yn dod ac yn plygu o dy flaen di, O ARGLWYDD. Byddan nhw'n anrhydeddu dy enw di,
Psal WelBeibl 86:10  am dy fod ti'n Dduw mawr ac yn gwneud pethau anhygoel. Ti ydy'r unig Dduw go iawn!
Psal WelBeibl 86:11  Dysga fi sut i fyw, O ARGLWYDD, i mi dy ddilyn di'n ffyddlon. Gwna fi'n benderfynol o dy addoli di'n iawn.
Psal WelBeibl 86:12  Bydda i'n dy addoli o waelod calon, O ARGLWYDD fy Nuw, ac yn anrhydeddu dy enw am byth.
Psal WelBeibl 86:13  Mae dy gariad tuag ata i mor fawr! Ti wedi fy achub i o ddyfnder Annwn.
Psal WelBeibl 86:14  O Dduw, mae yna bobl haerllug wedi troi yn fy erbyn i. Mae yna griw creulon am fy lladd i, Does dim bwys ganddyn nhw amdanat ti.
Psal WelBeibl 86:15  Ond rwyt ti, O ARGLWYDD, mor drugarog a charedig, rwyt mor amyneddgar! Mae dy haelioni a dy ffyddlondeb di'n anhygoel!
Psal WelBeibl 86:16  Tro ata i, a dangos drugaredd! Rho dy nerth i dy was, Achub blentyn dy gaethferch!
Psal WelBeibl 86:17  Dangos i mi ryw arwydd o dy ddaioni, er mwyn i'r rhai sy'n fy nghasáu i weld hynny a chael eu cywilyddio am dy fod ti, ARGLWYDD, wedi fy helpu i a'm cysuro.
Chapter 87
Psal WelBeibl 87:2  Mae'r ARGLWYDD yn caru dinas Seion yn fwy nag unrhyw fan arall yn nhir Jacob.
Psal WelBeibl 87:3  Mae pethau hyfryd yn cael eu dweud amdanat ti, O ddinas Duw. Saib
Psal WelBeibl 87:4  Wrth sôn am yr Aifft a Babilon wrth y rhai sy'n fy nabod i – Philistia, Tyrus, a dwyrain Affrica hefyd – dywedir, “Cafodd hwn a hwn ei eni yno.”
Psal WelBeibl 87:5  A dyma fydd yn cael ei ddweud am Seion: “Cafodd pob un o'r rhain eu geni yno! Mae'r Duw Goruchaf ei hun yn ei gwneud hi'n ddiogel!”
Psal WelBeibl 87:6  Bydd yr ARGLWYDD yn cofrestru'r cenhedloedd: “Cafodd hwn a hwn ei eni yno.” Saib
Psal WelBeibl 87:7  Bydd cantorion a dawnswyr yn dweud amdani: “Mae ffynhonnell pob bendith ynot ti!”
Chapter 88
Psal WelBeibl 88:1  O ARGLWYDD, y Duw sy'n fy achub, dw i'n gweiddi am dy help bob dydd ac yn gweddïo arnat ti bob nos.
Psal WelBeibl 88:2  Plîs, cymer sylw o'm gweddi, a gwranda arna i'n galw arnat ti.
Psal WelBeibl 88:3  Dw i mewn helynt dychrynllyd; yn wir, dw i bron marw.
Psal WelBeibl 88:4  Mae pobl yn fy ngweld i fel un sydd ar ei ffordd i'r bedd, dyn cryf wedi colli ei nerth i gyd
Psal WelBeibl 88:5  ac wedi'i adael i farw a'i daflu i fedd cyffredin gyda'r milwyr eraill sydd wedi'u lladd – y rhai wyt ti ddim yn eu cofio bellach, ac sydd ddim angen dy ofal bellach.
Psal WelBeibl 88:6  Ti wedi fy ngosod i ar waelod y Pwll, mewn tywyllwch dudew yn y dyfnder.
Psal WelBeibl 88:7  Mae dy lid yn pwyso'n drwm arna i; dw i'n boddi dan dy donnau di. Saib
Psal WelBeibl 88:8  Ti wedi gwneud i'm ffrindiau agos gadw draw; dw i'n ffiaidd yn eu golwg nhw. Dw i wedi fy nal ac yn methu dianc.
Psal WelBeibl 88:9  Mae fy llygaid yn wan gan flinder; O ARGLWYDD, dw i wedi galw arnat ti bob dydd; dw i'n estyn fy nwylo mewn gweddi atat ti.
Psal WelBeibl 88:10  Wyt ti'n gwneud gwyrthiau i'r rhai sydd wedi marw? Ydy'r meirw yn codi i dy foli di? Saib
Psal WelBeibl 88:11  Ydy'r rhai sydd yn y bedd yn sôn am dy gariad ffyddlon? Oes sôn am dy ffyddlondeb di yn Abadon?
Psal WelBeibl 88:12  Ydy'r rhai sydd yn y lle tywyll yn gwybod am dy wyrthiau? Oes sôn am dy gyfiawnder ym myd angof?
Psal WelBeibl 88:13  Ond dw i wedi bod yn galw arnat ti am help, ARGLWYDD. Dw i'n gweddïo arnat ti bob bore.
Psal WelBeibl 88:14  Felly pam, O ARGLWYDD, wyt ti'n fy ngwrthod i? Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?
Psal WelBeibl 88:15  Dw i wedi diodde a bron marw lawer gwaith ers yn ifanc; dw i wedi gorfod wynebu pethau ofnadwy, nes fy mod wedi fy mharlysu.
Psal WelBeibl 88:16  Mae dy lid wedi llifo drosto i; mae dy ddychryn wedi fy ninistrio.
Psal WelBeibl 88:17  Mae'r cwbl yn troelli o'm cwmpas fel llifogydd; maen nhw'n cau amdana i o bob cyfeiriad.
Psal WelBeibl 88:18  Ti wedi gwneud i ffrindiau a chymdogion gadw draw oddi wrtho i – Yr unig gwmni sydd gen i bellach ydy'r tywyllwch!
Chapter 89
Psal WelBeibl 89:1  Dw i'n mynd i ganu am byth am gariad yr ARGLWYDD; dweud am dy ffyddlondeb wrth un genhedlaeth ar ôl y llall.
Psal WelBeibl 89:2  Cyhoeddi fod dy haelioni yn ddiddiwedd; dy ffyddlondeb mor sicr â'r nefoedd.
Psal WelBeibl 89:3  Dwedaist, “Dw i wedi gwneud ymrwymiad i'r un dw i wedi'i ddewis, ac wedi tyngu llw i Dafydd fy ngwas:
Psal WelBeibl 89:4  ‘Bydda i'n gwneud dy ddisgynyddion yn sefydlog am byth ac yn cynnal dy orsedd ar hyd y cenedlaethau.’” Saib
Psal WelBeibl 89:5  Mae'r pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud yn cael eu canmol yn y nefoedd, O ARGLWYDD, a dy ffyddlondeb hefyd gan yr angylion sanctaidd!
Psal WelBeibl 89:6  Pwy sy'n debyg i'r ARGLWYDD yn y cymylau uchod? Pa un o'r bodau nefol sy'n debyg i'r ARGLWYDD?
Psal WelBeibl 89:7  Duw ydy'r un sy'n codi braw ar yr angylion sanctaidd; mae e mor syfrdanol i'r rhai sydd o'i gwmpas.
Psal WelBeibl 89:8  O ARGLWYDD Dduw hollbwerus, Oes rhywun mor gryf â ti, ARGLWYDD? Mae ffyddlondeb yn dy amgylchynu!
Psal WelBeibl 89:9  Ti sy'n rheoli'r môr mawr: pan mae ei donnau'n codi, rwyt ti'n eu tawelu.
Psal WelBeibl 89:10  Ti sathrodd yr anghenfil Rahab; roedd fel corff marw! Ti chwalodd dy elynion gyda dy fraich gref.
Psal WelBeibl 89:11  Ti sydd biau'r nefoedd, a'r ddaear hefyd; ti wnaeth y byd a phopeth sydd ynddo.
Psal WelBeibl 89:12  Ti greodd y gogledd a'r de; mae mynyddoedd Tabor a Hermon yn canu'n llawen i ti.
Psal WelBeibl 89:13  Mae dy fraich di mor bwerus, ac mae dy law di mor gref. Mae dy law dde wedi'i chodi'n fuddugoliaethus.
Psal WelBeibl 89:14  Tegwch a chyfiawnder ydy sylfaen dy orsedd. Cariad ffyddlon a gwirionedd sy'n dy nodweddu di.
Psal WelBeibl 89:15  Mae'r rhai sy'n dy addoli di'n frwd wedi'u bendithio'n fawr! O ARGLWYDD, nhw sy'n profi dy ffafr di.
Psal WelBeibl 89:16  Maen nhw'n llawenhau ynot ti drwy'r dydd; ac yn cael eu cynnal gan dy gyfiawnder.
Psal WelBeibl 89:17  Ti sy'n rhoi nerth ac ysblander iddyn nhw. Dy ffafr di sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i ni!
Psal WelBeibl 89:18  Ti, ARGLWYDD, ydy'n tarian. Ti ydy'n brenin ni, Un Sanctaidd Israel.
Psal WelBeibl 89:19  Un tro, dyma ti'n siarad gyda dy ddilynwyr ffyddlon mewn gweledigaeth. “Dw i wedi rhoi nerth i ryfelwr,” meddet ti; “dw i wedi codi bachgen ifanc o blith y bobl.
Psal WelBeibl 89:20  Dw i wedi dod o hyd i Dafydd, fy ngwas; a'i eneinio'n frenin gyda'r olew sanctaidd.
Psal WelBeibl 89:22  Fydd dim un o'i elynion yn ei gael i dalu teyrnged iddo, a fydd dim un gormeswr yn ei ddarostwng.
Psal WelBeibl 89:23  Bydda i'n sathru ei elynion o'i flaen; ac yn taro i lawr y rhai sy'n ei gasáu.
Psal WelBeibl 89:24  Bydd e'n cael profi fy ffyddlondeb a'm cariad; a bydda i'n ei anfon i ennill buddugoliaeth.
Psal WelBeibl 89:25  Bydda i'n gosod ei law chwith dros y môr, a'i law dde ar yr afonydd.
Psal WelBeibl 89:26  Bydd e'n dweud wrtho i, ‘Ti ydy fy Nhad i, fy Nuw, a'r graig sy'n fy achub i.’
Psal WelBeibl 89:27  Bydda i'n ei wneud e'n fab hynaf i mi, yn uwch na holl frenhinoedd y byd.
Psal WelBeibl 89:28  Bydda i'n aros yn ffyddlon iddo am byth; mae fy ymrwymiad iddo'n hollol ddiogel.
Psal WelBeibl 89:29  Bydd ei ddisgynyddion yn ei olynu am byth, a'i orsedd yn para mor hir â'r nefoedd.
Psal WelBeibl 89:30  Os bydd ei feibion yn troi cefn ar fy nysgeidiaeth ac yn gwrthod gwneud beth dw i'n ddweud;
Psal WelBeibl 89:31  os byddan nhw'n torri fy rheolau i, a ddim yn cadw fy ngorchmynion i,
Psal WelBeibl 89:32  bydda i'n eu cosbi nhw gyda gwialen am eu gwrthryfel; gyda plâu am iddyn nhw fynd ar gyfeiliorn.
Psal WelBeibl 89:33  Ond fydda i ddim yn stopio'i garu e, a fydda i ddim yn anffyddlon iddo.
Psal WelBeibl 89:34  Fydda i ddim yn torri'r ymrwymiad wnes i; bydda i'n gwneud beth wnes i addo iddo.
Psal WelBeibl 89:35  Dw i, y Duw sanctaidd, wedi tyngu llw, na fydda i byth yn twyllo Dafydd.
Psal WelBeibl 89:36  Bydd ei linach yn aros am byth, a'i orsedd yn para tra mae haul o'm blaen i.
Psal WelBeibl 89:37  Mae wedi'i sefydlu am byth, fel mae'r lleuad yn dyst ffyddlon i mi yn yr awyr.” Saib
Psal WelBeibl 89:38  Ond rwyt wedi'i wrthod, a'i wthio i'r naill ochr! Rwyt wedi gwylltio gyda'r brenin, dy eneiniog.
Psal WelBeibl 89:39  Rwyt wedi dileu'r ymrwymiad i dy was; ac wedi llusgo'i goron drwy'r baw.
Psal WelBeibl 89:40  Rwyt wedi bwrw ei waliau i lawr, a gwneud ei gaerau'n adfeilion.
Psal WelBeibl 89:41  Mae pawb sy'n pasio heibio yn dwyn oddi arno. Mae e'n destun sbort i'w gymdogion!
Psal WelBeibl 89:42  Ti wedi gadael i'r rhai sy'n ei gasáu ei goncro, a rhoi achos i'w elynion i gyd ddathlu.
Psal WelBeibl 89:43  Rwyt wedi troi min ei gleddyf arno fe'i hun, a heb ei helpu yn y frwydr.
Psal WelBeibl 89:44  Rwyt wedi dod â'i deyrnasiad gwych i ben, ac wedi bwrw ei orsedd i lawr.
Psal WelBeibl 89:45  Rwyt wedi'i droi'n hen ddyn cyn pryd; ac wedi'i orchuddio â chywilydd. Saib
Psal WelBeibl 89:46  Am faint mwy, O ARGLWYDD? Wyt ti wedi troi dy gefn arnon ni am byth? Fydd dy lid di'n llosgi fel tân am byth?
Psal WelBeibl 89:47  Cofia mor fyr ydy fy mywyd! Wyt ti wedi creu'r ddynoliaeth i ddim byd?
Psal WelBeibl 89:48  Does neb byw yn gallu osgoi marw. Pwy sy'n gallu achub ei hun o afael y bedd? Saib
Psal WelBeibl 89:49  O ARGLWYDD, ble mae'r cariad hwnnw wnest ti ei addo'n bendant i Dafydd?
Psal WelBeibl 89:50  Cofia, ARGLWYDD, sut mae dy weision wedi'u cam-drin; a'r baich dw i wedi'i gario wrth i baganiaid wneud hwyl am ein pennau.
Psal WelBeibl 89:51  Cofia sut mae dy elynion wedi'n cam-drin ni, O ARGLWYDD, ac wedi cam-drin dy eneiniog lle bynnag mae'n mynd.
Chapter 90
Psal WelBeibl 90:1  Fy Meistr, rwyt ti wedi bod yn lle saff i ni guddio ar hyd y cenedlaethau.
Psal WelBeibl 90:2  Cyn i'r mynyddoedd gael eu geni, a chyn bod y ddaear a'r byd yn bodoli, roeddet ti'n Dduw, o dragwyddoldeb pell.
Psal WelBeibl 90:3  Ti sy'n anfon pobl yn ôl i'r pridd drwy ddweud, “Ewch yn ôl, chi bobl feidrol!”
Psal WelBeibl 90:4  Mae mil o flynyddoedd yn dy olwg di fel diwrnod sydd wedi pasio heibio, neu fel gwylfa nos.
Psal WelBeibl 90:5  Ond mae pobl yn cael eu llethu gan gwsg, ac yna fel glaswellt yn adfywio yn y bore.
Psal WelBeibl 90:6  Mae'n tyfu ac yn llawn bywyd yn y bore, ond erbyn iddi nosi mae wedi gwywo a sychu.
Psal WelBeibl 90:7  Dyna sut dŷn ni'n gwywo pan wyt ti'n gwylltio; mae dy lid yn ein dychryn ni am ein bywydau.
Psal WelBeibl 90:8  Ti'n gwybod am ein methiant ni i gyd, ac yn gweld ein pechodau cudd ni.
Psal WelBeibl 90:9  Mae'n bywydau ni'n mynd heibio dan dy ddig; mae'n blynyddoedd ni'n darfod fel ochenaid.
Psal WelBeibl 90:10  Dŷn ni'n byw am saith deg o flynyddoedd, wyth deg os cawn ni iechyd; ond mae'r gorau ohonyn nhw'n llawn trafferthion! Maen nhw'n mynd heibio mor sydyn! A dyna ni wedi mynd!
Psal WelBeibl 90:11  Does neb eto wedi profi holl rym dy lid. Mae dy ddig yn hawlio parch!
Psal WelBeibl 90:12  Felly dysga ni i wneud y gorau o'n dyddiau, a gwna ni'n ddoeth.
Psal WelBeibl 90:13  Tro yn ôl aton ni, ARGLWYDD! Faint mwy mae'n rhaid i ni ddisgwyl? Dangos drugaredd at dy weision.
Psal WelBeibl 90:14  Gad i ni brofi dy gariad ffyddlon yn y bore, yn gwneud i ni ganu'n llawen bob dydd!
Psal WelBeibl 90:15  Gad i ni brofi hapusrwydd am yr un cyfnod ag rwyt ti wedi'n cosbi ni – sef y blynyddoedd hynny pan mae popeth wedi mynd o'i le.
Psal WelBeibl 90:16  Gad i dy weision dy weld ti'n gwneud pethau mawr eto! Gad i'n plant ni weld mor wych wyt ti!
Psal WelBeibl 90:17  Boed i'r Meistr, ein Duw ni, fod yn garedig aton ni. Gwna i'n hymdrechion ni lwyddo. Ie, gwna i'n hymdrechion ni lwyddo!
Chapter 91
Psal WelBeibl 91:1  Bydd y sawl mae'r Duw Goruchaf yn ei amddiffyn yn aros yn saff dan gysgod yr Hollalluog.
Psal WelBeibl 91:2  Dywedais, “ARGLWYDD, rwyt ti'n gaer ddiogel, yn lle hollol saff i mi fynd. Ti ydy fy Nuw i, yr un dw i'n ei drystio.”
Psal WelBeibl 91:3  Bydd Duw yn dy achub di o drap yr heliwr, a rhag y pla marwol.
Psal WelBeibl 91:4  Bydd e'n rhoi ei adain drosot ti, a byddi'n saff o dan blu ei adenydd. Mae'r ffaith fod Duw yn dweud y gwir yn darian sy'n dy amddiffyn di.
Psal WelBeibl 91:5  Paid bod ag ofn dim sy'n dy ddychryn yn y nos, na'r saeth sy'n hedfan yn y dydd;
Psal WelBeibl 91:6  yr haint sy'n llechu yn y tywyllwch, na'r dinistr sy'n taro'n sydyn ganol dydd.
Psal WelBeibl 91:7  Gall mil o ddynion syrthio ar dy law chwith, a deg mil ar y dde, ond fyddi di ddim yn cael dy gyffwrdd.
Psal WelBeibl 91:8  Byddi'n cael gweld drosot ti dy hun – byddi'n gweld y rhai drwg yn cael eu cosbi.
Psal WelBeibl 91:9  Wyt, rwyt ti'n lle saff i mi guddio, ARGLWYDD! Gad i'r Duw Goruchaf fod yn hafan ddiogel i ti,
Psal WelBeibl 91:10  a fyddi di ddim yn cael unrhyw niwed. Fydd dim haint yn dod yn agos i dy gartref di.
Psal WelBeibl 91:11  Achos bydd e'n gorchymyn i'w angylion dy amddiffyn di lle bynnag rwyt ti'n mynd.
Psal WelBeibl 91:12  Byddan nhw'n dy ddal yn eu breichiau fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.
Psal WelBeibl 91:13  Byddi di'n sathru'r llew a'r cobra dan draed; fydd llewod ifanc a nadroedd ddim yn beryg i ti.
Psal WelBeibl 91:14  “Dw i'n mynd i gadw'r un sy'n ffyddlon i mi yn saff,” meddai'r ARGLWYDD; “bydda i'n amddiffyn yr un sy'n fy nabod i.
Psal WelBeibl 91:15  Pan fydd e'n galw arna i, bydda i'n ateb. Bydda i gydag e drwy bob argyfwng. Bydda i'n ei achub e ac yn ei anrhydeddu.
Psal WelBeibl 91:16  Bydd e'n cael byw i oedran teg, a mwynhau bywyd, am fy mod wedi'i achub.”
Chapter 92
Psal WelBeibl 92:1  Mae'n beth da diolch i'r ARGLWYDD, a chanu mawl i dy enw di, y Duw Goruchaf.
Psal WelBeibl 92:2  Canu yn y bore am dy gariad, a chyda'r nos am dy ffyddlondeb,
Psal WelBeibl 92:3  i gyfeiliant offeryn dectant a nabl a thannau'r delyn.
Psal WelBeibl 92:4  Ti'n fy ngwneud i mor hapus, O ARGLWYDD; a dw i'n canu'n uchel o achos y cwbl rwyt ti'n wneud.
Psal WelBeibl 92:5  Ti'n gwneud pethau mawr, O ARGLWYDD! Mae dy feddyliau di mor ddwfn.
Psal WelBeibl 92:6  Dim ond twpsyn sydd ddim yn gweld hynny; dim ond ffŵl fyddai ddim yn deall!
Psal WelBeibl 92:7  Mae pobl ddrwg yn llwyddo – ond maen nhw fel glaswellt. Er bod y rhai sy'n gwneud drwg fel petaen nhw'n blodeuo, byddan nhw'n cael eu dinistrio am byth!
Psal WelBeibl 92:8  Ond ti ydy'r Un sydd uwchlaw popeth, a hynny am byth, O ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 92:9  Bydd dy elynion di, ARGLWYDD, bydd dy elynion di'n cael eu dinistrio! Bydd pawb sy'n gwneud drygioni yn cael eu gwasgaru!
Psal WelBeibl 92:10  Ti wedi fy ngwneud i'n gryf fel ych gwyllt; ti wedi fy eneinio i ag olew iraidd.
Psal WelBeibl 92:11  Bydda i'n cael gweld y gelynion sy'n fy ngwylio yn cael eu trechu; a chlywed y rhai drwg sy'n ymosod arna i'n chwalu.
Psal WelBeibl 92:12  Ond bydd y rhai cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd; ac yn tyfu'n gryf fel coed cedrwydd yn Libanus.
Psal WelBeibl 92:13  Maen nhw wedi'u plannu yn nheml yr ARGLWYDD, ac yn blodeuo yn yr iard sydd yno.
Psal WelBeibl 92:14  Byddan nhw'n dal i roi ffrwyth pan fyddan nhw'n hen; byddan nhw'n dal yn ffres ac yn llawn sudd.
Psal WelBeibl 92:15  Maen nhw'n cyhoeddi fod yr ARGLWYDD yn gyfiawn – mae e'n graig saff i mi, a does dim anghyfiawnder yn agos ato.
Chapter 93
Psal WelBeibl 93:1  Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu! Mae wedi'i arwisgo'n hardd. Mae'r ARGLWYDD wedi'i arwisgo, a'i gryfder fel gwregys am ei ganol. Mae'r ddaear yn saff, a does dim modd ei symud!
Psal WelBeibl 93:2  Cest dy orseddu'n frenin amser maith yn ôl; ti wedi bodoli bob amser!
Psal WelBeibl 93:3  Roedd y tonnau'n codi'n uchel, O ARGLWYDD, roedd sŵn y tonnau fel taranau, sŵn y tonnau trwm yn torri.
Psal WelBeibl 93:4  Ond roedd yr ARGLWYDD, sydd yn uwch na'r cwbl, yn gryfach na sŵn y dyfroedd mawr, ac yn gryfach na thonnau mawr y môr.
Psal WelBeibl 93:5  Mae dy orchmynion di yn hollol sicr. Sancteiddrwydd sy'n addurno dy dŷ, O ARGLWYDD, a hynny am byth!
Chapter 94
Psal WelBeibl 94:1  O Dduw sy'n dial pob cam. O ARGLWYDD! O Dduw sy'n dial pob cam, disgleiria!
Psal WelBeibl 94:2  Cod ar dy draed, Farnwr y ddaear, a rhoi beth maen nhw'n ei haeddu i'r rhai balch!
Psal WelBeibl 94:3  Am faint mwy mae'r rhai drwg, O ARGLWYDD – am faint mwy mae'r rhai drwg i gael dathlu?
Psal WelBeibl 94:4  Maen nhw'n chwydu eu geiriau balch wrth frolio'u hunain.
Psal WelBeibl 94:5  Maen nhw'n sathru dy bobl dan draed, O ARGLWYDD, ac yn cam-drin dy etifeddiaeth.
Psal WelBeibl 94:6  Maen nhw'n lladd y gweddwon a'r mewnfudwyr, ac yn llofruddio'r plant amddifad.
Psal WelBeibl 94:7  Maen nhw'n meddwl, “Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gweld, dydy Duw Jacob yn cymryd dim sylw.”
Psal WelBeibl 94:8  Chi bobl dwp, mae'n bryd i chi ddeall! Chi ffyliaid, pryd dych chi'n mynd i gallio?
Psal WelBeibl 94:9  Ydy'r un roddodd siâp i'r glust ddim yn clywed? Ydy'r un wnaeth greu y llygad ddim yn gweld?
Psal WelBeibl 94:10  Ydy'r un sy'n disgyblu'r cenhedloedd ddim yn cosbi? – Fe ydy'r un sy'n dysgu gwersi i'r ddynoliaeth!
Psal WelBeibl 94:11  Mae'r ARGLWYDD yn gwybod fod cynlluniau dynol yn wastraff amser, fel tarth yn diflannu!
Psal WelBeibl 94:12  Mae'r un sy'n cael ei ddisgyblu gen ti wedi'i fendithio'n fawr, ARGLWYDD; yr un rwyt ti'n dysgu dy gyfraith iddo.
Psal WelBeibl 94:13  Mae'n dawel ei feddwl pan mae pethau'n anodd. Mae'n gwybod y bydd y rhai drwg yn syrthio i dwll.
Psal WelBeibl 94:14  Fydd yr ARGLWYDD ddim yn siomi ei bobl. Fydd e ddim yn troi cefn ar ei etifeddiaeth.
Psal WelBeibl 94:15  Cyfiawnder fydd yn cario'r dydd, a'r rhai sy'n byw'n gywir yn ei ddilyn.
Psal WelBeibl 94:16  Oes rhywun am ochri gyda fi yn erbyn y rhai drwg? Oes rhywun am sefyll hefo fi yn erbyn pobl ddrwg?
Psal WelBeibl 94:17  Na, byddai ar ben arna i oni bai fod yr ARGLWYDD wedi fy helpu!
Psal WelBeibl 94:18  Pan oeddwn i'n dweud, “Dw i'n llithro! Mae ar ben arna i!” roedd dy ffyddlondeb di, O ARGLWYDD, yn fy nghynnal.
Psal WelBeibl 94:19  Pan oeddwn i'n poeni am bob math o bethau, roedd dy gefnogaeth di yn fy ngwneud i'n llawen.
Psal WelBeibl 94:20  Wyt ti'n gallu partneru gyda llywodraeth anghyfiawn sy'n achosi dioddefaint drwy ei deddfau?
Psal WelBeibl 94:21  Maen nhw'n casglu at ei gilydd yn erbyn y cyfiawn, ac yn condemnio pobl ddiniwed i farwolaeth.
Psal WelBeibl 94:22  Ond mae'r ARGLWYDD yn gaer ddiogel i mi; mae fy Nuw yn graig lle dw i'n hollol saff.
Psal WelBeibl 94:23  Bydd e'n talu'n ôl iddyn nhw am eu drygioni! Bydd e'n defnyddio'u drygioni eu hunain i'w dinistrio! Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn eu dinistrio nhw!
Chapter 95
Psal WelBeibl 95:1  Dewch, gadewch i ni ganu'n llawen i'r ARGLWYDD, a gweiddi'n mawl i'r Graig sy'n ein hachub!
Psal WelBeibl 95:2  Gadewch i ni fynd ato yn llawn diolch; gweiddi'n uchel a chanu mawl iddo!
Psal WelBeibl 95:3  Achos yr ARGLWYDD ydy'r Duw mawr, y Brenin mawr sy'n uwch na'r ‛duwiau‛ i gyd.
Psal WelBeibl 95:4  Mae mannau dyfna'r ddaear yn ei ddwylo, a chopaon y mynyddoedd hefyd!
Psal WelBeibl 95:5  Fe sydd biau'r môr, am mai fe wnaeth ei greu; a'r tir hefyd, gan mai ei ddwylo fe wnaeth ei siapio.
Psal WelBeibl 95:6  Dewch, gadewch i ni ei addoli ac ymgrymu iddo, mynd ar ein gliniau o flaen yr ARGLWYDD, ein Crëwr.
Psal WelBeibl 95:7  Fe ydy'n Duw ni, a ni ydy ei bobl e; y defaid mae'n gofalu amdanyn nhw. O na fyddech chi'n gwrando arno heddiw!
Psal WelBeibl 95:8  “Peidiwch bod yn ystyfnig fel yn Meriba, neu ar y diwrnod hwnnw yn Massa, yn yr anialwch.
Psal WelBeibl 95:9  Yno roedd eich hynafiaid wedi herio fy awdurdod, a phrofi fy amynedd, er eu bod wedi gweld beth wnes i!
Psal WelBeibl 95:10  Am bedwar deg mlynedd rôn i'n eu ffieiddio nhw: ‘Maen nhw'n bobl hollol anwadal,’ meddwn i; ‘dŷn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’
Psal WelBeibl 95:11  Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi!’”
Chapter 96
Psal WelBeibl 96:1  Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD. Y ddaear gyfan, canwch i'r ARGLWYDD!
Psal WelBeibl 96:2  Canwch i'r ARGLWYDD, canmolwch ei enw, a dweud bob dydd sut mae e'n achub.
Psal WelBeibl 96:3  Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e; wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.
Psal WelBeibl 96:4  Mae'r ARGLWYDD yn Dduw mawr ac yn haeddu ei foli! Mae'n haeddu ei barchu'n fwy na'r ‛duwiau‛ eraill i gyd.
Psal WelBeibl 96:5  Eilunod diwerth ydy duwiau'r holl bobloedd, ond yr ARGLWYDD wnaeth greu'r nefoedd!
Psal WelBeibl 96:6  Mae ei ysblander a'i urddas yn amlwg; mae ei gryfder a'i harddwch yn ei deml.
Psal WelBeibl 96:7  Dewch, bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch! Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r ARGLWYDD!
Psal WelBeibl 96:8  Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da! Dewch i'w deml i gyflwyno rhodd iddo!
Psal WelBeibl 96:9  Plygwch i addoli'r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr! Crynwch o'i flaen, bawb drwy'r byd!
Psal WelBeibl 96:10  Dwedwch ymysg y cenhedloedd, “Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!” Felly mae'r ddaear yn saff, does dim modd ei symud. Bydd e'n barnu'r byd yn deg.
Psal WelBeibl 96:11  Boed i'r nefoedd a'r ddaear ddathlu'n llawen. Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi.
Psal WelBeibl 96:12  Boed i'r caeau a'u cnydau ddathlu. Bydd holl goed y goedwig yn siffrwd yn llawen
Psal WelBeibl 96:13  o flaen yr ARGLWYDD, am ei fod yn dod – mae'n dod i roi trefn ar y ddaear. Bydd yn barnu'r byd yn hollol deg, a'r bobloedd i gyd ar sail beth sy'n wir.
Chapter 97
Psal WelBeibl 97:1  Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu! Gall y ddaear ddathlu, a'r ynysoedd i gyd lawenhau!
Psal WelBeibl 97:2  Mae cwmwl trwchus o'i gwmpas; a'i orsedd wedi'i sylfaenu ar degwch a chyfiawnder.
Psal WelBeibl 97:3  Mae tân yn mynd allan o'i flaen, ac yn llosgi ei elynion ym mhobman.
Psal WelBeibl 97:4  Mae ei fellt yn goleuo'r byd; a'r ddaear yn gwingo wrth ei weld.
Psal WelBeibl 97:5  Mae'r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD, o flaen Meistr y ddaear gyfan.
Psal WelBeibl 97:6  Mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn, a'r bobloedd i gyd yn gweld ei ysblander.
Psal WelBeibl 97:7  Mae'r rhai sy'n addoli eilun-dduwiau yn cywilyddio – y rhai oedd mor falch o'u delwau diwerth. Mae'r ‛duwiau‛ i gyd yn plygu o'i flaen.
Psal WelBeibl 97:8  Roedd Seion yn hapus pan glywodd hyn, ac roedd pentrefi Jwda'n dathlu am dy fod ti'n barnu'n deg, O ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 97:9  Achos rwyt ti, ARGLWYDD, yn Dduw dros yr holl fyd; rwyt ti'n llawer gwell na'r holl ‛dduwiau‛ eraill i gyd.
Psal WelBeibl 97:10  Mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n casáu drygioni. Mae e'n amddiffyn y rhai sy'n ffyddlon iddo, ac yn eu hachub nhw o afael pobl ddrwg.
Psal WelBeibl 97:11  Mae golau'n disgleirio ar y rhai sy'n byw'n gywir, a llawenydd ar y rhai sy'n onest.
Psal WelBeibl 97:12  Chi, rai cyfiawn, byddwch yn llawen yn yr ARGLWYDD, a'i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e!
Chapter 98
Psal WelBeibl 98:1  Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD, am ei fod wedi gwneud pethau anhygoel! Mae ei fraich gref, wedi ennill y fuddugoliaeth iddo.
Psal WelBeibl 98:2  Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ei allu i achub! Mae wedi dangos i'r cenhedloedd ei fod yn Dduw cyfiawn.
Psal WelBeibl 98:3  Mae wedi cofio'i gariad a'i ffyddlondeb i bobl Israel; ac mae pawb drwy'r byd i gyd wedi gweld Duw yn achub.
Psal WelBeibl 98:4  Dewch, bawb drwy'r byd i gyd, gwaeddwch yn uchel i'r ARGLWYDD! Gweiddi'n llawen, a chanu mawl iddo!
Psal WelBeibl 98:5  Canwch fawl ar y delyn i'r ARGLWYDD; canwch gân hyfryd i gyfeiliant y delyn!
Psal WelBeibl 98:6  Seiniwch yr utgyrn a chwythu'r corn hwrdd. Dewch, bawb drwy'r byd i gyd, gwaeddwch yn uchel i'r ARGLWYDD, y Brenin!
Psal WelBeibl 98:7  Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi; a'r byd hefyd, a phawb sy'n byw ynddo.
Psal WelBeibl 98:8  Boed i'r afonydd guro dwylo, ac i'r mynyddoedd ganu'n llawen gyda'i gilydd
Psal WelBeibl 98:9  o flaen yr ARGLWYDD! Achos mae e'n dod i roi trefn ar y ddaear. Bydd e'n barnu'r byd yn hollol deg, a'r bobloedd yn gwbl gyfiawn.
Chapter 99
Psal WelBeibl 99:1  Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu, felly dylai'r gwledydd grynu! Boed i'r ddaear gyfan grynu o flaen yr un sydd wedi'i orseddu uwchben y cerwbiaid!
Psal WelBeibl 99:2  Yr ARGLWYDD ydy'r Duw mawr yn Seion, yr un sy'n rheoli'r holl bobloedd.
Psal WelBeibl 99:3  Boed i bawb dy addoli di – y Duw mawr, rhyfeddol! Ti ydy'r Duw sanctaidd!
Psal WelBeibl 99:4  Ti ydy'r brenin cryf sy'n caru cyfiawnder! Ti ydy'r un sydd wedi dangos beth ydy tegwch, ac yn hybu cyfiawnder a chwarae teg yn Jacob.
Psal WelBeibl 99:5  Addolwch yr ARGLWYDD ein Duw! Ymgrymwch i lawr wrth ei stôl droed. Mae e'n sanctaidd.
Psal WelBeibl 99:6  Roedd Moses, ac Aaron ei offeiriad, a Samuel yn galw ar ei enw – roedden nhw'n galw ar yr ARGLWYDD, ac roedd e'n ateb.
Psal WelBeibl 99:7  Siaradodd gyda nhw o'r golofn o niwl. Roedden nhw'n ufudd i'w orchmynion, a'r rheolau roddodd e iddyn nhw.
Psal WelBeibl 99:8  O ARGLWYDD ein Duw, roeddet ti'n eu hateb nhw. Roeddet ti'n Dduw oedd yn barod i faddau iddyn nhw, ond roeddet ti hefyd yn eu galw i gyfrif am eu drygioni.
Psal WelBeibl 99:9  Addolwch yr ARGLWYDD ein Duw! Ymgrymwch i lawr ar ei fynydd cysegredig, achos mae'r ARGLWYDD ein Duw yn sanctaidd!
Chapter 100
Psal WelBeibl 100:2  Addolwch yr ARGLWYDD yn llawen; a dod o'i flaen gan ddathlu!
Psal WelBeibl 100:3  Cyffeswch mai'r ARGLWYDD sydd Dduw; fe ydy'r un a'n gwnaeth ni, a ni ydy ei bobl e – y defaid mae'n gofalu amdanyn nhw.
Psal WelBeibl 100:4  Ewch drwy'r giatiau gan ddiolch iddo, ac i mewn i'w deml yn ei foli! Rhowch ddiolch iddo! A bendithio'i enw!
Psal WelBeibl 100:5  Achos mae'r ARGLWYDD mor dda! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd; ac mae'n aros yn ffyddlon o un genhedlaeth i'r llall.
Chapter 101
Psal WelBeibl 101:1  Canaf am ffyddlondeb a chyfiawnder. Canaf gân i ti, O ARGLWYDD!
Psal WelBeibl 101:2  Canaf delyneg am dy ffordd berffaith. Pryd wyt ti'n mynd i ddod ata i? Dw i wedi byw bywyd didwyll yn y palas.
Psal WelBeibl 101:3  Dw i ddim am ystyried bod yn anonest; dw i'n casáu twyll, ac am gael dim i'w wneud â'r peth.
Psal WelBeibl 101:4  Does gen i ddim meddwl mochaidd, a dw i am gael dim i'w wneud â'r drwg.
Psal WelBeibl 101:5  Dw i'n rhoi taw ar bwy bynnag sy'n enllibio'i gymydog yn y dirgel. Alla i ddim diodde pobl falch sy'n llawn ohonyn nhw eu hunain.
Psal WelBeibl 101:6  Dw i wedi edrych am y bobl ffyddlon yn y wlad, i'w cael nhw i fyw gyda mi. Dim ond pobl onest sy'n cael gweithio i mi.
Psal WelBeibl 101:7  Does neb sy'n twyllo yn cael byw yn y palas. Does neb sy'n dweud celwydd yn cael cadw cwmni i mi.
Psal WelBeibl 101:8  Dw i bob amser yn rhoi taw ar y rhai sy'n gwneud drwg yn y wlad. Dw i'n cael gwared â'r rhai sy'n gwneud drwg o ddinas yr ARGLWYDD.
Chapter 102
Psal WelBeibl 102:1  O ARGLWYDD, clyw fy ngweddi; gwrando arna i'n gweiddi am help.
Psal WelBeibl 102:2  Paid troi cefn arna i pan dw i mewn trafferthion. Gwranda arna i! Rho ateb buan i mi pan dw i'n galw.
Psal WelBeibl 102:3  Mae fy mywyd i'n diflannu fel mwg, ac mae fy esgyrn yn llosgi fel marwor poeth.
Psal WelBeibl 102:4  Dw i mor ddigalon, ac yn gwywo fel glaswellt. Dw i ddim yn teimlo fel bwyta hyd yn oed.
Psal WelBeibl 102:5  Dw i ddim yn stopio tuchan; mae fy esgyrn i'w gweld drwy fy nghroen.
Psal WelBeibl 102:6  Dw i fel jac-y-do yn yr anialwch; fel tylluan yng nghanol adfeilion.
Psal WelBeibl 102:7  Dw i'n methu cysgu. Dw i fel aderyn unig ar ben tŷ.
Psal WelBeibl 102:8  Mae fy ngelynion yn fy enllibio drwy'r dydd; maen nhw'n fy rhegi ac yn gwneud sbort am fy mhen.
Psal WelBeibl 102:9  Lludw ydy'r unig fwyd sydd gen i, ac mae fy niod wedi'i gymysgu â dagrau,
Psal WelBeibl 102:10  am dy fod ti'n ddig ac wedi gwylltio hefo fi. Rwyt ti wedi gafael yno i, a'm taflu i ffwrdd fel baw!
Psal WelBeibl 102:11  Mae fy mywyd fel cysgod ar ddiwedd y dydd; dw i'n gwywo fel glaswellt.
Psal WelBeibl 102:12  Ond byddi di, ARGLWYDD, ar dy orsedd am byth! Mae pobl yn galw ar dy enw ar hyd y cenedlaethau!
Psal WelBeibl 102:13  Byddi di'n codi ac yn dangos trugaredd at Seion eto. Mae'n bryd i ti fod yn garedig ati. Mae'r amser i wneud hynny wedi dod.
Psal WelBeibl 102:14  Mae dy weision yn caru ei meini, ac yn teimlo i'r byw wrth weld y rwbel!
Psal WelBeibl 102:15  Wedyn bydd y cenhedloedd yn parchu enw'r ARGLWYDD. Bydd brenhinoedd y byd i gyd yn ofni ei ysblander.
Psal WelBeibl 102:16  Bydd yr ARGLWYDD yn ailadeiladu Seion! Bydd yn cael ei weld yn ei holl ysblander.
Psal WelBeibl 102:17  Achos mae e'n gwrando ar weddi y rhai sydd mewn angen; dydy e ddim yn diystyru eu cri nhw.
Psal WelBeibl 102:18  Dylai hyn gael ei ysgrifennu i lawr ar gyfer y dyfodol, er mwyn i bobl sydd heb gael eu geni eto foli'r ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 102:19  Bydd yr ARGLWYDD yn edrych i lawr o'i gysegr uchel iawn, Bydd yn edrych i lawr ar y ddaear o'r nefoedd uchod,
Psal WelBeibl 102:20  ac yn gwrando ar riddfan y rhai oedd yn gaeth. Bydd yn rhyddhau'r rhai oedd wedi'u condemnio i farwolaeth.
Psal WelBeibl 102:21  Wedyn bydd enw'r ARGLWYDD yn cael ei gyhoeddi o Seion, a bydd e'n cael ei addoli yn Jerwsalem.
Psal WelBeibl 102:22  Bydd pobl o'r gwledydd i gyd yn dod at ei gilydd i addoli'r ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 102:23  Mae wedi ysigo fy nerth i ar ganol y daith, Mae wedi penderfynu rhoi bywyd byr i mi.
Psal WelBeibl 102:24  “O Dduw, paid cymryd fi hanner ffordd drwy fy mywyd! Rwyt ti'n aros ar hyd y cenedlaethau.
Psal WelBeibl 102:25  Ti osododd y ddaear yn ei lle ers talwm; a gwaith dy ddwylo di ydy'r sêr a'r planedau.
Psal WelBeibl 102:26  Byddan nhw'n darfod, ond rwyt ti'n aros. Byddan nhw'n mynd yn hen fel dillad wedi'u gwisgo. Byddi di'n eu tynnu fel dilledyn, a byddan nhw wedi mynd.
Psal WelBeibl 102:27  Ond rwyt ti yn aros am byth – dwyt ti byth yn mynd yn hen!
Psal WelBeibl 102:28  Bydd plant dy weision yn dal i gael byw yma, a bydd eu plant nhw yn saff yn dy bresenoldeb di.”
Chapter 103
Psal WelBeibl 103:1  Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD! Y cwbl ohono i, bendithia'i enw sanctaidd.
Psal WelBeibl 103:2  Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD! Paid anghofio'r holl bethau caredig a wnaeth.
Psal WelBeibl 103:3  Mae wedi maddau dy fethiant i gyd, ac wedi iacháu pob salwch oedd arnat.
Psal WelBeibl 103:4  Mae wedi dy gadw di rhag mynd i'r bedd, ac wedi dy goroni gyda'i gariad a'i drugaredd.
Psal WelBeibl 103:5  Mae wedi rhoi mwy na digon o bethau da i ti, nes gwneud i ti deimlo'n ifanc eto, yn gryf ac yn llawn bywyd fel eryr!
Psal WelBeibl 103:6  Mae'r ARGLWYDD bob amser yn deg, ac yn rhoi cyfiawnder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu.
Psal WelBeibl 103:7  Dwedodd wrth Moses sut oedd e am i ni fyw, a dangosodd i bobl Israel beth allai ei wneud.
Psal WelBeibl 103:8  Mae'r ARGLWYDD mor drugarog a charedig, mor amyneddgar ac anhygoel o hael!
Psal WelBeibl 103:9  Dydy e ddim yn ceryddu pobl yn ddiddiwedd, nac yn dal dig am byth.
Psal WelBeibl 103:10  Wnaeth e ddim delio gyda'n pechodau ni fel roedden ni'n haeddu, na thalu'n ôl i ni am ein holl fethiant.
Psal WelBeibl 103:11  Fel mae'r nefoedd yn uchel uwchben y ddaear, mae ei gariad ffyddlon fel tŵr dros y rhai sy'n ei barchu.
Psal WelBeibl 103:12  Mor bell ag y mae'r dwyrain o'r gorllewin, mae wedi symud y gosb am i ni wrthryfela.
Psal WelBeibl 103:13  Fel mae tad yn caru ei blant, mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n ei barchu.
Psal WelBeibl 103:14  Ydy, mae e'n gwybod am ein defnydd ni; mae'n cofio mai dim ond pridd ydyn ni.
Psal WelBeibl 103:15  Mae bywyd dynol fel glaswellt – mae fel blodyn gwyllt, yn tyfu dros dro;
Psal WelBeibl 103:16  pan mae'r gwynt yn dod heibio, mae wedi mynd; lle roedd gynt, does dim sôn amdano.
Psal WelBeibl 103:17  Ond mae cariad yr ARGLWYDD at y rhai sy'n ei barchu yn para am byth bythoedd! Mae e'n cadw ei air i genedlaethau o blant –
Psal WelBeibl 103:18  sef y rhai sy'n ffyddlon i'w ymrwymiad ac sy'n gofalu gwneud beth mae e'n ddweud.
Psal WelBeibl 103:19  Mae'r ARGLWYDD wedi sefydlu ei orsedd yn y nefoedd, ac mae'n teyrnasu yn frenin dros bopeth!
Psal WelBeibl 103:20  Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion – chi, rai cryfion sy'n gwneud beth mae'n ei ddweud, sy'n gwrando ac yn ufudd iddo.
Psal WelBeibl 103:21  Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl fyddinoedd – chi weision sy'n ei wasanaethu.
Psal WelBeibl 103:22  Bendithiwch yr ARGLWYDD, bopeth mae wedi'i greu – ym mhobman lle mae e'n teyrnasu. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD!
Chapter 104
Psal WelBeibl 104:1  Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD! O ARGLWYDD, fy Nuw, rwyt ti mor fawr! Rwyt wedi dy wisgo ag ysblander ac urddas.
Psal WelBeibl 104:2  Mae clogyn o oleuni wedi'i lapio amdanat. Ti wnaeth ledu'r awyr fel pabell uwch ein pennau.
Psal WelBeibl 104:3  Ti wnaeth osod trawstiau dy balas yn uwch fyth, a gwneud dy gerbyd o'r cymylau i deithio ar adenydd y gwynt.
Psal WelBeibl 104:4  Ti sy'n gwneud y gwyntoedd yn negeswyr i ti, a fflamau o dân yn weision.
Psal WelBeibl 104:5  Ti wnaeth osod y ddaear ar ei sylfeini, er mwyn iddi beidio gwegian byth.
Psal WelBeibl 104:6  Roedd y dyfroedd dwfn yn ei gorchuddio fel gwisg; roedd dŵr uwchben y mynyddoedd.
Psal WelBeibl 104:7  Ond dyma ti'n gweiddi, a dyma nhw'n ffoi, a rhuthro i ffwrdd rhag dy daranau swnllyd;
Psal WelBeibl 104:8  cododd y mynyddoedd, suddodd y dyffrynnoedd ac aeth y dŵr i'r lle roeddet ti wedi'i baratoi iddo.
Psal WelBeibl 104:9  Gosodaist ffiniau allai'r moroedd mo'u croesi, i'w rhwystro rhag gorchuddio'r ddaear byth eto.
Psal WelBeibl 104:10  Ti sy'n gwneud i nentydd lifo rhwng yr hafnau, a ffeindio'u ffordd i lawr rhwng y mynyddoedd.
Psal WelBeibl 104:11  Mae'r anifeiliaid gwyllt yn cael yfed, a'r asynnod gwyllt yn torri eu syched.
Psal WelBeibl 104:12  Mae adar yn nythu wrth eu hymyl ac yn canu yng nghanol y dail.
Psal WelBeibl 104:13  Ti sy'n dyfrio'r mynyddoedd o dy balas uchel. Ti'n llenwi'r ddaear â ffrwythau.
Psal WelBeibl 104:14  Ti sy'n rhoi glaswellt i'r gwartheg, planhigion i bobl eu tyfu iddyn nhw gael bwyd o'r tir –
Psal WelBeibl 104:15  gwin i godi calon, olew i roi sglein ar eu hwynebau, a bara i'w cadw nhw'n fyw.
Psal WelBeibl 104:16  Mae'r coed anferth yn cael digon i'w yfed – y cedrwydd blannodd yr ARGLWYDD yn Libanus
Psal WelBeibl 104:17  lle mae'r adar yn nythu, a'r coed pinwydd ble mae'r storc yn cartrefu.
Psal WelBeibl 104:18  Mae'r mynyddoedd uchel yn gynefin i'r geifr gwyllt, a'r clogwyni yn lloches i'r brochod.
Psal WelBeibl 104:19  Ti wnaeth y lleuad i nodi'r tymhorau, a'r haul, sy'n gwybod pryd i fachlud.
Psal WelBeibl 104:20  Ti sy'n dod â'r tywyllwch iddi nosi, pan mae anifeiliaid y goedwig yn dod allan.
Psal WelBeibl 104:21  Mae'r llewod yn rhuo am ysglyfaeth ac yn gofyn i Dduw am eu bwyd.
Psal WelBeibl 104:22  Wedyn, pan mae'r haul yn codi, maen nhw'n mynd i'w ffeuau i orffwys.
Psal WelBeibl 104:23  A dyna pryd mae pobl yn deffro, a mynd allan i weithio nes iddi nosi.
Psal WelBeibl 104:24  O ARGLWYDD, rwyt wedi creu cymaint o wahanol bethau! Rwyt wedi gwneud y cwbl mor ddoeth. Mae'r ddaear yn llawn o dy greaduriaid di!
Psal WelBeibl 104:25  Draw acw mae'r môr mawr sy'n lledu i bob cyfeiriad, a phethau byw na ellid byth eu cyfri ynddo – creaduriaid bach a mawr.
Psal WelBeibl 104:26  Mae'r llongau'n teithio arno, a'r morfil a greaist i chwarae ynddo.
Psal WelBeibl 104:27  Maen nhw i gyd yn dibynnu arnat ti i roi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen.
Psal WelBeibl 104:28  Ti sy'n ei roi a nhw sy'n ei fwyta. Ti'n agor dy law ac maen nhw'n cael eu digoni.
Psal WelBeibl 104:29  Pan wyt ti'n troi dy gefn arnyn nhw, maen nhw'n dychryn. Pan wyt ti'n cymryd eu hanadl oddi arnyn nhw, maen nhw'n marw ac yn mynd yn ôl i'r pridd.
Psal WelBeibl 104:30  Ond pan wyt ti'n anadlu, maen nhw'n cael eu creu, ac mae'r tir yn cael ei adfywio.
Psal WelBeibl 104:31  Boed i ysblander yr ARGLWYDD gael ei weld am byth! Boed i'r ARGLWYDD fwynhau'r cwbl a wnaeth!
Psal WelBeibl 104:32  Dim ond iddo edrych ar y ddaear, mae hi'n crynu! Pan mae'n cyffwrdd y mynyddoedd, maen nhw'n mygu!
Psal WelBeibl 104:33  Dw i'n mynd i ganu i'r ARGLWYDD tra bydda i byw, moli fy Nuw ar gerddoriaeth tra bydda i.
Psal WelBeibl 104:34  Boed i'm myfyrdod ei blesio. Dw i'n mynd i fod yn llawen yn yr ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 104:35  Boed i bechaduriaid gael eu dinistrio o'r tir, ac i bobl ddrwg beidio â bod ddim mwy. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD! Haleliwia!
Chapter 105
Psal WelBeibl 105:1  Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw! Dwedwch wrth bawb beth mae wedi'i wneud.
Psal WelBeibl 105:2  Canwch iddo, a defnyddio cerddoriaeth i'w foli! Dwedwch am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.
Psal WelBeibl 105:3  Broliwch ei enw sanctaidd! Boed i bawb sy'n ceisio'r ARGLWYDD ddathlu.
Psal WelBeibl 105:4  Dewch at yr ARGLWYDD, profwch ei nerth; ceisiwch ei gwmni bob amser.
Psal WelBeibl 105:5  Cofiwch y pethau rhyfeddol a wnaeth – ei wyrthiau, a'r cwbl mae wedi ei ddyfarnu.
Psal WelBeibl 105:6  Ie, chi blant ei was Abraham; plant Jacob mae wedi'u dewis.
Psal WelBeibl 105:7  Yr ARGLWYDD ein Duw ni ydy e, yr un sy'n barnu'r ddaear gyfan.
Psal WelBeibl 105:8  Mae e'n cofio'i ymrwymiad bob amser, a'i addewid am fil o genedlaethau –
Psal WelBeibl 105:9  yr ymrwymiad wnaeth e i Abraham, a'r addewid wnaeth ar lw i Isaac.
Psal WelBeibl 105:10  Yna, ei gadarnhau yn rheol i Jacob – ymrwymiad i Israel oedd i bara am byth!
Psal WelBeibl 105:11  “Dw i'n rhoi gwlad Canaan i chi,” meddai, “yn etifeddiaeth i chi ei meddiannu.”
Psal WelBeibl 105:12  Dim ond criw bach ohonyn nhw oedd – rhyw lond dwrn yn byw yno dros dro,
Psal WelBeibl 105:13  ac yn crwydro o un wlad i'r llall, ac o un deyrnas i'r llall.
Psal WelBeibl 105:14  Wnaeth e ddim gadael i neb eu gormesu nhw; roedd wedi rhybuddio brenhinoedd amdanyn nhw:
Psal WelBeibl 105:15  “Peidiwch cyffwrdd fy mhobl sbesial i; peidiwch gwneud niwed i'm proffwydi.”
Psal WelBeibl 105:16  Ond wedyn daeth newyn ar y wlad; cymerodd eu bwyd oddi arnyn nhw.
Psal WelBeibl 105:17  Ond roedd wedi anfon un o'u blaenau, sef Joseff, gafodd ei werthu fel caethwas.
Psal WelBeibl 105:18  Roedd ei draed mewn cyffion; roedd coler haearn am ei wddf,
Psal WelBeibl 105:19  nes i'w eiriau ddod yn wir ac i neges yr ARGLWYDD ei brofi'n iawn.
Psal WelBeibl 105:20  Dyma'r brenin yn ei ryddhau o'r carchar; llywodraethwr y cenhedloedd yn ei ollwng yn rhydd.
Psal WelBeibl 105:21  Gwnaeth e'n gyfrifol am ei balas, a rhoi iddo'r awdurdod i reoli popeth oedd ganddo.
Psal WelBeibl 105:22  Disgyblu'r arweinwyr eraill fel y mynnai, a dysgu doethineb i'r cynghorwyr hŷn.
Psal WelBeibl 105:23  Yna dyma Israel yn symud i'r Aifft; aeth Jacob i fyw dros dro yn nhir Cham.
Psal WelBeibl 105:24  Gwnaeth Duw i'w bobl gael llawer o blant, llawer mwy na'u gelynion nhw.
Psal WelBeibl 105:25  Dechreuodd y gelynion gasáu ei bobl, a cham-drin ei weision.
Psal WelBeibl 105:26  Wedyn, dyma Duw yn anfon ei was Moses, ac Aaron, yr un oedd wedi'i ddewis.
Psal WelBeibl 105:27  Dyma nhw'n dweud am yr arwyddion gwyrthiol roedd Duw yn mynd i'w gwneud yn nhir Cham:
Psal WelBeibl 105:28  Anfon tywyllwch, ac roedd hi'n dywyll iawn! Wnaethon nhw ddim herio beth ddwedodd.
Psal WelBeibl 105:29  Troi eu dŵr nhw yn waed nes i'r pysgod i gyd farw.
Psal WelBeibl 105:30  Llenwi'r wlad hefo llyffantod – hyd yn oed y palasau brenhinol.
Psal WelBeibl 105:31  Rhoddodd orchymyn, a daeth haid o bryfed – gwybed drwy'r tir ym mhobman.
Psal WelBeibl 105:32  Anfonodd stormydd cenllysg yn lle glaw, a mellt drwy'r wlad i gyd.
Psal WelBeibl 105:33  Taro'u gwinwydd a'u coed ffigys, a bwrw coed i lawr drwy'r wlad.
Psal WelBeibl 105:34  Gorchymyn anfon locustiaid – llawer iawn gormod ohonyn nhw i'w cyfri.
Psal WelBeibl 105:35  Roedden nhw'n difetha'r planhigion i gyd, ac yn bwyta popeth oedd yn tyfu ar y tir!
Psal WelBeibl 105:36  Yna lladd plentyn hynaf pob teulu drwy'r wlad – ffrwyth cyntaf eu cyfathrach.
Psal WelBeibl 105:37  Daeth ag Israel allan yn cario arian ac aur! Doedd neb drwy'r llwythau i gyd yn baglu.
Psal WelBeibl 105:38  Roedd pobl yr Aifft mor falch pan aethon nhw, achos roedd Israel wedi codi dychryn arnyn nhw.
Psal WelBeibl 105:39  Wedyn rhoddodd Duw gwmwl i'w cysgodi, a tân i roi golau yn y nos.
Psal WelBeibl 105:40  Dyma nhw'n gofyn am fwyd, a dyma soflieir yn dod; rhoddodd ddigonedd o fwyd iddyn nhw o'r awyr.
Psal WelBeibl 105:41  Holltodd graig, nes bod dŵr yn pistyllio allan ohoni; roedd yn llifo fel afon drwy dir sych.
Psal WelBeibl 105:42  Oedd, roedd Duw'n cofio'r addewid cysegredig roedd wedi'i wneud i'w was Abraham.
Psal WelBeibl 105:43  Daeth â'i bobl allan yn dathlu! Roedd y rhai wedi'u dewis ganddo'n bloeddio canu.
Psal WelBeibl 105:44  Rhoddodd dir y cenhedloedd iddyn nhw; cawson nhw fwynhau ffrwyth llafur pobl eraill.
Psal WelBeibl 105:45  Gwnaeth hyn er mwyn iddyn nhw gadw'i reolau a bod yn ufudd i'w ddysgeidiaeth. Haleliwia!
Chapter 106
Psal WelBeibl 106:1  Haleliwia! Diolchwch i'r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni; mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
Psal WelBeibl 106:2  Pwy sy'n gallu dweud am yr holl bethau mawr mae'r ARGLWYDD wedi'u gwneud? Pwy sy'n gallu dweud cymaint mae e'n haeddu ei foli?
Psal WelBeibl 106:3  Y fath fendith sydd i'r rhai sy'n byw yn gywir, ac yn gwneud beth sy'n iawn bob amser!
Psal WelBeibl 106:4  Cofia fi, O ARGLWYDD, pan fyddi di'n helpu dy bobl; sylwa arna i pan fyddi di'n eu hachub nhw!
Psal WelBeibl 106:5  Dw i eisiau gweld y rhai rwyt ti wedi'u dewis yn llwyddo; dw i eisiau rhannu eu llawenydd nhw, a dathlu gyda dy bobl di.
Psal WelBeibl 106:6  Dŷn ni, fel ein hynafiaid, wedi pechu yn dy erbyn di; dŷn ni wedi mynd ar gyfeiliorn, a gwneud drwg.
Psal WelBeibl 106:7  Wnaeth ein hynafiaid yn yr Aifft ddim gwerthfawrogi dy wyrthiau rhyfeddol. Dyma nhw'n anghofio popeth wnest ti yn dy gariad, a gwrthryfela yn erbyn y Duw Goruchaf wrth y Môr Coch.
Psal WelBeibl 106:8  Ac eto achubodd nhw, er mwyn ei enw da, ac er mwyn dangos ei nerth.
Psal WelBeibl 106:9  Gwaeddodd ar y Môr Coch a'i sychu! Yna eu harwain drwy'r dyfnder, fel petai'n dir anial.
Psal WelBeibl 106:10  Cadwodd nhw'n saff rhag y rhai oedd yn eu casáu, a'u rhyddhau o afael y gelyn.
Psal WelBeibl 106:11  Dyma'r dŵr yn llifo'n ôl dros y gelynion, gan adael dim un ar ôl yn fyw.
Psal WelBeibl 106:12  Roedden nhw'n credu beth ddwedodd e wedyn, ac yn canu mawl iddo!
Psal WelBeibl 106:13  Ond dyma nhw'n anghofio'r cwbl wnaeth e'n fuan iawn! Wnaethon nhw ddim disgwyl am ei arweiniad.
Psal WelBeibl 106:14  Roedden nhw'n ysu am gael cig yn yr anialwch, a dyma nhw'n rhoi Duw ar brawf yn y tir sych.
Psal WelBeibl 106:15  Rhoddodd iddyn nhw beth roedden nhw eisiau, ond yna eu taro nhw gyda chlefyd oedd yn eu gwneud yn wan.
Psal WelBeibl 106:16  Roedd pobl yn y gwersyll yn genfigennus o Moses, ac o Aaron, yr un roedd yr ARGLWYDD wedi'i gysegru.
Psal WelBeibl 106:17  Agorodd y ddaear a llyncu Dathan, a gorchuddio'r rhai oedd gydag Abiram.
Psal WelBeibl 106:18  Cafodd tân ei gynnau yn eu plith nhw, a dyma'r fflamau'n llosgi'r bobl ddrwg hynny.
Psal WelBeibl 106:19  Wedyn dyma nhw'n gwneud eilun o darw yn Sinai, a phlygu i addoli delw o fetel!
Psal WelBeibl 106:20  Cyfnewid y Duw bendigedig am ddelw o ych sy'n bwyta glaswellt.
Psal WelBeibl 106:21  Roedden nhw wedi anghofio'r Duw achubodd nhw! Anghofio'r Duw wnaeth bethau mor fawr yn yr Aifft –
Psal WelBeibl 106:22  y gwyrthiau rhyfeddol yn nhir Cham, a'r pethau anhygoel wrth y Môr Coch.
Psal WelBeibl 106:23  Pan oedd Duw yn bygwth eu dinistrio nhw, dyma Moses, y dyn oedd wedi'i ddewis, yn sefyll yn y bwlch ac yn troi ei lid i ffwrdd oddi wrthyn nhw.
Psal WelBeibl 106:24  Wedyn dyma nhw'n gwrthod y tir hyfryd, ac yn gwrthod credu'r addewid roddodd e.
Psal WelBeibl 106:25  Roedden nhw'n cwyno yn eu pebyll ac yn gwrthod bod yn ufudd i'r ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 106:26  Felly dyma Duw yn addo ar lw y byddai'n eu lladd nhw yn yr anialwch!
Psal WelBeibl 106:27  Byddai'n gwasgaru eu disgynyddion i'r cenhedloedd a'u chwalu nhw drwy'r gwledydd.
Psal WelBeibl 106:28  A dyma nhw'n dechrau addoli Baal-peor, a bwyta aberthau wedi'u cyflwyno i bethau marw!
Psal WelBeibl 106:29  Roedd beth wnaethon nhw'n gwneud Duw yn ddig, a dyma bla yn mynd ar led yn eu plith.
Psal WelBeibl 106:30  Yna dyma Phineas yn ymyrryd, a dyma'r pla yn stopio.
Psal WelBeibl 106:31  Cafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw, a hynny am byth!
Psal WelBeibl 106:32  Dyma nhw'n digio Duw eto wrth Ffynnon Meriba a bu'n rhaid i Moses ddiodde o'u hachos.
Psal WelBeibl 106:33  Roedden nhw wedi'i wneud e mor chwerw nes iddo ddweud pethau byrbwyll.
Psal WelBeibl 106:34  Wedyn, wnaethon nhw ddim dinistrio'r cenhedloedd fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
Psal WelBeibl 106:35  Yn lle hynny dyma nhw'n cymysgu gyda'r cenhedloedd a dechrau byw yr un fath â nhw.
Psal WelBeibl 106:36  Roedden nhw'n addoli eu duwiau, a dyma hynny'n gwneud iddyn nhw faglu.
Psal WelBeibl 106:37  Dyma nhw'n aberthu eu meibion a'u merched i gythreuliaid!
Psal WelBeibl 106:38  Ie, tywallt gwaed plant diniwed – gwaed eu meibion a'u merched eu hunain – a'u haberthu nhw i eilun-dduwiau Canaan. Roedd y tir wedi'i lygru gan y gwaed gafodd ei dywallt.
Psal WelBeibl 106:39  Roedd beth wnaethon nhw'n eu llygru nhw; roedden nhw'n ymddwyn yn anffyddlon.
Psal WelBeibl 106:40  Felly dyma'r ARGLWYDD yn gwylltio'n lân hefo nhw! Roedd yn ffieiddio ei bobl ei hun!
Psal WelBeibl 106:41  Dyma fe'n eu rhoi nhw yn nwylo'r cenhedloedd; a gadael i'w gelynion eu rheoli.
Psal WelBeibl 106:42  Roedd gelynion yn eu gormesu; roedden nhw dan eu rheolaeth nhw'n llwyr!
Psal WelBeibl 106:43  Er bod Duw wedi'u hachub nhw dro ar ôl tro, roedden nhw'n dal yn ystyfnig ac yn tynnu'n groes. Aeth pethau o ddrwg i waeth o achos eu drygioni.
Psal WelBeibl 106:44  Ond pan oedd Duw'n gweld eu bod nhw mewn trybini ac yn eu clywed nhw'n gweiddi am help,
Psal WelBeibl 106:45  roedd yn cofio'r ymrwymiad wnaeth e iddyn nhw ac yn ymatal o achos ei gariad atyn nhw.
Psal WelBeibl 106:46  Gwnaeth i bawb oedd yn eu dal nhw'n gaeth fod yn garedig atyn nhw.
Psal WelBeibl 106:47  Achub ni, O ARGLWYDD ein Duw! Casgla ni at ein gilydd o blith y cenhedloedd! Wedyn byddwn ni'n diolch i ti, y Duw sanctaidd, ac yn brolio'r cwbl rwyt ti wedi'i wneud.
Psal WelBeibl 106:48  Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! Gadewch i'r bobl i gyd ddweud, “Amen!” Haleliwia!
Chapter 107
Psal WelBeibl 107:1  Diolchwch i'r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni! Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
Psal WelBeibl 107:2  Gadewch i'r rhai mae'r ARGLWYDD wedi'u gollwng yn rhydd ddweud hyn, ie, y rhai sydd wedi'u rhyddhau o afael y gelyn.
Psal WelBeibl 107:3  Maen nhw'n cael eu casglu o'r gwledydd eraill, o'r dwyrain, gorllewin, gogledd a de.
Psal WelBeibl 107:4  Roedden nhw'n crwydro ar goll yn yr anialwch gwyllt, ac yn methu dod o hyd i dre lle gallen nhw fyw.
Psal WelBeibl 107:5  Roedden nhw eisiau bwyd ac roedd syched arnyn nhw, ac roedden nhw wedi colli pob egni.
Psal WelBeibl 107:6  Dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion,
Psal WelBeibl 107:7  ac yn eu harwain nhw'n syth i le y gallen nhw setlo i lawr ynddo.
Psal WelBeibl 107:8  Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a'r pethau rhyfeddol mae wedi'u gwneud ar ran pobl!
Psal WelBeibl 107:9  Mae wedi rhoi diod i'r sychedig, a bwyd da i'r rhai oedd yn llwgu.
Psal WelBeibl 107:10  Roedd rhai yn byw mewn tywyllwch dudew, ac yn gaeth mewn cadwyni haearn,
Psal WelBeibl 107:11  am eu bod nhw wedi gwrthod gwrando ar Dduw, a gwrthod gwneud beth roedd y Goruchaf eisiau.
Psal WelBeibl 107:12  Deliodd hefo nhw drwy wneud iddyn nhw ddiodde. Roedden nhw'n baglu, a doedd neb i'w helpu.
Psal WelBeibl 107:13  Yna dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion.
Psal WelBeibl 107:14  Daeth â nhw allan o'r tywyllwch, a thorri'r rhaffau oedd yn eu rhwymo.
Psal WelBeibl 107:15  Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a'r pethau rhyfeddol mae wedi'u gwneud ar ran pobl!
Psal WelBeibl 107:16  Mae wedi dryllio'r drysau pres, a thorri'r barrau haearn.
Psal WelBeibl 107:17  Buodd rhai yn anfoesol, ac roedd rhaid iddyn nhw ddiodde am bechu a chamfihafio.
Psal WelBeibl 107:18  Roedden nhw'n methu cadw eu bwyd i lawr, ac roedden nhw'n agos at farw.
Psal WelBeibl 107:19  Ond dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion.
Psal WelBeibl 107:20  Dyma fe'n gorchymyn iddyn nhw gael eu hiacháu, ac yn eu hachub nhw o bwll marwolaeth.
Psal WelBeibl 107:21  Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a'r pethau rhyfeddol mae wedi'u gwneud ar ran pobl!
Psal WelBeibl 107:22  Gadewch iddyn nhw gyflwyno offrymau diolch iddo, a chanu'n llawen am y cwbl mae wedi'i wneud!
Psal WelBeibl 107:23  Aeth rhai eraill ar longau i'r môr, i ennill bywoliaeth ar y môr mawr.
Psal WelBeibl 107:24  Cawson nhw hefyd weld beth allai'r ARGLWYDD ei wneud, y pethau rhyfeddol wnaeth e ar y moroedd dwfn.
Psal WelBeibl 107:25  Roedd yn rhoi gorchymyn i wynt stormus godi, ac yn gwneud i'r tonnau godi'n uchel.
Psal WelBeibl 107:26  I fyny i'r awyr, ac i lawr i'r dyfnder â nhw! Roedd ganddyn nhw ofn am eu bywydau.
Psal WelBeibl 107:27  Roedd y cwch yn siglo a gwegian fel rhywun wedi meddwi, a doedd eu holl brofiad ar y môr yn dda i ddim.
Psal WelBeibl 107:28  Dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion.
Psal WelBeibl 107:29  Gwnaeth i'r storm dawelu; roedd y tonnau'n llonydd.
Psal WelBeibl 107:30  Roedden nhw mor falch fod y storm wedi tawelu, ac aeth Duw â nhw i'r porthladd o'u dewis.
Psal WelBeibl 107:31  Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a'r pethau rhyfeddol mae wedi'u gwneud ar ran pobl!
Psal WelBeibl 107:32  Gadewch iddyn nhw ei ganmol yn y gynulleidfa, a'i foli o flaen yr arweinwyr.
Psal WelBeibl 107:33  Mae e'n gallu troi afonydd yn anialwch, a ffynhonnau dŵr yn grasdir sych,
Psal WelBeibl 107:34  tir ffrwythlon yn dir diffaith am fod y bobl sy'n byw yno mor ddrwg.
Psal WelBeibl 107:35  Neu gall droi'r anialwch yn byllau dŵr, a'r tir sych yn ffynhonnau!
Psal WelBeibl 107:36  Yna rhoi pobl newynog i fyw yno, ac adeiladu tref i setlo i lawr ynddi.
Psal WelBeibl 107:37  Maen nhw'n hau hadau yn y caeau ac yn plannu coed gwinwydd, ac yn cael cynhaeaf mawr.
Psal WelBeibl 107:38  Mae'n eu bendithio a rhoi llawer o blant iddyn nhw, a dydy e ddim yn gadael iddyn nhw golli anifeiliaid.
Psal WelBeibl 107:39  Bydd y rhai sy'n gorthrymu yn colli eu pobl, yn dioddef pwysau gormes, trafferthion a thristwch.
Psal WelBeibl 107:40  Mae Duw yn dwyn anfri ar dywysogion, ac yn eu gadael i grwydro mewn anialwch heb lwybrau.
Psal WelBeibl 107:41  Ond mae'n cadw'r rhai sydd mewn angen yn saff, rhag iddyn nhw ddiodde, ac yn cynyddu eu teuluoedd fel preiddiau.
Psal WelBeibl 107:42  Mae'r rhai sy'n byw yn gywir yn gweld hyn ac yn dathlu – ond mae'r rhai drwg yn gorfod tewi.
Psal WelBeibl 107:43  Dylai'r rhai sy'n ddoeth gymryd sylw o'r pethau hyn, a myfyrio ar gariad ffyddlon yr ARGLWYDD.
Chapter 108
Psal WelBeibl 108:1  Dw i'n gwbl benderfynol, O Dduw. Dw i am ymroi yn llwyr i ganu mawl i ti.
Psal WelBeibl 108:2  Deffro, nabl a thelyn! Dw i am ddeffro'r wawr gyda'm cân.
Psal WelBeibl 108:3  Dw i'n mynd i ddiolch i ti, O ARGLWYDD, o flaen pawb. Dw i'n mynd i ganu mawl i ti o flaen pobl o bob cenedl.
Psal WelBeibl 108:4  Mae dy gariad di'n uwch na'r nefoedd, a dy ffyddlondeb di'n uwch na'r cymylau!
Psal WelBeibl 108:5  Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw, i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd!
Psal WelBeibl 108:6  Defnyddia dy gryfder o'n plaid, ac ateb ni er mwyn i dy rai annwyl gael eu hachub.
Psal WelBeibl 108:7  Mae Duw wedi addo yn ei gysegr: “Dw i'n mynd i fwynhau rhannu Sichem, a mesur dyffryn Swccoth.
Psal WelBeibl 108:8  Fi sydd biau Gilead, a Manasse hefyd; Effraim ydy fy helmed i a Jwda ydy'r deyrnwialen.
Psal WelBeibl 108:9  Ond bydd Moab fel powlen ymolchi. Byddaf yn taflu fy esgid at Edom, ac yn gorfoleddu ar ôl gorchfygu Philistia!”
Psal WelBeibl 108:10  Pwy sy'n gallu mynd â fi i'r ddinas ddiogel? Pwy sy'n gallu fy arwain i Edom?
Psal WelBeibl 108:11  Onid ti, O Dduw? Ond rwyt wedi'n gwrthod ni! Wyt ti ddim am fynd allan gyda'n byddin, O Dduw?
Psal WelBeibl 108:12  Plîs, helpa ni i wynebu'r gelyn, achos dydy help dynol yn dda i ddim.
Psal WelBeibl 108:13  Gyda Duw gallwn wneud pethau mawr – bydd e'n sathru ein gelynion dan draed!
Chapter 109
Psal WelBeibl 109:1  O Dduw, yr un dw i'n ei addoli, paid diystyru fi.
Psal WelBeibl 109:2  Mae pobl ddrwg a thwyllodrus yn siarad yn fy erbyn i, ac yn dweud celwydd amdana i.
Psal WelBeibl 109:3  Maen nhw o'm cwmpas ym mhobman gyda'u geiriau cas; yn ymosod arna i am ddim rheswm.
Psal WelBeibl 109:4  Dw i'n dangos cariad, ac maen nhw'n cyhuddo! Ond dw i'n dal i weddïo drostyn nhw.
Psal WelBeibl 109:5  Maen nhw'n talu drwg am dda, a chasineb am gariad.
Psal WelBeibl 109:6  “Anfon rywun drwg i ymosod arno!” medden nhw, “Gwna i rywun ei gyhuddo a mynd ag e i'r llys!
Psal WelBeibl 109:7  Anfon e i sefyll ei brawf, a chael ei ddedfrydu'n euog! Ystyria ei weddi yn bechod.
Psal WelBeibl 109:8  Paid gadael iddo gael byw'n hir! Gad i rywun arall gymryd ei waith.
Psal WelBeibl 109:10  Gwna i'w blant grwydro o adfeilion eu cartref, i gardota am fwyd.
Psal WelBeibl 109:11  Gwna i'r un mae mewn dyled iddo gymryd ei eiddo i gyd, ac i bobl ddieithr gymryd ei gyfoeth!
Psal WelBeibl 109:12  Paid gadael i rywun fod yn garedig ato; na dangos tosturi at ei blant!
Psal WelBeibl 109:13  Dinistria ei ddisgynyddion i gyd; gwna i enw'r teulu ddiflannu mewn un genhedlaeth!
Psal WelBeibl 109:14  Boed i'r ARGLWYDD gofio drygioni ei gyndadau, a boed i bechod ei fam byth ddiflannu.
Psal WelBeibl 109:15  Boed i'r ARGLWYDD eu cofio nhw bob amser, ac i'w henwau gael eu torri allan o hanes!
Psal WelBeibl 109:16  Dydy e erioed wedi dangos cariad! Mae wedi erlid pobl dlawd ac anghenus, a gyrru'r un sy'n ddigalon i'w farwolaeth.
Psal WelBeibl 109:17  Roedd e wrth ei fodd yn melltithio pobl – felly melltithia di fe! Doedd e byth yn bendithio pobl – cadw fendith yn bell oddi wrtho!
Psal WelBeibl 109:18  Roedd melltithio iddo fel gwisgo'i ddillad! Roedd fel dŵr yn ei socian, neu olew wedi treiddio i'w esgyrn.
Psal WelBeibl 109:19  Gwna felltith yn glogyn iddo'i wisgo gyda belt yn ei rwymo bob amser.”
Psal WelBeibl 109:20  Boed i'r ARGLWYDD dalu yn ôl i'm cyhuddwyr, y rhai sy'n dweud y pethau drwg yma amdana i.
Psal WelBeibl 109:21  Ond nawr, O ARGLWYDD, fy meistr, gwna rywbeth i'm helpu, er mwyn dy enw da. Mae dy gariad ffyddlon mor dda, felly achub fi!
Psal WelBeibl 109:22  Dw i'n dlawd ac yn anghenus, ac mae fy nghalon yn rasio o achos fy helbul.
Psal WelBeibl 109:23  Dw i'n diflannu fel cysgod ar ddiwedd y dydd. Dw i fel locust yn cael ei chwythu i ffwrdd.
Psal WelBeibl 109:24  Mae fy ngliniau yn wan ar ôl mynd heb fwyd; dw i wedi colli pwysau, ac yn denau fel styllen.
Psal WelBeibl 109:25  Dw i'n ddim byd ond testun sbort i bobl! Maen nhw'n edrych arna i ac yn ysgwyd eu pennau.
Psal WelBeibl 109:26  Helpa fi, O ARGLWYDD, fy Nuw; achub fi am fod dy gariad mor ffyddlon.
Psal WelBeibl 109:27  Wedyn bydd pobl yn gwybod mai dyna wyt ti'n wneud, ac mai ti, O ARGLWYDD, sydd wedi fy achub i.
Psal WelBeibl 109:28  Maen nhw'n melltithio, ond bendithia di fi! Wrth iddyn nhw ymosod, drysa di nhw, a bydd dy was yn dathlu!
Psal WelBeibl 109:29  Bydd y cyhuddwyr yn cael eu cywilyddio, byddan nhw'n gwisgo embaras fel clogyn.
Psal WelBeibl 109:30  Ond bydda i'n canu mawl i'r ARGLWYDD; ac yn ei ganmol yng nghanol y dyrfa fawr,
Psal WelBeibl 109:31  Mae e'n sefyll gyda'r un sydd mewn angen, ac yn ei achub o afael y rhai sy'n ei gondemnio.
Chapter 110
Psal WelBeibl 110:1  Dwedodd yr ARGLWYDD wrth fy arglwydd, “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi wneud dy elynion yn stôl dan dy draed di.”
Psal WelBeibl 110:2  Bydd yr ARGLWYDD yn estyn dy deyrnas o Seion, a byddi'n rheoli'r gelynion sydd o dy gwmpas!
Psal WelBeibl 110:3  Mae dy bobl yn barod i dy ddilyn i'r frwydr. Ar y bryniau sanctaidd bydd byddin ifanc yn dod atat fel gwlith yn codi o groth y wawr.
Psal WelBeibl 110:4  Mae'r ARGLWYDD wedi tyngu llw, a fydd e ddim yn torri ei air, “Rwyt ti'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.”
Psal WelBeibl 110:5  Mae'r ARGLWYDD, sydd ar dy ochr dde di, yn sathru brenhinoedd ar y diwrnod pan mae'n ddig.
Psal WelBeibl 110:6  Mae'n cosbi'r cenhedloedd, yn pentyrru'r cyrff marw ac yn sathru eu harweinwyr drwy'r byd i gyd.
Psal WelBeibl 110:7  Ond bydd e'n yfed o'r nant ar ochr y ffordd, ac yn codi ar ei draed yn fuddugol.
Chapter 111
Psal WelBeibl 111:1  Haleliwia! Dw i'n diolch i'r ARGLWYDD o waelod calon, o flaen y gynulleidfa o'i bobl ffyddlon.
Psal WelBeibl 111:2  Mae'r ARGLWYDD yn gwneud pethau mor fawr! Maen nhw'n bleser pur i bawb sy'n myfyrio arnyn nhw.
Psal WelBeibl 111:3  Mae'r cwbl yn dangos ei ysblander a'i urddas, a'i fod e bob amser yn ffyddlon.
Psal WelBeibl 111:4  Mae pawb yn sôn am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud! Mae'r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog!
Psal WelBeibl 111:5  Mae e'n rhoi bwyd i'w rai ffyddlon; mae bob amser yn cofio'r ymrwymiad wnaeth e.
Psal WelBeibl 111:6  Dwedodd wrth ei bobl y byddai'n gwneud pethau mawr, a rhoi tir cenhedloedd eraill iddyn nhw.
Psal WelBeibl 111:7  Mae e wedi bod yn ffyddlon ac yn gyfiawn. Mae'r pethau mae'n eu dysgu yn gwbl ddibynadwy,
Psal WelBeibl 111:8  ac yn sefyll am byth. Maen nhw'n ffyddlon ac yn deg.
Psal WelBeibl 111:9  Mae wedi gollwng ei bobl yn rhydd, ac wedi sicrhau fod ei ymrwymiad yn sefyll bob amser. Mae ei enw'n sanctaidd ac i gael ei barchu.
Psal WelBeibl 111:10  Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf i fod yn ddoeth. Mae pawb sy'n gwneud hynny yn gwneud y peth call. Mae e'n haeddu ei foli am byth!
Chapter 112
Psal WelBeibl 112:1  Haleliwia! Mae bendith fawr i'r un sy'n parchu'r ARGLWYDD ac wrth ei fodd yn gwneud beth mae'n ei ddweud.
Psal WelBeibl 112:2  Bydd ei ddisgynyddion yn llwyddiannus, cenhedlaeth o bobl dduwiol yn cael eu bendithio.
Psal WelBeibl 112:4  Mae golau'n disgleirio yn y tywyllwch i'r duwiol; y sawl sy'n garedig, yn drugarog ac yn gwneud beth sy'n iawn.
Psal WelBeibl 112:5  Mae pethau'n mynd yn dda i'r un sy'n hael wrth fenthyg ac yn rheoli ei fusnes yn gyfiawn.
Psal WelBeibl 112:6  Fydd dim byd yn tarfu arno; bydd pobl yn cofio ei fod wedi byw'n gywir.
Psal WelBeibl 112:7  Does ganddo ddim ofn newyddion drwg; mae e'n trystio'r ARGLWYDD yn llwyr.
Psal WelBeibl 112:8  Mae e'n dawel ei feddwl, ac yn ofni dim; mae'n disgwyl gweld ei elynion yn syrthio yn y diwedd.
Psal WelBeibl 112:9  Mae e'n rhannu ac yn rhoi yn hael i'r tlodion; bydd pobl yn cofio'i haelioni bob amser. Bydd yn llwyddo ac yn cael ei anrhydeddu.
Psal WelBeibl 112:10  Bydd pobl ddrwg yn gwylltio pan welan nhw hyn. Byddan nhw'n ysgyrnygu eu dannedd, ac yn colli pob hyder, am fod eu gobeithion nhw wedi diflannu.
Chapter 113
Psal WelBeibl 113:1  Haleliwia! Molwch e, weision yr ARGLWYDD! Molwch enw'r ARGLWYDD!
Psal WelBeibl 113:2  Boed i enw'r ARGLWYDD gael ei fendithio, nawr ac am byth.
Psal WelBeibl 113:3  Boed i enw'r ARGLWYDD gael ei foli drwy'r byd i gyd!
Psal WelBeibl 113:4  Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu dros yr holl genhedloedd! Mae ei ysblander yn uwch na'r nefoedd.
Psal WelBeibl 113:5  Does neb tebyg i'r ARGLWYDD ein Duw, sy'n eistedd ar ei orsedd uchel!
Psal WelBeibl 113:6  Mae'n plygu i lawr i edrych ar y nefoedd a'r ddaear oddi tano.
Psal WelBeibl 113:7  Mae e'n codi pobl dlawd o'r baw, a'r rhai sydd mewn angen o'r domen sbwriel.
Psal WelBeibl 113:8  Mae'n eu gosod i eistedd gyda'r bobl fawr, ie, gydag arweinwyr ei bobl.
Psal WelBeibl 113:9  Mae'n rhoi cartref i'r wraig ddi-blant, ac yn ei gwneud hi'n fam hapus. Haleliwia!
Chapter 114
Psal WelBeibl 114:1  Pan aeth pobl Israel allan o'r Aifft – pan adawodd teulu Jacob y wlad lle roedden nhw'n siarad iaith estron –
Psal WelBeibl 114:2  daeth Jwda yn dir cysegredig, ac Israel yn deyrnas iddo.
Psal WelBeibl 114:3  Dyma'r Môr Coch yn eu gweld nhw'n dod ac yn symud o'r ffordd. Dyma lif yr Iorddonen yn cael ei ddal yn ôl.
Psal WelBeibl 114:4  Roedd y mynyddoedd yn neidio fel hyrddod, a'r bryniau yn prancio fel ŵyn.
Psal WelBeibl 114:5  Beth wnaeth i ti symud o'r ffordd, fôr? Beth wnaeth dy ddal di yn ôl, Iorddonen?
Psal WelBeibl 114:6  Beth wnaeth i chi neidio fel hyrddod, fynyddoedd? Beth wnaeth i chi brancio fel ŵyn, fryniau?
Psal WelBeibl 114:7  Cryna, ddaear, am fod yr ARGLWYDD yn dod! Mae Duw Jacob ar ei ffordd!
Psal WelBeibl 114:8  Y Duw wnaeth droi'r graig yn bwll o ddŵr. Do, llifodd ffynnon ddŵr o garreg fflint!
Chapter 115
Psal WelBeibl 115:1  Nid ni, O ARGLWYDD, nid ni – ti sy'n haeddu'r anrhydedd i gyd, am ddangos y fath gariad a ffyddlondeb.
Psal WelBeibl 115:2  Pam ddylai pobl y cenhedloedd ddweud, “Ble mae eu Duw nhw nawr?”
Psal WelBeibl 115:3  Y gwir ydy fod Duw yn y nefoedd, ac yn gwneud beth bynnag mae e eisiau!
Psal WelBeibl 115:4  Dydy eu heilunod nhw'n ddim ond arian ac aur wedi'u siapio gan ddwylo dynol.
Psal WelBeibl 115:5  Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad; llygaid, ond allan nhw ddim gweld;
Psal WelBeibl 115:6  clustiau, ond allan nhw ddim clywed; trwynau, ond allan nhw ddim arogli;
Psal WelBeibl 115:7  dwylo, ond allan nhw ddim teimlo; traed, ond allan nhw ddim cerdded; a dydy eu gyddfau ddim yn gallu gwneud sŵn!
Psal WelBeibl 115:8  Mae'r bobl sy'n eu gwneud nhw, a'r bobl sydd yn eu haddoli nhw, yn troi'n debyg iddyn nhw!
Psal WelBeibl 115:9  Israel, cred di yn yr ARGLWYDD! Fe sy'n dy helpu di ac yn dy amddiffyn di.
Psal WelBeibl 115:10  Chi offeiriaid, credwch yn yr ARGLWYDD! Fe sy'n eich helpu ac yn eich amddiffyn chi.
Psal WelBeibl 115:11  Chi sy'n addoli'r ARGLWYDD, credwch yn yr ARGLWYDD! Fe sy'n eich helpu chi ac yn eich amddiffyn chi.
Psal WelBeibl 115:12  Mae'r ARGLWYDD yn cofio amdanon ni, a bydd yn ein bendithio ni – bydd yn bendithio pobl Israel; bydd yn bendithio teulu Aaron;
Psal WelBeibl 115:13  bydd yn bendithio'r rhai sy'n addoli'r ARGLWYDD, yn ifanc ac yn hen.
Psal WelBeibl 115:14  Boed i'r ARGLWYDD roi plant i chi; ie, i chi a'ch plant hefyd!
Psal WelBeibl 115:15  Boed i'r ARGLWYDD, wnaeth greu'r nefoedd a'r ddaear, eich bendithio chi!
Psal WelBeibl 115:16  Yr ARGLWYDD sydd biau'r nefoedd, ond mae wedi rhoi'r ddaear yng ngofal y ddynoliaeth.
Psal WelBeibl 115:17  Dydy'r meirw ddim yn gallu moli'r ARGLWYDD, maen nhw wedi mynd i dawelwch y bedd.
Psal WelBeibl 115:18  Ond dŷn ni'n mynd i foli'r ARGLWYDD o hyn allan, ac am byth! Haleliwia!
Chapter 116
Psal WelBeibl 116:1  Dw i wir yn caru'r ARGLWYDD am ei fod yn gwrando ar fy ngweddi.
Psal WelBeibl 116:2  Mae e'n troi i wrando arna i a dw i'n mynd i ddal ati i alw arno bob amser.
Psal WelBeibl 116:3  Roedd rhaffau marwolaeth wedi'u rhwymo amdana i; roedd ofn y bedd wedi gafael ynof fi. Rôn i mewn helbul! Roedd fy sefyllfa'n druenus!
Psal WelBeibl 116:4  A dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD, “O ARGLWYDD, plîs, achub fi!”
Psal WelBeibl 116:5  Mae'r ARGLWYDD mor hael a charedig; ydy, mae ein Duw ni mor drugarog.
Psal WelBeibl 116:6  Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn pobl gyffredin; achubodd fi pan oeddwn i'n teimlo mor isel.
Psal WelBeibl 116:7  Ond bellach dw i'n gallu ymlacio eto. Mae'r ARGLWYDD wedi achub fy ngham!
Psal WelBeibl 116:8  Wyt, rwyt ti wedi achub fy mywyd i, cymryd y dagrau i ffwrdd, a'm cadw i rhag baglu.
Psal WelBeibl 116:9  Dw i'n mynd i fyw'n ffyddlon i'r ARGLWYDD ar dir y byw.
Psal WelBeibl 116:10  Rôn i'n credu ynddo pan ddwedais, “Dw i'n diodde'n ofnadwy,”
Psal WelBeibl 116:11  ond yna dweud mewn panig, “Alla i ddim trystio unrhyw un.”
Psal WelBeibl 116:12  Sut alla i dalu nôl i'r ARGLWYDD am fod mor dda tuag ata i?
Psal WelBeibl 116:13  Dyma offrwm o win i ddiolch iddo am fy achub, a dw i am alw ar enw'r ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 116:14  Dw i am gadw fy addewidion i'r ARGLWYDD o flaen ei bobl.
Psal WelBeibl 116:15  Mae bywyd pob un o'i bobl ffyddlon yn werthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 116:16  Plîs, ARGLWYDD, dw i wir yn un o dy weision ac yn blentyn i dy forwyn. Rwyt ti wedi datod y clymau oedd yn fy rhwymo i.
Psal WelBeibl 116:17  Dw i'n cyflwyno offrwm i ddiolch i ti ac yn galw ar enw'r ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 116:18  Dw i am gadw fy addewidion i'r ARGLWYDD o flaen y bobl sy'n ei addoli
Chapter 117
Psal WelBeibl 117:1  Molwch yr ARGLWYDD, chi genhedloedd i gyd! Canwch fawl iddo, holl bobloedd y byd!
Psal WelBeibl 117:2  Mae ei gariad tuag aton ni mor fawr! Mae'r ARGLWYDD bob amser yn ffyddlon. Haleliwia!
Chapter 118
Psal WelBeibl 118:1  Diolchwch i'r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni! “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 118:2  Gadewch i Israel gyfan ddweud, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 118:3  Gadewch i'r offeiriaid ddweud, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 118:4  Gadewch i bawb arall sy'n addoli'r ARGLWYDD ddweud, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 118:5  Rôn i mewn helbul, a dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD. Dyma'r ARGLWYDD yn ateb ac yn fy helpu i ddianc.
Psal WelBeibl 118:6  Mae'r ARGLWYDD ar fy ochr, felly fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?
Psal WelBeibl 118:7  Mae'r ARGLWYDD ar fy ochr i'm helpu, felly bydda i'n gweld fy ngelynion yn syrthio.
Psal WelBeibl 118:8  Mae'n llawer gwell troi at yr ARGLWYDD am loches na trystio pobl feidrol!
Psal WelBeibl 118:9  Mae'n llawer gwell troi at yr ARGLWYDD am loches na trystio'r arweinwyr.
Psal WelBeibl 118:10  Roedd y paganiaid yn ymosod arna i; ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i'w gyrru nhw i ffwrdd.
Psal WelBeibl 118:11  Roedden nhw'n ymosod arna i o bob cyfeiriad; ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i'w gyrru nhw i ffwrdd.
Psal WelBeibl 118:12  Roedden nhw o'm cwmpas i fel haid o wenyn; ond dyma nhw'n diflannu mor sydyn â drain yn llosgi. Dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i'w gyrru i ffwrdd.
Psal WelBeibl 118:13  Roedden nhw'n gwasgu arna i'n galed, a bu bron i mi syrthio; ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu.
Psal WelBeibl 118:14  Yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi! Fe sydd wedi fy achub i.
Psal WelBeibl 118:15  Mae pobl Dduw i'w clywed yn canu am y fuddugoliaeth yn eu pebyll, “Mae'r ARGLWYDD mor gryf!
Psal WelBeibl 118:16  Mae'r ARGLWYDD yn fuddugol! Mae'r ARGLWYDD mor gryf!”
Psal WelBeibl 118:17  Dw i'n fyw! Wnes i ddim marw! Bydda i'n dweud beth wnaeth yr ARGLWYDD!
Psal WelBeibl 118:18  Roedd yr ARGLWYDD wedi fy nghosbi'n llym, ond wnaeth e ddim gadael i mi gael fy lladd.
Psal WelBeibl 118:19  Agorwch giatiau cyfiawnder i mi er mwyn i mi fynd i mewn i ddiolch i'r ARGLWYDD!
Psal WelBeibl 118:20  Giât yr ARGLWYDD ydy hon – dim ond y rhai cyfiawn sy'n cael mynd drwyddi.
Psal WelBeibl 118:22  Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen.
Psal WelBeibl 118:23  Yr ARGLWYDD wnaeth hyn, mae'r peth yn rhyfeddol yn ein golwg!
Psal WelBeibl 118:24  Mae heddiw'n ddiwrnod i'r ARGLWYDD – gadewch i ni ddathlu a bod yn llawen!
Psal WelBeibl 118:25  O ARGLWYDD, plîs achub ni! O ARGLWYDD, gwna i ni lwyddo!
Psal WelBeibl 118:26  Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r ARGLWYDD wedi'i fendithio'n fawr – Bendith arnoch chi i gyd o deml yr ARGLWYDD!
Psal WelBeibl 118:27  Yr ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn, ac mae wedi rhoi ei olau i ni. Gadewch i ni ddathlu! Ewch at yr allor gyda changhennau coed palmwydd.
Psal WelBeibl 118:28  Ti ydy fy Nuw i a dw i'n diolch i ti! Ti ydy fy Nuw i a dw i'n dy ganmol di!
Psal WelBeibl 118:29  Diolchwch i'r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni! “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Chapter 119
Psal WelBeibl 119:1  Mae'r rhai sy'n byw yn iawn, ac yn gwneud beth mae cyfraith yr ARGLWYDD yn ei ddweud wedi'u bendithio'n fawr!
Psal WelBeibl 119:2  Mae'r rhai sy'n gwneud beth mae'n ddweud, ac yn rhoi eu hunain yn llwyr iddo wedi'u bendithio'n fawr!
Psal WelBeibl 119:3  Dŷn nhw'n gwneud dim drwg, ond yn ymddwyn fel mae e eisiau.
Psal WelBeibl 119:4  Ti wedi gorchymyn fod dy ofynion i gael eu cadw'n ofalus.
Psal WelBeibl 119:5  O na fyddwn i bob amser yn ymddwyn fel mae dy ddeddfau di'n dweud!
Psal WelBeibl 119:6  Wedyn fyddwn i ddim yn teimlo cywilydd wrth feddwl am dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:7  Dw i'n diolch i ti o waelod calon wrth ddysgu mor deg ydy dy reolau.
Psal WelBeibl 119:8  Dw i'n mynd i gadw dy ddeddfau; felly paid troi cefn arna i'n llwyr!
Psal WelBeibl 119:9  Sut mae llanc ifanc i ddal ati i fyw bywyd glân? – drwy wneud fel rwyt ti'n dweud.
Psal WelBeibl 119:10  Dw i wedi rhoi fy hun yn llwyr i ti; paid gadael i mi grwydro oddi wrth dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:11  Dw i'n trysori dy neges di yn fy nghalon, er mwyn peidio pechu yn dy erbyn.
Psal WelBeibl 119:12  Rwyt ti'n fendigedig, O ARGLWYDD! Dysga dy ddeddfau i mi.
Psal WelBeibl 119:13  Dw i'n ailadrodd yn uchel y rheolau rwyt ti wedi'u rhoi.
Psal WelBeibl 119:14  Mae byw fel rwyt ti'n dweud yn rhoi mwy o lawenydd na'r cyfoeth mwya.
Psal WelBeibl 119:15  Dw i am fyfyrio ar dy ofynion, a chadw fy llygaid ar dy ffyrdd.
Psal WelBeibl 119:16  Mae dy ddeddfau di'n rhoi'r pleser mwya i mi! Dw i ddim am anghofio beth rwyt ti'n ddweud.
Psal WelBeibl 119:17  Helpa dy was! Cadw fi'n fyw i mi allu gwneud beth ti'n ei ddweud.
Psal WelBeibl 119:18  Agor fy llygaid, i mi allu deall y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu dysgu.
Psal WelBeibl 119:19  Dw i ddim ond ar y ddaear yma dros dro. Paid cuddio dy orchmynion oddi wrtho i.
Psal WelBeibl 119:20  Dw i'n ysu am gael gwybod beth ydy dy ddyfarniad di.
Psal WelBeibl 119:21  Rwyt ti'n ceryddu pobl falch, ac yn melltithio'r rhai sy'n crwydro oddi wrth dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:22  Wnei di symud yr holl wawdio a'r cam-drin i ffwrdd? Dw i'n cadw dy reolau di.
Psal WelBeibl 119:23  Er bod arweinwyr yn cynllwynio yn fy erbyn i, mae dy was yn astudio dy ddeddfau.
Psal WelBeibl 119:24  Mae dy ofynion di'n hyfrydwch pur i mi, ac yn rhoi arweiniad cyson i mi.
Psal WelBeibl 119:25  Dw i'n methu codi o'r llwch! Adfywia fi fel rwyt wedi addo!
Psal WelBeibl 119:26  Dyma fi'n dweud beth oedd yn digwydd, a dyma ti'n ateb. Dysga dy ddeddfau i mi.
Psal WelBeibl 119:27  Gad i mi ddeall sut mae byw yn ffyddlon i dy ofynion, a bydda i'n myfyrio ar y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud.
Psal WelBeibl 119:28  Mae tristwch yn fy lladd i! Cod fi ar fy nhraed fel gwnest ti addo!
Psal WelBeibl 119:29  Symud unrhyw dwyll sydd ynof fi; a rho dy ddysgeidiaeth i mi.
Psal WelBeibl 119:30  Dw i wedi dewis byw'n ffyddlon i ti, a chadw fy llygaid ar dy reolau di.
Psal WelBeibl 119:31  Dw i'n dal gafael yn dy orchmynion; ARGLWYDD, paid siomi fi!
Psal WelBeibl 119:32  Dw i wir eisiau byw'n ffyddlon i dy orchmynion; helpa fi i weld y darlun mawr.
Psal WelBeibl 119:33  O ARGLWYDD, dysga fi i fyw fel mae dy gyfraith di'n dweud; a'i dilyn i'r diwedd.
Psal WelBeibl 119:34  Helpa fi i ddeall, a bydda i'n cadw dy ddysgeidiaeth di; bydda i'n ymroi i wneud popeth mae'n ei ofyn.
Psal WelBeibl 119:35  Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion; dyna dw i eisiau'i wneud.
Psal WelBeibl 119:36  Gwna fi'n awyddus i gadw dy amodau di yn lle bod eisiau llwyddo'n faterol.
Psal WelBeibl 119:37  Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth! Gad i mi brofi bywyd wrth ddilyn dy ffyrdd di!
Psal WelBeibl 119:38  Gwna beth wnest ti ei addo i dy was, i ennyn parch ac addoliad ynof fi.
Psal WelBeibl 119:39  Cymer yr holl wawdio ofnadwy i ffwrdd, Mae dy ddedfryd di bob amser yn iawn.
Psal WelBeibl 119:40  Dw i'n dyheu am wneud beth rwyt ti'n ei ofyn; rho fywyd newydd i mi drwy dy ffyddlondeb.
Psal WelBeibl 119:41  Gad i mi brofi dy gariad, O ARGLWYDD. Achub fi, fel rwyt ti wedi addo.
Psal WelBeibl 119:42  Wedyn bydda i'n gallu ateb y rhai sy'n fy enllibio, gan fy mod i'n credu beth rwyt ti'n ei ddweud.
Psal WelBeibl 119:43  Paid rhwystro fi rhag dweud beth sy'n wir, dw i wedi rhoi fy ngobaith yn dy ddyfarniad di.
Psal WelBeibl 119:44  Wedyn bydda i'n ufudd i dy ddysgeidiaeth di am byth bythoedd!
Psal WelBeibl 119:45  Gad i mi gerdded yn rhydd am fy mod i wedi ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau.
Psal WelBeibl 119:46  Bydda i'n dweud wrth frenhinoedd am dy ofynion. Fydd gen i ddim cywilydd.
Psal WelBeibl 119:47  Mae dy orchmynion yn rhoi'r pleser mwya i mi, dw i wir yn eu caru nhw!
Psal WelBeibl 119:48  Dw i'n cydnabod ac yn caru dy orchmynion, ac yn myfyrio ar dy ddeddfau.
Psal WelBeibl 119:49  Cofia beth ddwedaist ti wrth dy was – dyna beth sydd wedi rhoi gobaith i mi.
Psal WelBeibl 119:50  Yr hyn sy'n gysur i mi pan dw i'n isel ydy fod dy addewidion di yn rhoi bywyd i mi.
Psal WelBeibl 119:51  Mae pobl falch wedi bod yn fy ngwawdio i'n greulon, ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:52  Dw i'n cofio dy reolau ers talwm, O ARGLWYDD, ac mae hynny'n rhoi cysur i mi.
Psal WelBeibl 119:53  Dw i'n gwylltio'n lân wrth feddwl am y bobl ddrwg hynny sy'n gwrthod dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:54  Dy ddeddfau di fu'n destun i'm cân ble bynnag dw i wedi byw!
Psal WelBeibl 119:55  Dw i'n cofio dy enw di yn y nos, O ARGLWYDD, ac yn gwneud beth rwyt ti'n ei ddysgu.
Psal WelBeibl 119:56  Dyna dw i wedi'i wneud bob amser – ufuddhau i dy ofynion di.
Psal WelBeibl 119:57  Ti, ARGLWYDD, ydy fy nghyfran i: Dw i'n addo gwneud fel rwyt ti'n dweud.
Psal WelBeibl 119:58  Dw i'n erfyn arnat ti o waelod calon: dangos drugaredd ata i, fel rwyt wedi addo gwneud.
Psal WelBeibl 119:59  Dw i wedi bod yn meddwl am fy mywyd, ac wedi penderfynu troi yn ôl at dy ofynion di.
Psal WelBeibl 119:60  Heb unrhyw oedi, dw i'n brysio i wneud beth rwyt ti'n ei orchymyn.
Psal WelBeibl 119:61  Mae pobl ddrwg yn gosod trapiau i bob cyfeiriad, ond dw i ddim yn anghofio dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:62  Ganol nos dw i'n codi i ddiolch am dy fod ti'n dyfarnu'n gyfiawn.
Psal WelBeibl 119:63  Dw i'n ffrind i bawb sy'n dy ddilyn di, ac yn gwneud beth rwyt ti'n ei ofyn.
Psal WelBeibl 119:64  Mae dy gariad di, O ARGLWYDD, yn llenwi'r ddaear! Dysga dy ddeddfau i mi.
Psal WelBeibl 119:65  Rwyt wedi bod yn dda tuag ata i fel y gwnest ti addo, O ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 119:66  Rho'r gallu i mi wybod beth sy'n iawn; dw i'n trystio dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:67  Rôn i'n arfer mynd ar gyfeiliorn, ac roeddwn i'n dioddef, ond bellach dw i'n gwneud beth rwyt ti'n ddweud.
Psal WelBeibl 119:68  Rwyt ti'n dda, ac yn gwneud beth sy'n dda: dysga dy ddeddfau i mi.
Psal WelBeibl 119:69  Mae pobl falch wedi bod yn palu celwydd amdana i, ond dw i'n gwneud popeth alla i i gadw dy orchmynion.
Psal WelBeibl 119:70  Pobl cwbl ddideimlad ydyn nhw, ond dw i wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:71  Roedd yn beth da i mi orfod dioddef, er mwyn i mi ddysgu cadw dy ddeddfau.
Psal WelBeibl 119:72  Mae beth rwyt ti'n ei ddysgu yn fwy gwerthfawr na miloedd o ddarnau arian ac aur.
Psal WelBeibl 119:73  Ti sydd wedi fy ngwneud i a'm siapio i; helpa fi i ddeall er mwyn dysgu dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:74  Bydd pawb sy'n dy barchu mor hapus wrth weld y newid ynof fi, am mai dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi.
Psal WelBeibl 119:75  O ARGLWYDD, dw i'n gwybod fod beth rwyt ti'n ei benderfynu yn iawn; roeddet ti'n fy nisgyblu i am dy fod ti mor ffyddlon i mi.
Psal WelBeibl 119:76  Gad i dy gariad ffyddlon di roi cysur i mi, fel gwnest ti addo i dy was.
Psal WelBeibl 119:77  Mae dy ddysgeidiaeth di'n rhoi'r pleser mwya i mi felly gad i mi brofi dy dosturi, a chael byw.
Psal WelBeibl 119:78  Gad i'r rhai balch gael eu cywilyddio am wneud drwg i mi ar gam! Dw i'n mynd i astudio dy ofynion di.
Psal WelBeibl 119:79  Gwna i'r rhai sy'n dy barchu ac yn dilyn dy reolau fy nerbyn i yn ôl.
Psal WelBeibl 119:80  Gwna i mi roi fy hun yn llwyr i ddilyn dy ddeddfau fel bydd dim cywilydd arna i.
Psal WelBeibl 119:81  Dw i'n dyheu i ti fy achub i! Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!
Psal WelBeibl 119:82  Mae fy llygaid yn blino wrth ddisgwyl i ti wneud beth rwyt wedi'i addo: “Pryd wyt ti'n mynd i'm cysuro i?” meddwn i.
Psal WelBeibl 119:83  Dw i fel potel groen wedi crebachu gan fwg! Ond dw i ddim wedi diystyru dy ddeddfau.
Psal WelBeibl 119:84  Am faint mwy mae'n rhaid i mi ddisgwyl? Pryd wyt ti'n mynd i gosbi'r rhai sy'n fy erlid i?
Psal WelBeibl 119:85  Dydy'r bobl falch yna ddim yn cadw dy gyfraith di; maen nhw wedi cloddio tyllau i geisio fy nal i.
Psal WelBeibl 119:86  Dw i'n gallu dibynnu'n llwyr ar dy orchmynion di; mae'r bobl yma'n fy erlid i ar gam! Helpa fi!
Psal WelBeibl 119:87  Maen nhw bron â'm lladd i, ond dw i ddim wedi troi cefn ar dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:88  Yn dy gariad ffyddlon, cadw fi'n fyw, a bydda i'n gwneud popeth rwyt ti'n ei ofyn.
Psal WelBeibl 119:89  Dw i'n gallu dibynnu ar dy eiriau di, ARGLWYDD; maen nhw'n ddiogel yn y nefoedd am byth.
Psal WelBeibl 119:90  Ti wedi bod yn ffyddlon ar hyd y cenedlaethau! Ti roddodd y ddaear yn ei lle, ac mae'n aros yno.
Psal WelBeibl 119:91  Mae popeth yn disgwyl dy arweiniad di, mae'r cwbl yn dy wasanaethu di.
Psal WelBeibl 119:92  Byddwn i wedi marw o iselder oni bai fy mod wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth.
Psal WelBeibl 119:93  Wna i byth anghofio dy reolau di, rwyt ti wedi rhoi bywyd newydd i mi drwyddyn nhw.
Psal WelBeibl 119:94  Ti sydd biau fi. Achub fi! Dw i wedi ymroi i wneud beth wyt ti eisiau.
Psal WelBeibl 119:95  Mae dynion drwg eisiau fy ninistrio, ond dw i'n myfyrio ar dy orchmynion.
Psal WelBeibl 119:96  Mae yna ben draw i bopeth arall, ond mae dy orchmynion di'n ddiderfyn!
Psal WelBeibl 119:97  O, dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di! Dw i'n myfyrio ynddi drwy'r dydd.
Psal WelBeibl 119:98  Mae dy orchmynion di gyda mi bob amser; maen nhw'n fy ngwneud i'n gallach na'm gelynion;
Psal WelBeibl 119:99  Dw i wedi dod i ddeall mwy na'm hathrawon i gyd, am fy mod i'n myfyrio ar dy ddeddfau di.
Psal WelBeibl 119:100  Dw i wedi dod i ddeall yn well na'r rhai mewn oed, am fy mod i'n cadw dy ofynion di.
Psal WelBeibl 119:101  Dw i wedi cadw draw o bob llwybr drwg er mwyn gwneud beth rwyt ti'n ddweud.
Psal WelBeibl 119:102  Dw i ddim wedi troi cefn ar dy reolau di, am mai ti dy hun sydd wedi fy nysgu i.
Psal WelBeibl 119:103  Mae'r pethau rwyt ti'n eu dweud mor dda, maen nhw'n felys fel mêl.
Psal WelBeibl 119:104  Dy orchmynion di sy'n rhoi deall i mi, ac felly dw i'n casáu pob ffordd ffals.
Psal WelBeibl 119:105  Mae dy eiriau di yn lamp i'm traed, ac yn goleuo fy llwybr.
Psal WelBeibl 119:106  Dw i wedi addo ar lw y bydda i'n derbyn dy ddedfryd gyfiawn.
Psal WelBeibl 119:107  Dw i'n dioddef yn ofnadwy; O ARGLWYDD, adfywia fi, fel rwyt wedi addo!
Psal WelBeibl 119:108  O ARGLWYDD, derbyn fy offrwm o fawl, a dysga dy ddeddfau i mi.
Psal WelBeibl 119:109  Er bod fy mywyd mewn perygl drwy'r adeg, dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:110  Mae pobl ddrwg wedi gosod trap i mi, ond dw i ddim wedi crwydro oddi wrth dy ofynion.
Psal WelBeibl 119:111  Mae dy ddeddfau di wedi cael eu rhoi i mi am byth; maen nhw'n bleser pur i mi!
Psal WelBeibl 119:112  Dw i'n benderfynol o ddilyn dy ddeddfau: mae'r wobr yn para am byth.
Psal WelBeibl 119:113  Dw i'n casáu pobl ddauwynebog, ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:114  Ti ydy'r lle saff i mi guddio! Ti ydy'r darian sy'n fy amddiffyn! Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!
Psal WelBeibl 119:115  Ewch i ffwrdd, chi sy'n gwneud drwg! Dw i'n bwriadu cadw gorchmynion fy Nuw.
Psal WelBeibl 119:116  Cynnal fi, fel rwyt wedi addo, i mi gael byw; paid gadael i mi gael fy siomi.
Psal WelBeibl 119:117  Cynnal fi a chadw fi'n saff, a bydda i'n myfyrio ar dy ddeddfau di bob amser.
Psal WelBeibl 119:118  Ti'n gwrthod y rhai sy'n crwydro oddi wrth dy ddeddfau – pobl ffals a thwyllodrus ydyn nhw.
Psal WelBeibl 119:119  Ti'n taflu pobl ddrwg y byd i ffwrdd fel sothach! Felly dw i wrth fy modd hefo dy ddeddfau di.
Psal WelBeibl 119:120  Mae meddwl amdanat ti'n codi croen gŵydd arna i; mae dy reolau di'n ddigon i godi ofn arna i.
Psal WelBeibl 119:121  Dw i wedi gwneud beth sy'n iawn ac yn dda; paid gadael fi yn nwylo'r rhai sydd am wneud drwg i mi.
Psal WelBeibl 119:122  Plîs, addo y byddi'n cadw dy was yn saff. Stopia'r bobl falch yma rhag fy ngormesu.
Psal WelBeibl 119:123  Mae fy llygaid wedi blino disgwyl i ti fy achub i, ac i dy addewid sicr ddod yn wir.
Psal WelBeibl 119:124  Dangos dy haelioni rhyfeddol at dy was; dysga dy ddeddfau i mi.
Psal WelBeibl 119:125  Dy was di ydw i. Helpa fi i ddeall a gwybod yn union beth rwyt ti'n ei orchymyn.
Psal WelBeibl 119:126  Mae'n bryd i ti weithredu, ARGLWYDD! Mae'r bobl yma'n torri dy reolau.
Psal WelBeibl 119:127  Dw i'n meddwl y byd o dy orchmynion di; mwy nag aur, yr aur mwyaf coeth.
Psal WelBeibl 119:128  Dw i'n dilyn dy ofynion di yn fanwl; dw i'n casáu pob ffordd ffals.
Psal WelBeibl 119:129  Mae dy ddeddfau di yn rhyfeddol, a dyna pam dw i'n eu cadw nhw.
Psal WelBeibl 119:130  Mae dy eiriau di yn goleuo materion, ac yn rhoi deall i bobl gyffredin.
Psal WelBeibl 119:131  Dw i'n dyheu, dw i'n disgwyl yn gegagored ac yn ysu am dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:132  Tro ata i, a bydd yn garedig ata i; dyna rwyt ti'n ei wneud i'r rhai sy'n caru dy enw di.
Psal WelBeibl 119:133  Dangos di'r ffordd ymlaen i mi; paid gadael i'r rhai drwg gael y llaw uchaf arna i!
Psal WelBeibl 119:134  Gollwng fi'n rhydd o afael y rhai sy'n fy ngormesu, er mwyn i mi wneud beth rwyt ti'n ei ddweud.
Psal WelBeibl 119:135  Bydd yn garedig at dy was, a dysga dy ddeddfau i mi.
Psal WelBeibl 119:136  Mae'r dagrau yn llifo fel afon gen i am fod pobl ddim yn ufudd i dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:137  Rwyt ti yn gyfiawn, O ARGLWYDD; ac mae dy reolau di yn gwbl deg.
Psal WelBeibl 119:138  Mae'r deddfau rwyt ti wedi'u rhoi yn gyfiawn, ac yn gwbl ddibynadwy.
Psal WelBeibl 119:139  Dw i'n gwylltio'n lân wrth weld fy ngelynion yn diystyru beth rwyt ti'n ddweud.
Psal WelBeibl 119:140  Mae dy eiriau di wedi'u profi'n wir, ac mae dy was wrth ei fodd gyda nhw.
Psal WelBeibl 119:141  Er fy mod i'n cael fy mychanu a'm dirmygu, dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:142  Mae dy gyfiawnder di yn para am byth; mae dy ddysgeidiaeth di yn wir.
Psal WelBeibl 119:143  Pan dw i mewn trafferthion ac mewn trybini, mae dy orchmynion di'n hyfrydwch pur i mi.
Psal WelBeibl 119:144  Mae dy reolau cyfiawn yn para am byth; rho'r gallu i mi eu deall, i mi gael byw.
Psal WelBeibl 119:145  Dw i'n gweiddi arnat ti o waelod calon! “Ateb fi, ARGLWYDD, er mwyn i mi gadw dy ddeddfau.”
Psal WelBeibl 119:146  Dw i'n gweiddi arnat ti, “Achub fi, er mwyn i mi gadw dy reolau.”
Psal WelBeibl 119:147  Dw i'n codi cyn iddi wawrio i alw am dy help! Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!
Psal WelBeibl 119:148  Dw i'n dal yn effro cyn i wylfa'r nos ddechrau, ac yn myfyrio ar dy eiriau.
Psal WelBeibl 119:149  Gwranda arna i, yn unol â dy gariad ffyddlon; O ARGLWYDD, rho fywyd i mi, yn unol â dy gyfiawnder!
Psal WelBeibl 119:150  Mae'r rhai sydd am wneud drwg i mi yn dod yn nes! Maen nhw'n bell iawn o dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:151  Ond rwyt ti bob amser yn agos, ARGLWYDD, ac mae dy orchmynion di i gyd yn wir.
Psal WelBeibl 119:152  Dw i wedi dysgu ers talwm fod dy reolau di yn aros am byth.
Psal WelBeibl 119:153  Edrych fel dw i'n dioddef, ac achub fi! Dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:154  Dadlau fy achos a helpa fi! Cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo gwneud.
Psal WelBeibl 119:155  Does gan y rhai drwg ddim gobaith cael eu hachub gen ti; dŷn nhw ddim yn ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau.
Psal WelBeibl 119:156  Rwyt ti mor drugarog, O ARGLWYDD; adfywia fi yn unol â dy gyfiawnder!
Psal WelBeibl 119:157  Mae gen i lawer iawn o elynion yn fy erlid i; ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddeddfau di.
Psal WelBeibl 119:158  Mae gweld pobl heb ffydd yn codi pwys arna i, am eu bod nhw ddim yn cadw dy reolau di.
Psal WelBeibl 119:159  Dw i wrth fy modd hefo dy ofynion! O ARGLWYDD, cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo.
Psal WelBeibl 119:160  Mae popeth rwyt ti'n ddweud yn gwbl ddibynadwy; mae pob un o dy reolau cyfiawn yn para am byth.
Psal WelBeibl 119:161  Mae'r awdurdodau wedi fy erlid i ar gam! Ond mae dy eiriau di'n rhoi gwefr i mi.
Psal WelBeibl 119:162  Mae dy eiriau di yn fy ngwneud i mor hapus, fel rhywun sydd wedi dod o hyd i drysor gwerthfawr.
Psal WelBeibl 119:163  Dw i'n casáu ac yn ffieiddio diffyg ffydd; ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:164  Dw i'n dy addoli di saith gwaith y dydd am dy fod ti'n dyfarnu'n gyfiawn.
Psal WelBeibl 119:165  Mae'r rhai sy'n caru dy ddysgeidiaeth di yn gwbl saff; does dim yn gwneud iddyn nhw faglu.
Psal WelBeibl 119:166  Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, O ARGLWYDD! Dw i'n cadw dy orchmynion di;
Psal WelBeibl 119:167  dw i'n ufuddhau i dy ddeddfau di ac yn eu caru nhw'n fawr.
Psal WelBeibl 119:168  Dw i'n ufuddhau i dy orchmynion a dy ddeddfau di. Ti'n gwybod yn iawn am bopeth dw i'n wneud.
Psal WelBeibl 119:169  Gwranda arna i'n pledio o dy flaen di, O ARGLWYDD; helpa fi i ddeall, fel rwyt ti'n addo gwneud.
Psal WelBeibl 119:170  Dw i'n cyflwyno beth dw i'n ofyn amdano i ti. Achub fi fel rwyt wedi addo.
Psal WelBeibl 119:171  Bydd moliant yn llifo oddi ar fy ngwefusau, am dy fod ti'n dysgu dy ddeddfau i mi.
Psal WelBeibl 119:172  Bydd fy nhafod yn canu am dy eiriau, am fod dy reolau di i gyd yn gyfiawn.
Psal WelBeibl 119:173  Estyn dy law i'm helpu. Dw i wedi dewis dilyn dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:174  Dw i'n dyheu i ti fy achub i, ARGLWYDD; mae dy ddysgeidiaeth di'n hyfrydwch pur i mi.
Psal WelBeibl 119:175  Gad i mi fyw, i mi gael dy foli! gad i dy reolau di fy helpu i.
Psal WelBeibl 119:176  Dw i wedi crwydro fel dafad oedd ar goll. Tyrd i edrych amdana i! Dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.
Chapter 120
Psal WelBeibl 120:1  Yn fy argyfwng dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD ac atebodd fi!
Psal WelBeibl 120:2  “O ARGLWYDD, achub fi rhag gwefusau celwyddog, a thafodau twyllodrus!”
Psal WelBeibl 120:3  Dyma gei di ganddo – ie, dyma fydd dy gosb – ti, dafod twyllodrus:
Psal WelBeibl 120:4  saethau miniog y milwyr wedi'u llunio ar dân golosg!
Psal WelBeibl 120:5  Dw i wedi bod mor ddigalon, yn gorfod byw dros dro yn Meshech, ac aros yng nghanol pebyll Cedar.
Psal WelBeibl 120:6  Dw i wedi cael llond bol ar fyw yng nghanol pobl sy'n casáu heddwch.
Psal WelBeibl 120:7  Dw i'n siarad am heddwch, ac maen nhw eisiau rhyfela!
Chapter 121
Psal WelBeibl 121:1  Dw i'n edrych i fyny i'r mynyddoedd. O ble daw help i mi?
Psal WelBeibl 121:2  Daw help oddi wrth yr ARGLWYDD, yr Un wnaeth greu'r nefoedd a'r ddaear.
Psal WelBeibl 121:3  Fydd e ddim yn gadael i dy droed lithro; dydy'r Un sy'n gofalu amdanat ddim yn cysgu.
Psal WelBeibl 121:4  Wrth gwrs! Dydy'r un sy'n gofalu am Israel ddim yn gorffwys na chysgu!
Psal WelBeibl 121:5  Yr ARGLWYDD sy'n gofalu amdanat ti; mae'r ARGLWYDD wrth dy ochr di yn dy amddiffyn di.
Psal WelBeibl 121:6  Fydd yr haul ddim yn dy lethu di ganol dydd, na'r lleuad yn effeithio arnat ti yn y nos.
Psal WelBeibl 121:7  Bydd yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn rhag pob perygl; bydd yn dy gadw di'n fyw.
Psal WelBeibl 121:8  Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw di'n saff ble bynnag ei di, o hyn allan ac am byth.
Chapter 122
Psal WelBeibl 122:1  Rôn i wrth fy modd pan ddwedon nhw wrtho i, “Gadewch i ni fynd i deml yr ARGLWYDD.”
Psal WelBeibl 122:2  Dyma ni'n sefyll y tu mewn i dy giatiau, O Jerwsalem!
Psal WelBeibl 122:3  Mae Jerwsalem yn ddinas wedi'i hadeiladu, i bobl ddod at ei gilydd ynddi.
Psal WelBeibl 122:4  Mae'r llwythau'n mynd ar bererindod iddi, ie, llwythau'r ARGLWYDD. Mae'n ddyletswydd ar bobl Israel i roi diolch i'r ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 122:5  Dyma lle mae'r llysoedd barn yn eistedd, llysoedd barn llywodraeth Dafydd.
Psal WelBeibl 122:6  Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem: “Boed i'r rhai sy'n dy garu di lwyddo.
Psal WelBeibl 122:7  Boed heddwch y tu mewn i dy waliau, a diogelwch o fewn dy gaerau.”
Psal WelBeibl 122:8  Er mwyn fy mhobl a'm ffrindiau dw i'n gweddïo am heddwch i ti.
Psal WelBeibl 122:9  Er mwyn teml yr ARGLWYDD ein Duw, dw i'n gofyn am lwyddiant i ti.
Chapter 123
Psal WelBeibl 123:1  Dw i'n edrych i fyny arnat ti sydd wedi dy orseddu yn y nefoedd.
Psal WelBeibl 123:2  Fel mae llygaid caethweision yn edrych ar law eu meistri, neu lygaid caethforwyn yn edrych ar law ei meistres, mae ein llygaid ni yn edrych ar yr ARGLWYDD ein Duw, ac yn disgwyl iddo ddangos ei ffafr.
Psal WelBeibl 123:3  Bydd yn garedig aton ni, O ARGLWYDD, dangos drugaredd! Dŷn ni wedi cael ein sarhau hen ddigon.
Psal WelBeibl 123:4  Dŷn ni wedi cael llond bol ar fod yn destun sbort i bobl hunanfodlon, a chael ein sarhau gan rai balch.
Chapter 124
Psal WelBeibl 124:1  Oni bai fod yr ARGLWYDD ar ein hochr ni – gall Israel ddweud yn glir –
Psal WelBeibl 124:2  oni bai fod yr ARGLWYDD ar ein hochr ni pan oedd dynion yn ymosod arnon ni,
Psal WelBeibl 124:3  bydden nhw wedi'n llyncu ni'n fyw. Roedden nhw mor ffyrnig yn ein herbyn!
Psal WelBeibl 124:4  Bydden ni wedi'n llethu'n llwyr gan y dyfroedd ac wedi boddi yn y llifogydd!
Psal WelBeibl 124:6  Bendith ar yr ARGLWYDD! Wnaeth e ddim gadael i'w dannedd ein rhwygo ni.
Psal WelBeibl 124:7  Dŷn ni fel aderyn wedi dianc o drap yr heliwr; torrodd y trap a dyma ni'n llwyddo i ddianc.
Psal WelBeibl 124:8  Yr ARGLWYDD wnaeth ein helpu – crëwr y nefoedd a'r ddaear.
Chapter 125
Psal WelBeibl 125:1  Mae'r rhai sy'n trystio'r ARGLWYDD fel Mynydd Seion – does dim posib ei symud, mae yna bob amser.
Psal WelBeibl 125:2  Fel mae Jerwsalem gyda bryniau o'i chwmpas, mae'r ARGLWYDD yn cofleidio'i bobl o hyn allan ac am byth.
Psal WelBeibl 125:3  Fydd teyrnwialen drygioni ddim yn cael aros ar y tir sydd wedi'i roi i'r rhai cyfiawn, rhag i'r rhai cyfiawn droi at ddrygioni.
Psal WelBeibl 125:4  Bydd yn dda, O ARGLWYDD, at y rhai da, sef y rhai hynny sy'n byw yn iawn.
Psal WelBeibl 125:5  Ond am y bobl sy'n dilyn eu ffyrdd troëdig – boed i'r ARGLWYDD eu symud nhw o'r ffordd gyda'r rhai sy'n gwneud drwg. Heddwch i Israel!
Chapter 126
Psal WelBeibl 126:1  Ar ôl i'r ARGLWYDD roi llwyddiant i Seion eto, roedden ni fel rhai'n breuddwydio –
Psal WelBeibl 126:2  roedden ni'n chwerthin yn uchel, ac yn canu'n llon. Roedd pobl y cenhedloedd yn dweud: “Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud pethau mawr iddyn nhw!”
Psal WelBeibl 126:3  Ydy, mae'r ARGLWYDD wedi gwneud pethau mawr i ni. Dŷn ni mor hapus!
Psal WelBeibl 126:4  O ARGLWYDD, wnei di roi llwyddiant i ni eto, fel pan mae ffrydiau dŵr yn llifo yn anialwch y Negef?
Psal WelBeibl 126:5  Bydd y rhai sy'n wylo wrth hau yn canu'n llawen wrth fedi'r cynhaeaf.
Psal WelBeibl 126:6  Mae'r un sy'n cario'i sach o hadau yn crio wrth fynd i hau. Ond bydd yr un sy'n cario'r ysgubau yn dod adre dan ganu'n llon!
Chapter 127
Psal WelBeibl 127:1  Os ydy'r ARGLWYDD ddim yn adeiladu'r tŷ, mae'r adeiladwyr yn gweithio'n galed i ddim pwrpas. Os ydy'r ARGLWYDD ddim yn amddiffyn dinas, mae'r gwyliwr yn cadw'n effro i ddim byd.
Psal WelBeibl 127:2  Does dim pwynt codi'n fore nac aros ar eich traed yn hwyr i weithio'n galed er mwyn cael bwyd i'w fwyta. Ie, Duw sy'n darparu ar gyfer y rhai mae'n eu caru, a hynny tra maen nhw'n cysgu.
Psal WelBeibl 127:3  Ac ie, yr ARGLWYDD sy'n rhoi meibion i bobl; gwobr ganddo fe ydy ffrwyth y groth.
Psal WelBeibl 127:4  Mae meibion sy'n cael eu geni i ddyn pan mae'n ifanc fel saethau yn llaw'r milwr.
Psal WelBeibl 127:5  Mae'r dyn sy'n llenwi ei gawell gyda nhw wedi'i fendithio'n fawr! Fydd e ddim yn cael ei gywilyddio wrth ddadlau gyda'i elynion wrth giât y ddinas.
Chapter 128
Psal WelBeibl 128:1  Mae'r un sy'n parchu'r ARGLWYDD ac yn gwneud beth mae e eisiau, wedi'i fendithio'n fawr.
Psal WelBeibl 128:2  Byddi'n bwyta beth fuost ti'n gweithio mor galed i'w dyfu. Byddi'n cael dy fendithio, a byddi'n llwyddo!
Psal WelBeibl 128:3  Bydd dy wraig fel gwinwydden ffrwythlon yn dy dŷ. Bydd dy feibion o gwmpas dy fwrdd fel blagur ar goeden olewydd.
Psal WelBeibl 128:4  Dyna i ti sut mae'r dyn sy'n parchu'r ARGLWYDD yn cael ei fendithio!
Psal WelBeibl 128:5  Boed i'r ARGLWYDD dy fendithio di o Seion! Cei weld Jerwsalem yn llwyddo am weddill dy fywyd,
Psal WelBeibl 128:6  A byddi'n cael byw i weld dy wyrion. Heddwch i Israel!
Chapter 129
Psal WelBeibl 129:1  “Maen nhw wedi ymosod arna i lawer gwaith ers pan oeddwn i'n ifanc,” gall Israel ddweud.
Psal WelBeibl 129:2  “Maen nhw wedi ymosod arna i lawer gwaith ers pan oeddwn i'n ifanc, ond dŷn nhw ddim wedi fy nhrechu i.”
Psal WelBeibl 129:3  Mae dynion wedi aredig ar fy nghefn ac agor cwysi hir.
Psal WelBeibl 129:4  Ond mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon, ac wedi torri'r rhaffau sy'n tynnu aradr y rhai drwg.
Psal WelBeibl 129:5  Gwna i bawb sy'n casáu Seion gael eu cywilyddio a'u gyrru yn ôl!
Psal WelBeibl 129:6  Gwna nhw fel glaswellt ar ben to yn gwywo cyn ei dynnu:
Psal WelBeibl 129:7  dim digon i lenwi dwrn yr un sy'n medi, na breichiau'r un sy'n casglu'r ysgubau!
Psal WelBeibl 129:8  A fydd y rhai sy'n pasio heibio ddim yn dweud, “Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi! Bendith arnoch chi yn enw'r ARGLWYDD.”
Chapter 130
Psal WelBeibl 130:1  Dw i mewn dyfroedd dyfnion, ARGLWYDD, a dw i'n galw arnat ti.
Psal WelBeibl 130:2  O ARGLWYDD, gwrando ar fy nghri. Gwranda arna i'n galw arnat ti. Dw i'n erfyn yn daer am drugaredd!
Psal WelBeibl 130:3  O ARGLWYDD, os wyt ti'n cadw golwg ar bechodau, pa obaith sydd i unrhyw un?
Psal WelBeibl 130:4  Ond rwyt ti'n barod i faddau, ac felly mae pobl yn dy addoli di.
Psal WelBeibl 130:5  Dw i'n troi at yr ARGLWYDD; dw i'n troi ato ac yn disgwyl yn llawn gobaith. Dw i'n trystio beth mae e'n ddweud.
Psal WelBeibl 130:6  Dw i'n dyheu i'r Meistr ddod fwy na'r gwylwyr yn disgwyl am y bore, ie, y gwylwyr am y bore.
Psal WelBeibl 130:7  O Israel, trystia'r ARGLWYDD! Mae cariad yr ARGLWYDD mor ffyddlon, ac mae e mor barod i'n gollwng ni'n rhydd!
Psal WelBeibl 130:8  Fe ydy'r un fydd yn rhyddhau Israel o ganlyniadau ei holl ddrygioni!
Chapter 131
Psal WelBeibl 131:1  O ARGLWYDD, dw i ddim yn berson balch nac yn edrych i lawr ar bobl eraill. Dw i ddim yn chwilio am enwogrwydd nac yn gwneud pethau sy'n rhy anodd i mi.
Psal WelBeibl 131:2  Dw i wedi dysgu bod yn dawel a diddig, fel plentyn bach yn saff ym mreichiau ei fam. Ydw, dw i'n dawel a bodlon fel plentyn yn cael ei gario.
Psal WelBeibl 131:3  O Israel, trystia'r ARGLWYDD o hyn allan ac am byth.
Chapter 132
Psal WelBeibl 132:1  O ARGLWYDD, paid anghofio Dafydd. Roedd e wedi cael amser mor galed.
Psal WelBeibl 132:2  Roedd e wedi addo i'r ARGLWYDD a thyngu llw i Un Cryf Jacob:
Psal WelBeibl 132:3  “Dw i ddim am fynd i'r tŷ, na dringo i'm gwely;
Psal WelBeibl 132:4  dw i ddim am adael i'm llygaid orffwys, na chau fy amrannau,
Psal WelBeibl 132:5  nes dod o hyd i le i'r ARGLWYDD, ie, rhywle i Un Cryf Jacob fyw.”
Psal WelBeibl 132:6  Clywson fod yr Arch yn Effrata; a dod o hyd iddi yng nghefn gwlad Jaar.
Psal WelBeibl 132:7  Gadewch i ni fynd i mewn i'w dabernacl, ac ymgrymu wrth ei stôl droed!
Psal WelBeibl 132:8  O ARGLWYDD, dos i fyny i dy deml gyda dy Arch bwerus!
Psal WelBeibl 132:9  Boed i dy offeiriaid wisgo cyfiawnder, boed i'r rhai sy'n ffyddlon i ti weiddi'n llawen!
Psal WelBeibl 132:10  Paid troi cefn ar yr un rwyt wedi'i eneinio o achos Dafydd dy was.
Psal WelBeibl 132:11  Roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Dafydd – aeth ar ei lw, a dydy e ddim yn torri ei air – “Dw i'n mynd i osod un o dy ddisgynyddion di ar dy orsedd.
Psal WelBeibl 132:12  Os bydd dy feibion yn cadw'r ymrwymiad wnaethon ni a'r amodau dw i wedi'u gosod iddyn nhw, bydd dy linach frenhinol yn para am byth.”
Psal WelBeibl 132:13  Mae'r ARGLWYDD wedi dewis Seion; mae e wedi penderfynu aros yno.
Psal WelBeibl 132:14  “Dyma lle bydda i'n gorffwys am byth,” meddai, “dw i'n mynd i deyrnasu yma. Ie, dyna dw i eisiau.
Psal WelBeibl 132:15  Dw i'n mynd i'w gwneud hi'n ddinas lwyddiannus, a rhoi digonedd o fwyd i'r rhai anghenus ynddi.
Psal WelBeibl 132:16  Dw i'n mynd i roi achubiaeth yn wisg i'w hoffeiriaid, a bydd ei rhai ffyddlon yn gweiddi'n llawen!
Psal WelBeibl 132:17  Dw i'n mynd i godi olynydd cryf i Dafydd; bydd fel lamp wedi'i rhoi i oleuo'r bobl.
Psal WelBeibl 132:18  Bydda i'n gwisgo ei elynion mewn cywilydd, ond bydd coron yn disgleirio ar ei ben e.”
Chapter 133
Psal WelBeibl 133:1  Mae mor dda, ydy, mae mor hyfryd pan mae pobl Dduw yn eistedd gyda'i gilydd.
Psal WelBeibl 133:2  Mae fel olew persawrus yn llifo i lawr dros y farf – dros farf Aaron ac i lawr dros goler ei fantell.
Psal WelBeibl 133:3  Mae fel gwlith Hermon yn disgyn ar fryniau Seion! Dyna lle mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn i'r fendith fod – bywyd am byth!
Chapter 134
Psal WelBeibl 134:1  Dewch! Bendithiwch yr ARGLWYDD, bawb ohonoch chi sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD, ac yn sefyll drwy'r nos yn nheml yr ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 134:2  Codwch eich dwylo, a'u hestyn allan tua'r cysegr! Bendithiwch yr ARGLWYDD!
Psal WelBeibl 134:3  Boed i'r ARGLWYDD, sydd wedi creu'r nefoedd a'r ddaear, eich bendithio chi o Seion!
Chapter 135
Psal WelBeibl 135:1  Haleliwia! Molwch enw'r ARGLWYDD! Addolwch e, chi sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD
Psal WelBeibl 135:2  ac sy'n sefyll yn nheml yr ARGLWYDD, yn yr iard sydd yn nhŷ Dduw.
Psal WelBeibl 135:3  Molwch yr ARGLWYDD, am fod yr ARGLWYDD mor dda! Canwch i'w enw, mae'n hyfryd cael gwneud hynny!
Psal WelBeibl 135:4  Mae'r ARGLWYDD wedi dewis pobl Jacob iddo'i hun, ac Israel fel ei drysor sbesial.
Psal WelBeibl 135:5  Dw i'n gwybod fod yr ARGLWYDD yn fawr; mae ein Duw ni yn well na'r ‛duwiau‛ eraill i gyd.
Psal WelBeibl 135:6  Mae'r ARGLWYDD yn gwneud beth bynnag mae e eisiau, yn y nefoedd, ar y ddaear, ac i lawr i waelodion y moroedd dwfn.
Psal WelBeibl 135:7  Mae e'n gwneud i'r cymylau godi ym mhen draw'r ddaear; mae'n anfon mellt gyda'r glaw, ac yn dod â'r gwynt allan o'i stordai.
Psal WelBeibl 135:8  Fe wnaeth daro plentyn hynaf pob teulu yn yr Aifft, a'r anifeiliaid cyntafanedig hefyd.
Psal WelBeibl 135:9  Gwnaeth arwyddion gwyrthiol yn yr Aifft yn erbyn y Pharo a'i weision i gyd;
Psal WelBeibl 135:10  Concrodd lawer o wledydd a lladd nifer o frenhinoedd –
Psal WelBeibl 135:11  Sihon, brenin yr Amoriaid, Og, brenin Bashan, a theuluoedd brenhinol Canaan i gyd.
Psal WelBeibl 135:12  Rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth – yn etifeddiaeth i'w bobl Israel.
Psal WelBeibl 135:13  O ARGLWYDD, mae dy enw di'n para am byth, ac yn cael ei gofio ar hyd y cenedlaethau.
Psal WelBeibl 135:14  Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn ei bobl ac yn tosturio wrth ei weision.
Psal WelBeibl 135:15  Dydy eilunod y cenhedloedd yn ddim byd ond arian ac aur, wedi'u siapio gan ddwylo dynol.
Psal WelBeibl 135:16  Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad; llygaid, ond allan nhw ddim gweld;
Psal WelBeibl 135:17  clustiau, ond allan nhw ddim clywed. Does dim bywyd ynddyn nhw!
Psal WelBeibl 135:18  Mae'r bobl sy'n eu gwneud nhw, a'r bobl sydd yn eu haddoli hefyd, yn troi'n debyg iddyn nhw!
Psal WelBeibl 135:19  Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi bobl Israel! Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi offeiriaid!
Psal WelBeibl 135:20  Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi Lefiaid! Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi rai ffyddlon yr ARGLWYDD!
Psal WelBeibl 135:21  Boed i'r ARGLWYDD, sy'n byw yn Jerwsalem, gael ei fendithio yn Seion! Haleliwia!
Chapter 136
Psal WelBeibl 136:1  Diolchwch i'r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni! “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:2  Rhowch ddiolch i'r Duw sy'n uwch na'r duwiau i gyd! “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:3  Rhowch ddiolch i Arglwydd yr Arglwyddi! “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:4  Fe ydy'r unig un sydd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol. “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:5  Fe sydd wedi creu'r nefoedd drwy ei allu. “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:6  Fe sydd wedi lledu'r ddaear dros y dyfroedd. “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:7  Fe sydd wedi gwneud y goleuadau mawr – “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:8  Yr haul i reoli'r dydd, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:9  a'r lleuad a'r sêr i reoli'r nos. “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:10  Fe wnaeth daro plant hynaf yr Aifft, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:11  a dod ag Israel allan o'u canol nhw, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:12  gyda nerth a chryfder rhyfeddol. “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:13  Fe wnaeth hollti'r Môr Coch, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:14  a gadael i Israel fynd drwy ei ganol. “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:15  Fe wnaeth daflu'r Pharo a'i fyddin i'r Môr Coch, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:16  ac arwain ei bobl drwy'r anialwch. “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:17  Fe wnaeth daro brenhinoedd cryfion i lawr, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:18  a lladd brenhinoedd enwog – “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:19  Sihon, brenin yr Amoriaid, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:20  ac Og, brenin Bashan. “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:21  Rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth; “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:22  yn etifeddiaeth i bobl Israel, sy'n ei wasanaethu. “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:23  Cofiodd amdanon ni pan oedden ni'n isel, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:24  a'n hachub ni o afael ein gelynion. “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:25  Fe sy'n rhoi bwyd i bob creadur byw. “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Psal WelBeibl 136:26  Rhowch ddiolch i'r Duw sy'n y nefoedd! “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Chapter 137
Psal WelBeibl 137:1  Wrth afonydd Babilon, dyma ni'n eistedd ac yn wylo wrth gofio am Seion.
Psal WelBeibl 137:2  Dyma ni'n hongian ein telynau ar y coed poplys yno.
Psal WelBeibl 137:3  Roedd y rhai oedd yn ein dal ni'n gaeth eisiau i ni ganu, a'n poenydwyr yn ein piwsio i'w difyrru: “Canwch un o ganeuon Seion i ni!”
Psal WelBeibl 137:4  Sut allen ni ganu caneuon yr ARGLWYDD ar dir estron?
Psal WelBeibl 137:5  Os anghofia i di, Jerwsalem, boed i'm llaw dde gael ei pharlysu.
Psal WelBeibl 137:6  Boed i'm tafod lynu wrth dop fy ngheg petawn i'n anghofio amdanat ti, a phetai Jerwsalem yn ddim pwysicach na phopeth arall sy'n rhoi pleser i mi.
Psal WelBeibl 137:7  Cofia, O ARGLWYDD, beth wnaeth pobl Edom y diwrnod hwnnw pan syrthiodd Jerwsalem. Roedden nhw'n gweiddi, “Chwalwch hi! Chwalwch hi i'w sylfeini!”
Psal WelBeibl 137:8  Babilon hardd, byddi dithau'n cael dy ddinistrio! Bydd yr un fydd yn talu'n ôl i ti ac yn dy drin fel gwnest ti'n trin ni, yn cael ei fendithio'n fawr!
Psal WelBeibl 137:9  Bydd yr un fydd yn gafael yn dy blant di ac yn eu hyrddio nhw yn erbyn y creigiau yn cael ei fendithio'n fawr!
Chapter 138
Psal WelBeibl 138:1  Dw i'n diolch i ti o waelod calon, ac yn canu mawl i ti o flaen y duwiau!
Psal WelBeibl 138:2  Dw i'n ymgrymu i gyfeiriad dy deml sanctaidd ac yn moli dy enw am dy gariad a dy ffyddlondeb. Mae dy enw a dy addewid di yn well na phopeth sy'n bod.
Psal WelBeibl 138:3  Dyma fi'n galw, a dyma ti'n ateb, yn fy ysbrydoli, a rhoi hyder i mi.
Psal WelBeibl 138:4  Bydd brenhinoedd y byd i gyd yn diolch i ti, O ARGLWYDD, pan fyddan nhw'n clywed y cwbl rwyt ti'n ei addo.
Psal WelBeibl 138:5  Byddan nhw'n canu am weithredoedd yr ARGLWYDD: “Mae dy ysblander di, ARGLWYDD, mor fawr!”
Psal WelBeibl 138:6  Er bod yr ARGLWYDD mor fawr, mae'n gofalu am y gwylaidd; ac mae'n gwybod o bell am y balch.
Psal WelBeibl 138:7  Pan dw i mewn trafferthion, rwyt yn fy achub o afael y gelyn gwyllt; ti'n estyn dy law gref i'm helpu.
Psal WelBeibl 138:8  Bydd yr ARGLWYDD yn talu'n ôl ar fy rhan i! O ARGLWYDD, mae dy haelioni yn ddiddiwedd! Paid troi cefn ar dy bobl, gwaith dy ddwylo!
Chapter 139
Psal WelBeibl 139:1  O ARGLWYDD, rwyt ti'n fy archwilio i, ac yn gwybod popeth amdana i.
Psal WelBeibl 139:2  Ti'n gwybod pryd dw i'n eistedd ac yn codi; ti'n gwybod beth sydd ar fy meddwl i o bell.
Psal WelBeibl 139:3  Ti'n cadw golwg arna i'n teithio ac yn gorffwys; yn wir, ti'n gwybod am bopeth dw i'n wneud.
Psal WelBeibl 139:4  Ti'n gwybod beth dw i'n mynd i'w ddweud cyn i mi agor fy ngheg, ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 139:5  Rwyt ti yna o mlaen i a'r tu ôl i mi, mae dy law di arna i i'm hamddiffyn.
Psal WelBeibl 139:6  Ti'n gwybod popeth amdana i! Mae tu hwnt i mi – mae'n ddirgelwch llwyr, mae'n ormod i mi ei ddeall.
Psal WelBeibl 139:7  Ble alla i fynd oddi wrth dy Ysbryd? I ble alla i ddianc oddi wrthot ti?
Psal WelBeibl 139:8  Petawn i'n mynd i fyny i'r nefoedd, rwyt ti yno; petawn i'n gorwedd i lawr yn Annwn, dyna ti eto!
Psal WelBeibl 139:9  Petawn i'n hedfan i ffwrdd gyda'r wawr ac yn mynd i fyw dros y môr,
Psal WelBeibl 139:10  byddai dy law yno hefyd, i'm harwain; byddai dy law dde yn gafael yn dynn ynof fi.
Psal WelBeibl 139:11  Petawn i'n gofyn i'r tywyllwch fy nghuddio, ac i'r golau o'm cwmpas droi'n nos,
Psal WelBeibl 139:12  dydy hyd yn oed tywyllwch ddim yn dywyll i ti! Mae'r nos yn olau fel y dydd i ti; mae goleuni a thywyllwch yr un fath!
Psal WelBeibl 139:13  Ti greodd fy meddwl a'm teimladau; a'm plethu i yng nghroth fy mam.
Psal WelBeibl 139:14  Dw i'n dy foli di, am fod dy waith di mor syfrdanol a rhyfeddol! Mae'r cwbl rwyt ti'n ei wneud yn anhygoel! Ti'n fy nabod i i'r dim!
Psal WelBeibl 139:15  Roeddet ti'n gweld fy ffrâm i pan oeddwn i'n cael fy siapio yn y dirgel, ac yn cael fy ngweu at ei gilydd yn nyfnder y ddaear.
Psal WelBeibl 139:16  Roeddet ti'n fy ngweld i cyn bod siâp arna i! Roedd hyd fy mywyd wedi'i drefnu – pob diwrnod wedi'i gofnodi yn dy lyfr, a hynny cyn i un fynd heibio!
Psal WelBeibl 139:17  O Dduw, mae dy feddyliau di'n rhy ddwfn i mi; mae gormod ohonyn nhw i'w deall!
Psal WelBeibl 139:18  Petawn i'n ceisio'u cyfri nhw, byddai mwy nag sydd o ronynnau tywod! Bob tro dw i'n deffro rwyt ti'n dal yna gyda mi!
Psal WelBeibl 139:19  O Dduw, pam wnei di ddim lladd y rhai drwg, a gwneud i'r dynion treisgar yma fynd i ffwrdd?
Psal WelBeibl 139:20  Maen nhw'n dweud pethau maleisus amdanat ti. Dy elynion di ydyn nhw! Maen nhw'n dweud celwydd!.
Psal WelBeibl 139:21  O ARGLWYDD, mae'n gas gen i'r rhai sy'n dy gasáu di. Mae'r bobl sy'n dy herio yn codi pwys arna i.
Psal WelBeibl 139:22  Dw i'n eu casáu nhw â chas perffaith. Maen nhw'n elynion i mi hefyd.
Psal WelBeibl 139:23  Archwilia fi, O Dduw, i weld beth sydd ar fy meddwl; treiddia'n ddwfn, a deall fel dw i'n poeni.
Psal WelBeibl 139:24  Edrych i weld a ydw i'n gwneud rhywbeth o'i le, ac arwain fi ar hyd yr hen lwybr.
Chapter 140
Psal WelBeibl 140:1  Achub fi, O ARGLWYDD, rhag pobl ddrwg. Cadw fi'n saff rhag y dynion treisiol
Psal WelBeibl 140:2  sy'n cynllwynio i wneud drwg i mi, ac yn ymosod a chreu helynt.
Psal WelBeibl 140:3  Mae ganddyn nhw dafodau miniog; maen nhw'n brathu fel nadroedd, ac mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau. Saib
Psal WelBeibl 140:4  O ARGLWYDD, paid gadael i bobl ddrwg gael gafael ynof fi! Cadw fi'n saff rhag y dynion treisiol sydd eisiau fy maglu i.
Psal WelBeibl 140:5  Mae dynion balch yn cuddio trap i mi; pobl lygredig yn lledu rhwydau i mi; ac yn gosod maglau ar fy llwybr. Saib
Psal WelBeibl 140:6  Dwedais wrth yr ARGLWYDD: “Ti ydy fy Nuw i.” Gwranda, O ARGLWYDD, wrth i mi erfyn am drugaredd!
Psal WelBeibl 140:7  O ARGLWYDD, Meistr, ti ydy'r un cryf sy'n achub; ti oedd yn gysgod i mi yn y frwydr.
Psal WelBeibl 140:8  O ARGLWYDD, paid gadael i'r rhai drwg gael eu ffordd! Paid gadael i'w cynllwyn nhw lwyddo, rhag iddyn nhw ymffrostio. Saib
Psal WelBeibl 140:9  Ac am y rhai sydd o'm cwmpas i – boed i'r pethau drwg maen nhw wedi eu dweud eu llethu!
Psal WelBeibl 140:10  Boed i farwor tanllyd ddisgyn arnyn nhw! Boed iddyn nhw gael eu taflu i bydewau, byth i godi eto!
Psal WelBeibl 140:11  Paid gadael i enllibwyr aros yn y tir. Gad i ddrygioni'r dynion treisgar eu hela nhw a'u bwrw nhw i lawr.
Psal WelBeibl 140:12  Dw i'n gwybod y bydd yr ARGLWYDD yn gweithredu ar ran y rhai sy'n diodde. Bydd yn sicrhau cyfiawnder i'r rhai mewn angen.
Psal WelBeibl 140:13  Bydd y rhai cyfiawn yn sicr yn moli dy enw di! Bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn aros yn dy gwmni di.
Chapter 141
Psal WelBeibl 141:1  ARGLWYDD, dw i'n galw arnat: brysia! Helpa fi! Gwranda arna i'n galw arnat ti.
Psal WelBeibl 141:2  Derbyn fy ngweddi fel offrwm o arogldarth, a'm dwylo sydd wedi'u codi fel aberth yr hwyr.
Psal WelBeibl 141:3  O ARGLWYDD, gwarchod fy ngheg a gwylia ddrws fy ngwefusau.
Psal WelBeibl 141:4  Paid gadael i mi feddwl dweud dim byd drwg, na gwneud dim gyda dynion sydd felly! Cadw fi rhag bwyta'u danteithion.
Psal WelBeibl 141:5  Boed i rywun sy'n byw'n gywir ddod i'm taro i, a'm ceryddu mewn cariad! Dyna'r olew gorau – boed i'm pen beidio'i wrthod. Dw i'n gweddïo o hyd ac o hyd yn erbyn eu drygioni.
Psal WelBeibl 141:6  Pan fyddan nhw'n syrthio i ddwylo'r Graig, eu Barnwr, byddan nhw'n gwerthfawrogi beth ddwedais i.
Psal WelBeibl 141:7  Fel petai rhywun yn aredig ac yn troi'r pridd, mae ein hesgyrn wedi'u gwasgaru wrth geg Annwn.
Psal WelBeibl 141:8  Arnat ti dw i'n edrych, O ARGLWYDD, fy Meistr; dw i'n dod atat am loches, paid a'm gadael mewn perygl!
Psal WelBeibl 141:9  Cadw fi i ffwrdd o'r trapiau maen nhw wedi'u gosod, ac oddi wrth faglau'r rhai drwg.
Psal WelBeibl 141:10  Gad iddyn nhw syrthio i'w rhwydi eu hunain, tra dw i'n llwyddo i ddianc.
Chapter 142
Psal WelBeibl 142:1  Dw i'n gweiddi'n uchel ar yr ARGLWYDD; dw i'n pledio ar i'r ARGLWYDD fy helpu.
Psal WelBeibl 142:2  Dw i'n tywallt y cwbl sy'n fy mhoeni o'i flaen, ac yn dweud wrtho am fy holl drafferthion.
Psal WelBeibl 142:3  Pan dw i wedi anobeithio'n llwyr, rwyt ti'n gwylio pa ffordd dw i'n mynd. Maen nhw wedi cuddio magl ar y llwybr o mlaen i.
Psal WelBeibl 142:4  Dw i'n edrych i'r dde – ond does neb yn cymryd sylw ohono i. Mae dianc yn amhosib – does neb yn poeni amdana i.
Psal WelBeibl 142:5  Dw i'n gweiddi arnat ti, ARGLWYDD; a dweud, “Ti ydy'r unig le saff i mi fynd, does gen i neb arall ar dir y byw!”
Psal WelBeibl 142:6  Gwranda arna i'n gweiddi, dw i'n teimlo mor isel. Achub fi o afael y rhai sydd ar fy ôl; maen nhw'n rhy gryf i mi.
Psal WelBeibl 142:7  Gollwng fi'n rhydd o'r carchar yma, er mwyn i mi foli dy enw di. Bydd y rhai cyfiawn yn casglu o'm cwmpas am dy fod ti wedi achub fy ngham.
Chapter 143
Psal WelBeibl 143:1  O ARGLWYDD, gwrando ar fy ngweddi. Gwranda arna i'n pledio am dy help di! Ti'n Dduw ffyddlon a chyfiawn, felly, plîs ateb fi.
Psal WelBeibl 143:2  Paid rhoi dy was ar brawf, achos does neb yn ddieuog yn dy olwg di.
Psal WelBeibl 143:3  Mae'r gelyn wedi dod ar fy ôl i, ac wedi fy sathru i'r llawr. Mae wedi gwneud i mi eistedd yn y tywyllwch fel y rhai sydd wedi marw ers talwm.
Psal WelBeibl 143:4  Dw i'n anobeithio, dw i wedi fy mharlysu gan ddychryn!
Psal WelBeibl 143:5  Ond wedyn dw i'n cofio am beth wnest ti yn y gorffennol, ac yn myfyrio ar y cwbl wnest ti ei gyflawni.
Psal WelBeibl 143:6  Dw i'n estyn fy nwylo allan atat ti. Dw i fel tir sych yn hiraethu am law! Saib
Psal WelBeibl 143:7  Brysia! Ateb fi, ARGLWYDD! Alla i ddim diodde dim mwy! Paid troi i ffwrdd oddi wrtho i, neu bydda i'n syrthio i bwll marwolaeth.
Psal WelBeibl 143:8  Gad i mi glywed am dy gariad ffyddlon di yn y bore, achos dw i'n dy drystio di. Gad i mi wybod pa ffordd i fynd – dw i'n dyheu amdanat ti!
Psal WelBeibl 143:9  Achub fi o afael y gelyn, O ARGLWYDD; dw i'n rhedeg atat ti am gysgod.
Psal WelBeibl 143:10  Dysga fi i wneud beth wyt ti eisiau, achos Ti ydy fy Nuw i. Boed i dy Ysbryd hael di fy arwain i rywle saff.
Psal WelBeibl 143:11  Achub fi, O ARGLWYDD, er mwyn dy enw da. Ti'n Dduw cyfiawn, felly arwain fi allan o'r helynt yma.
Psal WelBeibl 143:12  Rwyt ti mor ffyddlon. Delia gyda'r gelynion! Dinistria'r rhai sy'n ymosod arna i, achos dy was di ydw i.
Chapter 144
Psal WelBeibl 144:1  Bendith ar yr ARGLWYDD, fy nghraig i! Mae e wedi dysgu fy nwylo i ymladd, a'm bysedd i frwydro.
Psal WelBeibl 144:2  Mae'r Un ffyddlon fel castell o'm cwmpas; fy hafan ddiogel a'r un sy'n fy achub i. Fy nharian, a'r un dw i'n cysgodi ynddo. Mae e'n gwneud i wledydd eraill ymostwng i mi.
Psal WelBeibl 144:3  O ARGLWYDD, beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw? Pam ddylet ti feddwl ddwywaith am berson dynol?
Psal WelBeibl 144:4  Mae pobl fel tarth. Mae bywyd fel cysgod yn pasio heibio.
Psal WelBeibl 144:5  O ARGLWYDD, gwthia'r awyr o'r ffordd, a thyrd i lawr! Cyffwrdd y mynyddoedd, a gwna iddyn nhw fygu!
Psal WelBeibl 144:6  Gwna i fellt fflachio a chwala'r gelyn! Anfon dy saethau i lawr a'u gyrru nhw ar ffo!
Psal WelBeibl 144:7  Estyn dy law i lawr o'r entrychion. Achub fi! Tynna fi allan o'r dŵr dwfn! Achub fi o afael estroniaid
Psal WelBeibl 144:9  O Dduw, dw i am ganu cân newydd i ti, i gyfeiliant offeryn dectant.
Psal WelBeibl 144:10  Canu i ti sydd wedi rhoi buddugoliaeth i frenhinoedd, ac achub dy was Dafydd rhag y cleddyf marwol.
Psal WelBeibl 144:11  Achub fi o afael estroniaid sy'n dweud celwyddau ac sy'n torri pob addewid.
Psal WelBeibl 144:12  Bydd ein meibion fel planhigion ifanc wedi tyfu yn eu hieuenctid; a'n merched fel y pileri ar gorneli'r palas, wedi'u cerfio i harddu'r adeilad.
Psal WelBeibl 144:13  Bydd ein hysguboriau'n llawn o bob math o fwyd; a bydd miloedd o ddefaid, ie, degau o filoedd, yn ein caeau.
Psal WelBeibl 144:14  Bydd ein gwartheg yn iach – heb bla a heb erthyliad; a fydd dim wylo yn y strydoedd.
Psal WelBeibl 144:15  Mae pobl mor ffodus pan mae pethau felly. Mae'r bobl sydd â'r ARGLWYDD yn Dduw iddyn nhw wedi'u bendithio'n fawr!
Chapter 145
Psal WelBeibl 145:1  Dw i'n mynd i dy ganmol di, fy Nuw a'm brenin, a bendithio dy enw di am byth bythoedd!
Psal WelBeibl 145:2  Dw i eisiau dy ganmol di bob dydd a dy foli di am byth bythoedd!
Psal WelBeibl 145:3  Mae'r ARGLWYDD yn fawr, ac yn haeddu ei foli! Mae ei fawredd tu hwnt i'n deall ni.
Psal WelBeibl 145:4  Bydd un genhedlaeth yn dweud wrth y nesa am dy weithredoedd, ac yn canmol y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud.
Psal WelBeibl 145:5  Byddan nhw'n dweud mor rhyfeddol ydy dy ysblander a dy fawredd, a bydda i'n sôn am y pethau anhygoel rwyt ti'n eu gwneud.
Psal WelBeibl 145:6  Bydd pobl yn sôn am y pethau syfrdanol rwyt ti'n eu gwneud, a bydda i'n adrodd hanes dy weithredoedd mawr.
Psal WelBeibl 145:7  Byddan nhw'n cyhoeddi dy ddaioni diddiwedd di, ac yn canu'n llawen am dy gyfiawnder.
Psal WelBeibl 145:8  Mae'r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog; mor amyneddgar ac anhygoel o hael!
Psal WelBeibl 145:9  Mae'r ARGLWYDD yn dda wrth bawb; mae'n dangos tosturi at bopeth mae wedi'i wneud.
Psal WelBeibl 145:10  Mae'r cwbl rwyt ti wedi'i greu yn dy foli di, O ARGLWYDD! Ac mae'r rhai sydd wedi profi dy gariad ffyddlon yn dy fendithio!
Psal WelBeibl 145:11  Byddan nhw'n dweud am ysblander dy deyrnasiad, ac yn siarad am dy nerth,
Psal WelBeibl 145:12  er mwyn i'r ddynoliaeth wybod am y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud, ac am ysblander dy deyrnasiad.
Psal WelBeibl 145:13  Mae dy deyrnasiad yn para drwy'r oesoedd, ac mae dy awdurdod yn para ar hyd y cenedlaethau! Mae'r ARGLWYDD yn cadw ei air, ac yn ffyddlon ym mhopeth mae'n ei wneud.
Psal WelBeibl 145:14  Mae'r ARGLWYDD yn cynnal pawb sy'n syrthio, ac yn gwneud i bawb sydd wedi'u plygu drosodd sefyll yn syth.
Psal WelBeibl 145:15  Mae popeth byw yn edrych yn ddisgwylgar arnat ti, a ti'n rhoi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen.
Psal WelBeibl 145:16  Mae dy law di yn agored; rwyt ti mor hael! Ti'n rhoi'r bwyd sydd ei angen i bob creadur byw.
Psal WelBeibl 145:17  Mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn bob amser, ac yn ffyddlon ym mhopeth mae'n ei wneud.
Psal WelBeibl 145:18  Mae'r ARGLWYDD yn agos at y rhai sy'n galw arno; at bawb sy'n ddidwyll pan maen nhw'n galw arno.
Psal WelBeibl 145:19  Mae'n rhoi eu dymuniad i'r rhai sy'n ei barchu; mae'n eu clywed nhw'n galw, ac yn eu hachub.
Psal WelBeibl 145:20  Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn pawb sy'n ei garu, ond bydd yn dinistrio'r rhai drwg i gyd.
Psal WelBeibl 145:21  Bydda i'n cyhoeddi fod yr ARGLWYDD i'w foli, a bydd pob creadur byw yn bendithio'i enw sanctaidd, … am byth bythoedd!
Chapter 146
Psal WelBeibl 146:1  Haleliwia! Mola'r ARGLWYDD, meddwn i wrthof fy hun!
Psal WelBeibl 146:2  Dw i'n mynd i foli'r ARGLWYDD ar hyd fy mywyd, a chanu mawl i'm Duw tra dw i'n bodoli!
Psal WelBeibl 146:3  Paid trystio'r rhai sy'n teyrnasu – dyn meidrol sydd ddim yn gallu achub.
Psal WelBeibl 146:4  Mae'r anadl yn mynd allan ohono, ac mae'n mynd yn ôl i'r pridd; a'r diwrnod hwnnw mae ei holl bolisïau yn dod i ben!
Psal WelBeibl 146:5  Mae'r un mae Duw Jacob yn ei helpu wedi'i fendithio'n fawr, yr un sy'n dibynnu ar yr ARGLWYDD ei Dduw –
Psal WelBeibl 146:6  y Duw a wnaeth y nefoedd, y ddaear, y môr a phopeth sydd ynddyn nhw. Mae e bob amser yn cadw ei air,
Psal WelBeibl 146:7  yn rhoi cyfiawnder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu, a bwyd i'r rhai newynog. Mae'r ARGLWYDD yn gollwng carcharorion yn rhydd.
Psal WelBeibl 146:8  Mae'r ARGLWYDD yn rhoi eu golwg i bobl ddall. Mae'r ARGLWYDD yn gwneud i bawb sydd wedi'u plygu drosodd sefyll yn syth. Mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.
Psal WelBeibl 146:9  Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am y mewnfudwyr ac yn cynnal y plant amddifad a'r gweddwon. Ond mae e'n gwneud i'r rhai drwg golli eu ffordd.
Psal WelBeibl 146:10  Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu am byth; dy Dduw di, Seion, ar hyd y cenedlaethau. Haleliwia!
Chapter 147
Psal WelBeibl 147:1  Haleliwia! Mae mor dda canu mawl i Dduw! Mae'n beth hyfryd rhoi iddo'r mawl mae'n ei haeddu.
Psal WelBeibl 147:2  Mae'r ARGLWYDD yn ailadeiladu Jerwsalem, ac yn casglu pobl Israel sydd wedi bod yn alltudion.
Psal WelBeibl 147:3  Mae e'n iacháu'r rhai sydd wedi torri eu calonnau, ac yn rhwymo'u briwiau.
Psal WelBeibl 147:4  Mae e wedi cyfri'r sêr i gyd, a rhoi enw i bob un ohonyn nhw.
Psal WelBeibl 147:5  Mae'n Meistr ni mor fawr, ac mor gryf! Mae ei ddeall yn ddi-ben-draw!
Psal WelBeibl 147:6  Mae'r ARGLWYDD yn rhoi hyder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu, ond yn bwrw'r rhai drwg i'r llawr.
Psal WelBeibl 147:7  Canwch gân o fawl i'r ARGLWYDD, a chreu alaw i Dduw ar y delyn fach.
Psal WelBeibl 147:8  Mae'n gorchuddio'r awyr gyda chymylau, ac yn rhoi glaw i'r ddaear. Mae'n gwneud i laswellt dyfu ar y mynyddoedd,
Psal WelBeibl 147:9  yn rhoi bwyd i bob anifail gwyllt, ac i gywion y gigfran pan maen nhw'n galw.
Psal WelBeibl 147:10  Dydy cryfder ceffyl ddim yn creu argraff arno, a dydy cyflymder rhedwr ddim yn ei ryfeddu.
Psal WelBeibl 147:11  Y bobl sy'n ei barchu sy'n plesio'r ARGLWYDD; y rhai hynny sy'n rhoi eu gobaith yn ei gariad ffyddlon.
Psal WelBeibl 147:12  O Jerwsalem, canmol yr ARGLWYDD! O Seion, mola dy Dduw!
Psal WelBeibl 147:13  Mae e wedi gwneud barrau dy giatiau yn gryf, ac wedi bendithio dy blant o dy fewn.
Psal WelBeibl 147:14  Mae'n gwneud dy dir yn ddiogel, ac yn rhoi digonedd o'r ŷd gorau i ti.
Psal WelBeibl 147:15  Mae'n anfon ei orchymyn drwy'r ddaear, ac mae'n cael ei wneud ar unwaith.
Psal WelBeibl 147:16  Mae'n anfon eira fel gwlân, yn gwasgaru barrug fel lludw,
Psal WelBeibl 147:17  ac yn taflu cenllysg fel briwsion. Pwy sy'n gallu goddef yr oerni mae'n ei anfon?
Psal WelBeibl 147:18  Wedyn mae'n gorchymyn i'r cwbl feirioli – mae'n anadlu arno ac mae'r dŵr yn llifo.
Psal WelBeibl 147:19  Mae wedi rhoi ei neges i Jacob, ei ddeddfau a'i ganllawiau i bobl Israel.
Psal WelBeibl 147:20  Wnaeth e ddim hynny i unrhyw wlad arall; dŷn nhw'n gwybod dim am ei reolau. Haleliwia!
Chapter 148
Psal WelBeibl 148:1  Haleliwia! Molwch yr ARGLWYDD o'r nefoedd! Molwch e o'r uchder.
Psal WelBeibl 148:2  Molwch e, ei holl angylion. Molwch e, ei holl fyddinoedd.
Psal WelBeibl 148:4  Molwch e, y nefoedd uchod, a'r dŵr sydd uwchben y nefoedd.
Psal WelBeibl 148:5  Boed iddyn nhw foli enw'r ARGLWYDD, am mai fe orchymynodd iddyn nhw gael eu creu.
Psal WelBeibl 148:6  Fe roddodd nhw yn eu lle am byth bythoedd, a gosod trefn fydd byth yn newid.
Psal WelBeibl 148:7  Molwch yr ARGLWYDD, chi sydd ar y ddaear, a'r holl forfilod mawr yn y môr dwfn.
Psal WelBeibl 148:8  Y mellt a'r cenllysg, yr eira a'r niwl, a'r gwynt stormus sy'n ufudd iddo;
Psal WelBeibl 148:9  y mynyddoedd a'r bryniau i gyd, y coed ffrwythau a'r coed cedrwydd;
Psal WelBeibl 148:11  yr holl frenhinoedd a'r gwahanol bobloedd, yr arweinwyr a'r barnwyr i gyd;
Psal WelBeibl 148:13  Boed iddyn nhw foli enw'r ARGLWYDD! Mae ei enw e'n uwch na'r cwbl; mae ei ysblander yn gorchuddio'r nefoedd a'r ddaear!
Psal WelBeibl 148:14  Mae wedi rhoi buddugoliaeth i'w bobl, ac enw da i bawb sydd wedi profi ei gariad ffyddlon, sef Israel, y bobl sy'n agos ato. Haleliwia!
Chapter 149
Psal WelBeibl 149:1  Haleliwia! Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD, Rhowch foliant iddo yn y gynulleidfa o'i bobl ffyddlon.
Psal WelBeibl 149:2  Boed i Israel lawenhau yn ei Chrëwr! Boed i blant Seion gael eu gwefreiddio gan eu Brenin!
Psal WelBeibl 149:3  Boed iddyn nhw ei addoli gyda dawns; ac ar y drwm a'r delyn fach.
Psal WelBeibl 149:4  Achos mae'r ARGLWYDD wrth ei fodd gyda'i bobl! Mae'n gwisgo'r rhai sy'n cael eu gorthrymu gyda buddugoliaeth.
Psal WelBeibl 149:5  Boed i'r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon ddathlu, a gweiddi'n llawen wrth orffwys ar eu clustogau.
Psal WelBeibl 149:6  Canu mawl i Dduw gyda chleddyfau miniog yn eu dwylo,
Psal WelBeibl 149:7  yn barod i gosbi'r cenhedloedd, a dial ar y bobloedd.
Psal WelBeibl 149:8  Gan rwymo'u brenhinoedd â chadwyni, a'u pobl bwysig mewn hualau haearn.
Psal WelBeibl 149:9  Dyma'r ddedfryd gafodd ei chyhoeddi arnyn nhw; a'r fraint fydd i'r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon. Haleliwia!
Chapter 150
Psal WelBeibl 150:1  Haleliwia! Molwch Dduw yn ei deml. Molwch e yn ei nefoedd gadarn.
Psal WelBeibl 150:2  Molwch e am wneud pethau mor fawr. Molwch e am ei fod mor wych.
Psal WelBeibl 150:3  Molwch e drwy chwythu'r corn hwrdd. Molwch e gyda'r nabl a'r delyn.
Psal WelBeibl 150:4  Molwch e gyda drwm a dawns. Molwch e gyda llinynnau a ffliwt.
Psal WelBeibl 150:5  Molwch e gyda sŵn symbalau. Molwch e gyda symbalau'n atseinio.
Psal WelBeibl 150:6  Boed i bopeth sy'n anadlu foli'r ARGLWYDD. Haleliwia!